Y Cyfarfod Llawn
Plenary
15/07/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni gychwyn, dwi'n moyn hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 10 Gorffennaf.
Good afternoon and welcome to this afternoon's Plenary meeting. Before we begin, I wish to inform the Senedd, in accordance with Standing Order 26.75, that the Legislation, (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Act 2025 was given Royal Assent on 10 July.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.
The first item this afternoon will be questions to the First Minister, and the first question is from Natasha Asghar.
1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gwasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys? OQ63017
1. What steps is the Welsh Government taking to improve the non-emergency patient transport service? OQ63017

The Welsh Government is committed to improving access to healthcare through real practical action. On top of the £22 million that we're spending on new vehicles to modernise the Welsh ambulance service's patient transport fleet, we're also putting £2.5 million into the non-emergency service, to help reinforce capacity during evenings and weekends, to help more people to get to their appointments on time.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad at ofal iechyd drwy weithredu ymarferol gwirioneddol. Yn ogystal â'r £22 miliwn yr ydym ni'n ei wario ar gerbydau newydd i foderneiddio fflyd cludo cleifion gwasanaeth ambiwlans Cymru, rydym ni hefyd yn rhoi £2.5 miliwn i'r gwasanaeth achosion nad ydynt yn rhai brys, i helpu i atgyfnerthu capasiti gyda'r nos ac ar benwythnosau, i helpu mwy o bobl i gyrraedd eu hapwyntiadau yn brydlon.
Thanks for your response, First Minister. Care homes, as I’m sure you can appreciate, rely on heavily on the service in getting residents to and from important medical appointments. I’ve been speaking to one care home in South Wales East about this service, which was absolutely essential for them. First Minister, in the last month alone, more than 60 per cent of journeys booked in advance by the care home have either been cancelled on the same day, not turned up at all or have arrived late, resulting in residents missing their appointments. With the care home not having its own transport, they are unable to pick this up when they have indeed been let down. I appreciate that the service may be struggling with demand at the present time. However, it’s becoming a quite frequent occurrence, and residents are missing out on crucial medical attention. There have been occasions where taxis have been provided by the service instead of an ambulance. So, First Minister, will the Welsh Government please look into this matter to ensure that residents aren’t being let down in the future? And will you please set out what contingency plans are indeed in place for health and social care settings like care homes if there are staffing shortfalls or vehicle issues meaning that a planned journey cannot go ahead? Thank you.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Mae cartrefi gofal, fel yr wyf i'n siŵr y gallwch chi ei werthfawrogi, yn dibynnu'n fawr ar y gwasanaeth o ran cael preswylwyr i apwyntiadau meddygol pwysig ac yn ôl. Rwyf i wedi bod yn siarad ag un cartref gofal yn Nwyrain De Cymru am y gwasanaeth hwn, a oedd yn gwbl hanfodol iddyn nhw. Prif Weinidog, yn ystod y mis diwethaf yn unig, mae mwy na 60 y cant o'r teithiau a drefnwyd ymlaen llaw gan y cartref gofal naill ai wedi cael eu canslo ar yr un diwrnod, heb ymddangos o gwbl neu wedi cyrraedd yn hwyr, gan arwain at breswylwyr yn methu eu hapwyntiadau. Gan nad oes gan y cartref gofal ei gludiant ei hun, nid ydyn nhw'n gallu datrys hyn pan fyddan nhw'n cael eu gadael i lawr. Rwy'n sylweddoli efallai fod y gwasanaeth yn cael trafferth gyda'r galw ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n dod yn ddigwyddiad eithaf cyffredin, ac mae trigolion yn methu sylw meddygol hanfodol. Bu achlysuron lle mae'r gwasanaeth wedi darparu tacsis yn hytrach nag ambiwlans. Felly, Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i'r mater hwn i sicrhau nad yw trigolion yn cael eu siomi yn y dyfodol? Ac a wnewch chi nodi os gwelwch yn dda pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fel cartrefi gofal os oes prinderau staff neu broblemau gyda cherbydau sy'n golygu na all taith sydd wedi'i threfnu gael ei chyflawni? Diolch.

Well, thanks very much. And you’re quite right—we’re aware of this, which is why we gave an additional £400,000 to ensure that we can address those kinds of issues. And what we’ve seen, as a result of that additional investment, is a cut in the declined transport requests due to capacity issues by 60 per cent. So, we are heading absolutely in the right direction. I think we’ve got to recognise also that the responsibility goes both ways, though. So, 70,000 journeys were cancelled on the day of travel by patients. Of course, I understand that it is unlikely to be the care homes, but the point is that those people were booked up and, all of a sudden, those slots are not available to be used by care homes. So, it is important, when people take advantage of the services that we give, that they give notice if they intend to cancel. The Welsh ambulance service aims to give patients at least 24 hours’ notice if they can’t fulfil their booking. So, there’s responsibility on all sides here. Clearly, we need to make sure that we get to as many people as possible.
Wel, diolch yn fawr iawn. Ac rydych chi yn llygad eich lle—rydym ni'n ymwybodol o hyn, a dyna pam wnaethom ni roi £400,000 ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r mathau hynny o broblemau. A'r hyn yr ydym ni wedi ei weld, o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw, yw gostyngiad o 60 y cant i'r ceisiadau am gludiant sy'n cael eu gwrthod oherwydd problemau capasiti. Felly, rydym ni'n sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod hefyd bod y cyfrifoldeb yn mynd y ddwy ffordd, fodd bynnag. Felly, cafodd 70,000 o deithiau eu canslo ar y diwrnod teithio gan gleifion. Wrth gwrs, rwy'n deall ei bod hi'n annhebygol mai'r cartrefi gofal yw'r rhain, ond y pwynt yw bod y bobl hynny wedi trefnu eu taith ac, yn sydyn, nid yw'r slotiau hynny ar gael i'w defnyddio gan gartrefi gofal. Felly, mae'n bwysig, pan fydd pobl yn manteisio ar y gwasanaethau yr ydym ni'n eu rhoi, eu bod nhw'n rhoi rhybudd os ydyn nhw'n bwriadu canslo. Nod gwasanaeth ambiwlans Cymru yw rhoi o leiaf 24 awr o rybudd i gleifion os na allan nhw gyflawni eu taith. Felly, ceir cyfrifoldeb ar bob ochr yma. Yn amlwg, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.
The Welsh Government has centralised services in the Grange hospital in Gwent, and this is delivering a far higher level of care than was possible previously, and I think people appreciate the levels of care being provided in the new hospital. However, access to that hospital is difficult for people I represent in Blaenau Gwent. The Welsh Government has, on a number of occasions, given an undertaking that transport will be provided, either through buses or through other means, for people both visiting the hospital for care, or for visiting people receiving care in the hospital. But, five years later, we still do not have the access and the facilities, and the transport required for people to easily access services in the Grange. Would the Welsh Government now be able to give an undertaking that you will look at procuring services, such as a Fflecsi service, to ensure that the people I represent are able to access high levels of care and, also, take care of relatives who are receiving care themselves?
Mae Llywodraeth Cymru wedi canoli gwasanaethau yn ysbyty'r Faenor yng Ngwent ac mae hyn yn darparu lefel lawer uwch o ofal nag oedd yn bosibl gynt, ac rwy'n credu bod pobl yn gwerthfawrogi'r lefelau gofal sy'n cael eu darparu yn yr ysbyty newydd. Fodd bynnag, mae mynediad at yr ysbyty hwnnw yn anodd i bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent. Mae Llywodraeth Cymru, ar sawl achlysur, wedi rhoi ymrwymiad y bydd cludiant yn cael ei ddarparu, naill ai drwy fysiau neu drwy ddulliau eraill, i bobl sy'n ymweld â'r ysbyty i gael gofal, neu ar gyfer ymweld â phobl sy'n derbyn gofal yn yr ysbyty. Ond, bum mlynedd yn ddiweddarach, nid oes gennym ni'r mynediad a'r cyfleusterau, a'r cludiant sydd eu hangen i bobl gael mynediad rhwydd at wasanaethau yn y Faenor. A fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi ymrwymiad nawr y byddwch chi'n edrych ar gaffael gwasanaethau, fel gwasanaeth Fflecsi, i sicrhau bod y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yn gallu cael mynediad at lefelau uchel o ofal a hefyd i ofalu am berthnasau sy'n derbyn gofal eu hunain?

Thanks very much. I think what we should all be interested in is making sure we get the best possible outcomes for people. And if that does mean sometimes having to travel to more specialised services, I think most people in Wales accept that. But I do think what’s important is that we then recognise there are people who find it difficult to get to them, and so we do need to make sure that we step in. I know there’s been a huge amount of work with bus services to make sure that we’re able to give better access to the Grange. That will be a lot easier once we get the bus Bill passed, so that we’ll have a bit more control on where those bus routes go. So, I think that is going to be an important change. But, also, I think it is probably worth pointing out that, because of the additional money we've had from the UK Labour Government, we've been able to say that we are going to deliver now an additional 200,000 out-patient appointments across Wales. But what we recognise is that some people may struggle to get there, which is why we've put this additional money in to support non-emergency transport, particularly at weekends and evenings, when, actually, this additional work will be taking place.
Diolch yn fawr. Rwy'n credu mai'r hyn y dylem ni i gyd fod â diddordeb ynddo yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y canlyniadau gorau posibl i bobl. Ac os yw hynny'n golygu gorfod teithio i wasanaethau mwy arbenigol weithiau, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn derbyn hynny. Ond rwyf i yn credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cydnabod wedyn bod pobl sy'n ei chael hi'n anodd eu cyrraedd nhw, ac felly mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n camu i mewn. Rwy'n gwybod y bu llawer iawn o waith gyda gwasanaethau bysiau i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhoi gwell mynediad at y Faenor. Bydd hynny'n llawer haws ar ôl i ni basio'r Bil bysiau, fel y bydd gennym ni ychydig mwy o reolaeth ar le mae'r llwybrau bysiau hynny yn mynd. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n mynd i fod yn newid pwysig. Ond, hefyd, rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth nodi, oherwydd yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth Lafur y DU, ein bod ni wedi gallu dweud ein bod ni'n mynd i ddarparu 200,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol ledled Cymru nawr. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei gydnabod yw y gallai rhai pobl gael trafferth yn cyrraedd yno, a dyna pam rydym ni wedi cyfrannu'r arian ychwanegol hwn i gefnogi cludiant ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys, yn enwedig ar benwythnosau a fin nos, pan fydd y gwaith ychwanegol hwn yn digwydd mewn gwirionedd.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod y digwyddiad yn Wrecsam eleni yn gynaliadwy yn amgylcheddol? OQ63020
2. How is the Welsh Government working with the National Eisteddfod to ensure that this year's event in Wrexham is environmentally sustainable? OQ63020

Thanks very much. We're all looking forward to the Eisteddfod in Wrexham and we as a Government are very proud to be backing it, not just as a celebration of Welsh culture, but also as a model for a greener future. Now, the Welsh Government has invested, as you know, in new trains. We've spent £800 million on a rail upgrade, and we’re working closely with the Eisteddfod and local partners to make sure that they put on additional rail services to promote greener travel.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn Wrecsam ac rydym ni fel Llywodraeth yn falch iawn o fod yn ei chefnogi, nid yn unig fel dathliad o ddiwylliant Cymru, ond hefyd fel model ar gyfer dyfodol gwyrddach. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi, fel y gwyddoch, mewn trenau newydd. Rydym ni wedi gwario £800 miliwn ar uwchraddio rheilffyrdd, ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod a phartneriaid lleol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cynnig gwasanaethau rheilffordd ychwanegol i hyrwyddo teithio gwyrddach.
Thank you for that answer, First Minister. It is very welcome that Transport for Wales have ensured National Eisteddfod attendees are able to travel by public transport not just in Wrexham itself, but those who are coming from further afield. It is absolutely vital that the many large events we will see over the summer, particularly across Wales, particularly those who receive Welsh Government support, are environmentally sustainable. So, can you assure me discussions have taken place between the Welsh Government and the Eisteddfod organisers to reduce waste, to source local and organic food, to choose sustainable and eco-friendly materials for their signage, to provide free water refill points, and to utilise renewable energy, amongst other initiatives?
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae i'w groesawu'n fawr bod Trafnidiaeth Cymru wedi sicrhau bod y rhai sy'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol yn gallu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus nid yn unig yn Wrecsam ei hun, ond y rhai sy'n dod o ymhellach i ffwrdd. Mae'n gwbl hanfodol bod y digwyddiadau mawr niferus y byddwn ni'n eu gweld dros yr haf, yn enwedig ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy'n derbyn cymorth Llywodraeth Cymru, yn amgylcheddol gynaliadwy. Felly, a allwch chi fy sicrhau bod trafodaethau wedi cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a threfnwyr yr Eisteddfod i leihau gwastraff, i gael bwyd lleol ac organig, i ddewis deunyddiau cynaliadwy ac ecogyfeillgar ar gyfer eu harwyddion, i ddarparu mannau ail-lenwi dŵr am ddim, ac i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, ymhlith mentrau eraill?

Thanks very much. We know that the Rhondda Cynon Taf Eisteddfod was the greenest Eisteddfod ever, and I know Wrexham have plans to build on that. Their long-term plan, in fact, by 2030, is to become the first net-zero festival in Wales. So, they will have to put in place the kinds of initiatives that they saw in Pontypridd. Those additional transport services—four additional train services, in each direction, for Wrexham—are going to be important. There are also going to be shuttle buses to make sure that people are able to get back and forth. But, also, there will be 400 bike-parking spaces. So, there's real encouragement here to make sure that people not just attend the Eisteddfod, but attend it in a way that won't harm the environment.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n gwybod mai Eisteddfod Rhondda Cynon Taf oedd yr Eisteddfod wyrddaf erioed, ac rwy'n gwybod bod gan Wrecsam gynlluniau i adeiladu ar hynny. Eu cynllun hirdymor, a dweud y gwir, erbyn 2030, yw bod yr ŵyl sero net gyntaf yng Nghymru. Felly, bydd yn rhaid iddyn nhw roi'r mathau o fentrau a welsant ym Mhontypridd ar waith. Mae'r gwasanaethau trafnidiaeth ychwanegol hynny—pedwar gwasanaeth trên ychwanegol, ym mhob cyfeiriad, ar gyfer Wrecsam—yn mynd i fod yn bwysig. Bydd bysiau gwennol hefyd i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd yn ôl ac ymlaen. Ond, hefyd, bydd 400 o leoedd parcio beiciau. Felly, mae yna anogaeth wirioneddol yma i wneud yn siŵr bod pobl nid yn unig yn mynd i'r Eisteddfod, ond yn mynd iddi mewn ffordd na fydd yn niweidio'r amgylchedd.
The National Eisteddfod is a vital cultural event and I welcome its return to Wrexham this year. It's an important celebration of the Welsh language, heritage and identity, and it draws visitors from across the country. Recent initiatives like the £900,000 grant to Margam castle for the Urdd Eisteddfod focus on improving energy efficiency and accessibility, which is commendable. The Llangollen International Eisteddfod, which I attended on Friday last week—and I had the pleasure of meeting the widow of Luciano Pavarotti, as she was there to mark 30 years since the legendary singer last sang there, in 1995—has secured Arts Council of Wales funding to support sustainable operations, ensuring cultural events don't burden taxpayers. These steps show a commitment to fiscal responsibility, while preserving our traditions. Whilst I support a sustainable transition in the culture sector, we don't want cultural events to be bogged down in bureaucracy. With many sports clubs and cultural institutions crying out for money, it's important to ensure it's being prioritised in the right way and they get the funding for the things they are actually asking for. So, how will the First Minister ensure efforts for the National Eisteddfod to become environmentally sustainable are balanced with their other financial needs and don't come at the cost of other things, such as its core ambition of preserving and celebrating our Welsh heritage?
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad diwylliannol hanfodol ac rwy'n croesawu ei dychweliad i Wrecsam eleni. Mae'n ddathliad pwysig o'r Gymraeg, a threftadaeth a hunaniaeth Cymru, ac mae'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r wlad. Mae mentrau diweddar fel y grant gwerth £900,000 i gastell Margam ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni a hygyrchedd, sy'n ganmoladwy. Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, yr oeddwn i ynddi ddydd Gwener yr wythnos diwethaf—a chefais y pleser o gyfarfod â gweddw Luciano Pavarotti, gan ei bod yno i nodi 30 mlynedd ers i'r cantor enwog ganu yno ddiwethaf, ym 1995—wedi sicrhau cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi gweithrediadau cynaliadwy, gan sicrhau nad yw digwyddiadau diwylliannol yn rhoi baich ar drethdalwyr. Mae'r camau hyn yn dangos ymrwymiad i gyfrifoldeb cyllidol, tra'n cynnal ein traddodiadau. Er fy mod i'n cefnogi trawsnewidiad cynaliadwy yn y sector diwylliant, nid ydym eisiau i ddigwyddiadau diwylliannol gael eu llyffetheirio gan fiwrocratiaeth. Gyda llawer o glybiau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol yn crefu am arian, mae'n bwysig sicrhau ei fod yn cael ei flaenoriaethu yn y ffordd iawn a'u bod nhw'n cael y cyllid ar gyfer y pethau y maen nhw'n gofyn amdanyn nhw mewn gwirionedd. Felly, sut wnaiff y Prif Weinidog sicrhau bod ymdrechion i'r Eisteddfod Genedlaethol ddod yn amgylcheddol gynaliadwy yn cael eu cydbwyso â'u hanghenion ariannol eraill ac nad ydyn nhw'n dod ar draul pethau eraill, fel ei huchelgais craidd o gynnal a dathlu ein treftadaeth Gymreig?

Diolch yn fawr iawn. I don't need to persuade the Eisteddfod to do this; they are very keen to do it as an ambition for themselves. What we do as a Government is to make sure that we put support in place, and that includes £1.25 million for the National Eisteddfod. We've seen this year a £250,000 increase on the last financial year, and the great news here is that £200,000 of that will enable the Eisteddfod to provide free access to low-income families, and that's something we're particularly proud of in the Welsh Labour Government.
Diolch yn fawr iawn. Does dim angen i mi berswadio'r Eisteddfod i wneud hyn; maen nhw'n awyddus iawn i'w wneud fel uchelgais drostyn nhw eu hunain. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi cymorth ar waith, ac mae hynny'n cynnwys £1.25 miliwn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydym ni wedi gweld cynnydd o £250,000 eleni o'i chymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, a'r newyddion gwych yma yw y bydd £200,000 o hynny yn galluogi'r Eisteddfod i ddarparu mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n arbennig o falch ohono yn Llywodraeth Lafur Cymru.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Questions now from the party leaders. The leader of the Conservatives, Darren Millar.

First Minister, today your Government has published its revised sustainable farming scheme. It comes more than 18 months after the publication of the previous scheme, a scheme that was hatched by Labour and Plaid Cymru as part of your co-operation agreement, and a scheme that would have devastated our agricultural industry. By your own Government's estimates, that previous scheme would have led to 5,500 job losses, a £200 million hit to the rural economy, a reduction of hundreds of thousands of livestock, and a ridiculous, unrealistic per-farm tree-planting target. It is no wonder that that initial Labour and Plaid scheme resulted in the largest protest that this Senedd has ever seen. And rightly, you bowed to pressure and a review was announced. But what hasn't been published alongside the new scheme today is an economic impact assessment. So, can you tell us how many job losses will this new scheme cause? What will be the financial hit to the rural economy? And why are you waiting until September to publish a full economic impact assessment of the scheme?
Prif Weinidog, heddiw mae eich Llywodraeth wedi cyhoeddi ei chynllun ffermio cynaliadwy diwygiedig. Daw fwy na 18 mis ar ôl cyhoeddi'r cynllun blaenorol, cynllun a luniwyd gan Lafur a Phlaid Cymru fel rhan o'ch cytundeb cydweithio, a chynllun a fyddai wedi dinistrio ein diwydiant amaethyddol. Yn ôl amcangyfrifon eich Llywodraeth eich hun, byddai'r cynllun blaenorol hwnnw wedi arwain at golli 5,500 o swyddi, ergyd o £200 miliwn i'r economi wledig, gostyngiad o gannoedd o filoedd o dda byw, a tharged plannu coed fesul fferm chwerthinllyd ac afrealistig. Does dim rhyfedd bod y cynllun cychwynnol hwnnw gan Lafur a Phlaid Cymru wedi arwain at y brotest fwyaf a welodd y Senedd hon erioed. Ac yn briodol, fe wnaethoch chi ildio i'r pwysau a chyhoeddwyd adolygiad. Ond yr hyn nad yw wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r cynllun newydd heddiw yw asesiad effaith economaidd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o swyddi fydd yn cael eu colli oherwydd y cynllun newydd hwn? Beth fydd yr ergyd ariannol i'r economi wledig? A pham ydych chi'n aros tan fis Medi i gyhoeddi asesiad effaith economaidd llawn o'r cynllun?

Well, I'm really proud that today we're announcing this new sustainable farming scheme. I'd like to pay tribute to the Deputy First Minister for the incredible work he's done over months and months and months, talking, and listening, more importantly, to all of the people involved. And what we will have is a world-class scheme that is unique in the world. We've got a whole-farm approach. It's the only one in Europe, certainly, where we will see the balance between the needs to make sure that we have quality food, high animal welfare standards, making sure that we address the nature and climate emergencies. That whole approach is exactly what we were looking for. We have listened to the agricultural community. We recognise the valuable contribution they make to our nation not just in terms of the economy, but in terms of those wider issues like the environment, like the contribution to our tourism economy.
When it comes to the impact assessments, there will be a ready-reckoner tool available, so that, prior to the Royal Welsh Show, people will be able to punch in their particular circumstances and they will be able to assess how it affects them. I think that's where the interest will be, and that will come up in the next week or so. So, there's an opportunity there for people to see the impact on them. I'm very proud that we've got to this point. We are very keen to make sure that people come on board after a significant amount of listening and learning. I'm not going to apologise for that, Darren. I think that's a good thing, but I think you should probably go back to your constituents and the people you represent and try and explain to them why you tried to block the additional money that we had put into this, because we're putting the same amount in as before. And I do think this is something that you need to explain to your constituents, because we're very proud of the offer we're putting on the table.
Wel, rwy'n falch iawn ein bod ni heddiw yn cyhoeddi'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd hwn. Hoffwn dalu teyrnged i'r Dirprwy Brif Weinidog am y gwaith anhygoel y mae wedi ei wneud dros fisoedd a misoedd a misoedd, yn siarad, ac yn gwrando, yn bwysicach fyth, ar yr holl bobl dan sylw. A'r hyn y bydd gennym ni yw cynllun o'r radd flaenaf sy'n unigryw yn y byd. Mae gennym ni ddull fferm gyfan. Dyma'r unig un yn Ewrop, yn sicr, lle byddwn ni'n gweld y cydbwysedd rhwng yr anghenion i wneud yn siŵr bod gennym ni fwyd o ansawdd, safonau lles anifeiliaid uchel, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Yr holl ddull hwnnw yw'r union beth yr oeddem ni'n chwilio amdano. Rydym ni wedi gwrando ar y gymuned amaethyddol. Rydym ni'n cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y maen nhw'n ei wneud at ein cenedl nid yn unig o ran yr economi, ond o ran y materion ehangach hynny fel yr amgylchedd, fel y cyfraniad at ein heconomi dwristiaeth.
O ran yr asesiadau effaith, bydd dull canllaw cyflym ar gael, fel y bydd pobl yn gallu mewnbynnu eu hamgylchiadau penodol cyn Sioe Frenhinol Cymru a byddan nhw'n gallu asesu sut mae'n effeithio arnyn nhw. Rwy'n credu mai dyna lle bydd y diddordeb, a bydd hynny'n dod i'r amlwg yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, ceir cyfle yno i bobl weld yr effaith arnyn nhw. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwn. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn dod yn rhoi eu cefnogaeth i hyn ar ôl cryn dipyn o wrando a dysgu. Nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am hynny, Darren. Rwy'n credu bod hynny'n beth da, ond rwy'n credu yn ôl pob tebyg y dylech chi fynd yn ôl at eich etholwyr a'r bobl yr ydych chi'n eu cynrychioli a cheisio esbonio iddyn nhw pam wnaethoch chi geisio rhwystro'r arian ychwanegol yr oeddem ni wedi ei gyfrannu at hyn, oherwydd rydym ni'n cyfrannu'r un swm ag o'r blaen. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i chi ei esbonio i'ch etholwyr, oherwydd rydym ni'n falch iawn o'r cynnig yr ydym ni'n ei roi ar y bwrdd.
The farmers in my constituency and the constituencies represented in this Chamber don't want a ready-reckoner, they want to know if their jobs are on the line and whether they have still got the opportunity to make a decent living. You say that your scheme is unique in the world, and the truth of the matter is, it is, because it doesn't even mention the term 'food security' throughout the whole document. It's not mentioned one single time, because you do not give a hoot about food security, First Minister. In contrast, the word 'environment' is mentioned almost 80 times. Your scheme still wants to sacrifice an area half the size of the Vale of Glamorgan to tree planting. And recently, we saw the UK Climate Change Committee recommend a 19 per cent reduction in livestock numbers, something that my party rejects. Can you tell us why there is no mention of the term 'food security' in your new scheme's document? Why are you still prepared to sacrifice an area of 17,000 acres, half the size of the Vale of Glamorgan, to trees? And do you accept that appalling recommendation of the UK Climate Change Committee in respect of a reduction in livestock numbers of almost 20 per cent?
Nid yw'r ffermwyr yn fy etholaeth i a'r etholaethau a gynrychiolir yn y Siambr hon eisiau canllaw cyflym, maen nhw eisiau gwybod a yw eu swyddi yn y fantol ac a oes cyfle o hyd iddyn nhw wneud bywoliaeth dda. Rydych chi'n dweud bod eich cynllun yn unigryw yn y byd, a'r gwir amdani yw ei fod, oherwydd nid yw hyd yn oed yn sôn am y term 'diogeledd bwyd' drwy'r ddogfen gyfan. Nid yw'n cael ei grybwyll hyd yn oed unwaith, oherwydd nid ydych oes unrhyw ots gennych chi o gwbl am ddiogeledd bwyd, Prif Weinidog. Mewn cyferbyniad, mae'r gair 'amgylchedd' yn cael ei grybwyll bron i 80 o weithiau. Mae eich cynllun yn dal i fod eisiau aberthu ardal hanner maint Bro Morgannwg i blannu coed. Ac yn ddiweddar, gwelsom Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn argymell gostyngiad o 19 y cant i niferoedd da byw, rhywbeth y mae fy mhlaid i yn ei wrthod. A allwch chi ddweud wrthym ni pam nad oes unrhyw sôn am y term 'diogeledd bwyd' yn nogfen eich cynllun newydd? Pam ydych chi'n dal yn barod i aberthu ardal o 17,000 erw, hanner maint Bro Morgannwg, i goed? Ac a ydych chi'n derbyn yr argymhelliad ofnadwy hwnnw gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU o ran gostyngiad o bron i 20 y cant i niferoedd da byw?

What I know is that we're in this situation because we left the European Union, and there were many people, including you, who argued for that point. This is a consequence. We had to create—[Interruption.] We had to create a new—
Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw ein bod ni yn y sefyllfa hon oherwydd i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac roedd llawer o bobl, gan eich cynnwys chi, a ddadleuodd dros y pwynt hwnnw. Mae hyn yn ganlyniad. Roedd yn rhaid i ni greu—[Torri ar draws.] Roedd yn rhaid i ni greu—
I do need to hear the First Minister's response, please. Can we show to some respect to the First Minister and listen to what she has to say?
Rwyf i angen clywed ymateb y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda. A allwn ni ddangos rhywfaint o barch i'r Prif Weinidog a gwrando ar yr hyn sydd ganddi i'w ddweud?

We had to create a new regime because the people of Wales voted for a new regime, including many farmers, who were very keen to leave the European Union. We made it clear to them before that vote that there would be consequences, and this is a part of the renegotiation that has happened as a result of Brexit.
What I can tell you is that we have listened, that there will be major environmental benefits. We know that farmers are very serious about the environment. We know that they are hyperaware of the very dry patch that we've been through recently and how that's affecting them, how they need to make these long-term investments. And they know, more than anyone, the impact of climate change. We're asking them to help us to make a contribution to addressing the issue of climate change, and I think planting trees has an important contribution. Farmers will choose the right tree in the right place, and we'll be providing incentives for early planting, the budget and the advice, and we will give guidance to farmers with that. But we're not going to apologise for the fact that we do want to see some tree planting. But it will be more flexible than what was initially suggested.
Roedd yn rhaid i ni greu cyfundrefn newydd gan fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros gyfundrefn newydd, gan gynnwys llawer o ffermwyr, a oedd yn awyddus iawn i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethom ni ei gwneud yn eglur iddyn nhw cyn y bleidlais honno y byddai canlyniadau, ac mae hyn yn rhan o'r ail-negodi sydd wedi digwydd o ganlyniad i Brexit.
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni wedi gwrando, y bydd manteision amgylcheddol mawr. Rydym ni'n gwybod bod ffermwyr o ddifrif iawn am yr amgylchedd. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n hyperymwybodol o'r cyfnod sych iawn yr ydym ni wedi bod drwyddo yn ddiweddar a sut mae hynny'n effeithio arnyn nhw, sut mae angen iddyn nhw wneud y buddsoddiadau hirdymor hyn. Ac maen nhw'n ymwybodol, yn fwy na neb, o effaith newid hinsawdd. Rydym ni'n gofyn iddyn nhw ein helpu ni i wneud cyfraniad at fynd i'r afael â mater newid hinsawdd, ac rwy'n credu bod plannu coed yn gyfraniad pwysig. Bydd ffermwyr yn dewis y goeden iawn yn y lle iawn, a byddwn ni'n cynnig cymhellion ar gyfer plannu cynnar, y gyllideb a'r cyngor, a byddwn yn rhoi canllawiau i ffermwyr gyda hynny. Ond nid ydym ni'n mynd i ymddiheuro am y ffaith ein bod ni eisiau gweld rhywfaint o blannu coed. Ond bydd yn fwy hyblyg na'r hyn a awgrymwyd i ddechrau.
First Minister, Welsh farmers are more interested in food security and their job security, frankly, and it's a shame that neither of those things is mentioned in the document. Farmers deserve to know how many of their jobs your Government is prepared to sacrifice. If this was any other industry, you would quite rightly be up in arms, but it is simply a statement of fact that you do not appear to care about our farmers.
Let's talk about the budget announcement that you've made today. Last week, the Cabinet Secretary for finance announced that all departmental budgets would receive an inflationary uplift next year—every single department. Yet, today, your Deputy First Minister has announced that the new sustainable farming scheme will keep the universal farming payment budget at £238 million, exactly the same as it is this year—frozen, with no uplift—which, effectively, means that it's going to be a cut in real terms. You have money—[Interruption.] You have money to spend on planting trees in Uganda, but you don't seem to have money to invest in our farmers here in our own country. Why is it, First Minister, that farming is the only budget that is going to receive a real-terms cut, and why does your Labour Government hate farmers so much?
Prif Weinidog, mae gan ffermwyr Cymru fwy o ddiddordeb mewn diogeledd bwyd a diogelwch eu swyddi, a dweud y gwir, ac mae'n drueni nad yw'r naill na'r llall o'r pethau hynny yn cael ei grybwyll yn y ddogfen. Mae ffermwyr yn haeddu gwybod faint o'u swyddi y mae eich Llywodraeth yn barod i'w haberthu. Pe bai hwn yn unrhyw ddiwydiant arall, byddech chi'n gynddeiriog, a hynny'n gwbl briodol, ond nid yw'n ddim ond datganiad o ffaith nad yw'n ymddangos bod ots gennych chi am ein ffermwyr.
Gadewch i ni siarad am y cyhoeddiad cyllideb yr ydych chi wedi ei wneud heddiw. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid y byddai pob cyllideb adrannol yn cael cynnydd yn unol â chwyddiant y flwyddyn nesaf—pob un adran. Ac eto, heddiw, mae eich Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn cadw'r gyllideb taliad ffermio cyffredinol ar £238 miliwn, yn union yr un fath ag y mae eleni—wedi'i rewi, heb unrhyw gynnydd—sydd, i bob pwrpas, yn golygu ei fod yn mynd i fod yn doriad mewn termau real. Mae gennych chi arian—[Torri ar draws.] Mae gennych chi arian i'w wario ar blannu coed yn Uganda, ond nid yw'n ymddangos bod gennych chi arian i'w fuddsoddi yn ein ffermwyr ni yma yn ein gwlad ein hunain. Pam, Prif Weinidog, mai ffermio yw'r unig gyllideb sy'n mynd i gael toriad termau real, a pham mae eich Llywodraeth Lafur yn casáu ffermwyr cymaint?

Well, thanks very much. Look, we are putting the same amount of money in—in fact, more money than we were before. Let's remind everybody that you didn't support that additional money going in. I think it's really important that people understand that there's additional money there—no thanks to you. Let's be clear, that's not all of it: that's just the money for universal payment. There will be additional money for the optional and the collaborative approaches. So, it is important to recognise that that's one part of the programme.
Wel, diolch yn fawr iawn. Edrychwch, rydym ni'n cyfrannu'r un swm o arian—a dweud y gwir, mwy o arian nag yr oeddem ni o'r blaen. Gadewch i ni atgoffa pawb nad oeddech chi'n cefnogi'r cyfrannu'r arian ychwanegol hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall bod arian ychwanegol yno—dim diolch i chi. Gadewch i ni fod yn eglur, nid dyna'r cyfan: dim ond yr arian ar gyfer taliad cyffredinol yw hwnnw. Bydd arian ychwanegol ar gyfer y dulliau dewisol a chydweithredol. Felly, mae'n bwysig cydnabod bod hynny'n un rhan o'r rhaglen.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Now, is Wales a nation that could thrive running its own affairs like so many other similar nations? If you believe in the potential of Wales and its people as I do, the answer is an obvious 'yes'. Surely, it's a question to which every First Minister should answer 'yes'—how can any First Minister not believe in their nation's potential? Now, the last First Minister but one, now Secretary for finance, agreed it was perfectly viable for Wales to be independent; he just didn't think it was desirable, and I beg to differ with him on that. But how disheartening and yet sadly predictable it was when the current First Minister was asked the question, on the News Agents podcast, 'Could Wales manage?', and it was a 'no'. 'Wales would be extremely poor', she said. But, of course, Wales isn't somehow inevitably poor. Remember that our current position is a direct result of our place within the UK. Breaking out of those cycles of economic stagnation, of too many families living in poverty, is pretty difficult when successive Westminster Governments fail to address the issue of fair funding, underfund transport, as they did again recently with rail, deny us the powers over our natural resources and so on. It seems that, under Labour, as with the Conservatives, Westminster's answer to Wales is always 'no'. So, it's little wonder that more and more people are saying 'yes' to wanting more say over our own future, with enhanced devolution being the absolute minimum, like the devolution of justice—
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Nawr, a yw Cymru yn genedl a allai ffynnu yn rhedeg ei materion ei hun fel cynifer o genhedloedd tebyg eraill? Os ydych chi'n credu ym mhotensial Cymru a'i phobl fel yr wyf i, mae'r ateb yn 'ydy' amlwg. Siawns ei fod yn gwestiwn y dylai pob Prif Weinidog ateb 'ydy' iddo—sut all unrhyw Brif Weinidog ddim credu ym mhotensial eu cenedl? Nawr, cytunodd y Prif Weinidog diwethaf ond un, sydd bellach yn Ysgrifennydd cyllid, ei bod hi'n berffaith ymarferol i Gymru fod yn annibynnol; nid oedd yn meddwl ei fod yn ddymunol, dyna'r cwbl, ac mae'n rhaid i mi anghytuno ag ef am hynny. Ond pa mor ddigalon ac eto siomedig o ragweladwy oedd hi pan ofynnwyd y cwestiwn 'A allai Cymru ymdopi?' i'r Prif Weinidog presennol, ar bodlediad News Agents, ac mai'r ateb oedd 'na allai'. 'Byddai Cymru'n eithriadol o dlawd', meddai. Ond, wrth gwrs, nid yw Cymru rywsut yn dlawd yn anochel. Cofiwch fod ein sefyllfa bresennol yn ganlyniad uniongyrchol i'n lle sefyllfa o fewn y DU. Mae torri'n rhydd o'r cylchoedd hynny o farweidd-dra economaidd, o ormod o deuluoedd yn byw mewn tlodi, yn eithaf anodd pan fydd Llywodraethau San Steffan olynol yn methu â mynd i'r afael â'r mater o gyllid teg, yn tanariannu trafnidiaeth, fel y gwnaethon nhw eto yn ddiweddar gyda rheilffyrdd, yn gwadu'r pwerau dros ein hadnoddau naturiol i ni ac yn y blaen. Mae'n ymddangos, o dan Lafur, yn yr un modd â'r Ceidwadwyr, mai 'na chewch' yw ateb San Steffan i Gymru bob amser. Felly, does dim rhyfedd bod mwy a mwy o bobl yn dweud 'ydym' i fod eisiau mwy o lais dros ein dyfodol ein hunain, gyda datganoli estynedig yn lleiafswm absoliwt, fel datganoli cyfiawnder—
I'm going to need a question from you, Rhun ap Iorwerth.
Rwy'n mynd i fod angen cwestiwn gennych chi, Rhun ap Iorwerth.
—that we were told clearly yesterday was not a priority for UK Government. This is particularly true of young people, of course.
—y dywedwyd wrthym ni'n eglur ddoe nad oedd yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc, wrth gwrs.
I'm going to need a question from you.
Rwy'n mynd i fod angen cwestiwn gennych chi.
Every indicator shows that the union is on borrowed time. So, why doesn't the First Minister believe in Wales?
Mae pob dangosydd yn dangos bod amser yr undeb yn dod i ben. Felly, pam nad yw'r Prif Weinidog yn credu yng Nghymru?

I can tell you that there's nobody who believes in Wales more than I do. I have got a red dragon running through every little blood vessel in my body. But what I will tell you—what I will tell you—is that we are dead serious about being positive about this country and about talking it up, and that's what we don't get from Plaid Cymru. It is interesting, isn't it? I thought that you were going to go on to say, 'And that's why we believe in independence, that's why we'll be looking to do that in the next term.' You're not saying that, are you? So, you've got such faith that it's possible and viable, then you're not offering that. I think that it is important for us to recognise that a huge amount of money additionally comes from the UK Government. It is important that we recognise that. That has increased in the most recent budget—a budget, let me remind you once again, that you tried to block. But I am very keen to make sure that we look to the future with hope and ambition, which is why I was dead proud to be, yesterday, at Tata Steel, where we're seeing significant investment in the new electric arc furnace, giving hope to those communities. And that's what we want to give to the people of Wales today, hope for the future, and make sure that we're looking to the future, to build a stronger economy so that we can spend any additional taxation on providing the public services that we're very keen to do, to provide.
Gallaf ddweud wrthych chi nad oes neb sy'n credu yng Nghymru mwy nag yr wyf i. Mae gen i ddraig goch yn rhedeg drwy pob pibell waed fach yn fy nghorff. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrthych chi—yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrthych chi—yw ein bod ni o ddifrif iawn am fod yn gadarnhaol am y wlad hon ac am ei hyrwyddo, a dyna'r hyn nad ydym ni'n ei gael gan Blaid Cymru. Mae'n ddiddorol, onid yw? Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n mynd i fynd ymlaen i ddweud, 'A dyna pam rydym ni'n credu mewn annibyniaeth, dyna pam y byddwn ni'n bwriadu gwneud hynny yn y tymor nesaf.' Dydych chi ddim yn dweud hynny, ydych chi? Felly, mae gennych chi'r fath ffydd ei fod yn bosibl ac yn ymarferol, yna nid ydych chi'n cynnig hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod swm enfawr o arian ychwanegol yn dod gan Lywodraeth y DU. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny. Mae hynny wedi cynyddu yn y gyllideb ddiweddaraf—cyllideb, gadewch i mi eich atgoffa unwaith eto, y gwnaethoch chi geisio ei rhwystro. Ond rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych i'r dyfodol gyda gobaith ac uchelgais, a dyna pam roeddwn i'n falch dros ben o fod yn Tata Steel ddoe, lle'r ydym ni'n gweld buddsoddiad sylweddol yn y ffwrnais arc trydan newydd, yn rhoi gobaith i'r cymunedau hynny. A dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei roi i bobl Cymru heddiw, gobaith ar gyfer y dyfodol, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych i'r dyfodol, i adeiladu economi gryfach fel y gallwn ni wario unrhyw drethiant ychwanegol ar ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, i'w ddarparu.
This is a First Minister who believes that poverty is inevitable for Wales, and that's why she keeps on talking Wales down. The First Minister is actively choosing to be at the whim of Westminster, which works against Wales's interests, rather than showing some faith in our nation and its people's ability to decide matters for themselves.
Let's go back to one of those perpetual Westminster injustices, the matter of fair funding for Wales. It's something that Plaid Cymru has promoted for decades. It was disappointing to hear the First Minister's comments over the weekend when questioned on Radio 4, the James Naughtie interview. When pressed, she couldn't say when the Barnett formula will be reformed by the UK Labour Government, or indeed whether the Chancellor believes that Wales is unfairly funded. Now, all the First Minister could say was that she will keep on making the case, but she keeps on saying that and nothing happens. Her Westminster Labour colleagues ignore her day after day, week after week. Now, when I last asked the First Minister what her next move will be on fair funding, in a reply that appeared to embarrass all of her front bench, she said that she was going to the football. Can she come up with a better answer today?
Dyma Brif Weinidog sy'n credu bod tlodi yn anochel i Gymru, a dyna pam mae hi'n parhau i wneud cam â Chymru. Mae'r Prif Weinidog yn gwneud dewis gweithredol i ddilyn mympwyon San Steffan, sy'n gweithio yn erbyn buddiannau Cymru, yn hytrach na dangos rhywfaint o ffydd yn ein cenedl a gallu ei phobl i benderfynu ar faterion drostyn nhw eu hunain.
Gadewch i ni ddychwelyd at un o'r anghyfiawnderau parhaol hynny gan San Steffan, y mater o gyllid teg i Gymru. Mae'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi ei hyrwyddo ers degawdau. Roedd yn siomedig clywed sylwadau'r Prif Weinidog dros y penwythnos pan gafodd ei holi ar Radio 4, yng nghyfweliad James Naughtie. Pan gafodd ei phwyso, ni allai ddweud pryd y bydd fformiwla Barnett yn cael ei diwygio gan Lywodraeth Lafur y DU, nac yn wir pa un a yw'r Canghellor yn credu bod Cymru yn cael ei hariannu'n annheg. Nawr, y cwbl y gallai'r Prif Weinidog ei ddweud oedd y bydd yn parhau i wneud y ddadl, ond mae hi'n dweud hynny dro ar ôl tro a does dim byd yn digwydd. Mae ei chydweithwyr Llafur yn San Steffan yn ei hanwybyddu ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos. Nawr, pan ofynnais i'r Prif Weinidog ddiwethaf beth fydd ei cham nesaf o ran cyllid teg, mewn ateb a oedd yn ymddangos iddo achosi embaras i'w mainc flaen i gyd, dywedodd ei bod hi'n mynd i'r pêl-droed. A all hi ddod o hyd i ateb gwell heddiw?

Look, I'm at the table and I'm getting things done, and we have had additional support from the UK Government, including £5 billion in additional funding that you and the Tories tried to block from coming in. I do think that it is worth making sure that people hear that again and again. We have been given a poor deal, when it comes to rail, for years on end, and we're getting to a better place. Is it far enough? No, we want to go further. But it's definitely in a much better place than it was before. That was because we put significant pressure on the UK Government. The same thing when it comes to the coal tips. When it comes to coal tips, we asked for years on end for support from the UK Tory Government; they didn't listen. The Labour Government has understood that this is a legacy from the past and there is a responsibility on the UK. I'm at the table, and I'm delivering. And when it comes to things like youth justice, for example, we are moving on in that area as well, edging things forward, as was the manifesto commitment. And it is important, I think, for people to recognise that the difference between us and them is that they shout from the sidelines and I'm sitting at the table. And it's lovely to hear that he's following every movement that I make on weekends. Lovely.
Edrychwch, rwyf i wrth y bwrdd ac rwy'n cyflawni pethau, ac rydym ni wedi cael cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys £5 biliwn mewn cyllid ychwanegol y gwnaethoch chi a'r Torïaid geisio ei rwystro rhag dod i mewn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth gwneud yn siŵr bod pobl yn clywed hynny dro ar ôl tro. Rydym ni wedi cael bargen wael, o ran rheilffyrdd, ers blynyddoedd lawer, ac rydym ni'n cyrraedd sefyllfa well. A yw'n ddigon pell? Nac ydy, rydym ni eisiau mynd ymhellach. Ond mae'n sicr mewn lle sefyllfa lawer gwell nag yr oedd o'r blaen. Roedd hynny oherwydd i ni roi pwysau sylweddol ar Lywodraeth y DU. Yr un peth pan ddaw i'r tomenni glo. O ran tomenni glo, fe wnaethom ni ofyn am flynyddoedd am gymorth gan Lywodraeth Dorïaidd y DU; wnaethon nhw ddim gwrando. Mae'r Llywodraeth Lafur wedi deall bod hon yn etifeddiaeth o'r gorffennol a bod cyfrifoldeb ar y DU. Rwyf i wrth y bwrdd, ac rwy'n cyflawni. Ac o ran pethau fel cyfiawnder ieuenctid, er enghraifft, rydyn ni'n symud ymlaen yn y maes hwnnw hefyd, symud pethau ymlaen bob yn dipyn, yn unol ag ymrwymiad y maniffesto. Ac mae'n bwysig, rwy'n credu, i bobl gydnabod mai'r gwahaniaeth rhyngom ni a nhw yw eu bod nhw'n gweiddi o'r ymylon ac fy mod i'n eistedd wrth y bwrdd. Ac mae'n hyfryd clywed ei fod yn dilyn pob symudiad yr wyf i'n ei wneud ar benwythnosau. Hyfryd.
All we had yesterday again was a sign on the devolution of justice that Labour was determined to block anything that gives Wales any more powers, and it's unbelievable that we have a First Minister continuing to defend the £445 million given to rail in Wales, when the rest of the UK, or Wales and England, is getting £35 billion. It's a drop in the ocean of what we're owed, and the people of Wales know that.
There was another Labour voice on that programme at the weekend, the Member of the Senedd for Llanelli. I agree with his take on things. He's right: there is a non-Tory alternative to Labour in Wales. That alternative is Plaid Cymru's positive vision for bringing down waiting lists, for supporting small businesses, for backing agriculture, for helping households with the cost of living, implementing a child payment to tackle the scourge of poverty, whilst also fighting for those powers that enable us to make decisions better suited to Wales's needs.
Now, whatever has been claimed about the benefits of two Labour Governments working together, Lee Waters added that signals coming from Labour colleagues at Westminster are disdainful. That's the reality. So, whether it's the refusal to reform Barnett, the injustice of HS2, the lack of devolution of the Crown Estate, does the First Minister agree with Lee Waters about the poor treatment of Wales from Labour colleagues at Westminster, or will she head into the summer recess continuing to defend their actions?
Y cwbl a gawsom ni ddoe eto oedd arwydd ar ddatganoli cyfiawnder bod Llafur yn benderfynol o rwystro unrhyw beth sy'n rhoi mwy o bwerau i Gymru, ac mae'n anghredadwy bod gennym ni Brif Weinidog sy'n parhau i amddiffyn y £445 miliwn a roddwyd ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru, pan fo gweddill y DU, neu Gymru a Lloegr, yn cael £35 biliwn. Mae'n ffracsiwn fach iawn o'r hyn sy'n ddyledus i ni, ac mae pobl Cymru yn gwybod hynny.
Roedd llais Llafur arall ar y rhaglen honno dros y penwythnos, yr Aelod o'r Senedd dros Lanelli. Rwy'n cytuno â'i safbwynt ef ar bethau. Mae'n iawn: mae dewis arall yn hytrach na Llafur yng Nghymru heblaw'r Torïaid. Y dewis arall hwnnw yw gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru ar gyfer lleihau rhestrau aros, ar gyfer cefnogi busnesau bach, ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth, ar gyfer helpu aelwydydd gyda chostau byw, gweithredu taliad plant i fynd i'r afael â phla tlodi, tra hefyd yn ymladd am y pwerau hynny sy'n caniatáu i ni wneud penderfyniadau sy'n fwy addas i anghenion Cymru.
Nawr, beth bynnag sydd wedi cael ei honni am fanteision dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd, ychwanegodd Lee Waters bod arwyddion sy'n dod gan gydweithwyr Llafur yn San Steffan yn ddirmygus. Dyna'r gwirionedd. Felly, pa un a yw'r gwrthodiad i ddiwygio Barnett, anghyfiawnder HS2, diffyg datganoli Ystad y Goron, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â Lee Waters am y driniaeth wael Cymru gan gydweithwyr Llafur yn San Steffan, neu a fydd hi'n mynd i doriad yr haf yn parhau i amddiffyn eu gweithredoedd?

What I know is that the vision that you're trying to project is one that is uncosted and undeliverable. What's important for people to recognise, I think, is that there's very little experience in the Plaid Cymru benches, and, if that's true for you, that is certainly true for Reform, who are also being taken seriously in this country. What we need to do is to make sure that we present, that we look at what we're able to deliver and what we have delivered over the past few years. Let's not forget free prescriptions. Let's not forget free school meals. Let's not forget free transport for the over 65s. You voted against money going to all of those things. And the important thing for us to do is to look to the future with hope, for people to recognise what's at stake in the next election, and to make sure that there is an understanding that it's only Labour that is at the table and can speak to the UK Government, because we're the ones who are able to pick up the phone, to make a difference. We're not over yet. It's not over yet. And it is really important for us to recognise that there is a huge amount of opportunities for us to go further. If you look at what we're doing in relation to the longest waiting lists, for example, an 86 per cent drop in the number of people waiting—for the longest waits—since the pandemic. This is delivery in action, thanks to that additional money that's come from the UK Labour Government.
Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw bod y weledigaeth yr ydych chi'n ceisio ei chyfleu yn un sydd heb ei chostio ac nad oes modd ei gwireddu. Yr hyn sy'n bwysig i bobl ei gydnabod, rwy'n credu, yw mai prin iawn yw'r profiad sydd ar feinciau Plaid Cymru, ac, os yw hynny'n wir amdanoch chi, mae hynny'n sicr yn wir am Reform, sydd hefyd yn cael eu cymryd o ddifrif yn y wlad hon. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n cyflwyno, ein bod ni'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n gallu ei gyflawni a'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf. Gadewch i ni beidio ag anghofio presgripsiynau am ddim. Gadewch i ni beidio ag anghofio prydau ysgol am ddim. Gadewch i ni beidio ag anghofio trafnidiaeth am ddim i bobl dros 65 oed. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn arian yn mynd i'r holl bethau hynny. A'r peth pwysig i ni ei wneud yw edrych i'r dyfodol gyda gobaith, i bobl gydnabod yr hyn sydd yn y fantol yn yr etholiad nesaf, ac i wneud yn siŵr bod dealltwriaeth mai dim ond Llafur sydd wrth y bwrdd ac sy'n gallu siarad â Llywodraeth y DU, oherwydd ni yw'r rhai sy'n gallu codi'r ffôn, i wneud gwahaniaeth. Dydyn ni ddim drosodd eto. Nid yw drosodd eto. Ac mae wir yn bwysig iawn i ni gydnabod bod llawer iawn o gyfleoedd i ni fynd ymhellach. Os edrychwch chi ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran y rhestrau aros hiraf, er enghraifft, gostyngiad o 86 y cant i nifer y bobl sy'n aros—ar gyfer yr arosiadau hiraf—ers y pandemig. Mae hyn yn gyflawni ar waith, diolch i'r arian ychwanegol hwnnw sydd wedi dod gan Lywodraeth Lafur y DU.
3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer galluogi pob dinesydd i gael diet iach a chytbwys? OQ63051
3. What is the Welsh Government's strategy for enabling all citizens to have a healthy balanced diet? OQ63051

The Welsh Government is trying hard to encourage families across Wales to put healthy, affordable food on the table. We're delivering over 50 million free school meals and breakfasts every year, and we've invested more than £27 million to support those facing food poverty. Our community food strategy is boosting local food production, and our new 'Healthy Weight: Healthy Wales' plan will target action where it's needed most, starting with children.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu'n galed i annog teuluoedd ledled Cymru i roi bwyd iach, fforddiadwy ar y bwrdd. Rydym ni'n darparu dros 50 miliwn o brydau ysgol a brecwast am ddim bob blwyddyn, ac rydym ni wedi buddsoddi mwy na £27 miliwn i gynorthwyo'r rhai sy'n wynebu tlodi bwyd. Mae ein strategaeth bwyd cymunedol yn rhoi hwb i gynhyrchu bwyd lleol, a bydd ein cynllun 'Pwysau Iach: Cymru Iach' newydd yn targedu gweithredu lle mae ei angen fwyaf, gan ddechrau gyda phlant.
Thank you very much. I agree that there's great work going on in the education department, led by the Cabinet Secretary. It's fantastic to see that more and more pupils are learning how to cook in school, which is obviously going to help mend the deficit of six out of 10 households never cooking from scratch. It's great to see that food literacy developing in the way that pupils have analysed the food miles involved in a chicken curry in Monmouthshire and come up with an alternative chickpea curry when they realised that that chicken was coming from Thailand. Pupils in the region that the First Minister represents have devised a song to celebrate Mrs Robinson's famous vegetable cawl, and that's going to be performed at the Green Man festival. So, watch this space.
But, looking at how we can improve the quality of our school meals, the school food cross-party group has identified that not enough cooks in school have got any qualifications beyond a level 2 in food hygiene, which is good for opening up bags of food provided by big food, but not the skills required to expand this good practice I've just mentioned across the whole of our school estate. So, how can we ensure that nutritious meals are available to all pupils, where schools have the skills and the appetite to provide healthy, nutritious lunches made from food grown in Wales?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno bod gwaith gwych yn cael ei wneud yn yr adran addysg, o dan arweiniad yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n wych gweld bod mwy a mwy o ddisgyblion yn dysgu sut i goginio yn yr ysgol, sy'n amlwg yn mynd i helpu i drwsio'r diffyg o chwech o bob 10 aelwyd nad ydyn nhw byth yn coginio o ddim. Mae'n wych gweld bod llythrennedd bwyd yn datblygu yn y ffordd y mae disgyblion wedi dadansoddi'r milltiroedd bwyd sy'n gysylltiedig â chyri cyw iâr yn sir Fynwy gan greu cyri ffacbys amgen pan wnaethon nhw sylweddoli bod y cyw iâr hwnnw'n dod o Wlad Thai. Mae disgyblion yn y rhanbarth y mae'r Prif Weinidog yn ei gynrychioli wedi cyfansoddi cân i ddathlu cawl llysiau enwog Mrs Robinson, ac mae honno'n mynd i gael ei pherfformio yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd. Felly, gwyliwch y gofod hwn.
Ond, gan edrych ar sut y gallwn ni wella ansawdd ein prydau ysgol, mae'r grŵp trawsbleidiol ar fwyd ysgol wedi nodi nad oes gan ddigon o gogyddion mewn ysgolion unrhyw gymwysterau y tu hwnt i lefel 2 mewn hylendid bwyd, sy'n dda ar gyfer agor bagiau o fwyd a ddarperir gan fwyd mawr, ond nid y sgiliau sydd eu hangen i ehangu'r arfer da hwn yr wyf i newydd sôn amdano ar draws ein holl ystad ysgolion. Felly, sut allwn ni sicrhau bod prydau maethlon ar gael i bob disgybl, lle mae gan ysgolion y sgiliau a'r awydd i ddarparu ciniawau iach, maethlon wedi'u gwneud gyda bwyd sy'n cael ei dyfu yng Nghymru?

Well, there are many challenges to recruitment in this sector, so what local authorities do is they try to make the roles as accessible as they can, so they recruit to the minimum level and then they undertake the further training. So, they have to get to level 2 basic hygiene qualifications, but then what they do is they get trained in things like nutrition, allergies, safeguarding, professional cooking, first aid—all of those things come on top once they have been recruited. Lots of local authority catering teams have development chefs now on their staff, and they are also playing a key role in front-line training. So, you’re quite right, we need to make sure that the people cooking the food for the people in our schools are qualified to the very best of our ability and their ability, but the key thing is that we need more people to be going into that sector, so you get them in at the lowest levels and then you train them up once they are in.
Wel, ceir llawer o heriau o ran recriwtio yn y sector hwn, felly'r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yw maen nhw'n ceisio gwneud y swyddi mor hygyrch ag y gallan nhw, fel eu bod nhw'n recriwtio i'r lefel ofynnol ac yna maen nhw'n ymgymryd â'r hyfforddiant pellach. Felly, mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd cymwysterau hylendid sylfaenol lefel 2, ond yna beth maen nhw'n ei wneud yw maen nhw'n cael eu hyfforddi mewn pethau fel maetheg, alergeddau, diogelu, coginio proffesiynol, cymorth cyntaf—mae'r holl bethau hynny yn dod yn ychwanegol ar ôl iddyn nhw gael eu recriwtio. Mae gan lawer o dimau arlwyo awdurdodau lleol gogyddion datblygu ar eu staff nawr, ac maen nhw hefyd yn chwarae rhan allweddol o ran hyfforddiant rheng flaen. Felly, rydych chi'n gwbl gywir, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bobl sy'n coginio'r bwyd i'r bobl yn ein hysgolion yn gymwys hyd eithaf ein gallu ni a'u gallu nhw, ond y peth allweddol yw ein bod ni angen mwy o bobl i fod yn mynd i mewn i'r sector hwnnw, fel eich bod chi'n eu cael nhw ar y lefelau isaf ac yna rydych chi'n eu hyfforddi nhw pan fyddan nhw i mewn.
I don't think, First Minister, you answered a part of Jenny Rathbone's question, because what we do have in Wales is a childhood obesity epidemic, and actually if we are going to address that epidemic we need to start by looking at what we feed our children in schools. I think we need healthy, locally sourced products given to our children to make sure that they are having the best food possible. So, I’d like to know what plans and what programmes the Welsh Government has in place to make sure that we are getting locally grown, home-sourced food into our children's diets, to make sure that we can address the obesity crisis that we are seeing across Wales.
Nid wyf i'n credu, Prif Weinidog, eich bod chi wedi ateb rhan o gwestiwn Jenny Rathbone, oherwydd yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru yw epidemig gordewdra plant, ac mewn gwirionedd os ydym ni'n mynd i roi sylw i'r epidemig hwnnw mae angen i ni ddechrau trwy edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei fwydo i'n plant mewn ysgolion. Rwy'n credu ein bod ni angen i gynhyrchion iach o ffynonellau lleol gael eu rhoi i'n plant i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y bwyd gorau posibl. Felly, hoffwn wybod pa gynlluniau a pha raglenni sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael bwyd wedi'i dyfu'n lleol, o ffynonellau cartref i ddeietau ein plant, i wneud yn siŵr y gallwn ni fynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra yr ydym ni'n ei weld ledled Cymru.

Thanks very much. I do hope there is an opportunity that we have already started on through the free school meals programme that we offer in primary schools to make sure that they become more nutritious. So, there is a lot of work being done on that at the moment, and on top of that I know that the Deputy First Minister has championed the community food strategy, and there is an opportunity there to make sure that we improve the production and supply of locally sourced food. There’s a working group going on at the moment on that and a consultation that is taking place, so I would encourage people to respond to that consultation.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf i yn gobeithio bod cyfle ein bod ni eisoes wedi cychwyn arno drwy'r rhaglen prydau ysgol am ddim yr ydym ni'n ei gynnig mewn ysgolion cynradd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n dod yn fwy maethlon. Felly, mae llawer o waith yn cael ei wneud ar hynny ar hyn o bryd, ac ar ben hynny rwy'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi hyrwyddo'r strategaeth bwyd cymunedol, a cheir cyfle yno i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella'r broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol. Mae gweithgor yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ac ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal, felly byddwn yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw.
Good afternoon, First Minister. A healthy balanced diet for children in Wales is only an option if you are not a child that is living in poverty, and we are currently at the rate still of 29 per cent, rising to 30 per cent, sadly, of our children here in Wales living in poverty. Many of us continue to raise this across the Siambr because it is such a shameful issue, if you live in Wales, to have that high level of children who are living in poverty. The Bevan Foundation said that devolution has not done anything to help those children living in poverty. That is our chance to do something different. So, I am asking you again: could you consider looking at targets to reduce the children living in poverty? New Zealand and Finland have done this, and it has affected the number of children living in poverty. So, I say again to you, please, that we need to take action here to reduce the number of children living in poverty in Wales. Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae deiet iach cytbwys i blant yng Nghymru yn opsiwn dim ond os nad ydych chi'n blentyn sy'n byw mewn tlodi, ac rydym ni ar y gyfradd o 29 y cant o hyd ar hyn o bryd, yn codi i 30 y cant, yn anffodus, o'n plant yma yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi. Mae llawer ohonom ni'n parhau i godi hyn ar draws y Siambr gan ei fod yn fater mor gywilyddus, os ydych chi'n byw yng Nghymru, i gael y lefel uchel honno o blant sy'n byw mewn tlodi. Dywedodd Sefydliad Bevan nad yw datganoli wedi gwneud dim i helpu'r plant hynny sy'n byw mewn tlodi. Dyna ein cyfle i wneud rhywbeth gwahanol. Felly, rwy'n gofyn i chi eto: a allech chi ystyried edrych ar dargedau i leihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi? Mae Seland Newydd a'r Ffindir wedi gwneud hyn, ac mae wedi effeithio ar nifer y plant sy'n byw mewn tlodi. Felly, rwy'n dweud wrthych chi eto, os gwelwch yn dda, bod angen i ni weithredu yma i leihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Thanks very much. We take our responsibility to reduce child poverty very seriously, but it is also something that the UK Government has to step in with. I am really pleased that, when it comes to the UK Government's 10-year health plan, one of the things they have done is they have increased the amount of money that is provided through Healthy Start. So, pregnant women and children aged one or older, but under four, are now going to be receiving £4.65 a week, and children under one will receive £9.30 every week. So, there’s an increasing amount of money that is going in via the UK Government. Since 2019, we as the Welsh Government have provided over £27 million, including more than £2 million this financial year, to tackle food insecurity, and that clearly goes to help many families with children as well.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n cymryd ein cyfrifoldeb i leihau tlodi plant o ddifrif iawn, ond mae hefyd yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gamu i mewn yn ei gylch. Rwy'n falch iawn, o ran cynllun iechyd 10 mlynedd Llywodraeth y DU, mai un o'r pethau y maen nhw wedi eu gwneud yw y maen nhw wedi cynyddu faint o arian sy'n cael ei ddarparu trwy Cychwyn Iach. Felly, mae menywod beichiog a phlant un oed neu hŷn, ond o dan bedair oed, bellach yn mynd i fod yn derbyn £4.65 yr wythnos, a bydd plant dan un oed yn derbyn £9.30 bob wythnos. Felly, ceir swm cynyddol o arian sy'n mynd i mewn trwy Lywodraeth y DU. Ers 2019, rydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £27 miliwn, gan gynnwys mwy na £2 filiwn yn y flwyddyn ariannol hon, i fynd i'r afael â diffyg diogeledd bwyd, ac mae hynny'n amlwg yn mynd i helpu llawer o deuluoedd â phlant hefyd.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trefi yng ngogledd Cymru? OQ63045
4. How is the Welsh Government investing in towns in north Wales? OQ63045

We're investing in the future of north Wales, and we are doing it with purpose and we are doing it with ambition. Since 2020, over £47 million has been delivered through our Transforming Towns programme across the region, bringing empty buildings back to life, creating jobs and putting culture and the community at the heart of regeneration. In Rhyl, we have supported the brand-new Queen's Market. In Wrexham, we are backing a £4 million creative hub right in the city centre. And let's not forget Theatr Clwyd, a national treasure for north Wales, rebuilt with £23.5 million of Welsh Labour Government support.
Rydyn ni'n buddsoddi yn nyfodol gogledd Cymru, ac rydym ni'n ei wneud gyda phwrpas ac rydym ni'n ei wneud gydag uchelgais. Ers 2020, darparwyd dros £47 miliwn drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi ledled y rhanbarth, gan ddod ag adeiladau gwag yn ôl yn fyw, creu swyddi a gwneud diwylliant a'r gymuned yn ganolog i adfywio. Yn y Rhyl, rydym ni wedi cefnogi Marchnad y Frenhines newydd sbon. Yn Wrecsam, rydym ni'n cefnogi canolfan greadigol gwerth £4 miliwn yng nghanol y ddinas. A gadewch i ni beidio ag anghofio Theatr Clwyd, trysor cenedlaethol i ogledd Cymru, a ailadeiladwyd gyda £23.5 miliwn o gymorth Llywodraeth Lafur Cymru.
Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog.
Thank you for that response, First Minister.
Our towns matter. They're more than places; they are part of who we are. As somebody that grew up in a small town and now lives in a town—it's a constituency made up of many small towns—it's not just important to me politically, but personally as well. You referenced the transformation of Theatr Clwyd, which will not only improve that facility as a jewel in our cultural crown in north-east Wales, but boost the local economy in the town and the surrounding area as well. Rhyl market opened, as you said, just last week, and I'm proud just to have played a part in establishing the Transforming Towns fund and starting that project that has come to fruition in the Queen's Market now.
As you said, Transforming Towns has delivered a significant amount of funding across Wales and across north Wales, with nearly £5.5 million in Flintshire and Denbighshire alone. So, First Minister, can I ask if you can confirm that the Welsh Government will continue to back our towns in this way? And can I ask for consideration of a commitment to seek ways to involve the community more, to give them more of a say and a stake in the decisions and influence their own communities and towns, not just to survive, but to thrive well into the future? Diolch.
Mae ein trefi yn bwysig. Maen nhw'n fwy na lleoedd; maen nhw'n rhan o bwy ydym ni. Fel rhywun a fagwyd mewn tref fach ac sydd bellach yn byw mewn tref—mae'n etholaeth sy'n cynnwys llawer o drefi bach—nid yn unig y mae'n bwysig i mi yn wleidyddol, ond yn bersonol hefyd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at drawsnewid Theatr Clwyd, a fydd nid yn unig yn gwella'r cyfleuster hwnnw fel trysor yn ein coron ddiwylliannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond yn rhoi hwb i'r economi leol yn y dref a'r cyffiniau hefyd. Agorodd marchnad y Rhyl, fel y gwnaethoch chi sôn, dim ond yr wythnos diwethaf, ac rwy'n falch o fod wedi chwarae rhan yn y gwaith o sefydlu'r gronfa Trawsnewid Trefi a dechrau'r prosiect hwnnw sydd wedi dwyn ffrwythau ym Marchnad y Frenhines nawr.
Fel y gwnaethoch chi sôn, mae Trawsnewid Trefi wedi darparu swm sylweddol o gyllid ledled Cymru ac ar draws y gogledd, gyda bron i £5.5 miliwn yn sir y Fflint a sir Ddinbych yn unig. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn a allwch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein trefi yn y modd hwn? Ac a gaf i ofyn am ystyriaeth o ymrwymiad i chwilio am ffyrdd o gynnwys y gymuned mwy, i roi mwy o lais a rhan iddyn nhw yn y penderfyniadau a dylanwadu ar eu cymunedau a'u trefi eu hunain, nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu ymhell i'r dyfodol? Diolch.

Thanks very much, and it's been a great pleasure to go and visit many of the towns that have benefited from our Transforming Towns fund. It was great to go with you to The Dolphin, the vacant pub that's in Flintshire. They've received a £0.25 million grant to transform that venue right in the middle of the town. I think there are many, many examples of that all over Wales, including, for example, another one I visited recently in Gwynedd, the Nyth project, the conversion of an empty church in the town centre in Bangor. It was a fantastic, vibrant area. Also, I think it probably is worth putting on record the fact that we now have the renovation of Theatr Clwyd, and it was great to see that you were there. Jack Sargeant was there for the opening, and it's something that truly should be celebrated and a jewel in the crown of culture in north Wales.
Diolch yn fawr iawn, ac mae wedi bod yn bleser mawr mynd i ymweld â llawer o'r trefi sydd wedi elwa o'n cronfa Trawsnewid Trefi. Roedd yn wych mynd gyda chi i'r Dolphin, y dafarn wag sydd yn sir y Fflint. Maen nhw wedi derbyn grant o £0.25 miliwn i drawsnewid y lleoliad hwnnw yng nghanol y dref. Rwy'n credu bod llawer iawn o enghreifftiau o hynny ledled Cymru gyfan, gan gynnwys, er enghraifft, un arall yr ymwelais â hi yn ddiweddar yng Ngwynedd, prosiect Nyth, trosi eglwys wag yng nghanol y dref ym Mangor. Roedd yn ardal fywiog, ardderchog. Hefyd, rwyf i hefyd, yn ôl pob tebyg, yn meddwl ei bod hi'n werth cofnodi'r ffaith bod gennym ni adnewyddiad Theatr Clwyd bellach, ac roedd yn wych gweld eich bod chi yno. Roedd Jack Sargeant yno ar gyfer yr agoriad, ac mae'n rhywbeth y dylid wir ei ddathlu ac yn drysor yng nghoron diwylliant yng ngogledd Cymru.
The previous UK Conservative Government allocated £126.46 million of UK shared prosperity funding to north Wales, which incorporated investment for towns across the region, including better open spaces in Conwy, a placemaking programme for Anglesey's town centres and larger villages, electric car charging points and improvements to community centres in Gwynedd, new village community facilities and improvements to the townscape of Ruthin in Denbighshire, the town centre investment programme in Flintshire, and funding for community infrastructure and development within Wrexham. Wrexham's Gateway project also received £9 million from the north Wales growth deal, initiated and 50 per cent funded by the previous UK Conservative Government.
However, although the current UK Labour Government has extended shared prosperity funding to 2026, it is understood they will then move the distribution of funding from a needs-based to a population-based formula, which will generate a huge funding cut for Wales, and that devolved decision making by local authorities and regions will then be scrapped and recentralised in the Welsh Government. What assurance can you therefore provide that towns and communities across north Wales will not then lose out once again?
Dyrannodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU £126.46 miliwn o gyllid ffyniant cyffredin y DU i ogledd Cymru, a oedd yn ymgorffori buddsoddiad ar gyfer trefi ledled y rhanbarth, gan gynnwys gwell mannau agored yng Nghonwy, rhaglen creu lleoedd ar gyfer canol trefi a phentrefi mwy Ynys Môn, pwyntiau gwefru ceir trydan a gwelliannau i ganolfannau cymunedol yng Ngwynedd, cyfleusterau cymunedol newydd i bentrefi a gwelliannau i dreflun Rhuthun yn sir Ddinbych, y rhaglen buddsoddi yng nghanol trefi yn sir y Fflint, a chyllid ar gyfer seilwaith a datblygu cymunedol yn Wrecsam. Derbyniodd prosiect Porth Wrecsam £9 miliwn hefyd o fargen dwf gogledd Cymru, a gychwynnwyd ac a ariannwyd 50 y cant gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU.
Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Lafur bresennol y DU wedi ymestyn cyllid ffyniant cyffredin tan 2026, deallir y byddan nhw wedyn yn symud dosbarthiad y cyllid o fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion i un sy'n seiliedig ar boblogaeth, a fydd yn creu toriad cyllid enfawr i Gymru, ac bydd y broses gwneud penderfyniadau ddatganoledig honno gan awdurdodau lleol a rhanbarthau wedyn yn cael ei diddymu a'i hail-ganoli yn Llywodraeth Cymru. Pa sicrwydd allwch chi ei roi felly na fydd trefi a chymunedau ledled gogledd Cymru wedyn ar eu colled unwaith eto wedyn?

I'm really pleased to see that the UK Government has listened to our concerns about the potential for the replacement of EU funds, which could have been distributed on a Barnett formula. That hasn't happened, so we retain about 22 per cent of the entire budget that's in the UK. So, we're not in the situation that we feared, and that additional money that previously came to Wales that we were promised would continue to come by people like you, when people in Wales were told that they wouldn't lose out as a result of Brexit—. There was a real threat that that might happen. I'm really pleased to see that we've managed to convince the UK Government that that would have been totally unfair, and that money continues to benefit our communities.
Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar ein pryderon am y potensial ar gyfer disodli cyllid yr UE, a allai fod wedi cael ei ddosbarthu ar sail fformiwla Barnett. Nid yw hynny wedi digwydd, felly rydyn ni'n cadw tua 22 y cant o'r gyllideb gyfan sydd yn y DU. Felly, nid ydym ni yn y sefyllfa yr oeddem ni'n ei hofni, ac y byddai'r arian ychwanegol hwnnw a ddaeth i Gymru yn flaenorol yr addawyd i ni y byddai'n parhau i ddod gan bobl fel chi, pan ddywedwyd wrth bobl yng Nghymru na fydden nhw ar eu colled o ganlyniad i Brexit—. Roedd bygythiad gwirioneddol y gallai hynny ddigwydd. Rwy'n falch iawn o weld ein bod ni wedi llwyddo i argyhoeddi Llywodraeth y DU y byddai hynny wedi bod yn hollol annheg, a bod yr arian hwnnw yn parhau i fod o fudd i'n cymunedau.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod swyddi yn y sector cyhoeddus yn hygyrch ar draws holl ranbarthau Cymru? OQ63040
5. How is the Welsh Government working to ensure that public sector jobs are accessible across all regions of Wales? OQ63040

We're committed to ensuring public sector jobs are accessible in every part of Wales, not just in our cities, but in areas like Montgomeryshire. Representing the Mid and West Wales region, I see first-hand how vital it is that people in rural communities have the chance to build a career close to home, and to stay and thrive in the places they know and love. Our roles are advertised pan Wales, and Welsh Government has staff working across 20 different sites.
Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod swyddi sector cyhoeddus yn hygyrch ym mhob rhan o Gymru, nid yn ein dinasoedd yn unig, ond mewn ardaloedd fel sir Drefaldwyn. O gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n gweld yn bersonol pa mor hanfodol yw hi bod pobl mewn cymunedau gwledig yn cael y cyfle i adeiladu gyrfa yn agos at adref, ac i aros a ffynnu yn y lleoedd y maen nhw'n eu hadnabod ac yn eu caru. Mae ein swyddi yn cael eu hysbysebu ledled Cymru gyfan, ac mae gan Lywodraeth Cymru staff sy'n gweithio ar draws 20 o wahanol safleoedd.
First Minister, I'm delighted with that answer. I fully agree with you. It is, of course, really important that people across Wales have the opportunity to work for the Welsh Government from every region, and the civil service would be all the richer for it, if it were to employ people from all communities, not just those who live in the Cardiff area.
Now, recently, I asked a written question about Welsh Government offices, First Minister, and you responded to me that the Welsh Government is undertaking a review of its business accommodation in the Powys region, including Ladywell House, indeed, in Montgomeryshire. Now, of course, Ladywell House has been a Welsh Government office since the very first Welsh Government, and prior to that, with predecessor organisations as well. It employs 80 people, and those 80 people are attracted from across different Government departments. I wonder would you agree with me that it is important to have Welsh Government offices across Wales, including in Newtown, because those offices and the staff who work there support shops and services in towns as well. And would you agree with me that it is important to employ and retain people who live in mid Wales to make the Welsh Government more reflective of the needs and requirements of all people, from all communities across Wales?
Prif Weinidog, rwyf i wrth fy modd gyda'r ateb yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, bod pobl ledled Cymru yn cael y cyfle i weithio i Lywodraeth Cymru o bob rhanbarth, a byddai'r gwasanaeth sifil yn gyfoethocach o'i herwydd, pe bai'n cyflogi pobl o bob cymuned, nid y rhai sy'n byw yn ardal Caerdydd yn unig.
Nawr, yn ddiweddar, gofynnais gwestiwn ysgrifenedig am swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog, ac fe wnaethoch chi ymateb i mi bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'i llety busnes yn rhanbarth Powys, gan gynnwys Tŷ Ladywell, yn wir, yn sir Drefaldwyn. Nawr, wrth gwrs, mae Tŷ Ladywell wedi bod yn swyddfa Llywodraeth Cymru ers y Llywodraeth Cymru gyntaf un, a chyn hynny, gyda sefydliadau rhagflaenol hefyd. Mae'n cyflogi 80 o bobl, ac mae'r 80 o bobl hynny yn cael eu denu o wahanol adrannau'r Llywodraeth. Tybed a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig cael swyddfeydd Llywodraeth Cymru ledled Cymru, gan gynnwys yn y Drenewydd, gan fod y swyddfeydd hynny a'r staff sy'n gweithio yno yn cefnogi siopau a gwasanaethau mewn trefi hefyd. Ac a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig cyflogi a chadw pobl sy'n byw yng nghanolbarth Cymru i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu mwy anghenion a gofynion yr holl bobl, o bob cymuned ledled Cymru?

