Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/07/2025

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 2. Business Statement and Announcement
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Iechyd y Geg mewn Plant 3. Statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care: Children’s Oral Health
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Dull Gweithredu o ran Cyllideb 2026-27 4. Statement by the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language: The Approach to the 2026-27 Budget
5. Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025 5. The Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (Exclusions and Variation of Campaign Expenditure Limits) (Wales) Regulations 2025
6. Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025 6. Statutory Instrument Consent Motion: The Legislative Reform (Disclosure of Adult Social Care Data) Order 2025
7. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 7. Motion to vary the order of Stage 3 amendments to the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill
9. Cyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 9. Stage 3 of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill
Grŵp 1: Pŵer i estyn y Ddeddf i ddocfeydd ac angorfeydd (Gwelliannau 67, 104, 108) Group 1: Power to extend Act to berths and moorings (Amendments 67, 104, 108)
Grŵp 2: Adolygu’r Ddeddf (Gwelliannau 65, 66, 105) Group 2: Review of Act (Amendments 65, 66, 105)
Grŵp 3: Partneriaethau a chyrff anghorfforedig (Gwelliannau 1, 53, 19, 20, 60, 38, 39, 40, 51) Group 3: Partnerships and unincorporated bodies (Amendments 1, 53, 19, 20, 60, 38, 39, 40, 51)
Grŵp 4: Cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr (Gwelliannau 2, 3, 116, 68, 106, 109, 110, 111) Group 4: Register of visitor accommodation providers (Amendments 2, 3, 116, 68, 106, 109, 110, 111)
Grŵp 5: Cosbau (Gwelliannau 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 54, 55) Group 5: Penalties (Amendments 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 54, 55)
Grŵp 6: Cyfraddau’r ardoll (Gwelliannau 69, 77, 78, 79, 80, 81, 83, 84, 85) Group 6: Rates of the levy (Amendments 69, 77, 78, 79, 80, 81, 83, 84, 85)
Grŵp 7: Esemptiadau ac ad-daliadau (Gwelliannau 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 22, 119, 120, 121, 122) Group 7: Exemptions and refunds (Amendments 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 22, 119, 120, 121, 122)
Grŵp 8: Amrywiol (Gwelliannau 21, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 58, 61, 62, 63, 32, 33, 34, 41, 43, 49, 52) Group 8: Miscellaneous (Amendments 21, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 58, 61, 62, 63, 32, 33, 34, 41, 43, 49, 52)
Grŵp 9: Ychwanegu swm ychwanegol at gyfradd ardoll (Gwelliannau 82, 86, 87, 118, 88, 113, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 107) Group 9: Adding an additional amount to the levy rate (Amendments 82, 86, 87, 118, 88, 113, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 107)
Grŵp 10: Rhoi cyfrif am yr ardoll, a thalu’r ardoll (Gwelliannau 114, 89, 115, 90, 29, 56, 57, 59, 64) Group 10: Accounting for, and payment of, the levy (Amendments 114, 89, 115, 90, 29, 56, 57, 59, 64)
Grŵp 11: Defnyddio enillion yr ardoll (Gwelliannau 30, 31) Group 11: Use of proceeds of the levy (Amendments 30, 31)
Grŵp 12: Swyddogaethau prif gyngor o dan Ran 3 (Gwelliannau 35, 36, 37, 50) Group 12: Functions of a principal council under Part 3 (Amendments 35, 36, 37, 50)
Grŵp 13: Newid o ran personau sy’n darparu llety ymwelwyr (Gwelliannau 42, 44, 45, 46, 47, 48) Group 13: Change in persons that provide visitor accommodation (Amendments 42, 44, 45, 46, 47, 48)
Grŵp 14: Dod i rym (Gwelliannau 117, 112) Grŵp 14: Dod i rym (Gwelliannau 117, 112)

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Rhys ab Owen.

Good afternoon and welcome, all, to this Plenary session. The first item on our agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question this afternoon is from Rhys ab Owen.

Ysgol Gymraeg Llundain
Ysgol Gymraeg Llundain

1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gefnogi'r gymuned Gymraeg yn Llundain yn dilyn y cyhoeddiad bod ei grant blynyddol i Ysgol Gymraeg Llundain wedi'i dynnu'n ôl? OQ62938

1. What consideration has the Welsh Government given to supporting the Welsh-speaking community in London following the announcement that its annual grant to Ysgol Gymraeg Llundain has been withdrawn? OQ62938

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi camu mewn i sicrhau cyllid ar gyfer y flwyddyn academaidd lawn i Ysgol Gymraeg Llundain. Ers dros ddegawd, mae mwy nag £1.2 filiwn wedi cael ei fuddsoddi i gadw'r Gymraeg yn fyw yn Llundain, a bydd y cymorth yn parhau er mwyn helpu'r gymuned i ddysgu, siarad a dathlu'n hiaith.

The Welsh Labour Government has stepped in to guarantee funding for the full academic year to Ysgol Gymraeg Llundain. For over a decade, more than £1.2 million has been invested to keep Cymraeg alive in London, and support will continue to help the community to learn, speak and celebrate our language.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi ymestyn y grant nawr hyd at ddiwedd mis Awst 2026, ond mae angen sicrwydd hirdymor ar yr ysgol. Wedi blynyddoedd heriol COVID, mae nifer y disgyblion yn cynyddu unwaith eto. Dyma'r amser i fuddsoddi yn yr ysgol. Mae'n llawer mwy na dim ond ysgol. Mae'n cynnal llwyth o ddigwyddiadau Cymraeg a diwylliedig, fel meithrinfa, aelwyd yr Urdd, gwersi dawnsio gwerin, côr, ac maen nhw'n llysgenhadon i ni mewn digwyddiadau o bwys yn Llundain.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg sôn am fuddsoddi mewn dosbarthiadau Sadwrn, ond dyw dosbarthiadau Sadwrn ddim yr un peth ag ysgol gynradd amser llawn. Mewn dosbarth Sadwrn y gwnaeth addysg Gymraeg yng Nghaerdydd gychwyn, gyda Rhodri Morgan yn un o'r disgyblion cyntaf. Ond doedd hynna ddim yr un peth â'r ysgol yr aethoch chi a fi iddi, Brif Weinidog. Ac mae Ysgol Gymraeg Llundain yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Julie Morgan ar hyd y blynyddoedd. Does dim byd yn fwy effeithiol i sicrhau siaradwyr rhugl Cymraeg nag addysg Gymraeg lawn amser. Mae Ysgol Gymraeg Llundain wedi gwneud hynny am bron i 70 o flynyddoedd—cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o siaradwyr Cymraeg rhugl sydd wedi gwasanaethu Cymru mewn sawl maes gwahanol. Gyda'r Llywodraeth yn ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn y gymuned Gymraeg yn Llundain, a ydych chi'n fodlon ailystyried y penderfyniad, a'r ffordd orau i wneud hynny yw trwy fuddsoddi yn yr ysgol Gymraeg? Diolch yn fawr.

Thank you, First Minister. I'm pleased the the Government has now extended the grant to the end of August 2026, but we need long-term assurances for this school. Following the challenging COVID years, the number of pupils is again increasing. Now is the time to invest in the school. It's far more than just a school. It holds a series of Welsh language and cultural events, such a nursery, an Urdd aelwyd, folk dancing lessons, a choir, and they are ambassadors for us at important events in London.

Last week, the Cabinet Secretary for Welsh language spoke about investing in Saturday classes, but Saturday classes aren't the same as a full-time primary school. Welsh language education in Cardiff started as a Saturday class, with Rhodri Morgan as one of the first pupils. But that wasn't the same as the school that you and I attended, First Minister. And Ysgol Gymraeg Llundain is very grateful for the support of Julie Morgan over the years. Nothing is more effective to ensure fluent Welsh speakers than full-time Welsh-medium education. Ysgol Gymraeg Llundain has done that for nearly 70 years—generation after generation of fluent Welsh speakers who have served Wales in several different areas. With the Government committing to continuing to invest in the Welsh-speaking community in London, are you willing to reconsider this decision, and the best way to do that is by investing in the Welsh language school? Thank you.

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi bod yn buddsoddi ers degawd a mwy yn dangos ein bod ni â diddordeb i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fyw yn Llundain. Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd i danlinellu'r ffaith bod nifer y disgyblion wedi bod yn isel dros ben ers y pandemig. Y flwyddyn nesaf, dim ond 10 disgybl fydd yna, ac, wrth gwrs, mae gyda ni gyfrifoldeb fel Llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyflwyno'r gwerth am arian mwyaf posibl o ran arian cyhoeddus. Felly, tra'n bod ni, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi'r ymdrechion arbennig y maen nhw wedi'u gwneud—yn sicr, gyda Miri Mawr a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda'r ysgol feithrin, ac ati, ac rŷn ni wedi helpu gyda Dydd Miwsig Cymru, ac mae pethau eraill rŷn ni'n eu gwneud i helpu—dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn realistig, a'r ffaith yw, pan mai dim ond 10 o ddisgyblion sydd yna, mae'n rhaid i chi ofyn cwestiynau ynglŷn â chynaliadwyedd.

Thank you very much. I think the fact that we have been investing in the school for a decade and more demonstrates that we are interested in ensuring that the Welsh language continues to be a living language in London. But I do think it's also important to highlight the fact that the number of pupils has been very low since the pandemic. Next year, there will only be 10 pupils, and, of course, we do have a responsibility as a Government to ensure that we provide the best possible value for money in terms of public money. So, whilst we do, of course, appreciate the great efforts that they have made—certainly, with Miri Mawr and the work that they do with the nursery school, and so on, and we've helped with Dydd Miwsig Cymru, and there are other things that we do to assist—I do think we have to be realistic, and the fact is, when you only have 10 pupils, you do have to ask questions on sustainability.

Brif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn yn eich ateb am nifer y plant oedd yn yr ysgol—tua 10 y flwyddyn nesaf. Dwi'n credu bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o blant a rhieni yn dewis Ysgol Gymraeg Llundain yn y dyfodol, i weithio gyda'r ysgol i sicrhau bod dyfodol i'r iaith yn Llundain, nid dim ond yng Nghymru. Felly, pa waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud gyda'r ysgol i sicrhau bod dyfodol nid dim ond tan y flwyddyn nesaf, ond yn y dyfodol hirdymor hefyd?

First Minister, in your response, you spoke about the number of pupils at the school—around 10 pupils next year. I think that there's a responsibility on the Welsh Government to ensure that more children and parents choose Ysgol Gymraeg Llundain in future, working with the school to ensure that there is a future for the language in London, not just in Wales. So, what work is the Government doing with the school to ensure that there is a future not just up to the end of next year, but in the longer term future too?

Mae'n blaenoriaeth ni ar ddisgyblion yng Nghymru. Dyna ble rŷn ni'n mynd i ganolbwyntio ein gwaith ni. Dyna pam mai un o'r pethau rŷn ni'n ei wneud yw buddsoddi £11 miliwn i sefydlu darpariaeth trochi iaith. Felly, os yw pobl yn mynd i fyw yn Llundain a'u bod nhw eisiau dod nôl ac eisiau i'w plant nhw fynd i ysgol Gymraeg, mae yna gyfle iddyn nhw wneud hynny, os nad ydyn nhw wedi cael y cyfle yn Llundain i siarad Cymraeg, trwy'r canolfannau trochi yma. Mae £11 miliwn yn lot o arian. Dwi'n meddwl mai dyna'r ffordd well i ni fynd ati o ran sicrhau bod cyfle gan bobl sy'n mynd i fyw yn Llundain gael y cyfle i ddod nôl i fynd i ysgolion Cymraeg pan fyddan nhw'n dod adref.

Our priority is pupils in Wales. That's where we're going to focus our efforts. That's why one of the things we're doing is investing £11 million to establish language immersion provision. So, if people do go to live in London and they want to return and they want their children to attend a Welsh-medium school, there's an opportunity for them to do so, if they haven't had the opportunity to speak Welsh in London, through these immersion centres. Eleven million pounds is a lot of money. I think that is the better approach in terms of ensuring that people who do go to live in London have an opportunity to return and to attend Welsh-medium schools when they do return home.

I'm very concerned about the future of Ysgol Gymraeg Llundain. I was involved previously as an MP. I was very pleased to hear this morning that the £90,000 annual grant to the school has been extended until August. But, I am assured by the people running the school that they have planned numbers that will increase, and that they will be getting back up to the same numbers as they've had in the past. I don't think anything can really substitute having an actual school where children can learn Welsh in London. I think this unique way of the Welsh language flourishing outside Wales is something that we should be protecting and working to develop. So, I really feel that, once it's gone, we'll never have it again. So, I do ask the Government to continue to consider whether it can continue with the grant for a longer period of time, but I'm very pleased that you've already shown some extension.

Rwy'n bryderus iawn am ddyfodol Ysgol Gymraeg Llundain. Roedd gen i gysylltiad yn y gorffennol fel AS. Roeddwn i'n falch iawn o glywed y bore yma bod y grant blynyddol o £90,000 i'r ysgol wedi cael ei ymestyn tan fis Awst. Ond, rwy'n cael fy sicrhau gan y bobl sy'n rhedeg yr ysgol bod ganddyn nhw niferoedd arfaethedig a fydd yn cynyddu, ac y byddan nhw'n dychwelyd i'r un niferoedd ag y bu ganddyn nhw yn y gorffennol. Dydw i ddim yn credu y gall unrhyw beth ddisodli bod ag ysgol go iawn lle gall plant ddysgu Cymraeg yn Llundain. Rwy'n credu bod y ffordd unigryw hon o'r Gymraeg yn ffynnu y tu allan i Gymru yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei amddiffyn ac yn gweithio i'w ddatblygu. Felly, rwyf i wir yn teimlo, unwaith y bydd wedi mynd, na fydd hi gennym ni fyth eto. Felly, rwyf i'n gofyn i'r Llywodraeth barhau i ystyried a all barhau gyda'r grant am gyfnod hwy, ond rwy'n falch iawn eich bod chi eisoes wedi dangos rhywfaint o estyniad.

13:35

Thank you. The Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language met with the school yesterday and has confirmed that additional funding for the full 2025-26 academic year. I think there was recognition that you can't stop people halfway through the term. But, I do think we have to be honest, the school is on very shaky ground from September. As I say, there'll be 10 pupils, and the Welsh Government's grant is a contribution to the overall costs. I do think they have to think seriously about what a sustainable model might look like going forward. We're more than happy to work with the school. We'd like a solution. We want learners to keep learning Welsh, but I do think we have to be realistic about what's possible here.

Diolch. Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg gyfarfod gyda'r ysgol ddoe ac mae wedi cadarnhau'r cyllid ychwanegol hwnnw ar gyfer blwyddyn academaidd lawn 2025-26. Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth na allwch chi stopio pobl hanner ffordd drwy'r tymor. Ond, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn onest, mae'r ysgol ar dir sigledig iawn o fis Medi. Fel y dywedais i, bydd 10 disgybl, ac mae grant Llywodraeth Cymru yn gyfraniad at y costau cyffredinol. Rwy'n credu bod yn rhaid iddyn nhw feddwl o ddifrif am sut y gallai model cynaliadwy edrych yn y dyfodol. Rydym ni'n fwy na hapus i weithio gyda'r ysgol. Hoffem gael ateb. Rydym ni eisiau i ddysgwyr barhau i ddysgu Cymraeg, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â'r hyn sy'n bosibl yma.

Gwasanaethau Deintyddol ym Mhreseli Sir Benfro
Dental Services in Preseli Pembrokeshire

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62930

2. Will the First Minister make a statement on the provision of dental services in Preseli Pembrokeshire? OQ62930

Diolch i'r newidiadau y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'u gwneud i'r contract deintyddol presennol i wella mynediad, fe wnaeth mwy nag 11,000 o gleifion newydd ar draws gorllewin Cymru weld deintydd NHS a chael cwrs llawn o driniaeth y llynedd. Roedd y rhain yn gyfran o'r cyfanswm o bron i 87,000 o gleifion a gafodd eu trin gan yr NHS ym maes deintyddiaeth yn Hywel Dda. Mae hynny'n dangos bod ein diwygiadau ni yn gweithio, ac rydyn ni'n cyflawni'r newidiadau mwyaf sylweddol i ddeintyddiaeth yn yr NHS ers talwm.

Thanks to changes that the Welsh Labour Government has made to improve access in the current dental contract, more than 11,000 new patients across west Wales saw an NHS dentist and received a full course of treatment in the last year. These were part of the nearly 87,000 patients in total treated by the NHS in dentistry in Hywel Dda. That shows that our reforms are working, and we’re delivering the biggest shake-up of NHS dentistry in the past 20 years.

Whatever you say, First Minister, you'll be aware of recent concerns raised by the British Dental Association, which has claimed that the Welsh Government's proposed NHS dental reforms are a leap in the dark that could destroy the service. Those are their words, not my words. As you know, access to dental care has been a huge problem in Pembrokeshire for many years. I have repeatedly raised this in the Chamber, and now even Henry Tufnell, the local Labour MP, has quite rightly stepped in and said that the Welsh Government's reforms, as proposed, could make a bad situation even worse, particularly for rural areas like Pembrokeshire. Therefore, in light of the concerns raised by the sector, by me, and now by the Labour MP, will the Welsh Government pause and listen to the warnings of those in the profession and meaningfully engage with the British Dental Association to find a way forward before it's too late?

Beth bynnag y byddwch chi'n ei ddweud, Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o bryderon diweddar a godwyd gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain, sydd wedi honni bod diwygiadau deintyddol GIG arfaethedig Llywodraeth Cymru yn naid yn y tywyllwch a allai ddinistrio'r gwasanaeth. Eu geiriau nhw yw'r rheini, nid fy ngeiriau i. Fel y gwyddoch chi, mae mynediad at ofal deintyddol wedi bod yn broblem enfawr yn sir Benfro ers blynyddoedd lawer. Rwyf i wedi codi hyn dro ar ôl tro yn y Siambr, a bellach mae hyd yn oed Henry Tufnell, yr AS Llafur lleol, wedi camu i mewn yn gwbl briodol a dweud y gallai diwygiadau Llywodraeth Cymru, fel y'u cynigwyd, wneud sefyllfa wael hyd yn oed yn waeth, yn enwedig i ardaloedd gwledig fel sir Benfro. Felly, yng ngoleuni'r pryderon a godwyd gan y sector, gennyf i, a nawr gan yr AS Llafur, a wnaiff Llywodraeth Cymru oedi a gwrando ar rybuddion y rhai yn y proffesiwn ac ymgysylltu'n ystyrlon â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddod o hyd i ffordd ymlaen cyn ei bod hi'n rhy hwyr?

We have spent 13 months working with the British Dental Association to design the new contract. They were fully involved in developing those proposals, and they are out for consultation. It's been the biggest response to a consultation, I think, ever in the history of devolution. So, obviously, we will take time now to go through those responses and make sure that we respond accordingly. What is important, of course, is to recognise that, as in all negotiations, there are aspects on which the parties agree and aspects where there are more contentious issues. So, of course we will be taking those consultation responses seriously, but I do reject the assertion that the British Dental Association has not been involved in these negotiations.

Rydym ni wedi treulio 13 mis yn gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddylunio'r contract newydd. Fe wnaethon nhw chwarae rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu'r cynigion hynny, ac maen nhw'n destun ymgynghoriad. Hwn fu'r ymateb mwyaf i ymgynghoriad, rwy'n credu, erioed yn hanes datganoli. Felly, yn amlwg, byddwn ni'n cymryd amser nawr i fynd drwy'r ymatebion hynny a gwneud yn siŵr ein bod ni'n ymateb yn briodol. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw cydnabod, fel ym mhob trafodaeth, bod agweddau y mae'r partïon yn cytuno arnyn nhw ac agweddau lle ceir materion mwy dadleuol. Felly, wrth gwrs, byddwn ni'n cymryd yr ymatebion ymgynghori hynny o ddifrif, ond rwy'n gwrthod yr honiad nad yw Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi bod yn rhan o'r trafodaethau hyn.

Good afternoon, First Minister. I just want to continue the issue around dentistry, particularly in rural areas like Pembrokeshire, and also in Powys and in mid Wales. Access to dentistry in rural areas is particularly challenging. People have to travel further and they have to wait on waiting lists for much longer. I just wanted to raise, if I may, two issues. One is that the Welsh Government launched a dental access portal in February of this year, which was designed, obviously, to pool together all of the people who are waiting for an NHS dentist across Wales—a welcome development, but I really would like to know when is it that we, as Welsh politicians, will get the numbers from that portal, broken down by area, so that we know what the picture is in our areas. And a potential solution for a rural area, like Preseli Pembrokeshire, is possibly a mobile dentistry unit. I and James Evans went to see the one that Powys Teaching Health Board had in Hay-on-Wye. It seemed to be a really positive development in getting out to our rural areas and being able to meet the needs of the population. So, I wonder if you could respond, please, on those two issues. Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn barhau â'r mater ynghylch deintyddiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel sir Benfro, a hefyd ym Mhowys ac yn y canolbarth. Mae mynediad at ddeintyddiaeth mewn ardaloedd gwledig yn arbennig o anodd. Mae'n rhaid i bobl deithio ymhellach ac mae'n rhaid iddyn nhw aros ar restrau aros am lawer hirach. Hoffwn godi, os caf i, ddau fater. Un yw bod Llywodraeth Cymru wedi lansio porth mynediad deintyddol ym mis Chwefror eleni, a oedd â'r bwriad, yn amlwg, o gyfuno'r holl bobl sy'n aros am ddeintydd GIG ledled Cymru—datblygiad i'w groesawu, ond byddwn wir yn hoffi gwybod pryd y byddwn ni, fel gwleidyddion Cymru, yn cael y niferoedd o'r porth hwnnw, wedi'u dadansoddi fesul ardal, fel ein bod ni'n gwybod beth yw'r darlun yn ein hardaloedd. Ac ateb posibl i ardal wledig, fel Preseli Sir Benfro, yw uned ddeintyddiaeth symudol o bosibl. Fe es i a James Evans i weld yr un yr oedd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn y Gelli Gandryll. Roedd yn ymddangos ei fod yn ddatblygiad cadarnhaol iawn o ran mynd allan i'n hardaloedd gwledig a gallu diwallu anghenion y boblogaeth. Felly, tybed a allech chi ymateb, os gwelwch yn dda, ar y ddau fater hynny. Diolch yn fawr iawn.

13:40

Diolch yn fawr iawn. Certainly, when it comes to the dental access portal, I know you've pushed us on this for a long time, and I am really pleased to see that it is now very much up and running. I would like to give you some credit for pushing us on that, Jane. But I am sure we can give you the numbers broken down, so I think the health Secretary can help you with that.

But I think your idea about mobile dentistry is also something that is absolutely worth us considering, particularly, as you say, in rural areas. I know that Hywel Dda are using a mobile unit located in St David's park, just to try and increase the urgent treatment capacity, and, as you say, you've been to see the one in Powys. There are limitations with mobile dentistry. For example, sometimes, there are mechanical issues in relation to infection prevention and control, and travel requirements. So, sometimes, they might only be fit for use during certain periods. But I'd just like to say, in relation in particular to rural dentistry, we acknowledge it's difficult, sometimes, to recruit people to those rural areas. And that's why, since September 2024, we have given an additional £7,000 salary uplift to dentists working in those areas, and that comes along with enhanced academic and well-being support, and all of those places have been filled. So, that's good news.

Diolch yn fawr iawn. Yn sicr, o ran y porth mynediad deintyddol, rwy'n gwybod eich bod chi wedi ein gwthio ni ar hyn ers amser maith, ac rwy'n falch iawn o weld ei fod bellach yn gwbl weithredol. Hoffwn roi rhywfaint o glod i chi am ein gwthio ni ar hynny, Jane. Ond rwy'n siŵr y gallwn ni roi'r niferoedd i chi wedi'u dadansoddi, felly rwy'n credu y gall yr Ysgrifennydd iechyd eich helpu chi gyda hynny.

Ond rwy'n credu bod eich syniad am ddeintyddiaeth symudol hefyd yn rhywbeth sy'n sicr yn werth i ni ei ystyried, yn enwedig, fel y dywedwch chi, mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n gwybod bod Hywel Dda yn defnyddio uned symudol wedi'i lleoli ym mharc Dewi Sant, dim ond i geisio cynyddu'r capasiti triniaeth frys, ac, fel y dywedwch chi, rydych chi wedi bod i weld yr un ym Mhowys. Ceir cyfyngiadau gyda deintyddiaeth symudol. Er enghraifft, weithiau, ceir problemau mecanyddol o ran atal a rheoli heintiau, a gofynion teithio. Felly, weithiau, efallai y byddan nhw ddim ond yn addas i'w defnyddio yn ystod cyfnodau penodol. Ond hoffwn ddweud, o ran deintyddiaeth wledig, ein bod ni'n cydnabod ei bod hi'n anodd, weithiau, recriwtio pobl i'r ardaloedd gwledig hynny. A dyna pam, ers mis Medi 2024, yr ydym ni wedi rhoi codiad cyflog ychwanegol o £7,000 i ddeintyddion sy'n gweithio yn yr ardaloedd hynny, ac mae hynny'n dod ynghyd â gwell cymorth academaidd a llesiant, ac mae'r holl leoedd hynny wedi cael eu llenwi. Felly, mae hynny'n newyddion da.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Questions now from the party leaders. The leader of the Welsh Conservatives, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. First Minister, last week, I wrote to you to ask whether you supported the UK Government's decision to prescribe the Palestine Action group as a terrorist organisation. You'll be aware that the group has recently targeted RAF Brize Norton, causing millions of pounds-worth of damage to British defence equipment, and it's also been responsible for attacks on companies here in Wales. Palestine Action, First Minister, is not engaged in peaceful protest. It's an extremist group involved in co-ordinated criminal attacks that threaten our national security and intimidate workers in critical industries. So, can you tell us today if you will support our military bases and our defence industry here in Wales by backing the UK Government's decision to prescribe Palestine Action as a terror organisation?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ysgrifennais atoch i ofyn a oeddech chi'n cefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i ragnodi'r grŵp Palestine Action fel sefydliad terfysgol. Byddwch yn ymwybodol bod y grŵp wedi targedu RAF Brize Norton yn ddiweddar, gan achosi gwerth miliynau o bunnoedd o ddifrod i offer amddiffyn Prydain, ac mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am ymosodiadau ar gwmnïau yma yng Nghymru. Nid yw Palestine Action, Prif Weinidog, yn cymryd rhan mewn protest heddychlon. Mae'n grŵp eithafol sy'n ymgymryd ag ymosodiadau troseddol cydgysylltiedig sy'n bygwth ein diogelwch cenedlaethol ac yn bygwth gweithwyr mewn diwydiannau hollbwysig. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni heddiw a fyddwch chi'n cefnogi ein canolfannau milwrol a'n diwydiant amddiffyn yma yng Nghymru drwy gefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i ragnodi Palestine Action fel sefydliad terfysgol?

Wel, first of all, I'd like to say a few words about Palestine, because I do think the situation there is extremely grave. I had the honour of meeting the UN representative last week, and many of you did as well. We are hearing absolute harrowing stories about what is going on in that area, and I think it's incumbent on all of us to draw attention to the dire situation and the extreme approach that is being taken there, in particular when it comes to preventing food from getting to the people in those areas. Look, I condemn attacks by any organisation. I think that is wrong, and that would include the Palestine people's organisation.

Wel, yn gyntaf oll, hoffwn ddweud ychydig eiriau am Balesteina, oherwydd rwy'n credu bod y sefyllfa yno yn hynod ddifrifol. Cefais yr anrhydedd o gyfarfod â chynrychiolydd y Cenhedloedd Unedig yr wythnos diwethaf, ac fe wnaeth llawer ohonoch chithau hefyd. Rydym ni'n clywed straeon cwbl dorcalonnus am yr hyn sy'n digwydd yn yr ardal honno, ac rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i dynnu sylw at y sefyllfa ofnadwy a'r dull eithafol sy'n cael ei fabwysiadu yno, yn enwedig o ran atal bwyd rhag cyrraedd y bobl yn yr ardaloedd hynny. Edrychwch, rwy'n condemnio ymosodiadau gan unrhyw sefydliad. Rwy'n credu bod hynny'n anghywir, a byddai hynny'n cynnwys sefydliad pobl Palesteina.

First Minister, you didn't give a clear answer in terms of whether you support the UK Government's action to prescribe Palestine Action as a terrorist group. I'm sorry that you didn't give that clarity, and perhaps you could in response to this second question. Let's be clear, the Welsh Conservatives support the UK Government's decision. We are unequivocal in stating that that's our position. 

Now, in recent days, First Minister, I have spoken to leaders of the Jewish community here in Wales. They tell me that many in their community are distressed, extremely distressed, and fearful as a result of the scenes from Glastonbury over the weekend. Those were scenes that were broadcast by the publicly funded BBC, and they showed a so-called artist calling for, and I quote,

'death, death to the IDF' 

and for Palestine to be free, quote,

'from the river to the sea.'

Those chants were repeated by a huge crowd at that huge music festival, and, even outside the Senedd today, those chants have been repeated at a protest that was attended by Labour and Plaid MSs. Will you join me in condemning such hateful and vile chants, condemn the BBC for broadcasting them, and what discussions are you now going to have with your own party's MSs and with the leaders of the Jewish community in Wales to reassure them of the Welsh Government's support?

Prif Weinidog, wnaethoch chi ddim rhoi ateb eglur o ran a ydych chi'n cefnogi cam Llywodraeth y DU i ragnodi Palestine Action fel grŵp terfysgol. Mae'n ddrwg gen i na wnaethoch chi roi'r eglurder hwnnw, ac efallai y gallech chi wneud hynny mewn ymateb i'r ail gwestiwn hwn. Gadewch i ni fod yn eglur, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU. Rydym ni'n ddiamwys wrth ddatgan mai dyna ein safbwynt. 

Nawr, yn ystod y dyddiau diwethaf, Prif Weinidog, rwyf wedi siarad ag arweinwyr y gymuned Iddewig yma yng Nghymru. Maen nhw'n dweud wrthyf i fod llawer yn eu cymuned yn ofidus, yn hynod ofidus, ac yn ofnus o ganlyniad i'r golygfeydd o Glastonbury dros y penwythnos. Roedd y rhain yn olygfeydd a ddarlledwyd gan y BBC a ariennir yn gyhoeddus, ac fe wnaethon nhw ddangos artist honedig yn galw am, ac rwy'n dyfynnu,

'marwolaeth, marwolaeth i'r IDF' 

ac i Balesteina fod yn rhydd, dyfyniad,

'o'r afon i'r môr.'

Ailadroddwyd y siantiau hynny gan dorf enfawr yn yr ŵyl gerddoriaeth enfawr honno, ac, hyd yn oed y tu allan i'r Senedd heddiw, mae'r siantiau hynny wedi cael eu hailadrodd mewn protest yr oedd ASau Llafur a Phlaid Cymru yn bresennol ynddi. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio siantiau casineb a ffiaidd o'r fath, i gondemnio'r BBC am eu darlledu, a pha drafodaethau ydych chi'n mynd i'w cael nawr gydag ASau eich plaid eich hun a chydag arweinwyr y gymuned Iddewig yng Nghymru i'w sicrhau o gefnogaeth Llywodraeth Cymru?

13:45

Look, I'm very clear that it is not right to stir up hatred against any community, and, frankly, it's illegal, which is why there is a police inquiry going on at the moment, and that is absolutely the right thing to do. So, I am with the Prime Minister in condemning those actions and, of course, we all have a responsibility to make sure that we don't stir up hatred within our communities. There are plenty of other organisations that are happy to do that. 

Edrychwch, rwy'n eglur iawn nad yw'n iawn i ysgogi casineb yn erbyn unrhyw gymuned, ac, yn gwbl onest, mae'n anghyfreithlon, a dyna pam mae ymchwiliad yr heddlu yn digwydd ar hyn o bryd, a dyna'n sicr yw'r peth iawn i'w wneud. Felly, rwyf i gyda Phrif Weinidog y DU o ran condemnio'r gweithredoedd hynny ac, wrth gwrs, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i wneud yn siŵr nad ydym ni'n ysgogi casineb yn ein cymunedau. Mae digonedd o sefydliadau eraill sy'n hapus i wneud hynny.

So, First Minister, I gave you a second chance to answer my first question, which you didn't answer, about whether you support the UK Government's decision to proscribe Palestine Action as a terror organisation. I gave you the opportunity to tell us whether you'd spoken to leaders of the Jewish community and what action you were going to take in terms of speaking to your own Members, but you haven't answered that question, either. I'm going to ask you another question, and you may like, in response to this, to answer the first two questions that I put to you. Because it's not only Glastonbury, unfortunately, that offers a potential platform for hate. Next month, Wales is going to host the Green Man festival, a festival that has benefited from significant financial support from the Welsh Government over a number of years, including the purchase of the land near Crickhowell for over £4 million to support the festival's projects.

Now, this year, the organisers have chosen to invite the rap group Kneecap, which has openly incited violence and expressed antisemitic rhetoric. My party has called on the festival to deplatform the band from Green Man, and so have Gill and Pete Brisley from Bridgend. Gill and Pete's daughter and granddaughters were brutally murdered by Hamas terrorists on 7 October 2023, and their son-in-law, Eli Sharabi, was held hostage by Hamas for 16 months until he was released, in an emaciated condition, in February of this year. First Minister, can you tell me: do you support the Brisley family in calling for Kneecap to be deplatformed, and will you confirm today that no more taxpayers' money will ever be given to this festival unless they withdraw Kneecap's invitation to perform?

Felly, Prif Weinidog, rhoddais ail gyfle i chi ateb fy nghwestiwn cyntaf, na wnaethoch chi ei ateb, ynglŷn â pha un a ydych chi'n cefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiarddel Palestine Action fel sefydliad terfysgol. Rhoddais gyfle i chi ddweud wrthym ni a oeddech chi wedi siarad ag arweinwyr y gymuned Iddewig a pha gamau yr oeddech chi'n mynd i'w cymryd o ran siarad â'ch Aelodau eich hun, ond nid ydych chi wedi ateb y cwestiwn hwnnw chwaith. Rwy'n mynd i ofyn cwestiwn arall i chi, ac efallai yr hoffech chi, mewn ymateb i hwn, ateb y ddau gwestiwn cyntaf a ofynnais i chi. Oherwydd nid Glastonbury yn unig, yn anffodus, sy'n cynnig llwyfan posibl ar gyfer casineb. Fis nesaf, bydd Cymru yn cynnal gŵyl y Dyn Gwyrdd, gŵyl sydd wedi elwa o gymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys prynu'r tir ger Crucywel am dros £4 miliwn i gefnogi prosiectau'r ŵyl.

Nawr, eleni, mae'r trefnwyr wedi dewis gwahodd y grŵp rap Kneecap, sydd wedi annog trais yn agored ac wedi mynegi rhethreg wrthsemitaidd. Mae fy mhlaid wedi galw ar yr ŵyl i wadu llwyfan i'r band yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd, ac mae Gill a Pete Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr wedi gwneud hynny hefyd. Llofruddiwyd merch ac wyresau Gill a Pete yn annynol gan derfysgwyr Hamas ar 7 Hydref 2023, a chafodd eu mab-yng-nghyfraith, Eli Sharabi, ei ddal yn wystl gan Hamas am 16 mis tan iddo gael ei ryddhau, yn groen ac esgyrn, ym mis Chwefror eleni. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf i: a ydych chi'n cefnogi'r teulu Brisley yn eu galwad i wrthod rhoi llwyfan i Kneecap, ac a wnewch chi gadarnhau heddiw na fydd mwy o arian trethdalwyr byth yn cael ei roi i'r ŵyl hon oni bai eu bod nhw'n tynnu gwahoddiad Kneecap i berfformio yn ôl?

Well, the Welsh Government does support new artists in relation to the Green Man festival, but we are not responsible for paying for the other artists that attend the Green Man festival. It is obviously up to the festival organisers to determine who they invite. I do think that they need to think very carefully about who they invite and the potential problems that may arise if they are to use that as a platform to divide people and to talk hatred. So, I do think that it's important that they consider that, but let me just make it clear: the Welsh Government does not pay for the artists in Green Man. 

Wel, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi artistiaid newydd o ran gŵyl y Dyn Gwyrdd, ond nid ydym ni'n gyfrifol am dalu am yr artistiaid eraill sy'n mynd i ŵyl y Dyn Gwyrdd. Cyfrifoldeb trefnwyr yr ŵyl, yn amlwg yw penderfynu pwy maen nhw'n eu gwahodd. Rwy'n credu bod angen iddyn nhw feddwl yn ofalus iawn am bwy maen nhw'n eu gwahodd a'r problemau posibl a allai godi os byddan nhw'n defnyddio hynny fel llwyfan i rannu pobl ac i fynegi casineb. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eu bod nhw'n ystyried hynny, ond gadewch i mi ei gwneud hi'n eglur: nid yw Llywodraeth Cymru yn talu am yr artistiaid yn ngŵyl y Dyn Gwyrdd. 

