Y Cyfarfod Llawn
Plenary
02/12/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i weithredu argymhellion adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ym mis Tachwedd 2020? OQ63550
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £445 miliwn ar gyfer uwchraddio rheilffyrdd yng Nghymru, gan ddarparu'r gorsafoedd Burns. Fe wnaethom ni ddatblygu'r achos busnes, ariannu'r gwaith dylunio cynnar a gwthio'n galed am y buddsoddiad hwn. Bellach, mae'r ddwy Lywodraeth, Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef. Mae hyn yn golygu gwasanaethau mwy dibynadwy, mwy o gapasiti a chysylltiadau gwell i gymunedau ar draws Casnewydd a Chaerdydd, gan ddechrau unioni'r degawdau o danfuddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr bod angen system drafnidiaeth integredig arnom ni yng Nghymru. Rydym ni'n gweld cynnydd gwirioneddol o ran bysiau, gyda'r Bil yn mynd drwodd, a byddwn yn trafod hynny yn ddiweddarach. Mae angen y system fysiau wedi'i chynllunio honno arnom ni, sydd mor bwysig i'n cymunedau. O ran teithio llesol, rydym ni wedi gweld buddsoddiad sylweddol y mae'n rhaid i ni adeiladu arno. O ran rheilffyrdd, rydym ni wedi gweld cynnydd o 19 y cant i nifer y teithwyr trwy fwy o fuddsoddiad, sy'n galonogol iawn yn fy marn i. Felly, yn y de-ddwyrain, o ran comisiwn Burns, hoffem ni weld y cynnydd hwnnw wir yn symud ymlaen yn gyflym yng Nghasnewydd a'r cyffiniau i ddelio â'r tagfeydd hynny ar yr M4 a phroblemau traffig cyffredinol. I mi, yn Nwyrain Casnewydd, Prif Weinidog, mae'r gorsafoedd rheilffordd newydd hynny sydd wedi'u cynllunio ym Magwyr, yn Llanwern ac yn Somerton yn gwbl hanfodol. Yr hyn y mae pobl leol yn ei ddweud wrthyf i yw y bu sawl blwyddyn ers i ni gael adroddiad Burns a'r argymhellion, ac maen nhw'n rhwystredig ac yn ddiamynedd. Maen nhw eisiau gweld gwaith yn digwydd ar lawr gwlad i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny. Felly, a allech chi ymrwymo, Prif Weinidog, i gynyddu eich ymdrechion i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod ni'n gweld y gwaith hwnnw ar lawr gwlad yn digwydd yn gyflym iawn nawr?
Diolch yn fawr iawn, John. Rwy'n deall pam maen nhw'n ddiamynedd. Maen nhw wedi bod yn aros ers amser maith. Nid oedd yr arian gennym ni cyn y gyllideb ddiwethaf er mwyn symud pethau ymlaen, ond gallaf eich sicrhau chi ein bod ni'n gweithio'n galed iawn gyda Llywodraeth y DU ar symud pethau ymlaen. Mae Network Rail yn gweithio bellach i gwblhau'r achos busnes a'r dyluniad terfynol ar gyfer uwchraddio prif reilffordd de Cymru. Y peth allweddol i'w gofio yma yw y bydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn yr ardal honno. Mae'n rhaid i ni dynnu'r pwysau oddi ar yr M4. Yr hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud gyda'r adnewyddiad hwn yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael mwy o deithwyr a nwyddau, ac y gall mwy o'r rheini weithredu ar y reilffordd honno. Felly, mae'r buddsoddiad hwn, o'm safbwynt i, yn mynd i fod yn drawsnewidiol. Bydd yn datgloi'r capasiti hwnnw a bydd yn ychwanegu'r gwydnwch hwnnw. Rwy'n gwybod bod pobl yn eich etholaeth chi eisiau gweld hynny cyn gynted â phosibl.
Prif Weinidog, sefydlwyd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i archwilio ffyrdd amgen o leihau tagfeydd yn dilyn penderfyniad y cyn Brif Weinidog i ddiddymu'r cynllun i adeiladu ffordd liniaru'r M4. Prif Weinidog, ni ddylai erioed wedi bod angen creu'r comisiwn yn y lle cyntaf gan y dylai'r Llywodraeth fod wedi cynllunio a darparu ffordd liniaru'r M4 y mae mawr ei angen yn y lle cyntaf. Byddai'r prosiect seilwaith pwysig hwnnw wedi trawsnewid yr M4 yn sylweddol o faes parcio, fel y mae bellach yn cael ei adnabod yn aml, i lwybr priffordd allweddol sy'n llifo'n rhydd, gan gefnogi ein heconomi, trigolion ac ymwelwyr hefyd. Yn hytrach, yr opsiwn amgen fu arwyddion terfyn cyflymder 50 mya, coridorau bysiau cyflym, lonydd beicio a chael gwared ar gylchfan hollbwysig yng nghanol Casnewydd o blaid goleuadau traffig—cam sydd wedi cael dim croeso o gwbl gan etholwyr, Prif Weinidog. Ni fydd yr un o'r mesurau hyn, Prif Weinidog, yn lleddfu'r problemau sy'n cynyddu'n barhaus ar yr M4. Rwy'n siŵr y byddai cynadleddwyr a aeth i'ch uwchgynhadledd fuddsoddi yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yr wythnos hon wedi gweld yn bersonol y problemau—nid yn union y ddelwedd yr ydych chi eisiau ei dangos i ddarpar fuddsoddwyr. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn eglur o'r cychwyn cyntaf y byddwn ni'n rhoi rhawiau yn y ddaear ac yn sicrhau ffordd liniaru'r M4, gan ein bod ni eisiau cael Casnewydd a de Cymru yn symud eto. Felly, a allwch chi esbonio i'r cyhoedd yng Nghymru, os gwelwch yn dda, pam mae eich Llywodraeth Lafur yn dal i rwystro'r prosiect gwirioneddol hanfodol hwn, a phryd wnewch chi weld synnwyr ac adeiladu'r ffordd liniaru honno ar gyfer yr M4?
Nid oes gen i ddiddordeb mewn hen gêm neilltuo bai. Yr hyn y mae gen i ddiddordeb ynddo yw cyflawni, ac mae rhaglen Burns yn cael ei chyflawni. Rydym ni'n gwneud hyn mewn partneriaeth—Cymru sy'n llunio'r cynllun ac mae Llywodraeth y DU yn ei gefnogi gyda chyllid. Rwy'n credu bod pobl yn yr ardal yr ydych chi'n ei chynrychioli eisiau gweld y gorsafoedd hynny yn cael eu hadeiladu: Dwyrain Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Somerton, Llanwern, Magwyr a Gwndy—mae pob un ohonyn nhw wrthi'n cael y cymeradwyaethau sydd eu hangen arnom ni bellach. Rydym ni'n gwybod bod pobl wedi bod yn aros ers amser maith. Ni allem ni fod wedi gwneud unrhyw beth tan i ni gael yr arian hwnnw, arian nad oedd ar gael o dan y Torïaid. Mae'n dda nawr bod yr arian gennym ni fel y gallwn symud ymlaen.
2. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag oedi o ran rhyddhau o ysbytai? OQ63539
Mae'r strategaeth yn dadflocio'r system er mwyn i bobl allu gadael yr ysbyty yn saff ac ar amser. Rydyn ni wedi gosod targedau cenedlaethol uchelgeisiol, ac rydyn ni'n eu cefnogi nhw gyda newid gwirioneddol: gwasanaeth sy'n gweithio dros saith niwrnod, a model 'rhyddhau i adfer, ac yna asesu' ar draws Cymru, fel bod pobl yn gallu mynd adref neu i ofal cymunedol yn gynt. Rydyn ni’n gweld yr effaith yn barod. Mae oedi i lawr 17 y cant, amseroedd aros am asesiad i lawr 22 y cant, a chyfanswm y dyddiau o oedi i lawr 12 y cant.
Diolch am yr ateb yna. Mae'r Llywodraeth yma'n sôn drwy'r amser am ddarparu gwasanaethau'n agosach i gartref—'shift left' ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio. Tra bo y rhethreg yn dda, mae arnaf ofn dweud nad ydy o reidrwydd darparu'r gwasanaeth yna yn byw i fyny i'r ideoleg. Mae gyda ni ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn. Mi fyddwch chi, Brif Weinidog, yn ymwybodol ohoni. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i chi am eich ymweliad chi â'r ward pan oeddech chi'n Weinidog iechyd. Mae'r ward honno wedi cau ers bron i dair blynedd. Roedd fod i gau dros dro. Mae'r broblem o ran cael y niferoedd nyrsio yn dal heb ei datrys. Mae yna 16 o welyau yn yr ysbyty sydd yn eistedd yn wag ar hyn o bryd, sy'n cynnig eu hunain yn berffaith ar gyfer gwasanaeth cymunedol, er mwyn rhyddhau pobl o Fronglais i ddod yn ôl i'r gymuned. Mae'n rhaid i ni, felly, weld y ward yma yn ailagor, a hynny ar fyrder, er lles iechyd pobl Bro Dysynni. Os ydych chi, felly, yn credu yn yr hyn rydych chi wedi ei ddweud fel Llywodraeth, a ryddhawyd nôl ym mis Tachwedd, sef y syniad yma o integreiddio cymunedol, yna mi fyddwch chi wedyn yn cytuno bod angen ailagor ward Dyfi. A wnewch chi, felly, ddatgan eich cefnogaeth i ailagor y ward ac ysgrifennu at y bwrdd iechyd i ddatgan hynny yn gyhoeddus, os gwelwch yn dda?
Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n nodi bod y rhan fwyaf o bobl eisiau cael gofal yn eu cartrefi eu hunain, nid hyd yn oed mewn ysbyty cymunedol. Dyna yw'r lle gorau. Dyna pam dwi'n hapus iawn ein bod ni mewn sefyllfa lle rydyn ni wedi cynyddu faint o arian sy'n mynd mewn i bethau fel reablement. Rydyn ni'n gwneud lot mwy o ran gweithredu'r model yna o 'ryddhau i wella, ac wedyn asesu' drwy Gymru, achos dyna sydd yn dadflocio'r problemau yn ein hysbytai ni. Wrth gwrs, beth rydyn ni wedi ei wneud yw rhoi £30 miliwn o grant trawsnewid llwybrau gofal i awdurdodau lleol. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n nodi bod hynny wedi dod i mewn yn y gyllideb ddiwethaf yma yng Nghymru. Dyma'r cyllid roeddech chi wedi ceisio'i flocio. Felly, mae'n bwysig bod pobl yn deall bod pwynt i ni wneud hyn, a bod yr arian ychwanegol yna ar gyfer reablement a helpu pobl yn eu cymunedau wedi dod o ganlyniad i'r Blaid Lafur, gyda help o'r Liberal Democrats.
Prif Weinidog, yr hyn y mae angen i ni ei weld yw system briodol o ofal cam-i-lawr yn ein hysbytai, fel y gall pobl fynd yn ôl i ysbytai cymuned, oherwydd ni all pawb fynd yn syth yn ôl adref pan fyddan nhw'n gadael yr ysbyty. Torrodd eich Llywodraeth Lafur Cymru ysbytai cymuned pan, rwy'n credu, mai'r Ysgrifennydd iechyd oedd y rheolwr busnes. Felly, rwyf i'n credu mewn wirionedd mai nawr yw'r adeg y mae angen i ni ail-fuddsoddi yn ein hysbytai cymuned, fel sydd gennym yr holl ffordd ar draws Brycheiniog a Sir Faesyfed, i wneud yn siŵr y gallwn ni alluogi pobl i adael y gofal eilaidd hwnnw i gyfleuster gofal cam-i-lawr, fel y gellir gofalu amdanyn nhw yn lleol, ac yna eu dychwelyd adref pan fyddan nhw yn y sefyllfa orau bosibl i wneud hynny. A yw hynny'n rhywbeth y gwnewch chi fuddsoddi ynddo nawr, Prif Weinidog, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei weld yw llawer gormod o bobl yn sownd yn ein hysbytai, a allai gael gofal yn agosach at adref, gyda chefnogaeth eu teuluoedd, sy'n mynd i fod yn well iddyn nhw ac yn well i drethdalwr y wlad hon?
Wel, allwch chi ddim dweud yn syml, 'Rydym ni'n mynd i ailagor ysbytai cymuned'; mae angen i bobl staffio'r ysbytai cymuned hynny. Rydym ni wedi cynyddu staffio yng Nghymru yn sylweddol ers y pandemig. Mae'r GIG, a nyrsio yn arbennig, wedi cynyddu'n sylweddol. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw ehangu'r gwasanaethau adsefydlu ac ailalluogi, a gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau ar gyfer cael pobl i'w cartrefi ar gael saith diwrnod yr wythnos bellach, yn hytrach na phump.
Prif Weinidog, roeddwn i mewn cyfarfod yn Wrecsam y mis diwethaf gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac aelodau Fforwm Gofal Cymru i drafod faint o amser y mae'n ei gymryd ar hyn o bryd i ryddhau cleifion o Ysbyty Maelor Wrecsam. Roedd yn hynod rhwystredig clywed am y biwrocratiaeth sy'n oedi cleifion rhag gadael yr ysbyty, a dylai unigolyn wir allu cael ei asesu ar gyfer cyllid mewn cartref gofal yn hytrach na gorfod aros yn yr ysbyty i'r asesiad hwnnw gael ei gynnal. Gwn fod yr Ysgrifennydd Cabinet mor rhwystredig â mi am yr hyn a glywsom ni ac mae wedi trefnu i gyfarfodydd pellach rhwng y bwrdd iechyd a'r sector gael eu cynnal, ond beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod Ysbyty Maelor mor effeithlon â phosibl o ran rhyddhau cleifion ac nad yw oediadau yn digwydd dim ond oherwydd diogelu'r gyllideb gofal iechyd parhaus?
Rwy'n cydnabod ei fod yn rhwystredig iawn, yn enwedig i'r bobl hynny sydd eisiau gadael yr ysbyty. Maen nhw wedi'u hoptimeiddio'n glinigol, maen nhw'n barod i adael. Mae 347 o gleifion yn Betsi ar hyn o bryd sydd yn yr union sefyllfa honno, sy'n llawer gormod. Mae'n atal pobl eraill rhag mynd i mewn drwy'r drws ffrynt. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw rhoi'r £19 miliwn hwnnw yn yr her 50 diwrnod, ac mae hynny'n cynnwys £10 miliwn ar gyfer ailalluogi a gofal cartref. Felly, rydym ni'n gwybod bod gennym ni waith i'w wneud. Rwy'n credu y byddai o gymorth mawr pe bai pobl hŷn yn benodol yn gallu rhoi help llaw i ni trwy gael eu brechiadau ffliw, trwy gael eu brechiadau COVID, gan ein bod ni wir yn cychwyn y rhan fwyaf heriol o'r gaeaf nawr, ac mae llawer o'r bobl hyn yn hen bobl a allai ein helpu ni. Rydym ni'n gobeithio y bydd gweithwyr y GIG hefyd yn manteisio ar y cyfle i gael eu brechiadau ffliw. Mae'n rhaid i ni geisio rhoi cymaint o amddiffyniad i mewn ag y gallwn, fel nad oes gennym ni bobl yn mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Felly, rydym ni wedi gweld y gostyngiad hwnnw o 17 y cant o ran oedi cyn rhyddhau ledled Cymru. Rydym ni'n gwybod bod mesurau yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith sy'n welliant, ond mae lle i fynd ymhellach bob amser.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Dim ond i ddilyn ymlaen ar y mater ynghylch oedi cyn rhyddhau, yn ogystal â'r argyfwng mewn gofal cymdeithasol, mae gennym ni bwysau'r gaeaf hefyd. Felly, mae gennym ni fwy o bobl yn ein hysbytai ac, yn anffodus, yn mynd i mewn i'n hysbytai, ac yna mae gennym ni'r sefyllfa hon, yr ydych chi wedi clywed amdani ac yr ydych chi'n gwybod amdani, sef na allwn ni gael yr asesiadau ac na allwn ni gael y gofalwyr i'w cael nhw i le sy'n well iddyn nhw. Yn 2015, dyrannodd Llywodraeth Cymru £40 miliwn ychwanegol i GIG Cymru i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf. Dros 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng mewn gwirionedd, i £30 miliwn. Felly, mae'n teimlo fel ein bod ni, mewn gwirionedd, yn cymryd arian i ffwrdd mewn cyfnod difrifol iawn ar gyfer mater difrifol iawn. Fe wnaethom ni amcangyfrif cyflym o faint y dylem ni fod yn ei weld yn mynd i mewn i'r maes hwnnw, a tua £56 miliwn sydd ei angen i fynd i'r GIG i fynd i'r afael ag oedi cyn rhyddhau ar yr adeg hon o'r gaeaf. Felly, yn y cyfnod hwn o argyfwng, ar yr adeg oer iawn hon o'r flwyddyn, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried rhoi mwy o arian i'n hysbytai i sicrhau bod llai o bobl yno a'u bod nhw'n cael eu hanfon i le sy'n addas iddyn nhw? Diolch yn fawr iawn.
Wel, yr un peth a ddysgais i pan oeddwn i'n Ysgrifennydd iechyd oedd, mewn gwirionedd, bod yn rhaid i chi baratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf tua mis Mehefin. Felly, mae angen i chi ei ysgrifennu i mewn i'ch cyllideb blwyddyn gyfan. Felly, dyna beth rydym ni wedi ei wneud. Rydym ni wedi cymryd yr arian hwnnw yr gwnaethom ni ei ddefnyddio'n flaenorol i roi hwb i mewn tua mis Medi, ac rydym ni wedi dweud, 'A dweud y gwir, mae'n rhaid i chi ei gael i mewn i'r system. Fe allan nhw ei gynllunio'n well os yw'n rhan o'r pecyn cyffredinol.' Felly, dyna'r hyn yr ydym ni'n ei ddisgwyl i fyrddau iechyd ei wneud nawr—felly, yn hytrach nag aros am y cyllid wedi'i neilltuo hwnnw gennym ni, i'w ymgorffori yn eu rhaglen eu hunain ac i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cynllunio ar gyfer y gaeaf ac y gallan nhw gynyddu'r cymorth hwnnw wrth iddyn nhw fynd i mewn i gyfnod y gaeaf hwnnw. Mae'n llawer gwell iddyn nhw allu cynllunio nag aros i ni roi chwistrelliad o arian parod a allai ddod neu beidio. Mae'n amlwg, mae yno iddyn nhw ac mae angen iddyn nhw gynllunio sut maen nhw'n mynd i'w ddefnyddio dros fisoedd y gaeaf.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyn etholiad cyffredinol 2024, ceisiodd y Blaid Lafur roi sicrwydd i bleidleiswyr am drethiant. Ar 27 Mai 2024, dywedodd Syr Keir Starmer, ac rwy'n dyfynnu,
'nid oes dim o'r cynlluniau yr ydym ni wedi eu llunio, dim byd yn ein maniffesto yn mynd i'w gwneud yn ofynnol i ni godi trethi.'
Ar dudalen 21 y maniffesto Llafur hwnnw roedd yn dweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Ni fydd Llafur yn cynyddu trethi ar bobl sy'n gweithio'.
Yn y gyllideb Lafur gyntaf un ar ôl yr etholiad cyffredinol hwnnw, torrwyd yr addewidion hynny, oherwydd aeth y Canghellor, Rachel Reeves, ymlaen i gynyddu yswiriant gwladol cyflogwyr a newid rheolau treth etifeddiaeth i'r bobl hynny sy'n gweithio'n galed iawn fel ffermwyr a pherchnogion busnesau bach. A dywedodd wrth y genedl ar yr adeg honno ei fod yn ddigwyddiad untro, na fyddai angen iddi ddod yn ôl i godi trethi eto, ac eto yr wythnos diwethaf fe welsom ni'r un peth yn digwydd eto, wrth iddi ddod yn ôl am biliynau yn fwy yn ei hail gyllideb Lafur i ariannu mwy fyth o wariant allan o reolaeth ar les. A'r hyn sy'n waeth yw bod Rachel Reeves wedi gwneud hynny ar ôl camarwain y cyhoedd am gyflwr cyllid cyhoeddus. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, na ellir ymddiried yn Llafur ar dreth, bod gweithredoedd y Canghellor yn amlwg yn gyfystyr â thorri cod y Gweinidogion, ac y dylai ymddiswyddo?
Edrychwch, hon oedd y gyfres fwyaf o benderfyniadau o blaid Cymru a welwyd gan Lywodraeth y DU ers blynyddoedd. Rwy'n credu bod llawer i'w ddathlu yng nghyllideb y Canghellor o ran Cymru. Gadewch i ni siarad am y peth yr ydym ni wedi pwyso'n galed iawn amdano fel Llywodraeth, sy'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn pwyso amdano ers blynyddoedd ar flynyddoedd: bydd 70,000 o blant bellach yn cael eu codi allan o dlodi o ganlyniad i ddiddymu'r cap budd-dal dau blentyn. Mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Cefais fy magu gyda phlant yn Nhrelái a oedd mewn tlodi, ac mae'n wych gweld y bydd gwahaniaeth i'r plant hynny yn y gymuned honno ac mewn cymunedau ledled Cymru gyfan.
Roeddem ni'n pryderu y gallai fod cynnydd i'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm a fyddai'n effeithio ar weithwyr yng Nghymru. Ni wnaeth hynny. Yn hytrach, fe welsom ni gynnydd i bensiynau sy'n mynd i gynorthwyo miloedd lawer—700,000 o bensiynwyr yng Nghymru, £500 yn well eu byd. Dyna beth mae'r gyllideb hon yn ei wneud i Gymru. Mae hefyd yn cynorthwyo pobl sy'n cael trafferth gyda phroblemau costau byw, ac maen nhw'n mynd i gael cymorth nawr gyda'u biliau ynni. Felly, ceir llawer iawn yn hyn, ac mae hynny cyn i ni ddechrau siarad am y 160,000 o bobl yng Nghymru a fydd ar eu hennill o ganlyniad i'r cynnydd i'r cyflog byw cenedlaethol a'r cynnydd i'r isafswm cyflog. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ni ei ddathlu, ac mae hynny cyn i ni ddechrau siarad am y prosiectau unigol a oedd yn benodol i Gymru.
Prif Weinidog, sylwais na wnaethoch chi ateb y cwestiwn. Gofynnais i chi a oeddech chi'n meddwl y dylai Rachel Reeves ymddiswyddo am gamarwain y cyhoedd. Dywedodd y Canghellor gelwyddau uniongyrchol. Dywedodd—[Torri ar draws.] Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb wrth Rachel Reeves yn ôl ym mis Medi bod cyllid cyhoeddus yn amlwg mewn gwell cyflwr nag yr aeth ymlaen i'w honni oedd yn wir. Mae'n amlwg na ellir ymddiried ynddi, ac os nad oes ganddi'r cwrteisi i ymddiswyddo yna dylai Prif Weinidog y DU ei diswyddo. Dyna'r realiti.
Nawr, yn ei haraith gyllideb, traethodd restr hirfaith o enwau yr oedd yn honni eu bod wedi dylanwadu ar ei phenderfyniadau cyllideb. Cyfeiriodd at Anas Sarwar, arweinydd Llafur yr Alban, hyd yn oed, ond roedd eich enw chi, Prif Weinidog, yn absennol o gofrestr y Canghellor. Nid wnaeth sôn amdanoch chi o gwbl. Ac nid yw'n syndod, onid yw? Oherwydd nid oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer HS2. Nid oedd penderfyniad i wrthdroi'r dreth ffermydd teuluol. Nid oedd unrhyw gyllid ychwanegol i wneud yn siŵr bod y ffaith ein bod ni wedi cael cyllid annigonol yn cael sylw yn y cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr hynny. Felly, onid yw'n eglur iawn—onid yw'n eglur iawn—Prif Weinidog, bod gennych chi ddim dylanwad o gwbl ar Lywodraeth Lafur y DU ar ben arall yr M4?
Wel, nid wyf i'n mynd i gymryd gwersi gan y Torïaid ar drethiant. Dyna'r peth cyntaf. Fe welsom ni drethi yn codi flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Torïaid. Yr hyn a gawsom ni yn y gyllideb hon oedd chwistrelliad enfawr o fuddsoddiad yng Nghymru. Fe welsom ni'r parthau twf deallusrwydd artiffisial—nid un yn unig, ond dau yng Nghymru. Ac fe ddywedaf i wrthych chi beth—roedd hynny yn rhywbeth o ddiddordeb mawr i'r bobl a oedd yn bresennol yn uwchgynhadledd fuddsoddi ryngwladol Cymru ddoe. Roedd pobl yno yn dod o bedwar ban byd eisiau gwybod, 'Iawn, sut mae hyn yn mynd i weithio? Sut allwn ni helpu i fuddsoddi yn y wlad hon i gynyddu cynhyrchiant?' i wneud yn siŵr bod gan bobl yn ein cymunedau swyddi o ansawdd. Wylfa, eto—roedd gennym ni bobl o Rolls-Royce yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi yn torri ei boliau eisiau cychwyn arni, i wneud yn siŵr y gallan nhw drawsnewid bywydau pobl. Rhuodd y ddraig ddoe; dyna ddywedodd pennaeth Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, ac yn sicr fe wnaeth. Ac roedd diolch i'r ffaith fod y Canghellor yn cymeradwyo'r safbwynt hwn a dweud y gwir, a daeth i'n cefnogi, ac, i wneud yn siŵr, daeth i'n huwchgynhadledd fuddsoddi. Gadewch i mi ei gwneud hi'n eglur: uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru oedd hon, ac roeddem ni'n falch iawn ei bod wedi dod i'n cefnogi, a'n bod ni mewn sefyllfa nawr lle byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen nid yn unig â'r pethau hynny, ond hefyd buddsoddiad o £10 miliwn yn y clwstwr lled-ddargludyddion. Roedd y clwstwr lled-ddargludyddion yn rhywbeth a syfrdanodd pobl yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi honno. Doedd ganddyn nhw ddim syniad am y capasiti a'r gallu sydd gennym ni yng Nghymru. Fe wnaethom ni roi Cymru a buddsoddiad yng Nghymru mewn goleuadau neon ddoe, ac ymatebodd y bobl. Roedd yn gyflawniad anhygoel i'n cenedl. Mae gennym ni werth £16 biliwn o fuddsoddiad bellach. Mae hwn yn gyflawniad a bydd yn trawsnewid bywydau o leiaf 10,000 o bobl yng Nghymru, cyn i ni ddechrau cyflawni'r pethau y gwnaethom ni ddechrau plannu hadau ar eu cyfer ddoe.
Prif Weinidog, does neb yn eich credu chi, oherwydd mae'r gyllideb hon wedi cyflwyno trethi uwch, lles uwch ac mae Cymru yn dal fod ar ei cholled. Dyma'r hunllef cyn y Nadolig a chyllideb ar gyfer stryd budd-daliadau, â gweithwyr, pensiynwyr, cyflogwyr, cynilwyr a modurwyr i gyd yn talu mwy yn y blynyddoedd i ddod, tra bod y rhai ar fudd-daliadau yn mynd i gael mwy yn eu pocedi. Mae'n warth. Mae'n warth bod teulu sy'n gweithio bellach angen incwm o £71,000 y flwyddyn i fod yn well ei fyd nag aelwyd tri phlentyn di-waith. Mae hynny'n gywilyddus yn ein gwlad. Roedd y gyllideb hon yn drychineb i bobl sy'n gweithio'n galed. Mae'n cosbi pobl â chyfrifoldeb personol, ac fe'i cyflwynwyd gan Ganghellor anonest sydd wedi dweud celwydd wrth y cyhoedd, wedi torri ymddiriedaeth â'r cyhoedd ac a ddylai gael ei diswyddo. Pam na wnewch chi roi'r gorau i'w hamddiffyn, gwneud eich gwaith ac sefyll yn gadarn o'r diwedd dros bobl Cymru?
Fe ddywedaf i wrthych chi pam—oherwydd allwn ni ddim dadwneud 14 mlynedd o gyni cyllidol dros nos. A gadewch i mi ddweud wrthych chi, fe wnaiff pobl Cymru ddiolch i ni: y 160,000 o bobl hynny sy'n well eu byd ac a fydd yn well eu byd o ganlyniad i'r isafswm cyflog yn codi; y 70,000 o deuluoedd hynny a fydd yn elwa o ganlyniad i ddadwneud y cap, a'r miloedd—miloedd—hynny o bensiynwyr a fydd yn gweld £500 yn ychwanegol yn eu tâl y flwyddyn nesaf. Mae hon yn gyllideb drawsnewidiol i'r bobl hynny—i'r rhai sy'n cael y tâl isaf, i'r bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i ysgogi ein heconomi, i wneud yn siŵr ein bod ni'n eu cynorthwyo, a dyna wnaethom ni. Ac roedd yn wych ddoe gweld, mewn gwirionedd, bod pobl eisiau dod i Gymru, maen nhw eisiau bod yn rhan o'n teulu, ac maen nhw eisiau ein gweld ni'n llwyddo. Rwy'n meddwl tybed weithiau, Darren, a ydych chi eisiau gweld hynny i'n cenedl.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, datgelodd y Canghellor gyllideb arall yn San Steffan a fethodd â chyflawni dros Gymru, yn anhrefnus yn ei choreograffi, yn arbennig o siomedig yn ei manylion. Nid oedd yn mynd i'r afael ag unrhyw un o'r problemau strwythurol sy'n golygu bod ein cenedl yn colli allan ar biliynau o bunnoedd, dim cynnydd ar ddatganoli Ystad y Goron, dim cyllid canlyniadol HS2, dim sôn am ddiwygio fformiwla Barnett, sydd wedi ein gadael ni wedi ein tanariannu'n gronig ers degawdau.
Mae Plaid Cymru yn croesawu penderfyniad Llafur, o'r diwedd, i godi'r cap dau blentyn. Roedd yn anfoesol pan gafodd rhai ASau Llafur eu cosbi am bleidleisio i'w ddiddymu, ac mae'n dal i fod yn anfoesol heddiw. Ond, wrth gwrs, mae Llafur hefyd wedi torri addewid maniffesto allweddol i beidio â chodi trethi i weithwyr cyffredin—nid y cyfoethog iawn, y gallen nhw fod wedi ei wneud, ond gweithwyr cyffredin. Ac mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth eisoes ar ei hisaf erioed a'r cwbl y bydd Llywodraethau yn torri addewidion maniffesto yn ei wneud fydd gwneud pethau'n waeth.
Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau a yw'n cefnogi penderfyniad y Canghellor i godi trethi ar bobl sy'n gweithio, gan lusgo miloedd o weithwyr i fandiau uwch dros y blynyddoedd nesaf? A beth mae'n ei gredu fydd canlyniadau hyn i'n democratiaeth?
Wyddoch chi beth? Pe bai Rachel Reeves wedi marchogaeth dros Bont Hafren ar geffyl aur a rhoi £1 miliwn i bob person yn y wlad hon, rwy'n dal i feddwl y byddech chi wedi dweud y byddai Cymru ar ei cholled. Roedd hon yn gyllideb a gymerodd Cymru o ddifrif. Yr hyn y gwnaethom ni lwyddo i'w wneud—. Hyd yn oed yn ei etholaeth ei hun, lle mae £2.5 biliwn wedi cael ei fuddsoddi yn uniongyrchol yn eich etholaeth, a symiau enfawr o arian yn mynd i gefnogi, hefyd miloedd o swyddi o ran deallusrwydd artiffisial—. Gadewch i ni fod yn eglur: roedd hyn yn drawsnewidiol yn arbennig i'ch etholaeth chi, ac allwch chi ddim hyd yn oed ddod â’ch hun i ddweud 'diolch'. Mae hynny yn rhywbeth a fydd yn cael ei nodi. [Torri ar draws.] Mae hynny yn rhywbeth a fydd yn cael ei nodi gan bobl. Nid wyf i'n canolbwyntio ar ddarparu llinellau wedi'u paratoi ymlaen llaw ar gyfer cyfryngau cymdeithasol; rwyf i'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod ni'n diogelu gwasanaethau Cymru gyda'r gyllideb sydd gennym ni mewn gwirionedd.
Fe ddywedaf i wrthych chi beth, hyd yn oed pe bai Rachel Reeves yn marchogaeth i mewn i Gymru ar y ceffyl tywyllaf ac yn penderfynu tynnu pob ceiniog allan o Gymru, byddai'r Brif Weinidog hon yn dal i ddweud mai dyna'r fargen orau i Gymru erioed. Y broblem sydd gan y Llywodraeth Lafur hon yw ei bod hi bob amser yn blaenoriaethu amddiffyn gweithredoedd Llywodraethau Llafur y DU, yn hytrach na sefyll yn gadarn dros yr holl bobl hynny a fydd yn dioddef tro gwael oherwydd gweithredoedd y Canghellor yr wythnos diwethaf.
Mae'r gyllideb hefyd, wrth gwrs, yn cael effaith enfawr ar yr hyn sy'n bosibl o ran cynlluniau gwariant yng Nghymru, gan gynnwys trwy ragolygon wedi'u diweddaru ar gyfer chwyddiant a thwf cyflogau dros y blynyddoedd i ddod. Ar y cyfan, mae'n ymddangos mai dim ond 0.3 y cant yw'r cynnydd gwariant termau real arfaethedig ar gyfer y GIG. Felly, mae camreolaeth gan Lafur yma yn cael ei waethygu gan setliad annigonol. Ond nid yw'n fater o iechyd yn unig, wrth gwrs. Ychwanegwch at hynny wasgfa anghynaliadwy ar gyllidebau awdurdodau lleol ac mae darlun annymunol yn dod i'r amlwg o wasanaethau cyhoeddus sy'n gwegian ar ymyl y dibyn. Fel y rhybuddiodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu:
Mae costau gofal cymdeithasol, digartrefedd, addysg a gweithlu yn parhau i godi’n gyflymach nag y gall adnoddau gadw i fyny.'
Ceir rhybuddion am filoedd o swyddi cyngor ar ymyl y dibyn a chynnydd mawr i'r dreth gyngor. Felly, a all y Prif Weinidog esbonio pam mae Cymru yn cael ei hun yn y sefyllfa hon? A yw'n fater o danariannu gan Lafur yn San Steffan, neu'n fater o gamreolaeth gan Lafur yn Llywodraeth Cymru, neu'r ddau?
Fe wnaf i amddiffyn y ffaith bod 160,000 o bobl sy'n mynd i gael eu codi i fyny o ganlyniad i'r cynnydd i'r isafswm cyflog. A ydych chi eisiau cefnogi hynny? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig gofyn y cwestiynau hyn. Beth am y 700,000 o bensiynwyr a fydd yn well eu byd? Beth am y 70,000 o blant a fydd yn cael eu codi allan o dlodi? Fe wnaethom ni lwyddo i gael rhywfaint o symudiad o ran yr hyblygrwydd cyllidol. Efallai mai dyna pam na soniodd amdanaf i yn y datganiad, oherwydd ein bod ni wedi llwyddon i gael rhywfaint o symudiad. Ac nid oedd yn hawdd. Fe wnaethom ni wthio; fe wnaethom ni lwyddo i'w gael.
Mae'n bwysig cydnabod hefyd mai'r hyn a gawsom ni yw cefnogaeth i'r sectorau sy'n bwysig i ni: £10 miliwn ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd. Dyma'r trysor yng nghoron economi Cymru, ac mae'n gwneud gwahaniaeth. Mae'n gwneud gwahaniaeth i allu sicrhau gwerth £16 biliwn o fuddsoddiad. Dyna fydd wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru. Ac rydych chi'n poeni am y wasgfa ar gyllidebau awdurdodau lleol. Wel, rydych chi mewn sefyllfa, yn fwy na neb, i wneud rhywbeth am hynny. Rydym ni wedi eich gwahodd chi i siarad â ni am y gyllideb. Mae ein drws ar agor. Gallech ein helpu i drwsio hynny. Mae yn eich dwylo chi i'w ddatrys.
Mae angen i'r Prif Weinidog gadw ei bysedd ar y botwm a chadw i fyny â'r hyn sy'n digwydd. Mae'r Prif Weinidog yn gwybod na fyddai Plaid Cymru byth yn caniatáu i'n cynghorau wynebu'r senario dydd y farn o ddegau o filoedd o swyddi'n cael eu colli a threth gyngor yn mynd drwy'r to. Ni fyddem ni chwaith yn caniatáu i'r GIG gael cynnydd hanesyddol isel i'w gyllid. Mae'n gwybod, neu dylai wybod, ein bod ni wedi bod yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o'r darlun cyllidebol, oherwydd rwyf i eisiau ceisio helpu cynghorau a thalwyr y dreth gyngor a'r GIG allan o'r cyfyng-gyngor y mae wedi eu rhoi nhw ynddo. Wel, dyna sut rwyf i'n mynd i'r afael â'r argyfwng y mae Llafur ynddo gyda'i gyllideb.
Nid yw'n argyfwng sy'n golygu chwalu Llywodraeth rywsut, neu orfodi etholiad cynnar. Mae'r etholiad hwnnw yn dod beth bynnag ym mis Mai, ac ni all ddod eiliad yn rhy fuan, fel y gall pobl roi eu barn ar gamreolaeth Llafur. Ond mae hyn yn ymwneud â lliniaru'r agweddau gwaethaf ar y gyllideb y mae Llafur wedi ei chynnig. Ac mae Plaid Cymru, Prif Weinidog, yn barod i gael Cymru allan o'r twll a wnaed gan Lafur er mwyn (1) amddiffyn y GIG a (2) diogelu swyddi a gwasanaethau cyngor a biliau treth gyngor.
Nawr, mae'r gyllideb honno yn digwydd llai na dau fis o nawr. Cyllideb Llafur i gymryd cyfrifoldeb amdani yw hon a chyllideb y Llywodraeth nesaf i'w thrwsio. Ond a wnaiff hi o leiaf gytuno â mi bod yn rhaid i amddiffyn cynghorau a'r GIG fod yn allweddol i roi rhywfaint o sefydlogrwydd a sicrwydd i wasanaethau cyhoeddus Cymru nawr, cyn newid hollbwysig i'r Llywodraeth ym mis Mai y flwyddyn nesaf?
Wel, edrychwch, fe wnaethom ni roi'r cyfle i chi y llynedd, a wnaethoch chi ddim manteisio ar y cyfle hwnnw. Fe wnaethom ni mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Fe wnaethom ni roi cyfle i chi bleidleisio dros fwy o arian yn mynd i mewn i'r GIG, am fwy o arian yn mynd i mewn i lywodraeth leol, ac fe wnaethoch chi benderfynu peidio â phleidleisio dros hynny, ac rwy'n credu bod pobl Cymru yn cydnabod hynny. Y perygl—. Y perygl—[Torri ar draws.] Rydych chi'n dibynnu ar bobl eraill i wneud eich gwaith i chi. Nid arweinyddiaeth yw hynny, gadewch i mi ddweud wrthych chi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod bod llywodraeth leol wedi bod o dan lawer o bwysau ar ôl 14 mlynedd o gyni cyllidol. Fe wnaethom ni sefyll gyda ac y tu ôl i lywodraeth leol yn y blynyddoedd tywyll. Os edrychwch chi ar y ffordd y gwnaethom ni eu hamddiffyn o'i gymharu â'r hyn a ddigwyddodd yn Lloegr, mae'n gyferbyniad enfawr. Y cwbl yr ydym ni'n ei gael gan Blaid Cymru yw negyddoldeb digalon, a dyna'r hyn yr ydym ni wedi dod i'w ddisgwyl. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cyferbynnu hynny gyda'r gobaith, yr ymdeimlad o optimistiaeth, a'r ymdeimlad o ffydd gwirioneddol yr oedd pobl yn eu teimlo yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi ddoe. Maen nhw'n credu yn ein cenedl. Mae'n drueni nad ydych chi.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y gostyngiad yn nifer y dysgwyr yng Nghymru sy'n ennill cymwysterau mewn ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion a cholegau? OQ63544
Er bod heriau gyda lefel A, mae nifer y disgyblion sy'n sefyll arholiadau TGAU mewn ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rŷn ni wedi buddsoddi £1.6 miliwn yn ychwanegol mewn ieithoedd rhyngwladol, ac wedi ymestyn ein rhaglen Global Futures, sy'n parhau i helpu ysgolion i addysgu ieithoedd.
