Y Cyfarfod Llawn
Plenary
15/10/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Shwmae, Senedd. Prynhawn da i chi. Mae'n Ddiwrnod Shwmae heddiw, felly shwmae i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg hefyd—eich cwestiynau chi sydd gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan. Shwmae, Julie Morgan.
Shwmae, Senedd. Good afternoon. It is Diwrnod Shwmae today, so shwmae to the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language too—your questions are first on our agenda this afternoon. The first question is from Julie Morgan. Shwmae, Julie Morgan.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl sydd mewn ôl-ddyledion treth gyngor? OQ63258
1. What is the Welsh Government doing to support people in council tax arrears? OQ63258

Diolch i Julie Morgan, a shwmae i bob un, ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae.
Thank you, Julie Morgan, and shwmae to everyone today, on Shwmae Su'mae Day.
Llywydd, the outcome of our consultation on fairer arrears enforcement practices was announced on 26 September. Regulations will be laid on 23 October so that improvements can be implemented from April of next year. These changes will help promote earlier intervention and prevent the rapid escalation of council tax debt.
Lywydd, cyhoeddwyd canlyniad ein hymgynghoriad ar arferion gorfodi ôl-ddyledion tecach ar 26 Medi. Cyflwynir rheoliadau ar 23 Hydref fel y gellir gweithredu gwelliannau o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i hyrwyddo ymyrraeth gynharach ac atal dyled y dreth gyngor rhag cynyddu'n gyflym.
Diolch am yr ateb.
Thank you for that answer.
I think the cost-of-living crisis, as we all know, has hit people very hard. I'm regularly told by constituents how hard they are finding it to make ends meet, and council tax arrears are regularly raised with me. I think, in 2024, Citizens Advice across Wales helped over 26,500 people with debt problems. Council tax arrears was the most common issue that they dealt with, so we know that it's a huge problem. So, I really welcome the Welsh Government's initiative to increase the period of time to 63 days before any enforcement action is taken, because I think this will really help people who are struggling. So, as I say, I support the action that has been taken. What else is the Welsh Government doing to support people who find themselves in council tax arrears?
Fel y gŵyr pawb ohonom, mae’r argyfwng costau byw wedi taro pobl yn galed iawn. Rwy'n cael gwybod yn rheolaidd gan etholwyr pa mor anodd yw hi i gael dau ben llinyn ynghyd, ac mae ôl-ddyledion y dreth gyngor yn codi'n rheolaidd. Yn 2024, fe wnaeth Cyngor ar Bopeth ledled Cymru helpu dros 26,500 o bobl mewn perthynas â phroblemau dyled. Ôl-ddyledion y dreth gyngor oedd y broblem fwyaf cyffredin y byddent yn ymdrin â hi, felly fe wyddom ei bod yn broblem enfawr. Felly, rwy'n croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cyfnod o amser cyn rhoi unrhyw gamau gorfodi ar waith i 63 diwrnod, gan y credaf y bydd hyn yn helpu pobl sy'n cael trafferth. Felly, fel y dywedaf, rwy'n cefnogi'r camau gweithredu a gymerwyd. Beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl sy'n wynebu ôl-ddyledion y dreth gyngor?
I thank Julie Morgan for that set of supplementary questions, Llywydd. The single most important action that the Welsh Government has taken in order to prevent arrears of council tax, of course, was the creation of a national council tax benefit scheme, as far back as 2013. We remain the only part of the United Kingdom with a national scheme of help. It provided £244 million in the last financial year, and 256,000 households benefited from it, and 216,000 households paid no council tax at all. By definition, those are the households least able to pay the tax. That is the single most important thing we do to help prevent those families from falling into arrears. There are other measures that we've taken since then, of course. I know that Julie Morgan was a strong supporter of the decision to exempt care leavers from paying council tax up until the age of 25. Some 2,700 young people have benefited from that decision since that was made in 2018.
Now, as Julie Morgan said, Llywydd, we consulted on a set of specific measures to improve the processes that respond when people do fall into arrears—measures relating to reminder notices, final notices, liability orders, and particularly giving people more time to pay. The previous rules were draconian in the potential impact. Of course, most local authorities didn't act according to the strictest requirements, because the strictest requirements are, if you miss one payment, within seven days, you will become liable for the whole of the annual bill. For people who are struggling in any case, that was obviously not a helpful way to proceed, and most local authorities didn't proceed of course in that way at all. But now people will get 63 days, and that will allow them to seek the help that they will need in order to regularise their position. The measure is a preventative measure in that way, because it aims to stop problems from escalating and becoming even more difficult for individuals to be able to get back on track. It's that provision of advice, it's the use of the benefits charter that we are negotiating with our local authorities, those will be the additional measures that will help people who do find themselves in those difficulties.
Diolch i Julie Morgan am y set honno o gwestiynau atodol, Lywydd. Yr un peth pwysicaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud er mwyn atal ôl-ddyledion y dreth gyngor, wrth gwrs, oedd creu cynllun cenedlaethol budd-dal y dreth gyngor, mor bell yn ôl â 2013. Ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig o hyd sydd â chynllun cymorth cenedlaethol. Darparodd £244 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac elwodd 256,000 o aelwydydd ohono, ac ni thalodd 216,000 o aelwydydd unrhyw dreth gyngor o gwbl. Yn ôl y diffiniad, y rheini yw'r aelwydydd sydd leiaf abl i dalu'r dreth. Dyna'r un peth pwysicaf a wnawn i helpu i atal y teuluoedd hynny rhag wynebu ôl-ddyledion. Rydym wedi rhoi mesurau eraill ar waith ers hynny, wrth gwrs. Rwy'n gwybod bod Julie Morgan yn frwd ei chefnogaeth i'r penderfyniad i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu treth gyngor, hyd at 25 oed. Mae tua 2,700 o bobl ifanc wedi elwa o'r penderfyniad hwnnw ers iddo gael ei wneud yn 2018.
Nawr, fel y dywedodd Julie Morgan, Lywydd, fe wnaethom ymgynghori ar set o fesurau penodol i wella'r prosesau sy'n ymateb pan fydd pobl yn wynebu ôl- ddyledion—mesurau'n ymwneud â hysbysiadau atgoffa, hysbysiadau terfynol, gorchmynion atebolrwydd, ac yn fwyaf arbennig, rhoi mwy o amser i bobl dalu. Roedd y rheolau blaenorol yn llym o ran yr effaith bosib. Wrth gwrs, nid oedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gweithredu yn ôl y gofynion mwyaf llym, oherwydd os methwch un taliad, mae’r gofynion mwyaf llym yn golygu y bydd gofyn i chi dalu’r bil blynyddol cyfan o fewn saith diwrnod. I bobl sy'n cael trafferth beth bynnag, mae’n amlwg nad oedd honno'n ffordd ddefnyddiol o fwrw ymlaen, ac ni wnaeth y rhan fwyaf o awdurdodau lleol fwrw ymlaen yn y ffordd honno o gwbl. Ond nawr, bydd pobl yn cael 63 diwrnod, a bydd hynny'n caniatáu iddynt geisio'r cymorth y bydd ei angen arnynt er mwyn rheoli eu sefyllfa. Mae'r mesur yn fesur ataliol yn y ffordd honno, oherwydd ei nod yw atal problemau rhag gwaethygu a dod yn anos byth i unigolion allu mynd yn ôl ar y trywydd iawn. Darparu cyngor o’r fath, y defnydd o'r siarter fudd-daliadau yr ydym yn ei thrafod gyda'n hawdurdodau lleol, dyna fydd y mesurau ychwanegol a fydd yn helpu pobl sy'n wynebu’r anawsterau hyn.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg? OQ63244
2. What steps has the Welsh Government taken to support teachers to develop their Welsh language skills? OQ63244
Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn. Llywydd, rydyn ni’n ariannu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu llawer o gymorth amrywiol, ar wahanol lefelau, i ymarferwyr ysgol ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn rhad ac am ddim. Mae dros 2,000 o aelodau'r gweithlu wedi derbyn hyfforddiant drwy'r ganolfan dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Thank you to Cefin Campbell for the question. Llywydd, we are funding the National Centre for Learning Welsh to provide a wide range of support, on various levels, for school practitioners to develop their Welsh language skills free of charge. Over 2,000 members of the workforce have received training through the centre over the past year alone.
Wel, shwmae, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2022 a 2023, hyfforddwyd 396 o athrawon sy'n siarad Cymraeg, ond, yn yr un flwyddyn, gadawodd 395 o athrawon y proffesiwn, sef cynnydd net o un yn unig mewn blwyddyn. Wrth gwrs, mae prinder athrawon sy'n hyderus i ddysgu trwy'r iaith yn rhywbeth sydd wedi dal addysg Gymraeg yn ôl, ac a all ddal Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn ôl hefyd, sef mesur y mae'r ddau ohonom ni wedi cydweithio'n agos arno. Yn wir, ychydig iawn mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi datblygu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf—0.6 y cant mewn ysgolion cynradd, ond cwymp o 0.7 y cant mewn ysgolion uwchradd. Felly, mae'n rhaid i rywbeth newid.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau o ran cyllid, cefnogaeth a thargedau sydd gan y Llywodraeth mewn lle, a fydd yn arwain at gynnydd ystyrlon yn sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg? A gall hyn, wrth gwrs, gynnwys yr athrawon hynny sydd eisioes â sgiliau Cymraeg cryf ond sydd angen mwy o hyder, a'r rhai hefyd sydd ag ychydig o Gymraeg ond sydd angen cefnogaeth i ddefnyddio'r iaith ar lawr y dosbarth.
Well, shwmae, Cabinet Secretary. In 2022 and 2023, 396 Welsh-speaking teachers were trained, but, in the same year, 395 teachers left the profession, which is a net increase of just one in one year. Of course, the lack of teachers who are confident to teach through the medium of Welsh is something that has held back Welsh-medium education, and something that could hold back the the Welsh Language and Education (Wales) Act 2025, which is a measure that we've both collaborated closely on in the Senedd. Indeed, there has been little development in Welsh-medium education during the last 10 years—0.6 per cent in primary schools, but a decline of 0.7 per cent in secondary schools. So, something has to change.
So, Cabinet Secretary, what plans in terms of funding, support and targets does the Welsh Government have in place that would lead to meaningful progress in the Welsh language skills of the education workforce? And this could include those teachers who already have strong Welsh language skills but need more confidence, and those who have a little Welsh but who need support to use the Welsh language in the classroom.
Diolch yn fawr i Cefin Campbell, Llywydd. Dwi'n cytuno ar y pwynt olaf roedd e'n ei wneud am bwysigrwydd y bobl sydd yn y gweithlu yn barod, a sut y gallwn ni wneud mwy i'w hybu nhw i ddatblygu sgiliau, cael mwy o hyder a chyfrannu at addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Nawr, mae arian yn un peth—ac fe glywais i beth ddywedodd yr Aelod dros y penwythnos diwethaf—ond mae lot o'r pethau eraill, rŷn ni'n gwybod, yn bwysig i bobl sy'n gwneud dewisiadau am ba un a ydyn nhw eisiau trio hyfforddi fel athrawon neu wneud rhyw waith arall. Ac rŷn ni'n gwybod o ran hyfforddiant, a hyfforddiant sydd o ansawdd uchel, ond sydd ar gael mewn ffordd ble mae pobl yn gallu defnyddio'r cyfleon yna, fod hwnna'n bwysig hefyd. Dyna pam mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ar hyn o bryd, yn cynnal nifer o raglenni wedi eu hanelu'n benodol at ddatblygu sgiliau iaith a hyder ein hathrawon.
Un enghraifft yw'r cwrs dwys pythefnos a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni ar gyfer darpar myfyrwyr PGCE. Fe gwblhaodd dros 40 o fyfyrwyr hyd at 60 awr o wersi Cymraeg, gyda chanlyniadau cadarnhaol o ran eu hyder a'u gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. A dyna jest un enghraifft o'r pethau sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd i dynnu mwy o bobl i mewn i'r gweithlu, ond hefyd, fel dywedodd Cefin Campbell, i ddatblygu sgiliau'r bobl sydd yn y gweithlu yn barod.
I thank Cefin Campbell. I agree on the final point that he made on the importance of those people who are already in the workplace, and how we can do more to help them develop their skills, gain confidence and contribute to Welsh-medium education.
Now, funding is one thing—and I heard what the Member had to say over the weekend—but there are many other things that are also important to people who are making choices as to whether they want to undertake teacher training, or whether they want to follow some other career. We know that high-quality training that is available in a way that allows people to take those opportunities is crucially important. And that's why the National Centre for Learning Welsh is currently providing a number of programmes aimed specifically at developing language skills and confidence among teachers.
One example is the intensive course over a fortnight, held in July of this year, for prospective postgraduate certificate in education students. Over 40 students completed over 60 hours of Welsh lessons, with positive results in terms of their confidence and their ability to teach through the medium of Welsh. And that's just one example of the things currently happening in order to draw more people into the workforce, but also, as Cefin Campbell said, to develop the skills of those already in the workforce.
Samuel Kurtz.
Samuel Kurtz.
Diolch yn fawr, Llywydd, a shwmae i chi. A shwmae hefyd i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
A allaf i ofyn pa waith sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd i dynnu disgyblion sydd mewn prifysgolion yn Lloegr yn ôl i Gymru, i sicrhau eu bod nhw'n mynd i fod yn y gweithlu yma yng Nghymru? Efallai fydd yr iaith gyda nhw dros y ffin yn Lloegr, ond efallai y byddan nhw'n meddwl dysgu yn Lloegr neu lefydd eraill. Ond achos bod yr iaith gyda nhw, mae'n hollbwysig eu tynnu nhw yn ôl i mewn i Gymru, i mewn i'r gweithlu, i gryfhau'r niferoedd roedd Cefin Campbell yn sôn amdanyn nhw'n gynharach. So, pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud i dynnu'r disgyblion hynny yn ôl i mewn i Gymru?
Thank you very much, Llywydd, and shwmae. And shwmae also to you, Cabinet Secretary.
Could I ask what work is being done at present to draw in students in universities in England back into Wales, to ensure that they enter the workforce here in Wales? They will, perhaps, have the language skills across the border in England, but they might well think about teaching in England or in other places. But because they have the language, it's important to attract them back to Wales, into the workforce, to strengthen the numbers that Cefin Campbell mentioned earlier. So, what work is the Government doing to attract those students back to Wales?
Wel, diolch yn fawr, a shwmae, wrth gwrs, i Sam Kurtz. Fe ges i gyfle, rai wythnosau yn ôl nawr, i gael sgwrs gyda'r coleg cenedlaethol—nid y ganolfan dysgu genedlaethol, ond y coleg cenedlaethol. Mae mwy o bosibiliadau gyda nhw nawr. Maen nhw'n gallu ffeindio mas ble mae'r bobl yn nosbarth 6 yng Nghymru yn mynd i'r brifysgol—nid jest i Lundain, ond unrhyw le yn Lloegr—ac sydd wedi cael eu haddysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ac achos rydyn ni'n gallu gwneud pethau yn fwy hyblyg nawr ar y wefan, ac yn y blaen, maen nhw'n mynd i greu rhwydwaith o bobl sy'n siarad Cymraeg ond sydd yn rhywle lle does dim llawer o gyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg, achos eu bod nhw'n astudio'n Newcastle neu ble bynnag y maen nhw, a'u tynnu nhw gyda'i gilydd, jest i gael fwy o bosibiliadau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw, a chadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, a chreu rhwydwaith o bobl gyda'r diddordeb i wneud hynny.
Mae'r pwynt y mae Sam Kurtz yn ei wneud yn un pwysig, onid yw e? Rydyn ni eisiau pobl sydd wedi cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fynd i ble bynnag y maen nhw eisiau astudio, ond i gadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, ac i ddefnyddio'r Gymraeg yna ar ôl astudio a dod nôl i Gymru.
Well, thank you very much, and shwmae to Sam Kurtz. I had an opportunity some weeks back to have a discussion with the coleg cenedlaethol—not the National Learning Centre for Learning Welsh, but the coleg cenedlaethol—and they have more possibilities now. They can identify where those sixth formers in Wales go to university—not just to London, but to anywhere in England—and who have been educated through the medium of Welsh. And because we can work more flexibly online now, they are going to create a network of Welsh speakers who are in places where there aren't many opportunities for them to use the Welsh language, because they may be studying in Newcastle or wherever they may be, so that they can be brought together and given more opportunity to use the Welsh language skills that they have, and to maintain those skills, thereby creating a network of people who are interested in participating.
The point that Sam Kurtz makes is an important one, isn't it? We want people who've been educated through the medium of Welsh to study wherever they choose, but also to retain the Welsh language skills that they have, and to use those skills once they've completed their studies and to return to Wales.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Questions now from the party spokespeople. The Conservative spokesperson, Sam Rowlands.
Diolch, Llywydd. Achos fy mod i'n dod o'r gogledd—
Thank you, Llywydd. As I come from north Wales—
—I'll say su'mae rather than shwmae this afternoon.
Cabinet Secretary, this is an important time in the budget cycle, with Rachel Reeves, the UK Chancellor, set to lay out a budget next month. Of course, that will have a knock-on effect onto the Welsh Government's finances and ability to deliver and spend on public services here in Wales. I hear, I'm sure as you do, from leaders of local authorities up and down Wales who say they're struggling with balancing their books from time to time and dealing with pressures and funding cuts. So, I wonder whether you have any particular wishes for Rachel Reeves's budget coming up, which may be able to support our local authorities up and down Wales, recognising that any funding coming from Westminster is unhypothecated, but may give an indication as to where funding should be directed to ensure that councils are able to deliver those services that people up and down Wales rely on.
—fe ddywedaf ‘su'mae’ yn hytrach na ‘shwmae’ y prynhawn yma.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae hon yn adeg bwysig yn y cylch cyllidebol gyda Rachel Reeves, Canghellor y DU, ar fin cyflwyno cyllideb y mis nesaf. Ac wrth gwrs, bydd hynny'n cael effaith ganlyniadol ar gyllid Llywodraeth Cymru a'i gallu i ddarparu a gwario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Rwy'n clywed, fel chithau rwy'n siŵr, gan arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru sy'n dweud eu bod yn cael trafferth mantoli’r gyllideb o bryd i'w gilydd a delio â phwysau a thoriadau ariannol. Felly, tybed a oes gennych unrhyw ddymuniadau penodol ar gyfer cyllideb Rachel Reeves sydd ar y ffordd, a allai gefnogi ein hawdurdodau lleol ledled Cymru, gan gydnabod bod unrhyw gyllid a ddaw o San Steffan heb ei neilltuo, ond efallai y gallech roi syniad ble y dylid cyfeirio cyllid i sicrhau bod cynghorau'n gallu darparu'r gwasanaethau y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt.
Thank you to Sam Rowlands for that question. Llywydd, if we're comparing things around Wales, then, of course 'shw' wyt ti' is what people in sir Gâr would be more likely to say.
I am going, as I said to Members yesterday, to the FISC, the finance Ministers standing conference, at the end of this week in Edinburgh. The issues that will be raised there, not simply by the Welsh Government but by the Scottish and Northern Ireland administrations as well, will focus on more non-fiscal measures that the UK Government could take to help us to make best use of the money that we have.
I don't think we could expect large sums of new money to come out of the autumn budget, given everything we read about the circumstances in which that budget is being created, and given that it was only in June that the Chancellor set out a three-year revenue and a four-year capital horizon for us. But, the things that I will be focusing on in my conversations with the UK Government will be the need for fiscal flexibility, the need for us to be able to use the money we've already got in a way that better reflects the needs of Wales, less constrained by micromanagement by the Treasury.
I will also be focusing on a set of ideas to make the Barnett formula work as effectively as it can. You'll know that it's the policy of the Welsh Government that Barnett should be replaced, but there's less enthusiasm for that in other parts of the United Kingdom. But, where I think there can be a joint approach is in making sure that the Barnett formula works in a way that is visible to everybody, understandable to everybody, where we're clear what the rules are, and, where there are disputes about the interpretation of those rules, there is an element of independence in the way in which any of those disputes will be navigated. That's where I think there are possibilities of progress being made by the time of the autumn budget, and that's what I will be focusing on when I am in Edinburgh this week.
Diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn. Lywydd, os ydym yn cymharu pethau o amgylch Cymru, 'shw' wyt ti' yw'r hyn y byddai pobl sir Gâr yn fwy tebygol o'i ddweud.
Fel y dywedais wrth yr Aelodau ddoe, rwy’n mynd i'r FISC, cynhadledd sefydlog y Gweinidogion cyllid, ddiwedd yr wythnos hon yng Nghaeredin. Bydd y materion a godir yno, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan weinyddiaethau’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, yn canolbwyntio ar fesurau mwy anghyllidol y gallai Llywodraeth y DU eu rhoi ar waith i'n helpu i wneud y defnydd gorau o'r arian sydd gennym.
Nid wyf yn credu y gallem ddisgwyl i symiau mawr o arian newydd ddeillio o gyllideb yr hydref, o ystyried popeth a ddarllenwn am amgylchiadau creu'r gyllideb honno, ac o ystyried mai ym mis Mehefin y nododd y Canghellor orwel refeniw tair blynedd a gorwel cyfalaf pedair blynedd ar ein cyfer. Ond y pethau y byddaf yn canolbwyntio arnynt yn fy sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU fydd yr angen am hyblygrwydd cyllidol, yr angen inni allu defnyddio'r arian sydd gennym eisoes mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru'n well, heb gymaint o gyfyngiadau drwy ficroreoli gan y Trysorlys.
Byddaf hefyd yn canolbwyntio ar set o syniadau i wneud i fformiwla Barnett weithio mor effeithiol ag y gall. Fe fyddwch chi'n gwybod mai polisi Llywodraeth Cymru yw y dylid cael rhywbeth yn lle fformiwla Barnett, ond mae llai o frwdfrydedd dros hynny mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond lle rwy'n credu y gall fod dull ar y cyd o weithredu yw sicrhau bod fformiwla Barnett yn gweithio mewn ffordd sy'n weladwy i bawb, yn ddealladwy i bawb, lle rydym yn glir beth yw'r rheolau. A lle bo anghydfod ynghylch dehongliad y rheolau hynny, fod yna elfen o annibyniaeth yn y ffordd yr eir i’r afael ag unrhyw un o'r anghydfodau hynny. Dyna lle rwy'n credu bod posib gwneud cynnydd erbyn cyllideb yr hydref, a dyna y byddaf yn canolbwyntio arno pan fyddaf yng Nghaeredin yr wythnos hon.
Thank you for your response, Cabinet Secretary. Of course, funding for councils is always a delicate matter and a balancing act for those local authorities themselves. What we have seen in recent times in England is now councils that are run by parties such as Reform UK. We've seen Reform UK running councils with promises of making sweeping cuts to council tax and by finding efficiencies and savings within those local authorities. The evidence now seems to be clear, though, that they are proposing to raise council tax by the highest possible amount, and in places like Worcestershire are looking at raising council tax by 10 per cent in that local authority. On top of that, their much trumpeted DOGE programme of work seeking efficiencies in local authorities has found nothing whatsoever. So, would you agree with me, Cabinet Secretary, that, from the current evidence we're seeing from Reform running and being in charge of finances of local government, their current approach of populism is financially reckless and politically irresponsible?
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, mae cyllido cynghorau bob amser yn fater sensitif ac yn weithred o gydbwyso i'r awdurdodau lleol eu hunain. Yr hyn a welsom yn ddiweddar yn Lloegr nawr yw cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan bleidiau fel Reform UK. Rydym wedi gweld Reform UK yn rhedeg cynghorau gydag addewidion y byddant yn gwneud toriadau ysgubol i'r dreth gyngor a thrwy ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd o fewn yr awdurdodau lleol hynny. Mae'r dystiolaeth bellach yn glir, fodd bynnag, eu bod yn argymell codi'r dreth gyngor gymaint ag sy’n bosib, ac mewn mannau fel swydd Gaerwrangon, maent yn bwriadu codi'r dreth gyngor 10 y cant yn yr awdurdod lleol hwnnw. Ar ben hynny, nid yw eu rhaglen waith ‘DOGE’, a gafodd gymaint o sylw, o fynd ar drywydd arbedion effeithlonrwydd mewn awdurdodau lleol wedi canfod unrhyw beth o gwbl. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, o'r dystiolaeth a welwn ar hyn o bryd o Reform yn rhedeg ac yn gyfrifol am gyllid llywodraeth leol, fod eu poblyddiaeth yn fyrbwyll yn ariannol ac yn anghyfrifol yn wleidyddol?
I thank Sam Rowlands for those points. It's very interesting, isn't it, what we are learning from when we see people who made those reckless promises, and that entirely fantasy set of economic promises, when we see them confronted with the realities of running services and having to make hard decisions rather than empty and easy promises. I've been watching particularly the performance of Reform in leading Kent County Council. I'd had an opportunity earlier in the year to meet with the then Conservative leader of the county council and to hear of some of the innovative work that they were doing and the stresses that they felt in their budgets at that time. Now they have a Reform council who find, as you say, the idea that there are lots of things that go on that can easily be dispensed with and where nobody gets harmed in the process turns out to be absolutely untrue. I think the sunlight of democracy is shining on those places, and I do hope that here in Wales people learn the lessons from that, that they see the reality of what happens when you follow a set of promises that have absolutely no chance whatsoever of being delivered.
Diolch i Sam Rowlands am y pwyntiau hynny. Mae'n ddiddorol iawn, onid yw, beth a ddysgwn pan welwn bobl yn gwneud yr addewidion byrbwyll hynny, a set hollol ffantasïol o addewidion economaidd, pan fyddwn yn eu gweld yn wynebu realiti rheoli gwasanaethau a gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn hytrach nag addewidion gwag a hawdd. Rwyf wedi bod yn gwylio perfformiad Reform yn arbennig yn arwain Cyngor Sir Caint. Cefais gyfle yn gynharach yn y flwyddyn i gyfarfod ag arweinydd Ceidwadol y cyngor sir ar y pryd ac i glywed am beth o'r gwaith arloesol yr oeddent yn ei wneud a'r straen a deimlent yn eu cyllidebau bryd hynny. Nawr mae ganddynt gyngor Reform sy'n canfod, fel y dywedwch, fod y syniad fod yna lawer o bethau'n digwydd y gellir eu hepgor yn hawdd a lle nad oes neb yn cael ei niweidio yn y broses yn gwbl anghywir mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod goleuni democratiaeth yn tywynnu ar y lleoedd hynny, ac rwy'n gobeithio yma yng Nghymru fod pobl yn dysgu'r gwersi o hynny, eu bod yn gweld realiti'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n dilyn set o addewidion nad oes ganddynt unrhyw obaith o gwbl o gael eu cyflawni.
Thank you again for your response, Cabinet Secretary. I know too well some of those challenges that council leaders have in balancing those books and, you're right, far too many promises can be made by those at times seeking election.
Talking of fantasy finances, we heard from Plaid Cymru again their pursuit of independence from the United Kingdom. It was interesting to hear the Secretary of State for Wales, Jo Stevens, pointing to the tax burden that would cause on people here in Wales, if Plaid Cymru's promise of independence was pursued further than it is to date. Jo Stevens pointed out that £21 billion tax annually would have to be found here in Wales—that's £11,000 per person per year here in Wales. What would be your assessment, Cabinet Secretary, if Plaid Cymru got their way and had an independent Wales? What would be your assessment both for public services here and our economy? Diolch yn fawr.
Diolch eto am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwybod yn rhy dda am rai o'r heriau sydd gan arweinwyr cynghorau wrth fantoli’r gyllideb ac rydych chi'n iawn, mae'r rhai sy’n ceisio cael eu hethol yn gwneud llawer gormod o addewidion.
A sôn am gyllid ffantasïol, clywsom gan Blaid Cymru eto am eu hymgais i sicrhau annibyniaeth o'r Deyrnas Unedig. Roedd yn ddiddorol clywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn tynnu sylw at y baich treth y byddai hynny'n ei achosi i bobl yma yng Nghymru, pe dilynid addewid Plaid Cymru o annibyniaeth ymhellach nag a wnaed hyd yma. Nododd Jo Stevens y byddai'n rhaid dod o hyd i £21 biliwn o dreth yn flynyddol yma yng Nghymru—dyna £11,000 y pen y flwyddyn yma yng Nghymru. Beth fyddai eich asesiad chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai Plaid Cymru yn cael eu ffordd ac yn cael Cymru annibynnol? Beth fyddai eich asesiad chi ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi yma? Diolch yn fawr.
Again, I thank Sam Rowlands for that. Let me make my own perspective on this clear at the beginning. Independence is a course of action available to people in Wales, but the debate with people in Wales would need to be an honest one about what might be gained and certainly what would be lost in the process, because the case for the United Kingdom is that it is a great engine of redistribution, run in the right way. That means that those parts of the United Kingdom where needs are greatest benefit from the funds that flow to those areas from places where funds are in greater abundance. We certainly know that that will be true of Wales, Llywydd. Twenty-two per cent of the population in Wales are over 65, compared to 19 per cent in England. We know that the needs of older people drive service use and costs in our health service, our social care service and so on, because older populations are associated with higher levels of sickness and disability. The proportion of disabled people in Wales is around 21 per cent, again compared to 18 per cent in England. Thirty per cent of the population in Wales lives in a rural area, compared to 17 per cent in England. There are—and this is a figure that always stays in my mind—6.7 miles of road for every 1,000 people in Wales, compared to 3.4 miles for 1,000 people in England.
All of those things mean that the amount of funding needed in Wales to provide a comparable service to another part of the United Kingdom is higher. If Wales is not part of the United Kingdom, then that balancing effect that comes with being part of the United Kingdom would disappear. There would be a very big bill indeed for people to reach. People can choose to pay that bill. That’s absolutely a genuine choice that people can make, but they would want to make it with their eyes open, not in the belief that somehow the route to independence is paved in gold, because it's certainly not.
Unwaith eto, diolch i Sam Rowlands am hynny. Gadewch i mi egluro fy safbwynt fy hun ar hyn ar y dechrau. Mae annibyniaeth yn llwybr gweithredu sydd ar gael i bobl Cymru, ond byddai angen i'r ddadl gyda phobl Cymru fod yn un onest ynglŷn â'r hyn y gellid ei ennill a'r hyn a fyddai'n cael ei golli yn y broses, oherwydd yr achos dros y Deyrnas Unedig yw ei bod yn beiriant ailddosbarthu gwych, o'i redeg yn y ffordd gywir. Mae hynny'n golygu bod y rhannau o'r Deyrnas Unedig lle mae'r anghenion mwyaf yn elwa o'r arian sy'n llifo i'r ardaloedd o leoedd lle mae arian ar gael yn fwy helaeth. Rydym yn sicr yn gwybod y bydd hynny'n wir am Gymru, Lywydd. Mae 22 y cant o'r boblogaeth yng Nghymru dros 65 oed o'i gymharu â 19 y cant yn Lloegr. Rydym yn gwybod bod anghenion pobl hŷn yn gyrru defnydd a chostau yn ein gwasanaeth iechyd, ein gwasanaeth gofal cymdeithasol ac yn y blaen, oherwydd bod cysylltiad rhwng poblogaethau hŷn a lefelau uwch o salwch ac anabledd. Mae cyfran y bobl anabl yng Nghymru oddeutu 21 y cant, eto o'i gymharu â 18 y cant yn Lloegr. Mae 30 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardal wledig, o'i gymharu â 17 y cant yn Lloegr. Mae—ac mae hwn yn ffigur sydd bob amser yn aros yn fy meddwl—6.7 milltir o ffordd i bob 1,000 o bobl yng Nghymru, o'i gymharu â 3.4 milltir i bob 1,000 o bobl yn Lloegr.
Mae'r holl bethau hynny'n golygu bod y swm o gyllid sydd ei angen yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth sy’n cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn uwch. Os nad yw Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig, byddai'r effaith gydbwyso sy'n dod gyda bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn diflannu. Byddai bil mawr iawn i bobl ei gyrraedd. Gall pobl ddewis talu'r bil hwnnw. Mae hwnnw'n ddewis gwirioneddol ddilys y gall pobl ei wneud, ond byddent am ei wneud gyda'u llygaid ar agor, nid yn y gred bod y llwybr i annibyniaeth yn balmant o aur, oherwydd yn bendant, nid yw hynny'n wir.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Plaid Cymru spokesperson, Heledd Fychan.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Su'mae i bawb yma. Yn sicr, o edrych ar yr hyn rydych chi newydd fod yn ei drafod, dwi eisiau edrych ar undeb arall, sef yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd, wrth gwrs, mi gyhoeddwyd cronfa twf newydd i Gymru, sef yr ymgais ddiweddaraf gan San Steffan i ymateb i'r diffygion buddsoddiad sylweddol sydd wedi bod yn sgil Brexit. Allwch chi gadarnhau a yw'r swm sydd wedi'i glustnodi ar gyfer Cymru yn fwy neu'n llai na beth ddaeth drwy raglenni cyfatebol Llywodraeth flaenorol San Steffan?
Thank you very much, Llywydd. Su'mae to everyone here. Certainly, looking at what you've just discussed, I want to look at another union, namely the European Union, because a new growth fund for Wales was announced recently, namely Westminster's most recent attempt to respond to the significant investment shortfalls that have resulted from Brexit. Could you confirm whether the amount earmarked for Wales is more or less than what came through the corresponding programmes of the previous Westminster Government?

Llywydd, this is not a matter for which I have ministerial responsibility, and I'm not directly responsible for the detail of the policy. What I can say quite certainly is that leaving the European Union has been a cause of economic harm, both to the United Kingdom and to the people of Wales. Finally, we're now in a position where funds that used to flow from the European Union directly to this Chamber have now been repatriated to Wales, and it's taken the best part of a decade for that to happen. We all remember the many promises here about Wales being not a penny worse off. Sadly, we know that is not the case, and the amount of money that we have in that fund is not the same amount of money we would have had had we continued to be in membership of the European Union. Nevertheless, there's £500 million that previously was not available to this Senedd and will now be available over the next three years.
Lywydd, nid yw hwn yn fater y mae gennyf gyfrifoldeb gweinidogol amdano, ac nid wyf yn uniongyrchol gyfrifol am fanylion y polisi. Yr hyn y gallaf ei ddweud yn hollol sicr yw bod gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn achos niwed economaidd, i'r Deyrnas Unedig ac i bobl Cymru. O'r diwedd, rydym bellach mewn sefyllfa lle mae arian a arferai lifo o'r Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol i'r Siambr hon bellach wedi cael ei ddychwelyd i Gymru, ac mae wedi cymryd y rhan orau o ddegawd i hynny ddigwydd. Rydym i gyd yn cofio'r addewidion niferus yma na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Yn anffodus, fe wyddom nad yw hynny'n wir, ac nid yw'r swm o arian sydd gennym yn y gronfa honno yr un swm o arian y byddem wedi'i gael pe baem yn parhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, mae £500 miliwn nad oedd ar gael i'r Senedd hon yn flaenorol yn mynd i fod ar gael nawr dros y tair blynedd nesaf.
Diolch am yr ymateb hwnnw. Yn amlwg, rydym ni i gyd yn cofio, dwi'n siŵr, yr addewidion hynny oedd yn dweud na fyddai Cymru un geiniog yn dlotach o adael yr Undeb Ewropeaidd, a dwi'n meddwl bod yn dal angen i ddwyn pobl i gyfrif a oedd yn dweud hynny. Yn sicr, mae wedi creu bwlch mawr. Eich rhagflaenydd chi fel Ysgrifennydd dros gyllid wnaeth gyhoeddi'r asesiad a ddangosodd bod Cymru wedi colli'r £1.1 biliwn yna. Gan fod hwnnw'n dal yn gyfrifoldeb i chi, gaf i ofyn a oes asesiad mwy diweddar wedi ei wneud, ac a oes yna amcangyfrif o ran beth fydd maint y colledion erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf, yn y gobaith y bydd hynny, wrth gwrs, wedi'i leihau?
Thank you for that answer. Obviously, we all remember the pledges that we heard that Wales would not be a penny poorer after leaving the EU, and I think we still need to hold the people who said that to account. It has certainly created a big gap. Your predecessor as Cabinet Secretary for finance announced the assessment that showed that Wales had lost £1.1 billion. Given that that is still your responsibility, has there been a more recent assessment made, and is there an estimate in terms of the scale of losses by the next general election, in the hope that that will have shrunk?
Yr £1.1 biliwn ydy'r swm rŷm ni wedi ei gyfrifo sy'n dangos yr arian rŷm ni wedi ei golli mas arno drwy'r structural funds ar un ochr, a'r arian sy'n dod i mewn i Gymru wledig hefyd, ac mae hynny'n dal i fod yn wir. Rŷm ni wedi cael rhywfaint o'r arian yna nôl i ni yma, a'r her nesaf yw defnyddio'r arian newydd sydd gyda ni yn y ffordd fwyaf effeithiol.
The £1.1 billion is the amount that we've calculated in terms of the money that we will have lost through the structural funds on the one hand, and the funding coming into rural Wales as well, and that is still true now. We have received some of that funding back, and the next challenge will be to use the new funding that we have in the most effective way possible.
Diolch. Ac o ran, felly, edrych ar y gronfa twf newydd i Gymru, dwi'n siŵr bod chithau, fel finnau, yn croesawu bod yna lais i Gymru. Doedd hi ddim yn sefyllfa dda mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd yn cael penderfynu sut roedd hwnna'n cael ei wario. A ydych chi wedi cael y sicrwydd yna fel Llywodraeth ac fel Cabinet y byddwch chi yn gallu cael cyfrifoldeb llwyr dros y £0.5 biliwn yna, ac na fydd yn rhaid cael rhyw fath o ganiatâd gan San Steffan o ran gwario hwnnw—bydd gennych chi'r hyblygrwydd fel Llywodraeth i'w fuddsoddi fo?
Thank you. And in terms of looking at the new growth fund for Wales, I'm sure that you, like me, welcome the fact that there is a voice for Wales. That wasn't a good situation when it was the UK Government that decided how that was spent. Have you had assurance as a Government and as a Cabinet that you will have full control over that £0.5 billion, and you won't have to have any kind of consent from Westminster in terms of spending that—you will have the flexibility as a Government to invest that?
Fydd ddim yn rhaid i ni gael caniatâd gan unrhyw le arall i ddefnyddio'r arian, ond rŷm ni yn mynd i gytuno ar fframwaith, fel roedd fframwaith gyda ni pan oeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd. Pan oedd arian yn dod atom ni yr adeg yna, roedd fframwaith gyda ni, fframwaith roeddem ni wedi cytuno arni gyda'r Undeb Ewropeaidd ar y pynciau roeddem ni'n gallu eu hariannu. Wel, mae hynny'n eithaf teg, nawr, pan ŷm ni'n gwneud yr un peth gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. O dan y fframwaith, bydd y penderfyniadau i gyd, ar sut i wario'r arian, sut rŷm ni'n mynd ati, y partneriaethau rŷm ni'n mynd i'w creu i'n helpu ni i wneud hynny—bydd popeth fel yna nôl fan hyn yn ein dwylo ni yng Nghymru.
We won't have to seek permission from anyone in terms of the use of those funds, but we are going to agree a framework, just like we had a framework when we were in the EU. When we received funding during that time, there was a framework in place, a framework that we'd agreed with the EU in terms of what we could fund using those moneys. It's only fair that we do the same now with the UK Government. But, under that framework, all of the decisions in terms of how we spend the money, how we go about it, the partnerships that we will create to help us to spend that money—all of those responsibilities will be back in our hands here in Wales.
3. Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau y bydd holl gynlluniau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cael eu hariannu'n llawn erbyn diwedd y Senedd hon? OQ63253
3. How will the Cabinet Secretary ensure that all of the Welsh Government's Programme for Government plans will be fully funded by the end of this Senedd? OQ63253
I thank the Member for that question. Llywydd, we provided funding for our programme for government commitments up to the end of this Senedd term in the 2025-26 final budget, which was approved by the Senedd in March of this year.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Lywydd, fe wnaethom ddarparu cyllid ar gyfer ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon yng nghyllideb derfynol 2025-26, a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mawrth eleni.
Thank you, finance Minister. One of the things that I've undertaken in recent weeks is a visit to the Global Centre of Rail Excellence down in Neath, and this is a programme for government commitment that the Economy, Trade and Rural Affairs Committee visited, and it was highlighted to us that, obviously, funding is critical to deliver that important project. At the moment, they are existing solely on the funding that has been given by Welsh Government and UK Government, and have not managed to secure any private sector financing. Given that it is a programme for government commitment, has the finance Secretary had any representations from his Cabinet colleagues to ensure that this project is able to reach its potential? And if those requests have not come in, that logically means that, obviously, this programme for government commitment will not be met by the end of the Senedd term.
Diolch, Weinidog cyllid. Un o'r pethau a wneuthum yn ystod yr wythnosau diwethaf yw ymweld â'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yng Nghastell-nedd, a dyma ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu yr ymwelodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ag ef, a dywedwyd wrthym, yn amlwg, fod cyllid yn allweddol i gyflawni'r prosiect pwysig hwnnw. Ar hyn o bryd, maent yn bodoli ar y cyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn unig, ac nid ydynt wedi llwyddo i sicrhau unrhyw gyllid sector preifat. O ystyried ei fod yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, a yw'r Ysgrifennydd cyllid wedi cael unrhyw sylwadau gan ei gyd-Weinidogion Cabinet i sicrhau bod y prosiect hwn yn gallu cyrraedd ei botensial? Ac os nad yw'r ceisiadau hynny wedi dod i mewn, mae'n golygu yn rhesymegol, wrth gwrs, na fydd yr ymrwymiad hwn yn y rhaglen lywodraethu yn cael ei gyflawni erbyn diwedd tymor y Senedd.
Well, Llywydd, the Welsh Government will have spent in full the amount of money that we promised to provide to the Global Centre for Rail Excellence at the same time that the then Conservative Government in Westminster also invested in that centre. Now, what Andrew R.T. Davies says is right, that that money was provided on the premise that, with public investment on the site—a fantastic site and a really compelling prospectus—that private sector investment would arrive to complete that project. For many and complicated reasons, no doubt, that private sector money has yet to materialise. I have, however, received representations from other Cabinet colleagues, and work is going on inside the Welsh Government to see how the project can be further supported.
There's a difficult calculation to be made here, Llywydd, between the degree to which public investment crowds in private investment, and that was the intention in this case—. When does that move into a set of calculations where the private sector wants the public sector to take all the risk onto its shoulders and the private sector only arrives when there are profits to be taken from it? So, these are complex and delicate negotiations that are going on, but the Welsh Government remains convinced of the potential for that site, for the purposes for which the global centre was established. We will want to go on being supportive, provided it is clear that the public investment that is being made has a realistic prospect of having a return on it for the public who make that investment.
Wel, Lywydd, bydd Llywodraeth Cymru wedi gwario'n llawn y swm o arian yr oeddem wedi addo ei ddarparu i'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ar yr un pryd ag y buddsoddodd y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd yn San Steffan yn y ganolfan honno hefyd. Nawr, mae'r hyn y mae Andrew R.T. Davies yn ei ddweud yn gywir, fod yr arian hwnnw wedi'i ddarparu ar y rhagdybiaeth, gyda buddsoddiad cyhoeddus yn y safle—safle gwych a phrosbectws cymhellol iawn—y byddai buddsoddiad sector preifat yn cyrraedd i gwblhau'r prosiect hwnnw. Am lawer o resymau cymhleth, heb os, nid yw'r arian sector preifat wedi'i wireddu eto. Fodd bynnag, rwyf wedi derbyn sylwadau gan gyd-Weinidogion eraill yn y Cabinet, ac mae gwaith yn mynd rhagddo o fewn Llywodraeth Cymru i weld sut y gellir cefnogi'r prosiect ymhellach.
Mae cyfrifiad anodd i'w wneud yma, Lywydd, rhwng y graddau y mae buddsoddiad cyhoeddus yn denu buddsoddiad preifat, a dyna oedd y bwriad yn yr achos hwn—. Pryd y mae hynny'n symud i mewn i set o gyfrifiadau lle mae'r sector preifat eisiau i'r sector cyhoeddus ysgwyddo'r holl risg a bod y sector preifat ond yn cyrraedd pan fydd elw i'w gymryd ohono? Felly, mae'r rhain yn drafodaethau cymhleth a sensitif sy'n mynd rhagddynt, ond mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn argyhoeddedig o'r potensial ar gyfer y safle hwn, a'r dibenion y sefydlwyd y ganolfan fyd-eang ar eu cyfer. Byddwn am barhau i fod yn gefnogol, ar yr amod ei bod yn amlwg fod gan y buddsoddiad cyhoeddus sy'n cael ei wneud obaith realistig o gael enillion ohono i'r cyhoedd sy'n gwneud y buddsoddiad hwnnw.
Su'mae, pawb.
Su'mae, everyone.
Shwmae.
Shwmae.
Su'mae. I'm proud that this Welsh Government, through the programme for government, ensures public spending benefits the people of Wales and recognises how much our communities rely on strong public services in their everyday lives. Access to well-funded, affordable public transport is essential for our constituents, who rely on it for vital public services, as well as leisure and employment opportunities. The £1 bus fare scheme for under-21s is an excellent example of improving access and opportunity for our young people. Cabinet Secretary, may I ask what funding has been provided to underwrite this important and much valued scheme?
Su'mae. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, drwy'r rhaglen lywodraethu, yn sicrhau bod gwariant cyhoeddus o fudd i bobl Cymru ac yn cydnabod cymaint y mae ein cymunedau yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus cryf yn eu bywydau bob dydd. Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy wedi'i hariannu'n dda yn hanfodol i'n hetholwyr, sy'n dibynnu arni ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn ogystal â chyfleoedd hamdden a chyflogaeth. Mae'r cynllun tocynnau bws £1 ar gyfer pobl dan 21 oed yn enghraifft ardderchog o wella mynediad a chyfleoedd i'n pobl ifanc. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn pa gyllid sydd wedi'i ddarparu i warantu'r cynllun pwysig a gwerthfawr hwn?
Well, can I thank Carolyn Thomas for that question? Because it demonstrates the fact that, of course, the programme for government is a living document. It isn't something that is produced in the first year of a term and never developed after that, and the particular item that she points to is one of the strands in the programme for government that has been added to it in the second half of this Senedd term.
The total cost of that one-year pilot will be £22 million, Llywydd. That money has been provided in full as part of our funding of the programme for government. It's split between two financial years: £11.5 million will be made available in the current year, and I confirmed yesterday, in the draft budget, that the £10.5 million that will be needed in next year's budget has been put in the draft budget and is part of the plans that we have for next year.
Wel, a gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn hwnnw? Oherwydd mae'n dangos bod y rhaglen lywodraethu'n ddogfen fyw. Nid yw'n rhywbeth a gynhyrchir ym mlwyddyn gyntaf y tymor ac na chaiff ei ddatblygu ar ôl hynny, ac mae'r eitem y mae'n tynnu sylw ato yn un o'r elfennau yn y rhaglen lywodraethu sydd wedi'u hychwanegu ato yn ail hanner y tymor Senedd hwn.
Cyfanswm cost y cynllun peilot blwyddyn o hyd fydd £22 miliwn, Lywydd. Mae'r arian hwnnw wedi'i ddarparu'n llawn fel rhan o'n cyllid i'r rhaglen lywodraethu. Mae'n cael ei rannu rhwng dwy flynedd ariannol: bydd £11.5 miliwn ar gael yn y flwyddyn gyfredol, a chadarnheais ddoe, yn y gyllideb ddrafft, fod y £10.5 miliwn y bydd ei angen yng nghyllideb y flwyddyn nesaf wedi'i roi yn y gyllideb ddrafft a'i fod yn rhan o'r cynlluniau sydd gennym ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Cwestiwn 4, Joyce Watson.
Question 4, Joyce Watson.
Shwmae. Although we would never say that in my part of the world, anyway, but—.
Shwmae. Er na fyddem byth yn dweud hynny yn fy rhan i o'r byd, beth bynnag, ond—.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fentrau Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach? OQ63242
4. Will the Cabinet Secretary provide an update on the Welsh Government's initiatives to make council tax fairer? OQ63242
Given the fact that you represent Mid and West Wales, I suspect you say every single version of shwmae/su'mae in your region.
O ystyried eich bod yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n tybio eich bod chi'n dweud pob un fersiwn o shwmae/su'mae yn eich rhanbarth chi.
Absolutely. But not in Pembrokeshire.
Yn sicr. Ond nid yn sir Benfro.
Well, Llywydd, we recognise the missionary work that the Member undertakes in her region on this subject.
And in relation to her question, for over a decade, successive Welsh Labour Governments have acted to mitigate the inherent unfairness of council tax. We’ve exempted care leavers from the tax, abolished imprisonment as a punishment for falling into arrears, and, by the end of this term, will have modernised the appeals process, rationalised the discounts and exemption system, and made enforcement fairer too.
Wel, Lywydd, rydym yn cydnabod y gwaith cenhadol y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei rhanbarth ar y pwnc hwn.
Ac mewn perthynas â'i chwestiwn, ers dros ddegawd, mae Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi gweithredu i liniaru annhegwch cynhenid y dreth gyngor. Rydym wedi eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag gorfod talu'r dreth, wedi cael gwared â charchar fel cosb am fynd i ôl-ddyledion, ac erbyn diwedd y tymor hwn, byddwn wedi moderneiddio'r broses apelio, wedi ad-drefnu'r system ddisgowntiau ac esemptiadau, a gwneud gorfodi'n decach hefyd.
Diolch, Cabinet Secretary. It's hard to believe that it took until 2019 to cease to imprison people for non-payment of council tax; and Wales, of course, abolished that practice in 2019. The threat and the reality of imprisonment, of course, like most things, fell more sharply on women than it did on men. I would be interested in any analysis that's been undertaken of the continuing impact of imprisonment where that still does take place, and contrary, where it doesn't take place, like in Wales, whether the evidence is demonstrating the positive impact that that change has had on what we obviously will know would be the poorest women in Wales.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n anodd credu iddi gymryd tan 2019 i roi diwedd ar yr arfer o garcharu pobl am beidio â thalu'r dreth gyngor; a rhoddodd Cymru ddiwedd ar yr arfer hwnnw yn 2019 wrth gwrs. Roedd bygythiad a realiti carcharu, wrth gwrs, fel y rhan fwyaf o bethau, yn cael effaith fwy ar fenywod nag ar ddynion. Byddai gennyf ddiddordeb mewn unrhyw ddadansoddiad o effaith barhaus carcharu lle mae hynny'n dal i ddigwydd, ac i'r gwrthwyneb, lle nad yw'n digwydd, fel yng Nghymru, a gweld a yw'r dystiolaeth yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae'r newid hwnnw wedi'i chael ar y menywod tlotaf yng Nghymru.
Well, Llywydd, I thank Joyce Watson for that important supplementary question. I well remember her strong support for the abolition of imprisonment for non-payment of council tax at the time that that was undertaken back in 2019, and, you know, it's part of the distinguished record she has of speaking up on women's issues here in the Senedd.
What we know is that, in the period since imprisonment was abolished here, 81 people have been imprisoned in England—at least—in that period. England is the only part of the United Kingdom where you can still be imprisoned for that failure. And, in England, a further 2,170 people have received suspended committal orders, which takes you right to the brink of imprisonment at that point. And, of course, Joyce Watson is absolutely right, Llywydd, that women were more likely to be imprisoned for that failure.
I absolutely believe myself, in the current state of the criminal justice system and the prison estate, that the people who end up in prison should be those people that the public really does need to be protected from. I'm absolutely convinced that failure to pay their council tax is not something that places other members of the public at risk.
Women are over-represented amongst those people because of their financial vulnerability, care-giving responsibilities and, often, experience of domestic abuse that leaves them with a liability for the council tax. So, not only have we done a good thing here in Wales in general, but I hope that that measure has had a particularly positive impact on those women who would otherwise be caught up in it.
Wel, Lywydd, diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol pwysig. Rwy'n cofio ei chefnogaeth gref i gael gwared ar ddedfrydau carchar am beidio â thalu'r dreth gyngor pan wnaed hynny yn ôl yn 2019, a wyddoch chi, mae'n rhan o'i hanes nodedig o siarad ar faterion menywod yma yn y Senedd.
Yr hyn a wyddom, yn y cyfnod ers cael gwared ar ddedfrydau o garchar am y drosedd hon yma, yw bod 81 o bobl wedi cael eu carcharu yn Lloegr—o leiaf—yn y cyfnod hwnnw. Lloegr yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle gallwch chi ddal i gael eich carcharu am fethu talu. Ac yn Lloegr, mae 2,170 o bobl eraill wedi cael gorchmynion traddodi gohiriedig, lle rydych chi un cam i ffwrdd o gael eich carcharu. Ac wrth gwrs, Lywydd, mae Joyce Watson yn llygad ei lle fod menywod yn fwy tebygol o gael eu carcharu am fethu talu'r dreth.
Ag ystyried cyflwr presennol y system cyfiawnder troseddol a'r ystad garchardai, credaf yn gryf mai'r bobl y mae gwir angen amddiffyn y cyhoedd rhagddynt a ddylai fod yn mynd i'r carchar. Rwy'n gwbl argyhoeddedig nad yw methu talu'r dreth gyngor yn rhywbeth sy'n peryglu aelodau eraill o'r cyhoedd.
Mae menywod wedi’u gorgynrychioli ymhlith y bobl hynny am eu bod yn aml mewn sefyllfa fregus yn ariannol, mae ganddynt gyfrifoldebau gofalu, ac yn aml, mae eu profiad o gam-drin domestig yn eu gadael â rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor. Felly, nid yn unig ein bod wedi gwneud peth da yma yng Nghymru yn gyffredinol, ond rwy'n gobeithio bod y mesur hwnnw wedi cael effaith arbennig o gadarnhaol ar fenywod a fyddai fel arall yn cael eu heffeithio gan hyn.
Shwmae i chi i gyd.
Cabinet Secretary, in England, council tax rises are making the headlines because local authorities, as we know, are pushing up toward the cap of 5 per cent; they're already announcing that. However, in Wales, many residents can only imagine a 5 per cent increase. In my own constituency, for instance, last year, council tax rose by 7.9 per cent, following a previous year of 7.8 per cent, and a previous year to that of just fractionally under 6 per cent. These huge increases are putting a real pressure on families, especially at this time, when they're dealing with the costs of living and the challenges that go with that.
So, Cabinet Secretary, why is it fair that councils in Wales have the power to raise council tax so drastically, while councils in England, also under Labour control, are legally restricted from raising them past 5 per cent without that referendum?
Shwmae i chi i gyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn Lloegr, mae cynnydd yn y dreth gyngor yn cael sylw yn y wasg gan fod awdurdodau lleol, fel y gwyddom, yn gwthio tuag at y cap o 5 y cant; maent eisoes yn cyhoeddi hynny. Fodd bynnag, yng Nghymru, ni all llawer o drigolion ond dychmygu cynnydd o 5 y cant. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, y llynedd, cododd y dreth gyngor 7.9 y cant, yn dilyn cynnydd o 7.8 y cant y flwyddyn cynt, ac ychydig bach o dan 6 y cant y flwyddyn cyn hynny. Mae'r codiadau enfawr hyn yn rhoi pwysau gwirioneddol ar deuluoedd, yn enwedig ar hyn o bryd, a hwythau'n delio â chostau byw a'r heriau a ddaw gyda hynny.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pam ei bod hi'n deg fod gan gynghorau yng Nghymru bŵer i godi'r dreth gyngor mor eithafol, tra bo cynghorau yn Lloegr, sydd hefyd o dan reolaeth Llafur, wedi'u cyfyngu'n gyfreithiol rhag eu codi y tu hwnt i 5 y cant heb refferendwm?
Well, Llywydd, simply because here in Wales, we have taken the view that it is for local authorities, councillors directly elected by their populations, to exercise the responsibility for council tax, and for those decisions not to be made here in Cardiff Bay, and I stand by that. I still think that that is the democratically right way to do things. Local authorities are responsible; they face their electorates on the basis of the decisions that they themselves have made. The Member suggests that people in Wales look enviously at what happens in England. I can assure him that, in England, where there is no council tax reduction scheme, and where the very poorest people now have to pay every year towards a council tax, that those people look at Wales and see the help that is available here to people who otherwise would find themselves in such difficulty.
Wel, Lywydd, oherwydd mai ein barn ni yma yng Nghymru yw mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol, cynghorwyr a etholir yn uniongyrchol gan eu poblogaethau, yw arfer cyfrifoldeb dros y dreth gyngor, ac na ddylid gwneud y penderfyniadau hynny yma ym Mae Caerdydd, ac rwy'n sefyll wrth hynny. Rwy'n dal i gredu mai dyna'r ffordd ddemocrataidd gywir o wneud pethau. Yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol; maent yn wynebu eu hetholwyr ar sail y penderfyniadau y maent hwy eu hunain wedi'u gwneud. Mae'r Aelod yn awgrymu bod pobl yng Nghymru yn genfigennus o'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Gallaf roi sicrwydd iddo, yn Lloegr, lle nad oes cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, a lle mae'n rhaid i'r bobl dlotaf dalu bob blwyddyn nawr tuag at dreth gyngor, fod y bobl hynny'n edrych ar Gymru ac yn gweld y cymorth sydd ar gael yma i bobl a fyddai fel arall yn wynebu sefyllfa mor anodd.
5. Sut y mae'r Llywodraeth yn annog y sector cyhoeddus i gaffael gan fusnesau Cymru? OQ63259
5. How is the Government encouraging the public sector to procure from Welsh businesses? OQ63259
Diolch yn fawr i Peredur am y cwestiwn, Llywydd.
Thank you very much to Peredur for that question, Llywydd.
The Welsh Government is committed to ensuring that public procurement delivers maximum value for Wales, economically, socially, environmentally and culturally. We recognise the power of procurement as a tool to support Welsh businesses, which is why we have introduced a programme of procurement reform to make public contracts more accessible.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod caffael cyhoeddus yn darparu'r gwerth mwyaf i Gymru, yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol. Rydym yn cydnabod pŵer caffael fel dull o weithredu i gefnogi busnesau Cymru, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno rhaglen ddiwygio ar gyfer caffael i wneud contractau cyhoeddus yn fwy hygyrch.
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Thank you for that response.
Improving public procurement levels can be a huge driver for boosting the economy. It's highly regrettable, therefore, that the Labour Government has shied away from setting targets for public procurement. This was the case throughout my scrutiny work on the Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023, as it is now—the Bill as it was then. As my Plaid Cymru colleague Luke Fletcher has pointed out in his economic plan, 'Making Wales Work', public procurement was used to great effect by Preston City Council. They implemented a strategy that increased the procurement spend of key anchor institutions with local and regional suppliers from less than 40 per cent to around 80 per cent. This led to the creation of 4,000 new living wage jobs, and helped to lift the city out of the 20 per cent most deprived areas in the UK, with unemployment also falling below the national average. This could be replicated on a larger scale within Wales to deliver even greater benefits for the nation and job creation. Do you agree with Plaid Cymru that public procurement can be an effective tool for boosting the local economy, particularly the fortunes of SMEs, and do you also think that there was a missed opportunity by your Government to do something about Wales's low public procurement levels in this Senedd?
Gall gwella lefelau caffael cyhoeddus fod yn ffactor enfawr i hybu'r economi. Mae'n destun cryn ofid, felly, fod y Llywodraeth Lafur wedi osgoi gosod targedau ar gyfer caffael cyhoeddus. Dyma oedd y sefyllfa drwy gydol fy ngwaith craffu ar Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, fel y'i gelwir bellach—y Bil fel yr oedd bryd hynny. Fel y mae fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru, Luke Fletcher, wedi'i nodi yn ei gynllun economaidd, 'Gwneud i Gymru Weithio', defnyddiwyd caffael cyhoeddus yn effeithiol iawn gan Gyngor Dinas Preston. Fe wnaethant weithredu strategaeth a gynyddodd wariant caffael sefydliadau angor allweddol gyda chyflenwyr lleol a rhanbarthol o lai na 40 y cant i oddeutu 80 y cant. Arweiniodd hyn at greu 4,000 o swyddi newydd ar y cyflog byw, a helpodd i godi'r ddinas allan o'r 20 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y DU, gyda diweithdra hefyd yn cwympo’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Gellid efelychu hyn ar raddfa fwy yng Nghymru i sicrhau manteision hyd yn oed yn fwy i'r genedl a chreu swyddi. A ydych chi'n cytuno â Phlaid Cymru y gall caffael cyhoeddus fod yn ddull effeithiol o hybu'r economi leol, yn enwedig ffawd busnesau bach a chanolig, ac a ydych chi hefyd yn credu bod cyfle wedi'i golli gan eich Llywodraeth i wneud rhywbeth am lefelau caffael cyhoeddus isel Cymru yn y Senedd hon?
Well, Llywydd, I agree with the Member's first proposition and I disagree with the second.
Of course it is true that we want to achieve full value from every £1 used by public authorities in Wales. I'm very familiar with the Preston example. I had an opportunity to hear more than once from the leader of the council at the time about the work that they did. Where I don't agree with the Member is that the way to do that is by a blunt, target-driven regime. In my experience, targets need to be used sparingly and smartly. If they're used in a blunt and blanket way, what they really do is just drive perverse behaviours in the system, in which people focus on achieving the target rather than achieving the aim for which the target was established.
So, we have changed the law here in Wales through the Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023, and the Health Service Procurement (Wales) Act 2024. Those make changes to the way in which opportunities are advertised for small and medium-sized businesses in Wales, reorganise the procurement pipeline to make sure that those opportunities are known about early in the process, simplify the bidding system, and extend the prompt payment system here in Wales.
I think we would all here want to ensure that Welsh businesses have the maximum opportunities to bid for the opportunities that come through the public procurement route. That's what we are focused on. There is more change to come, further regulations flowing from the social partnership Act particularly, and I look forward to bringing those in front of the Senedd.
Wel, Lywydd, rwy'n cytuno â gosodiad cyntaf yr Aelod ac rwy'n anghytuno â'r ail.
Wrth gwrs, mae'n wir ein bod eisiau sicrhau'r gwerth llawn o bob £1 a ddefnyddir gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n gyfarwydd iawn ag enghraifft Preston. Cefais gyfle i glywed fwy nag unwaith gan arweinydd y cyngor ar y pryd am y gwaith a wnaethant. Lle nad wyf yn cytuno â'r Aelod yw mai'r ffordd i wneud hynny yw drwy drefniadau anhyblyg sy'n canolbwyntio ar dargedau. Yn fy mhrofiad i, mae angen defnyddio targedau'n gynnil ac yn glyfar. Os cânt eu defnyddio mewn ffordd anhyblyg a chyffredinol, yr hyn y maent yn ei wneud mewn gwirionedd yw annog ymddygiadau gwrthnysig yn y system, lle mae pobl yn canolbwyntio ar gyflawni'r targed yn hytrach na chyflawni'r nod y sefydlwyd y targed ar ei gyfer.
Felly, rydym wedi newid y gyfraith yma yng Nghymru drwy Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024. Mae'r rheini'n gwneud newidiadau i'r ffordd y mae cyfleoedd yn cael eu hysbysebu ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru, yn ad-drefnu'r biblinell gaffael i sicrhau bod y cyfleoedd hynny'n hysbys yn gynnar yn y broses, yn symleiddio'r system dendro, ac yn ymestyn y system talu'n brydlon yma yng Nghymru.
Credaf y byddai pob un ohonom yma eisiau sicrhau bod gan fusnesau Cymru y cyfleoedd gorau posib i wneud cais am y cyfleoedd a ddaw drwy'r llwybr caffael cyhoeddus. Dyna rydym yn canolbwyntio arno. Mae mwy o newid i ddod, rheoliadau pellach yn deillio o'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol yn enwedig, ac edrychaf ymlaen at gyflwyno'r rheini gerbron y Senedd.
Before I begin, I would like to wish you and the Cabinet Secretary and everyone celebrating, on behalf of everyone in Wales, and south-east Wales particularly, who were perhaps born here, who work here, were raised here like myself, aap sab ko, hum sab ki taraf se, dil se, Shwmae Day ki dhair sari shub kamniyeh, which means a heartfelt Shwmae Day, I should say, well wishes from myself and everyone else I represent. So, thank you very much.
Cabinet Secretary, unlike Labour and Plaid Cymru, who shamefully voted down our calls to back our farmers by scrapping the sustainable farming scheme, the Welsh Conservatives are firmly on the side of hard-working farmers. Farmers right across Wales produce, I would argue, some of the greatest tasting food around, which is also healthy, nutritious and sustainable. It is evident that our farmers need our support. One way the Welsh Government can do something is by ensuring that their fantastic Welsh produce is served in our hospitals and schools and elsewhere across the public sector. So, Cabinet Secretary, would you kindly outline what proactive steps the Welsh Government is taking to increase the use of our wonderful Welsh food within the public sector itself? Thank you.
Cyn imi ddechrau, hoffwn ddymuno, i chi ac Ysgrifennydd y Cabinet a phawb sy'n dathlu, ar ran pawb yng Nghymru, a de-ddwyrain Cymru yn benodol, a aned yma efallai, sy'n gweithio yma, a fagwyd yma fel finnau, aap sab ko, hum sab ki taraf se, dil se, Diwrnod Shwmae ki dhair sari shub kamniyeh, sy'n golygu Diwrnod Shwmae da iawn, dylwn ddweud, dymuniadau da gennyf fi a phawb arall rwy'n eu cynrychioli. Felly, diolch yn fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn wahanol i Lafur a Phlaid Cymru, a bleidleisiodd, yn gwbl warthus, yn erbyn ein galwadau i gefnogi ein ffermwyr drwy gael gwared ar y cynllun ffermio cynaliadwy, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gadarn ar ochr ffermwyr diwyd. Buaswn yn dadlau bod ffermwyr ledled Cymru yn cynhyrchu peth o'r bwyd mwyaf blasus sydd i'w gael, sydd hefyd yn iach, yn faethlon ac yn gynaliadwy. Mae'n amlwg fod angen ein cymorth ar ein ffermwyr. Un ffordd y gall Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth yw drwy sicrhau bod eu cynnyrch Cymreig gwych yn cael ei weini yn ein hysbytai a'n hysgolion ac mewn mannau eraill ar draws y sector cyhoeddus. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi cystal ag amlinellu pa gamau rhagweithiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r defnydd o'n bwyd Cymreig gwych o fewn y sector cyhoeddus ei hun? Diolch.