Well, thanks very much. Yes, we do have an office in Newtown that is able to accommodate 82 people. We've got a centre in Aberystwyth that is able to accommodate 275 staff plus 137 tenants. We are having a review at the moment, partly because of the change in the way that people work. We can't justify continuing to hold offices open if people don't turn up. It is important that we encourage people to come into work; we are encouraging them to come in. But, clearly, there will come a point where you have to say, 'If you don't turn up, we cannot justify keeping this particular office open.' So, it is incumbent on those people to understand that if they don't go into the offices, there is a danger that we will be in a situation where it'll be difficult for us to continue, if they don't turn up.
Wel, diolch yn fawr iawn. Oes, mae gennym ni swyddfa yn y Drenewydd lle mae lle ar gyfer 82 o bobl. Mae gennym ni ganolfan yn Aberystwyth lle mae lle ar gyfer 275 o staff ynghyd â 137 o denantiaid. Rydym ni'n cynnal adolygiad ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd y newid i'r ffordd y mae pobl yn gweithio. Ni allwn gyfiawnhau parhau i gadw swyddi ar agor os nad yw pobl yn dod yno. Mae'n bwysig ein bod ni'n annog pobl i ddod i mewn i'r gwaith; rydym ni'n eu hannog nhw i ddod i mewn. Ond, yn amlwg, bydd adeg yn dod lle mae'n rhaid i chi ddweud, 'Os nad ydych chi'n dod, ni allwn gyfiawnhau cadw'r swyddfa benodol hon ar agor.' Felly, mae'n ddyletswydd ar y bobl hynny i ddeall, os nad ydyn nhw'n mynd i mewn i'r swyddfeydd, bod perygl y byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd hi'n anodd i ni barhau, os nad ydyn nhw'n dod yno.
Well, 14 years of Tory austerity saw local authority jobs cut by 40 per cent, yet councils and health are still the biggest employers across Wales, or one of the biggest employers across Wales. At jobs fairs, we often see that they promote jobs in businesses, but how is the Welsh Government promoting jobs in the public sector, such as nursing jobs, teaching, planning, public protection, all these really important jobs helping keep our communities safe and vibrant, and looking after people, basically? How are you working with the UK Government to ensure that these jobs are properly funded again, after 14 years of cuts and austerity? Thank you.
Wel, arweiniodd 14 mlynedd o gyni cyllidol Torïaidd at dorri swyddi awdurdodau lleol 40 y cant, ac eto cynghorau a sefydliadau iechyd yw'r cyflogwyr mwyaf ledled Cymru o hyd, neu un o'r cyflogwyr mwyaf ledled Cymru. Mewn ffeiriau swyddi, rydym ni'n aml yn gweld eu bod nhw'n hyrwyddo swyddi mewn busnesau, ond sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo swyddi yn y sector cyhoeddus, fel swyddi nyrsio, addysgu, cynllunio, diogelu'r cyhoedd, yr holl swyddi pwysig iawn hyn sy'n helpu i gadw ein cymunedau yn ddiogel ac yn fywiog, a gofalu am bobl, yn y bôn? Sut ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y swyddi hyn yn cael eu hariannu'n briodol eto, ar ôl 14 mlynedd o doriadau a chyni cyllidol? Diolch.

Well, thanks very much. What we've been able to do with that additional funding that, of course, the Tories and Plaid tried to block, is that we have been able to give an above-inflation pay rise to public sector workers in Wales for the second year in a row. We never got rid of things like the nurse bursary, like they did in England. We have done significant work to try and promote people coming to work in the care sector, with the WeCare Wales website, and to try to encourage that, and we pay the real living wage for care workers. So, there are areas where we are still very challenged, but as a Labour Government, we are trying to make sure that we lead with our values, that we make sure that people understand that, actually, it is very often the people who are paid the lowest who are holding our communities together and deserve that reward.
Wel, diolch yn fawr iawn. Yr hyn yr ydym ni wedi gallu ei wneud gyda'r cyllid ychwanegol y gwnaeth y Torïaid a Phlaid Cymru geisio ei rwystro, wrth gwrs, yw rydym ni wedi gallu rhoi codiad cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Ni wnaethom ni erioed gael gwared ar bethau fel y fwrsariaeth nyrsys, fel y gwnaethon nhw yn Lloegr. Rydym ni wedi gwneud gwaith sylweddol i geisio hyrwyddo pobl yn dod i weithio yn y sector gofal, gyda gwefan Gofalwn Cymru, ac i geisio annog hynny, ac rydym ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Felly, ceir meysydd lle'r ydym ni'n dal i gael ein herio'n fawr, ond fel Llywodraeth Lafur, rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n arwain gyda'n gwerthoedd, ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod pobl yn deall, mewn gwirionedd, mai'r bobl sy'n cael eu talu isaf sy'n dal ein cymunedau gyda'i gilydd yn aml iawn, ac yn haeddu'r wobr honno.
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â diffyg niferoedd yn y gweithlu anestheteg? OQ63038
6. What is the Welsh Government doing to address shortfalls in the anaesthetist workforce? OQ63038

Welsh Government is spending more than £294 million this year to train the NHS workforce of the future. Record numbers of people are employed in the NHS, including doctors, and since 2020, we've increased anaesthetics training places at all levels.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy na £294 miliwn eleni i hyfforddi gweithlu'r GIG ar gyfer y dyfodol. Mae'r niferoedd uchaf erioed o bobl yn cael eu cyflogi yn y GIG, gan gynnwys meddygon, ac ers 2020, rydym ni wedi cynyddu lleoedd hyfforddi anestheteg ar bob lefel.
Diolch, First Minister. As highlighted in the health questions last week, a shortage in anaesthetists will have a significant impact on our ability to conduct surgical operations and tackle waiting times. According to the Royal College of Anaesthetists, Wales has 17 per cent fewer anaesthetists than needed to meet demand. First Minister, we need to increase the number of training places if we are to have any hope of addressing the shortfall of 90,000 operations and procedures each year. With this in mind, will your Government fund additional anaesthetist training places for 2026?
Diolch, Prif Weinidog. Fel y nodwyd yn y cwestiynau iechyd yr wythnos diwethaf, bydd prinder anesthetyddion yn cael effaith sylweddol ar ein gallu i gyflawni llawdriniaethau llawfeddygol a mynd i'r afael ag amseroedd aros. Yn ôl Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion, mae gan Gymru 17 y cant yn llai o anesthetyddion nag sydd eu hangen i fodloni'r galw. Prif Weinidog, mae angen i ni gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi os ydym ni'n mynd i fod ag unrhyw obaith o fynd i'r afael â'r diffyg o 90,000 o lawdriniaethau a thriniaethau bob blwyddyn. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff eich Llywodraeth ariannu lleoedd hyfforddi anesthetyddion ychwanegol ar gyfer 2026?

Thanks very much. The number of consultants in Wales has increased by 16 per cent in the last five years. We have 467 who specialise in anaesthetics, and that's risen by 5.6 per cent over the past five years. We're very confident that we have a situation where we're injecting money into the NHS. We're keen to take 200,000 patients off our waiting lists, and we're confident that those plans are deliverable with the configuration of the workforce that we have in place at the moment. But I do think it's probably worth emphasising that the number of people working in the NHS today is at record levels, and the number of medical and dental staff has increased by—listen to this—45 per cent in the past 10 years. I think it's worth people recognising that that is a significant increase. Clearly, there is demand upon demand upon demand, but we're working really hard to keep up with that demand, and I hope those statistics tell their own story.
Diolch yn fawr. Mae nifer y meddygon ymgynghorol yng Nghymru wedi cynyddu 16 y cant yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae gennym ni 467 sy'n arbenigo mewn anestheteg, ac mae hynny wedi cynyddu 5.6 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. Rydym ni'n hyderus iawn ein bod ni mewn sefyllfa lle rydym ni'n chwistrellu arian i'r GIG. Rydym ni'n awyddus i dynnu 200,000 o gleifion oddi ar ein rhestrau aros, ac rydym ni'n hyderus fod y cynlluniau hynny'n cael eu cyflawni gyda chyfluniad y gweithlu sydd gennym ni ar waith ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth pwysleisio bod nifer y bobl sy'n gweithio yn y GIG heddiw ar y cyfraddau mwyaf erioed, ac mae nifer y staff meddygol a deintyddol wedi cynyddu 45 y cant yn y 10 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu y byddai hi'n werth i bobl gydnabod bod hwnnw'n gynnydd sylweddol. Yn amlwg, mae'r galw yn ddiderfyn, ond rydym ni'n gweithio'n galed iawn i gadw i fyny â'r galw hwnnw, ac rwy'n gobeithio bod yr ystadegau hynny'n dweud eu stori eu hunain.
Mae cwestiwn 7 [OQ63043] wedi'i dynnu'n ôl.
Question 7 [OQ63043] is withdrawn.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau llygredd afonydd a môr yn Abertawe? OQ63015
8. Will the First Minister provide an update on Welsh Government action to reduce river and sea pollution in Swansea? OQ63015

Our rivers and coastlines must be clean, safe and protected for future generations in Swansea, and this Welsh Labour Government is taking real action to make that happen. Through the Swansea Bay opportunity catchment, we're working with Natural Resources Wales and the council to tackle pollution from source to sea, cleaning up the River Clyne, investing in green drainage, and doubling tree cover by 2044. We've worked to ensure over £56 million has already gone into improving water quality, and we're proud that Wales now leads the UK on clean bathing waters, with 103 out of 110 rated good or excellent.
Mae'n rhaid cadw ein hafonydd a'n harfordiroedd yn lân, yn ddiogel a'u hamddiffyn nhw er mwyn cenedlaethau'r dyfodol yn Abertawe, ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yn cymryd camau gwirioneddol i sicrhau bod hynny'n digwydd. Drwy ddalgylch cyfle Bae Abertawe, rydym ni'n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor i fynd i'r afael â llygredd o'r ffynhonnell hyd y môr, gan lanhau Afon Clun, buddsoddi mewn draenio gwyrdd, a dyblu gorchudd coed erbyn 2044. Rydym ni wedi bod yn gweithio i sicrhau bod dros £56 miliwn wedi mynd i wella ansawdd dŵr eisoes, ac rydym ni'n falch fod Cymru yn arwain y DU erbyn hyn o ran dyfroedd ymdrochi glân, gyda 103 o 110 wedi ennill gradd dda neu ardderchog.
Thank you for that very positive response, First Minister. We, however, know that water quality is under attack. Sewage and urban pollution, agricultural pollution and industrial pollution all contribute to this problem. What is the Welsh Government doing on further solutions, like improving agricultural practices and farm infrastructure to address chemicals, surface run-off and the erosion of soil, restoring natural features, such as wetlands and woodlands, which act as natural filters for pollutants, creating green infrastructure to slow the flow of surface run-off and reduce the risk of sewer systems overflowing, stopping sewage overflows from Trebanos pumping works, which pollutes both the Tawe and then finally the sea in Swansea, dealing with microplastics in the River Tawe and the sea? My major concern is both sewage and agricultural pollution in the River Tawe going into the sea. How are we going to stop that happening?
Diolch i chi am yr ymateb cadarnhaol iawn yna, Prif Weinidog. Fe wyddom ni, serch hynny, fod ansawdd dŵr dan ymosodiad. Mae carthion a llygredd trefol, llygredd amaethyddol a llygredd diwydiannol i gyd yn cyfrannu at y broblem hon. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â datrysiadau pellach, megis gwella arferion amaethyddol a'r seilwaith ar ffermydd i fynd i'r afael â chemegau, dŵr ffo arwyneb ac erydiad pridd, gan adfer nodweddion naturiol, megis gwlyptiroedd a choetiroedd, sy'n gwneud gwaith hidlo naturiol ar gyfer llygryddion, i greu seilwaith gwyrdd ar gyfer arafu llif dŵr ffo wyneb a lleihau'r perygl y bydd systemau carthffosiaeth yn gorlifo, ac atal gorlifo carthion o waith pwmpio Trebanos, sy'n llygru Afon Tawe a'r môr yn Abertawe yn y diwedd, ac ymdrin â microblastigau yn Afon Tawe a'r môr? Fy mhrif bryder i yw'r carthion a'r llygredd amaethyddol yn Afon Tawe yn mynd i'r môr. Sut ydym ni am atal hynny rhag digwydd?

Thanks very much. I think it is important to recognise that we've got work to do, but actually, if you compare us to England, 44 per cent of our rivers have achieved good or better ecological status. That's three times higher than the situation in England. What we've done here is we've introduced the Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021 to improve nutrient management, and that's been backed by £52 million in infrastructure grants.
But I think it's probably also worth underlining that we've got other legislation in place, including world-leading sustainable drainage systems, to make sure that all new developments manage surface water sustainably. That reduces pollution and flood risk, and that is now an example, I think, for others to follow.
Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod gennym ni waith i'w wneud eto, ond mewn gwirionedd, os ydych chi'n ein cymharu ni â Lloegr, mae 44 y cant o'n hafonydd ni wedi cyrraedd statws ecolegol da neu well na hynny. Dyna dair gwaith yn well na'r sefyllfa yn Lloegr. Yr hyn a wnaethom ni yma oedd cyflwyno Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i wella rheolaeth maethynnau, ac fe gefnogwyd hynny gan £52 miliwn o grantiau seilwaith.
Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth pwysleisio hefyd fod gennym ni ddeddfwriaeth arall ar waith, sy'n cynnwys systemau draenio cynaliadwy sy'n arwain y byd, i sicrhau bod pob datblygiad newydd yn rheoli dŵr wyneb mewn ffordd gynaliadwy. Mae hynny'n lleihau llygredd a pherygl llifogydd ac mae honno'n esiampl nawr i eraill ei dilyn, yn fy marn i.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Delyth Jewell.
Finally, question 9, Delyth Jewell.
9. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â thargedau i leihau marwolaethau babanod? OQ63037
9. What discussions has the First Minister had with the Cabinet Secretary for Health and Social Care about targets to reduce baby deaths? OQ63037

Rŷn ni’n gwybod bod colli unrhyw fabi yn dorcalonnus, ac mae lleihau marwolaethau babanod yn flaenoriaeth absoliwt. Rŷn ni'n barod wedi gweld gostyngiad tymor hir mewn cyfraddau marwolaethau marwanedig a newyddanedig, ond rŷn ni'n mynnu newid pellach. Dyna pam rŷn ni wedi cyhoeddi datganiad ansawdd cenedlaethol newydd ac wedi buddsoddi yn y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol. Erbyn hyn mae pob un o'r byrddau iechyd yn cyflawni camau wedi'u targedu i wella canlyniadau ac i ddysgu o niwed. Rŷn ni'n gwrando, rŷn ni'n dysgu, ac wedi ymrwymo i newid parhaus.
We know that every baby lost is a heartbreak, and reducing baby deaths is an absolute priority. We've already seen a long-term decline in rates of stillbirth and neonatal mortality, but we are demanding further change. That's why we've published a new national quality statement and we have invested in the maternity and neonatal safety support programme. Now, every health board is delivering targeted action to improve outcomes and to learn from harm. We are listening, we're learning, and we're committed to ongoing change.
Diolch yn fawr iawn am hynny. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth sy'n effeithio ar nifer fawr iawn o deuluoedd. Yn ogystal â'r gwaith pwysig rŷch chi wedi'i restru yna, buaswn i'n hoffi gofyn i chi am y gefnogaeth sydd yna ar gyfer rhieni.
Thank you very much for that response. This is quite clearly something that is having an impact on many families. As well as the important steps that you’ve just outlined, I'd like to ask you about the support that exists for parents.
Every year, thousands of parents will face pregnancy loss or the death of a baby. The charity Sands has found that only one in six bereaved parents gain access to psychological support from the NHS. I've been contacted by constituents who've gone through this horrific ordeal who, to their credit, are campaigning to make sure other parents do not have to face what they've had to go through, either alone or without all of the support that they could have benefited from.
Bereaved parents are more likely to experience family strain, financial difficulties because of sick leave, and they also face an increased risk to their lives. I know no words of comfort can make that right, but surely having specialist pathways for psychological support would lessen the burden on them. There are many things that need to change, including baby loss certificates, but this emotional support is of urgent importance. So, please could you update the Senedd? And would you meet me with Sands and campaigners to talk about what needs to change?
Bob blwyddyn, bydd miloedd o rieni yn wynebu colled beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Mae elusen Sands wedi canfod mai dim ond un o bob chwech o rieni mewn profedigaeth sy'n cael derbyn cymorth seicolegol gan y GIG. Rwyf i wedi cysylltu ag etholwyr sydd wedi mynd trwy'r archoll ofnadwy hwn, er clod iddyn nhw, sy'n ymgyrchu dros sicrhau na fydd raid i rieni eraill wynebu'r hyn y gwnaethon nhw fynd drwyddo, naill ai ar eu pennau eu hunain neu heb gael y gefnogaeth honno i gyd y gallen nhw fod wedi elwa arni.
Mae rhieni mewn profedigaeth yn fwy tebygol o brofi straen teuluol, anawsterau ariannol oherwydd absenoldeb oherwydd salwch, ac maen nhw'n yn wynebu risg uwch i'w bywydau hefyd. Rwy'n gwybod na all unrhyw eiriau o gysur wneud yn iawn am hynny, ond yn sicr fe fyddai bod â llwybrau arbenigol ar gyfer cymorth seicolegol yn ysgafnu'r baich sydd arnyn nhw. Mae yna lawer o bethau y mae angen eu newid, gan gynnwys tystysgrifau colli baban, ond mae'r gefnogaeth emosiynol hon yn bwysig iawn. Felly, a allech chi ddiweddaru'r Senedd? A fyddech chi'n dod gyda mi i gwrdd â Sands ac ymgyrchwyr i siarad am yr hyn y mae angen ei newid?

Losing a baby is obviously a really devastating experience for the families, and it is important that the state is there to give them the support at that really challenging time in their lives. That's why all families who experience late pregnancy loss at maternity units in Wales are supported by bereavement midwives. There's always more we can do. I know that Sands does a terrific job in terms of speaking up for those families and pulling together the concerns. I think it's really important that we listen to feedback from people who've been through this trauma. I know that the Cabinet Secretary for health is listening very carefully and is very much in this space, particularly at the moment when we know many people have that acute awareness of the difficult situations in some parts of Wales.
Mae colli baban yn amlwg yn brofiad difrifol iawn i'r teuluoedd, ac mae hi'n bwysig fod y wladwriaeth ar gael i roi'r gefnogaeth iddyn nhw ar yr adeg wirioneddol heriol honno yn eu bywydau. Dyna pam mae pob teulu sy'n profi colled beichiogrwydd hwyr mewn unedau mamolaeth yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profedigaeth. Mae yna ragor y byddem ni'n gallu ei wneud bob amser. Fe wn i fod Sands yn gwneud gwaith gwych o ran siarad ar ran y teuluoedd hynny a thynnu'r pryderon at ei gilydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar adborth gan bobl sydd wedi bod trwy'r trawma hwn. Fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gwrando'n ofalus iawn ac yn ymwybodol iawn o'r mater, yn enwedig nawr wrth i ni fod yn gwybod bod cymaint o bobl â'r ymwybyddiaeth ddifrifol honno o'r sefyllfaoedd anodd mewn rhai rhannau o Gymru.
Dioch i'r Prif Weinidog.
Thank you, First Minister.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, a bydd y cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
The next item will be questions to the Counsel General and Minister for Delivery, and the first question is from Peredur Owen Griffiths.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch yr amserlen weithredu ar gyfer Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024? OQ63027
1. What legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government regarding the implementation timetable for the Environment (Air Quality and Soundscapes) (Wales) Act 2024? OQ63027

