Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/01/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Blwyddyn newydd dda i chi i gyd fel Aelodau, pa un ai ydych chi'n dathlu'r calan newydd neu'r hen galan, neu'r ddau, o ran hynny. Blwyddyn newydd dda i bawb yma.

Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma—blwyddyn newydd dda i'r Prif Weinidog—gan Sioned Williams. 

Oedolion ag Anableddau Dysgu a Phobl Awtistig

Diolch, a blwyddyn newydd dda i chi, Lywydd, ac i chi, Brif Weinidog. Ac fe fydd e'n flwyddyn newydd dda iawn i bobl Cymru os byddan nhw'n cefnogi Plaid Cymru yn yr etholiadau. [Chwerthin.] Ond, at fy nghwestiwn—[Torri ar draws.]

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod oedolion ag anableddau dysgu a phobl awtistig yn cael eu cefnogi? OQ63659

Dwi eisiau dymuno blwyddyn newydd dda i bob un, a dwi'n gwybod ein bod ni i gyd yn barod i wneud beth rŷn ni'n gallu dros bobl Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yn ystod y misoedd nesaf. A dwi'n siŵr y bydd lot o hwyl ac egni i'w cael yn y Siambr yma. 

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwybod bod bywyd yn anodd iawn i bobl gydag anableddau dysgu, pobl awtistig, a'u teuluoedd nhw. A dyna pam rŷn ni fel Llywodraeth wedi gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i roi cymorth, i wthio pethau ymlaen i wella'u bywydau trwy ddatblygu cynllun cyflenwi a gweithredu ar gyfer anabledd dysgu, a'r rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth. Drwy hyn, rŷn ni'n helpu pobl i deimlo'n hyderus ac i gael cyfle i lwyddo ym mhob rhan o'u bywydau nhw. 

Diolch. Rwyf i wedi codi gyda'r Llywodraeth ar fwy nag un achlysur yr effaith y mae penderfyniadau ariannu yn ei chael ar ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u comisiynu sy'n ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gynaliadwy ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig. Eich ymateb fu bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r cyflog byw gwirioneddol gofal cymdeithasol, gan anwybyddu'r ffaith nad yw'r cyllid a roddwyd i awdurdodau lleol wedi talu'r gost lawn o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw yn gyson. 

Mae Dimensions Cymru yn ddarparwr nid-er-elw sy'n cynorthwyo 112 o oedolion ag anableddau dysgu a phobl awtistig mewn cartrefi byw â chymorth ledled Cymru, gan gynnwys yn fy rhanbarth i. Ac maen nhw wedi dweud wrthyf i fod diffygion cyllid yn arwain at anhawster cynyddol yn cynnal lefelau staffio, pwysau cynyddol ar rotas, llai o wydnwch mewn gwasanaethau, ac ansicrwydd i gydweithwyr rheng flaen medrus. Mae eich Gweinidog cyllid wedi dweud bod hwn yn fater difrifol iawn, mewn ymateb i gwestiwn gen i. Felly, a wnewch chi sicrhau felly bod digon o gyllid wedi'i neilltuo yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, fel bod cyllid cyflog byw gwirioneddol gofal cymdeithasol yn cyrraedd swyddi rheng flaen, fel y bwriadwyd, ac y gall darparwyr gyflawni eu cyfrifoldebau statudol heb beryglu diogelwch?

Wel, rydym ni'n un o'r unig rannau o'r Deyrnas Unedig i addo darparu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal, a dyna'n union beth rydym ni wedi ei wneud. Fe wnaethom ni hynny yn llawer cynharach nag yr oedd pobl yn disgwyl i ni ei wneud, oherwydd pan fydd Llafur Cymru yn dweud eu bod nhw'n mynd i gyflawni, rydym ni'n cyflawni. Dyna beth rydym ni wedi ei wneud. 

Yr hyn sy'n bwysig nawr yw cydnabod bod y cyllid ychwanegol hwnnw wedi mynd i awdurdodau lleol. Ceir swm ychwanegol o arian yr wyf i'n gobeithio fydd yn cael ei gytuno yr wythnos nesaf, ac rydym ni'n gwybod mai'r ffordd yr ydym ni'n dyrannu cyllid yng Nghymru yw ein bod ni'n rhoi'r dyraniad hwnnw i awdurdodau lleol a mater iddyn nhw yw ei ddefnyddio. Rydym ni'n eglur iawn: rydym ni'n credu mewn sybsidiaredd yng Nghymru. Rydym ni'n credu mewn grymuso awdurdodau lleol i wneud y penderfyniadau hynny ar ran y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Felly, nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am hynny. Rydym ni'n rhoi'r arian iddyn nhw. Mae'n bwysig nawr ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael yr arian sy'n cael ei ddyrannu iddyn nhw. Ac mae'n bwysig cydnabod hefyd y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl a llesiant meddyliol yn gwneud cyhoeddiad yr wythnos nesaf. Bydd yn ddatganiad ysgrifenedig ar 20 Ionawr, a bydd hwnnw yn ystyried sut rydym ni'n sicrhau nad yw pobl ag anableddau dysgu yn arbennig yn cael sefyllfa lle mae'n rhaid iddyn nhw fyw mewn ysbytai. Mae angen i ni eu symud nhw i'w cartrefi a rhoi'r cymorth y maen nhw'n ei haeddu ac sydd ei angen arnyn nhw.

Ddoe, roeddwn i'n bresennol yng nghynllun gofal a chymorth etholwr awtistig arall eto yn sir y Fflint, ar ei gais. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'i chod ymddygiad yn datgan bod yn rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol, bod yn rhaid i gynlluniau gofal a chymorth gynnwys dyddiad eglur, y cytunwyd arno gyda'r unigolyn, y bydd y cynllun yn cael ei adolygu yn ei erbyn. Yn achos oedolyn, mae'n rhaid nad yw dyddiad yr adolygiad yn hwy na 12 mis. Roedd hwn yn ddwy flynedd. Ym mhob achos lle bo'n briodol, gyda chytundeb yr unigolyn dan sylw, dylai'r awdurdod lleol hefyd gynnwys pobl eraill penodol, gan gynnwys ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ag arbenigedd yn amgylchiadau neu anghenion yr unigolyn dan sylw, a phan fo anghenion gofal a chymorth cymwys wedi cael eu nodi, a phan fo'r unigolyn yn mynegi dymuniad i dderbyn un, bod yn rhaid i daliadau uniongyrchol fod ar gael ym mhob achos lle maen nhw'n galluogi canlyniadau personol i gael eu cyflawni. Ond mae'r gofynion hyn yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn. Beth yw pwrpas deddfwriaeth Llywodraeth Cymru os nad yw'n cael ei monitro a, phan fo angen, ei gorfodi, neu o leiaf rhoi cymorth ar waith, i sicrhau bod yr ymarferwyr yn ei wneud yn iawn?

13:35

Mae'n bwysig cydnabod yr anawsterau y mae llawer o bobl sy'n byw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwroamrywiol yn eu dioddef, ac mae'n bwysig cydnabod y cymorth sydd ei angen ar eu cyfer a hefyd eu teuluoedd. Dyna pam mae gennym ni ddyletswyddau statudol wedi'u nodi yn y cod ymarfer awtistiaeth. Mae gennym ni gynlluniau peilot a ffyrdd newydd o weithio i ddatblygu modelau cymorth cynnar a arweinir gan anghenion, ac rydym ni'n cydnabod bod angen gwneud mwy o ran amseroedd aros ac i ddarparu'r cymorth ôl-ddiagnostig hwnnw. Rydych chi'n gwbl gywir: mae angen i ni wneud yn siŵr bod y dyletswyddau statudol yr ydym ni'n eu cyflwyno yn y gyfraith yn cael eu deddfu mewn gwirionedd, ac mae gennym ni sefydliadau i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn ddiolch i Sioned am godi'r mater hwn. Ceir ystadegyn mwy syfrdanol fyth, sef bod pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn marw, ar gyfartaledd, 20 mlynedd yn iau na'r boblogaeth gyffredinol, a 67 yn unig yw'r oedran marwolaeth mwyaf cyffredin. Ystyrir y gellid osgoi bron i bedair o bob 10 o'r marwolaethau hyn, sy'n golygu y gallai pobl dal i fod yn fyw heddiw pe baen nhw wedi cael y gofal cywir ar yr adeg gywir. Nid yw hyn yn ddim llai na gwarth a gwahaniaethu. Er i archwiliadau iechyd blynyddol gael eu hychwanegu at y contract meddyg teulu fis Ebrill diwethaf, mae adroddiad gan Mencap yr wythnos diwethaf yn dangos na chynigiwyd archwiliad iechyd i dros chwarter y bobl ag anableddau dysgu yn y flwyddyn ddiwethaf.

I ddychwelyd at bwynt Sioned, a oedd yn ymwneud â galluogi ein sefydliadau trydydd sector, hoffwn siarad am gau Pobl Gyntaf Powys, a oedd yn sefydliad y llynedd a oedd yn eirioli ar ran pobl ag anableddau dysgu. Heb yr ymdrech gymunedol hanfodol hon, ceir perygl y bydd archwiliadau iechyd yn troi'n ddim mwy na blwch ticio. Felly, beth wnewch chi ei wneud, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog, i sicrhau bod pobl ledled Cymru sydd ag anableddau dysgu yn derbyn yr archwiliadau iechyd blynyddol, ond hefyd yn cael y mynediad at eiriolaeth a chymorth cymunedol drwy sefydliadau trydydd sector, ac i sicrhau nad yw oedolion ag anableddau dysgu yn marw mor ifanc? Diolch yn fawr iawn.

Mae gennym ni gynllun eglur iawn: y cynllun gweithredu strategol anabledd dysgu. Cyhoeddwyd hwn yn 2022. Rwy'n falch iawn o ddweud bod 33 o'r 35 o gamau gweithredu eisoes wedi'u cwblhau. Mae'r ddau arall wedi cael eu haddasu neu eu diwygio o ganlyniad i newid blaenoriaethau o ganlyniad i COVID. Fe wnaethom ni i gyd ddarllen yr adroddiad hwnnw, am sut y gwnaeth pobl ag anableddau dysgu yn arbennig ddioddef mwy nag eraill yn ystod COVID, ac mae'n bwysig ein bod ni'n ymateb i hynny. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud nesaf fydd nodi'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud i ymateb i'r adroddiad 'Cartrefi nid Ysbytai' hwnnw gan Bywydau Wedi'u Dwyn Cymru a ysgrifennwyd gan y grŵp cynghori gweinidogol ar anabledd dysgu. Bydd ganddyn nhw, rwy'n siŵr, lawer i'w ddweud am yr archwiliadau iechyd blynyddol, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod y datganiad ysgrifenedig sy'n mynd i gael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf yn cyfeirio at yr archwiliadau iechyd blynyddol.

Ysbyty Brenhinol Alexandra

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra, ar ôl i'r cais caniatâd cynllunio gael ei gymeradwyo? OQ63638

Mae pobl leol wedi aros ers amser maith am gynnydd o ran Ysbyty Brenhinol Alexandra. Rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw'r datblygiad hwn i'r gymuned. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio drwy'r achos busnes cam 1. Byddwn yn ei asesu'n gadarn ond yn deg, oherwydd mae gofal iechyd diogel, modern yn hanfodol bwysig i'r GIG y mae pobl yng Nghymru yn dibynnu arno. Fy nghyfrifoldeb i fel Prif Weinidog yw gwneud yn siŵr bod penderfyniadau ar y raddfa hon yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth gref, angen cleifion a diogelwch clinigol, a dyna'n union sut y bydd yn cael ei drin.

Diolch am y datganiad, Prif Weinidog. Mae'r caniatâd cynllunio gan Gyngor Sir Ddinbych yn newyddion gwych i'r gymuned leol yn y Rhyl yr wyf i'n ei chynrychioli. Mae'r cynlluniau yn cynnwys uned mân anafiadau, a fydd yn tynnu pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd, a hefyd gwelyau gofal canolraddol â gofal cam i fyny, cam i lawr, a fydd yn darparu gofal hyblyg a byrdymor i bontio bylchau mewn anghenion iechyd a gofal cymdeithasol hefyd i'r bobl hynny, sy'n hynod werthfawr.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y dylai cychwyn y gwaith o ailddatblygu, nawr bod gennym ni'r adeg gyfleus hon—nawr bod gennym ni rywfaint o gyllid grant gan Lywodraeth Lafur y DU, cyllid cyfalaf, mae'n adeg gyfleus—fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf i ofyn pryd y bydd cyhoeddiad ynghylch cyllid i wireddu'r cynlluniau hyn? Diolch.

13:40

A gaf i ddiolch i chi am eich dyfalbarhad ar y mater hwn ar ran y bobl yr ydych chi'n eu cynrychioli, pobl y Rhyl, yr wyf yn gwybod eu bod yn awyddus iawn i weld y datblygiad hwn? Roedd Ann Jones, rwy'n gwybod, yn un o hyrwyddwr hyn yn y Senedd flaenorol. Rwy'n fwy nag ymwybodol o ba mor bwysig yw hyn i bobl y gymuned. Mae'r achos busnes ar gyfer y cam cyntaf ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra wedi cael ei gyflwyno i ni. Mae caniatâd cynllunio, fel y dywedwch chi, eisoes wedi cael ei roi, ond mae rhai pwyntiau craffu heb eu datrys sy'n cael eu trafod gyda bwrdd iechyd Betsi, ond rwy'n cael fy sicrhau eu bod nhw'n agos iawn at gael eu datrys. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn disgwyl derbyn cyngor ffurfiol y mis hwn am yr elfennau adeiladu newydd, felly rwy'n gobeithio y bydd rhywbeth cadarnhaol yn digwydd yn fuan iawn.

Wel, Llywydd, onid yw'n gwbl anhygoel—onid yw'n gwbl anhygoel—bod yr Aelod dros Ogledd Cymru yn cyflwyno cwestiwn ar ddatblygiad ysbyty cymuned gogledd sir Ddinbych yn Ysbyty Brenhinol Alexandra ar ôl pum mlynedd o dawelwch ar y mater hwn yn y Siambr hon? Nawr, dri mis cyn etholiad, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi atgyfodi'r cynlluniau at ddibenion cyfalaf gwleidyddol yn llwyr, er gwaethaf atal pobl gogledd Cymru rhag cael yr ysbyty y mae ei angen gymaint arnyn nhw ers dros 10 mlynedd. Ar ôl bod yn hyrwyddwr ar ran Llywodraeth sydd wedi chwalu ein gwasanaeth iechyd rhanbarthol, mae'r Aelod yn gobeithio y bydd hi'n dod allan o sefyllfa anodd ar ei gorau cyn yr etholiad. Ond bydd yr etholwyr yn gweld trwy hyn, ac maen nhw'n gwybod bod y cynlluniau ar gyfer yr ysbyty hwn wedi cael eu lleihau'n aruthrol o'r manylebau gwreiddiol. Mae'r cynlluniau hyn wedi cael eu lleihau o'r hyn sydd ei angen ar fy etholwyr ac y maen nhw'n ei haeddu. Os ydyn nhw o ddifrif am dynnu'r pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd a lleihau amseroedd aros, yna mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru anrhydeddu'r manylebau gwreiddiol ar gyfer yr ysbyty a addawyd dros ddegawd yn ôl. Mae'r bwrdd iechyd yn dweud yr hoffen nhw weld y gwaith adeiladu yn dechrau yn gynnar eleni, felly a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i'm hetholwyr nawr, heddiw, y bydd yr ysbyty yn dechrau cael ei hadeiladu yn gynnar eleni, ac yn unol â'r manylebau sydd eu hangen i leddfu'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd, y dylai fy etholwyr fod wedi ei dderbyn dros 13 mlynedd yn ôl?

Gareth, rydych chi wedi cael eich Haribos y bore yma, onid ydych chi? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod hwn yn fater y mae Carolyn wedi bod yn ei hyrwyddo ers amser maith. Ac a dweud y gwir, rwyf i wedi bod i Ysbyty Brenhinol Alexandra gyda Carolyn ar ddau achlysur, felly nid yw hwn yn fater ymgyrchu diweddar iddi hi. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y Torïaid yn mynd i fod yn gwneud llawer mwy o hyn: economeg ffantasi—'Gadewch i ni adeiladu'r lleoedd enfawr hyn', ar ôl ein hamddifadu o gyllid cyfalaf am flynyddoedd. Eich Llywodraeth chi wnaeth ein hatal rhag gallu adeiladu hwn o'r blaen. Mae'r tapiau bellach wedi cael eu troi ymlaen o ran cyllid cyfalaf. Nid oedd hynny'n wir o dan y Torïaid. Mae angen i'ch plaid gymryd eich cyfran o gyfrifoldeb o ran ein gallu i adeiladu ysbytai yng Nghymru. Fe wnaethoch chi ein hamddifadu am nifer o flynyddoedd. Mae pobl y Rhyl, pobl gogledd Cymru, eisiau gweld yr ysbyty cymuned hwn yn agor. Hoffwn i weld yr ysbyty cymuned yn agor. Hoffwn weld y pwysau yn cael ei dynnu oddi ar Glan Clwyd. Rwy'n falch iawn, o dan Lywodraeth Lafur, rwy'n gobeithio gweld yn fuan iawn y byddwn ni'n bwrw ymlaen â'r prosiect hwn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch yn fawr. Prif Weinidog, ar droad y ganrif, roedd chwech o bob 10 o bobl 25 i 34 oed yn berchen ar eu cartref eu hunain. Ond, ers hynny, mae lefelau perchnogaeth cartref ymhlith y grŵp oedran hwnnw wedi gostwng yn ddramatig o draean. Eich Llywodraeth Lafur Cymru chi, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y gorffennol, sy'n gyfrifol am y dirywiad hwn yng Nghymru. Rydych chi wedi methu ag adeiladu digon o gartrefi newydd. Rydych chi wedi cynyddu costau biliau aelwydydd fel y dreth gyngor, sydd wedi mwy na threblu dros y tua 20 mlynedd diwethaf yma yng Nghymru, ac rydych chi wedi gadael gweithwyr Cymru â'r pecynnau cyflog isaf ym Mhrydain. Ac ar ben hyn oll, mae treth trafodiadau tir, neu dreth stamp fel y'i gelwir yn fwy cyffredin, yn amddifadu cenhedlaeth o bobl ifanc o'r freuddwyd o feddu ar yr allweddi i'w drws ffrynt eu hunain. A ydych chi'n derbyn y cyfrifoldeb am eich methiant i helpu mwy o bobl i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac a wnewch chi gefnogi ein cynlluniau i ddileu'r dreth stamp ar gyfer prif gartrefi yma yng Nghymru?

13:45

Allaf i ddim credu bod y Torïaid yn pigo ar Lafur ar dai, o bopeth. Rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn diwedd tymor y Senedd hwn. Dim ond i roi cyd-destun i chi, dim ond i roi syniad i chi o'r hyn y mae hynny'n ei olygu o'i gymharu â'r hyn a oedd yn digwydd yn Lloegr o dan y Torïaid, o dan y Torïaid mae 700,000 yn llai o gartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol. Edrychwch ar y gwahaniaeth rhwng ein hymrwymiad ni i dai yng Nghymru a'r hyn yr ydych chi wedi ei wneud yn Lloegr dros 14 mlynedd. Rydym ni wedi cadw'r ymrwymiad Cymorth i Brynu yng Nghymru. Mae hwnnw'n helpu pobl i gamu ar yr ysgol dai. Rydym ni'n gwneud yn siŵr bod mwy o arian ym mhocedi pobl. Byddwch wedi gweld bod yr isafswm cyflog wedi cael ei gynyddu ddwywaith o dan Lywodraeth Lafur newydd y DU. Mae gennym ni ddeddfwriaeth gymdeithasol newydd, diolch i Lywodraeth Lafur y DU. Mae'r holl bethau hyn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru. Rydych chi'n benderfynol o fychanu Cymru. Fe wnaethoch chi gymryd gordd at ein heconomi. Cyni cyllidol y Torïaid achosodd y problemau. Rydym ni'n ailadeiladu Cymru nawr gyda dwy Lywodraeth ar ddau ben yr M4.

Mae gennych chi'r digywilydd-dra i ymffrostio yn eich record o ran tai pan fo'n gwbl anobeithiol. Y tro diwethaf yr oedd y Ceidwadwyr yn gyfrifol am adeiladu tai yng Nghymru, roeddem ni'n adeiladu tai ar ddwywaith y gyfradd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd. Dyna'r ffaith. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n ei hoffi, ond dyna'r ffeithiau. Rydych chi'n dweud bod cyni cyllidol yn broblem, ac eto rydych chi'n gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn gwastraff. Fe wnaethoch chi anfon tua £150 miliwn yn ôl i Lywodraeth y DU gan nad oeddech chi'n gallu penderfynu sut i'w wario yn ystod COVID; fe wnaethoch chi wario dros £150 miliwn ar ffordd liniaru'r M4, na chafodd ei hadeiladu yn y pen draw mewn gwirionedd; rydych chi'n gwario miliynau ar swyddfeydd tramor a llu o bethau eraill nad oes angen i chi fod yn gwario arian arnyn nhw; ac, wrth gwrs, mae gennym ni fwy o wleidyddion yn dod i'r Senedd hon pan mai'r hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon. Dyna beth sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd.

Mae economegwyr yn dweud—nid y Ceidwadwyr yn unig, ond economegwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol—bod treth stamp yn dreth niweidiol. Maen nhw wedi disgrifio treth stamp fel un o'r trethi mwyaf niweidiol yn economaidd sydd gennym ni. Mae'n creu rhwystrau yn y farchnad dai, mae'n lleihau symudedd llafur, mae'n ei gwneud hi'n anoddach i bobl symud ar gyfer gwaith, i leihau maint eu cartref yn ddiweddarach mewn bywyd neu gynyddu ei faint pan fyddan nhw'n dechrau teulu. Pam na wnewch chi gefnogi ein polisi fel y gallwn ni gael ein marchnad dai yn symud eto?

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn talu treth stamp, felly rydych chi'n amlwg yn canolbwyntio ar rannau cyfoethocaf ein cymuned. Unwaith eto, dyma'r hen ddull Torïaidd o ymdrin â'r economi. Fe wnaf i ddweud wrthych chi beth sy'n atal pobl rhag prynu eu cartrefi eu hunain, cyfraddau llog uchel—a mawredd fe aethon nhw'n uchel o dan Liz Truss a holl arweinwyr eraill y Llywodraeth yr oedd gennych chi dros 14 mlynedd. Yr hyn sydd gennym ni nawr yw cyfraddau llog yn gostwng, chwyddiant yn gostwng, cyflogau yn cynyddu'n gyflymach na phrisiau, prisiau ynni yn gostwng. Yr hyn yr ydym ni'n ei weld yng Nghymru yw bod pobl yn cymryd diddordeb o'r newydd mewn buddsoddi yn ein heconomi, ac rydym ni wedi gweld hynny yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi—£16 biliwn yn cael ei ymrwymo i ailadeiladu ein heconomi. Ar ôl 14 mlynedd o gyni cyllidol, mae pobl yn edrych eto ar ein gwlad. Maen nhw'n dweud, 'Rydym ni'n deall, rydych chi wedi bod yn dioddef.' Rydym ni wedi bod yn amddiffyn y setliad datganoli. Rydym ni wedi amddiffyn ein cenedl yn erbyn 14 mlynedd o doriadau Torïaidd. Nawr, mae'r tapiau yn cael eu rhoi ymlaen, nawr rydym ni'n gweld economi fwy sefydlog nag oedd gennym ni o dan y Torïaid, a bydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Mwy o nonsens a rwtsh fyth gan Brif Weinidog Cymru. Mae gennym ni ddiweithdra wedi cynyddu ers i Lafur ddod i rym, ac rydym ni wedi cael prisiau ynni yn cynyddu hefyd, yn llawer uwch na chyfradd chwyddiant. Mae'r gwirionedd, Prif Weinidog, yn eglur iawn i bawb ei weld, sef bod ein marchnad dai wedi torri. Rydym ni eisiau trwsio ein marchnad dai, ac nid dim ond y bobl hynny sydd eisiau prynu eu cartref cyntaf yr ydym ni eisiau eu helpu. Rydym ni eisiau helpu'r bobl eraill hynny sy'n sownd, yn gaeth mewn eiddo nad ydyn nhw'n addas ar eu cyfer mwyach, fel y gallwn ni gael y farchnad dai gyfan yn symud, fel y gall pobl elwa o fod yn berchen ar y cartref gwerth chweil y maen nhw'n dyheu ac yn breuddwydio amdano.

Bob tro y mae rhywun yn symud cartref, mae'n helpu holl economi ehangach Cymru, oherwydd mae pobl yn cyflogi plymwyr, trydanwyr, addurnwyr, gosodwyr carpedi, maen nhw'n dodrefnu eu cartrefi, maen nhw'n gwario arian ar y stryd fawr leol, ac mae o fudd i bawb. Mae'n gylch rhinweddol hyfryd. Rydym ni'n gweld hynny. Mae'n ymddangos eich bod chi'n ddall i'r ffaith honno. Mae angen i ni roi'r gorau i ddal Cymru yn ôl, mae angen i ni helpu pobl i wireddu eu breuddwyd o fod yn berchen ar gartref, ac rydym ni eisiau i Gymru fod yn ddemocratiaeth sy'n berchen ar gartrefi. Dyna'r Gymru yr ydym ni ei heisiau. Rydym ni eisiau Cymru lle mae gan bobl yr allweddi i'w drws ffrynt eu hunain. Felly pam na wnewch chi gefnogi'r polisi hwn, fel yr holl economegwyr hynny allan yna, fel y gallwn ni gael Cymru yn gweithio?

13:50

Rwy'n awyddus iawn i gael Cymru yn gweithio. Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cyfleoedd hynny iddyn nhw. Dyna pam, o dan Lywodraeth Lafur Cymru, yr ydym ni wedi gweld 46,000 o swyddi newydd yn cael eu creu. Ac mae hynny cyn i ni ddechrau siarad am y 300,000 o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae ugain mil o dai cymdeithasol newydd yn golygu cyflogaeth enfawr ar draws ein cymunedau cyfan. Rydym ni wedi cael cynnydd o 30 y cant i nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi o ganlyniad i fewnfuddsoddiad yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae pethau'n newid yng Nghymru oherwydd bod cyni cyllidol wedi cael ei atal. Mae'r Torïaid wedi mynd. Gall Llafur Cymru bellach symud i drydedd bennod stori datganoli, a byddwn ni yno i'w hysgrifennu.

Diolch. Blwyddyn newydd dda, Llywydd, Brif Weinidog a Senedd. Mewn blwyddyn dyngedfennol i Gymru, dwi’n edrych ymlaen at fynd â chynnig Plaid Cymru at y bobl—cynnig sy'n cynnig atebion go iawn i heriau ein cymunedau ni ac sy'n mynd i ddangos i San Steffan go iawn beth ydy Llywodraeth sydd yn sefyll dros Gymru.

Edrychaf ymlaen at gael y ddadl gydag eraill yn y Siambr hon a thu hwnt yn y cyfnod cyn yr etholiad hwn, yn gadarn ac yn barchus. Ond yn gyntaf, hoffwn longyfarch y Prif Weinidog am grynhoi'n berffaith yr hyn sydd yn y fantol ym mis Mai, fel y mae strategaeth etholiadol Llafur a ddatgelwyd yn ei nodi:

'Mae Reform yn diffinio'r dicter ac mae Plaid Cymru yn diffinio'r gobaith.'

Mae hwnnw'n grynodeb cywir iawn, on'd ydy, o'r sefyllfa bresennol? Rwy'n falch o arwain plaid sy'n cynnig gobaith pan fo eraill yn ceisio ennyn dicter a lledaenu rhaniad. O'u cyfaddefiad eu hunain, mae Llafur wedi siarad eu hunain i amherthnasedd, camreoli gwasanaethau cyhoeddus, anghydfodau mewnol sy'n tynnu sylw, a chynifer o gyfleoedd a fethwyd i sefyll yn gadarn yn erbyn San Steffan a mynnu tegwch i'n cenedl. Mae'r sefyllfa Lafur fel y mae hi yn methu Cymru, felly pam mae'r Prif Weinidog mor benderfynol o'i hamddiffyn?

Mae gen i ddiddordeb mewn gobaith. Nid oes gen i ddiddordeb mewn ffantasi, sef yr hyn yr ydym ni'n ei gael gan Blaid Cymru a'r hyn yr ydym ni wedi ei glywed o rai o'u syniadau o ran y cynnig i bobl Cymru. Nid yw pobl eisiau gweld rhaniad. Dydyn nhw ddim eisiau clywed Cymru yn cael ei bychanu yn barhaus.

Rydym ni eisoes wedi bod yn gweithio ers y Nadolig. Rydym ni wedi gwneud cyhoeddiad arwyddocaol iawn o ran cynnig cap o £2 ar brisiau tocynnau bws yng Nghymru, gan adeiladu ar y ffaith, mewn gwirioneddol, bod unrhyw un dros 60 oed yn cael tocynnau bws am ddim, rhywbeth y mae pobl yn meddwl y bydd yno iddyn nhw am byth. Na; dewis gwleidyddol yr ydym ni wedi ei wneud yw hwnnw. Rydym ni hefyd wedi gwneud dewis gwleidyddol i roi tocynnau bws i bobl ifanc am £1. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei gael. Rydym ni'n cael sefyllfa lle mae Llafur, pan fyddwn ni'n gwneud addewid, yn cyflawni.

Mae wedi bod yn ddiddorol eich clywed chi'n siarad y bore yma am y llwybr i annibyniaeth. Ni yw'r unig blaid yng Nghymru sy'n credu mewn datganoli cryf o fewn cyd-destun y Deyrnas Unedig. Dyna pwy ydym ni. Nid oes gennym ni gywilydd ohono. Dydyn ni ddim eisiau gweld annibyniaeth. Os ydych chi eisiau annibyniaeth, mae angen i chi ddangos sut ar y ddaear yr ydych chi'n mynd i dalu amdano a sut rydych chi'n mynd i oresgyn—nid gobeithio yn unig, ond goresgyn—yr economeg ffantasi y byddwch chi'n ei chynnig i bobl Cymru.

Gyda record Llafur, does neb yn credu'r geiriau a lefarwyd gan y Prif Weinidog yn y fan yna. Mae Plaid Cymru yn canmol Cymru; mae Llafur yn bychanu Cymru. Ar yr holl addewidion cyn-etholiad hyn, gwnewch nhw nawr. Dyna'r neges. Os ydych chi mor alluog fel Llywodraeth, gwnewch y pethau hyn nawr.

Gadewch i ni edrych ar enghraifft arall o Lafur yn amddiffyn y sefyllfa fel y mae hi. Dim ond yr wythnos diwethaf, wrth drafod y posibilrwydd o Gymru yn cymryd rheolaeth dros ein rheilffyrdd, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, ac rwy'n dyfynnu:

'Nid wyf i'n siŵr ein bod ni eisiau iddo gael ei ddatganoli'.

Mae'n gwbl syfrdanol, on'd ydy—system sydd wedi galluogi tanariannu cronig ein rheilffyrdd gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol, a lle mae'r syniad o benderfyniadau am reilffyrdd Cymru yn cael eu gwneud y tu allan i Gymru yn cael ei amddiffyn gan Weinidog Cymru mewn Llywodraeth Lafur Cymru. Er mwyn arbed holl linellau nawddoglyd a baratowyd gan y Prif Weinidog, allwch chi ddim rhoi'r bai ar y Torïaid am yr un yma. Cafodd Lafur 14 mlynedd i drydaneiddio rheilffyrdd Cymru a methodd â gwneud hynny, a Llywodraeth Lafur y DU sy'n benderfynol o ddadlau bod prosiectau rheilffyrdd sydd ar fin cael eu hadeiladu yn gyfan gwbl yn Lloegr yn cael eu dynodi'n rhai 'Cymru a Lloegr', sy'n golygu bod ein cenedl yn colli allan ar biliynau. Felly, mae fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog yn syml: a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn anghywir?

13:55

Rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur ein bod ni eisiau gweld datganoli rheilffyrdd, fel yr argymhellwyd yn y comisiwn annibynnol ar ddatganoli, ond unwaith eto, yr hyn y mae gennym ni ddiddordeb ynddo yw agweddau ymarferol—pa wahaniaeth y mae'n mynd i'w wneud i bobl Cymru. Os nad ydych chi'n cael yr arian ochr yn ochr â datganoli, rydych chi'n mynd i fod yn torri gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw honno'n sefyllfa yr wyf i'n barod i'w derbyn. Efallai eich bod chi mor benderfynol o gael y pwerau heb y cyllid y byddech chi'n barod i wneud hynny. Dydw i ddim. Dydw i ddim yn barod i wneud hynny.

Gadewch i mi siarad am record Llafur. Dim ond ers i mi ddod yn Brif Weinidog, rydym ni wedi cael £1.5 biliwn ychwanegol wedi'i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o ganlyniad i'r cynnydd mwyaf yr ydym ni wedi ei weld yn hanes datganoli. Rydym ni wedi lleihau rhestrau aros y GIG yn ddramatig—90 y cant ers eu lefelau brig. Rydym ni'n darparu prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd. Rydym ni wedi gweld cynnydd i'r arian sy'n mynd i'r celfyddydau—cynnydd o 8.5 y cant i'r arian sy'n mynd i'r celfyddydau. Rydym ni wedi cyflwyno cynllun iechyd menywod newydd, ac rydym ni ar y trywydd iawn i gyflwyno canolfan iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth.

Wrth gwrs, dyma Brif Weinidog na all sôn am reilffyrdd, gan fod hon yn Llywodraeth a oedd yn fodlon setlo am swm pitw a roddwyd i Gymru i'w fuddsoddi mewn rheilffyrdd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, pan lwyddodd Llywodraeth yr Alban i gael mwy o wariant cyfalaf allan o Lywodraeth y DU.

Bu chwe mis bellach ers i'r Prif Weinidog sefyll yn y sesiwn gwestiynau hon a mynnu, o ran cyllid teg i Gymru, ei bod hi, ac rwy'n dyfynnu, wrth y bwrdd ac yn cyflawni pethau. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu i'r gwrthwyneb. Ers hynny, rydym ni wedi gweld Llywodraeth y DU yn sathru ar y setliad datganoli trwy geisio rheoli sut mae rhywfaint o gyllid yn cael ei wario yng Nghymru. Rydym ni wedi cael cyn-Weinidog Llafur Cymru yn cyhuddo Ysgrifennydd Gwladol Llafur Cymru o fod y mwyaf gwrth-ddatganoli ers degawdau.

Oes, mae gennym ni rai yn y cefndir sy'n ddigon dewr i leisio eu barn, ond gydag arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru, rydym ni'n gweld atgyfnerthiad o'r darostyngiad i San Steffan. Gyda'r holl arolygon yn dangos bod Cymru eisiau Prif Weinidog newydd wrth y bwrdd, beth yw'r un peth y mae'n hyderus y gall berswadio Keir Starmer i'w ddarparu i Gymru rhwng nawr a mis Mai?

Rydych chi eisiau i mi siarad am reilffyrdd. Rwyf i wrth fy modd yn siarad am reilffyrdd. Rwyf i ar ben fy nigon yn siarad am reilffyrdd, oherwydd mewn gwirionedd, dyma un o gyflawniadau mwyaf balch Llywodraeth Lafur Cymru yma yng Nghymru—buddsoddwyd £800 miliwn mewn dros 148 o drenau newydd wedi'u hailwampio yn rhan o waith uwchraddio llinellau craidd y Cymoedd gwerth £1 biliwn. Mae hynny'n rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono. A wyddoch chi beth? Dyna sy'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl yn ein cymunedau. Dyna ddywedodd y bobl ym Merthyr wrthyf i dros y penwythnos—eu bod nhw wrth eu boddau â'n trenau newydd. Maen nhw wrth eu boddau â'r ffaith bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu gwneud yng Nghymru. Maen nhw wrth eu boddau â'r ffaith bod gennym ni brydlondeb a dibynadwyedd yn gwella—90 y cant o wasanaethau llinellau craidd y Cymoedd yn cyrraedd o fewn tri munud. Mae gennym ni gynnydd enfawr i nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny hefyd. Rwy'n hapus i siarad am reilffyrdd. Rwy'n fwy na hapus i siarad am reilffyrdd. A wyf i eisiau mwy o gyllid rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU? Ydw siŵr. A wyf i wedi bod yn dawel am hynny? Naddo, dydw i ddim. Rwyf i wedi bod yn gwbl eglur amdano dro ar ôl tro. Rydym ni wedi cael £435 miliwn o arian ychwanegol o'i gymharu â'r hyn a gawsom o dan y Torïaid. A yw'n ddigon? Nac ydy, ond bydd llif prosiectau yn dod yn y dyfodol.

14:00
Gwasanaethau Ysbyty yn Nes at y Cartref

3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer symud mwy o wasanaethau ysbyty yn agosach at ble mae pobl yn byw? OQ63668

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo ers amser maith i symud mwy o ofal yn agosach i gartref drwy'r rhaglen cymuned trwy ddylunio newydd. Mae diwygio contractau gofal sylfaenol eisoes wedi caniatáu i ni wneud cynnydd sylweddol. Mae llwybrau awdioleg ac optometreg newydd yn golygu bod mwy o gleifion yn cael eu gweld yn lleol, gan leihau atgyfeiriadau i'r ysbyty. Mae Presgripsiwn Newydd yn galluogi fferyllfeydd i drin cyflyrau cyffredin, gan ryddhau dros 400,000 o apwyntiadau meddygon teulu, ac mae hynny'n galluogi meddygon teulu i reoli achosion mwy cymhleth yn y gymuned, gan leihau atgyfeiriadau i'r ysbyty.

Mae hynny i gyd yn ardderchog, Prif Weinidog, ond hoffwn edrych yn benodol ar ansawdd a phwrpas cynyddu ein timau iechyd cymunedol. Mae cyfoeth o dystiolaeth ledled y DU bod y timau hyn, dan arweiniad nyrsys ardal, yn effeithiol o ran cadw pobl oedrannus a phobl â salwch cronig yn eu cartrefi i gael eu trin yno yn hytrach na gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty. Gwelais fy hun y gwaith gwych a oedd yn cael ei wneud yng Nghwm Taf yn un o'r cynlluniau peilot ychydig cyn i'r pandemig daro, ac rwyf i wrth fy modd bod 10 o dimau nyrsio cymunedol yng Nghaerdydd bellach, a phedwar arall ym Mro Morgannwg, ac mae ganddyn nhw dîm gwasanaeth nos hefyd, sy'n cwmpasu ardal gyfan y bwrdd iechyd. Felly, mae hynny'n gynnydd da o ran cyflwyno'r timau hunan-reoli hyn, wedi'u hysbrydoli gan system Buurtzorg yr Iseldiroedd.

Ond yng Nghaerdydd a'r Fro, o leiaf, mae'r galw yn dal i fod yn fwy na'r cyflenwad o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn y gymuned yn hytrach nag yn yr ysbyty. Nid ydym ni byth yn mynd i gael gwared ar restrau aros oni bai ein bod ni'n gallu gwneud pethau'n wahanol a symud yr adnoddau hyn i'r gymuned. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i symud adnoddau yn radical i ofal sylfaenol gwell a mwy arbenigol, fel y gellir cadw ysbytai ar gyfer pethau sy'n gallu digwydd mewn ysbytai yn unig, fel, er enghraifft, llawdriniaethau mawr?

Jenny, dyma'r union beth y gwnaeth ein strategaeth 'Cymru Iachach' ei gyflwyno. Roedd yn amlwg iawn ein bod ni eisiau gweld y symudiad hwnnw i'r gymuned. Rydym ni wedi cynyddu faint o arian sy'n cael ei wario yn y gymuned yn sylweddol. Ar yr un pryd, fodd bynnag, oherwydd bod gennym ni'r ôl-groniad o ganlyniad i COVID, bu'n rhaid i ni roi mwy o arian i mewn i ofal eilaidd. Nawr bod y rheini'n lleihau, rwy'n gobeithio gweld mwy o symudiad i'r gymuned.

Rwy'n gwybod faint o frwdfrydedd sydd gennych chi at y model Buurtzorg hwnnw, pa mor ymroddedig ydych chi iddo, ac mae'n wych gweld bod hynny'n digwydd yn ein cymunedau. Felly, rydym ni'n symud y buddsoddiad hwnnw yn fwriadol i ofal sylfaenol a chymunedol. Rydym ni'n ehangu cwmpas a graddfa'r gwasanaethau cymunedol hynny. Ni ddylai gofal diwedd oes fod yn digwydd mewn ysbytai mewn gwirionedd. Rydym ni'n ail-lunio'r gweithlu, felly mae gennym ni bethau fel y timau nyrsio hunan-reoledig hyn. Mae gan y bobl hyn sgiliau anhygoel—pam na fyddem ni eisiau eu defnyddio nhw? Ac rydym ni'n newid sut mae'r GIG yn cynllunio gwasanaethau, fel bod ysbytai yn canolbwyntio ar yr hyn y gall ysbytai ei wneud yn ddiogel yn unig.

Mae'n daith, nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos. Rhoddodd COVID ffon wirioneddol yn yr olwynion yn yr ystyr bod yn rhaid i ni leihau'r rhestrau aros hynny. Maen nhw yn lleihau—gostyngiad o 90 y cant o'r brig—ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld ail-gydbwyso i gymuned ac atal, fel y nodir yn ein rhaglen strategol, 'Cymru Iachach'.

Prif Weinidog, rydych chi'n cyflwyno darlun da iawn, on'd ydych chi, o ofal cymunedol, ond beth ydym ni wedi ei weld dros y 26 mlynedd diwethaf o'r Llywodraeth Lafur hon, wedi'i chynnal gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol? Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld ledled Cymru yw ysbytai cymuned yn cau, nifer y gwelyau ysbyty yn yr ysbytai cymuned sydd ar agor yn gostwng, a'r staff nyrsio yn yr ysbytai cymuned hynny o dan bwysau eithafol oherwydd nad yw'r Llywodraeth Lafur hon erioed wedi mynd i'r afael â'r heriau gweithlu yn yr ysbytai cymuned hynny. Rydym ni i gyd eisiau gweld gofal cam i lawr. Fe wnaethoch chi ddweud am bobl yn marw mewn ysbytai pan ddylen nhw fod yn marw yn agos at eu cartrefi. Rydym ni i gyd eisiau gweld hynny, ond mae methiant eich Llywodraeth chi yw hwnnw, hynny yw, am beidio â chael pobl yn ôl i'r gymuned lle maen nhw angen cael eu gweld.

Felly, yn y nyddiau olaf y Llywodraeth Lafur fethedig hon, a allwch chi gyflwyno'n bendant yma heddiw beth rydych chi'n mynd i'w wneud i wella cyfleusterau ysbytai cymuned ledled Cymru a chynyddu'r capasiti gwelyau hwnnw? Oherwydd mae gen i ofn dweud nad yw eich record yn y maes polisi hwn yn dda iawn o gwbl.

14:05

Wel, fel mae Jenny newydd ei nodi, nid yw'n ymwneud ag ysbytai yn yn unig. Mae'n ymwneud â chymorth yn y gymuned ehangach, mae'n ymwneud â chymorth gartref, os gallwn ni, a dyna beth rydym ni wedi bod yn ei wneud. Dydyn ni ddim wedi bod yn ceisio ei wneud, rydym ni wedi cyflawni. Rydym ni wedi ei gyflawni, er enghraifft, ym meysydd awdioleg ac optometreg—gofal ar ein strydoedd mawr y gall pobl fynd iddo. Nid oedd hwnnw yno bum mlynedd yn ôl pan bleidleisiodd pobl dros y Llywodraeth hon. Rydym ni wedi gweld y newid yn y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol. Mae hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth i'r ffordd y gall pobl gael mynediad at wasanaethau, gan wneud yn siŵr nad oes yn rhaid iddyn nhw fynd i weld meddyg teulu bob amser, bod tîm cyfan o amgylch meddygon teulu y gellir eu cael mynediad atyn nhw mewn gwirionedd. Y contract deintyddol newydd, â 400,000 o bobl a mwy yn cael eu cynorthwyo—nid oedd hwnnw yno bum mlynedd yn ôl. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd pwysleisio'r hyn y gall ein fferyllfeydd ei wneud: mae 400,000 o apwyntiadau meddygon teulu wedi cael eu rhyddhau o ganlyniad i'r hyn y gall ein fferyllfeydd ei gynnig, a dros 0.5 miliwn o ymgynghoriadau.

Newydd gychwyn ar y cynnig hwn mae Lloegr; rydym ni yno, rydym ni wedi cyflawni. Dylem ni fod yn falch o'r newid sydd eisoes wedi digwydd o gymryd gofal o'n hysbytai i mewn i'n cymunedau.

Wrth gwrs, gall gor-ganoli ysbytai a ble mae'r ysbytai hynny wedi'u lleoli—gall hynny fod yn broblem wirioneddol hefyd. Yng Nghaerffili, ers i ysbyty'r glowyr gau, mae cleifion ar draws cwm Rhymni wedi cael eu gadael heb adran damweiniau ac achosion brys. Roedd Ysbyty Ystrad Fawr i fod i fod yn ysbyty cyffredinol newydd, ond am resymau nad wyf i erioed wedi eu deall, cafodd ei israddio ac agorodd heb adran damweiniau ac achosion brys. Mae'n rhaid bellach i gleifion deithio i ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân i gael gofal brys. Mae honno'n dipyn o gamp os nad oes gennych chi gar pan fo gwasanaethau ambiwlans wedi'u gordanysgrifio'n fawr. Cyn y Nadolig, adroddwyd bod y Llywodraeth hon yn pryderu am rai agweddau ar ofal brys yn yr ysbyty hwnnw. Felly, mae'r penderfyniad hwnnw bron i 15 mlynedd yn ôl i gau un adran damweiniau ac achosion brys a pheidio â'i disodli yn cael sgil-effeithiau heddiw, lle mae'n rhaid i ormod o gleifion deithio'n rhy bell i gael mynediad at ofal brys ac aros am rhy hir pan neu os gallan nhw gyrraedd yno. Yn amlwg, nid yw hynny'n dderbyniol. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno mai camgymeriad oedd peidio â disodli'r adran damweiniau ac achosion brys honno yng nghwm Rhymni a beth ellir ei wneud nawr i'w unioni?

Wel, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed beth sydd gan Blaid Cymru wedi'i gynllunio o ran agor adrannau damweiniau ac achosion brys newydd yng Nghymru. Pob lwc gyda hynny, oherwydd, a bod yn onest, yr hyn yr ydym ni'n ei weld yw arbenigwyr sydd eisiau gweithio gyda'i gilydd mewn mannau canolog. Wrth gwrs, yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr y gall pobl yn ein cymunedau gyrraedd lleoliadau'r arbenigwyr hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw canlyniadau gwell i'n pobl. Dyna ddylai fod gennym ni diddordeb ynddo. Os ydych chi'n agos at eich cartref ond nad ydych chi wedyn yn cael y canlyniad sydd ei angen arnoch, nid yw hynny cystal. Felly, gadewch i ni fod yn hollol eglur mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw i'r gwasanaethau arbenigol hynny gael eu cryfhau ac i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cyrraedd y lleoedd hynny mewn ffordd foddhaol.

Prif Weinidog, blwyddyn newydd dda. Mae'n gwestiwn diddorol gan AS Llafur, onid ydyw? Mae'n ymddangos nad oes unrhyw strategaeth o gwbl yn fy ardal i. Ers 26 mlynedd, bu methiant llwyr ar eich rhan chi, wedi'ch cynnal gan Blaid Cymru, i sicrhau ein bod ni'n cael y gwasanaethau hynny yn agosach at bobl yn eu cartrefi. Mae'r gwrthwyneb yn wir yn fy rhanbarth i. Mae gwasanaethau wedi cael eu canoli ar frys a'u rhoi mewn ysbyty'r Faenor nad yw'n barod, sy'n golygu pellteroedd hirach i'r rhan fwyaf o bobl yn fy rhanbarth gael mynediad at ofal ysbyty. Nawr, gyda'r uned mân anafiadau yn Nevill Hall ar gau dros nos, mae hyd yn oed mwy o bobl yn cael eu gorfodi yng nghanol y nos i deithio ymhellach i ffwrdd o'u cymunedau i gael cymorth, heb unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus ar waith i alluogi hynny.

Felly, byddai gen i ddiddordeb gwirioneddol, Prif Weinidog, mewn cael gwybod pa wasanaethau ysbyty sydd wedi cael eu gwthio allan yn agosach at boblogaeth de-ddwyrain Cymru, er mwyn gwasanaethu fy etholwyr yn well a lleddfu'r pwysau hwnnw ar ysbytai canolog. Y cwbl yr wyf i'n ei weld yw ysbytai fel Nevill Hall, Gwent a'r ysbytai cymuned yn cael eu tanddefnyddio'n llwyr. Byddai Reform yn sicrhau'n bendant y byddai gwasanaethau GIG am ddim ar bwynt eu defnyddio yn cael eu rhoi yn ôl yn ein cymunedau i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.

14:10

Dydw i ddim yn cymryd gwersi gan Reform ar unrhyw beth i'w wneud â'r GIG. Does dim ffordd bod gennych chi unrhyw hygrededd yn y maes hwn o gwbl, ac rydych chi'n gyn-Dori, fel y rhan fwyaf o bobl yn Reform, ac maen nhw'n dod yn aml ac yn fynych o'r blaid Dorïaidd yn syth i Reform, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl Cymru yn cymryd sylw o hynny.

Rydym ni wedi nodi sut—. Mae gennym ni strategaeth eglur iawn ar hyn. Mae'r cwbl wedi'i gyflwyno. Ymgynghorwyd ar y cyfan yn ofalus iawn gydag arbenigwyr ledled Cymru. Mae cynllun 'Cymru Iachach' wedi cael ei ddarparu. Mae'n cael ei ddarparu. Bydd yn parhau i gael ei ddarparu. Dim ond newydd gychwyn ar y llwybr hwn maen nhw yn Lloegr. Rydyn ni ymhell ar y blaen iddyn nhw. A phan fyddwch chi'n sôn am ddim gwasanaethau yn lleol, wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi y bu uwchraddiad enfawr i Nevill Hall yn ddiweddar o ran gwasanaethau canser—buddsoddiad enfawr yn agos at adref. Felly, peidiwch â dod yma a siarad â mi am yr hyn yr ydych chi'n mynd i'w wneud yn Reform yn y GIG, oherwydd, a bob yn onest, byddwch chi'n ei breifateiddio, byddwch chi'n ei ddiddymu, byddwch chi'n disgwyl i bobl brynu yswiriant. Yn syml, nid yw'n gredadwy i chi wneud y ddadl dros fwy o gymorth i'r GIG.

Yr Hen Ffatri 3M yng Ngorseinon

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarganfod cemegion 'am byth' carsinogenaidd yn yr hen ffatri 3M yng Ngorseinon? OQ63671

Bu'n destun pryder mawr i ni glywed adroddiadau diweddar ynglŷn â'r defnydd o gemegau am byth, a oedd wedi'u cynnwys mewn ewynnau diffodd tân, a ddefnyddiwyd yn hen ffatri 3M yng Ngorseinon. Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw diogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd. Rydym ni'n gweithio gyda rheoleiddwyr i ddarganfod y ffeithiau sy'n ymwneud â halogiad o'r fath, a byddwn yn sicrhau y bydd camau priodol yn cael eu cymryd. Byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraethau eraill y DU i asesu risg, i olrhain y ffynhonnell ac i gryfhau mesurau i fynd i'r afael â chemegau am byth.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am eich ymateb. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, canfuwyd ewyn diffodd tân a oedd yn cynnwys cemegau carsinogenaidd yn hen ffatri 3M, ac fe'i datgelwyd yn rhan o ymchwiliad gan y BBC ychydig cyn y Nadolig. Rydym ni'n gwybod y gallai hynny fod wedi achosi problemau iechyd difrifol i'r rhai a oedd mewn cysylltiad â'r safle, a'i bod yn debygol ei fod wedi gwneud hynny, a honnir bod 3M yn gwybod am hyn mor bell yn ôl â'r 1970au, ac wedi parhau i ddefnyddio'r cemegau hyn yn eu cynhyrchion.

Cafodd rhai gweithwyr a oedd yn gweithio yno ddiagnosis o ganser yn ddiweddarach mewn bywyd ac nid ydyn nhw'n siŵr ar hyn o bryd a oedd hyn yn gysylltiedig â phresenoldeb cemegau ar y safle. Achosodd storm yn 2006 i'r system a oedd yn cynnwys yr ewyn ryddhau ar y safle a llifo i ddyfrffyrdd, gan gynnwys Afon Lliw, ac i'r stryd fawr yng Ngorseinon hefyd. Efallai fod hynny'n swnio'n hanesyddol, ond dangosodd astudiaeth yn 2023 fod gan Afon Lliw lefelau asid perfflworöoctan sylffonig 21,000 gwaith yn uwch na'r lefelau diogel a argymhellir. Bydd hynny yn achosi pryder aruthrol, nid yn unig i weithwyr ar y safle, ond i'r gymuned ehangach yn Ngorseinon hefyd. Felly, sut ydych chi'n cael atebion—y sicrwydd hwnnw—ac, os yw'n briodol, iawndal i gyn-weithwyr ar y safle? A sut ydych chi'n diogelu ein cymuned ehangach a'n dyfrffyrdd, gan gynnwys ein bywyd gwyllt hefyd, yng Ngorseinon?

Diolch yn fawr iawn, Tom. Mae hon, rwy'n credu, yn sefyllfa ac yn fater y dylem ni eu cymryd o ddifrif iawn. Grŵp o gemegau synthetig yw'r cemegau am byth hyn ac maen nhw'n adnabyddus am eu gallu i wrthsefyll dŵr, baw ac olew. Mewn gwirionedd, maen nhw'n cael eu defnyddio mewn llawer o gynhyrchion defnyddwyr fel offer coginio gwrth-lynu, ffabrigau gwrthsefyll staeniau, ac yn Ngorseinon yn yr ewynnau diffodd tân hyn. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n monitro yr hyn sy'n digwydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ehangu'r gwaith o fonitro cemegau o'r fath. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â chyngor dinas Abertawe mewn ymateb i'r adroddiadau diweddar, i wneud yn siŵr ein bod ni'n deall yn well sut mae'r ewynnau diffodd tân wedi cael eu defnyddio, maint unrhyw halogiad sy'n dal i fodoli a'r camau sy'n ofynnol i fynd i'r afael ag ef. Mae'r ymchwiliad hwnnw'n cael ei gynnal gan y cyngor ar hyn o bryd, a bydd adroddiad ar gael unwaith y bydd y canfyddiadau wedi'u cwblhau.

Safonau Diogelwch Tân

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo safonau diogelwch tân? OQ63666

Diolch i'r drefn, mae tanau ac anafiadau yn sgil tanau wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf. Mae hynny'n adlewyrchu'r pwyslais yr ydym ni a'r gwasanaeth tân ac achub yn ei roi ar ddiogelwch ac atal tân. Bydd ein Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn creu mesurau diogelu cryfach fyth ar gyfer blociau o fflatiau ac adeiladau tebyg.

Diolch am yr ateb yna.

Fel y gwelsom ni ar y newyddion, roedd y tân mewn cyrchfan sgïo yn y Swistir dros y gwyliau yn hollol erchyll. Fe wnaeth dathliadau blwyddyn newydd llawen droi'n arswyd llwyr yn gyflym pan ddechreuodd tân mewn bar yng nghyrchfan Crans-Montana. Collwyd deugain o fywydau, anafwyd 116 o bobl eraill, ac mae 83 o'r rheini yn cael eu trin ar hyn o bryd ar gyfer llosgiadau difrifol. Allwn ni ddim bod yn hunanfodlon na allai rhywbeth fel hyn ddigwydd yng Nghymru.

Mae aelod rhan-amser o'm staff, sydd â dros 40 mlynedd o brofiad yn y sector diogelwch tân ac yn berchennog cwmni diogelwch tân, yn credu ei bod hi'n amheus a yw'r holl adeiladau yng Nghymru wedi cael eu sefydlu, eu rheoli a'u cynnal i ddarparu amgylchedd diogel. Mae hyn yn arbennig o wir am ddigwyddiadau mewn lleoliadau sy'n cael eu defnyddio o bryd i'w gilydd ar gyfer digwyddiadau o'r fath. Ceir dadl i'w gwneud y dylid ailgyflwyno trefn o archwiliadau yn ystod perfformiad i ddarparu mwy o ddiogelwch. A yw hyn yn rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried? Ac a yw eich Llywodraeth wedi ystyried diogelwch tân yn sgil trasiedi Alpau'r Swistir?

14:15

Diolch yn fawr iawn i chi, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi dychryn o glywed am y trychineb ofnadwy a oedd yn dod i'r amlwg yn y Swistir—cymaint o fywydau ifanc yn cael eu dwyn ar ddiwrnod a oedd i fod yn achlysur llawn hwyl. Felly, yn amlwg, rydym ni'n anfon ein cydymdeimlad ni, ar draws y Senedd gyfan, at y bobl hynny.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n ceisio dyfalu gormod. Mae'r ymchwiliad yr ymgymerwyd ag ef yn parhau. Mae busnesau yma yn ddarostyngedig i reoliadau caeth, ond rwy'n derbyn eich pwynt chi os oes yna sefyllfa dros dro efallai fod angen i ni sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwyf i am ofyn i swyddogion sicrhau ein bod yn edrych ar y sefyllfa yng Nghymru unwaith eto os daw unrhyw beth yn sgil y canfyddiadau am y tân hwnnw yn y Swistir.