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

The leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. When she was elected to office last August, the First Minister pledged to restore trust in politics, so it was disappointing to witness a u-turn on that pledge—yes, another Labour u-turn—at her party's conference in Llandudno at the weekend. Let's look at what we learned from those two days: a blatant lie from the Secretary of State for Wales that a Plaid Cymru Government would scrap free prescriptions, and then some absurd claim about post-election back-room deals from the Prime Minister, Keir Starmer. Now, these are pretty desperate claims from a party that is clearly becoming more and more desperate. And rather than restore trust in politics, this kind of nonsense further erodes it. So, with her own pledge in mind and with a guarantee from me today, as before, that a Plaid Cymru Government would of course do none of those things, and nobody would believe that we would anyway, will the First Minister join me in condemning those who damage our politics through mistruths?

Diolch, Llywydd. Pan gafodd ei hethol i'r swydd fis Awst diwethaf, addawodd y Prif Weinidog adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, felly roedd hi'n siomedig gweld tro pedol o ran yr addewid hwnnw—ie, tro pedol arall gan Lafur arall—yng nghynhadledd ei phlaid yn Llandudno dros y penwythnos. Gadewch i ni edrych ar yr hyn a ddarganfuwyd gennym o'r ddau ddiwrnod hynny: celwydd amlwg gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dileu presgripsiynau am ddim, ac yna rhyw honiad hurt am gytundebau ystafell gefn ar ôl yr etholiad gan Brif Weinidog y DU, Keir Starmer. Nawr, mae'r rhain yn honiadau eithaf anobeithiol gan blaid sy'n amlwg yn dod yn fwy a mwy anobeithiol. Ac yn hytrach nag adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, mae'r math hwn o nonsens yn ei herydu ymhellach. Felly, gyda'i haddewid ei hun mewn golwg a gyda sicrwydd gen i heddiw, fel o'r blaen, y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud dim o'r pethau hynny, wrth gwrs, ac ni fyddai neb yn credu y byddem ni beth bynnag, a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gondemnio'r rhai sy'n niweidio ein gwleidyddiaeth trwy gamwireddau?

Well, you take such a keen interest in our party, don't you? I'm so glad that you spent the whole weekend watching what we did in our party conference, and we did have a rather marvellous time. And it is important, I think, to recognise that whilst Plaid talks, Labour delivers—you continue to talk from the sidelines, and we are at the table making a difference.

Look, you had the opportunity today to ask me a question on all of the many, many, many areas that I have responsibility for, and what you're interested in, once again, is about what's happening in Westminster. Look, if you really were that interested in Westminster, you should have stuck to your plan A and gone there.

Wel, rydych chi'n cymryd diddordeb mor frwd yn ein plaid, onid ydych chi? Rwyf i mor falch eich bod chi wedi treulio'r penwythnos cyfan yn gwylio'r hyn a wnaethom ni yng nghynhadledd ein plaid, ac fe gawsom ni amser go wych. Ac mae'n bwysig, rwy'n credu, cydnabod tra bod Plaid Cymru yn siarad, mae Llafur yn cyflawni—rydych chi'n parhau i siarad o'r ystlys, ac rydym ni wrth y bwrdd yn gwneud gwahaniaeth.

Edrychwch, cawsoch chi gyfle heddiw i ofyn cwestiwn i mi am bob un o'r meysydd niferus iawn, iawn y mae gen i gyfrifoldeb amdanyn nhw, a'r hyn y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, unwaith eto, yw'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Edrychwch, os oedd gennych chi gymaint â hynny o ddiddordeb yn San Steffan, dylech chi fod wedi cadw at eich cynllun gwreiddiol a mynd yno.

13:50

Of course, I remind the Baroness that she still has a seat there, of course, but it says a lot—[Laughter.] It says a lot, does it not, that she doesn't believe that integrity is important in politics. We've certainly learned more, haven't we, over the past few days, that Labour is a party about survival now, and not renewal. The renewal offered by Plaid Cymru is that of principle, rather than political pressure, driving policies. It's why all Plaid Cymru MPs will vote against Starmer's welfare reforms today. These are changes, remember, which disproportionately impact vulnerable people in Wales, yet they're only opposed by a handful of Labour MPs in Wales. Last week, I urged the First Minister to ask Labour MPs from Wales to vote against the proposals. She wouldn't, and, in fact, on Sunday, she told Radio Wales that she's only the leader of her party's Senedd Members, and that Labour MPs representing Welsh seats vote according to the Westminster whip. It's for her to explain whether she's always believed that there's no such thing as a Welsh Labour MP.

But on today's vote specifically—and, again, I emphasise that this has a direct impact on devolved issues and on devolved budgets—I'm interested in why the First Minister said last-minute changes to the reforms to try to avoid a catastrophic vote—not because of a letter of hers, of course—were welcome concessions, even though they still push thousands into poverty and create a two-tier system.

So, as she has welcomed them, can we assume that the First Minister has carried out a new impact assessment, in which case, can she share the results of that assessment with us, or, if she hasn't, why is her support so unqualified when she has no idea of the harms the reforms will cause?

Wrth gwrs, dylwn atgoffa'r Farwnes bod ganddi hi sedd yno o hyd, wrth gwrs, ond mae'n dweud llawer—[Chwerthin.] Mae'n dweud llawer, onid yw, nad yw hi'n credu bod uniondeb yn bwysig mewn gwleidyddiaeth. Rydym ni'n sicr wedi dysgu mwy, onid ydym ni, dros y dyddiau diwethaf, bod Llafur yn blaid sy'n ceisio goroesi nawr, ac nid adnewyddu. Mae'r adnewyddiad a gynigir gan Blaid Cymru yn un o egwyddor, yn hytrach na phwysau gwleidyddol, yn ysgogi polisïau. Dyna pam y bydd holl ASau Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn diwygiadau lles Starmer heddiw. Mae'r rhain yn newidiadau, cofiwch, sy'n effeithio'n anghymesur ar bobl agored i niwed yng Nghymru, ac eto dim ond llond llaw o ASau Llafur yng Nghymru sy'n eu gwrthwynebu. Yr wythnos diwethaf, anogais y Prif Weinidog i ofyn i ASau Llafur o Gymru bleidleisio yn erbyn y cynigion. Ni chytunodd, ac, mewn gwirionedd, ddydd Sul, dywedodd wrth Radio Wales mai dim ond arweinydd Aelodau o'r Senedd ei phlaid yw hi, a bod ASau Llafur sy'n cynrychioli seddi Cymru yn pleidleisio yn unol â chwip San Steffan. Ei chyfrifoldeb hi yw egluro a yw hi wedi credu erioed nad oes y fath beth ag AS Llafur Cymru.

Ond ar y bleidlais heddiw yn benodol—ac, eto, rwy'n pwysleisio bod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar faterion datganoledig ac ar gyllidebau datganoledig—mae gen i ddiddordeb pam wnaeth y Prif Weinidog ddweud bod newidiadau munud olaf i'r diwygiadau i geisio osgoi pleidlais drychinebus—nid oherwydd llythyr ganddi hi, wrth gwrs—yn gonsesiynau i'w groesawu, er eu bod nhw'n dal i wthio miloedd i dlodi ac yn creu system dwy haen.

Felly, gan ei bod hi wedi eu croesawu, a allwn ni dybio bod y Prif Weinidog wedi cynnal asesiad effaith newydd, ac os felly, a all hi rannu canlyniadau'r asesiad hwnnw gyda ni, neu, os nad yw hi, pam mae ei chefnogaeth mor bendant pan nad oes ganddi syniad o'r niwed y bydd y diwygiadau yn ei achosi?

Well, look, I am really pleased that there are 200,000 people in Wales now who previously were really concerned about whether they would be able to continue receiving personal independence payments—there's been a change of heart, and they are no longer at threat of losing that PIP, and we've been consistent in terms of our approach in relation to that. I'm really pleased that there will be a review of PIP that will be undertaken; I'm very pleased that the Cabinet Member responsible has spent a lot of time on the weekend talking to the Minister responsible about how they can look at the model we use in Wales in terms of co-production to make sure that we land this in a place that balances the need and the desire of disabled people to get into work and the need for us to provide that support. So, there's a huge amount that we are able to do. I very much welcome the change of heart, and obviously there are lots of issues in relation to welfare reform. The current system that was set up under the Tories is broken; it's a system that traps people in poverty. In the Labour Party, we are absolutely standing with and by the most vulnerable people in our society. We are the party of fairness, but we also recognise that the people who can work should work, but we protect the most vulnerable.

Wel, edrychwch, rwy'n falch iawn bod 200,000 o bobl yng Nghymru nawr a oedd yn bryderus iawn gynt ynglŷn a pha un a fydden nhw'n gallu parhau i dderbyn taliadau annibyniaeth personol—bu newid meddwl, ac nid ydyn nhw bellach mewn perygl o golli'r taliad hwnnw, ac rydym ni wedi bod yn gyson o ran ein hagwedd yn hynny o beth. Rwy'n falch iawn y bydd adolygiad o daliadau annibyniaeth personol a fydd yn cael ei gynnal; rwy'n falch iawn bod yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol wedi treulio llawer o amser dros y penwythnos yn siarad â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am sut y gallan nhw edrych ar y model yr ydym ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru o ran cyd-gynhyrchu i wneud yn siŵr ein bod ni'n glanio hyn mewn man sy'n cydbwyso angen ac awydd pobl anabl i weithio a'r angen i ni ddarparu'r cymorth hwnnw. Felly, mae llawer iawn yr ydym ni'n gallu ei wneud. Rwy'n croesawu'r newid meddwl yn fawr, ac yn amlwg ceir llawer o broblemau o ran diwygio lles. Mae'r system bresennol a sefydlwyd o dan y Torïaid wedi torri; mae'n system sy'n dal pobl mewn tlodi. Yn y Blaid Lafur, rydym ni'n sefyll yn gwbl gadarn gyda'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ni yw plaid tegwch, ond rydym ni hefyd yn cydnabod y dylai'r bobl sy'n gallu gweithio weithio, ond rydym ni'n amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed.

I remind the First Minister that PIP isn't an out-of-work benefit, of course, and I remind her also that Sadiq Khan in London and Andy Burnham in Manchester are very, very keen to make it clear to Keir Starmer what they think of, still, the welfare reforms that are in front of us, and it's clear from the response there that the First Minister has no real issue with having a two-tier welfare system, at least not enough to stand up to Labour MPs in Westminster. But what about grassroots members of her own party? I applaud them for voting at the weekend in favour of two motions—one on fair funding for Wales, the other on devolution of the Crown Estate—agreeing with long-standing positions taken by Plaid Cymru. And with the Crown Estate figures published today showing £1.1 billion in profit last year, including £132 million going to the King, we shouldn't be surprised that people are getting angry. But it seems people who have been loyal to Labour are far more progressive than the party's leader, so no wonder more and more of them are turning to Plaid Cymru. Labour's leadership in Westminster are barriers to change. The Secretary of State for Wales, Jo Stevens, remains stubbornly opposed to both the devolution of the Crown Estate and truly fair funding. So, now we know Labour at Westminster continue to be blockers to the will of Labour members as well as to the will of this Senedd, what's the First Minister's next move?

Hoffwn atgoffa'r Prif Weinidog nad yw'r taliad annibyniaeth personol yn fudd-dal allan o waith, wrth gwrs, ac rwy'n ei hatgoffa hefyd bod Sadiq Khan yn Llundain ac Andy Burnham ym Manceinion yn awyddus dros ben i'w gwneud yn eglur i Keir Starmer yr hyn y maen nhw'n ei feddwl, o hyd, am y diwygiadau lles sydd o'n blaenau, ac mae'n amlwg o'r ymateb yn y fan yna nad oes gan y Prif Weinidog unrhyw broblem wirioneddol gyda chael system les ddwy haen, dim digon i wrthwynebu ASau Llafur yn San Steffan o leiaf. Ond beth am aelodau llawr gwlad ei phlaid ei hun? Rwy'n eu cymeradwyo am bleidleisio dros y penwythnos o blaid dau gynnig—un ar gyllid teg i Gymru, a'r llall ar ddatganoli Ystad y Goron—yn cytuno â safbwyntiau hirsefydlog a fabwysiadwyd gan Blaid Cymru. A chyda ffigurau Ystad y Goron a gyhoeddwyd heddiw yn dangos elw o £1.1 biliwn y llynedd, gan gynnwys £132 miliwn yn mynd i'r Brenin, ni ddylem ni synnu bod pobl yn mynd yn ddig. Ond mae'n ymddangos bod pobl sydd wedi bod yn ffyddlon i Lafur yn llawer mwy blaengar nag arweinydd y blaid, felly does dim rhyfedd bod mwy a mwy ohonyn nhw'n troi at Blaid Cymru. Mae arweinyddiaeth Llafur yn San Steffan yn rhwystrau i newid. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn parhau i wrthwynebu'n ystyfnig datganoli Ystad y Goron a chyllid gwirioneddol deg. Felly, nawr ein bod ni'n gwybod bod Llafur yn San Steffan yn parhau i fod yn rhwystrwyr i ewyllys aelodau Llafur yn ogystal ag ewyllys y Senedd hon, beth yw cam nesaf y Prif Weinidog?

13:55

I tell you what I am fascinated by—first of all, the way you try and put words into my mouth every week about what I've said and what I haven't said, but, secondly, this assertion that you are unique when it comes to asking for fair funding. We had a discussion on this last week. It was unanimous in this Chamber. We've been asking for it—. I don't know if you were here for the masterclass from the Secretary who's responsible for finance explaining exactly the long history of the requirement and the desire from the Welsh Government in Wales for fair funding. We've been consistent also when it comes to the Crown Estate.

I don't understand why you never ask me questions about my responsibility; you keep on asking—[Interruption.] I tell you what—you want to ask about my next move; I'll tell you what my next move is going to be: I'm going to be going out to watch the football on Saturday, and I will be cheering the women of Wales on, because I would like to take this opportunity to make sure that we, as a Chamber and as a Senedd, send our very best wishes to the women of Wales who've qualified, historically, for the first time to make their way to Switzerland. We will be cheering them on, and it is essential, I think, that the nation gets behind them.

Fe ddywedaf i wrthych chi beth sy'n arbennig o ddiddorol i mi—yn gyntaf oll, y ffordd yr ydych chi'n ceisio rhoi geiriau yn fy ngheg bob wythnos am yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud a'r hyn nad wyf i wedi ei ddweud, ond, yn ail, yr honiad hwn eich bod chi'n unigryw pan ddaw i ofyn am gyllid teg. Cawsom drafodaeth ar hyn yr wythnos diwethaf. Roedd yn unfrydol yn y Siambr hon. Rydym ni wedi bod yn gofyn amdano—. Dydw i ddim yn gwybod a oeddech chi yma ar gyfer y dosbarth meistr gan yr Ysgrifennydd sy'n gyfrifol am gyllid yn esbonio'n union hanes maith y gofyniad a'r awydd gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru am gyllid teg. Rydym ni wedi bod yn gyson hefyd o ran Ystad y Goron.

Dydw i ddim yn deall pam nad ydych chi byth yn gofyn cwestiynau i mi am fy nghyfrifoldeb; rydych chi'n gofyn o hyd—[Torri ar draws.] Fe ddywedaf i wrthych chi beth—rydych chi eisiau gofyn am fy ngham nesaf; fe ddywedaf i wrthych chi beth fydd fy ngham nesaf: rwy'n mynd i fod yn mynd allan i wylio'r pêl-droed ddydd Sadwrn, a byddaf yn cefnogi menywod Cymru yn frwd, oherwydd hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i wneud yn siŵr ein bod ni, fel Siambr ac fel Senedd, yn anfon ein dymuniadau gorau i fenywod Cymru sydd wedi cymhwyso, yn hanesyddol, am y tro cyntaf i wneud eu ffordd i'r Swistir. Byddwn yn eu cefnogi'n frwd, ac mae'n hanfodol, rwy'n credu, bod y genedl yn eu cefnogi.

Amseroedd Aros yn Ysbytai Gogledd Cymru
Waiting Times in North Wales Hospitals

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar amseroedd aros cleifion yn ysbytai gogledd Cymru? OQ62954

3. Will the First Minister make a statement on patient waiting times in north Wales hospitals? OQ62954

Long waiting times have fallen over the last six months in north Wales, thanks to targeted extra investment from the Welsh Labour Government, with the longest waits down by a third over the past year. But Betsi Cadwaladr still has a lot of work to do, and that's why it remains in special measures under our watch. We expect real, sustained improvement backed by extra funding and sharper oversight to make sure people get the care that they deserve.

Mae amseroedd aros hir wedi gostwng dros y chwe mis diwethaf yn y gogledd, diolch i fuddsoddiad ychwanegol wedi'i dargedu gan Lywodraeth Lafur Cymru, ac mae'r arosiadau hiraf wedi gostwng o draean dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond mae gan Betsi Cadwaladr lawer o waith i'w wneud o hyd, a dyna pam mae'n parhau i fod yn destun mesurau arbennig o dan ein gwyliadwriaeth. Rydym ni'n disgwyl gwelliant gwirioneddol, parhaus wedi'i gefnogi gan gyllid ychwanegol a goruchwyliaeth fwy craff i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y gofal y maen nhw'n ei haeddu.

You say that, First Minister, but Betsi Cadwaladr University Health Board still has the most pathways waiting more than two years for treatment. The most recent figures show that Betsi has the worst percentage of people seen in accident and emergency within the four-hour target. In May, 15,662 patients were seen in A&E departments across north Wales, with 6,822 seen under the target of four hours, and that's just 43 per cent. This is down from 46.8 per cent in February and 45 per cent in January.

One in four people in Wales are still languishing on a waiting list. Two-year waits for NHS treatments have risen again to 9,600, an almost 15 per cent rise from the previous month. The Cabinet Secretary for Health and Social Care, in his statement just two weeks ago, said that this follows a similar trend in England, yet there is only a rise of 171 in England during the same period. The First Minister promised to eliminate these waits for the last two years, but has consistently failed to meet these targets, and the situation in north Wales is abysmal and getting worse.

The Cabinet Secretary also announced £120 million to fix this problem, but didn't outline how this money will be spent and how it will bring down waits. So, will the First Minister agree with me that the current situation in the Welsh NHS is perilous, with those in north Wales suffering the most? Will she follow what the Welsh Conservatives are calling for and commit to declaring a health emergency to get this dire situation under control once and for all? 

Rydych chi'n dweud hynny, Prif Weinidog, ond Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r nifer fwyaf o lwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth o hyd. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Betsi sydd â'r ganran waethaf o bobl a welwyd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn y targed pedair awr. Ym mis Mai, gwelwyd 15,662 o gleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled y gogledd, gyda 6,822 yn cael eu gweld o dan y targed o bedair awr, sy'n 43 y cant yn unig. Mae hyn i lawr o 46.8 y cant ym mis Chwefror a 45 y cant ym mis Ionawr.

Mae un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn dal i ddioddef ar restr aros. Mae arosiadau dwy flynedd am driniaethau GIG wedi codi eto i 9,600, cynnydd o bron i 15 y cant o'r mis blaenorol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ei ddatganiad bythefnos yn unig yn ôl, bod hyn yn dilyn tuedd debyg yn Lloegr, ac eto ond dim ond cynnydd o 171 sydd yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod. Addawodd y Prif Weinidog ddileu'r arosiadau hyn ers y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae wedi methu â chyrraedd y targedau hyn yn gyson, ac mae'r sefyllfa yn y gogledd yn ofnadwy ac yn gwaethygu.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd £120 miliwn i ddatrys y broblem hon, ond ni amlinellodd sut y bydd yr arian hwn yn cael ei wario a sut y bydd yn gostwng arosiadau. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod y sefyllfa bresennol yn GIG Cymru yn beryglus, ac mai'r rhai yn y gogledd sy'n dioddef fwyaf? A wnaiff hi ddilyn yr hyn y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw amdano ac ymrwymo i ddatgan argyfwng iechyd i gael y sefyllfa ofnadwy hon o dan reolaeth unwaith ac am byth?

Well, there's been a 60 per cent reduction in the longest waits in the past four months, and I think that is something to be welcomed. The reason that's happened, of course, is because we've had additional money from the UK Labour Government—money that you and Plaid Cymru tried to block; let's be absolutely clear about that.

There has been a 32 per cent reduction in the number of pathways waiting for over two years in Betsi, so I do think we need to give credit where it's due. Is it enough? Absolutely not, and I know that the Cabinet Secretary responsible for health is breathing down the necks of the people responsible in Betsi. I visited Wrexham Maelor and met with the chair recently as well, just to see how that money is being spent, to make sure it's being spent efficiently. But you're right: two thirds of the long waits of more than two years are in Betsi Cadwaladr, and I can assure you that no stone is being left unturned when it comes to trying to get those waits down. The chair of the board has an intention to eliminate waits over two years by the end of December. We are going to do everything we can to support him in delivering that, including, obviously, the additional £120 million that’s been announced for the whole of Wales to cut waiting times and to bring those two-year waits down.

Wel, bu gostyngiad o 60 y cant i'r arosiadau hiraf yn y pedwar mis diwethaf, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w groesawu. Y rheswm pam mae hynny wedi digwydd, wrth gwrs, yw oherwydd ein bod ni wedi cael arian ychwanegol gan Lywodraeth Lafur y DU—arian y gwnaethoch chi a Phlaid Cymru geisio ei rwystro; gadewch i ni fod yn gwbl eglur am hynny.

Bu gostyngiad o 32 y cant i nifer y llwybrau sy'n aros dros ddwy flynedd yn Betsi, felly rwy'n credu bod angen i ni roi clod lle mae wedi'i haeddu. A yw'n ddigon? Nac ydy wir, ac rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am iechyd yn pwyso ar warrau’r bobl sy'n gyfrifol yn Betsi. Ymwelais â Maelor Wrecsam ac fe wnes i gyfarfod â'r cadeirydd yn ddiweddar hefyd, dim ond i weld sut mae'r arian hwnnw yn cael ei wario, i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wario'n effeithlon. Ond rydych chi'n iawn: mae dwy ran o dair o'r arosiadau hir o fwy na dwy flynedd yn Betsi Cadwaladr, a gallaf eich sicrhau ein bod ni'n troi pob carreg o ran ceisio lleihau'r arosiadau hynny. Mae gan gadeirydd y bwrdd fwriad i ddileu arosiadau dros ddwy flynedd erbyn diwedd mis Rhagfyr. Rydym ni'n mynd i wneud popeth o fewn ein gallu i'w gynorthwyo i gyflawni hynny, gan gynnwys, yn amlwg, y £120 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru gyfan i leihau amseroedd aros ac i leihau'r arosiadau dwy flynedd hynny.

14:00

Ddydd Gwener diwethaf, fe wnes i gynnal cymhorthfa yn Harlech ac mi ddaeth etholwr draw ataf i yn sôn ei fod o wedi gorfodi mynd i mewn i ward Gogarth yn Ysbyty Gwynedd, oherwydd ei fod o mewn poen difrifol, a thra’n aros am wely, roedd o wedi gorfod eistedd am oriau maith am driniaeth, tan, yn y diwedd, aeth o i orwedd ar y llawr a mynd i gysgu ar lawr y ward. Ddaeth nyrsys â blancedi draw ato fo ac, ymhen oriau’n ddiweddarach, roedd aelodau staff diogelwch wedi dod a dweud bod dim hawl ganddo fe i orwedd ar y llawr a’i gario fo i fyny a’i roi mewn cadair, heb ystyried beth oedd y cyflwr oedd arno fo. Felly, yn amlwg, mae hwnna fel achos yn annerbyniol, ond mae’n digwydd yn llawer rhy aml ar draws Cymru, lle mae pobl yn gorfod aros yn y coridorau am driniaeth—yr hyn mae Cymdeithas Feddygol Prydain a’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi bod yn cyfeirio ato fel ‘corridor care’. Felly, ydych chi’n fodlon ymrwymo i gael gwared ar corridor care yn y tymor yma a sicrhau bod y Llywodraeth yma’n gwneud pob dim o fewn ei gallu er mwyn sicrhau bod corridor care yn dirwyn i ben?

Last Friday, I held a surgery in Harlech and a constituent approached me and told me that he'd had to go into the Gogarth ward in Ysbyty Gwynedd, because he was in serious pain, and whilst waiting for a bed, he had to sit for many, many hours waiting for treatment until, ultimately, he went to lie on the floor and went to sleep there. Nurses brought some blankets over to him and, hours later, security staff approached him and told him he had no right to lie on the floor and they carried him up and put him into a chair, without considering his condition. Now, clearly, that as a case is unacceptable, but it's happening far too often across Wales, where people have to wait in corridors for treatment—what the British Medical Association and the Royal College of Nursing have been referring to as 'corridor care'. So, are you willing to commit to getting rid of corridor care in this term and ensuring that this Government does everything within its ability to ensure that corridor care comes to an end?

Diolch yn fawr. Rŷn ni wedi bod yn glir ein bod ni ddim eisiau gweld corridor care yn digwydd. Rŷn ni wedi gwneud lot o waith i dreial sicrhau ein bod ni'n cael mwy o bobl drwy'r system yn gyflymach. Mae hwnna’n golygu cydweithio â llywodraeth leol i sicrhau bod y flow yna’n digwydd yn well. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig hefyd i danlinellu faint o apwyntiadau sy'n digwydd yn yr NHS a faint o bwysau sydd ar yr NHS: 2.7 miliwn o apwyntiadau mewn mis, mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Mi oedd y sefyllfa yna’n annerbyniol, ac, wrth gwrs, dwi yn gobeithio y bydd Betsi yn dilyn i fyny ar hynny ac yn sicrhau eu bod nhw'n gwneud yn well pan fydd yn dod i corridor care.

Thank you very much. We've been very clear that we don't want to see corridor care happening. We've done a great deal of work to try to ensure that we get more people through the system more swiftly. That means collaborating with local government to ensure that that flow happens better. I think it's also important to underline how many appointments take place in the NHS and how much pressure there is on the NHS: 2.7 million appointments in a month, in a population of 3 million people. That situation that you mentioned was unacceptable and, of course, I hope that Betsi will follow up on that case and will ensure that they do better when it comes to corridor care.

Long waiting times have fallen by over two thirds right across Wales, and that positive trend is reflected in north Wales, with Betsi Cadwaladr University Health Board confirming that the number of patients waiting more than two years for treatment reduced from 10,070 at the end of last year, in December, and by March of this year, it was down to 5,747, which is an improvement of 43 per cent. As you said in your answer to Gareth Davies, of course there is still much work to be done, but we are heading in the right direction, thanks to the hard work and dedication of the staff. So, how is the Welsh Government working with the health board to ensure that the additional targeted funding you referred to of £120 million across Wales is ensuring that we have the necessary facilities to keep bringing those waiting times down?

Mae amseroedd aros hir wedi gostwng dros ddwy ran o dair ledled Cymru, ac mae'r duedd gadarnhaol honno yn cael ei hadlewyrchu yn y gogledd, â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cadarnhau bod nifer y cleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng o 10,070 ar ddiwedd y llynedd, ym mis Rhagfyr, ac erbyn mis Mawrth eleni, roedd i lawr i 5,747, sy'n welliant o 43 y cant. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich ateb i Gareth Davies, mae llawer o waith i'w wneud o hyd, wrth gwrs, ond rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir, diolch i waith caled ac ymroddiad y staff. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod y cyllid ychwanegol wedi'i dargedu y gwnaethoch chi gyfeirio ato o £120 miliwn ledled Cymru yn sicrhau bod gennym ni'r cyfleusterau angenrheidiol i barhau i leihau'r amseroedd aros hynny?

Thanks very much, Lesley, and thanks for all your support and everything you've done. I know that you've had a lot of experience in Betsi recently with members of your family. But I do think it is important to recognise that the additional funding is going in; of the £120 million, about £40 million is going into Betsi, recognising that that is the largest health board in Wales that does need that additional support.

But I do think it is important to give credit where it's due. The numbers are coming down. There has been a massive improvement. I remember when I was health Minister, I used to count the numbers: how many are waiting five years, how many are waiting four years? And every single month, we used to go through, and it's great to see now, for example, there has been a 65 per cent reduction in the numbers of people waiting over three years. So, we're really getting down to—. The two-year waits now, that is the next thing we have to really go for and that is why that additional support will, I hope, make a difference. And it was great to talk this week about Eddie, who had a really good experience in Betsi, who thought he would be waiting years and years and years for a knee replacement and his appointment came in before Christmas and it has all been sorted out. He has had physiotherapy and he is back on his feet. There are good examples of where the system is improving and we need to celebrate that and thank the vast numbers in Betsi—there are about 19,000 people, I think, working in that health board—for all the efforts that they are making.

Diolch yn fawr iawn, Lesley, a diolch am eich holl gefnogaeth a phopeth rydych chi wedi ei wneud. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi cael llawer o brofiad yn Betsi yn ddiweddar gydag aelodau o'ch teulu. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod y cyllid ychwanegol yn mynd i mewn; o'r £120 miliwn, mae tua £40 miliwn yn mynd i mewn i Betsi, gan gydnabod mai dyna'r bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw.

Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig rhoi clod lle mae wedi'i haeddu. Mae'r niferoedd yn gostwng. Bu gwelliant enfawr. Rwy'n cofio pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roeddwn i'n arfer cyfrif y niferoedd: faint sy'n aros pum mlynedd, faint sy'n aros pedair blynedd? A phob un mis, roeddem ni'n arfer mynd drwyddo, ac mae'n wych gweld nawr, er enghraifft, bod gostyngiad o 65 y cant i nifer y bobl sy'n aros dros dair blynedd. Felly, rydym ni wir yn cael i lawr i—. Yr arosiadau dwy flynedd nawr, dyna'r peth nesaf y mae'n rhaid i ni wir fynd amdano a dyna pam y bydd y cymorth ychwanegol hwnnw, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth. Ac roedd yn wych siarad yr wythnos hon am Eddie, a gafodd brofiad da iawn yn Betsi, a oedd yn meddwl y byddai'n aros blynyddoedd ar flynyddoedd ar flynyddoedd am ben-glin newydd a threfnwyd ei apwyntiad cyn y Nadolig ac mae'r cwbl wedi cael ei ddatrys. Mae wedi cael ffisiotherapi ac mae'n ôl ar ei draed. Mae enghreifftiau da o le mae'r system yn gwella ac mae angen i ni ddathlu hynny a diolch i'r niferoedd enfawr yn Betsi—mae tua 19,000 o bobl, rwy'n credu, yn gweithio yn y bwrdd iechyd hwnnw—am yr holl ymdrechion y maen nhw'n eu gwneud.

Toriadau Lles
Welfare Cuts

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau effaith toriadau lles ar gymunedau yn Nwyrain De Cymru? OQ62936

4. What action is the Welsh Government taking to reduce the impact of welfare cuts on communities in South Wales East? OQ62936

Gwnaeth Llywodraeth Lafur Cymru godi pryderon clir am yr effaith y gallai’r newidiadau hyn eu cael. Gwnaethom yr achos hwnnw’n uniongyrchol i’n cydweithwyr yn San Steffan, ac rydw i’n falch eu bod nhw wedi gwrando. Gadewch imi fod yn glir: fy swydd i, fel Prif Weinidog, yw rhoi fy ngwlad i o flaen fy mhlaid i, ac mi wnaf i wastad herio penderfyniadau os oes perygl iddyn nhw niweidio pobl yma.

The Welsh Labour Government raised clear concerns about the impact that these changes could have. We made that case directly to our colleagues in Westminster, and I’m very pleased that they listened. Let me be clear: my job, as First Minister, is to put country over party, and I’ll always challenge decisions if they risk harming people here. 

14:05

Thank you for that answer. Of course, as you have just alluded to, MPs will shortly vote on welfare cuts that will wreak untold misery in Wales. Press attention has focused on whether these welfare cuts will pass, and whether Starmer has enough numbers to carry the cruelty through. But the focus shouldn't just be on votes. It should also be on the torment about to be inflicted on real people's lives.

Over the weekend, we have heard that concessions will be made, only to inflict the greatest pain on those poor souls who become disabled in the future, as though their lives and their ability to survive in our society somehow matters less. The decision to treat future claimants as the collateral needed to pass a vote is as myopic as it is mean. Why should people be treated differently because of what year they happen to have become disabled? What kind of fairness is that?

Citizens Advice has warned about the increased anxiety being felt by claimants, many of whom believe that these changes have already been brought in. So, as a result, they haven't been claiming what they should be. These changes are arbitrary—

Diolch am yr ateb yna. Wrth gwrs, fel rydych chi newydd gyfeirio ato, bydd ASau yn pleidleisio'n fuan ar doriadau lles a fydd yn achosi dioddefaint aruthrol yng Nghymru. Mae sylw'r wasg wedi canolbwyntio ar a fydd y toriadau lles hyn yn pasio, a pha un a oes gan Starmer ddigon o niferoedd i sicrhau'r creulondeb. Ond ni ddylai'r pwyslais fod ar bleidleisiau yn unig. Dylai hefyd fod ar yr artaith sydd ar fin cael ei achosi i fywydau pobl go iawn.

Dros y penwythnos, rydym ni wedi clywed y bydd consesiynau yn cael eu gwneud, dim ond i achosi'r boen fwyaf i'r trueiniaid hynny sy'n dod yn anabl yn y dyfodol, fel pe bai eu bywydau a'u gallu i oroesi yn ein cymdeithas rywsut yn llai pwysig. Mae'r penderfyniad i drin hawlwyr yn y dyfodol fel y sicrwydd sydd ei angen i basio pleidlais mor fyrweledol ag y mae'n grintachlyd. Pam ddylai pobl gael eu trin yn wahanol oherwydd pa flwyddyn y maen nhw'n digwydd dod yn anabl? Pa fath o degwch yw hwnnw?

Mae Cyngor ar Bopeth wedi rhybuddio am y pryder cynyddol sy'n cael ei deimlo gan hawlwyr, y mae llawer ohonyn nhw'n credu bod y newidiadau hyn wedi cael eu cyflwyno eisoes. Felly, o ganlyniad, dydyn nhw ddim wedi bod yn hawlio'r hyn y dylen nhw fod. Mae'r newidiadau hyn yn fympwyol—

I'll need a question, please.

Bydd angen cwestiwn arnaf i, os gwelwch yn dda.

I will come to it. They risk bringing in a two-tier system. Will you be calling on your MPs to vote against these cuts, which are causing anguish and pain?

Fe wnaf i ddod ato. Maen nhw'n peri'r risg o gyflwyno system dwy haen. A fyddwch chi'n galw ar eich ASau i bleidleisio yn erbyn y toriadau hyn, sy'n achosi gofid a phoen?

Thanks very much. Look, I do think that we have to recognise, first of all, that the welfare system that we have inherited from the Conservatives is in need of reform. It's a system that is not helping people to get back into work. I do think that we have got to try and keep that in the forefront of our minds at all times. What are we trying to achieve here? What we are trying to achieve is an opportunity for people to get back into work.

So, it shouldn't be something that is driven by punishment. It should be something that is driven by a situation where we are standing with them and giving them support, as we do when it comes to youth unemployment. I don't want to see a system that traps people in poverty. I think that there are some important positive elements in relation to welfare reform: the universal credit increase, the right to try, and the significant employment support package. I am pleased to see that 200,000 people in Wales today feel real relief after hearing that their PIP payments will not be affected. 

Diolch yn fawr iawn. Edrychwch, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod, yn gyntaf oll, bod angen diwygio'r system les yr ydym ni wedi ei hetifeddu gan y Ceidwadwyr. Mae'n system nad yw'n helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni geisio cadw hynny yn flaenllaw yn ein meddyliau bob amser. Beth ydym ni'n ceisio ei gyflawni yma? Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei sicrhau yw cyfle i bobl ddychwelyd i'r gwaith.

Felly, ni ddylai fod yn rhywbeth sy'n cael ei ysgogi gan gosb. Dylai fod yn rhywbeth sy'n cael ei ysgogi gan sefyllfa lle'r ydym ni'n sefyll yn gadarn â nhw ac yn rhoi cymorth iddyn nhw, fel yr ydym ni'n ei wneud o ran diweithdra ieuenctid. Nid wyf i eisiau gweld system sy'n dal pobl mewn tlodi. Rwy'n credu bod rhai elfennau cadarnhaol pwysig o ran diwygio lles: y cynnydd i gredyd cynhwysol, yr hawl i geisio, a'r pecyn cymorth cyflogaeth sylweddol. Rwy'n falch o weld bod 200,000 o bobl yng Nghymru heddiw yn teimlo rhyddhad gwirioneddol ar ôl clywed na fydd eu taliadau annibyniaeth personol yn cael eu heffeithio. 

From one welfare blunder to another, First Minister. It's disappointing that it was not compassion that forced the UK Government to u-turn—another one—and to reintroduce the winter fuel payments, but political pressure. That doesn't really fit, does it, First Minister, with your claim earlier of being the party of the vulnerable? It should have been clear that taking £110 million from Welsh pensioners, while the Welsh Government was preparing to spend £120 million on more Senedd Members with Plaid, was unfair, unacceptable and unforgivable.