Wel, diolch am hynny, Brif Weinidog. Byddwch chi'n gwybod, er gwaethaf y buddsoddiad a'r strategaeth honno, mae yna'n dal heriau sylweddol, gyda dwy ym mhob pum ysgol uwchradd yng Nghymru yn adrodd nad ydyn nhw'n cynnig unrhyw ddarpariaeth ôl-16 o gwbl. Felly, o ran y ffigurau, rydych chi'n sôn ynglŷn â'r cynnydd, ond beth am fod yn glir? Yn 2024, dim ond 224 person gymerodd lefel A mewn Ffrangeg, sef gostyngiad o dros 50 y cant o'i gymharu â 2015, ac o ran Almaeneg, dim ond 55 gymerodd lefel A yn y pwnc llynedd. Mae yna'n wirioneddol bryder bod Almaeneg yn mynd i ddiflannu'n llwyr o'n hysgolion ni. Mae'n batrwm tebyg gydag ieithoedd eraill rhyngwladol hefyd. Felly, mae'n glir bod yna broblem sylfaenol fel hyn, a bod yna ddim cyfle i bob disgybl yng Nghymru gael mynediad, ac, yn anffodus, yn nifer o'n hardaloedd difreintiedig ni mae'r diffyg darpariaeth hwn. Felly, gaf i ofyn, felly, ydych chi'n rhannu fy mhryderon o ran y gostyngiad rydyn ni'n ei weld mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, ac a wnewch chi ymrwymo i ailedrych ar y sefyllfa a'r cynlluniau er mwyn gwyrdroi'r sefyllfa a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddod yn rhugl mewn iaith ryngwladol?
Wel, mae 80 y cant o ysgolion cynradd Cymru bellach yn dysgu iaith ryngwladol. Mae hwnna ddwywaith y ffigur a oedd yn gwneud hynny yn 2022. Felly, yn sicr, yn ein hysgolion cynradd ni, mae pethau yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Os ydych chi'n edrych ar TGAU Ffrangeg, mae hwnna wedi cynyddu 6.7 y cant, a Sbaeneg wedi mynd lan 17 y cant. Felly, rŷch chi'n dweud bod yna broblem gydag Almaeneg, a dwi'n meddwl ein bod ni'n ymwybodol o hynny, ac un o'r pethau mae Llywodraeth Cymru'n ceisio gwneud yw sicrhau bod yna allu i bobl lle efallai dyw'r pwnc ddim yn cael ei gynnig i weithio gydag ysgolion eraill, drwy ariannu pethau fel e-sgol, ac mae hwnna'n golygu bod ysgolion yn gallu cydweithredu i gynnig mwy o ieithoedd.
Tom Giffard.
Merci, Llywydd, a guten Tag, Prif Weinidog. Mae'r niferoedd yn gostwng o ran nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru ar gyrsiau rhyngwladol. Yn 2015, roedd 800 o bobl yn gwneud Safon Uwch naill ai yn Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg. Y llynedd, dim ond 500 oedd y nifer. Roedd adroddiad 'Mae Ieithoedd yn Bwysig' Llywodraeth Cymru, o'n gynharach eleni ym mis Gorffennaf, yn cydnabod bod problem benodol yma, ond methodd â gosod targedau adfer rhifiadol fel y gallem ni ddychwelyd i'r sefyllfa honno lle'r oeddem ni 10 mlynedd yn ôl neu hyd yn oed yn well. Mae llawer o hyn yn cyffwrdd ar rywbeth y gwnaethoch chi sôn amdano yn eich ateb i Heledd Fychan, sef ynghylch yr ysgolion hynny lle efallai na fydd y cwrs yn cael ei gynnig o gwbl oherwydd diffyg màs critigol, os mynnwch, o fewn yr ysgol i gwrs ddatblygu a chael ei gynnig yn y lle cyntaf. A beth sy'n digwydd y flwyddyn ganlynol? Wel, oherwydd na ddigwyddodd y cwrs y flwyddyn flaenorol, mae'n golygu y bydd hyd yn oed llai o ddisgyblion yn cofrestru y flwyddyn nesaf, ac mae'n troi'n fath o gylch dieflig. Felly, sut ydych chi'n annog ysgolion i gydweithio, yn enwedig ar draws ardaloedd awdurdodau lleol, i sicrhau lle efallai nad yw ysgol ar ei phen ei hun yn gallu cyrraedd màs critigol i gwrs gael ei gynnig, y gallan nhw weithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu?
Gracias. Es muy importante que más de los niños aprendan lenguas internacionales.
Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn teg ac mae'n bwysig, rwy'n credu, bod pobl yn cydnabod yr £1.6 miliwn yr ydym ni wedi ei roi fel Llywodraeth i gefnogi ieithoedd rhyngwladol trwy ein rhaglen Dyfodol Byd-eang. A'r hyn y mae hynny'n ei wneud yw gwneud yn siŵr y gall yr ysgolion hynny gydweithredu, y gallan nhw weithio gyda'i gilydd, eu bod nhw'n gweithio gyda phrifysgolion, ac y gallan nhw roi'r gefnogaeth honno, mewn partneriaeth, ac rwy'n credu bod cydnabyddiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hi'n angerddol am y pethau hyn, gallaf eich sicrhau chi, ac mae'n bwysig. Gallaf eich sicrhau chi bod llawer o gefnogaeth i hyn ar draws y Llywodraeth. Allwch chi ddim gorfodi plant i ddewis ieithoedd nad ydyn nhw eisiau eu dewis. Rwy'n credu ei fod yn eithaf trawiadol—cynnydd o 17 y cant i Sbaeneg. Mae pobl eisiau dysgu Sbaeneg. Maen nhw'n dewis peidio ag astudio Almaeneg. Mae'n anodd iawn gwneud i blant ddewis pethau penodol. Mae'n rhaid i ni eu hannog nhw, rhoi'r cyfleoedd iddyn nhw, ond, yn y pen draw, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod nhw'n dewis ieithoedd rhyngwladol eraill ac, wrth gwrs, cydnabod bod y Gymraeg yn sylfaenol i'w haddysg hefyd.
4. Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi mentrau cymdeithasol yn Sir Ddinbych? OQ63535
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo 55 o fentrau cymdeithasol yn sir Ddinbych drwy Busnes Cymdeithasol Cymru, sy'n cynnig cyngor arbenigol a mynediad at gyllid i helpu busnesau i gychwyn, tyfu ac uwchraddio yn llwyddiannus. Mae mentrau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol o ran creu economi gynhwysol a chynaliadwy, angori cyfoeth mewn cymunedau lleol a hybu llesiant. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi mentrau cymdeithasol ledled Cymru.
Prif Weinidog, mae'r bwriad i gau Cefndy Healthcare yn y Rhyl yn peri pryder mawr, nid yn unig oherwydd ei fod yn nodi diwedd posibl menter leol hirsefydlog, ond oherwydd yr hyn y mae'n ei olygu i bobl sy'n dibynnu arno. Ers 1976, mae Cefndy wedi darparu cyflogaeth ystyrlon a diogel i weithwyr anabl, gan roi cyflog, urddas ac annibyniaeth i tua 30 o bobl. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud y penderfyniad i dynnu cyllid yn ôl, er bod hyn wedi'i ohirio am chwe mis, gan adael y staff yn nhir neb. Mae'r undeb llafur, Unsain, yn dweud y byddai cau Cefndy yn dinistrio swyddi medrus ac yn cael gwared ar ffynhonnell hanfodol o falchder cymunedol. Mewn ardal fel y Rhyl, sydd eisoes yn wynebu diweithdra uchel, byddai colli'r swyddi hyn yn cael yr effaith waethaf ar y rhai sy'n gallu ei fforddio leiaf. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod mentrau cymdeithasol fel Cefndy yn achubiaeth hanfodol yn ein cymunedau? A pha gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo mentrau cymdeithasol yn sir Ddinbych i sicrhau nad yw sefydliadau sy'n cael eu gwerthfawrogi, fel Cefndy, yn cael eu colli i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu?
Wel, diolch am hynna. Rwy'n dweud bod 55 o fentrau cymdeithasol eisoes wedi cael eu cynorthwyo yn sir Ddinbych. Nawr, mae Cefndy yn amlwg yn fater i Gyngor Sir Ddinbych, ond bydd Llafur Cymru bob amser yn amddiffyn gwaith teg a diogel i bobl anabl. Felly, rydym ni'n croesawu penderfyniad y cyngor i ohirio ei gau, yn hytrach na bwrw ymlaen ag opsiwn a allai fod wedi sbarduno ad-daliad o £350,000 i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n amlwg, fodd bynnag, yn yr asesiad annibynnol, nad yw Cefndy yn ariannol gynaliadwy heb fuddsoddiad mawr. Mae hynny'n rhoi cyfle iddyn nhw edrych ar fodelau cydweithredol o berchnogaeth gweithwyr. Ond gadewch i mi ddweud na wnaf i dderbyn pregethau gan Aelod Ceidwadol pan wnaeth ei blaid gau Remploy a thorri cymorth i weithwyr anabl ledled y Deyrnas Unedig.
Mae llawer o fentrau cymdeithasol yn sir Ddinbych yn dweud wrthyf i mai'r rhwystr mwyaf y maen nhw'n ei weld yw'r tlodi a achosir gan bolisïau'r Ceidwadwyr, fel y cap dau blentyn, a hefyd y toriadau i gyllid cyhoeddus, a fyddai wedi helpu i gadw Cefndy i fynd. Prif Weinidog, sut fydd diddymu'r cap dau blentyn yn helpu cymunedau, fel y rhai sy'n dibynnu ar fentrau cymdeithasol, yn y dyfodol? Diolch.
Wel, rwy'n croesawu'n gryf penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i ddiddymu cap budd-dal dau blentyn creulon y Torïaid. A bydd 770 o deuluoedd yn sir Ddinbych yn unig yn elwa o gael gwared ar y cap hwnnw—bron i 70,000 ledled Cymru. Nid yw hon yn nifer fach, ac rwy'n gwybod, yn bersonol, o wylio pobl yn tyfu i fyny yn Nhrelái, yn yr ardal lle cefais fy magu, beth all tlodi plant ei wneud i bobl. Mae wir yn rhwystro'r cyfleoedd i'r bobl hynny. Mae wir yn gwneud bywyd yn anodd iawn i'r teuluoedd hynny. Felly, rwy'n credu ei fod wedi bod yn un o'r polisïau mwyaf niweidiol i deuluoedd incwm isel, ac rwy'n gwybod bod y cymunedau yn Nyffryn Clwyd, yn y Rhyl ac yn yr ardaloedd hynny, wedi teimlo hwnnw'n ofnadwy. Yr hyn yr ydym ni'n gobeithio yw y byddwn ni'n gweld gwahaniaeth nawr, byddwn ni'n gweld cyfleoedd cymorth, ac y bydd rhieni'r plant hynny yn gallu manteisio ar swyddi a fydd yn talu cyflog uwch iddyn nhw gyda'r isafswm cyflog yn codi. Felly, yr holl bethau hyn yn dod at ei gilydd. Dyna sut rydych chi'n codi plant allan o dlodi, sef gwneud yn siŵr bod eu rhieni yn cael cyfle i ddod â chyflog digonol adref.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2025? OQ63545
Wel, rwy'n credu bod yr uwchgynhadledd fuddsoddi wedi dangos Cymru ar ei gorau. Dros y ddau ddiwrnod diwethaf, daeth mwy na 300 o fuddsoddwyr byd-eang o 27 gwlad yma. Fe wnaethon nhw weld economi â momentwm gwirioneddol—lled-ddargludyddion, deallusrwydd artiffisial, ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, sectorau creadigol—a hyd yn oed cyn i'r drysau agor, roedd Cymru eisoes wedi sicrhau gwerth £16 biliwn o fuddsoddiad newydd a miloedd o swyddi ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu bod hynny'n dweud popeth wrthych chi am y cyfeiriad yr ydym ni'n symud iddo. Fe wnaethom ni gynnal bron i 50 o gyfarfodydd dwyochrog, arddangos cwmnïau blaenllaw Cymru, a chryfhau'r llif a fydd yn cefnogi cymunedau ledled Cymru am flynyddoedd i ddod. Ni aeth Cymru at y byd; daeth y byd i Gymru. Mae'r neges gan fuddsoddwyr yn eglur: mae Cymru, maen nhw'n credu bellach, o ddifrif am yr economi, ac mae buddsoddwyr yn cymryd Cymru o ddifrif.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod yr uwchgynhadledd fuddsoddi yn ddigwyddiad hynod lwyddiannus, gan ddod â channoedd o fusnesau gwerth uchel presennol sydd eisoes yma yng Nghymru ynghyd ag eraill sy'n bwriadu buddsoddi yng Nghymru. Roedd yn arddangosiad gwirioneddol wych i Gymru, yn enwedig ar y Sul pan oedd y tywydd yn wych hefyd. A dweud y gwir, clywais yn y digwyddiad amrywiaeth eang o ganmoliaeth o bositifrwydd ac uchelgais y digwyddiad, a'r cyfleoedd sy'n cael eu harddangos yng Nghymru. Os, fel cenedl, yr ydym ni wir eisiau cynyddu buddsoddiad mewn swyddi cyflog uchel, yna mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy cadarnhaol am y llwyddiant sydd gennym ni eisoes a'r potensial am fwy.
Fe glywsom ni, yn Wythnos Dechnoleg Cymru yr wythnos flaenorol, am y potensial i ddyblu nifer y swyddi dros y pum mlynedd nesaf yn y sector lled-ddargludyddion, gyda dau barth twf deallusrwydd artiffisial a Wylfa yn cael eu cadarnhau fel y lle cyntaf i adeiladu cenhedlaeth newydd o adweithyddion niwclear modiwlaidd bach. Ynghyd â chyfleoedd ym meysydd gweithgynhyrchu uwch, ynni adnewyddadwy, ynni niwclear, y sector amddiffyn, gwyddorau bywyd a llawer mwy, mae gennym ni gyfleoedd eglur i adeiladu arnyn nhw fel gwlad.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi nad yw'n bwysig i'r Llywodraeth yn unig eich bod chi'n arwain, ond mae'n amser go iawn o gyfle i'r wlad, waeth beth fo'u gwleidyddiaeth? Allwch chi nodi sut rydych chi'n disgwyl adeiladu ar ddigwyddiad gwirioneddol gadarnhaol yr wythnos hon a bwrw ymlaen ag agenda uchelgeisiol ac optimistaidd ar gyfer economi Cymru?
Wel, rhuodd y ddraig Gymreig. Dyna ddywedodd pennaeth Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni gymryd sylw ohono. Siaradais â phobl, buddsoddwyr sy'n treulio llawer o amser yn y mathau hyn o gyfarfodydd, ac fe wnaethon nhw ddweud nad oedden nhw erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg i'r sioe y llwyddodd Cymru i'w chyflwyno ddoe. Rwy'n credu ein bod ni wedi treulio rhy hir yn goleuo ein cannwyll a'i rhoi o dan lestr yng Nghymru. Mae gennym ni gymaint i fod yn falch ohono. Mae angen i ni ddweud wrth y byd am Gymru. Fe wnaethon ni hynny ddoe. Fe wnaethon ni hynny yn groch uchel ac yn eglur. Roedd buddsoddwyr yn llawn cyffro am yr hyn y gwnaethon nhw ei weld. Roedden nhw'n llawn cyffro am y cyfleoedd, ac roedden nhw'n llawn cyffro am y ffaith mai'r hyn sydd gennym ni yma yw gwlad sy'n llawn arloeswyr talentog, chwilfrydig, creadigol—pobl ar draws y genedl sydd â chymaint o allu ag unrhyw le arall ar y blaned. Yr hyn y gwnaethon nhw ei weld yma oedd gallu i fuddsoddi, i weld y potensial, i gydnabod ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad cywir, ein bod ni eisoes wedi gweld cynnydd o 30 y cant mewn twf o ganlyniad i fewnfuddsoddiad mewn blwyddyn yn unig, eu bod nhw wedi gweld bod ein cyfraddau cynhyrchiant yn cynyddu'n gyflymach na chyfartaledd y DU. Yr hyn y maen nhw'n ei weld yw gobaith ac optimistiaeth ac mae hynny, rwy'n credu, yn rhywbeth sy'n wirioneddol gadarnhaol i'n cenedl.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn croesawu buddsoddiad yng Nghymru, ond o dan Lafur, mae ein cenedl yn dal i fod ar ôl gweddill y DU, â'r cyflogau isaf a'r diweithdra uchaf. Fis Mai nesaf, ni fyddwch chi a'ch Llywodraeth yn cael eich barnu ar un uwchgynhadledd fuddsoddi; byddwch chi'n cael eich barnu ar 26 mlynedd o fethiant. Felly, pam mae wedi cymryd dau ddegawd i'r Llywodraeth hon ddangos o'r diwedd unrhyw bryder gwirioneddol a phoeni am economi Cymru?
Fe ddywedaf i wrthych chi pam: oherwydd blynyddoedd o gyni cyllidol a orfodwyd gan eich Llywodraeth. Fe wnaeth hynny wahaniaeth enfawr. Felly, yr hyn a wnaethom ni oedd canolbwyntio sylw ar y sector cyhoeddus, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynorthwyo pobl pan oedden nhw wir mewn trafferthion. Nawr nad oes gennym ni gyni cyllidol mwyach, gallwn symud ein pwyslais i'r economi, i dwf, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynyddu cyfoeth y genedl hon ac yn cefnogi'r bobl sy'n byw yma. Cyhoeddwyd chwe chan miliwn o bunnoedd gan Vodafone ddoe, £19 miliwn gan GE Aerospace, £42 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf gan Associated British Ports, £200 miliwn gan RWE, £700 miliwn gan Eni, £2 filiwn gan Bad Wolf a swm enfawr o £10 biliwn gan Vantage Data Centers. Mae hyn yn drawsnewidiol a bydd hyn yn newid bywydau pobl ledled y genedl hon.
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb hydref y DU yn ei chael ar Gymru? OQ63507
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ63537
Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi caniatâd i ateb cwestiynau 6 ac 8 mewn un grŵp.
Mae'r gyllideb hon yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac yn dod â'r buddsoddiad y buom ni yn Llafur Cymru yn dadlau drosto dro ar ôl tro. Fe ddaw â £500 miliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a bydd yn rhoi codiad cyflog i 160,000 o weithwyr, ac yn cefnogi 700,000 o bensiynwyr drwy godiad ym mhensiwn y wladwriaeth. Ar ben hynny, mae'n dileu'r cap dau blentyn ar y budd-dal plant, polisi y gwnaethom ni ei wrthwynebu yn gyson yn Llafur Cymru. Rydym ni'n croesawu'r penderfyniad hwnnw'n fawr iawn ac fe fyddwn ni'n llunio cyllideb i Gymru nawr a fydd yn canolbwyntio ar degwch, ar wasanaethau cyhoeddus cadarn a thwf hirdymor.
Diolch i chi am eich ymateb, Prif Weinidog. Un grŵp o bobl na wnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn eich ymateb, serch hynny, yw'r trethdalwyr yng Nghymru, a fydd yn talu am y cyhoeddiadau hyn i gyd. Mae'n amlwg i ni ar y meinciau hyn fod Llafur yn cymryd y trethdalwyr yn ganiataol. Fe welsom ni hynny, oni wnaethom ni, trwy'r addewidion a gafodd eu gwneud cyn etholiad 2024 i beidio â threthu'r bobl hynny sy'n gweithio, ond fe aeth Llafur ymlaen a gwneud felly beth bynnag. Roedd addewid a gafodd ei gwneud ar ôl y gyllideb y llynedd na fyddai unrhyw godiadau pellach i dreth, ond fe welsom ni gynnydd o £26 biliwn o ran y dreth yr wythnos diwethaf. Y teuluoedd hynny sy'n gweithio ac yn talu treth a fydd yn gorfod ennill tua £71,000 y flwyddyn erbyn hyn i gyd-fynd â gwerth peidio â gweithio, ac nid yw hynny'n deg. [Torri ar draws.] Yn bendant fe wnaf i ddangos y ffigurau ar gyfer hynny. Nid yw hynny'n deg o gwbl, nid yw'n dangos cydymdeimlad nac yn gynaliadwy ar gyfer ein heconomi ni. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a ydych chi'n dal i gefnogi safbwynt y Canghellor?
Wel, fe ddywedaf i wrthych chi, nid wyf i am gymryd gwersi treth gan y Torïaid. Nid yw hynny am ddigwydd. Fe wnaethoch chi lywyddu dros gynnydd enfawr o ran trethiant ar bobl Cymru, a rhywsut neu'i gilydd, ar yr un pryd, fe wnaethoch chi lwyddo i sicrhau ein bod ni'n cael cyni, ac fe wnaethoch chi chwalu gwasanaethau cyhoeddus. Rydym ni'n dal i wella o hynny. Rwy'n hynod ddiolchgar am y ffaith bod gennym arian ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Ni welsom ni unrhyw gynnydd yn y gyfradd sylfaenol o dreth. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig i'r mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru sy'n talu'r dreth ar y gyfradd honno. Yr hyn a welsom ni yw arian yn mynd yn benodol i leoedd fel parthau twf deallusrwydd artiffisial, £4.2 miliwn ar gyfer adfer tir llwyd ym Mhort Talbot, a buddsoddiad o £10 miliwn yn y clwstwr lled-ddargludyddion. Fe fydd y pethau hyn i gyd o gymorth i bobl Cymru wrth roi arian yn eu pocedi. Ac nid swyddi technegol mo'r rhain yn unig; mae'r rhain yn swyddi lle bydd pobl yn gallu adeiladu ac y byddan nhw'n gallu defnyddio'r sgiliau sydd gennym ni yn y genedl hon eisoes er mwyn sicrhau bod rhagor o arian yn mynd i bocedi pobl ac yn helpu gyda chostau byw.
Prif Weinidog, roedd cyllideb ddiweddar y Canghellor yn llanastr llwyr a bod yn gwbl onest; rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno ar hynny. Fe gafodd ei datgelu ymlaen llaw, roedd hi'n llawn addewidion toredig, gyda gwerth £26 biliwn o godiadau treth, ac mae hi'n ymddangos nawr ei bod hi wedi camarwain y genedl yn gyfan gwbl. Pobl sy'n gweithio yn galed ledled Cymru a fydd yn gorfod ysgwyddo pwysau codiadau treth y Canghellor, Prif Weinidog.
Mae llawer ynglŷn â'r gyllideb i'w feirniadu, ond fe hoffwn i ganolbwyntio ar un maes penodol sy'n peri llawer o bryder, a hwnnw yw cynllun cardiau adnabod digidol Orwelaidd y Llywodraeth. Yn ôl rhagolygon economaidd a chyllidol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, fe fydd hi'n costio £1.8 biliwn dros y tair blynedd nesaf i gyflwyno'r polisi dystopaidd hwn. A gadewch i ni fod yn eglur: nid oes gan gyflwyniad cardiau adnabod digidol unrhyw beth i'w wneud â ffrwyno mewnfudo anghyfreithlon, Prif Weinidog; mae'n ymwneud â rheolaeth gan y Llywodraeth.
Mae bron i 3 miliwn o bobl wedi llofnodi deiseb sy'n galw am beidio â dechrau ar y polisi hwn, sy'n cynnwys mwy na 10,000 o Gasnewydd yn unig. Ond mae'r Llywodraeth wedi mynnu y bydd hi'n bwrw ymlaen â chardiau adnabod digidol, ac mae hi'n ymddangos mai'r cyfan a welwn ni yw Llywodraeth Cymru yn pryderu ynglŷn â sicrhau bod baner Cymru ar y cardiau. Mae hynny'n dangos ei blaenoriaethau.
Prif Weinidog, mae hi'n amlwg na wnaethoch chi sefyll dros Gymru a mynnu bargen well i ni yn y gyllideb, ond a wnewch chi wneud y peth iawn nawr a rhoi pwysau ar eich swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth Lafur y DU i atal yr ymosodiad sydd ar ddod ar ein rhyddid sifil? Diolch yn fawr iawn i chi.
Mae pobl yn gofyn trwy'r amser i mi ynglŷn â phethau nad ydyn nhw dan fy rheolaeth. Mae'n beth rhyfeddol iawn. Os ydych chi'n cyfrif nifer y cwestiynau a gefais i heddiw, unwaith eto, ynglŷn â meysydd nad oes gennyf unrhyw gyfrifoldeb amdanyn nhw—. A bod yn onest, nid yw'n unrhyw beth i'w wneud â'r cwestiwn hyd yn oed, ac felly ni fyddaf i'n ei anrhydeddu gydag ateb.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn lleihau tlodi yn Nwyrain De Cymru? OQ63547
Rŷn ni wedi darparu mwy na £7 biliwn i gefnogi cartrefi ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys miloedd yn Nwyrain De Cymru, drwy gymorth ariannol uniongyrchol, helpu pobl i gael yr holl incwm mae gyda nhw hawl iddo, a chadw costau pob dydd i lawr. Mae'r cymorth hwnnw wedi bod yn bwysig: y gronfa gynghori sengl yn sicrhau miliynau o incwm ychwanegol, prydau ysgol am ddim yn lleihau’r pwysau ar gyllidebau cartrefi, a’r gronfa cymorth dewisol yn helpu pobl sydd mewn argyfwng gwirioneddol.
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Rwy'n cysylltu yn rheolaidd â chynghorwyr ledled Cymru, ac yn arbennig arweinwyr cynghorau Plaid Cymru. Mae llawer o bryder ynglŷn â sut y bydd gwasanaethau lleol, sy'n aml yn rhoi gwasanaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni, yn cael eu hariannu. Fe ddywedir wrthyf i dro ar ôl tro nad oes unrhyw fraster ar ôl i'w dorri o'r fantolen ar ôl blynyddoedd lawer o gyllidebau gwan i'n cynghorau ni. Mae'r awdurdodau lleol mewn sefyllfa annymunol o orfod cyfiawnhau toriadau tra eu bod nhw'n codi mwy o lawer o dreth gyngor ar y bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu. Efallai nad wyf i'n cytuno bob amser â'r toriadau y mae rhai awdurdodau lleol yn eu gwneud, ond rwy'n cydnabod y ffaith bod rhaid gwneud toriadau, a'r cynrychiolwyr etholedig hynny sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau hynny. O ystyried bod y dyfodol i awdurdodau lleol yn edrych yn anodd iawn, gyda llai o ddarpariaeth gwasanaethau ynghyd â threthi cyngor uwch, a ydych chi wedi cynllunio asesiad effaith ar yr hyn y bydd hyn yn ei olygu i gyfraddau tlodi yn ein cymunedau?
Rydym ni'n deall bod gwasanaethau lleol dan bwysau enfawr. Rydym ni'n deall bod y galwadau ar gynghorau lleol yn cynyddu. Rydym ni'n deall, os na fyddwn ni'n cael y gyllideb drwodd, fe fyddan nhw'n gweld toriad o 25 y cant yn swm yr arian y bydd yn rhaid iddyn nhw ei wario. Felly, mae rhywfaint o hyn yn eich dwylo chi i geisio unioni a chefnogi. Mae hi'n bwysig, yn fy marn i, i bobl gydnabod bod hwn yn fater na allwn ei gyflawni ar ein pen ein hunain mwyach, fe fydd angen rhywfaint o gefnogaeth arnom ni.
Yr hyn a wnaethom ni o ran cefnogi pobl leol yw sicrhau ein bod ni'n gallu sefyll gyda nhw o ran materion sy'n cefnogi pobl mewn tlodi, pethau fel sicrhau bod y gronfa gynghori sengl gennym ni ar gyfer cefnogi pobl wrth allu cael gafael ar y cyllid uniongyrchol y maen nhw'n gymwys i'w gael. Ond wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau â'r trafodaethau hynny gyda'r awdurdodau lleol, ac fe hoffem ni barhau â'r trafodaethau hynny gyda phobl yn y Senedd hon sy'n deall eu cyfrifoldebau i'w cymunedau lleol.
Cwestiwn 9 yn olaf. Hannah Blythyn.
9. Sut y bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cyfleoedd AI o fudd i fusnesau bach a chanolig yng ngogledd Cymru? OQ63514
Mae parth twf deallusrwydd artiffisial y gogledd yn sicrhau bod y rhanbarth ar flaen y gad yn un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf drwy'r byd. Fe fydd yn cefnogi busnesau bach a chanolig gyda'r sgiliau, seilwaith a phartneriaethau arloesi angenrheidiol ar gyfer eu twf, gan greu cyfleoedd newydd ar draws meysydd technoleg, ynni, gweithgynhyrchu uwch, a gwasanaethau digidol.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog.
Rwy'n llwyr gydnabod y cyhoeddiadau mawr yn ddiweddar, yn enwedig am y parth buddsoddi deallusrwydd artiffisial yn y gogledd, a'r uwchgynhadledd fuddsoddi lwyddiannus yr wythnos hon. Rwyf i wedi siarad o'r blaen yn y fan hon am daro'r cydbwysedd cywir o ran ein hymagwedd at ddeallusrwydd—sef ei fod yn foesegol, ond yn cynnig cyfleoedd hefyd. Fe welwn ni ganolbwyntio yn aml ar y chwaraewyr mawr sy'n werth miliynau o ddoleri, yr hyn a elwir yn 'tech bros', ond rwy'n credu na ddylid anghofio am y busnesau bach a chanolig sydd wrth wraidd ein heconomi a'n cymunedau.
Rwy'n codi hyn heddiw am fod Black Mountain Honey wedi cysylltu â mi, sef busnes bach yn fy etholaeth i sy'n tyfu yn gyflym sy'n cynhyrchu breninesau gwenyn a nythfeydd craidd. Mae'n cael ei gefnogi gan sianel YouTube a phresenoldeb byw ar-lein. Roedden nhw'n dweud wrthyf i eu bod nhw wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial i awtomeiddio eu prosesau a chynyddu allbwn. Mae wedi eu galluogi nhw i adeiladu'r busnes. Roedden nhw'n awyddus i nodi nad oedd wedi golygu eu bod nhw wedi disodli unrhyw beth, ond roedd wedi rhoi cyfleoedd iddyn nhw na fydden nhw wedi eu cael fel arall. Mae wedi eu galluogi nhw i roi mwy yn ôl i'r economi o ran y dreth y gwnaethon nhw ei thalu o ganlyniad i hynny hefyd.
Prif Weinidog, a wnewch chi ddweud ychydig yn rhagor am gyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig ar gyfer helpu busnesau llai i gofleidio'r cyfleoedd hyn, ond mewn ffordd sy'n gyfrifol ac ystyrlon, i sicrhau y bydd ein pobl a'n safleoedd yn dod gyda ni ar y daith ac nid yn cael eu gadael ar ôl?
Rwy'n falch iawn fod Black Mountain Honey yn elwa ar dechnoleg deallusrwydd artiffisial mewn busnes sydd wedi ennill gwobrwyon, fe wn. Nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y bydd deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid pob sector o economi Cymru. Fe fydd yn effeithio ar bopeth yr ydym ni'n ei wneud ym mhob rhan o'n bywydau. Dyna pam mae sicrhau ein bod ni wedi gweithio gyda'r undebau llafur ac eraill i ddarparu fframwaith moesegol ar gyfer sut y byddwn ni'n defnyddio hyn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi ennyn llawer o ddiddordeb ledled y byd. Yr hyn a wnawn ni yw cael Busnes Cymru i ddarparu mynediad i entrepreneuriaid a busnesau at ystod eang o wybodaeth ddiduedd.
Un o'r pethau gwych a ddaeth o ganlyniad i'r uwchgynhadledd fuddsoddi ddoe yw ein bod ni wedi gallu siarad â rhai o'r 'tech bros' hynny i siarad am y cyfleoedd a sut y gallan nhw ein helpu ni i uwchsgilio pobl yn y wlad hon. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dechrau gweithio gyda'n gilydd i ddeall cyfeiriad hyn a sut y byddwn ni'n paratoi ein pobl fel y byddan nhw'n barod am y chwyldro sydd ar fin cyrraedd ein glannau. Mae angen i ni sicrhau bod y busnesau hynny yr ydych chi'n siarad amdanyn nhw wedi cael eu harfogi. Trwy gynnal deialog gyda chwmnïau i geisio mapio ein cyfeiriad, mae angen i ni achub y blaen fel y byddwn ni'n genedl a fydd yn elwa. Fe wyddom ni y bydd amhariad—fe ddaw'r amhariad beth bynnag. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw amddiffyn ein pobl, eu harfogi a'u paratoi ar gyfer newid sydd ar ddod.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma. Y datganiad busnes gan Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ganslo'r ddadl fer yfory. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ar yr ymdrechion i fynd i'r afael â'r niferoedd cynyddol o achosion canser y prostad yng Nghymru. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol o'r newyddion siomedig yr wythnos diwethaf fod Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU wedi penderfynu peidio ag argymell rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser y prostad. Fel gwyddoch chi, rwyf i'n byw gyda chanser y prostad, ac ers fy niagnosis i, rwyf i i wedi ceisio defnyddio fy llwyfannau ar gyfer galw am raglen sgrinio genedlaethol, fel gwnaeth llawer un arall. Trefnydd, fy marn i yw bod sgrinio a diagnosis cynnar yn achub bywydau. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, rhwng 2017 a 2019, roedd 931 yn fwy o achosion o ganser y prostad bob blwyddyn, o gymharu â'r cyfnod rhwng 2002 a 2004. Mae hwnnw'n gynnydd o 44 y cant, sy'n dangos yn union pam mae angen rhaglen sgrinio. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad er mwyn i ni ddeall ei barn o ran penderfyniad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, ynghyd â manylion o ran sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r cynnydd yn yr achosion o ganser y prostad yma yng Nghymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Diolch i chi am eich dewrder a'ch gwytnwch ac am eich gallu i ddangos hynny, nid yn unig i ni yma heddiw, ar draws y Siambr, yr ydym yn ei wir gydnabod, ond i'r byd yn fwy eang hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol iawn ac yn ddylanwadol bob amser pan fydd pobl fel chi'n codi llais i siarad, ac mae hynny'n gallu bod yn anodd.
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn hwn. Mae hi bob amser wedi bod yn wir—ac rwy'n cofio meddwl am hyn yn ôl yn yr amser pan oeddwn i'n Weinidog iechyd fy hunan—bod y pwyllgor sgrinio cenedlaethol yn gyfan gwbl y mwyaf amlwg o ran ei gyngor a'i arweiniad i Lywodraethau. Roeddwn i'n deall, ac fe welsom ni, y siom oherwydd yr ymateb, ond yn cydnabod hefyd fod yr ystyriaeth glinigol a meddygol yno'n rhagorol. Fe fyddwn ni'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymateb i'ch cwestiwn chi heddiw. Yn wir, efallai y bydd cyfle i chi neu i rywrai eraill ofyn cwestiwn iddo ef yfory, gan y bydd cwestiynau llafar iddo ef yn cael eu gofyn yn y Senedd.
Diolch yn fawr, unwaith eto. Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn, Paul Davies.
Trefnydd, fe fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi codi yn y Pwyllgor Busnes yr wythnos yma a'r wythnos diwethaf y ffaith fod y datganiad a wnaed ynglŷn â'r ffaith ei bod hi'n ddeng mlynedd ers newid y gyfraith rhoi organau wedi bod yn ddatganiad ysgrifenedig yn hytrach nag yn un llafar, fel yr oedd o i fod. Fel dŷn ni wedi ei weld, mae'r lefelau wedi bod yn gostwng, a dŷn ni'n gweld bod rhestrau aros yn parhau i dyfu, sy'n mynd i'r gwrthwyneb i beth oedd bwriad hyn, wrth gwrs. Byddwch chi'n ymwybodol bod Dr Dai Lloyd a ninnau ym Mhlaid Cymru'n gefnogol iawn o hyn. Mae o'n dangos, onid ydy, hefyd, mae'r diffyg cynnydd dŷn ni wedi gobeithio ei weld oherwydd diffyg hyrwyddo ac ati—bod yna bethau y gallem ni fod yn eu gwneud. Felly, dwi'n credu ei bod hi'n bwysig bod y Senedd yn cael cyfle i graffu a holi'r Ysgrifennydd Cabinet am y pwnc pwysig hwn. Felly, fe fyddwn i yn gofyn a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried rhoi'r cyfle i ni gael craffu yn y modd hwnnw, ar bwnc sydd mor, mor bwysig, ac sy'n effeithio ar bobl ledled Cymru.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Wrth gwrs, rwy'n edrych yn ôl at y gefnogaeth hollbwysig honno gan Dr Dai Lloyd. Wrth gwrs, roedd cefnogaeth gref i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd mewn gwirionedd. Fe wnaethom ni gyflwyno cydsyniad tybiedig, ac, wrth gwrs, mae hynny wedi ehangu'r gronfa o roddwyr cymwys y tu hwnt i'r rhai sydd wedi mynegi eu caniatâd. Cafodd datganiad ysgrifenedig ei gyhoeddi. Bydd cyfle unwaith eto yfory i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ond rwy'n credu hefyd, dim ond i achub ar gyfle i ddweud unwaith eto, o ran rhoi organau, ein bod ni'n ariannu Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, sy'n darparu cymorth nyrsio arbenigol ledled y DU i deuluoedd sydd mewn sefyllfa i roi organau. Rydym ni'n ariannu'r gweithgaredd hwnnw i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd hefyd, o ran cydsyniad tybiedig, a oedd mor bwysig wrth arwain at y ddeddfwriaeth, a phwysigrwydd cofrestru penderfyniad ar y gofrestr rhoddwyr organau, y gellir ei wneud trwy ap GIG Cymru nawr. Mae'r GIG yn gweithredu ei gynllun rhoi a thrawsblannu ar gyfer Cymru, sy'n nodi'r camau sy'n cael eu cymryd i wella cyfraddau rhoi a thrawsblannu. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau fy hun ar ddatblygiadau, yn ogystal â'r datganiad ysgrifenedig, cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet, a pha un a fyddem ni'n gallu ystyried hyn eto yn y flwyddyn newydd.
Fe hoffwn i ategu cais Heledd Fychan am ddatganiad llafar ar roi organau. Ddoe, roeddwn i'n falch iawn o gael agor gardd goffa rhoi organau Believe ym mynwent Draenen Pen-y-graig, a grëwyd gan Anna-Louise Bates ac elusen Believe er cof am bawb a effeithiwyd gan y weithred o roi organau. Rwy'n credu mai honno yw'r ardd gyntaf o'i bath yn y DU. Wrth gwrs, ers 2015, mae mwy na 2,000 o organau wedi cael eu rhoi yng Nghymru ac mae cannoedd o fywydau wedi newid o ganlyniad i hynny. Eto i gyd, rwy'n credu bod llawer mwy i'w wneud eto, yn enwedig ym maes addysg, ar gyfer rhoi hwb i'r niferoedd. Felly, fe hoffwn i ategu'r cais am ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhoi organau a'i dull o weithio er mwyn cynyddu'r niferoedd.
Diolch yn fawr, Julie Morgan. Diolch i chi am godi hynny unwaith eto, gan ddweud wrthym am yr hyn sy'n swnio fel digwyddiad anhygoel ac ysbrydoledig ddoe, dan arweiniad Anna-Louise, sydd wedi cael profedigaeth ei hun, ond gan rai hefyd sydd wedi elwa ar drawsblaniadau organau ac ar y ddeddfwriaeth caniatâd tybiedig a gyflwynwyd gennym ni. Rwy'n siŵr y bydd pobl yn dymuno gweld yr ardd honno yn amlosgfa Draenen Pen-y-graig. Rwy'n credu bod hyn—. Yn amlwg, rydych chi wedi cefnogi mwy o drafodaeth a chraffu ynghylch roi organau a'r pen-blwydd deng mlynedd. Felly, yn amlwg mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Yr wythnos diwethaf, fe alwais i am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr anhrefn sy'n digwydd yn y gogledd, gyda ffigurau amseroedd aros amheus yn cael eu cyhoeddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn amlwg, nid yw hi'n foddhaol bod ffigurau annibynadwy yn cael eu hadrodd i ni. Mae'r cyhoedd yn haeddu ac yn mynnu cael gwybod beth ar y ddaear sy'n digwydd. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig, ond mae angen hefyd i ni gael dwyn y Gweinidog i gyfrif am ei weithredoedd a'i fethiant i gyflawni'r gwelliannau addawedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, o ystyried bod y bwrdd hwnnw wedi bod mewn mesurau arbennig a lefelau uchel o ymyrraeth ers dros ddegawd. A gaf i ofyn am ddatganiad brys nawr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y mater hwn, er mwyn i ni allu gofyn y cwestiynau perthnasol y mae ein hetholwyr yn eu gofyn i ni yn y gogledd?
Diolch i chi, Darren Millar. Yn amlwg, fe wnaethoch chi gydnabod y ffaith fod datganiad ysgrifenedig wedi cael—[Torri ar draws.] Rydych chi wedi codi hyn yn y Siambr, sy'n bwysig, ond mae eich cwestiwn chi'n ymwneud â'r hyn a fydd yn cael ei wneud. Rwy'n gwerthfawrogi ac yn cydnabod hynny. Mae'r adolygiad sydd wedi dechrau yn archwilio prosesau'r bwrdd iechyd o gasglu data, sicrhau ansawdd ac adrodd. Fe fydd yr adolygiad yn gwneud argymhellion i gryfhau trefniadau llywodraethu a sicrwydd. Mae'n amlwg bod angen i ni, fel roeddech chi'n dweud, ailsefydlu ymddiriedaeth ac adrodd cywir, fel dywedodd yr Ysgrifennydd iechyd ei hun, cyn gynted â phosibl. Mae hi'n hanfodol fod y broses adolygu yn cymryd yr amser angenrheidiol i sicrhau hyn.
Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i'n awyddus i godi'r mater ynghylch gofal i drigolion ym Mhowys. Nid oes gennym ni ysbyty cyffredinol o gwbl. Ar gyfer gofal iechyd, ar gyfer llawdriniaethau, rydym ni'n mynd i'r dwyrain o Bowys—mae'n rhaid i ni fynd i ysbytai yn Lloegr. Yr hyn sy'n digwydd wedyn yw ein bod ni'n gweld bod cleifion sydd wedi cael amser aros am rywbeth fel llawdriniaeth pen-glin neu lawdriniaeth clun yn gweld yr amseroedd aros hynny'n cael eu hymestyn, am fod y rhestrau aros hynny mewn ysbytai yn Lloegr yn fyrrach na'r rhai yn ysbytai Cymru. Mewn gwirionedd, mae hi'n anhygoel o greulon i drigolion sydd wedi cael gwybod mai dim ond chwe mis y bydd yn rhaid iddyn nhw aros, er enghraifft, i gael gwybod wedyn, mewn llawer o achosion, y bydd hi'n ddwy flynedd. Felly, roeddwn i'n wirioneddol awyddus i ofyn i chi pa gyllid y gallech ei roi i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau bod yr amseroedd aros hynny'n llawer byrrach nag y maen nhw ar hyn o bryd, a bod system decach gennym ni ledled Cymru gyfan i fyrhau amseroedd aros. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mae byrddau iechyd Cymru yn parhau i adeiladu ar y cysylltiadau sefydledig a'r trefniadau cydfuddiannol sydd ar waith rhwng Cymru a Lloegr. Mae eich etholwyr chi a phobl Powys a'r canolbarth mor ddibynnol ar y cysylltiadau hynny. Mae byrddau Cymru yn cael mynediad at wasanaethau a chapasiti ychwanegol darparwyr y GIG yn Lloegr, ac mae hynny'n digwydd y ffordd arall hefyd, fel gwyddoch chi. Wrth gwrs, mae darparwyr GIG yng Nghymru ac yn Lloegr yn darparu gwasanaethau yn rheolaidd i gleifion sy'n byw mewn cymunedau ar y ffin hefyd. Dim ond ar gyfer ystyried y gweithgarwch hwnnw o ran cleifion, yn 2023-24 roedd dros 60,000 o gyfnodau ymgynghorol gorffenedig pryd cafodd trigolion yng Nghymru eu trin yn Lloegr, a thros 7,000 pryd cafodd trigolion yn Lloegr eu trin yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n dangos pa mor llwyr yw'r ddibyniaeth ar wasanaethau trawsffiniol.
Wrth gwrs, rydych chi'n gofyn ynghylch cyllid. Yn rhan o'r £120 miliwn ychwanegol a fuddsoddwyd eleni i helpu i fyrhau amseroedd aros, fe fydd byrddau iechyd Cymru yn parhau i sicrhau'r holl gapasiti sydd ar gael i sicrhau y bydd cleifion yn gallu cael mynediad at ofal cyn gynted â phosibl, ac fe allai hynny gynnwys y trefniadau trawsffiniol hynny.
Trefnydd, wythnos diwethaf fe ymwelais i â SwimNarberth, sef y pwll nofio yn Arberth, lle gwnes i gyfarfod â'r cadeirydd Chris Walters a'r rheolwr Alice Brumby-Jones. Mae SwimNarberth yn unigryw oherwydd mai sefydliad buddiant cymunedol ydyw, sef elusen, ac maen nhw wedi llwyddo i redeg y pwll ers iddo gael ei drosglwyddo o'r awdurdod lleol tua 10 mlynedd yn ôl. Mae eu hymrwymiad nhw wedi sicrhau bod yr ased cymunedol poblogaidd hwn yn parhau i wasanaethu teuluoedd, ysgolion a chlybiau nofio lleol drwy'r ardal gyfan. Serch hynny, yn wahanol i'r mwyafrif o byllau nofio ledled Cymru, sy'n cael eu rhedeg gan yr awdurdodau lleol, mae cyfleusterau cymunedol fel SwimNarberth yn aml yn eu cael eu hunain dan anfantais o ran cael mynediad at gyllid grant. Er gwaethaf cyflawni'r un budd cyhoeddus, ac yn aml yn darparu gwerth eithriadol am arian hefyd, fe all eu statws annibynnol, eu statws elusennol, olygu llai o gymhwysedd neu fwy o faich gweinyddol wrth wneud cais am gyllid. Felly, o ystyried swyddogaeth hanfodol y cyfleusterau hyn o ran hyrwyddo iechyd, llesiant a diogelwch dŵr—yn hynod bwysig yn sir Benfro—fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, i amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau argaeledd teg cyllid, yn cynnwys grantiau, ar gyfer pob cyfleuster nofio, heb ystyriaeth i'w berchnogaeth.
Diolch yn fawr, Samuel Kurtz. A gaf i longyfarch SwimNarberth? Mae'n swnio fel sefydliad buddiant cymunedol arloesol a llwyddiannus iawn, o ran ei gyfansoddiad. Mae hyn yn rhywbeth sydd, mewn ffordd, yn croesi dros fy mhortffolio i o ran cyfrifoldebau'r trydydd sector ac un y Gweinidog diwylliant hefyd o ran ei gyfrifoldebau am chwaraeon. Fe fyddaf i'n siarad am hyn gydag ef, ond fe fyddwn ni'n gofyn i'm swyddogion edrych ar hyn hefyd o ran argaeledd cyllid grant, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n ymwybodol ac wedi ymgysylltu â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, fel rwy'n disgwyl eich bod chi wedi gwneud, a'r awdurdod lleol yn wir, ond fe af ar drywydd hyn.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i alw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fater amseroedd aros estynedig ar gyfer wroleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe glywais i gan etholwr a fu'n aros am fisoedd i gael prawf diagnostig systosgopi hyblyg, ac fe ddywedodd Llywodraeth Cymru wrthyf i ei bod yn gweithio ar hyn o bryd i sicrhau capasiti ychwanegol. Ond fe hoffwn i glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am sut mae ef yn monitro'r sefyllfa a pha gamau y mae'r bwrdd iechyd yn eu rhoi ar waith. Roedd yr adroddiad mesurau arbennig diwethaf yn dangos bod angen gwelliant sylweddol a hynny ar frys, ac roedd yr adroddiad yn cyfeirio at wroleg fel un maes o bryder arbennig. Fe allai peidio â chael mynediad at brofion diagnostig amserol olygu diagnosis hwyr o ganser, a allai fod â chanlyniadau trasig. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd ar frys ac yn uniongyrchol i fyrhau'r aros am driniaeth a diagnosteg wroleg, a beth yw'r cynllun hirdymor i ddatrys y problemau a amlinellir yn yr adroddiad?
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, cyfrifoldeb i Betsi Cadwaladr yw hyn o ran eu hymateb i'r adroddiad. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymgysylltu â nhw ynglŷn â'r mater hwn ac, yn wir, fe fydd yna gyfle i chi godi hyn, pe byddech chi'n dymuno, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod ei gwestiynau llafar ef.
Yn dilyn cais hwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, a yw hi'n bosibl cael datganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd o ran y cytundeb meddyginiaethau a chynhyrchion fferyllol a gyhoeddwyd ddoe rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Unol Daleithiau? Fe allai arwain at godiad posibl o £3 biliwn i gyd o ran cynhyrchion fferyllol i'r GIG ledled y Deyrnas Unedig. Fe fydd hynny'n arwain at bron i £200 miliwn o gostau ychwanegol i GIG Cymru. Fe fyddwn i'n awgrymu i chi nad swm dibwys o arian mo hwnnw, ac rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol i ni ddarganfod sut yn union y bydd hynny'n cael ei ariannu, oherwydd y neges sy'n dod o Drysorlys y DU yw y bydd yn rhaid iddyn nhw ei ariannu ar sail Lloegr o'r gyllideb iechyd sy'n bodoli ar hyn o bryd. Os bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ariannu hynny, yna mae hi'n amlwg y bydd yn rhaid i hynny ddwyn adnoddau o feysydd eraill. Felly, a gawn ni ddatganiad ar effaith y cytundeb fferyllol a gyhoeddwyd ddoe ar GIG Cymru a'i oblygiadau i GIG Cymru?
Diolch yn fawr iawn i chi, Andrew R.T. Davies. Yn wir, rwy'n credu bod angen i ni sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn yn ei lawnder. Felly, fe fyddaf i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb pan fyddwn ni wedi deall goblygiadau'r effaith ar GIG Cymru yn nhermau'r cytundeb fferyllol hwn sydd newydd gael ei gyhoeddi yn ddiweddar iawn, dros nos mewn gwirionedd.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: diwrnod rhyngwladol pobl anabl. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yfory fe fyddwn ni'n dathlu cyflawniadau ac arweinyddiaeth pobl anabl ledled Cymru ac yn fyd-eang. Ers i'r Cenhedloedd Unedig gydnabod diwrnod rhyngwladol pobl anabl am y tro cyntaf yn 1992, mae 3 Rhagfyr wedi bod yn foment rymus i dynnu sylw at gyfraniadau pobl anabl a chymunedau ledled y byd. Mae thema eleni, sef meithrin cymdeithasau cynhwysol anabledd ar gyfer hyrwyddo cynnydd cymdeithasol, yn tanlinellu cenadwri hanfodol: nid yw tegwch i bobl anabl yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol yn unig, mae'n cyfoethogi ein cymdeithas gyfan ac yn cryfhau ein cymunedau trwy fabwysiadu arloesedd a safbwyntiau amrywiol. Ac er y byddwn ni'n dathlu yfory, mae hi'n hanfodol ystyried ym mis Hanes Anabledd y DU nawr y rhwystrau niferus hanesyddol a fu pobl anabl yng Nghymru, yn y DU a ledled y byd yn eu hwynebu.
Fe effeithiodd pandemig byd-eang COVID ar fywydau pobl ledled y byd, gan gynyddu anghydraddoldebau ac anfanteision economaidd-gymdeithasol. Cafodd y pandemig effaith ddofn ar bobl anabl yng Nghymru, a arweiniodd at adroddiad 'Drws ar Glo' a sefydlu'r tasglu hawliau anabledd. Fe wnaethom ni, yn y Llywodraeth, weithio gyda phobl anabl, gan gydnabod eu profiadau bywyd wrth ddatblygu polisi ac ymatebion ac adlewyrchu ein hymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd. Ac, am y tro cyntaf yn y DU, fe ddarparodd Anabledd Cymru hyfforddiant i'r Cabinet, gan gynnwys y Prif Weinidog a'r staff cymorth, ar gyfer deall y model cymdeithasol yn llawn a sicrhau fod hwnnw'n cael ei ymgorffori ar draws ehangder lluniad, gweithrediad a chyflawniad ein polisïau ni.
Mae ein rhaglen lywodraethu ni'n ymrwymo i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yng nghyfraith Cymru. Ar gyfer bwrw ymlaen â hyn, fe wnaethom sefydlu'r gweithgor dewisiadau deddfwriaethol. Mae'r grŵp yn ystyried confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, erthygl wrth erthygl, ac fe fydd yn gwneud argymhellion ar sut y gellir ei roi ar waith yng Nghymru mewn ffordd sy'n ysgogi canlyniadau gwell i bobl anabl yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu dros £100,000 i gefnogi'r gwaith hwn ac fe fydd adroddiad terfynol y grŵp yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n dal i fod yn ymrwymedig i sicrhau y bydd Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei chydnabod yn rhan o dreftadaeth ieithyddol gyfoethog Cymru. A dyna pam rydym yn cefnogi'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn llawn, a fydd yn cryfhau'r defnydd a'r gydnabyddiaeth o Iaith Arwyddion Prydain ledled ein cenedl.
Rydym ni wedi ymrwymo i addysg gynhwysol fel nod i'r hirdymor. Mae'n rhaid clywed a chefnogi anghenion pob dysgwr. Y model cymdeithasol o anabledd sy'n llywio'r gwaith hwn, gydag adnoddau i athrawon a chanllawiau diweddaredig yn llywio bywyd mewn ysgolion. Ers 2020, rydym ni wedi buddsoddi dros £320 miliwn mewn anghenion a chyfleusterau dysgu ychwanegol, gyda mwy o gyllid eleni ar gyfer grymuso'r ddarpariaeth, i hyrwyddo tegwch, cynhwysiant, a'r gefnogaeth briodol yn yr amser iawn i bob dysgwr yng Nghymru. Ac rydym ni wedi ymrwymo i wella gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu. Y flwyddyn nesaf, fe fydd £700,000 yn cael ei fuddsoddi i gyflawni gwelliannau mewn partneriaeth â'r GIG a'r byrddau iechyd ac, yn ogystal â hynny, hyd at £1 miliwn o'r gronfa diwygio gofal cymdeithasol. Ac mae hyn yn ymwneud â darparu gofal gwell, cefnogaeth fwy cadarn a chanlyniadau tecach i bob unigolyn ag anabledd dysgu.
Mae hi'n bwysig iawn cydnabod y pryder a'r gofid y mae'r diwygio arfaethedig o les wedi'u hachosi i bobl anabl yng Nghymru. Roeddwn i'n croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ymwared â'u diwygiad arfaethedig i'r taliad annibyniaeth personol a'i hymrwymiad i gwblhau adolygiad cynhwysfawr cyn ystyried a ddylid cyflwyno unrhyw newidiadau i'r taliad annibyniaeth personol yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynnwys pobl anabl a'u sefydliadau wrth wneud ei hadolygiad o daliadau annibyniaeth personol, a fydd yn cynnwys cynrychiolydd o Gymru. Rwy'n falch bod y Gweinidog Timms wedi cwrdd ag aelodau o'n fforwm cydraddoldeb anabledd ni'n ddiweddar, yn ogystal â bod yn bresennol yn y fforwm hwnnw ym mis Medi. Mae gan ei aelodau arbenigedd amhrisiadwy a phrofiad bywyd i'w rannu.
Mae cymunedau yn ymddiried yn rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ac maen nhw wedi gweithio gyda'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gefnogaeth. Mae tîm gwych Llywodraeth Cymru o hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl yn dal i weithio ledled Cymru yn hyrwyddo recriwtio, cadw a chynnydd pobl anabl. Yn y flwyddyn newydd, fe fydd yr hyrwyddwyr yn cynnal cyfarfod cyntaf fforwm arweinwyr Hyderus o ran Anabledd Cymru, ac fe fydd y fforwm hwn yn dod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd â chyflogwyr sydd wedi cyrraedd statws arweinydd lefel 3 Hyderus o ran Anabledd. Fe fyddan nhw'n rhannu arfer da ac yn defnyddio'r hyn a ddysgwyd gan gymheiriaid i annog sefydliadau eraill yn eu cymuned nhw, eu rhanbarth nhw neu'r sector cyfan i ymuno â'r cynllun a symud ymlaen i gyrraedd statws arweinydd. Ar yr un pryd, mae swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i lywio diwygiadau i'r cynllun Hyderus o ran Anabledd i wneud hyn yn fwy cadarn a chyflawni canlyniadau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gwaith pobl anabl ledled Cymru.
Ym mis Mawrth eleni, fe gyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ei adroddiad 'Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Cau’r bwlch cyflogaeth anabledd yng Nghymru'. Roedd hyn yn dilyn eu hymchwiliad i'r bwlch cyflogaeth a chyflog anabledd ym mis Tachwedd 2024. Fe ymatebais i adroddiad y pwyllgor ar y bwlch cyflogaeth anabledd ar ran Llywodraeth Cymru, gan dderbyn pob un o'u saith argymhelliad naill ai'n rhannol neu'n llawn. Rydym ni'n gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflawni pob un o'r rhain. Mae rhai llwyddiannau nodedig yn cynnwys cyhoeddiad ein cynllun drafft ar hawliau pobl anabl ym mis Mai, cyhoeddiad rhaglen cymorth cyflogadwyedd newydd, sefydlu fforwm arweinwyr Hyderus o ran Anabledd i Gymru, yr wyf i newydd amlinellu hynny.
Rydym ni'n dal ati i weithio ar draws Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i fynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth a chyflog i bobl anabl. Ym mis Ebrill, fe nododd fy nghyd-Ysgrifennydd, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ein hymrwymiad ni hefyd o ran bod yn rhaid i fynediad a chynhwysiant fod wrth wraidd teithio yng Nghymru. Dyna pam y gwnaethom ni lansio 'Teithio i bawb' ym mis Gorffennaf 2025. Mae nodau'r rhaglen yn syml: cael gwared ar rwystrau, ymgorffori cynhwysiant, denu mwy o bobl i'n rhwydweithiau, a gwneud teithiau yn fwy hwylus i bawb. Rydym ni'n gweithredu eisoes, yn pennu safonau hygyrchedd ar gyfer bysiau newydd, yn datblygu canllawiau ar gyfer seilwaith, ac yn gwella hyfforddiant staff ar sail y model cymdeithasol o anabledd. Teithio i bawb yw ein haddewid ni. Fe fydd trafnidiaeth yng Nghymru yn agored, yn gynhwysol ac yn groesawgar i bawb. Mae'r ystod hon o ymrwymiadau yn cyd-fynd yn glòs ag ethos Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, sy'n atgofiad grymus iawn o'r angen i hyrwyddo hawliau a chynhwysiant pobl anabl ym mhob agwedd ar y gymdeithas.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae parhau i gydweithio â phobl anabl, fel gwnaethom ni gyda'r tasglu hawliau anabledd, yn allweddol. Serch hynny, mae newid gwirioneddol yn cymryd amser. Mae hi'n werth cofio geiriau'r ymgyrchydd hawliau anabledd a chynigydd cynnar o fyw yn annibynnol, Judy Heumann:
'Nid yw newid fyth yn digwydd ar y cyflymder yr ydym ni'n meddwl y dylai fod. Mae'n digwydd dros flynyddoedd pan ddaw pobl at ei gilydd i strategeiddio, i rannu, a defnyddio'r holl ysgogiadau posibl.'
Ac felly, yn olaf un, mae hi'n bwysig cofio'r angen i wella arweinyddiaeth pobl anabl yn y meysydd cyhoeddus a gwleidyddol. Ym mis Medi, fe lansiodd Anabledd Cymru'r gronfa mynediad i swyddi etholedig, sy'n darparu cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl sy'n sefyll yn etholiad y Senedd 2026 ac yn etholiadau llywodraeth leol 2027. Rwy'n falch fod y cynllun pwysig hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n annog pobl anabl i ddod ymlaen a chael mynediad i'r gronfa hon.
Er bod sefydlu'r diwrnod rhyngwladol hwn yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth a chydnabod cyflawniadau pobl anabl, mae newid a chynnydd ystyrlon yn dibynnu ar ymrwymiad cyson, dyfalbarhad ac ymdrech gan bawb, bob dydd a thrwy gydol y flwyddyn. Diolch yn fawr.
Fel clywsom ni, thema diwrnod rhyngwladol pobl anabl eleni yw meithrin cymdeithasau cynhwysol o anabledd ar gyfer hyrwyddo cynnydd cymdeithasol. Ni fu hynny erioed, yn fy nghyfnod o dros ddau ddegawd yn Aelod yma, yn fwy perthnasol yng Nghymru. Yn ddiweddar, fe ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gytundeb cyfreithiol rhwymol gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, neu'r EHRC, ar ôl torri dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus, sy'n cynnwys datblygu proses fonitro sicrhau ansawdd, hyfforddiant, gwelliannau llywodraethu, ac adolygu'r gweithdrefnau a'r canllawiau cyfredol, gyda monitro ar waith tan fis Tachwedd 2027. Sut, yn benodol, y byddwch chi'n sicrhau bod y broses fonitro hon felly yn ddigon cadarn a thryloyw i atal toriadau yn y dyfodol, wrth i mi glywed oddi wrth bobl anabl bron yn ddyddiol sy'n profi gwahaniaethu yn eu herbyn gan gyrff cyhoeddus sy'n torri eu dyletswyddau dan y Ddeddf Cydraddoldeb, yn ogystal â'u dyletswyddau nhw dan gyfraith Cymru?
Mae'r comisiwn wedi tynnu sylw hefyd at y ffaith nad oes gan gynllun drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer hawliau pobl anabl 2025-35 ganlyniadau eglur y gellir eu mesur, camau gweithredu â therfynau amser na mecanweithiau atebolrwydd. Yn yr un modd, roedd y sefydliadau pobl anabl sy'n cael eu cynrychioli ar eich tasglu hawliau anabledd chi'n nodi, heb gyllid na nodau cadarn eglur i weithredu'r cynllun,
'mae hi'n anodd iawn gweld sut y bydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl yng Nghymru.'
Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i ymateb i'r pryderon sylweddol hyn, y tu hwnt i'r ymgynghoriad, i rymuso'r cynllun trwy gynnwys dangosyddion, llinellau sylfaen a nodau penodol, gydag atebolrwydd cadarn, i sicrhau cynnydd mesuradwy ar hawliau pobl anabl?
Rydych chi'n datgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r model cymdeithasol o anabledd dro ar ôl tro, gan gydnabod yn gywir nad yw pobl yn anabl oherwydd yr amhariadau sydd arnyn nhw, ond oherwydd y rhwystrau rhag mynediad a chynhwysiant y mae cymdeithas yn eu gosod yn eu ffordd. Yn y cyd-destun hwn, serch hynny, mae canfyddiadau'r EHRC yn tystiolaethu i fethiant o ran gweithredu, yn ymarferol, ar gyfer diddymu'r rhwystrau hyn. Mae tystiolaeth bellach o hyn sef gwrthwynebiad hirfaith Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb i wneud bathodynnau glas yn rhai am oes i rai sydd â chyflyrau gydol oes. Er i'r Prif Weinidog ddweud bythefnos yn ôl, ar gyfer pobl â chyflyrau gydol oes,
'rydym ni wedi atgyfnerthu'r llwybr "heb orfod cael eu hailasesu"...ac wedi darparu canllawiau gwell a hyfforddiant ychwanegol i awdurdodau lleol ynghylch ei ddefnyddio',
fe ymatebodd y deisebydd bod angen ymarfer cyson ar draws yr awdurdodau lleol, ar gyfer sicrhau triniaeth deg ac atal gwrthodiadau oherwydd camddealltwriaethau o ran amodau neu bryderon ynglŷn â thwyll, a bod canllawiau eglur ynglŷn â hawliau, ac eithriadau rhag ailasesu ac mae proses apeliadau dryloyw yn hanfodol pryd na fydd yr amodau gydol oes yn cyd-fynd â'r meini prawf cyfredol, gan adael pobl wedi'u heithrio. Pan godais i hyn gyda'r Ysgrifennydd dros drafnidiaeth yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd wrthyf i fy mod i'n hollol iawn:
'rhaid cael cysondeb ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru',
ac y byddai ef yn awyddus i rannu hyn gyda'r panel mynediad a chynhwysiant yn Nhrafnidiaeth Cymru. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i o'r blaen y byddwch chi'n sicr yn rhoi sylw i hyn ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth. Pa gamau a wnaethoch chi eu cymryd wedyn, neu y byddwch chi'n eu cymryd yn unol â hynny?
Roedd y ddau ohonom ni'n siarad yn lansio maniffesto Anabledd Cymru ddoe, pan wnaethoch gyfeirio at siarter budd-daliadau Cymru gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn 2019, fe argymhellodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yr oeddwn i'n aelod arno, fod Llywodraeth Cymru yn sefydlu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae'n gyfrifol amdanyn nhw, a gaiff ei hategu gan set o egwyddorion a gynhyrchir ar y cyd â phobl sy'n hawlio'r budd-daliadau hyn a'r cyhoedd yn fwy eang yng Nghymru. Pa amserlen sydd gennych chi ar gyfer cyflwyno system fudd-daliadau i Gymru, pa dargedau a fydd ar waith i fesur cynnydd, a sut ydych chi'n ymateb i ddatganiad Sefydliad Bevan ynglŷn â siarter budd-daliadau Cymru, sef:
'Mae'r trefniadau presennol yn seiliedig ar gydweithredu a phartneriaeth...ond gan fod cyfranogiad yn wirfoddol mae perygl felly na fydd rhai cyrff yn cyfranogi o gwbl tra bydd eraill yn gwneud eu pethau eu hunain'?
Mae etholwyr anabl yn cysylltu â mi bron yn ddyddiol sy'n cael eu bwlio, eu beio, eu labelu a'u targedu gan rai awdurdodau lleol sy'n gweithredu yn groes i'w dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Pryd, os byth, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i atal y gamdriniaeth hon?
Yn olaf, ym mis Mehefin—
Mark, rydych chi wedi mynd dros eich amser eisoes, felly wnewch chi fod yn gryno, os gwelwch chi'n dda?
Iawn. Roeddech chi'n dweud wrth y grŵp trawsbleidiol ar anabledd y byddech chi'n sefydlu gweithgor opsiynau deddfwriaethol i ystyried beth a ellir ei wneud o ran ysgogiadau cyfreithiol ac anneddfwriaethol i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yng nghyfraith Cymru, ac a fyddai gweithio gyda'r Alban ar ei gwaith i ymgorffori'r confensiwn yn ddefnyddiol. Felly, pa gamau penodol a gafodd eu cymryd yn y chwe mis, bron â bod, ers hynny?
Diolch yn fawr i chi am eich ymateb i'r datganiad hwn, Mark Isherwood. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen â'r broses drwyadl honno o fonitro o ran ein dyletswyddau i sicrhau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus ac, yn wir, o ran cyflawni ein hasesiadau effaith ar iechyd—sy'n allweddol i gyflawni dyletswyddau'r Ddeddf Cydraddoldeb.
Un pwynt y byddwn i'n ei wneud, rwy'n gobeithio y byddech chi'n croesawu ac yn cydnabod hyn, yw ein bod ni yng Nghymru wedi deddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ôl yn 2021 mewn gwirionedd—dyletswydd bwysig iawn a anogwyd yn arbennig drwy ein gwaith ni gyda phobl anabl, ein fforwm cydraddoldeb anabledd, y dylem ni ddeddfu'r ddyletswydd honno, na chafodd ei deddfu yn Lloegr hyd yn hyn, ond hefyd a gafodd ei deddfu yn yr Alban. Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cyflawni ein dyletswyddau i gyd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, ac mae'r ddyletswydd honno, rwy'n credu, yn arbennig o bwysig.
Yr hyn sy'n bwysig am ein cynllun hawliau pobl anabl yw y bydd yn cael ei gyhoeddi ymhen cwpl o wythnosau. Rwy'n edrych ymlaen at ei gyhoeddi. Mae hwnnw'n gynllun, wrth gwrs, sydd wedi cael sylw sylweddol, ac rydych chi'n cyfeirio at ddrafft y cynllun. Rwy'n gobeithio eich bod chi wedi gweld crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y wefan. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig am y cynllun ac, yn wir, y dadansoddiad o'r ymgynghoriadau hynny, yw ein bod ni wedi parhau i weithio yn glòs iawn gyda'r tasglu hawliau anabledd, yr wyf i'n ei gyd-gadeirio gyda'r Athro Debbie Foster, a sefydliadau pobl anabl sy'n cael eu cynrychioli ar y tasglu hwnnw. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod ein bod ni wedi cynnull 10 gweithgor thematig sy'n cynnwys dros 350 o randdeiliaid allanol a mwy na 200 o arweinwyr polisi'r Llywodraeth. Mae hwn yn gynllun sy'n croesi ar draws Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd o ran ein cyfrifoldebau ni, gyda'r model cymdeithasol o anabledd yn ganolog i'n gweledigaeth.
Mae hefyd yn bwysig iawn, fel y dywedais i, ei fod yn cael ei danategu gan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Rwy'n gwybod beth mae pobl anabl eisiau ei weld, ac fe glywsom hyn ddoe yn ein trafodaeth maniffesto pwysig iawn gydag Anabledd Cymru, bod yn rhaid i hwn fod yn gynllun 10 mlynedd trawslywodraethol. Hefyd, rydym ni'n mynd i sefydlu'r bwrdd cynghori annibynnol allanol hwn i sicrhau y bydd y canlyniadau hirdymor a nodir yn y cynllun, yn ogystal â chamau gweithredu tymor byr y byddwch yn eu gweld yn y cynllun yr ydym eisoes yn ei gyflawni, yn galluogi pobl anabl i ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru a herio gwahaniaethu a rhagfarn.
Oes, mae gwaith yn cael ei wneud ar fathodynnau glas, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn bennaf. Rwy'n gweithio ochr yn ochr ag ef hefyd, ac wrth gwrs yn gweithio gyda llywodraeth leol o ran cyflawni, a hefyd yn ymgysylltu â'r panel cynhwysiant mynediad. A gaf i dalu teyrnged i Carolyn Thomas am y gwaith y mae hi wedi'i wneud i dynnu hyn i'n sylw ni? Yna, wrth gwrs, cawsom ddeiseb hefyd. Rwy'n credu ei fod yn dangos y ffyrdd y mae'r Senedd hon yn gweithio mewn gwirionedd, y gallwn gymryd rhan yn y materion polisi hyn ac mae angen i'r Llywodraeth ymateb o ganlyniad i bobl yn rhannu eu profiadau gyda ni.
Roeddwn yn falch iawn bod siarter budd-daliadau Cymru wedi'i chytuno gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'n cael ei llofnodi gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac fe wnes i ei lansio yn ôl ym mis Ionawr 2024. Wrth gwrs, fe wnaethom sefydlu grŵp gweithredu. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw cyflawni amcanion y cynllun hwn. Rydym wedi graddio'r cynllun o ran gweithredu. Y cam cyntaf oedd sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu un llwybr i mewn i gael mynediad at fudd-daliadau. Y tri maes y cytunodd awdurdodau lleol i'w bwrw ymlaen oedd mai dim ond unwaith y dylai pobl orfod gwneud cais am gynllun lleihau'r dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a hefyd y grant hanfodion ysgol. Fe wnaethom ddatblygu'r cam hwnnw gydag arbenigedd llywodraeth leol ac, yn wir, rwy'n adrodd yn rheolaidd i'r cyngor partneriaeth llywodraeth leol ar gyflawni hynny. Mae Sefydliad Bevan yn eistedd yn ein grŵp llywio polisi, fel y mae'r rhai sydd mewn gwirionedd, yn y rheng flaen o ran cyflawni mewn awdurdodau lleol, yn gweithredu'r cynllun. Felly, rwy'n falch iawn o'n siarter budd-daliadau Cymreig a'r ffordd y mae wedi'i datblygu.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gweld bod yr holl ddyletswyddau o ran Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Os oes cwynion a phryderon, rhaid eu codi, ac wrth gwrs rhaid eu codi gyda'r awdurdod lleol. Rydych chi'n cymryd y cyfle, rwy'n gwybod, i sicrhau eich bod chi'n tynnu'r rhain at ein sylw ni a sylw'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Byddwch yn gwybod bod gennym grŵp. Rwyf wedi sôn amdano. Mae'n weithgor opsiynau deddfwriaethol. Mae'n cael ei gadeirio gan Charles Whitmore o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddo gynrychiolwyr Anabledd Cymru o'r sefydliadau cydraddoldeb hynny. Mae'n rhan o'n grŵp cynghori hawliau dynol. Mae'n cael ei arwain gan gyngor cyfreithiol ac arbenigedd yn y maes hwn. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithredu ar y gwaith maen nhw wedi'i wneud, derbyn yr adroddiad ym mis Mawrth, ac yna rwy'n gobeithio y bydd Llywodraethau yn bwrw ymlaen â hyn. Mae'n ymrwymiad a wnaethom. Mae'n ymrwymiad lle rydym yn rhannu ein profiad a'n harbenigedd gyda'n cydweithwyr yn yr Alban, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cael ein harwain gan arbenigwyr yn y maes hwn.
Wrth i ni nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl yr wythnos hon, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n siarad yn onest, ac mae pobl anabl ar hyn o bryd yn cael eu trin fel pêl droed gwleidyddol. Rwy'n credu ei fod yn wirioneddol gywilyddus, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd yn y lle hwn ddweud wrth ein cyd-Aelodau yn ein pleidiau y dylent feddwl yn ofalus am y ffordd y maen nhw'n siarad am bobl anabl ac am y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt ac sy'n eu helpu i fyw gydag urddas.
Tra bod eu bywydau, eu hanghenion a'u cefnogaeth yn cael eu trafod yn gyson, eu tanseilio, eu trin fel bychod dihangol a'u defnyddio fel ffordd o dawelu dadleuon economaidd y dde, rhaid i ni gofio'r elyniaeth y gall hyn ei chreu, y diffyg empathi a dealltwriaeth, ac rwy'n meddwl y gall arwain at le peryglus iawn—lle y tu hwnt i sinigiaeth, man lle gall amheuaeth arwain at chwerwder, gan arwain at bolisïau sy'n achosi niwed gwirioneddol. Gallant hyd yn oed arwain at farwolaeth.
Y marwolaethau a'r dioddefaint torfol a effeithiodd yn anghymesur ar bobl anabl yng Nghymru a arweiniodd at y cynllun hawliau pobl anabl drwy'r adroddiad 'Drws ar glo'. Ni ddylem fyth anghofio bod 68 y cant o farwolaethau yn sgil COVID-19 yng Nghymru ymhlith pobl anabl ac ni ddylem fyth anghofio nad oedd, fel y datgelodd yr adroddiad 'Drws ar glo', unrhyw beth anochel ynghylch hynny. Roedd yn ymwneud â ffactorau cymdeithasol nad oeddent wedi cael sylw digonol, gan gynnwys gwahaniaethu, tai gwael, tlodi, statws cyflogaeth a sefydliadeiddio.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, ond mae tystiolaeth o ymchwiliadau pwyllgorau'r Senedd ac ymchwil a gynhaliwyd gan sefydliadau pobl anabl—sydd bellach mor gyfarwydd—yn dangos nad yw rhwystrau wedi cael y sylw digonol, ac maen nhw'n cael effaith wirioneddol ar fywydau beunyddiol pobl. Er gwaethaf blynyddoedd o addewidion gan y Llywodraeth hon a Llywodraethau San Steffan o liwiau glas a choch, mae pobl anabl yng Nghymru yn dal i wynebu'r rhwystrau annerbyniol hynny.
Mae Mencap yn dweud wrthym fod pobl ag anabledd dysgu yn marw 20 mlynedd yn gynt na'r rhai heb anabledd dysgu. Mae'n syfrdanol a dylai fynnu gweithredu brys. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd? Nid yw dros chwarter wedi cael archwiliad iechyd yn y flwyddyn ddiwethaf, er y dylent fod yn cael un bob blwyddyn, ac, o ran mwy na hanner y rheini, mae wedi bod yn bum mlynedd. Felly, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd i fynd i'r afael â hyn?
Heb ddata cywir, mae'n anodd deall anghenion yn llawn neu fesur a yw newid go iawn yn digwydd. Addawodd Llywodraeth Cymru gyflwyno arsyllfa anabledd dysgu genedlaethol, sy'n cael ei chydnabod yn ei strategaeth ei hun, ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf. Felly, allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwnnw hefyd, os gwelwch yn dda?
Fe wnaethoch chi gyfeirio at adolygiad Timms. Mae wedi achosi cymaint o bryder ymhlith pobl anabl a'u teuluoedd yng Nghymru, ac rydym yn gwybod, yn gyntaf oll, y byddai'r toriadau hynny a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur y DU yn cael effaith anghymesur ar bobl anabl yng Nghymru. Felly, allech chi ddweud wrthyf pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda Gweinidogion Llafur am hynny? Pam y mae pobl anabl yn cael eu targedu pan na gofynnir i'r biliwnyddion, y banciau a'r cwmnïau ynni byth i dalu eu cyfran deg yn llawn?
Ac yna, ar y cynllun hawliau anabledd, hir-ddisgwyliedig, mae cwestiynau yn parhau ynghylch cyflawni ac adnoddau, yn enwedig ar gyfer sefydliadau pobl anabl, sydd, fel y gwyddoch, eisoes yn gweithredu i'r eithaf. Felly, beth yw eich ymateb i'r pryderon hynny?
O ran ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru, mae wedi bod yn siomedig iawn, a byddwch yn gwybod bod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cymryd diddordeb yn hyn, fel y mae'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol, yr wyf yn gadeirydd arno. Rydych chi'n sôn am gymhlethdod y gwaith, a does neb yn gwadu hynny, ond a ydych hefyd yn derbyn bod diffyg cyllid cyson a digonol wedi effeithio ar gyflymder y gwaith hwn? Cafodd hyn ei gyfleu i ni fel pwyllgor, felly hoffwn wybod a ydych chi'n meddwl bod yr arian sy'n cael ei neilltuo ar ei gyfer yn ddigonol.
Ac yna yn olaf rwyf eisiau gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn, sydd wedi tynnu sylw, wrth gwrs, at gadw pobl ag anableddau dysgu a/neu sy'n awtistig mewn ysbytai diogel, yn groes i'w hawliau dynol. Mae hyn, wrth gwrs, yn groes i un o'r camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru yn y cynllun drafft ar gyfer hawliau pobl anabl, sef sicrhau bod unigolion anabl yn gallu byw'n annibynnol gartref pryd bynnag y bo modd.
Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen o dan y grŵp cynghori gweinidogol anabledd dysgu, ac rwy'n deall eu bod wedi cyflwyno eu hadroddiad, ynghyd ag argymhellion i'r Llywodraeth, sy'n canolbwyntio ar yr angen brys am gynnydd wrth fynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn, ac awgrymiadau ar gyfer diwygio. Felly, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynglŷn ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw? A fydd yr adroddiad a'r ymateb yn cael eu cyhoeddi er budd y teuluoedd a gynrychiolir gan Bywydau wedi'u Dwyn a'r cyhoedd ehangach a'r sefydliadau a gefnogodd eu galwadau? Mae angen i'r cannoedd lawer o deuluoedd yr effeithir arnynt gan y sefyllfa annerbyniol bresennol, llawer ohonynt wedi dod i'r Senedd hon i brotestio, gael gwybod sut mae gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen wedi symud ymlaen a pha gamau fydd yn cael eu cymryd, ac erbyn pryd. Diolch.
Diolch, Sioned, a diolch am godi'r materion arwyddocaol hyn am y gwahaniaethu a'r rhagfarn a brofwyd gan bobl anabl. Rwy'n cofio sefyll yn Siambr y Senedd, gwneud datganiad ar y diwrnod hwn, fel yr oeddem yn dod allan o'r pandemig, a gwneud y datganiad hwnnw bod tua 68 y cant o'r marwolaethau hynny yn rhai bobl anabl—68 y cant o'r marwolaethau hynny o ganlyniad i'r pandemig.
Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar hynny am eiliad, oherwydd roedd y gwaith a wnaethom gyda phobl anabl trwy gydol y pandemig trwy'r fforwm cydraddoldeb anabledd yn sylfaenol wrth ddylanwadu ar y penderfyniadau a wnaethom fel Cabinet. Cydnabuwyd hyn ddoe o ran y trafodaethau a gawsom am alwadau ar gyfer y dyfodol o ran polisi. Roedd cyhoeddi 'Adroddiad Modiwl 2, 2A, 2B, 2C—Gwneud penderfyniadau craidd a llywodraethu gwleidyddol' ar 25 Tachwedd yn cydnabod yn glir iawn ein bod wedi ymgysylltu'n llawn drwy'r amser, fel y dywedodd y Farwnes Hallett, wedi gwneud penderfyniadau drwy gonsensws, a chydnabod gweithio drwy bartneriaeth gymdeithasol a gweithio mewn partneriaeth. Ond yr hyn a ddaeth allan o'r pandemig oedd ein hadroddiad 'Drws ar Glo'. A gaf i ddweud, eto, ein bod yn cydnabod y golled a'r dioddefaint enfawr a brofwyd gan deuluoedd mewn profedigaeth, pawb y newidiwyd eu bywydau gan COVID-19? Mae ein meddyliau hefyd gyda'r GIG, gofal cymdeithasol a'r holl weithwyr rheng flaen a roddodd gymaint er lles eraill. Rydym yn diolch iddynt am bopeth a wnaethon nhw ac yn parhau i wneud hynny.
Wrth gwrs, dyma lle rydym wedi cymryd camau sylweddol i ddysgu o'r pandemig, ac mae hynny wedi dylanwadu ar ein hadroddiad 'Drws ar Glo', a luniwyd gan bobl anabl, gan arwain at ein tasglu anabledd a'r cynllun hawliau pobl anabl. Ond rwy'n credu bod yr hyn sydd wedi dod yn glir iawn—ac rydym ni'n ei weld trwy'r ystadegau—. Wythnos Troseddau Casineb, pan wnes i ddatganiad ychydig wythnosau yn ôl—mae'r ystadegau troseddau casineb yn dal i ddangos y troseddau casineb y mae pobl anabl yn eu profi, a'r cam-drin y mae pobl anabl yn ei brofi. Mae'n rhaid i ni herio hyn. Mae casineb yn brifo Cymru. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi yn ein canolfan troseddau casineb, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr, canolfan 24/7, sy'n rhoi cyngor a chefnogaeth i bobl anabl. Ond mae hyn yn ymwneud â rhyddhau a grymuso pobl anabl, ac rwy'n gobeithio ac rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn croesawu'r gronfa mynediad i swyddi etholedig, a'r ffaith ein bod eisiau gweld pobl anabl yn cael eu cynrychioli yma yn y Senedd hon, mewn llywodraeth leol, yn San Steffan, ar bob lefel, oherwydd mae eu hangen nhw arnom ni yno gyda ni o ran thema'r dydd heddiw.