Prif Weinidog, yn drist iawn, amharwyd ar gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd gan nifer o danau a marwolaethau mewn tai a gafodd eu hachosi gan fatris ïon lithiwm yn mynd ar dân. Mae llawer o deuluoedd wedi prynu anrhegion Nadolig yn cynnwys e-sgwteri ac e-feiciau a gafodd eu mewnforio o Tsieina, ac mae llawer o'r cynhyrchion hyn â thueddiad i fynd ar dân. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda safonau masnach a Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw cynhyrchion sy'n cynnwys batris y gellir eu hailwefru yn golygu bod perygl difrifol o dân?

Wel, fel dywedais i, mae niferoedd y tanau a thanau mewn cartrefi, sef y rhai mwyaf peryglus o bell ffordd, wedi gostwng i'w niferoedd lleiaf erioed. Felly, rydym ni'n teithio i'r cyfeiriad cywir, ac mae hynny'n rhannol am fod gennym ni'r rhaglenni eang hyn o gyngor a chymorth sydd am ddim—mae £9 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ers 2015 wedi cael ei roi ar gyfer 0.5 miliwn o ymweliadau â chartrefi ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn perygl o dân. Felly, dyna lawer iawn o ymweliadau sydd, yn amlwg, yn arbennig felly, yn cael eu hanelu at gartrefi pobl hŷn, a gosod synwyryddion mwg ynddyn nhw. Mae hynny i gyd yn cael ei wneud ledled Cymru ac mae wedi gwneud gwahaniaeth. Fe fyddaf yn gofyn i'r awdurdodau cymwys ystyried a oes rheswm penodol fod angen iddyn nhw edrych arno ef unwaith eto o ran y batris ïon lithiwm hynny, y mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n achosi mwy o broblem. Unwaith eto, mater newydd sydd wedi codi yw hwn. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n cadw yn gyfredol â bygythiadau newydd yn ymwneud â thân.

Rheilffordd Treherbert

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau a wnaed i linell Treherbert fel rhan o fuddsoddiad Metro De Cymru? OQ63669

Mae buddsoddiad gwerth £1 biliwn gan Lywodraeth Lafur Cymru ym metro de Cymru eisoes yn cyflawni gwelliannau ymarferol ar reilffordd Treherbert. Mae teithwyr bellach yn elwa ar gyfleusterau gwell mewn gorsafoedd bysiau, gwybodaeth deithio sy'n fwy eglur ac yn fwy dibynadwy a chyflwyno system docynnau talu wrth fynd ar draws rhwydweithiau craidd y Cymoedd, sy'n gwneud teithiau yn fwy syml a hyblyg. Ac, o 2026 ymlaen, fe fyddwch chi'n falch o glywed y byddwn ni'n cyflenwi pedwar trên bob awr ar reilffordd Treherbert, ac fe fydd hynny'n newid gwedd eu hamlder a fydd yn gwneud rheilffyrdd yn ddewis gwirioneddol gyfleus i bobl ar draws cymoedd y Rhondda.

Diolch i chi, Prif Weinidog. Mae rheilffordd Treherbert yn hanfodol i drigolion y Rhondda deithio i'r gwaith, i'r ysgol a'r coleg. Dros amser rhy hir roeddem ni'n gorfod defnyddio gwasanaeth annibynadwy a cherbydau a oedd yn hen ffasiwn. Mae'r gwahaniaeth a welsom ni dros y pedair blynedd diwethaf, yn rhan o'r buddsoddiad ym metro de Cymru, yn anhygoel. Mae trigolion y Rhondda yn haeddu gwasanaethau rheilffyrdd modern, ac rwy'n falch mai Llywodraeth Lafur Cymru a gyflawnodd drydaneiddio'r llinell, a chael addasiadau i orsafoedd, trenau newydd sbon a gwasanaeth erbyn hyn sy'n rhedeg yn hwyrach ar ddydd Gwener, er y byddem ni'n hoffi gweld gwasanaethau hwyrach ar ddiwrnodau eraill, ac nid ar ddydd Gwener yn unig. O ystyried y cynnydd a gafwyd hyd yn hyn, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr uchelgeisiau ar gyfer y rheilffordd yn y dyfodol, ac yn fwy penodol o ran y ddarpariaeth o bedwar trên bob awr, toiledau ar blatfformau, a gwasanaethau diweddarach o Dreherbert ar ben y cwm i lawr hyd at Borth a Threhafod?

14:20

Diolch yn fawr iawn i chi, Buffy, am eich brwdfrydedd a'r ffordd yr ydych chi'n eiriol dros bobl yn eich etholaeth. Fe wn i chi fod yn awyddus iawn, ac rwyf i o'r farn fod pobl yn eich cymuned wedi bod yn dra amyneddgar wrth i'r newidiadau gael eu gwneud i gyd ond rwy'n falch o glywed eu bod nhw'n elwa ar y buddsoddiad hwnnw erbyn hyn.

Bydd trenau tram trydan newydd sbon yn cael eu cyflwyno ar linellau craidd y Cymoedd o'r gwanwyn eleni, a'r peth diddorol i mi yw mai ni yw'r unig rai yn Ewrop a fydd yn gallu gweithio gyda thri math gwahanol o ffynonellau ynni, ac fe ellir eu cyfnewid wrth fynd. Mae hyn yn unigryw. Dyma i chi Gymru sydd ar flaen y gad ym maes technoleg rheilffyrdd. Mae hon yn garreg filltir bwysig, ac mae hynny'n allweddol ar gyfer datgloi'r gwasanaeth o bedwar trên bob awr ym Mlaenau'r Cymoedd yn Nhreherbert, yn Aberdâr ac ym Merthyr. Roedd hi'n ardderchog cael bod ym Merthyr ar y penwythnos, lle roedd roedd pobl yn frwdfrydig iawn, unwaith eto, ynglŷn â'r trawsnewidiad yn y gwasanaethau rheilffyrdd hynny yn y gymuned.

Rwy'n cydnabod bod pobl yn eich cymuned chi'n awyddus i fynd ar noson allan weithiau, i'r brifddinas efallai, ond nid ydyn nhw'n dymuno gwario arian mawr ar dacsis i gyrraedd adref, a dyna pam mae'r gwasanaeth rheilffordd nos hwnnw'n wirioneddol hanfodol ac fe fydd yn gwneud gwahaniaeth.

Yn ogystal â hynny, o ran toiledau, mae Trafnidiaeth Cymru yn ymgymryd â rhaglen fawr o welliannau i orsafoedd i osod toiledau newydd sy'n gwbl hygyrch. Bydd hynny'n digwydd yn Nhreherbert, Tonypandy a Threorci, sy'n golygu na fydd teithwyr fyth fwy nag 20 munud oddi wrth gyfleuster toiledau ar linellau craidd y Cymoedd.

Rwy'n gweld bod y Prif Weinidog ychydig yn ddi-ras am nad yw hi'n mynegi unrhyw ddiolch i'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan am gyflwyno'r fargen ddinesig a ganiataodd i system y metro ddod i fodolaeth. Rwyf i wedi ei chlywed hi'n dweud ddwywaith nawr mai Plaid Lafur Cymru sydd wedi cyflawni'r prosiect hwn. Y fargen ddinesig, sy'n cyfuno arian Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru, a gyflawnodd y cynllun metro. Ac eto, ym Mro Morgannwg, dal i aros yr ydym ni o ran yr addewid o ddau drên i ddod bob awr ar reilffordd y Fro ar gyfer gwelliant i'r cynllun metro ym Mro Morgannwg. Felly, pryd fyddwn ni ym Mro Morgannwg yn gweld dau drên bob awr fel mae ardaloedd eraill o'r metro yn eu gweld, ac a fyddwch chi'n rhoi'r ganmoliaeth lawn i Lywodraeth flaenorol y DU am yr arian a roddodd hi i'r cynllun hwn?

Na wnaf. Nid wyf i am eu canmol nhw am eu bod nhw, mewn gwirionedd, wedi twyllo Cymru dros 14 o flynyddoedd.

Un y cant—1 y cant—o'r cyllid i reilffyrdd a gawn ni yng Nghymru. Nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw hynny'n dderbyniol. Nid yw'n dderbyniol oddi wrth Lywodraeth Dorïaidd y DU, ac nid yw'n dderbyniol, a dweud y gwir, oddi wrth y Llywodraeth Lafur ychwaith. Fe fyddwn ni'n parhau i wthio ar gyfer sicrhau y byddwn ni'n cael ein cyfran deg o gyllid o ran y rheilffyrdd yng Nghymru. Yr hyn a welsom ni yw gwelliant o 90 y cant. O ran y sefyllfa gyda dibynadwyedd, fe gyrhaeddodd 90 y cant o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar linellau craidd y Cymoedd o fewn tri munud i'r amser a drefnwyd. Mae hynny'n golygu mai ni yn ardal graidd y Cymoedd yw'r rhwydwaith rheilffyrdd sy'n perfformio orau o ran prydlondeb drwy Brydain Fawr i gyd.

Radio Cymunedol

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i radio cymunedol? OQ63633

Mae radio cymunedol yn wirioneddol bwysig. Mae'n rhoi llais i bobl, ac rwy'n credu ei fod yn cadw cysylltiad mewn cymunedau. Fe welaf i hynny bob wythnos ar Pure West Radio yn sir Benfro, lle mae gen i slot rheolaidd lle mae pobl yn barod iawn, iawn i ddweud wrthych chi beth maen nhw'n ei feddwl. Ond mae hynny wedi dysgu fi fod pobl yn gwerthfawrogi lleisiau lleol yn wirioneddol hytrach na chlywed sŵn cenedlaethol. Ac mae hynny'n ein hatgoffa o gyrhaeddiad y gorsafoedd hyn a'r ymddiriedaeth y maen nhw wedi ei feithrin yn eu cymunedau nhw.

Diolch i chi am yr ateb yna. A gaf i ddiolch i chi yn y lle cyntaf am ymddangos ar fy ngorsaf radio gymunedol leol i, sef GTFM? Rwy'n credu y dylem ni eu llongyfarch nhw am y degau o filoedd o wrandawyr sydd ganddyn nhw, ond am yr wybodaeth maen nhw'n ei darparu ar adegau allweddol iawn hefyd—gwybodaeth wirioneddol leol, boed hynny o ran y tywydd, neu COVID, neu boed hynny'n ddigwyddiadau lleol neu'n newyddion lleol. Yr hyn sy'n allweddol am radio cymunedol, serch hynny, Prif Weinidog, yw bod gwrando yn rhad ac am ddim, mae'r gwaith yn broffesiynol iawn, ond gan wirfoddolwyr y caiff ei wneud hefyd. Mae'n darparu gwasanaeth cyhoeddus allweddol ac mae'n darparu a chyhoeddi gwybodaeth sy'n eithriadol o leol.

Nawr, yn amlwg, mae GTFM yn cynnig gwasanaethau i ardaloedd Pontypridd a Rhondda Cynon Taf yn fwy eang, i gannoedd o filoedd o bobl, ond mae hynny'n dibynnu i raddau helaeth iawn ar yr arian y gellir ei godi. Mae'r orsaf wedi cael grant bychan gan Cymru Greadigol, sydd i'w groesawu yn fawr—yr un cyntaf ers blynyddoedd lawer. Ond, wrth edrych ar ddarlledu gwasanaethau cyhoeddus a hysbysebu gwasanaethau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, rwyf i am roi'r ffigurau hyn i chi: yn 2022 roedd 23 o archebion gyda GTFM ar gyfer hysbysebu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn benodol honno; 2023, roedd wyth; 2024, roedd pedwar; 2025, 14. Nawr, mae'r hysbysebu hwn yn bwysig iawn, ond mae hi'n ymddangos i mi fod y polisi yn anghyson. Ac fe wn i, gyda'r newidiadau i hysbysebu a chomisiynu ac ati—. A wnewch gymaint ag y gallwch chi i sicrhau y bydd yr hysbysebion i gyd o ran gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, fel mater o drefn, yn cael eu darlledu ar radio cymunedol? Oherwydd fe fyddai hynny nid yn unig yn golygu y bydd gwybodaeth yn cael ei gyhoeddi i'n cymunedau ni, ond yn gwella cynaliadwyedd radio cymunedol yma hefyd.

14:25

Diolch, Mick, a diolch i chi am hyrwyddo GTFM yn benodol, y gwn ei bod yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr iawn, ac mae yna bobl ragorol yn gweithio yno. Fel rydych chi'n dweud, gwirfoddolwyr ydyn nhw i gyd, ac maen nhw'n gwneud gwaith sydd, yn fy marn i, yn hanfodol i'r bobl sy'n byw yno. Pan fyddwn ni'n gwario arian ar hysbysebu, mae'r prawf allweddol i ni yn syml: a yw hynny'n cyrraedd at y bobl y mae angen i ni gyrraedd atyn nhw mewn gwirionedd, yn ogystal â holi a yw hynny'n rhoi gwerth am arian? Mae radio cymunedol yn cyrraedd at gynulleidfaoedd nad yw allfeydd cenedlaethol yn gallu cyrraedd atyn nhw'n aml, ac nid ydyn nhw'n gwneud felly, ac nid yw'r gyfradd honno o ymddiriedaeth gan radio cenedlaethol fel roeddech chi'n sôn, oherwydd eu bod nhw wedi meithrin y berthynas honno â'u cymunedau lleol.

Nawr, mae hi'n amlwg bod rhaid i Lywodraeth Cymru ddilyn rheolau caffael a'r egwyddorion gwerth am arian hynny, ond, yn y fframwaith hwnnw, rydym ni'n ystyried cyrhaeddiad, perthnasedd ac effaith gymunedol. Rwy'n falch iawn ein bod ni, drwy Cymru Greadigol, wedi dyfarnu rhoi £100,000 y llynedd i Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru, ac rydym ni'n ceisio sicrhau ein bod ni'n gwybod sut y gallwn gefnogi'r gorsafoedd radio cymunedol hyn sydd mor hanfodol i'n cymunedau yn y ffordd orau un.

Gwasanaethau Iechyd yn Sir Drefaldwyn

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r broses o ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OQ63644

Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn haeddu'r un ansawdd o ofal ag yn unrhyw fan arall. Dyna pam rydym ni wedi cynyddu cyllid i'r GIG, wedi cefnogi gwaith gwella wedi'i dargedu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, ac rydym ni'n bwrw ymlaen â hyb llesiant y Drenewydd, i ddod â mwy o wasanaethau at ei gilydd yn lleol. Ochr yn ochr â hynny, rydym ni'n ehangu gofal a arweinir gan fferyllfeydd, yn cryfhau gwasanaethau cymunedol, ac yn buddsoddi yn y gweithlu yng nghefn gwlad er mwyn i bobl gael gofal heb deithio yn ddiangen.

Diolch i chi, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod eich ateb yn ddiddorol, sef fod pobl yn sir Drefaldwyn yn haeddu'r un gyfradd o ofal ag yn unrhyw fan arall. O fis Gorffennaf, wrth gwrs, rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol, Prif Weinidog, mae llawer o gleifion Powys sy'n aros am driniaeth mewn ysbytai yn Lloegr yn gorfod aros am lawer mwy o amser am eu triniaethau, er bod y capasiti hwnnw ar gael yn yr ysbytai hynny yn Lloegr. Nid ymwneud â chapasiti y mae hynny; mae hyn yn ymwneud â'r bwrdd iechyd yn dweud wrth gleifion a'r ymddiriedolaethau hynny na ellir eu gweld nhw'n gynt oherwydd cyfyngiadau ariannol. Maen nhw'n dweud—mae bwrdd iechyd Powys yn dweud—mae'n rhaid iddyn nhw fyw o fewn y disgwyliadau ariannol a bennwyd gan eich Llywodraeth chi.

Nawr, fe gysylltodd un o'm hetholwyr i, Mrs Handcock, â mi ychydig wythnosau yn ôl i ddweud iddi fod yn aros am 78 wythnos erbyn hyn am ei chlun newydd. Mae hi mewn poen difrifol, mae ei symudedd hi'n dirywio yn sylweddol, ac fe gafodd hi wybod y bydd yn rhaid iddi ddal i aros, ac fe wyddom ni y bydd hi'n debyg o fod yn dal i aros am 104 o wythnosau o leiaf. Ni all hi ddeall pam. Fe wyddom ni hefyd, wrth gwrs, mai dim ond 29 wythnos yw'r arhosiad cyfartalog ar gyfer cleifion o Loegr sy'n aros am yr un driniaeth yn yr un ysbyty. A wnewch chi ddweud wrthyf i, Prif Weinidog, a fydd y £180 miliwn ychwanegol hwnnw yr oeddech chi'n cyfeirio ato ar gyfer y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd tuag at ariannu bwrdd iechyd Powys, er mwyn iddyn nhw allu rhoi terfyn ar yr anghydraddoldeb hwn a sicrhau bod cleifion o Gymru a Lloegr yn cael eu trin yn gyfartal, yn enwedig pan fyddan nhw'n cael eu triniaethau yn yr un ysbytai, a'u trin gan yr un gweithwyr iechyd proffesiynol?

14:30

Yr amser cyfartalog ar gyfer triniaeth yng Nghymru yw 19 wythnos. Nid wyf i'n credu bod pobl yn clywed hynny'n ddigon aml. Nawr, yn amlwg, rydym ni'n awyddus i fyrhau'r rhestrau aros. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o 90 y cant o ran arosiadau dwy flynedd ers y penllanw, ond yr amser aros cyfartalog yng Nghymru yw 19 wythnos. Felly, gadewch i ni sicrhau y bydd pobl yn deall hynny.

Yn amlwg, rydym ni'n awyddus i fyrhau'r rhestrau aros, a dyna pam rydym ni wedi rhoi cyllid sylweddol tuag at hynny. Mae Plaid Cymru wedi ein cefnogi ni i roi'r arian ychwanegol hwnnw i'r gwasanaeth iechyd, i lywodraeth leol, oherwydd y rhain yw'r blaenoriaethau. Ac wrth gwrs fe fydd yr arian hwnnw'n cael ei ddosbarthu o amgylch y byrddau iechyd i gyd.

Diolch i'r Prif Weinidog. Pwynt o drefn gan Carolyn Thomas. 

Diolch i chi, Llywydd. Fe hoffwn i gywiro'r cofnod ar gyfer cyfraniad Aelod Dyffryn Clwyd, Gareth Davies. Fe ddywedodd ef i mi fod yn dawedog yn flaenorol o ran Ysbyty Brenhinol Alexandra. Rwyf i wedi gwirio'r cofnod cyhoeddus ac fe wnes i 15 o gyfraniadau ar goedd, yn cynnwys heddiw, ynglŷn ag Ysbyty Brenhinol Alexandra. Diolch i chi. 

Nawr, fe fyddwn i'n naïf i beidio â disgwyl rhyw gyfran o ymgyrchu etholiadol yn y Siambr hon rhwng nawr a mis Mai, ond rwy'n disgwyl uniondeb ffeithiol hefyd, yn enwedig yng nghyd-destun gonestrwydd Aelodau unigol yn y Siambr hon. Nid fy ngwaith i yw gwybod ym mha le y mae'r cywirdeb ffeithiol hwnnw'n gorwedd, ond fe fyddaf i'n caniatáu cyfle bob amser i ddadlau'r achos dros yr amddiffyniad. [Torri ar draws.] Gareth Davies, a ydych chi'n gwrando arnaf i, oherwydd atoch chi y cafodd hyn ei gyfeirio yn bennaf oll? Felly, fe fyddwn i'n disgwyl i chi wrando arnaf i hefyd, ac rwyf i am wneud hwnnw'n ddyfarniad am weddill y tymor hwn hefyd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a'r cyhoeddiad busnes nawr gan y Trefnydd, Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 14:32:24
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, fel sydd wedi ei nodi ar agendâu'r Cyfarfodydd Llawn. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y ddarpariaeth o wasanaethau rheilffyrdd yn y gorllewin, yn enwedig o ystyried ein bod ni wedi clywed gan y Prif Weinidog yn gynharach eu bod eisiau siarad am wasanaethau rheilffyrdd ar bob cyfle. Wel, gadewch i ni siarad am wasanaethau rheilffyrdd, oherwydd, yn anffodus, mae gwasanaethau rheilffyrdd yn ôl ac ymlaen i sir Benfro yn dal i fod yn broblem enfawr i lawer o'm hetholwyr. Ac mewn un achos arbennig, fe gafodd trenau eu canslo o Hwlffordd heb unrhyw fysiau o gwbl yn dod yn eu lle i gludo teithwyr, ac fe achosodd hynny anhrefn llwyr.

Mewn achos diweddar arall, fe ddywedodd un etholwraig wrthyf i fod ei thrên wedi gorffen ei daith yng Nghaerfyrddin, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi talu am dacsi i'w chludo am weddill y ffordd. Mae pobl sir Benfro yn haeddu gwell, ac mae hi'n hanfodol bod adolygiad o'r broses o ddarparu gwasanaethau yn y gorllewin yn digwydd ar frys, ar gyfer cymryd camau i sicrhau bod pobl sy'n byw y tu hwnt i Gaerfyrddin yn gallu dibynnu yn wirioneddol ar wasanaethau rheilffyrdd lleol.

Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i wella'r broses o gynnig gwasanaethau rheilffyrdd yn y gorllewin.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Ac, wrth gwrs, mae gwasanaethau rheilffyrdd yn y gorllewin, fel dywedodd y Prif Weinidog, o ran darparu gwasanaethau rheilffyrdd, yn enwedig rhai Trafnidiaeth Cymru—. Ac rydych chi wedi gweld y sgoriau a'r canlyniadau da o ran darparu gwasanaethau, a phrydlondeb ac amseriad gwasanaethau gan Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n gwybod bod croeso mawr i hynny hefyd, ac rwy'n siŵr fod eich etholwyr chi wedi bod yn teithio ar y llwybrau newydd hynny. Ond fe fydd yna gyfle i chi godi hyn, o ran y gorllewin yn arbennig, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, oherwydd yfory bydd hi'n amser gofyn cwestiynau llafar iddo ef yn y Senedd.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cyntaf yn ymwneud â Grok, sef yr offeryn deallusrwydd artiffisial sydd gan X. Rydym ni wedi clywed am gamddefnyddio delweddau mewn ffordd erchyll. Fe hoffwn i wybod pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag peryglon y platfform hwn. 

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad hefyd ynglŷn â'r cyhoeddiad diweddar fod Consumer Energy Solutions wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Yn amlwg, mae effaith hynny wedi bod yn enfawr o ran colli swyddi—fe wn i fod hwnnw'n bryder i'm hetholwyr—ond mae pobl yn cysylltu â mi'n gynyddol oherwydd bod CES wedi ymgymryd â gwaith iddyn nhw ac sy'n pryderu nawr am nad yw'r gwaith o safon ddigonol ac yn gofyn at bwy y dylen nhw fynd am gefnogaeth. Felly, o ran datganiad, rwy'n credu bod nifer o Aelodau'r Senedd a fyddai'n hoffi'r cyfle i godi'r pryderon hyn, ond ar gyfer clywed hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gweithwyr a'r rhai yr effeithir arnyn nhw. Fe wn i fod fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian wedi traddodi cwestiwn amserol, ond rwy'n credu bod hwn yn fater ehangach, ac mae angen yr atebion hynny gan y Llywodraeth hefyd.

14:35

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. A gaf i ymuno â chi—ac rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r mater—o ran fy mhryderon enfawr ynglŷn â Grok? Mae'r ffaith bod platfform cyfryngau cymdeithasol fel X yn caniatáu i ddefnyddwyr greu cynnwys ffiaidd ac anghyfreithlon, sy'n canolbwyntio yn bennaf ar fenywod a merched, yn gwbl annerbyniol. Mae hi'n bwysig ein bod ni, fel llawer ohonom sy'n gallu heddiw, ar draws y Siambr hon, yn dweud bod rheidrwydd ar X a deallusrwydd artiffisial Grok i gymryd camau ar unwaith i ddod â'r ffwythiant hwn i ben, i atal y delweddau hyn rhag amlhau ymhellach. Y bore yma, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gyfarfod ag Ofcom Cymru gan fynegi pryder mawr ynglŷn â'r mater atgas hwn. Amlinellodd Ofcom yr ymchwiliad a gyhoeddwyd ganddyn nhw ddoe a'r angen i ddilyn y drefn briodol, wrth gwrs, i benderfynu a yw X wedi methu o ran cydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023. Felly, rydym ni'n croesawu'r ymchwiliad hwn ac yn edrych ymlaen at weithredu cyflym a dibetrus. Rydym ni'n croesawu'r camau deddfwriaethol newydd hefyd a bennwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer atal hyn. Fe fydd hi'n rhaid i Ofcom gwblhau eu hymchwiliad nhw cyn gynted â phosibl. Yn amlwg, rydym ni'n aros am ganlyniad ymchwiliad Ofcom ac unrhyw gamau gorfodi a gafodd eu cymryd. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hyn ac yn mynegi ein barn a'n safbwyntiau yn gadarn ynglŷn â hyn heddiw—y cyfle pwysig hwn sydd gennym ni gydol ein sesiwn seneddol.

O ran eich ail bwynt, ynglŷn â Consumer Energy Solutions, rwy'n cydnabod bod cwestiwn amserol wedi cael ei gyflwyno ynglŷn â hyn. Fe allaf ddweud ar y cam hwn heddiw mai fy nealltwriaeth i yw bod Consumer Energy Solutions wedi bod yn dibynnu, fel rwy'n siŵr y gwyddoch chi a'ch cydweithwyr, ar gynllun rhwymedigaeth cwmnïau ynni Llywodraeth y DU i hyrwyddo ac ariannu ei wasanaethau. Bydd hwnnw'n cau ar ddiwedd mis Mawrth. Bydd hyn yn achosi canlyniadau sylweddol i'r cwmni. Mae swyddogion wedi trefnu i gwrdd â'r cwmni heddiw; fe fyddwn ni'n gallu cael adborth am ganlyniad y cyfarfod hwnnw. Mae ein timau cyflogadwyedd a Gyrfa Cymru wedi'i hysbysu i weithio gyda'r cwmni a'r gweithlu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i'r cwmni ymgynghori ynghylch y diswyddiadau â'r mwyafrif o'i weithwyr, eich bod wedi tynnu sylw at y pryderon gan y defnyddwyr am y gwaith sydd wedi cael ei wneud, yn ogystal â'r gweithlu. Felly, rwy'n ddiolchgar i chi am eich bod chi wedi codi'r ddau fater hyn yn y datganiad busnes.

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Rwy'n credu bod pob un o Aelodau'r Senedd wedi cael gwybodaeth oddi wrth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, sy'n dangos eu bod nhw wedi gweithio gyda 797 o ysgolion yng Nghymru yn 2025, i helpu i feithrin cydraddoldeb, cynhwysiant a chydlyniad cymunedol. Felly, mae hi'n ymddangos i mi ei bod hi'n gwbl hanfodol fod partneriaeth fel hon yn parhau. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ni sut mae hi'n bwriadu dal ati i weithio gyda sefydliadau fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ar gyfer creu Cymru wrth-hiliol?

Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan. Rwy'n credu bod pawb, yn sicr, yn y Senedd hon, wedi cael gwybodaeth oddi wrth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, sy'n ein gwahodd ni i gyd i ddigwyddiad gwobrwyo sydd ar ddod hefyd. Rwy'n credu y dylem ni arddangos ein cefnogaeth gref i Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Rwy'n cofio, flynyddoedd lawer yn ôl, mynd ac ymuno ag un o'r gweithdai mewn ysgol. Cafodd gymaint o effaith ar fyfyrwyr yr ysgol. Mae'n dda clywed eu bod wedi estyn allan i dros 796 o ysgolion yng Nghymru. Yn bwysicach fyth, nid yn unig oherwydd i ni roi ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ar waith—ac maen nhw'n bartner allweddol o ran cyflawni'r cynllun hwnnw—ond hefyd oherwydd bod addysgu straeon, cyfraniadau a hanesion pobl o gefndiroedd duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn orfodol drwy gydol Cwricwlwm diwygiedig Cymru erbyn hyn. Mae hyn hefyd yn gyfraniad arall at hynny, am mai'r hyn sy'n bwysig iawn hefyd yw ein bod ni'n rhoi adnoddau ar gyfer yr addysgu a'r dysgu. Fe fydd llawer ohonoch yn gwybod am waith arloesol DARPL, y tîm dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, hefyd, a leolir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n gweithio gydag ysgolion ledled Cymru, gan fod â dylanwad enfawr ac sy'n helpu'r athrawon yn ogystal â'r dysgwyr. Rwy'n croesawu cyfraniad Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn fawr iawn.

14:40

A gaf i alw am ddatganiad, Trefnydd, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fynediad at sganiau PET a sganiau CT ar gyfer cleifion yn y gogledd? Fe gefais fy rhybuddio gan etholwyr am y ffaith bod y cytundeb a oedd yn weithredol gyda darparwr trydydd parti i ddarparu'r sganiau hyn ar gyfer cleifion y gogledd wedi dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn y llynedd. Nid oes unrhyw beth newydd yn ei le hyd yn hyn. Mae hi'n ymddangos bod y broses dendro i gael gwasanaethau newydd wedi chwalu ac, o ganlyniad i hynny, fe geir nifer o gleifion sydd mewn angen dirfawr am sganiau, rhai ohonyn nhw'n gleifion canser ac na allan nhw ddechrau eu therapïau na'u triniaeth nes bod y sganiau hynny wedi cael eu cyflawni. Mae hynny'n rhoi cleifion mewn perygl o niwed. Mae'r bwrdd iechyd yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n gwneud eu gorau glas i ddod o hyd i drefniadau amgen yn y byrdymor cyn y bydd sganiwr i'w gael yn Wrecsam yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond mae'r sefyllfa hon yn ofidus iawn i gleifion a'u teuluoedd. Rwy'n credu bod angen datganiad brys arnom ni ar ba gamau sy'n cael eu cymryd i ddatrys y mater hwn, o ystyried yn enwedig y pryderon llywodraethu ac arweinyddiaeth sydd gennym ni yn y Siambr hon yn fwy eang o ran bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Rydych chi'n iawn i godi hyn gyda Betsi Cadwaladr. Diolch i chi am ei godi yma yn y Siambr hefyd, ond mater i Betsi Cadwaladr yw ateb y cwestiynau hynny'r wyf i'n siŵr eich bod chi wedi eu codi. Fe fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwy'n siŵr, yn awyddus i egluro'r sefyllfa a sicrhau bod yr adborth hwnnw gennych chi hefyd.

Fe hoffwn i alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn nodi sut mae urddas a goddefgarwch yn cael eu haddysgu mewn ysgolion. Ers yr isetholiad yng Nghaerffili, rydw i wedi clywed ddwy waith am ddigwyddiadau lle mae plant wedi cael eu gwawdio a dioddef ymosodiad corfforol ar eu ffordd adref o'r ysgol. Mewn un achos, roedd y plentyn yr ymosodwyd arno'n dod o Wcràin. Fe adroddwyd am hyn yn y wasg. Cysylltwyd â Lindsay a minnau ar wahân i'n gilydd am ddigwyddiad arall, nad wyf i am fanylu arno am nad ydyw wedi cael ei wneud yn gyhoeddus.

Mae llawer ohonom ni'n gynyddol bryderus ynglŷn â sut mae hyd yn oed plant nawr yn ymateb i'r rhethreg atgas a hiliol a glywn ni mewn dadleuon gwleidyddol. Ni ddylid dweud 'dos adref' wrth unrhyw blentyn. Y maen nhw yn eu cartref. Cymru yw eu cartref nhw. Mae Yuliia Bond, un o drigolion Cymru sydd o dras Wcreinaidd ac sy'n byw yng Nghaerffili, wedi nodi nad ar y stryd y mae'r gamdriniaeth hon yn dechrau. Mae'n dechrau gyda geiriau, gyda chelwyddau, ac wrth adael llonydd i gasineb fudlosgi. A ellir rhoi canllawiau diweddaredig i ysgolion sy'n nodi dulliau o fynd i'r afael â'r broblem hon sy'n parhau ac yn un gynyddol? Oherwydd mae ein plant ni'n teilyngu ymddygiad llawer gwell na hyn gan bob un ohonom ni.

Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Onid yw hi'n druenus eich bod chi'n gorfod codi hyn? Mae'r adborth ofnadwy hwn yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant ein plant a'r plant a'r bobl ifanc yr ydym ni'n eu croesawu i Gymru, sy'n rhan o Gymru. A gaf i roi teyrnged i Yuliia Bond, sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr wrth fod yn Wcreiniad sydd wedi dod i Gymru? Fe wnaethom ni allu cwrdd â hi, ac yn sicr rwyf i wedi cwrdd â hi ar sawl achlysur. Rwy'n credu bod hyn yn dychwelyd at y cwestiwn gan Julie Morgan ynglŷn â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a'r ffaith ein bod yn rhoi 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ar waith. Rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd addysg yn bryderus iawn ynglŷn â sicrhau'r adborth hwn, ond mae hyn yn ymwneud â chydlyniad cymunedol. Mae'n ymwneud â theithio i'r ysgol hefyd, ac mae'n ymwneud â'r ffaith bod angen i ni gydnabod nawr fod hon yn her y mae angen i bob un ohonom ni gymryd cyfrifoldeb amdani, ond yn enwedig ein hysgolion, ein hawdurdodau lleol, a phob un ohonom ni sy'n Aelodau etholedig, ac rwy'n ddiolchgar eich bod chi wedi codi hyn. Rwy'n gallu llwyr gondemnio'r modd y mae camwybodaeth, diffyg gwybodaeth a'r drafodaeth ddifaol hon nawr yn effeithio ar ein pobl ifanc.

14:45

Trefnydd, rwyf am ychwanegu fy llais at y pryderon a'r condemniadau a glywsom ni eisoes ynglŷn â'r adroddiadau diweddar am ddefnyddio offeryn AI Grok sydd ar blatfform cyfryngau cymdeithasol X, ac rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru am ddatganiad a diweddariad, efallai, ynglŷn â dull gweithredu'r Llywodraeth o ran mynd i'r afael â cham-drin menywod a merched ar-lein a'r defnydd o rai platfformau cyfryngau cymdeithasol. Rwyf i am rannu dim ond ychydig bach am yr hyn sydd wedi digwydd ar Grok, ac rwy'n cyhoeddi rhybudd oherwydd bod rhywfaint o hynny'n annymunol dros ben. Fe ddechreuodd hyn gyda'r sôn am yr hyn y mae pobl yn ei alw yn chwiw 'rhowch hi mewn bicini', a ddechreuodd ar ddiwedd y llynedd, ac mae'n debyg bod hynny wedi mynd fel tân gwyllt ar ddechrau'r flwyddyn eleni mewn gwirionedd. O fewn dyddiau, roedd cannoedd o filoedd o geisiadau yn cael eu gwneud i offeryn deallusrwydd artiffisial Grok, yn gofyn i hwnnw ddiosg y dillad oddi ar ddelweddau o fenywod. Cafodd y delweddau rhywiol ffug hyn eu cyhoeddi ar hwnnw, ac maen nhw ar gael i filiynau o bobl eu gweld. Fe ddatblygodd hynny i alwadau cynyddol i ddodi menywod mewn bicinis tryloyw, wedyn mewn bicinis o edau ddeintiol, a'u rhoi mewn ystumiau rhywiol a'i gwneud i blygu i lawr fel bod eu horganau cenhedlu i'w gweld, a phethau mwy eithafol wedyn. Fe ddechreuodd rhai defnyddwyr, dynion yn bennaf, fynnu gweld cleisiau ar gyrff y menywod ac ychwanegu gwaed at y delweddau. Fe gafodd ceisiadau i ddangos menywod wedi cael eu clymu a'u gagio eu caniatáu ar unwaith.

Rwy'n siŵr dod pob un ohonom ni yn y lle hwn yn condemnio'r fath ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Fe wn i chi ddweud bod Ofcom yn ymchwilio ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo ddoe i gyflymu'r broses o weithredu deddfwriaeth i fynd i'r afael â chyfran o hyn. Ond ymateb X oedd newid hyn fel na allai unrhyw un nad oedd yn tanysgrifio yn cael ei ddefnyddio, ac felly yn y bôn yn gwneud cam-drin menywod yn wasanaeth y mae'n rhaid talu amdano. Felly, Trefnydd, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar sut mae Llywodraeth Cymru ei hun yn parhau i ddefnyddio X a'i hymagwedd tuag ato, a datganiad ar sut y bydd strategaeth trais yn erbyn menywod Llywodraeth Cymru, sydd wedi ennyn canmoliaeth ers amser maith, yn ymgorffori niwed ar-lein, oherwydd mae angen i ni roi'r enw cywir ar hyn? Trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod yw hyn a gaiff ei hwyluso gan dechnoleg.

Diolch yn fawr iawn i chi. Unwaith eto, mae hi'n bwysig iawn, er bod hynny'n waith anodd iawn, sy'n hollol ofnadwy, i ni wrando ar y disgrifiad hwnnw o gamdriniaeth o ganlyniad i gamddefnydd a cham-drin cyfryngau cymdeithasol, felly diolch i chi, Hannah, am dynnu ein sylw ni at hyn heddiw a datgelu hyn ar draws y Siambr. Nid wyf i am ailadrodd y pwyntiau a wnes i'n gynharach mewn ymateb i Heledd Fychan, ond rwy'n credu y byddwn ni i gyd heddiw yn cydnabod bod y ffordd y mae X, y platfform cyfryngau cymdeithasol hwnnw, yn dal i ganiatáu i ddefnyddwyr—ac fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith eu bod nhw bellach yn dweud 'tanysgrifwyr'—i greu'r cynnwys ffiaidd ac anghyfreithlon hwnnw yn gwbl annerbyniol. Ond mae'n ychwanegu at gryfder y pryderon yr ydym ni'n eu codi gyda Llywodraeth y DU, yr ydym ni'n eu codi gydag Ofcom, ac roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn eu codi'r bore yma.

Ond, dim ond i gysylltu hyn â'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, VAWDASV, mewn gwirionedd, yn nigwyddiad y Rhuban Gwyn y llynedd fe ddatgelwyd faint o gamdriniaeth ar-lein sy'n effeithio ar fenywod a merched erbyn hyn. Mae menywod a merched yn wynebu risgiau anghymesur ar-lein, gan gynnwys misogynedd, aflonyddu cydgysylltiedig, cam-drin rhywiol ar sail delweddau, fel clywsom ni am hynny mor eglur heddiw, a cham-drin seiber-stelcian sy'n cael ei hwyluso gan dechnoleg. Mae hyn yn eglur. Nid yw trais ar-lein yn erbyn menywod a merched yn rhywbeth ar wahân i fathau eraill o gamdriniaeth. Mae'n rhan o gyfres ehangach ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hyn yn y modd hwn. Felly, dim ond i roi sicrwydd i'n cyd-Aelodau, gyda glasbrint VAWDASV, bod aflonyddu ar-lein a niwed digidol wedi cael eu hintegreiddio i'n dull o fynd i'r afael â thrais ac aflonyddu ar sail rhywedd yn fwy eang trwy gyfrwng y glasbrint. Rydym ni'n herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol i atal trais, ond mae gennym Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 erbyn hyn, ac mae gan Ofcom y swyddogaeth honno o fod yn rheoleiddiwr ffurfiol. Fe fyddan nhw'n cyhoeddi canllawiau i ddarparwyr cyn bo hir ar gyfer mynd i'r afael â chynnwys a gweithgaredd niweidiol. Ac mae'r drosedd newydd hon o ffugio dwfn rhywiol yn mynd i'r afael â cham-drin sy'n gysylltiedig â thechnoleg ac yn cydnabod yr ymdrechion sydd wedi bod i fynd i'r afael â cham-drin o'r fath. Mae'n rhaid i ni wneud hyn yn gyhoeddus, mae'n rhaid i ni wneud hyn yn eglur iawn yn y Siambr hon a'r tu allan i'r Siambr hon. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn ymwybodol o hyn, oherwydd mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn cydnabod bod rhannu delweddau difrïol yn drosedd. Felly, fe fyddwn i'n falch o ddod â'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hyn i'r Siambr maes o law.

14:50

Trefnydd, fe hoffwn i gael datganiad gennych chi, os gwelwch chi'n dda, ar unrhyw waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dynion a bechgyn gwyn, dosbarth gweithiol ledled Cymru. Yn ddiweddar, fe aeth ymgeisydd Plaid Cymru ar X i alw panel yr oeddwn i'n eistedd arno 'yn welw, yn wrywaidd ac yn hen'. Nid oes lle i'r iaith ddifrïol a sarhaus hon yn ein cymdeithas ni. Fe wyddom ni mai dynion gwyn—ac mae honno'n ffaith—a bechgyn sy'n wynebu rhai o'r heriau mwyaf yn ein cymdeithas. Y nhw sydd â'r canlyniadau addysgol salaf, y rhagolygon swyddi a chyflogaeth isaf a'r gyfradd uchaf o hunanladdiad ymhlith unrhyw grŵp o bobl, ac mae'r iaith sarhaus a ddefnyddiwyd i gyfeirio at ddynion a bechgyn gwyn yn amhriodol ac, rwy'n credu, nid oes lle i hynny yn y Siambr hon nac yn ehangach. Felly, rwy'n gobeithio, Trefnydd, y byddwch chi'n condemnio sylwadau'r ymgeisydd hwnnw o Blaid Cymru ac yn dangos bod Llywodraeth Cymru hon yn cefnogi ein dynion a'n bechgyn gwyn ledled Cymru.

Diolch i chi, James Evans. Rwy'n cofio'r ddadl wirioneddol bwysig a hyrwyddwyd gan Sam Rowlands yn yr hydref, y tymor diwethaf. Roedd honno'n drafodaeth bwysig iawn ynglŷn â swyddogaeth dynion a dynion ifanc yn y gymdeithas a'r gymuned, a'u swyddogaeth a'u cyfraniadau a'u cyfleoedd. Rydym ni, wrth gwrs, yn condemnio iaith ddifrïol a sarhaus o unrhyw fath.

Rwyf innau hefyd am ddilyn ar drywydd mater X ac am ofyn cwestiynau penodol i ni a Llywodraeth Cymru hefyd. Rwyf i wedi gwneud y penderfyniad i beidio â defnyddio X, ac fe fyddwn i'n annog pawb yn y fan hon i ymadael ag X. Fe hoffwn i ofyn i chi hefyd am ateb un gair: a fydd Llywodraeth Cymru yn ymadael ag X? Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi, Jane. Mae hwn yn gwestiwn pwysig. Ni allaf i ond dweud mai mater yw hwn sy'n codi wrth i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, gyfathrebu ar draws ystod o sianeli, ac rydym ni'n cydnabod ac yn rhannu'r pryderon a godwyd ynglŷn ag X, ac mae llawer ohonom ni wedi stopio defnyddio X beth bynnag. Ond, ar hyn o bryd, mae presenoldeb yn aros ar y platfform o hyd, ond mae hynny'n cael ei adolygu. Ac mae hi'n bwysig eich bod wedi codi hyn heddiw, er mwyn i ni ystyried hyn eto. Mae camau wedi cael eu cymryd i gyfyngu ar ein gweithgarwch ar X yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae hi'n debyg eich bod chi wedi clywed oddi wrth Lywodraeth y DU, yr Ysgrifennydd Gwladol, Liz Kendall, ynglŷn â hyn. Mae X yn cael ei ddefnyddio gan filiynau o bobl yn y DU o hyd. Mae angen i ni edrych ar hyn, ac felly rwy'n falch eich bod chi wedi codi hyn heddiw. Mae angen i ni aros am ganlyniad ymchwiliad Ofcom o ran X hefyd, yr wyf i'n siŵr y bydd ag effaith ar hyn.

Rwyf i'n galw am ddatganiad brys ar yr unfed awr ar ddeg hon cyn cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gymorth i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal allweddol yn y trydydd sector. Fel rwyf i wedi rhybuddio dro ar ôl tro, fe fydd methiant Llywodraeth Cymru i gefnogi'r costau cynyddol a ddodir arnyn nhw'n achosi crebachiad pellach ymhlith y gwasanaethau hyn a chostau llawer uwch i ddarparwyr GIG a gofal statudol a fydd o dan bwysau o ganlyniad i hynny. Yr wythnos diwethaf, fe ysgrifennodd gweithiwr cymorth i Mencap Cymru yn y gogledd at Aelodau'r gogledd, gan ddweud:

'Mae angen i ni weld ymrwymiad cadarn ac eglur cyn y gyllideb derfynol ym mis Ionawr i ddangos bod y gwaith a wnawn ni'r gweithwyr cymorth yn cael ei werthfawrogi a'n bod ni'n cael ein talu yn deg am y gwaith anhygoel yr ydym ni'n ei wneud.'

Yn yr un modd, mae hosbisau yng Nghymru sy'n wynebu toriadau eisoes wedi nodi nad yw £3 miliwn yn gyfystyr â'r setliad cyllid cynaliadwy a addawyd gan Lywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Gweinidog Gofal y DU ychwanegiad arall o £25 miliwn at y £100 miliwn o gyllid cyfalaf sydd ar gael ar gyfer hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru, yn ychwanegol at gyllid refeniw, gan gynnwys £80 miliwn ychwanegol ar gyfer hosbisau plant dros dair blynedd, sy'n aruthrol fwy na chyllid gan Lywodraeth Cymru i hosbisau yma yng Nghymru, lle mae gofal iechyd yn cael ei symud allan o'r gymuned i ysbytai sy'n gwbl groes i bolisi datganedig Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n galw am ddatganiad brys iawn gan Lywodraeth Cymru cyn iddi fod hi'n rhy hwyr, yn unol â hynny.

14:55

Wel, diolch i chi am godi'r mater hwnnw, ac wrth gwrs mae hwn yn fater sy'n gyfrifoldeb i ni, ac yn gyfrifoldeb yr ydym ni wedi ei gymryd yn ddifrifol iawn. Mewn gwirionedd, fe ymatebodd y Prif Weinidog i hyn wrth ymateb i gwestiynau yn gynharach heddiw, o ran ein hymrwymiad ni i'r gwasanaethau hynny y gwnaethoch chi eu nodi nhw o ran cyllid uniongyrchol i sefydliadau, ond i'r gwasanaethau a ddarperir hefyd gan yr awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn fwy eang.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd? Er fy mod i wedi codi'r mater hwn y llynedd, fe hoffwn i eich annog chi'n fawr iawn unwaith eto, Gweinidog, i sicrhau y byddwn ni'n cael eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r sgyrsiau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU o ran y cynllun treialu meddyginiaeth atal y glasoed Pathways, a fyddai'n golygu y gellid arbrofi ar blant mor ifanc ag wyth mlwydd oed. Mae pryderon diogelwch difrifol wedi cael eu codi yn dilyn adolygiad Cass ynghylch penderfyniadau a allai fod yn niweidiol ac yn newid bywydau i'r holl blant dan sylw, y mae rhai ohonyn nhw, fel dywedais i, mor ifanc ag wyth oed, ac mae hi'n amlwg nad ydyn nhw'n barod yn yr oedran hwnnw i wneud y fath benderfyniad. Gyda dros 120,000 o bobl wedi llofnodi deiseb erbyn hyn i orfodi Llywodraeth y DU i gael dadl ynglŷn â hyn, i geisio atal yr arbrawf ffiaidd hwn rhag digwydd, mae hi'n amlwg fod llawer o bobl yn erbyn hyn. Felly, pam mae Llywodraeth Cymru mor amharod i siarad am hyn a gweithredu er mwyn diogelu plant Cymru yn hyn o beth? Fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i gael diweddariad, os gwelwch chi'n dda.

Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth y DU wedi sôn nawr am stopio defnyddio gwestai ar gyfer lletya ymfudwyr. Fe hoffwn i gael datganiad ynglŷn ag unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â lleoliad amgen i'r bobl hyn yng Nghymru yn hytrach na gwestai. Nid oes digonedd o dai gennym ni, felly, oherwydd methiant difrifol Llafur a Phlaid Cymru i adeiladu'r tai hynny yng Nghymru. Ac fe welsom ni'r tai yn cael eu rhoi i fewnfudwyr anghyfreithlon eisoes gan roi blaenoriaeth iddyn nhw dros ein cyn-filwyr a'n teuluoedd ni yng Nghymru, felly beth a wnawn ni ynglŷn â hyn? Mae ein cymunedau ni'n haeddu cael gwybod.

A gaf i ddweud, o ran y cwestiwn cyntaf y gwnaethoch chi ei godi, ein bod ni wedi ymrwymo i wella'r llwybrau datblygu hunaniaeth rhywedd a'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru. Rwy'n arbennig o ymrwymedig i sicrhau y bydd ein pobl ifanc eu hunain yn ymgysylltu pan fyddwn ni'n datblygu gwasanaethau ar gyfer Cymru. Hefyd, fel rhan o'n cynllun gweithredu LHDTC+, rydym ni wedi ymrwymo i adolygu'r ddarpariaeth gofal iechyd, yn enwedig ar gyfer ieuenctid traws yng Nghymru. Rydym ni'n parhau i ddatblygu llwybr er mwyn i bobl ifanc gael mynediad at wasanaethau.

Mae hi'n bwysig, ac rwyf i wedi ymateb ac fe wnaethpwyd hyn yn eglur iawn, fod atgyfeiriadau o'r rhestr aros yn cael eu gweld gan dri darparwr rhanbarthol yn Lloegr nawr, sy'n cynnwys gwasanaeth ym Mryste. Mae gwaith yn cael ei wneud gyda'r cyd-bwyllgor comisiynu erbyn hyn. Yr hyn yr wyf i'n pryderu amdano yw ystyried yr hyn yr ydym ni'n ei wneud er mwyn pobl ifanc yng Nghymru. Dyna pam rwy'n ateb eich cwestiwn chi yn y modd hwn. Mae hi'n bwysig ein bod yn ceisio bod ag ymrwymiad i wasanaethau sy'n nes adref.

Rwy'n gwrthod eich ail gwestiwn chi'n gyfan gwbl ac yn llwyr. Rhoddir cefnogaeth i bobl sy'n dod yma i geisio noddfa, yn unol â'r niferoedd sy'n dod yma o ganlyniad i'r rhai y mae Llywodraeth y DU yn ei ystyried yn briodol o ran eu gwasgaru. Mae hi'n bwysig iawn i ni gydnabod, pan ddaw pobl i Gymru, os ydyn nhw'n ceisio noddfa a'u bod nhw'n cael hawl i aros yma wedyn, eu bod nhw'n integreiddio i'n cymdeithas. Mae'r mathau hynny o gwestiynau yn tynnu sylw at y ffaith fod pobl ifanc yng Nghymru yn profi'r math o ddiffyg parch a hiliaeth, byddwn i'n dweud, a ddaeth i'r amlwg y prynhawn yma.

Heddiw, fe hoffwn i rannu rhai o'r pethau a ddywedodd rhai pobl ifanc meddylgar iawn yn fy etholaeth i, lleisiau disgyblion yn Ysgol Bodfari, a aeth i'r drafferth i ysgrifennu ataf i cyn toriad y Nadolig ynglŷn â gwarchod ein moroedd, y traethau, a'n bywyd gwyllt. Roedd eu llythyrau nhw'n galonnog ac yn anhygoel o ddeallus, ac yn sôn am lygredd plastigau ar ein traethau, rhwydi pysgota a adawyd ar ôl a'r niwed a achosir gan daflu eitemau amhriodol i doiledau ac sy'n dod i ben eu taith yn y môr. Roedden nhw'n tynnu sylw at yr 8 miliwn tunnell o blastig sy'n mynd i'r moroedd a'r cefnforoedd yn flynyddol a'r niwed y mae hyn yn ei achosi i fywyd môr. Roedd y disgyblion yn arddangos ymdeimlad gwirioneddol o gyfrifoldeb, ac roedden nhw'n deall bod gofalu am yr amgylchedd yn rhywbeth sy'n llesol i ni. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ymdrechion i warchod ein hamgylchedd mewn ffyrdd y gellir eu rheoli nhw ac sy'n synhwyrol. Roedd y disgyblion yn tynnu sylw hefyd at ein rhan ninnau drwy wneud pethau bychain fel casglu sbwriel neu ystyried yn ofalus ble y byddwn ni'n cael gwared ar bob un o'n heitemau sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Fe hoffwn i ofyn ar ran disgyblion Ysgol Bodfari a fyddai Llywodraeth Cymru yn rhoi datganiad i amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i gyfyngu ar lygredd plastig, i amddiffyn ein bywyd morol a chadw ein traethau a'n cefnforoedd yn lân, a sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i addysgu'r cyhoedd ynglŷn â sut y gallan nhw ddod yn fwy ymwybodol o sut i osgoi ychwanegu at wastraff plastig sy'n gwneud ei ffordd i'n dyfrffyrdd ni yng Nghymru.

15:00

Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies. Rwy'n credu y byddem ni i gyd eisiau llongyfarch y bobl ifanc y gwnaethoch ymgysylltu â nhw a chydnabod eu hymwybyddiaeth, eu hymdeimlad o gyfrifoldeb, a'r ffaith bod hyn yn ymwneud â gwarchodaeth a chadwraeth forol, a hefyd cydnabod y pla o lygredd plastig. Mae llawer ohonom wedi bod yn rhan o gynlluniau a mentrau i gael gwared ar blastig o'n hardaloedd arfordirol a'n hafonydd, ond mae'n rhaid i ni longyfarch y bobl ifanc heddiw. Gallwch anfon fy niolch yn ôl atynt, a chydnabyddiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, y gwn y bydd ganddynt ddiddordeb mawr mewn clywed y newyddion hyn am gyfraniadau'r bobl ifanc hynny.

Gweinidog Busnes, a gaf ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig am y materion parhaus yn chwarel Tŷ Llwyd yn Ynysddu? Mae pryderon difrifol o hyd ynglŷn â gollyngiad anghyfreithlon amlwg yn y coetiroedd yn union islaw safle chwarel Tŷ Llwyd. Yn ddiweddar, recordiodd y cynghorwyr lleol Jan Jones a Janine Reed fideo yn dangos trwytholch yn llifo o dan y ffens ffin fetel werdd ac yn uniongyrchol i'r coetir. Mae'n ymddangos bod y ffynhonnell yn orlif o'r siambr awyru sydd wedi'i lleoli ychydig islaw'r chwarel. Roedd y deunydd hwn yn amlwg yn mynd i mewn i ardal heb ei diogelu yn y coetir cymunedol, sy'n gwbl annerbyniol ynddo'i hun.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael gwybod yn ffurfiol am y digwyddiad. Fodd bynnag, er gwaethaf eglurder y dystiolaeth a'r risgiau amgylcheddol amlwg, mae pryder cynyddol yn lleol bod diffyg brys o ran yr ymateb a diffyg ymchwiliad trylwyr. Mae'r coetir cymunedol yn wir yn amwynder lleol gwerthfawr a ddefnyddir gan drigolion, teuluoedd a phlant. Mae unrhyw ollyngiad heb ei reoli o drwytholchi i ardaloedd o'r fath yn codi cwestiynau difrifol am ddiogelu'r amgylchedd, goruchwyliaeth reoleiddiol a hyder y cyhoedd mewn gorfodi.

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ymchwilio a yw'r digwyddiad hwn yn torri amodau'r drwydded, pa gamau gorfodi sy'n cael eu cymryd, a pha fesurau fydd yn cael eu rhoi ar waith i atal unrhyw ailadrodd, cyn cyflwyno datganiad gan y Llywodraeth? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Rwy'n siŵr eich bod wedi codi hyn gyda CNC, a byddwn hefyd yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig am hyn. Rwy'n siŵr bod CNC eisoes yn edrych i mewn iddo, a hefyd yn edrych i mewn iddo gyda'r awdurdod lleol hefyd. Diolch am ei godi heddiw a thynnu sylw ato.

3. Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn gallu trafod eitemau 4 a 5

Eitem 3 sydd nesaf, y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu eitemau 4 a 5 i gael eu trafod. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. 

Cynnig NNDM9099 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM9097 a NNDM9098 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol. 

Y cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r Rheolau Sefydlog wedi eu hatal dros dro, sy'n caniatáu i ni symud ymlaen i eitemau 4 a 5.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, y cynnig yw bod y ddau eitem yma yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl ond gyda'r pleidleisiau ar wahân.

4. & 5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth a Chynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)

Y cynnig o dan y Rheol Sefydlog yw fod Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yn cael ei drin fel Bil brys y Llywodraeth. Mae yna gynnig hefyd i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). Gyda hynny i gyd, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyflawni nawr sy'n cyflwyno'r cynigion. Julie James.  

Cynnig NNDM9097 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn:

Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth), a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.

Cynnig NNDM9098 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii):

Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer y Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) fel ag y mae yn 'Amserlen ar gyfer ystyried Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)' a osodwyd gerbron y Senedd ar 6 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn. Heddiw, gofynnir i Aelodau'r Senedd ystyried a phleidleisio ar ddau gynnig. Y cyntaf yw a ddylid cyflwyno Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) fel Bil brys, a'r ail yw cytuno ar yr amserlen ddrafft yr ydym wedi'i chynnig ar gyfer ei basio drwy'r Senedd, pe bai'r cynnig cyntaf yn cael ei gytuno.

Anaml iawn yr ydym ni fel deddfwrfa yn ystyried cyflwyno Biliau gan ddefnyddio'r weithdrefn frys. Nid yw wedi digwydd yn ystod tymor y Senedd hon. Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i'r Senedd fy mod wedi ystyried yn ofalus iawn a ddylid cyflwyno'r Bil hwn fel Bil brys. Rwy'n gwneud y cynnig hwn oherwydd bod perygl gwirioneddol na fydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru bellach yn gallu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol heb basio'r Bil hwn.