The Welsh Government continues to implement the Environment (Air Quality and Soundscapes) (Wales) Act 2024 following Royal Assent in February 2024. Most provisions within the Act are currently in force, and we continue to work to improve air quality and reduce the impacts of air and noise pollution.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn dilyn Cydsyniad Brenhinol mis Chwefror 2024. Mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Ddeddf mewn grym ar hyn o bryd, ac rydym ni'n parhau i weithio ar wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer a sŵn.
Diolch am yr ateb hwnnw.
Thank you for that answer.
Counsel General, the passing of the Environment (Air Quality and Soundscapes) (Wales) Act 2024 was an important moment in the fight against air pollution, but 17 months on we've still not seen the draft regulations needed to deliver the Act and protect people from toxic air. When will the Government bring forward regulations on stationary idling and solid fuel? Why have these regulations not been brought forward to date? Is there a risk, as we get closer to the election and the pressure on the legislative programme, that these might be delayed even further?
Cwnsler Cyffredinol, roedd pasio Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn foment bwysig yn y frwydr yn erbyn llygredd aer, ond 17 mis yn ddiweddarach nid ydym ni wedi gweld y rheoliadau drafft sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'r Ddeddf ac amddiffyn pobl rhag aer gwenwynig. Pryd fydd y Llywodraeth yn cyflwyno rheoliadau o ran segura llonydd a thanwydd solet? Pam na chyflwynwyd y rheoliadau hyn hyd yma? A oes perygl, wrth i ni nesáu at yr etholiad a'r pwysau ar y rhaglen ddeddfwriaethol, y gallai'r rhain gael eu gohirio eto hyd yn oed?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
Thank you very much for that. I run a programme of looking at the implementation of all Acts that the Senedd has undertaken. I undertake regular meetings with the various Cabinet Secretaries responsible for this. I very recently met with the Cabinet Secretary for climate change and the Cabinet Secretary for transport to discuss those two issues. We remain on track to develop the new air quality targets for Wales in line with the statutory duties under the Act. We expect the public consultation on targets for PM2.5 will be launched during autumn 2025.
We're also consulting shortly on regulations to introduce a new fixed penalty range for engine idling, allowing for higher fines. I'm sure the Member remembers, as all Members of the Senedd do, that it's already an offence, but the penalties for that offence were thought to be insufficient to enable behaviour change, which is what we're looking for. It isn't a revenue-raising point at all; it's about making people aware of the implications of idling. Of course, many new cars automatically do it, so it's just about reminding people. This will strengthen the framework to tackle idling vehicles, to be applied specifically in high-risk areas like schools, hospitals, and outside care homes. We're very keen indeed to do that.
On domestic solid fuels, in the clean air plan for Wales, 'Healthy Air, Healthy Wales', which was put forward in 2020, the Welsh Government committed to prohibiting the sale of the most polluting forms of solid fuels for domestic use in Wales, subject to the consultation. We consulted on reducing emissions from domestic burning of solid fuels in 2021, and the summary of responses was published in October 2023. Following this, we've been considering the scope for introducing regulations in the current Senedd term to restrict the sale of bituminous and traditional house coal, wet wood, and manufactured solid fuels with high sulphur and smoke emissions. I've discussed this with Huw on a number of occasions, and we are looking to bring forward those regulations shortly. I do run the legislation programme for Wales as part of my remit as well, and I have a Cabinet sub-committee to discuss the schedule of various secondary legislation that we want to make sure is implemented before the end of the Senedd term. That's very firmly on the agenda. So, I can assure you, as the Member who actually took the Act through, that I'm very keen on making sure it's implemented.
Diolch yn fawr iawn i chi am hynna. Rwy'n rhedeg rhaglen sy'n ystyried gweithrediad yr holl Ddeddfau y mae'r Senedd wedi ymgymryd â nhw. Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet amrywiol sy'n gyfrifol am hynny. Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth i drafod y ddau fater hynny. Rydym ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i ddatblygu'r targedau newydd o ran ansawdd aer ar gyfer Cymru yn unol â'r dyletswyddau statudol dan y Ddeddf. Rydym ni'n disgwyl i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar dargedau ar gyfer PM2.5 gael ei lansio yn ystod yr hydref 2025.
Fe fyddwn ni'n ymgynghori gyda hyn hefyd ar reoliadau i gyflwyno ystod newydd o gosbau sefydlog ar gyfer segura llonydd, a fydd yn caniatáu dirwyon mwy. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn cofio, fel pob Aelod o'r Senedd, ei bod hi'n drosedd eisoes, ond y farn oedd nad oedd y cosbau am y drosedd honno yn ddigonol i greu newid ymddygiad, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei geisio. Nid pwynt o ran codi refeniw mohono o gwbl; mae hyn yn ymwneud â gwneud pobl yn ymwybodol o oblygiadau segura llonydd. Wrth gwrs, mae llawer o geir newydd yn diffodd yn awtomatig, felly mae hyn yn ymwneud ag atgoffa pobl. Fe fydd hyn yn cryfhau'r fframwaith i fynd i'r afael â segura llonydd, i'w gymhwyso yn benodol mewn ardaloedd risg uchel fel ysgolion, ysbytai, a'r tu allan i gartrefi gofal. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny.
O ran tanwydd solet domestig, yng nghynllun aer glân Cymru, 'Aer Iach, Cymru Iach', a gyflwynwyd yn 2020, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthiant y mathau mwyaf llygrol o danwydd solet ar gyfer defnydd domestig yng Nghymru, yn amodol ar yr ymgynghoriad. Fe wnaethom ni ymgynghori ar leihau allyriadau oherwydd llosgi tanwydd solet domestig yn 2021, ac fe gyhoeddwyd y crynodeb o'r ymatebion ym mis Hydref 2023. Yn dilyn ar hyn, fe fuom ni'n ystyried y cwmpas ar gyfer cyflwyno rheoliadau yn nhymor y Senedd bresennol i gyfyngu ar werthiant glo tŷ bitwminaidd a thraddodiadol, pren gwlyb, a thanwydd solet a weithgynhyrchwyd gydag allyriadau sylweddol o sylffwr a mwg. Rwyf i wedi trafod hyn gyda Huw ar sawl achlysur, ac rydym ni'n bwriadu cyflwyno'r rheoliadau hynny cyn bo hir. Rwy'n rhedeg y rhaglen ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru yn rhan o'm cylch gorchwyl hefyd, ac mae is-bwyllgor y Cabinet gennyf i ar gyfer trafod amserlen amrywiol yr is-ddeddfwriaeth yr ydym ni'n awyddus i sicrhau y bydd hi'n cael ei gweithredu cyn diwedd tymor y Senedd. Mae hynny ar yr agenda yn bendant. Felly, rwy'n gallu eich sicrhau chi, sef yr Aelod a ddygodd y Ddeddf drwodd, fy mod i'n awyddus iawn i sicrhau y bydd hi'n cael ei rhoi ar waith.
Thank you. At last week's climate change committee, we were taking evidence from Dr Robert Lee. He is the director of education for the Centre for Environmental Research and Justice at the University of Birmingham. We were taking evidence on the environment Bill. Dr Lee explained that pollution globally is the single largest cause of premature death. I was really shocked by it. It runs at 15 per cent on average of the population, and it's far bigger than the combined effect of malaria, tuberculosis, AIDS, and all those infectious diseases. Do you agree with me, Cabinet Secretary, that reopening coal mines is a retrograde step that would exacerbate dangerous air pollution, and that renewable energy, using wind, wave, and solar, is the way forward?
Diolch i chi. Ym mhwyllgor newid hinsawdd yr wythnos diwethaf, roeddem ni'n cymryd tystiolaeth gan Dr Robert Lee. Ef yw cyfarwyddwr addysg y Ganolfan Ymchwil Amgylcheddol a Chyfiawnder ym Mhrifysgol Birmingham. Roeddem ni'n cymryd tystiolaeth ar y Bil amgylchedd. Esboniodd Dr Lee mai llygredd yw achos pennaf marwolaeth gynamserol yn fyd-eang. Fe'm syfrdanwyd i'n fawr gan hynny. Mae'r gyfradd ar 15 y cant ar gyfartaledd drwy'r boblogaeth, ac mae'n cyfrif am lawer mwy nag effaith gyfunol malaria, twbercwlosis, AIDS, a'r holl glefydau heintus. A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, bod ailagor pyllau glo yn gam yn ôl a fyddai'n gwaethygu llygredd aer sy'n beryglus, ac mai ynni adnewyddadwy, sy'n defnyddio'r gwynt, y tonnau, a'r haul, yw'r ffordd ymlaen?
Thank you very much, Carolyn, for that. It is a shocking statistic, isn't it, that pollution is one of the main killers. It's something that I think most people don't really quite realise, and when it's brought home to us, it does make it really obvious why we've got to make efforts to make sure that we clean up our air and our land and water, of course. In order to meet our ambitious net-zero targets, we absolutely have to reduce emissions from energy generation by reducing fossil fuel generation and increasing generation from renewable sources. The extraction and use of fossil fuels for energy is not compatible with a pathway to reach net zero at a pace that even remotely addresses the climate emergency.
Our vision for the future of industry and energy generation in Wales is one in which sustainable industries are retained in Wales and continue to generate high-quality jobs and the other benefits for the communities they serve. We want that industry to substantially reduce its reliance on fossil fuels and its generation of greenhouse gases, which cause the pollution that we're discussing. It's absolutely the established policy of the Welsh Government to bring to a managed end the extraction and use of all coal. We do not intend to authorise any new mining operation licences or variations to existing licences. In November 2024, the UK Government confirmed it would legislate to restrict future licensing of new coal mines by the Mining Remediation Authority, except for safety and restoration purposes. This prohibition will apply across the UK, so that should see applications for new or extended coal mining operations come to an end across the whole of the UK.
Diolch yn fawr iawn i chi, Carolyn, am hynna. Mae hwnnw'n ystadegyn syfrdanol, onid ydyw, sef bod llygredd yn un o'r prif leiddiaid. Mae'n rhywbeth nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli mewn gwirionedd, yn fy marn i, a phan gaiff hynny ei egluro i ni, fe ddaw hi'n amlwg iawn pam mae'n rhaid i ni ymdrechu i sicrhau ein bod ni'n glanhau ein haer a'n tir a'n dŵr, wrth gwrs. Ar gyfer cyrraedd ein nodau sero net uchelgeisiol, mae'n rhaid i ni leihau allyriadau oherwydd cynhyrchiant ynni trwy leihau cynhyrchiant tanwydd ffosil a chynyddu cynhyrchiant o ffynonellau adnewyddadwy. Nid yw echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil ar gyfer ynni yn cydweddu â llwybr at gyrraedd sero net ar gyflymder nad yw hyd yn oed yn dechrau mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae ein gweledigaeth ni ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchiant ynni yng Nghymru yn un o ddiwydiannau cynaliadwy yn cael eu cadw yng Nghymru ac yn parhau i greu swyddi o ansawdd uchel ac yn dod â manteision eraill i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Rydym ni'n awyddus i'r diwydiant hwnnw leihau ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil yn sylweddol a'r nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ganddo, sy'n achosi'r llygredd yr ydym ni'n sôn amdano. Mae dod ag echdynnu a defnyddio pob glo i ben dan reolaeth yn bolisi sefydledig gan Lywodraeth Cymru. Nid ydym ni'n bwriadu rhoi awdurdod i unrhyw drwyddedau ar gyfer gwaith mwyngloddio newydd neu ganiatáu amrywiadau i drwyddedau cyfredol. Ym mis Tachwedd 2024, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai hi'n deddfu ar gyfyngiadau o ran trwyddedu pyllau glo newydd yn y dyfodol gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, ac eithrio at ddibenion diogelwch ac adferiad. Fe fydd y gwaharddiad hwn yn berthnasol ledled y DU, ac felly fe ddylai hynny weld ceisiadau am weithrediadau mwyngloddio glo newydd neu estynedig yn dod i ben ledled y DU gyfan.
I just want to come back to the issue of the delay on implementing the idling regulations. Unfortunately, far too many drivers in my constituency do not understand that they are breaking the law at the moment. I'm sure many headteachers would really value ensuring that the fines for this offensive behaviour are increased in order to protect their pupils. I appreciate that this is now out for consultation, but when do we expect to get this made enforceable in law, so that we've got more people like the parking attendants being able to enforce this?
Fe hoffwn i ddychwelyd at y mater ynglŷn â'r oedi o ran gweithredu'r rheoliadau segura. Yn anffodus, nid yw llawer o yrwyr yn fy etholaeth i'n deall eu bod nhw'n torri'r gyfraith ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr y byddai llawer o benaethiaid ysgol yn gwerthfawrogi sicrhau bod y dirwyon am yr ymddygiad drwg hwn yn cael eu cynyddu er mwyn amddiffyn eu disgyblion nhw. Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond pryd ydym ni'n disgwyl y bydd hyn yn cael ei orfodi dan gyfraith, fel bydd mwy o bobl gennym ni fel cynorthwywyr parcio sy'n gallu gorfodi hyn?
Of course, they can already enforce it. It's just that the penalties for enforcement are not particularly severe, and so it's not thought to change behaviour in any particular way.
So, just to be really clear: it is already an offence. It was an offence before the Act was taken through. What the Act does is it allows local authorities to put a range of penalties in place, and they are accumulating penalties, so a smaller amount for a first offence, and then rising. And the idea for that is to affect behaviour change. It’s not, in any way, intended to be a revenue raising tax; it would be most effective if it was never used. The local authorities are enabled to enact that once the regulations have been put through the Senedd, and they will be brought forward to the Senedd through the Legislation, Justice and Constitution Committee.
Just to be clear, they’re not delayed. The Act always envisaged a consultation before them being brought forward, and the consultation, of course, is with local authorities about the manner and implementation of that. But just to be really clear: it is already an offence.
Wrth gwrs, maen nhw'n gallu gorfodi hyn eisoes. Yr unig beth ydy nad yw'r cosbau ar gyfer gorfodi yn arbennig o ddifrifol, ac felly'r farn yw nad yw hynny'n newid ymddygiad mewn unrhyw ffordd neilltuol.
Felly, dim ond i fod yn eglur iawn: mae hon yn drosedd eisoes. Roedd hi'n drosedd cyn i'r Ddeddf fynd trwodd. Yr hyn y mae'r Ddeddf yn ei wneud yw caniatáu i'r awdurdodau lleol fod ag ystod o gosbau ar waith, ac maen nhw'n gosbau cronnol, felly swm llai am y drosedd gyntaf, ac sy'n codi wedyn. A'r syniad ynglŷn â hynny yw dylanwadu ar newid ymddygiad. Ni fwriadwyd hyn, mewn unrhyw ffordd, i fod yn dreth i godi refeniw; fe fyddai hi'n fwyaf effeithiol pe na fyddai fyth yn cael ei defnyddio. Mae'r awdurdodau lleol yn cael eu galluogi i ddeddfu hynny pan fydd y rheoliadau wedi mynd drwy'r Senedd, ac fe fyddan nhw'n cael eu cyflwyno gerbron y Senedd drwy'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Dim ond er eglurder, nid ydyn nhw wedi cael eu gohirio. Roedd y Ddeddf yn rhagweld bob amser y byddai ymgynghoriad cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno, ac mae'r ymgynghoriad, wrth gwrs, gyda'r awdurdodau lleol ynglŷn â rhoi hynny ar waith. Ond dim ond er mwyn bod yn eglur iawn: mae hi'n drosedd yn barod.
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch gweithredu deddfwriaeth Senedd y DU yng Nghymru lle nad oedd y Senedd wedi rhoi cydsyniad deddfwriaethol? OQ63023
2. What discussions has the Counsel General had with Welsh Government colleagues regarding the implementation of UK Parliament legislation in Wales where the Senedd did not provide legislative consent? OQ63023
The Welsh Government is committed to the sound operation of the Sewel convention. Implementation powers, processes and timescales are different for every piece of legislation, and we therefore consider them on a case-by-case basis.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithrediad cadarn confensiwn Sewel. Mae pwerau, prosesau ac amserlenni gweithredu yn wahanol ar gyfer pob darn o ddeddfwriaeth, ac felly rydym ni'n eu hystyried nhw fesul achos.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. It’s the Sewel convention that I want to discuss with you this afternoon. In my view, the Sewel convention is dead and buried. You will remember a time when the Sewel convention was respected by UK Government, but the European Union (Withdrawal) Act 2018 changed all that. At the time, Michael Gove said that the withdrawal Act was unique, and therefore allowed the UK Government to ignore the views of this Parliament and other devolved Parliaments. But we’ve seen several examples since then of the UK Government ignoring the will of this Senedd. A perfect example would be the Police, Crime, Sentencing and Courts Bill, which was debated in this Parliament—I remember the Trefnydd quite clearly saying it fell within competency. And now we are seeing people being arrested, in Cardiff, over the weekend, in an area that the Trefnydd here said fell within devolved competency—being arrested under protest law, in an area that we didn’t agree to, an area that we wouldn’t allow consent for.
So, what discussions are you having with your colleagues in the UK Government on how to resolve issues that fall under the Sewel convention when there’s a dispute with regard to legislation? Diolch yn fawr.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Confeniswn Sewel yw'r hyn yr wyf i'n dymuno ei drafod gyda chi'r pnawn 'ma. Yn fy marn i, mae confensiwn Sewel wedi ei hen gladdu. Rydych chi'n siŵr o fod yn cofio amser pan fyddai confensiwn Sewel yn cael ei barchu gan Lywodraeth y DU, ond fe newidiodd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 hynny i gyd. Ar y pryd, fe ddywedodd Michael Gove fod y Ddeddf ar gyfer ymadael yn unigryw, ac felly roedd hi'n caniatáu i Lywodraeth y DU anwybyddu barn y Senedd hon a'r Seneddau datganoledig eraill. Ond fe welsom ni sawl enghraifft ers hynny o Lywodraeth y DU yn anwybyddu ewyllys y Senedd hon. Enghraifft berffaith fyddai'r Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, a drafodwyd yn y Senedd hon—rwy'n cofio'r Trefnydd yn dweud yn eglur ei bod o fewn cymhwysedd. Ac fe welwn ni bobl yn cael eu harestio nawr, yng Nghaerdydd, dros y penwythnos, mewn maes y dywedodd y Trefnydd yn y fan hon sydd mewn cymhwysedd datganoledig—yn cael eu harestio o dan gyfraith brotestio, mewn maes na wnaethom ni gytuno, maes na fyddem ni'n caniatáu cydsyniad iddo.
Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'ch aelodau cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â sut i ddatrys materion sy'n dod dan gonfensiwn Sewel pan fo anghydfod o ran deddfwriaeth? Diolch yn fawr.
So, I know the Member already knows this, but the way the law works, of course, is that we objected to it, and the previous Conservative Government largely ignored those objections twice in the dying days of the Parliament. We haven’t had that situation with the current UK Government; we’ve had good conversations with them about upholding Sewel, and I would very much hope that that Government continues to respect them.
I know the Member knows, but just to repeat: the point being that, if the law is passed at a UK level, it is the law, and so it can be enforced. We can, of course, make representations about how it’s enforced, and we have conversations with our local police forces and our local authorities about that. And to give an example—a long-standing one, which I’m very glad will now be repealed—the Vagrancy Act 1824, for example, went directly against all our homelessness policies, and I had, when I was the relevant Cabinet member for that, long conversations with the police and with local authorities about how we would implement that in a more compassionate, trauma-informed Welsh way than was otherwise the case. And I know that my colleague the Cabinet Secretary for social justice is having similar conversations. But in the end, the UK law is the UK law.
Felly, fe wn i fod yr Aelod yn gwybod hyn eisoes, ond y ffordd y mae'r gyfraith yn gweithio, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi ei gwrthwynebu, ac fe anwybyddodd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol y gwrthwynebiadau hynny i raddau helaeth ddwywaith yn nyddiau olaf y Senedd yn San Steffan. Nid ydym ni wedi bod yn y sefyllfa honno gyda Llywodraeth bresennol y DU; rydym ni wedi cynnal sgyrsiau effeithiol gyda nhw ynglŷn â chynnal Sewel, ac fe fyddwn i'n gobeithio yn fawr y bydd y Llywodraeth honno'n dal ati i'w barchu.
Fe wn i fod yr Aelod yn gwybod, ond dim ond ar gyfer ailadrodd: y pwynt ydy, os bydd cyfraith yn pasio ar lefel y DU, mae honno'n gyfraith, ac felly fe ellir ei gorfodi hi. Fe allwn ninnau, wrth gwrs, wneud sylwadau am sut y caiff ei gorfodi, ac fe fyddwn ni'n cael sgyrsiau gyda'n heddluoedd lleol a'n hawdurdodau lleol ynglŷn â hynny. Ac ar gyfer rhoi enghraifft—un hirsefydlog, yr wyf i'n falch iawn y bydd hi'n cael ei ddiddymu nawr—roedd Deddf Crwydraeth 1824, er enghraifft, yn mynd yn gwbl yn groes i'n holl bolisïau ni o ran digartrefedd, ac fe gefais i, pan oeddwn i yn aelod perthnasol o'r Cabinet ar gyfer hynny, sgyrsiau maith gyda'r heddlu a chyda'r awdurdodau lleol ynglŷn â sut y byddem ni'n gweithredu hynny mewn ffordd fwy trugarog, yn ystyriol o drawma, a Chymreig nag a fyddai'n wir fel arall. Ac fe wn i fod fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, yn cael sgyrsiau tebyg. Ond yn y pen draw, cyfraith y DU yw cyfraith y DU.
And that’s, of course, why it needs to change. I agree very much with the First Minister. In her speech in the Norwegian church, she said that the UK Government should never act in devolved areas without Welsh Government consent. We objected to this under the Tories, she said, and she continued to say that we are not happy with this under Labour. And I agree with the First Minister.
But the position is as you have described it, and the position is as Rhys ab Owen has described it, that we have a dysfunction at the heart of our constitution. Is it not time now for the Welsh Government, the Scottish Government, the Northern Irish Executive and the UK Government to agree a different constitutional settlement, where our democracy is respected within the United Kingdom, and that this Parliament plays a full role in the governance of the United Kingdom on an equal basis to the United Kingdom Parliament?
A dyna, wrth gwrs, pam mae angen i hyn newid. Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog i raddau helaeth iawn. Yn ei haraith hi yn yr eglwys Norwyaidd, roedd hi'n dweud na ddylai Llywodraeth y DU fyth weithredu mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd gan Lywodraeth Cymru. Roeddem ni'n gwrthwynebu hyn o dan y Torïaid, meddai hi, ac fe aeth hi yn ei blaen i ddweud nad ydym ni'n hapus gyda hyn dan y Blaid Lafur. Ac rwyf i'n cytuno â Phrif Weinidog Cymru.
Ond mae'r sefyllfa fel gwnaethoch chi ei disgrifio hi, ac mae'r sefyllfa fel gwnaeth Rhys ab Owen ei disgrifio hi, sef fod camweithrediad gennym ni wrth hanfod ein cyfansoddiad. Onid yw hi'n hen bryd nawr i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU gytuno ar setliad cyfansoddiadol gwahanol, lle caiff ein democratiaeth ni ei pharchu o fewn y Deyrnas Unedig, a bod y Senedd hon â swyddogaeth lawn o ran llywodraethu'r Deyrnas Unedig ar sail gyfartal â Senedd y Deyrnas Unedig?
Yes, it’s absolutely the position of the current First Minister, the current Welsh Government, under all of its First Ministers, that that is the case. It’s certainly my position. It was the position of the former Counsel General also. So, we continue to have those conversations with the UK Government. As I say, I’m pleased that, so far, we haven’t had a breach of the Sewel convention. I very much hope that that will continue, and we continue to have those discussions. But the Member knows, absolutely, as well as I do, that until those things are enshrined in proper statutory functions, then they cannot be protected, and they are indeed at the—. Well, so many of the constitutional conventions turned out to be not worth the paper they're written on, to quote the classic law. During the previous Conservative premierships, of one sort or another—and there are too many to list, aren't there—those things turned out to be worthless, because they are conventions and therefore they can be breached. So, I couldn't agree more, and we continue to work towards that.
Ie, yn gyfan gwbl, dyna safbwynt y Prif Weinidog presennol, Llywodraeth bresennol Cymru, o dan ei Brif Weinidogion i gyd, sef mai dyna'r achos. Dyna fy safbwynt innau'n sicr iawn. Hwnnw oedd safbwynt y cyn-Gwnsler Cyffredinol hefyd. Felly, rydym ni'n parhau i gael y sgyrsiau hynny gyda Llywodraeth y DU. Fel dywedais i, rwy'n falch nad ydym ni wedi cael toriad o gonfensiwn Sewel. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd hynny'n parhau, ac rydym ni'n dal i gael y trafodaethau hynny. Ond mae'r Aelod yn gwybod, yn hollol, cystal â minnau, hyd nes y caiff y materion hyn eu corffori mewn swyddogaethau statudol priodol, ni ellir eu hamddiffyn nhw, fel cawn ni'n wir yn y—. Wel, yn y pen draw nid oedd cynifer o'r confensiynau cyfansoddiadol yn werth cymaint â'r papur yr ysgrifennwyd nhw arno, i ddyfynnu'r gyfraith glasurol. Yn ystod uwch gynghrair blaenorol y Ceidwadwyr, o un math neu'r llall—ac mae gormod i'w rhestru, onid oes e—fe drodd y pethau hynny allan i fod yn ddiwerth, am mai confensiynau oedden nhw ac felly fe ellir eu torri nhw. Felly, ni allwn gytuno mwy â chi, ac rydym ni'n parhau i weithio tuag at hynny.
Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard.
Questions now from the party spokespeople. First, the Welsh Conservatives spokesperson, Tom Giffard.
Diolch, Dirprwy Lywydd. On Friday, the First Minister said:
'actually, our record on delivery is really very good.'
Do you agree?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddydd Gwener, fe ddywedodd y Prif Weinidog:
'mewn gwirionedd, mae ein hanes ni o gyflawni yn dda iawn wir.'
A ydych chi'n cytuno?
Yes.
Ydw.
Thank you for that answer. Will you hit your target of 20,000 low-carbon social homes for rent by the end of this Senedd?
Diolch i chi am yr ateb yna. A wnewch chi gyrraedd eich targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu erbyn diwedd y Senedd hon?
Yes, we are working extremely hard to make sure that we will do that. Let me explain the nature of a target to the Member, who's clearly never, ever worked in an organisation that has targets. I know the Member thinks that the targets are something to beat somebody with, but, in fact, what the targets do is drive delivery. We have a target that is stretching in order to push the organisation towards that target. That is what it's for. If it was an easy target to reach, it wouldn't work as a target. As I say, I know the Member clearly has no understanding of how targets work in actually delivering things, but that is how they work.
Gwnawn, rydym ni'n gweithio yn galed iawn i sicrhau y byddwn ni'n gwneud hynny. Gadewch i mi esbonio natur targed i'r Aelod, nad yw wedi gweithio erioed mewn sefydliad sydd â thargedau, yn amlwg. Fe wn i fod yr Aelod yn tybio mai pethau ar gyfer curo rhywun â nhw yw'r targedau, ond, mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r targedau yn ei wneud yw ysgogi cyflawni. Mae gennym ni darged sy'n heriol ar gyfer gwthio'r sefydliad tuag at y targed hwnnw. Dyna'i bwrpas. Pe byddai'n darged rhwydd i'w gyrraedd, ni fyddai'n darged effeithiol. Fel rwy'n dweud, fe wn i nad oes dealltwriaeth gan yr Aelod o ran gweithrediad targedau wrth gyflawni pethau gwirioneddol, ond dyna sut maen nhw'n gweithio.
You set that target, Counsel General—
Y chi a wnaeth bennu'r targed hwnnw, Cwnsler Cyffredinol—
I did.
Fe wnes i.
—in your manifesto. You promised the people of Wales that you would deliver it, and you were unclear as to whether you actually would.
—yn eich maniffesto. Fe wnaethoch chi addo i bobl Cymru y byddech chi'n ei gyflawni, ac roeddech chi'n aneglur o ran a fyddech chi'n gwneud felly mewn gwirionedd.
I was not unclear at all.
Nid oeddwn i'n aneglur o gwbl.
You said that you were working towards reaching that target—and I'm happy to reflect on the Record afterwards. You said you were working towards reaching that target. You did not guarantee this Senedd you would reach the target that you promised you'd reach by the end of this term. Because we've seen, haven't we, report after report saying that this is a target that you're simply not going to reach. Audit Wales said that the target will not be met unless a significant uplift in funding is implemented, and so the figure would still fall short. So, do I take it from your answer that you disagree with Audit Wales's findings, and if you don't disagree, why has the funding not increased?
Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n gweithio tuag at gyrraedd y targed hwnnw—ac fe fyddaf i'n hapus i fyfyrio ar y Cofnod wedi hynny. Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n gweithio tuag at gyrraedd y targed hwnnw. Nid oeddech chi'n gwarantu y byddech chi'n cyrraedd y targed y gwnaethoch addo y byddech chi'n ei gyrraedd erbyn diwedd y tymor hwn. Oherwydd i ni weld, oni wnaethom ni, adroddiad ar ôl adroddiad yn mynegi bod hwn yn darged na fyddech chi'n ei gyrraedd. Dywedodd Archwilio Cymru na chaiff y targed ei gyflawni oni bai y bydd cynnydd sylweddol mewn cyllid yn cael ei weithredu, ac wedyn fe fyddai'r ffigur yn dal i fod yn brin. Felly, rwy'n cymryd o'ch ateb chi eich bod chi'n anghytuno â chanfyddiadau Archwilio Cymru, ac os nad ydych chi'n anghytuno, pam nad yw'r cyllid wedi cynyddu?
The funding has increased. I was incredibly clear. I said we are working towards a target—
Mae'r cyllid wedi cynyddu. Roeddwn i'n hynod o eglur. Fe ddywedais i ein bod ni'n gweithio tuag at darged—
That's not what I asked you.
Nid dyna'r hyn a ofynnais i chi.
I explained to you what a target is—
Fe eglurais i ystyr targed i chi—
I didn't ask for that either.
Wnes i ddim gofyn am hynny ychwaith.
If you could guarantee delivery of a target, it wouldn't be a target, would it? It wouldn't be stretching in any way—
Pe byddech chi'n gallu gwarantu cyflawni targed, nid targed fyddai hwnnw wedyn, iawn? Ni fyddai'n heriol mewn unrhyw ffordd—
But you're the Minister for Delivery.
Ond y chi yw'r Gweinidog Cyflawni.
The whole purpose of a target is to drive an organisation forward to delivering it, and that is what we are doing. We are not yet at the end of the Senedd term. It remains to be seen whether we make the target. We are pushing towards it with all the power we have. We have incredibly increased the financing for that. Our transitional accommodation capital programme alone has seen record levels of investment. I know the Member doesn't like the idea that a target is something that drives an organisation forward, but, in fact, that's what it is. And just to remind the Member that, unlike any Conservative Government that we've ever seen, Welsh Labour promises things that it always delivers.
Holl ddiben targed yw ysgogi sefydliad ymlaen i gyflawni hwnnw, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Nid yw diwedd tymor y Senedd wedi dod eto. 'Does wybod a fyddwn ni'n cyflawni'r targed. Rydym ni'n cyflymu tuag at hwnnw gyda'r holl allu sydd gennym ni. Rydym ni wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer hynny'n rhyfeddol. Mae ein rhaglen gyfalaf llety trosiannol ni ar ei phen ei hun wedi gweld y cyfraddau buddsoddiad uchaf erioed. Fe wn i nad yw'r Aelod yn hoffi'r syniad fod targed yn rhywbeth sy'n ysgogi sefydliad ymlaen, ond, mewn gwirionedd, dyna'r hyn ydyw. A dim ond er mwyn atgoffa'r Aelod, yn wahanol i unrhyw Lywodraeth Geidwadol a welsom ni erioed, mae Llafur Cymru bob amser yn addo pethau y mae'n eu cyflawni.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Plaid Cymru spokesperson, Adam Price.
But do they? I'm sure you found the annex of the Welsh Government's annual report—[Interruption.]
Ond a ydyn nhw? Rwy'n siŵr eich bod chi wedi dod o hyd i'r atodiad i adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.]
Adam, one second. I wish to hear the contribution of the spokesperson for Plaid Cymru without disruption from the Conservative benches, please. Adam.
Adam, un eiliad. Fe hoffwn i gael clywed cyfraniad llefarydd Plaid Cymru heb unrhyw darfu o feinciau'r Ceidwadwyr, os gwelwch chi'n dda. Adam.
As Minister for Delivery, I'm sure you found the annex of the Welsh Government's annual report setting out progress against the commitments in the programme for government as instructive as I did. What stands out is the number of policies and promises that you have already given up on. There will be no community bank, no national supply pool for teachers, no museum of north Wales, no national construction company, no shadow broadcasting authority, no reform of the school year, no European Union twinning fund, and the pavement parking ban, the taxi Bill and the council tax reform promised for this Senedd will not happen in this Senedd term. Why do you think you've failed across such a wide range of areas? Were you too radical at the start of this term or too conservative at the end?
Fel Gweinidog Cyflawni, rwy'n siŵr fod atodiad adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru yn nodi cynnydd yn ôl yr ymrwymiadau yn y rhaglen ar gyfer llywodraethu wedi bod yn agoriad llygad i chi fel i minnau. Yr hyn sy'n sefyll allan yw nifer y polisïau a'r addewidion y gwnaethoch chi eu rhoi heibio eisoes. Ni oes banc cymunedol i fod, ni fydd cronfa gyflenwi genedlaethol i athrawon, ni fydd amgueddfa gogledd Cymru, ni fydd cwmni adeiladu cenedlaethol, ni fydd awdurdod darlledu cysgodol, ni fydd diwygio'r flwyddyn ysgol, ni fydd cronfa gefeillio'r Undeb Ewropeaidd, ac ni fydd gwaharddiad ar barcio ar balmant, ni fydd y Bil tacsis na'r diwygiad i'r dreth gyngor a addawyd ar gyfer y Senedd hon yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon. Pam, yn eich barn chi, ydych chi wedi methu ar draws ystod mor eang o feysydd? A oeddech chi'n rhy radical ar ddechrau'r tymor hwn neu'n rhy geidwadol ar y diwedd?
Well, I think that's a very interesting list. I always—. I'm really disappointed, Adam, that Plaid Cymru, forever the most dismal, gloomy party in the history of the world—. You could have started at the beginning of the annual report and read for several, several, several, several sessions all the things we have achieved. But, of course, you always, always, always want to concentrate on the gloomy and pessimistic end of the spectrum. We had a very ambitious set of promises at the beginning of our manifesto. We have delivered the vast majority of them, by any percentage reckoning. Of course, we had the tail end of the pandemic in 2021, when we were elected with the biggest majority we'd ever had, might I remind you, and then, of course, we had the cost-of-living crisis, the appalling Conservative omnichaos, culminating in the Liz Truss omnishambles of a budget. Just for an example, a £1 million-worth of social housing grant, before the Liz Truss budget, bought us seven houses, but now it buys us four. So, despite all of that, we have delivered the vast majority of our promises.
Wel, dyna restr ddiddorol iawn yn fy marn i. Rwyf i bob amser—. Rwy'n wirioneddol siomedig, Adam, bod Plaid Cymru, y blaid fwyaf digalon, brudd yn hanes y byd—. Fe allech chi fod wedi dechrau ar ddechrau'r adroddiad blynyddol a darllen dros sawl, sawl, sawl, sawl sesiwn am yr holl bethau yr ydym ni wedi eu cyflawni. Ond, wrth gwrs, rydych chi bob amser, bob amser, bob amser yn dymuno canolbwyntio ar ben tywyll a phesimistaidd y sbectrwm. Roedd gennym ni set uchelgeisiol iawn o addewidion ar ddechrau ein maniffesto. Rydym ni wedi cyflawni'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw, yn ôl unrhyw gyfrif canran. Wrth gwrs, roedd ddiwedd y pandemig gennym ni yn 2021, pan gawsom ni ein hethol gyda'r mwyafrif mwyaf a gawsom ni erioed, gadewch i mi eich atgoffa chi, ac yna, wrth gwrs, fe gawsom ni'r argyfwng costau byw, anhrefn lwyr ofnadwy'r Ceidwadwyr, a arweiniodd at draed moch cyllideb Liz Truss. Er enghraifft, roedd gwerth £1 miliwn o grant tai cymdeithasol, cyn cyllideb Liz Truss, yn prynu saith tŷ i ni, ond nawr mae'n prynu pedwar i ni. Felly, er gwaethaf hynny i gyd, rydym ni wedi cyflawni'r mwyafrif helaeth o'n haddewidion.
When you're appointed as a Minister for Delivery, you can't blame me for being gloomy when I just point out the pledges that you haven't delivered.
Pan ydych chi wedi cael eich penodi yn Weinidog Cyflawni, 'allwch chi ddim gweld bai arnaf i am fod yn ddigalon wrth wneud dim ond tynnu sylw at yr addewidion na wnaethoch chi eu cyflawni.
Well, you could have started at the other end.
Wel, fe allech chi fod wedi dechrau ar y pen arall.
Don't publish an annual report, then. Can we try again? Do you accept, Minister, that, at the current rate of progress, your flagship targets for 20,000 new homes, as we've just heard, but not just that, the universal free childcare for two-year-olds, eradicating long NHS waits and creating 125,000 apprenticeships are all now unlikely to be met in this Senedd term? Welsh Government, in office 2011-16, reported delivering 90 per cent and 95 per cent of their programme for government commitments, respectively, but our analysis suggests your Government is on course to fall short of both those figures. Will you commit to publishing a definitive end-of-term delivery figure? And do you expect it to be equal or surpass the record of your predecessors?
Peidiwch â chyhoeddi adroddiad blynyddol, felly. A gawn ni roi cynnig arall arni? A ydych chi'n derbyn, Gweinidog, bod eich prif dargedau sef 20,000 o gartrefi newydd, fel clywsom ni nawr, ond nid yn unig hynny, gofal plant cyffredinol am ddim i blant dwyflwydd oed, dileu amserodd aros maith y GIG a chreu 125,000 o brentisiaethau i gyd yn annhebygol o gael eu cyflawni bellach yn ystod tymor y Senedd hon? Adroddodd Llywodraeth Cymru, mewn grym rhwng 2011-16, ei bod wedi cyflawni 90 y cant a 95 y cant o'r rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth, yn y drefn honno, ond mae ein dadansoddiad ni'n awgrymu bod eich Llywodraeth ar y trywydd iawn i fod yn brin o'r ddau ffigur hynny. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi ffigur cyflawniad diffiniol ar ddiwedd y tymor? Ac a ydych chi'n disgwyl iddo fod cystal neu'n rhagori ar gyflawniadau eich rhagflaenwyr chi?
Yes, we will absolutely do an end-of-term report. This is the last of the annual reports, because, of course, there's not a full Senedd year in the last year—it finishes in May—and any report on that would come later. Lots of the statistics in that report are, of course, delayed, so the figure on housing, for example, is two years old because those are the verified statistics. I know that we've put record levels of investment into the 20,000 homes, for example, and I know that we are close to meeting that target, having had record levels of new build right the way through the last two years. The figures reflected there are the Knowledge and Analytical Services's verified statistics, so there's a two-year lag. We have a lag in lots of the statistics, and so you always have to do a catch-up report at the end, which we absolutely will do.
In terms of health spend, for example, since the new UK Government and the investment in public services that have seen the consequentials for Wales have come forward, we've been able to see record falls in the waiting lists for the longest waits, and, in many health boards across Wales, zero two-year waiting lists, and I, for one, really celebrate that. We continue to drive that forward, and I work with all of the Cabinet Secretaries, not only on the headline ones, but right across the programme for government to drive the delivery where at all possible. And as I said, the point of the target—it's a convenient stick to beat Ministers with, of course—the actual point of the target is to provide a stretching set of criteria against which to push the delivery associates of the Welsh Government, so local authorities and health boards, but, actually, the internal civil service as well, to reach those targets, and a very handy tool for that they are.
Gwnawn, yn gwbl sicr, fe fyddwn ni'n llunio adroddiad ar ddiwedd y tymor. Dyma'r un olaf o blith yr adroddiadau blynyddol, oherwydd, wrth gwrs, ni fydd blwyddyn lawn i'r Senedd yn y flwyddyn olaf—fe fydd hi'n gorffen ym mis Mai—ac fe fyddai unrhyw adroddiad ar hynny yn dod yn nes ymlaen. Mae llawer o'r ystadegau yn yr adroddiad hwnnw, wrth gwrs, yn cael eu gohirio, felly mae'r ffigur ar dai, er enghraifft, yn ddwyflwydd oed am eu bod nhw'n ystadegau a gafodd eu gwirio. Fe wn i ein bod wedi rhoi'r cyfraddau uchaf o fuddsoddiad erioed yn y 20,000 o gartrefi, er enghraifft, ac fe wn ein bod ni'n agos at gyflawni'r targed hwnnw, wedi'r cyfraddau uchaf erioed o adeiladu newydd trwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r ffigurau a adlewyrchir yno'n ystadegau a gafodd eu gwirio gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, ac felly mae'n rhaid aros am ddwy flynedd. Mae oediadau yn digwydd gyda llawer o'r ystadegau, ac felly mae'n rhaid i chi fod yn gwneud adroddiad ar gyfer dal i fyny ar y diwedd, ac fe fyddwn ni'n gwneud hynny'n siŵr i chi.
O ran gwariant ar iechyd, er enghraifft, ers i Lywodraeth newydd y DU ddod i mewn a'r buddsoddiad a welwyd yn y gwasanaethau cyhoeddus a welodd y symiau canlyniadol yn dod ymlaen i Gymru, rydym ni wedi gallu gweld y gostyngiadau mwyaf erioed yn y rhestrau aros ar gyfer yr aros mwyaf, ac, mewn llawer o fyrddau iechyd ledled Cymru, nid oes unrhyw restrau aros o ddwy flynedd, ac rwyf i'n wir yn dathlu hynny. Rydym ni'n parhau i wthio hynny ymlaen, ac rwy'n gweithio gyda phob un o'r Ysgrifenyddion Cabinet, nid yn unig ynglŷn â'r prif faterion ond ar draws y rhaglen lywodraethu gyfan i ysgogi'r cyflawniad lle bo hynny'n bosibl. Ac fel dywedais i, diben y targed—mae honno'n ffon hwylus i guro Gweinidogion, wrth gwrs—gwir bwrpas y targed yw darparu set heriol o feini prawf ar gyfer gwthio cymdeithion cyflawni Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd felly, ond, mewn gwirionedd, y gwasanaeth sifil mewnol hefyd, i gyrraedd y targedau hynny, ac maen nhw'n offeryn defnyddiol iawn ar gyfer gwneud hynny.
Another promise in the programme for government was to promote and support the work of the UK-wide constitutional commission being established by the UK Labour Party, and in the annex you say this commitment is now complete. And yes, you did support and promote the work of the Gordon Brown commission, which recommended the devolution of youth justice and probation. The problem is the UK Labour Party didn't reciprocate. You will have heard the comments of the prisons and probation Minister yesterday, when he told us that the Home Office needed to stabilise the crisis that the Home Office had created before powers could be devolved to Wales. Are we, in Wales, being patronised by Westminster, Counsel General? And is the UK Labour Government just stringing you along?
Addewid arall yn y rhaglen lywodraethu oedd hyrwyddo a chefnogi gwaith y comisiwn cyfansoddiadol ledled y DU sy'n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y DU, ac rydych chi'n dweud yn yr atodiad fod yr ymrwymiad hwn wedi cael ei gyflawni erbyn hyn. A do, fe wnaethoch chi gefnogi a hyrwyddo gwaith comisiwn Gordon Brown, a oedd yn argymell datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf. Y broblem yw na wnaeth Plaid Lafur y DU ymateb yn yr un dull. Rydych chi'n siŵr o fod wedi clywed sylwadau'r Gweinidog carchardai a phrawf ddoe, pan ddywedodd ef wrthym ni fod angen i'r Swyddfa Gartref sefydlogi'r argyfwng a grëwyd gan y Swyddfa Gartref cyn y gellid datganoli pwerau i Gymru. A yw San Steffan yn ymddwyn yn nawddoglyd tuag atom ni yng Nghymru, Cwnsler Cyffredinol? Ac a yw Llywodraeth Lafur y DU yn eich arwain chi ar gyfeiliorn?
I don't agree with that characterisation at all. The Deputy First Minister had an extremely good meeting with the Lord Chancellor, in which she authorised officials to work together on the beginnings of the steps for the devolution of youth justice. That work is going on apace. We've appointed a head of youth justice devolution here in the Welsh Government in order to push that work on apace. Various other meetings on probation are occurring. Myself and the Minister for social justice are going up to visit the Manchester model for probation during August, for example, with a view to looking at that.
Lord Timpson has done an enormous amount of work on the absolute shambles the Conservative Government left the court and prison system in. They should be hanging their head in shame, as opposed to the nonsense we actually get. You've only got to look at any of the prisons—I have one in my own constituency—to see the terrible overcrowding and dreadful, dreadful outcomes of terrible years of failure to invest. Lord Timpson has been concentrating on that. To be fair to him, the devolution process is not within his remit. He's a Minister looking very specifically at some things. It is not our experience that that's what's happening. The manifesto of the UK Government said that it would explore the devolution of youth justice and probation, and we are doing that. I am confident that we will get the steps towards that that we expected in this first year and a bit of the UK Labour Government, and I'm sure that that journey will continue.
Nid wyf i'n cytuno o gwbl â'r portread hwnnw. Cafodd y Dirprwy Brif Weinidog gyfarfod da iawn gyda'r Arglwydd Ganghellor, lle awdurdododd hi swyddogion i weithio gyda'i gilydd ar ddechrau'r camau ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd yn ei flaen yn gyflym. Rydym ni wedi penodi pennaeth datganoli cyfiawnder ieuenctid yma yn Llywodraeth Cymru er mwyn gwthio'r gwaith hwnnw ymlaen yn gyflym. Mae amryw o gyfarfodydd eraill yn digwydd ynglŷn â phrawf. Fe fydd y Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol a minnau'n ymweld â model Manceinion ar gyfer prawf yn ystod mis Awst, er enghraifft, gyda'r bwriad o edrych ar hynny.
Mae'r Arglwydd Timpson wedi gwneud llawer iawn o waith ar y llanastr llwyr y gadawodd y Llywodraeth Geidwadol y system llysoedd a charchardai ynddo. Fy ddylen nhw fod yn gwisgo sachliain a lludw yn hytrach na siarad y nonsens yr ydym ni'n ei gael ganddyn nhw mewn gwirionedd. Dim ond edrych sydd raid i chi ar unrhyw un o'r carchardai—mae gen i un yn fy etholaeth fy hun—i weld gorlenwi ofnadwy a chanlyniadau ofnadwy iawn oherwydd blynyddoedd o fethiant difrifol i fuddsoddi. Mae'r Arglwydd Timpson wedi bod yn canolbwyntio ar hynny. I fod yn deg iddo ef, nid yw'r broses ddatganoli o fewn ei gylch gorchwyl ef. Gweinidog ydyw ef sy'n edrych yn benodol iawn ar rai materion. Nid dyna'r hyn sy'n digwydd yn ein profiad ni. Fe ddywedodd maniffesto Llywodraeth y DU y byddai'n archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf, ac rydym ni'n gwneud felly. Rwy'n hyderus y byddwn ni'n gweld y camau tuag at hynny yr oeddem ni'n eu disgwyl nhw yn ystod blwyddyn gyntaf a mwy y Llywodraeth Lafur yn y DU, ac rwy'n siŵr y bydd y daith honno'n parhau.
3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y camau y gall eu cymryd i sicrhau bod arferion caffael yn cynnwys ystyried triniaeth foesegol o bensiynwyr wrth ddyfarnu contractau cyhoeddus? OQ63026
3. What legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government regarding the steps it can take to ensure that procurement practices incorporate consideration of the ethical treatment of pensioners when awarding public contracts? OQ63026
Welsh Government continuously promotes responsible and ethical procurement through the Welsh procurement policy notes and the 'Code of Practice—Ethical Employment in Supply Chains'. These principles support ethical treatment of all vulnerable groups, including pensioners.
Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo caffael cyfrifol a moesegol yn barhaus drwy nodiadau polisi caffael Cymru a'r 'Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi'. Mae'r egwyddorion hyn yn cefnogi triniaeth foesegol o bob grŵp sy'n agored i niwed, gan gynnwys pensiynwyr.
Thank you, Counsel General. I'd like to highlight the concerning issue of the unethical treatment of pensioners, namely those with defined benefit pensions accrued before 1997. I've heard from a constituent in Rhyl who is a former Hewlett-Packard employee and is now facing the reality of inflation eroding his retirement income simply because his former employer chooses not to increase pre-1997 benefits in line with inflation, even though they have the discretion and likely financial ability to do so. People who gave decades of service to their employer are seeing their real-terms income fall year after year with no legal protection. Also, the number of pensioners across the UK below the minimum income standard nearly doubled between 2009 and 2022, which is around 20 per cent of pensioners. The matter is primarily reserved, and Westminster's Work and Pensions Committee has written to the pensions Minister, Torsten Bell, on this issue. But, major corporations like HP, BP and Shell could be benefiting from public contracts here in Wales, yet choose to treat their former workers so poorly, which raises questions regarding—
Diolch i chi, Cwnsler Cyffredinol. Fe hoffwn i dynnu sylw at y mater pryderus o driniaeth anfoesegol o bensiynwyr, sef y rhai sydd â phensiynau â buddion wedi'u diffinio a gronnwyd cyn 1997. Fe glywais i gan etholwr yn y Rhyl sy'n gyn-weithiwr i Hewlett-Packard ac sy'n wynebu'r sefyllfa wirioneddol erbyn hyn o fod â chwyddiant yn erydu ei incwm ar gyfer ei ymddeoliad am yr unig reswm sef fod ei gyn-gyflogwr yn dewis peidio â chynyddu buddion cyn 1997 yn unol â chwyddiant, er y gallai weld yn dda i wneud hynny ac mae'r gallu ariannol ganddo, yn ôl pob tebyg. Mae pobl a roddodd ddegawdau o wasanaeth i'w cyflogwr yn gweld eu hincwm nhw'n gostwng mewn termau gwirioneddol flwyddyn ar ôl blwyddyn heb unrhyw amddiffyniad cyfreithiol ganddyn nhw. Hefyd, mae nifer y pensiynwyr ledled y DU sy'n cael llai na'r isafswm incwm wedi dyblu bron iawn rhwng 2009 a 2022, sef tua 20 y cant o bensiynwyr. Mae'r mater yn un a gedwir yn ôl i'r graddau mwyaf, ac mae Pwyllgor Gwaith a Phensiynau San Steffan wedi ysgrifennu at y Gweinidog Pensiynau, Torsten Bell, ynglŷn â'r mater hwn. Ond, fe allai corfforaethau mawr fel HP, BP a Shell fod yn elwa ar gontractau cyhoeddus yma yng Nghymru, ond maen nhw'n dewis trin eu cyn-weithwyr mewn ffordd mor wael, sy'n codi cwestiynau ynglŷn â—
You need to ask the question now, Gareth, please.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, Gareth, os gwelwch chi'n dda.
—whether it's right for them to receive taxpayers' money. So, what legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government regarding the steps it can take to ensure that procurement processes reflect this ethical treatment of pensioners? And will the Counsel General explore excluding companies that engage in such unethical practices from future public contracts?
—a yw hi'n iawn iddyn nhw dderbyn arian trethdalwyr. Felly, pa gyngor cyfreithiol a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r camau y gall eu cymryd i sicrhau bod prosesau caffael yn adlewyrchu triniaeth foesegol o bensiynwyr fel hyn? Ac a fydd y Cwnsler Cyffredinol yn archwilio gwahardd cwmnïau sy'n ymhél ag arferion anfoesegol fel hyn rhag cael cytundebau cyhoeddus yn y dyfodol?
Thank you. Responsibility, as you said, for pensions lies with the UK Government and is the responsibility of the Department for Work and Pensions. Actually, our Cabinet Secretary for finance is meeting the pensions Minister, Torsten Bell, tomorrow to discuss that and a number of other issues around pensions affecting the Welsh economy and Welsh pensioners.
In the meantime, the Welsh public sector has made significant advances towards ethical business practices in recent years, ensuring contracts are awarded compliantly with the highest standards of social responsibility. The Welsh Government's legislative framework enables contracting authorities to carry out robust due diligence and access to exclusion grounds to ensure only suppliers that meet robust standards can bid for public contracts. Any suppliers under contract later found to be in breach of their commitments under the Procurement Act 2023 may face penalties, including the termination of contracts and exclusion from future procurement opportunities, and that covers all of the range of people protected by vulnerable people, including pensioners.
Diolch i chi. Mae'r cyfrifoldeb, fel roeddech chi'n dweud, am bensiynau yn aros gyda Llywodraeth y DU ac mae'n gyfrifoldeb i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mewn gwirionedd, fe fydd ein Hysgrifennydd Cabinet ni dros gyllid yn cwrdd â'r Gweinidog Pensiynau, Torsten Bell, yfory i drafod hynny a nifer o faterion eraill sy'n ymwneud â phensiynau sy'n effeithio ar economi Cymru ac ar bensiynwyr Cymru.
Yn y cyfamser, mae sector cyhoeddus Cymru wedi cymryd camau sylweddol ymlaen tuag at arferion busnes moesegol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan sicrhau bod contractau a ddyfernir yn cydymffurfio â'r safonau uchaf o ran cyfrifoldeb cymdeithasol. Mae fframwaith deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn galluogi awdurdodau contractio i gynnal diwydrwydd dyladwy cadarn a mynediad at seiliau gwahardd er mwyn sicrhau mai cyflenwyr sy'n bodloni safonau cadarn yn unig sy'n gallu cynnig am gontractau cyhoeddus. Fe all unrhyw gyflenwyr dan gytundeb y canfuwyd yn ddiweddarach eu bod nhw'n torri eu hymrwymiadau yn unol â Deddf Gaffael 2023 fod yn wynebu cosbau, gan gynnwys terfynu contractau a gwaharddiadau o gyfleoedd o ran caffael yn y dyfodol, ac mae hynny'n cwmpasu'r ystod gyfan o bobl agored i niwed a ddiogelir, sy'n cynnwys pensiynwyr.
4. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fynd i'r afael â diffeithdiroedd cymorth cyfreithiol yng Nghymru? OQ63024
4. What work has the Welsh Government done to address legal aid deserts in Wales? OQ63024
Diolch, Rhys. Legal aid deserts remain a serious concern in Wales. While legal aid is reserved to the UK Government, the Pro Bono Committee for Wales plays a vital role in supporting the most vulnerable. However, voluntary support cannot replace a properly funded legal aid system and is not really a sustainable solution.
Diolch, Rhys. Mae diffeithdiroedd cymorth cyfreithiol yn dal i fod yn bryder difrifol yng Nghymru. Er bod cymorth cyfreithiol yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, mae gan Bwyllgor Pro Bono Cymru ran allweddol wrth gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed. Serch hynny, ni all cymorth gwirfoddol ddisodli system o gymorth cyfreithiol a ariennir yn briodol ac nid yw hwnnw'n ddatrysiad cynaliadwy mewn gwirionedd.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. I recognise, as you've said several times here, your concern with regard to access to justice and the impact that has on the people of Wales. I am concerned with regard to the criminalisation of peaceful protest and the fact that that leads people into a system where they cannot receive the advice, the support and, ultimately, the justice they deserve. You've heard me asking before about Cardiff University having an injunction against peaceful protest within their grounds. Research by the University of York shows that only 20 per cent of cases with regard to people breaching an injunction with regard to peaceful protest—only 20 per cent—receive legal aid. Over the weekend, you will have heard that 13 people were arrested in Cardiff because they were protesting peacefully outside the BBC. They, too, deserve and need legal advice. What can you do to prevent a situation in which peaceful activists face the prospect of having to defend themselves without legal aid? Diolch yn fawr.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n cydnabod, fel rydych chi wedi dweud sawl tro yn y fan hon, eich pryder chi ynglŷn â mynediad at gyfiawnder a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar bobl Cymru. Rwy'n pryderu ynghylch troseddoli protestio heddychlon a'r ffaith fod hynny'n arwain pobl i mewn i system lle na allan nhw gael y cyngor, y gefnogaeth nac, yn y pen draw, y cyfiawnder maen nhw'n ei haeddu. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n gofyn yn flaenorol am Brifysgol Caerdydd yn gweithredu gwaharddiad yn erbyn protestio heddychlon o fewn eu libart. Mae ymchwil gan Brifysgol Efrog yn dangos mai dim ond mewn 20 y cant o achosion o ran pobl sy'n torri gwaharddiad o ran protestiadau heddychlon—dim ond 20 y cant—sy'n cael cymorth cyfreithiol. Dros y penwythnos, mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed am 13 o bobl yn cael eu harestio yng Nghaerdydd am brotestio yn heddychlon y tu allan i'r BBC. Mae hwythau hefyd yn haeddu ac yn ymofyn cyngor cyfreithiol. Beth allwch chi ei wneud i atal sefyllfa lle mae protestwyr heddychlon yn wynebu'r posibilrwydd o orfod amddiffyn eu hunain heb unrhyw gymorth cyfreithiol? Diolch yn fawr.
Thank you, Rhys. I share your concern absolutely on that, and it's unfortunately not the only area where people are denied access to justice because legal aid is no longer there. We've spoken before, haven't we, about the particular concern around housing in disrepair and immigration as well, both of which are areas where people really do need access to good legal advice and legal aid is often not forthcoming and has been removed in most of those areas. I said before in answering a question to you that we welcomed the first steps towards restoring some legal aid, but there's a long, long way to go.
In the meantime, I do welcome the invaluable work of the Pro Bono Committee for Wales and the Pro Bono Week committee in developing the guide for pro bono and other free advice in Wales. I have written to the committee fully endorsing the guide, and they intend to share it with Members of the Senedd so that all of you will know how to refer people for pro bono legal advice, and I can't speak highly enough of the lawyers who provide that pro bono advice. I'll lapse into anecdote myself, but when you're a young lawyer, pro bono work is a very good way of getting good experience, and I myself worked for Rape Crisis for many years in London as a pro bono lawyer, and you get really invaluable experience, but also, of course, it's a way of giving back. So, I'm really pleased that the committee is so active in Wales, but, as I said in my opening answer, it really is not a substitute for a comprehensive set of legal aid provisions to allow people to have access to justice. And we do continue to have conversations with the Lord Chancellor, and I make common cause with the Law Society and with the Bar Council in order to try to push for proper legal aid settlements to be put in place as soon as possible.
And then, just as a further remark, of course, encouraging lawyers to go into areas of work like criminal justice is increasingly difficult, because although it's a characterisation of lawyers that they're all rich, actually making a living off legal aid is really hard, and most of the legal aid practices have shut because they just cannot do it. I'd be very keen indeed, as soon as I'm no longer a serving Minister in this place, as of May next year, to get very involved in trying to start again a fully comprehensive law centre in Wales to try to do that. And I will be speaking with a range of progressive lawyers about how we might be able to do that as soon as possible. But, just to reiterate the point, there is no substitute for a proper, comprehensive legal aid system.
Diolch, Rhys. Rwy'n rhannu eich pryder chi ynglŷn â hynny'n gyfan gwbl, ac yn anffodus nid hwnnw yw'r unig faes lle mae pobl yn gweld cyfiawnder yn cael ei wrthod iddyn nhw oherwydd nad yw'r cymorth cyfreithiol ar gael yno erbyn hyn. Rydym ni wedi siarad o'r blaen, onid ydym ni, am y pryder arbennig ynghylch tai mewn cyflwr gwael a mewnfudo hefyd, y ddau ohonyn nhw'n feysydd lle mae gwir angen ar bobl i gael gafael ar gyngor cyfreithiol da ac yn aml nid yw cymorth cyfreithiol ar gael ac fe gafodd ei ddiddymu yn y rhan fwyaf o'r meysydd hynny. Fe ddywedais i o'r blaen wrth ateb cwestiwn i chi ein bod ni'n croesawu'r camau cyntaf tuag at adfer rhywfaint o gymorth cyfreithiol, ond mae yna ffordd bell iawn i fynd.
Yn y cyfamser, rwyf i'n croesawu gwaith amhrisiadwy Pwyllgor Pro Bono Cymru a phwyllgor Wythnos Pro Bono wrth ddatblygu'r canllawiau ar gyfer cyngor pro bono a chyngor arall rhad ac am ddim yng Nghymru. Fe ysgrifennais i at y pwyllgor yn cymeradwyo'r canllawiau yn llawn, ac maen nhw'n bwriadu eu rhannu gydag Aelodau'r Senedd fel bydd pob un ohonoch yn gwybod sut i gyfeirio pobl at gyngor cyfreithiol pro bono, ac ni allaf ganmol digon ar y cyfreithwyr sy'n darparu'r cyngor pro bono hwnnw. Rwyf i am ddweud hanesyn bach fy hunan, ond pan ydych chi'n gyfreithiwr ifanc, mae gwaith pro bono yn ffordd dda iawn o gael profiad da, ac fe weithiais i Rape Crisis am flynyddoedd lawer yn Llundain yn gyfreithiwr pro bono, ac rydych chi'n cael profiad amhrisiadwy iawn, ond hefyd, wrth gwrs, mae honno'n ffordd o roi rhywbeth yn ôl. Felly, rwy'n falch iawn fod y pwyllgor mor weithgar yng Nghymru, ond, fel dywedais i yn fy ateb agoriadol, nid all hyn ddisodli set gynhwysfawr o ddarpariaethau cymorth cyfreithiol i ganiatáu i bobl gael mynediad at gyfiawnder. Ac rydym ni'n dal i gynnal sgyrsiau gyda'r Arglwydd Ganghellor, ac rwy'n pledio achos cyffredin gyda Chymdeithas y Gyfraith a chyda Chyngor y Bar ar gyfer ceisio pwyso am roi setliadau cymorth cyfreithiol priodol ar waith cyn gynted ag y bo hynny'n bosibl.
Ac yna, dim ond fel sylw pellach, wrth gwrs, mae annog cyfreithwyr i fynd i feysydd o waith fel cyfiawnder troseddol yn mynd yn gynyddol anodd, oherwydd er mai'r syniad cyffredin yw bod cyfreithwyr i gyd yn gyfoethog, mewn gwirionedd mae gwneud bywoliaeth drwy gymorth cyfreithiol yn anodd iawn, ac mae'r rhan fwyaf o'r practisau cymorth cyfreithiol wedi cau oherwydd nad ydyn nhw'n gallu gwneud felly. Fe fyddwn i'n awyddus iawn wir, cyn gynted ag y byddaf i'n gorffen bod yn Weinidog sy'n gwasanaethu yn y lle hwn, ym mis Mai'r flwyddyn nesaf, i fod â rhan fawr mewn ymgais i ddechrau canolfan gyfreithiol gwbl gynhwysfawr yng Nghymru i geisio gwneud hynny. Ac fe fyddaf yn siarad ag ystod o gyfreithwyr blaengar ynglŷn â sut y gallem ni wneud hynny cyn gynted â phosibl. Ond, dim ond er mwyn ailadrodd y pwynt, nid oes unrhyw beth a all ddisodli system cymorth cyfreithiol briodol a chynhwysfawr.
5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol nodi enghreifftiau penodol o sut mae ei rôl fel Gweinidog Cyflawni wedi arwain at ganlyniadau mesuradwy o ran cyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth? OQ63028
5. Will the Counsel General set out specific examples of how her role as Minister for Delivery has led to measurable outcomes in terms of the delivery of the government's priorities? OQ63028
Yes. The annual report that we published last Friday sets out a comprehensive account of this Government’s impressive record on delivery. As Minister for Delivery, I work with my colleagues across the Cabinet. My successes are their successes, and together this Cabinet is delivering the things that matter most for the people of Wales.
Gwnaf. Mae'r adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gennym ni ddydd Gwener diwethaf yn nodi adroddiad cynhwysfawr o hanes trawiadol y Llywodraeth hon o ran cyflawni. Yn Weinidog Cyflawni, rwy'n gweithio gyda'm cyd-Aelodau ar draws y Cabinet. Fy llwyddiannau i yw eu llwyddiannau hwythau, ac mae'r Cabinet hwn gyda'i gilydd yn cyflawni'r pethau pwysicaf yng ngolwg pobl Cymru.
Counsel General, your job title is Minister for Delivery, yet it often feels to many of us in this Chamber like the Minister of delays, whether that's in housing delivery, delivery in education, delivery in our NHS. You're meant to unblock legal and legislative knots, oversee the delivery of the Government's programme, which we've heard from others is failing, ensure access to justice and the timetable for legislation, but time and time again we've seen Bills coming forward riddled with legal and grammatical errors, and we've also had calls from scrutiny committees here for greater transparency, which often go unheeded by the Government. So, can you talk us through some real-world examples of where your unblocking role has delivered measurable outcomes, where you've unjammed those legal blockages, accelerated legislation, improved court access or tightened up delivery of the Government's programme, or should we start calling you the Minister for apologies, not delivery?
Cwnsler Cyffredinol, teitl eich swydd chi yw Gweinidog Cyflawni, ond yn aml mae llawr ohonom ni yn y Siambr hon yn teimlo mai Gweinidog oedi y dylai fod, boed hynny o ran cyflawni o ran tai, cyflawni o ran addysg, cyflawni yn ein GIG. Fe ddylech chi fod yn datglymu materion cyfreithiol a deddfwriaethol, yn goruchwylio cyflawni rhaglen y Llywodraeth, rydym wedi clywed gan eraill fod hynny'n methu, sicrhau mynediad at gyfiawnder a'r amserlen ar gyfer deddfwriaeth, ond dro ar ôl tro fe welsom ni Filiau yn dod gerbron yn llawn gwallau cyfreithiol a gramadegol, ac fe gawsom ni alwadau hefyd gan bwyllgorau craffu yma am ragor o dryloywder, sy'n aml yn mynd heb sylw gan y Llywodraeth. Felly, a wnewch chi ein tywys ni drwy rai enghreifftiau gwirioneddol o faterion lle cafodd eich swyddogaeth chi o ran datglymu wedi bod â chanlyniadau mesuradwy, lle rydych chi wedi datglymu'r rhwystrau cyfreithiol hynny, wedi cyflymu deddfwriaeth, wedi sicrhau gwell mynediad i'r llysoedd neu dynhau cyflawni rhaglen y Llywodraeth, neu a ddylem ni ddechrau eich galw chi'n Weinidog ymddiheuriadau, nid cyflawni?
Well, that was very poor, even for you, if I might say so. The entire Cabinet supports the priorities, and, as Minister for Delivery, I provide support to the Cabinet Secretaries in whichever ways they need. You asked for some measurable outcomes, so let me provide you with just a few: waiting lists slashed by 86 per cent from the pandemic peak; record-setting levels of affordable housing; directly supporting 40,000 jobs; on track to fix or prevent 200,000 potholes; more new trains than ever before, and over 77 per cent of the fleet made up of new carriages, just to start. And you can shake your head as much as you like, but those are incontrovertible facts—I know you don't like those. I meet very regularly with every Cabinet Secretary to review progress on the programme for government—[Interruption.]
Wel, hen un sâl oedd honna, hyd yn oed i chi, os caf i ddweud hynny. Mae'r Cabinet cyfan yn cefnogi'r blaenoriaethau, ac, yn Weinidog Cyflawni, rwyf i'n darparu cefnogaeth i Ysgrifenyddion y Cabinet ym mha ffyrdd bynnag y bo angen hynny arnyn nhw. Fe wnaethoch chi ofyn am rai canlyniadau mesuradwy, felly gadewch i mi roi dim ond ychydig i chi: rhestrau aros wedi torri 86 y cant ers pwynt uchaf y pandemig; cyfraddau gorau erioed o dai fforddiadwy; cefnogaeth uniongyrchol i 40,000 o swyddi; ar y trywydd iawn i drwsio neu rwystro 200,000 o dyllau mewn ffyrdd; mwy o drenau newydd nag erioed o'r blaen, a thros 77 y cant o'r fflyd yn cynnwys cerbydau newydd, i ddim ond dechrau. Ac fe gewch chi ysgwyd eich pen cymaint fyth ag a fynnoch chi, ond mae'r rhain yn ffeithiau na ellir eu hamau nhw—rwy'n gwybod nad oes gennych chi hoffter at y rheini. Rwy'n cwrdd yn rheolaidd iawn â phob Ysgrifennydd Cabinet i adolygu cynnydd yn ôl y rhaglen ar gyfer llywodraethu—[Torri ar draws.]
I would have thought that you'd like to let the Cabinet Secretary respond to the question and not interrupt the response.
Fe fyddwn i wedi meddwl y byddech chi'n hoffi gadael llonydd i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb i'r cwestiwn a pheidio â thorri ar draws yr ymateb.
If it was worth listening to.
Pe byddai hwnnw'n werth gwrando arno.
I think that is out of order. Every response is worth listening to, and should be listened to.
Rwy'n credu bod hynna allan o drefn. Mae hi'n werth gwrando ar bob ymateb, ac fe ddylid gwrando arno.
The entire Cabinet meet twice a term to specifically review our progress against all the priorities and to ensure that every part of the Government is driving forward the things that matter most. So, for example, just to give you one example, very recently, we've unlocked a number of housing sites across Wales by getting the Cabinet Secretary for climate change and the Cabinet Secretary for housing together with Welsh Water and a number of councils to unlock the phosphate issue and unlock sites for thousands of homes across Wales, and that's very demonstrable indeed. And, of course, we have a range of things set out in the annual report that we've also delivered.
Mae'r Cabinet cyfan yn cyfarfod ddwywaith y tymor i adolygu ein cynnydd ni'n benodol o'i gymharu â'r holl flaenoriaethau a sicrhau bod pob rhan o'r Llywodraeth yn ysgogi'r pethau pwysicaf. Felly, er enghraifft, i roi un enghraifft i chi, yn ddiweddar iawn, fe wnaethom ni ddatgloi nifer o safleoedd tai ledled Cymru drwy gael Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros dai ynghyd â Dŵr Cymru a nifer o gynghorau i ddatgloi mater ffosffad gan ddatgloi safleoedd ar gyfer miloedd o gartrefi ledled Cymru, ac fe ellir dangos hynny'n wirioneddol amlwg. Ac, wrth gwrs, mae ystod o bethau sy'n cael eu nodi gennym ni yn yr adroddiad blynyddol y gwnaethom ni eu cyflawni nhw hefyd.
There is actually a very interesting question to be asked here; it's a shame that James Evans could not find it. The Welsh Government has over a number of years sought to create a number of different delivery mechanisms, but you are, I think—to my knowledge—the first Minister for delivery that has been appointed to the Welsh Government, and it would be useful if this Parliament were able to understand the means and the mechanisms that you employ as the Minister for delivery to working with your colleagues to ensure that delivery occurs according to the Government's objectives and ambitions, and it would help us with our scrutiny as Members if we were able to understand what those means, mechanisms and processes are, so we could understand the role. I'm very supportive of the role of Minister for delivery; I'd like to understand the role that you play around the Cabinet table and working with your colleagues.
Mae yna gwestiwn diddorol iawn i'w ofyn yn hyn o beth; mae hi'n biti na allodd James Evans ddod o hyd i hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio creu nifer o wahanol fecanweithiau cyflawni dros nifer o flynyddoedd, ond y chi yw, rwy'n credu—hyd y gwn i—y Gweinidog cyntaf ar gyfer cyflawni a benodwyd i Lywodraeth Cymru, ac fe fyddai hi'n dda o beth i'r Senedd hon allu deall y dulliau a'r mecanweithiau yr ydych chi'n eu defnyddio fel Gweinidog cyflawni gyda'ch cyd-Aelodau Cabinet i sicrhau bod cyflawni yn digwydd yn unol ag amcanion ac uchelgeisiau'r Llywodraeth, ac fe fyddai hynny'n ein helpu ni'r Aelodau gyda'n gwaith craffu pe byddem ni'n gallu deall beth yw'r mecanweithiau, y mecanweithiau a'r prosesau hynny, er mwyn deall y swyddogaeth. Rwyf i'n gefnogol iawn i swydd Gweinidog cyflawni; fe hoffwn i ddeall eich swyddogaeth chi pan fyddwch chi o amgylch bwrdd y Cabinet ac yn gweithio gyda'ch cyd-Aelodau Cabinet.
Yes, thank you, Alun. I'm very happy to set that out. So, as I say, I conduct a series of meetings at least once every half term with every single Cabinet Secretary and relevant Ministers to go through the programme for government commitments, to understand where we are in delivering those commitments and what is necessary to make sure they get over the line, or to understand why they won't get over the line and what we can do about that, if that's where we are. I meet very regularly with people with the top four priorities to understand what the data sets look like for that and what we can do about those data sets to make sure that we have the right information and that we're driving the right kinds of improvement. Quite often, it's not about additional resource; it's about deploying that resource in a different way. I have asked a number of backbenchers to undertake things to assist me with that. So, Lee Waters, for example, did a piece of work on affordable housing for us. That piece of work identified a number of things that we could do to accelerate delivery in some areas. We've unlocked quite a lot of the phosphate problem on houses for that, and, of course, that has also helped us clean up our rivers, which is a mutual benefit point.
I also make sure that there are not cross-Government blockages—as you know, Governments can be quite siloed—to make sure that something that's happening here isn't actually actively working against something happening here and to bring them together to make sure that happens. And then, twice every half term, we have a whole Cabinet devoted to where we are with the programme for government and what those particular stats look like in terms of delivery. It's been very interesting, actually, and I'm very happy to share with some of the scrutiny committees some of the data analysis that we've been able to do, some of the things we didn't know that we perhaps ought to have known and some of the things that we've done as a result of that.
Ie, diolch i chi, Alun. Rwy'n hapus iawn i nodi hynny. Felly, fel rwy'n dweud, fe fyddaf i'n cynnal cyfres o gyfarfodydd o leiaf unwaith bob hanner tymor gyda phob un o'r Ysgrifenyddion Cabinet a'r Gweinidogion perthnasol i fynd trwy'r rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth, i ddeall ein sefyllfa o ran cyflawni'r ymrwymiadau hynny a'r hyn sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu croesi'r llinell derfyn, neu i ddeall pam nad ydyn nhw'n gallu croesi'r llinell a'r hyn y gallwn ni ei wneud ynglŷn â'r peth, os mai honno yw'n sefyllfa rydym ynddi. Rwy'n cwrdd yn rheolaidd iawn â phobl gyda'r pedair blaenoriaeth fwyaf ar gyfer deall sut olwg sydd ar y setiau data ar gyfer hynny a'r hyn y gallwn ni ei wneud ynglŷn â'r setiau data hynny i sicrhau bod yr wybodaeth gywir gennym ni a'n bod ni'n ysgogi gwelliannau sy'n briodol. Yn aml, nid yw hyn yn ymwneud â bod ag adnoddau ychwanegol; mae'n ymwneud â defnyddio'r adnoddau hyn mewn ffordd arall. Rwyf wedi gofyn i nifer o Aelodau'r meinciau cefn ymgymryd â phethau ar gyfer rhoi cymorth i mi yn hyn o beth. Felly, fe wnaeth Lee Waters, er enghraifft, ddarn o waith ar dai fforddiadwy i ni. Roedd y darn hwnnw o waith yn nodi nifer o bethau y gallem ni eu gwneud i gyflymu'r cyflawni mewn rhai meysydd. Rydym ni wedi datglymu cryn dipyn o'r broblem ffosffad o ran tai ar gyfer hynny, ac, wrth gwrs, mae hynny wedi ein helpu ni i lanhau ein hafonydd hefyd, sy'n cynnig mantais ar y ddwy ochr.
Rwy'n sicrhau hefyd nad oes rhwystrau traws-lywodraethol—fel gwyddoch chi, fe all Llywodraethau fod yn cynnwys unedau ar wahân i ryw raddau—ar gyfer sicrhau nad yw rhywbeth sy'n digwydd yn y fan hon mewn gwirionedd yn gweithio yn weithredol yn erbyn rhywbeth sy'n digwydd fan draw a'u dwyn nhw at ei gilydd i sicrhau eu bod nhw'n gweithio ar y cyd. Ac yna, ddwywaith bob hanner tymor, mae gennym ni Gabinet cyfan sy'n ymroddedig i'n sefyllfa o ran y rhaglen ar gyfer llywodraethu a sut wedd sydd ar yr ystadegau penodol hynny o ran cyflawni. Mae hi wedi bod yn ddiddorol iawn, mewn gwirionedd, ac rwy'n hapus iawn i rannu peth o'r dadansoddi data rydym ni wedi gallu ei wneud gyda rhai o'r pwyllgorau craffu, rhai o'r pethau nad oeddem ni'n gwybod amdanyn nhw y dylem ni fod wedi gwybod amdanyn nhw efallai a rhai o'r pethau a wnaethom ni o ganlyniad i fod yn gwybod amdanyn nhw.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
I thank the Counsel General.
Eitem 3 yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Jane Hutt.
Item 3 today is the business statement and announcement, and I call on the Trefnydd, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon fel sydd wedi ei nodi ar agendâu'r Cyfarfodydd Llawn. Mae busnes tair wythnos gyntaf tymor yr hydref wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau'n electronig.
Thank you very much, Dirprwy Lywydd. There are several changes to this week's business as set out on the Plenary agendas. Business for the first three weeks of the autumn term is shown on the business statement, which is available to Members electronically.
Trefnydd, I would like to request an urgent statement regarding planning in special areas of conservation. I recently met with local businesses who are deeply concerned that planning authorities in west Wales are adopting a precautionary approach to applications, based on a letter they've recently received from Natural Resources Wales. This is despite any formal planning guidance being updated, and so this approach is happening despite any actual change taking place.
It has been made clear by local planning authorities that planning applications that involve any potential run-off into a special area of conservation will not be determined until NRW updates its official planning guidance, though planning applications have been progressing until recently under existing NRW guidance, and the guidance has not yet changed. Trefnydd, the economic implications for west Wales cannot be ignored. If developments are stalled, it will seriously affect local businesses, and jobs could be at stake. We therefore urgently need a statement from either the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs, or, indeed, the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning. It's essential that the current situation is clarified for all concerned and the Welsh Government must ensure that development is not brought to a standstill in west Wales.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad brys ynglŷn â chynllunio mewn ardaloedd cadwraeth arbennig. Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod â busnesau lleol sy'n bryderus iawn fod awdurdodau cynllunio yn y gorllewin yn mabwysiadu dull rhagofalus o ran ceisiadau, yn seiliedig ar lythyr a gawson nhw'n ddiweddar oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hyn er nad oedd unrhyw ganllawiau cynllunio ffurfiol wedi cael eu diweddaru, ac felly mae'r ymagwedd hon yn bodoli er nad oes unrhyw newid gwirioneddol wedi digwydd.
Mae'r awdurdodau cynllunio lleol wedi ei gwneud hi'n glir na fydd ceisiadau cynllunio sy'n cynnwys unrhyw bosibilrwydd o ddŵr ffo yn llifol i ardal cadwraeth arbennig yn cael eu hystyried hyd nes y bydd CNC yn diweddaru ei ganllawiau cynllunio swyddogol, er bod ceisiadau cynllunio wedi bod yn mynd rhagddynt hyd yn ddiweddar dan ganllawiau cyfredol CNC, ac nid yw'r canllawiau hynny wedi newid eto. Trefnydd, ni ellir anwybyddu'r goblygiadau economaidd i'r gorllewin. Os bydd datblygiadau yn cael eu hatal, fe fydd hynny'n effeithio yn ddifrifol ar fusnesau lleol, ac fe allai swyddi fod yn y fantol. Felly, mae angen datganiad ar frys gan naill ai'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, neu'n wir, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae hi'n hanfodol fod y sefyllfa bresennol yn cael ei egluro i bawb dan sylw ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw datblygiadau yn cael ei rhwystro yn llwyr yn y gorllewin.
Diolch yn fawr, Paul Davies. You've drawn attention to something that is a matter for local planning authorities, and, obviously, democratically elected local authorities, their planning functions are very much guided by 'Planning Policy Wales', but also, of course, take into account guidance from other bodies, such as NRW. You've raised the question. It obviously needs a lot more explanation about impacts in terms of, already, whether these changes are being made, but, anyway, I think it's important that you have raised it, and I'm sure the Cabinet Secretaries will respond in terms of further questions.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Rydych chi wedi tynnu sylw at rywbeth sy'n fater i awdurdodau cynllunio lleol, ac, yn amlwg, awdurdodau lleol sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd, mae eu swyddogaethau cynllunio yn cael eu llywio i raddau helaeth gan 'Polisi Cynllunio Cymru', ond hefyd, wrth gwrs, yn ystyried canllawiau gan gyrff eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydych chi wedi codi'r cwestiwn. Mae'n amlwg bod angen llawer mwy o esboniad am effeithiau o ran, yn barod, a yw'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud, ond, beth bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod chi wedi'i godi, ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifenyddion Cabinet yn ymateb o ran cwestiynau pellach.
Trefnydd, as you'll be aware, Interceltique de Lorient takes place again this August, which, as many Members will know, is the largest annual festival of Celtic culture. Wales will, as always, have a delegation at the festival, including, from my own region, Treorchy Male Choir, but Nation.Cymru reported last week that there will be no Welsh Government presence, meaning that the only Celtic nation without a promotional stand will be Wales. I'd like to know if this is the case, and I'd also like to ask for a written statement from the First Minister outlining why this decision was taken, especially in light of the fact that we do have a memorandum of understanding between the Welsh Government and the Regional Council of Brittany, and culture features as part of that MoU.
Trefnydd, fel y gwyddoch chi, bydd Interceltique de Lorient, sef gŵyl flynyddol fwyaf diwylliant Celtaidd, fel y bydd llawer o Aelodau yn gwybod, yn cael ei chynnal eto fis Medi. Bydd gan Gymru, fel bob amser, ddirprwyaeth yn yr ŵyl, gan gynnwys, o fy rhanbarth fy hun, Côr Meibion Treorci, ond adroddodd Nation.Cymru yr wythnos diwethaf na fydd presenoldeb gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu mai Cymru fydd yr unig genedl Geltaidd heb stondin hyrwyddo. Hoffwn wybod a yw hyn yn wir, a hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog yn amlinellu pam y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith bod gennym ni femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Rhanbarthol Llydaw, a bod diwylliant yn rhan o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwnnw.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, and thank you for drawing, again, to the attention of the Senedd that really important annual festival, Celtic festival. I certainly have recalled Welsh Government engagement, and indeed ministerial and first ministerial presence at that. I would like to take this back and clarify the position. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch am dynnu sylw'r Senedd, unwaith eto, at yr ŵyl flynyddol, yr ŵyl Geltaidd wirioneddol bwysig honno. Yn sicr, rwy'n cofio ymgysylltiad Llywodraeth Cymru, ac yn wir presenoldeb gweinidogion a'r prif weinidog yn honno. Hoffwn fynd â hyn yn ôl a chael eglurhad o'r sefyllfa. Diolch yn fawr.
Could I ask for two statements today, please? First of all, please could we have a statement from the Government following the publication of the infected blood inquiry's additional report last week? The inquiry felt it necessary to hold further hearings at the beginning of May because of serious concerns about the way the Infected Blood Compensation Authority was being set up, the significant delays being experienced, and the complete lack of consultation with those who should have been at the heart of decision making.
I was very pleased that my constituent Lynne Kelly, the chair of Haemophilia Wales, was a witness at the hearings and was able to put forward the concerns of those infected and affected. The report was published last week by the inquiry's chair, Sir Brian Langstaff, with some very damning remarks and conclusions, such as that anyone who listened to this
'will have been in no doubt that trust has not yet been regained but has instead been further damaged and that people have been harmed yet further by the way in which they have been treated.'
This is a scandal that has been going on for 40 years. Could the Welsh Government make a statement as to how it is going to respond to this latest report?
I'd also like to ask for a statement—
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf oll, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad ychwanegol yr ymchwiliad gwaed heintiedig yr wythnos diwethaf? Roedd yr ymchwiliad yn teimlo bod angen cynnal gwrandawiadau eraill ddechrau mis Mai oherwydd pryderon difrifol am y ffordd yr oedd yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig yn cael ei sefydlu, yr oedi sylweddol a oedd yn cael ei brofi, a'r diffyg ymgynghori llwyr â'r rhai a ddylai fod wedi bod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Roeddwn i'n falch iawn bod fy etholwr Lynne Kelly, cadeirydd Haemophilia Wales, yn dyst yn y gwrandawiadau ac yn gallu cyflwyno pryderon y rhai sydd wedi'u heintio a'r rhai y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf gan gadeirydd yr ymchwiliad, Syr Brian Langstaff, gyda rhai sylwadau a chasgliadau damniol iawn, megis na fyddai unrhyw un a wrandawodd ar hyn
'mewn unrhyw amheuaeth nad yw'r ymddiriedaeth wedi'i hadennill eto, ond yn hytrach ei bod wedi cael ei niweidio ymhellach a bod pobl wedi cael eu niweidio ymhellach gan y ffordd maen nhw wedi cael eu trin.'
Mae hon yn sgandal sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers 40 mlynedd. A allai Llywodraeth Cymru wneud datganiad ynglŷn â sut y bydd yn ymateb i'r adroddiad diweddaraf hwn?
Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad—
You used your time up in asking that question.
Fe wnaethoch chi ddefnyddio'ch amser yn gofyn y cwestiwn hwnnw.
Okay. Thank you.
Iawn. Diolch.
Thank you. Diolch yn fawr, Julie Morgan. Can I thank you for raising this question? It is a question that, of course, has come to the fore again as a result of this report. Can I just pay tribute to Lynne Kelly, Haemophilia Wales and the constant work, the diligence, the commitment, she has shown to this campaign? I recognise the frustration of those who are affected by the infected blood scandal and their families and relatives. I think, across the Chamber, we have all got constituents—I certainly have—who we are representing as far as this is concerned.
I think also the inquiry has been led so ably and with such commitment by Brian Langstaff, and we must recognise that today. This is a matter for the UK Cabinet Office, and of course—and I’m sure we’ve all corresponded with Nick Thomas-Symonds, the Minister responsible—they are considering the recommendations made in the report, and the Cabinet Secretary for Health and Social Care is meeting this Thursday with the Minister, Nick Thomas-Symonds, along with all his colleagues in the devolved nations, to discuss the recommendations and next steps.
Diolch. Diolch yn fawr, Julie Morgan. A gaf i ddiolch i chi am godi'r cwestiwn hwn? Mae'n gwestiwn sydd, wrth gwrs, wedi dod i'r amlwg eto o ganlyniad i'r adroddiad hwn. A gaf i dalu teyrnged i Lynne Kelly, Haemophilia Wales a'r gwaith cyson, y diwydrwydd, yr ymrwymiad mae hi wedi'i ddangos i'r ymgyrch hon? Rwy'n cydnabod rhwystredigaeth y rhai y mae'r sgandal gwaed heintiedig wedi effeithio arnyn nhw, a'u teuluoedd a'u perthnasau. Rwy'n credu, ar draws y Siambr, mae gan bob un ohonom ni etholwyr—mae gennyf i rai, yn sicr—rydym ni'n eu cynrychioli o ran hyn.
Rwy'n credu hefyd fod yr ymchwiliad wedi cael ei arwain mor fedrus a chyda chymaint o ymrwymiad gan Brian Langstaff, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny heddiw. Mae hwn yn fater i Swyddfa Cabinet y DU, ac wrth gwrs—ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gohebu â Nick Thomas-Symonds, y Gweinidog sy'n gyfrifol—maen nhw'n ystyried yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyfarfod ddydd Iau yma gyda'r Gweinidog, Nick Thomas-Symonds, ynghyd â'i holl gydweithwyr yn y gwledydd datganoledig, i drafod yr argymhellion a'r camau nesaf.
Trefnydd, I know that you’re well aware of the increasing antisemitism in our country, and it is particularly upsetting to see this hatred land disproportionately on young people. Indeed, I’ve even received complaints about statements put out by Urdd Gobaith Cymru, an organisation I’ve always associated with fairness and inclusivity. A report has recently been released, commissioned by the Board of Deputies of British Jews and backed by the UK Government, that shows that antisemitism has now been normalised in Britain. The review warned that Jewish people in the UK were suffering increasing prejudice in our professions, cultural life and in our public services, and found that antisemitism has become pervasive in our NHS, in our universities and in our arts sector. With this in mind, can I ask the Welsh Government to bring forward an oral statement as a matter of urgency on what actions it is taking to address this report and tackle antisemitism in our NHS, in our universities and in our arts? Thank you.
Trefnydd, rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r gwrthsemitiaeth gynyddol yn ein gwlad, ac mae'n arbennig o ofidus gweld y casineb hwn yn glanio'n anghymesur ar bobl ifanc. Yn wir, rwyf hyd yn oed wedi derbyn cwynion am ddatganiadau gan Urdd Gobaith Cymru, sefydliad rwyf bob amser wedi'i gysylltu â thegwch a chynhwysiant. Mae adroddiad wedi cael ei ryddhau'n ddiweddar, a gomisiynwyd gan Fwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain a'i gefnogi gan Lywodraeth y DU, sy'n dangos bod gwrthsemitiaeth wedi'i normaleiddio ym Mhrydain erbyn hyn. Rhybuddiodd yr adolygiad fod pobl Iddewig yn y DU yn dioddef rhagfarn gynyddol yn ein proffesiynau, bywyd diwylliannol ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a chanfu fod gwrthsemitiaeth wedi dod yn dreiddiol yn ein GIG, yn ein prifysgolion ac yn ein sector celfyddydau. Gyda hyn mewn golwg, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad llafar ar frys ar y camau mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r adroddiad hwn ac i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn ein GIG, yn ein prifysgolion ac yn ein celfyddydau? Diolch.
Thank you, Joel James, for your question, and for drawing attention to a new report, which was co-chaired by Dame Penny Mordaunt and Lord John Mann. To say, obviously, as I've said and the Senedd knows, that the Welsh Government condemns antisemitism in all its forms and stands in solidarity with Jewish people and communities across Wales and the UK. We welcome the findings of the commission. In Wales, we’re committed to building a fairer, more inclusive society where everyone feels safe, respected and valued, and, through our ‘Anti-racist Wales Action Plan’, we are working with communities, public services and educators to challenge hate, promote understanding and ensure that racism and discrimination have no place in our nation. We continue to engage with Jewish communities in Wales to ensure that their voices are heard and their concerns are addressed. Also, we will be, of course, looking at these recommendations ourselves.
Diolch, Joel James, am eich cwestiwn, ac am dynnu sylw at adroddiad newydd, a gafodd ei gyd-gadeirio gan y Fonesig Penny Mordaunt a'r Arglwydd John Mann. I ddweud, yn amlwg, fel yr wyf wedi'i ddweud ac mae'r Senedd yn gwybod, bod Llywodraeth Cymru yn condemnio gwrthsemitiaeth yn ei holl ffurfiau ac yn sefyll mewn undod â phobl a chymunedau Iddewig ledled Cymru a'r DU. Rydyn ni'n croesawu canfyddiadau'r comisiwn. Yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu cymdeithas decach a mwy cynhwysol lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi, a thrwy ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', rydyn ni'n gweithio gyda chymunedau, gwasanaethau cyhoeddus ac addysgwyr i herio casineb, hyrwyddo dealltwriaeth a sicrhau nad oes lle i hiliaeth a gwahaniaethu yn ein cenedl. Rydyn ni'n parhau i ymgysylltu â chymunedau Iddewig yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u pryderon yn cael sylw. Hefyd, byddwn ni, wrth gwrs, yn edrych ar yr argymhellion hyn ein hunain.
Dwi’n nodi datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ddoe yn rhoi diweddariad chwe mis ar waith a wnaed mewn ymateb i argymhellion modiwl 1 ymchwiliad COVID y Deyrnas Gyfunol. Mae’r datganiad ar y cyfan yn siomedig, ac mae’n hynod arwynebol. Wrth edrych ar argymhelliad 1, er enghraifft, mae’n nodi bod y Llywodraeth wedi ymateb a chwblhau'r gofyniad a wnaed. Ac eithrio un ochr A4 o esboniad yn unig, does dim modd gwneud yn siŵr bod y gofyniad wedi cael ei foddhau cyn belled ag y mae’r Senedd yma yn y cwestiwn. Mewn ymateb i argymhelliad 5, mae’n nodi bod ymarferiad desg wedi cael ei gwblhau. Y pwynt ydy nad oes modd craffu dim o’r datganiad yma yn gyhoeddus. Mae’r sefyllfa, felly, yn annerbyniol. Gaf i ofyn i’r datganiadau yma yn y dyfodol gael eu gwneud yn rhai llafar er mwyn i ni gael amser i’w craffu?
I note the written statement made by the First Minister yesterday providing a six-monthly update on work done in response to the recommendations of module 1 of the UK COVID inquiry. The statement, generally speaking, is disappointing and superficial. In looking at recommendation 1, for example, it notes that the Government has responded and completed the requirement listed. With the exception of one side of A4 of explanation, there is no way of ensuring that that requirement was met as far as the Senedd is concerned. In response to recommendation 5, it notes that a desk exercise was completed. The point is that we cannot scrutinise any of this statement publicly. The situation is, therefore, unacceptable. Can I ask for these statements in future to be made orally, so that we can have time to scrutinise them?
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. As you say, a written statement was published on Monday, on 14 July, and shared with Members in respect of progress on the inquiry's module 1 recommendations, and the response of the Welsh Government did reaffirm our commitment to continuous learning, not only from inquiries, but from incidents and exercises. We've already taken action to improve our understanding of risk and our preparedness. The Welsh resilience framework, published in May, provides our plans for enhancing preparedness, response and recovery capabilities and ensuring a more resilient Wales, both now and for the future. I think it is important and it is very welcome that there is a debate tomorrow, and that the Public Accounts and Public Administration Committee has also agreed to take responsibility in taking this forward in terms of the report that was done by the special purpose committee, but thank you for raising this today in advance of that, Mabon.
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Fel y dywedwch chi, cafodd datganiad ysgrifenedig ei gyhoeddi ddydd Llun, ar 14 Gorffennaf, a'i rannu â'r Aelodau o ran cynnydd ar argymhellion modiwl 1 yr ymchwiliad, ac fe wnaeth ymateb Llywodraeth Cymru ailddatgan ein hymrwymiad i ddysgu parhaus, nid yn unig o ymchwiliadau, ond o ddigwyddiadau ac ymarferion. Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau i wella ein dealltwriaeth o risg a'n parodrwydd. Mae fframwaith gwydnwch Cymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai, yn darparu ein cynlluniau ar gyfer gwella galluoedd parodrwydd, ymateb ac adfer a sicrhau Cymru fwy gwydn, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod dadl yfory, dadl sy'n cael ei chroesawu'n fawr, a bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus hefyd wedi cytuno i fod yn gyfrifol am symud hwn yn ei flaen, o ran yr adroddiad a luniwyd gan y pwyllgor diben arbennig, ond diolch am godi hyn heddiw cyn hynny, Mabon.
Please could I ask for a statement showing a commitment to publishing a national beaver strategy and wild release licensing framework for beavers, following a written statement last September by the Deputy First Minister confirming that the Welsh Government supports moving towards the managed reintroduction of beavers in Wales? By the time we return, it will be 12 months since that statement. I know he's been very busy, but we are waiting for this. Thank you.
A gaf i ofyn am ddatganiad sy'n dangos ymrwymiad i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar gyfer afancod a fframwaith trwyddedu rhyddhau i'r gwyllt ar gyfer afancod, yn dilyn datganiad ysgrifenedig fis Medi diwethaf gan y Dirprwy Brif Weinidog yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi symud tuag at ailgyflwyno afancod yng Nghymru mewn ffordd reoledig? Erbyn i ni ddychwelyd, bydd 12 mis wedi mynd heibio ers y datganiad hwnnw. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn brysur iawn, ond rydyn ni'n aros am hyn. Diolch.
Diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Well, you have the Cabinet Secretary here in the Chamber. He has been reminded of the importance of our statement of support in terms of the reintroduction of beavers. I think we've already seen that occurring across the UK, and I'm sure that, in the autumn term, the Deputy First Minister and Cabinet Secretary will wish to update the Senedd.
Diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Wel, mae gennych chi'r Ysgrifennydd Cabinet yma yn y Siambr. Mae wedi cael ei atgoffa o bwysigrwydd ein datganiad o gefnogaeth o ran ailgyflwyno afancod. Rwy'n credu ein bod ni eisoes wedi gweld hynny'n digwydd ledled y DU, ac rwy'n siŵr, yn nhymor yr hydref, y bydd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet yn dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd.
Business Minister, can I please request a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care about supporting women with menopause? Menopause is a major health and workforce issue, affecting thousands of people across Wales. From my understanding, around 900,000 women have left the UK workforce due to unmanaged symptoms, and menopause is estimated to cost more than £10 billion annually in lost productivity and absence, yet support, sadly, remains fragmented, with long NHS waiting times, inconsistent work policies and limited access across menopause-trained professionals.
The south Wales menopause community, who I was pleased to meet with recently, is working really hard to change that. They have proposed a joined-up, regional model for menopause support, as one of the things that brings together healthcare providers, employers and holistic services. Their vision is a dedicated menopause well-being hub that supports medical, mental health, lifestyle and workplace needs under one roof, with a digital arm to ensure inclusive reach. They are interested in launching a pilot programme, and I have put them in touch with Aneurin Bevan health board, but a statement from the Cabinet Secretary outlining what steps the Welsh Government will, indeed, be taking to support women with menopause would be greatly appreciated. I'd also implore the Cabinet Secretary to meet with the south Wales menopause community, something that I'd be more than happy to facilitate. Thank you so much.
Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gefnogi menywod gyda'r menopos? Mae'r menopos yn broblem fawr o ran iechyd a'r gweithlu, sy'n effeithio ar filoedd o bobl ledled Cymru. O'r hyn rwyf yn ei ddeall, mae tua 900,000 o fenywod wedi gadael gweithlu'r DU oherwydd symptomau heb eu rheoli, ac amcangyfrifir bod y menopos yn costio mwy na £10 biliwn bob blwyddyn mewn cynhyrchiant coll ac absenoldeb, ond eto mae'r gefnogaeth, yn anffodus, yn parhau i fod yn dameidiog, gydag amseroedd aros hir y GIG, polisïau anghyson yn y gwaith a mynediad cyfyngedig i weithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi ar y menopos.
Mae cymuned menopos de Cymru, yr oeddwn i'n falch o gyfarfod â nhw'n ddiweddar, yn gweithio'n galed iawn i newid hynny. Maen nhw wedi cynnig model rhanbarthol, cydgysylltiedig ar gyfer cymorth menopos, fel un o'r pethau sy'n dod â darparwyr gofal iechyd, cyflogwyr a gwasanaethau cyfannol at ei gilydd. Eu gweledigaeth yw canolfan lles menopos bwrpasol sy'n cefnogi anghenion meddygol, iechyd meddwl, ffordd o fyw a'r gweithle o dan un to, gyda changen ddigidol i sicrhau cyrhaeddiad cynhwysol. Mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn lansio rhaglen beilot, ac rwyf wedi eu rhoi mewn cysylltiad â bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ond byddai datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi menywod â'r menopos yn cael ei groesawu'n fawr. Byddwn i hefyd yn erfyn ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gyfarfod â chymuned menopos de Cymru, rhywbeth y byddwn i'n fwy na hapus i'w hwyluso. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Natasha Asghar. Of course, you raise such an important issue for all women, in terms of supporting women through the menopause. Of course, we now have a real opportunity to address this comprehensively across Wales with the women's health plan and also the expectation and the financial support for women's health hubs in every health board area. I know that the Cabinet Secretary for Health and Social Care will welcome your focus today on supporting women through the menopause, and also I'm sure that the Minister for Mental Health and Well-being, who's taken a lead role with the women's health plan, will want to respond as well.
Diolch yn fawr, Natasha Asghar. Wrth gwrs, rydych chi'n codi mater sydd mor bwysig i bob menyw, o ran cefnogi menywod trwy'r menopos. Wrth gwrs, mae gennym ni gyfle gwirioneddol nawr i fynd i'r afael â hyn mewn ffordd gynhwysfawr ledled Cymru gyda'r cynllun iechyd menywod a hefyd y disgwyliad a'r cymorth ariannol i ganolfannau iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu'ch ffocws heddiw ar gefnogi menywod drwy'r menopos, a hefyd rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, sydd wedi cymryd rôl flaenllaw gyda'r cynllun iechyd menywod, eisiau ymateb hefyd.
Good afternoon, Cabinet Secretary. Could I ask for a statement, please, from the Cabinet Secretary for Transport and North Wales to explain how the Welsh Government plans to better integrate public transport in rural communities, looking particularly at bus and train transfers, particularly in areas like Knighton? Knighton is right on the border between England and Wales; in Wales, it feels very neglected. One of the things it does have is the Heart of Wales line running to it, but there is very little opportunity for people to connect from the train on to a bus; for example, the 9 p.m. train arriving at Craven Arms to allow people to go on to Knighton misses totally the bus link to take people on. While the Bus Services (Wales) Bill promises to improve integration between bus and rail, questions actually still remain about what it will mean in reality. So, please could I urge you and the Cabinet Secretary to set out how the Government will make sure that communities like Knighton don't feel left behind? Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus yn well mewn cymunedau gwledig, gan edrych yn arbennig ar drosglwyddo rhwng bysiau a threnau, yn enwedig mewn ardaloedd fel Trefyclo? Mae Trefyclo ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr; yng Nghymru, mae'n teimlo'n ei bod wir wedi'i hesgeuluso. Un o'r pethau sydd ganddi yw llinell Calon Cymru yn rhedeg iddi, ond ychydig iawn o gyfle sydd i bobl gysylltu o drên i fws; er enghraifft, mae'r trên 9 p.m. sy'n cyrraedd Craven Arms i ganiatáu i bobl fynd ymlaen i Drefyclo yn colli'r cyswllt bws yn llwyr. Er bod y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn addo gwella integreiddio rhwng bysiau a threnau, mae cwestiynau o hyd ynglŷn â'r hyn y bydd yn ei olygu mewn gwirionedd. Felly, a gaf i eich annog chi a'r Ysgrifennydd Cabinet i nodi sut y bydd y Llywodraeth yn gwneud yn siŵr nad yw cymunedau fel Trefyclo yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. It is important that you draw attention today to communities like Knighton—beautiful communities. I remember walking through, and in fact staying in, Knighton as a result—just walking, of course. It’s such a place for visiting, and for residents, of course. But I think this is where we need to make sure that Transport for Wales take into account the ways in which active travel and trains on the Heart of Wales line link up in terms of the timetables, working closely with the local authority as well to make sure that there are those connections and that communities like Knighton are involved in that. Transport for Wales are developing multimodal approaches to improve public transport connectivity in the Heart of Wales line area, and the bus Bill, of course, will help us deliver through bus franchising. So, I'm sure that this is something that, in terms of the Heart of Wales, and particularly Knighton, there will be improvements in terms of that multimodal response to services.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'n bwysig eich bod chi'n tynnu sylw heddiw at gymunedau fel Trefyclo—cymunedau prydferth. Rwy'n cofio cerdded trwy, ac yn wir aros yn Nhrefyclo o ganlyniad—dim ond cerdded, wrth gwrs. Mae'n lle da i ymweld ag ef, ac i drigolion, wrth gwrs. Ond rwy'n credu mai dyma lle mae angen i ni wneud yn siŵr bod Trafnidiaeth Cymru yn ystyried y ffyrdd y mae teithio llesol a threnau ar linell Calon Cymru yn cysylltu o ran yr amserlenni, gan weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol hefyd i wneud yn siŵr bod y cysylltiadau hynny yno a bod cymunedau fel Trefyclo yn rhan o hynny. Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu dulliau amlfoddol i wella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal llinell Calon Cymru, a bydd y Bil bysiau, wrth gwrs, yn ein helpu ni i gyflawni drwy fasnachfreinio bysiau. Felly, rwy'n siŵr y bydd hyn yn rhywbeth lle bydd gwelliannau, o ran Calon Cymru, ac yn enwedig Trefyclo, o ran yr ymateb amlfoddol hwnnw i wasanaethau.
I would like a statement from the Cabinet Secretary for Education on the provision of post-16 school transport. I've had quite a shock recently. I've had a few young people—girls—wanting to go into science, technology, engineering and mathematics subjects, and what have you. Basically, they want to study at their local campuses, which, for us, is Grŵp Llandrillo Menai, or on the island as well. Now, the local authority's own school post-16 transport policy restricts support to a learner's nearest college, without taking into account course availability or individual learner needs. Since this change, the college have seen a significant increase in inquiries from students, particularly in engineering and STEM. And for 14 years, I've sat through when they've been saying, 'We need more women, we need young people going into STEM and engineering subjects', yet the local authority, Conwy County Borough Council, are refusing to fund their transport.
Could you perhaps have a look into this and maybe speak with Conwy County Borough Council? This is two pupils that have come forward at present, but I believe others will be coming forward to request this. This is not something the local authority, I believe, should be rejecting the funding for. It's vital we get these people into STEM subjects.
Hoffwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ddarparu cludiant i'r ysgol ar gyfer dysgwyr ôl-16. Rwyf wedi cael eithaf sioc yn ddiweddar. Rwyf wedi cael un neu ddau o bobl ifanc—merched—yn dymuno cymryd pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ac ati. Yn y bôn, maen nhw eisiau astudio ar eu campysau lleol, sef Grŵp Llandrillo Menai i ni, neu ar yr ynys hefyd. Nawr, mae polisi cludiant i'r ysgol yr awdurdod lleol ei hun ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn cyfyngu cymorth i goleg agosaf y dysgwr, heb ystyried y cyrsiau sydd ar gael nac anghenion dysgwyr unigol. Ers y newid hwn, mae'r coleg wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ymholiadau gan fyfyrwyr, yn enwedig o ran peirianneg a STEM. Ac ers 14 mlynedd, rwyf wedi eistedd yna wrth iddyn nhw ddweud, 'Mae angen mwy o fenywod arnon ni, mae angen i bobl ifanc astudio pynciau STEM a pheirianneg', ond eto mae'r awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn gwrthod ariannu'r cludiant sydd ei angen arnynt.
Allech chi efallai edrych ar hyn ac efallai siarad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy? Dau ddisgybl sydd wedi dod ataf hyd yn hyn, ond rwy'n credu y bydd eraill yn dod ataf i ofyn am hyn. Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai'r awdurdod lleol fod yn gwrthod ei ariannu, yn fy marn i. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cael y bobl hyn i mewn i bynciau STEM.
Thank you very much, Janet Finch-Saunders. I think we absolutely agree on that point. It's great to know that there are pupils, school students, who want to study STEM subjects, and particularly for girls to study STEM subjects. We've invested a lot of funding to encourage under-represented groups, and it is often girls, to go into STEM subjects. And, of course, that is about availability of those courses in the communities where they live and that are accessible. You've raised a question there about access to these courses in your constituency in terms of post-16 educational transport, and I'm sure this is something that the Minister for Further and Higher Education will want to look at in terms of access and availability.
Diolch yn fawr iawn, Janet Finch-Saunders. Rwy'n credu ein bod ni'n cytuno'n llwyr ar y pwynt hwnnw. Mae'n wych gwybod bod yna ddisgyblion, myfyrwyr ysgol, sydd eisiau astudio pynciau STEM, ac yn enwedig merched yn astudio pynciau STEM. Rydyn ni wedi buddsoddi llawer o arian i annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a merched ydynt yn aml, i fynd i astudio pynciau STEM. Ac wrth gwrs, mae hynny'n ymwneud ag argaeledd y cyrsiau hynny yn y cymunedau lle maen nhw'n byw ac sy'n hygyrch. Rydych chi wedi codi cwestiwn yn y fan yna am fynediad i'r cyrsiau hyn yn eich etholaeth chi o ran cludiant i'r ysgol ar gyfer dysgwyr ôl-16, ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y bydd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch eisiau edrych arno o ran mynediad ac argaeledd.
Trefnydd, I'd like to ask for two statements, please. Firstly, a statement on what plans the Welsh Government has to fill the 2,000 nursing vacancies here in Wales. We know that there are plans to reduce the number of undergraduates taken on at the Cardiff nursing school. Surely this will exacerbate the recruitment problems and sector needs. I recognise that the Welsh Government recruited 200 nurses from abroad earlier this year, but I know that many of my constituents feel that bringing nurses from overseas is not a sustainable way to staff our struggling NHS, and that we have to ensure that we look after and grow our homegrown talent as much as possible, and train and nurture these people in Wales to these crucial roles. So, I'd like to request a statement from the Welsh Government reacting to that.
Secondly, it has been now over three months since the Supreme Court ruling, and we're still waiting for the Welsh Government to provide an oral statement on what the next steps will be. I'm not sure that a delay of this kind can be justified, Trefnydd, and I think—I know, in fact—that there are now moves to take this Welsh Government to court over not acting swiftly and in accordance with the law on this. The Senedd is now about to break for recess, and we will not hear a statement now until September. So, can I ask you, Trefnydd, please, as a matter of urgency, can we have it in that first week back in September? Diolch.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, datganiad ar ba gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i lenwi'r 2,000 o swyddi nyrsio gwag yma yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod cynlluniau i leihau nifer yr israddedigion sy'n cael eu derbyn yn ysgol nyrsio Caerdydd. Does bosib y bydd hyn yn gwaethygu'r problemau recriwtio ac anghenion y sector. Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi recriwtio 200 o nyrsys o dramor yn gynharach eleni, ond rwy'n gwybod bod llawer o fy etholwyr yn teimlo nad yw dod â nyrsys o dramor yn ffordd gynaliadwy o staffio ein GIG sydd mewn trafferthion, a bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn tyfu ac yn gofalu am ein talent gartref gymaint â phosibl, a hyfforddi a meithrin y bobl hyn yng Nghymru i'r rolau hanfodol hyn. Felly, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ymateb i hynny.
Yn ail, mae dros dri mis wedi mynd heibio erbyn hyn ers dyfarniad y Goruchaf Lys, ac rydyn ni'n dal i aros i Lywodraeth Cymru roi datganiad llafar ar beth fydd y camau nesaf. Nid wyf i'n siŵr ei bod yn bosibl cyfiawnhau oedi o'r math hwn, Trefnydd, ac rwy'n credu—rwy'n gwybod, yn wir—bod yna gamau nawr i fynd â Llywodraeth Cymru i'r llys dros beidio â gweithredu'n gyflym ac yn unol â'r gyfraith ar hyn. Mae'r Senedd ar fin torri am seibiant nawr, ac ni fyddwn ni'n clywed datganiad nawr tan fis Medi. Felly, a gaf i ofyn i chi, Trefnydd, os gwelwch yn dda, fel mater o frys, a allwn ni ei gael yn yr wythnos gyntaf honno pan ddown ni nôl ym mis Medi? Diolch.
Thank you very much for those two questions, Laura Anne Jones. I'm sure that the Cabinet Secretary for Health and Social Care would welcome the opportunity to update the Senedd on the very encouraging levels of not only training, but also actual staffing in terms of nursing levels in Wales. Clearly, we have to address the vacancies, but I think this, again, is an opportunity to show that, as the First Minister said, the highest level of NHS staffing, and that obviously includes our all-important nursing staff.
As far as the Supreme Court judgment is concerned, you know that I issued a written statement on this, and also that I responded to the consultation, as did many, that was launched by the Equality and Human Rights Commission. The closure of that and what it could mean in practice in terms of guidance and the result of that consultation, of course, we await. It only finished on 30 June. I have also taken the opportunity to meet organisations who are affected by this and who are interested in the outcomes of the consultation. I have met them across all interests over the last few weeks, but we await the outcome of the Equality and Human Rights Commission consultation, and move forward in terms of understanding the impacts of this in the way that we respond. It is really important that this is about being inclusive, compassionate and recognising needs and impacts already.
Diolch yn fawr iawn am y ddau gwestiwn hynny, Laura Anne Jones. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar y lefelau calonogol iawn nid yn unig o hyfforddiant, ond hefyd staffio o ran lefelau nyrsio yng Nghymru. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r swyddi gwag, ond rwy'n credu bod hwn, unwaith eto, yn gyfle i ddangos, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y lefel uchaf o staffio'r GIG, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys ein staff nyrsio hollbwysig.
O ran dyfarniad y Goruchaf Lys, rydych chi'n gwybod fy mod i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar hyn, a hefyd fy mod i wedi ymateb i'r ymgynghoriad, fel y gwnaeth llawer, a gafodd ei lansio gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae diweddglo hwnnw a'r hyn y gallai ei olygu yn ymarferol o ran canllawiau a chanlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, wrth gwrs, rydyn ni'n aros am hynny. Dim ond ar 30 Mehefin y daeth i ben. Rwyf hefyd wedi achub ar y cyfle i gwrdd â sefydliadau y mae hyn yn effeithio arnyn nhw ac sydd â diddordeb yng nghanlyniadau'r ymgynghoriad. Rwyf wedi cwrdd â nhw ar draws yr holl fuddiannau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond rydyn ni'n aros am ganlyniad ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac fe wnawn ni symud ymlaen o ran deall effeithiau hyn yn y ffordd yr ydyn ni'n ymateb. Mae'n bwysig iawn bod hyn yn ymwneud â bod yn gynhwysol, yn dosturiol a chydnabod anghenion ac effeithiau eisoes.
Ac yn olaf, Peter Fox.
And finally, Peter Fox.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, can I request a statement from the Cabinet Secretary for Transport and North Wales on support relating to the A465? The Welsh Government have been pleased to announce the conclusion of the A465 improvement works, and I agree it is an impressive project that I am sure will be the subject of debate on value for money for many years to come. The Welsh Government have said the scheme is finished and the communities near the road are open for business, but for many in my constituency the scheme is not over, as they are still suffering with the consequences of the work, such as the lack of promised improvement works, business support and compensation. A number of my constituents are still waiting for a number of resolutions, with one specific case having been ongoing for over 12 years, relating to the access to property that has been impacted by the new road. This wait is simply just not good enough and our residents need outcomes to be able to get on with their lives. Too many are stuck in limbo. I would therefore welcome a statement by the Cabinet Secretary outlining what the Welsh Government are doing to ensure all outstanding cases of support, access or other issues relating to the A465 are resolved, so that the project can be considered as finished once and for all.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar gymorth sy'n ymwneud â'r A465? Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn falch o gyhoeddi bod gwaith gwella'r A465 wedi dod i ben, ac rwy'n cytuno ei fod yn brosiect trawiadol ac rwy'n siŵr y bydd yn destun dadl ar werth am arian am flynyddoedd lawer i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cynllun wedi'i orffen a'r cymunedau ger y ffordd ar agor ar gyfer busnes, ond i lawer yn fy etholaeth i nid yw'r cynllun wedi dod i ben, gan eu bod yn dal i ddioddef gyda chanlyniadau'r gwaith, megis y diffyg gwaith gwella a addawyd, cymorth busnes ac iawndal. Mae nifer o'm hetholwyr yn dal i aros am nifer o benderfyniadau, gydag un achos penodol sydd wedi parhau ers dros 12 mlynedd, yn ymwneud â'r mynediad at eiddo yr effeithiwyd arno gan y ffordd newydd. Nid yw'r aros hwn yn ddigon da ac mae angen canlyniadau ar ein trigolion i allu mynd ymlaen â'u bywydau. Mae gormod o bobl mewn sefyllfa ansicr ac amhendant. Felly, byddwn yn croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr holl achosion cymorth sy'n weddill, mynediad neu faterion eraill sy'n ymwneud â'r A465 yn cael eu datrys, fel y gellir ystyried bod y prosiect wedi'i orffen unwaith ac am byth.
Thank you very much, Peter Fox. I am sure we would concur with that. Obviously this is a major development that will support your region, your constituency and all of those who will benefit from it, and all those indeed—and I recall this discussion last week—who have engaged in the construction, and the benefits to local people and communities in terms of education and apprenticeship opportunities. Clearly, where those issues need to be resolved, that will be the priority now. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Rwy'n siŵr y byddem yn cytuno â hynny. Yn amlwg, mae hwn yn ddatblygiad mawr a fydd yn cefnogi eich rhanbarth, eich etholaeth chi a phawb a fydd yn elwa arno, a phawb sy'n wir—ac rwy'n cofio'r drafodaeth hon yr wythnos diwethaf—sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith adeiladu, a'r manteision i bobl a chymunedau lleol o ran addysg a chyfleoedd prentisiaethau. Yn amlwg, lle mae angen datrys y materion hynny, dyna fydd y flaenoriaeth nawr. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Trefnydd.
I thank the Trefnydd.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.
Item 4 today is the statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on the sustainable farming scheme. I call on the Deputy First Minister, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da i chi i gyd. Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi ein cynllun ffermio cynaliadwy heddiw. Dyma garreg filltir arbennig yn amaethyddiaeth yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cefnogi ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel sydd o safon fyd eang, gan ofalu am yr amgylchedd ar yr un pryd â mynd i'r afael â newid hinsawdd ac addasu iddo. Bydd hefyd yn datblygu gwytnwch ar gyfer y rhai a fydd yn gweithio ac yn gofalu am y tir gwerthfawr hwn yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Thank you very much, Dirprwy Lywydd, and a good afternoon to you all. I am very pleased to be able to announce today our sustainable farming scheme. This is truly a landmark moment for agriculture in Wales. The scheme will support farmers in Wales to produce world-class high-quality food, whilst caring for the environment, tackling and adapting to climate change. It will also build resilience for those who will work and care for this precious land in the years to come.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
Our ambition is for a thriving, confident agriculture sector built around innovation and growth, rising to challenges and grasping opportunities. The people of Wales value farming, and that’s clear to see. They understand a farmer's role in nurturing land and the Welsh language, producing world-renowned food, and protecting fragile habitats. But more is needed. Extreme weather and drought are signs that the climate and nature emergencies are here. It is not possible to consider future food production without mitigating these emergencies, as set out in the sustainable land management objectives.
The people of Wales want to know that the money we are investing in agriculture is bringing the benefits they want. They back Welsh farming, and they want soils protected, water quality improved, countryside access maintained and nature supported. So, with this in mind, the scheme represents a new agreement between the people of Wales and our farmers.
Ein huchelgais yw gweld sector amaethyddol ffyniannus, hyderus wedi'i adeiladu o amgylch arloesi a thwf, gan ymdrin yn llwyddiannus â heriau a manteisio ar gyfleoedd. Mae pobl Cymru yn gwerthfawrogi ffermio, ac mae hynny'n amlwg i'w weld. Maent yn deall rôl ffermwr wrth feithrin tir a'r Gymraeg, cynhyrchu bwyd byd-enwog, a gwarchod cynefinoedd bregus. Ond mae angen mwy. Mae tywydd eithafol a sychder yn arwyddion bod yr argyfyngau hinsawdd a natur yma. Nid yw'n bosibl ystyried cynhyrchu bwyd yn y dyfodol heb liniaru'r argyfyngau hyn, fel y nodir yn yr amcanion rheoli tir cynaliadwy.
Mae pobl Cymru eisiau gwybod bod yr arian yr ydym yn ei fuddsoddi mewn amaethyddiaeth yn dod â'r manteision maen nhw'n eu dymuno. Maen nhw'n cefnogi ffermio yng Nghymru, ac maen nhw eisiau diogelu priddoedd, gwella ansawdd dŵr, cynnal mynediad i gefn gwlad a chefnogi natur. Felly, gyda hyn mewn golwg, mae'r cynllun yn cynrychioli cytundeb newydd rhwng pobl Cymru a'n ffermwyr.
This is not just a scheme for farmers; this is a scheme for the whole of Wales—a whole-farm, whole-nation approach. And it is a product of unprecedented collaboration. We have listened to wide-ranging views and worked intensively with the ministerial round-table and with supporting groups, and my thanks to everyone who has engaged with us. This has resulted in a scheme that works for the industry and meets the needs of everyone. I intend for the ministerial round-table to continue as we strengthen and embed the SFS across the industry. So, we’ve listened, and we will continue to listen.
No two farms are the same, so we’ve ensured that the scheme is accessible. It offers flexibility to accommodate different farming types, tenants and new entrants with access to land. The framework of universal, optional and collaborative actions responds to the asks from the industry. The framework provides stability whilst helping farms to be more resilient and productive by improving soil health, animal health, managing pests and developing skills.
We’ve reduced complexity by reducing the universal actions, simplifying requirements and simplifying the administration. We commit to supporting the universal actions and legacy basic payment scheme with the same budget in 2026—£238 million—that we currently spend on the basic payment scheme. Social value accounts for a significant proportion of the universal payment in 2026, reflecting the multiple benefits farmers provide alongside the sustainable production of food. We have set this budget to encourage farmers into the scheme in 2026 to realise the scheme benefits sooner.
However, our environmental commitments will only be met with substantial uptake of optional and collaborative actions. The earlier the uptake, the earlier we’ll see the benefits at scale. This is why we’ve bolstered the budget available for these actions in 2026, and why we commit to further shifting the balance of future budgets to optional and collaborative actions. This is essential for our climate and nature objectives, and to offer a truly sustainable future to Welsh agriculture.
We will continue developing the evidence base underpinning social value to better understand how individual actions contribute to different elements of social value, including the benefits that come from protecting our environment, and to refine this approach and then apply it more widely to optional and collaborative actions.
We’ve changed our approach to tree planting. We need to plant more trees and hedgerows to meet our climate ambitions. And that is why, having listened to farmers, we’ve moved away from 10 per cent tree cover on every farm towards incentivising farmers through generous and flexible planting support in the optional layer. As a minimum, we’re asking farmers to plant at least 0.1 hectare by the end of 2028, or have arrangements to plant by the end of March 2029. To incentivise early planting, we’re proposing enhanced payments for those planting in the first three years.
Trees benefit livestock as well as capturing carbon and providing habitat, which is why our tree planting offer supports a range of planting types, including shelter belts and integration of trees alongside food production as part of an agroforestry system. We are not expecting, nor do we want, farmers to plant on their most productive land. They will decide where to plant, with guidance, to ensure the right tree in the right place.
Following extensive stakeholder discussions, I’m confident this will achieve as much, if not more, planting than would have been achieved under previous proposals. At scheme level, we’re aiming for at least 17,000 hectares of planting by 2030, with an aspiration of 21,500 hectares. But, if by the end of 2028, we’re not progressing, we will review our approach.
Change isn’t easy. This scheme is a big change, but it’s a change we believe is good for farming, production and the environment. I believe and hope that the majority of farmers join the scheme. The BPS is available for those outside the SFS, although reduced by 40 per cent next year. This is the same as it would have been had we introduced the SFS in 2025. We're prioritising the SFS to encourage farmers to join the scheme and to start benefiting. We continue to fund other schemes to help farmers transition to the SFS and to deliver farm sustainability and other rural priorities.
These are challenging times for rural communities, where farming is not solely a livelihood, but a way of life. The scheme will support a thriving, productive, sustainable farming industry, underpinning these communities for generations to come. The scheme starts in January, but that’s the beginning. We’re supporting farmers and food for the long term. The scheme depends on farmers, their families, and all who support them, so I hope farmers will now take the time to understand how it works for them.
Nid cynllun i ffermwyr yn unig yw hwn; mae hwn yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan—dull fferm gyfan, dull cenedl gyfan. Ac mae'n gynnyrch cydweithredu digynsail. Rydym wedi gwrando ar safbwyntiau eang ac wedi gweithio'n ddwys gyda'r bwrdd crwn gweinidogol a gyda grwpiau cefnogol, a diolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni. Mae hyn wedi arwain at gynllun sy'n gweithio i'r diwydiant ac yn diwallu anghenion pawb. Rwy'n bwriadu i'r bwrdd crwn gweinidogol barhau wrth i ni gryfhau ac ymgorffori'r CFfC ar draws y diwydiant. Felly, rydym ni wedi gwrando, a byddwn yn parhau i wrando.
Does dim dwy fferm yr un fath, felly rydym wedi sicrhau bod y cynllun yn hygyrch. Mae'n cynnig hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer gwahanol fathau o ffermio, tenantiaid a newydd-ddyfodiaid sydd â mynediad at dir. Mae'r fframwaith o weithredoedd cyffredinol, dewisol a chydweithredol yn ymateb i ofynion y diwydiant. Mae'r fframwaith yn darparu sefydlogrwydd gan helpu ffermydd i fod yn fwy cydnerth a chynhyrchiol trwy wella iechyd pridd, iechyd anifeiliaid, rheoli plâu a datblygu sgiliau.
Rydym wedi lleihau cymhlethdod trwy leihau'r camau gweithredu cyffredinol, symleiddio gofynion a symleiddio gweinyddu. Rydym yn ymrwymo i gefnogi'r gweithredoedd cyffredinol a chynllun y taliad sylfaenol etifeddol gyda'r un gyllideb yn 2026—£238 miliwn—yr ydym yn ei wario ar hyn o bryd ar gynllun y taliad sylfaenol. Mae gwerth cymdeithasol yn cyfrif am gyfran sylweddol o'r taliad cyffredinol yn 2026, sy'n adlewyrchu'r manteision lluosog y mae ffermwyr yn eu darparu ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy. Rydym wedi gosod y gyllideb hon i annog ffermwyr i ymuno â'r cynllun yn 2026 i wireddu buddion y cynllun yn gynt.
Fodd bynnag, dim ond gyda defnydd sylweddol o gamau dewisol a chydweithredol y bydd ein hymrwymiadau amgylcheddol yn cael eu bodloni. Po gynharaf y defnydd, y cynharaf y byddwn yn gweld y manteision ar raddfa sylweddol. Dyma pam rydym ni wedi cryfhau'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y camau hyn yn 2026, a pham rydym yn ymrwymo i symud cydbwysedd cyllidebau'r dyfodol ymhellach tuag at gamau gweithredu dewisol a chydweithredol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer ein hamcanion hinsawdd a natur, ac i gynnig dyfodol gwirioneddol gynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru.
Byddwn yn parhau i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i werth cymdeithasol i ddeall yn well sut mae gweithredoedd unigol yn cyfrannu at wahanol elfennau o werth cymdeithasol, gan gynnwys y manteision sy'n dod o warchod ein hamgylchedd, ac i fireinio'r dull hwn ac yna ei gymhwyso'n ehangach i weithredoedd dewisol a chydweithredol.
Rydym wedi newid ein dull o blannu coed. Mae angen i ni blannu mwy o goed a gwrychoedd i gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd. A dyna pam, ar ôl gwrando ar ffermwyr, rydym wedi symud i ffwrdd o 10 y cant o orchudd coed ar bob fferm tuag at ysgogi ffermwyr trwy gymorth plannu hael a hyblyg yn yr haen ddewisol. Fel man cychwyn rydym yn gofyn i ffermwyr blannu o leiaf 0.1 hectar erbyn diwedd 2028, neu gael trefniadau i blannu erbyn diwedd mis Mawrth 2029. Er mwyn ysgogi plannu cynnar, rydym yn cynnig taliadau gwell i'r rhai sy'n plannu yn y tair blynedd gyntaf.
Mae coed o fudd i dda byw yn ogystal â dal carbon a darparu cynefin, a dyna pam mae ein cynnig plannu coed yn cefnogi amrywiaeth o fathau o blannu, gan gynnwys lleiniau cysgodi ac integreiddio coed ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd fel rhan o system amaeth-goedwigaeth. Nid ydym yn disgwyl, ac nid ydym eisiau i ffermwyr blannu ar eu tir mwyaf cynhyrchiol. Byddant yn penderfynu ble i blannu, gydag arweiniad, i sicrhau bod y goeden iawn yn y lle iawn.
Yn dilyn trafodaethau helaeth â rhanddeiliaid, rwy'n hyderus y bydd hyn yn cyflawni cymaint, os nad mwy o blannu nag y byddai wedi'i gyflawni o dan gynigion blaenorol. Ar lefel cynllun, ei bwriad yw gweld o leiaf 17,000 hectar o blannu erbyn 2030, gydag uchelgais o 21,500 hectar. Ond, erbyn diwedd 2028, os nad ydym wedi symud ymlaen, byddwn yn adolygu ein dull gweithredu.
Nid yw newid yn hawdd. Mae'r cynllun hwn yn newid mawr, ond mae'n newid rydym ni'n credu sy'n dda i ffermio, cynhyrchu a'r amgylchedd. Rwy'n credu ac yn gobeithio y bydd y mwyafrif o ffermwyr yn ymuno â'r cynllun. Mae'r CTS ar gael i'r rhai y tu allan i'r CFfC, er ei fod wedi'i ostwng 40 y cant y flwyddyn nesaf. Mae hyn yr un fath â phe baem wedi cyflwyno'r CFfC yn 2025. Rydym yn blaenoriaethu'r CFfC i annog ffermwyr i ymuno â'r cynllun ac i ddechrau elwa. Rydym yn parhau i ariannu cynlluniau eraill i helpu ffermwyr i drosglwyddo i'r CFfC ac i gyflawni cynaliadwyedd ffermydd a blaenoriaethau gwledig eraill.
Mae hwn yn gyfnod heriol i gymunedau gwledig, lle mae ffermio nid yn unig yn fywoliaeth, ond yn ffordd o fyw. Bydd y cynllun yn cefnogi diwydiant ffermio ffyniannus, cynhyrchiol, cynaliadwy, sy'n sail i'r cymunedau hyn am genedlaethau i ddod. Mae'r cynllun yn dechrau ym mis Ionawr, ond dyna'r dechrau. Rydym ni'n cefnogi ffermwyr a bwyd am y tymor hir. Mae'r cynllun yn dibynnu ar ffermwyr, eu teuluoedd, a phawb sy'n eu cefnogi, felly rwy'n gobeithio y bydd ffermwyr nawr yn cymryd yr amser i ddeall sut mae'n gweithio iddyn nhw.
Rwyf wedi ymrwymo i barhau i gydweithio â holl Aelodau'r Senedd i sichrau bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynrychioli'r gorau o amaethyddiaeth Cymru, ac yn ei gefnogi, ac yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd sydd ei angen ar ffermwyr i fod yn wirioneddol wydn a chynaliadwy. Diolch yn fawr iawn.
I am committed to continuing to work collaboratively with all Members of the Senedd to ensure the sustainable farming scheme represents and supports the best of Welsh agriculture, and provides the stability and certainty that farmers require to be truly resilient and sustainable.
Thank you, Deputy First Minister, for your statement today. Our thanks must also go to every farmer, and to the wider agricultural supply chain across Wales, for all they do to produce high-quality, sustainable and traceable food. We also pay tribute to those farmers who took to the steps of the Senedd, or gathered in livestock marts across Wales last year, to protest the Welsh Government’s then proposals. Thank you. Your voices were loud, clear and necessary. Thanks must also go to the National Farmers Union Cymru and the Farmers Union of Wales, the Country Land and Business Association Cymru, the Nature Friendly Farming Network, and many others, for their tireless advocacy on behalf of an industry that is the backbone of rural Wales.
Deputy First Minister, you personally have been working on this for a year, but the industry has been waiting over seven years for clarity. Welsh farmers deserve certainty, not just for one year, but for the long term. This new scheme will replace decades of support that has kept Welsh farming and rural communities viable. A shift of this scale must be built on evidence, collaboration, and, crucially, trust. But, right now, that trust is broken. According to a CLA Cymru poll, just 3 per cent of farmers trust this Welsh Labour Government.
Firstly, it’s disappointing that you’ve decided to cut the basic payment scheme to 60 per cent for those not singing up on 1 January, shortening the transition period. I know, as you argued in your statement, that this reflects what would have happened had the SFS launched in 2025, but it didn’t launch, because the scheme was so heavily criticised that you had to go back to the drawing board. So, now, farmers are being punished for that failure, and, as NFU Cymru rightly say, this cliff edge overshadows much of the rest of the scheme.
Securing a universal layer budget, matching the current BPS allocation—£238 million—is to be cautiously welcomed. While this Government has refused to increase this budget in recent years, holding the line at least offers some short-term stability. As you know, a ship is balanced at its hull, and, here, the universal layer is where stability must be anchored. But that certainty only extends to 2026. There is no guarantee that the universal layer budget won’t be cut in future years, with funds diverted to other layers. From your written statement published this morning, it seems that actually is the intention, and, for me, that’s unacceptable. Let’s remember: £238 million is not the full farming budget. It stands at £340 million. So, where will the remaining £102 million be spent? Had this Government increased the budget in line with inflation, it would be now be worth closer to £500 million. So, Deputy First Minister, putting aside the small matter of a Senedd election next May, what funding guarantees can you give that a floor will be set to ensure the universal layer never falls below £238 million?
While the 10 per cent tree planting target is no longer mentioned, there does remain a scheme-wide 17,000 hectare tree planting target by 2030—only four years away—with an expectation for farmers to plant 250 trees by 2028. So, really, there does remain a tree planting target per farm. We’ve always said, from these benches, the right tree, in the right place, for the right reasons. But trees are mentioned 115 times, food only 66 times. So, does this scheme really prioritise tree planting over food security?
Finally, and most importantly, you could promise the finest scheme in the world, but if the economic impact assessment shows it leads to job losses, livestock cuts and falling incomes, then farmers will rightly reject it, as they did before. What's deeply troubling is that no economic assessment has been published alongside this announcement today, yet you've already admitted, on Politics Wales, on Sunday, that you've seen the modelling. But we haven't. Why? Without it, you're asking farmers to take a blind leap of faith, based on your statement on Politics Wales that, 'My feeling is that it will be better'. That simply isn't good enough. You must publish the impact assessment ahead of the Royal Welsh Show and allow Senedd Members and the wider industry to judge the evidence for themselves.
Because those figures in an impact assessment aren't abstract numbers; they represent families, communities, and livelihoods. They don't even capture the full ripple effect on rural supply chains and local economies. There is much more that I could ask and challenge you on this, Deputy First Minister, but trust is not built on sentiment alone. It is earned through transparency, partnership, and a scheme that supports, not punishes, Welsh farming. Diolch.
Diolch, Dirprwy Brif Weinidog, am eich datganiad heddiw. Rhaid diolch hefyd i bob ffermwr, ac i'r gadwyn gyflenwi amaethyddol ehangach ledled Cymru, am bopeth y maen nhw'n ei wneud i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, cynaliadwy ac y gellir ei olrhain. Rydym hefyd yn talu teyrnged i'r ffermwyr hynny a ddaethant at risiau'r Senedd, neu a ymgasglodd mewn marchnadoedd da byw ledled Cymru y llynedd, i brotestio yn erbyn cynigion Llywodraeth Cymru ar y pryd. Diolch. Roedd eich lleisiau yn uchel, yn glir ac yn angenrheidiol. Rhaid diolch hefyd i Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur, a llawer o rai eraill, am eu heiriolaeth ddiflino ar ran diwydiant sy'n asgwrn cefn Cymru wledig.
Dirprwy Brif Weinidog, rydych chi'n bersonol wedi bod yn gweithio ar hyn ers blwyddyn, ond mae'r diwydiant wedi bod yn aros dros saith mlynedd am eglurder. Mae ffermwyr Cymru yn haeddu sicrwydd, nid yn unig am flwyddyn, ond am y tymor hir. Bydd y cynllun newydd hwn yn disodli degawdau o gymorth sydd wedi cadw cymunedau ffermio a gwledig Cymru yn hyfyw. Rhaid adeiladu newid o'r raddfa hon ar dystiolaeth, cydweithredu, ac, yn hollbwysig, ymddiriedaeth. Ond, ar hyn o bryd, mae'r ymddiriedaeth honno wedi'i thorri. Yn ôl arolwg Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, dim ond 3 y cant o ffermwyr sy'n ymddiried yn y Llywodraeth Lafur hon.
Yn gyntaf, mae'n siomedig eich bod wedi penderfynu torri'r cynllun taliad sylfaenol i 60 y cant i'r rhai nad ydynt yn llofnodi ar 1 Ionawr, gan fyrhau'r cyfnod pontio. Rwy'n gwybod, fel y gwnaethoch ddadlau yn eich datganiad, bod hyn yn adlewyrchu'r hyn a fyddai wedi digwydd pe bai'r CFfC wedi'i lansio yn 2025, ond ni chafodd ei lansio, oherwydd bod y cynllun wedi'i feirniadu mor drwm fel bod yn rhaid i chi fynd yn ôl i ddechrau eto. Felly, nawr, mae ffermwyr yn cael eu cosbi am y methiant hwnnw, ac, fel y dywed NFU Cymru yn gywir, mae'r ymyl clogwyn hwn yn gysgod mawr dros lawer o weddill y cynllun.
Mae sicrhau cyllideb haen gyffredinol, sy'n cyfateb i'r dyraniad CTS presennol—£238 miliwn—i'w groesawu gyda gofal. Er bod y Llywodraeth hon wedi gwrthod cynyddu'r gyllideb hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cadw'r llinell o leiaf yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd tymor byr. Fel y gwyddoch chi, mae llong yn cael ei chydbwyso yn ei chorff, ac, yma, yr haen gyffredinol yw lle mae'n rhaid angori sefydlogrwydd. Ond mae'r sicrwydd hwnnw'n ymestyn i 2026 yn unig. Nid oes unrhyw warant na fydd y gyllideb haen gyffredinol yn cael ei thorri yn y blynyddoedd i ddod, gydag arian yn cael ei ddargyfeirio i haenau eraill. O'ch datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma, mae'n ymddangos mai dyna'r bwriad, ac, i mi, mae hynny'n annerbyniol. Gadewch i ni gofio: nid £238 miliwn yw'r gyllideb ffermio lawn. £340 miliwn ydyw. Felly, ble bydd y £102 miliwn sy'n weddill yn cael ei wario? Pe bai'r Llywodraeth hon wedi cynyddu'r gyllideb yn unol â chwyddiant, byddai'n werth yn agosach at £500 miliwn. Felly, Dirprwy Brif Weinidog, gan roi o'r neilltu mater bach etholiad y Senedd fis Mai nesaf, pa warantau cyllid allwch chi eu rhoi y bydd llawr yn cael ei osod i sicrhau nad yw'r haen gyffredinol byth yn disgyn o dan £238 miliwn?
Er nad yw'r targed plannu coed o 10 y cant yn cael ei grybwyll mwyach, mae targed plannu coed ar draws y cynllun o 17,000 hectar erbyn 2030 yn dal i fodoli—dim ond pedair blynedd i ffwrdd—gyda disgwyliad i ffermwyr blannu 250 o goed erbyn 2028. Felly, mewn gwirionedd, mae targed plannu coed fesul fferm yn parhau. Rydym ni bob amser wedi dweud, o'r meinciau hyn, y goeden iawn, yn y lle iawn, am y rhesymau iawn. Ond mae coed yn cael eu crybwyll 115 gwaith, bwyd 66 gwaith yn unig. Felly, a yw'r cynllun hwn mewn gwirionedd yn blaenoriaethu plannu coed dros ddiogeledd bwyd?
Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, gallech addo y cynllun gorau yn y byd, ond os yw'r asesiad effaith economaidd yn dangos ei fod yn arwain at golli swyddi, toriadau da byw ac incwm sy'n gostwng, yna bydd ffermwyr yn ei wrthod a hynny'n gywir, fel y gwnaethant o'r blaen. Yr hyn sy'n bryderus iawn yw nad oes unrhyw asesiad economaidd wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r cyhoeddiad hwn heddiw, ond rydych chi eisoes wedi cyfaddef, ar Politics Wales, ddydd Sul, eich bod wedi gweld y modelu. Ond nid ydym ni wedi'i weld. Pam? Hebddo, rydych chi'n gofyn i ffermwyr ymddiried ynddoch chi heb dystiolaeth ddigonol, yn seiliedig ar eich datganiad ar Politics Wales yn dweud mai eich teimlad chi yw y bydd yn well. Nid yw hynny'n ddigon da. Rhaid i chi gyhoeddi'r asesiad effaith cyn Sioe Frenhinol Cymru a chaniatáu i Aelodau'r Senedd a'r diwydiant ehangach farnu'r dystiolaeth drostynt eu hunain.
Oherwydd nid yw'r ffigurau hynny mewn asesiad effaith yn niferoedd haniaethol; maent yn cynrychioli teuluoedd, cymunedau a bywoliaethau. Nid ydynt hyd yn oed yn cynnwys yr effaith ddilynol lawn ar gadwyni cyflenwi gwledig ac economïau lleol. Mae llawer mwy y gallwn ei ofyn a'ch herio ynghylch hyn, Dirprwy Brif Weinidog, ond nid yw ymddiriedaeth wedi'i feithrin ar deimlad yn unig. Mae'n cael ei ennill trwy dryloywder, partneriaeth, a chynllun sy'n cefnogi, nid yn cosbi, ffermio Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Sam. Thank you for those comments. You are right: trust is based on open collaboration, seeing the evidence together, working together, confronting the facts together as well, agreeing the outcomes together as well, and then moving ahead together. That's what we've been doing for the last 12 months. We've built that trust, both with the farming community, with the farming unions, with the other stakeholders, the environmental groups around that round-table, with the officials—over 300 hours of work that has gone into this, to get this scheme right.
At the start of this, I said I would burn the midnight oil. It's not just me who's been doing it, it's every one of the participants in it: the farming unions, the nature-friendly farming, the organic sector, everybody who's played a role, the wildlife trust, Coed Cymru—all of those; everybody has been deep in the engine room of this. That's the way you build trust. And the great thing about launching this today is that that year has not just been to get the technical detail right, and the design of the scheme right, but it's to build that relationship, and, as I've made clear in the statement, that we keep this going—this style of working that is actually deeply embedded.
If you want to see an illustration of the well-being of future generations Act's ways of working, it's this co-production of an outcome. That does mean I still make the calls and the judgements, but this is the way to build trust. There will be people today who will say, 'I wish he hadn't pushed so hard on that', 'I wish he would have gone further on that'. I accept that, that's my call. But you build it through looking at the same evidence and where the outcomes are agreed. Right at the start of this process, we said we would work to those SLM objectives—all of them—and recognise the importance of dealing with, as well, the nature and climate emergency.
And by the way, in some of my statements today, contrary to what has been said, we have actually put in there—. This is not a word count game by the way, but food security has featured within it; so has food production, so has high animal welfare standards, so has livelihoods and ways of life, so has social value of farming, so has Welsh language. But that's what you build the trust around. I'm absolutely focused on that, entirely.
You mention the 40 per cent taper. The 40 per cent taper, as I outlined in my remarks here, we're 12 months further down the line. We would have been hitting the 40 per cent by now already. But there is a genuine message here as well, Sam, which is to say to farmers: BPS is going. It is going. Come into the SFS. Grab hold of the opportunities within this. Work to make your farm good, innovative, productive. Make it climate resilient as well. Work with the money and the funds that we're putting into this scheme, and come into it early. So, that's why we have genuinely geared it towards, if you come in early, you will see. In the optional layer, for example, on the tree planting and tree creation, there will be opportunities there for farmers to get into that sooner and get more generous funding for it. It's deliberately designed that way. But it's designed around the work we've done in the round-table as well.
Thank you for the cautious welcome for the universal layer. But, importantly, the universal layer isn't the be-all and end-all. The universal layer is critically important because that ensures that we can make it, as we've always said, as accessible as possible to every farmer in the land, and we've designed the scheme in that way. That's why we've been proud to actually make sure that the quantum of fund that, two years ago, we guaranteed for the BPS, and that we at risk guaranteed last year, is now carried over into the universal layer. I have to say that is a marked contrast with what we were offered when we left the EU, when it was going to be a land of milk and honey, and, all of a sudden, money would be flowing into farming, remarkably. There would be no Cabinet discussions to be had about the balance between driving down waiting times or investing in transport or hospitals or schools and farming. That land of milk and honey was a complete fallacy. I'm not saying it was you, Sam, but there were people who were saying that. They were wrong then, and they're wrong now.
What we've been able to do, as a Labour Government, because of the budget that we voted for, is to actually deliver this once again, so we can give that certainty. But the real benefit going forward is, and this includes in the taper as well—. The discussion we've had on the round-table has been that, as the years go by and we migrate people off the BPS, because eventually the BPS will stop—that's a legacy issue now—everybody will move into the SFS. And, as we do that, the funds go into the optional and collaborative. So, we can have farmers working at a landscape level, working, for example, in the upper reaches of somewhere like the Conwy river stretch, where the river now is in the mid twenties degrees, where there is nothing living in the river when you have these heatwave temperatures, where we should be on a landscape catchment basis—lots of farmers planting trees alongside that river—and including dealing with pollution going into the river as well. That's what this scheme can do.
You mentioned the scheme headline commitment. That is a proud achievement of this scheme. You were right in saying some people do not like the fact that we've walked away from the 10 per cent per farm commitment. I understand that, but what we have here is a headline target that has been through the round-table, that we're all committed to, to deliver 17,000 hectares. It would be above and beyond what would be delivered by 10 per cent per farm. But farmers will have the ability to devise their own plan for their own farm, not planting trees on areas that have other biodiversity needs within them, not planting it on prime productive land, but mapping and then delivering it, and dropping down from the optional layer of money that will be made available to plant as well.
And finally, on the business plans and the impact assessment, we've already done the modelling and the assessments, both environmental and economic. We're very well sighted on those in bringing forward this today. We've analysed the potential impacts of the scheme, and that has helped us make the decisions that we've come to. But just to be clear—just to be crystal clear—these are scenarios, not forecasts. These are scenarios, not predictions. So, we will keep the scheme under review as we gather further evidence. I'm really confident that this scheme will be better for both farm businesses and for the environment. We've made a number of changes to the scheme, including what I've just mentioned and described with tree cover. It's resulted in different outcomes to the scheme as previously devised. There will inevitably, I've got to say, be a cost to the farmer from completing some of the universal actions, and that's recognised in the evidence that I've seen. But there is also a significant number of benefits to those farm businesses from the scheme, such as stability, increased productivity, greater efficiency.
We will, Sam, finalise the analysis and the assessment ready for publication in September, and it'll be complete and it won't be out of context. It will be the whole picture for you and I'm sure you'll welcome that. And just to come back to the point—. Sorry. And for individual farms, Sam, because—[Interruption.] And for individual farms, just to say to you, there will be a ready reckoner available. So, any farmer in the land will be able to walk into the Royal Welsh and subsequently, or do it online, and see what this will mean for their farm. Do you know, that's the real economic impact that people will be looking for, not in aggregate, not headline figures, but actually, 'What does it mean for my business?' That's what they'll be looking at.
Diolch yn fawr iawn, Sam. Diolch am y sylwadau yna. Rydych chi'n iawn: mae ymddiriedaeth yn seiliedig ar gydweithredu agored, gweld y dystiolaeth gyda'n gilydd, gweithio gyda'n gilydd, wynebu'r ffeithiau gyda'n gilydd hefyd, cytuno ar y canlyniadau gyda'n gilydd hefyd, ac yna symud ymlaen gyda'n gilydd. Dyna beth rydym ni wedi bod yn ei wneud dros y 12 mis diwethaf. Rydym ni wedi meithrin yr ymddiriedaeth honno, gyda'r gymuned ffermio, gyda'r undebau ffermio, gyda'r rhanddeiliaid eraill, y grwpiau amgylcheddol o amgylch y bwrdd crwn hwnnw, gyda'r swyddogion—dros 300 awr o waith wedi mynd i mewn i hyn, i gael y cynllun hwn yn iawn.
Ar ddechrau hyn, dywedais y byddwn i'n llosgi'r gannwyll yn y ddau ben. Nid fi yn unig sydd wedi bod yn gwneud hyn, mae pob un o'r cyfranogwyr yn rhan o hyn: yr undebau ffermio, y ffermio er lles natur, y sector organig, pawb sydd wedi chwarae rôl, yr ymddiriedolaeth bywyd gwyllt, Coed Cymru—pob un ohonynt; mae pawb wedi bod yn gweithio'n galed i symud hwn yn ei flaen. Dyna'r ffordd rydych chi'n meithrin ymddiriedaeth. A'r peth gwych am lansio hwn heddiw yw bod y flwyddyn honno nid yn unig wedi bod ar gyfer cael y manylion technegol yn iawn, a dyluniad y cynllun yn iawn, ond mae ar gyfer meithrin y berthynas honno, ac, fel yr wyf wedi gwneud yn glir yn y datganiad, ein bod yn cadw hyn i fynd—y dull hwn o weithio sydd mewn gwirionedd wedi'i ymgorffori'n ddwfn.
Os ydych chi eisiau gweld enghraifft o'r ffyrdd y mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn gweithio, dyma hi, cyd-gynhyrchu canlyniad. Mae hynny'n golygu fy mod yn dal i wneud y penderfyniadau a'r dyfarniadau, ond dyma'r ffordd i feithrin ymddiriedaeth. Bydd yna bobl heddiw a fydd yn dweud, 'Hoffwn pe na bai wedi gwthio mor galed ar hynna', 'Hoffwn pe bai wedi mynd ymhellach ar hynna'. Rwy'n derbyn hynny, fy mhenderfyniadau i oeddynt. Ond rydych chi'n ei adeiladu trwy edrych ar yr un dystiolaeth a lle y cytunir ar y canlyniadau. Ar ddechrau'r broses hon, dywedom y byddem yn gweithio i'r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (RhTG) hynny—pob un ohonynt—ac yn cydnabod pwysigrwydd ymdrin hefyd â'r argyfwng natur a hinsawdd.
A gyda llaw, yn rhai o'm datganiadau heddiw, yn groes i'r hyn sydd wedi'i ddweud, rydym mewn gwirionedd wedi rhoi—. Nid gêm cyfrif geiriau yw hon gyda llaw, ond mae diogeledd bwyd wedi gynnwys ynddo; felly hefyd cynhyrchu bwyd, felly hefyd safonau uchel lles anifeiliaid, bywoliaethau a ffyrdd o fyw, felly hefyd gwerth cymdeithasol ffermio, felly hefyd y Gymraeg. Ond dyna beth rydych chi'n meithrin ymddiriedaeth o'i gwmpas. Rwy'n canolbwyntio'n llwyr ar hynny, yn gyfan gwbl.
Rydych chi'n sôn am y tapr 40 y cant. Mae'r tapr 40 y cant, fel yr amlinellais yn fy sylwadau yma, rydym ni 12 mis ymhellach i lawr y lôn. Byddwn wedi bod yn taro'r 40 y cant erbyn hyn. Ond mae yna neges wirioneddol yma hefyd, Sam, sef dweud wrth ffermwyr: mae CTS yn mynd. Mae'n mynd. Dewch i mewn i'r CFfC. Manteisiwch ar y cyfleoedd o fewn hyn. Gweithiwch i wneud eich fferm yn dda, arloesol, gynhyrchiol. Gwnewch hi'n gydnerth yn erbyn yr hinsawdd hefyd. Gweithio gyda'r arian a'r cyllid rydym ni'n ei roi yn y cynllun hwn, a dod i mewn iddo yn gynnar. Felly, dyna pam rydym ni wedi ei anelu'n wirioneddol tuag at, os byddwch chi'n dod i mewn yn gynnar, fe welwch. Yn yr haen ddewisol, er enghraifft, ar y plannu coed a chreu coed, bydd cyfleoedd yno i ffermwyr fynd i mewn i hynny yn gynt a chael cyllid mwy hael ar ei gyfer. Mae wedi'i gynllunio'n fwriadol yn y ffordd honno. Ond mae wedi'i gynllunio o amgylch y gwaith rydym ni wedi'i wneud yn y bwrdd crwn hefyd.
Diolch am y croeso gyda gofal ar gyfer yr haen gyffredinol. Ond, yn bwysig, nid yr haen gyffredinol yw'r holl hanfod a'r diben. Mae'r haen gyffredinol yn hanfodol bwysig oherwydd bod honno'n sicrhau y gallwn ei wneud, fel rydym ni bob amser wedi dweud, mor hygyrch â phosibl i bob ffermwr yn y wlad, ac rydym wedi dylunio'r cynllun yn y modd hwnnw. Dyna pam rydym ni wedi bod yn falch o wneud yn siŵr bod y gronfa a warantwyd ar gyfer y CTS ddwy flynedd yn ôl, a'i gwarantu y llynedd gyda risg, bellach yn cael ei chario drosodd i'r haen gyffredinol. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n gyferbyniad amlwg â'r hyn a gynigiwyd i ni pan wnaethom adael yr UE, pan oedd yn mynd i fod yn wlad o laeth a mêl, ac, yn sydyn, byddai arian yn llifo i mewn i ffermio, yn rhyfeddol. Ni fyddai unrhyw drafodaethau yn y Cabinet am y cydbwysedd rhwng torri amseroedd aros neu fuddsoddi mewn trafnidiaeth neu ysbytai neu ysgolion a ffermio. Roedd y wlad honno o laeth a mêl yn gamgymeriad llwyr. Dydw i ddim yn dweud mai chi oedd ar fai, Sam, ond roedd yna bobl oedd yn dweud hynny. Roedden nhw'n anghywir bryd hynny, ac maen nhw'n anghywir nawr.
Yr hyn rydym ni wedi gallu ei wneud, fel Llywodraeth Lafur, oherwydd y gyllideb y gwnaethom bleidleisio drosti, yw cyflawni hyn unwaith eto, fel y gallwn roi'r sicrwydd hwnnw. Ond y budd go iawn yn y dyfodol yw, ac mae hyn yn cynnwys y tapr hefyd—. Y drafodaeth rydym ni wedi'i chael ar y bwrdd crwn yw, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio ac rydym yn mudo pobl oddi ar y CTS, oherwydd yn y pen draw bydd y CTS yn dod i ben—mae hynny'n fater o etifeddiaeth nawr—bydd pawb yn symud i mewn i'r CFfC. Ac, wrth i ni wneud hynny, mae'r arian yn mynd i'r dewisol a'r cydweithredol. Felly, gallwn gael ffermwyr sy'n gweithio ar lefel tirwedd, gan weithio, er enghraifft, yn rhannau uchaf rhywle fel rhan o afon Conwy, lle mae'r afon bellach â thymheredd yng nghanol yr ugeiniau, lle nad oes unrhyw beth yn byw yn yr afon pan fydd gennych y tymheredd tonnau gwres hyn, lle dylem fod ar sail dalgylch tirwedd—llawer o ffermwyr yn plannu coed ochr yn ochr â'r afon honno—gan gynnwys ymdrin â llygredd sy'n mynd i mewn i'r afon hefyd. Dyna beth all y cynllun hwn ei wneud.
Fe wnaethoch chi sôn am brif ymrwymiad y cynllun. Mae hynny'n gyflawniad balch o'r cynllun hwn. Roeddech chi'n iawn wrth ddweud nad yw rhai pobl yn hoffi'r ffaith ein bod wedi cerdded i ffwrdd o'r ymrwymiad o 10 y cant fesul fferm. Rwy'n deall hynny, ond yr hyn sydd gennym yma yw prif darged sydd wedi bod trwy'r bwrdd crwn, yr ydym i gyd wedi ymrwymo iddo, i gyflawni 17,000 hectar. Byddai'n uwch na'r hyn a fyddai'n cael ei gyflawni gan 10 y cant fesul fferm. Ond bydd gan ffermwyr y gallu i ddyfeisio eu cynllun eu hunain ar gyfer eu fferm eu hunain, nid plannu coed ar ardaloedd sydd ag anghenion bioamrywiaeth eraill ynddynt, nid plannu ar dir cynhyrchiol blaenllaw, ond mapio ac yna ei gyflawni, a disgyn o'r haen ddewisol o arian a fydd ar gael i blannu hefyd.
Ac yn olaf, o ran y cynlluniau busnes a'r asesiad effaith, rydym eisoes wedi gwneud y modelu a'r asesiadau, amgylcheddol ac economaidd. Rydym wedi edrych yn ofalus ar y rheini er mwyn cyflwyno hwn heddiw. Rydym wedi dadansoddi effeithiau posibl y cynllun, ac mae hynny wedi ein helpu i wneud y penderfyniadau yr ydym wedi eu gwneud. Ond dim ond i fod yn glir—dim ond i fod yn glir iawn—senarios yw'r rhain, nid rhagolygon. Senarios yw'r rhain, nid rhagfynegiadau. Felly, byddwn yn parhau i adolygu'r cynllun wrth i ni gasglu rhagor o dystiolaeth. Rwy'n hyderus iawn y bydd y cynllun hwn yn well i fusnesau fferm ac i'r amgylchedd. Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i'r cynllun, gan gynnwys yr hyn rydw i newydd ei grybwyll a'i ddisgrifio gyda gorchudd coed. Mae wedi arwain at wahanol ganlyniadau i'r cynllun fel y'i dyfeisiwyd o'r blaen. Bydd yn anochel, mae'n rhaid i mi ddweud, y bydd cost i'r ffermwr wrth gwblhau rhai o'r camau gweithredu cyffredinol, ac mae hynny'n cael ei gydnabod yn y dystiolaeth rydw i wedi'i weld. Ond mae yna hefyd nifer sylweddol o fanteision i'r busnesau fferm hynny yn sgil y cynllun, megis sefydlogrwydd, cynhyrchiant cynyddol, mwy o effeithlonrwydd.
Fe fyddwn ni, Sam, yn cwblhau'r dadansoddiad a'r asesiad yn barod i'w gyhoeddi ym mis Medi, a bydd yn gyflawn ac ni fydd allan o'r cyd-destun. Bydd darlun cyfan i chi ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n croesawu hynny. A dim ond i ddod yn ôl at y pwynt—. Mae'n ddrwg gen i. Ac ar gyfer ffermydd unigol, Sam, oherwydd—[Torri ar draws.] Ac ar gyfer ffermydd unigol, dim ond i ddweud wrthych chi, bydd canllaw cyflym ar gael. Felly, bydd unrhyw ffermwr yn y wlad yn gallu cerdded i mewn i'r Sioe Frenhinol ac yna, neu wneud hynny ar-lein, a gweld beth fydd hyn yn ei olygu i'w fferm. Wyddoch chi, dyna'r effaith economaidd go iawn y bydd pobl yn chwilio amdano, nid yn gyfanredol, nid y prif ffigurau, ond mewn gwirionedd, 'Beth mae'n ei olygu i'm busnes i?' Dyna beth fyddan nhw'n edrych arno.
Diolch yn fawr ichi am eich datganiad. A gaf i ddiolch hefyd i'ch swyddogion chi am y briffiau technegol a gynigwyd i Aelodau o'r Senedd ychydig oriau yn ôl? Wrth gwrs, dim ond rhyw amlinelliad lefel uchel rŷn ni wedi ei gael. Fel bob amser, bydd y manylion yn bwysig iawn, ac mi ddaw'r rheini gydag amser, dwi'n siwr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud fod y cynllun sydd gennym ni, erbyn hyn, yn well na'r cynllun a osodwyd ar y cychwyn. Yn sicr, mae yna lai o universal actions. Mae yna gyfeiriad wedi bod yn barod at y ffaith nad yw'r disgwyliad 10 y cant yma o blannu coed ar bob fferm yn y cynllun mwyach; mae e yn gynllun fferm gyfan. Mae'r taliadau wedi'u capio, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei ddosbarthu yn ehangach o fewn y sector. Felly, mae e yn well, ond mae yna gwestiynau sylfaenol, wrth gwrs, yn dal i fod. Fel rwy'n dweud, dim ond ychydig oriau rŷn ni wedi eu cael i edrych ar y manylion, ac mi ddaw rhagor i'r golwg gydag amser, ac mi fydd yna gyfle i gnoi cil, wrth gwrs, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Thank you very much for your statement. May I thank your officials for the technical briefing offered to Senedd Members a few hours ago? Of course, we've only had a high-level outline. As always, the devil will be in the detail, and that will come with time. I think it's fair to say that the scheme we now have is an improvement on the original scheme. Certainly, there are fewer universal actions. There's been reference already to the fact that the 10 per cent tree cover on all farms isn't included in the scheme now; it is a whole-farm scheme. The payments are capped to ensure that the funding is distributed more broadly within the sector. So, it is an improvement, but there are fundamental questions that remain unanswered. As I said, we've only had a few hours to look at the detail, and more will emerge with time, and we'll have an opportunity to consider this over the coming weeks and months.
One thing the sector was looking for today was long-term certainty, or at least clarity to give them confidence that this is the right way forward, not next year and within the 12 months, but beyond that. I haven't seen that in sufficient measure this afternoon. It's disappointing that we've only had a one-year funding commitment, albeit retained at the current level. I can say here now that Plaid Cymru would commit to a longer term funding cycle, based, at a minimum, on the level that you've outlined today. That is something that we would be willing to commit to, and if other parties would be willing to commit to that, then hopefully that would give you confidence maybe to go further today. I would ask you to reconsider that and whether you are able to give a longer line of sight when it comes to funding the scheme.
You also say that shifting the balance of future budgets from the universal action to optional and collaborative actions will happen. You don't tell us when. You don't tell us how much. Again, that will ring alarm bells in people's minds to give them the confidence as to whether they step into the SFS or not. If somebody joined the scheme today, they need to know—not next year, they need to know what happens in year 2, 3, 4, 5. So, a bit more clarity around your thinking—. Because it's modulation, effectively, isn't it? It's moving from what was pillar 1, universal payment, to pillar 2. So, maybe some more information will be forthcoming on that.
The transition rearrangement and condensing the transition now I think is the wrong approach. I think a 40 per cent drop in the first year is too significant. You're right when you say it's taking us to where we would have been had the scheme proceeded as intended last year. But it didn't, did it? It didn't proceed as intended. And if the principle of a five-year transition was necessary last year, then I think it's only fair that that remains this year. So, I would urge you to reconsider on that front as well and revert to your original plan. For one practical reason as well, of course, in that I know we want people to come into the SFS as soon as possible, I understand that, what if there's a huge influx in year 1, when the Government's systems haven't been tested, when the processing of applications is maybe clunky, to use a word that you've used in different contexts in the past? There's a risk in that as well. So, maybe a more gradual transition would actually not only support those who want time to adapt their business models to the new scheme, but would also help the Government in seamlessly implementing the new scheme.
On the social value payment, in an early statement that was released first thing this morning from yourself, you said that you were still developing your understanding on the social value payments, but I now see, of course, in the document released this afternoon, that there will be a £107 per hectare payment for 2026. I welcome that. That's a positive step. But what I want to know is what happens, then, in year 2, 3, 4 and 5, et cetera, because social value is social value. The social value of farming doesn't diminish, so can you assure us that the payment for social value will not diminish either?
I know there are a lot of questions there, Deputy First Minister, but there will be even more that people will want answered. As I say, that will be forthcoming, hopefully, over the next weeks and months. There are still big gaps in the details, but they will emerge, I hope, in time. I thank you and all of the stakeholders for the work that you've done to bring us to this point. It is an improvement, but there are a lot of questions that need answering.
Un peth yr oedd y sector yn chwilio amdano heddiw oedd sicrwydd tymor hir, neu o leiaf eglurder i roi hyder iddynt mai dyma'r ffordd iawn ymlaen, nid y flwyddyn nesaf ac o fewn y 12 mis, ond y tu hwnt i hynny. Dydw i ddim wedi gweld digon o hynny y prynhawn yma. Mae'n siomedig mai dim ond ymrwymiad ariannu blwyddyn sydd gennym ni, er ei fod yn cael ei gadw ar y lefel bresennol. Gallaf ddweud yma nawr y byddai Plaid Cymru yn ymrwymo i gylch ariannu tymor hwy, wedi'i seilio, o leiaf, ar y lefel yr ydych wedi'i amlinellu heddiw. Mae hynny'n rhywbeth y byddem yn fodlon ymrwymo iddo, ac os byddai pleidiau eraill yn fodlon ymrwymo i hynny, yna gobeithio y byddai hynny'n rhoi hyder i chi efallai i fynd ymhellach heddiw. Byddwn yn gofyn i chi ailystyried hynny ac a ydych chi'n gallu rhoi llinell welediad hirach o ran ariannu'r cynllun.
Rydych hefyd yn dweud y bydd symud cydbwysedd cyllidebau'r dyfodol o'r gweithredu cyffredinol i weithredoedd dewisol a chydweithredol yn digwydd. Nid ydych chi'n dweud wrthym pryd. Nid ydych chi'n dweud wrthym faint. Unwaith eto, bydd hynny'n canu clychau larwm ym meddyliau pobl i roi'r hyder iddynt ynghylch a ydyn nhw'n camu i mewn i'r CFfC ai peidio. Os yw rhywun wedi ymuno â'r cynllun heddiw, mae angen iddynt wybod—nid y flwyddyn nesaf, mae angen iddynt wybod beth sy'n digwydd ym mlwyddyn 2, 3, 4, 5. Felly, ychydig mwy o eglurder ynglŷn â'ch meddwl—. Oherwydd ei fod yn fodiwleiddio i bob pwrpas, onid yw e? Mae'n symud o'r hyn oedd yn golofn 1, taliad cyffredinol, i golofn 2. Felly, efallai y cawn rywfaint mwy o wybodaeth ar hynny.
Aildrefnu'r pontio a chywasgu’r pontio nawr yw'r dull anghywir, rwy'n credu. Rwy'n credu bod gostyngiad o 40 y cant yn y flwyddyn gyntaf yn rhy sylweddol. Rydych chi'n iawn pan fyddwch chi'n dweud ei fod yn mynd â ni i ble byddem wedi bod pe bai'r cynllun wedi mynd rhagddo fel y bwriadwyd y llynedd. Ond wnaeth e ddim, naddo? Ni aeth yn ei flaen fel y bwriadwyd. Ac os oedd yr egwyddor o bontio pum mlynedd yn angenrheidiol y llynedd, yna rwy'n credu ei bod yn deg bod hynny'n parhau eleni. Felly, byddwn yn eich annog i ailystyried hynny hefyd a dychwelyd at y cynllun gwreiddiol. Am un rheswm ymarferol hefyd, wrth gwrs, yn yr ystyr fy mod yn gwybod ein bod eisiau i bobl ymuno â'r CFfC cyn gynted â phosibl, rwy'n deall hynny, beth os bydd mewnlifiad enfawr ym mlwyddyn 1, pan nad yw systemau'r Llywodraeth wedi cael eu profi, pan fydd prosesu ceisiadau efallai yn drwsgl, i ddefnyddio gair rydych chi wedi'i ddefnyddio mewn gwahanol gyd-destunau yn y gorffennol? Mae risg yn hynny hefyd. Felly, efallai y byddai pontio mwy graddol mewn gwirionedd nid yn unig yn cefnogi'r rhai sydd eisiau amser i addasu eu modelau busnes i'r cynllun newydd, ond byddai hefyd yn helpu'r Llywodraeth i weithredu'r cynllun newydd yn ddi-dor.
O ran y taliad gwerth cymdeithasol, mewn datganiad cynnar a ryddhawyd y peth cyntaf y bore yma gennych chi'ch hun, dywedoch chi eich bod yn dal i ddatblygu eich dealltwriaeth o ran y taliadau gwerth cymdeithasol, ond rwy'n gweld nawr, wrth gwrs, yn y ddogfen a ryddhawyd y prynhawn yma, y bydd taliad o £107 yr hectar ar gyfer 2026. Rwy'n croesawu hynny. Mae hynny'n gam cadarnhaol. Ond yr hyn rydw i eisiau ei wybod yw beth sy'n digwydd, felly, ym mlwyddyn 2, 3, 4 a 5, ac ati, oherwydd gwerth cymdeithasol yw gwerth cymdeithasol. Nid yw gwerth cymdeithasol ffermio yn lleihau, felly allwch chi ein sicrhau na fydd y taliad am werth cymdeithasol yn lleihau chwaith?
Rwy'n gwybod bod yna lawer o gwestiynau yna, Dirprwy Brif Weinidog, ond bydd hyd yn oed mwy o atebion y bydd pobl yn dymuno eu cael. Fel y dywedaf, bydd hynny'n digwydd, gobeithio, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae bylchau mawr yn y manylion o hyd, ond byddant yn dod i'r amlwg, gobeithio, mewn pryd. Diolch i chi a'r holl randdeiliaid am y gwaith rydych chi wedi'i wneud i ddod â ni i'r pwynt hwn. Mae'n welliant, ond mae yna lawer o gwestiynau y mae angen eu hateb.
Thank you, Llyr. Look, I acknowledge that, and I think the deliberations that we've been involved with over the course of the last year and more being landed in front of people, even though we landed the headline outline of the scheme back in November last year, which was very welcomed and gave some idea of those important pillars of the universal, optional, collaborative, and some confirmation of how we were going to deal with sites of special scientific interest and common land—. We tried to give a little bit as we went along. But this is now all the detail at once for everybody. So, it is important, actually, and the message out there for farmers is: 'Go and look at that ready reckoner.' It sounds really glamorous—it's not, I promise you. It's basically a sort of spreadsheet application, but it will give them a really good idea of whether this works for their farm: 'So, when that's available next week, go look at it, take some time, don't just get clouded with the headlines going on, take some time, look at what it means for your farm business.'
And I think it's the same for us as Senedd Members as well. Members of the Senedd, this will have been a great reveal, with a heck of a lot of detail—the sheer weight of evidence and material and data we've gone through. But curiously, the importance that you attach to not just the quantum of funding that's gone into the BPS transition to the universal layer of SFS this year, but the future of the optional and collaborative, because there's a quantum of funding in there—. Now, we have made very clear, and we've been very frank and honest about this, that there's a maximum that we're putting into the universal layer. Because it's really important for the transition, but we actually recognise that the value-for-money case for those wider benefits comes through the optional and collaborative. So, there's a maximum on the universal level—we're being very frank and honest about it—and there's a minimum level on the optional and collaborative, which will grow over time as more people migrate across from BPS and that money is released into the optional and collaborative. We have things like the draw-downs for those landscape-scale interventions that we could have, which benefit productivity and innovation for the farmer, but also nature and the environment as well.
But just to say to all Members, I'd be very keen to keep on engaging on the detail of this as we go through the summer, through the autumn, through the shows and so on, so that we can get more detail. That's also, by the way, why we do want to—Sam, just to come back to you—keep on working through the summer, because if you’ve seen some of the responses from some of the environmental non-governmental organisations as well, they're very much taken with that piece, along with Nature Friendly Farming Network and others, of saying that we need to absolutely now fine-tune that optional collaborative piece to make sure it delivers on those multiple benefits. So, by the time we get to the September piece, you will have a well-rounded piece of economic and environmental analysis and the full business case and the value for money. Because bear in mind, the value for money case of this is also critically important—does it deliver those wide benefits?
The systems are in place, by the way, to deliver this. I would love it if we had a really rapid uptake of this by farmers, and we're ready to do it, because it's been based on, just to reassure colleagues, systems, adaptations of the systems, that are already in place. We're not building new bureaucracies to do this, we're adapting the ones that work really well. So, it'll be familiar to them and we can deal with whatever the uptake is. But that exactly is the point. Why can't we predict further into the future? Because this depends on the uptake by farmers, the entry of farmers into it, and then it depends on what options they actually go for, and the higher level options as well. So, we can't actually model that definitively. We'll be able to get an idea when we're in year 1, year 2, whatever, and we'll keep on dynamically adjusting. And just to assure you, social value is integral to the scheme going forward, but you do touch on a wider piece about actually—and Sam, sorry, I didn't answer this to you as well—the issue of the annual budget cycle. Well, just to say, it's not new. We've been doing this on the BPS as well. So, we always have to go through the Cabinet process of arguing where does this lie within the grand scheme of things.
What I would say to you, by the way, and to all those outside—because you will notice that there are many people who say we need even more money in this, and curiously there's an alignment here between environmental organisations, farmers and others—is that I actually agree with them. One of the biggest arguments we now have because of this scheme, when we sit around with the Cabinet and the Welsh Treasury, is to actually say we're not only doing high standards of food production, high standards of animal welfare, all the food security pieces and so on, we're also delivering on clean rivers, clean air, we're delivering on the climate and nature emergency, all of those things that we're asking here. So, there is a stronger argument because of what we've delivered today than there formerly was when you were simply saying, 'This is just food production over here and the farmers.' We're now saying, 'Look at what farmers have to deliver for us.' It puts a much stronger argument.
And the second thing is that we have designed this in a way that if, in future, there are opportunities, for example, for green or blended finance to come into elements to supplement it, we've designed it in a way that that can be taken on board as well to do more for the farmer, but also for nature and climate as well. So, we'll keep engaged with everybody on it, but, yes, we've given you a lot of information today, I appreciate, but thanks for acknowledging that we've offered technical briefings as well. I suspect that we might need more of those in the weeks to come.
Diolch, Llyr. Edrychwch, rwy'n cydnabod hynny, ac rwy'n credu bod y trafodaethau yr ydym wedi bod yn ymwneud â nhw dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy yn cael eu cyflwyno i bobl, er ein bod wedi cyflwyno prif amlinelliad y cynllun yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd, a gafodd groeso mawr ac yn rhoi rhywfaint o syniad o'r colofnau pwysig hynny o'r cyffredinol, dewisol, cydweithredol, a rhywfaint o gadarnhad o sut yr oeddem yn mynd i ymdrin â safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a thir comin—. Fe wnaethon ni geisio rhoi ychydig wrth i ni fynd ymlaen. Ond dyma'r holl fanylion ar unwaith i bawb. Felly, mae'n bwysig, mewn gwirionedd, a'r neges allan yna i ffermwyr yw: 'Ewch i edrych ar y canllaw cyflym hwnnw.' Mae'n swnio'n wirioneddol hudolus—nid ydyw, rwy'n addo i chi. Yn y bôn, mae'n rhyw fath o gais taenlen, ond bydd yn rhoi syniad da iawn iddyn nhw a yw hyn yn gweithio ar gyfer eu ffermydd nhw: 'Felly, pan fydd hwnnw ar gael yr wythnos nesaf, ewch i edrych arno, cymerwch ychydig o amser, peidiwch â chael eich dallu gan y penawdau sy'n mynd o gwmpas, cymerwch ychydig o amser, edrychwch ar beth mae'n ei olygu i'ch busnes fferm chi.'
Ac rwy'n credu ei fod yr un peth i ni fel Aelodau'r Senedd hefyd. Aelodau'r Senedd, bydd hyn wedi bod yn ddatguddiad mawr, gyda llawer o fanylion—pwysau mawr y dystiolaeth a'r deunydd a'r data rydym ni wedi mynd drwyddo. Ond yn rhyfedd, y pwysigrwydd rydych chi'n ei roi nid yn unig i'r cwantwm o gyllid sydd wedi mynd i mewn i'r pontio o'r CTS i'r haen gyffredinol o CFfC eleni, ond dyfodol y dewisol a chydweithredol, oherwydd mae yna gwantwm o gyllid yno—. Nawr, rydym wedi'i gwneud yn glir iawn, ac rydym wedi bod yn onest iawn am hyn, bod yna uchafswm rydym ni'n ei roi yn yr haen gyffredinol. Oherwydd ei fod yn bwysig iawn ar gyfer y pontio, ond rydym mewn gwirionedd yn cydnabod bod yr achos gwerth am arian ar gyfer y buddion ehangach hynny yn dod trwy'r dewisol a chydweithredol. Felly, mae uchafswm ar y lefel gyffredinol—rydym ni'n bod yn onest ac yn onest iawn am y peth—ac mae isafswm lefel ar y dewisol a chydweithredol, a fydd yn tyfu dros amser wrth i fwy o bobl fudo ar draws o'r CTS a'r arian hwnnw'n cael ei ryddhau i'r dewisol a chydweithredol. Mae gennym bethau fel y tynnu i lawr ar gyfer yr ymyriadau hynny ar raddfa tirwedd y gallem eu cael, sydd o fudd i gynhyrchiant ac arloesedd i'r ffermwr, ond hefyd i natur a'r amgylchedd hefyd.
Ond i ddweud wrth bob Aelod, byddwn yn awyddus iawn i barhau i ymgysylltu â manylion hyn wrth i ni fynd trwy'r haf, trwy'r hydref, trwy'r sioeau ac ati, fel y gallwn gael mwy o fanylion. Dyna hefyd, gyda llaw, pam rydym ni eisiau—Sam, dim ond i ddod yn ôl atoch chi—parhau i weithio trwy'r haf, oherwydd os ydych chi wedi gweld rhai o'r ymatebion gan rai o'r sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol hefyd, maen nhw'n cael eu plesio'n fawr gyda'r darn hwnnw, ynghyd â'r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur ac eraill, gan ddweud bod angen i ni nawr fireinio'r darn cydweithredol dewisol hwnnw i wneud yn siŵr ei fod yn cyflawni'r buddion lluosog hynny. Felly, erbyn i ni gyrraedd y darn ym mis Medi, bydd gennych ddarn crwn o ddadansoddiad economaidd ac amgylcheddol a'r achos busnes llawn a'r gwerth am arian. Oherwydd cofiwch, mae'r achos gwerth am arian hyn hefyd yn hanfodol bwysig—a yw'n cyflawni'r manteision eang hynny?
Mae'r systemau ar waith, gyda llaw, i gyflawni hyn. Byddwn wrth fy modd pe bai ffermwyr yn troi at hwn yn gyflym iawn, ac rydym yn barod i'w wneud, oherwydd mae wedi bod yn seiliedig ar, dim ond i dawelu meddyliau cyd-Aelodau, systemau, addasiadau o'r systemau, sydd eisoes ar waith. Dydyn ni ddim yn adeiladu biwrocratiaeth newydd i wneud hyn, rydym ni'n addasu'r rhai sy'n gweithio'n dda iawn. Felly, bydd yn gyfarwydd iddyn nhw a gallwn ymdrin â beth bynnag yw'r defnydd. Ond dyna'n union yw'r pwynt. Pam na allwn ragweld ymhellach i'r dyfodol? Oherwydd mae hyn yn dibynnu ar y defnydd gan ffermwyr, mynediad ffermwyr iddo, ac yna mae'n dibynnu ar ba opsiynau maen nhw'n mynd amdanynt mewn gwirionedd, a'r opsiynau lefel uwch hefyd. Felly, ni allwn fodelu hynny yn bendant. Byddwn yn gallu cael syniad pan fyddwn ym mlwyddyn 1, blwyddyn 2, beth bynnag, a byddwn yn parhau i addasu'n ddeinamig. A dim ond i'ch sicrhau, mae gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o'r cynllun yn y dyfodol, ond rydych chi'n cyffwrdd â darn ehangach mewn gwirionedd am—a Sam, mae'n ddrwg gennyf, nid wyf wedi ateb hwn i chi chwaith—mater y cylch cyllideb flynyddol. Wel, dim ond i ddweud, nid yw'n newydd. Rydym ni wedi bod yn gwneud hyn yn y CTS hefyd. Felly, mae'n rhaid i ni bob amser fynd trwy broses y Cabinet o ddadlau ynghylch ble mae hyn yn gorwedd wrth ystyried y darlun llawn.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthych chi, gyda llaw, ac i bawb y tu allan—oherwydd byddwch chi'n sylwi bod yna lawer o bobl sy'n dweud bod angen hyd yn oed mwy o arian arnom ni yn hyn, ac yn rhyfedd mae aliniad yma rhwng sefydliadau amgylcheddol, ffermwyr ac eraill—yw fy mod yn cytuno â nhw mewn gwirionedd. Un o'r dadleuon mwyaf sydd gennym nawr oherwydd y cynllun hwn, pan fyddwn yn eistedd o gwmpas gyda'r Cabinet a Thrysorlys Cymru, yw dweud mewn gwirionedd ein bod nid yn unig yn cyflawni safonau uchel o gynhyrchu bwyd, safonau uchel lles anifeiliaid, yr holl ddarnau diogeledd bwyd ac ati, rydym hefyd yn cyflawni afonydd glân, aer glân, Rydym ni'n cyflawni'r argyfwng hinsawdd a natur, yr holl bethau hynny rydym ni'n gofyn amdanynt yma. Felly, mae yna ddadl gryfach oherwydd yr hyn rydym ni wedi'i gyflawni heddiw o gymharu ag o'r blaen pan oeddech chi'n dweud yn syml, 'Dim ond cynhyrchu bwyd a'r ffermwyr yw hyn.' Rydym ni nawr yn dweud, 'Edrychwch ar yr hyn sydd gan ffermwyr i'w gyflawni i ni.' Mae'n rhoi dadl lawer cryfach.
A'r ail beth yw ein bod wedi dylunio hyn mewn ffordd, os oes cyfleoedd, er enghraifft, i gyllid gwyrdd neu gymysg ddod i mewn i elfennau i'w hategu, rydym wedi ei ddylunio mewn ffordd lle gellir cyflawni hynny hefyd i wneud mwy i'r ffermwr, ond hefyd i natur a'r hinsawdd hefyd. Felly, byddwn yn parhau i ymgysylltu â phawb arno, ond, do, rydym ni wedi rhoi llawer o wybodaeth i chi heddiw, rwy'n gwerthfawrogi, ond diolch am gydnabod ein bod wedi cynnig briffiau technegol hefyd. Rwy'n amau y gallai fod angen mwy o'r rheini arnom yn yr wythnosau i ddod.
I want to pick up on what Sam Kurtz said about this idea of trees versus food, because why is it not possible to see trees as a source of food as well? And obviously we're talking here about fruit trees. It's very disappointing that the English Woodland Trust continue to talk about only native trees being able to be planted when in fact there are plenty of Welsh fruit trees that are part of our heritage. So, I want to know why there's no mention of fruit trees in your quite right venture to promote more trees. I'm not sure that sufficient trees are being planted because the climate is changing so hugely, but I do want to know why fruit trees are not an essential part of the increase in tree production.
Rwyf eisiau crybwyll yr hyn a ddywedodd Sam Kurtz am y syniad hwn o goed yn erbyn bwyd, oherwydd pam nad yw'n bosibl gweld coed fel ffynhonnell o fwyd hefyd? Ac yn amlwg rydym ni'n siarad yma am goed ffrwythau. Mae'n siomedig iawn bod yr English Woodland Trust yn parhau i ddweud mai coed brodorol yn unig y gellir eu plannu pan mewn gwirionedd mae digon o goed ffrwythau Cymreig sy'n rhan o'n treftadaeth. Felly, rwyf eisiau gwybod pam nad oes sôn am goed ffrwythau yn eich menter clodwiw i hyrwyddo mwy o goed. Nid wyf yn siŵr bod digon o goed yn cael eu plannu oherwydd bod yr hinsawdd yn newid mor sylweddol, ond rydw i eisiau gwybod pam nad yw coed ffrwythau yn rhan hanfodol o'r cynnydd mewn cynhyrchu coed.
Thanks, Jenny. It's a really good question. We need to recognise the multiple benefits of tree planting. Tree planting within this scheme, in the right place, is to do with a myriad of things, including climate resilience, including shelter belts for animals. Why are shelter belts for animals good? Because they increase the productivity of the animal. Why does that work? Because if they're not suffering through the heat or dramatic weather incidents, they fatten better, you get more value for them at market and all of that. There is, by the way, just to say in terms of fruit trees, a fruit and nut tree mix as part of our optional actions for tree planting. So, we have actually listened to the representations you've made before, and we've worked that into the scheme as well. So, they can plant, for example, fruit and nut trees, and get paid for it as part of this scheme as well. What we do want is to get those multiple benefits, though, from tree planting. That's really critical. And it could be for animals and livestock, it could be for actually production of fruit and so on, or it could actually be because some farmers want to go into agroforestry, in the right place, not shifting into areas where there's high food-productive land or into areas where there's other high biodiversity that we don't want to displace. But there is room for the right tree in the right place in this scheme, including fruit trees.
Diolch, Jenny. Mae'n gwestiwn da iawn. Mae angen i ni gydnabod manteision lluosog plannu coed. Mae plannu coed o fewn y cynllun hwn, yn y lle iawn, yn ymwneud â myrdd o bethau, gan gynnwys cydnerthedd hinsawdd, gan gynnwys lleiniau cysgodi i anifeiliaid. Pam mae lleiniau cysgodi i anifeiliaid yn bethau da? Oherwydd eu bod yn cynyddu cynhyrchiant yr anifail. Pam mae hynny'n gweithio? Oherwydd os nad ydyn nhw'n dioddef oherwydd gwres neu ddigwyddiadau tywydd sylweddol, maen nhw'n pesgi'n well, rydych chi'n cael mwy o werth iddyn nhw yn y farchnad a hynny i gyd. Mae yna, gyda llaw, dim ond i ddweud yn nhermau coed ffrwythau, gymysgedd o goed ffrwythau a chnau fel rhan o'n camau gweithredu dewisol ar gyfer plannu coed. Felly, rydym ni wedi gwrando ar y sylwadau rydych chi wedi'u gwneud o'r blaen, ac rydym wedi cyflwyno hynny i mewn i'r cynllun hefyd. Felly, gallant blannu, er enghraifft, coed ffrwythau a chnau, a chael eu talu amdano fel rhan o'r cynllun hwn hefyd. Yr hyn rydym ni eisiau yw cael y buddion lluosog hynny, fodd bynnag, o blannu coed. Mae hynny'n hanfodol iawn. A gallai fod ar gyfer anifeiliaid a da byw, gallai fod ar gyfer cynhyrchu ffrwythau ac ati, neu gallai fod mewn gwirionedd oherwydd bod rhai ffermwyr eisiau mynd i mewn i amaeth-goedwigaeth, yn y lle iawn, nid symud i ardaloedd lle mae tir a lefel uchel o gynhyrchu bwyd neu i ardaloedd lle mae lefel uchel o fioamrywiaeth nad ydym eisiau eu dadleoli. Ond mae lle i'r goeden iawn yn y lle iawn yn y cynllun hwn, gan gynnwys coed ffrwythau.
I have to say, I agree entirely with Jenny Rathbone on her previous question about why can't there be fruit trees.
So, Cabinet Secretary, you do know—I've raised it with you several times—about the universal element of SFS in terms of common land graziers. I've a number of farmers who are very angry, in my constituency, that there are active common land graziers and there are those who do not graze the common land but are still drawing in the grants. The farmers that do graze the common land find this to be quite unacceptable. Non-active graziers of common land should not be receiving any financial inducement for not using their own grazing rights. To take an example from my constituency, we have an area of over 250 hectares of common land known as Conwy mountain and Alltwen. It has been abandoned by registered graziers for years, but they are continuing to receive BPS payments. You've no idea currently how much money is going to farmers who shouldn't be receiving this. Will you look at this again and maybe go back and review how many farmers are not actively grazing common land, or put that money back in, to support those that are? Grazing associations in Eryri and Brecon have also contacted me, because I've raised it before, and they believe they're not being listened to by the Welsh Government, and I think that means you. So, can we work together on this, and let's find out which common rights graziers are using their rights, which are not, and let's maybe review the payments to some of those, to allow more money in the pot for genuine hard-working farmers?
Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n cytuno'n llwyr â Jenny Rathbone ar ei chwestiwn blaenorol ynghylch pam na ellid cael coed ffrwythau.
Felly, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n gwybod—rydw i wedi ei godi gyda chi sawl gwaith—am elfen gyffredinol CFfC o ran porwyr tir comin. Mae gen i nifer o ffermwyr sy'n ddig iawn, yn fy etholaeth, am fod yna borwyr tir comin gweithredol ac mae yna rai nad ydynt yn pori'r tir comin ond sy'n dal i dderbyn y grantiau. Mae'r ffermwyr sy'n pori'r tir comin yn gweld hyn yn eithaf annerbyniol. Ni ddylai porwyr tir comin nad ydynt yn weithredol fod yn derbyn unrhyw gymhelliant ariannol am beidio â defnyddio eu hawliau pori eu hunain. I gymryd enghraifft o fy etholaeth i, mae gennym ardal o dros 250 hectar o dir comin a elwir yn fynydd Conwy ac Alltwen. Mae porwyr cofrestredig wedi ei adael ers blynyddoedd, ond maen nhw'n parhau i dderbyn taliadau CTS. Does gennych chi ddim syniad ar hyn o bryd faint o arian sy'n mynd i ffermwyr na ddylai fod yn derbyn hyn. A fyddwch chi'n edrych ar hyn eto ac efallai yn mynd yn ôl ac adolygu faint o ffermwyr sydd yna nad ydynt yn pori tir comin yn weithredol, neu roi'r arian hwnnw yn ôl i gefnogi'r rhai sy'n weithredol? Mae cymdeithasau pori yn Eryri ac Aberhonddu hefyd wedi cysylltu â mi, oherwydd rydw i wedi ei godi o'r blaen, ac maen nhw'n credu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw, ac rwy'n credu bod hynny'n golygu chi. Felly, a allwn ni weithio gyda'n gilydd ar hyn, a gadewch i ni ddarganfod pa borwyr hawliau cyffredin sy'n defnyddio eu hawliau, a'r rhai nad ydynt yn gwneud felly, a gadewch i ni efallai adolygu'r taliadau i rai o'r rheini, i ganiatáu mwy o arian yn y pot i ffermwyr gwirioneddol sy'n gweithio'n galed?
Thank you, Janet, and thanks for also supporting Jenny's point as well. Jenny and Janet, I forgot to mention, traditional orchards that are well-established orchards are actually included within the universal level as well. So, just to say that, as well as new planting that you can get on with as well.
On common land—listen, thank you for making this point, Janet, and it's something you've been consistent on. We deeply understand the value of common land, both economically but also ecologically and culturally as well. So, the universal code includes requirements that farmers wishing to receive universal baseline payment on their common land right must adhere to. And this includes the need to have relevant livestock and the ability to graze the common. This has been specifically included to ensure that only active farmers, as you say, Janet, who graze the common, are paid under the universal layer.
The existing agreements under the Habitat Wales scheme for commons can continue in 2026, and this includes established agreements between graziers on the use of the commons for grazing in support of the HWS payments. We will include a payment for individual graziers who hold grazing rights and who can turn out suitable livestock. Payment will be included on their whole farm and social value payments and will be apportioned in a similar way to the current BPS.
Now, the Habitat Wales Scheme (Commons) will be available in 2026 to the already-established grazing associations in order to be able to support co-ordinated grazing regimes. We are also considering how to support the formation of new grazing associations, to enable more common land to be brought forward into co-ordinated management from 2027 onwards, and more targeted management, which I've seen first-hand, such as management of bracken and other invasive species, or peatland restoration, often requires consent from the owner of the common, ideally working in partnership with the graziers. So, this will be supported through a continuation of our existing landscape-scale collaborative schemes, such as the integrated natural resources scheme, or Ffermio Bro, which supports activity within designated landscapes, and the national peatland action programme as well. So, supporting commons to enter into agreements where they don't exist may take a bit of time, and some will need support from the Government, which they will have. So, lots of good work going on in that space, Janet, and I hope you can take that message back to those graziers, those common land graziers, that you regularly engage with.
Diolch, Janet, a diolch am gefnogi pwynt Jenny hefyd. Jenny a Janet, anghofiais sôn, mae perllannau traddodiadol sy'n berllannau wedi hen ymsefydlu mewn gwirionedd wedi'u cynnwys o fewn y lefel gyffredinol hefyd. Felly, dim ond i ddweud hynny, yn ogystal â phlannu newydd y gallwch chi fynd ymlaen ag ef hefyd.
Ar dir comin—gwrandewch, diolch am wneud y pwynt hwn, Janet, ac mae'n rhywbeth rydych chi wedi bod yn gyson yn ei gylch. Rydym yn deall yn iawn gwerth tir comin, yn economaidd ond hefyd yn ecolegol ac yn ddiwylliannol hefyd. Felly, mae'r cod cyffredinol yn cynnwys gofynion y mae'n rhaid i ffermwyr sy'n dymuno derbyn taliad sylfaenol cyffredinol ar eu hawl tir cyffredin eu bodloni. Ac mae hyn yn cynnwys yr angen i gael da byw perthnasol a'r gallu i bori'r comin. Mae hyn wedi'i gynnwys yn benodol i sicrhau mai dim ond ffermwyr gweithredol, fel y dywedwch, Janet, sy'n pori'r comin, sy'n cael eu talu o dan yr haen gyffredinol.
Gall y cytundebau presennol o dan gynllun Cynefin Cymru ar gyfer tiroedd comin barhau yn 2026, ac mae hyn yn cynnwys cytundebau sefydledig rhwng porwyr ar ddefnyddio'r tiroedd comin ar gyfer pori i gefnogi'r taliadau Cynllun Cynefin Cymru . Byddwn yn cynnwys taliad i borwyr unigol sydd â hawliau pori ac sy'n gallu cyflwyno da byw addas. Bydd y taliad yn cael ei gynnwys ar eu taliadau fferm gyfan a gwerth cymdeithasol a bydd yn cael ei dosrannu mewn ffordd debyg i'r CTS presennol.
Nawr, bydd Cynllun Cynefin Cymru (Tiroedd Comin) ar gael yn 2026 i'r cymdeithasau pori sydd eisoes wedi'u sefydlu er mwyn gallu cefnogi cyfundrefnau pori cydgysylltiedig. Rydym hefyd yn ystyried sut i gefnogi ffurfio cymdeithasau pori newydd, er mwyn galluogi mwy o dir cyffredin i gael ei ddwyn ymlaen i reolaeth gydgysylltiedig o 2027 ymlaen, ac mae mwy o reolaeth wedi'i dargedu, yr wyf wedi'i weld yn uniongyrchol, fel rheoli rhedyn a rhywogaethau goresgynnol eraill, neu adfer mawndiroedd, yn aml yn gofyn am ganiatâd perchennog y tir comin, yn ddelfrydol yn gweithio mewn partneriaeth â'r porwyr. Felly, bydd hyn yn cael ei gefnogi drwy barhad ein cynlluniau cydweithredol presennol ar raddfa tirwedd, fel y cynllun adnoddau naturiol integredig, neu Ffermio Bro, sy'n cefnogi gweithgarwch o fewn tirweddau dynodedig, a'r rhaglen weithredu mawndir genedlaethol hefyd. Felly, gall cefnogi tiroedd comin i ymrwymo i gytundebau lle nad ydynt yn bodoli gymryd ychydig o amser, a bydd angen cefnogaeth gan y Llywodraeth ar rai, ac y byddant yn ei chael. Felly, mae llawer o waith da yn digwydd yn y maes hwnnw, Janet, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi fynd â'r neges honno yn ôl i'r porwyr hynny, y tir cyffredin hynny, rydych chi'n ymgysylltu â nhw'n rheolaidd.
Thank you for your statement, Minister. As you say, the universal layer is a very important entry point to this scheme, but really it needs to act as a stepping stone to the optional and collaborative layers, and in that way support farmers to meet pressing environmental challenges and restoration of nature and help for the climate. On the Gwent levels, for example, Minister, this would include helping farmers manage those sites of special scientific interest and help rare species, such as the shrill carder bee. So, I just wonder if you could say a little bit more as to how these layers will be developed as we move forward, and when they will be available to farmers, and how monitoring and compliance will be taken forward. Should we be confident that the scheme will deliver on its ambitions through effective compliance and monitoring?
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fel y dywedwch chi, mae'r haen gyffredinol yn bwynt mynediad pwysig iawn i'r cynllun hwn, ond mewn gwirionedd mae angen iddo weithredu fel carreg sarn i'r haenau dewisol a chydweithredol, ac yn y modd hwnnw cefnogi ffermwyr i gwrdd â heriau amgylcheddol brys ac adfer natur a rhoi cymorth i'r hinsawdd. Ar Wastadeddau Gwent, er enghraifft, Gweinidog, byddai hyn yn cynnwys helpu ffermwyr i reoli'r safleoedd hynny o ddiddordeb gwyddonol arbennig a helpu rhywogaethau prin, fel y gardwenynen feinlais. Felly, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am sut y bydd yr haenau hyn yn cael eu datblygu wrth i ni symud ymlaen, a phryd y byddant ar gael i ffermwyr, a sut y bydd monitro a chydymffurfiaeth yn cael eu datblygu. A ddylem fod yn hyderus y bydd y cynllun yn cyflawni ei uchelgeisiau trwy gydymffurfio a monitro effeithiol?
Yes, absolutely. On the latter point, John, we've built in schemes to regularly monitor compliance with this through the Food Standards Agency and other measures so that we have accurate data about what's happening on farms across our land, across the whole of Wales, already, and where we need to see the improvements as well. So, when farmers enter into these agreements, either at the universal level, or drawing down the option of the collaborative space, we'll be able to work with them, but also to monitor that.
When I was out today, actually, at a cracking farm down near Margam with Robert and his dad—a three generation farm—he was saying to me, 'Well, some of the things that we've tried over the years have really worked well. Some of them haven't; they've actually had a detrimental effect on the environment.' He said, 'Is this scheme going to be able to deliver the ability to learn and do better?', well, yes, because we will very closely monitor it, but also work with farmers to make the improvements necessary, allow an element of risk so that we can see that improvement on the farms as well.
Certainly, in terms of the Gwent levels, and things like species down there that are so important, such as the shrill carder bee and so on, this scheme gives that flexibility to adapt on that whole-farm basis to individual plots of land, to individual habitats and species, and to make sure it delivers for them. That's the joy of this, that it's not a top-down, prescriptive, one-size-fits-all approach; it's work with the evidence and then work to the themes that are within this about actually delivering all those wide benefits of farm sustainability in terms of a commercial point of view, but also sustainability in terms of an environmental approach as well. I think one of the testaments to the last year of working with all the stakeholders, environmental groups and farmers of all different types is actually all of us coming on a journey that says that we agree with the outcomes that we're trying to achieve, and I think it feels very different, and we need to maintain that going forward.
Dylem, yn hollol. Ar y pwynt olaf, John, rydym wedi cynnwys cynlluniau i fonitro cydymffurfiaeth â hyn yn rheolaidd drwy'r Asiantaeth Safonau Bwyd a mesurau eraill fel bod gennym ddata cywir am yr hyn sy'n digwydd ar ffermydd ar draws ein tiroedd, ar draws Cymru gyfan, eisoes, a lle mae angen i ni weld y gwelliannau hefyd. Felly, pan fydd ffermwyr yn ymrwymo i'r cytundebau hyn, naill ai ar lefel gyffredinol, neu'n mynd am yr opsiwn cydweithredol, byddwn yn gallu gweithio gyda nhw, ond hefyd i fonitro hynny.
Pan oeddwn i allan heddiw, mewn gwirionedd, ar fferm wych ger Margam gyda Robert a'i dad—fferm tair cenhedlaeth—roedd yn dweud wrthyf, 'Wel, mae rhai o'r pethau rydym ni wedi rhoi cynnig arnynt dros y blynyddoedd wedi gweithio'n dda iawn. Nid yw rhai ohonynt wedi bod cystal; maen nhw mewn gwirionedd wedi cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.' Dywedodd, 'A yw'r cynllun hwn yn mynd i allu darparu'r gallu i ddysgu a gwneud yn well?' Wel, bydd, oherwydd byddwn yn ei fonitro'n fanwl iawn, ond hefyd yn gweithio gyda ffermwyr i wneud y gwelliannau angenrheidiol, caniatáu elfen o risg fel y gallwn weld y gwelliant hwnnw ar y ffermydd hefyd.
Yn sicr, o ran Gwastadeddau Gwent, a phethau fel rhywogaethau sydd mor bwysig, fel y gardwenynen feinlais ac ati, mae'r cynllun hwn yn rhoi'r hyblygrwydd hwnnw i addasu ar y sail fferm gyfan honno i leiniau unigol o dir, i gynefinoedd a rhywogaethau unigol, ac i sicrhau ei fod yn cyflawni ar eu cyfer. Dyna ragoriaeth hwn, nid yw'n ddull o'r brig i lawr, rhagnodol, un ateb sy'n addas i bawb; mae'n gweithio gyda'r dystiolaeth ac yna gweithio i'r themâu sydd o fewn hyn ynglŷn â chyflawni'r holl fanteision eang hynny o gynaliadwyedd fferm o ran safbwynt masnachol, ond hefyd cynaliadwyedd yn nhermau dull amgylcheddol hefyd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n glod i'r flwyddyn ddiwethaf o weithio gyda'r holl randdeiliaid, grwpiau amgylcheddol a ffermwyr o bob math gwahanol yw mewn gwirionedd bob un ohonom yn dod ar daith sy'n dweud ein bod yn cytuno â'r canlyniadau rydym ni'n ceisio eu cyflawni, ac rwy'n credu ei fod yn teimlo'n wahanol iawn, ac mae angen i ni gynnal hynny yn y dyfodol.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am y datganiad heddiw. Mi fydd pob un ohonom ni sy'n cynrychioli ardaloedd gwledig o Gymru'n chwilio am sicrwydd heddiw yma ar gyfer y bobl rydyn ni'n eu cynrychioli. Dwi'n chwilio am sicrwydd, yn amlwg, ar gyfer amaethwyr yn Ynys Môn. Mae'r cynllun sydd gennym ni rŵan yn gam sylweddol ymlaen o'r hyn a gawsom ni'n wreiddiol, a oedd yn dangos diffyg dealltwriaeth ar sawl lefel, dwi'n meddwl, o sut mae amaeth yn gweithio go iawn. Ond tra bod llawer o'n cwestiynau wedi cael eu hateb, mae yna lawer sydd ddim, ac mae gallu ffermwr i gynllunio ymlaen yn bwysig iawn. Dyna pam dwi, fel Llyr Gruffydd, yn chwilio am addewidion cyllid y tu hwnt i'r flwyddyn gyntaf, er enghraifft.
Ond un cwestiwn penodol: mi fydd yna ryddhad bod y 10 y cant coed wedi mynd. Doedd o erioed yn ymarferol. Ond mae yna gwestiynau ynglŷn â beth sydd yn dod yn lle hynny. Bydd angen i bob ffermwr sy'n ymuno â'r cynllun gwblhau cynllun cyfle ar gyfer creu coetir a gwrychoedd yn y flwyddyn gyntaf o gael mynediad i'r cynllun, a bydd angen iddynt ddangos cynnydd tuag at y cynllun erbyn diwedd blwyddyn y cynllun yn 2028. Cwestiwn syml: sut bydd dangos cynnydd? Achos dyna'r math o gwestiwn rwan mae ffermwyr angen atebion iddyn nhw wrth iddyn nhw gynllunio ymlaen ar gyfer y cyfnod i ddod.
Thank you, Llywydd, and I thank the Deputy First Minister for the statement today. All of us who represent rural areas in Wales will be looking for assurance for those people that we represent. I'm looking for assurance, evidently, for farmers in Ynys Môn. The scheme that we have now is a considerable step forward from what we had originally, which showed a lack of understanding on several levels in terms of how farming works. But while many of our questions have been answered, there are many that haven't, and the ability of farmers to plan ahead is very important. That's why I, like Llyr Gruffydd, am looking for funding commitments beyond the first year, for example.
But one specific question: there will be relief that the 10 per cent tree coverage has gone. It was never practicable. But there are questions about what comes instead of that. All farmers who join the scheme will need to complete an opportunity plan for creating woodland and hedgerows in the first year of entry to the scheme, and they will need to show progress in achieving the aims of the target by the end of scheme year in 2028. A simple question: how will one demonstrate progress? Because that's the kind of question that farmers need answers to as they plan for the future.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn.
Thank you very much for the question.
Thank you so much, and thanks for recognising this really is based on the work that's been done, and my thanks to everybody who's been involved, including some of the Members of the Senedd here as well, who've fed in what their constituents were feeling as well. I think we've got a far, far better scheme, even though, today and in future weeks, it'll face some criticism here and there. I think this was always going to be one of those schemes where there were going to be people moderately unhappy on this bit, moderately unhappy on that bit. But, if we're agreed on what we're trying to achieve here, then this is a major step forward and we're all working towards it.
Now on the tree planting, the commitment within the scheme will—. As I've said previously, this has the potential to go further than 10 per cent on every single farm, recognising that each farm is different, but recognising that some farmers want to do a heck of a lot more in terms of tree planting, for various reasons. Some of them will want to supply wood that goes into those mills in the centre of Wales that go into our homes for long-term, locked-in carbon, into the wood-built homes that we're building now increasingly within Wales, and need to do so much more with our timber industrial strategy.
But how do we do it? Well, we start from a very good point, because, over the last couple of years—. We've done two iterations now in the period I've been here. Even though I've only been in post for whatever it is—I can't remember now—18 months or whatever, we've been through two iterations of the HWS mapping on tree planting. We also have other mapping that we have as well. We had some challenge back from farmers 15 months ago, saying, 'Well, that map doesn't accurately reflect what's on my farm.' We said, 'No problem. Here's what we've got. Now, we'll come out with you. Let's look at it. Yes, you're right—that tree we hadn't spotted there, that copse down there.' So, we've done two years of adjusting it. So, we've got very accurate mapping now of where the trees and woodland cover are, including those trees within hedgerows. On that basis, farmers now will be asked, farmers now will be compelled, to actually devise that opportunity plan for trees and hedgerows on their farms, and then to plant to it, to draw down money from the optional level. And we've pushed heavily, into the first three years of the scheme, additional money, ring-fenced within that, to actually plant those trees and get on with it, because we know, and I think you will share as well, that we need to actually do this for all the reasons we've outlined and get on with this tree planting as well.
But we can monitor it now because we know where the trees are. We work then on the opportunity plan for hedgerows and trees that farmers bring forward. We expect them to draw down that money and to actually deliver on it. And the trajectory we have will be an increasing trajectory, to be quite frank. So, what the Climate Change Committee have said to us now, for our 2030 targets, is they've acknowledged this is where we can go by then, and then it will accelerate. But, by that time, we might have many more farmers saying to each other, 'Look at what I've done in my patch. It works. It does work.'
Diolch yn fawr iawn, a diolch am gydnabod bod hyn yn seiliedig ar y gwaith sydd wedi'i wneud, a diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono, gan gynnwys rhai o Aelodau'r Senedd yma hefyd, sydd wedi cyfrannu yr hyn yr oedd eu hetholwyr yn teimlo hefyd. Rwy'n credu bod gennym gynllun llawer gwell, er y bydd heddiw ac yn yr wythnosau i ddod yn wynebu rhywfaint o feirniadaeth yma ac acw. Rwy'n credu bod hwn bob amser yn mynd i fod yn un o'r cynlluniau hynny lle roedd pobl yn gymedrol anhapus ynghylch y darn hwn, yn gymedrol anhapus ynghylch y darn acw. Ond, os ydym yn cytuno ar yr hyn rydym ni'n ceisio ei gyflawni yma, yna mae hwn yn gam mawr ymlaen ac rydym ni i gyd yn gweithio tuag ato.
Nawr o ran plannu coed, bydd yr ymrwymiad o fewn y cynllun yn—. Fel y dywedais i o'r blaen, mae gan hyn y potensial i fynd ymhellach na 10 y cant ar bob fferm, gan gydnabod bod pob fferm yn wahanol, ond gan gydnabod bod rhai ffermwyr eisiau gwneud llawer mwy o ran plannu coed, am wahanol resymau. Bydd rhai ohonynt eisiau cyflenwi pren sy'n mynd i'r melinau hynny yng nghanol Cymru sy'n mynd i'n cartrefi ar gyfer carbon hirdymor, wedi'i gloi, i'r cartrefi pren yr ydym yn eu hadeiladu nawr yn gynyddol yng Nghymru, ac mae angen iddynt wneud cymaint mwy gyda'n strategaeth ddiwydiannol bren.
Ond sut ydym ni'n ei wneud? Wel, rydym ni'n dechrau o le da iawn, oherwydd, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—. Rydym ni wedi gwneud dau iteriad nawr yn y cyfnod rydw i wedi bod yma. Er mai dim ond am, beth bynnag ydyw, yr wyf wedi bod yn y swydd—ni allaf gofio nawr—18 mis neu beth bynnag, rydym ni wedi bod trwy ddau iteriad o'r mapio Cynllun Cynefin Cymru ar blannu coed. Mae gennym hefyd fapiau eraill. Cawsom rywfaint o heriau yn ôl gan ffermwyr 15 mis yn ôl, dywedon nhw, 'Wel, nid yw'r map hwnnw'n adlewyrchu'n gywir beth sydd ar fy fferm i.' Dywedon ni, 'Dim problem. Dyma beth sydd gennym ni. Nawr, byddwn ni'n dod allan gyda chi. Gadewch i ni edrych arno. Ie, rydych chi'n iawn—y goeden acw nad oeddem wedi'i gweld yno, y goedlan yna i lawr fan yna.' Felly, rydym ni wedi gwneud gwaith dros dwy flynedd i'w addasu. Felly, mae gennym fapiau cywir iawn nawr o ble mae'r coed a'r gorchudd coetir, gan gynnwys y coed hynny o fewn gwrychoedd. Ar y sail honno, gofynnir i ffermwyr nawr, bydd ffermwyr nawr yn cael eu gorfodi, i ddyfeisio'r cynllun cyfle hwnnw ar gyfer coed a gwrychoedd ar eu ffermydd, ac yna i blannu, i dynnu arian o'r lefel ddewisol. Ac rydym wedi gwthio'n drwm, i mewn i dair blynedd gyntaf y cynllun, arian ychwanegol, i blannu'r coed hynny a mynd ymlaen ag ef, oherwydd rydym ni'n gwybod, ac rwy'n credu y byddwch chi'n rhannu hyn hefyd, bod angen i ni wneud hyn mewn gwirionedd am yr holl resymau rydym ni wedi'u hamlinellu a mynd ymlaen â'r gwaith plannu coed hwn hefyd.
Ond gallwn ei fonitro nawr oherwydd ein bod ni'n gwybod ble mae'r coed. Rydym yn gweithio wedyn ar y cynllun cyfle ar gyfer gwrychoedd a choed y mae ffermwyr yn eu cyflwyno. Rydym yn disgwyl iddyn nhw dynnu'r arian hwnnw i lawr ac i gyflawni hynny. A bydd y llwybr sydd gennym yn llwybr cynyddol, i fod yn eithaf onest. Felly, yr hyn y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi'i ddweud wrthym nawr, ar gyfer ein targedau 2030, yw eu bod wedi cydnabod mai dyma lle gallwn fynd erbyn hynny, ac yna bydd yn cyflymu. Ond, erbyn hynny, efallai y bydd gennym lawer mwy o ffermwyr yn dweud wrth ei gilydd, 'Edrychwch ar yr hyn rydw i wedi'i wneud ar fy nhir i. Mae'n gweithio. Mae'n gweithio.'
I'd like to welcome much that's in the scheme and to commend you for the efforts you've put into trying to find consensus, building on the work that Lesley Griffiths did over a number of years. I'd just like to ask you about that increasing trajectory, as you just referred to, to Rhun ap Iorwerth, on the tree planting. In order to reach net zero by 2050, we said that 5,000 hectares a year needs to be planted, and last year we planted something like 960 hectares, so well short. You do seem to have abandoned the 2030 target the Government had committed to of 43,000 hectares by 2030, whilst keeping the ambitious 2050 target. So, I'm a little puzzled of how we're intending to achieve a stretching 2050 target whilst lowering our ambition in the immediate future. Perhaps you could explain that.
Hoffwn groesawu llawer o'r hyn sydd yn y cynllun a'ch canmol am yr ymdrechion rydych chi wedi'u rhoi i geisio dod o hyd i gonsensws, gan adeiladu ar y gwaith a wnaeth Lesley Griffiths dros nifer o flynyddoedd. Hoffwn i ofyn i chi am y llwybr cynyddol hwnnw, fel y cyfeirioch ato, at Rhun ap Iorwerth, ar blannu coed. Er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050, dywedom fod angen plannu 5,000 hectar y flwyddyn, a'r llynedd fe wnaethon ni blannu rhywbeth fel 960 hectar, felly yn fyr. Mae'n ymddangos eich bod wedi rhoi'r gorau i'r targed 2030 yr oedd y Llywodraeth wedi ymrwymo iddo o 43,000 hectar erbyn 2030, gan gadw targed uchelgeisiol 2050. Felly, rydw i ychydig yn ddryslyd ynghylch sut rydym ni'n bwriadu cyrraedd targed heriol 2050 tra byddwn yn gostwng ein huchelgais yn y dyfodol agos. Efallai y gallech chi esbonio hynny.
Yes, I can, and thank you for that question. And Lee, thank you as well for your engagement on this, because I know you are absolutely, as many Members are, wedded to doing what we have to do, which is to increase tree planting across the whole of Wales, both in terms of farmland, but also on things like our woodland estate, on things like Crown Estate, and up the ante in terms of tree planting. We absolutely have to.
So, back in May—I've got to get my correct phraseology here—revised advice was put forward by the Climate Change Committee. As you know, as a former Minister, they periodically revise it. They looked at the practical and pragmatic approach to tree planting in Wales, and they also looked at what you quite rightly point out is our failure to plant so far. So, rather than do a shoot-for-the-stars straight line, they said, 'Realistically, including what you're trying to devise in this with farmers, with landowners, we think you can do this by 2030', and their figure was 22,000 on that balanced pathway. But they've also said, Lee, just to be clear, 'That doesn't let you off the hook; in fact, you're going to have to then accelerate to achieve a slightly more ambitious—'. Because their overall path here—. Let me just get the figures right. By 2050, their advice for woodland planting in Wales has increased from 180,000 hectares to 208,000 hectares. We're committed to that, but we want to work with people to do it. We want to really work with people to do it. We've got to own this together. Landowners and farmers have to own it as well; so do NRW, so do Crown Estate, so does everybody else. So, we haven't walked away from that longer term ambition. What we have said is: 'We're going to do what we can now to 2030, based on the revised CCC advice, and then we know we're going to have to do more.' What I would say to you, though, is that if this does bring people with us—and there is a genuine ask here, I have to say, of all the farming unions, of the CLA, of the forestry people, of everybody, to actually deliver on this headline target; 17,000 is what we're aiming for, but with an ambition to hit 21,500, which is within spitting distance of that revised CCC advice—then we'll have won the hearts and minds of people to bring them with us on this. We'll have demonstrated it can be done, and then we can go further. So, we haven't walked away from that longer-term advice, and, as I say, the CCC advice for 2050 is now even more ambitious. But what they've done is they've recognised that, to get there, there is less of a straight-line trajectory, and we've got to take that managed pathway to get there.
Gallaf, a diolch am y cwestiwn yna. A Lee, diolch hefyd am eich ymgysylltiad â hyn, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi, fel llawer o Aelodau, yn gwbl ymroddedig i wneud yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud, sef cynyddu plannu coed ar draws Cymru gyfan, o ran tir fferm, ond hefyd ar bethau fel ein hystad goetir, ar bethau fel Ystad y Goron, a gweithio'n galetach i gyflawni o ran plannu coed. Mae'n rhaid i ni wneud hynny.
Felly, yn ôl ym mis Mai—mae'n rhaid i mi gael fy ymadrodd yn gywir yma—cyflwynwyd cyngor diwygiedig gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Fel y gwyddoch, fel cyn-Weinidog, maen nhw'n ei adolygu o bryd i'w gilydd. Fe wnaethant edrych ar y dull ymarferol a phragmatig o ran plannu coed yng Nghymru, ac fe wnaethon nhw hefyd edrych ar yr hyn rydych chi'n ei nodi'n gywir sef ein methiant i blannu hyd yn hyn. Felly, yn hytrach na gosod nodau uchelgeisiol yn syth, dywedon nhw, 'Yn realistig, gan gynnwys yr hyn rydych chi'n ceisio ei ddyfeisio gyda ffermwyr, gyda thirfeddianwyr, rydym ni'n meddwl y gallwch chi wneud hyn erbyn 2030', a'u ffigur oedd 22,000 ar y llwybr cytbwys hwnnw. Ond maen nhw hefyd wedi dweud, Lee, dim ond i fod yn glir, 'Nid yw hynny'n caniatáu i chi ddianc rhag y sefyllfa; mewn gwirionedd, bydd yn rhaid i chi wedyn gyflymu i gyflawni ychydig yn fwy uchelgeisiol—'. Oherwydd eu llwybr cyffredinol yma—. Gadewch i mi gael y ffigurau'n gywir. Erbyn 2050, mae eu cyngor ar gyfer plannu coetir yng Nghymru wedi cynyddu o 180,000 hectar i 208,000 hectar. Rydym ni wedi ymrwymo i hynny, ond rydym ni eisiau gweithio gyda phobl i'w gyflawni. Rydym ni wir eisiau gweithio gyda phobl i'w gyflawni. Mae'n rhaid i ni berchnogi hwn gyda'n gilydd. Mae'n rhaid i dirfeddianwyr a ffermwyr fod yn berchen arno hefyd; felly hefyd CNC, felly hefyd Ystad y Goron, felly hefyd pawb arall. Felly, nid ydym wedi cerdded i ffwrdd o'r uchelgais tymor hwy hwnnw. Yr hyn rydym ni wedi'i ddweud yw: 'Rydym ni'n mynd i wneud yr hyn y gallwn nawr tan 2030, yn seiliedig ar gyngor diwygiedig y Pwyllgor Newid Hinsawdd (PNH), ac yna rydym ni'n gwybod y bydd yn rhaid i ni wneud mwy.' Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthych, fodd bynnag, yw os ydym yn cael cefnogaeth y bobl ac rydym yn gofyn yn wirioneddol yma, mae'n rhaid i mi ddweud, i'r holl undebau ffermio, o'r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, pobl goedwigaeth, i bawb, gyflawni'r prif darged hwn mewn gwirionedd; 17,000 yw'r hyn rydym ni'n anelu ato, ond gydag uchelgais i gyrraedd 21,500, sydd o fewn tafliad carreg i gyngor diwygiedig y PNH hwnnw—yna byddwn wedi sicrhau cefnogaeth pobl ar y daith hon. Byddwn wedi dangos y gellir ei wneud, ac yna gallwn fynd ymhellach. Felly, nid ydym wedi cerdded i ffwrdd o'r cyngor tymor hwy hwnnw, ac, fel y dywedais, mae cyngor y PNH ar gyfer 2050 bellach hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol. Ond yr hyn maen nhw wedi'i wneud yw eu bod wedi cydnabod bod llai o lwybr llinell syth i gyrraedd yno, ac mae'n rhaid i ni gymryd y llwybr hwnnw a reolir i gyrraedd yno.
Diolch for your statement, Deputy First Minister. Well, I suppose it could have been worse. We would broadly but cautiously welcome the changes, although this document is heavily weighted, as has already been said, towards trees rather than our food-producing sector, as is your round-table.
There are good things within it, which have already been outlined by other Members, but I have concerns that the good things will be completely overshadowed by the shortcomings, the obvious example obviously being 80 per cent to 60 per cent in the first year, which is a massive change to stomach. There is an improvement on the previous iteration of this scheme, which was really a mask-slip moment, wasn't it, for the Welsh Government and their real attitude towards our farmers. Our farmers are valued by the public, and they should be valued in this place as well, especially as the deliverers of your environmental schemes.
Look, this massive, 200 page, weighty document is full of complexity and terminology that many farmers won't be familiar with. Deputy First Minister, the weight of the detail is unquestionably daunting. Don't you agree that this needs to be simplified? And due to there being obvious problematic areas within this document that are likely to present themselves in the future, is this going to be a scheme like Glastir that will be able to evolve and adapt as problems present themselves? I have real concerns, for example, that, to some landowners, this scheme will be lucrative, but, to many tenant farmers, they will now obviously be very worried about being stuck with huge rents, and I'd like your thoughts on that, please. Diolch.
Diolch am eich datganiad, Dirprwy Brif Weinidog. Wel, mae'n debyg y gallai fod wedi bod yn waeth. Byddem yn croesawu'r newidiadau yn fras ond gyda gofal, er bod y ddogfen hon yn gwyro'n drwm, fel y dywedwyd eisoes, tuag at goed yn hytrach na'n sector cynhyrchu bwyd, ac felly hefyd eich bwrdd crwn.
Mae yna bethau da ynddo, sydd eisoes wedi'u hamlinellu gan Aelodau eraill, ond mae gen i bryderon y bydd y pethau da yn cael eu cysgodi'n llwyr gan y diffygion, yr enghraifft amlwg yw 80 y cant i 60 y cant yn y flwyddyn gyntaf, sy'n newid enfawr i'w dderbyn. Mae gwelliant i'w weld o gymharu ag iteriad blaenorol y cynllun hwn, a oedd yn wirioneddol yn foment pan ddatgelwyd yn anfwriadol fwriadau Llywodraeth Cymru a'u hagwedd go iawn tuag at ein ffermwyr. Mae ein ffermwyr yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd, a dylid eu gwerthfawrogi yn y lle hwn hefyd, yn enwedig fel cyflawnwyr eich cynlluniau amgylcheddol.
Edrychwch, mae'r ddogfen enfawr, 200 tudalen, bwysig hon yn llawn cymhlethdod a therminoleg na fydd llawer o ffermwyr yn gyfarwydd â nhw. Dirprwy Brif Weinidog, mae pwysau'r manylion yn ddiamheuol yn frawychus. Onid ydych chi'n cytuno bod angen symleiddio hyn? Ac oherwydd bod meysydd problematig amlwg yn y ddogfen hon sy'n debygol o gael eu hamlygu yn y dyfodol, a fydd hwn yn gynllun fel Glastir a fydd yn gallu esblygu ac addasu wrth i broblemau amlygu eu hunain? Mae gen i bryderon gwirioneddol, er enghraifft, y bydd y cynllun hwn yn broffidiol, i rai tirfeddianwyr, ond, i lawer o ffermwyr tenant, byddant bellach yn amlwg yn poeni'n ofnadwy am orfod byw gyda rhenti enfawr, a hoffwn eich barn ar hynny, os gwelwch yn dda. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. 'It could have been worse.' That statement reminded me of the day that I walked down as a young boy in shorts on Christmas Day and found a beautiful new shiny bicycle wrapped up in the best room, as it used to be called—the best room, the front room—and I walked into the front room and thought, 'Wow, my dad has bought me the bike. Look, great'. 'No, no, that's your brother's present.' [Laughter.] It could have been worse; I did have a present.
But, look, I think the glass is more half full than half empty here, because I think this is a unique opportunity for us to work together in Wales to deliver those multiple benefits. We have rightly described this as the only whole-farm approach. This is not a 'bits of' scheme, like they've delivered over the border in England—a bit of environmental, but a bit of standard support and whatever—this is a whole-farm scheme, but it's also a whole-nation scheme. The people of Wales genuinely want farmers to succeed and have thriving businesses and to be able to bring their children through into the farming business, but they also want that lush pasture land to have really good soil. They do not want run-off into the rivers. They do not want rivers that are baking in the heat because there's no woodland cover. They want the whole thing. So, this is a contract between the people of Wales and the farmers of Wales, and it shows the integral nature of farming to Wales as well. Farmers will deliver this for us, but they'll deliver it with us—with us, together. That's the way it has to be.
You talk about the terminology and the narrative. It's been a common theme of the round-table. All the people sitting around it, from the environmental groups, to the meat and livestock and processors people, to the unions and others, have all said what we need to do is deliver this in a way that's very understandable to farmers. The immense documentation you have is immense documentation for a purpose, so that you and I and people who want to can get our heads into the details. We do not expect every farmer to want to do that. I will expect every farmer to want to actually get their head into 'What does it mean for me?', hence why we're bringing forward the ready reckoner next week at the Royal Welsh, hence why we're bringing forward separate guidance for farmers, that makes sense to them.
So, for example, when you say to a farmer, and this is one of the original criticisms, 'Well, what is CPD?' Well, I know what it is because I did a HNC and a HND in college, so I know what continuing professional development is. But if you actually say to farmers, 'Right, let me explain that in terms that you know. So, that training course that you go on, that you've done with other farmers down the road, that has helped actually drive productivity in your livestock because of doing x, y, and z, that's CPD.' 'What, you mean those six hours I did down there on that weekend away?' 'Absolutely.' Yes, so we will absolutely do that.
And you also ask whether this will be able to evolve and adapt: yes. Just to tell everybody, we have built within this scheme, even though we've got the stability Llyr and Rhun were talking about, the need for stability and certainty is delivered in the framework that we have and the payments that we've outlined; the ability to adapt and be flexible and to learn dynamically is built into it as well. We will monitor success on this, on every element, and we will then work with farmers and with the environmental NGOs to say, 'If this doesn't work, like Rob on the farm this morning, we can try something else. We can innovate. We can put more funding into this bit and the optional and take a bit away and try and do something else.' So, it's a dynamic scheme as well. So, whether it's me or somebody else sitting here in future, all of us will be able to keep an eye on them to say, 'Right, this bit isn't working, have a tweak on it, have a change on it', but still have the platform that gives stability to farmers.
Diolch yn fawr iawn. 'Gallai fod wedi bod yn waeth.' Mae'r datganiad yna yn fy atgoffa o'r diwrnod pan gerddais i lawr fel bachgen ifanc mewn siorts ar Ddydd Nadolig a chanfod beic newydd sgleiniog hardd wedi'i lapio yn yr ystafell orau, fel y'i gelwid—yr ystafell orau, yr ystafell flaen—a cherddais i mewn i'r ystafell flaen a meddwl, 'Waw, mae fy nhad wedi prynu'r beic i mi. Edrychwch, gwych'. 'Na, na, dyna anrheg dy frawd.' [Chwerthin.] Gallai fod wedi bod yn waeth; fe gefais i anrheg.
Ond, edrychwch, rwy'n credu bod y gwydr yn debycach i un hanner llawn nag un hanner gwag yma, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn gyfle unigryw i ni weithio gyda'n gilydd yng Nghymru i gyflawni'r buddion lluosog hynny. Rydym wedi disgrifio hwn, yn gywir, fel yr unig ddull fferm gyfan. Nid cynllun 'darnau o' yw hwn, fel maen nhw wedi'i gyflawni dros y ffin yn Lloegr—ychydig o bethau amgylcheddol, ond ychydig o gefnogaeth safonol a beth bynnag—mae hwn yn gynllun fferm gyfan, ond mae hefyd yn gynllun cenedl gyfan. Mae pobl Cymru wir eisiau i ffermwyr lwyddo a chael busnesau ffyniannus ac i allu dod â'u plant drwodd i'r busnes ffermio, ond maen nhw hefyd eisiau i'r tir pori gwelltog hwnnw fod â phridd arbennig o dda. Dydyn nhw ddim eisiau dŵr ffo yn llifo i'r afonydd. Dydyn nhw ddim eisiau afonydd sy'n pobi yn y gwres oherwydd nad oes gorchudd coetir. Maen nhw eisiau'r peth cyfan. Felly, mae hwn yn gontract rhwng pobl Cymru a ffermwyr Cymru, ac mae'n dangos natur hanfodol ffermio i Gymru hefyd. Bydd ffermwyr yn cyflawni hyn i ni, ond byddant yn ei gyflawni gyda ni—gyda ni, gyda'n gilydd. Dyna'r unig ffordd.
Rydych chi'n sôn am y derminoleg a'r naratif. Mae wedi bod yn thema gyffredin yn y bwrdd crwn. Mae'r holl bobl sy'n eistedd o'i amgylch, o'r grwpiau amgylcheddol, i'r bobl cig a da byw a phroseswyr, i'r undebau ac eraill, i gyd wedi dweud mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cyflwyno hyn mewn ffordd sy'n ddealladwy iawn i ffermwyr. Mae'r ddogfennau enfawr sydd gennych yn ddogfennau enfawr am reswm, fel y gallech chi a minnau a phobl sy'n dymuno hynny ddeall y manylion. Nid ydym yn disgwyl i bob ffermwr fod eisiau gwneud hynny. Byddaf yn disgwyl i bob ffermwr ofyn mewn gwirionedd 'Beth mae'n ei olygu i mi?' Dyna pam rydym ni'n cyflwyno'r canllaw cyflym yr wythnos nesaf yn y Sioe Frenhinol, felly dyna pam rydym ni'n cyflwyno canllawiau ar wahân i ffermwyr, sy'n gwneud synnwyr iddyn nhw.
Felly, er enghraifft, pan fyddwch chi'n dweud wrth ffermwr, a dyma un o'r beirniadaethau gwreiddiol, 'Wel, beth yw DPP?' Wel, rwy'n gwybod beth yw e' oherwydd fy mod wedi gwneud HNC a HND yn y coleg, felly rwy'n gwybod beth yw datblygiad proffesiynol parhaus. Ond os ydych chi'n dweud wrth ffermwyr, 'Iawn, gadewch i mi esbonio hynny mewn termau rydych chi'n eu deall. Felly, y cwrs hyfforddi hwnnw rydych chi'n ei ddilyn, rydych chi wedi'i wneud gyda ffermwyr eraill i lawr y ffordd, sydd wedi helpu i ysgogi cynhyrchiant yn eich da byw oherwydd i chi wneud hyn, llall ac arall, dyna beth yw DPP.' 'Beth, ydych chi'n golygu'r chwe awr hynny a wnes i lawr yno ar y penwythnos hwnnw i ffwrdd?' 'Yn hollol.' Byddwn, felly byddwn yn gwneud hynny'n llwyr.
Ac rydych chi hefyd yn gofyn a fydd hyn yn gallu esblygu ac addasu: bydd. Dim ond i ddweud wrth bawb, rydym wedi adeiladu o fewn y cynllun hwn, er bod gennym y sefydlogrwydd yr oedd Llyr a Rhun yn sôn amdano, mae'r angen am sefydlogrwydd a sicrwydd yn cael ei gyflawni yn y fframwaith sydd gennym a'r taliadau rydym ni wedi'u hamlinellu; mae'r gallu i addasu a bod yn hyblyg ac i ddysgu yn ddeinamig yn rhan ohono hefyd. Byddwn yn monitro llwyddiant hyn, pob elfen, ac yna byddwn yn gweithio gyda ffermwyr a chyda'r cyrff anllywodraethol amgylcheddol i ddweud, 'Os nad yw hyn yn gweithio, fel Rob ar y fferm y bore 'ma, gallwn roi cynnig ar rywbeth arall. Gallwn arloesi. Gallwn roi mwy o arian i'r darn hwn a'r dewisol a chymryd ychydig i ffwrdd a cheisio gwneud rhywbeth arall.' Felly, mae'n gynllun deinamig hefyd. Felly, p'un a ydw i neu rywun arall yn eistedd yma yn y dyfodol, bydd pob un ohonom yn gallu cadw llygad arnyn nhw i ddweud, 'Iawn, nid yw'r darn hwn yn gweithio, addaswch ychydig, ei newid', ond parhau i fod â'r llwyfan sy'n rhoi sefydlogrwydd i ffermwyr.
Good afternoon, Cabinet Secretary. Thank you for engaging with me on this issue and also for the technical briefing. I am very grateful, and it feels that there are some real steps forward here that we can build on. As Llyr has said, we do need to see the detail and the opportunity to look at how that will apply. We must just recognise, though, the stresses that have been on farmers, not just over the past year, but even longer. We've had farmers who've seen these changes, been really concerned about them. They're dealing with health and safety obligations, environmental rules, disease testing. We've had bluetongue in the last couple of months, and now these changes as well. On top of that, rising energy costs, higher national insurance, and of course the shameful family farm tax. They've all added to the strain.
Farmers and their families are under immense stress. A UK-wide survey by the Farm Safety Foundation showed that 91 per cent of farmers believe poor mental health is the sector's biggest hidden challenge. Sadly, in the year 2022, 44 farmers in England and Wales took their own lives. There's a real mental health crisis. One of the issues that they do say very clearly, and you've referred to this in your response to Llyr, is about having a multi-year stability in terms of the income that's coming in. We all have that. Industry has that. Our public sector have that. Surely we should have that for our farmers, and I'd just like you to commit in principle that that is something that is top of your list in terms of the considerations you have. Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Diolch am ymgysylltu â mi ar y mater hwn a hefyd am y briff technegol. Rwy'n ddiolchgar iawn, ac mae'n teimlo fel bod yna rai camau gwirioneddol ymlaen yma y gallwn eu datblygu. Fel y mae Llyr wedi dweud, mae angen i ni weld y manylion a'r cyfle i edrych ar sut y bydd hynny'n berthnasol. Mae'n rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, y straen sydd wedi bod ar ffermwyr, nid yn unig dros y flwyddyn ddiwethaf, ond hyd yn oed yn hirach. Rydym ni wedi gweld ffermwyr sydd wedi gweld y newidiadau hyn, sydd wedi bod yn bryderus iawn yn eu cylch. Maen nhw'n ymdrin â rhwymedigaethau iechyd a diogelwch, rheolau amgylcheddol, profion clefydau. Rydym ni wedi cael y tafod glas yn ystod y misoedd diwethaf, a nawr y newidiadau hyn hefyd. Ar ben hynny, costau ynni cynyddol, yswiriant gwladol uwch, ac wrth gwrs y dreth fferm deuluol gywilyddus. Maen nhw i gyd wedi ychwanegu at y straen.
Mae ffermwyr a'u teuluoedd o dan straen enfawr. Dangosodd arolwg ledled y DU gan y Sefydliad Diogelwch Fferm fod 91 y cant o ffermwyr yn credu mai iechyd meddwl gwael yw her gudd fwyaf y sector. Yn anffodus, yn y flwyddyn 2022, cymerodd 44 o ffermwyr yng Nghymru a Lloegr eu bywydau eu hunain. Mae yna argyfwng iechyd meddwl go iawn. Un o'r materion maen nhw'n ei fynegi'n glir iawn, ac rydych chi wedi cyfeirio at hwn yn eich ymateb i Llyr, yw cael sefydlogrwydd amlflwyddyn o ran yr incwm sy'n dod i mewn. Mae hyn gennym ni, gan ddiwydiant, gan ein sector cyhoeddus. Yn sicr, dylai ein ffermwyr, gael hyn a hoffwn i chi ymrwymo mewn egwyddor bod hynny'n rhywbeth sydd ar frig eich rhestr o ran yr ystyriaethau sydd gennych. Diolch yn fawr iawn.
Thank you very much, Jane, and thanks for your engagement on this, as with other Members as well. You're absolutely right about the stress that is within the farming sector, and recognising that not every farm is a family of many individuals, all sitting around the table in the evening, chatting through their problems and their issues; some farmers will be individual farmers in isolated locations, who will be—. The only time—. I mean, this is the benefit of farmers' markets; it's the time when farmers come together and go, 'Do you want to hear my woes?' And they chat about it and so on there.
But the multiple stresses within it, generally, and the uncertainty, that's one thing we can fix with this now. So, actually having been clear on what the scheme is, what the rates will be, getting people to actually look at that ready reckoner and say, 'What does this mean for me? Will it be worth my while? Does it give me financial certainty?', all of those things will help take away one of those uncertainties that we've been wrestling with since we left the EU, quite frankly. I've had to roll over, each year, BPS settlements, and we've done it through Cabinet colleagues engaging with me and agreeing that we've wanted to give that stability over the last couple of years. Now we give the stability going forward as well, and there will be options for the optional and collaborative layers as well that farmers can draw down. So, I strongly urge them to look at that.
On the multi-year stability issue, it's good to hear parties today saying, 'We'll definitely give the investment.' I want you to give more than that. It's not just the investment, it's give your support to the design of this scheme, because the worst thing that could happen for farmers' certainty is that we have any idea that we'll come back in and we'll start again, we'll remodel it. This scheme is a good scheme. This scheme is a whole-farm scheme. It tries to do multiple objectives, as well as looking at the financial investment, and I've said to you that the scheme is designed so that if there was more funding available in the years to come, you could lever it in. As the BPS taper goes on, there will be more funding coming in to the optional and the collaborative as well. As green or blended finance becomes available, we can push that into elements of the scheme.
But on the way forward, I think I've shown very clearly my commitment, and this Cabinet and this Government's commitment to the scheme, delivering the quantum of funding we've been able to put into it from the start. And then the next Government will face the same challenges, and will have to have those discussions, whether it's you sitting around the table or somebody else. You'll have to balance this up against other competing priorities. But our commitment is very clear. This scheme doesn't work for nature, for the climate emergency, for farmers, for viability of businesses, unless you have sufficient quantum within the scheme. It's a strong argument. It's probably the most powerful argument we've ever had, because this is a whole-farm scheme, not just a food production scheme.
Diolch yn fawr iawn, Jane, a diolch am eich ymgysylltiad ar hyn, fel gydag Aelodau eraill hefyd. Rydych chi'n hollol gywir ynghylch y straen sydd o fewn y sector ffermio, a chydnabod nad yw pob fferm yn deulu o lawer o unigolion, i gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd gyda'r nos, yn sgwrsio am eu problemau; bydd rhai ffermwyr yn ffermwyr unigol mewn lleoliadau ynysig, a fydd yn—. Yr unig dro—. Hynny yw, dyma fudd marchnadoedd ffermwyr; dyma'r amser pan fydd ffermwyr yn dod at ei gilydd ac yn dweud, 'Ydych chi eisiau clywed am fy ngofidiau?' Ac maen nhw'n sgwrsio amdanynt ac ati yno.
Ond y pwysau lluosog, yn gyffredinol, a'r ansicrwydd, dyna un peth y gallwn ei ddatrys gyda hyn nawr. Felly, mewn gwirionedd ar ôl bod yn glir ynghylch beth yw'r cynllun, beth fydd y cyfraddau, cael pobl i edrych ar y canllaw cyflym hwnnw a dweud, 'Beth mae hyn yn ei olygu i mi? A fydd o werth i mi? A yw'n rhoi sicrwydd ariannol i mi?' Bydd yr holl bethau hynny'n helpu i dynnu un elfen o'r holl ansicrwydd yr ydym wedi bod yn ei wynebu ers i ni adael yr UE, i fod yn blwmp ac yn blaen. Rydw i wedi gorfod trosglwyddo ymlaen, bob blwyddyn, setliadau CTS, ac rydym wedi gwneud hynny trwy gyd-Aelodau yn y Cabinet yn ymgysylltu â mi ac yn cytuno ein bod ni eisiau rhoi'r sefydlogrwydd hwnnw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr rydym ni'n rhoi'r sefydlogrwydd hwnnw wrth symud ymlaen hefyd, a bydd opsiynau ar gyfer yr haenau dewisol a chydweithredol hefyd y gall ffermwyr eu tynnu i lawr. Felly, rwy'n eu hannog yn gryf i edrych ar hynny.
O ran y mater sefydlogrwydd amlflwyddyn, mae'n dda clywed pleidiau heddiw yn dweud, 'Byddwn yn bendant yn rhoi'r buddsoddiad.' Rwyf eisiau i chi roi mwy na hynny. Nid y buddsoddiad yn unig ydyw, mae'n ymwneud â rhoi eich cefnogaeth i ddylunio'r cynllun hwn, oherwydd y peth gwaethaf a allai ddigwydd i sicrwydd ffermwyr yw bod gennym unrhyw syniad y byddwn ni'n dod yn ôl i mewn a byddwn yn dechrau eto, byddwn yn ei ailfodelu. Mae'r cynllun hwn yn gynllun da. Mae'r cynllun hwn yn gynllun fferm gyfan. Mae'n ceisio cyflawni amcanion lluosog, yn ogystal ag edrych ar y buddsoddiad ariannol, ac rydw i wedi dweud wrthych fod y cynllun wedi'i gynllunio fel pe bai mwy o gyllid ar gael yn y blynyddoedd i ddod, gallech ei wthio i mewn. Wrth i'r tapr CTS fynd ymlaen, bydd mwy o gyllid yn dod i mewn i'r dewisol a'r cydweithredol hefyd. Pan fydd cyllid gwyrdd neu gymysg ar gael, gallwn wthio hwnnw i mewn i elfennau o'r cynllun.
Ond o ran y ffordd ymlaen, rwy'n credu fy mod wedi dangos yn glir iawn fy ymrwymiad, ac ymrwymiad y Cabinet hwn a'r Llywodraeth hon i'r cynllun, gan ddarparu cwantwm y cyllid rydym ni wedi gallu ei roi ynddo o'r cychwyn cyntaf. Ac yna bydd y Llywodraeth nesaf yn wynebu'r un heriau, a bydd yn rhaid iddi gael y trafodaethau hynny, pa un ai chi fydd yn eistedd o gwmpas y bwrdd neu rywun arall. Bydd yn rhaid i chi gydbwyso hyn yn erbyn blaenoriaethau cystadleuol eraill. Ond mae ein hymrwymiad yn glir iawn. Nid yw'r cynllun hwn yn gweithio i natur, ar gyfer yr argyfwng hinsawdd, i ffermwyr, i hyfywedd busnesau, oni bai fod gennych ddigon o gwantwm o fewn y cynllun. Mae'n ddadl gref. Mae'n debyg mai dyma'r ddadl fwyaf pwerus rydym ni wedi'i chael erioed, oherwydd mae hwn yn gynllun fferm gyfan, nid cynllun cynhyrchu bwyd yn unig.
We are already out of time on this statement, but I know there are many eyes on this statement today. So, I will call the three remaining Members who've indicated that they want to ask questions. The first of those is Carolyn Thomas.
Rydym eisoes dros amser ar gyfer y datganiad hwn, ond rwy'n gwybod bod llawer yn edrych ar y datganiad hwn heddiw. Felly, fe alwaf ar y tri Aelod sy'n weddill sydd wedi nodi eu bod eisiau gofyn cwestiynau. Y cyntaf o'r rheini yw Carolyn Thomas.
Diolch, Llywydd. I really welcome that the scheme has been co-designed with the stakeholders, with farmers and environmentalists together. I also welcome the requirement to have 10 per cent for biodiversity, and I hope that this will help reverse the loss of biodiversity in Wales. It will help work towards it.
Ensuring farmers receive appropriate advice and guidance is really important going forward, those that need it. So, I was wondering: would you be able to outline how farmers will receive that advice to help achieve the aim going forward? Thank you.
Diolch, Llywydd. Rwyf wir yn croesawu bod y cynllun wedi'i gyd-gynllunio gyda'r rhanddeiliaid, gyda ffermwyr ac amgylcheddwyr gyda'i gilydd. Rwyf hefyd yn croesawu'r gofyniad i gael 10 y cant ar gyfer bioamrywiaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn helpu i wrthdroi'r golled o fioamrywiaeth yng Nghymru. Bydd yn helpu i weithio tuag ato.
Mae sicrhau bod ffermwyr yn derbyn cyngor ac arweiniad priodol yn bwysig iawn yn y dyfodol, y rhai sydd ei angen. Felly, roeddwn i'n meddwl: a fyddech chi'n gallu amlinellu sut y bydd ffermwyr yn derbyn y cyngor hwnnw i helpu i gyflawni'r nod yn y dyfodol? Diolch.
Thank you, Carolyn. It's critically important because the approach that we've taken in designing this needs to be replicated out in the field, by actually working with farmers with the right advice in a collaborative space as well. So, not only Farming Connect, but also some of the environmental organisations are very keen to work with farmers, because they're already doing it as well. There are farmers who are desperate to have this engagement as well. So, that's already lined up, ready to go. In fact, we're not waiting until 1 January, we've got it happening now in the stuff that we're already doing, and we're going to take that forward as well.
You're right in terms of the co-design approach. The co-design of this scheme needs to be actually reflected by what we do on the farm level in co-designing the solutions for that farm. It's a whole-farm approach for that individual farm. What works best for biodiversity, for clean rivers, and for fattening up your livestock, delivering the product to market as well, and so on. So, yes, the advice will be there.
Diolch, Carolyn. Mae'n hanfodol bwysig oherwydd mae angen ailadrodd y dull rydym ni wedi'i fabwysiadu wrth ddylunio hwn ar lawr gwlad hefyd, trwy weithio gyda ffermwyr gyda'r cyngor cywir mewn maes cydweithredol hefyd. Felly, nid yn unig Cyswllt Ffermio, ond hefyd mae rhai o'r sefydliadau amgylcheddol yn awyddus iawn i weithio gyda ffermwyr, oherwydd maen nhw eisoes yn gwneud hynny hefyd. Mae yna ffermwyr sy'n ysu i gael yr ymgysylltiad hwn hefyd. Felly, mae hynny eisoes ar y gweill, yn barod i fynd ymlaen. Mewn gwirionedd, nid ydym yn aros tan 1 Ionawr, mae'n digwydd nawr yn y pethau rydym ni eisoes yn eu gwneud, ac rydym ni'n mynd i wthio hynny ymlaen hefyd.
Rydych chi'n iawn o ran y dull cyd-ddylunio. Mae angen adlewyrchu cyd-ddyluniad y cynllun hwn mewn gwirionedd drwy'r hyn a wnawn ar lefel y fferm wrth gyd-ddylunio'r atebion ar gyfer y fferm honno. Mae'n ddull fferm gyfan ar gyfer y fferm unigol honno. Beth sy'n gweithio orau ar gyfer bioamrywiaeth, ar gyfer afonydd glân, ac ar gyfer pesgi eich da byw, cyflwyno'r cynnyrch i'r farchnad hefyd, ac ati. Felly, fe fydd y cyngor yno.
I'd like to register a relatable interest. Thank you. Cabinet Secretary, I speak to farmers every day in the work I do and due to my family, and a lot of them were very unsure whether they were going to enter the sustainable farming scheme. And because of that, that's why they were told there was going to be that gradual move away from the basic payment scheme with the graduated cuts of 20 per cent. Now we have that 40 per cent drop, many people I spoke to today on the phone who weren't sure about going into SFS feel like that's a cliff edge for them now, and feel like they're almost being pushed into something that they weren't quite sure whether they were going to enter anyway.
Some farmers have already planned their year ahead now, and they can't just change their businesses overnight to be ready for January. That's just simply not how farming works. So, I ask you, Cabinet Secretary, if you will look again at the phased move away from BPS. What we don't want to see is farmers making knee-jerk decisions, either they're not going to go into it, or they will. Every decision has to be made on an individual business basis. I'm sure you could understand that, and the industry understands that as well. So, will you please look again at this, because I think this is a key element that needs to be addressed?
Hoffwn gofrestru buddiant perthnasol. Diolch. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siarad â ffermwyr bob dydd yn y gwaith rwy'n ei wneud ac oherwydd fy nheulu, ac roedd llawer ohonynt yn ansicr iawn a oeddent am ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ac oherwydd hynny, dywedwyd wrthynt y byddai yna symud graddol i ffwrdd o'r cynllun taliadau sylfaenol gyda'r toriadau graddedig o 20 y cant. Nawr mae gennym y gostyngiad o 40 y cant, mae llawer o bobl y siaradais â nhw heddiw ar y ffôn sy'n ansicr ynghylch a ydynt am ymuno â'r CFfC, yn teimlo bod hyn fel ymyl clogwyn iddyn nhw nawr, ac yn teimlo fel eu bod bron â chael eu gwthio i mewn i rywbeth nad oeddent yn hollol sicr a oedden nhw am fynd i mewn iddo beth bynnag.
Mae rhai ffermwyr eisoes wedi cynllunio ar gyfer y flwyddyn sy'n dod nawr, ac ni allant newid eu busnesau dros nos i fod yn barod ar gyfer mis Ionawr. Nid dyna sut mae ffermio yn gweithio. Felly, gofynnaf i chi, Ysgrifennydd Cabinet, a fyddwch chi'n edrych eto ar y symudiad graddol i ffwrdd o CTS. Yr hyn nad ydym eisiau ei weld yw ffermwyr yn gwneud penderfyniadau difeddwl, naill ai nad ydyn nhw am ymuno â'r cynllun neu eu bod am ymuno. Rhaid gwneud pob penderfyniad ar sail busnes unigol. Rwy'n siŵr y gallech chi ddeall hynny, ac mae'r diwydiant yn deall hynny hefyd. Felly, a wnewch chi edrych eto ar hyn, oherwydd rwy'n credu bod hon yn elfen allweddol y mae angen mynd i'r afael â hi?
Thank you, James. Like you, I speak to a lot of farmers on a daily basis as well. We realise that the 40 per cent will mean that there is more of a push for farmers to join the scheme early, but I would also say that there are more opportunities for those farmers in joining the scheme early as well, in some of the funding streams that we've put into it. We've always been clear that BPS was going to be phased out; SFS is the future. We don’t want to have farmers who think, ‘Well, I’ll sit back and wait for a few years’, because it was going to taper anyway, and end. So, we’re prioritising encouraging farmers to join SFS and to start benefiting from the scheme.
Just to remind everybody, we’ve committed the equivalent of this year’s BPS budget, £238 million, to the universal payments and legacy BPS to provide the financial stability for farmers. But it’s important to point out as well that, if farmers enter the scheme—. And this is why I would say, ‘Look at it. Do that ready reckoner at the Royal Welsh. Look at it through the summer to see if it works for you’, because we’re talking about January, by the way, so we can think ahead and do this. Because if it works for you, you can also draw down then the optional and collaborative layers, and the payments that come from those as well. So, I’d encourage farmers to look at this and work out what it means for you, and come into the scheme early.
Diolch, James. Fel chi, rwy'n siarad â llawer o ffermwyr bob dydd hefyd. Rydym yn sylweddoli y bydd y 40 y cant yn golygu bod mwy o wthio i ffermwyr ymuno â'r cynllun yn gynnar, ond byddwn hefyd yn dweud bod mwy o gyfleoedd i'r ffermwyr hynny ymuno â'r cynllun yn gynnar hefyd, yn rhai o'r ffrydiau cyllido rydym ni wedi'u rhoi ynddo. Rydym bob amser wedi bod yn glir fod y CTS yn mynd i gael ei ddileu'n raddol; CFfC yw'r dyfodol. Dydyn ni ddim eisiau gweld ffermwyr sy'n meddwl, 'Wel, eisteddaf yn ôl ac aros am ychydig flynyddoedd', oherwydd roedd yn mynd i leihau'n raddol beth bynnag, a dod i ben. Felly, rydym yn rhoi blaenoriaeth i annog ffermwyr i ymuno â'r CFfC ac i ddechrau elwa ar y cynllun.
Dim ond i atgoffa pawb, rydym wedi ymrwymo'r hyn sy'n cyfateb i gyllideb CTS eleni, £238 miliwn, i'r taliadau cyffredinol a'r CTS etifeddol i ddarparu'r sefydlogrwydd ariannol i ffermwyr. Ond mae'n bwysig nodi hefyd, os yw ffermwyr yn ymuno â'r cynllun—. A dyma pam y byddwn i'n dweud, 'Edrychwch arno. Defnyddiwch y canllaw cyflym hwnnw yn y Sioe Frenhinol. Edrychwch arno drwy'r haf i weld a yw'n gweithio i chi', oherwydd rydym ni'n sôn am Ionawr, gyda llaw, fel y gallwn feddwl ymlaen a gwneud hyn. Oherwydd os yw'n gweithio i chi, gallwch hefyd dynnu'r haenau dewisol a chydweithredol, a'r taliadau sy'n dod o'r rheini hefyd. Felly, byddwn yn annog ffermwyr i edrych ar hyn a gweithio allan beth mae'n ei olygu i chi, ac ymuno a'r cynllun yn gynnar.
Yn olaf, Lesley Griffiths.
Finally, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. It's good to see this statement brought forward today. The design of the new scheme to pay Welsh farmers was an opportunity to deliver an approach that would work for the agricultural sector, but also the Welsh taxpayer. But I do have some concerns about delivery. We need our farmers to lead on a just, low-carbon transition. We need them to lead on the reversal of biodiversity loss. And the sector itself needs to be supported to be more resilient in the face of the far-too-regular extreme weather events that we are experiencing.
We do need to be planting more trees, and as others have said, it’s extremely disappointing to see the Welsh Government’s policy for new tree planting of 43,000 hectares slashed to 17,000 hectares. This watered down target will not help Wales, I believe, reach net zero by 2050, and I heard your answer to Lee Waters on this. Also, the removal of the 10 per cent requirement. I appreciate that it was controversial, but it would have done a huge amount, Cabinet Secretary, to help you reach that target. I’ve yet to meet anyone outside of the agricultural sector who does not want to see more trees planted.
So, will the SFS help Wales achieve net zero by 2050? I note that you state that you hope to see the majority of farmers participating in the scheme, and I agree that that’s very, very important. So, what percentage of farmers do you expect to join the scheme from the outset, and what percentage of farmers joining the scheme would you view as a success?
Diolch, Llywydd. Mae'n dda gweld y datganiad hwn yn cael ei gyflwyno heddiw. Roedd dyluniad y cynllun newydd i dalu ffermwyr Cymru yn gyfle i gyflwyno dull a fyddai'n gweithio i'r sector amaethyddol, ond hefyd i'r trethdalwr yng Nghymru. Ond mae gen i rai pryderon ynglŷn â chyflawni. Mae angen i'n ffermwyr arwain ar bontio teg i garbon isel. Mae angen iddynt arwain o ran gwrthdroi colli bioamrywiaeth. Ac mae angen cefnogi'r sector ei hun i fod yn fwy cydnerth yn wyneb y digwyddiadau tywydd eithafol rhy reolaidd yr ydym yn eu profi.
Mae angen i ni blannu mwy o goed, ac fel mae eraill wedi dweud, mae'n hynod siomedig gweld polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed newydd o 43,000 hectar yn cael ei dorri i 17,000 hectar. Ni fydd y targed hwn yn helpu Cymru, rwy'n credu, i gyrraedd sero net erbyn 2050, a chlywais eich ateb i Lee Waters ar hyn. Hefyd, cael gwared ar y gofyniad o 10 y cant. Rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn ddadleuol, ond byddai wedi gwneud llawer iawn, Ysgrifennydd Cabinet, i'ch helpu chi i gyrraedd y targed hwnnw. Nid wyf eto wedi cwrdd ag unrhyw un y tu allan i'r sector amaethyddol nad yw eisiau gweld mwy o goed yn cael eu plannu.
Felly, a fydd yr CFfC yn helpu Cymru i gyflawni sero net erbyn 2050? Rwy'n nodi eich bod chi'n gobeithio gweld y mwyafrif o ffermwyr yn cymryd rhan yn y cynllun, ac rwy'n cytuno bod hynny'n bwysig iawn, iawn. Felly, pa ganran o ffermwyr ydych chi'n disgwyl bydd yn ymuno â'r cynllun o'r cychwyn cyntaf, a pha ganran o ffermwyr yn ymuno â'r cynllun fyddech chi'n ei ystyried yn llwyddiant?
I was great up until you asked the question of 'What percentage of farmers do I see entering the scheme?', because, to come back to the starting question from Sam, a lot of this is modelling, which are scenarios not predictions, so I’m not going to get into the business of predicting, no more than I would in a football match or a rugby match, what the score will be. What I can give you assurance of is that this scheme is absolutely designed to be very accessible to all farmers and different types of things, and as I’ve said in answer to previous questions, we want farmers to join because there’ll be benefits for them, but also because they can then get on with year 1, doing their management plans for trees and hedgerows.
Within the universal layer, it actually has options within—sorry, ‘options within’, I’m mixing my terminology now. In the universal layer itself, you have to maintain, deepen, thicken and widen the hedgerows that you have, so not doing that annual cut, but doing it on a biannual basis instead, and making sure that it gets that little bit fatter and good for wildlife already. But we also have, in the optional layer, that ability to draw down generous funding—generous funding—to plant more hedgerows and to plant more trees. As I explained in response to Lee—and I know both of you are so committed to planting trees, as I am—this is a different way of going about it, and I realise that it doesn’t give the certainty of saying, ‘We demand that farmers plant x amount, or a percentage of trees on their land’, but in that just transition piece, part of the just transition is the winning of hearts and minds and of bringing people with you. And I realise that this means that the farmers’ unions, the CLA, the nature-friendly farmers and all of those will all have to now tell their members, urge their members, say to them, ‘We are committed to this 17,000—ideally to go to 21,500—we’re all committed to achieving it’, as opposed to, ‘The Minister is telling us we have to just get on and plant x number of trees’, and so on.
I think this will deliver more than the original concept of the scheme, but we will monitor this, we will test this, and if it doesn’t work, we will adjust it, Lesley—we will adjust it. But thank you for pushing me on that, because I share the same ambition. The trajectory, I appreciate, as in the revised-in-May CCC advice to us, is a different trajectory. But, to make clear, as I responded to Lee, another former Minister: it then accelerates, so we have to actually hit that trajectory by 2050, which is now more ambitious than it previously was.
Roeddwn i'n dda iawn nes i chi ofyn y cwestiwn 'Pa ganran o ffermwyr ydw i'n disgwyl bydd yn ymuno a'r cynllun?' Oherwydd, i ddod yn ôl at y cwestiwn cychwynnol gan Sam, mae llawer o hyn yn fodelu, yn senarios nid rhagfynegiadau, felly nid wyf yn mynd i ymhél â rhagfynegi, dim mwy nag y byddwn i mewn gêm bêl-droed neu gêm rygbi, beth fydd y sgôr. Yr hyn y gallaf roi sicrwydd i chi yn ei gylch yw bod y cynllun hwn wedi'i gynllunio'n gyfan gwbl i fod yn hygyrch iawn i bob ffermwr a gwahanol fathau o bethau, ac fel y dywedais wrth ateb cwestiynau blaenorol, rydym eisiau i ffermwyr ymuno oherwydd bydd manteision iddyn nhw, ond hefyd oherwydd y gallant wedyn barhau â blwyddyn 1, gwneud eu cynlluniau rheoli ar gyfer coed a gwrychoedd.
O fewn yr haen gyffredinol, mae ganddo opsiynau o fewn—mae'n ddrwg gen i, 'opsiynau o fewn', rwy'n cymysgu fy nherminoleg nawr. Yn yr haen gyffredinol ei hun, mae'n rhaid i chi gynnal, dwysáu, tewhau ac ehangu'r gwrychoedd sydd gennych, felly nid gwneud y torri blynyddol hwnnw, ond ei wneud bob dwy flynedd yn lle hynny, a gwneud yn siŵr ei fod yn mynd ychydig yn dewach ac yn dda i fywyd gwyllt eisoes. Ond mae gennym hefyd, yn yr haen ddewisol, y gallu hwnnw i dynnu cyllid hael i lawr—cyllid hael—i blannu mwy o wrychoedd ac i blannu mwy o goed. Fel yr esboniais mewn ymateb i Lee—ac rwy'n gwybod bod y ddau ohonoch mor ymroddedig i blannu coed, fel yr wyf i—mae hon yn ffordd wahanol o fynd ati, ac rwy'n sylweddoli nad yw'n rhoi'r sicrwydd wrth ddweud, 'Rydym yn mynnu bod ffermwyr yn plannu hyn a hyn, neu ganran o goed ar eu tir', Ond yn y darn pontio teg hwnnw, rhan o'r pontio teg yw ennill cefnogaeth a dod â phobl gyda chi. Ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r undebau ffermwyr, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, y rhai sy'n ffermio er lles natur a phob un ohonynt i gyd i ddweud nawr wrth eu haelodau, annog eu haelodau, dweud wrthynt, 'Rydym wedi ymrwymo i'r 17,000 hwn—yn ddelfrydol mynd i 21,500—rydym ni i gyd wedi ymrwymo i'w gyflawni', yn hytrach na, 'Mae'r Gweinidog yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni fynd ymlaen a phlannu nifer penodol o goed', ac ati.
Rwy'n credu y bydd hyn yn cyflawni mwy na chysyniad gwreiddiol y cynllun, ond byddwn yn monitro hyn, byddwn yn profi hyn, ac os nad yw'n gweithio, byddwn yn ei addasu, Lesley—byddwn yn ei addasu. Ond diolch am fy ngwthio ar hynny, oherwydd rwy'n rhannu'r un uchelgais. Mae'r trywydd, rwy'n gwerthfawrogi, fel yng nghyngor y PNH diwygiedig ym mis Mai, yn drywydd gwahanol. Ond, i wneud yn glir, fel yr ymatebais i Lee, cyn-Weinidog arall: mae'n cyflymu, felly mae'n rhaid i ni gyflawni'r trywydd hwnnw erbyn 2050, sydd bellach yn fwy uchelgeisiol nag yr oedd o'r blaen.
Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog. Samuel Kurtz.
I thank the Deputy First Minister. Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. It was remiss of me not to register my interest, as there are animal welfare matters within the SFS, as an honorary member of the British Veterinary Association.
Diolch, Llywydd. Roedd bai arnaf i am beidio â chofrestru fy niddordeb, gan fod yna faterion lles anifeiliaid yn y cynllun ffermio cynaliadwy, fel aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygol Prydain.
I think we probably have several honorary members of the BVA in the Chamber at this point, me included, and the Minister, so we'll make a mass declaration. Thank you for that.
Rwy'n credu bod gennym ni sawl aelod anrhydeddus o'r BVA yn y Siambr ar y pwynt hwn fwy na thebyg, gan gynnwys fi, a'r Gweinidog, felly fe wnawn ni ddatganiad torfol. Diolch i chi am hynny.
Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau mamolaeth a threfniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd yn y gwasanaeth iechyd. Yr Ysgrifennydd Cabinet, Jeremy Miles, i wneud y datganiad
Item 5 is the statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care on maternity services and escalation and intervention arrangements in the NHS. I call on the Cabinet Secretary, Jeremy Miles, to make the statement.