Well, thank you very much to Natasha Asghar.
Wel, diolch yn fawr i Natasha Asghar.
Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.
The Welsh language belongs to us all.
The Welsh language belongs to us all. It's been great to hear people using it around the Chamber this afternoon.
I was lucky enough to be in the Chamber, I think only a week ago, when I heard the Cabinet Secretary with responsibility for supporting the agricultural sector, and the excellent work that it does in food and drink, explaining to Members how the scheme that he has agreed will underpin that industry for the future. The food and drink sector in Wales is a huge success story, with major growth over the last few years, and an enormous range now of really quality products, which are sold not just here in Wales, but around the world.
We do need to do more to make sure that those products are used where public food is being procured. I'm familiar with some of the experiments that have been conducted in Carmarthenshire, for example, involving the local health board and suppliers of food and drink. There are some challenges along the way, but they are things for us to solve, rather than just to identify. When we do that, we will make sure, not simply that the public pound is going further, but that the quality of food and drink supplied will be of the standard that we know the industry in Wales produces.
Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae wedi bod yn wych clywed pobl yn ei defnyddio o gwmpas y Siambr y prynhawn yma.
Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn y Siambr, wythnos yn ôl, rwy'n credu, pan glywais Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am gefnogi'r sector amaethyddol, a'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud ym maes bwyd a diod, yn egluro i'r Aelodau sut y bydd y cynllun y mae wedi cytuno arno yn cefnogi'r diwydiant hwnnw yn y dyfodol. Mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru yn llwyddiant enfawr, gyda thwf mawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac ystod enfawr o gynhyrchion o ansawdd gwirioneddol uchel sy'n cael eu gwerthu nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y byd.
Mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod y cynhyrchion hynny'n cael eu defnyddio lle mae bwyd cyhoeddus yn cael ei gaffael. Rwy'n gyfarwydd â rhai o'r arbrofion a gynhaliwyd yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, gyda'r bwrdd iechyd lleol a chyflenwyr bwyd a diod. Mae rhai heriau ar y daith, ond maent yn bethau i ni eu datrys, yn hytrach na dim ond eu nodi. Pan wnawn hynny, byddwn yn sicrhau, nid yn unig fod y bunt gyhoeddus yn mynd ymhellach, ond y bydd ansawdd y bwyd a diod a gyflenwir o'r safon y gwyddom fod y diwydiant yng Nghymru yn ei chynhyrchu.
Shwmae, Llywydd, and shwmae, Ysgrifennydd Cabinet. The power of the public purse procurement is one of the key levers we have here in Wales to effect the change in economic, social and environmental outcomes we want to see. And, of course, as touched on earlier, we now have two pieces of key legislation covering procurement in Wales, including the landmark Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023. The commencement Order for the procurement part of that legislation came into effect this year. So, can I ask, Cabinet Secretary, if you can outline the steps that the Welsh Government is taking to strengthen public procurement following the passage of the Act? Diolch.
Shwmae, Lywydd, a shwmae, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pŵer caffael pwrs y wlad yn un o'r prif ddulliau sydd gennym yma yng Nghymru o hybu'r newid mewn canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol rydym eisiau ei weld. Ac wrth gwrs, fel y crybwyllwyd yn gynharach, mae gennym bellach ddwy ddeddf allweddol sy'n ymdrin â chaffael yng Nghymru, gan gynnwys y ddeddf nodedig, Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Daeth y Gorchymyn cychwyn ar gyfer rhan gaffael y ddeddfwriaeth honno i rym eleni. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i chi amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau caffael cyhoeddus yn dilyn cyflwyno'r Ddeddf? Diolch.
Well, I thank Hannah Blythyn for that, Llywydd. I remember very well that, when that Act began its journey through the Welsh Government and towards the Senedd, it was always known internally simply as the 'social partnership Act', and it was the work that the Member did in being in charge of that Bill that turned it into the Social Partnership and Public Procurement (Wales) Bill—a really major new strand in that work. And the Member is right: the Act is being implemented; there are more implementation regulations to come in front of this Senedd. The implementation of those aspects of the Act that are already in operation also coincide with the implementation of the Procurement Act 2003, a UK Act, but which has significant impact here in Wales. The sector has had to get used to some of the new ways in which those Acts, together, place requirements on them. And it is true that, in the very early months, some organisations were taking a while to get used to the new portals and the new requirements. But in more recent months, we've seen an increase in the number of businesses using those arrangements, the number of opportunities available to them, and I'm confident that, as we place this very important part of the public sector on that new footing, doing all the things that I was able to outline in my original answer, that we will see the strongly positive benefits that will come to Wales as a result of the work that others, but particularly the Member for Delyn was involved in bringing about.
Wel, diolch i Hannah Blythyn am hynny, Lywydd. Rwy'n cofio'n dda iawn, pan ddechreuodd y Ddeddf honno ei thaith drwy Lywodraeth Cymru a thuag at y Senedd, ei bod bob amser yn cael ei galw'n fewnol yn 'Ddeddf partneriaeth gymdeithasol', a'r gwaith a wnaeth yr Aelod pan oedd yn gyfrifol am y Bil hwnnw a'i trodd yn Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)—elfen newydd bwysig iawn yn y gwaith hwnnw. Ac mae'r Aelod yn llygad ei lle: mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu; mae rhagor o reoliadau gweithredu i ddod gerbron y Senedd hon. Mae gweithredu'r agweddau hynny ar y Ddeddf sydd eisoes ar waith hefyd yn cyd-daro â gweithredu Deddf Caffael 2003, Deddf y DU, ond sydd â dylanwad sylweddol yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r sector ddod i arfer â rhai o'r ffyrdd newydd y mae'r Deddfau hynny, gyda'i gilydd, yn gosod gofynion arnynt. Ac mae'n wir, yn y misoedd cynnar iawn, fod rhai sefydliadau wedi cymryd peth amser i ddod i arfer â'r pyrth newydd a'r gofynion newydd. Ond yn y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y busnesau sy'n defnyddio'r trefniadau hynny, nifer y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, ac rwy'n hyderus, wrth inni roi'r rhan bwysig iawn hon o'r sector cyhoeddus ar y sail newydd honno, gan wneud yr holl bethau yr amlinellais yn fy ateb gwreiddiol, y byddwn yn gweld y manteision cadarnhaol cryf a ddaw i Gymru o ganlyniad i'r gwaith y bu eraill, ond yn enwedig yr Aelod dros Ddelyn, yn rhan o'i gyflawni.
6. Pa ystyriaeth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi i gynyddu'r gefnogaeth ariannol i hosbisau wrth baratoi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27? OQ63247
6. What consideration has the Cabinet Secretary given to increasing financial support for hospices in preparing the Welsh Government's draft budget for 2026-27? OQ63247
The outline draft budget published yesterday provided an inflationary uplift for all areas of the Welsh Government. Our full spending plans will be published on 3 November.
Roedd y gyllideb ddrafft amlinellol a gyhoeddwyd ddoe yn darparu cynnydd ar sail chwyddiant i bob rhan o Lywodraeth Cymru. Bydd ein cynlluniau gwariant llawn yn cael eu cyhoeddi ar 3 Tachwedd.
Thank you for your response, Cabinet Secretary. Hospices across Wales provide vital care and support to people with life-limiting and terminal illnesses and to the families who care for them. I recently had the pleasure of visiting Nightingale House Hospice in Wrexham, who, as you will know, deliver high-quality palliative and end-of-life care, helping patients to live with dignity and comfort, often in the most challenging circumstances. It's a great example of what hospices up and down Wales do day in and day out. But we know that hospices like Nightingale are under significant financial pressure. There are rising costs, increased demand and ongoing workforce challenges putting huge strain on these services. But we also know that hospices support our NHS and health services by taking the burden away from them, both financially and practically. I appreciate your response in terms of the formal publication of the draft budget, but I wonder how you consider the role of hospices in supporting our broader NHS, in particular from a financial perspective, in being able to deliver these services, and from a charity perspective, perhaps with more value for money at times as well. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hosbisau ledled Cymru yn darparu gofal a chymorth hanfodol i bobl â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd a salwch terfynol ac i'r teuluoedd sy'n gofalu amdanynt. Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam, sydd, fel y gwyddoch, yn darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel, gan helpu cleifion i fyw gydag urddas a chysur, yn aml yn yr amgylchiadau mwyaf heriol. Mae'n enghraifft wych o'r hyn y mae hosbisau ledled Cymru yn ei wneud o ddydd i ddydd. Ond gwyddom fod hosbisau fel Tŷ'r Eos o dan bwysau ariannol sylweddol. Mae costau cynyddol, galw cynyddol a heriau parhaus yn gysylltiedig â'r gweithlu yn rhoi straen enfawr ar y gwasanaethau hyn. Ond gwyddom hefyd fod hosbisau yn cefnogi ein GIG a'n gwasanaethau iechyd drwy fynd â'r baich oddi arnynt, yn ariannol ac yn ymarferol. Rwy'n derbyn eich ateb ar gyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn ffurfiol, ond tybed sut rydych chi'n ystyried rôl hosbisau yn cefnogi ein GIG yn ehangach, yn enwedig o safbwynt ariannol, a'u gallu i ddarparu'r gwasanaethau hyn, ac o safbwynt elusennol, efallai gyda mwy o werth am arian ar adegau hefyd. Diolch yn fawr.
I don't dissent from anything the Member has said about the importance of hospices and the work that they do. He's right; I have had an opportunity in the past to visit the Nightingale hospice in Wrexham with the Member for Wrexham, when I was the health Minister and she had just ceased to be so. Just to be clear, though, Llywydd, this isn't the first time, slightly to my surprise, this afternoon that I've had to explain that I'm the finance Minister, not the health Minister or the housing Minister or the education Minister, and the many questions that come in that way. I can say to the Member that in this Senedd term, investment in hospices has increased substantially. That includes an additional £5.2 million every year to the hospice sector and more than £9.5 million in one-off grants. The person who will be making those decisions, the Cabinet Secretary for Health and Social Care, is meeting with hospice leaders on 6 November to discuss the challenges that the sector faces. The detail of how the draft budget will provide for the sector will be known to Members on 3 November, when the more detailed budget lines in the draft budget are published and available to Members.
Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth y mae'r Aelod wedi'i ddweud am bwysigrwydd hosbisau a'r gwaith a wnânt. Mae'n llygad ei le; rwyf wedi cael cyfle yn y gorffennol i ymweld â hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam gyda'r Aelod dros Wrecsam, pan oeddwn yn Weinidog iechyd yn fuan ar ei hôl. I fod yn glir, Lywydd, nid dyma'r tro cyntaf y prynhawn yma, er syndod i mi braidd, imi orfod esbonio mai'r Gweinidog cyllid wyf i, nid y Gweinidog iechyd na'r Gweinidog tai na'r Gweinidog addysg, a'r nifer o gwestiynau sy'n cael eu gofyn i'r dibenion hynny. Gallaf ddweud wrth yr Aelod, yn nhymor y Senedd hon, fod buddsoddiad mewn hosbisau wedi cynyddu'n sylweddol. Mae hynny'n cynnwys £5.2 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i'r sector hosbisau a mwy na £9.5 miliwn mewn grantiau untro. Mae'r unigolyn a fydd yn gwneud y penderfyniadau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn cyfarfod ag arweinwyr hosbisau ar 6 Tachwedd i drafod yr heriau y mae'r sector yn eu hwynebu. Bydd y manylion ynglŷn â sut y bydd y gyllideb ddrafft yn darparu ar gyfer y sector ar gael i'r Aelodau ar 3 Tachwedd, pan fydd y llinellau gwariant mwy manwl yn y gyllideb ddrafft yn cael eu cyhoeddi ac ar gael i'r Aelodau.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gasglu'r dreth trafodiadau tir? OQ63237
7. Will the Cabinet Secretary make a statement on the collection of land transaction tax? OQ63237
I thank Peter Fox for that, Llywydd. Land transaction tax brings significant revenue to the Welsh Government. It is forecast to raise £401 million in 2026-27.
Diolch i Peter Fox am hynny, Lywydd. Mae treth trafodiadau tir yn dod â refeniw sylweddol i Lywodraeth Cymru. Rhagwelir y bydd yn codi £401 miliwn yn 2026-27.
Thank you, Cabinet Secretary, for that. I think land transaction tax is inherently a repressive tax, which does nothing really but to stifle opportunity and aspiration in many young people. The fact is that in Chepstow—let's concentrate on Chepstow—a hard-working family buying their first house can end up paying around £5,000 more, on average, than they would do if that house was just over the border, where in England they would pay nothing for that type of house. So, this tax is putting up a real barrier to home ownership in Monmouthshire for young people.
I'm proud that the Conservatives have pledged to abolish stamp duty in England, and we have pledged that we would do the same here if we could. I know the stock response will probably be that families do not have to pay land transaction tax on properties up to £225,000 in Wales, but that's little help to young people in Monmouthshire, because you will not find a house for £225,000 in Monmouthshire. So, Cabinet Secretary, can you understand why young families looking to start a life in Monmouthshire feel that they are being punished for living in Wales?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf fod treth trafodiadau tir yn dreth ormesol yn ei hanfod, nad yw'n gwneud unrhyw beth mewn gwirionedd ond mygu cyfleoedd a dyhead mewn llawer o bobl ifanc. Y gwir amdani yw, yng Nghas-gwent—gadewch inni ganolbwyntio ar Gas-gwent—gall teulu gweithgar sy'n prynu eu tŷ cyntaf dalu oddeutu £5,000 yn fwy, ar gyfartaledd, nag y byddent yn ei dalu pe bai'r tŷ hwnnw dros y ffin, lle na fyddent yn talu unrhyw beth am y math hwnnw o dŷ yn Lloegr. Felly, mae'r dreth hon yn creu rhwystr gwirioneddol i berchnogaeth tai ymhlith pobl ifanc yn sir Fynwy.
Rwy'n falch fod y Ceidwadwyr wedi addo cael gwared ar y dreth stamp yn Lloegr, ac rydym wedi addo y byddem yn gwneud yr un peth yma os gallwn. Gwn mai'r ymateb ystrydebol, yn ôl pob tebyg, fydd nad oes yn rhaid i deuluoedd dalu treth trafodiadau tir ar eiddo hyd at £225,000 yng Nghymru, ond nid yw hynny'n fawr o gymorth i bobl ifanc yn sir Fynwy, gan na chewch chi dŷ am £225,000 yn sir Fynwy. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddeall pam fod teuluoedd ifanc sy'n awyddus i ddechrau bywyd yn sir Fynwy yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi am fyw yng Nghymru?
As the Member knows, and he quoted the figure himself, you don't pay land transaction tax at all in Wales on a property bought for less than £225,000. The equivalent in England is £125,000. I know there are some special arrangements for first-time buyers, and I understand the point he makes. House prices are different in different parts of Wales, but I can't set a land transaction tax for each county. I have to set it for the whole of Wales, and the level we set it at, £225,000, means that six out of 10 transactions in Wales pay no tax at all. So, well over half of transactions in Wales pay no tax and well over half of the transactions in England do pay tax.
You can look over the border in one way and say people would rather be over there, but actually, our system is not a regressive system in Wales. Our system means that those who need help get it and those who are able to pay the tax are asked to do so. We keep it under review every year, whether that threshold is in the right place, whether there's more that we might be able to do. But in the draft budget, as you will have seen, the threshold stays at £225,000. Without it, the forecast revenues of £401 million would inevitably be reduced, and that will be less money to do all the other things—the help for hospices that Peter Fox’s colleague just asked about and all the other things that we know, here in the Chamber, we would like to do more of for Wales.
Fel y gŵyr yr Aelod, ac fe ddyfynnodd y ffigur ei hun, nid ydych yn talu treth trafodiadau tir o gwbl yng Nghymru ar eiddo a brynir am lai na £225,000. Y swm cyfatebol yn Lloegr yw £125,000. Gwn fod rhywfaint o drefniadau arbennig ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ac rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud. Mae prisiau tai'n wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ond ni allaf osod treth trafodiadau tir ar gyfer pob sir. Mae'n rhaid i mi ei gosod ar gyfer Cymru gyfan, ac mae'r lefel rydym yn ei gosod arni, £225,000, yn golygu nad oes unrhyw dreth o gwbl yn cael ei thalu ar chwech o bob 10 trafodiad yng Nghymru. Felly, nid oes unrhyw dreth yn cael ei thalu ar gryn dipyn yn fwy na hanner y trafodiadau yng Nghymru, ac mae treth yn cael ei thalu ar ymhell dros hanner y trafodiadau yn Lloegr.
Gallwch edrych dros y ffin mewn un ffordd a dweud y byddai'n well gan bobl fod draw yno, ond mewn gwirionedd, nid yw ein system yng Nghymru yn system anflaengar. Mae ein system yn golygu bod y rhai sydd angen cymorth yn ei gael, a bod gofyn i'r rhai sy'n gallu talu'r dreth wneud hynny. Rydym yn adolygu'r sefyllfa bob blwyddyn, i weld a yw'r trothwy yn y lle iawn, ac a oes mwy y gallem ei wneud. Ond yn y gyllideb ddrafft, fel y byddwch wedi'i weld, mae'r trothwy yn parhau ar £225,000. Heb y dreth, byddai'r refeniw a ragwelir o £401 miliwn yn anochel yn llai, a byddai hynny'n golygu llai o arian i wneud yr holl bethau eraill—y cymorth i hosbisau y gofynnodd cyd-Aelod Peter Fox amdano nawr a'r holl bethau eraill y gwyddom, yma yn y Siambr, y byddem yn hoffi gwneud mwy ohonynt dros Gymru.
Cwestiwn 8, yn olaf. Heledd Fychan.
Finally, question 8. Heledd Fychan.
8. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cynnal gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod darpariaeth iaith Gymraeg yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn y system gofal iechyd? OQ63256
8. What discussions has the Cabinet Secretary had with the Cabinet Secretary for Health and Social Care to ensure that Welsh-language provision is accessible to first-language Welsh-speakers in the health care system? OQ63256
Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn. Llywydd, fel y dywedais i yn gynharach, mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol. Mae hynny’n golygu pawb yn y Cabinet. Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gyfrifol am 'Mwy na geiriau', sy’n cydnabod pa mor bwysig yw iaith i sicrhau gofal iechyd sy’n deg, diogel ac sy'n canolbwyntio ar y person.
Thank you, Heledd Fychan, for that question. Llywydd, as I said earlier, Cymraeg belongs to us all, as does the responsibility for its future. That means all of us in the Cabinet. The Cabinet Secretary for Health and Social Care is responsible for 'More than just words', which recognises how fundamental the language is in delivering equitable, safe and person-centred healthcare.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n cytuno efo chi o ran 'Mwy na geiriau', mae hwnna'n adroddiad pwysig dros ben, ond mae adroddiad y Gymdeithas Strôc ar brofiadau pobl sy'n siarad yn y Gymraeg gydag affasia yn tynnu sylw at rwystrau difrifol y mae goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg yn eu hwynebu wrth geisio cael therapi lleferydd ac iaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn torri egwyddorion 'Mwy na geiriau', sef y fframwaith strategol. O ystyried y canfyddiadau hyn, pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd, gan gydweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i sicrhau mynediad teg at therapi lleferydd ac iaith yn y Gymraeg i oroeswyr strôc a phobl ag affasia ledled Cymru?
Thank you very much. I agree with you about 'More than just words', which is a very important report, but a report by the Stroke Association on the experiences of Welsh speakers with aphasia draws attention to the serious barriers that Welsh-speaking stroke survivors face when trying to obtain speech and language therapy through the medium of Welsh. This does breach the principles of 'More than just words', the strategic framework. In light of these findings, what action is the Cabinet Secretary taking, in collaboration with the Cabinet Secretary for Health and Social Care, to ensure fair and equitable access to speech and language therapy in Welsh for stroke survivors and people with aphasia throughout Wales?
Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig yna. Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau strôc hefyd yn grŵp blaenoriaeth yn 'Mwy na geiriau'. Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yn cefnogi'r agenda hwn ac mae hyfforddiant dwyieithog yn cael ei gynnig. Mae prifysgolion Caerdydd a Wrecsam yn cynnig graddau mewn therapi iaith a lleferydd, ac mae bwrsariaeth ar gael gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i fyfyrwyr sy'n ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau. Mae yna fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ym mhob blwyddyn, ac mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi comisiynu rhaglen therapi iechyd a lleferydd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam er mwyn cefnogi gwasanaethau therapi iaith a lleferydd ar draws Cymru.
Thank you very much for that important question. People accessing stroke services are also a priority in 'More than just words'. The Royal College of Speech and Language Therapists do support this agenda, and bilingual training is provided. Cardiff and Wrexham universities provide degrees in speech and language therapy, and there is a bursary available from Health Education and Improvement Wales for students who commit to working in Wales for two years having completed their studies. There are Welsh-speaking students in every year of the course, and Health Education and Improvement Wales has commissioned a Welsh-medium speech and language therapy course at Wrexham University in order to support speech and language therapy across Wales.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n ateb y cwestiynau dan eitem 2, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell.
The Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs will be answering the next questions, under item 2, and the first question is from Cefin Campbell.
1. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol ac ecolegol datblygu peilonau ledled Cymru? OQ63243
1. What assessment has the Cabinet Secretary made of the environmental and ecological impact of pylon development across Wales? OQ63243

We recognise the importance of energy distribution infrastructure to support new large-scale renewable energy developments to achieve our net-zero commitments and give people access to clean heat and transport. The environmental and ecological impacts of a proposal requiring planning permission are material considerations in the decision-making process.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd seilwaith dosbarthu ynni i gefnogi datblygiadau ynni adnewyddadwy newydd ar raddfa fawr er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau sero net a rhoi mynediad i bobl at wres a thrafnidiaeth glân. Mae effeithiau amgylcheddol ac ecolegol cynnig sydd angen caniatâd cynllunio yn ystyriaethau perthnasol yn y broses o wneud penderfyniadau.
Cabinet Secretary, you will be aware of concerns about the potential impact of energy infrastructure projects in mid Wales, and I would like to ask how we assess the cumulative environmental impact in particular. Individual projects are subject, of course, to environmental impact assessments, but there's a lack of a joined-up approach when it comes to assessing the combined pressures that multiple developments may have on habitats, biodiversity, landscapes and communities. There's a risk of creating environmental blind spots, perhaps risking cumulative impacts on ecosystems, species displacement and the deterioration of natural landscape areas. We also risk overlooking local environmental knowledge and the concerns of communities and the way it affects them. Without a strategic and holistic evaluation, it is difficult to understand the true scale of the environmental impact that may be caused. Given these concerns, what assessment is Welsh Government undertaking of the cumulative environmental and ecological impacts of pylon development across Wales, and how can we ensure that future projects consider the combined effects of multiple energy developments within a given area?
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol o bryderon ynghylch effaith bosib prosiectau seilwaith ynni yng nghanolbarth Cymru, a hoffwn ofyn sut rydym yn asesu'r effaith amgylcheddol gronnol yn enwedig. Mae prosiectau unigol yn destun asesiadau o'r effaith amgylcheddol wrth gwrs, ond ceir diffyg dull cydgysylltiedig o asesu'r pwysau cyfunol y gallai datblygiadau lluosog ei roi ar gynefinoedd, bioamrywiaeth, tirweddau a chymunedau. Mae risg o greu mannau dall amgylcheddol, gan greu perygl, efallai, o effeithiau cronnol ar ecosystemau, dadleoliad rhywogaethau a dirywiad ardaloedd o dirwedd naturiol. Rydym hefyd mewn perygl o anwybyddu gwybodaeth amgylcheddol leol a phryderon cymunedau a'r ffordd y mae'n effeithio arnynt. Heb werthusiad strategol a chyfannol, mae'n anodd deall gwir raddfa'r effaith amgylcheddol a allai gael ei hachosi. O ystyried y pryderon hyn, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o effeithiau amgylcheddol ac ecolegol cronnol datblygiadau peilonau ledled Cymru, a sut y gallwn sicrhau bod prosiectau yn y dyfodol yn ystyried effeithiau cyfunol datblygiadau ynni lluosog mewn ardal benodol?
Diolch, Cefin. You'll understand that I can't comment on individual projects, as it's possible that Welsh Ministers might have a role in their determination. But we do know, and it's worth reminding ourselves as the Senedd Chamber, that we anticipate that Wales's electricity demand will probably double, and may indeed triple, by 2050, because of our transition towards net zero and decarbonisation. So, updating the grid is essential if we're going to have an energy system fit for purpose in the long term, and also that it reaches all parts of Wales, both supply and demand. But you will know that we've also convened the independent advisory group on future electricity grid for Wales, looking at work on possible approaches to deliver that infrastructure, including considering the environmental impacts of electricity lines in Wales.
You touch on the policy framework. First of all, 'Future Wales: the National Plan 2040' sets out the national-scale policies for renewable energy. Policy 17 of 'Future Wales' emphasises the importance of proposals identifying net benefits the scheme may bring in terms of—and this is particularly pertinent in terms of the well-being of future generations Act—not just the economic but the social, environmental and cultural aspects for local communities.
You rightly ask how we look at this going forward, because Wales does indeed play its part in terms of electricity generation here. The Infrastructure (Wales) Act 2024 provides an up-to-date decision-making process for significant infrastructure projects in Wales, which is informed by engagement with the public and other stakeholders, and that will come into force by the end of this year, of course. Cumulative impact of development, including development consented under the nationally significant infrastructure project process, is a material consideration in the determination of an application under that regime.
Diolch, Cefin. Fe fyddwch yn deall na allaf wneud sylwadau ar brosiectau unigol, gan ei bod yn bosib y gallai fod gan Weinidogion Cymru rôl yn gwneud penderfyniadau yn eu cylch. Ond fe wyddom, ac mae'n werth atgoffa ein hunain fel Siambr y Senedd, ein bod yn rhagweld y bydd galw Cymru am drydan yn dyblu yn ôl pob tebyg, ac efallai'n treblu, erbyn 2050, wrth inni bontio tuag at sero net a datgarboneiddio. Felly, mae diweddaru'r grid yn hanfodol os ydym am gael system ynni sy'n addas i'r diben yn y tymor hir, a hefyd ei bod yn cyrraedd pob rhan o Gymru, y cyflenwad a'r galw. Ond fe fyddwch yn gwybod ein bod hefyd wedi cynnull grŵp cynghori annibynnol ar grid trydan y dyfodol i Gymru, gan edrych ar waith ar ddulliau posib o ddarparu'r seilwaith hwnnw, gan gynnwys ystyried effeithiau amgylcheddol llinellau trydan yng Nghymru.
Rydych chi'n sôn am y fframwaith polisi. Yn gyntaf oll, mae 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' yn nodi'r polisïau ar raddfa genedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy. Mae polisi 17 yn 'Cymru’r Dyfodol' yn pwysleisio pwysigrwydd cynigion sy'n nodi'r manteision net y gallai'r cynllun eu darparu o ran—ac mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—nid yn unig yr agweddau economaidd ond yr agweddau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i gymunedau lleol.
Rydych chi'n gofyn, yn gywir ddigon, sut rydym yn edrych ar hyn wrth symud ymlaen, gan fod Cymru yn wir yn chwarae ei rhan o ran cynhyrchu trydan yma. Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn darparu proses gyfredol o wneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru, sy'n cael ei llywio drwy ymgysylltiad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill, a daw hynny i rym erbyn diwedd eleni, wrth gwrs. Mae effaith gronnol datblygiadau, yn cynnwys datblygiadau a ganiateir o dan broses y prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol, yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar gais o dan y drefn honno.
Su'mae. In Wales, we have the most beautiful countryside. I believe this should be cherished and protected. The original question refers to pylon development. I've spoken with organisations on both sides, and I've also read the survey launched on pylons by Countryside Alliance. Ninety-three per cent of respondents were strongly opposed to pylon construction in their area, 81 per cent of businesses saw no benefit from the construction of more pylons, and 96 per cent of people raised concerns about environmental damage from pylon construction.
These pylons are a risk to our natural environment. They are a risk to our wetlands. Certain birds, such as swans and geese, have poor vision when they are flying—this is from the RSPB—as well as birds of prey, which can be electrocuted by perching on pylon poles. There are numerous reasons why we should really be having a mandate that says 'no pylon construction unless absolutely necessary'—no other way possible. There's no reason why they can't go underground. It takes seven years to recoup the cost, and then you've got your underground works in, and everybody is happy.
With this in mind, will you, Cabinet Secretary, please look at bringing forward some kind of mandate for electricity cables to be placed under the ground, and again for pylons to be used as a last resort? Let's not ruin our countryside—
Su'mae. Yng Nghymru, mae gennym gefn gwlad hynod o brydferth. Credaf y dylid ei drysori a'i warchod. Cyfeiria'r cwestiwn gwreiddiol at ddatblygiadau peilonau. Rwyf wedi siarad â sefydliadau ar y ddwy ochr, ac rwyf hefyd wedi darllen yr arolwg a lansiwyd ar beilonau gan y Gynghrair Cefn Gwlad. Roedd 93 y cant o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu adeiladu peilonau yn eu hardal yn gryf, nid oedd 81 y cant o fusnesau yn gweld unrhyw fudd mewn adeiladu mwy o beilonau, a chododd 96 y cant o bobl bryderon ynghylch niwed i'r amgylchedd yn sgil adeiladu peilonau.
Mae'r peilonau hyn yn berygl i'n hamgylchedd naturiol. Maent yn berygl i'n gwlyptiroedd. Mae golwg rhai adar, fel elyrch a gwyddau, yn wael pan fyddant yn hedfan—daw hyn gan yr RSPB—yn ogystal ag adar ysglyfaethus, sy'n gallu cael sioc drydanol wrth eistedd ar bolion peilonau. Mae nifer o resymau pam y dylai fod gennym fandad sy'n dweud 'dim adeiladu peilonau oni fo hynny'n gwbl angenrheidiol'—heb unrhyw ffordd arall yn bosib. Nid oes unrhyw reswm pam na allant fynd o dan y ddaear. Mae'n cymryd saith mlynedd i adennill y gost, ac yna mae gennych eich gwaith tanddaearol wedi'i osod, ac mae pawb yn hapus.
Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried cyflwyno rhyw fath o fandad i osod ceblau trydan o dan y ddaear, ac unwaith eto, i ddefnyddio peilonau fel dewis olaf? Gadewch inni beidio â difetha ein cefn gwlad—
I've been very generous. You did come to your question, and then you decided to start all over again. So, the Minister to respond.
Rwyf wedi bod yn hael iawn. Fe ddaethoch at eich cwestiwn, ac yna fe benderfynoch chi ddechrau eto. Felly, y Gweinidog i ymateb.
Diolch yn fawr.
Thank you very much.
Croeso.
You're welcome.
Shwmae i chi hefyd, Janet.
Shwmae to you as well, Janet.
Thank you for the question. First of all, to refer to the previous answer I gave, we've actually put in place the independent advisory group on future electricity grid for Wales. They're looking at possible approaches to delivering the electricity network. But I come back to the point that this isn't simply a question of energy generation, it's energy supply as well, to all those parts of Wales that need it. In some ways, we're going to need to get that electricity to and from all of these areas, including those areas that need economic development that relies on an electricity grid.
I've said—and you know as well; you're a member of the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee—our electricity demand is going to double and possibly triple by 2050. So, I think we all have to seriously wrestle with these issues. And what we certainly don't need, Llywydd, is any approach where the consensus that we've seemed to establish over the last 20 years, since, indeed, the 1990 appearance of a certain Margaret Thatcher at a UN convention to say we need to tackle climate change, we need to be committed to actually dealing with decarbonisation—. To see one party now walking away from that is a real disappointment, I have to say.
Diolch am eich cwestiwn. Yn gyntaf, i gyfeirio at yr ateb blaenorol a roddais, rydym wedi sefydlu grŵp cynghori annibynnol ar grid trydan y dyfodol i Gymru. Maent yn edrych ar ddulliau posib o ddarparu'r rhwydwaith trydan. Ond dof yn ôl at y pwynt nad mater o gynhyrchu ynni yn unig yw hyn, mae a wnelo â'r cyflenwad ynni hefyd, i'r holl rannau o Gymru sydd ei angen. Mewn rhai ffyrdd, bydd angen inni gludo'r trydan hwnnw i ac o'r holl ardaloedd hyn, gan gynnwys yr ardaloedd sydd angen datblygu economaidd sy'n dibynnu ar grid trydan.
Rwyf wedi dweud—ac rydych chithau'n gwybod hefyd; rydych chi'n aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—fod ein galw am drydan yn mynd i ddyblu, a threblu o bosib, erbyn 2050. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom feddwl o ddifrif am y materion hyn. A'r hyn nad oes ei angen arnom, Lywydd, yw unrhyw ddull lle mae'r consensws yr ydym wedi'i sefydlu dros yr 20 mlynedd diwethaf, ers ymddangosiad, yn ôl pob golwg, un Margaret Thatcher yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ym 1990 i ddweud bod angen inni fynd i'r afael â newid hinsawdd mewn gwirionedd, fod angen inni ymrwymo i fynd i'r afael o ddifrif â datgarboneiddio—. Mae gweld un blaid yn cefnu ar hynny nawr yn siom wirioneddol, rhaid imi ddweud.
2. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar weithredu argymhellion adroddiad Llifogydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd yn Hydref 2024? OQ63236
2. What progress has the Welsh Government made on implementing the recommendations in the National Infrastructure Commission Wales report on Floods, published in October 2024? OQ63236
Diolch, Heledd. Cyhoeddais yr ymateb ffurfiol i’r adroddiad ar 17 Ebrill 2025. Rydym wedi bod yn cydweithio â rhanddeiliaid ynghylch camau gweithredu ac rydym yn asesu amserlenni cyflawni yn unol â’n hymateb. Byddaf yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn y gwanwyn, gan amlinellu hynt y gwaith ac amserlenni ymarferol ar gyfer cyflawni.
Thank you, Heledd. I published the formal response to the report on 17 April 2025. We have been working with stakeholders on implementation and we are assessing delivery timelines in line with our response. I will provide a written statement in the spring, outlining progress made and realistic timelines for delivery.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw.
Thank you very much for that response.
I really appreciate that. I think communities that I represent will really welcome seeing that set out in terms of the timetable, because, obviously, the specific recommendations that concern them are around community flood groups and exploring the possibility of a national flood forum. We discussed some of this last week, during your statement, and I think we both agreed that local activists are key to these developments. But additional funding is required to ensure this work is resourced. We know that Natural Resources Wales have very few staff members working on this. So, as we face another winter, knowing that some communities are currently more vulnerable than others, will you commit to reviewing the risk factor in these communities to ensure resources are targeted and prioritised to support them to organise local flood resilience groups?
Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Rwy'n credu y bydd cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli yn croesawu gweld hynny wedi'i nodi o ran yr amserlen, oherwydd, yn amlwg, mae'r argymhellion penodol sy'n eu pryderu nhw yn ymwneud â grwpiau llifogydd cymunedol ac archwilio'r posibilrwydd o fforwm llifogydd cenedlaethol. Fe wnaethom drafod peth o hyn yr wythnos diwethaf, yn ystod eich datganiad, ac rwy'n credu bod y ddau ohonom yn cytuno bod gweithredwyr lleol yn allweddol i'r datblygiadau hyn. Ond mae angen cyllid ychwanegol i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael adnoddau. Gwyddom mai ychydig iawn o aelodau staff sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar hyn. Felly, wrth inni wynebu gaeaf arall, gan wybod bod rhai cymunedau ar hyn o bryd yn fwy bregus nag eraill, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r ffactor risg yn y cymunedau hyn i sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu a'u blaenoriaethu i'w cefnogi i drefnu grwpiau gwydnwch llifogydd lleol?
I think that issue of targeting and prioritising is absolutely the line, because we've always made clear we'll never have sufficient funding, nor should we try to defend every inch of either every coastline or every valley community—we simply wouldn't be able to do it. Sometimes, using natural processes is the way to do it, including the upstream interventions as well. But in terms of community engagement and the work of the National Flood Forum, we very much value the work that they're currently doing in Wales. We've managed to find—including in communities that you and I have visited together—funding to help support their work within those communities where there is a real crying need.
Now, going forward, I am pleased to confirm that we're working with the National Flood Forum to establish how their services can be used on a wider Wales basis. But as opposed to necessarily leaping into saying, 'Let's have a Wales national flood forum', we're trying to explore what is the best way and the most efficient and effective way to actually do that going forward. So, we're working with them on that. The other thing, of course, is to flag up the NRW-run volunteer network support events across Wales that are happening as well, including as we run into the autumn and winter period, because that can advise community groups, then, on completion of testing of things such as community networks, community flood plans, enabling communities themselves to be more proactive and resilient. So, I would definitely draw—and I would ask all Members of the Senedd to draw—communities' attention to the National Flood Forum local resilience forum, which is on NRW's website, which has some really good information about how to prepare now and how to actually recover from flooding as well.
Rwy'n credu mai mater targedu a blaenoriaethu yw'r llinell yn sicr, oherwydd rydym bob amser wedi dweud yn glir na fydd gennym ddigon o gyllid byth, ac ni ddylem geisio amddiffyn pob modfedd o bob cymuned arfordirol neu ddyffryn—ni fyddem yn gallu gwneud hynny. Weithiau, defnyddio prosesau naturiol yw'r ffordd i'w wneud, gan gynnwys yr ymyriadau ymhellach i fyny hefyd. Ond o ran ymgysylltu â'r gymuned a gwaith y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gwaith y maent yn ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd—gan gynnwys mewn cymunedau y byddwch chi a minnau wedi ymweld â nhw gyda'n gilydd—i gyllid i helpu i gefnogi eu gwaith yn y cymunedau hynny lle mae angen mawr iawn.
Nawr, wrth symud ymlaen, rwy'n falch o gadarnhau ein bod yn gweithio gyda'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i sefydlu sut y gellir defnyddio eu gwasanaethau ar sail Cymru yn ehangach. Ond yn hytrach na neidio o reidrwydd i ddweud, 'Gadewch inni gael fforwm llifogydd cenedlaethol yng Nghymru', rydym yn ceisio archwilio beth yw'r ffordd orau a'r ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol o wneud hynny yn y dyfodol. Felly, rydym yn gweithio gyda nhw ar hynny. Y peth arall, wrth gwrs, yw nodi digwyddiadau cymorth y rhwydwaith gwirfoddol sy'n cael ei redeg gan CNC ledled Cymru hefyd, gan gynnwys wrth inni wynebu cyfnod yr hydref a'r gaeaf, oherwydd gall hynny gynghori grwpiau cymunedol, wrth iddynt gwblhau profion ar bethau fel rhwydweithiau cymunedol, cynlluniau llifogydd cymunedol, gan alluogi cymunedau eu hunain i fod yn fwy rhagweithiol a gwydn. Felly, rwy'n bendant yn tynnu sylw—ac yn gofyn i holl Aelodau'r Senedd dynnu sylw—cymunedau at fforwm gwydnwch lleol y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, sydd ar wefan CNC, sy'n cynnwys gwybodaeth dda iawn ynglŷn â sut i baratoi nawr a sut i adfer ar ôl llifogydd hefyd.
Shwmae. Cabinet Secretary, the flood and coastal erosion committee has endorsed the creation of regional and local catchment partnerships by the end of this year to support a systematic and integrated catchment and coastal management approach. We have corresponded in the past about flooding issues at Caer Castell House in Brackla. Despite multiple tripartite meetings, the issues with the culvert have not been resolved and the properties were flooded once again. I have failed to get any sensible resolution from Network Rail or the local authorities. Cabinet Secretary, do you believe local catchment partnerships will be able to resolve issues such as those faced by the residents of Brackla and ensure that buck passing does not leave residents at the mercy of unchecked floodwaters?
Shwmae. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol wedi cymeradwyo creu partneriaethau dalgylch rhanbarthol a lleol erbyn diwedd y flwyddyn hon i gefnogi dull systematig ac integredig o reoli dalgylchoedd a'r arfordir. Rydym wedi gohebu yn y gorffennol ar faterion llifogydd yn Nhŷ Caer Castell ym Mracla. Er gwaethaf sawl cyfarfod teirochrog, nid yw'r problemau gyda'r cwlfert wedi'u datrys a phrofodd yr eiddo lifogydd unwaith eto. Rwyf wedi methu cael unrhyw ateb synhwyrol gan Network Rail na'r awdurdodau lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n credu y bydd partneriaethau dalgylch lleol yn gallu datrys materion fel y rhai sy'n wynebu trigolion Bracla a sicrhau nad yw taflu'r baich yn gadael trigolion ar drugaredd dŵr llifogydd heb ei atal?
Yes, indeed, Altaf, thank you for that, and my sympathy goes out to those and all other members of communities across Wales who are now being affected more frequently, actually, with flooding. And it can be river flooding, flash flooding, it can actually be surface water flooding or a combination of all of these, or indeed coastal ingress as well. My sympathy goes out to them—I've met with many and spoken with them, and talked about the way forward as well.
The resolution for this lies in Welsh Government putting its money where its mouth is. And we do that—we now have record funding going in, not just in the major investments like we've seen in Stephenson Street in Newport, but actually working with local authorities, putting the money into them, so that they can, on a street by street level, and a property by property level, work with those residents as well. I'm pleased we've been able to assist in that case, but the solution then needs to lie with that local resilience forum, the local authority and others, working with the local community. That's where the secret lies. But for our role as Welsh Government, and this Senedd, we need to will the means that we keep on putting the record investment into the national approach to flood defence.
Yn wir, Altaf, diolch am hynny, ac rwy'n cydymdeimlo â'r rheini a phob aelod arall o gymunedau ledled Cymru sydd bellach yn cael eu heffeithio'n amlach, mewn gwirionedd, gan lifogydd. A gall fod yn llifogydd o afonydd, fflachlifoedd, gall fod yn llifogydd dŵr wyneb neu gyfuniad o'r rhain i gyd, neu'n wir yn deillio o'r arfordir hefyd. Rwy'n cydymdeimlo â nhw—rwyf wedi cyfarfod â nifer ac wedi siarad â nhw, a siarad am y ffordd ymlaen hefyd.
Mae'r ateb i hyn yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru yn rhoi'r arian ar ei gair. Ac rydym yn gwneud hynny—rydym bellach yn rhoi mwy o gyllid nag erioed, nid yn unig yn y buddsoddiadau mawr fel a welsom yn Stryd Stephenson yng Nghasnewydd, ond drwy weithio gydag awdurdodau lleol, gan roi'r arian iddynt, fel y gallant hwy, ar lefel strydoedd unigol, ac ar lefel eiddo unigol, weithio gyda'r trigolion hynny hefyd. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cynorthwyo yn yr achos hwnnw, ond mae angen i'r ateb ddod wedyn gan y fforwm gwydnwch lleol, yr awdurdod lleol ac eraill, gan weithio gyda'r gymuned leol. Dyna lle mae'r gyfrinach. Ond ar gyfer ein rôl ni fel Llywodraeth Cymru, a'r Senedd hon, mae angen inni barhau i roi'r buddsoddiad uwch nag erioed yn y dull cenedlaethol o amddiffyn rhag llifogydd.
Deputy First Minister, we know many communities in Wales have been impacted in recent years by flooding incidents, including in Mold in my own constituency. So, as we head into the winter months, and the anticipation of more extreme weather, do you agree with me about the importance of having as many people as possible signed up to Natural Resources Wales's flood warning system? And in order to tackle further flooding, and flooding in the future, a number of flood defence schemes have been built right across Wales, including across the north Wales coast. Deputy First Minister, you were in Rhyl just last week to mark the investment there following on from the coastal defence project to protect thousands of Prestatyn homes. Therefore, can I ask: what assessment has the Welsh Government made of the importance of maintaining the capital budget for flood defences? Diolch.
Ddirprwy Brif Weinidog, gwyddom fod llawer o gymunedau yng Nghymru wedi cael eu heffeithio yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan ddigwyddiadau llifogydd, gan gynnwys yn yr Wyddgrug yn fy etholaeth fy hun. Felly, wrth inni wynebu misoedd y gaeaf, a'r disgwyliad o dywydd mwy eithafol, a ydych chi'n cytuno â mi ynglŷn â phwysigrwydd cael cymaint o bobl â phosib i gofrestru ar gyfer system rhybudd rhag llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru? Ac er mwyn mynd i'r afael â llifogydd pellach, a llifogydd yn y dyfodol, mae nifer o gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd wedi'u hadeiladu ledled Cymru, gan gynnwys ar draws arfordir gogledd Cymru. Ddirprwy Brif Weinidog, roeddech chi yn y Rhyl yr wythnos diwethaf i nodi'r buddsoddiad yno yn dilyn prosiect amddiffyn yr arfordir i warchod miloedd o gartrefi ym Mhrestatyn. Felly, a gaf i ofyn: pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o bwysigrwydd cynnal y gyllideb gyfalaf ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd? Diolch.
Thank you very much, Hannah. I was delighted to be up in north Wales last week, I think it was, opening what I think was the final instalment of the biggest single investment in the whole of Wales. It's over £100 million in total, and it is hundreds upon hundreds of properties, and businesses as well, allowing the families to be safe in their homes and to carry on with their lives and those businesses to thrive and invest and grow.
But that's not all that we do, as you say. We've also invested over £60 million in a new modern flood alert system, and this is the time of the year where we actually promote 'be flood alert'. We need people to sign up. I'm signed up. I need everybody to sign up, because we know that it's not only happening in those areas where we've seen floods happening every few years; it's now happening in places that are unexpected through flash flooding or street flooding. Now, on that basis, please, please sign up—and I'd ask all Members to push this to their constituents—and be flood alert. You can then get the flood warnings, the heightened flood warnings and the flood alerts as well. And there is also information on the NRW site about how to respond to those flood warnings and alerts. So, Hannah, thank you so much for raising this. It's vital we get more people signed up to it.
Diolch yn fawr, Hannah. Roeddwn yn falch iawn o fod i fyny yng ngogledd Cymru yr wythnos diwethaf yn agor yr hyn y credaf ei fod um rhandaliad olaf y buddsoddiad unigol mwyaf yng Nghymru gyfan. Mae dros £100 miliwn i gyd, ac mae'n cynnwys cannoedd ar gannoedd o eiddo, a busnesau hefyd, ac yn caniatáu i'r teuluoedd fod yn ddiogel yn eu cartrefi ac i barhau â'u bywydau ac i'r busnesau hynny ffynnu a buddsoddi a thyfu.
Ond nid dyna'r cyfan a wnawn, fel y dywedwch. Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £60 miliwn mewn system rhybudd rhag llifogydd fodern newydd, a dyma'r adeg o'r flwyddyn pan ydym yn hyrwyddo 'byddwch yn ymwybodol o lifogydd'. Mae angen i bobl gofrestru. Rwyf i wedi cofrestru. Mae angen i bawb gofrestru, oherwydd fe wyddom ei fod yn digwydd mewn ardaloedd ar wahân i'r rheini lle gwelsom lifogydd yn digwydd bob hyn a hyn o flynyddoedd; mae bellach yn digwydd mewn lleoedd annisgwyl drwy fflachlifogydd neu lifogydd stryd. Nawr, ar y sail honno, os gwelwch yn dda, cofrestrwch—a hoffwn ofyn i'r holl Aelodau hyrwyddo hyn i'w hetholwyr—a bod yn ymwybodol o lifogydd. Yna, gallwch gael y rhybuddion rhag llifogydd a'r rhybuddion am risg uwch o lifogydd hefyd. Ac mae gwybodaeth ar wefan CNC ynglŷn â sut i ymateb i'r rhybuddion rhag llifogydd. Felly, Hannah, diolch yn fawr am godi hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cael mwy o bobl i gofrestru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Questions now from the party spokespeople. Conservative spokesperson, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd. Deputy First Minister, following the well-founded concerns in the agricultural industry over its future, there are now reports that the UK Government may raise the inheritance tax thresholds for farmers, but, potentially, at the cost of a cut to the Department for Environment, Food and Rural Affairs budget, possibly impacting agricultural funding here in Wales. However, Welsh farmers remain deeply anxious about the family farm tax. This Chamber has heard distressing stories, including one farmer who stopped cancer treatment, hoping they'd die before the changes come into effect, and cases such as the Cornock family in Pembrokeshire, where Janet Cornock said:
'We simply do not have the cashflow to pay this substantial and unexpected tax bill when all of the value of our business is tied up in the farm and its assets.'
So, while a possible u-turn from UK Labour may bring relief, we still don't know the Welsh Government's stance on changes to agricultural property relief and business property relief. So, Deputy First Minister, what is your position on the family farm tax, and will you publish all correspondence with the UK Government, so that Welsh farmers can see what representations have been made on their behalf?
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Brif Weinidog, yn dilyn y pryderon digon teg yn y diwydiant amaethyddol am ei ddyfodol, mae adroddiadau erbyn hyn y gallai Llywodraeth y DU godi'r trothwyon treth etifeddiant i ffermwyr, ond ar draul toriad posib i gyllideb Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, gan effeithio ar gyllid amaethyddol yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ffermwyr Cymru yn parhau i fod yn bryderus iawn am y dreth ar y fferm deuluol. Mae'r Siambr hon wedi clywed straeon gofidus, gan gynnwys un ffermwr a roddodd y gorau i driniaeth ganser, gan obeithio y byddai'n marw cyn i'r newidiadau ddod i rym, ac achosion fel y teulu Cornock yn sir Benfro, lle dywedodd Janet Cornock:
'Nid oes gennym y llif arian i dalu'r bil treth sylweddol ac annisgwyl hwn pan fydd holl werth ein busnes wedi'i glymu yn y fferm a'i hasedau.'
Felly, er y gallai tro pedol posib gan Lafur y DU ddod â rhyddhad, rydym eto i wybod safbwynt Llywodraeth Cymru ar newidiadau i ryddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, beth yw eich safbwynt ar y dreth ar y fferm deuluol, ac a fyddwch chi'n cyhoeddi'r holl ohebiaeth â Llywodraeth y DU, fel y gall ffermwyr Cymru weld pa sylwadau a wnaed ar eu rhan?
Thank you, Sam. I'm aware of the speculation in the media, which seems to be rife at the moment, on possible changes to proposals, but it is speculation. I have no greater insight into the Treasury's plans than any other Member or citizen here does. The Treasury are notoriously tight-lipped on what they actually put out there. They'll do that when they get to about five or six weeks to the actual statement they'll bring forward on the floor of the House of Commons.
But meanwhile, we do continue to support farmers through those challenges that you rightly said. I've met with many of the farmers who've expressed the range of pressures that are currently facing them. We are providing, through Farming Connect, facilitated family succession meetings, succession reviews to understand IHT implications as they're currently laid out, and also subsidised business and legal advice to develop succession plans. We are also cognisant of the advice that is being provided through the farming unions as well.
So, rather than comment on speculation, let me just say—for complete clarity, because I have said it before, Sam, as well—we've had several items of correspondence where we've been in touch with UK Government on this issue, and also have raised it repeatedly in inter-ministerial group discussions as well, and in bilaterals. In our latest letter, which went off in September, if I recall correctly, it stressed the importance of the work that we're doing with the sustainable farming scheme—focused on small, medium-scale family farms within Wales and the future viability of those—and that nothing should disrupt that. It also made clear that we'd want them to engage with some of the considered advice and information that was being put forward by not just the farming unions, but others more recently as well that suggests, with nuancing, there could be adjustments made that could work. But it is a Treasury decision, it is a reserved decision. But we've made very clear, as I'm happy to do again, exactly what our position is here in Welsh Government.
Diolch, Sam. Rwy'n ymwybodol o'r dyfalu yn y cyfryngau, sydd i'w weld yn rhemp ar hyn o bryd, ar newidiadau posib i argymhellion, ond dyfalu ydyw. Nid oes gennyf fwy o fewnwelediad i gynlluniau'r Trysorlys nag unrhyw Aelod neu ddinesydd arall yma. Mae'r Trysorlys yn enwog am fod yn dawedog am yr hyn y maent yn ei ddatgelu. Byddant yn gwneud hynny bum neu chwe wythnos cyn y datganiad y byddant yn ei gyflwyno ar lawr Tŷ'r Cyffredin.
Ond yn y cyfamser, rydym yn parhau i gefnogi ffermwyr drwy'r a nodwyd gennych yn gywir ddigon. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o'r ffermwyr sydd wedi nodi'r holl bwysau sydd arnynt ar hyn o bryd. Drwy Cyswllt Ffermio, rydym yn darparu cyfarfodydd olyniaeth wedi'u hwyluso i deuluoedd, adolygiadau olyniaeth i ddeall goblygiadau treth etifeddiant fel y maent ar hyn o bryd, a chyngor busnes a chyfreithiol wedi'i sybsideiddio i ddatblygu cynlluniau olyniaeth. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r cyngor sy'n cael ei ddarparu drwy'r undebau ffermio.
Felly, yn hytrach na gwneud sylwadau ar ddyfaliadau, gadewch imi ddweud—er eglurder, oherwydd rwyf wedi ei ddweud o'r blaen, Sam—rydym wedi cael sawl eitem o ohebiaeth lle rydym wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ar y mater hwn, a hefyd wedi ei godi dro ar ôl tro mewn trafodaethau yn y grŵp rhyngweinidogol hefyd, ac mewn cyfarfodydd dwyochrog. Roedd ein llythyr diweddaraf, a anfonwyd ym mis Medi, os cofiaf yn iawn, yn pwysleisio bwysigrwydd y gwaith a wnawn gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy—gan ganolbwyntio ar ffermydd teuluol bach a chanolig yng Nghymru a hyfywedd y rheini yn y dyfodol—ac na ddylai unrhyw beth amharu ar hynny. Roedd yn dweud yn glir hefyd y byddem am iddynt ymgysylltu â pheth o'r cyngor a'r wybodaeth ystyrlon a gâi eu cyflwyno nid yn unig gan yr undebau ffermio, ond gan eraill yn fwy diweddar hefyd sy'n awgrymu y gallai fod addasiadau a allai weithio gyda mân newidiadau. Ond mae'n benderfyniad i'r Trysorlys, mae'n benderfyniad a gadwyd yn ôl. Ond rydym wedi dweud yn glir iawn, fel rwy'n hapus i wneud eto, yn union beth yw ein safbwynt yma yn Llywodraeth Cymru.
You say that, but this Welsh Government was quite happy to give opinions on reserved matters under a Conservative UK Government. Yet, we've not heard again today, when given the opportunity, what this Welsh Labour Government believes around the family farms tax. That would have been really welcome. Farmers watching this now will be left in the dark as to whether this Welsh Government has supported them in discussions with UK Treasury.
Linked to the wider challenges facing rural communities, there is still another cloud of bovine TB cast over Welsh agriculture. Yet, I will give credit, there is some hope through the Pembrokeshire project, something that I helped launch, which participating farmers have strongly supported. We also have the technical advisory group examining wider scientific evidence. Under new rules, inconclusive reactor cattle can only move under licence to slaughter or to approved finishing units, something that has been welcomed by the industry. But despite this, the number of cattle slaughtered in Wales remains painfully high, leaving many farmers trapped in ongoing restrictions.
With the draft budget now before the Senedd, what discussions are you having with the Cabinet Secretary for finance to guarantee, firstly, the long-term funding for the Pembrokeshire project and its sister project in north Wales, as well as ensuring adequate compensation for farmers required to cull their livestock due to bovine TB?
Rydych chi'n dweud hynny, ond roedd y Llywodraeth Cymru hon yn eithaf hapus i roi barn ar faterion a gadwyd yn ôl o dan Lywodraeth Geidwadol y DU. Eto, nid ydym wedi clywed heddiw, pan gafodd gyfle i wneud hynny, beth y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gredu ynghylch y dreth ar ffermydd teuluol. Byddai hynny wedi cael ei groesawu'n fawr. Bydd ffermwyr sy'n gwylio hyn nawr yn cael eu gadael yn y tywyllwch pa un a yw'r Llywodraeth hon wedi eu cefnogi mewn trafodaethau gyda Thrysorlys y DU.
Yn gysylltiedig â'r heriau ehangach sy'n wynebu cymunedau gwledig, mae cwmwl arall o TB buchol dros amaethyddiaeth yng Nghymru. Eto, rwy'n rhoi clod, mae rhywfaint o obaith drwy brosiect sir Benfro, rhywbeth y gwneuthum helpu i'w lansio, ac mae ffermwyr sy'n cymryd rhan wedi ei gefnogi'n gryf. Mae gennym hefyd y grŵp cynghori technegol sy'n archwilio tystiolaeth wyddonol ehangach. O dan reolau newydd, ni all gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant symud heblaw o dan drwydded i gael eu lladd neu i unedau pesgi cymeradwy, rhywbeth sydd wedi ei groesawu gan y diwydiant. Ond er hynny, mae nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd yng Nghymru yn parhau i fod yn boenus o uchel, gan adael llawer o ffermwyr yn gaeth mewn cyfyngiadau parhaus.
Gyda'r gyllideb ddrafft bellach gerbron y Senedd, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i warantu, yn gyntaf, y cyllid hirdymor ar gyfer prosiect sir Benfro a'i chwaer brosiect yng ngogledd Cymru, yn ogystal â sicrhau iawndal digonol i ffermwyr y mae gofyn iddynt ddifa eu da byw oherwydd TB buchol?
Sam, thank you very much. Firstly, just to say, there's no lack of clarity from me on our approach to IHT, APR and other tax implications for farms. We have actually made clear that things such as the CenTax assessment and the Central Association of Agricultural Valuers's assessment in particular have raised possible solutions to some of the concerns being raised and we have suggested that the Treasury should take them into account in their assessment of the impact, and that this should be addressed in a collaborative way with the farming unions. So, there's no lack of clarity on that.
In terms of TB, thank you for your support for the Pembrokeshire project. There was some scepticism around this initially, whether this could work, but actually those farmers, as you know in your area, who are involved in it are quite evangelical about it, and the way that it gives autonomy to the farmer, with their trusted on-farm vet, to make decisions affecting their business and also the health and well-being of their herd as well. That's why we have indeed now rolled out a version of it to north Wales, on demand, because people now are persuaded that this is the way forward.
What I've put forward in the budget that was laid by the Cabinet Secretary yesterday is again an attempt to have continuity across a range of issues, including animal health and welfare, as well as farm stability going forward. What I can't do is actually prophesise what the next Government will actually do. We need to get beyond the budget of the Chancellor in the UK, we need to determine our own budget here, and we'll be looking for support, please, right across the Chamber for that budget, not just for farming but for the protection of public services as well. But, look, my commitment is there, because we've rolled the scheme out further in Wales at cost, so we have faith in this scheme, in that this is one of the ways in which we can deliver improvements within TB.
Sam, diolch yn fawr. Yn gyntaf, nid oes diffyg eglurder ar fy rhan ynglŷn â'n hymagwedd tuag at y dreth etifeddiant, rhyddhad eiddo amaethyddol a goblygiadau treth eraill i ffermydd. Rydym wedi dweud yn glir fod pethau fel asesiad y Ganolfan Dadansoddi Trethiant ac asesiad Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol yn arbennig wedi codi atebion posib i rai o'r pryderon a leisir ac rydym wedi awgrymu y dylai'r Trysorlys eu hystyried yn eu hasesiad o'r effaith, ac y dylid mynd i'r afael â hyn mewn ffordd gydweithredol â'r undebau ffermio. Felly, nid oes diffyg eglurder ar hynny.
Ar TB, diolch am eich cefnogaeth i brosiect sir Benfro. Roedd rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â hyn i ddechrau, pa un a allai weithio, ond mae'r ffermwyr hynny, fel y gwyddoch yn eich ardal chi, sy'n gysylltiedig ag ef yn eithaf brwd am y peth, a'r ffordd y mae'n rhoi ymreolaeth i'r ffermwr, gyda'u milfeddyg, wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu busnes ac ar iechyd a lles eu buches. Dyna pam ein bod bellach wedi cyflwyno fersiwn ohono i ogledd Cymru, i'r sawl sy'n gofyn amdano, oherwydd mae pobl wedi cael eu perswadio bellach mai dyma'r ffordd ymlaen.
Mae'r hyn a gyflwynais yn y gyllideb a osodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddoe eto yn ymgais i gael parhad ar draws amrywiaeth o faterion, gan gynnwys iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal â sefydlogrwydd ffermydd yn y dyfodol. Yr hyn na allaf ei wneud yw proffwydo beth fydd y Llywodraeth nesaf yn ei wneud. Mae angen inni fynd y tu hwnt i gyllideb Canghellor y DU, mae angen inni benderfynu ar ein cyllideb ein hunain yma, a byddwn yn ceisio cefnogaeth, os gwelwch yn dda, ar draws y Siambr i'r gyllideb honno, nid yn unig ar gyfer ffermio ond er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Ond edrychwch, mae fy ymrwymiad yno, oherwydd rydym wedi cyflwyno'r cynllun ymhellach yng Nghymru ar gost, felly mae gennym ffydd yn y cynllun hwn, gan mai dyma un o'r ffyrdd y gallwn gyflawni gwelliannau mewn perthynas â TB.
Thank you for that, Deputy First Minister. But speaking to those farmers taking part in the Pembrokeshire project, while they are evangelical, as you say, as to the role that they can play with their vets, they still believe that there is one arm tied behind their back in tackling this, due to the reservoir of the disease within wildlife.
But continuing on the theme of evidence-based policy making, it's vital that we truly follow the science, and that must include the nitrate vulnerable zones regulations, because today, 15 October, marks the start of the closed period for spreading on grassland under those rules despite the dry weather, perfectly illustrating the absurdity of a farming-by-calendar approach. Dr Susannah Bolton's review was a welcome step forward, but it largely confirmed what farmers have said from the beginning—that the current system simply doesn't work in practice. We all know this, we've said it since the very beginning, so with fewer than seven months until the next Senedd election, will you act now to enable those recommendations to become true, or will Welsh farmers have to wait until the next Welsh Government to deliver the practical reforms needed to support agriculture?
Diolch am hynny, Ddirprwy Brif Weinidog. Ond wrth siarad â'r ffermwyr sy'n cymryd rhan ym mhrosiect sir Benfro, er eu bod yn frwd, fel y dywedwch, ynghylch y rôl y gallant ei chwarae gyda'u milfeddygon, maent yn dal i gredu bod un fraich wedi'i chlymu y tu ôl i'w cefnau wrth fynd i'r afael â hyn, oherwydd cronfa'r clefyd mewn bywyd gwyllt.
Ond i barhau ar y thema o lunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae'n hanfodol ein bod o ddifrif yn dilyn y wyddoniaeth, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys y rheoliadau parthau perygl nitradau, oherwydd heddiw, 15 Hydref, yw dechrau'r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwasgaru ar laswelltir o dan y rheolau hynny er gwaethaf y tywydd sych, gan ddangos yn berffaith hurtrwydd y dull ffermio yn ôl y calendr. Roedd adolygiad Dr Susannah Bolton yn gam ymlaen i'w groesawu, ond cadarnhaodd i raddau helaeth yr hyn y mae ffermwyr wedi'i ddweud o'r dechrau—nad yw'r system bresennol yn gweithio yn ymarferol. Rydym i gyd yn gwybod hyn, rydym wedi ei ddweud ers y dechrau un, felly gyda llai na saith mis tan etholiad nesaf y Senedd, a wnewch chi weithredu nawr i'w gwneud hi'n bosib gwireddu'r argymhellion hynny, neu a fydd yn rhaid i ffermwyr Cymru aros tan y Llywodraeth nesaf i gyflawni'r diwygiadau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi amaethyddiaeth?
Thank you, Sam, for that question. It's a really important question, and in case anybody is cutting and clipping these pieces for social media, and for complete clarity, Llywydd, we are setting up the task and finish group to take forward those recommendations. Dr Susannah Bolton produced her work in March. We've been landing the SFS and other issues since then, but we've been working over the summer, actually, doing some of the preparatory work to take forward these recommendations. We've made clear, as the Welsh Government, in the statement that I published earlier this year, that we would accept and take forward all the recommendations, and we would take forward those recommendations at pace, and we would do it with all stakeholders involved.
So, the task and finish group is under way and preparatory work has already been done. I'm hoping to bring forward some additional news once we have the group established, and we've got the terms of reference as well, to say something further to the Senedd at that point. But can I just be clear in terms of the closed period, because Susannah Bolton does rightly say there is some scope here to look at alternative ways forward? But she also says that, as we currently stand, you should definitely not take away what's currently in place until you have evidence-based approaches for alternative ways forward, and she is right in saying that. So, this does cause difficulty currently for some farmers. We're keen to work through that in the autumn and winter ahead, but, actually, she also makes clear that if we go to alternative solutions, then they may be more complex, they may be more challenging to explain. But I'm willing to take that on, because I think the potential for seeing other ways forward, if we can evidence them, is well worth taking forward. So, we're taking it forward, Sam.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Sam. Mae'n gwestiwn pwysig iawn, a rhag ofn bod unrhyw un yn torri'r darnau hyn ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ac er eglurder llwyr, Lywydd, rydym yn sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny. Cynhyrchodd Dr Susannah Bolton ei gwaith ym mis Mawrth. Rydym wedi bod yn cwblhau'r cynllun ffermio cynaliadwy a materion eraill ers hynny, ond rydym wedi bod yn gweithio dros yr haf, yn gwneud peth o'r gwaith paratoi i fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn. Rydym wedi dweud yn glir, fel Llywodraeth Cymru, yn y datganiad a gyhoeddais yn gynharach eleni, y byddem yn derbyn ac yn bwrw ymlaen â'r holl argymhellion, a byddem yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny'n gyflym, ac yn gwneud hynny gyda'r holl randdeiliaid dan sylw.