We warned that this decision would sadly cost lives here in Wales. While it's welcome that the payments will be reintroduced, it remains the case that, last winter, many pensioners in Wales were pushed into fuel poverty as a direct result of that cut. So, I'd like to ask, First Minister: what assessment has your Government made of the detrimental impact on the health of pensioners in South Wales East of the Labour decision to withdraw the payments last winter?

O un cam gwag o ran lles i un arall, Prif Weinidog. Mae'n siomedig nad tosturi wnaeth orfodi Llywodraeth y DU wneud tro pedol—un arall—ac ailgyflwyno taliadau tanwydd y gaeaf, ond pwysau gwleidyddol. Nid yw hynny'n cyd-fynd mewn gwirionedd, onid yw, Prif Weinidog, gyda'ch honiad yn gynharach o fod yn blaid y rhai sy'n agored i niwed? Dylai fod wedi bod yn eglur bod cymryd £110 miliwn gan bensiynwyr Cymru, tra bod Llywodraeth Cymru yn paratoi i wario £120 miliwn ar fwy o Aelodau o'r Senedd gyda Phlaid Cymru, yn annheg, yn annerbyniol ac yn anfaddeuol.

Fe wnaethom ni rybuddio y byddai'r penderfyniad hwn yn anffodus yn costio bywydau yma yng Nghymru. Er ei fod i'w groesawu y bydd y taliadau yn cael eu hailgyflwyno, mae'n dal i fod yn wir bod llawer o bensiynwyr yng Nghymru, y gaeaf diwethaf, wedi cael eu gwthio i dlodi tanwydd o ganlyniad uniongyrchol i'r toriad hwnnw. Felly, hoffwn ofyn, Prif Weinidog: pa asesiad mae eich Llywodraeth wedi ei wneud o'r effaith niweidiol ar iechyd pensiynwyr yn Nwyrain De Cymru o benderfyniad Llafur i ddiddymu'r taliadau y gaeaf diwethaf?

Thanks very much. We were consistent in our approach in relation to fuel poverty, and we made it clear that we didn't agree with it. I'm really pleased, once again, to see that the UK Government has listened to the public, not just here in Wales but across the country. But I was also pleased to see, this week, that the amount that people pay for their energy bills will be coming down, and that is something that I'm sure people across Wales will welcome. To hear talk about compassion coming from the Tory party is something to behold. 

Diolch yn fawr iawn. Roeddem ni'n gyson yn ein dull o ran tlodi tanwydd, ac fe wnaethom ni ei gwneud hi'n eglur nad oeddem ni'n cytuno ag ef. Rwy'n falch iawn, unwaith eto, o weld bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar y cyhoedd, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y wlad. Ond roeddwn i hefyd yn falch o weld, yr wythnos hon, y bydd y swm y mae pobl yn ei dalu am eu biliau ynni yn gostwng, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n siŵr y bydd pobl ledled Cymru yn ei groesawu. Mae clywed y blaid Dorïaidd yn sôn am dosturi yn rhywbeth i'w weld. 

Chris Evans MP and I, in parallel with the Welsh Government, wrote a letter to Liz Kendall, in which we highlighted the fact that 13,000 people under the plans, as they were, would lose support, whereas another 12,610 would be losing support, despite the employment support that was on offer. I want to pay tribute to Chris Evans MP. However much the Tories think that parliamentary democracy is a joke, I want to pay tribute to Chris Evans MP and Ruth Jones MP, who signed the recent amendment and stood with the Welsh Government to get these changes to happen.

Now, the other thing I've asked for in my letter is that the UK Government work with the Welsh Government to provide a national job coaching service for learning disabled people, which will be vital in enabling them to find work. What we need to see is for that to be done first before further changes to benefits happen. The First Minister's committed to doing that. Can she work further with the UK Government to make sure that that happens before any other changes are brought in? Remember, this Bill is currently on its Second Reading. There is still time to change some of those things that the Welsh Government remain unhappy with.

Ysgrifennodd Chris Evans AS a minnau, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, lythyr at Liz Kendall, lle gwnaethom ni dynnu sylw at y ffaith y byddai 13,000 o bobl o dan y cynlluniau, fel yr oedden nhw, yn colli cymorth, tra byddai 12,610 arall yn colli cymorth, er gwaethaf y cymorth cyflogaeth a oedd ar gael. Hoffwn dalu teyrnged i Chris Evans AS. Ni waeth faint y mae'r Torïaid yn meddwl bod democratiaeth seneddol yn jôc, hoffwn dalu teyrnged i Chris Evans AS a Ruth Jones AS, a lofnododd y gwelliant diweddar ac a safodd gyda Llywodraeth Cymru i gael y newidiadau hyn i ddigwydd.

Nawr, y peth arall yr wyf i wedi gofyn amdano yn fy llythyr yw bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth hyfforddiant swyddi cenedlaethol i bobl ag anableddau dysgu, a fydd yn hanfodol i ganiatáu iddyn nhw ddod o hyd i waith. Yr hyn yr ydym ni angen ei weld yw i hynny gael ei wneud yn gyntaf cyn i newidiadau pellach i fudd-daliadau ddigwydd. Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i wneud hynny. A all hi weithio ymhellach gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd cyn i unrhyw newidiadau eraill gael eu cyflwyno? Cofiwch, mae'r Bil hwn ar ei Ail Ddarlleniad ar hyn o bryd. Mae amser o hyd i newid rhai o'r pethau hynny y mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn anhapus â nhw.

14:10

Thanks very much, Hefin. You've been a champion on this issue from when it was introduced. The Minister responsible in the Welsh Government has had a series of discussions with Stephen Timms over the weekend, setting out how we do things in Wales, talking about how we will be leading a trailblazer in Wales to tackle economic inactivity, and how we can go about changing things in particular in relation to disabled people. I'm really pleased that they are also now going to bring forward the support for people who are unemployed, or people who are disabled, so that it comes in before any changes are introduced.

Diolch yn fawr iawn, Hefin. Rydych chi wedi bod yn hyrwyddwr ar y mater hwn ers iddo gael ei gyflwyno. Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol yn Llywodraeth Cymru wedi cael cyfres o drafodaethau gyda Stephen Timms dros y penwythnos, yn nodi sut rydym ni'n gwneud pethau yng Nghymru, yn siarad am sut y byddwn ni'n arwain y ffordd yng Nghymru i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, a sut y gallwn ni fynd ati i newid pethau yn enwedig o ran pobl anabl. Rwy'n falch iawn eu bod nhw hefyd bellach yn mynd i gyflwyno'r cymorth i bobl sy'n ddi-waith, neu bobl anabl, fel ei fod yn cael ei gyflwyno cyn i unrhyw newidiadau gael eu gwneud.

First Minister, I was speaking to people in Ebbw Vale last night who have been extraordinarily distressed by this debate and the way it's been conducted by the UK Government. They were very grateful to you and other Welsh Ministers for your intervention and for your powerful words in opposing some of the proposals that we've been hearing from the UK Government. What they were saying to me is that it's not fair that the most vulnerable people pay the highest price, that it's not fair that the poorest people pay the highest price. What they are saying is that people who have disabilities who are seeking work need the help and support of Government standing with them, and not against them.

Will the Welsh Government continue to work with authorities, such as Blaenau Gwent County Borough Council, who've also written to the UK Government on this matter, and work with Members here to ensure that we have a welfare policy that's targeted at helping the poorest, helping the most vulnerable, supporting people and not further attacking them?

Prif Weinidog, roeddwn i'n siarad â phobl yng Nglynebwy neithiwr sydd wedi dioddef gofid mawr oherwydd y ddadl hon a'r ffordd y mae wedi cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU. Roedden nhw'n ddiolchgar iawn i chi a Gweinidogion eraill Cymru am eich ymyrraeth ac am eich geiriau grymus wrth wrthwynebu rhai o'r cynigion yr ydym ni wedi bod yn eu clywed gan Lywodraeth y DU. Yr hyn yr oedden nhw'n ei ddweud wrthyf i yw nad yw'n deg bod y bobl fwyaf agored i niwed yn talu'r pris uchaf, nad yw'n deg bod y bobl dlotaf yn talu'r pris uchaf. Yr hyn y maen nhw'n ei ddweud yw bod pobl ag anableddau sy'n chwilio am waith angen cymorth a chefnogaeth Llywodraeth sy'n sefyll gyda nhw, ac nid yn eu herbyn.

A wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i weithio gydag awdurdodau, fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, sydd hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwn, a gweithio gydag Aelodau yma i sicrhau bod gennym ni bolisi lles sydd a'r nod o helpu'r tlotaf, o helpu'r rhai mwyaf agored i niwed, ac o gynorthwyo pobl ac nid ymosod arnyn nhw ymhellach?

Thanks very much, Alun. I know that your area was going to be one of the areas most impacted by the proposed changes to welfare, so I'm sure that you are relieved for your constituents, who I know were very, very concerned about the proposals. It wasn't just, obviously, something that was going to impact individuals. People were genuinely concerned about how they were going to survive. But also it's the huge amount of money that would be taken out of the local economy as a result of that. And so that is something of a relief, I'm sure, also to people living in Ebbw Vale and Blaenau Gwent generally.

I think what's important is that we recognise that, actually, a lot of disabled people want to work. What we've got to do is to give them the opportunities to work, to make sure that we design programmes to lead them into the workplace and to make sure that there are opportunities for them. That is the answer to this. That is the purpose. That's what we're trying to achieve. We've got to make sure we get back to what we are trying to achieve with the changes that are being proposed. Until we ensure that that is the way we tackle it, in the way that we are tackling it in relation to youth unemployment, then I think we will continue to be in a difficult situation.

Diolch yn fawr iawn, Alun. Rwy'n gwybod bod eich ardal chi yn mynd i fod yn un o'r ardaloedd a fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf gan y newidiadau arfaethedig i les, felly rwy'n siŵr eich bod chi'n teimlo rhyddhad ar ran eich etholwyr, yr wyf i'n gwybod eu bod nhw'n bryderus dros ben am y cynigion. Nid oedd, yn amlwg, yn rhywbeth a oedd yn mynd i effeithio ar unigolion yn unig. Roedd pobl yn wirioneddol bryderus am sut roedden nhw'n mynd i oroesi. Ond mae hefyd yn fater o'r swm enfawr o arian a fyddai'n cael ei gymryd allan o'r economi leol o ganlyniad i hynny. Ac felly mae hynny'n dipyn o ryddhad, rwy'n siŵr, hefyd i bobl sy'n byw yng Nglynebwy a Blaenau Gwent yn gyffredinol.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cydnabod bod llawer o bobl anabl, mewn gwirionedd, eisiau gweithio. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw rhoi cyfleoedd iddyn nhw weithio, i wneud yn siŵr ein bod ni'n dylunio rhaglenni i'w harwain i'r gweithle ac i wneud yn siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw. Dyna'r ateb i hyn. Dyna'r pwrpas. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n dychwelyd i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni gyda'r newidiadau sy'n cael eu cynnig. Tan y byddwn ni'n sicrhau mai dyna'r ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef, yn y ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef o ran diweithdra ieuenctid, yna rwy'n credu y byddwn ni'n parhau i fod mewn sefyllfa anodd.

Twf Swyddi Cymru+
Jobs Growth Wales+

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gamau i weithredu argymhellion Estyn i wella Twf Swyddi Cymru+? OQ62971

5. Will the First Minister provide an update on work to implement the Estyn recommendations on improving Jobs Growth Wales+? OQ62971

The Welsh Labour Government took Estyn's 2023 recommendations on board and we acted. We'll be reviewing their latest report, due out later this month, because we're determined to get this right for young people. We'll keep raising standards, removing barriers and making sure every young person in Wales has the best chance to thrive.

Cymerodd Llywodraeth Lafur Cymru argymhellion Estyn ar gyfer 2023 i ystyriaeth ac fe wnaethom ni weithredu. Byddwn yn adolygu eu hadroddiad diweddaraf, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn, gan ein bod ni'n benderfynol o wneud hyn yn iawn i bobl ifanc. Byddwn yn parhau i godi safonau, i gael gwared ar rwystrau ac i sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle gorau i ffynnu.

The Equality and Social Justice Committee has just had a reply from Sir Stephen Timms about the disability benefits changes that are going to be voted on today in Westminster. I'm pleased to see that he is now committed to co-producing the review with disabled people as well as experts. I am concerned, however, that this review, which I am sure he will undertake diligently, is not going to be ready to be applied to the changes in legislation before the legislation is voted on. He does point out that PIP is devolved in Scotland, and I think there is a very strong case for accelerating the devolution of welfare benefits in Wales too, so that we can ensure that whatever money is available is exercised in the most humane and supportive manner.

On the specifics, 10 days ago I visited the Heath hospital—

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol newydd gael ateb gan Syr Stephen Timms ynglŷn â'r newidiadau i fudd-daliadau anabledd sy'n mynd i fod yn destun pleidlais heddiw yn San Steffan. Rwy'n falch o weld ei fod bellach wedi ymrwymo i gyd-gynhyrchu'r adolygiad gyda phobl anabl yn ogystal ag arbenigwyr. Rwy'n pryderu, fodd bynnag, nad yw'r adolygiad hwn, yr wyf i'n siŵr y bydd yn ei gynnal yn ddiwyd, yn mynd i fod yn barod i gael ei weithredu i'r newidiadau i ddeddfwriaeth cyn y bleidlais ar y ddeddfwriaeth. Mae'n nodi bod taliadau annibyniaeth personol wedi'u datganoli yn yr Alban, ac rwy'n credu bod dadl gref iawn dros gyflymu datganoli budd-daliadau lles yng Nghymru hefyd, fel y gallwn ni sicrhau bod pa bynnag arian sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf dyngarol a chefnogol.

O ran y manylion penodol, 10 diwrnod yn ôl ymwelais ag Ysbyty Athrofaol Cymru—

14:15

You are going to need to come to your question, I'm sorry.

Mae angen i chi ddod at eich cwestiwn nawr, mae'n ddrwg gen i.

Yes, I am going to come to the question, which is this: the Project SEARCH work experience placements offered at Heath hospital have been hugely successful in enabling young people to go on to further training or paid employment, but I am concerned about the age limitation on this benefit, which is inappropriate for people who have additional learning needs. Therefore I wondered what consideration you have given to changing that to reflect the fact that people with learning difficulties maybe take longer to get to work readiness and need additional support.

Iawn, rwyf i am ddod at y cwestiwn, sef hwn: mae'r lleoliadau profiad gwaith Project SEARCH a gynigir yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran caniatáu i bobl ifanc fynd ymlaen i hyfforddiant pellach neu gyflogaeth â thâl, ond rwy'n pryderu am y cyfyngiad oedran ar y budd hwn, sy'n anaddas ar gyfer pobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Felly, tybed pa ystyriaeth a wnaethoch chi ei rhoi i newid hynny er mwyn adlewyrchu'r ffaith y gall pobl ag anawsterau dysgu fod yn cymryd rhagor o amser i fod yn barod ar gyfer gwaith a bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw.

Thanks very much. We amended the Jobs Growth Wales programme to enable 19-year-olds to join the programme. It was previously only available to 18-year-olds. The thing is, Jobs Growth Wales is a procured programme, so it is not possible in the middle of a procured programme to change the programme halfway through. So that will continue until the end of the contract in 2027, but what we will do, of course, is to feed that concern into the successor employability programmes, which are being considered at the moment.

Diolch yn fawr iawn. Fe wnaethom ni ddiwygio rhaglen Twf Swyddi Cymru i alluogi pobl ifanc 19 oed i ymuno â'r rhaglen. Cyn hynny, dim ond ar gyfer pobl ifanc 18 oed yr oedd honno ar gael. Y peth ydy, mae Twf Swyddi Cymru yn rhaglen gaffaeledig, ac felly nid yw hi'n bosibl newid rhaglen a gaffaelwyd hanner ffordd drwyddi hi. Felly fe fydd hynny'n parhau tan ddiwedd y cytundeb yn 2027, ond yr hyn y byddwn ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw trwytho'r rhaglenni cyflogadwyedd dilynol, sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd, â'r pryder hwnnw.

First Minister, we all want to see more people in work, and Jobs Growth Wales+ plays an important role in helping us achieve just that. Looking at the initiative's statistics from October to December last year, it was positive to see that there were more than 4,000 active programmes. During that period, 900 programmes were completed, with 57.5 per cent of leavers having, and I quote,

‘a positive outcome based on their destination'.

That phrasing, to me at least, was quite vague, as ‘a positive outcome’ might not necessarily be employment, as it is based on what the individual set out as their destination. I was wondering, First Minister, is there a better and clearer way of monitoring the success of this programme, so we know for certain how many people actually end up in employment? I would also appreciate, First Minister, if you could kindly outline how Jobs Growth Wales+ is advertised to young people not in education and employment, and if there is any scope to expand this so we can potentially reach more young people across Wales.

Prif Weinidog, fe hoffem ni i gyd weld rhagor o bobl mewn gwaith, ac mae Twf Swyddi Cymru â rhan bwysig wrth ein helpu ni i gyflawni hynny. Wrth edrych ar ystadegau'r fenter rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr y llynedd, roedd hi'n galonogol gweld bod mwy na 4,000 o raglenni yn weithredol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cwblhawyd 900 o raglenni, gyda 57.5 y cant o'r rhai sy'n ymadael yn cael, ac rwy'n dyfynnu,

'canlyniad cadarnhaol yn seiliedig ar eu cyrchfan'.

Roedd yr ymadrodd hwnnw, i mi o leiaf, yn eithaf amwys, gan nad yw 'canlyniad cadarnhaol' o reidrwydd yn golygu cyflogaeth, gan ei fod yn seiliedig ar yr hyn a nododd yr unigolyn fel ei gyrchfan. Roeddwn i'n meddwl tybed, Prif Weinidog, a oes ffordd well a mwy eglur o fonitro llwyddiant y rhaglen hon, fel ein bod ni'n gwybod i sicrwydd faint o bobl sy'n gorffen â chyflogaeth mewn gwirionedd? Fe fyddwn i'n gwerthfawrogi hefyd, Prif Weinidog, pe byddech chi, yn garedig iawn, yn gallu amlinellu sut mae Twf Swyddi Cymru yn cael ei hysbysebu i bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg na chyflogaeth, ac os oes unrhyw le i ehangu hynny er mwyn gallu ymestyn at ragor o bobl ifanc ledled Cymru o bosibl.

Jobs Growth Wales has supported over 16,500 young people since April 2022. But if you put that together with the people involved in our young person’s guarantee, you get to a figure of 57,000 young people who have been starting on the employability and skills programme since the launch in 2021.

The key thing is that you are asking for the outcomes. Over 8,500 young people have progressed into employment, so I think that is a testimony to the fact that actually this is a programme that works well. Over 800 have started their own businesses and 29,000 have started apprenticeships.

Mae Twf Swyddi Cymru wedi cefnogi dros 16,500 o bobl ifanc ers mis Ebrill 2022. Ond os ychwanegwch chi hynny at y bobl sy'n ymwneud â'n gwarant i bobl ifanc, fe ddowch chi at ffigur o 57,000 o bobl ifanc sydd wedi bod yn dechrau ar y rhaglen cyflogadwyedd a sgiliau ers ei lansio hi yn 2021.

Y peth allweddol yw eich bod chi'n holi ynglŷn â'r canlyniadau. Mae dros 8,500 o bobl ifanc wedi mynd ymlaen i gyflogaeth, felly rwyf i o'r farn fod hynny'n tystio i'r ffaith fod hon yn rhaglen sy'n gweithio'n dda. Mae dros 800 wedi cychwyn eu busnesau eu hunain ac mae 29,000 wedi dechrau ar brentisiaethau.

Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU
The UK Government's Spending Review

6. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fanteision adolygiad gwariant Llywodraeth y DU i Gymru? OQ62934

6. What analysis has the Welsh Government made of the benefits to Wales of the UK Government's spending review? OQ62934

After years of Tory neglect, the Welsh Labour Government working alongside UK Labour secured an extra £5 billion for Wales. On top of this, the UK Government will spend £445 million to finally start addressing decades of underfunding on our railways, and £118 million to make coal tips safe for future generations. I think this shows what can happen when both Governments pull in the same direction. This, I hope, is just the start.

Ar ôl blynyddoedd o esgeulustod Torïaidd, sicrhaodd Llywodraeth Lafur Cymru ochr yn ochr â Phlaid Lafur y DU £5 biliwn ychwanegol i Gymru. Ar ben hynny, fe fydd Llywodraeth y DU yn gwario £445 miliwn i ddechrau mynd i'r afael o'r diwedd â degawdau o roi rhy ychydig o arian i'n rheilffyrdd ni, a £118 miliwn i wneud tomenni glo yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n credu bod hyn yn dangos beth all ddigwydd pan fydd y ddwy Lywodraeth yn tynnu i'r un cyfeiriad. Dim ond megis dechrau yw hyn, rwy'n gobeithio.

First Minister, I welcome very much not only the additional funding for Wales from the UK Government, but in particular your efforts to achieve this. Again, £455 million and £118 million are all things, together with a better funding settlement than we have ever had from any previous Tory Government, that show what two Labour Governments working together can achieve. But can I just also say that it seems to me that two Labour Governments working together can achieve a lot more? What we really need is a fair, needs-based funding settlement as part of a guaranteed constitutional settlement, and guaranteed consequential funding. I now you've been raising this issue. Can you update us on what discussions are taking place to achieve this?

Prif Weinidog , rwy'n croesawu yn fawr iawn, nid yn unig y cyllid ychwanegol i Gymru oddi wrth Lywodraeth y DU, ond yn arbennig eich ymdrechion chi i gyflawni hyn. Unwaith eto, mae £455 miliwn a £118 miliwn i gyd yn bethau, ynghyd â gwell setliad cyllido nag a welsom ni erioed gan unrhyw Lywodraeth Dorïaidd flaenorol, sy'n dangos yr hyn y gall dwy Lywodraeth Lafur sy'n gweithio gyda'i gilydd ei gyflawni. Ond a gaf i ddweud hefyd ei bod hi'n ymddangos i mi y gall dwy Lywodraeth Lafur sy'n gweithio gyda'i gilydd gyflawni llawer mwy eto? Yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw setliad cyllido teg, sy'n seiliedig ar anghenion yn rhan o setliad cyfansoddiadol gwarantedig, a chyllid canlyniadol gwarantedig. Rwy'n gwybod eich bod wedi codi'r mater hwn. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran pa drafodaethau sy'n digwydd ar gyfer cyflawni hyn?

14:20

Thanks very much. I hope you all realise and have recognised by now that when I feel Wales has not had a fair deal, I will say that loudly and clearly, because for years the Welsh Government has been calling for reform of the Barnett formula. I was really pleased to see that unanimous vote in the Senedd last year, and I made that clear in my speech on 6 May.

You'll be aware that we had a fiscal framework agreement in 2016, and that changed the way the formula worked and increased Barnett consequentials to account for the additional needs of Wales. Does it go far enough? No, it doesn't. So, further change is needed. I know that the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language always raises this as an issue, and indeed raised the issue also of fair funding for rail last week in London.

Diolch yn fawr. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n sylweddoli ac wedi cydnabod i gyd erbyn hyn, pan fyddaf i'n teimlo nad yw Cymru wedi cael bargen deg, fe fyddaf i'n dweud hynny'n blwmp ac yn blaen, oherwydd ers blynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am ddiwygio fformiwla Barnett. Roeddwn i'n falch iawn o weld y bleidlais unfrydol honno yn y Senedd y llynedd, ac fe wnes i hynny'n eglur yn fy araith ar 6 Mai.

Rydych chi siŵr o fod yn ymwybodol i ni gael cytundeb fframwaith cyllidol yn 2016, ac fe newidiodd hynny'r ffordd yr oedd y fformiwla yn gweithio ac fe gynyddodd symiau canlyniadol Barnett i roi cyfrif am anghenion ychwanegol Cymru. A yw hynny'n mynd yn ddigon pell? Nac ydyw. Felly, mae angen newid pellach. Fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn codi'r mater hwn bob amser, ac yn wir fe gododd fater cyllid teg ar gyfer rheilffyrdd yr wythnos diwethaf yn Llundain hefyd.

Of course, there may be two Governments moving in the same direction in Cardiff and in Westminster, but unfortunately it looks like they're moving towards economic oblivion. We have soaring levels of debt taking place at a national level, soaring interest to be paid on those levels of debt, and we have the lowest levels of business confidence we've seen for many a year.

What you haven't mentioned, First Minister, is the challenge to the charity sector, particularly here in Wales, as a result of the Labour Government's decision making around national insurance. Many charities up and down Wales, often delivering public services, are unable to now meet the new financial challenge they have in front of them because of national insurance increases that they are facing. What are you doing to ensure that those charities are supported to continue to implement and support our communities through the work that they do?

Wrth gwrs, efallai fod dwy Lywodraeth yn symud i'r un cyfeiriad yng Nghaerdydd ac yn San Steffan, ond yn anffodus mae hi'n edrych yn debyg eu bod nhw'n symud tuag at ebargofiant economaidd. Mae cyfraddau cynyddol o ddyled gennym ni'n digwydd ar lefel genedlaethol, llog cynyddol i'w dalu ar y lefelau hynny o ddyled, ac mae gennym y lefelau isaf o hyder busnes a welsom ni ers llawer blwyddyn.

Yr hyn na wnaethoch chi ei grybwyll, Prif Weinidog, yw'r her i'r sector elusennau, yn enwedig yma yng Nghymru, o ganlyniad i benderfyniadau'r Llywodraeth Lafur ynghylch yswiriant gwladol. Nid yw llawer o elusennau ledled Cymru, sy'n aml yn darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn gallu cwrdd â'r her ariannol newydd sy'n dod i gwrdd â nhw oherwydd y cynnydd mewn yswiriant gwladol. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod yr elusennau hynny'n cael eu cefnogi i barhau i weithredu a chefnogi ein cymunedau ni trwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud?

Thanks very much. I think we've just got to remind everybody, whenever I'm asked about poor economic performance, that actually the question is coming from somebody who was in the party of Liz Truss. It's a party that presided over the highest taxes that we've seen since the second world war, massive inflation and huge cuts in services due to 10 years of austerity.

Now, thanks to the UK Labour Government, we are seeing the taps being turned on and we are seeing £5 billion extra coming into Wales. We want to spend that money on the things that people care about in Wales. We want to improve the NHS. We want to make sure that we spend it on housing. We want to make sure that we spend it on growing the economy, better jobs, but also on improving transport so people can get around.

Yes, of course, we're interested in making sure that charities get their fair share of that funding as well. Much of that very often is channelled through local authorities. We've been working with local authorities in a way that they didn't in Westminster in the past. They slashed the amount of money that was given to local authorities in England. That has not been the case here, and there are opportunities via those routes to funnel money into charities.

Diolch yn fawr. Rwy'n credu y dylem ni atgoffa pawb, pryd bynnag y gofynnir i mi am berfformiad economaidd tila, fod y cwestiwn yn cael ei ofyn gan un a oedd yn aelod o blaid Liz Truss. Dyna blaid a oedd yn gyfrifol am y cyfraddau uchaf o drethi a welsom ni ers yr ail ryfel byd, chwyddiant aruthrol a thoriadau anferthol o ran gwasanaethau oherwydd 10 mlynedd o gyni.

Nawr, diolch i Lywodraeth Lafur y DU, rydym ni'n gweld y llif yn dechrau ac rydym ni'n gweld £5 biliwn ychwanegol yn dod i Gymru. Fe hoffem ni wario'r arian hwnnw ar y pethau y mae pobl yn poeni amdanyn nhw yng Nghymru. Rydym ni'n dymuno gwella'r GIG. Rydym ni'n dymuno sicrhau ein bod ni gwario ar dai. Rydym ni'n dymuno sicrhau ein bod ni'n gwario ar dyfu'r economi, swyddi gwell, ond ar wella trafnidiaeth hefyd fel gall pobl deithio o gwmpas.

Ie, wrth gwrs, fe garem ni sicrhau bod elusennau yn cael eu cyfran deg o'r cyllid hwnnw hefyd. Mae llawer o hynny'n aml iawn yn cael ei sianelu trwy'r awdurdodau lleol. Fe fuom ni'n gweithio gyda'r awdurdodau lleol mewn ffyrdd nad oedden nhw'n gwneud hynny yn San Steffan yn y gorffennol. Fe wnaethon nhw dorri'r swm o arian a roddwyd i'r awdurdodau lleol yn Lloegr. Nid yw hynny'n wir yma, ac fe geir cyfleoedd i roi arian i elusennau trwy'r cyfryngau hynny.

Yn yr adolygiad gwariant diweddar, mi ddaru Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y bydd £39 biliwn ar gael ar gyfer y rhaglen tai fforddiadwy yn Lloegr. Mae'r Gweinidog Gwladol dros Dai a Chynllunio yn San Steffan wedi egluro mai arian newydd ydy'r £39 biliwn yma. Mae cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn flaenoriaeth i Blaid Cymru, ond mae'ch Llywodraeth chi yn methu â chyflawni ei tharged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, yn rhannol oherwydd nad ydy'r buddsoddiad yn ddigonol.

Mae cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddadwy a buddsoddi mewn gwella stoc tai yng Nghymru yn wariant ataliol, ac mae methu mynd i'r afael â hyn yn creu costau mawr mewn meysydd eraill o'r gyllideb, gan gynnwys i'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Felly, a fedrwch chi, Brif Weinidog, roi gwybod i ni beth ydy canlyniad ychwanegu £39 biliwn yn yr adolygiad gwariant diweddar ar gyfer Cymru o ran buddsoddi mewn tai cymdeithasol a fforddiadwy newydd? A oes gan eich Llywodraeth chi gynlluniau i flaenoriaethu buddsoddiadau canlyniadol i dyfu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yng Nghymru?

In the recent spending review, the UK Government announced that £39 billion will be available for the affordable homes scheme in England. The Minister of State for Housing and Planning in Westminster has explained that this £39 billion is new funding. Increasing the supply of social housing is a priority for Plaid Cymru, but your Government is failing to deliver on its target of 20,000 social low-carbon homes, partly because the investment isn't adequate.

Increasing the supply of affordable homes and investing in improving the housing stock in Wales is preventative spend, and failing to tackle this issue leads to huge costs in other areas of the budget, including for the national health service. So, can you, First Minister, let us know what the result of the addition of £39 billion in this spending review is for Wales in terms of investment in new social and affordable housing? Does your Government have plans to prioritise consequential investments to grow the supply of housing stock in Wales?

Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn bwnc rŷm ni yn benderfynol o symud ymlaen gydag e. Mae gennym ni darged o gyrraedd 20,000 o dai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd yma. Mae'n mynd i fod yn stretsh, os ydyn ni'n onest. Os ydych chi'n edrych ar beth sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd, rŷn ni wedi gweld lot o chwyddiant yn effeithio ar ein gallu ni i adeiladu'r tai yna, ond rŷn ni'n benderfynol o weld pa mor bell rŷn ni'n gallu mynd gyda'r rhain. Dyna pam mae arian ychwanegol eisoes wedi mynd mewn i adeiladu'r tai cymdeithasol yma. Roedd hi'n braf i ymweld ag Adra pan oeddwn i lan yn eich ardal chi'n ddiweddar i weld beth maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod pobl yn gallu byw mewn tŷ fforddiadwy mewn ardal lle mae prisiau tai yn uchel iawn.

Thank you very much. This is an issue we're determined to make progress on. We do have a target of reaching 20,000 social homes during this Senedd term. It's going to be a stretch, if we're honest. If you look at what's happened over the years, we have seen inflation having a huge impact on our ability to build those homes, but we are determined to see how far we can go with this. That's why additional funding has already been invested in building social housing. It was good to visit Adra when I was up in your area recently to see what they are doing to ensure that people can live in affordable homes in an area where house prices are very high. 

14:25

First Minister, I was interested in your first response to this question, pointing out there's £5 billion of extra investment—a welcome departure from the last 14 years. On top of that, the £445 million headline is a welcome start in delivering M4 alternatives, and, importantly, funded improvements in north Wales. There's a contrast with the past. That's the start to putting right historic underfunding in rail infrastructure. Announcements on supporting local transport initiatives were also made in advance of the spending review for England. I understand and would expect, within that £5 billion, there will be consequentials beyond the headline £445 million for rail. Can you confirm if the wider consequential funding breakdowns for investing in rail are available for Wales, and if so, how much they are? But if not, can you confirm when those breakdowns of those consequentials will be made available to see the wider investment platform this Government now has because of two Labour Governments working together?

Prif Weinidog, roedd eich ymateb cyntaf i'r cwestiwn hwn yn ddiddorol i mi, wrth i chi nodi bod £5 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol—newid i'w groesawu o gymharu â'r 14 mlynedd diwethaf. Ar ben hynny, mae'r prif swm o £445 miliwn yn rhoi dechrau derbyniol iawn o ran darparu dewisiadau amgen ar yr M4, ac yn bwysig iawn, gwelliannau a ariannwyd yn y gogledd. Dyna gyferbyniad i'r gorffennol. Dyna'r dechreuad o ran unioni'r diffyg ariannu hanesyddol yn seilwaith y rheilffyrdd. Cafwyd cyhoeddiadau ar gefnogi mentrau trafnidiaeth leol hefyd cyn yr adolygiad o wariant ar gyfer Lloegr. Rwy'n deall ac fe fyddwn i'n disgwyl, yn gynwysedig yn y £5 biliwn hwnnw, y bydd cyllid canlyniadol y tu hwnt i'r prif swm o £445 miliwn ar gyfer rheilffyrdd. A wnewch chi gadarnhau y bydd y dadansoddiadau cyllid canlyniadol ehangach ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd ar gael i Gymru, ac os felly, beth fydd eu maint nhw? Ond os nad felly, a wnewch chi gadarnhau pryd y bydd y dadansoddiadau hynny o'r cyllid canlyniadol hynny ar gael ar gyfer gweld y platfform buddsoddi ehangach sydd gan y Llywodraeth hon erbyn hyn gan fod dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd?

Thanks very much. I think it is important that we underline the difference that we've seen recently, not just this year, but actually last year as well, which has allowed us to crack on with the changes that we've been able to make in the things that matter to the people in our communities.

You're quite right to point out that there were promises made under the Tories that were never kept. They said that they would electrify the track to Swansea. That never happened. They said they were going to electrify the track in north Wales, and they didn't do it. What we're seeing now is a change, a change where, of course, I hope it's just the beginning, and we have been given assurances that this is just the beginning—it does take time to build up these projects.

But you're quite right when it comes to how the funding mechanism works in relation to rail. Sometimes there are community rail projects where we get a consequential. We still haven't had the breakdown of what that looks like. When those big funding announcements were made for places like Manchester and things, we will be getting a consequential for that, and we haven't quite had the breakdown of what that looks like. We will have had some of it already, because theirs are over five years, and we tend to take a year-by-year breakdown.

There's a lot of smoke and mirrors around this, and I think we're still working through what those—[Interruption.] This is a formula. I'm very clear that we need to change the way that this done because there's far too much smoke and mirrors over a long period of time. And don't you go smirking, you Tories, over there. This is your project, the system that you set up, and I think it's really important that we make sure that we get our fair share of funding. That is my job as First Minister, to stand up for Wales, and that's what I'll continue to do.

Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n tanlinellu'r gwahaniaeth a welsom ni'n ddiweddar, nid yn unig eleni, ond mewn gwirionedd y llynedd hefyd, sydd wedi caniatáu i ni fwrw ymlaen â'r newidiadau y gwnaethom ni lwyddo i'w gwneud o ran y materion sy'n bwysig i bobl yn ein cymunedau ni.

Rydych chi'n hollol iawn i nodi y cafodd addewidion eu gwneud o dan y Torïaid na chawsant erioed mo'u cadw. Roedden nhw'n dweud bydden nhw'n trydaneiddio'r lein i Abertawe. Ni ddigwyddodd hynny. Roedden nhw'n dweud y bydden nhw'n trydaneiddio'r lein yn y gogledd, ond ni wnaethon nhw hynny ychwaith. Yr hyn a welwn ni nawr yw newid; newid yr wyf i'n gobeithio, wrth gwrs, mai dim ond megis dechrau yw hyn, ac fe gawsom ni sicrwydd mai dim ond megis dechrau yw hyn—mae hi'n cymryd amser i adeiladu'r prosiectau hyn.

Ond rydych chi'n gywir ynglŷn â dull y mecanwaith cyllido o weithio o ran rheilffyrdd. Weithiau mae yna brosiectau rheilffyrdd cymunedol lle cawn ni gyllid canlyniadol. Ni chawsom ni'r dadansoddiad o sut olwg sydd ar hynny. Pan gafodd y cyhoeddiadau cyllidol mawr hynny eu gwneud ar gyfer lleoedd fel Manceinion ac ati, fe fyddwn yn cael cyllid canlyniadol ar gyfer hynny, ac ni chawsom ni ddadansoddiad o sut olwg sydd ar hynny. Fe fyddwn ni wedi derbyn cyfran ohono eisoes, oherwydd mae eu rhai nhw dros bum mlynedd, ac rydym ni'n tueddu i gymryd dadansoddiad o flwyddyn i flwyddyn.