Diolch, Lywydd. Ddoe, fe wnaeth teuluoedd gyhoeddi eu hadolygiad eu hunain o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda dros 50 o deuluoedd yn cyfrannu at yr adroddiad. Y bore yma, mewn cyfarfod arbennig, cafodd yr adolygiad annibynnol o'r gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ei gyhoeddi a'i gyflwyno i'r bwrdd iechyd. Mae'r bwrdd wedi cynnig ymddiheuriad twymgalon a diffuant i'r holl unigolion a theuluoedd hynny am fethu â darparu gwasanaethau o'r safon y dylen nhw ei disgwyl, ac am beidio â gwrando arnyn nhw.
Thank you, Llywydd. Yesterday, the Swansea Bay maternity families published their own family-led review of maternity services in Swansea Bay health board, with over 50 families contributing to the report. This morning, in a special meeting, the independent review of maternity and neonatal services in Swansea Bay University Health Board was published and received by the health board. The board have offered a heartfelt and unreserved apology to all those individuals and families for whom their services have fallen considerably below the expected standard and to whom they did not listen.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer took the Chair.
On behalf of the Welsh Government, I also want to repeat the apology I made recently to all those who haven't had the service or care they deserved and expected. The experiences highlighted in both reports are reflected in the recent Llais report, and those that I heard myself when I met families last month, and they must never happen again.
I've had a chance to review and reflect on the findings and conclusions of both reports. Both reports are, understandably, very distressing to read. I am assured that the independent review has been conducted independently and, viewed alongside the family review, that it sets out all of the concerns fully, in an open and transparent way.
I know that there will be many people, especially families who have accessed or are currently having care provided by maternity and neonatal services in Swansea Bay, who will find the contents of the report distressing. I would encourage anyone worried about their birthing plans to contact the health board to discuss their concerns.
Following receipt of the family-led review, the publication of the independent report and a special board meeting this morning, Swansea Bay University Health Board have committed to continuing this conversation to ensure that any women and families who missed the review, or felt unable to participate, can still contribute their experience. They will be able to do this through the health board website, and the review triage midwife will remain in her support role over the next few months. The psychological support will also remain in place for the foreseeable future.
Dirprwy Lywydd, both reports are very detailed and thorough, and highlight a significant number of issues that the health board need to address urgently to not only improve the safety of their maternity and neonatal services, but to improve quality and governance processes. I have met the chair of the oversight panel and the chair of Swansea Bay University Health Board to discuss the safety and quality of care in maternity and neonatal services.
This morning, I published two written statements, one about my detailed response to the recommendations in the reports that relate to the Welsh Government and one about the escalation decisions I am making today in relation to Swansea Bay University Health Board and other boards to support Members’ scrutiny of these very important matters.
Dirprwy Lywydd, the report indicates that while many women reported a largely positive experience of pregnancy and birth, some women had, and continue to have, a poor experience; some described examples of severe birth trauma. As a result of the issues raised today, and the ongoing concerns from women and families about patient experience, staff attitudes and care provided, I am today increasing the escalation level of Swansea Bay’s maternity and neonatal services to level 4. I am also appointing an independent member to sit on the oversight panel, who will provide assurance to the Welsh Government and liaise with families on progress in implementation of all the health board recommendations.
Ar ran Llywodraeth Cymru, rwyf hefyd eisiau ailadrodd yr ymddiheuriad a wnes yn ddiweddar i bawb nad ydynt wedi cael y gwasanaeth na'r gofal yr oedden nhw'n ei haeddu a'i ddisgwyl. Mae'r profiadau a amlygwyd yn y ddau adroddiad yn cael eu hadlewyrchu yn adroddiad diweddar Llais, a'r rhai a glywais fy hun pan wnes i gwrdd â theuluoedd fis diwethaf, ac ni ddylent byth ddigwydd eto.
Rwyf wedi cael cyfle i adolygu a myfyrio ar ganfyddiadau a chasgliadau'r ddau adroddiad. Mae'r ddau adroddiad, yn ddealladwy, yn ofidus iawn i'w darllen. Rwyf wedi fy sicrhau bod yr adolygiad annibynnol wedi cael ei gynnal yn annibynnol ac, o'i ystyried ochr yn ochr ag adolygiad y teuluoedd, ei fod yn nodi'r holl bryderon yn llawn, mewn ffordd agored a thryloyw.
Rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl, yn enwedig teuluoedd sydd wedi cael mynediad at wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe neu sy'n cael derbyn gofal ar hyn o bryd gan wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe, a fydd yn teimlo'n ofidus iawn ynghylch cynnwys yr adroddiad. Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n poeni am ei gynlluniau geni i gysylltu â'r bwrdd iechyd i drafod ei bryderon.
Ar ôl derbyn yr adolygiad dan arweiniad teuluoedd, cyhoeddi'r adroddiad annibynnol a chyfarfod arbennig o'r bwrdd y bore yma, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymrwymo i barhau â'r sgwrs hon i sicrhau bod unrhyw fenywod a theuluoedd a gollodd yr adolygiad, neu a oedd yn teimlo nad oedden nhw'n gallu cymryd rhan, yn gallu cyfrannu eu profiad o hyd. Byddan nhw'n gallu gwneud hyn trwy wefan y bwrdd iechyd, a bydd bydwraig brysbennu'r adolygiad yn aros yn ei rôl gefnogol dros y misoedd nesaf. Bydd y gefnogaeth seicolegol yn dal i fod ar gael hefyd hyd y gellir rhagweld.
Dirprwy Lywydd, mae'r ddau adroddiad yn fanwl ac yn drylwyr iawn, ac maen nhw'n tynnu sylw at nifer sylweddol o faterion y mae angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â nhw ar frys, nid yn unig i wella diogelwch ei wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ond i wella ansawdd a phrosesau llywodraethiant. Rwyf wedi cwrdd â chadeirydd y panel goruchwylio a chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i drafod diogelwch ac ansawdd gofal mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
Y bore yma, fe gyhoeddais i ddau ddatganiad ysgrifenedig, un am fy ymateb manwl i'r argymhellion yn yr adroddiadau sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru ac un am y penderfyniadau uwchgyfeirio rwyf yn eu gwneud heddiw mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a byrddau eraill i helpu Aelodau i graffu ar y materion pwysig iawn hyn.
Dirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yn nodi, er bod llawer o fenywod wedi adrodd profiad cadarnhaol o feichiogrwydd a genedigaeth i raddau helaeth, roedd rhai menywod wedi cael profiad gwael, ac maen nhw'n parhau i gael profiad gwael; disgrifiodd rhai ohonyn nhw enghreifftiau o drawma difrifol wrth roi genedigaeth. O ganlyniad i'r materion a godwyd heddiw, a'r pryderon parhaus gan fenywod a theuluoedd am brofiad cleifion, agweddau staff a'r gofal a ddarperir, rwyf heddiw yn cynyddu lefel uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bae Abertawe i lefel 4. Rwyf hefyd yn penodi aelod annibynnol i eistedd ar y panel goruchwylio, a fydd yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru ac yn cysylltu â theuluoedd ynghylch cynnydd wrth weithredu'r holl argymhellion a wnaed i'r bwrdd iechyd.
The health board has today indicated it will be accepting and adopting the 10 priority recommendations in the independent review that are specifically targeted towards it, and improving maternity and neonatal services in Swansea Bay. It will also seek to work collaboratively with patients and staff to outline the immediate and subsequent actions through a comprehensive improvement plan. I welcome this approach.
There are a further 11 recommendations, which are addressed to the Welsh Government, and I am accepting all of those as well. In some areas, work is already under way; in others, work will start immediately. The recommendations relate to a wide range of issues, from changing 'Putting Things Right', to neonatal critical care capacity, paediatric and perinatal post-mortem examinations, and to paediatric radiology. The written statement I issued earlier today provides more detail about our response to each of the recommendations and the work required to respond to them.
The family-led review itself sets out a series of recommendations for the Welsh Government, Healthcare Inspectorate Wales, Health Education and Improvement Wales and Audit Wales. I will discuss these with the appropriate bodies before responding in full to the Swansea Bay maternity support group. The health board has, rightly, welcomed the family-led review and says it will take the findings into account in the health board’s improvement plan.
Our focus must now be on improving maternity and neonatal care, and I don’t believe that undertaking a further separate review in relation to Swansea Bay will help with that, given the contents of the recent reports. Members will also recall that I have already commissioned an assurance assessment of all maternity and neonatal services in Wales. This will start work this month and it will be independently chaired. It will take account of the recent reviews into maternity units and care across the UK, including in Swansea Bay.
Dirprwy Lywydd, as I mentioned, the written statement that I issued earlier today sets out my decision in relation to the escalation of Swansea Bay University Health Board. It also sets out the revised escalation levels of other NHS organisations. This includes my decision to escalate Cardiff and Vale University Health Board to level 4. Over the last 18 months, the health board has reported an increasing financial deficit and has breached its duty to agree a three-year balanced plan. It has the second largest number of people waiting more than two years for treatment, and there have been a series of worrying cultural and leadership challenges that are indicative of an organisation that needs additional support. As part of the level 4 intervention, we will work with the senior leadership team to assess capability and capacity in the organisation to deliver and implement the required improvements and support them to appoint a team with the appropriate skills and expertise.
Dirprwy Lywydd, I also want to also recognise where progress is being made. Cwm Taf Morgannwg University Health Board has met and achieved all the requirements to be de-escalated from level 3 for finance, strategy and planning to level 1, which are routine arrangements. Aneurin Bevan University Health Board has been de-escalated from level 4 to level 3 for finance, strategy and planning. And Hywel Dda University Health Board has been de-escalated from level 4 to level 3 for cancer services, and from level 3 to level 1, which are routine arrangements, for children and young people’s mental health services.
Betsi Cadwaladr University Health Board will remain at the highest level of escalation, at level 5, otherwise known as special measures, although there have been some signs of progress, including in relation to the financial position, to governance and quality improvements. And there are no changes to the escalation level at Powys Teaching Health Board or at the NHS trusts and special health authorities. Dirprwy Lywydd, I am also making some changes to the oversight and escalation framework in pursuance of a commitment I made earlier this year, and these are explained in the written statement that I published earlier this morning.
Finally, if I may, I want to put on record once again my thanks to all the NHS staff who work so hard to make improvements to people's care, often under very pressured circumstances. Thank you for everything that you are doing day in, day out, to support the delivery of care in our NHS.
Mae'r bwrdd iechyd wedi nodi heddiw y bydd yn derbyn ac yn mabwysiadu'r 10 argymhelliad blaenoriaeth yn yr adolygiad annibynnol sydd wedi'u targedu'n benodol tuag ato, ac yn gwella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe. Bydd hefyd yn ceisio cydweithio â chleifion a staff i amlinellu'r camau gweithredu uniongyrchol a dilynol drwy gynllun gwella cynhwysfawr. Rwy'n croesawu'r dull gweithredu hwn.
Mae 11 o argymhellion eraill, sydd wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru, ac rwy'n derbyn pob un ohonyn nhw hefyd. Mewn rhai meysydd, mae gwaith eisoes ar y gweill; mewn eraill, bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith. Mae'r argymhellion yn ymwneud ag ystod eang o faterion, o newid 'Gweithio i Wella', i gapasiti gofal critigol newyddenedigol, archwiliadau post-mortem pediatrig ac amenedigol, a radioleg bediatrig. Mae'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach heddiw yn rhoi mwy o fanylion am ein hymateb i bob un o'r argymhellion a'r gwaith sydd ei angen i ymateb iddyn nhw.
Mae'r adolygiad dan arweiniad teuluoedd yn nodi cyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru. Byddaf yn trafod y rhain gyda'r cyrff priodol cyn ymateb yn llawn i grŵp cymorth mamolaeth Bae Abertawe. Mae'r bwrdd iechyd, yn gywir ddigon, wedi croesawu'r adolygiad dan arweiniad teuluoedd ac mae'n dweud y bydd yn ystyried y canfyddiadau yng nghynllun gwella'r bwrdd iechyd.
Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio nawr ar wella gofal mamolaeth a newyddenedigol, a dydw i ddim yn credu y bydd cynnal adolygiad arall ar wahân mewn perthynas â Bae Abertawe yn helpu gyda hynny, o ystyried cynnwys yr adroddiadau diweddar. Bydd yr Aelodau hefyd yn cofio fy mod i eisoes wedi comisiynu asesiad sicrwydd o'r holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn dechrau y mis hwn a bydd yn cael ei gadeirio'n annibynnol. Bydd yn ystyried yr adolygiadau diweddar o unedau a gofal mamolaeth ledled y DU, gan gynnwys ym Mae Abertawe.
Dirprwy Lywydd, fel y soniais i, mae'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach heddiw yn nodi fy mhenderfyniad o ran uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae hefyd yn nodi lefelau uwchgyfeirio diwygiedig sefydliadau eraill y GIG. Mae hyn yn cynnwys fy mhenderfyniad i uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i lefel 4. Dros y 18 mis diwethaf, mae'r bwrdd iechyd wedi adrodd diffyg ariannol cynyddol ac mae wedi torri ei ddyletswydd i gytuno ar gynllun cytbwys tair blynedd. Mae ganddo'r ail nifer fwyaf o bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, ac mae cyfres o heriau diwylliannol ac arweinyddiaeth pryderus wedi bod sy'n arwydd o sefydliad sydd angen cymorth ychwanegol. Fel rhan o'r ymyrraeth lefel 4, byddwn ni'n gweithio gyda'r uwch dîm arweinyddiaeth i asesu gallu a chapasiti yn y sefydliad i gyflawni a gweithredu'r gwelliannau angenrheidiol a'u cefnogi i benodi tîm gyda'r sgiliau a'r arbenigedd priodol.
Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd eisiau cydnabod lle mae cynnydd yn cael ei wneud. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bodloni a chyflawni'r holl ofynion i gael ei isgyfeirio o lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio i lefel 1, sy'n drefniadau arferol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi'i isgyfeirio o lefel 4 i lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio. Ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi'i isgyfeirio o lefel 4 i lefel 3 ar gyfer gwasanaethau canser, ac o lefel 3 i lefel 1, sy'n drefniadau arferol, ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar y lefel uwchgyfeirio uchaf, ar lefel 5, a elwir hefyd yn fesurau arbennig, er bod rhai arwyddion o gynnydd, gan gynnwys mewn perthynas â'r sefyllfa ariannol, llywodraethiant a gwelliannau o ran ansawdd. A does dim newidiadau i'r lefel uwchgyfeirio ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys nac yn ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig. Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd yn gwneud rhai newidiadau i'r fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio yn unol ag ymrwymiad a wnes i'n gynharach eleni, a chaiff y rhain eu hesbonio yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach y bore yma.
Yn olaf, os gallaf, rwyf am roi ar gofnod fy niolch unwaith eto i holl staff y GIG sy'n gweithio mor galed i wneud gwelliannau i ofal pobl, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn. Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud o ddydd i ddydd, i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal yn ein GIG.
Can I thank you, Cabinet Secretary, for the number of statements that you've released today and the statement that you've given in the Chamber just now? I'd also say it's very pleasing that the Government have accepted the 11 recommendations that were made to the Government, and I'm sure everybody in this Chamber would welcome that as well.
Cabinet Secretary, I do want to begin by recognising the strength and bravery of the families who contributed to both the independent and family-led reviews into maternity and neonatal care in Swansea Bay. The reports published are deeply distressing. They detail serious clinical failings, poor communication, a breakdown in trust and, more tragically, avoidable harm. They expose a culture in which far too many women were dismissed, traumatised or left grieving. And it is disappointing that it took a family-led review, driven by those 50 families, to force the level of transparency that we're now seeing. That should never, ever have to happen again. I welcome your apology and the health board's, but we must be clear that warm words are not enough, and apologies must be matched by urgent, visible and sustainable action. I know you highlighted some of that in your statement today, and it's pleasing to hear some of the work that is going on.
Your decision to escalate Swansea Bay maternity and neonatal services to level 4 is a necessary step, but it also raises serious questions about the escalation and intervention arrangements in NHS Wales and more broadly. Under the current framework, we do have the five levels of oversight, from level 1 routine arrangements to level 5 special measures, as you said. But for many families, these sort of intervention levels mean very little unless they deliver better care and greater accountability in the system.
Cabinet Secretary, I have several questions for you today. First on accountability and oversight, you announced the appointment of an independent member to the oversight panel, and I'm just interested: will the families who participated in the review have a voice in that appointment? How will you ensure that the panel operates with genuine independence from the health board to make sure that the health board are held accountable? What is the timetable for the first independent audit of maternity services under level 4 escalation? And will you commit to publishing monthly progress updates, both from the health board and on the intervention levels from the Welsh Government?
Secondly, on the support for families, we have heard the deeply traumatic stories from women who experienced physical and psychological harm. I'm just interested: will you now establish a clear, well-resourced redress process for the affected families, including access to legal and psychological support? I know that was mentioned in the statement, but we need to make sure that it is also well-resourced and continues going forward. And can you also provide firm assurances that whistleblowers within the health board, whether that be patients or NHS staff, will be fully protected from anybody who seems to want to retaliate against them actually raising concerns?
On learning, Swansea Bay is not alone. We have seen failures across different health boards—Cwm Taf, Betsi and now Cardiff and Vale. The current state of health boards does raise serious concerns. Cardiff is now at level 4, Betsi Cadwaladr remains at level 5, and Swansea Bay has only deepened. While, as you said, some health boards have made progress, variation in care and quality of leadership does persist across the piece. So how confident are you that the escalation framework is working as it should be? Do we identify problems early enough, and are we intervening effectively across the Welsh NHS before harm actually occurs?
I just want to move briefly on, finally now, to Cardiff and Vale University Health Board, which was put into level 4 intervention, which did come as a surprise to me today. On reading the health board's report for last year, which was only published a few weeks ago, it said that
‘This year, we have made significant progress in supporting the delivery of the People and Culture Plan’.
Yet we do know there's been a series of worrying cultures and leadership challenges within that organisation. It's been raised in committee and it's been raised on the floor of the Senedd a number of times. The escalation and intervention report gives more detail, saying there are
‘worrying cultural and leadership challenges, mainly relating to the operating theatres and a high level of never events have been reported this year.’
So, finally, Cabinet Secretary, can you outline exactly what those never events are? Because those never events are actually causing unnecessary harm to people, and sometimes death, and we need to make sure that that is rooted out of the system, and that Cardiff and Vale, which is one of our biggest health boards, serving one of our biggest populations, is delivering for the patients of this area. So, thank you very much, Deputy Presiding Officer. I'd like to thank you, yet again, Cabinet Secretary, for your statement this afternoon.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y nifer o ddatganiadau rydych chi wedi'u rhyddhau heddiw a'r datganiad rydych chi wedi'i roi yn y Siambr nawr? Byddwn i hefyd yn dweud ei bod yn braf iawn bod y Llywodraeth wedi derbyn yr 11 o argymhellion a wnaed i'r Llywodraeth, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon yn croesawu hynny hefyd.
Ysgrifennydd Cabinet, rwyf am ddechrau drwy gydnabod cryfder a dewrder y teuluoedd a gyfrannodd at yr adolygiad annibynnol a'r adolygiad dan arweiniad teuluoedd o ofal mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe. Mae'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ofidus iawn. Maen nhw'n manylu ar fethiannau clinigol difrifol, cyfathrebu gwael, diffyg ymddiriedaeth ac, yn fwy trasig, niwed y gellir ei osgoi. Maen nhw'n datgelu diwylliant lle cafodd llawer gormod o fenywod eu diystyru, eu trawmateiddio neu eu gadael yn galaru. Ac mae'n siomedig ei fod wedi cymryd adolygiad dan arweiniad teuluoedd, wedi'i lywio gan y 50 teulu hynny, i orfodi'r lefel o dryloywder rydym yn ei weld nawr. Ni ddylai hynny byth, byth orfod digwydd eto. Rwy'n croesawu eich ymddiheuriad chi ac ymddiheuriad y bwrdd iechyd, ond mae'n rhaid i ni fod yn glir nad yw geiriau cynnes yn ddigon, ac mae'n rhaid cael camau gweithredu brys, gweladwy a chynaliadwy i fynd gyda'r ymddiheuriadau. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi tynnu sylw at rywfaint o hynny yn eich datganiad heddiw, ac mae'n braf clywed am rywfaint o'r gwaith sy'n digwydd.
Mae eich penderfyniad i uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bae Abertawe i lefel 4 yn gam angenrheidiol, ond mae hefyd yn codi cwestiynau difrifol am y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd yn GIG Cymru ac yn ehangach. O dan y fframwaith presennol, mae gennym ni'r pum lefel o oruchwylio, o drefniadau arferol lefel 1 i fesurau arbennig lefel 5, fel y dywedoch. Ond i lawer o deuluoedd, dydy'r math yma o lefelau ymyrraeth yn golygu fawr ddim oni bai eu bod yn darparu gwell gofal a mwy o atebolrwydd yn y system.
Ysgrifennydd Cabinet, mae gen i sawl cwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf ar atebolrwydd a goruchwyliaeth, fe wnaethoch chi gyhoeddi penodiad aelod annibynnol i'r panel goruchwylio, ac mae gen i ddiddordeb: a fydd gan y teuluoedd a gymerodd ran yn yr adolygiad lais yn y penodiad hwnnw? Sut fyddwch chi'n sicrhau bod y panel yn gweithredu'n wirioneddol annibynnol oddi wrth y bwrdd iechyd i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cael ei ddwyn i gyfrif? Beth yw'r amserlen ar gyfer yr archwiliad annibynnol cyntaf o wasanaethau mamolaeth o dan lefel uwchgyfeirio 4? Ac a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi diweddariadau cynnydd misol, gan y bwrdd iechyd ac ar y lefelau ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru?
Yn ail, o ran y cymorth i deuluoedd, rydym wedi clywed y straeon trawmatig iawn gan fenywod a brofodd niwed corfforol a seicolegol. Mae gen i ddiddordeb: a wnewch chi nawr sefydlu proses unioni glir wedi'i hariannu'n dda ar gyfer y teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw, gan gynnwys mynediad at gymorth cyfreithiol a seicolegol? Rwy'n gwybod bod hynny wedi'i grybwyll yn y datganiad, ond mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ariannu'n dda hefyd a'i fod yn parhau yn y dyfodol. Allwch chi hefyd ddarparu sicrwydd cadarn y bydd chwythwyr chwiban yn y bwrdd iechyd, boed nhw'n gleifion neu'n staff y GIG, yn cael eu diogelu'n llawn rhag unrhyw un sy'n ymddangos ei fod eisiau dial yn eu herbyn am godi pryderon?
O ran dysgu, dydy Bae Abertawe ddim ar ei ben ei hun. Rydym wedi gweld methiannau ar draws gwahanol fyrddau iechyd—Cwm Taf, Betsi a nawr Caerdydd a'r Fro. Mae cyflwr presennol byrddau iechyd yn codi pryderon difrifol. Mae Caerdydd bellach ar lefel 4, mae Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar lefel 5, ac mae Bae Abertawe ond wedi dyfnhau. Er, fel y dywedoch, mae rhai byrddau iechyd wedi gwneud cynnydd, mae amrywiad mewn gofal ac ansawdd arweinyddiaeth yn dal i fodoli yn gyffredinol. Felly pa mor hyderus ydych chi bod y fframwaith uwchgyfeirio yn gweithio fel y dylai fod? Ydyn ni'n nodi problemau yn ddigon cynnar, ac a ydyn ni'n ymyrryd yn effeithiol ar draws GIG Cymru cyn i niwed ddigwydd mewn gwirionedd?
Rwyf am symud ymlaen yn fyr, yn olaf nawr, i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a gafodd ei roi mewn ymyrraeth lefel 4, a wnaeth fy synnu i heddiw. Wrth ddarllen adroddiad y bwrdd iechyd ar gyfer y llynedd, a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl yn unig, dywedodd
'Eleni, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Pobl a Diwylliant'.
Eto rydym yn gwybod bod cyfres o heriau diwylliannol ac arweinyddiaeth pryderus wedi bod yn y sefydliad hwnnw. Mae wedi cael ei godi yn y pwyllgor ac mae wedi cael ei godi ar lawr y Senedd sawl gwaith. Mae'r adroddiad uwchgyfeirio ac ymyrryd yn rhoi mwy o fanylion, gan ddweud:
'mae heriau o ran diwylliant ac arweinyddiaeth, sy’n ymwneud yn bennaf â'r theatrau llawdriniaethau, yn achos pryder. Yn ogystal, mae lefel uchel o ddigwyddiadau "byth" wedi'u cofnodi eleni.'
Felly, yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi amlinellu'n union beth yw'r digwyddiadau byth hynny? Oherwydd mae'r digwyddiadau byth hynny mewn gwirionedd yn achosi niwed diangen i bobl, ac weithiau marwolaeth, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei ddileu o'r system, a bod Caerdydd a'r Fro, sef un o'n byrddau iechyd mwyaf, sy'n gwasanaethu un o'n poblogaethau mwyaf, yn darparu ar gyfer cleifion yr ardal hon. Felly, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi, unwaith eto, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma.
The Member made a range of points and questions. He is right to say that it's important to listen to the voices of women and families who have had experiences that have, in very many ways, fallen well short of what they were entitled to expect. I had the opportunity of meeting I think about 20 families through the auspices of the Swansea bay maternity support group a few weeks ago, and they shared their experiences with me in a very candid and painful way. I found the experience profoundly distressing, but it will have been as nothing compared to the experiences they've had and the bravery that they needed to be able to share those experiences again.
I don't think it's especially helpful to talk about the health board being forced into this action. I don't believe that is a fair characterisation. My engagement with the chair and the chief executive—and I know this reflects the experience of the oversight of the independent review as well—has been that they have embraced the findings in all their painful detail, and have made a clear commitment to act on them. I will hold them to those commitments and I'm confident that they will take those seriously. This is obviously a delicate area where we are looking to make genuine progress, whilst recognising that we need to build and nurture trusting relationships, including, importantly, with those families in order for that to succeed. And I'm keen to try and strike that balance in the discussion today.
The Member makes a series of points in relation to escalation. He asks me whether I think the escalation arrangements are appropriate. Well, I'm making some amendments to those escalation arrangements in the announcement I've made today to reflect that I think they need to be refined. So, some of the categories, for example, are being merged because it's slightly artificial to distinguish between them. I'm introducing a new category in relation to population health and prevention, reflecting our priorities as a Government, which Members across the Chamber also share, to make sure that that is front and centre in how we assess the performance of health boards in the future. And I'm making some provisions in relation to a clearer set of arrangements around de-escalation, so that where there are requirements that are capable of being quantified—so not ones that are qualitative judgments that are inevitably more complex, but where, for example, a health board in escalation around cancer services has met its target for a fixed number of months—then there would be an automatic de-escalation in relation to that service. So, it's to provide clarity and transparency in relation to those.
I think it is important, as he says, to make sure—. And we don't rely on the escalation arrangements to be able to improve the service. What we want to make sure is that improvement becomes an ongoing part of the culture of the NHS at all its levels. So, you will know, from our response to the ministerial advisory group recommendations on how we can evolve the NHS executive, that in its new guise as NHS Wales Performance and Improvement, it's there to do exactly that—to work proactively on improving services with health boards and health organisations generally.
He made an important point about the role of staff and the ability of staff to feel that they can speak openly in relation to their experience in the workplace, and that where service failings are perceived they feel supported in being able to raise those questions. There has been some evidence that that has not been the case in relation to Swansea bay, as the Member will be aware, and I'm very alive to the fact that the health board is doing a lot of work in this space. When I discussed this very point with the chair of the independent review yesterday, she was saying to me it's an indicator of the general commitment to improvement and evidence of improvement to see staff feeling more able to speak openly about that, and obviously we want to see more of that. I've committed today to implementing the recommendations around earlier psychological support and developing ways of working that are less defensive, which I think is helpful for families when they face these difficult circumstances.
He asked me finally about the never events in relation to Cardiff and the Vale. I don't have the record in front of me here, but they are matters in the public domain because they will have been reported to their board meetings.
Gwnaeth yr Aelod ystod o bwyntiau a chwestiynau. Mae'n iawn i ddweud ei bod yn bwysig gwrando ar leisiau menywod a theuluoedd sydd wedi cael profiadau nad ydyn nhw, mewn llawer o ffyrdd, wedi bod yn agos at yr hyn yr oedd ganddyn nhw'r hawl i'w ddisgwyl. Fe ges i gyfle i gwrdd ag 20 o deuluoedd, rwy'n credu, trwy nawdd grŵp cymorth mamolaeth bae Abertawe ychydig wythnosau yn ôl, ac fe wnaethon nhw rannu eu profiadau gyda mi mewn ffordd onest a phoenus iawn. Roedd y profiad yn un torcalonnus, ond ni ellir ei gymharu â'r profiadau maen nhw wedi'u cael a'r dewrder yr oedden nhw ei angen i allu rhannu'r profiadau hynny eto.
Dydw i ddim yn credu ei bod yn arbennig o ddefnyddiol siarad am y bwrdd iechyd yn cael ei orfodi i weithredu yn y ffordd hon. Dydw i ddim yn credu bod hynny'n gymeriadaeth deg. O ran fy ymgysylltiad â'r cadeirydd a'r prif weithredwr—ac rwy'n gwybod bod hyn yn adlewyrchu profiad y rhai a fu'n goruchwylio'r adolygiad annibynnol hefyd—maen nhw wedi croesawu'r canfyddiadau yn eu holl fanylion poenus, ac wedi gwneud ymrwymiad clir i weithredu arnyn nhw. Byddaf yn eu cadw at yr ymrwymiadau hynny ac rwy'n hyderus y byddan nhw'n cymryd y rheini o ddifrif. Mae hwn yn amlwg yn faes sensitif lle rydym yn ceisio gwneud cynnydd gwirioneddol, tra'n cydnabod bod angen i ni adeiladu a meithrin perthnasoedd ymddiriedus, gan gynnwys, yn bwysig, gyda'r teuluoedd hynny er mwyn i hynny lwyddo. Ac rwy'n awyddus i geisio taro'r cydbwysedd hwnnw yn y drafodaeth heddiw.
Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau mewn perthynas ag uwchgyfeirio. Mae'n gofyn i mi a ydw i'n meddwl bod y trefniadau uwchgyfeirio yn briodol. Wel, rwy'n gwneud rhai diwygiadau i'r trefniadau uwchgyfeirio hynny yn y cyhoeddiad rwyf wedi'i wneud heddiw i adlewyrchu'r ffaith fy mod i'n credu bod angen iddyn nhw gael eu mireinio. Felly, mae rhai o'r categorïau, er enghraifft, yn cael eu cyfuno oherwydd ei fod ychydig yn artiffisial i wahaniaethu rhyngddyn nhw. Rwy'n cyflwyno categori newydd o ran iechyd y boblogaeth ac atal, sy'n adlewyrchu ein blaenoriaethau fel Llywodraeth, y mae Aelodau ar draws y Siambr hefyd yn eu rhannu, er mwyn sicrhau bod hynny'n flaenllaw yn y ffordd rydym yn asesu perfformiad byrddau iechyd yn y dyfodol. Ac rwy'n gwneud rhai darpariaethau mewn perthynas â set gliriach o drefniadau ar gyfer uwchgyfeirio er mwyn sicrhau, lle mae gofynion y gellir eu meintioli—nid rhai sy'n ddyfarniadau ansoddol sydd, yn anochel, yn fwy cymhleth, ond lle, er enghraifft, mae bwrdd iechyd a uwchgyfeiriwyd o ran gwasanaethau canser wedi cyrraedd ei darged am nifer penodol o fisoedd—y byddai isgyfeirio awtomatig mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw. Felly, y nod yw darparu eglurder a thryloywder mewn perthynas â'r rheini.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y dywed, i wneud yn siŵr—. A dydyn ni ddim yn dibynnu ar y trefniadau uwchgyfeirio i allu gwella'r gwasanaeth. Yr hyn rydym eisiau sicrhau yw bod gwelliant yn dod yn rhan barhaus o ddiwylliant y GIG ar ei holl lefelau. Felly, byddwch chi'n gwybod, o'n hymateb i argymhellion y grŵp cynghori gweinidogol ar sut allwn ni ddatblygu gweithrediaeth y GIG, ei bod, yn ei gwedd newydd fel Perfformiad a Gwella GIG Cymru, yno i wneud yn union hynny—i fynd ati'n rhagweithiol i wella gwasanaethau gyda byrddau iechyd a sefydliadau iechyd yn gyffredinol.
Fe wnaeth bwynt pwysig am rôl staff a gallu staff i deimlo eu bod yn gallu siarad yn agored am eu profiad yn y gweithle, a lle maen nhw'n teimlo bod methiannau yn y gwasanaeth, eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i allu codi'r cwestiynau hynny. Cafwyd rhywfaint o dystiolaeth nad yw hynny wedi bod yn wir am fae Abertawe, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod y bwrdd iechyd yn gwneud llawer o waith yn y maes hwn. Pan drafodais i'r union bwynt hwn gyda chadeirydd yr adolygiad annibynnol ddoe, roedd hi'n dweud wrthyf ei fod yn dangos yr ymrwymiad i wella a thystiolaeth o welliant i weld staff yn teimlo'n fwy abl i siarad yn agored am hynny, ac yn amlwg rydym am weld mwy o hynny. Rwyf wedi ymrwymo heddiw i weithredu'r argymhellion ynghylch cymorth seicolegol cynharach a datblygu ffyrdd o weithio sy'n llai amddiffynnol, sy'n ddefnyddiol i deuluoedd, yn fy marn i, pan fyddan nhw'n wynebu'r amgylchiadau anodd hyn.
Gofynnodd i mi yn olaf am y digwyddiadau byth mewn perthynas â Chaerdydd a'r Fro. Does gen i ddim y cofnod o'm blaen yma, ond maen nhw'n faterion yn y parth cyhoeddus oherwydd byddan nhw wedi cael eu hadrodd i'w cyfarfodydd bwrdd.
This week is Birth Trauma Awareness Week, so I'd like to start my contribution by paying tribute to the Channons, the Borlands, the Barretts, and the rest of the Swansea bay maternity family support group, who have campaigned tirelessly on this issue. What they experienced in terms of gross failings and clinical negligence in the provision of care at Singleton Hospital is something that no new parent should ever have to endure, and yet in many cases here in Wales, childbirth continues to present unacceptable risks.
The Cabinet Secretary will be aware that I recently wrote to him outlining my serious concerns as to the current state of Welsh maternity services, because across a range of metrics, Wales is lagging badly behind, and in this respect, the tragic incidents at Singleton are far from an isolated aberration. For example, Wales has had the highest stillbirth rates in the UK since 2014, and while both England and Scotland experienced a decline in neonatal mortality rates between 2010 and 2022, they increased in Wales over this period. Pressures on workforce capacity are also starkly illustrated by the 35 per cent decrease in applications for midwifery courses in Wales since 2021. I welcome that the Cabinet Secretary is now undertaking an assessment of the safety and quality of all maternity units in Wales and that he has accepted all the recommendations of the health board's internal report.
In the meantime, the case for further escalation measures at Swansea bay is also clearly warranted. But as I've already alluded to, the problems at Singleton are far from unique, particularly when it comes to workforce capacity. So, this is a clear example of where there is a need for a new NHS workforce plan to underpin the actions that the Government has agreed to undertake, and for more robust national leadership in encouraging systematic collaboration between health boards on resourcing and best practice. The fact that the family support group felt like they had no option but to undertake their own inquiry, based on understandable reservations as to the conduct of the health board, also speaks to serious issues with institutional accountability. I'm grateful for the Cabinet Secretary's appreciation of their work in his statement, and I'd like to call on him, in the interest of restoring the broken bonds of public trust, to engage as constructively and as proactively with their recommendations, as he has done with those of the health board's report. Because this report, informed by truly harrowing personal testimonies, paints a sobering picture of a system in dire need of urgent reform.
One of the most damning findings is the clear evidence of how slowly the health board reacted on four persistent maternity-related risks, namely insufficient foetal growth assessment, cardiotocography misinterpretation, delays in induction of labour, and critical midwifery staffing, which, in some cases, remained outstanding on their risk register for over a decade. We also know that Healthcare Inspectorate Wales was insufficiently responsive in following up on these outstanding actions, which meant that no reinspection of four initial investigations into maternity services at Swansea bay took place until the end of November 2023. Can you therefore provide assurances that the capacity of HIW to monitor progress on recommended actions has been strengthened in light of this acknowledged failure, and could you confirm whether the timeliness of health boards in acting on risks, as they are identified, is being considered within the scope of your upcoming national review?
Is there also a case for introducing national minimum performance standards on risk management, setting out clear expectations for health boards to resolve issues within strictly enforced timescales? Now, positive reports are one thing, but we need assurances that lessons are being learnt. Is the Cabinet Secretary aware of any other incidents since the publishing of the various reports, and is he therefore assured that those lessons are being learnt in Singleton and by Swansea bay?
I've already mentioned the issue of chronic understaffing, and I acknowledge that the Welsh Government committed, in 2023, to substantially upscale the hiring of maternity staff. Can I therefore ask for an update as to the number of health boards in Wales that currently meet the recommended safe staffing levels for midwifery, as set out by the Birthrate Plus workforce tool? The inadequacy of mental health and bereavement support was cited as a recurring issue throughout the report, with 85 per cent of mothers stating that the support in this area that they received was inadequate. So, how are you working with the Minister for mental health to ensure effective collaboration between the new mental health strategy and the new maternity and neonatal quality statement? And can you confirm whether you intend to keep funding the national bereavement care pathway for pregnancy and baby loss in Wales from September 2025 onwards?
Cabinet Secretary, avoidable errors and institutional neglect meant that affected families at Swansea bay were cruelly denied the joy that every parent should have at childbirth. The very least they now deserve is the certainty that their campaigning will pave the way to real, lasting change. Diolch.
Wythnos Ymwybyddiaeth Trawma Genedigaeth yw hi yr wythnos hon, felly hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy dalu teyrnged i'r Channons, y Borlands, y Barretts, a gweddill grŵp cymorth teuluoedd mamolaeth bae Abertawe, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino ar y mater hwn. Mae'r hyn maen nhw wedi'i brofi o ran methiannau difrifol ac esgeulustod clinigol yn y gofal sydd wedi'i ddarparu yn Ysbyty Singleton yn rhywbeth na ddylai unrhyw riant newydd orfod ei ddioddef, ac eto mewn llawer o achosion yma yng Nghymru, mae geni plentyn yn parhau i gyflwyno risgiau annerbyniol.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu ato yn ddiweddar yn amlinellu fy mhryderon difrifol am gyflwr gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, oherwydd ar draws ystod o metrigau, mae Cymru ymhell ar ei hôl hi, ac o ran hyn, mae'r digwyddiadau trasig yn Singleton ymhell o fod yn eithriad. Er enghraifft, Cymru sydd â'r cyfraddau marw-enedigaethau uchaf yn y DU ers 2014, ac er bod Lloegr a'r Alban wedi profi gostyngiad mewn cyfraddau marwolaethau newyddenedigol rhwng 2010 a 2022, fe wnaethon nhw gynyddu yng Nghymru dros y cyfnod hwn. Mae pwysau ar gapasiti'r gweithlu hefyd yn cael ei ddangos yn glir gan y gostyngiad o 35 y cant mewn ceisiadau am gyrsiau bydwreigiaeth yng Nghymru ers 2021. Rwy'n croesawu bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynnal asesiad o ddiogelwch ac ansawdd yr holl unedau mamolaeth yng Nghymru nawr a'i fod wedi derbyn holl argymhellion adroddiad mewnol y bwrdd iechyd.
Yn y cyfamser, mae'n amlwg bod angen cyflwyno mesurau uwchgyfeirio pellach ym mae Abertawe. Ond fel yr wyf eisoes wedi cyfeirio ato, mae'r problemau yn Singleton ymhell o fod yn unigryw, yn enwedig o ran capasiti'r gweithlu. Felly, mae hon yn enghraifft glir o ble mae angen cynllun gweithlu newydd y GIG i ategu'r camau y mae'r Llywodraeth wedi cytuno i'w cymryd, ac arweinyddiaeth genedlaethol fwy cadarn wrth annog cydweithrediad systematig rhwng byrddau iechyd o ran adnoddau ac arfer gorau. Mae'r ffaith bod y grŵp cymorth i deuluoedd yn teimlo nad oedd ganddyn nhw unrhyw opsiwn ond ymgymryd â'u hymchwiliad eu hunain, yn seiliedig ar amheuon dealladwy ynghylch ymddygiad y bwrdd iechyd, hefyd yn dangos bod materion difrifol o ran atebolrwydd sefydliadol. Rwy'n ddiolchgar am werthfawrogiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'u gwaith yn ei ddatganiad, a hoffwn alw arno, er mwyn adfer yr ymddiriedaeth y mae'r cyhoedd wedi'i cholli, i ymgysylltu mor adeiladol ac mor ragweithiol â'u hargymhellion, ag y mae wedi'i wneud gyda'r rhai yn adroddiad y bwrdd iechyd. Oherwydd mae'r adroddiad hwn, wedi'i lywio gan dystiolaeth bersonol wirioneddol dirdynnol, yn paentio darlun sobreiddiol o system y mae angen ei diwygio ar frys.
Un o'r canfyddiadau mwyaf damniol yw'r dystiolaeth glir o ba mor araf y gwnaeth y bwrdd iechyd ymateb i bedair risg barhaus sy'n gysylltiedig â mamolaeth, sef asesiadau annigonol o dwf y ffetws, camddehongli cardiotocograffeg, oedi wrth ysgogi'r esgor, a staffio bydwreigiaeth critigol, a oedd wedi bod ar eu cofrestr risg, mewn rhai achosion, am dros ddegawd. Rydym hefyd yn gwybod nad oedd ymateb Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ddigonol wrth ddilyn y camau hyn nad oedden nhw wedi cael eu rhoi ar waith, a oedd yn golygu na chynhaliwyd unrhyw ail-arolygiad o bedwar ymchwiliad cychwynnol i wasanaethau mamolaeth ym mae Abertawe tan ddiwedd Tachwedd 2023. Allwch chi roi sicrwydd felly bod gallu AGIC i fonitro cynnydd ar gamau gweithredu a argymhellir wedi'i gryfhau yng ngoleuni'r methiant cydnabyddedig hwn, a allwch chi gadarnhau a yw prydlondeb byrddau iechyd wrth weithredu ar risgiau, pan y'u nodir, yn cael ei ystyried o fewn cwmpas eich adolygiad cenedlaethol sydd ar ddod?
A oes achos hefyd dros gyflwyno safonau perfformiad gofynnol cenedlaethol ar reoli risg, gan nodi disgwyliadau clir i fyrddau iechyd ddatrys materion o fewn amserlenni a orfodir yn llym? Nawr, mae adroddiadau cadarnhaol yn un peth, ond mae angen sicrwydd arnom fod gwersi yn cael eu dysgu. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau eraill ers cyhoeddi'r gwahanol adroddiadau, ac a yw'n sicr felly bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu yn Singleton a chan fae Abertawe?
Rwyf eisoes wedi sôn am y mater o ddiffyg staffio cronig, ac rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, yn 2023, i uwchraddio llogi staff mamolaeth yn sylweddol. A gaf i felly ofyn am ddiweddariad ynghylch nifer y byrddau iechyd yng Nghymru sy'n bodloni'r lefelau staffio diogel a argymhellir ar gyfer bydwreigiaeth ar hyn o bryd, fel y'u nodir gan yr offeryn gweithlu Birthrate Plus? Cyfeiriwyd at annigonolrwydd cymorth iechyd meddwl a phrofedigaeth yn rheolaidd trwy gydol yr adroddiad, gydag 85 y cant o famau yn dweud bod y cymorth roedden nhw wedi'i gael yn y maes hwn yn annigonol. Felly, sut ydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog dros iechyd meddwl i sicrhau bod cydweithredu effeithiol rhwng y strategaeth iechyd meddwl newydd a'r datganiad ansawdd newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol? Ac allwch chi gadarnhau a ydych chi'n bwriadu parhau i ariannu'r llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol ar gyfer beichiogrwydd a cholli babanod yng Nghymru o fis Medi 2025 ymlaen?
Ysgrifennydd Cabinet, cafodd y llawenydd y dylai pob rhiant ei deimlo adeg geni plentyn ei wadu'n greulon i'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw ym mae Abertawe oherwydd camgymeriadau y gellid bod wedi eu hosgoi ac esgeulustod sefydliadol. Y lleiaf maen nhw'n ei haeddu nawr yw'r sicrwydd y bydd eu hymgyrchu yn paratoi'r ffordd ar gyfer newid gwirioneddol, parhaol. Diolch.
Yes, and I can give that assurance on behalf of the Government that we are committed to making sure that the contents of this report not only inform improvement of services in Swansea bay, but will be taken into account by all maternity units right across Wales. The point of the assessment that I announced back in May is to do two things. Firstly, to assess in each maternity unit progress against implementing recommendations that are already expectations in the system, and also to identify good practice, of which there will be much right across Wales, in order that we can share that, so that we have a system that learns not just from where it is falling behind, but also where it is improving and doing well. I think it's important for us to establish that principle as part of that assessment. He asked me to provide a little bit more information about that. It will be independently chaired, which I hope will give assurance within the Government and beyond; it will take into account the lived experience of mothers and families; it will involve visits; it will involve an analysis of data around quality and safety; and it will take into account the approach of different units to implementation of specific recommendations, in the way that his question was asking about.
In relation to the family-led review, which was published yesterday, I made a commitment in my statement earlier to responding fully to that when I've had the opportunity of engaging with the other bodies, which are referred to in those recommendations. I will be making a full response to the family accordingly.
He asked me about HIW, and I think it's important in this context to recognise that, in this space, there are bodies operating at arm's length from the Government, and it's not appropriate for the Government to be intervening in the work that they do. That independence, that arm's-length relationship, is there precisely to give assurance that agencies are operating independently. But I'm confident that the organisations that you referred to are sufficiently resourced to do the work that they're asked to do.
He made an important point at the end in relation to mental health support. One of the recommendations in the report from the independent review is for the Welsh Government to make provision for earlier psychological support for mothers and families who have these tragic experiences, and I have committed to implementing that recommendation. He will know of the work under way in Cardiff already in this space, and we will evaluate that programme as we then roll it out to other parts of Wales in order to meet the terms of that recommendation. The report also makes an important point about developing a less defensive response to concerns raised by mothers and families in these circumstances, and I accept that recommendation also.
He asked me about the future funding arrangements for bereavement support, and I'm aware that my colleague the Minister for Mental Health and Well-being intends to make a statement very shortly in relation to just that point.
Gallaf, fe allaf roi'r sicrwydd hwnnw ar ran y Llywodraeth ein bod ni wedi ymrwymo i sicrhau bod cynnwys yr adroddiad hwn nid yn unig yn llywio gwelliannau i wasanaethau ym mae Abertawe, ond y bydd pob uned mamolaeth ledled Cymru yn ei ystyried. Pwynt yr asesiad a gyhoeddais yn ôl ym mis Mai yw gwneud dau beth. Yn gyntaf, asesu cynnydd ym mhob uned mamolaeth yn erbyn gweithredu argymhellion sydd eisoes yn ddisgwyliadau yn y system, a hefyd nodi arfer da, y bydd llawer ohono ledled Cymru, er mwyn i ni allu rhannu hynny, fel bod gennym ni system sy'n dysgu nid yn unig o ble mae'n syrthio ar ei hôl hi, ond hefyd lle mae'n gwella ac yn gwneud yn dda. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni sefydlu'r egwyddor honno fel rhan o'r asesiad hwnnw. Fe ofynnodd i mi ddarparu ychydig mwy o wybodaeth am hynny. Bydd yn cael ei gadeirio'n annibynnol, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd o fewn y Llywodraeth a thu hwnt; bydd yn ystyried profiad bywyd mamau a theuluoedd; bydd yn cynnwys ymweliadau; bydd yn cynnwys dadansoddi data ynghylch ansawdd a diogelwch; a bydd yn ystyried ymagwedd gwahanol unedau at weithredu argymhellion penodol, yn y ffordd yr oedd ei gwestiwn yn gofyn amdano.
O ran yr adolygiad dan arweiniad teuluoedd, a gyhoeddwyd ddoe, fe wnes i ymrwymiad yn fy natganiad yn gynharach i ymateb yn llawn i hwnnw pan fyddaf wedi cael y cyfle i ymgysylltu â'r cyrff eraill, y cyfeirir atyn nhw yn yr argymhellion hynny. Byddaf yn gwneud ymateb llawn i'r teulu yn unol â hynny.
Fe ofynnodd i mi am AGIC, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig yn y cyd-destun hwn i gydnabod bod yna gyrff sy'n gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth yn y maes hwn, ac nid yw'n briodol i'r Llywodraeth fod yn ymyrryd yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae'r annibyniaeth honno, y berthynas hyd braich honno, yno i roi sicrwydd bod asiantaethau'n gweithredu'n annibynnol. Ond rwy'n hyderus bod gan y sefydliadau y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw ddigon o adnoddau i wneud y gwaith y gofynnir iddyn nhw ei wneud.
Fe wnaeth bwynt pwysig ar y diwedd o ran cymorth iechyd meddwl. Un o'r argymhellion yn yr adroddiad o'r adolygiad annibynnol yw y dylai Llywodraeth Cymru wneud darpariaeth ar gyfer cymorth seicolegol cynharach i famau a theuluoedd sy'n cael y profiadau trasig hyn, ac rwyf wedi ymrwymo i weithredu'r argymhelliad hwnnw. Bydd yn gwybod am y gwaith sydd ar y gweill yng Nghaerdydd eisoes yn y maes hwn, a byddwn ni'n gwerthuso'r rhaglen honno wrth i ni wedyn ei chyflwyno i rannau eraill o Gymru er mwyn bodloni telerau'r argymhelliad hwnnw. Mae'r adroddiad hefyd yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â datblygu ymateb llai amddiffynnol i bryderon a godir gan famau a theuluoedd yn yr amgylchiadau hyn, ac rwy'n derbyn yr argymhelliad hwnnw hefyd.
Fe ofynnodd i mi am y trefniadau ar gyfer ariannu cymorth profedigaeth yn y dyfodol, ac rwy'n ymwybodol bod fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn bwriadu gwneud datganiad yn fuan iawn ar yr union bwynt hwnnw.
Thank you for your statement today, Cabinet Secretary. It is disappointing that Betsi Cadwaladr University Health Board remains at the highest level of escalation, but I do understand your concerns around wanting to see an improvement with planned care and urgent and emergency care. As you're aware, I meet regularly with the chair and officers from the health board, and it is good to see progress across some areas. I note you're allowing for partial de-escalation from special measures. So, Cabinet Secretary, what assessment have you made regarding the prospects of this happening for the health board?
Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n siomedig bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar y lefel uwchgyfeirio uchaf, ond rwy'n deall eich pryderon ynglŷn ag eisiau gweld gwelliant gyda gofal wedi'i gynllunio a gofal brys ac argyfwng. Fel y gwyddoch, rwy'n cwrdd yn rheolaidd â chadeirydd a swyddogion y bwrdd iechyd, ac mae'n dda gweld cynnydd ar draws rhai meysydd. Rwy'n nodi eich bod chi'n caniatáu isgyfeirio rhannol o fesurau arbennig. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd i'r bwrdd iechyd?
Thank you to Lesley Griffiths for those questions. I think it's probably useful to give some context because of the similar principle at play in relation to Betsi Cadwaladr and Cardiff and Vale, for different reasons. So, in both those health boards, there are reasons, across the piece, for a general level of support. So, one is at level 5, and one is at level 4. But, again, in both those health boards, there are either signs of progress or very good performance. So, this is not an indication that all aspects of both health boards are under challenge. So, for example, in Betsi, as I mentioned in the statement, we've seen real progress in relation to the financial position and in delivering a balanced plan, which I think is the first time that has been possible. So, I think that is a genuine step forward. I see a clear strengthening of governance and leadership in the organisation, and improvement in terms of quality. So, all those things are showing positive progress.
The current arrangements that we have for special measures don't allow sufficient nuance to recognise that, and so one of the changes I've introduced as a consequence of the review is to be able to be more flexible, so we can recognise progress, even for organisations in special measures. So, that's not appropriate at this point in time, because I have only just brought in the changes, but we will keep matters under review in the future, as you would expect.
Similarly, in relation to Cardiff, we see very good progress in relation to cancer performance and in terms of urgent and emergency care, but the overall approach that I've taken is intended to support the organisation generally. It's not an indication that every aspect of it is under challenge or under pressure.
So, I just wanted to say, in relation to planned care, which the Member specifically asked about in her question, as she will obviously know, the highest numbers of waits are currently in Betsi. It's a large health board, but it's still taking up a disproportionate amount of that list, as it were. The health board are engaging very closely and well with us in relation to arrangements they need to make over the course of the next year, so they can play their full part in the planned care programme that we are funding across Wales, and I'm confident that we will see progress over the months ahead in relation to those longest waits in Betsi.
Diolch i Lesley Griffiths am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol rhoi rhywfaint o gyd-destun oherwydd yr egwyddor debyg mewn perthynas â Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro, am wahanol resymau. Felly, yn y ddau fwrdd iechyd hynny, mae yna resymau, drwyddi draw, dros lefel gyffredinol o gefnogaeth. Felly, mae un ar lefel 5, ac un ar lefel 4. Ond, unwaith eto, yn y ddau fwrdd iechyd hynny, mae yna naill ai arwyddion o gynnydd neu berfformiad da iawn. Felly, nid yw hyn yn arwydd bod pob agwedd ar y ddau fwrdd iechyd yn cael eu herio. Felly, er enghraifft, yn Betsi, fel y soniais yn y datganiad, rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â'r sefyllfa ariannol ac wrth gyflwyno cynllun cytbwys, ac rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf i hynny fod yn bosibl. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gam gwirioneddol ymlaen. Rwy'n gweld yn glir bod llywodraethiant ac arweinyddiaeth yn cael eu cryfhau yn y sefydliad, a bod yna welliant o ran ansawdd. Felly, mae'r holl bethau hynny'n dangos cynnydd cadarnhaol.
Nid yw'r trefniadau presennol sydd gennym ar gyfer mesurau arbennig yn caniatáu digon o amrywiadau cynnil i gydnabod hynny, ac felly un o'r newidiadau rwyf wedi'u cyflwyno o ganlyniad i'r adolygiad yw gallu bod yn fwy hyblyg, fel y gallwn ni gydnabod cynnydd, hyd yn oed ar gyfer sefydliadau mewn mesurau arbennig. Felly, dydy hynny ddim yn briodol ar hyn o bryd, oherwydd dim ond newydd cyflwyno'r newidiadau ydw i, ond byddwn ni'n parhau i adolygu materion yn y dyfodol, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl.
Yn yr un modd, o ran Caerdydd, rydym yn gweld cynnydd da iawn mewn perthynas â pherfformiad canser ac o ran gofal brys ac argyfwng, ond bwriad y dull cyffredinol rwyf wedi'i gymryd yw cefnogi'r sefydliad yn gyffredinol. Dydy e ddim yn arwydd bod pob agwedd arno yn cael ei herio neu dan bwysau.
Felly, roeddwn i eisiau dweud, o ran gofal wedi'i gynllunio, y gofynnodd yr Aelod yn benodol amdano yn ei chwestiwn, fel y bydd hi'n amlwg yn gwybod, mae'r nifer uchaf o bobl sy'n aros yn Betsi ar hyn o bryd. Mae'n fwrdd iechyd mawr, ond mae'n dal i gymryd swm anghymesur o'r rhestr honno, fel petai. Mae'r bwrdd iechyd yn ymgysylltu'n agos iawn â ni mewn perthynas â'r trefniadau y mae angen iddyn nhw eu gwneud yn ystod y flwyddyn nesaf, fel y gallan nhw chwarae rhan lawn yn y rhaglen gofal a gynlluniwyd rydym yn ei hariannu ledled Cymru, ac rwy'n hyderus y byddwn ni'n gweld cynnydd dros y misoedd i ddod mewn perthynas â'r arosiadau hiraf hynny yn Betsi.
Can I start by commending the bravery of the women and families that contributed to both reports? I also wanted to say a word as well for the staff, who I took the time last year to visit at the maternity unit in Singleton Hospital, many of whom are utterly depressed, frankly, that the health board is in this situation, and who are really committed to turning the thing around. I think it's important, when we see damning reports like this, that they are not always a reflection, or often not a reflection, on every member of staff that works in that service, and I just think it's important that we take the time to reflect that. I am sure you will in your response, Minister.
You will have seen the e-mail that was sent last night by the Swansea bay maternity support group, which included their report in it, and, in the very last line, which I will just read to you now, it says, 'Tomorrow, the Health Minister will stand up in the Senedd and address the situation. He has only one option: remove control of the maternity service from the failed leadership of Swansea University Health Board.' Why haven't you done that?
A gaf ddechrau trwy ganmol dewrder y menywod a'r teuluoedd a gyfrannodd at y ddau adroddiad? Roeddwn i hefyd eisiau dweud gair hefyd am y staff, y cymerais i'r amser y llynedd i ymweld â nhw yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Singleton, y mae llawer ohonynt yn teimlo'n isel iawn, a bod yn onest, am y ffaith bod y bwrdd iechyd yn y sefyllfa hon, ac y maen nhw'n wirioneddol ymrwymedig i droi peth o gwmpas. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, pan fyddwn ni'n gweld adroddiadau damniol fel hyn, nad ydyn nhw bob amser yn adlewyrchiad, neu nad ydyn nhw'n aml yn adlewyrchiad ar bob aelod o staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n cymryd yr amser i fyfyrio ar hynny. Rwy'n siŵr y byddwch chi yn eich ymateb, Gweinidog.
Fe fyddwch chi wedi gweld yr e-bost a anfonwyd neithiwr gan grŵp cymorth mamolaeth bae Abertawe, a oedd yn cynnwys eu hadroddiad, ac yn y llinell olaf un, y gwnaf i ei ddarllen i chi nawr, mae'n dweud, 'Yfory, bydd y Gweinidog Iechyd yn sefyll i fyny yn y Senedd ac yn mynd i'r afael â'r sefyllfa. Dim ond un opsiwn sydd ganddo: tynnu rheolaeth o'r gwasanaeth mamolaeth o arweinyddiaeth aflwyddiannus Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe.' Pam nad ydych chi wedi gwneud hynny?
I think Tom Giffard makes an important point in relation to staff. I was able to visit staff myself in the unit a few weeks ago and have discussions with them, and it's clear their commitment, obviously, to providing a safe, respectful service. I think one of the striking features is the level of turnover of staff, and the large numbers of new staff in that department as well, which is acknowledged in the report. And I think that shows signs of progress, obviously, which we need to build on.
The reason I have not taken that action that he referred to in his question is that I don't think that is the right way of making sure the service is strengthened. What we want to see, and what we do see, is an organisation with new leadership at a board level, and a very significantly refreshed executive team, who have taken the concerns of families and the recommendations of the independent review very seriously and are committed to continuing to do that. What we want to see is that organisation continuing on that improvement journey. Elements of it are already under way, as the report itself acknowledges, and it is much better for us to be able to strengthen services in the health board delivered by that leadership than the alternative that his question recommends. And I'm confident that the report that has been published today provides that comprehensive route-map to improving those services.
Rwy'n credu bod Tom Giffard yn gwneud pwynt pwysig o ran staff. Fe lwyddes i ymweld â staff fy hun yn yr uned ychydig wythnosau yn ôl a chael trafodaethau gyda nhw, ac mae eu hymrwymiad, yn amlwg, i ddarparu gwasanaeth diogel, parchus yn glir. Rwy'n credu mai un o'r nodweddion trawiadol yw lefel trosiant staff, a'r nifer fawr o staff newydd yn yr adran honno hefyd, sy'n cael ei gydnabod yn yr adroddiad. Ac rwy'n credu bod hynny'n dangos arwyddion o gynnydd, yn amlwg, y mae angen i ni adeiladu arno.
Y rheswm nad wyf wedi cymryd y camau hynny y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn yw nad wyf yn credu mai dyna'r ffordd gywir o wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn cael ei gryfhau. Yr hyn rydym am ei weld, a'r hyn rydym yn ei weld, yw sefydliad gydag arweinyddiaeth newydd ar lefel bwrdd, a thîm gweithredol ar ei newydd wedd i raddau helaeth, sydd wedi cymryd pryderon teuluoedd ac argymhellion yr adolygiad annibynnol o ddifrif ac wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny. Yr hyn rydym am ei weld yw'r sefydliad hwnnw yn parhau ar y daith wella honno. Mae elfennau ohoni eisoes ar y gweill, fel y mae'r adroddiad ei hun yn cydnabod, ac mae'n llawer gwell ein bod ni'n gallu cryfhau gwasanaethau yn y bwrdd iechyd a ddarperir gan yr arweinyddiaeth honno na'r dewis arall y mae ei gwestiwn yn ei argymell. Ac rwy'n hyderus bod yr adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi heddiw yn darparu'r map llwybr cynhwysfawr hwnnw i wella'r gwasanaethau hynny.
Good afternoon, Cabinet Secretary. I just wanted to say a few words about maternity care. Maternity care should be about safe and personalised care. It's very clear from the report that, in Swansea bay, it fell well short of that.
But I just really wanted to talk a little bit about midwives and the real, important role that they play, and to actually pay tribute to them, particularly in Swansea bay, and all over Wales as well. It's a hard job—hard emotionally in particular. In Powys, we have the highest number of home births, which puts a significant strain on the midwifery service there. They are an incredible team across the whole of Powys. However, it is a real pressure on them to service the need for home births, which is the only choice we have in such a rural area. However, it should be a choice that everyone should have. Every family should have the choice of having a home birth.
I just really wanted to concentrate on recruitment for the brief time I've got left, to say that the Royal College of Midwives are very clear that we need more midwives in order to meet those standards. So, could you just say a little bit about how you intend to recruit and target that workforce? Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i eisiau dweud ychydig eiriau am ofal mamolaeth. Dylai gofal mamolaeth fod yn ymwneud â gofal diogel a phersonol. Mae'n amlwg iawn o'r adroddiad ei fod ymhell o fod yn hynny ym mae Abertawe.
Ond roeddwn i wir eisiau siarad ychydig am fydwragedd a'r rôl go iawn, bwysig maen nhw'n ei chwarae, a thalu teyrnged iddyn nhw, yn enwedig ym mae Abertawe, a ledled Cymru hefyd. Mae'n waith caled—mae'n anodd yn emosiynol yn enwedig. Ym Mhowys, mae gennym ni'r nifer uchaf o enedigaethau cartref, sy'n rhoi straen sylweddol ar y gwasanaeth bydwreigiaeth yno. Maen nhw'n dîm anhygoel ar draws Powys gyfan. Fodd bynnag, mae'n bwysau gwirioneddol arnyn nhw i wasanaethu'r angen am enedigaethau cartref, sef yr unig ddewis sydd gennym ni mewn ardal mor wledig. Fodd bynnag, dylai fod yn ddewis y dylai pawb ei gael. Dylai pob teulu gael y dewis o gael genedigaeth gartref.
Roeddwn i wir eisiau canolbwyntio ar recriwtio am yr amser byr sydd gen i ar ôl, i ddweud bod Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn glir iawn bod angen mwy o fydwragedd arnom ni er mwyn cyrraedd y safonau hynny. Felly, allech chi ddweud ychydig am sut rydych chi'n bwriadu recriwtio a thargedu'r gweithlu hwnnw? Diolch yn fawr iawn.
I think it is right to say that, clearly, we need to get the right staffing levels. What I would say is that there are health boards that have a full complement of midwifery staff, and we still want to make sure, as part of the assessment right across Wales, that all the steps are being taken to implement the recommendations that we've required health boards to put in place. So, in relation to Swansea bay health board in particular, I think they've made good progress in ensuring safe staffing levels—that's acknowledged in the report—and on strong clinical leadership, which is really important, and they've recruited into several senior leadership posts to strengthen clinical leadership. They've invested around £0.75 million to recruit 23 midwives and 14 maternity care assistants to the maternity service, and that's then created greater resilience in the team, stronger rostering, and has reduced reliance on agency staff, which I think is obviously very important. I should have answered Mabon ap Gwynfor's point about this earlier. As a result of the successful recruitment, the obstetric unit is able to meet the midwifery staffing requirements of Birthrate Plus, and staffing levels are monitored daily and adjusted to reflect acuity and demand.
Rwy'n credu ei bod yn iawn dweud, yn amlwg, bod angen i ni gael y lefelau staffio yn iawn. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod byrddau iechyd sydd â chyflenwad llawn o staff bydwreigiaeth, ac rydym ni dal eisiau gwneud yn siŵr, fel rhan o'r asesiad ledled Cymru, bod yr holl gamau yn cael eu cymryd i weithredu'r argymhellion rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd eu rhoi ar waith. Felly, o ran bwrdd iechyd bae Abertawe yn arbennig, rwy'n credu eu bod nhw wedi gwneud cynnydd da o ran sicrhau lefelau staffio diogel—mae hynny'n cael ei gydnabod yn yr adroddiad—ac o ran arweinyddiaeth glinigol gref, sy'n bwysig iawn, ac maen nhw wedi recriwtio i sawl swydd arweinyddiaeth uwch i gryfhau arweinyddiaeth glinigol. Maen nhw wedi buddsoddi tua £0.75 miliwn i recriwtio 23 o fydwragedd ac 14 o gynorthwywyr gofal mamolaeth i'r gwasanaeth mamolaeth, ac mae hynny wedyn wedi creu mwy o wydnwch yn y tîm, amserlennu cryfach, ac wedi lleihau dibyniaeth ar staff asiantaeth, sy'n amlwg yn bwysig iawn yn fy marn i. Fe ddylwn i fod wedi ateb pwynt Mabon ap Gwynfor am hyn yn gynharach. O ganlyniad i'r recriwtio llwyddiannus, mae'r uned obstetreg yn gallu bodloni gofynion staffio bydwreigiaeth Birthrate Plus, ac mae lefelau staffio yn cael eu monitro bob dydd a'u haddasu i adlewyrchu aciwtedd a galw.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
And finally, Jenny Rathbone.
Thank you very much, and I agree absolutely with Jane Dodds on the need to give a shout out to midwives and the important role they play in supporting women on this challenging journey. I welcome your measured action that you are taking to listen and learn from the report, from the families, because it's a very important report and really quite an outstanding piece of work from laypeople. But it does really uncover some of the things that (a) need to be done, and some of the things that need to never happen.
Continuity of care is essential for women, particularly those who have had traumatic events in their lives previously, and they shouldn't have to repeat traumatic information. It should be available in the notes that the previous person who was attending to that woman had, rather than them constantly having to relive that. Clearly, it is a never event for staff to be altering contemporaneous notes or records in order to cover up poor practice, but they may need to alter contemporaneous notes, because in the event that a midwife—
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â Jane Dodds bod angen rhoi sylw i fydwragedd a'r rôl bwysig maen nhw'n ei chwarae wrth gefnogi menywod ar y daith heriol hon. Rwy'n croesawu'r camau mesuredig rydych chi'n eu cymryd i wrando a dysgu o'r adroddiad, gan y teuluoedd, oherwydd mae'n adroddiad pwysig iawn ac yn ddarn eithaf rhagorol o waith gan leygwyr. Ond mae wir yn datgelu rhai o'r pethau (a) sydd angen eu gwneud, a rhai o'r pethau na ddylen nhw byth ddigwydd.
Mae parhad gofal yn hanfodol i fenywod, yn enwedig y rhai sydd wedi cael digwyddiadau trawmatig yn eu bywydau o'r blaen, a dylen nhw ddim gorfod ailadrodd gwybodaeth drawmatig. Dylai fod ar gael yn y nodiadau yr oedd gan y person blaenorol a oedd yn gofalu am y fenyw honno, yn hytrach na'u bod yn gorfod ail-fyw hynny'n gyson. Yn amlwg, mae'n ddigwyddiad "byth" i staff fod yn newid nodiadau neu gofnodion cyfoes er mwyn cuddio arfer gwael, ond efallai y bydd angen iddyn nhw newid nodiadau cyfoes, oherwydd os bydd bydwraig—
Jenny, you need to ask a question, please.
Jenny, mae angen i chi ofyn cwestiwn, os gwelwch yn dda.
—on their own, delivering labour—. I need to finish this point.
—ar ei phen ei hun, yn ystod y cyfnod esgor—. Mae angen i mi orffen y pwynt hwn.
You need to ask the question as well, please.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn hefyd, os gwelwch yn dda.
In the second and third stage of labour, they may erroneously write down the wrong figure. They must be able to correct that as soon as possible afterwards. But we need to really rethink the numbers of people who are required to provide the humane service that we need, to have the outcome that we want. And I want to focus on the—
Yn yr ail a'r trydydd cam o'r cyfnod esgor, gallai ysgrifennu'r ffigur anghywir mewn camgymeriad. Mae'n rhaid iddi allu cywiro hynny cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Ond mae angen i ni ailystyried nifer y bobl sydd eu hangen i ddarparu'r gwasanaeth dynol sydd ei angen arnom, i gael y canlyniad rydym ei eisiau. Ac rwyf eisiau canolbwyntio ar y—
You need to ask the question, Jenny, please.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn, Jenny, os gwelwch yn dda.
The question is on the role of maternity support workers, who can assist midwives, working to midwives as part of that multidisciplinary team, and I want to know what your plans are for increasing that workforce to ensure that we have that prudent healthcare.
Mae'r cwestiwn yn ymwneud â rôl gweithwyr cymorth mamolaeth, sy'n gallu cynorthwyo bydwragedd, sy'n gweithio i fydwragedd fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol hwnnw, ac rwyf am wybod beth yw eich cynlluniau ar gyfer cynyddu'r gweithlu hwnnw i sicrhau bod gennym ni'r gofal iechyd darbodus hwnnw.
Thank you for those questions. I think the points that the Member makes are germane to that delivery of a compassionate, safe, respectful service, which all women and families are entitled to. I think it is important as we understandably, today, list the challenges that the service faces to recall that, in the report itself, it acknowledges that many, many women will have reported a largely positive experience of pregnancy and birth. I think it is important that we bear that in mind as well, as we look at some of the challenges. I think the point she makes about continuity of care is important, and so I was pleased to see a reduction in the level of agency staffing at Swansea bay and elsewhere. One of the ways in which that's been achieved is by increasing the recruitment not only of midwives but also of midwifery assistants, and I think getting that ratio of support in the right place is very important for the system to be able to provide the care that women are entitled to.
Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn ymwneud â'r cyflwyniad hwnnw o wasanaeth tosturiol, diogel, parchus, y mae gan bob menyw a theulu hawl iddo. Rwy'n credu ei bod yn bwysig wrth i ni, yn ddealladwy, heddiw, restru'r heriau y mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu i gofio, yn yr adroddiad ei hun, ei fod yn cydnabod y bydd llawer iawn o fenywod wedi adrodd profiad cadarnhaol o feichiogrwydd a genedigaeth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cadw hynny mewn cof hefyd, wrth i ni edrych ar rai o'r heriau. Rwy'n credu bod y pwynt y mae'n ei wneud am barhad gofal yn bwysig, ac felly roeddwn yn falch o weld gostyngiad yn lefel y staff asiantaeth ym mae Abertawe ac mewn mannau eraill. Un o'r ffyrdd y cyflawnwyd hynny yw trwy gynyddu'r recriwtio, nid yn unig bydwragedd ond hefyd cynorthwywyr bydwreigiaeth, ac rwy'n credu bod cael y gymhareb honno o gefnogaeth yn y lle iawn yn bwysig iawn i'r system allu darparu'r gofal y mae gan fenywod hawl iddo.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 6 a 7, rheoliadau cydsyniad seilwaith Cymru 2025, eu grwpio ar gyfer eu trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiadau.
I thank the Cabinet Secretary.
In accordance with Standing Order 12.24, unless a Member objects, the two motions under items 6 and 7, the infrastructure consent Wales regulations 2025, will be grouped for debate, but with votes taken separately. I see no objections.
Felly, dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
I therefore call on the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, Rebecca Evans.
Cynnig NDM8955 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2025.
Motion NDM8955 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Infrastructure Consent (Fees) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 17 June 2025.
Cynnig NDM8956 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2025.
Motion NDM8956 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Infrastructure Consent (Miscellaneous Provisions) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 17 June 2025.
Cynigiwyd y cynigion.
Motions moved.