Felly, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y gweill ac mae gwaith paratoi eisoes wedi'i wneud. Rwy'n gobeithio cyflwyno newyddion ychwanegol pan fydd y grŵp wedi'i sefydlu, a phan fydd gennym y cylch gorchwyl hefyd, i ddweud rhywbeth pellach wrth y Senedd ar y pwynt hwnnw. Ond a gaf i fod yn glir ar y cyfnod gwaharddedig, oherwydd mae Susannah Bolton yn dweud, yn gywir ddigon, fod rhywfaint o le yma i edrych ar ffyrdd amgen ymlaen? Ond mae hi hefyd yn dweud, fel y mae pethau ar hyn o bryd, na ddylech ddileu'r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd nes bod gennych ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ffyrdd amgen ymlaen, ac mae'n iawn i ddweud hynny. Felly, mae hyn yn achosi anhawster ar hyn o bryd i rai ffermwyr. Rydym yn awyddus i weithio drwy hynny yn yr hydref a'r gaeaf sydd i ddod, ond mae hi hefyd yn dweud yn glir os ydym yn troi at atebion amgen, y gallent fod yn fwy cymhleth, gallent fod yn fwy heriol i'w hesbonio. Ond rwy'n barod i fwrw ymlaen â hynny, oherwydd rwy'n credu bod y potensial ar gyfer gweld ffyrdd eraill ymlaen, os gallwn roi tystiolaeth ar eu cyfer, yn werth ei ddatblygu. Felly, rydym yn bwrw ymlaen ag ef, Sam.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
The Plaid Cymru spokesperson, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. There are concerns, aren't there, Cabinet Secretary, about reduced livestock numbers. They've been on a downward trajectory for many years, and, of course, the impact assessment of the SFS last week suggested that that's likely to continue. Now, there are clear knock-on effects from that to the wider food economy, especially abattoirs and processors, many of whom are already struggling in terms of throughput and viability. Hybu Cig Cymru has shown how we've lost, I think, over half of our abattoirs in the last 25 years. We have, I think, just five that are officially classified as small left here in Wales. Now, many have warned, of course, that the sector is potentially facing collapse if things don't change, and that would mean not just the economic impact, but an impact on the whole effort of creating resilient local food systems, which is something we all want to grow and develop, but also an increase in food miles, which brings with it environmental and animal welfare consequences as well. So, can I ask what assessment the Government has made of the state of the Welsh abattoir sector and the potential impact of further closures, and, indeed, what strategy you have in place to address the impact of falling livestock numbers on the wider food economy?
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae yna bryderon, onid oes, Ysgrifennydd y Cabinet, am niferoedd llai o dda byw. Maent wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd, ac wrth gwrs, roedd asesiad effaith y cynllun ffermio cynaliadwy yr wythnos diwethaf yn awgrymu bod hynny'n debygol o barhau. Nawr, mae yna effeithiau canlyniadol amlwg o hynny i'r economi fwyd ehangach, yn enwedig lladd-dai a phroseswyr, y mae llawer ohonynt eisoes yn cael trafferth o ran llif gwartheg a hyfywedd. Mae Hybu Cig Cymru wedi dangos sut rydym wedi colli dros hanner ein lladd-dai, rwy'n credu, dros y 25 mlynedd diwethaf. Dim ond pump sydd wedi'u dosbarthu'n swyddogol fel rhai bach sydd gennym ar ôl yma yng Nghymru. Nawr, mae llawer wedi rhybuddio, wrth gwrs, fod y sector o bosib yn wynebu methiant os nad yw pethau'n newid, a byddai hynny'n golygu nid yn unig yr effaith economaidd, ond effaith ar yr holl ymdrech o greu systemau bwyd lleol gwydn, sy'n rhywbeth y mae pawb ohonom am ei dyfu a'i ddatblygu, ond hefyd cynnydd mewn milltiroedd bwyd, sy'n dod â chanlyniadau amgylcheddol yn ei sgil a chanlyniadau i les anifeiliaid hefyd. Felly, a gaf i ofyn pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o gyflwr sector lladd-dai Cymru ac effaith bosib cau pellach, ac yn wir, pa strategaeth sydd gennych ar waith i fynd i'r afael ag effaith gostyngiad yn niferoedd da byw ar yr economi fwyd ehangach?
Thank you, Llyr. Look, first of all, it's worth acknowledging that this is a real issue, but it's not a recent issue either. This has been happening for many, many years, and there are a number of factors around why it's been happening, and it's been happening not just in Wales, but in western Europe and wider afield. But I wouldn't want to talk up the risk of this. I think what is needed is a piece of work that looks at what are the multiple ways in which we address this, so that we can deliver, exactly as you say, more food not only for export. I've just come back from Anuga in Cologne, the biggest trade expo. The success of our Welsh lamb and red meat sector—beef and lamb—is amazing as export. We need more on plates here as well, to help maintain those through-lines within our processing. Now, we can do that through procurement, without a doubt, and we've already evolved ways in which we can do better with procurement in our schools, hospitals, prisons, et cetera, within the public estate. There's also more we can do based on the community food strategy, as well, which is also based on those local food networks. So, I think there is a piece of work in here. The additional thing, Llyr, I would say very strongly, is that it's partly to do with livestock numbers, and it's also, for farmers, to do with productivity and efficiency—putting less in and getting more out of the value of that animal when it gets to market. For our farmers, what I consistently hear from them is, 'How do you help us do that?'. Now, I think SFS has a role to play, but there are other ways in which we can provide that support—so, more efficiency and more productivity in the sector as well.
Diolch, Llyr. Edrychwch, yn gyntaf oll, mae'n werth cydnabod bod hwn yn fater go iawn, ond nid yw'n fater diweddar chwaith. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer, a cheir nifer o resymau pam ei fod wedi digwydd, ac mae wedi bod yn digwydd nid yn unig yng Nghymru, ond yng ngorllewin Ewrop ac ymhellach i ffwrdd. Ond nid wyf eisiau dweud gormod am y risg sy'n deillio o hyn. Rwy'n credu mai'r hyn sydd ei angen yw gwaith i edrych ar y ffyrdd lluosog o fynd i'r afael â hyn, fel y gallwn ddarparu, yn union fel y dywedwch, mwy o fwyd, ac nid i'w allforio'n unig. Rwyf newydd ddod yn ôl o Anuga yng Nghwlen, yr arddangosfa fasnach fwyaf. Mae llwyddiant ein sector cig oen a chig coch yng Nghymru—cig eidion a chig oen—yn anhygoel o ran allforio. Mae angen mwy ar blatiau yma hefyd, i helpu i gynnal y llinellau hynny o fewn ein system brosesu. Nawr, gallwn wneud hynny drwy gaffael, heb amheuaeth, ac rydym eisoes wedi datblygu ffyrdd o wneud yn well gyda chaffael yn ein hysgolion, ysbytai, carchardai, ac ati, o fewn yr ystad gyhoeddus. Mae yna fwy y gallwn ei wneud yn seiliedig ar y strategaeth fwyd gymunedol hefyd, sy'n seiliedig ar rwydweithiau bwyd lleol. Felly, rwy'n credu bod yna waith i'w wneud yma. Y peth ychwanegol, Llyr, y byddwn yn ei ddweud yn gryf iawn, yw ei fod yn ymwneud yn rhannol â niferoedd da byw, ac mae hefyd, i ffermwyr, yn ymwneud â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd—rhoi llai i mewn a chael mwy allan o werth yr anifail hwnnw pan fydd yn cyrraedd y farchnad. I'n ffermwyr, yr hyn a glywaf ganddynt yn gyson yw, 'Sut ydych chi'n ein helpu i wneud hynny?'. Nawr, rwy'n credu bod gan y cynllun ffermio cynaliadwy rôl i'w chwarae, ond mae yna ffyrdd eraill o allu darparu'r cymorth hwnnw—felly, mwy o effeithlonrwydd a mwy o gynhyrchiant yn y sector hefyd.
Well, thank you for that response. I mean, you rightly acknowledge that this isn't a new problem, and then you say that there's a job of work that's needed. Well, maybe that work should be under way already, given that we know what the trajectory is.
But I'll move on to milk, if I may, because you know that milk producers have been notified of significant milk price cuts—some of up to 18 per cent—coming in November. And that comes, of course, on top of a number of already existing challenges, such as the hot, dry summer we've had, which has reduced forage availability, and we know about TB, we know about the issues around the NVZ regulations, et cetera. Now, whilst price drops have been driven, largely, of course, by global market forces, this now, I think, is going to be the first real test of the new Fair Dealing Obligations (Milk) Regulations 2024 that came into force this year to improve price transparency and fairness in dairy contracts. The Department for Environment, Food and Rural Affairs has appointed, of course, an adjudicator to oversee the functioning of these regulations and to investigate any complaints, and we know from experience, don't we, that worse behaviour happens in a supply chain when the market goes downwards, very often. So, will you as a Government be monitoring the dairy market and proactively, maybe, raising concerns about bad or discriminatory behaviour by processors in relation to Welsh dairy farmers? And, given that exports are crucial to helping to balance the UK market, how will your Government be working to try and ramp up the promotion of Welsh dairy exports?
Wel, diolch am yr ymateb hwnnw. Rydych chi'n cydnabod yn iawn nad yw hon yn broblem newydd, ac yna rydych chi'n dweud bod angen gwaith. Wel, efallai y dylai'r gwaith hwnnw fod ar y gweill eisoes, o ystyried ein bod yn gwybod beth yw'r tueddiad.
Ond fe symudaf ymlaen at laeth, os caf, oherwydd fe wyddoch fod cynhyrchwyr llaeth wedi cael gwybod am doriadau sylweddol i brisiau llaeth—rhai o hyd at 18 y cant—sy'n dod ym mis Tachwedd. A daw hynny, wrth gwrs, ar ben nifer o heriau sydd eisoes yn bodoli, fel yr haf poeth, sych a gawsom, sydd wedi lleihau argaeledd porthiant, ac rydym yn gwybod am TB, rydym yn gwybod am y materion sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau parthau perygl nitradau, ac ati. Nawr, er bod gostyngiadau prisiau wedi cael eu gyrru i raddau helaeth gan rymoedd y farchnad fyd-eang, dyma nawr fydd y prawf go iawn cyntaf o'r Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) 2024 a ddaeth i rym eleni i wella tryloywder prisiau a thegwch mewn contractau llaeth. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi penodi dyfarnwr i oruchwylio gweithrediad y rheoliadau hyn ac i ymchwilio i unrhyw gwynion, ac fe wyddom o brofiad, oni wyddom, fod ymddygiad gwaeth yn aml iawn yn digwydd mewn cadwyn gyflenwi pan fydd y farchnad yn mynd ar i lawr. Felly, fel Llywodraeth a fyddwch chi'n monitro'r farchnad laeth, ac efallai'n codi pryderon yn rhagweithiol am ymddygiad gwael neu wahaniaethol gan broseswyr mewn perthynas â ffermwyr llaeth Cymru? Ac o ystyried bod allforion yn hanfodol i helpu i gydbwyso marchnad y DU, sut y bydd eich Llywodraeth yn gweithio i geisio hyrwyddo allforion llaeth Cymru yn well?
Absolutely. I mentioned that I've just come back from Anuga on that last point. Our dairy products in the export market are a rip-roaring success. It would be wrong of me to name them, but it was an eye-opening moment when I sat down with a north Wales dairy producer, who was sitting down with the largest US import one, who they already have a relationship with, and were talking about expanding the exports. And they weren't alone—they were far from alone. And the other interesting thing, Llywydd, is the envy from other parts of the UK about the support that we provide, through the Welsh Government and our food division, to actually help them be at those places, making the connections and working with them. We are the envy of other nations.
But you raise a very important thing in terms of milk price. Milk price fluctuates over time. At the moment, it's going down, and, in which case, this is absolutely a test now of some of the food suppliers out there who, over the years, have done better to stand with our farmers and actually deliver those longer term contracts with price stability. But not everybody is in those. So, this is an opportunity here, I think, to see how the adjudicator steps up here to make sure that there aren't negativities in the market that impact on primary producers. And it is something that I'll be raising in discussion with the UK Minister, who I think I have a meeting with either this week or next week—it could be even this week. But I'll be raising this with her as well, because we want to see this on a UK level, with those big supply chains, and, actually, let's get the fair play for our farmers, and the supply chain needs to stand by our farmers through these times when prices dip.
Yn sicr. Soniais yn fy ateb diwethaf fy mod newydd ddod yn ôl o Anuga. Mae ein cynhyrchion llaeth yn y farchnad allforio yn llwyddiant ysgubol. Byddai'n anghywir imi eu henwi, ond roedd yn foment syfrdanol pan eisteddais gyda chynhyrchydd llaeth o ogledd Cymru, a oedd yn eistedd gyda'r mewnforiwr mwyaf o'r Unol Daleithiau, y mae ganddynt berthynas â nhw eisoes, a siarad am ehangu'r allforion. Ac nid oeddent ar eu pen eu hunain—roeddent yn bell o fod ar eu pen eu hunain. A'r peth arall diddorol, Lywydd, yw'r eiddigedd o rannau eraill o'r DU am y cymorth a ddarparwn, drwy Lywodraeth Cymru a'n hadran fwyd, i'w helpu i fod yn y lleoedd hynny, yn gwneud y cysylltiadau a gweithio gyda nhw. Mae cenhedloedd eraill yn eiddigeddus ohonom.
Ond rydych chi'n codi peth pwysig iawn o ran pris llaeth. Mae pris llaeth yn amrywio dros amser. Ar hyn o bryd, mae'n gostwng, ac oherwydd hynny, mae'n brawf nawr o rai o'r cyflenwyr bwyd allan yno sydd, dros y blynyddoedd, wedi gwneud yn well i sefyll gyda'n ffermwyr a chyflawni contractau mwy hirdymor gyda sefydlogrwydd prisiau. Ond nid yw pawb yn gwneud hynny. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gyfle yma i weld sut y mae'r dyfarnwr yn camu i mewn i wneud yn siŵr nad oes agweddau negyddol yn y farchnad sy'n effeithio ar gynhyrchwyr cynradd. Ac mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi mewn trafodaeth gyda Gweinidog y DU, y credaf fy mod yn cael cyfarfod â hi naill ai yr wythnos hon neu'r wythnos nesaf—gallai fod yr wythnos hon hyd yn oed. Ond byddaf yn codi hyn gyda hi hefyd, oherwydd rydym am weld hyn ar lefel y DU, gyda'r cadwyni cyflenwi mawr, a gadewch inni gael chwarae teg i'n ffermwyr, ac mae angen i'r gadwyn gyflenwi sefyll wrth ein ffermwyr drwy'r adegau hyn pan fo prisiau'n gostwng.
Thank you. Another important part of our food and drink sector, of course, is our fisheries sector, and recent research by Oceana UK has raised serious concerns about the state of fish stocks around the UK, including in Welsh waters, of course. And not only is that an environmental issue, it's also about the sustainability of our domestic fleet and, of course, the future of the Welsh seafood sector. The Irish sea is now the worst affected area in the UK; only a third of stocks are in a healthy condition, down from over 40 per cent just two years ago. And in the Celtic sea, the picture is similarly bleak. Now, these figures point to a systemic failure in fisheries management and a growing threat to the viability of our Welsh fishing fleet and the communities that depend upon the sector. So, will the Government commit to action to safeguard the future of the Welsh fish supper, and what steps are you taking to protect Welsh fish stocks whilst ensuring, of course, the long-term sustainability of our Welsh fishing fleet?
Diolch. Rhan bwysig arall o'n sector bwyd a diod, wrth gwrs, yw ein sector pysgodfeydd, ac mae ymchwil ddiweddar gan Oceana UK wedi codi pryderon difrifol am gyflwr stociau pysgod ledled y DU, gan gynnwys yn nyfroedd Cymru, wrth gwrs. Ac mae hynny nid yn unig yn fater amgylcheddol, mae hefyd yn ymwneud â chynaliadwyedd ein fflyd ddomestig, a dyfodol sector bwyd môr Cymru, wrth gwrs. Môr Iwerddon bellach yw'r ardal sydd wedi'i heffeithio waethaf yn y DU; dim ond traean o'r stociau sydd mewn cyflwr iach, i lawr o dros 40 y cant ddwy flynedd yn ôl. Ac yn y môr Celtaidd, mae'r darlun yr un mor llwm. Nawr, mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at fethiant systemig mewn rheoli pysgodfeydd a bygythiad cynyddol i hyfywedd ein fflyd bysgota yng Nghymru a'r cymunedau sy'n dibynnu ar y sector. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i weithredu i ddiogelu dyfodol swper pysgod Cymru, a pha gamau rydych chi'n eu cymryd i ddiogelu stociau pysgod Cymru gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein fflyd bysgota yng Nghymru ar yr un pryd wrth gwrs?
Thank you. I'm so pleased we have a question on fisheries in this session, because we don't have them often enough. We have a distinctive Welsh fisheries fleet, and much of it is a sustainable fishery. Part of the reason for that is because we base our approach in Wales on fisheries management plans, which are embedded within sustainability. We want to make sure that we have sustainable yields being taken, so that the stocks can replenish themselves in different types of fisheries as well. So, we'll keep on taking that approach, going forward.
The fisheries management plans are on track. The ones that we said we would deliver, we've delivered. And we will keep on, also, Llyr, working with—. It's different here in Wales than it is in DEFRA. In DEFRA, they have large teams of people, and they can rely on Seafish and on others. What we do is we work directly with our universities, including Bangor University and others, with their expertise, to make sure we are delivering sustainable fisheries. This also rams home why we cannot be in a situation where we overfish. We have to get that balance right that protects the livelihoods of fishers, but also the sustainability of our marine environment and those fish stocks.
Diolch. Rwyf mor falch fod gennym gwestiwn ar bysgodfeydd yn y sesiwn hon, oherwydd nid ydym yn eu cael yn ddigon aml. Mae gennym fflyd bysgodfeydd unigryw yng Nghymru, ac mae llawer ohoni yn bysgodfa gynaliadwy. Rhan o'r rheswm am hynny yw ein bod yn seilio ein dull o weithredu yng Nghymru ar gynlluniau rheoli pysgodfeydd, sydd wedi'u sefydlu ar gynaliadwyedd. Rydym am wneud yn siŵr fod gennym gynnyrch cynaliadwy, fel y gall y stociau ailgyflenwi eu hunain mewn gwahanol fathau o bysgodfeydd hefyd. Felly, byddwn yn parhau i weithredu yn y ffordd honno yn y dyfodol.
Mae'r cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar y trywydd iawn. Rydym wedi cyflawni'r rhai y dywedasom y byddem yn eu cyflawni. A Llyr, byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda—. Mae'n wahanol yma yng Nghymru nag y mae yn DEFRA. Yn DEFRA, mae ganddynt dimau mawr o bobl, a gallant ddibynnu ar dîm pysgod y môr ac ar eraill. Yr hyn a wnawn ni yw gweithio'n uniongyrchol gyda'n prifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Bangor ac eraill, gyda'u harbenigedd, i wneud yn siŵr ein bod yn darparu pysgodfeydd cynaliadwy. Mae hyn hefyd yn dangos pam na allwn fod mewn sefyllfa lle rydym yn gorbysgota. Rhaid inni gael cydbwysedd cywir sy'n diogelu bywoliaeth pysgotwyr, a chynaliadwyedd ein hamgylchedd morol a stociau pysgod ar yr un pryd.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y grŵp gorchwyl a gorffen fydd yn ymateb i argymhellion yr adolygiad o'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol? OQ63261
3. Will the Cabinet Secretary make a statement on the task and finish group that will respond to the recommendations of the review of the control of agricultural pollution regulations? OQ63261
Diolch, Llyr, eto. Mae sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen technegol yn tystio i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â’r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn gwella’r rheoliadau ar gyfer ffermwyr a chanlyniadau amgylcheddol. Bydd fy swyddogion yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb o ran dod yn aelod o fewn y dyddiau nesaf.
Thank you, again, Llyr. The establishment of a technical task and finish group demonstrates the Welsh Government’s commitment to working collaboratively with all relevant stakeholders to improve the regulations for both farmers and environmental outcomes. My officials will be issuing an invitation for expressions of interest for membership in the coming days.
Diolch. We know that the closed period under the water pollution regulations, of course, starts today. Last year, the wet weather running up to that moment caused all sorts of problems, didn't it, and, ironically, straight afterwards, it was dry for a long period, which goes to show that farming by calendar is the wrong approach. And this year, the seriously hot and dry spring and summer that we've had have had implications for silage, and lots of farmers are now holding out for a late cut of silage and can't empty their slurry stores as a consequences, which again shows that farmers don't farm by calendar; they farm according to the seasons. Plaid Cymru voted against the NVZ regulations a few years ago because of these kinds of examples. The Bolton review has, as well, as we've heard already this afternoon, suggested a move away from the farming-by-calendar approach, and interestingly, in reference to the task and finish group, you said that you'd been asking them to move at pace to look at this. So, is it your hope, therefore, that this will actually be the last year where we have a farming-by-calendar approach, and do you expect that this year's closed period relating to dates on a calendar will be gone next year?
Diolch. Gwyddom fod y cyfnod gwaharddedig o dan y rheoliadau llygredd dŵr yn dechrau heddiw, wrth gwrs. Y llynedd, achosodd y tywydd gwlyb hyd at y foment honno bob math o broblemau, oni wnaeth, ac yn eironig, yn syth wedyn, roedd yn sych am gyfnod hir, sy'n dangos mai ffermio yn ôl y calendr yw'r dull anghywir o weithredu. Ac eleni, mae'r gwanwyn a'r haf poeth a sych iawn a gawsom wedi cael goblygiadau i silwair, ac mae llawer o ffermwyr bellach yn aros i gael toriad hwyr o silwair ac ni allant wagio eu storfeydd slyri o ganlyniad, sy'n dangos eto nad yw ffermwyr yn ffermio yn ôl y calendr; maent yn ffermio yn ôl y tymhorau. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn rheoliadau parthau perygl nitradau ychydig flynyddoedd yn ôl oherwydd y mathau hyn o enghreifftiau. Mae adolygiad Bolton hefyd, fel y clywsom eisoes y prynhawn yma, wedi awgrymu symud o ddull o ffermio yn ôl y calendr, ac yn ddiddorol, wrth gyfeirio at y grŵp gorchwyl a gorffen, fe ddywedoch chi eich bod wedi gofyn iddynt symud yn gyflym i edrych ar hyn. Felly, ai eich gobaith chi yw mai hon fydd y flwyddyn olaf pan fydd gennym ddull o ffermio yn ôl y calendr, ac a ydych chi'n disgwyl y bydd y cyfnod gwaharddedig eleni sy'n ymwneud â dyddiadau ar galendr wedi mynd erbyn y flwyddyn nesaf?
Diolch, Llyr. Susannah Bolton made very clear that there were some issues in this that were more complex and will need more evidence than others, and this was one of them. I think we're in danger here, if we rush to this and we suddenly withdraw the closed-period approach, because she actually says that that closed period needs to stay in place until there are evidenced, workable alternative solutions. But she points to the fact that there could be evidenced, workable solutions. It'll need all stakeholders to step up with the will to actually evidence those, to see if they can work.
You asked me for timescales on this. I think this is exactly what we should be saying to the task and finish group: 'Give us the nitty-gritty, the milestones, the timescale for setting it out.' I think we can do some things in the very short term. Other things will be medium and longer term. We should leave it to them to actually work through this, and do it at pace. That's the thing.
The closed period, I realise, will put stresses on the farmers. I've met with both the farming unions this week, and it's been raised with me in both of those meetings, and by other farming representatives as well. We are constantly in discussion with the arm's-length body and NRW about how they can give advice on farms, and guidance, and work collaboratively. But, where there are clear breaches, they are the regulatory agency here, and they've a job to do as well. We took that approach last year. We'll try to continue doing it this year. There are different challenges this year, as you said, than last year. We'll keep talking to the farming community about how we can work ahead through the year ahead.
The other thing I would say is that Susannah Bolton makes very clear, by the way, a number of other things, rather than picking particular items from it. She says this cannot be an excuse for not having adequate storage on farms et cetera. So, there are a number of things within this that need to be worked through to make sure—and I know you believe this, Llyr, as well—that we get it right for the farming community, but that we get it right as well for improving the health of our rivers at the same time.
Diolch, Llyr. Fe wnaeth Susannah Bolton yn glir iawn fod rhai materion yn hyn a oedd yn fwy cymhleth ac angen mwy o dystiolaeth nag eraill, ac roedd hwn yn un ohonynt. Rwy'n credu ein bod mewn perygl yma, os ydym yn rhuthro at hyn ac yn dileu'r dull cyfnod gwaharddedig yn sydyn, oherwydd mewn gwirionedd, mae'n dweud bod angen i'r cyfnod gwaharddedig aros yn ei le nes bod atebion amgen ymarferol a thystiolaeth ar eu cyfer ar gael. Ond mae'n nodi y gallai fod yna atebion ymarferol a thystiolaeth ar eu cyfer. Bydd angen i'r holl randdeiliaid gamu ymlaen gyda'r ewyllys i ddangos tystiolaeth ar eu cyfer, i weld a allant weithio.
Fe wnaethoch chi ofyn imi am amserlenni ar hyn. Rwy'n credu mai dyma'n union beth y dylem fod yn ei ddweud wrth y grŵp gorchwyl a gorffen: 'Rhowch y manylion, y cerrig milltir, yr amserlen ar gyfer ei osod allan.' Rwy'n credu y gallwn wneud rhai pethau yn y tymor byr iawn. Bydd pethau eraill yn y tymor canolig a'r tymor hwy. Dylem adael iddynt weithio drwy hyn, a gwneud hynny'n gyflym. Dyna'r peth.
Rwy'n sylweddoli y bydd y cyfnod gwaharddedig yn rhoi straen ar y ffermwyr. Rwyf wedi cyfarfod â'r ddau undeb ffermio yr wythnos hon, ac mae wedi cael ei godi gyda mi yn y ddau gyfarfod, a chan gynrychiolwyr ffermio eraill hefyd. Rydym yn trafod yn gyson gyda'r corff hyd braich a CNC sut y gallant roi cyngor ar ffermydd, ac arweiniad, a gweithio ar y cyd. Ond lle mae tramgwyddo clir, nhw yw'r asiantaeth reoleiddio yma, ac mae ganddynt waith i'w wneud hefyd. Fe wnaethom weithredu yn y ffordd ohono y llynedd. Byddwn yn ceisio parhau i wneud hynny eleni. Mae yna heriau gwahanol eleni, fel y dywedoch chi. Byddwn yn parhau i siarad â'r gymuned ffermio ynglŷn â sut y gallwn weithio ymlaen drwy'r flwyddyn i ddod.
Y peth arall rwyf am ei ddweud, gyda llaw, yw bod Susannah Bolton yn gwneud nifer o bethau eraill yn glir iawn, yn hytrach na dewis eitemau penodol ohono. Mae'n dweud na all hyn fod yn esgus dros beidio â chael digon o le storio ar ffermydd ac ati. Felly, mae yna nifer o bethau o fewn hyn y mae angen gweithio drwyddynt i wneud yn siŵr—ac rwy'n gwybod eich bod chi'n credu hyn hefyd, Llyr—ein bod yn cael hyn yn iawn i'r gymuned ffermio, ond ein bod yn cael hyn yn iawn hefyd er mwyn gwella iechyd ein hafonydd ar yr un pryd.
I'd like to, firstly, thank the Cabinet Secretary for his written statement last week on the review of the control of agricultural pollution regulations, and for agreeing to the recommendations in that review. But I'd also like more clarity on the work of the task and finish group, and farmers in my constituency would like to know whether they, along with other relevant stakeholders, will be consulted on the timeline for their implementation, and which recommendations will be prioritised. Many farmers in Wales are still frustrated at the burden of regulation, with the NFU Cymru president Aled Jones saying, quote, it is
'clear that Welsh Government’s four-yearly review…was a missed opportunity to deliver the changes that are urgently needed…and failed to reflect the sheer desperation of farmers in Wales grappling with the impracticality and complexity of the rules.'
Unquote. This inflexible, farming-by-calendar approach—as Llyr has already mentioned—to regulation is one of the most pressing areas that needs urgent change, and using technology to respond to material conditions such as rainfall and soil quality makes far more sense than regulating based on a calendar approach. So, will the collaborative approach and the task and finish group mean that areas of the regulation that are most challenging to farmers, such as the calendar-farming approach, will be prioritised over changing less problematic parts of that regulation?
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf ar yr adolygiad o reoliadau rheoli llygredd amaethyddol, ac am gytuno i'r argymhellion yn yr adolygiad hwnnw. Ond hoffwn hefyd fwy o eglurder ar waith y grŵp gorchwyl a gorffen, a hoffai ffermwyr yn fy etholaeth wybod a fyddant yn ymgynghori â nhw, ynghyd â rhanddeiliaid perthnasol eraill, ar yr amserlen ar gyfer eu gweithredu, a pha argymhellion fydd yn cael eu blaenoriaethu. Mae llawer o ffermwyr yng Nghymru yn dal i fod yn rhwystredig ynglŷn â baich rheoleiddio, gyda llywydd NFU Cymru, Aled Jones, yn dweud ei bod
'yn glir fod adolygiad bob pedair blynedd Llywodraeth Cymru... yn gyfle a gollwyd i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen ar frys... ac wedi methu adlewyrchu anobaith pur ffermwyr yng Nghymru sy'n ymdopi ag anymarferoldeb a chymhlethdod y rheolau.'
Mae'r dull anhyblyg, ffermio yn ôl y calendr hwn—fel y nododd Llyr eisioes—o reoleiddio yn un o'r pethau sydd angen eu newid ar fwyaf o frys, ac mae defnyddio technoleg i ymateb i amodau perthnasol fel glawiad ac ansawdd y pridd yn gwneud llawer mwy o synnwyr na rheoleiddio yn seiliedig ar ddull o weithredu yn ôl y calendr. Felly, a fydd y dull cydweithredol a'r grŵp gorchwyl a gorffen yn golygu y bydd y meysydd yn y rheoliad sy'n fwyaf heriol i ffermwyr, fel y dull ffermio yn ôl y calendr, yn cael blaenoriaeth dros newid rhannau llai problematig o'r rheoliad hwnnw?
Thank you for that question, and for the welcome that you gave to the establishment of the task and finish group. I issued that statement on 8 October and we made clear there the next steps for taking forward the 23 recommendations, and we said we will take forward all of them—so, we're not picking and choosing; we've said all of them we will take forward.
The review highlighted, in answer to your question, the importance of a collaborative approach, and I strongly agree, working with all—all—stakeholders, and that includes farmers, but also those who may be involved in river health organisations, water quality organisations and so on as well. Because the regulations have got to work for farmers as well as delivering the environmental outcomes that we all want to see, including farmers want to see as well. So, one of the things I can say to you is that we're going to be using the experience that we gained from the engagement approach we took with the sustainable farming scheme, which was not only that key stakeholders were around the table with the task and finish group, but also the wider engagement as well.
You asked about prioritising certain ones. That is exactly what is in Susannah Bolton's report—which ones should be short-, medium- and long-term—with some guidance on that as to which ones might appear, which ones are, more complex. This is a more complex one, I have to tell you. She identified it. So, it will need a bit of work, but, in doing so, we’ve already started on doing some of the analysis over the summer, so it will help the speed and the pace of that. So, rather than pick and choose items that I want to or you want to or Jenny wants to or Lesley wants to accelerate, let's let the task and finish group get on with their work and set their priorities.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac am y croeso a roesoch i sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen. Fe gyhoeddais y datganiad hwnnw ar 8 Hydref ac fe wnaethom ddweud yn glir beth fyddai'r camau nesaf ar gyfer bwrw ymlaen â'r 23 argymhelliad, a dywedasom y byddwn yn bwrw ymlaen â phob un ohonynt—felly, nid ydym yn dewis a dethol; rydym wedi dweud y byddwn yn bwrw ymlaen â phob un ohonynt.
I ateb eich cwestiwn, mae'r adolygiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd dull cydweithredol o weithredu, ac rwy'n cytuno'n gryf, gweithio gyda phob rhanddeiliad, ac mae hynny'n cynnwys ffermwyr, ond hefyd y rhai a allai fod yn gysylltiedig â sefydliadau iechyd afonydd, sefydliadau ansawdd dŵr ac yn y blaen. Oherwydd mae'n rhaid i'r rheoliadau weithio i ffermwyr yn ogystal â chyflawni'r canlyniadau amgylcheddol yr ydym i gyd eisiau eu gweld, gan gynnwys ffermwyr. Felly, un o'r pethau y gallaf ei ddweud wrthych yw ein bod yn mynd i ddefnyddio'r profiad a gawsom o'r ymgysylltu a wnaethom gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, sef nid yn unig cael rhanddeiliaid allweddol o gwmpas y bwrdd gyda'r grŵp gorchwyl a gorffen, ond yr ymgysylltiad ehangach hefyd.
Fe wnaethoch chi ofyn am flaenoriaethu rheoliadau penodol. Dyna'n union beth sydd yn adroddiad Susannah Bolton—pa rai a ddylai gael eu gwneud yn y tymor byr, tymor canolig a'r tymor hir—gyda pheth arweiniad ar hynny o ran pa rai a allai ymddangos, pa rai sy'n fwy cymhleth. Mae hwn yn un mwy cymhleth, rhaid imi ddweud. Fe wnaeth hi ei nodi. Felly, bydd angen ychydig o waith, ond wrth wneud hynny, rydym eisoes wedi dechrau gwneud rhywfaint o'r gwaith dadansoddi dros yr haf, felly bydd yn helpu i gyflymu hynny. Felly, yn hytrach na dewis a dethol eitemau yr wyf i neu chi neu Jenny neu Lesley eisiau eu cyflymu, gadewch inni adael i'r grŵp gorchwyl a gorffen fwrw ymlaen â'u gwaith a gosod eu blaenoriaethau.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal llygredd amaethyddol rhag gwenwyno afonydd? OQ63240
4. What action is the Welsh Government taking to prevent agricultural pollution from poisoning rivers? OQ63240
Diolch, Jenny. Shwmae i ti ar y dydd pwysig hwn heddiw.
Thanks, Jenny. Shwmae to you on this important day today.
The Welsh Government continues to address agricultural pollution through a combination of actions. These include collaboration, supporting innovation, regulation backed by inspection and enforcement, encouraging best practice through knowledge transfer and direct financial support for farmers and land managers to farm more sustainably.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol drwy gyfuniad o gamau gweithredu. Mae'r rhain yn cynnwys cydweithio, cefnogi arloesedd, rheoleiddio wedi'i gynnal gan waith arolygu a gorfodi, gan annog arferion gorau drwy drosglwyddo gwybodaeth a chymorth ariannol uniongyrchol i ffermwyr a rheolwyr tir allu ffermio'n fwy cynaliadwy.
This is a subject that's very important to the citizens of Wales. Indeed, many will have read the news last week of a class action by at least 4,000 people being taken, who want to prosecute polluters of the River Wye, Usk and the Lugg. Whilst it will be some time before we know the outcome of that, in the meantime, we know that Natural Resources Wales has been awarded nearly £2 million to double down on tackling pollution and polluters. So, what use has Natural Resources Wales made of this money to take some exemplary action against polluters so everyone gets the message that there are consequences of non-compliance?
Mae hwn yn bwnc sy'n bwysig iawn i ddinasyddion Cymru. Yn wir, bydd llawer wedi darllen y newyddion yr wythnos diwethaf am gyd-achos gan o leiaf 4,000 o bobl sydd eisiau erlyn llygrwyr afon Gwy, afon Wysg ac afon Llugwy. Er y bydd hi'n cymryd peth amser inni wybod y canlyniad, yn y cyfamser, fe wyddom fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn bron i £2 filiwn i gryfhau ymdrechion i fynd i'r afael â llygredd a llygrwyr. Felly, pa ddefnydd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i wneud o'r arian hwn i roi camau enghreifftiol ar waith yn erbyn llygrwyr fel bod pawb yn cael y neges fod yna ganlyniadau i fethu cydymffurfio?
Thank you, Jenny, and I think you rightly say this is a matter, building on the previous question, actually, that is for every citizen in Wales. Everybody is concerned about this. You'll understand that it's not appropriate for me to comment in any way on the action being taken through the courts, but I note the class action that is being taken forward.
You rightly flagged the money that's been put additionally to NRW for the enforcement of the regulations, and in fact the total committed since the regulations were introduced is well over £4 million, in addition to the near £2 million over the last year. The enforcement approach is actually driving change now within the sector. Compliance levels are improving. The improvement levels are up by 12 per cent between June 2024 and March 2025. We've still got a lot further to go, Jenny, I've got to say as well, okay, but that is a significant improvement, and I think there is a correlation between the additional resource being put in—. Part of it is the collaboration and part of it is the enforcement as well. So, NRW's approach to enforcing the regulations is helping to drive this forward.
And just to say, on top of that, an additional 553 farmers have been invited to submit a full application under the latest nutrient management scheme window, which includes things like storage, as we mentioned earlier on, with a total grant value of just short of £20 million. So, we're putting the money in there as well to help farmers do the right thing.
Diolch, Jenny, ac i adeiladu ar y cwestiwn cynt, rwy'n credu eich bod chi'n dweud yn iawn fod hwn yn fater i bob dinesydd yng Nghymru. Mae pawb yn poeni am hyn. Fe fyddwch chi'n deall nad yw'n briodol imi wneud sylwadau mewn unrhyw ffordd ar yr achos sy'n mynd drwy'r llysoedd, ond rwy'n nodi'r cyd-achos sydd ar y gweill.
Fe wnaethoch chi nodi'r arian sydd wedi'i roi yn ychwanegol i CNC ar gyfer gorfodi'r rheoliadau, ac mewn gwirionedd mae'r cyfanswm a ymrwymwyd ers cyflwyno'r rheoliadau ymhell dros £4 miliwn, yn ogystal â'r bron i £2 filiwn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r dull gorfodi yn sbarduno newid yn y sector erbyn hyn. Mae lefelau cydymffurfio yn gwella. Mae'r lefelau gwella wedi codi 12 y cant rhwng mis Mehefin 2024 a mis Mawrth 2025. Oes, mae gennym lawer o ffordd i fynd, Jenny, rhaid dweud, ond mae hynny'n welliant sylweddol, ac rwy'n credu bod cydberthynas rhwng yr adnoddau ychwanegol sy'n cael eu rhoi—. Rhan ohono yw'r cydweithrediad a rhan ohono yw gorfodi hefyd. Felly, mae dull CNC o orfodi'r rheoliadau yn helpu i ysgogi hyn.
Ac ar ben hynny, mae 553 o ffermwyr ychwanegol wedi cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn yng nghyfnod ymgeisio'r cynllun rheoli maethynnau diweddaraf, sy'n cynnwys pethau fel storio, fel y soniwyd yn gynharach, gyda chyfanswm y grantiau'n werth ychydig llai nag £20 miliwn. Felly, rydym yn rhoi arian hefyd i helpu ffermwyr i wneud y peth iawn.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar drwyddedu rhyddhau adar hela? OQ63251
5. Will the Cabinet Secretary make a statement on the licensing of gamebird releases? OQ63251
Diolch, Carolyn. We’re currently reviewing information following the gamebird release consultation, as well as considering the impact of the continuously changing situation with regard to avian flu. It is important that we carefully consider how we develop a robust licensing approach that's right for Wales.
Diolch, Carolyn. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu gwybodaeth ar ôl yr ymgynghoriad ar ryddhau adar hela, yn ogystal ag ystyried effaith y sefyllfa sy'n newid yn barhaus o ran ffliw adar. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried yn ofalus sut rydym yn datblygu dull trwyddedu cadarn sy'n iawn i Gymru.
Thank you for your answer, Deputy First Minister. I am particularly concerned about large-scale shoots that have a significant impact on our local wildlife, impacting on biodiversity and ecosystems, but also spreading the viruses—for example, the mass mortality of pheasants in the Berwyn in this summer as a result of bird flu. Given that pet owners are required to keep their birds under cover during outbreaks, it seems totally illogical that cage-bred gamebirds can still be released in their masses. What assessment has the Welsh Government made of the impact of gamebird releases on the spread of avian influenza, and what measures are being considered to mitigate those risks?
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Brif Weinidog. Rwy'n arbennig o bryderus am saethu adar ar raddfa fawr sy'n cael effaith sylweddol ar ein bywyd gwyllt lleol, gan effeithio ar fioamrywiaeth ac ecosystemau, ond sydd hefyd yn lledaenu'r firysau—er enghraifft, marwolaeth llu o ffesantod yn y Berwyn yr haf hwn o ganlyniad i ffliw adar. O ystyried ei bod yn ofynnol i berchnogion anifeiliaid anwes gadw eu hadar dan do pan fydd achosion yn digwydd, mae'n ymddangos yn hollol afresymegol fod yn dal i fod modd rhyddhau niferoedd mawr o adar hela wedi eu bridio mewn cewyll. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith rhyddhau adar hela ar ledaeniad ffliw adar, a pha fesurau sy'n cael eu hystyried i liniaru'r risgiau hynny?
Thanks, Carolyn. This is a very important issue, not least as we see avian influenza and as we go into the season of migratory patterns with birds as well. We're continuously monitoring avian influenza now in poultry and in wild birds. We have regular reporting from several sources. We have data intelligence gathering, we have lab testing as well for birds that we suspect are infected or found dead, and we have collaborative working across all relevant Government departments and the wider networks that we have out there within birds and poultry and so on, so we can take early interventions. We've shown this, actually, on the ground as and when necessary.
We're also, by the way, introducing additional mandatory biosecurity measures in the gamebird management sector, which will include a mandatory biosecurity checklist to be completed by all gamebird keepers.
So, we acknowledge that released gamebirds, if infected, have potential to spread avian influenza to other wild bird species, including those which are of conservation concern. But, so far, we have no evidence of mass mortalities of any other species of conservation concern in the areas that we've seen infection.
I just wanted to mention as well, following the avian influenza outbreak in gamebirds in north Wales, Welsh Government took, rightly, precautionary and additional steps outside of our usual obligations. We informed all the registered poultry and captive bird keepers in that area of the incident, which would typically only take place when we have an outbreak occurring in poultry or captive birds. So, we went above and beyond; so, we're right on top of it.
Diolch, Carolyn. Mae hwn yn fater pwysig iawn, yn enwedig wrth inni weld ffliw adar ac ar ddechrau'r tymor o batrymau mudol gan adar hefyd. Rydym yn monitro ffliw adar yn barhaus nawr mewn dofednod ac mewn adar gwyllt. Mae gennym adroddiadau rheolaidd o sawl ffynhonnell. Caiff data ei gasglu, mae gennym brofion labordy ar gyfer adar yr amheuwn eu bod wedi'u heintio neu a ganfuwyd yn farw, ac mae cydweithio'n digwydd ar draws holl adrannau perthnasol y Llywodraeth a'r rhwydweithiau ehangach sydd gennym allan yno gydag adar a dofednod ac yn y blaen, fel y gallwn ymyrryd yn gynnar. Rydym wedi dangos hyn ar lawr gwlad pan, ac fel y bo angen.
Rydym hefyd, gyda llaw, yn cyflwyno mesurau bioddiogelwch gorfodol ychwanegol yn y sector rheoli adar hela, a fydd yn cynnwys rhestr wirio bioddiogelwch orfodol i'w chwblhau gan bob ceidwad adar hela.
Felly, rydym yn cydnabod bod perygl y gall adar hela a ryddheir, os ydynt wedi'u heintio, ledaenu ffliw adar i rywogaethau o adar gwyllt eraill, gan gynnwys adar o bryder cadwraethol. Ond hyd yma, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth fod llu o farwolaethau wedi digwydd mewn unrhyw rywogaeth arall o bryder cadwraethol yn yr ardaloedd lle gwelsom achosion o haint.
Roeddwn eisiau sôn hefyd, yn dilyn yr achosion o ffliw adar mewn adar hela yng ngogledd Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau rhagofalus ac ychwanegol y tu hwnt i'n rhwymedigaethau arferol, a hynny'n briodol. Fe wnaethom hysbysu'r holl geidwaid dofednod ac adar caeth cofrestredig yn ardal y digwyddiad, a fyddai fel arfer ond yn digwydd pan fo gennym achosion yn digwydd mewn dofednod neu adar caeth. Fe aethom y tu hwnt i'r galw; felly, mae'r sefyllfa dan reolaeth gennym.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermydd a ffermwyr ar draws Gorllewin De Cymru gydag arallgyfeirio? OQ63245
6. How is the Welsh Government supporting farms and farmers across South Wales West with diversification? OQ63245
Diolch, Tom. A number of support schemes are available to farmers in the south-west Wales area, enabling them to develop existing or establish new diversification enterprises. An application window for the agricultural diversification and horticulture scheme is currently open, and it closes on 5 December.
Diolch, Tom. Mae nifer o gynlluniau cymorth ar gael i ffermwyr yn ardal de-orllewin Cymru, gan eu galluogi i ddatblygu mentrau arallgyfeirio sy'n bodoli'n barod neu sefydlu mentrau arallgyfeirio newydd. Mae cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun arallgyfeirio amaethyddol a garddwriaeth ar agor ar hyn o bryd, a daw i ben ar 5 Rhagfyr.
Lovely to hear that. Thank you very much, Cabinet Secretary. You will be aware that farmers in England benefit from class Q regulations that allow them to convert agricultural buildings to dwellings with minimal planning interference, but no such equivalent exists in the same way here in Wales, and that puts farmers here in Wales at a competitive disadvantage if they're looking to do the same thing. So, will you look again at what measures you could introduce in Wales to level the playing field for our farmers?
Hyfryd clywed hynny. Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol fod ffermwyr yn Lloegr yn elwa o reoliadau dosbarth Q sy'n caniatáu iddynt drosi adeiladau amaethyddol yn anheddau heb fawr o ymyrraeth gynllunio, ond nid oes unrhyw beth cyffelyb yn bodoli yn yr un ffordd yma yng Nghymru, ac mae hynny'n rhoi ffermwyr yma yng Nghymru dan anfantais gystadleuol os ydynt am wneud yr un peth. Felly, a wnewch chi edrych eto ar ba fesurau y gallech eu cyflwyno yng Nghymru i sicrhau tegwch i'n ffermwyr?
Yes. I'm always happy to have those conversations with the Cabinet Secretary for planning, but I would say, 'Let's do what's right in the Welsh context' as well, but more than happy to do that. I wonder if he's written previously to the Cabinet Secretary with responsibility for planning, but, if not, if he'd like to write to that Cabinet Secretary or to me or to both, we'd be more than happy to respond.
Ie. Rwyf bob amser yn hapus i gael y sgyrsiau hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio, ond buaswn yn dweud, 'Gadewch inni wneud yr hyn sy'n iawn yng nghyd-destun Cymru' hefyd, ond rwy'n fwy na hapus i wneud hynny. Tybed a yw wedi ysgrifennu'n flaenorol at Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am gynllunio, ond os nad yw wedi gwneud hynny, mae croeso iddo ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet dan sylw neu ataf i, neu'r ddau ohonom, a byddem yn barod iawn i ymateb.
7. Pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i gynorthwyo preswylwyr a allai wynebu llifogydd dro ar ôl tro y gaeaf hwn, yn enwedig y rhai sydd heb yswiriant neu mewn tai cymdeithasol? OQ63257
7. What contingency plans are in place to assist residents who may face repeat flooding this winter, particularly those who are uninsured or in social housing? OQ63257
Diolch, Lee. Welsh Government remain vigilant to flood risks all year round. Working with key partners such as our risk management authorities, emergency services and the local resilience fora, we are focused on helping our responders support the most vulnerable in our society, who will feel the impacts of emergencies such as flooding most profoundly.
Diolch, Lee. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn effro i beryglon llifogydd drwy gydol y flwyddyn. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol fel ein hawdurdodau rheoli risg, y gwasanaethau brys a'r fforymau gwydnwch lleol, rydym yn canolbwyntio ar helpu ein hymatebwyr i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a fydd yn teimlo effeithiau argyfyngau fel llifogydd yn fwyaf dwys.
Diolch. The British Red Cross highlighted in their recent report that residents in social housing and those without insurance are particularly vulnerable to repeat flooding. Their report found that one in five people in high-risk areas are uninsured, and many lack the resources or information to prepare for or recover from flooding. So, can the Welsh Government outline what targeted measures are in place this winter to ensure these groups are not left behind, and specifically how our contingency plans are addressing the gaps in awareness, access to emergency accommodation and financial support for those who are most exposed and least protected?
Diolch. Tynnodd y Groes Goch Brydeinig sylw yn eu hadroddiad diweddar at y ffaith bod preswylwyr mewn tai cymdeithasol a'r rhai heb yswiriant yn arbennig o agored i niwed llifogydd sy'n digwydd dro ar ôl tro. Canfu eu hadroddiad fod un o bob pump o bobl mewn ardaloedd risg uchel heb yswiriant, ac mae llawer heb adnoddau neu wybodaeth i baratoi ar gyfer llifogydd neu i adfer ar ôl llifogydd. Felly, a all Llywodraeth Cymru amlinellu pa fesurau wedi'u targedu sydd ar waith y gaeaf hwn i sicrhau nad yw'r grwpiau hyn yn cael eu gadael ar ôl, ac yn benodol, sut y mae ein cynlluniau wrth gefn yn mynd i'r afael â'r bylchau mewn ymwybyddiaeth, mynediad at lety brys a chymorth ariannol i'r rhai mwyaf agored ac sydd wedi'u diogelu leiaf?
Thank you, Lee, and this is such a critical issue, because that issue of awareness of insurance, where individuals can get insurance, and, if they cannot get insurance, what alternatives are out there, is critical and it will affect some of our more disadvantaged residents more than others. It is a real social justice issue.
The first thing I would say is—very much at this time of year, but always—I would urge everyone to look, first of all, at your house insurance and understand your coverage, if you have it, and many people do. The reason I say that is because standard home insurance policies do not always cover flood damage. Check that, please. There is, of course—and it's worth saying it here today and, again, seeking help from all Members to spread the word on this—the Flood Re scheme, which helps make flood assurance more accessible and affordable for properties at high risk of flooding. There is a role, of course, for social landlords as well. We're aware that a number of landlords have recently reviewed their policies to make sure that they have best practice in place with tenants about the risk to their homes and what to do in preparation for, in the eventuality of, and in the aftermath of, flooding as well, and we're keen to see more of our social landlords do that sort of work. And also it's engaging with the local resilience forums, which produce the plans for local communities as well.
And the other thing I would say, definitely, which I've mentioned on the floor before, is to look at the Flood Re build back better initiative. If you've been flooded, then, actually, that helps, with insurers providing up to £10,000 towards property flood resilience measures when repairing homes after a flood. I've seen it work, and I would encourage people to do that as well. This is a difficult area, Lee, but we're keen that social landlords play their part with their tenants and that we signpost people to where they can get insurance, as difficult as it is.
Diolch, Lee, ac mae hwn yn fater mor allweddol, oherwydd mae'r cwestiwn o ymwybyddiaeth o yswiriant, lle gall unigolion gael yswiriant, ac os na allant gael yswiriant, pa ddewisiadau amgen sydd i'w cael, yn allweddol a bydd yn effeithio mwy ar rai o'n trigolion mwy difreintiedig nag ar eraill. Mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol go iawn.
Y peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud—ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn enwedig, ond bob amser—yw y buaswn yn annog pawb i edrych, yn gyntaf oll, ar eich yswiriant tŷ i weld a yw'n cynnwys difrod llifogydd, ac mae llawer o bolisïau yswiriant yn ei gynnwys. Y rheswm pam rwy'n dweud hynny yw am nad yw polisïau yswiriant cartref safonol bob amser yn cynnwys difrod llifogydd. Gwiriwch hynny, os gwelwch yn dda. Mae yna gynllun, wrth gwrs—ac mae'n werth ei ddweud yma heddiw ac unwaith eto, rwy'n gofyn am gymorth yr holl Aelodau i ledaenu'r gair ar hyn—cynllun Flood Re, sy'n helpu i wneud yswiriant llifogydd yn fwy hygyrch a fforddiadwy i eiddo â risg uchel o ddioddef llifogydd. Mae yna rôl i landlordiaid cymdeithasol hefyd. Rydym yn ymwybodol fod nifer o landlordiaid wedi adolygu eu polisïau yn ddiweddar i wneud yn siŵr fod ganddynt arferion gorau ar waith gyda thenantiaid mewn perthynas â risg i'w cartrefi a beth i'w wneud i baratoi ar gyfer y perygl o lifogydd, ac ar ôl llifogydd hefyd, ac rydym yn awyddus i weld mwy o'n landlordiaid cymdeithasol yn gwneud y math hwnnw o waith. Ac mae'n cysylltu â'r fforymau gwydnwch lleol, sy'n cynhyrchu'r cynlluniau ar gyfer cymunedau lleol.
A'r peth arall y carwn ei ddweud, yn bendant, ac rwyf wedi sôn am hyn ar lawr y Siambr o'r blaen, yw y dylech edrych ar cynllun ailgodi'n gryfach Flood Re. Os ydych chi wedi cael llifogydd, mae hwnnw'n helpu, gydag yswirwyr yn darparu hyd at £10,000 tuag at fesurau gwydnwch llifogydd i eiddo wrth atgyweirio cartrefi ar ôl llifogydd. Rwyf wedi ei weld yn gweithio, a hoffwn annog pobl i wneud hynny hefyd. Mae hwn yn faes anodd, Lee, ond rydym yn awyddus i weld landlordiaid cymdeithasol yn chwarae eu rhan gyda'u tenantiaid a'n bod ni'n cyfeirio pobl at ble y gallant gael yswiriant, er mor anodd yw hynny.
Mae cwestiwn 8 [OQ63249] wedi'i dynnu nôl. Yn olaf, felly, cwestiwn 9, Mike Hedges.
Question 8 [OQ63249] is withdrawn. Finally, question 9, Mike Hedges.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar lefelau llygredd aer yn Abertawe? OQ63235
9. Will the Cabinet Secretary make a statement on air pollution levels in Swansea? OQ63235
Thank you, Mike. Air quality in Swansea is compliant with all national and local statutory air quality limits. Swansea Council publishes an annual air quality progress report outlining the actions it's taking to improve air quality. We collectively remain committed to improving air quality in Swansea and right across Wales.
Diolch, Mike. Mae ansawdd aer yn Abertawe yn cydymffurfio â'r holl derfynau ansawdd aer statudol cenedlaethol a lleol. Mae Cyngor Abertawe yn cyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol ar ansawdd aer sy'n amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i wella ansawdd aer. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella ansawdd aer yn Abertawe ac ar draws Cymru.
Thank you for that answer. Air quality has standards for seven key pollutants: benzene, 1,3-butadiene, carbon monoxide, lead, nitrogen dioxide, fine particles, PM10s, and sulphur dioxide. The council has carried out a multistage review and assessment of air quality within Swansea. As part of this, they have identified those areas that would exceed the national objectives. The Hafod air quality management area was declared, because Hafod was likely to fail the statutory nitrogen dioxide objectives. Microplastics are present in the air we breathe, posing a potentially significant and largely unquantifiable threat to human health and environmental well-being. What actions is the Welsh Government taking to improve air quality in Swansea, especially in Hafod?
Diolch am yr ateb hwnnw. Mae gan ansawdd aer safonau ar gyfer saith llygrydd allweddol: bensen, 1,3-bwtadeuen, carbon monocsid, plwm, nitrogen deuocsid, gronynnau mân, PM10, a sylffwr deuocsid. Mae'r cyngor wedi cynnal adolygiad ac asesiad aml-gam o ansawdd aer yn Abertawe. Yn rhan o hyn, maent wedi nodi'r ardaloedd a fyddai'n uwch na'r amcanion cenedlaethol. Datganwyd ardal rheoli ansawdd aer Hafod, am fod Hafod yn debygol o fethu'r amcanion nitrogen deuocsid statudol. Mae microblastigau'n bresennol yn yr aer a anadlwn, gan beri bygythiad sylweddol na ellir ei fesur yn iawn i iechyd pobl a lles amgylcheddol. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd aer yn Abertawe, yn enwedig yn Hafod?
Thank you very much indeed for that supplementary. So, the air quality within the Swansea agglomeration air quality assessment zone is being constantly monitored now through a network of automatic stations and diffusion tubes. So, they measure key pollutants, including some of those you mentioned, Mike: nitrogen dioxide; particulate matter, PM10 and PM2.5; ozone, sulphur dioxide and benzene. But, of interest to you on the way that we can keep on improving standards in Swansea and right throughout Wales, I'm expecting to launch a public consultation shortly on target options for fine particulate matter—PM2.5—and the associated monitoring requirements to underpin them. And as you'll know, Mike, within our air quality legislation, taken forward by an illustrious predecessor of mine, we have the ability to go further as the evidence on the ground changes that we need to focus on other air quality issues.
Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol. Felly, mae ansawdd aer ym mharth asesu ansawdd aer crynodref Abertawe yn cael ei fonitro'n gyson nawr drwy rwydwaith o orsafoedd awtomatig a thiwbiau trylediad. Felly, maent yn mesur llygryddion allweddol, gan gynnwys rhai y sonioch chi amdanynt, Mike: nitrogen deuocsid; mater gronynnol, PM10 a PM2.5; osôn, sylffwr deuocsid a bensen. Ond o ddiddordeb i chi ar y ffordd y gallwn barhau i wella safonau yn Abertawe a ledled Cymru, rwy'n disgwyl lansio ymgynghoriad cyhoeddus cyn bo hir ar opsiynau targed ar gyfer mater gronynnol mân—PM2.5—a'r gofynion monitro cysylltiedig i'w cefnogi. Ac fel y gwyddoch, Mike, yn ein deddfwriaeth ansawdd aer, a gyflwynwyd gan ragflaenydd disglair i mi, mae gennym allu i fynd ymhellach wrth i'r dystiolaeth ar lawr gwlad newid fod angen inni ganolbwyntio ar faterion ansawdd aer eraill.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Dau gwestiwn heddiw a'r cyntaf ohonyn nhw i'w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ac i'w ofyn gan David Rees.
The topical questions are next. Two questions today and the first is to be answered by the Minister for Culture, Skills and Social Partnership, and to be asked by David Rees.
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Tata ynglŷn â dyfodol ei weithfeydd ledled Cymru ac effaith unrhyw gau dros dro ar weithwyr dur? TQ1386
What discussions is the Welsh Government having with Tata regarding the future of their plants across Wales and the impact of any temporary shutdowns upon steelworkers? TQ1386

Thank you. Welsh Government Ministers and officials have regular discussions with Tata and the steel unions. We have been advised the temporary pause this year is due to be extended at three other sites owing to difficult market conditions.
Diolch. Mae Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau rheolaidd gyda Tata a'r undebau dur. Rydym wedi cael gwybod bod y saib dros dro eleni i fod i gael ei ymestyn ar dri safle arall oherwydd amodau anodd y farchnad.
Well, thank you for that answer, Minister. And for the record, Llywydd, I want to put on the record and remind Members that I'm a proud trade unionist and a member of Unite the Union.
Minister, on Friday, I received a call from an official from Tata that there were plans being announced to have an elongated—and I'm going to put in quotes—'festive shutdown' for the hot mill in Port Talbot, but also at the production lines in Llanwern and Trostre. This would also see steelworkers losing a large proportion of their income. There were talks of a 65 per cent basic salary being paid during that furlough. That's not happened normally in furloughs and shutdowns; staff usually get their normal pay. This is new to these things. Therefore, this is actually seeing staff losing income at a time of year when families need that money. It's Christmas time. They have mortgages to pay, they have food bills, they have heating, they have children they'll want to give presents to. So, it's disastrous for the communities.
I know that trade unions are raising some of that aspect, and I work with them and I fully support all the actions they're taking to fight that sort of 65 per cent rate. I place on record my thanks to the steel unions because they continue to work hard for steelworkers in very difficult times.
Tata, as you just indicated in your answer, indicates that global markets are to blame. They've been affected by the tariffs imposed by the United States—the 50 per cent on imported steel into the US—and of course, last week, we were here discussing the proposals of EU tariffs and the reduction in quotas that will also, in future, affect the markets. And, as a consequence, we are seeing steel being—I use the word 'dumped'—dumped in the UK markets, from China or from Vietnam, and that imported steel is having an impact upon the ability of Tata to sell its steel in the UK.
With that in mind, I suppose I want to know exactly what's going on. Because the anxiety families are facing—. Having suffered over 2,000 job losses when the blast furnaces were shut down—. And the faith in Tata—Tata are not indicating they're going to have a shutdown—but the faith in Tata at the moment is at rock bottom. They need reassurances that the Welsh Government is taking action to support the industry and to support them in particular. So, with that in mind, Minister, what discussions is the Welsh Government having with Tata about ensuring that these elongated shutdowns don't impact the long-term plans for the industry?
Also, whilst you're having those discussions, are you ensuring that financial support for these workers is put into place? Because, as I said, losing 35 per cent of your salary at a time of year when you need all that is going to have a huge impact upon families and communities. And are you having discussions with Tata about the possibility of future elongated shutdowns? Because I don't want to see this as a repetitive process. We know the global markets are very volatile, but we need to make sure this doesn't happen time after time after time. Because one of my worries is that we'll have an electric arc furnace built—the project is going ahead—it will be making steel, but there won't be a steel plant there to actually roll the steel, and steelworkers won't have their jobs in 2028 when that comes online. We must make sure that's happening.
And to that effect, what discussions are you having with the UK Government about getting tariffs and trade remedies in place in the UK to stop these imported steels coming in, taking the marketplace? The quotas need to be addressed; the tariffs need to be raised; and we need to take action to stop outside steel taking the marketplace, otherwise we're going to see more and more of this happening, and it's going to decimate our industries.
I expect both Governments to actually come up with a strategy, and we're waiting for that, Minister. Do you have any idea when that strategy might actually take place? We've been waiting for quite a while now. And I would like to see that because the future of steel is crucial to the future of Wales. It's the largest and longest foundational industry still here, and we cannot let it go. So, will you tell me what's happening, please?
Wel, diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ac ar gyfer y cofnod, Lywydd, rwyf am gofnodi ac atgoffa'r Aelodau fy mod i'n undebwr llafur balch ac yn aelod o undeb Unite.
Weinidog, ddydd Gwener, cefais alwad gan swyddog yn Tata fod cynlluniau'n cael eu cyhoeddi i gau'r felin boeth ym Mhort Talbot am gyfnod estynedig dros y Nadolig, yn ogystal â'r llinellau cynhyrchu yn Llan-wern a Throstre. Byddai hyn hefyd yn golygu bod gweithwyr dur yn colli cyfran fawr o'u hincwm. Roedd sôn am gyflog sylfaenol o 65 y cant yn cael ei dalu yn ystod y cyfnod ffyrlo hwnnw. Nid yw hynny wedi digwydd yn arferol mewn cyfnodau ffyrlo a chau; mae staff fel arfer yn cael eu cyflog arferol. Mae'n newydd i'r pethau hyn. Felly, mae'n golygu mewn gwirionedd fod staff yn colli incwm ar adeg o'r flwyddyn pan fo teuluoedd angen yr arian hwnnw. Mae'n amser Nadolig. Mae ganddynt forgeisi i'w talu, mae ganddynt filiau bwyd, mae ganddynt filiau gwresogi, mae ganddynt blant y byddant eisiau rhoi anrhegion iddynt. Felly, mae'n drychinebus i'r cymunedau.
Rwy'n gwybod bod undebau llafur yn codi peth o hyn, ac rwy'n gweithio gyda nhw ac rwy'n cefnogi'n llawn yr holl gamau a roddir ar waith ganddynt i frwydro yn erbyn y gyfradd o 65 y cant. Nodaf fy niolch i'r undebau dur am eu bod yn parhau i weithio'n galed dros weithwyr dur mewn cyfnod anodd iawn.
Fel rydych chi newydd ei nodi yn eich ateb, mae Tata yn dweud mai marchnadoedd byd-eang sydd ar fai. Maent wedi cael eu heffeithio gan y tariffau a osodwyd gan yr Unol Daleithiau—y 50 y cant ar ddur wedi'i fewnforio i'r Unol Daleithiau—ac wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, roeddem yma'n trafod cynigion tariffau'r UE a'r gostyngiad yn y cwotâu a fydd hefyd yn effeithio ar y marchnadoedd yn y dyfodol. Ac o ganlyniad, rydym yn gweld dur yn cael ei ddympio ym marchnadoedd y DU, o Tsieina neu o Fietnam, ac mae'r dur hwnnw sydd wedi'i fewnforio yn cael effaith ar allu Tata i werthu ei ddur yn y DU.
Gyda hynny mewn golwg, hoffwn wybod yn union beth sy'n digwydd. Oherwydd y pryder y mae teuluoedd yn eu hwynebu—. Ar ôl colli dros 2,000 o swyddi pan gaewyd y ffwrneisi chwyth—. Ac nid yw'r ffydd yn Tata—nid yw Tata yn nodi eu bod yn mynd i gau—ond mae'r ffydd yn Tata ar hyn o bryd yn is nag erioed. Mae angen sicrwydd arnynt fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gefnogi'r diwydiant a'u cefnogi nhw'n benodol. Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Tata ynglŷn â sicrhau nad yw'r cau estynedig yn effeithio ar y cynlluniau hirdymor ar gyfer y diwydiant?
Hefyd, pan fyddwch chi'n cael y trafodaethau hynny, a ydych chi'n sicrhau bod cymorth ariannol i'r gweithwyr yn cael ei roi ar waith? Oherwydd, fel y dywedais, mae colli 35 y cant o'ch cyflog ar adeg o'r flwyddyn pan fydd ei angen arnoch yn mynd i gael effaith enfawr ar deuluoedd a chymunedau. Ac a ydych chi'n cael trafodaethau gyda Tata am y perygl o gyfnodau cau estynedig yn y dyfodol? Oherwydd nid wyf eisiau i hon fod yn broses sy'n ailadrodd. Rydym yn gwybod bod y marchnadoedd byd-eang yn anwadal iawn, ond mae angen inni wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd dro ar ôl tro. Oherwydd un o fy ofnau yw y bydd gennym ffwrnais arc drydan wedi'i hadeiladu—mae'r prosiect yn mynd yn ei flaen—fe fydd yn gwneud dur, ond ni fydd ffatri ddur yno i rolio'r dur, ac ni fydd eu swyddi gan weithwyr dur yn 2028 pan ddaw hynny'n weithredol. Rhaid inni wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd.
