Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/10/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Shwmae, Senedd. Prynhawn da i chi. Mae'n Ddiwrnod Shwmae heddiw, felly shwmae i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg hefyd—eich cwestiynau chi sydd gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan. Shwmae, Julie Morgan.

Ôl-ddyledion Treth Gyngor

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl sydd mewn ôl-ddyledion treth gyngor? OQ63258

Diolch i Julie Morgan, a shwmae i bob un, ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae.

Lywydd, cyhoeddwyd canlyniad ein hymgynghoriad ar arferion gorfodi ôl-ddyledion tecach ar 26 Medi. Cyflwynir rheoliadau ar 23 Hydref fel y gellir gweithredu gwelliannau o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i hyrwyddo ymyrraeth gynharach ac atal dyled y dreth gyngor rhag cynyddu'n gyflym.

Diolch am yr ateb.

Fel y gŵyr pawb ohonom, mae’r argyfwng costau byw wedi taro pobl yn galed iawn. Rwy'n cael gwybod yn rheolaidd gan etholwyr pa mor anodd yw hi i gael dau ben llinyn ynghyd, ac mae ôl-ddyledion y dreth gyngor yn codi'n rheolaidd. Yn 2024, fe wnaeth Cyngor ar Bopeth ledled Cymru helpu dros 26,500 o bobl mewn perthynas â phroblemau dyled. Ôl-ddyledion y dreth gyngor oedd y broblem fwyaf cyffredin y byddent yn ymdrin â hi, felly fe wyddom ei bod yn broblem enfawr. Felly, rwy'n croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cyfnod o amser cyn rhoi unrhyw gamau gorfodi ar waith i 63 diwrnod, gan y credaf y bydd hyn yn helpu pobl sy'n cael trafferth. Felly, fel y dywedaf, rwy'n cefnogi'r camau gweithredu a gymerwyd. Beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl sy'n wynebu ôl-ddyledion y dreth gyngor?

Diolch i Julie Morgan am y set honno o gwestiynau atodol, Lywydd. Yr un peth pwysicaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud er mwyn atal ôl-ddyledion y dreth gyngor, wrth gwrs, oedd creu cynllun cenedlaethol budd-dal y dreth gyngor, mor bell yn ôl â 2013. Ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig o hyd sydd â chynllun cymorth cenedlaethol. Darparodd £244 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac elwodd 256,000 o aelwydydd ohono, ac ni thalodd 216,000 o aelwydydd unrhyw dreth gyngor o gwbl. Yn ôl y diffiniad, y rheini yw'r aelwydydd sydd leiaf abl i dalu'r dreth. Dyna'r un peth pwysicaf a wnawn i helpu i atal y teuluoedd hynny rhag wynebu ôl-ddyledion. Rydym wedi rhoi mesurau eraill ar waith ers hynny, wrth gwrs. ​​Rwy'n gwybod bod Julie Morgan yn frwd ei chefnogaeth i'r penderfyniad i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu treth gyngor, hyd at 25 oed. Mae tua 2,700 o bobl ifanc wedi elwa o'r penderfyniad hwnnw ers iddo gael ei wneud yn 2018.

Nawr, fel y dywedodd Julie Morgan, Lywydd, fe wnaethom ymgynghori ar set o fesurau penodol i wella'r prosesau sy'n ymateb pan fydd pobl yn wynebu ôl- ddyledion—mesurau'n ymwneud â hysbysiadau atgoffa, hysbysiadau terfynol, gorchmynion atebolrwydd, ac yn fwyaf arbennig, rhoi mwy o amser i bobl dalu. Roedd y rheolau blaenorol yn llym o ran yr effaith bosib. Wrth gwrs, nid oedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gweithredu yn ôl y gofynion mwyaf llym, oherwydd os methwch un taliad, mae’r gofynion mwyaf llym yn golygu y bydd gofyn i chi dalu’r bil blynyddol cyfan o fewn saith diwrnod. I bobl sy'n cael trafferth beth bynnag, mae’n amlwg nad oedd honno'n ffordd ddefnyddiol o fwrw ymlaen, ac ni wnaeth y rhan fwyaf o awdurdodau lleol fwrw ymlaen yn y ffordd honno o gwbl. ​​Ond nawr, bydd pobl yn cael 63 diwrnod, a bydd hynny'n caniatáu iddynt geisio'r cymorth y bydd ei angen arnynt er mwyn rheoli eu sefyllfa. Mae'r mesur yn fesur ataliol yn y ffordd honno, oherwydd ei nod yw atal problemau rhag gwaethygu a dod yn anos byth i unigolion allu mynd yn ôl ar y trywydd iawn. Darparu cyngor o’r fath, y defnydd o'r siarter fudd-daliadau yr ydym yn ei thrafod gyda'n hawdurdodau lleol, dyna fydd y mesurau ychwanegol a fydd yn helpu pobl sy'n wynebu’r anawsterau hyn.

Sgiliau Iaith Gymraeg Athrawon

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg? OQ63244

Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn. Llywydd, rydyn ni’n ariannu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu llawer o gymorth amrywiol, ar wahanol lefelau, i ymarferwyr ysgol ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn rhad ac am ddim. Mae dros 2,000 o aelodau'r gweithlu wedi derbyn hyfforddiant drwy'r ganolfan dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig.

13:35

Wel, shwmae, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2022 a 2023, hyfforddwyd 396 o athrawon sy'n siarad Cymraeg, ond, yn yr un flwyddyn, gadawodd 395 o athrawon y proffesiwn, sef cynnydd net o un yn unig mewn blwyddyn. Wrth gwrs, mae prinder athrawon sy'n hyderus i ddysgu trwy'r iaith yn rhywbeth sydd wedi dal addysg Gymraeg yn ôl, ac a all ddal Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn ôl hefyd, sef mesur y mae'r ddau ohonom ni wedi cydweithio'n agos arno. Yn wir, ychydig iawn mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi datblygu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf—0.6 y cant mewn ysgolion cynradd, ond cwymp o 0.7 y cant mewn ysgolion uwchradd. Felly, mae'n rhaid i rywbeth newid.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau o ran cyllid, cefnogaeth a thargedau sydd gan y Llywodraeth mewn lle, a fydd yn arwain at gynnydd ystyrlon yn sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg? A gall hyn, wrth gwrs, gynnwys yr athrawon hynny sydd eisioes â sgiliau Cymraeg cryf ond sydd angen mwy o hyder, a'r rhai hefyd sydd ag ychydig o Gymraeg ond sydd angen cefnogaeth i ddefnyddio'r iaith ar lawr y dosbarth. 

Diolch yn fawr i Cefin Campbell, Llywydd. Dwi'n cytuno ar y pwynt olaf roedd e'n ei wneud am bwysigrwydd y bobl sydd yn y gweithlu yn barod, a sut y gallwn ni wneud mwy i'w hybu nhw i ddatblygu sgiliau, cael mwy o hyder a chyfrannu at addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Nawr, mae arian yn un peth—ac fe glywais i beth ddywedodd yr Aelod dros y penwythnos diwethaf—ond mae lot o'r pethau eraill, rŷn ni'n gwybod, yn bwysig i bobl sy'n gwneud dewisiadau am ba un a ydyn nhw eisiau trio hyfforddi fel athrawon neu wneud rhyw waith arall. Ac rŷn ni'n gwybod o ran hyfforddiant, a hyfforddiant sydd o ansawdd uchel, ond sydd ar gael mewn ffordd ble mae pobl yn gallu defnyddio'r cyfleon yna, fod hwnna'n bwysig hefyd. Dyna pam mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ar hyn o bryd, yn cynnal nifer o raglenni wedi eu hanelu'n benodol at ddatblygu sgiliau iaith a hyder ein hathrawon.

Un enghraifft yw'r cwrs dwys pythefnos a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni ar gyfer darpar myfyrwyr PGCE. Fe gwblhaodd dros 40 o fyfyrwyr hyd at 60 awr o wersi Cymraeg, gyda chanlyniadau cadarnhaol o ran eu hyder a'u gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. A dyna jest un enghraifft o'r pethau sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd i dynnu mwy o bobl i mewn i'r gweithlu, ond hefyd, fel dywedodd Cefin Campbell, i ddatblygu sgiliau'r bobl sydd yn y gweithlu yn barod. 

Diolch yn fawr, Llywydd, a shwmae i chi. A shwmae hefyd i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.

A allaf i ofyn pa waith sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd i dynnu disgyblion sydd mewn prifysgolion yn Lloegr yn ôl i Gymru, i sicrhau eu bod nhw'n mynd i fod yn y gweithlu yma yng Nghymru? Efallai fydd yr iaith gyda nhw dros y ffin yn Lloegr, ond efallai y byddan nhw'n meddwl dysgu yn Lloegr neu lefydd eraill. Ond achos bod yr iaith gyda nhw, mae'n hollbwysig eu tynnu nhw yn ôl i mewn i Gymru, i mewn i'r gweithlu, i gryfhau'r niferoedd roedd Cefin Campbell yn sôn amdanyn nhw'n gynharach. So, pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud i dynnu'r disgyblion hynny yn ôl i mewn i Gymru?

Wel, diolch yn fawr, a shwmae, wrth gwrs, i Sam Kurtz. Fe ges i gyfle, rai wythnosau yn ôl nawr, i gael sgwrs gyda'r coleg cenedlaethol—nid y ganolfan dysgu genedlaethol, ond y coleg cenedlaethol. Mae mwy o bosibiliadau gyda nhw nawr. Maen nhw'n gallu ffeindio mas ble mae'r bobl yn nosbarth 6 yng Nghymru yn mynd i'r brifysgol—nid jest i Lundain, ond unrhyw le yn Lloegr—ac sydd wedi cael eu haddysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ac achos rydyn ni'n gallu gwneud pethau yn fwy hyblyg nawr ar y wefan, ac yn y blaen, maen nhw'n mynd i greu rhwydwaith o bobl sy'n siarad Cymraeg ond sydd yn rhywle lle does dim llawer o gyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg, achos eu bod nhw'n astudio'n Newcastle neu ble bynnag y maen nhw, a'u tynnu nhw gyda'i gilydd, jest i gael fwy o bosibiliadau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw, a chadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, a chreu rhwydwaith o bobl gyda'r diddordeb i wneud hynny.

Mae'r pwynt y mae Sam Kurtz yn ei wneud yn un pwysig, onid yw e? Rydyn ni eisiau pobl sydd wedi cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fynd i ble bynnag y maen nhw eisiau astudio, ond i gadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, ac i ddefnyddio'r Gymraeg yna ar ôl astudio a dod nôl i Gymru.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.

Diolch, Llywydd. Achos fy mod i'n dod o'r gogledd—

—fe ddywedaf ‘su'mae’ yn hytrach na ‘shwmae’ y prynhawn yma. 

Ysgrifennydd y Cabinet, mae hon yn adeg bwysig yn y cylch cyllidebol gyda Rachel Reeves, Canghellor y DU, ar fin cyflwyno cyllideb y mis nesaf. Ac wrth gwrs, bydd hynny'n cael effaith ganlyniadol ar gyllid Llywodraeth Cymru a'i gallu i ddarparu a gwario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Rwy'n clywed, fel chithau rwy'n siŵr, gan arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru sy'n dweud eu bod yn cael trafferth mantoli’r gyllideb o bryd i'w gilydd a delio â phwysau a thoriadau ariannol. Felly, tybed a oes gennych unrhyw ddymuniadau penodol ar gyfer cyllideb Rachel Reeves sydd ar y ffordd, a allai gefnogi ein hawdurdodau lleol ledled Cymru, gan gydnabod bod unrhyw gyllid a ddaw o San Steffan heb ei neilltuo, ond efallai y gallech roi syniad ble y dylid cyfeirio cyllid i sicrhau bod cynghorau'n gallu darparu'r gwasanaethau y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt.

Diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn. Lywydd, os ydym yn cymharu pethau o amgylch Cymru, 'shw' wyt ti' yw'r hyn y byddai pobl sir Gâr yn fwy tebygol o'i ddweud.

Fel y dywedais wrth yr Aelodau ddoe, rwy’n mynd i'r FISC, cynhadledd sefydlog y Gweinidogion cyllid, ddiwedd yr wythnos hon yng Nghaeredin. Bydd y materion a godir yno, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan weinyddiaethau’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, yn canolbwyntio ar fesurau mwy anghyllidol y gallai Llywodraeth y DU eu rhoi ar waith i'n helpu i wneud y defnydd gorau o'r arian sydd gennym.

Nid wyf yn credu y gallem ddisgwyl i symiau mawr o arian newydd ddeillio o gyllideb yr hydref, o ystyried popeth a ddarllenwn am amgylchiadau creu'r gyllideb honno, ac o ystyried mai ym mis Mehefin y nododd y Canghellor orwel refeniw tair blynedd a gorwel cyfalaf pedair blynedd ar ein cyfer. Ond y pethau y byddaf yn canolbwyntio arnynt yn fy sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU fydd yr angen am hyblygrwydd cyllidol, yr angen inni allu defnyddio'r arian sydd gennym eisoes mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru'n well, heb gymaint o gyfyngiadau drwy ficroreoli gan y Trysorlys.

Byddaf hefyd yn canolbwyntio ar set o syniadau i wneud i fformiwla Barnett weithio mor effeithiol ag y gall. Fe fyddwch chi'n gwybod mai polisi Llywodraeth Cymru yw y dylid cael rhywbeth yn lle fformiwla Barnett, ond mae llai o frwdfrydedd dros hynny mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond lle rwy'n credu y gall fod dull ar y cyd o weithredu yw sicrhau bod fformiwla Barnett yn gweithio mewn ffordd sy'n weladwy i bawb, yn ddealladwy i bawb, lle rydym yn glir beth yw'r rheolau. A lle bo anghydfod ynghylch dehongliad y rheolau hynny, fod yna elfen o annibyniaeth yn y ffordd yr eir i’r afael ag unrhyw un o'r anghydfodau hynny. Dyna lle rwy'n credu bod posib gwneud cynnydd erbyn cyllideb yr hydref, a dyna y byddaf yn canolbwyntio arno pan fyddaf yng Nghaeredin yr wythnos hon.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, mae cyllido cynghorau bob amser yn fater sensitif ac yn weithred o gydbwyso i'r awdurdodau lleol eu hunain. Yr hyn a welsom yn ddiweddar yn Lloegr nawr yw cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan bleidiau fel Reform UK. Rydym wedi gweld Reform UK yn rhedeg cynghorau gydag addewidion y byddant yn gwneud toriadau ysgubol i'r dreth gyngor a thrwy ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd o fewn yr awdurdodau lleol hynny. Mae'r dystiolaeth bellach yn glir, fodd bynnag, eu bod yn argymell codi'r dreth gyngor gymaint ag sy’n bosib, ac mewn mannau fel swydd Gaerwrangon, maent yn bwriadu codi'r dreth gyngor 10 y cant yn yr awdurdod lleol hwnnw. Ar ben hynny, nid yw eu rhaglen waith ‘DOGE’, a gafodd gymaint o sylw, o fynd ar drywydd arbedion effeithlonrwydd mewn awdurdodau lleol wedi canfod unrhyw beth o gwbl. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, o'r dystiolaeth a welwn ar hyn o bryd o Reform yn rhedeg ac yn gyfrifol am gyllid llywodraeth leol, fod eu poblyddiaeth yn fyrbwyll yn ariannol ac yn anghyfrifol yn wleidyddol?

13:45

Diolch i Sam Rowlands am y pwyntiau hynny. Mae'n ddiddorol iawn, onid yw, beth a ddysgwn pan welwn bobl yn gwneud yr addewidion byrbwyll hynny, a set hollol ffantasïol o addewidion economaidd, pan fyddwn yn eu gweld yn wynebu realiti rheoli gwasanaethau a gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn hytrach nag addewidion gwag a hawdd. Rwyf wedi bod yn gwylio perfformiad Reform yn arbennig yn arwain Cyngor Sir Caint. Cefais gyfle yn gynharach yn y flwyddyn i gyfarfod ag arweinydd Ceidwadol y cyngor sir ar y pryd ac i glywed am beth o'r gwaith arloesol yr oeddent yn ei wneud a'r straen a deimlent yn eu cyllidebau bryd hynny. Nawr mae ganddynt gyngor Reform sy'n canfod, fel y dywedwch, fod y syniad fod yna lawer o bethau'n digwydd y gellir eu hepgor yn hawdd a lle nad oes neb yn cael ei niweidio yn y broses yn gwbl anghywir mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod goleuni democratiaeth yn tywynnu ar y lleoedd hynny, ac rwy'n gobeithio yma yng Nghymru fod pobl yn dysgu'r gwersi o hynny, eu bod yn gweld realiti'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n dilyn set o addewidion nad oes ganddynt unrhyw obaith o gwbl o gael eu cyflawni.

Diolch eto am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwybod yn rhy dda am rai o'r heriau sydd gan arweinwyr cynghorau wrth fantoli’r gyllideb ac rydych chi'n iawn, mae'r rhai sy’n ceisio cael eu hethol yn gwneud llawer gormod o addewidion.

A sôn am gyllid ffantasïol, clywsom gan Blaid Cymru eto am eu hymgais i sicrhau annibyniaeth o'r Deyrnas Unedig. Roedd yn ddiddorol clywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn tynnu sylw at y baich treth y byddai hynny'n ei achosi i bobl yma yng Nghymru, pe dilynid addewid Plaid Cymru o annibyniaeth ymhellach nag a wnaed hyd yma. Nododd Jo Stevens y byddai'n rhaid dod o hyd i £21 biliwn o dreth yn flynyddol yma yng Nghymru—dyna £11,000 y pen y flwyddyn yma yng Nghymru. Beth fyddai eich asesiad chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai Plaid Cymru yn cael eu ffordd ac yn cael Cymru annibynnol? Beth fyddai eich asesiad chi ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi yma? Diolch yn fawr.

Unwaith eto, diolch i Sam Rowlands am hynny. Gadewch i mi egluro fy safbwynt fy hun ar hyn ar y dechrau. Mae annibyniaeth yn llwybr gweithredu sydd ar gael i bobl Cymru, ond byddai angen i'r ddadl gyda phobl Cymru fod yn un onest ynglŷn â'r hyn y gellid ei ennill a'r hyn a fyddai'n cael ei golli yn y broses, oherwydd yr achos dros y Deyrnas Unedig yw ei bod yn beiriant ailddosbarthu gwych, o'i redeg yn y ffordd gywir. Mae hynny'n golygu bod y rhannau o'r Deyrnas Unedig lle mae'r anghenion mwyaf yn elwa o'r arian sy'n llifo i'r ardaloedd o leoedd lle mae arian ar gael yn fwy helaeth. Rydym yn sicr yn gwybod y bydd hynny'n wir am Gymru, Lywydd. Mae 22 y cant o'r boblogaeth yng Nghymru dros 65 oed o'i gymharu â 19 y cant yn Lloegr. Rydym yn gwybod bod anghenion pobl hŷn yn gyrru defnydd a chostau yn ein gwasanaeth iechyd, ein gwasanaeth gofal cymdeithasol ac yn y blaen, oherwydd bod cysylltiad rhwng poblogaethau hŷn a lefelau uwch o salwch ac anabledd. Mae cyfran y bobl anabl yng Nghymru oddeutu 21 y cant, eto o'i gymharu â 18 y cant yn Lloegr. Mae 30 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardal wledig, o'i gymharu â 17 y cant yn Lloegr. Mae—ac mae hwn yn ffigur sydd bob amser yn aros yn fy meddwl—6.7 milltir o ffordd i bob 1,000 o bobl yng Nghymru, o'i gymharu â 3.4 milltir i bob 1,000 o bobl yn Lloegr.

Mae'r holl bethau hynny'n golygu bod y swm o gyllid sydd ei angen yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth sy’n cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn uwch. Os nad yw Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig, byddai'r effaith gydbwyso sy'n dod gyda bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn diflannu. Byddai bil mawr iawn i bobl ei gyrraedd. Gall pobl ddewis talu'r bil hwnnw. Mae hwnnw'n ddewis gwirioneddol ddilys y gall pobl ei wneud, ond byddent am ei wneud gyda'u llygaid ar agor, nid yn y gred bod y llwybr i annibyniaeth yn balmant o aur, oherwydd yn bendant, nid yw hynny'n wir.

13:50

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Su'mae i bawb yma. Yn sicr, o edrych ar yr hyn rydych chi newydd fod yn ei drafod, dwi eisiau edrych ar undeb arall, sef yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd, wrth gwrs, mi gyhoeddwyd cronfa twf newydd i Gymru, sef yr ymgais ddiweddaraf gan San Steffan i ymateb i'r diffygion buddsoddiad sylweddol sydd wedi bod yn sgil Brexit. Allwch chi gadarnhau a yw'r swm sydd wedi'i glustnodi ar gyfer Cymru yn fwy neu'n llai na beth ddaeth drwy raglenni cyfatebol Llywodraeth flaenorol San Steffan?

Lywydd, nid yw hwn yn fater y mae gennyf gyfrifoldeb gweinidogol amdano, ac nid wyf yn uniongyrchol gyfrifol am fanylion y polisi. Yr hyn y gallaf ei ddweud yn hollol sicr yw bod gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn achos niwed economaidd, i'r Deyrnas Unedig ac i bobl Cymru. O'r diwedd, rydym bellach mewn sefyllfa lle mae arian a arferai lifo o'r Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol i'r Siambr hon bellach wedi cael ei ddychwelyd i Gymru, ac mae wedi cymryd y rhan orau o ddegawd i hynny ddigwydd. Rydym i gyd yn cofio'r addewidion niferus yma na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Yn anffodus, fe wyddom nad yw hynny'n wir, ac nid yw'r swm o arian sydd gennym yn y gronfa honno yr un swm o arian y byddem wedi'i gael pe baem yn parhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, mae £500 miliwn nad oedd ar gael i'r Senedd hon yn flaenorol yn mynd i fod ar gael nawr dros y tair blynedd nesaf.

Diolch am yr ymateb hwnnw. Yn amlwg, rydym ni i gyd yn cofio, dwi'n siŵr, yr addewidion hynny oedd yn dweud na fyddai Cymru un geiniog yn dlotach o adael yr Undeb Ewropeaidd, a dwi'n meddwl bod yn dal angen i ddwyn pobl i gyfrif a oedd yn dweud hynny. Yn sicr, mae wedi creu bwlch mawr. Eich rhagflaenydd chi fel Ysgrifennydd dros gyllid wnaeth gyhoeddi'r asesiad a ddangosodd bod Cymru wedi colli'r £1.1 biliwn yna. Gan fod hwnnw'n dal yn gyfrifoldeb i chi, gaf i ofyn a oes asesiad mwy diweddar wedi ei wneud, ac a oes yna amcangyfrif o ran beth fydd maint y colledion erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf, yn y gobaith y bydd hynny, wrth gwrs, wedi'i leihau? 

Yr £1.1 biliwn ydy'r swm rŷm ni wedi ei gyfrifo sy'n dangos yr arian rŷm ni wedi ei golli mas arno drwy'r structural funds ar un ochr, a'r arian sy'n dod i mewn i Gymru wledig hefyd, ac mae hynny'n dal i fod yn wir. Rŷm ni wedi cael rhywfaint o'r arian yna nôl i ni yma, a'r her nesaf yw defnyddio'r arian newydd sydd gyda ni yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Diolch. Ac o ran, felly, edrych ar y gronfa twf newydd i Gymru, dwi'n siŵr bod chithau, fel finnau, yn croesawu bod yna lais i Gymru. Doedd hi ddim yn sefyllfa dda mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd yn cael penderfynu sut roedd hwnna'n cael ei wario. A ydych chi wedi cael y sicrwydd yna fel Llywodraeth ac fel Cabinet y byddwch chi yn gallu cael cyfrifoldeb llwyr dros y £0.5 biliwn yna, ac na fydd yn rhaid cael rhyw fath o ganiatâd gan San Steffan o ran gwario hwnnw—bydd gennych chi'r hyblygrwydd fel Llywodraeth i'w fuddsoddi fo?

Fydd ddim yn rhaid i ni gael caniatâd gan unrhyw le arall i ddefnyddio'r arian, ond rŷm ni yn mynd i gytuno ar fframwaith, fel roedd fframwaith gyda ni pan oeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd. Pan oedd arian yn dod atom ni yr adeg yna, roedd fframwaith gyda ni, fframwaith roeddem ni wedi cytuno arni gyda'r Undeb Ewropeaidd ar y pynciau roeddem ni'n gallu eu hariannu. Wel, mae hynny'n eithaf teg, nawr, pan ŷm ni'n gwneud yr un peth gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. O dan y fframwaith, bydd y penderfyniadau i gyd, ar sut i wario'r arian, sut rŷm ni'n mynd ati, y partneriaethau rŷm ni'n mynd i'w creu i'n helpu ni i wneud hynny—bydd popeth fel yna nôl fan hyn yn ein dwylo ni yng Nghymru.

Cynlluniau'r Rhaglen Lywodraethu

3. Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau y bydd holl gynlluniau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cael eu hariannu'n llawn erbyn diwedd y Senedd hon? OQ63253

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Lywydd, fe wnaethom ddarparu cyllid ar gyfer ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon yng nghyllideb derfynol 2025-26, a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mawrth eleni.

13:55

Diolch, Weinidog cyllid. Un o'r pethau a wneuthum yn ystod yr wythnosau diwethaf yw ymweld â'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yng Nghastell-nedd, a dyma ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu yr ymwelodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ag ef, a dywedwyd wrthym, yn amlwg, fod cyllid yn allweddol i gyflawni'r prosiect pwysig hwnnw. Ar hyn o bryd, maent yn bodoli ar y cyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn unig, ac nid ydynt wedi llwyddo i sicrhau unrhyw gyllid sector preifat. O ystyried ei fod yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, a yw'r Ysgrifennydd cyllid wedi cael unrhyw sylwadau gan ei gyd-Weinidogion Cabinet i sicrhau bod y prosiect hwn yn gallu cyrraedd ei botensial? Ac os nad yw'r ceisiadau hynny wedi dod i mewn, mae'n golygu yn rhesymegol, wrth gwrs, na fydd yr ymrwymiad hwn yn y rhaglen lywodraethu yn cael ei gyflawni erbyn diwedd tymor y Senedd.

Wel, Lywydd, bydd Llywodraeth Cymru wedi gwario'n llawn y swm o arian yr oeddem wedi addo ei ddarparu i'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ar yr un pryd ag y buddsoddodd y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd yn San Steffan yn y ganolfan honno hefyd. Nawr, mae'r hyn y mae Andrew R.T. Davies yn ei ddweud yn gywir, fod yr arian hwnnw wedi'i ddarparu ar y rhagdybiaeth, gyda buddsoddiad cyhoeddus yn y safle—safle gwych a phrosbectws cymhellol iawn—y byddai buddsoddiad sector preifat yn cyrraedd i gwblhau'r prosiect hwnnw. Am lawer o resymau cymhleth, heb os, nid yw'r arian sector preifat wedi'i wireddu eto. Fodd bynnag, rwyf wedi derbyn sylwadau gan gyd-Weinidogion eraill yn y Cabinet, ac mae gwaith yn mynd rhagddo o fewn Llywodraeth Cymru i weld sut y gellir cefnogi'r prosiect ymhellach.

Mae cyfrifiad anodd i'w wneud yma, Lywydd, rhwng y graddau y mae buddsoddiad cyhoeddus yn denu buddsoddiad preifat, a dyna oedd y bwriad yn yr achos hwn—. Pryd y mae hynny'n symud i mewn i set o gyfrifiadau lle mae'r sector preifat eisiau i'r sector cyhoeddus ysgwyddo'r holl risg a bod y sector preifat ond yn cyrraedd pan fydd elw i'w gymryd ohono? Felly, mae'r rhain yn drafodaethau cymhleth a sensitif sy'n mynd rhagddynt, ond mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn argyhoeddedig o'r potensial ar gyfer y safle hwn, a'r dibenion y sefydlwyd y ganolfan fyd-eang ar eu cyfer. Byddwn am barhau i fod yn gefnogol, ar yr amod ei bod yn amlwg fod gan y buddsoddiad cyhoeddus sy'n cael ei wneud obaith realistig o gael enillion ohono i'r cyhoedd sy'n gwneud y buddsoddiad hwnnw.

Su'mae. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, drwy'r rhaglen lywodraethu, yn sicrhau bod gwariant cyhoeddus o fudd i bobl Cymru ac yn cydnabod cymaint y mae ein cymunedau yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus cryf yn eu bywydau bob dydd. Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy wedi'i hariannu'n dda yn hanfodol i'n hetholwyr, sy'n dibynnu arni ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn ogystal â chyfleoedd hamdden a chyflogaeth. Mae'r cynllun tocynnau bws £1 ar gyfer pobl dan 21 oed yn enghraifft ardderchog o wella mynediad a chyfleoedd i'n pobl ifanc. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn pa gyllid sydd wedi'i ddarparu i warantu'r cynllun pwysig a gwerthfawr hwn?

Wel, a gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn hwnnw? Oherwydd mae'n dangos bod y rhaglen lywodraethu'n ddogfen fyw. Nid yw'n rhywbeth a gynhyrchir ym mlwyddyn gyntaf y tymor ac na chaiff ei ddatblygu ar ôl hynny, ac mae'r eitem y mae'n tynnu sylw ato yn un o'r elfennau yn y rhaglen lywodraethu sydd wedi'u hychwanegu ato yn ail hanner y tymor Senedd hwn.

Cyfanswm cost y cynllun peilot blwyddyn o hyd fydd £22 miliwn, Lywydd. Mae'r arian hwnnw wedi'i ddarparu'n llawn fel rhan o'n cyllid i'r rhaglen lywodraethu. Mae'n cael ei rannu rhwng dwy flynedd ariannol: bydd £11.5 miliwn ar gael yn y flwyddyn gyfredol, a chadarnheais ddoe, yn y gyllideb ddrafft, fod y £10.5 miliwn y bydd ei angen yng nghyllideb y flwyddyn nesaf wedi'i roi yn y gyllideb ddrafft a'i fod yn rhan o'r cynlluniau sydd gennym ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Shwmae. Er na fyddem byth yn dweud hynny yn fy rhan i o'r byd, beth bynnag, ond—.

Treth Gyngor Tecach

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fentrau Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach? OQ63242

O ystyried eich bod yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n tybio eich bod chi'n dweud pob un fersiwn o shwmae/su'mae yn eich rhanbarth chi.

14:00

Wel, Lywydd, rydym yn cydnabod y gwaith cenhadol y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei rhanbarth ar y pwnc hwn.

Ac mewn perthynas â'i chwestiwn, ers dros ddegawd, mae Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi gweithredu i liniaru annhegwch cynhenid y dreth gyngor. Rydym wedi eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag gorfod talu'r dreth, wedi cael gwared â charchar fel cosb am fynd i ôl-ddyledion, ac erbyn diwedd y tymor hwn, byddwn wedi moderneiddio'r broses apelio, wedi ad-drefnu'r system ddisgowntiau ac esemptiadau, a gwneud gorfodi'n decach hefyd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n anodd credu iddi gymryd tan 2019 i roi diwedd ar yr arfer o garcharu pobl am beidio â thalu'r dreth gyngor; a rhoddodd Cymru ddiwedd ar yr arfer hwnnw yn 2019 wrth gwrs. Roedd bygythiad a realiti carcharu, wrth gwrs, fel y rhan fwyaf o bethau, yn cael effaith fwy ar fenywod nag ar ddynion. Byddai gennyf ddiddordeb mewn unrhyw ddadansoddiad o effaith barhaus carcharu lle mae hynny'n dal i ddigwydd, ac i'r gwrthwyneb, lle nad yw'n digwydd, fel yng Nghymru, a gweld a yw'r dystiolaeth yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae'r newid hwnnw wedi'i chael ar y menywod tlotaf yng Nghymru.

Wel, Lywydd, diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol pwysig. Rwy'n cofio ei chefnogaeth gref i gael gwared ar ddedfrydau carchar am beidio â thalu'r dreth gyngor pan wnaed hynny yn ôl yn 2019, a wyddoch chi, mae'n rhan o'i hanes nodedig o siarad ar faterion menywod yma yn y Senedd.

Yr hyn a wyddom, yn y cyfnod ers cael gwared ar ddedfrydau o garchar am y drosedd hon yma, yw bod 81 o bobl wedi cael eu carcharu yn Lloegr—o leiaf—yn y cyfnod hwnnw. Lloegr yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle gallwch chi ddal i gael eich carcharu am fethu talu. Ac yn Lloegr, mae 2,170 o bobl eraill wedi cael gorchmynion traddodi gohiriedig, lle rydych chi un cam i ffwrdd o gael eich carcharu. Ac wrth gwrs, Lywydd, mae Joyce Watson yn llygad ei lle fod menywod yn fwy tebygol o gael eu carcharu am fethu talu'r dreth.

Ag ystyried cyflwr presennol y system cyfiawnder troseddol a'r ystad garchardai, credaf yn gryf mai'r bobl y mae gwir angen amddiffyn y cyhoedd rhagddynt a ddylai fod yn mynd i'r carchar. Rwy'n gwbl argyhoeddedig nad yw methu talu'r dreth gyngor yn rhywbeth sy'n peryglu aelodau eraill o'r cyhoedd.

Mae menywod wedi’u gorgynrychioli ymhlith y bobl hynny am eu bod yn aml mewn sefyllfa fregus yn ariannol, mae ganddynt gyfrifoldebau gofalu, ac yn aml, mae eu profiad o gam-drin domestig yn eu gadael â rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor. Felly, nid yn unig ein bod wedi gwneud peth da yma yng Nghymru yn gyffredinol, ond rwy'n gobeithio bod y mesur hwnnw wedi cael effaith arbennig o gadarnhaol ar fenywod a fyddai fel arall yn cael eu heffeithio gan hyn.

Shwmae i chi i gyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn Lloegr, mae cynnydd yn y dreth gyngor yn cael sylw yn y wasg gan fod awdurdodau lleol, fel y gwyddom, yn gwthio tuag at y cap o 5 y cant; maent eisoes yn cyhoeddi hynny. Fodd bynnag, yng Nghymru, ni all llawer o drigolion ond dychmygu cynnydd o 5 y cant. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, y llynedd, cododd y dreth gyngor 7.9 y cant, yn dilyn cynnydd o 7.8 y cant y flwyddyn cynt, ac ychydig bach o dan 6 y cant y flwyddyn cyn hynny. Mae'r codiadau enfawr hyn yn rhoi pwysau gwirioneddol ar deuluoedd, yn enwedig ar hyn o bryd, a hwythau'n delio â chostau byw a'r heriau a ddaw gyda hynny.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pam ei bod hi'n deg fod gan gynghorau yng Nghymru bŵer i godi'r dreth gyngor mor eithafol, tra bo cynghorau yn Lloegr, sydd hefyd o dan reolaeth Llafur, wedi'u cyfyngu'n gyfreithiol rhag eu codi y tu hwnt i 5 y cant heb refferendwm?

Wel, Lywydd, oherwydd mai ein barn ni yma yng Nghymru yw mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol, cynghorwyr a etholir yn uniongyrchol gan eu poblogaethau, yw arfer cyfrifoldeb dros y dreth gyngor, ac na ddylid gwneud y penderfyniadau hynny yma ym Mae Caerdydd, ac rwy'n sefyll wrth hynny. Rwy'n dal i gredu mai dyna'r ffordd ddemocrataidd gywir o wneud pethau. Yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol; maent yn wynebu eu hetholwyr ar sail y penderfyniadau y maent hwy eu hunain wedi'u gwneud. Mae'r Aelod yn awgrymu bod pobl yng Nghymru yn genfigennus o'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Gallaf roi sicrwydd iddo, yn Lloegr, lle nad oes cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, a lle mae'n rhaid i'r bobl dlotaf dalu bob blwyddyn nawr tuag at dreth gyngor, fod y bobl hynny'n edrych ar Gymru ac yn gweld y cymorth sydd ar gael yma i bobl a fyddai fel arall yn wynebu sefyllfa mor anodd.

14:05
Caffael yn y Sector Cyhoeddus

5. Sut y mae'r Llywodraeth yn annog y sector cyhoeddus i gaffael gan fusnesau Cymru? OQ63259

Diolch yn fawr i Peredur am y cwestiwn, Llywydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod caffael cyhoeddus yn darparu'r gwerth mwyaf i Gymru, yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol. Rydym yn cydnabod pŵer caffael fel dull o weithredu i gefnogi busnesau Cymru, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno rhaglen ddiwygio ar gyfer caffael i wneud contractau cyhoeddus yn fwy hygyrch.

Diolch yn fawr am yr ateb yna.

Gall gwella lefelau caffael cyhoeddus fod yn ffactor enfawr i hybu'r economi. Mae'n destun cryn ofid, felly, fod y Llywodraeth Lafur wedi osgoi gosod targedau ar gyfer caffael cyhoeddus. Dyma oedd y sefyllfa drwy gydol fy ngwaith craffu ar Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, fel y'i gelwir bellach—y Bil fel yr oedd bryd hynny. Fel y mae fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru, Luke Fletcher, wedi'i nodi yn ei gynllun economaidd, 'Gwneud i Gymru Weithio', defnyddiwyd caffael cyhoeddus yn effeithiol iawn gan Gyngor Dinas Preston. Fe wnaethant weithredu strategaeth a gynyddodd wariant caffael sefydliadau angor allweddol gyda chyflenwyr lleol a rhanbarthol o lai na 40 y cant i oddeutu 80 y cant. Arweiniodd hyn at greu 4,000 o swyddi newydd ar y cyflog byw, a helpodd i godi'r ddinas allan o'r 20 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y DU, gyda diweithdra hefyd yn cwympo’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Gellid efelychu hyn ar raddfa fwy yng Nghymru i sicrhau manteision hyd yn oed yn fwy i'r genedl a chreu swyddi. A ydych chi'n cytuno â Phlaid Cymru y gall caffael cyhoeddus fod yn ddull effeithiol o hybu'r economi leol, yn enwedig ffawd busnesau bach a chanolig, ac a ydych chi hefyd yn credu bod cyfle wedi'i golli gan eich Llywodraeth i wneud rhywbeth am lefelau caffael cyhoeddus isel Cymru yn y Senedd hon?

Wel, Lywydd, rwy'n cytuno â gosodiad cyntaf yr Aelod ac rwy'n anghytuno â'r ail.

Wrth gwrs, mae'n wir ein bod eisiau sicrhau'r gwerth llawn o bob £1 a ddefnyddir gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n gyfarwydd iawn ag enghraifft Preston. Cefais gyfle i glywed fwy nag unwaith gan arweinydd y cyngor ar y pryd am y gwaith a wnaethant. Lle nad wyf yn cytuno â'r Aelod yw mai'r ffordd i wneud hynny yw drwy drefniadau anhyblyg sy'n canolbwyntio ar dargedau. Yn fy mhrofiad i, mae angen defnyddio targedau'n gynnil ac yn glyfar. Os cânt eu defnyddio mewn ffordd anhyblyg a chyffredinol, yr hyn y maent yn ei wneud mewn gwirionedd yw annog ymddygiadau gwrthnysig yn y system, lle mae pobl yn canolbwyntio ar gyflawni'r targed yn hytrach na chyflawni'r nod y sefydlwyd y targed ar ei gyfer.

Felly, rydym wedi newid y gyfraith yma yng Nghymru drwy Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024. Mae'r rheini'n gwneud newidiadau i'r ffordd y mae cyfleoedd yn cael eu hysbysebu ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru, yn ad-drefnu'r biblinell gaffael i sicrhau bod y cyfleoedd hynny'n hysbys yn gynnar yn y broses, yn symleiddio'r system dendro, ac yn ymestyn y system talu'n brydlon yma yng Nghymru.

Credaf y byddai pob un ohonom yma eisiau sicrhau bod gan fusnesau Cymru y cyfleoedd gorau posib i wneud cais am y cyfleoedd a ddaw drwy'r llwybr caffael cyhoeddus. Dyna rydym yn canolbwyntio arno. Mae mwy o newid i ddod, rheoliadau pellach yn deillio o'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol yn enwedig, ac edrychaf ymlaen at gyflwyno'r rheini gerbron y Senedd.

Cyn imi ddechrau, hoffwn ddymuno, i chi ac Ysgrifennydd y Cabinet a phawb sy'n dathlu, ar ran pawb yng Nghymru, a de-ddwyrain Cymru yn benodol, a aned yma efallai, sy'n gweithio yma, a fagwyd yma fel finnau, aap sab ko, hum sab ki taraf se, dil se, Diwrnod Shwmae ki dhair sari shub kamniyeh, sy'n golygu Diwrnod Shwmae da iawn, dylwn ddweud, dymuniadau da gennyf fi a phawb arall rwy'n eu cynrychioli. Felly, diolch yn fawr.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn wahanol i Lafur a Phlaid Cymru, a bleidleisiodd, yn gwbl warthus, yn erbyn ein galwadau i gefnogi ein ffermwyr drwy gael gwared ar y cynllun ffermio cynaliadwy, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gadarn ar ochr ffermwyr diwyd. Buaswn yn dadlau bod ffermwyr ledled Cymru yn cynhyrchu peth o'r bwyd mwyaf blasus sydd i'w gael, sydd hefyd yn iach, yn faethlon ac yn gynaliadwy. Mae'n amlwg fod angen ein cymorth ar ein ffermwyr. Un ffordd y gall Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth yw drwy sicrhau bod eu cynnyrch Cymreig gwych yn cael ei weini yn ein hysbytai a'n hysgolion ac mewn mannau eraill ar draws y sector cyhoeddus. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi cystal ag amlinellu pa gamau rhagweithiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r defnydd o'n bwyd Cymreig gwych o fewn y sector cyhoeddus ei hun? Diolch.

14:10

Wel, diolch yn fawr i Natasha Asghar.

Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. 

Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae wedi bod yn wych clywed pobl yn ei defnyddio o gwmpas y Siambr y prynhawn yma.

Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn y Siambr, wythnos yn ôl, rwy'n credu, pan glywais Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am gefnogi'r sector amaethyddol, a'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud ym maes bwyd a diod, yn egluro i'r Aelodau sut y bydd y cynllun y mae wedi cytuno arno yn cefnogi'r diwydiant hwnnw yn y dyfodol. Mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru yn llwyddiant enfawr, gyda thwf mawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac ystod enfawr o gynhyrchion o ansawdd gwirioneddol uchel sy'n cael eu gwerthu nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y byd.

Mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod y cynhyrchion hynny'n cael eu defnyddio lle mae bwyd cyhoeddus yn cael ei gaffael. Rwy'n gyfarwydd â rhai o'r arbrofion a gynhaliwyd yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, gyda'r bwrdd iechyd lleol a chyflenwyr bwyd a diod. Mae rhai heriau ar y daith, ond maent yn bethau i ni eu datrys, yn hytrach na dim ond eu nodi. Pan wnawn hynny, byddwn yn sicrhau, nid yn unig fod y bunt gyhoeddus yn mynd ymhellach, ond y bydd ansawdd y bwyd a diod a gyflenwir o'r safon y gwyddom fod y diwydiant yng Nghymru yn ei chynhyrchu.

Shwmae, Lywydd, a shwmae, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pŵer caffael pwrs y wlad yn un o'r prif ddulliau sydd gennym yma yng Nghymru o hybu'r newid mewn canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol rydym eisiau ei weld. Ac wrth gwrs, fel y crybwyllwyd yn gynharach, mae gennym bellach ddwy ddeddf allweddol sy'n ymdrin â chaffael yng Nghymru, gan gynnwys y ddeddf nodedig, Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Daeth y Gorchymyn cychwyn ar gyfer rhan gaffael y ddeddfwriaeth honno i rym eleni. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i chi amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau caffael cyhoeddus yn dilyn cyflwyno'r Ddeddf? Diolch.

Wel, diolch i Hannah Blythyn am hynny, Lywydd. Rwy'n cofio'n dda iawn, pan ddechreuodd y Ddeddf honno ei thaith drwy Lywodraeth Cymru a thuag at y Senedd, ei bod bob amser yn cael ei galw'n fewnol yn 'Ddeddf partneriaeth gymdeithasol', a'r gwaith a wnaeth yr Aelod pan oedd yn gyfrifol am y Bil hwnnw a'i trodd yn Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)—elfen newydd bwysig iawn yn y gwaith hwnnw. Ac mae'r Aelod yn llygad ei lle: mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu; mae rhagor o reoliadau gweithredu i ddod gerbron y Senedd hon. Mae gweithredu'r agweddau hynny ar y Ddeddf sydd eisoes ar waith hefyd yn cyd-daro â gweithredu Deddf Caffael 2003, Deddf y DU, ond sydd â dylanwad sylweddol yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r sector ddod i arfer â rhai o'r ffyrdd newydd y mae'r Deddfau hynny, gyda'i gilydd, yn gosod gofynion arnynt. Ac mae'n wir, yn y misoedd cynnar iawn, fod rhai sefydliadau wedi cymryd peth amser i ddod i arfer â'r pyrth newydd a'r gofynion newydd. Ond yn y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y busnesau sy'n defnyddio'r trefniadau hynny, nifer y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, ac rwy'n hyderus, wrth inni roi'r rhan bwysig iawn hon o'r sector cyhoeddus ar y sail newydd honno, gan wneud yr holl bethau yr amlinellais yn fy ateb gwreiddiol, y byddwn yn gweld y manteision cadarnhaol cryf a ddaw i Gymru o ganlyniad i'r gwaith y bu eraill, ond yn enwedig yr Aelod dros Ddelyn, yn rhan o'i gyflawni.

Cefnogaeth Ariannol i Hosbisau

6. Pa ystyriaeth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi i gynyddu'r gefnogaeth ariannol i hosbisau wrth baratoi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27? OQ63247

14:15

Roedd y gyllideb ddrafft amlinellol a gyhoeddwyd ddoe yn darparu cynnydd ar sail chwyddiant i bob rhan o Lywodraeth Cymru. Bydd ein cynlluniau gwariant llawn yn cael eu cyhoeddi ar 3 Tachwedd.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hosbisau ledled Cymru yn darparu gofal a chymorth hanfodol i bobl â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd a salwch terfynol ac i'r teuluoedd sy'n gofalu amdanynt. Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam, sydd, fel y gwyddoch, yn darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel, gan helpu cleifion i fyw gydag urddas a chysur, yn aml yn yr amgylchiadau mwyaf heriol. Mae'n enghraifft wych o'r hyn y mae hosbisau ledled Cymru yn ei wneud o ddydd i ddydd. Ond gwyddom fod hosbisau fel Tŷ'r Eos o dan bwysau ariannol sylweddol. Mae costau cynyddol, galw cynyddol a heriau parhaus yn gysylltiedig â'r gweithlu yn rhoi straen enfawr ar y gwasanaethau hyn. Ond gwyddom hefyd fod hosbisau yn cefnogi ein GIG a'n gwasanaethau iechyd drwy fynd â'r baich oddi arnynt, yn ariannol ac yn ymarferol. Rwy'n derbyn eich ateb ar gyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn ffurfiol, ond tybed sut rydych chi'n ystyried rôl hosbisau yn cefnogi ein GIG yn ehangach, yn enwedig o safbwynt ariannol, a'u gallu i ddarparu'r gwasanaethau hyn, ac o safbwynt elusennol, efallai gyda mwy o werth am arian ar adegau hefyd. Diolch yn fawr.

Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth y mae'r Aelod wedi'i ddweud am bwysigrwydd hosbisau a'r gwaith a wnânt. Mae'n llygad ei le; rwyf wedi cael cyfle yn y gorffennol i ymweld â hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam gyda'r Aelod dros Wrecsam, pan oeddwn yn Weinidog iechyd yn fuan ar ei hôl. I fod yn glir, Lywydd, nid dyma'r tro cyntaf y prynhawn yma, er syndod i mi braidd, imi orfod esbonio mai'r Gweinidog cyllid wyf i, nid y Gweinidog iechyd na'r Gweinidog tai na'r Gweinidog addysg, a'r nifer o gwestiynau sy'n cael eu gofyn i'r dibenion hynny. Gallaf ddweud wrth yr Aelod, yn nhymor y Senedd hon, fod buddsoddiad mewn hosbisau wedi cynyddu'n sylweddol. Mae hynny'n cynnwys £5.2 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i'r sector hosbisau a mwy na £9.5 miliwn mewn grantiau untro. Mae'r unigolyn a fydd yn gwneud y penderfyniadau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn cyfarfod ag arweinwyr hosbisau ar 6 Tachwedd i drafod yr heriau y mae'r sector yn eu hwynebu. Bydd y manylion ynglŷn â sut y bydd y gyllideb ddrafft yn darparu ar gyfer y sector ar gael i'r Aelodau ar 3 Tachwedd, pan fydd y llinellau gwariant mwy manwl yn y gyllideb ddrafft yn cael eu cyhoeddi ac ar gael i'r Aelodau.

Treth Trafodiadau Tir

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gasglu'r dreth trafodiadau tir? OQ63237

Diolch i Peter Fox am hynny, Lywydd. Mae treth trafodiadau tir yn dod â refeniw sylweddol i Lywodraeth Cymru. Rhagwelir y bydd yn codi £401 miliwn yn 2026-27.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf fod treth trafodiadau tir yn dreth ormesol yn ei hanfod, nad yw'n gwneud unrhyw beth mewn gwirionedd ond mygu cyfleoedd a dyhead mewn llawer o bobl ifanc. Y gwir amdani yw, yng Nghas-gwent—gadewch inni ganolbwyntio ar Gas-gwent—gall teulu gweithgar sy'n prynu eu tŷ cyntaf dalu oddeutu £5,000 yn fwy, ar gyfartaledd, nag y byddent yn ei dalu pe bai'r tŷ hwnnw dros y ffin, lle na fyddent yn talu unrhyw beth am y math hwnnw o dŷ yn Lloegr. Felly, mae'r dreth hon yn creu rhwystr gwirioneddol i berchnogaeth tai ymhlith pobl ifanc yn sir Fynwy.

Rwy'n falch fod y Ceidwadwyr wedi addo cael gwared ar y dreth stamp yn Lloegr, ac rydym wedi addo y byddem yn gwneud yr un peth yma os gallwn. Gwn mai'r ymateb ystrydebol, yn ôl pob tebyg, fydd nad oes yn rhaid i deuluoedd dalu treth trafodiadau tir ar eiddo hyd at £225,000 yng Nghymru, ond nid yw hynny'n fawr o gymorth i bobl ifanc yn sir Fynwy, gan na chewch chi dŷ am £225,000 yn sir Fynwy. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddeall pam fod teuluoedd ifanc sy'n awyddus i ddechrau bywyd yn sir Fynwy yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi am fyw yng Nghymru?

Fel y gŵyr yr Aelod, ac fe ddyfynnodd y ffigur ei hun, nid ydych yn talu treth trafodiadau tir o gwbl yng Nghymru ar eiddo a brynir am lai na £225,000. Y swm cyfatebol yn Lloegr yw £125,000. Gwn fod rhywfaint o drefniadau arbennig ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ac rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud. Mae prisiau tai'n wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ond ni allaf osod treth trafodiadau tir ar gyfer pob sir. Mae'n rhaid i mi ei gosod ar gyfer Cymru gyfan, ac mae'r lefel rydym yn ei gosod arni, £225,000, yn golygu nad oes unrhyw dreth o gwbl yn cael ei thalu ar chwech o bob 10 trafodiad yng Nghymru. Felly, nid oes unrhyw dreth yn cael ei thalu ar gryn dipyn yn fwy na hanner y trafodiadau yng Nghymru, ac mae treth yn cael ei thalu ar ymhell dros hanner y trafodiadau yn Lloegr.

Gallwch edrych dros y ffin mewn un ffordd a dweud y byddai'n well gan bobl fod draw yno, ond mewn gwirionedd, nid yw ein system yng Nghymru yn system anflaengar. Mae ein system yn golygu bod y rhai sydd angen cymorth yn ei gael, a bod gofyn i'r rhai sy'n gallu talu'r dreth wneud hynny. Rydym yn adolygu'r sefyllfa bob blwyddyn, i weld a yw'r trothwy yn y lle iawn, ac a oes mwy y gallem ei wneud. Ond yn y gyllideb ddrafft, fel y byddwch wedi'i weld, mae'r trothwy yn parhau ar £225,000. Heb y dreth, byddai'r refeniw a ragwelir o £401 miliwn yn anochel yn llai, a byddai hynny'n golygu llai o arian i wneud yr holl bethau eraill—y cymorth i hosbisau y gofynnodd cyd-Aelod Peter Fox amdano nawr a'r holl bethau eraill y gwyddom, yma yn y Siambr, y byddem yn hoffi gwneud mwy ohonynt dros Gymru.

14:20
Yr Iaith Gymraeg yn y System Gofal Iechyd

8. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cynnal gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod darpariaeth iaith Gymraeg yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn y system gofal iechyd? OQ63256

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn. Llywydd, fel y dywedais i yn gynharach, mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol. Mae hynny’n golygu pawb yn y Cabinet. Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gyfrifol am 'Mwy na geiriau', sy’n cydnabod pa mor bwysig yw iaith i sicrhau gofal iechyd sy’n deg, diogel ac sy'n canolbwyntio ar y person.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n cytuno efo chi o ran 'Mwy na geiriau', mae hwnna'n adroddiad pwysig dros ben, ond mae adroddiad y Gymdeithas Strôc ar brofiadau pobl sy'n siarad yn y Gymraeg gydag affasia yn tynnu sylw at rwystrau difrifol y mae goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg yn eu hwynebu wrth geisio cael therapi lleferydd ac iaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn torri egwyddorion 'Mwy na geiriau', sef y fframwaith strategol. O ystyried y canfyddiadau hyn, pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd, gan gydweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i sicrhau mynediad teg at therapi lleferydd ac iaith yn y Gymraeg i oroeswyr strôc a phobl ag affasia ledled Cymru?

Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig yna. Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau strôc hefyd yn grŵp blaenoriaeth yn 'Mwy na geiriau'. Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yn cefnogi'r agenda hwn ac mae hyfforddiant dwyieithog yn cael ei gynnig. Mae prifysgolion Caerdydd a Wrecsam yn cynnig graddau mewn therapi iaith a lleferydd, ac mae bwrsariaeth ar gael gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i fyfyrwyr sy'n ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau. Mae yna fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ym mhob blwyddyn, ac mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi comisiynu rhaglen therapi iechyd a lleferydd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam er mwyn cefnogi gwasanaethau therapi iaith a lleferydd ar draws Cymru. 

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n ateb y cwestiynau dan eitem 2, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell. 

Datblygu Peilonau

1. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol ac ecolegol datblygu peilonau ledled Cymru? OQ63243

Member
Huw Irranca-Davies 14:24:14
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd seilwaith dosbarthu ynni i gefnogi datblygiadau ynni adnewyddadwy newydd ar raddfa fawr er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau sero net a rhoi mynediad i bobl at wres a thrafnidiaeth glân. Mae effeithiau amgylcheddol ac ecolegol cynnig sydd angen caniatâd cynllunio yn ystyriaethau perthnasol yn y broses o wneud penderfyniadau.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol o bryderon ynghylch effaith bosib prosiectau seilwaith ynni yng nghanolbarth Cymru, a hoffwn ofyn sut rydym yn asesu'r effaith amgylcheddol gronnol yn enwedig. Mae prosiectau unigol yn destun asesiadau o'r effaith amgylcheddol wrth gwrs, ond ceir diffyg dull cydgysylltiedig o asesu'r pwysau cyfunol y gallai datblygiadau lluosog ei roi ar gynefinoedd, bioamrywiaeth, tirweddau a chymunedau. Mae risg o greu mannau dall amgylcheddol, gan greu perygl, efallai, o effeithiau cronnol ar ecosystemau, dadleoliad rhywogaethau a dirywiad ardaloedd o dirwedd naturiol. Rydym hefyd mewn perygl o anwybyddu gwybodaeth amgylcheddol leol a phryderon cymunedau a'r ffordd y mae'n effeithio arnynt. Heb werthusiad strategol a chyfannol, mae'n anodd deall gwir raddfa'r effaith amgylcheddol a allai gael ei hachosi. O ystyried y pryderon hyn, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o effeithiau amgylcheddol ac ecolegol cronnol datblygiadau peilonau ledled Cymru, a sut y gallwn sicrhau bod prosiectau yn y dyfodol yn ystyried effeithiau cyfunol datblygiadau ynni lluosog mewn ardal benodol?

14:25

Diolch, Cefin. Fe fyddwch yn deall na allaf wneud sylwadau ar brosiectau unigol, gan ei bod yn bosib y gallai fod gan Weinidogion Cymru rôl yn gwneud penderfyniadau yn eu cylch. Ond fe wyddom, ac mae'n werth atgoffa ein hunain fel Siambr y Senedd, ein bod yn rhagweld y bydd galw Cymru am drydan yn dyblu yn ôl pob tebyg, ac efallai'n treblu, erbyn 2050, wrth inni bontio tuag at sero net a datgarboneiddio. Felly, mae diweddaru'r grid yn hanfodol os ydym am gael system ynni sy'n addas i'r diben yn y tymor hir, a hefyd ei bod yn cyrraedd pob rhan o Gymru, y cyflenwad a'r galw. Ond fe fyddwch yn gwybod ein bod hefyd wedi cynnull grŵp cynghori annibynnol ar grid trydan y dyfodol i Gymru, gan edrych ar waith ar ddulliau posib o ddarparu'r seilwaith hwnnw, gan gynnwys ystyried effeithiau amgylcheddol llinellau trydan yng Nghymru.

Rydych chi'n sôn am y fframwaith polisi. Yn gyntaf oll, mae 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' yn nodi'r polisïau ar raddfa genedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy. Mae polisi 17 yn 'Cymru’r Dyfodol' yn pwysleisio pwysigrwydd cynigion sy'n nodi'r manteision net y gallai'r cynllun eu darparu o ran—ac mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—nid yn unig yr agweddau economaidd ond yr agweddau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i gymunedau lleol.

Rydych chi'n gofyn, yn gywir ddigon, sut rydym yn edrych ar hyn wrth symud ymlaen, gan fod Cymru yn wir yn chwarae ei rhan o ran cynhyrchu trydan yma. Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn darparu proses gyfredol o wneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru, sy'n cael ei llywio drwy ymgysylltiad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill, a daw hynny i rym erbyn diwedd eleni, wrth gwrs. Mae effaith gronnol datblygiadau, yn cynnwys datblygiadau a ganiateir o dan broses y prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol, yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar gais o dan y drefn honno.

Su'mae. Yng Nghymru, mae gennym gefn gwlad hynod o brydferth. Credaf y dylid ei drysori a'i warchod. Cyfeiria'r cwestiwn gwreiddiol at ddatblygiadau peilonau. Rwyf wedi siarad â sefydliadau ar y ddwy ochr, ac rwyf hefyd wedi darllen yr arolwg a lansiwyd ar beilonau gan y Gynghrair Cefn Gwlad. Roedd 93 y cant o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu adeiladu peilonau yn eu hardal yn gryf, nid oedd 81 y cant o fusnesau yn gweld unrhyw fudd mewn adeiladu mwy o beilonau, a chododd 96 y cant o bobl bryderon ynghylch niwed i'r amgylchedd yn sgil adeiladu peilonau.

Mae'r peilonau hyn yn berygl i'n hamgylchedd naturiol. Maent yn berygl i'n gwlyptiroedd. Mae golwg rhai adar, fel elyrch a gwyddau, yn wael pan fyddant yn hedfan—daw hyn gan yr RSPB—yn ogystal ag adar ysglyfaethus, sy'n gallu cael sioc drydanol wrth eistedd ar bolion peilonau. Mae nifer o resymau pam y dylai fod gennym fandad sy'n dweud 'dim adeiladu peilonau oni fo hynny'n gwbl angenrheidiol'—heb unrhyw ffordd arall yn bosib. Nid oes unrhyw reswm pam na allant fynd o dan y ddaear. Mae'n cymryd saith mlynedd i adennill y gost, ac yna mae gennych eich gwaith tanddaearol wedi'i osod, ac mae pawb yn hapus.

Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried cyflwyno rhyw fath o fandad i osod ceblau trydan o dan y ddaear, ac unwaith eto, i ddefnyddio peilonau fel dewis olaf? Gadewch inni beidio â difetha ein cefn gwlad—

Rwyf wedi bod yn hael iawn. Fe ddaethoch at eich cwestiwn, ac yna fe benderfynoch chi ddechrau eto. Felly, y Gweinidog i ymateb.

Shwmae i chi hefyd, Janet. 

Diolch am eich cwestiwn. Yn gyntaf, i gyfeirio at yr ateb blaenorol a roddais, rydym wedi sefydlu grŵp cynghori annibynnol ar grid trydan y dyfodol i Gymru. Maent yn edrych ar ddulliau posib o ddarparu'r rhwydwaith trydan. Ond dof yn ôl at y pwynt nad mater o gynhyrchu ynni yn unig yw hyn, mae a wnelo â'r cyflenwad ynni hefyd, i'r holl rannau o Gymru sydd ei angen. Mewn rhai ffyrdd, bydd angen inni gludo'r trydan hwnnw i ac o'r holl ardaloedd hyn, gan gynnwys yr ardaloedd sydd angen datblygu economaidd sy'n dibynnu ar grid trydan.

Rwyf wedi dweud—ac rydych chithau'n gwybod hefyd; rydych chi'n aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—fod ein galw am drydan yn mynd i ddyblu, a threblu o bosib, erbyn 2050. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom feddwl o ddifrif am y materion hyn. A'r hyn nad oes ei angen arnom, Lywydd, yw unrhyw ddull lle mae'r consensws yr ydym wedi'i sefydlu dros yr 20 mlynedd diwethaf, ers ymddangosiad, yn ôl pob golwg, un Margaret Thatcher yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ym 1990 i ddweud bod angen inni fynd i'r afael â newid hinsawdd mewn gwirionedd, fod angen inni ymrwymo i fynd i'r afael o ddifrif â datgarboneiddio—. Mae gweld un blaid yn cefnu ar hynny nawr yn siom wirioneddol, rhaid imi ddweud.

14:30
Llifogydd

2. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar weithredu argymhellion adroddiad Llifogydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd yn Hydref 2024? OQ63236

Diolch, Heledd. Cyhoeddais yr ymateb ffurfiol i’r adroddiad ar 17 Ebrill 2025. Rydym wedi bod yn cydweithio â rhanddeiliaid ynghylch camau gweithredu ac rydym yn asesu amserlenni cyflawni yn unol â’n hymateb. Byddaf yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn y gwanwyn, gan amlinellu hynt y gwaith ac amserlenni ymarferol ar gyfer cyflawni.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw.

Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Rwy'n credu y bydd cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli yn croesawu gweld hynny wedi'i nodi o ran yr amserlen, oherwydd, yn amlwg, mae'r argymhellion penodol sy'n eu pryderu nhw yn ymwneud â grwpiau llifogydd cymunedol ac archwilio'r posibilrwydd o fforwm llifogydd cenedlaethol. Fe wnaethom drafod peth o hyn yr wythnos diwethaf, yn ystod eich datganiad, ac rwy'n credu bod y ddau ohonom yn cytuno bod gweithredwyr lleol yn allweddol i'r datblygiadau hyn. Ond mae angen cyllid ychwanegol i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael adnoddau. Gwyddom mai ychydig iawn o aelodau staff sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar hyn. Felly, wrth inni wynebu gaeaf arall, gan wybod bod rhai cymunedau ar hyn o bryd yn fwy bregus nag eraill, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r ffactor risg yn y cymunedau hyn i sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu a'u blaenoriaethu i'w cefnogi i drefnu grwpiau gwydnwch llifogydd lleol?

Rwy'n credu mai mater targedu a blaenoriaethu yw'r llinell yn sicr, oherwydd rydym bob amser wedi dweud yn glir na fydd gennym ddigon o gyllid byth, ac ni ddylem geisio amddiffyn pob modfedd o bob cymuned arfordirol neu ddyffryn—ni fyddem yn gallu gwneud hynny. Weithiau, defnyddio prosesau naturiol yw'r ffordd i'w wneud, gan gynnwys yr ymyriadau ymhellach i fyny hefyd. Ond o ran ymgysylltu â'r gymuned a gwaith y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gwaith y maent yn ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd—gan gynnwys mewn cymunedau y byddwch chi a minnau wedi ymweld â nhw gyda'n gilydd—i gyllid i helpu i gefnogi eu gwaith yn y cymunedau hynny lle mae angen mawr iawn.

Nawr, wrth symud ymlaen, rwy'n falch o gadarnhau ein bod yn gweithio gyda'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i sefydlu sut y gellir defnyddio eu gwasanaethau ar sail Cymru yn ehangach. Ond yn hytrach na neidio o reidrwydd i ddweud, 'Gadewch inni gael fforwm llifogydd cenedlaethol yng Nghymru', rydym yn ceisio archwilio beth yw'r ffordd orau a'r ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol o wneud hynny yn y dyfodol. Felly, rydym yn gweithio gyda nhw ar hynny. Y peth arall, wrth gwrs, yw nodi digwyddiadau cymorth y rhwydwaith gwirfoddol sy'n cael ei redeg gan CNC ledled Cymru hefyd, gan gynnwys wrth inni wynebu cyfnod yr hydref a'r gaeaf, oherwydd gall hynny gynghori grwpiau cymunedol, wrth iddynt gwblhau profion ar bethau fel rhwydweithiau cymunedol, cynlluniau llifogydd cymunedol, gan alluogi cymunedau eu hunain i fod yn fwy rhagweithiol a gwydn. Felly, rwy'n bendant yn tynnu sylw—ac yn gofyn i holl Aelodau'r Senedd dynnu sylw—cymunedau at fforwm gwydnwch lleol y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, sydd ar wefan CNC, sy'n cynnwys gwybodaeth dda iawn ynglŷn â sut i baratoi nawr a sut i adfer ar ôl llifogydd hefyd.

Shwmae. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol wedi cymeradwyo creu partneriaethau dalgylch rhanbarthol a lleol erbyn diwedd y flwyddyn hon i gefnogi dull systematig ac integredig o reoli dalgylchoedd a'r arfordir. Rydym wedi gohebu yn y gorffennol ar faterion llifogydd yn Nhŷ Caer Castell ym Mracla. Er gwaethaf sawl cyfarfod teirochrog, nid yw'r problemau gyda'r cwlfert wedi'u datrys a phrofodd yr eiddo lifogydd unwaith eto. Rwyf wedi methu cael unrhyw ateb synhwyrol gan Network Rail na'r awdurdodau lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n credu y bydd partneriaethau dalgylch lleol yn gallu datrys materion fel y rhai sy'n wynebu trigolion Bracla a sicrhau nad yw taflu'r baich yn gadael trigolion ar drugaredd dŵr llifogydd heb ei atal?

14:35

Yn wir, Altaf, diolch am hynny, ac rwy'n cydymdeimlo â'r rheini a phob aelod arall o gymunedau ledled Cymru sydd bellach yn cael eu heffeithio'n amlach, mewn gwirionedd, gan lifogydd. A gall fod yn llifogydd o afonydd, fflachlifoedd, gall fod yn llifogydd dŵr wyneb neu gyfuniad o'r rhain i gyd, neu'n wir yn deillio o'r arfordir hefyd. Rwy'n cydymdeimlo â nhw—rwyf wedi cyfarfod â nifer ac wedi siarad â nhw, a siarad am y ffordd ymlaen hefyd. 

Mae'r ateb i hyn yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru yn rhoi'r arian ar ei gair. Ac rydym yn gwneud hynny—rydym bellach yn rhoi mwy o gyllid nag erioed, nid yn unig yn y buddsoddiadau mawr fel a welsom yn Stryd Stephenson yng Nghasnewydd, ond drwy weithio gydag awdurdodau lleol, gan roi'r arian iddynt, fel y gallant hwy, ar lefel strydoedd unigol, ac ar lefel eiddo unigol, weithio gyda'r trigolion hynny hefyd. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cynorthwyo yn yr achos hwnnw, ond mae angen i'r ateb ddod wedyn gan y fforwm gwydnwch lleol, yr awdurdod lleol ac eraill, gan weithio gyda'r gymuned leol. Dyna lle mae'r gyfrinach. Ond ar gyfer ein rôl ni fel Llywodraeth Cymru, a'r Senedd hon, mae angen inni barhau i roi'r buddsoddiad uwch nag erioed yn y dull cenedlaethol o amddiffyn rhag llifogydd. 

Ddirprwy Brif Weinidog, gwyddom fod llawer o gymunedau yng Nghymru wedi cael eu heffeithio yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan ddigwyddiadau llifogydd, gan gynnwys yn yr Wyddgrug yn fy etholaeth fy hun. Felly, wrth inni wynebu misoedd y gaeaf, a'r disgwyliad o dywydd mwy eithafol, a ydych chi'n cytuno â mi ynglŷn â phwysigrwydd cael cymaint o bobl â phosib i gofrestru ar gyfer system rhybudd rhag llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru? Ac er mwyn mynd i'r afael â llifogydd pellach, a llifogydd yn y dyfodol, mae nifer o gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd wedi'u hadeiladu ledled Cymru, gan gynnwys ar draws arfordir gogledd Cymru. Ddirprwy Brif Weinidog, roeddech chi yn y Rhyl yr wythnos diwethaf i nodi'r buddsoddiad yno yn dilyn prosiect amddiffyn yr arfordir i warchod miloedd o gartrefi ym Mhrestatyn. Felly, a gaf i ofyn: pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o bwysigrwydd cynnal y gyllideb gyfalaf ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd? Diolch. 

Diolch yn fawr, Hannah. Roeddwn yn falch iawn o fod i fyny yng ngogledd Cymru yr wythnos diwethaf yn agor yr hyn y credaf ei fod um rhandaliad olaf y buddsoddiad unigol mwyaf yng Nghymru gyfan. Mae dros £100 miliwn i gyd, ac mae'n cynnwys cannoedd ar gannoedd o eiddo, a busnesau hefyd, ac yn caniatáu i'r teuluoedd fod yn ddiogel yn eu cartrefi ac i barhau â'u bywydau ac i'r busnesau hynny ffynnu a buddsoddi a thyfu.

Ond nid dyna'r cyfan a wnawn, fel y dywedwch. Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £60 miliwn mewn system rhybudd rhag llifogydd fodern newydd, a dyma'r adeg o'r flwyddyn pan ydym yn hyrwyddo 'byddwch yn ymwybodol o lifogydd'. Mae angen i bobl gofrestru. Rwyf i wedi cofrestru. Mae angen i bawb gofrestru, oherwydd fe wyddom ei fod yn digwydd mewn ardaloedd ar wahân i'r rheini lle gwelsom lifogydd yn digwydd bob hyn a hyn o flynyddoedd; mae bellach yn digwydd mewn lleoedd annisgwyl drwy fflachlifogydd neu lifogydd stryd. Nawr, ar y sail honno, os gwelwch yn dda, cofrestrwch—a hoffwn ofyn i'r holl Aelodau hyrwyddo hyn i'w hetholwyr—a bod yn ymwybodol o lifogydd. Yna, gallwch gael y rhybuddion rhag llifogydd a'r rhybuddion am risg uwch o lifogydd hefyd. Ac mae gwybodaeth ar wefan CNC ynglŷn â sut i ymateb i'r rhybuddion rhag llifogydd. Felly, Hannah, diolch yn fawr am godi hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cael mwy o bobl i gofrestru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz. 

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Brif Weinidog, yn dilyn y pryderon digon teg yn y diwydiant amaethyddol am ei ddyfodol, mae adroddiadau erbyn hyn y gallai Llywodraeth y DU godi'r trothwyon treth etifeddiant i ffermwyr, ond ar draul toriad posib i gyllideb Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, gan effeithio ar gyllid amaethyddol yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ffermwyr Cymru yn parhau i fod yn bryderus iawn am y dreth ar y fferm deuluol. Mae'r Siambr hon wedi clywed straeon gofidus, gan gynnwys un ffermwr a roddodd y gorau i driniaeth ganser, gan obeithio y byddai'n marw cyn i'r newidiadau ddod i rym, ac achosion fel y teulu Cornock yn sir Benfro, lle dywedodd Janet Cornock:

'Nid oes gennym y llif arian i dalu'r bil treth sylweddol ac annisgwyl hwn pan fydd holl werth ein busnes wedi'i glymu yn y fferm a'i hasedau.'

Felly, er y gallai tro pedol posib gan Lafur y DU ddod â rhyddhad, rydym eto i wybod safbwynt Llywodraeth Cymru ar newidiadau i ryddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, beth yw eich safbwynt ar y dreth ar y fferm deuluol, ac a fyddwch chi'n cyhoeddi'r holl ohebiaeth â Llywodraeth y DU, fel y gall ffermwyr Cymru weld pa sylwadau a wnaed ar eu rhan?

14:40

Diolch, Sam. Rwy'n ymwybodol o'r dyfalu yn y cyfryngau, sydd i'w weld yn rhemp ar hyn o bryd, ar newidiadau posib i argymhellion, ond dyfalu ydyw. Nid oes gennyf fwy o fewnwelediad i gynlluniau'r Trysorlys nag unrhyw Aelod neu ddinesydd arall yma. Mae'r Trysorlys yn enwog am fod yn dawedog am yr hyn y maent yn ei ddatgelu. Byddant yn gwneud hynny bum neu chwe wythnos cyn y datganiad y byddant yn ei gyflwyno ar lawr Tŷ'r Cyffredin.

Ond yn y cyfamser, rydym yn parhau i gefnogi ffermwyr drwy'r a nodwyd gennych yn gywir ddigon. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o'r ffermwyr sydd wedi nodi'r holl bwysau sydd arnynt ar hyn o bryd. Drwy Cyswllt Ffermio, rydym yn darparu cyfarfodydd olyniaeth wedi'u hwyluso i deuluoedd, adolygiadau olyniaeth i ddeall goblygiadau treth etifeddiant fel y maent ar hyn o bryd, a chyngor busnes a chyfreithiol wedi'i sybsideiddio i ddatblygu cynlluniau olyniaeth. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r cyngor sy'n cael ei ddarparu drwy'r undebau ffermio.

Felly, yn hytrach na gwneud sylwadau ar ddyfaliadau, gadewch imi ddweud—er eglurder, oherwydd rwyf wedi ei ddweud o'r blaen, Sam—rydym wedi cael sawl eitem o ohebiaeth lle rydym wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ar y mater hwn, a hefyd wedi ei godi dro ar ôl tro mewn trafodaethau yn y grŵp rhyngweinidogol hefyd, ac mewn cyfarfodydd dwyochrog. Roedd ein llythyr diweddaraf, a anfonwyd ym mis Medi, os cofiaf yn iawn, yn pwysleisio bwysigrwydd y gwaith a wnawn gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy—gan ganolbwyntio ar ffermydd teuluol bach a chanolig yng Nghymru a hyfywedd y rheini yn y dyfodol—ac na ddylai unrhyw beth amharu ar hynny. Roedd yn dweud yn glir hefyd y byddem am iddynt ymgysylltu â pheth o'r cyngor a'r wybodaeth ystyrlon a gâi eu cyflwyno nid yn unig gan yr undebau ffermio, ond gan eraill yn fwy diweddar hefyd sy'n awgrymu y gallai fod addasiadau a allai weithio gyda mân newidiadau. Ond mae'n benderfyniad i'r Trysorlys, mae'n benderfyniad a gadwyd yn ôl. Ond rydym wedi dweud yn glir iawn, fel rwy'n hapus i wneud eto, yn union beth yw ein safbwynt yma yn Llywodraeth Cymru.

Rydych chi'n dweud hynny, ond roedd y Llywodraeth Cymru hon yn eithaf hapus i roi barn ar faterion a gadwyd yn ôl o dan Lywodraeth Geidwadol y DU. Eto, nid ydym wedi clywed heddiw, pan gafodd gyfle i wneud hynny, beth y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gredu ynghylch y dreth ar ffermydd teuluol. Byddai hynny wedi cael ei groesawu'n fawr. Bydd ffermwyr sy'n gwylio hyn nawr yn cael eu gadael yn y tywyllwch pa un a yw'r Llywodraeth hon wedi eu cefnogi mewn trafodaethau gyda Thrysorlys y DU.

Yn gysylltiedig â'r heriau ehangach sy'n wynebu cymunedau gwledig, mae cwmwl arall o TB buchol dros amaethyddiaeth yng Nghymru. Eto, rwy'n rhoi clod, mae rhywfaint o obaith drwy brosiect sir Benfro, rhywbeth y gwneuthum helpu i'w lansio, ac mae ffermwyr sy'n cymryd rhan wedi ei gefnogi'n gryf. Mae gennym hefyd y grŵp cynghori technegol sy'n archwilio tystiolaeth wyddonol ehangach. O dan reolau newydd, ni all gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant symud heblaw o dan drwydded i gael eu lladd neu i unedau pesgi cymeradwy, rhywbeth sydd wedi ei groesawu gan y diwydiant. Ond er hynny, mae nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd yng Nghymru yn parhau i fod yn boenus o uchel, gan adael llawer o ffermwyr yn gaeth mewn cyfyngiadau parhaus.

Gyda'r gyllideb ddrafft bellach gerbron y Senedd, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i warantu, yn gyntaf, y cyllid hirdymor ar gyfer prosiect sir Benfro a'i chwaer brosiect yng ngogledd Cymru, yn ogystal â sicrhau iawndal digonol i ffermwyr y mae gofyn iddynt ddifa eu da byw oherwydd TB buchol?

Sam, diolch yn fawr. Yn gyntaf, nid oes diffyg eglurder ar fy rhan ynglŷn â'n hymagwedd tuag at y dreth etifeddiant, rhyddhad eiddo amaethyddol a goblygiadau treth eraill i ffermydd. Rydym wedi dweud yn glir fod pethau fel asesiad y Ganolfan Dadansoddi Trethiant ac asesiad Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol yn arbennig wedi codi atebion posib i rai o'r pryderon a leisir ac rydym wedi awgrymu y dylai'r Trysorlys eu hystyried yn eu hasesiad o'r effaith, ac y dylid mynd i'r afael â hyn mewn ffordd gydweithredol â'r undebau ffermio. Felly, nid oes diffyg eglurder ar hynny.

Ar TB, diolch am eich cefnogaeth i brosiect sir Benfro. Roedd rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â hyn i ddechrau, pa un a allai weithio, ond mae'r ffermwyr hynny, fel y gwyddoch yn eich ardal chi, sy'n gysylltiedig ag ef yn eithaf brwd am y peth, a'r ffordd y mae'n rhoi ymreolaeth i'r ffermwr, gyda'u milfeddyg, wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu busnes ac ar iechyd a lles eu buches. Dyna pam ein bod bellach wedi cyflwyno fersiwn ohono i ogledd Cymru, i'r sawl sy'n gofyn amdano, oherwydd mae pobl wedi cael eu perswadio bellach mai dyma'r ffordd ymlaen.

Mae'r hyn a gyflwynais yn y gyllideb a osodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddoe eto yn ymgais i gael parhad ar draws amrywiaeth o faterion, gan gynnwys iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal â sefydlogrwydd ffermydd yn y dyfodol. Yr hyn na allaf ei wneud yw proffwydo beth fydd y Llywodraeth nesaf yn ei wneud. Mae angen inni fynd y tu hwnt i gyllideb Canghellor y DU, mae angen inni benderfynu ar ein cyllideb ein hunain yma, a byddwn yn ceisio cefnogaeth, os gwelwch yn dda, ar draws y Siambr i'r gyllideb honno, nid yn unig ar gyfer ffermio ond er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Ond edrychwch, mae fy ymrwymiad yno, oherwydd rydym wedi cyflwyno'r cynllun ymhellach yng Nghymru ar gost, felly mae gennym ffydd yn y cynllun hwn, gan mai dyma un o'r ffyrdd y gallwn gyflawni gwelliannau mewn perthynas â TB.

14:45

Diolch am hynny, Ddirprwy Brif Weinidog. Ond wrth siarad â'r ffermwyr sy'n cymryd rhan ym mhrosiect sir Benfro, er eu bod yn frwd, fel y dywedwch, ynghylch y rôl y gallant ei chwarae gyda'u milfeddygon, maent yn dal i gredu bod un fraich wedi'i chlymu y tu ôl i'w cefnau wrth fynd i'r afael â hyn, oherwydd cronfa'r clefyd mewn bywyd gwyllt.

Ond i barhau ar y thema o lunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae'n hanfodol ein bod o ddifrif yn dilyn y wyddoniaeth, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys y rheoliadau parthau perygl nitradau, oherwydd heddiw, 15 Hydref, yw dechrau'r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwasgaru ar laswelltir o dan y rheolau hynny er gwaethaf y tywydd sych, gan ddangos yn berffaith hurtrwydd y dull ffermio yn ôl y calendr. Roedd adolygiad Dr Susannah Bolton yn gam ymlaen i'w groesawu, ond cadarnhaodd i raddau helaeth yr hyn y mae ffermwyr wedi'i ddweud o'r dechrau—nad yw'r system bresennol yn gweithio yn ymarferol. Rydym i gyd yn gwybod hyn, rydym wedi ei ddweud ers y dechrau un, felly gyda llai na saith mis tan etholiad nesaf y Senedd, a wnewch chi weithredu nawr i'w gwneud hi'n bosib gwireddu'r argymhellion hynny, neu a fydd yn rhaid i ffermwyr Cymru aros tan y Llywodraeth nesaf i gyflawni'r diwygiadau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi amaethyddiaeth?

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Sam. Mae'n gwestiwn pwysig iawn, a rhag ofn bod unrhyw un yn torri'r darnau hyn ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ac er eglurder llwyr, Lywydd, rydym yn sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny. Cynhyrchodd Dr Susannah Bolton ei gwaith ym mis Mawrth. Rydym wedi bod yn cwblhau'r cynllun ffermio cynaliadwy a materion eraill ers hynny, ond rydym wedi bod yn gweithio dros yr haf, yn gwneud peth o'r gwaith paratoi i fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn. Rydym wedi dweud yn glir, fel Llywodraeth Cymru, yn y datganiad a gyhoeddais yn gynharach eleni, y byddem yn derbyn ac yn bwrw ymlaen â'r holl argymhellion, a byddem yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny'n gyflym, ac yn gwneud hynny gyda'r holl randdeiliaid dan sylw.