Mae yna lawer o guddio a chelu yn hyn o beth, ac rwy'n credu ein bod ni'n gweithio trwy'r hyn y mae'r rhain—[Torri ar draws.] Fformiwla yw hon. Rwy'n eglur iawn ynglŷn â'r angen i ni newid y ffordd y mae hyn yn cael ei wneud oherwydd mae yna lawer gormod o guddio a chelu wedi bod dros gyfnod maith o amser. A pheidiwch, da chi Geidwadwyr, â chilwenu fan acw. Eich prosiect chi yw hon, y system y gwnaethoch chi ei sefydlu, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau y byddwn ni'n cael ein cyfran deg o gyllid. Dyna fy swydd i'n Brif Weinidog, i sefyll i fyny er mwyn Cymru, a dyna'r hyn y byddaf i'n parhau i'w wneud.

Cyrhaeddiad Addysgol
Educational Attainment

7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyrhaeddiad addysgol yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru? OQ62973

7. What steps will the Welsh Government take to improve educational attainment in Wales's most disadvantaged communities? OQ62973

No child's future should be limited by their postcode, and that's why the Welsh Labour Government is investing £128 million this year alone to help schools lift up learners from our most disadvantaged communities as part of our mission to close the gap, raise standards for everyone, and make sure every young person in Wales can reach their full potential.

Ni ddylai dyfodol unrhyw blentyn gael ei gyfyngu gan ei god post, a dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi £128 miliwn yn ystod eleni yn unig i helpu ysgolion i godi dysgwyr o'n cymunedau mwyaf difreintiedig fel rhan o'n cenhadaeth i gau'r bwlch, codi safonau ar gyfer pawb, a sicrhau bod pob unigolyn ifanc yng Nghymru yn gallu cyflawni ei botensial yn llawn.

First Minister, Professor David Egan, one of Wales's leading authorities on education and poverty, recently wrote that despite various initiatives over decades, there has been only limited progress in narrowing the gap between pupils from disadvantaged backgrounds and their more advantaged peers in Wales.

One response is community-focused schools, to which I know the Welsh Government is committed. There are some very good examples in my constituency of Newport East, including Maindee Primary School. Part of David Egan's case is that we need consistent, sustained investment and commitment to those community-focused schools over a number of years to make sure that education is properly integrated—with families, with communities, with community groups, with multi-agency public services—with all the advantages that that brings. He also believes that improving the teaching in those most disadvantaged schools might well involve incentivising, paying teachers more to teach in those schools, or finding some other means of ensuring that quality of teaching is particularly good in those schools. First Minister, will you commit to looking at the work that David Egan and others have done and renewing and re-energising Welsh Government commitment to addressing educational disadvantage in Wales?

Prif Weinidog, fe ysgrifennodd yr Athro David Egan, un o brif awdurdodau Cymru ar addysg a thlodi, i'r perwyl hwn yn ddiweddar, er gwaethaf y mentrau amrywiol dros ddegawdau dim ond cynnydd cyfyngedig sydd wedi bod o ran lleihau'r bwlch rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion mwy breintiedig yng Nghymru.

Un ymateb yw ysgolion bro, ac fe wn i fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r rhain. Fe geir rhai enghreifftiau da iawn yn fy etholaeth i, sef Dwyrain Casnewydd, gan gynnwys Ysgol Gynradd Maendy. Rhan o achos David Egan yw bod angen buddsoddiad ac ymrwymiad cyson, parhaus i'r ysgolion bro hynny dros nifer o flynyddoedd i sicrhau bod addysg yn cael ei integreiddio yn briodol—gyda theuluoedd, gyda chymunedau, gyda grwpiau cymunedol, gyda gwasanaethau cyhoeddus amlasiantaeth—gyda'r manteision i gyd y mae hynny'n ei gynnig. Mae ef o'r farn hefyd y gallai gwella'r addysgu yn yr ysgolion mwyaf difreintiedig hynny gynnwys cymhelliant, talu mwy i athrawon sy'n dysgu yn yr ysgolion hynny, neu ganfod ffordd arall o sicrhau bod ansawdd y dysgu yn arbennig o dda yn yr ysgolion hynny. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ystyried y gwaith a wnaeth David Egan ac eraill ac adnewyddu ac adfywio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anfantais addysgol yng Nghymru?

14:30

Thanks very much. I know this is something that the education Secretary is absolutely committed to, and is familiar with the work of David Egan, and particularly the work he's done around the community-focused school. In fact, we're supporting community-focused schools with £31 million in revenue and capital. That includes £9.5 million of that to recruit the retention of family engagement officers. Now, I can't tell you how important this is. So, it is really important that we take a trauma-informed approach to certain groups, and that we understand their circumstances and their backgrounds. I think the skills and the expertise in that family facilitation, to build that trusting relationship, is absolutely critical to get children on the right path right from the beginning, and to make sure that they have the best opportunity possible to make the most of themselves. I genuinely think that is our purpose as a Labour movement, to make sure that we provide opportunities for everyone to fulfil their potential, irrespective of their background.

Diolch yn fawr. Fe wn i fod hwn yn rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd dros addysg wedi ymrwymo iddo'n llwyr, ac mae hi'n gyfarwydd â gwaith David Egan, ac yn enwedig y gwaith a wnaeth ef ynghylch ysgolion bro. Mewn gwirionedd, rydym ni'n cefnogi ysgolion bro gyda £31 miliwn mewn refeniw a chyfalaf. Mae hynny'n cynnwys £9.5 miliwn ar gyfer recriwtio cadw swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Nawr, ni allaf i ddechrau dweud wrthych chi pa mor bwysig yw hyn. Felly, mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n mabwysiadu dull sy'n ystyriol o drawma wrth ymwneud â grwpiau penodol, a'n bod ni'n deall eu hamgylchiadau a'u cefndiroedd nhw. Rwy'n credu bod y sgiliau a'r arbenigedd yn y gwaith hwyluso teuluol hwnnw, i feithrin y berthynas honno o ymddiriedaeth, yn hollol hanfodol i roi plant ar y llwybr iawn o'r dechrau, a sicrhau bod y cyfle gorau posibl ganddyn nhw i wneud y gorau o'r hyn ydyn nhw eu hunain. Rwy'n credu mai dyna yw ein pwrpas ni fel mudiad Llafur, i sicrhau ein bod ni estyn cyfleoedd i bawb gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u cefndiroedd nhw.

Diwydiant TGCh
The ICT Industry

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r diwydiant TGCh yng Nghymru? OQ62929

8. What is the Welsh Government doing to develop the ICT industry in Wales? OQ62929

The Welsh Labour Government is putting Wales on the map as a leader in digital and tech. Only this weekend I announced that Wales will become a world-leading artificial intelligence growth zone, bringing together cutting-edge skills, fair work and strong partnership. From cyber security to next-generation connectivity, our digital strategy backs Welsh businesses to grow, innovate and create good jobs.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi Cymru ar y map fel arweinydd ym meysydd digidol a thechnoleg. Dim ond y penwythnos diwethaf fe gyhoeddais i y bydd Cymru yn mynd yn barth twf ar gyfer deallusrwydd artiffisial a fydd yn arwain y byd, gan ddod â sgiliau arloesol, gwaith teg a phartneriaeth gadarn at ei gilydd. O seiberddiogelwch i gysylltedd y genhedlaeth nesaf, mae ein strategaeth ddigidol ni'n cefnogi busnesau Cymru i dyfu, arloesi a chreu swyddi da.

Can I thank the First Minister for that response? I will not rehearse all the things I've said on AI up until now, but I welcome your comments.

One of the great strengths of the IT industry is that it is not geographically constrained. All it needs is electricity and fast broadband. It does not need to be near London or New York, or other major conurbations. One of the world's most popular computer games, Grand Theft Auto, comes from Dundee. Wales has less than its population share working in ICT, and that negatively affects our gross value added. What the ICT industry does need is a highly skilled and educated workforce. As AI grows, ICT will become more important to our economy. We have the universities, we have the educated potential workforce. Has the Welsh Government the commitment to support this industrial sector to grow our GVA?

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Ni fyddaf i'n ailadrodd y cyfan a ddywedais i am Ddeallusrwydd Artiffisial hyd yma unwaith eto, ond rwy'n croesawu eich sylwadau chi.

Un o gryfderau mawr y diwydiant TG yw nad yw'n gyfyngedig yn ddaearyddol. Y cyfan sydd ei angen yw trydan a band eang cyflym. Nid oes angen iddo fod yn agos at Lundain nac Efrog Newydd, neu gytrefi mawrion eraill. Mae un o gemau cyfrifiadurol mwyaf poblogaidd y byd, Grand Theft Auto, yn dod o Dundee. Mae gan Gymru lai na'i chyfran o'r boblogaeth yn gweithio ym maes TGCh, ac mae hynny ag effaith ddinistriol ar ein gwerth ychwanegol gros. Yr hyn sydd ei angen ar y diwydiant TGCh yw gweithlu medrus a hyddysg iawn. Wrth i AI dyfu, fe fydd TGCh yn mynd yn bwysicach i'n heconomi. Mae'r prifysgolion gennym ni, mae'r gweithlu hyddysg posibl gennym ni. A yw'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector diwydiannol hwn ar gyfer cynyddu ein gwerth ychwanegol gros?

Thanks very much. As a priority sector, the Welsh Government continues to work closely with those in the digital and technology sectors. I think it's really important that we refocus our skills programme, with increased funding and flexibility to address those skills gaps and support those priority areas. I was really pleased to make it clear that, in future, AI and digital skills will be taught in every Welsh secondary school. We'll be working with further education and higher education institutions, with industry, with our trade unions, and we will establish AI centres of excellence, and make sure that the AI public sector framework is grounded in fairness, not just in efficiency.

Diolch yn fawr. Am ei fod yn sector â blaenoriaeth, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio yn glòs gyda rhai yn y sectorau digidol a thechnoleg. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n canolbwyntio o'r newydd ar ein rhaglen sgiliau, gyda mwy o gyllid a hyblygrwydd i fynd i'r afael â'r bylchau sgiliau hynny a chefnogi'r meysydd hynny o flaenoriaeth. Roeddwn i'n falch iawn o egluro y bydd Deallusrwydd Artiffisial a sgiliau digidol yn cael eu haddysgu ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru yn y dyfodol. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, gyda diwydiant, gyda'n hundebau llafur, ac fe fyddwn ni'n sefydlu canolfannau rhagoriaeth deallusrwydd artiffisial, ac yn sicrhau bod fframwaith y sector cyhoeddus deallusrwydd artiffisial yn cael ei seilio ar degwch, ac nid ar effeithlonrwydd yn unig.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma. Y datganiad busnes, felly, gan y Trefnydd. Jane Hutt.

The business statement and announcement is next. The Trefnydd is making this statement. The business statement, therefore, from the Trefnydd. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:34:32
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylai cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory gael eu gostwng i 10 munud. Yn ogystal, mae dadleuon yfory wedi cael eu had-drefnu. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Thank you, Llywydd. There are two changes to this week's business. The Business Committee has agreed that questions to the Senedd Commission tomorrow should be reduced to 10 minutes. Additionally, tomorrow's debates have been reordered. Business for the next three weeks is shown on the business statement, which is available to Members electronically.

14:35

Trefnydd, I'd like to request a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care regarding the current state of dermatology services in Wales, with particular reference to waiting times and access to treatment. In the Hywel Dda University Health Board area, the situation is especially worrying. The average waiting time for patients to begin treatment in dermatology is now 22 weeks. Even more troubling is the fact that, according to the latest figures, 10 per cent of patients are waiting 62 weeks or more from the point of referral to the start of treatment. Behind these figures, there are people across west Wales who are experiencing prolonged discomfort, anxiety and, in some cases, worsening health outcomes due to the lack of timely access to care. Given the prevalence of skin conditions, including skin cancer and the importance of early diagnosis and intervention, this is a matter that demands urgent attention. Therefore, Trefnydd, I'd be grateful if we could have a statement from the Welsh Government that outlines the immediate steps the Welsh Government is taking to support dermatology services, reduce waiting times and ensure that patients across Wales receive the timely care they actually deserve.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â chyflwr presennol gwasanaethau dermatoleg yng Nghymru, gan gyfeirio yn benodol at amseroedd aros ac argaeledd triniaethau. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae'r sefyllfa yn un arbennig o bryderus. Yr amser aros cyfartalog cyn bydd cleifion yn dechrau triniaeth dermatoleg yw 22 wythnos erbyn hyn. Hyd yn oed yn fwy pryderus yw'r ffaith, yn ôl y ffigurau diweddaraf, fod 10 y cant o gleifion yn aros 62 wythnos neu ragor o ddyddiad yr atgyfeirio tan ddechrau'r driniaeth. Y tu ôl i'r ffigurau hyn, mae yna bobl ledled y gorllewin yn dioddef anghysur maith, pryder mawr ac mewn rhai achosion, canlyniadau iechyd sy'n gwaethygu oherwydd diffyg mynediad at ofal mewn da bryd. O ystyried achosion cyflyrau croen, sy'n cynnwys canser y croen a phwysigrwydd diagnosis ac ymyrraeth gynnar, mae hwn yn fater sy'n gofyn am sylw ar fyrder. Felly, Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru sy'n amlinellu'r camau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau dermatoleg, byrhau amseroedd aros a sicrhau bod cleifion ledled Cymru yn cael y gofal amserol y maen nhw'n ei haeddu mewn gwirionedd.

Diolch yn fawr, Paul Davies. You know the progress that has been made in terms of reducing waiting times, the investment that has been made and the expectations that the Cabinet Secretary for Health and Social Care has of the health boards, and, of course, of Hywel Dda in your constituency and region. The importance of dermatology access to treatment is vital and recognised.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Fe wyddoch chi am y cynnydd a gafodd ei wneud o ran lleihau amseroedd aros, y buddsoddiad a gafodd ei wneud a'r disgwyliadau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'r byrddau iechyd, a Hywel Dda yn eich etholaeth a'ch rhanbarth chi, wrth gwrs. Mae pwysigrwydd mynediad at driniaeth dermatoleg yn hanfodol ac fe gydnabyddir hynny.

Trefnydd, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn hynod o gyffrous ac yn edrych ymlaen at gêm gyntaf tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros—moment hanesyddol i Gymru. Yn sicr, mae yna gynnwrf wedi bod, ac mae nifer o gwestiynau. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog â chyfrifoldeb dros chwaraeon ynglŷn â'r cyllid sydd wedi ei ddosrannu gan y Llywodraeth i ddathlu a sicrhau gwaddol o'r ffaith fod tîm pêl-droed merched Cymru yn eu pencampwriaeth gyntaf erioed. Mi fyddwn i'n hoffi gwybod beth ydy'r targedau sy'n gysylltiedig â'r gwariant, sut bydd yr effaith yn cael ei fesur, a hefyd beth ydy cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer eu presenoldeb yn y Swistir.

Trefnydd, I'm sure that we are all excited looking forward to the first game of the Welsh football team in the Euros—a historic moment for Wales. Certainly, there has been excitement here, and there are a number of questions. I'd like to ask for a statement by the Minister with responsibility for sport about the funding that has been allocated by the Government to celebrate and to ensure a legacy from the fact that the women's football team is in its first ever championships. I'd like to know what the targets connected to that expenditure are, how will the impact be measured, and also what the plans of the Welsh Government are for attendance in Switzerland.

Diolch yn fawr am y cwestiynau pwysig iawn.

Thank you very much for those very important questions.

I'm really pleased to say that Wales women's first ever appearance in a major tournament is a landmark moment. The First Minister has already said she's pleased that she and the Minister for Culture, Skills and Social Partnership will be there to mark it. But, of course, it is about the legacy, it's about the impact, and I think the First Minister will take the opportunity to take that forward. It's the Welsh Government's Euro 2025 partner support fund, I think, which is probably particularly important for your question, because it marks this sporting milestone with £1 million funding for 16 projects that will promote interest in the women's game, encourage increased and long-term participation in sport, and project Wales's values around equality and inclusion. That will all be part of the experience of Wales in the women's Euros and the European championship message from Wales, as well as us being there to back them all the way. And just to say, in Switzerland, our anthem and songs won't just support our team, they'll invite the world to share in this historic moment.

Rwy'n falch iawn o ddweud bod ymddangosiad cyntaf tîm merched Cymru mewn twrnamaint mawr yn foment nodedig. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud eisoes ei bod hi'n falch y bydd hi'n mynd yno gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i nodi'r digwyddiad. Ond, wrth gwrs, mae hyn ymwneud â'r etifeddiaeth, mae'n ymwneud â'r effaith, ac rwy'n credu y bydd y Prif Weinidog yn achub ar y cyfle i ddwyn hynny yn ei flaen. Cronfa gymorth partneriaid Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewro 2025, rwy'n credu, sy'n arbennig o bwysig o ran eich cwestiwn chi, mae'n debyg, oherwydd mae'n nodi'r garreg filltir hon ynglŷn â chwaraeon gyda £1 miliwn o gyllid ar gyfer 16 prosiect a fydd yn hyrwyddo diddordeb yn gêm y menywod, yn annog mwy o gyfranogiad hirdymor mewn chwaraeon, ac yn adlewyrchu gwerthoedd Cymru ynghylch cydraddoldeb a chynhwysiant. Fe fydd hynny i gyd yn rhan o brofiad tîm merched Cymru yn yr Ewros ac yn genhadaeth o Gymru ym mhencampwriaeth Ewrop, yn ogystal â'n bod ni'n bresennol yno i'w cefnogi nhw'r holl ffordd. A dim ond i ddweud gair, yn y Swistir, nid yn unig y bydd ein hanthem a'n caneuon ni'n rhoi cefnogaeth i'n tîm ni, fe fyddan nhw'n rhoi gwahoddiad i'r byd rannu yn y foment hanesyddol hon.

I was very pleased to see that the Trefnydd made a written statement about the visit of the United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East to the Senedd last week. I was pleased to host a cross-party meeting so that we could be briefed on what was happening on the ground in Gaza and what support they would like from us as a national Parliament. Marc Lassouaoui, the outreach manager at UNRWA's representative office for Europe in Brussels, was very clear about the fact that he wanted to come to Wales. He was going to Scotland, and he felt it was important that Wales's voice was heard.

It was very distressing to hear of what was actually happening on the ground in Gaza. UNRWA's medical supplies have been reduced by 50 per cent. We heard about women who were unable to breastfeed their children because they are malnourished. This morning, I'm sure we all saw, it was reported that more than 130 charities and other organisations are calling for the Israeli and US-backed Gaza Humanitarian Foundation to be shut down, because of the amount of people that had been killed trying to access food and aid. So, you know, Wales is a nation of sanctuary. I know the Trefnydd also met the UNRWA representative. What further could Wales do to help?

Roeddwn i'n falch iawn o weld bod y Trefnydd wedi gwneud datganiad ysgrifenedig am ymweliad Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid Palesteina yn y Dwyrain Agos, UNRWA, i'r Senedd yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n falch o gynnal cyfarfod trawsbleidiol er mwyn i ni gael ein briffio am yr hyn oedd yn digwydd ar lawr gwlad yn Gaza a pha gefnogaeth y bydden nhw'n ei hoffi gennym ni yn Senedd y genedl. Roedd Marc Lassouaoui, rheolwr allgymorth swyddfa gynrychiolaeth yr UNRWA ar gyfer Ewrop ym Mrwsel, yn eglur iawn ynglŷn â'r ffaith ei fod yn awyddus i ddod i Gymru. Roedd ef am fynd i'r Alban, ac roedd yn teimlo ei bod hi'n bwysig i lais Cymru gael ei glywed.

Roedd hi'n ofidus iawn clywed am yr hyn a oedd yn digwydd ar lawr gwlad yn Gaza. Mae cyflenwadau meddygol yr UNRWA wedi cael eu lleihau 50 y cant. Fe glywsom ni am fenywod nad oedden nhw'n gallu bwydo eu plant ar y fron oherwydd diffyg maeth. Y bore yma, fel rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld, fe adroddwyd bod mwy na 130 o elusennau a sefydliadau eraill yn galw am gau Sefydliad Dyngarol Gaza a gefnogir gan Israel a'r Unol Daleithiau, oherwydd nifer y bobl a laddwyd wrth geisio cael gafael ar fwyd a chymorth. Felly, fel gwyddoch chi, mae Cymru yn genedl noddfa. Rwy'n gwybod bod y Trefnydd wedi cwrdd â chynrychiolydd o'r UNRWA hefyd. Beth allai Cymru ei wneud i gynorthwyo?

14:40

Diolch yn fawr, Julie Morgan. I did also join that meeting that you hosted and chaired—it was a cross-party meeting—and then was able to join a meeting with the First Minister and Mr Lassouaoui. He is the outreach manager for the United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East, UNRWA, and it was important to have that update.

Now, I have issued a written statement this morning, just reflecting on that visit, and I hope just to draw that statement to Members' attention, and also to recognise, as I said in my statement, that UNRWA remains a critical lifeline for millions of Palestinian refugees. So, it is important that the Government puts this on the record in terms of that recognition. And just to say again, within my statement, we continue, as a Welsh Government, to call for a lift on the aid blockade to Gaza. We've said that humanitarian aid should never be used as a political tool. We join the UK Government in calling for Israel to respect international law and allow the unhindered flow of aid. Also, we reiterate that humanitarian aid must never be used as a political tool. And I call for urgent restoration of full, unimpeded humanitarian access across Gaza and the West Bank. I won't repeat all the points made in my statement, but we did say that we must ensure that children, the elderly and the displaced receive the food, care and protection they urgently need.

Diolch yn fawr, Julie Morgan. Fe ymunais innau hefyd â'r cyfarfod hwnnw roeddech chi'n ei lywyddu a'i gadeirio—cyfarfod trawsbleidiol oedd hwnnw—ac fe lwyddais i ymuno â chyfarfod gyda'r Prif Weinidog a Mr Lassouaoui wedyn. Ef yw rheolwr allgymorth Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid Palesteina yn y Dwyrain Agos, UNRWA, ac roedd hi'n bwysig cael y diweddariad hwnnw.

Nawr, fe gyhoeddais i ddatganiad ysgrifenedig fore heddiw, yn myfyrio ar yr ymweliad hwnnw, ac rwy'n gobeithio tynnu sylw'r Aelodau at y datganiad hwnnw, a chydnabod hefyd, fel dywedais i yn fy natganiad, bod yr UNRWA yn parhau i fod yn anadl einioes hanfodol i filiynau o ffoaduriaid Palestina. Felly, mae hi'n bwysig bod y Llywodraeth yn rhoi hyn ar gofnod o ran y gydnabyddiaeth honno. Ac ar gyfer dweud unwaith eto, yn fy natganiad, rydym ni'n parhau, yn Llywodraeth Cymru, i alw am godi'r blocâd cymorth sydd ar Gaza. Rydym ni wedi dweud na ddylid defnyddio cymorth dyngarol fel offeryn gwleidyddol. Rydym ni'n ymuno â Llywodraeth y DU i alw ar Israel i barchu cyfraith ryngwladol a chaniatáu llif dirwystr o gymorth. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n ailadrodd na ddylid defnyddio cymorth dyngarol fel offeryn gwleidyddol fyth. Ac rwy'n galw am adfer mynediad dyngarol llawn, dirwystr ar fyrder ar draws Gaza a'r Lan Orllewinol. Ni fyddaf i'n ailadrodd y pwyntiau i gyd a gafodd eu gwneud yn fy natganiad i, ond roeddem ni'n dweud bod rhaid i ni sicrhau bod plant, yr henoed a'r rhai a ddadleolwyd yn cael y bwyd, y gofal a'r amddiffyniad angenrheidiol ar frys.

I call for an urgent statement by the finance Secretary on funding for non-profit social care provision in Wales. Speaking here in March, I highlighted the impact of increased employers' national insurance contributions on voluntary sector organisations across Wales, warning that vital services, including carer services commissioned from charitable local carer services, could be jeopardised. Last week I met with the chief executive of Anheddau Cyf, a not-for-profit charity providing 24-hour supported living for 140 adults with learning disabilities across five local authorities in north Wales—commissioned services by those local authorities. She told me that charitable adult social care providers, such as Anheddau, are compromised by increases to national insurance contributions and the national living wage. 

Anheddau received a glowing Care Inspectorate Wales report in February of this year. However, their costs have now risen by over 11 per cent, outstripping the uplift in local authority fees for care packages received at between 4.2 per cent and 6.2 per cent. And Anheddau warns that without urgent financial support, there is a real risk that the vital services they provide will cease by year end, transferring responsibility back to public services, which won't be able to cope at huge additional cost. They therefore urgently call on the Welsh Government to ensure that funding is directed towards stabilising the charitable social care sector before this train crash occurs. I call for a statement by the finance Secretary accordingly.

Rwy'n galw am ddatganiad brys gan yr Ysgrifennydd dros gyllid ar gyllid ar gyfer y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol nid-er-elw yng Nghymru. Wrth siarad yn y fan hon ym mis Mawrth, roeddwn i'n tynnu sylw at effaith cyfraniadau yswiriant gwladol mwy ar gyflogwyr yn sefydliadau'r sector gwirfoddol ledled Cymru, gan rybuddio y gallai gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau gofalwyr a gomisiynwyd gan wasanaethau gofalwyr lleol elusennol, gael eu peryglu. Yr wythnos diwethaf fe wnes i gyfarfod â phrif weithredwr Anheddau Cyf, elusen nid-er-elw sy'n darparu byw â chymorth 24 awr i 140 o oedolion ag anableddau dysgu ar draws pum awdurdod lleol yn y gogledd—gwasanaethau a gomisiynwyd gan yr awdurdodau lleol hynny. Fe ddywedodd hi wrthyf i fod darparwyr gofal cymdeithasol oedolion elusennol, fel Anheddau, yn cael eu peryglu gan gynnydd yn y cyfraniadau yswiriant gwladol a'r cyflog byw cenedlaethol. 

Derbyniodd Anheddau adroddiad disglair gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Chwefror eleni. Er hynny, mae eu costau nhw wedi codi dros 11 y cant erbyn hyn, gan fynd y tu hwnt i'r cynnydd mewn ffioedd awdurdodau lleol ar gyfer pecynnau gofal a dderbynnir o rhwng 4.2 y cant a 6.2 y cant. Ac mae Anheddau yn rhybuddio, heb gymorth ariannol ar frys, fod perygl gwirioneddol y bydd y gwasanaethau hanfodol y maen nhw'n eu darparu yn dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn, gan drosglwyddo'r cyfrifoldeb yn ôl i wasanaethau cyhoeddus, na fydd yn gallu ymdopi â'r gost ychwanegol enfawr. Felly, maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid yn cael ei gyfeirio ar frys ar gyfer sefydlogi'r sector gofal cymdeithasol elusennol cyn i'r alanas hon ddigwydd. Rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros gyllid yn unol â hynny.

Thank you for that important question, Mark Isherwood. And, of course, those organisations, such as Anheddau, as you've already reported on your meeting with them, particularly in the social care sector, are so important. They are providing direct services, as you say, to people in Wales, but it is true that it is local authorities who are commissioning those services. And, of course, we have seen the support that the Welsh Government has given in its budget to local authorities, making sure that there is an uplift in funding for local authorities, which, of course, is going to benefit all their services, including those that are voluntary, like the one that you have commented on. 

Now, I think, tomorrow, I'm sure you'll be aware that there's a big event with the voluntary sector, gofod3. I believe that there are going to be a large number of people there, and I look forward to joining them, to talk about our support for the voluntary sector here in Wales and also to recognise the ways in which we can support the voluntary sector and volunteering. I've been able to do that in terms of my uplift to the voluntary sector, but we also have a funding and compliance committee looking at funding for the voluntary sector. And I think that you'll be very pleased that we have published an updated code for funding the voluntary sector, and that code, we hope, local authorities will take into account in their commissioning of services, like the ones you've raised today.

Diolch i chi am y cwestiwn pwysig yna, Mark Isherwood. Ac, wrth gwrs, mae'r sefydliadau hynny, fel Anheddau, fel roeddech chi'n adrodd am eich cyfarfod gyda nhw eisoes, yn enwedig yn y sector gofal cymdeithasol, mor bwysig. Maen nhw'n darparu gwasanaethau uniongyrchol, fel rydych chi'n dweud, i bobl yng Nghymru, ond mae hi'n wir mai'r awdurdodau lleol sy'n comisiynu'r gwasanaethau hynny. Ac, wrth gwrs, fe welsom ni'r gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb i'r awdurdodau lleol, gan sicrhau bod cynnydd yn y cyllid i'r awdurdodau lleol, a fydd, wrth gwrs, o fantais i bob un o'u gwasanaethau, sy'n cynnwys y rhai gwirfoddol, fel yr un yr oeddech chi'n rhoi sylwadau arno. 

Nawr, yfory, rwy'n credu, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol y bydd digwyddiad mawr yn cael ei gynnal gyda'r sector gwirfoddol, sef gofod3. Rwy'n credu y bydd nifer fawr o bobl yno, ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â nhw, i siarad am ein cefnogaeth ni i'r sector gwirfoddol yma yng Nghymru a chydnabod y ffyrdd y gallwn gefnogi'r sector gwirfoddol a gwirfoddoli ynddyn nhw hefyd. Rwyf i wedi gallu gwneud hynny o ran fy nghynnydd o ran cyllid i'r sector gwirfoddol, ond mae gennym ni bwyllgor cyllido a chydymffurfiaeth hefyd sy'n ystyried cyllid ar gyfer y sector gwirfoddol. Ac rwy'n credu y byddwch chi'n falch iawn ein bod wedi cyhoeddi cod wedi'i ddiweddaru ar gyfer ariannu'r sector gwirfoddol ac rydym ni'n gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn ystyried y cod hwnnw wrth gomisiynu gwasanaethau, fel y rhai y gwnaethoch chi eu codi heddiw.

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

Trefnydd, I asked you two weeks ago for a statement from the First Minister on whether the Ministry of Defence are using any Welsh military bases or premises to train Israeli army personnel and for assurances from her that Wales is not supporting the continuing genocide of the Palestinian people by ensuring no Welsh Government activities, partnerships and procurement practices for companies or activities are implicated in any unlawful occupation or military action by Israel. You said in reply that you'd ensure that the Senedd would get a response to that, so when will we hear that response and in what form? I welcome your written statement this morning in support of the United Nations Relief and Works Agency and condemning Israel for breaching international law, but we need to hear also if the Welsh Government is going to raise its voice in objection to any UK Government actions, such as supplying arms to Israel or training Israeli army personnel, which is contrary to Wales's statutory duty to be a globally responsible nation. Diolch.

Trefnydd, fe ofynnais i chi bythefnos yn ôl am ddatganiad gan y Prif Weinidog i egluro a yw'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn defnyddio unrhyw ganolfannau neu adeiladau milwrol yng Nghymru i hyfforddi personél byddin Israel ac am sicrwydd oddi wrthi hi nad yw Cymru yn cefnogi hil-laddiad parhaus pobl Palestina drwy sicrhau nad oes unrhyw weithgareddau gan Lywodraeth Cymru, partneriaethau ac arferion caffael ar gyfer cwmnïau neu weithgareddau sy'n gysylltiedig ag unrhyw feddiannaeth anghyfreithlon neu weithred filwrol gan Israel. Roeddech chi'n dweud mewn ymateb y byddech chi'n sicrhau y byddai'r Senedd yn cael ymateb i hynny, felly pryd fyddwn ni'n clywed yr ymateb hwnnw ac ar ba ffurf? Rwy'n croesawu eich datganiad ysgrifenedig chi fore heddiw i gefnogi Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig ac yn condemnio Israel am dorri cyfraith ryngwladol, ond mae angen hefyd i ni glywed a fydd Llywodraeth Cymru yn codi ei llais i wrthwynebu unrhyw gamau gan Lywodraeth y DU, fel cyflenwi arfau i Israel neu hyfforddi personél byddin Israel, sy'n groes i ddyletswydd statudol Cymru i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Diolch.

Diolch yn fawr, and thank you, Sioned Williams, for raising that question again and, indeed, for reflecting, because I know that you were part of that meeting with UNRWA last week, these wider questions. These are wider questions that, of course, are the responsibility of the UK Government, but I will ensure that I will come back to you in terms of the intelligence that we would have in terms of what is happening in terms of the UK Government's response to your question. 

I think that it is important just for me to take the opportunity to say again that it's the UK Government—. We join the UK Government in calling for Israel to respect international law and, of course, to allow the UN and other agencies, as I've said, to deliver life-saving aid to those in Gaza who desperately need it. But also, you will recall that the UK Government, alongside France and Germany, recently issued a statement that urged Israel to allow an unimpeded flow of humanitarian aid to Gaza and called on the Israeli Government to stop its military operations in Gaza and the halting of the expansion of settlements. That was a very important sign from the UK Government, joining with France and Germany on those points. But I will, again, return to the question that you raised in terms of that wider issue.

Diolch yn fawr, a diolch i chi, Sioned Williams, am godi'r cwestiwn yna unwaith eto ac, yn wir, am fyfyrio ar y mater, oherwydd fe wn i eich bod yn rhan o'r cyfarfod hwnnw gyda'r UNRWA wythnos diwethaf, y cwestiynau mwy eang hyn. Mae'r rhain yn gwestiynau mwy eang sydd, wrth gwrs, yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ond fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr y byddaf yn rhoi ateb i chi o ran yr wybodaeth a fyddai gennym ni ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd o ran ymateb Llywodraeth y DU i'ch cwestiwn chi. 

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i mi achub ar y cyfle i ddweud unwaith eto mai Llywodraeth y DU sy'n—. Rydym ni'n ymuno â Llywodraeth y DU i alw ar Israel i barchu cyfraith ryngwladol ac, wrth gwrs, i ganiatáu i'r Cenhedloedd Unedig ac asiantaethau eraill, fel dywedais i, ddarparu cymorth ar gyfer achub bywydau rhai yn Gaza sydd ag angen taer am hynny. Ond hefyd, rydych chi'n siŵr o fod yn cofio bod Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â Ffrainc a'r Almaen, wedi cyhoeddi datganiad yn ddiweddar yn annog Israel i ganiatáu llif dirwystr o gymorth dyngarol i Gaza ac yn galw ar Lywodraeth Israel i roi terfyn ar eu camau milwrol yn Gaza ac atal ehangiad aneddiadau. Roedd hwnnw'n arwydd pwysig iawn oddi wrth Lywodraeth y DU, wrth ymuno â Ffrainc a'r Almaen ar y pynciau hynny. Ond fe fyddaf i, unwaith eto, yn dychwelyd at y cwestiwn y gwnaethoch chi ei godi o ran y mater mwy eang hwnnw.

Cabinet Secretary, can I ask for a statement from the Government on the operation of the Agricultural Sector (Wales) Act 2014, and in particular in respect of the Agricultural Advisory Panel for Wales? This was a body that was in legislation and a body that was set up to protect the interests of agricultural workers in Wales. I'm very concerned, because I hear from Unite the Union that they're concerned about its current operation and that there may be a need for revision, certainly as we're a decade on. Can I also say how concerned I am that the National Farmers Union of Wales, who consistently are putting the case for additional funding for agriculture, are now calling for it to be abolished? The one body that actually exists to work to improve the wages and terms and conditions of agricultural workers, they're calling for it to be abolished. It seems to me that there's a need for a Government statement and also a need for a decision as to whether it really needs to be reviewed to ensure that it is working as well as it should in the interests of agriculture and, indeed, agricultural workers in Wales.

Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar weithrediad Deddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, ac yn arbennig felly o ran y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru? Roedd hwn yn gorff a oedd yn un deddfwriaethol ac yn gorff a sefydlwyd i amddiffyn buddiannau gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Rwy'n bryderus iawn, oherwydd rwy'n clywed oddi wrth Unite the Union eu bod nhw'n pryderu ynglŷn â'i weithrediad cyfredol ac y gellid bod angen ei adolygu, yn sicr gan fod degawd wedi bod ers hynny. A gaf i ddweud hefyd pa mor bryderus yr wyf i am fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, sy'n cyflwyno'r achos yn gyson dros gyllid ychwanegol ar gyfer amaethyddiaeth, yn galw am ei ddiddymu nawr? Yr un corff sy'n bodoli mewn gwirionedd i weithio ar gyfer gwella cyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr amaethyddol, maen nhw'n galw am ddiddymu hwnnw. Mae hi'n ymddangos i mi fod angen datganiad gan y Llywodraeth a bod angen penderfyniad hefyd ynglŷn ag a oes angen gwirioneddol i'w adolygu i sicrhau ei fod yn gweithio cystal ag y dylai er mwyn amaethyddiaeth ac, yn wir, gweithwyr amaethyddol yng Nghymru.

Thank you very much, Mick Antoniw. I think that it's important that you've raised this issue and drawn it to our attention. Since its inception, and we go back to the important role that you played in this, the panel has played an important role in protecting the interests of agricultural workers, and that's both in terms of minimum wage rates and conditions of employment. So, the the Agricultural Wages (Wales) Order 2025 gives a regulated approach to setting workers' salaries and gives a structured progression path for people wanting to further their careers in the agricultural sector. So, can I assure you and Members across the Chamber that any change to the panel, including its abolition, would require legislative changes, including a full impact assessment on agricultural workers and businesses? And Wales isn't alone in having a minimum agricultural wage rate. It's undertaken in Northern Ireland, Scotland, and even the Isle of Man's respective Governments. But, with various uncertainties surrounding the agricultural sector across the UK, it's vital we have the mechanisms in place to protect those who work in the sector and those who wish to undertake a career in agriculture.