Ac i'r perwyl hwnnw, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chael tariffau a rhwymedïau masnach ar waith yn y DU i atal duroedd wedi'u mewnforio rhag dod i mewn, a meddiannu'r farchnad? Mae angen mynd i'r afael â'r cwotâu; mae angen codi'r tariffau; ac mae angen inni weithredu i atal dur o'r tu allan rhag meddiannu'r farchnad, neu fe welwn fwy a mwy o hyn yn digwydd, ac mae'n mynd i ddinistrio ein diwydiannau.
Rwy'n disgwyl i'r ddwy Lywodraeth ddod o hyd i strategaeth, ac rydym yn aros am hynny, Weinidog. A oes gennych chi unrhyw syniad pryd y gallai'r strategaeth honno ddigwydd? Rydym wedi bod yn aros ers cryn dipyn o amser bellach. A hoffwn weld hynny oherwydd mae dyfodol dur yn allweddol i ddyfodol Cymru. Dyma'r diwydiant sylfaenol mwyaf a hiraf sy'n dal i fod yma, ac ni allwn adael iddo fynd. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf beth sy'n digwydd, os gwelwch yn dda?
Can I thank Dai Rees for the number of questions there and also recognise his role in supporting the steel industry, not just in Port Talbot, but across Wales for a number of years now? I point Members to my declarations of interest as a trade union member as well, and support all of them, members and trade union leaders, who have actively supported the industry for many, many years now.
I agree with Dai Rees that the call he received on Friday will be of concern to not just the workers at Tata Steel, but indeed their families and the wider communities. It's in that spirit that the company need to engage with trade unions to find a suitable solution to the problems that they are facing owing to the market conditions—those global conditions that Dai Rees refers to.
I can give the Member—. We are actively having conversations with both the company and the UK Government when it comes to the steel industry. On Saturday just gone, 11 October, the Cabinet Secretary for economy spoke with the Secretary of State for Wales and the Parliamentary Under-Secretary of State, the Minister for Industry, to discuss the proposed pause along with the concerns about steel tariffs, which was raised, I think, last week in a topical question to the Cabinet Secretary. Those conversations will continue. There's the opportunity again to have a further conversation in that spirit of partnership at the Tata transition board tomorrow, 16 October, where I'm sure this and other points the Member raised will be discussed further.
We want to see exactly the same thing that the Member wants to see, Llywydd: long-term viability for the sector, not just for the steel industry itself, but importantly for the Member's community, the supply chains and the downstream sites of Port Talbot. Dai Rees is absolutely right when he points to the future of steel being crucial to the future of Wales.
We are seeing those global market conditions causing difficulties for Tata and others, but we do want to work in partnership with them, through having those meaningful conversations, but importantly having those meaningful conversations with the workforce, because that's where the best solutions comes from. It's my expectation that the company follow that principle, engage with their recognised trade unions on the sites, on the three sites affected, to have those discussions and manage the discussion, given the timing of this announcement. Shutdowns are operational matters, they do happen, but I do recognise that the prolonged shutdown, particularly at this point with the upcoming Christmas period, will of course be difficult for the workforce, and they must work alongside the workforce to get through that.
The Member's point on the future and any more shutdowns of this nature, we have not been made aware of any plans in that regard. I'll just reiterate the point, for any decision that the company may wish to make in the future, not just about things like this, but any decision, they should do that with the workforce in mind and they should do that in social partnership. But, to be clear, we have not had a conversation or sight of any future shutdown in this period that the Member points to.
On the steel strategy, we're actively engaged on the steel strategy with the UK Government. I don't have the timeline with me, but I'll ask that the Cabinet Secretary follows up with the Member directly on that point when she returns from business in Brussels.
A gaf i ddiolch i Dai Rees am y nifer o gwestiynau yno a chydnabod ei rôl yn cefnogi'r diwydiant dur, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond ledled Cymru ers nifer o flynyddoedd bellach? Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy natganiadau o fuddiant fel aelod o undeb llafur hefyd, ac yn cefnogi pob un ohonynt, yn aelodau ac arweinwyr undebau llafur, sydd wedi cefnogi'r diwydiant ers blynyddoedd lawer.
Rwy'n cytuno â Dai Rees y bydd yr alwad a gafodd ddydd Gwener yn peri pryder nid yn unig i'r gweithwyr yn Tata Steel, ond yn wir i'w teuluoedd a'r cymunedau ehangach. Yn yr ysbryd hwnnw y mae angen i'r cwmni ymgysylltu ag undebau llafur i ddod o hyd i ateb addas i'r problemau y maent yn eu hwynebu oherwydd amodau'r farchnad—yr amodau byd-eang y cyfeiria Dai Rees atynt.
Gallaf roi i'r Aelod—. Rydym yn cael sgyrsiau gyda'r cwmni a Llywodraeth y DU ar fater y diwydiant dur. Ddydd Sadwrn, 11 Hydref, siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, y Gweinidog Diwydiant, i drafod yr oedi arfaethedig ynghyd â'r pryderon am dariffau dur, a godwyd yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, mewn cwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y sgyrsiau hynny'n parhau. Mae cyfle eto i gael sgwrs bellach mewn ysbryd o bartneriaeth ym mwrdd pontio Tata yfory, 16 Hydref, lle rwy'n siŵr y bydd hyn a phwyntiau eraill a gododd yr Aelod yn cael eu trafod ymhellach.
Rydym am weld yr un peth yn union ag y mae'r Aelod eisiau ei weld, Lywydd: hyfywedd hirdymor i'r sector, nid yn unig i'r diwydiant dur ei hun, ond yn bwysig, i gymuned yr Aelod, i'r cadwyni cyflenwi a safleoedd ymhellach i lawr ym Mhort Talbot. Mae Dai Rees yn hollol gywir pan noda fod dyfodol dur yn allweddol i ddyfodol Cymru.
Rydym yn gweld yr amodau marchnad byd-eang yn achosi anawsterau i Tata ac eraill, ond rydym eisiau gweithio mewn partneriaeth â nhw, drwy gael sgyrsiau ystyrlon, ond yn bwysig, drwy gael sgyrsiau ystyrlon gyda'r gweithlu, gan mai o'r fan honno y daw'r atebion gorau. Rwy'n disgwyl i'r cwmni ddilyn yr egwyddor honno, ymgysylltu â'u hundebau llafur cydnabyddedig ar y safleoedd, ar y tri safle yr effeithir arnynt, i gael y trafodaethau hynny a rheoli'r drafodaeth, o ystyried amseriad y cyhoeddiad hwn. Mae cau safleoedd yn fater gweithredol, maent yn digwydd, ond rwy'n cydnabod y bydd y cau estynedig, yn enwedig ar y pwynt hwn gyda chyfnod y Nadolig ar y ffordd, yn anodd i'r gweithlu, ac mae'n rhaid iddynt weithio ochr yn ochr â'r gweithlu i fynd drwy hynny.
Ar bwynt yr Aelod ynglŷn â'r dyfodol ac unrhyw gau arall o'r natur hon, nid ydym wedi cael gwybod am unrhyw gynlluniau i'r perwyl hwnnw. Fe ailadroddaf y pwynt, ar gyfer unrhyw benderfyniad y gallai'r cwmni fod eisiau ei wneud yn y dyfodol, nid yn unig am bethau fel hyn, ond unrhyw benderfyniad, dylent wneud hynny gyda'r gweithlu mewn golwg a dylent wneud hynny mewn partneriaeth gymdeithasol. Ond i fod yn glir, nid ydym wedi cael sgwrs nac awgrym o unrhyw gau yn y dyfodol yn y cyfnod y mae'r Aelod yn ei nodi.
Ar y strategaeth ddur, rydym yn bwrw ati'n weithredol ar y strategaeth ddur gyda Llywodraeth y DU. Nid yw'r amserlen gennyf, ond fe ofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet fynd ar drywydd y pwynt hwnnw gyda'r Aelod yn uniongyrchol pan fydd hi'n dychwelyd o fusnes ym Mrwsel.
Dai Rees is completely right to point out that furloughs haven't happened on the site in Port Talbot. It's the first time they're happening. Of course, part of that is because we no longer have a blast furnace. It was too expensive for Tata to switch the blast furnace off, even when global markets were causing problems. But the fact facing a number of workers at the site is that they're going to be receiving 65 per cent of their overall wage in the run-up to Christmas. That is going to be catastrophic for so many families that I represent in my region, not just in Port Talbot, but along the M4 corridor. And now, not only that, but I am also receiving information that contractors are now being served notice by their companies because of this news. So, what I'm really keen to understand from the Government here is how they are going to be supporting, not just the workers at the site, who do need the support of the Government, but also those contractors who are going to be losing their jobs as a result of this. More often than not, the contractors are forgotten about in these disputes, but it's at a point now where people's confidence in the steel industry is at an all-time low.
And just to pick up as well on the international side, we're in a situation where tariffs are being put on our steel industry time and time again by other countries. We're going to be in a situation, as Dai has already pointed to, where we are going to be dumped on by other countries. And all the steel organisations are very clear in saying that the last country to put those tariffs up on the import of steel will be the first countries to de-industrialise and lose their steel industry. So, I really would like further news from the Minister about those conversations with the UK Government.
And on the steel strategy, it's great to know that conversations are going on, but the fact that this is being postponed now into the new year does not fill people with confidence. We need to move from conversations and move into action. So, I would really appreciate the Minister moving forward with that and ensuring that UK Government Ministers know the strength of feeling here in this Senedd, that we really need to get on with this steel strategy. Otherwise, we're going to be looking back on this period and wondering what went wrong. And we'll be able to tell you what went wrong: it's a lack of action by UK Government.
Mae Dai Rees yn hollol gywir i nodi nad oes cyfnodau ffyrlo wedi digwydd ar y safle ym Mhort Talbot. Dyma'r tro cyntaf iddynt ddigwydd. Wrth gwrs, rhan o hynny yw nad oes gennym ffwrnais chwyth mwyach. Roedd yn rhy ddrud i Tata ddiffodd y ffwrnais chwyth, hyd yn oed pan oedd marchnadoedd byd-eang yn achosi problemau. Ond y ffaith sy'n wynebu nifer o weithwyr ar y safle yw mai 65 y cant o gyfanswm eu cyflog y byddant yn ei gael yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae hynny'n mynd i fod yn drychinebus i gymaint o deuluoedd a gynrychiolaf yn fy rhanbarth, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond ar hyd coridor yr M4. A nawr, nid yn unig hynny, deallaf hefyd fod contractwyr bellach yn cael rhybudd gan eu cwmnïau oherwydd y newydd hwn. Felly, rwy'n awyddus iawn i glywed gan y Llywodraeth yma sut y maent yn mynd i gefnogi, nid yn unig y gweithwyr ar y safle, sydd angen cefnogaeth y Llywodraeth, ond hefyd y contractwyr sy'n mynd i golli eu gwaith o ganlyniad i hyn. Yn amlach na pheidio, mae'r contractwyr yn cael eu hanghofio yn yr anghydfodau hyn, ond mae ar bwynt nawr lle mae hyder pobl yn y diwydiant dur yn is nag erioed.
Ac i fynd ar drywydd yr ochr ryngwladol hefyd, rydym mewn sefyllfa lle mae tariffau'n cael eu rhoi ar ein diwydiant dur dro ar ôl tro gan wledydd eraill. Rydym yn mynd i fod mewn sefyllfa, fel y mae Dai eisoes wedi nodi, lle rydym yn mynd i gael dur wedi'i ddympio arnom gan wledydd eraill. Ac mae'r holl sefydliadau dur yn dweud yn glir iawn mai'r wlad olaf i godi tariffau ar fewnforio dur fydd y gwledydd cyntaf i ddad-ddiwydiannu a cholli eu diwydiant dur. Felly, hoffwn gael rhagor o newyddion gan y Gweinidog am y sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU.
Ac ar y strategaeth ddur, mae'n wych gwybod bod sgyrsiau'n digwydd, ond nid yw'r ffaith bod hyn yn cael ei ohirio nawr i'r flwyddyn newydd yn llenwi pobl â hyder. Mae angen inni symud o sgyrsiau at weithredu. Felly, hoffwn yn fawr weld y Gweinidog yn symud ymlaen â hynny a sicrhau bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwybod am gryfder y teimlad yma yn y Senedd hon, fod angen inni fwrw ymlaen â'r strategaeth ddur. Fel arall, rydym yn mynd i edrych yn ôl ar y cyfnod hwn a meddwl tybed beth aeth o'i le. A byddwn yn gallu dweud wrthych beth aeth o'i le: diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU.
Could I thank Luke Fletcher for the range of questions? Just on the strength of feeling, Presiding Officer, well, I think, when it comes to the steel industry in Wales, the strength of the Senedd is very much recognised. It's not just the Government's position, I think there's cross-party support for the future of the steel industry and where we want to be for the future of the steel industry, and I can see opposition Members there. I can assure the Member that the Cabinet Secretary for economy takes every opportunity she can to raise with colleagues in UK Government, and counterparts in the industry as well, the importance of the steel strategy, the importance of the sector and the importance of the workforce, and not just the workers directly employed by Tata, but those in those downstream sites, and those contractors as well.
I haven't had the information that the Member has received with regard to contractors. If he wants to share that with me and the Cabinet Secretary's office, then we'll ask officials to take that forward. I repeat that there'll be a further opportunity where these matters are likely to be discussed at the transition board meeting that will take place tomorrow. But if he wants to share that information, then, of course, we will look into that further.
Just to repeat the point, Presiding Officer, I think the Cabinet Secretary made a detailed response on EU tariffs last week to questions from the Member himself and Members across the Chamber. The Cabinet Secretary did meet on Saturday to discuss the tariffs and this situation that we have in front of us. I take the Member's point on where we need to be in the future, and we'll take every opportunity to make our voice heard there. The Cabinet Secretary does it, and I will do the same there.
On the workforce point, I'll just repeat what I've said to Dai Rees: the importance of the company engaging directly with trade unions in Tata to come to a solution that is workable for everyone.
A gaf i ddiolch i Luke Fletcher am y cwestiynau amrywiol? Ar gryfder y teimlad, Lywydd, wel, o ran y diwydiant dur yng Nghymru, rwy'n credu bod cryfder y Senedd yn cael ei gydnabod yn fawr. Nid safbwynt y Llywodraeth yn unig ydyw, rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i ddyfodol y diwydiant dur a lle rydym eisiau bod ar gyfer dyfodol y diwydiant dur, a gallaf weld Aelodau'r wrthblaid yno. Gallaf sicrhau'r Aelod fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn manteisio ar bob cyfle i godi pwysigrwydd y strategaeth ddur gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU, a chymheiriaid yn y diwydiant hefyd, a phwysigrwydd y sector a phwysigrwydd y gweithlu, ac nid dim ond y gweithwyr a gyflogir yn uniongyrchol gan Tata, ond y rhai mewn safleoedd yn is i lawr, a chontractwyr hefyd.
Nid wyf wedi cael y wybodaeth y mae'r Aelod wedi'i chael mewn perthynas â chontractwyr. Os yw am rannu hynny gyda mi a swyddfa Ysgrifennydd y Cabinet, fe ofynnwn i swyddogion fwrw ymlaen â hynny. Rwy'n ailadrodd y bydd cyfle pellach lle mae'r materion hyn yn debygol o gael eu trafod yng nghyfarfod y bwrdd pontio a gynhelir yfory. Ond os yw am rannu'r wybodaeth honno, fe edrychwn ymhellach ar hynny, wrth gwrs.
I ailadrodd y pwynt, Lywydd, credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi ymateb manwl ar dariffau'r UE yr wythnos diwethaf i gwestiynau gan yr Aelod ei hun ac Aelodau ar draws y Siambr. Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet ddydd Sadwrn i drafod y tariffau a'r sefyllfa sydd o'n blaenau. Rwy'n cymryd pwynt yr Aelod ar ble mae angen inni fod yn y dyfodol, ac fe fanteisiwn ar bob cyfle i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yno. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny, a byddaf innau'n gwneud yr un peth yno.
Ar bwynt y gweithlu, fe ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrth Dai Rees: mae'n bwysig fod y cwmni'n ymgysylltu'n uniongyrchol ag undebau llafur yn Tata i ddod i ateb sy'n ymarferol i bawb.
I thank the Member for Aberavon for bringing this forward, because there is real tension and worry in the community at the moment, in the steel community and the supply chain, which has rightly been highlighted by Luke Fletcher.
Last week, the Economy, Trade and Rural Affairs Committee took evidence from unions, local and national representatives, as well as Tata, and I was encouraged that Tata are looking forward to the electric arc furnace build. But what work are you doing as a Welsh Government to hold their feet to the fire to ensure that project stays to time, is completed, and that there are the downstream elements of the industry still in existence to ensure that that investment is worthwhile and that electric arc furnace becomes a reality? Because I am worried that, in the UK, as I raised with the Cabinet Secretary for the economy last week, we have the highest energy costs in comparison to continental Europe, where we've seen steel companies rowing back on electric arc furnace investment. If this prolonged or elongated festive shutdown is anything to go by, then I have real concerns as to Tata's commitment to that electric arc furnace, given where we are in the industrial cycle and tariffs.
It's quite right what Luke Fletcher and Dai Rees have said around dumping. Because when I raised that point with union bosses in the committee last week, around the tariffs that are being implemented, yes, there was the concern of the sale of product into areas due to tariffs, but the No. 1 concern was dumping of product into the UK market. So, please, can you reiterate again what you're doing with UK Government counterparts around the tariff element, and what you’re doing to hold Tata's feet to the fire to ensure (a) that electric arc furnace is up and running, (b) that the downstream industrial elements to make it viable continue to exist in Wales, and (c) that the supply chain is supported, as Luke Fletcher rightly highlighted?
Diolch i'r Aelod dros Aberafan am gyflwyno hyn, oherwydd mae tensiwn a phryder gwirioneddol yn y gymuned ar hyn o bryd, yn y gymuned ddur a'r gadwyn gyflenwi, fel y nodwyd yn gywir ddigon gan Luke Fletcher.
Yr wythnos diwethaf, cymerodd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig dystiolaeth gan undebau, cynrychiolwyr lleol a chenedlaethol, yn ogystal â Tata, a chefais fy nghalonogi fod Tata yn edrych ymlaen at adeiladu'r ffwrnais arc drydan. Ond pa waith rydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y prosiect yn parhau ar amser, yn cael ei gwblhau, a bod elfennau ymhellach i lawr o'r diwydiant yn dal i fodoli i sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw'n werth chweil a bod ffwrnais arc drydan yn dod yn realiti? Oherwydd fel y nodais wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yr wythnos diwethaf, rwy'n poeni mai gennym ni y mae'r costau ynni uchaf o gymharu â chyfandir Ewrop, lle rydym wedi gweld cwmnïau dur yn camu'n ôl rhag buddsoddi mewn ffwrnais arc drydan. Os yw'r cau estynedig dros y Nadolig yn brawf o unrhyw beth, mae gennyf bryderon gwirioneddol ynghylch ymrwymiad Tata i'r ffwrnais arc drydan, o ystyried ble rydym arni yn y cylch diwydiannol a'r tariffau.
Mae'r hyn a ddywedodd Luke Fletcher a Dai Rees ynglŷn â dympio yn hollol gywir. Oherwydd pan godais y pwynt hwnnw gyda phenaethiaid undebau yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ynghylch y tariffau sy'n cael eu gweithredu, oedd, roedd yna bryder ynghylch gwerthiant cynnyrch i ardaloedd oherwydd tariffau, ond y pryder mwyaf oedd dympio cynnyrch ym marchnad y DU. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ailadrodd eto yr hyn rydych chi'n ei wneud gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'r elfen dariff, a'r hyn rydych chi'n ei wneud i gynnal y pwysau ar Tata i sicrhau (a) bod y ffwrnais arc drydan ar waith, (b) fod yr elfennau diwydiannol yn is i lawr i'w gwneud yn hyfyw yn parhau i fodoli yng Nghymru, ac (c) fod y gadwyn gyflenwi yn cael ei chefnogi, fel y pwysleisiodd Luke Fletcher yn gywir ddigon?
Thanks, Sam Kurtz, for that. I'm very pleased that the economy committee was looking into the steel industry again and took important evidence from trade unions and representatives of the workforce. I'm pleased the Member recognises the importance of what they had to say and supports them going forward.
With the risk of repeating myself on the questions I've already answered today from other Members, and, indeed, on tariffs, which the Cabinet Secretary answered last week, we will continue to raise those matters. The Cabinet Secretary met with the UK Government on the weekend just gone, to discuss EU tariffs. We recognise what the Member has to say on that, and what other Members have said on tariffs, and the potential impact to the industry, and the need for the UK Government to have further conversations and take action here. The Cabinet Secretary will continue to take those conversations forward. We cannot be left in a situation where major partners are implementing solutions to protect their steel sector, only to leave the UK open to potential dumping. I think that was something that was recognised and referenced in the Member's question.
When it comes to wider investments and electric arc, you'll be aware the First Minister and the Cabinet Secretary were at the ground-breaking ceremony of the electric arc furnace in July. We will continue to work with Tata on this, and all stakeholders here, to hold their feet to the fire when it comes to electric arc furnace. We want to see a viable steel sector in the future in Wales. Electric arc furnace plays a very important part of that, and we want to see that project very much realised for all of the things that can happen in Dai Rees's region, the area he represents. We want, as Dai said, the future of steel to be a part of the future of Wales, and we'll continue to work with all partners who are interested in that, and see not just the opportunities that the electric arc furnace can have for Wales, but the opportunities around wider investment in the region. I was with the Member in Port Talbot to look at the floating offshore wind technology a few months ago, and we will continue to promote Welsh steel in the supply chain to realise those ambitions as well.
Diolch am hynny, Sam Kurtz. Rwy'n falch iawn fod pwyllgor yr economi wedi bod yn edrych ar y diwydiant dur eto ac wedi casglu tystiolaeth bwysig gan undebau llafur a chynrychiolwyr y gweithlu. Rwy'n falch fod yr Aelod yn cydnabod pwysigrwydd yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud ac yn eu cefnogi wrth symud ymlaen.
Gan fentro ailadrodd fy hun ar y cwestiynau rwyf eisoes wedi'u hateb heddiw gan Aelodau eraill, ac yn wir, ar dariffau, a atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf, byddwn yn parhau i godi'r materion hynny. Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â Llywodraeth y DU y penwythnos diwethaf, i drafod tariffau'r UE. Rydym yn cydnabod yr hyn sydd gan yr Aelod i'w ddweud ar hynny, a'r hyn y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud ar dariffau, a'r effaith bosib ar y diwydiant, a'r angen i Lywodraeth y DU gael sgyrsiau pellach a gweithredu yma. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i fwrw ymlaen â'r sgyrsiau hynny. Ni allwn fod mewn sefyllfa lle mae partneriaid pwysig yn gweithredu atebion i ddiogelu eu sector dur, gan adael y DU yn agored i ddympio posib. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a gydnabuwyd ac y cyfeiriwyd ato yng nghwestiwn yr Aelod.
O ran buddsoddiadau ehangach a ffwrnais arc drydan, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet yn y seremoni torri tir ar gyfer y ffwrnais arc drydan ym mis Gorffennaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda Tata ar hyn, a'r holl randdeiliaid yma, i roi pwysau arnynt ar fater y ffwrnais arc drydan. Rydym am weld sector dur hyfyw yn y dyfodol yng Nghymru. Mae'r ffwrnais arc drydan yn chwarae rhan bwysig iawn yn hynny, ac rydym am weld y prosiect hwnnw'n cael ei wireddu ar gyfer yr holl bethau a all ddigwydd yn rhanbarth Dai Rees, yr ardal y mae'n ei chynrychioli. Fel y dywedodd Dai, rydym am i ddyfodol dur fod yn rhan o ddyfodol Cymru, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid sydd â diddordeb yn hynny, a gweld nid yn unig y cyfleoedd y gall y ffwrnais arc drydan eu cynnig i Gymru, ond y cyfleoedd yn gysylltiedig â buddsoddiad ehangach yn y rhanbarth. Roeddwn gyda'r Aelod ym Mhort Talbot ychydig fisoedd yn ôl yn edrych ar y dechnoleg ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, a byddwn yn parhau i hyrwyddo dur Cymru yn y gadwyn gyflenwi i wireddu'r uchelgeisiau hynny hefyd.
I'll put on record my membership of the Community trade union at the outset, Llywydd.
Minister, as you know, Llanwern steelworks in Newport East is a finishing plant and so has some distinct issues as compared to the general picture of the steel industry in Wales. I regularly meet with the workforce, the trade unions and management at Llanwern. It's clear, given the recent history of the steel industry in Wales and the UK, and these developments now with the extended closures set to take place over Christmas, that the existing anxiety and concern and sense of state of flux in the industry are now heightened, and I think concern and anxiety are at new levels.
In that context, it's really important that we're seen as being fully committed as a Welsh Government and as Senedd Members to the steel industry in Wales, as others have mentioned. For me, it's really important that the situation of Llanwern, and other finishing plants in Wales, is fully considered in the discussions that take place between the Welsh Government and Tata and the UK Government, and, indeed, that the trade unions are centrally involved in everything that takes place. So, I wonder if you could, once again, give me the reassurances that I've had on several occasions from Welsh Government Ministers that Llanwern will be fully considered in all the discussions that take place and any actions that ultimately emerge.
Nodaf fy aelodaeth o undeb llafur Community ar y dechrau, Lywydd.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae gwaith dur Llan-wern yn Nwyrain Casnewydd yn safle gorffennu ac felly mae ganddo rai problemau penodol o gymharu â darlun cyffredinol y diwydiant dur yng Nghymru. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r gweithlu, yr undebau llafur a'r rheolwyr yn Llan-wern. O ystyried hanes diweddar y diwydiant dur yng Nghymru a'r DU, a'r datblygiadau hyn nawr gyda chynlluniau i gau am gyfnod estynedig dros y Nadolig, mae'n amlwg fod y pryder a'r ymdeimlad presennol o anwadalwch yn y diwydiant bellach wedi cynyddu, a chredaf fod y pryder a'r gorbryder ar lefelau newydd.
Yn y cyd-destun hwnnw, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cael ein gweld fel Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Senedd sydd wedi ymrwymo'n llwyr i'r diwydiant dur yng Nghymru, fel y mae eraill wedi'i nodi. I mi, mae'n wirioneddol bwysig fod y sefyllfa yn Llan-wern, a safleoedd gorffennu eraill yng Nghymru, yn cael ei hystyried yn llawn yn y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Tata a Llywodraeth y DU, ac yn wir, fod yr undebau llafur yn rhan ganolog o bopeth sy'n digwydd. Felly, unwaith eto, tybed a allech chi roi'r sicrwydd i mi a gefais ar sawl achlysur gan Weinidogion Llywodraeth Cymru y bydd sefyllfa Llan-wern yn cael ei hystyried yn llawn ym mhob trafodaeth ac unrhyw gamau gweithredu a fydd yn codi yn y pen draw.
I thank John Griffiths for his questions. I can give him the assurances that he seeks. As I said, the Government is fully committed to seeing a viable steel sector. I think the Senedd is also committed to that. I think it's important that the two are.
What's crucial, Presiding Officer, is we see the steel sector as a whole and we don't just look at one plant in isolation. We do want to see the steel sector as a whole, and downstream sites to Port Talbot are very important, like Llanwern, Trostre and Shotton, and all the sites that feed off Port Talbot.
I will give the Member reassurance today, in the conversations that the Government has with the company and other partners, including, importantly, trade unions, that Llanwern will be very much a part of those conversations and part of the solution to those conversations that we'll have going forward. Importantly, the workforce will be there.
I'll reiterate the point I made earlier in opening the questions: it is my expectation that the company and companies are engaged directly with trade unions in that spirit of social partnership to find the best possible solution to the situations in front of them.
Diolch i John Griffiths am ei gwestiynau. Gallaf roi'r sicrwydd y mae'n ei geisio iddo. Fel y dywedais, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i weld sector dur hyfyw. Credaf fod y Senedd hefyd wedi ymrwymo i hynny. Mae'n bwysig fod y ddau gorff wedi ymrwymo i hynny.
Yr hyn sy'n hanfodol, Lywydd, yw ein bod yn ystyried y sector dur yn ei gyfanrwydd ac nid yn edrych ar un safle ar ei ben ei hun. Rydym eisiau ystyried y sector dur yn ei gyfanrwydd, ac mae safleoedd ymhellach i lawr y diwydiant o Bort Talbot yn bwysig iawn, fel Llan-wern, Trostre a Shotton, a'r holl safleoedd y mae Port Talbot yn eu bwydo.
Rwy'n rhoi sicrwydd i'r Aelod heddiw, yn y sgyrsiau y mae'r Llywodraeth yn eu cael gyda'r cwmni a phartneriaid eraill, gan gynnwys, yn bwysig, undebau llafur, y bydd Llan-wern yn rhan bwysig o'r sgyrsiau hynny ac yn rhan o'r ateb i'r sgyrsiau y byddwn yn eu cael yn y dyfodol. Yn bwysig, fe fydd y gweithlu yno.
Ailadroddaf y pwynt a wneuthum yn gynharach wrth agor y cwestiynau: rwy'n disgwyl i'r cwmni a'r cwmnïau ymgysylltu'n uniongyrchol ag undebau llafur mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol er mwyn dod o hyd i'r ateb gorau posib i'r sefyllfaoedd sy'n eu hwynebu.
Ac yn olaf, Sioned Williams.
Finally, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. These tariffs will have a huge effect on the steelworkers and their families in Port Talbot, people I represent, people who have already faced so much uncertainty. These temporary closures are compounding months of anxiety, and it's leading to a cynicism as well, a feeling that Tata is just not keeping faith with them. It's a terrible situation, as we've heard other Members describe, so close to Christmas, it's going to have a huge impact on both the financial and mental well-being of the workers and their families.
How is the Welsh Government going to ensure, in conversation with Tata and the UK Government, that the confidence of the workforce and their families is maintained in this industry? It runs in their blood, but they are feeling more and more like they're just being left high and dry, waiting for the next hammer blow to fall. These are faithful, skilled workers, and I'm afraid, as we've seen over the past months when we saw the closure of the blast furnaces, many of them are going to leave their communities. They're not going to put up with this. These are highly paid, highly skilled workers, who've given their all for this industry, and they just feel they're being let down over and over again.
Diolch, Lywydd. Bydd y tariffau hyn yn cael effaith enfawr ar y gweithwyr dur a'u teuluoedd ym Mhort Talbot, pobl rwy'n eu cynrychioli, pobl sydd eisoes wedi wynebu cymaint o ansicrwydd. Mae cau'r safleoedd dros dro yn gwaethygu misoedd o bryder, ac mae'n arwain at sinigiaeth hefyd, teimlad nad yw Tata yn cadw at eu gair. Mae'n sefyllfa ofnadwy, fel y clywsom Aelodau eraill yn ei ddweud, mor agos at y Nadolig, a bydd yn cael effaith enfawr ar lesiant ariannol a meddyliol y gweithwyr a'u teuluoedd.
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau, mewn sgwrs â Tata a Llywodraeth y DU, fod hyder y gweithlu a'u teuluoedd yn cael ei gynnal yn y diwydiant hwn? Mae'n rhedeg yn eu gwaed, ond maent yn teimlo fwy a mwy eu bod yn cael eu gadael ar ôl, yn aros am yr ergyd nesaf. Mae'r rhain yn weithwyr ffyddlon, medrus, ac fel y gwelsom dros y misoedd diwethaf pan welsom y ffwrneisiau chwyth yn cau, mae arnaf ofn y bydd llawer ohonynt yn gadael eu cymunedau. Nid ydynt yn mynd i oddef hyn. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn, ar gyflogau uchel, sydd wedi rhoi eu holl egni i'r diwydiant hwn, ac maent yn teimlo eu bod yn cael eu siomi dro ar ôl tro.
I thank Sioned Williams for the questions and the opportunity to reiterate the points that I've made. I want to recognise the highly skilled workforce of the steel sector, as the Member did, particularly in Wales. I myself have worked alongside some of them in the Shotton plant, so I know full well the skills and the lifetimes that they put into the industry. It is right that we want to see a thriving steel sector in the future, so they can support their families, and, indeed, future generations can have skilled jobs in the steel industry as well.
The Member asks how the Welsh Government will continue the conversations to make sure the workforce is heard. We do that in a number of ways. As I said, the Cabinet Secretary has already had conversations on this particular issue and the issue of EU tariffs at the weekend. The Cabinet Secretary will continue those conversations at ministerial level, and her office will continue those conversations directly with the company and trade unions as well. There is a further opportunity, I think, to discuss this particular matter and other matters at the Tata transition board, which will take place tomorrow. I'm pretty sure that will be raised by Members of this Senedd, and there will be other opportunities, including for the trade unions, to raise those particular points.
I just want to reiterate the point I've already made: the best way of engaging and finding solutions for companies, including Tata, is to work directly with their workforce, their trade unions, in that spirit of social partnership. We will be promoting that at every step of the way, as we will promote the steel sector at every step of the way, as the Cabinet Secretary does on a daily basis.
Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau a'r cyfle i ailadrodd y pwyntiau rwyf wedi'u gwneud. Hoffwn gydnabod gweithlu medrus iawn y sector dur, fel y gwnaeth yr Aelod, yn enwedig yng Nghymru. Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â rhai ohonynt ar safle Shotton, felly gwn yn iawn am y sgiliau a'r oesau y maent yn eu rhoi i'r diwydiant. Mae'n iawn ein bod eisiau gweld sector dur ffyniannus yn y dyfodol, fel y gallant gynnal eu teuluoedd, ac yn wir, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gael swyddi medrus yn y diwydiant dur hefyd.
Mae'r Aelod yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'r sgyrsiau i sicrhau bod y gweithlu'n cael ei glywed. Rydym yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Fel y dywedais, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cael sgyrsiau ar y mater penodol hwn a mater tariffau'r UE dros y penwythnos. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau â'r sgyrsiau hynny ar lefel weinidogol, a bydd ei swyddfa'n parhau â'r sgyrsiau hynny'n uniongyrchol gyda'r cwmni a'r undebau llafur hefyd. Rwy'n credu y bydd cyfle pellach i drafod y mater hwn a materion eraill yng nghyfarfod bwrdd pontio Tata, a gynhelir yfory. Rwy'n eithaf siŵr y bydd hynny'n cael ei godi gan Aelodau'r Senedd hon, a bydd cyfleoedd eraill, gan gynnwys i'r undebau llafur, i godi'r pwyntiau penodol hynny.
Hoffwn ailadrodd y pwynt rwyf eisoes wedi'i wneud: y ffordd orau o ymgysylltu a dod o hyd i atebion i gwmnïau, yn cynnwys Tata, yw gweithio'n uniongyrchol gyda'u gweithlu, eu hundebau llafur, mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol. Byddwn yn hyrwyddo hynny bob cam o'r ffordd, yn union fel y byddwn yn hyrwyddo'r sector dur bob cam o'r ffordd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud yn ddyddiol.
And finally, finally, Andrew R.T. Davies.
Ac yn olaf, Andrew R.T. Davies.
Thank you, Presiding Officer. Minister, thank you for taking the question today. I've constantly heard you refer back to the Cabinet Secretary's statement last week on tariffs, but I haven't heard it come from your mouth that the Welsh Government's position is to support trade defence measures to support the steel industry. We've seen the aggressive tactics of China and other major steel producers in pumping below-cost-of-production steel onto the market. So, is it the case that the Welsh Government does firmly stand behind trade defence measures, which was asked for by both Tata Steel and the unions in our committee meeting last week, as one of the prerequisites to protecting the steel industry here in Wales and the rest of the United Kingdom? Because without those trade defence measures, we really will not have a steel industry left.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am ateb y cwestiwn heddiw. Rwyf wedi eich clywed yn cyfeirio'n ôl yn gyson at ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf ar dariffau, ond nid wyf wedi clywed gennych mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw cefnogi mesurau diogelu masnach i gefnogi'r diwydiant dur. Rydym wedi gweld tactegau ymosodol Tsieina a chynhyrchwyr dur mawr eraill yn dympio dur sy'n rhatach na chost ei gynhyrchu ar y farchnad. Felly, a yw'n wir fod Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn y tu ôl i fesurau diogelu masnach, y gofynnodd Tata Steel a'r undebau llafur amdanynt yn ein cyfarfod pwyllgor yr wythnos diwethaf, fel un o'r rhagofynion i ddiogelu'r diwydiant dur yma yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig? Oherwydd heb y mesurau diogelu masnach hynny, ni fydd gennym ddiwydiant dur ar ôl.
I thank the Member for raising the question again here today. Presiding Officer, I think the Cabinet Secretary responsible for the economy, energy and planning answered a number of questions on EU tariffs last week, and it was only last week, Presiding Officer. I'll refer the Member to the answers pointed on EU tariffs. I can assure the Member we want to see a viable steel sector here in Wales, and we will make every effort, working with the UK Government and our partners in the industry, to make sure that happens going forward.
Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn eto yma heddiw. Lywydd, credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am yr economi, ynni a chynllunio wedi ateb nifer o gwestiynau ar dariffau'r UE yr wythnos diwethaf, a dim ond yr wythnos diwethaf oedd hynny, Lywydd. Cyfeiriaf yr Aelod at yr atebion a roddwyd ar dariffau'r UE. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod am weld sector dur hyfyw yma yng Nghymru, a chan weithio gyda Llywodraeth y DU a'n partneriaid yn y diwydiant, fe wnawn bob ymdrech i sicrhau bod hynny'n digwydd yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Trefnydd ac i'w ofyn gan Janet Finch-Saunders.
Thank you, Minister. The next question is to be answered by the Trefnydd and to be asked by Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Firstly, may I thank you for accepting this topical question today? I understand—. My thoughts—.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi am dderbyn y cwestiwn amserol hwn heddiw? Rwy'n deall—.
And I accept those thanks. Thank you, Janet.
Ac rwy'n derbyn y diolch hwnnw. Diolch, Janet.
Thank you. So, this is a matter, really, for a number of my residents—
Diolch. Mae hwn yn fater sy'n codi i nifer o fy etholwyr—
You need to ask the question. Now you've thanked me for accepting it, you need to ask the question.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn. Nawr eich bod wedi diolch i mi am ei dderbyn, mae angen i chi ofyn y cwestiwn.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y diffygion pellach a ganfuwyd ar Bont Menai? TQ1388
2. Will the Cabinet Secretary make a statement on the further defects found on the Menai Bridge? TQ1388

Thank you very much indeed, Janet Finch-Saunders. Diolch yn fawr. No further issues have been found on the Menai suspension bridge since the issue with the bolts was discovered earlier this month, which the Cabinet Secretary for Transport and North Wales provided a written statement about on 6 October.
Diolch yn fawr, Janet Finch-Saunders. Ni chanfuwyd unrhyw broblemau pellach ar bont Menai ers i'r broblem gyda'r bolltau gael ei chanfod yn gynharach y mis hwn, a darparodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ddatganiad ysgrifenedig ynghylch hynny ar 6 Hydref.
It has been reported in the press, I understand, that further defects have been found, you see. Anyway, going back to the last statement that was made, people are asking for an update. Clearly, the situation as it stands is not acceptable. It's having a horrendous impact on people working on the island who live in other parts of north Wales, actually. It does fall under the jurisdiction of the Welsh Government. I understand some controversy has been caused by the fact that there was a hint in the statement made that the bridge works are all part of UK Highways A55 DBFO Ltd. There was an implication that UK Highways A55 DBFO Ltd was run by Westminster, when, in fact, it's work that's put to them by the Welsh Government.
Over the last week, motorists have faced congestion due to delays, with diversions for all traffic to the Britannia bridge. A recent audit found that bolts and nuts on the beams under the bridge had corrosion. Questions must be answered as to why, during all the three years of work that have gone on, this has only been found now. In any project with any company carrying out repairs, you'd have thought that all the anxiety that's been felt by residents, businesses and people across north Wales—. You would have thought something as important as this—rusty nuts and bolts—would have been found during that period. This recent audit, finding the rusty nuts and bolts, is just—. We need to know why this has not been picked up sooner.
We know that 13,300 vehicles use the Menai bridge every day, travelling in both directions. We also know it's a main route for the port traffic going in, or lorries and things like that. The bridge now has partial reopening expected to operate between the hours of 07:00 and 19:00, with a full closure overnight. The bridge will be limited to vehicles up to a 3-tonne weight limit, and the flow of traffic off the island in the morning and onto the island in the afternoon will be one-way, basically. Cyclists will be expected to dismount and use the footpath, and it's just causing so much aggravation to residents there, to workers there. And it further clearly demonstrates the importance of improving connectivity between Ynys Môn and the mainland, and that would be made possible by the creation of a third Menai crossing.
The cost of inaction is what could have been planned maintenance, mitigation measures in place, and now it's turned into closures. And it's just—. Well, there's huge concern, and lots and lots of people are raising concerns.
Rwy'n deall bod adroddiadau wedi ymddangos yn y wasg fod diffygion pellach wedi'u canfod. Beth bynnag, i fynd yn ôl at y datganiad diwethaf a wnaed, mae pobl yn gofyn am ddiweddariad. Yn amlwg, nid yw'r sefyllfa fel y mae yn dderbyniol. Mae'n cael effaith erchyll ar bobl sy'n gweithio ar yr ynys ac sy'n byw mewn rhannau eraill o ogledd Cymru, mewn gwirionedd. Mae'n dod o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru. Rwy'n deall bod rhywfaint o ddadlau wedi'i achosi gan y ffaith bod awgrym yn y datganiad a wnaed fod y gwaith ar y bont i gyd yn rhan o UK Highways A55 DBFO Cyf. Roedd awgrym fod UK Highways A55 DBFO Cyf yn cael ei redeg gan San Steffan, er mai gwaith sy'n cael ei roi iddynt gan Lywodraeth Cymru ydyw mewn gwirionedd.
Dros yr wythnos ddiwethaf, mae modurwyr wedi wynebu tagfeydd oherwydd oedi, gyda'r holl draffig yn cael ei ddargyfeirio i bont Britannia. Canfu archwiliad diweddar fod bolltau a nytiau ar y trawstiau o dan y bont wedi dechrau rhydu. Rhaid ateb cwestiynau ynglŷn â pam, yn y tair blynedd o waith a wnaed, nad yw hyn wedi'i ganfod tan nawr. Mewn unrhyw brosiect gydag unrhyw gwmni sy'n gwneud gwaith atgyweirio, byddech wedi meddwl y byddai'r holl bryder y mae trigolion, busnesau a phobl ledled y gogledd wedi'i deimlo—. Byddech wedi meddwl y byddai rhywbeth mor bwysig â hyn—bolltau a nytiau rhydlyd—wedi'i ganfod yn yr amser hwnnw. Mae'r archwiliad diweddar hwn, sydd wedi dod o hyd i'r bolltau a'r nytiau rhydlyd, yn—. Mae angen inni wybod pam na chafodd hyn ei nodi'n gynt.
Gwyddom fod 13,300 o gerbydau'n defnyddio pont Menai bob dydd, gan deithio i'r ddau gyfeiriad. Gwyddom hefyd ei fod yn brif lwybr i draffig sy'n mynd i'r porthladd, neu lorïau ac ati. Bellach, mae'r bont wedi ailagor yn rhannol, gyda disgwyl iddi fod ar agor rhwng 07:00 a 19:00, ac ar gau'n llwyr dros nos. Bydd terfyn pwysau o 3 tunnell ar waith i gerbydau ar y bont, a bydd llif y traffig oddi ar yr ynys yn y bore ac yn ôl ar yr ynys yn y prynhawn yn llif unffordd, i bob pwrpas. Disgwylir i feicwyr ddod oddi ar eu beic a defnyddio'r llwybr troed, ac mae'n achosi cymaint o darfu i drigolion yno, i weithwyr yno. Ac mae'n dangos ymhellach pa mor bwysig yw gwella cysylltedd rhwng Ynys Môn a'r tir mawr, a byddai hynny'n bosib drwy greu trydedd bont dros y Fenai.
Cost diffyg gweithredu yw'r hyn a allai fod wedi bod yn waith cynnal a chadw wedi'i gynllunio, mesurau lliniaru ar waith, a nawr, mae'n golygu cau'r bont. Ac mae'n—. Wel, mae pryder enfawr, ac mae llawer iawn o bobl yn lleisio pryderon.
Can you just ask the questions now?
A wnewch chi ofyn y cwestiynau nawr?
The people of Anglesey deserve better, people across north Wales needing to get onto the island deserve better. The First Minister has stated while they have not ruled out—
Mae pobl Ynys Môn yn haeddu gwell, mae pobl ledled gogledd Cymru sydd angen mynd i'r ynys yn haeddu gwell. Mae'r Prif Weinidog wedi datgan, er nad ydynt wedi diystyru—
I did ask you to ask the question.
Fe ofynnais i chi ofyn y cwestiwn.
Okay. Cabinet Secretary, will you agree with me that whilst the First Minister has not ruled out a third crossing, there's been no mention of any financial—? He mentions there are financial barriers. So, will you join my Welsh Conservative colleagues and I to call for the creation of a third Menai crossing—well, not you, but will you persuade the Cabinet Secretary to commit to spending the needed funds in north Wales in order to build this third crossing, which is much needed? Diolch.
Iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno â mi, er nad yw'r Prif Weinidog wedi diystyru trydedd bont, nad oes sôn am unrhyw—? Mae'n sôn am rwystrau ariannol. Felly, a wnewch chi ymuno â fy nghyd-Geidwadwyr Cymreig a minnau a galw am greu trydedd bont dros y Fenai—wel, nid chi, ond a wnewch chi berswadio Ysgrifennydd y Cabinet i ymrwymo i wario'r arian sydd ei angen yn y gogledd er mwyn adeiladu'r drydedd bont sydd ei hangen mor daer? Diolch.
Thank you very much, Janet Finch-Saunders. Your question was about asking me to make a statement on the further defects found on the Menai bridge, and I will answer that question.
The issue—the discovery of defective bolts—has come about for the phase 2 works and was identified by UK Highways A55 design team from the various analyses, investigations and inspections that were being undertaken for the next stage of works. And as you'll be aware, every possible option was explored to keep the bridge open safely. The advice from engineers and the enforcement concerns raised by UK Highways A55 DBFO Ltd left no alternative but to implement a full temporary closure. It's absolutely right that you draw attention to the disruption this short temporary closure had. I know that the Cabinet Secretary, and I on his behalf today, will again extend our sincere apologies to the local communities and businesses and those affected.
Over that weekend of 5 and 6 October, the Cabinet Secretary for Transport and North Wales met directly with UK Highways A55 DBFO Ltd. He met with local Members of the Senedd and Parliament and the leader of Ynys Môn to understand the situation in full and to provide an update. And, again, it's important to say that he relayed in no uncertain terms the deep frustration and disappointment felt by the community and himself—a view shared by local Members, expressed today and last week, regarding the performance of UK Highways A55 DBFO Ltd in managing this critical infrastructure.
But I will say, Llywydd, that the bridge is now open for one-way traffic, light controlled, for under 3-tonne traffic, from 7 a.m. to 7 p.m. daily. From 7 a.m. to 1 p.m., traffic can travel eastbound from Anglesey to Bangor; from 1 p.m. to 7 p.m., traffic can travel westbound from Bangor to Anglesey. So, obviously, action has been taken to make sure that there is a traffic flow.
Diolch yn fawr, Janet Finch-Saunders. Roedd eich cwestiwn yn ymwneud â gofyn imi wneud datganiad ar y diffygion pellach y daethpwyd o hyd iddynt ar bont Menai, ac rwyf am ateb y cwestiwn hwnnw.
Mae'r broblem—darganfod bolltau diffygiol—wedi codi yn ystod gwaith cam 2 ac fe'i nodwyd gan dîm cynllunio UK Highways A55 o'r amrywiol ddadansoddiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau a gâi eu cynnal ar gyfer cam nesaf y gwaith. Ac fel y gwyddoch, archwiliwyd pob opsiwn posib i gadw'r bont ar agor yn ddiogel. Nid oedd cyngor y peirianwyr a'r pryderon gorfodi a godwyd gan UK Highways A55 DBFO Cyf yn gadael unrhyw ddewis arall ond cau'r bont yn gyfan gwbl dros dro. Mae'n gwbl iawn eich bod yn tynnu sylw at y tarfu a achoswyd yn sgil cau'r bont dros dro. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, a minnau ar ei ran heddiw, yn ymddiheuro'n ddiffuant unwaith eto i'r cymunedau a'r busnesau lleol a'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Dros benwythnos 5 a 6 Hydref, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn uniongyrchol ag UK Highways A55 DBFO Cyf. Cyfarfu ag Aelodau lleol o'r Senedd a Senedd y DU ac arweinydd Ynys Môn i ddeall y sefyllfa'n llawn ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf. Ac unwaith eto, mae'n bwysig dweud ei fod wedi cyfleu'n glir y rhwystredigaeth a'r siom ddofn a deimlwyd gan y gymuned a chanddo ef ei hun—barn a rennir gan Aelodau lleol, ac a fynegwyd heddiw a'r wythnos diwethaf, ynghylch perfformiad UK Highways A55 DBFO Cyf yn rheoli'r seilwaith hanfodol hwn.
Ond Lywydd, hoffwn ddweud bod y bont bellach ar agor i draffig unffordd, dan reolaeth goleuadau traffig, ar gyfer traffig o dan 3 tunnell, o 7 a.m. i 7 p.m. bob dydd. O 7 a.m. i 1 p.m., gall traffig deithio tua'r dwyrain o Ynys Môn i Fangor; o 1 p.m. i 7 p.m., gall traffig deithio tua'r gorllewin o Fangor i Ynys Môn. Felly, yn amlwg, mae camau wedi'u cymryd i sicrhau bod traffig yn llifo.
Diolch am y datganiad, ond mae arnaf i ofn bod yna nifer fawr o gwestiynau ynglŷn â phont y Borth yn dal heb gael eu hateb yn llawn. Dwi'n deall yn iawn efallai nad ydy'r wybodaeth lawn yna gennych chi ar hyn o bryd, ond buaswn i'n hoffi cael ateb llawn i gwestiynau. Y cwestiwn cyntaf: pam fod y problemau diweddaraf ddim wedi cael eu darganfod yn gynt? Dŷn ni'n dal ddim wedi cael ateb llawn ynglŷn â hynny. Sut fydd yr hyn sydd yn digwydd efo trwsio yr hyn sydd newydd gael ei ddarganfod yn effeithio ar y rhaglen waith ehangach— amserlen y rhaglen honno?
Mae'r digwyddiadau yma yn ein hatgoffa ni o ba mor fregus ydy'r isadeiledd trafnidiaeth ar draws y Fenai, ac mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn trin y mater yma efo'r difrifoldeb y mae o'n ei haeddu, nid yn unig drwy sicrhau bod y gwaith atgyweirio angenrheidiol ar bont Borth yn cael ei ariannu'n briodol a'i gyflawni ar amser, ond hefyd drwy gyflwyno mesurau lliniaru tymor byr effeithiol ar bont Britannia.
Felly, o ran pont Britannia, beth ydy'r diweddaraf o ran cyflwyno system rheoli traffig dair lôn ar y bont honno? Beth ydy'r diweddaraf am gyflwyno lonydd contraflow ar bont Britannia? Beth ydy'r diweddaraf am gyflwyno mesurau penodol o gwmpas y cyffyrdd? A hefyd, beth ydy'r diweddaraf ynglŷn â chadw pont Britannia ar agor mewn cyfnodau gwyntog? Rŵan, mae'r rheini'n gwestiynau sydd wedi eu gofyn gan bobl leol a gen i fel eu cynrychiolydd nhw ers blynyddoedd, a dŷn ni'n dal ddim yn cael atebion.
Felly, buaswn i'n gwerthfawrogi cael eglurder ynglŷn â pha gamau mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gryfhau gwytnwch teithio ar draws y Fenai yn y tymor byr, gan sicrhau nad ydy trigolion Arfon ac Ynys Môn ddim yn cael eu gorfodi i ddioddef lefelau traffig a thagfeydd cwbl annerbyniol ar ddwy ochr y ddwy bont.
Thank you for the statement, but I am afraid that there are a great number of questions regarding the Menai bridge that still have not been fully answered. I do understand that perhaps you may not have the full information at present, but I would like to have full answers to questions. The first question is: why were the latest problems not discovered sooner? We still have not had a full answer about that. How will what is happening with fixing what has recently been found affect the wider work programme—the timetable for that programme?
These events do remind us of the fragility of the transport infrastructure across the Menai straits, and it is essential that the Welsh Government treat this matter with the gravity that it deserves, not only by ensuring that the necessary repairs on the Menai bridge are properly funded and carried out on time, but also by introducing effective short-term mitigation measures on the Britannia bridge.
In terms of the Britannia bridge, what is the latest information regarding the introduction of a three-lane traffic control system on that bridge? What is the latest information regarding the introduction of contraflow lanes on the Britannia bridge? What is the latest information regarding the introduction of specific measures around the junctions? And also, what is the latest information regarding keeping the Britannia bridge open in windy conditions? Now, those are questions that have been asked by local people and by myself as their representative for many years, and we're still not receiving answers.
So, we would appreciate some clarity about what action the Welsh Government intends to take to strengthen the resilience of travel across the Menai in the short term, ensuring that the residents of Arfon and Anglesey are not forced to suffer unacceptable levels of traffic and congestion on both sides of both bridges.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian, a diolch yn fawr am eich cwestiynau heddiw ac wythnos diwethaf—
Thank you very much, Siân Gwenllian, for your questions today and last week—
—because I know you were asking questions as well on this last week. And I think your question—. The first question, which I think I did seek to respond on to the Member Janet Finch-Saunders, was: why wasn't this problem discovered sooner? The frustration about the discovery of this problem, which of course I've expressed on behalf of the Cabinet Secretary for Transport and North Wales, the fact that it was actually discovered as part of the phase 2 works and identified by that UK Highways A55 design team, which was about investigations and inspections for the next stage of works in terms of the bridge, again, is something where—. You asked the question on how will it affect the wider work. I understand that the Menai resilience study undertaken by the North Wales Transport Commission made 16 recommendations. The top ones were taken forward and the Cabinet Secretary for transport has committed to the following work being progressed, which would include implementation of a wind deflector on Britannia bridge to the next stage of detailed design; progressing development to upgrade the bridge traffic restriction equipment, alongside a variable speed limit; implementing new road markings and signs—part of your question—between junction 9 roundabouts, to improve lane discipline and management; and progressing a study and detailed risk assessment to confirm the suitability and practicality of a three-lane tidal flow system on the Britannia bridge. All of those recommendations were accepted. The A55 transport needs and resilience study, which is due to start this year, will consider all options to ensure the resilience of the A55 along its length, including the Menai crossings. That can range from possibly tidal flow on the Britannia bridge, already being looked at as part of those transport commission recommendations, all the way up to a third Menai crossing. So, the wider work programme is being taken forward.
Just again to answer the points about what's happening, I've given you some details about the traffic flows at present. The work is expected to be—. The temporary bridging beam under the Menai suspension bridge is crucial. That work started this Monday. It's expected to be completed by the end of the month, and this will allow traffic management to revert to 7.5 tonne and two-way flow, and the bolt issue work will commence as soon as possible. And then the phase 2 works will then recommence following the bolt repairs. I think it's really important to share this today. And of course, in normal conditions, emergency vehicles, for example, are to use the Britannia bridge, but this is something where, in the event of issues with the Britannia bridge, emergency services could use the Menai suspension bridge, following special travel plans. So, these issues all have to be taken into account as they deal with this temporary closure and these vital urgent repairs.
—gan y gwn eich bod yn gofyn cwestiynau ar hyn yr wythnos diwethaf hefyd. A chredaf fod eich cwestiwn—. Y cwestiwn cyntaf, y credaf fy mod wedi ceisio ymateb iddo i'r Aelod Janet Finch-Saunders, oedd: pam na ddarganfuwyd y broblem hon yn gynt? Y rhwystredigaeth ynglŷn â darganfod y broblem hon, yr wyf wrth gwrs wedi'i mynegi ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, y ffaith ei bod mewn gwirionedd wedi'i darganfod yn rhan o'r gwaith cam 2 a'i nodi gan dîm cynllunio UK Highways A55, a oedd yn ymwneud ag ymchwiliadau ac arolygiadau ar gyfer cam nesaf y gwaith ar y bont, unwaith eto, yn rhywbeth lle—. Fe ofynnoch chi'r cwestiwn ynglŷn â sut y bydd yn effeithio ar y gwaith ehangach. Deallaf fod astudiaeth gwydnwch cysylltiadau ar draws afon Menai a gynhaliwyd gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi gwneud 16 o argymhellion. Rhoddwyd y rhai pwysicaf ar waith ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r gwaith canlynol, a fyddai'n cynnwys ychwanegu offer gwyro gwynt ar bont Britannia i gam nesaf y cynlluniau manwl; sicrhau bod y gwaith datblygu'n cynnwys uwchraddio offer cyfyngu traffig y bont, ochr yn ochr â therfyn cyflymder amrywiol; cyflwyno marciau ac arwyddion ffyrdd newydd—rhan o'ch cwestiwn—rhwng cylchfannau cyffordd 9, i wella rheolaeth a disgyblaeth lonydd; a bwrw ymlaen ag astudiaeth ac asesiad risg manwl i gadarnhau addasrwydd ac ymarferoldeb system llif llanw a thrai tair lôn ar bont Britannia. Derbyniwyd yr holl argymhellion hynny. Bydd yr astudiaeth o anghenion trafnidiaeth a gwydnwch yr A55, sydd i fod i ddechrau eleni, yn ystyried pob opsiwn i sicrhau gwydnwch yr A55, gan gynnwys pontydd y Fenai. Gall hynny amrywio o lif llanw a thrai posib ar bont Britannia, sydd eisoes yn cael ei ystyried yn rhan o argymhellion y comisiwn trafnidiaeth, yr holl ffordd i fyny i drydedd bont y Fenai. Felly, mae'r rhaglen waith ehangach yn cael rhoi ar waith.
I ateb unwaith eto y pwyntiau ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd, rwyf wedi rhoi rhywfaint o fanylion i chi am y llif traffig ar hyn o bryd. Disgwylir i'r gwaith fod—. Mae'r trawst pontio dros dro o dan bont Menai yn hanfodol. Dechreuodd y gwaith hwnnw ddydd Llun. Disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y mis, a bydd hyn yn caniatáu i'r traffig ddychwelyd i 7.5 tunnell a llif dwyffordd, a bydd y gwaith ar fater y bolltau'n dechrau cyn gynted â phosib. Ac yna, bydd y gwaith cam 2 wedyn yn ailddechrau ar ôl y gwaith o atgyweirio'r bolltau. Credaf ei bod yn bwysig iawn rhannu hyn heddiw. Ac wrth gwrs, o dan amodau arferol, dylai cerbydau brys, er enghraifft, ddefnyddio pont Britannia, ond mae hyn yn rhywbeth lle gallai gwasanaethau brys ddefnyddio pont Menai os bydd problemau gyda phont Britannia, yn dilyn cynlluniau teithio arbennig. Felly, mae'n rhaid ystyried yr holl faterion hyn wrth iddynt ddelio â chau'r bont dros dro a'r atgyweiriadau brys hanfodol hyn.
Diolch i'r Trefnydd am yr atebion hynny.
Thank you, Trefnydd, for those answers.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Un datganiad heddiw—Sam Rowlands.
Item 4 is the 90-second statements. There is one today from Sam Rowlands.
Diolch, Llywydd. I'd like to take a moment to mark the end of Baby Loss Awareness Week, which has run from 9 October to today, 15 October. This is a moment for people across Wales and around the world to come together to remember the babies who've died during pregnancy, at birth or infancy, and for us to stand alongside the families and loved ones and those who grieve for them.
The heartbreak of losing a baby is something that no parent should ever have to endure. For too many it's a painful and life-altering reality. That's why, this week, it's been important to break the silence that often surrounds baby loss to raise awareness and to show families that they are not alone. I want to pay tribute to the charity Sands and all of the organisations involved in this week for the work that they do every single day supporting bereaved families, raising awareness and pushing for better care and understanding.
As part of Baby Loss Awareness Week, we are invited to wear the pink and blue ribbon, and I'm pleased to see so many Members across this Chamber doing so. It's a small but powerful gesture to show our support and help to start conversations about an issue that is too often hidden. We're also encouraged to take part in a wave of light at 7 p.m. this evening, lighting a candle to remember every baby lost too soon, to join with families across the world in honouring their memory. I know that Members across this Chamber remain committed to improving bereavement care and ensuring that every family affected by baby loss receives the compassion and support that they deserve. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Lywydd. Hoffwn roi eiliad i nodi diwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, sydd wedi rhedeg o 9 Hydref tan heddiw, 15 Hydref. Mae hon yn foment i bobl ledled Cymru a ledled y byd ddod ynghyd i gofio'r babanod sydd wedi marw yn ystod beichiogrwydd, adeg genedigaeth neu fabandod, ac inni sefyll ochr yn ochr â'r teuluoedd a'r anwyliaid a'r rhai sy'n galaru amdanynt.
Mae galar colli babi yn rhywbeth na ddylai unrhyw riant byth orfod ei ddioddef. I ormod o bobl, mae'n realiti poenus sy'n newid bywydau. Dyna pam, yr wythnos hon, y bu'n bwysig torri'r distawrwydd sy'n aml yn gysylltiedig â cholli baban i godi ymwybyddiaeth ac i ddangos i deuluoedd nad ydynt ar eu pen eu hunain. Hoffwn dalu teyrnged i elusen Sands a'r holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth yr wythnos hon am y gwaith a wnânt bob dydd yn cefnogi teuluoedd sydd wedi colli rhywun, gan godi ymwybyddiaeth a gwthio am well gofal a dealltwriaeth.
Yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, cawn ein gwahodd i wisgo'r rhuban pinc a glas, ac rwy'n falch o weld cymaint o Aelodau ar draws y Siambr yn ei wisgo. Mae'n weithred fach ond pwerus i ddangos ein cefnogaeth ac yn helpu i ddechrau sgyrsiau am fater sy'n cael ei guddio'n rhy aml. Rydym hefyd yn cael ein hannog i gymryd rhan mewn ton o olau am 7 p.m. heno, gan oleuo cannwyll i gofio am bob babi a gollwyd yn rhy gynnar, i ymuno â theuluoedd ledled y byd i anrhydeddu'r cof amdanynt. Gwn fod Aelodau ar draws y Siambr hon yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella gofal profedigaeth a sicrhau bod pob teulu sydd wedi colli baban yn cael y tosturi a'r cymorth y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.
Y cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i'r cynnig i sefydlu pwyllgor gael ei drafod sydd nesaf. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan.
Next is the motion to suspend Standing Orders in order to allow the motion to establish a committee to be debated. I call on a member of the Business Committee to formally move the motion. Heledd Fychan.
Cynnig NNDM9019 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal dros dro Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM9018 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Hydref 2025.
Motion NNDM9019 Elin Jones
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Orders 33.6 and 33.8:
Suspends Standing Order 12.20(i) and that part of Standing Order 11.16 that requires the weekly announcement under Standing Order 11.11 to constitute the timetable for business in Plenary for the following week, to allow NNDM9018 to be considered in Plenary on Wednesday 15 October 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Dwi'n cynnig yn ffurfiol, Llywydd.
Yes, I formally move, Llywydd.
Y cynnig yw, felly, i atal Rheolau Sefydlog dros dro. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
The proposal is to suspend Standing Orders. Does any Member object? No. That motion is therefore agreed.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Mae hynny'n ein caniatáu ni i dderbyn y cynnig i sefydlu pwyllgor. Aelod o'r Pwyllgor Busnes eto sy'n cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan.
That allows us to move to the motion to establish a committee. I call on a member of the Business Committee once again to formally move. Heledd Fychan.
Cynnig NNDM9018 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
1. Yn sefydlu Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau i graffu ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â Phwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Lesley Griffiths AS (Llafur Cymru), Buffy Williams AS (Llafur Cymru) Paul Davies AS (Ceidwadwyr Cymreig) a Sioned Williams AS (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, a David Rees AS (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.
4. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6, yn atal dros dro ran gyntaf Rheol Sefydlog 17.37 mewn perthynas â Phwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, ac yn cytuno mai dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff cadeirydd y Pwyllgor bleidleisio.
5. Yn cytuno y bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu yn dilyn cytundeb gan y Senedd ar gynnig i drafodion Cyfnod 2 ar y Bil gael eu cynnal gan Bwyllgor o'r Senedd Gyfan, neu ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 2 (pa un bynnag sydd gyntaf).
Motion NNDM9018 Elin Jones
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 16.3:
1. Establishes a Member Accountability Bill Committee to scrutinise the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Bill.
2. In accordance with Standing Order 17.2T, resolves that Standing Orders 17.2A to 17.2S (election of committee chairs) shall not apply in relation to the Member Accountability Bill Committee.
3. In accordance with Standing Order 17.3, elects Lesley Griffiths MS (Welsh Labour), Buffy Williams MS (Welsh Labour), Paul Davies MS (Welsh Conservatives) and Sioned Williams MS (Plaid Cymru) as members of the Member Accountability Bill Committee, and David Rees MS (Deputy Presiding Officer) as Chair of the Member Accountability Bill Committee.
4. In accordance with Standing Order 33.6, suspends the first part of Standing Order 17.37 in relation to the Member Accountability Bill Committee, and agrees that the chair of the Committee may only vote in the exercise of a casting vote.