Felly, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y gweill ac mae gwaith paratoi eisoes wedi'i wneud. Rwy'n gobeithio cyflwyno newyddion ychwanegol pan fydd y grŵp wedi'i sefydlu, a phan fydd gennym y cylch gorchwyl hefyd, i ddweud rhywbeth pellach wrth y Senedd ar y pwynt hwnnw. Ond a gaf i fod yn glir ar y cyfnod gwaharddedig, oherwydd mae Susannah Bolton yn dweud, yn gywir ddigon, fod rhywfaint o le yma i edrych ar ffyrdd amgen ymlaen? Ond mae hi hefyd yn dweud, fel y mae pethau ar hyn o bryd, na ddylech ddileu'r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd nes bod gennych ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ffyrdd amgen ymlaen, ac mae'n iawn i ddweud hynny. Felly, mae hyn yn achosi anhawster ar hyn o bryd i rai ffermwyr. Rydym yn awyddus i weithio drwy hynny yn yr hydref a'r gaeaf sydd i ddod, ond mae hi hefyd yn dweud yn glir os ydym yn troi at atebion amgen, y gallent fod yn fwy cymhleth, gallent fod yn fwy heriol i'w hesbonio. Ond rwy'n barod i fwrw ymlaen â hynny, oherwydd rwy'n credu bod y potensial ar gyfer gweld ffyrdd eraill ymlaen, os gallwn roi tystiolaeth ar eu cyfer, yn werth ei ddatblygu. Felly, rydym yn bwrw ymlaen ag ef, Sam.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae yna bryderon, onid oes, Ysgrifennydd y Cabinet, am niferoedd llai o dda byw. Maent wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd, ac wrth gwrs, roedd asesiad effaith y cynllun ffermio cynaliadwy yr wythnos diwethaf yn awgrymu bod hynny'n debygol o barhau. Nawr, mae yna effeithiau canlyniadol amlwg o hynny i'r economi fwyd ehangach, yn enwedig lladd-dai a phroseswyr, y mae llawer ohonynt eisoes yn cael trafferth o ran llif gwartheg a hyfywedd. Mae Hybu Cig Cymru wedi dangos sut rydym wedi colli dros hanner ein lladd-dai, rwy'n credu, dros y 25 mlynedd diwethaf. Dim ond pump sydd wedi'u dosbarthu'n swyddogol fel rhai bach sydd gennym ar ôl yma yng Nghymru. Nawr, mae llawer wedi rhybuddio, wrth gwrs, fod y sector o bosib yn wynebu methiant os nad yw pethau'n newid, a byddai hynny'n golygu nid yn unig yr effaith economaidd, ond effaith ar yr holl ymdrech o greu systemau bwyd lleol gwydn, sy'n rhywbeth y mae pawb ohonom am ei dyfu a'i ddatblygu, ond hefyd cynnydd mewn milltiroedd bwyd, sy'n dod â chanlyniadau amgylcheddol yn ei sgil a chanlyniadau i les anifeiliaid hefyd. Felly, a gaf i ofyn pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o gyflwr sector lladd-dai Cymru ac effaith bosib cau pellach, ac yn wir, pa strategaeth sydd gennych ar waith i fynd i'r afael ag effaith gostyngiad yn niferoedd da byw ar yr economi fwyd ehangach?

Diolch, Llyr. Edrychwch, yn gyntaf oll, mae'n werth cydnabod bod hwn yn fater go iawn, ond nid yw'n fater diweddar chwaith. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer, a cheir nifer o resymau pam ei fod wedi digwydd, ac mae wedi bod yn digwydd nid yn unig yng Nghymru, ond yng ngorllewin Ewrop ac ymhellach i ffwrdd. Ond nid wyf eisiau dweud gormod am y risg sy'n deillio o hyn. Rwy'n credu mai'r hyn sydd ei angen yw gwaith i edrych ar y ffyrdd lluosog o fynd i'r afael â hyn, fel y gallwn ddarparu, yn union fel y dywedwch, mwy o fwyd, ac nid i'w allforio'n unig. Rwyf newydd ddod yn ôl o Anuga yng Nghwlen, yr arddangosfa fasnach fwyaf. Mae llwyddiant ein sector cig oen a chig coch yng Nghymru—cig eidion a chig oen—yn anhygoel o ran allforio. Mae angen mwy ar blatiau yma hefyd, i helpu i gynnal y llinellau hynny o fewn ein system brosesu. Nawr, gallwn wneud hynny drwy gaffael, heb amheuaeth, ac rydym eisoes wedi datblygu ffyrdd o wneud yn well gyda chaffael yn ein hysgolion, ysbytai, carchardai, ac ati, o fewn yr ystad gyhoeddus. Mae yna fwy y gallwn ei wneud yn seiliedig ar y strategaeth fwyd gymunedol hefyd, sy'n seiliedig ar rwydweithiau bwyd lleol. Felly, rwy'n credu bod yna waith i'w wneud yma. Y peth ychwanegol, Llyr, y byddwn yn ei ddweud yn gryf iawn, yw ei fod yn ymwneud yn rhannol â niferoedd da byw, ac mae hefyd, i ffermwyr, yn ymwneud â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd—rhoi llai i mewn a chael mwy allan o werth yr anifail hwnnw pan fydd yn cyrraedd y farchnad. I'n ffermwyr, yr hyn a glywaf ganddynt yn gyson yw, 'Sut ydych chi'n ein helpu i wneud hynny?'. Nawr, rwy'n credu bod gan y cynllun ffermio cynaliadwy rôl i'w chwarae, ond mae yna ffyrdd eraill o allu darparu'r cymorth hwnnw—felly, mwy o effeithlonrwydd a mwy o gynhyrchiant yn y sector hefyd.

14:50

Wel, diolch am yr ymateb hwnnw. Rydych chi'n cydnabod yn iawn nad yw hon yn broblem newydd, ac yna rydych chi'n dweud bod angen gwaith. Wel, efallai y dylai'r gwaith hwnnw fod ar y gweill eisoes, o ystyried ein bod yn gwybod beth yw'r tueddiad.

Ond fe symudaf ymlaen at laeth, os caf, oherwydd fe wyddoch fod cynhyrchwyr llaeth wedi cael gwybod am doriadau sylweddol i brisiau llaeth—rhai o hyd at 18 y cant—sy'n dod ym mis Tachwedd. A daw hynny, wrth gwrs, ar ben nifer o heriau sydd eisoes yn bodoli, fel yr haf poeth, sych a gawsom, sydd wedi lleihau argaeledd porthiant, ac rydym yn gwybod am TB, rydym yn gwybod am y materion sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau parthau perygl nitradau, ac ati. Nawr, er bod gostyngiadau prisiau wedi cael eu gyrru i raddau helaeth gan rymoedd y farchnad fyd-eang, dyma nawr fydd y prawf go iawn cyntaf o'r Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) 2024 a ddaeth i rym eleni i wella tryloywder prisiau a thegwch mewn contractau llaeth. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi penodi dyfarnwr i oruchwylio gweithrediad y rheoliadau hyn ac i ymchwilio i unrhyw gwynion, ac fe wyddom o brofiad, oni wyddom, fod ymddygiad gwaeth yn aml iawn yn digwydd mewn cadwyn gyflenwi pan fydd y farchnad yn mynd ar i lawr. Felly, fel Llywodraeth a fyddwch chi'n monitro'r farchnad laeth, ac efallai'n codi pryderon yn rhagweithiol am ymddygiad gwael neu wahaniaethol gan broseswyr mewn perthynas â ffermwyr llaeth Cymru? Ac o ystyried bod allforion yn hanfodol i helpu i gydbwyso marchnad y DU, sut y bydd eich Llywodraeth yn gweithio i geisio hyrwyddo allforion llaeth Cymru yn well?

Yn sicr. Soniais yn fy ateb diwethaf fy mod newydd ddod yn ôl o Anuga. Mae ein cynhyrchion llaeth yn y farchnad allforio yn llwyddiant ysgubol. Byddai'n anghywir imi eu henwi, ond roedd yn foment syfrdanol pan eisteddais gyda chynhyrchydd llaeth o ogledd Cymru, a oedd yn eistedd gyda'r mewnforiwr mwyaf o'r Unol Daleithiau, y mae ganddynt berthynas â nhw eisoes, a siarad am ehangu'r allforion. Ac nid oeddent ar eu pen eu hunain—roeddent yn bell o fod ar eu pen eu hunain. A'r peth arall diddorol, Lywydd, yw'r eiddigedd o rannau eraill o'r DU am y cymorth a ddarparwn, drwy Lywodraeth Cymru a'n hadran fwyd, i'w helpu i fod yn y lleoedd hynny, yn gwneud y cysylltiadau a gweithio gyda nhw. Mae cenhedloedd eraill yn eiddigeddus ohonom.

Ond rydych chi'n codi peth pwysig iawn o ran pris llaeth. Mae pris llaeth yn amrywio dros amser. Ar hyn o bryd, mae'n gostwng, ac oherwydd hynny, mae'n brawf nawr o rai o'r cyflenwyr bwyd allan yno sydd, dros y blynyddoedd, wedi gwneud yn well i sefyll gyda'n ffermwyr a chyflawni contractau mwy hirdymor gyda sefydlogrwydd prisiau. Ond nid yw pawb yn gwneud hynny. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gyfle yma i weld sut y mae'r dyfarnwr yn camu i mewn i wneud yn siŵr nad oes agweddau negyddol yn y farchnad sy'n effeithio ar gynhyrchwyr cynradd. Ac mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi mewn trafodaeth gyda Gweinidog y DU, y credaf fy mod yn cael cyfarfod â hi naill ai yr wythnos hon neu'r wythnos nesaf—gallai fod yr wythnos hon hyd yn oed. Ond byddaf yn codi hyn gyda hi hefyd, oherwydd rydym am weld hyn ar lefel y DU, gyda'r cadwyni cyflenwi mawr, a gadewch inni gael chwarae teg i'n ffermwyr, ac mae angen i'r gadwyn gyflenwi sefyll wrth ein ffermwyr drwy'r adegau hyn pan fo prisiau'n gostwng.

Diolch. Rhan bwysig arall o'n sector bwyd a diod, wrth gwrs, yw ein sector pysgodfeydd, ac mae ymchwil ddiweddar gan Oceana UK wedi codi pryderon difrifol am gyflwr stociau pysgod ledled y DU, gan gynnwys yn nyfroedd Cymru, wrth gwrs. Ac mae hynny nid yn unig yn fater amgylcheddol, mae hefyd yn ymwneud â chynaliadwyedd ein fflyd ddomestig, a dyfodol sector bwyd môr Cymru, wrth gwrs. Môr Iwerddon bellach yw'r ardal sydd wedi'i heffeithio waethaf yn y DU; dim ond traean o'r stociau sydd mewn cyflwr iach, i lawr o dros 40 y cant ddwy flynedd yn ôl. Ac yn y môr Celtaidd, mae'r darlun yr un mor llwm. Nawr, mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at fethiant systemig mewn rheoli pysgodfeydd a bygythiad cynyddol i hyfywedd ein fflyd bysgota yng Nghymru a'r cymunedau sy'n dibynnu ar y sector. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i weithredu i ddiogelu dyfodol swper pysgod Cymru, a pha gamau rydych chi'n eu cymryd i ddiogelu stociau pysgod Cymru gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein fflyd bysgota yng Nghymru ar yr un pryd wrth gwrs?

14:55

Diolch. Rwyf mor falch fod gennym gwestiwn ar bysgodfeydd yn y sesiwn hon, oherwydd nid ydym yn eu cael yn ddigon aml. Mae gennym fflyd bysgodfeydd unigryw yng Nghymru, ac mae llawer ohoni yn bysgodfa gynaliadwy. Rhan o'r rheswm am hynny yw ein bod yn seilio ein dull o weithredu yng Nghymru ar gynlluniau rheoli pysgodfeydd, sydd wedi'u sefydlu ar gynaliadwyedd. Rydym am wneud yn siŵr fod gennym gynnyrch cynaliadwy, fel y gall y stociau ailgyflenwi eu hunain mewn gwahanol fathau o bysgodfeydd hefyd. Felly, byddwn yn parhau i weithredu yn y ffordd honno yn y dyfodol. 

Mae'r cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar y trywydd iawn. Rydym wedi cyflawni'r rhai y dywedasom y byddem yn eu cyflawni. A Llyr, byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda—. Mae'n wahanol yma yng Nghymru nag y mae yn DEFRA. Yn DEFRA, mae ganddynt dimau mawr o bobl, a gallant ddibynnu ar dîm pysgod y môr ac ar eraill. Yr hyn a wnawn ni yw gweithio'n uniongyrchol gyda'n prifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Bangor ac eraill, gyda'u harbenigedd, i wneud yn siŵr ein bod yn darparu pysgodfeydd cynaliadwy. Mae hyn hefyd yn dangos pam na allwn fod mewn sefyllfa lle rydym yn gorbysgota. Rhaid inni gael cydbwysedd cywir sy'n diogelu bywoliaeth pysgotwyr, a chynaliadwyedd ein hamgylchedd morol a stociau pysgod ar yr un pryd.

Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y grŵp gorchwyl a gorffen fydd yn ymateb i argymhellion yr adolygiad o'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol? OQ63261

Diolch, Llyr, eto. Mae sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen technegol yn tystio i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â’r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn gwella’r rheoliadau ar gyfer ffermwyr a chanlyniadau amgylcheddol. Bydd fy swyddogion yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb o ran dod yn aelod o fewn y dyddiau nesaf.

Diolch. Gwyddom fod y cyfnod gwaharddedig o dan y rheoliadau llygredd dŵr yn dechrau heddiw, wrth gwrs. Y llynedd, achosodd y tywydd gwlyb hyd at y foment honno bob math o broblemau, oni wnaeth, ac yn eironig, yn syth wedyn, roedd yn sych am gyfnod hir, sy'n dangos mai ffermio yn ôl y calendr yw'r dull anghywir o weithredu. Ac eleni, mae'r gwanwyn a'r haf poeth a sych iawn a gawsom wedi cael goblygiadau i silwair, ac mae llawer o ffermwyr bellach yn aros i gael toriad hwyr o silwair ac ni allant wagio eu storfeydd slyri o ganlyniad, sy'n dangos eto nad yw ffermwyr yn ffermio yn ôl y calendr; maent yn ffermio yn ôl y tymhorau. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn rheoliadau parthau perygl nitradau ychydig flynyddoedd yn ôl oherwydd y mathau hyn o enghreifftiau. Mae adolygiad Bolton hefyd, fel y clywsom eisoes y prynhawn yma, wedi awgrymu symud o ddull o ffermio yn ôl y calendr, ac yn ddiddorol, wrth gyfeirio at y grŵp gorchwyl a gorffen, fe ddywedoch chi eich bod wedi gofyn iddynt symud yn gyflym i edrych ar hyn. Felly, ai eich gobaith chi yw mai hon fydd y flwyddyn olaf pan fydd gennym ddull o ffermio yn ôl y calendr, ac a ydych chi'n disgwyl y bydd y cyfnod gwaharddedig eleni sy'n ymwneud â dyddiadau ar galendr wedi mynd erbyn y flwyddyn nesaf?

Diolch, Llyr. Fe wnaeth Susannah Bolton yn glir iawn fod rhai materion yn hyn a oedd yn fwy cymhleth ac angen mwy o dystiolaeth nag eraill, ac roedd hwn yn un ohonynt. Rwy'n credu ein bod mewn perygl yma, os ydym yn rhuthro at hyn ac yn dileu'r dull cyfnod gwaharddedig yn sydyn, oherwydd mewn gwirionedd, mae'n dweud bod angen i'r cyfnod gwaharddedig aros yn ei le nes bod atebion amgen ymarferol a thystiolaeth ar eu cyfer ar gael. Ond mae'n nodi y gallai fod yna atebion ymarferol a thystiolaeth ar eu cyfer. Bydd angen i'r holl randdeiliaid gamu ymlaen gyda'r ewyllys i ddangos tystiolaeth ar eu cyfer, i weld a allant weithio.

Fe wnaethoch chi ofyn imi am amserlenni ar hyn. Rwy'n credu mai dyma'n union beth y dylem fod yn ei ddweud wrth y grŵp gorchwyl a gorffen: 'Rhowch y manylion, y cerrig milltir, yr amserlen ar gyfer ei osod allan.' Rwy'n credu y gallwn wneud rhai pethau yn y tymor byr iawn. Bydd pethau eraill yn y tymor canolig a'r tymor hwy. Dylem adael iddynt weithio drwy hyn, a gwneud hynny'n gyflym. Dyna'r peth.

Rwy'n sylweddoli y bydd y cyfnod gwaharddedig yn rhoi straen ar y ffermwyr. Rwyf wedi cyfarfod â'r ddau undeb ffermio yr wythnos hon, ac mae wedi cael ei godi gyda mi yn y ddau gyfarfod, a chan gynrychiolwyr ffermio eraill hefyd. Rydym yn trafod yn gyson gyda'r corff hyd braich a CNC sut y gallant roi cyngor ar ffermydd, ac arweiniad, a gweithio ar y cyd. Ond lle mae tramgwyddo clir, nhw yw'r asiantaeth reoleiddio yma, ac mae ganddynt waith i'w wneud hefyd. Fe wnaethom weithredu yn y ffordd ohono y llynedd. Byddwn yn ceisio parhau i wneud hynny eleni. Mae yna heriau gwahanol eleni, fel y dywedoch chi. Byddwn yn parhau i siarad â'r gymuned ffermio ynglŷn â sut y gallwn weithio ymlaen drwy'r flwyddyn i ddod.

Y peth arall rwyf am ei ddweud, gyda llaw, yw bod Susannah Bolton yn gwneud nifer o bethau eraill yn glir iawn, yn hytrach na dewis eitemau penodol ohono. Mae'n dweud na all hyn fod yn esgus dros beidio â chael digon o le storio ar ffermydd ac ati. Felly, mae yna nifer o bethau o fewn hyn y mae angen gweithio drwyddynt i wneud yn siŵr—ac rwy'n gwybod eich bod chi'n credu hyn hefyd, Llyr—ein bod yn cael hyn yn iawn i'r gymuned ffermio, ond ein bod yn cael hyn yn iawn hefyd er mwyn gwella iechyd ein hafonydd ar yr un pryd.

15:00

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf ar yr adolygiad o reoliadau rheoli llygredd amaethyddol, ac am gytuno i'r argymhellion yn yr adolygiad hwnnw. Ond hoffwn hefyd fwy o eglurder ar waith y grŵp gorchwyl a gorffen, a hoffai ffermwyr yn fy etholaeth wybod a fyddant yn ymgynghori â nhw, ynghyd â rhanddeiliaid perthnasol eraill, ar yr amserlen ar gyfer eu gweithredu, a pha argymhellion fydd yn cael eu blaenoriaethu. Mae llawer o ffermwyr yng Nghymru yn dal i fod yn rhwystredig ynglŷn â baich rheoleiddio, gyda llywydd NFU Cymru, Aled Jones, yn dweud ei bod

'yn glir fod adolygiad bob pedair blynedd Llywodraeth Cymru... yn gyfle a gollwyd i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen ar frys... ac wedi methu adlewyrchu anobaith pur ffermwyr yng Nghymru sy'n ymdopi ag anymarferoldeb a chymhlethdod y rheolau.'

Mae'r dull anhyblyg, ffermio yn ôl y calendr hwn—fel y nododd Llyr eisioes—o reoleiddio yn un o'r pethau sydd angen eu newid ar fwyaf o frys, ac mae defnyddio technoleg i ymateb i amodau perthnasol fel glawiad ac ansawdd y pridd yn gwneud llawer mwy o synnwyr na rheoleiddio yn seiliedig ar ddull o weithredu yn ôl y calendr. Felly, a fydd y dull cydweithredol a'r grŵp gorchwyl a gorffen yn golygu y bydd y meysydd yn y rheoliad sy'n fwyaf heriol i ffermwyr, fel y dull ffermio yn ôl y calendr, yn cael blaenoriaeth dros newid rhannau llai problematig o'r rheoliad hwnnw?

Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac am y croeso a roesoch i sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen. Fe gyhoeddais y datganiad hwnnw ar 8 Hydref ac fe wnaethom ddweud yn glir beth fyddai'r camau nesaf ar gyfer bwrw ymlaen â'r 23 argymhelliad, a dywedasom y byddwn yn bwrw ymlaen â phob un ohonynt—felly, nid ydym yn dewis a dethol; rydym wedi dweud y byddwn yn bwrw ymlaen â phob un ohonynt.

I ateb eich cwestiwn, mae'r adolygiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd dull cydweithredol o weithredu, ac rwy'n cytuno'n gryf, gweithio gyda phob rhanddeiliad, ac mae hynny'n cynnwys ffermwyr, ond hefyd y rhai a allai fod yn gysylltiedig â sefydliadau iechyd afonydd, sefydliadau ansawdd dŵr ac yn y blaen. Oherwydd mae'n rhaid i'r rheoliadau weithio i ffermwyr yn ogystal â chyflawni'r canlyniadau amgylcheddol yr ydym i gyd eisiau eu gweld, gan gynnwys ffermwyr. Felly, un o'r pethau y gallaf ei ddweud wrthych yw ein bod yn mynd i ddefnyddio'r profiad a gawsom o'r ymgysylltu a wnaethom gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, sef nid yn unig cael rhanddeiliaid allweddol o gwmpas y bwrdd gyda'r grŵp gorchwyl a gorffen, ond yr ymgysylltiad ehangach hefyd.

Fe wnaethoch chi ofyn am flaenoriaethu rheoliadau penodol. Dyna'n union beth sydd yn adroddiad Susannah Bolton—pa rai a ddylai gael eu gwneud yn y tymor byr, tymor canolig a'r tymor hir—gyda pheth arweiniad ar hynny o ran pa rai a allai ymddangos, pa rai sy'n fwy cymhleth. Mae hwn yn un mwy cymhleth, rhaid imi ddweud. Fe wnaeth hi ei nodi. Felly, bydd angen ychydig o waith, ond wrth wneud hynny, rydym eisoes wedi dechrau gwneud rhywfaint o'r gwaith dadansoddi dros yr haf, felly bydd yn helpu i gyflymu hynny. Felly, yn hytrach na dewis a dethol eitemau yr wyf i neu chi neu Jenny neu Lesley eisiau eu cyflymu, gadewch inni adael i'r grŵp gorchwyl a gorffen fwrw ymlaen â'u gwaith a gosod eu blaenoriaethau.

Llygredd Amaethyddol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal llygredd amaethyddol rhag gwenwyno afonydd? OQ63240

Diolch, Jenny. Shwmae i ti ar y dydd pwysig hwn heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol drwy gyfuniad o gamau gweithredu. Mae'r rhain yn cynnwys cydweithio, cefnogi arloesedd, rheoleiddio wedi'i gynnal gan waith arolygu a gorfodi, gan annog arferion gorau drwy drosglwyddo gwybodaeth a chymorth ariannol uniongyrchol i ffermwyr a rheolwyr tir allu ffermio'n fwy cynaliadwy.

Mae hwn yn bwnc sy'n bwysig iawn i ddinasyddion Cymru. Yn wir, bydd llawer wedi darllen y newyddion yr wythnos diwethaf am gyd-achos gan o leiaf 4,000 o bobl sydd eisiau erlyn llygrwyr afon Gwy, afon Wysg ac afon Llugwy. Er y bydd hi'n cymryd peth amser inni wybod y canlyniad, yn y cyfamser, fe wyddom fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn bron i £2 filiwn i gryfhau ymdrechion i fynd i'r afael â llygredd a llygrwyr. Felly, pa ddefnydd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i wneud o'r arian hwn i roi camau enghreifftiol ar waith yn erbyn llygrwyr fel bod pawb yn cael y neges fod yna ganlyniadau i fethu cydymffurfio?

Diolch, Jenny, ac i adeiladu ar y cwestiwn cynt, rwy'n credu eich bod chi'n dweud yn iawn fod hwn yn fater i bob dinesydd yng Nghymru. Mae pawb yn poeni am hyn. Fe fyddwch chi'n deall nad yw'n briodol imi wneud sylwadau mewn unrhyw ffordd ar yr achos sy'n mynd drwy'r llysoedd, ond rwy'n nodi'r cyd-achos sydd ar y gweill.

Fe wnaethoch chi nodi'r arian sydd wedi'i roi yn ychwanegol i CNC ar gyfer gorfodi'r rheoliadau, ac mewn gwirionedd mae'r cyfanswm a ymrwymwyd ers cyflwyno'r rheoliadau ymhell dros £4 miliwn, yn ogystal â'r bron i £2 filiwn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r dull gorfodi yn sbarduno newid yn y sector erbyn hyn. Mae lefelau cydymffurfio yn gwella. Mae'r lefelau gwella wedi codi 12 y cant rhwng mis Mehefin 2024 a mis Mawrth 2025. Oes, mae gennym lawer o ffordd i fynd, Jenny, rhaid dweud, ond mae hynny'n welliant sylweddol, ac rwy'n credu bod cydberthynas rhwng yr adnoddau ychwanegol sy'n cael eu rhoi—. Rhan ohono yw'r cydweithrediad a rhan ohono yw gorfodi hefyd. Felly, mae dull CNC o orfodi'r rheoliadau yn helpu i ysgogi hyn.

Ac ar ben hynny, mae 553 o ffermwyr ychwanegol wedi cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn yng nghyfnod ymgeisio'r cynllun rheoli maethynnau diweddaraf, sy'n cynnwys pethau fel storio, fel y soniwyd yn gynharach, gyda chyfanswm y grantiau'n werth ychydig llai nag £20 miliwn. Felly, rydym yn rhoi arian hefyd i helpu ffermwyr i wneud y peth iawn.

15:05
Trwyddedau Rhyddhau Adar Hela

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar drwyddedu rhyddhau adar hela? OQ63251

Diolch, Carolyn. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu gwybodaeth ar ôl yr ymgynghoriad ar ryddhau adar hela, yn ogystal ag ystyried effaith y sefyllfa sy'n newid yn barhaus o ran ffliw adar. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried yn ofalus sut rydym yn datblygu dull trwyddedu cadarn sy'n iawn i Gymru.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Brif Weinidog. Rwy'n arbennig o bryderus am saethu adar ar raddfa fawr sy'n cael effaith sylweddol ar ein bywyd gwyllt lleol, gan effeithio ar fioamrywiaeth ac ecosystemau, ond sydd hefyd yn lledaenu'r firysau—er enghraifft, marwolaeth llu o ffesantod yn y Berwyn yr haf hwn o ganlyniad i ffliw adar. O ystyried ei bod yn ofynnol i berchnogion anifeiliaid anwes gadw eu hadar dan do pan fydd achosion yn digwydd, mae'n ymddangos yn hollol afresymegol fod yn dal i fod modd rhyddhau niferoedd mawr o adar hela wedi eu bridio mewn cewyll. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith rhyddhau adar hela ar ledaeniad ffliw adar, a pha fesurau sy'n cael eu hystyried i liniaru'r risgiau hynny?

Diolch, Carolyn. Mae hwn yn fater pwysig iawn, yn enwedig wrth inni weld ffliw adar ac ar ddechrau'r tymor o batrymau mudol gan adar hefyd. Rydym yn monitro ffliw adar yn barhaus nawr mewn dofednod ac mewn adar gwyllt. Mae gennym adroddiadau rheolaidd o sawl ffynhonnell. Caiff data ei gasglu, mae gennym brofion labordy ar gyfer adar yr amheuwn eu bod wedi'u heintio neu a ganfuwyd yn farw, ac mae cydweithio'n digwydd ar draws holl adrannau perthnasol y Llywodraeth a'r rhwydweithiau ehangach sydd gennym allan yno gydag adar a dofednod ac yn y blaen, fel y gallwn ymyrryd yn gynnar. Rydym wedi dangos hyn ar lawr gwlad pan, ac fel y bo angen.

Rydym hefyd, gyda llaw, yn cyflwyno mesurau bioddiogelwch gorfodol ychwanegol yn y sector rheoli adar hela, a fydd yn cynnwys rhestr wirio bioddiogelwch orfodol i'w chwblhau gan bob ceidwad adar hela.

Felly, rydym yn cydnabod bod perygl y gall adar hela a ryddheir, os ydynt wedi'u heintio, ledaenu ffliw adar i rywogaethau o adar gwyllt eraill, gan gynnwys adar o bryder cadwraethol. Ond hyd yma, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth fod llu o farwolaethau wedi digwydd mewn unrhyw rywogaeth arall o bryder cadwraethol yn yr ardaloedd lle gwelsom achosion o haint.

Roeddwn eisiau sôn hefyd, yn dilyn yr achosion o ffliw adar mewn adar hela yng ngogledd Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau rhagofalus ac ychwanegol y tu hwnt i'n rhwymedigaethau arferol, a hynny'n briodol. Fe wnaethom hysbysu'r holl geidwaid dofednod ac adar caeth cofrestredig yn ardal y digwyddiad, a fyddai fel arfer ond yn digwydd pan fo gennym achosion yn digwydd mewn dofednod neu adar caeth. Fe aethom y tu hwnt i'r galw; felly, mae'r sefyllfa dan reolaeth gennym.

Arallgyfeirio Ffermydd

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermydd a ffermwyr ar draws Gorllewin De Cymru gydag arallgyfeirio? OQ63245

Diolch, Tom. Mae nifer o gynlluniau cymorth ar gael i ffermwyr yn ardal de-orllewin Cymru, gan eu galluogi i ddatblygu mentrau arallgyfeirio sy'n bodoli'n barod neu sefydlu mentrau arallgyfeirio newydd. Mae cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun arallgyfeirio amaethyddol a garddwriaeth ar agor ar hyn o bryd, a daw i ben ar 5 Rhagfyr.

Hyfryd clywed hynny. Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol fod ffermwyr yn Lloegr yn elwa o reoliadau dosbarth Q sy'n caniatáu iddynt drosi adeiladau amaethyddol yn anheddau heb fawr o ymyrraeth gynllunio, ond nid oes unrhyw beth cyffelyb yn bodoli yn yr un ffordd yma yng Nghymru, ac mae hynny'n rhoi ffermwyr yma yng Nghymru dan anfantais gystadleuol os ydynt am wneud yr un peth. Felly, a wnewch chi edrych eto ar ba fesurau y gallech eu cyflwyno yng Nghymru i sicrhau tegwch i'n ffermwyr?

15:10

Ie. Rwyf bob amser yn hapus i gael y sgyrsiau hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio, ond buaswn yn dweud, 'Gadewch inni wneud yr hyn sy'n iawn yng nghyd-destun Cymru' hefyd, ond rwy'n fwy na hapus i wneud hynny. Tybed a yw wedi ysgrifennu'n flaenorol at Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am gynllunio, ond os nad yw wedi gwneud hynny, mae croeso iddo ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet dan sylw neu ataf i, neu'r ddau ohonom, a byddem yn barod iawn i ymateb.

Llifogydd

7. Pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i gynorthwyo preswylwyr a allai wynebu llifogydd dro ar ôl tro y gaeaf hwn, yn enwedig y rhai sydd heb yswiriant neu mewn tai cymdeithasol? OQ63257

Diolch, Lee. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn effro i beryglon llifogydd drwy gydol y flwyddyn. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol fel ein hawdurdodau rheoli risg, y gwasanaethau brys a'r fforymau gwydnwch lleol, rydym yn canolbwyntio ar helpu ein hymatebwyr i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a fydd yn teimlo effeithiau argyfyngau fel llifogydd yn fwyaf dwys.

Diolch. Tynnodd y Groes Goch Brydeinig sylw yn eu hadroddiad diweddar at y ffaith bod preswylwyr mewn tai cymdeithasol a'r rhai heb yswiriant yn arbennig o agored i niwed llifogydd sy'n digwydd dro ar ôl tro. Canfu eu hadroddiad fod un o bob pump o bobl mewn ardaloedd risg uchel heb yswiriant, ac mae llawer heb adnoddau neu wybodaeth i baratoi ar gyfer llifogydd neu i adfer ar ôl llifogydd. Felly, a all Llywodraeth Cymru amlinellu pa fesurau wedi'u targedu sydd ar waith y gaeaf hwn i sicrhau nad yw'r grwpiau hyn yn cael eu gadael ar ôl, ac yn benodol, sut y mae ein cynlluniau wrth gefn yn mynd i'r afael â'r bylchau mewn ymwybyddiaeth, mynediad at lety brys a chymorth ariannol i'r rhai mwyaf agored ac sydd wedi'u diogelu leiaf?

Diolch, Lee, ac mae hwn yn fater mor allweddol, oherwydd mae'r cwestiwn o ymwybyddiaeth o yswiriant, lle gall unigolion gael yswiriant, ac os na allant gael yswiriant, pa ddewisiadau amgen sydd i'w cael, yn allweddol a bydd yn effeithio mwy ar rai o'n trigolion mwy difreintiedig nag ar eraill. Mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol go iawn.

Y peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud—ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn enwedig, ond bob amser—yw y buaswn yn annog pawb i edrych, yn gyntaf oll, ar eich yswiriant tŷ i weld a yw'n cynnwys difrod llifogydd, ac mae llawer o bolisïau yswiriant yn ei gynnwys. Y rheswm pam rwy'n dweud hynny yw am nad yw polisïau yswiriant cartref safonol bob amser yn cynnwys difrod llifogydd. Gwiriwch hynny, os gwelwch yn dda. Mae yna gynllun, wrth gwrs—ac mae'n werth ei ddweud yma heddiw ac unwaith eto, rwy'n gofyn am gymorth yr holl Aelodau i ledaenu'r gair ar hyn—cynllun Flood Re, sy'n helpu i wneud yswiriant llifogydd yn fwy hygyrch a fforddiadwy i eiddo â risg uchel o ddioddef llifogydd. Mae yna rôl i landlordiaid cymdeithasol hefyd. Rydym yn ymwybodol fod nifer o landlordiaid wedi adolygu eu polisïau yn ddiweddar i wneud yn siŵr fod ganddynt arferion gorau ar waith gyda thenantiaid mewn perthynas â risg i'w cartrefi a beth i'w wneud i baratoi ar gyfer y perygl o lifogydd, ac ar ôl llifogydd hefyd, ac rydym yn awyddus i weld mwy o'n landlordiaid cymdeithasol yn gwneud y math hwnnw o waith. Ac mae'n cysylltu â'r fforymau gwydnwch lleol, sy'n cynhyrchu'r cynlluniau ar gyfer cymunedau lleol.

A'r peth arall y carwn ei ddweud, yn bendant, ac rwyf wedi sôn am hyn ar lawr y Siambr o'r blaen, yw y dylech edrych ar cynllun ailgodi'n gryfach Flood Re. Os ydych chi wedi cael llifogydd, mae hwnnw'n helpu, gydag yswirwyr yn darparu hyd at £10,000 tuag at fesurau gwydnwch llifogydd i eiddo wrth atgyweirio cartrefi ar ôl llifogydd. Rwyf wedi ei weld yn gweithio, a hoffwn annog pobl i wneud hynny hefyd. Mae hwn yn faes anodd, Lee, ond rydym yn awyddus i weld landlordiaid cymdeithasol yn chwarae eu rhan gyda'u tenantiaid a'n bod ni'n cyfeirio pobl at ble y gallant gael yswiriant, er mor anodd yw hynny.

Mae cwestiwn 8 [OQ63249] wedi'i dynnu nôl. Yn olaf, felly, cwestiwn 9, Mike Hedges.

Lefelau Llygredd Aer yn Abertawe

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar lefelau llygredd aer yn Abertawe? OQ63235

Diolch, Mike. Mae ansawdd aer yn Abertawe yn cydymffurfio â'r holl derfynau ansawdd aer statudol cenedlaethol a lleol. Mae Cyngor Abertawe yn cyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol ar ansawdd aer sy'n amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i wella ansawdd aer. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella ansawdd aer yn Abertawe ac ar draws Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw. Mae gan ansawdd aer safonau ar gyfer saith llygrydd allweddol: bensen, 1,3-bwtadeuen, carbon monocsid, plwm, nitrogen deuocsid, gronynnau mân, PM10, a sylffwr deuocsid. Mae'r cyngor wedi cynnal adolygiad ac asesiad aml-gam o ansawdd aer yn Abertawe. Yn rhan o hyn, maent wedi nodi'r ardaloedd a fyddai'n uwch na'r amcanion cenedlaethol. Datganwyd ardal rheoli ansawdd aer Hafod, am fod Hafod yn debygol o fethu'r amcanion nitrogen deuocsid statudol. Mae microblastigau'n bresennol yn yr aer a anadlwn, gan beri bygythiad sylweddol na ellir ei fesur yn iawn i iechyd pobl a lles amgylcheddol. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd aer yn Abertawe, yn enwedig yn Hafod?

15:15

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol. Felly, mae ansawdd aer ym mharth asesu ansawdd aer crynodref Abertawe yn cael ei fonitro'n gyson nawr drwy rwydwaith o orsafoedd awtomatig a thiwbiau trylediad. Felly, maent yn mesur llygryddion allweddol, gan gynnwys rhai y sonioch chi amdanynt, Mike: nitrogen deuocsid; mater gronynnol, PM10 a PM2.5; osôn, sylffwr deuocsid a bensen. Ond o ddiddordeb i chi ar y ffordd y gallwn barhau i wella safonau yn Abertawe a ledled Cymru, rwy'n disgwyl lansio ymgynghoriad cyhoeddus cyn bo hir ar opsiynau targed ar gyfer mater gronynnol mân—PM2.5—a'r gofynion monitro cysylltiedig i'w cefnogi. Ac fel y gwyddoch, Mike, yn ein deddfwriaeth ansawdd aer, a gyflwynwyd gan ragflaenydd disglair i mi, mae gennym allu i fynd ymhellach wrth i'r dystiolaeth ar lawr gwlad newid fod angen inni ganolbwyntio ar faterion ansawdd aer eraill.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Dau gwestiwn heddiw a'r cyntaf ohonyn nhw i'w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ac i'w ofyn gan David Rees.

Y Diwydiant Dur

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Tata ynglŷn â dyfodol ei weithfeydd ledled Cymru ac effaith unrhyw gau dros dro ar weithwyr dur? TQ1386

Diolch. Mae Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau rheolaidd gyda Tata a'r undebau dur. Rydym wedi cael gwybod bod y saib dros dro eleni i fod i gael ei ymestyn ar dri safle arall oherwydd amodau anodd y farchnad. 

Wel, diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ac ar gyfer y cofnod, Lywydd, rwyf am gofnodi ac atgoffa'r Aelodau fy mod i'n undebwr llafur balch ac yn aelod o undeb Unite.

Weinidog, ddydd Gwener, cefais alwad gan swyddog yn Tata fod cynlluniau'n cael eu cyhoeddi i gau'r felin boeth ym Mhort Talbot am gyfnod estynedig dros y Nadolig, yn ogystal â'r llinellau cynhyrchu yn Llan-wern a Throstre. Byddai hyn hefyd yn golygu bod gweithwyr dur yn colli cyfran fawr o'u hincwm. Roedd sôn am gyflog sylfaenol o 65 y cant yn cael ei dalu yn ystod y cyfnod ffyrlo hwnnw. Nid yw hynny wedi digwydd yn arferol mewn cyfnodau ffyrlo a chau; mae staff fel arfer yn cael eu cyflog arferol. Mae'n newydd i'r pethau hyn. Felly, mae'n golygu mewn gwirionedd fod staff yn colli incwm ar adeg o'r flwyddyn pan fo teuluoedd angen yr arian hwnnw. Mae'n amser Nadolig. Mae ganddynt forgeisi i'w talu, mae ganddynt filiau bwyd, mae ganddynt filiau gwresogi, mae ganddynt blant y byddant eisiau rhoi anrhegion iddynt. Felly, mae'n drychinebus i'r cymunedau.

Rwy'n gwybod bod undebau llafur yn codi peth o hyn, ac rwy'n gweithio gyda nhw ac rwy'n cefnogi'n llawn yr holl gamau a roddir ar waith ganddynt i frwydro yn erbyn y gyfradd o 65 y cant. Nodaf fy niolch i'r undebau dur am eu bod yn parhau i weithio'n galed dros weithwyr dur mewn cyfnod anodd iawn.

Fel rydych chi newydd ei nodi yn eich ateb, mae Tata yn dweud mai marchnadoedd byd-eang sydd ar fai. Maent wedi cael eu heffeithio gan y tariffau a osodwyd gan yr Unol Daleithiau—y 50 y cant ar ddur wedi'i fewnforio i'r Unol Daleithiau—ac wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, roeddem yma'n trafod cynigion tariffau'r UE a'r gostyngiad yn y cwotâu a fydd hefyd yn effeithio ar y marchnadoedd yn y dyfodol. Ac o ganlyniad, rydym yn gweld dur yn cael ei ddympio ym marchnadoedd y DU, o Tsieina neu o Fietnam, ac mae'r dur hwnnw sydd wedi'i fewnforio yn cael effaith ar allu Tata i werthu ei ddur yn y DU.

Gyda hynny mewn golwg, hoffwn wybod yn union beth sy'n digwydd. Oherwydd y pryder y mae teuluoedd yn eu hwynebu—. Ar ôl colli dros 2,000 o swyddi pan gaewyd y ffwrneisi chwyth—. Ac nid yw'r ffydd yn Tata—nid yw Tata yn nodi eu bod yn mynd i gau—ond mae'r ffydd yn Tata ar hyn o bryd yn is nag erioed. Mae angen sicrwydd arnynt fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gefnogi'r diwydiant a'u cefnogi nhw'n benodol. Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Tata ynglŷn â sicrhau nad yw'r cau estynedig yn effeithio ar y cynlluniau hirdymor ar gyfer y diwydiant?

Hefyd, pan fyddwch chi'n cael y trafodaethau hynny, a ydych chi'n sicrhau bod cymorth ariannol i'r gweithwyr yn cael ei roi ar waith? Oherwydd, fel y dywedais, mae colli 35 y cant o'ch cyflog ar adeg o'r flwyddyn pan fydd ei angen arnoch yn mynd i gael effaith enfawr ar deuluoedd a chymunedau. Ac a ydych chi'n cael trafodaethau gyda Tata am y perygl o gyfnodau cau estynedig yn y dyfodol? Oherwydd nid wyf eisiau i hon fod yn broses sy'n ailadrodd. Rydym yn gwybod bod y marchnadoedd byd-eang yn anwadal iawn, ond mae angen inni wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd dro ar ôl tro. Oherwydd un o fy ofnau yw y bydd gennym ffwrnais arc drydan wedi'i hadeiladu—mae'r prosiect yn mynd yn ei flaen—fe fydd yn gwneud dur, ond ni fydd ffatri ddur yno i rolio'r dur, ac ni fydd eu swyddi gan weithwyr dur yn 2028 pan ddaw hynny'n weithredol. Rhaid inni wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd.

Ac i'r perwyl hwnnw, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chael tariffau a rhwymedïau masnach ar waith yn y DU i atal duroedd wedi'u mewnforio rhag dod i mewn, a meddiannu'r farchnad? Mae angen mynd i'r afael â'r cwotâu; mae angen codi'r tariffau; ac mae angen inni weithredu i atal dur o'r tu allan rhag meddiannu'r farchnad, neu fe welwn fwy a mwy o hyn yn digwydd, ac mae'n mynd i ddinistrio ein diwydiannau.