A gaf i ddweud o ran anableddau dysgu—ac rwyf eisoes wedi dweud yn fy natganiad—ein bod ni'n rhoi £700,000 y flwyddyn nesaf i gyflawni gwelliannau, mewn partneriaeth â byrddau iechyd y GIG, a hyd at £1 miliwn o'r gronfa diwygio gofal cymdeithasol? Ond mae'r cynllun gweithredu strategol anabledd dysgu, sef 2022 i 2026, yn nodi ein blaenoriaethau polisi anabledd dysgu ar gyfer y tymor hwn, ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, tai, addysg, cyflogaeth a thrafnidiaeth. Dyna, eto, gynllun tymor hir i fynd â ni hyd at 2031. Mae cynnydd wedi'i wneud ym mhob maes o'r cynllun, yn enwedig ar leihau anghydraddoldebau iechyd, gwella gwasanaethau, lleihau marwolaethau y gellir eu hosgoi, sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn mwynhau bywydau iach, egnïol fel aelodau gwerthfawr o'r gymuned.
Rwy'n cofio'n glir iawn—ac, yn wir, yn fy etholaeth fy hun, ond ar draws Cymru—effaith Bywydau wedi'u Dwyn, ac adnabod y rhai a effeithiwyd ganddo: teuluoedd, ac oedolion ifanc hefyd. Mae angen gwasanaeth cymunedol gwell, integredig. Roedd byw'n annibynnol yn thema gref iawn ddoe o ran trafodaethau am bolisïau ar gyfer y ffordd ymlaen. Mae angen y polisi cymunedol integredig hwnnw ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant eisiau mynd ar drywydd hynny o ran cyfleoedd ar gyfer trafodaeth.
A gaf i sôn yn fyr, Dirprwy Lywydd, am y cwestiynau sydd hefyd wedi'u codi ynglŷn â'r adolygiad o'r taliad annibyniaeth personol? Fel y gwyddoch, siaradais ac ysgrifennom at Lywodraeth y DU yn dweud ein bod yn erbyn y newidiadau a oedd yn cael eu cynnig o ran y taliad annibyniaeth personol, ond rwyf wedi cael fy nghalonogi'n fawr gan y ffordd y mae Syr Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd, wedi ymgysylltu â ni yng Nghymru, a hefyd wedi dweud wrthym ei fod wedi gweld y gallwn eu helpu i ddeall beth mae cyd-gynhyrchu yn ei olygu a beth mae cyd-ddylunio yn ei olygu o ran ymateb i'r adolygiad hwn. Mae wedi fy sicrhau y bydd yn gwneud aelodaeth tîm adolygu taliad annibyniaeth personol yn fwy agored. Mewn gwirionedd, mae wedi'i agor i bobl anabl wneud cais i gymryd rhan yn y tîm hwnnw. Byddaf yn adolygu a monitro hyn yn fanwl iawn, yn gweithio i weld bod yr adolygiad o'r taliad annibyniaeth personol yn deg ac yn gyfiawn, a bod pobl anabl yn ymwneud â hyn.
Byddwn yn dweud i gloi, unwaith eto, o ran ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, ei bod yn bwysig nad yw hyn yn cael ei ysgogi, fel y dywedais, gan ddiffyg cyllid—rydym wedi rhoi'r cyllid a'r gefnogaeth i'r tîm sy'n gweithio ar hyn—ond ein bod yn edrych ar yr arbenigedd, cymdeithas academaidd a sifil hefyd, i'n helpu i symud hyn ymlaen. Rwy'n credu bod gennym gynnydd, ond edrychwn ymlaen at weld y cynllun sy'n mynd i ddod allan yn yr wythnosau nesaf.
Mae'n rhaid i ni gydnabod bod amheuon, wrth gwrs, yn ein setliad datganoli, sy'n cael effaith ar sut y gallem fwrw ymlaen ag ymgorffori. Nid ydym yn blaid wladwriaethol. Mae hwn yn fater rydym ni wedi'i drafod yn fanwl. Mae'n rhywbeth yr wyf yn gwybod y byddai gan y Dirprwy Brif Weinidog ddiddordeb ynddo o safbwynt cyfansoddiadol. Rydym yn rhoi sylw dyledus i gonfensiynau eraill y Cenhedloedd Unedig, fel Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae hynny'n cael ei gydnabod mewn deddfwriaeth. Ond rwy'n benderfynol o gyflawni hyn o ran yr amser sydd gen i ar ôl yn y Senedd, ac yn enwedig gweithredu ar yr adroddiad sydd i ddod.
Mae gennym bum Aelod o hyd sy'n dymuno siarad, felly pawb i fod yn gryno os gwelwch yn dda, fel ein bod yn cadw o fewn yr amser. John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwyf am dynnu sylw at yr hyn rwy'n credu sy'n arfer da gan ddau glwb chwaraeon yn Nwyrain Casnewydd, ac rwyf wedi cael y fraint o weld eu gweithgareddau yn uniongyrchol. Yn gyntaf, Clwb Pêl-droed Glan Llyn, gyda'u rhaglen Pêl-droed Abledd, sy'n gynhwysol ac yn gefnogol i blant ifanc ag anableddau, i'w galluogi i fod yn egnïol a gwneud ffrindiau wrth fagu hyder a sgiliau chwaraeon a chymdeithasol. Maen nhw'n ymwneud â chwalu rhwystrau rhag cyfranogi a brwydro yn erbyn stereoteipiau, ac mewn gwirionedd yn cynnig y cyfle i ymgysylltu i bawb.
A hefyd Clwb Cadair Olwyn De Cymru, sy'n glwb tenis cadair olwyn sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Tenis Casnewydd. Maen nhw wedi bod yn cynnig sesiynau fforddiadwy a chynhwysol ers dros 20 mlynedd. Mae ganddyn nhw enw da iawn ac mae pobl yn teithio'r holl ffordd o Ddyfnaint i gymryd rhan. Maent yn cynnig gwasanaeth rhentu cadair olwyn am ddim, ac, unwaith eto, yn croesawu pawb. Tybed, Gweinidog, a fyddech chi'n cydnabod yr hyn rwy'n meddwl sy'n arfer da iawn, ac yn edrych i weld pa weithgareddau tebyg y gellid eu hannog ledled Cymru.
Diolch, John Griffiths. Rydych chi wedi rhoi dwy enghraifft o grwpiau ysbrydoledig iawn, dan arweiniad gwirfoddolwyr, yn aml, ac yn allweddol iawn i'm portffolio hefyd. O ran pêl-droed a'r rhaglen bêl-droed, a gaf longyfarch pawb sy'n rhan o'r fenter honno, a hefyd Clwb Cadair Olwyn De Cymru? Mae cymaint o bethau da yn digwydd, yr ydym yn ceisio eu cefnogi, o ran y model cymdeithasol o anabledd. Mae'n ymwneud â chymdeithas anabledd. Felly, mae angen i ni edrych i weld sut y gallwn ariannu, ac nid yn unig o'm portffolio cyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd o chwaraeon a diwylliant, a sut y gallwn gefnogi a chymeradwyo'r gwaith sy'n cael ei wneud yn ein cymuned, a diolch i chi am ei amlygu'n gyhoeddus heddiw yn y Senedd.
Rwyf eisiau canolbwyntio fy sylwadau ar yr ymadrodd 'dim byd amdanom, hebddom'. Mae pobl anabl yn teimlo'n eu bod yn cael eu gadael allan yn llwyr o'r sgyrsiau a'r cynlluniau sy'n cael eu gwneud ar eu cyfer, heb unrhyw drafodaethau o gwbl. Clywsom yr wythnos hon fod Llywodraeth y DU wedi tynnu £300 miliwn o'r prosiect Motability y maent yn ei redeg, sy'n hanfodol i bobl ag anableddau, heb unrhyw ymgynghoriad ag un sefydliad sy'n ymwneud â phobl anabl. Braf clywed eich bod chi'n cymryd rhan a'ch bod chi'n cael trafodaethau gyda Stephen Timms am yr adolygiad ar gyfer taliadau annibyniaeth personol, ond, mewn gwirionedd, ni ddylai fod adolygiad o daliadau annibyniaeth personol os nad yw'n canolbwyntio ar bobl anabl yn gyntaf a'u hanghenion. Rydym ni'n gwybod, o siarad â phobl anabl, o gnocio ar eu drysau, o glywed am y straen y maen nhw yn ei ddioddef, ac y bydd straen yn parhau. Mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu oedi, a gosod y toriadau hynny ar gyfer hawlwyr y dyfodol mewn gwirionedd, yn gywilyddus. Felly, hoffwn ofyn i chi: a ydych chi'n mynd i sefyll dros bobl anabl yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol, a dweud 'dim adolygiad o daliadau annibyniaeth personol'? Mae angen cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn am bwrpas yr adolygiad hwn, oherwydd, mewn gwirionedd, mae yna bethau nad ydynt yn gweithio nawr, fel, er enghraifft, cronfeydd Mynediad at Waith, y rhestrau aros. Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod adolygiad yn ymwneud â diwygio cadarnhaol yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd. Oherwydd hyd yn oed cyn y cynigion i dorri taliadau annibyniaeth personol ddod i'r amlwg gan Lywodraeth y DU, yr oeddem yn ei wrthwynebu, fel y gwyddoch, roedden ni'n gwybod oddi wrth bobl anabl nad oedd o reidrwydd yn gweithio iddyn nhw, o ran Mynediad at Waith. Byddwn yn mynd yn ôl i edrych ar y gwaith pwysig iawn a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, o ran hyn. Y gwaith a wneir, wrth gwrs, y byddwch chi'n ei gofio'n glir iawn, gyda nod ac amcan 'dim byd amdanom, hebddom' yw'r ffordd bolisi ymlaen. Felly, rwy'n gobeithio y gallaf ddylanwadu, yn yr amser sydd gen i fel yr Ysgrifennydd Cabinet, ar Lywodraeth y DU o ran y ffordd ymlaen. Mae'n rhaid iddi gael ymgysylltiad ystyrlon a thryloyw â phobl anabl a sefydliadau cynrychioladol. Ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi ymgysylltu â'n fforwm cydraddoldeb anabledd ac yn ceisio cynrychiolaeth pobl anabl hefyd.
Rwy'n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn, ar ddiwedd ei haraith ac mewn ymateb i Sioned Williams, am bwysigrwydd swydd etholedig i bobl anabl, oherwydd mae pobl anabl yn cael eu tangynrychioli yma yn y Senedd ac mewn bywyd gwleidyddol ehangach. Ac rwy'n credu bod pobl anabl yn wynebu rhwystrau penodol pan fyddant yn ceisio dod yn swyddogion etholedig—y cyllid ac, yn amlwg, weithiau, y canfyddiad negyddol o beth yw eu gallu i wneud pethau, sydd yna oherwydd rhagfarn a stigma. Felly, mae'n dda iawn, rwy'n credu, bod y gronfa hon wedi'i sefydlu, y gronfa mynediad i swyddi etholedig. Tybed a allai'r Ysgrifennydd Cabinet roi unrhyw adborth a gwybodaeth sydd ganddi am sut mae'r gronfa honno yn gweithredu mewn gwirionedd.
Yna, yn olaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod y cyfraniad y mae pobl anabl yn ei wneud mewn gwirionedd, a bod pobl anabl yn siarad drostynt eu hunain ac nad ydynt o reidrwydd bob amser angen eiriolwyr. Mae gen i grŵp o aelodau anabl yn fy etholaeth fy hun sydd wedi sefydlu grŵp eu hunain i ymgyrchu i newid pethau yn yr ardal. Mae ganddyn nhw'r sbardun i wneud hynny eu hunain. Rydym ni eisiau mwy o hynny, rwy'n credu, mewn bywyd gwleidyddol.
Diolch yn fawr, Julie Morgan. Wrth gwrs, mae'r gronfa mynediad i swyddi etholedig hon yn cael ei rheoli gan Anabledd Cymru. Fe wnaethant ei lansio ym mis Medi. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol gallu cydnabod, fel y dywedwch, bod pobl anabl yn wynebu costau ychwanegol. Gallai hynny fod yn drafnidiaeth hygyrch, offer arbenigol, cymorth personol. A hefyd, mae'r rhain i gyd yn allweddol i annibyniaeth, onid ydyn nhw, a chyfle a chael eu cynnwys. Felly, gwnaethom gynllun treialu ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021, ac etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Dim ond i adrodd ar y rheini: roedd 20 o geisiadau am gymorth ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol, gyda 14 yn derbyn dyfarndal gan y gronfa, ac etholwyd chwech yn llwyddiannus i gynghorau cymuned. Felly, rydym ni wir eisiau gwneud yn siŵr bod y gronfa hon yn cael ei defnyddio, a gobeithio y bydd yn cael ei defnyddio yn etholiadau'r Senedd sydd i ddod, yn ogystal â symud ymlaen i lywodraeth leol.
Ydw, rwy'n credu mai'r unig ffordd ymlaen yw pobl anabl ar y blaen. Dyna beth rwy'n teimlo yw'r ffordd y gwnaethom fynd i'r afael â'r tasglu hawliau anabledd—y dylai pobl anabl ysgogi'r agenda—ac o ran polisi yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gweld effaith yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynllun hawliau pobl anabl drafft. Fe welwch hynny yn y cynllun terfynol, y byddaf yn ei gyhoeddi ymhen cwpl o wythnosau.
Ac nid wyf yn credu y gallwn danamcangyfrif y dylanwad y mae pobl anabl wedi'i gael ar bolisi. Ers i ni lansio'r tasglu hwnnw yn ôl yn 2021, maen nhw wedi cael, fel rydw i wedi sôn, lawer o agweddau ar bolisi, ond rwy'n credu bod diwygio bysiau—. Byddaf yn dweud hynny oherwydd ein bod ar fin trafod y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Mae cydraddoldeb a hygyrchedd yn rhan hynod bwysig o'r gwaith diwygio bysiau, ac roedd y gweithgor ar deithio a thrafnidiaeth wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar, er enghraifft, ddyluniad gorsaf fysiau Caerdydd, yr es i yno gyda Cŵn Tywys Cymru. Dangoswyd i mi y gwahaniaeth y gall pobl anabl ei wneud i waith dylunio i'w wneud yn hygyrch, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Trafnidiaeth Cymru wedi mabwysiadu hyn. Maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol i greu ystad safonol ac o ansawdd uchel o seilwaith safleoedd bws, cyn cyflwyno'r Bil ledled Cymru—gadewch i ni gael y Bil drwodd. Rhwng 2027 a 2030, byddant yn cynhyrchu safonau safleoedd bws cenedlaethol ar gyfer Cymru. Mae hyn i gyd o ganlyniad i ymgysylltiad ac arweinyddiaeth pobl anabl yn ein grŵp trafnidiaeth.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl. Mae'n hanfodol iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ar draws ein cymunedau i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a'u cefnogi nhw a'u teuluoedd.
Ddoe, roeddwn mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gan Gyngor Tref Llanidloes. Roedden nhw'n cynnal y cyfarfod hwnnw oherwydd bod pryder am ganolfan Sylfaen yn Llanidloes. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Cyngor Sir Powys eu bod yn mynd i gau'r ganolfan hon, sy'n bodoli i gefnogi'r oedolion hynny ag anableddau dysgu. Yna dywedon nhw y bydden nhw'n cadw'r ganolfan, ond dim ond defnyddio 50 y cant o'r adeilad presennol. Hyn i gyd pan ydym ni'n gwybod bod angen cynyddol am gefnogi'r rhai ag anableddau yn y gymuned, ac rydym ni'n gwybod bod rhestr aros i ddefnyddio'r ganolfan benodol hon.
A gaf i ofyn i chi heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, sut ydych chi'n cefnogi ac yn ariannu awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu yn enwedig? Sut ydych chi'n eu cefnogi o ran rhedeg canolfannau fel Sylfaen? A phan maen nhw'n gwneud penderfyniadau ar gyfer newid, sut ydych chi'n craffu ar y penderfyniadau hynny? Ac a wnewch chi ymchwilio ac edrych ar rai o'r penderfyniadau y mae Cyngor Sir Powys yn eu gwneud mewn perthynas â'r ganolfan benodol hon a'r pwysigrwydd sydd ganddi i gymuned ac ardal ehangach Llanidloes?
Diolch am godi hynna, Russell George. Clywais am y cyfarfod cyhoeddus neithiwr yng nghanolfan Sylfaen ym Mhowys, ac rwy'n credu mai'r hyn oedd yn bwysig oedd bod cyfarfod cyhoeddus, bod yr aelod cabinet yn amlwg yno, ac aelodau etholedig lleol a theuluoedd a phobl yr effeithir arnynt gan hyn. Dyma'r unig ffordd ymlaen: bod awdurdodau lleol neu unrhyw lywodraeth ar unrhyw lefel yn ymgysylltu â'r bobl yr effeithir arnynt gan y penderfyniadau anodd sydd angen eu gwneud, er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr atebion cywir o ran y ffordd ymlaen. Oherwydd mae'n bwysig ein bod ni'n darganfod beth sy'n addas ac yn gweithio i bobl anabl, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod ar y blaen. Rwy'n gobeithio y bydd y cyfarfod neithiwr yn arwain at ystyried y ffordd ymlaen i'r gymuned honno ac i'r bobl hynny yr effeithir arnynt.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch. Rwy'n gobeithio bod adolygiad Syr Stephen Timms o gymorth i bobl anabl yn seiliedig ar yr angen i sicrhau ein bod yn dileu'r bwlch cyflogaeth anabledd. Rydym yn gobeithio gwneud hynny o fewn y degawd nesaf, ac mae hynny'n hollol iawn. Dylai pawb gael yr hawl i urddas gwaith. Mae hynny'n golygu cael y gefnogaeth gywir i alluogi pobl i wneud hynny, a'r gefnogaeth gywir i'r cyflogwyr hefyd, mewn amgylchiadau penodol.
Yn yr adroddiad a wnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar unrhyw beth y gellir ei gyflawni gyda'r gefnogaeth gywir, tynnwyd sylw at y ffaith bod y cynllun Hyderus o ran Anabledd, ar y lefelau is, fel dywedodd Dan Biddle wrthom, fel sefydliadau yn marcio eu gwaith cartref eu hunain. Roedd yn siomedig clywed mai dim ond sir Benfro a Phen-y-bont ar Ogwr, o'r 22 awdurdod lleol, a phedwar o'r 12 bwrdd ac ymddiriedolaeth y GIG, oedd â'r achrediad lefel uwch o Hyderus o ran Anabledd, sydd wedi'i achredu'n briodol. Felly, roeddwn i'n meddwl, yn eich trafodaethau, pa welliant sydd wedi'i wneud yn nifer yr awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd sydd wedi cyflawni lefel 3.
Yn olaf, roeddwn i eisiau darganfod beth sy'n mynd i ddigwydd pan fydd y gweithgor opsiynau deddfwriaethol yn adrodd ym mis Mai. Beth felly rydym ni'n mynd i allu ei wneud gyda'r adroddiad hwnnw o ran rheoliadau, neu a fydd y cyfan i lawr i ddeddfwriaeth yn y dyfodol, yn dibynnu ar yr hyn sydd ym maniffesto gwahanol bleidiau gwleidyddol?
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. A allaf gymeradwyo'r ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol eto? Ar eich pwyntiau allweddol am y cynllun Hyderus o ran Anabledd, rwyf wedi ysgrifennu at bob corff sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i ofyn iddynt adolygu eu polisïau a'u harferion recriwtio a chyflogaeth i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r cynllun hawliau pobl anabl, i gymryd rhan yn rhagweithiol mewn cyflawni camau perthnasol, a hefyd i gymryd camau i ddod yn arweinydd Hyderus o ran Anabledd a gosod amserlen ar gyfer ei gyflawni.
Yn bwysig, yn gysylltiedig â hyn, rydym yn parhau i hyrwyddo gwaith teg, gan ddefnyddio strwythurau partneriaeth gymdeithasol i weithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur. Hefyd, mae'n berthnasol iawn y bydd y Bil Hawliau Cyflogaeth a'r Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau gwaith pobl anabl. Ond rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu rhannu gyda'r Aelodau ganlyniad cyfarfod agoriadol fforwm arweinwyr Hyderus o ran Anabledd ar gyfer Cymru, a byddaf unwaith eto yn annog pob awdurdod lleol i ymgysylltu â hynny. Rydw i mewn gwirionedd yn mynd i ymweld â chyngor Torfaen. Mae bob amser yn bwysig gweld pa awdurdodau sy'n arwain y ffordd, i rannu'r arfer da hwnnw.
Yn olaf, rwy'n deall y bydd yr adroddiad gan y gweithgor opsiynau deddfwriaethol yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd, cyn gynted â phosibl—nid ym mis Mai, ond cyn diwedd tymor y Senedd hon. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gymryd eu cyngor a'u harweiniad o ddifrif. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym beth allwn ei wneud. Mae hyn yn arbenigedd o'r byd academaidd a chymdeithas sifil. Mae'n cael ei dynnu o'r gwaith a gomisiynwyd gennym ar gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol, a arweiniwyd gan yr Athro Simon Hoffman. Mae'n eistedd ar y grŵp hwnnw, ac academyddion o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd. Felly, gadewch i ni roi'r cyfle iddyn nhw roi'r argymhellion i ni, ac yna, gobeithio, bydd pleidiau gwleidyddol yn bwrw hyn ymlaen yn nhermau eu maniffestos.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y tri chynnig o dan eitemau 4, 5 a 6, y rheoliadau cymorth amaethyddiaeth 2025, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim wedi clywed unrhyw wrthwynebiad.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9065 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2025.
Cynnig NDM9063 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2025.
Cynnig NDM9064 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2025.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr gen i gyflwyno i chi heddiw gamau nesaf uchelgais y Llywodraeth hon i gefnogi ein sector amaethyddol ffyniannus a gwydn.
Ar 4 Tachwedd, gosodais dri offeryn statudol: Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025, Rheoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025, a Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025.
Rwyf am siarad am bob un o'r rhain yn eu tro, ond yn gyntaf hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadolygiad diwyd a chynhwysfawr o bob rheoliad. Rwy'n nodi bod y pwyllgor wedi adrodd naw pwynt ar draws y rheoliadau cynlluniau cymorth amaethyddol a'r rheoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol, ac nid oes unrhyw bwyntiau o bryder ar y rheoliadau apelau.
Yn 2023, Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ni fel Senedd gymeradwyo'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn unfrydol. Mae'n allweddol i'n huchelgais ar gyfer sector amaethyddol ffyniannus a llwyddiannus, trwy gefnogi camau gweithredu i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, ac i gefnogi cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill yn gynaliadwy. O dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, mae gennym eisoes bwerau i ddarparu cymorth i'r sector drwy gynllun neu fel arall.
Mae'r rheoliadau cynlluniau cymorth amaethyddol yn darparu'r fframwaith sydd ei angen i reoli'r holl gymorth amaethyddol yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae'r rheoliadau yn galluogi'r swyddogaethau ar gyfer gwirio bod meini prawf cymhwysedd yn cael eu bodloni, canlyniadau lle mae cymorth wedi'i ddarparu heb fodloni'r meini prawf cymhwysedd, gorfodi cydymffurfio ag unrhyw amodau y darperir cymorth neu sydd wedi ei ddarparu, monitro i ba raddau y cyflawnwyd diben y cymorth, ymchwilio i droseddau a amheuir mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth neu ddarparu cymorth, darparu proses apelio, a chyhoeddi gwybodaeth benodedig am y cymorth a ddarperir neu sydd wedi'i ddarparu yn unol ag adran 8 o Ddeddf 2023.
Bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau bod cymorth amaethyddol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei weinyddu'n briodol a byddant yn sicrhau lefelau priodol o graffu ac atebolrwydd ar gyfer cyhoeddi a derbyn arian cyhoeddus. Maent ar gyfer pob cymorth amaethyddol yn y dyfodol a sefydlwyd o dan Ddeddf 2023. Mae'n bwysig nodi, felly, er bod y rheoliadau yn darparu'r fframwaith, bydd manylion manwl pob cynllun cymorth yn cael eu darparu o fewn canllawiau'r cynllun penodedig. Bydd y rhain yn darparu set glir o gyfarwyddiadau ynghylch yr hyn y mae'n ofynnol i'r ymgeisydd neu'r deiliad cytundeb a Llywodraeth Cymru ei wneud. Mae hyn yn cynnwys y gweithdrefnau gweithredol i reoli a chyflawni'r cynllun cymorth dan sylw yn effeithiol.
Yn ystod y cyfnod pontio, bydd y cynllun ffermio cynaliadwy a'r cynllun taliad sylfaenol yn cydfodoli, cyn i'r cynllun taliad sylfaenol ddod i ben. Felly, mae'r pecyn hwn o offerynnau statudol yn cynnwys rheoliadau sy'n lleihau ac yn cau'r cynllun taliad sylfaenol. Mae Rheoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025 yn hanfodol er mwyn galluogi cyfnod pontio dan reolaeth o'r cynllun taliad sylfaenol i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Maent yn cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau nad yw unrhyw ffermwr sy'n dewis peidio â mynd i mewn i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn wynebu ymyl clogwyn. Maent yn cyflwyno pŵer i Weinidogion Cymru leihau taliadau'r cynllun taliad sylfaenol o 2026 ymlaen, ac i gau'r cynllun erbyn diwedd 2028. Mae hwn yn drawsnewidiad a reolir yn ofalus o'r cynllun taliad sylfaenol i gynllun etifeddiaeth sy'n rhoi eglurder ac amser i ffermwyr addasu a chynllunio ar gyfer eu busnesau.
Mae pwrpas y rheoliadau hyn yn glir: rhoi sicrwydd i ffermwyr, ac alinio cefnogaeth ag egwyddorion Deddf 2023. Pam mae hyn yn bwysig? Oherwydd bod angen i ffermwyr Cymru wybod bod eu Llywodraeth yn gweithredu'n gyfrifol ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, a dyna'n union beth mae'r rheoliadau hyn yn ei ganiatáu. Bydd nenfwd y cynllun taliad sylfaenol a'r tapro yn cael eu cyfrifo a'u cymhwyso ddiwedd haf 2026, gyda niferoedd cadarnhaol o hawlwyr ar gyfer y ddau gynllun, gan ddarparu sicrwydd a diogelwch i ffermwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ynglŷn â sut rydym yn bwriadu defnyddio'r pwerau hyn. Rydym wedi gwrando ar randdeiliaid drwy gydol y broses hon. Dywedodd ffermwyr, undebau a chynrychiolwyr wrthym eu bod eisiau eglurder, tegwch ac amser i baratoi. Mae'r rheoliadau hyn yn adlewyrchu'r consensws hwnnw ac yn darparu map ffordd clir ar gyfer newid.
Rwyf hefyd eisiau bod yn glir iawn am yr hyn sydd yn y fantol yma. Byddai peidio â chael yr OS hwn yn ei le yn cael goblygiadau sylweddol ar y gyllideb ac yn creu ansicrwydd ariannol enfawr ac annhegwch i bob ffermwr yng Nghymru. Heb y fethodoleg y mae'r OS hwn yn ei darparu, ni fydd busnesau fferm yng Nghymru yn gwybod yn sicr faint o gymorth y byddant yn ei dderbyn y flwyddyn nesaf. Byddai hyn yn tanseilio'r cynllun taliad sylfaenol a'r cynllun ffermio cynaliadwy a busnesau fferm yn sylfaenol. Ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd ynghylch dyfodol cymhorthdal ffermio, dyma'r peth olaf sydd ei angen ar ffermwyr Cymru. Mae'r newid hwn yn deg ac yn gymesur ac yn edrych i'r dyfodol. Mae'r rheoliadau yn cynnal yr egwyddorion cynaliadwyedd ac atebolrwydd sy'n sail i'n polisi amaethyddol. Maent yn dangos ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio i adeiladu'r dyfodol cydnerth a ffyniannus hwnnw i amaethyddiaeth Cymru. Byddant yn sail i bontio rheoledig i'r cynllun ffermio cynaliadwy y mae'r Llywodraeth hon a chymaint o randdeiliaid wedi treulio cymaint o amser yn ei ddylunio.
Gan droi nawr at Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025, mae'r rheoliadau hyn yn gam pwysig o ran moderneiddio'r broses apelio ar gyfer cynlluniau cymorth amaethyddol yng Nghymru, gan sicrhau ei bod yn deg ac yn dryloyw ac yn cyd-fynd ag egwyddorion Deddf 2023. Mae hyn yn ymwneud â chreu un fframwaith cydlynol ar gyfer apelau ar draws pob cynllun amaethyddol, y rhai a gafodd eu cymhathu o gyfraith etifeddiaeth yr UE a'r rhai a gyflwynwyd o dan ein deddfwriaeth Cymru ein hunain, gan gynnwys y cynllun ffermio cynaliadwy.
Mae'r strwythur ffioedd newydd rydym ni'n ei gyflwyno yn gymesur ac yn rhesymol. Mae'n adlewyrchu cost craffu annibynnol, dim mwy. Nid yw hyn yn ymwneud â chynhyrchu refeniw, mae'n ymwneud â chynnal system bresennol sy'n gadarn ac yn barchus, a'i gwneud yn gynaliadwy. Ac yn hollbwysig, os bydd apêl yn llwyddiannus, bydd y ffi yn cael ei had-dalu. Dyna degwch ar waith. Pam mae hyn yn bwysig? Oherwydd craffu annibynnol yw conglfaen ymddiriedaeth mewn unrhyw system. Mae angen i ffermwyr wybod pan fyddant yn herio penderfyniad, bydd eu hachos yn cael ei ystyried yn ddiduedd. Mae'r rheoliadau hyn yn gwarantu'r egwyddor honno. Maent yn sicrhau bod apelau nid yn unig yn cael eu clywed, ond yn cael eu clywed yn deg. Rydym wedi gwrando ar randdeiliaid trwy gydol y broses hon. Dywedodd ffermwyr, undebau a chynrychiolwyr wrthym eu bod eisiau system sy'n deg, yn dryloyw ac yn fforddiadwy. Roedden nhw'n cefnogi craffu annibynnol. Fe wnaethon ni gytuno. Mae'r rheoliadau hyn yn adlewyrchu'r consensws hwnnw.
Mae hwn yn foderneiddio sy'n cryfhau hyder wrth wneud penderfyniadau ac yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n gyfrifol. Mae'n alinio pob proses apelio, boed o dan gynlluniau cyfraith a gafodd ei chymhathu neu gynlluniau newydd fel y cynllun ffermio cynaliadwy, o dan un dull clir a chyson. Gyda'r sylwadau agoriadol hynny, rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau gan gyd-Aelodau.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sydd nesaf. Mike Hedges.
Cytunodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar adroddiad clir ar Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025 ar 17 Tachwedd, ac felly nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud mewn perthynas ag eitem 6.
Bu'r pwyllgor yn ystyried Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 ar 17 Tachwedd, ac ystyriodd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor yr wythnos ganlynol. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi pum pwynt adrodd technegol. Yn y pwynt adrodd cyntaf a'r trydydd pwynt, mae'r pwyllgor yn dod i'r casgliad nad yw'n glir yn y rheoliadau a yw Llywodraeth Cymru o'r farn bod deiliad cytundeb sy'n gwrthod naill ai arolygiad rhithwir neu arolygiad ffisegol yn torri'r rheoliadau a bod canlyniadau gwrthod arolygiad yn dal i fod yn aneglur. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â'r pwyntiau adrodd hyn. Mae'n dadlau bod y rheoliadau yn nodi'n glir ei fod yn groes i'r rheoliadau pan fo deiliad cytundeb yn atal person awdurdodedig rhag cynnal arolygiadau yn unol â'r darpariaethau perthnasol.
Yn yr ail bwynt adrodd, mae'r pwyllgor yn nodi nad yw'r rheoliadau yn gosod terfyn amser ar ba mor hir y gall ymchwiliad o dan reoliad 20 ei gymryd. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r pwynt hwn, ond nid yw'n teimlo bod angen gweithredu pellach oherwydd bod Gweinidogion Cymru wedi'u rhwymo gan egwyddorion cyfraith gyhoeddus cymesuredd a rhesymoldeb.
Mae pedwerydd pwynt adrodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn dod i'r casgliad nad yw'r rheoliadau'n cynnwys unrhyw wybodaeth am yr hyn sy'n gyfystyr â phanel apelau annibynnol. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y weithdrefn apelio yn cynnwys penodi panel o bersonau o'r tu allan i'r Llywodraeth. Mae'n nodi bod aelodau'r panel yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru yn dilyn proses recriwtio dryloyw a chadarn. Mae hefyd yn nodi bod y broses apelio cymhorthdal wedi gweithredu fel hyn ers 2001.
Mae'r pwynt adrodd olaf yn tynnu sylw at anghysondebau rhwng ystyr y testunau Cymraeg a Saesneg. Gweinidog, nid wyf yn eich beio am yr anghysondeb yn y testunau Cymraeg a Saesneg; nid wyf yn disgwyl i chi allu nodi'r anghysondebau. Rwy'n beio eich swyddogion, a ddylent allu nodi anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Ac a allaf awgrymu eich bod chi'n siarad o ddifrif â nhw? Oherwydd nid dyma'r tro cyntaf, fel cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i mi adrodd am y gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddywedir yn y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi mai'r dull a gymerir yn y rheoliadau yw'r opsiwn gorau sydd ar gael.
Ystyriodd y pwyllgor Reoliadau'r Cynllun Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025 ar 17 Tachwedd, ac ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor yr wythnos ganlynol. Mae'r adroddiad yn nodi tri phwynt adrodd technegol. Mae'r pwynt adrodd technegol cyntaf yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau'n hepgor darpariaeth sydd eisoes wedi'i diddymu mewn perthynas â Chymru. Diddymwyd Erthygl 26 o Reoliad Dirprwyedig Comisiwn yr UE, sy'n rhan o gyfraith wedi'i chymhathu gan reoliadau blaenorol a ddaeth i rym yn 2020. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwynt adrodd ac yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r rheoliadau hyn pan fydd cyfle addas.
Mae'r ail bwynt adrodd yn tynnu sylw at y ffaith bod teitl rheoliad yr UE y cyfeirir ato yn y rheoliadau yn anghyflawn oherwydd nad yw'n cynnwys y dyddiad y mabwysiadwyd rheoliad yr Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwynt hwn, ond yn dadlau nad yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth sylweddol i weithrediad y ddarpariaeth, ac nid yw'n creu unrhyw amwysedd i'r darllenydd.
Mae'r trydydd pwynt adrodd yn gofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam mae'r rheoliadau'n hepgor darpariaethau sy'n ymwneud â'r cronfeydd wrth gefn cenedlaethol a rhanbarthol, ond nid ydynt yn diwygio cyfeiriadau at y cronfeydd wrth gefn hynny mewn rhai rheoliadau yr UE. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwynt hwn, ond mae'n dadlau nad oes gan y darpariaethau sy'n weddill unrhyw effaith gyfreithiol ymarferol barhaus.
Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd yn nodi un pwynt adrodd rhinweddau ynghylch craffu. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod y memorandwm esboniadol i'r rheoliadau hyn yn awgrymu bod rhanddeiliaid wedi cefnogi'r pontio graddol a'r egwyddorion sy'n sail i'r fframwaith cymorth newydd. Fodd bynnag, mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau a drafodwyd o dan yr eitem flaenorol heddiw, eitem 4, yn tynnu sylw at ymgynghoriad 2024 lle roedd consensws y gymuned ffermio yn anffafriol, yn enwedig mewn perthynas â'r camau gweithredu cyffredinol arfaethedig a'r newidiadau i gynllun y taliad sylfaenol.
Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod undebau ffermio a sefydliadau eraill yn gyffredinol yn cydnabod yr angen am bontio rheoledig, graddol. Fodd bynnag, mae'n nodi bod ffermwyr unigol wedi mynegi ofnau am y rhai nad ydynt yn gallu addasu, sy'n gyfrifol am ddwyster y gwrthwynebiad. Diolch, Llywydd.
Mae heddiw yn nodi, mewn gwirionedd, ein cyfle olaf yn y Senedd hon i gymryd safbwynt clir a diffiniol ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw'n gyson am bleidlais rwymol ar y cynllun ffermio cynaliadwy, cyfle i'r Siambr hon gynnig y sicrwydd a'r parch haeddiannol i ffermwyr. Eto, pleidleisiodd Llywodraeth Cymru yn erbyn y cais hwnnw, gan ein gadael gyda'r offerynnau statudol terfynol hyn fel yr unig ffordd i gofrestru ein safbwynt, ac mae ein safbwynt yn glir. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy, yn ei ffurf bresennol, yn methu â blaenoriaethu pwrpas sylfaenol ffermio, diogeledd bwyd a chynhyrchu bwyd. Ar adeg o ansefydlogrwydd byd-eang cynyddol, pan fo cadwyni cyflenwi yn fwy bregus nag erioed, dylai Cymru fod yn cryfhau ein gallu i fwydo ein hunain, nid ei wanhau gyda chynigion sy'n rhoi beichiau gormodol ar ffermwyr ac yn tynnu sylw oddi wrth gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel yng Nghymru.
Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, rydym wedi gwrando'n ofalus. Rydym wedi siarad â ffermwyr, ag arbenigwyr y diwydiant a chynrychiolwyr o bob rhan o'r economi wledig a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Mae eu neges wedi bod yn gyson. Nid yw'r cynllun, fel y'i drafftiwyd, yn gymesur ac nid yw'n canolbwyntio ar anghenion ffermwyr na diogeledd hirdymor y cyflenwad bwyd. Mae pryder hefyd am dapro blwyddyn 1 cynllun y taliad sylfaenol o 40 y cant, pan gafodd ei hysbysebu i ddechrau fel dim ond 20 y cant, a hefyd, gyda mis yn unig tan lansio'r cynllun ffermio cynaliadwy, mae amseriad pleidlais yr OSau heddiw yn gwbl annigonol. Mae eu pryderon yn adleisio rhai ni ein hunain, ac felly bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn yr offerynnau statudol.
Rydym yn parhau i gredu bod dyfodol gwell i amaethyddiaeth Cymru na'r un a amlinellir ac a gyfyngir gan y cynllun ffermio cynaliadwy. Oherwydd yn rhy aml, pan fyddwn yn siarad am gynaliadwyedd, mae'n cael ei leihau i dargedau amgylcheddol yn unig. Ond mae cynaliadwyedd yn ehangach na hynny. Mae'n gynaliadwyedd cymunedol, cadw ein cymunedau gwledig yn fyw ac yn ffynnu. Mae'n gynaliadwyedd economaidd, sy'n sicrhau bod teuluoedd ffermio yn gallu ennill bywoliaeth deg a dibynadwy. Mae hefyd yn gynaliadwyedd diwylliannol ac ieithyddol, gan sicrhau bod ein hiaith Gymraeg a'n traddodiadau yn parhau i fod wedi'u gwreiddio yn y tir. Rydym eisiau gweld cynllun sy'n hyrwyddo cynhyrchu bwyd, yn diogelu bywoliaethau gwledig ac yn cryfhau diogeledd bwyd Cymru yn wirioneddol. Dyma ein cyfle olaf i anfon y neges honno'n glir ac yn gadarn, ein bod yn credu nad yw'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ddigonol. Diolch, Llywydd.
Mae'r undebau ffermio wedi bod yn glir yn eu cyngor i Aelodau'r Senedd ar yr offerynnau statudol hyn y mae angen iddynt eu pasio heddiw, er nad ydynt yr hyn y byddai'n well gan yr undebau eu hunain, ac yn sicr nid yr hyn y byddai Plaid Cymru wedi dewis eu cyflwyno i'r Senedd hon heddiw, oherwydd rydym ni, wrth gwrs, wedi galw am gyfnod pontio hirach i ffwrdd o gynllun y taliad sylfaenol i gynllun ffermio cynaliadwy a llwybr tapro llawer mwy graddol. Rydym wedi galw am bontio teg, nid pontio brys, ond fel yr undebau ffermio, rydym yn derbyn y byddai'r ansicrwydd a'r anhrefn posibl o beidio â phasio'r offerynnau statudol hyn yn debygol o fod hyd yn oed yn waeth.