Rydym yn cynnig symud y Bil byr hwn drwy'r Senedd cyn gynted â phosibl i leihau'r effaith ar waith pwysig y tribiwnlys a'r bobl sydd wirioneddol yn agored i niwed y mae'n ceisio eu hamddiffyn, oherwydd nid mater o swyddogaethau statudol a dyddiadau cau yn unig yw hyn; wrth wraidd gwaith y Tribiwnlys mae rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae gan Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru gyfrifoldebau hynod bwysig. Mae'n ceisio diogelu hawliau pobl sydd wedi gweld eu rhyddid wedi'i gyfyngu o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae'n adolygu achosion pobl sy'n cael eu cadw mewn ysbyty neu'n byw yn y gymuned yn ddarostyngedig i orchymyn rhyddhau amodol, triniaeth gymunedol neu warcheidiaeth. Mae'n gwneud yr holl bethau hyn ar gyflymder mawr. Os ydych chi'n cael eich cadw ar sail iechyd meddwl, go brin y gallai gael mwy o effaith ar eich bywyd, bydd y tribiwnlys hwn yn adolygu a oedd y penderfyniad hwnnw'n briodol. Ac oherwydd pwysigrwydd yr adolygiad hwnnw, mae'n orfodol bod hyn yn digwydd o fewn saith diwrnod i'r dyddiad cadw.

Mae gallu'r tribiwnlys i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny bellach mewn perygl difrifol. Y rheswm am hyn yw oherwydd nodwyd mater technegol mewn perthynas â'r diffiniad o 'ymarferydd meddygol cofrestredig' yn Neddf Iechyd Meddwl 1983. Mae wedi dod i'r amlwg bod rhaid i aelodau meddygol Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru feddu ar gofrestriad Cyngor Meddygol Cyffredinol a thrwydded gyfredol i ymarfer. Mae'r holl aelodau meddygol wedi'u cofrestru gan y CMC, ond dim ond 19 sydd â chofrestriad CMC a thrwydded i ymarfer sydd ar gael i eistedd ar hyn o bryd. Mae llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru wedi atal aelodau heb drwydded rhag eistedd ar achosion nes y gellir datrys y mater hwn. Er bod gofyn i'r 19 aelod sicrhau eu bod ar gael cymaint â phosibl, cyngor clir y farnwriaeth yw nad oes digon o aelodau meddygol i gwmpasu nifer yr achosion a restrir yn yr wythnosau nesaf. Mae aelodau heb drwyddedau ymarfer ar hyn o bryd, sy'n aml wedi ymddeol o ymarfer, wedi eistedd ar nifer anghymesur uchel o achosion y tribiwnlys.

Er gwaethaf ei gapasiti llai, mae'r tribiwnlys wedi parhau i gyflawni ei ddyletswyddau statudol hyd yn hyn. Maen wedi gwneud hynny diolch i lwyth gwaith ychwanegol sylweddol ar staff y tribiwnlys ac oherwydd bod y garfan o aelodau meddygol sydd â thrwydded i ymarfer wedi bod yn fodlon hyd yn hyn i eistedd ar wrandawiadau ychwanegol y tu hwnt i'w hargaeledd. Mewn rhai achosion, dim ond trwy ohirio dyletswyddau clinigol y maent wedi gallu gwneud hyn, sydd wrth gwrs yn anghynaliadwy ac yn wrthgynhyrchiol yn y tymor hwy. Rwy'n ddiolchgar iawn i staff uned Tribiwnlysoedd Cymru am eu hymdrech. Rwy'n talu teyrnged i'r aelodau meddygol sydd wedi cynyddu eu gwaith tribiwnlys i gael y tribiwnlys trwy'r cyfnod hwn. Rwy'n cydnabod bod gwneud hynny wedi eu tynnu i ffwrdd o ddyletswyddau eraill, ac rwy'n ddiolchgar iawn. Rydym wedi cyflwyno'r Bil hwn mor gyflym â phosibl i sicrhau bod y cyfnod hwn yn para dim ond cyhyd ag y mae'n rhaid iddo.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i chi, Llywydd, am gytuno yn yr amgylchiadau hyn i dorri'n sylweddol yr amser rydych fel arfer yn ei ganiatáu ar gyfer y broses o benderfynu a yw'r Bil o fewn cymhwysedd. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r staff hynny o Gomisiwn y Senedd a weithiodd dros doriad y Nadolig i'ch cefnogi ac i'n helpu ni yn y Llywodraeth i nodi'r camau gweithdrefnol sydd eu hangen i ganiatáu i'r Bil heddiw symud ymlaen.

Mae'r Bil yn fyr iawn ac yn gryno. Mae'n gwneud dim ond y darpariaethau hynny sy'n gwbl angenrheidiol i fynd i'r afael â'r mater a nodwyd a galluogi aelodau meddygol presennol heb drwydded i ymarfer i eistedd ar y tribiwnlys heb fynd trwy broses ailbenodi sy'n cymryd llawer o amser. Bydd hyn yn dod â chymhwysedd aelodau meddygol yn unol â'r tribiwnlys cyfatebol yn Lloegr. Rydym wedi ystyried a allwn ddatrys y mater hwn trwy ffyrdd gweithredu amgen, gan gynnwys defnyddio deddfwriaeth y DU. Fodd bynnag, byddai hyn yn cymryd misoedd lawer. Rhaid i ni fynd ar drywydd y datrysiad cyflymaf posibl i'r mater cymhwysedd hwn. Canlyniad methu â thrin hwn fel Bil brys fyddai oedi o fisoedd lawer, gydag effaith ddofn ar waith y tribiwnlys a'r bobl y mae eu hachosion yn aros i gael eu clywed.

Llywydd, Bil y Senedd sy'n cael ei ddilyn drwy'r gweithdrefnau brys yw'r unig ffordd sydd ar gael i ddatrys y mater hwn mewn modd amserol ac i amddiffyn hawliau rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly, cynigiaf y cynnig bod Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yn cael ei drin fel Bil brys y Llywodraeth. Yn amodol ar gytundeb y Senedd â'r cynnig cyntaf hwn, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Bil hwn, rhaid i mi gynnig amserlen ar gyfer ystyried Cyfnodau 1 i 4, neu unrhyw Gyfnod ailystyried, Bil Brys y Llywodraeth. Felly, rwyf wedi cynnig amserlen a fyddai'n galluogi'r Senedd i ystyried Bil Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) gan ddechrau heddiw ac i'w chwblhau yfory. Mae hyn yn caniatáu amser ar gyfer Cyfnodau 2 a 3. O ystyried cwmpas cyfyngedig y Bil hwn, rwy'n gobeithio na fydd yr Aelodau yn ystyried yr angen i gyflwyno gwelliannau. Rwy'n annog Aelodau'r Senedd i gefnogi'r amserlen rwy'n ei chynnig. Diolch.

15:10

Hoffwn ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei hamser ddoe ac am amser swyddogion. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddeddfwriaeth frys hon ar ei thaith ddeuddydd drwy'r Senedd. Mae gennyf rai cwestiynau polisi ehangach, ond mae'n amlwg nad ydyn nhw ar eich cyfer chi, Cwnsler Cyffredinol; byddan nhw ar gyfer y Gweinidog iechyd meddwl. Fel y dywedais i, rydym yn cefnogi'r Bil hwn mewn egwyddor wrth iddo fwrw ymlaen, ac edrychwn ymlaen at y ddadl wrth iddi fynd rhagddi.

Byddwn ninnau hefyd yn cefnogi'r Bil brys hwn a'r cynigion i'w hwyluso y prynhawn yma. Mae gennym rai materion yr hoffem eu codi yn nes ymlaen, os yw'r Senedd yn awyddus i gefnogi'r cynigion hyn, yn y ddadl egwyddorion sylfaenol. Hoffwn gyfyngu fy sylwadau nawr i rai cwestiynau.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am gyfarfod â ni fore ddoe. Ar ôl cael peth amser pellach i fyfyrio, roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddweud ychydig am ba wybodaeth ychwanegol, os o gwbl, fydd yn cael ei darparu i ni ar ffurf memorandwm esboniadol, mae'n debyg, unrhyw beth megis asesiad effaith hawliau dynol neu gyfiawnder neu rywbeth tebyg i hynny, ac unrhyw gyngor y gall ei rannu yn nhermau confensiwn Ewropeaidd ar gydnawsedd hawliau dynol a'r materion hyn, gan ein bod yn trafod, yn amlwg, materion sy'n berthnasol i erthygl 5 o ran rhyddid.

Roeddwn i'n meddwl tybed hefyd, o ystyried yr amserlen gywasgedig, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu ymrwymo, cyn belled ag y mae'n bosibl, ac rwy'n sylweddoli ein bod o fewn y ffiniau hynny, i ateb cwestiynau a fydd yn cael eu codi yn ystod y gwahanol gyfnodau; yn bennaf, rwy'n meddwl am heno, oherwydd, yn amlwg, erbyn yfory byddwn wedi rhedeg allan o amser. Felly, os oes cwestiynau, ac, yn sicr, bydd gennyf i rai cwestiynau y byddaf eisiau eu codi, i'r graddau y mae'n bosibl, a fydd y Llywodraeth yn darparu'r atebion hynny cyn cyfnodau yfory fel y gallwn drafod yn y cyd-destun hwnnw?

Mae cwpl ohonyn nhw rwyf am eu rhannu nawr, os hoffech chi, oherwydd eu bod yn fwy technegol. Mae un yn ymwneud â mater achosion byw o ran dwy agwedd. Yn gyntaf oll, a ydych yn gallu cadarnhau, os nad nawr, yna yn ystod y cyfnodau diweddarach, a yw Llywodraeth Cymru, Tribiwnlysoedd Cymru neu'r tribiwnlys ei hun wedi derbyn unrhyw ohebiaeth cyn gweithredu neu wedi cyhoeddi hawliadau blaenorol sy'n ymwneud â'r cwestiwn canolog yma o'r diffyg trwydded i ymarfer? A oes yna rai sy'n debygol o ddechrau o fewn y cyfnod hwn nawr, hyd at Gydsyniad Brenhinol, neu a gafodd, yn wir, gamau blaenorol eu dwyn ar yr union bwynt hwn wrth wraidd y Bil?

Mae'r cwestiwn arall yn ymwneud yn fwy â llwyth achosion y tribiwnlys, ac, unwaith eto, rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn fwy o fater i'r Gweinidog polisi, ond os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu codi hyn gyda chyd-Aelodau, a allwch chi roi mwy o syniad i ni o'r llwyth achosion presennol dros y pedair i chwe wythnos nesaf, sef mae'n debyg y cyfnod perthnasol yr ydym yn sôn amdano? Beth mae hynny'n ei olygu o ran y risgiau posibl, a pha gynlluniau wrth gefn sy'n cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â'r llwyth achosion presennol hwnnw yn y cyfnod interim hwn, os gallaf ei ddisgrifio yn y modd hwnnw? Pa ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi i'r tribiwnlys ei hun, er enghraifft, ac i fyrddau iechyd, lle mae hynny'n berthnasol, i sicrhau bod hawliau cleifion erthygl 5 y cyfeiriais atyn nhw, i'r graddau mwyaf posibl, yn cael eu diogelu yn ystod y cyfnod hwn o oedi posibl?

Yn olaf, bydd yr Aelodau wedi cael sesiwn friffio gan Goleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru. Roeddwn i'n meddwl, Cwnsler Cyffredinol, a fyddech chi'n gallu rhannu gyda ni pa ymgynghoriad yr ydych wedi gallu ei wneud, yn amlwg yn gyflym, gyda rhanddeiliaid perthnasol, megis y Coleg Brenhinol, Mind Cymru ac Adferiad, ac a fyddwch yn ceisio crynhoi hynny mewn sesiwn friffio pellach i'r Aelodau?

15:15

Wrth gwrs, dwi'n cytuno gyda hyn, a byddaf i'n pleidleisio o blaid. Ond, Cwnsler Cyffredinol, dwi yn cwestiynu sut rŷn ni wedi cyrraedd y sefyllfa yma heddiw, ble'r oedd rhaid i staff y Comisiwn gwneud gwaith dros gyfnod y Nadolig. Dyw e ddim yn deg, oherwydd yn 2008, cyflwynwyd y Qualifications for Appointment of Members to the First-tier Tribunal and Upper Tribunal Order 2008. Roedd hwn yn delio gyda'r broblem yn Lloegr nôl yn 2008. Sut ŷn ni wedi cyrraedd y sefyllfa yma yng Nghymru yn Ionawr 2026? Sut mae Llywodraeth Cymru, mae'n ymddangos, 18 mlynedd ar ei hôl hi o gymharu â'r Llywodraeth Brydeinig ar y mater yma? Dwi siŵr o fod yn dilyn ymlaen o gwestiwn Adam: sut ddaeth y mater yma i sylw'r Llywodraeth? Ai apwyntiad y llywydd newydd i'r tribiwnal yma, a'r llywydd newydd wedi gweld hynny? Wel, mae'n dod i rywbeth pan mai jest un unigolyn sy'n gweld rhywbeth fel hyn. Ble mae'r gefnogaeth ehangach wedi bod er mwyn sicrhau bod hwn ddim wedi bod yn broblem am gymaint o amser?

Mae'r sefyllfa bresennol yn cael effaith andwyol iawn ar fynediad i gyfiawnder. Ydych chi'n gallu dweud wrthym ni a oes achosion wedi cael eu 'adjourn-io', wedi cael eu rhoi i ffwrdd i ddyddiad arall, oherwydd y penderfyniad yma gyda'r llywydd? A pham wnaeth hi'r penderfyniad i wneud hyn nawr, cyn i ni basio'r Ddeddf frys, i feddwl ei fod wedi bod yn mynd ymlaen am gymaint o amser? Liciwn i wybod beth yw'r brys mawr nawr i wneud hyn.

Rŷch chi wedi clywed fi'n dweud droeon mai'r ddadl gref dros ddatganoli cyfiawnder i'r lle hwn yw ein bod ni'n delio'n dda, yn barod, gyda'r hyn sy'n ddatganoledig. Rŷch chi wedi clywed fi'n dweud droeon yn y lle hwn nad ydw i'n credu bod hyn yn wir am y tribiwnlysoedd, a bod y tribiwnlysoedd yn aml yn cael eu hanghofio yn y lle yma. Dwi'n credu bod hwn yn enghraifft arall o hyn yn digwydd. Y gwir yw, am ddegawdau, mae'n ymddangos bod penderfyniadau wedi cael eu gwneud gan y tribiwnlys yma, y tribiwnlys mwyaf prysur o bell ffordd pan mae'n dod i dribiwnlysoedd Cymru, lle nad oedd, weithiau, yr aelod meddygol yn gymwys i fod yn eistedd ar y panel, am benderfyniadau mor bwysig i wneud ag unigolion a'u teuluoedd a liberty yr unigolion yma.

Tra fy mod ar ddeall bod Rhan 1(3)(3) yn diogelu penderfyniadau blaenorol gan y tribiwnlys—mae’r rhan yma'n cyfeirio'n benodol at 'appointment' a 'membership'—a ydych chi’n gallu amlinellu unrhyw wybodaeth rydych chi wedi'i derbyn sydd yn gallu eich sicrhau chi bod yr eirfa yma'n ddigon cryf i osgoi achosion yn cael eu herio oherwydd bod aelod nad oedd yn gymwys yn eistedd ar y panel yna, a'r penderfyniadau'n cael eu gweld fel rhai anghyfreithlon?

Wrth gwrs, bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn ymwybodol fy mod i'n siomedig iawn nad ydyn ni'n ystyried Deddf fwy eang ar gyfer y tribiwnlysoedd ar hyn o bryd. Rŷch chi'n gwybod bod hwn yn un o lu o broblemau y mae tribiwnlysoedd Cymru yn eu hwynebu. Cawsom ni adroddiad arbennig gan Gomisiwn y Gyfraith, a gafodd ei gyhoeddi nôl yn Rhagfyr 2021 ac a oedd yn gwneud argymhellion clir o'r hyn y dylid ei wneud. Ond mae amser wedi bod yn drech na'r ddeddfwriaeth yma yn y lle hwn ar gyfer tymor yma'r Senedd.

Mae e bach yn siomedig, a dwi'n deall yn iawn pam rŷch chi wedi'i wneud e, ond pan welais i'r Ddeddf frys yma, es i'n syth i mewn i wneud gwelliannau fy hunan, gwelliannau ynglŷn ag annibyniaeth aelodau'r panel, gwelliannau fyddai'n sicrhau bod aelodau'r panel â gwybodaeth o gyfraith iechyd meddwl ac â phrofiad o fewn maes iechyd meddwl. Ond, wrth gwrs, does dim modd gwneud y gwelliannau oherwydd bod sgôp y Ddeddf mor gyfyng. A dwi'n deall pam ei fod e mor gyfyng, ond gan ei fod e mor gyfyng, rŷn ni'n methu â delio â phroblemau eraill y mae'r tribiwnlys yma yn eu hwynebu. Mae'n rhaid sortio'r broblem benodol yma mas, ond mae'n drueni nad ydyn ni fel Senedd yn delio gyda phroblemau eraill sy'n wynebu'r tribiwnlys yma a thribiwnlysoedd eraill, problemau sydd wedi bod yn amlwg iawn i ni ers nifer o flynyddoedd. Diolch yn fawr.

15:20

Diolch, Llywydd. Mae yna nifer o faterion yna y byddwn ni'n ymdrin â nhw, gan dybio bod y bleidlais hon yn cael ei phasio, yn ystod y pwynt egwyddorion cyffredinol yn nes ymlaen. Os caiff hon ei phasio, yna bydd y dogfennau sy'n angenrheidiol i Aelodau allu craffu yn iawn wedyn yn cael eu rhannu, ond mae'n rhaid i ni gael y weithdrefn yn y drefn gywir. Bydd pawb yn derbyn y gyfres fach o ddogfennau os bydd hon yn pasio, felly fe gewch hynny.

Gallaf ateb cwpl o'r cwestiynau hynny nawr, dim ond er mwyn gwneud hynny. Byddaf yn gwneud yn siŵr y gallaf ateb rhai ohonynt erbyn i ni gyrraedd y cyfnod nesaf, gan dybio ein bod yn cyrraedd y cyfnod nesaf. Mae'r llwyth achosion tua 2,000 y flwyddyn. Mae tua 700 o achosion rydym ni wedi gallu eu rhestru, oherwydd mae gennym aelodau sy'n gwbl gymwys yn yr ystyr bod ganddynt dystysgrifau ymarfer. Nid yw'r gweddill wedi gallu cael eu rhestru. Mae dyddiad cau statudol llym iawn, a dyna pam rydym ni'n ei wneud drwy'r llwybr brys hwn, oherwydd hoffem eu rhestru. Mae'r tribiwnlys, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, mewn perygl o beidio â chyflawni ei rwymedigaethau statudol os na all eu rhestru, ac nid oes gennym ddigon o bobl i allu gwneud hynny.

Mewn ateb i'ch cwestiwn ynghylch pam rydym ni'n gwneud hyn nawr ac ati, mae'r llywydd newydd yn amlwg wedi adolygu'r holl ddeddfwriaeth, fel y byddech chi'n disgwyl iddi ei wneud, ac mae hi wedi ei dynnu at ein sylw. Ni allaf ddweud wrthych yn onest a ymgynghorwyd â ni ar y newid cyfreithiol a ddaeth i rym yn 2009. Rydym ni wedi ceisio canfod un ffordd neu'r llall, a dwi ddim yn gwybod. Doeddwn i ddim yma bryd hynny, ac nid ydym wedi gallu canfod yr ateb. Felly, nid oeddem yn ymwybodol o'r sefyllfa nes iddi ddod i'n sylw. Mae hyn yn ddyfalu i raddau ar fy rhan i. Mae'n ymddangos bod y gair 'Cymru' wedi'i adael allan o'r ddeddfwriaeth wreiddiol trwy gamgymeriad, ac ni sylwodd neb ar hynny.

Nid yw Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Cymru, yn penodi aelodau'r tribiwnlys hwn. Maent yn cael eu penodi gan argymhelliad pwyllgor penodiadau barnwrol i'r Arglwydd Ganghellor, felly byddwn wedi bod yn gwbl anymwybodol o unrhyw faterion ynghylch cyfreithlondeb y peth. Rydym wedi archwilio a allai hyn gael ei wneud, felly, gan Lywodraeth y DU yn cywiro hynny, ac mae'n cymryd misoedd lawer. Dyma'r ffordd gyflymaf o wneud hynny, ac rwy'n credu, er budd yr unigolion dan sylw, dyma'r ffordd orau o wneud hynny, er fy mod yn derbyn eich pwynt am anhawster deddfwriaeth a chraffu brys.

O ran y pwyntiau mwy cyffredinol, Rhys, gwyddoch fy mod yn cytuno â chi ar hynny i gyd. Mae Bil tribiwnlysoedd yn cael ei baratoi. Bydd y drafft, rwy'n gobeithio, yn barod cyn diwedd y tymor, ac rydym yn gobeithio'n fawr y bydd unrhyw Lywodraeth sy'n dod i mewn yn ei ddefnyddio fel un o'u darpariaethau deddfwriaethol blwyddyn 1 oherwydd nid yw'n ddadleuol a bydd yn rhoi trefn ar lwyth o bethau. Byddai llawer o'r pethau rydych chi wedi'u crybwyll yn bethau y byddai'r Bil tribiwnlysoedd hwnnw yn ymdrin â nhw.

Ond dim ond i dawelu meddwl pobl ynghylch cymwysterau'r aelodau ar y tribiwnlys hwn, mae holl aelodau meddygol y tribiwnlys wedi bod trwy broses recriwtio drylwyr sy'n cael ei chynnal gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Mae gan bob un ohonynt gofrestriad diamod gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol fel ymarferwyr meddygol cofrestredig llawn. Byddant wedi bod mewn swyddogaeth lawn amser neu ran-amser fel seiciatrydd ymgynghorol am o leiaf dair blynedd, un ohonynt yn y pum mlynedd diwethaf, a bydd pob un ohonynt yn aelod o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

Tra eu bod yn aelodau o'r tribiwnlys, maent yn derbyn hyfforddiant, y mae gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru ofyniad statudol i'w ddarparu. Nid oes unrhyw wlad arall yn y DU na Gweriniaeth Iwerddon yn ei gwneud yn ofynnol iddynt feddu ar dystysgrif ymarfer clinigol ar yr un pryd, ac mae llawer o'r aelodau yn amlwg wedi ymddeol yn ddiweddar. Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i bawb bod y bobl hynny sydd wedi bod yn eistedd ar y tribiwnlysoedd yn ymarferwyr iechyd meddwl cwbl gymwysedig.

Mae gennym gyngor cyfreithiol i'r perwyl na ellir herio'r penderfyniadau, ond i roi hynny y tu hwnt i bob amheuaeth, rydym yn rhoi darpariaeth ôl-weithredol yno. Byddaf yn gwirio hyn, Adam, ond hyd y gwn i, nid oes gennym unrhyw achosion presennol sydd â'r broblem hon oherwydd bod y llywydd newydd wedi atal unrhyw un sydd heb y cymwysterau cywir rhag eistedd. Felly, nid oes gennym unrhyw achosion presennol sy'n mynd trwodd, fel petai. Byddaf yn gwirio hynny, ond dyna fy nealltwriaeth.

Felly, gallwch weld pam rydym ni'n ei wneud fel hyn. Rwy'n cytuno nad dyma'r ffordd orau o wneud hyn, ond, mewn gwirionedd, dyma'r unig ffordd i'w wneud ac i wneud yn siŵr bod yr unigolion sy'n cael eu dal yn y system hon yn cael y ddarpariaeth orau. Yn anffodus, Llywydd, mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin dros gyfnod y Nadolig nag ar unrhyw adeg arall, felly dyma'r cyfnod prysuraf i'r Tribiwnlys hefyd. Rwy'n credu bod angen i ni ystyried hynny hefyd. Byddwn yn gofyn yn gryf i'r Aelodau gefnogi'r Bil hwn fel cynnig brys a'i amserlen, fel y gallwn gael y sgwrs hon yn ddiweddarach yn ystod y ddadl egwyddorion cyffredinol rhan 1 heddiw, ac yna yn ddiweddarach yfory. Diolch.

15:25

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn cyntaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4, i ganiatáu cyflwyno Bil brys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 4 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig nesaf, felly, yw'r cynnig o dan eitem 5 ar amserlen y Bil brys. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig yma? Nac oes. Felly, mae'r eitem yna hefyd wedi ei gadarnhau.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Fe fydd Cyfnod 1 y Bil brys yna yn cael ei glywed yn nes ymlaen y prynhawn yma.

7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf yn y GIG

Felly, rŷn ni'n gallu symud ymlaen i eitem 7. Eitem 7 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar bwysau’r gaeaf yn y gwasanaeth iechyd. Yr Ysgrifennydd Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu rhoi diweddariad i'r Senedd yn y sesiwn gyntaf ar ôl gwyliau'r Nadolig ynglŷn â sut mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol wedi perfformio yn ystod cyfnod sydd wastad wedi bod yn un o adegau mwyaf heriol y flwyddyn.

Yr hyn sy'n digwydd yn gyson yr adeg hon o'r flwyddyn yw bod cyfuniad o bwysau oherwydd y tywydd, a chynnydd yn firysau cyffredin y gaeaf, sy'n gallu gwneud cyflyrau iechyd sy'n bodoli'n barod yn waeth.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Fel y dywedais i wrth y Senedd y llynedd, dechreuodd y GIG a gofal cymdeithasol y broses o gynllunio ar gyfer y gaeaf ym mis Mawrth, gan ddysgu o brofiad gaeaf 2024-25. Roeddwn i'n benderfynol y byddai sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio'n gynharach ac yn fwy trylwyr nag o'r blaen i ddarparu cynnig gwasanaeth mwy cydnerth ar draws y system. Mae cynlluniau'r gaeaf eleni wedi canolbwyntio ar atal ac ar ddatblygu capasiti cymunedol, ar wasanaethau gofal brys ac argyfwng cydnerth, a gwella llif pobl drwy'r ysbyty ac allan o'r ysbyty. Cafodd y rhain eu cyflymu mewn pythefnos sbrint gaeaf rhyddhau'n gynnar cenedlaethol yn ystod y pythefnos cyn Noswyl Nadolig. Roedd hon yn ymdrech gydgysylltiedig ledled Cymru gan holl bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i wella trefniadau rhyddhau, cefnogi pobl i gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn gynharach yn y dydd a dros y penwythnos.

Yn ystod y gaeaf a chyfnod yr Ŵyl, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n ceisio gofal gan feddygon teulu, y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau brys ysbytai. Mae'r galw hwn wedi'i ysgogi gan gyfuniad o afiechydon y gaeaf, fel y ffliw a'r feirws syncytial anadlol a'r tywydd oer, gan gynnwys storm Goretti yr wythnos diwethaf.

Rhoddodd yr ymchwydd mewn afiechydon anadlol, gan gynnwys y ffliw, straen ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y cyfnod cyn y Nadolig. Yn yr wythnos hyd at 21 Rhagfyr, roedd 284 achos o ffliw wedi'i gadarnhau ymhlith cleifion mewnol, ac roedd 11 ohonyn nhw mewn adrannau gofal critigol. Rydyn ni'n gobeithio ein bod ni wedi gweld anterth y don ffliw, ond mae'r data diweddaraf yn dangos bod 261 o bobl yn yr ysbyty ac wyth mewn adrannau gofal critigol yn yr wythnos hyd at 28 Rhagfyr. 

Mae prinder staff, p'un ai yw hynny oherwydd salwch neu wyliau haeddiannol, wedi gwaethygu'r pwysau ar wasanaethau. O ystyried yr holl heriau hyn, Dirprwy Lywydd, hoffwn i gofnodi fy niolch i holl staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu gwaith yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a'u tosturi wedi bod yn anhygoel. 

Mae'n galonogol i mi adrodd, Dirprwy Lywydd, er gwaethaf y lefel uchel o alw, bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi parhau, yn fras, i fod yn gydnerth. Mae gwasanaethau hanfodol wedi'u cynnal. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi adrodd am lefelau cynyddol o alwadau brys, yn enwedig ar gyfer anawsterau anadlu a chwympiadau, wedi'u hysgogi'n rhannol gan yr amodau oerach a rhewllyd. Yn dilyn newidiadau i'w fodel clinigol, mae mwy o bobl â phroblemau anadlu yn cael eu rheoli'n llwyddiannus ac yn ddiogel gartref neu yn y gymuned, gan ryddhau mwy o allu ambiwlansys i ymateb i alwadau 999 eraill. Mae gwybodaeth weithredol yn awgrymu, trwy leihau'r amser y mae ambiwlansys yn aros i drosglwyddo cleifion mewn adrannau brys, bod y gwelliannau hyn wedi rhyddhau mwy o griwiau i ymateb yn gyflymach i alwadau newydd.

Mae cynnydd sydyn wedi bod yn y galw mewn adrannau brys ysbytai ac adroddiadau bod yna gynnydd o ran cleifion mwy difrifol sâl. Mae hyn wedi golygu, ar adegau, bod rhai pobl wedi treulio mwy o amser nag y bydden ni'n ei ddymuno mewn adrannau brys. Fodd bynnag, mae staff wedi gweithio'n ddiflino i frysbennu a thrin cleifion mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl, gan flaenoriaethu'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf brys.

Mae ysbytai, ar adegau, wedi gweithredu hyd eithaf eu gallu, neu'n agos ato, gyda chyfraddau'r gwelyau llawn yn adlewyrchu'r galw parhaus am ofal cleifion mewnol. Ond gostyngodd nifer y bobl sydd i gael gofalu mewn meysydd nad ydyn nhw'n glinigol mewn adrannau brys yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae'r gwaith i wella rhyddhau o'r ysbyty yn amserol, gan gynnwys yn ystod y sbrint gaeaf cyn y Nadolig, wedi gwneud gwahaniaeth.

Mae gwybodaeth weithredol y GIG yn dangos bod gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydyn nhw'n rhai brys, yn rhyfeddol, wedi cwblhau 6,050 o deithiau ym mis Rhagfyr—5 y cant yn fwy nag yn 2024—gan helpu mwy o bobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty yn gynharach yn y dydd. Yn y tri diwrnod cyn diwrnod Nadolig, cafodd 981 o bobl eu cludo adref o'r ysbyty. Ac mae cyfran y bobl sy'n cael eu rhyddhau erbyn hanner dydd wedi gwella o'i gymharu â'r llynedd.

Roedd gwasanaethau gofal cymdeithasol yn rhan hanfodol wrth gefnogi pobl agored i niwed yn y gymuned ac mewn lleoliadau preswyl. Mae gallu gofal cymdeithasol wedi'i brofi, ond mae partneriaethau cryf gydag awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol wedi helpu i gynnal cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Mae'r GIG ac awdurdodau lleol wedi rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith i roi hwb i allu ac i gefnogi llif y bobl drwy'r system iechyd a gofal ehangach. Mae'r rhain yn cynnwys ysbytai yn gwneud gwelyau ychwanegol ar gael lle bynnag y bo modd, a staff yn cael eu hadleoli i feysydd lle mae'r angen mwyaf. Roedd cynnydd o ran defnyddio gwasanaethau cymunedol a chymorth gofal cymdeithasol i helpu i leddfu'r pwysau ar ysbytai. Er enghraifft, roedd mwy na 6,900 o ymgynghoriadau profi a thrin dolur gwddf mewn fferyllfeydd cymunedol ym mis Rhagfyr.

Mae desg gydlynu cwympiadau 999 newydd y gwasanaeth ambiwlans a datblygiadau eraill fel rhan o'i fodel ymateb clinigol newydd, dyfodiad wardiau rhithwir, a defnyddio technoleg ddigidol yn fwy, i gyd yn helpu'r system iechyd a gofal i reoli'r galw a chynnal parhad gofal.

Dirprwy Lywydd, wrth i ni symud i ail hanner mis Ionawr, rydyn ni'n barod ar gyfer ymchwydd arall yn y galw. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru a pherfformiad a gwelliant y GIG yn parhau i fonitro'r pwysau ar y system yn ddyddiol. Yn dilyn effaith gadarnhaol pythefnos sbrint y gaeaf ym mis Rhagfyr, byddwn ni'n cynnal ail sbrint y gaeaf rhwng 21 Ionawr a 4 Chwefror. Trwy weithio gyda'n gilydd yn y modd hwnnw, gallwn ni ganolbwyntio ar wneud gwelliannau parhaol.

Dirprwy Lywydd, i gloi, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG i ddarparu gofal diogel, amserol ac o ansawdd uchel. Gwelais i drosof fi fy hun ymroddiad staff iechyd a gofal dros gyfnod yr Ŵyl pan ymwelais i ag ysbyty'r Faenor ar ôl y Nadolig ac yn yr wythnosau cyn y Nadolig mewn amrywiaeth o adrannau brys eraill. Mae hwn yn adeg heriol o'r flwyddyn i'r sector iechyd a gofal, ond mae gennym ni gynlluniau ar waith i lywio'r cyfnod hwn, ac, er bod gwasanaethau'n hynod brysur, maen nhw'n gydnerth.

Estynnaf fy niolch diffuant eto i staff ac i bartneriaid am eu gwaith caled a'u hymrwymiad. Rwyf hefyd yn annog y cyhoedd i gefnogi ein GIG trwy ddefnyddio'r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion gofal iechyd. Gall GIG Cymru 111, fferyllfeydd a'r cynllun anhwylderau cyffredin roi cymorth a chyngor ar gyfer amrywiaeth eang o salwch heb fod angen apwyntiad meddyg teulu neu fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys.

15:30

Fe wnaf i ddechrau, fel bob amser, drwy roi ar y cofnod fy niolch i staff y GIG a gofal cymdeithasol ledled Cymru—meddygon, nyrsys, parafeddygon a gweithwyr gofal a'r staff cymorth sydd unwaith eto wedi cario'r GIG trwy un o fisoedd a chyfnodau'r flwyddyn sydd o dan y pwysau mwyaf. Ond ni all diolchgarwch ar ei ben ei hun wneud yn iawn am system sy'n cael ei gwthio dro ar ôl tro y tu hwnt i derfynau diogel. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn disgrifio gwasanaethau'r gaeaf hwn fel rhai cydnerth yn fras, ac yn dweud wrthyn ni fod gwasanaethau hanfodol wedi'u cynnal, ond i gleifion ledled Cymru, mae profiad bywyd y gaeaf hwn wedi bod yn un o adrannau brys gorlawn, ambiwlansys y tu allan i ysbytai, a rhestrau aros sy'n parhau i dyfu. Pan fydd cydnerthedd yn cael ei honni mor hyderus, a yw'n rhesymol gofyn a yw'r disgrifiad yn adlewyrchu'r gwirionedd gweithredol neu dim ond absenoldeb methiant llwyr y system?

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf ar gyfer Rhagfyr 2025, adroddiadau perfformiad y GIG, gan StatsCymru, fe wnaeth dros 28 y cant o gleifion a fynychodd adrannau damweiniau ac achosion brys aros mwy na phedair awr. Ac yn ddiweddar, roeddwn i yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, lle'r oedd angen i rywun aros hyd at wyth awr, ac roedd rhywun arall wedi bod yno dros 12 awr. Felly, nid wyf i'n hollol siŵr o ble yr ydyn ni'n cael data amser rhestrau aros.

Mae amseroedd ymateb ambiwlansys categori A yn naw munud a 43 eiliad, gan fethu targed wyth munud y Llywodraeth ei hun. Mae mwy na 750,000 o bobl yn parhau i fod ar restr aros y GIG, ac mae gwelyau llawn wedi aros yn agos at 95 y cant—ymhell uwchlaw trothwy 85 y cant, y pwynt lle mae gofal diogel a dewisol yn dechrau chwalu yn ôl y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng.

Ysgrifennydd Cabinet, os yw'r ffigurau hyn yn cynrychioli cydnerthedd, yna beth ydych chi'n ei ystyried yn fethiant system, a faint pellach y mae'n rhaid i berfformiad waethygu cyn i'r disgrifiad hwnnw newid? Rydych chi'n dweud wrthyn ni fod cynllunio'r gaeaf wedi dechrau fis Mawrth diwethaf a bod gwersi wedi'u dysgu o aeaf 2024-25, ond mae'r un pwysau yn ailymddangos yn rhyfeddol gyson: rhyddhau o'r ysbyty wedi'i oedi, meysydd uwchgyfeirio yn dod yn arferol, a staff dan straen ac wedi'u hymestyn i'r eithaf. Os yw cynllunio yn cael ei wella'n gyffredinol, pam mae pwysau ar y rheng flaen yn dal i gyrraedd uchafbwynt ar lefelau anniogel bob mis Ionawr?

Mae'r datganiad yn rhoi pwyslais sylweddol ar fesurau sbrint tymor byr y gaeaf, gan gynnwys ymgyrch rhyddhau cyn y Nadolig, a sbrint arall wedi'i gynllunio yn ddiweddarach y mis hwn. Efallai y bydd y mentrau hyn yn gwella'r llif dros dro, ond maen nhw hefyd yn codi pryder dwfn: pam mae'r GIG yng Nghymru wedi dod mor ddibynnol ar sbrintiau brys dro ar ôl tro, dim ond i ymdopi â galw rhagweladwy'r gaeaf? Sut ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn bwriadu symud y system o'r model heb fod yn ddi-dor hwn tuag at gydnerthedd gwirioneddol drwy gydol y flwyddyn, ac a ydych chi'n credu bod y model hwn yn atal trawsnewid y gwasanaeth?

Er gwaethaf ymrwymiadau dro ar ôl tro ar recriwtio a chadw, mae bylchau staffio yn parhau i fod yn ddifrifol. Adroddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru ym mis Rhagfyr y llynedd fod mwy na 2,000 o swyddi nyrsio ledled Cymru yn parhau i fod yn wag, gyda dibyniaeth gynyddol ar staff asiantaeth o ganlyniad. Mae prinder staff yn cael eu cydnabod yn natganiad y Llywodraeth ei hun, ond pryd y byddwn ni'n gweld gostyngiadau mesuradwy mewn cyfraddau swyddi gwag yn hytrach na dibynnu ar ewyllys da dim ond i bontio'r bwlch yn y gwasanaethau coll?

Mae gofal sylfaenol, y dylai fod yr amddiffyniad cyntaf yn erbyn galw cynyddol am ysbytai, hefyd o dan straen enfawr. Mae bron i hanner practisau meddygon teulu yng Nghymru wedi cau eu rhestrau neu wedi lleihau mynediad, gan nodi pwysau llwyth gwaith, cyfyngiadau cyllido neu ddiffygiad meddygon teulu. Sut gall ysbytai byth weithredu'n ddiogel pan fydd mynediad at ofal sylfaenol yn parhau i grebachu? A ble yn y datganiad hwn mae'r cynllun i adfer capasiti yn hytrach na rheoli'r canlyniadau'n unig?

Rwy'n troi at lif ysbytai. Yn ei dro, nid yw'n bosibl cywiro hyn heb gapasiti gofal cymdeithasol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio dro ar ôl tro am heriau'r gweithlu yn dwysau ar draws gofal cartref a gofal preswyl, gan gyfrannu'n uniongyrchol at oedi rhyddhau o'r ysbyty a gwelyau sydd wedi'u blocio. Mae'r Llywodraeth yn tynnu sylw at welliannau tymor byr mewn gweithgarwch rhyddhau o'r ysbyty cyn y Nadolig. Ond, Ysgrifennydd Cabinet, beth sydd ar waith i sefydlogi'r gweithlu gofal cymdeithasol fel nad yw'r cynnydd hwn yn diflannu pan fydd cyllid tymor byr yn dod i ben ledled Cymru?

Mae seilwaith hefyd yn parhau i fod yn wendid hirdymor arall ledled Cymru. Rydyn ni'n parhau i fod â buddsoddiad cyfalaf is y pen nag ystadau ysbytai mewn gwledydd eraill y DU, gan adael staff yn gweithio mewn hen adeiladau, nad ydyn nhw'n addas ar gyfer y galw clinigol modern a rheoli heintiau. Felly, pryd fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno strategaeth gyfalaf hirdymor sy'n cyd-fynd â'r galw yn y dyfodol, yn hytrach na dibynnu ar ddatrysiadau dros dro mewn ystadau sy'n heneiddio ledled Cymru?

Yn olaf, mae mater atebolrwydd. Er gwaethaf argyfyngau gaeaf dro ar ôl tro, mae perfformiad yn parhau i gael ei ddisgrifio'n gydnerth. Ond dylai cydnerthedd allu ymdopi â phwysau heb niwed, nid normaleiddio oedi anniogel, gofal mewn coridor a staff sydd wedi blino'n lân. Ar ba bwynt bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn nad yw rheoli dirywiad yn gyfystyr â chyflawni adferiad?

Ysgrifennydd Cabinet, bydd y datganiad hwn yn mynd rhywfaint o'r ffordd i dawelu meddyliau pobl ledled Cymru, ond rwy'n gwybod beth mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud allan yno: mae pobl Cymru yn haeddu gwell—mwy na geiriau cynnes a mesurau brys. Maen nhw'n haeddu uchelgais, gonestrwydd a llwybr clir i adferiad o fewn y GIG yng Nghymru.

15:35

Rwy'n cytuno bod gan bobl Cymru hawl i onestrwydd. A gaf i fachu ar y cyfle i gywiro rhai pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiynau? Er ei bod yn gywir dweud bod y galw wedi cyrraedd lefelau uchel iawn mewn rhai rhannau o'r system, nid yw'n gywir dweud bod mwy o ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai eleni na'r llynedd. Mewn gwirionedd, mae llawer llai ohonyn nhw wedi bod. Mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae pobl yn treulio llai o amser yng nghefn ambiwlansys ac yn cael eu derbyn yn gyflymach, ac mae'r ambiwlansys hynny ar gael i gludo pobl eraill i'r ysbyty. Nid yw hynny wedi bod heb ei heriau, ond dyna'r sefyllfa ar lawr gwlad, ac mae hynny'n gadarnhaol o safbwynt cleifion. Mae'n dal yn rhy uchel o lawer, ond mae'n sylweddol llai nag yr oedd y llynedd, ac rwy'n siŵr y byddai eisiau croesawu hynny pan fydd ganddo gyfle i gywiro hynny.

Gwnaeth hefyd y pwynt bod rhestrau aros yn mynd i fyny; mae rhestrau aros mewn gwirionedd yn mynd i lawr. Rydyn ni wedi cyhoeddi data sy'n dangos i chi eu bod nhw'n mynd i lawr. Mae'n bwysig iawn, pan fyddwn yn cyfnewid geiriau fel hyn, eu bod yn seiliedig ar y ffeithiau a'r data. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig i roi'r mater hwn, mater difrifol, mewn cyd-destun.

Gwnaeth bwynt pwysig iawn ynglŷn â gwelyau llawn mewn ysbytai. Mae'n gywir dweud bod lefelau gwelyau llawn yn uwch na lle'r ydyn ni eisiau i hynny fod yn y system. Mae hefyd yn gywir dweud bod hynny'n amlwg yn achosi heriau o ran llif trwy rannau eraill o'r ysbyty. Rwyf i wedi bod yn falch o weld, mewn rhannau o gyfnod y Nadolig—nid yn gyson, ond—mae tystiolaeth wedi bod o ostyngiad o ran gofal mewn coridor. Nid yw wedi cael ei gynnal, ond mae yna adegau pan mae hynny wedi bod yn lleihau. Rwy'n credu bod hynny'n arwydd cadarnhaol ar gyfer gwaith a all fod, fel y mae'n ei ddweud yn gwbl briodol, yn barhaus trwy gydol y flwyddyn.

Nid wyf i'n credu ei bod yn deg dweud bod y system yn dibynnu ar ymyriadau heb fod yn ddi-dor. Dyma'r tro cyntaf i ni gael ail sbrint. Mae'n eithaf anodd gwneud ail sbrint oherwydd y dyraniad adnoddau sy'n mynd gyda'r sbrint cyntaf, ond y gwir yw ei fod wedi golygu bod mwy o gapasiti yn y system. Mae wedi dysgu pob rhan o'r system, ein bod ni, trwy ymddwyn mewn ffyrdd penodol, yn gallu gael cleifion i lifo trwy'r ysbyty yn ddiogel yn gyflymach, gall fod llai o bobl yn aros mewn coridorau, a gallwn ni ryddhau pobl yn gyflymach cyn hanner dydd—popeth yr ydyn ni eisiau'i weld, popeth sy'n bwysig i wneud yn siŵr bod y system yn dychwelyd at gydbwysedd.

Yn olaf, gwnaeth e ddau bwynt pwysig, un o ran staffio. Mae dull gweithredu creadigol iawn wedi bod o ran adleoli staff dros yr wythnosau diwethaf, er mwyn rheoli brig yn y galw, ond, ar sail fwy cynaliadwy, hefyd i anfon y rhai sy'n gwneud penderfyniadau clinigol uwch i adrannau brys fel y gallan nhw wneud penderfyniadau ynghylch rhyddhau neu dderbyn mewn ffordd fwy effeithiol, ac rwy'n falch o weld hynny.

Yn olaf, byddwn i'n ategu'r pwynt y mae'n ei wneud am bwysigrwydd y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ehangu a chefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol, fel y bydd yn gwybod. Rwy'n credu bod y system wedi gweithio'n dda ar y cyd mewn cyd-destun anodd iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydyn ni wedi gweld nifer yr achosion o ryddhau o'r ysbyty wedi'u oedi yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn. Maen nhw'n dal yn rhy uchel, ond rydyn ni'n gweld cynnydd yn y system. Rydyn ni eisiau gweld hynny'n parhau.

15:40

Mi ydym ni i gyd, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r heriau penodol a sylweddol sy'n wynebu'r NHS yn ystod misoedd y gaeaf. Rwyf innau, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, am ddechrau gan dalu teyrnged i'r llengoedd yna, y lluoedd o staff ymroddedig sydd gennym ni yn yr NHS ar draws y wlad, sydd wedi bod yn gweithio mor galed yn ystod y cyfnod yma.

Ar lefel bersonol, roeddwn i yn adran frys ysbyty athrofaol Caerdydd ac yna ysbyty'r Maelor yr wythnos diwethaf wedi i fy ngwraig dorri ei garddwrn. Felly, roeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r staff yna am y gwaith caled ddaru iddyn nhw ei wneud i'w helpu hi yn ystod y cyfnod yna.

Yn anffodus, mae ymroddiad y gweithlu yn aml yn cael ei danseilio gan system nad yw ei helfennau'n cydweithio mor effeithiol ag y dylen nhw. Mae mater parhaus oedi wrth ryddhau o'r ysbyty yn nodweddiadol o hyn, sydd ei hun yn adlewyrchu gofal cymunedol yn cael ei esgeuluso yn yr hirdymor gan Lafur. Y llynedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei her 50 diwrnod i ymdrin â'r mater hwn. Fodd bynnag, er bod hyn wedi arwain at rywfaint o gynnydd cychwynnol addawol, mae gwelliant parhaus wedi profi'n llai amlwg. Yn y 12 mis ers dechrau'r her ym mis Tachwedd 2024, mae gostyngiad net o 18 wedi bod yng nghyfanswm nifer y llwybrau wedi'u hoedi, gostyngiad o lai na 2 y cant o'r llinell sylfaen wreiddiol, wrth i oedi o'r fath fod ar gynnydd eto yn y gogledd yn ystod y misoedd diwethaf. Yn y cyfamser, mae cyfanswm y diwrnodau oedi wedi cynyddu dros 7,500 ers mis Gorffennaf diwethaf. Felly, pam mae'r Llywodraeth wedi'i chael hi mor anodd i ymwreiddio'r cynnydd cynnar hyn ar sail fwy parhaol? A yw hyn yn ymwneud â'r angen i gydlynu a lledaenu arfer gorau yn well ar sail fwy systematig ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol?

Dyma'r gaeaf cyntaf lle mae'r fframwaith perfformiad ambiwlansys newydd wedi bod ar waith. Er ein bod ni'n croesawu'r egwyddor o symud tuag at ganlyniadau clinigol, mae tueddiadau diweddar, sy'n dangos cyfraddau cylchrediad digymell wedi dychwelyd—ROSC—ar eu lefel isaf ers cyflwyno'r fframwaith yn bryderus. A gaf i ofyn, felly, beth oedd eich disgwyliadau o'r fframwaith newydd yn ystod y chwe mis cyntaf o weithredu? A yw'r lefelau ROSC lle roeddech chi'n disgwyl iddyn nhw fod erbyn hyn? Fe wnaethoch chi hefyd ymrwymo i leihau nifer y bobl sy'n cael eu cludo i'r ysbyty heb anaf neu gydag anaf rhannol 10 y cant erbyn diwedd 2025. Allwch chi gadarnhau a oedd hyn wedi'i gyflawni?

Brechu cynhwysfawr, wrth gwrs, yw'r dull ataliol mwyaf effeithiol o leddfu pwysau ar ein gwasanaeth iechyd, ac mae pwysleisio'r neges hon hyd yn oed yn bwysicach nawr wrth i ni ystyried disgwrs gwrth-wyddoniaeth ddifrifol pleidiau asgell dde eithafol fel Reform. Dros y gaeaf mae newidiadau pwysig wedi bod hefyd i gyflawni'r rhaglen imiwneiddio genedlaethol, a oedd yn cynnwys caffael canolog y brechlynnau ffliw wedi'i anactifadu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. A gaf i ofyn pa wahaniaeth cadarnhaol sydd wedi'i weld o ganlyniad i'r newidiadau hyn? A pha mor hyderus ydych chi yng nghadernid a chywirdeb cyfreithiol y trefniadau llywodraethu perthnasol o ystyried yr honiadau y gwnaeth y cyn-brif weithredwr David Donegan eu codi?

Yn olaf, mae rheoli pwysau'r gaeaf yn gynaliadwy yn golygu sicrhau bod cleifion yn ymwybodol o'r lefel o ofal sydd fwyaf addas ar gyfer eu cyflwr ac yn gallu cael mynediad iddi. Yn anffodus, mae capasiti gofal cymunedol a gofal sylfaenol sy'n crebachu wedi arwain at alw anghymesur am ofal brys. Y llynedd, cafodd bron i 60,000 o ymweliadau ag adrannau argyfwng eu cofnodi, lle cafodd y claf ei atgyfeirio yn y pen draw am driniaeth mewn lleoliadau cynradd neu gymunedol. Yn y cyfamser, nid oedd angen apwyntiadau dilynol ar gyfanswm o 54 y cant o ymweliadau ledled y wlad. Nid yw hyn i ddweud eu bod i gyd yn ddiangen, ond gwyddom y mae'n bosibl, mewn llawer o achosion, datrys y materion perthnasol heb ddefnyddio gwasanaethau brys. Mae'n adlewyrchu'r gwirionedd bod adrannau damweiniau ac achosion brys, i lawer o bobl yng Nghymru, wedi dod yn estyniad o feddygfa'r meddyg teulu. A ydych chi, felly, yn hyderus bod gwasanaethau fel GIG 111 yn effeithiol wrth gyfeirio cleifion i'r lleoliad mwyaf priodol? Ac os felly, pam nad ydyn ni'n gweld y canlyniadau ar lawr gwlad? Ar ben hynny, a ydych chi'n credu y dylai ehangu mynediad at wasanaethau meddygon teulu, gan gynnwys ymestyn oriau agor meddygfeydd, fod yn ystyriaeth benodol ac allweddol o ran y paratoadau ar gyfer y gaeaf nesaf?

15:45

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Mae amrywiaeth o bwyntiau pwysig yn y cyfraniad y mae wedi'i wneud. Rwy'n anfon fy nymuniadau gorau at ei wraig hefyd am wellhad buan. 

Mae'n iawn i ddweud bod angen ail-gydbwyso o ran y dull gweithredu a chanolbwyntio ar wella gofal y mae'n bosibl ei ddarparu mewn lleoliad cymunedol, fel nad yw'r cyhoedd yn teimlo bod angen eu cludo neu'u hanfon i adrannau damweiniau ac achosion brys. Rwy'n credu bod y gwaith y mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn ei wneud i sicrhau bod modd trin pobl ag anawsterau anadlu mewn lleoliadau cymunedol neu yn eu cartrefi eu hunain, yn gwneud cyfraniad at hynny. 

Gwnaeth bwynt pwysig am gludo oherwydd anaf. Fe wnaf ddarparu'r data y gofynnodd amdano; nid oes gennyf i hwnnw o fy mlaen. Ond mae byrddau iechyd wedi bod yn gweithredu, yng nghyd-destun gwasanaeth cymunedol, gwasanaeth cymunedol ymateb i gwympiadau. Ac mae hynny wedi caniatáu, rwy'n credu hyd yn hyn, i 77 o gartrefi gofal gael cyfarpar a bron i 1,000 o aelodau o staff gael hyfforddiant, sydd wedi golygu bod lefel sylweddol is o gludo i'r ysbyty o'i gymharu â'r llynedd o ran cleifion â chwympiadau. Mae mwy i'w wneud o ran hynny, ond mae'n amlwg bod arwyddion o ddatblygiadau cadarnhaol yn y maes hwnnw, ynghyd â sefydlu desg cydlynu cwympiadau, sydd unwaith eto, yn galluogi pobl i gael eu rheoli yn gyflymach ac sy'n osgoi cludiant diangen mewn ambiwlans. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r newid rwy'n gwybod ei fod yn ei gefnogi hefyd, i weld y gwasanaethau hynny yn cael eu darparu y tu allan i ysbytai, lle bynnag y mae hynny'n bosibl.

Rwy'n credu ei fod wedi gwneud pwynt pwysig o ran y llwybrau gofal, rhyddhau o ysbytai wedi'i oedi. Mae gwelliant wedi bod o flwyddyn i flwyddyn, ond nid yw wedi bod i'r graddau y gwn y byddai ef a minnau'n dymuno'u gweld. Nid wyf i'n credu ei fod yn ymwneud â lledaenu arfer gorau. Rwyf i wedi treulio llawer o'r flwyddyn ddiwethaf yn sicrhau bod y system yn lledaenu cymaint o arfer gorau ag sy'n bosibl, ond mae tystiolaeth bod y ffordd y mae'n cael ei ddefnyddio yn amrywio. Er enghraifft, rydyn ni wedi comisiynu archwiliad o fabwysiadu'r model aseswr dibynadwy, sy'n galluogi asesiad llawer symlach o anghenion cleifion unigol. Mae hynny'n dal i gael ei ddefnyddio'n rhy anghyson. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi nodi disgwyliadau ychwanegol byrddau iechyd ac awdurdodau lleol wrth allu gweithredu'r gofyniad aseswr dibynadwy hwnnw. Byddwn ni'n parhau i wneud yn siŵr ein bod ni'n gosod disgwyliadau clir o'r holl bartneriaid o ran gweithredu'r 10 mesur y gwnaethom ni eu sefydlu'n llwyddiannus, fel y gwnaeth ef eu cydnabod, fel rhan o'r her 50 mlynedd y llynedd.

O ran caffael brechlynnau, rwy'n credu bod yr hyn yr ydyn ni wedi'i weld eleni yn gadarnhaol o ran y cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar frechlynnau. Ychydig cyn y Nadolig, roedd 70,000 yn fwy o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru, o'i gymharu â'r un adeg y llynedd. Felly, mae hynny'n dangos rhywfaint o gynnydd, a staff y GIG yn manteisio ar frechlynnau. Roedd hynny'n hollol hanfodol, o ran presenoldeb staff ond hefyd heintiau, o leiaf 4.5 y cant yn uwch nag ar ddiwedd rhaglen y llynedd. Mae ymdrech ar y cyd wedi bod ers dechrau mis Rhagfyr i nodi carfannau o bobl pan, er bod mwy ohonyn nhw wedi manteisio ar frechlynnau, nad yw mor uchel ag yr ydyn ni eisiau gallu ei weld. Felly, yn benodol, ymhlith pobl hŷn a rhai mewn cymunedau mwy difreintiedig, mae ffocws penodol wedi bod ar ddarparu brechlynnau yn y cyd-destun hwnnw. Dim ond i gadarnhau, rwy'n hyderus o ran cyfreithlondeb y trefniadau llywodraethu o ran brechlynnau, ac yn yr un modd, y rheoleiddwyr, ac mae hynny'n hysbys i Felindre hefyd.

Yn olaf, gwnaeth bwynt pwysig iawn, rwy'n credu, am gapasiti GIG 111. Mae'n ffordd dda iawn i gleifion gael cyngor cyflym iawn ar beth yw'r ffordd gyflymaf o gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Rwy'n credu bod cwestiynau o ba mor gyfarwydd y mae nhw a chanfyddiad o ran pobl yn teimlo y gallan nhw gael mynediad cyflymach trwy fynychu adran achosion brys; yn aml, nid yw hynny'n wir, mewn gwirionedd, fel y byddwn ni wedi clywed yn y drafodaeth heddiw. Rwy'n credu, o ran gwasanaethau meddygon teulu, un o'r pethau hanfodol sydd wedi'i weithredu, ond sydd angen ei ehangu, yw gofal brys trwy feddygon teulu. Dyna ran o'r rheswm pam yr ydyn ni'n gweld pwysau o'r fath ar adrannau damweiniau, y mae'n bosibl ymdrin â nhw mewn lleoliadau gofal sylfaenol gyda chynnig gofal brys cryfach. Rydyn ni'n gweld hynny mewn rhannau o Gymru eisoes, ond mae mwy o waith i'w wneud, rwy'n credu. 