Rwy'n disgwyl i'r ddwy Lywodraeth ddod o hyd i strategaeth, ac rydym yn aros am hynny, Weinidog. A oes gennych chi unrhyw syniad pryd y gallai'r strategaeth honno ddigwydd? Rydym wedi bod yn aros ers cryn dipyn o amser bellach. A hoffwn weld hynny oherwydd mae dyfodol dur yn allweddol i ddyfodol Cymru. Dyma'r diwydiant sylfaenol mwyaf a hiraf sy'n dal i fod yma, ac ni allwn adael iddo fynd. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf beth sy'n digwydd, os gwelwch yn dda?

15:20

A gaf i ddiolch i Dai Rees am y nifer o gwestiynau yno a chydnabod ei rôl yn cefnogi'r diwydiant dur, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond ledled Cymru ers nifer o flynyddoedd bellach? Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy natganiadau o fuddiant fel aelod o undeb llafur hefyd, ac yn cefnogi pob un ohonynt, yn aelodau ac arweinwyr undebau llafur, sydd wedi cefnogi'r diwydiant ers blynyddoedd lawer.

Rwy'n cytuno â Dai Rees y bydd yr alwad a gafodd ddydd Gwener yn peri pryder nid yn unig i'r gweithwyr yn Tata Steel, ond yn wir i'w teuluoedd a'r cymunedau ehangach. Yn yr ysbryd hwnnw y mae angen i'r cwmni ymgysylltu ag undebau llafur i ddod o hyd i ateb addas i'r problemau y maent yn eu hwynebu oherwydd amodau'r farchnad—yr amodau byd-eang y cyfeiria Dai Rees atynt.

Gallaf roi i'r Aelod—. Rydym yn cael sgyrsiau gyda'r cwmni a Llywodraeth y DU ar fater y diwydiant dur. Ddydd Sadwrn, 11 Hydref, siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, y Gweinidog Diwydiant, i drafod yr oedi arfaethedig ynghyd â'r pryderon am dariffau dur, a godwyd yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, mewn cwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y sgyrsiau hynny'n parhau. Mae cyfle eto i gael sgwrs bellach mewn ysbryd o bartneriaeth ym mwrdd pontio Tata yfory, 16 Hydref, lle rwy'n siŵr y bydd hyn a phwyntiau eraill a gododd yr Aelod yn cael eu trafod ymhellach.

Rydym am weld yr un peth yn union ag y mae'r Aelod eisiau ei weld, Lywydd: hyfywedd hirdymor i'r sector, nid yn unig i'r diwydiant dur ei hun, ond yn bwysig, i gymuned yr Aelod, i'r cadwyni cyflenwi a safleoedd ymhellach i lawr ym Mhort Talbot. Mae Dai Rees yn hollol gywir pan noda fod dyfodol dur yn allweddol i ddyfodol Cymru.

Rydym yn gweld yr amodau marchnad byd-eang yn achosi anawsterau i Tata ac eraill, ond rydym eisiau gweithio mewn partneriaeth â nhw, drwy gael sgyrsiau ystyrlon, ond yn bwysig, drwy gael sgyrsiau ystyrlon gyda'r gweithlu, gan mai o'r fan honno y daw'r atebion gorau. Rwy'n disgwyl i'r cwmni ddilyn yr egwyddor honno, ymgysylltu â'u hundebau llafur cydnabyddedig ar y safleoedd, ar y tri safle yr effeithir arnynt, i gael y trafodaethau hynny a rheoli'r drafodaeth, o ystyried amseriad y cyhoeddiad hwn. Mae cau safleoedd yn fater gweithredol, maent yn digwydd, ond rwy'n cydnabod y bydd y cau estynedig, yn enwedig ar y pwynt hwn gyda chyfnod y Nadolig ar y ffordd, yn anodd i'r gweithlu, ac mae'n rhaid iddynt weithio ochr yn ochr â'r gweithlu i fynd drwy hynny.

Ar bwynt yr Aelod ynglŷn â'r dyfodol ac unrhyw gau arall o'r natur hon, nid ydym wedi cael gwybod am unrhyw gynlluniau i'r perwyl hwnnw. Fe ailadroddaf y pwynt, ar gyfer unrhyw benderfyniad y gallai'r cwmni fod eisiau ei wneud yn y dyfodol, nid yn unig am bethau fel hyn, ond unrhyw benderfyniad, dylent wneud hynny gyda'r gweithlu mewn golwg a dylent wneud hynny mewn partneriaeth gymdeithasol. Ond i fod yn glir, nid ydym wedi cael sgwrs nac awgrym o unrhyw gau yn y dyfodol yn y cyfnod y mae'r Aelod yn ei nodi.

Ar y strategaeth ddur, rydym yn bwrw ati'n weithredol ar y strategaeth ddur gyda Llywodraeth y DU. Nid yw'r amserlen gennyf, ond fe ofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet fynd ar drywydd y pwynt hwnnw gyda'r Aelod yn uniongyrchol pan fydd hi'n dychwelyd o fusnes ym Mrwsel.

Mae Dai Rees yn hollol gywir i nodi nad oes cyfnodau ffyrlo wedi digwydd ar y safle ym Mhort Talbot. Dyma'r tro cyntaf iddynt ddigwydd. Wrth gwrs, rhan o hynny yw nad oes gennym ffwrnais chwyth mwyach. Roedd yn rhy ddrud i Tata ddiffodd y ffwrnais chwyth, hyd yn oed pan oedd marchnadoedd byd-eang yn achosi problemau. Ond y ffaith sy'n wynebu nifer o weithwyr ar y safle yw mai 65 y cant o gyfanswm eu cyflog y byddant yn ei gael yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae hynny'n mynd i fod yn drychinebus i gymaint o deuluoedd a gynrychiolaf yn fy rhanbarth, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond ar hyd coridor yr M4. A nawr, nid yn unig hynny, deallaf hefyd fod contractwyr bellach yn cael rhybudd gan eu cwmnïau oherwydd y newydd hwn. Felly, rwy'n awyddus iawn i glywed gan y Llywodraeth yma sut y maent yn mynd i gefnogi, nid yn unig y gweithwyr ar y safle, sydd angen cefnogaeth y Llywodraeth, ond hefyd y contractwyr sy'n mynd i golli eu gwaith o ganlyniad i hyn. Yn amlach na pheidio, mae'r contractwyr yn cael eu hanghofio yn yr anghydfodau hyn, ond mae ar bwynt nawr lle mae hyder pobl yn y diwydiant dur yn is nag erioed.

Ac i fynd ar drywydd yr ochr ryngwladol hefyd, rydym mewn sefyllfa lle mae tariffau'n cael eu rhoi ar ein diwydiant dur dro ar ôl tro gan wledydd eraill. Rydym yn mynd i fod mewn sefyllfa, fel y mae Dai eisoes wedi nodi, lle rydym yn mynd i gael dur wedi'i ddympio arnom gan wledydd eraill. Ac mae'r holl sefydliadau dur yn dweud yn glir iawn mai'r wlad olaf i godi tariffau ar fewnforio dur fydd y gwledydd cyntaf i ddad-ddiwydiannu a cholli eu diwydiant dur. Felly, hoffwn gael rhagor o newyddion gan y Gweinidog am y sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU.

Ac ar y strategaeth ddur, mae'n wych gwybod bod sgyrsiau'n digwydd, ond nid yw'r ffaith bod hyn yn cael ei ohirio nawr i'r flwyddyn newydd yn llenwi pobl â hyder. Mae angen inni symud o sgyrsiau at weithredu. Felly, hoffwn yn fawr weld y Gweinidog yn symud ymlaen â hynny a sicrhau bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwybod am gryfder y teimlad yma yn y Senedd hon, fod angen inni fwrw ymlaen â'r strategaeth ddur. Fel arall, rydym yn mynd i edrych yn ôl ar y cyfnod hwn a meddwl tybed beth aeth o'i le. A byddwn yn gallu dweud wrthych beth aeth o'i le: diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU.

15:25

A gaf i ddiolch i Luke Fletcher am y cwestiynau amrywiol? Ar gryfder y teimlad, Lywydd, wel, o ran y diwydiant dur yng Nghymru, rwy'n credu bod cryfder y Senedd yn cael ei gydnabod yn fawr. Nid safbwynt y Llywodraeth yn unig ydyw, rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i ddyfodol y diwydiant dur a lle rydym eisiau bod ar gyfer dyfodol y diwydiant dur, a gallaf weld Aelodau'r wrthblaid yno. Gallaf sicrhau'r Aelod fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn manteisio ar bob cyfle i godi pwysigrwydd y strategaeth ddur gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU, a chymheiriaid yn y diwydiant hefyd, a phwysigrwydd y sector a phwysigrwydd y gweithlu, ac nid dim ond y gweithwyr a gyflogir yn uniongyrchol gan Tata, ond y rhai mewn safleoedd yn is i lawr, a chontractwyr hefyd.

Nid wyf wedi cael y wybodaeth y mae'r Aelod wedi'i chael mewn perthynas â chontractwyr. Os yw am rannu hynny gyda mi a swyddfa Ysgrifennydd y Cabinet, fe ofynnwn i swyddogion fwrw ymlaen â hynny. Rwy'n ailadrodd y bydd cyfle pellach lle mae'r materion hyn yn debygol o gael eu trafod yng nghyfarfod y bwrdd pontio a gynhelir yfory. Ond os yw am rannu'r wybodaeth honno, fe edrychwn ymhellach ar hynny, wrth gwrs.

I ailadrodd y pwynt, Lywydd, credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi ymateb manwl ar dariffau'r UE yr wythnos diwethaf i gwestiynau gan yr Aelod ei hun ac Aelodau ar draws y Siambr. Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet ddydd Sadwrn i drafod y tariffau a'r sefyllfa sydd o'n blaenau. Rwy'n cymryd pwynt yr Aelod ar ble mae angen inni fod yn y dyfodol, ac fe fanteisiwn ar bob cyfle i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yno. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny, a byddaf innau'n gwneud yr un peth yno.

Ar bwynt y gweithlu, fe ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrth Dai Rees: mae'n bwysig fod y cwmni'n ymgysylltu'n uniongyrchol ag undebau llafur yn Tata i ddod i ateb sy'n ymarferol i bawb.

Diolch i'r Aelod dros Aberafan am gyflwyno hyn, oherwydd mae tensiwn a phryder gwirioneddol yn y gymuned ar hyn o bryd, yn y gymuned ddur a'r gadwyn gyflenwi, fel y nodwyd yn gywir ddigon gan Luke Fletcher.

Yr wythnos diwethaf, cymerodd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig dystiolaeth gan undebau, cynrychiolwyr lleol a chenedlaethol, yn ogystal â Tata, a chefais fy nghalonogi fod Tata yn edrych ymlaen at adeiladu'r ffwrnais arc drydan. Ond pa waith rydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y prosiect yn parhau ar amser, yn cael ei gwblhau, a bod elfennau ymhellach i lawr o'r diwydiant yn dal i fodoli i sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw'n werth chweil a bod ffwrnais arc drydan yn dod yn realiti? Oherwydd fel y nodais wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yr wythnos diwethaf, rwy'n poeni mai gennym ni y mae'r costau ynni uchaf o gymharu â chyfandir Ewrop, lle rydym wedi gweld cwmnïau dur yn camu'n ôl rhag buddsoddi mewn ffwrnais arc drydan. Os yw'r cau estynedig dros y Nadolig yn brawf o unrhyw beth, mae gennyf bryderon gwirioneddol ynghylch ymrwymiad Tata i'r ffwrnais arc drydan, o ystyried ble rydym arni yn y cylch diwydiannol a'r tariffau.

Mae'r hyn a ddywedodd Luke Fletcher a Dai Rees ynglŷn â dympio yn hollol gywir. Oherwydd pan godais y pwynt hwnnw gyda phenaethiaid undebau yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ynghylch y tariffau sy'n cael eu gweithredu, oedd, roedd yna bryder ynghylch gwerthiant cynnyrch i ardaloedd oherwydd tariffau, ond y pryder mwyaf oedd dympio cynnyrch ym marchnad y DU. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ailadrodd eto yr hyn rydych chi'n ei wneud gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'r elfen dariff, a'r hyn rydych chi'n ei wneud i gynnal y pwysau ar Tata i sicrhau (a) bod y ffwrnais arc drydan ar waith, (b) fod yr elfennau diwydiannol yn is i lawr i'w gwneud yn hyfyw yn parhau i fodoli yng Nghymru, ac (c) fod y gadwyn gyflenwi yn cael ei chefnogi, fel y pwysleisiodd Luke Fletcher yn gywir ddigon?

15:30

Diolch am hynny, Sam Kurtz. Rwy'n falch iawn fod pwyllgor yr economi wedi bod yn edrych ar y diwydiant dur eto ac wedi casglu tystiolaeth bwysig gan undebau llafur a chynrychiolwyr y gweithlu. Rwy'n falch fod yr Aelod yn cydnabod pwysigrwydd yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud ac yn eu cefnogi wrth symud ymlaen.

Gan fentro ailadrodd fy hun ar y cwestiynau rwyf eisoes wedi'u hateb heddiw gan Aelodau eraill, ac yn wir, ar dariffau, a atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf, byddwn yn parhau i godi'r materion hynny. Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â Llywodraeth y DU y penwythnos diwethaf, i drafod tariffau'r UE. Rydym yn cydnabod yr hyn sydd gan yr Aelod i'w ddweud ar hynny, a'r hyn y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud ar dariffau, a'r effaith bosib ar y diwydiant, a'r angen i Lywodraeth y DU gael sgyrsiau pellach a gweithredu yma. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i fwrw ymlaen â'r sgyrsiau hynny. Ni allwn fod mewn sefyllfa lle mae partneriaid pwysig yn gweithredu atebion i ddiogelu eu sector dur, gan adael y DU yn agored i ddympio posib. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a gydnabuwyd ac y cyfeiriwyd ato yng nghwestiwn yr Aelod.

O ran buddsoddiadau ehangach a ffwrnais arc drydan, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet yn y seremoni torri tir ar gyfer y ffwrnais arc drydan ym mis Gorffennaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda Tata ar hyn, a'r holl randdeiliaid yma, i roi pwysau arnynt ar fater y ffwrnais arc drydan. Rydym am weld sector dur hyfyw yn y dyfodol yng Nghymru. Mae'r ffwrnais arc drydan yn chwarae rhan bwysig iawn yn hynny, ac rydym am weld y prosiect hwnnw'n cael ei wireddu ar gyfer yr holl bethau a all ddigwydd yn rhanbarth Dai Rees, yr ardal y mae'n ei chynrychioli. Fel y dywedodd Dai, rydym am i ddyfodol dur fod yn rhan o ddyfodol Cymru, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid sydd â diddordeb yn hynny, a gweld nid yn unig y cyfleoedd y gall y ffwrnais arc drydan eu cynnig i Gymru, ond y cyfleoedd yn gysylltiedig â buddsoddiad ehangach yn y rhanbarth. Roeddwn gyda'r Aelod ym Mhort Talbot ychydig fisoedd yn ôl yn edrych ar y dechnoleg ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, a byddwn yn parhau i hyrwyddo dur Cymru yn y gadwyn gyflenwi i wireddu'r uchelgeisiau hynny hefyd.

Nodaf fy aelodaeth o undeb llafur Community ar y dechrau, Lywydd.

Weinidog, fel y gwyddoch, mae gwaith dur Llan-wern yn Nwyrain Casnewydd yn safle gorffennu ac felly mae ganddo rai problemau penodol o gymharu â darlun cyffredinol y diwydiant dur yng Nghymru. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r gweithlu, yr undebau llafur a'r rheolwyr yn Llan-wern. O ystyried hanes diweddar y diwydiant dur yng Nghymru a'r DU, a'r datblygiadau hyn nawr gyda chynlluniau i gau am gyfnod estynedig dros y Nadolig, mae'n amlwg fod y pryder a'r ymdeimlad presennol o anwadalwch yn y diwydiant bellach wedi cynyddu, a chredaf fod y pryder a'r gorbryder ar lefelau newydd.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cael ein gweld fel Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Senedd sydd wedi ymrwymo'n llwyr i'r diwydiant dur yng Nghymru, fel y mae eraill wedi'i nodi. I mi, mae'n wirioneddol bwysig fod y sefyllfa yn Llan-wern, a safleoedd gorffennu eraill yng Nghymru, yn cael ei hystyried yn llawn yn y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Tata a Llywodraeth y DU, ac yn wir, fod yr undebau llafur yn rhan ganolog o bopeth sy'n digwydd. Felly, unwaith eto, tybed a allech chi roi'r sicrwydd i mi a gefais ar sawl achlysur gan Weinidogion Llywodraeth Cymru y bydd sefyllfa Llan-wern yn cael ei hystyried yn llawn ym mhob trafodaeth ac unrhyw gamau gweithredu a fydd yn codi yn y pen draw.

15:35

Diolch i John Griffiths am ei gwestiynau. Gallaf roi'r sicrwydd y mae'n ei geisio iddo. Fel y dywedais, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i weld sector dur hyfyw. Credaf fod y Senedd hefyd wedi ymrwymo i hynny. Mae'n bwysig fod y ddau gorff wedi ymrwymo i hynny.

Yr hyn sy'n hanfodol, Lywydd, yw ein bod yn ystyried y sector dur yn ei gyfanrwydd ac nid yn edrych ar un safle ar ei ben ei hun. Rydym eisiau ystyried y sector dur yn ei gyfanrwydd, ac mae safleoedd ymhellach i lawr y diwydiant o Bort Talbot yn bwysig iawn, fel Llan-wern, Trostre a Shotton, a'r holl safleoedd y mae Port Talbot yn eu bwydo.

Rwy'n rhoi sicrwydd i'r Aelod heddiw, yn y sgyrsiau y mae'r Llywodraeth yn eu cael gyda'r cwmni a phartneriaid eraill, gan gynnwys, yn bwysig, undebau llafur, y bydd Llan-wern yn rhan bwysig o'r sgyrsiau hynny ac yn rhan o'r ateb i'r sgyrsiau y byddwn yn eu cael yn y dyfodol. Yn bwysig, fe fydd y gweithlu yno.

Ailadroddaf y pwynt a wneuthum yn gynharach wrth agor y cwestiynau: rwy'n disgwyl i'r cwmni a'r cwmnïau ymgysylltu'n uniongyrchol ag undebau llafur mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol er mwyn dod o hyd i'r ateb gorau posib i'r sefyllfaoedd sy'n eu hwynebu.

Diolch, Lywydd. Bydd y tariffau hyn yn cael effaith enfawr ar y gweithwyr dur a'u teuluoedd ym Mhort Talbot, pobl rwy'n eu cynrychioli, pobl sydd eisoes wedi wynebu cymaint o ansicrwydd. Mae cau'r safleoedd dros dro yn gwaethygu misoedd o bryder, ac mae'n arwain at sinigiaeth hefyd, teimlad nad yw Tata yn cadw at eu gair. Mae'n sefyllfa ofnadwy, fel y clywsom Aelodau eraill yn ei ddweud, mor agos at y Nadolig, a bydd yn cael effaith enfawr ar lesiant ariannol a meddyliol y gweithwyr a'u teuluoedd.

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau, mewn sgwrs â Tata a Llywodraeth y DU, fod hyder y gweithlu a'u teuluoedd yn cael ei gynnal yn y diwydiant hwn? Mae'n rhedeg yn eu gwaed, ond maent yn teimlo fwy a mwy eu bod yn cael eu gadael ar ôl, yn aros am yr ergyd nesaf. Mae'r rhain yn weithwyr ffyddlon, medrus, ac fel y gwelsom dros y misoedd diwethaf pan welsom y ffwrneisiau chwyth yn cau, mae arnaf ofn y bydd llawer ohonynt yn gadael eu cymunedau. Nid ydynt yn mynd i oddef hyn. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn, ar gyflogau uchel, sydd wedi rhoi eu holl egni i'r diwydiant hwn, ac maent yn teimlo eu bod yn cael eu siomi dro ar ôl tro.

Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau a'r cyfle i ailadrodd y pwyntiau rwyf wedi'u gwneud. Hoffwn gydnabod gweithlu medrus iawn y sector dur, fel y gwnaeth yr Aelod, yn enwedig yng Nghymru. Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â rhai ohonynt ar safle Shotton, felly gwn yn iawn am y sgiliau a'r oesau y maent yn eu rhoi i'r diwydiant. Mae'n iawn ein bod eisiau gweld sector dur ffyniannus yn y dyfodol, fel y gallant gynnal eu teuluoedd, ac yn wir, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gael swyddi medrus yn y diwydiant dur hefyd.

Mae'r Aelod yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'r sgyrsiau i sicrhau bod y gweithlu'n cael ei glywed. Rydym yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Fel y dywedais, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cael sgyrsiau ar y mater penodol hwn a mater tariffau'r UE dros y penwythnos. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau â'r sgyrsiau hynny ar lefel weinidogol, a bydd ei swyddfa'n parhau â'r sgyrsiau hynny'n uniongyrchol gyda'r cwmni a'r undebau llafur hefyd. Rwy'n credu y bydd cyfle pellach i drafod y mater hwn a materion eraill yng nghyfarfod bwrdd pontio Tata, a gynhelir yfory. Rwy'n eithaf siŵr y bydd hynny'n cael ei godi gan Aelodau'r Senedd hon, a bydd cyfleoedd eraill, gan gynnwys i'r undebau llafur, i godi'r pwyntiau penodol hynny.

Hoffwn ailadrodd y pwynt rwyf eisoes wedi'i wneud: y ffordd orau o ymgysylltu a dod o hyd i atebion i gwmnïau, yn cynnwys Tata, yw gweithio'n uniongyrchol gyda'u gweithlu, eu hundebau llafur, mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol. Byddwn yn hyrwyddo hynny bob cam o'r ffordd, yn union fel y byddwn yn hyrwyddo'r sector dur bob cam o'r ffordd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud yn ddyddiol.

Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am ateb y cwestiwn heddiw. Rwyf wedi eich clywed yn cyfeirio'n ôl yn gyson at ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf ar dariffau, ond nid wyf wedi clywed gennych mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw cefnogi mesurau diogelu masnach i gefnogi'r diwydiant dur. Rydym wedi gweld tactegau ymosodol Tsieina a chynhyrchwyr dur mawr eraill yn dympio dur sy'n rhatach na chost ei gynhyrchu ar y farchnad. Felly, a yw'n wir fod Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn y tu ôl i fesurau diogelu masnach, y gofynnodd Tata Steel a'r undebau llafur amdanynt yn ein cyfarfod pwyllgor yr wythnos diwethaf, fel un o'r rhagofynion i ddiogelu'r diwydiant dur yma yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig? Oherwydd heb y mesurau diogelu masnach hynny, ni fydd gennym ddiwydiant dur ar ôl.

15:40

Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn eto yma heddiw. Lywydd, credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am yr economi, ynni a chynllunio wedi ateb nifer o gwestiynau ar dariffau'r UE yr wythnos diwethaf, a dim ond yr wythnos diwethaf oedd hynny, Lywydd. Cyfeiriaf yr Aelod at yr atebion a roddwyd ar dariffau'r UE. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod am weld sector dur hyfyw yma yng Nghymru, a chan weithio gyda Llywodraeth y DU a'n partneriaid yn y diwydiant, fe wnawn bob ymdrech i sicrhau bod hynny'n digwydd yn y dyfodol.

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Trefnydd ac i'w ofyn gan Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi am dderbyn y cwestiwn amserol hwn heddiw? Rwy'n deall—. 

Diolch. Mae hwn yn fater sy'n codi i nifer o fy etholwyr—

Mae angen i chi ofyn y cwestiwn. Nawr eich bod wedi diolch i mi am ei dderbyn, mae angen i chi ofyn y cwestiwn.

Pont Menai

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y diffygion pellach a ganfuwyd ar Bont Menai? TQ1388

Member
Jane Hutt 15:41:32
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Janet Finch-Saunders. Ni chanfuwyd unrhyw broblemau pellach ar bont Menai ers i'r broblem gyda'r bolltau gael ei chanfod yn gynharach y mis hwn, a darparodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ddatganiad ysgrifenedig ynghylch hynny ar 6 Hydref.

Rwy'n deall bod adroddiadau wedi ymddangos yn y wasg fod diffygion pellach wedi'u canfod. Beth bynnag, i fynd yn ôl at y datganiad diwethaf a wnaed, mae pobl yn gofyn am ddiweddariad. Yn amlwg, nid yw'r sefyllfa fel y mae yn dderbyniol. Mae'n cael effaith erchyll ar bobl sy'n gweithio ar yr ynys ac sy'n byw mewn rhannau eraill o ogledd Cymru, mewn gwirionedd. Mae'n dod o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru. Rwy'n deall bod rhywfaint o ddadlau wedi'i achosi gan y ffaith bod awgrym yn y datganiad a wnaed fod y gwaith ar y bont i gyd yn rhan o UK Highways A55 DBFO Cyf. Roedd awgrym fod UK Highways A55 DBFO Cyf yn cael ei redeg gan San Steffan, er mai gwaith sy'n cael ei roi iddynt gan Lywodraeth Cymru ydyw mewn gwirionedd.

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae modurwyr wedi wynebu tagfeydd oherwydd oedi, gyda'r holl draffig yn cael ei ddargyfeirio i bont Britannia. Canfu archwiliad diweddar fod bolltau a nytiau ar y trawstiau o dan y bont wedi dechrau rhydu. Rhaid ateb cwestiynau ynglŷn â pam, yn y tair blynedd o waith a wnaed, nad yw hyn wedi'i ganfod tan nawr. Mewn unrhyw brosiect gydag unrhyw gwmni sy'n gwneud gwaith atgyweirio, byddech wedi meddwl y byddai'r holl bryder y mae trigolion, busnesau a phobl ledled y gogledd wedi'i deimlo—. Byddech wedi meddwl y byddai rhywbeth mor bwysig â hyn—bolltau a nytiau rhydlyd—wedi'i ganfod yn yr amser hwnnw. Mae'r archwiliad diweddar hwn, sydd wedi dod o hyd i'r bolltau a'r nytiau rhydlyd, yn—. Mae angen inni wybod pam na chafodd hyn ei nodi'n gynt.

Gwyddom fod 13,300 o gerbydau'n defnyddio pont Menai bob dydd, gan deithio i'r ddau gyfeiriad. Gwyddom hefyd ei fod yn brif lwybr i draffig sy'n mynd i'r porthladd, neu lorïau ac ati. Bellach, mae'r bont wedi ailagor yn rhannol, gyda disgwyl iddi fod ar agor rhwng 07:00 a 19:00, ac ar gau'n llwyr dros nos. Bydd terfyn pwysau o 3 tunnell ar waith i gerbydau ar y bont, a bydd llif y traffig oddi ar yr ynys yn y bore ac yn ôl ar yr ynys yn y prynhawn yn llif unffordd, i bob pwrpas. Disgwylir i feicwyr ddod oddi ar eu beic a defnyddio'r llwybr troed, ac mae'n achosi cymaint o darfu i drigolion yno, i weithwyr yno. Ac mae'n dangos ymhellach pa mor bwysig yw gwella cysylltedd rhwng Ynys Môn a'r tir mawr, a byddai hynny'n bosib drwy greu trydedd bont dros y Fenai.

Cost diffyg gweithredu yw'r hyn a allai fod wedi bod yn waith cynnal a chadw wedi'i gynllunio, mesurau lliniaru ar waith, a nawr, mae'n golygu cau'r bont. Ac mae'n—. Wel, mae pryder enfawr, ac mae llawer iawn o bobl yn lleisio pryderon.

Mae pobl Ynys Môn yn haeddu gwell, mae pobl ledled gogledd Cymru sydd angen mynd i'r ynys yn haeddu gwell. Mae'r Prif Weinidog wedi datgan, er nad ydynt wedi diystyru—

15:45

Iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno â mi, er nad yw'r Prif Weinidog wedi diystyru trydedd bont, nad oes sôn am unrhyw—? Mae'n sôn am rwystrau ariannol. Felly, a wnewch chi ymuno â fy nghyd-Geidwadwyr Cymreig a minnau a galw am greu trydedd bont dros y Fenai—wel, nid chi, ond a wnewch chi berswadio Ysgrifennydd y Cabinet i ymrwymo i wario'r arian sydd ei angen yn y gogledd er mwyn adeiladu'r drydedd bont sydd ei hangen mor daer? Diolch.

Diolch yn fawr, Janet Finch-Saunders. Roedd eich cwestiwn yn ymwneud â gofyn imi wneud datganiad ar y diffygion pellach y daethpwyd o hyd iddynt ar bont Menai, ac rwyf am ateb y cwestiwn hwnnw.

Mae'r broblem—darganfod bolltau diffygiol—wedi codi yn ystod gwaith cam 2 ac fe'i nodwyd gan dîm cynllunio UK Highways A55 o'r amrywiol ddadansoddiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau a gâi eu cynnal ar gyfer cam nesaf y gwaith. Ac fel y gwyddoch, archwiliwyd pob opsiwn posib i gadw'r bont ar agor yn ddiogel. Nid oedd cyngor y peirianwyr a'r pryderon gorfodi a godwyd gan UK Highways A55 DBFO Cyf yn gadael unrhyw ddewis arall ond cau'r bont yn gyfan gwbl dros dro. Mae'n gwbl iawn eich bod yn tynnu sylw at y tarfu a achoswyd yn sgil cau'r bont dros dro. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, a minnau ar ei ran heddiw, yn ymddiheuro'n ddiffuant unwaith eto i'r cymunedau a'r busnesau lleol a'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Dros benwythnos 5 a 6 Hydref, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn uniongyrchol ag UK Highways A55 DBFO Cyf. Cyfarfu ag Aelodau lleol o'r Senedd a Senedd y DU ac arweinydd Ynys Môn i ddeall y sefyllfa'n llawn ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf. Ac unwaith eto, mae'n bwysig dweud ei fod wedi cyfleu'n glir y rhwystredigaeth a'r siom ddofn a deimlwyd gan y gymuned a chanddo ef ei hun—barn a rennir gan Aelodau lleol, ac a fynegwyd heddiw a'r wythnos diwethaf, ynghylch perfformiad UK Highways A55 DBFO Cyf yn rheoli'r seilwaith hanfodol hwn.

Ond Lywydd, hoffwn ddweud bod y bont bellach ar agor i draffig unffordd, dan reolaeth goleuadau traffig, ar gyfer traffig o dan 3 tunnell, o 7 a.m. i 7 p.m. bob dydd. O 7 a.m. i 1 p.m., gall traffig deithio tua'r dwyrain o Ynys Môn i Fangor; o 1 p.m. i 7 p.m., gall traffig deithio tua'r gorllewin o Fangor i Ynys Môn. Felly, yn amlwg, mae camau wedi'u cymryd i sicrhau bod traffig yn llifo.

Diolch am y datganiad, ond mae arnaf i ofn bod yna nifer fawr o gwestiynau ynglŷn â phont y Borth yn dal heb gael eu hateb yn llawn. Dwi'n deall yn iawn efallai nad ydy'r wybodaeth lawn yna gennych chi ar hyn o bryd, ond buaswn i'n hoffi cael ateb llawn i gwestiynau. Y cwestiwn cyntaf: pam fod y problemau diweddaraf ddim wedi cael eu darganfod yn gynt? Dŷn ni'n dal ddim wedi cael ateb llawn ynglŷn â hynny. Sut fydd yr hyn sydd yn digwydd efo trwsio yr hyn sydd newydd gael ei ddarganfod yn effeithio ar y rhaglen waith ehangach— amserlen y rhaglen honno?

Mae'r digwyddiadau yma yn ein hatgoffa ni o ba mor fregus ydy'r isadeiledd trafnidiaeth ar draws y Fenai, ac mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn trin y mater yma efo'r difrifoldeb y mae o'n ei haeddu, nid yn unig drwy sicrhau bod y gwaith atgyweirio angenrheidiol ar bont Borth yn cael ei ariannu'n briodol a'i gyflawni ar amser, ond hefyd drwy gyflwyno mesurau lliniaru tymor byr effeithiol ar bont Britannia.

Felly, o ran pont Britannia, beth ydy'r diweddaraf o ran cyflwyno system rheoli traffig dair lôn ar y bont honno? Beth ydy'r diweddaraf am gyflwyno lonydd contraflow ar bont Britannia? Beth ydy'r diweddaraf am gyflwyno mesurau penodol o gwmpas y cyffyrdd? A hefyd, beth ydy'r diweddaraf ynglŷn â chadw pont Britannia ar agor mewn cyfnodau gwyntog? Rŵan, mae'r rheini'n gwestiynau sydd wedi eu gofyn gan bobl leol a gen i fel eu cynrychiolydd nhw ers blynyddoedd, a dŷn ni'n dal ddim yn cael atebion.

Felly, buaswn i'n gwerthfawrogi cael eglurder ynglŷn â pha gamau mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gryfhau gwytnwch teithio ar draws y Fenai yn y tymor byr, gan sicrhau nad ydy trigolion Arfon ac Ynys Môn ddim yn cael eu gorfodi i ddioddef lefelau traffig a thagfeydd cwbl annerbyniol ar ddwy ochr y ddwy bont.

15:50

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian, a diolch yn fawr am eich cwestiynau heddiw ac wythnos diwethaf—

—gan y gwn eich bod yn gofyn cwestiynau ar hyn yr wythnos diwethaf hefyd. A chredaf fod eich cwestiwn—. Y cwestiwn cyntaf, y credaf fy mod wedi ceisio ymateb iddo i'r Aelod Janet Finch-Saunders, oedd: pam na ddarganfuwyd y broblem hon yn gynt? Y rhwystredigaeth ynglŷn â darganfod y broblem hon, yr wyf wrth gwrs wedi'i mynegi ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, y ffaith ei bod mewn gwirionedd wedi'i darganfod yn rhan o'r gwaith cam 2 a'i nodi gan dîm cynllunio UK Highways A55, a oedd yn ymwneud ag ymchwiliadau ac arolygiadau ar gyfer cam nesaf y gwaith ar y bont, unwaith eto, yn rhywbeth lle—. Fe ofynnoch chi'r cwestiwn ynglŷn â sut y bydd yn effeithio ar y gwaith ehangach. Deallaf fod astudiaeth gwydnwch cysylltiadau ar draws afon Menai a gynhaliwyd gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi gwneud 16 o argymhellion. Rhoddwyd y rhai pwysicaf ar waith ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r gwaith canlynol, a fyddai'n cynnwys ychwanegu offer gwyro gwynt ar bont Britannia i gam nesaf y cynlluniau manwl; sicrhau bod y gwaith datblygu'n cynnwys uwchraddio offer cyfyngu traffig y bont, ochr yn ochr â therfyn cyflymder amrywiol; cyflwyno marciau ac arwyddion ffyrdd newydd—rhan o'ch cwestiwn—rhwng cylchfannau cyffordd 9, i wella rheolaeth a disgyblaeth lonydd; a bwrw ymlaen ag astudiaeth ac asesiad risg manwl i gadarnhau addasrwydd ac ymarferoldeb system llif llanw a thrai tair lôn ar bont Britannia. Derbyniwyd yr holl argymhellion hynny. Bydd yr astudiaeth o anghenion trafnidiaeth a gwydnwch yr A55, sydd i fod i ddechrau eleni, yn ystyried pob opsiwn i sicrhau gwydnwch yr A55, gan gynnwys pontydd y Fenai. Gall hynny amrywio o lif llanw a thrai posib ar bont Britannia, sydd eisoes yn cael ei ystyried yn rhan o argymhellion y comisiwn trafnidiaeth, yr holl ffordd i fyny i drydedd bont y Fenai. Felly, mae'r rhaglen waith ehangach yn cael rhoi ar waith.

I ateb unwaith eto y pwyntiau ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd, rwyf wedi rhoi rhywfaint o fanylion i chi am y llif traffig ar hyn o bryd. Disgwylir i'r gwaith fod—. Mae'r trawst pontio dros dro o dan bont Menai yn hanfodol. Dechreuodd y gwaith hwnnw ddydd Llun. Disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y mis, a bydd hyn yn caniatáu i'r traffig ddychwelyd i 7.5 tunnell a llif dwyffordd, a bydd y gwaith ar fater y bolltau'n dechrau cyn gynted â phosib. Ac yna, bydd y gwaith cam 2 wedyn yn ailddechrau ar ôl y gwaith o atgyweirio'r bolltau. Credaf ei bod yn bwysig iawn rhannu hyn heddiw. Ac wrth gwrs, o dan amodau arferol, dylai cerbydau brys, er enghraifft, ddefnyddio pont Britannia, ond mae hyn yn rhywbeth lle gallai gwasanaethau brys ddefnyddio pont Menai os bydd problemau gyda phont Britannia, yn dilyn cynlluniau teithio arbennig. Felly, mae'n rhaid ystyried yr holl faterion hyn wrth iddynt ddelio â chau'r bont dros dro a'r atgyweiriadau brys hanfodol hyn.

4. Datganiadau 90 eiliad

Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Un datganiad heddiw—Sam Rowlands.

Diolch, Lywydd. Hoffwn roi eiliad i nodi diwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, sydd wedi rhedeg o 9 Hydref tan heddiw, 15 Hydref. Mae hon yn foment i bobl ledled Cymru a ledled y byd ddod ynghyd i gofio'r babanod sydd wedi marw yn ystod beichiogrwydd, adeg genedigaeth neu fabandod, ac inni sefyll ochr yn ochr â'r teuluoedd a'r anwyliaid a'r rhai sy'n galaru amdanynt.

Mae galar colli babi yn rhywbeth na ddylai unrhyw riant byth orfod ei ddioddef. I ormod o bobl, mae'n realiti poenus sy'n newid bywydau. Dyna pam, yr wythnos hon, y bu'n bwysig torri'r distawrwydd sy'n aml yn gysylltiedig â cholli baban i godi ymwybyddiaeth ac i ddangos i deuluoedd nad ydynt ar eu pen eu hunain. Hoffwn dalu teyrnged i elusen Sands a'r holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth yr wythnos hon am y gwaith a wnânt bob dydd yn cefnogi teuluoedd sydd wedi colli rhywun, gan godi ymwybyddiaeth a gwthio am well gofal a dealltwriaeth.

Yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, cawn ein gwahodd i wisgo'r rhuban pinc a glas, ac rwy'n falch o weld cymaint o Aelodau ar draws y Siambr yn ei wisgo. Mae'n weithred fach ond pwerus i ddangos ein cefnogaeth ac yn helpu i ddechrau sgyrsiau am fater sy'n cael ei guddio'n rhy aml. Rydym hefyd yn cael ein hannog i gymryd rhan mewn ton o olau am 7 p.m. heno, gan oleuo cannwyll i gofio am bob babi a gollwyd yn rhy gynnar, i ymuno â theuluoedd ledled y byd i anrhydeddu'r cof amdanynt. Gwn fod Aelodau ar draws y Siambr hon yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella gofal profedigaeth a sicrhau bod pob teulu sydd wedi colli baban yn cael y tosturi a'r cymorth y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.

15:55
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Y cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i'r cynnig i sefydlu pwyllgor gael ei drafod sydd nesaf. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan. 

Cynnig NNDM9019 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: 

Yn atal dros dro Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM9018 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Hydref 2025. 

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw, felly, i atal Rheolau Sefydlog dros dro. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i sefydlu pwyllgor

Mae hynny'n ein caniatáu ni i dderbyn y cynnig i sefydlu pwyllgor. Aelod o'r Pwyllgor Busnes eto sy'n cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan. 

Cynnig NNDM9018 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

1. Yn sefydlu Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau i graffu ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â Phwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.

3. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Lesley Griffiths AS (Llafur Cymru), Buffy Williams AS (Llafur Cymru) Paul Davies AS (Ceidwadwyr Cymreig) a Sioned Williams AS (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, a David Rees AS (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.

4. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6, yn atal dros dro ran gyntaf Rheol Sefydlog 17.37 mewn perthynas â Phwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, ac yn cytuno mai dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff cadeirydd y Pwyllgor bleidleisio.

5. Yn cytuno y bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu yn dilyn cytundeb gan y Senedd ar gynnig i drafodion Cyfnod 2 ar y Bil gael eu cynnal gan Bwyllgor o'r Senedd Gyfan, neu ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 2 (pa un bynnag sydd gyntaf).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn a'r pwyllgor wedi ei ffurfio. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Enseffalomyelitis Myalgig (ME)
6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25'

Eitem 6 sydd nesaf, felly, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25'. Cadeirydd y pwyllgor sy'n gwneud y cyfraniad cyntaf—y cynnig ar hyn. Llyr Gruffydd. 

Cynnig NDM9009 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25', a osodwyd ar 9 Ebrill 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r ddadl yma yn canolbwyntio ar drydydd adroddiad blynyddol y pwyllgor ar Trafnidiaeth Cymru yn ystod tymor y Senedd yma. Mae'r edrych yn benodol ar y cyfnod 2024-25 ac yn tynnu ar ddau ddarn pwysig o waith gan y pwyllgor, sef ein hymweliad â depo a chanolfan reoli'r metro yn Ffynnon Taf ac wedyn sesiwn dystiolaeth y cynhalion ni gyda Trafnidiaeth Cymru yn gynharach eleni.

Mi wnaeth y ddau ddarn o waith yma roi darlun clir i Aelodau o ba mor fawr yw'r heriau sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, â'r cynnydd y maen nhw wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf wrth geisio mynd ati i drawsnewid y rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Nawr, mae'r adroddiad yn cynnwys 20 argymhelliad ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn pob un ohonyn nhw, naill ai yn llawn neu wedi eu derbyn nhw mewn egwyddor. Dwi am ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am fod mor agored ac mor adeiladol wrth gymryd rhan yn ein gwaith ni a hefyd am yr ymateb cynhwysfawr y cawson ni ganddyn nhw.