5. Agrees that the Committee will be dissolved following agreement by the Senedd of a motion for Stage 2 proceedings on the Bill to be conducted by a Committee of the Whole Senedd, or on the completion of Stage 2 proceedings (whichever is the sooner).
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Cynnig yn ffurfiol, Llywydd.
I formally move, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn a'r pwyllgor wedi ei ffurfio.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed and the committee is established.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Mae eitem 5 wedi ei ohirio.
Item 5 is postponed.
Eitem 6 sydd nesaf, felly, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25'. Cadeirydd y pwyllgor sy'n gwneud y cyfraniad cyntaf—y cynnig ar hyn. Llyr Gruffydd.
We will move, therefore, to item 6, a debate on the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee report, 'Report on Transport for Wales’ performance 2024-25'. I call on the Chair of the committee to make the first contribution and to move the motion. Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM9009 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25', a osodwyd ar 9 Ebrill 2025.
Motion NDM9009 Llyr Gruffydd
To propose that the Senedd:
Notes the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee report, 'Report on Transport for Wales’ performance 2024-25', laid on 9 April 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r ddadl yma yn canolbwyntio ar drydydd adroddiad blynyddol y pwyllgor ar Trafnidiaeth Cymru yn ystod tymor y Senedd yma. Mae'r edrych yn benodol ar y cyfnod 2024-25 ac yn tynnu ar ddau ddarn pwysig o waith gan y pwyllgor, sef ein hymweliad â depo a chanolfan reoli'r metro yn Ffynnon Taf ac wedyn sesiwn dystiolaeth y cynhalion ni gyda Trafnidiaeth Cymru yn gynharach eleni.
Mi wnaeth y ddau ddarn o waith yma roi darlun clir i Aelodau o ba mor fawr yw'r heriau sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, â'r cynnydd y maen nhw wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf wrth geisio mynd ati i drawsnewid y rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Nawr, mae'r adroddiad yn cynnwys 20 argymhelliad ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn pob un ohonyn nhw, naill ai yn llawn neu wedi eu derbyn nhw mewn egwyddor. Dwi am ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am fod mor agored ac mor adeiladol wrth gymryd rhan yn ein gwaith ni a hefyd am yr ymateb cynhwysfawr y cawson ni ganddyn nhw.
Dwi am droi nawr, felly, at brif themâu yr adroddiad. Yn gyntaf, llywodraethu a datblygiad corfforaethol. Mae'r pwyllgor wedi edrych ar y maes yma bob blwyddyn gan ei fod mor bwysig i'r ffordd y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio. Rŷn ni wastad wedi dweud bod yn rhaid i gorff hyd braich sy'n delio â thua £0.5 biliwn o arian cyhoeddus weithio mewn ffordd dryloyw a bod yn rhaid iddo gael ei oruchwylio mewn modd clir ac effeithiol. Fe glywon ni dystiolaeth bod y cysylltiadau rhwng Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gwella yn ystod cylch y gyllideb yn 2024-25. Mae'r broses nawr yn fwy effeithlon ac, am y tro cyntaf, fe gafodd cyllideb Trafnidiaeth Cymru ei chyhoeddi fel atodiad i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Roedd y pwyllgor yn croesawu hyn fel cam ymarferol ymlaen a fydd yn ein helpu ni i wneud gwaith craffu mwy amserol. Ond mi oedd yr Aelodau yn credu bod y camau yma i wella tryloywder dal ddim cweit yn ddigon da. Rŷn ni'n parhau i gredu mai'r nod hirdymor ddylai fod cyllideb gynhwysfawr sengl sy'n cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb ddrafft y Llywodraeth. Mi fyddai hynny wedyn, wrth gwrs, yn rhoi Trafnidiaeth Cymru ar yr un sail â chyrff cyhoeddus eraill ac yn golygu bod Aelodau a'r cyhoedd yn gallu gweld y darlun llawn o ran sut y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.
Hefyd, fe edrychon ni ar drefniadau llywodraethu mewnol Trafnidiaeth Cymru, yn enwedig rôl y bwrdd perfformiad, sy'n dod ag uwch-swyddogion Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru at ei gilydd. Fe glywon ni fod y bwrdd wedi gwella'r cyswllt rhwng blaenoriaethau corfforaethol Trafnidiaeth Cymru ac amcanion gweinidogol, fod rhagolygon ariannol nawr yn fwy cywir, a bod penderfyniadau ariannu yn fwy disgybledig. Rŷn ni’n croesawu’r datblygiadau yma, yn naturiol, ond roedd yr Aelodau’n cytuno mai'r prawf go iawn o lywodraethu da yw a yw'r gwelliannau hyn yn arwain at well gwerth am arian a gwasanaethau mwy dibynadwy i deithwyr. A dyna, wrth gwrs, yw beth fydd y pwyllgor yn parhau i'w fonitro.
Thank you very much, Llywydd. This debate focuses on the third annual report by the committee on Transport for Wales during this Senedd term. The report specifically covers the 2024-25 period and draws on two key pieces of work by the committee, namely our visit to the metro depot and control centre at Taffs Well and our scrutiny session with TfW earlier this year.
Both pieces of work gave Members a clear picture of the scale of the challenges facing TfW, as well as, I have to say, the progress that it has made in recent years as it continues to try to transform rail and public transport in Wales. Now, the report contains 20 recommendations and TfW has accepted all of them, either in full or in principle. I’d like to thank TfW for the open and constructive manner in which it has engaged with our work and also for the comprehensive response it has provided.
I’d like to turn now to the main themes of our report. First, governance and corporate development. The committee has revisited this area each year because it is so important to the way in which TfW operates. We have always maintained that an arm's-length body handling around £0.5 billion of public money must operate transparently and must be subject to oversight that is clear and effective. We heard evidence that engagement between TfW and the Welsh Government improved during the budget cycle in 2024-25. The process is now more efficient and, for the first time, TfW's budget was published as an addendum to the Welsh Government's draft budget. The committee welcomed this as a practical step forward that will allow for more timely scrutiny. However, Members felt that this action to improve transparency still falls short. We continue to believe that the long-term goal should be a single comprehensive budget published alongside the Government's draft budget. That would then, of course, place TfW on the same footing as other public bodies and it would allow Members and the public to see the full picture in terms of how public money is being spent.
We also examined the internal governance arrangements at TfW, particularly the role of the performance board, which brings senior officials from TfW and the Welsh Government together. We heard that the board has improved alignment between TfW's corporate priorities and ministerial objectives, that forecasting is now more accurate, and that funding decisions have become more disciplined. We welcome these developments, naturally, but Members agreed that the real test of good governance is whether these improvements lead to better value for money, and more reliable services for passengers. And that, of course, is what the committee will continue to monitor.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
Yn olaf, o ran mesur perfformiad, mi ddwedodd Trafnidiaeth Cymru wrthym ni fod ei dangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol yn cael eu hadolygu i wneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau'n addas at y diben. Mae data chwarterol nawr yn cael eu cyhoeddi, gyda chymariaethau o un flwyddyn i'r llall. Unwaith eto, dyma ni gam i'r cyfeiriad cywir, ond, unwaith eto, rŷn ni'n dal i bryderu nad yw'r ffordd y mae'r data yn cael eu cyflwyno'n ei gwneud hi’n hawdd i'r cyhoedd nac i ni, fel Aelodau o'r Senedd, yn wir, i weld a yw perfformiad yn gwella dros amser. Felly, rŷn ni wedi argymell bod Trafnidiaeth Cymru yn canolbwyntio ei dangosyddion perfformiad allweddol ar y canlyniadau mwyaf pwysig i deithwyr, a bod pob adroddiad yn cynnwys naratif clir sy'n dangos a yw perfformiad yn gwella.
Nawr, fe wnaf i droi nawr at y gweithlu. Mae'r pwyllgor wedi pwysleisio'n gyson y dylai Trafnidiaeth Cymru fel cyflogwr cenedlaethol mawr arwain drwy esiampl wrth hyrwyddo amrywiaeth a chyfle cyfartal. Yn 2024-25, roedd yna gamau calonogol ymlaen. Penododd Trafnidiaeth Cymru ei chyfarwyddwr gweithredol benywaidd cyntaf, gan daro cydbwysedd rhywedd hanner a hanner mewn carfan o yrwyr am y tro cyntaf hefyd. Dyma gerrig milltir pwysig mewn diwydiant sydd wedi cael ei ddominyddu'n draddodiadol, wrth gwrs, gan ddynion. Fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru bod digwyddiadau recriwtio wedi'u targedu, cyfleoedd mentora, a phartneriaethau ag ysgolion a grwpiau cymunedol i gyd yn cyfrannu at y newid graddol yma. Roedd yr Aelodau yn croesawu'r llwyddiannau yma, ond roedden ni hefyd yn cytuno y bydd angen parhau i wneud ymdrech i ymgorffori'r newid diwylliannol. Mae recriwtio mwy o fenywod i rolau gweithredol fel gyrru a pheirianneg yn hanfodol, nid yn unig i wella cynrychiolaeth, ond i helpu i gau'r bwlch cyflog hefyd rhwng y rhywiau.
O ran amrywiaeth yn fwy eang, roedd y pwyllgor yn falch o glywed am bartneriaethau Trafnidiaeth Cymru â sefydliadau fel Oasis, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyngor Mwslimiaid Cymru, sy'n helpu eto i hyrwyddo cyfleoedd ymysg grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r gwaith yma ac yn annog Trafnidiaeth Cymru i'w ehangu y tu hwnt i Gaerdydd ac i ranbarthau eraill. Mae gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu yn hanfodol i wella ymddiriedaeth ac i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cwrdd ag anghenion pob defnyddiwr.
Thema bwysig arall yng ngwaith y pwyllgor eleni oedd gwasanaethau bysiau. Fel pwyllgor, rŷn ni'n pryderu bod niferoedd teithwyr yng Nghymru wedi cynyddu'n arafach ers y pandemig nag y mae wedi gwneud yn Lloegr neu'r Alban. Bysiau, wrth gwrs, yw asgwrn cefn trafnidiaeth gyhoeddus mewn llawer o gymunedau yng Nghymru, ac, os nad oes digon o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau yma, yna mae hi’n anoddach i’w cynnal nhw, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd mwy gwledig. Fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wrthym ni mai proffil demograffig hŷn Cymru allai fod y tu ôl i'r adferiad arafach, yn ogystal â ffactorau strwythurol fel aneddiadau gwasgaredig ac effaith y pandemig, wrth gwrs, ar gynlluniau teithio rhatach. Ond ym marn y pwyllgor, nid yw'r rhesymau yma wedi'u deall yn llawn eto, felly fe wnaethon ni argymell y dylai Trafnidiaeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil i edrych ar y rhwystrau ac i ddylunio mesurau wedi'u targedu cyn cyflwyno masnachfraint bysiau, er enghraifft. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn hyn, ac rŷn ni'n disgwyl i'r dystiolaeth honno gael ei chyhoeddi i helpu i liwio penderfyniadau cyn i'r gwasanaethau masnachfraint cyntaf ddechrau yn y de-orllewin yn 2027.
O ran tocynnau, roedd y pwyllgor yn croesawu'r cynnydd tuag at integreiddio. Mae prisiau teithio wedi'u seilio ar bellter nawr yn eu lle ar y rhwydwaith TrawsCymru, mae'r tocyn 1bws yn parhau'n llwyddiannus yng ngogledd Cymru, ac mae'r dechnoleg tapio i mewn ac allan, neu tap on, tap off, wrthi'n cael ei threialu wrth gwrs, a dyma gamau pwysig tuag at y weledigaeth o un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn. Ond, ar adeg yr adroddiad, doedd dal ddim ffordd o gyfuno'r cynllun teithio rhatach â'r cynllun tapio i mewn ac allan. Mae'r pwyllgor yn cydnabod wrth gwrs yr heriau technegol a gweithredol, ond mae'n teimlo bod hefyd potensial i gasglu data gwell a rhoi profiad mwy di-dor i deithwyr sy'n defnyddio'r cynllun teithio rhatach. Byddai hyn yn helpu i gynnig mynediad cyfartal i bob teithiwr, ble bynnag y maen nhw'n byw a sut bynnag y maen nhw'n teithio, ac rŷn ni wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru i edrych ar y mater yma.
Dwi am droi nesaf at berfformiad rheilffyrdd. Fe glywon ni fod 2024 wedi dechrau'n gadarnhaol gyda phrydlondeb yn gwella wrth i fwy o drenau newydd gael eu cyflwyno, ond bod y cynnydd hwnnw wedi lefelu allan nes ymlaen yn y flwyddyn. Fe gafodd tywydd garw a methiannau seilwaith effaith benodol, wrth gwrs, ar rwydwaith Cymru a'r ffiniau.
Hefyd, soniodd yr Aelodau am sut mae gwybodaeth am berfformiad yn cael ei chyfleu i'r cyhoedd. Mae ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu mesurau wedi eu teilwra ar gyfer gwahanol fathau o wasanaethau, gan ddechrau gyda cledrau'r Cymoedd, yn gam cadarnhaol, o gofio y gall rhai mesurau guddio problemau ehangach o ran perfformiad. Er enghraifft, bydd perfformiad gwael ar linell wledig sydd â nifer fechan o wasanaethau bob dydd yn cael effaith fwy o lawer ar deithwyr nag oedi o gwpwl o funudau ar linell sydd â llawer o wasanaethau. Ond mae'r pwyllgor yn credu y dylai Trafnidiaeth Cymru fynd gam ymhellach drwy gyhoeddi data perfformiad fesul llwybr, a hynny mewn fformat hygyrch, fel bod teithwyr yn gallu gweld yn rhwydd sut mae'r gwasanaethau maen nhw'n dibynnu arnyn nhw yn perfformio.
O ran lles teithwyr, fe wnaethon ni groesawu'r dystiolaeth fod Trafnidiaeth Cymru yn lleihau nifer yr achosion o ganslo gwasanaethau yn rhannol wrth i drenau redeg yn gyflym a gadael rhai gorsafoedd allan, sydd wedi, wrth gwrs, achosi llawer o rwystredigaeth. Fe glywon ni hefyd fod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi mwy o hyblygrwydd i dimau rheoli i flaenoriaethu anghenion teithwyr pan fo yna darfu ar wasanaethau. Y cam nesaf, wrth gwrs, fydd ffurfioli'r trefniadau hyn drwy gyflwyno meini prawf cyffredinol ar draws y rhwydwaith, yn ogystal â hybiau cymorth amlwg i sicrhau bod teithwyr yn cael eu trin mewn ffordd gyson pan fo tarfu ar wasanaethau. Rhaid i deithwyr deimlo'n hyderus o ran beth y gallan nhw ei ddisgwyl pan fydd pethau'n mynd o chwith.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe edrychodd ein hadroddiad ni ar addasu i'r hinsawdd. Nawr, mae'r llifogydd diweddar ar brif linell gogledd Cymru a thrwy Henffordd wedi tynnu sylw, onid ydyn nhw, at ba mor agored yw ein seilwaith trafnidiaeth ni i effeithiau tywydd eithafol. Fe gytunodd yr Aelodau fod yn rhaid i wella cydnerthedd fod yn rhan ganolog o gynlluniau a buddsoddiadau Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Mae cynllun ymaddasu i'r hinsawdd a chydnerthedd Trafnidiaeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi yn 2023, yn gosod allan fframwaith ar gyfer nodi a rheoli risgiau mewn perthynas â'r hinsawdd, ac mae'r cynllun yn gosod sylfaen gadarn, ond mae angen, wrth gwrs, iddo fe gael ei weithredu. Mae'r pwyllgor wedi gofyn am ddiweddariad manwl ar gynnydd erbyn yr hydref, gan gynnwys canlyniadau arolygon safle, mesurau cydnerthedd sydd wedi eu cyflwyno a gwaith gyda Network Rail, wrth gwrs, i ddatblygu strategaethau addasu ar gyfer llwybrau risg uchel.
I gloi, felly, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod 2024-25 wedi bod yn flwyddyn o gynnydd da i Trafnidiaeth Cymru. Fe gafodd mwy o drenau newydd eu cyflwyno, aeth y gwaith ar y metro yn ei flaen, wrth gwrs, ac fe gafodd camau eu cymryd i wella tryloywder, amrywiaeth a'r broses o adrodd ar berfformiad. Ond y neges o'r adroddiad yma yw bod yn rhaid i'r cynnydd hwnnw barhau, a bod yn rhaid iddo arwain at brofiadau gwell i deithwyr o ddydd i ddydd.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn dal i wynebu heriau mawr, fel rŷn ni'n gwybod, sy'n cynnwys camau olaf y rhaglen cerbydau rheilffyrdd, gwella tryloywder ariannol a sicrhau cydnerthedd yn erbyn risgiau o'r hinsawdd, ac efallai wir fod yr her fwyaf o'u blaenau nhw o hyd, sef cyflwyno masnachfraint bysiau, a hynny yn llwyddiannus. Bydd hyn, wrth gwrs, yn effeithio ar fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru, ac mi fydd yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru wella ei berfformiad unwaith eto er mwyn cyflawni'r addewid o system drafnidiaeth ddibynadwy, fforddiadwy ac integredig. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymateb adeiladol gawson ni gan Trafnidiaeth Cymru i'n hadroddiad, ac, wrth gwrs, mi fyddwn ni'n parhau i fonitro eu gwaith nhw yn agos wrth i ni agosáu at ddiwedd tymor y Senedd hon. Diolch.
Finally, on performance measurement, TfW told us that its corporate KPIs are being reviewed to ensure that they remain fit for purpose. Quarterly data are now published with year-on-year comparisons. Again, this is a step in the right direction, but we once again continue to be concerned that the way data are presented does not yet make it easy for the public, or indeed Members of the Senedd, to assess whether performance is improving over time. We have therefore recommended that TfW should focus its KPIs on the outcomes that matter most to passengers, and that each report should include a clear narrative showing whether performance is improving.
I’ll turn now to the workforce. The committee has consistently emphasised that TfW as a major national employer should lead by example in promoting diversity and equality of opportunity. In 2024-25, there were encouraging steps forward. TfW appointed its first female operational director and also achieved a 50:50 gender balance in a driver cohort for the first time. These are important milestones in what has traditionally been a male-dominated industry. TfW told us that targeted recruitment events, mentoring, and partnerships with schools and community groups are all contributing to this gradual change. Members welcomed these achievements, but agreed that sustained effort will be needed to embed this cultural change. Recruiting more women into operational roles such as driving and engineering is vital, not just to improve representation, but also to help close the gender pay gap.
On wider diversity, the committee was encouraged to hear about TfW's partnerships with organisations such as Oasis, the Welsh Refugee Council and the Muslim Council of Wales, which are helping again to promote opportunities among underrepresented groups. The committee supports this approach and encourages TfW to expand it beyond Cardiff to other regions. A workforce that reflects the communities that it serves is essential to building trust and ensuring that public transport meets the needs of all users.
Another major theme of the committee's work this year was bus services. As a committee, we have been concerned that passenger numbers in Wales have recovered more slowly since the pandemic than in England or Scotland. Buses are the backbone of public transport in many communities in Wales, and, without strong patronage levels for these services, then they become harder to sustain, and this is particularly the case in more rural areas. TfW and the Welsh Government told us that Wales's older demographic profile may be behind the slower recovery, as well as structural factors such as dispersed settlements and the impact of the pandemic on concessionary travel. However, the committee felt that the reasons are not yet fully understood, therefore, we recommended that TfW should commission research to identify the barriers and to define targeted measures ahead of the introduction of bus franchising. TfW has accepted this and we expect that evidence to be published so that it can inform decisions before the first franchised services begin in the south-west in 2027.
On ticketing, the committee welcomed the progress towards integration. Distance-based fares are now in place on the TrawsCymru network, the 1bws ticket continues to operate successfully in north Wales, and tap on, tap off technology is being trialled, of course, and these are important steps towards the vision of one network, one timetable, one ticket. However, at the time of our report, it was still not possible to combine concessionary travel with the tap on, tap off scheme. The committee recognises the technical and operational challenges, but it also believes that there is potential to capture better data and provide a more seamless experience for concessionary passengers as well. This would help to ensure equality of access for all passengers, regardless of where they live and however they travel, and we've asked TfW to explore this issue.
I will turn next to rail performance. We heard that 2024 had began positively with punctuality improving as more new trains entered service, but that progress levelled off later in the year. Severe weather and infrastructure failures had a specific impact on the Wales and borders network.
Members also discussed how performance information is communicated to the public. TfW's commitment to develop tailored measures for different service types, beginning with the Valleys lines, is a positive step, given that certain measures can mask wider performance issues. For example, poor performance on a rural line with only a few services per day has a far greater impact on passengers than a minor delay on a high-frequency route. However, the committee believes that TfW should go further by publishing route-level performance data in an accessible format so that passengers can easily see how the services that they rely on are performing.
On passenger welfare, we welcomed evidence that TfW is reducing the number of run-fast part cancellations, which have been a significant source of frustration. We also heard that TfW is giving more flexibility to control teams to prioritise passenger needs when services are disrupted. The next step will be to formalise these arrangements by introducing general criteria across the network, as well as clearly designated support hubs to ensure that passengers are treated consistently during service disruption. Passengers must have confidence in what to expect when things go wrong.
Finally, Dirprwy Lywydd, our report looked at climate adaptation. Now, the recent flooding on the north Wales main line and through Hereford has highlighted how vulnerable our transport infrastructure is to extreme weather. Members agreed that building resilience must be a core part of TfW's future planning and investment. TfW's climate adaptation and resilience plan, published in 2023, sets out a framework for identifying and managing climate risks, and the plan provides a solid foundation, but, of course, it needs to be implemented. The committee has asked for a detailed update on progress by this autumn, including findings from site surveys, resilience measures that have been taken and work with Network Rail to develop adaptation strategies for at-risk routes.
To conclude, therefore, the committee recognises that 2024-25 was a year of good progress for Transport for Wales. More new trains entered service, metro works advanced and steps were taken to improve transparency, diversity and performance reporting. But the message from this report is that progress must continue and must translate into better day-to-day experiences for passengers.
TfW still faces major challenges, including delivering the final stages of the rolling stock programme, strengthening its financial transparency and building resilience against climate risks, and perhaps its greatest challenge still lies ahead, namely delivering bus franchising successfully. This will affect the daily lives of people in every part of Wales, and TfW will need to raise its performance once again to deliver on the promise of a transport system that is reliable, affordable and integrated. The committee welcomes TfW's constructive response to our report, and we will continue to monitor delivery closely as we near the end of this Senedd term. Thank you.
I just want to put on record that I have a family member who is employed by Transport for Wales. I'm grateful for the opportunity to contribute to this important debate on Transport for Wales's performance, as laid out in the committee's latest report. I'm also grateful for the work of the committee members in compiling this report, in particular the Chair of the committee, who's just spoken.
As we know, public transport in Wales must work for the people of Wales. It must be reliable, accountable and transparent, but, as the committee's report has highlighted, too often some of these areas can be missed, and I don't wish to repeat the words of the committee Chair, so I'll try and focus my remarks today on just two key areas that I believe the committee report brings to light. The first is around financial transparency and the second area is around service reliability. For me, these are two issues at the very heart of confidence, both in our public bodies, in terms of financial transparency, and confidence in our transport system from a reliability perspective.
So, first, on the financial transparency, the committee has repeatedly called for Transport for Wales to publish its full budget alongside the Welsh Government's own draft budget. This is not a radical ask, it's basic public accountability, especially when we're talking about budgets of hundreds of millions of pounds of taxpayers' money. There'll be councils with similar budget spending, which has much more significant transparency when it comes to how that spending takes place. Yet, once again, we find ourselves in a position where that clarity is missing. We heard from the chief executive of Transport for Wales, who admitted in his response to the committee that TfW still doesn't operate with a single consolidated budget. So, how can the public or this Senedd, as elected Members, properly scrutinise those spending decisions when there doesn't appear to be a clear, unified picture of how hundreds of millions of pounds of public funds are being used? Let's remember that this is public money. Whilst TfW may be at arm's length to Government, it's subsidised significantly by taxpayers' funding. It's delivering and attempting to deliver major infrastructure, overseeing key services and directly impacting the daily lives of Welsh commuters and travellers. The Welsh public deserves to know where the money is going and whether it's being spent wisely. So, Cabinet Secretary, this lack of progress, in my view, is not acceptable. We've heard a lot about improving transparency; we need to see more action.
Now, to the second point, the issue that affects passengers most directly—service reliability. The committee's report rightly points out that performance levels are still far below public expectations. We've all heard the complaints, and some of us may have had to experience some of these directly ourselves: delayed trains, overcrowding, cancelled services and a lack of consistent communication. This isn't just a nuisance for a few Senedd Members from time to time, but, for many people, it's the difference between them getting to work on time or not getting to work at all, impacting their livelihoods. This matters even more as we ask people to shift away from cars and towards public transport. How can we ask people to make that shift when the service remains unacceptably inconsistent? Yes, we know that the situation isn't always easy, and, yes, there may be legacy issues, but the public wants to see solutions to these problems. The committee recommended that TfW implement better systems for monitoring and reporting on service delivery, and I strongly support that; we need to see clear targets, monthly performance dashboards and public reporting that actually means something to passengers. It's not enough to say, 'We're doing our best', we need to see measurable progress, and I believe that the committee's report points to that very clearly.
I would add that we also need to see real accountability when those services fall short. It shouldn't take media coverage or pressure from elected officials to get answers when things go wrong. So, to conclude, Deputy Presiding Officer, on these issues, a lack of transparency in the budget and underperformance in service delivery could both contribute to the erosion of trust in terms of public accountability and the reliability of our transport system, trust in Transport for Wales and trust in this Government's ability to deliver on transport. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf am gofnodi bod gennyf aelod o'r teulu sy'n cael eu cyflogi gan Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru, fel y'i nodwyd yn adroddiad diweddaraf y pwyllgor. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am waith aelodau'r pwyllgor yn llunio'r adroddiad hwn, yn enwedig Cadeirydd y pwyllgor, sydd newydd siarad.
Fel y gwyddom, rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru weithio i bobl Cymru. Rhaid iddo fod yn ddibynadwy, yn atebol ac yn dryloyw, ond fel y mae adroddiad y pwyllgor wedi nodi, yn rhy aml gellir methu rhai o'r meysydd hyn, ac nid wyf am ailadrodd geiriau Cadeirydd y pwyllgor, felly fe geisiaf ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar ddau faes allweddol y credaf fod adroddiad y pwyllgor yn eu hamlygu. Mae'r cyntaf yn ymwneud â thryloywder ariannol a'r ail faes yn ymwneud â dibynadwyedd gwasanaeth. I mi, mae'r rhain yn ddau fater sy'n greiddiol i hyder yn ein cyrff cyhoeddus, o safbwynt tryloywder ariannol, a hyder yn ein system drafnidiaeth o safbwynt dibynadwyedd.
Felly, yn gyntaf, ar dryloywder ariannol, mae'r pwyllgor wedi galw dro ar ôl tro ar Trafnidiaeth Cymru i gyhoeddi ei gyllideb lawn ochr yn ochr â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ei hun. Nid yw hwn yn ofyniad radical, mae'n fater o atebolrwydd cyhoeddus sylfaenol, yn enwedig pan siaradwn am gyllidebau o gannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Bydd yna gynghorau a chanddynt wariant tebyg sy'n dangos llawer mwy o dryloywder o ran y ffordd y mae'r gwariant hwnnw'n digwydd. Eto i gyd, rydym mewn sefyllfa unwaith eto lle mae'r eglurder hwnnw ar goll. Clywsom gan brif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, a gyfaddefodd yn ei ymateb i'r pwyllgor nad yw Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gydag un gyllideb wedi'i chydgrynhoi o hyd. Felly, sut y gall y cyhoedd neu'r Senedd hon, fel Aelodau etholedig, graffu'n briodol ar y penderfyniadau gwariant hynny pan nad yw'n ymddangos bod yna ddarlun clir, unedig o sut y mae cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn cael eu defnyddio? Gadewch inni gofio mai arian cyhoeddus yw hwn. Er efallai fod Trafnidiaeth Cymru yn gorff hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, mae'n cael ei sybsideiddio'n sylweddol gan gyllid trethdalwyr. Mae'n darparu ac yn ceisio darparu seilwaith mawr, gan oruchwylio gwasanaethau allweddol a chan effeithio'n uniongyrchol ar fywydau beunyddiol cymudwyr a theithwyr Cymru. Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu gwybod ble mae'r arian yn mynd ac a yw'n cael ei wario'n ddoeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn fy marn i, nid yw'r diffyg cynnydd hwn yn dderbyniol. Fe glywsom lawer am wella tryloywder; mae angen inni weld mwy o weithredu.
Nawr, at yr ail bwynt, y mater sy'n effeithio ar deithwyr yn fwyaf uniongyrchol—dibynadwyedd y gwasanaeth. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi'n gywir fod lefelau perfformiad yn dal i fod yn llawer is na disgwyliadau'r cyhoedd. Rydym i gyd wedi clywed y cwynion, ac efallai fod rhai ohonom wedi gorfod profi rhai o'r rhain yn uniongyrchol ein hunain: trenau hwyr, gorlenwi, canslo gwasanaethau a diffyg cyfathrebu cyson. Nid niwsans i ychydig o Aelodau'r Senedd o bryd i'w gilydd yw hyn, i lawer o bobl dyma'r gwahaniaeth rhwng cyrraedd eu gwaith mewn pryd neu beidio â chyrraedd y gwaith o gwbl, sy'n effeithio ar eu bywoliaeth. Mae hyn yn bwysicach fyth wrth inni ofyn i bobl newid o deithio mewn ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Sut y gallwn ni ofyn i bobl wneud y newid hwnnw pan fydd y gwasanaeth yn parhau i fod yn annerbyniol o anghyson? Fe wyddom nad yw'r sefyllfa bob amser yn hawdd, ac efallai fod yna broblemau a etifeddwyd, ond mae'r cyhoedd eisiau gweld atebion i'r problemau hyn. Argymhellodd y pwyllgor fod Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu systemau gwell ar gyfer monitro ac adrodd ar y modd y darparir gwasanaethau, ac rwy'n cefnogi hynny'n gryf; mae angen inni weld targedau clir, dangosfyrddau perfformiad misol ac adroddiadau cyhoeddus sy'n golygu rhywbeth i deithwyr. Nid yw'n ddigon dweud, 'Rydym yn gwneud ein gorau', mae angen inni weld cynnydd mesuradwy, ac rwy'n credu bod adroddiad y pwyllgor yn nodi hynny'n glir iawn.
Rwyf am ychwanegu bod angen inni weld atebolrwydd go iawn hefyd pan fydd y gwasanaethau hynny'n methu. Ni ddylai gymryd sylw yn y cyfryngau na phwysau gan swyddogion etholedig i gael atebion pan fydd pethau'n mynd o'i le. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, ar y materion hyn, gallai diffyg tryloywder yn y gyllideb a thanberfformiad o ran darparu gwasanaethau gyfrannu at erydu ffydd yn atebolrwydd cyhoeddus a dibynadwyedd ein system drafnidiaeth, ffydd yn Trafnidiaeth Cymru ac ymddiriedaeth yng ngallu'r Llywodraeth hon i gyflawni ym maes trafnidiaeth. Diolch yn fawr iawn.
I'm very pleased that we're able to have this debate today on the committee's report on Transport for Wales's performance, and I'd like to thank James Price and his colleagues for coming to give evidence to the committee and also for the great welcome they gave to us when we visited Taff's Well and saw the fantastic fleet of trains that have now started to run on the Valleys lines, which is really transforming the transport system in south-east Wales.
I'd like to focus on two particular areas of the report. The first has been referred to by the Chair, and that is on the gender balance make-up of Transport for Wales, and we do highlight that in our report. I think it's very pleasing that there's been an increase in the number of women that are working for the company and that a concerted effort is being made to bring more women on board, but I do note that this has been more in non-rail divisions, such as office roles, rather than working on the rail itself. James Price said in his evidence that women now accounted for more than 50 per cent of staff in senior management roles, graduate training schemes and internships, which is a fantastic place to have gotten to, but we know that the traditional rail operational roles are predominantly still male-dominated roles, and he did make the point that there is very limited turnover in staff. I think the Chair did mention that the first operational director has been appointed, who is a woman, and that the cohort of drivers has reached a 50:50 split. So, I think that is a very significant development. I think it does show that Transport for Wales is making a great effort to try to make its workforce more representative of the communities that it serves, but, ironically, as the Chair also said, because of the nature of the roles being filled by women, and the pay scales associated with the traditionally male roles, the gender pay gap is actually increasing. We do feel that this needs to be urgently addressed, and even more things should be done to ensure that the whole workforce is representative of our society.
The second issue I'd like to raise is to do with Transport for Wales's performance, and that I'm linking to my experiences as a constituency MS, because earlier this year, the top-10 worst performing train stations in the UK were revealed, and of the top-10 stations, three were along the Coryton line in my constituency of Cardiff North. And from speaking to constituents about the service, I understand why this was the case. The line was frequently met with cancellations, and trust in the service was low. But I have been encouraged by the fact that, since that data was released, Transport for Wales has made a concerted effort to put things right, and I've been working with local representatives to ensure that there is some improvement. Now, reports of cancellations are now far fewer, and the line, as I said earlier, benefits now from a completely new fleet of trains, which are far more environmentally friendly, more reliable and more accessible for people to use.
On the Coryton line, we now have a Sunday service, from the December timetable change, and I'm hopeful that our calls for four trains an hour will be met, and that the Welsh Government will provide the funding needed for a passing loop along the line for this to happen. I think that we need, with the metro, to ensure that we do have enough trains running per hour in order to make it the sort of reliable system that's in, for example, London, where, if you go to get the tube, you don't go for a particular time, you just go, because you know there'll be one soon after. I think that's what we want to happen on the metro, and I certainly hope that we'll be able to get, in Cardiff, particularly on the Coryton line, four trains an hour.
In my dealings with Transport for Wales as a constituency MS, I have been very impressed by their response to the individual issues that have arisen and their willingness to meet and undertake site visits with constituents. They've been particularly helpful to me with the opening of the bridge across to the allotments in Whitchurch, and with the closure that we've now got at the Ty Glas station. They are very keen to be involved with constituents. I believe Transport for Wales has really established itself as a body now in Wales. It's got huge challenges ahead, particularly the bus franchising, as the Chair referred to, but I think it has developed as a body. I think it's firmly established and I think it will bring great benefit to Wales. Diolch.
Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cynnal y ddadl hon heddiw ar adroddiad y pwyllgor ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru, a hoffwn ddiolch i James Price a'i gydweithwyr am ddod i roi tystiolaeth i'r pwyllgor a hefyd am y croeso gwych a roddwyd i ni pan wnaethom ymweld â Ffynnon Taf a gweld y fflyd wych o drenau sydd bellach wedi dechrau rhedeg ar linellau'r Cymoedd, sy'n trawsnewid y system drafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru.
Hoffwn ganolbwyntio ar ddau faes penodol yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyntaf, sy'n ymwneud â chydbwysedd rhwng y rhywiau yng nghyfansoddiad Trafnidiaeth Cymru, ac rydym yn tynnu sylw at hynny yn ein hadroddiad. Rwy'n credu ei bod yn braf iawn fod cynnydd yn nifer y menywod sy'n gweithio i'r cwmni ac y gwneir ymdrech gyfunol i ddod â mwy o fenywod i mewn, ond rwy'n nodi bod hyn wedi digwydd yn fwy mewn adrannau heb fod ar y rheilffyrdd, fel gwaith swyddfa, yn hytrach na gwaith ar y rheilffordd ei hun. Dywedodd James Price yn ei dystiolaeth mai menywod bellach yw mwy na 50 y cant o'r staff mewn rolau uwch reolwyr, cynlluniau hyfforddi graddedigion ac interniaethau, sy'n sefyllfa wych i fod wedi'i chyrraedd, ond gwyddom fod y rolau gweithredol traddodiadol ar y rheilffyrdd yn rolau sy'n dal i fod yn cael eu cyflawni gan ddynion yn bennaf, ac fe wnaeth y pwynt fod trosiant cyfyngedig iawn mewn staff. Rwy'n credu bod y Cadeirydd wedi sôn mai menyw yw'r cyfarwyddwr gweithredol cyntaf a benodwyd, a bod y garfan o yrwyr wedi cyrraedd cymhareb rhwng y rhywiau o 50:50. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad arwyddocaol iawn. Credaf ei fod yn dangos bod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud ymdrech fawr i geisio gwneud ei weithlu'n fwy cynrychioliadol o'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, ond yn eironig, fel y dywedodd y Cadeirydd hefyd, oherwydd natur y rolau sy'n cael eu gwneud gan fenywod, a'r graddfeydd cyflog sy'n gysylltiedig â'r rolau gwrywaidd traddodiadol, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cynyddu mewn gwirionedd. Rydym yn teimlo bod angen mynd i'r afael â hyn ar frys, a dylid gwneud mwy o bethau eto i sicrhau bod y gweithlu cyfan yn gynrychioliadol o'n cymdeithas.
Mae'r ail fater yr hoffwn ei godi yn ymwneud â pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n cysylltu hynny â fy mhrofiadau fel AS etholaethol, oherwydd yn gynharach eleni, datgelwyd y 10 gorsaf drenau sy'n perfformio waethaf yn y DU, ac o'r 10 gorsaf ar y brig, roedd tair ar hyd llinell Coryton yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Ac o siarad ag etholwyr am y gwasanaeth, rwy'n deall pam. Roedd y llinell yn aml yn gweld trenau'n cael eu canslo, ac roedd ymddiriedaeth yn y gwasanaeth yn isel. Ond cefais fy nghalonogi gan y ffaith bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud ymdrech gyfunol i unioni pethau, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr lleol i sicrhau bod yna welliant. Nawr, mae adroddiadau am ganslo trenau yn llawer llai aml bellach, ac erbyn hyn mae'r llinell, fel y dywedais yn gynharach, yn elwa o fflyd hollol newydd o drenau sy'n llawer mwy ecogyfeillgar, yn fwy dibynadwy ac yn fwy hygyrch i bobl eu defnyddio.
Ar linell Coryton, mae gennym wasanaeth dydd Sul erbyn hyn, o'r newid i amserlen mis Rhagfyr, ac rwy'n gobeithio y bydd ein galwadau am bedwar trên yr awr yn cael eu bodloni, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r cyllid sydd ei angen ar gyfer dolen basio ar hyd y llinell er mwyn i hyn ddigwydd. Rwy'n credu bod angen inni sicrhau, gyda'r metro, fod gennym ddigon o drenau yr awr er mwyn ei gwneud yn system ddibynadwy fel sydd i'w gweld yn Llundain er enghraifft, ac os ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r tiwb, ni fyddwch yn mynd erbyn amser penodol, rydych chi'n mynd am eich bod chi'n gwybod y daw un yn fuan wedyn. Rwy'n credu mai dyna beth rydym eisiau ei weld yn digwydd ar y metro, ac rwy'n sicr yn gobeithio y gallwn gael pedwar trên yr awr yng Nghaerdydd, yn enwedig ar linell Coryton.
Yn fy ymwneud â Trafnidiaeth Cymru fel AS etholaethol, mae eu hymateb i'r materion unigol sydd wedi codi a'u parodrwydd i gyfarfod ag etholwyr ac ymgymryd ag ymweliadau safle wedi creu argraff fawr arnaf. Maent wedi bod yn arbennig o gymwynasgar gydag agor y bont draw at y rhandiroedd yn yr Eglwys Newydd, a chyda'r cau a welwn nawr yng ngorsaf Tŷ Glas. Maent yn awyddus iawn i ymwneud ag etholwyr. Rwy'n credu bod Trafnidiaeth Cymru wedi sefydlu ei hun yn dda fel corff yng Nghymru erbyn hyn. Mae ganddo heriau enfawr o'i flaen, yn enwedig y fasnachfraint bysiau, fel y nododd y Cadeirydd, ond rwy'n credu ei fod wedi datblygu fel corff. Rwy'n credu ei fod wedi'i sefydlu'n gadarn ac y daw â budd mawr i Gymru. Diolch.
I want to begin by acknowledging Transport for Wales's engagement with the committee's annual report and also with myself as transport spokesperson for Plaid Cymru. It's welcome that all 20 of the recommendations were accepted, but I'd like to emphasise something that we all know too well: acceptance is not the same as delivery. We must confront the growing gap between commitments made and results delivered. Words alone don’t get people to work on time. What passengers, communities and businesses across Wales deserve are measurable improvements visible in their daily journeys.
Let’s start with performance. TfW promised that, by 2025, 95 per cent of journeys would be on new trains, yet today that figure stands at around 77 per cent—a clear shortfall, and one that directly affects passenger confidence. This is a significant miss against a flagship commitment. Passengers were told that the new fleet would transform their experience by reducing cancellations, improving reliability and ending overcrowding, yet adjusted cancellations in Wales remain above the Great Britain average.
Reliability is what matters to people trying to get to work, to school or hospital on time, and accountability should be the foundation of that reliability. The Welsh Government, as the funder and strategic partner of TfW, must show stronger leadership in driving these delivery standards. It's not enough to welcome progress; Ministers must ensure that promises made to passengers are actually met.
On that note of accountability, I'm pleased that TfW has accepted in principle the recommendation to review its key performance indicator framework, and that new KPIs have since been published. But let's be clear: if performance reporting continues to rely on outdated, opaque indicators, the performance board risks becoming a bureaucratic exercise rather than the driver of real accountability. KPIs must reflect the diversity of the Welsh network. The core Valleys lines face very different challenges from the rural lines in mid and north Wales.
Turning, then, to buses, usage in Wales remains stubbornly at just 78 per cent of pre-COVID levels, the slowest recovery anywhere in Britain. TfW's leadership role in franchising and integration is welcome, but as we've heard, the decision not to include concessionary fares in the new tap-on, tap-off system weakens the idea of a truly integrated network. We also need clear assurances that franchising will not lead to service cuts or to a centralised, Cardiff-heavy model that leaves smaller communities behind. Again, the Welsh Government must guarantee that its funding and franchising framework protects rural and regional equity.
As we've read in the report, the committee raised the urgent need for stronger climate resilience, particularly flood protection for vulnerable lines like the Conwy valley and Cambrian routes. TfW accepted that recommendation, and I welcome the development of its weather resilience and climate change adaptation strategy, but given the frequency of weather-related disruptions, passengers deserve more than long-term planning. They need immediate funding measures now.
Finally, on governance, TfW says it's engaging with the transition to Great British Railways, GBR, but it remains unclear what formal influence Wales will have once GBR is established. With rail only partially devolved, this is a pivotal moment. If Wales's interests aren't embedded in GBR's structure now, they risk being sidelined once again. We need firm assurances from both TfW and Welsh Government that Wales's funding operations and priorities will not be further swallowed up in a centralised system designed around English needs. The Welsh Government has called for the devolution of rail powers, but it seems to be falling on deaf ears. That case now must be made more forcefully than ever, because without it Wales's transport ambitions will always be constrained by decisions taken by Westminster. Diolch yn fawr.
Rwyf am ddechrau drwy gydnabod ymgysylltiad Trafnidiaeth Cymru ag adroddiad blynyddol y pwyllgor a hefyd â mi fy hun fel llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru. Mae'n dda fod pob un o'r 20 o'r argymhellion wedi'u derbyn, ond hoffwn bwysleisio rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei wybod yn rhy dda: nid yw derbyn yr un peth â chyflawni. Rhaid inni wynebu'r bwlch cynyddol rhwng ymrwymiadau a wnaed a chanlyniadau a gyflawnwyd. Nid yw geiriau ar eu pen eu hunain yn cael pobl i'r gwaith mewn pryd. Yr hyn y mae teithwyr, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn ei haeddu yw gwelliannau mesuradwy sy'n weladwy yn eu teithiau dyddiol.
Gadewch inni ddechrau gyda pherfformiad. Addawodd Trafnidiaeth Cymru y byddai 95 y cant o deithiau ar drenau newydd erbyn 2025, ond heddiw mae'r ffigur hwnnw oddeutu 77 y cant—diffyg amlwg, ac un sy'n effeithio'n uniongyrchol ar hyder teithwyr. Mae'n fethiant mawr yn erbyn ymrwymiad blaenllaw. Dywedwyd wrth deithwyr y byddai'r fflyd newydd yn trawsnewid eu profiad drwy leihau nifer y trenau a gaiff eu canslo, gwella dibynadwyedd a rhoi diwedd ar orlenwi, ond mae nifer addasedig y teithiau a gaiff eu canslo yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Prydain.
Dibynadwyedd yw'r hyn sy'n bwysig i bobl sy'n ceisio mynd i'r gwaith, i'r ysgol neu'r ysbyty ar amser, a dylai atebolrwydd fod yn sail i'r dibynadwyedd hwnnw. Rhaid i Lywodraeth Cymru, fel ariannwr a phartner strategol Trafnidiaeth Cymru, ddangos arweiniad gryfach wrth yrru'r safonau cyflawni hyn. Nid yw croesawu cynnydd yn ddigon; rhaid i Weinidogion sicrhau bod addewidion a wnaed i deithwyr yn cael eu gwireddu.
Ar y nodyn ynghylch atebolrwydd, rwy'n falch fod Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i adolygu ei fframwaith dangosyddion perfformiad allweddol, a bod dangosyddion perfformiad allweddol newydd wedi'u cyhoeddi ers hynny. Ond gadewch inni fod yn glir: os yw adrodd ar berfformiad yn parhau i ddibynnu ar ddangosyddion anhryloyw sydd wedi dyddio, mae'r bwrdd perfformiad mewn perygl o ddod yn ymarfer biwrocrataidd yn hytrach nag ysgogi atebolrwydd go iawn. Rhaid i ddangosyddion perfformiad allweddol adlewyrchu amrywiaeth y rhwydwaith yng Nghymru. Mae llinellau craidd y Cymoedd yn wynebu heriau gwahanol iawn i'r llinellau gwledig yng nghanolbarth a gogledd Cymru.
Os caf droi, felly, at fysiau, mae'r defnydd yng Nghymru yn dal i fod ar ddim ond 78 y cant o'r lefelau cyn COVID, yr adferiad arafaf yn unrhyw le ym Mhrydain. Mae rôl arweiniol Trafnidiaeth Cymru mewn masnachfreinio ac integreiddio i'w chroesawu, ond fel y clywsom, mae'r penderfyniad i beidio â chynnwys prisiau consesiynol yn y system tapio i mewn ac allan newydd yn gwanhau'r syniad o rwydwaith gwirioneddol integredig. Mae angen sicrwydd clir arnom hefyd na fydd masnachfreinio yn arwain at doriadau yn y gwasanaeth neu at fodel canolog sy'n canolbwyntio ar Gaerdydd ac sy'n gadael cymunedau llai ar ôl. Unwaith eto, rhaid i Lywodraeth Cymru warantu bod ei fframwaith cyllido a masnachfreinio yn diogelu tegwch gwledig a rhanbarthol.
Fel rydym wedi'i ddarllen yn yr adroddiad, cododd y pwyllgor yr angen brys am wydnwch hinsawdd cryfach, yn enwedig amddiffyniad rhag llifogydd ar gyfer llinellau agored i niwed fel dyffryn Conwy a llwybrau Cambria. Derbyniodd Trafnidiaeth Cymru yr argymhelliad hwnnw, ac rwy'n croesawu datblygiad ei strategaeth gwydnwch tywydd ac addasu i newid hinsawdd, ond o ystyried amlder tarfu sy'n gysylltiedig â'r tywydd, mae teithwyr yn haeddu mwy na chynlluniau hirdymor. Mae angen mesurau cyllido ar unwaith.
Yn olaf, ar lywodraethu, dywed Trafnidiaeth Cymru ei fod yn ymwneud â'r trawsnewidiad i Great British Railways, GBR, ond mae'n dal yn aneglur pa ddylanwad ffurfiol fydd Cymru'n ei gael ar ôl i GBR gael ei sefydlu. Gyda rheilffyrdd wedi'u datganoli'n rhannol yn unig, mae hon yn foment dyngedfennol. Os na chaiff buddiannau Cymru eu hymgorffori yn strwythur GBR nawr, mae perygl y cânt eu hesgeuluso unwaith eto. Mae angen sicrwydd cadarn arnom gan Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru na fydd gweithrediadau a blaenoriaethau cyllido Cymru yn cael eu llyncu ymhellach i mewn i system ganolog wedi'i chynllunio ar sail anghenion Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ddatganoli pwerau dros y rheilffyrdd, ond mae'n ymddangos bod hynny'n syrthio ar glustiau byddar. Rhaid gwneud yr achos hwnnw nawr yn fwy grymus nag erioed, oherwydd hebddo bydd uchelgeisiau trafnidiaeth Cymru bob amser wedi'u cyfyngu gan benderfyniadau a wneir gan San Steffan. Diolch yn fawr.
Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad, ac i Drafnidiaeth Cymru am eu cydweithrediad amlwg.
Thank you to the committee for the report and to TfW for their clear co-operation.
It's a very narrow point that I wish to raise today, and that is linked to recommendation 3 in the report, which referenced value for money, and it's following on from the scrutiny point that my colleague Sam Rowlands made earlier on. Earlier this year, I was contacted by a train driver, a Transport for Wales train driver, and following that, my office undertook some freedom of information requests with Transport for Wales in relation to spare drivers and driving patterns. For the time period requested, TfW, by their own figures, had 89 drivers and 70 conductors more than is needed to run the service, and in excess of the established posts. This equates to an excess wage bill per annum of over £8 million.
To explain, I understand the need for spare drivers. They are utilised to ensure services run and to minimise cancellations and delays. A spare driver works a shift, but is not allocated to a route that day. In fact, they just sit in the office and they wait for a call. More often than not, that call does not come. They're on standby in a depot in case a scheduled driver cannot drive that route. On average, there are 11 spare drivers and six spare conductors per day. However, I'm told that quite often there are three times this number sitting in the depot. This is a considerably higher number than when Arriva ran the service.
It's essential that the TfW train service is seen as a service that provides value for money in all areas, not just with regards to fares and tickets, but also in that excess and perceived waste are minimised—in fact, are eradicated. So, I would like this to be looked into more, and some answers from TfW why this perceived waste is allowed to continue. Diolch yn fawr.
Rwyf am godi pwynt cul iawn heddiw, a hynny'n gysylltiedig ag argymhelliad 3 yn yr adroddiad, a oedd yn cyfeirio at werth am arian, ac mae'n dilyn y pwynt craffu a wnaeth fy nghyd-Aelod Sam Rowlands yn gynharach. Yn gynharach eleni, cysylltodd gyrrwr trên, gyrrwr trên Trafnidiaeth Cymru, â mi ac yn sgil hynny, fe wnaeth fy swyddfa geisiadau rhyddid gwybodaeth gyda Trafnidiaeth Cymru mewn perthynas â gyrwyr wrth gefn a phatrymau gyrru. Am y cyfnod y gofynnwyd amdano, roedd gan Trafnidiaeth Cymru, yn ôl eu ffigurau eu hunain, 89 o yrwyr a 70 o archwilwyr tocynnau yn fwy na'r hyn sydd ei angen i redeg y gwasanaeth, ac yn ogystal â'r swyddi sefydledig. Mae hyn yn cyfateb i fil cyflogau gweithwyr dros ben o dros £8 miliwn y flwyddyn.
I esbonio, rwy'n deall yr angen am yrwyr wrth gefn. Cânt eu defnyddio i sicrhau bod gwasanaethau'n rhedeg ac i leihau canslo trenau ac oedi. Mae gyrwyr wrth gefn yn gweithio shifft, ond ni chlustnodir llwybr ar eu cyfer y diwrnod hwnnw. Mewn gwirionedd, maent yn eistedd yn y swyddfa ac yn aros am alwad. Yn amlach na pheidio, nid yw'r alwad honno'n dod. Maent yn barod mewn depo rhag ofn na all gyrrwr wedi'i drefnu yrru'r llwybr hwnnw. Ar gyfartaledd, ceir 11 gyrrwr wrth gefn a chwe archwiliwr tocynnau wrth gefn y dydd. Fodd bynnag, dywedir wrthyf fod tair gwaith y nifer hwn yn eistedd yn y depo yn eithaf aml. Mae'n nifer sylweddol uwch na phan oedd Arriva yn rhedeg y gwasanaeth.
Mae'n hanfodol fod gwasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru yn cael ei ystyried yn wasanaeth sy'n darparu gwerth am arian ym mhob ffordd, nid o ran prisiau a thocynnau'n unig, ond hefyd drwy leihau gwastraff gormodol a chanfyddedig—a'i ddileu mewn gwirionedd. Felly, hoffwn i hyn gael ei archwilio ymhellach, ac atebion gan Trafnidiaeth Cymru pam y caniateir i'r gwastraff canfyddedig hwn barhau. Diolch yn fawr.
Last year was an important one for transport policy, and Transport for Wales has a few big years ahead. We are moving towards bus franchising, so there was a lot to consider in this inquiry. Integrated transport remains a firm ambition, and we are getting there. Perhaps we would like to travel faster and, in that respect, it mirrors some of the journeys people experience day to day.
Of course, there have been rail cancellations and, of course, every single time that happens, it causes frustration with people being held up at a station, and the cancellation of any service, of course, is also bad news for those individuals involved. But I think that we have to recognise that we are in climate change, and that very often it is flooding that creates the biggest challenge of all, the biggest disruption of all, and I think going forward we will have to look at and act, where we are able to, about really taking that situation more seriously. If you look at where our rail tracks are along the coastline, when the weather gets rough you can see the water because it's coming along your window if you happen to be on a train, and more than that, you can't see the train at all because it won't arrive because it's flooded along the marshes.
But overall, it is a positive picture. Transport for Wales has reported achieving the greatest improvement in punctuality among all train operators, and it's taking on a growing role in active travel, and customer satisfaction with rail services on the up, and bus franchising, as I mentioned, is under way. There is, of course, some joined-up thinking between Welsh Government and Transport for Wales, with significant investment that has been put into rolling stock, whether that's on the road or on the rail. Of course, the free bus travel for over-60s, the cheap fares for young people and veterans all help to make this a better experience.
I want to focus my contribution on rural communities, and I want to remind people, like I always do, that's a third of our total population. Therefore, I'm of course pleased that Transport for Wales accepted recommendation 7 in regard to integrated ticketing for rural and long-distance bus services. That's already operating. It's been rolled out across Traws Cymru services, and passengers using T1 and T2 services can now buy tickets and journey plan from national rail planning and retail platforms directly to destinations as a simple add-on fare. And again, on the TrawsCymru network, TfW has brought in single-leg pricing and a distance-based structure, reducing the cost of single journeys for most passengers. That's, again, a positive development.
On trains, we have discussed the difficulty of comparing the performance of more infrequent rural services with busier urban lines. Of course, a cancelled train on an hourly or less-frequent service is far more disruptive to the individual than on a train journey that runs every 15 minutes or so. Again, TfW accepted in principle our recommendations to publish data by individual routes going forward. That should give us a better and clearer performance picture in the future and help better serve rural communities.
As I said, overall, the direction of travel is a positive one, and TfW says it is closer than ever to delivering our vision for truly integrated transport. Given the level of public investment and political energy driving that vision forward, we should expect to see substantive improvements when the committee assesses this year's performance. And just to close, I think whilst some people might like to have a field day, the cows in Neath recently decided not to have a field day.
Roedd y llynedd yn flwyddyn bwysig i bolisi trafnidiaeth, ac mae gan Trafnidiaeth Cymru flynyddoedd mawr o'u blaenau. Rydym yn symud tuag at fasnachfreinio bysiau, felly roedd llawer i'w ystyried yn yr ymchwiliad hwn. Mae trafnidiaeth integredig yn parhau i fod yn uchelgais cadarn, ac rydym yn cyrraedd yno. Efallai y byddem yn hoffi teithio'n gyflymach ac yn hynny o beth, mae'n adlewyrchu rhai o'r teithiau y mae pobl yn eu profi o ddydd i ddydd.
Wrth gwrs, fe gafodd trenau eu canslo, a bob tro y mae hynny'n digwydd, mae'n achosi rhwystredigaeth gyda phobl yn cael eu cadw i aros mewn gorsaf, ac mae canslo unrhyw wasanaeth yn newyddion drwg i'r unigolion dan sylw. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod ein bod yn wynebu newid hinsawdd, ac mai llifogydd yn aml iawn sy'n creu'r her fwyaf oll, yr aflonyddwch mwyaf, ac rwy'n credu y bydd yn rhaid inni edrych a gweithredu, lle gallwn, a rhoi ystyriaeth fwy difrifol i'r sefyllfa honno. Os edrychwch ar ble mae ein traciau rheilffordd ar hyd yr arfordir, pan fydd y tywydd yn arw gallwch weld y dŵr am ei fod yn dod ar hyd eich ffenest os ydych chi'n digwydd bod ar drên, ac yn fwy na hynny, ni allwch weld y trên o gwbl am na fydd yn cyrraedd am fod llifogydd ar hyd y corsydd.
Ond ar y cyfan, mae'n ddarlun cadarnhaol. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi adrodd ei fod wedi cyflawni gwelliant mwy o ran prydlondeb na'r holl weithredwyr trenau eraill, mae'n mabwysiadu rôl gynyddol mewn teithio llesol, mae boddhad cwsmeriaid â gwasanaethau rheilffyrdd yn gwella, ac mae masnachfreinio bysiau ar y gweill, fel y soniais. Wrth gwrs, mae yna feddwl cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, gyda buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud mewn cerbydau, boed ar y ffyrdd neu ar y rheilffyrdd. Wrth gwrs, mae teithio am ddim ar fysiau i bobl dros 60 oed, y prisiau rhad i bobl ifanc a chyn-filwyr i gyd yn helpu i'w wneud yn brofiad gwell.
Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar gymunedau gwledig, ac rwyf am atgoffa pobl, fel y gwnaf bob amser, fod hynny'n draean o gyfanswm ein poblogaeth. Felly, rwy'n falch wrth gwrs fod Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 7 mewn perthynas â thocynnau integredig ar gyfer gwasanaethau bysiau gwledig a phellter hir. Mae hynny'n weithredol eisoes. Mae wedi cael ei gyflwyno ar draws gwasanaethau TrawsCymru, a bellach gall teithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau T1 a T2 brynu tocynnau a chynllunio teithiau oddi ar blatfformau cynllunio a manwerthu'r rheilffyrdd cenedlaethol yn uniongyrchol i gyrchfannau fel ychwanegiad syml at bris tocyn. Ac unwaith eto, ar rwydwaith TrawsCymru, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno prisio ar sail taith sengl a strwythur sy'n seiliedig ar bellter, gan leihau cost teithiau sengl i'r rhan fwyaf o deithwyr. Mae hynny, unwaith eto, yn ddatblygiad cadarnhaol.
Ar drenau, rydym wedi trafod yr anhawster o gymharu perfformiad gwasanaethau gwledig mwy anaml â llinellau trefol prysurach. Wrth gwrs, mae trên wedi'i ganslo ar wasanaeth bob awr neu lai aml yn llawer mwy aflonyddgar i'r unigolyn nag ar daith trên sy'n rhedeg bob tua 15 munud. Unwaith eto, cafodd ein hargymhellion i gyhoeddi data ar lwybrau unigol yn y dyfodol eu derbyn mewn egwyddor gan Trafnidiaeth Cymru. Dylai hynny roi darlun gwell a chliriach i ni o berfformiad yn y dyfodol a helpu i wasanaethu cymunedau gwledig yn well.
Fel y dywedais, ar y cyfan, mae'r cyfeiriad teithio yn un cadarnhaol, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod yn agosach nag erioed at gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth wirioneddol integredig. O ystyried lefel y buddsoddiad cyhoeddus a'r egni gwleidyddol sy'n gyrru'r weledigaeth honno, dylem ddisgwyl gweld gwelliannau sylweddol pan fydd y pwyllgor yn asesu perfformiad y flwyddyn hon. Ac i gloi, er efallai y byddai rhai pobl yn hoffi cael diwrnod o grwydro caeau, penderfynodd y gwartheg yng Nghastell-nedd yn ddiweddar nad oeddent am gael diwrnod yn y cae.
I'd just like to start by saying my experience using rail transport is very different to that of the Conservative Member for North Wales. The negativity in the local press has been really disappointing, because we need to encourage usage.
Rail travel has significantly improved over the last year, with more carriages and increased passenger usage following the £800 million investment. I use the rail network regularly and I want to take this opportunity to praise Transport for Wales staff—the drivers, the guards on the trains and on the platforms, the travel companions, those that deliver the catering. They, along with the CCTV, mean that I always feel safe when using the train no matter what time of the day, and comfortable, and they provide so much information and assistance, helping travellers, which I also think contributes to the increased rail patronage and confidence, encouraging more people to use them.
I was pleased to see the response from Transport for Wales regarding issues raised with flooding impacting services and also on climate resilience, which is a huge concern going forward, as many of the lines are low lying, as my colleague Joyce Watson said, and part of the north Wales line acts as a sea defence, which is always a worry for me.
We need to work towards a one-network system, making travel easier and affordable. I'm still concerned regarding the variation of fares, especially rail fares in north Wales and south Wales. The introduction of tap on, tap off is really helpful, as well as the much-valued T network serving rural communities with subsidies. I've been meeting residents recently at various drop-ins, and they were concerned they were going to lose the bus, and I was saying, 'No, we just need to learn from you what's really important going forward when we look at the new network', and they're so pleased to have rural transport still.
I'm pleased there is a focus on public transport. I was initially concerned about knowledge and capacity within Transport for Wales, but have been reassured recently in meetings that expertise and capacity has increased, which will be needed towards delivering an integrated network, and the bus Bill going forward. Their engagement with stakeholders is really important, and I have welcomed it and what they've been doing so far. I'm pleased that in Wales we have retained free bus travel from 60 years of age. It's disappointing that people haven't returned in the same numbers following the pandemic, but it is good that the successful £1 bus fare pilot has been introduced to encourage under-21-year-olds to use bus transport from a young age, so hopefully we can grow it that way. Thank you.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod fy mhrofiad i o ddefnyddio trafnidiaeth rheilffyrdd yn wahanol iawn i brofiad yr Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru. Mae agwedd negyddol y wasg leol wedi bod yn siomedig iawn, oherwydd mae angen inni annog defnydd.
Mae teithio ar y trên wedi gwella'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwy o gerbydau a chynnydd yn y defnydd gan deithwyr yn dilyn y buddsoddiad o £800 miliwn. Rwy'n defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd yn rheolaidd ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol staff Trafnidiaeth Cymru—y gyrwyr, y gardiaid ar y trenau ac ar y platfformau, y cymdeithion teithio, y rhai sy'n darparu'r arlwyo. Ynghyd â'r teledu cylch cyfyng, maent yn golygu fy mod bob amser yn teimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio'r trên ar unrhyw adeg o'r dydd, ac yn gyfforddus, ac maent yn darparu cymaint o wybodaeth a chymorth wrth helpu teithwyr, sydd hefyd yn cyfrannu at fwy o ddefnydd a hyder yn y rheilffyrdd, gan annog mwy o bobl i'w defnyddio.
Roeddwn yn falch o weld yr ymateb gan Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â materion a godwyd gyda llifogydd yn effeithio ar wasanaethau a hefyd ar wydnwch hinsawdd, sy'n bryder enfawr wrth wynebu'r dyfodol, gan fod llawer o'r llinellau ar dir isel, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Joyce Watson, a bod rhan o linell gogledd Cymru yn gweithredu fel amddiffynfa rhag y môr, sydd bob amser yn bryder i mi.
Mae angen inni weithio tuag at system un rhwydwaith, gan wneud teithio yn haws ac yn fforddiadwy. Rwy'n dal i bryderu ynglŷn â'r amrywio prisiau, yn enwedig prisiau tocynnau rheilffordd yng ngogledd Cymru a de Cymru. Mae cyflwyno tapio i mewn ac allan yn ddefnyddiol iawn, yn ogystal â'r rhwydwaith T gwerthfawr sy'n gwasanaethu cymunedau gwledig gyda chymorthdaliadau. Rwyf wedi cyfarfod â thrigolion yn ddiweddar mewn gwahanol sesiynau galw heibio, ac roeddent yn pryderu eu bod yn mynd i golli'r bws, ac roeddwn i'n dweud, 'Na, mae angen i ni ddysgu gennych chi beth sy'n wirioneddol bwysig yn y dyfodol pan fyddwn ni'n edrych ar y rhwydwaith newydd', ac maent mor falch eu bod yn dal i gael trafnidiaeth wledig.
Rwy'n falch fod ffocws ar drafnidiaeth gyhoeddus. Roeddwn yn pryderu i ddechrau ynglŷn â gwybodaeth a chapasiti o fewn Trafnidiaeth Cymru, ond cefais sicrwydd yn ddiweddar mewn cyfarfodydd fod arbenigedd a chapasiti wedi cynyddu, a bydd eu hangen tuag at ddarparu rhwydwaith integredig, a'r Bil bysiau yn y dyfodol. Mae eu hymgysylltiad â rhanddeiliaid yn bwysig iawn, ac rwyf wedi croesawu hynny a'r hyn y maent wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn. Rwy'n falch ein bod ni yng Nghymru wedi cadw teithio bws am ddim i rai 60 oed a hŷn. Mae'n siomedig nad yw pobl wedi dychwelyd yn yr un niferoedd yn sgil y pandemig, ond mae'n dda fod y cynllun peilot tocyn £1 llwyddiannus wedi cael ei gyflwyno i annog pobl dan 21 oed i ddefnyddio trafnidiaeth bws o oedran ifanc, felly gobeithio y gallwn ei dyfu yn y ffordd honno. Diolch.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James.
I call on the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. On behalf of the Cabinet Secretary for Transport and North Wales, I want to start by thanking the committee very much for all of its hard work. Your careful scrutiny has genuinely strengthened our work in this area. I also just want to talk a little bit about not just aspiration, but about the delivery, what Transport for Wales has already achieved, and what's already making a real difference on the ground.
Deputy Llywydd, as always, it's frustrating—I won't have time to answer all the points raised, but I will do my best to gallop through as many of them as possible. As the committee Chair has already said, Transport for Wales accepted 19 of the 20 recommendations in full and one in principle—a serious commitment, and we will be updating you on progress shortly.