Diolch yn fawr iawn i chi, Mick Antoniw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eich bod chi wedi codi'r mater hwn a thynnu ein sylw ni ato. Ers ei sefydlu, ac rydym ni'n dychwelyd at y gwaith pwysig a wnaethoch chi ynglŷn â hyn, mae'r panel wedi chwarae rhan bwysig wrth amddiffyn buddiannau gweithwyr amaethyddol, ac mae hynny o ran cyfraddau isafswm cyflog ac amodau cyflogaeth. Felly, mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2025 yn cyfrannu dull rheoledig o bennu cyflogau gweithwyr ac yn rhoi llwybr strwythuredig o ddilyniant i bobl sy'n awyddus i hyrwyddo eu gyrfaoedd yn y sector amaethyddol. Felly, a gaf i eich sicrhau chi a'r Aelodau ar draws y Siambr y byddai unrhyw newid i'r panel, gan gynnwys ei ddiddymiad, yn destun i newidiadau deddfwriaethol, gan gynnwys asesiad effaith llawn ar weithwyr a busnesau amaethyddol? Ac nid yw Cymru ar ei phen ei hun wrth fod ag isafswm cyflog amaethyddol. Mae hynny'n bodoli yn Llywodraethau Gogledd Iwerddon, yr Alban, ac Ynys Manaw, hyd yn oed. Ond, gyda'r materion amrywiol sy'n ymwneud â'r sector amaethyddol sy'n creu ansicrwydd ledled y DU, mae hi'n hanfodol fod y mecanweithiau ar waith gennym ni i amddiffyn y rhai sy'n gweithio yn y sector yn ogystal â'r rhai sy'n awyddus i ymgymryd â gyrfa ym myd amaeth.

14:50

I join, yet again, with colleagues calling for immediate attention on the situation in Gaza. Two weeks ago, I asked you for some lobbying from you to your colleagues in London on calling for an arms embargo. We've heard today as to the issues around aid and the desperate situations that we are seeing in Gaza. We heard yesterday that Israel has ordered Palestinians to evacuate from parts of northern Gaza ahead of increased military action. It's absolutely impossible to imagine the situation for Gazans who are locked in that country, without aid and without being able to leave. So, I ask you again, I implore you, to ensure there is additional pressure placed on our Government here in London, which is where it belongs, to call for an arms embargo on Israel. We can do very little, but we can absolutely do something that signifies our support for the Gazans and our absolute opposition to ongoing military action. Thank you.

Rwy'n ymuno, unwaith eto, â chyd-Aelodau sy'n galw am sylw ar unwaith i'r sefyllfa yn Gaza. Bythefnos yn ôl, fe ofynnais i chi am rywfaint o bwyso gennych chi ar eich cydweithwyr yn Llundain i alw am waharddiad ar arfau. Fe glywsom ni heddiw am y materion yn ymwneud â chymorth a'r sefyllfaoedd enbydus a welwn ni yn Gaza. Fe glywsom ni ddoe fod Israel wedi gorchymyn pobl Palesteina i ffoi o rannau o ogledd Gaza cyn camau milwrol cynyddol. Mae hi'n gwbl amhosibl dychmygu'r sefyllfa i bobl Gaza sydd dan glo yn y wlad honno, heb gymorth a heb fodd i ymadael. Felly, rwy'n gofyn i chi unwaith eto, rwy'n erfyn arnoch chi, i sicrhau y bydd pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar ein Llywodraeth ni yma yn Llundain, sef lle y dylid ei roi, i alw am waharddiad ar werthu arfau i Israel. Ychydig iawn a allwn ni ei wneud, ond fe allwn ni wneud rhywbeth a fydd yn arwydd o'n cefnogaeth ni i bobl Gaza a'n gwrthwynebiad llwyr i gamau milwrol parhaus. Diolch i chi.

Thank you very much again, Jane Dodds, for adding your voice to the concerns that have been raised by Members today in the Senedd, adding your voice to all the concerns that have been raised about the plight of people in Gaza, and to recognise again that this is something where, as I said in my statement today, we call for urgent restoration of full, unimpeded humanitarian access across Gaza and the West Bank. Actually, I say in my statement that UNRWA should be supported and empowered to carry out its mandate. We heard about the restrictions, again, at our meeting last week. But also, you've added your voice, as others, in terms of the arms embargo call to the UK Government, and that's on the record, as already raised today. I think it is important that we say that we're urging all parties to re-engage in ceasefire negotiations, to get the hostages out, and to secure a permanent end to the conflict, leading to a two-state solution and a lasting peace, which would end the suffering of those most affected by this conflict.

Diolch yn fawr iawn i chi unwaith eto, Jane Dodds, am ychwanegu eich llais at y pryderon a godwyd gan Aelodau heddiw yn y Senedd, gan ychwanegu eich llais at y pryderon a godwyd i gyd ynglŷn â sefyllfa pobl yn Gaza, a chydnabod unwaith eto fod hon yn sefyllfa, fel mynegais i yn fy natganiad heddiw, lle yr ydym ni'n galw am adferiad o fynediad dyngarol llawn, dirwystr ar unwaith ar draws Gaza a'r Lan Orllewinol. Mewn gwirionedd, rwy'n dweud yn fy natganiad y dylid cefnogi a grymuso'r UNRWA i gyflawni ei mandad. Fe glywsom ni am y cyfyngiadau, unwaith eto, yn ein cyfarfod ni wythnos diwethaf. Ond hefyd, rydych chi wedi ychwanegu eich llais, fel gwnaeth eraill, o ran yr alwad ar Lywodraeth y DU am waharddiad o ran gwerthu arfau, ac mae hynny ar y cofnod, fel codwyd hynny heddiw eisoes. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ddatgan ein bod ni'n annog pob parti i ymgysylltu o'r newydd yn y trafodaethau ar gyfer cadoediad, i ryddhau'r gwystlon, a sicrhau diwedd i'r gwrthdaro yn barhaol, a fyddai'n arwain at ddatrysiad dwy wladwriaeth a heddwch parhaol, a fyddai'n dod â dioddefaint y rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan y gwrthdaro hwn i ben.

I'd like to ask for two statements, with one from the Cabinet Secretary for rural affairs on the bluetongue restrictions that are imposed by the Government and which come into force today. Many farmers still have a lot of unanswered questions for the Government, many especially on the elements of extreme weather events. We still have no clear plan from the Government, if stock need to be moved quickly, for how those farmers can move them within the restrictions that are currently in place. The Deputy First Minister said he would sort it out, but, unfortunately, nothing has been forthcoming. So, I'd like a statement on that, please, because many people are very concerned on this point.

I'd also like a second update from the Welsh Government on the case of Robbie Powell, a young lad who died in Ystradgynlais because of a misdiagnosis of Addison's disease. His father, Will Powell, has campaigned for years for a public inquiry into his death, and I join his calls for that. But, Cabinet Secretary, I met with the Secretary of State for Wales, Jo Stevens, and, when we met with her, she said some of these issues are reserved to the Welsh Government. She said to us that she would get a meeting set up for Mr Powell and me with the Welsh Government. That has not been forthcoming, and I think Mr Powell has campaigned long and hard enough on this issue, and I think the Welsh Government should show him a bit more respect and come forward with that meeting date as soon as possible.

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, gydag un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ar y cyfyngiadau oherwydd clefyd y tafod glas sy'n cael eu gorfodi gan y Llywodraeth ac sy'n dod i rym heddiw. Mae gan lawer o ffermwyr lawer o gwestiynau i'r Llywodraeth na chawson nhw eu hateb, a llawer ynglŷn ag elfennau digwyddiadau tywydd eithafol yn arbennig felly. Nid oes cynllun eglur fyth wedi dod oddi wrth y Llywodraeth, pe byddai angen symud da byw ar gyflymder, ar gyfer sut y gall y ffermwyr hynny symud y da yn unol â'r cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog y byddai ef yn datrys y peth, ond, yn anffodus, nid oes unrhyw beth wedi dod eto. Felly, fe hoffwn i ddatganiad ar hynny, os gwelwch yn dda, oherwydd mae llawer o bobl yn bryderus iawn ynglŷn â'r pwnc hwn.

Hefyd, fe hoffwn i gael ail ddiweddariad oddi wrth Lywodraeth Cymru ar achos Robbie Powell, bachgen ifanc a fu farw yn Ystradgynlais oherwydd camddiagnosis o glefyd Addison. Mae ei dad ef, Will Powell, wedi ymgyrchu ers blynyddoedd dros gael ymchwiliad cyhoeddus i'w farwolaeth, ac rwy'n ategu ei alwadau am hynny. Ond, Ysgrifennydd Cabinet, fe wnes i gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, a phan wnaethom ni gyfarfod â hi, fe ddywedodd hi fod rhai o'r materion hyn yn faterion a gedwir yn ôl o ran Llywodraeth Cymru. Fe ddywedodd hi wrthym ni y byddai hi’n trefnu cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer Mr Powell a minnau. Nid yw hynny wedi digwydd eto, ac rwyf i o'r farn fod Mr Powell wedi ymgyrchu yn galed am gyfnod digon maith ar y mater hwn, ac rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ddangos ychydig mwy o barch tuag ato ef a phrysuro i bennu dyddiad ar gyfer y cyfarfod hwnnw cyn gynted â phosibl.

Thank you very much for those two questions, James Evans. As far as bluetongue is concerned, this is in partnership with the livestock and veterinary sectors. We've been very successful—you would recognise—in keeping bluetongue out of Wales, and we're proud of the efforts of everyone involved in making this happen. And responding to the expansion of the restricted zone in England has been a major decision, and there has been careful consideration of the impacts on business and livestock health and welfare, with many discussions taking place with key stakeholders, and I understand the Chief Veterinary Officer for Wales has met with industry representatives. There was a ministerial round-table on 5 June, for industry to share their views directly with the Deputy First Minister. And there's agreement that vaccination is the best way of protecting flocks and herds against bluetongue, and we will be working with our partners to encourage farmers to consider vaccination with their vets and to remain vigilant for the disease and report any suspect cases. But, thank you for raising it so I can update on that point.

And also, of course, you draw attention and memory to the tragic case in terms of Robbie Powell. I and others who were here have had responsibilities, and, of course, we go back to that and I will again look at this in terms of raising this with the current Cabinet Secretary for Health and Social Care for an update, in terms of our robust response that we made, of course, at the time.

Diolch yn fawr iawn i chi am y ddau gwestiwn yna, James Evans. O ran clefyd y tafod glas, mae hyn mewn partneriaeth â'r sectorau da byw a milfeddygol. Rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn—fe fyddech chi'n cydnabod hynny—wrth gadw'r tafod glas allan o Gymru, ac rydym ni'n falch o ymdrechion pawb sydd wedi bod â rhan yn hynny. Ac mae ymateb i ehangu'r parth cyfyngedig yn Lloegr wedi bod yn benderfyniad mawr, ac mae ystyriaeth ofalus wedi bod o'r effeithiau ar iechyd a lles busnes a da byw, gyda llawer o drafodaethau yn cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid allweddol, ac rwy'n deall bod Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant. Fe gafwyd cyfarfod bwrdd crwn gweinidogol ar 5 Mehefin, i'r diwydiant gael mynegi ei farn yn uniongyrchol gyda'r Dirprwy Brif Weinidog. Ac mae cytundeb mai brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn diadelloedd a buchesi rhag clefyd y tafod glas, ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i annog ffermwyr i ystyried brechu gyda'u milfeddygon nhw a pharhau i fod yn wyliadwrus o'r clefyd ac adrodd am unrhyw achosion a amheuir. Ond, diolch i chi am godi hyn er mwyn i mi gael rhoi diweddariad ar y pwnc hwnnw.

A hefyd, wrth gwrs, rydych chi'n tynnu sylw at, ac yn dwyn i gof, achos trasig Robbie Powell. Mae gan eraill a oedd yn bresennol yma gyfrifoldebau fel sydd gennyf innau, ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n mynd yn ôl at hynny ac fe fyddaf i'n ystyried hyn unwaith eto o ran codi'r mater gydag Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gael diweddariad, o ran yr ymateb cadarn a wnaethom ni, wrth gwrs, ar y pryd.

14:55

I call for a debate, please, in Government time on the humanitarian crisis in Gaza, so that we can unite our voices in this issue. In Gaza, civilians are being killed for trying to get food. My old colleagues at ActionAid have warned about this militarisation of aid, whereby for weeks now the only way desperate Gazans can get access to the food they are dying for is by travelling to distribution sites where hundreds have been killed by gunfire. It is turning what should be a life-saving mission into a death trap. As my old colleague Riham Jafari has warned, whilst the world's gaze shifts to the conflict between the US, Israel and Iran, Gaza is being forgotten. For nearly a year already, Gaza has been the deadliest place on earth to be a child. More people are dying every day. This is not about pitting one cause against another; it is about speaking up against the wanton killing of children and civilians. So, can we have that debate, to urge the UK Government to use all diplomatic means to secure full humanitarian access to Gaza, the release of hostages and an end to this devastating war, because, history will judge us for what we do in this moment, and what we fail to do?

Rwy'n galw am ddadl, os gwelwch yn dda, yn amser y Llywodraeth ar yr argyfwng dyngarol yn Gaza, er mwyn i ni siarad ag un llais ynglŷn â'r mater hwn. Yn Gaza, mae sifiliaid yn cael eu lladd am geisio mynd i chwilio am fwyd. Mae fy hen gydweithwyr i yn ActionAid wedi rhybuddio am droi cymorth yn fater milwrol fel hyn, a'r unig ffordd ers wythnosau erbyn hyn y gall pobl daer Gaza gael gafael ar y bwyd maen nhw'n marw o'r angen amdano yw drwy deithio i safleoedd dosbarthu lle mae cannoedd wedi cael eu saethu'n farw. Mae hynny'n troi'r hyn a ddylai fod yn waith i achub bywyd yn lladdfa. Fel mae fy hen gydweithiwr Riham Jafari wedi rhybuddio, tra bod golwg y byd yn symud at y gwrthdaro rhwng yr Unol Daleithiau, Israel ac Iran, mae Gaza yn cael ei hanwybyddu. Ers bron i flwyddyn erbyn hyn, Gaza yw'r lle mwyaf peryglus ar y ddaear i fod yn blentyn. Mae mwy o bobl yn marw bob dydd. Nid yw hyn yn ymwneud â gosod un achos yn erbyn un arall; mae'n ymwneud â siarad yn erbyn lladd plant a sifiliaid yn ddiachos. Felly, a gawn ni'r ddadl honno, i annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio pob dull diplomyddol i sicrhau mynediad dyngarol llawn i Gaza, a rhyddhau gwystlon a chael diwedd ar y rhyfel dinistriol hwn, oherwydd fe fydd hanes yn ein barnu ni am yr hyn a wnawn yn y foment hon, a'r hyn yr ydym ni'n ffaelu ei wneud?

Thank you, Delyth Jewell. I think it's important that Members have made their statements, again, of support—we've had many today. And I just want to respond—and, indeed, Julie Morgan raised this as well—that we're also aware and were horrified to hear last week, as well, from that meeting with the UNRWA about the Palestinians who've been killed at the aid distribution sites. That is becoming daily news, and I'm grateful again that, today, we've aired the concerns from some of the world's biggest charities and aid agencies, to see the Israeli and US-backed body that distributes food in Gaza shut down. So, again, thank you for raising this again, as have many Members across this Chamber today.

Diolch i chi, Delyth Jewell. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod yr Aelodau wedi gwneud eu datganiadau nhw, unwaith eto, o gefnogaeth—fe gawsom ni lawer ohonyn nhw heddiw. Ac fe hoffwn innau ymateb—ac, yn wir, fe gododd Julie Morgan hyn hefyd—ein bod ninnau'n ymwybodol hefyd ac wedi ein harswydo o glywed yr wythnos diwethaf, hefyd, o'r cyfarfod hwnnw gyda'r UNRWA am bobl o Balesteina sydd wedi cael eu lladd wrth y safleoedd ar gyfer dosbarthu cymorth. Mae hynny'n mynd yn newyddion dyddiol, ac rwy'n ddiolchgar unwaith eto ein bod ni, heddiw, wedi gwyntyllu pryderon rhai o elusennau ac asiantaethau cymorth mwyaf y byd, i weld y corff a gefnogir gan Israel a'r Unol Daleithiau sy'n dosbarthu bwyd yn Gaza yn cael ei gau. Felly, unwaith eto, diolch i chi am godi hyn eto, fel gwnaeth llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon heddiw.

Minister, please can I request a statement from the Cabinet Secretary for Transport about school provision in South Wales East? Several constituents in Monmouthshire have contacted me recently about the local authority changing the criteria to access school transport. Primary school pupils living anywhere between 1.5 miles or beyond away from the school were initially eligible for school transport, but that has now changed to 2 miles plus. This is poised to have a major impact on many pupils who go to Archbishop Rowan Williams Church in Wales Primary School in Portskewett. Many parents who send their children to the school have contacted me, raising their concerns about the impact it's going to have on them. Walking to the school, for many pupils, will now involve walking through the grounds of Caldicot castle, which can be treacherous during the winter months, with flooding taking place, and also crossing a very busy roundabout, which poses many safety concerns. Not only that, but these changes will undoubtedly lead to an increase in vehicles heading to school, which will also result in more congestion and emissions—something that flies in the face of the Government's aims, I believe. I must also praise the local Welsh Conservative councillor, Lisa Dimmock, for all her tireless work in helping these families and pushing for a solution, but we do sincerely need a review of this policy and I'd implore the Cabinet Secretary to please engage with Monmouthshire council in order to come up with a commonsense solution, before bringing forward a statement here in this Chamber. Thank you.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth am ddarpariaeth i ysgolion yn Nwyrain De Cymru? Mae sawl etholwr yn sir Fynwy wedi cysylltu â mi'n ddiweddar ynglŷn â'r awdurdod lleol yn newid y meini prawf ar gyfer mynediad at gludiant ysgol. Roedd disgyblion ysgol gynradd sy'n byw 1.5 milltir neu ymhellach o'r ysgol yn gymwys i gael cludiant ysgol ar y dechrau, ond mae hynny wedi newid i 2 filltir ac ymhellach erbyn hyn. Mae hyn wedi cael effaith fawr yn barod ar lawer o ddisgyblion sy'n mynd i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archesgob Rowan Williams ym Mhorthsgiwed. Mae llawer o rieni sy'n anfon eu plant i'r ysgol wedi cysylltu â mi, gan fynegi eu pryderon am yr effaith y bydd hyn yn ei chael arnyn nhw. Fe fydd cerdded i'r ysgol, i lawer o ddisgyblion, yn golygu cerdded trwy dir castell Cil-y-coed erbyn hyn, sy'n gallu bod yn beryglus yn ystod misoedd y gaeaf, gyda llifogydd yn digwydd, a chroesi cylchfan brysur iawn, sy'n peri llawer o bryderon o ran diogelwch. Nid yn unig hynny, ond fe fydd y newidiadau hyn yn sicr o arwain at gynnydd mewn cerbydau yn mynd i'r ysgol, a fydd yn arwain at fwy o dagfeydd ac allyriadau hefyd—rhywbeth sy'n gwbl groes i amcanion y Llywodraeth, yn fy marn i. Mae'n rhaid i mi ganmol y cynghorydd Ceidwadwyr Cymreig lleol, Lisa Dimmock, am ei holl waith diflino wrth helpu'r teuluoedd hyn gan wthio am ddatrysiad, ond mae gwir angen adolygiad o'r polisi hwn arnom ni ac fe fyddwn i'n erfyn ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymgysylltu â Chyngor Sir Fynwy er mwyn canfod ateb â synnwyr cyffredin, cyn cyflwyno datganiad yma yn y Siambr hon. Diolch i chi.

Diolch yn fawr, Natasha, a diolch yn fawr am godi'r mater pwysig iawn.

Thank you very much, Natasha, and thank you very much for raising this important issue.

This is something that is for Monmouthshire County Council, but also I think it's important that there was a summit on school transport, on learners' travel, which the Cabinet Secretary for Transport and North Wales, of course, chaired and convened, and I'm sure these issues were raised at that point.

Mae hyn yn fater ar gyfer Cyngor Sir Fynwy, ond hefyd rwy'n credu ei bod yn bwysig bod uwchgynhadledd ar gludiant i'r ysgol, ar deithio dysgwyr, wedi bod, y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, wrth gwrs, ei chadeirio a'i chynnull, ac rwy'n siŵr bod y materion hyn wedi cael eu codi bryd hynny.

15:00

Trefnydd, Jamie Oliver's recent campaign, Jamie's Dyslexia Revolution, has been eye-opening for many people, including myself, seeing in detail the challenges faced by the many dyslexic children within our education systems across the UK. Jamie Oliver has called for mandatory dyslexia training in schools, so pupils can be given the support they need to thrive. Getting that early diagnosis can make a huge difference to children and young people in their development, and can ensure that their parents and teachers can provide the right support, hopefully, because I am aware of a child in Monmouthshire that has just been diagnosed, finally, in year six of primary school, and she is years behind in reading, but not actually getting the support that she needs from the school.

But I think a lot of parents, and indeed children, would appreciate a statement on the issue from our health Secretary, on whether the Welsh Government would consider implementing mandatory dyslexia screening here in Wales, and also proper training for new teachers and more funding to get better support and outcomes for children with dyslexia. Just so you are aware, the UK Government has just responded to Jamie Oliver's campaign by committing to that latter point. Diolch.

Mae ymgyrch ddiweddar Jamie Oliver, Jamie's Dyslexia Revolution, wedi bod yn agoriad llygad i lawer o bobl, gan gynnwys fi, o weld yn fanwl yr heriau sy'n wynebu'r nifer o blant â dyslecsia yn ein systemau addysg ledled y DU. Mae Jamie Oliver wedi galw am hyfforddiant dyslecsia gorfodol mewn ysgolion, fel y gall disgyblion gael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu. Gall cael y diagnosis cynnar hwnnw wneud gwahaniaeth enfawr yn natblygiad plant a phobl ifanc, a gall sicrhau bod eu rhieni a'u hathrawon yn gallu rhoi'r gefnogaeth gywir, gobeithio, oherwydd rwy'n ymwybodol o blentyn yn sir Fynwy sydd newydd gael diagnosis, o'r diwedd, ym mlwyddyn chwech yr ysgol gynradd, ac mae hi flynyddoedd ar ei hôl hi o ran darllen, ond heb gael y gefnogaeth sydd ei hangen arni gan yr ysgol.

Ond rwy'n credu y byddai llawer o rieni, ac yn wir plant, yn gwerthfawrogi datganiad ar y mater gan ein hysgrifennydd iechyd, ynghylch a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gweithredu sgrinio dyslecsia gorfodol yma yng Nghymru, a hefyd hyfforddiant priodol i athrawon newydd a mwy o gyllid i gael gwell cefnogaeth a chanlyniadau i blant â dyslecsia. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, mae Llywodraeth y DU newydd ymateb i ymgyrch Jamie Oliver trwy ymrwymo i'r pwynt olaf hwnnw. Diolch.

Thank you very much, Laura Anne Jones. So, we know how effective Jamie Oliver's campaigns can be, and how important it has been that he has revealed his own circumstances in terms of dyslexia, and he will have an impact, and I'm sure the Cabinet Secretary for Education recognises that in all the important work with additional funding that has been made available in education, in terms of addressing additional learning needs.

Diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones. Felly, rydyn ni'n gwybod pa mor effeithiol y gall ymgyrchoedd Jamie Oliver fod, a pha mor bwysig ydyw ei fod wedi datgelu ei amgylchiadau ei hun o ran dyslecsia, ac y bydd e'n cael effaith, ac rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cydnabod hynny yn yr holl waith pwysig gyda chyllid ychwanegol sydd ar gael ym maes addysg, o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol.

Diolch, Deputy Llywydd. I'd like to call for a statement, please, from the Cabinet Secretary for Health and Social Care regarding the lack of training opportunities for educational psychologists in north Wales. Currently, there is no pathway for doctoral training in north Wales, and mid Wales indeed, with aspiring educational psychologists being forced to seek placements in England, where funding requirements often bind them to remain for two years post qualification, draining Welsh talent and worsening our local shortages.

With rising demand for assessments and diagnoses, particularly for conditions like autism, waiting times are lengthening, and many vulnerable learners are being failed. We are not just facing an inequality of provision, but a systemic issue that risks deepening the north-south divide. We desperately need an educational psychology course to be established at Wrexham or Bangor University as soon as possible. So, can we receive a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care outlining what steps the Welsh Government is taking to expand educational psychology training routes in the north to meet urgent regional and, indeed, national demand?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â'r diffyg cyfleoedd hyfforddi i seicolegwyr addysg yn y gogledd. Ar hyn o bryd, nid oes llwybr ar gyfer hyfforddiant doethurol yn y gogledd, a'r canolbarth, yn wir, gyda seicolegwyr addysg uchelgeisiol yn cael eu gorfodi i geisio lleoliadau yn Lloegr, lle mae gofynion cyllido yn aml yn eu rhwymo i aros am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso, gan ddihysbyddu talent Cymru a gwaethygu ein prinder lleol.

Gyda galw cynyddol am asesiadau a diagnosis, yn enwedig ar gyfer cyflyrau fel awtistiaeth, mae amseroedd aros yn ymestyn, ac mae llawer o ddysgwyr agored i niwed yn cael eu methu. Nid ydyn ni ond yn wynebu anghydraddoldeb darpariaeth, ond mater systemig sy'n peryglu dyfnhau rhaniad y gogledd-de. Mae angen i gwrs seicoleg addysg gael ei sefydlu yn Wrecsam neu Brifysgol Bangor cyn gynted â phosibl. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ehangu llwybrau hyfforddi seicoleg addysg yn y gogledd i ateb galw rhanbarthol, ac yn wir, cenedlaethol brys?

Thank you for that question, Gareth Davies. Of course, this is very much a cross-Government issue in terms of policy and implementation in relation to the provision at our education institutions and our health service, and it is also appropriate to look at it as a regional and cross-border issue as well in terms of access to training. Thank you.

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Gareth Davies. Wrth gwrs, mae hwn yn fater traws-lywodraethol o ran polisi a gweithredu darpariaeth yn ein sefydliadau addysg a'n gwasanaeth iechyd, ac mae hefyd yn briodol edrych arno fel mater rhanbarthol a thrawsffiniol hefyd o ran mynediad at hyfforddiant. Diolch.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Iechyd y Geg mewn Plant
3. Statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care: Children’s Oral Health

Eitem 3 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, iechyd y geg mewn plant, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles. 

Item 3 this afternoon is a statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care, children's oral health, and I call on the Cabinet Secretary, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Pydredd dannedd a chlefyd y gymiau yw'r ddau brif glefyd o ran iechyd y geg, ac, yn aml, mae modd atal y ddau. Fel cymaint o glefydau eraill, mae amddifadedd yn un o'r ffactorau niweidiol sy'n cynyddu risg pobl, yn enwedig plant, o brofi iechyd y geg gwael. Rŷn ni hefyd yn gwybod, os yw plant yn tyfu'n oedolion heb unrhyw bydredd dannedd cronig neu glefyd y gymiau, eu bod yn llawer mwy tebygol o gynnal iechyd y geg da drwy gydol eu hoes. Dyna pam mae un Llywodraeth ar ôl y llall wedi defnyddio dulliau hirdymor sy'n canolbwyntio ar atal i wella iechyd ceg plant yng Nghymru.

Y Cynllun Gwên yw ein rhaglen sy'n seiliedig ar dystiolaeth i atal pydredd dannedd. Ysgolion a meithrinfeydd mewn ardaloedd difreintiedig sy'n cael eu targedu ganddi. Cafodd ei chyflwyno'n genedlaethol 15 mlynedd yn ôl. Mae timau rhaglen yn gweithio gyda theuluoedd a phlant ifanc o'u geni hyd nes y byddan nhw'n saith oed. Y nod yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth iddyn nhw i arfer brwsio eu dannedd bob dydd a chynnal iechyd y geg da.

Mae'r rhaglen yn annog arferion da o ran hylendid y geg drwy roi cyngor, brwsys dannedd a phast dannedd fflworid i deuluoedd; annog rhieni i fynd â'u plant at y deintydd cyn iddyn nhw droi'n flwydd oed; annog plant i frwsio eu dannedd bob dydd a rhoi farnais fflworid ddwywaith y flwyddyn i blant sydd yn y feithrinfa neu'r ysgol gynradd yn ardaloedd y rhaglen. Bob blwyddyn, mae tua 76,000 o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth. Mae 343,000 o blant wedi cael farnais fflworid drwy'r rhaglen, ac mae 2.9 miliwn o becynnau cartref, sy'n cynnwys brwsys dannedd a phast dannedd fflworid, wedi cael eu dosbarthu.

Dirprwy Lywydd, byddai'n dda o beth i mi, ar y pwynt yma, ddiolch i'r timau deintyddol cymunedol sydd wedi darparu'r rhaglen arloesol hon dros y 15 mlynedd diwethaf. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r holl ysgolion a'u staff sydd wedi ei chroesawu ac wedi sicrhau bod brwsio dannedd yr un mor gyffredin a gwneud y gofrestr bob bore.

Thank you, Dirprwy Lywydd. Tooth decay and gum disease, the two main oral health diseases, are largely preventable. Like so many other diseases, deprivation is an added and toxic factor that increases people's, especially children's, risk of experiencing poor oral health. We also know that, if children reach adulthood without any chronic tooth decay or gum disease, they are far more likely to maintain good oral health throughout their lifetime. And that's why successive Governments have taken long-term, prevention-focused approaches to improving the oral health of children in Wales.

Designed to Smile is our evidence-based programme to prevent tooth decay, and it's targeted at schools and nurseries in disadvantaged areas. It was rolled out nationally 15 years ago. Designed to Smile teams work with families and young children from birth to the age of seven. The aim is to provide the skills and the knowledge that they need to develop a daily tooth-brushing habit and to maintain good oral health. 

The programme encourages good oral hygiene by giving families advice and providing them with toothbrushes and fluoride toothpaste; encouraging parents to visit to the dentist before a child’s first birthday; encouraging children to brush their teeth every day and to provide twice-yearly fluoride varnish applications for all nursery and primary school children in Designed to Smile areas. Every year, around 76,000 children take part in the supervised tooth-brushing programme. Three hundred and forty-three thousand children have received fluoride varnish applications through the programme, and 2.9 million home packs containing a toothbrush and fluoride toothpaste have been sent out.

Dirprwy Lywydd, it would be remiss of me at this point not to thank the community dental teams who have delivered this groundbreaking programme over the last 15 years. I'd like to thank also all of the schools and their staff, who have embraced the programme and made tooth brushing as much a part of everyday life in school as taking the register every morning.

Dirprwy Lywydd, this is a great example of collaborative effort between the health service and education to improve the health of young people. Children spend around 40 per cent of their waking hours in school, and school meals can make up a third or more of a child's weekday food intake. Reducing sugar in our children’s diet is another important step towards improving their oral health. In 2009, we introduced the Healthy Eating in Schools (Wales) Measure, supplemented with regulations in 2013. As Members will be aware, we are currently consulting on further changes that will continue to help children develop healthy eating habits, access healthier food during school hours and make healthy food choices.

We've also recognised that extending oral health education beyond Designed to Smile aged children is needed, and we've taken opportunities to embed oral health education and healthy lifestyle choices in the new curriculum. The new Curriculum for Wales places a strong emphasis on healthy lifestyle education through its health and well-being area of learning and experience. This is one of the six key areas in the Curriculum for Wales, and it’s designed to help learners understand the importance of physical health, mental well-being, and emotional and social development. It covers topics such as healthy eating and nutrition that support learners to become healthy, confident individuals who can navigate life’s challenges and opportunities.

I turn now to the dental reforms that we've made following the pandemic. We know that fluoride varnish application is a clinically effective method for preventing the progression of dental disease. Through the work that we've done to reform the existing NHS dental contract, we've seen the application of fluoride varnish for children increase from 15 per cent to more than 75 per cent. Since the pandemic, more than 186,000 new children have gained access to NHS dental care.

So, are all these changes making a difference to children’s oral health in Wales? We periodically survey the dental health of children, at ages five and 12. The most recent report for five-year-olds’ oral health, published last year, found the percentage of children examined who have decayed, missing or filled teeth has reduced by a third. The average number of teeth per child that are decayed, missing or filled has fallen by 44 per cent. And the latest survey of 12-year-olds, published at the start of this year, was even more encouraging. The percentage of children examined who have decayed, missing or filled teeth has reduced by 40 per cent, and the average number of teeth per child that are decayed, missing or filled has halved. The prevalence and severity of tooth decay in children has significantly reduced since 2008.

But there is still work to do. One in four 12-year-olds still experience tooth decay. That is far too many. There is still a significant gap between the oral health of children from the most deprived and the least deprived parts in Wales, despite the success of the Designed to Smile programme. Designed to Smile will continue its work, but we also need to take forward the 'Healthy Weight: Healthy Wales' work to reduce the amount of sugar in our diets, and the changes to school food regulations and in day-to-day education. We must continue to take a whole-system approach to tackle what is, largely, a preventable disease.

Dirprwy Lywydd, mae hon yn enghraifft wych o ymdrech gydweithredol rhwng y gwasanaeth iechyd ac addysg i wella iechyd pobl ifanc. Mae plant yn treulio tua 40 y cant o'u horiau deffro yn yr ysgol, a gall prydau ysgol fod yn draean neu'n fwy o fwyd plentyn yn ystod yr wythnos. Mae lleihau siwgr yn neiet ein plant yn gam pwysig arall tuag at wella'u hiechyd y geg. Yn 2009, fe wnaethon ni gyflwyno'r Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru), wedi'i ategu â rheoliadau yn 2013. Fel y bydd yr Aelodau'n ymwybodol, ar hyn o bryd, rydyn ni'n ymgynghori ar newidiadau eraill a fydd yn parhau i helpu plant i ddatblygu arferion bwyta'n iach, i gael mynediad at fwyd iachach yn ystod oriau ysgol a gwneud dewisiadau bwyd iach.

Rydyn ni hefyd wedi cydnabod bod angen ymestyn addysg iechyd y geg y tu hwnt i blant oedran Cynllun Gwên, ac rydyn ni wedi achub ar gyfleoedd i ymgorffori addysg iechyd y geg a dewisiadau ffordd iach o fyw yn y cwricwlwm newydd. Mae Cwricwlwm newydd Cymru yn rhoi pwyslais cryf ar addysg ffyrdd iach o fyw drwy ei faes dysgu a phrofiad iechyd a lles. Dyma un o'r chwe maes allweddol yng Nghwricwlwm Cymru, ac mae wedi'i gynllunio i helpu dysgwyr i ddeall pwysigrwydd iechyd corfforol, lles meddyliol, a datblygiad emosiynol a chymdeithasol. Mae'n ymdrin â phynciau fel bwyta'n iach a maeth sy'n cefnogi dysgwyr i ddod yn unigolion iach, hyderus sy'n gallu llywio heriau a chyfleoedd bywyd.

Rwy'n troi yn awr at y diwygiadau deintyddol yr ydyn ni wedi'u cyflawni yn dilyn y pandemig. Rydyn ni'n gwybod bod defnyddio farnais fflworid yn ddull clinigol effeithiol ar gyfer atal clefyd deintyddol rhag datblygu. Trwy'r gwaith yr ydyn ni wedi'i wneud i ddiwygio contract deintyddol presennol y GIG, rydyn ni wedi gweld defnyddio farnais fflworid ar gyfer plant yn cynyddu o 15 y cant i fwy na 75 y cant. Ers y pandemig, mae mwy na 186,000 o blant newydd wedi cael mynediad at ofal deintyddol y GIG.

Felly, a yw'r holl newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth i iechyd y geg plant yng Nghymru? Rydyn ni'n arolygu iechyd deintyddol plant o bryd i'w gilydd, yn bump a 12 oed. Gwnaeth yr adroddiad diweddaraf ar gyfer iechyd y geg plant pum mlwydd oed, a gafodd ei gyhoeddi'r llynedd, ddarganfod bod canran y plant a gafodd eu harchwilio sydd wedi colli dannedd, neu sydd â dannedd wedi'u llenwi, neu sydd wedi pydru wedi gostwng traean. Mae nifer cyfartalog, fesul plentyn, y dannedd sydd wedi pydru, sydd ar goll, neu wedi'u llenwi wedi gostwng 44 y cant. Ac roedd yr arolwg diweddaraf o blant 12 oed, a gafodd ei gyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn hon, hyd yn oed yn fwy calonogol. Mae canran dannedd sydd wedi'u colli gan blant, sydd wedi'u llenwi neu sydd wedi pydru wedi gostwng 40 y cant, ac mae nifer cyfartalog y dannedd sydd wedi pydru, sydd ar goll neu sydd wedi'u llenwi, fesul plentyn, wedi haneru. Mae achosion a difrifoldeb pydredd dannedd mewn plant wedi gostwng yn sylweddol ers 2008.