Dwi am droi nawr, felly, at brif themâu yr adroddiad. Yn gyntaf, llywodraethu a datblygiad corfforaethol. Mae'r pwyllgor wedi edrych ar y maes yma bob blwyddyn gan ei fod mor bwysig i'r ffordd y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio. Rŷn ni wastad wedi dweud bod yn rhaid i gorff hyd braich sy'n delio â thua £0.5 biliwn o arian cyhoeddus weithio mewn ffordd dryloyw a bod yn rhaid iddo gael ei oruchwylio mewn modd clir ac effeithiol. Fe glywon ni dystiolaeth bod y cysylltiadau rhwng Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gwella yn ystod cylch y gyllideb yn 2024-25. Mae'r broses nawr yn fwy effeithlon ac, am y tro cyntaf, fe gafodd cyllideb Trafnidiaeth Cymru ei chyhoeddi fel atodiad i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Roedd y pwyllgor yn croesawu hyn fel cam ymarferol ymlaen a fydd yn ein helpu ni i wneud gwaith craffu mwy amserol. Ond mi oedd yr Aelodau yn credu bod y camau yma i wella tryloywder dal ddim cweit yn ddigon da. Rŷn ni'n parhau i gredu mai'r nod hirdymor ddylai fod cyllideb gynhwysfawr sengl sy'n cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb ddrafft y Llywodraeth. Mi fyddai hynny wedyn, wrth gwrs, yn rhoi Trafnidiaeth Cymru ar yr un sail â chyrff cyhoeddus eraill ac yn golygu bod Aelodau a'r cyhoedd yn gallu gweld y darlun llawn o ran sut y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

Hefyd, fe edrychon ni ar drefniadau llywodraethu mewnol Trafnidiaeth Cymru, yn enwedig rôl y bwrdd perfformiad, sy'n dod ag uwch-swyddogion Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru at ei gilydd. Fe glywon ni fod y bwrdd wedi gwella'r cyswllt rhwng blaenoriaethau corfforaethol Trafnidiaeth Cymru ac amcanion gweinidogol, fod rhagolygon ariannol nawr yn fwy cywir, a bod penderfyniadau ariannu yn fwy disgybledig. Rŷn ni’n croesawu’r datblygiadau yma, yn naturiol, ond roedd yr Aelodau’n cytuno mai'r prawf go iawn o lywodraethu da yw a yw'r gwelliannau hyn yn arwain at well gwerth am arian a gwasanaethau mwy dibynadwy i deithwyr. A dyna, wrth gwrs, yw beth fydd y pwyllgor yn parhau i'w fonitro.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

16:00

Yn olaf, o ran mesur perfformiad, mi ddwedodd Trafnidiaeth Cymru wrthym ni fod ei dangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol yn cael eu hadolygu i wneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau'n addas at y diben. Mae data chwarterol nawr yn cael eu cyhoeddi, gyda chymariaethau o un flwyddyn i'r llall. Unwaith eto, dyma ni gam i'r cyfeiriad cywir, ond, unwaith eto, rŷn ni'n dal i bryderu nad yw'r ffordd y mae'r data yn cael eu cyflwyno'n ei gwneud hi’n hawdd i'r cyhoedd nac i ni, fel Aelodau o'r Senedd, yn wir, i weld a yw perfformiad yn gwella dros amser. Felly, rŷn ni wedi argymell bod Trafnidiaeth Cymru yn canolbwyntio ei dangosyddion perfformiad allweddol ar y canlyniadau mwyaf pwysig i deithwyr, a bod pob adroddiad yn cynnwys naratif clir sy'n dangos a yw perfformiad yn gwella.

Nawr, fe wnaf i droi nawr at y gweithlu. Mae'r pwyllgor wedi pwysleisio'n gyson y dylai Trafnidiaeth Cymru fel cyflogwr cenedlaethol mawr arwain drwy esiampl wrth hyrwyddo amrywiaeth a chyfle cyfartal. Yn 2024-25, roedd yna gamau calonogol ymlaen. Penododd Trafnidiaeth Cymru ei chyfarwyddwr gweithredol benywaidd cyntaf, gan daro cydbwysedd rhywedd hanner a hanner mewn carfan o yrwyr am y tro cyntaf hefyd. Dyma gerrig milltir pwysig mewn diwydiant sydd wedi cael ei ddominyddu'n draddodiadol, wrth gwrs, gan ddynion. Fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru bod digwyddiadau recriwtio wedi'u targedu, cyfleoedd mentora, a phartneriaethau ag ysgolion a grwpiau cymunedol i gyd yn cyfrannu at y newid graddol yma. Roedd yr Aelodau yn croesawu'r llwyddiannau yma, ond roedden ni hefyd yn cytuno y bydd angen parhau i wneud ymdrech i ymgorffori'r newid diwylliannol. Mae recriwtio mwy o fenywod i rolau gweithredol fel gyrru a pheirianneg yn hanfodol, nid yn unig i wella cynrychiolaeth, ond i helpu i gau'r bwlch cyflog hefyd rhwng y rhywiau.

O ran amrywiaeth yn fwy eang, roedd y pwyllgor yn falch o glywed am bartneriaethau Trafnidiaeth Cymru â sefydliadau fel Oasis, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyngor Mwslimiaid Cymru, sy'n helpu eto i hyrwyddo cyfleoedd ymysg grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r gwaith yma ac yn annog Trafnidiaeth Cymru i'w ehangu y tu hwnt i Gaerdydd ac i ranbarthau eraill. Mae gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu yn hanfodol i wella ymddiriedaeth ac i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cwrdd ag anghenion pob defnyddiwr.

Thema bwysig arall yng ngwaith y pwyllgor eleni oedd gwasanaethau bysiau. Fel pwyllgor, rŷn ni'n pryderu bod niferoedd teithwyr yng Nghymru wedi cynyddu'n arafach ers y pandemig nag y mae wedi gwneud yn Lloegr neu'r Alban. Bysiau, wrth gwrs, yw asgwrn cefn trafnidiaeth gyhoeddus mewn llawer o gymunedau yng Nghymru, ac, os nad oes digon o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau yma, yna mae hi’n anoddach i’w cynnal nhw, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd mwy gwledig. Fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wrthym ni mai proffil demograffig hŷn Cymru allai fod y tu ôl i'r adferiad arafach, yn ogystal â ffactorau strwythurol fel aneddiadau gwasgaredig ac effaith y pandemig, wrth gwrs, ar gynlluniau teithio rhatach. Ond ym marn y pwyllgor, nid yw'r rhesymau yma wedi'u deall yn llawn eto, felly fe wnaethon ni argymell y dylai Trafnidiaeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil i edrych ar y rhwystrau ac i ddylunio mesurau wedi'u targedu cyn cyflwyno masnachfraint bysiau, er enghraifft. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn hyn, ac rŷn ni'n disgwyl i'r dystiolaeth honno gael ei chyhoeddi i helpu i liwio penderfyniadau cyn i'r gwasanaethau masnachfraint cyntaf ddechrau yn y de-orllewin yn 2027.

O ran tocynnau, roedd y pwyllgor yn croesawu'r cynnydd tuag at integreiddio. Mae prisiau teithio wedi'u seilio ar bellter nawr yn eu lle ar y rhwydwaith TrawsCymru, mae'r tocyn 1bws yn parhau'n llwyddiannus yng ngogledd Cymru, ac mae'r dechnoleg tapio i mewn ac allan, neu tap on, tap off, wrthi'n cael ei threialu wrth gwrs, a dyma gamau pwysig tuag at y weledigaeth o un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn. Ond, ar adeg yr adroddiad, doedd dal ddim ffordd o gyfuno'r cynllun teithio rhatach â'r cynllun tapio i mewn ac allan. Mae'r pwyllgor yn cydnabod wrth gwrs yr heriau technegol a gweithredol, ond mae'n teimlo bod hefyd potensial i gasglu data gwell a rhoi profiad mwy di-dor i deithwyr sy'n defnyddio'r cynllun teithio rhatach. Byddai hyn yn helpu i gynnig mynediad cyfartal i bob teithiwr, ble bynnag y maen nhw'n byw a sut bynnag y maen nhw'n teithio, ac rŷn ni wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru i edrych ar y mater yma.

Dwi am droi nesaf at berfformiad rheilffyrdd. Fe glywon ni fod 2024 wedi dechrau'n gadarnhaol gyda phrydlondeb yn gwella wrth i fwy o drenau newydd gael eu cyflwyno, ond bod y cynnydd hwnnw wedi lefelu allan nes ymlaen yn y flwyddyn. Fe gafodd tywydd garw a methiannau seilwaith effaith benodol, wrth gwrs, ar rwydwaith Cymru a'r ffiniau.

Hefyd, soniodd yr Aelodau am sut mae gwybodaeth am berfformiad yn cael ei chyfleu i'r cyhoedd. Mae ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu mesurau wedi eu teilwra ar gyfer gwahanol fathau o wasanaethau, gan ddechrau gyda cledrau'r Cymoedd, yn gam cadarnhaol, o gofio y gall rhai mesurau guddio problemau ehangach o ran perfformiad. Er enghraifft, bydd perfformiad gwael ar linell wledig sydd â nifer fechan o wasanaethau bob dydd yn cael effaith fwy o lawer ar deithwyr nag oedi o gwpwl o funudau ar linell sydd â llawer o wasanaethau. Ond mae'r pwyllgor yn credu y dylai Trafnidiaeth Cymru fynd gam ymhellach drwy gyhoeddi data perfformiad fesul llwybr, a hynny mewn fformat hygyrch, fel bod teithwyr yn gallu gweld yn rhwydd sut mae'r gwasanaethau maen nhw'n dibynnu arnyn nhw yn perfformio.

O ran lles teithwyr, fe wnaethon ni groesawu'r dystiolaeth fod Trafnidiaeth Cymru yn lleihau nifer yr achosion o ganslo gwasanaethau yn rhannol wrth i drenau redeg yn gyflym a gadael rhai gorsafoedd allan, sydd wedi, wrth gwrs, achosi llawer o rwystredigaeth. Fe glywon ni hefyd fod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi mwy o hyblygrwydd i dimau rheoli i flaenoriaethu anghenion teithwyr pan fo yna darfu ar wasanaethau. Y cam nesaf, wrth gwrs, fydd ffurfioli'r trefniadau hyn drwy gyflwyno meini prawf cyffredinol ar draws y rhwydwaith, yn ogystal â hybiau cymorth amlwg i sicrhau bod teithwyr yn cael eu trin mewn ffordd gyson pan fo tarfu ar wasanaethau. Rhaid i deithwyr deimlo'n hyderus o ran beth y gallan nhw ei ddisgwyl pan fydd pethau'n mynd o chwith.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe edrychodd ein hadroddiad ni ar addasu i'r hinsawdd. Nawr, mae'r llifogydd diweddar ar brif linell gogledd Cymru a thrwy Henffordd wedi tynnu sylw, onid ydyn nhw, at ba mor agored yw ein seilwaith trafnidiaeth ni i effeithiau tywydd eithafol. Fe gytunodd yr Aelodau fod yn rhaid i wella cydnerthedd fod yn rhan ganolog o gynlluniau a buddsoddiadau Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Mae cynllun ymaddasu i'r hinsawdd a chydnerthedd Trafnidiaeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi yn 2023, yn gosod allan fframwaith ar gyfer nodi a rheoli risgiau mewn perthynas â'r hinsawdd, ac mae'r cynllun yn gosod sylfaen gadarn, ond mae angen, wrth gwrs, iddo fe gael ei weithredu. Mae'r pwyllgor wedi gofyn am ddiweddariad manwl ar gynnydd erbyn yr hydref, gan gynnwys canlyniadau arolygon safle, mesurau cydnerthedd sydd wedi eu cyflwyno a gwaith gyda Network Rail, wrth gwrs, i ddatblygu strategaethau addasu ar gyfer llwybrau risg uchel.

I gloi, felly, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod 2024-25 wedi bod yn flwyddyn o gynnydd da i Trafnidiaeth Cymru. Fe gafodd mwy o drenau newydd eu cyflwyno, aeth y gwaith ar y metro yn ei flaen, wrth gwrs, ac fe gafodd camau eu cymryd i wella tryloywder, amrywiaeth a'r broses o adrodd ar berfformiad. Ond y neges o'r adroddiad yma yw bod yn rhaid i'r cynnydd hwnnw barhau, a bod yn rhaid iddo arwain at brofiadau gwell i deithwyr o ddydd i ddydd.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dal i wynebu heriau mawr, fel rŷn ni'n gwybod, sy'n cynnwys camau olaf y rhaglen cerbydau rheilffyrdd, gwella tryloywder ariannol a sicrhau cydnerthedd yn erbyn risgiau o'r hinsawdd, ac efallai wir fod yr her fwyaf o'u blaenau nhw o hyd, sef cyflwyno masnachfraint bysiau, a hynny yn llwyddiannus. Bydd hyn, wrth gwrs, yn effeithio ar fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru, ac mi fydd yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru wella ei berfformiad unwaith eto er mwyn cyflawni'r addewid o system drafnidiaeth ddibynadwy, fforddiadwy ac integredig. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymateb adeiladol gawson ni gan Trafnidiaeth Cymru i'n hadroddiad, ac, wrth gwrs, mi fyddwn ni'n parhau i fonitro eu gwaith nhw yn agos wrth i ni agosáu at ddiwedd tymor y Senedd hon. Diolch.

16:05

Rwyf am gofnodi bod gennyf aelod o'r teulu sy'n cael eu cyflogi gan Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru, fel y'i nodwyd yn adroddiad diweddaraf y pwyllgor. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am waith aelodau'r pwyllgor yn llunio'r adroddiad hwn, yn enwedig Cadeirydd y pwyllgor, sydd newydd siarad.

Fel y gwyddom, rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru weithio i bobl Cymru. Rhaid iddo fod yn ddibynadwy, yn atebol ac yn dryloyw, ond fel y mae adroddiad y pwyllgor wedi nodi, yn rhy aml gellir methu rhai o'r meysydd hyn, ac nid wyf am ailadrodd geiriau Cadeirydd y pwyllgor, felly fe geisiaf ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar ddau faes allweddol y credaf fod adroddiad y pwyllgor yn eu hamlygu. Mae'r cyntaf yn ymwneud â thryloywder ariannol a'r ail faes yn ymwneud â dibynadwyedd gwasanaeth. I mi, mae'r rhain yn ddau fater sy'n greiddiol i hyder yn ein cyrff cyhoeddus, o safbwynt tryloywder ariannol, a hyder yn ein system drafnidiaeth o safbwynt dibynadwyedd.

Felly, yn gyntaf, ar dryloywder ariannol, mae'r pwyllgor wedi galw dro ar ôl tro ar Trafnidiaeth Cymru i gyhoeddi ei gyllideb lawn ochr yn ochr â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ei hun. Nid yw hwn yn ofyniad radical, mae'n fater o atebolrwydd cyhoeddus sylfaenol, yn enwedig pan siaradwn am gyllidebau o gannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Bydd yna gynghorau a chanddynt wariant tebyg sy'n dangos llawer mwy o dryloywder o ran y ffordd y mae'r gwariant hwnnw'n digwydd. Eto i gyd, rydym mewn sefyllfa unwaith eto lle mae'r eglurder hwnnw ar goll. Clywsom gan brif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, a gyfaddefodd yn ei ymateb i'r pwyllgor nad yw Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gydag un gyllideb wedi'i chydgrynhoi o hyd. Felly, sut y gall y cyhoedd neu'r Senedd hon, fel Aelodau etholedig, graffu'n briodol ar y penderfyniadau gwariant hynny pan nad yw'n ymddangos bod yna ddarlun clir, unedig o sut y mae cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn cael eu defnyddio? Gadewch inni gofio mai arian cyhoeddus yw hwn. Er efallai fod Trafnidiaeth Cymru yn gorff hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, mae'n cael ei sybsideiddio'n sylweddol gan gyllid trethdalwyr. Mae'n darparu ac yn ceisio darparu seilwaith mawr, gan oruchwylio gwasanaethau allweddol a chan effeithio'n uniongyrchol ar fywydau beunyddiol cymudwyr a theithwyr Cymru. Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu gwybod ble mae'r arian yn mynd ac a yw'n cael ei wario'n ddoeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn fy marn i, nid yw'r diffyg cynnydd hwn yn dderbyniol. Fe glywsom lawer am wella tryloywder; mae angen inni weld mwy o weithredu.

Nawr, at yr ail bwynt, y mater sy'n effeithio ar deithwyr yn fwyaf uniongyrchol—dibynadwyedd y gwasanaeth. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi'n gywir fod lefelau perfformiad yn dal i fod yn llawer is na disgwyliadau'r cyhoedd. Rydym i gyd wedi clywed y cwynion, ac efallai fod rhai ohonom wedi gorfod profi rhai o'r rhain yn uniongyrchol ein hunain: trenau hwyr, gorlenwi, canslo gwasanaethau a diffyg cyfathrebu cyson. Nid niwsans i ychydig o Aelodau'r Senedd o bryd i'w gilydd yw hyn, i lawer o bobl dyma'r gwahaniaeth rhwng cyrraedd eu gwaith mewn pryd neu beidio â chyrraedd y gwaith o gwbl, sy'n effeithio ar eu bywoliaeth. Mae hyn yn bwysicach fyth wrth inni ofyn i bobl newid o deithio mewn ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Sut y gallwn ni ofyn i bobl wneud y newid hwnnw pan fydd y gwasanaeth yn parhau i fod yn annerbyniol o anghyson? Fe wyddom nad yw'r sefyllfa bob amser yn hawdd, ac efallai fod yna broblemau a etifeddwyd, ond mae'r cyhoedd eisiau gweld atebion i'r problemau hyn. Argymhellodd y pwyllgor fod Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu systemau gwell ar gyfer monitro ac adrodd ar y modd y darparir gwasanaethau, ac rwy'n cefnogi hynny'n gryf; mae angen inni weld targedau clir, dangosfyrddau perfformiad misol ac adroddiadau cyhoeddus sy'n golygu rhywbeth i deithwyr. Nid yw'n ddigon dweud, 'Rydym yn gwneud ein gorau', mae angen inni weld cynnydd mesuradwy, ac rwy'n credu bod adroddiad y pwyllgor yn nodi hynny'n glir iawn.

Rwyf am ychwanegu bod angen inni weld atebolrwydd go iawn hefyd pan fydd y gwasanaethau hynny'n methu. Ni ddylai gymryd sylw yn y cyfryngau na phwysau gan swyddogion etholedig i gael atebion pan fydd pethau'n mynd o'i le. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, ar y materion hyn, gallai diffyg tryloywder yn y gyllideb a thanberfformiad o ran darparu gwasanaethau gyfrannu at erydu ffydd yn atebolrwydd cyhoeddus a dibynadwyedd ein system drafnidiaeth, ffydd yn Trafnidiaeth Cymru ac ymddiriedaeth yng ngallu'r Llywodraeth hon i gyflawni ym maes trafnidiaeth. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cynnal y ddadl hon heddiw ar adroddiad y pwyllgor ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru, a hoffwn ddiolch i James Price a'i gydweithwyr am ddod i roi tystiolaeth i'r pwyllgor a hefyd am y croeso gwych a roddwyd i ni pan wnaethom ymweld â Ffynnon Taf a gweld y fflyd wych o drenau sydd bellach wedi dechrau rhedeg ar linellau'r Cymoedd, sy'n trawsnewid y system drafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru.

Hoffwn ganolbwyntio ar ddau faes penodol yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyntaf, sy'n ymwneud â chydbwysedd rhwng y rhywiau yng nghyfansoddiad Trafnidiaeth Cymru, ac rydym yn tynnu sylw at hynny yn ein hadroddiad. Rwy'n credu ei bod yn braf iawn fod cynnydd yn nifer y menywod sy'n gweithio i'r cwmni ac y gwneir ymdrech gyfunol i ddod â mwy o fenywod i mewn, ond rwy'n nodi bod hyn wedi digwydd yn fwy mewn adrannau heb fod ar y rheilffyrdd, fel gwaith swyddfa, yn hytrach na gwaith ar y rheilffordd ei hun. Dywedodd James Price yn ei dystiolaeth mai menywod bellach yw mwy na 50 y cant o'r staff mewn rolau uwch reolwyr, cynlluniau hyfforddi graddedigion ac interniaethau, sy'n sefyllfa wych i fod wedi'i chyrraedd, ond gwyddom fod y rolau gweithredol traddodiadol ar y rheilffyrdd yn rolau sy'n dal i fod yn cael eu cyflawni gan ddynion yn bennaf, ac fe wnaeth y pwynt fod trosiant cyfyngedig iawn mewn staff. Rwy'n credu bod y Cadeirydd wedi sôn mai menyw yw'r cyfarwyddwr gweithredol cyntaf a benodwyd, a bod y garfan o yrwyr wedi cyrraedd cymhareb rhwng y rhywiau o 50:50. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad arwyddocaol iawn. Credaf ei fod yn dangos bod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud ymdrech fawr i geisio gwneud ei weithlu'n fwy cynrychioliadol o'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, ond yn eironig, fel y dywedodd y Cadeirydd hefyd, oherwydd natur y rolau sy'n cael eu gwneud gan fenywod, a'r graddfeydd cyflog sy'n gysylltiedig â'r rolau gwrywaidd traddodiadol, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cynyddu mewn gwirionedd. Rydym yn teimlo bod angen mynd i'r afael â hyn ar frys, a dylid gwneud mwy o bethau eto i sicrhau bod y gweithlu cyfan yn gynrychioliadol o'n cymdeithas. 

Mae'r ail fater yr hoffwn ei godi yn ymwneud â pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n cysylltu hynny â fy mhrofiadau fel AS etholaethol, oherwydd yn gynharach eleni, datgelwyd y 10 gorsaf drenau sy'n perfformio waethaf yn y DU, ac o'r 10 gorsaf ar y brig, roedd tair ar hyd llinell Coryton yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Ac o siarad ag etholwyr am y gwasanaeth, rwy'n deall pam. Roedd y llinell yn aml yn gweld trenau'n cael eu canslo, ac roedd ymddiriedaeth yn y gwasanaeth yn isel. Ond cefais fy nghalonogi gan y ffaith bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud ymdrech gyfunol i unioni pethau, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr lleol i sicrhau bod yna welliant. Nawr, mae adroddiadau am ganslo trenau yn llawer llai aml bellach, ac erbyn hyn mae'r llinell, fel y dywedais yn gynharach, yn elwa o fflyd hollol newydd o drenau sy'n llawer mwy ecogyfeillgar, yn fwy dibynadwy ac yn fwy hygyrch i bobl eu defnyddio.

Ar linell Coryton, mae gennym wasanaeth dydd Sul erbyn hyn, o'r newid i amserlen mis Rhagfyr, ac rwy'n gobeithio y bydd ein galwadau am bedwar trên yr awr yn cael eu bodloni, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r cyllid sydd ei angen ar gyfer dolen basio ar hyd y llinell er mwyn i hyn ddigwydd. Rwy'n credu bod angen inni sicrhau, gyda'r metro, fod gennym ddigon o drenau yr awr er mwyn ei gwneud yn system ddibynadwy fel sydd i'w gweld yn Llundain er enghraifft, ac os ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r tiwb, ni fyddwch yn mynd erbyn amser penodol, rydych chi'n mynd am eich bod chi'n gwybod y daw un yn fuan wedyn. Rwy'n credu mai dyna beth rydym eisiau ei weld yn digwydd ar y metro, ac rwy'n sicr yn gobeithio y gallwn gael pedwar trên yr awr yng Nghaerdydd, yn enwedig ar linell Coryton.

Yn fy ymwneud â Trafnidiaeth Cymru fel AS etholaethol, mae eu hymateb i'r materion unigol sydd wedi codi a'u parodrwydd i gyfarfod ag etholwyr ac ymgymryd ag ymweliadau safle wedi creu argraff fawr arnaf. Maent wedi bod yn arbennig o gymwynasgar gydag agor y bont draw at y rhandiroedd yn yr Eglwys Newydd, a chyda'r cau a welwn nawr yng ngorsaf Tŷ Glas. Maent yn awyddus iawn i ymwneud ag etholwyr. Rwy'n credu bod Trafnidiaeth Cymru wedi sefydlu ei hun yn dda fel corff yng Nghymru erbyn hyn. Mae ganddo heriau enfawr o'i flaen, yn enwedig y fasnachfraint bysiau, fel y nododd y Cadeirydd, ond rwy'n credu ei fod wedi datblygu fel corff. Rwy'n credu ei fod wedi'i sefydlu'n gadarn ac y daw â budd mawr i Gymru. Diolch.

16:15

Rwyf am ddechrau drwy gydnabod ymgysylltiad Trafnidiaeth Cymru ag adroddiad blynyddol y pwyllgor a hefyd â mi fy hun fel llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru. Mae'n dda fod pob un o'r 20 o'r argymhellion wedi'u derbyn, ond hoffwn bwysleisio rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei wybod yn rhy dda: nid yw derbyn yr un peth â chyflawni. Rhaid inni wynebu'r bwlch cynyddol rhwng ymrwymiadau a wnaed a chanlyniadau a gyflawnwyd. Nid yw geiriau ar eu pen eu hunain yn cael pobl i'r gwaith mewn pryd. Yr hyn y mae teithwyr, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn ei haeddu yw gwelliannau mesuradwy sy'n weladwy yn eu teithiau dyddiol.

Gadewch inni ddechrau gyda pherfformiad. Addawodd Trafnidiaeth Cymru y byddai 95 y cant o deithiau ar drenau newydd erbyn 2025, ond heddiw mae'r ffigur hwnnw oddeutu 77 y cant—diffyg amlwg, ac un sy'n effeithio'n uniongyrchol ar hyder teithwyr. Mae'n fethiant mawr yn erbyn ymrwymiad blaenllaw. Dywedwyd wrth deithwyr y byddai'r fflyd newydd yn trawsnewid eu profiad drwy leihau nifer y trenau a gaiff eu canslo, gwella dibynadwyedd a rhoi diwedd ar orlenwi, ond mae nifer addasedig y teithiau a gaiff eu canslo yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Prydain.

Dibynadwyedd yw'r hyn sy'n bwysig i bobl sy'n ceisio mynd i'r gwaith, i'r ysgol neu'r ysbyty ar amser, a dylai atebolrwydd fod yn sail i'r dibynadwyedd hwnnw. Rhaid i Lywodraeth Cymru, fel ariannwr a phartner strategol Trafnidiaeth Cymru, ddangos arweiniad gryfach wrth yrru'r safonau cyflawni hyn. Nid yw croesawu cynnydd yn ddigon; rhaid i Weinidogion sicrhau bod addewidion a wnaed i deithwyr yn cael eu gwireddu.

Ar y nodyn ynghylch atebolrwydd, rwy'n falch fod Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i adolygu ei fframwaith dangosyddion perfformiad allweddol, a bod dangosyddion perfformiad allweddol newydd wedi'u cyhoeddi ers hynny. Ond gadewch inni fod yn glir: os yw adrodd ar berfformiad yn parhau i ddibynnu ar ddangosyddion anhryloyw sydd wedi dyddio, mae'r bwrdd perfformiad mewn perygl o ddod yn ymarfer biwrocrataidd yn hytrach nag ysgogi atebolrwydd go iawn. Rhaid i ddangosyddion perfformiad allweddol adlewyrchu amrywiaeth y rhwydwaith yng Nghymru. Mae llinellau craidd y Cymoedd yn wynebu heriau gwahanol iawn i'r llinellau gwledig yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Os caf droi, felly, at fysiau, mae'r defnydd yng Nghymru yn dal i fod ar ddim ond 78 y cant o'r lefelau cyn COVID, yr adferiad arafaf yn unrhyw le ym Mhrydain. Mae rôl arweiniol Trafnidiaeth Cymru mewn masnachfreinio ac integreiddio i'w chroesawu, ond fel y clywsom, mae'r penderfyniad i beidio â chynnwys prisiau consesiynol yn y system tapio i mewn ac allan newydd yn gwanhau'r syniad o rwydwaith gwirioneddol integredig. Mae angen sicrwydd clir arnom hefyd na fydd masnachfreinio yn arwain at doriadau yn y gwasanaeth neu at fodel canolog sy'n canolbwyntio ar Gaerdydd ac sy'n gadael cymunedau llai ar ôl. Unwaith eto, rhaid i Lywodraeth Cymru warantu bod ei fframwaith cyllido a masnachfreinio yn diogelu tegwch gwledig a rhanbarthol.

Fel rydym wedi'i ddarllen yn yr adroddiad, cododd y pwyllgor yr angen brys am wydnwch hinsawdd cryfach, yn enwedig amddiffyniad rhag llifogydd ar gyfer llinellau agored i niwed fel dyffryn Conwy a llwybrau Cambria. Derbyniodd Trafnidiaeth Cymru yr argymhelliad hwnnw, ac rwy'n croesawu datblygiad ei strategaeth gwydnwch tywydd ac addasu i newid hinsawdd, ond o ystyried amlder tarfu sy'n gysylltiedig â'r tywydd, mae teithwyr yn haeddu mwy na chynlluniau hirdymor. Mae angen mesurau cyllido ar unwaith.

Yn olaf, ar lywodraethu, dywed Trafnidiaeth Cymru ei fod yn ymwneud â'r trawsnewidiad i Great British Railways, GBR, ond mae'n dal yn aneglur pa ddylanwad ffurfiol fydd Cymru'n ei gael ar ôl i GBR gael ei sefydlu. Gyda rheilffyrdd wedi'u datganoli'n rhannol yn unig, mae hon yn foment dyngedfennol. Os na chaiff buddiannau Cymru eu hymgorffori yn strwythur GBR nawr, mae perygl y cânt eu hesgeuluso unwaith eto. Mae angen sicrwydd cadarn arnom gan Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru na fydd gweithrediadau a blaenoriaethau cyllido Cymru yn cael eu llyncu ymhellach i mewn i system ganolog wedi'i chynllunio ar sail anghenion Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ddatganoli pwerau dros y rheilffyrdd, ond mae'n ymddangos bod hynny'n syrthio ar glustiau byddar. Rhaid gwneud yr achos hwnnw nawr yn fwy grymus nag erioed, oherwydd hebddo bydd uchelgeisiau trafnidiaeth Cymru bob amser wedi'u cyfyngu gan benderfyniadau a wneir gan San Steffan. Diolch yn fawr.

16:20

Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad, ac i Drafnidiaeth Cymru am eu cydweithrediad amlwg.

Rwyf am godi pwynt cul iawn heddiw, a hynny'n gysylltiedig ag argymhelliad 3 yn yr adroddiad, a oedd yn cyfeirio at werth am arian, ac mae'n dilyn y pwynt craffu a wnaeth fy nghyd-Aelod Sam Rowlands yn gynharach. Yn gynharach eleni, cysylltodd gyrrwr trên, gyrrwr trên Trafnidiaeth Cymru, â mi ac yn sgil hynny, fe wnaeth fy swyddfa geisiadau rhyddid gwybodaeth gyda Trafnidiaeth Cymru mewn perthynas â gyrwyr wrth gefn a phatrymau gyrru. Am y cyfnod y gofynnwyd amdano, roedd gan Trafnidiaeth Cymru, yn ôl eu ffigurau eu hunain, 89 o yrwyr a 70 o archwilwyr tocynnau yn fwy na'r hyn sydd ei angen i redeg y gwasanaeth, ac yn ogystal â'r swyddi sefydledig. Mae hyn yn cyfateb i fil cyflogau gweithwyr dros ben o dros £8 miliwn y flwyddyn.

I esbonio, rwy'n deall yr angen am yrwyr wrth gefn. Cânt eu defnyddio i sicrhau bod gwasanaethau'n rhedeg ac i leihau canslo trenau ac oedi. Mae gyrwyr wrth gefn yn gweithio shifft, ond ni chlustnodir llwybr ar eu cyfer y diwrnod hwnnw. Mewn gwirionedd, maent yn eistedd yn y swyddfa ac yn aros am alwad. Yn amlach na pheidio, nid yw'r alwad honno'n dod. Maent yn barod mewn depo rhag ofn na all gyrrwr wedi'i drefnu yrru'r llwybr hwnnw. Ar gyfartaledd, ceir 11 gyrrwr wrth gefn a chwe archwiliwr tocynnau wrth gefn y dydd. Fodd bynnag, dywedir wrthyf fod tair gwaith y nifer hwn yn eistedd yn y depo yn eithaf aml. Mae'n nifer sylweddol uwch na phan oedd Arriva yn rhedeg y gwasanaeth.

Mae'n hanfodol fod gwasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru yn cael ei ystyried yn wasanaeth sy'n darparu gwerth am arian ym mhob ffordd, nid o ran prisiau a thocynnau'n unig, ond hefyd drwy leihau gwastraff gormodol a chanfyddedig—a'i ddileu mewn gwirionedd. Felly, hoffwn i hyn gael ei archwilio ymhellach, ac atebion gan Trafnidiaeth Cymru pam y caniateir i'r gwastraff canfyddedig hwn barhau. Diolch yn fawr. 

16:25

Roedd y llynedd yn flwyddyn bwysig i bolisi trafnidiaeth, ac mae gan Trafnidiaeth Cymru flynyddoedd mawr o'u blaenau. Rydym yn symud tuag at fasnachfreinio bysiau, felly roedd llawer i'w ystyried yn yr ymchwiliad hwn. Mae trafnidiaeth integredig yn parhau i fod yn uchelgais cadarn, ac rydym yn cyrraedd yno. Efallai y byddem yn hoffi teithio'n gyflymach ac yn hynny o beth, mae'n adlewyrchu rhai o'r teithiau y mae pobl yn eu profi o ddydd i ddydd. 

Wrth gwrs, fe gafodd trenau eu canslo, a bob tro y mae hynny'n digwydd, mae'n achosi rhwystredigaeth gyda phobl yn cael eu cadw i aros mewn gorsaf, ac mae canslo unrhyw wasanaeth yn newyddion drwg i'r unigolion dan sylw. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod ein bod yn wynebu newid hinsawdd, ac mai llifogydd yn aml iawn sy'n creu'r her fwyaf oll, yr aflonyddwch mwyaf, ac rwy'n credu y bydd yn rhaid inni edrych a gweithredu, lle gallwn, a rhoi ystyriaeth fwy difrifol i'r sefyllfa honno. Os edrychwch ar ble mae ein traciau rheilffordd ar hyd yr arfordir, pan fydd y tywydd yn arw gallwch weld y dŵr am ei fod yn dod ar hyd eich ffenest os ydych chi'n digwydd bod ar drên, ac yn fwy na hynny, ni allwch weld y trên o gwbl am na fydd yn cyrraedd am fod llifogydd ar hyd y corsydd.

Ond ar y cyfan, mae'n ddarlun cadarnhaol. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi adrodd ei fod wedi cyflawni gwelliant mwy o ran prydlondeb na'r holl weithredwyr trenau eraill, mae'n mabwysiadu rôl gynyddol mewn teithio llesol, mae boddhad cwsmeriaid â gwasanaethau rheilffyrdd yn gwella, ac mae masnachfreinio bysiau ar y gweill, fel y soniais. Wrth gwrs, mae yna feddwl cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, gyda buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud mewn cerbydau, boed ar y ffyrdd neu ar y rheilffyrdd. Wrth gwrs, mae teithio am ddim ar fysiau i bobl dros 60 oed, y prisiau rhad i bobl ifanc a chyn-filwyr i gyd yn helpu i'w wneud yn brofiad gwell.

Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar gymunedau gwledig, ac rwyf am atgoffa pobl, fel y gwnaf bob amser, fod hynny'n draean o gyfanswm ein poblogaeth. Felly, rwy'n falch wrth gwrs fod Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 7 mewn perthynas â thocynnau integredig ar gyfer gwasanaethau bysiau gwledig a phellter hir. Mae hynny'n weithredol eisoes. Mae wedi cael ei gyflwyno ar draws gwasanaethau TrawsCymru, a bellach gall teithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau T1 a T2 brynu tocynnau a chynllunio teithiau oddi ar blatfformau cynllunio a manwerthu'r rheilffyrdd cenedlaethol yn uniongyrchol i gyrchfannau fel ychwanegiad syml at bris tocyn. Ac unwaith eto, ar rwydwaith TrawsCymru, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno prisio ar sail taith sengl a strwythur sy'n seiliedig ar bellter, gan leihau cost teithiau sengl i'r rhan fwyaf o deithwyr. Mae hynny, unwaith eto, yn ddatblygiad cadarnhaol.

Ar drenau, rydym wedi trafod yr anhawster o gymharu perfformiad gwasanaethau gwledig mwy anaml â llinellau trefol prysurach. Wrth gwrs, mae trên wedi'i ganslo ar wasanaeth bob awr neu lai aml yn llawer mwy aflonyddgar i'r unigolyn nag ar daith trên sy'n rhedeg bob tua 15 munud. Unwaith eto, cafodd ein hargymhellion i gyhoeddi data ar lwybrau unigol yn y dyfodol eu derbyn mewn egwyddor gan Trafnidiaeth Cymru. Dylai hynny roi darlun gwell a chliriach i ni o berfformiad yn y dyfodol a helpu i wasanaethu cymunedau gwledig yn well.

Fel y dywedais, ar y cyfan, mae'r cyfeiriad teithio yn un cadarnhaol, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod yn agosach nag erioed at gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth wirioneddol integredig. O ystyried lefel y buddsoddiad cyhoeddus a'r egni gwleidyddol sy'n gyrru'r weledigaeth honno, dylem ddisgwyl gweld gwelliannau sylweddol pan fydd y pwyllgor yn asesu perfformiad y flwyddyn hon. Ac i gloi, er efallai y byddai rhai pobl yn hoffi cael diwrnod o grwydro caeau, penderfynodd y gwartheg yng Nghastell-nedd yn ddiweddar nad oeddent am gael diwrnod yn y cae.

16:30

Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod fy mhrofiad i o ddefnyddio trafnidiaeth rheilffyrdd yn wahanol iawn i brofiad yr Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru. Mae agwedd negyddol y wasg leol wedi bod yn siomedig iawn, oherwydd mae angen inni annog defnydd.

Mae teithio ar y trên wedi gwella'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwy o gerbydau a chynnydd yn y defnydd gan deithwyr yn dilyn y buddsoddiad o £800 miliwn. Rwy'n defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd yn rheolaidd ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol staff Trafnidiaeth Cymru—y gyrwyr, y gardiaid ar y trenau ac ar y platfformau, y cymdeithion teithio, y rhai sy'n darparu'r arlwyo. Ynghyd â'r teledu cylch cyfyng, maent yn golygu fy mod bob amser yn teimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio'r trên ar unrhyw adeg o'r dydd, ac yn gyfforddus, ac maent yn darparu cymaint o wybodaeth a chymorth wrth helpu teithwyr, sydd hefyd yn cyfrannu at fwy o ddefnydd a hyder yn y rheilffyrdd, gan annog mwy o bobl i'w defnyddio.

Roeddwn yn falch o weld yr ymateb gan Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â materion a godwyd gyda llifogydd yn effeithio ar wasanaethau a hefyd ar wydnwch hinsawdd, sy'n bryder enfawr wrth wynebu'r dyfodol, gan fod llawer o'r llinellau ar dir isel, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Joyce Watson, a bod rhan o linell gogledd Cymru yn gweithredu fel amddiffynfa rhag y môr, sydd bob amser yn bryder i mi.

Mae angen inni weithio tuag at system un rhwydwaith, gan wneud teithio yn haws ac yn fforddiadwy. Rwy'n dal i bryderu ynglŷn â'r amrywio prisiau, yn enwedig prisiau tocynnau rheilffordd yng ngogledd Cymru a de Cymru. Mae cyflwyno tapio i mewn ac allan yn ddefnyddiol iawn, yn ogystal â'r rhwydwaith T gwerthfawr sy'n gwasanaethu cymunedau gwledig gyda chymorthdaliadau. Rwyf wedi cyfarfod â thrigolion yn ddiweddar mewn gwahanol sesiynau galw heibio, ac roeddent yn pryderu eu bod yn mynd i golli'r bws, ac roeddwn i'n dweud, 'Na, mae angen i ni ddysgu gennych chi beth sy'n wirioneddol bwysig yn y dyfodol pan fyddwn ni'n edrych ar y rhwydwaith newydd', ac maent mor falch eu bod yn dal i gael trafnidiaeth wledig.

Rwy'n falch fod ffocws ar drafnidiaeth gyhoeddus. Roeddwn yn pryderu i ddechrau ynglŷn â gwybodaeth a chapasiti o fewn Trafnidiaeth Cymru, ond cefais sicrwydd yn ddiweddar mewn cyfarfodydd fod arbenigedd a chapasiti wedi cynyddu, a bydd eu hangen tuag at ddarparu rhwydwaith integredig, a'r Bil bysiau yn y dyfodol. Mae eu hymgysylltiad â rhanddeiliaid yn bwysig iawn, ac rwyf wedi croesawu hynny a'r hyn y maent wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn. Rwy'n falch ein bod ni yng Nghymru wedi cadw teithio bws am ddim i rai 60 oed a hŷn. Mae'n siomedig nad yw pobl wedi dychwelyd yn yr un niferoedd yn sgil y pandemig, ond mae'n dda fod y cynllun peilot tocyn £1 llwyddiannus wedi cael ei gyflwyno i annog pobl dan 21 oed i ddefnyddio trafnidiaeth bws o oedran ifanc, felly gobeithio y gallwn ei dyfu yn y ffordd honno. Diolch.

16:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am ei holl waith caled. Mae eich gwaith craffu gofalus wedi cryfhau ein gwaith yn y maes hwn yn wirioneddol. Rwyf hefyd eisiau siarad ychydig nid yn unig am uchelgais, ond am y cyflawniad, yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi'i gyflawni, a'r hyn sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.