I also want to acknowledge Vernon Everitt, who took up the chair role this summer. In just a few months, he's reshaping the board, driving performance and robustly representing Welsh interests in UK rail reform discussions. His leadership is really making an impact.
Deputy Llywydd, Transport for Wales is more than just a rail operator—it's a real symbol of what this Welsh Labour Government is delivering for our communities. We made a promise: we promised to build a modern, integrated public transport system that puts people first, and we're delivering that promise.
Transport for Wales is now one of the UK's most successful public transport organisations, and it's homegrown. After just 10 years, Transport for Wales has become a transport powerhouse, with over 4,500 staff and a turnover of more than £500 million. And I completely agree with Carolyn Thomas that the staff I encounter are always willing to go above and beyond to help out. They're always friendly and very knowledgeable.
Passenger numbers tell the story. In 2024-25, TfW carried 31.7 million rail passengers and 1.2 million on TrawsCymru buses—a growth of 19 per cent and 11 per cent respectively. That's just not to be sneezed at. Train fare revenue rose by £25 million, from £148 million to £175 million. And today, Transport for Wales stands as the most improved operator in the UK. Punctuality, reliability and customer satisfaction are all rising. That's not just progress, that's proof that public ownership, investment and ambition work.
Because this isn't only about trains—it's about leadership. Wales is now leading the UK in transport reform. From the south Wales metro to upgrades on the north Wales coast main line, we're setting the pace, not following it. We're showing what's possible when public transport is treated as a public good and not a private profit centre.
Was 2024 perfect? No, it absolutely wasn't, and the Cabinet Secretary has been clear about the operational challenges that were faced, but it was a turning point. Wales moved closer than ever to a truly integrated sustainable transport system, and in 2025 that momentum has not slowed. Between April and June this year, Transport for Wales recorded the biggest improvement in punctuality of any UK operator, with 84 per cent of services on time, which is up 1.5 percentage points year on year. And that figure is 94 per cent 'on time to three', as it's called, on the core Valleys lines—so, period 6, which is the most recent period—and I think that should be acknowledged.
I do think that talking it down is not the way to get passenger traffic up, because passenger traffic is up, customer satisfaction is up, and why? Because of our continued and committed investment. We held our nerve when all around us were telling us that we were putting too much money into this, and now we reap the rewards. The new class 756 trains are now running on the core Valleys lines—part of the £800 million investment in new rolling stock. And today, 78 per cent of trains in Wales are brand new, transforming what was once the oldest fleet in the UK into one of the most modern, and new trains continue to be regularly introduced to the network.
Deputy Llywydd, that's not incremental change, that's real transformation, and we should acknowledge it. We promised to turn a Victorian railway built for coal into a modern metro, and we've done it. The £1.1 billion upgrade in electrification of the core Valleys lines isn't just infrastructure—it's a statement of intent to the people of Wales to deliver a greener, more connected Wales.
And it's not just about rail: we absolutely agree with the committee that bus services are the backbone of a public transport system. The Chair said that very specifically, and I completely agree, and we welcome the recommendations. I won't go through them, but we welcome them all—we absolutely agree with you. And through the Bus Services (Wales) Bill, we're reregulating services so that people come before profit.
Transport for Wales will lead franchising in partnership with councils, delivering one joined-up, reliable network. Already, integrated ticketing is no longer a buzzword—it's absolutely happening, with new options for TrawsCymru customers, the 1bws scheme in north Wales capping daily and weekly fares, and the £1 bus fare pilot for young people. A record success so far, being extended to five to 15-year-olds next month.
Dirprwy Lywydd, it's clear that when you remove cost barriers, people do choose public transport. This is what integration looks like—one network, one timetable, one ticket. We're delivering that vision right across Wales for rail, bus and active travel together, in line with the 'Llwybr Newydd' strategy. I'm really looking forward to the Senedd's scrutiny of the bus Bill as part of that journey, because it is transformational.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am ei holl waith caled. Mae eich gwaith craffu gofalus wedi cryfhau ein gwaith yn y maes hwn yn wirioneddol. Rwyf hefyd eisiau siarad ychydig nid yn unig am uchelgais, ond am y cyflawniad, yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi'i gyflawni, a'r hyn sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.
Ddirprwy Lywydd, fel bob amser, mae'n rhwystredig—ni fydd gennyf amser i ateb yr holl bwyntiau a godwyd, ond fe wnaf fy ngorau i garlamu drwy gymaint â phosib ohonynt. Fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor eisoes, derbyniodd Trafnidiaeth Cymru 19 o'r 20 argymhelliad yn llawn ac un mewn egwyddor—ymrwymiad difrifol, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd cyn bo hir.
Rwyf hefyd eisiau cydnabod Vernon Everitt, a ymgymerodd â rôl y cadeirydd yr haf hwn. Mewn ychydig fisoedd, mae'n ailffurfio'r bwrdd, yn ysgogi perfformiad a chynrychioli buddiannau Cymru yn gadarn mewn trafodaethau diwygio rheilffyrdd yn y DU. Mae ei arweinyddiaeth yn cael effaith wirioneddol.
Ddirprwy Lywydd, Mae Trafnidiaeth Cymru yn fwy na gweithredwr rheilffyrdd yn unig—mae'n symbol go iawn o'r hyn y mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn ei gyflawni i'n cymunedau. Fe wnaethom addewid: fe wnaethom addo adeiladu system drafnidiaeth gyhoeddus fodern, integredig sy'n rhoi pobl yn gyntaf, ac rydym yn cyflawni'r addewid hwnnw.
Mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn un o sefydliadau trafnidiaeth gyhoeddus mwyaf llwyddiannus y DU, ac mae wedi'i wneud yng Nghymru. Ar ôl dim ond 10 mlynedd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi dod yn bwerdy trafnidiaeth, gyda dros 4,500 o staff a throsiant o fwy na £500 miliwn. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â Carolyn Thomas fod y staff y dof ar eu traws bob amser yn barod i wneud mwy na'r disgwyl i helpu. Maent bob amser yn gyfeillgar ac yn wybodus iawn.
Mae niferoedd teithwyr yn adrodd y stori. Yn 2024-25, cludodd Trafnidiaeth Cymru 31.7 miliwn o deithwyr rheilffordd ac 1.2 miliwn ar fysiau TrawsCymru—twf o 19 y cant ac 11 y cant yn y drefn honno. Nid yw'r rheini'n niferoedd bach. Cododd refeniw tocynnau trên £25 miliwn, o £148 miliwn i £175 miliwn. A heddiw, Trafnidiaeth Cymru yw'r gweithredwr sydd wedi gwella fwyaf yn y DU. Mae prydlondeb, dibynadwyedd a boddhad cwsmeriaid i gyd yn cynyddu. Nid cynnydd yn unig yw hynny, mae'n brawf fod perchnogaeth gyhoeddus, buddsoddiad ac uchelgais yn gweithio.
Oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy na threnau'n unig—mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth. Mae Cymru bellach yn arwain y DU ar ddiwygio trafnidiaeth. O fetro de Cymru i uwchraddiadau ar brif linell arfordir gogledd Cymru, rydym yn gosod y cyflymder, nid yn ei ddilyn. Rydym yn dangos beth sy'n bosib pan fydd trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei drin fel nwydd cyhoeddus ac nid canolfan elw preifat.
A oedd 2024 yn berffaith? Nac oedd, ddim o gwbl, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi bod yn glir am yr heriau gweithredol a wynebwyd, ond roedd yn drobwynt. Symudodd Cymru yn agosach nag erioed at system drafnidiaeth gynaliadwy wirioneddol integredig, ac yn 2025 nid yw'r momentwm hwnnw wedi arafu. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, cofnododd Trafnidiaeth Cymru y gwelliant mwyaf o ran prydlondeb o gymharu ag unrhyw weithredwr yn y DU, gydag 84 y cant o'r gwasanaethau ar amser, sydd i fyny 1.5 pwynt canran o un flwyddyn i'r llall. Ac mae'r ffigur yn 94 y cant 'ar amser o fewn tri munud', fel y'i gelwir, ar linellau craidd y Cymoedd—felly, cyfnod 6, sef y cyfnod diweddaraf—ac rwy'n credu y dylid cydnabod hynny.
Rwy'n credu nad lladd arno yw'r ffordd i godi niferoedd teithwyr, oherwydd mae niferoedd teithwyr wedi codi, boddhad cwsmeriaid wedi codi, a pham? Oherwydd ein buddsoddiad parhaus ac ymroddedig. Fe wnaethom barhau'n gadarn pan oedd pawb o'n cwmpas yn dweud wrthym ein bod ni'n rhoi gormod o arian tuag at hyn, a nawr rydym yn medi'r gwobrau. Mae'r trenau dosbarth 756 newydd bellach yn rhedeg ar linellau craidd y Cymoedd—rhan o'r buddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau newydd. A heddiw, mae 78 y cant o drenau yng Nghymru yn newydd sbon, yn trawsnewid yr hyn a oedd unwaith yn fflyd hynaf y DU yn un o'r rhai mwyaf modern, ac mae trenau newydd yn parhau i gael eu cyflwyno'n rheolaidd i'r rhwydwaith.
Ddirprwy Lywydd, nid newid cynyddrannol yw hynny, ond trawsnewidiad go iawn, a dylem ei gydnabod. Fe wnaethom addo troi rheilffordd Fictoraidd a adeiladwyd ar gyfer glo yn fetro modern, ac rydym wedi gwneud hynny. Nid seilwaith yn unig yw uwchraddiad gwerth £1.1 biliwn trydaneiddio llinellau craidd y Cymoedd—mae'n ddatganiad o fwriad i bobl Cymru i gyflawni Cymru wyrddach a mwy cysylltiedig.
Ac mae'n ymwneud â mwy na rheilffyrdd yn unig: rydym yn cytuno'n llwyr â'r pwyllgor mai gwasanaethau bysiau yw asgwrn cefn system trafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd y Cadeirydd hynny'n benodol iawn, ac rwy'n cytuno'n llwyr, ac rydym yn croesawu'r argymhellion. Nid wyf am fynd drwyddynt, ond rydym yn eu croesawu i gyd—rydym yn cytuno'n llwyr â chi. A thrwy Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), rydym yn ailreoleiddio gwasanaethau fel bod pobl yn dod o flaen elw.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn arwain masnachfreinio mewn partneriaeth â chynghorau, gan ddarparu un rhwydwaith dibynadwy ar y cyd. Eisoes, nid jargon niwlog yw tocynnau integredig mwyach—mae'n digwydd, gydag opsiynau newydd i gwsmeriaid TrawsCymru, cynllun 1bws yng ngogledd Cymru yn capio prisiau dyddiol ac wythnosol, a'r cynllun peilot tocynnau bws £1 i bobl ifanc. Llwyddiant digynsail hyd yma, yn cael ei ymestyn i gynnwys plant pump i 15 oed fis nesaf.
Ddirprwy Lywydd, pan fyddwch chi'n dileu rhwystrau costau, mae'n amlwg fod pobl yn dewis trafnidiaeth gyhoeddus. Dyma beth yw integreiddio—un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn. Rydym yn cyflawni'r weledigaeth honno ledled Cymru ar gyfer rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol gyda'i gilydd, yn unol â'r strategaeth 'Llwybr Newydd'. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at waith craffu'r Senedd ar y Bil bysiau yn rhan o'r daith honno, oherwydd mae'n drawsnewidiol.
Would you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Of course, John.
Wrth gwrs, John.
It's on the subject of active travel. The report reflects concern in terms of the regionalisation of funding for active travel and concern that that will weaken the progress that we've seen towards active travel in Wales. The report asks for reassurance from the Welsh Government that, within those regional budgets, there will be appropriate prioritisation for active travel. Are you able to give that reassurance, Cabinet Secretary?
Ar deithio llesol. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu pryder ynghylch rhanbartholi cyllid ar gyfer teithio llesol a phryder y bydd hynny'n gwanhau'r cynnydd a welsom tuag at deithio llesol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd blaenoriaethu priodol ar gyfer teithio llesol o fewn y cyllidebau rhanbarthol hynny. A allwch chi roi'r sicrwydd hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet?
Thank you, John. As part of the regional transport planning, which goes alongside the regional strategic planning for the networks, that will happen. So you will have an integrated system. It isn't just being dissipated to all the councils; there is a regional transport plan to go with that. So, yes, I can, I think, happily give that reassurance.
Dirprwy Lywydd, as I was saying, Transport for Wales is driving some serious innovation. We've seen 150,000 journeys using tap on, tap off pay-as-you-go on the core Valleys lines, and 40 per cent of bus journeys in north Wales are now contactless, which is a real step forward. Although we do agree with the committee's point about concessionary fares and integration, and we are definitely taking that on board.
But through partnership, we've shown public sector models work. When private operators like Avanti West Coast and Great Western Railway were paralysed by strikes, Transport for Wales kept all services running, thanks to our social partnership approach and our fair dialogue with our unions. That is something to be shouted about and achieved. It doesn't happen easily and we are very, very grateful to them for that approach.
I'm particularly delighted, as Julie Morgan highlighted, that Transport for Wales has appointed its first woman operational director, its first 50:50 gender split driver cohort, getting into the areas that women don't normally get into, and, of course, it continues to work closely, as the Chair acknowledged, with Oasis, the Welsh Refugee Council and the Muslim Council of Wales, to ensure inclusion is not an afterthought, it's fully embedded. Transport for Wales will work very hard to continue on that journey to make sure that integration happens.
In terms of accountability, a new performance board has strengthened alignment between Transport for Wales and the Welsh Government, improving planning, sharpening budgets and ensuring real-time accountability. And our key performance indicator reporting is improving. It's not just box ticking, it's a meaningful KPI to ensure transparency. We're happy, of course, to share that reporting with the committee, which is why the response is as it is, in principle, as we develop the KPIs. Because, I agree, passengers deserve to know how we're doing with no hiding and no spin on the line that they're concerned about.
Next year, Transport for Wales turns 10. It's been a decade of building something from scratch, a decade of learning, adapting, improving and, as a former transport Minister, holding our nerve. Transport for Wales is now a UK leader in transport reform, enhancing the scope, quality and reliability of its services, and the people of Wales are responding with their patronage and their trust. Just to give us an example, on the Coryton line that Julie Morgan highlighted, cancellations are now just at 5.6 per cent and on-time performance was at 95.7 per cent—that's up by 12.1 per cent year on year.
I do think Transport for Wales have worked very hard to take on board feedback from customers and from local Members of the Senedd, and I think they really are showing that improvement. The committee's scrutiny sharpens that focus and we're grateful for it, and we also welcome the engagement of local Members of the Senedd, like Julie Morgan and others, who work very closely with Transport for Wales on very specific issues so that they can be addressed at that level. Because, ultimately, this is about one thing: it's about building the transport system Wales deserves—a modern, inclusive, resilient and fit-for-the-future transport system. Not in five years, not tomorrow, but right now. Diolch yn fawr.
Diolch, John. Yn rhan o'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, sy'n mynd ochr yn ochr â'r cynlluniau strategol rhanbarthol ar gyfer y rhwydweithiau, bydd hynny'n digwydd. Felly bydd gennych system integredig. Nid cael ei rannu i'r holl gynghorau'n unig y mae; mae yna gynllun trafnidiaeth rhanbarthol i gyd-fynd â hynny. Felly, rwy'n meddwl fy mod i'n hapus i roi'r sicrwydd hwnnw.
Ddirprwy Lywydd, fel roeddwn i'n dweud, mae Trafnidiaeth Cymru yn sbardun i arloesedd difrifol. Rydym wedi gweld 150,000 o deithiau gan ddefnyddio talu wrth fynd tapio i mewn ac allan ar linellau craidd y Cymoedd, ac mae 40 y cant o deithiau bws yng ngogledd Cymru bellach yn ddigyffwrdd, sy'n gam ymlaen go iawn. Er ein bod yn cytuno â phwynt y pwyllgor ynglŷn â phrisiau consesiynol ac integreiddio, ac rydym yn bendant yn ystyried hynny.
Ond drwy bartneriaeth, rydym wedi dangos bod modelau'r sector cyhoeddus yn gweithio. Pan gafodd gweithredwyr preifat fel Avanti West Coast a Great Western Railway eu parlysu gan streiciau, cadwodd Trafnidiaeth Cymru yr holl wasanaethau i redeg, diolch i'n dull partneriaeth gymdeithasol a'n deialog deg gyda'n hundebau. Mae hynny'n rhywbeth i ymfalchïo ynddo a'i gyflawni. Nid yw'n digwydd yn hawdd ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am y dull hwnnw o weithredu.
Rwy'n arbennig o falch, fel y pwysleisiodd Julie Morgan, fod Trafnidiaeth Cymru wedi penodi ei gyfarwyddwr gweithredol benywaidd cyntaf, ei garfan gyntaf o yrwyr lle ceir 50:50 o gydbwysedd rhwng y rhywiau, a mynd i mewn i feysydd nad yw menywod fel arfer yn mynd iddynt, ac wrth gwrs, mae'n parhau i weithio'n agos, fel y cydnabu'r Cadeirydd, gydag Oasis, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyngor Mwslimaidd Cymru er mwyn sicrhau nad ôl-ystyriaeth yw cynhwysiant, mae wedi'i ymgorffori'n llawn. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i barhau ar y daith honno i sicrhau bod integreiddio'n digwydd.
Ar atebolrwydd, mae bwrdd perfformiad newydd wedi cryfhau'r aliniad rhwng Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, gan wella cynllunio, hogi cyllidebau a sicrhau atebolrwydd amser real. Ac mae ein hadroddiadau dangosyddion perfformiad allweddol yn gwella. Nid ticio blychau'n unig ydyw, maent yn ddangosyddion perfformiad allweddol ystyrlon i sicrhau tryloywder. Rydym yn hapus, wrth gwrs, i rannu'r adroddiadau hynny gyda'r pwyllgor, a dyna pam y mae'r ymateb fel y mae, mewn egwyddor, wrth inni ddatblygu'r dangosyddion perfformiad allweddol. Oherwydd, rwy'n cytuno, mae teithwyr yn haeddu gwybod sut rydym yn gwneud heb guddio a dim sbin ynglŷn â'r hyn y maent yn poeni amdano.
Y flwyddyn nesaf, mae Trafnidiaeth Cymru yn 10 oed. Mae wedi bod yn ddegawd o adeiladu rhywbeth o'r dechrau, degawd o ddysgu, addasu, gwella ac fel cyn-Weinidog Trafnidiaeth, o gadw'n gadarn. Mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn arweinydd yn y DU ym maes diwygio trafnidiaeth, gan wella cwmpas, ansawdd a dibynadwyedd ei wasanaethau, ac mae pobl Cymru yn ymateb drwy eu defnydd a'u hymddiriedaeth. I roi un enghraifft, ar linell Coryton a nodwyd gan Julie Morgan, 5.6 y cant yn unig yw'r gyfradd ganslo bellach ac roedd perfformiad ar amser yn 95.7 y cant—i fyny 12.1 y cant o un flwyddyn i'r llall.
Rwy'n credu bod Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio'n galed iawn i dderbyn adborth gan gwsmeriaid ac Aelodau lleol o'r Senedd, ac rwy'n credu eu bod o ddifrif yn dangos y gwelliant hwnnw. Mae gwaith craffu'r pwyllgor yn miniogi'r ffocws ac rydym yn ddiolchgar amdano, ac rydym hefyd yn croesawu ymgysylltiad Aelodau lleol o'r Senedd, fel Julie Morgan ac eraill, sy'n gweithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru ar faterion penodol iawn fel y gellir mynd i'r afael â nhw ar y lefel honno. Oherwydd, yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud ag un peth: mae'n ymwneud ag adeiladu'r system drafnidiaeth y mae Cymru yn ei haeddu—system drafnidiaeth fodern, gynhwysol, wydn ac addas ar gyfer y dyfodol. Nid mewn pum mlynedd, nid yfory, ond yr eiliad hon. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
I call on Llyr Gruffydd to reply to the debate.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.
Thank you to everyone who has participated.
Thank you all. I think, Sam, you distilled, I suppose, some of the sentiments of the committee in three words: transparency, reliability and accountability. You could have sat down after those three words, but we enjoyed your contribution, and thank you for that.
Julie, you're right; gender balance is still a work in progress, isn't it, particularly when it comes to operational roles. As a number of Members said, a lot of new rolling stock has come online, so that not only lifts the standard of the service, but it allows greater frequency of service as well. And for the metro service, certainly, you want to get to a position where people just rock up to the platform and they know that if they don't jump on it now, there'll be another one coming behind it in 10 minutes. That is a game changer. When we get to that point, then that really is, hopefully, a game changer.
Peredur is right too, I think. It's easy to accept recommendations, not so easy always to deliver, and the risk or the problem has been historically that maybe Welsh Government has over-promised when it comes to Transport for Wales, but we're now getting to a point, I think, where we were hoping to get to much, much sooner. In relation to any formal influence we have on GBR and the UK financial investments et cetera, well, as it happens, the committee will be scrutinising Lord Hendy, who is the Minister of State at the Department for Transport, tomorrow. So, we'll certainly be putting some of these questions to him.
Rhys, an interesting contribution. I've been waiting for trains when I've been told that there's no driver available, but certainly that's something that we can pursue in our scrutiny of NRW—not NRW, Transport for Wales. But this is the point I wanted to make: we regularly have discussions about how more and more duties are being thrown at NRW, with maybe not always the corresponding level of resource to be able to deliver. There's a risk, I think—. We've talked about active travel, we know about the rail, the bus franchising, and that massive piece of work is coming down the line. We have to guard against a similar issue arising here. It is important, Carolyn, that people feel safe, and there were reports in the media today, weren't there, about how sexual offences on trains are up by a third since 2015, albeit on a UK level. It would be interesting to see what the figures are for Wales. So, that certainly—
Diolch i bawb. Rwy'n credu, Sam, eich bod wedi crisialu, mae'n debyg, rhai o deimladau'r pwyllgor mewn tri gair: tryloywder, dibynadwyedd ac atebolrwydd. Fe allech chi fod wedi eistedd i lawr ar ôl y tri gair hynny, ond fe wnaethom fwynhau eich cyfraniad, a diolch am hynny.
Julie, rydych chi'n iawn; mae cydbwysedd rhwng y rhywiau yn dal i fod yn waith ar y gweill, onid yw, yn enwedig o ran rolau gweithredol. Fel y dywedodd nifer o'r Aelodau, mae llawer o gerbydau newydd wedi dod yn weithredol, felly nid yn unig fod hynny'n codi safon y gwasanaeth, mae'n caniatáu gwasanaethau amlach hefyd. Ac ar gyfer y gwasanaeth metro, yn sicr, rydych chi eisiau cyrraedd sefyllfa lle mae pobl yn cyrraedd y platfform ac maent yn gwybod os nad ydynt yn neidio ar drên nawr, bydd un arall yn dod ar ei ôl mewn 10 munud. Mae hynny'n newid sylfaenol. Pan gyrhaeddwn y pwynt hwnnw, bydd hynny'n newid sylfaenol.
Mae Peredur yn iawn hefyd, rwy'n meddwl. Mae'n hawdd derbyn argymhellion, nid mor hawdd eu cyflawni bob amser, a'r risg neu'r broblem yn hanesyddol efallai yw bod Llywodraeth Cymru wedi gor-addo o ran Trafnidiaeth Cymru, ond rydym bellach yn cyrraedd pwynt yr oeddem yn gobeithio'i gyrraedd yn llawer cynt. Mewn perthynas ag unrhyw ddylanwad ffurfiol sydd gennym ar GBR a buddsoddiadau ariannol y DU ac ati, wel, fel mae'n digwydd, yfory bydd y pwyllgor yn craffu ar yr Arglwydd Hendy, sef y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Drafnidiaeth. Felly, byddwn yn sicr yn gofyn rhai o'r cwestiynau hyn iddo ef.
Rhys, cyfraniad diddorol. Rwyf wedi bod yn aros am drenau a chael clywed nad oes gyrrwr ar gael, ond yn sicr mae hynny'n rhywbeth y gallwn fynd ar ei drywydd wrth graffu ar CNC—nid CNC, Trafnidiaeth Cymru. Ond dyma'r pwynt roeddwn eisiau ei wneud: rydym yn cael trafodaethau'n rheolaidd ynglŷn â sut y mae mwy a mwy o ddyletswyddau yn cael eu taflu at CNC, ac efallai nad oes lefel gyfatebol o adnoddau bob amser i allu cyflawni. Mae yna risg, rwy'n meddwl—. Rydym wedi siarad am deithio llesol, rydym yn gwybod am y rheilffyrdd, y fasnachfraint fysiau, ac mae'r gwaith enfawr hwnnw ar y ffordd. Rhaid inni warchod rhag i rywbeth tebyg godi yma. Mae'n bwysig, Carolyn, fod pobl yn teimlo'n ddiogel, ac roedd adroddiadau yn y cyfryngau heddiw, onid oedd, ynglŷn â sut y mae troseddau rhywiol ar drenau wedi cynyddu draean ers 2015, er mai ar lefel y DU oedd hynny. Byddai'n ddiddorol gweld beth yw'r ffigurau ar gyfer Cymru. Felly, yn sicr—
Will you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
I will, yes.
Gwnaf.
That actually demonstrates the value in Wales of where we've kept the guards on the trains, and they've got rid of them elsewhere. That was one of the biggest arguments about it: people feeling safe, feeling that there was someone there for them.
Mae hynny'n dangos y gwerth yng Nghymru lle rydym wedi cadw'r gardiaid ar y trenau, ac maent wedi cael gwared arnynt mewn mannau eraill. Dyna oedd un o'r dadleuon mwyaf yn ei gylch: pobl yn teimlo'n ddiogel, yn teimlo bod rhywun yno iddynt.
Yes, absolutely. And I know that Transport for Wales are very mindful of their responsibilities in that context.
I will reiterate the point made by the Counsel General regarding the new chair: we've already as a committee had positive engagement with Vernon Everitt, and we're very much looking forward to continue that. And it is for public good, not private profit, and we can say that proudly now in Wales.
So, there's a lot to do, and bus franchising is going to be huge. I think we saw that, didn't we, when we visited Transport for Greater Manchester recently. There's a lot to do, but I think the direction of travel is positive. I have to finish with this pun: I think it's fair to say that Transport for Wales now is on the right track.
Ie, yn hollol. Ac rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol iawn o'u cyfrifoldebau yn y cyd-destun hwnnw.
Fe ailadroddaf y pwynt a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â'r cadeirydd newydd: rydym eisoes fel pwyllgor wedi cael ymgysylltiad cadarnhaol â Vernon Everitt, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau â hynny. A hynny er budd y cyhoedd, nid er elw preifat, a gallwn ddweud hynny'n falch nawr yng Nghymru.
Felly, mae yna lawer i'w wneud, ac mae masnachfreinio bws yn mynd i fod yn enfawr. Rwy'n credu ein bod wedi gweld hynny, oni wnaethom, pan wnaethom ymweld â Transport for Greater Manchester yn ddiweddar. Mae yna lawer i'w wneud, ond rwy'n credu bod cyfeiriad y teithio yn gadarnhaol. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod Trafnidiaeth Cymru bellach ar y trywydd iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Jane Hutt, and amendment 2 in the name of Paul Davies. If amendment 1 i agreed, amendment 2 will be deselected.
Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru: adfywio canol trefi. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Item 7 today is the Plaid Cymru debate on town-centre regeneration, and I call on Luke Fletcher to move the motion.
Cynnig NDM9010 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod dadansoddiad gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru yn 2023 wedi dangos bod gan Gymru’r ail nifer uchaf o siopau gwag yn y DU;
b) bod bron i 100 o fanciau ar y stryd fawr wedi cau yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf; ac
c) bod rhaglen ‘Balchder Bro’ Llywodraeth y DU yn dyrannu £214 miliwn o gyllid i Gymru gyda’r nod o gryfhau adfywio yn seiliedig ar leoliad.
2. Yn gresynu nad yw’r rhaglen ‘Balchder Bro’ yn darparu sicrwydd cyllid hirdymor ac ar y raddfa sydd ei angen ar gyfer adfywio canol trefi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer adfywio canol trefi, gan nodi gweledigaeth tymor hir ar gyfer canol trefi sy’n cynnwys mesurau i:
a) sefydlu lluosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer manwerthwyr bach ac annibynnol ar y stryd fawr, gan gynnwys busnesau lletygarwch;
b) sefydlu sicrwydd cyllid tymor hir ar gyfer adfywio canol trefi; ac
c) cyflwyno deddfwriaeth i gryfhau pwerau ‘Hawl i Brynu’ cymunedol.
Motion NDM9010 Heledd Fychan
To propose that the Senedd:
1. Notes:
a) that analysis from the Welsh Retail Consortium in 2023 showed that Wales has the second highest number of vacant shops in the UK;
b) that almost 100 high street banks have closed in Wales in the last three years; and
c) that the UK Government’s ‘Pride in Place’ programme allocates £214 million of funding to Wales with the aim of strengthening place-based regeneration.
2. Regrets that the ‘Pride in Place’ programme does not provide long-term funding certainty and at the scale required for town-centre regeneration.
3. Calls on the Welsh Government to publish a comprehensive strategy for town-centre regeneration, setting out a long-term vision for town centres that includes measures to:
a) establish a preferential business rates multipliers for small and independent high street retailers, including hospitality businesses;
b) establish long-term funding certainty for town centre regeneration; and
c) bring forward legislation to strengthen community ‘Right to Buy’ powers.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Today's debate is about our town centres, which in many ways reflect the story of Wales today. Walk through many of them and the picture is all too familiar: lacklustre footfall, which remains below pre-pandemic levels, vacant retail units, shuttered shopfronts, lost amenities and boarded-up windows. What were once the focal points of many urban centres have become symbols of economic decline. Retail closures have hit us hard in recent years and the consequences have rippled out. The same goes for bank closures. Between 2012 and 2022, branch numbers in Wales fell from 695 to 435, and that decline continues. Santander, Lloyds, Halifax—they're all abandoning our high streets.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â chanol ein trefi, sydd mewn sawl ffordd yn adlewyrchu stori Cymru heddiw. Cerddwch drwy lawer ohonynt ac mae'r darlun yn rhy gyfarwydd: nifer fach o ymwelwyr, sy'n parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig, unedau manwerthu gwag, ffenestri siopau dan gaeadau, amwynderau wedi'u colli a ffenestri wedi'u bordio. Mae'r hyn a oedd unwaith yn ganolbwynt i lawer o ganolfannau trefol wedi dod yn symbolau o ddirywiad economaidd. Mae cau siopau manwerthu wedi ein taro'n galed yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r canlyniadau wedi cael effaith ganlyniadol. Mae'r un peth yn wir am gau banciau. Rhwng 2012 a 2022, gostyngodd nifer y canghennau yng Nghymru o 695 i 435, ac mae'r gostyngiad hwnnw'n parhau. Santander, Lloyds, Halifax—maent i gyd yn gadael ein strydoedd mawr.
Wnei di gymryd ymyriad yn fanna?
Will you take an intervention there?
If it was anyone else, I'd say 'no', but for you, Sioned—. [Laughter.]
Pe bai'n unrhyw un arall, buaswn yn dweud 'na', ond i chi, Sioned—. [Chwerthin.]
Diolch yn fawr. Jest eisiau dod i mewn yn gyflym iawn ar fanciau. Bydd banc olaf Cwmtawe, ym Mhontardawe, yn cau fis nesaf, mae NatWest yng Nghastell-nedd yn cau fis yma, ac mae'r banciau, wrth gwrs, yn rhoi elw uwchben cenedlaethau o gwsmeriaid, ond does dim digon o hybiau banciau gyda ni chwaith. Mae hynny'n rhywbeth sydd o fewn grym Llywodraeth San Steffan i'w gynyddu. Ydych chi'n meddwl bod angen inni ofyn i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth San Steffan i alluogi mwy o hybiau banciau i gael eu sefydlu yn lle'r banciau yma?
Thank you very much. I just wanted to come in very briefly on banks. The final bank in the Swansea valley, in Pontardawe, will close next month, NatWest is closing in Neath this month, and the banks are putting profit above generations of customers, but there aren't enough banking hubs available either. That is something within the gift of the UK Government—to increase the number. Do you think that we need to ask the Welsh Government to urge the UK Government to allow more of those banking hubs to be established to replace these banks?
Wrth gwrs y buaswn i'n cytuno gyda hynny. Mae yna gwestiwn arall hefyd ynglŷn â banciau: beth sydd wedi digwydd i'r banc cymunedol mae'r Llywodraeth wedi bod yn sôn amdano am y blynyddoedd diwethaf? Ond gwnaf i ddod yn ôl at hynny ymhellach i mewn i'r araith, ond pwynt rili pwysig fanna.
Of course I would agree with that. There's another question on banks as well, and that is: what's happened to the community bank that the Government has been talking about for years? But I will return to that later in my contribution, but that's a very important point there.
I think it's important for us to remember that these really aren't isolated events. These are symptoms of a deeper economic fragility. When local services disappear, small businesses lose footfall, money flows out of our communities and local economies are eroded. This is the consequence of an underinvestment and a lack of strategic economic planning. Now, we've seen the upbeat press releases waxing lyrical about the newest iterations of regeneration funding from the local growth fund and the Pride in Place programme, but we have to be honest about what these represent. These schemes are only plugging holes, not rebuilding foundations. Now, Plaid Cymru has consistently argued for the return of full decision-making powers over post-EU funding to Wales, and until we see the details of the local growth fund, we reserve judgment about whether this truly represents a full restoration of those powers that Wales exercised over regional development funding prior to Brexit. But the idea that this replaces the money that once came from Europe is stretching the definition of that word. In reality, £547 million over three years, with as yet no clarity on where and how this is going to be spent, falls short to the tune of hundreds of millions of pounds, nowhere near enough to tackle decades of underinvestment and deep-rooted deprivation. For those playing bingo, the promise from Westminster was that we would receive not a penny less. But even this will leave us worse off. It simply doesn't measure up to the scale of the problem.
Turning to the Pride in Place programme, £2 million over 10 years provides some predictability for local authorities in terms of available funding, and the move, to be fair, from annual bidding cycles to multi-year allocations, is a good thing. I think where the certainty element of this begins to weaken is, firstly, we don't know if the funding will be indexed to inflation, or if there's some form of adjustment mechanism to account for increased costs over the 10-year span of the fund. Without it, the later years will fund less than the earlier ones.
We've also had so many examples of similar funds in the past being drip-fed, spread too thinly across multiple projects and schemes of work and, simply put, not being used in a particularly strategic way. The money often ends up being used for short-term cosmetic improvements, beautifying the high street rather than enabling the more substantial interventions. Yes, physical regeneration is important, but if everything else around it is missing, then we go around in circles.
Now, the Welsh Government has leveraged much larger sums through previous funds, and if these haven't delivered the outcomes promised, it's fair to ask, what can we realistically expect from these newest iterations? If the Welsh Government's current measures, as set out in their amendment—publishing position statements, launching retail action plans and launching funds to beautify the high streets—were effective, we'd already be seeing progress, but this has been on the agenda for over a decade, and we are still debating what to do.
We've gone from fund to fund, with little in the way of strategy of sustained change. None of this has done anything to get to the heart of the problem on our high streets. And that problem is ownership. Absentee landlords holding onto vacant units, large chains siphoning wealth to headquarters outside of Wales, out-of-town developments and, as Sioned Williams pointed out, our banks abandoning those high streets. So, we have to ask ourselves: what is the real economic and social purpose of our town centres? If they are to be more than retail spaces, we need the legislative tools to make that happen, including a functional community right to buy and an adequate support package for local ownership. It is frankly a travesty that we are still waiting for this, when Scotland already has it and England is progressing on it.
Before the pandemic, the Welsh Government was working with the Centre for Local Economic Strategies on community wealth building. That was promising work, but it was never picked back up. Why not? Why aren't we using the development bank to drive greater local embeddedness to strengthen the social and co-operative economy? There's much, much more that the Welsh Government can and should be doing, and it simply isn't. Wealth is sticky. If we build it and sustain it here, then it stays here. I look forward to contributions from other Members.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gofio nad yw'r rhain yn ddigwyddiadau ynysig mewn gwirionedd. Mae'r rhain yn symptomau o fregusrwydd economaidd dyfnach. Pan fydd gwasanaethau lleol yn diflannu, mae busnesau bach yn colli ymwelwyr, mae arian yn llifo allan o'n cymunedau ac economïau lleol yn cael eu herydu. Canlyniad i danfuddsoddi a diffyg cynllunio economaidd strategol yw hyn. Nawr, rydym wedi gweld y datganiadau i'r wasg optimistaidd yn clodfori'r iteriadau diweddaraf o gyllid adfywio gan y gronfa twf lleol a'r rhaglen Balchder Bro, ond rhaid inni fod yn onest am yr hyn y mae'r rhain yn ei gynrychioli. Cau tyllau'n unig a wna'r cynlluniau hyn, nid ailadeiladu sylfeini. Nawr, mae Plaid Cymru wedi dadlau'n gyson dros ddychwelyd pwerau gwneud penderfyniadau'n llawn dros gyllid ôl-UE i Gymru, a hyd nes y gwelwn fanylion y gronfa twf lleol, nid ydym am farnu a yw'n golygu bod y pwerau a oedd gan Gymru dros gyllid datblygu rhanbarthol cyn Brexit yn cael eu hadfer. Ond mae'r syniad fod hwn yn arian yn lle'r hyn a ddoi unwaith o Ewrop yn ymestyn y diffiniad o 'arian yn lle'. Mewn gwirionedd, mae £547 miliwn dros dair blynedd, heb eglurder eto ynglŷn â ble a sut y caiff ei wario, yn brin o gannoedd o filiynau o bunnoedd, heb fod yn agos at fynd i'r afael â degawdau o danfuddsoddi ac amddifadedd dwfn. I'r rhai sy'n chwarae bingo, yr addewid o San Steffan oedd na fyddem geiniog ar ein colled. Ond bydd hyd yn oed hyn yn ein gadael yn waeth ein byd. Nid yw'n gymesur â maint y broblem.
Ar y rhaglen Balchder Bro, mae £2 filiwn dros 10 mlynedd yn darparu rhywfaint o ragweladwyedd i awdurdodau lleol o ran y cyllid sydd ar gael, ac mae'r symud, i fod yn deg, o gylchoedd ceisiadau blynyddol i ddyraniadau amlflwyddyn, yn beth da. Rwy'n credu mai lle mae'r elfen sicrwydd o hyn yn dechrau gwanhau, yn gyntaf, yw na wyddom a fydd y cyllid yn cael ei fynegeio yn ôl chwyddiant, neu a oes rhyw fath o fecanwaith addasu i gyfrif am gostau cynyddol dros gyfnod 10 mlynedd y gronfa. Hebddo, bydd y blynyddoedd diweddarach yn ariannu llai na'r rhai cynharach.
Rydym hefyd wedi cael cymaint o enghreifftiau o gronfeydd tebyg yn y gorffennol yn cael eu diferu i lawr, a'u rhannu'n rhy denau ar draws prosiectau a chynlluniau gwaith lluosog ac yn syml, nid ydynt yn cael eu defnyddio mewn ffordd arbennig o strategol. Mae'r arian yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwelliannau cosmetig tymor byr, harddu'r stryd fawr yn hytrach na galluogi'r ymyriadau mwy sylweddol. Ydy, mae adfywio ffisegol yn bwysig, ond os yw popeth arall o'i gwmpas ar goll, rydym yn troi mewn cylchoedd.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau symiau llawer mwy drwy gronfeydd blaenorol, ac os nad yw'r rhain wedi cyflawni'r canlyniadau a addawyd, mae'n deg gofyn, beth y gallwn ei ddisgwyl yn realistig o'r iteriadau diweddaraf hyn? Pe bai mesurau presennol Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn eu gwelliant—cyhoeddi datganiadau safbwynt, lansio cynlluniau gweithredu ar gyfer manwerthu a lansio arian i harddu strydoedd mawr—yn effeithiol, byddem eisoes yn gweld cynnydd, ond mae hyn wedi bod ar yr agenda ers dros ddegawd, ac rydym yn dal i drafod beth i'w wneud.
Rydym wedi mynd o gronfa i gronfa, heb fawr ddim strategaeth ar gyfer newid parhaus. Nid oes dim o hyn wedi gwneud unrhyw beth i gyrraedd craidd y broblem ar ein strydoedd mawr. A'r broblem honno yw perchnogaeth. Landlordiaid absennol yn dal eu gafael ar unedau gwag, cadwyni mawr sy'n seiffno cyfoeth i bencadlys y tu allan i Gymru, datblygiadau y tu allan i'r dref, ac fel y nododd Sioned Williams, ein banciau'n gadael y stryd fawr. Felly, rhaid inni ofyn i ni'n hunain: beth yw gwir bwrpas economaidd a chymdeithasol canol ein trefi? Os ydynt am fod yn fwy na mannau manwerthu, mae angen yr offer deddfwriaethol arnom i wneud i hynny ddigwydd, gan gynnwys hawl y gymuned i brynu sy'n weithredol a phecyn cymorth digonol ar gyfer perchnogaeth leol. Mae'n warthus ein bod yn dal i aros am hyn, er ei fod gan yr Alban eisoes ac mae Lloegr yn symud ymlaen arno.
Cyn y pandemig, roedd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol ar adeiladu cyfoeth cymunedol. Roedd hwnnw'n waith addawol, ond ni ddychwelwyd ato. Pam? Pam nad ydym yn defnyddio'r banc datblygu i ysgogi mwy o wreiddio lleol i gryfhau'r economi gymdeithasol a chydweithredol? Mae llawer iawn mwy y dylai ac y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, ac nid yw'n ei wneud. Mae cyfoeth yn ludiog. Os ydym yn ei adeiladu a'i gynnal yma, mae'n aros yma. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau eraill.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i gynnig gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
I have selected amendments to the motion. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected. I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to move amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo canol ein trefi, megis:
a) y camau a amlinellir yn y cynllun gweithredu manwerthu;
b) cynnal y cyllid ar gyfer cynlluniau rhyddhad ardrethi;
c) cynnwys egwyddorion canol tref yn gyntaf mewn dogfennau cynllunio allweddol;
d) cyhoeddi’r datganiad sefyllfa ar ganol trefi;
e) sefydlu’r comisiwn asedau cymunedol;
f) buddsoddi drwy’r rhaglen trawsnewid trefi; a
g) lansio’r gronfa trefi taclus.
Amendment 1—Jane Hutt
Delete all after point 1 and replace with:
Supports the action being taken by the Welsh Government to assist town centres, such as:
a) the actions set out in the retail action plan;
b) continuing funding for rates relief schemes;
c) including town centre first principles in key planning documents;
d) publishing the town centres position statement;
e) establishing the community asset commission;
f) investment through the transforming towns programme; and
g) launching the tidy towns fund.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Amendment 1 moved.

Move.
Rwy'n cynnig.
A galwaf ar Joel James i gynnig gwelliant 2 yn enw Paul Davies.
And I call on Joel James to move amendment 2, tabled in the name of Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach;
b) gwella mynediad at barcio am ddim yng nghanol trefi;
c) diwygio'r system gynllunio i hyrwyddo cynnig cymysg ar ein strydoedd mawr;
d) sefydlu cronfa trefi glan môr i helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn ein cymunedau arfordirol;
e) sefydlu cronfa trefi marchnad i helpu i fynd i'r afael â heriau yn nhrefi marchnad Cymru; ac
f) gweithio gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i hyrwyddo perchnogaeth gymunedol o asedau pwysig sydd dan fygythiad o gau.
Amendment 2—Paul Davies
Delete point 3 and replace with:
Calls on the Welsh Government to:
a) scrap business rates for small businesses;
b) improve access to free parking in town centres;
c) amend the planning system to promote a mixed offer on high streets;
d) establish a seaside towns fund to help address the challenges in coastal communities;
e) establish a market towns fund to help address challenges in Wales's market towns; and
f) work with the National Lottery Community Fund to promote community ownership of important assets threatened with closure.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Amendment 2 moved.
Thank you, Dirprwy Lywydd. I'd like to move our amendment in the name of Paul Davies. If a farmer plants seeds in a field and those seeds fail to germinate and grow, would they be wise the following year to plant more seeds in the same field? What if those seeds, again, don't grow? Would the farmer be foolish if they planted seeds again and again and again in the same soil, without any thought or effort given to improving the nutrients in that soil? This analogy perfectly sums up the Plaid Cymru motion that we're debating today.
Most people in the real world, farmers included, know that you have to address the underlying reasons—the soil—before anything can grow and be sustained, and this is really the reality of the high streets in Wales. It doesn't simply matter how much is spent on regeneration projects, because these are simply seeds being planted in poor soil. The Pride in Place programme is just more money for seeds and not enough for soil, and this is clearly something Plaid and Welsh Labour fundamentally misunderstand.
You can rebuild town centres, invest millions in potted plants and new buildings and regeneration strategies, in the forlorn hope that this will suddenly bring back customers to spend their money in a shop. But without addressing the root causes as to why our high streets are failing, this won't achieve anything. The irony, Dirprwy Lywydd, is that most of our shops on the high street are perfectly capable of making a profit and staying open, but are continually hampered by the policies that are made here and that are also now being made by the new Labour Government in Westminster.
The systematic misunderstanding by Labour of how businesses operate has meant the economy in Wales is stagnant at very best—
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig ein gwelliant yn enw Paul Davies. Os yw ffermwr yn plannu hadau mewn cae ac mae'r hadau hynny'n methu egino a thyfu, a fyddent yn ddoeth y flwyddyn ganlynol i blannu mwy o hadau yn yr un cae? Beth os nad yw'r hadau hynny, eto, yn tyfu? A fyddai'r ffermwr yn ffôl pe bai'n plannu hadau dro ar ôl tro yn yr un pridd, heb unrhyw feddwl nac ymdrech i wella'r maethynnau yn y pridd hwnnw? Mae'r gymhariaeth hon yn crynhoi cynnig Plaid Cymru a drafodwn heddiw yn berffaith.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn y byd go iawn, gan gynnwys ffermwyr, yn gwybod bod yn rhaid i chi fynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol—y pridd—cyn y gall unrhyw beth dyfu a chael ei gynnal, a dyma realiti'r stryd fawr yng Nghymru. Nid oes ots faint sy'n cael ei wario ar brosiectau adfywio, am mai dim ond hadau'n cael eu plannu mewn pridd gwael yw'r rhain. Mwy o arian ar gyfer hadau a dim digon ar gyfer pridd yw'r rhaglen Balchder Bro, ac mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae Plaid Cymru a Llafur Cymru yn ei gamddeall yn sylfaenol.
Gallwch ailadeiladu canol trefi, buddsoddi miliynau mewn planhigion mewn potiau ac adeiladau newydd a strategaethau adfywio, yn y gobaith truenus y bydd hyn yn sydyn yn dod â chwsmeriaid yn ôl i wario eu harian mewn siopau. Ond heb fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol pam y mae ein strydoedd mawr yn methu, ni fydd hyn yn cyflawni unrhyw beth. Yr eironi, Ddirprwy Lywydd, yw bod y rhan fwyaf o'n siopau ar y stryd fawr yn berffaith abl i wneud elw ac aros ar agor, ond yn cael eu rhwystro'n barhaus gan y polisïau sy'n cael eu creu yma ac sydd bellach yn cael eu creu gan y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan hefyd.
Mae'r gamddealltwriaeth systematig gan Lafur o sut y mae busnesau'n gweithredu wedi golygu bod yr economi yng Nghymru yn farwaidd ar y gorau—
Would you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Let me carry on a bit. Economic punishment by this Labour Government on our businesses is driving our high streets to extinction. They are charged some of the highest business rates in the United Kingdom, and now with the increased costs of national insurance and minimum wage, it means that they need to pass this on to the customers, who themselves are slowly being priced out of our high streets.
Plaid Cymru's financial fantasies, as we can see by this motion, offer no hope for high-street businesses. In their economic plan, they have said that the reason town and city centres are failing is because of the ownership gap, claiming that too few of Wales's businesses, assets and institutions are meaningfully Welsh owned, and too much profit is flowing out of Wales. But how would one know this? No data is collected on this whatsoever, for example.
Gadewch i mi barhau am ychydig. Mae'r ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur hon yn cosbi ein busnesau'n economaidd yn bygwth bodolaeth ein stryd fawr. Codir rhai o'r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, a nawr gyda chostau cynyddol yswiriant gwladol ac isafswm cyflog, mae'n golygu bod angen iddynt drosglwyddo hyn i'r cwsmeriaid, sydd eu hunain yn raddol yn cael eu prisio allan o'n stryd fawr.
Nid yw ffantasïau ariannol Plaid Cymru, fel y gwelwn yn y cynnig hwn, yn cynnig unrhyw obaith i fusnesau'r stryd fawr. Yn eu cynllun economaidd, maent wedi dweud mai'r rheswm pam y mae canol trefi a dinasoedd yn methu yw oherwydd y bwlch perchnogaeth, gan honni bod rhy ychydig o fusnesau, asedau a sefydliadau Cymru yn eiddo i bobl Cymru, a bod gormod o elw yn llifo allan o Gymru. Ond sut y byddai rhywun yn gwybod hyn? Nid oes unrhyw ddata'n cael ei gasglu ar hyn o gwbl, er enghraifft.
Would you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Let me just carry on for a second. What we do know is that of all of the businesses in Wales, only 0.7 per cent have more than 250 employees, so it's hardly the case that multinationals, which Plaid are scapegoating, are ripping us off. You have cited the Preston model as some miracle solution that will turn around Wales's fortunes, but the reality is that there has never been any evidence of any dramatic economic turnaround. And the reason is simple: it's because it deters investment and there's a limit to what can be sourced locally. Ultimately, the reason why larger businesses, which Plaid hate, can operate is because they can substantially bring down the costs of goods by their higher buying and bulk purchasing power. Your motion mentions a preferential business rates multiplier for small and independent high-street retailers, including hospitality businesses. This is just fantasy to think that you can disproportionately increase the business rates of larger retailers to offset larger reductions for local businesses. This is what will happen: the very few larger retailers that will remain—and we have already seen several leave the high street recently—that you will target will just put up prices or just move everything online. It will deter them from investing and from creating jobs on our high streets, and even in our retail parks.
So, what would the Welsh Conservatives do to help the high street? Clearly, we would spend the money on rejuvenating the soil. We need to help businesses on the high street to be competitive again. We need them to be able to offer the customer service that customers do not experience with online shopping. We will scrap business rates for all small businesses, substantially improve access to free car parking that have been driven out of our town centres by Labour. We will improve our public transport provision and promote a mixed offer on our high street. This will not be some election slogan designed for leaflets or social media videos. Neither will it be some short-sighted and hate-filled redistribution of wealth from the few multinationals that we have in this country. This will be an offer to businesses that, when they start up, Dirprwy Lywydd, they won't be crippled by business rates, that they will be able to grow their business in the knowledge that they won't be punished for that growth.
Gadewch imi barhau am eiliad. Yr hyn a wyddom yw mai dim ond 0.7 y cant o'r holl fusnesau yng Nghymru sydd â mwy na 250 o weithwyr, felly prin ei bod hi'n wir fod cwmnïau rhyngwladol, y mae Plaid Cymru'n eu gwneud yn fwch dihangol, yn elwa ar ein traul ni. Rydych chi wedi cyfeirio at fodel Preston fel rhyw ateb gwyrthiol a fydd yn newid ffawd Cymru, ond y gwir amdani yw na chafwyd unrhyw dystiolaeth erioed o unrhyw newid economaidd dramatig. Ac mae'r rheswm yn syml: mae'n atal buddsoddiad ac mae terfyn i'r hyn y gellir ei gyrchu'n lleol. Yn y pen draw, y rheswm pam y mae busnesau mwy y mae Plaid Cymru yn eu casáu yn gallu gweithredu yw oherwydd y gallant ostwng costau nwyddau'n sylweddol am fod ganddynt bŵer swmpbrynu. Mae eich cynnig yn sôn am luosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer manwerthwyr bach ac annibynnol ar y stryd fawr, gan gynnwys busnesau lletygarwch. Ffantasi yw meddwl y gallwch gynyddu ardrethi busnes manwerthwyr mwy o faint yn anghymesur i wrthbwyso gostyngiadau mwy i fusnesau lleol. Dyma beth fydd yn digwydd: bydd yr ychydig iawn o fanwerthwyr mwy a fydd yn aros—ac rydym eisoes wedi gweld sawl un yn gadael y stryd fawr yn ddiweddar—y byddwch chi'n eu targedu yn codi prisiau neu'n symud popeth ar-lein. Bydd yn eu hatal rhag buddsoddi a rhag creu swyddi ar y stryd fawr, a hyd yn oed yn ein parciau manwerthu.
Felly, beth fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud i helpu'r stryd fawr? Yn amlwg, byddem yn gwario'r arian ar adfywio'r pridd. Mae angen inni helpu busnesau ar y stryd fawr i fod yn gystadleuol eto. Mae angen iddynt allu cynnig y gwasanaeth cwsmeriaid nad yw cwsmeriaid yn ei gael wrth siopa ar-lein. Byddwn yn dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes bach, yn gwella'n sylweddol y ddarpariaeth barcio am ddim sydd wedi cael ei gyrru allan o ganol ein trefi gan Lafur. Byddwn yn gwella ein darpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus ac yn hyrwyddo cynnig cymysg ar ein stryd fawr. Nid slogan etholiadol fydd hwn, wedi'i gynllunio ar gyfer taflenni neu fideos cyfryngau cymdeithasol. Ni fydd chwaith yn ailddosbarthu cyfoeth mewn modd cibddall a llawn casineb oddi wrth yr ychydig gwmnïau rhyngwladol sydd gennym yn y wlad hon. Bydd hwn yn gynnig i fusnesau na fyddant yn cael eu llethu gan ardrethi busnes pan fyddant yn dechrau, y byddant yn gallu tyfu eu busnes gan wybod na chânt eu cosbi am y twf hwnnw.
You need to conclude now, please, Joel.
Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda, Joel.
Last sentence. I urge Members here to see Plaid's motion for what it is, anti-business and anti-growth, and I would urge everyone here to support the Welsh Conservative amendment. Thank you.
Y frawddeg olaf. Rwy'n annog yr Aelodau yma i weld cynnig Plaid Cymru am yr hyn ydyw, gwrth-fusnes a gwrth-dwf, a hoffwn annog pawb yma i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch.
Community gives people a sense of belonging. Where you live is your community and your community is where you feel you belong. Some people live in an area that may have very close community, where everyone knows each other, or, more often, know about each other. The hub of their community could be their church or chapel, community centre or their sports club. On being asked where I live, my first response is 'Morriston'. That is the community I belong to. And other people will identify with their own communities. People have a strong sense of attachment to buildings in their community. Far too many old buildings are left to deteriorate by owners who often live many miles away, sometimes outside Britain, sometimes, in a case I dealt with in my constituency, in Australia. The number of religious buildings, chapels and churches, the number of pubs, clubs and institutes has declined. You can see the decline coming with an ageing and reducing membership and attendance until eventually closure happens. A community right to buy for Wales would help protect the things that make our country and our local areas special, boost community ownership and place power back in the hands of the Welsh people by giving local communities the right of first refusal when vital community assets come up for sale. That is why Scotland already has got one and community ownership has grown faster there than anywhere else in the UK since the Community Empowerment (Scotland) Act 2015.
Communities who identify a need for ownership of land or buildings can apply to register a community interest in buying them. A successful application gives the community the first option to buy if the owner offers the land or building for sale. An application to register a community interest in land must show substantial development benefits in the land and community. It is not intended to preserve the status quo or to block any development; it’s there to help our communities. England is now getting one. The new Labour Government is preparing legislation as part of its imminent devolution Bill. Across the country, communities are being shut out as buildings are boarded up, destroyed or sold to developers and turned into spaces that fail to serve the needs of the local community. And I can take you around lots of chapels that have just been bought by developers and left. A community right to buy could change this by allowing communities the right to first refusal when spaces with significant community value come up for sale, such as empty shops, pubs, churches and chapels.
Mae cymuned yn rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl. Lle rydych chi'n byw yw eich cymuned a'ch cymuned yw lle rydych chi'n teimlo eich bod chi'n perthyn. Mae rhai pobl yn byw mewn ardal a allai fod â chymuned agos iawn, lle mae pawb yn adnabod ei gilydd, neu, yn amlach, yn gwybod am ei gilydd. Efallai mai eu heglwys neu gapel, canolfan gymunedol neu eu clwb chwaraeon yw canolbwynt eu cymuned. Pan ofynnir i mi ble rwy'n byw, fy ymateb cyntaf yw 'Treforys'. Dyna'r gymuned rwy'n perthyn iddi. A bydd pobl eraill yn uniaethu â'u cymunedau eu hunain. Mae gan bobl ymdeimlad cryf o ymlyniad at adeiladau yn eu cymuned. Mae llawer gormod o hen adeiladau yn cael eu gadael i ddirywio gan berchnogion sy'n aml yn byw filltiroedd lawer i ffwrdd, weithiau y tu allan i Brydain, weithiau, mewn achos y deliais ag ef yn fy etholaeth, yn Awstralia. Mae nifer yr adeiladau crefyddol, capeli ac eglwysi, nifer y tafarndai, clybiau a sefydliadau wedi gostwng. Gallwch weld y dirywiad yn dod gydag aelodaeth a phresenoldeb sy'n heneiddio ac yn lleihau nes bod cau yn digwydd yn y pen draw. Byddai hawl y gymuned i brynu i Gymru yn helpu i ddiogelu'r pethau sy'n gwneud ein gwlad a'n hardaloedd lleol yn arbennig, yn rhoi hwb i berchnogaeth gymunedol a rhoi pŵer yn ôl yn nwylo pobl Cymru drwy roi'r hawl gyntaf i wrthod i gymunedau lleol pan fydd asedau cymunedol allweddol yn dod ar werth. Dyna pam y mae gan yr Alban un eisoes ac mae perchnogaeth gymunedol wedi tyfu'n gyflymach yno nag yn unrhyw le arall yn y DU ers Deddf Grymuso Cymunedol (Yr Alban) 2015.
Gall cymunedau sy'n nodi angen i berchnogi tir neu adeiladau wneud cais i gofrestru diddordeb cymunedol yn eu prynu. Mae cais llwyddiannus yn rhoi'r opsiwn cyntaf i'r gymuned brynu os yw'r perchennog yn cynnig y tir neu'r adeilad i'w werthu. Rhaid i gais i gofrestru diddordeb cymunedol mewn tir ddangos manteision datblygu sylweddol yn y tir a'r gymuned. Nid ei fwriad yw cadw'r status quo neu rwystro unrhyw ddatblygiad; mae yno i helpu ein cymunedau. Mae Lloegr yn cael un bellach. Mae'r Llywodraeth Lafur newydd yn paratoi deddfwriaeth yn rhan o'i Bil datganoli sydd ar fin digwydd. Ledled y wlad, mae cymunedau'n cael eu cau allan wrth i adeiladau gael eu bordio, eu dinistrio neu eu gwerthu i ddatblygwyr a'u troi'n fannau sy'n methu gwasanaethu anghenion y gymuned leol. A gallaf fynd â chi o gwmpas llawer o gapeli sydd wedi cael eu prynu gan ddatblygwyr a'u gadael. Gallai hawl y gymuned i brynu newid hyn drwy ganiatáu'r hawl gyntaf i wrthod i gymunedau pan fydd mannau â gwerth cymunedol sylweddol yn dod ar werth, fel siopau, tafarndai, eglwysi a chapeli gwag.
Will you give way?
A wnewch chi ildio?
Certainly, Mark.
Yn sicr, Mark.
Thank you. Are you aware that, under the Localism Act 2011, the community right to buy, supported by a community asset register, has been available to Wales now for many, many years? Despite our calls and our manifesto pledges to introduce it, do you regret that it hasn't been brought in previously?
Diolch. A ydych chi'n ymwybodol, o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, fod hawl y gymuned i brynu, wedi'i chefnogi gan gofrestr asedau cymunedol, wedi bod ar gael i Gymru ers blynyddoedd lawer? Er ein galwadau a'n haddewidion maniffesto i'w chyflwyno, a ydych chi'n gresynu na chafodd ei chyflwyno'n flaenorol?
I don't regret that it hasn't been brought in previously, because it's pointless looking backwards. All we can do is look forwards, and I really want to have the community right to buy out there so that communities have the opportunity to take over the buildings in their community. With Scotland having a community right to buy and England proposing one, Wales needs one. [Interruption.] Yes, certainly.
Nid wyf yn gresynu na chafodd ei chyflwyno'n flaenorol, oherwydd mae'n ddibwynt edrych yn ôl. Y cyfan y gallwn ei wneud yw edrych ymlaen, ac rwyf i eisiau cael hawl y gymuned i brynu allan yno fel bod cymunedau'n cael cyfle i feddiannu adeiladau yn eu cymuned. Gyda'r Alban yn cael hawl y gymuned i brynu a Lloegr yn cynnig un, mae angen un ar Gymru. [Torri ar draws.] Yn sicr.
I think there's agreement here, Mike. I think that the biggest concern, though, that a lot of people have in the right-to-buy space is that we've been having this debate now for a decade or more, and the decision keeps getting pushed down the line. I think it was only a couple of months ago that we had from the Cabinet Secretary the announcement of a potential another consultation on community right to buy. So, surely, it comes to a point where we just go, 'Right, okay, Scotland has done it, England are moving on with it, let's just get on with it.'
Rwy'n credu bod cytundeb yma, Mike. Rwy'n credu mai'r pryder mwyaf, fodd bynnag, sydd gan lawer o bobl yn y gofod hawl i brynu yw ein bod wedi bod yn cael y ddadl hon nawr ers degawd neu fwy, ac mae'r penderfyniad yn parhau i gael ei wthio i lawr y lôn. Ychydig fisoedd yn ôl cawsom gyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet am ymgynghoriad arall posib ar hawl y gymuned i brynu. Felly, yn sicr, mae'n dod i bwynt lle rydym yn dweud, 'Iawn, o'r gorau, mae'r Alban wedi ei wneud, mae Lloegr yn symud ymlaen ag ef, gadewch i ni fwrw ymlaen ag ef.'
I couldn't agree more. That is something that I'm asking for now. I think that we need to get it done. It's not a party-political issue, it's a community issue.
Every community has places that make them special. Where I live, rugby clubs are very important to the local community. In some other parts of the area football clubs are very important to the community, and if we had had this debate 50 years ago I'd have said chapels and churches are very important to the community; unfortunately, that's no longer true today.
After 14 years of economic vandalism under the Tories, we’ve all seen many of these types of buildings that we all care for bought and converted into flats, left and abandoned, the local high street blighted by vacant shops. Local ownership is a huge part of the solution, and the community right to buy could be a vital tool in making it happen. The community right to buy is not a solution to all empty and derelict buildings. Many have reached a stage where it's not economical to repair them and bring them back into community use. It can, however, stop other buildings from becoming derelict. Community ownership in Scotland has been a soaring success. The community right to buy is proven, popular and politically effective. We need to have it in Wales, and, to take on what Luke just said, we need to have it now.
Retail has changed and town and city centres have changed substantially over the last 50 years. Online purchasing has caused huge problems. It's not not having enough car parking, it's not not having enough buildings, it's the sheer cost of buying goods, when online, at one press, it's delivered to your house the next day.
Can I just finish by saying that Morriston, where I live, has a range of shops, from jewellers, shoe repairers, florists and gift shops to beauty salons and hairdressers, plus there are a number of coffee shops and eating options? Woodfield Street is going through an update, we've seen the What! shop take over the former Wilko building, we've seen the following new businesses open recently—darts, rugs, tv games consoles—and a replacement Indian takeaway. The renovation of Tabernacle—thank you, Welsh Government—and St John's Church—also thank you Welsh Government—is now complete. Bethania chapel has a revised planning application for flats and a commercial development on the ground floor, with space planned for the future, and Danbert House has now reached the stage where a design has been chosen, and work is continuing on the former Crown pub.
On town-centre retail, I say to the public: use it or lose it.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n gofyn amdano nawr. Rwy'n credu bod angen i ni ei wneud. Nid mater pleidiol mohono, mae'n fater cymunedol.
Mae gan bob cymuned leoedd sy'n eu gwneud yn arbennig. Lle rwy'n byw, mae clybiau rygbi yn bwysig iawn i'r gymuned leol. Mewn rhannau eraill o'r ardal mae clybiau pêl-droed yn bwysig iawn i'r gymuned, a phe baem wedi cael y ddadl hon 50 mlynedd yn ôl buaswn wedi dweud bod capeli ac eglwysi yn bwysig iawn i'r gymuned; yn anffodus, nid yw hynny'n wir mwyach.
Ar ôl 14 mlynedd o fandaliaeth economaidd o dan y Torïaid, mae pawb ohonom wedi gweld llawer o'r mathau hyn o adeiladau yr ydym i gyd yn malio amdanynt yn cael eu prynu a'u troi'n fflatiau, a'u gadael, y stryd fawr leol wedi'i difetha gan siopau gwag. Mae perchnogaeth leol yn rhan enfawr o'r ateb, a gallai hawl y gymuned i brynu fod yn offeryn hanfodol i wneud iddo ddigwydd. Nid yw hawl y gymuned i brynu yn ateb i bob adeilad gwag ac adfeiliedig. Mae llawer wedi cyrraedd cam lle nad yw'n economaidd i'w hatgyweirio a dod â nhw'n ôl i ddefnydd cymunedol. Fodd bynnag, gall atal adeiladau eraill rhag adfeilio. Mae perchnogaeth gymunedol yn yr Alban wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae hawl y gymuned i brynu wedi'i phrofi, yn boblogaidd ac yn wleidyddol effeithiol. Mae angen i ni ei gael yng Nghymru, ac i ailadrodd yr hyn a ddywedodd Luke, mae angen i ni ei gael nawr.