Ond mae yna waith i'w wneud eto. Mae un o bob pedwar plentyn 12 oed yn dal i wynebu pydredd dannedd. Mae hynny'n llawer gormod. Mae bwlch sylweddol yn parhau rhwng iechyd y geg plant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig a'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, er gwaethaf llwyddiant y rhaglen Cynllun Gwên. Bydd Cynllun Gwên yn parhau â'i waith, ond mae angen i ni hefyd fwrw ymlaen â gwaith 'Pwysau Iach: Cymru Iach' i leihau faint o siwgr sydd yn ein deietau, a'r newidiadau i reoliadau bwyd ysgol ac ym maes addysg o ddydd i ddydd. Rhaid i ni barhau i fabwysiadu dull system gyfan i ymdrin â'r hyn sy'n glefyd y mae'n bosibl ei atal, i raddau helaeth.

15:10

Thank you for your statement today, Cabinet Secretary. We all recognise that the oral health of children is particularly important, especially as dental infections in children are one of the most common chronic childhood diseases and are the main reason for the use of paediatric general anaesthetic. Poor dental health causes pain and discomfort, which can lead to difficulty in eating, speaking and sleeping, and it can also affect academic performance, not to mention someone’s overall quality of life. We also know that it can result in abscesses, putting children under greater risk of becoming severely unwell or septic and needing hospital admission. I recognise the successes of the Designed to Smile programme and the fall in the prevalence and severity of tooth decay in children since 2008. I would therefore like to raise one of the major issues that dental practices still face when dealing with children.

It's found that children make up a disproportionately high number of missed or failed-to-attend appointments, and dental practices have no mechanism to investigate why appointments have been missed, other than to ring their parents. This is a widespread problem that not only wastes precious dental clinic time, but means that children are not having the care that they need. Poor dental health in children is a major sign of neglect by the parents and it’s vital that more is done to make sure that children attend appointments. What is the Welsh Government doing to encourage parents to take their children to dental appointments? Given the current crisis in NHS dentistry, it is, quite frankly, not good enough to allow this to go on. What proposals do you have for more strict investigation and penalties regarding those parents who repeatedly fail to take their children to appointments?

Cabinet Secretary, you mentioned the dental reforms that you have made since the pandemic, and you are now proposing to undertake another major reform of NHS general dental services. As you may be well aware, this has been of great concern to the dental community, in particular because the proposals that you are trying to introduce are untried and unpiloted and you have no data or evidence to suggest that they will work. Dirprwy Lywydd, it is believed by the dental community that there would be severe knock-on effects on children’s oral health if the new system were to be introduced, which could undo some of the good work that has already been done. For example, in the current system, dental practices will usually try to see a family together, or, at the very least, siblings together, thus saving on travel time and helping families to make appointments. However, the new system that is being proposed would end this practice; children from the same family would most likely have appointments at different times and possibly even at different dental practices, increasing the likelihood of missed appointments. Cabinet Secretary, if the new system were introduced, how are you going to mitigate for this separation of family appointments?

The new proposals would also mean that patients would be expected to travel further distances to appointments and, for many, transport issues are already a major barrier to attending appointments and would likely hit families with young children the hardest, especially those who rely on public transport. What consideration are you going to give in the new system to allow for the fact that parents, often with more than one child, would likely have to make substantial journeys to attend appointments?

As you will be aware, Cabinet Secretary, under the new system, dentists would be explicitly unable to share patient records or x-rays between practices, creating significant hurdles to maintaining personalised, consistent treatment pathways. This will not only increase the amount of time needed for each appointment, as there would likely need to be duplication of record-taking and repeat x-rays taken, it would also directly undermine preventative care, as each dentist would not have access to the patient’s previous history. This will be especially problematic for vulnerable children, because it will be harder for dentists to identify long-term child neglect and child abuse. It can also be problematic for dentists, when dealing with children and, indeed, adults with neurodiverse conditions or other severe and chronic health conditions, for them to keep asking repeatedly about their patient's health, medical condition or what medication they are currently taking. How is the Welsh Government going to ensure that those vulnerable children and those with health-related issues are not disproportionately affected by the proposed changes?

Finally, Cabinet Secretary, the most deprived areas of Wales have the highest severity and highest proportion of children with tooth and gum decay, and, as was mentioned earlier, we know that this affects children's health and even educational prospects long term. Yet evidence has shown that a lot of parents still do not know or understand this link. With this in mind, what specific steps are you taking to make parents aware and keep reminding them of the importance of their children's overall health? Thank you.

Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Rydym ni i gyd yn cydnabod bod iechyd y geg plant yn arbennig o bwysig, yn enwedig gan mai heintiau deintyddol mewn plant yw un o'r clefydau cronig mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod a dyma'r prif reswm dros ddefnyddio anesthetig cyffredinol pediatrig. Mae iechyd deintyddol gwael yn achosi poen ac anghysur, ac fe all arwain at drafferth bwyta, siarad a chysgu, a gall hefyd effeithio ar berfformiad academaidd, heb sôn am ansawdd bywyd cyffredinol rhywun. Rydym ni hefyd yn gwybod y gall arwain at grawniadau, gan roi plant o dan fwy o risg o fynd yn ddifrifol sâl neu'n septig a'r angen i'w derbyn i'r ysbyty. Rwy'n cydnabod llwyddiannau'r rhaglen Cynllun Gwên a'r gostyngiad yn nifer yr achosion a difrifoldeb pydredd dannedd ymhlith plant ers 2008. Felly, hoffwn i godi un o'r prif faterion y mae practisau deintyddol yn dal i'w wynebu wrth ymdrin â phlant.

Canfu bod plant yn gyfrifol am nifer anghymesur uchel o apwyntiadau wedi'u colli neu nad ydyn nhw wedi'u mynychu, ac nid oes gan bractisau deintyddol unrhyw fecanwaith i ymchwilio i pam mae apwyntiadau wedi'u colli, heblaw am ffonio'u rhieni. Mae hon yn broblem eang sydd nid yn unig yn gwastraffu amser clinig deintyddol gwerthfawr, ond sy'n golygu nad yw plant yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Mae iechyd deintyddol gwael mewn plant yn arwydd mawr o esgeulustod gan y rhieni ac mae'n hanfodol bod mwy yn cael ei wneud i sicrhau bod plant yn mynychu apwyntiadau. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog rhieni i fynd â'u plant i apwyntiadau deintyddol? O ystyried yr argyfwng presennol yn neintyddiaeth y GIG, nid yw'n ddigon da i ganiatáu i hyn barhau. Pa gynigion sydd gennych chi ar gyfer ymchwiliad a chosbau mwy llym o ran y rhieni hynny sy'n methu â mynd â'u plant i apwyntiadau dro ar ôl tro?

Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi sôn am y diwygiadau deintyddol yr ydych chi wedi'u gwneud ers y pandemig, ac rydych chi nawr yn bwriadu ymgymryd â diwygiad mawr arall o wasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG. Fel y gwyddoch chi, mae hyn wedi bod yn bryder mawr i'r gymuned ddeintyddol, yn enwedig oherwydd bod y cynigion yr ydych chi'n ceisio'u cyflwyno heb eu profi ac nid oes gennych chi unrhyw ddata na thystiolaeth i awgrymu y byddan nhw'n gweithio. Dirprwy Lywydd, mae'r gymuned ddeintyddol yn credu y byddai effeithiau difrifol ar iechyd y geg plant pe bai'r system newydd yn cael ei chyflwyno, a allai ddadwneud rhywfaint o'r gwaith da sydd eisoes wedi'i gyflawni. Er enghraifft, yn y system bresennol, bydd practisau deintyddol fel arfer yn ceisio gweld teulu gyda'i gilydd, neu, o leiaf, brodyr a chwiorydd gyda'i gilydd, a thrwy hynny arbed amser teithio a helpu teuluoedd i gyrraedd apwyntiadau. Fodd bynnag, byddai'r system newydd sy'n cael ei chynnig yn dod â'r arfer hwn i ben; byddai plant o'r un teulu, yn ôl pob tebyg yn cael apwyntiadau ar wahanol adegau ac o bosibl hyd yn oed mewn gwahanol bractisau deintyddol, gan gynyddu'r tebygolrwydd o golli apwyntiadau. Ysgrifennydd Cabinet, pe bai'r system newydd yn cael ei chyflwyno, sut ydych chi'n mynd i liniaru effaith gwahanu'r apwyntiadau teuluol hyn?

Byddai'r cynigion newydd hefyd yn golygu y byddai disgwyl i gleifion deithio'n bellach i apwyntiadau ac, i lawer, mae problemau trafnidiaeth eisoes yn rhwystr mawr rhag mynychu apwyntiadau ac yn debygol o effeithio galetaf ar deuluoedd â phlant ifanc, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Pa ystyriaeth ydych chi'n mynd i'w rhoi yn y system newydd o ystyried y ffaith y byddai rhieni, yn aml gyda mwy nag un plentyn, yn debygol o orfod teithio'n helaeth i fynychu apwyntiadau?

Fel y gwyddoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, o dan y system newydd, ni fyddai deintyddion yn gallu rhannu cofnodion cleifion neu luniau pelydr-x rhwng practisau, gan greu rhwystrau sylweddol rhag cynnal llwybrau triniaeth personol, cyson. Bydd hyn nid yn unig yn cynyddu'r amser sydd ei angen ar gyfer pob apwyntiad, gan y byddai angen dyblygu cymryd cofnodion ac aildynnu lluniau pelydr-x, byddai hefyd yn tanseilio'n uniongyrchol gofal ataliol, gan na fyddai gan bob deintydd fynediad at hanes blaenorol y claf. Bydd hyn yn broblem yn arbennig i blant agored i niwed, oherwydd bydd yn anoddach i ddeintyddion nodi esgeuluso a cham-drin hirdymor plant. Gall hefyd fod yn broblem i ddeintyddion, wrth ymdrin â phlant ac, yn wir, oedolion â chyflyrau niwroamrywiol neu gyflyrau iechyd difrifol a chronig eraill, gan y byddan nhw'n gofyn dro ar ôl tro am iechyd neu gyflwr meddygol eu claf neu ba feddyginiaeth y maen nhw'n ei chymryd ar hyn o bryd. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau nad yw'r newidiadau arfaethedig yn effeithio'n anghymesur ar y plant agored i niwed hynny a'r rhai sydd â phroblemau sy'n gysylltiedig ag iechyd?

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru sydd â'r difrifoldeb a'r gyfran uchaf o blant sydd â phydredd dannedd a deintgig, ac, fel y soniwyd amdano'n gynharach, gwyddom ni fod hyn yn effeithio ar iechyd plant a hyd yn oed disgwyliadau addysgol yn y tymor hir. Eto mae tystiolaeth wedi dangos nad yw llawer o rieni yn gwybod nac yn deall y cysylltiad hwn o hyd. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau penodol ydych chi'n eu cymryd i wneud rhieni yn ymwybodol o hyn ac i barhau i'w hatgoffa o bwysigrwydd iechyd cyffredinol eu plant? Diolch.

I thank the Member for the acknowledgement that he gave to the success of Designed to Smile. We will all have examples in our constituencies of this programme reaching into schools and engaging with children, with staff and indeed with families—to respond to his last point—in a way that, as we've seen from the figures that I was able to share with the Chamber, is making a real difference. So, our commitment to the programme will continue.

He's also correct to say that I absolutely do recognise, as we all would, that where there is poor oral health and the challenges that can arise as a consequence of that, it can, in fact, as he said, impact on attendance and well-being and, indeed, attainment in certain circumstances as well. That's part of the reason why it's so important to make sure that we are able to support children to maintain good oral health into adulthood.

He took the opportunity to give his views on the new contract, which is, as he will know, under consultation. He will have heard the First Minister say earlier that we have had a very, very high number of responses, which I absolutely welcome. The contract that was consulted on is one that was the result of 13 months of negotiation with the BDA, and many, many years' worth of development prior to that, based on extensive evidence and experience. So, I am absolutely confident that it will help us in our shared aim, across the Chamber, of extending access to NHS dentistry, which is an important part of how we can support young people to make sure that their dental hygiene and dental health is good.

He will have noted that I said in my statement that, even under the existing set of reforms, before the more substantial reform in the contract that is out for consultation, or certainly has been out for consultation, 186,000 new child patients have been able to access NHS dental care, which is good progress. We obviously want to see that figure extended.

I don't actually recognise many of the points that the Member put in his question, in relation to the new dental contract. What I would say to him is that I think the contract will incentivise dentists to see children. It certainly has provisions in there to incentivise that approach to prevention, which he rightly made a focus of in his remarks. I think that that is what we will see as a consequence of the reforms, but there will be further opportunities, when we have considered the substantial number of representations that have been made in the consultation, for him to engage me further on the detail of that contract when it is concluded. 

Diolch i'r Aelod am y gydnabyddiaeth a roddodd i lwyddiant Cynllun Gwên. Bydd gan bob un ohonom enghreifftiau yn ein hetholaethau o'r rhaglen hon sy'n ymestyn i ysgolion ac yn ymgysylltu â phlant, â staff ac yn wir â theuluoedd—i ymateb i'w bwynt olaf—mewn ffordd sydd, fel y gwelsom o'r ffigurau yr oeddwn yn gallu eu rhannu gyda'r Siambr, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, bydd ein hymrwymiad i'r rhaglen yn parhau.

Mae hefyd yn gywir i ddweud fy mod yn cydnabod yn llwyr, fel y byddwn ni i gyd, pan geir iechyd y geg gwael a'r heriau a all godi o ganlyniad i hynny, y gall, mewn gwirionedd, fel y dywedodd, effeithio ar bresenoldeb a llesiant ac, yn wir, cyrhaeddiad mewn rhai amgylchiadau hefyd. Dyna ran o'r rheswm pam mae mor bwysig gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cefnogi plant i gynnal iechyd y geg da pan fyddant yn oedolion.

Manteisiodd ar y cyfle i roi ei farn ar y contract newydd, sydd, fel y bydd yn gwybod, mewn cyfnod o ymgynghori. Bydd wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn gynharach ein bod wedi cael nifer uchel iawn, iawn o ymatebion, rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Mae'r contract yr ymgynghorir arno yn un a oedd yn ganlyniad i 13 mis o drafod gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, a llawer o flynyddoedd o ddatblygiad cyn hynny, yn seiliedig ar dystiolaeth a phrofiad helaeth. Felly, rwy'n gwbl hyderus y bydd yn ein helpu yn ein nod cyffredin, ar draws y Siambr, i ymestyn mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, sy'n rhan bwysig o sut y gallwn gefnogi pobl ifanc i wneud yn siŵr bod eu hylendid deintyddol a'u hiechyd deintyddol yn dda.

Bydd wedi nodi fy mod wedi dweud yn fy natganiad, hyd yn oed o dan y set bresennol o ddiwygiadau, cyn y diwygiad mwy sylweddol yn y contract sy'n destun ymgynghoriad, neu yn sicr wedi bod yn destun ymgynghoriad, mae 186,000 o gleifion newydd sy'n blant wedi gallu cael mynediad at ofal deintyddol y GIG, sy'n gynnydd da. Rydym yn amlwg eisiau gweld y ffigur hwnnw'n cael ei ymestyn.

Nid wyf yn cydnabod llawer o'r pwyntiau a roddodd yr Aelod yn ei gwestiwn, mewn perthynas â'r contract deintyddol newydd. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrtho yw fy mod yn credu y bydd y contract yn cymell deintyddion i weld plant. Yn sicr, mae ganddo ddarpariaethau yno i ysgogi'r dull hwnnw o atal, a wnaeth, yn iawn, ganolbwyntio arno yn ei sylwadau. Rwy'n credu mai dyna beth y byddwn yn ei weld o ganlyniad i'r diwygiadau, ond bydd cyfleoedd pellach, pan fyddwn wedi ystyried y nifer sylweddol o sylwadau a wnaed yn yr ymgynghoriad, iddo ymgysylltu â mi ymhellach ar fanylion y contract hwnnw pan fydd yn cael ei gwblhau. 

15:15

Mae Cymdeithas Deintyddiaeth Bediatrig Prydain yn argymell y dylai pob plentyn gael archwiliad deintyddol erbyn eu bod nhw'n un oed, neu cyn gynted ag y bydd eu dannedd cyntaf yn ymddangos. Mae hyn, wrth gwrs, yn hollbwysig ar gyfer canfod problemau cynnar ac adeiladu arferion iach. Fodd bynnag, mae'r data diweddaraf yn dangos mai dim ond 48.5 y cant o blant yng Nghymru a gafodd mynediad at ofal deintyddol y gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae mwy na hanner yn colli'r gofal sydd ei angen arnyn nhw.

Dwi wedi galw dro ar ôl tro i ymyrraeth gynnar a mynediad fod wrth wraidd strategaeth y Llywodraeth ar gyfer iechyd y geg. Mae nifer y triniaethau brys i blant yn cynyddu, tra bod apwyntiadau rheolaidd yn lleihau. Heb weithredu, mi ydym ni’n peryglu niwed hirdymor i iechyd ein plant.

Nid yw'r broblem yn ymwneud â chyfyngiad mynediad yn unig. Mae'n anghyfartal hefyd. Mewn rhai rhannau o Gymru, mae'r sefyllfa yn waeth fyth. Yn ardal Betsi Cadwaladr a Phowys, dim ond 39 y cant o blant a gafodd eu gweld gan ddeintydd y gwasanaeth iechyd y llynedd. Unwaith eto, rydyn ni'n gweld loteri cod post o ran gofal deintyddol. Felly, sut ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, am sicrhau tegwch gwasanaeth ledled Cymru?

Mae'r broblem yn fwy difrifol fyth i blant iau. Dim ond 38 y cant o blant dan bump oed yng Nghymru a gafodd eu gweld gan ddeintydd y gwasanaeth iechyd y llynedd. Yn ardal Betsi Cadwaladr, dim ond 29 y cant oedd y ffigwr hwnnw—y ganran isaf o unrhyw grŵp oedran. Mae'r blynyddoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad, ac mae methu gofal ar y cam hwn yn gallu arwain at ganlyniad gydol oes. Felly, pa gamau bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella'r gwasanaeth yn ardal Betsi Cadwaladr yn benodol?

The British Society of Paediatric Dentistry suggests that every child should have a dental examination by the age of one, or as soon as their first teeth appear. This, of course, is crucially important to discover problems at an early stage and to develop healthy habits. However, the latest data show that only 48.5 per cent of children in Wales had their access to dental care in the NHS during the last year. More than half are missing out on the care that they need.

I have called time and time again for early intervention and access to be at the heart of the Government's strategy for oral health. The number of urgent treatments for children is increasing, while regular appointments are reducing. Without action, we are risking long-term damage to our children's health.

The problem does not relate to access issues alone. It is unequal too. In some parts of Wales, the situation is even worse. In the Betsi Cadwaladr and Powys areas, only 39 per cent of children were seen by an NHS dentist last year. Once again, we are seeing a postcode lottery in terms of dental care. So, Cabinet Secretary, how are you going to ensure a fair service across Wales?

The problem is even more acute for younger children. Only 38 per cent of children under the age of five in Wales were seen by an NHS dentist last year. In the Betsi Cadwaladr area, that figure was only 29 per cent, which is the lowest percentage of any age group. These years are crucial for development, and missing out on care at this stage can lead to lifelong consequences. So, what steps will the Cabinet Secretary take to improve the service in the Betsi Cadwaladr health board area in particular?

We are also seeing fewer practices accepting new NHS child patients. Only 27 per cent of dental practices in Wales are currently doing so. That's a clear sign that the system isn't currently working. And, beyond access, the delivery model itself is shifting in concerning ways. Parents and children are being treated by different providers. Patients are being removed from local practice lists. These changes threaten the continuity of care, which is especially important for children, who benefit from stable relationships with trusted practitioners. So, how will you make sure that you get to grips with the issue of continuity of care and that patients can expect such continuity of care?

Unless we tackle the root causes of this access crisis, especially the flawed NHS dental contract, we will lock in long-term inequalities, with more children growing up with preventable dental health problems. The Government claims prevention is central to its reforms, but apart from some expansion in fluoride varnish application, the proposals are still built around the treatment-focused model. This doesn't support a real shift in how care is delivered.

Supervised tooth-brushing programmes in early years settings, like those explained in today's statement, Designed to Smile, are welcome, but they're not enough on their own. Prevention must be a part of a broader public health approach, including strong action on the marketing, labelling and sugar content of food and drinks, especially those aimed at children. A co-ordinated approach to prevention is, therefore, essential. Oral health is influenced by more than just dental care. It's tied to, as the Cabinet Secretary explained, diet, but also education, income and housing. We must take those wider factors into account. So, what consideration has the Cabinet Minister given to these issues as part of the broader preventative agenda, and can he elaborate on what investment is given to this wider preventative agenda?

We also have to address deep-rooted inequalities. According to the NHS Wales dental epidemiological programme, over 25 per cent of 12-year-olds in Wales still experience tooth decay. That's an improvement since 2016-17, but the rate of untreated decay remains too high. And, once again, the most deprived communities are the hardest hit. There's a 10 percentage point gap in access to treatment between the most and least deprived groups. That's not just a gap, that's an injustice. So, does the Cabinet Secretary see a role to roll out dental school visits across Wales?

Rydym ni hefyd yn gweld llai o bractisau yn derbyn cleifion newydd sy'n blant o fewn y GIG. Dim ond 27 y cant o bractisau deintyddol yng Nghymru sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae hynny'n arwydd clir nad yw'r system yn gweithio ar hyn o bryd. Ac, y tu hwnt i fynediad, mae'r model cyflawni ei hun yn newid mewn ffyrdd pryderus. Mae rhieni a phlant yn cael eu trin gan wahanol ddarparwyr. Mae cleifion yn cael eu tynnu oddi ar restrau practisau lleol. Mae'r newidiadau hyn yn bygwth parhad gofal, sy'n arbennig o bwysig i blant, sy'n elwa ar berthynas sefydlog ag ymarferwyr dibynadwy. Felly, sut byddwch chi'n sicrhau eich bod chi'n ymdrin â mater parhad gofal a bod cleifion yn gallu disgwyl parhad gofal o'r fath ?

Oni bai ein bod ni'n ymdrin ag achosion sylfaenol yr argyfwng mynediad hwn, yn enwedig contract deintyddol y GIG diffygiol, byddwn ni'n peri i anghydraddoldebau barhau dros yr hirdymor, gyda mwy o blant yn tyfu gyda phroblemau iechyd deintyddol y mae'n bosibl eu hatal. Mae'r Llywodraeth yn honni bod atal yn ganolog i'w diwygiadau, ond ar wahân i rywfaint o ehangu o ran defnyddio farnais fflworid, mae'r cynigion yn dal i gael eu datblygu o amgylch y model sy'n canolbwyntio ar driniaeth. Nid yw hyn yn cefnogi newid gwirioneddol yn y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu.

Mae rhaglenni brwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn lleoliadau gwasanaethau blynyddoedd cynnar i'w croesawu, fel y rhai a gafodd eu hegluro yn y datganiad heddiw, Cynllun Gwên, ond nid ydyn nhw'n ddigon ar eu pen eu hunain. Rhaid i atal fod yn rhan o ddull iechyd cyhoeddus ehangach, gan gynnwys gweithredu cryf ar farchnata, labelu, a'r siwgr mewn bwyd a diod, yn enwedig yr eitemau sydd wedi'u hanelu at blant. Mae dull cydgysylltiedig o atal felly yn hanfodol. Mae mwy na gofal deintyddol yn unig yn dylanwadu ar iechyd y geg. Mae'n gysylltiedig, fel yr esboniodd yr Ysgrifennydd Cabinet, â deiet, ond hefyd addysg, incwm a thai. Mae'n rhaid i ni ystyried y ffactorau ehangach hynny. Felly, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i'r materion hyn fel rhan o'r agenda ataliol ehangach, ac a all ymhelaethu ar ba fuddsoddiad sy'n cael ei roi i'r agenda ataliol ehangach hon?

Mae'n rhaid i ni hefyd ymdrin ag anghydraddoldebau sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn. Yn ôl rhaglen epidemioleg ddeintyddol GIG Cymru, mae dros 25 y cant o blant 12 oed yng Nghymru yn dal i wynebu pydredd dannedd. Mae hynny'n welliant ers 2016-17, ond mae'r gyfradd o bydredd heb ei drin yn parhau i fod yn rhy uchel. Ac, unwaith eto, y cymunedau mwyaf difreintiedig yw'r rhai sydd wedi'u taro waethaf. Mae bwlch 10 pwynt canran o ran mynediad at driniaeth rhwng y grwpiau mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig. Nid bwlch yn unig yw hynny, mae hynny'n anghyfiawnder. Felly, a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweld rôl i gyflwyno ymweliadau deintyddol ag ysgolion ledled Cymru?

15:20

I'm glad the Member was able to acknowledge the success of the Designed to Smile programme over the last 15 years. I think it makes a genuine difference, as he acknowledged in his question. He made the important point about the importance of attending dentists in the first year of a child's life, and that is indeed one of the purposes of that programme specifically: to encourage that now. And I outlined the successes that the programme has had in relation to that in my statement earlier.

He makes an important point about the importance of consistency of provision in all parts of Wales, and identifies fairly that there are some challenges in parts of north Wales in relation to NHS dentistry. However, that is something the health board is very, very actively engaged on, and has had success not just in redeploying the funding, but that means, of course, that there is an appetite in practices to take on more NHS work with that funding. So, I welcome that and obviously want to see the expansion of that, as I'm sure we will see, as a consequence of the new contract.

He will know as well that the dental access portal is designed partly to understand the level of demand in all parts of Wales, and to tackle the point he described as a postcode lottery. I think that was one of the reasons why it was recommended by the Health and Social Care Committee in the first place. So, he'll know that has been rolled out now in all parts of Wales since February of this year. It's still early days, but I think that is a positive step forward, and I'm grateful to colleagues in the Chamber for having given that a broad welcome in other contexts. I actually think, as I said in my response to Joel James, that the new contract will encourage NHS dentistry for children, and, as he acknowledged in his question, there are some provisions in there for extending that preventative approach. 

He made a very important, and I thought interesting, set of observations in relation to prevention. The broader context for that is, as I set out partly in the statement, around ensuring that we introduce regulations around some of those foodstuffs that we know are most damaging to children's health generally and specifically to their oral health. I remember very recently we had a vote in the Senedd about banning the location of foods that are high in sugar content at points of sale. I remember also, unfortunately, that his party voted against that regulation. So, I think it's important that we do take that holistic view, and I think it's important that we can command the support of all parts of the Chamber in doing that.

Rwy'n falch bod yr Aelod wedi gallu cydnabod llwyddiant y rhaglen Cynllun Gwên dros y 15 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu ei bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, fel y cafodd ei gydnabod yn ei gwestiwn. Gwnaeth y pwynt pwysig am bwysigrwydd ymweld â deintyddion ym mlwyddyn gyntaf bywyd plentyn, ac yn wir, mae hynny'n un o ddibenion y rhaglen honno'n benodol: annog hynny nawr. Ac amlinellais i'r llwyddiannau y mae'r rhaglen wedi'u cael o ran hynny yn fy natganiad yn gynharach.

Mae'n gwneud pwynt pwysig am bwysigrwydd cysondeb y ddarpariaeth ym mhob rhan o Gymru, ac mae'n nodi'n deg bod rhai heriau mewn rhannau o'r gogledd o ran deintyddiaeth y GIG. Fodd bynnag, mae hynny'n rhywbeth y mae'r bwrdd iechyd yn ymwneud yn weithgar iawn, iawn ag ef, ac mae wedi cael llwyddiant nid yn unig wrth ailddosbarthu'r cyllid, ond mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod awydd mewn practisau i ymgymryd â mwy o waith y GIG gyda'r cyllid hwnnw. Felly, rwy'n croesawu hynny ac yn amlwg eisiau gweld yr ehangu hwnnw, fel rwy'n siŵr y byddwn ni yn ei weld, o ganlyniad i'r contract newydd.

Bydd yn gwybod hefyd bod y porth mynediad deintyddol wedi'i gynllunio'n rhannol i ddeall lefel y galw ym mhob rhan o Gymru, ac i ymdrin â'r pwynt y gwnaeth ef ei ddisgrifio fel loteri cod post. Rwy'n credu mai dyna oedd un o'r rhesymau dros y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei argymell yn y lle cyntaf. Felly, bydd yn gwybod bod hynny wedi cael ei gyflwyno ym mhob rhan o Gymru ers mis Chwefror eleni. Mae dal yn ei ddyddiau cynnar, ond rwy'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen, ac rwy'n ddiolchgar i gyd-Aelodau yn y Siambr am roi croeso cyffredinol i hynny mewn cyd-destunau eraill. Rwy'n credu mewn gwirionedd, fel y dywedais i yn fy ymateb i Joel James, y bydd y contract newydd yn annog deintyddiaeth y GIG ar gyfer plant, ac, fel y gwnaeth gydnabod yn ei gwestiwn, mae rhai darpariaethau yna ar gyfer ymestyn y dull ataliol hwnnw. 

Fe wnaeth gyfres bwysig iawn, ac yn fy marn i, ddiddorol, o sylwadau o ran atal. Y cyd-destun ehangach ar gyfer hynny yw, fel y nodais i'n rhannol yn y datganiad, o ran sicrhau ein bod ni'n cyflwyno rheoliadau ynghylch rhai o'r bwydydd hynny yr ydyn ni'n gwybod eu bod fwyaf niweidiol i iechyd plant yn gyffredinol ac yn benodol i'w hiechyd y geg. Rwy'n cofio'n ddiweddar iawn i ni gael pleidlais yn y Senedd ynglŷn â gwahardd lleoli bwydydd â chynnwys siwgr uchel mewn mannau gwerthu. Cofiaf hefyd, yn anffodus, bod ei blaid ef wedi pleidleisio yn erbyn y rheoliad hwnnw. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n cymryd y safbwynt cyfannol hwnnw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n gallu cael cefnogaeth pob rhan o'r Siambr wrth wneud hynny.

15:25

I believe Designed to Smile is one of the most important health inequalities initiatives that the Welsh Government has brought forward. It's simple, it's relatively cheap and it has such a positive impact on young children's dental and oral health. It is vital that children get fluoride on their teeth and that that fluoride stays there, and this programme does exactly that, ensuring children and their families receive advice and, obviously, that children receive treatment at a very important time in their lives.

We know prevention is essential in improving a child's oral health. I've been very fortunate to see Designed to Smile delivered in nurseries and schools right across my constituency, but especially in Caia Park, which has some of the most deprived wards in Wales. We need to ensure we get the number of settings providing Designed to Smile back up to pre-COVID pandemic levels and then increase the number of children as well. So, I am pleased to see that the budget is hypothecated, but what more do you think we can do, Cabinet Secretary, to ensure that that gap between the oral health of our young children from the most deprived families and our least deprived families is closed?

Rwy'n credu mai Cynllun Gwên yw un o'r mentrau anghydraddoldebau iechyd pwysicaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyflwyno. Mae'n syml, mae'n gymharol rad ac mae'n cael effaith mor gadarnhaol ar iechyd deintyddol a cheg plant ifanc. Mae'n hanfodol bod plant yn cael fflworid ar eu dannedd a bod y fflworid hwnnw'n aros yno, ac mae'r rhaglen hon yn gwneud yn union hynny, gan sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn cael cyngor ac, yn amlwg, bod plant yn cael triniaeth ar adeg bwysig iawn yn eu bywydau.

Rydym ni'n gwybod bod atal yn hanfodol i wella iechyd y geg plant. Rwyf i wedi bod yn ffodus iawn i weld Cynllun Gwên yn cael ei gyflwyno mewn meithrinfeydd ac ysgolion ar draws fy etholaeth, ond yn enwedig ym Mharc Caia, sydd â rhai o'r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n cael nifer y lleoliadau sy'n darparu Cynllun Gwên yn ôl i lefelau cyn pandemig COVID ac yna cynyddu nifer y plant hefyd. Felly, rwy'n falch o weld bod y gyllideb wedi'i neilltuo, ond beth arall ydych chi'n credu y gallwn ni'i wneud, Ysgrifennydd Cabinet, i sicrhau bod y bwlch hwnnw rhwng iechyd y geg ein plant ifanc o'r teuluoedd mwyaf difreintiedig a'n plant o'r teuluoedd lleiaf difreintiedig yn cael ei gau?

I thank Lesley Griffiths for those questions and I would associate myself with the points that she's made about the importance of closing that gap. A number of points have been made about that today, and I absolutely think it's essential. Designed to Smile is showing how that can be done. I think you mentioned the number of schools participating in that programme. The figures that were published last year show that 1,176 schools and nurseries were participating, all of them in areas of disadvantage, as the Member will know, and more than 203,000 tooth-brushing packs were distributed in those areas in the figures last year.

I think it is really important that we continue that focus on that programme. It is a successful programme. We know, we can see the evidence of that success, so I'm proud that we're committing to that programme into the future, and the opportunities to embed the work of Designed to Smile on the one hand with the opportunities in the curriculum on the other hand, I think is a really important part of closing that gap. I think the dental access portal also provides the kind of data that health boards will need to be able to target the resources, target the provision in a way that can help us together to close that gap.

Diolch i Lesley Griffiths am y cwestiynau yna a byddwn i'n cysylltu fy hun â'r pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud am bwysigrwydd cau'r bwlch hwnnw. Mae nifer o bwyntiau wedi'u gwneud am hynny heddiw, ac rwyf i wir yn credu ei fod yn hanfodol. Mae Cynllun Gwên yn dangos sut y mae modd gwneud hynny. Rwy'n credu eich bod chi wedi sôn am nifer yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen honno. Mae'r ffigurau a gafodd eu cyhoeddi'r llynedd yn dangos bod 1,176 o ysgolion a meithrinfeydd yn cymryd rhan, pob un ohonyn nhw mewn ardaloedd dan anfantais, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, a chafodd mwy na 203,000 o becynnau brwsio dannedd eu dosbarthu yn yr ardaloedd hynny yn y ffigurau y llynedd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n parhau â'r ffocws hwnnw ar y rhaglen honno. Mae'n rhaglen lwyddiannus. Rydym ni'n gwybod, gallwn ni weld y dystiolaeth o'r llwyddiant hwnnw, felly rwy'n falch ein bod ni’n ymrwymo i'r rhaglen honno yn y dyfodol, a'r cyfleoedd i ymgorffori gwaith Cynllun Gwên ar y naill law gyda'r cyfleoedd yn y cwricwlwm ar y llaw arall, rwy'n credu ei bod yn rhan bwysig iawn o gau'r bwlch hwnnw. Rwy'n credu bod y porth mynediad deintyddol hefyd yn rhoi'r math o ddata y bydd ei angen ar fyrddau iechyd i allu targedu'r adnoddau, targedu'r ddarpariaeth mewn ffordd a all ein helpu gyda'n gilydd i gau'r bwlch hwnnw.

Good afternoon, Cabinet Secretary, and thank you for your statement. I do welcome the focus on prevention, and this looks like it's a real social justice issue, and about tackling the real concerns that we have around the inequity of those poorer families who cannot access and have not the encouragement to be able to do those daily routines that we know really help them.

Thank you for that, but I just wondered if I could ask you about something else that affects our children, and that is wonky teeth. If you have really wonky teeth as a child then you are looking to get braces, and in Wales we have an incredible wait for orthodontic treatments. In October, Aneurin Bevan University Health Board highlighted waiting times of three to four years for orthodontic treatment, meaning some young people are spending nearly almost all of their adolescence actually waiting to get those braces, which then have to stay on for a number of months, if not longer, in order to try and address the issue. I raised the case previously of a 14-year-old who waited 18 months for NHS orthodontic treatment, travelling every day to Hereford. So, I wonder, Cabinet Secretary, if I could ask you that through perhaps the new dental health portal we are able to have some figures around waiting times for orthodontic treatment for our children and young people as well. Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch am eich datganiad. Rwy'n croesawu'r canolbwyntio ar atal, ac mae hyn yn edrych fel ei fod yn fater cyfiawnder cymdeithasol gwirioneddol, ac yn ymwneud â'r pryderon gwirioneddol sydd gennym ni ynglŷn ag annhegwch y teuluoedd tlotach hynny nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad ac nad oes ganddyn nhw'r anogaeth i allu gwneud y trefniadau dyddiol hynny yr ydyn ni'n gwybod eu bod yn eu helpu mewn gwirionedd.

Diolch am hynny, ond roeddwn i ond yn tybio a gaf i ofyn i chi am rywbeth arall sy'n effeithio ar ein plant ni, a hynny yw dannedd cam. Os oes gennych chi ddannedd cam iawn fel plentyn, yna gallwch ystyried fframiau dannedd, ac yng Nghymru mae gennym ni amseroedd aros anhygoel am driniaethau orthodontig. Ym mis Hydref, tynnodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sylw at amseroedd aros o dair i bedair blynedd am driniaeth orthodontig, sy'n golygu bod rhai pobl ifanc, mewn gwirionedd, yn treulio'u glasoed cyfan, bron â bod, yn aros i gael y fframiau hynny, sydd wedyn yn gorfod aros yn eu lle am nifer o fisoedd, os nad yn hirach, er mwyn ceisio ymdrin â'r mater. Codais achos plentyn 14 oed o'r blaen a oedd yn aros 18 mis am driniaeth orthodontig y GIG, gan deithio bob dydd i Henffordd. Felly, tybed, Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn i chi, drwy'r porth iechyd deintyddol newydd efallai, ein bod yn gallu cael rhai ffigurau ynghylch amseroedd aros ar gyfer triniaeth orthodontig i'n plant a'n pobl ifanc hefyd. Diolch yn fawr iawn.