Ddirprwy Lywydd, fel bob amser, mae'n rhwystredig—ni fydd gennyf amser i ateb yr holl bwyntiau a godwyd, ond fe wnaf fy ngorau i garlamu drwy gymaint â phosib ohonynt. Fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor eisoes, derbyniodd Trafnidiaeth Cymru 19 o'r 20 argymhelliad yn llawn ac un mewn egwyddor—ymrwymiad difrifol, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd cyn bo hir.

Rwyf hefyd eisiau cydnabod Vernon Everitt, a ymgymerodd â rôl y cadeirydd yr haf hwn. Mewn ychydig fisoedd, mae'n ailffurfio'r bwrdd, yn ysgogi perfformiad a chynrychioli buddiannau Cymru yn gadarn mewn trafodaethau diwygio rheilffyrdd yn y DU. Mae ei arweinyddiaeth yn cael effaith wirioneddol.

Ddirprwy Lywydd, Mae Trafnidiaeth Cymru yn fwy na gweithredwr rheilffyrdd yn unig—mae'n symbol go iawn o'r hyn y mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn ei gyflawni i'n cymunedau. Fe wnaethom addewid: fe wnaethom addo adeiladu system drafnidiaeth gyhoeddus fodern, integredig sy'n rhoi pobl yn gyntaf, ac rydym yn cyflawni'r addewid hwnnw.

Mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn un o sefydliadau trafnidiaeth gyhoeddus mwyaf llwyddiannus y DU, ac mae wedi'i wneud yng Nghymru. Ar ôl dim ond 10 mlynedd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi dod yn bwerdy trafnidiaeth, gyda dros 4,500 o staff a throsiant o fwy na £500 miliwn. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â Carolyn Thomas fod y staff y dof ar eu traws bob amser yn barod i wneud mwy na'r disgwyl i helpu. Maent bob amser yn gyfeillgar ac yn wybodus iawn.

Mae niferoedd teithwyr yn adrodd y stori. Yn 2024-25, cludodd Trafnidiaeth Cymru 31.7 miliwn o deithwyr rheilffordd ac 1.2 miliwn ar fysiau TrawsCymru—twf o 19 y cant ac 11 y cant yn y drefn honno. Nid yw'r rheini'n niferoedd bach. Cododd refeniw tocynnau trên £25 miliwn, o £148 miliwn i £175 miliwn. A heddiw, Trafnidiaeth Cymru yw'r gweithredwr sydd wedi gwella fwyaf yn y DU. Mae prydlondeb, dibynadwyedd a boddhad cwsmeriaid i gyd yn cynyddu. Nid cynnydd yn unig yw hynny, mae'n brawf fod perchnogaeth gyhoeddus, buddsoddiad ac uchelgais yn gweithio.

Oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy na threnau'n unig—mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth. Mae Cymru bellach yn arwain y DU ar ddiwygio trafnidiaeth. O fetro de Cymru i uwchraddiadau ar brif linell arfordir gogledd Cymru, rydym yn gosod y cyflymder, nid yn ei ddilyn. Rydym yn dangos beth sy'n bosib pan fydd trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei drin fel nwydd cyhoeddus ac nid canolfan elw preifat.

A oedd 2024 yn berffaith? Nac oedd, ddim o gwbl, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi bod yn glir am yr heriau gweithredol a wynebwyd, ond roedd yn drobwynt. Symudodd Cymru yn agosach nag erioed at system drafnidiaeth gynaliadwy wirioneddol integredig, ac yn 2025 nid yw'r momentwm hwnnw wedi arafu. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, cofnododd Trafnidiaeth Cymru y gwelliant mwyaf o ran prydlondeb o gymharu ag unrhyw weithredwr yn y DU, gydag 84 y cant o'r gwasanaethau ar amser, sydd i fyny 1.5 pwynt canran o un flwyddyn i'r llall. Ac mae'r ffigur yn 94 y cant 'ar amser o fewn tri munud', fel y'i gelwir, ar linellau craidd y Cymoedd—felly, cyfnod 6, sef y cyfnod diweddaraf—ac rwy'n credu y dylid cydnabod hynny.

Rwy'n credu nad lladd arno yw'r ffordd i godi niferoedd teithwyr, oherwydd mae niferoedd teithwyr wedi codi, boddhad cwsmeriaid wedi codi, a pham? Oherwydd ein buddsoddiad parhaus ac ymroddedig. Fe wnaethom barhau'n gadarn pan oedd pawb o'n cwmpas yn dweud wrthym ein bod ni'n rhoi gormod o arian tuag at hyn, a nawr rydym yn medi'r gwobrau. Mae'r trenau dosbarth 756 newydd bellach yn rhedeg ar linellau craidd y Cymoedd—rhan o'r buddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau newydd. A heddiw, mae 78 y cant o drenau yng Nghymru yn newydd sbon, yn trawsnewid yr hyn a oedd unwaith yn fflyd hynaf y DU yn un o'r rhai mwyaf modern, ac mae trenau newydd yn parhau i gael eu cyflwyno'n rheolaidd i'r rhwydwaith.

Ddirprwy Lywydd, nid newid cynyddrannol yw hynny, ond trawsnewidiad go iawn, a dylem ei gydnabod. Fe wnaethom addo troi rheilffordd Fictoraidd a adeiladwyd ar gyfer glo yn fetro modern, ac rydym wedi gwneud hynny. Nid seilwaith yn unig yw uwchraddiad gwerth £1.1 biliwn trydaneiddio llinellau craidd y Cymoedd—mae'n ddatganiad o fwriad i bobl Cymru i gyflawni Cymru wyrddach a mwy cysylltiedig.

Ac mae'n ymwneud â mwy na rheilffyrdd yn unig: rydym yn cytuno'n llwyr â'r pwyllgor mai gwasanaethau bysiau yw asgwrn cefn system trafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd y Cadeirydd hynny'n benodol iawn, ac rwy'n cytuno'n llwyr, ac rydym yn croesawu'r argymhellion. Nid wyf am fynd drwyddynt, ond rydym yn eu croesawu i gyd—rydym yn cytuno'n llwyr â chi. A thrwy Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), rydym yn ailreoleiddio gwasanaethau fel bod pobl yn dod o flaen elw.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn arwain masnachfreinio mewn partneriaeth â chynghorau, gan ddarparu un rhwydwaith dibynadwy ar y cyd. Eisoes, nid jargon niwlog yw tocynnau integredig mwyach—mae'n digwydd, gydag opsiynau newydd i gwsmeriaid TrawsCymru, cynllun 1bws yng ngogledd Cymru yn capio prisiau dyddiol ac wythnosol, a'r cynllun peilot tocynnau bws £1 i bobl ifanc. Llwyddiant digynsail hyd yma, yn cael ei ymestyn i gynnwys plant pump i 15 oed fis nesaf.

Ddirprwy Lywydd, pan fyddwch chi'n dileu rhwystrau costau, mae'n amlwg fod pobl yn dewis trafnidiaeth gyhoeddus. Dyma beth yw integreiddio—un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn. Rydym yn cyflawni'r weledigaeth honno ledled Cymru ar gyfer rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol gyda'i gilydd, yn unol â'r strategaeth 'Llwybr Newydd'. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at waith craffu'r Senedd ar y Bil bysiau yn rhan o'r daith honno, oherwydd mae'n drawsnewidiol.

16:40

Ar deithio llesol. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu pryder ynghylch rhanbartholi cyllid ar gyfer teithio llesol a phryder y bydd hynny'n gwanhau'r cynnydd a welsom tuag at deithio llesol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd blaenoriaethu priodol ar gyfer teithio llesol o fewn y cyllidebau rhanbarthol hynny. A allwch chi roi'r sicrwydd hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet?

Diolch, John. Yn rhan o'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, sy'n mynd ochr yn ochr â'r cynlluniau strategol rhanbarthol ar gyfer y rhwydweithiau, bydd hynny'n digwydd. Felly bydd gennych system integredig. Nid cael ei rannu i'r holl gynghorau'n unig y mae; mae yna gynllun trafnidiaeth rhanbarthol i gyd-fynd â hynny. Felly, rwy'n meddwl fy mod i'n hapus i roi'r sicrwydd hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, fel roeddwn i'n dweud, mae Trafnidiaeth Cymru yn sbardun i arloesedd difrifol. Rydym wedi gweld 150,000 o deithiau gan ddefnyddio talu wrth fynd tapio i mewn ac allan ar linellau craidd y Cymoedd, ac mae 40 y cant o deithiau bws yng ngogledd Cymru bellach yn ddigyffwrdd, sy'n gam ymlaen go iawn. Er ein bod yn cytuno â phwynt y pwyllgor ynglŷn â phrisiau consesiynol ac integreiddio, ac rydym yn bendant yn ystyried hynny.

Ond drwy bartneriaeth, rydym wedi dangos bod modelau'r sector cyhoeddus yn gweithio. Pan gafodd gweithredwyr preifat fel Avanti West Coast a Great Western Railway eu parlysu gan streiciau, cadwodd Trafnidiaeth Cymru yr holl wasanaethau i redeg, diolch i'n dull partneriaeth gymdeithasol a'n deialog deg gyda'n hundebau. Mae hynny'n rhywbeth i ymfalchïo ynddo a'i gyflawni. Nid yw'n digwydd yn hawdd ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am y dull hwnnw o weithredu.

Rwy'n arbennig o falch, fel y pwysleisiodd Julie Morgan, fod Trafnidiaeth Cymru wedi penodi ei gyfarwyddwr gweithredol benywaidd cyntaf, ei garfan gyntaf o yrwyr lle ceir 50:50 o gydbwysedd rhwng y rhywiau, a mynd i mewn i feysydd nad yw menywod fel arfer yn mynd iddynt, ac wrth gwrs, mae'n parhau i weithio'n agos, fel y cydnabu'r Cadeirydd, gydag Oasis, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyngor Mwslimaidd Cymru er mwyn sicrhau nad ôl-ystyriaeth yw cynhwysiant, mae wedi'i ymgorffori'n llawn. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i barhau ar y daith honno i sicrhau bod integreiddio'n digwydd.

Ar atebolrwydd, mae bwrdd perfformiad newydd wedi cryfhau'r aliniad rhwng Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, gan wella cynllunio, hogi cyllidebau a sicrhau atebolrwydd amser real. Ac mae ein hadroddiadau dangosyddion perfformiad allweddol yn gwella. Nid ticio blychau'n unig ydyw, maent yn ddangosyddion perfformiad allweddol ystyrlon i sicrhau tryloywder. Rydym yn hapus, wrth gwrs, i rannu'r adroddiadau hynny gyda'r pwyllgor, a dyna pam y mae'r ymateb fel y mae, mewn egwyddor, wrth inni ddatblygu'r dangosyddion perfformiad allweddol. Oherwydd, rwy'n cytuno, mae teithwyr yn haeddu gwybod sut rydym yn gwneud heb guddio a dim sbin ynglŷn â'r hyn y maent yn poeni amdano.

Y flwyddyn nesaf, mae Trafnidiaeth Cymru yn 10 oed. Mae wedi bod yn ddegawd o adeiladu rhywbeth o'r dechrau, degawd o ddysgu, addasu, gwella ac fel cyn-Weinidog Trafnidiaeth, o gadw'n gadarn. Mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn arweinydd yn y DU ym maes diwygio trafnidiaeth, gan wella cwmpas, ansawdd a dibynadwyedd ei wasanaethau, ac mae pobl Cymru yn ymateb drwy eu defnydd a'u hymddiriedaeth. I roi un enghraifft, ar linell Coryton a nodwyd gan Julie Morgan, 5.6 y cant yn unig yw'r gyfradd ganslo bellach ac roedd perfformiad ar amser yn 95.7 y cant—i fyny 12.1 y cant o un flwyddyn i'r llall.

Rwy'n credu bod Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio'n galed iawn i dderbyn adborth gan gwsmeriaid ac Aelodau lleol o'r Senedd, ac rwy'n credu eu bod o ddifrif yn dangos y gwelliant hwnnw. Mae gwaith craffu'r pwyllgor yn miniogi'r ffocws ac rydym yn ddiolchgar amdano, ac rydym hefyd yn croesawu ymgysylltiad Aelodau lleol o'r Senedd, fel Julie Morgan ac eraill, sy'n gweithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru ar faterion penodol iawn fel y gellir mynd i'r afael â nhw ar y lefel honno. Oherwydd, yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud ag un peth: mae'n ymwneud ag adeiladu'r system drafnidiaeth y mae Cymru yn ei haeddu—system drafnidiaeth fodern, gynhwysol, wydn ac addas ar gyfer y dyfodol. Nid mewn pum mlynedd, nid yfory, ond yr eiliad hon. Diolch yn fawr.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.

Diolch i bawb. Rwy'n credu, Sam, eich bod wedi crisialu, mae'n debyg, rhai o deimladau'r pwyllgor mewn tri gair: tryloywder, dibynadwyedd ac atebolrwydd. Fe allech chi fod wedi eistedd i lawr ar ôl y tri gair hynny, ond fe wnaethom fwynhau eich cyfraniad, a diolch am hynny.

Julie, rydych chi'n iawn; mae cydbwysedd rhwng y rhywiau yn dal i fod yn waith ar y gweill, onid yw, yn enwedig o ran rolau gweithredol. Fel y dywedodd nifer o'r Aelodau, mae llawer o gerbydau newydd wedi dod yn weithredol, felly nid yn unig fod hynny'n codi safon y gwasanaeth, mae'n caniatáu gwasanaethau amlach hefyd. Ac ar gyfer y gwasanaeth metro, yn sicr, rydych chi eisiau cyrraedd sefyllfa lle mae pobl yn cyrraedd y platfform ac maent yn gwybod os nad ydynt yn neidio ar drên nawr, bydd un arall yn dod ar ei ôl mewn 10 munud. Mae hynny'n newid sylfaenol. Pan gyrhaeddwn y pwynt hwnnw, bydd hynny'n newid sylfaenol.

Mae Peredur yn iawn hefyd, rwy'n meddwl. Mae'n hawdd derbyn argymhellion, nid mor hawdd eu cyflawni bob amser, a'r risg neu'r broblem yn hanesyddol efallai yw bod Llywodraeth Cymru wedi gor-addo o ran Trafnidiaeth Cymru, ond rydym bellach yn cyrraedd pwynt yr oeddem yn gobeithio'i gyrraedd yn llawer cynt. Mewn perthynas ag unrhyw ddylanwad ffurfiol sydd gennym ar GBR a buddsoddiadau ariannol y DU ac ati, wel, fel mae'n digwydd, yfory bydd y pwyllgor yn craffu ar yr Arglwydd Hendy, sef y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Drafnidiaeth. Felly, byddwn yn sicr yn gofyn rhai o'r cwestiynau hyn iddo ef.

Rhys, cyfraniad diddorol. Rwyf wedi bod yn aros am drenau a chael clywed nad oes gyrrwr ar gael, ond yn sicr mae hynny'n rhywbeth y gallwn fynd ar ei drywydd wrth graffu ar CNC—nid CNC, Trafnidiaeth Cymru. Ond dyma'r pwynt roeddwn eisiau ei wneud: rydym yn cael trafodaethau'n rheolaidd ynglŷn â sut y mae mwy a mwy o ddyletswyddau yn cael eu taflu at CNC, ac efallai nad oes lefel gyfatebol o adnoddau bob amser i allu cyflawni. Mae yna risg, rwy'n meddwl—. Rydym wedi siarad am deithio llesol, rydym yn gwybod am y rheilffyrdd, y fasnachfraint fysiau, ac mae'r gwaith enfawr hwnnw ar y ffordd. Rhaid inni warchod rhag i rywbeth tebyg godi yma. Mae'n bwysig, Carolyn, fod pobl yn teimlo'n ddiogel, ac roedd adroddiadau yn y cyfryngau heddiw, onid oedd, ynglŷn â sut y mae troseddau rhywiol ar drenau wedi cynyddu draean ers 2015, er mai ar lefel y DU oedd hynny. Byddai'n ddiddorol gweld beth yw'r ffigurau ar gyfer Cymru. Felly, yn sicr—

16:45

Mae hynny'n dangos y gwerth yng Nghymru lle rydym wedi cadw'r gardiaid ar y trenau, ac maent wedi cael gwared arnynt mewn mannau eraill. Dyna oedd un o'r dadleuon mwyaf yn ei gylch: pobl yn teimlo'n ddiogel, yn teimlo bod rhywun yno iddynt.

Ie, yn hollol. Ac rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol iawn o'u cyfrifoldebau yn y cyd-destun hwnnw.

Fe ailadroddaf y pwynt a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â'r cadeirydd newydd: rydym eisoes fel pwyllgor wedi cael ymgysylltiad cadarnhaol â Vernon Everitt, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau â hynny. A hynny er budd y cyhoedd, nid er elw preifat, a gallwn ddweud hynny'n falch nawr yng Nghymru.

Felly, mae yna lawer i'w wneud, ac mae masnachfreinio bws yn mynd i fod yn enfawr. Rwy'n credu ein bod wedi gweld hynny, oni wnaethom, pan wnaethom ymweld â Transport for Greater Manchester yn ddiweddar. Mae yna lawer i'w wneud, ond rwy'n credu bod cyfeiriad y teithio yn gadarnhaol. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod Trafnidiaeth Cymru bellach ar y trywydd iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Adfywio canol trefi

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru: adfywio canol trefi. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9010 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod dadansoddiad gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru yn 2023 wedi dangos bod gan Gymru’r ail nifer uchaf o siopau gwag yn y DU;

b) bod bron i 100 o fanciau ar y stryd fawr wedi cau yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf; ac

c) bod rhaglen ‘Balchder Bro’ Llywodraeth y DU yn dyrannu £214 miliwn o gyllid i Gymru gyda’r nod o gryfhau adfywio yn seiliedig ar leoliad.

2. Yn gresynu nad yw’r rhaglen ‘Balchder Bro’ yn darparu sicrwydd cyllid hirdymor ac ar y raddfa sydd ei angen ar gyfer adfywio canol trefi.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer adfywio canol trefi, gan nodi gweledigaeth tymor hir ar gyfer canol trefi sy’n cynnwys mesurau i:

a) sefydlu lluosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer manwerthwyr bach ac annibynnol ar y stryd fawr, gan gynnwys busnesau lletygarwch;

b) sefydlu sicrwydd cyllid tymor hir ar gyfer adfywio canol trefi; ac

c) cyflwyno deddfwriaeth i gryfhau pwerau ‘Hawl i Brynu’ cymunedol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â chanol ein trefi, sydd mewn sawl ffordd yn adlewyrchu stori Cymru heddiw. Cerddwch drwy lawer ohonynt ac mae'r darlun yn rhy gyfarwydd: nifer fach o ymwelwyr, sy'n parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig, unedau manwerthu gwag, ffenestri siopau dan gaeadau, amwynderau wedi'u colli a ffenestri wedi'u bordio. Mae'r hyn a oedd unwaith yn ganolbwynt i lawer o ganolfannau trefol wedi dod yn symbolau o ddirywiad economaidd. Mae cau siopau manwerthu wedi ein taro'n galed yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r canlyniadau wedi cael effaith ganlyniadol. Mae'r un peth yn wir am gau banciau. Rhwng 2012 a 2022, gostyngodd nifer y canghennau yng Nghymru o 695 i 435, ac mae'r gostyngiad hwnnw'n parhau. Santander, Lloyds, Halifax—maent i gyd yn gadael ein strydoedd mawr. 

Pe bai'n unrhyw un arall, buaswn yn dweud 'na', ond i chi, Sioned—. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr. Jest eisiau dod i mewn yn gyflym iawn ar fanciau. Bydd banc olaf Cwmtawe, ym Mhontardawe, yn cau fis nesaf, mae NatWest yng Nghastell-nedd yn cau fis yma, ac mae'r banciau, wrth gwrs, yn rhoi elw uwchben cenedlaethau o gwsmeriaid, ond does dim digon o hybiau banciau gyda ni chwaith. Mae hynny'n rhywbeth sydd o fewn grym Llywodraeth San Steffan i'w gynyddu. Ydych chi'n meddwl bod angen inni ofyn i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth San Steffan i alluogi mwy o hybiau banciau i gael eu sefydlu yn lle'r banciau yma?

Wrth gwrs y buaswn i'n cytuno gyda hynny. Mae yna gwestiwn arall hefyd ynglŷn â banciau: beth sydd wedi digwydd i'r banc cymunedol mae'r Llywodraeth wedi bod yn sôn amdano am y blynyddoedd diwethaf? Ond gwnaf i ddod yn ôl at hynny ymhellach i mewn i'r araith, ond pwynt rili pwysig fanna.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gofio nad yw'r rhain yn ddigwyddiadau ynysig mewn gwirionedd. Mae'r rhain yn symptomau o fregusrwydd economaidd dyfnach. Pan fydd gwasanaethau lleol yn diflannu, mae busnesau bach yn colli ymwelwyr, mae arian yn llifo allan o'n cymunedau ac economïau lleol yn cael eu herydu. Canlyniad i danfuddsoddi a diffyg cynllunio economaidd strategol yw hyn. Nawr, rydym wedi gweld y datganiadau i'r wasg optimistaidd yn clodfori'r iteriadau diweddaraf o gyllid adfywio gan y gronfa twf lleol a'r rhaglen Balchder Bro, ond rhaid inni fod yn onest am yr hyn y mae'r rhain yn ei gynrychioli. Cau tyllau'n unig a wna'r cynlluniau hyn, nid ailadeiladu sylfeini. Nawr, mae Plaid Cymru wedi dadlau'n gyson dros ddychwelyd pwerau gwneud penderfyniadau'n llawn dros gyllid ôl-UE i Gymru, a hyd nes y gwelwn fanylion y gronfa twf lleol, nid ydym am farnu a yw'n golygu bod y pwerau a oedd gan Gymru dros gyllid datblygu rhanbarthol cyn Brexit yn cael eu hadfer. Ond mae'r syniad fod hwn yn arian yn lle'r hyn a ddoi unwaith o Ewrop yn ymestyn y diffiniad o 'arian yn lle'. Mewn gwirionedd, mae £547 miliwn dros dair blynedd, heb eglurder eto ynglŷn â ble a sut y caiff ei wario, yn brin o gannoedd o filiynau o bunnoedd, heb fod yn agos at fynd i'r afael â degawdau o danfuddsoddi ac amddifadedd dwfn. I'r rhai sy'n chwarae bingo, yr addewid o San Steffan oedd na fyddem geiniog ar ein colled. Ond bydd hyd yn oed hyn yn ein gadael yn waeth ein byd. Nid yw'n gymesur â maint y broblem.

Ar y rhaglen Balchder Bro, mae £2 filiwn dros 10 mlynedd yn darparu rhywfaint o ragweladwyedd i awdurdodau lleol o ran y cyllid sydd ar gael, ac mae'r symud, i fod yn deg, o gylchoedd ceisiadau blynyddol i ddyraniadau amlflwyddyn, yn beth da. Rwy'n credu mai lle mae'r elfen sicrwydd o hyn yn dechrau gwanhau, yn gyntaf, yw na wyddom a fydd y cyllid yn cael ei fynegeio yn ôl chwyddiant, neu a oes rhyw fath o fecanwaith addasu i gyfrif am gostau cynyddol dros gyfnod 10 mlynedd y gronfa. Hebddo, bydd y blynyddoedd diweddarach yn ariannu llai na'r rhai cynharach.

Rydym hefyd wedi cael cymaint o enghreifftiau o gronfeydd tebyg yn y gorffennol yn cael eu diferu i lawr, a'u rhannu'n rhy denau ar draws prosiectau a chynlluniau gwaith lluosog ac yn syml, nid ydynt yn cael eu defnyddio mewn ffordd arbennig o strategol. Mae'r arian yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwelliannau cosmetig tymor byr, harddu'r stryd fawr yn hytrach na galluogi'r ymyriadau mwy sylweddol. Ydy, mae adfywio ffisegol yn bwysig, ond os yw popeth arall o'i gwmpas ar goll, rydym yn troi mewn cylchoedd.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau symiau llawer mwy drwy gronfeydd blaenorol, ac os nad yw'r rhain wedi cyflawni'r canlyniadau a addawyd, mae'n deg gofyn, beth y gallwn ei ddisgwyl yn realistig o'r iteriadau diweddaraf hyn? Pe bai mesurau presennol Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn eu gwelliant—cyhoeddi datganiadau safbwynt, lansio cynlluniau gweithredu ar gyfer manwerthu a lansio arian i harddu strydoedd mawr—yn effeithiol, byddem eisoes yn gweld cynnydd, ond mae hyn wedi bod ar yr agenda ers dros ddegawd, ac rydym yn dal i drafod beth i'w wneud.

Rydym wedi mynd o gronfa i gronfa, heb fawr ddim strategaeth ar gyfer newid parhaus. Nid oes dim o hyn wedi gwneud unrhyw beth i gyrraedd craidd y broblem ar ein strydoedd mawr. A'r broblem honno yw perchnogaeth. Landlordiaid absennol yn dal eu gafael ar unedau gwag, cadwyni mawr sy'n seiffno cyfoeth i bencadlys y tu allan i Gymru, datblygiadau y tu allan i'r dref, ac fel y nododd Sioned Williams, ein banciau'n gadael y stryd fawr. Felly, rhaid inni ofyn i ni'n hunain: beth yw gwir bwrpas economaidd a chymdeithasol canol ein trefi? Os ydynt am fod yn fwy na mannau manwerthu, mae angen yr offer deddfwriaethol arnom i wneud i hynny ddigwydd, gan gynnwys hawl y gymuned i brynu sy'n weithredol a phecyn cymorth digonol ar gyfer perchnogaeth leol. Mae'n warthus ein bod yn dal i aros am hyn, er ei fod gan yr Alban eisoes ac mae Lloegr yn symud ymlaen arno.

Cyn y pandemig, roedd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol ar adeiladu cyfoeth cymunedol. Roedd hwnnw'n waith addawol, ond ni ddychwelwyd ato. Pam? Pam nad ydym yn defnyddio'r banc datblygu i ysgogi mwy o wreiddio lleol i gryfhau'r economi gymdeithasol a chydweithredol? Mae llawer iawn mwy y dylai ac y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, ac nid yw'n ei wneud. Mae cyfoeth yn ludiog. Os ydym yn ei adeiladu a'i gynnal yma, mae'n aros yma. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau eraill.

16:50

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i gynnig gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cefnogi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo canol ein trefi, megis:

a) y camau a amlinellir yn y cynllun gweithredu manwerthu;

b) cynnal y cyllid ar gyfer cynlluniau rhyddhad ardrethi;

c) cynnwys egwyddorion canol tref yn gyntaf mewn dogfennau cynllunio allweddol;

d) cyhoeddi’r datganiad sefyllfa ar ganol trefi;

e) sefydlu’r comisiwn asedau cymunedol;

f) buddsoddi drwy’r rhaglen trawsnewid trefi; a

g) lansio’r gronfa trefi taclus.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n cynnig.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach;

b) gwella mynediad at barcio am ddim yng nghanol trefi;

c) diwygio'r system gynllunio i hyrwyddo cynnig cymysg ar ein strydoedd mawr;

d) sefydlu cronfa trefi glan môr i helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn ein cymunedau arfordirol;

e) sefydlu cronfa trefi marchnad i helpu i fynd i'r afael â heriau yn nhrefi marchnad Cymru; ac

f) gweithio gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i hyrwyddo perchnogaeth gymunedol o asedau pwysig sydd dan fygythiad o gau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig ein gwelliant yn enw Paul Davies. Os yw ffermwr yn plannu hadau mewn cae ac mae'r hadau hynny'n methu egino a thyfu, a fyddent yn ddoeth y flwyddyn ganlynol i blannu mwy o hadau yn yr un cae? Beth os nad yw'r hadau hynny, eto, yn tyfu? A fyddai'r ffermwr yn ffôl pe bai'n plannu hadau dro ar ôl tro yn yr un pridd, heb unrhyw feddwl nac ymdrech i wella'r maethynnau yn y pridd hwnnw? Mae'r gymhariaeth hon yn crynhoi cynnig Plaid Cymru a drafodwn heddiw yn berffaith.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn y byd go iawn, gan gynnwys ffermwyr, yn gwybod bod yn rhaid i chi fynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol—y pridd—cyn y gall unrhyw beth dyfu a chael ei gynnal, a dyma realiti'r stryd fawr yng Nghymru. Nid oes ots faint sy'n cael ei wario ar brosiectau adfywio, am mai dim ond hadau'n cael eu plannu mewn pridd gwael yw'r rhain. Mwy o arian ar gyfer hadau a dim digon ar gyfer pridd yw'r rhaglen Balchder Bro, ac mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae Plaid Cymru a Llafur Cymru yn ei gamddeall yn sylfaenol.

Gallwch ailadeiladu canol trefi, buddsoddi miliynau mewn planhigion mewn potiau ac adeiladau newydd a strategaethau adfywio, yn y gobaith truenus y bydd hyn yn sydyn yn dod â chwsmeriaid yn ôl i wario eu harian mewn siopau. Ond heb fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol pam y mae ein strydoedd mawr yn methu, ni fydd hyn yn cyflawni unrhyw beth. Yr eironi, Ddirprwy Lywydd, yw bod y rhan fwyaf o'n siopau ar y stryd fawr yn berffaith abl i wneud elw ac aros ar agor, ond yn cael eu rhwystro'n barhaus gan y polisïau sy'n cael eu creu yma ac sydd bellach yn cael eu creu gan y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan hefyd.

Mae'r gamddealltwriaeth systematig gan Lafur o sut y mae busnesau'n gweithredu wedi golygu bod yr economi yng Nghymru yn farwaidd ar y gorau—

16:55

Gadewch i mi barhau am ychydig. Mae'r ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur hon yn cosbi ein busnesau'n economaidd yn bygwth bodolaeth ein stryd fawr. Codir rhai o'r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, a nawr gyda chostau cynyddol yswiriant gwladol ac isafswm cyflog, mae'n golygu bod angen iddynt drosglwyddo hyn i'r cwsmeriaid, sydd eu hunain yn raddol yn cael eu prisio allan o'n stryd fawr.

Nid yw ffantasïau ariannol Plaid Cymru, fel y gwelwn yn y cynnig hwn, yn cynnig unrhyw obaith i fusnesau'r stryd fawr. Yn eu cynllun economaidd, maent wedi dweud mai'r rheswm pam y mae canol trefi a dinasoedd yn methu yw oherwydd y bwlch perchnogaeth, gan honni bod rhy ychydig o fusnesau, asedau a sefydliadau Cymru yn eiddo i bobl Cymru, a bod gormod o elw yn llifo allan o Gymru. Ond sut y byddai rhywun yn gwybod hyn? Nid oes unrhyw ddata'n cael ei gasglu ar hyn o gwbl, er enghraifft.

Gadewch imi barhau am eiliad. Yr hyn a wyddom yw mai dim ond 0.7 y cant o'r holl fusnesau yng Nghymru sydd â mwy na 250 o weithwyr, felly prin ei bod hi'n wir fod cwmnïau rhyngwladol, y mae Plaid Cymru'n eu gwneud yn fwch dihangol, yn elwa ar ein traul ni. Rydych chi wedi cyfeirio at fodel Preston fel rhyw ateb gwyrthiol a fydd yn newid ffawd Cymru, ond y gwir amdani yw na chafwyd unrhyw dystiolaeth erioed o unrhyw newid economaidd dramatig. Ac mae'r rheswm yn syml: mae'n atal buddsoddiad ac mae terfyn i'r hyn y gellir ei gyrchu'n lleol. Yn y pen draw, y rheswm pam y mae busnesau mwy y mae Plaid Cymru yn eu casáu yn gallu gweithredu yw oherwydd y gallant ostwng costau nwyddau'n sylweddol am fod ganddynt bŵer swmpbrynu. Mae eich cynnig yn sôn am luosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer manwerthwyr bach ac annibynnol ar y stryd fawr, gan gynnwys busnesau lletygarwch. Ffantasi yw meddwl y gallwch gynyddu ardrethi busnes manwerthwyr mwy o faint yn anghymesur i wrthbwyso gostyngiadau mwy i fusnesau lleol. Dyma beth fydd yn digwydd: bydd yr ychydig iawn o fanwerthwyr mwy a fydd yn aros—ac rydym eisoes wedi gweld sawl un yn gadael y stryd fawr yn ddiweddar—y byddwch chi'n eu targedu yn codi prisiau neu'n symud popeth ar-lein. Bydd yn eu hatal rhag buddsoddi a rhag creu swyddi ar y stryd fawr, a hyd yn oed yn ein parciau manwerthu.

Felly, beth fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud i helpu'r stryd fawr? Yn amlwg, byddem yn gwario'r arian ar adfywio'r pridd. Mae angen inni helpu busnesau ar y stryd fawr i fod yn gystadleuol eto. Mae angen iddynt allu cynnig y gwasanaeth cwsmeriaid nad yw cwsmeriaid yn ei gael wrth siopa ar-lein. Byddwn yn dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes bach, yn gwella'n sylweddol y ddarpariaeth barcio am ddim sydd wedi cael ei gyrru allan o ganol ein trefi gan Lafur. Byddwn yn gwella ein darpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus ac yn hyrwyddo cynnig cymysg ar ein stryd fawr. Nid slogan etholiadol fydd hwn, wedi'i gynllunio ar gyfer taflenni neu fideos cyfryngau cymdeithasol. Ni fydd chwaith yn ailddosbarthu cyfoeth mewn modd cibddall a llawn casineb oddi wrth yr ychydig gwmnïau rhyngwladol sydd gennym yn y wlad hon. Bydd hwn yn gynnig i fusnesau na fyddant yn cael eu llethu gan ardrethi busnes pan fyddant yn dechrau, y byddant yn gallu tyfu eu busnes gan wybod na chânt eu cosbi am y twf hwnnw.

17:00

Y frawddeg olaf. Rwy'n annog yr Aelodau yma i weld cynnig Plaid Cymru am yr hyn ydyw, gwrth-fusnes a gwrth-dwf, a hoffwn annog pawb yma i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch.

Mae cymuned yn rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl. Lle rydych chi'n byw yw eich cymuned a'ch cymuned yw lle rydych chi'n teimlo eich bod chi'n perthyn. Mae rhai pobl yn byw mewn ardal a allai fod â chymuned agos iawn, lle mae pawb yn adnabod ei gilydd, neu, yn amlach, yn gwybod am ei gilydd. Efallai mai eu heglwys neu gapel, canolfan gymunedol neu eu clwb chwaraeon yw canolbwynt eu cymuned. Pan ofynnir i mi ble rwy'n byw, fy ymateb cyntaf yw 'Treforys'. Dyna'r gymuned rwy'n perthyn iddi. A bydd pobl eraill yn uniaethu â'u cymunedau eu hunain. Mae gan bobl ymdeimlad cryf o ymlyniad at adeiladau yn eu cymuned. Mae llawer gormod o hen adeiladau yn cael eu gadael i ddirywio gan berchnogion sy'n aml yn byw filltiroedd lawer i ffwrdd, weithiau y tu allan i Brydain, weithiau, mewn achos y deliais ag ef yn fy etholaeth, yn Awstralia. Mae nifer yr adeiladau crefyddol, capeli ac eglwysi, nifer y tafarndai, clybiau a sefydliadau wedi gostwng. Gallwch weld y dirywiad yn dod gydag aelodaeth a phresenoldeb sy'n heneiddio ac yn lleihau nes bod cau yn digwydd yn y pen draw. Byddai hawl y gymuned i brynu i Gymru yn helpu i ddiogelu'r pethau sy'n gwneud ein gwlad a'n hardaloedd lleol yn arbennig, yn rhoi hwb i berchnogaeth gymunedol a rhoi pŵer yn ôl yn nwylo pobl Cymru drwy roi'r hawl gyntaf i wrthod i gymunedau lleol pan fydd asedau cymunedol allweddol yn dod ar werth. Dyna pam y mae gan yr Alban un eisoes ac mae perchnogaeth gymunedol wedi tyfu'n gyflymach yno nag yn unrhyw le arall yn y DU ers Deddf Grymuso Cymunedol (Yr Alban) 2015.

Gall cymunedau sy'n nodi angen i berchnogi tir neu adeiladau wneud cais i gofrestru diddordeb cymunedol yn eu prynu. Mae cais llwyddiannus yn rhoi'r opsiwn cyntaf i'r gymuned brynu os yw'r perchennog yn cynnig y tir neu'r adeilad i'w werthu. Rhaid i gais i gofrestru diddordeb cymunedol mewn tir ddangos manteision datblygu sylweddol yn y tir a'r gymuned. Nid ei fwriad yw cadw'r status quo neu rwystro unrhyw ddatblygiad; mae yno i helpu ein cymunedau. Mae Lloegr yn cael un bellach. Mae'r Llywodraeth Lafur newydd yn paratoi deddfwriaeth yn rhan o'i Bil datganoli sydd ar fin digwydd. Ledled y wlad, mae cymunedau'n cael eu cau allan wrth i adeiladau gael eu bordio, eu dinistrio neu eu gwerthu i ddatblygwyr a'u troi'n fannau sy'n methu gwasanaethu anghenion y gymuned leol. A gallaf fynd â chi o gwmpas llawer o gapeli sydd wedi cael eu prynu gan ddatblygwyr a'u gadael. Gallai hawl y gymuned i brynu newid hyn drwy ganiatáu'r hawl gyntaf i wrthod i gymunedau pan fydd mannau â gwerth cymunedol sylweddol yn dod ar werth, fel siopau, tafarndai, eglwysi a chapeli gwag.

Diolch. A ydych chi'n ymwybodol, o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, fod hawl y gymuned i brynu, wedi'i chefnogi gan gofrestr asedau cymunedol, wedi bod ar gael i Gymru ers blynyddoedd lawer? Er ein galwadau a'n haddewidion maniffesto i'w chyflwyno, a ydych chi'n gresynu na chafodd ei chyflwyno'n flaenorol?

Nid wyf yn gresynu na chafodd ei chyflwyno'n flaenorol, oherwydd mae'n ddibwynt edrych yn ôl. Y cyfan y gallwn ei wneud yw edrych ymlaen, ac rwyf i eisiau cael hawl y gymuned i brynu allan yno fel bod cymunedau'n cael cyfle i feddiannu adeiladau yn eu cymuned. Gyda'r Alban yn cael hawl y gymuned i brynu a Lloegr yn cynnig un, mae angen un ar Gymru. [Torri ar draws.] Yn sicr.

Rwy'n credu bod cytundeb yma, Mike. Rwy'n credu mai'r pryder mwyaf, fodd bynnag, sydd gan lawer o bobl yn y gofod hawl i brynu yw ein bod wedi bod yn cael y ddadl hon nawr ers degawd neu fwy, ac mae'r penderfyniad yn parhau i gael ei wthio i lawr y lôn. Ychydig fisoedd yn ôl cawsom gyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet am ymgynghoriad arall posib ar hawl y gymuned i brynu. Felly, yn sicr, mae'n dod i bwynt lle rydym yn dweud, 'Iawn, o'r gorau, mae'r Alban wedi ei wneud, mae Lloegr yn symud ymlaen ag ef, gadewch i ni fwrw ymlaen ag ef.'

Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n gofyn amdano nawr. Rwy'n credu bod angen i ni ei wneud. Nid mater pleidiol mohono, mae'n fater cymunedol.

Mae gan bob cymuned leoedd sy'n eu gwneud yn arbennig. Lle rwy'n byw, mae clybiau rygbi yn bwysig iawn i'r gymuned leol. Mewn rhannau eraill o'r ardal mae clybiau pêl-droed yn bwysig iawn i'r gymuned, a phe baem wedi cael y ddadl hon 50 mlynedd yn ôl buaswn wedi dweud bod capeli ac eglwysi yn bwysig iawn i'r gymuned; yn anffodus, nid yw hynny'n wir mwyach.

Ar ôl 14 mlynedd o fandaliaeth economaidd o dan y Torïaid, mae pawb ohonom wedi gweld llawer o'r mathau hyn o adeiladau yr ydym i gyd yn malio amdanynt yn cael eu prynu a'u troi'n fflatiau, a'u gadael, y stryd fawr leol wedi'i difetha gan siopau gwag. Mae perchnogaeth leol yn rhan enfawr o'r ateb, a gallai hawl y gymuned i brynu fod yn offeryn hanfodol i wneud iddo ddigwydd. Nid yw hawl y gymuned i brynu yn ateb i bob adeilad gwag ac adfeiliedig. Mae llawer wedi cyrraedd cam lle nad yw'n economaidd i'w hatgyweirio a dod â nhw'n ôl i ddefnydd cymunedol. Fodd bynnag, gall atal adeiladau eraill rhag adfeilio. Mae perchnogaeth gymunedol yn yr Alban wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae hawl y gymuned i brynu wedi'i phrofi, yn boblogaidd ac yn wleidyddol effeithiol. Mae angen i ni ei gael yng Nghymru, ac i ailadrodd yr hyn a ddywedodd Luke, mae angen i ni ei gael nawr.

Mae manwerthu wedi newid ac mae canol trefi a dinasoedd wedi newid yn sylweddol dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae prynu ar-lein wedi achosi problemau enfawr. Nid mater o ddigon o lefydd parcio i geir ydyw, ond mater o fethu cael digon o adeiladau, cost prynu nwyddau, pan allwch chi wasgu botwm ar-lein a chaiff ei ddanfon i'ch tŷ y diwrnod canlynol.