I'm pleased to present the Infrastructure Consent (Fees) (Wales) Regulations 2025 and the Infrastructure Consent (Miscellaneous Provisions) (Wales) Regulations 2025 for approval. These regulations form part of a suite of regulations that will implement the process set out in the Infrastructure (Wales) Act 2024 to deliver a new consenting regime for significant infrastructure projects in Wales. I'd like to thank all of the stakeholders, communities and individuals who have contributed, supported and taken an active role in developing this important legislation. The combined effect of these regulations is to introduce a modern and simplified regime for the consenting of significant infrastructure projects in Wales, both on the land and in the territorial sea.
I'm committed to having an efficient and effective consenting regime that makes a positive contribution towards our social, economic and environmental prosperity and our net-zero ambitions. The infrastructure consenting regime will improve the competitiveness of Wales as an attractive place for investment and jobs. The regime will accelerate development and enable the consenting of renewable energy projects in a robust but efficient manner. This will play an important part in delivering our ambitious target to generate renewable energy to meet the equivalent of 100 per cent of our annual electricity consumption from renewable sources by 2035. The regulations provide certainty for all stakeholders throughout the whole process. They ensure effective engagement from the outset, first by the developer and then by ourselves. They specify the information that must be submitted with an application and set timescales for decisions and to reduce delays and ensure robust decisions are taken. By doing this, the consenting regime improves transparency and the ability of stakeholders to scrutinize significant infrastructure projects.
The suite of subordinate legislation ensures that our communities, and particularly those hosting new infrastructure, have an important role in the infrastructure consent process. The regulations introduce requirements for robust pre-application consultation, open-floor hearings, and they specify that hearings and inquiries undertaken as part of an examination will be broadcast online. This will aid meaningful community involvement and increase accessibility to the decision-making process. Importantly, the regulations provide flexibility to ensure that the system can reflect any policy and technology changes that might occur in the future.
So, turning to the specific effect of the regulations that are the subject of the debate today, the Infrastructure Consent (Fees) (Wales) Regulations 2025 provide the framework for the charging of fees associated with determining infrastructure consent applications. Critically, the regulations ensure full cost recovery for public authorities, meaning a developer will pay for the processing and determination of the consent.
Developers have confirmed that they are willing to pay for an efficient and effective service, and this income will help resource organisations and ensure efficient delivery of the system. To achieve this, the regulations ensure that the specified public authorities can charge a fee for the provision of infrastructure consent services. These are Planning and Environment Decisions Wales for processing and examination of the application, Welsh Government for determination, as well as statutory consultees, including NRW and local planning authorities, for their input into the process.
In terms of detail, the fee regulations make provision for fees to be published online by or on behalf of the body charging the fee. To ensure that the system is fair, this information must be published no less than one month before the fee comes into force. This ensures that the system is flexible, and it will allow public authorities to amend fees to reflect costs accurately.
The Infrastructure Consent (Miscellaneous Provisions) (Wales) Regulations 2025 specify certain provisions required to implement the new infrastructure consent regime that do not fit neatly with other regulations. For example, these regulations set out the procedural requirements for the provision of pre-application services, and a list of types of projects that might be directed to be significant infrastructure projects, and the procedure for making a request for it to be directed. In terms of the types of development that can be subject to a direction requiring infrastructure consent under the Act, we have listened to feedback from the consultation and expanded the list of development proposals that might be subject to such a direction, and the regulations now include proposals such as hydrogen and flood defence works over 0.5 km.
I'd like to express my gratitude to the Legislation, Justice and Constitution Committee for their consideration of this suite of legislation. I've responded to their reports and I've set out the amendments that will be made to the regulations in response to these reporting points before they are formally made. I can give the Senedd my assurance that all of the amendments that will be made are minor in nature and they do not change either the meaning or the legal effect of the provisions being amended.
The new infrastructure consent process will come into force in December 2025, and guidance will be published prior to this to ensure that all stakeholders are prepared for the new regime. In addition, we will offer support and training to stakeholders to ensure a smooth transition from the existing regimes to the new consenting process. So, in conclusion, this legislation introduces a modern and simplified regime for the consenting of significant infrastructure projects in Wales, both on the land and in the territorial sea, and I ask the Senedd to approve the regulations that are the subject of this debate.
Mae'n bleser gennyf gyflwyno Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 i'w cymeradwyo. Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau a fydd yn gweithredu'r broses a nodir yn Neddf Seilwaith (Cymru) 2024 i ddarparu cyfundrefn gydsynio newydd ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid, cymunedau ac unigolion sydd wedi cyfrannu, cefnogi a chymryd rôl weithredol wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth bwysig hon. Effaith gyfunol y rheoliadau hyn yw cyflwyno cyfundrefn fodern a symlach ar gyfer cydsynio i brosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr tiriogaethol.
Rwy'n ymrwymedig i fod â chyfundrefn gydsynio effeithlon ac effeithiol sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'n huchelgeisiau sero net. Bydd y gyfundrefn cydsynio seilwaith yn gwella cystadleurwydd Cymru fel lle deniadol ar gyfer buddsoddi a swyddi. Bydd y gyfundrefn yn cyflymu datblygiad ac yn galluogi cydsynio prosiectau ynni adnewyddadwy mewn ffordd gadarn ond effeithlon. Bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni ein targed uchelgeisiol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy i gyflenwi 100 y cant o'n defnydd blynyddol o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae'r rheoliadau'n darparu sicrwydd i'r holl randdeiliaid trwy gydol y broses gyfan. Maen nhw'n sicrhau ymgysylltiad effeithiol o'r cychwyn cyntaf, gan y datblygwr yn gyntaf ac yna gennym ni. Maen nhw'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno gyda chais ac yn pennu amserlenni ar gyfer penderfyniadau ac i leihau oedi a sicrhau bod penderfyniadau cadarn yn cael eu gwneud. Trwy wneud hyn, mae'r gyfundrefn gydsynio yn gwella tryloywder a gallu rhanddeiliaid i graffu ar brosiectau seilwaith sylweddol.
Mae'r gyfres o is-ddeddfwriaeth yn sicrhau bod gan ein cymunedau, ac yn enwedig y rhai sy'n cynnal seilwaith newydd, rôl bwysig yn y broses cydsynio seilwaith. Mae'r rheoliadau'n cyflwyno gofynion i gynnal ymgynghoriad cadarn cyn ymgeisio, gwrandawiadau llawr agored, ac maen nhw'n nodi y bydd gwrandawiadau ac ymchwiliadau a gynhelir fel rhan o archwiliad yn cael eu darlledu ar-lein. Bydd hyn yn hwyluso cyfranogiad ystyrlon gan y gymuned ac yn cynyddu hygyrchedd i'r broses o wneud penderfyniadau. Yn bwysig, mae'r rheoliadau yn darparu hyblygrwydd i sicrhau bod y system yn gallu adlewyrchu unrhyw newidiadau polisi a thechnoleg a allai ddigwydd yn y dyfodol.
Felly, gan droi at effaith benodol y rheoliadau sy'n destun y ddadl heddiw, mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 yn darparu'r fframwaith ar gyfer codi ffioedd sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith. Yn hanfodol, mae'r rheoliadau yn sicrhau adennill costau llawn i awdurdodau cyhoeddus, sy'n golygu y bydd datblygwr yn talu am brosesu a phenderfynu ar y cydsyniad.
Mae datblygwyr wedi cadarnhau eu bod yn barod i dalu am wasanaeth effeithlon ac effeithiol, a bydd yr incwm hwn yn helpu i ddarparu adnoddau ar gyfer y sefydliadau a sicrhau bod y system yn cael ei chyflwyno'n effeithlon. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r rheoliadau yn sicrhau y gall yr awdurdodau cyhoeddus penodedig godi ffi am ddarparu gwasanaethau cydsyniad seilwaith. Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ar gyfer prosesu ac archwilio'r cais, Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniad, yn ogystal ag ymgynghoreion statudol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol, am eu mewnbwn i'r broses.
O ran manylion, mae'r rheoliadau ffioedd yn gwneud darpariaeth i ffioedd gael eu cyhoeddi ar-lein gan y corff sy'n codi'r ffi neu ar ei ran. Er mwyn sicrhau bod y system yn deg, rhaid cyhoeddi'r wybodaeth hon dim llai na mis cyn i'r ffi ddod i rym. Mae hyn yn sicrhau bod y system yn hyblyg, a bydd yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddiwygio ffioedd i adlewyrchu costau'n gywir.
Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 yn nodi darpariaethau penodol sy'n ofynnol i weithredu'r gyfundrefn cydsyniad seilwaith newydd nad ydynt yn cyd-fynd yn daclus â rheoliadau eraill. Er enghraifft, mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r gofynion gweithdrefnol ar gyfer darparu gwasanaethau cyn ymgeisio, a rhestr o fathau o brosiectau y gellid eu cyfarwyddo i fod yn brosiectau seilwaith sylweddol, a'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais iddo gael ei gyfarwyddo. O ran y mathau o ddatblygiad a all fod yn destun cyfarwyddyd sy'n gofyn am gydsyniad seilwaith o dan y Ddeddf, rydym wedi gwrando ar adborth o'r ymgynghoriad ac wedi ehangu'r rhestr o gynigion datblygu a allai fod yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd o'r fath, ac mae'r rheoliadau bellach yn cynnwys cynigion fel hydrogen a gwaith amddiffyn rhag llifogydd dros 0.5 km.
Hoffwn fynegi fy niolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y gyfres hon o ddeddfwriaeth. Rwyf wedi ymateb i'w hadroddiadau ac rwyf wedi nodi'r gwelliannau a fydd yn cael eu gwneud i'r rheoliadau mewn ymateb i'r pwyntiau adrodd hyn cyn iddynt gael eu gwneud yn ffurfiol. Gallaf roi sicrwydd i'r Senedd fod yr holl ddiwygiadau a fydd yn cael eu gwneud yn rhai bach ac nad ydynt yn newid ystyr nac effaith gyfreithiol y darpariaethau sy'n cael eu diwygio.
Bydd y broses cydsyniad seilwaith newydd yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2025, a bydd canllawiau'n cael eu cyhoeddi cyn hyn i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn barod ar gyfer y gyfundrefn newydd. Yn ogystal â hyn, byddwn yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i randdeiliaid i sicrhau pontio didrafferth o'r cyfundrefnau presennol i'r broses gydsynio newydd. Felly, i gloi, mae'r ddeddfwriaeth hon yn cyflwyno cyfundrefn symlach a modern ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr tiriogaethol, a gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau sy'n destun y ddadl hon.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mike Hedges.
I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Diolch, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered these draft regulations on 7 July, along with a suite of other regulations that are subject to the negative procedure and have therefore already been made. Yesterday afternoon, we considered the Welsh Government response to our reports. In total, across the five related instruments, the committee has reported 66 technical reporting points. The committee reports on the regulations being discussed this afternoon contain 18 of those 66 technical points.
Seven of those points relate to inconsistencies between the English and Welsh texts, and four highlight potential defective drafting. To address the issues identified by the committee, the Cabinet Secretary will make 23 corrections across both instruments prior to them being signed into law, should the Senedd approve the regulations this afternoon. The Cabinet Secretary has also told the committee that 23 of the issues the committee identified in the related negative procedure instruments will also require a correction instrument to be made by the end of the year.
Last week, I spoke on behalf of the Legislation, Justice and Constitution Committee when the Senedd was invited to approve the Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025. That Order also contained a significant number of errors, requiring the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to confirm that the Government would be making more than 20 corrections to that Order before it was signed into law. I don't hold the Cabinet Secretary responsible for not checking that the Welsh and English say exactly the same thing. What I do think is that there are people in that department who ought to be putting it right, and that's something the Cabinet Secretary, I would urge, needs to take some action on, because this is not unusual.
The committee is becoming increasingly concerned by the quality of subordinate legislation being made by the Welsh Government and being laid before the Senedd for approval, and it will continue to hold the Government to account on this issue. Diolch.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 7 Gorffennaf, ynghyd â chyfres o reoliadau eraill sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol ac felly sydd eisoes wedi'u gwneud. Brynhawn ddoe, gwnaethom ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiadau. Gyda'i gilydd, ar draws y pum offeryn cysylltiedig, mae'r pwyllgor wedi adrodd 66 o bwyntiau adrodd technegol. Mae adroddiadau'r pwyllgor ar y rheoliadau sy'n cael eu trafod y prynhawn yma yn cynnwys 18 o'r 66 o bwyntiau technegol hynny.
Mae saith o'r pwyntiau hynny'n ymwneud ag anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg, ac mae pedwar yn tynnu sylw at ddrafftio diffygiol posibl. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion a nodwyd gan y pwyllgor, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud 23 o gywiriadau ar draws y ddau offeryn cyn iddyn nhw gael eu llofnodi'n gyfraith, os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau y prynhawn yma. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet hefyd wedi dweud wrth y pwyllgor y bydd 23 o'r materion a nodwyd gan y pwyllgor yn yr offerynnau gweithdrefn negyddol cysylltiedig hefyd yn gofyn am offeryn cywiro erbyn diwedd y flwyddyn.
Yr wythnos diwethaf, siaradais ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad pan wahoddwyd y Senedd i gymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. Roedd y Gorchymyn hwnnw hefyd yn cynnwys nifer sylweddol o wallau, gan ei gwneud yn ofynnol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol gadarnhau y byddai'r Llywodraeth yn gwneud mwy nag 20 o gywiriadau i'r Gorchymyn hwnnw cyn iddo gael ei lofnodi'n gyfraith. Nid wyf yn dal yr Ysgrifennydd Cabinet yn gyfrifol am beidio â gwirio bod y Gymraeg a'r Saesneg yn dweud yr un peth. Yr hyn rwyf yn ei feddwl yw bod yna bobl yn yr adran honno ddylai fod yn unioni pethau, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i gymryd camau arno, oherwydd nid yw hyn yn anarferol.
Mae'r pwyllgor yn mynd yn fwyfwy pryderus am ansawdd is-ddeddfwriaeth sy'n cael ei gwneud gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei gosod gerbron y Senedd i'w chymeradwyo, a bydd yn parhau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar y mater hwn. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
The Cabinet Secretary to respond.