I'm very grateful to Jane Dodds for that. As she will know, I have made a commitment previously to be publishing more information in relation to waiting times on a more granular basis, so I will take that particular point into consideration when we publish our transparency statement in the autumn. I should say that the figures published last year showed 10,100 orthodontic treatments, which is the second highest on record, after the previous year where nearly 10,700 treatments were started, so that is around a 10 per cent increase in activity compared to 10 years ago.

Obviously, we do not want anybody waiting too long for their treatment. One of the issues that we are identifying as we look at the granularity of some of those longer waits on the waiting lists is a pattern of early referral into orthodontic treatment before the intervention is best timed, if I can put it like that, in a very non-clinical way. The net effect of that is to make the waiting list appear longer than perhaps it should be. So, we will want to understand in more detail what's happening there. I don't for a second diminish the issue, but I think it's important to see the context of that as well.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Jane Dodds am hynna. Fel y bydd hi'n gwybod, rwyf i wedi gwneud ymrwymiad o'r blaen i gyhoeddi mwy o wybodaeth o ran amseroedd aros ar sail fwy manwl, felly, byddaf i'n ystyried y pwynt penodol hwnnw pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein datganiad tryloywder yn yr hydref. Dylwn i ddweud bod y ffigurau a gafodd eu cyhoeddi'r llynedd yn dangos 10,100 o driniaethau orthodontig, sef yr ail uchaf ar gofnod, ar ôl y flwyddyn flaenorol pan gafodd bron i 10,700 o driniaethau eu cychwyn, felly mae hynny'n gynnydd o tua 10 y cant mewn gweithgarwch o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.

Yn amlwg, nid ydyn ni eisiau i unrhyw un aros yn rhy hir am driniaeth. Un o'r materion yr ydyn ni'n eu nodi wrth i ni edrych ar fanylion rhai o'r amseroedd aros hirach hynny yw patrwm o atgyfeirio cynnar i driniaeth orthodontig cyn yr amser gorau ar gyfer yr ymyrraeth, os gallaf ei roi felly, mewn ffordd anghlinigol iawn. Yr effaith net o hynny yw gwneud i'r rhestr aros ymddangos yn hirach nag efallai y dylai fod. Felly, byddwn ni eisiau deall yn fwy manwl beth sy'n digwydd yno. Nid ydw i am eiliad yn lleihau pwysigrwydd y mater, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig gweld cyd-destun hynny hefyd.

15:30

Diolch yn fawr am y datganiad. Mae hi'n gywir, dwi'n meddwl, i roi'r pwyslais ar raglenni ataliol ym maes iechyd y geg, ac mae yna waith clodwiw yn digwydd. Ond mae un o bob pedwar o blant 12 oed yn debygol o fod angen triniaeth ddeintyddol, fel rydych chi'n ei nodi yn eich datganiad eich hun. Y gwir amdani ydy nad ydy mynediad at driniaeth ddeintyddol ar gael i bob plentyn o bell ffordd, efo plant o deuluoedd incwm isaf yn dioddef waethaf.

Mae'r diffyg yma mewn gwasanaethau deintyddol ar gyfer plant yn Arfon yn un o'r materion a ddaeth i'm sylw i flynyddoedd yn ôl erbyn hyn, ac yn un o'r rhesymau pam y gwnes i gomisiynu adroddiad annibynnol i edrych ar broblemau deintyddiaeth yn y gogledd. Mi ddaeth yr adroddiad, fel y gwyddoch chi, i'r casgliad bod sefydlu ysgol ddeintyddol i hyfforddi deintyddion y dyfodol yn y gogledd yn rhan allweddol o wella'r sefyllfa, gan gynnwys ar gyfer plant.

Felly, ydych chi'n cytuno, yn ogystal â phwysleisio'r gwaith ataliol, bod angen cynyddu gweithlu'r dyfodol, y gweithlu deintyddol hwnnw? Fedrwch chi roi diweddariad am lle mae'r Llywodraeth arni o ran ystyried yr achos busnes am ysgol ddeintyddol yn y gogledd, sydd wedi cael ei gyflwyno gan brifysgolion Bangor ac Aberystwyth?

Thank you very much for the statement. It is right, I think, to put the emphasis on preventative programmes when it comes to oral health, and there is laudable work being done. But one in four children aged 12 are likely to require dental treatment, as you note in your own statement. The truth is that access to dental treatment isn't available for every child by a long stretch, with children from low-income families suffering most.

This lack of dental services for children in Arfon is one of the issues that came to my attention years ago now, and it is one of the reasons why I commissioned an independent report to look at dental issues in north Wales. The report, as you will know, came to the conclusion that establishing a school of dentistry to train future dentists in north Wales is a key part of improving the situation, including for children.

So, do you agree that, as well as emphasising the preventative work, we need to increase the future workforce, that dental workforce? Can you give an update on where the Welsh Government is in considering the business case for a school of dentistry in north Wales, which has been put forward by Bangor and Aberystwyth universities?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llongyfarchiadau iddi hi am ei hymdrechion lobïo parhaus yn hynny o beth. Rwyf wedi darllen yr adroddiad, fel y mae'r Aelod yn gwybod, ac fe ges i gyfle i fod yn rhan fach o'r gynulleidfa ar gyfer y cyflwyniad y gwnaeth yr Aelod ei drefnu rai wythnosau yn ôl. Fel rwy'n deall, mae'r trafodaethau rhwng y prifysgolion a'r bwrdd iechyd yn parhau i fynd yn eu blaenau, ac mae'r trafodaethau yn digwydd i weld lle mae'r datblygiadau hynny. Mae'r Aelod yn gwybod fy mod i'n annog bod cydweithio'n digwydd. Does dim, ar hyn o bryd, cyllideb sydd ar gael i ariannu'r math o ddatblygiad sydd gan yr Aelod mewn golwg, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y cynnig yn datblygu fel ei fod e'n barod ar gyfer y cyfnod pan, rwy'n gobeithio, y bydd hynny'n gallu dod.

Fyddwn i ddim yn dweud fy hun mai'r her yw nad oes digon o ddeintyddion. Yr her greiddiol yw nad oes digon o'r deintyddion sydd gyda ni yn gwneud gwaith yn y gwasanaeth iechyd. Dyna sydd wrth gefn y diwygiadau pellach rŷn ni'n gobeithio eu cyflwyno, fel bod y cytundeb deintyddol yn fwy atyniadol i ddeintyddion allu darparu gwasanaethau yn y gwasanaeth iechyd. Dyna rŷn ni, yn sicr, eisiau ei weld, dyna rŷn ni'n gobeithio ei weld, ac rwy'n credu y gwnawn ni weld hynny. Bydd cyfle i gael trafodaeth bellach ar hynny pan fyddwn ni'n datgan canlyniad yr ymgynghoriad diweddar.

I thank the Member for that question. I congratulate her on her ongoing lobbying efforts in that regard. I have read the report, as the Member knows, and I had a short opportunity to be part of the audience for the presentation that the Member arranged some weeks ago. As I understand it, discussions between the health board and the universities are ongoing, and the negotiations are taking place to see where those developments are. The Member knows that I do encourage that collaboration takes place. At the moment, there is no budget available to fund the kind of development that the Member mentioned, but I do think it is important that the proposal is developed so that it is ready for a future time when that can, hopefully, be introduced.

I would not describe it myself as a challenge of there not being enough dentists. The core challenge is that not enough of the dentists that we have are doing work for the NHS. That is what underpins the further reforms that we hope to introduce, so that the dental contract is more attractive for dentists to be able to provide services within the NHS. That is what we, certainly, want to see, that is what we hope to see, and I think we will see that. There will be an opportunity to have further discussions on that when we see the result of the recent consultation.

Hoffwn i ategu'r llongyfarchiadau i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dwi wedi gweld gyda fy mhlant fy hun fudd y cynllun yma—mae ychydig llai o frwydr nawr yn y boreau a'r nosweithiau i frwsio dannedd y plant.

Mae'n broblem o hyd mewn rhai ardaloedd difreintiedig yng Nghaerdydd. Mae'n amhosib cael apwyntiad check-up cyson gyda'r gwasanaeth iechyd—dim ond apwyntiadau brys sy'n cael digwydd. Dŷch chi'n fwy ymwybodol na ni i gyd o deimladau cryf y deintyddion ynglŷn â'r contractau. Ro'n i'n cael check-up yr wythnos diwethaf, ac roedd y deintydd yn cael go arnaf fi, yn meddwl taw fy mai i oedd e. Roedd hi'n dweud ei bod hi'n gadael y gwasanaeth iechyd nawr oherwydd y cytundeb.

Ond i ategu sylwadau Joel James ynglŷn â'r deintydd teuluol yn dod i ben—eich bod chi'n methu mynd fel teulu cyfan at y deintydd—mae hynny'n mynd i gael ergyd ar deuluoedd. A hefyd y ffioedd gwahanol i blant. Roedd y deintydd ro'n i'n siarad â hi yn teimlo'n gryf iawn y dylai'r un ffi fod ar gyfer pob plentyn—nid bod rhai plant yn cael eu gweld yn fwy proffidiol na phlant eraill. Felly, sut ydych chi'n ymateb i hynny, Ysgrifennydd y Cabinet? Diolch yn fawr.

I would like to echo the congratulations to you, Cabinet Secretary. I have seen with my own children the benefits of this programme—there is a little less of a battle now in the mornings and the evenings in brushing the children's teeth.

There is a problem still in some disadvantaged areas in Cardiff. It is impossible to have a consistent check-up appointment with the NHS—only emergency appointments are offered. You will be more aware than any of us of the strong feelings of dentists about the contracts. I was having a check-up last week, and the dentist had a go at me, as if it were my fault. She said that she was leaving the health service now because of the contract.

But to echo the comments made by Joel James about the family dentist coming to an end—that you cannot go as a whole family to the dentist—that is going to have an impact on families. And, also, the different fees for children. The dentist I spoke to felt very strongly that the same fee should apply for every child—not that one group of children should be seen as more profitable than others. Therefore, how would you respond to that, Cabinet Secretary? Thank you.

Dwi ddim yn adnabod y feirniadaeth honno o'r cytundeb. Dwi'n credu bod rhai o'r beirniadaethau sydd wedi cael eu gwneud ar lefel ymgyrch i'r cytundeb yn gamarweiniol. Bydd cyfle gyda ni i edrych ar y manylion go iawn ar ôl i ni ddatgan canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw. Rwy'n sicr yn grediniol mai cyfrannu tuag at yr ateb mae'r cytundeb newydd yn ei wneud, nid gwneud y sefyllfa yn waeth.

I do not recognise that criticism of the contract. I think that some of the criticisms that have been set out in terms of the campaign on the contract are misleading. We will have an opportunity to look at the real details once we publish the results of that consultation. I am certainly convinced that the new contract will provide a solution, rather than make things worse.

15:35

Thank you very much for your statement, and your holistic approach to this really important preventative indicator, which is a really good indicator of deprivation, we know that. I strongly support your aligning this with the important consultation that the education Secretary is conducting on the content of school meals, because we obviously need to be serving healthy food in our schools. Will you be publishing the granular details so that we can see it school by school? Because the schools that have still got very high levels of tooth decay at aged 12 are clearly the ones that we perhaps need to concentrate on in examining the school food. What is the role of the health visitors in encouraging parents to only provide water or milk in bottles? Because fizzy drinks, or indeed juice in bottles, is absolutely toxic for teeth. Thank you very much indeed for maintaining this preventative approach.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, a'ch dull gweithredu cyfannol o ran y dangosydd ataliol pwysig iawn hwn, sy'n ddangosydd da iawn o ran amddifadedd, rydym ni'n gwybod hynny. Rwy'n cefnogi'n gryf eich bod yn gwneud hyn yn gydnaws â'r ymgynghoriad pwysig y mae'r Ysgrifennydd dros Addysg yn ei gynnal ar yr hyn sydd wedi'i gynnwys mewn prydau ysgol, oherwydd mae'n amlwg bod angen i ni fod yn gweini bwyd iach yn ein hysgolion ni. A fyddwch chi'n cyhoeddi'r manylion fel y gallwn ni eu gweld fesul ysgol? Oherwydd yr ysgolion sy'n parhau i fod â lefelau uchel iawn o bydredd dannedd ymhlith plant 12 oed yw'r rhai y mae angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw wrth archwilio'r bwyd ysgol. Beth yw rôl yr ymwelwyr iechyd wrth annog rhieni i ddarparu dim ond dŵr neu laeth mewn poteli? Oherwydd bod diodydd pefriog, neu'n wir, sudd mewn poteli, yn hollol wenwynig i ddannedd. Diolch yn fawr iawn am gynnal y dull gweithredu ataliol hwn.

I acknowledge Jenny Rathbone's continuing interest in this area and the work that she does in relation to the connection between food and health in many ways. As I touched on in my statement, alongside the continuing work of Designed to Smile, which engages both the education workforce and the health workforce in the way that she was acknowledging in her question, I think taking forward 'Healthy Weight: Healthy Wales', reducing sugar in our diets generally, specifically in the context of school, and those broader regulatory interventions about where supermarkets locate foods high in sugar and limiting and restricting those at the point of sale, are an important set of reforms that we've passed here as a Senedd. I think we will see the effects of those coming through in terms of health generally, but specifically in this context children's health. I will certainly be working closely with my colleague the Cabinet Secretary for Education to understand what more we can do to make sure that the work she is doing through the regulations she's consulting on and the work that I'm doing in my portfolio can be even more closely aligned for that purpose.

Rwy'n cydnabod diddordeb parhaus Jenny Rathbone yn y maes hwn a'r gwaith y mae hi'n ei wneud o ran y cysylltiad rhwng bwyd ac iechyd mewn sawl ffordd. Fel y cyfeiriais i ato yn fy natganiad, ochr yn ochr â gwaith parhaus Cynllun Gwên, sy'n ymgysylltu â'r gweithlu addysg a'r gweithlu iechyd yn y ffordd yr oedd hi'n ei chydnabod yn ei chwestiwn, rwy'n credu bod bwrw ymlaen â 'Pwysau Iach: Cymru Iach', lleihau siwgr yn ein deietau yn gyffredinol, yn benodol yng nghyd-destun ysgolion, a'r ymyriadau rheoleiddio ehangach hynny ynghylch ble mae archfarchnadoedd yn lleoli bwydydd sy'n uchel mewn siwgr, gan gyfyngu ar y rhain wrth y pwynt gwerthu, yn gyfres bwysig o ddiwygiadau yr ydyn ni wedi'u pasio yma fel Senedd. Rwy'n credu y byddwn ni'n gweld effeithiau'r rheini ar iechyd yn gyffredinol, ond yn benodol yn y cyd-destun iechyd plant hwn. Yn sicr, fe wnaf i weithio'n agos gyda fy nghyd-Ysgrifennydd, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ddeall beth arall y gallwn ni'i wneud i sicrhau y gall y gwaith y mae hi'n ei wneud drwy'r rheoliadau y mae hi'n ymgynghori arnyn nhw a'r gwaith yr ydw i'n ei wneud yn fy mhortffolio i fod yn fwy cydnaws â'i gilydd i'r diben hwnnw.

Thank you, Deputy Presiding Officer. Cabinet Secretary, can I welcome your statement today and the progress that's been made on this project? I think it's really positive, because we do see the link between oral health and overall health. If we can get our younger people healthier in their oral health, I'm sure their overall health will be better as they grow.

Two quick questions, Cabinet Secretary. This scheme goes from nought to seven. Are you looking to expand this in the future, maybe up to 10-year-olds, to actually close that gap? Because what we don't want to see is people getting to seven and then falling off a cliff edge in terms of their oral health. We want to make sure it goes right the way through. 

As my colleague Joel James said about the amount of missed appointments with young people, and especially children, I think that's something that needs to be addressed. What work is the Welsh Government doing to make sure that dentists can go out into schools, to make sure they actually go to the places where they are, so parents don't have to take their kids out of school, they can be seen there, which will make it a lot easier for those children to go to those appointments? Thank you, Deputy Presiding Officer.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i groesawu'ch datganiad heddiw a'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar y prosiect hwn? Rwy'n credu ei fod yn wirioneddol gadarnhaol, oherwydd rydym ni'n gweld y cysylltiad rhwng iechyd y geg ac iechyd cyffredinol. Os gallwn ni sicrhau bod pobl iau yn iachach o ran eu hiechyd y geg, rwy'n siŵr y bydd eu hiechyd cyffredinol yn well wrth iddyn nhw dyfu.

Dau gwestiwn cyflym, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cynllun hwn yn mynd o ddim i saith oed. Ydych chi'n ystyried ehangu hyn yn y dyfodol, efallai hyd at blant 10 oed, i gau'r bwlch hwnnw mewn gwirionedd? Oherwydd yr hyn nad ydyn ni eisiau'i weld yw pobl yn cyrraedd saith oed ac yna'n diflannu o ran eu hiechyd y geg. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ei fod yn parhau'r holl ffordd. 

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Joel James ynghylch faint o apwyntiadau pobl ifanc a gafodd eu colli, ac yn enwedig plant, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen ymdrin ag ef. Pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod deintyddion yn gallu mynd i ysgolion, i wneud yn siŵr eu bod yn mynd i'r lleoedd lle maen nhw, fel nad oes rhaid i rieni fynd â'u plant o'r ysgol, maen nhw'n cael eu gweld yno, a fydd yn ei gwneud hi'n haws o lawer i'r plant hynny fynd i'r apwyntiadau hynny? Diolch, Dirprwy Lywydd.

On the first point, the design of the programme is clinically led. What we know is that, if you can make sure that children's oral health is good at the age of five, then you're much more likely to be able to maintain that with older children and into adulthood. I think the opportunity for us is to extend the reach of Designed to Smile and make sure the coverage is as extensive as it can be so that it provides that support to as many children as possible. I think there is a broader conversation to be had about how we look at innovative, creative ways to make sure that that ongoing support is available from dentists to children of school age, and there are ongoing reflections on what more we can do in that space.

Ar y pwynt cyntaf, mae dyluniad y rhaglen yn cael ei arwain yn glinigol. Yr hyn yr ydyn ni'n ei wybod yw, os gallwch chi sicrhau bod iechyd y geg plant yn dda yn bump oed, yna rydych chi'n llawer mwy tebygol o allu cynnal hynny gyda phlant hŷn a phan fyddan nhw'n cyrraedd eu llawn dwf. Rwy'n credu mai'r cyfle i ni yw ymestyn cyrhaeddiad Cynllun Gwên, gan sicrhau bod y sylw mor helaeth ag y gall fod fel ei fod yn rhoi'r gefnogaeth honno i gymaint o blant â phosibl. Rwy'n credu bod sgwrs ehangach i'w chael o ran sut yr ydyn ni'n ystyried ffyrdd arloesol, creadigol o wneud yn siŵr bod y gefnogaeth barhaus honno ar gael gan ddeintyddion i blant oedran ysgol, a bod myfyrdodau parhaus ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn y maes hwnnw.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Dull Gweithredu o ran Cyllideb 2026-27
4. Statement by the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language: The Approach to the 2026-27 Budget

Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar y dull gweithredu o ran cyllideb 2026-27. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.

Item 4 is a statement by the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language on the approach to the 2026-27 budget. I call on the Cabinet Secretary, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch heddiw o roi diweddariad i'r Aelodau ar waith paratoi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2026-27. Yn ogystal â bodloni gofynion y Rheolau Sefydlog i roi amserlen ar gyfer gosod y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, byddaf hefyd yn nodi'r dull o weithio sy'n sail i'r amserlen honno wrth i ni baratoi ar gyfer y gyllideb olaf yn nhymor y Senedd hon. 

Ar 14 Hydref, bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi'r gyllideb ddrafft amlinellol. Bydd hon yn nodi'r dyraniadau ar lefel prif grŵp gwariant ar gyfer pob Ysgrifennydd Cabinet. Ar 3 Tachwedd, bydd y gyllideb ddrafft manwl yn cael ei chyhoeddi. Bydd hon yn nodi cynlluniau gwario ar lefel gwariant cyllidebol. Ar ôl gwaith craffu gan y Senedd hon, bydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi ar 20 Ionawr 2026. Bydd dadl a phleidlais yr wythnos ganlynol, ar 27 Ionawr. 

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. I'm pleased today to provide Members with an update on the Welsh Government's preparations for the 2026-27 budget. As well as meeting the requirements set out in Standing Orders to provide a timetable for laying the draft and final budgets, I will also set out the approach that underlies that timetable, as we prepare for what will be the final budget of this Senedd term. 

On 14 October, the Welsh Government will publish the outline draft budget. This will set out the MEG-level allocations for each Cabinet Secretary. On 3 November, the detailed draft budget will be published, and this will set out spending plans at budget expenditure level. Following scrutiny by this Senedd, the final budget will be published on 20 January 2026. A debate and vote will follow in the following week, on 27 January. 

Dirprwy Lywydd, this will be the sixth and final time in which I will have been involved in the challenging business of agreeing a budget in the final weeks of a Senedd term. I want to ensure that we provide a stable and reliable outcome for our public services and all who rely on them. I want to ensure that the next Senedd, that Senedd we have worked so hard to create, has the best possible platform from which to carry out its work and to make an early start on aligning budgets with priorities and the development of a new programme for government. Together with the funds I intend to carry forward through the Wales reserve, the approach I will outline this afternoon will ensure hundreds of millions of pounds will be available to get that new Senedd off not simply to a stable start, but an ambitious one.  

For these reasons, Dirprwy Lywydd, my colleagues and I will work to put in front of the Senedd a single-year budget. In other circumstances I would, of course, have very much liked to have laid a budget that would take advantage of the longer horizons made possible by last month’s comprehensive spending review. I don’t believe, however, that it would be democratically consistent for a Senedd in the final weeks of a five-year term to constrain the newly elected Parliament in that way. Those horizons lie beyond us. That opportunity will be for others to grasp. It is for those reasons that the Cabinet has decided to plan for a business-as-usual budget this autumn—a budget that restates into the next financial year the budget in place for the current financial year, with this year’s spending plans taken forward and increased only in line with inflation. This, therefore, will not be a budget that focuses on new priorities or fresh policies. That, I believe, will be for political parties to put before the Welsh electorate in their manifestos.

This approach, Dirprwy Lywydd is not the only possible course of action open to the Welsh Government. As ever, I remain open to the possibility of working with other political parties who believe a more ambitious budget could be agreed and are willing to work together to discuss shared priorities, and I am grateful whenever that takes place. In either case, however, the overriding responsibility, which I think is a shared responsibility, is to avoid the damage that would be caused by failure to pass a budget. The politically neutral approach I have set out this afternoon is an attempt to secure stability and certainty for our public services and for our constituents.  

There are some further and more detailed issues I need to set out today. While our block grant settlement makes up the majority of our funding, devolved taxes play an increasingly important role in how our budget is built. They provide crucial levers that have a direct impact on the funding available to deliver the priorities of the Government. As we discuss and debate the draft budget in the autumn, the devolved taxes forecast will change with the Office for Budget Responsibility's economic and fiscal outlook, which is published alongside the UK Government’s autumn budget. This is likely to affect the amount of funding we have available to spend. I say that because, in setting out today's timetable, it is likely that, once again, our draft budget will be published before the UK Government's autumn budget. Now, there is an inevitable awkwardness in that sequence, but our own budget process is well designed, and it's my intention to make provision within the draft budget to ensure that we can respond to any tax volatility and accommodate changes in the normal way through the final budget.

Dirprwy Lywydd, while I intend to lay a one-year budget in the autumn, that does not constrain our ability to plan for the longer term. I have written today to the Chair of the Finance Committee to discuss the development of a Bill to make improvements to devolved tax legislation. That Bill will be developed and consulted upon during the current Senedd term, but its introduction will be for the new Senedd. The Bill will be ready for that Bill to be put in front of that Senedd in its first term.

Secondly, the work of the Welsh spending review is now a key part of our budgetary process and it is the place where we consider how we approach future years and respond to the settlement from the UK Government. Any new government will benefit from work currently under way on the review, which will be key to informing decisions of any incoming government. The review looks at the effectiveness of spending decisions through a cross-Government lens, with a focus on the challenges and opportunities to be faced over the longer term and options for how they could be addressed. The review is not just about spending, but about ways in which we can make the most of our resources, by considering all of the fiscal levers available to us, maximising our spending envelope. That work will continue through and beyond this Senedd term.

Finally, Dirprwy Lywydd, I want to touch on our approach to assessing the impact our budgetary decisions have on people across Wales. As Members may be aware, we have been undertaking a review of the strategic integrated impact assessment that is published alongside the budget. The review has identified a number of improvements that can be made, both the way we undertake the assessment and how we publish its results in a way that is accessible to the reader. We will therefore be trialling a new approach this year, and I will write to the Finance Committee and the budget improvement and impact advisory group in the next few weeks inviting them to work with us over the summer further to develop this essential part of our budget process.

Dirprwy Lywydd, dyma'r chweched tro a'r tro olaf y byddaf wedi bod yn rhan o'r busnes heriol o gytuno ar gyllideb yn wythnosau olaf tymor y Senedd. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn darparu canlyniad sefydlog a dibynadwy i'n gwasanaethau cyhoeddus a phawb sy'n dibynnu arnynt. Rwyf eisiau sicrhau bod gan y Senedd nesaf, y Senedd honno yr ydym wedi gweithio mor galed i'w chreu, y llwyfan gorau posibl i gyflawni ei gwaith ac i ddechrau'n gynnar ar alinio cyllidebau â blaenoriaethau a datblygu rhaglen lywodraethu newydd. Ynghyd â'r arian yr wyf yn bwriadu ei gario ymlaen drwy gronfa wrth gefn Cymru, bydd y dull y byddaf yn ei amlinellu y prynhawn yma yn sicrhau y bydd cannoedd o filiynau o bunnau ar gael i ddechrau'r Senedd newydd honno mewn modd sydd nid yn unig yn sefydlog, ond yn uchelgeisiol.

Am y rhesymau hyn, Dirprwy Lywydd, bydd fy nghyd-Aelodau a minnau yn gweithio i roi cyllideb un flwyddyn ger bron y Senedd. Mewn amgylchiadau eraill, byddwn i, wrth gwrs, wedi hoffi gosod cyllideb a fyddai'n manteisio ar y gorwelion hirach a wnaed yn bosibl gan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant y mis diwethaf. Nid wyf yn credu, fodd bynnag, y byddai'n ddemocrataidd gyson i Senedd yn wythnosau olaf tymor pum mlynedd gyfyngu'r Senedd newydd ei hethol yn y modd hwnnw. Mae'r gorwelion hynny'n gorwedd y tu hwnt i ni. Bydd y cyfle hwnnw ar gael i eraill fanteisio arno. Am y rhesymau hynny y mae'r Cabinet wedi penderfynu cynllunio ar gyfer cyllideb busnes fel arfer yr hydref hwn—cyllideb sy'n ailddatgan i'r flwyddyn ariannol nesaf y gyllideb sydd ar waith ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, gyda chynlluniau gwariant eleni yn cael eu bwrw ymlaen a'u cynyddu yn unol â chwyddiant yn unig. Felly, ni fydd hon yn gyllideb sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau newydd neu bolisïau newydd. Bydd y rheiny, rwy'n credu, i bleidiau gwleidyddol eu rhoi gerbron etholwyr Cymru yn eu maniffestos.

Nid y dull hwn, Dirprwy Lywydd, yw'r unig ffordd bosibl o weithredu sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Fel bob amser, rwy'n parhau i fod yn agored i'r posibilrwydd o weithio gyda phleidiau gwleidyddol eraill sy'n credu y gellid cytuno ar gyllideb fwy uchelgeisiol ac sy'n barod i weithio gyda'i gilydd i drafod blaenoriaethau a rennir, ac rwy'n ddiolchgar pryd bynnag y mae hynny'n digwydd. Yn y naill achos neu'r llall, fodd bynnag, y cyfrifoldeb pennaf, sy'n fy marn i yn gyfrifoldeb a rennir, yw osgoi'r niwed a fyddai'n cael ei achosi drwy fethu â phasio cyllideb. Mae'r dull gwleidyddol niwtral yr wyf wedi'i nodi y prynhawn yma yn ymgais i sicrhau sefydlogrwydd a sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus ac i'n hetholwyr.

Mae yna rai materion pellach a mwy manwl y mae angen i mi eu nodi heddiw. Er bod ein setliad grant bloc yn ffurfio'r mwyafrif o'n cyllid, mae trethi datganoledig yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y ffordd y mae ein cyllideb yn cael ei hadeiladu. Maent yn darparu ysgogiadau hanfodol sy'n cael effaith uniongyrchol ar y cyllid sydd ar gael i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth. Wrth i ni drafod a dadlau'r gyllideb ddrafft yn yr hydref, bydd y rhagolwg trethi datganoledig yn newid gyda rhagolygon economaidd a chyllidol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, sy'n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb hydref Llywodraeth y DU. Mae hyn yn debygol o effeithio ar faint o gyllid sydd gennym ar gael i'w wario. Rwy'n dweud hynny oherwydd, wrth nodi'r amserlen heddiw, mae'n debygol y bydd ein cyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi unwaith eto cyn cyllideb hydref Llywodraeth y DU. Nawr, mae lletchwithdod anochel yn y dilyniant hwnnw, ond mae ein proses gyllideb ein hunain wedi'i chynllunio'n dda, a'm bwriad yw gwneud darpariaeth o fewn y gyllideb ddrafft i sicrhau y gallwn ymateb i unrhyw anwadalrwydd treth a darparu ar gyfer newidiadau yn y ffordd arferol trwy'r gyllideb derfynol.

Dirprwy Lywydd, er fy mod yn bwriadu gosod cyllideb blwyddyn yn yr hydref, nid yw hynny'n cyfyngu ar ein gallu i gynllunio ar gyfer y tymor hwy. Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i drafod datblygu Bil i wneud gwelliannau i ddeddfwriaeth dreth ddatganoledig. Bydd y Bil hwnnw'n cael ei ddatblygu a bydd yn destun ymgynghoriad yn ystod tymor y Senedd bresennol, ond y Senedd newydd fydd yn ei gyflwyno. Bydd y Bil yn barod i'r Bil hwnnw gael ei roi ger bron y Senedd honno yn ei thymor cyntaf.

Yn ail, mae gwaith adolygiad gwariant Cymru bellach yn rhan allweddol o'n proses gyllideb a dyma'r man lle rydym yn ystyried beth fydd ein dull gweithredu o ran y blynyddoedd i ddod a sut byddwn yn ymateb i'r setliad gan Lywodraeth y DU. Bydd unrhyw lywodraeth newydd yn elwa ar y gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar yr adolygiad, a fydd yn allweddol i lywio penderfyniadau unrhyw lywodraeth sy'n dod i mewn. Mae'r adolygiad yn edrych ar effeithiolrwydd penderfyniadau gwariant trwy lens draws-lywodraethol, gyda phwyslais ar yr heriau a'r cyfleoedd sydd i'w hwynebu dros y tymor hwy ac opsiynau ar gyfer sut y gellid mynd i'r afael â nhw. Mae'r adolygiad nid yn ymwneud â gwariant yn unig, ond mae'n ymwneud â sut y gallwn wneud y gorau o'n hadnoddau, trwy ystyried yr holl ysgogiadau cyllidol sydd ar gael i ni, gan wneud y mwyaf o'n hamlen wariant. Bydd y gwaith hwnnw'n parhau drwy dymor y Senedd hon a thu hwnt.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn grybwyll ein dull o asesu'r effaith y mae ein penderfyniadau cyllidebol yn ei chael ar bobl ledled Cymru. Fel efallai y mae Aelodau yn ymwybodol ohono, rydym wedi bod yn cynnal adolygiad o'r asesiad effaith integredig strategol sy'n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r gyllideb. Mae'r adolygiad wedi nodi nifer o welliannau y gellir eu gwneud, y ffordd yr ydym yn cynnal yr asesiad a sut rydym yn cyhoeddi ei ganlyniadau mewn ffordd sy'n hygyrch i'r darllenydd. Byddwn felly yn treialu dull newydd eleni, a byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid a'r grŵp cynghori ar wella ac effaith y gyllideb yn ystod yr wythnosau nesaf yn eu gwahodd i weithio gyda ni dros yr haf i ddatblygu'r rhan hanfodol hon o'n proses gyllideb ymhellach.

Rwy'n falch fy mod i heddiw wedi gallu rhannu manylion sylweddol am y ffordd y byddwn yn mynd ati gyda'r gyllideb hon. Mae hyn yn llawer cynt yn ystod y cylch nag sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diweddar. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau cynnar gydag Aelodau o'r holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd hon, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwnnw. Byddaf i nawr yn dechrau'r gwaith paratoi manwl ar gyfer cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ac yn edrych ymlaen at gyflwyno hon i chi ym mis Hydref. 

I am pleased that I have today been able to share significant details about our approach to this budget. This is at a much earlier point in the cycle than in recent years. I have already had early discussions with Members of all political parties represented in the Senedd, and I'm grateful for that opportunity to engage. I will now begin the detailed preparations for the publication of the draft budget and I look forward to presenting this to you in October.

15:45

I'm grateful to the Cabinet Secretary for the statement here this afternoon and also grateful for the engagement earlier today, giving notice of the content of the statement before us. I'm aware, of course, that there is a technical element to what has been presented to us, but I certainly welcome the earlier-than-usual timeline for the budget milestones to be presented to the Senedd. I recognise, of course, that the driver for this is next year's Senedd elections. 

I think that it's probably fair to say that the meat of the statement that we've heard from the Cabinet Secretary today is pretty unprecedented and actually very significant. And I'll quote in particular, towards the start of the statement we've heard here today, which is that the Cabinet Secretary said:

'It is for those reasons',

referring to the end of the Senedd term,

'that the Cabinet has decided to plan for a business-as-usual budget this autumn—a budget that restates into the next financial year the budget in place for the current financial year, with this year’s spending plans...increased...in line with inflation. This...will not be a budget that focuses on new priorities or fresh policies.'

I'm not sure that a Senedd Chamber has heard words in line with that before for what is essentially a roll-over budget, and I certainly recognise there is a laudable and well-meaning element to that, to not tie the hands of the next Government, but of course this hasn't been a concern in the past of a Government presenting a budget or a budget plan.

The truth is that we know that what has been presented is a reflection of the political reality that the Government finds itself in, and particularly the Labour Party is working within. We know there is significant risk of this budget not passing when it is presented to the Senedd, because, of course, we know the Government does not have the numbers necessary to pass a budget—previously supported by Plaid Cymru and most recently supported by the Liberal Democrats to ensure a budget is passed. There is clearly a risk that does not take place this time round.

But I think what's been presented to us this afternoon is also an acknowledgement that there is a real risk of Labour not being in Government after the next Senedd election, and we know there's good reason for this. We're aware of the record waiting lists that have plagued our hospitals. We're aware of some of the worst education outcomes that students are having to work with. [Interruption.] We're aware of a change of electoral system, which, of course, Mike Hedges, you've supported wholeheartedly, I'm sure. And we're also aware that we have the smallest pay packets in Great Britain as well—all reasons why a Labour Party and Government is clearly uncertain of the electoral outcome next May.

We would say that Wales needs a new approach, one that has a relentless focus on fixing the problems that we see in front of us here in Wales, an approach that puts respect for public money at the centre of all decisions made by a Welsh Government. We want to see an end to the vanity projects that this Labour Government has time and time again trotted out. [Interruption.] I do have a question. We would want to see a respect—

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma y prynhawn yma a hefyd yn ddiolchgar am yr ymgysylltiad yn gynharach heddiw, gan roi rhybudd o gynnwys y datganiad ger ein bron. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, bod elfen dechnegol i'r hyn sydd wedi'i gyflwyno i ni, ond rwy'n sicr yn croesawu'r amserlen gynharach na'r arfer ar gyfer cerrig milltir y gyllideb i'w cyflwyno i'r Senedd. Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, mai'r sbardun ar gyfer hyn yw etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

Rwy'n credu ei bod yn debygol o fod yn deg dweud bod swmp y datganiad rydym ni wedi'i glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw yn eithaf digynsail ac mewn gwirionedd yn arwyddocaol iawn. Ac fe ddyfynnaf yn benodol, tua dechrau'r datganiad rydym ni wedi'i glywed yma heddiw, sef bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud:

'Am y rhesymau hynny',

gan gyfeirio at ddiwedd tymor y Senedd,

'y mae'r Cabinet wedi penderfynu cynllunio ar gyfer cyllideb busnes fel arfer yr hydref hwn—cyllideb sy'n ailddatgan i'r flwyddyn ariannol nesaf y gyllideb sydd ar waith ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, gyda chynlluniau gwariant eleni yn cael eu...cynyddu yn unol â chwyddiant...ni fydd hon yn gyllideb sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau newydd na pholisïau newydd.'