Nawr, byddai goblygiadau difrifol i osod nenfwd cynllun y taliad sylfaenol, ac ni fyddai unrhyw warantau ar gyllid cynllun y taliad sylfaenol y flwyddyn nesaf o gwbl, fel y dywed NFU Cymru wrthym. Er bod elfennau o'r offerynnau statudol y byddai'n well gennym fod wedi'u gweld wedi'u drafftio'n wahanol, credwn y dylai'r Senedd bleidleisio o blaid pasio'r tri offeryn statudol er budd darparu diogelwch a sefydlogrwydd i ffermio Cymru ar hyn o bryd. Mae'n bwysig nodi, maen nhw'n dweud, os na fydd yr offerynnau statudol yn pasio, does dim sicrwydd y byddai cyllideb cynllun y taliad sylfaenol o £238 miliwn, fel y gwyddom, yn parhau i fod yn ei le ar gyfer 2026.
Nawr, mae'r FUW hefyd yn dweud wrthym pe bai'r cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei weithredu, ond bod y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â nenfwd cynllun y taliad sylfaenol yn aros yn ddigyfnewid, efallai y byddwn yn dal i wynebu ymyl clogwyn o ran cymorth ffermydd, gan y byddai symudiad arian ar draws y ddau gynllun yn gyfyngedig ac yn seiliedig ar ddyfalu, ac er mwyn rhoi sicrwydd i ffermwyr yng Nghymru ac i osgoi'r anhrefn posibl o gael rheoliadau anghyfreithlon a gwrthdaro, 'Nid ydym yn credu', meddai'r FUW, 'y byddai er budd ein haelodau i weld yr offerynnau statudol hyn yn methu'.
Nawr, rwy'n synnu bod gan y Torïaid farn wahanol ar hyn. Oes, rwy'n cytuno, mae angen newid, a byddai Plaid Cymru yn ailedrych ar rai o'r materion hyn os ydym yn gallu gwneud hynny ar ôl yr etholiad ym mis Mai, gan gynnwys, wrth gwrs, fel yr ydym wedi dweud erioed, cyflwyno diogelwch ariannu tymor hwy i'r sector, symleiddio'r cynllun, torri i lawr ar rywfaint o'r fiwrocratiaeth, ac, ie, amddiffyn cyfleoedd hefyd i ffermwyr ifanc fynd i'r diwydiant. Nid yr offerynnau statudol hyn yw'r rhai y byddai Plaid Cymru wedi'u cyflwyno, ond byddwn yn gwrando ar rybuddion yr undebau ffermio ac eraill. Y rhain, os mynnwch, yw'r lleiaf o ddau ddrwg neu'r llai heriol o ddau senario posibl, ac er na fyddwn yn pleidleisio dros yr offerynnau statudol, rydym yn derbyn, ar yr achlysur hwn, bod angen iddynt basio.
Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i dîm am y sesiwn friffio dechnegol a gefais ac am ymgysylltu'n adeiladol â'r materion hyn, ond mae pryderon difrifol ynglŷn â'r offerynnau statudol hyn, sydd wedi cael eu hadleisio'n sicr, yn fwyaf huawdl, gan Blaid Cymru, yn enwedig o ran y pwerau eang y mae'r rheoliadau hyn yn eu rhoi i Weinidogion Cymru. Ac mae'r sefyllfa rydym ni'n ei chyrraedd heddiw mewn gwirionedd yn opsiwn o'i dderbyn neu ei wrthod. Mae'r undebau wedi bod yn glir gyda ni, os na fydd yr OSau hyn yn pasio, bydd bygythiadau difrifol i'r cyllidebau, ac felly mae'n rhaid i ni wrando ar y galwadau hynny. Rydym yn gwybod bod ein ffermwyr yn wynebu amser anhygoel o anodd, ac rydym wedi cwrdd â theuluoedd ar ôl teuluoedd sy'n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl o ran ffermio. Rwyf wedi siarad o'r blaen am yr angen brys am asesiad priodol o'r baich gweinyddol cronnus ar ffermwyr, yn enwedig mewn perthynas â'r cynllun ffermio cynaliadwy, ond mae yna reoliadau eraill hefyd. Mae angen yr adolygiad annibynnol hwnnw ar yr holl fiwrocratiaethau y mae'n rhaid i ffermwyr ymdopi â nhw.
Fy mhryder mwyaf, sydd hefyd wedi cael ei adleisio yma, yw'r rheoliadau tapro'r cynllun y taliad sylfaenol. Mae'r gostyngiad arfaethedig o 40 y cant yn 2026, ynghyd â'r disgresiwn gweinidogol i addasu cyfraddau, yn gadael ffermwyr yn ansicr o beth i'w ddisgwyl. Mae hyn eto yn pentyrru ar y straen a'r ansicrwydd. Mae angen hyder y pontio rheoledig hwn arnynt, ac mae'r gallu i leihau taliadau cynllun y taliad sylfaenol gyda symiau y mae'r Llywodraeth yn eu hystyried yn briodol yn rhy amwys, yn rhy ansicr ac yn gadael ein teuluoedd ffermio heb y diogelwch sydd taer ei angen arnynt.
Hoffwn alw arnoch chi fel yr Ysgrifennydd Cabinet yn eich ymateb i roi sicrwydd y byddwch yn mabwysiadu, yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun ffermio cynaliadwy, neu y bydd ymrwymiad i fabwysiadu dull ymgynghorol cymesur. Rydw i'n mynd i fod yn benodol iawn, rwyf am eich annog i ystyried bod y gyfradd dapro flwyddyn gyntaf yn cael ei gosod ar 75 y cant, yn hytrach na'r 60 y cant yr ydym yn clywed amdano ar hyn o bryd. Rydym am annog defnydd o'r cynllun ffermio cynaliadwy, ond rhaid i ffermwyr gael y rhyddid i aros gyda chynllun y taliad sylfaenol os mai dyna'r dewis cywir iddyn nhw. Mae hwn yn ddiwydiant sy'n bwydo ein cenedl ac yn stiwardio ein cefn gwlad, gan gynnal ein cymunedau gwledig a'r Gymraeg. Mae angen diogelwch, eglurder a symlrwydd arnynt wrth wneud yn siŵr eu bod yn gallu parhau i fwydo ni a gofalu am ein hamgylchedd. Diolch yn fawr iawn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi siarad ar hyn. Pe bawn i'n gallu troi, yn gyntaf oll, at Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder—diolch i chi am y pwyntiau a wnaethoch, a byddaf yn ystyried y pwynt hwnnw am y Gymraeg wedyn hefyd. Ond gadewch i mi ymdrin â chwpl o'r pwyntiau, ac rydym wedi ymateb i'ch craffu diwyd ar hyn yn ein hymateb ein hunain.
Ar y materion sy'n ymwneud â'ch pwynt craffu 4, sy'n ymwneud ag apelau a'r panel, fe wnaethom nodi'r pwyntiau yr oeddech wedi'u codi, ac mae'r broses apelio, wrth gwrs, yn cynnwys penodi panel o bersonau o'r tu allan i'r Llywodraeth sy'n darparu argymhellion i Weinidogion Cymru mewn achosion apêl. Penodir aelodau'r panel hwnnw gan Weinidogion Cymru yn dilyn proses recriwtio dryloyw a chadarn. Bydd swyddi gwag yn cael eu hysbysebu'n gyhoeddus i annog cronfa eang ac amrywiol o ymgeiswyr, ac yna mae'r rhai ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld i asesu eu haddasrwydd a'u hannibyniaeth. Bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru, gan ystyried argymhelliad y panel, a dyma'r ffordd, yn wir, y mae'r broses apelio wedi gweithredu ers 2001. Felly, byddwn yn cyflwyno manylion llawn y broses apelio honno yng nghanllawiau'r cynllun, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr.
Y pwynt rydych chi'n ei wneud, Mike, mewn perthynas â chyfieithu, mae hyn yn aml yn achosi rhai anawsterau, ac rydym yn cydnabod y pwynt adrodd a gododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ond rydym o'r farn mai'r dull rydym ni wedi'i fabwysiadu ar yr achlysur hwn yw'r opsiwn gorau sydd ar gael i ni. Roedd dau air wedi'u nodi fel cyfieithiadau posibl ar gyfer 'determination'. 'Penderfyniad' a 'dyfarniad' oedd y rhain. Fodd bynnag, roedd y ddau eisoes yn cael eu defnyddio o fewn yr OS, defnyddiwyd y cyntaf ar gyfer 'decision', a'r ail, ar ffurf 'dyfarnu', ar gyfer 'award'. Yn absenoldeb opsiwn arall, penderfynwyd mai 'penderfyniad' oedd y mwyaf priodol, ond er mwyn i ddarllenydd y testun Cymraeg ddeall rheoliad 29, rhaid iddo ei ddarllen ar y cyd â rheoliad 6(2), 10(3) neu 25. Mae hyn yr un peth i ddarllenydd y testun Saesneg. Ond, eto, yn wir, byddaf yn ystyried hwn eto. Rydym ni bob amser yn ymdrechu i wneud yn well bob tro rydym ni'n edrych ar y rhain.
Sam, a gaf i ddweud mai eich dull o ran ceisio diffinio hyn yn nhermau cynaliadwyedd ehangach yw'r hyn yr ydym wedi'i wneud yn gyson trwy'r holl drafodaethau rydym ni wedi'u cael ar y pwynt nawr lle rydym ni'n cyflwyno'r OSau, ond yn ystod y bwrdd crwn cyfan. Diffinnir cynaliadwyedd o fewn paramedrau Deddf Amaethyddol 2023 a'r amcanion rheoli tir cynaliadwy. Mae'n wir yn gydbwysedd o gynhyrchu'r bwyd hwnnw o ansawdd uchel, fforddiadwy, hygyrch yma yng Nghymru. Mae'n gydbwysedd o economeg a'r amgylchedd hefyd, a natur a hinsawdd hefyd, fel rhan ohono. Mae o fewn Deddf Amaethyddiaeth 2023. Felly, mae hyn yn hollol gyson yn yr hyn rydym ni'n ei gyflwyno heddiw.
Eich pwynt y dylem fabwysiadu dull arall, a sylwais yn y ffair aeaf roeddwn wedi clywed sylwadau y byddai cynllun arall yn cael ei gyflwyno, ac mae'n rhaid i mi gael hyn yn iawn—FSF, yn hytrach na'r SFS, rhywbeth felly. Wel, yr hyn y mae ffermwyr yr ydym wedi siarad â nhw yn gyson yn y sioeau teithiol, dros 2,000 o unigolion sydd wedi mynychu y rheini, gan gynnwys rhai asiantau, felly mae'n debyg yn siarad ar ran llawer mwy o ffermwyr, a'r hyn rydym ni wedi'i glywed gan yr undebau ffermio, fel yr ydym wedi clywed yn cael ei fynegi heddiw, yw, mewn gwirionedd, os ydych chi am gyflawni sicrwydd a sefydlogrwydd—ac mae angen i ffermwyr wybod hyn nawr—yr hyn nad ydym eisiau ei weld yw dechrau eto a rhwygo hyn a stopio'r OSau. Mae hynny'n berygl gwirioneddol gyda hyn, mae'n rhaid i mi ddweud, oherwydd gallai peidio â chael yr OS hwn yn ei le gael goblygiadau sylweddol ar y gyllideb a allai, fel y mae'r undebau wedi nodi, greu ansicrwydd ariannol enfawr ac, mewn gwirionedd, annhegwch i bob ffermwr yng Nghymru. Gallai danseilio cynllun y taliad sylfaenol, y cynllun ffermio cynaliadwy a busnesau fferm yn sylfaenol. Heb yr OSau hyn, ni fydd ffermwyr yn gwybod faint o arian y byddant yn ei dderbyn y flwyddyn nesaf, ac mae hyn yn berthnasol, gyda llaw, i ffermwyr yng nghynllun y taliad sylfaenol presennol ac yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Byddai angen i Weinidogion Cymru, heb hyn, ddyfalu'r boblogaeth a allai fynd i mewn i gynllun y taliad sylfaenol er mwyn gosod nenfwd cynllun y taliad sylfaenol, y mae'n rhaid ei osod erbyn 31 Rhagfyr 2025. Mae dyfalu'n amhosibl. Heb unrhyw gynsail hanesyddol, mae llawer o ffermwyr eu hunain yn ansicr ar hyn o bryd. Ac os yw'r dyfalu yn anghywir, a gallai fod, gallai ffermwyr yng nghynllun y taliad sylfaenol naill ai dderbyn llawer mwy neu lawer llai nag yr oeddent yn ei ddisgwyl, ac, yn fwy arwyddocaol, byddai hyn hefyd yn cael effaith ar y rhai sy'n hawlio'r cynllun ffermio cynaliadwy, oherwydd, os ydym yn cael lefel y gyllideb cynllun y taliad sylfaenol yn anghywir, gallem orfod lleihau taliadau lefel fferm y rhai sy'n mynd i mewn i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ni fyddai gan ffermwyr yn y ddau gynllun, os nad ydym yn pasio'r rhain heddiw, os bydd Aelodau'n dewis pleidleisio yn erbyn hyn a threchu hyn, yn syml, unrhyw sicrwydd ar gyfer cymorth yn 2026 o gwbl, o gwbl, ac annhegwch, oherwydd bydd yr un math o ffermwyr mewn gwahanol gynlluniau yn cael canlyniadau gwahanol nad ydynt yn adlewyrchu realiti eu hamser na'u hymdrech.
Nawr, ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd ynglŷn â dyfodol cymhorthdal ffermio, Sam, rwyf am ei gwneud yn glir mai dyma'r peth olaf sydd ei angen ar ffermwyr Cymru. Byddai'n peryglu'r cynllun ffermio cynaliadwy cyfan, sydd wedi'i gynllunio gyda rhanddeiliaid a'r bwrdd crwn gweinidogol. Ac ar ôl y gwaith rydym ni wedi'i wneud gyda'n gilydd, mae angen i ni nawr fynd ymlaen ag ef, gyda phontio wedi'i reoli, fesul cam, wedi'i reoli, a dyna beth rydym ni'n ceisio ei wneud heddiw.
Llyr a Jane, a gaf i ddiolch i chi—a Sam, hefyd—am fynychu'r sesiwn friffio gyda swyddogion ar sail dechnegol, a glywsoch chi i gyd? A diolch, Llyr a Jane, hefyd, am wrando ar ffermwyr a'r undebau ffermio ac ymgysylltu â nhw, oherwydd rydych chi'n iawn yn yr hyn rydych chi'n ei ddweud—a Sam, rwy'n gwneud y gydnabyddiaeth hon, rydw i bob amser wedi ei gwneud yn glir—efallai bod pobl eraill wedi dod i wahanol farnau ar rannau allweddol o hyn o ran y tapro, fesul cam ac ati. Ond yr hyn nad ydyn nhw'n dadlau yn ei gylch yw bod y mecanweithiau o fewn hyn y gwnaethom eu llofnodi—. Fe wnaethom lofnodi'r cynllun cyffredinol ym mis Mehefin, mis Gorffennaf, ond mae'r mecanweithiau yma yn galluogi Gweinidogion y dyfodol i gael cynllun deinamig o'u blaenau y gallant ei addasu wrth i amser fynd heibio. Mae hwn yn ddull radical gwahanol. Dyna pam maen nhw eisiau gweld y rhain yn cael eu pasio heddiw, i roi'r sicrwydd a'r sefydlogrwydd, a gall ffermwyr fynd ymlaen â chynllunio, ond hefyd oherwydd ei fod yn caniatáu i'r liferi hynny gael eu tynnu wrth i ni fynd ymlaen. Felly, diolch i chi am wrando ar y trafodaethau hynny. Nid yw pawb yn dweud, 'Rydym ni cant y cant y tu ôl i hyn, rydym ni'n caru'r cyfan, am Nadolig gwych mae hwn yn mynd i fod', ac ati. Yr hyn maen nhw'n ei ddweud yw mai dyma'r mecanwaith sylfaenol iawn nawr i fynd â hyn ymlaen.
A Jane, diolch am y sylwadau hynny hefyd. Rydw i wedi nodi ein dull o ran y pontio a'r symud fesul cam a'r tapro; fe wnaethon ni ei osod allan yn glir iawn, iawn yn ôl ym mis Mehefin, mis Gorffennaf. Nid ydym yn bwriadu addasu hynny, ond, fel y dywedais, mae'r cynllun hwn wedi'i gynllunio, yn y dyfodol, i gael y liferi hynny fel y gallwch wneud addasiadau. Ond rydym ni'n glir iawn—. Ac mae'n rhaid i mi ddweud nad yw'n ymwneud â'r undebau ffermio yn unig, ond mae yna randdeiliaid eraill allan yna hefyd, gan gynnwys rhai o'r rhanddeiliaid amgylcheddol hynny, sydd eisiau gweld y pontio. A byddai hynny'n cynnwys, gyda llaw, galluogi buddsoddiad yn y dewisol a chydweithredol, lle gallech gael pobl ar y tir comin, tiroedd comin newydd yn dod i mewn i'r cynllun—byddai hyn yn ei alluogi i ddigwydd a gallech elwa ar hynny, hefyd, ar gyfer cynhyrchu bwyd, pori, ond hefyd ar gyfer cydnerthedd hinsawdd a natur hefyd.
Felly, Llywydd, i gloi, a gaf i ddweud yn syml ein bod wedi ymgysylltu mor helaeth â'r sector, gyda'n ffermwyr, gyda'r gymuned ffermio ac ystod mor eang o randdeiliaid ar y cynlluniau hyn ar gyfer dyfodol cymorth amaethyddol yng Nghymru? Rydym ni i gyd wedi treulio, rwy'n credu, dipyn mwy o amser nag y byddem wedi hoffi yn trafod manylion y cynllun ffermio cynaliadwy a llunio'r dyfodol gorau posibl ar gyfer cymorth amaethyddol yng Nghymru. Mae hon wedi bod yn ymdrech wirioneddol enfawr a gwirioneddol gyfunol ac mae'r ymdrech hon wedi bod yn allweddol wrth gyrraedd y cynllun terfynol. Dros 2,000 o ffermwyr yn y sioeau teithiol diweddar, ac mae'r naws honno wedi bod yn gadarnhaol, gyda ffermwyr i fyny ac i lawr Cymru yn paratoi i ymuno â'r cynllun o 1 Ionawr. Mae'r rheoliadau hyn yn ein galluogi nawr i roi'r holl waith hwnnw a'r polisïau rydym ni wedi'u trafod a'u datblygu gyda'i gilydd ar waith. Felly, rwy'n annog y Senedd i anrhydeddu a pharchu'r broses gyfunol honno a'r ymdrech enfawr ar y cyd trwy bleidleisio o blaid y rheoliadau hyn.
Dwi yn bersonol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth, a hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb—y ffermwyr, undebau ffermwyr a chyrff amgylcheddol—sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau ac am eu hadborth. Bydd y trafod hwn yn parhau ar draws y gweithgorau a bord gron y Gweinidogion. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe ohiriwn ni'r bleidlais ar eitem 4.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Fe ohiriwn hynna hefyd o dan eitem 5 tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yn olaf, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe wnawn ni adael y cwbl lot tan y cyfnod pleidleisio i bleidleisio arnyn nhw.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae'r cynigion nesaf o dan eitemau 7, 8 a 9. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y tri chynnig o dan 7, 8 a 9 yn cael eu trafod ar y cyd, ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Os nad oes neb yn gwrthwynebu hynny, fe alwaf eto ar Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd i gyflwyno'r cynigion yma—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9060 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2025.
Cynnig NDM9061 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2025.
Cynnig NDM9062 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Hydref 2025.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i siarad heddiw am y rheoliadau pwysig hyn. Mae dyfodol tecach a ffyniannus i Gymru yn dibynnu ar y camau yr ydym yn eu cymryd heddiw.
Heddiw, rydyn ni'n trafod rheoliadau a fydd yn effeithio ar bob un ohonon ni ac ar ddyfodol ein plant a'n hwyrion. Maen nhw'n gyfle i gyflwyno biliau rhatach, aer glanach, swyddi newydd ac, yn y bôn, dyfodol mwy diogel a sicr. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ein hymrwymiad cyfreithiol ar gyfer y cam nesaf yn nhaith Cymru i fynd i ymdrin â newid hinsawdd. Maen nhw'n anfon datganiad cryf o fwriad gan y Llywodraeth hon: rydyn ni'n dal ati.
Mae'r tri rheoliad hyn yn ganolog i ymateb Cymru i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Yn gyntaf, mae Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025 yn gosod y targed lleihau allyriadau ar gyfer cyllideb garbon 4, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 2031 a 2035. Yn ail, mae Rheoliadau Newid Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025 yn gosod y terfyn credyd carbon ar gyfer cyllideb garbon 3, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 2026 a 2030. Yn olaf, mae Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025 yn diweddaru ein fframwaith cyfrifyddu carbon i adlewyrchu datblygiadau rhyngwladol. Byddwn ni'n gwneud mân gywiriadau technegol i'r ddwy set gyntaf o reoliadau cyn eu gwneud, fel sydd wedi'i amlinellu yn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiadau gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Ond rydw i eisiau gosod hyn allan yn glir iawn heddiw. Mae effeithiau newid hinsawdd yn berygl gwirioneddol a phresennol: stormydd amlach a mwy difrifol; llifogydd fel y rhai y gwnaethon ni eu gweld yn Nhrefynwy a rhannau eraill o Gymru ychydig wythnosau yn ôl; tonnau gwres sy'n rhoi straen cynyddol ar ein seilwaith ac ar weithwyr rheng flaen, gan waethygu bygythiadau i'n hamgylchedd ac i'n hiechyd; byd llai diogel, llai sicr, lle gall prisiau ynni a siociau a gwrthdaro byd-eang achosi i filiau saethu i fyny i deuluoedd ledled Cymru. Ac eto, hyd yn oed yn wyneb y perygl gwirioneddol a phresennol hwn, rydyn ni'n gweld arwyddion bod y consensws byd-eang ar newid hinsawdd yr ymladdwyd yn galed i'w sicrhau yn chwalu. Hyd yn oed wrth wynebu'r realiti anodd hwn, mae rhai yn dewis rhwyfo am yn ôl. Mae rhai yn dweud ei fod yn rhy anodd, ac maen nhw'n rhoi eu pennau yn y tywod. Ond fyddwn ni ddim. Byddai hynny'n golygu bradychu'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, gan roi Cymru iddyn nhw sy'n llai llewyrchus ac yn llai diogel.
Felly, rwyf eisiau ei gwneud yn gwbl glir beth fyddai pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw yn ei olygu. Mae pleidlais yn erbyn yn bleidlais dros filiau ynni uwch i deuluoedd yng Nghymru. Mae pleidlais yn erbyn yn bleidlais dros fwy o lifogydd yn ein cymunedau, dros lai o swyddi â chyflog da, dros ddyfodol mwy peryglus ac ansicr i'n plant a'n hwyrion. Byddai hefyd yn tanseilio'r ymdrechion rydyn ni eisoes wedi'u gwneud a'r llwyddiannau rydyn ni eisoes wedi'u cael.
Fe wnaethon ni berfformio'n well na'n cyllideb garbon gyntaf a tharged 2020. Mae allyriadau yn yr ail gyllideb garbon ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed, ac, yn gyffredinol, rydyn ni wedi lleihau ein hallyriadau o fwy na thraean ers 1990. Ond gadewch i ni edrych y tu hwnt i'r data a'r targedau hefyd. Mae ein hymdrechion i leihau allyriadau eisoes wedi gwneud gwahaniaethau gwirioneddol i fywydau pobl, fel cartrefi iachach i fyw ynddyn nhw, a diogelwch ar gyfer ein hoff fannau gwyrdd.
Amcangyfrifodd y SYG fod tua 15,600 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru yn 2023 a ddosbarthwyd fel rhai yn yr economi carbon isel ac ynni adnewyddadwy—dros 15,000 o swyddi. Yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud yw mynd ymhellach a thyfu hynny'n fwy. Felly, bydd gosod ein pedwaredd gyllideb garbon ar 73 y cant yn sbarduno creu mwy o gyfleoedd i Gymru ac yn anfon neges glir a chryf iawn i fusnesau a chymunedau ac yn rhyngwladol. Mae swyddi gwyrdd a thwf economaidd cynaliadwy wrth wraidd dull gweithredu'r Llywodraeth hon. Trwy fuddsoddi mewn ynni glân, moderneiddio ein cartrefi a chefnogi arloesedd, byddwn ni'n datblygu'r Gymru decach, wyrddach a chryfach honno. Mae dewis cyflawni'r drydedd gyllideb garbon trwy gamau gweithredu domestig yn unig yn atgyfnerthu'r arwydd hwnnw hyd yn oed ymhellach. Oes, mae angen buddsoddi, ond bydd y rhan fwyaf yn dod o'r sector preifat, gyda thechnolegau fel cerbydau trydan a phympiau gwres yn arbed arian dros amser. Byddwn ni'n medi'r hyn rydyn ni'n ei hau.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, ein cynghorydd statudol, wedi amcangyfrif y bydd cost net cyflawni sero net yng Nghymru ar gyfartaledd tua 0.4 y cant o gynnyrch domestig gros y flwyddyn. Mae'n fuddsoddiad cymharol fach ar gyfer y manteision hirdymor y bydd yn eu sicrhau. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn glir iawn bod cost diffyg gweithredu yn llawer mwy na'r buddsoddiad sydd ei angen heddiw.
Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio'r economi mewn ffordd sy'n deg. Byddaf yn cyhoeddi fframwaith pontio teg cyntaf Cymru yn fuan er mwyn helpu i sicrhau bod penderfyniadau ar weithredu ar newid hinsawdd yn arwain at ddyfodol tecach i bawb. Fe wnawn ni gefnogi cymunedau sy'n agored i niwed, datblygu sgiliau ar gyfer marchnadoedd y dyfodol a gweithio i sicrhau bod costau a manteision newid yn cael eu rhannu'n deg. A bydd cydweithredu yn hanfodol. Llywodraeth, awdurdodau lleol, busnesau, cymunedau ac unigolion—mae gan bob un ohonon ni ran i'w chwarae.
I fod yn hollol glir, nid nawr yw'r amser i oedi, na'r amser ar gyfer amheuaeth. Rydyn ni wedi ymrwymo i amddiffyn ein cymunedau, hau hadau Cymru newydd ac ysbrydoli gobaith yn y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol. Felly, gyda'r rheoliadau hyn, mae Cymru'n parhau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol.
Gyda'n gilydd, Llywydd, gallwn adeiladu Cymru decach, gryfach a gwyrddach. Diolch am wrando, ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth heddiw.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sydd nawr—Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Cytunodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar adroddiad clir ar Reoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025 ar 3 Tachwedd, felly nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud o ran eitem 9.
Cafodd Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Newid Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025 eu hystyried gan y pwyllgor yr wythnos diwethaf. Fe wnaethon ni ystyried ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau'r pwyllgor ddoe. Mae dau adroddiad y pwyllgor yn cynnwys yr un pwynt adrodd technegol. Mae'r term 'y Ddeddf' wedi cael ei ddefnyddio yn y ddwy set o reoliadau. Mae'r term hwnnw wedi'i ddiffinio yn y rhagymadrodd, ond nid yw wedi'i ddiffinio yng nghorff y rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwynt a godwyd ym mhob adroddiad, a bydd yn gwneud cywiriadau cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud.
Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn cefnogi symud tuag at ddull mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar o fynd i'r afael â'n hinsawdd. Fodd bynnag, rhaid i ni wneud yn siŵr bod unrhyw reoliadau, strategaethau neu gyfreithiau rydyn ni'n eu rhoi ar waith yn dilyn dull synnwyr cyffredin. Dyna hanfod y Ceidwadwyr Cymreig, sef sicrhau bod synnwyr cyffredin yn ennill y dydd. Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau hyn yn cyflawni hynny.
Ni ddylai ein llwybr tuag at fynd i'r afael â newid hinsawdd gael effaith sylweddol ar ansawdd ein bywyd nac ar ein costau byw. Dim ond yn ddiweddar, yr wythnos diwethaf, fe welson ni gyllideb syfrdanol i bobl Cymru. Mae Rachel Reeves yn sicr yn costio llawer mwy i'n cartrefi nawr. Fel sydd wedi cael ei ailadrodd gymaint o weithiau cyn heddiw, mae'r gyllideb hon ar gyfer pobl nad ydyn nhw eisiau gweithio ac, mewn gwirionedd, nid yw yno yn barod ar gyfer y rhai sy'n barod i weithio.
Bydd angen newidiadau sylweddol i gyrraedd targed mor uchel fel y'i nodir yn y rheoliadau hyn. Nawr, gyda'r bedwaredd gyllideb garbon—. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn i wedi fy ffieiddio nad yw honno wedi cael ei thrafod llawer yma yn y Siambr hon, ond mae goblygiadau cyllideb garbon 4 yn hollol anghywir. Hyrwyddo'r syniad o leihau faint o gig a llaeth sy'n cael eu bwyta: fydd neb, nid chi, nid Llywodraeth y DU, yn dweud wrthyf faint o gynhyrchion llaeth rwy'n eu bwyta, faint o gig rwy'n ei fwyta, a phethau pwysig eraill. Fy mywyd i ydyw. Fy newis i ydyw. Nid yw'n gynaliadwy. Rydych chi eisoes wedi taro ein ffermwyr—eich plaid chi—gyda'r dreth etifeddiant. Dydych chi ddim yn hoffi ffermwyr, a dyna fe.
Mae Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025 yn gosod y targed ar gyfer allyriadau carbon i fod 73 y cant yn is na gwerth sylfaenol 1990, gostyngiad arall o'r targed presennol ar gyfer 2026-30 o 58 y cant. Rydyn ni'n gwybod bod angen i ni weld gostyngiad arall yn ein cyllideb garbon, ond gadewch i ni fod yn onest: llenwi caeau, cymryd tir amaethyddol da i ffwrdd a rhoi paneli solar drostyn nhw i gyd, nid dyna'r hyn y mae pobl ei eisiau, nid yw'r hyn y mae ein ffermwyr ei eisiau, ac nid dyna sydd ei angen arnon ni. Er y gallwn ni i gyd gytuno ar yr angen am—
Mwy o gynnyrch o Gymru.
Ydyn, rydyn ni eisiau mwy o gynnyrch o Gymru, os gwelwch yn dda. Dydyn ni ddim eisiau mewnforio sbwriel. Dydyn ni ddim eisiau mewnforio sbwriel.
Rhaid i ni sicrhau nad yw hyn yn cael effaith niweidiol ar ein sector amaethyddol hanfodol na'n diogelwch bwyd. Nid yw cyflawni gostyngiad mor sylweddol yn ymarferol.
Nododd Rheoliadau Newid Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025 yr argymhelliad na ddylai Llywodraeth Cymru wrthbwyso allyriadau trwy gynlluniau rhyngwladol. Yn sicr, dydyn ni ddim eisiau gweld mwy o brosiectau lle rydyn ni'n osgoi ein cyfrifoldebau ein hunain fel prosiectau plannu coed yng ngwledydd Affrica neu Dde America. Yn wir, mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i wrthbwyso allyriadau—[Torri ar draws.] Wel, os yw'n helpu, Ysgrifennydd Cabinet, mae fy nhrigolion yn Aberconwy wedi'u harswydo gan eich Llywodraeth a'r ffordd rydych chi wedi dewis gwario miliynau o bunnoedd mewn gwlad arall.
Unwaith eto, gyda'r allyriadau hyn yn cael eu gwrthbwyso'n ddomestig, mae'n hanfodol nad yw hyn yn rhoi straen ar ein ffermwyr ni, sydd angen tir amaethyddol o'r ansawdd uchaf i gynhyrchu bwyd. Dylai ein diogelwch bwyd fod yn flaenoriaeth bob amser. Dylai ein diogelwch ynni fod yn flaenoriaeth bob amser. Dyna pam nad wyf yn cefnogi cau ein holew a'n nwy.
Mae'r rheoliad terfynol yn fwy technegol ei natur gan ei fod yn ceisio diffinio uned garbon o ran y rheoliadau hyn. Ond mae angen cydbwysedd. Rydych chi wedi dod yn obsesiynol nawr ynghylch eich agenda newid hinsawdd eich hun. Mae angen i ni roi mwy o ffocws ar gefnogi ein diogelwch bwyd, ar wella ein sgiliau gwyrdd a datblygu'r seilwaith ynni adnewyddadwy, ond ar hyn o bryd rydych chi'n rhoi hyn uwchlaw diogelwch bwyd a chynhyrchu ynni ar gyfer y wlad hon.
Mae Ceidwadwyr y DU wedi addo diddymu Deddf Newid Hinsawdd 2008. Bydd hyn yn dileu'r angen i gyflawni'r cyllidebau a'r nenfydau carbon hyn, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar dwf, ynni rhatach a diogelu'r tirweddau naturiol rydyn ni i gyd yn eu caru. Ni fydd y rheoliadau hyn yn cyflawni hynny, felly ni all fy nghyd-Geidwadwyr Cymreig a minnau gefnogi'r rheoliadau hyn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg gen i.
Mae hyn ychydig yn gynharach nag yr oeddwn i wedi ei ddychmygu yn y fan yna.
A gaf i ddiolch yn gyntaf i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel bob amser, am eu gwaith diwyd wrth graffu ar hyn?
Janet. [Torri ar draws.] Wel, yn gyntaf oll, fe sylwais eich bod chi'n dweud, 'Wrth gwrs rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth, ond mae'n gydbwysedd. Mae'n gydbwysedd.' Ac mae'r cydbwysedd rydych chi'n ei ddisgrifio yn un rhwng yr angen i gymryd camau brys, fel sydd wedi'i ddisgrifio nid yn unig gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ond gan bawb allan yna sy'n dweud bod angen i ni weithredu o blaid hyn, a chenedlaethau'r dyfodol, ac rydych chi'n troi eich cefn arno. Gadewch i ni beidio â chamgymryd hyn. Ac mae'n ddiddorol wrth i chi nawr droi mewn ymateb i amddiffyn eich hun yn erbyn yr hyn sy'n ymddangos fel y polisïau sy'n cael eu dilyn gan Reform. Mae hyn yn ddiddorol, oherwydd wrth i mi edrych yn ôl, ac wrth i Aelodau yma edrych yn ôl dros y blynyddoedd, byddwn ni'n edrych yn ôl ar gofnod pleidleisio Aelodau ar y meinciau hynny sydd wedi cefnogi ac wedi dal ati ar newid hinsawdd ac sydd nawr yn troi eu cefnau. Ac rwy'n amau na fyddai'n cymryd yn hir i mi ddod o hyd i'ch ymrwymiad i hynny, sydd erbyn hyn nid yn unig yn simsanu, ond sy'n cael ei chwalu'n llwyr. Mae'n siomedig.
Ond mae'n siomedig nid i mi yn sefyll yma, ond i'r holl bobl hynny y tu allan sydd angen i gwleidyddion ddal ati ar newid hinsawdd a gwneud penderfyniadau sydd er eu budd nhw ac er budd cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae gweld y Blaid Geidwadol yn troi eu cefnau nawr nid yn unig yn siomedig, ond byddwn i'n dweud ei fod, yn anffodus, yn gywilyddus hefyd.
Dileu'r cynllun ffermio cynaliadwy, pleidleisio yn erbyn y rheoliadau heddiw, dileu'r Ddeddf Newid Hinsawdd rydyn ni wedi'i glywed gan y Ceidwadwyr yn Llundain, pleidleisio yn erbyn hyn heddiw, y rheoliadau hyn— anobaith yw hyn nawr gan blaid sy'n ofni Reform. Un tro, fe ddywedodd un o arweinwyr y Ceidwadwyr y geiriau cyfarwydd,
'mae'r bygythiad i'n byd ni yn dod nid yn unig gan ormeswyr a'u tanciau. Gall fod yn fwy llechwraidd er yn llai gweladwy. Mae perygl cynhesu byd-eang',
dywedodd yr arweinydd Ceidwadol hwn,
'eto i'w weld, ond mae'n ddigon real i ni wneud newidiadau ac aberth, fel nad ydyn ni'n byw ar draul cenedlaethau'r dyfodol.'
Mae'n anghredadwy meddwl y bydden i erioed yn cytuno ag unrhyw beth y gwnaeth Margaret Thatcher ei ddweud, ond rwy'n cytuno â'r arweinydd Ceidwadol hwnnw, ac rydych chi nawr yn troi eich cefnau ar yr arweinyddiaeth honno.
Fyddwn i byth yn troi fy nghefn ar Margaret Thatcher.
Am olygfa drist. Am olygfa drist. Am olygfa drist iawn sydd gennym ni nawr yn y Blaid Geidwadol fodern, sy'n troi ei chefn ar yr angen hwnnw am arweinyddiaeth ac yn llyncu crachfeddyginiaeth Trump a Farage. Cyd-Aelodau'r Senedd, rwy'n annog unrhyw un sy'n ystyried anghenion y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, ac sy'n ystyried bod newid hinsawdd yn berygl clir, presennol a chyfredol, i gefnogi'r rheoliadau hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ar eitem 8, a oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriwn ni eitem 8 tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac eto, o dan eitem 9, a oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gohirio popeth tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A chredwch neu beidio, rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Mae'r pleidleisiau cyntaf heddiw—. Y bleidlais gyntaf ar eitem 4, y Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, 12 yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, mae'r rheoliadau o dan eitem 4 wedi eu cymeradwyo.
Eitem 4. Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.: O blaid: 22, Yn erbyn: 12, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 5 fydd y bleidlais nesaf, ar Reoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, 12 yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, mae'r rheoliadau yna o dan eitem 5 wedi eu cymeradwyo.
Eitem 5. Rheoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025.: O blaid: 22, Yn erbyn: 12, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Rheoliadau eitem 6 sydd nesaf. Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025 yw'r rhain. Pleidlais felly ar y cynnig o dan eitem 6 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12. Na, mae'n ddrwg gyda fi. O blaid 22, yn ymatal 12, yn erbyn 12. Ac felly, mae'r rheoliadau yna o dan eitem 6 wedi eu cytuno hefyd.
Eitem 6. Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025.: O blaid: 22, Yn erbyn: 12, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 7 fydd nesaf, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, 1 yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r rheoliadau yna o dan eitem 7 wedi'u cytuno.
Eitem 7. Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025.: O blaid: 33, Yn erbyn: 12, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Y rheoliadau o dan eitem 8 yw'r Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna dan eitem 8 wedi'i gymeradwyo.
Eitem 8. Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025.: O blaid: 34, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 9 yw'r bleidlais olaf ar y Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 9 wedi cael ei dderbyn.
Eitem 9. Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025.: O blaid: 34, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Byddwn ni'n cymryd toriad byr o ddim mwy na 10 munud, ac fe ganwn ni'r gloch funud cyn inni ailgychwyn ar gyfer y drafodaeth ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:26.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:38, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Fe wnawn ni gychwyn ar Gyfnod 3 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Grŵp 1 o welliannau fydd gyda ni gyntaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud ag amcanion y Mesur. Gwelliant 18 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Sam Rowlands i gynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 18 (Sam Rowlands).
Diolch, Llywydd. Cyn ymdrin â'r gwelliannau rwyf wedi'u cyflwyno yng ngrŵp 1, rwyf eisiau nodi rhai o'r pryderon am effaith y Bil hwn ar ei ffurf bresennol.
Fel y mae wedi'i ddrafftio, Llywydd, mae'n peryglu canoli rheolaeth ein rhwydwaith bysiau yn nwylo Llywodraeth Cymru heb y mesurau diogelu sydd eu hangen i sicrhau cyflawniad gwirioneddol. Hyd yn oed os yw'r Llywodraeth Lafur yn bwriadu ymdrin â'r pryderon sydd wedi'u codi, allwn ni ddim dweud yr un peth, o reidrwydd, am Lywodraethau olynol eraill. Rydyn ni wedi gweld eisoes, wrth gwrs, beth sy'n digwydd pan nad yw canoli yn cael ei baru â chymhwysedd. Rwy'n pryderu y gallai hyn fod yn ymarfer costus arall i'r trethdalwr yng Nghymru, heb iddo sicrhau gwelliannau ystyrlon ar lawr gwlad.
Pryder sylweddol, y byddaf yn ymdrin ag ef trwy welliannau sydd o'n blaenau ni heddiw, yw'r diffyg eglurder i weithredwyr bach a chanolig. Rwyf wedi siarad â llawer ohonyn nhw ledled Cymru, ac maen nhw'n poeni. Maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u hepgor o'r broses ac yn ansicr sut y byddan nhw'n ffitio i mewn i'r system newydd fel y'i cynigir. Mae'r busnesau annibynnol hyn wedi cadw ein cymunedau mewn cysylltiad ers blynyddoedd, ac ni ddylai eu dyfodol gael ei beryglu gan ddeddfwriaeth amwys neu frysiog.