Thank you very much. And just again to put on record my thanks to the committee, and particularly the Chair, for the very detailed scrutiny of the draft Infrastructure Consent (Fees) (Wales) Regulations 2025 and also the miscellaneous provisions regulations. It is our view that the regulations as laid do work effectively, however, thanks to the points raised by the committee, I am proposing to make a few minor technical amendments prior to making.
So, on fees, the minor amendments ensure consistent use of the defined term, 'relevant pre-application services', and that references to the sections of the 2024 Act are clear. These changes will aid accessibility and they don't amount to substantive changes. In addition, I have corrected the cross-references in regulations 11(2)(a) and (b) and regulation 13(5) as, again, raised by the committee.
Finally, I have ensured that the preamble reflects the regulations and they are made following the approval of the Senedd under sections 141(3) and 141(4)(h) of the 2024 Act, and these all relate to the particular regulations in respect of fees.
And although there do appear to be quite a number of changes—18 in total, as we heard from the Chair—there is a lot of repetition within the minor corrections that will be made on making. Six changes relate to clarifying the term 'pre-application services', six relate to ensuring that it is clear that the sections correctly cite the 2024 Act, and two relate to ensuring consistency between the English and the Welsh texts. There are three updates to cross-references, and the preamble has also been updated to add detail, so you can see that the nature of those corrections are very minor, but I’m very, very grateful to the committee for drawing our attention to them.
And then, just briefly, in relation to the miscellaneous provisions regulations, the minor amendments ensure consistency across the Welsh and English texts and ensure that the definition of the 'applicant' doesn't apply to regulation 7. So, these changes, again, will provide clarity and they don't amount to substantive changes. But, again, thank you very much to the committee.
Diolch yn fawr iawn. Ac eto, hoffwn roi ar gofnod fy niolch i'r pwyllgor, ac yn enwedig i'r Cadeirydd, am y gwaith craffu manwl iawn ar y Rheoliadau Cysyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 drafft a hefyd y rheoliadau darpariaethau amrywiol. Yn ein barn ni, mae'r rheoliadau fel y'u gosodwyd yn gweithio'n effeithiol. Fodd bynnag, diolch i'r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, rwy'n cynnig y dylid gwneud ychydig o fân welliannau technegol cyn eu gwneud.
Felly, o ran ffioedd, mae'r mân welliannau yn sicrhau bod yna ddefnydd cyson o'r term diffiniedig, 'gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol', a bod cyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2024 yn glir. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau eu bod nhw'n fwy hygyrch a dydyn nhw ddim yn newidiadau sylweddol. Yn ogystal, rwyf wedi cywiro'r croesgyfeiriadau yn rheoliadau 11(2)(a) a (b) a rheoliad 13(5) fel y'u codwyd, eto, gan y pwyllgor.
Yn olaf, rwyf wedi sicrhau bod y rhaglith yn adlewyrchu'r rheoliadau a'u bod yn cael eu gwneud yn dilyn cymeradwyaeth y Senedd o dan adrannau 141(3) a 141(4)(h) o Ddeddf 2024, ac mae'r rhain i gyd yn ymwneud â'r rheoliadau penodol mewn perthynas â ffioedd.
Ac er ei bod yn ymddangos bod cryn dipyn o newidiadau—18 i gyd, fel y clywsom gan y Cadeirydd—mae llawer o ailadrodd o fewn y mân gywiriadau a fydd yn cael eu gwneud wrth eu gwneud. Mae chwe newid yn ymwneud ag egluro'r term 'gwasanaethau cyn gwneud cais', mae chwech yn ymwneud â sicrhau ei bod yn glir bod yr adrannau'n dyfynnu Deddf 2024 yn gywir, ac mae dau yn ymwneud â sicrhau cysondeb rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae tri diweddariad i groesgyfeiriadau, ac mae'r rhaglith hefyd wedi'i diweddaru i ychwanegu manylion, felly fe allwch chi weld bod y cywiriadau hynny yn fach iawn, ond rwy'n ddiolchgar iawn, iawn i'r pwyllgor am dynnu ein sylw atyn nhw.
Ac wedyn, yn fyr, o ran y rheoliadau darpariaethau amrywiol, mae'r mân welliannau yn sicrhau cysondeb ar draws y testunau Cymraeg a Saesneg ac yn sicrhau nad yw'r diffiniad o'r 'ymgeisydd' yn berthnasol i reoliad 7. Felly, bydd y newidiadau hyn, unwaith eto, yn rhoi eglurder a dydyn nhw ddim yn newidiadau sylweddol. Ond, unwaith eto, diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree the motion under item 6. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The next proposal is to agree the motion under item 7. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 8 heddiw, Rheoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Item 8 today is the Welsh Elections Financial Assistance Scheme (Disabled Candidates) Regulations 2025. I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to move the motion. Jayne Bryant.
Cynnig NDM8957 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2025.
Motion NDM8957 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Welsh Elections Financial Assistance Scheme (Disabled Candidates) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 24 June 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch, Deputy Llywydd. I welcome the opportunity to bring forward the Welsh Elections Financial Assistance Scheme (Disabled Candidates) Regulations 2025. These regulations fulfil the duty placed on the Welsh Ministers from the Elections and Elected Bodies (Wales) Act 2024 to provide a financial assistance scheme for disabled candidates. I want to take a moment to reflect on why establishing financial support for disabled people is so important in how we shape a fairer society, not just in principle, but in practice.
We know that many disabled people face extra costs, whether it's for accessible transport, specialist equipment or personal support. These are not optional extras, they're often the key to independence, opportunity and feeling included. The social model of disability reminds us that it is not someone's condition that holds them back, it's the barriers in the world around them, including in the arrangements for candidates seeking elected office. Financial support helps to remove these barriers. It gives people more choice, more control and more confidence to participate fully in democracy. These regulations are about fairness, about recognising that everyone deserves the chance to participate fully, without being held back by the systems that weren't designed with them in mind. And it's about showing that our commitment to inclusion is real—not just words, but deeds. I ask Members to demonstrate, once again, your commitment to support disabled people to bring their skills, knowledge and experience to help shape democracy.
I am grateful to the Legislation, Justice and Constitution Committee for their consideration of the regulations. I have responded to their helpful report, and have set out the amendment that will be made in response to the one reporting point before the regulations are formally made. I can give the Senedd my assurance that the amendment is minor in nature and does not change either the meaning or legal effect of the provision being amended. I ask Members to support the regulations this afternoon.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno Rheoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025. Mae'r rheoliadau hyn yn cyflawni'r ddyletswydd a roddir ar Weinidogion Cymru o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i ddarparu cynllun cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl. Rwyf am gymryd eiliad i fyfyrio ar pam mae sefydlu cymorth ariannol i bobl anabl mor bwysig o ran y ffordd rydym yn llunio cymdeithas decach, nid yn unig mewn egwyddor, ond yn ymarferol.
Rydym yn gwybod bod llawer o bobl anabl yn wynebu costau ychwanegol, boed ar gyfer trafnidiaeth hygyrch, offer arbenigol neu gymorth personol. Nid ychwanegiadau dewisol mohonyn nhw. Yn aml, nhw yw'r allwedd i annibyniaeth, cyfle a'r teimlad o gael eich cynnwys. Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn ein hatgoffa nad cyflwr rhywun sy'n ei ddal yn ôl ond y rhwystrau yn y byd o'i gwmpas, gan gynnwys yn y trefniadau ar gyfer ymgeiswyr sy'n ceisio swydd etholedig. Mae cymorth ariannol yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau hyn. Mae'n rhoi mwy o ddewis, mwy o reolaeth a mwy o hyder i bobl gymryd rhan lawn mewn democratiaeth. Mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â thegwch, maen nhw'n ymwneud â chydnabod bod pawb yn haeddu'r cyfle i gymryd rhan yn llawn, heb gael eu dal yn ôl gan y systemau nad oedden nhw wedi'u cynllunio gyda nhw mewn golwg. Ac mae'n ymwneud â dangos bod ein hymrwymiad i gynhwysiant yn real—nid geiriau yn unig, ond gweithredoedd. Rwy'n gofyn i'r Aelodau ddangos, unwaith eto, eich ymrwymiad i gefnogi pobl anabl i ddod â'u sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad i helpu i lunio democratiaeth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau. Rwyf wedi ymateb i'w adroddiad defnyddiol, ac wedi nodi'r gwelliant a fydd yn cael ei wneud mewn ymateb i'r un pwynt adrodd cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud yn ffurfiol. Gallaf roi sicrwydd i'r Senedd mai mân welliant ydyw ac nad yw'n newid ystyr nac effaith gyfreithiol y ddarpariaeth sy'n cael ei diwygio. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Thank you, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered the draft regulations on 7 July, and we considered the Welsh Government's response to our report yesterday afternoon. The committee’s report on the draft regulations contains just a single reporting point on a matter that we consider requires further explanation.
Regulation 12 deals with the payment of financial assistance for approved support or adjustments under the financial assistance scheme. Regulation 12(4)(a) places a duty on the scheme operator to ensure that no payments are made unless it is satisfied that the person claiming has properly incurred or will properly incur the cost of the approved support. However, it does not make reference to approved adjustments, which are also permitted under the financial assistance scheme.
The committee asked the Welsh Government to explain why approved adjustments are not included in regulation 12(4)(a). In response, the Welsh Government agrees with the committee that it would be preferable if there were consistency between this and other similar provisions, and has confirmed it will correct the anomaly prior to the making of the regulations, should they be approved this afternoon, and the Minister has further confirmed that.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 7 Gorffennaf, a gwnaethom ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad brynhawn ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor ar y rheoliadau drafft yn cynnwys dim ond un pwynt adrodd ar fater y mae angen esboniad pellach yn ei gylch, yn ein barn ni.
Mae rheoliad 12 yn ymwneud â thalu cymorth ariannol ar gyfer cymorth neu addasiadau a gymeradwyir o dan y cynllun cymorth ariannol. Mae rheoliad 12(4)(a) yn gosod dyletswydd ar weithredwr y cynllun i sicrhau nad oes unrhyw daliadau yn cael eu gwneud oni bai ei fod yn fodlon bod y person sy'n hawlio wedi talu'n briodol neu y bydd yn talu'n briodol am gost y cymorth a gymeradwyir. Fodd bynnag, nid yw'n cyfeirio at addasiadau a gymeradwyir, sydd hefyd yn cael eu caniatáu o dan y cynllun cymorth ariannol.
Gofynnodd y pwyllgor i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw addasiadau a gymeradwyir wedi'u cynnwys yn rheoliad 12(4)(a). Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r pwyllgor y byddai'n well pe bai cysondeb rhwng hyn a darpariaethau tebyg eraill, ac mae wedi cadarnhau y bydd yn cywiro'r anghysondeb cyn gwneud y rheoliadau, os byddan nhw'n cael eu cymeradwyo y prynhawn yma, ac mae'r Gweinidog wedi cadarnhau hynny ymhellach.
Dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i'r ddadl. Jayne.
I call on the Cabinet Secretary to reply to the debate. Jayne.