Mae manwerthu wedi newid ac mae canol trefi a dinasoedd wedi newid yn sylweddol dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae prynu ar-lein wedi achosi problemau enfawr. Nid mater o ddigon o lefydd parcio i geir ydyw, ond mater o fethu cael digon o adeiladau, cost prynu nwyddau, pan allwch chi wasgu botwm ar-lein a chaiff ei ddanfon i'ch tŷ y diwrnod canlynol.
A gaf i orffen drwy ddweud bod gan Dreforys, lle rwy'n byw, amrywiaeth o siopau, o gemyddion, cryddion, siopau blodau a siopau anrhegion i salonau harddwch a siopau trin gwallt, ac mae nifer o siopau coffi ac opsiynau bwyta? Mae Stryd Woodfield yn cael ei huwchraddio, rydym wedi gweld siop What! yn hen adeilad Wilko, rydym wedi gweld y busnesau newydd canlynol yn agor yn ddiweddar—dartiau, matiau, consolau gemau—a tecawê Indiaidd newydd. Mae'r gwaith o adnewyddu'r Tabernacl—diolch, Llywodraeth Cymru—ac Eglwys Sant Ioan—hefyd diolch i Lywodraeth Cymru—bellach wedi'i gwblhau. Mae gan gapel Bethania gais cynllunio diwygiedig ar gyfer fflatiau a datblygiad masnachol ar y llawr gwaelod, gyda lle wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac mae Tŷ Danbert bellach wedi cyrraedd y cam lle mae cynllun wedi'i ddewis, ac mae'r gwaith yn parhau ar hen dafarn y Crown.
Ar siopau canol y dref, rwy'n dweud wrth y cyhoedd: defnyddiwch nhw neu collwch nhw.
In our Valleys, our streets have witnessed some history: the time when people from far and wide flocked to Wales to work in the mines, the only time our Valleys have seen mass immigration. More and more, it's people leaving our towns now that's the problem. And our high streets have been shaped by the people who've lived there. Let's think of the Italian Bracchi cafes, a brilliant mingling of Welsh and Italian cultures, found in most Valleys towns, with their distinctive Bracchi ice cream, the flavour of which is like nothing on earth, as well as their pies that were warmed through the steam of the coffee machines. When I was growing up, I remember Bracchi cafes in Ystradmynach, in Nelson, in Bargoed—there were so many in Bargoed.
Some of them are open still, and we are right to be proud of them. But a lack of support from Governments in Cardiff and Westminster over years for our high streets has led to more and more of those cafes closing, and there is something being lost in our lifetimes that can't be got back, a link with our shared past, and the pattern repeats itself time and again. These buildings, as Luke has said, the buildings on our high streets, they tell the stories of our past—the miners' halls, the libraries, the hospitals and institutes built with miners' wages to show the greatness of their vision to the world and to God, built with their benevolence so that the community had places to go for concerts, for lessons, to read and to learn and to convalesce.
So many of our finest buildings in the Valleys were made by miners or established by their bounty, but so many of them have closed or face closure. Many are boarded up, beautiful buildings being left to their decline, and all those voices that have sung there, the moments in our history that have happened within their walls, echoes of orchestra and oratory—they're falling silent.
Our Valleys powered the world with our steam, our coal, our iron, our grit. Anywhere else in the world would fund these monuments, would give Government backing for their preservation. Why should we in the Valleys not be able to glorify their greatness? Blackwood Miners' Institute was only saved by the determination of local activists and campaigners. Llancaiach Fawr has not been so lucky, though the friends of Llancaiach Fawr are still doing everything they can.
We should remember too that the tradition of libraries in our Valleys was started, too, by the miners. In Caerphilly, the Labour council is determined to close 10 libraries. Their doors were meant to have closed in August, but a legal challenge has meant the council has been forced to reopen them for now. There is no guarantee that they will stay open. The Labour cabinet have made it clear it hopes they will still close these buildings. They've described the legal challenge as disappointing. Make no mistake, they in Caerphilly mean to close those libraries, with no thought of the windows onto other worlds that will close as a result, the doors in children's minds that will be shut down, the gap that will be left for older people who are lonely, for teenagers wanting a quiet space to do their homework, for knitting groups, local societies, all those people who congregate in these places as their cathedrals—the places the miners had dreamed would be built for their children. How short is the memory of the people who would close them? How inadequate is Government support to keep them open? Now, all of these spaces, they are not just buildings, they are meeting places, spaces meant to be shared by the community, spaces that have created the communities.
Breathing new life into them will require plans, but it will also require soul, a recognition more akin to a reckoning. It is a covenant with our past that is being corroded with these closures. We owe more to the miners and to their children.
Yn ein Cymoedd, mae ein strydoedd wedi bod yn dyst i hanes: yr amser pan oedd pobl o bell ac agos yn heidio i Gymru i weithio yn y pyllau, yr unig dro y mae ein Cymoedd wedi gweld mewnfudo torfol. Fwy a mwy, pobl sy'n gadael ein trefi yw'r broblem nawr. Ac mae ein stryd fawr wedi ei siapio gan y bobl sydd wedi byw yno. Meddyliwch am y caffis Bracchi Eidalaidd, cymysgedd gwych o ddiwylliannau Cymreig ac Eidalaidd, a geid yn y rhan fwyaf o drefi y Cymoedd, gyda'u hufen iâ Bracchi nodweddiadol, nad yw ei flas yn debyg i ddim byd ar y ddaear, yn ogystal â'u pasteiod a gâi eu cynhesu drwy stêm y peiriannau coffi. Pan oeddwn i'n tyfu i fyny, rwy'n cofio caffis Bracchi yn Ystradmynach, yn Nelson, ym Margoed—roedd cymaint ym Margoed.
Mae rhai ohonynt ar agor o hyd, ac rydym yn iawn i fod yn falch ohonynt. Ond mae diffyg cefnogaeth gan Lywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan dros y blynyddoedd i'r stryd fawr wedi arwain at fwy a mwy o'r caffis hynny'n cau, ac mae rhywbeth yn cael ei golli yn ein bywydau na ellir ei gael yn ôl, cysylltiad â'n gorffennol cyffredin, ac mae'r patrwm yn ailadrodd ei hun dro ar ôl tro. Mae'r adeiladau hyn, fel y dywedodd Luke, yr adeiladau ar ein stryd fawr, yn adrodd straeon ein gorffennol—neuaddau glowyr, llyfrgelloedd, ysbytai a sefydliadau a adeiladwyd gan gyflogau glowyr i ddangos mawredd eu gweledigaeth i'r byd ac i Dduw, wedi'u hadeiladu drwy eu haelioni fel bod gan y gymuned lefydd i fynd ar gyfer cyngherddau, gwersi, i ddarllen ac i ddysgu ac i wella.
Mae cymaint o'n hadeiladau gorau yn y Cymoedd wedi'u creu gan lowyr neu wedi'u sefydlu gan eu haelioni, ond mae cymaint ohonynt wedi cau neu'n wynebu cau. Mae llawer ohonynt wedi'u bordio, adeiladau hardd yn cael eu gadael i ddirywio, a'r holl leisiau sydd wedi canu yno, yr eiliadau yn ein hanes sydd wedi digwydd o fewn eu muriau, adleisiau o gerddorfa ac areitheg—maent yn dawel.
Fe wnaeth ein Cymoedd bweru'r byd gyda'n stêm, ein glo, ein haearn, ein dycnwch. Byddai unrhyw le arall yn y byd yn ariannu'r henebion hyn, yn rhoi cefnogaeth Llywodraeth i'w cadw. Pam na ddylem ni yn y Cymoedd allu gogoneddu eu mawredd? Dim ond drwy benderfyniad ymgyrchwyr lleol y cafodd Sefydliad Glowyr y Coed Duon ei achub. Nid yw Llancaiach Fawr wedi bod mor ffodus, er bod cyfeillion Llancaiach Fawr yn dal i wneud popeth yn eu gallu.
Dylem gofio hefyd fod traddodiad llyfrgelloedd yn ein Cymoedd hefyd wedi'i ddechrau gan y glowyr. Yng Nghaerffili, mae'r cyngor Llafur yn benderfynol o gau 10 llyfrgell. Roedd eu drysau i fod wedi'u cau ym mis Awst, ond mae her gyfreithiol wedi golygu bod y cyngor wedi ei orfodi i'w hailagor am y tro. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddant yn aros ar agor. Mae'r cabinet Llafur wedi dweud yn glir ei fod yn gobeithio y byddant yn dal i gau'r adeiladau hyn. Maent wedi disgrifio'r her gyfreithiol fel rhywbeth siomedig. Peidiwch â chamgymryd, yng Nghaerffili maent yn bwriadu cau'r llyfrgelloedd hynny, heb unrhyw ystyriaeth i'r ffenestri i fydoedd eraill a fydd yn cau o ganlyniad, y drysau ym meddyliau plant a fydd yn cael eu cau, y bwlch a gaiff ei adael i bobl hŷn sy'n unig, i bobl ifanc yn eu harddegau sydd eisiau lle tawel i wneud eu gwaith cartref, i grwpiau gwau, cymdeithasau lleol, yr holl bobl sy'n ymgynnull yn y lleoedd hyn fel eu heglwysi cadeiriol—y lleoedd yr oedd y glowyr wedi breuddwydio y caent eu hadeiladu ar gyfer eu plant. Mor fyr yw cof y bobl a fyddai'n eu cau. Mor annigonol yw cefnogaeth y Llywodraeth i'w cadw ar agor. Nawr, nid adeiladau'n unig yw'r gofodau hyn, maent yn fannau cyfarfod, gofodau sydd i fod i gael eu rhannu gan y gymuned, gofodau sydd wedi creu'r cymunedau.
Bydd angen cynlluniau i anadlu bywyd newydd iddynt, ond bydd angen enaid hefyd, cydnabyddiaeth sy'n debycach i brysur bwyso. Mae'n gyfamod â'n gorffennol sy'n cael ei gyrydu gan yr holl gau. Mae arnom fwy na hynny i'r glowyr ac i'w plant.
I guess we're all familiar with the challenges that our town and city centres face, the challenges of online shopping, out-of-centre development that's already in place, the cost-of-living crisis. The challenges are great. But I wouldn't sign up to the counsel of despair I think we've heard from the Welsh Conservatives here this afternoon, because a lot of good work is going on, and that has happened and can be built upon. In Newport, for example, Dirprwy Lywydd, we've seen substantial investment in partnership between Welsh Government, Newport City Council and other key partners to develop residential accommodation in the city centre, which is badly needed in terms of housing provision, and is adding to footfall, which is very valuable for those city centre businesses.
We've had a successful programme of events. Just last weekend, the Newport food festival took place, and there was a 66 per cent increase in footfall in the city centre on that weekend compared with the previous weekend. We have the new Corn Exchange as a music venue, alongside other existing venues, such as Le Pub, and, of course, the Riverfront theatre in Newport.
We've had the opening of new leisure and public services developments in the city centre, and a great success, really, in increasing the number of independent traders, which I think people do find very attractive, because it offers something different and individual compared with the usual chain operators. Of course, when you have those local businesses, the profits that they make are spent in the local economy, which is very important as well.
And we have really important developments in the offing in Newport. Coleg Gwent is going to relocate its out-of-centre campus into the centre, which will bring something like 2,000 new people—students, learners, staff—into the city centre on an almost daily basis. We are going to have a new city centre leisure centre with a state-of-the-art leisure pool and new learning facilities, which will also be very significant.
So, it's not all doom and gloom. The challenges are considerable, and, certainly in Newport, a lot more needs to be done. We all know, those of us that represent the area, how much it counts for local people. That local pride in the town and city centres, or lack of pride because of some of the challenges, is absolutely a massive issue. People really do want to feel proud of their town and city centres. People remember them when they were much stronger and much more attractive than they are currently. So, there is a lot yet to do. I absolutely recognise that, but I do believe that we've made significant progress.
There are important developments in the offing, and what I really want to see is a continuation of that partnership between Newport City Council, key partners and Welsh Government to continue that investment and to continue that progress, and, of course, to look at new ideas. Just in the news today, there was a lot of coverage of aims to bring health services into town and city centres in England to a much greater extent, which makes perfect sense, doesn't it, because those services then are more accessible, it deals with health inequalities and it also helps with the challenges of footfall. So, I'm sure that there's much else we can do, but we should recognise the progress that we have made and be intent on building upon that, not talking ourselves down and talking down the work that's already taking place, recognising progress made but ensuring that we build upon that and we do not, in any sense, rest on our laurels.
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â'r heriau sy'n wynebu canol ein trefi a'n dinasoedd, heriau siopa ar-lein, datblygiadau y tu allan i ganol y dref sydd eisoes yn eu lle, yr argyfwng costau byw. Mae'r heriau'n fawr. Ond nid wyf yn anobeithio fel y credaf ein bod wedi'i weld gan y Ceidwadwyr Cymreig yma y prynhawn yma, oherwydd mae llawer o waith da yn digwydd, ac wedi digwydd a gellir adeiladu arno. Yng Nghasnewydd, er enghraifft, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi gweld buddsoddiad sylweddol mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu preswylfeydd yng nghanol y ddinas, sydd eu hangen yn fawr o ran y ddarpariaeth dai, ac mae'n ychwanegu at nifer yr ymwelwyr, sy'n werthfawr iawn i'r busnesau yng nghanol y ddinas.
Rydym wedi cael rhaglen lwyddiannus o ddigwyddiadau. Y penwythnos diwethaf, cynhaliwyd gŵyl fwyd Casnewydd, a gwelwyd cynnydd o 66 y cant yn nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas ar y penwythnos hwnnw o'i gymharu â'r penwythnos blaenorol. Mae gennym y Gyfnewidfa Ŷd newydd fel lleoliad cerddoriaeth, ochr yn ochr â lleoliadau eraill sy'n bodoli eisoes, fel Le Pub, a theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd.
Rydym wedi gweld datblygiadau hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd yn agor yng nghanol y ddinas, a llwyddiant mawr gyda chynyddu nifer y masnachwyr annibynnol, rhywbeth y credaf fod pobl yn teimlo ei fod yn ddeniadol iawn, am ei fod yn cynnig rhywbeth gwahanol ac unigryw o'i gymharu â'r cwmnïau cadwyn arferol. Wrth gwrs, pan fydd gennych y busnesau lleol hynny, mae'r elw y maent yn ei wneud yn cael ei wario yn yr economi leol, sy'n bwysig iawn hefyd.
Ac mae gennym ddatblygiadau pwysig yn yr arfaeth yng Nghasnewydd. Mae Coleg Gwent yn mynd i adleoli ei gampws ar y cyrion i ganol y dref, cam a fydd yn dod â rhywbeth fel 2,000 o bobl newydd—myfyrwyr, dysgwyr, staff—i ganol y ddinas bron bob dydd. Byddwn yn cael canolfan hamdden newydd yng nghanol y ddinas gyda phwll hamdden o'r radd flaenaf a chyfleusterau dysgu newydd, a fydd hefyd yn arwyddocaol iawn.
Felly, nid yw'r cyfan yn ddiobaith. Mae'r heriau'n sylweddol, ac yn sicr yng Nghasnewydd, mae angen gwneud llawer mwy. Rydym i gyd yn gwybod, y rhai ohonom sy'n cynrychioli'r ardal, cymaint y mae'n cyfrif i bobl leol. Mae'r balchder lleol yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd, neu ddiffyg balchder oherwydd rhai o'r heriau, yn broblem enfawr. Mae pobl eisiau teimlo'n falch o ganol eu trefi a'u dinasoedd. Mae pobl yn eu cofio pan oeddent yn llawer cryfach ac yn llawer mwy deniadol nag ydynt ar hyn o bryd. Felly, mae llawer i'w wneud eto. Rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, ond rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol.
Mae datblygiadau pwysig yn yr arfaeth, a'r hyn rwyf eisiau ei weld yw parhad y bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Casnewydd, partneriaid allweddol a Llywodraeth Cymru i barhau â'r buddsoddiad ac i barhau â'r cynnydd hwn, ac wrth gwrs, i edrych ar syniadau newydd. Yn y newyddion heddiw, roedd llawer o sylw i amcanion i ddod â gwasanaethau iechyd i ganol trefi a dinasoedd Lloegr i raddau llawer mwy, sy'n gwneud synnwyr perffaith, onid yw, oherwydd mae'r gwasanaethau hynny wedyn yn fwy hygyrch, mae'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac mae hefyd yn helpu gyda heriau denu ymwelwyr. Felly, rwy'n siŵr fod llawer o bethau eraill y gallwn eu gwneud, ond dylem gydnabod y cynnydd a wnaethom a chael bwriad i adeiladu ar hynny, nid lladd arnom ein hunain a lladd ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd, cydnabod y cynnydd a wnaed ond sicrhau ein bod yn adeiladu ar hynny ac nad ydym, mewn unrhyw ffordd, yn gorffwys ar ein rhwyfau.
When we talk about town centre regeneration, as some Members have already said, we're not just talking about bricks and mortar, are we? It's not the odd bollard here and the odd pot plant there; we're talking about people, we're talking about community, about the life that flows through our high streets and makes our towns what they are. But too many of those small independent businesses—the butchers, the cafes, the local shops—they feel forgotten, they feel unloved, neglected by a system that seems to be working better for the big corporations on the edge of town than for the small family-run businesses at the heart of our communities.
Across north Wales, I hear the same story: small business owners tell me that they feel like they're fighting an uphill battle. For years, local authorities have rolled out the red carpet for out-of-town retail parks, approving developments that, sometimes, drain the life out of our high streets. That policy failure clearly has left deep scars. Even today, many of those big out-of-town retailers pay far less in business rates per square foot than the small shopkeepers trying to make a living in the town. That's unfair, it's unsustainable, and Plaid Cymru wants to put that right. So, we're calling for a rebalancing of the business rates system so that it finally works for small town centre traders, not against them. The multiplier should favour the independent shop on the high street, and not the multinational off the bypass.
And it doesn't stop there, of course. Too often, small traders feel like they're being treated as some sort of cash cow, rather than genuine partners. We see parking fees climbing higher and higher, enforcement getting stricter and the welcome mat sometimes replaced by a penalty notice, all while out-of-town retail parks offer free parking as standard. Well, how can our town centres compete on such uneven terms?
Let's be honest, it's time to show our high streets some love, frankly. We all know that the world has changed; yes, supermarkets and online shopping have reshaped how we spend our money, but that doesn't mean that the high street has had its day—far from it. Look at towns like Caernarfon and Conwy and Mold and Prestatyn—places that have actually reinvented themselves by offering something unique, an experience, because that's what today's town centre is all about. It's about connection, not just consumption; it's where you bump into a friend, where you pop into a shop for something you need, stop for a coffee or visit a hairdresser, solicitor or pharmacy. These service-based and professional businesses, often overlooked, are the steady heartbeat of our town centres. And add to that the creative and artisan businesses that then sometimes spring up around them—the galleries, the delis, the bakeries, the craft shops—and suddenly, you see the potential: people might come into town for one thing, but they'll stay for the experience. A haircut leads to a coffee, leads to buying something in a local shop, and that's the virtuous circle of a thriving town centre.
But that, of course, doesn't happen by accident; it needs investment, it needs care, it needs love. We need fairer business rates, smarter parking policies, better local transport connections and, above all, a renewed commitment from Government and councils to nurture what makes our town centres special—their people, their businesses and their community spirit. Because our town centres aren't just part of the local economy, they are the local economy. Every high street supports dozens, if not hundreds of livelihoods, and collectively, small businesses are among Wales's biggest employers, yet they remain among its most neglected. So, let's change that. Let's start showing our town centres and the people who keep them alive the love they deserve, because if we do, well, they'll repay us handsomely, not just in pounds, shillings and pence, but in pride, in purpose and in stronger, happier communities across Wales.
Pan fyddwn yn siarad am adfywio canol y dref, fel y mae rhai Aelodau eisoes wedi dweud, nid sôn am frics a morter yn unig a wnawn. Nid yr ambell folard neu'r ambell blanhigyn mewn pot; rydym yn siarad am bobl, rydym yn siarad am gymuned, am y bywyd sy'n llifo drwy ein strydoedd mawr ac sy'n gwneud ein trefi yr hyn ydynt. Ond mae gormod o fusnesau bach annibynnol—y cigyddion, y caffis, y siopau lleol—yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio, nad oes neb yn malio amdanynt, eu bod wedi'u hesgeuluso gan system sy'n ymddangos fel pe bai'n gweithio'n well i'r corfforaethau mawr ar gyrion y dref nag i'r busnesau teuluol bach yng nghanol ein cymunedau.
Ar draws gogledd Cymru, rwy'n clywed yr un stori: mae perchnogion busnesau bach yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo fel pe baent yn ymladd brwydr na allant eu hennill. Ers blynyddoedd, mae awdurdodau lleol wedi rholio'r carped coch allan ar gyfer parciau manwerthu y tu allan i'r dref, gan gymeradwyo datblygiadau sydd, weithiau, yn sugno'r bywyd allan o'r stryd fawr. Mae'r methiant polisi hwnnw'n amlwg wedi gadael creithiau dwfn. Hyd yn oed heddiw, mae llawer o'r manwerthwyr mawr y tu allan i'r dref yn talu llawer llai mewn ardrethi busnes fesul troedfedd sgwâr na'r siopwyr bach sy'n ceisio gwneud bywoliaeth yn y dref. Mae hynny'n annheg, mae'n anghynaliadwy, ac mae Plaid Cymru eisiau unioni hynny. Felly, rydym yn galw am ailgydbwyso'r system ardrethi busnes fel ei bod o'r diwedd yn gweithio i fasnachwyr bach canol y dref, nid yn eu herbyn. Dylai'r lluosydd ffafrio'r siop annibynnol ar y stryd fawr, ac nid y cwmni rhyngwladol oddi ar y ffordd osgoi.
Ac nid yw'n dod i ben yno, wrth gwrs. Yn rhy aml, mae masnachwyr bach yn teimlo fel pe baent yn cael eu trin fel rhyw fath o goeden arian, yn hytrach na phartneriaid go iawn. Rydym yn gweld ffioedd parcio'n codi'n uwch ac yn uwch, gorfodaeth yn mynd yn llymach a hysbysiad cosb weithiau'n cymryd lle'r mat croeso, tra bo parciau manwerthu y tu allan i'r dref yn cynnig parcio am ddim fel safon. Wel, sut y gall canol y dref gystadlu ar delerau mor anghyfartal?
Gadewch inni fod yn onest, mae'n bryd dangos cariad tuag at ein stryd fawr. Rydym i gyd yn gwybod bod y byd wedi newid; mae archfarchnadoedd a siopa ar-lein wedi ail-lunio'r ffordd y gwariwn ein harian, ond nid yw hynny'n golygu ei bod ar ben ar y stryd fawr—dim o'r fath. Edrychwch ar drefi fel Caernarfon a Chonwy a'r Wyddgrug a Phrestatyn—llefydd sydd wedi ailddyfeisio eu hunain drwy gynnig rhywbeth unigryw, profiad, oherwydd dyna beth yw canol y dref heddiw. Mae'n ymwneud â chysylltiad, nid traul yn unig; dyma lle byddwch chi'n taro ar ffrind, lle byddwch chi'n galw i mewn i siop am rywbeth sydd ei angen arnoch, yn aros am goffi neu'n ymweld â siop drin gwallt, cyfreithiwr neu fferyllfa. Y busnesau hyn sy'n seiliedig ar wasanaethau a busnesau phroffesiynol ac sy'n aml yn cael eu hanwybyddu yw curiad calon canol y dref. Ac ychwanegwch at hynny y busnesau creadigol a chrefftwyr sy'n codi o'u cwmpas wedyn—yr orielau, y delis, y becws, y siopau crefftau—ac yn sydyn, rydych chi'n gweld y potensial: efallai y bydd pobl yn dod i'r dref i gael un peth, ond byddant yn aros am y profiad. Mae torri gwallt yn arwain at goffi, yn arwain at brynu rhywbeth mewn siop leol, a dyna gylch rhinweddol canol tref ffyniannus.
Ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn digwydd drwy ddamwain; mae angen buddsoddiad, mae angen gofal, mae angen cariad. Mae angen ardrethi busnes tecach, polisïau parcio doethach, gwell cysylltiadau trafnidiaeth lleol ac yn anad dim, ymrwymiad o'r newydd gan y Llywodraeth a chynghorau i feithrin yr hyn sy'n gwneud canol ein trefi'n arbennig—eu pobl, eu busnesau a'u hysbryd cymunedol. Oherwydd nid rhan o'r economi leol yn unig yw canol ein trefi, nhw yw'r economi leol. Mae pob stryd fawr yn cefnogi dwsinau, os nad cannoedd o fywoliaethau, a chyda'i gilydd, mae busnesau bach ymhlith cyflogwyr mwyaf Cymru, ond maent yn parhau i fod ymhlith y rhai sy'n cael eu hesgeuluso fwyaf. Felly, gadewch inni newid hynny. Gadewch inni ddechrau dangos y cariad y maent yn ei haeddu i ganol ein trefi a'r bobl sy'n eu cadw'n fyw, oherwydd os gwnawn ni hynny, wel, byddant yn talu nôl i ni, nid mewn punnoedd yn unig, ond mewn balchder, mewn pwrpas ac mewn cymunedau cryfach, hapusach ledled Cymru.
It's a pleasure to take part in this debate today, and I thank Plaid Cymru for tabling it. We should recognise that many of our high streets have, sadly, become very depressing places generally, as the motion outlines, with Wales having the second highest number of vacant shops in the UK. This problem, of course, is not limited to Wales, with most UK towns outside of London in a state of decay.
We must not forget about the COVID-19 pandemic, though, which was perhaps the most destructive force for our high streets, and the British high street has experienced a significant and ongoing decline since the COVID-19 pandemic began in early 2020. Recovery has been uneven and incomplete as of this month, with footfall, sales volumes and store numbers still lagging behind pre-2020 levels, unfortunately. Businesses are closing at the fastest rate in years. The latest figures show that Wales now has the lowest employment rate in the UK, at just 70.8 per cent, and economic inactivity remains the highest in Britain.
This so-called Pride in Place programme has failed to deliver the change communities were promised. So, £1.5 billion across 75 neighbourhoods across the UK might sound impressive, but when the highest award any community can receive is £20 million over a decade, that's a drop in the ocean. Short-change for hanging baskets and murals while our town centres become crime ridden, fall into disrepair and become more hostile to visitors, with traditional businesses slowly being replaced by unsightly phone repair shops, neon-signed vape stores and cash-only barbers. The Welsh Labour Government has made Wales one of the most unattractive places to run a business for many reasons.
One of the areas where town-centre decay is most evident is Rhyl, in my constituency, where Plaid Cymru Senedd Members will shortly be marching through the poorest ward in Wales, stoking separatist division and advocating for independence, which, according to the Secretary of State for Wales, would cost £21 billion. It beggars belief to see a party claiming to care about the regeneration of town centres whilst choosing to march in a community that would be amongst the first to suffer from the economic devastation caused by breaking up the United Kingdom.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno. Dylem gydnabod bod llawer o'n strydoedd mawr, yn anffodus, wedi dod yn lleoedd digalon iawn yn gyffredinol, fel y mae'r cynnig yn nodi, gyda Chymru â'r ail nifer uchaf o siopau gwag yn y DU. Nid yw'r broblem hon yn gyfyngedig i Gymru wrth gwrs, gyda'r rhan fwyaf o drefi y DU y tu allan i Lundain mewn cyflwr o ddirywiad.
Rhaid inni beidio ag anghofio am bandemig COVID-19, fodd bynnag, y grym mwyaf dinistriol i'n strydoedd mawr o bosib, ac mae stryd fawr Prydain wedi profi dirywiad sylweddol a pharhaus ers i'r pandemig COVID-19 ddechrau yn gynnar yn 2020. Mae'r adferiad wedi bod yn anwastad ac yn anghyflawn a'r mis hwn, gwelwn fod nifer yr ymwelwyr, gwerthiant a niferoedd siopau yn dal i lusgo ar ôl y lefelau cyn 2020, yn anffodus. Mae busnesau'n cau ar y gyfradd gyflymaf ers blynyddoedd. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Cymru bellach sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU, ar ddim ond 70.8 y cant, ac mae anweithgarwch economaidd yn parhau i fod yn uwch nag unman arall ym Mhrydain.
Mae'r rhaglen Balchder Bro fel y'i gelwir wedi methu cyflawni'r newid a addawyd i gymunedau. Felly, gallai £1.5 biliwn ar draws 75 o gymdogaethau ledled y DU swnio'n drawiadol, ond pan fydd y dyfarniad uchaf y gall unrhyw gymuned ei dderbyn yn £20 miliwn dros ddegawd, diferyn bach yn y môr yw hynny. Arian mân ar gyfer basgedi crog a murluniau tra bo'r stryd fawr yn dirywio, yn llawn troseddu ac yn dod yn llefydd mwy annymunol i ymwelwyr, gyda siopau trwsio ffonau symudol, siopau gwerthu fêps a'u harwyddion neon a barbwyr arian parod yn unig yn graddol gymryd lle busnesau traddodiadol. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud Cymru yn un o'r lleoedd mwyaf annymunol i redeg busnes am sawl rheswm.
Un o'r ardaloedd lle mae dirywiad canol y dref yn fwyaf amlwg yw'r Rhyl, yn fy etholaeth i, lle bydd Aelodau Plaid Cymru o'r Senedd yn gorymdeithio drwy'r ward dlotaf yng Nghymru cyn hir, gan ysgogi ymraniadau ymwahanwyr ac yn dadlau dros annibyniaeth, a fyddai, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn costio £21 biliwn. Mae'n anhygoel gweld plaid yn honni ei bod yn poeni am adfywio canol y dref gan ddewis gorymdeithio mewn cymuned a fyddai ymhlith y cyntaf i ddioddef o'r dinistr economaidd a fyddai'n cael ei achosi gan chwalu'r Deyrnas Unedig.
Will you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
And let's be clear, this is not a local movement rising from the streets of Rhyl; many of those taking part are being bused in from other parts of Wales. They are not coming to Rhyl to listen to local people, but to lecture them. They increasingly claim ownership of Welsh identity as though being Welsh depends on agreeing with their political world view, and they resent the deep and historic ties that communities like Rhyl have with the north-west of England—links that have brought jobs, tourism and opportunities for generations.
A gadewch inni fod yn glir, nid mudiad lleol sy'n codi o strydoedd y Rhyl yw hwn; mae llawer o'r rheini sy'n cymryd rhan yn cael eu cludo mewn bysiau o rannau eraill o Gymru. Nid ydynt yn dod i'r Rhyl i wrando ar bobl leol, ond i bregethu wrthynt. Maent yn hawlio perchnogaeth gynyddol ar hunaniaeth Gymreig fel pe bai bod yn Gymry'n dibynnu ar gytuno â'u byd-olwg wleidyddol, ac maent yn casáu’r cysylltiadau dwfn a hanesyddol sydd gan gymunedau fel y Rhyl â gogledd-orllewin Lloegr—cysylltiadau sydd wedi dod â swyddi, twristiaeth a chyfleoedd ers cenedlaethau.
Gareth, will you take an intervention?
Gareth, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
I won't, sorry, no. You had five minutes to speak, Llyr.
Towns like Rhyl need to see investment, and they need to be made attractive to businesses, bringing the culture back to the streets. But those who plan to go there to sow division are not welcome to speak for a town they neither know nor understand. Towns like Rhyl deserve regeneration, not rhetoric. It deserves investment, not ideology. And it deserves leaders who will bring people together, not drive them apart.
But it's difficult to begin the process of regeneration whilst under Keir Starmer's Labour Government. Britain has been plunged into a £50 billion black hole, with Rachel Reeves's tax hikes compounding the issue with desperate borrowing too. Add to that a planning system that is cumbersome, outdated and anti-enterprise, and local councils struggle to shape their high streets because the Welsh Government refuses to reform the rules that could promote mixed use, homes above shops, cultural spaces and modern retail.
That is why the Welsh Conservatives are calling for a new deal for Welsh high streets that's practical, ambitious, and community led. We want to scrap business rates for small businesses, giving traders a fair chance to survive; improve access to free parking so that people can actually visit their town centres again; amend the planning system; establish a seaside towns fund and a market towns fund; and work with the National Lottery community. This is a plan built on empowerment, not bureaucracy. Communities are crying out for quality, variety and pride, not the lowest common denominator.
Labour and Plaid Cymru have both had their chances to act, and they've both failed: Labour through complacency and central control, and Plaid through co-operation and abstention. Between them, they've hollowed out our economy and betrayed the small businesses that keep Wales working. So, let's turn over a new leaf. Let's back those who actually believe in enterprise and local pride, rather than initiatives that go nowhere and achieve nothing. Let's give Welsh towns the freedom to thrive again. Thank you very much.
Na wnaf, mae'n ddrwg gennyf, na. Fe gawsoch chi bum munud i siarad, Llyr.
Mae angen i drefi fel y Rhyl weld buddsoddiad, ac mae angen eu gwneud yn ddeniadol i fusnesau, gan ddod â'r diwylliant yn ôl i'r strydoedd. Ond nid oes croeso i'r rhai sy'n bwriadu mynd yno i hau ymraniadau siarad ar ran tref nad ydynt yn ei hadnabod nac yn ei deall. Mae trefi fel y Rhyl yn haeddu adfywiad, nid rhethreg. Mae'n haeddu buddsoddiad, nid ideoleg. Ac mae'n haeddu arweinwyr a ddaw â phobl at ei gilydd, nid eu gyrru ar wahân.
Ond mae'n anodd dechrau'r broses o adfywio o dan Lywodraeth Lafur Keir Starmer. Mae Prydain wedi cael ei llusgo i dwll du gwerth £50 biliwn, gyda chodiadau treth Rachel Reeves yn gwaethygu pethau a benthyca enbyd hefyd. Ychwanegwch at hynny system gynllunio sy'n feichus, wedi dyddio ac yn wrth-fenter, ac mae cynghorau lleol yn cael trafferth siapio eu strydoedd mawr oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod diwygio'r rheolau a allai hyrwyddo defnydd cymysg, cartrefi uwchben siopau, mannau diwylliannol a siopau modern.
Dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am fargen newydd i strydoedd mawr Cymru sy'n ymarferol, yn uchelgeisiol ac yn cael ei harwain gan y gymuned. Rydym am ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, gan roi cyfle teg i fasnachwyr oroesi; gwella mynediad at barcio am ddim fel y gall pobl ymweld â chanol eu trefi eto; diwygio'r system gynllunio; sefydlu cronfa trefi glan môr a chronfa trefi marchnad; a gweithio gyda chymuned y Loteri Genedlaethol. Mae hwn yn gynllun wedi'i adeiladu ar rymuso, nid biwrocratiaeth. Mae cymunedau yn crefu am ansawdd, amrywiaeth a balchder, nid 'gwneud y tro' yn unig.
Mae Llafur a Phlaid Cymru ill dwy wedi cael eu cyfle i weithredu, ac mae'r ddwy blaid wedi methu: Llafur drwy hunanfodlonrwydd a rheolaeth ganolog, a Phlaid Cymru drwy gydweithio ac ymatal. Rhyngddynt, maent wedi diberfeddu ein heconomi ac wedi bradychu'r busnesau bach sy'n cadw Cymru i weithio. Felly, gadewch inni droi dalen newydd. Gadewch inni gefnogi'r rhai sy'n credu mewn menter a balchder lleol, yn hytrach na chynlluniau sy'n mynd i unman ac yn cyflawni dim. Gadewch inni roi rhyddid i drefi Cymru ffynnu eto. Diolch yn fawr.
I don't know how to follow that. The death of the high street has been a topic of discussion for many years in this place, and it was discussed in this Senedd back in 2019. Six years on, and we're still trying to turn the tide. We need to firstly ask how we got here. Well, Professor Dylan Jones-Evans said that the causes of high-street vacancy are absentee landlords, broken tax policies, outdated stock and policy gaps. But the solutions are also clear: visibility of ownership, affordable terms, modernised premises, financial support and local co-ordination.
As we've heard from John Griffiths this afternoon, work is being done by some councils, like Newport in my region, but the situation there has been much the same for the last decade. In 2015, the vacancy rate in the city was about 29.3 per cent, which made it one of the worst performers in the UK at that time. Fast forward a decade, and Newport now has the single highest vacancy rate at 19 per cent. While this is an improvement, it has clearly not kept pace with other areas. Not enough has been done by successive Labour Governments to stave off this issue, and that needs to change.
We also know that there are examples of best practice here in Wales. We've seen Bangor's local chamber of trade seeking to bring together landlords, local businesses and community stakeholders to change that. They have devised plans to develop small, manageable units as ideal spaces for independents. We know that our strategy towards the high street needs to be reimagined, and that we can look to our own communities to see how this could be done.
But the key question is: what is being done to ensure best practice is implemented? For me, one of the answers is evident: our communities need a voice. We must ensure that communities have a strong say in their local area. The Institute of Welsh Affairs have asserted that Welsh communities are the least empowered in Britain, with a right to buy existing in Scotland and a right to bid in England. We have no such thing in Wales. As we have mentioned, and as we've heard here in this debate, one of the main issues facing our high street is absentee landlords, and two of the solutions are visibility of ownership and local co-ordination. A community right to buy could be the difference for many high streets, improving local entrepreneurship, supporting local businesses, improving the town-centre economy, sense of community and local owned wealth. The benefits are huge, and we need to bring forward legislation to strengthen these powers for our towns, our communities, and our people.
And from what I've heard in this debate today, the call is clear to the Cabinet Secretary: we have to stop talking about it and get it done. Diolch.
Nid wyf yn gwybod sut i ddilyn hynny. Mae marwolaeth y stryd fawr wedi bod yn destun trafodaeth ers blynyddoedd lawer yn y lle hwn, ac fe'i trafodwyd yn y Senedd yn ôl yn 2019. Chwe blynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i geisio troi'r llanw. Mae angen inni ofyn yn gyntaf sut y gwnaethom gyrraedd yma. Wel, dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans mai landlordiaid absennol, polisïau treth toredig, stoc sydd wedi dyddio a bylchau polisi sy'n gyfrifol am unedau gwag ar y stryd fawr. Ond mae'r atebion hefyd yn glir: gwelededd perchnogaeth, telerau fforddiadwy, adeiladau wedi'u moderneiddio, cymorth ariannol a chydgysylltiad lleol.
Fel y clywsom gan John Griffiths y prynhawn yma, mae gwaith yn cael ei wneud gan rai cynghorau, fel Casnewydd yn fy rhanbarth i, ond mae'r sefyllfa yno wedi bod yr un peth dros y degawd diwethaf. Yn 2015, roedd y gyfradd o unedau gwag yn y ddinas oddeutu 29.3 y cant, a oedd yn ei gwneud yn un o'r perfformwyr gwaethaf yn y DU ar y pryd. Ddegawd yn ddiweddarach, Casnewydd bellach sydd â'r gyfradd uchaf o unedau gwag ar 19 y cant. Er ei fod yn welliant, mae'n amlwg nad yw wedi gwella ar yr un cyflymder â mannau eraill. Nid oes digon wedi'i wneud gan Lywodraethau Llafur olynol i atal y broblem, ac mae angen i hynny newid.
Fe wyddom hefyd fod enghreifftiau o arfer gorau yma yng Nghymru. Rydym wedi gweld siambr fasnach leol Bangor yn ceisio dod â landlordiaid, busnesau lleol a rhanddeiliaid cymunedol at ei gilydd i newid hynny. Maent wedi dyfeisio cynlluniau i ddatblygu unedau bach, hawdd eu rheoli fel mannau delfrydol i siopau annibynnol. Fe wyddom fod angen ailddychmygu ein strategaeth tuag at y stryd fawr, ac y gallwn edrych ar ein cymunedau ein hunain i weld sut y gellid gwneud hyn.
Ond y cwestiwn allweddol yw: beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod arfer gorau yn cael ei weithredu? I mi, mae un o'r atebion yn amlwg: mae angen i'n cymunedau gael llais. Rhaid inni sicrhau bod gan gymunedau lais cryf yn eu hardal leol. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi honni mai cymunedau Cymreig yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf ym Mhrydain, gyda hawl i brynu yn bodoli yn yr Alban a hawl i wneud cais yn Lloegr. Nid oes gennym y fath beth yng Nghymru. Fel rydym wedi sôn, ac fel rydym wedi clywed yma yn y ddadl hon, un o'r prif broblemau sy'n wynebu ein stryd fawr yw landlordiaid absennol, a dau o'r atebion yw gwelededd perchnogaeth a chydgysylltiad lleol. Gallai hawl y gymuned i brynu wneud gwahaniaeth i lawer o strydoedd mawr, gan wella entrepreneuriaeth leol, cefnogi busnesau lleol, gwella economi canol y dref, ymdeimlad o gymuned a chyfoeth mewn dwylo lleol. Mae'r manteision yn enfawr, ac mae angen inni gyflwyno deddfwriaeth i gryfhau'r pwerau hyn i'n trefi, ein cymunedau, a'n pobl.
Ac o'r hyn a glywais yn y ddadl hon heddiw, mae'r alwad yn glir i Ysgrifennydd y Cabinet: rhaid inni roi'r gorau i siarad amdano a'i wneud. Diolch.
[Inaudible.]—bit of a mess, really. It's the debate we had been having five years ago, 10 years ago. Similar themes emerge. We look for magic bullets, we look for free car parking, we look for abolishing business rates. It's a pretty barren scene, really. I did an exercise just over two and a half years ago with a series of experts and practitioners, where essentially we forced them all to be stuck in a room until we could come up with practical solutions. And, actually, the practical solutions are not many of the things that have been mentioned in the debate.
This is a gnarly and knotty problem, and at its heart is economics. The business model of the town centre that we all grew up with is dead, and how do we find a new one? And it’s worth remembering that two thirds of properties in town centres are not associated with retail. So, even though, clearly, the business model of retail has been enormously disrupted, first by supermarkets—enormously, a huge impact on the shops that we all remember—and also obviously by online shopping and, crucially, out-of-town shopping—. Now, all of those things—and you throw the COVID pandemic into the mix, which shut a number of businesses that haven't reopened—that’s where you have the fundamental cause of the problem that we're trying to grapple with, and I haven't heard much from anyone in this debate to address those fundamental economic issues, other than things like free car parking, which has been debated for years, and there's very little evidence to show its efficacy.
What we are seeing is out-of-town sheds with large amounts of land dedicated to cars that is untaxed, and we have an unlevel playing field. Simply making car parking in town centres free not only denudes the local authority of revenue, doesn't address the 25 per cent of people who don't have access to a car, but simply compounds the problem.
Flowing from that, we've seen the way that the planning system and businesses have put their investments. It is much cheaper for a business to build an out-of-town shed than it is to redevelop a town centre property. Then you have an incentive there. We see the volume house builders building large estates at edge-of-town developments, so people are driving to and from them. The houses and neighbourhoods around the town centres are becoming places where lower-income households live, and so the shops that remain in town centres tend to cater for them, which is then often not attracting in families who are now living on the edge of town and going to out-of-town retail developments.
Again, none of these are easily solved, but they can be addressed through co-ordination. Peredur Owen Griffiths mentioned Dylan Jones-Evans's work here. The co-ordination of efforts is critical. The work that Professor Karel Williams did in his report for the Welsh Government, 'Small Towns, Big Issues' by Foundational Economy Research, looked at Bangor, Haverfordwest and Bridgend and how some of these things can be improved.
Bangor, where I spent some time, is a really good example of disjointed agency at the moment. There, we had the example of the FE college moving from the town centre to Parc Menai, an out-of-town development, because the Welsh Government's economy department gave them a free building. The Welsh Government's education department paid for them to upgrade it, and then the town centre team was scratching their head saying, 'Why are they leaving the town centre?'
Those are some of the things that have been going on. We need a long-term plan where all the agencies, including FE, housing, universities, all the different public sector bodies and the private sector say, 'What buildings are going to be falling out of use in the next decade? How can we get more housing in town centres? How can we create a different offer that attracts people in?' Because the world as we knew it has gone, and simply abolishing business rates or providing free car parking is not going to bring it back. It's a far more complex tapestry we require than that. I'm afraid our rather glib debate on these things is getting us nowhere. The fix is much more complex and involves far more partners in a granular way than many of the solutions in this debate often suggest. Diolch.
[Anghlywadwy.]—ychydig o lanast, mewn gwirionedd. Dyma'r ddadl yr oeddem wedi bod yn ei chael bum mlynedd yn ôl, 10 mlynedd yn ôl. Mae themâu tebyg yn dod i'r amlwg. Rydym yn chwilio am fwledi hud, rydym eisiau parcio am ddim, rydym eisiau i ardrethi busnes gael eu diddymu. Mae'n olygfa eithaf diffaith, mewn gwirionedd. Fe gynhaliais ymarfer ychydig dros ddwy flynedd a hanner yn ôl gyda chyfres o arbenigwyr ac ymarferwyr, lle gwnaethom eu gorfodi i bob pwrpas i gael eu cau mewn ystafell hyd nes y gallem ddod o hyd i atebion ymarferol. Ac mewn gwirionedd, nid yr hyn a nodwyd yn y ddadl oedd llawer o'r atebion ymarferol hynny.
Mae hon yn broblem gymhleth, ac mae economeg yn ganolog iddi. Mae model busnes canol y dref yr ydym i gyd wedi tyfu i fyny gydag ef wedi marw, a sut y mae dod o hyd i un newydd? Ac mae'n werth cofio nad yw dwy ran o dair o'r eiddo yng nghanol trefi yn gysylltiedig â manwerthu. Felly, er bod y model busnes manwerthu wedi ei amharu'n aruthrol, yn gyntaf gan archfarchnadoedd—yn enfawr, effaith enfawr ar y siopau y mae pawb ohonom yn eu cofio—a hefyd yn amlwg gan siopa ar-lein ac yn allweddol, siopau ar gyrion y dref—. Nawr, yr holl bethau hynny—ac ychwanegwch at y cymysgedd y pandemig COVID, a gaeodd nifer o fusnesau nad ydynt wedi ailagor—dyna lle mae gennych achos sylfaenol y broblem y ceisiwn fynd i'r afael â hi, ac nid wyf wedi clywed llawer gan unrhyw un yn y ddadl hon i fynd i'r afael â'r materion economaidd sylfaenol hynny, heblaw am bethau fel parcio ceir am ddim, y bu trafod arno ers blynyddoedd, ac ychydig iawn o dystiolaeth sydd yna i ddangos ei effeithiolrwydd.
Yr hyn a welwn yw siediau y tu allan i'r dref gyda llawer iawn o dir wedi'i neilltuo i geir sydd heb ei drethu, ac mae gennym sefyllfa anghyfartal iawn. Mae gwneud parcio ceir yng nghanol trefi yn rhad ac am ddim nid yn unig yn amddifadu'r awdurdod lleol o refeniw, nid yw chwaith yn cynnwys y 25 y cant o bobl nad oes ganddynt gar at eu defnydd, ac yn syml iawn, mae'n gwaethygu'r broblem.
Yn deillio o hynny, rydym wedi gweld y ffordd y mae'r system gynllunio a busnesau wedi gwneud eu buddsoddiadau. Mae'n llawer rhatach i fusnes adeiladu sied ar gyrion y dref nag ailddatblygu eiddo yng nghanol y dref. Hefyd, mae gennych gymhelliant yno. Rydym yn gweld yr adeiladwyr tai mawr yn adeiladu ystadau mawr mewn datblygiadau ar gyrion y dref, felly mae pobl yn gyrru iddynt. Mae'r tai a'r cymdogaethau o amgylch canol y dref yn dod yn lleoedd lle mae aelwydydd incwm is yn byw, ac felly mae'r siopau sy'n aros yng nghanol trefi yn tueddu i ddarparu ar eu cyfer nhw, a heb fod yn denu teuluoedd sydd bellach yn byw ar gyrion y dref ac yn mynd i ddatblygiadau manwerthu y tu allan i'r dref.
Unwaith eto, nid yw'r un o'r rhain yn hawdd eu datrys, ond gellir mynd i'r afael â nhw drwy gydgysylltu. Soniodd Peredur Owen Griffiths am waith Dylan Jones-Evans yma. Mae cydgysylltu ymdrechion yn hanfodol. Edrychodd y gwaith a wnaeth yr Athro Karel Williams yn ei adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru, 'Trefi Bach a Materion Mawr' gan Ymchwil Economi Sylfaenol, ar Fangor, Hwlffordd a Phen-y-bont ar Ogwr a sut y gellir gwella rhai o'r pethau hyn.
Mae Bangor, lle treuliais ychydig o amser, yn enghraifft dda iawn o asiantaeth ddigyswllt ar hyn o bryd. Yno, cawsom enghraifft o goleg addysg bellach yn symud o ganol y dref i Barc Menai, datblygiad y tu allan i'r dref, oherwydd bod adran economi Llywodraeth Cymru wedi rhoi adeilad am ddim iddynt. Talodd adran addysg Llywodraeth Cymru iddynt ei uwchraddio, ac yna roedd tîm canol y dref yn crafu eu pennau a'n dweud, 'Pam y maent yn gadael canol y dref?'
Dyna rai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd. Mae angen cynllun hirdymor lle mae'r holl asiantaethau, gan gynnwys addysg bellach, tai, prifysgolion, yr holl wahanol gyrff sector cyhoeddus a'r sector preifat yn dweud, 'Pa adeiladau na fyddant yn cael eu defnyddio yn y degawd nesaf? Sut y gallwn ni gael mwy o dai yng nghanol trefi? Sut y gallwn ni greu cynnig gwahanol sy'n denu pobl i mewn?' Oherwydd mae'r byd fel roeddem yn ei adnabod wedi mynd, ac nid yw diddymu ardrethi busnes neu ddarparu parcio am ddim yn mynd i ddod ag ef yn ôl. Rydym angen tapestri llawer mwy cymhleth na hynny. Rwy'n ofni nad yw ein dadl go arwynebol ar y pethau hyn yn mynd â ni i unman. Mae'r ateb yn llawer mwy cymhleth ac yn cynnwys llawer mwy o bartneriaid mewn ffordd ronynnog nag y mae llawer o'r atebion yn y ddadl hon yn aml yn awgrymu. Diolch.
If I may start with that final point from Lee Waters, our second call in the motion—the first one in the third point—is to ask for a comprehensive strategy for town centre regeneration, setting out a long-term vision for town centres. So, that strategic approach for the long term has to be there—a new vision, a new reimagining. I remember I had very productive discussions with you when you were Minister on this area, specifically around where flooding featured in the Transforming Towns programme, something that I would like to discuss during today's debate, because our town centres, our high streets, do matter, and we do need to find those long-term solutions.
As many of you know, I live in Pontypridd. My office is in Pontypridd on the high street. It's a town with a number of much-loved independent shops. Our market is much smaller but still thriving. Many are award-winning as well. In the past month, Tipsy Owl has won the 'best bar in Wales' award at the Welsh Hospitality Awards. Manjeera Indian Street Food won the title 'best street food in Wales' at the Food Awards Wales, so definitely worth a visit.
But it is a town centre that's struggling for so many different reasons, as we've heard already: boarded-up shops are common, banks lying empty, and so on. The footfall is significantly lower than what it used to be, apart from, of course, when you have things like the National Eisteddfod there. But it did show even then with the National Eisteddfod how important it was to have excellent public transport links, and the difference that made to have frequent, reliable trains, and how the traffic flowed so swiftly through Pontypridd during that week, when people had been so concerned otherwise.
As I mentioned, the additional challenge in towns like Pontypridd that have frequent flooding is how do they make themselves resilient. Mill Street in Pontypridd is an example cited often by the Welsh Government in saying about one coffee shop that reopened quickly after storm Bert last year because of investment. But there were many other businesses that were empty for much longer. Because one business wasn't flooded as bad in that flood doesn't mean that the situation is solved.
The frustration for me often is that there may be grants available for individual businesses, but we don't see a whole-town approach taken, and how all businesses become resilient. As one business told me, 'Yes, I can have floodgates, flood prevention measures on my business, but unless the property next door to me has those, or the one the other side, then I'm still going to have damage, and, actually, the water's just going to get trapped in my shop.' So, we need to think of that resilience and think if the money that we are spending is the best way. But rules and regulations at the moment stop us from taking that whole-town approach.
What I would ask, as part of taking this work forward and ensuring a future for our town centres, is the need to look holistically at towns that will flood regularly and look at how best do we support the businesses and those that want to develop homes, et cetera, in these towns, so that they can remain open. I would like to hear from the Cabinet Secretary in the response how that is reflected.
Obviously, there's the Pride in Place fund, the £214 million. How is that going to help towns like Pontypridd? I've also been conducting surveys in Aberdare, and it's really depressing to see from the shops there, when I asked the question, 'How do you see the future for small businesses?' that only 3.6 per cent really felt optimistic. Most thought it was poor, fair, or no future at all. So, we need to work with our town centres to find solutions.
Yes, business rates came up, but absentee landlords and poor building maintenance came up a lot as well. People don't know how to contact landlords often, don't get responses, and they're in buildings that are unsafe, and that creates not only ugly sites, but dangerous sites within our town centers. In terms of local ownership and right to buy, we need to ensure that this is something that's tackled.
There's too often debate; we need to see movement on this, so that we can secure, yes, a future for our town centres and the high street, but a new and new-imagined future that is sustainable and helps them be resilient to the challenges, such as those posed by flooding and increased risk with climate change.
Os caf ddechrau gyda'r pwynt olaf gan Lee Waters, ein hail alwad yn y cynnig—y gyntaf yn y trydydd pwynt—yw gofyn am strategaeth gynhwysfawr ar gyfer adfywio canol trefi, gan nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer canol trefi. Felly, mae'n rhaid i'r dull strategol hwnnw ar gyfer y tymor hir fod yno—gweledigaeth newydd, ailddychmygu'r cyfan. Rwy'n cofio cael trafodaethau cynhyrchiol iawn gyda chi pan oeddech yn Weinidog ar y maes hwn, yn benodol ynghylch lle roedd llifogydd yn rhan o raglen Trawsnewid Trefi, rhywbeth yr hoffwn ei drafod yn ystod y ddadl heddiw, gan fod canol ein trefi, ein strydoedd mawr, yn bwysig, ac mae angen inni ddod o hyd i'r atebion hirdymor hynny.
Fel y gŵyr llawer ohonoch, rwy'n byw ym Mhontypridd. Mae fy swyddfa ym Mhontypridd ar y stryd fawr. Mae'n dref gyda nifer o siopau annibynnol poblogaidd iawn. Mae ein marchnad yn llawer llai ond yn dal i ffynnu. Mae llawer ohonynt wedi ennill gwobrau hefyd. Yn y mis diwethaf, mae Tipsy Owl wedi ennill gwobr y 'bar gorau yng Nghymru' yng Ngwobrau Lletygarwch Cymru. Enillodd Manjeera Indian Street Food deitl y 'bwyd stryd gorau yng Nghymru' yng Ngwobrau Bwyd Cymru, felly mae'n bendant yn werth ymweld.
Ond mae canol y dref yn ei chael hi'n anodd am gynifer o resymau gwahanol, fel rydym eisoes wedi'i glywed: mae siopau wedi'u bordio yn gyffredin, mae'r banciau'n wag, ac yn y blaen. Mae nifer yr ymwelwyr yn sylweddol is nag yr arferai fod, ar wahân, wrth gwrs, i pan fydd gennych bethau fel yr Eisteddfod Genedlaethol yno. Ond hyd yn oed bryd hynny gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, dangoswyd pa mor bwysig oedd cael cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol, a'r gwahaniaeth y gwnaeth trenau mynych a dibynadwy, a sut y gwnaeth y traffig lifo mor gyflym drwy Bontypridd yn yr wythnos honno, pan oedd pobl wedi poeni cymaint fel arall.
Fel y soniais, yr her ychwanegol mewn trefi fel Pontypridd sy'n cael llifogydd yn aml yw sut y maent yn gwneud eu hunain yn wydn. Mae Stryd y Felin ym Mhontypridd yn enghraifft a nodir yn aml gan Lywodraeth Cymru wrth sôn am un siop goffi a ailagorodd yn fuan ar ôl storm Bert y llynedd o ganlyniad i fuddsoddiad. Ond roedd llawer o fusnesau eraill yn wag yn llawer hirach. Nid yw'r ffaith na chafodd un busnes ei effeithio mor wael gan y llifogydd hynny'n golygu bod y sefyllfa wedi'i datrys.
Y rhwystredigaeth i mi yn aml yw y gallai fod grantiau ar gael i fusnesau unigol, ond nid ydym yn gweld dull tref gyfan ar waith, a sut y daw pob busnes yn wydn. Fel y dywedodd un busnes wrthyf, 'Gallaf gael llifddorau, mesurau atal llifogydd yn fy musnes, ond oni bai bod gan yr eiddo drws nesaf i mi y pethau hynny hefyd, neu'r un ar yr ochr arall, byddaf yn dal i gael difrod, ac mewn gwirionedd, bydd y dŵr yn cael ei gau i mewn yn fy siop i.' Felly, mae angen inni feddwl am y gwydnwch hwnnw a meddwl ai'r arian a wariwn yw'r ffordd orau. Ond mae rheolau a rheoliadau yn ein hatal ar hyn o bryd rhag gweithredu dull tref gyfan.
Yr hyn rwyf am ei ofyn, fel rhan o'r broses o fwrw ymlaen â'r gwaith hwn a sicrhau dyfodol i ganol ein trefi, yw'r angen i edrych yn gyfannol ar drefi a fydd yn wynebu llifogydd yn rheolaidd ac edrych ar y ffordd orau o gefnogi'r busnesau a'r rhai sydd eisiau datblygu cartrefi, ac ati, yn y trefi hyn, fel y gallant aros ar agor. Hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb sut y caiff hynny ei adlewyrchu.
Yn amlwg, mae gennym gronfa Balchder Bro, y £214 miliwn. Sut y mae honno'n mynd i helpu trefi fel Pontypridd? Rwyf hefyd wedi bod yn cynnal arolygon yn Aberdâr, ac mae'n wirioneddol ddigalon clywed gan y siopau yno, pan ofynnais y cwestiwn, 'Sut rydych chi'n gweld y dyfodol i fusnesau bach?', mai dim ond 3.6 y cant sy'n teimlo'n wirioneddol optimistaidd. Roedd y rhan fwyaf yn credu y bydd yn ddyfodol gwael, gweddol, neu'n ddim dyfodol o gwbl. Felly, mae angen inni weithio gyda chanol ein trefi i ddod o hyd i atebion.
Do, fe gododd ardrethi busnes, ond cododd landlordiaid absennol a diffyg gwaith cynnal a chadw ar adeiladau yn aml hefyd. Yn aml, nid yw pobl yn gwybod sut i gysylltu â landlordiaid, nid ydynt yn cael ymateb, ac maent mewn adeiladau sy'n anniogel, ac mae hynny nid yn unig yn creu safleoedd hyll, ond safleoedd peryglus yng nghanol ein trefi. O ran perchnogaeth leol a'r hawl i brynu, mae angen inni sicrhau bod hyn yn rhywbeth yr eir i'r afael ag ef.
Mae dadleuon yn codi'n rhy aml; mae angen inni weld camau gweithredu ar hyn, fel y gallwn sicrhau, ie, dyfodol i ganol ein trefi a’r stryd fawr, ond dyfodol newydd wedi'i ailddychmygu sy’n gynaliadwy ac sy'n eu helpu i fod yn wydn rhag yr heriau, fel y rhai a achosir gan lifogydd a risgiau uwch gyda newid hinsawdd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.
I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government, Jayne Bryant.

Diolch, Deputy Llywydd. I welcome the opportunity to respond to the debate today. I won't be able to respond to all the contributions, but I think it shows, the amount of people who have contributed today, just how much everybody across all parties cares about our town centres.
Our town centres are not just economic units on a spreadsheet, they are the beating heart of our communities. They're where stories are shared, where small businesses take their first steps, and where local pride lives and breathes. But let's be honest, though, the challenges are real. We know what they are, and many people have said that again today. But it's not just that the data says that, it's Mrs Jones in Abertillery travelling miles for basic banking, or young people in Bangor looking at boarded-up shop fronts and wondering if there's a future there. But here's the difference: we're not wringing our hands, we're acting.
Through Transforming Towns, we've delivered more than £100 million since 2022, with another £57 million on the way. That's funding that's already creating mixed-use spaces, green infrastructure, and active travel links, breathing life back into our high streets. We've set up the empty property enforcement fund, helping councils bring long-term vacant buildings back into use, turning liabilities into local assets. Soon, I'll be publishing our new empty property handbook, a practical made-in-Wales guide to help communities take control of their own spaces.
We've responded to the banking closures by convening a second Banking in Welsh Communities event and supporting the roll-out of banking hubs, with 11 now open. Mark.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw. Ni fyddaf yn gallu ymateb i'r holl gyfraniadau, ond credaf fod nifer y bobl sydd wedi cyfrannu heddiw yn dangos cymaint y mae pawb ar draws pob plaid yn poeni am ganol ein trefi.
Nid unedau economaidd ar daenlen yn unig yw canol ein trefi, ond calon ein cymunedau. Dyma ble mae storïau'n cael eu rhannu, lle mae busnesau bach yn cymryd eu camau cyntaf, a lle mae balchder lleol yn byw ac yn anadlu. Ond gadewch inni fod yn onest, serch hynny, mae'r heriau'n real. Gwyddom beth ydynt, ac mae llawer o bobl wedi dweud hynny eto heddiw. Ond nid yn unig fod y data'n dweud hynny, mae Mrs Jones yn Abertyleri yn teithio milltiroedd am wasanaeth bancio sylfaenol, neu bobl ifanc ym Mangor yn edrych ar siopau â'u ffenestri wedi'u bordio ac yn meddwl tybed a oes dyfodol yno. Ond dyma'r gwahaniaeth: nid gwasgu ein dwylo mewn anobaith a wnawn, rydym yn gweithredu.
Drwy Trawsnewid Trefi, rydym wedi darparu mwy na £100 miliwn ers 2022, gyda £57 miliwn arall ar y ffordd. Mae hwnnw'n gyllid sydd eisoes yn creu mannau defnydd cymysg, seilwaith gwyrdd, a chysylltiadau teithio llesol, gan adfywio ein strydoedd mawr. Rydym wedi sefydlu'r gronfa orfodi ym maes eiddo gwag, gan helpu cynghorau i ddod ag adeiladau sydd wedi bod yn wag ers tro yn ôl i ddefnydd, gan droi rhwymedigaethau yn asedau lleol. Cyn bo hir, byddaf yn cyhoeddi ein llawlyfr eiddo gwag newydd, canllaw ymarferol a wnaed yng Nghymru i helpu cymunedau i reoli eu gofodau eu hunain.
Rydym wedi ymateb i gau banciau drwy gynnull ail ddigwyddiad Bancio yng Nghymunedau Cymru a chefnogi'r broses o agor hybiau bancio, gydag 11 bellach ar agor. Mark.
I was just wondering what consideration you've given since the publication of the Public Accounts and Public Administration Committee report on town centres in January 2024, which made a series of recommendations to the Welsh Government, many of which were accepted, and included reports on visits to Mold, Wrexham and Swansea.
Tybed pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ganol trefi ym mis Ionawr 2024, a wnaeth gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru, y derbyniwyd llawer ohonynt, ac a oedd yn cynnwys adroddiadau ar ymweliadau â'r Wyddgrug, Wrecsam ac Abertawe.
And Morriston.
A Threforys.
And Morriston as well. Sorry. Thank you.
A Threforys hefyd. Mae’n ddrwg gennyf. Diolch.
Diolch, Mark. Obviously, as we've talked about, there's been much research and much information that's come out from Senedd committees and others around this, and it is something that people deeply care about. I'll come on to some of the things that we are doing. But in terms of our banking hubs, we've got 11 now open, including in Abertillery, and two more on the way. These hubs are helping to restore access to cash and banking services, particularly for older people and those in rural areas.
Diolch, Mark. Yn amlwg, fel rydym wedi'i drafod, mae llawer o ymchwil a llawer o wybodaeth wedi dod o bwyllgorau'r Senedd ac eraill mewn perthynas â hyn, ac mae'n rhywbeth y mae pobl yn poeni'n fawr amdano. Byddaf yn dod at rai o'r pethau rydym yn eu gwneud. Ond o ran ein hybiau bancio, mae gennym 11 ar agor bellach, gan gynnwys yn Abertyleri, a dwy arall ar y ffordd. Mae'r hybiau hyn yn helpu i adfer mynediad at arian parod a gwasanaethau bancio, yn enwedig i bobl hŷn a'r rhai mewn ardaloedd gwledig.
Will you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yes.
Gwnaf.
The UK Government has said that they've got plans to see the opening of 350 banking hubs by the end of this parliamentary term. We've seen 380 banks close in Wales over the last decade. So, it's nowhere near enough, is it? Would you speak to UK Government colleagues to see if we can increase that number and get more banking hubs in Wales?
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod ganddynt gynlluniau i sicrhau bod 350 o hybiau bancio yn agor erbyn diwedd tymor Senedd y DU. Rydym wedi gweld 380 o fanciau'n cau yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Felly, nid yw'n agos at ddigon. A wnewch chi siarad â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU i weld a allwn gynyddu'r nifer hwnnw a chael mwy o hybiau bancio yng Nghymru?
I think that's something we definitely need to see, and are keen to see. As I said, we are seeing those opening, which is really important for, as I say, older people and those who live in rural areas.
We note the UK Government's Pride in Place programme and the investment that it brings to Wales. However, we have always been clear that financial assistance powers should be abolished and our position on this hasn't changed. We're working with local authorities to ensure the funding complements rather than duplicates our own programmes.
We're also finalising arrangements for the return of post-EU funding, which will see over £500 million invested into Wales, and crucially, decision-making powers rightly returned to the Welsh Government. Nobody understands a community better than the people who live there. That's why local authorities must be at the heart of shaping and delivering the programme.