Mae'n ymddangos bod y Bil hefyd yn canolbwyntio'n helaeth ar ardaloedd trefol, heb fawr o gydnabyddiaeth o'r heriau a wynebir yng nghefn gwlad Cymru. Dyma'r cymunedau sydd eisoes yn cael trafferth gyda gwasanaethau anfynych neu annibynadwy, ond ychydig iawn o sicrwydd y mae'r ddeddfwriaeth yn ei gynnig iddyn nhw. Yn hanfodol, mae'n methu ymdrin ag un o'r rhwystrau mwyaf i ddibynadwyedd, hynny yw tagfeydd, sy'n tanseilio gwasanaethau bob dydd. Er gwaethaf ein pryderon, rwy'n ddiolchgar am yr ymgysylltu gan Lywodraeth Cymru am geisio gweithio ar rai o'r gwelliannau y credwn y bydd yn cryfhau'r Bil ac am geisio ymdrin â rhai o'r materion y mae ein grŵp wedi'u nodi. Dyna pam rwyf wedi cyflwyno gwelliannau â'r nod o gryfhau'r Bil a'i wneud yn decach i'r teithwyr hynny.
Gan gyfeirio at y gwelliannau yng ngrŵp 1, byddai prif welliant 18 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i amcan o gynyddu argaeledd gwasanaethau bysiau, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymdrin ag argaeledd gwael mewn ardaloedd gwledig. Mae'r gwelliant hwn yn bwysig, oherwydd mae'n sicrhau, pan fydd gan Weinidogion Cymru ystyriaeth benodol ar gyfer gwella'r gwasanaethau bysiau hynny, bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau bod gan ardaloedd gwledig wasanaethau a fydd yn llenwi'r bylchau mwyaf yn y ddarpariaeth. Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn aml yn dibynnu ar fysiau fel llinell achub—ar gyfer gwaith, addysg, gofal iechyd a chysylltiad cymdeithasol—ond trigolion gwledig yn aml yw'r cyntaf i wynebu toriadau a'r olaf i weld buddsoddiad. Byddai'r gwelliant hwn yn sicrhau nad yw Cymru wledig yn ôl-ystyriaeth, gan helpu yn lle hynny i sicrhau tegwch ar draws y rhwydwaith cyfan, ac atal anghydraddoldeb pellach rhwng darpariaeth trafnidiaeth drefol a gwledig.
Mae gwelliant 19 yn cyflwyno seithfed amcan statudol i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn hybu buddsoddiad mewn seilwaith a ddefnyddir at ddibenion gwasanaethau bysiau lleol, yn benodol i wella hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol. Mae gwasanaethau da yn gofyn am seilwaith da, ac mae'n rhaid cydnabod hyn mewn cyfraith ar wyneb y Bil hwn. Bydd hyn yn gwella profiad, diogelwch a hyder teithwyr yn uniongyrchol. Heb y pethau sylfaenol hyn, bydd hyd yn oed y gwasanaethau bws sydd wedi'u cynllunio orau yn methu â diwallu anghenion pobl. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod Gweinidogion yn canolbwyntio nid yn unig ar gynnal gwasanaethau ond ar greu'r amodau ffisegol sy'n gwneud y gwasanaethau hyn yn ddibynadwy, yn hygyrch ac yn ddeniadol i deithwyr. Rydyn ni i gyd yn gwybod am straeon lle gall teithwyr, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed, deimlo'n ofnus ynghylch defnyddio bysiau, yn enwedig ar adegau penodol. Mae'r gwelliant hwn yn welliant ymarferol, sy'n canolbwyntio ar deithwyr a fydd yn cefnogi canlyniadau gwell ar draws y rhwydwaith.
Rwy'n falch o weld gwelliannau 7, 8 a 9 gan y Llywodraeth, ac rwyf wedi croesawu'r cyfle i weithio'n adeiladol gyda chyd-Aelodau ar draws y Siambr i ymdrin â'r pryderon a godwyd gennym yng Nghyfnod 2 ynghylch teithio gan ddysgwyr. Bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw i hwyluso mynediad i leoedd lle mae addysg, hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu darparu. Byddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliant 28, a gyflwynwyd gan Lee Waters, sy'n cyflwyno amcan ychwanegol sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru weithio tuag at ddileu neu leihau rhwystrau sy'n datgymell defnyddio gwasanaethau bysiau lleol. Rwy'n credu bod y gwelliant hwn yn eang iawn a bod gwelliant 19, fy ngwelliant i, yn mynd ymhellach, ond rwy'n hapus i barhau i gefnogi'r gwelliant 28 hwnnw.
Ar y cyfan, Llywydd, mae'r gwelliannau hyn rydyn ni wedi'u gosod ger eich bron yng ngrŵp 1 yn adeiladol, yn gytbwys ac yn canolbwyntio ar ddarparu rhwydwaith bysiau sydd wir yn gwasanaethu pob rhan o Gymru.
Hoffwn ddechrau trwy groesawu'r Bil hwn a'r gwaith sydd wedi'i wneud i gyrraedd lle rydyn ni nawr, a thrwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith helaeth y tu ôl i'r llenni: rhanddeiliaid, ymgyrchwyr, gweithredwyr lleol a chynrychiolwyr cymunedol. Mae'r ymdrechion wedi llunio'r Bil hwn, a dim ond trwy'r ymgysylltu hwnnw ar y cyd y gallwn ni symud ymlaen gyda rhwydwaith bysiau sy'n gweithio i Gymru gyfan.
O ran cynigion sy'n ymwneud â mynediad at wasanaethau hanfodol, mae Plaid Cymru yn parhau i fod yn ddiwyro yn ein cred bod yn rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus gael ei chynllunio o amgylch anghenion y bobl sy'n dibynnu arni fwyaf. Mae hynny'n cynnwys pobl ifanc yn cael mynediad i addysg a hyfforddiant, a'r rhai sy'n dibynnu ar fysiau i gyrraedd gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd yn bryderus iawn bod drafft cyntaf y Bil wedi methu â gwneud unrhyw ddarpariaeth benodol ar gyfer teithio gan ddysgwyr, er gwaethaf sicrwydd clir gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'r Senedd y byddai masnachfreinio yn ganolog i ymdrin â'r union heriau y mae dysgwyr yn eu hwynebu heddiw.
Fe wnaethon ni lwyddo ar gamau cynharach i sicrhau bod teithio gan ddysgwyr yn cael ei gydnabod yn benodol yn y Bil, oherwydd ni ddylai teuluoedd ledled Cymru fod yn destun loteri cod post pan ddaw yn fater o gael plant i'r ysgol neu'r coleg yn ddiogel. Mae'r pryderon y gwnaeth randdeiliaid eu codi ynghylch sut y bydd masnachfreinio yn darparu ar gyfer teithio gan ddysgwyr yn real ac mae'n rhaid ymdrin â nhw. Trwy ymwreiddio dyletswydd glir ar Weinidogion i ystyried addysg a mynediad ehangach i wasanaethau cyhoeddus wrth gynllunio rhwydwaith, gallwn ni ddechrau sicrhau bod llwybrau yn adlewyrchu daearyddiaeth ein hysgolion, colegau, ysbytai a darparwyr gofal, yn hytrach na gadael teithiau hanfodol o'r fath yn agored i anghysondebau neu benderfyniadau masnachol. Mae gan bobl yr hawl i gyrraedd y gwasanaethau hanfodol hyn yn ddibynadwy, ac mae llawer yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny ar hyn o bryd.
Rydyn ni hefyd yn cefnogi'r bwriad i fwrw golwg ehangach ar yr hyn sy'n rhwystro pobl rhag dewis defnyddio'r bws. Ni fydd Cymru'n symud i system drafnidiaeth decach, fwy cynaliadwy oni bai ein bod yn dileu'r rhwystrau cymdeithasol, ymarferol a strwythurol sy'n atal pobl rhag teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny'n golygu meddwl nid yn unig am seilwaith ond hefyd am fforddiadwyedd, dibynadwyedd, diogelwch a phrofiad cyffredinol defnyddwyr. Felly, rydyn ni'n tueddu tuag at ddull sy'n ceisio lleihau'r rhwystrau sy'n datgymell defnyddio bysiau yn hytrach na defnyddio un wedi'i fframio'n gul o amgylch buddsoddi mewn seilwaith yn unig. Mae seilwaith yn bwysig, wrth gwrs, ond dim ond un darn o'r pos ydyw. Mae gwasanaeth bysiau gwirioneddol drawsnewidiol yn gofyn am ymrwymiad i ymdrin â phob rhwystr sy'n atal pobl rhag dewis bws yn y lle cyntaf.
Gan droi at faterion sy'n fwy penodol i ardaloedd gwledig, fel y mae'r prif welliant yn sôn amdanyn nhw—wedi'i gynnig gan Sam Rowlands—er ein bod ni'n cydnabod yn llwyr yr heriau real iawn sy'n wynebu cymunedau gwledig, ac mae Plaid Cymru wastad wedi codi ei llais i amddiffyn Cymru wledig, byddwn ni'n ymatal ein pleidlais ar y gwelliant hwn oherwydd rydyn ni'n cydymdeimlo â'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni, ond mae'r dull yn codi'r ardaloedd hynny uwchlaw eraill ar wyneb y Bil. Gallai gwneud hynny greu anghydbwysedd anfwriadol ac fe allai danseilio'r nodau o adeiladu rhwydwaith cenedlaethol cydlynol. Mae Cymru wledig yn haeddu gwasanaethau bysiau cryf, dibynadwy, ond mae ein hardaloedd trefol eraill yn haeddu hynny hefyd. Yn hytrach, rydyn ni'n credu mai'r ffordd orau ymlaen yw cryfhau'r mecanweithiau sy'n cadw arbenigedd lleol wrth wraidd dylunio rhwydweithiau a sicrhau nad yw gweithredwyr bach a chanolig, gan gynnwys y rhai sy'n cynnal llawer o'n llwybrau gwledig, yn cael eu heithrio gan rwystrau diangen wrth gynnig am gontractau. Dyma sut rydyn ni'n sicrhau tegwch, nid trwy roi un set o gymunedau o flaen un arall.
Rwy'n croesawu gwelliannau 7, 8 a 9 gan y Llywodraeth a byddaf yn cefnogi'r rheini. Byddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliant Lee Waters hefyd, ond byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn gwelliant 19. Gyda'i gilydd, mae'r pecyn hwn yn cynrychioli camau tuag at rwydwaith tecach, mwy hygyrch a chydlynol i Gymru, un sy'n adlewyrchu anghenion cymunedau sydd wedi cael eu gwasanaethu'n wael am lawer rhy hir. Diolch yn fawr.
Mae'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio yn adlewyrchu'r Papur Gwyn y gwnes i ei gyflwyno fwy na thair blynedd a hanner yn ôl i ailgynllunio'r system fysiau yng Nghymru. Cododd nifer o Aelodau o bob rhan o'r Siambr yr angen i ymdrin â thagfeydd a darparu seilwaith yng Nghyfnod 1, ac er nad wyf yn aelod o'r pwyllgor, fe wyliais gyda diddordeb y dadleuon yng Nghyfnod 2 lle y cafodd gwelliannau eu cyflwyno. Rwy'n ddiolchgar iawn am gydweithrediad y Gweinidog a'i swyddogion i gytuno ar fy ngwelliant 28 yng Nghyfnod 3, ac i Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr am gytuno i gefnogi'r gwelliant. Bydd yn ychwanegu amcan newydd yn adran 4 o'r Bil i weithio tuag at ddileu neu leihau rhwystrau sy'n datgymell defnyddio gwasanaethau bysiau lleol, a bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion adrodd ar gynnydd tuag at yr amcan hwn.
Llywydd, mae hwn yn ddarn difrifol o ddeddfwriaeth, ac un o'r rhesymau pam mae hi wedi cymryd mor hir iddi ddod allan o Barc Cathays yw ei bod yn gwneud llawer mwy na llawer o'r ddeddfwriaeth rydyn ni'n ei phasio yn y Senedd hon. Nid dim ond trosglwyddo dyletswyddau i eraill neu ofyn i adroddiadau blynyddol gael eu cyhoeddi y mae Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn ei wneud; bydd yn ail-lunio'r system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae'n ymyrryd i ail-reoleiddio'r farchnad rydd mewn gwasanaethau bysiau a gyflwynwyd mor drychinebus gan Lywodraeth Thatcher yn yr 1980au. A gadewch i ni fod yn glir iawn, mae angen y Bil hwn oherwydd bod preifateiddio wedi methu; ni wnaeth hynny ymestyn dewis cwsmeriaid na gwella gwasanaethau, fe wnaeth y gwrthwyneb—fe wnaeth ynysu cymunedau, methu â buddsoddi yn ei weithlu a gwthio pobl oddi ar drafnidiaeth gyhoeddus a chreu tagfeydd ar ein ffyrdd. Fe fethodd.
Mae'r Bil hwn yn cynrychioli newid system, ac mae'n un o'r darnau mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth rydyn ni wedi'i phasio ers i ni gael pwerau deddfu yn refferendwm 2011. O'r diwedd, mae'n rhoi mewn cyfraith ffordd o gyflawni'r hyn rydyn ni wedi sôn amdano yn y Siambr hon ers 26 mlynedd: system drafnidiaeth integredig. Bydd y Bil hwn yn darparu system reoledig lle y gall amserlenni bysiau a threnau gael eu dylunio ochr yn ochr â'i gilydd. Bydd rhwydwaith o lwybrau bysiau yn cael eu cynllunio o'r dechrau, yn seiliedig ar anghenion teithwyr, nid lle y gall cwmnïau preifat wneud yr elw mwyaf. Mae'r Bil hwn yn troi ei gefn ar ddull sydd wedi gweld cymunedau yn cael eu hynysu wrth i wasanaethau gael eu dileu, heb fod unrhyw ddewis arall ar gael ar ôl i'r cwmnïau diweddaraf gael eu cymryd drosodd. Mae'r broses o gyfuno'r farchnad, fel y'i gelwir, wedi bod yn ymwneud â phris cyfranddaliadau yn y byrdymor, gan grebachu'r farchnad yn y tymor hir. Mae'r economeg marchnad rydd fyopig hon wedi methu.
Yn hytrach, rydyn ni'n creu un system syml sy'n hawdd ei deall a'i defnyddio, system lle mae bysiau yn cael eu cynllunio i gysylltu â gwasanaethau eraill, gan ddefnyddio un tocyn a gweithredwr a fydd yn atebol am ei berfformiad. Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn. Mae'n welliant mawr ar y Bil bysiau yr oedden ni'n gweithio arno yn y Senedd ddiwethaf ac yn well na'r model presennol yn Lloegr a'r Alban, sy'n parhau i fod yn lletchwith ac yn gymhleth. Mae hwn yn Fil y gall y Senedd fod yn falch ohono, yn fy marn i, ac rwy'n falch bod gwaith craffu yn ei gryfhau.
Yng Nghyfnod 1, tynnodd nifer ohonon ni sylw at y ffaith mai un o'r rhwystrau mawr i gynyddu'r defnydd a wneir o fysiau yw sicrhau bod gwasanaethau yn ddibynadwy. Os yw pobl eisiau cyfnewid cyfleustra'r car, mae angen trafnidiaeth gyhoeddus arnon ni sy'n caniatáu i ni droi i fyny a mynd. Mae angen i fysiau a threnau fod yn gyflym ac yn hawdd i'w defnyddio. Mae gweithredwyr bysiau yn glir iawn mai'r prif rwystr i gynyddu nifer y teithwyr yw dibynadwyedd amser teithio, a'r rhwystr mwyaf i hynny yw tagfeydd. Mae rhoi blaenoriaeth i fysiau mewn mannau cyfyng i gyflymu amseroedd teithio a chynyddu nifer y teithwyr wedi'i brofi ledled y byd. Os ydych chi'n eistedd yn eich car mewn traffig, ac yn gweld bws yn chwipio heibio ac mae'n cyrraedd eich cyrchfan o'ch blaen, mae cymhelliant clir i wneud dewis gwahanol.
Y ffordd y gallwn ni fforddio darparu gwasanaethau ychwanegol yw trwy gynyddu nifer y defnyddwyr. Hyd yn hyn, mae cynghorau wedi bod yn amharod i osod lonydd bysiau a goleuadau traffig sy'n blaenoriaethu bysiau dros geir, ac mae angen i hynny newid. Pan fydd cynghorau a Llywodraeth Cymru drwy Trafnidiaeth Cymru yn llofnodi masnachfraint ac yn cytuno ar set o lwybrau, mae angen iddyn nhw hefyd gynllunio sut i gael y bysiau i symud drwy'r tagfeydd hynny yn gyflym. Mae angen llif o gynlluniau arnyn nhw. A phartneriaeth ydyw. Mae cynghorau yn awyddus i beidio â cholli rheolaeth trwy greu cyd-bwyllgorau corfforedig. Digon teg. Ond mae'n gweithio'r ddwy ffordd. Mae sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddiant yn gofyn bod cynghorau, fel awdurdodau priffyrdd, yn chwarae eu rhan wrth baru'r seilwaith â'r gwasanaethau, a bydd angen i Lywodraeth Cymru sefyll y tu ôl i hynny gyda buddsoddiad.
Os yw Trysorlys Cymru yn poeni am ymgymryd â rhwymedigaethau rhwydwaith bysiau, yna mae angen iddyn nhw gefnogi creu cymhellion i ddefnyddio'r rhwydwaith yn fwy. Wedi'r cyfan, nid problem i'r cwmnïau bysiau fydd bws gwag sy'n sownd mewn traffig ac sy'n colli arian tocynnau mwyach, ein problem ni fydd hi. Felly, bydd gwneud yn siŵr bod y bysiau hynny'n gyflym ac yn ddibynadwy yn cymell mwy o bobl i'w defnyddio, a dyna'r ffordd o ymdrin â'r risg refeniw. Felly, unwaith y cânt eu diwygio, bydd amcanion y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion weithio tuag at ddileu neu leihau rhwystrau sy'n datgymell defnyddio gwasanaethau bysiau lleol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gallu ymrwymo i fesurau polisi a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth ddatblygu llif o gynlluniau sy'n dilyn arfer gorau rhyngwladol i gefnogi bwriad y gwelliant. Felly, rwy'n siarad o blaid gwelliant 28. Diolch.
Hoffwn i siarad o blaid gwelliannau 7, 8, 9 a 28 yn arbennig, oherwydd mae pobl yn aml yn gofyn i ni, on'd yw nhw, 'Beth mae'r Senedd yn ei wneud i mi?'. Dyma un o'r Biliau hynny sy'n gallu darparu manteision gwirioneddol, gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Er fy mod i'n cytuno â phwynt Lee Waters o ran sut rydyn ni'n sicrhau ein bod ni'n cymell pobl i gyfnewid cyfleustra'r car, mae'r Bil hwn yn bwysig iawn i'r rhai lle mai bws yw'r unig ddewis, sef cymaint o bobl yn ein cymunedau ni ledled Cymru. I lawer o'n hetholwyr, rwy'n gwybod mai dim ond breuddwyd yw fod yn berchen ar gar, oherwydd fydden nhw byth yn gallu fforddio car, mai cael bws dibynadwy yw eu hunig ffordd o gael mynediad at gyfleoedd gwaith, o allu mynd i apwyntiad yn yr ysbyty neu'r feddygfa, ac yn benodol nawr o ran addysg, gyda'r newidiadau rydyn ni wedi'u gweld gan rai awdurdodau lleol o ran y bysiau sy'n cael eu cynnig ar gyfer cludiant i'r ysgol. Felly, rwy'n falch iawn bod teithio gan ddysgwyr yn cael ei gydnabod yn y Bil hwn nawr; mae'n bwysig iawn. A dyna pam rwyf hefyd yn croesawu'r cyfeiriad yn benodol at addysg, hyfforddiant, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau gofal cymdeithasol. Oherwydd, ar hyn o bryd, dydy pobl ddim yn mynd i apwyntiadau meddygol hanfodol oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu eu cyrraedd nhw, neu maen nhw'n ceisio eu cyrraedd nhw ac maen nhw'n hwyr ac yna maen nhw'n cael eu cosbi ac yna maen nhw'n colli eu lle ar y rhestr honno o ran gallu cael mynediad at wasanaethau.
O ran cludiant i'r ysgol, er fy mod i'n croesawu'r ffaith bod yna gyfeiriad at addysg yn y fan yma, mae cyfle o hyd, wrth gwrs, i gryfhau o ran Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn benodol. Oherwydd mae nifer o rieni wedi dweud wrthyf, hyd yn oed pan mae bysiau ar gael, ac y gallan nhw dalu, £1 y daith ar hyn o bryd, mae'n dal i fod yn fater nad yw llawer o blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn y blaen yn teimlo'n hyderus i fod ar fws cyhoeddus, felly rwy'n credu bod y Bil hwn yn ymdrin â rhai pethau, ond mae angen iddo sicrhau ein bod ni'n ystyried y Mesur teithio gan ddysgwyr.
Fel y dywedais i, mae ganddo'r potensial o fod yn wirioneddol drawsnewidiol, o leihau rhwystrau, o'i gwneud hi'n hawdd i bobl gael mynediad at wasanaethau. Felly, rwyf wir yn gobeithio y gallwn ni sicrhau, wrth i hyn fynd rhagddo, ein bod ni'n gweld y cryfhau hwnnw, ein bod ni'n gweld cysylltu'r dotiau, a byddwn i'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ei ymateb heddiw, yn rhoi'r sicrwydd y mae rhieni a disgyblion yn ei geisio o ran ble mae teithio gan ddysgwyr yn benodol yn sefyll o fewn y Bil hwn a pha newidiadau y gallan nhw ddisgwyl y bydd y Bil hwn yn eu cyflawni iddyn nhw.
Ysgrifennydd y Cabinet nawr—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau fy nghyfraniad i'r trafodion heddiw drwy ddiolch i Sam, Peredur, Rhys a Lee am eu hystyriaeth ofalus o'r Bil ac am gyflwyno gwelliannau? Rwyf wedi bod yn falch iawn, ac yn wir yn ddiolchgar iawn, o lefel y diddordeb a'r gefnogaeth yr ydym wedi'i derbyn, yn y Senedd a chan ein rhanddeiliaid ynghylch y bwriad y tu ôl i'r Bil, sef gwella'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu darparu ledled Cymru. Heddiw, byddwn yn clywed rhywfaint o anghytuno, ond rwy'n credu ein bod wedi cyflawni consensws mewn llawer iawn o feysydd, trwy gydweithio a chydweithredu.
Fe ddechreuaf gyda gwelliant 18. Rwy'n cydymdeimlo—rwy'n siŵr bod pawb yn cydymdeimlo—â'r bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwn, ond byddwn yn annog yr Aelodau i beidio â'i dderbyn. Rwy'n sensitif i'r ffaith bod pobl wedi dioddef oherwydd y gostyngiad yn nifer y gwasanaethau o dan y system wedi'i dadreoleiddio mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, ond mae hefyd yn wir yn rhai o'r ardaloedd lled-drefol mwyaf agored i niwed ac, yn wir, ardaloedd trefol yng Nghymru. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn briodol nac yn ddymunol gwahaniaethu yn y cyd-destun hwn, oherwydd bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r amcanion o dan adran 4 wrth arfer eu holl swyddogaethau o dan y ddeddfwriaeth. Fel y soniodd y Cwnsler Cyffredinol yn flaenorol yng Nghyfnod 2, bydd cydgysylltu'r rhwydwaith mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol, ochr yn ochr â'n bwriad i ddefnyddio gwasanaethau hyblyg a defnyddio gwasanaethau galw a theithio, yn arwain at ddarparu gwasanaethau a fydd yn sicrhau cymaint o fuddion â phosibl i gymunedau gwledig.
Mae'r Llywodraeth, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r angen i wella gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig, a dyna pam rydyn ni wedi cefnogi trafnidiaeth gymunedol ac wedi cyflwyno gwasanaethau hyblyg. Bydd y ddyletswydd i roi sylw i wella dibynadwyedd, diogelwch, fforddiadwyedd a hygyrchedd gwasanaethau bysiau yn barhaus yn cynorthwyo ymdrechion parhaus i ddarparu mwy o fynediad i wasanaethau bysiau i ardaloedd gwledig.
O ran gwelliant 19, ni allaf gefnogi mewnosod yr amcan ychwanegol hwn yn y Bil oherwydd byddem yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Bil i roi sylw i hybu a gwneud gwelliannau mewn perthynas â materion y mae awdurdodau lleol yn gyfrifol amdanynt. Gallaf ddeall y demtasiwn i gynnwys cyfeiriad at seilwaith mewn perthynas â gwella hygyrchedd, ond nid wyf yn credu bod y gwelliant hwn yn briodol. Bydd awdurdodau lleol yn cadw cyfrifoldebau am seilwaith bysiau. Dyma un o'r prif resymau pam mae'r Bil yn gofyn am gydweithrediad agos rhwng Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol wrth ddatblygu'r cynllun rhwydwaith. Ond rwy'n credu bod Sam wedi codi materion perthnasol o ran sut y gallwn ni sicrhau gweithio cydgysylltiedig â chynghorau ar wella seilwaith gwasanaethau bysiau, gan gynnwys ystyried sut y gellid defnyddio mesurau i roi blaenoriaeth i fysiau orau i gefnogi ein nodau o dan y Bil.
Mae'r Llywodraeth yn rhannu pryderon Sam, ac rwy'n credu bod pawb yn eu rhannu. Dyna pam mae'r Llywodraeth wedi lansio ei pholisi 'Teithio i bawb' ac yn annog Trafnidiaeth Cymru i weithio'n agosach gyda'i phanel mynediad a chynhwysiant. Bydd y polisi hwn a'r ffordd hon o weithio yn cynorthwyo awdurdodau lleol yn eu hymgysylltiad â chymunedau i lywio'r cynllun rhwydwaith a helpu i wella seilwaith hygyrchedd drwy weithio'n rhanbarthol a thrwy gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a dyna pam yr wyf yn awyddus i gefnogi gwelliant 28. Pe bai'n cael ei basio, byddai'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i'r pethau y gallant eu gwneud wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Bil i ddileu neu leihau datgymhellion i ddefnyddio gwasanaethau bysiau. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol ar ddatblygu'r cynllun rhwydwaith. Bydd hyn yn helpu i hwyluso trafodaethau pwysig ynghylch disgwyliadau ar awdurdodau lleol i gyflawni mewn partneriaeth â Gweinidogion Cymru wrth gyflawni ar gyfer pobl yn eu cymunedau.
Rydym yn bwriadu cefnogi hyn drwy gyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i ddarparu arweiniad i awdurdodau lleol ar y buddsoddiadau blaenoriaeth sydd angen eu gwneud ym mhob rhanbarth o Gymru i hwyluso'r cynllun rhwydwaith. Byddaf hefyd yn ysgrifennu at awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig i nodi pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith bysiau ac i gryfhau arweiniad yn y dyfodol ar y gronfa drafnidiaeth ranbarthol newydd mewn perthynas â chyflawni mesurau blaenoriaeth sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo defnyddio bysiau. Rydym am weithio gydag awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig i ddatblygu rhaglenni ar gyfer cyflawni gwaith seilwaith i fynd i'r afael â mannau lle ceir problemau traffig a thagfeydd. Rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn rheolaidd, yn ddibynadwy ac yn ddiogel i ddenu mwy o deithwyr. Bydd gwelliant 28 yn helpu i gyflawni hyn.
O ran gwelliannau'r Llywodraeth, gwnaethom ymrwymiad yng Nghyfnod 2 i ystyried sut y gallem ymgorffori amcan ychwanegol i adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol. Mewn trafodaeth gyda Sam a Peredur, rydym wedi datblygu gwelliant 7, sy'n cyfeirio at hwyluso mynediad gan deithwyr i fannau lle y darperir addysg, hyfforddiant, iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau, wrth gyflawni eu holl swyddogaethau, gan gynnwys dylunio ac adolygu'r cynllun rhwydwaith a rhannu data, y bydd yn rhaid i Weinidogion roi sylw i'r amcan o hwyluso mynediad i deithwyr i'r mannau hynny.
Bydd gwelliant 7 yn ei gwneud yn haws i Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd drwy gynllunio rhwydwaith i wella a sicrhau'r budd mwyaf o gyfraniad y rhwydwaith bysiau lleol at gludiant ysgolion, gan alluogi mwy o ddisgyblion i gael mynediad at addysg a hyfforddiant yn effeithlon ac yn effeithiol, er budd cyllid cyhoeddus a theuluoedd. Mae gwelliant 8 yn rhoi y tu hwnt i amheuaeth bod mynediad at addysg uwch wedi'i gynnwys yn yr amcan hwn. Mae angen hyn gan fod rhai diffiniadau statudol presennol o addysg yn eithrio addysg uwch yn benodol.
Mae gwelliant 9 yn diffinio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol at ddibenion yr amcan. Rwy'n fodlon y bydd gwelliannau 7 i 9 a 28, o'u hychwanegu at y rhestr o amcanion presennol, yn sicrhau bod yr holl faterion allweddol yn cael eu cynnwys er mwyn sicrhau bod nodau diwygio bysiau yn cael eu cyflawni. Hoffwn ddiolch, unwaith eto, i aelodau'r pwyllgor—yn enwedig Peredur, Lee a Sam—am eu cyfraniadau, a byddwn yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio o blaid gwelliannau 7, 8, 9 a 28.
Sam Rowlands nawr.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu cyfraniadau ar yr eitemau yng ngrŵp 1. Rwy'n amlwg yn siomedig o glywed nad yw'n ymddangos bod cefnogaeth i'r gwelliannau rydw i wedi'u gosod, yn enwedig ynghylch anghenion ein cymunedau gwledig. [Torri ar draws.] Er fy mod yn clywed geiriau Aelodau ar draws y Siambr, rwy'n credu bod perygl yma o golli cyfle i ddiwallu anghenion ein cymunedau gwledig trwy ddeddfwriaeth. Disgrifiodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eiddgar y gwaith da sy'n digwydd eisoes yn yr ardaloedd gwledig hynny, sydd, yn fy marn i, yn beth cadarnhaol. Felly, nid wyf yn gweld pam na ellir cyflawni gwelliant 18 drwy'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond byddai'n sicr yn ymrwymo Llywodraethau'r dyfodol i barhau â'r gwaith da hwnnw i'n cymunedau gwledig.
Clywais, gyda diddordeb, y sylwadau gan Lee Waters ynglŷn â'i welliant ef, ac rydym yn sicr, fel y dywedais i wrth agor, yn cefnogi ei welliant 28. Mae'n debyg fy mod i'n fwy amheus; ymddengys ei fod yn disgrifio llawer o'r Bil fel un ateb ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n dal i gredu bod newidiadau sylweddol a ddylai ddigwydd, gan gynnwys y gwelliannau y mae ein grŵp ni wedi'u gosod yma heddiw, i gyflawni'r gwelliannau hynny. Felly, rwy'n ddiolchgar am gyfraniadau yn y grŵp hwnnw, Llywydd, ac rwy'n gyfforddus i symud i'r bleidlais.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 18. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 10 yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 18 wedi'i wrthod.
Gwelliant 18: O blaid: 13, Yn erbyn: 23, Ymatal: 10
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 7. Yn cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 7 (Ken Skates).
Ydy, wedi cael ei symud. Os gwrthodir gwelliant 7, bydd gwelliannau 8 a 9 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na. Gwelliant 7, felly, wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 19 (Sam Rowlands).
Cynnig, ydy.
Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 19. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 19 wedi'i wrthod.
Gwelliant 19: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 28. Yn cael ei symud, Lee Waters?
Cynigiwyd gwelliant 28 (Lee Waters).
Symud.
Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? Unrhyw wrthwynebiad? Na. Mae gwelliant 28 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 8 sydd nesaf. Yn cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 8 (Ken Skates).
Cynnig.
Ydy. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 8? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Ken Skates).
Cynnig.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 9? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 2. Y grŵp yma yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud â dyletswyddau craidd Gweinidogion Cymru. Gwelliant 20 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a Sam Rowlands sy'n cynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 20 (Sam Rowlands).
Diolch, Llywydd. Teitl Grŵp 2 yw 'Dyletswyddau craidd Gweinidogion Cymru', ac os yw'r Bil hwn am ddarparu system fysiau wirioneddol atebol ac effeithiol i Gymru, yna rhaid i'r dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru fod yn gadarn, yn dryloyw ac wedi'u cefnogi gan brosesau clir.
Ar hyn o bryd, mae gormod o'r Bil yn gadael penderfyniadau allweddol i ddisgresiwn gweinidogol heb ddigon o graffu, eglurder na mesurau diogelu. Mae'r gwelliannau yr wyf i wedi'u cyflwyno yn y grŵp hwn wedi'u cynllunio i gryfhau goruchwyliaeth, gwella tryloywder ariannol a sicrhau bod unrhyw ymyrraeth gan Weinidogion yn gymesur, yn gyfiawn ac yn cael ei chyfathrebu'n briodol i'r Senedd hon. Cyflwynais welliannau tebyg yng Nghyfnod 2 ac rwyf wedi dod â nhw yn ôl yng Nghyfnod 3 ar ôl gwrando'n ofalus ar sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol yn ystod y ddadl honno.
Mae prif welliant 20 yn cyflwyno chweched dyletswydd graidd ar Weinidogion Cymru drwy ei gwneud yn ofynnol iddynt osod datganiad gerbron y Senedd o fewn 12 mis i'r Cydsyniad Brenhinol, yn nodi eu paratoadau ar gyfer dod â darpariaethau gwasanaethau bysiau lleol dynodedig i rym. Mae hyn i gyd yn ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd. Os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â diwygio'r rhwydwaith bysiau, rydym yn haeddu amserlen glir, mae angen tystiolaeth o gynnydd a sicrwydd na fydd gweithredu yn llithro. Efallai y byddwch chi'n dweud y bydd hyn yn cael ei wneud beth bynnag, ac, os yw hyn yn wir, yna ni ddylai Llywodraeth Cymru gael unrhyw broblemau yn rhoi hyn ar wyneb y Bil. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod y Senedd yn gallu craffu ar gyflawniad o'r cychwyn cyntaf.
Mae gwelliant 23 yn tynhau'r amgylchiadau lle gall Gweinidogion Cymru ddarparu gwasanaeth bysiau lleol yn uniongyrchol, yn hytrach nag ymrwymo i gontract o dan adran 9. Mae'n ei gwneud yn glir mai dim ond pan fydd contract presennol wedi'i derfynu, ei ddirymu neu ei atal y dylid caniatáu darpariaeth uniongyrchol. Mae hyn yn atal ymyrraeth ddiangen neu gynamserol, yn diogelu cystadleuaeth deg ac yn sicrhau nad yw gweithredwyr yn cael eu tanseilio gan Weinidogion sy'n camu i mewn heb gyfiawnhad clir. Mae'n gosod ffiniau synhwyrol sy'n cefnogi sefydlogrwydd yn y rhwydwaith, ac fe wnes i gyflwyno gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2, ond rwyf wedi ceisio mynd i'r afael â phryderon a fynegodd y Cwnsler Cyffredinol. Felly, bydd y gwelliant hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu gwasanaeth bysiau lleol yn uniongyrchol lle nad oes unrhyw ffordd arall o sicrhau'r gwasanaethau hynny.
Mae gwelliannau 25 a 27 yn mewnosod adran newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad yn rhoi manylion eu gwariant arfaethedig ar ymdrechion i sicrhau gwasanaethau bysiau lleol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer bod yn agored yn ariannol. Mae gan y cyhoedd hawl i wybod faint o arian sy'n cael ei wario, ble mae'n mynd a pha ganlyniadau y bwriedir eu cyflawni. Bydd cynlluniau ariannol clir hefyd yn helpu awdurdodau lleol a gweithredwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, yn annog cydgysylltiad gwell ledled Cymru, ac yn lleihau'r risg o wariant gwastraffus neu ddyblyg.
Mae gwelliant 26 yn sicrhau, cyn i awdurdod lleol ddarparu cymorth ariannol mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth bws lleol, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru a'r awdurdod lleol perthnasol ddod i gytundeb ynghylch sut y bydd y cymorth ariannol hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Mae llawer o awdurdodau lleol, gweithredwyr a rhanddeiliaid wedi mynegi pryder am dryloywder ac atebolrwydd o ran sut mae cyllid cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gwasanaethau bysiau lleol hynny. Rwy'n credu ei bod yn egwyddor y byddem i gyd eisiau cytuno arni bod trethi a godir yn lleol gan awdurdodau lleol yn cael eu gwario'n lleol ar gefnogi cymunedau lleol. Mae adroddiad y pwyllgor yng Nghyfnod 1 yn pwysleisio pwysigrwydd rolau, cyfrifoldebau a goruchwyliaeth ariannol clir drwy'r system fysiau ddiwygiedig, ac rwy'n credu bod gwelliant 26 yn rhoi sicrwydd i'r cynghorau hynny y bydd unrhyw arian y maent yn ei ddarparu tuag at hyn yn cael ei wario'n lleol. Diolch yn fawr iawn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Dechreuaf gyda gwelliant 20, a wrthodwyd gennym yng Nghyfnod 2 oherwydd goblygiadau amseru gorfod gwneud datganiad mor fuan ar ôl yr etholiad y flwyddyn nesaf. Gan fod y gwelliant wedi'i newid i fynnu bod y datganiad yn cael ei ddarparu o fewn 12 mis i'r Cydsyniad Brenhinol, rwy'n fodlon ei dderbyn ar y sail y bydd yn helpu i roi rhywfaint o sicrwydd drwy ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried eu paratoadau i gyflwyno diwygiadau i fysiau. Bydd y datganiad sy'n canolbwyntio ar allu Gweinidogion Cymru a Trafnidiaeth Cymru i sicrhau gwasanaethau o dan adran 5(1)(c) a'r ffyrdd y mae'r capasiti hwnnw wedi'i gryfhau yn ystod y cyfnod o 12 mis hefyd yn helpu i roi sicrwydd i Aelodau o'r Senedd a rhanddeiliaid allweddol o'r cynnydd tuag at weithredu'r model masnachfraint newydd. Os bydd yr Aelodau yn cytuno i welliant 20, mae potensial i gynnwys yn y datganiad hwnnw ddiweddariad ar wariant sy'n ymwneud â chynnydd tuag at weithredu, yr wyf yn gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o gysur pan ddaw at welliant 25. Mae gwelliant 27 yn ddibynnol ar welliant 20, felly rwy'n annog yr Aelodau i dderbyn hwn hefyd.
O ran gwelliant 23, rwy'n cydnabod bod newid wedi'i wneud i'r gwelliant ers iddo gael ei drafod yng Nghyfnod 2, ond byddaf yn esbonio pam fy mod yn dal i fod â phroblem ag ef. Fel gyda'r fersiwn flaenorol o'r gwelliant, gallai mewnosod hyn yn y Bil gyfyngu ar allu Gweinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol yn uniongyrchol mewn amgylchiadau nad ydynt yn berthnasol i'r categorïau o fewn y gwelliant.
Ymddengys fod rhai anghysondebau rhwng y ddwy gangen gyntaf a'r drydedd gangen o'r prawf arfaethedig a nodir yn y gwelliant hefyd. Er enghraifft, o dan yr hyn a fyddai'n baragraff newydd (c), pe bai'r unig gynnig a dderbynnir yn werth gwael am arian, gallai'r gwelliant hwn orfodi Gweinidogion Cymru i'w dderbyn, gan y byddai'n bosibl sicrhau'r gwasanaeth drwy gontract. Ni fyddai hynny'n effeithlon nac yn deg, a byddai'n tanseilio amcanion y Bil.
Ar y llaw arall, nid yw'r newidiadau a wnaed trwy'r gwelliant yn dileu'r posibilrwydd y byddai Llywodraeth yn y dyfodol ond yn aros tan ddiwedd contractau neu'n terfynu contractau er mwyn dibynnu ar y ddarpariaeth i ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol. Pe bai cynnig yn cael ei wneud ar ôl i'r contract cyntaf ddod i ben, o dan baragraff (a) o'r gwelliant, ni fyddai'n rhaid i Weinidogion Cymru ei dderbyn a gallent ddarparu'r gwasanaeth yn uniongyrchol hyd yn oed os yw'r cynnig yn cynnig gwerth gwych am arian.
Byddai'r drafftio sydd gennym ar hyn o bryd yn adran 17 yn atal sefyllfaoedd o'r fath rhag codi. Gallai dileu'r ddarpariaeth hon a'i disodli gyda'r gwelliant a gyflwynwyd gymryd diogelwch yr amod 'mwy effeithiol' i ffwrdd, a gallai gael y canlyniad andwyol anfwriadol o danseilio amcanion y Bil.
Rwy'n hyderus y bydd trefniadau cadarn ar gyfer darparu gwasanaethau uniongyrchol ar waith ymhell cyn i'r cam cyntaf o fasnachfreinio ddechrau. Mae'r paratoadau eisoes yn mynd rhagddynt, gyda chynllun busnes cynhwysfawr yn cael ei ddatblygu, ac mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer sefydlu is-gwmni pwrpasol y flwyddyn nesaf. Mae'r gwaith ar ofynion fflyd a depo yn mynd rhagddo'n gyflym, wedi'i lunio gan gydweithrediad agos ag awdurdodau lleol a phartneriaid diwydiant.