Diolch, Deputy Llywydd. I'm grateful to the Chair for the points made today and in the past, and to all Members for their contributions, perseverance and shared commitment during the journey we've been on to reach today's important debate. I'm really grateful to the Chair of the committee, and for the committee's work in terms of identifying that amendment, and we have put that right here.
This legislation is a powerful statement that disabled people belong and contribute, and deserve to be seen, heard and valued in every aspect of our society. This goes to the heart of democracy. Underpinning these regulations is our shared vision that barriers must be broken, opportunities must be equal and every individual, whatever their circumstances or support needs, should have the chance to thrive. It's an important step, not only for disabled people, but for all of us, as we build a more inclusive society. I ask Members to support these regulations.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am y pwyntiau a wnaed heddiw ac yn y gorffennol, ac i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, eu dyfalbarhad a'u hymrwymiad a rennir yn ystod y daith rydym wedi bod arni i gyrraedd y ddadl bwysig heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y pwyllgor, ac am waith y pwyllgor o ran nodi'r gwelliant hwnnw, ac rydym wedi rhoi hynny'n iawn yma.
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ddatganiad pwerus bod pobl anabl yn perthyn ac yn cyfrannu, ac yn haeddu cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi ym mhob agwedd ar ein cymdeithas. Mae hyn wrth wraidd democratiaeth. Yn sail i'r rheoliadau hyn mae'r weledigaeth a rennir gennym fod yn rhaid i rwystrau gael eu chwalu, bod yn rhaid i gyfleoedd fod yn gyfartal ac y dylai pob unigolyn, ni waeth beth fo'i amgylchiadau neu anghenion cymorth, gael y cyfle i ffynnu. Mae'n gam pwysig, nid yn unig i bobl anabl, ond i bob un ohonom, wrth i ni adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 9 sydd nesaf: cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig yn ffurfiol. Jayne Bryant.
Item 9 is next: a motion to suspend Standing Orders to allow the next item of business to be debated. I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to move the motion formally. Jayne Bryant.
Cynnig NNDM8965 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 27.7, Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8964 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar Dydd Mawrth 15 Gorffennaf.
Motion NNDM8965 Jane Hutt
To propose that Senedd Cymru, in accordance with Standing Orders 33.6 and 33.8:
Suspends Standing Order 27.7, Standing Order 12.20(i) and that part of Standing Order 11.16 that requires the weekly announcement under Standing Order 11.11 to constitute the timetable for business in Plenary for the following week, to allow NNDM8964 to be considered in Plenary on Tuesday 15 July.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Formally.
Yn ffurfiol.
Y cynnig yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
The proposal is to suspend the Standing Orders. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Yr eitem nesaf yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
The next item is the Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025, and I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to move the motion. Jayne Bryant.
Cynnig NNDM8964 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2025.
Motion NNDM8964 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 14 July 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch, Deputy Llywydd. Members will be aware of the recent conflict between Israel and Iran. In June, the UK Government arranged assisted departure to evacuate British nationals residing in Israel, the West Bank, the Gaza strip or east Jerusalem via chartered flights. I'm sure all Members would agree that we need to ensure that those fleeing the conflict arrive to a place of safety and security.
The UK Government has decided to disapply the habitual residence test to those arriving in the UK from affected areas for six months, with effect from 17 July. This exemption will allow access to welfare benefits and housing support immediately upon arrival. This temporary exemption is not yet reflected in the Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) Regulations 2014. Therefore, we have laid draft regulations before the Senedd to align housing eligibility rules with welfare provisions, ensuring consistency in support for those affected. This is necessary in order to provide support to the people fleeing the violence and conflict and afford them an opportunity to seek housing or homelessness assistance in Wales without undue delay.
The amendments made by these regulations will give clarity and certainty to those evacuated from Israel, the West Bank, the Gaza Strip or East Jerusalem, and who come to Wales, as to how they access housing or get homelessness assistance when they are here. Without an amendment, individuals arriving in Wales would remain ineligible for housing or homelessness assistance despite qualifying for welfare benefits. You'll note, Deputy Llywydd, that, as in previous similar circumstances, we have acted promptly and introduced the regulations more quickly than normal due to the extreme urgency that the situation necessitates.
I would like to take this opportunity to thank the committee and Members of the Senedd for their support on this urgent issue. Whilst we do not expect many people arriving in Wales in need of support, we must be prepared for those that do. As you will be aware, people are fleeing a difficult and distressing situation, and any support we can offer to those in need should be given. I do hope, Deputy Llywydd, that everyone across the Senedd shares this sentiment and will welcome the changes to the legislation. Diolch.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd aelodau'n ymwybodol o'r gwrthdaro diweddar rhwng Israel ac Iran. Ym mis Mehefin, trefnodd Llywodraeth y DU gymorth i ddinasyddion Prydain sy'n byw yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu ddwyrain Jerwsalem adael drwy hediadau siartredig. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn cytuno bod angen i ni sicrhau bod y rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn cyrraedd lle diogel.
Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â chymhwyso'r prawf preswylio arferol i'r rhai sy'n cyrraedd y DU o ardaloedd yr effeithir arnynt am chwe mis, o 17 Gorffennaf. Bydd yr eithriad hwn yn caniatáu mynediad at fudd-daliadau lles a chymorth tai yn syth ar ôl cyrraedd. Nid yw'r eithriad dros dro hwn wedi'i adlewyrchu eto yn Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014. Felly, rydym wedi gosod rheoliadau drafft gerbron y Senedd i alinio rheolau cymhwystra tai â darpariaethau lles, gan sicrhau cysondeb o ran y cymorth a roddir i'r rhai yr effeithir arnynt. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn darparu cymorth i'r bobl sy'n ffoi rhag y trais a'r gwrthdaro a rhoi cyfle iddynt geisio cymorth tai neu ddigartrefedd yng Nghymru heb oedi gormodol.
Bydd y diwygiadau a wneir gan y rheoliadau hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i'r rhai sydd wedi gadael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, ac sy'n dod i Gymru, ynghylch sut maent yn cael mynediad at dai neu'n cael cymorth digartrefedd pan fyddant yma. Heb ddiwygiad, byddai unigolion sy'n cyrraedd Cymru yn parhau i fod yn anghymwys i gael cymorth tai neu ddigartrefedd er eu bod yn gymwys i gael budd-daliadau lles. Byddwch yn nodi, Dirprwy Lywydd, ein bod ni, fel mewn amgylchiadau tebyg blaenorol, wedi gweithredu'n brydlon ac wedi cyflwyno'r rheoliadau yn gyflymach na'r arfer oherwydd y brys eithafol y mae'r sefyllfa yn gofyn amdano.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r pwyllgor ac Aelodau'r Senedd am eu cymorth ar y mater brys hwn. Er nad ydym yn disgwyl i lawer o bobl y mae angen cymorth arnynt gyrraedd Cymru, mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd. Fel y gwyddoch, mae pobl yn ffoi rhag sefyllfa anodd a gofidus, a dylem roi unrhyw gymorth y gallwn ni ei gynnig i'r rhai mewn angen. Rwy'n gobeithio, Dirprwy Lywydd, bod pawb ar draws y Senedd yn teimlo yr un fath ac y byddant yn croesawu'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Diolch.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Ysgrifennydd y Cabinet, ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth?
I have no further speakers. Cabinet Secretary, would you like to add anything?
Do you want to say anything else, Jayne?
Hoffech chi ddweud unrhyw beth arall, Jayne?
No.
Na.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is, therefore, agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 11 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth. Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i wneud y cynnig. Jack Sargeant.
Item 11 is next, the legislative consent motion on the Employment Rights Bill. I call on the Minister for Culture, Skills and Social Partnership to move the motion. Jack Sargeant.
Cynnig NDM8958 Jack Sargeant
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Cyflogaeth i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.
Motion NDM8958 Jack Sargeant
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 29.6 agrees that provisions in the Employment Rights Bill in so far as they have regard to devolved matters, should be considered by the UK Parliament.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. I move the motion and, in doing so, I refer Members to my declarations of interest, in particular my trade union membership.
I would like to thank the Legislation, Justice and Constitution Committee, the Economy, Trade and Rural Affairs Committee and the Equality and Social Justice Committee for the consideration they have given to the Welsh Government's legislative consent memoranda on the Employment Rights Bill and for the reports that they have produced. The Welsh Government has agreed with many of the committee's recommendations, and I also acknowledge the consideration the members of the Health and Social Care Committee have also given, including at the evidence session my colleague the Minister for Children and Social Care attended on 5 June.
The Employment Rights Bill has the full support of the Welsh Government. Building on our Welsh way of social partnership, this legislation is the single biggest upgrade to workers' rights in a generation. It enhances employment rights, it strengthens enforcement and it removes unnecessary restrictions on trade unions. The Bill will deliver real benefits to workers and employers in Wales.
It will boost productivity, help to make work pay and improve job security and working conditions. It goes a long way to creating a more level playing field in our economy. It's essential to tackling unscrupulous working practices and protecting the position of good, responsible employers. The Welsh Government has worked closely with the UK Government in the development of this legislation, and I am pleased the UK Government agreed to the requests to amend the Bill to provide Welsh Ministers with new powers in relation to the development of fair pay agreements in social care and the protection of workers during the outsourcing of services.
Earlier this month, the UK Government published its road map on the implementation of the Employment Rights Bill. We will continue to work closely with the UK Government in relation to this Bill and the broader plan to make work pay. Recognising the Employment Rights Bill's landmark importance and the positive impact it will have on workers, employers and communities across Wales, I recommend that the Senedd supports this Bill and gives it consent. Diolch.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ac, wrth wneud hynny, cyfeiriaf Aelodau at fy natganiadau o fuddiant, yn enwedig fy aelodaeth o undeb llafur.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am ystyried memoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau Cyflogaeth ac am yr adroddiadau y maent wedi'u cynhyrchu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â llawer o argymhellion y pwyllgor, ac rwyf hefyd yn cydnabod yr ystyriaeth y mae aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'i rhoi hefyd, gan gynnwys yn y sesiwn dystiolaeth a fynychodd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ar 5 Mehefin.
Mae gan y Bil Hawliau Cyflogaeth gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru. Gan adeiladu ar ein ffordd Gymreig o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, y ddeddfwriaeth hon yw'r uwchraddio mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth. Mae'n gwella hawliau cyflogaeth, mae'n cryfhau gorfodi ac mae'n dileu cyfyngiadau diangen ar undebau llafur. Bydd y Bil yn darparu manteision gwirioneddol i weithwyr a chyflogwyr yng Nghymru.
Bydd yn rhoi hwb i gynhyrchiant, yn helpu i wneud i waith dalu ac yn gwella diogelwch swyddi ac amodau gwaith. Mae'n gwneud llawer i sicrhau mwy o chwarae teg yn ein heconomi. Mae'n hanfodol o ran mynd i'r afael ag arferion gwaith diegwyddor a diogelu safle cyflogwyr da, cyfrifol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i'r ceisiadau i ddiwygio'r Bil i roi pwerau newydd i Weinidogion Cymru mewn perthynas â datblygu cytundebau cyflog teg ym maes gofal cymdeithasol a diogelu gweithwyr wrth allanoli gwasanaethau.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei map trywydd ar weithredu'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Bil hwn a'r cynllun ehangach i wneud i waith dalu. Gan gydnabod pwysigrwydd y Bil Hawliau Cyflogaeth a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar weithwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn cydsynio iddo. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Thank you Deputy Presiding Officer. First of all, can I declare my interest as being a member of several trade unions?
The Legislation, Justice and Constitution Committee has laid three reports on the four legislative consent memoranda for this Bill. The committee broadly agrees with the Welsh Government’s assessment of the clauses of the Bill that require consent. However, as set out in our first report, we disagree with the need for consent for some clauses in relation to trade unions. Our first report also covers the fact that the Bill imposes a duty on the Senedd Commission to develop an equality action plan, and we recently noted the Welsh Government’s response to that report.
I will focus my comments on our second report, which is on memorandum No. 3, to which the Welsh Government responded this morning. This memorandum raises constitutional issues as it covers an agreed amendment that gives the Welsh Ministers the power to establish a social care negotiating body for Wales through regulations. The provision enabling the establishment of this body is significant. In the committee’s view, should such provisions, or broadly similar provisions, be within the legislative competence of the Senedd, we believe that as a matter of principle they should be included in a Bill introduced to the Senedd.
The Minister for Children and Social Care told the Health and Social Care Committee that including the provision in this Bill will ensure it is underpinned by employment law, which would not be possible in a Bill introduced to the Senedd. However, she also spoke of being pragmatic about what is achievable in the time remaining in this Senedd term.
It is unclear to the committee whether the Senedd would have the legislative competence to introduce a Bill focused on social care that makes provision for a social care negotiating body for Wales, either as provision similar to that proposed by this Bill, or as provision for a body with a broadly similar purpose. For this reason, the committee recommended that the Welsh Government should provide an assessment of whether the Senedd would have the legislative competence to introduce a Bill into the Senedd containing a provision to create a social care negotiating body for Wales, or a body with similar purposes.
The Welsh Government response says that it would not be possible to provide a definitive legal position on this topic without first developing relevant draft provisions and undertaking a full legislative competence analysis of them. It says that this would require very considerable resource, which would be disproportionate in the circumstances and could not be completed before the Employment Rights Bill completes its passage through Parliament. The committee also felt that it was particularly unsatisfactory that, under the Bill, regulations may be used to create a devolved statutory body. We recommended that the Minister for social partnership explain why he considers it appropriate for the Bill to make provision in this way. In response to this point, the Welsh Government states that we are entering uncharted territory and so
‘it is essential that we retain the flexibility as to the timing of the establishment of the Social Care Negotiating Body.’
Under the Bill, the Welsh Ministers will need to obtain the consent of the UK Government before using their power to create this body. We understand that the Welsh Government is not content with this position, and has not been able to persuade the UK Government that this requirement should be removed from the Bill. The committee agrees with the need for this issue to be resolved, and so we recommended in our report that the Welsh Government should explain if it was considering sharing draft amendments with Members of the House of Lords for this purpose. The Welsh Government has told the committee that it is not pursuing an amendment in the House of Lords to remove the consent requirement as it feels that it has
‘exhausted all reasonable avenues to challenge it.’
Given that this consent requirement will stand part of the Bill, I would be grateful if the Minister could confirm if the Welsh Government has been able to secure any carve-outs from the Government of Wales Act 2006 in respect of this provision.
Finally, Deputy Llywydd, in memorandum No. 3 the Minister states that the Welsh Government will consider the financial implications of establishing a social care negotiating body for Wales before seeking to use the Welsh Ministers’ powers to establish the body. The Minister for Children and Social Care told the Health and Social Care Committee that the Welsh Government expects the UK Government to provide financial support for the Bill’s implementation. She also said that the Welsh Government had not made any assessments yet of the likely costs that would fall to it. This is unsatisfactory, and so the committee recommended that the Welsh Government should explain why it has not made an initial assessment of the potential financial implications of this provision in the Bill. The Welsh Government response does not refer to an initial assessment, but says that given the speed at which the Bill has progressed, there was no opportunity to carry out a full impact assessment before needing to decide whether to seek the extension of the relevant provisions to Wales. Diolch.
Diolch Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a allaf ddatgan fy muddiant fel aelod o sawl undeb llafur?
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gosod tri adroddiad ar y pedwar memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn. Mae'r pwyllgor yn cytuno'n fras ag asesiad Llywodraeth Cymru o gymalau'r Bil sy'n gofyn am gydsyniad. Fodd bynnag, fel y nodir yn ein hadroddiad cyntaf, rydym yn anghytuno â'r angen am gydsyniad ar gyfer rhai cymalau mewn perthynas ag undebau llafur. Mae ein hadroddiad cyntaf hefyd yn ymdrin â'r ffaith bod y Bil yn gosod dyletswydd ar Gomisiwn y Senedd i ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb, a gwnaethom nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw yn ddiweddar.
Byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar ein hail adroddiad ar femorandwm Rhif 3, yr ymatebodd Llywodraeth Cymru iddo y bore yma. Mae'r memorandwm hwn yn codi materion cyfansoddiadol gan ei fod yn ymdrin â gwelliant y cytunwyd arno sy'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru drwy reoliadau. Mae'r ddarpariaeth sy'n galluogi sefydlu'r corff hwn yn sylweddol. Ym marn y pwyllgor, pe bai darpariaethau o'r fath, neu ddarpariaethau tebyg yn fras, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, credwn y dylid eu cynnwys, fel mater o egwyddor, mewn Bil a gyflwynir i'r Senedd.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y bydd cynnwys y ddarpariaeth yn y Bil hwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ategu gan gyfraith cyflogaeth, na fyddai'n bosibl mewn Bil a gyflwynir i'r Senedd. Fodd bynnag, soniodd hefyd am fod yn bragmatig am yr hyn y gellir ei gyflawni yn yr amser sy'n weddill yn nhymor y Senedd hon.
Nid yw'n glir i'r pwyllgor a fyddai gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i gyflwyno Bil sy'n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru, naill ai fel darpariaeth debyg i'r hyn a gynigir gan y Bil hwn, neu fel darpariaeth ar gyfer corff sydd â'r un pwrpas, fwy neu lai. Am y rheswm hwn, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu asesiad ynghylch a fyddai gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i gyflwyno Bil i'r Senedd sy'n cynnwys darpariaeth i greu corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru, neu gorff â dibenion tebyg.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dweud na fyddai'n bosibl darparu safbwynt cyfreithiol diffiniol ar y pwnc hwn heb ddatblygu darpariaethau drafft perthnasol yn gyntaf a chynnal dadansoddiad cymhwysedd deddfwriaethol llawn ohonynt. Mae'n dweud y byddai hyn yn gofyn am adnoddau sylweddol iawn, a fyddai'n anghymesur yn yr amgylchiadau ac na fyddai modd ei gwblhau cyn i'r Bil Hawliau Cyflogaeth gwblhau ei daith drwy Senedd y DU. Roedd y pwyllgor hefyd yn teimlo ei bod yn arbennig o anfoddhaol bod rheoliadau yn gallu cael eu defnyddio, o dan y Bil, i greu corff statudol datganoledig. Gwnaethom argymell bod y Gweinidog partneriaeth gymdeithasol yn esbonio pam ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i'r Bil wneud darpariaeth yn y modd hwn. Mewn ymateb i'r pwynt hwn, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ein bod yn troedio tir newydd ac felly
'mae'n hanfodol ein bod yn cadw'r hyblygrwydd o ran amseru sefydlu’r Corff Negodi Gofal Cymdeithasol.'
O dan y Bil, bydd angen i Weinidogion Cymru gael cydsyniad Llywodraeth y DU cyn defnyddio eu pŵer i greu'r corff hwn. Rydym yn deall nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon â'r sefyllfa hon, ac nid yw wedi gallu perswadio Llywodraeth y DU y dylid tynnu'r gofyniad hwn o'r Bil. Mae'r pwyllgor yn cytuno bod angen i'r mater hwn gael ei ddatrys, ac felly gwnaethom argymell yn ein hadroddiad y dylai Llywodraeth Cymru esbonio a oedd yn ystyried rhannu gwelliannau drafft gydag Aelodau Tŷ'r Arglwyddi at y diben hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor nad yw'n mynd ar drywydd gwelliant yn Nhŷ'r Arglwyddi i gael gwared ar y gofyniad am gydsyniad gan ei bod yn teimlo ei bod wedi
'dihysbyddu pob llwybr rhesymol i’w herio.'
O ystyried y bydd y gofyniad hwn am gydsyniad yn rhan o'r Bil, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau unrhyw eithriadau o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â'r ddarpariaeth hon.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ym memorandwm Rhif 3, mae'r Gweinidog yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried goblygiadau ariannol sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru cyn ceisio defnyddio pwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu'r corff. Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gweithredu'r Bil. Dywedodd hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiadau eto o'r costau tebygol a fyddai'n disgyn iddi. Mae hyn yn anfoddhaol, ac felly argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru esbonio pam nad yw wedi gwneud asesiad cychwynnol o oblygiadau ariannol posibl y ddarpariaeth hon yn y Bil. Nid yw ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at asesiad cychwynnol, ond mae'n dweud, o ystyried pa mor gyflym y mae'r Bil wedi symud ymlaen, nad oedd cyfle i gynnal asesiad effaith llawn cyn gorfod penderfynu a ddylid ceisio estyniad i'r darpariaethau sy'n berthnasol i Gymru. Diolch.
Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Peter Fox.
I now call on the Chair of the Health and Social Care Committee, Peter Fox.
Diolch, Dirprwy Lywydd. As Chair of the Health and Social Care Committee, my contribution today relates to memorandum No. 3 for the Employment Rights Bill. Memorandum No. 3 refers to amendments agreed at Report Stage in the House of Commons. A substantive amendment inserts new clause 36 into the Bill, which gives the Welsh Ministers a regulation-making power to establish a new social care negotiating body for Wales. The new negotiating body is intended to develop and agree fair pay agreements in social care, which would shape the terms and conditions of workers in the social care sector. As part of our consideration of the memorandum, we heard evidence from the Minister for Children and Social Care. Following that session, we made seven recommendations to the Welsh Government that are set out in full in our report.
I would like to focus on part of that report, and in particular our views on the Welsh Government's approach to this policy. As a committee, we recognised the long-standing recruitment and retention difficulties within the social care workforce, and the need to improve the pay, terms and conditions of that workforce. The Bill provides a mechanism to negotiate to improve these matters, and will make any new agreements legally enforceable. It will also apply across adult and children social care in Wales.
However, as a committee, we were concerned about the use of a UK Bill for the delivery of this significant area of policy. The Welsh Government has a long-standing commitment to promote fair pay in the social care workforce, yet has not brought forward its own Bill. The effect of this choice is to severely limit the opportunities for stakeholders in Wales to be involved in the legislative process, and for the Senedd to examine the policy in detail. It will also mean that the future delivery of this significant policy will be by means of regulations. We have asked the Minister for Children and Social Care to explain why she believes it is appropriate for the social care negotiating body to be set up by regulations, rather than by a Welsh Bill.
We have serious concerns about the consent requirements in the Bill. Before using its regulation-making powers to set up a negotiating body, the Welsh Government must obtain the consent of the Secretary of State. We see no reason why the legitimate exercise of powers conferred on Welsh Ministers should be restricted in this way. We support the Welsh Government's position that consent is unnecessary, and we believe the Minister should pursue all available options to ensure this requirement is removed from the Bill.
Finally, the financial implications. Funding will be key to the successful implementation of new section 36, so we were concerned to hear so little preparatory work has been undertaken, and so little seems to be known about the funding that will come from the UK Government. We have asked the Minister to keep us updated on progress with discussions with the UK Government.
As a committee, we feel that memorandum No. 3 and the arrangements in the Bill to establish a social care negotiating body for Wales are far from satisfactory. We fully support the principle of strengthening the social care workforce in Wales, and improving the pay, terms and conditions of that workforce. A majority of the committee supported this memorandum as a way of achieving that. A minority, however, felt that the lack of financial planning and the wider constitutional issues meant they could not support this memorandum. Thank you.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae fy nghyfraniad heddiw yn ymwneud â memorandwm Rhif 3 ar gyfer y Bil Hawliau Cyflogaeth. Mae Memorandwm Rhif 3 yn cyfeirio at welliannau y cytunwyd arnynt yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae gwelliant sylweddol yn mewnosod cymal 36 newydd yn y Bil, sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol newydd i Gymru. Bwriad y corff negodi newydd yw datblygu a chytuno ar gytundebau cyflog teg ym maes gofal cymdeithasol, a fyddai'n llywio telerau ac amodau gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol. Fel rhan o'n hystyriaeth o'r memorandwm, clywsom dystiolaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Yn dilyn y sesiwn honno, gwnaethom saith argymhelliad i Lywodraeth Cymru sydd wedi'u nodi'n llawn yn ein hadroddiad.
Hoffwn ganolbwyntio ar ran o'r adroddiad hwnnw, ac yn arbennig ein barn ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r polisi hwn. Fel pwyllgor, gwnaethom gydnabod yr anawsterau recriwtio a chadw hirsefydlog o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol, a'r angen i wella cyflog, telerau ac amodau'r gweithlu hwnnw. Mae'r Bil yn darparu mecanwaith i negodi i wella'r materion hyn, a bydd yn gwneud unrhyw gytundebau newydd yn gyfreithiol orfodadwy. Bydd hefyd yn berthnasol ar draws gofal cymdeithasol oedolion a phlant yng Nghymru.
Fodd bynnag, fel pwyllgor, roeddem yn pryderu am y defnydd o Fil y DU ar gyfer cyflawni'r maes polisi sylweddol hwn. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i hyrwyddo cyflog teg yn y gweithlu gofal cymdeithasol, ond nid yw wedi cyflwyno ei Bil ei hun. Bydd y dewis hwn yn cyfyngu'n ddifrifol ar y cyfleoedd i randdeiliaid yng Nghymru fod yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol, ac i'r Senedd archwilio'r polisi yn fanwl. Bydd hefyd yn golygu mai drwy gyfrwng rheoliadau y bydd y polisi arwyddocaol hwn yn cael ei gyflawni yn y dyfodol. Rydym wedi gofyn i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol egluro pam ei bod o'r farn ei bod yn briodol i'r corff negodi gofal cymdeithasol gael ei sefydlu gan reoliadau, yn hytrach na Bil Cymru.
Mae gennym bryderon difrifol am y gofynion cydsynio yn y Bil. Cyn iddi ddefnyddio ei phwerau gwneud rheoliadau i sefydlu corff negodi, rhaid i Lywodraeth Cymru gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid ydym yn gweld unrhyw reswm pam y dylid cyfyngu ar arfer cyfreithlon y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru yn y modd hwn. Rydym yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru bod cydsyniad yn ddiangen, ac rydym o'r farn y dylai'r Gweinidog fynd ar drywydd yr holl opsiynau sydd ar gael i sicrhau bod y gofyniad hwn yn cael ei ddileu o'r Bil.
Yn olaf, y goblygiadau ariannol. Bydd cyllid yn allweddol i weithredu adran 36 newydd yn llwyddiannus, felly roeddem yn bryderus o glywed bod cyn lleied o waith paratoi wedi'i wneud, a bod cyn lleied o wybodaeth, yn ôl pob golwg, am y cyllid a ddaw gan Lywodraeth y DU. Rydym wedi gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd gyda thrafodaethau â Llywodraeth y DU.
Fel pwyllgor, rydym o'r farn bod memorandwm Rhif 3 a'r trefniadau yn y Bil i sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru ymhell o fod yn foddhaol. Rydym yn cefnogi'n llawn yr egwyddor o gryfhau'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, a gwella cyflog, telerau ac amodau'r gweithlu hwnnw. Roedd mwyafrif y pwyllgor yn cefnogi'r memorandwm hwn fel ffordd o gyflawni hynny. Fodd bynnag, roedd lleiafrif yn teimlo bod y diffyg cynllunio ariannol a'r materion cyfansoddiadol ehangach yn golygu na allent gefnogi'r memorandwm hwn. Diolch.
The Welsh Conservative group will be voting against this LCM. We cannot and do not support the Employment Rights Bill. Although the intentions behind this legislation appear commendable, I am concerned about the significant burden it will impose on businesses across the UK. For example, it will result in over £5 billion in additional costs for businesses, lead to job losses and reduce workers' flexibility. Additionally, mandatory discussions about unionisation will grant unions extensive access to employees, and enable them to organise more strikes due to shorter notice periods and lower turnout thresholds. The country is facing its biggest financial crisis in decades and an unprecedented tax burden. We need economic growth, not barriers. We therefore cannot support the UK Government's legislation, nor give it consent to legislate on our behalf. Diolch yn fawr.
Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Ni allwn ac nid ydym yn cefnogi'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Er bod y bwriadau y tu ôl i'r ddeddfwriaeth hon yn ymddangos yn deilwng, rwy'n pryderu am y baich sylweddol y bydd yn ei osod ar fusnesau ledled y DU. Er enghraifft, bydd yn arwain at dros £5 biliwn mewn costau ychwanegol i fusnesau, bydd yn arwain at golli swyddi a bydd yn lleihau hyblygrwydd gweithwyr. Yn ogystal, bydd trafodaethau gorfodol am undeboli yn rhoi mynediad helaeth i undebau i weithwyr, ac yn eu galluogi i drefnu mwy o streiciau oherwydd cyfnodau rhybudd byrrach a throthwyon pleidleisio is. Mae'r wlad yn wynebu ei hargyfwng ariannol mwyaf ers degawdau a baich treth digynsail. Mae angen twf economaidd arnom, nid rhwystrau. Felly, ni allwn gefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU, na rhoi cydsyniad iddi ddeddfu ar ein rhan. Diolch yn fawr.
It's no surprise that the Conservatives will be opposing this LCM today. I think there is a lot to welcome in the Employment Rights Bill: day-one rights for workers, zero-hours contracts being revised, removing restrictions on unions, ending fire and rehire. There are a lot of things to be positive about here, though I will say in some of the wording around some of these things, it's not as strong as I would have liked it to have been. But again, as I said, there's a lot to welcome and it's a massive step change from the previous Government. Of course, we would've also liked to have seen more on parental leave and an end to pay discrimination, but I did note that the UK Government will be doing further work on this in the coming years. So, we'll be interested in seeing how that work pans out.
In terms of the LCM today, we'll be abstaining on the LCM. Despite these positive steps, there are, I think, serious concerns, particularly the powers this Bill affords the UK Secretaries of State to override decisions by the Welsh Government. This is evident in clause 151, which provides the Secretary of State with the power to make consequential provisions in relation to the Bill. This includes a Henry VIII power, which enables a Secretary of State to amend, to repeal or revoke legislation that includes an Act or Measure of the Senedd. Now, similar to how things were under the previous Government, in this LCM we are seeing provisions that encroach on the ability of this Government and this place to legislate on behalf of the people in Wales.
Now, in the same way that the Welsh Government would've opposed such a power grab back in the days of a Tory Government, I would hope they would do exactly the same now in the days of a UK Labour Government. So, on that basis, we will be abstaining on today's LCM.
Nid yw'n syndod y bydd y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Rwy'n credu bod llawer i'w groesawu yn y Bil Hawliau Cyflogaeth: hawliau i weithwyr o'r diwrnod cyntaf, contractau dim oriau yn cael eu hadolygu, dileu cyfyngiadau ar undebau, rhoi terfyn ar ddiswyddo ac ailgyflogi. Mae yna lawer o bethau i fod yn gadarnhaol amdanyn nhw yma, er nad yw rhywfaint o'r geiriad ynghylch rhai o'r pethau hyn mor gryf ag y byddwn i wedi hoffi iddo fod. Ond eto, fel y dywedais, mae llawer i'w groesawu ac mae'n newid enfawr o'r Llywodraeth flaenorol. Wrth gwrs, byddem hefyd wedi hoffi gweld mwy ar absenoldeb rhiant a diwedd ar wahaniaethu ar sail cyflog, ond nodais y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud gwaith pellach ar hyn yn y blynyddoedd i ddod. Felly, bydd gennym ddiddordeb mewn gweld sut y bydd y gwaith hwnnw'n datblygu.
O ran y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, byddwn ni'n ymatal ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Er gwaethaf y camau cadarnhaol hyn, mae yna, rwy'n credu, bryderon difrifol, yn enwedig ynghylch y pwerau y mae'r Bil hwn yn eu rhoi i Ysgrifenyddion Gwladol y DU ddiystyru penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn amlwg yng nghymal 151, sy'n rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud darpariaethau canlyniadol mewn perthynas â'r Bil. Mae hyn yn cynnwys pŵer Harri VIII, sy'n galluogi Ysgrifennydd Gwladol i ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfwriaeth sy'n cynnwys Deddf neu Fesur y Senedd. Nawr, yn debyg i sut yr oedd pethau o dan y Llywodraeth flaenorol, yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, rydym yn gweld darpariaethau sy'n tresmasu ar allu'r Llywodraeth hon a'r lle hwn i ddeddfu ar ran pobl Cymru.
Nawr, yn yr un modd ag y byddai Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu cipio pŵer o'r fath yn nyddiau Llywodraeth Dorïaidd, byddwn yn gobeithio y byddent yn gwneud yr un peth nawr yn nyddiau Llywodraeth Lafur y DU. Felly, ar y sail honno, byddwn yn ymatal ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw.
I want to start by declaring I'm a proud trade unionist; I'm a member of both Unison and Unite, as set out in my register of interests.
This is the first time I've sought to speak on an LCM from the back benches, and whilst I do so as a passionate defender of devolution, I personally would like to see further exploration of how we can extend what we can do in respect of a better deal at work within a Wales context. So, I would very much like to make the case today for Members to back this LCM.
Whether we like it or not, employment rights are reserved and not enforceable at a Wales-specific level. If workers in the social care sector in Wales are not in scope of a UK social care negotiation body, employers would only be expected to provide the statutory minimum with regards to pay, terms and conditions, potentially disadvantaging more than 85,000 workers in Wales. If employment rights for care workers in Wales do not improve in line with the rest of the UK, there will be a cost. Yes, a cost to those individual workers, a cost to the sector as a whole, but a cost to our country. As someone who serves a constituency close to the border, I have very real concerns that, somewhat understandably, care workers may seek to work down the road in England for better rewards, if that was the case. So, I would say the fair pay agreement is breaking new ground. There is currently no sectoral collective bargaining for care workers anywhere in the UK. In fact, Luke mentioned all the positive things about the employment rights legislation, and being somebody that's advocated for fair work and a better deal at work for most of my working life, I think the fair pay agreement is something that really stood out for me. It's something really specific and concrete that could make a difference in practical terms to people.
Just over a decade ago now, maybe slightly more than that, I produced a trade union policy paper advocating for sectoral reform as a means of both uplifting the workforce and securing the sustainability of a range of diverse sectors here in Wales. Much of this case, this approach still stands, and I would urge the Welsh Government along with, obviously, social partners, to seriously explore what further levers we do have here in this respect. Because, as you said, we've led the way in the UK with our social partnership approach, but this work is far, far from done, and it needs to be meaningfully built on with deeds, not just words. With that in mind, the Welsh Government should also have an ongoing constitutional say and stake in those fair pay agreements that cover devolved sectors, something that I've advocated for from the outset of the employment rights legislation that's currently going through the UK Parliament.
What I would say in closing today, Dirprwy Lywydd, is to not pass this LCM does risk leaving workers in the care sector in Wales behind, many of whom are predominantly lower paid women workers. I think we need to see this as a way of progressing worker rights in a sector that radically needs reform, a sector that society depends upon, and a workforce, at different times in life, to whom we entrust our nearest and most dearest. So, I would say to everyone in this Siambr today: if you support Welsh workers in a sector that plays such a vital part for our people, our places, that provides dignity, that underpins society, then you should support this LCM today. Diolch.
Rwyf am ddechrau drwy ddatgan fy mod i'n undebwr llafur balch; rwy'n aelod o Unsain ac Unite, fel y nodir yn fy nghofrestr buddiannau.
Dyma'r tro cyntaf i mi siarad ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol o'r meinciau cefn, ac er fy mod i'n gwneud hynny fel amddiffynnydd brwd dros ddatganoli, hoffwn yn bersonol weld archwiliad pellach o sut y gallwn ni ymestyn yr hyn y gallwn ni ei wneud mewn perthynas â bargen well yn y gwaith yng nghyd-destun Cymru. Felly, hoffwn wneud yr achos heddiw i Aelodau gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
P'un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, mae hawliau cyflogaeth wedi'u cadw'n ôl ac nid oes modd eu gorfodi ar lefel benodol i Gymru. Os nad yw gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru o fewn cwmpas corff negodi gofal cymdeithasol yn y DU, dim ond yr isafswm statudol o ran cyflog, telerau ac amodau y byddai disgwyl i gyflogwyr ei ddarparu, gan roi mwy nag 85,000 o weithwyr yng Nghymru dan anfantais o bosibl. Os nad yw hawliau cyflogaeth gweithwyr gofal yng Nghymru yn gwella yn unol â gweddill y DU, bydd yna gost. Ie, cost i'r gweithwyr unigol hynny, cost i'r sector yn ei gyfanrwydd, ond cost i'n gwlad. Fel rhywun sy'n gwasanaethu etholaeth yn agos at y ffin, mae gen i bryderon go iawn y gallai gweithwyr gofal, yn ddealladwy, geisio gwaith i lawr y ffordd yn Lloegr am fanteision gwell, pe bai hynny'n wir. Felly, byddwn i'n dweud bod y cytundeb cyflog teg yn torri tir newydd. Ar hyn o bryd, nid oes bargeinio ar y cyd sectoraidd ar gyfer gweithwyr gofal yn unman yn y DU. Yn wir, soniodd Luke am yr holl bethau cadarnhaol am y ddeddfwriaeth hawliau cyflogaeth, ac fel rhywun sydd wedi eirioli dros waith teg a bargen well yn y gwaith am y rhan fwyaf o fy mywyd gwaith, rwy'n credu bod y cytundeb cyflog teg yn rhywbeth a sefodd allan i mi. Mae'n rhywbeth penodol a chadarn iawn a allai wneud gwahaniaeth i bobl mewn termau ymarferol.
Ychydig dros ddegawd yn ôl erbyn hyn, efallai ychydig yn fwy na hynny, lluniais i bapur polisi undebau llafur yn eirioli dros ddiwygio sectoraidd fel modd o ddyrchafu'r gweithlu a sicrhau cynaliadwyedd ystod o sectorau amrywiol yma yng Nghymru. O ran llawer o'r achos hwn, mae'r dull hwn yn dal i fod yn ddilys, a byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru ynghyd â phartneriaid cymdeithasol, yn amlwg, i archwilio o ddifrif pa liferi pellach sydd gennym ni yma yn hyn o beth. Oherwydd, fel y dywedoch, rydym wedi arwain y ffordd yn y DU gyda'n dull partneriaeth gymdeithasol, ond mae'r gwaith hwn ymhell iawn o fod wedi'i wneud, ac mae angen adeiladu arno'n ystyrlon gyda gweithredoedd, nid geiriau yn unig. Gyda hynny mewn golwg, dylai Llywodraeth Cymru hefyd gael llais a rhan cyfansoddiadol parhaus yn y cytundebau cyflog teg hynny sy'n cwmpasu sectorau datganoledig, rhywbeth yr wyf wedi eirioli drosto ers dechrau'r ddeddfwriaeth hawliau cyflogaeth sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth gloi heddiw, Dirprwy Lywydd, yw y gallai gweithwyr yn y sector gofal yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn weithwyr benywaidd sydd ar gyflog is gan amlaf, gael eu gadael ar ôl os na chaiff y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ei basio. Rwy'n credu bod angen i ni weld hyn fel ffordd o ddatblygu hawliau gweithwyr mewn sector sydd angen cael ei ddiwygio mewn ffordd radical, sector y mae cymdeithas yn dibynnu arno, a gweithlu yr ydym yn rhoi ein hanwyliaid yn ei ofal ar wahanol adegau mewn bywyd. Felly, byddwn i'n dweud wrth bawb yn y Siambr hon heddiw: os ydych chi'n cefnogi gweithwyr yng Nghymru mewn sector sy'n chwarae rhan mor hanfodol i'n pobl, i'n lleoedd, sy'n darparu urddas, sy'n sail i gymdeithas, yna dylech chi gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Diolch.
A gaf i, ar y dechrau, ddatgan fy mod i yn cefnogi egwyddorion ac amcanion y Bil yn llwyr? Mae angen inni ei weld o'n gweithredu, ac yn sicr o safbwynt y sector gofal, mi fyddwn i'n croesawu gweld tâl teg yn cael ei roi i ofalwyr. Ond mae gen i broblemau a phryderon mawr am y ffordd mae hyn yn cael ei weithredu, fel yr ydyn ni wedi'i glywed gan Luke Fletcher ynghynt.
Mae'r ffordd mae'r Llywodraeth yma wedi mynd ati er mwyn cyflwyno hyn, a'r ffordd mae Llywodraeth San Steffan wedi mynd ati, yn beryglus. Mae o'n tanseilio Llywodraeth Cymru, mae'n tanseilio'r Senedd yma, ac mae'n tanseilio datganoli. Unwaith eto, rydyn ni'n gweld defnydd o rymoedd Harri VIII, sy'n galluogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru—yn San Steffan, yn yr achos yma—i addasu neu wyrdroi Deddf neu Fesur a fydd wedi cael ei basio gan y Senedd yma. Mae hynny, i fi, yn gwbl annerbyniol. Efallai fod hyn yn dderbyniol i'r Llywodraeth yma ar hyn o bryd tra bod Llywodraeth Llafur yn bodoli yn San Steffan, ond beth fyddai'n digwydd os cawn ni Lywodraeth arall yn San Steffan rywdro? Dywedwch fod Reform yn ennill y tro nesaf, beth fuasai hynny'n golygu i'r Senedd yma ac i ddatganoli wedyn, ein bod ni wedi trosglwyddo'r grym a rhoi'r hawl yna i Ysgrifennydd Gwladol Reform yn San Steffan? Ydy'r Llywodraeth yma, felly, yn credu bod hyn yn sefyllfa dderbyniol?
Hefyd, mi fydd dim hawl gan y Gweinidog yma yng Nghymru i sefydlu corff tâl teg heb gael caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan. Mae hyn, unwaith eto, yn fy nhyb i, yn gwbl annerbyniol. Ydy'r Llywodraeth yn credu bod y sefyllfa yma'n dderbyniol, lle mae'n rhaid plygu i San Steffan er mwyn cyflawni'r Deddfau y mae hawl gennym ni i'w gwneud fan hyn yng Nghymru?
Fedrwn ni ddim parhau i ddeddfu fel hyn, gyda grymoedd yn cael eu cymryd oddi ar ein Senedd ni, a'n llais democrataidd ni'n cael ei danseilio dro ar ôl tro. Rwy'n deall bod y Llywodraeth yma'n gwrthwynebu'r defnydd o rymoedd Harri VIII, ond eu bod nhw wedi methu darbwyllo Llafur yn San Steffan. Wel, beth mae hyn yn ei ddweud am y bartneriaeth mewn pŵer? Does dim lot o rym gan y Llywodraeth yma dros Lywodraeth San Steffan.
Mi fydd y Bil yma'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau nifer fawr o bobl yng Nghymru, ac mi fydd ganddo fo hefyd effaith ar faterion eraill sydd wedi eu datganoli, boed yn gyllideb Cymru, yn wasanaethau gofal, ac yn wir yn wasanaethau iechyd, ond does yna ddim amser wedi cael ei neilltuo neu ei roi ar gyfer craffu hyn yn y cyd-destun ehangach yna. Does yna ddim craffu Cymreig wedi bod. Ydy'r Llywodraeth yn credu bod hyn yn dderbyniol? Nid fel hyn mae llywodraethu, a dwi eisiau sicrhau bod hyn yn cael ei roi ar gofnod, fy anfodlonrwydd i o'r drefn yma.
Yn olaf, mi allai'r Llywodraeth yma wedi mynd ati i gyflwyno ei Mesurau ei hun. Rŵan, dwi'n derbyn na fyddai Mesurau o'r fath wedi bod yn statudol yng nghyd-destun Cymru oherwydd nad ydy hawliau cyflogaeth wedi cael eu datganoli, ac mae yna gwestiwn yn fanna o ran beth mae'r Llywodraeth yma'n ei wneud er mwyn sicrhau datganoli hawliau cyflogaeth a sicrhau ein bod ni'n flaengar yng Nghymru, ond dydyn nhw ddim, ac mi fuasai unrhyw beth a fyddai'n cael ei wneud yng Nghymru wedi bod yn Fesur gwirfoddol, ond mi fuasai hynny wedi dangos llwybr clir a dangos awydd y Llywodraeth yma. Felly, pam na wnaeth y Llywodraeth yma fynd ati i weithredu Mesur annibynnol ei hun cyn ein bod ni'n ddibynnol ar San Steffan? Ydy'r Llywodraeth yma erbyn hyn wedi rhoi fyny ar ddatblygu ei syniadau ei hun, ac yn ddibynnol ar San Steffan i ddarparu'r syniadau a'r Biliau i Gymru? Diolch.
At the outset, may I state that I support the principles and objectives of the Bill in their entirety? We need to see it implemented, and certainly in terms of the care sector, I would welcome seeing fair pay provided to carers. But I have very grave concerns about the way that this is to be implemented, as we've heard from Luke Fletcher a little earlier.
The way that this Government has actually introduced this, and the way that the Westminster Government has approached it, is dangerous. It undermines the Welsh Government, it undermines this Parliament, and it undermines devolution. Once again, we are seeing the use of Henry VIII powers, that enable a Secretary of State—the Secretary of State for Wales in Westminster, in this case—to change or overturn an Act or Measure that's passed by this Senedd. To me, that is entirely unacceptable. This may be acceptable to the Government here at the moment, whilst there is a Labour Government in Westminster, but what would happen if we were to have another Government in Westminster at some point in the future? Let's say that Reform win next time. What would happen? What would that mean for this Parliament and for devolution, that we've transferred powers and given those powers to a Reform Secretary of State in Westminster? Does this Government believe, therefore, that this is an acceptable situation?
Also, there will be no right for the Minister here in Wales to establish a fair pay body without the consent of the Secretary of State in Westminster. This, again, in my view, is entirely unacceptable. Does the Government believe that that situation is acceptable, where we have to bow to Westminster to deliver the legislation that we have the right to make here in Wales?
We can't continue to legislate in this way, with powers being taken away from our Parliament and our democratic voice being undermined time and time again. I understand that the Government here opposes the use of Henry VIII powers, but they have failed to convince Labour in Westminster. Well, what does this tell us about the partnership in power? The Government here doesn't have much influence on the Westminster Government.
This Bill will have a direct impact on the lives of many people in Wales, and it will also have an impact on other devolved areas, be they the Welsh budget, care services, and indeed health services, but no time has been allocated to scrutinise this in that broader context. There has been no Welsh scrutiny of this. Does the Government believe that this is acceptable? This is not how we should govern, and I want to ensure that this is put on the record in terms of my dissatisfaction with this system.
Finally, the Government here could have introduced its own Bills. Now, I understand that those Bills wouldn't have been statutory in terms of Wales because employment rights are not devolved, and there is a question there as to what the Government here is doing in order to secure the devolution of employment powers and to ensure that we can be progressive in Wales, but they aren't, and anything done in Wales would have been a voluntary Bill, but that would have demonstrated a clear path and a desire by this Welsh Government. So, why didn't the Government here actually implement its own independent Bill before we became reliant on Westminster? Has the Government now given up on developing its own ideas, and is entirely reliant on Westminster to provide ideas and Bills for Wales? Thank you.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
I call now on the Minister to reply to the debate.

Diolch yn fawr, Deputy Presiding Officer. Can I thank all Members for their contributions, particularly the Chair of the two committees that spoke in this debate? Lots of the discussion, Presiding Officer, was around the social care negotiation body, and I believe the Minister has already set out in quite some detail in writing and in oral evidence the points there, and I will ask the Minister for Children and Social Care to keep Members updated on the implementation phase.
Presiding Officer, we share the objectives of the Employment Rights Bill, and I do note some of the concerns from some Members in the contributions today, but we do believe it's very much in the best interests of the social care sector and social care workers in Wales in particular that we establish a social care negotiation body and fair pay agreements in social care, for all of the reasons that Hannah Blythyn pointed out. Unison Cymru are absolutely right when they say there is a solid and ethical rationale for supporting this motion.
Presiding Officer, in the time that I do have, I do welcome Luke Fletcher setting out his party's position. There is a lot to welcome in this Employment rights Bill and these subsequent legislative consent memorandums. It's the single biggest upgrade to workers' rights in a generation, and I appreciate Members' comments. Where I don't agree at all, but I'm not surprised, Presiding Officer, is on the position of the Conservatives. I'm pretty sure I heard them say that they cannot and do not support the Employment Rights Bill. Well, that's no surprise at all. Their party, when they were in power in Westminster, consistently tried to undermine workers' rights for 14 years. And they are the same now, aren't they? Both the Tories and Reform, at every single stage in this legislation—every single stage—voted against this Bill. They don't care about working people, Presiding Officer, and their voting record is very, very clear on that matter.
Presiding Officer, this is the single biggest upgrade to workers' rights in a generation, and I do ask Members to vote in support of the motion today, where our continued journey voting for workers' rights goes on, in that long, historic struggle that many of us in this Chamber support, but, unsurprisingly, not some. Diolch.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, yn enwedig Cadeirydd y ddau bwyllgor a siaradodd yn y ddadl hon? Roedd llawer o'r drafodaeth, Llywydd, yn ymwneud â'r corff negodi gofal cymdeithasol, ac rwy'n credu bod y Gweinidog eisoes wedi nodi yn eithaf manwl yn ysgrifenedig ac mewn tystiolaeth lafar y pwyntiau yn hynny o beth, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cam gweithredu.
Llywydd, rydym yn rhannu amcanion y Bil Hawliau Cyflogaeth, ac rwy'n nodi rhai o'r pryderon a godwyd gan rai Aelodau yn y cyfraniadau heddiw, ond credwn ei bod er budd pennaf y sector gofal cymdeithasol, a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn arbennig, ein bod ni'n sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol a chytundebau cyflog teg mewn gofal cymdeithasol, am yr holl resymau a nodwyd gan Hannah Blythyn. Mae Unsain Cymru yn hollol gywir pan fyddan nhw'n dweud bod rhesymeg cadarn a moesegol dros gefnogi'r cynnig hwn.
Llywydd, yn yr amser sydd gennyf, rwy'n croesawu Luke Fletcher yn nodi safbwynt ei blaid. Mae llawer i'w groesawu yn y Bil Hawliau Cyflogaeth hwn a'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol dilynol hyn. Dyma'r uwchraddio mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, ac rwy'n gwerthfawrogi sylwadau'r Aelodau. Lle nad wyf yn cytuno o gwbl, ond nid yw'n syndod i mi, Llywydd, yw ar safbwynt y Ceidwadwyr. Rwy'n eithaf siŵr fy mod i wedi eu clywed yn dweud na allant ac nad ydynt yn cefnogi'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Wel, nid yw hynny'n syndod o gwbl. Roedd eu plaid, pan oeddent mewn grym yn San Steffan, yn ceisio tanseilio hawliau gweithwyr yn gyson am 14 mlynedd. Ac maent yr un peth nawr, onid ydyn nhw? Pleidleisiodd y Torïaid a Reform, ar bob cam yn y ddeddfwriaeth hon—bob un cam—yn erbyn y Bil hwn. Nid ydynt yn poeni am bobl sy'n gweithio, Llywydd, ac mae eu record bleidleisio yn glir iawn, iawn ar y mater hwnnw.
Llywydd, dyma'r uwchraddio mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau bleidleisio o blaid y cynnig heddiw, lle mae ein taith barhaus yn pleidleisio dros hawliau gweithwyr yn parhau, yn y frwydr hir, hanesyddol honno y mae llawer ohonom yn y Siambr hon yn ei chefnogi, ond, fel y gellid disgwyl, nid rhai. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] Yes, I have heard an objection, so I'll defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Mae eitem 12 wedi ei gohirio tan 16 Medi.
Item 12 has been postponed until 16 September.
Symudwn ymlaen at eitem 13, y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)—hysbysiad ffurfiol o gydsyniad Ei Fawrhydi a Dug Cernyw. A galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
We move on now to item 13, the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill—the signification of His Majesty and the Duke of Cornwall's consent. And I call on the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I have it in command from His Majesty the King and the Duke of Cornwall to acquaint the Senedd that His Majesty and the Duke, having been informed of the purport of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill, have given their consent to this Bill.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gennyf orchymyn gan Ei Fawrhydi y Brenin a Dug Cernyw i hysbysu'r Senedd fod Ei Fawrhydi a'r Dug, ar ôl cael gwybod am ddiben y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), wedi cydsynio i'r Bil hwn.
A Chyfnod 4 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) sydd nesaf, a galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y cynnig, Huw Irranca-Davies.
And Stage 4 now of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill is next, and I call on the Deputy First Minister and Cabinet Secretary to move the motion, Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8963 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru).
Motion NDM8963 Huw Irranca-Davies
To propose that the Senedd in accordance with Standing Order 26.47:
Approves the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i wneud y cynnig gerbron y Senedd heddiw ar gyfer Cam 4 o'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), a gyflwynwyd i'r Senedd ar 9 Rhagfyr 2024.
Thank you, Dirprwy Lywydd. It's my pleasure to move the motion before this Senedd for Stage 4 of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill, which was introduced to the Senedd on 9 December 2024.
Since the Bill was introduced, it has progressed successfully through the Senedd's legislative process, and I want to thank the Chairs and the individual members and staff of the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee, the Finance Committee and the Legislation, Justice and Constitution Committee for their detailed consideration and the very high quality of their scrutiny and their reports in relation to the Bill and the supporting explanatory memorandum and regulatory impact assessment. I also want to put on record my thanks for my small but perfectly formed team of officials in policy, drafting, legislation, impact assessment, private office, advisers and others. They are the unseen and often unsung people who guide and navigate the ship safely into harbour. I'm extremely grateful to the stakeholders and the delivery partners for their contributions to the development of our policy and this legislative process.
Dirprwy Lywydd, from the outset I've been pleased to see the strong cross-party support for the aims and objectives of this Bill. I think it's fair to say that all parties have recognised the absolute need for robust legislation to protect our communities in Wales who live in the vicinity of disused tips. Really positive engagement with cross-party Members of the Senedd has enabled us to work constructively together to bring forward considered amendments to this Bill. These amendments have undoubtedly strengthened the Bill, particularly in relation to transparency, as key documents now must be published on the authority's website.
If I can turn now to why this Bill is so important and why I believe it will deliver for communities throughout Wales. It has been commonly accepted that the current legislative framework under the Mines And Quarries (Tips) Act 1969 is simply not fit for purpose today. In addition, climate change, with ever-increasing and erratic levels of rainfall, poses increasing challenges for the management of disused tips. And for thousands of people in all our communities across Wales—yes, in the south Wales Valleys, but in other parts of Wales as well—these tips are an ever-present reminder of what can go tragically wrong. As a nation, we will never and should never forget the tragedy of Aberfan. More recently, there have been landslides on disused tips at Tylerstown and Cwmtillery. So, as a Government, we are keenly conscious of the worry and the anxiety that so many families living in the shadow of disused tips feel, right across Wales.
So, in recognition of these factors, our programme for government 2021-26 includes that commitment to introduce legislation to deal with the legacy of centuries of mining and to ensure coal tip safety during this Senedd term. This Bill delivers on that commitment. And the Bill's overarching aim is to reduce the likelihood of landslides on disused coal and non-coal tips through the establishment of a new, dedicated public body. To achieve this, the Bill establishes the disused tips authority for Wales, which must exercise its functions under the Bill to ensure that disused tips do not threaten human welfare by reason of their instability. And it makes provision for the assessment, the registration and the monitoring of disused tips across Wales, and contains provisions that enable the authority to deal with tip instability and threats to tip instability. This includes powers for the authority to require an owner of land to carry out operations, and for the authority to carry out operations itself, and related provisions in respect of payments in connection with such operations. The Bill also contains supplementary provisions, including powers of entry for the authority, information sharing provisions, and powers to require information, and it creates related offences to support the enforcement of this regime.
Ers i'r Bil gael ei gyflwyno, mae wedi symud yn llwyddiannus trwy broses ddeddfwriaethol y Senedd, ac fe hoffwn i ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau a staff unigol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth fanwl a'u craffu a'u hadroddiadau hynod drylwyr mewn perthynas â'r Bil a'r memorandwm esboniadol ategol a'r asesiad effaith reoleiddiol. Fe hoffwn i hefyd ddiolch ar goedd i fy nhîm bach ond perffaith ei gyfluniad o swyddogion mewn polisi, drafftio, deddfwriaeth, asesu effaith, swyddfa breifat, cynghorwyr ac eraill. Nhw yw'r bobl anweledig ac yn aml y rhai a anwybyddir sy'n tywys ac yn llywio'r llong yn ddiogel i'r harbwr. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r rhanddeiliaid a'r partneriaid cyflawni am eu cyfraniadau at ddatblygiad ein polisi a'r broses ddeddfwriaethol hon.
Dirprwy Lywydd, o'r cychwyn cyntaf rwyf wedi bod yn falch o weld y gefnogaeth drawsbleidiol gref i nodau ac amcanion y Bil hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod pob plaid wedi cydnabod yr angen absoliwt am ddeddfwriaeth gadarn i amddiffyn ein cymunedau yng Nghymru sy'n byw yng nghyffiniau tomenni nas defnyddir. Mae ymgysylltiad cadarnhaol gwirioneddol ag Aelodau trawsbleidiol y Senedd wedi ein galluogi i weithio gyda'n gilydd yn adeiladol i gyflwyno gwelliannau gofalus i'r Bil hwn. Heb os, mae'r gwelliannau hyn wedi cryfhau'r Bil, yn enwedig mewn perthynas â thryloywder, gan fod yn rhaid cyhoeddi dogfennau allweddol nawr ar wefan yr awdurdod.
Os gallaf droi yn awr at y rheswm pam mae'r Bil hwn mor bwysig a pham rwy'n credu y bydd yn cyflawni i gymunedau ledled Cymru. Derbyniwyd ar y cyfan nad yw'r fframwaith deddfwriaethol presennol o dan Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 yn addas i'r diben heddiw. Yn ogystal, mae newid hinsawdd, gyda lefelau cynyddol ac afreolaidd o law, yn creu heriau cynyddol ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir. Ac i filoedd o bobl yn ein holl gymunedau ledled Cymru—ie, yng Nghymoedd y de, ond mewn rhannau eraill o Gymru hefyd—mae'r tomenni hyn yn atgof bythol o'r hyn a all fynd o'i le. Fel cenedl, ni fyddwn ni byth ac ni ddylem ni byth anghofio trasiedi Aberfan. Yn fwy diweddar, bu tirlithriadau ar domenni nas defnyddir yn Nhylerstown a Chwmtyleri. Felly, fel Llywodraeth, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r pryder a'r gofid y mae cymaint o deuluoedd sy'n byw yng nghysgod tomenni nas defnyddir yn eu teimlo, ledled Cymru.
Felly, i gydnabod y ffactorau hyn, mae ein rhaglen lywodraethu 2021-26 yn cynnwys yr ymrwymiad hwnnw i gyflwyno deddfwriaeth i ymdrin â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio ac i sicrhau diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'r Bil hwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw. A nod cyffredinol y Bil yw lleihau'r tebygolrwydd o dirlithriadau ar domenni glo a di-lo nas defnyddir trwy sefydlu corff cyhoeddus newydd, ymroddedig. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r Bil yn sefydlu'r awdurdod tomenni nas defnyddir ar gyfer Cymru, y mae'n rhaid iddo arfer ei swyddogaethau o dan y Bil i sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles dynol oherwydd eu hansefydlogrwydd. Ac mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir ledled Cymru, ac mae'n cynnwys darpariaethau sy'n galluogi'r awdurdod i ymdrin ag ansefydlogrwydd tomenni a bygythiadau i ansefydlogrwydd tomenni. Mae hyn yn cynnwys pwerau i'r awdurdod ei gwneud hi'n ofynnol i berchennog tir wneud gwaith, ac i'r awdurdod wneud gwaith ei hun, a darpariaethau cysylltiedig mewn perthynas â thaliadau mewn cysylltiad â gwaith o'r fath. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau atodol, gan gynnwys pwerau mynediad i'r awdurdod, darpariaethau rhannu gwybodaeth, a phwerau i ofyn am wybodaeth, ac mae'n creu troseddau cysylltiedig i gefnogi gorfodi'r drefn hon.
Dirprwy Lywydd, y Mesur hwn yw'r cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig. Mae'n flaengar. Fel cenedl a oedd ar flaen y gad yn y diwydiant glo, mae'n gwbl briodol ein bod yn arwain y ffordd gyda deddfwriaeth i sicrhau diogelwch chwareli nas defnyddir yng Nghymru, er mwyn amddiffyn cymunedau lleol.
Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau roi eu cefnogaeth a phleidleisio dros y Bil. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau o ddifrif â'r gwaith gweithredu pwysig i gyrraedd dyddiad sefydlu'r awdurdod, sef 1 Ebrill 2027. Drwy weithio gyda phartneriaid cyflawni, rwy'n hyderus y bydd y Bil yn cael effaith wirioneddol, gadarnaol a pharhaol. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Dirprwy Lywydd, this Bill is the first of its kind in the UK. It is progressive. As a nation that was in the vanguard in the coal industry, it's entirely appropriate that we lead the way with the legislation to ensure the future of disused tips and quarries in Wales, in order to protect local communities.
So, I urge Members to provide their support and to vote in favour of the Bill. This will enable us to continue in earnest with the implementation task in terms of the establishment of the authority by 1 April 2027. By working with delivery partners, I am confident that the Bill will have a very real, positive and ongoing impact. Thank you very much, Dirprwy Lywydd.
Before I call the other speakers, Cabinet Secretary, I should remind you that you've used all your time in your opening contribution, so I'll give you a minute to respond to the debate. And that's generous. Janet Finch-Saunders.
Cyn i mi alw'r siaradwyr eraill, Ysgrifennydd Cabinet, fe ddylwn i eich atgoffa eich bod wedi defnyddio eich holl amser yn eich cyfraniad agoriadol, felly byddaf yn rhoi munud i chi ymateb i'r ddadl. Ac mae hynny'n hael. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd, and can I congratulate the Cabinet Secretary on his work and the driving through of this very important Bill? At the heart of this legislation is the memory of those 116 children and 28 adults who were killed when a coal waste tip came crashing down onto a school and surrounding homes on 21 October 1966, and we've seen other tip slides since. Never again do we want to see such a tragedy in our country. The current legislative framework in the Mines And Quarries (Tips) Act 1969, as the Cabinet Secretary has stated, no longer provides the effective management framework for disused coal tips in the twenty-first century, and I really do welcome the foundation of the authority.
We raised some amendments, and it was good, Cabinet Secretary, that you worked with us on this. I think it's great, the news we've had today from the palace as well, in terms of the Royal Assent coming forward. I just think that it's a really good week for us, as Senedd Members, when we've all worked together productively—all parties—to ensure that the safety of these tips is first and foremost.
I do have concerns about how the estimated remedial cost of coal tip safety in Wales is £600 million. We do have 20,000 other types of tips, and we do have to realise too that tip safety is 100 per cent a devolved responsibility. Let's get on now. We're getting that authority in place and, really, I'm sure that everybody will be voting in support of this. And thank you, Deputy First Minister and Cabinet Secretary.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a gaf i longyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei waith ac am arwain y Bil pwysig iawn hwn? Wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon mae cof am y 116 o blant a'r 28 o oedolion hynny a laddwyd pan ddaeth tomen gwastraff glo i lawr ar ysgol a'r cartrefi cyfagos ar 21 Hydref 1966, ac rydym ni wedi gweld tomenni eraill yn llithro ers hynny. Does arnom ni ddim eisiau gweld trasiedi o'r fath yn ein gwlad byth eto. Nid yw'r fframwaith deddfwriaethol presennol yn Neddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969, fel y nododd yr Ysgrifennydd Cabinet, bellach yn darparu'r fframwaith rheoli effeithiol ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yn yr unfed ganrif ar hugain, ac rwy'n croesawu sefydlu'r awdurdod yn fawr.
Fe wnaethom ni gyflwyno rhai gwelliannau, ac roedd yn dda, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod wedi gweithio gyda ni ar hyn. Dw i'n meddwl ei fod yn wych, y newyddion gawsom ni heddiw o'r palas hefyd, o ran y Cydsyniad Brenhinol. Rwy'n credu ei bod hi'n wythnos dda iawn i ni, Aelodau'r Senedd, pan ydym ni i gyd wedi gweithio gyda'n gilydd yn gynhyrchiol—pob plaid—i sicrhau bod diogelwch yr tomenni hyn yn cael y lle blaenllaw.
Mae gen i bryderon ynglŷn â sut mai'r gost a amcangyfrifir i adfer tomenni glo yn ddiogel yng Nghymru yw £600 miliwn. Mae gennym ni 20,000 o fathau eraill o domenni, ac mae'n rhaid i ni sylweddoli hefyd bod diogelwch tomenni gant y cant yn gyfrifoldeb datganoledig. Gadewch i ni fwrw ymlaen nawr. Fe gawn ni'r awdurdod hwnnw ac, mewn gwirionedd, rwy'n siŵr y bydd pawb yn pleidleisio o blaid hyn. A diolch, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cabinet.
Hoffwn i ddiolch i'r clercod a'r cyfreithwyr sydd wedi gweithio mor galed ar y Bil yma ac sydd wedi bod yn amyneddgar iawn wrth ddrafftio gwelliannau. Buaswn i'n hoffi diolch i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ac aelodau eraill y pwyllgor am yr ymgysylltiad adeiladol rydyn ni wedi ei gael trwy gyfnod y Bil hwn, ac i'r Aelodau eraill a siaradodd o blaid rhai o'r gwelliannau roeddwn i wedi eu cynnig.
I'd like to thank the clerks and the lawyers who have worked so hard on this Bill and who have been very patient in drafting amendments. I'd also like to thank the Cabinet Secretary and other committee members for the constructive engagement that we've had throughout the process of this Bill, and other Members who spoke on behalf of the amendments that I proposed.
I'd also like to thank again Lewis Owen, Niamh Salkeld, Tomos Rowley, Daniel and Anthony from the Coal Action Network, Haf from Friends of the Earth Cymru, and Bethan and David from Climate Cymru.
According to Tacitus, the Brythonic chieftain Calgacus poignantly described the devastation wrought on his homeland by the invading Roman legions by saying,
'They created a desolation and called it peace.'
It's been the sad fate of those communities living in the shadow of Wales's coal tips that these words so strongly resonate with their history—our history—because, for years, our surroundings were ravaged by the rapaciousness of industry and capital devouring the wealth of our earth while sowing nothing in return. And for decades afterwards, these communities were told to make peace with the desolation left as successive Governments shied away from tending to the open wounds of the abandoned mines, allowing them to fester so visibly, painful reminders of exploitation. This has not just imposed a terrible environmental toll, the unexorcised spectre of the coal mining industry has weighed heavily on the collective consciousness of these communities. How can we fully move on from our loss whilst those wounds are open still?
Now, I won't pretend, Dirprwy Lywydd, that the Bill achieves everything that we wanted. I wanted to see far more ambition in regulating the use of coal in the process of remediation to prevent coal mines of yesteryear becoming these harmful new sites of mining. Now, I also believe that far more pressure needs to be brought to bear on those who contributed to the state of these tips to make them fully and permanently accountable for the cost of restoration. Nevertheless, the Bill does represent an important milestone in confronting the legacy of coal mining in our nation, and it should be acknowledged as such. It will finally start to lift a dark shroud that has loomed far too long over our Valleys, and from the desolation of those scarred landscapes to breathe new life at last.
Fe hoffwn i ddiolch eto hefyd i Lewis Owen, Niamh Salkeld, Tomos Rowley, Daniel ac Anthony o'r Rhwydwaith Gweithredu Glo, Haf o Gyfeillion y Ddaear Cymru, a Bethan a David o Climate Cymru.
Yn ôl Tacitus, disgrifiodd y pennaeth Brythonig Calgacus yn ingol y dinistr a wnaed ar ei famwlad gan y llengoedd Rhufeinig goresgynnol trwy ddweud,
'Fe wnaethon nhw greu anghyfannedd a'i alw'n heddwch.'
Tynged drist y cymunedau hynny sy'n byw yng nghysgod tomenni glo Cymru yw bod y geiriau hyn yn atseinio mor gryf â'u hanes—ein hanes ni—oherwydd, am flynyddoedd, roedd ein hamgylchoedd yn cael eu dinistrio gan raib diwydiant a chyfalaf yn bwyta cyfoeth ein daear gan hau dim yn gyfnewid. Ac am ddegawdau wedyn, dywedwyd wrth y cymunedau hyn i dderbyn yr anghyfannedd a adawyd wrth i Lywodraethau olynol osgoi gofalu am glwyfau agored y mwyngloddiau segur, gan ganiatáu iddyn nhw fod yn atgof mor amlwg, poenus o ecsbloetio. Mae hyn nid yn unig wedi bod yn dreth amgylcheddol ofnadwy, mae cythraul y diwydiant mwyngloddio glo sydd eto i'w fwrw allan wedi pwyso'n drwm ar ymwybyddiaeth gyfunol y cymunedau hyn. Sut allwn ni symud ymlaen yn llwyr o'n colled tra bod y clwyfau hynny ar agor o hyd?
Nawr, ni fyddaf yn esgus, Dirprwy Lywydd, bod y Bil yn cyflawni popeth roedd arnom ni ei eisiau. Roedd arnaf i eisiau gweld llawer mwy o uchelgais wrth reoleiddio'r defnydd o lo yn y broses o adfer i atal pyllau glo ddoe rhag troi i'r safleoedd mwyngloddio newydd niweidiol hyn. Nawr, rwy'n credu hefyd bod angen rhoi llawer mwy o bwysau ar y rhai a gyfrannodd at gyflwr y tomenni hyn i'w dal yn atebol yn llawn ac yn barhaol am gost adfer. Serch hynny, mae'r Bil yn cynrychioli carreg filltir bwysig wrth wynebu gwaddol mwyngloddio glo yn ein cenedl, a dylid ei gydnabod fel y cyfryw. Bydd o'r diwedd yn dechrau codi gorchudd tywyll sydd wedi gorchuddio ein Cymoedd am amser llawer rhy hir, ac o anghyfannedd y tirweddau creithiog hynny i anadlu bywyd newydd o'r diwedd.
Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
I call on the Cabinet Secretary to reply.
One minute.
Un funud.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I just want to again thank all Members, including Delyth and Janet today, for the work that they've done in a very collaborative space on this Bill to improve this Bill. It was like a moment from University Challenge a moment ago on the front desk here, where my colleague sitting next to me gave me the Latin,
'atque ubi solitudinem faciunt, pacem appellant',
'they made a desert and called it peace',
from the original. Diolch yn fawr iawn. Thank you. This is an important moment, I think, and this is the way that the Senedd should work together to bring forward good legislation, and I think we've all done a service to our communities. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae arnaf i eisiau dim ond diolch eto i'r holl Aelodau, gan gynnwys Delyth a Janet heddiw, am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud mewn ysbryd cydweithredol iawn ar y Bil hwn i wella'r Bil hwn. Roedd fel eiliad o University Challenge eiliad yn ôl ar y ddesg flaen yma, lle trodd fy nghyd-Aelod sy'n eistedd wrth fy ymyl a dweud yn Lladin wrthyf,
'atque ubi solitudinem faciunt, pacem appellant',
'Fe wnaethon nhw greu anghyfannedd a'i alw'n heddwch',
o'r gwreiddiol. Diolch yn fawr iawn. Diolch. Mae hon yn adeg bwysig, rwy'n credu, a dyma'r ffordd y dylai'r Senedd gydweithio i gyflwyno deddfwriaeth dda, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gwasanaethu'n cymunedau. Diolch yn fawr iawn.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.
In accordance with Standing Order 26.50C a recorded vote must be taken on Stage 4 motions, so I will defer voting on this motion until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Heledd Fychan, and amendments 2 and 3 in the name of Paul Davies. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected.
Eitem 15, dadl y Llywodraeth ar gyflawni blaenoriaethau a rhaglen deddfwriaethol y Llywodraeth. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud yn cynnig—Eluned Morgan.
Item 15 is next, which is the Government debate on delivering the Government's priorities and legislative programme. I call on the First Minister to move the motion—Eluned Morgan.
Cynnig NDM8959 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
Yn nodi:
a) y cynnydd sydd wedi’i wneud ar gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth:
i. gwell iechyd;
ii. mwy o swyddi;
iii. gwell trafnidiaeth; a
iv. mwy o gartrefi;
b) y cynnydd ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol.
Motion NDM8959 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 11.21(ii):
Notes:
a) the progress made on delivering the Government’s priorities:
i. better health;
ii. more jobs;
iii. better transport; and
iv. more homes;
b) progress on the Legislative Programme.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. I'm proud to open this debate, because despite the global and economically unstable environment in which we live, the Welsh Labour Government is delivering. Now, when I became First Minister last August, and after a summer listening exercise, I was clear with my Cabinet, the civil service and the people of Wales that we listen to the people's priorities and we deliver on those priorities. I wanted to deliver real change—change that people can feel in their daily lives. Now, let's not sugar-coat it—the last few years have been quite difficult. We're still dealing with the fallout of the pandemic, we've faced a cost-of-living crisis driven by war in Europe and soaring global inflation, all while grappling with the lasting damage of over a decade of Tory cuts that left our finances stretched to breaking point.
Now, we in Wales have done our best to protect our services and communities in the face of these challenges, but we had to pick up the pieces with one hand tied behind our back because of the fallout from events like the Truss budget. And yet, we haven't just held the line, we've gone way beyond it and we've delivered. We've cut the longest NHS waits by 86 per cent since the pandemic peak, and we're seeing real progress in diagnostics and in reducing care delays. And now, with additional funding from the UK Labour Government, we've got an ambitious plan to cut the overall waiting list by 200,000 and eliminate two-year waits altogether, and we're backing this with investment, with innovation and, most importantly, with real political will.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon, oherwydd er gwaethaf yr amgylchedd byd-eang ac economaidd ansefydlog rydym ni'n byw ynddo, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni. Nawr, pan ddes i'n Brif Weinidog fis Awst diwethaf, ac ar ôl ymarfer gwrando yn yr haf, roeddwn i'n glir gyda fy Nghabinet, y gwasanaeth sifil a phobl Cymru ein bod yn gwrando ar flaenoriaethau pobl ac rydym ni'n cyflawni'r blaenoriaethau hynny. Roedd arnaf i eisiau cyflawni newid go iawn—newid y gall pobl ei deimlo yn eu bywydau bob dydd. Nawr, gadewch i ni beidio â gwenieithio—mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithaf anodd. Rydym ni'n dal i ymdrin â chanlyniadau'r pandemig, rydym ni wedi wynebu argyfwng costau byw oherwydd rhyfel yn Ewrop a chwyddiant byd-eang cynyddol, i gyd wrth ymdopi â difrod parhaol dros ddegawd o doriadau Torïaidd a adawodd ein cyllid wedi'i ymestyn i'r eithaf.
Nawr, rydym ni yng Nghymru wedi gwneud ein gorau glas i ddiogelu ein gwasanaethau a'n cymunedau yn wyneb yr heriau hyn, ond bu'n rhaid i ni godi'r darnau gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'n cefn oherwydd y canlyniadau o ddigwyddiadau fel cyllideb Truss. Ac eto, nid dim ond cynnal y gaer rydym ni wedi gwneud, rydym ni wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny ac rydym wedi cyflawni. Rydym ni wedi lleihau amseroedd aros hiraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 86 y cant ers uchafbwynt y pandemig, ac rydym ni'n gweld cynnydd gwirioneddol mewn diagnosteg a lleihau oedi gyda gofal. A nawr, gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig, mae gennym ni gynllun uchelgeisiol i leihau'r rhestr aros gyffredinol o 200,000 a dileu rhestrau aros dwy flynedd yn gyfan gwbl, ac rydym ni'n cefnogi hyn gyda buddsoddiad, gydag arloesedd ac, yn bwysicaf oll, gydag ewyllys gwleidyddol go iawn.
Rydyn ni hefyd yn delifro pan fo hi'n dod i adeiladu tai. Mae ein targedau ar dai cymdeithasol ymysg y rhai mwyaf uchelgeisiol sydd erioed wedi eu gweld yng Nghymru, gyda bron £2 biliwn o fuddsoddiad. Er gwaethaf Brexit, chwyddiant uchel, rhwystrau yn y gadwyn gyflenwi a thwf uchel mewn cyfraddau llog, rŷn ni'n dal ar y trywydd iawn i gynnal ein cyfraddau adeiladu blynyddol uchaf ers 2008.
We're also delivering when it comes to home building. Our targets on social housing are among the most ambitious that have ever been seen in Wales, with nearly £2 billion of investment. Despite Brexit, high inflation, barriers in the supply chains and high growth in interest rates, we're still on track to maintain our highest annual building rate since 2008.
Now, we're also transforming transport—rail, bus and road. For years, we were denied fair rail funding by a Tory Government that just simply didn't care. Now with a Labour Government in Westminster, we're finally seeing some movement and we're making the most out of it. We've delivered more new trains than ever before and we know people are feeling the benefits of that work already, because passenger journeys have increased by 19 per cent. Planned services have increased by 12.5 per cent, and our trains cover nearly 22 per cent more ground—more reliable, more modern public transport with more people using these services more often to go further.
But we're also changing the face of our bus services in Wales, and this year we've increased annual revenue funding to over £140 million by the end of this Senedd term, and that investment will have reached, altogether, £600 million. In March, we introduced the Bus Services (Wales) Bill to the Senedd, delivering on our commitment to create a modern legislative basis for transport in Wales, and this will allow us to deliver and to realise that vision of a one-timetable and one-ticket service for Wales. And, yes, from this autumn, we'll be introducing £1 bus fares for young people because we listened and understood that cost should not be a barrier to opportunity. And we also delivered the transformative Heads of the Valleys project, one of the most ambitious road networks anywhere in Europe, which will bring new jobs and growth to some of our most deprived communities. We've invested £25 million to directly improve our strategic road network and a further £6 million to enable our local authorities to unlock up to £120 million to fix our local roads. And the result? Around 700 km of improved roads and around 200,000 potholes fixed or prevented across Wales. These are things that matter to the people of Wales, and we are delivering for them.
We're creating the jobs of the future, not with gimmicks, but with real investment in clean technology, advanced manufacturing, semiconductors and tech. And on top of that, over 42,000 jobs have been backed directly by this Welsh Labour Government. And with the Wales investment summit coming up, we're putting Wales on the global map, open for business, bursting with opportunity, and ready to attract investment like never before. We're ready to fight for every job in every community across our nation.
Nawr, rydym ni hefyd yn trawsnewid trafnidiaeth— rheilffordd, bws a ffyrdd. Am flynyddoedd, gwrthodwyd cyllid rheilffyrdd teg gan Lywodraeth Dorïaidd nad oedd yn hidio botwm corn. Nawr gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, rydym ni'n gweld rhywfaint o symudiad o'r diwedd ac rydym ni'n gwneud y mwyaf ohono. Rydym ni wedi darparu mwy o drenau newydd nag erioed o'r blaen ac rydym ni'n gwybod bod pobl yn teimlo manteision y gwaith hwnnw eisoes, oherwydd mae teithwyr yn teithio 19 y cant yn fwy. Mae gwasanaethau wedi'u cynllunio wedi cynyddu 12.5 y cant, ac mae ein trenau yn cwmpasu bron i 22 y cant yn fwy o dir—trafnidiaeth gyhoeddus fwy dibynadwy, mwy modern gyda mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau hyn yn amlach i fynd ymhellach.
Ond rydym ni hefyd yn newid wyneb ein gwasanaethau bysiau yng Nghymru, ac eleni rydym ni wedi cynyddu'r cyllid refeniw blynyddol i dros £140 miliwn erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a bydd y buddsoddiad hwnnw wedi cyrraedd cyfanswm o £600 miliwn. Ym mis Mawrth, fe wnaethom ni gyflwyno'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) i'r Senedd, gan gyflawni ein hymrwymiad i greu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, a bydd hyn yn ein galluogi i gyflawni a gwireddu'r weledigaeth honno o wasanaeth un amserlen ac un tocyn i Gymru. Ac, ie, o'r hydref hwn, byddwn yn cyflwyno tocynnau bws am £1 i bobl ifanc oherwydd ein bod ni wedi gwrando a deall na ddylai cost fod yn rhwystr i gyfle. Ac fe wnaethom ni hefyd gyflawni prosiect trawsnewidiol Blaenau'r Cymoedd, un o'r rhwydweithiau ffyrdd mwyaf uchelgeisiol yn unrhyw le yn Ewrop, a fydd yn dod â thwf a swyddi newydd i rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Rydym ni wedi buddsoddi £25 miliwn i wella ein rhwydwaith ffyrdd strategol yn uniongyrchol a £6 miliwn arall i alluogi i'n hawdurdodau lleol ryddhau hyd at £120 miliwn i drwsio ein ffyrdd lleol. A'r canlyniad? Tua 700 km o ffyrdd wedi'u gwella a thua 200,000 o dyllau wedi'u trwsio neu eu hatal ledled Cymru. Mae'r rhain yn bethau sy'n bwysig i bobl Cymru, ac rydym ni'n cyflawni ar eu cyfer.
Rydym ni'n creu swyddi'r dyfodol, nid gyda sloganau, ond gyda buddsoddiad gwirioneddol mewn technoleg lân, gweithgynhyrchu uwch, lled-ddargludyddion a thechnoleg. Ac ar ben hynny, mae dros 42,000 o swyddi wedi cael eu cefnogi'n uniongyrchol gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. A chydag uwchgynhadledd buddsoddi Cymru ar y gweill, rydym ni'n rhoi Cymru ar y map byd-eang, yn agored i fusnes, yn llawn cyfleoedd, ac yn barod i ddenu buddsoddiad yn fwy nag erioed o'r blaen. Rydym ni'n barod i ymladd am bob swydd ym mhob cymuned ar draws ein cenedl.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.