15:50

Mae naw Aelod arall yn dymuno siarad, felly cadwch at eich munud, os gwelwch yn dda. John Griffiths. 

Fel y gwyddoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, mae Ysbyty'r Faenor Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn destun problemau sylweddol ynghylch ei adran damweiniau ac achosion brys ac amseroedd aros ers i'r ysbyty hwnnw agor. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi gallu ymweld a'r ysbyty cwpl o weithiau i weld pwysau'r gaeaf yn uniongyrchol, a cham 1 o fuddsoddi pellach i gynyddu gallu o fewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng nghanol mis Rhagfyr. Ond yn amlwg mae'r pwysau a'r pryderon sy'n dod i mi gan etholwyr yn parhau, ac rwy'n gwybod bod digwyddiad critigol wedi'i ddatgan ddoe mewn ysbytai ar draws ardal y bwrdd iechyd, sy'n adlewyrchu pwysau'r gaeaf, rwy'n dyfalu, yr ydyn ni'n gyfarwydd iawn â nhw. Hoffwn i gael sicrwydd gennych chi, Ysgrifennydd Cabinet, y byddwch chi'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'r bwrdd iechyd ynghylch y pwysau hyn yn adran damweiniau ac achosion brys y Faenor, o ystyried y bydd buddsoddiad pellach yn dilyn y datblygiad cam 1 hwnnw, i wneud yn siŵr bod y buddsoddiad hwnnw wir yn cyflawni'r manteision arfaethedig i gleifion. 

Yn sicr. Roeddwn i wedi gallu ymweld rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac roeddwn i wedi gallu gweld yn uniongyrchol ganlyniad y buddsoddi yn man aros estynedig yr adran achosion brys, a oedd yn gwneud gwahaniaeth o ran profiad cleifion, yn sicr o fod yn yr ysbyty. Ac roeddwn i'n clywed rhai arwyddion uniongyrchol yno bod yna gapasiti i alluogi rhyddhau, ond bod cleifion yn rhy sâl i ganiatáu i hynny ddigwydd, yn bendant ar yr adeg honno, i'r graddau yr oedd yr ysbyty'n disgwyl gallu ei wneud. 

Mae buddsoddiad sylweddol wedi bod. Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r bwrdd iechyd, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol. Soniais i yn fy ateb i James Evans am ehangu penderfyniadau uwch yn yr adrannau argyfwng er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod cleifion naill ai'n cael eu derbyn neu'u rhyddhau'n gyflymach, a bod y dull hwnnw'n cael ei weithredu yn Ysbyty'r Faenor, a model eiddilwch wrth y drws blaen dan arweiniad therapydd hefyd, a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i rai o'r rhesymau pam mae pobl yn cael eu derbyn yn y pen draw. Mae pobl sy'n cael eu derbyn oherwydd achosion sy'n ymwneud ag eiddilwch yn aml yn cael eu derbyn ac yna mae heriau eraill yn datblygu, fel y bydd yn gwybod. Felly, mae cael ymyrraeth fwy priodol yn gynharach i gefnogi'r cleifion hynny yn bwysig iawn. 

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ofal cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod Mabon wedi gwneud hynny hefyd. Mae'n wirioneddol hanfodol, on'd ydy, ein bod ni'n cael gofal cymdeithasol yn gywir er mwyn sicrhau nad yw pobl yn mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf ac yna yn gallu gadael yr ysbyty hefyd. Rwy'n ymwybodol o fodel Powys, sydd wedi elwa ar y £30 miliwn o gyllid y cafodd ei gytuno arno rhyngom ni. Aeth tua £1.3 miliwn i'r grant llwybrau trawsnewid gofal, sy'n ymwneud â chyflymu rhyddhau o'r ysbyty, ac rwy'n falch o weld hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr ystadegau, ym mis Tachwedd, roedd 37 y cant o gleifion ym Mhowys yn dal i fod yn yr ysbyty, a oedd wedi gostwng o 42 y cant ym mis Hydref. Ond y cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru yw 16 y cant, felly gallwch chi weld pa mor eang yw'r sefyllfa ym Mhowys. Felly, hoffwn i wybod beth yr ydych chi'n bwriadu'i wneud o ran ein hardaloedd gwledig, i'w cefnogi o ran y llwybrau, ac i ganiatáu i'r cleifion hynny adael yr ysbyty, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod aros yn yr ysbyty yn niwed ynddo'i hun. Diolch yn fawr iawn. 

15:55

Mae'n wir, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ei nodi yn y ffordd honno. Ni ddylai pobl sy'n barod i gael eu rhyddhau ac sy'n ddigon da i fynd adref fod yn yr ysbyty. Nid dyna'r lle gorau iddyn nhw, nid dyna'r lle mwyaf diogel iddyn nhw. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ei weld yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei nodi. Mae hi'n iawn i ddweud bod y grant llwybrau trawsnewid gofal, yr oeddwn ni wedi gallu cytuno â hi fel rhan o'r cytundeb y llynedd, wedi gwneud gwahaniaeth, ac mae wedi galluogi newid sylweddol mewn ffyrdd o weithio ym Mhowys ac mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Rwy'n credu mai un o'r elfennau allweddol yw cryfhau'r cynnig cymunedol, on'd ydyw? Felly, galluogi pobl i gael eu rhyddhau'n fwy diogel ac i gael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw, ac rwy'n falch hefyd o weld yr ehangu, yr ehangu sylweddol a dweud y gwir, mewn cymorth ail-alluogi ledled Cymru, sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth alluogi pobl i gael eu rhyddhau'n ddiogel yn gyflymach.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am amlinellu'r pwysau sy'n wynebu'n gwasanaeth iechyd gwladol ar adeg hon y flwyddyn. Bydd yn ymwybodol, ac rydyn ni wedi sôn yn ystod y toriad, am rywfaint o'r pwysau sy'n wynebu pobl ym Mlaenau Gwent, ac mae'n ymwybodol o fy mhryderon am amseroedd ymateb ambiwlansys yn y fwrdeistref. Mae'n ymwybodol bod rhai achosion o rai pobl agored iawn i niwed sydd wedi bod yn aros yn rhy hir i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw ar y pryd, a byddwn i'n ddiolchgar os gallai'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ychwanegol i'r gwasanaeth ambiwlans i sicrhau bod pobl agored i niwed yn gallu bod yn dawel eu meddwl wrth wybod y bydd cymorth yn cael ei ddarparu pan fydd angen yr help hwnnw arnyn nhw, yn enwedig ar adeg hon y flwyddyn pan fo'n gwasanaethau o dan bwysau mor enfawr.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig am amseroedd ymateb ambiwlansys. Mae gwahaniaeth ym mherfformiad y gwasanaeth wedi bod gan ddibynnu ar lefel aciwtedd y claf. Ar y pen mwyaf critigol, mae amseroedd ymateb canolrif wedi bod yn gadarnhaol, ac o fewn yr amrywiaeth yr ydyn ni'n ei ddisgwyl. Ar y pen hwnnw o'r amrywiaeth aciwtedd, os gallaf ddefnyddio'r iaith honno, mae'r system wedi perfformio'n dda. Rwy'n credu bod enghreifftiau, fel y mae e wedi eu codi â mi, am bobl sy'n aros yn rhy hir nad yw eu hamlygiad i niwed, efallai, yr un fath ar yr adeg pan maen nhw'n galw'r ambiwlans, ond yn amlwg trwy aros am ambiwlans yn rhy hir gall hynny waethygu'n sylweddol. Yn sicr y llynedd, bydd cyd-Aelodau'n cofio, pwysau arbennig yn y Faenor, gydag ambiwlansys yn aros y tu allan am gyfnodau hir iawn. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yr ydw i wedi'i gweld yn galonogol; nid unrhyw beth y bydden ni'n fodlon ag ef, ond yn galonogol. Roedd 37 y cant yn llai o oriau wedi'u colli eleni na'r llynedd o ran ambiwlansys y tu allan i'r Faenor, sy'n dangos lefel o gynnydd, rwy'n credu, ond mae angen i ni weld pwyslais ar lefel yr ysbyty ar wella trosglwyddo, gan wneud yn siŵr bod y gwasanaeth ambiwlans yn gallu cael ei ryddhau wedyn i godi cleifion yn y gymuned. Mae'r bwrdd iechyd yn datblygu gwasanaeth ac ymateb teleiechyd Gwent gwell, a fydd yn cefnogi gwell ymateb i bobl sydd wedi cwympo yn y gymuned, efallai nad oes angen mynd â nhw i'r ysbyty, ond efallai nad ydyn nhw'n ymwybodol o hynny eu hunain.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at ddatganiad pwysau'r gaeaf y prynhawn yma, ar ôl profi rhywfaint o'r pwysau hwnnw yn uniongyrchol ar ôl rhwygo fy nhendon padellog ychydig cyn y Nadolig. Treuliais ychydig yn hirach yn y Faenor nag y gwnaethoch chi, Ysgrifennydd Cabinet; treuliais 36 awr mewn cadair yn y Faenor cyn i wely ddod ar gael. Yna cefais fy anfon adref dros nos ddiwrnod yn ddiweddarach, a chefais lawdriniaeth y diwrnod canlynol mewn ysbyty arall.

Roedd yn amlwg drwy gydol y cyfnod hwnnw bod staff yn gwneud popeth posibl o dan amgylchiadau anodd iawn a oedd wedi'u hachosi gan fethiannau capasiti systematig. Fe wnaethon nhw eu gorau dros y GIG, ond mae staff a chleifion yn cael eu siomi. Hoffwn i ddiolch i'r holl aelodau staff hynny a wnaeth fy helpu i. Maen nhw'n gweithio'n hynod dda.

Fe wnes i nodi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am yr ymdrech gydgysylltiedig ledled Cymru i wella trefniadau rhyddhau, ond mae'n rhaid i ni warchod rhag rhyddhau'n anniogel sy'n cael ei ysgogi gan ymdrech i greu'r capasiti hwnnw. Rwy'n cefnogi etholwr sy'n wedi cael ei ryddhau yn ôl i gartref gofal heb rybudd, heb broses o drosglwyddo, dim gwaith papur, dim eiddo a chanwla yn dal yn ei le. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno nad yw hynny'n dderbyniol. A allwch chi egluro pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal y sefyllfaoedd hyn rhag digwydd ac i roi mesurau diogelu ar waith ar gyfer sbrintiau eraill? Diolch.

16:00

Rwy'n dymuno'n dda i'r Aelod am ei wellhad. Rwy'n cytuno ag ef fod y staff yn y Faenor, a'r ysbytai eraill y bydd wedi gofal ganddyn nhw, wedi bod yn chwarae rhan ryfeddol yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu rhyddhau gartref yn ddiogel cyn gynted ag y gallan nhw. Mae'n gwbl annerbyniol os yw rhywun yn cael ei ryddhau gartref yn y ffordd y disgrifiodd yr Aelod. Mae protocolau clir ar waith a ddylai atal hynny. Bydd y bwrdd iechyd eisiau gwybod am yr enghraifft honno, rwy'n siŵr, er mwyn gallu ymdrin â hynny'n benodol.

Nid ydw i eisiau lleihau'r pwynt hwnnw o gwbl wrth ddweud fy mod i'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig iawn ein bod ni, yn y ffordd yr oedd Jane Dodds yn ei nodi, yn ystyried bod rhywun sy'n aros yn rhy hir yn yr ysbyty hefyd yn anniogel. Rydyn ni'n gwybod bod hynny'n achosi dirywiad. Mewn gwirionedd, mae Cymru'n arwain y ffordd yn y DU ar adnodd newydd i fesur dirywiad cleifion wrth iddyn nhw fod yn yr ysbyty, ac felly rwy'n credu y bydd hynny'n ein helpu ni i ddod â phwyslais manwl iawn ar sut y gallwn ni gefnogi rhyddhau mwy cyflym.

Rwyf i eisiau dweud fy mod i'n credu bod bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn arbennig, yn gweithio ar y fframwaith llif ysbytai gorau posibl ar draws eu holl safleoedd. Rydyn ni eisiau gweld hynny wedi'i ymwreiddio'n llawn. Mae'n rhaid i ni ei weld yn cael ei weithredu'n llwyr fel y gallwn ni gael cleifion yn symud yn ddiogel drwy'r ysbyty ac adref.

A yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn credu ei bod yn bwysig cofio, er bod pwysau'r gaeaf yn ddi-os yn rhoi llawer o bwysau ar y GIG yng Nghymru, bod yna waith sylfaenol hanfodol sydd yn dal yn mynd rhagddo? Rwy'n credu ei fod wedi dweud yn ei ddatganiad bod gwasanaethau hanfodol wedi'u cynnal. Hoffwn i dynnu sylw at enghraifft eithriadol o ofal y GIG a gafodd ei ddarparu yma yng Nghymru yng nghanol pwysau'r gaeaf. Mae fy etholwr wedi gofyn i mi godi hyn yn gyhoeddus fel eich bod chi'n ei glywed ac Aelodau o'r Senedd eraill yn ei glywed.

Mae fy etholwr, Jane Williams, wedi ysgrifennu llythyr ataf yn disgrifio'r gofal rhagorol y cafodd hi yn yr adran niwroleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Cafodd ddiagnosis o diwmor prin yn ei asgwrn cefn thorasig ac roedd yn rhaid iddi wynebu llawdriniaeth hir, gymhleth a risg uchel. Mae hi'n canmol y llawfeddyg a'i dîm am ganlyniad sydd wedi newid ei bywyd. Roedd ei gofal ôl-lawdriniaeth ar yr uned niwroleg 'o'r radd flaenaf'. Mae hi'n sôn am ddiwylliant o dosturi, proffesiynoldeb a gwaith tîm a oedd yn ymestyn o uwch glinigwyr i bob aelod o staff a oedd wedi ymwneud â'i hadferiad. Mae hi'n disgrifio gofal di-dor, rhagweithiol wedi'i darparu gyda thawelwch, parch a dynoliaeth. Mae hi wedi gofyn i mi godi hynny yn y ddadl hon. Rydyn ni'n ymwybodol o'r pwysau mawr ar y gwasanaeth iechyd, ond mae hyn yn digwydd ar yr un pryd.

Rwy'n diolch i Julie Morgan am hynny. Rwy'n credu ei fod yn bwysig. O reidrwydd, yn y trafodaethau hyn, rydyn ni'n canolbwyntio ar yr heriau yn y GIG, ac mae hynny'n briodol iawn, ond mae'n wir dweud bod profiad y rhan fwyaf o bobl o'r GIG y rhan fwyaf o ddiwrnodau'n gadarnhaol. Mae pobl ledled Cymru yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad aruthrol y mae pobl yn ei ddangos yn y GIG i ddarparu'r gofal hwnnw. Rwy'n falch iawn o glywed am brofiad ei hetholwr.

Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn casglu data ar ofal mewn coridor yn ysbytai Cymru, ac os yw Llywodraeth Cymru yn casglu'r data hwnnw, faint sy'n cael gofal heddiw mewn coridor ar draws ysbytai yng Nghymru?

Yn ail, rwy'n deall bod achosion o norofeirws yn effeithio ar lawer o ysbytai, sydd wedi arwain at gau wardiau a cholli gwelyau ysbyty. Ydych chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am faint o welyau ysbyty nad ydyn nhw ar gael i GIG Cymru ar hyn o bryd, er mwyn lleddfu rhywfaint o'r pwysau gaeaf yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw, oherwydd yr achosion o norofeirws y mae ysbytai'n eu ddioddef ar hyn o bryd?

Ar yr olaf, nid oes gennyf i'r data o fy mlaen, ond yn sicr, fe wnaf i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r ffigur hwnnw ar gyfer y gwelyau heddiw.

Ar y pwynt cyntaf, bydd yn ymwybodol, mewn trafodaethau blaenorol yn y Siambr, yr ydw i wedi dweud y byddwn ni'n defnyddio'r sbrint gaeaf i allu datblygu ffordd o gofnodi gofal mewn coridor, fel rydyn ni'n ei ddisgrifio, fel y byddai'n bosibl ei gyhoeddi wedyn. Rydyn ni wedi bod yn treialu dulliau gweithredu, a dyna beth sydd wedi fy ngalluogi i ddweud fy mod i wedi gallu gweld tuedd yn leihau mewn rhannau o'r wythnosau diwethaf. Ar ôl cael hynny ar gyfer y sbrint cyntaf, byddwn ni'n profi hynny yn yr ail sbrint, ac yna byddwn ni mewn sefyllfa i gyhoeddi hynny'n rheolaidd. Ond rwy'n hapus i rannu'r wybodaeth sydd gennyf i ar gael i mi.

16:05

Yn sicr, byddwn i'n ddiolchgar am yr wybodaeth honno, oherwydd fe wnaethoch chi sôn, yn eich datganiad ac yn eich ymatebion, bod pethau'n parhau i fod yn gydnerth. Ond lle nad oedd hynny'n wir, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n deall sut mae'r gwersi hynny'n cael eu dysgu ar gyfer y gaeaf nesaf. Roedd yn rhaid i mi fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys gydag aelod o'r teulu ac, mae'n rhaid i mi ddweud, fe ges i fy nychryn gan yr amodau y gwelais i yno. Rydych chi'n sôn am ofal mewn coridor—roedd pobl ar y llawr am oriau, heb ddŵr, heb flancedi, heb obennydd, yn dirywio mewn gwirionedd, ac roedd yn dorcalonnus gweld yr effaith, nid yn unig ar y cleifion, ond ar staff a'u morâl. Mae gweld hynny'n uniongyrchol yn dipyn o beth, ac rydych chi'n tybio, pan nad oes gan bobl aelod o'r teulu neu rywun yn gefn iddyn nhw, sut maen nhw'n mynd trwy hynny, heb i rywun eirioli ar eu rhan i geisio cael gwely. Roedd pobl yn aros ymhell dros 30 awr am wely, ar ôl cael eu derbyn gan ambiwlans, ac rydw i ond eisiau sicrwydd o sut yr ydyn ni'n sicrhau bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu fel bod pethau'n gwella, er mwyn yr aelodau staff yn ogystal â chleifion.

Gallaf i glywed y gofid yn ei llais, ac rwy'n ei rannu. Rydw i wedi gweld hynny yn uniongyrchol fy hun, ac rwy'n cytuno â hi, mae'n annerbyniol. Nid oes unrhyw un ohonon ni eisiau gweld ffrind, aelod o'r teulu, neu gymydog yn cael eu trin mewn lleoliad amhriodol. Felly, ein dull gweithredu ni fel Llywodraeth, ein disgwyliad fel Llywodraeth, yw bod hynny'n eithriadol. Ond mae hi'n iawn i ddweud bod hynny'n digwydd yn fwy nag y byddai unrhyw un ohonon ni eisiau'i weld.

Rwy'n credu mai'r agwedd hanfodol o ganolbwyntio ar ryddhau'n gynnar ac ar wella'r defnydd o'r fframwaith llif yw ein bod ni wedi'i weld yn lleihau enghreifftiau o ofal mewn coridor. Un o'r pethau yr ydyn ni wedi bod yn canolbwyntio'r gwasanaeth arno yn ystod y cyfnodau sbrint, ond ers hynny hefyd, yw cynyddu nifer y cleifion sy'n cael eu rhyddhau'n ddiogel cyn hanner dydd. Gwyddom ni fod hynny'n creu llawer mwy o gapasiti yn y system na rhyddhau yn ddiweddarach yn y dydd. Mae'n ymwneud â sut rydych chi'n gweithredu rowndiau ward a sut rydych chi'n dyrannu adnoddau clinigol er mwyn gallu gwneud hynny'n rhan fwy arferol o'r broses rhyddhau.

Rydyn ni wedi gweld gwelliannau. Maen nhw wedi bod yn amrywiol, ond mae gwelliannau wedi bod yn y lefel honno o ryddhau. Bydd hynny'n sylfaenol i sut y gallwn ni ymdrin â gofal mewn coridor. Ac fel y dywedais i, rydyn ni'n gweithio ar sut y gallwn ni gael y data hwnnw i sefyllfa lle mae'n cael ei rannu mewn ffordd y gallwn ni wedyn i gyd graffu ar hynny gyda'n gilydd. Rwy'n credu bod hynny'n hanfodol i gael trosolwg ar y system yn gyffredinol.

Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn ddiolchgar am y gwaith y mae pobl yn ei wneud ar y rheng flaen, a hefyd y staff gweinyddol y tu ôl iddyn nhw, sy'n galluogi pobl i adael yr ysbyty mewn modd amserol. Rwyf i hefyd eisiau cydnabod y gwasanaeth lloches nos sy'n gweithredu yng Nghaerdydd, sy'n cael ei weithredu gan yr eglwysi, sydd wedi atal pobl rhag cael eu cludo i'r ysbyty sydd ar fin marw oherwydd y tywydd oer y cawson ni ar y pryd. Mae hwn yn wasanaeth sy'n mynd i fod yn cael ei gynnal tan ddiwedd mis Mawrth, felly dylai unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan ynddo wneud hynny, oherwydd mae'n wasanaeth hanfodol i'r rhai sy'n ddigartref.

Rwyf eisiau deall pam mae gennym ni'r pythefnos sbrint gaeaf hwn, yn hytrach na rhyddhau cyfannol priodol bob wythnos. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny.

Gwnaf, yn sicr. Cafodd pythefnos sbrint y gaeaf eleni ei weithredu fel modd o ganolbwyntio'r system gyfan ar nifer fach o fetrigau y gwyddom ni y gallai wneud y gwahaniaeth mwyaf i wella capasiti mewn ysbytai a llif cleifion. Mae wedi cael yr effaith honno. Creodd fwy o gapasiti yn mynd i mewn i'r gaeaf. Fe wnaethon ni glywed yn y datganiad am nifer y bobl a gafodd eu cludo o'r ysbytai yn wythnos olaf y sbrint hwnnw, er enghraifft.

Un o'r heriau wrth weithredu'r protocol hwnnw yn barhaus yw ei fod yn cynnwys dyrannu adnoddau staff eithaf sylweddol o rywle arall. Felly, mae'n anodd cynnal y ffordd benodol honno o weithio, ac mae'n eithaf anarferol gwneud ail sbrint, ond rydyn ni wedi gweld y manteision mor glir yn yr un cyntaf, fy mod i eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n datblygu yn yr ail gyfle hwnnw. Fodd bynnag, mae hefyd yn wir dweud bod llawer o'r dulliau gweithredu yr ydyn ni wedi'u gweld yn gweithio yn ystod y pythefnos hynny—rydyn ni'n disgwyl, a byddwn ni'n parhau i ddisgwyl, i'r rheiny gael eu defnyddio’n barhaus. Mae'r metrig hwnnw o'r nifer sy'n cael eu rhyddhau cyn hanner dydd, er enghraifft, yn un o'r dangosyddion allweddol o faint o allu sy'n cael ei greu mewn ysbytai, a byddwn ni'n disgwyl gweld hynny'n parhau i wella.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, ar 5 Ionawr, datganodd Caerdydd a'r Fro fod yr uned frys yn 'hynod brysur'—nid yw'n syndod. Ond yno, mae staff y GIG nid yn unig yn gorfod ymdopi ag adegau prysur a mwy o gleifion, ond â gweithio gyda seilwaith ysbyty sy'n dirywio, gan gynnwys gollyngiadau carthffosiaeth, difrod dŵr, a glendid gwael. A yw'r prosiect Ysbyty Athrofaol Cymru 2 wedi'i ganslo, ac os felly, sut y byddwch chi'n ymdrin â phryderon ffurfiol 300 o uwch feddygon ynghylch gallu'r bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd diogel a modern?

Ac yn olaf, rwy'n ymwybodol eu bod wedi clywed mewn cyfarfod bwrdd Caerdydd a'r Fro ym mis Tachwedd sut roedd Llywodraeth Cymru, erbyn hynny, wedi anfon saith llythyr atyn nhw ynglŷn chynllunio ar gyfer y gaeaf. Clywodd y bwrdd nad oes modd gweithredu rhai camau o hyd, oherwydd byr rybudd, cymhlethdod, ac yr amgen am fuddsoddiad sylweddol. Pa wersi y mae'n bosibl eu dysgu o'r adborth hwnnw ar gyfer y gaeaf nesaf? Diolch.

16:10

Mae Caerdydd a'r Fro wedi bod yn rhan o'r cynllunio gyda phob bwrdd iechyd arall ers mis Mawrth y llynedd, felly mae'n broses gydweithredol ac mae wedi bod yn parhau ers amser maith ac yn gynharach nag mewn blynyddoedd eraill er mwyn gallu creu mwy o gapasiti. Bydd pethau sy'n dod i'r amlwg yn ystod y misoedd â throsglwyddiadau cyflym. Rwy'n ofni mai weithiau dyna sut mae'n rhaid i'r system weithio. Mae gan fyrddau iechyd gapasiti sylweddol, sydd, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, angen eu defnyddio ar gyfer y blaenoriaethau mwyaf brys.

Ar y pwynt y mae'n ei wneud am y llythyr, bydd yn gwybod fy mod wedi codi hynny gyda'r bwrdd yn y cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus yn ddiweddar iawn, ac rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi ymateb i'r llythyr gyda rhai ymrwymiadau manwl a chynigion i barhau i drafod rhai o'r pryderon penodol.

Ar fater yr ystad, bydd yn gwybod ein bod yn ariannu arolwg at ddibenion buddsoddi yn y dyfodol. Mae rhywfaint o ymyrraeth wedi bod, rhywfaint o gyllid ar gael, ond mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r bwrdd iechyd i gael asesiad ystad cyffredinol at ddibenion yn y dyfodol.

8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cynnydd a chyflawniad Economi Cymru yn y dyfodol

Eitem 8 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: cynnydd a chyflawniad economi Cymru yn y dyfodol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet—Rebecca Evans. 

Diolch. Mae Cymru'n dod allan o gyfnod digynsail o heriau, o Brexit a chanlyniadau COVID i'r anhrefn a'r cyni yn sgil 14 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol y DU. Ond hyd yn oed yn wyneb y pwysau hyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi aros yn gadarn yn ein cenhadaeth economaidd: ysgogi twf, cydnerthedd a thegwch. Heddiw, byddaf yn nodi sut mae'r Llywodraeth hon wedi dangos cyfeiriad clir a diwyro, sut rydym wedi cyflawni mewn amgylchiadau anodd, a sut rydym yn gosod Cymru ar gyfer llwyddiant hirdymor.

Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir: creu swyddi a chyfleoedd da i bobl ym mhob rhan o Gymru yw ein prif flaenoriaeth. Mae popeth a wnawn mewn polisi economaidd yn cael ei sbarduno gan yr uchelgais honno: swyddi gyda gwaith teg yn greiddiol—diogel, ac yn barod i'r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i weithio law yn llaw â busnesau, undebau, ar draws portffolios y Llywodraeth, ac mewn partneriaeth agos â Llywodraeth y DU. Mae Cymru wedi'i chysylltu'n llwyr â mentrau mawr ledled y DU. O barthau twf AI arloesol i ddatblygu clwstwr amddiffyn, mae'r cydweithrediadau hyn yn sbarduno arloesedd, creu swyddi, a lleoli Cymru fel economi ddeinamig a blaengar sy'n cystadlu ar lwyfan byd-eang.

Rwyf eisiau tynnu sylw at y cynnydd rydym ni'n ei wneud ar draws y pedwar maes blaenoriaeth genedlaethol a nodir yn ein cenhadaeth economaidd. Yn gyntaf, pontio teg a ffyniant gwyrdd. Rydym yn cyflymu datgarboneiddio ar draws diwydiannau, ymgorffori gwaith teg, a helpu busnesau i leihau costau ynni yn barhaol. Drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, mae £270 miliwn wedi'i fuddsoddi ers 2018, gan gyflawni bron i 50 MW o ynni adnewyddadwy ac osgoi dros 1.1 miliwn tunnell o allyriadau carbon deuocsid, lleihau biliau ar gyfer ysgolion ac ysbytai wrth greu swyddi lleol medrus. Yn 2024-25 yn unig, cyflawnodd y gwasanaeth ynni y swm uchaf erioed o £107.7 miliwn mewn cymorth ar gyfer 233 o brosiectau, o bympiau gwres, i solar, i fflydoedd allyriadau sero.

Mae ein rhaglen ôl-osod wedi'i hoptimeiddio yn trawsnewid tai cymdeithasol gydag ymagwedd gwneuthuriad yn gyntaf cartref cyfan, gwella cynhesrwydd fforddiadwy ac adeiladu'r gweithlu a'r cadwyni cyflenwi sydd eu hangen ar gyfer sero net. Rydym hefyd yn targedu allyriadau trafnidiaeth trwy fesurau ymarferol, gyda llwybrau ar gyfer trydaneiddio, tanwydd carbon isel, a hydrogen gydag arbedion rhagamcanol cyfwerth â 8.4 tunnell fetrig o garbon deuocsid erbyn 2050.

Mae gwynt ar y môr yn symud o gynllunio i gyflenwi, gyda dros 15 GW ar y gweill a chyfle gwerth £4.8 biliwn i fusnesau Cymru. Cefnogir hyn gan fuddsoddiad Llywodraeth y DU ym Mhort Talbot i angori cadwyni cyflenwi, adfywio a chreu swyddi ar gyfer economïau arfordirol. Ac yn olaf, mae ein strategaeth y tu hwnt i ailgylchu yn ymgorffori egwyddorion economi gylchol, gan droi gwastraff yn gyfoeth ac atgyfnerthu arweinyddiaeth fyd-eang Cymru ym maes ailgylchu.

Ein hail faes blaenoriaeth genedlaethol yw llwyfan ar gyfer pobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant. Rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad i greu cyfleoedd cyflogaeth, hunangyflogaeth a hyfforddiant i bobl ifanc yng Nghymru, gan sicrhau bod ganddyn nhw lwybrau clir i sicrhau dyfodol ystyrlon. Wrth wraidd hyn mae ein gwarant i bobl ifanc. Ers ei lansio ar ddiwedd 2021, mae'r warant wedi cefnogi 64,000 o bobl ifanc, a 10,000 ohonyn nhw eisoes wedi symud i gyflogaeth. Mae ein rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy yn treialu dulliau arloesol yng Nghastell-nedd Port Talbot, sir Ddinbych a Blaenau Gwent, i gefnogi pobl sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol. Gyda'i gilydd, mae'r rhaglenni hyn yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Rydym hefyd yn gwybod bod rhagoriaeth sgiliau yn gonglfaen llwyddiant. Rydym yn buddsoddi £144 miliwn mewn prentisiaethau, o lefel sylfaen i lefel gradd, tuag at ein targed o 100,000 o gyfleoedd prentisiaethau newydd, fel y gall cyflogwyr mewn sectorau blaenoriaeth recriwtio'r dalent sydd ei hangen arnynt yn ogystal â chefnogi 5,000 o bobl ifanc drwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Ein trydedd blaenoriaeth genedlaethol yw partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'r economi bob dydd. Rydym yn cryfhau arweinyddiaeth a chyflawni rhanbarthol. Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyd-ddylunio ymyraethau sy'n adlewyrchu cryfderau lleol ac yn sicrhau atebolrwydd. Mae'r rhain yn cynnwys dau barth buddsoddi, yng Nghaerdydd a Chasnewydd a Wrecsam a sir y Fflint, pob un â chefnogaeth o £160 miliwn dros 10 mlynedd, gan flaenoriaethu gweithgynhyrchu uwch, lled-ddargludyddion, ynni glân ac arloesi. Rydym yn manteisio ar gyfleoedd mawr mewn lleoedd trwy borthladdoedd rhydd Celtaidd ac Ynys Môn, ac mae'r rhain bellach yn fyw, gyda safleoedd treth wedi'u cynllunio a chyfalaf sbarduno ar y trywydd iawn ar gyfer ei ryddhau. Maen nhw'n canolbwyntio ar wynt ar y môr, hydrogen, dal carbon a gweithgynhyrchu uwch, gan ddarparu swyddi o ansawdd uchel, a gydnabyddir gan undeb sy'n gyson â'n polisi gwaith teg.

Mae ein pedair partneriaeth economaidd ranbarthol yn parhau i alinio buddsoddiad i flaenoriaethau sector fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, gwyddorau bywyd, digidol ac ynni glân, gyda bargeinion dinesig a thwf yn cyflymu datblygu clwstwr a seilwaith. A bydd y gronfa twf lleol yng Nghymru o £547 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn sbarduno blaenoriaethau economaidd ymhellach. Yn hanfodol, rydym yn gwerthfawrogi'r economi bob dydd, gofal cymdeithasol, gofal plant, manwerthu a lletygarwch. Mae ein dull gweithredu yn ymgorffori gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, yn gwella cyflog a safonau, ac yn trin y sectorau sylfaenol hyn fel peiriannau ffyniant lleol.

Ein blaenoriaeth genedlaethol olaf yw buddsoddi ar gyfer twf, arloesi, ymchwil a datblygu ac entrepreneuriaeth. Mae ein strategaeth arloesi a arweinir gan genhadaeth yn alinio ymchwil a masnacheiddio â chanlyniadau cenedlaethol. Trwy'r SmartSuite a phartneriaethau gydag Innovate UK, rydym yn cefnogi cydweithrediadau ymchwil a datblygu a diwydiant. Mae ein cynllun arloesi cydweithredol yn cysylltu busnesau Cymru â chyllid y DU, yn rhannu data ac yn cryfhau'r llwybr o ymchwil prifysgolion i gwmnïau twf uchel. Er mwyn hybu entrepreneuriaeth a graddfa, mae Busnes Cymru wedi cefnogi bron i 34,800 o fusnesau ac entrepreneuriaid ers dechrau tymor y Senedd hon, gan helpu i greu 4,700 o fusnesau newydd a chynnal dros 21,600 o swyddi. Mae ein cynllun gweithredu allforio yn darparu rhaglenni wedi'u teilwra i adeiladu capasiti allforio a mynediad i farchnadoedd tramor, gan gynhyrchu dros £400 miliwn mewn gwerthiannau allforio newydd. Mae Banc Datblygu Cymru yn darparu cyfalaf tymor estynedig i hybu cynhyrchiant ac arloesedd, gan fuddsoddi £1 biliwn ers 2017, gan gefnogi dros 4,600 o fusnesau. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn safleoedd cyflogaeth strategol drwy ein cynllun cyflawni eiddo, gan ddarparu dros 1 miliwn troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr newydd neu wedi'i adnewyddu ac 850 erw o dir, gan ddatgloi buddsoddiad preifat a chreu miloedd o swyddi ledled Cymru. Mae ein cenhadaeth yn glir: diogelu economi Cymru i'r dyfodol a lleoli ein cenedl ar gyfer twf cynaliadwy. Trwy fuddsoddi mewn sgiliau, arloesedd a ffyniant gwyrdd, a thrwy weithio mewn partneriaeth gref â Llywodraethau a rhanbarthau, rydym yn adeiladu economi sy'n deg, yn gydnerth ac yn gystadleuol yn fyd-eang.

Felly, rydym wedi helpu busnesau ac aelwydydd i symud tuag at ynni gwyrdd gan hefyd leihau faint o ynni maen nhw'n ei ddefnyddio a gostwng eu biliau, ac mae hynny wedi helpu i greu swyddi gwyrdd newydd yn ogystal ag aer glanach.

Rydym wedi buddsoddi mewn sgiliau ac wedi helpu mwy na 60,000 o bobl ifanc i baratoi ar gyfer swydd, ac wedi darparu bron i 100,000 o brentisiaethau newydd. Mae hynny nid yn unig yn helpu'r prentisiaid unigol, wrth gwrs, ond mae'n helpu busnesau i recriwtio'r dalent sydd ei hangen arnynt, ac rydym wedi gweld rhai cyhoeddiadau mawr iawn yn ystod y misoedd diwethaf—buddsoddiad newydd mewn ynni niwclear yn Wylfa ar Ynys Môn, dau barth buddsoddi ac, wrth gwrs, y cynnydd o ran porthladdoedd rhydd. Mae'r rhain yn dangos optimistiaeth wirioneddol yng Nghymru a chyfleoedd ymarferol gwirioneddol i bobl ledled Cymru gael swyddi gwell gyda chyflogau uwch.

Roedd uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru yn foment nodedig yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Daeth â 350 o gynrychiolwyr o bron i 30 o wledydd at ei gilydd gan arddangos Cymru fel cyrchfan ar gyfer busnes. Nid oedd hyn yn hyrwyddo Cymru yn unig—fe wnaeth sbarduno ffrwd o brosiectau a phartneriaethau newydd. Trwy'r ymdrechion hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ennill ymddiriedaeth yn yr economi, wedi dangos cydnerthedd a'r gallu i addasu yn wyneb newid ac wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer twf hirdymor. Rydym yn creu economi sy'n gallu ymateb i heriau'r dyfodol, manteisio ar gyfleoedd newydd a darparu ffyniant i gymunedau ledled Cymru. Ac mae'r camau hyn yn rhoi'r cyfle i Gymru gystadlu'n fyd-eang, gan sicrhau bod tegwch a chynaliadwyedd yn parhau i fod wrth wraidd ein dull gweithredu.

16:20

Wel, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cyflwyno naratif o gydnerthedd economaidd a momentwm yma yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'r naratif yn cael ei gefnogi gan y realiti sy'n wynebu gweithwyr Cymru, busnesau Cymru neu gymunedau ledled ein cenedl. Nid oedd sôn am rai o ddiwydiannau economaidd allweddol Cymru fel olew a nwy, amaethyddiaeth a thwristiaeth. Ar ôl blynyddoedd o honiadau am degwch, cydnerthedd a phartneriaeth, mae Cymru bellach yn perfformio'n waeth na phob rhan arall o Brydain Fawr ar y dangosyddion economaidd sylfaenol sydd bwysicaf i bobl sy'n gweithio.

Mae'r trosolwg diweddaraf o'r farchnad lafur ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf yn unig, yn dangos dirywiad parhaus a phryderus mewn cyflogaeth â thâl, gyda thua 2,000 o swyddi yn cael eu colli bob mis. Dim ond 70.8 y cant yw'r gyfradd gyflogaeth, bron i 4 pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU. Mae diweithdra yng Nghymru wedi codi i 6.1 y cant, y gyfradd uchaf yn unrhyw le yn y DU, gan gynyddu 1.4 pwynt canran mewn un chwarter yn unig.

Hyd yn oed yn fwy pryderus yw lefel yr anweithgarwch economaidd. Ar 24.5 y cant, Cymru sydd â'r gyfradd anweithgarwch uchaf ym Mhrydain Fawr, yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU. Ac nid yw'r ffigurau hyn yn haniaethol. Mae'r ffigurau hyn yn cynrychioli unigolion go iawn sydd wedi'u heithrio o'r farchnad lafur, cyflogwyr nad ydynt yn gallu recriwtio a chymunedau sy'n syrthio ymhellach ar ei hôl hi. Ar yr un pryd, mae busnesau Cymru, peiriant ein heconomi, y crewyr cyfoeth a'r cyflogwyr, yn dioddef baich y cyfraddau busnes uchaf yn unrhyw le ym Mhrydain Fawr. Mae hyder busnes yr isaf erioed ac mae achosion o gau yn cynyddu. Nid yw hyn, rwy'n ofni, yn arwydd o economi ffyniannus neu gydnerth.

Mae'r dirywiad hwn yn digwydd tra bod Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i gefnogi penderfyniadau a wneir yn San Steffan sy'n tanseilio twf economaidd. Tynnodd cyllideb hydref y DU, a gymeradwywyd yma gan Lafur Cymru, £26 biliwn o'r economi trwy godiadau treth, gan gynnwys cynnydd sylweddol mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi cynyddu costau i fusnesau Cymru, wedi cynyddu'r risg o golli swyddi—ac rydym wedi gweld yr ystadegau sy'n cefnogi hynny—ac wedi gorfodi llawer o gwmnïau i leihau maint eu gweithlu neu gau yn gyfan gwbl. Mae wedi gwaethygu'r pwysau ar feddygon teulu a phractisau deintyddol a oedd eisoes yn cael trafferth ymdopi.

Ar lefel y DU, mae'r rhagolygon yn dirywio ymhellach. Rhagwelir y bydd twf cynnyrch domestig gros yn is ym mhob blwyddyn o'r cyfnod a ragwelir. Mae chwyddiant bellach yn uwch nag yr oedd pan ddaeth Llafur i mewn. Mae'r baich treth wedi cyrraedd uchafswm hanesyddol o 38.3 y cant o CDG, a rhagwelir y bydd diweithdra yn codi yn y blynyddoedd i ddod. Mae benthyca yn cynyddu, mae llog dyled yn codi ac mae maint yr ystad yn parhau i ehangu. Nid yw hwn yn gynllun credadwy ar gyfer twf economaidd. Mae'n gynllun fydd yn peri diffyg twf.

Dirprwy Lywydd, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn siarad am optimistiaeth a chyfle, ond mae arweinwyr un o bob wyth menter fach a chanolig, bron i 700,000 o fusnesau ledled y DU, yn ystyried adleoli o ganlyniad uniongyrchol i'r baich treth. Dylai hynny fod o bryder i bob Aelod o'r Senedd. Mewn gwirionedd, dylai'r ffigurau hyn rydw i wedi'u darllen yma y prynhawn yma godi cywilydd ar bob Aelod Llafur yma sy'n meddwl bod eu hanes o ran yr economi yn unrhyw beth ond trychinebus. Er bod parthau buddsoddi, porthladdoedd rhydd a strategaethau hirdymor yn gallu cynnig potensial yn y dyfodol, mae polisïau Ceidwadol, efallai y byddwn yn ychwanegu, yn rhoi dim ond ychydig o sicrwydd i fusnesau heddiw sy'n cael trafferth goroesi neu'r teuluoedd sy'n wynebu trethi uwch, llai o gyfleoedd gwaith a'r costau byw cynyddol.

Ond mae yna ffordd arall. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, wedi gosod cynllun clir ac ymarferol i drwsio economi Cymru: torri cyfradd sylfaenol y dreth incwm, ariannu drwy arbedion effeithlonrwydd yn hytrach na thorri gwasanaethau rheng flaen, diddymu treth stamp Cymru ar gyfer prif breswylfeydd, cael ein marchnad dai a'n heconomi i symud, dileu ardrethi busnes i fusnesau bach ac adfywio canol ein trefi, cael gwared ar y dreth dwristiaeth niweidiol—o leiaf rwy'n fodlon siarad am dwristiaeth, yn wahanol i'r Ysgrifennydd Cabinet; dim sôn am dwristiaeth yn ei datganiad—sicrhau atebolrwydd democrataidd lle mae cynghorau yn cynnig codiadau gormodol yn y dreth gyngor, a chynnig yr un ffyniant i bob rhan o Gymru trwy fuddsoddiad wedi'i dargedu mewn trefi glan môr a marchnad.

Dirprwy Lywydd, nid yw twf economaidd yn dod yn sgil trethi uwch, nid yw'n dod o ystad fawr ac nid yw'n dod o fwy o ddibyniaeth ar les. Mae'n dod o gefnogi menter, gwobrwyo gwaith caled a chreu'r amodau lle gall busnesau dyfu a chyflogi mwy o bobl. 

16:25

Mae Cymru'n haeddu economi sy'n gweithio i bawb, nid i un—

Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn, Samuel. Nid wyf wedi clywed un mewn pum munud.

Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd, ond nid oedd y datganiad hwnnw'n haeddu unrhyw gwestiynau. Mae'n drychinebus, economi Cymru, ar ôl 26 o flynyddoedd.

Hoffwn ymateb serch hynny, oherwydd mae sawl peth, rwy'n credu, yn y datganiad hwnnw sy'n fy marn i'n haeddu ymateb, yn enwedig fy nghynnig i'r Aelod i gael sesiwn yn eistedd i lawr gyda'r prif economegydd, y prif ystadegydd a chynrychiolydd o'r SYG, oherwydd rwy'n dod i'r Siambr hon wythnos ar ôl wythnos i glywed am ddata nad ydynt bellach yn cael eu hystyried yn ystadegau cenedlaethol ffurfiol yn cael eu hailadrodd gan y Ceidwadwyr. Felly, rwy'n credu y gallai sesiwn sy'n nodi'r heriau gyda'r data, ac yn nodi'r fasged go iawn o ddata y dylid edrych arno o ran yr economi, fod o gymorth ac yn ddefnyddiol i'r Aelod er mwyn cael y darlun hwnnw. [Torri ar draws.] Oherwydd, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn siarad am CDG, fel y mae'r Aelod wedi sôn amdano—

Arhoswch funud, Ysgrifennydd Cabinet. Byddwn yn disgwyl i Aelodau o'r Llywodraeth ganiatáu i'r Ysgrifennydd Cabinet ateb ac ymateb mewn gwirionedd, os dymuna hi.

Clywsom sôn am CDG y prynhawn yma. Felly, yn nhermau hanesyddol, gwelodd CDG y pen rhwng 2010 a chanol 2024 y perfformiad gwaethaf mewn CDG fesul person ers dechrau cofnodion ym 1955 yng nghyfnod Llywodraeth y DU, a Llywodraeth Dorïaidd oedd mewn grym ar y pryd. Ac os edrychwn ar berfformiad cyffredinol yr economi yma yng Nghymru, mewn gwirionedd rwy'n credu bod yna lawer iawn y gallwn fod yn gadarnhaol yn eu cylch. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod twf enillion yn parhau i fod yn fwy na chwyddiant. Mae hynny'n helpu llawer o aelwydydd ledled Cymru i ymdopi â'r pwysau costau byw. Hefyd, dros y 10 mlynedd diwethaf, tyfodd enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion amser llawn yng Nghymru 47.2 y cant, gan ragori ar y cynnydd ar gyfer y DU gyfan. Ac, wrth gwrs, mae'r amcangyfrif twf blynyddol o gynhyrchiant llafur, fel y'i mesurir gan GYG fesul awr a weithiwyd yng Nghymru rhwng 2022 a 2023, y ffigurau diweddaraf sydd gennyf, yn dangos cynnydd o 14.1 y cant mewn cynhyrchiant yma yng Nghymru, o'i gymharu â 10.5 y cant mewn mannau eraill ledled y DU. Felly, rwy'n credu bod llawer iawn i'w ddweud am y gwelliannau sy'n cael eu gwneud o fewn yr economi yma yng Nghymru, gan wneud Cymru yn economi decach a mwy cyfartal.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod y datganiad hwn yn gyfle a gollwyd. Mae yna lawer o hunanlongyfarch, sy'n siomedig. Mae'n gyfoethog iawn o ran rhethreg. Mae'n wael o ran myfyrio. Rwy'n credu bod yr hyn yr oedd ei angen arnom heddiw oedd asesiad gwirioneddol, gyda'r holl ffaeleddau, o sefyllfa'r economi. Ac, ie, siaradwch am rai o'r pethau positif hynny, ond siaradwch hefyd am y pethau negyddol hynny. Gadewch i ni gymryd prentisiaethau fel enghraifft. Mae yna le i ymfalchio o ran prentisiaethau yma yng Nghymru, ond mae yna lawer o bethau y mae angen i ni eu gwella hefyd. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet o leiaf gyfaddef bod yn rai materion sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn o fewn economi Cymru y mae angen eu datrys, nad yw'r darlun cyfan mor wych ag y mae'n honni?

Pan fydd y Llywodraeth yn datgan ei bod yn aros yn gadarn, ei bod wedi ennill ymddiriedaeth ac mae wedi gosod sylfaen gadarn, mae'n gwahodd, mewn gwirionedd, un cwestiwn syml iawn, a hynny yw: ar gyfer pwy? Nid dyma'r hyn rydw i'n ei glywed pan fyddaf allan ac yn siarad â busnesau ledled Cymru. Mae'n ymddangos mewn gwirionedd nad yw'r honiad bod Llafur Cymru wedi ennill ymddiriedaeth o ran yr economi yn cael ei gefnogi yn ymarferol. Ar ôl chwarter canrif yng ngofal liferi economaidd Cymru, mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain: un o bob tri o blant yng Nghymru yn tyfu i fyny mewn tlodi; y gyfran uchaf o bobl ifanc nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant mewn unrhyw wlad neu ranbarth y DU; mae cynhyrchiant, cyfoeth ac incwm yn parhau i fod yn isel, tra bod anweithgarwch economaidd yn parhau i fod yn uchel. Nid yw'r rhain yn nodweddion economi sy'n ffynnu, yn gydnerth neu'n deg.

Gan droi at honiad yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth y DU, yn anffodus rwy'n credu nad yw hyn ychwaith yn cyd-fynd â realiti. Dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar nad yw Keir Starmer ar y papur pleidleisio. Nawr, dyna linell sydd wedi'i chynllunio'n union i bwysleisio pellter yn hytrach nag agosatrwydd. Mae 'law yn llaw' yn awgrymu partneriaeth, ond mae'r hyn rydym ni'n ei weld yn edrych yn llawer mwy fel hyd braich. Edrychwch ar frigdorri £86 miliwn o'r gronfa twf leol i'r gronfa Balchder Bro, nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw beth i'w wneud â hi. Mae hyn yn defnyddio'r setliad ôl-Brexit i adennill pwerau datganoledig yn ôl. Nawr, condemniodd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yr ymddygiad hwn pan gafodd ei weithredu gan y Llywodraeth Geidwadol, a lansiodd Llywodraeth Cymru ei hun adolygiad barnwrol yn erbyn y Torïaid am wneud hyn yn union. Felly, ble mae'r condemniad hwnnw nawr? Nid yn unig y mae'n anghywir yn gyfansoddiadol, mae'n ffordd hynod aneffeithlon ac is-optimaidd o gyflawni datblygiad economaidd.

Nawr, mae hefyd yn rhyfeddol, rwy'n credu, nad yw datganiad am y Llywodraeth yn cyflawni economi Cymru yn cyfeirio o gwbl at Tata Steel, un o'r penodau diwydiannol mwyaf trychinebus yn hanes modern Cymru ac yn nhymor y Senedd. Pa wersi mae'r Llywodraeth wedi'u dysgu? Beth mae hyn yn ei ddweud am gydnerthedd diwydiannol, am berchnogaeth, am rôl y wladwriaeth wrth amddiffyn gallu strategol? Mae'r rhain yn gwestiynau rwy'n teimlo y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet fod yn mynd i'r afael â nhw mewn datganiad fel hwn. Ble mae'r myfyrio yn y datganiad? Yn syml, nid yw yno—dim cyfeiriad at yr hyn y mae'r Athro Calvin Jones yn ei ddisgrifio fel calon gwendid economaidd Cymru: y diffyg perchnogaeth endemig yng Nghymru.

Mae'r bwlch perchnogaeth hwn yn effeithio ar benderfyniadau buddsoddi, twf busnes, ansawdd swyddi ac arloesedd. Rhaid i berchnogaeth ymddangos yn llawer mwy amlwg yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn mesur llwyddiant, oherwydd bydd economi lle mae asedau, busnesau a gwneud penderfyniadau yn cael eu perchnogi ac yn cael eu gwneud mewn mannau eraill bob amser yn cael trafferth cyflawni ar gyfer y bobl sy'n byw ynddi. Mae unrhyw wlad ddifrifol yn y byd yn poeni am bwy sy'n berchen ar beth; mae'n ymddangos nad yw Cymru ac, yn fwy cyffredinol, y DU yn gwneud hynny. Dyna'n union pam mae Plaid Cymru yn credu bod angen asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd i Gymru, gan weithio ochr yn ochr â banc datblygu diwygiedig, gyda chenhadaeth glir i dyfu a chadw busnesau sy'n eiddo i Gymru, cefnogi olyniaeth fel bod cwmnïau llwyddiannus yn aros wedi'u gwreiddio yma, a mynd i'r afael â diffygion llywodraethu a thryloywder. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn gweld y cyflawniad o ran cynyddu perchnogaeth yn y tymor hwn? A yw hynny wedi'i asesu gan y Llywodraeth hyd yn oed?

Yn olaf, felly, ac yn gysylltiedig â'r mater perchnogaeth hwnnw, mae yna lawer o enghreifftiau ysbrydoledig o adeiladu cyfoeth cymunedol ledled Cymru, o gwmnïau cydweithredol i fentrau sy'n eiddo i'r gymuned. Yn rhy aml, mae'r llwyddiannau hyn wedi digwydd er gwaethaf polisi Llywodraeth Cymru, yn hytrach nag oherwydd hwnnw. Mae yna dipyn o waith sydd angen iddo ddigwydd ynghylch mewnoli a chaffael. Mae Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle trwy beidio â rhoi mwy i'r cynlluniau gwaith hyn. Felly, ym mha ffordd y mae perchnogaeth gymunedol wedi symud ymlaen o dan y Llywodraeth hon? Rydym yn sôn yn y lle hwn am botensial aruthrol Cymru ac am ein potensial aruthrol fel cenedl, ond nid yw potensial ar ei ben ei hun yn creu ffyniant. Mae hynny'n gofyn am onestrwydd ynghylch methiant, eglurder ynghylch pwrpas a'r dewrder i ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ac i fynnu'r pwerau hynny sydd eu hangen arnom, pethau nad ydynt wedi'u dangos gan y Llywodraeth ers peth amser.

16:30

Byddwn yn dechrau trwy gydnabod, yn wir, fod problemau dwfn yn wynebu'r economi yma yng Nghymru, un ohonynt yw cynhyrchiant, ac mae'n rhoi cyfle i mi egluro rhai o'r ystadegau a ddefnyddiais mewn ymateb i'r cyfraniad blaenorol, ac mae'n ymwneud â chynhyrchiant. Roedd yr amcangyfrif twf blynyddol o gynhyrchiant llafur, fel y'i mesurir gan werth ychwanegol gros fesul awr a weithiwyd yng Nghymru rhwng 2022 a 2023, yn uwch i Gymru nag 11 o'r 12 gwlad a rhanbarthau Lloegr yn y DU, a thyfodd cynhyrchiant Cymru yn gyflymach na'r DU ers 2009, sef 14.1 y cant i ni a 10.5 y cant i'r DU.

Mae'r ddau beth hynny, rwy'n credu, yn drawiadol iawn. Maen nhw'n dangos ein bod yn arwain y ffordd, ond, mewn gwirionedd, rydym yn cydnabod, yn llwyr, bod cynhyrchiant yn her go iawn i ni yma yng Nghymru, ac mae'n her am nifer o resymau, yn rhannol oherwydd ein daearyddiaeth, diffyg cytrefiadau mawr ac ati. Rydym ni'n gwybod hynny ac rydym ni'n deall hynny, felly dyna un o'r rhesymau pam rydym ni wedi nodi cynhyrchiant fel un o'r nodau allweddol yr ydym eisiau eu cyflawni nawr trwy'r gronfa twf lleol. Felly, drwy'r gronfa twf lleol, rydym wedi dweud ein bod wir eisiau canolbwyntio ar gynhyrchiant a hefyd mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd yng Nghymru, ac mae cael y math hwnnw o ffocws manwl, rwy'n credu, ar y pethau hynny drwy'r gronfa twf lleol honno o £0.5 biliwn dros y tair blynedd nesaf yn wirioneddol bwysig. Felly, mae ein hymgynghoriad wedi cau ar hynny yn ddiweddar ac mae'r ffocws hwnnw, rwy'n credu, yn cael ei groesawu'n fawr gan lawer o ymatebwyr. Mewn gwirionedd, roedd rhai ymatebwyr eisiau i ni ganolbwyntio hyd yn oed yn fanylach ar bethau, felly rydym ni'n gweithio trwy'r ymatebion ymgynghori hynny ar hyn o bryd, a byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar y rheini cyn bo hir iawn.

Ac mae'r gronfa twf lleol, rwy'n credu, yn enghraifft dda iawn o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos nawr, oherwydd, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi pasbort neu wedi darparu'r cyllid hwnnw nawr ar gyfer y gronfa twf lleol i Lywodraeth Cymru. Mater i ni fydd penderfynu ar ddyraniad y cyllid hwnnw, ac, fel y dywedais, rydym yn nodi ein cynigion yn yr ymgynghoriad a byddwn yn gwneud rhai penderfyniadau ar hynny cyn bo hir. Rwy'n cael cyfarfodydd da iawn gyda llefarwyr llywodraeth leol a'r economi yn rheolaidd iawn ar hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu mewnbwn wrth i ni geisio llywio ein ffordd drwy'r gronfa twf lleol.

Byddai meysydd eraill lle mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd yn cynnwys y parthau twf AI, wrth gwrs. Fe wnaethon ni achos cryf i gael dau yma yng Nghymru a chytunodd Llywodraeth y DU i hynny. Rwy'n credu y bydd y ddau ohonynt nawr yn ein helpu i allu denu twf mewn AI a'r arloesedd cysylltiedig yn y rhannau penodol hynny o Gymru. Mae hynny'n wirioneddol i'w groesawu. Unwaith eto, porthladdoedd rhydd, y bargeinion dinesig a thwf—enghreifftiau da iawn o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod yr heriau yn Tata yn ystod y datganiad hwn hefyd. Rydw i wedi bod mewn yn gohebu yr wythnos hon, mewn gwirionedd, gyda Tata, ac rwy'n falch iawn o'r diweddariadau rydym ni'n eu derbyn. Mae Tata yn disgwyl i'r holl offer sy'n gysylltiedig â ffwrnais arc drydan gyrraedd y safle yn gynnar eleni. Rydym yn deall bod Tata ei hun yn fodlon â'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar adeiladu'r ffwrnais arc trydan a'r asedau cysylltiedig. Hefyd, mae Tata wedi darparu tir i'r Grid Cenedlaethol yn ddiweddar ar gyfer adeiladu is-orsafoedd yn barod i'r Grid Cenedlaethol ddarparu'r cysylltiadau i'r safle ar gyfer Rhagfyr 2027. Felly, mae hynny, unwaith eto, yn gadarnhaol iawn ac rydym yn ymwybodol bod y cwmni yn y camau datblygedig o drafodaethau gyda phartneriaid masnachol posibl i sicrhau digon o sgrap o ansawdd uchel i'w ddefnyddio yn y ffwrnais pan ddaw ar-lein hefyd. Felly, rydym ni mewn cysylltiad agos â Tata, ac rwy'n gwybod bod cyd-Aelodau yma sy'n rhan o'r bwrdd pontio—chi'ch hun, wrth gwrs, a'r Dirprwy Lywydd ac eraill hefyd—yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd hynny i gael y sgyrsiau a'r diweddariadau hynny.