Yn olaf, byddaf yn troi at welliannau 25 a 26. Mae 25 yn cynnig datganiad untro gan Weinidogion Cymru yn ymwneud â'u gwariant arfaethedig ar gyfer sicrhau gwasanaethau bysiau lleol a'u polisi mewn perthynas ag unrhyw gymorth ariannol gan awdurdodau lleol. Er y gallaf dderbyn yr awydd i gael datganiad ar y paratoadau i'w cyflwyno, fel y cytunwyd yng ngwelliant 20, mae yna ddulliau mwy priodol ar gyfer craffu a thrafod cynlluniau gwariant. Rwy'n hyderus mai'r mecanweithiau cyllidebol presennol ar gyfer craffu ar wariant arfaethedig Llywodraeth Cymru ar wasanaethau bysiau lleol yw'r mwyaf priodol.
Bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y gwariant arfaethedig ar wasanaethau bysiau lleol, fel sy'n digwydd o dan y system bresennol drwy broses y gyllideb. Mae hyn eisoes yn destun craffu gan bwyllgorau a'r Senedd. Fel y dywedais i wrth ymateb ar welliant 20, os cytunir ar hynny, gallwn gynnwys diweddariad ar wariant yn y datganiad hwnnw o bosibl. Rwy'n cytuno â chasgliad y Cwnsler Cyffredinol ar y gwelliant hwn yng Nghyfnod 2 bod cyhoeddi gwybodaeth ariannol sy'n ymwneud â buddsoddiad awdurdodau lleol yn y rhwydwaith bysiau, yn wir, yn fater i awdurdodau lleol. Mater iddyn nhw yw cyhoeddi gwybodaeth am eu cynlluniau gwario, yn hytrach na Gweinidogion Cymru.
O ran gwelliant 26, rydym eisoes wedi rhoi ymrwymiad clir i awdurdodau lleol ac i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y bydd unrhyw gyllid ychwanegol a ddarperir gan awdurdodau lleol yn cael ei wario yn eu hardal eu hunain. Byddai'r gwelliant hwn yn gyfystyr â gofyniad statudol i gytuno ar sut mae awdurdodau lleol yn gwario eu cyllid, nad yw'n briodol. Mae hefyd yn ddiangen, gan fod awdurdodau lleol yn annhebygol iawn o ariannu gwasanaethau bysiau lleol heb nodi sut maen nhw'n bwriadu gwario eu buddsoddiad.
Ein dull ni, Llywydd, yw un o gydweithio. Byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol i nodi eu blaenoriaethau a sicrhau eu bod yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau. Mae adran 35 o'r Bil wedi'i chynllunio i gadw, cyn belled ag y bo modd, y sefyllfa bresennol ar bwerau awdurdodau lleol i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol. Nid yw'r pŵer presennol i awdurdodau lleol ddarparu cymorth ariannol at ddibenion sicrhau darpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus—hynny yw, adran 63(5) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985—na fydd ar gael mwyach mewn perthynas â gwasanaethau bysiau lleol, yn gwneud darparu cymorth yn ddibynnol ar gytundebau gyda phersonau eraill, megis Gweinidogion Cymru. Diolch.
A yw Sam Rowlands yn moyn ymateb? Sam Rowlands.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymateb i'r gwelliannau fel yr amlinellir yng ngrŵp 2. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth i welliant 20, ac felly 25 hefyd. Rwy'n credu y byddant yn helpu i gryfhau'r Bil hwn. [Torri ar draws.] Gwelliant 27, diolch yn fawr iawn—20 a 27.
Rwyf wedi nodi'r sylwadau ar welliant 25 a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, y gellid cynnwys bwriad gwelliant 25 yn yr hyn a amlinellir yng ngwelliant 20. Rwy'n dal i feddwl, serch hynny, bod rhywfaint o gryfder mewn cynnwys gwelliant 25 fel cynnig, felly byddwn yn cynnig hynny beth bynnag.
Gwelliant 23, rwy'n sicr yn cydnabod rhai o'r risgiau o ganlyniadau anfwriadol y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u hamlinellu, felly mae'n debyg y byddaf yn tynnu'r gwelliant hwnnw yn ôl pan ddaw i'r cyfle i wneud hynny, Llywydd.
Yn olaf, o ran gwelliant 26, nid wyf yn derbyn safbwynt yr Ysgrifennydd Cabinet ar hyn. Mae wedi amlinellu'n briodol bod ymrwymiadau wedi'u rhoi i'r awdurdodau lleol hynny. Os yw'r ymrwymiadau hynny wedi'u rhoi i'r awdurdodau lleol hynny, nid wyf yn gweld niwed rhoi hynny ar wyneb y Bil i bwysleisio'r ymrwymiad hwnnw. Felly, byddwn yn parhau i geisio cefnogaeth yr Aelodau i welliant 26 hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 20 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 3 o welliannau yw'r grŵp sy'n ymwneud â chynllun rhwydwaith bysiau Cymru. Gwelliant 29 yw'r prif welliant y tro yma, a Peredur Owen Griffiths sy'n cynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 29 (Peredur Owen Griffiths).
Dwi'n cynnig y gwelliant hwnnw. Diolch, Llywydd.
Wrth ystyried datblygu'r cynllun rhwydwaith bysiau cenedlaethol, mae'n gwbl hanfodol bod lleisiau pobl anabl yn cael eu hymgorffori ym mhob cam o'r broses. Nid yw hygyrchedd yn ychwanegyn dewisol neu'n rhywbeth braf i'w gael. Mae'n sylfaenol i annibyniaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol gwirioneddol. Mae'r Bil hwn yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ail-lunio gwasanaethau bysiau fel eu bod yn gwasanaethu pawb yng Nghymru, ac ni ellir ond cyflawni hynny os yw safbwyntiau pobl anabl yn rhan greiddiol o greu ac adolygu'r cynllun rhwydwaith.
Mae dyletswyddau ymgysylltu clir yn helpu i ddileu amwysedd a lleihau'r risg o anghysondeb wrth gyflawni ledled Cymru. Maen nhw'n sicrhau nad yw hygyrchedd yn ddibynnol ar siawns neu i ddisgresiwn awdurdodau unigol, ond yn dod yn safon genedlaethol gyson. Mae hyn yn osgoi ôl-osod costus, yn atal heriau cyfreithiol yn y dyfodol, ac yn gwbl gyson gyda'n blaenoriaethau cenedlaethol ehangach, o gyflawni newid moddol i leihau allyriadau, i wireddu uchelgais un system drafnidiaeth gyhoeddus integredig. Mae gosod y disgwyliadau hyn yn gadarn o fewn y broses gynllunio yn rhoi sicrwydd i deithwyr anabl y bydd eu profiadau a'u hanghenion yn cael eu hystyried o'r cychwyn cyntaf, nid eu trin fel ôl-ystyriaeth.
Rydym ni hefyd yn croesawu'n gryf y cynnig y dylai awdurdodau lleol, wrth ddarparu eu barn ar ddiwygiadau i'r cynllun rhwydwaith, ystyried yn benodol anghenion pobl sy'n defnyddio, neu sy'n debygol o ddefnyddio, y gwasanaethau yr effeithir arnyn nhw, gyda sylw arbennig i hygyrchedd. Mae arbenigedd lleol yn hanfodol yma. Mae cynghorau yn deall realiti bywyd eu cymunedau, ble mae'r bylchau, ble mae'r rhwystrau hynny, a sut y gellir llunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion y rhai sy'n dibynnu arnyn nhw fwyaf, ac mae annog awdurdodau i fanteisio ar yr wybodaeth honno ac ymgynghori, lle bo hynny'n briodol, yn cryfhau uniondeb y broses gyfan. Am y rheswm hwnnw, fe hoffwn i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am sicrwydd yma bod lleisiau cymunedau, a phobl anabl yn arbennig, yn cael lle creiddiol drwy ddyletswyddau ar lefel genedlaethol ac arbenigedd ar lefel leol, ac mae hyn yn allweddol i greu system sy'n gweithio i bawb yng Nghymru. Diolch.
Yn gyntaf oll, fe hoffwn i roi ar y cofnod ein cefnogaeth i welliant 10, a gyflwynwyd ger ein bron ni yma heddiw, a diolch ar y cofnod hefyd i gyd-Aelodau ar draws y Siambr am weithio'n adeiladol i geisio cyflawni'r pethau mae arnom ni i gyd eisiau eu gweld o ran hygyrchedd i ddefnyddwyr bysiau.
Mae diben y gwelliant hwn yn syml, ond yn bwysig: mae'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â nhw ar unrhyw adolygiad arfaethedig i gynllun rhwydwaith bysiau Cymru, i ystyried anghenion pobl yn eu hardal sy'n defnyddio neu sy'n debygol o ddefnyddio'r gwasanaethau bysiau y bydd y diwygiad hwnnw yn effeithio arnynt. Rydym ni'n sôn yn aml am ymgynghori, ac mae angen i hyn fod yn ymgysylltu'n dilys â phobl yn ein cymunedau, i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau bws hynny'n gweithio iddyn nhw. Fel y mae Peredur eisoes wedi amlinellu, mae hyn yn cynnwys, yn hollbwysig, yr anghenion sy'n ymwneud â hygyrchedd. Fe wyddom ni pa mor hanfodol yw hynny i lawer o deithwyr, ac yn arbennig meddyliwch am y materion a godwyd gan sefydliadau fel y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer Pobl Ddall, sydd wedi nodi'n glir yr heriau sy'n wynebu pobl ddall a rhannol eu golwg fel un enghraifft o bobl y mae angen eu deall yn iawn ac ymgynghori â nhw ac ymgysylltu â nhw, o ran y cynlluniau rhwydwaith hyn.
Yn ogystal a hyn, mae'r gwelliant yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ystyried a oes angen ymgynghori pellach cyn gwneud unrhyw newidiadau, a dyna pam rydym ni'n croesawu'r gwelliant hwn. Yn y pen draw, mae'r gwelliant hwn yn cryfhau llais defnyddwyr bysiau ac yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau am y rhwydwaith yn adlewyrchu'n briodol anghenion y cymunedau sy'n dibynnu arno. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.
Diolch, Llywydd, a diolch i chi, Peredur, am welliannau 29 a 30 o'ch eiddo, ac rwy'n cymeradwyo'n ddiffuant yr egwyddor y tu ôl i'r gwelliannau hyn. Rwy'n deall yn llawn yr awydd i gynnwys grwpiau penodol ar wyneb y Bil i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed a'u hadlewyrchu yn y cynllun rhwydwaith. Fodd bynnag, mae pobl ag anableddau wedi'u cynnwys o dan adrannau 6(4)(e) ac 8(4)(e) mewn perthynas â staff cwmnïau gwasanaethau bysiau lleol, ac is-adran 6(4)(f) ac 8(4)(f) mewn perthynas â defnyddwyr bysiau a darpar ddefnyddwyr.
Un peth gwerth ei nodi yw'r anhawster a gyflwynir yng ngeiriad y gwelliannau. Nid yw'r darpariaethau yn cynnwys y geiriad
'y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol'.
Gan fod y geiriad hwn wedi'i gynnwys yn y paragraffau blaenorol, gellid dehongli'r gwelliannau fel rheidrwydd i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob person o'r fath, er enghraifft, pob elusen, pob grŵp pwyso, pob gofalwr person anabl. Credaf y byddai'r Aelodau yn cytuno, er bod hyn yn swnio'n reddfol gywir, gydag ystyriaeth briodol nid yw'n bosibl mewn perthynas â datblygu, neu mewn perthynas â diwygiadau i'r cynllun rhwydwaith yn y dyfodol.
Rwy'n credu bod polisi 'Teithio i bawb' y Llywodraeth ac ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i weithio gyda'r panel mynediad a chynhwysiant yn dangos bod y Llywodraeth hon yn gwbl o ddifri ynghylch y dyheadau sy'n sail i'r gwelliannau arfaethedig hyn. Mae'r polisi a'r sefydliadau cefnogi hefyd yn darparu'r offer i Lywodraeth y dyfodol barhau i weithio dros wasanaethau bysiau mwy hygyrch a'r modd i weithio gyda grwpiau cynrychioli.
Nawr, yn ystod Cyfnod 2, cytunwyd i weithio gyda'r Aelodau i ystyried sut y gallem ni gynnwys darpariaeth ar hygyrchedd a chynhwysiant drwy ymgysylltu â'r cyhoedd ar wyneb y Bil. Fe hoffwn i ddiolch i Peredur a Sam am eu mewnbwn amhrisiadwy ar hyn, ac rwy'n falch o gyflwyno gwelliant 10 o ganlyniad. Credaf fod gwelliant 10, ynghyd â'r rhestrau fel y maen nhw, yn cael effaith debyg iawn i'r bwriad sy'n sail i welliannau 29 a 30, gan ei fod wedi'i gynllunio i sicrhau bod y lleisiau cywir yn cael eu clywed ac yn rhan o ddatblygu ac adolygu'r cynllun rhwydwaith.
Mae'r gwelliant hwn yn adeiladu ar awydd i sicrhau bod llais y teithiwr, ac yn enwedig y rhai sy'n fwy agored i niwed neu sydd â gofynion amrywiol, wrth wraidd penderfyniadau a wneir ar y cynllun. Mae'r gwelliant yn ceisio rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddeall anghenion pobl yn eu hardaloedd, yn enwedig mewn perthynas â hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol, i gyfrannu at drafodaethau gyda Trafnidiaeth Cymru o ran diwygio'r cynllun rhwydwaith.
Rwy'n credu bod y gwelliant wedi'i ddrafftio i fod yn gymesur ac yn briodol mewn ymateb i'r math o ddiwygiad ac i hyd a lled hynny. Mae hefyd yn annog awdurdodau lleol i wrando ac i ystyried effaith bosibl diwygiadau ar bobl leol. Nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddeall eu cymunedau a'r materion hynod leol yn eu hardaloedd. Felly, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried anghenion pobl yn eu hardaloedd sy'n defnyddio gwasanaethau bysiau wrth gyfrannu at y cynllun rhwydwaith, ac fel rhan o hyn, bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pryd a pha mor aml y mae angen iddyn nhw ymgynghori.
Nawr, rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion a Trafnidiaeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu canllawiau i'w helpu i weithredu'r ddarpariaeth hon. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â rhwystrau ffisegol a rhwystrau eraill i hygyrchedd gwasanaethau bysiau a sicrhau bod dull cyfannol o ddarparu gwasanaethau bysiau yn cael ei ystyried wrth ddatblygu'r rhwydwaith, er enghraifft, trwy sicrhau nad yw diwygiadau yn atal gwasanaethau bysiau rhag bod yn gyson â phatrymau shifftiau gweithwyr.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod tua 250 o newidiadau yn cael eu gwneud i rwydweithiau bysiau lleol ledled Cymru bob blwyddyn ar hyn o bryd. Felly, mae'n bwysig i awdurdodau lleol gael yr hyblygrwydd i benderfynu pryd y byddai'n briodol ymgynghori â chymunedau. Er fy mod i'n bwriadu i awdurdodau lleol fod â rhan weithredol wrth ddeall anghenion pobl a llywio'r cynllun, fyddwn i ddim eisiau rhoi beichiau diangen arnyn nhw pan fydd adnoddau yn hynod o brin.
Unwaith eto, fe hoffwn i ddiolch i'r Aelodau a weithiodd gyda ni ar ddatblygu'r gwelliant hwn.
Peredur Owen Griffiths i ymateb.
Diolch, Llywydd. Rwy'n fodlon â'r esboniad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi yn ei ymateb, ac rwy'n diolch iddo am amlinellu ei ffordd o feddwl sy'n sail i welliant 10 a'i fod yn briodol ac yn gymesur. Felly, wrth fyfyrio, gallaf gefnogi'r dull hwnnw o ymgorffori'r wybodaeth leol hon yn ystyrlon i ddiwygiadau cynllun y rhwydwaith. Ac fel y byddwn yn trafod yn ddiweddarach wrth drafod gwelliannau eraill, bydd gwelliant 10, a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni, yn allweddol i sut mae'r Bil hwn yn cael ei ymgorffori mewn cymunedau. Felly, o'r herwydd, fe hoffwn i dynnu gwelliant 29 yn ôl, ni fyddaf yn cynnig gwelliant 30, a byddwn yn cefnogi gwelliant 10. Diolch.
Ocê. Gwelliant 29, felly, yn cael ei dynnu'n ôl, os nad oes gwrthwynebiad i hynny gan unrhyw Aelod. Wedi'i dynnu'n ôl, felly.
Tynnwyd gwelliant 29 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Gwelliant 30 ddim yn cael ei symud. Na, ddim yn cael ei symud.
Ni chynigiwyd gwelliant 30 (Peredur Owen Griffiths).
Gwelliant 10 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud gan y Gweinidog?
Cynigiwyd gwelliant 10 (Ken Skates).
Ydy, gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 10 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 4 yw'r grŵp gwelliannau nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â chontractau a thrwyddedau gwasanaethau bysiau lleol. Gwelliant 21 yw'r prif welliant yn y grŵp. Sam Rowlands sy'n cynnig gwelliant 21.
Cynigiwyd gwelliant 21 (Sam Rowlands).
Diolch, Llywydd. Teitl Grŵp 4 yw 'contractau a thrwyddedau gwasanaeth bysiau lleol'. Mae'r rhain yn rymoedd allweddol i sicrhau bod ein rhwydwaith bysiau yn gweithio'n effeithiol, yn deg ac yn gynhwysol, ac mae'r gwelliannau a nodir gennyf i yma yn bwysig oherwydd eu bod yn gwneud yn siŵr bod Gweinidogion Cymru yn ystyried yr heriau go iawn sy'n wynebu cwmnïau, yn enwedig cwmnïau llai a chymunedol, a bod anghenion teithwyr, gan gynnwys hygyrchedd, yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y ffordd y mae contractau a thrwyddedau yn cael eu dyfarnu a'u rheoleiddio.
Mae prif welliant 21 yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn gwahodd tendrau ar gyfer contractau gwasanaethau bysiau lleol, ystyried rhwystrau sy'n wynebu busnesau bach a chanolig ac ystyried a ellir lliniaru'r rhwystrau hynny. Mae hyn yn amddiffyn cwmnïau llai rhag cael eu heithrio ac yn helpu i gynnal marchnad gystadleuol ac amrywiol sydd o fudd i deithwyr yn y pen draw. Mae'r gwelliant hwn yn deillio o brofiad a ddygwyd i fy sylw, ac i eraill rwy'n siŵr, ym Manceinion, lle mae'n ymddangos fel bod y cwmnïau llai, cwmnïau teuluol, wedi cael eu heithrio o'r contractau bysiau. Mae'n bwysig, wrth gwrs, nad ydym ni'n caniatáu i'n cwmnïau teuluol yma yng Nghymru wynebu rhwystrau amhosibl rhag ymgeisio am unrhyw gontractau a allai ddod ger eu bron. Byddai gen i ddiddordeb clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig o ran prif welliant 21, ynghylch a yw'n gallu cefnogi'r gwelliant hwnnw ai peidio. Ac os nad yw'n gallu ei gefnogi, fe hoffwn i glywed ganddo sut mae'n credu y gellir cyflawni ysbryd y gwelliant hwnnw mewn mannau eraill.
Mae gwelliant 22 yn caniatáu i Weinidogion gyhoeddi canllawiau statudol i ddeiliaid trwyddedau bysiau cymunedol neu drwyddedwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus ynghylch trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol, gan ddarparu eglurder a thryloywder mewn perthynas â disgwyliadau. Rydym ni hefyd yn gefnogol i welliant 31 Peredur, sy'n debyg iawn i'm gwelliant i, gan sicrhau bod Gweinidogion yn ystyried y rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus wrth gystadlu am gontractau ac archwilio ffyrdd o leihau'r rhwystrau hynny. Byddwn yn ymatal rhag gwelliannau 32 a 34 a gyflwynwyd gan Peredur, oherwydd, er fy mod i'n deall y bwriad, mae llawer o'r hyn y mae'r gwelliant yn anelu at ei gyflawni eisoes wedi'i gwmpasu o fewn gofynion rheoleiddiol presennol ar gyfer cwmnïau. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau 33 a 35, a gyflwynwyd hefyd gan Peredur, gan fy mod yn credu bod darpariaethau a amlinellir yno eisoes yn bodoli o fewn polisi trafnidiaeth ehangach. Mae eu dyblygu yma yn peryglu creu dryswch yn hytrach nag eglurder. Credaf fod y gwelliannau yn ddiangen ac efallai y byddent yn rhwystro, yn hytrach na helpu, gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus.
Yn olaf, byddwn yn cefnogi gwelliannau Rhys ab Owen yn y grŵp hwn. Mae'r rhain yn ymddangos yn hollol synhwyrol ac yn ymwneud â hygyrchedd. Maen nhw'n sicrhau y cynhwysir hyfforddiant anabledd, safonau hygyrchedd a'r ffordd y gwneir gwybodaeth ar gael mewn rheoliadau ar gyfer contractau a thrwyddedau gwasanaeth bysiau lleol. Mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod anghenion teithwyr, yn enwedig anghenion pobl anabl, yn cael eu hystyried ym mhob agwedd ar y rhwydwaith. Diolch yn fawr iawn.
O ran caffael a dyfarnu contractau, credwn ei bod hi'n hanfodol bod Gweinidogion yn cydnabod yr heriau penodol sy'n wynebu cwmnïau llai a chwmnïau bysiau cyngor wrth gystadlu mewn system fasnachfraint. Mae profiad o ardaloedd fel Manceinion wedi dangos pa mor hawdd y gellir eithrio busnesau bach a chanolig sefydledig, eu gorfodi i ailgynnig dro ar ôl tro neu wynebu beichiau buddsoddi sy'n tanseilio eu sefydlogrwydd hirdymor. Gellir edrych ar gwmnïau bysiau cyngor lleol mewn ffordd debyg, ac felly'r rheswm dros welliant 31. Rhaid inni beidio ag ailadrodd y camgymeriadau hynny yng Nghymru, gan sicrhau cyfartal cyfartal ac un sy'n adnabod ac yn dileu'r rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau. Mae'n hanfodol os ydym ni am gadw'r amrywiaeth a'r arbenigedd lleol sy'n cryfhau ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Ochr yn ochr â hyn, rydym ni'n cefnogi mesurau a ddylai sicrhau gweithrediad diogel ac effeithiol cerbydau ar draws y system. Mae cyfleusterau cynnal a chadw priodol, lle storio digonol a'r safonau diogelwch uchaf yn sylfaenol i ddarparu gwasanaeth dibynadwy. Mae cynnwys yr ystyriaethau hyn yn y fframwaith ar gyfer cynllunio a chontractio yn gam pragmatig sy'n cefnogi cwmnïau a theithwyr, ac yn helpu i ddiogelu'r rhwydwaith yn y dyfodol wrth i'r fflyd esblygu.
Rydym ni hefyd yn glir bod dyfodol system drafnidiaeth Cymru yn dibynnu ar integreiddio ystyrlon rhwng bysiau, beicio a cherdded. Rhaid i gefnogi teithio llesol fod wedi'i ymgorffori yn nyluniad gwasanaethau a seilwaith, nid fod wedi ei ychwanegu fel ôl-ystyriaeth. Mae hynny'n cynnwys galluogi teithwyr i deithio gyda beiciau pedal lle bo hynny'n bosibl, a sicrhau bod cyfnewidfeydd yn darparu cyfleusterau storio beicio diogel a hygyrch. Os ydym ni o ddifrif am hyrwyddo newid moddol a lleihau ein dibyniaeth ar geir, yna rhaid i'r system gael ei chynllunio o'r cychwyn cyntaf i ganiatáu i bobl gyfuno beicio â thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddi-dor.
Mae arnom ni hefyd eisiau mynegi cefnogaeth gref i gynigion sy'n cryfhau hygyrchedd ar draws y gyfundrefn contract a thrwyddedau, gan sicrhau y gellir ymgorffori safonau hygyrchedd ac ystyriaethau sy'n gysylltiedig ag anabledd yn yr amodau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau. Nid yw'r ychwanegiadau hyn yn creu rhwymedigaethau anhyblyg—maen nhw ond yn ehangu'r rhestr ddangosol o faterion y gall Gweinidogion ddewis eu rheoleiddio. Mae'r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddiffinio a mireinio safonau hygyrchedd, gan ddarparu eglurder i gwmnïau a chysondeb i deithwyr. Ymhell o gyfyngu'r Llywodraeth, mae darpariaethau o'r fath yn cynnig sail gyfreithiol glir i ddarparu'r system drafnidiaeth gynhwysol rydym ni i gyd yn dymuno ei gweld.
Rydym ni yr un mor gefnogol i'r galwadau am hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd i staff yng ngwelliannau Rhys. Mae hwn yn gam rhesymol ac angenrheidiol i sicrhau bod teithwyr anabl yn gallu teithio gyda hyder, diogelwch ac urddas. Yn flaenorol, fe wnaethom ni gefnogi darpariaethau tebyg ar lefel y Deyrnas Unedig, ac mae'n parhau i fod yn siomedig eu bod wedi'u tynnu'n ôl. Bydd adfer gofyniad o'r fath, gan barhau i roi rhyddid i Weinidogion benderfynu ar y manylion, yn rhoi arwydd cryf o fwriad ac yn ymateb yn uniongyrchol i bryderon a godwyd gan sefydliadau fel yr RNIB ac etholwyr ledled Cymru. Fe wyddom ni o achosion di-ri bod hyfforddiant staff anghyson yn parhau i fod yn rhwystr i deithio annibynnol. Mae mynd i'r afael â hyn trwy'r fframwaith contract yn ffordd gwbl gymesur o wella profiad byw teithwyr.
Yn olaf, rydym ni'n rhannu'r farn y byddai diffinio hygyrchedd o fewn y cyd-destun deddfwriaethol yn lleihau amwysedd, yn amddiffyn rhag darpariaeth anwastad, ac yn atal ôl-osod costus. Byddai hefyd yn cefnogi uchelgeisiau hinsawdd trwy sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi yn cyd-fynd â nodau hirdymor. Byddai cryfhau hygyrchedd ar wyneb y Bil yn darparu eglurder, sicrwydd a thegwch i bawb sy'n dibynnu ar ein rhwydwaith bysiau. Dylai'r rhain fod yn gamau rydym ni'n barod i'w cymryd. Fe hoffwn i glywed barn yr Ysgrifennydd Cabinet am fusnesau bach a chanolig a chwmnïau bysiau cyngor a'r agweddau eraill rydw i wedi'u hamlinellu yn fy nghyfraniad. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar am yr arwydd o gefnogaeth gref a gynigiwyd gan Sam Rowlands a Peredur Owen Griffiths. Roeddwn i hefyd yn ddiolchgar am y cyfle i gwrdd â'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion yn gynharach heddiw. Er nad wyf yn cytuno â'u casgliadau, rwy'n deall rhesymeg eu casgliadau. Fel y soniodd Lee Waters eisoes, mae'r Bil hwn yn gam enfawr ymlaen tuag at adeiladu rhwydwaith bysiau cryfach, mwy dibynadwy. Ond gadewch i ni fod yn glir: nid ein dyletswydd yw dim ond creu gwasanaeth dibynadwy. Mae'n ymwneud â chreu gwasanaeth dibynadwy i bawb yn ein cymunedau. Rwy'n credu ein bod yn colli cyfle yn y Bil hwn i sicrhau bod y Bil yn rhoi mwy o hyder yn y gwasanaeth bws i bobl sy'n colli eu golwg.
Mae llawer o bobl sy'n colli eu golwg yn dibynnu ar y bws fel eu hunig ffordd o deithio. Iddyn nhw, nid yw bysiau yn fater o hwylustod. Nid yw'n newid moddol iddyn nhw. Dyma eu cyswllt nhw â'r byd, ac os yw'r cyswllt hwnnw â'r byd yn methu, felly rydym ni. Dyna pam mae'r gwelliannau hyn yn bwysig. Maen nhw'n caniatáu contractau a thrwyddedau i gynnwys gwell hyfforddiant i staff bysiau, safonau hygyrchedd uwch ar fysiau, a gwybodaeth ar ddiwyg cliriach, mwy hygyrch. I lawer o'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli, nid moethusrwydd yw'r rhain; Mae'r rhain yn angenrheidiau beunyddiol. Rhaid i hygyrchedd fod ar wyneb y Bil hwn. Bydd yn rhoi eglurder i gwmnïau, awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru, ac, yn bwysicach fyth, i ddefnyddwyr bysiau eu hunain. Byddai'n dangos i bobl sy'n colli eu golwg ein bod yn poeni a'n bod yn cydnabod pa mor bwysig yw bysiau iddyn nhw allu teithio o gwmpas. Byddai hefyd yn lliniaru risgiau allweddol, megis darpariaeth anwastad, her gyfreithiol ac oedi yn y dyfodol.
Rwy'n ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn pryderu am ganlyniadau anfwriadol posibl yn fy ngwelliannau. Rwy'n deall bod problem gydag un o'm gwelliannau sy'n sôn am hyfforddiant 'staff', ac felly nad yw hynny'n cynnwys gwirfoddolwyr, aelodau bwrdd, ac ati. Ond mewn ymateb i'r sylw hwnnw gan yr Ysgrifennydd Cabinet, byddwn yn ei gyfeirio'n dyner at ddau air pwysig yn yr adran berthnasol, a'r geiriau hynny yw 'among others'. Mae 'Among others' yn ei gwneud hi'n glir iawn nad yw'r rhestr hon mewn unrhyw ffordd wedi'i fwriadu i fod yn gynhwysfawr, ac felly yn dileu'r canlyniadau anfwriadol posibl y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn sôn amdanyn nhw. Mae hefyd yn amlwg o dystiolaeth gan yr RNIB bod 71 y cant o'r ymatebwyr yn teimlo nad oes gan yrwyr bysiau hyfforddiant addas i gefnogi pobl ddall a rhannol eu golwg. Felly, mae hwn yn fater amlwg, ac mae ymateb amlwg i hyn.
Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi clywed pryderon gan etholwyr am faterion hygyrchedd. Yn amlwg, nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ddigonol i sicrhau bod gwasanaethau bysiau yn hygyrch i bawb. Enghraifft berffaith yw nad oes cyhoeddiadau sain ar bob gwasanaeth bws. Gall gyrwyr bysiau eu diffodd os ydyn nhw'n tarfu arnyn nhw. Pan ydw i wedi sôn am y materion hyn yn y Senedd o'r blaen, mae llawer o Aelodau wedi dod ataf i—llawer o Aelodau a fydd yn pleidleisio yn erbyn fy ngwelliannau heddiw—yn mynegi cydymdeimlad ac yn mynegi eu hengreifftiau a'u hanesion eu hunain o hynny'n digwydd.
Yn amlwg, nid yw'r system bresennol yn gweithio. Nid oes angen unrhyw adolygiadau pellach arnom ni. Nid oes angen unrhyw baneli pellach arnom ni. Mae gennym ni'r dystiolaeth i ddangos nad yw'n gweithio ar hyn o bryd, bod angen nodi anghenion pobl sy'n colli eu golwg ar wyneb y Bil hwn, mae angen eu hymgorffori ym mhob contract gyda darparwyr gwasanaeth. Heb yr ychwanegiadau hyn, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhwym i'r un safonau ag y mae gwasanaethau bysiau ar hyn o bryd—yr un safonau sy'n caniatáu i yrwyr ddiffodd cyhoeddiadau sain, yr un safonau sy'n caniatáu i fysiau yrru ymaith cyn i deithwyr eistedd, yr un safonau sy'n caniatáu i fysiau yng Nghymru siomi'n gyson y teithwyr hynny sydd â mwy o anghenion hygyrchedd. Nid yw rhwydwaith bysiau sy'n eithrio yn rhwydwaith go iawn o gwbl. Nid gwasanaeth bws yw gwasanaeth sy'n gadael pobl yn sownd, mae'n fethiant. Gadewch i ni ddewis heno i gael cynhwysiant. Gadewch i ni ddewis urddas. Gadewch i ni ddewis gwneud i'r Bil hwn weithio i bawb. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates.
Trwy gydol y broses graffu, rwyf wedi pwysleisio pwysigrwydd busnesau bach a chanolig i'r diwydiant bysiau. Rwy'n deall ac yn cydnabod pryderon y mae rhai busnesau bach a chanolig wedi'u codi ac rwy'n ddiolchgar i Sam am ddod â'r pryderon hyn i'r Siambr. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am gydweithrediad a chymorth Transport for Greater Manchester wrth ddysgu gwersi gwerthfawr ar fasnachfreinio. Rwy'n parhau i fod o'r farn nad oes angen gwelliant 21, gan fod deddfwriaeth bresennol, sef Deddf Caffael 2023, a fyddai'n berthnasol i unrhyw ymarfer caffael o dan y Bil, eisoes yn gosod gofynion ynghylch amddiffyn busnesau bach a chanolig trwy ei gwneud hi'n ofynnol ystyried cael gwared ar rwystrau, lotio contractau a thryloywder.
Bydd yn berthnasol i gontractau a gyhoeddir o dan y Bil, ac yn ymarferol bydd yn gofyn am ystyried a ellir dileu neu leihau rhwystrau i fusnesau bach a chanolig gyfrannu wrth gaffael, yn ogystal â gofyn am ystyried a ellid darparu gwasanaethau o dan fwy nag un contract ac a ellid dyfarnu contractau drwy gyfeirio at lotiau. Mae Deddf Caffael 2023 yn atgyfnerthu egwyddorion fel cystadleuaeth deg, sicrhau nad yw cwmnïau mwy yn cael manteision annheg dros fusnesau bach a chanolig, sicrhau cyfle cyfartal a chaniatáu ar gyfer economi amrywiol.
Fe hoffwn i roi sicrwydd i'r Aelodau a chwmnïau bysiau y bydd y Ddeddf Caffael yn rhoi'r amddiffyniadau a geisir o dan y gwelliant hwn. Ein bwriad yw sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau bach a chanolig, ac, wrth wneud hynny, y cymunedau lleol maen nhw'n eu cefnogi. Adlewyrchir hyn yn ymagwedd Trafnidiaeth Cymru at baratoi ar gyfer masnachfreinio drwy gynnwys a mesur gwerth cymdeithasol i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y buddion ychwanegol sy'n gysylltiedig â masnachfreinio bysiau. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau bod yr ymarfer caffael yn hygyrch i fusnesau bach a chanolig.
Gan symud at welliant 31, mae arnom ni eisiau i'r ddau gwmni bysiau cyngor presennol, Bws Caerdydd a Bws Casnewydd, barhau i fod â rhan sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau bysiau, yn union fel rydym ni'n gweld rhan barhaus i fusnesau bach a chanolig, cwmnïau mwy a darparwyr trafnidiaeth gymunedol. Rwy'n ymwybodol bod gwelliant 31 yn defnyddio'r un geiriad â Deddf Caffael 2023 mewn perthynas â diogelu busnesau bach a chanolig. Nid yw hyn yn newid ein barn na fyddai'r geiriad yn darparu lefel o amddiffyniad i gwmnïau bysiau awdurdodau lleol fel y mae'n bwriadu, a dyna pam nad ydym ni'n credu y dylid ei dderbyn. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â'r awdurdodau lleol perthnasol ynghylch dewisiadau ynglŷn â rhan barhaus i gwmnïau bysiau cyngor presennol. Nid ein bwriad yw darparu unrhyw amddiffyniadau ychwanegol neu gael gwared ar rwystrau ar gyfer unrhyw gwmnïau bysiau newydd sy'n eiddo i'r cyhoedd y mae awdurdodau lleol yn dewis eu sefydlu, er y byddai'r gwelliant hwn yn berthnasol i gwmnïau bysiau cyngor newydd a phresennol.
Rydym ni'n ymwybodol yn eu hymateb i'r Papur Gwyn, y cynghorodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn 2022 y dylem ni sicrhau, ac rwy'n dyfynnu,
'y cymerir camau i sicrhau bod yr egwyddor o niwtraliaeth gystadleuol yn cael ei gadw ac nad yw gweithrediadau masnachu'r sector cyhoeddus yn mwynhau mantais fasnachol dim ond oherwydd eu perchnogaeth gan gorff cyhoeddus neu lywodraeth neu eu cysylltiad â nhw.'
Felly, er fy mod i'n deall ac yn cydnabod y bwriad, ni fyddai'r gwelliant hwn yn darparu'r amddiffyniadau a geisir i ddau gwmni bws y cyngor. Felly, gofynnaf i'r pwyllgor ei wrthod. Ond er mwyn rhoi sicrwydd i'r Aelodau fod Trafnidiaeth Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol perthnasol i geisio sicrhau bod lle o hyd i'w cwmnïau bysiau. Ni fyddai'n briodol rhannu ein meddylfryd sylweddol yma heddiw, ond byddwn yn rhoi gwybod i'r Aelodau pan fyddwn wedi cytuno ar y dull gorau.
Byddaf yn mynd i'r afael â gwelliannau 32 a 34 gyda'i gilydd. Nid wyf yn credu bod y gwelliannau hyn yn angenrheidiol oherwydd eu bod yn cael eu cynnwys gan y geiriad yn adrannau 10(2) a 13(3) o dan baragraffau (h), sef 'cerbydau', a (p), sef 'cyfleusterau ac amwynderau sydd i’w darparu i unrhyw berson'. A byddwn hefyd yn tynnu eich sylw at ofynion mewn deddfwriaeth bresennol sydd eisoes yn ymwneud â chynnal a chadw, storio a diogelwch cysylltiedig. O dan Ddeddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981, fel rhan o roi trwydded i weithredu cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, rhaid i'r comisiynwyr traffig ystyried a fydd cyfleusterau neu drefniadau boddhaol ar gyfer cadw cerbydau mewn cyflwr priodol ac addas i gynnal y gwasanaeth, a bydd y cwmni yn rhoi ymrwymiadau ynghylch cynnal gwiriadau diogelwch ac arolygu cerbydau. Os nad yw ymrwymiadau wedi'u cyflawni, gall y comisiynwyr traffig ddirymu neu atal trwydded. Mae Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladu a Defnyddio) 1986 hefyd yn gosod gofynion o ran cynnal a chadw cerbydau. Am y rheswm hwn, nid wyf o'r farn bod y diwygiadau hyn yn angenrheidiol.
Gan droi at welliannau 33 a 35: unwaith eto, nid wyf yn credu bod angen y gwelliannau hyn, oherwydd maen nhw'n cael eu cynnwys gan faterion sydd eisoes wedi'u cynnwys yn y rhestrau yn adrannau 10(2) a 13(3), o dan baragraffau (h) a (p). Mae'n bwysig nodi nad yw'r rhestrau a gynhwysir o dan adrannau 10(2) a 13(3) yn gynhwysfawr, felly mae lle i faterion nad ydyn nhw wedi'u rhestru'n benodol yn yr is-adran honno gael eu cynnwys yn y rheoliadau a wneir o dan yr adrannau hyn.
Nawr at welliannau 1 a 4. Mae'r rhain yn ceisio ychwanegu y dylai addysg a hyfforddiant gynnwys hyfforddiant anabledd i staff o fewn adrannau 10(2) a 13(3), a diolchaf i Rhys ab Owen am gyflwyno'r gwelliannau hyn. Er fy mod i'n cydymdeimlo'n fawr â bwriad y gwelliannau hyn, credaf eu bod yn ddiangen ac y gallen nhw gyfyngu gryn dipyn. Mae paragraff (l) eisoes yn cwmpasu addysg a hyfforddiant, ac nid yw'r rhestrau yn gynhwysfawr—maen nhw'n ganllaw o ran yr hyn y gellir ei gynnwys mewn rheoliadau. Ac fel y mae Rhys ab Owen wedi dweud, gallai cynnwys 'ar gyfer staff'—nid y byddai o reidrwydd, ond gallai gyfyngu ar hyblygrwydd, oherwydd gallai eithrio gwirfoddolwyr, aelodau bwrdd, cyfarwyddwyr a chontractwyr. Ond rwyf yn amau'n fawr, fel y nododd Rhys ab Owen, mai dyna'r effaith a fwriadwyd.
Ni ddylem ni anghofio bod adrannau 35 a 36 o Ddeddf Gwasanaethau Bysiau'r Deyrnas Unedig 2025 eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i gwmnïau hyfforddi gyrwyr a staff ynglŷn ag anabledd, cadw cofnodion, cyhoeddi data cydymffurfio a dilyn canllawiau. Mae'r adrannau hyn yn berthnasol i wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, felly mae gofynion eisoes sy'n bodloni bwriad y gwelliannau hyn. Am y rhesymau hyn, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.
Gan symud nawr at welliannau 2 a 5, efallai na fydd drafftio'r gwelliannau hyn yn cyflawni bwriad yr Aelod, sef, rwy'n credu, nodi y gall rheoliadau o dan adrannau 10 a 13 bennu amodau sy'n ei gwneud hi'n ofynnol sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar ddiwyg hygyrch. Yn anffodus, gellid dehongli geiriad y gwelliant hwn i olygu bod a wnelo rheoliadau dim ond â gwybodaeth, lle mae angen yr wybodaeth honno, gan rywbeth ar wahân i'r rheoliadau, fod mewn diwyg hygyrch.