Deputy Llywydd, I want to take this opportunity to reaffirm the Welsh Government's commitment to supporting our town centres through a co-ordinated, long-term and place-based approach, tackling, as Lee Waters says, what is a very gnarly issue. In response to these challenges and in line with the motion's call for action, I just want to highlight the steps the Welsh Government is taking to support our town centres and the retail sector.
We're delivering the actions set out in the retail action plan, which focuses on people, place and resilience—addressing crime, skills and technological change. The retail forum is a strong example of social partnership working effectively with the private sector in Wales, the partnership that John Griffiths talked about.
We continue to provide substantial support through our rates relief scheme—£335 million this year, including £78 million for retail, leisure and hospitality businesses—and this builds on £1 billion of relief since 2020. We're looking at what more we can do to lower rates for small and medium-sized retailers, recognising the unique challenges faced by bricks-and-mortar businesses, and to rebalance the system in their favour.
We have embedded 'town centre first' principles in our national planning frameworks, as Lee Waters says. Town centres must be the starting point for decisions on the location of public services and facilities. Colleges—and we heard plans in Newport from John Griffiths, with Coleg Gwent—health hubs and other services are increasingly being located in town centres, boosting footfall and supporting local businesses, including in Bangor high street.
We published a town centre position statement, which sets out our national framework for action, and I'd like to thank Lee Waters for all his work in this area. Retail decline, changing consumer habits and the loss of key services require co-ordinated cross-sector responses. And we've established an oversight board to drive delivery of the actions, including improving footfall, repurposing vacant buildings and supporting local economies.
We've heard from Heledd Fychan about the award-winning businesses in Pontypridd. I think Pontypridd is another example where the public sector has come back into the town centre through the council—Rhondda Cynon Taf—and Transport for Wales. We've also established a community assets commission in partnership with Ystadau Cymru to explore innovative models of local ownership and improve systems of community asset transfer. We are progressing the preparatory work at introducing community right to buy, but it will be informed by that commission, and the commission will present its recommendations next month.
Over £1.15 million in Transforming Towns revenue funding has supported placemaking plan development across Wales, and to date 36 plans have been supported, with more in development. But the investment isn't just about policy, it's about real places and real people. As Llyr Gruffydd talked about—the incredible businesses that I've come across and I visited from north to south, east to west, and I'm sure many others have as well. For example, with Gareth Davies, I visited Queen's Market in Rhyl with the leader of Denbighshire County Council, Jason McLellan, and others, which has had £7.3 million in Transforming Towns funding, and is really, really thriving as well. And under the leadership of the Labour-led Newport City Council with Dimitri Batrouni, we've seen that recent figures in Newport have shown more than 83 per cent of premises are now occupied and the number of independents has risen to 70 per cent.
Last week I visited Venue Cymru in Llandudno and saw first-hand the energy and ambition behind the Venue Cymru Futures project. As Wales's second largest arts venue, it plays a vital role in the cultural and economic life of north Wales, and that's why I'm proud that we're supporting its transformation with £2 million to our Transforming Towns programme, building on over £0.5 million already provided for urgent upgrades.
Deputy Llywydd, I realise I'm fast approaching—
Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n bendant angen i ni ei weld, ac rydym yn awyddus i'w weld. Fel y dywedais, rydym yn gweld y rheini'n agor, sy'n wirioneddol bwysig, fel y dywedais, i bobl hŷn a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.
Rydym yn nodi rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU a'r buddsoddiad y mae'n ei sicrhau i Gymru. Fodd bynnag, rydym bob amser wedi nodi'n glir y dylid diddymu pwerau cymorth ariannol ac nid yw ein safbwynt ar hyn wedi newid. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y cyllid yn ategu yn hytrach nag yn dyblygu ein rhaglenni ein hunain.
Rydym hefyd yn cwblhau trefniadau ar gyfer adfer cyllid ôl-UE, a fydd yn golygu buddsoddiad o dros £500 miliwn yng Nghymru, ac yn hollbwysig, pwerau gwneud penderfyniadau'n cael eu rhoi yn ôl, yn gywir ddigon, i Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw un yn deall cymuned yn well na'r bobl sy'n byw yno. Dyna pam y mae'n rhaid i awdurdodau lleol fod wrth wraidd y gwaith o lunio a chyflawni'r rhaglen.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi canol ein trefi drwy ddull cydgysylltiedig, hirdymor sy'n seiliedig ar leoedd, gan fynd i'r afael, fel y dywed Lee Waters, â'r mater hynod gymhleth hwn. Mewn ymateb i'r heriau hyn ac yn unol â galwad y cynnig am gamau gweithredu, hoffwn dynnu sylw at y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi canol ein trefi a'r sector manwerthu.
Rydym yn cyflawni'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun gweithredu manwerthu, sy'n canolbwyntio ar bobl, lle a gwydnwch—gan fynd i'r afael â throseddu, sgiliau a newid technolegol. Mae'r fforwm manwerthu yn enghraifft gref o bartneriaeth gymdeithasol yn gweithio'n effeithiol gyda'r sector preifat yng Nghymru, y bartneriaeth y soniodd John Griffiths amdani.
Rydym yn parhau i ddarparu cymorth sylweddol drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi—£335 miliwn eleni, gan gynnwys £78 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch—ac mae hyn yn adeiladu ar £1 biliwn o ryddhad ers 2020. Rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i leihau ardrethi ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig, gan gydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu busnesau brics a mortar, ac i ailgydbwyso'r system o'u plaid.
Rydym wedi ymgorffori egwyddorion 'canol y dref yn gyntaf' yn ein fframweithiau cynllunio cenedlaethol, fel y dywed Lee Waters. Rhaid i ganol trefi fod yn fan cychwyn ar gyfer penderfyniadau ynghylch lleoliad gwasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus. Mae colegau—a chlywsom gynlluniau yng Nghasnewydd gan John Griffiths, gyda Choleg Gwent—canolfannau iechyd a gwasanaethau eraill yn cael eu lleoli'n fwyfwy aml yng nghanol trefi, gan hybu nifer yr ymwelwyr a chefnogi busnesau lleol, gan gynnwys ar stryd fawr Bangor.
Fe wnaethom gyhoeddi datganiad sefyllfa ar ganol trefi, sy'n nodi ein fframwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu, a hoffwn ddiolch i Lee Waters am ei holl waith yn y maes hwn. Mae angen ymatebion traws-sector cydgysylltiedig er mwyn mynd i'r afael â dirywiad y sector manwerthu, newid yn arferion defnyddwyr a cholli gwasanaethau allweddol. Ac rydym wedi sefydlu bwrdd trosolwg i geisio sicrhau bod y camau gweithredu'n cael eu cyflawni, gan gynnwys gwella nifer yr ymwelwyr, addasu adeiladau gwag at ddibenion gwahanol a chefnogi economïau lleol.
Rydym wedi clywed gan Heledd Fychan am y busnesau sydd wedi ennill gwobrau ym Mhontypridd. Rwy'n credu bod Pontypridd yn enghraifft arall lle mae'r sector cyhoeddus wedi dod yn ôl i ganol y dref drwy'r cyngor—Rhondda Cynon Taf—a Trafnidiaeth Cymru. Rydym hefyd wedi sefydlu comisiwn asedau cymunedol mewn partneriaeth ag Ystadau Cymru i archwilio modelau arloesol o berchnogaeth leol a gwella systemau trosglwyddo asedau cymunedol. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith paratoi ar gyflwyno hawl y gymuned i brynu, ond bydd yn cael ei lywio gan y comisiwn hwnnw, a bydd y comisiwn yn cyflwyno ei argymhellion y mis nesaf.
Mae dros £1.15 miliwn mewn cyllid refeniw Trawsnewid Trefi wedi cefnogi datblygiad cynlluniau creu lleoedd ledled Cymru, a hyd yn hyn, mae 36 o gynlluniau wedi'u cefnogi, gyda rhagor yn cael eu datblygu. Ond mae'r buddsoddiad yn ymwneud â mwy na pholisi yn unig, mae a wnelo â lleoedd go iawn a phobl go iawn. Fel y soniodd Llyr Gruffydd—y busnesau anhygoel yr wyf wedi dod ar eu traws ac wedi ymweld â nhw o'r gogledd i'r de, o'r dwyrain i'r gorllewin, ac rwy'n siŵr fod llawer o bobl eraill wedi ymweld â nhw hefyd. Er enghraifft, gyda Gareth Davies, ymwelais â Marchnad y Frenhines yn y Rhyl gydag arweinydd Cyngor Sir Dinbych, Jason McLellan, ac eraill, cynllun sydd wedi cael £7.3 miliwn mewn cyllid Trawsnewid Trefi, ac sy'n ffynnu'n dda iawn hefyd. Ac o dan arweinyddiaeth Cyngor Dinas Casnewydd dan arweiniad Llafur gyda Dimitri Batrouni, rydym wedi gweld bod ffigurau diweddar yng Nghasnewydd wedi dangos bod mwy nag 83 y cant o safleoedd bellach wedi'u meddiannu a bod nifer y busnesau annibynnol wedi codi i 70 y cant.
Yr wythnos diwethaf, ymwelais â Venue Cymru yn Llandudno a gweld â fy llygaid fy hun yr egni a'r uchelgais y tu ôl i brosiect Dyfodol Venue Cymru. Fel y lleoliad celfyddydau mwyaf ond un yng Nghymru, mae'n chwarae rhan hanfodol ym mywyd diwylliannol ac economaidd y gogledd, a dyna pam rwy'n falch ein bod yn cefnogi ei drawsnewidiad gyda £2 filiwn i'n rhaglen Trawsnewid Trefi, gan adeiladu ar fwy na £0.5 miliwn a ddarparwyd eisoes ar gyfer gwaith uwchraddio brys.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n sylweddoli fy mod yn prysur agosáu—
You've gone past the time.
Rydych chi wedi mynd dros eich amser.
—the end of time. Sorry.
So, the challenges are tough, but we're proving what's possible when government at all levels works with businesses and communities. So, together we're bringing pride, purpose and prosperity back to the heart of our towns. Diolch.
—at ddiwedd fy amser. Mae’n ddrwg gennyf.
Felly, mae'r heriau'n anodd, ond rydym yn profi beth sy'n bosib pan fydd llywodraeth ar bob lefel yn gweithio gyda busnesau a chymunedau. Felly, gyda'n gilydd, rydym yn dod â balchder, pwrpas a ffyniant yn ôl i galon ein trefi. Diolch.
Galwaf ar Luke Fletcher i ymateb i'r ddadl.
I call on Luke Fletcher to reply to the debate.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I appreciated the contributions of all Members in this debate. I think that despite Lee Waters saying that perhaps it wasn't the best debate he's heard, I think there were some valuable contributions throughout that debate. I particularly enjoyed the contributions from the Conservatives. I mean, we had an accusation that people were coming up to Rhyl to lecture them, but, of course, when we tried to make interventions, that wasn't going to happen.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn gwerthfawrogi cyfraniadau'r holl Aelodau i'r ddadl hon. Er i Lee Waters ddweud efallai nad dyma'r ddadl orau y mae wedi'i chlywed, rwy'n credu bod rhai cyfraniadau gwerthfawr wedi'u gwneud drwyddi draw. Mwynheais yn arbennig y cyfraniadau gan y Ceidwadwyr. Hynny yw, cawsom gyhuddiad fod pobl yn dod i'r Rhyl i bregethu wrthynt, ond wrth gwrs, pan wnaethom geisio ymyrryd, nid oedd hynny'n mynd i ddigwydd.
Would you take an intervention on that, then?
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny, felly?
Of course.
Wrth gwrs.
Do you share my disappointment at the rather condescending comments from the Member for the Vale of Clwyd towards the independence rally that's going to be held in Rhyl this Saturday—1 p.m. the march starts, by the way—because that single event, which will bring, four, five, six, seven thousand visitors into Rhyl town centre, will do more for local businesses in one day than the Member for the Vale of Clwyd has done in five years?
A ydych chi'n rhannu fy siom ynghylch y sylwadau braidd yn nawddoglyd gan yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd tuag at y rali annibyniaeth a fydd yn cael ei chynnal yn y Rhyl ddydd Sadwrn—mae'r orymdaith yn dechrau am 1 p.m., gyda llaw—gan y bydd yr un digwyddiad hwnnw, a fydd yn dod â phedair, pump, chwech, saith mil o ymwelwyr i ganol tref y Rhyl, yn gwneud mwy i fusnesau lleol mewn un diwrnod nag y mae'r Aelod dros Ddyffryn Clwyd wedi'i wneud mewn pum mlynedd?
Come off it. What a load of nonsense. An absolute load of nonsense.
Dewch wir. Am lol. Llwyth o lol.
You would think that increased footfall would be something that the Conservatives would want, but I mean, if you just look at the offer that they put on the table, I think it's very much been a situation where they've opened the cupboard up on the third floor or wherever they are in this building, took an old document out, blew the dust off it, and went, 'Yes, that's good enough.' Nothing new at all in the contributions.
And I'll come to Joel, because there was a particularly interesting part of his contribution. I think, firstly, based on his contribution, the Conservative position is quite clear. They're pro-small business, so long as, of course, it doesn't affect bigger businesses, and, of course, completely comfortable with an extractive economy. Joel, I mean, you posed the question, on which, of course, I tried to make an invention, and you didn't want to know about it: 'How could you work out that there's an ownership problem on the high streets?' Well, firstly, I point to a local example: Bridgend. The majority of the town—Tom Giffard will know—is owned by one person. That isn't healthy for a local economy.
And I've gone, actually, the extra mile for you, Joel. I've looked on YouTube—to make it as easy as possible for you: Bloomberg Originals, How Private Equity Ate Britain. It is commonly accepted now amongst economists that asset managers are depriving our high streets of investment, taking out profit from our local economies. So, this isn't something new. This isn't something new, this is something that is widely accepted. So, I'm glad he read the economy strategy, but I would also refer him to the bibliography in the back, because there's a lot in there that I think would be very beneficial to Joel in his contributions in the future.
Heledd mentioned, of course—
Byddech yn credu y byddai cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn rhywbeth y byddai'r Ceidwadwyr ei eisiau, ond os edrychwch ar y cynnig y maent wedi'i gyflwyno, credaf ei bod yn sefyllfa lle maent wedi agor y cwpwrdd ar y trydydd llawr neu ble bynnag y maent yn yr adeilad hwn, wedi tynnu hen ddogfen allan, wedi chwythu'r llwch oddi arni, ac wedi dweud, 'Ie, mae hon yn ddigon da.' Dim byd newydd o gwbl yn y cyfraniadau.
Ac fe ddof at Joel, gan fod rhan arbennig o ddiddorol yn ei gyfraniad. Yn gyntaf, yn seiliedig ar ei gyfraniad, rwy'n credu bod safbwynt y Ceidwadwyr yn eithaf clir. Maent o blaid busnesau bach oni bai bod hynny'n effeithio ar fusnesau mwy, ac wrth gwrs, maent yn gwbl gyfforddus ag economi echdynnol. Joel, fe ofynnoch chi'r cwestiwn, ac wrth gwrs, fe geisiais i wneud ymyriad, ac nid oeddech eisiau gwybod: 'Sut y daethoch chi i'r casgliad fod problem perchnogaeth ar y stryd fawr?' Wel, yn gyntaf, fe dynnaf sylw at enghraifft leol: Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r rhan fwyaf o'r dref—bydd Tom Giffard yn gwybod—yn eiddo i un unigolyn. Nid yw hynny'n iach i economi leol.
Ac rwyf wedi mynd gam ymhellach ar eich cyfer, Joel. Rwyf wedi edrych ar YouTube—i'w gwneud mor hawdd â phosib i chi: Bloomberg Originals, How Private Equity Ate Britain. Derbynnir yn gyffredinol nawr gan economegwyr fod rheolwyr asedau yn amddifadu ein strydoedd mawr o fuddsoddiad, gan dynnu elw o'n heconomïau lleol. Felly, nid yw hyn yn rhywbeth newydd. Nid yw'n rhywbeth newydd, mae'n rhywbeth a dderbynnir yn eang. Felly, rwy'n falch ei fod wedi darllen strategaeth yr economi, ond hoffwn ei gyfeirio hefyd at y llyfryddiaeth yn y cefn, gan fod llawer yno y credaf y byddai'n fuddiol iawn i Joel ei gynnwys yn ei gyfraniadau yn y dyfodol.
Soniodd Heledd, wrth gwrs—
Will you take an intervention? Nobody lets me intervene.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Nid oes unrhyw un yn gadael imi ymyrryd.
Yes, Mike, go on.
Iawn, Mike, ewch amdani.
I understand what you say on large businesses et cetera, but my constituents and yours would be devastated if we lost Marks & Spencer from the centre of Swansea.
Rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud am fusnesau mawr ac ati, ond byddai fy etholwyr a'ch etholwyr chi yn torri eu calonnau pe baem yn colli Marks & Spencer o ganol Abertawe.
We're levelling the playing field here, Mike, and the reality is that they're leaving the high street as it is now, because there is no cohesive strategy on the table when it comes to regenerating the high street. I'll come to some of the policies that I think would be very helpful, actually, on that front, in just a moment, but I just wanted to point out a contribution that Heledd made, which is that landlords are very tough to get hold of, sometimes. I can say, in my office in Bridgend, I can't get a response out of the landlord when it comes to the office, and I'm a Member of the Senedd. I can get a response out of them, though, when they're looking for their rent. And very quickly they'll go to threatening to send out the bailiffs if we don't pay that rent—[Interruption.] Deputy Presiding Officer.
Rydym yn sicrhau chwarae teg, Mike, a'r gwir amdani yw eu bod yn gadael y stryd fawr fel mae pethau nawr, gan nad oes strategaeth gydlynus ar waith i adfywio'r stryd fawr. Mewn eiliad fe ddof at rai o'r polisïau y credaf y byddent yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth, ond roeddwn eisiau tynnu sylw at gyfraniad a wnaeth Heledd, sef ei bod weithiau'n anodd iawn cael gafael ar landlordiaid. Gallaf ddweud, yn fy swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, na allaf gael ymateb gan y landlord mewn perthynas â'r swyddfa, ac rwy'n Aelod o'r Senedd. Gallaf gael ymateb ganddynt, serch hynny, pan fyddant yn chwilio am eu rhent. Ac yn gyflym iawn, byddant yn bygwth anfon y beilïaid os nad ydym yn talu'r rhent—[Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd.
I'd like to hear the contribution from the Member who's closing the debate, and therefore I ask the Members on the opposition benches to please let him do so, so I can hear it.
Hoffwn glywed cyfraniad yr Aelod sy'n cloi'r ddadl, ac felly gofynnaf i'r Aelodau ar feinciau'r wrthblaid adael iddo wneud hynny, er mwyn imi allu ei glywed.
Thanks, Dirprwy Lywydd. This is relevant, I think, actually, to the contribution made by the Cabinet Secretary on the vacant property strategy. Now, I can support a vacant property strategy, but if that means then we're going to subsidise private investments from people who have no stake or don't simply care about our high streets, then I think that's something that we shouldn't support. I actually think we should be asking ourselves the question: what is the best use of taxpayers' money when it comes to regenerating the high street? I don't think it's subsidising the private investments of individuals. I think, actually, it would be far better spent by local authorities buying out these properties, then renting them out themselves and getting the money from that themselves, so that we then make sure that the profitability is a public matter and not simply a private issue.
Now, Llyr Gruffydd was very right in pointing to out-of-town-centre development. Again, to use the example of Bridgend, you can peg the decline of the high street in Bridgend to when McArthurGlen opened. That is an accepted fact in Bridgend, yet we still then have these same conversations about making it easier for people to get about in their car and go to these out-of-town shopping centres, making it cheaper for businesses, when we know that that is what's killing our high streets. So, we really need to rebalance the issue there. We haven't done it, we really need to. The Cab Sec mentioned business rates, lowering them, or keeping them, with preferential rates for retail. I actually think it would be better to start with hospitality. There are plenty of reports out there showing that if you invigorate the hospitality sector, that increases the footfall, which then leads to greater footfall for retail—make a day out of it, make an experience for people. They'll come into the town centres. Everyone benefits.
But what I'm quite disappointed not to hear about is some of the stuff that we've heard now for the last Senedd term and beyond: banking. Sioned Williams raised banking as one of the biggest issues. We are still waiting for Banc Cambria. What has been the hold-up on Banc Cambria? This is something that would really help, not just in terms of ensuring that there are bank branches on our high streets, but also keeping some of that profit within our local communities as well, making sure that those investments are being made on a Welsh level in a Welsh context. So, I'm disappointed that we did not hear any progress on Banc Cambria. I hope we'll see something in the near future because our communities really need to see that come off the ground.
Right to buy: again, I reiterate what I said—we are so behind the curve on this. Scotland already has it. England's already progressing it. Last I heard from the Government around it, there was another consultation on whether or not we were going to go down the route of right to buy. We've had plenty of consultations, we've got plenty of evidence, we just need to get on with it now. We really do need to get on with it. If we're not going to do it, then, again, we're going to be in this vicious cycle where we're making these investments to private entities, and we'll see none of the returns for our communities.
Commercial to residential: really interesting. John was right to highlight some of the work that's going on in Newport. We'd also point to Llanelli where they've done some of this, as well as Caernarfon, and some work is now happening in Bangor. It's simple. It's looking at some of these vacant units, especially the parts above those units, and turning them into one-bed, two-bed flats. We know we have a housing shortage in those particular areas. You're killing two birds with one stone. You're sorting out the housing issues and you're increasing the footfall in the town centres. I use the analogy all the time of Friends. The reason why that coffee shop that they all meet in, Central Perk, is so successful—because they live above it, and they live around it, and they meet down there as a focal point. That coffee shop has passing footfall. It has that in-built footfall as well. So, we really need to make sure that we make it easier for local authorities to convert those commercial properties into residential, where appropriate. It won't always be appropriate, but if we can do that, I think that would go a long way in getting that in-built footfall.
Lee Waters mentioned the strategic need to look at this in a granular way. We've heard, for example, again from John, around colleges coming into Newport town centre. We've got an example of this happening in Bridgend, with Bridgend College now setting up their main campus in the town centre. Stuff like that will really go a long way in regenerating our high street. This is all about making high streets again a focal point for our communities, giving people a reason to come into our town centres, giving them a reason to shop in those town centres again. My concern is that we're going to have this debate time and time again, not just in this Senedd but in the next Senedd. If we don't really get a grasp on this, then we're going to be in 10 years' time having the same conversation. So, I would ask the Senedd to support the Plaid Cymru motion. Let's get that strategic, comprehensive strategy in place, with all the partners around the table. Let's get this sorted, because, my God, we've talked about it long enough.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hyn yn berthnasol i'r cyfraniad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y strategaeth eiddo gwag. Nawr, gallaf gefnogi strategaeth eiddo gwag, ond os yw hynny'n golygu y byddwn yn sybsideiddio buddsoddiadau preifat gan bobl nad oes ganddynt unrhyw fuddiant neu nad ydynt yn poeni am ein strydoedd mawr, yna credaf fod hynny'n rhywbeth na ddylem ei gefnogi. Mewn gwirionedd, rwy'n credu y dylem ofyn y cwestiwn i ni'n hunain: beth yw'r defnydd gorau o arian trethdalwyr o ran adfywio'r stryd fawr? Ni chredaf mai sybsideiddio buddsoddiadau preifat unigolion yw hynny. Rwy'n credu y byddai'n llawer gwell pe bai awdurdodau lleol yn ei wario ar brynu'r eiddo hwn, yn ei osod ar rent eu hunain ac yn cael arian o hynny eu hunain, fel ein bod wedyn yn sicrhau bod y proffidioldeb yn fater cyhoeddus ac nid yn fater preifat yn unig.
Nawr, roedd Llyr Gruffydd yn llygad ei le yn tynnu sylw at ddatblygu y tu allan i ganol y dref. Gan ddefnyddio Pen-y-bont ar Ogwr fel enghraifft eto, gallwch gysylltu dirywiad y stryd fawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr â'r adeg yr agorodd McArthurGlen. Mae honno'n ffaith a dderbynnir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond eto, rydym yn dal i gael yr un sgyrsiau am ei gwneud yn haws i bobl fynd yn eu ceir i'r canolfannau siopa hyn y tu allan i'r dref, a'i gwneud yn rhatach i fusnesau, pan wyddom mai dyna sy'n lladd ein strydoedd mawr. Felly, mae angen inni ailgydbwyso'r mater yn hynny o beth. Nid ydym wedi gwneud hynny, ac mae gwir angen inni wneud hynny. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am ardrethi busnes, eu gostwng, neu eu cadw, gyda chyfraddau ffafriol ar gyfer manwerthu. Credaf y byddai'n well dechrau gyda lletygarwch mewn gwirionedd. Mae digon o adroddiadau sy'n dangos, os ydych chi'n bywiogi'r sector lletygarwch, fod hynny'n cynyddu nifer yr ymwelwyr, sydd wedyn yn arwain at fwy o ymwelwyr â siopau—gwnewch ddiwrnod ohoni, gwnewch brofiad i bobl. Byddant yn dod i ganol y trefi. Mae pawb yn elwa.
Ond yr hyn rwy'n eithaf siomedig na chlywais amdano yw rhai o'r pethau rydym wedi'u clywed drwy gydol tymor diwethaf y Senedd ac ynghynt: bancio. Cododd Sioned Williams fancio fel un o'r problemau mwyaf. Rydym yn dal i aros am Fanc Cambria. Beth yw'r oedi gyda Banc Cambria? Mae hyn yn rhywbeth a fyddai o gymorth mawr, nid yn unig o ran sicrhau bod canghennau banc ar ein strydoedd mawr, ond hefyd er mwyn cadw rhywfaint o'r elw hwnnw yn ein cymunedau lleol, gan sicrhau bod y buddsoddiadau hynny'n cael eu gwneud ar lefel Gymreig mewn cyd-destun Cymreig. Felly, rwy'n siomedig na chlywsom am unrhyw gynnydd ar Fanc Cambria. Rwy'n gobeithio y gwelwn rywbeth yn y dyfodol agos, gan fod gwir angen i'n cymunedau weld hynny'n cael ei wireddu.
Yr hawl i brynu: unwaith eto, rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais—rydym ymhell ar ei hôl hi ar hyn. Mae hyn eisoes ar waith yn yr Alban. Mae Lloegr eisoes yn ei ddatblygu. Y tro diwethaf imi glywed gan y Llywodraeth ynglŷn â hyn, roedd ymgynghoriad arall i weld a oeddem yn mynd i ddilyn llwybr yr hawl i brynu ai peidio. Rydym wedi cael digon o ymgynghoriadau, mae gennym ddigon o dystiolaeth, mae angen inni fwrw ymlaen â'r peth nawr. Mae gwir angen inni fwrw ymlaen ag ef. Os nad ydym yn mynd i'w wneud, yna unwaith eto, byddwn yn y cylch dieflig hwn lle rydym yn gwneud y buddsoddiadau hyn i endidau preifat, ac ni fyddwn yn gweld unrhyw enillion i'n cymunedau.
Trosi eiddo masnachol yn eiddo preswyl: diddorol iawn. Roedd John yn llygad ei le i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith sy'n mynd rhagddo yng Nghasnewydd. Byddem hefyd yn tynnu sylw at Lanelli, lle maent wedi gwneud rhywfaint o hyn, yn ogystal â Chaernarfon, ac mae rhywfaint o waith yn mynd rhagddo nawr ym Mangor. Mae'n syml. Mae'n ymwneud ag edrych ar rai o'r unedau gwag, yn enwedig y rhannau uwchben yr unedau hynny, a'u troi'n fflatiau un ystafell wely, dwy ystafell wely. Gwyddom fod gennym brinder tai yn yr ardaloedd hynny. Rydych chi'n lladd dau aderyn ag un garreg. Rydych chi'n datrys y problemau tai ac rydych chi'n cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol trefi. Rwy'n defnyddio'r gymhariaeth â Friends drwy'r amser. Y rheswm pam y mae'r siop goffi y maent i gyd yn cyfarfod ynddi, Central Perk, mor llwyddiannus yw eu bod yn byw uwch ei phen, ac maent yn byw gerllaw, ac maent yn cyfarfod yno fel canolbwynt. Mae gan y siop goffi honno nifer o bobl yn pasio heibio. Mae ganddi'r cwsmeriaid hynny yno'n barod. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn ei gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol drosi eiddo masnachol yn eiddo preswyl, lle bo hynny'n briodol. Ni fydd bob amser yn briodol, ond os gallwn wneud hynny, rwy'n credu y byddai'n gwneud llawer i gael cwsmeriaid yno'n barod.
Soniodd Lee Waters am yr angen strategol i edrych ar hyn mewn ffordd ronynnog. Rydym wedi clywed, er enghraifft, unwaith eto gan John, am golegau'n dod i ganol tref Casnewydd. Mae gennym enghraifft o hyn yn digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn sefydlu eu prif gampws yng nghanol y dref. Bydd pethau felly'n mynd yn bell i adfywio ein stryd fawr. Mae a wnelo hyn oll â gwneud strydoedd mawr yn ganolbwynt i'n cymunedau unwaith eto, gan roi rheswm i bobl ddod i ganol ein trefi, rhoi rheswm iddynt siopa yng nghanol y trefi hynny unwaith eto. Fy mhryder i yw y byddwn yn cael y ddadl hon dro ar ôl tro, nid yn unig yn y Senedd hon, ond yn y Senedd nesaf. Os na chawn afael go iawn ar hyn, byddwn yn dal i gael yr un sgwrs mewn 10 mlynedd. Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd gefnogi cynnig Plaid Cymru. Gadewch inni gael y strategaeth gynhwysfawr, strategol honno ar waith, gyda'r holl bartneriaid o amgylch y bwrdd. Gadewch inni fynd i'r afael â hyn, oherwydd, myn Duw, rydym wedi siarad amdano'n ddigon hir.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] Yes. I will defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Byddwn ni'n pleidleisio ar eitem 7 yn unig heno—dadl Plaid Cymru ar adfywio canol trefi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, roedd 14 yn ymatal a 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei wrthod.
And that brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time.
We will vote on item 7 only this evening—the Plaid Cymru debate on town-centre regeneration. I call for a vote on the motion without amendment, tabled in the name of Heledd Fychan. If the proposal is not agreed, we will vote on the amendments tabled to the motion. Open the vote. Close the vote. In favour nine, 14 abstentions and 24 against. Therefore, the motion without amendment is not agreed.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - adfywio canol trefi. Cynnig heb ei ddiwygio : O blaid: 9, Yn erbyn: 24, Ymatal: 14
Gwrthodwyd y cynnig
Item 7. Plaid Cymru Debate - town centre regeneration. Motion without amendment : For: 9, Against: 24, Abstain: 14
Motion has been rejected
Galwaf nawr ar bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
I call for a vote now on amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 23 against. Therefore, amendment 1 is agreed.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - adfywio canol trefi. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Item 7. Plaid Cymru Debate - town centre regeneration. Amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt: For: 24, Against: 23, Abstain: 0
Amendment has been agreed
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
I now call for a vote on the motion as amended.
Cynnig NDM9010 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod dadansoddiad gan Gonsortiwm Manwerthwyr Cymru yn 2023 wedi dangos bod gan Gymru’r ail nifer uchaf o siopau gwag yn y DU;
b) bod bron i 100 o fanciau ar y stryd fawr wedi cau yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf; ac
c) bod rhaglen ‘Balchder Bro’ Llywodraeth y DU yn dyrannu £214 miliwn o gyllid i Gymru gyda’r nod o gryfhau adfywio yn seiliedig ar leoliad.
2. Yn cefnogi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo canol ein trefi, megis:
a) y camau a amlinellir yn y cynllun gweithredu manwerthu;
b) cynnal y cyllid ar gyfer cynlluniau rhyddhad ardrethi;
c) cynnwys egwyddorion canol tref yn gyntaf mewn dogfennau cynllunio allweddol;
d) cyhoeddi’r datganiad sefyllfa ar ganol trefi;
e) sefydlu’r comisiwn asedau cymunedol;
f) buddsoddi drwy’r rhaglen trawsnewid trefi; a
g) lansio’r gronfa trefi taclus.
Motion NDM9010 as amended:
To propose that the Senedd:
1. Notes:
a) that analysis from the Welsh Retail Consortium in 2023 showed that Wales has the second highest number of vacant shops in the UK;
b) that almost 100 high street banks have closed in Wales in the last three years; and
c) that the UK Government’s ‘Pride in Place’ programme allocates £214 million of funding to Wales with the aim of strengthening place-based regeneration.
2. Supports the action being taken by the Welsh Government to assist town centres, such as:
a) the actions set out in the retail action plan;
b) continuing funding for rates relief schemes;
c) including town centre first principles in key planning documents;
d) publishing the town centres position statement;
e) establishing the community asset commission;
f) investment through the transforming towns programme; and
g) launching the tidy towns fund
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. Diolch yn fawr.
Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 23 against. And therefore the motion as amended is agreed. Thank you very much.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - adfywio canol trefi. Cynnig wedi’i ddiwygio : O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Item 7. Plaid Cymru Debate - town centre regeneration. Motion as amended : For: 24, Against: 23, Abstain: 0
Motion as amended has been agreed
Nesaf mae'r ddadl fer, a symudwn nawr i'r ddadl fer. Galwaf ar Altaf Hussain i siarad.
Next we have the short debate, and we will turn now to the short debate. I call on Altaf Hussain to speak.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I have agreed to give a minute of my time to Janet, Mike and James.
As chair of the cross-party group on stroke, I'm constantly reminded about the importance of early intervention in improving the outcomes for stroke survivors. At our last meeting, we heard from a stroke survivor, Fran, about her experience of having a stroke. From not recognising the fact that she was experiencing a stroke to having to have her husband drive her to hospital, Fran told us that had she recognised the signs and symptoms of stroke, she would have sought help sooner, got treatment sooner and recovered sooner. As it stands, Fran and so many people like her receive treatment too late and are left with lifelong disabilities. This is why the Act FAST/Cam NESA campaigns are so vital.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Janet, Mike a James.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar strôc, rwy'n cael fy atgoffa'n gyson am bwysigrwydd ymyrraeth gynnar i wella'r canlyniadau i oroeswyr strôc. Yn ein cyfarfod diwethaf, clywsom gan oroeswr strôc, Fran, am ei phrofiad o gael strôc. O beidio â chydnabod y ffaith ei bod yn cael strôc i orfod cael ei gŵr i'w gyrru i'r ysbyty, dywedodd Fran wrthym, pe bai wedi adnabod arwyddion a symptomau strôc, y byddai wedi ceisio cymorth yn gynt, wedi cael triniaeth yn gynt ac wedi gwella'n gynt. Fel y mae, mae Fran a chynifer o bobl fel hi yn cael triniaeth yn rhy hwyr ac yn cael eu gadael ag anableddau gydol oes. Dyma pam fod ymgyrchoedd Cam NESA mor hanfodol.
Now, at this point, some of you might be experiencing déjà vu because, two years ago, Huw held a very similar short debate following a CPG meeting where Fran told her story. We decided to retell Fran’s story last week because nothing has changed, hence here I am today begging for an ad campaign.
Most of us here are old enough to remember the tv ads telling us that a drooping face, the inability to lift both arms and slurred speech signal that it is time to dial 999. I say 'old enough to remember' because the campaigns have not run in Wales since 2018. Across Offa's Dyke, Public Health England have continued to run the stroke awareness adverts on a regular basis, and 91 per cent of surveyed adults in England said that they would call 999 if they saw stroke symptoms. Thanks to this, people are getting to hospital fast and getting treatment fast. Sadly, here in Wales, around half of people having a stroke are making their own way to hospital, risking delays and barriers to their life-saving treatment. If we compare the average time between the onset of symptoms to arrival at hospital between us and our nearest neighbours, the results couldn’t be more stark. Thanks to Public Health England’s awareness campaigns, most stroke patients arrive at hospital around four hours after the start of a stroke. In Wales, where we have not seen an Act FAST campaign for seven years, the average arrival time is six hours and 41 minutes. This is clear evidence of why such awareness campaigns are vital, evidence that even Healthcare Inspectorate Wales acknowledge.
Two years ago, Healthcare Inspectorate Wales recommended that we run targeted stroke awareness campaigns alongside a national Act FAST campaign in their 'National Review of Patient Flow: a journey through the stroke pathway'. The Stroke Association are working with relevant partners to try to make this happen, including potentially bidding for funding to support the production and delivery of these campaigns. Unfortunately, funding is not the only barrier. There seems to be a lack of will for it to happen from Public Health Wales. Officials have raised questions over the need for the campaign and the effectiveness of it. There has not been the same level of scrutiny of other public health campaigns, such as the annual flu campaign, and yet there is plenty of evidence to show that an ACT FAST campaign is highly effective. There is huge clinical support and clinical need for a renewed Welsh awareness campaign.
One of the UK’s leading stroke consultants said of a renewed Act FAST campaign,
'From the clinician’s perspective I would absolutely support this and the need for renewed focus. Public awareness is an absolute must for prevention and early presentation leading to timely intervention. The evidence for this is overwhelming of course.'
The stroke landscape has changed since the Act FAST campaign was last run in 2018, in terms of where we are with stroke in Wales as well as the recommendations in HIW's report on patient flow. We have also seen massive changes in how people access information over the past seven years. A renewed Act FAST campaign would have to target multiple platforms. It is absolutely possible. If we can have Transport for Wales adverts on Amazon Prime, why can't we have a Welsh-medium Cam NESA campaign on Disney+ or Netflix? We have an opportunity now to think how this campaign could work for Wales and Welsh people if we were to redesign it for them now and for the future, but first we have to overcome the inertia in the Welsh Government. Ministerial responses to requests for stroke awareness campaigns tend to come back saying, 'We need to stop so many people having strokes in the first place.' I agree prevention is key, but many people will still continue to have strokes. If we prevent half of all strokes occurring, that will still leave nearly 4,000 people having a stroke, transient ischemic attack or stroke mimic in Wales each year. Everyone deserves the best possible chance of survival and recovery, regardless of how it was caused or where they live. The FAST campaign supports prevention, messaging by educating the public about the warning signs, which can lead to earlier detection and management of underlying risk factors. It also ensures timely treatment that reduces the likelihood of recurrent strokes and long-term disability.
If we look at where we are now, it's not great. Wales sits as twenty-first out of the 26 high-income countries when it comes to stroke. England, Scotland, Northern Ireland are at 13 out of 26. Why are we doing so much worse than our neighbours? We can't blame demographics this time. We can point to the lack of an Act FAST ad campaign. A regular bilingual campaign would build awareness over time. If we also ensure that these campaigns form part of a Government commitment to instruct health boards to prioritise stroke in their strategic plan and work, then perhaps we would not have tens of thousands of people living with the long-term effects of stroke.
If we can get this right for stroke, one of Wales's biggest killers, we can replicate what works across health and social care to deliver wider systemic improvements to our NHS. Stroke costs the Welsh NHS £220 million a year. It is estimated that the cost to the Welsh economy is about £1.6 billion per year. We can't afford to do nothing. Not only will thousands of people continue to die, but, without intervention, the cost to the economy could rise to £2.8 billion by 2035. It is time to act—it is time to Act FAST/Cam NESA. Diolch yn fawr.
Nawr, ar y pwynt hwn, efallai y bydd rhai ohonoch yn cael déjà vu, oherwydd ddwy flynedd yn ôl, cynhaliodd Huw ddadl fer debyg iawn yn dilyn cyfarfod grŵp trawsbleidiol lle adroddodd Fran ei stori. Fe wnaethom benderfynu ailadrodd stori Fran yr wythnos diwethaf gan nad oes unrhyw beth wedi newid, felly dyma fi heddiw yn erfyn am ymgyrch hysbysebu.
Mae'r rhan fwyaf ohonom yma'n ddigon hen i gofio'r hysbysebion teledu yn dweud wrthym fod wyneb llipa, yr anallu i godi'r ddwy fraich a lleferydd aneglur yn arwydd ei bod yn bryd deialu 999. Rwy'n dweud 'digon hen i gofio' gan nad yw'r ymgyrchoedd wedi'u cynnal yng Nghymru ers 2018. Yr ochr draw i Glawdd Offa, mae Public Health England wedi parhau i ddangos yr hysbysebion codi ymwybyddiaeth o strôc yn rheolaidd, a dywedodd 91 y cant o oedolion a holwyd yn Lloegr y byddent yn ffonio 999 pe byddent yn gweld symptomau strôc. Diolch i hyn, mae pobl yn cyrraedd yr ysbyty yn gyflym ac yn cael triniaeth yn gyflym. Yn anffodus, yma yng Nghymru, mae oddeutu hanner y bobl sy'n cael strôc yn gwneud eu ffordd eu hunain i'r ysbyty, gan arwain at berygl o oedi a rhwystrau rhag cael triniaethau a allai achub eu bywydau. Os ydym yn cymharu'r amser cyfartalog rhwng dechrau symptomau a chyrraedd yr ysbyty rhyngom ni a'n cymdogion agosaf, ni allai'r canlyniadau fod yn fwy clir. Diolch i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth Public Health England, mae'r rhan fwyaf o gleifion strôc yn cyrraedd yr ysbyty oddeutu pedair awr ar ôl i strôc ddechrau. Yng Nghymru, lle nad ydym wedi gweld ymgyrch Cam NESA ers saith mlynedd, yr amser cyrraedd cyfartalog yw chwe awr a 41 munud. Dyma dystiolaeth glir pam fod ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o'r fath yn hanfodol, tystiolaeth y mae hyd yn oed Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei chydnabod.
Ddwy flynedd yn ôl, argymhellodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y dylem gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o strôc wedi'u targedu ochr yn ochr ag ymgyrch genedlaethol Cam NESA yn eu 'Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion: taith drwy'r llwybr strôc'. Mae'r Gymdeithas Strôc yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i geisio gwneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys y posibilrwydd o wneud cais am gyllid i gefnogi'r gwaith o gynhyrchu a chyflwyno'r ymgyrchoedd hyn. Yn anffodus, nid cyllid yw'r unig rwystr. Ymddengys bod diffyg ewyllys i hyn ddigwydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae swyddogion wedi codi cwestiynau ynghylch yr angen am yr ymgyrch a'i heffeithiolrwydd. Nid oes yr un lefel o graffu wedi bod ar ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus eraill, megis yr ymgyrch ffliw flynyddol, ac eto mae digon o dystiolaeth i ddangos bod ymgyrch Cam NESA yn hynod effeithiol. Ceir cefnogaeth glinigol enfawr ac angen clinigol am ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth yng Nghymru.
Dywedodd un o brif feddygon ymgynghorol strôc y DU am ymgyrch Cam NESA newydd,
'O safbwynt y clinigydd, buaswn yn llwyr gefnogi hyn a'r angen am ffocws newydd. Mae codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol ar gyfer atal, ac mae ymgyflwyno cynnar yn arwain at ymyrraeth amserol. Mae'r dystiolaeth ar gyfer hyn yn helaeth, wrth gwrs.'
Mae'r tirlun wedi newid o ran strôc ers i'r ymgyrch Cam NESA gael ei chynnal ddiwethaf yn 2018, o ran ble rydym arni gyda strôc yng Nghymru yn ogystal â'r argymhellion yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar lif cleifion. Rydym hefyd wedi gweld newidiadau enfawr yn y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at wybodaeth dros y saith mlynedd ddiwethaf. Byddai'n rhaid i ymgyrch Cam NESA newydd dargedu sawl platfform. Mae'n gwbl bosib. Os gallwn gael hysbysebion Trafnidiaeth Cymru ar Amazon Prime, pam na allwn gael ymgyrch Cam NESA cyfrwng Cymraeg ar Disney+ neu Netflix? Mae gennym gyfle nawr i feddwl sut y gallai'r ymgyrch hon weithio i Gymru a phobl Cymru pe baem yn ei hailgynllunio ar eu cyfer nawr ac ar gyfer y dyfodol, ond yn gyntaf, rhaid inni oresgyn y llesgedd yn Llywodraeth Cymru. Mae ymatebion gweinidogol i geisiadau am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o strôc yn tueddu i ddod yn ôl gan ddweud, 'Mae angen inni atal cymaint o bobl rhag cael strôc yn y lle cyntaf.' Rwy'n cytuno bod atal yn allweddol, ond bydd llawer o bobl yn dal i gael strôc. Os ydym yn atal hanner yr holl achosion o strôc rhag digwydd, bydd hynny'n dal i adael bron i 4,000 o bobl yn cael strôc, pwl o isgemia dros dro neu gyflyrau sy'n dynwared symptomau strôc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae pawb yn haeddu'r cyfle gorau posib i oroesi a gwella, sut bynnag y cafodd ei achosi neu ble maent yn byw. Mae ymgyrch Cam NESA yn cefnogi atal, negeseuon drwy addysgu'r cyhoedd am yr arwyddion rhybudd, a all arwain at ganfod yn gynharach a rheoli ffactorau risg sylfaenol. Mae hefyd yn sicrhau triniaeth amserol sy'n lleihau'r tebygolrwydd o strôc arall ac anableddau hirdymor.
Os edrychwn ar ble rydym arni nawr, nid yw'r sefyllfa'n wych. Mae Cymru yn unfed ar hugain o'r 26 gwlad incwm uchel o ran strôc. Mae Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon yn safle 13 o'r 26 gwlad. Pam ein bod ni'n gwneud cymaint yn waeth na'n cymdogion? Ni allwn feio demograffeg y tro hwn. Gallwn dynnu sylw at ddiffyg ymgyrch hysbysebu Cam NESA. Byddai ymgyrch ddwyieithog reolaidd yn codi ymwybyddiaeth dros amser. Os ydym hefyd yn sicrhau bod yr ymgyrchoedd hyn yn rhan o ymrwymiad gan y Llywodraeth i gyfarwyddo byrddau iechyd i flaenoriaethu strôc yn eu cynllun a'u gwaith strategol, yna efallai na fyddai gennym ddegau o filoedd o bobl yn byw gydag effeithiau hirdymor strôc.
Os gallwn wneud hyn yn iawn ar gyfer strôc, un o laddwyr mwyaf Cymru, gallwn efelychu'r hyn sy'n gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni gwelliannau systemig ehangach i'n GIG. Mae strôc yn costio £220 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Amcangyfrifir bod y gost i economi Cymru oddeutu £1.6 biliwn y flwyddyn. Ni allwn fforddio gwneud dim. Nid yn unig y bydd miloedd o bobl yn parhau i farw, ond heb ymyrraeth, gallai'r gost i'r economi godi i £2.8 biliwn erbyn 2035. Mae'n bryd gweithredu—mae'n bryd gweithredu'n gyflym a chymryd y Cam NESA. Diolch yn fawr.
Diolch, Altaf, and thank you for bringing this very important issue here. We all know somebody in our own families, friends, where, when they have a stroke, it's very key that the sooner they get some treatment, that person has a much better outcome in terms of ongoing and less chance of having another stroke.
I have some particular concerns in my own constituency, because, of late—and I realise this is the Welsh Ambulance Services University NHS Trust, and I've raised it with them only this week—a constituent in her late 80s phoned up and the tele-responders actually almost tried to contradict her when she said, 'I'm having a stroke. My face is still okay, but I am in the middle of having a stroke,' and it was confirmed afterwards that she did, in fact, have a stroke. The ambulance service told her that it would be five hours at least, and luckily—she couldn't scramble any family together at that time—she managed to get there just before the five hours. I find that now so terrible because, some years ago, we used to have adverts on tv telling us to act fast and how you need this treatment immediately, and now it's just not a good look for Wales when the patients themselves are being told it's going to be at least five hours. What's happened to the one-hour golden rule? Thanks.
Diolch, Altaf, a diolch am ddod â'r mater pwysig hwn yma. Mae pob un ohonom yn adnabod rhywun yn ein teuluoedd ein hunain, ffrindiau, lle mae'n gwbl allweddol, pan fyddant yn cael strôc, po gyntaf y cânt driniaeth, y bydd y canlyniad yn llawer gwell i'r unigolyn hwnnw a llai o berygl o gael strôc arall.
Mae gennyf rai pryderon penodol yn fy etholaeth fy hun, oherwydd yn ddiweddar—ac rwy'n sylweddoli mai mater i Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw hwn, ac rwyf wedi'i godi gyda nhw yr wythnos hon—ffoniodd etholwr yn ei 80au hwyr, ac fe wnaeth yr ymatebwyr ffôn bron â cheisio'i gwrth-ddweud pan ddywedodd, 'Rwy'n cael strôc. Mae fy wyneb yn dal yn iawn, ond rwyf yng nghanol cael strôc,' a chadarnhawyd wedyn ei bod wedi cael strôc mewn gwirionedd. Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans wrthi y byddai'n bum awr o leiaf, ac yn ffodus—ni allodd gael gafael ar aelodau o'i theulu ar y pryd—llwyddodd i gyrraedd yno ychydig cyn y pum awr. Mae hynny mor ofnadwy nawr oherwydd, rai blynyddoedd yn ôl, roedd yn arfer bod gennym hysbysebion ar y teledu yn dweud wrthym am weithredu'n gyflym a sut y mae angen y driniaeth hon arnoch ar unwaith, a nawr, nid yw'n edrych yn dda i Gymru pan ddywedir wrth y cleifion eu hunain y bydd yn bum awr fan lleiaf. Beth sydd wedi digwydd i'r rheol aur un awr? Diolch.
Can I thank Altaf for giving me a minute in this debate and, perhaps more importantly, for raising this issue again? A stroke can happen to anyone at any time. Relative youth does not stop it happening. A neighbour in her early 30s had one, and whilst, outwardly, she looks fully recovered, she gets tired far more quickly than she did pre stroke.
I want to commend the work done in stroke groups and thank the volunteers who run these groups. There are two stroke groups in Swansea East. One meets in the Deer's Leap in Morriston and the other in the local community centre. They provide a weekly opportunity to meet others who have had a stroke and also close family members of those who have had a stroke. Stroke support groups are a safe and supportive space to try things again, to learn more about stroke and self-care, and to build confidence as you rebuild your life after a stroke. When you attend, you will see that people make a very good recovery and continue with their lives.
Thank you, Altaf, for raising this important issue. Again, I'd like to just say 'thank you' to those who run and support these groups. I and those who attend them appreciate it.
A gaf i ddiolch i Altaf am roi munud i mi yn y ddadl hon, ac efallai'n bwysicach fyth, am godi'r mater hwn eto? Gall unrhyw un gael strôc ar unrhyw adeg. Nid yw ieuenctid cymharol yn ei atal rhag digwydd. Cafodd cymydog yn ei 30au cynnar strôc, ac er ei bod yn edrych fel pe bai wedi gwella'n iawn, mae hi'n blino'n llawer cyflymach na chyn iddi gael strôc.
Hoffwn ganmol y gwaith a wneir mewn grwpiau strôc a diolch i'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y grwpiau hyn. Mae dau grŵp strôc yn Nwyrain Abertawe. Mae un yn cyfarfod yn y Deer's Leap yn Nhreforys a'r llall yn y ganolfan gymunedol leol. Maent yn rhoi cyfle wythnosol i gyfarfod ag eraill sydd wedi cael strôc ac aelodau agos o deuluoedd y bobl sydd wedi cael strôc. Mae grwpiau cymorth strôc yn lle diogel a chefnogol i roi cynnig ar bethau eto, i ddysgu mwy am strôc a hunanofal, ac i feithrin hyder wrth ichi ailadeiladu eich bywyd ar ôl strôc. Pan fyddwch chi'n mynychu, fe welwch fod pobl yn gwella'n dda iawn ac yn parhau â'u bywydau.
Diolch, Altaf, am godi'r mater pwysig hwn. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r rhai sy'n rhedeg ac yn cefnogi'r grwpiau hyn. Rwyf i a'r rhai sy'n eu mynychu yn gwerthfawrogi hynny.
I'd like also to thank Altaf for bringing this important debate forward because we all know that strokes are going to get worse across our society due to the obesity epidemic that is going across our country. One of the ways that we can reduce the number of people having strokes in the future is by getting people fitter, getting people healthier, so they're not having strokes in the future. I'd like to know from the Cabinet Secretary what efforts the Government is making to try and reduce obesity, especially among children, because we don't want to see our children getting obese, because that means they're going to be having strokes a lot younger and that's not something that any of us want to see across Wales.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i Altaf am gyflwyno'r ddadl bwysig hon gan y gŵyr pob un ohonom y bydd lefelau strôc yn gwaethygu ar draws ein cymdeithas oherwydd yr epidemig o ordewdra sydd i'w weld ledled ein gwlad. Un o'r ffyrdd y gallwn leihau nifer y bobl sy'n cael strôc yn y dyfodol yw drwy wneud pobl yn fwy ffit, gwneud pobl yn iachach, fel na chânt strôc yn y dyfodol. Hoffwn wybod gan Ysgrifennydd y Cabinet pa ymdrechion y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i geisio lleihau gordewdra, yn enwedig ymhlith plant, gan nad ydym eisiau gweld ein plant yn mynd yn ordew, am fod hynny'n golygu y gallant gael strôc yn llawer iau, ac nid yw hynny'n rhywbeth y mae unrhyw un ohonom eisiau ei weld ledled Cymru.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.
And I call on the Cabinet Secretary for Health and Social Services to reply to the debate—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bob blwyddyn, mae strôc yn newid bywydau miloedd o bobl. Mae gweithredu ar symptomau strôc a chael triniaeth yn gyflym yn hanfodol. Gall colli amser arwain at golli celloedd yr ymennydd. Dyna pam mae e mor bwysig bod pawb yng Nghymru yn gwybod sut i adnabod arwyddion a symptomau strôc a ffonio 999 ar unwaith. Strôc yw'r lladdwr mwyaf ond tri yng Nghymru, ond mae hefyd yn un o brif achosion anabledd.
Mae'r ymgyrch FAST, sef 'Cam NESA', fel clywsom ni, yn y Gymraeg, wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o symptomau strôc. Yn dilyn yr ymgyrch olaf, oedd yn 2023, fe ddangosodd gwerthusiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod mwy o bobl yn adnabod yr acronym FAST ac yn deall pwysigrwydd ffonio 999 pan fyddan nhw'n gweld arwyddion strôc.
Heddiw, rydym ni wedi clywed nad oes ymgyrch o'r fath yn bodoli leded y wlad. Fodd bynnag, mae hynny'n anwybyddu'r deunyddiau a'r negeseuon sy'n codi ymwybyddiaeth o symptomau strôc ledled Cymru ar waliau meddygfeydd ac ystafelloedd aros ysbytai, mewn fferyllfeydd cymunedol, ar negeseuon ffôn llawer o feddygfeydd. Mae amryw o bartneriaid wrthi'n ystyried yr holl gyfleoedd i redeg ymgyrch genedlaethol yn gynaliadwy. Yn eu plith, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gymdeithas Strôc a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru. Rwy'n croesawu'r ymdrechion hyn yn fawr; gweithio gyda'n gilydd yw'r ffordd orau o gyflawni hyn.
Thank you, Dirprwy Lywydd. Every year, stroke changes the lives of thousands of people. Acting on the symptoms of stroke and seeking treatment quickly is crucial. Losing time can lead to the loss of brain cells, and that's why it's so important that everyone in Wales knows how to identify the signs and symptoms of stroke and to phone 999 immediately. Stroke is the biggest killer but three in Wales, but it's also one of the main causes of disability.
The FAST campaign, or 'Cam NESA' in Welsh, as we heard, has managed to raise awareness of stroke symptoms. Following the last campaign back in 2023, Public Health Wales evaluation showed that more people now recognised the FAST acronym and understood the importance of phoning 999 when they saw signs of stroke.
Today, we've heard that no such campaign exists throughout the country. However, that ignores the materials and messages that raise awareness of stroke symptoms across Wales in surgeries and in hospital waiting rooms, in community pharmacies and on the phone messages of many surgeries. Many partners are considering all of the opportunities to run a national campaign sustainably. Among them are Public Health Wales, the Stroke Association and NHS Wales Performance and Improvement. I welcome these efforts very much; working together is the best way of delivering this.
Dirprwy Lywydd, my officials are engaged in these discussions, and I've asked them to provide me with advice about the practicalities and options for running FAST or Cam NESA here in Wales again and to consider if the Welsh Government can provide support.
Stroke is a medical emergency. Calling 999 is the fastest and safest route to specialist stroke care. As soon as you dial 999, you'll speak to someone who starts an assessment process by providing you with life-saving advice. When someone with suspected stroke, or the person with them, calls 999, they are prioritised in the new orange category. This recognises stroke as a medical emergency requiring the quickest possible ambulance conveyance to hospital. The new clinical model, of which the new categorisation of calls ensures callers receive the right response tailored to their symptoms, is an important part. A huge amount of work is also under way to improve access to stroke services and to improve people's outcomes and quality of life following a stroke. This is guided by the clear expectation that we set out in our stroke quality statement. Health boards are expected to use the stroke quality statement as the basis for planning and delivering services for their populations with support from NHS Wales Performance and Improvement and the stroke implementation network.
On the technological front, Wales has led the way, actually, in adopting AI across all health boards with stroke centres. The Brainomix AI platform speeds up accurate diagnosis and treatment, helping to save lives and improve outcomes. We are also testing pre-hospital video triage, which allows real-time communication between ambulance crews and hospital stroke specialists. The early results are promising, showing improved flow of communication and access to treatment.
Wales was the first country to use both AI and pre-hospital video triage together to improve the patient experience, speed and accuracy of diagnosis from the ambulance journey. Our ambition is to digitally connect the whole stroke pathway. We must continue to drive these and more improvements, ensuring that they translate into positive outcomes for everyone who experiences a stroke in Wales. Our aim remains for people to have the lowest possible risk of having a stroke, and, when it does occur, to have the best chance of surviving and returning to independence as quickly as possible.
Looking ahead, we will publish a revised stroke quality statement in January 2026, maintaining an emphasis on timely and equitable access to 24/7 lifesaving treatment. We also remain committed to the transformation of stroke services and moving to a regional comprehensive stroke centre model—[Interruption.] Yes.
Ddirprwy Lywydd, mae fy swyddogion yn rhan o'r trafodaethau hyn, ac rwyf wedi gofyn iddynt roi cyngor i mi ynghylch ymarferoldeb ac opsiynau ar gyfer cynnal ymgyrch Cam NESA yma yng Nghymru eto ac i ystyried a all Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth.
Mae strôc yn argyfwng meddygol. Ffonio 999 yw'r llwybr cyflymaf a mwyaf diogel i ofal strôc arbenigol. Cyn gynted ag y byddwch yn deialu 999, byddwch yn siarad â rhywun a fydd yn dechrau proses asesu drwy roi cyngor a all achub bywydau. Pan fo rhywun yr amheuir eu bod wedi cael strôc, neu'r unigolyn sydd gyda nhw, yn ffonio 999, cânt eu blaenoriaethu yn y categori oren newydd. Mae hwn yn cydnabod strôc fel argyfwng meddygol sydd angen y trosglwyddiad ambiwlans cyflymaf posib i'r ysbyty. Mae'r model clinigol newydd, lle mae'r categorïau galwadau newydd yn sicrhau bod galwyr yn cael yr ymateb cywir wedi'i deilwra i'w symptomau, yn rhan bwysig o hyn. Mae llawer iawn o waith hefyd ar y gweill i wella mynediad at wasanaethau strôc ac i wella canlyniadau ac ansawdd bywyd pobl yn dilyn strôc. Caiff hyn ei arwain gan y disgwyliad clir a nodwyd gennym yn ein datganiad ansawdd ar gyfer strôc. Disgwylir i fyrddau iechyd ddefnyddio'r datganiad ansawdd ar gyfer strôc yn sail i gynlluniau a gwasanaethau i'w poblogaethau gyda chymorth gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru a'r rhwydwaith gweithredu ar gyfer strôc.
Ar yr ochr dechnolegol, mae Cymru wedi arwain y ffordd mewn gwirionedd drwy fabwysiadu deallusrwydd artiffisial ar draws pob bwrdd iechyd sydd â chanolfannau strôc. Mae platfform deallusrwydd artiffisial Brainomix yn cyflymu diagnosis a thriniaeth gywir, gan helpu i achub bywydau a gwella canlyniadau. Rydym hefyd yn profi brysbennu drwy fideo cyn cyrraedd yr ysbyty, sy'n caniatáu cyfathrebu amser real rhwng criwiau ambiwlans ac arbenigwyr strôc ysbytai. Mae'r canlyniadau cynnar yn addawol, gan ddangos gwell llif cyfathrebu a gwell mynediad at driniaeth.
Cymru oedd y wlad gyntaf i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a brysbennu drwy fideo cyn cyrraedd yr ysbyty gyda'i gilydd i wella profiad y claf, cyflymder a chywirdeb diagnosis o'r daith ambiwlans. Ein huchelgais yw cysylltu'r llwybr strôc cyfan yn ddigidol. Rhaid inni barhau i hybu'r gwelliannau hyn a mwy, gan sicrhau eu bod yn trosi'n ganlyniadau cadarnhaol i bawb sy'n cael strôc yng Nghymru. Ein nod yw sicrhau bod risg pobl o gael strôc mor isel â phosib, a phan fydd yn digwydd, eu bod yn cael y cyfle gorau i oroesi ac i adfer annibyniaeth cyn gynted â phosib.
Gan edrych ymlaen, byddwn yn cyhoeddi datganiad ansawdd diwygiedig ar gyfer strôc ym mis Ionawr 2026, gan gynnal pwyslais ar fynediad amserol a chyfartal at driniaeth achub bywydau 24/7. Rydym hefyd yn parhau i fod wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau strôc a newid i fodel canolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr—[Torri ar draws.] Iawn.
You talk about equitable access, and talking about access for the constituents in the north of my county, with the situation at Bronglais Hospital where they're talking about downgrading the service there and removing it from the hospital—. You talk about equitable access: how is that equitable for the people who live in the north of my constituency, in the north of Powys?
Rydych chi'n sôn am fynediad teg, ac yn sôn am fynediad i'r etholwyr yng ngogledd fy sir, gyda'r sefyllfa yn Ysbyty Bronglais lle maent yn sôn am israddio'r gwasanaeth yno a chael gwared ag ef o'r ysbyty—. Rydych chi'n sôn am fynediad teg: sut y mae hynny'n deg i'r bobl sy'n byw yng ngogledd fy etholaeth, yng ngogledd Powys?
I'm sure that what we all want to see for our constituents is the best possible health outcomes. All the evidence we have globally tells us that the best way of delivering that is by regionalising stroke provision—that applies in Wales as it does in every part of the world. So, there is, unfortunately, a tension, and I acknowledge that, where stroke centres may be further away from residents. But the evidence tells us—the clinical evidence tells us—that, by delivering in that model, with local rehab and local services, that's the best way of ensuring that your constituents and mine survive stroke in the way that we all want to see. On Bronglais in particular, as the Member will know very well, the health board is considering its options at the moment and no decision has been taken, and we look forward to hearing what that decision will be in due course.
Dirprwy Lywydd, in closing, we remain committed to the transformation of stroke services and, as I just said to the Member, to moving to a regional, comprehensive stroke centre model. This will ensure that people have access to the best possible specialist care to treat the immediate stroke, and is widely supported by clinicians. It will help to save lives and dramatically improve outcomes.
World Stroke Day on 29 October will focus this year on driving public awareness of stroke symptoms and the need to act FAST. Dirprwy Lywydd, stroke is a priority and we will maintain our focus on delivery and implementation, working collaboratively to ensure that we optimise access to stroke treatment and to care in order to achieve the best possible outcomes for people right across Wales.
Rwy'n siŵr mai'r hyn y mae pob un ohonom eisiau ei weld ar gyfer ein hetholwyr yw'r canlyniadau iechyd gorau posib. Mae'r holl dystiolaeth sydd gennym yn fyd-eang yn dweud wrthym mai'r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy ranbartholi darpariaeth strôc—mae hynny'n berthnasol yng Nghymru fel y mae ym mhob rhan o'r byd. Felly, yn anffodus, mae yna densiwn, ac rwy'n cydnabod hynny, lle gall canolfannau strôc fod ymhellach i ffwrdd o drigolion. Ond mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym—mae'r dystiolaeth glinigol yn dweud wrthym—mai drwy gyflawni yn y model hwnnw, gyda gwasanaethau adsefydlu lleol a gwasanaethau lleol, mai dyna'r ffordd orau o sicrhau bod eich etholwyr chi a minnau'n goroesi strôc yn y ffordd y mae pob un ohonom eisiau ei gweld. Ar ysbyty Bronglais yn benodol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod yn iawn, mae'r bwrdd iechyd yn ystyried ei opsiynau ar hyn o bryd, ac nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud, ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd y penderfyniad hwnnw maes o law.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i drawsnewid gwasanaethau strôc, ac fel y dywedais wrth yr Aelod, i newid i fodel canolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr. Bydd hyn yn sicrhau bod gan bobl fynediad at y gofal arbenigol gorau posib i drin y strôc uniongyrchol, ac mae'n cael ei gefnogi'n eang gan glinigwyr. Bydd yn helpu i achub bywydau a gwella canlyniadau'n sylweddol.
Bydd Diwrnod Strôc y Byd ar 29 Hydref yn canolbwyntio eleni ar gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau strôc a'r angen i weithredu'n gyflym. Lywydd, mae strôc yn flaenoriaeth, a byddwn yn cynnal ein ffocws ar gyflawni a gweithredu, gan weithio ar y cyd i sicrhau ein bod yn optimeiddio mynediad at driniaeth strôc ac at ofal er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posib i bobl ledled Cymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
And thank you to Altaf Hussain as well. Before I close today's business, both of you are welcome to come along to the Neath Port Talbot Stroke Group in Briton Ferry, who have received the King's Award for Voluntary Service as well. It's in your region; it's next door to you.
A diolch i Altaf Hussain hefyd. Cyn imi orffen busnes am heddiw, mae croeso i'r ddau ohonoch ddod draw i Grŵp Strôc Castell-nedd Port Talbot yn Llansawel, sydd wedi derbyn Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol hefyd. Mae yn eich rhanbarth chi; mae drws nesaf i chi.
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
That brings today's proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.
The meeting ended at 18:18.