Ac yna'r dull cyffredinol hwnnw, mewn gwirionedd, o ran y dull gweithredu o ran adnewyddu economaidd—ateb Plaid Cymru i bopeth yw sefydlu cwango newydd, asiantaeth ddatblygu newydd, ond rydym wedi bod yn grymuso busnesau cartref yng Nghymru drwy'r banc datblygu, wedi buddsoddi £1 biliwn ers 2017 i ddiogelu 50,000 o swyddi. Rydym yn darparu ein cynlluniau cymorth busnes a strategaeth arloesi genedlaethol—mae hynny i gyd eisoes yn cynhyrchu busnesau ac allforion newydd. Ac er bod Plaid Cymru yn cynnig Bil tegwch economaidd a bargen newydd werdd Cymru, rydym ni eisoes yn gwneud hyn; rydym ni eisoes ar y daith honno tuag at sero net. Rydym wedi buddsoddi dros £270 miliwn o'r gwasanaeth ynni, 50 MW o offer ynni adnewyddadwy wedi'u gosod, 1.1 miliwn tunnell o garbon deuocsid wedi'i osgoi, ynghyd â'r gefnogaeth uchaf erioed ar gyfer dros 230 o brosiectau datgarboneiddio drwy'r gwasanaeth ynni hwnnw. Felly, mae llawer o hyn eisoes yn digwydd.

Ac rwy'n falch iawn o gydnabod pwysigrwydd mentrau cymdeithasol yma yng Nghymru. Rydym yn darparu cyllid craidd ar gyfer cymorth mentrau cymdeithasol i Cwmpas ac i Gwmnïau Cymdeithasol Cymru i gefnogi a darparu cymorth busnes arbenigol pwrpasol i fentrau cymdeithasol yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, rydym yn darparu cyllid tuag at brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru, ac mae hynny'n darparu, unwaith eto, gyngor arbenigol ar gyfer mentrau cymdeithasol ac yn gweithredu ochr yn ochr â Busnes Cymru hefyd. Felly, rydw i wir eisiau cydnabod pwysigrwydd perchnogaeth gweithwyr. Byddwch wedi gweld ein bod wedi rhagori ar ein targed ar gyfer busnesau sy'n eiddo i weithwyr yma yng Nghymru, ac mae'r pwynt ehangach hwnnw ynglŷn â chadw'r gwerth yma yng Nghymru yn rhywbeth yr ydym yn ei gydnabod yn llwyr drwy, er enghraifft, sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru, yr unig gwmni yn eiddo i Gymru, i sicrhau bod y manteision o'r prosiectau ar y safleoedd hynny yn cael eu cadw yma i bobl yng Nghymru.

16:35

Roeddwn i'n falch o glywed beth oedd gennych i'w ddweud, Ysgrifennydd Cabinet, ynglŷn â Tata. Roeddwn i ar safle Llanwern yr wythnos diwethaf, mewn gwirionedd, yn edrych o gwmpas ffatri Zodiac, sydd o'r radd flaenaf o ran darparu dur i'r diwydiant modurol. Gwnaethpwyd argraff arbennig arnaf gan ymrwymiad y gweithlu, yr undebau llafur a'r rheolwyr yn Llanwern i ddyfodol Llanwern, nid yn unig o ran cadw'r hyn sydd yno, ond datblygu'r gweithgareddau dur. Rwy'n credu mai oedran cyfartalog y gweithlu nawr yw'r 30au cynnar, felly mae'n wahanol iawn i'r hyn rydym ni, efallai, wedi arfer ag ef yn y gorffennol, ac, yn amlwg, mae'r gweithlu eisiau gweld dyfodol hirdymor i'r diwydiant dur yn Llanwern. Rhan o hynny, Ysgrifennydd Cabinet, yw ceisio buddsoddi ymhellach. Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng yr undebau llafur a Tata, ac mae hwnnw'n ceisio buddsoddiad pellach ar safle Llanwern mewn llinellau prosesu i adeiladu ar yr hyn sydd yno ac i helpu i fod yn rhan o'r pontio hwnnw i ddur gwyrdd. Felly, rwy'n siŵr, Ysgrifennydd Cabinet, y byddwch chi'n gweithio gyda Tata, gyda'r undebau llafur, gyda'r gweithlu, gyda Llywodraeth y DU, Cyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid allweddol eraill i wneud yn siŵr bod y buddsoddiad hwnnw'n digwydd mewn modd amserol ac yn darparu dyfodol cryf i Lanwern.

16:40

Rwyf eisiau gweld y dyfodol cryf hwnnw i Lanwern, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn clywed am oedran cymharol ifanc y bobl sy'n gweithio yno hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn, a dylai'r bobl ifanc hynny allu gweithio gyda hyder bod ganddyn nhw yrfa hirdymor a chyffrous o'u blaenau yn Tata yn Llanwern. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, a gallwn helpu i sicrhau hynny trwy gael y berthynas wirioneddol gydweithredol honno gyda Tata, gyda'r undebau, gyda'r awdurdod lleol a gyda chi'ch hun, wrth gwrs, fel y cynrychiolydd lleol, i sicrhau ein bod yn clywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n gweithio yn Llanwern.

Rwy'n credu bod y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod dur fel rhan sylfaenol o'i strategaeth ddiwydiannol yn bwysig iawn. Mae'n dangos pwysigrwydd cenedlaethol dur i'r Deyrnas Unedig, felly rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol gadarnhaol. Wrth gwrs, bydd y strategaeth ddur, yr ydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU arni, yn bwysig iawn, gan sicrhau bod y cyllid a ddaw o'r gronfa gyfoeth wladol, er enghraifft, yn cael ei fuddsoddi yn y sector dur yma yng Nghymru. Felly, rydym ni eisiau gweithio gyda Tata, gydag eraill, i sicrhau bod prosiectau'n dod ymlaen i wneud y mwyaf o'r cyfle pwysig a chyffrous hwnnw ar gyfer buddsoddi.

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i wir eisiau codi mater y soniodd Luke amdano, sef sut i fod â pholisi economaidd a dull economaidd sydd o fudd i bawb yma yng Nghymru. Mae angen i ni gefnogi'r busnesau hynny sy'n gymdeithasol gyfrifol. Mae angen i ni edrych ar sut rydym yn rheoli pontio teg i sero net, ac yn sicr dylai ein ffocws fod ar dwf economaidd nid fel diben ynddo'i hun, oherwydd mae angen iddo godi pobl allan o dlodi ac mae angen iddo amddiffyn ein planed.

Yn eich datganiad, yr wyf yn diolch i chi amdano, nid oes unrhyw beth yno sy'n cyfeirio at y mater ynghylch tlodi a thlodi plant, y cyfeiriodd Luke ato. Rydym yn gwybod mai un o'r prif faterion yno yw darparu gofal plant am ddim a fforddiadwy, sy'n codi pobl allan o dlodi, oherwydd gallwn gael rhieni yn ôl i'r gwaith a gallwn sicrhau bod y plant hynny'n cael y cyfleoedd i wneud cystal ag y gallant yn yr ysgol a gall y teuluoedd hynny gael mwy o incwm. Felly, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed lle rydych chi'n gweld gofal plant a'r mater ynghylch tlodi plant yn ffitio i mewn i fodel o ffyniant economaidd yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cwestiynau yna. Pryd bynnag y mae'r Prif Weinidog yn siarad am dwf economaidd a swyddi, mae hi bob amser yn siarad am swyddi da a thwf gyda phwrpas. Felly, mae'n ymwneud â thwf cyfrifol yn gymdeithasol. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n tyfu'r economi, ein bod ni'n ei wneud mewn ffordd sydd â phobl a'r blaned yn ganolog iddo. Dyna ein dull ni, yr wyf yn gobeithio ei ddangos trwy ein cenhadaeth economaidd, sy'n nodi pwysigrwydd datgarboneiddio a phwysigrwydd cyfle i bawb.

Mae rhywfaint o'r gwaith rydym ni'n ei wneud gyda Llywodraeth y DU eto ar y cynlluniau treialu hynny, o ran cael cefnogaeth y bobl sydd bellaf o'r farchnad lafur i waith, rwy'n credu ei fod yn wirioneddol bwysig i wneud yn siŵr bod cyfle i bawb, ochr yn ochr, wrth gwrs, â'r gwaith rydym ni'n ei wneud ar y warant i bobl ifanc, Unwaith eto, mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y cyfle i fynd i mewn i gyflogaeth. Mewn gwirionedd, mae gennym rai enghreifftiau da iawn o rai pethau arloesol rydym ni'n eu gwneud gyda phobl ifanc, yn enwedig i wneud yn siŵr nad ydyn nhw, a hwythau'n ifanc, yn gadael yr ysgol neu'r coleg ac yn cael eu hunain mewn sefyllfa o fod allan o waith, oherwydd mae hynny'n mynd i fod yn anodd iawn wedyn ar ôl cyfnod i ddechrau bywyd mewn cyflogaeth.

Felly, mae rhaglen Syniadau Mawr Cymru yn gyffrous iawn; mae honno'n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu syniadau mawr ynghylch sut y gallai eu gyrfaoedd edrych yn y dyfodol, ond hefyd helpu gyda rhai o'u syniadau mwyaf arloesol. Hefyd, rydym yn gallu darparu grantiau o hyd at £2,000 i bobl ifanc os ydyn nhw'n ceisio mynd yn ddi-waith, o bosibl i gael rhywfaint o'r offer neu'r profiad neu'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt hefyd os oes ganddynt yrfa benodol mewn golwg, a fyddai angen rhywfaint o gymorth ychwanegol dim ond i gael y busnes hwnnw ar ei draed ar eu cyfer nhw.

Hefyd, mae'r pwynt difrifol hwnnw ynghylch gofal plant yn gwbl ganolog i sicrhau bod pobl yn gallu mynd i waith. Rydym yn gwybod mai un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud o ran codi plant allan o dlodi yw sicrhau eu bod yn tyfu i fyny mewn aelwydydd lle mae gan eu rhieni incwm da ac yn cael eu cyflogi, yn gallu ysbrydoli'r bobl ifanc hynny wedyn i fynd i gyflogaeth yn y dyfodol hefyd. Felly, rydym ni'n ei gydnabod am bob math o resymau o ran pam ei fod mor bwysig. Rydym ni bob amser wedi bod yn falch iawn o'r gwaith rydym ni wedi bod yn ei wneud yma yng Nghymru i flaenoriaethu ein cynnig gofal plant, ond rydym ni'n bendant yn gwybod bod mwy y mae angen i ni ei wneud yn y maes penodol hwnnw. Ond nid ydym yn ei weld fel rhywbeth ar ei ben ei hun; rydym yn ei weld yn rhan o'n strategaeth ar gyfer yr economi yn gyffredinol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45

Rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r etifeddiaeth economaidd. Roedd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU yn un o'r rhai mwyaf di-glem ac analluog yn economaidd y gallaf eu cofio yn fy mywyd. Ynghyd â thrychineb Brexit, rydym wedi etifeddu golygon economaidd difrifol iawn, iawn.

Ac rydym wedi gweld buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ym Mlaenau'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent. Rydym wedi gweld buddsoddiad o £2 biliwn, wrth gwrs, yn y ffordd ddeuol newydd sy'n cysylltu Blaenau Gwent a rhanbarth Blaenau'r Cymoedd â marchnadoedd pwysig ledled y Deyrnas Unedig. Ond yr hyn nad ydym wedi'i weld gan Lywodraeth Cymru yw cynllun swyddi i wneud y mwyaf o werth y buddsoddiad hwnnw. Fel y gwyddoch chi, nid wyf yn argyhoeddedig bod menter y Cymoedd gogleddol na'r Cymoedd Technoleg wedi cael eu cyflawni'n ddigon da gan Lywodraeth Cymru. Nid ydym wedi gweld digon o ysgogiad, nid ydym wedi gweld digon o uchelgais, ac nid ydym wedi gweld digon o gyflawniad gan Lywodraeth Cymru.

Felly, yr hyn yr hoffwn ofyn i chi y prynhawn yma yw: a fyddwch chi'n gweithio gyda mi ac aelodau eraill ym Mlaenau'r Cymoedd i gyflwyno cynllun swyddi a fydd yn grymuso cymunedau Blaenau'r Cymoedd ac yn sicrhau ein bod yn elwa ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, ac y gallwn greu swyddi a gyrfaoedd ac amgylchedd gweithgarwch economaidd bywiog ym Mlaenau'r Cymoedd i herio rhannau eraill o Gymru a'r Deyrnas Unedig?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau yna, ac wrth i'r Aelod siarad, roeddwn i'n clywed llefarydd y Ceidwadwyr yn gweiddi, fel maen nhw bob amser, am adael y Llywodraeth gyda'r twf uchaf yn y G7. Ond mewn gwirionedd mae data'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod gan y DU un o'r perfformiadau economaidd gwannaf o unrhyw wlad G7 rhwng 2019 a 2023, a dyna'r pedair blynedd galendr lawn ddiwethaf a oedd o dan ofal Lywodraeth flaenorol y DU. Rwy'n credu bod hynny'n llawer mwy cynrychioliadol o dwf yn hytrach na chwarter penodol hefyd, felly rwy'n credu y gallwn ni gadw hynny mewn cof hefyd.

Felly, roedd y pwyntiau pwysig yr oedd yr Aelod yn eu gwneud yn ymwneud â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ffordd Blaenau'r Cymoedd. Rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn bwysig iawn wrth agor y rhan honno o Gymru yn strategol ar gyfer cyflogaeth, ac rwy'n derbyn yr her sydd wedi'i gosod o ran y gwaith sydd wedi bod yn digwydd. Yn amlwg, mae llawer wedi digwydd, yn enwedig wrth edrych ar beth mwy y gallwn ei wneud o ran eiddo, oherwydd rydym ni'n gwybod bod angen y safleoedd masnachol hynny, safleoedd eiddo, i fusnesau leoli ynddynt er mwyn creu'r swyddi hynny yn yr ardal, ac mae'n rhywbeth rydym ni'n edrych yn fanwl iawn arno.

Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod wedi gofyn am rywfaint o waith i'w wneud ar ei gais, a oedd yn edrych ar fenter y Cymoedd gogleddol a'r Cymoedd Technegol, a'r hyn y gallwn ei wneud, gan weithio gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd, i ddod â'r gwaith hwnnw'n agosach at ei gilydd mewn ffordd gydlynol. Ond rwy'n barod iawn, iawn i gael y drafodaeth bellach honno ynglŷn â beth mwy y gallwn ei wneud i ddatgloi swyddi yn ardal Blaenau'r Cymoedd, gydag Alun Davies ac Aelodau eraill sydd â buddiant.

16:50

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Eitemau 9 a 10 sydd nesaf. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) a'r penderfyniad ariannol sydd yn ymwneud â'r Bil yma yw'r eitemau o dan 9 a 10, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod yna Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10, yr egwyddorion a'r penderfyniad ariannol, yn cael eu grwpio i'w trafod gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

9. & 10. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, fe wnaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol nawr i wneud y cynigion. Julie James.

Cynnig NDM9094 Julie James

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).

Cynigiwyd y cynnig.

Ymddangosodd y cynnig canlynol ar yr agenda o dan eitem 10:

Cynnig NDM9095 Julie James

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Rwy'n cynnig y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, ond ar ôl ystyried yn ofalus, ni fyddaf yn cynnig y penderfyniad ariannol heddiw. Byddai argymhellion y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yr wyf wedi'u derbyn yn arwain at newidiadau sylweddol i Ran 2 o'r Bil.

Yn benodol, byddai'r darpariaethau sy'n gosod y paramedrau y mae'n rhaid i aelodau lleyg y pwyllgor safonau weithredu ynddynt ar hyn o bryd yn cael eu dileu a'u gadael bron yn gyfan gwbl i ddisgresiwn Senedd yn y dyfodol trwy Reolau Sefydlog. Mae gwelliannau ar y sail hon yn creu ansicrwydd ychwanegol sylweddol ynghylch y costau amcangyfrifedig a nodwyd ar hyn o bryd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Credaf fod angen mwy o waith i ddarparu sicrwydd ynghylch cywirdeb y ffigurau hynny cyn cytuno ar y penderfyniad ariannol. Fy mwriad yw cyflwyno'r cynnig penderfyniad ariannol i'w ddadlau yn ddiweddarach, er mwyn caniatáu i drafodion Cyfnod 2 ddigwydd fel y trefnwyd ar hyn o bryd ar 12 Chwefror.

Felly, gan droi at sylwedd y ddeddfwriaeth, bydd y Bil hwn yn cryfhau ein prosesau safonau ac yn gwella atebolrwydd Aelodau i'r rhai yr ydym yn eu cynrychioli. Fel y dywedais sawl gwaith yn ystod y broses graffu Cyfnod 1, er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r Bil hwn, mae'n Fil sydd wedi'i gyflwyno ar ran y Senedd. Mae'r Bil yn adlewyrchu'r gwaith trawsbleidiol sylweddol sydd wedi'i wneud drwy ddau adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar atebolrwydd Aelodau unigol, a gyhoeddwyd y llynedd, ac mae'n cynrychioli esblygiad pellach yn ein democratiaeth seneddol.

Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hystyriaeth feddylgar o'r Bil a'r argymhellion a nodir yn yr adroddiadau. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i randdeiliaid am eu hymgysylltiad â'u gwaith chraffu ar y Bil.

Mae'r Llywodraeth wedi ceisio'n ffyddlon gyfieithu argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ddarpariaethau deddfwriaethol. Fodd bynnag, rwyf wedi bod ac yn parhau i fod yn agored i farn pwyllgorau ac Aelodau yn ystod craffu Cyfnod 1, ac ar y sail honno yr wyf wedi ymateb i adroddiadau'r pwyllgor. Felly, rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi gallu derbyn neu dderbyn mewn egwyddor y mwyafrif o argymhellion y pwyllgorau. Er fy mod wedi nodi rhai argymhellion, mae hyn er mwyn rhoi ystyriaeth bellach iddynt cyn y cyfnodau diwygio. Mae nifer o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a phwyllgor y Bil yn ymdrin â'r un materion neu faterion tebyg. Felly, yn fy sylwadau heddiw, byddaf yn ceisio tynnu'r materion hynny at ei gilydd yn hytrach nag ymdrin â'r adroddiadau ar wahân.

Felly, Llywydd, gan droi at yr argymhellion penodol, rwyf am ddechrau gyda'r rhai mewn perthynas â Rhan 1 o'r Bil ar adalw. Rwyf wedi derbyn argymhelliad pwyllgor y Bil a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y dylid gosod dyletswydd ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyhoeddi canllawiau adalw. Fodd bynnag, roeddwn i eisiau tynnu sylw at bwynt technegol, o ystyried mai dim ond ar ôl penderfyniad y Senedd y gellir cyhoeddi canllawiau. Byddaf yn paratoi gwelliant i osod gofyniad i'r pwyllgor osod canllawiau adalw drafft gerbron y Senedd. Argymhellodd pwyllgor y Bil a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd leihau'r trothwy er mwyn i'r Senedd gymeradwyo'r canllawiau adalw o fwyafrif o ddwy ran o dair i fwyafrif syml. Ar ôl trafod y ddau opsiwn yn fanwl yn ystod y craffu, gwnes yn glir y byddwn yn cael fy arwain gan farn y pwyllgor ac felly byddwn yn cyflwyno gwelliant ar y sail hon.

Mae argymhelliad 6 y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau yn gwneud yn glir pwysigrwydd ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid etholiadol ar ffurf y papur pleidleisio ar gyfer polau adalw. Wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, nodaf fod adran 11 o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol cyn gwneud y rheoliadau adalw, a fydd yn cynnwys papur pleidleisio enghreifftiol i swyddogion canlyniadau ei ddefnyddio mewn polau adalw. Byddwn hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ehangach ar y rheoliadau hynny, a byddaf hefyd yn ystyried sut y gellir cynnal y profion defnyddwyr gorau i sicrhau bod y papur pleidleisio yn glir ac yn ddealladwy i bleidleiswyr.

Llywydd, rwyf wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau i ymestyn rôl y bwrdd rheoli etholiadol i gwmpasu polau adalw, gan nodi'r dystiolaeth a ddarparwyd gan y bwrdd rheoli etholiadol i'r pwyllgor. Byddaf yn gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol i baratoi gwelliannau ar y sail honno.

Bydd yr Aelodau yn gwybod nad yw'r Bil ar hyn o bryd yn rhoi amser i apêl Aelod gael ei chlywed er mwyn diddymu euogfarn cyn i bôl adalw gael ei sbarduno. Rwyf wedi nodi casgliad pwyllgor y Bil ar sail yr ystod o dystiolaeth a gasglwyd ganddynt, ac yn amlygu i Aelodau bod y pwyllgor yn gwerthfawrogi'r rhesymeg dros alinio'r ddarpariaeth hon â mecanwaith ar gyfer anghymhwyso Aelod yn awtomatig. Dyma'r rhesymeg dros ddrafftio darpariaethau'r Bil, gan daro cydbwysedd rhwng cynnal tegwch tuag at yr Aelod, gan sicrhau bod y system adalw yn ymarferol ac yn effeithiol. Ar sail casgliad pwyllgor y Bil, rwyf wedi gwrthod argymhelliad 6 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a argymhellodd ganiatáu i apelau troseddol gael eu disbyddu cyn sbarduno pôl adalw.

Mae yna hefyd nifer fach o argymhellion eraill o ran adalw nad wyf wedi gallu eu derbyn. Rwyf wedi nodi'r argymhellion sy'n ymwneud ag adran 4 o'r Bil. Rwy'n cydnabod bod pwyllgor y Bil a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi dod i'r casgliad bod cysondeb rhwng canlyniadau euogfarn droseddol yn llysoedd Cymru a Lloegr a llysoedd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bwysicach na chreu gofynion hysbysu ar lysoedd lle roedd o fewn cymhwysedd y Senedd i wneud hynny. Rwy'n parhau i fod o'r farn, fodd bynnag, bod system hysbysu ar gyfer y llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn briodol mewn perthynas â digwyddiad sbardun adalw A, ond byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hyn cyn Cyfnod 2.

Byddai argymhelliad 13 yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gosod y ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y rheoliadau o dan adran 11. O ystyried bod rhwymedigaeth cyfraith gyhoeddus eisoes ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar reoliadau o'r fath, fel y dangosir gan yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn ymddygiad a basiwyd gan y Senedd yr haf diwethaf, nid wyf yn credu ei bod yn angenrheidiol creu rhwymedigaeth statudol ar yr un sail.

Mae pwyllgor y Bil a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn argymell ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 11. Rwy'n ymwybodol y gallai rhoi Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i wneud y rheoliadau greu tensiwn rhwng yr angen i Weinidogion gydymffurfio â'r ddyletswydd a disgresiwn y Senedd i gymeradwyo rheoliadau drafft a osodwyd gerbron. Felly, nid wyf yn ystyried ei bod yn angenrheidiol nac yn briodol i ddiwygio pŵer presennol i ddyletswydd.

Mae argymhellion 10 ac 11 adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cynnig y dylid rhoi unrhyw droseddau troseddol mewn perthynas â pholau adalw ar wyneb y Bil neu eu cyfyngu i'r rhai sydd eisoes yn bodoli yn y gyfraith. Nid wyf yn gallu derbyn yr argymhellion hyn. Ni fydd y rheolau ar gyfer pôl adalw yn cael eu datblygu nes bod y rheoliadau o dan adran 11 yn cael eu gwneud, felly nid yw'n bosibl ar hyn o bryd i benderfynu ar y troseddau penodol a fydd yn berthnasol. Fodd bynnag, rwy'n ystyried ei bod yn debygol iawn y bydd llawer o'r troseddau etholiadol troseddol presennol yn berthnasol.

Ac yn olaf, ar adalw, rwyf wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad y Pwyllgor Cyllid ar yr angen am adolygiad ôl-weithredu o'r system, ond credaf efallai na fydd o reidrwydd yn briodol i hyn gael ei nodi mewn deddfwriaeth neu fod yn gysylltiedig â'r defnydd cyntaf o arolwg adalw. Mae'r Bil eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weinyddu pôl adalw. O ystyried natur y Bil, credaf y dylai fod i'r Senedd benderfynu ar yr amser mwyaf priodol i gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol, ac mae o fewn ei phŵer i benderfynu pryd fyddai'r amser gorau ar gyfer hynny.

Llywydd, gan droi at Ran 2 o'r Bil, mae'r ddau bwyllgor wedi argymell y dylid gadael y lefel o bresgripsiwn a nodir yn adran 18 o'r Bil ynghylch y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac aelodau lleyg i raddau helaeth i Reolau Sefydlog. Rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i ystyried hyn ymhellach, a byddaf yn paratoi gwelliannau i gael gwared ar yr elfennau o bresgripsiwn.

Rwyf wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad 10 o'r pwyllgor Bil, sy'n nodi y dylai'r comisiynydd safonau fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg. Bydd fy swyddogion yn ymgysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg, a byddaf yn gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i baratoi gwelliannau i weithredu hyn.

Yna, gan droi at Ran 3 o'r Bil, sy'n ymwneud â'r mater o ddichell fwriadol, rwyf wedi bod yn glir yn ystod craffu bod creu trosedd newydd yn rhywbeth newydd ac yn gymhleth ac felly nid yw'n rhywbeth y dylid ei frysio. Rwyf hefyd wedi cydnabod, fel yr amlygwyd gan y pwyllgorau, yr angen am asesiadau llawn o effaith trosedd o'r fath ar y system gyfiawnder ac ar hawliau dynol, yn enwedig gan fod cydnawsedd â hawliau confensiwn yn elfen graidd o gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Bydd angen gwneud hyn fel rhan o'r gwaith parhaus i ddatblygu'r drosedd ochr yn ochr â rhanddeiliaid perthnasol.

Hoffwn ganmol eto y Pwyllgor Safonau Ymddygiad am eu gwaith ar hyn a'u hadroddiad a gyhoeddwyd fis Chwefror diwethaf. Roedd yn bwysig bod y Llywodraeth yn ystyried y dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor a'u hargymhellion. Dyna pam y penderfynodd Llywodraeth Cymru gyflwyno'r ddyletswydd i greu trosedd o'r fath, gan sicrhau y bydd y cynnydd o ran creu trosedd yn cael ei barhau gan Lywodraeth nesaf Cymru.

Nodaf fod y pwyllgor Bil a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi argymell diwygio'r Bil i gynnwys y drosedd yng Nghyfnod 2 ar sail ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, ond nad oeddent yn gallu dod i gonsensws ynghylch y ffordd ymlaen os nad oedd hynny'n bosibl. Felly, rwyf wedi ymrwymo i ystyried ymhellach ddichonoldeb a goblygiadau cyflwyno gwelliant cyn Cyfnod 2.

Yn olaf, rwyf wedi nodi argymhelliad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ymwneud â diweddariad ar gydsyniadau Gweinidog y Goron sydd eu hangen ar gyfer y Bil, ac rwyf wedi dweud yn fy ymateb y byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgorau gyda diweddariad yn wythnos gyntaf mis Chwefror.

Llywydd, edrychaf ymlaen at gwestiynau'r Aelodau heddiw ac at graffu parhaus ar y Bil wrth i ni symud i gyfnodau diwygio, pe bai'r Aelodau yn cytuno ar y cynnig egwyddorion cyffredinol yr wyf yn ei gynnig heddiw. Diolch.

17:00

Diolch. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud na fydd hi'n cynnig y penderfyniad ariannol. Felly, mae'r ddadl hon bellach ar y cynnig egwyddorion cyffredinol yn unig, er y gall Aelodau, wrth gwrs, gyfeirio at y penderfyniad ariannol os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Os cytunir ar yr egwyddorion cyffredinol y prynhawn yma, bydd y Bil yn mynd i Gyfnod 2 yfory a gellir cyflwyno gwelliannau. Fodd bynnag, ni chaniateir cynnal unrhyw drafodion nes bod y penderfyniad ariannol wedi'i gytuno.

Fel yr ydych newydd glywed y Cwnsler Cyffredinol yn cadarnhau, rhagwelir o hyd mai dyddiad cwblhau trafodion Cyfnod 2 fydd 13 Chwefror, a bydd angen cytuno ar y penderfyniad ariannol neu beidio cyn y dyddiad hwnnw. Mae hynny er mwyn i bawb fod yn glir ynghylch hyn. Fel y gwnaed yn glir, rwy'n cefnogi yn unig—. Ddim yn 'cefnogi', o reidrwydd. Rwy'n esbonio fy nehongliad o'r hyn a ddywedwyd gan y Cwnsler Cyffredinol.

Fe awn ymlaen at y ddadl. Ble ydw i'n mynd gyntaf? David Rees, sut allwn i eich anghofio chi? Cadeirydd y pwyllgor, David Rees.

Diolch, Llywydd. Cyn i mi ganolbwyntio ar adroddiad y pwyllgor yn dilyn ein gwaith craffu ar y Bil, ar ran aelodau'r pwyllgor hoffwn gofnodi ein diolch enfawr i dîm y pwyllgor am eu gwaith caled wrth gefnogi ein gwaith, yn enwedig o fewn yr amserlenni tynn yr oeddem yn gweithio iddynt. Heb eu hymdrechion, ni allem fod wedi ymgymryd â'n dyletswydd i'r lefel a gyflawnwyd gennym. A hefyd i'r tystion hynny a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor.

Ymlaen at y bil. Mae'n bwysig dechrau trwy ddweud bod nodau'r Bil, sef gwella atebolrwydd Aelodau'r Senedd i'r rhai sy'n eu hethol, a sicrhau bod ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd yn darparu gwybodaeth wir a gonest, yn bethau y dylem i gyd geisio eu cyflawni a'u cefnogi. Felly, fel pwyllgor, rydym i gyd yn cytuno y dylid cefnogi mecanweithiau cryfach i wella'r atebolrwydd hwnnw, yn enwedig oherwydd yr effaith y gallai hyn ei chael ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn y Senedd.

Serch hynny, mae'r pwyllgor yn pryderu am y cyflymder y mae'r Bil wedi'i ddatblygu a'i gyflymder wrth fynd drwy'r Senedd hon. Yn wir, ysgrifennasom at y Pwyllgor Busnes ddwywaith yn mynegi pryderon am yr amserlen heriol.

Yn ogystal, mae sylwadau a glywsom sef bod nifer fawr o bethau yn y Bil yn fan i ddechrau'r sgwrs ymhell o fod yr arfer deddfwriaethol gorau, a dim ond yn dangos bod rhaid i'r Biliau a gyflwynwyd gerbron y Senedd hon fod o ganlyniad i'r sgyrsiau hynny, nid fel dechrau'r sgyrsiau hynny.

Rhoddodd Daniel Greenberg, Comisiynydd Seneddol Safonau'r DU, bwyslais mawr ar bwysigrwydd hyder y cyhoedd a chyfranogiad y cyhoedd wrth ddiwygio'r gyfundrefn safonau, ond nid oedd y cynigion yn y Bil hwn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus o'r fath gan Lywodraeth Cymru, ac roedd ein hymgysylltiad ein hunain wedi'i gyfyngu gan yr amser a oedd ar gael ar gyfer craffu Cyfnod 1.

Wrth edrych ar yr adroddiad, fel yr amlygwyd, gwnaethom 11 argymhelliad a 18 casgliad, sy'n dangos ein safbwynt bod angen gwella'r Bil yn sylweddol. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei hymateb i'n hadroddiad a'i pharodrwydd i wneud rhai o'r newidiadau hynny yr ydym yn eu ceisio. Fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol eisoes, mae Rhannau 1 a 2 o'r Bil yn canolbwyntio ar gyflwyno system adalw a chryfhau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Ar Ran 1 o'r Bil, mae cefnogaeth gyffredinol i weithdrefn adalw fod ar gael i bleidleiswyr Cymru pe bai ymddygiad Aelodau'r Senedd yn siomi'r disgwyliadau o ran yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Fodd bynnag, cododd llawer o randdeiliaid bryderon am gyfyngiadau ar weithrediad system adalw o ganlyniad i'r system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig y byddwn yn ei gweithredu, yn enwedig y ffordd y bydd yr Aelodau sy'n cael eu hadalw yn cael eu disodli gan y person cymwys nesaf ar restr plaid wleidyddol, yn hytrach na thrwy isetholiad, sy'n gweithredu yn San Steffan ar hyn o bryd. Mae'r pwyllgor yn credu bod yn rhaid i ganllawiau ar gyfer polau adalw gydbwyso hyblygrwydd gyda'r angen am sicrwydd a thryloywder. Er mwyn gwella eglurder, dylai cyhoeddi canllawiau o'r fath fod yn orfodol, sydd wedi'i gynnwys yn ein hargymhelliad 3. Rwy'n falch iawn o glywed bod y Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu cyflwyno gwelliant i osod gofyniad o'r fath ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i osod canllawiau adalw drafft, gan adael y penderfyniad terfynol i'r Senedd.

Mae gofyniad presennol y Bil am ddwy ran o dair hefyd wedi'i gydnabod, ac mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cytuno i'r argymhelliad i newid hynny mewn gwelliant. Unwaith eto, rydym ni'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Bydd llawer o'r manylion sy'n ymwneud â chynnal pôl adalw yn cael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan adran 11 o'r Bil. Pumed argymhelliad ein pwyllgor yw y dylid diwygio'r Bil fel bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud y rheoliadau hyn, yn hytrach na'u galluogi i wneud hynny. Clywais yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn ei chyfraniad agoriadol ei bod yn gwrthod yr argymhelliad hwn, gan ddweud nad oedd o'r farn bod angen gwelliant o'r fath oherwydd nad yw 'gall' yn wir ddisgresiwn, oherwydd os nad oes unrhyw reoliadau yn cael eu gwneud, bydd y Ddeddf, os caiff ei phasio, yn dod yn anymarferol. Ond rydym yn gweld Biliau lle mae Gweinidogion yn cael eu rhoi o dan ddyletswydd i gyflwyno rheoliadau, felly byddwn yn croesawu eglurhad ar pam y gall 'rhaid' ymddangos mewn Biliau eraill, ond nid hwn.

Mae llawer o'r darpariaethau yn Rhan 2 o'r Bil yn rhagnodi sut y dylai'r drefn safonau weithredu, a daeth y pwyllgor i'r casgliad bod gweithdrefnau'r Senedd yn fater i'r Senedd. Rhaid sicrhau lleiafswm o unrhyw gyfyngiadau a osodir mewn deddfwriaeth ar allu'r Senedd i ddylunio ei strwythurau ei hun.

Er bod y pwyllgor yn croesawu'r ysbryd y mae adran 18 wedi'i drafftio ynddo, credwn ei bod yn rhy ragnodol ac yn groes i egwyddorion hirsefydlog ynghylch hunanreoleiddio seneddau. Felly, mae wythfed argymhelliad y pwyllgor yn nodi pa ddarpariaethau yr ydym yn credu y dylid darparu ar eu cyfer yn y Bil, gan gynnwys sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad gorfodol, gan alluogi aelodau lleyg i gael eu penodi i bwyllgorau'r Senedd wrth ystyried materion sy'n ymwneud â safonau ymddygiad, a darpariaeth sy'n gwahardd pobl benodol rhag cael eu penodi fel aelodau lleyg. Nid ydym yn credu bod angen unrhyw ddarpariaeth arall ar hyn o bryd yn adran 18, a dylid diwygio'r Bil yn unol â hynny.

Yn olaf, gadewch i ni droi at Ran 3 o'r Bil—yr adran sydd wedi codi ymwybyddiaeth fwyaf yn y cyfryngau heddiw. Fel pwyllgor, rydym yn cytuno bod diogelu rhag lledaeniad bwriadol o gamwybodaeth yn bwysig i weithrediad priodol etholiadau a'n proses ddemocrataidd. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom adleisio teimladau'r Cwnsler Cyffredinol y byddai'n anodd canfod unrhyw un sy'n anghytuno â'r egwyddor o ddwyn i gyfrif y rhai y canfyddir eu bod wedi camarwain yn fwriadol er mwyn effeithio ar ganlyniad etholiad.

Fodd bynnag, mae cyflwyno trosedd sy'n gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau anwir neu gamarweiniol o ffeithiau yn ystod etholiad yn fater hynod ddifrifol a chymhleth iawn. Daeth y pwyllgor i'r casgliad y dylai darpariaeth mor arwyddocaol fod yn destun craffu a thryloywder y broses ddeddfwriaeth sylfaenol, ac nid ei gadael i Weinidogion Cymru ei chyflwyno drwy is-ddeddfwriaeth pan na ellir ei diwygio. Bydd naill ai'n cael ei dderbyn neu ei wrthod.

Mae'r pŵer a roddir i Weinidogion Cymru yn y Bil yn eang iawn. Nid yw'r Bil yn diffinio cwmpas gwaharddiad posibl, ei gynnwys, i bwy y byddai'n berthnasol, na pha amddiffyniadau fyddai ar gael i unigolion. Mae gwagle enfawr yn yr wybodaeth honno.

Rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith sy'n ofynnol i gyflwyno trosedd newydd ar wyneb y Bil hwn ac na wnaeth ymgynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron, y farnwriaeth na'r heddlu, er gwaethaf y ffaith ei bod wedi ymrwymo i ddeddfu yn y maes hwn 18 mis yn ôl. Nid yw'r diffyg ymgynghori a'r diffyg manylion yn y Bil yn dderbyniol ar gyfer cynnig a allai greu trosedd ddifrifol newydd gyda chanlyniadau a allai newid bywyd unigolion.

Mae ein hargymhelliad 11 yn glir. Rhaid i'r Llywodraeth ddrafftio darpariaethau manwl ar gyfer y drosedd arfaethedig, ymgynghori'n eang, gan gynnwys gyda'r rhai y mae'n debygol yr effeithir arnynt, megis yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, cynnal a chyhoeddi asesiadau effaith cyfiawnder a hawliau dynol, a chyflwyno gwelliannau cynhwysfawr yng Nghyfnod 2 fel bod manylion llawn y drosedd ar wyneb y Bil.

Os na ellir gwneud hyn mewn pryd ar gyfer trafodion Cyfnod 2, neu os ystyrir nad yw'r gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2 yn ddigonol, mae mwyafrif y pwyllgor yn argymell y dylid dileu adran 22 o'r Bil cyn Cyfnod 4 er mwyn caniatáu i waith pellach ar y mater gael ei symud ymlaen mewn deddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol.

Wrth ymateb i'n hadroddiad, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod creu trosedd newydd yn fater newydd a chymhleth ac nad yw'n rhywbeth y dylid ei frysio, ac rydym yn cytuno â hynny. Mae'n dweud y bydd yn ystyried goblygiadau dichonoldeb ymgymryd â'r gwaith hwn mewn amser i fewnosod y drosedd yn y Bil trwy welliannau Cyfnod 2. Clywais yr hyn a ddywedodd, ond gofynnaf i'r Cwnsler Cyffredinol nawr gadarnhau y bydd hi'n cyflwyno gwelliant i ddileu adran 22 o'r Bil.

Rwyf am gloi drwy atgoffa'r Senedd o argymhelliad 1 yn ein hadroddiad. Os yw'r Senedd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn symud ymlaen i gyfnod nesaf y broses, mae angen diwygio a gwella pob Rhan o'r Bil cyn iddo gael ei basio yng Nghyfnod 4 a'i ddeddfu.

17:05

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nesaf—Mike Hedges. 

17:10

Diolch, Llywydd. Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 23 Rhagfyr, gan ddod i bum casgliad a gwneud 18 argymhelliad.

Mae hwn yn Fil o arwyddocâd a phwysigrwydd cyfansoddiadol sylweddol. Croesewir ei nod cyffredinol o wella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ymddygiad cynrychiolwyr etholedig, ac felly'r broses ddemocrataidd. Fodd bynnag, am y rhesymau hynny, dylai llawer mwy o amser fod ar gael ar gyfer craffu Cyfnod 1. O ystyried nod y Bil, mae'n anffodus bod ymgynghoriad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn gyfyngedig ac nad oes digon o amser i bwyllgorau ymgysylltu â'r cyhoedd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.

Wrth geisio bwrw ymlaen yn gyflym, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhai darpariaethau nad ydynt wedi cael eu hystyried yn llawn. Arweiniodd hyn i ni fynegi pryder ynghylch y dull y mae wedi'i fabwysiadu a gyda rhai o'r dulliau o ddeddfu y mae'r Bil yn eu mabwysiadu, fel ei fod yn peryglu torri'r hyn y mae'r pwyllgor yn ei ystyried yn egwyddorion deddfu da. Yn ein barn ni, dylid cyfieithu nod polisi canmoladwy i ddeddfwriaeth sy'n cyflawni'r nod hwnnw'n effeithiol. Ni fyddai cael deddfwriaeth ar y llyfr statud yn unig, ni waeth beth fo'i ansawdd neu ei effeithiolrwydd, i hyrwyddo'r nod hwnnw, yn gyfrifol a byddai perygl iddo fod yn wrthgynhyrchiol.

Os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, credwn y dylid diwygio'r Bil yn sylweddol i liniaru rhai o'n pryderon ac i ddod ag ef yn agosach at yr egwyddorion cyfansoddiadol sefydledig. Yn hynny o beth, hoffwn ganolbwyntio ar adrannau 11, 18 a 22 o'r Bil.

Mae adran 11 yn hanfodol i weithrediad system adalw'r Bil. Mae'r pwyllgor yn pryderu am ehangder y pŵer gwneud rheoliadau sydd ynddo, gan wneud saith argymhelliad o ganlyniad. Eu pwrpas oedd naill ai cryfhau adran 11 neu geisio esboniad ar sut y gellid defnyddio'r pwerau, ystyriaeth allweddol i'r pwyllgor hwn ac un o bwysigrwydd sylweddol o ystyried y bydd y pŵer yn cael ei arfer yn y Senedd nesaf. Yn benodol, mae adran 11(3)(c) yn caniatáu creu troseddau newydd drwy reoliadau. Nid yw hyn yn briodol. Dylai troseddau newydd gael eu creu trwy ddeddfwriaeth sylfaenol, safbwynt sy'n gyson â rhai ymarferwyr seneddol nodedig. Felly, fe wnaethom argymell y dylid diwygio'r Bil i gynnwys ar ei wyneb unrhyw droseddau newydd a fyddai'n berthnasol mewn perthynas â pholau adalw. Os mai'r bwriad yw peidio â chreu troseddau newydd, rydym yn argymell y dylai'r troseddau y cyfeirir atynt yn adran 11(3)(c) gael eu cyfyngu i droseddau sydd eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth. Rydym yn siomedig gan ymateb y Cwnsler Cyffredinol i'r argymhellion hyn ac nid ydym yn gweld ei dadleuon yn argyhoeddiadol.

Nododd adroddiad y pwyllgor fod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud yn aml na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn dweud wrth y Senedd sut i gynnal ei busnes, a honnodd nad oedd yn wedd dda ar unrhyw ddemocratiaeth. Fodd bynnag, nid yw'r farn honno wedi'i chyfieithu i ddrafftio adran 18 o'r Bil, sy'n rhy ragnodol ynghylch sut y dylai'r Senedd reoli ei materion ei hun. O ganlyniad, fe wnaethom argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol gyflwyno gwelliannau i adran 18 fel ei bod yn gwneud darpariaeth ar gyfer pwyllgor safonau ymddygiad yn unig ac y gellir penodi pobl nad ydynt yn Aelodau o'r Senedd i'r pwyllgor hwnnw fel aelodau lleyg.

Yn olaf, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch adran 22 o'r Bil. Mae'r adran hon yn darparu pŵer eithriadol o eang sy'n galluogi Gweinidogion Cymru mewn Llywodraeth yn y dyfodol i greu, trwy reoliad, drosedd newydd sy'n gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau anwir neu gamarweiniol o ffeithiau cyn neu yn ystod etholiad. Nid yw'n darparu unrhyw ddiffiniad o gwmpas unrhyw drosedd nac i bwy a sut y byddai'n berthnasol. Rydym yn ystyried bod y dull hwn yn amhriodol yn gyfansoddiadol. Fel yr ydym wedi nodi eisoes, dylid darparu ar gyfer creu trosedd newydd mewn deddfwriaeth sylfaenol.

Felly, gwnaethom ddau argymhelliad. Argymhelliad 16 yw bod y Cwnsler Cyffredinol yn cyflwyno gwelliant i ddileu adran 22 o'r Bil ac yn lle hynny gosod y drosedd newydd ar wyneb y Bil trwy welliant yn nhrafodion Cyfnod 2. Mae argymhelliad 17 yn nodi sut y dylid cyflawni hynny. Os nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cyflwyno'r gwelliannau hyn, mae mwyafrif y pwyllgor o'r farn y dylid tynnu adran 22 o'r Bil. Diolch, Lywydd.

Diolch, Llywydd, a diolch am y cyfle i gael cyfrannu i'r ddadl yma heddiw. Dwi'n nodi bod y Cwnsler Cyffredinol wedi cadarnhau bod adolygiad o'r costau yn mynd i ddigwydd cyn y financial resolution ac, fel pwyllgor, byddem ni'n disgwyl clywed goblygiadau hynny cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu ystyried hynny a'r implications o hynny ac o'r costau hynny.

Ond fe wnaethon ni archwilio goblygiadau ariannol y Bil gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar 20 Tachwedd ac mae ein hadroddiad yn cynnwys pum argymhelliad. O'r pedwar argymhelliad i Lywodraeth Cymru, rwy'n falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn tri argymhelliad yn llawn ac un mewn egwyddor.

Mae nodau'r Bil o wella ymddiriedaeth y cyhoedd wrth gyflwyno mecanwaith adalw a chryfhau'r broses safonau yn ddiwygiadau pwysig, ond maent yn dod â heriau cynhenid. Yn benodol, mae amcangyfrif costau ar gyfer system adalw newydd gyda fframwaith etholiadol diwygiedig yn gymhleth. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fod y rhagdybiaethau sy'n sail i'r amcangyfrif cost o oddeutu £275,000 fesul pôl adalw yn cael eu llywio gan ymgysylltiad â rhanddeiliaid, ond wedi'u cyfyngu gan ddata hanesyddol cyfyngedig. Rydym yn cydnabod yr ansicrwydd, ond credwn fod yr amrediadau cost eang a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn fan cychwyn rhesymol.

Mae darpariaethau caniataol y Bil ar gyfer penodi aelodau lleyg i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad hefyd yn creu ansicrwydd sylweddol o ran mesur yr effaith ariannol. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn cynnwys amrediadau costau blynyddol eang o rhwng sero a thua £87,000, sy'n adlewyrchu pethau anhysbys ynghylch y defnydd o'r pŵer, faint o aelodau lleyg y gellir eu penodi a'u cydnabyddiaeth ariannol. Er ein bod yn ystyried bod y risg wedi'i lliniaru'n briodol ar hyn o bryd, byddem yn disgwyl diwygiadau i'r asesiad effaith rheoleiddiol, pe bai'r Bil yn cael ei ddiwygio yn ystod y cyfnodau deddfwriaethol sy'n weddill, i gynnwys fframwaith gorfodol ar gyfer aelodau lleyg. Dyna pam rydym yn argymell bod y Cwnsler Cyffredinol yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn parhau i fod yn gywir ac yn adlewyrchu unrhyw welliannau i'r Bil, ac rwy'n nodi bod y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r dull hwn.

Nododd tystiolaeth ysgrifenedig gan y Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd hefyd sefydlu gofynion cymorth parhaus i aelodau lleyg. Hoffem ddeall goblygiadau ariannol ymgymryd â'r gweithgareddau hyn, ac argymell bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei adolygu i gynnwys costau amcangyfrifedig cysylltiedig. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiwn y Senedd i asesu'r costau hyn a diwygio'r asesiad effaith rheoleiddiol yn unol â hynny.

Er mwyn darparu'r tryloywder mwyaf, rydym hefyd yn galw i gostau sy'n gysylltiedig ag aelodau lleyg gael eu cofnodi o dan linell gyllideb benodol yng nghyllideb Comisiwn y Senedd, ar wahân i'r comisiynydd safonau. Bydd hyn yn galluogi'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau perthnasol eraill i fonitro gwariant a hwyluso craffu effeithiol ar gostau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Bil. Rydym yn croesawu ymateb cadarnhaol Comisiwn y Senedd i'r argymhelliad hwn.

Gan droi at y pŵer newydd i'r comisiynydd safonau gychwyn ymchwiliadau heb gŵyn ffurfiol, nodwn nad yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi unrhyw gostau ychwanegol, ac er ein bod yn derbyn bod yr ymchwiliadau hyn yn debygol o fod yn brin, gallai hyn fod yn gofyn am amser staff a dadleoli gwaith arall. Rydym yn falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn ein hargymhelliad i weithio gyda Chomisiwn y Senedd a'r comisiynydd safonau i asesu'r costau cyfle sy'n gysylltiedig â'r pŵer hwn, a diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol yn unol â hynny.

Llywydd, rydym yn pryderu am amseriad eithriadol y Bil hwn. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi egluro y gallai unrhyw oedi beryglu ei daith drwy'r Senedd. Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd bodloni'r amserlen ddeddfwriaethol, gallai cyfnod craffu cywasgedig beryglu cadernid y Bil, gan gynnwys yr amcangyfrifon ariannol sy'n ei ategu, a gallai hyn arwain at heriau yn ystod y broses o'i weithredu. Credwn fod cynnal adolygiad ôl-weithredol strwythuredig yn hanfodol o ran sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu yn unol â'r bwriad ac yn darparu gwerth am arian.

Dyna pam dŷn ni yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i gynnwys gofyniad statudol ar gyfer cynnal adolygiad o'r fath, a gaiff ei sbarduno gan y defnydd cyntaf o'r bleidlais adalw. Dylai'r adolygiad hwn gynnwys asesiad o'r costau a'r buddion gwirioneddol sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth. Er bod y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r egwyddorion o ran adolygu'r system, mae'n destun siom nad yw hi'n ystyried bod yr adolygiad statudol yn angenrheidiol. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei datganiad wrth gynnig y Bil hwn heddiw. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Cadeiryddion sydd wedi siarad yn y ddadl hon hyd yn hyn, ac yn sicr rwyf eisiau cefnogi'r sylwadau a wnaed gan Gadeiryddion y pwyllgorau, yn enwedig ar yr heriau wrth ddrafftio ymateb i'r ddeddfwriaeth hon mewn cyfnod mor fyr. Byddwn yn annog Aelodau, os nad ydych wedi cael cyfle eisoes, i ddarllen yr adroddiadau a gynhyrchwyd gan y pwyllgorau ar y ddeddfwriaeth hon, oherwydd gyda'r cyfyngiadau amser oedd gennym fel aelodau pwyllgor, rwy'n credu bod yr hyn sydd wedi'i dynnu at ei gilydd yn eithaf rhyfeddol, mewn gwirionedd. Rwy'n ddiolchgar i'r clercod a staff y Senedd am eu cefnogaeth drwy hyn.

Ond rwy'n credu wrth ddweud hynny, mae'n drueni go iawn fod hyn wedi cael ei frysio, i fod yn onest, oherwydd mae'r ddeddfwriaeth hon yn deilwng o'r craffu llawn, ymgynghoriad cyhoeddus a gwaith paratoi y dylai unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth fod yn deilwng ohonynt. Mae'n drueni nad yw hyn wedi gallu digwydd ar yr un lefel ag y byddai'n digwydd yn achos deddfwriaeth arferol—[Torri ar draws.] A'i rhoi ar drywydd cyflym—. Yn sicr.

17:20

Dim ond ar y pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn â'r ffaith bod hwn y cael ei ruthro, mae'r Senedd hon wedi bod yn trafod y materion ynglŷn â hyn ers rhyw ddwy flynedd. Cymerodd y pwyllgor safonau gyfres sylweddol o sesiynau tystiolaeth, a eisteddais arnynt fel sylwedydd. Mae'r broses yn un ailadroddus, fel ym mhob deddfwriaeth. Rydym ni, heddiw, hanner ffordd drwy basio Bil mewn 48 awr. Mae seneddau trwy'r amser yn pasio Biliau ar wahanol amserlenni, felly rwy'n credu ei bod yn ormodiaith i ddweud ei fod yn cael ei frysio.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n syndod ynghylch y ffaith, fel y dywedwch, fod trafodaeth wedi bod ers amser maith, ond mae'r Llywodraeth wedi dewis, ar y funud olaf bosibl, i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, gan ystyried, felly, yr amserlen o ran gwelliannau ar ôl hynny. Rwy'n cytuno â'r pwynt fy mod yn synnu bod y Llywodraeth wedi dewis ar y funud olaf posibl i gyflwyno'r Bil hwn, a dylai fod wedi cael ei gyflwyno yn gynt, oherwydd nid yw'r ymgynghoriad ffurfiol wedi digwydd ar y ddeddfwriaeth hon, fel y byddech ac y dylech ei ddisgwyl. A'r risg, wrth gwrs, yw ei fod wedyn yn tanseilio rhan dda â bwriad da y Bil. Yn ei hanfod, mae'r Bil hwn yn ceisio ei nod syml ond hanfodol, sef cryfhau'r ymddiriedaeth rhyngom ni yma fel Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd yr ydym yn ei wasanaethu, ac rydym i gyd eisiau gweld yr ymddiriedaeth honno'n cryfhau.

Mae yna elfennau o'r ddeddfwriaeth hon y mae'r ochr hon o'r meinciau yn sicr yn eu cefnogi ac wedi galw amdanynt, yn enwedig ynghylch cyflwyno'r mecanwaith adalw. Fel y dywedais, mae'n rhywbeth rydym ni wedi galw amdano o'r blaen. Mae'n rhoi'r pŵer i etholwyr symud Aelod o'i swydd mewn achos o euogfarn neu gamymddwyn difrifol, ac mae'n gam arwyddocaol ac i'w groesawu. Mae'n wir y dylai'r etholwyr allu dal Aelodau sy'n eu cynrychioli i gyfrif pan fydd yr ymddiriedaeth honno yn cael ei thorri. Wrth gwrs, mae yna welliannau y dylid eu gwneud i'r rhan honno o'r cynnig hwn, ond, yn fras, mae'r hyn sydd wedi'i osod ger ein bron heddiw yn cael ei groesawu.

A'r ail Ran, yn fras, ynghylch cyflwyno'r pwyllgor safonau fel pwyllgor statudol—unwaith eto, mae cefnogaeth eang i hynny. Mae yna rai elfennau arwyddocaol o hynny, fodd bynnag, yr wyf yn meddwl—. Ac rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am nodi ac yn sicr derbyn nifer o'r argymhellion hynny ynghylch y mathau o aelodau lleyg a'r cyfyngiadau ar aelodau lleyg. Credaf y gallai fod perygl gwirioneddol pe bai cyn-wleidyddion yn eistedd ar y pwyllgor hwnnw fel aelodau lleyg o ran dangos gwir annibyniaeth meddwl a symud i ffwrdd o ymyrraeth wleidyddol o ran ymddygiad gwleidyddion y lle hwn. Bydd yr Aelodau yn nodi argymhelliad 8, yn benodol, yn adroddiad pwyllgor y Bil am y rhai na ddylid eu penodi yn aelodau lleyg, ac rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei hystyriaeth o hynny.

Mae pryder sylweddol, fodd bynnag, ynghylch trydedd ran y Bil hwn, adran 22. Mae'r nod hwn o amddiffyn pleidleiswyr rhag camwybodaeth fwriadol yn gwbl ddealladwy, ond gallai'r mesurau hyn gyfyngu ar ddadl gyfreithlon a thrafodaeth wleidyddol yn anfwriadol. Rydym ni wedi clywed hynny eisoes. Amlygodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yr angen am eglurder ar gymhwysedd deddfwriaethol a goblygiadau hawliau dynol, yn enwedig o ran cyfyngiadau ar lefaru yng nghyd-destun ymddygiad ymgeiswyr. Ac, wrth gwrs, mae cyflwyno unrhyw drosedd newydd, yn enwedig un sy'n ymwneud â rhyddid i lefaru a gweithrediad priodol ein system ddemocrataidd, yn fater difrifol iawn. Mae yna egwyddor gyfansoddiadol hirsefydlog y dylid cyflwyno troseddau newydd trwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn unig, lle gallant fod yn destun yr ymgynghoriad llawn hwnnw, y craffu llawn, asesiadau llawn a gwelliannau priodol. Ac nid yw hynny wedi digwydd gyda'r hyn sydd ger ein bron heddiw.