Yn y pen draw, Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd o dan adran 28 o'r Bil. Bydd y rheoliadau a wneir o dan y ddarpariaeth hon yn nodi sut mae hyn i'w wneud, gan gynnwys y diwyg y dylai'r wybodaeth fod ar gael ynddo. Y bwriad yw y bydd y rheoliadau hynny'n nodi bod yn rhaid cyhoeddi gwybodaeth debyg i'r hyn a geisir gan y diwygiad mewn diwyg hygyrch, gan gynnwys mewn copi caled ac ar ffurf electronig.
Yn ogystal, mae deddfwriaeth bresennol, fel Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (Gwybodaeth Hygyrch) 2023, eisoes yn gosod safonau clir ar gyfer gwybodaeth hygyrch. Bydd monitro cadw at safonau o'r fath yn allweddol ac yn hanfodol i sicrhau bod cwmnïau yn darparu gwasanaethau rhagorol i bob defnyddiwr.
Nawr, mae natur ganolog y fframwaith newydd ar gyfer darparu gwasanaethau bws yn golygu y bydd gennym ni fwy o ddylanwad i sicrhau bod cwmnïau yn cadw at y darpariaethau hygyrchedd sydd eisoes ar waith. Felly, am y rhesymau hyn, er fy mod i'n llwyr gefnogi bwriad y gwelliannau hyn, rwy'n annog Aelodau i'w gwrthod.
Symudaf yn awr at welliannau 3 a 6. Mae'r rhain hefyd yn ceisio ychwanegu paragraff ychwanegol i'r rhestrau o dan adrannau 10(2) a 13(3). Byddai hyn yn ychwanegu 'safonau hygyrchedd'. Nawr, rwy'n deall nod y gwelliannau hyn, ond rwy'n annog Aelodau i beidio â phleidleisio drostyn nhw. Gellid dehongli cynnwys cyfeiriad at safonau hygyrchedd yn benodol yn y paragraffau hyn i olygu mai dyma'r unig fath o safon y gall rheoliadau o dan adrannau 10 a 13 ymdrin â hi. Gall hyn gyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud mewn rheoliadau o dan yr adrannau hyn, y mae llawer ohonyn nhw yn debygol o ymwneud â safonau.
Mae'r rhestrau eisoes yn galluogi cynnwys darpariaethau mewn rheoliadau ynghylch cydymffurfio â gofynion statudol o dan baragraff (n). Mae Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000, sy'n berthnasol i gwmnïau penodol, yn ei gwneud hi'n ofynnol i gerbydau fodloni safonau hygyrchedd cyffredinol a safonau hygyrchedd i gadeiriau olwyn, er enghraifft o ran mannau i gadeiriau olwyn, rampiau a seddi blaenoriaeth, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch arddangos marciau, arwyddion, rhifau llwybrau a chyrchfannau. Fel y soniais eisoes, bydd Gweinidogion Cymru yn cael mwy o ddylanwad ar sicrhau bod cwmnïau yn cadw at y darpariaethau hygyrchedd sydd eisoes ar waith. Rwyf wedi adeiladu fframwaith ar gyfer Gweinidogion y dyfodol i sicrhau bod y mwyaf gwerthfawr yn cael eu hystyried wrth ddiwygio bysiau.
Rydym ni'n gweithio i wella pob agwedd ar safonau gwasanaeth bysiau ar gyfer yr anabl a'r cyhoedd ehangach. Mae panel mynediad a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru a datblygu gwaith ar siarter teithwyr ar gyfer gwasanaethau bysiau, sy'n gysylltiedig â pholisi 'Teithio i bawb' y Llywodraeth, yn dangos y flaenoriaeth y bydd pob lefel o weithrediadau darparu gwasanaethau bysiau yn ei roi i wella safonau hygyrchedd, gan gynnwys i bobl anabl. Rydw i yn credu, fel y credaf ein bod ni i gyd, y dylai cwmnïau gwasanaethau bysiau lleol gadw at y safonau hygyrchedd ac anelu at ddarparu gwasanaeth croesawgar a hygyrch i bob defnyddiwr.
Yn olaf, byddaf yn mynd i'r afael â gwelliant 22. Rwy'n croesawu'r bwriad a'r angen am eglurder ar drwyddedau, ond gofynnaf i'r pwyllgor beidio â chefnogi'r gwelliant hwn, am yr un rhesymau a roddwyd yng Nghyfnod 2 ac mewn ymateb i argymhellion Cyfnod 1. Nid yw'r gwelliant hwn yn ychwanegiad priodol i'r Bil gan ei fod yn ceisio mewnosod darpariaeth i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i gwmnïau ar arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â thrwyddedau.
Yr hyn sydd ei angen ar gwmnïau yw cyngor ymarferol ynghylch sut y bydd trwyddedau yn gweithio. Bydd hyn yn cael ei ddarparu trwy nodyn cyngor ar broses a ffioedd, yr wyf wedi ymrwymo iddo o'r blaen. Rydym yn anelu at gadw'r drefn drwyddedu yn syml i leihau aflonyddwch a chynnal gwasanaethau yn ystod y pontio. Gyda hyn mewn golwg, mae swyddogion yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gyflawni hyn mewn da bryd cyn i'r parth cyntaf gael ei gyflwyno yn 2027. Am y rhesymau hyn, rwy'n argymell gwrthod y gwelliant hwn. Diolch.
Sam Rowlands i ymateb.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am gyfraniadau'r Aelodau wrth fynd i'r afael â'r gwelliannau yng ngrŵp 4. Dim ond i grybwyll dau o'r cyfraniadau hynny, yn gyntaf oll, ymatebodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ymateb agoriadol wrth geisio mynd i'r afael â gwelliant 21, sef y gwelliant a gyflwynais i roi peth sicrwydd i fusnesau bach a chanolig na fyddant yn cael eu heithrio o'r gallu i dendro am gontractau. Rwy'n cydnabod yr ymateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet o ran deddfwriaeth bresennol, sef Deddf Caffael 2023, y byddai'n rhaid i unrhyw gontractau o'r fath gadw ati. Rwy'n credu y bu'r sicrwydd hynny gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw yn ddigon cadarn i olygu y byddaf yn bwriadu tynnu gwelliant 21 yn ôl pan ddaw'r cyfle.
Yn ail, fodd bynnag, ceisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet fynd i'r afael â gwelliant 22 o'm heiddo, a cheisiodd roi sicrwydd y byddai nodyn cyngor yn cael ei ddarparu. Nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon cryf, a byddwn yn annog Aelodau i barhau i gefnogi gwelliant 22, i roi'r sicrwydd hynny i bobl sy'n ceisio'r trwyddedau gwasanaeth hynny—y sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw.
Fe hoffwn i ddim ond troi at y cyfraniad gan Rhys ab Owen, a amlinellodd y rhesymau pam y dylai ei welliannau barhau i gael eu cefnogi—[Torri ar draws.] A-seren, rwy'n siŵr, Rhys ab Owen. [Chwerthin.] Amlinellodd o'r dechrau nad ydym ni'n edrych ar ddim ond gwasanaeth bysiau dibynadwy i'n trigolion yng Nghymru, ond gwasanaeth dibynadwy i bawb. Amlinellodd ei bod hi'n anghenraid beunyddiol i lawer o bobl bod ganddyn nhw wasanaeth bws y gallan nhw ddibynnu arno. Roedd yn gallu cydnabod, yn gywir, ganlyniadau anfwriadol canfyddedig ei welliannau, ond credaf iddo egluro'n llawn pam y dylai ei welliannau barhau ac y dylid eu cefnogi o hyd. Yr hyn a glywais gan Rhys ab Owen oedd bwriad i gryfhau'r sicrwydd hynny i bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn o ddydd i ddydd, felly byddwn yn parhau i annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hynny hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 21—[Torri ar draws.]
O, mae'n cael ei dynnu'n ôl. Mae'n ddrwg gen i. Mae'n cael ei dynnu'n ôl. Does dim gwrthwynebiad i'w dynnu'n ôl ac felly mae'n cael ei dynnu'n ôl.
Tynnwyd gwelliant 21 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Ydy gwelliant 31 yn cael ei symud? Nac ydy, dyw gwelliant 31 ddim yn cael ei symud.
Ni chynigiwyd gwelliant 31 (Peredur Owen Griffiths, gyda chefnogaeth Sam Rowlands).
Gwelliant 32. Ydy e'n cael ei symud, Peredur Owen Griffiths?
Cynigiwyd gwelliant 32 (Peredur Owen Griffiths).
Ydy, gwelliant 32. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 32? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 12 yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 11 wedi cael ei wrthod—[Torri ar draws.] Beth ddywedais i? 'Concentrate-wch', Elin. Mae gwelliant 32 wedi cael ei wrthod.
Gwelliant 32: O blaid: 11, Yn erbyn: 23, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 1. Rhys ab Owen, ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 1 (Rhys ab Owen).
Symud.
Ydy. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 1? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Cawn ni bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Mae 23 o blaid a 23 yn erbyn. Felly, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, mae'r gwelliant yn cwympo, a'r canlyniad yw bod 23 o blaid, neb yn ymatal, 24 yn erbyn.
Gwelliant 1: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2. Ydy e'n cael ei symud, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 2 (Rhys ab Owen).
Symud.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Mae 23 o blaid a 23 yn erbyn. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 2. Felly, mae gwelliant 2 yn cwympo, a'r canlyniad yw 23 o blaid a 24 yn erbyn.
Gwelliant 2: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Y gwelliant nesaf yw gwelliant 3. Ydy e'n cael ei symud, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 3 (Rhys ab Owen).
Symud.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal unwaith eto—23 o blaid a 23 yn erbyn. Rydw i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw. Felly, canlyniad y bleidlais ar welliant 3 yw bod 23 o blaid a 24 yn erbyn. Mae'r gwelliant, felly, yn cwympo.
Gwelliant 3: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 31. Ydy'n cael ei symud gan Peredur Owen Griffiths?
Cynigiwyd gwelliant 33 (Peredur Owen Griffiths, gyda chefnogaeth Sam Rowlands).
Ydy, mae e. A oes unrhyw wrthwynebiad? Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 31. Pleidlais, felly, ar welliant 31. [Torri ar draws.] Gwelliant 3. [Torri ar draws.] Na, gwelliant 33. Gwelliant 33—rydym ni'n mynd i gymryd pleidlais ar welliant 33.
Gwrthwynebiad.
Do, wedi'i wrthwynebu, a bydd pleidlais arno.
Gwelliant 33. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 33 wedi'i wrthod.
Gwelliant 33: O blaid: 11, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 22. Ydy e'n cael ei symud, Sam Rowlands?
A yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 22 (Sam Rowlands).
A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 22. Cawn bleidlais, felly. Agor y bleidlais ar welliant 22. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 22 wedi'i wrthod.
Gwelliant 22: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 34. A yw'n cael ei symud, Peredur Owen Griffiths?
Cynigiwyd gwelliant 34 (Peredur Owen Griffiths).
Ydy. A ydy e'n cael ei wrthod? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad ar y gwelliant yma. Felly, cawn bleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 12 yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 34 wedi'i wrthod.
Gwelliant 34: O blaid: 11, Yn erbyn: 23, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y gwelliant
Rhys ab Owen, a yw gwelliant 4 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 4 (Rhys ab Owen).
Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Felly, fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 yw bod 23 o blaid, neb yn ymatal a 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi'i wrthod.
Gwelliant 4: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
A yw gwelliant 5 yn cael ei symud, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 5 (Rhys ab Owen).
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais ar welliant 5, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Felly, fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw. Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 yw bod 23 o blaid a 24 yn erbyn. Mae'r gwelliant yn cwympo, felly.
Gwelliant 5: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
A yw gwelliant 6 yn cael ei symud, Rhys ab Owen?
Cynigiwyd gwelliant 6 (Rhys ab Owen).
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 6. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Mae gwelliant 6 yn cwympo—23 o blaid a 24 yn erbyn.
Gwelliant 6: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywyddd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
A yw gwelliant 35 yn cael ei symud, Peredur Owen Griffiths?
Cynigiwyd gwelliant 35 (Peredur Owen Griffiths).
Ydy, mae e. Ydy e'n cael ei wrthod? [Gwrthwynebiad.] Ydy. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 35. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Mae gwelliant 35 wedi'i wrthod.
Gwelliant 35: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ni chynigiwyd gwelliant 23 (Sam Rowlands).
Felly, fe wnawn ni orffen y grŵp yna.
Y grŵp nesaf yw grŵp 5. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â siarter a fforwm teithwyr. Gwelliant 24 yw'r prif welliant. Sam Rowlands sy'n cynnig y gwelliant hwnnw.
Cynigiwyd gwelliant 24 (Sam Rowlands).
Diolch, Llywydd. Fel y gwnaethoch ei amlinellu Llywydd, mae grŵp 5 yn canolbwyntio ar rymuso teithwyr, gan sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed trwy siarter a fforwm teithwyr. Mae fy ngwelliant 24 yn mewnosod adran newydd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi siarter teithwyr ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol. Bydd y siarter hon yn nodi'n glir beth y gall teithwyr ei ddisgwyl o ran ansawdd gwasanaeth, gwybodaeth am docynnau, ymdrin ag oedi, cyfleusterau hygyrchedd a materion eraill sy'n ymwneud â gweithredwyr a darparu gwasanaethau. Yn hollbwysig, byddai'r siarter yn cael ei hadolygu, gyda Gweinidogion Cymru yn ei diweddaru pan fo'n briodol ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym deithwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ac, fel rhan o hynny, mae angen iddynt gael eu hysbysu'n llawn am beth i'w ddisgwyl fel y gallant ddal yr awdurdodau perthnasol i gyfrif am gyflawni yn erbyn y disgwyliadau hynny.
Rydym yn cefnogi gwelliant 39 Peredur, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu fforwm teithwyr. Byddai'r fforwm hwn yn darparu lle strwythuredig i drafod materion sy'n effeithio ar wasanaethau bysiau lleol, gyda sylw arbennig i ddibynadwyedd, diogelwch, fforddiadwyedd a hygyrchedd. Mae'r gwelliant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod y fforwm yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn ariannol, yn cael ei redeg yn effeithiol ac yn cynnwys yr ystod angenrheidiol o randdeiliaid i gynrychioli barn teithwyr yn llawn. Fel y gallwch ddeall, mae'r siarter a'r fforwm yn ceisio sicrhau bod teithwyr wrth wraidd gwneud penderfyniadau ac yn cael eu hysbysu'n llawn am y gwasanaethau bysiau y byddent yn disgwyl eu bod yn gallu cael mynediad atynt.
Roedd i'w groesawu eto, cael gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y gwelliannau hyn, a arweiniodd, wrth gwrs, at welliant 10. Fodd bynnag, er fy mod yn gwerthfawrogi'r hyn y mae gwelliant 10 yn ceisio ei gyflawni, nid wyf yn credu ei fod yn mynd i'r afael yn llawn â'r pryderon rydw i'n eu codi gyda fy ngwelliant ar gyfer siarter teithwyr, neu welliant Peredur ar gyfer y fforwm teithwyr. Felly, hoffwn glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet sut mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon hyn unwaith y bydd y Bil yn debygol o gael ei basio yn y pen draw. Gwyddom fod gan Trafnidiaeth Cymru siarter rheilffyrdd eisoes, felly hoffwn ofyn a yw hon yn rhywbeth y gellid ei dyblygu, efallai trwy is-ddeddfwriaeth, sy'n amlinellu mewn rheoliad y bydd siarter teithwyr ar waith unwaith y bydd y Ddeddf wedi'i gweithredu'n llawn. Felly, edrychaf ymlaen at glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pwynt penodol hwnnw.
Mae'r gwelliannau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn rhoi teithwyr wrth wraidd gwneud penderfyniadau, gan roi llais clir iddynt a sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu eu hanghenion. Ni ddylai rhwydwaith bysiau fodoli yn unig, dylai wasanaethu'r bobl sy'n dibynnu arno bob dydd. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf eisiau troi at ein cynnig i osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sefydlu fforwm teithwyr. Cawsom ein hysbrydoli yma gan y model a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ardoll ymwelwyr, lle mae ymgysylltu statudol strwythuredig wedi helpu i sicrhau bod polisi yn ymateb yn uniongyrchol i'r bobl yr effeithir arnynt fwyaf. Credwn y dylai'r un egwyddorion lywio trawsnewidiad ein rhwydwaith bysiau. Byddai fforwm teithwyr yn creu mecanwaith ffurfiol, cyson ar gyfer ymgysylltu â chymunedau sy'n dibynnu ar wasanaethau bysiau lleol bob dydd. Byddai'n darparu lle i deithwyr, grwpiau cynrychioliadol a rhanddeiliaid lleol rannu eu profiadau, nodi anghenion a chynnig cyngor ymarferol ar faterion fel dibynadwyedd, diogelwch, fforddiadwyedd a hygyrchedd. Nid mater o ymgynghori er mwyn ei hun yn unig yw hyn; mae'n ymwneud ag ymgorffori profiad byw yn y dyluniad o welliannau parhaus y gwasanaethau.
Trwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried mewnbwn y fforwm wrth gyflawni eu swyddogaethau, gallwn sicrhau bod penderfyniadau wedi'u seilio ar angen cymunedol gwirioneddol yn hytrach na rhagdybiaethau neu ymarferion ymgysylltu untro. Mae gwerth fforwm o'r fath yn gorwedd yn ei allu i ddod ynghyd ag ystod gynrychioliadol gyffredinol o leisiau sy'n defnyddio bysiau yn rheolaidd, y rhai sy'n hoffi eu defnyddio ond sy'n wynebu rhwystrau, a sefydliadau sy'n siarad ar ran cymunedau y mae eu hanghenion yn cael eu hanwybyddu'n rhy aml. Mae hefyd yn sicrhau deialog barhaus yn hytrach nag ymgynghori achlysurol, gan helpu awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru i nodi problemau'n gynnar, ymateb i batrymau defnydd sy'n newid a gwella profiad teithwyr yn barhaus.
Rydym hefyd yn cydnabod gwerth y siarter teithwyr a gynigiwyd gan feinciau'r Ceidwadwyr a gwelliant Sam Rowland. Byddai set glir o ddisgwyliadau ynghylch safonau gwasanaeth a hawliau teithwyr yn eistedd yn naturiol ochr yn ochr â'n cynnig. Lle byddai'r siarter yn nodi'r hyn y dylai teithwyr allu ei ddisgwyl, byddai'r fforwm yn darparu strwythur lle gall teithwyr fynegi eu profiadau a chadw'r system i'r safonau hynny. Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn cryfhau atebolrwydd, yn gwella tryloywder ac yn rhoi teithwyr wrth wraidd esblygiad y rhwydwaith. Yn fyr, os ydym o ddifrif ynglŷn ag ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y system fysiau, yna ni ddylid ond ymgynghori â theithwyr yn unig, rhaid iddynt gael eu grymuso. Mae fforwm teithwyr statudol yn cyflawni hynny'n union, gan sicrhau nad yw lleisiau cymunedau yn ychwanegyn dewisol ond yn ysgogiad y tu ôl i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy ymatebol, cynhwysol a dibynadwy.
Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn yr Ysgrifennydd Cabinet ar hyn a'r siarter teithwyr, ac, os yw'n awyddus i anghytuno â'r dull hwn, beth fydd yn bwriadu ei wneud i gyflawni'r un nod terfynol. Hoffwn gael sicrwydd na fydd y lleisiau lleol hynny'n cael eu colli wrth ddylunio a gweithredu'r rhwydwaith bysiau. Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch, yn falch iawn, ein bod ni i gyd yn cytuno ar bwysigrwydd gwrando ar y teithiwr, ac o werth ymgysylltu â'r cyhoedd wrth ddatblygu'r rhwydwaith bysiau. Nawr, er fy mod yn deall y bwriad y tu ôl i welliant 24, rwy'n dal o'r farn y gellir cyflawni pwrpas y siarter a'i gweithredu heb ei ymgorffori yn y Bil. Ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu'r siarter teithwyr yn benodol ar gyfer teithio ar fysiau. Bydd y siarter yn amlinellu ymrwymiadau i deithwyr, prosesau cwynion ac adborth, prisiau a thocynnau, isafswm ymrwymiad i wasanaeth ac, yn fwyaf nodedig, cyfeiriad at hygyrchedd a chynhwysiant. Mae ei ddatblygiad hefyd yn cael ei lunio gan yr ymgysylltiad cyhoeddus y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i wneud yn y de-orllewin, gan ganiatáu mewnbwn cymunedol ystyrlon ynghyd â, wrth gwrs, y cyfraniad hanfodol a wnaed gan banel mynediad a chynhwysiant TrC.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn datblygu polisi teithio hygyrch, a fydd yn cael ei ymgorffori yn y siarter teithwyr. Bydd hyn yn unol â'n gweledigaeth strategol 'Teithio i bawb', gyda Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n weithredol i ddatblygu polisi cynhwysfawr gyda'r nod o gael gwared ar rwystrau rhag teithio. Ein nod yw sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn deg i bawb, ni waeth beth fo'u gallu corfforol, statws economaidd-gymdeithasol neu leoliad daearyddol. Rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru sicrhau eu bod yn gweithio gyda grwpiau sy'n cynrychioli ystod o ddefnyddwyr a darpar ddefnyddwyr gwasanaethau bysiau wrth ddatblygu'r siarter, a byddaf yn sicrhau bod drafft o'r siarter yn cael ei rannu gyda holl Aelodau'r Senedd cyn i'r siarter gael ei chyhoeddi.
Mae hyn yn dod â mi at welliant 39. Rwy'n cydnabod yn llawn y bwriad cadarnhaol y tu ôl i'r fforwm teithwyr. Fodd bynnag, rwy'n cytuno ag asesiad y Cwnsler Cyffredinol yng Nghyfnod 2, pe bai'r gwelliant yn cael ei basio, byddai'n rhoi baich ychwanegol sylweddol ar awdurdodau lleol, sydd eisoes yn ymdrin â heriau adnoddau sylweddol. Ond mae hwyluso ymgysylltu â'r cyhoedd yn hanfodol, ac rwy'n credu y bydd hyn yn cael ei gyflawni'n effeithiol drwy welliant 10, a gyflwynais yn gynharach. Credaf mai'r bwriad y tu ôl i welliant 13 yw sefydlu mecanwaith i deithwyr a rhanddeiliaid eraill allu ymgysylltu â Trafnidiaeth Cymru ar ystod o faterion hygyrchedd a materion eraill ar unrhyw adeg, sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed y tu allan i broses ymgynghori ffurfiol, ac rwy'n cytuno hefyd bod hyn yn bwysig. Mae gan Trafnidiaeth Cymru ganolfan ymgysylltu ar-lein eisoes o'r enw Dweud eich dweud. Mae'n cynnig lle i ddefnyddwyr gyflwyno adborth a sylwadau ar unwaith, yn ogystal â chynnig arolygon a chyfleoedd i fod yn rhan o baneli mewnwelediadau. Gan adeiladu ymhellach ar hyn, cydnabyddir bod angen mecanwaith i deithwyr allu cynnig eu hadborth, da a drwg, cofrestru ymholiadau eiddo coll, chwilio am wybodaeth am ddyddiadau a gwasanaethau, a gofyn cwestiynau. Ac rwy'n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru yn adeiladu ap newydd sydd â'r bwriad o gyflawni hyn. Mae profion mewnol yn parhau, ond y bwriad yw ei gyflwyno ar gyfer mewnbwn rhanddeiliaid yn fuan.
Mae swyddogion Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithio ar egluro rolau a chyfrifoldebau'r gwahanol randdeiliaid—Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol, CBCau, cynrychiolwyr gweithredwyr ac ati. Bydd hyn yn cefnogi ac yn llywio'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth i ategu'r fframwaith cynghori ac ymgynghori cenedlaethol a rhanbarthol.
Fel y soniais yn gynharach, rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr y mewnbwn i'r Bil hwn gan Sam a Peredur. Gobeithiaf fod yr hyn a gyflawnwyd drwy welliant 10, y gwaith sy'n cael ei wneud ar y siarter teithwyr, y gwaith parhaus gyda Trafnidiaeth Cymru i gynyddu cwmpas eu panel mynediad a chynhwysiant, a datblygu eu platfform a'r ap ar-lein, yn adlewyrchu pecyn cyffredinol sy'n dangos yr awydd i sicrhau bod llais y teithiwr wrth wraidd y penderfyniadau a wneir ar wasanaethau bysiau lleol. Diolch.
Sam Rowlands i ymateb.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i gyd-Aelodau am gyfraniadau yn y grŵp 5 hwn. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet newydd amlinellu'n glir bwysigrwydd ymgysylltu â theithwyr a chlywed ganddynt yn uniongyrchol, a dyna beth roedd y siarter a'r fforwm yn ceisio ei wneud yn ffurfiol ar wyneb y Bil. Ond clywais sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet yn benodol mewn perthynas â'r ymrwymiad siarter, a'r addewid o rannu drafft o'r siarter honno gydag Aelodau cyn iddi gael ei chyhoeddi, felly rwy'n croesawu hynny. Yng ngoleuni hynny, byddwn yn fodlon tynnu gwelliant 24 yn ôl.
Clywais hefyd ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i welliant Peredur mewn perthynas â fforwm, a'r bwriad i gynnwys llawer o wahanol ffyrdd i deithwyr ymgysylltu â darparwyr a gwasanaethau ar gyfer y rhwydweithiau bysiau. Rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn dal ein hanadl wrth ddisgwyl am yr ap sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a byddwn yn annog ein hetholwyr i ymgysylltu â hwnnw fel a phan fo angen. Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth y soniodd amdano hefyd yn elfen bwysig o'r ymgysylltiad hwn hefyd. Ond, fel y dywedais, byddaf yn fodlon tynnu gwelliant 24 yn ôl, a bydd gennyf ddiddordeb mewn gweld beth mae Peredur Owen Griffiths yn ei wneud gyda'i welliant hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Felly, mae gwelliant 24 yn cael ei dynnu'n ôl oni bai fod gwrthwynebiad i hynny. Mae gwelliant 24 wedi'i dynnu'n ôl.
Tynnwyd gwelliant 24 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Gwelliant 25. Ydych chi'n cynnig hwnnw?
Cynigiwyd gwelliant 25 (Sam Rowlands).
Cynnig.
Ydi, mae hwnnw'n cael ei gynnig.
Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais felly ar welliant 25. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 25 wedi ei wrthod.
Gwelliant 25: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 6 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â gwybodaeth a data. Gwelliant 36 yw'r prif welliant. Peredur Owen Griffiths sy'n cynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 36 (Peredur Owen Griffiths).
A dwi'n symud y gwelliant hwnnw, a siarad am 37 a 38 hefyd.
Rwyf eisiau codi'r pryder am brydlondeb gwasanaethau, mater sydd wrth wraidd hyder y cyhoedd yn y rhwydwaith bysiau. Ar hyn o bryd, nid yw'r Bil yn cynnwys unrhyw fecanwaith penodol ar gyfer monitro neu adrodd ar brydlondeb. Credwn mai dibynadwyedd yw'r ffactor pwysicaf sy'n penderfynu a yw pobl yn dewis defnyddio trafnidiaeth bws, ac, heb ddisgwyliadau statudol clir ar waith, rydym mewn perygl o adeiladu system na ellir ei dal i gyfrif yn llawn.
Mae monitro gwirfoddol gan sefydliadau fel Bus Users UK yng Nghymru yn werthfawr, ond nid oes ganddo'r awdurdod sydd ei angen i ysgogi gwelliannau ar draws y system. Os ydym eisiau i brydlondeb gael ei gymryd o ddifrif, yna rhaid gosod monitro ar sail statudol. Bydd gwneud hynny yn sicrhau bod data cywir, cyson a thryloyw yn cael ei gasglu ledled Cymru, data y gall teithwyr, gweithredwyr, awdurdodau lleol a Gweinidogion ei ddefnyddio i asesu perfformiad a nodi lle mae angen ymyriadau. Ni all rhwydwaith bysiau modern weithredu'n effeithiol heb y lefel hon o oruchwyliaeth.
Credwn hefyd fod yn rhaid i wybodaeth am brydlondeb a pherfformiad gwasanaeth fod yn hygyrch i bawb. Mae hynny'n golygu sicrhau bod adroddiadau a diweddariadau ar gael nid yn unig ar-lein, ond hefyd trwy brint a ffôn i'r rhai heb fynediad digidol. Yn rhy aml, y bobl sy'n dibynnu fwyaf ar fysiau—pobl hŷn, pobl anabl a'r rhai mewn ardaloedd gwledig—yw'r lleiaf abl i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Mae darparu data gwasanaeth mewn fformatau lluosog yn sicrhau nad oes unrhyw deithiwr wedi'i eithrio, ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad ehangach i degwch, tryloywder a mynediad cyfartal.
Yn y pen draw, nid yw prydlondeb yn fanylyn technegol, ond mae'n fater o ymddiriedaeth. Os ydym yn disgwyl i bobl symud i ffwrdd o geir preifat, os ydym eisiau cefnogi gweithwyr, myfyrwyr, gofalwyr a theuluoedd sy'n dibynnu ar y rhwydwaith bysiau bob dydd, yna mae'n rhaid i ni ddangos y bydd gwasanaethau yn cyrraedd ar amser. Nod y cynnig yw ymgorffori'r egwyddor hon yn gadarn yn y Bil, nid yn unig yn mesur prydlondeb, ond hefyd yn gwneud hynny'n gyson, yn dryloyw ac mewn ffordd sy'n ysgogi gwelliant gwirioneddol ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan eraill i'w ddweud am y grŵp hwn. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n ymateb.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o ddweud fy mod yn hapus i gefnogi pob un o'r tri gwelliant—36, 37 a 38. Nadolig Llawen. [Chwerthin.]
Peredur Owen Griffiths, ydych chi eisiau dweud unrhyw beth mewn ymateb?
Ydw. Dyma'r tro olaf i mi siarad y prynhawn yma, a bydd pawb yn hapus i glywed hynny. Hoffwn ddiolch i holl staff y pwyllgor a'r Aelodau sydd wedi bod yn rhan o'r Bil hwn—yr ymchwilwyr, y swyddogion, am eu gwaith ar y Bil, ac yn arbennig fy aelod o staff ymchwil Plaid Cymru, Mari Jones, am y gwaith y mae hi'n ei wneud ac wedi'i wneud. Oherwydd gwrthdaro pwyllgorau, hoffwn hefyd ddiolch i Delyth Jewell am ei gwaith gyda'r gwelliannau yng Nghyfnod 2, a Sam a'r Ysgrifennydd Cabinet am y trafodaethau i gael y Bil hwn i fan lle rwy'n credu y bydd yn gwasanaethu Cymru'n dda. Hoffwn gydnabod cefnogaeth yr Ysgrifennydd Cabinet i'r gwelliannau yn y grŵp hwn a gofyn i ni symud i'r pleidleisiau. Diolch yn fawr.
Ocê. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 36 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 37. Yn cael ei symud gan Peredur?
Cynigiwyd gwelliant 37 (Peredur Owen Griffiths).
Ydy. Unrhyw wrthwynebiad? Na. Mae e wedi ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 38. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 38 (Peredur Owen Griffiths).
Ydy. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 26 (Sam Rowlands).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 26. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Mae gwelliant 26 wedi ei wrthod.
Gwelliant 26: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 39. Yn cael ei symud gan Peredur Owen Griffiths? Na, dyw e ddim yn cael ei symud.
Nid yw'n cael ei gynnig.
Ni chynigiwyd gwelliant 39 (Peredur Owen Griffiths, gyda chefnogaeth Sam Rowlands).
Felly, symudwn ymlaen i—
—grŵp 7. Mae'r grŵp yma o welliannau, yr un olaf, yn ymwneud â gwelliannau amrywiol a chyffredinol. Gwelliant 11 yw'r prif welliant. Ysgrifennydd y Cabinet i gyfrannu. Ken Skates.
Cynigiwyd gwelliant 11 (Ken Skates).
Diolch, Llywydd. Mae gwelliannau 11, 12, 13 a 14 yn egluro diben adran 36 sy'n ymwneud â chymhwyso TUPE. Nid yw'r diwygiadau yn newid effaith y ddarpariaeth.
Mae adran 36 o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer amgylchiadau lle mae trosglwyddiad perthnasol i'w drin, i'r graddau na fyddai fel arall yn cael ei drin felly, fel pe bai'n digwydd at ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006. Pe bai'n cael ei phasio, byddai'r adran 36 ddiwygiedig yn rhestru, yn is-adran (1)(a) i (c), y camau penodol y gall Gweinidogion Cymru eu cymryd o dan y Bil i gydymffurfio â'u dyletswydd o dan adran 5(1)(c) fel yr amgylchiadau pryd caniateir cymhwyso TUPE. Felly, mae'r gwelliannau yn cysylltu'r ddarpariaeth yn agosach at y camau penodol y gall Gweinidogion Cymru eu cymryd o dan y Bil yng nghyd-destun y system fysiau newydd. Er bod bwriad y polisi wedi aros yn gyson drwy'r amser, mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod pwrpas y ddarpariaeth yn cael ei egluro, ac rwy'n annog Aelodau i'w cefnogi.
Mae'r gwelliannau sy'n weddill yn y grŵp hwn yn gwneud newidiadau technegol ac angenrheidiol i'r Bil. Mae gwelliant 16 yn cywiro gwall i ddisodli cyfeiriadau at baragraff (a) o adran 6A(8) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 gyda pharagraff (c) o'r adran honno.
O ran gwelliant 17, rydym wedi ailystyried ein rhesymeg polisi dros gynnwys hwn yn yr Atodlen ac wedi penderfynu ei ddileu gan ei fod ond yn cyfyngu ar hyblygrwydd mewn perthynas â'r cwmnïau perthnasol, Bws Caerdydd a Bws Casnewydd. Roedd i fod yn newid canlyniadol, ond, o ystyried bod trafodaethau yn parhau ar sut y bydd y ddau gwmni hyn yn edrych o dan y model masnachfraint newydd, rydym wedi penderfynu cadw'r pŵer o dan adran 84 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985.
Mae gwelliant 15 yn gwneud mân newid technegol, gan ddileu cyfeiriad at baragraff 2(9) o Atodlen 1 o'r rhestr o ddarpariaethau a ddaw i rym ddau fis ar ôl i'r Ddeddf dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Gwnaethpwyd hyn fel y bydd y cyfan o Atodlen 1 yn cael ei gychwyn trwy Orchymyn.
Gan mai hwn yw'r grŵp olaf o welliannau, a gaf i gymryd y cyfle hwn i ddiolch i swyddogion sydd wedi gweithio'n ddiflino ar y Bil hwn, ac i gynnig fy niolch diffuant unwaith eto i'r holl Aelodau am eu sylw, eu diddordeb a'u gwaith craffu ar y Bil nodedig hwn. Rwy'n credu y gallwn ni gyd gytuno bod yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud gyda'r Bil hwn yn cynnig newid gwirioneddol, cadarnhaol i lawer, llawer o bobl yng Nghymru, y mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus dda yn achubiaeth absoliwt. Diolch.
Rwy'n sefyll i gadarnhau ein cefnogaeth i'r gwelliannau o dan grŵp 7, fel yr amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd, a hefyd i gymryd eiliad, os caf i, Llywydd, i ddiolch i gyd-Aelodau am y broses adeiladol, y ffordd y cafodd y gwelliannau eu trafod dros yr wythnosau diwethaf. Wrth gwrs, mae Aelodau o bob rhan o'r Siambr wedi cyflwyno'r gwelliannau hynny ac wedi cynnig yr awgrymiadau hynny mewn ymdrech i wella'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu ei bod wedi bod yn broses gynhyrchiol. Yn benodol, hoffwn ddiolch i staff cymorth y Comisiwn am eu cefnogaeth wrth ddrafftio'r gwelliannau, ond hefyd fy staff cymorth swyddfa fy hun, Molly Skates—dim perthynas i'r Ysgrifennydd Cabinet, brysiaf i ychwanegu—a hefyd Tom Livesey o swyddfa ein grŵp hefyd.
Hefyd, Llywydd, rydym yn parhau i fod yn amheus ynglŷn â lefel y gwelliant y bydd y Bil hwn yn ei gyflwyno. Rwy'n ddiolchgar ein bod wedi llwyddo i gael rhai gwelliannau a fydd yn helpu, ond byddwn yn parhau fel grŵp i ddarparu'r craffu priodol ar y Bil hwn. Diolch yn fawr iawn.
Llywydd, credaf fy mod wedi colli fy nghyfle a dylwn fod wedi ymdrin â'r materion yr wyf eisiau eu codi yn yr adran flaenorol, ond—.
Mae'n iawn. Rwy'n siŵr na fydd ots gan yr Aelodau.
Iawn. [Chwerthin.] Roedd yn ymwneud â mater y safonau, y bwriad i gael siarter i sicrhau bod gweithredwyr a theithwyr yn glir iawn am eu disgwyliadau, oherwydd clywais Heledd Fychan mewn perthynas â gwelliant 7 yn sôn am yr angen i barhau â theithio penodedig gan ddysgwyr ar y sail nad oedd rhieni ar hyn o bryd, na disgyblion yn hyderus ynglŷn â defnyddio bws cyhoeddus. Fy marn i yw bod angen i'r rhan fwyaf o ddisgyblion allu defnyddio bws cyhoeddus oherwydd bod hynny'n rhan o fynd o gwmpas bob dydd. Ac fel y mae ar hyn o bryd, teithio gan ddysgwyr yw'r maes lle mae gen i'r rhan fwyaf o gwynion gan fyfyrwyr, nad ydynt yn teimlo'n ddiogel ar fysiau teithio gan ddysgwyr oherwydd nad oes goruchwyliaeth oedolyn ac felly mae yna ddigwyddiadau pryd mae pobl yn cael eu cam-drin.
Os gadewch i mi ymyrryd, y pwynt a wnes i oedd o ran y disgyblion hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn arbennig, oherwydd rydw i wedi cael nifer o etholwyr yn cysylltu â mi am bryderon am ddisgyblion nad ydynt yn gwybod pryd i ddod oddi ar y bws ac ati, ac mae rhai pryderon diogelwch wedi'u codi. Felly, dim ond i egluro mai dyna'r pwynt roeddwn i'n ei wneud.
Mae'r rhain yn bwyntiau pwysig i'w gwneud, ond rwy'n credu, fel gyda'r cynllun a weithredwyd gan Gyngor Caerdydd gyda'r bwrdd iechyd yn y Mynydd Bychan, roedd pobl ag anawsterau dysgu yn cael eu dysgu ble i ddod oddi ar y bws er mwyn gallu mynd o gartref i'r gwaith. Mae'n bwynt pwysig. Rwy'n gwerthfawrogi bod yna rai pobl sydd fel arfer yn mynychu ysgolion arbennig sydd ag ymddygiad arbennig iawn, ac, mewn rhai achosion, eithaf heriol lle byddai'n anodd iawn iddynt allu ymdopi â theithio ar fws arferol.
Yr hyn rydw i eisiau ei weld gan yr Ysgrifennydd Cabinet yw'r sicrwydd bod hon yn siarter, pan fydd yn cael ei gwneud, sy'n sicrhau bod teithwyr yn gwybod beth maen nhw'n ei gael ond hefyd bod gyrwyr yn gwybod nad oes rhaid iddynt oddef ymddygiad hiliol neu ddifrïol a bod mecanweithiau ar waith ar gyfer gwahardd teithwyr sy'n gwneud y mathau hynny o bethau rhag teithio. Dyna pam mae system gwynion yn swyddogaeth hynod bwysig i sicrhau bod pobl sy'n teithio ar y bws nad ydynt yn hoffi'r hyn maen nhw'n ei weld yn gallu cwyno.
Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet eisiau ymateb?
Ydych chi'n dymuno ymateb?
Os gallwn i gael y pleser o gael ychydig o oriau ychwanegol. [Chwerthin.]
Mae'n bwynt amserol iawn. Fe wnaethom gynnal uwchgynhadledd ynghylch diogelwch trafnidiaeth gyhoeddus yr wythnos diwethaf lle codwyd yr union faterion hyn ac argymhellion gwerthfawr iawn ar gyfer pwyntiau a fydd yn cael eu cynnwys yn y siarter. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na. Felly, gwelliant 11 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 12. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 12 (Ken Skates).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 13. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 13 (Ken Skates).
Oes gwrthwynebiad i welliant 13? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 14. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 14 (Ken Skates).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 16. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 16 (Ken Skates).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 17. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 17 (Ken Skates).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sam Rowlands, gwelliant 27.
Cynigiwyd gwelliant 27 (Sam Rowlands).
Cynigiwyd.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Dim gwrthwynebiad.
Dim gwrthwynebiad.
Felly mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 15 (Ken Skates).
Cynigiwyd.
Ydy.
A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly mae gwelliant 15 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly fe wnaf i ddweud bod yr ystyriaeth o Gyfnod 3 o'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) wedi cael ei chwblhau, a dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn. Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.