A gaf i orffen drwy ddweud bod gan Dreforys, lle rwy'n byw, amrywiaeth o siopau, o gemyddion, cryddion, siopau blodau a siopau anrhegion i salonau harddwch a siopau trin gwallt, ac mae nifer o siopau coffi ac opsiynau bwyta? Mae Stryd Woodfield yn cael ei huwchraddio, rydym wedi gweld siop What! yn hen adeilad Wilko, rydym wedi gweld y busnesau newydd canlynol yn agor yn ddiweddar—dartiau, matiau, consolau gemau—a tecawê Indiaidd newydd. Mae'r gwaith o adnewyddu'r Tabernacl—diolch, Llywodraeth Cymru—ac Eglwys Sant Ioan—hefyd diolch i Lywodraeth Cymru—bellach wedi'i gwblhau. Mae gan gapel Bethania gais cynllunio diwygiedig ar gyfer fflatiau a datblygiad masnachol ar y llawr gwaelod, gyda lle wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac mae Tŷ Danbert bellach wedi cyrraedd y cam lle mae cynllun wedi'i ddewis, ac mae'r gwaith yn parhau ar hen dafarn y Crown. 

Ar siopau canol y dref, rwy'n dweud wrth y cyhoedd: defnyddiwch nhw neu collwch nhw.

17:05

Yn ein Cymoedd, mae ein strydoedd wedi bod yn dyst i hanes: yr amser pan oedd pobl o bell ac agos yn heidio i Gymru i weithio yn y pyllau, yr unig dro y mae ein Cymoedd wedi gweld mewnfudo torfol. Fwy a mwy, pobl sy'n gadael ein trefi yw'r broblem nawr. Ac mae ein stryd fawr wedi ei siapio gan y bobl sydd wedi byw yno. Meddyliwch am y caffis Bracchi Eidalaidd, cymysgedd gwych o ddiwylliannau Cymreig ac Eidalaidd, a geid yn y rhan fwyaf o drefi y Cymoedd, gyda'u hufen iâ Bracchi nodweddiadol, nad yw ei flas yn debyg i ddim byd ar y ddaear, yn ogystal â'u pasteiod a gâi eu cynhesu drwy stêm y peiriannau coffi. Pan oeddwn i'n tyfu i fyny, rwy'n cofio caffis Bracchi yn Ystradmynach, yn Nelson, ym Margoed—roedd cymaint ym Margoed.

Mae rhai ohonynt ar agor o hyd, ac rydym yn iawn i fod yn falch ohonynt. Ond mae diffyg cefnogaeth gan Lywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan dros y blynyddoedd i'r stryd fawr wedi arwain at fwy a mwy o'r caffis hynny'n cau, ac mae rhywbeth yn cael ei golli yn ein bywydau na ellir ei gael yn ôl, cysylltiad â'n gorffennol cyffredin, ac mae'r patrwm yn ailadrodd ei hun dro ar ôl tro. Mae'r adeiladau hyn, fel y dywedodd Luke, yr adeiladau ar ein stryd fawr, yn adrodd straeon ein gorffennol—neuaddau glowyr, llyfrgelloedd, ysbytai a sefydliadau a adeiladwyd gan gyflogau glowyr i ddangos mawredd eu gweledigaeth i'r byd ac i Dduw, wedi'u hadeiladu drwy eu haelioni fel bod gan y gymuned lefydd i fynd ar gyfer cyngherddau, gwersi, i ddarllen ac i ddysgu ac i wella.

Mae cymaint o'n hadeiladau gorau yn y Cymoedd wedi'u creu gan lowyr neu wedi'u sefydlu gan eu haelioni, ond mae cymaint ohonynt wedi cau neu'n wynebu cau. Mae llawer ohonynt wedi'u bordio, adeiladau hardd yn cael eu gadael i ddirywio, a'r holl leisiau sydd wedi canu yno, yr eiliadau yn ein hanes sydd wedi digwydd o fewn eu muriau, adleisiau o gerddorfa ac areitheg—maent yn dawel. 

Fe wnaeth ein Cymoedd bweru'r byd gyda'n stêm, ein glo, ein haearn, ein dycnwch. Byddai unrhyw le arall yn y byd yn ariannu'r henebion hyn, yn rhoi cefnogaeth Llywodraeth i'w cadw. Pam na ddylem ni yn y Cymoedd allu gogoneddu eu mawredd? Dim ond drwy benderfyniad ymgyrchwyr lleol y cafodd Sefydliad Glowyr y Coed Duon ei achub. Nid yw Llancaiach Fawr wedi bod mor ffodus, er bod cyfeillion Llancaiach Fawr yn dal i wneud popeth yn eu gallu.

Dylem gofio hefyd fod traddodiad llyfrgelloedd yn ein Cymoedd hefyd wedi'i ddechrau gan y glowyr. Yng Nghaerffili, mae'r cyngor Llafur yn benderfynol o gau 10 llyfrgell. Roedd eu drysau i fod wedi'u cau ym mis Awst, ond mae her gyfreithiol wedi golygu bod y cyngor wedi ei orfodi i'w hailagor am y tro. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddant yn aros ar agor. Mae'r cabinet Llafur wedi dweud yn glir ei fod yn gobeithio y byddant yn dal i gau'r adeiladau hyn. Maent wedi disgrifio'r her gyfreithiol fel rhywbeth siomedig. Peidiwch â chamgymryd, yng Nghaerffili maent yn bwriadu cau'r llyfrgelloedd hynny, heb unrhyw ystyriaeth i'r ffenestri i fydoedd eraill a fydd yn cau o ganlyniad, y drysau ym meddyliau plant a fydd yn cael eu cau, y bwlch a gaiff ei adael i bobl hŷn sy'n unig, i bobl ifanc yn eu harddegau sydd eisiau lle tawel i wneud eu gwaith cartref, i grwpiau gwau, cymdeithasau lleol, yr holl bobl sy'n ymgynnull yn y lleoedd hyn fel eu heglwysi cadeiriol—y lleoedd yr oedd y glowyr wedi breuddwydio y caent eu hadeiladu ar gyfer eu plant. Mor fyr yw cof y bobl a fyddai'n eu cau. Mor annigonol yw cefnogaeth y Llywodraeth i'w cadw ar agor. Nawr, nid adeiladau'n unig yw'r gofodau hyn, maent yn fannau cyfarfod, gofodau sydd i fod i gael eu rhannu gan y gymuned, gofodau sydd wedi creu'r cymunedau.

Bydd angen cynlluniau i anadlu bywyd newydd iddynt, ond bydd angen enaid hefyd, cydnabyddiaeth sy'n debycach i brysur bwyso. Mae'n gyfamod â'n gorffennol sy'n cael ei gyrydu gan yr holl gau. Mae arnom fwy na hynny i'r glowyr ac i'w plant.

17:10

Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â'r heriau sy'n wynebu canol ein trefi a'n dinasoedd, heriau siopa ar-lein, datblygiadau y tu allan i ganol y dref sydd eisoes yn eu lle, yr argyfwng costau byw. Mae'r heriau'n fawr. Ond nid wyf yn anobeithio fel y credaf ein bod wedi'i weld gan y Ceidwadwyr Cymreig yma y prynhawn yma, oherwydd mae llawer o waith da yn digwydd, ac wedi digwydd a gellir adeiladu arno. Yng Nghasnewydd, er enghraifft, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi gweld buddsoddiad sylweddol mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu preswylfeydd yng nghanol y ddinas, sydd eu hangen yn fawr o ran y ddarpariaeth dai, ac mae'n ychwanegu at nifer yr ymwelwyr, sy'n werthfawr iawn i'r busnesau yng nghanol y ddinas.

Rydym wedi cael rhaglen lwyddiannus o ddigwyddiadau. Y penwythnos diwethaf, cynhaliwyd gŵyl fwyd Casnewydd, a gwelwyd cynnydd o 66 y cant yn nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas ar y penwythnos hwnnw o'i gymharu â'r penwythnos blaenorol. Mae gennym y Gyfnewidfa Ŷd newydd fel lleoliad cerddoriaeth, ochr yn ochr â lleoliadau eraill sy'n bodoli eisoes, fel Le Pub, a theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

Rydym wedi gweld datblygiadau hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd yn agor yng nghanol y ddinas, a llwyddiant mawr gyda chynyddu nifer y masnachwyr annibynnol, rhywbeth y credaf fod pobl yn teimlo ei fod yn ddeniadol iawn, am ei fod yn cynnig rhywbeth gwahanol ac unigryw o'i gymharu â'r cwmnïau cadwyn arferol. Wrth gwrs, pan fydd gennych y busnesau lleol hynny, mae'r elw y maent yn ei wneud yn cael ei wario yn yr economi leol, sy'n bwysig iawn hefyd.

Ac mae gennym ddatblygiadau pwysig yn yr arfaeth yng Nghasnewydd. Mae Coleg Gwent yn mynd i adleoli ei gampws ar y cyrion i ganol y dref, cam a fydd yn dod â rhywbeth fel 2,000 o bobl newydd—myfyrwyr, dysgwyr, staff—i ganol y ddinas bron bob dydd. Byddwn yn cael canolfan hamdden newydd yng nghanol y ddinas gyda phwll hamdden o'r radd flaenaf a chyfleusterau dysgu newydd, a fydd hefyd yn arwyddocaol iawn.

Felly, nid yw'r cyfan yn ddiobaith. Mae'r heriau'n sylweddol, ac yn sicr yng Nghasnewydd, mae angen gwneud llawer mwy. Rydym i gyd yn gwybod, y rhai ohonom sy'n cynrychioli'r ardal, cymaint y mae'n cyfrif i bobl leol. Mae'r balchder lleol yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd, neu ddiffyg balchder oherwydd rhai o'r heriau, yn broblem enfawr. Mae pobl eisiau teimlo'n falch o ganol eu trefi a'u dinasoedd. Mae pobl yn eu cofio pan oeddent yn llawer cryfach ac yn llawer mwy deniadol nag ydynt ar hyn o bryd. Felly, mae llawer i'w wneud eto. Rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, ond rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol.

Mae datblygiadau pwysig yn yr arfaeth, a'r hyn rwyf eisiau ei weld yw parhad y bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Casnewydd, partneriaid allweddol a Llywodraeth Cymru i barhau â'r buddsoddiad ac i barhau â'r cynnydd hwn, ac wrth gwrs, i edrych ar syniadau newydd. Yn y newyddion heddiw, roedd llawer o sylw i amcanion i ddod â gwasanaethau iechyd i ganol trefi a dinasoedd Lloegr i raddau llawer mwy, sy'n gwneud synnwyr perffaith, onid yw, oherwydd mae'r gwasanaethau hynny wedyn yn fwy hygyrch, mae'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac mae hefyd yn helpu gyda heriau denu ymwelwyr. Felly, rwy'n siŵr fod llawer o bethau eraill y gallwn eu gwneud, ond dylem gydnabod y cynnydd a wnaethom a chael bwriad i adeiladu ar hynny, nid lladd arnom ein hunain a lladd ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd, cydnabod y cynnydd a wnaed ond sicrhau ein bod yn adeiladu ar hynny ac nad ydym, mewn unrhyw ffordd, yn gorffwys ar ein rhwyfau.

17:15

Pan fyddwn yn siarad am adfywio canol y dref, fel y mae rhai Aelodau eisoes wedi dweud, nid sôn am frics a morter yn unig a wnawn. Nid yr ambell folard neu'r ambell blanhigyn mewn pot; rydym yn siarad am bobl, rydym yn siarad am gymuned, am y bywyd sy'n llifo drwy ein strydoedd mawr ac sy'n gwneud ein trefi yr hyn ydynt. Ond mae gormod o fusnesau bach annibynnol—y cigyddion, y caffis, y siopau lleol—yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio, nad oes neb yn malio amdanynt, eu bod wedi'u hesgeuluso gan system sy'n ymddangos fel pe bai'n gweithio'n well i'r corfforaethau mawr ar gyrion y dref nag i'r busnesau teuluol bach yng nghanol ein cymunedau.

Ar draws gogledd Cymru, rwy'n clywed yr un stori: mae perchnogion busnesau bach yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo fel pe baent yn ymladd brwydr na allant eu hennill. Ers blynyddoedd, mae awdurdodau lleol wedi rholio'r carped coch allan ar gyfer parciau manwerthu y tu allan i'r dref, gan gymeradwyo datblygiadau sydd, weithiau, yn sugno'r bywyd allan o'r stryd fawr. Mae'r methiant polisi hwnnw'n amlwg wedi gadael creithiau dwfn. Hyd yn oed heddiw, mae llawer o'r manwerthwyr mawr y tu allan i'r dref yn talu llawer llai mewn ardrethi busnes fesul troedfedd sgwâr na'r siopwyr bach sy'n ceisio gwneud bywoliaeth yn y dref. Mae hynny'n annheg, mae'n anghynaliadwy, ac mae Plaid Cymru eisiau unioni hynny. Felly, rydym yn galw am ailgydbwyso'r system ardrethi busnes fel ei bod o'r diwedd yn gweithio i fasnachwyr bach canol y dref, nid yn eu herbyn. Dylai'r lluosydd ffafrio'r siop annibynnol ar y stryd fawr, ac nid y cwmni rhyngwladol oddi ar y ffordd osgoi.

Ac nid yw'n dod i ben yno, wrth gwrs. Yn rhy aml, mae masnachwyr bach yn teimlo fel pe baent yn cael eu trin fel rhyw fath o goeden arian, yn hytrach na phartneriaid go iawn. Rydym yn gweld ffioedd parcio'n codi'n uwch ac yn uwch, gorfodaeth yn mynd yn llymach a hysbysiad cosb weithiau'n cymryd lle'r mat croeso, tra bo parciau manwerthu y tu allan i'r dref yn cynnig parcio am ddim fel safon. Wel, sut y gall canol y dref gystadlu ar delerau mor anghyfartal?

Gadewch inni fod yn onest, mae'n bryd dangos cariad tuag at ein stryd fawr. Rydym i gyd yn gwybod bod y byd wedi newid; mae archfarchnadoedd a siopa ar-lein wedi ail-lunio'r ffordd y gwariwn ein harian, ond nid yw hynny'n golygu ei bod ar ben ar y stryd fawr—dim o'r fath. Edrychwch ar drefi fel Caernarfon a Chonwy a'r Wyddgrug a Phrestatyn—llefydd sydd wedi ailddyfeisio eu hunain drwy gynnig rhywbeth unigryw, profiad, oherwydd dyna beth yw canol y dref heddiw. Mae'n ymwneud â chysylltiad, nid traul yn unig; dyma lle byddwch chi'n taro ar ffrind, lle byddwch chi'n galw i mewn i siop am rywbeth sydd ei angen arnoch, yn aros am goffi neu'n ymweld â siop drin gwallt, cyfreithiwr neu fferyllfa. Y busnesau hyn sy'n seiliedig ar wasanaethau a busnesau phroffesiynol ac sy'n aml yn cael eu hanwybyddu yw curiad calon canol y dref. Ac ychwanegwch at hynny y busnesau creadigol a chrefftwyr sy'n codi o'u cwmpas wedyn—yr orielau, y delis, y becws, y siopau crefftau—ac yn sydyn, rydych chi'n gweld y potensial: efallai y bydd pobl yn dod i'r dref i gael un peth, ond byddant yn aros am y profiad. Mae torri gwallt yn arwain at goffi, yn arwain at brynu rhywbeth mewn siop leol, a dyna gylch rhinweddol canol tref ffyniannus.

Ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn digwydd drwy ddamwain; mae angen buddsoddiad, mae angen gofal, mae angen cariad. Mae angen ardrethi busnes tecach, polisïau parcio doethach, gwell cysylltiadau trafnidiaeth lleol ac yn anad dim, ymrwymiad o'r newydd gan y Llywodraeth a chynghorau i feithrin yr hyn sy'n gwneud canol ein trefi'n arbennig—eu pobl, eu busnesau a'u hysbryd cymunedol. Oherwydd nid rhan o'r economi leol yn unig yw canol ein trefi, nhw yw'r economi leol. Mae pob stryd fawr yn cefnogi dwsinau, os nad cannoedd o fywoliaethau, a chyda'i gilydd, mae busnesau bach ymhlith cyflogwyr mwyaf Cymru, ond maent yn parhau i fod ymhlith y rhai sy'n cael eu hesgeuluso fwyaf. Felly, gadewch inni newid hynny. Gadewch inni ddechrau dangos y cariad y maent yn ei haeddu i ganol ein trefi a'r bobl sy'n eu cadw'n fyw, oherwydd os gwnawn ni hynny, wel, byddant yn talu nôl i ni, nid mewn punnoedd yn unig, ond mewn balchder, mewn pwrpas ac mewn cymunedau cryfach, hapusach ledled Cymru.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno. Dylem gydnabod bod llawer o'n strydoedd mawr, yn anffodus, wedi dod yn lleoedd digalon iawn yn gyffredinol, fel y mae'r cynnig yn nodi, gyda Chymru â'r ail nifer uchaf o siopau gwag yn y DU. Nid yw'r broblem hon yn gyfyngedig i Gymru wrth gwrs, gyda'r rhan fwyaf o drefi y DU y tu allan i Lundain mewn cyflwr o ddirywiad.

Rhaid inni beidio ag anghofio am bandemig COVID-19, fodd bynnag, y grym mwyaf dinistriol i'n strydoedd mawr o bosib, ac mae stryd fawr Prydain wedi profi dirywiad sylweddol a pharhaus ers i'r pandemig COVID-19 ddechrau yn gynnar yn 2020. Mae'r adferiad wedi bod yn anwastad ac yn anghyflawn a'r mis hwn, gwelwn fod nifer yr ymwelwyr, gwerthiant a niferoedd siopau yn dal i lusgo ar ôl y lefelau cyn 2020, yn anffodus. Mae busnesau'n cau ar y gyfradd gyflymaf ers blynyddoedd. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Cymru bellach sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU, ar ddim ond 70.8 y cant, ac mae anweithgarwch economaidd yn parhau i fod yn uwch nag unman arall ym Mhrydain.

Mae'r rhaglen Balchder Bro fel y'i gelwir wedi methu cyflawni'r newid a addawyd i gymunedau. Felly, gallai £1.5 biliwn ar draws 75 o gymdogaethau ledled y DU swnio'n drawiadol, ond pan fydd y dyfarniad uchaf y gall unrhyw gymuned ei dderbyn yn £20 miliwn dros ddegawd, diferyn bach yn y môr yw hynny. Arian mân ar gyfer basgedi crog a murluniau tra bo'r stryd fawr yn dirywio, yn llawn troseddu ac yn dod yn llefydd mwy annymunol i ymwelwyr, gyda siopau trwsio ffonau symudol, siopau gwerthu fêps a'u harwyddion neon a barbwyr arian parod yn unig yn graddol gymryd lle busnesau traddodiadol. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud Cymru yn un o'r lleoedd mwyaf annymunol i redeg busnes am sawl rheswm.

Un o'r ardaloedd lle mae dirywiad canol y dref yn fwyaf amlwg yw'r Rhyl, yn fy etholaeth i, lle bydd Aelodau Plaid Cymru o'r Senedd yn gorymdeithio drwy'r ward dlotaf yng Nghymru cyn hir, gan ysgogi ymraniadau ymwahanwyr ac yn dadlau dros annibyniaeth, a fyddai, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn costio £21 biliwn. Mae'n anhygoel gweld plaid yn honni ei bod yn poeni am adfywio canol y dref gan ddewis gorymdeithio mewn cymuned a fyddai ymhlith y cyntaf i ddioddef o'r dinistr economaidd a fyddai'n cael ei achosi gan chwalu'r Deyrnas Unedig.

17:20

A gadewch inni fod yn glir, nid mudiad lleol sy'n codi o strydoedd y Rhyl yw hwn; mae llawer o'r rheini sy'n cymryd rhan yn cael eu cludo mewn bysiau o rannau eraill o Gymru. Nid ydynt yn dod i'r Rhyl i wrando ar bobl leol, ond i bregethu wrthynt. Maent yn hawlio perchnogaeth gynyddol ar hunaniaeth Gymreig fel pe bai bod yn Gymry'n dibynnu ar gytuno â'u byd-olwg wleidyddol, ac maent yn casáu’r cysylltiadau dwfn a hanesyddol sydd gan gymunedau fel y Rhyl â gogledd-orllewin Lloegr—cysylltiadau sydd wedi dod â swyddi, twristiaeth a chyfleoedd ers cenedlaethau.

Na wnaf, mae'n ddrwg gennyf, na. Fe gawsoch chi bum munud i siarad, Llyr.

Mae angen i drefi fel y Rhyl weld buddsoddiad, ac mae angen eu gwneud yn ddeniadol i fusnesau, gan ddod â'r diwylliant yn ôl i'r strydoedd. Ond nid oes croeso i'r rhai sy'n bwriadu mynd yno i hau ymraniadau siarad ar ran tref nad ydynt yn ei hadnabod nac yn ei deall. Mae trefi fel y Rhyl yn haeddu adfywiad, nid rhethreg. Mae'n haeddu buddsoddiad, nid ideoleg. Ac mae'n haeddu arweinwyr a ddaw â phobl at ei gilydd, nid eu gyrru ar wahân.

Ond mae'n anodd dechrau'r broses o adfywio o dan Lywodraeth Lafur Keir Starmer. Mae Prydain wedi cael ei llusgo i dwll du gwerth £50 biliwn, gyda chodiadau treth Rachel Reeves yn gwaethygu pethau a benthyca enbyd hefyd. Ychwanegwch at hynny system gynllunio sy'n feichus, wedi dyddio ac yn wrth-fenter, ac mae cynghorau lleol yn cael trafferth siapio eu strydoedd mawr oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod diwygio'r rheolau a allai hyrwyddo defnydd cymysg, cartrefi uwchben siopau, mannau diwylliannol a siopau modern.

Dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am fargen newydd i strydoedd mawr Cymru sy'n ymarferol, yn uchelgeisiol ac yn cael ei harwain gan y gymuned. Rydym am ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, gan roi cyfle teg i fasnachwyr oroesi; gwella mynediad at barcio am ddim fel y gall pobl ymweld â chanol eu trefi eto; diwygio'r system gynllunio; sefydlu cronfa trefi glan môr a chronfa trefi marchnad; a gweithio gyda chymuned y Loteri Genedlaethol. Mae hwn yn gynllun wedi'i adeiladu ar rymuso, nid biwrocratiaeth. Mae cymunedau yn crefu am ansawdd, amrywiaeth a balchder, nid 'gwneud y tro' yn unig.

Mae Llafur a Phlaid Cymru ill dwy wedi cael eu cyfle i weithredu, ac mae'r ddwy blaid wedi methu: Llafur drwy hunanfodlonrwydd a rheolaeth ganolog, a Phlaid Cymru drwy gydweithio ac ymatal. Rhyngddynt, maent wedi diberfeddu ein heconomi ac wedi bradychu'r busnesau bach sy'n cadw Cymru i weithio. Felly, gadewch inni droi dalen newydd. Gadewch inni gefnogi'r rhai sy'n credu mewn menter a balchder lleol, yn hytrach na chynlluniau sy'n mynd i unman ac yn cyflawni dim. Gadewch inni roi rhyddid i drefi Cymru ffynnu eto. Diolch yn fawr.

Nid wyf yn gwybod sut i ddilyn hynny. Mae marwolaeth y stryd fawr wedi bod yn destun trafodaeth ers blynyddoedd lawer yn y lle hwn, ac fe'i trafodwyd yn y Senedd yn ôl yn 2019. Chwe blynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i geisio troi'r llanw. Mae angen inni ofyn yn gyntaf sut y gwnaethom gyrraedd yma. Wel, dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans mai landlordiaid absennol, polisïau treth toredig, stoc sydd wedi dyddio a bylchau polisi sy'n gyfrifol am unedau gwag ar y stryd fawr. Ond mae'r atebion hefyd yn glir: gwelededd perchnogaeth, telerau fforddiadwy, adeiladau wedi'u moderneiddio, cymorth ariannol a chydgysylltiad lleol.

Fel y clywsom gan John Griffiths y prynhawn yma, mae gwaith yn cael ei wneud gan rai cynghorau, fel Casnewydd yn fy rhanbarth i, ond mae'r sefyllfa yno wedi bod yr un peth dros y degawd diwethaf. Yn 2015, roedd y gyfradd o unedau gwag yn y ddinas oddeutu 29.3 y cant, a oedd yn ei gwneud yn un o'r perfformwyr gwaethaf yn y DU ar y pryd. Ddegawd yn ddiweddarach, Casnewydd bellach sydd â'r gyfradd uchaf o unedau gwag ar 19 y cant. Er ei fod yn welliant, mae'n amlwg nad yw wedi gwella ar yr un cyflymder â mannau eraill. Nid oes digon wedi'i wneud gan Lywodraethau Llafur olynol i atal y broblem, ac mae angen i hynny newid.

Fe wyddom hefyd fod enghreifftiau o arfer gorau yma yng Nghymru. Rydym wedi gweld siambr fasnach leol Bangor yn ceisio dod â landlordiaid, busnesau lleol a rhanddeiliaid cymunedol at ei gilydd i newid hynny. Maent wedi dyfeisio cynlluniau i ddatblygu unedau bach, hawdd eu rheoli fel mannau delfrydol i siopau annibynnol. Fe wyddom fod angen ailddychmygu ein strategaeth tuag at y stryd fawr, ac y gallwn edrych ar ein cymunedau ein hunain i weld sut y gellid gwneud hyn.

Ond y cwestiwn allweddol yw: beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod arfer gorau yn cael ei weithredu? I mi, mae un o'r atebion yn amlwg: mae angen i'n cymunedau gael llais. Rhaid inni sicrhau bod gan gymunedau lais cryf yn eu hardal leol. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi honni mai cymunedau Cymreig yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf ym Mhrydain, gyda hawl i brynu yn bodoli yn yr Alban a hawl i wneud cais yn Lloegr. Nid oes gennym y fath beth yng Nghymru. Fel rydym wedi sôn, ac fel rydym wedi clywed yma yn y ddadl hon, un o'r prif broblemau sy'n wynebu ein stryd fawr yw landlordiaid absennol, a dau o'r atebion yw gwelededd perchnogaeth a chydgysylltiad lleol. Gallai hawl y gymuned i brynu wneud gwahaniaeth i lawer o strydoedd mawr, gan wella entrepreneuriaeth leol, cefnogi busnesau lleol, gwella economi canol y dref, ymdeimlad o gymuned a chyfoeth mewn dwylo lleol. Mae'r manteision yn enfawr, ac mae angen inni gyflwyno deddfwriaeth i gryfhau'r pwerau hyn i'n trefi, ein cymunedau, a'n pobl.

Ac o'r hyn a glywais yn y ddadl hon heddiw, mae'r alwad yn glir i Ysgrifennydd y Cabinet: rhaid inni roi'r gorau i siarad amdano a'i wneud. Diolch.

17:25

[Anghlywadwy.]—ychydig o lanast, mewn gwirionedd. Dyma'r ddadl yr oeddem wedi bod yn ei chael bum mlynedd yn ôl, 10 mlynedd yn ôl. Mae themâu tebyg yn dod i'r amlwg. Rydym yn chwilio am fwledi hud, rydym eisiau parcio am ddim, rydym eisiau i ardrethi busnes gael eu diddymu. Mae'n olygfa eithaf diffaith, mewn gwirionedd. Fe gynhaliais ymarfer ychydig dros ddwy flynedd a hanner yn ôl gyda chyfres o arbenigwyr ac ymarferwyr, lle gwnaethom eu gorfodi i bob pwrpas i gael eu cau mewn ystafell hyd nes y gallem ddod o hyd i atebion ymarferol. Ac mewn gwirionedd, nid yr hyn a nodwyd yn y ddadl oedd llawer o'r atebion ymarferol hynny.

Mae hon yn broblem gymhleth, ac mae economeg yn ganolog iddi. Mae model busnes canol y dref yr ydym i gyd wedi tyfu i fyny gydag ef wedi marw, a sut y mae dod o hyd i un newydd? Ac mae'n werth cofio nad yw dwy ran o dair o'r eiddo yng nghanol trefi yn gysylltiedig â manwerthu. Felly, er bod y model busnes manwerthu wedi ei amharu'n aruthrol, yn gyntaf gan archfarchnadoedd—yn enfawr, effaith enfawr ar y siopau y mae pawb ohonom yn eu cofio—a hefyd yn amlwg gan siopa ar-lein ac yn allweddol, siopau ar gyrion y dref—. Nawr, yr holl bethau hynny—ac ychwanegwch at y cymysgedd y pandemig COVID, a gaeodd nifer o fusnesau nad ydynt wedi ailagor—dyna lle mae gennych achos sylfaenol y broblem y ceisiwn fynd i'r afael â hi, ac nid wyf wedi clywed llawer gan unrhyw un yn y ddadl hon i fynd i'r afael â'r materion economaidd sylfaenol hynny, heblaw am bethau fel parcio ceir am ddim, y bu trafod arno ers blynyddoedd, ac ychydig iawn o dystiolaeth sydd yna i ddangos ei effeithiolrwydd.

Yr hyn a welwn yw siediau y tu allan i'r dref gyda llawer iawn o dir wedi'i neilltuo i geir sydd heb ei drethu, ac mae gennym sefyllfa anghyfartal iawn. Mae gwneud parcio ceir yng nghanol trefi yn rhad ac am ddim nid yn unig yn amddifadu'r awdurdod lleol o refeniw, nid yw chwaith yn cynnwys y 25 y cant o bobl nad oes ganddynt gar at eu defnydd, ac yn syml iawn, mae'n gwaethygu'r broblem.

Yn deillio o hynny, rydym wedi gweld y ffordd y mae'r system gynllunio a busnesau wedi gwneud eu buddsoddiadau. Mae'n llawer rhatach i fusnes adeiladu sied ar gyrion y dref nag ailddatblygu eiddo yng nghanol y dref. Hefyd, mae gennych gymhelliant yno. Rydym yn gweld yr adeiladwyr tai mawr yn adeiladu ystadau mawr mewn datblygiadau ar gyrion y dref, felly mae pobl yn gyrru iddynt. Mae'r tai a'r cymdogaethau o amgylch canol y dref yn dod yn lleoedd lle mae aelwydydd incwm is yn byw, ac felly mae'r siopau sy'n aros yng nghanol trefi yn tueddu i ddarparu ar eu cyfer nhw, a heb fod yn denu teuluoedd sydd bellach yn byw ar gyrion y dref ac yn mynd i ddatblygiadau manwerthu y tu allan i'r dref.

Unwaith eto, nid yw'r un o'r rhain yn hawdd eu datrys, ond gellir mynd i'r afael â nhw drwy gydgysylltu. Soniodd Peredur Owen Griffiths am waith Dylan Jones-Evans yma. Mae cydgysylltu ymdrechion yn hanfodol. Edrychodd y gwaith a wnaeth yr Athro Karel Williams yn ei adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru, 'Trefi Bach a Materion Mawr' gan Ymchwil Economi Sylfaenol, ar Fangor, Hwlffordd a Phen-y-bont ar Ogwr a sut y gellir gwella rhai o'r pethau hyn.

Mae Bangor, lle treuliais ychydig o amser, yn enghraifft dda iawn o asiantaeth ddigyswllt ar hyn o bryd. Yno, cawsom enghraifft o goleg addysg bellach yn symud o ganol y dref i Barc Menai, datblygiad y tu allan i'r dref, oherwydd bod adran economi Llywodraeth Cymru wedi rhoi adeilad am ddim iddynt. Talodd adran addysg Llywodraeth Cymru iddynt ei uwchraddio, ac yna roedd tîm canol y dref yn crafu eu pennau a'n dweud, 'Pam y maent yn gadael canol y dref?'

Dyna rai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd. Mae angen cynllun hirdymor lle mae'r holl asiantaethau, gan gynnwys addysg bellach, tai, prifysgolion, yr holl wahanol gyrff sector cyhoeddus a'r sector preifat yn dweud, 'Pa adeiladau na fyddant yn cael eu defnyddio yn y degawd nesaf? Sut y gallwn ni gael mwy o dai yng nghanol trefi? Sut y gallwn ni greu cynnig gwahanol sy'n denu pobl i mewn?' Oherwydd mae'r byd fel roeddem yn ei adnabod wedi mynd, ac nid yw diddymu ardrethi busnes neu ddarparu parcio am ddim yn mynd i ddod ag ef yn ôl. Rydym angen tapestri llawer mwy cymhleth na hynny. Rwy'n ofni nad yw ein dadl go arwynebol ar y pethau hyn yn mynd â ni i unman. Mae'r ateb yn llawer mwy cymhleth ac yn cynnwys llawer mwy o bartneriaid mewn ffordd ronynnog nag y mae llawer o'r atebion yn y ddadl hon yn aml yn awgrymu. Diolch. 

17:30

Os caf ddechrau gyda'r pwynt olaf gan Lee Waters, ein hail alwad yn y cynnig—y gyntaf yn y trydydd pwynt—yw gofyn am strategaeth gynhwysfawr ar gyfer adfywio canol trefi, gan nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer canol trefi. Felly, mae'n rhaid i'r dull strategol hwnnw ar gyfer y tymor hir fod yno—gweledigaeth newydd, ailddychmygu'r cyfan. Rwy'n cofio cael trafodaethau cynhyrchiol iawn gyda chi pan oeddech yn Weinidog ar y maes hwn, yn benodol ynghylch lle roedd llifogydd yn rhan o raglen Trawsnewid Trefi, rhywbeth yr hoffwn ei drafod yn ystod y ddadl heddiw, gan fod canol ein trefi, ein strydoedd mawr, yn bwysig, ac mae angen inni ddod o hyd i'r atebion hirdymor hynny.

Fel y gŵyr llawer ohonoch, rwy'n byw ym Mhontypridd. Mae fy swyddfa ym Mhontypridd ar y stryd fawr. Mae'n dref gyda nifer o siopau annibynnol poblogaidd iawn. Mae ein marchnad yn llawer llai ond yn dal i ffynnu. Mae llawer ohonynt wedi ennill gwobrau hefyd. Yn y mis diwethaf, mae Tipsy Owl wedi ennill gwobr y 'bar gorau yng Nghymru' yng Ngwobrau Lletygarwch Cymru. Enillodd Manjeera Indian Street Food deitl y 'bwyd stryd gorau yng Nghymru' yng Ngwobrau Bwyd Cymru, felly mae'n bendant yn werth ymweld.

Ond mae canol y dref yn ei chael hi'n anodd am gynifer o resymau gwahanol, fel rydym eisoes wedi'i glywed: mae siopau wedi'u bordio yn gyffredin, mae'r banciau'n wag, ac yn y blaen. Mae nifer yr ymwelwyr yn sylweddol is nag yr arferai fod, ar wahân, wrth gwrs, i pan fydd gennych bethau fel yr Eisteddfod Genedlaethol yno. Ond hyd yn oed bryd hynny gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, dangoswyd pa mor bwysig oedd cael cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol, a'r gwahaniaeth y gwnaeth trenau mynych a dibynadwy, a sut y gwnaeth y traffig lifo mor gyflym drwy Bontypridd yn yr wythnos honno, pan oedd pobl wedi poeni cymaint fel arall.

Fel y soniais, yr her ychwanegol mewn trefi fel Pontypridd sy'n cael llifogydd yn aml yw sut y maent yn gwneud eu hunain yn wydn. Mae Stryd y Felin ym Mhontypridd yn enghraifft a nodir yn aml gan Lywodraeth Cymru wrth sôn am un siop goffi a ailagorodd yn fuan ar ôl storm Bert y llynedd o ganlyniad i fuddsoddiad. Ond roedd llawer o fusnesau eraill yn wag yn llawer hirach. Nid yw'r ffaith na chafodd un busnes ei effeithio mor wael gan y llifogydd hynny'n golygu bod y sefyllfa wedi'i datrys.

Y rhwystredigaeth i mi yn aml yw y gallai fod grantiau ar gael i fusnesau unigol, ond nid ydym yn gweld dull tref gyfan ar waith, a sut y daw pob busnes yn wydn. Fel y dywedodd un busnes wrthyf, 'Gallaf gael llifddorau, mesurau atal llifogydd yn fy musnes, ond oni bai bod gan yr eiddo drws nesaf i mi y pethau hynny hefyd, neu'r un ar yr ochr arall, byddaf yn dal i gael difrod, ac mewn gwirionedd, bydd y dŵr yn cael ei gau i mewn yn fy siop i.' Felly, mae angen inni feddwl am y gwydnwch hwnnw a meddwl ai'r arian a wariwn yw'r ffordd orau. Ond mae rheolau a rheoliadau yn ein hatal ar hyn o bryd rhag gweithredu dull tref gyfan.

Yr hyn rwyf am ei ofyn, fel rhan o'r broses o fwrw ymlaen â'r gwaith hwn a sicrhau dyfodol i ganol ein trefi, yw'r angen i edrych yn gyfannol ar drefi a fydd yn wynebu llifogydd yn rheolaidd ac edrych ar y ffordd orau o gefnogi'r busnesau a'r rhai sydd eisiau datblygu cartrefi, ac ati, yn y trefi hyn, fel y gallant aros ar agor. Hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb sut y caiff hynny ei adlewyrchu.

Yn amlwg, mae gennym gronfa Balchder Bro, y £214 miliwn. Sut y mae honno'n mynd i helpu trefi fel Pontypridd? Rwyf hefyd wedi bod yn cynnal arolygon yn Aberdâr, ac mae'n wirioneddol ddigalon clywed gan y siopau yno, pan ofynnais y cwestiwn, 'Sut rydych chi'n gweld y dyfodol i fusnesau bach?', mai dim ond 3.6 y cant sy'n teimlo'n wirioneddol optimistaidd. Roedd y rhan fwyaf yn credu y bydd yn ddyfodol gwael, gweddol, neu'n ddim dyfodol o gwbl. Felly, mae angen inni weithio gyda chanol ein trefi i ddod o hyd i atebion.

Do, fe gododd ardrethi busnes, ond cododd landlordiaid absennol a diffyg gwaith cynnal a chadw ar adeiladau yn aml hefyd. Yn aml, nid yw pobl yn gwybod sut i gysylltu â landlordiaid, nid ydynt yn cael ymateb, ac maent mewn adeiladau sy'n anniogel, ac mae hynny nid yn unig yn creu safleoedd hyll, ond safleoedd peryglus yng nghanol ein trefi. O ran perchnogaeth leol a'r hawl i brynu, mae angen inni sicrhau bod hyn yn rhywbeth yr eir i'r afael ag ef.

Mae dadleuon yn codi'n rhy aml; mae angen inni weld camau gweithredu ar hyn, fel y gallwn sicrhau, ie, dyfodol i ganol ein trefi a’r stryd fawr, ond dyfodol newydd wedi'i ailddychmygu sy’n gynaliadwy ac sy'n eu helpu i fod yn wydn rhag yr heriau, fel y rhai a achosir gan lifogydd a risgiau uwch gyda newid hinsawdd.

17:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw. Ni fyddaf yn gallu ymateb i'r holl gyfraniadau, ond credaf fod nifer y bobl sydd wedi cyfrannu heddiw yn dangos cymaint y mae pawb ar draws pob plaid yn poeni am ganol ein trefi.

Nid unedau economaidd ar daenlen yn unig yw canol ein trefi, ond calon ein cymunedau. Dyma ble mae storïau'n cael eu rhannu, lle mae busnesau bach yn cymryd eu camau cyntaf, a lle mae balchder lleol yn byw ac yn anadlu. Ond gadewch inni fod yn onest, serch hynny, mae'r heriau'n real. Gwyddom beth ydynt, ac mae llawer o bobl wedi dweud hynny eto heddiw. Ond nid yn unig fod y data'n dweud hynny, mae Mrs Jones yn Abertyleri yn teithio milltiroedd am wasanaeth bancio sylfaenol, neu bobl ifanc ym Mangor yn edrych ar siopau â'u ffenestri wedi'u bordio ac yn meddwl tybed a oes dyfodol yno. Ond dyma'r gwahaniaeth: nid gwasgu ein dwylo mewn anobaith a wnawn, rydym yn gweithredu.

Drwy Trawsnewid Trefi, rydym wedi darparu mwy na £100 miliwn ers 2022, gyda £57 miliwn arall ar y ffordd. Mae hwnnw'n gyllid sydd eisoes yn creu mannau defnydd cymysg, seilwaith gwyrdd, a chysylltiadau teithio llesol, gan adfywio ein strydoedd mawr. Rydym wedi sefydlu'r gronfa orfodi ym maes eiddo gwag, gan helpu cynghorau i ddod ag adeiladau sydd wedi bod yn wag ers tro yn ôl i ddefnydd, gan droi rhwymedigaethau yn asedau lleol. Cyn bo hir, byddaf yn cyhoeddi ein llawlyfr eiddo gwag newydd, canllaw ymarferol a wnaed yng Nghymru i helpu cymunedau i reoli eu gofodau eu hunain.

Rydym wedi ymateb i gau banciau drwy gynnull ail ddigwyddiad Bancio yng Nghymunedau Cymru a chefnogi'r broses o agor hybiau bancio, gydag 11 bellach ar agor. Mark.

Tybed pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ganol trefi ym mis Ionawr 2024, a wnaeth gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru, y derbyniwyd llawer ohonynt, ac a oedd yn cynnwys adroddiadau ar ymweliadau â'r Wyddgrug, Wrecsam ac Abertawe.

17:40

Diolch, Mark. Yn amlwg, fel rydym wedi'i drafod, mae llawer o ymchwil a llawer o wybodaeth wedi dod o bwyllgorau'r Senedd ac eraill mewn perthynas â hyn, ac mae'n rhywbeth y mae pobl yn poeni'n fawr amdano. Byddaf yn dod at rai o'r pethau rydym yn eu gwneud. Ond o ran ein hybiau bancio, mae gennym 11 ar agor bellach, gan gynnwys yn Abertyleri, a dwy arall ar y ffordd. Mae'r hybiau hyn yn helpu i adfer mynediad at arian parod a gwasanaethau bancio, yn enwedig i bobl hŷn a'r rhai mewn ardaloedd gwledig.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod ganddynt gynlluniau i sicrhau bod 350 o hybiau bancio yn agor erbyn diwedd tymor Senedd y DU. Rydym wedi gweld 380 o fanciau'n cau yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Felly, nid yw'n agos at ddigon. A wnewch chi siarad â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU i weld a allwn gynyddu'r nifer hwnnw a chael mwy o hybiau bancio yng Nghymru?

Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n bendant angen i ni ei weld, ac rydym yn awyddus i'w weld. Fel y dywedais, rydym yn gweld y rheini'n agor, sy'n wirioneddol bwysig, fel y dywedais, i bobl hŷn a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.

Rydym yn nodi rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU a'r buddsoddiad y mae'n ei sicrhau i Gymru. Fodd bynnag, rydym bob amser wedi nodi'n glir y dylid diddymu pwerau cymorth ariannol ac nid yw ein safbwynt ar hyn wedi newid. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y cyllid yn ategu yn hytrach nag yn dyblygu ein rhaglenni ein hunain.

Rydym hefyd yn cwblhau trefniadau ar gyfer adfer cyllid ôl-UE, a fydd yn golygu buddsoddiad o dros £500 miliwn yng Nghymru, ac yn hollbwysig, pwerau gwneud penderfyniadau'n cael eu rhoi yn ôl, yn gywir ddigon, i Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw un yn deall cymuned yn well na'r bobl sy'n byw yno. Dyna pam y mae'n rhaid i awdurdodau lleol fod wrth wraidd y gwaith o lunio a chyflawni'r rhaglen.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi canol ein trefi drwy ddull cydgysylltiedig, hirdymor sy'n seiliedig ar leoedd, gan fynd i'r afael, fel y dywed Lee Waters, â'r mater hynod gymhleth hwn. Mewn ymateb i'r heriau hyn ac yn unol â galwad y cynnig am gamau gweithredu, hoffwn dynnu sylw at y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi canol ein trefi a'r sector manwerthu.

Rydym yn cyflawni'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun gweithredu manwerthu, sy'n canolbwyntio ar bobl, lle a gwydnwch—gan fynd i'r afael â throseddu, sgiliau a newid technolegol. Mae'r fforwm manwerthu yn enghraifft gref o bartneriaeth gymdeithasol yn gweithio'n effeithiol gyda'r sector preifat yng Nghymru, y bartneriaeth y soniodd John Griffiths amdani.

Rydym yn parhau i ddarparu cymorth sylweddol drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi—£335 miliwn eleni, gan gynnwys £78 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch—ac mae hyn yn adeiladu ar £1 biliwn o ryddhad ers 2020. Rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i leihau ardrethi ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig, gan gydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu busnesau brics a mortar, ac i ailgydbwyso'r system o'u plaid.

Rydym wedi ymgorffori egwyddorion 'canol y dref yn gyntaf' yn ein fframweithiau cynllunio cenedlaethol, fel y dywed Lee Waters. Rhaid i ganol trefi fod yn fan cychwyn ar gyfer penderfyniadau ynghylch lleoliad gwasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus. Mae colegau—a chlywsom gynlluniau yng Nghasnewydd gan John Griffiths, gyda Choleg Gwent—canolfannau iechyd a gwasanaethau eraill yn cael eu lleoli'n fwyfwy aml yng nghanol trefi, gan hybu nifer yr ymwelwyr a chefnogi busnesau lleol, gan gynnwys ar stryd fawr Bangor.

Fe wnaethom gyhoeddi datganiad sefyllfa ar ganol trefi, sy'n nodi ein fframwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu, a hoffwn ddiolch i Lee Waters am ei holl waith yn y maes hwn. Mae angen ymatebion traws-sector cydgysylltiedig er mwyn mynd i'r afael â dirywiad y sector manwerthu, newid yn arferion defnyddwyr a cholli gwasanaethau allweddol. Ac rydym wedi sefydlu bwrdd trosolwg i geisio sicrhau bod y camau gweithredu'n cael eu cyflawni, gan gynnwys gwella nifer yr ymwelwyr, addasu adeiladau gwag at ddibenion gwahanol a chefnogi economïau lleol.

Rydym wedi clywed gan Heledd Fychan am y busnesau sydd wedi ennill gwobrau ym Mhontypridd. Rwy'n credu bod Pontypridd yn enghraifft arall lle mae'r sector cyhoeddus wedi dod yn ôl i ganol y dref drwy'r cyngor—Rhondda Cynon Taf—a Trafnidiaeth Cymru. Rydym hefyd wedi sefydlu comisiwn asedau cymunedol mewn partneriaeth ag Ystadau Cymru i archwilio modelau arloesol o berchnogaeth leol a gwella systemau trosglwyddo asedau cymunedol. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith paratoi ar gyflwyno hawl y gymuned i brynu, ond bydd yn cael ei lywio gan y comisiwn hwnnw, a bydd y comisiwn yn cyflwyno ei argymhellion y mis nesaf.

Mae dros £1.15 miliwn mewn cyllid refeniw Trawsnewid Trefi wedi cefnogi datblygiad cynlluniau creu lleoedd ledled Cymru, a hyd yn hyn, mae 36 o gynlluniau wedi'u cefnogi, gyda rhagor yn cael eu datblygu. Ond mae'r buddsoddiad yn ymwneud â mwy na pholisi yn unig, mae a wnelo â lleoedd go iawn a phobl go iawn. Fel y soniodd Llyr Gruffydd—y busnesau anhygoel yr wyf wedi dod ar eu traws ac wedi ymweld â nhw o'r gogledd i'r de, o'r dwyrain i'r gorllewin, ac rwy'n siŵr fod llawer o bobl eraill wedi ymweld â nhw hefyd. Er enghraifft, gyda Gareth Davies, ymwelais â Marchnad y Frenhines yn y Rhyl gydag arweinydd Cyngor Sir Dinbych, Jason McLellan, ac eraill, cynllun sydd wedi cael £7.3 miliwn mewn cyllid Trawsnewid Trefi, ac sy'n ffynnu'n dda iawn hefyd. Ac o dan arweinyddiaeth Cyngor Dinas Casnewydd dan arweiniad Llafur gyda Dimitri Batrouni, rydym wedi gweld bod ffigurau diweddar yng Nghasnewydd wedi dangos bod mwy nag 83 y cant o safleoedd bellach wedi'u meddiannu a bod nifer y busnesau annibynnol wedi codi i 70 y cant.

Yr wythnos diwethaf, ymwelais â Venue Cymru yn Llandudno a gweld â fy llygaid fy hun yr egni a'r uchelgais y tu ôl i brosiect Dyfodol Venue Cymru. Fel y lleoliad celfyddydau mwyaf ond un yng Nghymru, mae'n chwarae rhan hanfodol ym mywyd diwylliannol ac economaidd y gogledd, a dyna pam rwy'n falch ein bod yn cefnogi ei drawsnewidiad gyda £2 filiwn i'n rhaglen Trawsnewid Trefi, gan adeiladu ar fwy na £0.5 miliwn a ddarparwyd eisoes ar gyfer gwaith uwchraddio brys.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n sylweddoli fy mod yn prysur agosáu—

17:45

—at ddiwedd fy amser. Mae’n ddrwg gennyf.

Felly, mae'r heriau'n anodd, ond rydym yn profi beth sy'n bosib pan fydd llywodraeth ar bob lefel yn gweithio gyda busnesau a chymunedau. Felly, gyda'n gilydd, rydym yn dod â balchder, pwrpas a ffyniant yn ôl i galon ein trefi. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn gwerthfawrogi cyfraniadau'r holl Aelodau i'r ddadl hon. Er i Lee Waters ddweud efallai nad dyma'r ddadl orau y mae wedi'i chlywed, rwy'n credu bod rhai cyfraniadau gwerthfawr wedi'u gwneud drwyddi draw. Mwynheais yn arbennig y cyfraniadau gan y Ceidwadwyr. Hynny yw, cawsom gyhuddiad fod pobl yn dod i'r Rhyl i bregethu wrthynt, ond wrth gwrs, pan wnaethom geisio ymyrryd, nid oedd hynny'n mynd i ddigwydd.

A ydych chi'n rhannu fy siom ynghylch y sylwadau braidd yn nawddoglyd gan yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd tuag at y rali annibyniaeth a fydd yn cael ei chynnal yn y Rhyl ddydd Sadwrn—mae'r orymdaith yn dechrau am 1 p.m., gyda llaw—gan y bydd yr un digwyddiad hwnnw, a fydd yn dod â phedair, pump, chwech, saith mil o ymwelwyr i ganol tref y Rhyl, yn gwneud mwy i fusnesau lleol mewn un diwrnod nag y mae'r Aelod dros Ddyffryn Clwyd wedi'i wneud mewn pum mlynedd?

Byddech yn credu y byddai cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn rhywbeth y byddai'r Ceidwadwyr ei eisiau, ond os edrychwch ar y cynnig y maent wedi'i gyflwyno, credaf ei bod yn sefyllfa lle maent wedi agor y cwpwrdd ar y trydydd llawr neu ble bynnag y maent yn yr adeilad hwn, wedi tynnu hen ddogfen allan, wedi chwythu'r llwch oddi arni, ac wedi dweud, 'Ie, mae hon yn ddigon da.' Dim byd newydd o gwbl yn y cyfraniadau.

Ac fe ddof at Joel, gan fod rhan arbennig o ddiddorol yn ei gyfraniad. Yn gyntaf, yn seiliedig ar ei gyfraniad, rwy'n credu bod safbwynt y Ceidwadwyr yn eithaf clir. Maent o blaid busnesau bach oni bai bod hynny'n effeithio ar fusnesau mwy, ac wrth gwrs, maent yn gwbl gyfforddus ag economi echdynnol. Joel, fe ofynnoch chi'r cwestiwn, ac wrth gwrs, fe geisiais i wneud ymyriad, ac nid oeddech eisiau gwybod: 'Sut y daethoch chi i'r casgliad fod problem perchnogaeth ar y stryd fawr?' Wel, yn gyntaf, fe dynnaf sylw at enghraifft leol: Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r rhan fwyaf o'r dref—bydd Tom Giffard yn gwybod—yn eiddo i un unigolyn. Nid yw hynny'n iach i economi leol.

Ac rwyf wedi mynd gam ymhellach ar eich cyfer, Joel. Rwyf wedi edrych ar YouTube—i'w gwneud mor hawdd â phosib i chi: Bloomberg Originals, How Private Equity Ate Britain. Derbynnir yn gyffredinol nawr gan economegwyr fod rheolwyr asedau yn amddifadu ein strydoedd mawr o fuddsoddiad, gan dynnu elw o'n heconomïau lleol. Felly, nid yw hyn yn rhywbeth newydd. Nid yw'n rhywbeth newydd, mae'n rhywbeth a dderbynnir yn eang. Felly, rwy'n falch ei fod wedi darllen strategaeth yr economi, ond hoffwn ei gyfeirio hefyd at y llyfryddiaeth yn y cefn, gan fod llawer yno y credaf y byddai'n fuddiol iawn i Joel ei gynnwys yn ei gyfraniadau yn y dyfodol.

Soniodd Heledd, wrth gwrs—

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Nid oes unrhyw un yn gadael imi ymyrryd.

Rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud am fusnesau mawr ac ati, ond byddai fy etholwyr a'ch etholwyr chi yn torri eu calonnau pe baem yn colli Marks & Spencer o ganol Abertawe.

17:50

Rydym yn sicrhau chwarae teg, Mike, a'r gwir amdani yw eu bod yn gadael y stryd fawr fel mae pethau nawr, gan nad oes strategaeth gydlynus ar waith i adfywio'r stryd fawr. Mewn eiliad fe ddof at rai o'r polisïau y credaf y byddent yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth, ond roeddwn eisiau tynnu sylw at gyfraniad a wnaeth Heledd, sef ei bod weithiau'n anodd iawn cael gafael ar landlordiaid. Gallaf ddweud, yn fy swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, na allaf gael ymateb gan y landlord mewn perthynas â'r swyddfa, ac rwy'n Aelod o'r Senedd. Gallaf gael ymateb ganddynt, serch hynny, pan fyddant yn chwilio am eu rhent. Ac yn gyflym iawn, byddant yn bygwth anfon y beilïaid os nad ydym yn talu'r rhent—[Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd.

Hoffwn glywed cyfraniad yr Aelod sy'n cloi'r ddadl, ac felly gofynnaf i'r Aelodau ar feinciau'r wrthblaid adael iddo wneud hynny, er mwyn imi allu ei glywed.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hyn yn berthnasol i'r cyfraniad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y strategaeth eiddo gwag. Nawr, gallaf gefnogi strategaeth eiddo gwag, ond os yw hynny'n golygu y byddwn yn sybsideiddio buddsoddiadau preifat gan bobl nad oes ganddynt unrhyw fuddiant neu nad ydynt yn poeni am ein strydoedd mawr, yna credaf fod hynny'n rhywbeth na ddylem ei gefnogi. Mewn gwirionedd, rwy'n credu y dylem ofyn y cwestiwn i ni'n hunain: beth yw'r defnydd gorau o arian trethdalwyr o ran adfywio'r stryd fawr? Ni chredaf mai sybsideiddio buddsoddiadau preifat unigolion yw hynny. Rwy'n credu y byddai'n llawer gwell pe bai awdurdodau lleol yn ei wario ar brynu'r eiddo hwn, yn ei osod ar rent eu hunain ac yn cael arian o hynny eu hunain, fel ein bod wedyn yn sicrhau bod y proffidioldeb yn fater cyhoeddus ac nid yn fater preifat yn unig.

Nawr, roedd Llyr Gruffydd yn llygad ei le yn tynnu sylw at ddatblygu y tu allan i ganol y dref. Gan ddefnyddio Pen-y-bont ar Ogwr fel enghraifft eto, gallwch gysylltu dirywiad y stryd fawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr â'r adeg yr agorodd McArthurGlen. Mae honno'n ffaith a dderbynnir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond eto, rydym yn dal i gael yr un sgyrsiau am ei gwneud yn haws i bobl fynd yn eu ceir i'r canolfannau siopa hyn y tu allan i'r dref, a'i gwneud yn rhatach i fusnesau, pan wyddom mai dyna sy'n lladd ein strydoedd mawr. Felly, mae angen inni ailgydbwyso'r mater yn hynny o beth. Nid ydym wedi gwneud hynny, ac mae gwir angen inni wneud hynny. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am ardrethi busnes, eu gostwng, neu eu cadw, gyda chyfraddau ffafriol ar gyfer manwerthu. Credaf y byddai'n well dechrau gyda lletygarwch mewn gwirionedd. Mae digon o adroddiadau sy'n dangos, os ydych chi'n bywiogi'r sector lletygarwch, fod hynny'n cynyddu nifer yr ymwelwyr, sydd wedyn yn arwain at fwy o ymwelwyr â siopau—gwnewch ddiwrnod ohoni, gwnewch brofiad i bobl. Byddant yn dod i ganol y trefi. Mae pawb yn elwa.

Ond yr hyn rwy'n eithaf siomedig na chlywais amdano yw rhai o'r pethau rydym wedi'u clywed drwy gydol tymor diwethaf y Senedd ac ynghynt: bancio. Cododd Sioned Williams fancio fel un o'r problemau mwyaf. Rydym yn dal i aros am Fanc Cambria. Beth yw'r oedi gyda Banc Cambria? Mae hyn yn rhywbeth a fyddai o gymorth mawr, nid yn unig o ran sicrhau bod canghennau banc ar ein strydoedd mawr, ond hefyd er mwyn cadw rhywfaint o'r elw hwnnw yn ein cymunedau lleol, gan sicrhau bod y buddsoddiadau hynny'n cael eu gwneud ar lefel Gymreig mewn cyd-destun Cymreig. Felly, rwy'n siomedig na chlywsom am unrhyw gynnydd ar Fanc Cambria. Rwy'n gobeithio y gwelwn rywbeth yn y dyfodol agos, gan fod gwir angen i'n cymunedau weld hynny'n cael ei wireddu.

Yr hawl i brynu: unwaith eto, rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais—rydym ymhell ar ei hôl hi ar hyn. Mae hyn eisoes ar waith yn yr Alban. Mae Lloegr eisoes yn ei ddatblygu. Y tro diwethaf imi glywed gan y Llywodraeth ynglŷn â hyn, roedd ymgynghoriad arall i weld a oeddem yn mynd i ddilyn llwybr yr hawl i brynu ai peidio. Rydym wedi cael digon o ymgynghoriadau, mae gennym ddigon o dystiolaeth, mae angen inni fwrw ymlaen â'r peth nawr. Mae gwir angen inni fwrw ymlaen ag ef. Os nad ydym yn mynd i'w wneud, yna unwaith eto, byddwn yn y cylch dieflig hwn lle rydym yn gwneud y buddsoddiadau hyn i endidau preifat, ac ni fyddwn yn gweld unrhyw enillion i'n cymunedau.

Trosi eiddo masnachol yn eiddo preswyl: diddorol iawn. Roedd John yn llygad ei le i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith sy'n mynd rhagddo yng Nghasnewydd. Byddem hefyd yn tynnu sylw at Lanelli, lle maent wedi gwneud rhywfaint o hyn, yn ogystal â Chaernarfon, ac mae rhywfaint o waith yn mynd rhagddo nawr ym Mangor. Mae'n syml. Mae'n ymwneud ag edrych ar rai o'r unedau gwag, yn enwedig y rhannau uwchben yr unedau hynny, a'u troi'n fflatiau un ystafell wely, dwy ystafell wely. Gwyddom fod gennym brinder tai yn yr ardaloedd hynny. Rydych chi'n lladd dau aderyn ag un garreg. Rydych chi'n datrys y problemau tai ac rydych chi'n cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol trefi. Rwy'n defnyddio'r gymhariaeth â Friends drwy'r amser. Y rheswm pam y mae'r siop goffi y maent i gyd yn cyfarfod ynddi, Central Perk, mor llwyddiannus yw eu bod yn byw uwch ei phen, ac maent yn byw gerllaw, ac maent yn cyfarfod yno fel canolbwynt. Mae gan y siop goffi honno nifer o bobl yn pasio heibio. Mae ganddi'r cwsmeriaid hynny yno'n barod. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn ei gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol drosi eiddo masnachol yn eiddo preswyl, lle bo hynny'n briodol. Ni fydd bob amser yn briodol, ond os gallwn wneud hynny, rwy'n credu y byddai'n gwneud llawer i gael cwsmeriaid yno'n barod.

Soniodd Lee Waters am yr angen strategol i edrych ar hyn mewn ffordd ronynnog. Rydym wedi clywed, er enghraifft, unwaith eto gan John, am golegau'n dod i ganol tref Casnewydd. Mae gennym enghraifft o hyn yn digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn sefydlu eu prif gampws yng nghanol y dref. Bydd pethau felly'n mynd yn bell i adfywio ein stryd fawr. Mae a wnelo hyn oll â gwneud strydoedd mawr yn ganolbwynt i'n cymunedau unwaith eto, gan roi rheswm i bobl ddod i ganol ein trefi, rhoi rheswm iddynt siopa yng nghanol y trefi hynny unwaith eto. Fy mhryder i yw y byddwn yn cael y ddadl hon dro ar ôl tro, nid yn unig yn y Senedd hon, ond yn y Senedd nesaf. Os na chawn afael go iawn ar hyn, byddwn yn dal i gael yr un sgwrs mewn 10 mlynedd. Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd gefnogi cynnig Plaid Cymru. Gadewch inni gael y strategaeth gynhwysfawr, strategol honno ar waith, gyda'r holl bartneriaid o amgylch y bwrdd. Gadewch inni fynd i'r afael â hyn, oherwydd, myn Duw, rydym wedi siarad amdano'n ddigon hir.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

Byddwn ni'n pleidleisio ar eitem 7 yn unig heno—dadl Plaid Cymru ar adfywio canol trefi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, roedd 14 yn ymatal a 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - adfywio canol trefi. Cynnig heb ei ddiwygio : O blaid: 9, Yn erbyn: 24, Ymatal: 14

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr ar bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - adfywio canol trefi. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM9010 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi: 

a) bod dadansoddiad gan Gonsortiwm Manwerthwyr Cymru yn 2023 wedi dangos bod gan Gymru’r ail nifer uchaf o siopau gwag yn y DU; 

b) bod bron i 100 o fanciau ar y stryd fawr wedi cau yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf; ac 

c) bod rhaglen ‘Balchder Bro’ Llywodraeth y DU yn dyrannu £214 miliwn o gyllid i Gymru gyda’r nod o gryfhau adfywio yn seiliedig ar leoliad. 

2. Yn cefnogi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo canol ein trefi, megis:

a) y camau a amlinellir yn y cynllun gweithredu manwerthu;

b) cynnal y cyllid ar gyfer cynlluniau rhyddhad ardrethi;

c) cynnwys egwyddorion canol tref yn gyntaf mewn dogfennau cynllunio allweddol;

d) cyhoeddi’r datganiad sefyllfa ar ganol trefi;

e) sefydlu’r comisiwn asedau cymunedol;

f) buddsoddi drwy’r rhaglen trawsnewid trefi; a

g) lansio’r gronfa trefi taclus.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. Diolch yn fawr.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - adfywio canol trefi. Cynnig wedi’i ddiwygio : O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Rhoi'r Cam NESA ar Waith: Codi Ymwybyddiaeth o Strôc yng Nghymru

Nesaf mae'r ddadl fer, a symudwn nawr i'r ddadl fer. Galwaf ar Altaf Hussain i siarad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Janet, Mike a James.

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar strôc, rwy'n cael fy atgoffa'n gyson am bwysigrwydd ymyrraeth gynnar i wella'r canlyniadau i oroeswyr strôc. Yn ein cyfarfod diwethaf, clywsom gan oroeswr strôc, Fran, am ei phrofiad o gael strôc. O beidio â chydnabod y ffaith ei bod yn cael strôc i orfod cael ei gŵr i'w gyrru i'r ysbyty, dywedodd Fran wrthym, pe bai wedi adnabod arwyddion a symptomau strôc, y byddai wedi ceisio cymorth yn gynt, wedi cael triniaeth yn gynt ac wedi gwella'n gynt. Fel y mae, mae Fran a chynifer o bobl fel hi yn cael triniaeth yn rhy hwyr ac yn cael eu gadael ag anableddau gydol oes. Dyma pam fod ymgyrchoedd Cam NESA mor hanfodol.

Nawr, ar y pwynt hwn, efallai y bydd rhai ohonoch yn cael déjà vu, oherwydd ddwy flynedd yn ôl, cynhaliodd Huw ddadl fer debyg iawn yn dilyn cyfarfod grŵp trawsbleidiol lle adroddodd Fran ei stori. Fe wnaethom benderfynu ailadrodd stori Fran yr wythnos diwethaf gan nad oes unrhyw beth wedi newid, felly dyma fi heddiw yn erfyn am ymgyrch hysbysebu.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yma'n ddigon hen i gofio'r hysbysebion teledu yn dweud wrthym fod wyneb llipa, yr anallu i godi'r ddwy fraich a lleferydd aneglur yn arwydd ei bod yn bryd deialu 999. Rwy'n dweud 'digon hen i gofio' gan nad yw'r ymgyrchoedd wedi'u cynnal yng Nghymru ers 2018. Yr ochr draw i Glawdd Offa, mae Public Health England wedi parhau i ddangos yr hysbysebion codi ymwybyddiaeth o strôc yn rheolaidd, a dywedodd 91 y cant o oedolion a holwyd yn Lloegr y byddent yn ffonio 999 pe byddent yn gweld symptomau strôc. Diolch i hyn, mae pobl yn cyrraedd yr ysbyty yn gyflym ac yn cael triniaeth yn gyflym. Yn anffodus, yma yng Nghymru, mae oddeutu hanner y bobl sy'n cael strôc yn gwneud eu ffordd eu hunain i'r ysbyty, gan arwain at berygl o oedi a rhwystrau rhag cael triniaethau a allai achub eu bywydau. Os ydym yn cymharu'r amser cyfartalog rhwng dechrau symptomau a chyrraedd yr ysbyty rhyngom ni a'n cymdogion agosaf, ni allai'r canlyniadau fod yn fwy clir. Diolch i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth Public Health England, mae'r rhan fwyaf o gleifion strôc yn cyrraedd yr ysbyty oddeutu pedair awr ar ôl i strôc ddechrau. Yng Nghymru, lle nad ydym wedi gweld ymgyrch Cam NESA ers saith mlynedd, yr amser cyrraedd cyfartalog yw chwe awr a 41 munud. Dyma dystiolaeth glir pam fod ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o'r fath yn hanfodol, tystiolaeth y mae hyd yn oed Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei chydnabod.

Ddwy flynedd yn ôl, argymhellodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y dylem gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o strôc wedi'u targedu ochr yn ochr ag ymgyrch genedlaethol Cam NESA yn eu 'Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion: taith drwy'r llwybr strôc'. Mae'r Gymdeithas Strôc yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i geisio gwneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys y posibilrwydd o wneud cais am gyllid i gefnogi'r gwaith o gynhyrchu a chyflwyno'r ymgyrchoedd hyn. Yn anffodus, nid cyllid yw'r unig rwystr. Ymddengys bod diffyg ewyllys i hyn ddigwydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae swyddogion wedi codi cwestiynau ynghylch yr angen am yr ymgyrch a'i heffeithiolrwydd. Nid oes yr un lefel o graffu wedi bod ar ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus eraill, megis yr ymgyrch ffliw flynyddol, ac eto mae digon o dystiolaeth i ddangos bod ymgyrch Cam NESA yn hynod effeithiol. Ceir cefnogaeth glinigol enfawr ac angen clinigol am ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth yng Nghymru.

Dywedodd un o brif feddygon ymgynghorol strôc y DU am ymgyrch Cam NESA newydd,

'O safbwynt y clinigydd, buaswn yn llwyr gefnogi hyn a'r angen am ffocws newydd. Mae codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol ar gyfer atal, ac mae ymgyflwyno cynnar yn arwain at ymyrraeth amserol. Mae'r dystiolaeth ar gyfer hyn yn helaeth, wrth gwrs.'

Mae'r tirlun wedi newid o ran strôc ers i'r ymgyrch Cam NESA gael ei chynnal ddiwethaf yn 2018, o ran ble rydym arni gyda strôc yng Nghymru yn ogystal â'r argymhellion yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar lif cleifion. Rydym hefyd wedi gweld newidiadau enfawr yn y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at wybodaeth dros y saith mlynedd ddiwethaf. Byddai'n rhaid i ymgyrch Cam NESA newydd dargedu sawl platfform. Mae'n gwbl bosib. Os gallwn gael hysbysebion Trafnidiaeth Cymru ar Amazon Prime, pam na allwn gael ymgyrch Cam NESA cyfrwng Cymraeg ar Disney+ neu Netflix? Mae gennym gyfle nawr i feddwl sut y gallai'r ymgyrch hon weithio i Gymru a phobl Cymru pe baem yn ei hailgynllunio ar eu cyfer nawr ac ar gyfer y dyfodol, ond yn gyntaf, rhaid inni oresgyn y llesgedd yn Llywodraeth Cymru. Mae ymatebion gweinidogol i geisiadau am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o strôc yn tueddu i ddod yn ôl gan ddweud, 'Mae angen inni atal cymaint o bobl rhag cael strôc yn y lle cyntaf.' Rwy'n cytuno bod atal yn allweddol, ond bydd llawer o bobl yn dal i gael strôc. Os ydym yn atal hanner yr holl achosion o strôc rhag digwydd, bydd hynny'n dal i adael bron i 4,000 o bobl yn cael strôc, pwl o isgemia dros dro neu gyflyrau sy'n dynwared symptomau strôc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae pawb yn haeddu'r cyfle gorau posib i oroesi a gwella, sut bynnag y cafodd ei achosi neu ble maent yn byw. Mae ymgyrch Cam NESA yn cefnogi atal, negeseuon drwy addysgu'r cyhoedd am yr arwyddion rhybudd, a all arwain at ganfod yn gynharach a rheoli ffactorau risg sylfaenol. Mae hefyd yn sicrhau triniaeth amserol sy'n lleihau'r tebygolrwydd o strôc arall ac anableddau hirdymor.

Os edrychwn ar ble rydym arni nawr, nid yw'r sefyllfa'n wych. Mae Cymru yn unfed ar hugain o'r 26 gwlad incwm uchel o ran strôc. Mae Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon yn safle 13 o'r 26 gwlad. Pam ein bod ni'n gwneud cymaint yn waeth na'n cymdogion? Ni allwn feio demograffeg y tro hwn. Gallwn dynnu sylw at ddiffyg ymgyrch hysbysebu Cam NESA. Byddai ymgyrch ddwyieithog reolaidd yn codi ymwybyddiaeth dros amser. Os ydym hefyd yn sicrhau bod yr ymgyrchoedd hyn yn rhan o ymrwymiad gan y Llywodraeth i gyfarwyddo byrddau iechyd i flaenoriaethu strôc yn eu cynllun a'u gwaith strategol, yna efallai na fyddai gennym ddegau o filoedd o bobl yn byw gydag effeithiau hirdymor strôc.

Os gallwn wneud hyn yn iawn ar gyfer strôc, un o laddwyr mwyaf Cymru, gallwn efelychu'r hyn sy'n gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni gwelliannau systemig ehangach i'n GIG. Mae strôc yn costio £220 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Amcangyfrifir bod y gost i economi Cymru oddeutu £1.6 biliwn y flwyddyn. Ni allwn fforddio gwneud dim. Nid yn unig y bydd miloedd o bobl yn parhau i farw, ond heb ymyrraeth, gallai'r gost i'r economi godi i £2.8 biliwn erbyn 2035. Mae'n bryd gweithredu—mae'n bryd gweithredu'n gyflym a chymryd y Cam NESA. Diolch yn fawr.

18:05

Diolch, Altaf, a diolch am ddod â'r mater pwysig hwn yma. Mae pob un ohonom yn adnabod rhywun yn ein teuluoedd ein hunain, ffrindiau, lle mae'n gwbl allweddol, pan fyddant yn cael strôc, po gyntaf y cânt driniaeth, y bydd y canlyniad yn llawer gwell i'r unigolyn hwnnw a llai o berygl o gael strôc arall.

Mae gennyf rai pryderon penodol yn fy etholaeth fy hun, oherwydd yn ddiweddar—ac rwy'n sylweddoli mai mater i Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw hwn, ac rwyf wedi'i godi gyda nhw yr wythnos hon—ffoniodd etholwr yn ei 80au hwyr, ac fe wnaeth yr ymatebwyr ffôn bron â cheisio'i gwrth-ddweud pan ddywedodd, 'Rwy'n cael strôc. Mae fy wyneb yn dal yn iawn, ond rwyf yng nghanol cael strôc,' a chadarnhawyd wedyn ei bod wedi cael strôc mewn gwirionedd. Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans wrthi y byddai'n bum awr o leiaf, ac yn ffodus—ni allodd gael gafael ar aelodau o'i theulu ar y pryd—llwyddodd i gyrraedd yno ychydig cyn y pum awr. Mae hynny mor ofnadwy nawr oherwydd, rai blynyddoedd yn ôl, roedd yn arfer bod gennym hysbysebion ar y teledu yn dweud wrthym am weithredu'n gyflym a sut y mae angen y driniaeth hon arnoch ar unwaith, a nawr, nid yw'n edrych yn dda i Gymru pan ddywedir wrth y cleifion eu hunain y bydd yn bum awr fan lleiaf. Beth sydd wedi digwydd i'r rheol aur un awr? Diolch.

18:10

A gaf i ddiolch i Altaf am roi munud i mi yn y ddadl hon, ac efallai'n bwysicach fyth, am godi'r mater hwn eto? Gall unrhyw un gael strôc ar unrhyw adeg. Nid yw ieuenctid cymharol yn ei atal rhag digwydd. Cafodd cymydog yn ei 30au cynnar strôc, ac er ei bod yn edrych fel pe bai wedi gwella'n iawn, mae hi'n blino'n llawer cyflymach na chyn iddi gael strôc.

Hoffwn ganmol y gwaith a wneir mewn grwpiau strôc a diolch i'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y grwpiau hyn. Mae dau grŵp strôc yn Nwyrain Abertawe. Mae un yn cyfarfod yn y Deer's Leap yn Nhreforys a'r llall yn y ganolfan gymunedol leol. Maent yn rhoi cyfle wythnosol i gyfarfod ag eraill sydd wedi cael strôc ac aelodau agos o deuluoedd y bobl sydd wedi cael strôc. Mae grwpiau cymorth strôc yn lle diogel a chefnogol i roi cynnig ar bethau eto, i ddysgu mwy am strôc a hunanofal, ac i feithrin hyder wrth ichi ailadeiladu eich bywyd ar ôl strôc. Pan fyddwch chi'n mynychu, fe welwch fod pobl yn gwella'n dda iawn ac yn parhau â'u bywydau.

Diolch, Altaf, am godi'r mater pwysig hwn. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r rhai sy'n rhedeg ac yn cefnogi'r grwpiau hyn. Rwyf i a'r rhai sy'n eu mynychu yn gwerthfawrogi hynny.

Hoffwn innau hefyd ddiolch i Altaf am gyflwyno'r ddadl bwysig hon gan y gŵyr pob un ohonom y bydd lefelau strôc yn gwaethygu ar draws ein cymdeithas oherwydd yr epidemig o ordewdra sydd i'w weld ledled ein gwlad. Un o'r ffyrdd y gallwn leihau nifer y bobl sy'n cael strôc yn y dyfodol yw drwy wneud pobl yn fwy ffit, gwneud pobl yn iachach, fel na chânt strôc yn y dyfodol. Hoffwn wybod gan Ysgrifennydd y Cabinet pa ymdrechion y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i geisio lleihau gordewdra, yn enwedig ymhlith plant, gan nad ydym eisiau gweld ein plant yn mynd yn ordew, am fod hynny'n golygu y gallant gael strôc yn llawer iau, ac nid yw hynny'n rhywbeth y mae unrhyw un ohonom eisiau ei weld ledled Cymru.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bob blwyddyn, mae strôc yn newid bywydau miloedd o bobl. Mae gweithredu ar symptomau strôc a chael triniaeth yn gyflym yn hanfodol. Gall colli amser arwain at golli celloedd yr ymennydd. Dyna pam mae e mor bwysig bod pawb yng Nghymru yn gwybod sut i adnabod arwyddion a symptomau strôc a ffonio 999 ar unwaith. Strôc yw'r lladdwr mwyaf ond tri yng Nghymru, ond mae hefyd yn un o brif achosion anabledd.

Mae'r ymgyrch FAST, sef 'Cam NESA', fel clywsom ni, yn y Gymraeg, wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o symptomau strôc. Yn dilyn yr ymgyrch olaf, oedd yn 2023, fe ddangosodd gwerthusiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod mwy o bobl yn adnabod yr acronym FAST ac yn deall pwysigrwydd ffonio 999 pan fyddan nhw'n gweld arwyddion strôc.

Heddiw, rydym ni wedi clywed nad oes ymgyrch o'r fath yn bodoli leded y wlad. Fodd bynnag, mae hynny'n anwybyddu'r deunyddiau a'r negeseuon sy'n codi ymwybyddiaeth o symptomau strôc ledled Cymru ar waliau meddygfeydd ac ystafelloedd aros ysbytai, mewn fferyllfeydd cymunedol, ar negeseuon ffôn llawer o feddygfeydd. Mae amryw o bartneriaid wrthi'n ystyried yr holl gyfleoedd i redeg ymgyrch genedlaethol yn gynaliadwy. Yn eu plith, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gymdeithas Strôc a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru. Rwy'n croesawu'r ymdrechion hyn yn fawr; gweithio gyda'n gilydd yw'r ffordd orau o gyflawni hyn.

Ddirprwy Lywydd, mae fy swyddogion yn rhan o'r trafodaethau hyn, ac rwyf wedi gofyn iddynt roi cyngor i mi ynghylch ymarferoldeb ac opsiynau ar gyfer cynnal ymgyrch Cam NESA yma yng Nghymru eto ac i ystyried a all Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth.

Mae strôc yn argyfwng meddygol. Ffonio 999 yw'r llwybr cyflymaf a mwyaf diogel i ofal strôc arbenigol. Cyn gynted ag y byddwch yn deialu 999, byddwch yn siarad â rhywun a fydd yn dechrau proses asesu drwy roi cyngor a all achub bywydau. Pan fo rhywun yr amheuir eu bod wedi cael strôc, neu'r unigolyn sydd gyda nhw, yn ffonio 999, cânt eu blaenoriaethu yn y categori oren newydd. Mae hwn yn cydnabod strôc fel argyfwng meddygol sydd angen y trosglwyddiad ambiwlans cyflymaf posib i'r ysbyty. Mae'r model clinigol newydd, lle mae'r categorïau galwadau newydd yn sicrhau bod galwyr yn cael yr ymateb cywir wedi'i deilwra i'w symptomau, yn rhan bwysig o hyn. Mae llawer iawn o waith hefyd ar y gweill i wella mynediad at wasanaethau strôc ac i wella canlyniadau ac ansawdd bywyd pobl yn dilyn strôc. Caiff hyn ei arwain gan y disgwyliad clir a nodwyd gennym yn ein datganiad ansawdd ar gyfer strôc. Disgwylir i fyrddau iechyd ddefnyddio'r datganiad ansawdd ar gyfer strôc yn sail i gynlluniau a gwasanaethau i'w poblogaethau gyda chymorth gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru a'r rhwydwaith gweithredu ar gyfer strôc.

Ar yr ochr dechnolegol, mae Cymru wedi arwain y ffordd mewn gwirionedd drwy fabwysiadu deallusrwydd artiffisial ar draws pob bwrdd iechyd sydd â chanolfannau strôc. Mae platfform deallusrwydd artiffisial Brainomix yn cyflymu diagnosis a thriniaeth gywir, gan helpu i achub bywydau a gwella canlyniadau. Rydym hefyd yn profi brysbennu drwy fideo cyn cyrraedd yr ysbyty, sy'n caniatáu cyfathrebu amser real rhwng criwiau ambiwlans ac arbenigwyr strôc ysbytai. Mae'r canlyniadau cynnar yn addawol, gan ddangos gwell llif cyfathrebu a gwell mynediad at driniaeth.

Cymru oedd y wlad gyntaf i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a brysbennu drwy fideo cyn cyrraedd yr ysbyty gyda'i gilydd i wella profiad y claf, cyflymder a chywirdeb diagnosis o'r daith ambiwlans. Ein huchelgais yw cysylltu'r llwybr strôc cyfan yn ddigidol. Rhaid inni barhau i hybu'r gwelliannau hyn a mwy, gan sicrhau eu bod yn trosi'n ganlyniadau cadarnhaol i bawb sy'n cael strôc yng Nghymru. Ein nod yw sicrhau bod risg pobl o gael strôc mor isel â phosib, a phan fydd yn digwydd, eu bod yn cael y cyfle gorau i oroesi ac i adfer annibyniaeth cyn gynted â phosib.

Gan edrych ymlaen, byddwn yn cyhoeddi datganiad ansawdd diwygiedig ar gyfer strôc ym mis Ionawr 2026, gan gynnal pwyslais ar fynediad amserol a chyfartal at driniaeth achub bywydau 24/7. Rydym hefyd yn parhau i fod wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau strôc a newid i fodel canolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr—[Torri ar draws.] Iawn.

18:15

Rydych chi'n sôn am fynediad teg, ac yn sôn am fynediad i'r etholwyr yng ngogledd fy sir, gyda'r sefyllfa yn Ysbyty Bronglais lle maent yn sôn am israddio'r gwasanaeth yno a chael gwared ag ef o'r ysbyty—. Rydych chi'n sôn am fynediad teg: sut y mae hynny'n deg i'r bobl sy'n byw yng ngogledd fy etholaeth, yng ngogledd Powys?

Rwy'n siŵr mai'r hyn y mae pob un ohonom eisiau ei weld ar gyfer ein hetholwyr yw'r canlyniadau iechyd gorau posib. Mae'r holl dystiolaeth sydd gennym yn fyd-eang yn dweud wrthym mai'r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy ranbartholi darpariaeth strôc—mae hynny'n berthnasol yng Nghymru fel y mae ym mhob rhan o'r byd. Felly, yn anffodus, mae yna densiwn, ac rwy'n cydnabod hynny, lle gall canolfannau strôc fod ymhellach i ffwrdd o drigolion. Ond mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym—mae'r dystiolaeth glinigol yn dweud wrthym—mai drwy gyflawni yn y model hwnnw, gyda gwasanaethau adsefydlu lleol a gwasanaethau lleol, mai dyna'r ffordd orau o sicrhau bod eich etholwyr chi a minnau'n goroesi strôc yn y ffordd y mae pob un ohonom eisiau ei gweld. Ar ysbyty Bronglais yn benodol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod yn iawn, mae'r bwrdd iechyd yn ystyried ei opsiynau ar hyn o bryd, ac nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud, ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd y penderfyniad hwnnw maes o law.

Ddirprwy Lywydd, i gloi, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i drawsnewid gwasanaethau strôc, ac fel y dywedais wrth yr Aelod, i newid i fodel canolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr. Bydd hyn yn sicrhau bod gan bobl fynediad at y gofal arbenigol gorau posib i drin y strôc uniongyrchol, ac mae'n cael ei gefnogi'n eang gan glinigwyr. Bydd yn helpu i achub bywydau a gwella canlyniadau'n sylweddol.

Bydd Diwrnod Strôc y Byd ar 29 Hydref yn canolbwyntio eleni ar gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau strôc a'r angen i weithredu'n gyflym. Lywydd, mae strôc yn flaenoriaeth, a byddwn yn cynnal ein ffocws ar gyflawni a gweithredu, gan weithio ar y cyd i sicrhau ein bod yn optimeiddio mynediad at driniaeth strôc ac at ofal er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posib i bobl ledled Cymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.

A diolch i Altaf Hussain hefyd. Cyn imi orffen busnes am heddiw, mae croeso i'r ddau ohonoch ddod draw i Grŵp Strôc Castell-nedd Port Talbot yn Llansawel, sydd wedi derbyn Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol hefyd. Mae yn eich rhanbarth chi; mae drws nesaf i chi.

A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.