Ychydig o baramedrau sydd ynglŷn â chwmpas y gwaharddiad. Mewn gwirionedd, fel y mae adroddiad y pwyllgor yn amlinellu, nid yw'r rhan hon o'r ddeddfwriaeth sydd wedi'i drafftio'n wael yn diffinio cwmpas y gwaharddiad posibl, nid yw'n diffinio ei chynnwys, i bwy y byddai'n berthnasol na pha amddiffynfeydd fyddai ar gael i unigolion. Nid oes diffiniad o'r hyn sy'n gyfystyr â datganiad o ffaith, nac eglurder ynghylch yr hyn a olygir gan 'gwneud' neu 'cyhoeddi'. Mae'r Bil yn dawel o ran yr amserlenni ar gyfer gwaharddiad, y cyfnod ar gyfer cwynion, cwmpas y personau a gwmpesir ac a yw'r drosedd yn gofyn am wybodaeth neu fyrbwylltra. Yn fyr, mae adran 22 o'r Bil—os mai ei phwrpas yw cryfhau ymddiriedaeth yn y system ddemocrataidd, yna nid yw'r adran hon yn addas i'r diben hwnnw. Ac rwy'n credu, yn sicr, y dylid ei thynnu o'r Bil, yn enwedig gan ei bod yn peryglu meysydd o'r Bil sydd wedi'u hystyried yn drylwyr.

Fe ddof â'm sylwadau i ben, Llywydd. Credwn y dylai atebolrwydd fod yn effeithiol, yn gymesur ac yn gyflawnadwy yn ymarferol. O ran y mecanwaith adalw, credaf fod y Bil yn llwyddo. Ar fesurau eraill, mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau bod y cynigion yn cryfhau ymddiriedaeth, yn hytrach na chreu dryswch neu gymhlethdodau cyfreithiol diangen. Bydd y grŵp Ceidwadol yn cefnogi'r egwyddorion cyffredinol heddiw, ond byddwn yn sicr yn ceisio gwelliannau i'r Bil hwn yng Nghyfnodau 2 a 3, ac edrychwn ymlaen at unrhyw welliannau gan y Llywodraeth hefyd. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Rŷn ni'n prysur nesáu at foment drawsnewidiol yn hanes datganoli, a fydd yn gweld sylfeini ein democratiaeth yn dod i’w llawn oed o’r diwedd. Mae’n hollbwysig nad yw’r broses hon o ddiwygio cyfansoddiadol yn ymwneud yn unig â diweddaru strwythurau a systemau etholiadol, ond ei bod hefyd yn cael ei defnyddio i atgyfnerthu ymddiriedaeth pobl Cymru yn ein Senedd. Mae Plaid Cymru felly’n croesawu’n frwd fwriad cyffredinol y Bil hwn i gryfhau atebolrwydd gwleidyddion Cymru, rhywbeth sy’n bwysicach nag erioed ar adeg pan fo ffydd yn ein sefydliadau democrataidd yn dirywio ac ymdrechion ar droed gan rai ar y dde i danseilio eu dilysrwydd a’u gwerth.

Fodd bynnag, er bod y Bil hwn yn sicr yn gam cadarnhaol ymlaen o ran egwyddor, mae yna hefyd ymdeimlad o gyfle a gollwyd fan hyn, gan na welwn ei effeithiau tan ar ôl yr etholiad nesaf, gyda lefel sylweddol o fanylion o ran ei weithrediad eto i’w gweithio mas. Mae’n destun gofid gwirioneddol a siom, felly, fod oedi sylweddol wedi bod cyn cyflwyno’r Bil hwn, sydd yn ei dro wedi arwain at ddiffyg amser ar gyfer ymgynghori. Dyna pam rŷn ni yn annog y Llywodraeth i gyflwyno gwelliannau cadarn i adran 22 o Ran 3 o'r Bil, fel bod eu haddewid i greu trosedd o ddichell fwriadol yn cael ei anrhydeddu’n llawn ac mewn modd boddhaol. Dylai hyn gynnwys darpariaethau i fynd i’r afael â’r defnydd o dechnolegau megis deepfakes, sydd, fel y gwyddom, yn cael dylanwad cynyddol faleisus a pheryglus ar wleidyddiaeth ac ar ddisgwrs cyhoeddus.

Ac er ein bod yn gwerthfawrogi’n llawn gymhlethdod deddfu yn y maes hwn, fel rŷn ni wedi’i nodi sawl gwaith, ni allwn fforddio peidio â gweithredu o ran diogelu dyfodol ein Senedd, achos mae’r bygythiad a achosir gan ddemagogiaid y dde galed, a’r biliwnyddion sy'n eu cefnogi o'r cysgodion heb unrhyw atebolrwydd, sydd yn camarwain ac yn defnyddio camwybodaeth fel arf—i raddau brawychus yn y blynyddoedd diwethaf—bellach yn fygythiad sylweddol i'n Senedd. Ni fyddant yn petruso am eiliad cyn gwenwyno ein disgwrs gwleidyddol yn eu hymdrechion i danseilio ein democratiaeth. Felly, ni ddylem ninnau betruso wrth wrthsefyll eu celwyddau a’u dichell gyda mesurau cadarn, gan roi sicrwydd i bobl Cymru ein bod yn trin egwyddorion gwirionedd, gonestrwydd a thryloywder gyda’r difrifoldeb mwyaf yn y lle hwn.

Gan droi at agweddau eraill ar y Bil, rwy’n croesawu’r ffaith bod y Cwnsler Cyffredinol wedi cytuno i ddiwygio’r trothwy ar gyfer cyhoeddi canllawiau adalw o fwyafrif o ddwy ran o dair i fwyafrif syml. O ystyried y posibilrwydd real iawn y gallai plaid y dde galed sydd â hanes o anwybyddu safonau mewn bywyd cyhoeddus fod â phresenoldeb sylweddol yn y Senedd hon ar ôl yr etholiad nesaf, mae’n hanfodol nad ydynt yn cael unrhyw gyfle i rwystro mecanwaith effeithiol y trefniadau atebolrwydd newydd.

Ond gallai’r Bil fynd ymhellach yn hynny o beth. Er enghraifft, dylid tynhau’r rheolau ar gymhwystra person sydd wedi colli ei sedd o ganlyniad i bleidlais adalw i ddod yn Aelod o’r Senedd eto drwy gynnwys cyfnod anghymhwyso rhesymol. Byddai hyn yn sicrhau bod canlyniadau colli pleidlais adalw o’r fath yn cario pwysau gwirioneddol ac yn atal y revolving door yna yn ein system wleidyddol ar gyfer unigolion sydd wedi methu â chyrraedd y safonau y dylid eu disgwyl gan Aelod etholedig.

Rydym hefyd yn credu, os caiff canllawiau adalw eu cyhoeddi, y dylent gynnwys enghreifftiau penodol o ymddygiad a fyddai’n arwain at argymell y fath bleidlais, er enghraifft aflonyddu a thrais ar sail rhywedd, gan gydnabod yr heriau penodol y mae rhai grwpiau penodol o bobl, fel menywod, er enghraifft, yn eu hwynebu mewn gwleidyddiaeth.

Yn olaf, rwy'n croesawu'r ffaith fod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn yn amodol argymhelliad y pwyllgor y dylai’r comisiynydd safonau fod yn ddarostyngedig i Fesur y Gymraeg, a byddwn yn croesawu diweddariad ynghylch y trafodaethau hynny rŷch chi wedi'u crybwyll sy'n cael eu cynnal gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar y cyfle cyntaf.

Atebolrwydd a gwirionedd yw conglfeini unrhyw ddemocratiaeth iach, ac, fel rŷm ni wedi gweld ar draws rhai o ddemocratiaethau'r byd yn ddiweddar, ni allwn gymryd yn ganiataol y byddant yn para heb wyliadwriaeth a chefnogaeth barhaus. Mae’r Bil hwn felly’n rhoi cyfle hollbwysig inni ddiogelu, atgyfnerthu a chryfhau ein pensaernïaeth ddemocrataidd am flynyddoedd i ddod—cyfle y mae’n rhaid inni ei afael ynddo'n llawn, achos mae'r unfed awr ar ddeg eisoes yn taro. Diolch.

17:30

Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor arbennig am ei waith.

Rwyf am ei gwneud yn glir fy mod yn cyfrannu yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac, yn y rôl honno, roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau, pa mor fyr bynnag oedd hynny. Bydd fy nghyfraniad heddiw yn canolbwyntio'n bennaf ar y rhan adalw o'r ddeddfwriaeth arfaethedig ac, fel y bydd yr Aelodau'n debygol o ddisgwyl, yr agweddau ar y Bil sy'n ceisio cryfhau proses safonau ein Senedd yn ehangach. Mae gweithredu i sicrhau bod gan y Senedd y prosesau ar waith i gynnal uniondeb unigol a sefydliadol yn ganolog nid yn unig i waith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad; mae'n gonglfaen hanfodol i'n democratiaeth ddatganoledig. Dyna pam, yn ystod y misoedd diwethaf, ac yn yr wythnosau sy'n weddill yn y Senedd hon, fel pwyllgor, rydym wedi ymrwymo i'r hyn sy'n becyn o ddiwygio sydd â'r nod o adeiladu ymddiriedaeth a thryloywder yn ein prosesau, yn ein gwleidyddion ac yn ein gwleidyddiaeth. Rydym yn cydnabod bod angen newid i greu hyder yn y system wleidyddol, ac mae prosesau priodol yn hanfodol i hyn.

Gan droi yn gyntaf at yr agwedd adalw ar y ddeddfwriaeth, roedd y pwyllgor yn cytuno'n llwyr y dylid cyflwyno system adalw mewn pryd ar gyfer y seithfed Senedd ac y dylid teilwra hon ar gyfer Cymru a'r system y bydd gennym ar waith yn yr etholiad nesaf. Byddai'r pŵer hwn yn rhan allweddol o'r gyfundrefn safonau, gan ganiatáu i bobl Cymru gael dweud eu dweud ynghylch a ddylid caniatáu i unigolyn sydd wedi gweithredu mewn modd arbennig o anarferol barhau i'w cynrychioli. Mae'n rhan annatod o unrhyw broses safonau cryfach, a byddwn yn annog pob Aelod yn gryf i nid yn unig gefnogi hyn, ond i barhau i weithio ar y cyd i sicrhau bod gennym y ddarpariaeth hon ar waith mewn pryd ar gyfer y Senedd nesaf. Bydd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad rôl wrth gyhoeddi canllawiau adalw, fel yr ydym wedi clywed, y bydd yr Aelodau yn ymgynghori arnynt, ond, o ystyried pwysigrwydd hyn, ni ddylid ei adael i ffawd nac oedi, ac rwy'n croesawu'r argymhelliad i newid y trothwy cymeradwyo ar gyfer y canllawiau adalw o fwyafrif o ddwy ran o dair i fwyafrif syml, gan ei fod yn dod ag ef yn unol â materion safonau eraill.

Hoffwn nawr ganolbwyntio ar rai cynigion â rheswm da drostynt ac sydd i'w croesawu yn y Bil a fydd yn gwasanaethu i gryfhau proses safonau'r Senedd yn ei chyfanrwydd, ac, yn bwysig, eistedd ochr yn ochr â'r gwaith y mae fy mhwyllgor yn ei wneud ar hyn o bryd i atgyfnerthu agweddau ar y cod ymddygiad a'r offer sydd gennym yma yn y Senedd i fynd i'r afael yn well â materion sy'n ymwneud ag urddas a pharch. Gyda hynny mewn golwg, mae'r pwyllgor yn croesawu'r ddarpariaeth ar gyfer aelodau lleyg ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—rhywbeth a argymhellwyd gennym fel rhan o'r gwaith y mae angen i ni ei wneud ar atebolrwydd Aelodau unigol. Unwaith eto, mae hwn yn welliant i'n system ac yn un y credaf y dylem ni i gyd ei gefnogi ac y dylem fod yn mynd ati’n ddiymdroi yn gynnar yn y Senedd nesaf.

Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i bob Senedd sefydlu pwyllgor safonau ymddygiad mewn statud. Nid argymhelliad y pwyllgor safonau oedd hwn, ond mae croeso iddo i ddangos ymrwymiad cadarn i safonau ymddygiad a dylai fod yn sail i'r gyfundrefn safonau yn ei chyfanrwydd a gwneud ei arwyddocâd yn glir i ni yma. Ar hyn, argymhellodd y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau gyfyngu manylion deddfwriaethol i hanfodion, sy'n arfer da o ran deddfu mewn perthynas â'r Senedd.

I gloi, mae'n fraint cael fy ethol i'n Senedd i wasanaethu'r gymuned a fy ffurfiodd i, ond gyda'r fraint honno daw cyfrifoldeb nid yn unig mewn perthynas â'n gweithredoedd unigol ein hunain, ond i wneud popeth y gallwn gyda'n gilydd i sicrhau uniondeb y sefydliad yn ei gyfanrwydd. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb fel cyflogwyr. Nid cartref democratiaeth ddatganoledig yn unig yw hwn; mae'n weithle hefyd. Dylem fod eisiau iddo fod yn enghraifft wych o arfer gorau o ran y ddwy agwedd.

Mae'n ddrwg gennyf dorri ar eich traws tua diwedd eich araith. Rwyf ond eisiau profi rhywbeth gyda chi, gan fod hon yn ddadl Cyfnod 1. Yn benodol ar y cynnig i roi rhyddid i'r comisiynydd safonau lansio eu hymchwiliadau ei hun, a gefnogais fel sylwedydd ar y pwyllgor safonau, mae'n codi'r cwestiwn pa reolaethau sydd gan y pwyllgor safonau ar y comisiynydd petai hi'n dechrau ymddwyn yn annisgwyl a niweidiol. Bu pryderon am y comisiynydd presennol weithiau sef nad yw'n ymddwyn mewn ffordd y mae'r pwyllgor eu hunain yn gyfforddus â hi, ac mae hynny wedi'i adlewyrchu mewn adroddiadau. Os ydym yn mynd i ymestyn pŵer y comisiynydd hyd yn oed ymhellach, pa fesurau diogelu sy'n bodoli a pha rai y gallem eu hystyried i wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sydd o fewn lefelau sy'n bodloni'r Aelodau?

17:35

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad pan oeddwn yng nghanol fy araith, yna, tua diwedd fy—. Rwy'n credu ei fod yn—. Mae'n rhywbeth a drafodwyd yn ystod tystiolaeth y pwyllgor safonau, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i ddechrau, cyn i mi siarad, efallai, am y rheiliau gwarchod sydd ar waith, i ddatgan y rhesymeg y tu ôl i'r argymhelliad hwn. Rwy'n cofio, mewn trafodaethau yn y pwyllgor safonau, roedd gweledigaeth, efallai, o gomisiynydd safonau, neu unrhyw gomisiynydd safonau sydd mewn sefyllfa annibynnol, yn stelcian ar hyd coridorau'r Senedd, yn chwilio am achosion i ymdrin â nhw. Ond y rhesymeg mewn gwirionedd y tu ôl iddo oedd ein bod wedi canfod mewn achosion blaenorol, efallai yn ystod ymchwiliad, bod rhywbeth arall wedi'i ddwyn i sylw'r comisiynydd ac nad oedd yn gallu ymchwilio iddo, oherwydd nad oedd cwyn ar wahân wedi bod ynghylch y mater hwnnw.

Mae'r pwyllgor safonau yn gallu holi'r comisiynydd ar unrhyw ddull a fabwysiadwyd, ac nid yw'r pwyllgor yn gorfod cytuno â chanfyddiadau comisiynydd safonau. Mae'r comisiynydd safonau annibynnol, er ei fod yn annibynnol, hefyd angen ffydd y Senedd, ac mae yna fecanwaith ar gyfer cynnig i gael gwared â'r comisiynydd o'r swydd y gellid ei gyflwyno pe bai chwe Aelod yn cefnogi hynny. Os af yn ôl at y ddarpariaeth ynghylch aelodau lleyg, rwy'n credu bod hynny hefyd yn bwynt hanfodol iawn o ran cryfhau'r broses honno a'r mecanweithiau atebolrwydd yno.

Dim ond i fynd yn ôl, Llywydd, os gallaf, a chrynhoi yn nhermau'r cyfrifoldeb hwnnw fel cyflogwyr ac fel cynrychiolwyr yma, rwy'n credu y gallwn dim ond gwneud y lle hwn yn enghraifft wych o arfer gorau pan fo pawb yn chwarae ei ran, nid yn unig yn y ffordd yr ydym yn ymddwyn ein hunain a'r cyfraniadau a wnawn, ond wrth benderfynu cryfhau ein gwleidyddiaeth ar y cyd drwy'r prosesau hynny sydd ar waith, ac rydym yn galw am y camau ehangach sylweddol eraill hynny i gadarnhau ein system safonau'r Senedd, sy'n hollol hanfodol i gyflawni hyn. Diolch.

Yn gyntaf, rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor a'r Cadeirydd a'r clercod, a'r Cwnsler Cyffredinol hefyd am eich amser yn cyfarfod â minnau ac Adam ac Aelodau eraill hefyd. Fe wnaethom siarad fis Rhagfyr diwethaf am sut mae camwybodaeth yn tanseilio cydlyniant cymunedol a sut mae dichell fwriadol yn arwain at flychau tân a choelcerthi. Mae hynny wedi digwydd—diolch byth nid yma yng Nghymru, ond mae wedi digwydd yn ein gwlad ni, yn y DU.

Yr angen am gyflymder, felly, yw ein bod yn wynebu bygythiad sylweddol, bygythiad sylweddol yma yng Nghymru i'n democratiaeth gydag etholiadau'r Senedd. Mae celwydd yn ffynnu mewn gwleidyddiaeth oherwydd gallwn osgoi rhag cael ein dal, oherwydd nid ydym yn wynebu unrhyw ganlyniadau go iawn. Os ydym yn dymuno gwella ein democratiaeth ac atal twf diffyg ymddiriedaeth, rhaid i ni roi trefn ar ein tŷ ein hunain yn gyntaf.

Rwy'n cydnabod y pryderon difrifol a godwyd gan y pwyllgorau am y Bil hwn a'r rhwystredigaeth a fynegwyd ynglŷn â gadael penderfyniadau allweddol i is-ddeddfwriaeth. Rwy'n cytuno bod angen diffiniad clir o'r hyn sy'n ddatganiad anwir neu gamarweiniol, un nad yw'n caniatáu ffugio esgusodion ac un sy'n glir ynghylch y canlyniadau am ei dorri. Rwyf hefyd yn cydymdeimlo â sylwadau a wnaed ynglŷn â faint o fanylder y mae Llywodraeth Cymru yn ei adael i is-ddeddfwriaeth, sy'n golygu nad yw pwyllgorau wedi gallu craffu arni fel y dymunent. Mae'n galonogol clywed na fyddai gan lawer unrhyw wrthwynebiad i elfennau o'r Bil hwn pe bai'r manylder hwn ar ei wyneb. Mae'r rhain yn bryderon na allwn eu diystyru.

Mae rhyddid i lefaru yn sylfaenol, ond nid rhyddid i ddweud celwydd yw rhyddid i lefaru. Rhaid i ni ofyn i ni ein hunain beth yw effaith iasol dichell wleidyddol heb ei rheoli ar ddemocratiaeth ei hun. Canfu arolwg newydd a gynhaliwyd gan Compassion in Politics y llynedd fod naw o bob 10 o bobl yn cefnogi'r syniad o'i gwneud yn drosedd i wleidyddion gamarwain y cyhoedd.

Ers cyfnod rhy hir, ar draws pleidiau gwleidyddol, rydym wedi trethu amynedd y cyhoedd ar hyn. Cefais y fraint o wrando ar rywfaint o raglen ar Radio Wales lle mae pobl yn ffonio'r rhaglen amser cinio heddiw, a chlywed lleisiau'r cyhoedd a gan Dai Rees hefyd. [Chwerthin.] Wel, rydych chi—[Chwerthin.] A gaf i nodi ar y cofnod fod Dai Rees yn Aelod pwysig iawn o'r Senedd ac yn aelod o'r cyhoedd hefyd? Ond i glywed aelodau o'r cyhoedd yn ffonio'r rhaglen hon, a'r hyn a glywsom oedd anghrediniaeth nad oedd hyn eisoes yn gyfraith. Clywais un dyn yn dweud mai rhoi'r eisin ar y gacen yw'r ffaith bod y Senedd yn poeni am delerau'r Bil hwn—hurtwch gneud hynny tra bod gwleidyddion yn parhau i osgoi atebolrwydd. Dywedodd un arall pe bai gwleidyddion wedi cael eu diswyddo am ddweud celwydd yng Nghymru yn y gorffennol na fyddem yn y llanast rydym ni ynddo nawr.

Mae hyn, i mi, yn gwbl amlwg, fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod. Ym maes cyllid, meddygaeth, y gyfraith, pan fyddwch chi'n gwerthu car, ni allwch dwyllo cwsmer. Nid ydym yn siarad am rethreg na barn; rydym ni'n siarad am faterion ffeithiol, rhywbeth y mae'r llysoedd yn barnu arno bob diwrnod o'r wythnos. Mae'r mesurau diogelu yno; mae'r ddarpariaeth wedi'i llunio'n dynn. Mae yna ddeddfau eisoes yn erbyn cwynion aflonyddgar a dweud celwydd am gymeriad gwleidydd arall yn ystod etholiad. Mae'r Bil yn syml yn ymestyn yr amddiffyniad hwnnw i'r cyhoedd, gan atal gwleidyddion rhag eu twyllo. Sawl gwaith eto y byddwn ni'n dweud wrth bobl Cymru i aros?

Faint mwy y mae'n rhaid i ymddiriedaeth bylu cyn i ni weithredu? Ni all gonestrwydd mewn bywyd cyhoeddus fod yn egwyddor yn unig; mae'n rhaid iddo olygu rhywbeth yn y gyfraith. Rhaid i ni osod safon newydd ar gyfer uniondeb gwleidyddol a dangos bod Cymru—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, mae'n ddrwg gennyf.

17:40

Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr hyn rydych chi'n ei ddweud, ac nid dyma'r prif bwynt yma, ac rydych eisoes wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ei gael ar wyneb y Bil, a'r dystiolaeth a gawsom oedd bod yn rhaid iddi fod yn ddeddfwriaeth sylfaenol. Ni fydd hon yn cael ei deddfu mewn pryd ar gyfer yr etholiad hwn. Felly, ydych chi'n cytuno mai'r hyn y dylem fod yn ei wneud yw gwneud yn siŵr bod un ar waith ar gyfer yr etholiad yn 2030? Ac os ydym eisiau rhywbeth ar wyneb y Bil ac nad yw yn y Bil penodol hwn ar yr adeg yr ydym yn trafod Cyfnod 4, yna dylid ei ohirio a dylai Llywodraeth Cymru nesaf gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol sy'n ymdrin â'r mater penodol hwnnw.

Diolch yn fawr am y pwynt yna. Fy mhwynt clir iawn yw os byddwn yn pasio hwn yng Nghyfnod 1, yna mae cyfle yng Nghyfnod 2 i ddadlau a yw hyn yn dod i mewn yn gynharach, ac mae rhai ohonom yn teimlo'n gryf iawn y dylai. Felly, diolch am y cyfle i egluro hynny.

Mae arweinyddiaeth—ac rydym yn arweinwyr—yn gofyn am fwy na datganiadau beiddgar. Mae'n gofyn am ddilyn ymrwymiadau, hyd yn oed pan fo'r llwybr hwnnw'n anodd. Felly, rwy'n annog Aelodau i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, gan ymrwymo i'r gwaith caled o ddiwygio a gwella y mae'n rhaid iddo ddilyn yng Nghyfnod 2. Gadewch i ni brofi y gallwn gynnal y safonau rydym ni'n eu disgwyl gan eraill. Gadewch i ni ddangos, pan fydd pobl yn mynnu atebolrwydd, fod gennym y dewrder i'w gyflawni. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n croesawu'n fawr y ddadl heddiw ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Fel bob amser, roedd yn brofiad diddorol eistedd ar y pwyllgor yn craffu ar Gyfnod 1 y Bil, ac, fel y mae eraill wedi dweud, rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a roddwyd i ni gan staff y pwyllgor.

Fel y dywedoch chi pan roddoch dystiolaeth i'r pwyllgor, Cwnsler Cyffredinol, mae'r Bil hwn yn anarferol gan nad yw'n Fil polisi, ond mae'n gynnig deddfwriaethol lle mae Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn hwylusydd i sicrhau bod y Senedd yn gallu rheoli problemau sy'n ymwneud â materion er mwyn sicrhau bod ein democratiaeth mor gadarn â phosibl. Roedd yr adroddiad Cyfnod 1 sydd gerbron aelodau o'n pwyllgor yn seiliedig ar y craffu cyfyngedig yr oeddem ni fel pwyllgor yn gallu ei glywed oherwydd yr amserlen dynn iawn a osodwyd arnom. Rwy'n bersonol yn credu y byddai'r Bil hwn wedi elwa ar gyn-ymgynghori llawer ehangach a chlywed mwy o farn gan gymdeithas ddinesig ehangach, ond, yn anffodus, nid oedd amser yn caniatáu hyn.

Fodd bynnag, fel yr ydych chi eich hun wedi dweud, Cwnsler Cyffredinol, rydym ni lle rydym ni, ac mae hwn yn gyfle i gyflwyno Bil cydlynol. Mae'n dda bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y mwyafrif o argymhellion ein pwyllgor, ond mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn hanfodol. Mae angen y ddeddfwriaeth hon ar waith. Ni fyddwn eisiau i'n Senedd fod yn un o ychydig iawn o Seneddau, rwy'n credu, heb system adalw.

Cyn Cyfnod 2, mae angen ystyried a meddwl am y gwelliannau sy'n cael eu cyflwyno i sicrhau bod y ddeddfwriaeth y gorau y gall fod. Fe wnaethoch chi ddweud yn eich sylwadau agoriadol eich bod wedi cyfarwyddo swyddogion i edrych ar welliannau sy'n cael eu cyflwyno, ond rwy'n credu y byddai'n dda pe gallech gadarnhau eich bod yn fodlon iawn gweithio gyda'n pwyllgor i gyflwyno'r gwelliannau hynny. Rhaid i unrhyw system adalw fod yn bragmatig a rhaid iddi weithio gyda'r system rhestr gaeedig a fydd yn cael ei defnyddio o hyn ymlaen yn etholiadau Senedd Cymru.

Dylai pwyllgor safonau ymddygiad fod yn orfodol, a bydd cynnwys aelodau lleyg yn ei wella, rwy'n credu. Clywsom safbwyntiau gwahanol iawn am aelodau lleyg, ac wrth gwrs mae yna seneddau sydd ag aelodau lleyg eisoes, y gallwn ddysgu ohonynt. Rwy'n gryf o'r farn y dylai rhai unigolion—ac mae hynny wedi'i nodi yn ein hargymhelliad 8—gael eu gwahardd rhag bod yn aelod lleyg, ac rwy'n nodi eich sylwadau ynglŷn ag ystyriaeth bellach o'r meini prawf a hefyd canlyniadau cael meini prawf llym iawn, oherwydd rydym i gyd yn cydnabod yr anawsterau sy'n aml yn cael eu hwynebu wrth recriwtio i benodiadau cyhoeddus yma yng Nghymru. Efallai y gallech ehangu ychydig yn eich sylwadau cloi ynghylch eich safbwynt o ran y meini prawf.

Mae gwneud datganiadau ffeithiol anghywir i gamarwain yr etholwyr yn fwriadol yn ddichell fwriadol. O ran a ddylid gosod y drosedd mewn deddfwriaeth sylfaenol neu ymdrin â hi gan y system bresennol, h.y. is-ddeddfwriaeth, unwaith eto roedd tystiolaeth wrthgyferbyniol ar hyn a hefyd pryderon ynghylch y ffaith nad oes llawer o fanylion ar bob agwedd ar y drosedd droseddol newydd. Ac eto, clywais eich sylwadau ynglŷn â chyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2. Fel y mae eraill wedi dweud, mae uniondeb gwleidyddol mor bwysig, ac os yw'n cael ei golli mae'n anodd iawn ei adfer. Rydym ni'n gweld hynny mewn rhannau eraill o'r byd. Felly, mae'r Bil hwn yn ei gyfanrwydd yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod mwy o ymddiriedaeth yn ein gwleidyddiaeth ac rwy'n falch o gefnogi'r egwyddorion cyffredinol ac yn edrych ymlaen at Gyfnodau 2 a 3. Diolch.

17:45

Rydych chi'n aros am 20 mlynedd i Fil atebolrwydd gael ei gyflwyno a nawr, fel bysiau wedi'u hailreoleiddio, mae dau yn cyrraedd ar yr un pryd, oherwydd tra ein bod yn trafod Cyfnod 1 y Bil hwn yn y fan yma, yr wythnos nesaf yw Cyfnod Adrodd Bil atebolrwydd San Steffan. Nid damwain yw hyn. Mae'r ddau Fil yn ymateb i argyfwng mawr ein hoes, yr argyfwng ymddiriedaeth sydd wedi caledu i fod yn argyfwng i ddemocratiaeth ei hun. Mae'r ddau fil yn cynnwys cynigion ar gyfer trosedd newydd o wleidyddion yn camarwain y cyhoedd. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth i San Steffan fwrw ymlaen gyda'u cynnig, na ddylem ni symud i ffwrdd o'n cynnig ni, oherwydd fel yr ydym wedi clywed, ni fydd y cyhoedd yn deall—ni fyddan nhw'n deall—ac yn sicr ni fyddan nhw'n ei dderbyn, pan fydd addewid wedi'i wneud gan y Llywodraeth i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon.

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn dweud mai camwybodaeth a diffyg gwybodaeth yw'r bygythiadau mwyaf y mae'r byd yn eu hwynebu bellach ar ôl llygredd a newid hinsawdd. Ac mae'n gwaethygu bob awr, oherwydd mae byddin o weithredwyr drwg bellach â'r offer twyllo mwyaf soffistigedig yn hanes dynoliaeth ar gael iddynt. Mae NewsGuard wedi dod o hyd i rwydwaith o gyfrifon TikTok sy'n esgus bod yn frandiau cyfryngau sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu ffugiadau dwfn o Keir Starmer yn cyhoeddi polisïau ffug. Yn wythnos gyntaf mis Rhagfyr yn unig, cynhyrchodd y cyfrifon hyn 197 o fideos a gafodd eu gweld 943,000 o weithiau. Canfu Reset Tech fod 150 o sianeli YouTube wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial rhad i gynhyrchu dros 56,000 o fideos ffugiad dwfn gwleidyddol yn y DU. Cafodd y fideos hynny eu gweld—ac arhoswch, nid gwall teipio yw hwn—1.2 biliwn o weithiau yn 2025. 

Celwydd mewn gwleidyddiaeth yw'r gorllewin gwyllt heb gosb ar hyn o bryd. Fe wnaeth George Freeman, yr AS Ceidwadol, ddarganfod hynny pan gwynodd am fideo ffugiad dwfn ychydig cyn y Nadolig yn ei ddangos yn encilio i Reform—un o'r ychydig lle doedd hyn ddim yn wir mewn gwirionedd. Dywedodd yr heddlu wrtho nad oedd unrhyw gyfraith yn erbyn gwneud hyn. Doedd dim byd y gallen nhw ei wneud, er gwaethaf Deddf Cynrychiolaeth y Bobl, er gwaethaf Deddf Diogelwch Ar-lein, y Comisiwn Etholiadol a phopeth arall. Dyna'r bwlch atebolrwydd y mae'n rhaid i ddemocratiaeth, os yw i oroesi, ei lenwi ac mae'n rhaid ei lenwi'n gyflym. Oherwydd mae democratiaeth yn beiriant sy'n rhedeg ar wirionedd. Roedd Thomas Jefferson, dim llai, yn deall hyn pan ysgrifennodd at Richard Price, ein gwrw cyfansoddiadol ein hunain o ddyffryn Garw. Dywedodd,

'lle bynnag y mae'r bobl yn hysbys iawn, gellir ymddiried ynddynt gyda'u llywodraeth eu hunain'.

Heb wirionedd, dim ymddiriedaeth; heb ymddiriedaeth, dim democratiaeth. Felly, dyna pam, er mwyn amddiffyn democratiaeth, y gwnaethom ddwyn perswâd ar y Llywodraeth i wneud yr addewid a wnaethon nhw, ac rwy'n dyfynnu—rwy'n cofio trafod gyda'r cyn-Gwnsler Cyffredinol Mick Antoniw a gyda'r Trefnydd—

'y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth cyn 2026 ar gyfer gwahardd Aelodau ac ymgeiswyr a gafwyd yn euog o ddichell fwriadol'.

Nid yw'r Bil ar ei ffurf bresennol, yn fy marn i, yn cyflawni'r addewid hwnnw'n llawn. Nid yw dyletswydd i gyflwyno is-ddeddfwriaeth yr un fath â'r ddeddfwriaeth sylfaenol a addawyd. Ond yr ymateb i hynny—ein hymateb ni i hynny—ddylai fod gofyn, fel y mae'r pwyllgorau wedi gwneud, bod y Llywodraeth yn rhoi hyn mewn deddfwriaeth sylfaenol. Ac os nad yw'r Llywodraeth yn barod i wneud hynny, er mwyn i'r Senedd hon gadw'r addewid sydd wedi'i wneud i bobl Cymru, yna dylem ni fel deddfwyr gyflwyno gwelliannau i wneud hynny, neu roi cymaint o fanylion ag y gallwn ar wyneb y Bil.

Mae'r awgrym y dylem ni ei ddileu, ar yr adeg hon, pan fyddwn yn wynebu'r argyfwng mwyaf mewn democratiaeth yr ydym erioed wedi'i wynebu—. Dychmygwch y pennawd: 'Y Senedd yn dweud celwydd am gyflwyno gwaharddiad ar ddweud celwydd.' Mae'n rhaid i'r Llywodraeth, ar ôl gwneud—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i'r Llywodraeth, ar ôl gwneud yr addewid hwnnw— [Torri ar draws.] Mae'n rhaid i'r Llywodraeth, ar ôl gwneud yr addewid hwnnw, ymrwymo iddo. Ac am y rheswm hwnnw mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen ar y sail hon. Fe wnaf ildio.

17:50

Diolch am ildio. Dydw i ddim yn credu ei fod yn fater bod y Senedd yn dweud celwydd yn y sefyllfa hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig—a dyma fy mhwynt—bod y Senedd yn cael y gyfraith yn iawn, a'i bod yn gyfraith dda. Mae hynny'n bwysig, ac os byddwn ni'n rhuthro hyn heb ei wneud yn iawn, yna rwy'n credu y byddwn ni'n atebol am hynny hefyd.

Nawr, ar y pwynt wnaethoch chi ynglŷn â hepgor adran 22, yr hyn rydyn ni wedi'i amlygu fel pwyllgor yw os nad yw'r gwelliannau rydych chi'n sôn amdanyn nhw yn cael eu dwyn ymlaen, mae risg y gallech chi golli'r elfen adalw, oherwydd dydy'r elfen hon ddim yn gyfraith dda.

Wel, fe wnaf ymateb i chi, os caf i, gan ddyfynnu Thomas Jefferson am yr eildro. Yn yr un flwyddyn ag yr ysgrifennodd at Richard Price, ysgrifennodd hefyd at James Madison am y Bil Hawliau, a beth ddywedodd e'?

'Mae hanner torth yn well na dim bara.'

Os na allwn ni sicrhau ein holl hawliau, gadewch i ni sicrhau'r hyn y gallwn ni. Dyna sut mae democratiaeth yn gweithio. Bydd cyfle yng nghyfnodau diweddarach y Bil hwn i'w wella, nid i ddileu'r ymrwymiad o ran dichell fwriadol; ei wella. Ac ie, bydd y Senedd nesaf, rwy'n gobeithio, yn mynd ymhellach eto. Ond mae gwneud dim tra ein bod yn wynebu argyfwng yr oes, yn fy marn i, yn ymwrthod â'n cyfrifoldeb, ac rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn iawn i ddwyn Llywodraeth sy'n ymwrthod â'r addewid y mae wedi'i wneud i gyfrif, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cadarnhau ei bod yn bwriadu, a bod y Llywodraeth yn bwriadu, cadw'r addewid hwnnw a wnaed ar lawr y Senedd hon. 

Rwy'n credu mai un peth sy'n uno pawb yn y Siambr hon, beth bynnag yw eu barn ar y Bil penodol hwn, yw llawer iawn o gydymdeimlad tuag at y Cwnsler Cyffredinol, sy'n canfod ei hun yn y sefyllfa hon y prynhawn yma.

Mae'r Bil yn ceisio gwneud nifer o wahanol bethau, wrth gwrs, ac yn sicr ni chyfeiriwyd at y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y cyfraniad blaenorol. Rwy'n credu bod unfrydedd yn y Siambr hon bod angen i ni ddiwygio'r pwyllgor safonau, bod angen i ni gael proses adalw, ac er y bydd dadl a thrafodaeth, fel y dylai fod, mae egwyddorion y pethau hyn wedi'u sefydlu ac, rwy'n credu, wedi'u derbyn gan yr holl bleidiau gwleidyddol yma y prynhawn yma, ac Aelodau ar draws y Siambr.

Ond rwy'n credu hefyd mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn pasio deddfwriaeth sy'n addas i'r diben ac yn cyflawni'r addewidion a wnaed. Rwyf bob amser yn mwynhau gwrando ar gyfraniadau Adam, ond mae ef ei hun wedi camarwain pawb sy'n gwrando arno ynglŷn â'r hyn y bydd y Bil hwn yn ei gyflawni. Rwy'n cytuno â'r hyn sydd wedi'i ddweud. Cytunais â'r hyn a ddywedodd Jane Dodds yn gynharach. Cytunais â'r hyn y mae Aelodau ar draws y Siambr wedi'i ddweud am wybodaeth gamarweiniol iawn sydd wedi dod yn gyffredin ar y cyfryngau cymdeithasol. Clywsom, ychydig cyn y Nadolig, 'rage bait' yn cael ei greu fel gair y flwyddyn, oherwydd bod pobl yn gweld gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, does ganddyn nhw ddim rheswm i beidio â'i chredu, ac maen nhw'n ei derbyn fel y gwir. A'r hyn sy'n digwydd yw bod gennych haint camwybodaeth a thwyllwybodaeth wrth wraidd ein democratiaeth, wrth wraidd ein trafodaeth wleidyddol a chenedlaethol, ac mae hynny'n drychineb i ni. Mae'n drychineb lwyr i ni, ac mae angen rheoleiddio hynny, ac rydw i wedi gwneud yr achos hwnnw dros lawer, lawer o flynyddoedd. Ond nid yw'r Bil hwn, wrth gwrs, yn gwneud hynny. Nid yw'r Bil hwn yn gwneud unrhyw ran o hynny, oherwydd nid yw'r pwerau yn bodoli yma er mwyn ei wneud. Mae'r Bil hwn yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol.

Rwy'n credu y dylai Aelodau yn y lle hwn fod yn ddarostyngedig i safonau uwch. Rwy'n credu y dylai Aelodau yn y lle hwn fod yn ddarostyngedig i god ymddygiad sy'n mynnu ein bod yn dweud y gwir, nid yn unig yn ystod ymgyrch etholiadol, ond 365 diwrnod y flwyddyn. Rwy'n credu bod angen proses safonau sy'n dwyn Aelodau i gyfrif os ydyn nhw'n disgyn yn is na'r safonau a ddisgwylir ganddyn nhw, a dyna sydd gennym ar hyn o bryd, a dyna rydyn ni'n ceisio ei ddiwygio.

Ond nid yw'r Bil hwn yn gwneud unrhyw un o'r pethau y mae'r bobl yma y prynhawn yma wedi bod yn honni ei fod yn eu gwneud. Nid yw'n mynd i'r afael ag X sy'n bwll o fudreddi. Nid yw'n mynd i'r afael â'r twyllwybodaeth ar Facebook. Nid yw'n mynd i'r afael â'r ffaith y gall biliwnyddion brynu ein democratiaeth. Nid yw'n gwneud dim o'r pethau hyn. Nid yw'n gwneud yr un ohonyn nhw o gwbl. Nid yw'n creu trosedd, ac mae hynny, ynddo'i hun, yn sarhaus. Dylai greu trosedd. Os ydych chi eisiau creu cyfraith newydd, mae'n rhaid i chi wneud hyn yn iawn—fe wnaf ildio—ond nid yw'r Bil hwn yn gwneud hynny.

Mae'r Bil hwn yn rhoi pwerau enfawr i Weinidogion sydd heb eu hethol eto oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod pwy fydd yn y swydd ar ôl mis Mai. Er gwaethaf hyder rhai pobl yma, dydyn ni ddim yn gwybod pwy fydd â'r pwerau hyn. Felly, rydym yn rhoi pwerau enfawr i bobl, sydd heb eu hethol eto, i greu troseddau a allai arwain at Aelodau yma yn cael eu hanghymwyso, ac ni all neb yn yr ystafell hon, yn y Siambr hon, ddiffinio beth fydd y drosedd honno. Rwy'n ildio.

17:55

Pe bai gwelliant yn cael ei osod mewn cyfnod diweddarach yn y Bil hwn, yn debyg i'r ffordd y gwnaeth Cymdeithas y Bar Troseddol yng Nghymru gyflwyno i'r pwyllgor mewn gwirionedd, sy'n gwneud yn union yr hyn yr ydych chi newydd ei amlinellu, sy'n ymdrin â'r garthffos o ddichell fwriadol ym myd gwleidyddiaeth, a wnewch chi ei gefnogi?

Disgrifiais X, y pwll o fudreddi. Nawr, peidiwch â cheisio cam-gynrychioli yn y ddadl hon yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud. Allwch chi dim dweud wrthyf i mewn gwirionedd beth yw'r gwelliant hwnnw, ond rydych chi'n gofyn i mi ei gefnogi. Nawr, gadewch i mi ddweud wrthych chi, Adam, gadewch i mi ddweud wrthych chi—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud wrthych chi, allwch chi ddim dadlau am onestrwydd ym myd gwleidyddiaeth yn y ffordd honno. Dim ond parodi yw hynna; nid dyna realiti dadl. Felly, rwy'n credu—[Torri ar draws.] Rwyf i wedi ildio i chi unwaith, wnaf i ddim ildio eto.

Rwy'n credu bod angen i ni gael cyfraith dda wedi'i phasio yn y lle hwn sy'n gwneud yr hyn yr ydym ni'n honni ei fod yn mynd i'w wneud. Nid yw adran 3 y Bil hwn yn gyfraith dda. Nid yw'n gwneud yr hyn y mae'n honni ei wneud. Mae'n gyfraith wael wedi'i darparu mewn ffordd wael—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod fy amser ar ben, a dweud y gwir. 

Fe wnaf i ildio. Rwy'n hapus i ildio os gwnaiff y Llywydd ganiatáu i mi wneud hynny.

Rydych chi wedi gwneud y pwynt nad yw hon, yn eich barn chi, yn gyfraith dda. Ond rydych chi wedi clywed y pwynt a wnaeth Adam am hanner torth yn erbyn dim bara o gwbl. Mae hyn yn ymwneud â newid y diwylliant a'r ffordd yr ydym ni'n gweithredu. A cheir cyfle i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2. Dyna'r adeg y byddwn ni'n cael y ddadl lawn mewn gwirionedd. Felly, ei basio nawr, a wnewch chi gytuno i bleidleisio dros hyn ar y cam hwn?

Nid wyf i erioed wedi dadlau nad wyf i'n mynd i symud hyn ymlaen i Gyfnod 2. A dweud y gwir, dechreuais fy nghyfraniad, os oeddech chi'n gwrando, gan ddweud bod angen rhannau mawr o'r Bil hwn arnom ni, ac nid ydych chi'n awgrymu bod angen rhannau mawr o'r Bil hwn arnoch chi ac yna'n pleidleisio yn ei erbyn yng Nghyfnod 1, a fyddai'n eich atal rhag ei ddiwygio i gael y math o Fil rydych chi ei eisiau. Wrth gwrs, byddaf yn pleidleisio drosto ar adeg pleidleisio gan fy mod i eisiau gweld gwelliannau i'r Bil hwn. Ac rwyf i eisiau gweld rhannau, Rhannau 1 a 2 yn sicr, yn cael eu pasio'n gyfraith. Felly, byddaf yn pleidleisio drosto.

Ond gadewch i mi ddweud hyn, ac fe wnaf i geisio dirwyn fy sylwadau i ben nawr, oni bai fod unrhyw ymyriadau pellach. Gadewch i mi ddweud hyn: mae heriau sylweddol yn wynebu ein democratiaeth ar hyn o bryd, heriau difrifol iawn yn wynebu ein democratiaeth, a chamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Effaith y cyfryngau cymdeithasol ar ein trafodaeth gyhoeddus sydd wrth wraidd hynny i gyd, ac mae angen rheoleiddio difrifol arnom ni i ymdrin â hynny. Mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw hwnnw. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y ddeddfwriaeth, sydd wedi cael ei phasio gyda chefnogaeth drawsbleidiol dros y blynyddoedd diwethaf, i ddarparu rhywfaint o'r rheoleiddio hwnnw. Rwy'n credu bod angen iddo fynd llawer iawn ymhellach, ac rwy'n croesawu'n fawr y dull mwy sylweddol a fabwysiadwyd gan Weinidogion y DU ers dechrau'r flwyddyn.

Felly, rwy'n credu ein bod ni angen rheoleiddio difrifol ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig i sicrhau ein bod ni'n gallu adennill gonestrwydd yn rhan o'n trafodaeth wleidyddol a chyhoeddus. Rwyf i hefyd yn credu fod angen i ni fynd i'r afael â materion yn ymwneud â deallusrwydd artiffisial, y mae Adam Price wedi ei nodi'n briodol fel bygythiad difrifol i'n democratiaeth. Nid yw'r Bil hwn yn gwneud dim o'r pethau hynny—dim un o'r pethau hynny o gwbl, dim un o'r pethau hynny. Ac fe wnaf i ddweud hyn wrth Jane Dodds: efallai y gwnewch chi dwyllo eich hun, ac efallai y gwnewch chi dwyllo Aelodau yn y Siambr hon drwy wneud y ddadl y bydd y Bil hwn yn newid diwylliant ein sefyllfa bresennol yn sylfaenol, ond yr hyn a fydd yn effeithio'n ddifrifol ar ddiwylliant yn y sefyllfa bresennol yw rheoleiddio difrifol o'r cyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n credu bod angen hynny arnom ni. Yr hyn nad oes ei angen arnom ni yw pasio cyfraith wael mewn ffordd wael, wedi'i rhuthro drwodd er mwyn gwneud i bobl deimlo'n dda amdanyn nhw eu hunain heb fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol y mae'n rhaid i'r gymdeithas hon eu hwynebu.

18:00

Diolch, Llywydd. Wel, roedd hynna'n ddiddorol dros ben, ac rwy'n croesawu'n fawr yr holl sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan Gadeiryddion y pwyllgorau, aelodau'r pwyllgorau, ac Aelodau eraill heddiw. Llywydd, fe wnaf i fy ngorau i ymateb i'r rhan fwyaf ohonyn nhw, ond rwyf i'n destun cyfyngiadau amser, yn amlwg. Fe wnaf i fy ngorau i wneud hynny. Felly, nid mewn unrhyw drefn benodol, gan fy mod i wedi eu hysgrifennu nhw i lawr fel y dywedodd pobl nhw, fel y gwnaeth Lesley Griffiths ei gydnabod ac y gwnaeth David Rees led gyfeirio ato yn ei gyfraniad, nid Bil polisi'r Llywodraeth yw hwn. Mae hwn yn Fil lle mae'r Llywodraeth yn galluogi'r Senedd ac awdurdodau seneddol i newid y ffordd y mae'r awdurdod seneddol hwnnw'n rheoleiddio Aelodau ac, o bosibl, ymgeiswyr mewn etholiad. Felly, nid yw'n Fil polisi'r Llywodraeth. Felly, mae rhai o'r sylwadau a wnaed yn crwydro ar draws, yn fy marn i, i feddwl ei fod yn Fil polisi'r Llywodraeth, ond yn sicr nid yw hynny'n wir. Felly, mae'r Llywodraeth yn teimlo'n bendant y dylai'r awdurdod seneddol fod yn gyfrifol am ei weithdrefnau ei hun, ac mae'r Bil yn ceisio galluogi'r awdurdodau seneddol i wneud gwahanol bethau er mwyn gallu rheoleiddio ymddygiad Aelodau yn y dyfodol. Felly, roeddwn i eisiau dechrau o'r fan honno.

Ac yna, fel y dywedais i, nid mewn unrhyw drefn benodol, roeddwn i'n hapus iawn i dderbyn yr argymhellion a wnaed gan bwyllgorau'r Bil a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ostwng y trothwy mwyafrif o ddwy ran o dair i fwyafrif syml ar gyfer cymeradwyo'r canllawiau adalw y bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn eu llunio, a hefyd i'w newid i osod canllawiau adalw drafft fel y gall y Senedd fynd drwy'r broses gymeradwyo. Ond rwyf i wedi fy nrysu braidd gan y ffaith fod y pwyllgor yn mynd ymlaen i argymell newid yr holl adrannau ar aelodau lleyg a sefydlu'r broses honno i Reolau Sefydlog, sy'n gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair. Felly, rwy'n credu y bydd yn rhaid i'r Llywodraeth feddwl yn ofalus am sut y byddai hynny'n gweithio, oherwydd nid wyf i'n siŵr mai dyna'r canlyniad a fwriadwyd, ond dyna fyddai'r canlyniad a fwriadwyd os mai hwnnw oedd y trywydd yr oeddem ni'n ei ddilyn. Felly, eto, nid mater i'r Llywodraeth yw dweud beth mae'r awdurdodau seneddol eisiau ei wneud, a, Llywydd, rwy'n gobeithio nad oes ots gennych chi fy mod i'n dweud hyn, ond byddaf eisiau cael sgwrs gyda chi am rai o'r rheini a'r ffordd y mae'r rheini yn cyd-lifo, oherwydd bydd rhywfaint o gysondeb yn y ffordd y mae'r rheolau yn cael eu hamlinellu yn bwysig i'r awdurdodau seneddol. Felly, rwy'n derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond rwyf i eisiau edrych yn ofalus iawn ar y mater yn ymwneud â symud yr holl aelodau lleyg a phopeth arall i Reolau Sefydlog, a fyddai wedyn yn gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair er mwyn cychwyn arni hyd yn oed. Ac yna mae hynny oherwydd, fel y dywedais wrth Peredur, mae hynny'n newid cyfansoddiad ariannol y Bil, oherwydd os mai dyna fyddwn ni'n ei wneud, nid oes gennym ni unrhyw ffordd o wybod a fyddai aelodau lleyg byth yn cael eu penodi, neu a ellid byth dod o hyd i fwyafrif o'r fath yn y Senedd ddilynol. Felly, roeddwn i eisiau gwneud y pwynt hwnnw'n eglur iawn.

Yna, o ran yr arfer drafftio o amgylch y rheoliadau, mae'n arfer drafftio cyffredin yn Neddfau'r Senedd a'r DU i ddefnyddio 'gall' wrth roi awdurdod dirprwyedig i Weinidogion wneud is-ddeddfwriaeth, hyd yn oed pan fo'r dirprwyo yn ymwneud ag is-ddeddfwriaeth sy'n hanfodol ar gyfer gweithrediad y Ddeddf. Felly, ni ddylid ei gymryd i olygu y gallai Gweinidogion Cymru benderfynu peidio â gwneud y rheoliadau hynny. Ni allai pôl adalw weithio heb wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch cynnal y pôl. Ac os caiff y Bil ei basio, rwy'n disgwyl y byddai'r Senedd nesaf eisiau i'r system adalw gael ei gweithredu cyn gynted â phosibl ar ôl sefydlu'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad newydd yn dilyn yr etholiad ac y byddan nhw'n cyhoeddi'r canllawiau adalw dan sylw. Ond mae hynny'n fy arwain yn ôl at y ddihangfa os nad ydyn nhw wedi penodi'r aelodau lleyg eto, ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny trwy fwyafrif o ddwy ran o dair y Rheol Sefydlog, efallai y byddwch chi'n cael eich hun mewn trafferthion. Rwyf i yn credu bod angen i mi feddwl yn ofalus gyda'r pwyllgor am sut mae'r ddau beth hynny'n dal at ei gilydd. Nid wyf i'n siŵr eu bod nhw'n dal at ei gilydd ar hyn o bryd.

Mae llawer o bobl wedi sôn am natur frysiog y ddeddfwriaeth neu ba mor gyflym y cyflwynwyd y ddeddfwriaeth, ac mae'n ymddangos bod sawl unigolyn wedi meddwl y gallem ni fod wedi ei wneud 18 mis yn ôl cyn i bwyllgor safonau'r Senedd adrodd neu hyd yn oed ei ystyried. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n derbyn hynny. Hoffwn ddweud hefyd wrth yr holl Aelodau yma, yn enwedig y rhai ohonoch chi sy'n gobeithio dychwelyd, eich bod chi'n symud i dymor pedair blynedd. Felly, os na allwch chi ddeddfu ym mhedwaredd flwyddyn y tymor hwnnw gan eich bod chi wedi rhedeg allan o amser, a fydd wedi digwydd, beth ydych chi'n mynd i'w wneud? Felly, mae wir angen i'r Senedd ystyried a oes angen yr un faint o graffu ar bob Bil ar gyfer popeth, oherwydd fel arall dim ond dwy flynedd y gellir eu defnyddio fydd gennych chi yn eich Senedd nesaf. Mae hwnnw'n bwynt cyffredinol i'w wneud, ond mae'n un yr wyf i'n ymwybodol, fel Gweinidog Cyflenwi, sy'n gyfrifol am y rhaglen ddeddfwriaethol, y dylai'r Senedd ei ystyried o ddifrif, oherwydd fel arall rydych chi'n cyfyngu'n ddifrifol ar eich gallu i'w wneud.

Gan droi at fusnes y drosedd ac a ddylai fod mewn deddfwriaeth sylfaenol, dim ond i dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith fod troseddau o ran polau adalw, mae'r Bil yn cynnig ar hyn o bryd y dylai'r rheini gael eu nodi mewn rheoliadau. Mae hynny'n gwbl gyson â'r dull a fabwysiadwyd i reoleiddio cynnal holl etholiadau cyffredinol y Senedd drwy'r Gorchymyn cynnal etholiadau, sy'n cael ei wneud o dan adran 13 Deddf Llywodraeth Cymru. Hefyd, mae nodi'n union pa droseddau etholiadol y bydd yn angenrheidiol eu cymhwyso i bolau adalw yn gofyn am ystyriaeth fanwl bellach. Mae'r Gorchymyn cynnal etholiadau yn enfawr. Bydd rhai ohonoch chi'n ei gofio yn mynd drwy'r Senedd hon yn ddiweddar iawn. Dyna sy'n nodi'r troseddau presennol ar gyfer etholiadau mewn is-ddeddfwriaeth. Felly, nid yw'r syniad bod hynny rywsut yn llai neu nad yw'n caniatáu craffu priodol yn wir o gwbl. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

18:05

Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud am y Gorchymyn cynnal etholiadau, ond mewn gwirionedd roedd y troseddau hynny mewn Deddf o fewn y Senedd, mewn deddfwriaeth sylfaenol. Felly, er efallai fod y Gorchymyn cynnal etholiadau yn eu cyflwyno am y tro cyntaf yma, maen nhw'n ddeddfwriaeth sylfaenol yn San Steffan.

Ydyn, ond dydyn nhw ddim yn ddeddfwriaeth sylfaenol yma, David, ac mae'r Senedd yn derbyn y Gorchymyn cynnal etholiadau a rheoliadau eilaidd fel y ffordd yr ydym ni'n cynnal ein hetholiadau. Mae'r Bil yn cynnig dull cyson o ymdrin â hynny o ran y ffaith y dylai pob trosedd sy'n effeithio ar etholiad gael ei chynnwys yn y Gorchymyn cynnal etholiadau, oherwydd fel arall rydych chi'n wynebu'r posibilrwydd o orfod chwilio mewn sawl gwahanol le am bethau sy'n effeithio arnoch chi. Yn yr un modd, rydym ni wedi ceisio gwneud yn siŵr bod y drefn anghymhwyso a'r drefn hon yn cyfateb, fel nad oes gennych chi—. Cefais sgwrs hir gyda Jane Dodds ac Adam Price, os nad oes ots gennych chi i mi sôn amdani, am wneud yn siŵr bod y llif drwodd o anghymhwyso i etholiad, ac yn y blaen, yn gwneud synnwyr ac yn gyson â hyn. Mae'n eithaf pwysig gwneud yn siŵr nad ydym ni'n symud yn ôl ac ymlaen â gwahanol safonau yn dibynnu ar ba ran o'r cylch yr ydym ni ynddo. Felly, dyna pam rwyf i wedi nodi'r argymhellion hynny; rwy'n credu bod angen i ni roi ystyriaeth i sut y mae'r llif drwodd hwnnw yn edrych.

Fy marn fy hun yw os bydd y Senedd—barn bersonol yw hon, nid barn y Llywodraeth; rwyf innau hefyd yn Aelod o'r Senedd yn ogystal ag aelod o'r Llywodraeth—fy marn fy hun yw os na fyddwch yn rhoi'r aelodau lleyg, y newidiadau i swyddogaethau'r comisiynydd safonau a phopeth arall ar wyneb y Bil, byddwch yn canfod nad yw hyn yn cael ei wneud tan tua diwedd y Senedd nesaf, os yw'n cael ei wneud o gwbl. Felly, i'r rhai ohonom sydd wir eisiau gweld hynny ar waith—rwy'n siarad fel Aelod o'r Senedd unigol yma nawr, nid fel aelod o'r Llywodraeth—byddwn yn annog yn fawr y dylai'r darpariaethau hynny fod ar wyneb y Bil. A, Llywydd, hoffwn yn fawr gael sgwrs gyda chi am sut y mae'r awdurdodau seneddol eisiau i'r Llywodraeth alluogi'r mathau hynny o bethau i ddigwydd.