Rŷn ni wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru—dros 50 miliwn o brydau cinio ychwanegol eisoes wedi cael eu gweini. Ar ben hyn, ŷn ni wedi cefnogi dros 57,000 o bobl ifanc i mewn i swyddi, addysg neu hyfforddiant trwy ein gwarant pobl ifanc.
We've introduced free school meals for all primary school children in Wales—more than 50 million meals already delivered. On top of that, we've supported more than 57,000 young people into jobs, education or training through our young person's guarantee.
And we're also putting women's health front and centre, with every health board set to deliver new specialist hubs by 2026, ensuring women get the care that they deserve. None of this has been easy, but we've made it happen. We haven't just weathered the storms of recent years, we've come through them stronger, ready to build a better future for everyone, and now, with Labour in power across the UK, we're ready to push further and move faster than ever before. We've passed landmark legislation that just doesn't tick boxes, it actually changes lives.
Ac rydym ni hefyd yn rhoi lle blaenllaw i iechyd menywod, gyda phob bwrdd iechyd ar fin darparu canolfannau arbenigol newydd erbyn 2026, gan sicrhau bod menywod yn cael y gofal y maen nhw'n ei haeddu. Nid oes unrhyw agwedd ar hyn wedi bod yn hawdd, ond rydym ni wedi cyflawni hyn. Nid ydym ni wedi goresgyn stormydd y blynyddoedd diwethaf yn unig, rydym wedi dod trwyddynt yn gryfach, yn barod i adeiladu dyfodol gwell i bawb, a nawr, gyda Llafur mewn grym ledled y Deyrnas Unedig, rydym ni'n barod i wthio ymhellach a symud yn gyflymach nag erioed o'r blaen. Rydym ni wedi pasio deddfwriaeth nodedig nad yw dim ond ticio blychau, mae'n newid bywydau mewn gwirionedd.
Rŷn ni wedi dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, gan roi pobl ifanc bregus cyn pocedi preifat. Rŷn ni wedi cymryd camau i fynd i'r afael â thlodi cartref drwy gyflwyno Bil digartrefedd a thai cymdeithasol. Rŷn ni wedi cryfhau'r Senedd, gan ei gwneud yn sefydliad mwy effeithiol, mwy cynrychioladol, un sy'n wirioneddol yn gweithio ar gyfer y bobl mae'n eu gwasanaethu. Ac mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, ac rŷn ni wedi ymrwymo'n llawn i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu canran y bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae cyflwyniad Bil y Gymraeg ac addysg yn gam pwysig yn y daith yma.
We have removed profit from care for looked-after children, putting vulnerable young people before private pockets. We've taken steps to tackle housing poverty by introducing a homelessness and social housing Bill. We've strengthened the Senedd, making it a more effective and more representative institution, one that genuinely works for the people it serves. And the Welsh language belongs to all of us, and we've committed fully to reaching a million Welsh speakers by 2050 and doubling the percentage of people using the Welsh language in their everyday lives. The introduction of the Welsh language and education Act is an important step in this journey.
This isn't about empty announcements or political posturing. This is bold. This is decisive action that delivers clear, real change right now. This Government isn't just standing still; we're charging ahead. So, while others shout from the sidelines, we're rolling up our sleeves, getting stuck in, and delivering on what really matters: better health, better transport, more homes and more jobs. And with less than a year left in the Senedd term, I've got one message: we're not slowing down; we're absolutely stepping up. Diolch.
Nid yw hyn yn ymwneud â chyhoeddiadau gwag neu ymhonni gwleidyddol. Mae hyn yn feiddgar. Mae hyn yn weithred benderfynol sy'n cyflawni newid clir, gwirioneddol, nawr. Nid yw'r Llywodraeth hon yn sefyll yn llonydd; rydym ni'n camu ymlaen. Felly, tra bod eraill yn gweiddi o'r ochr, rydym ni'n torchi ein llewys, yn gweithredu, ac yn cyflawni'r hyn sy'n wirioneddol bwysig: gwell iechyd, gwell trafnidiaeth, mwy o gartrefi a mwy o swyddi. A gyda llai na blwyddyn ar ôl yn nhymor y Senedd, mae gen i un neges: nid ydym yn llaesu dwylo; rydym ni'n bwrw iddi. Diolch.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Rhun ap Iorwerth sy'n cynnig gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
I have selected the three amendments to the motion. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected. Rhun ap Iorwerth to move amendment 1 in the name of Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni ei blaenoriaethau drwy:
a) methu targedau rhestrau aros dwy flynedd olynol y GIG;
b) gadael Cymru ar waelod y tablau cyflogau cyfartalog gros;
c) methu â sicrhau'r £4 biliwn o arian canlyniadol rheilffordd HS2;
d) peidio â gwrando ar rybuddion na fydd yn cyrraedd y targed cartrefi cymdeithasol; ac
e) gwneud tro pedol ar ymrwymiadau a wnaed yn ei rhaglen ddeddfwriaethol.
Amendment 1—Heledd Fychan
Delete all and replace with:
Regrets that the Welsh Government has failed to meet its priorities by:
a) missing successive 2 year NHS waiting lists targets;
b) letting Wales linger at the bottom of gross average salary tables;
c) failing to secure the £4 billion of HS2 rail consequentials;
d) not heeding warnings that it won't meet the social homes target; and
e) u-turning on commitments made in its legislative programme.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Amendment 1 moved.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ever since she took office, the First Minister has made delivery a watchword of her premiership. Hers was to be a Government
'focused on delivery, not warm words, not fancy strategies,'
we were told, 'but on action', to quote her from the start of this year. But, clearly, based on the motion in front of us today, the First Minister and I have very different understandings of what 'delivery' actually means.
Surely delivery should mean translating promises into tangible results. That was certainly the approach we took on free school meals, which we wanted to see delivered through the co-operation agreement: spell out the plan, get it done. But, for the First Minister, delivery appears to mean producing a litany of missed targets, indulging in false dawns, and leaving a trail of broken promises. How else to explain citing better health as evidence of where the Government has made progress, when the latest figures show it going backwards on the target of hitting 8,000 two-year waits by spring, which was, of course, already a substantial climbdown from the original target she set herself to eliminate all such waits by March 2023; or more jobs, when the latest statistics show a decrease of 5,300 paid Welsh employees in the month up to May, an increase in unemployment up to April, and Wales ranked amongst the worst performing of all UK nations and regions for gross pay; or better transport, when the Welsh Government's influence within the so-called partnership of power has failed to secure a single penny of HS2 consequentials and not a single penny from the latest spending review on projects west of Cardiff; or more homes, when the Government has achieved less than half of its target for new social homes within the current Senedd term with less than a year remaining? These are just a few examples from a very long list, which I think categorically refute the notion that progress is being made under this Labour Government.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Byth ers iddi ddod i'w swydd, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud cyflawni yn arwyddair o'i phrif weinidogaeth. Roedd ei Llywodraeth i fod yn un a fyddai'n
'canolbwyntio ar gyflawni, nid ar eiriau teg, nid ar strategaethau crand,'
dywedwyd wrthym ni, 'ond ar weithredu', i'w dyfynnu o ddechrau'r flwyddyn hon. Ond, yn amlwg, yn seiliedig ar y cynnig sydd o'n blaenau heddiw, mae gan y Prif Weinidog a minnau ddealltwriaeth wahanol iawn o'r hyn y mae 'cyflawni' yn ei olygu mewn gwirionedd.
Siawns y dylai cyflawni olygu troi addewidion yn ganlyniadau diriaethol. Dyna oedd yn sicr y ffordd y bu i ni weithredu ar brydau ysgol am ddim, yr oedd arnom ni eisiau eu gweld yn cael eu cyflwyno trwy'r cytundeb cydweithio: amlinellu'r cynllun, cyflawni. Ond, i'r Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod cyflawni yn golygu cynhyrchu litani o dargedau a fethwyd, ymddiddori mewn gobeithion ffug, a gadael trywydd o addewidion wedi'u torri. Sut arall y gellir esbonio cyfeirio at iechyd gwell fel tystiolaeth o ble mae'r Llywodraeth wedi gwneud cynnydd, pan fo'r ffigurau diweddaraf yn dangos ei bod hi'n mynd yn ôl o ran y targed o gyrraedd 8,000 o bobl yn aros dwy flynedd erbyn y gwanwyn, a oedd, wrth gwrs, eisoes yn llawer llai uchelgeisiol na'r targed gwreiddiol a osododd iddi ei hun i ddileu'r holl restri aros o'r fath erbyn mis Mawrth 2023; neu fwy o swyddi, pan fo'r ystadegau diweddaraf yn dangos gostyngiad o 5,300 o weithwyr cyflogedig yng Nghymru yn y mis hyd at fis Mai, cynnydd mewn diweithdra hyd at fis Ebrill, a bod Cymru ymhlith y gwaethaf o holl wledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig o ran cyflog gros; neu drafnidiaeth well, pan fo dylanwad Llywodraeth Cymru o fewn yr hyn a elwir yn bartneriaeth rym wedi methu â sicrhau un geiniog o ganlyniadau HS2 a dim un geiniog o'r adolygiad gwariant diweddaraf ar brosiectau i'r gorllewin o Gaerdydd; neu fwy o gartrefi, pan fo'r Llywodraeth wedi cyflawni llai na hanner ei tharged ar gyfer cartrefi cymdeithasol newydd o fewn tymor presennol y Senedd gyda llai na blwyddyn yn weddill? Dyma ychydig o enghreifftiau o restr hir iawn, sydd yn fy marn i'n gwrthbrofi'r syniad bod cynnydd yn cael ei wneud o dan y Llywodraeth Lafur hon.
Mi fuaswn i wedi gallu sôn am lawer o enghreifftiau eraill, am broblemau'r gwasanaeth ambiwlans, neu lefelau isel cynhyrchiant yn economi Cymru, neu lefelau isel boddhad teithwyr ar drenau Cymru. Ble aeth yr addewid i sicrhau bod yna gydbwysedd rhywedd yn y Senedd yma drwy ddeddfwriaeth?
Ac wrth gwrs, pan fo'n dod at Gymru, mae'r ddau bartner yn y bartneriaeth mewn grym yn methu: Llywodraeth Cymru yn fan hyn, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae Keir Starmer, wrth gwrs, wedi profi bod blwyddyn yn hen ddigon o amser i wneud lot fawr o gamgymeriadau, gwneud rhes o benderfyniadau sydd yn taro rhai o'r bobl a rhai o'r cymunedau mwyaf bregus sydd gennym ni yng Nghymru. Ond dydy 12 mis, mae'n debyg, ddim yn ddigon hir i wneud unrhyw beth o’r rheini y gwnaethon nhw addo eu gwneud i Gymru. Lle mae’r datganoli cyfiawnder? Mi gadarnhawyd ddoe dydy o ddim yn flaenoriaeth. Lle mae’r arian HS2? Dim sôn amdano fo, na diwygio fformiwla gyllido Cymru, nac Ystâd y Goron, neu roi grym go iawn i Gymru dros y cronfeydd cymerodd le'r hen raglenni cyllid Ewropeaidd. Felly, tynnwch y sbin o na ac edrychwch go iawn ar y dystiolaeth o’n blaenau ni, a beth welwch chi ydy bod y Prif Weinidog a’r Llywodraeth yma, ar ôl bron flwyddyn dan ei harweinyddiaeth hi, wedi cyflawni’r gwrthwyneb, mewn llawer ffordd, o’r hyn yr addawodd hi. Does yna ddim ffordd goch Gymreig go iawn, nac oes? Sloganau ydy pethau felly. Dirywiad rydym ni’n ei weld, onid ydym, managed decline rydym ni wedi gweld cymaint dros y blynyddoedd, a dyna ydy gwaddol arweinyddiaeth Llafur ar ôl chwarter canrif a mwy.
I could have referred to a number of other examples: problems in the ambulance service, or low productivity in the Welsh economy, or low levels of passenger satisfaction on Welsh trains. What happened to the pledge to ensure that there is gender parity in this Senedd through legislation?
And of course, when it comes to Wales, both partners in the partnership in power are failing: the Welsh Government here and the UK Government. Keir Starmer, of course, has proved that a year is more than enough time to make a huge number of mistakes, to make a range of decisions that hit some of the most vulnerable people and communities that we have in Wales. But 12 months apparently isn't long enough to do anything of what they pledged to do for Wales. Where is the devolution of justice? It was confirmed yesterday that it isn't a priority. Where is the HS2 funding? No mention of it, or a reform of the funding formula for Wales, or the Crown Estate, or giving real power to Wales over the funds that replaced the old European funding programmes. So, remove the spin and look at the evidence before us and what you will see is that the First Minister and Government here, after almost a year under her leadership, have delivered the opposite, in many ways, of what she pledged. There is no real red Welsh way, is there? Those things are slogans. We've seen decline, haven't we, managed decline that we've seen so much of over the years, and that is the legacy of Labour leadership after a quarter of a century and more.
Last week, the Cabinet Secretary for delivery, delivering a speech that could have been written by 10 Downing Street, accused us of wrapping ourselves in a shroud of misery and disappointment, as if yearning for improved outcomes on health, on the economy and on education, as if wanting better than this for Wales, is somehow unreasonable. Now, based on the yawning gulf between Labour’s rhetoric and the reality, which is plain to see, I would politely suggest that perhaps this Government is wrapping itself in a blanket of delusion. And you don’t need me to tell you this; the polls loudly speak for themselves when it comes to the Welsh public’s view of how things are going under Labour.
Yr wythnos diwethaf, gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyflawni, wrth draddodi araith a allai fod wedi ei hysgrifennu gan 10 Downing Street, ein cyhuddo ni o lapio ein hunain mewn gorchudd o drallod a siom, fel pe bai dyhead am well canlyniadau o ran iechyd, o ran yr economi ac o ran addysg, fel pe bai eisiau gwell na hyn i Gymru, yn afresymol. Nawr, yn seiliedig ar y bwlch enfawr rhwng rhethreg Llafur a'r realiti, sy'n amlwg i'w weld, byddwn yn awgrymu yn gwrtais efallai bod y Llywodraeth hon yn lapio ei hun mewn blanced o hunan dwyll. Ac nid oes angen i mi ddweud hyn wrthych chi; mae'r polau piniwn yn siarad drostyn nhw eu hunain yn huawdl o ran barn y cyhoedd yng Nghymru ynghylch sut mae pethau'n mynd o dan Lafur.
Darren Millar, nawr, sy'n cyflwyno gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies.
Darren Millar to move amendments 2 and 3 in the name of Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Yn is-bwynt a), cyn 'cynnydd', ychwanegu 'diffyg'.
Amendment 2—Paul Davies
In sub-point a), before 'progress' insert 'lack of'.
Gwelliant 3—Paul Davies
Yn is-bwynt b), cyn 'cynnydd', ychwanegu 'diffyg'.
Amendment 3—Paul Davies
In sub-point b), before ‘progress' insert 'lack of'.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Amendments 2 and 3 moved.
Thank you, Presiding Officer. I rise today in disbelief that the Welsh Government would deign to present before this Senedd a so-called congratulatory motion suggesting that it's making progress on its agenda and progress on delivering for the people of Wales. And that's why we have tabled two very simple amendments with some very profound, short, yet important words. We want to insert the words 'lack of' in front of the word 'progress' in two points of the motion before us today, because we haven't seen any progress whatsoever. We've had 26 years so far of failing Labour-led Governments in Wales, propped up by Plaid at times and the Liberal Democrats at times too. And the past 12 months haven't shaken off that failure either—[Interruption.] Yes, happy to take an intervention.
Diolch, Llywydd. Rwy'n codi heddiw yn anghrediniol y byddai Llywodraeth Cymru yn gweld yn dda cyflwyno cynnig o longyfarch, fel y'i gelwir o, gerbron y Senedd hon sy'n awgrymu ei bod yn gwneud cynnydd ar ei hagenda a chynnydd o ran cyflawni i bobl Cymru. A dyna pam rydym ni wedi cyflwyno dau welliant syml iawn gyda rhai geiriau dwys iawn, byr, ond pwysig. Rydym ni eisiau mewnosod y gair 'diffyg' o flaen y gair 'cynnydd' mewn dau bwynt o'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw, oherwydd nid ydym ni wedi gweld unrhyw gynnydd o gwbl. Rydym ni wedi cael 26 mlynedd hyd yma o fethiant llywodraethol dan arweiniad Llafur yng Nghymru, wedi'u cefnogi gan y Blaid ar adegau a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar adegau hefyd. Ac nid yw'r 12 mis diwethaf wedi lliniaru'r methiant hwnnw chwaith—[Torri ar draws.] Ydw, yn hapus i dderbyn ymyriad.
I mentioned during the course of my comments the free school meals that I'm very proud to have been able to deliver from the opposition benches. Would the Conservatives mention one thing that they've been able to deliver from their benches in 26 years?
Soniais yn ystod fy sylwadau am y prydau ysgol am ddim yr wyf yn falch iawn o fod wedi gallu eu darparu o feinciau'r wrthblaid. A all y Ceidwadwyr sôn am un peth maen nhw wedi gallu ei gyflawni o'u meinciau mewn 26 mlynedd?
Some real opposition to the failing Labour Government. That's what we deliver. You say that you're in opposition, yet you've actually been joined at the hip to this failing Labour Party. I know you don't like to talk about that, but their failures on the NHS, their failures on the economy, their failures on the education system, their failures on the transport system are as much Plaid Cymru's failures as they are the Labour Party's failures. And we note on these benches, and so does the public at large, that you still fail to rule out propping up a future Labour Government, or going into partnership with a future Labour administration in the future at the next election. We'd love to hear your thoughts on that.
So, let's get back to this lack of progress that we have seen here in Wales. The only thing that you've been delivering is more decline, I'm afraid, and failing to actually get to grips with the challenges here that people face. We've talked about the NHS in the past, but it's worth reminding ourselves that every single target you set for yourself you seem to miss: every single target on the NHS in terms of reducing those two-year waits you've missed, in terms of improving the ambulance performance you've missed, in terms of delivering on cancer performance you've missed. The emergency departments are still chaotic, unfortunately, in spite of the hard work of members of staff in those hospitals, and, unfortunately, patients are coming to harm. We see coroner's report after coroner's report that say that you're not getting to grips with these problems, you're not dealing with these problems, and that's why we had the unprecedented situation where the coroner actually wrote to you, as the First Minister of Wales, saying that you need to get to grips with this issue. That's why we've said, in order to make the progress that we need on the health service, let's declare a health emergency. Let's target the resources of the Government at finally getting to grips with this mess that you are responsible for, so that we can make sure that people get access to the care that they need and an ambulance turns up when they're in a life-or-death emergency situation.
And let's talk about the economy. The Labour Party is nothing more than a boa constrictor around the economy here in Wales, not letting it breathe and squeezing every bit of life out of it. We have a situation where Welsh workers take home the lowest pay in the United Kingdom—that's completely unacceptable—and it's all the responsibility of the Labour Party, and Plaid Cymru and the Liberal Democrats for propping them up for 26 years. That's what we've got here in Wales, and we need to make sure that the shackles that you have placed upon businesses, upon the wealth creators, are taken off so that we can release them to do what they do best, and that's create the jobs, create the good pay and create the higher pay that we can then raise the taxation on in order to put that into our public services.
So, we want to see an economy that thrives. We want to make sure that you build roads, not just the one road that you seem to be celebrating, which was over budget and long overdue in terms of its completion—massively over budget and took you 20-odd years to deliver. We want to see roads built in all parts of our country. We want to see the investment in north Wales, in west Wales, in mid Wales. We want to see the investment in our roads, because roads are the lifeblood of the economy. So, instead of slowing our country down, literally, with default 20 mph speed limits, we want to see you investing in that road network and making it work.
When it comes to rail investment, astonishingly you're still claiming that there's greater investment under your Labour UK partners down the road in London, who have given us a paltry £440-odd million over a 10-year period, when it was, actually, less than half of the investment—. It was double that, in terms of the funding that was coming to Wales from the previous UK Government.
So, you have the audacity to present us with this motion today. We'll be voting against it, and we encourage everybody to support the two words that we're inserting into the two points in this motion: 'lack of', 'lack of'. The lack of progress is dire. It's not good enough. You need to move on, because you've broken Wales. We will fix it.
Rhywfaint o wrthwynebiad go iawn i'r Llywodraeth Lafur sy'n methu. Dyna beth rydym ni'n ei gyflawni. Rydych chi'n dweud eich bod chi yn yr wrthblaid, ond rydych chi wedi bod yn cydweithio â'r Blaid Lafur hon sy'n methu. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi siarad am hynny, ond mae eu methiannau o ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, eu methiannau o ran yr economi, eu methiannau o ran y system addysg, eu methiannau o ran y system drafnidiaeth yn gymaint o fethiannau Plaid Cymru ag ydyn nhw yn rhai'r Blaid Lafur. Ac rydym ni'n sylwi ar y meinciau hyn, ac felly hefyd y cyhoedd yn gyffredinol, eich bod yn dal i fethu â diystyru cefnogi Llywodraeth Lafur yn y dyfodol, neu fynd i bartneriaeth â gweinyddiaeth Lafur yn y dyfodol yn yr etholiad nesaf. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am hynny.
Felly, gadewch i ni fynd yn ôl at y diffyg cynnydd hwn yr ydym ni wedi'i weld yma yng Nghymru. Yr unig beth rydych chi wedi bod yn ei gyflawni yw mwy o ddirywiad, mae gen i ofn, a methu â mynd i'r afael â'r heriau yma y mae pobl yn eu hwynebu. Rydym ni wedi siarad am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y gorffennol, ond mae'n werth atgoffa ein hunain yr ymddengys eich bod yn methu pob targed rydych chi'n ei osod i chi'ch hun: pob targed unigol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o ran lleihau'r rhestrau aros dwy flynedd hynny rydych chi wedi'u methu, o ran gwella perfformiad y gwasanaeth ambiwlans rydych chi wedi methu, o ran cyflawni ynghylch perfformiad canser rydych chi wedi methu. Mae'r adrannau brys yn dal i fod yn anhrefnus, yn anffodus, er gwaethaf gwaith caled aelodau staff yn yr ysbytai hynny, ac, yn anffodus, mae cleifion yn cael niwed. Rydym ni'n gweld adroddiad crwner ar ôl adroddiad crwner sy'n dweud nad ydych chi'n mynd i'r afael â'r problemau hyn, nad ydych chi'n ymdrin â'r problemau hyn, a dyna pam y cawsom ni'r sefyllfa ddigynsail lle ysgrifennodd y crwner atoch chi, Brif Weinidog Cymru, yn dweud bod angen i chi fynd i'r afael â'r mater hwn. Dyna pam rydym ni wedi dweud, er mwyn gwneud y cynnydd sydd ei angen arnom ni o ran y gwasanaeth iechyd, gadewch i ni ddatgan argyfwng iechyd. Gadewch i ni dargedu adnoddau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r llanast hwn rydych chi'n gyfrifol amdano o'r diwedd, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod pobl yn cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnyn nhw a bod ambiwlans yn ymddangos pan fyddant mewn sefyllfa argyfwng lle mae hi'n fywyd neu farwolaeth.
A gadewch i ni siarad am yr economi. Nid yw'r Blaid Lafur yn ddim mwy na neidr yn gwasgu'r bywyd o'r economi yma yng Nghymru, heb adael iddi anadlu ac yn gwasgu pob darn o fywyd allan ohoni. Mae gennym ni sefyllfa lle mae gweithwyr o Gymru yn mynd adref gyda'r cyflog lleiaf yn y Deyrnas Unedig—mae hynny'n gwbl annerbyniol—ac mae'r cyfan oherwydd y Blaid Lafur, a Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol am eu cefnogi am 26 mlynedd. Dyna sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr hualau rydych chi wedi'u gosod ar fusnesau, ar y crewyr cyfoeth, yn cael eu tynnu i ffwrdd fel y gallwn ni eu rhyddhau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau, a hynny yw creu'r swyddi, creu'r cyflog da a chreu'r cyflog uwch y gallwn ni wedyn godi'r trethi arno er mwyn rhoi hynny yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Felly, mae arnom ni eisiau gweld economi sy'n ffynnu. Mae arnom ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn adeiladu ffyrdd, nid dim ond yr un ffordd yr ymddengys eich bod yn ei dathlu, a oedd dros y gyllideb ac yn hwyr glas o ran ei chwblhau—ymhell dros y gyllideb a chymerodd 20 mlynedd i chi ei chyflawni. Rydym ni eisiau gweld ffyrdd yn cael eu hadeiladu ym mhob rhan o'n gwlad. Rydym ni eisiau gweld y buddsoddiad yn y gogledd, yn y gorllewin, yn y canolbarth. Rydym ni eisiau gweld y buddsoddiad yn ein ffyrdd, oherwydd ffyrdd yw bywyd yr economi. Felly, yn hytrach nag arafu ein gwlad, yn llythrennol, gyda therfynau cyflymder diofyn ugain milltir yr awr, rydym ni eisiau eich gweld chi'n buddsoddi yn y rhwydwaith ffyrdd hwnnw a'i gael i weithio.
O ran buddsoddi yn y rheilffyrdd, yn rhyfeddol rydych chi'n dal i honni bod mwy o fuddsoddiad o dan eich partneriaid Llafur y Deyrnas Unedig i lawr y ffordd yn Llundain, sydd wedi rhoi rhyw £440 miliwn i ni dros gyfnod o 10 mlynedd, pan oedd hi, mewn gwirionedd, yn llai na hanner y buddsoddiad—. Roedd yn ddwbl hynny, o ran y cyllid a oedd yn dod i Gymru gan Lywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig.
Felly, mae gennych chi'r hyfdra i gyflwyno'r cynnig hwn i ni heddiw. Byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn, ac rydym ni'n annog pawb i gefnogi'r gair rydym ni'n ei fewnosod yn y ddau bwynt yn y cynnig hwn: 'diffyg', 'diffyg'. Mae'r diffyg cynnydd yn ofnadwy. Nid yw'n ddigon da. Mae angen i chi symud ymlaen, oherwydd rydych chi wedi torri Cymru. Byddwn ni'n ei thrwsio.
Llywydd, I intend to try to adopt the high moral ground in this debate by actually talking about the motion and actually talking about some of the important issues that arise from it. Can I first of all just raise one issue? Of course, in any legislative programme, review of laws is important, and, of course, Darren Millar mentioned the issue of low pay. Well, of course, we introduced the Agriculture (Wales) Act 2023 because of the conditions we were concerned about, of agricultural workers. Can I just say how concerned I am that, of course, the Tories opposed it at the time, but that the National Farmers Union, which opposed it at the time, is now calling for its repeal? Can I ask what consideration might be given to a review of this legislation? Because I think it is important that we protect the conditions of agricultural workers in Wales. Certainly, there are things that are not right. Unite the Union have made representations, who represent many agricultural workers, and there is a need for a review, but there's certainly not a case for repeal, when the NFU think that the issue of farm workers is to reduce them solely to the issue of the national minimum wage.
Can I talk about one of the, I think, great success stories that no-one has mentioned so far, and that is our twenty-first century schools programme? You look around Wales now, look at all of the new state-of-the-art schools that we are building, and you compare that, for example, with what's happened in England. Over the past decade in Wales, we've invested £2.8 billion using the consequential formula. If that had been the policy in England, it would have amounted to an investment of £56 billion in our education system. Can I just also say that, when you look at the English system at the moment, they have a £14 billion backlog in deficits in schools in England and 700,000 pupils—[Interruption.] Yes.
Llywydd, rwy'n bwriadu ceisio cadw gwefus bur yn y ddadl hon trwy siarad am y cynnig a siarad am rai o'r materion pwysig sy'n codi ohono. A gaf i godi un mater yn gyntaf oll? Wrth gwrs, mewn unrhyw raglen ddeddfwriaethol, mae adolygu deddfau yn bwysig, ac, wrth gwrs, soniodd Darren Millar am fater cyflog isel. Wel, wrth gwrs, fe wnaethom ni gyflwyno Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 oherwydd yr amodau roeddem ni'n poeni amdanyn nhw, o ran gweithwyr amaethyddol. A gaf i ddweud pa mor bryderus ydw i, wrth gwrs, bod y Torïaid yn ei wrthwynebu ar y pryd, ond bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, a oedd yn ei wrthwynebu ar y pryd, bellach yn galw am ei ddiddymu? A gaf i ofyn pa ystyriaeth y gellid ei roi i adolygu'r ddeddfwriaeth hon? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn diogelu amodau gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Yn sicr, mae yna bethau nad ydyn nhw'n iawn. Mae Unite the Union wedi gwneud sylwadau, sy'n cynrychioli llawer o weithwyr amaethyddol, ac mae angen adolygiad, ond yn sicr nid oes achos dros ddiddymu, pan fo Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn meddwl mai mater gweithwyr fferm yw eu lleihau i'r mater o'r isafswm cyflog cenedlaethol yn unig.
A gaf i siarad am, yr hyn rwy'n ei gredu, yw un o'r straeon llwyddiant mawr nad oes neb wedi sôn amdani hyd yn hyn, sef ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Rydych chi'n edrych o gwmpas Cymru nawr, edrychwch ar yr holl ysgolion newydd o'r radd flaenaf rydym ni'n eu hadeiladu, ac rydych chi'n cymharu hynny, er enghraifft, â'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr. Dros y degawd diwethaf yng Nghymru, rydym ni wedi buddsoddi £2.8 biliwn gan ddefnyddio'r fformiwla ganlyniadol. Pe bai hynny wedi bod yn bolisi yn Lloegr, byddai wedi cyfateb i fuddsoddiad o £56 biliwn yn ein system addysg. A gaf i ddweud hefyd, pan edrychwch chi ar y system yn Lloegr ar hyn o bryd, bod ganddyn nhw ôl-groniad o £14 biliwn mewn diffygion mewn ysgolion yn Lloegr a 700,000 o ddisgyblion—[Torri ar draws.] Ie.
I’m very grateful to you for taking the intervention. You talk about spending money on buildings. Why is it that Wales still has the poorest educational standards in the whole of the United Kingdom? Why is Wales constantly at the bottom of those Programme for International Student Assessment tables and in the bottom half of the PISA rankings worldwide?
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi'n siarad am wario arian ar adeiladau. Pam fod gan Gymru y safonau addysgol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan o hyd? Pam mae Cymru'n gyson ar waelod y tablau hynny ar gyfer Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol ac yn hanner isaf safleoedd PISA ledled y byd?
Well, can I say that those statistics—? It is a nonsense to try and compare data from a country of 3 million with a country of 55 million. But if you don't have decent schools then kids will never be educated, and you look around the schools that are being developed and see the raised morale of pupils in some of those incredibly fantastic schools—700,000 pupils in England are now living in unsafe schools—as a result of investment. And we remember of course that Boris Johnson's commitment to school building was to put forward a package of £1 billion for the whole of England. So, that is a fantastic success story.
The Heads of the Valleys investment—I see it being talked down. It is a fantastic investment, one that I remember when I was a trustee of the Bevan Foundation, where we talked about how it potentially opened up the prosperity of our Valleys areas. I remember the response from Rhodri Morgan at the time, which was constructive, but I wouldn't mind some updating now on how we are developing the economic plan to maximise the benefit and use of that.
Can I also say thanks for the investment we are getting now in Llantrisant, which we are getting for this state-of-the-art diagnostic centre, of £200 million? An operating theatre, state-of-the-art diagnostic opportunities that will serve large chunks of Wales; a transformation into the twenty-first century.
And can we talk about the metro—the metro development, certainly in south Wales, which would not be taking place were it not for this Welsh Labour Government—and the transformational impact it has actually had? Lesley Griffiths, as Minister at the time, will remember how we actually talked about getting money from Welsh Government to buy the freehold to develop the Taff Precinct, in conjunction with Andrew Morgan, which has led to a £40 million development in Pontypridd, which together with the metro, when you look at Taff's Well as well, has actually begun to transform that town. It's a town that will have, potentially, a train every five minutes—state-of-the-art, modern, twenty-first century trains. None of that would have happened otherwise. We look at the failures and the betrayals we had from the Tories, year after year: electrification, Valleys lines, and so on.
And can I then just raise one further point? And that is this—[Interruption.] No, I've given you time, I'm just coming to a conclusion now. Tribunal legislation: I would really like an update on that in terms of the legislation and the progress being made, because that is also transformative of that part of the justice system we have, but also leads to the further development of the justice system. Hopefully, there will be a draft Bill that's there. It shows—in terms of looking at a justice system that, across the UK, has been collapsed, really, over the past 14 years, disastrously on a precipice—the opportunities we have in beginning to restore the part of the justice system we control, but also creating the first ever appellate structure for Wales, ever in its history, and also the opportunities for the development of a modern justice system that is geared towards justice. I understand the delays that are taking place, but at least we're moving in that direction, and it will happen. But it will only happen because we have a Welsh Labour Government in the Senedd here, and because we have a Labour Government in Westminster as well. Diolch yn fawr.
Wel, a gaf i ddweud bod yr ystadegau hynny—? Mae'n wiriondeb ceisio cymharu data o wlad o 3 miliwn gyda gwlad o 55 miliwn. Ond os nad oes gennych chi ysgolion gweddus yna ni fydd plant byth yn cael eu haddysgu, ac rydych chi'n edrych o gwmpas yr ysgolion sy'n cael eu datblygu ac yn gweld morâl uchel disgyblion yn rhai o'r ysgolion anhygoel gwych hynny—mae 700,000 o ddisgyblion yn Lloegr bellach yn byw mewn ysgolion anniogel—o ganlyniad i fuddsoddiad. Ac rydym ni'n cofio, wrth gwrs, mai ymrwymiad Boris Johnson i adeiladu ysgolion oedd cyflwyno pecyn o £1 biliwn ar gyfer Lloegr gyfan. Felly, mae honno'n stori lwyddiant wych.
Buddsoddiad Blaenau'r Cymoedd—rwy'n ei weld yn cael ei ddifrïo. Mae'n fuddsoddiad gwych, un rwy'n ei gofio pan oeddwn yn ymddiriedolwr Sefydliad Bevan, lle buom yn siarad am sut y gallai arwain at ffyniant ein hardaloedd yn y Cymoedd. Rwy'n cofio'r ymateb gan Rhodri Morgan ar y pryd, a oedd yn adeiladol, ond byddwn yn dymuno cael diweddariad nawr ynghylch sut rydym ni'n datblygu'r cynllun economaidd i wneud y mwyaf o'r budd a'r defnydd o hynny.
A gaf i hefyd ddiolch am y buddsoddiad rydym ni'n ei gael nawr yn Llantrisant, rydym ni'n ei gael ar gyfer y ganolfan ddiagnostig o fri hon, o £200 miliwn? Theatr lawdriniaeth, cyfleoedd diagnostig o'r radd flaenaf a fydd yn gwasanaethu rhannau helaeth o Gymru; trawsnewidiad i'r unfed ganrif ar hugain.
Ac a gawn ni siarad am y metro—y datblygiad metro, yn sicr yn y de, na fyddai'n digwydd oni bai am y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru—a'r effaith drawsnewidiol y mae wedi'i chael mewn gwirionedd? Bydd Lesley Griffiths, y Gweinidog ar y pryd, yn cofio sut y buom ni mewn gwirionedd yn siarad am gael arian gan Lywodraeth Cymru i brynu'r rhydd-ddaliad i ddatblygu Ardal Taf, ar y cyd ag Andrew Morgan, sydd wedi arwain at ddatblygiad gwerth £40 miliwn ym Mhontypridd, sydd ynghyd â'r metro, pan edrychwch chi ar Ffynnon Taf hefyd, wedi dechrau trawsnewid y dref honno mewn gwirionedd. Mae'n dref a fydd ganddi, o bosibl, drên bob pum munud—trenau modern, o'r radd flaenaf, ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ni fyddai unrhyw agwedd ar hynny wedi digwydd fel arall. Rydym ni'n edrych ar y methiannau a'r brad a gawsom ni gan y Torïaid, flwyddyn ar ôl blwyddyn: trydaneiddio, llinellau'r Cymoedd, ac ati.
A gaf i wedyn godi un pwynt arall? Sef hyn—[Torri ar draws.] Na, rydw i wedi rhoi amser i chi, rydw i'n dod i gasgliad nawr. Deddfwriaeth tribiwnlys: Fe hoffwn i ddiweddariad yn fawr iawn ar hynny o ran y ddeddfwriaeth a'r cynnydd sy'n cael ei wneud, oherwydd mae hynny hefyd yn trawsnewid y rhan honno o'r system gyfiawnder sydd gennym ni, ond hefyd yn arwain at ddatblygiad pellach y system gyfiawnder. Gobeithio, bydd Bil drafft yn y fan yna. Mae'n dangos—o ran edrych ar system gyfiawnder sydd, ledled y Deyrnas Unedig, wedi cael ei chwalu, mewn gwirionedd, dros y 14 mlynedd diwethaf, yn drychinebus ar erchwyn y dibyn—y cyfleoedd sydd gennym ni wrth ddechrau adfer y rhan o'r system gyfiawnder rydym ni'n ei rheoli, ond hefyd yn creu'r strwythur apêl cyntaf erioed i Gymru, erioed yn ei hanes, a hefyd y cyfleoedd ar gyfer datblygu system gyfiawnder fodern sy'n anelu at gyfiawnder. Rwy'n deall yr oedi sydd yna, ond o leiaf rydym ni'n symud i'r cyfeiriad hwnnw, a bydd yn digwydd. Ond bydd ond yn digwydd oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur Cymru yn y Senedd yma, ac oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan hefyd. Diolch yn fawr.
Politics for all of us should be about making changes and making a difference in people's lives. I want to talk briefly about three areas where I feel this Government has made changes, perhaps not going far enough, and then just look at three areas where I think changes have been made, but there are still questions.
I want to touch firstly on social care. I welcomed wholeheartedly the Health and Social Care (Wales) Bill, where we took the profit out of children's care. We led the way here in Wales, and I'm proud of that and that legislation. But, we're still in a place where nearly one in four older people wait more than 30 days for a care assessment. There are over 5,000 vacancies in the workforce, and, worryingly, one in four care workers say they intend to leave the profession within a year. Even more concerning is less than 1 per cent of unpaid carers received a carers' needs assessment in the last year, a shocking statistic given how vital unpaid carers are to the well-being of thousands across Wales. And the lack of commitment to social care means that our health service suffers. So, if we get social care right, then we can begin to fix our health service.
Secondly, on the environment, I welcome the efforts to phase out single-use plastic wipes and, as we've heard today, the investment in coal tip safety. Yet, trade bodies have made it clear that Wales is lagging behind other UK nations in realising its green energy potential. The green skills review planned for September is a good first step, but businesses say that they need skilled workers right now. So, in areas like renewable energy and green construction, we need to see more in order for our employers to deliver the economy we need to see here in Wales.
And finally, on childcare—childcare is another key area—I'm pleased to have secured additional funding for the Flying Start programme for two-year-olds, but we need more. We need affordable, accessible childcare. It's not a luxury, it's fundamental to economic growth, gender equality and to tackling child poverty. The First Minister has spoken of giving every family an opportunity, and I believe that starts with meaningful investment in childcare.
So, just to move on, I want to talk about three areas in the legislative programme where I will certainly be keeping the Government in the hot seat. Firstly, one of my proudest achievements has been helping to secure the Welsh Government's commitment to ban greyhound racing here in Wales. This is a landmark step forward for animal welfare and I thank those experts who are guiding the process. We expect legislation in the autumn, but significant work has to happen in order to ensure that—[Interruption.] In a minute, James, if I may. If legislation is to happen in the autumn, significant work has to happen before that to ensure the transition is responsible and compassionate. Thanks, James.
Dylai gwleidyddiaeth i bob un ohonom ni fod ynglŷn â gwneud newidiadau a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl. Fe hoffwn i siarad yn fyr am dri maes lle rwy'n teimlo bod y Llywodraeth hon wedi gwneud newidiadau, efallai heb fynd yn ddigon pell, ac yna edrych ar dri maes lle rwy'n credu bod newidiadau wedi'u gwneud, ond mae cwestiynau o hyd.
Fe hoffwn i grybwyll yn gyntaf gofal cymdeithasol. Croesawais y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn llwyr, lle gwnaethom ni gymryd yr elw o ofal plant. Fe wnaethom ni arwain y ffordd yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o hynny a'r ddeddfwriaeth honno. Ond, rydym ni'n dal i fod mewn sefyllfa lle mae bron i un o bob pedwar o bobl hŷn yn aros mwy na 30 diwrnod am asesiad gofal. Mae dros 5,000 o swyddi gwag yn y gweithlu, ac, yn bryderus, mae un o bob pedwar gweithiwr gofal yn dweud eu bod yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn blwyddyn. Hyd yn oed yn fwy pryderus yw bod llai nag 1 y cant o ofalwyr di-dâl wedi derbyn asesiad o anghenion gofalwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ystadegyn syfrdanol o ystyried pa mor hanfodol yw gofalwyr di-dâl i lesiant miloedd ledled Cymru. Ac mae'r diffyg ymrwymiad i ofal cymdeithasol yn golygu bod ein gwasanaeth iechyd yn dioddef. Felly, os gawn ni ofal cymdeithasol yn iawn, yna fe allwn ni ddechrau trwsio ein gwasanaeth iechyd.
Yn ail, o ran yr amgylchedd, rwy'n croesawu'r ymdrechion i gael gwared ar weips plastig untro ac, fel y clywsom ni heddiw, y buddsoddiad mewn diogelwch tomenni glo. Eto, mae cyrff masnach wedi ei gwneud hi'n glir bod Cymru yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill y DU wrth wireddu ei photensial ynni gwyrdd. Mae'r adolygiad sgiliau gwyrdd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi yn gam cyntaf da, ond mae busnesau'n dweud bod angen gweithwyr medrus arnyn nhw ar hyn o bryd. Felly, mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy ac adeiladu gwyrdd, mae angen i ni weld mwy er mwyn i'n cyflogwyr gyflawni'r economi y mae angen i ni ei gweld yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, o ran gofal plant—mae gofal plant yn faes allweddol arall—rwy'n falch o fod wedi sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg i blant dwy oed, ond mae angen mwy arnom ni. Mae angen gofal plant fforddiadwy, hygyrch. Nid yw'n foethusrwydd, mae'n sylfaenol i dwf economaidd, cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'r Prif Weinidog wedi siarad am roi cyfle i bob teulu, ac rwy'n credu bod hynny'n dechrau gyda buddsoddiad ystyrlon mewn gofal plant.
Felly, dim ond i symud ymlaen, fe hoffwn i siarad am dri maes yn y rhaglen ddeddfwriaethol lle byddaf yn sicr yn galw'r Llywodraeth i gyfrif. Yn gyntaf, un o'r llwyddiannau rwy'n fwyaf balch ohono yw helpu sicrhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wahardd rasio milgwn yma yng Nghymru. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ar gyfer lles anifeiliaid ac rwy'n diolch i'r arbenigwyr hynny sy'n llywio'r broses. Rydym ni'n disgwyl deddfwriaeth yn yr hydref, ond mae'n rhaid i waith sylweddol ddigwydd er mwyn sicrhau—[Torri ar draws.] Mewn munud, James, os caf i. Os mai'r bwriad yw deddfu yn yr hydref, mae'n rhaid i waith sylweddol ddigwydd cyn hynny i sicrhau bod y trawsnewidiad yn gyfrifol ac yn dosturiol. Diolch, James.
Thank you for giving way. You raise here about the ban on greyhound racing. I still have severe concerns about this. It wasn't in the Government's programme for government. It wasn't a manifesto commitment from the Labour Party. And it is a shame that we are going to see people down there losing their jobs and the impact on the local economy. Do you not realise that decisions like this actually are the thin edge of the wedge? What we'll now see is some of those organisations moving on to other areas that we don't want to see being banned. But, yet again, it's the Liberal Democrats working with their chums in Plaid Cymru and Labour to ban things that people have got no interest in banning in the first place.
Diolch am ildio. Rydych chi'n crybwyll yma y gwaharddiad ar rasio milgwn. Mae gen i bryderon difrifol am hyn o hyd. Nid oedd yn rhaglen y Llywodraeth ar gyfer llywodraethu. Nid oedd yn ymrwymiad maniffesto gan y Blaid Lafur. Ac mae'n drueni ein bod ni'n mynd i weld pobl yn fan yna yn colli eu swyddi a'r effaith ar yr economi leol. Onid ydych chi'n sylweddoli mai penderfyniadau fel hyn mewn gwirionedd yw dechrau pethau? Yr hyn y byddwn ni nawr yn ei weld yw bod rhai o'r sefydliadau hynny yn symud ymlaen i feysydd eraill nad ydym ni eisiau eu gweld yn cael eu gwahardd. Ond, unwaith eto, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio gyda'u ffrindiau ym Mhlaid Cymru a Llafur i wahardd pethau nad oes gan bobl ddiddordeb yn eu gwahardd yn y lle cyntaf.
I believe that people in your party, James, actually support a greyhound racing ban. You can turn around and look around you, but I'm not even going to respond at all to the points you've made. They don't even deserve a civilised response. [Interruption.] Of course I will. Thank you.
Rwy'n credu bod pobl yn eich plaid, James, mewn gwirionedd yn cefnogi gwaharddiad rasio milgwn. Fe allwch chi droi o gwmpas ac edrych o'ch cwmpas, ond nid wyf hyd yn oed yn mynd i ymateb o gwbl i'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn haeddu ymateb gwareiddiedig. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf i. Diolch.
I'll just wait for the microphone now. That's a silly argument, James, I've got to say, but one of the things—[Interruption.] Well, no, hear me out. One of the things I'm concerned about with the proposed greyhound racing ban is the impact on the track that is on a floodplain in my constituency. Can you make sure, when you're having dialogue with the Deputy First Minister, that the floodplain, which is remediated by the people who are currently there, that that issue is addressed and that the people of Ystrad Mynach won't suffer as a result of that track closing? I have to say that every time it's mentioned.
Mi wnaf i ond aros am y meicroffon nawr. Mae honno'n ddadl wirion, James, mae'n rhaid i mi ddweud, ond un o'r pethau— [Torri ar draws.] Wel, na, gwrandewch arnaf i. Un o'r pethau rydw i'n poeni amdano gyda'r gwaharddiad rasio milgwn arfaethedig yw'r effaith ar y trac sydd ar orlifdir yn fy etholaeth i. Allwch chi wneud yn siŵr, pan fyddwch chi'n trafod gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, bod y gorlifdir, sy'n cael ei gynnal gan y bobl sydd yno ar hyn o bryd, bod y mater hwnnw'n cael ei datrys ac na fydd pobl Ystrad Mynach yn dioddef o ganlyniad i'r trac hwnnw'n cau? Mae'n rhaid i mi ddweud hynny bob tro y sonnir amdano.
Yes, of course. I believe that Caerphilly County Borough Council have been invited onto the implementation group. I believe they didn't attend the first one. So, it's essential that they attend the implementation groups in order to make sure that they raise that point. I think that's one of the things that is really important.
I just want to move on, if I may. I want to return to a commitment I've long championed: tackling deliberate deception in politics. I welcomed the Welsh Government's plan to include this within the forthcoming Member accountability Bill, but we need to make sure we include the offence. And I know, along with Adam Price, we've had some really constructive discussions with the Counsel General. We need to make sure that we actually include that, and I just welcome assurances from the First Minister, if I may, to make sure that we have the opportunity to bring forward, if we can, those proposals.
Finally, I wish to raise once again the delay in the publication of the independent advisory group's report on the future energy grid for Wales. This really is critical for many areas in Wales, but particularly mid Wales. The report was due in March. It is now July, and we are still waiting. It's not just a delay about a technical inconvenience. Without the advisory group's recommendations, we are asking communities to accept decisions without clarity, without transparency and without trust. I've already written to the Cabinet Secretary asking for clarity on the costs of this group, given that they haven't delivered yet, and timelines. But today, again, I ask the First Minister: when will this long-awaited report be published, and will you ensure that communities are genuinely involved in shaping Wales's energy future?
Finally, to finish, Llywydd, I return to an issue that I started the afternoon with. That's child poverty. This Government has failed on child poverty. It has failed to set targets. It has failed to persuade your colleagues in Westminster to abolish the two-child benefit cap. You have failed, really sadly, to demonstrate a true commitment to one of the most shameful elements of us living here in Wales. We need to really see a tackling of child poverty that is genuine, that is about timescales and that is not about failing our children here in Wales. Diolch yn fawr iawn.
Wrth gwrs. Credaf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael gwahoddiad i'r grŵp gweithredu. Rwy'n credu na fuon nhw yn yr un cyntaf. Felly, mae'n hanfodol eu bod yn mynychu'r grwpiau gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn codi'r pwynt hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n un o'r pethau sy'n bwysig iawn.
Mae arnaf i eisiau symud ymlaen, os caf i. Mae arnaf i eisiau dychwelyd at ymrwymiad rydw i wedi ei hyrwyddo ers amser maith: mynd i'r afael â thwyll bwriadol mewn gwleidyddiaeth. Croesawais gynllun Llywodraeth Cymru i gynnwys hyn yn y Bil Atebolrwydd Aelodau sydd ar ddod, ond mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys y drosedd. Ac rwy'n gwybod, ynghyd ag Adam Price, ein bod ni wedi cael rhai trafodaethau adeiladol iawn gyda'r Cwnsler Cyffredinol. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys hynny mewn gwirionedd, ac rwy'n croesawu sicrwydd gan y Prif Weinidog, os caf i, i wneud yn siŵr bod gennym ni gyfle i gyflwyno'r cynigion hynny, os gallwn ni.
Yn olaf, fe hoffwn i grybwyll unwaith eto yr oedi wrth gyhoeddi adroddiad y grŵp cynghori annibynnol ynghylch grid ynni Cymru yn y dyfodol. Mae hyn yn hanfodol i lawer o ardaloedd yng Nghymru, ond yn enwedig y canolbarth. Roedd yr adroddiad i fod i'w gyhoeddi ym mis Mawrth. Mae hi nawr yn fis Gorffennaf, ac rydym ni'n dal i aros. Nid dim ond oedi ynglŷn ag anghyfleustra technegol yw hyn. Heb argymhellion y grŵp cynghori, rydym ni'n gofyn i gymunedau dderbyn penderfyniadau heb eglurder, heb dryloywder a heb ymddiriedaeth. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am eglurder ar gostau'r grŵp hwn, o ystyried nad ydyn nhw wedi cyflawni eto, ac amserlenni. Ond heddiw, unwaith eto, gofynnaf i'r Prif Weinidog: pryd y cyhoeddir yr adroddiad hir-ddisgwyliedig hwn, ac a wnewch chi sicrhau bod cymunedau'n cael rhan wirioneddol yn llunio dyfodol ynni Cymru?
Yn olaf, i orffen, Llywydd, dychwelaf at fater y dechreuais y prynhawn ag ef. Tlodi plant yw hwnnw. Mae'r Llywodraeth hon wedi methu ar dlodi plant. Mae wedi methu â gosod targedau. Mae wedi methu â pherswadio eich Aelodau cyfatebol yn San Steffan i ddiddymu'r cap budd-dal dau blentyn. Rydych chi wedi methu, yn anffodus iawn, dangos ymrwymiad gwirioneddol i un o'r elfennau mwyaf cywilyddus ohonom ni yn byw yma yng Nghymru. Mae angen i ni mewn difrif fynd i'r afael â thlodi plant, sy'n ymwneud ag amserlenni ac nad yw'n ymwneud â siomi ein plant yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Well, despite the Welsh Government being restricted with 15 years of debilitating austerity, COVID four to five years ago, cuts in European funding due to Brexit, and then a massive inflationary rise thanks to Liz Truss, despite that, so much has been achieved.
Recently many of us attended the reopening of Theatr Clwyd, which was in the programme for government and a manifesto commitment, and it's more than just a theatre. It will be an amazing community hub for young and old of all abilities, with a mother and toddler area, a youth area, a sensory garden and a toilet with a hoist, which a carer was pleased to tell me all about as well. It's doing outreach work and providing a lifeline and a home to the county music service.
There’s a new medical school in north Wales, popular allied health and nurse training places at Wrexham, a new orthopaedic hub being built in Llandudno, investment in community care at Denbigh and Bangor, and a new care home being opened in Flint, bringing waiting lists down. In every community there are new energy-efficient schools and social housing, council houses being retrofitted with new roofs, doors, windows and solar, private homes being made warmer with the Nest scheme, all bringing energy bills down, making sure that people don't get left behind.
What I really care about as well, and Welsh Government really cares about, is animal welfare: banning snares and traps, banning greyhound racing. Hefin, somebody actually said that they need an athletics track there for young people, so why not that? Also, caring about nature as well and biodiversity. The Local Places for Nature funding has created thousands of spaces—sensory gardens, allotments—bringing communities together, spaces for biodiversity and nature.
Rail travel has really improved significantly, with more carriages on the line and passenger numbers significantly increasing as well by, I think, about 25 per cent. So, next we need to apply that positivity to the bus Bill. In the meantime, we have a trial of the £1 bus fare for young people to encourage them to use public transport. Operators and passenger groups as well as young people have called for this. And last week we heard that Trydan Gwyrdd Cymru will be investing in three windfarms. They will be Welsh nationally owned, with money staying in Wales being reinvested. They'll be using wooden poles instead of pylons in the area—Adam's been raising that—but they are also working in partnership with the Urdd to ensure that every child gets a summer outdoor activity break and learns about career pathways in renewable energy, so it's proper partnership working.
I get asked a bit sceptically, ‘Why all these announcements now in an election year?’ and I know the finance Minister is being cautious with a one-year budget, and showing there is funding for whoever comes next, not just chucking it all in. But I know that there has been extra money from a change of UK Government, making a difference, as well as plans that take a while to develop coming to fruition, such as with Theatr Clwyd, the football museum in Wrexham, and the National Slate Museum as well. That return to public funding with a change of UK Government has been so important.
We are rapidly passing legislation with not long left of the Senedd. The bus Bill and the environment Bill are still going through the inquiry process at committee, but they hopefully will make a really big difference. It's good to see that the First Minister and Government are making rapid progress, focusing on her priorities, with targets driving delivery. It feels there are new announcements every week.
Wel, er bod Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu gan 15 mlynedd o gyni gwanychol, COVID bedair i bum mlynedd yn ôl, toriadau mewn cyllid Ewropeaidd oherwydd Brexit, ac yna cynnydd enfawr mewn chwyddiant diolch i Liz Truss, er gwaethaf hynny, mae cymaint wedi'i gyflawni.
Yn ddiweddar, mynychodd llawer ohonon ni ddigwyddiad ailagor Theatr Clwyd, a oedd yn y rhaglen lywodraethu ac yn ymrwymiad yn y maniffesto, ac mae'n fwy na dim ond theatr. Bydd yn ganolfan gymunedol anhygoel i bobl hen ac ifanc o bob gallu, gydag ardal i famau a phlant bach, ardal i bobl ifanc, gardd synhwyraidd a thoiled gydag offer codi, yr oedd gofalwr yn falch o sôn wrthyf amdano hefyd. Mae'n gwneud gwaith allgymorth ac yn darparu achubiaeth a chartref i wasanaeth cerddoriaeth y sir.
Mae yna ysgol feddygol newydd yn y gogledd, lleoedd poblogaidd ar gyfer hyfforddi proffesiynau perthynol i iechyd a nyrsys yn Wrecsam, canolfan orthopedig newydd yn cael ei hadeiladu yn Llandudno, buddsoddiad mewn gofal cymunedol yn Ninbych a Bangor, a chartref gofal newydd yn cael ei agor yn y Fflint, a fydd yn lleihau rhestrau aros. Ym mhob cymuned, mae yna ysgolion a thai cymdeithasol newydd sy'n effeithlon o ran ynni, tai cyngor yn cael eu hôl-osod â thoeau, drysau, ffenestri a thechnoleg solar newydd, cartrefi preifat yn cael eu gwneud yn gynhesach gyda chynllun Nyth, y mae pob un ohonyn nhw'n dod â biliau ynni i lawr, gan sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl.
Yr hyn rwy'n poeni amdano hefyd, ac mae Llywodraeth Cymru wir yn poeni amdano, yw lles anifeiliaid: gwahardd maglau a thrapiau, gwahardd rasio milgwn. Hefin, dywedodd rhywun fod angen trac athletau yno ar gyfer pobl ifanc, felly pam ddim hynny? Hefyd, gofalu am natur a bioamrywiaeth. Mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi creu miloedd o leoedd—gerddi synhwyraidd, rhandiroedd—gan ddod â chymunedau ynghyd, lleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a natur.
Mae teithio ar y trên wedi gwella'n sylweddol, gyda mwy o gerbydau ar y llinell a chynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr hefyd, rwy'n credu, tua 25 y cant. Felly, nesaf mae angen i ni gymhwyso'r positifrwydd hwnnw i'r Bil bysiau. Yn y cyfamser, rydyn ni'n treialu'r tocyn bws £1 i bobl ifanc i'w hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gweithredwyr a grwpiau teithwyr yn ogystal â phobl ifanc wedi galw am hyn. A'r wythnos diwethaf, fe wnaethon ni glywed y bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn buddsoddi mewn tair fferm wynt. Byddan nhw'n eiddo cenedlaethol i Gymru, gydag arian a fydd yn aros yng Nghymru yn cael ei ailfuddsoddi. Byddan nhw'n defnyddio polion pren yn hytrach na pheilonau yn yr ardal—mae Adam wedi bod yn codi hynny—ond maen nhw hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r Urdd i sicrhau bod pob plentyn yn cael seibiant gweithgareddau awyr agored yn yr haf ac yn dysgu am lwybrau gyrfa mewn ynni adnewyddadwy, felly mae'n waith partneriaeth go iawn.
Mae pobl yn gofyn i mi yn amheugar, 'Pam yr holl gyhoeddiadau hyn nawr mewn blwyddyn etholiad?' ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog cyllid yn bod yn ofalus gyda chyllideb blwyddyn, ac yn dangos bod cyllid i bwy bynnag sy'n dod nesaf, yn hytrach na thaflu'r cyfan i mewn. Ond rwy'n gwybod bod arian ychwanegol oherwydd newid yn Llywodraeth y DU, sy'n gwneud gwahaniaeth, yn ogystal â chynlluniau sy'n cymryd tipyn o amser i'w datblygu yn dwyn ffrwyth, megis gyda Theatr Clwyd, yr amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam, a'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol hefyd. Mae'r dychwelyd hwnnw i gyllid cyhoeddus yn sgil newid yn Llywodraeth y DU wedi bod mor bwysig.
Rydyn ni'n pasio deddfwriaeth yn gyflym heb lawer o amser ar ôl o'r Senedd. Mae'r Bil bysiau a Bil yr amgylchedd yn dal i fynd trwy'r broses ymchwilio yn y pwyllgor, ond gobeithio y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Mae'n dda gweld bod y Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn gwneud cynnydd cyflym, gan ganolbwyntio ar ei blaenoriaethau, gyda thargedau yn ysgogi'r broses gyflawni. Mae'n teimlo bod cyhoeddiadau newydd bob wythnos.
Would you take an intervention?
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Yes.
Gwnaf.
Thank you for taking the intervention. Would you accept Jane Dodds's point in terms of child poverty? Surely, with child poverty rates getting worse, there are no targets linked to that plan. I think it's really, really crucial that we focus. Do the people of Wales feel that things are better? No, they don't. Foodbank use is increasing. Is that really a measure of success in Wales in 2025?
Diolch am gymryd yr ymyriad. A fyddech chi'n derbyn pwynt Jane Dodds o ran tlodi plant? Yn sicr, gyda chyfraddau tlodi plant yn gwaethygu, nid oes unrhyw dargedau sy'n gysylltiedig â'r cynllun hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol hanfodol ein bod ni'n ffocysu. Ydy pobl Cymru yn teimlo bod pethau'n well? Na, dydyn nhw ddim. Mae'r defnydd a wneir o fanciau bwyd yn cynyddu. A yw hynny wir yn fesur o lwyddiant yng Nghymru yn 2025?
I'd just like to respond to that. So, on welfare, under the previous Tory UK Government, welfare cuts really impacted on families. The bedroom tax, yes, the two-child limit, and I know that the First Minister and Jane Hutt, our social justice Minister, have been making representations regarding the two-child cap. The change to universal credit was horrendous by the previous UK Government, and austerity has impacted on all public services, but slowly things are changing and the Welsh Government has made sure that people are not being left behind with what they can do—uniform grants, the summer Fit and Fed schemes, all this work goes in to make sure that people aren't left behind.
It is good to see the First Minister and the Government making rapid progress. It feels there are new announcements every week. Some schemes may take the next few years to see fruition, as we have just had funding, but we need to ensure a return of a Welsh Labour Government to ensure that that happens.
Hoffwn i ymateb i hynny. Felly, o ran lles, o dan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU, roedd toriadau lles wir yn cael effaith fawr ar deuluoedd. Y dreth ystafell wely, ie, y terfyn dau blentyn, ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog a Jane Hutt, ein Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, wedi bod yn gwneud sylwadau ynglŷn â'r cap dau blentyn. Roedd y newid i gredyd cynhwysol yn ofnadwy gan Lywodraeth flaenorol y DU, ac mae cyni wedi effeithio ar yr holl wasanaethau cyhoeddus, ond mae pethau'n newid yn araf ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl gyda'r hyn y gallan nhw ei wneud—grantiau gwisg ysgol, cynlluniau Bwyd a Hwyl yr haf, mae'r holl waith hwn yn sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl.
Mae'n dda gweld y Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn gwneud cynnydd cyflym. Mae'n teimlo bod cyhoeddiadau newydd bob wythnos. Efallai y bydd rhai cynlluniau'n dwyn ffrwyth yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan mai newydd gael cyllid ydym ni, ond mae angen i ni sicrhau mai Llywodraeth Lafur sy'n dychwelyd i Gymru i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Y Prif Weinidog nawr i ymateb i'r ddadl.
The First Minister to reply to the debate.

Diolch yn fawr, Llywydd. We've heard plenty of criticism today, but very few ideas or solutions. This Government is delivering real change, and it's clear to me that very few of the opposition Members have read the programme for government report, where progress is clear. That's why we're opposing the Conservative amendments, because, frankly, to talk about lack of progress is absurd. It ignores the facts and it ignores the lived experience of people across Wales who are seeing waiting times fall, social homes being built, new trains on their local lines and new jobs being created in their community. Darren Millar talks about failure. Let's talk about Tory failure. Not one single Member of Parliament in Wales. That's what I would call failure. And we're opposing Plaid Cymru's amendment. They may claim we failed on our priorities, but again, the facts tell a different story.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydyn ni wedi clywed digon o feirniadaeth heddiw, ond ychydig iawn o syniadau neu ddatrysiadau. Mae'r Llywodraeth hon yn cyflawni newid gwirioneddol, ac mae'n amlwg i mi mai ychydig iawn o Aelodau'r gwrthbleidiau sydd wedi darllen yr adroddiad ar y rhaglen lywodraethu, lle mae'r cynnydd yn glir. Dyna pam rydyn ni'n gwrthwynebu gwelliannau'r Ceidwadwyr, oherwydd, a bod yn onest, mae siarad am ddiffyg cynnydd yn hurt. Mae'n anwybyddu'r ffeithiau ac mae'n anwybyddu profiad bywyd pobl ledled Cymru sy'n gweld amseroedd aros yn gostwng, cartrefi cymdeithasol yn cael eu hadeiladu, trenau newydd ar eu llinellau lleol a swyddi newydd yn cael eu creu yn eu cymuned. Mae Darren Millar yn siarad am fethiant. Gadewch i ni siarad am fethiant y Torïaid. Dim un Aelod Seneddol yng Nghymru. Dyna beth fyddwn i'n ei alw'n fethiant. Ac rydyn ni'n gwrthwynebu gwelliant Plaid Cymru. Efallai y byddan nhw'n honni ein bod ni wedi methu ar ein blaenoriaethau, ond eto, mae'r ffeithiau'n adrodd stori wahanol.
Will you take an intervention? Thank you. It says something that tackling child poverty isn't a priority. Do you accept that child poverty has been getting worse? We don't have targets and it is predicted to get worse still. That is a sign of a failing Labour Government, surely.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch. Mae'n dweud rhywbeth nad yw mynd i'r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth. Ydych chi'n derbyn bod tlodi plant wedi bod yn gwaethygu? Does ganddon ni ddim targedau a'r rhagolwg yw y bydd yn gwaethygu eto. Mae hynny'n arwydd o Lywodraeth Lafur sy'n methu, does bosib.

We are very concerned about levels of child poverty. We are making clear representations to the UK Government on the two-child benefit cap. We are pouring money into things like making sure that there are free school meals for children to make sure that they have a full belly. So, it is important that we do what we can within the confines of the budgets that we have, but we do need the UK Government to ensure that they take up their responsibilities as well.
But I tell you what, how much more difficult would it have been to deliver all of this and to deliver on child poverty if the Tories and Plaid had had their way? Because you tried to block £1.6 billion of extra funding that was money to go to front-line services, including tackling child poverty. And you did not vote for it. [Interruption.] I'm not taking an intervention.
The longest waits have fallen sharply and we have determined that we're going to drive them down further. Wages in Wales have grown faster than in England since 2011. We've seen a 30 per cent increase in the number of jobs as a result of inward investment just in the past year. We're making real headway on housing despite those global headwinds, and when it comes to rail funding, it's a Labour Government in Westminster that's finally shifting the dial after years of Tory refusal to even engage. You may think that £450 million is something you can sniff at. This is something we're taking seriously.
Rydyn ni'n bryderus iawn am lefelau tlodi plant. Rydyn ni'n gwneud sylwadau clir i Lywodraeth y DU ar y cap budd-dal dau blentyn. Rydyn ni'n arllwys arian i bethau fel gwneud yn siŵr bod prydau ysgol am ddim i blant i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw foliau llawn. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yr hyn y gallwn ni o fewn y cyllidebau sydd gennym ni, ond mae angen i Lywodraeth y DU sicrhau eu bod yn ymgymryd â'u cyfrifoldebau nhw hefyd.
Ond chi'n gwybod beth? Faint yn anoddach y byddai hi wedi bod i gyflawni hyn i gyd ac i gyflawni ar dlodi plant pe bai'r Torïaid a Phlaid wedi cael eu ffordd? Oherwydd fe wnaethoch chi geisio atal £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol a oedd yn arian i fynd i wasanaethau rheng flaen, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant. Ac ni wnaethoch chi bleidleisio drosto. [Torri ar draws.] Wnaf i ddim derbyn ymyriad.
Mae'r amserau aros hiraf wedi gostwng yn sydyn ac rydyn ni wedi penderfynu ein bod ni'n mynd i'w gostwng ymhellach. Mae cyflogau yng Nghymru wedi tyfu'n gyflymach nag yn Lloegr ers 2011. Rydyn ni wedi gweld cynnydd o 30 y cant yn nifer y swyddi o ganlyniad i fewnfuddsoddi yn y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni'n gwneud cynnydd gwirioneddol ar dai, er gwaethaf y ffactorau byd-eang hynny, a phan ddaw i gyllid rheilffyrdd, Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n symud y deial o'r diwedd ar ôl blynyddoedd o wrthod ymgysylltu, hyd yn oed, gan y Torïaid. Efallai eich bod chi'n meddwl bod £450 miliwn yn rhywbeth y gallwch chi ei wfftio. Mae hyn yn rhywbeth yr ydyn ni'n ei gymryd o ddifrif.
Will you take another intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?

No, I won't take another intervention. We're delivering on our legislative—[Interruption.] No, I will not. We're delivering on our legislative programme and we're delivering more. That's not a Government in retreat. We didn't have things like the issues that Jane Dodds was concerned with, like making sure that we banned greyhound racing. No, that wasn't originally in our legislative programme, but it is now. We're also interested in making sure that we respond to the deaf community and their concerns as well when it comes to legislation. [Interruption.] No, I will not take an intervention.
Let's not forget the fact that the Tories spent 14 years undermining our services, starving Wales of funding and now they want to lecture us on delivery. I don't think so. Plaid talk a good game, but when push comes to shove, they vote with the Tories to block money to support our essential services. This is a Welsh Labour Government that does the hard yards.
Yes, we're proud of what we've achieved, and, yes, we know there's more to do. But with a renewed focus, with support from a UK Labour Government, and with the full force of the Labour movement behind us, we're going to finish this term by delivering even more for the people of Wales, because that's what they elected us to do, and that's exactly what we're delivering.
Na, wnaf i ddim derbyn ymyriad arall. Rydyn ni'n cyflawni ar ein rhaglen—[Torri ar draws.] Na, wnaf i ddim. Rydyn ni'n cyflawni ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ac rydyn ni'n cyflawni mwy. Nid Llywodraeth sy'n camu'n ôl yw honno. Doedd ganddon ni ddim pethau fel y materion yr oedd Jane Dodds yn pryderu amdanyn nhw, fel gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwahardd rasio milgwn. Na, doedd hynny ddim yn ein rhaglen ddeddfwriaethol yn wreiddiol, ond mae e nawr. Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n ymateb i'r gymuned fyddar a'u pryderon hefyd o ran deddfwriaeth. [Torri ar draws.] Na, wnaf i ddim derbyn ymyriad.
Gadewch i ni beidio ag anghofio'r ffaith bod y Torïaid wedi treulio 14 mlynedd yn tanseilio ein gwasanaethau, yn amddifadu Cymru o gyllid a nawr maen nhw eisiau rhoi darlith i ni ar gyflawni. Dydw i ddim yn credu. Mae Plaid yn siarad yn dda, ond yn y pen draw, maen nhw'n pleidleisio gyda'r Torïaid i rwystro arian i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol. Llywodraeth Lafur Cymru sy'n gwneud y gwaith caled yw hon.
Ydyn, rydyn ni'n falch o'r hyn yr ydyn ni wedi'i gyflawni, ac, ydyn, rydyn ni'n gwybod bod mwy i'w wneud. Ond gyda ffocws o'r newydd, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Lafur y DU, a chyda grym llawn y mudiad Llafur y tu ôl i ni, rydyn ni'n mynd i orffen y tymor hwn trwy gyflawni hyd yn oed mwy i bobl Cymru, oherwydd dyna'r hyn y gwnaethon nhw ein hethol ni i'w wneud, a dyna'n union rydyn ni'n ei gyflawni.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni'r pleidleisiau ar yr eitem yma yn y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree amendment 1. Does any member object? [Objection.] There is objection, therefore we will take the votes on this item during voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch.
That brings us to voting time, unless three Members wish for the bell to be rung.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 11. Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth yw'r bleidlais yma. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jack Sargeant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 10 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
The first vote this afternoon is on item 11. This vote is on the LCM on the Employment Rights Bill. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Jack Sargeant. Open the vote. Close the vote. In favour 27, 10 abstentions, 13 against. Therefore, that motion is agreed.
Eitem 11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hawliau Cyflogaeth: O blaid: 27, Yn erbyn: 13, Ymatal: 10
Derbyniwyd y cynnig
Item 11. Legislative Consent Motion: The Employment Rights Bill: For: 27, Against: 13, Abstain: 10
Motion has been agreed
Eitem 14 yw'r bleidlais nesaf. Cyfnod 4 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yw'r bleidlais yma. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Huw Irranca-Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r bleidlais yna ar y Cyfnod 4 wedi ei chymeradwyo.
Item 14 is the next vote. This vote is on Stage 4 of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill. So, I call for a vote on the motion, tabled in the name of Huw Irranca-Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 50, no abstentions, none against. That motion on Stage 4 is therefore agreed.
Eitem 14. Cyfnod 4 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) : O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Item 14. Stage 4 of The Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill: For: 50, Against: 0, Abstain: 0
Motion has been agreed
Eitem 15 yw'r pleidleisiau nesaf. Yr eitem yma yw'r ddadl ar gyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Pleidlais ar welliant 1 fydd gyntaf, ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cal eu dad-ddethol. Y bleidlais gyntaf felly, ar welliant 1, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae'r gwelliant yn cael ei wrthod.
Item 15 is the next votes. This item is the debate on delivering the Government's priorities and legislative programme. We'll have a vote on amendment 1 first, and, if amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected. The first vote is therefore on amendment 1, tabled in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 10, no abstentions, 40 against. Therefore, amendment 1 is not agreed.
Eitem 15. Dadl: Cyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 15. Debate: Delivering the Government’s Priorities and Legislative Programme. Amendment 1, tabled in the name of Heledd Fychan: For: 10, Against: 40, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 2, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais ar welliant 2. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Amendment 2, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote on amendment 2. Close the vote. In favour 23, no abstentions, 27 against. Therefore, amendment 2 is not agreed.
Eitem 15. Dadl: Cyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 15. Debate: Delivering the Government’s Priorities and Legislative Programme. Amendment 2, tabled in the name of Paul Davies: For: 23, Against: 27, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 3, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn.
Amendment 3, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 23, no abstentions, 27 against.
Eitem 15. Dadl: Cyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 15. Debate: Delivering the Government’s Priorities and Legislative Programme. Amendment 3, tabled in the name of Paul Davies: For: 23, Against: 27, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio. Agor y bleidlais. [Torri ar draws.] Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig heb ei ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
The last vote is on the motion as amended. Open the vote. [Interruption.] The final vote is on the motion unamended. Open the vote. Close the vote. In favour 26, no abstentions, 24 against. Therefore, the motion unamended is agreed.
Eitem 15. Dadl: Cyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Cynnig (heb ei ddiwygio): O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Item 15. Debate: Delivering the Government’s Priorities and Legislative Programme. Motion (unamended): For: 26, Against: 24, Abstain: 0
Motion has been agreed
Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau, a diwedd ar ein gwaith ni am heddiw.
That's the end of voting time, and that brings today's proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:55.
The meeting ended at 18:55.