Hoffwn gloi drwy ail-bwysleisio ein bod ni'n teimlo'n gryf iawn na ddylai Llywodraeth Cymru ddweud wrth yr awdurdod seneddol sut i gynnal ei thrafodion; bod hwn yn Fil galluogi, ei fod yn galluogi'r awdurdodau seneddol i wneud y pethau iawn y maen nhw'n dymuno eu gwneud. A gaf i eich atgoffa chi, Aelodau o'r Senedd, ein bod ni i gyd yn mynd i bleidleisio wedyn ar beth yw Bil Senedd? Felly, dim ond i fod yn eglur iawn, byddai hwnnw'n troi'n Fil Senedd wedyn, sy'n rheoleiddio'r awdurdodau seneddol a'u hymddygiad. Felly, roeddwn i eisiau bod yn eglur iawn mai dyna oedd ein safbwynt.

Un neu ddau o bethau eraill yr oeddwn i eisiau rhedeg drwyddyn nhw, Llywydd, os oes gen i ychydig bach o amser i wneud hynny o hyd. Soniodd rhai pobl—. Mae'n ddrwg gen i, rwyf i wedi colli fy lle yn fy nodiadau yr wyf i wedi'u sgriblo nawr. Rhowch eiliad i mi. Peredur, roeddwn i wir eisiau diolch i chi am y dull synhwyrol y mae'r pwyllgor wedi'i fabwysiadu ac i addo—. Rwy'n credu eich bod chi wedi gofyn i mi ddweud y byddwn i'n dod yn ôl atoch chi gyda gwahanol fanylion, felly roeddwn i eisiau dweud wrth gwrs y byddwn ni'n gwneud hynny. Byddwn yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithredu'n gyson, ac i sicrhau'r Llywydd y byddwn ni'n gosod y penderfyniad ariannol yn barod ar gyfer trafodion Cyfnod 2, unwaith y byddwn ni'n deall yr hyn yr ydym ni'n siarad amdano. Felly, mae angen i mi gael y sgwrs honno cyn gynted â phosibl. Roeddwn i eisiau bod yn eglur iawn am hynny.

O ran yr hyn sydd yn y Bil a'r hyn nad yw yn y Bil, mae un o'r problemau i'r Bil hwn yn ymwneud â chymhwysedd y Senedd. Felly, nid oes gan y Senedd gymhwysedd cyffredinol i newid rhyddid i lefaru na rheoleiddio cwmnïau cyfryngau cymdeithasol, na gwneud unrhyw un o'r pethau hynny. Fodd bynnag, mae ganddi gymhwysedd i reoleiddio ymddygiad ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau'r Senedd. Felly, mae angen i ni ei gyfleu mewn ffyrdd sy'n sicrhau nad yw'n destun her.

Nid oes yn rhaid i mi atgoffa'r Aelodau, rwy'n siŵr, bod Cyfnod 4 y Bil hwn wedi'i drefnu ar hyn o bryd ar gyfer diwrnod eistedd olaf un y Senedd. Felly, pe bai'n cael ei gyfeirio yn ystod y cyfnod hysbysu, dyna fyddai ei diwedd hi—byddai'n methu; ni fyddai unrhyw siawns iddo ddod yn ôl a chael ei achub. Felly, mae'n bwysig iawn ei fod yn aros o fewn cymhwysedd, ac mae hwn yn fater yr wyf i wedi ei drafod gyda nifer fawr o Aelodau unigol ar draws y Siambr. Rwy'n fwy na hapus i gael y trafodaethau hynny yn y dyfodol.

Ac yna, yn olaf, Llywydd, rwyf i wir yn gobeithio—ac rwy'n credu bod Alan Davies wedi dweud hyn—y bydd yr Aelodau yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gallu parhau â'r sgwrs hon, i barhau â'r broses o ddiwygio a gwella'r Bil, i wneud yn siŵr nad ydym ni'n syrthio ar ôl deddfwrfeydd eraill y DU o ran adalw, a bod gennym ni'r gyfres orau bosibl o ganllawiau a gofynion ymddygiad ar gyfer ein hymgeiswyr a'n haelodau Senedd. Felly, ar y sail honno, Llywydd, rwyf i wir yn gobeithio ac yn annog yr Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Diolch.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ac fel rŷm ni'n gwybod, chafodd y cynnig o dan eitem 10, ar y cynnig ariannol, ddim ei symud gan y Cwnsler Cyffredinol, felly fydd yna ddim pleidlais, yn amlwg, ar hynny. Felly, fe wnawn ni symud nawr at eitem 11. 

O ran eitem 11, mae cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 11 a 12 gyda'i gilydd. Felly, os nad oes yna Aelod sydd yn gwrthwynebu hynny, bydd y ddau gynnig yn cael eu trafod gyda'i gilydd, ond bydd y pleidleisio ar wahân. Does neb yn gwrthwynebu i hynny.

11. & 12. Egwyddorion cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Felly, egwyddorion cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) a'r penderfyniad ariannol sydd yn mynd gyda'r Bil hynny yw'r ddwy eitem yma, a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg sy'n cyflwyno'r cynigion yma. 

Cynnig NDM9092 Mark Drakeford

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru).

Cynnig NDM9093 Mark Drakeford

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gynnig bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, hoffwn i ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu manwl ar y Bil hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i rannu safbwyntiau ac arbenigedd wrth gyflwyno tystiolaeth. Os yw'r Senedd yn cytuno y dylai'r Bil symud ymlaen heddiw, yna edrychaf ymlaen at ymgysylltu â nhw ymhellach wrth i'r broses graffu barhau.

Llywydd, mae pob un o'r tri pwyllgor Senedd wedi gwneud argymhellion manwl am wahanol agweddau ar y Bil. Lle mae pwyllgorau wedi gofyn am wybodaeth cyn y ddadl heddiw, rwyf i wedi gwneud fy ngorau i'w darparu. Ceir agweddau eraill, wrth gwrs, a fydd hefyd yn cael sylw y prynhawn yma. Dylwn ddweud hefyd ddweud ar y cychwyn fy mod i, wrth gwrs, yn croesawu argymhelliad y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

Ar ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn dynnu sylw at ddim ond tri diben allweddol sy'n ganolog i'r cynllun trwyddedu y mae'r Bil yn ceisio ei sefydlu. Mae'r Bil yn dechrau o ymrwymiad i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru, gan gryfhau ei enw da byd-eang am ansawdd cynhyrchion a phrofiad, cymeradwyo gwaith ein darparwyr rhagorol niferus, gan ei gwneud yn ofynnol i'w cystadleuwyr fodloni'r un safonau. Wrth wneud hynny, mae'r Bil yn creu cod eglur, modern, dwyieithog o gyfraith i Gymru i gefnogi'r diwydiant ac i wneud y gyfraith yn hygyrch i ddinasyddion Cymru, a thrwy wneud hynny, adeiladu ar y gofrestr a grëwyd o dan y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc.(Cymru) a basiwyd gan y Senedd hon y llynedd. Yn drydydd, mae'r Bil yn seiliedig ar benderfyniad i wneud profiad yr ymwelydd yn flaenllaw yn y ddeddfwriaeth newydd hon, gan roi sicrwydd gweladwy i ymwelwyr yng Nghymru ac â Chymru y bydd unrhyw lety rheoleiddiedig y maen nhw'n yn ei drefnu yn bodloni'r safonau y maen nhw'n eu disgwyl.

Er mwyn gweithredu'r egwyddorion hyn, mae'r Bil yn creu cynllun trwyddedu ar gyfer llety hunanddarpar hunan-gynhwysol, ac mae'n cynnig ffordd y gellir ymestyn y cynllun trwyddedu hwnnw i fathau eraill o lety yn y dyfodol. Mae'r system a grëwyd yn sicrhau cydbwysedd rhwng rhwymedigaethau cyffyrddiad ysgafn i'r darparwyr hynny sydd eisoes yn gwneud y pethau iawn, ac yn gadarn o ran ei gwneud yn ofynnol i eraill gyflawni eu rhwymedigaethau. Yn yr achosion gweddilliol hynny lle ceir gwrthodiad eglur i fodloni'r rhwymedigaethau hynny, mae'r Bil yn rhoi gweithdrefnau ar waith i atal y darparwyr hynny rhag gweithredu.

Sut felly mae'r Bil yn cynnig goruchwylio'r system a sut y dylid ei arfer? Yn gynnar yn ei ddatblygiad, a chan fanteisio ar brofiad mewn mannau eraill, fe ddaethom ni i'r casgliad na fyddai'n gymesur yn ffisegol i archwilio pob llety cyn dyfarnu trwydded. Ar gamau cynnar gweithredu'r Bil, bydd y rhai sydd eisoes yn gweithredu yn cael eu caniatáu i barhau i wneud hynny tra bod y dystiolaeth sydd ei hangen ar y system newydd yn cael ei chasglu a'i chymeradwyo. I newydd-ddyfodiaid i'r maes, bydd yn rhaid darparu'r dystiolaeth honno cyn agor, fel y gall ymwelwyr fod yn hyderus bod y safonau angenrheidiol yn cael eu bodloni.

Mae'r Bil yn rhannu'r safonau hyn yn ofynion penodol a chyffredinol. Mae'r safonau penodol yn adlewyrchu i raddau helaeth iawn rhwymedigaethau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer darparwyr, pethau y dylen nhw fod yn eu bodloni eisoes, o ran, er enghraifft, diogelwch nwy, trydan a thân. Mae'r Bil yn ychwanegu gofyniad newydd yn ymwneud ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Ym mhob un o'r achosion hyn, y bwriad yw ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i ddarparwyr ddangos eu bod nhw eisoes yn bodloni'r gofynion hyn, gan roi sicrwydd i ymwelwyr yn y broses. Mae'r safonau cyffredinol yn berthnasol os bydd yn dod i'r amlwg bod llety, er bod ganddo drwydded, serch hynny yn anaddas i ymwelwyr. O dan yr amgylchiadau hynny, mae'r Bil yn sicrhau y gellir cymryd camau cadarn i sicrhau bod eiddo yn ddiogel ac o safon y mae gan ymwelwyr yr hawl i'w disgwyl a'i mwynhau.

Er mwyn i'r sector twristiaeth ffynnu yng Nghymru, mae'n rhaid iddo wneud hynny mewn partneriaeth gynaliadwy â'r cymunedau y mae wedi'i leoli ynddyn nhw. Yn ogystal â rhoi sicrwydd i ymwelwyr a gweithredwyr eraill, bydd y Bil yn helpu i gefnogi'r berthynas hon drwy ddangos bod darparwyr yn bodloni'r safonau y mae'n eu cyflwyno. 

Roedd y gofynion hysbysebu yn y Bil yn destun craffu gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a gwnaed argymhellion gan y ddau. hoffwn fod yn eglur bod gofynion hysbysebu yn rhan allweddol o'r Bil. Pan fo darpar ymwelydd yn cael ei ddenu gan hysbyseb, mae'n iawn ei fod yn gallu gweld yng Nghymru bod yr eiddo wedi'i gofrestru a bod cofrestriad yn cynnig ffordd eglur a syml i'r ymwelydd weld a oes angen i'r llety hwnnw fod yn drwyddedig, ac, os felly, pa un a oes trwydded gyfredol yn bodoli.

Yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1, dadleuodd canolwyr na ddylen nhw fod yn atebol am gywirdeb gwybodaeth sy'n ymddangos ar eu platfformau. Hoffwn weithio gyda'r cwmnïau hynny i'w gwneud hi mor hawdd â phosibl iddyn nhw gydymffurfio â gofynion y Bil, ond nid wyf i wedi fy argyhoeddedi y dylid eu rhyddhau o'r cyfrifoldeb i sicrhau bod yr wybodaeth y maen nhw'n ei darparu yn gywir. Os bydd y Bil hwn yn llwyddo, mae'n rhaid i unrhyw un sy'n hysbysebu llety ymwelwyr yng Nghymru gynnwys y rhif cofrestru ar gyfer yr eiddo hwnnw yn yr hysbyseb. Dyna'r llwybr i'r drydedd o'r egwyddorion a nodais ar y cychwyn, sef sicrhau bod yr ymwelydd yn flaenllaw yn y system newydd. Wrth gwrs, os oes gan hysbysebwyr esgus rhesymol dros beidio â chynnwys y rhif cofrestru, yna ni fydd unrhyw drosedd wedi cael ei chyflawni, ac rwyf i wedi gofyn i'm swyddogion weithio ymhellach gyda'r sector i sicrhau bod y dull hwn yn eglur. Nid wyf i, fodd bynnag, yn bwriadu cyflwyno gwelliannau gan y Llywodraeth i ryddhau'r trydydd partïon hynny o'u rhwymedigaethau.

Llywydd, rwy'n troi nawr, yn gryno, at adroddiadau'r pwyllgorau. Rwyf i eisoes wedi ysgrifennu, a byddaf yn ysgrifennu eto, at Gadeiryddion y pwyllgorau wrth i'r ddadl barhau. Rwy'n falch o allu derbyn y mwyafrif sylweddol o argymhellion a wnaed gan bob un o'r tri phwyllgor, gan gynnwys holl argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Yn benodol, roeddwn i'n falch o allu ysgrifennu cyn y ddadl heddiw at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, gan nodi'r saith maes y mae'r Llywodraeth yn cynnig cyflwyno gwelliannau mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor yn ystod Cyfnod 1.

I ddyfynnu rhai enghreifftiau yn unig, Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwyllgorau, a bwysleisiodd yr angen am ystyriaeth a chraffu priodol ar unrhyw gynigion i ymestyn y diffiniad o lety ymwelwyr rheoleiddedig yn y Bil yn y dyfodol. Dyma pam mae'r grym gwneud rheoliadau perthnasol yn y Bil yn destun dyletswydd ymgynghori. Byddaf yn cyflwyno gwelliant nawr i bennu cyfnod gofynnol statudol ar gyfer yr ymgynghoriad hwnnw. Byddaf hefyd yn cyflwyno gwelliannau i egluro'r rhyngweithio rhwng y safon atal tân o dan y Bil a'r Gorchymyn diogelwch tân presennol. Byddaf yn cyflwyno gwelliant i ganiatáu i gyfnod trwydded gofynnol hirach gael ei nodi ac i wella'r gweithdrefnau craffu ar gyfer rhai o bwerau gwneud rheoliadau'r Bil.

Llywydd, i gloi, mae'r Bil sydd gerbron y Senedd heddiw wedi elwa o gefnogaeth llawer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys partneriaid yn y diwydiant, dros holl dymor y Senedd hon. Rwy'n ddiolchgar am eu cymorth parhaus, fel yr wyf i gyd-Aelodau yn y Senedd sydd wedi cymryd rhan uniongyrchol yn y broses graffu hyd yn hyn. Ceir gwelliannau pellach y bydd y broses graffu honno yn eu cynhyrchu os bydd y Bil hwn yn symud i'w gyfnod nesaf. Yn y cyfamser, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd y gefnogaeth honno yn cael ei hadleisio gan y Senedd yn ei chyfanrwydd y prynhawn yma.

18:20

Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig nawr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl heddiw fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, sydd wedi craffu ar y Bil hwn yn ystod Cyfnod 1. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, gan gynnwys pawb a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig ac a ddaeth i'r sesiynau tystiolaeth lafar. Hoffwn ddiolch hefyd i staff y pwyllgor, a wnaeth, gan weithio i amserlen dynn iawn, gloriannu llawer o'r dystiolaeth y gwnaethom ni lwyddo i'w hystyried wrth lunio ein hadroddiad.

Cyn i mi fanylu rywfaint ar ein casgliadau a'n hargymhellion ynglŷn â'r Bil, hoffwn gofnodi barn y pwyllgor nad oedd yr amserlen a ddyrannwyd ar gyfer craffu ar y Bil hwn yn ystod Cyfnod 1 yn ddigonol. Er i ni ystyried amrywiaeth gymharol eang o dystiolaeth yn yr amser a roddwyd, nid yw saith wythnos o eistedd—ie, saith wythnos o eistedd—yn ffurf briodol o graffu ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol nad yw'n ddeddfwriaeth frys.

Roedd yr amserlen gryno yn golygu mai dim ond ymgynghoriad byr iawn yr oeddem ni'n gallu ei gynnal; roedd yn golygu mai dim ond tair wythnos oedd gennym ni i dderbyn tystiolaeth lafar, gan gynnwys sesiwn gyntaf ac olaf gydag Ysgrifennydd y Cabinet; ac roedd yn golygu nad oeddem ni'n gallu gwneud gwaith dilynol mor drylwyr ag y byddem ni wedi ei hoffi ar faterion penodol a godwyd. Fe wnaeth sawl rhanddeiliad sôn wrthym ni am yr heriau o gyfrannu tystiolaeth yn yr amser a oedd ar gael, ac roeddem ni'n deall eu rhwystredigaethau. Mae'n hanfodol nad yw Seneddau a Llywodraethau'r dyfodol yn cymryd yr amserlen a roddwyd i'r Bil hwn fel cynsail ar gyfer llunio a chraffu ar ddeddfwriaeth nad yw'n ddeddfwriaeth frys.

Wedi dweud hynny, ar ôl ystyried yr amrywiaeth o dystiolaeth a gyflwynwyd i ni, fe wnaethom ni ddod i'r casgliad ein bod ni'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Roedd yn amlwg bod y sector wedi cael ei synnu gan gyflymder cyflwyno'r Bil hwn. Fe'i gwnaed yn eglur gan dystion eu bod nhw'n teimlo blinder polisi a deddfwriaethol ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet ei hun ddweud ei fod wedi bod yn gyfnod cymharol brysur. Fodd bynnag, rydym ni'n cytuno bod gan y Bil hwn y potensial i gryfhau'r sector, yr ansawdd a gynigir i ymwelwyr a'r hyder yn safonau Cymru. Rydym ni'n argymell felly bod y Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol heddiw.

Serch hynny, ceir nifer o feysydd lle mae angen rhagor o waith a manylion. Bydd ymgysylltu cryf â'r sector yn hanfodol i sicrhau gweithrediad llwyddiannus y Bil a bydd yn helpu i adennill hyder rhanddeiliaid.

Mae ein hadroddiad yn archwilio rhai o'r materion allweddol a godwyd gan y rhai a gyfrannodd dystiolaeth, gan gynnwys y cwestiynau sy'n dal i fodoli o ran y data sy'n sail i'r cynllun a swyddogaeth cyrff cyhoeddus eraill o ran gweinyddu'r cynllun a'i orfodi. Yng ngoleuni'r ansicrwydd ynghylch agweddau ar bolisi a gynigir yn y Bil a cham cynnar y cynlluniau ar gyfer ei weithredu, roeddem ni'n cytuno fel pwyllgor y byddai'n bwysig i Senedd yn y dyfodol allu craffu ar ddyfodol datblygiad polisi parhaus Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn gysylltiedig â'r cynllun trwyddedu. Rydym ni'n argymell felly y dylid diwygio'r Bil i wneud cychwyn y ddarpariaeth drwyddedu yn y Bil yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd nesaf.

Fel y nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Bil yn darparu ar gyfer creu cod cyfraith Cymru. Mae hwn yn gam i'w groesawu i wneud cyfraith dwristiaeth yn fwy hygyrch. Bydd y cod ymarfer a ddarperir gan adran 3 yn offeryn hanfodol i'r diwydiant, ac mae'n hanfodol ei fod yn cael ei gynnig trwy ganllawiau i gefnogi'r sector wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei gweithredu.

Cydnabuwyd diffyg data i hysbysu'r cynllun yn eang gan y rhai a roddodd dystiolaeth, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, er iddo ein sicrhau ni y bydd gweithredu'r gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr yn 2027 yn datrys y problemau data hynny. Mae'n bwysig bod y sector yn parhau i fod yn ddynamig ac rydym ni'n cytuno bod y Bil yn rhoi'r hyblygrwydd angenrheidiol i Lywodraethau'r dyfodol ymateb i'r data pan a phryd y byddan nhw ar gael.

Fe wnaethom ni nodi pwyslais cychwynnol y Bil ar lety hunanddarpar hunan-gynhwysol a rhesymeg Ysgrifennydd y Cabinet dros y pwyslais hwn. Er ein bod ni'n croesawu'r hyblygrwydd y mae'r Bil yn ei ganiatáu trwy ddarparu ar gyfer ehangu'r cwmpas trwy reoleiddio, rydym ni'n credu y dylai'r rheoliadau hyn fod yn destun cyfnod craffu gofynnol i sicrhau bod gan Senedd y dyfodol yr amser i ystyried effeithiau posibl unrhyw newid o'r fath ar y sector.

O ran gorfodi, mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud. Roeddem ni'n siomedig nad oes safbwynt eglur eto ar bwy fydd yr asiantaeth gorfodi a pha gyrff fydd yn gwneud y gwaith hwn. Mae angen i'r gwaith hwn ddechrau yn gyflym i sicrhau bod digon o amser ar gyfer cynllunio adnoddau, capasiti ac unrhyw rannu data angenrheidiol rhwng y cyrff dan sylw.

Roedd amheuaeth amlwg gan lawer o dystion ynglŷn â'r rhagdybiaeth o ffi o £75 am drwydded. Rydym ni'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi'i rhwymo gan ddyletswydd i sefydlu ffi at ddibenion adennill costau yn unig, ond rydym ni'n gwybod mai dim ond yn ddiweddarach y gellir penderfynu ar hyn pan fydd rhagor o wybodaeth am y sector a'r prosesau ar gyfer gweithredu ar gael. Rydym ni'n ystyriol o'r pryderon y gallai'r ansicrwydd hwn ei achosi i weithredwyr. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym ni ei fod yn ystyried gwelliant i'r Bil, fel y byddai'n rhaid cael pleidlais gadarnhaol ar lawr y Senedd y tro cyntaf y caiff y ffi ei phennu. Byddem yn croesawu ac yn cytuno â'r dull hwn.

Clywsom bryderon cryf gan y rhai yn y diwydiant am y darpariaethau yn adrannau 46 a 47, a fyddai'n gwneud platfformau trefnu yn gyfrifol am arddangos rhifau cofrestru cywir darparwyr llety a'r posibilrwydd o ddirwy, os y'u ceir yn euog o beidio â chydymffurfio â'r cyfrifoldeb hwn. Dywedwyd wrthym ni y byddai gwirio'r rhifau cofrestru yn dechnegol heriol i'r platfformau trefnu llety hynny. Fe wnaethom ni ddod i'r casgliad bod angen eglurder pellach ynglŷn â'r darpariaethau hyn a'r drosedd arfaethedig, gan awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyfyngu'r cwmpas i'r darparwyr llety i ymwelwyr yn unig.

Clywais yn sylwadau agoriadol Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn bwriadu newid y cyfrifoldeb hwn, ond fe wnaeth gyfeirio at y pwynt o roi 'esboniad rhesymol' i esbonio pam y gallai rhywun fod yn torri'r agwedd benodol hon ar y ddeddfwriaeth. Rwy'n gobeithio, pan ddaw Ysgrifennydd y Cabinet i'r podiwm, efallai y gwnaiff roi enghraifft neu ddwy i ni o'r hyn sy'n cael ei ddiffinio fel 'esboniad rhesymol', oherwydd mae hynny yn eithriadol o amwys, a bod yn onest gyda chi, ac yn y pen draw byddai angen rhyw fath o ddiffiniad i ni ddeall beth fyddai 'esboniad rhesymol' yn ei olygu.

O ran yr adolygiad ôl-weithredol, ni chawsom ein hargyhoeddi gan ddadl Ysgrifennydd y Cabinet pam nad oes un wedi ei gynnwys ar wyneb y Bil. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad, efallai na fydd ymrwymiad a wneir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei anrhydeddu gan weinyddiaeth yn y dyfodol. Bydd deall effaith y Bil yn allweddol wrth ddatblygu polisi twristiaeth yn y dyfodol. Felly, rydym ni'n galw am ofyniad i ychwanegu adolygiad ôl-weithredol at wyneb y Bil ac i adolygiad o'r fath gael ei gynnal erbyn diwedd tymor yr wythfed Senedd yn 2034 fan bellaf.

Fel y nodais yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni'n credu fod gan y Bil hwn y potensial i gryfhau'r diwydiant twristiaeth a'r hyn sydd ganddo i'w gynnig i ymwelwyr yma yng Nghymru, ond bydd hyn yn digwydd dim ond os yw'r polisïau a'r rheoliadau cysylltiedig yn cael eu datblygu gyda rhanddeiliaid, ac y bydd gweithredwyr yn cymryd i ystyriaeth y data a fydd yn llifo o'r gofrestr. Roedd hi'n galonogol clywed bod trafodaethau eisoes wedi dechrau a byddwn yn nodi hyn yn rhan o'n gwaith etifeddol i awgrymu bod y pwyllgor sy'n ein holynu yn rhoi sylw manwl i'r hyn sydd i ddod. Diolch, Dirprwy Lywydd.

18:25

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

18:30

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaf i ddechrau trwy dynnu sylw at rai o'r heriau y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi eu hwynebu wrth iddo wneud ei waith craffu ar y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth.

Fel y pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet i ni, mae'r bwriad i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer twristiaeth yng Nghymru wedi bod yn fwriad polisi i Lywodraeth Cymru ers y cytundeb cydweithio yn 2021. Eto, er gwaethaf y bwriadau polisi hirdymor hynny, ni lwyddodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil hwn yn gynharach na mis Tachwedd 2025. O ganlyniad, dim ond chwe wythnos a roddwyd i bwyllgorau wneud gwaith craffu yn ystod Cyfnod 1. Nid oes gennym ni unrhyw reswm i gredu bod y Bil wedi cael ei gyflwyno mor hwyr yn y Senedd o ganlyniad i ddatblygiad polisi arbennig o drylwyr, ac ni wnaeth y ddeddfwriaeth elwa o fod yn destun ymgynghoriad ar ffurf drafft cyn ei chyflwyno chwaith. Nid yw'n bosibl i bwyllgorau wneud gwaith craffu o ansawdd uchel a manwl ar Fil mewn cyfnod mor fyr. Barn y pwyllgor yw y dylid gwneud gwaith craffu Cyfnod 1 dros o leiaf 12 wythnos eistedd. Rydym ni'n nodi sylwadau'r gwahanol randdeiliaid sydd wedi ei gwneud hi'n eglur bod eu gallu i ystyried darpariaeth y Bil yn ddigon manwl hefyd wedi cael ei rwystro'n sylweddol gan amserlen Cyfnod 1. Mae ein hadroddiad yn dod i'r casgliad felly na wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddadl argyhoeddiadol dros gyfnod craffu Cyfnod 1 wedi'i gwtogi. Mae hefyd yn dod i'r casgliad y gallai ansawdd y ddeddfwriaeth ei hun a'i gallu i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru gael eu heffeithio'n negyddol o ganlyniad.

Gan herio capasiti craffu'r pwyllgor ymhellach, cyhoeddwyd yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y Bil ar y diwrnod gwaith cyn ein sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet. O ganlyniad, ni wnaethom ni allu defnyddio'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb i hysbysu ein meysydd holi. Mae rhai rhanddeiliaid wedi codi pryderon am ddiffyg cydnawsedd posibl y darpariaethau yn y Bil â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mae'r pwyllgor wedi penderfynu ers hynny nad yw'r asesiad sydd wedi ei gynnwys yn yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn ddigon manwl i'n bodloni bod Llywodraeth Cymru yn ystyriol o'r pryderon hynny.

Mae ein hadroddiad yn gwneud dau argymhelliad ac yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi mwy o fanylion am asesiad Llywodraeth Cymru o'r materion hyn. Rydym yn nodi llythyr Ysgrifennydd y Cabinet dyddiedig 9 Ionawr, sy'n amlinellu'n fwy manwl pam mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y Bil hwn yn gymesur yn hyn o beth. Yn ei gasgliad cyffredinol, daeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'r casgliad bod y Bil yn darparu ar gyfer dirprwyo pwerau amhriodol i Weinidogion Cymru ar draul eglurder a manylder ar wyneb y Bil. Mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu priodoldeb y pwerau hynny. Mae'r ehangaf o'r pwerau hynny yn y Bil yn rym gwneud rheoliadau yn adran 5, sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i ymestyn y drefn drwyddedu i fathau o lety i ymwelwyr fel gwestai, sefydliadau gwely a brecwast, ystafelloedd sbâr a safleoedd gwersylla nad ydyn nhw'n rhan o gwmpas y Bil ar hyn o bryd yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd. Mae rhanddeiliaid ac Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi nodi y byddai ymestyn y drefn drwyddedu i wahanol fathau o lety i dwristiaid yn arwain at oblygiadau sylweddol i'r sector. Nid oedd y pwyllgor wedi'i argyhoeddi felly ei bod hi'n briodol galluogi newidiadau mor sylweddol i gwmpas y Bil trwy reoliadau.

Mae adrannau 25, 52 a 53 y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru greu troseddau drwy reoliadau. Rwyf i wedi trafod yn gynharach yng nghyd-destun y Bil atebolrwydd Aelodau nad yw'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel mater o egwyddor, yn credu ei bod hi'n briodol creu troseddau o dan is-ddeddfwriaeth. Rydym ni wedi argymell bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi'r troseddau hynny ar wyneb y Bil.

Yn olaf, Llywydd, mae adran 46 y Bil yn darparu y bydd yr wybodaeth benodol y mae'n rhaid ei chynnwys ar ddeunydd hysbysebu a marchnata ar gyfer llety i ymwelwyr yn cael ei nodi mewn modd ac ar ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru. Mae adran 47 yn ei gwneud hi'n drosedd i fethu â chydymffurfio â'r gofynion hynny. Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hynny'n golygu bod y meini prawf a ddefnyddir i ddyfarnu bod unigolyn wedi cyflawni trosedd yn rhydd o unrhyw graffu o gwbl gan y Senedd. Nid oedd y pwyllgor wedi'i argyhoeddi o gwbl gan ddadl Ysgrifennydd y Cabinet o blaid y dull arfaethedig. Argymhellodd y dylai'r gofynion hysbysebu a marchnata yn adran 46 gael eu gwneud trwy reoliadau yn amodol ar weithdrefn gymeradwyo'r Senedd.

Yn anffodus, nid ydym wedi derbyn ymateb cyflawn i'n hadroddiad cyn y ddadl heddiw. Felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i'r argymhellion hyn sy'n weddill heddiw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle yma i gyfrannu yn y ddadl heddiw, a dwi'n falch i nodi bod y Cabinet Secretary wedi derbyn pob un o'r argymhellion, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor.

Fel pwyllgor, rydym ni'n cefnogi'n gyffredinol y fframwaith ariannol sy'n sail i'r Bil. Fodd bynnag, rydym ni wedi nodi meysydd lle mae angen mwy o eglurder a sicrwydd. Mae ein prif bryder yn ymwneud â'r diffyg data i hysbysu'r rhagdybiaethau cost yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Yn benodol, mae absenoldeb gwybodaeth sylfaenol ddibynadwy am faint a chyfansoddiad y sector llety hunanddarpar yn cyflwyno ansicrwydd a risg, gan danseilio hyder yn yr amcanestyniadau costau. Rydym ni'n credu fod yn rhaid lliniaru hyn trwy fonitro parhaus ac adolygiad ôl-weithredol cadarn, ac rydym ni'n croesawu'r ymrwymiad i adolygu costau a manteision o fewn pum mlynedd. Ond hoffem i Ysgrifennydd y Cabinet fynd ymhellach, a dyna pam rydym ni wedi argymell bod yr adolygiad hwn hefyd yn nodi maint y manteision sy'n deillio o'r Bil, sy'n cael eu disgrifio'n ansoddol yn unig ar hyn o bryd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Rwy'n falch o weld ei fod wedi ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad hwn.

Rydym ni hefyd yn ystyried pryderon am lefel arfaethedig ffi'r drwydded yng Nghymru o'i gymharu â chynlluniau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac yn disgwyl pwyll ynghylch y rhagdybiaeth sy'n sail i'r amcangyfrifon cyfredol. Mae cymharu'n gyfatebol â modelau eraill mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig yn achosi problemau, ond mae'n hanfodol bod ffioedd yn cael eu gosod ar lefel sy'n deg, yn gynaliadwy ac yn adlewyrchu costau gwirioneddol unwaith y bydd data gwell ar gael.

Gan droi at swyddogaethau awdurdod trwyddedu, nid yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn cadarnhau pwy fydd yn ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn. Yn y dystiolaeth, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu y bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn rheoli'r agweddau awtomatig ar y broses, o ystyried ei gyfrifoldebau am y system cofrestru llety ymwelwyr. Awgrymodd hefyd y gallai awdurdodau lleol neu Croeso Cymru fod yn gyfrifol am reoli achosion mwy cymhleth sy'n gofyn am ddyfarniad ar lawr gwlad. Rydym ni'n cefnogi integreiddio'r swyddogaethau hyn mewn cyrff cyhoeddus presennol yng Nghymru i osgoi cynnydd diangen i gostau, ond rydym ni'n credu fod angen rhagor o wybodaeth yn y maes hwn, a gofynnwn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r model cyflawni arfaethedig ac i gynnal asesiad o oblygiadau ariannol y partneriaid cyflenwi mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig ar ôl Cyfnod 2.

Mewn ymateb, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol i adlewyrchu ei ragdybiaethau yn well ynghylch pwy allai ymgymryd â rhai swyddogaethau awdurdod trwyddedu. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym ni fod £430,000 eisoes wedi cael ei ddyrannu i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon ar gyfer gwaith darganfod i sicrhau cysondeb rhwng y gofrestr a'r systemau trwyddedu. Gofynnwn am eglurder pellach ar yr hyn y bydd y cyllid hwn yn ei gwmpasu, ac argymhellwn fod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny. Eto, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn fyfyrio ar y costau gorfodi amcangyfrifedig. Mae'r RIA yn tybio mai dim ond 10 y cant o'r 1,000 o achosion cydymffurfio bob blwyddyn a fydd angen archwiliadau llawn. Mae'r dybiaeth hon yn ymddangos yn isel i ni, ond rydym ni'n pryderu y gallai costau gorfodi, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar ei roi ar waith, fod wedi eu tanamcangyfrif. Er mwyn rhoi sicrwydd, rydym yn argymell bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynnal dadansoddiad sensitifrwydd mewn perthynas â nifer yr achosion cydymffurfio y bydd angen eu harchwilio bob blwyddyn er mwyn dangos yr ystod posib o gostau mewn RIA diwygiedig. Rydym yn croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i ddiweddaru'r RIA er mwyn tynnu sylw at sut y gall costau gweinyddol amrywio yn sgil newidiadau o ran rhagdybiaethau. Diolch yn fawr.

18:35

Yn gyntaf, hoffwn ategu sylwadau Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Hoffwn gofnodi bod y Ceidwadwyr Cymreig, mewn egwyddor, yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.

Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru. Mae safonau eglur, data da a hyder y cyhoedd yn bwysig, a gall system gofrestru genedlaethol, wedi'i llunio'n iawn, ein helpu i ddeall maint a natur y sector llety ymwelwyr yma yng Nghymru, rhywbeth, yn syml, fel y clywodd pwyllgorau dro ar ôl tro ac sydd wedi cael ei adleisio yma heddiw, nad oes gennym ni ar hyn o bryd. Fodd bynnag, fel y daeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'r casgliad, mae'n rhaid gwahanu cefnogaeth i egwyddor y Bil hwn yn eglur oddi wrth bryderon difrifol ynghylch sut y mae wedi cael ei ddatblygu a sut y bwriedir iddo weithredu.

Un o'r canfyddiadau mwyaf eglur gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a nodir yn gwbl eglur yng nghasgliad 1, oedd siom am yr amserlen fer ar gyfer craffu yn ystod Cyfnod 1 a'r effaith negyddol y mae hyn wedi ei chael ar ymgysylltu â rhanddeiliaid. Adleisiwyd y pryder hwnnw'n gryfach gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a ddaeth i'r casgliad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud dadl argyhoeddiadol dros gwtogi gwaitth craffu ac y gallai ansawdd y ddeddfwriaeth ei hun ddioddef o ganlyniad. Mae hyn yn bwysig gan nad yw craffu brysiog yn cynhyrchu cyfraith dda, yn enwedig mewn deddfwriaeth ar y raddfa hon nad yw'n ddeddfwriaeth frys. Rwy'n sôn am hynny fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ac o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar yr adeg y derbyniwyd y dystiolaeth honno ac y gwnaed y gwaith craffu hwnnw.

Gan droi at sylwedd y Bil, hoffwn ganolbwyntio yn gyntaf ar gofrestru a thrwyddedu. Mae'r Ceidwadwyr yn cefnogi cofrestru, ond rydym ni wedi codi pryderon yn gyson, a rennir gan dystion ac a adlewyrchir yn adroddiadau'r pwyllgorau am y penderfyniad i gyflwyno cofrestru a thrwyddedu gyda'i gilydd, yn hytrach nag un ar ôl y llall. Nododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn eglur amheuon ynghylch y dull hwn ac aeth ymlaen yn argymhelliad 3 i alw i gychwyn y cynllun trwyddedu fod yn amodol ar gymeradwyaeth bellach gan y Senedd. Mae'r argymhelliad hwnnw, Dirprwy Lywydd, yn bodoli am reswm. Mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer trwyddedu, ar y gorau, yn anghyflawn. Fel y cofnododd y ddau bwyllgor, ceir diffyg data dibynadwy am y sector, gan gynnwys lefelau cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch presennol. Ac eto, mae trwyddedu yn cael ei gyfiawnhau yn rhannol ar sail iechyd a diogelwch. Ond ble mae'r dystiolaeth o'r methiannau hyn? Ble mae'r adroddiadau o ddigwyddiadau trydanol neu dân eang mewn unedau llety hunanddarpar yma yng Nghymru? Diolch byth, a chyda balchder, mae ein llety twristiaeth o safon uchel a diogel. Felly, os mai trwyddedu yw'r ateb, mae'n rhaid i ni fod yn eglur am y cwestiwn yn gyntaf. Fel arall, rydym ni mewn perygl o orfodi cost a biwrocratiaeth diangen heb fudd eglur i'r cyhoedd.

Mae hynny'n fy arwain at bryder arall a godwyd yn rymus yn ystod gwaith craffu: y cyfrifoldebau a roddir ar blatfformau trefnu ar-lein. Rwyf i wedi clywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud am hyn heddiw, ond roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn arbennig o eglur am hyn yn ei ystyriaeth o adrannau 46 a 47 y Bil. Ym mharagraffau 145 i 147, tynnodd y pwyllgor sylw at amheuon difrifol ynghylch pa mor ymarferol yw disgwyl i blatfformau mawr blismona cywirdeb gwybodaeth gofrestru sy'n cael ei lanlwytho gan ddarparwyr llety. Dywedodd Airbnb ac eraill wrthym ni'n uniongyrchol nad oes ganddyn nhw'r capasiti i wirio'r wybodaeth hon i'r fath raddau, na allan nhw gywiro unwaith y byddan nhw'n cael eu hysbysu amdano, ac nad yw'r atebion technegol arfaethedig yn ymarferol. Fel y daeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'r casgliad, mae'n amhriodol creu troseddau ar sail gofynion a fydd yn cael eu gosod yn ddiweddarach gan Weinidogion heb graffu priodol gan y Senedd. Dyna pam mae argymhelliad 9 yn galw i ofynion hysbysebu a marchnata gael eu creu trwy reoliadau sy'n amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.

Yn fwy cyffredinol, rhybuddiodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad fod y Bil hwn yn cynrychioli trosglwyddiad sylweddol o bwerau i Weinidogion Cymru, â gormod yn cael ei adael i is-ddeddfwriaeth a rhy ychydig ar wyneb y Bil. Dyma pam y daeth i'r casgliad bod dirprwyo pwerau yn amhriodol ac yn achosi'r perygl o danseilio gwaith craffu—pryder a ddylai wneud i'r holl Aelodau yma feddwl, waeth pa blaid y maen nhw'n perthyn iddi.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, pwysleisiodd y ddau bwyllgor bwysigrwydd adolygu ac atebolrwydd, pwynt sydd wedi cael ei bwysleisio yma heddiw hefyd. Argymhellodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y dylai cychwyn trwyddedu nid yn unig fod yn ofynnol ar gymeradwyaeth bellach gan y Senedd, ond y dylai fod cyfyngiad amser arno i sicrhau na all Llywodraethau'r dyfodol adael i'r polisi lusgo. Yn y cyfamser, argymhellodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y dylid gosod adolygiad statudol ôl-weithredol ar wyneb y Bil, yn union oherwydd y datblygiad brys a'r ansicrwydd parhaus ynghylch gweithrediad. Rwy'n credu bod y rhain yn fesurau diogelu synhwyrol.

Felly, i fod yn eglur, rydym ni'n cefnogi'r cyfeiriad teitthio, rydym ni'n cefnogi cofrestru, rydym ni eisiau safonau uchel a sector twristiaeth sy'n ffynnu, ond nid ydym ni'n cefnogi deddfu ar frys heb dystiolaeth, trosglwyddo pwerau gormodol i Weinidogion na chyflwyno trwyddedu cyn ein bod ni hyd yn oed yn deall y sector yr ydym ni'n ceisio ei reoleiddio. Os yw'r Bil hwn yn mynd i lwyddo, mae'n rhaid ei arafu, ei gryfhau a'i wneud yn gymesur. Rwy'n credu fod hwn yn ddull adeiladol y byddwn ni'n parhau i'w ddilyn wrth i'r Bil hwn fynd rhagddo. Diolch, Dirprwy Lywydd.

18:40

Fel Sam Kurtz ac Andrew R.T. Davies, hoffwn ddiolch i glercod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am eu gwaith cyflym yn y sesiynau tystiolaeth yng Nghyfnod 1 y Bil hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am y sgyrsiau niferus yr ydym ni wedi eu cael am y Bil hwn. Rwyf i wir wedi gwerthfawrogi, fel erioed, yr ymgysylltiad y mae wedi ei gael â mi wrth geisio sicrhau consensws ar wahanol faterion, a phan fyddwn ni'n ei sicrhau, bod hwnnw'n adeiladol ac yn seiliedig ar fwriadau da.

Yn gyntaf, hoffwn ddweud bod Plaid Cymru yn croesawu'r ymdrechion yma i ddatblygu ein diwydiant twristiaeth a'r pwysigrwydd y mae'r Bil hwn yn ei roi ar sicrhau bod pobl sy'n aros mewn llety byrdymor yng Nghymru yn ddiogel. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol i iechyd ein diwydiant twristiaeth, pan fydd pobl yn dod i Gymru, eu bod nhw'n gwybod bod gan eu llety safon ddiogelwch uchel, ac mae'r Bil hwn yn gam pwysig i wneud yn siŵr bod hynny'n wir ar draws y sector cyfan.

Rwy'n credu hefyd ei bod hi'n deg dweud bod y sector twristiaeth wedi delio â nifer o Filiau yn y tymor Senedd hwn ac, wrth gwrs, fel yr adlewyrchir yn ein tystiolaeth pwyllgor, mae hyn wedi bod yn bryder gwirioneddol i'r sector. Felly, wrth fwrw ymlaen â'r Bil hwn, mae'n bwysig bod y prosesau sy'n cael eu sefydlu yn hawdd ac yn syml yn ogystal â gwneud yn siŵr bod costau yn cael eu cadw mor isel â phosibl. Yn y pwyllgor, er enghraifft, clywsom rai straeon ofnadwy o brofiad yr Alban, ac roedd tystion yn iawn i dynnu sylw at yr angen i ni ddysgu o'r profiadau hynny yn yr Alban fel nad ydym ni'n ailadrodd yr un camgymeriadau yma yng Nghymru. Ar wahân i hynny, yr hyn a fyddai o gymorth i'r Aelodau ei weld, yn fy marn i, yw map eglur ar gyfer y Bil hwn, felly adeiladu ar ei ddechreuad â llety hunanddarpar i sicrhau bod unrhyw beryglon wedyn o reoleiddio tameidiog ac anghysondebau yn cael eu sylw. Byddai eglurder ynghylch camau nesaf y Bil hwn, wedi'u hamlinellu'n eglur, yn rhoi, yn fy marn i, rhywfaint o sicrwydd nid yn unig i'r Senedd, ond i'r sector ehangach hefyd.

Nawr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi sylwi, wrth gwrs, ar yr argymhelliad gan bwyllgor yr economi ar gychwyn y Bil hwn— cyfeiriwyd ato sawl gwaith yn y Siambr eisoes. Mynegodd tystion i'r sesiynau tystiolaeth yn aml y farn bod y Bil yn seiliedig ar ychydig iawn o ddata. Roedd ansicrwydd hefyd ynglŷn â diben y Bil a'r cynllun ar gyfer ei weithredu, gan arwain wedyn wrth gwrs at y pwyllgor yn argymell mai'r Senedd nesaf ddylai bleidleisio ar gychwyn y Bil hwn.

Nawr, rhwng popeth, fy marn i fyddai nad gohirio gweithrediad y bil  yw'r ffordd orau ymlaen o reidrwydd, yn enwedig o safbwynt ymwelwyr. Mae'r gair pwysig hwnnw yr wyf i wedi ei ddefnyddio sawl gwaith eisoes, 'eglurder'—mae eglurder, fel yr wyf i wedi sôn, yn bwysig i ymwelwyr a'r sector, felly byddai gen i ddiddordeb mawr mewn cael barn Ysgrifennydd y Cabinet ar gofnod ar y pwynt hwnnw yn arbennig. Ond fel arall, yng Nghyfnod 1 pwysig hwn y Bil hwn, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid yr egwyddorion cyffredinol ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu ymhellach ag Ysgrifennydd y Cabinet wrth i'r Bil hwn fynd rhagddo.

18:45

Rwy'n nodi'r pryderon ynglŷn â byrder yr amserlen, ond rwy'n credu bod peryglon enfawr o ddatgysylltu trwyddedu oddi wrth gofrestru ac felly, er fy mod i'n cytuno'n llwyr ag argymhellion Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig—nid oes gen i unrhyw anghytundeb ar ein hargymhellion—rwyf i yn credu bod y pwyslais ar yr amserlen yn esgeuluso rhai o'r peryglon o beidio â deddfu.

Fel rhywun sy'n cynrychioli etholaeth drefol yn y brifddinas, hoffwn gyflwyno o'n blaenau rai o'r peryglon y byddem ni'n eu hwynebu os na fyddwn yn llwyddo i gael y ddeddfwriaeth hon ar y llyfrau cyn diwedd y Senedd hon. Fis Mehefin diwethaf, cafodd gŵr a yrrodd yn fwriadol i mewn i ddau berson gyda cherbyd SUV yn dilyn ffrae am archeb ddwbl mewn Airbnb yn Cathays ei garcharu am 10 mlynedd. Cafodd y ddau gerddwr yma eu taflu i'r awyr yn dilyn ffrae yn yr eiddo rhent hwn oherwydd yr archeb ddwbl yn yr un llety Airbnb. Roedd y gyrrwr peryglus hwn, yn fy marn i, yn ffodus i ddianc â dedfryd am geisio cyflawni niwed corfforol difrifol yn hytrach nag ymgais i lofruddio.

Ymwelodd dros 2 filiwn o bobl â Chaerdydd—

Mae'n ddrwg gen i, Jenny, a wnewch chi ildio? Mae hynna'n achos diddorol iawn, ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed am hynna—dyna'r tro cyntaf i mi glywed amdano. Sut mae'r ddeddfwriaeth hon yn atal hynny yn eich barn chi?

Wel, oherwydd, os oes trwyddedu priodol, byddai'n atal Airbnb rhag derbyn archeb ddwbl o'r llety penodol hwnnw, mewn stryd fach iawn fel nad oedd unrhyw ddryswch pa un a oedd y rhif anghywir neu unrhyw beth felly. Beth bynnag, dyna fy marn i.

Pan fo gennych chi dros 2 filiwn o bobl yn ymweld â'n prifddinas, ac roedd hynny yn ôl yn 2023-24—. Allaf i ddim dod o hyd i'r ffigurau ar gyfer 2024-25 eto, ond mae'n weddol sicr y byddan nhw'n yn bendant ar gynnydd, yn enwedig o ystyried y twf i'r galw am lety i ymwelwyr oherwydd cyngherddau awyr agored uchel eu proffil yr haf diwethaf a hefyd digwyddiadau chwaraeon eraill sy'n cael eu cynnal, sy'n gwneud hyn nid yn unig yn broblem dymhorol, mae'n broblem ar bron i bob penwythnos fwy neu lai. Ac rydym ni'n gwybod bod costau Airbnb yn ffrwydro'r farchnad adeg digwyddiadau mawr, fel y cyngerdd Oasis a gynhaliwyd yn yr haf, gan godi prisiau i ymwelwyr dros 70 y cant, pa un a oedd yr unigolyn yn mynd i'r cyngherddau ai peidio. Ac rydym ni'n sôn am rywle rhwng £500 a £600 dim ond am un noson o lety i ddau berson. Felly, mewn marchnad nad yw wedi'i rheoleiddio briodol, rydym ni bob amser yn mynd i gael problemau fel landlordiaid diegwyddor sy'n canslo archebion heb esboniad fel y gallan nhw godi eu prisiau eto yn y cyfnod cyn digwyddiad. Digwyddodd hynny i mi yn bersonol mewn dinas arall yn Lloegr, ac mae'n sicr yn wir fod hynny wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Er enghraifft, yng ngogledd Llundain, cafwyd landlord yn euog o osod dau fflat parti yn anghyfreithlon ar Airbnb a Booking.com ar ôl i gymdogion fynd drwy uffern oherwydd sŵn gormodol, nid yn achlysurol, ond bron bob penwythnos. Dim ond caniatâd cynllunio i'w ddefnyddio fel cartref sengl hunangynhwysol oedd gan y landlord. Fodd bynnag, canfu'r tîm gorfodi cynllunio fod y ddwy asiantaeth ar-lein hyn yn cynnig arosiadau byrdymor i grwpiau mawr, a oedd yn aml yn defnyddio'r fflatiau hyn ar gyfer partïon. Mae hynny'n digwydd yng Nghaerdydd hefyd, ac mae wedi cael effaith ddifrifol ar allu trigolion i allu mwynhau eu cartref eu hunain mewn heddwch. Nid wyf i wedi gweld camfanteisio ar y gyfraith i'r graddau hynny hyd yma, ond, os na fyddwn ni'n deddfu, fe allwch chi weld sut y bydd barusrwydd ymhlith rhai unigolion yn achosi problemau difrifol o ran canslo eiddo ar y funud olaf un, gan adael pobl yn sownd, o bosibl yng Nghaerdydd, heb unrhyw ddealltwriaeth o le arall y gallan nhw gael llety. Felly, ni chefais fy argyhoeddi gan y dadleuon gan Airbnb a Booking.com ac un neu ddau o dystion eraill y dylai'r ddeddfwriaeth hon aros tan i'r system gofrestru fod yn hollol weithredol. I etholwyr Caerdydd, ni all y rheoleiddio hwn o ymwelwyr ddod yn ddigon buan.

Nid wyf i'n derbyn y ddadl hon gan Airbnb ac Booking.com ei bod hi'n dechnegol anodd gwirio cywirdeb rhifau cofrestru busnesau sy'n cofrestru gyda nhw. Cyn belled ag y gallwn ni ei gwneud hi'n broses syml, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, yn debyg i'r broses cofrestru cerbydau yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd â hi, lle gallwch chi wirio a yw unrhyw gerbyd wedi cael MOT ai peidio a'u bod nhw wedi'u trwyddedu—. Dyna'r math o ddeddfwriaeth—

18:50

—rwy'n gobeithio y gallwn ni gyflawni, ac yn amlwg edrychwn ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet yn hynny o beth.

Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddechrau drwy ddyfynnu rhywfaint o'r dystiolaeth a glywyd o ran y ddeddfwriaeth hon, yn gyntaf gan y Professional Association of Self-Caterers UK Cymru. Maen nhw'n dweud hyn:

'Ni chynhaliwyd asesiad effaith cyfunol, er gwaethaf 19 o ymyriadau cydamserol sy'n effeithio ar y sector, ac er bod gweinidogion yn gwbl ymwybodol o "faint yr ymosodiad" ar fusnesau hunanddarpar Cymru.'

Nawr mae eu defnydd o'r gair 'ymosodiad' yn gryf iawn. Mae'n cynrychioli tybiaeth y corff hwnnw fod y Bil hwn yn ergyd arall i fusnesau hunanddarpar, ac yn erydiad pellach o ymddiriedaeth yn Llywodraeth Cymru ac yn y Senedd hon. Ac nid yw'r agwedd negyddol honno yn eithriad. Ysgrifennodd Twristiaeth Gogledd Cymru

'mae pryderon sylweddol yn parhau ynglŷn â'r baich rheoleiddiol cyfunol ar ddiwydiant sydd eisoes yn wynebu heriau digynsail.'

Ac esboniodd West Wales Holiday Cottages nad yw'r Bil hwn

'yn adlewyrchu'r dirywiad presennol (gostyngiad o 29% i arosiadau dros nos 2022–2024) na breuder hyder y sector.'

Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae tystiolaeth o'r fath yn gwneud i ni feddwl, wrth ystyried mai un o brif nodau'r Bil hwn yw hyrwyddo twristiaeth. Rwy'n pryderu, fel y mae Cadeiryddion y pwyllgorau eisoes wedi sôn, am y broses ddeddfwriaethol a ddilynwyd hyd yn hyn. Fe wnaeth yr amserlen a gyflymwyd ar gyfer craffu yn ystod Cyfnod 1 gyfyngu, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, ar y cyfle ar gyfer ymgynghori a chasglu tystiolaeth trylwyr. A dweud y gwir, roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus mor fyr bod cyrff cynrychioliadol fel y National Residential Landlords Association a'r Short Term Accommodation Association yn dweud na wnaethon nhw allu gynnal ymgynghoriad manwl â'u haelodau. Ac mewn gwirionedd, does neb yma heddiw yn gwybod faint o lety byrdymor sydd yna yng Nghymru. Nid oes gennym ni unrhyw ddarlun eglur o lefel y cydymffurfiad, dim ond adroddiadau anecdotaidd.

Tystiolaeth bellach o hyn yw bod y Bil yn ddarn arall eto o ddeddfwriaeth yng Nghymru sy'n dibynnu'n fawr ar reoliadau. Er enghraifft, mae'n cael ei adael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol—ac, fel y soniodd Alun Davies, Llywodraeth Cymru anetholedig yn y dyfodol—reoleiddio ar hysbysu darparwyr llety ymwelwyr ymlaen llaw am eu bwriad i roi hysbysiad gwyliau. Mae hefyd yn cael ei adael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol benderfynu ar ganiatáu i drwyddedau gael eu hystyried yn weithredol tan i benderfyniad gael ei wneud ar y cais. Ac mae'n cael ei adael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol benderfynu a fydd trwyddedau dros dro yn cael eu caniatáu. A dweud y gwir, mae'r ddeddfwriaeth hon hyd yn oed yn ei gadael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol benderfynu ar ddarpariaethau ynghylch marwolaethau, analluogrwydd, ansolfedd a gwerthu busnes i ddarparwr llety ymwelwyr arall.

Rwyf i hefyd yn pryderu nad yw'r ddeddfwriaeth yn cyflawni nod y Bil, sef creu sefyllfa decach. Er enghraifft, pam mae'r Bil yn eithrio pobl sy'n gosod ystafelloedd sbâr? Fel y tynnodd Travel Chapter a Sykes Holiday Cottages sylw ato, byddan nhw'n fwy o risg na darparwyr byrdymor traddodiadol. Ar draws y brifddinas hon, mae 335 o ystafelloedd preifat, ystafelloedd sbâr, wedi'u rhestru ar Airbnb. Fel y mae hi ar hyn o bryd, ni fydd angen trwydded ar y 335 o ystafelloedd hyn. Rwy'n credu bod hyn yn ddiffyg yn y ddeddfwriaeth. Hoffwn wybod mwy am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwy'n cydnabod manteision posibl cynllun sydd wedi'i ddylunio'n dda, gan gynnwys gwell diogelwch i westeion, safonau ansawdd uwch a sector mwy proffesiynol. Felly, byddaf yn pleidleisio o blaid yr egwyddorion cyffredinol heddiw, ond rwy'n gobeithio fy mod i wedi gwneud fy mhryderon yn eglur am y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth hon wedi datblygu, ac y dylai'r Senedd fod wedi cael mwy o amser, y dylid fod wedi casglu data mwy cadarn, ac y dylai mwy o fanylion fod ar wyneb y Bil. Mae angen i'r Llywodraeth Cymru hon a'r un yn y dyfodol ddysgu o'r profiad hwn. Bydd gwneud hynny, yn fy marn i, yn mynd i'r afael â'r agweddau negyddol sydd gan rai, o leiaf, yn y sector twristiaeth tuag at y lle hwn. Diolch yn fawr.

18:55

Roedd hwnnw'n gyfraniad hynod bwerus yn y fan yna. Rwy'n cytuno â phob pwynt rydych chi'n ei wneud. Yn amlwg, fel yr Aelod dros Aberconwy, mae'r diwydiant twristiaeth yn hanfodol i ni. Dyma ein hunig ddiwydiant bron, ac rwy'n falch iawn o safon y llety sydd gennym yn Aberconwy.

Y pwyntiau rydych chi'n eu gwneud am rentu ystafelloedd a chwarae teg—. Nid wyf yn sicr, fel y mae hi, bod hynny hyd yn oed wedi'i ystyried. Rwy'n gwybod am bobl yng Nghaerdydd a fydd yn mynd i ffwrdd pan fydd y cyngherddau hyn ymlaen, yn gadael eu cartrefi. Ac, fel y nododd Jenny, os gallan nhw godi £600 neu £700 y noson, ac rydych chi'n symud i gartref rhywun nad yw efallai wedi pasio drwy unrhyw ddeddfwriaeth ac mae ganddo'r mentrau diogelwch hynny ar waith, mae'n eithaf pryderus.

Rydym yn gwybod mai twristiaeth yw asgwrn cefn ein heconomi, ond yn rhy aml yn y lle hwn, yn sicr yn ystod y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru, mae'n deg dweud bod ein diwydiant twristiaeth, a'n busnesau lletygarwch, yn teimlo bod y Llywodraeth Lafur Gymreig hon yn rhoi pwysau arnynt. Wyddoch chi, mae 159,000 yn gweithio ym maes twristiaeth, sy'n cyfrif am tua 5.1 y cant o'r gwerth ychwanegol gros yng Nghymru. Mae pob un ohonom yn cael negeseuon e-bost nawr, ar hyn o bryd, gan y sector lletygarwch, yn galw am help a chefnogaeth gydag ardrethi busnes. Gyda'r holl bethau negyddol sydd wedi'u rhoi o'u blaenau, maen nhw'n teimlo bod hyn yn achos arall o 'Daro'. Er bod rhai yn hoffi'r syniad o drwyddedu, a chofrestru, gellir ei weld fel ergyd arall i'n diwydiant twristiaeth, ac mae angen newid hyn yn sylweddol. Mae'n rhaid i ni wneud beth bynnag y gallwn, a phan rwy'n dweud 'ni', mae i fyny i chi fel Llywodraeth Lafur Cymru brofi eich bod chi wir yn cefnogi'r sector twristiaeth a lletygarwch hwn sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.

Mae'r Bil yn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr, gan ddechrau gydag eiddo hunangynhwysol a hunanddarpar. Bydd yn sicrhau bod addasrwydd eiddo yn ofyniad cytundebol, a byddem yn disgwyl hynny, oni fydden ni? Yn rhy aml, rwy'n clywed am y lladdwr tawel—carbon monocsid—lle mae pobl wedi mynd i mewn i eiddo a does dim synhwyrydd yno, ac rydym yn aml yn clywed am ddigwyddiadau trist iawn. A byddaf yn gwthio i sicrhau bod y rheini yn cael eu gosod ym mhob llety rhent.

Byddwn yn cefnogi—bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi—egwyddorion cyffredinol y Bil. Ond mae'n deg dweud bod ein sector twristiaeth a lletygarwch hanfodol wedi wynebu rhai penderfyniadau gwael iawn a wnaed gan Lywodraethau Llafur blaenorol, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, fel y trothwy 182 diwrnod, y dreth dwristiaeth. Gyda'r holl straen a phryderon ychwanegol sydd wedi'u rhoi ar ein sector twristiaeth, mae'n hanfodol bod unrhyw bolisïau pellach yn dra ystyriol. Mae angen i ni glywed barn y sector yn llawn, ac, fel y dywedwyd eisoes, mae'n cael ei ruthro drwodd mor gyflym fel nad oes data perthnasol ar gael i ni o hyd i hyd yn oed cychwyn ar hyn.

19:00

Bydd yr wybodaeth am gofrestru ar gael y flwyddyn nesaf, felly rwy'n credu y gallwn ni fynd ar drywydd hyn yn hyderus, oherwydd ni all fod yn gyflawn ar hyn o bryd am ei fod yn rhywbeth sy'n fyw.

Wel, cawn weld sut yr aiff pethau. Dydw i ddim mor hyderus â chi. Rwyf hefyd yn rhannu pryderon y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, dan gadeiryddiaeth Andrew R.T. Davies, ynglŷn ag amseriad y Bil hwn, gyda'r pwyllgor yn nodi ei fod yn gresynu at yr amserlen fer a bennwyd i ymgymryd â gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil, ac argymhelliad na ddylai hyn fod yn gynsail yn y dyfodol. Mae'r Bil hwn yn dilyn bwriadau cyn-Lywodraeth Geidwadol y DU, a ddechreuodd weithio ar ddeddfwriaeth debyg a fyddai'n creu cynllun cofrestru cenedlaethol gorfodol fel modd o gydbwyso'r heriau a'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth lety tymor byr. Mae'n cael ei dargedu'n benodol at anheddau hunangynhwysol, hunanddarpar. Mae hyn yn golygu—. Ac er nad ydych chi'n teimlo bod £75 yn llawer o arian, mae'n ergyd arall, on'd yw e, i'n diwydiant twristiaeth. Ac fe fyddai yna ddirwyon am beidio â chydymffurfio, a gofyniad i dalu ffi am eu trwydded, a bwriedir sefydlu cofrestr gyhoeddus o'r holl eiddo trwyddedig hefyd.

Mae gennym bryderon, fodd bynnag, ynghylch ymarferoldeb gweithredu'r Bil hwn. Rydym yn galw am fwy o eglurder ynglŷn â'r mesurau diogelu fydd ar waith—pwy sy'n mynd i orfodi hyn i gyd—ac rydym yn galw hefyd am sicrwydd y bydd y cyfeiriadur arfaethedig, sy'n dwyn ynghyd gofrestr Awdurdod Refeniw Cymru a'r gofrestr drwyddedu newydd—. Ac nid ydym am weld llwyfannau archebu yn cael eu gwneud yn gyfreithiol atebol am gamgymeriadau a wneir gan westeiwyr wrth fewnbynnu eu data. Rwy'n teimlo bod angen llawer mwy o addysg ar gyfer diwydiant sy'n teimlo dan bwysau. Mae'n gweld hyn fel mwy o reoleiddio. Rwy'n edrych ymlaen at glywed rhywfaint o eglurhad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a byddaf yn sicr eisiau rhoi rhywfaint o fewnbwn i'r Bil hwn wrth iddo fynd rhagddo. Diolch yn fawr iawn.

19:05

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. O ran y dyfodol, rhaid i dwristiaeth yng Nghymru symud i fyny'r trothwy ansawdd. Dyna ei chryfder mawr, pan mae'n gallu darparu cynnyrch o safon, bod pobl yn gwybod pan fyddant yn dod i Gymru y byddant yn cael yr hyn maen nhw wedi talu amdano, byddant yn cael profiad y maen nhw eisiau ei ailadrodd, a byddant eisiau dychwelyd yma ac ymweld eto. Ac mae cynifer o ddarparwyr yn y diwydiant yn gwneud yn union hynny.

Yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yw amddiffyn eu buddiannau, hyrwyddo eu hymdrechion, drwy wneud yn siŵr bod y darparwyr hynny nad ydynt yn bodloni eu rhwymedigaethau, sy'n codi prisiau is na'r rhai sy'n gwneud hynny drwy arbed costau, drwy beidio â chael y pethau yn eu lle y mae angen iddynt fod yn eu lle—. Mae'n gwarantu bod y chwaraewyr da yn ffynnu ac nad yw'r diwydiant yn cael ei ddifetha gan bobl nad ydynt yn gwneud y pethau y mae'n ofynnol iddynt eu gwneud.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am ildio. Gwnaethoch chi sôn yn y fan yna am y gwahaniaeth rhwng yr actorion da a'r actorion drwg. Faint o actorion drwg sydd yna? Oherwydd heb y data hwnnw i ddeall y broblem, lle mae'r broblem honno'n bodoli, mae'n anodd bwrw ymlaen â hyn. Er ein bod ni'n cytuno â'r egwyddorion cyffredinol, mae hynny gyda data sylfaenol a gwneud deddfwriaeth yn seiliedig ar ddata da.

Rwy'n credu mai'r ddadl y mae'r Aelod yn ei gwneud yw bod yn rhaid i chi aros i rywbeth fynd o'i le cyn i chi weithredu. Nawr dychmygwch hynny. Dychmygwch fod yn rhaid i chi aros nes bod rhywun yn trefnu rhywle lle nad oes tystysgrif tân, lle nad oes tystysgrif nwy, lle nad oes mesurau diogelwch tân ar waith, i rywbeth fynd o'i le, ac yna rydych chi'n dweud, 'O wel, ble oedd Llywodraeth Cymru? Pam na wnaeth y Llywodraeth weithredu i atal hynny rhag digwydd?' Dyna'r hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud.

Mae'r holl ofynion y disgwyl i ddarparwyr llety hunanddarpar eu bodloni, ar wahân i un, yn bethau y mae yna reidrwydd cyfreithiol i sicrhau eu bod ar waith eisoes. Dyna'r hyn y gofynnir i bobl ei ddangos, eu bod yn bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol presennol, ac yna y bydd ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus priodol ar waith.

Rwy'n credu bod y Bil yn cefnogi'r diwydiant, yn cefnogi'r bobl hynny yn y diwydiant sy'n credu bod bodloni eich rhwymedigaethau yn ffordd o ddangos i bobl, os byddwch chi'n dod i Gymru, y gallwch chi fod yn hyderus y bydd gan y llety rydych chi wedi'i drefnu y pethau y mae gennych hawl i'w disgwyl. Siân.

Ar y pwynt yna, ynglŷn â gwella profiad yr ymwelwyr—a dyna beth ydy craidd y Bil yma, gwella profiad yr ymwelwyr—ydych chi'n cytuno efo fi y byddai hi'n gamgymeriad i dderbyn argymhellion 3 a 4 y pwyllgor ETRA, sydd yn sôn am beidio cychwyn ar y system drwyddedu tan y Senedd nesaf, ac i roi'r penderfyniad ymlaen i'r Senedd nesaf? Onid ydy hynny yn oedi creu y profiadau gwell yma rydym ni am weld ymwelwyr i Gymru yn eu cael?  

Wel, diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Llywydd, dwi'n mynd i dderbyn naw mas o 10 o'r argymhellion yn adroddiad ETRA, ond dwi ddim yn derbyn argymhellion 3 a 4 achos dwi ddim eisiau mwy o oedi. Mae pethau da rŷn ni'n gallu eu gwneud fan hyn, ac mae'n bwysig ein bod ni'n bwrw ymlaen i'w gwneud nhw pan mae'r cyfrifoldebau yn nwylo'r bobl yn y Senedd hon.

Rydw i wedi clywed llawer o sylwadau am yr amser, yr amserlen ac yn y blaen. Roedd hwn yn Fil a nodwyd yn gynnar yn nhymor y Senedd hon. Roedd yno yn y cytundeb cydweithio. Gwnaethom gyflwyno'r Bil cofrestru, Bil cydymaith i'r Bil hwn, yn gynharach yn y broses. Mae digon o gyfle wedi bod i'r diwydiant ymgysylltu â'r hyn y mae'r Bil yn bwriadu ei wneud, ac mae yna lawer o Aelodau yma sydd wedi cymryd rhan mewn gwaith craffu cynharach ar ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â thwristiaeth sydd wedi gallu dod â'r arbenigedd hwnnw i'r ddadl ac i'r broses graffu.

Ac i adleisio rhywbeth a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn y ddadl ddiwethaf, os oes gennych chi raglen ddeddfwriaethol pum mlynedd, mae rhai Biliau yn mynd i fod ym mlwyddyn 5. Ac mae hynny'n golygu, yn anochel, bod yna gyfyngiadau a phwysau ar bwyllgorau ac ar y Llywodraeth o ran yr amserlen. Ac mae'n golygu, i ateb yr hyn a ddywedodd Rhys ab Owen, y bydd rhai pethau yn cael eu gadael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae hynny'n anochel mewn Bil pum mlynedd. Rwyf am ddiolch i—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

19:10

Mae'r pwyllgor wedi ei chael hi'n anodd iawn, y darn hwn o ddeddfwriaeth, o ystyried y cyfyngiadau amser arno. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedoch am sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol am raglen ddeddfwriaethol pum mlynedd. Mae'n rhaid i'r blaid sy'n llywodraethu gymryd rhywfaint o'r bai yn y fan yma, gan fod blwyddyn o dymor y Senedd hon wedi'i cholli i'r Llywodraeth drwy ei brwydr fewnol ei hun i benodi tri Phrif Weinidog mewn un flwyddyn galendr. Ydych chi'n derbyn bod hynny wedi bod yn rhwystr i'r ddeddfwriaeth, a dyna pam mae cymaint yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y tymor hwn?

Na, dydw i ddim yn cytuno â hynny. Mae yna esboniad ynghylch pam mae cymaint o'r ddeddfwriaeth wedi'i chyflwyno tua'r diwedd, sef bod blwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon yn flwyddyn lle'r oedd llawer o ymwneud ag argyfwng COVID o hyd, pan oedd hi'n anodd iawn cyflwyno deddfwriaeth ar y cyflymder y byddem wedi'i ddisgwyl fel arfer. Yr hyn rwy'n cytuno â Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ei gylch yw nad yw'r amserlen hon yn creu cynsail ar gyfer amserlenni yn y dyfodol. Rhaid i amserlenni gael eu llunio yng nghyd-destun y Bil penodol a'r rhan benodol yn amserlen tymor y Senedd.

Roeddwn i'n gwerthfawrogi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn fawr. Fel y dywedais, rwy'n bwriadu derbyn naw allan o'r 10 o argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwnnw. Rwy'n hapus y prynhawn yma i gadarnhau y bydd adolygiad ôl-weithredu yn cael ei ychwanegu at wyneb y Bil. Rwyf yn bwriadu, y tro cyntaf y bydd ffioedd yn cael eu gosod, y dylent fod yn destun pleidlais gadarnhaol. Fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, bydd yna welliant i sicrhau bod unrhyw estyniad i'r cynllun trwyddedu i rannau eraill o'r sector twristiaeth yn y dyfodol yn destun cyfnod craffu gofynnol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n dangos ein bod ni wedi gwrando'n ofalus iawn ar y pwyllgor, wedi mwynhau'r ymgysylltiad rydyn ni wedi'i gael ag ef, ac yn cymryd ei argymhellion o ddifrif.

O ran Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rwy'n hapus i gadarnhau ein bod ni wedi cytuno ar asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig, fel y cynigiodd y pwyllgor. Rwy'n hapus i ddweud eto y prynhawn yma mai'r ffordd rwyf yn gweld y dyfodol yw mai Awdurdod Refeniw Cymru fydd yn gyfrifol am ochr fwy mecanyddol y broses drwyddedu, a bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn cael eu trwydded yn yr union ffordd honno. Mae'n gydbwysedd anodd, pan fyddwch chi'n cyflwyno Bil nad yw wedi mynd heibio Cyfnod 1 eto, i fod yn rhy bendant ynghylch rhai o'r ffyrdd y bydd y Bil yn cael ei weithredu. Os byddwn ni'n mynd heibio Cyfnod 1 heddiw, byddwn ni'n gallu rhoi mwy o ystyriaeth a manylion.

Dirprwy Lywydd, rydym yn derbyn saith allan o'r 10 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Roeddwn i'n falch o ysgrifennu at y Cadeirydd gyda mwy o esboniad ynghylch y materion hawliau dynol. Y materion nad ydym yn cytuno â'r Pwyllgor arnynt yw'r rhai yr ydym bob amser yn anghytuno arnynt, oherwydd mae gennym farn wahanol fel Llywodraeth i'r un y mae'r pwyllgor wedi'i chymryd yn barhaus ac mae'r Llywodraeth wedi nodi ein barn ein hunain yr un mor rheolaidd.

Fe wnaf i ymdrin ag un pwynt olaf, Dirprwy Lywydd, ac yna fe orffenna' i. [Torri ar draws.] Rwyf ond yn ceisio ymateb i bwyntiau y mae'r Aelodau wedi'u gwneud.

Diolch. A'r mater yn ymwneud ag ystafelloedd sbâr oedd hwnnw. I fod yn glir gyda Janet, os bydd rhywun yn gosod tŷ cyfan allan, bydd yn ofynnol iddo ei gofrestru a bydd angen iddo gael trwydded, hyd yn oed os mai dim ond am wythnos y bydd yn gwneud hynny. Y pwynt yr oedd Rhys ab Owen yn gofyn amdano yw pam nad yw ystafelloedd sengl mewn tai yn ddarostyngedig i'r cynllun trwyddedu hwn. Does dim byd yn y Bil sy'n ei atal rhag cael ei ymestyn i hynny yn y dyfodol. Mae'n gymhleth. Beth ydych chi'n ei drwyddedu? Dim ond yr ystafell ei hun y mae rhywun yn ei feddiannu—nid y gegin y mae'n ei defnyddio, nid yr ystafell ymolchi y mae'n ei defnyddio, nid yr ystafell fyw y mae'n ei defnyddio, dim ond yr ystafell? Pe baech chi'n penderfynu gwneud hynny, dydw i ddim yn siŵr pa fudd rydych chi'n ei gael mewn gwirionedd. Pe baech chi am wneud y gweddill ohono, yna mae'n eithaf cymhleth a byddai angen gwaith mwy manwl nag yr oedd yn bosibl ar gyfer y Bil hwn. Yr hyn y mae'r Bil yn ei wneud yw mae'n caniatáu i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ymestyn y Bil yn y ffordd y mae'r Aelod wedi'i chynnig, pe bai'n dymuno gwneud hynny.

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am yr awgrymiadau niferus yr ydym wedi'u clywed y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at weld y Bil, os bydd yn cael ei basio heddiw, yn symud i Gyfnod 2, ac rwy'n siŵr y bydd trafodaeth bellach wrth i ni geisio gwella'r ddeddfwriaeth gyda'n gilydd. Diolch yn fawr.

19:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13. Egwyddorion cyffredinol Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)

Eitem 13 heddiw yw egwyddorion cyffredinol Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NNDM9109 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.102:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gynharach heddiw, cytunodd y Senedd y dylid trin Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) fel Bil brys, a chyflwynwyd y Bil yn dilyn y ddadl.

Mae Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn chwarae rôl hanfodol wrth ddiogelu hawliau pobl sy'n cael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Rhaid i'w baneli gynnwys aelod cyfreithiol, aelod lleyg ac aelod meddygol. Fel y nodais yn gynharach y prynhawn yma, mae'r Bil hwn yn angenrheidiol oherwydd bod mater technegol wedi'i nodi mewn perthynas â'r diffiniad o 'ymarferydd meddygol cofrestredig' yn Neddf Iechyd Meddwl 1983. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i aelodau meddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru fod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol a meddu ar drwydded i ymarfer. O ganlyniad i hyn, gwnaeth llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru y penderfyniad anodd, ychydig cyn y Nadolig, i atal aelodau heb drwydded bresennol i ymarfer rhag bod yn gysylltiedig ag achosion. Mae aelodau heb drwyddedau presennol i ymarfer yn aml wedi ymddeol o ymarfer. Maent yn eistedd ar nifer anghymesur o uchel o achosion tribiwnlys—oddeutu dwy ran o dair ohonynt. Felly, canlyniad y mater hwn yw bod yna risg sylweddol na fydd y tribiwnlys yn gallu bodloni ei amserlenni statudol ar gyfer gwrandawiadau. Mae'r Bil hwn yn ceisio ateb brys i'r mater hwn ac yn galluogi'r tribiwnlys i barhau â'r gwaith pwysig mae'n ei wneud.

Mae'n gwneud dwy ddarpariaeth, y mae'r naill cyn bwysiced â'r llall. Mae'r gyntaf yn newid y gofynion cymhwyso er mwyn galluogi unigolion sydd wedi'u cofrestru'n llawn o fewn ystyr Deddf Meddygol 1983 ond nad oes ganddynt drwydded gyfredol i ymarfer o dan y Ddeddf honno i eistedd fel aelodau meddygol. Mae hyn yn sicrhau bod cymhwystra ar gyfer Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn gyson â'r tribiwnlys cyfatebol ar gyfer Lloegr. Diben y ddarpariaeth hon yw adfer gallu'r tribiwnlys i weithredu cyn gynted â phosibl, a galluogi aelodau meddygol presennol sydd wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ond nad oes ganddynt drwydded i ymarfer, i fod yn gysylltiedig ag achosion unwaith eto.

Mae'r ail ddarpariaeth yr un mor hanfodol â'r gyntaf. Mae'n darparu bod pobl a benodwyd yn flaenorol yn aelodau meddygol ond nad oedd ganddynt drwydded i ymarfer, boed ar adeg eu penodi neu ar unrhyw adeg arall, wedi'u penodi'n ddilys a'u bod yn aelodau dilys o'r tribiwnlys bob amser.

Dirprwy Lywydd, rwy'n cydnabod y dylid defnyddio darpariaeth ôl-weithredol yn gynnil. Un o fy swyddogaethau fel swyddog y gyfraith yw edrych yn fanwl iawn ar unrhyw gynigion gan fy nghyd-Weinidogion i gyflwyno deddfwriaeth gydag effaith ôl-weithredol. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, heb ddarpariaeth o'r fath, ni fydd aelodau meddygol presennol nad oes ganddynt drwydded i ymarfer yn gallu bod yn aelod o'r tribiwnlys heb fynd drwy broses ailbenodi costus ac amserol. Byddai hyn yn golygu na fyddai Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn gallu cyflawni ei swyddogaethau statudol mewn modd amserol. Ond, Dirprwy Lywydd, yn bwysicach o lawer, bydd y bobl hynny sydd angen y gwasanaeth hwn fwyaf yn dioddef. Byddai hefyd yn rhoi sicrwydd cyfreithiol iddynt ynghylch dilysrwydd penderfyniadau blaenorol. Rwy'n annog Aelodau i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil er mwyn helpu i osgoi canlyniadau diffyg gweithredu a sicrhau ei fod yn cael ei roi ar y llyfr statud yn gyflym. Diolch.

Hoffwn ddweud wrth yr Aelodau—ymddiheuriadau ymlaen llaw—na fydd fy araith y prynhawn yma mor fyr ag yr oedd yn gynharach heddiw. Rwyf yn siarad o blaid egwyddorion cyffredinol Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). Mae hwn yn Bil brys â ffocws pendant, ac mae'n iawn ei fod yn cael ei drin felly. Mae Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn chwarae rôl hanfodol wrth ddiogelu hawliau pobl sy'n cael eu cadw'n gaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, gan sicrhau bod y broses gadw yn gyfreithlon, yn angenrheidiol, yn gymesur, ac felly mae unrhyw fygythiad i allu'r tribiwnlys i weithredu'n effeithiol yn risg uniongyrchol i hawliau cleifion a diogelwch cleifion ledled Cymru.

Mae'r dystiolaeth sydd o'n blaenau yn glir: mae'r tribiwnlys wrthi'n gweithredu o fewn cronfa sydd â llawer llai o aelodau meddygol, dim ond 19, o gymharu â mwy na dwbl y nifer dim ond blwyddyn yn ôl. Nid yw'r sefyllfa'n gynaliadwy. Pan na ellir cynnull gwrandawiadau mewn modd amserol, gall unigolion gael eu cadw'n gaeth yn hirach nag sydd ei angen yn glinigol, gan achosi trallod, oedi o ran adferiad a thanseilio hyder yn y system.

Nodaf y gefnogaeth gref a fynegwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, sy'n cynrychioli dros 600 o seiciatryddion ledled y wlad. Maen nhw'n glir bod angen gweithredu ar frys i adfer gallu gweithredol y tribiwnlys ac osgoi oedi pellach a allai beryglu diogelwch cleifion. Mae'n arbennig o bwysig bod y Bil yn diogelu statws aelodau meddygol presennol. Heb y sicrwydd hwn, ni fyddai clinigwyr profiadol nad ydynt yn dal trwydded i ymarfer mwyach yn gallu eistedd ar baneli heb fynd drwy brosesau ailbenodi hir, gan leihau capasiti'r tribiwnlys ymhellach ar yr union adeg pan mae ei angen fwyaf.

Er bod angen y Bil hwn, mae hefyd yn tynnu sylw at rai materion polisi ehangach o fewn y system, ac ni ellir anwybyddu'r rhain. Mae'r pwysau sy'n wynebu'r tribiwnlys yn cael ei weld o fewn cyd-destun ehangach bregusrwydd y gweithlu seiciatrig yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid oes cynllun pwrpasol ar gyfer y gweithlu seiciatrig, er gwaethaf gofynion cynyddol, diwygio deddfwriaethol a chymhlethdod cynyddol gwaith y tribiwnlys. Ni fydd yr heriau hynny'n cael eu datrys gan y ddeddfwriaeth frys hon, a byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod gan y Cwnsler Cyffredinol pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch sut y gallwn ni wella effeithlonrwydd y tribiwnlys. Mae'r coleg brenhinol hefyd wedi codi pryderon difrifol am y penderfyniadau gweithredol diweddar sy'n effeithio ar y tribiwnlys, yn enwedig y diffyg ymgysylltiad ystyrlon â chlinigwyr a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar ofal cleifion a diogelwch clinigol. Mae'r materion hyn yn haeddu sylw brys, ond unwaith y bydd camau wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r risg uniongyrchol hon o dan y ddeddfwriaeth hon.

Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, nid yw'r un o'r pryderon ehangach hynny yn tynnu sylw oddi wrth ddiben craidd y Bil hwn. I'r gwrthwyneb, maent yn atgyfnerthu'r angen i weithredu nawr i atal niwed pellach tra bod atebion yn cael eu datblygu ar gyfer y tymor hwy. Am y rhesymau hynny, byddaf i a'm grŵp yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ac yn pleidleisio o'u plaid fel cam angenrheidiol i amddiffyn hawliau cleifion, cynnal mesurau diogelu cyfreithiol a sicrhau bod rhan hanfodol o'n system iechyd meddwl yma yng Nghymru yn parhau i weithredu.

19:20

Gadewch i mi ddechrau drwy ailadrodd eto bod Plaid Cymru yn deall pa mor gyflym y mae angen gweithredu, a byddwn ni'n cefnogi'r Bil. Nid yw Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn ychwanegiad gweinyddol; mae'n fesur diogelu i bobl y mae eu rhyddid wedi'i gymryd gan y wladwriaeth. Os na all y tribiwnlys eistedd, mae pobl yn cael eu gadael yn aros, weithiau yn cael eu cadw mewn ysbytai, weithiau yn destun cyfyngiadau eraill, heb y craffu amserol, cyfreithlon, annibynnol y mae'r gyfraith yn ei fwriadu. Felly, byddwn ni'n mynd i'r afael â'r Bil hwn mewn ffordd adeiladol, ond nid yw natur frys y mater yn golygu na ddylid craffu arno. A'r cwestiwn yw: sut rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae angen deddfwriaeth sylfaenol frys arnom ar gyfer problem a nodwyd flynyddoedd yn ôl?

Nawr, soniwyd wrthym yn gynharach heddiw fod sylw amlwg wedi'i roi i hyn ar ôl newid yn yr arweinyddiaeth, gyda'r llywydd newydd y llynedd yn nodi'r mater ac, yn gywir ddigon, yn atal aelodau heb drwydded rhag eistedd. Ond nodwyd y mater hwn ymhell cyn y llynedd. Fe'i nodwyd gan Richard Jones, un o'r sylwebwyr mwyaf awdurdodol ar gyfraith iechyd meddwl yng Nghymru, yn y ddeunawfed argraffiad o'r Llawlyfr Deddf Iechyd Meddwl yn 2015—10 mlynedd yn ôl. Yng Nghymru, nododd, mae'r diffiniad o 'ymarferydd meddygol cofrestredig' yn golygu bod angen meddu ar drwydded i ymarfer, yn wahanol i Loegr, lle cafodd hynny ei ddileu. Ym mis Mawrth 2021, ysgrifennodd,

'Fe wnes i dynnu sylw'r tribiwnlys yng Nghymru at y gwahaniaeth rhwng y sefyllfa yng Nghymru a Lloegr flynyddoedd lawer yn ôl, ond ni chymerwyd unrhyw gamau. Mae hyn yn codi'r cwestiwn'— 

mae'n mynd ymlaen i ddweud—

'a yw cyfran o wrandawiadau tribiwnlys yng Nghymru dros y degawd diwethaf wedi'u ffurfio'n briodol.'

Ym mis Ebrill 2021, aeth ymhellach eto, gan ddweud,

'Ar gyfer Cymru: Dylai cynrychiolydd cyfreithiol sy'n pryderu am benderfyniad y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl i beidio â rhyddhau'r claf wirio a oes gan yr aelod meddygol drwydded i ymarfer... Os yw'n digwydd nad oes gan yr aelod meddygol drwydded i ymarfer, nid oedd y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl wedi'i gyfansoddi'n briodol a gellid gwneud cais am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad.'

Felly, fy nghwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yw: pwy yn union gafodd ei rybuddio? Pan mae Mr Jones yn dweud ei fod wedi codi hyn flynyddoedd lawer yn ôl, pwy gafodd wybod—arweinwyr y tribiwnlys, uned Tribiwnlysoedd Cymru, swyddogion, Gweinidogion? Beth wnaeth y system gyda'r rhybudd hwnnw? A gafodd ei gofnodi fel risg gyfreithiol? A roddwyd cyfarwyddyd i'r cwnsler? A ofynnwyd am amser deddfwriaethol? Os gwnaethpwyd penderfyniad i beidio â gweithredu, pwy gymerodd y penderfyniad hwnnw ac ar ba sail? Pryd y daeth Llywodraeth Cymru ei hun yn ymwybodol am y tro cyntaf? Os mai dim ond y llynedd oedd hi, pryd yn union? A pham wnaeth e gymryd tan nawr i ddod i'r Senedd? Os oedd yn gynharach, pam gafodd ei adael? Mae yna gwestiwn cysylltiedig. Fel y clywsom yn gynharach gan Rhys ab Owen, pan ymdriniodd Lloegr â hyn drwy is-ddeddfwriaeth yn 2009, pam na chafodd Cymru ei halinio ar yr adeg honno? Mae'n ymddangos ei fod yn ddirgelwch o hyd ar hyn o bryd, ond gellid bod wedi datrys y mater yn dawel ac fel mater o drefn yn hytrach na'i fod yn argyfwng fel y mae nawr.

Nawr, nid yw hyn yn ymwneud â beio unigolion, ond mae'n ymwneud â llywodraethu—sut mae tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn nodi, yn uwchgyfeirio ac yn datrys risgiau cyfreithiol a gweithredol. Heb fynd ati i'w bersonoli, rwy'n credu ei bod yn briodol gofyn a allai diffyg adnewyddu yn yr achos hwn fod wedi chwarae rôl. Roedd llywydd y tribiwnlys hwn yn ei swydd am dros chwarter canrif. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol rannu ei barn ynghylch a oes angen edrych ar derfynau tymor neu ddisgwyliadau yn hynny o beth wrth ddiwygio'r tribiwnlys? Mae hynny'n dod â mi ymlaen at y pwynt ehangach, ac rwy'n cytuno â Rhys ab Owen bod hwn yn enghraifft glasurol, on'd yw e, o'r angen am Fil tribiwnlysoedd, ac rwy'n siŵr y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r teimlad cyffredinol hwnnw—llywodraethu cliriach, atebolrwydd, goruchwyliaeth, cynllunio'r gweithlu a diwylliant sy'n trwsio diffygion hysbys cyn iddynt ddod yn argyfwng.

Nawr, gadewch i ni droi at y cymal dilysu ôl-weithredol a grybwyllwyd yn gynharach. Mae'n codi rhai cwestiynau cyfreithiol anodd o ran cydnawsedd â hawliau'r confensiwn. Erthygl 5 o'r confensiwn Ewropeaidd yw'r hawl i ryddid a diogelwch, sydd, yn amlwg, yn uniongyrchol berthnasol yn yr achos hwn. Erthygl 6 yw'r hawl i wrandawiad teg gan dribiwnlys annibynnol a diduedd sydd wedi'i sefydlu'n briodol gan y gyfraith, a'r pwynt olaf hwnnw sy'n berthnasol yn y fan yma. Felly, a all y Cwnsler Cyffredinol rannu gyda ni yn fanylach sut mae'r cymal dilysu ôl-weithredol mewn perthynas ag aelodaeth y tribiwnlys yn gydnaws ag erthygl 5 ac erthygl 6, yn ei barn hi?

A allaf bwyso arni ychydig ymhellach ynghylch achosion byw, oherwydd mae llysoedd wedi rhybuddio ynghylch deddfwrfeydd yn ymyrryd i effeithio ar ganlyniad achosion byw? Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y prynhawn yma, hyd y gŵyr hi, nad oes unrhyw achosion sy'n herio penderfyniadau ar y sail hon ar hyn o bryd oherwydd mae'r llywydd eisoes wedi atal aelodau heb drwydded rhag eistedd, ond mae yna'r mater o achosion blaenorol o hyd—achosion hanesyddol neu achosion yn y gorffennol, os dymunwch. Felly, a yw hi wedi gallu darganfod beth yw statws unrhyw heriau, ac os na all hi ateb nawr, a yw hi'n gallu rhoi'r wybodaeth honno i ni yfory?

Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud wrthym fod ganddi gyngor cyfreithiol sy'n nodi nad oes modd herio penderfyniadau, ond mae'r cymal ôl-weithredol wedi'i gynnwys i roi'r mater y tu hwnt i amheuaeth. A all hi ddweud a yw'r cyngor hwnnw'n dibynnu ar yr hyn a ddisgrifir fel dadansoddiad swyddogion de facto neu ar ryw sail arall, ac os na ellir herio penderfyniadau, pam mae angen ôl-weithredu drwy'r ddeddfwriaeth hon o hyd? Ac mae'r cwestiwn ymarferol yn dal i fod yna, rwy'n meddwl: beth sy'n digwydd i achosion a allai godi rhwng nawr a Chydsyniad Brenhinol os cyflwynir hawliad? Ai bwriad y Llywodraeth yw y bydd y cymal ôl-weithredol yn dileu'r heriau hynny rywsut hefyd?

Mae rhanddeiliaid wedi dweud eu bod yn cefnogi nod y ddeddfwriaeth frys hon oherwydd does neb eisiau gweld gwrandawiadau yn cael eu gohirio, ond maent yn codi pryderon ehangach. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn cefnogi gweithredu cyflym, ond mae'n rhybuddio ynghylch gwneud penderfyniadau, cynllunio ac ymgysylltu cyfyngedig â'r gweithlu seiciatrig. Mae Mind Cymru yn gofyn sut mae'r tribiwnlys wedi cyrraedd y pwynt yma, a pha fesurau diogelu sy'n bodoli os yw Cymru'n dibynnu'n helaeth ar feddygon trwyddedig sydd wedi ymddeol, yn enwedig o ran cadw'r wybodaeth glinigol yn gyfredol, ac mae'n galw am oruchwyliaeth gliriach i atal argyfyngau fel hyn rhag digwydd eto.

Felly, gadewch i ni basio'r ddeddfwriaeth hon i gadw'r tribiwnlys yn eistedd, ond rwy'n credu bod deddfwriaeth frys yn fethiant systemig, on'd yw hi. Mae'n arwydd o fethiant i weithredu mewn modd amserol. Felly, dylem gefnogi'r egwyddorion cyffredinol heddiw, ond rwy'n credu bod angen rhywfaint o gonestrwydd arnom ynghylch y cwestiynau rwyf wedi'u codi: pwy gafodd ei rybuddio, pam na chymerwyd unrhyw gamau, pam na wnaeth Cymru alinio'n gynharach pan y gallai fod wedi gwneud hynny, beth yw sail hawliau'r confensiwn ar gyfer ôl-weithredu, p'un a oes adolygiadau barnwrol byw neu ddarpar achosion o'r fath, a pha ddiwygiadau fydd yn dilyn fel na fyddwn byth eto yn rhuthro Bil drwodd oherwydd caniatawyd i fethiant llywodraethu rhagweladwy ddod yn argyfwng?

19:30

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei hymatebion i'm cyfraniad yn gynharach mewn perthynas ag elfen argyfwng y Bil. Nid wyf yn mynd i ailadrodd y pryderon a godais yn gynharach heddiw ynghylch pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i hyn gael ei ddwyn i sylw'r Senedd—bron i 18 mlynedd. Doeddwn i ddim yn mynd i siarad heno, ond ers hynny rwyf wedi cael y cyfle i ddarllen y crynodeb o ystyriaethau cymhwysedd deddfwriaethol, ac yn naturiol, mae rhai o'r materion a godwyd gennym yn gynharach heddiw ac y mae Adam wedi'u codi heno wedi codi yn hynny. Gall cadarnhad ôl-weithredol ynghylch penodiad ac aelodaeth aelod meddygol, fel y dywedodd Adam, olygu bod erthygl 5, erthygl 6, hawl i dreial teg, erthygl 8, hawl i barchu bywyd preifat a theuluol, a hefyd erthygl 1 o brotocol cyntaf y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, amddiffyn eiddo, yn berthnasol.

Mae'n eithaf amlwg eu bod yn berthnasol. Er gwaethaf hynny, nid yw'r memorandwm esboniadol, yn adran 9.4 o dan y teitl 'Effaith ar gydraddoldeb', ac adran 9.5 o dan y teitl 'Effaith ar hawliau plant', yn cyfeirio at y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o gwbl. Pam felly? Er i'r Llywydd ddod i'r casgliad bod yr hawliau hyn yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn berthnasol, ond nad ydynt yn cael eu torri neu y byddai unrhyw achos o'u torri yn debygol o gael ei gyfiawnhau o fewn telerau Deddf 1998, byddwn yn ddiolchgar o glywed rhagor gennych, Cwnsler Cyffredinol, ar y mater hwn. Yn wir, pa waith y mae Llywodraeth Cymru, yn yr hyn yr wyf yn cydnabod sydd wedi bod yn broses gyflym iawn, wedi gallu ei wneud i brofi a allai'r ddarpariaeth ôl-weithredol arwain at dorri hawliau'r confensiwn? Oherwydd fel y dywedoch yn iawn wrth agor, Cwnsler Cyffredinol, dylem fod yn araf iawn i wneud y newidiadau ôl-weithredol hyn. Diolch yn fawr.

Dwi am ddechrau drwy gadarnhau fy nghefnogaeth i egwyddorion y Bil brys yma. Mae'n amlwg bod angen cau'r bwlch cyfreithiol er mwyn sicrhau parhad y tribiwnlys a diogelwch cleifion. Ond gadewch i ni fod yn glir: mae'r sefyllfa yma yn ganlyniad uniongyrchol i fethiannau llywodraethiant. Pam mai dim ond rŵan y cafodd y gwall technegol yma ei godi? Pam na chymerwyd camau pan oedd amser i weithredu yn llawn? A sut y gallai'r Llywodraeth gyfiawnhau cyflwyno Bil o'r fath heb unrhyw gyfnod digonol i graffu? Mae hyn yn codi cwestiynau sylfaenol am atebolrwydd, am dryloywder, ac am gymhwysedd y Llywodraeth i gynllunio'n gyfrifol.

Tybed a allai’r Cwnsler Cyffredinol gadarnhau a oes unrhyw asesiad wedi cael ei wneud o effaith y Ddeddf iechyd meddwl newydd ar nifer yr achosion tribiwnlys a ragwelir. Os bydd y nifer yn cynyddu, pa gamau pendant sydd ar waith er mwyn recriwtio a chynllunio'r gweithlu? Mae pryderon difrifol hefyd ynghylch hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus. Sut y bydd seiciatryddion sydd wedi ymddeol yn cadw i fyny gyda newidiadau, nid yn unig ganllawiau NICE, ond hefyd gyda goruchwyliaeth safonau moesol a rhagfarn anymwybodol? Beth yw'r trefniadau er mwyn sicrhau bod ymarfer clinigol yn gyfredol, yn enwedig gan fod rhai ysbytai cleifion mewnol yng Nghymru eisoes yn wynebu heriau o ran ansawdd gofal? Mae bywydau pobl yn y fantol, ond mae'r Llywodraeth wedi dewis rhuthro deddfwriaeth heb roi cyfle llawn i graffu er mwyn paratoi am unrhyw oblygiadau.

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru wedi rhybuddio yn glir bod penderfyniadau sy'n effeithio ar y tribiwnlys yn cael eu gwneud heb gynllunio digonol nac ymgysylltu'n ystyrlon â’r gweithlu clinigol. Heb gynllun gweithlu pwrpasol ar gyfer seiciatryddion, mae’r pwysau presennol mewn perygl o ddod yn anghynaladwy. Felly, tybed a allai'r Llywodraeth ymrwymo i gomisiynu asesiad clir o'r diffygion presennol a’r rhai disgwyliedig yn y gweithlu seiciatryddol, i ddatblygu cynllun cynaliadwy i recriwtio a chadw seiciatryddion yma yng Nghymru, i sicrhau ymgysylltiad clinigol ystyrlon ym mhob penderfyniad sy'n effeithio ar y tribiwnlys er mwyn diogelu cleifion gofal. Fydd y sefyllfa ddim yn gwella heb ein bod ni'n gweld y camau pendant yma yn cael eu cymryd er mwyn cryfhau’r gweithlu.

Fe ddaw hyn â mi at fy mhwynt olaf: dwi'n rhagweld y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn dweud nad ydy hi'n gallu ateb y rhan fwyaf o'r cwestiynau yma yn llawn gan mai materion yn ymwneud â pholisi'r gwasanaeth iechyd ydyn nhw—mater i'r Ysgrifennydd Cabinet iechyd, nid y Cwnsler Cyffredinol. Maen nhw'n gwestiynau sydd yn haeddu atebion, ond bod y broses yma'n gwadu y gallu er mwyn inni fedru craffu i'r lefel yma a chael yr atebion angenrheidiol er mwyn deall yn llawn goblygiadau'r hyn y byddwn ni'n pleidleisio arno. Mi fyddaf i ac mi fyddwn ni'n cefnogi'r Bil brys yma oherwydd natur argyfyngus y sefyllfa yr ydyn ni'n canfod ein hunain ynddi, ond mae'r sefyllfa ymhell o fod yn ddelfrydol. Diolch.

19:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Soniais ychydig am hyn yn gynharach, ond fe wnaf ei nodi eto er cyflawnrwydd. Rydym yn deall nad oedd angen trwydded i ymarfer yn y tribiwnlysoedd iechyd meddwl yng Nghymru neu Loegr cyn 2008. Gwelwyd y newid i'r gofynion cymhwyso yng Nghymru yn sgil cyflwyno'r gyfundrefn trwydded i ymarfer a sefydlwyd gan Orchymyn Llywodraeth y DU yn 2002, a ddiwygiodd y diffiniad o 'ymarferydd meddygol cofrestredig' yn Neddf Dehongli 1978 i gynnwys gofyniad i fedd ar drwydded ochr yn ochr â'r gofyniad cofrestru presennol. Er mai prif nod hyn oedd rheoleiddio meddygon oedd yn ymarfer, credwn iddo gael y canlyniad annisgwyl o newid y gofynion cymhwyso ar gyfer yr aelodau meddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

Cafodd y Gorchymyn cymhwyso yn Lloegr, y cyfeiriwyd ato yn y ddadl gynharach, ei wneud o dan bwerau sy'n berthnasol i Loegr yn unig. Ni fyddai wedi bod yn bosibl dibynnu ar y pŵer hwn i wneud newid cyfatebol i'r gofynion cymhwyso yng Nghymru. Nid wyf am siarad ar ran llywydd y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl ynghylch sut y daeth hi i ddeall y mater. Nid fy lle i yw dweud. Gallaf ddweud wrthych, fodd bynnag, sut y des i i ddeall y mater, sef ei bod hi wedi ei dwyn i'm sylw. 

Rwyf am ailadrodd eto nad yw'r penodiadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru. Maent yn cael eu gwneud ar sail argymhelliad gan bwyllgor penodiadau barnwrol i'r Arglwydd Ganghellor. Felly, nid yw'r rhain yn bethau y mae Gweinidogion Cymru yn delio â nhw fel mater o drefn. Llywodraeth y DU sy'n ymdrin â nhw. Gwnaethom archwilio llwybr Llywodraeth y DU i'w gywiro, ond byddai wedi cymryd misoedd lawer yn fwy na Bil brys yn y fan yma. Ac er fy mod i'n derbyn pryderon yr Aelodau mai dim ond yn gynnil iawn y dylid defnyddio deddfwriaeth argyfwng a'i fod yn sicr yn cyfyngu ar waith craffu, roeddem o'r farn bod lles yr unigolion sy'n cael eu dal yn y system dribiwnlys yn cyfiawnhau defnyddio'r ddeddfwriaeth frys. Dylai ond gael ei defnyddio mewn achosion prin. Dyma'r unig un rydyn ni wedi'i gwneud yn ystod tymor y Senedd hon. Nid camgymeriad yw hynny. Y rheswm am hynny yw y dylai fod yn brin iawn a dylai ond gael ei defnyddio mewn achosion lle mae angen i chi fynd i'r afael â rhywbeth ar frys.

Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r Arglwydd Ganghellor ac amryw o Weinidogion eraill Llywodraeth y DU fel bod y Cydsyniad Brenhinol yn gallu symud ymlaen yn gyflym. Byddwn ni'n cael llythyrau gan Lywodraeth y DU yn ystod y cyfnod hysbysu i ddweud na fyddant yn cyfeirio'r Bil, fel y gallwn ni symud ymlaen yn llawer cyflymach i'w weithredu. Bydd hyn yn cymryd cyn lleied o amser â phosibl, fel y gallwn ni sicrhau bod y tribiwnlys yn dychwelyd i'r sefyllfa yr oedd ynddi yn flaenorol.

O ran y ddarpariaeth ôl-weithredol, nid yw'n ymwneud â dilysrwydd yr achosion yn unig. Mae'n ymwneud â dilysrwydd penodiad Aelodau'r tribiwnlys. Os na fyddwn ni'n rhoi'r ddarpariaeth ôl-weithredol ar waith, yna bydd yr holl Aelodau—. Hyd yn oed os byddwn ni'n cytuno nad oes angen trwydded i ymarfer arnynt, os na fyddwn ni'n rhoi'r ddarpariaeth ôl-weithredol ar waith, byddai'n rhaid iddynt fynd drwy broses benodi arall, oherwydd byddai eu penodiad blaenorol yn cael ei annilysu. Felly, mae'n rhaid i ni wneud hynny, oherwydd fel arall mae gennym broses gostus o ailbenodi pobl sydd wedi bod yn eistedd yn llwyddiannus ar y tribiwnlysoedd ers peth amser.

Mae nifer o Aelodau wedi codi materion ynghylch polisi. Nid yw'r Bil yn delio ag unrhyw faterion polisi o gwbl, dim ond y mater cymhwyso. Nid oes unrhyw oblygiadau eraill o ran polisi. Rwy'n cytuno'n llwyr ag Aelodau sy'n dweud y dylai'r Bil tribiwnlysoedd fod yn delio â rhai o'r materion ehangach. Rwyf wedi esbonio'n ddiddiwedd pa mor siomedig ydw i nad ydym wedi gallu cyflwyno hynny yn nhymor y Senedd hon, ond mae bron iawn yno o ran bod yna ddrafft ar gael, ac rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag yw'r Llywodraeth newydd yn edrych arno.

Gallaf ddweud wrthych ar lefel weinyddol ein bod ni wedi adolygu'r gefnogaeth i'r tribiwnlys iechyd meddwl yn benodol, ond pob un o'n tribiwnlysoedd mewn gwirionedd, ac rydym wedi aildrefnu'r gwasanaeth sifil rywfaint i roi gwell cefnogaeth a chymorth i'r tribiwnlysoedd o ran pethau gwirioneddol ddiflas, ond mae'n wirioneddol bwysig o ran rhestrau, trefnu gwrandawiadau a'r math hwnnw o beth, i wneud yn siŵr bod y tribiwnlys yn gallu rhedeg mor effeithlon â phosibl. 

Gwnaethom siarad am y llwyth achosion yn gynharach. Dywedais fod tua 2,000 o achosion y flwyddyn ac mae tua 700 o achosion rydym wedi gallu eu rhestru. Roeddwn i'n mynd ychydig o flaen fy hun yn y fan yna, oherwydd mae cyfaint yr achosion yn ddeinamig ac yn eithaf anodd ei ragweld. Felly, mae hynny'n flwyddyn gyfartalog. Rydym jyst yn dyfalu bod hon yn debygol o fod yn flwyddyn debyg. Nid oes unrhyw reswm pam na fyddem yn meddwl hynny. Mae'r tribiwnlys adolygu iechyd meddwl wedi bod yn gwrando ar gyfartaledd o 90 i 100 o achosion y mis. Felly, gallwch chi weld pam roedd y cyfartaleddau yn edrych fel yr oeddent, ond roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod y cofnod mor gywir â phosibl.

Nid oes unrhyw effaith wedi bod ar gleifion hyd yma. Mae cryn dipyn yn llai o gapasiti ar hyn o bryd. Pe bai'r capasiti yn aros ar y lefel hon, byddai'r tribiwnlys yn gallu clywed tua 35 y cant o'i lwyth achosion disgwyliedig. Felly, dyna pam mae angen cywiro hyn a'i gywiro cyn gynted â phosibl. Rwyf eisoes wedi siarad am y ffaith fy mod i wedi cysylltu â'r Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gadarnhau nad ydynt yn bwriadu arfer eu pwerau statudol i gyfeirio'r Bil fel y gall fynd drwodd cyn gynted â phosibl.

Soniodd nifer o Aelodau am oblygiadau ECHR y Bil. Rwy'n hapus iawn bod y Bil yn gydnaws â hawliau'r confensiwn, ac roeddwn i'n hapus iawn bod y Llywydd wedi cytuno â hynny hefyd. Diolch i ymdrechion aelodau meddygol presennol, staff y tribiwnlys, a'r llywydd ei hun, nid oes unrhyw oedi wedi bod i wrandawiadau, felly maent wedi gallu parhau i fynd, ond gydag ymdrech enfawr gan y rhai sy'n parhau i allu eistedd.

Nod y Bil brys yw adfer gallu'r tribiwnlys i weithredu cyn gynted â phosibl. Rydym yn hyderus na fydd unrhyw oedi i'r gwrandawiadau tribiwnlys hanfodol, gan dybio bod y Senedd yn gallu cynnal y ddeddfwriaeth frys i'r amserlen a gynigiwyd gennyf ac a dderbyniwyd yn gynharach. Nid ydym wedi cael unrhyw ohebiaeth cyn gweithredu ar y mater hwn. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ohebiaeth cyn gweithredu yn cael ei chyhoeddi i'r tribiwnlys neu unrhyw bartïon eraill â diddordeb, felly nid ydym yn ymwybodol bod unrhyw faterion eraill o'r math.

Mae'r tribiwnlys wedi parhau i weithredu mor effeithiol â phosibl, ac mae'n amddiffyn hawliau cleifion yn y modd gofynnol, felly rwy'n hyderus iawn, cyn belled ag y gallwn ni barhau i lawr y llwybr hwn, y byddwn ni'n gallu sicrhau ei fod yn mynd yn ei flaen. [Torri ar draws.] Oeddech chi'n ceisio ymyrryd, Adam?

19:40

Oeddwn. Diolch am dderbyn yr ymyriad, Cwnsler Cyffredinol. Fe wnes i godi pwynt penodol iawn lle mae uwch-ymgynghorydd yn Blake Morgan, Richard Jones, wedi dweud ei fod wedi rhybuddio'r tribiwnlys i'r union broblem hon flynyddoedd lawer yn ôl. Rwy'n deall efallai nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu ymdrin â hyn nawr, ond a yw'n bosibl i chi ofyn i uned Tribiwnlysoedd Cymru ymchwilio i'r mater hwn ar frys, fel y gallwn ni gael yr wybodaeth honno ynghylch a ddarparwyd yr wybodaeth honno iddynt a beth ddigwyddodd o ganlyniad i hynny? 

Ni fyddwch yn synnu o gwbl o gael gwybod fy mod i eisoes wedi gofyn y cwestiwn hwnnw. Y tro cyntaf i ni wybod amdano oedd pan gododd llywydd newydd y tribiwnlys iechyd meddwl y mater gyda ni yng nghanol i ddiwedd mis Rhagfyr, felly rydym wedi gweithio'n gyflym iawn ers hynny. Fel y dywedais yn y ddadl gynharach, rwyf wir eisiau diolch i'r staff, y gweision sifil a staff y Comisiwn, a weithiodd drwy'r toriad i wneud hyn yn bosibl. Maen nhw wir wedi gwneud popeth y gallan nhw, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer fawr o gyfarfodydd fy hun dros y toriad, felly mae wedi bod yn ymdrech lawn i gywiro hyn.

Rwyf wedi gofyn droeon a oeddem yn gwybod o'r blaen, a ddylem fod wedi gwybod o'r blaen, ac yn y blaen. Yr ateb yw, 'Doedden ni ddim yn gwybod o'r blaen.' Byddaf yn parhau i ofyn y cwestiwn hwnnw ac fe wnawn ni gynnal adolygiad. Fel y dywedaf, rydym eisoes wedi gwneud adolygiad o'r gefnogaeth i'r tribiwnlys yn fewnol, felly mae uned gefnogaeth well i'r tribiwnlys o dan fy nawdd i nag yr oedd gennym o'r blaen. Mae hynny o ganlyniad i sgyrsiau rwyf wedi'u cael gyda Syr Gary Hickinbottom a chyda'r llywydd newydd sy'n dod i mewn, sydd wedi bod o gymorth mawr, mae'n rhaid i mi ddweud, ynghylch sut y gallwn ni gael rhywfaint o drefn ar hyn. Rydym wedi gwneud rhai o'r pethau hynny. Maen nhw i gyd yn bethau gweinyddol. Dydyn nhw ddim yn bethau polisi iechyd meddwl. Materion gweinyddol ydynt sy'n ymwneud â'r tribiwnlysoedd. Bydd y Bil tribiwnlysoedd yn rhoi rhywfaint o hynny ar sail llawer gwell pan fydd yn mynd drwodd.

Nid oes unrhyw effaith wedi bod ar gleifion hyd yma. Rwy'n mynd o'r hyn y mae'r llywydd yn ei ddweud wrthyf. Maen nhw wedi gwneud popeth y gallan nhw. Dydyn nhw ddim yn meddwl bod unrhyw effaith ar gleifion hyd yn hyn. Yn dilyn penderfyniad y llywydd, aethpwyd ati i adolygu'r holl baneli a drefnwyd. Daethpwyd ag aelodau sydd wedi'u trwyddedu i ymarfer ar hyn o bryd i mewn. Roedd angen llawer iawn o waith llaw gan y tribiwnlys ac ewyllys da gan yr aelodau. Nid yw'n gynaliadwy yn y tymor hwy, a dyna pam mae angen i ni wneud y ddeddfwriaeth. Rwy'n credu bod llywydd y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl wedi gweithredu'n gyflym a dylid ei chanmol am hynny. Mae hi wedi bod o gymorth mawr i mi. Mae hi wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth ei adolygu, ac rwy'n credu bod angen ei chanmol hi a'i holl staff am hynny. 

Y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yw'r panel penodiadau ar gyfer hynny o hyd, a byddwn am wneud yn siŵr bod y gofynion cymhwystra statudol yn cael eu dehongli'n gywir gan y pwyllgor penodiadau barnwrol. Byddwn yn gwneud ymholiadau ynghylch pam rydym yn y sefyllfa hon, oherwydd dylai'r pwyllgor penodiadau barnwrol fod wedi gwybod hynny hefyd, a 'does gen i ddim syniad' yw'r gwir gonest ynghylch pam nad oeddent yn gwybod hynny. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am hyn fy hun tan yn ddiweddar iawn. Fy nealltwriaeth i yw bod hyn wedi digwydd cyn i mi hyd yn oed cael fy ethol, felly dydyn ni ddim wedi gallu ei olrhain, Adam, ond os gallwn, fe wnawn ni. Byddem yn hoffi gwybod. Ond rwy'n credu ei bod yn llawer, llawer pwysicach i ni ei gywiro ac yna gwneud yn siŵr na all ddigwydd eto, a dyna pam rydych chi'n cynnal ymchwiliad. Yn amlwg, nid yw'n ymwneud â cheisio dod o hyd i bobl i'w beio, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod gennym y prosesau ar waith i wneud yn siŵr bod gennym y system benodiadau orau. Felly, bydd hynny'n cael ei wneud hefyd.

Ac wedyn, fel y dywedais wrth Rhys ab Owen yn fy sylwadau cynharach, wyddoch chi, bydd y Bil tribiwnlysoedd yn rhoi cyfle i wneud cyfres lawn o bethau eraill yn ymwneud â systemau gweinyddu a phenodi tribiwnlysoedd, gan gynnwys pwy yw'r awdurdodau penodi a statws y llywydd, y mae pob un ohonynt wedi'u cymylu'n fawr mewn amryw o wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth ar hyn o bryd, felly bydd hynny'n rhoi'r cyfle hwnnw. Ond am y tro, mae hyn yn ymwneud â'r newid cul iawn, iawn hwn—newid i wneud yn siŵr bod pob un o aelodau'r tribiwnlys sydd wedi gweithio mor galed yn gallu parhau i wneud hynny a gwneud eu cyfraniad heb orfod mynd drwy broses ailbenodi, a'n bod yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl.

Felly, Dirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am ystyried hyn. Mae'r Bil yn fach iawn; mae'n gwneud yr addasiad technegol hollol angenrheidiol a dim byd arall, oherwydd rydym yn ymwybodol iawn o'r pwyntiau craffu a gododd Mabon, er enghraifft. Nid yw'n gwneud dim byd arall, a dyna pam roeddem ni'n meddwl ei bod hi'n bosibl ei wneud fel deddfwriaeth frys, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb am ei ystyried. Diolch. 

19:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

14. Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae'r Llywydd wedi penderfynu nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Felly, mae eitem 14 wedi ei thynnu yn ôl, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:47.