Nid wyf yn siŵr bod Siambr y Senedd wedi clywed geiriau fel yna o'r blaen ar gyfer yr hyn sydd yn ei hanfod yn gyllideb dreigl, ac rwy'n sicr yn cydnabod bod elfen ganmoladwy â bwriadau da i hynny, i beidio â chlymu dwylo'r Llywodraeth nesaf, ond wrth gwrs nid yw hyn wedi bod yn bryder yn y gorffennol i Lywodraeth yn cyflwyno cyllideb neu gynllun cyllideb.

Y gwir yw ein bod ni'n gwybod bod yr hyn sydd wedi'i gyflwyno yn adlewyrchiad o'r realiti gwleidyddol y mae'r Llywodraeth yn ei chael ei hun ynddo, ac yn enwedig realiti y mae'r Blaid Lafur yn gweithio ynddo. Gwyddom fod perygl sylweddol na fydd y gyllideb hon yn pasio pan gaiff ei chyflwyno i'r Senedd, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn gwybod nad oes gan y Llywodraeth y niferoedd angenrheidiol i basio cyllideb—a gefnogwyd yn flaenorol gan Blaid Cymru ac yn fwyaf diweddar a gefnogwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol i sicrhau bod cyllideb yn cael ei phasio. Mae'n amlwg bod risg nad yw'n digwydd y tro hwn.

Ond rwy'n credu bod yr hyn sydd wedi'i gyflwyno i ni y prynhawn yma hefyd yn gydnabyddiaeth bod yna berygl gwirioneddol na fydd Llafur yn Llywodraethu ar ôl etholiad nesaf y Senedd, ac rydym yn gwybod bod rheswm da am hyn. Rydym yn ymwybodol o'r rhestrau aros hanesyddol sydd wedi plagio ein hysbytai. Rydym yn ymwybodol o rai o'r canlyniadau addysg gwaethaf y mae myfyrwyr yn gorfod gweithio gyda nhw. [Torri ar draws.] Rydym ni'n ymwybodol o newid yn y system etholiadol, yr ydych chi wrth gwrs, Mike Hedges, wedi'i gefnogi'n llwyr, rwy'n siŵr. Ac rydym hefyd yn ymwybodol bod gennym y cyflogau lleiaf ym Mhrydain Fawr hefyd—i gyd yn rhesymau pam y mae Plaid Lafur a Llywodraeth Lafur yn amlwg yn ansicr o ganlyniad yr etholiad fis Mai nesaf.

Byddem ni'n dweud bod angen dull newydd ar Gymru, un sy'n canolbwyntio'n ddi-baid ar ddatrys y problemau a welwn o'n blaenau yma yng Nghymru, dull sy'n rhoi parch i arian cyhoeddus wrth wraidd pob penderfyniad a wneir gan Lywodraeth Cymru. Rydym eisiau gweld diwedd ar y prosiectau gwagedd y mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi'u cyflwyno dro ar ôl tro. [Torri ar draws.] Mae gen i gwestiwn. Byddem eisiau gweld parch—

15:50

[Inaudible.]—five minutes to ask his questions.

[Anghlywadwy.]—pum munud i ofyn ei gwestiynau.

Thank you, Deputy Presiding Officer. We would want to see respect for public money, and we would see Welsh Conservatives prioritising public services that benefit people across Wales, as well as creating an environment attractive to business and to economic growth. I know the Cabinet Secretary is not looking for any sort of sympathy, but I expect his position and the position of the Labour Party at the moment in Wales is not helped by the chaos we're seeing at Westminster with Keir Starmer, Rachel Reeves and the UK Labour Government—another u-turn on the cards yet again, a welfare Bill that's not fit for purpose, borrowing levels rocketing, causing some of the lowest levels of business confidence that we've seen in far too long.

So, we've been presented with a message that next year's budget will be a replication of what we've had this year. I believe that that's an admission of fragility and loss of authority by the Labour Party here in Wales. So, my question, Cabinet Secretary, is: what assurances can you provide to those sectors with a roll-over budget that when they face real challenges into the next financial year, and those financial inflections, those challenges won't be ignored with a roll-over budget, and there will be acknowledgement of additional support when required? Diolch yn fawr. [Interruption.] Thank you.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddem eisiau gweld parch i arian cyhoeddus, a byddem yn gweld Ceidwadwyr Cymreig yn blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus sydd o fudd i bobl ledled Cymru, yn ogystal â chreu amgylchedd deniadol i fusnesau ac i dwf economaidd. Rwy'n gwybod nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn chwilio am unrhyw fath o gydymdeimlad, ond rwy'n disgwyl nad yw ei sefyllfa ef a sefyllfa'r Blaid Lafur ar hyn o bryd yng Nghymru yn cael ei helpu gan yr anhrefn rydym ni'n ei weld yn San Steffan gyda Keir Starmer, Rachel Reeves a Llywodraeth Lafur y DU—tro pedol arall ar y gweill unwaith eto, Bil lles nad yw'n addas i'r diben, lefelau benthyca yn codi'n sylweddol, gan achosi rhai o'r lefelau isaf o hyder busnes yr ydym wedi'u gweld ers tro byd.

Felly, rydym wedi cael neges y bydd cyllideb y flwyddyn nesaf yn atgynhyrchiad o'r hyn rydym ni wedi'i gael eleni. Rwy'n credu bod hynny'n gyfaddefiad o freuder a cholli awdurdod gan y Blaid Lafur yma yng Nghymru. Felly, fy nghwestiwn, Ysgrifennydd Cabinet, yw: pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r sectorau hynny gyda chyllideb dreigl pan fyddant yn wynebu heriau gwirioneddol wrth fynd i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf, a'r ffurfdroadau ariannol hynny, ni fydd yr heriau hynny'n cael eu hanwybyddu gyda chyllideb dreigl, a bydd cydnabyddiaeth o gymorth ychwanegol pan fydd angen? Diolch yn fawr. [Torri ar draws.] Diolch.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Well, I was glad to hear the Member welcome the timetable. It shouldn't be any surprise to anybody that a budget in front of the Senedd reflects the political realities of the times. That's what Governments have to do, and I am, as Sam Rowlands said, acutely aware of the risk of a budget not passing. I'm acutely aware of it because of the catastrophic impact that that would have on our public services and on Welsh citizens, because parties that vote against a budget on the floor of this Senedd would in those circumstances be voting for a budget in which our public services would have to manage with only 75 per cent of the budget available to them in this year, and if you imagine what that would mean in the practical realities of planning for our local government services, services in education, social services and children's services, and in the health service, then you can see how catastrophic that would be. The Cabinet's decision to embark on an approach to this budget that is a restatement of this year's budget is designed to maximise the chances that that risk can be avoided. It is a responsible response to the end of a Senedd term, the imminence of an election, the pressures that that places on all political parties.

Now, of course I expect that the money that will be made available to an incoming Government through this strategy will be there for the Labour Party and the next Labour Government to be able to match with the priorities that we as a party will put in front of the public. I recognise Sam Rowlands is warning about the uncertainty of electoral outcomes, and he comes from a party that has plenty of experience of that, particularly in recent times. I think that this budget does provide the assurance that we can give to our public services, and it is certainly a greater assurance than would be there if parties in this Chamber were to choose to vote down that budget, with all the consequences that would come from that.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, roeddwn yn falch o glywed yr Aelod yn croesawu'r amserlen. Ni ddylai fod yn syndod i unrhyw un bod cyllideb ger bron y Senedd yn adlewyrchu realiti gwleidyddol y cyfnod. Dyna beth mae'n rhaid i Lywodraethau ei wneud, ac rwyf i, fel y dywedodd Sam Rowlands, yn ymwybodol iawn o'r risg o beidio â phasio cyllideb. Rwy'n ymwybodol iawn ohono oherwydd yr effaith drychinebus y byddai hynny'n ei chael ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar ddinasyddion Cymru, oherwydd byddai pleidiau sy'n pleidleisio yn erbyn cyllideb ar lawr y Senedd hon yn yr amgylchiadau hynny yn pleidleisio dros gyllideb lle byddai'n rhaid i'n gwasanaethau cyhoeddus reoli gyda dim ond 75 y cant o'r gyllideb ar gael iddynt eleni, ac os ydych chi'n dychmygu beth fyddai hynny'n ei olygu i realiti ymarferol cynllunio ar gyfer ein gwasanaethau llywodraeth leol, gwasanaethau mewn addysg, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau plant, ac yn y gwasanaeth iechyd, yna gallwch weld pa mor drychinebus fyddai hynny. Mae penderfyniad y Cabinet i fabwysiadu dull ar gyfer y gyllideb hon sy'n ailddatganiad o gyllideb eleni wedi'i gynllunio i sicrhau'r siawns gorau y gellir osgoi'r risg honno. Mae'n ymateb cyfrifol i ddiwedd tymor y Senedd, agosrwydd etholiad, y pwysau y mae hynny yn eu rhoi ar bob plaid wleidyddol.

Nawr, wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd yr arian a fydd ar gael i Lywodraeth newydd drwy'r strategaeth hon yno er mwyn i'r Blaid Lafur ac i'r Llywodraeth Lafur nesaf allu cyd-fynd â'r blaenoriaethau y byddwn ni fel plaid yn eu rhoi ger bron y cyhoedd. Rwy'n cydnabod bod Sam Rowlands yn rhybuddio am ansicrwydd canlyniadau etholiadol, ac mae'n dod o blaid sydd â digon o brofiad o hynny, yn enwedig yn ddiweddar. Rwy'n credu bod y gyllideb hon yn darparu'r sicrwydd y gallwn ei roi i'n gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n bendant yn rhoi mwy o sicrwydd nag y byddai ar gael pe bai pleidiau yn y Siambr hon yn dewis pleidleisio yn erbyn y gyllideb honno, gyda'r holl ganlyniadau a fyddai'n dod yn sgil hynny.

15:55

I'm grateful to the Cabinet Secretary for the advance meeting as well, cross-party, so that we were aware of the approach being put before us today. We note that approach. Obviously, it is the role and responsibility of Welsh Government to develop and publish spending plans, but also to ensure that those are passed. Various approaches are proposed today, and we will take our role seriously as a political party to scrutinise those plans and also consider what the implications are. Obviously, we did those carefully. For the last budget, the shortfalls were noted then in terms of local government, for instance, and the amount of times Members across political parties have raised concerns over national insurance contributions. We note the approach that had to be taken by Welsh Government this time in terms of the Welsh reserve, but also in terms of the continued impact on third sector organisations and charities. We know, I'm sure, each of us, of examples in our constituencies of organisations that do crucial work supporting Welsh Government priorities, and yet are facing, perhaps, closure, so will be concerned and looking to next year's budget to see if they can survive or not, having had to either lessen the services they provide—. I know of members of staff, perhaps, who have worked for some charity or third sector organisations for 20 years or more that are no longer in post, and services being reduced at a time when so many people are struggling. Obviously, with the vote in Westminster today in terms of welfare, that will be something that a number of charities are warning about in terms of pressures on them. So, the national insurance issue is still very much a live one, and one that does have ramifications for our budget here in Wales.

The other thing that has ramifications, of course, is the u-turn that we've seen. Obviously, the spending review was based on those billions of pounds saved through welfare. Obviously, we welcome the u-turn, though we don't believe it's the right u-turn in terms of that two-tier approach. But it does beg the question in terms of that spending review and what it means for Wales, and I wonder if there have been any further discussions or indication to the Welsh Government if there will be implications to what's been announced to date. I don't need to rehearse, I'm sure, the arguments that we put forward last week in terms of a fair funding model for Wales, the shortcomings that we see in terms of the spending review in terms of the rail funding. Devolution of the Crown Estate: I was disappointed to hear the First Minister's response to Rhun ap Iorwerth's question earlier today, which asked, quite fairly, I think: what's your next move? I don't think she's going to find that answer in Switzerland. Certainly, we need to know how things are going to progress in terms of securing funding and that we're able to ensure that our Welsh Government budget is maximised by being able to benefit from our natural resources. So, these are all questions that have been very much alive in our minds, in the minds of those that receive funding, public sector organisations, and, as I said, charities and third sector. So, we note the approach outlined today, and we look forward to the scrutiny process.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am y cyfarfod ymlaen llaw hefyd, yn drawsbleidiol, fel ein bod yn ymwybodol o'r dull sy'n cael ei roi ger ein bron ni heddiw. Rydym yn nodi'r dull hwnnw. Yn amlwg, rôl a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw datblygu a chyhoeddi cynlluniau gwariant, ond hefyd i sicrhau bod y rheini yn cael eu pasio. Mae gwahanol ddulliau yn cael eu cynnig heddiw, a byddwn yn cymryd ein rôl o ddifrif fel plaid wleidyddol i graffu ar y cynlluniau hynny a hefyd ystyried beth yw'r goblygiadau. Yn amlwg, gwnaethom y rheini yn ofalus. Ar gyfer y gyllideb ddiwethaf, nodwyd y diffygion bryd hynny o ran llywodraeth leol, er enghraifft, a faint o weithiau mae Aelodau ar draws pleidiau gwleidyddol wedi codi pryderon am gyfraniadau yswiriant gwladol. Rydym yn nodi'r dull a oedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ei fabwysiadu y tro hwn o ran cronfa wrth gefn Cymru, ond hefyd o ran yr effaith barhaus ar sefydliadau ac elusennau'r trydydd sector. Rydym yn gwybod, rwy'n siŵr, pob un ohonom, am enghreifftiau yn ein hetholaethau o sefydliadau sy'n gwneud gwaith hanfodol yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac eto sy'n wynebu, efallai, cau, felly byddwn yn pryderu ac yn edrych ar gyllideb y flwyddyn nesaf i weld a allant oroesi ai peidio, ar ôl gorfod naill ai lleihau'r gwasanaethau y maent yn eu darparu—. Rwy'n gwybod am aelodau o staff, efallai, sydd wedi gweithio i ryw elusen neu sefydliadau trydydd sector ers 20 mlynedd neu fwy nad ydynt bellach mewn swydd, a gwasanaethau yn cael eu lleihau ar adeg pan fo cymaint o bobl yn cael trafferthion. Yn amlwg, gyda'r bleidlais yn San Steffan heddiw o ran lles, bydd hynny'n rhywbeth y mae nifer o elusennau yn rhybuddio amdano o ran pwysau arnynt. Felly, mae'r mater yswiriant gwladol yn dal i fod yn un byw iawn, ac yn un sydd â goblygiadau i'n cyllideb yma yng Nghymru.

Y peth arall sydd â goblygiadau, wrth gwrs, yw'r tro pedol rydym ni wedi'i weld. Yn amlwg, roedd yr adolygiad gwariant yn seiliedig ar y biliynau hynny o bunnau a arbedwyd trwy les. Yn amlwg, rydym yn croesawu'r tro pedol, er nad ydym yn credu mai dyma'r tro pedol cywir o ran y dull dwy haen hwnnw. Ond mae'n codi'r cwestiwn o ran yr adolygiad gwariant hwnnw a beth mae'n ei olygu i Gymru, ac rwy'n meddwl tybed a fu unrhyw drafodaethau pellach neu arwydd i Lywodraeth Cymru a fydd goblygiadau i'r hyn sydd wedi'i gyhoeddi hyd yn hyn. Nid oes angen i mi ailadrodd, rwy'n siŵr, y dadleuon a gyflwynwyd gennym yr wythnos diwethaf o ran model cyllido teg i Gymru, y diffygion a welwn o ran yr adolygiad gwariant o ran y cyllid rheilffyrdd. Datganoli Ystad y Goron: roeddwn i'n siomedig o glywed ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn Rhun ap Iorwerth yn gynharach heddiw, a ofynnodd, yn eithaf teg, rwy'n meddwl: beth yw eich cam nesaf? Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi'n mynd i ddod o hyd i'r ateb hwnnw yn y Swistir. Yn sicr, mae angen i ni wybod sut mae pethau'n mynd er mwyn symud ymlaen o ran sicrhau cyllid a'n bod yn gallu sicrhau bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn elwa i'r eithaf ar ein hadnoddau naturiol. Felly, mae'r rhain i gyd yn gwestiynau sydd wedi bod yn fyw iawn yn ein meddyliau, ym meddyliau'r rhai sy'n derbyn cyllid, sefydliadau'r sector cyhoeddus, ac, fel y dywedais, elusennau a'r trydydd sector. Felly, rydym yn nodi'r dull a amlinellwyd heddiw, ac edrychwn ymlaen at y broses graffu.

16:00

Diolch yn fawr i Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd.

Thank you very much to Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd.

I thank the Member for finding time to have that meeting in advance of today's statement. I have had the first opportunity for those further discussions to which she referred. I was at the FISC meeting on Thursday of last week. The approach to the autumn budget was discussed there with colleagues from Northern Ireland and from Scotland, and an agreement made about further meetings of the FISC so that the views of devolved Governments and the challenges that we face can be fully communicated to the Treasury in their path to the autumn budget. I agree with what the Member said about maximising the budget available to the Welsh Government and to the Senedd in setting a budget for next year. That's why I referred in my statement to the importance of devolved taxes and the plan for that as part of our strategy towards the autumn.

I would probably want to say, gently, to the Member, that it is the responsibility of the Welsh Government to place a budget before the Senedd, and it is a responsibility of the Welsh Government to do everything that we can to present a budget that can succeed through the Senedd. But, in the end, it is the Senedd that votes on the budget, not the Welsh Government. The responsibility in that sense is genuinely a shared one, and that's why I've tried to set out an approach this afternoon that would allow this Senedd, as a whole, in its final weeks, to ensure that we pass on to the Senedd that comes after us a budget that is in good order and gives that new Senedd the best opportunity we can to be able to make a good start on its priorities with a budget there to do it, and without the burning platform that it would inherit if we were to fail to pass a budget in the last weeks of this Senedd term.

Diolch i'r Aelod am neilltuo amser i gael y cyfarfod hwnnw cyn y datganiad heddiw. Rwyf wedi cael y cyfle cyntaf ar gyfer y trafodaethau pellach hynny y cyfeiriodd atynt. Roeddwn i yng nghyfarfod Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid (FISC) ddydd Iau yr wythnos diwethaf. Trafodwyd y dull ar gyfer cyllideb yr hydref yno gyda chydweithwyr o Ogledd Iwerddon ac o'r Alban, a gwnaed cytundeb ynghylch cyfarfodydd pellach o'r FISC fel y gellir cyfleu barn Llywodraethau datganoledig a'r heriau sy'n ein hwynebu yn llawn i'r Trysorlys ar eu llwybr i gyllideb yr hydref. Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am fanteisio i'r eithaf ar y gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd wrth osod cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dyna pam y cyfeiriais yn fy natganiad at bwysigrwydd trethi datganoledig a'r cynllun ar gyfer hynny fel rhan o'n strategaeth tuag at yr hydref.

Mae'n debyg y byddwn eisiau dweud, yn dawel, wrth yr Aelod, ei bod yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i roi cyllideb gerbron y Senedd, ac mae'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth y gallwn i gyflwyno cyllideb a all lwyddo drwy'r Senedd. Ond, yn y diwedd, y Senedd sy'n pleidleisio ar y gyllideb, nid Llywodraeth Cymru. Mae'r cyfrifoldeb yn yr ystyr hwnnw yn wirioneddol un a rennir, a dyna pam yr wyf i wedi ceisio gosod dull y prynhawn yma a fyddai'n caniatáu i'r Senedd hon, yn ei chyfanrwydd, yn ei hwythnosau olaf, sicrhau ein bod yn trosglwyddo cyllideb sydd mewn trefn dda i'r Senedd sy'n dod ar ein hôl hi ac sy'n rhoi'r cyfle gorau posibl i'r Senedd newydd honno allu cael dechrau da o ran ei blaenoriaethau gyda chyllideb yno i wneud hynny, a heb y llwyfan yn llosgi y byddai'n ei etifeddu pe baem yn methu â phasio cyllideb yn wythnosau olaf tymor y Senedd hon.

We have to ensure that we provide a stable and reliable income for our public services in order to provide the services that we all need. Whilst I have argued consistently for multi-year budgets, there’s a logic behind a single year's budget in the final year of this Senedd, especially as we have a new electoral system that makes it almost impossible for a single party to win the election. It's important that we all recognise the importance of agreeing a budget for 2026-27, even when we know the Senedd will look quite different soon after the financial year starts. Local government needs a settlement that will allow them to set council tax rates and continue the provision of services. We don't want teachers to be losing their jobs, and we don't want social workers not to be available to care for people because we were unwilling to pass a budget. Health will need certainty to continue providing services. We can't complain about waiting lists if we do our bit to try and increase waiting lists. A question I've got is: will the Cabinet Secretary, alongside the continuity budget, publish additional money he would like to provide to health next year?

Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn darparu incwm sefydlog a dibynadwy ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus er mwyn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom i gyd. Er fy mod wedi dadlau'n gyson dros gyllidebau amlflwyddyn, mae rhesymeg y tu ôl i gyllideb un flwyddyn ym mlwyddyn olaf y Senedd hon, yn enwedig gan fod gennym system etholiadol newydd sy'n ei gwneud bron yn amhosibl i un blaid ennill yr etholiad. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod pwysigrwydd cytuno ar gyllideb ar gyfer 2026-27, hyd yn oed pan fyddwn yn gwybod y bydd y Senedd yn edrych yn eithaf gwahanol yn fuan ar ôl i'r flwyddyn ariannol ddechrau. Mae angen setliad ar lywodraeth leol a fydd yn caniatáu iddynt osod cyfraddau'r dreth gyngor a pharhau i ddarparu gwasanaethau. Nid ydym eisiau i athrawon golli eu swyddi, ac nid ydym eisiau i weithwyr cymdeithasol beidio â bod ar gael i ofalu am bobl oherwydd nad oeddem yn fodlon pasio cyllideb. Bydd angen sicrwydd ar iechyd i barhau i ddarparu gwasanaethau. Ni allwn gwyno am restrau aros os ydym yn gwneud ein rhan i geisio cynyddu rhestrau aros. Cwestiwn sydd gen i yw: a fydd yr Ysgrifennydd Cabinet, ochr yn ochr â'r gyllideb barhad, yn cyhoeddi arian ychwanegol yr hoffai ei ddarparu ar gyfer iechyd y flwyddyn nesaf?

I thank Mike Hedges for that, Llywydd. He is right that we are attempting to provide stability and reliability for our public services as they go into the next financial year. I'm grateful to him for drawing attention to council budgets in particular. Members here will be aware that our local authorities operate under a regime in which they will be legally obliged to set a budget within the envelope that they know they have available to them, and their monitoring officers will ensure that that is what takes place. If, when we vote on our final budget at the end of January, we're unable to set that budget, then local authorities will, inevitably, have to set those budgets on the basis of only 75 per cent of this year's budget being available to them. That simply means that, as Mike Hedges said, there will be teachers in the classroom and social workers doing vital work today who will lose their jobs. It really is as stark as that, and that's what I am very determined to do everything we can do to avoid. I think it will be for political parties to set out how they would use the headroom that this approach to the budget would provide, and I'm quite sure that my party and Mike's party will want to do exactly that. And as has always been the case, a Labour Party and a Labour Government will always have the needs of the health service uppermost in our minds.

Diolch i Mike Hedges am hynna, Llywydd. Mae'n iawn ein bod yn ceisio darparu sefydlogrwydd a dibynadwyedd i'n gwasanaethau cyhoeddus wrth iddynt fynd i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf. Rwy'n ddiolchgar iddo am dynnu sylw at gyllidebau cyngor yn arbennig. Bydd aelodau yma yn ymwybodol bod ein hawdurdodau lleol yn gweithredu o dan gyfundrefn lle bydd yn rhaid iddynt, yn gyfreithiol, osod cyllideb o fewn yr amlen y maent yn gwybod sydd ar gael iddynt, a bydd eu swyddogion monitro yn sicrhau mai dyna sy'n digwydd. Os nad ydym yn gallu gosod y gyllideb honno pan fyddwn yn pleidleisio ar ein cyllideb derfynol ddiwedd mis Ionawr, yna bydd yn rhaid i awdurdodau lleol osod y cyllidebau hynny ar sail dim ond 75 y cant o gyllideb eleni sydd ar gael iddynt. Mae hynny'n golygu, fel y dywedodd Mike Hedges, y bydd athrawon yn yr ystafell ddosbarth a gweithwyr cymdeithasol sy'n gwneud gwaith hanfodol heddiw yn colli eu swyddi. Mae'n wirioneddol mor llwm â hynny, ac rydw i'n benderfynol iawn o wneud popeth y gallwn ei wneud i osgoi hynny. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i bleidiau gwleidyddol nodi sut y byddent yn defnyddio'r hyblygrwydd cyllidol y byddai'r dull hwn o ran y gyllideb yn ei ddarparu, ac rwy'n eithaf siŵr y bydd fy mhlaid a phlaid Mike eisiau gwneud yn union hynny. Ac fel sydd bob amser wedi digwydd, bydd gan Blaid Lafur a Llywodraeth Lafur anghenion y gwasanaeth iechyd bob amser yn flaenllaw yn ein meddyliau.

16:05

Hoffwn i wneud cyfraniad byr mewn ymateb i'r datganiad yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid.

I'd like to make a brief contribution in response to this statement on behalf of the Finance Committee.

As the Cabinet Secretary will be aware, the Finance Committee has regularly commented on the impact that publishing the draft budget late in the year has on scrutiny and in particular the ability of the Senedd committees to engage with stakeholders and to gain a better understanding of the impact of the Welsh Government's budgetary decisions. As a result, I very much welcome a return to the two-stage process, as provided for by the budget protocol—the first time in seven years that this has happened. The committee will be agreeing its approach to the scrutiny of the draft budget before the summer recess, and we will be formally responding to your letter consulting us on the timetable in due course. However, I wish to say at the outset that having a two-stage process is hugely significant, as it enables the Senedd committees to have more time to consider the decisions made, which will lead to better scrutiny and, ultimately, better outcomes. As you know, the committee will be holding its annual budget priorities debate in Plenary in a few weeks' time, and although you have stated that this budget will not focus on new priorities or fresh policies, I nonetheless look forward to exploring issues raised by stakeholders during our recent engagement work as part of that discussion.

Fel y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud sylwadau'n rheolaidd ar yr effaith y mae cyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn hwyr yn y flwyddyn yn ei chael ar waith craffu ac yn arbennig ar allu pwyllgorau'r Senedd i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac i gael gwell dealltwriaeth o effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, rwy'n croesawu'n fawr ein bod yn dychwelyd i'r broses dau gam, fel y darperir gan y protocol cyllideb—y tro cyntaf mewn saith mlynedd i hyn ddigwydd. Bydd y pwyllgor yn cytuno ar ei ddull o ran craffu ar y gyllideb ddrafft cyn toriad yr haf, a byddwn yn ymateb yn ffurfiol i'ch llythyr yn ymgynghori â ni ar yr amserlen maes o law. Fodd bynnag, hoffwn ddweud ar y dechrau bod cael proses dau gam yn hynod arwyddocaol, gan ei fod yn galluogi pwyllgorau'r Senedd i gael mwy o amser i ystyried y penderfyniadau a wneir, a fydd yn arwain at graffu gwell ac, yn y pen draw, canlyniadau gwell. Fel y gwyddoch chi, bydd y pwyllgor yn cynnal ei ddadl ar flaenoriaethau cyllideb flynyddol yn y Cyfarfod Llawn ymhen ychydig wythnosau, ac er eich bod wedi datgan na fydd y gyllideb hon yn canolbwyntio ar flaenoriaethau newydd na pholisïau newydd, edrychaf ymlaen at archwilio materion a godwyd gan randdeiliaid yn ystod ein gwaith ymgysylltu diweddar fel rhan o'r drafodaeth honno.

Yn y cyfamser, o ran yr hyn sydd wedi cael ei ddweud heddiw, ac er fy mod yn sylweddoli mai mater i'r Llywodraeth nesaf yw hyn, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu os bydd penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddychwelyd at adolygiadau gwariant aml flwyddyn yn golygu y bydd y broses gyllidebol mewn dau gam, yn ei farn ef, yn cael ei mabwysiadu'n fwy rheolaidd, fel na fydd yn rhaid aros am saith mlynedd arall am yr un nesaf.

Hefyd, er ein bod yn gwerthfawrogi cyllideb gynharach, a allwch chi esbonio sut y byddwch chi'n cynllunio ar gyfer, ac yn adlewyrchu, unrhyw newidiadau i'r cyllid a allai fod ar gael yn dilyn cyllideb hydref y Deyrnas Unedig, sy'n debygol o gael ei chyhoeddi ar ôl i'r gyllideb amlinellol gael ei chyhoeddi? 

Ac yn olaf, allwch chi fanylu ar effaith penderfyniadau gwariant a threthiant a wneir yng nghyllideb hydref y Deyrnas Unedig ar eich cynlluniau cyllideb drafft, a sut y byddwch chi'n sicrhau bod gennych chi'r hyblygrwydd i ymateb i unrhyw newidiadau sylweddol yn eich cyllideb derfynol? Diolch yn fawr.

In the meantime, in terms of what has been said today, and although I do realise that this will be a matter for the next Government, I would be grateful if the Cabinet Secretary could confirm whether the UK Government's decision to return to multi-year spending reviews will result in a two-stage budget process being adopted more regularly in his view, so that we don't have to wait another seven years for the next one.

Also, whilst we appreciate an earlier budget, can you explain how you will plan for and reflect any changes to the available funding that may follow the UK autumn budget, which is likely to be published after the outline budget is published?

And finally, can you detail how spending and taxation decisions made in the UK autumn budget will affect your draft budget plans, and how will you ensure that you have the flexibility to react to any significant changes in your final budget? Thank you.

Diolch yn fawr i Peredur Owen Griffiths, Dirprwy Lywydd. 

I thank Peredur Owen Griffiths, Dirprwy Lywydd.

I'm very glad we've been able to put a two-stage process back in front of the Senedd this time. It will, as the Chair of the Finance Committee said, allow for more time for scrutiny of budget proposals. I'm looking forward to the debate on the final day of term, where we will hear of the work that the committee has carried out in terms of its consultation with interest groups across Wales on budget priorities.

Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi proses dau gam yn ôl ger bron y Senedd y tro hwn. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, bydd yn caniatáu mwy o amser i graffu ar gynigion cyllideb. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl ar ddiwrnod olaf y tymor, lle byddwn yn clywed am y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud o ran ei ymgynghoriad â grwpiau buddiant ledled Cymru ar flaenoriaethau cyllideb.

Wrth gwrs, dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd Cadeirydd y pwyllgor. Dwi ddim eisiau gweld saith mlynedd yn mynd ymlaen heb gael y proses rŷn ni wedi ei amlinellu heddiw, a dwi'n meddwl bydd penderfyniadau bydd y Senedd newydd yn gallu eu gwneud, achos byddan nhw'n gwybod nawr am yr amserlen y mae'r CSR wedi rhoi o'n blaen ni, ac rŷn ni'n gwybod mai bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw cael CSR arall bob dwy flynedd. So, bydd hwnna yn rhoi cyfleon sydd ddim wedi bod gyda ni i gynllunio ac i roi yn eu lle systemau newydd yma yn y Senedd, a dwi'n ddiolchgar am y cyfleon rŷn ni wedi eu cael i drafod hynny gyda'r Pwyllgor Cyllid, ac fel dywedais i yn y datganiad, dwi wedi ysgrifennu at Gadeirydd y pwyllgor gyda rhai syniadau newydd rŷn ni eisiau cael y cyfle i'w trafod hefyd. Y broblem o gael ein cyllideb drafft ni cyn cyllideb y Deyrnas Unedig yn yr hydref—. Mae yn creu problemau i ni, ond rŷn ni wedi wynebu'r problemau yna nawr am flynyddoedd, a dwi'n siŵr bydd ffordd ymlaen i ni ei wneud e ac adlewyrchu yn y gyllideb derfynol unrhyw bethau y bydd yn rhaid i ni eu gwneud ar ôl gweld beth fydd yng nghyllideb y Deyrnas Unedig. Ac fel dywedais i, dwi'n mynd i roi rhai pethau yn y gyllideb ddrafft i ddelio ag unrhyw newidiadau ar ochr trethi sy'n debygol o gael eu gwneud yn yr hydref yng nghyllideb y Deyrnas Unedig, a dwi'n edrych ymlaen at gael trafodaethau gyda'r Pwyllgor Cyllid yn ystod yr hydref hefyd.

Of course, I agree with what the Chair of the Finance Committee said. I don't want to see seven years elapsing without having the process that we've outlined today, and I think that there will be decisions that the new Senedd will be able to make, because they will know now about the timetable that the CSR has presented, and we know the intention of the UK Government is to have another CSR every two years. So, that will provide opportunities that we haven't had before to plan and put in place new systems here in the Senedd, and I'm grateful for the opportunities that we have had to discuss that with the Finance Committee, and, as I said in the statement, I have written to the Chair of the committee with some new ideas that we want to have the opportunity to discuss as well. The problem of having our draft budget in place before the UK budget in the autumn—. It does cause issues for us, but we have faced those problems for years now, and I'm sure that there will be a way ahead for us to do that so that we can reflect in our final budget any things that we will have to do in response to what we see in the UK Government budget. And as I said, I'm going to put some things in the draft budget to deal with any changes on the taxation side that are likely to be made in the UK Government budget, and I do look forward to having those discussions with the Finance Committee during the autumn as well.

16:10

I'm grateful to you, Deputy Presiding Officer. I'm very grateful to the finance Secretary for the statement this afternoon. I think it's a very mature statement, which outlines a very mature approach to budget setting as we come to the end of this Senedd, and I think it's appreciated across the whole Chamber, if not by the rather bizarre contribution we had from the Conservative spokesperson earlier this afternoon. What is missing, perhaps, from it is the context within which the budget will of course be set, and the context within which spending decisions are taken, and perhaps one of the most serious contexts is the Barnett formula and its continued failure to recognise the needs of Wales and the needs of the people of Wales and the needs in delivering services in Wales. We're aware that the Welsh Government has made a very powerful statement on the failure of the Barnett formula to recognise Wales's needs, but would it be possible, Cabinet Secretary, to outline how the Welsh Government intends to take these matters forward? Because one of the things that I think people in Wales will want to hear during the election campaign next year is what political parties are going to do to deliver a fair funding formula so that Wales is treated on the same basis as England, Scotland and Northern Ireland.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Ysgrifennydd dros gyllid am y datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad aeddfed iawn, sy'n amlinellu dull aeddfed iawn o osod cyllideb wrth i ni ddod at ddiwedd y Senedd hon, ac rwy'n credu ei fod yn cael ei werthfawrogi ar draws y Siambr gyfan, heblaw am y cyfraniad eithaf rhyfedd a gawsom gan lefarydd y Ceidwadwyr yn gynharach y prynhawn yma. Yr hyn sydd ar goll, efallai, yw'r cyd-destun y bydd y gyllideb yn cael ei gosod ynddo wrth gwrs, a'r cyd-destun lle mae penderfyniadau gwariant yn cael eu gwneud, ac efallai mai un o'r cyd-destunau mwyaf difrifol yw fformiwla Barnett a'i methiant parhaus i gydnabod anghenion Cymru ac anghenion pobl Cymru a'r anghenion wrth ddarparu gwasanaethau yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud datganiad pwerus iawn ar fethiant fformiwla Barnett i gydnabod anghenion Cymru, ond a fyddai'n bosibl, Ysgrifennydd Cabinet, i chi amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â'r materion hyn? Oherwydd un o'r pethau rwy'n credu y bydd pobl yng Nghymru eisiau ei glywed yn ystod yr ymgyrch etholiadol y flwyddyn nesaf yw beth mae pleidiau gwleidyddol yn mynd i'w wneud i ddarparu fformiwla ariannu deg fel bod Cymru yn cael ei thrin ar yr un sail â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Thanks to Alun Davies for what he said about the maturity of the approach that I've tried to set out this afternoon. After a quarter of a century of this Senedd, we stand on the boundary of the next major development in devolution, with that new and larger Senedd with all the opportunities it will have for scrutiny and better decision-making, as Heledd Fychan suggested, and what I want to try to do is to make sure that the decisions we have to make in this crucial area allow that new Senedd to get off to the best possible start.

Of course, I agree with Alun Davies about that wider context. We use the money that comes to us through the current system, and we know that the current system is flawed in the way that we discussed here on the floor of the Senedd only last week. I said in that debate that I would be raising these issues at the meeting of the finance Ministers on the following day, and I duly did that. I put a number of the points that were made on the floor of this Senedd to the Chief Secretary to the Treasury in my own bilateral with him, and I've agreed to write to him to set out those points in greater detail. As I explained last week, that discussion, I believe, will be about how we can make the current system work better. There is a different debate about a new system, and that, I think, will be something for political parties to consider as they make their offers to the Welsh public.

What the public will want to know is that those alternatives will deliver a better outcome for Wales, and that needs detailed work and careful consideration, and I'm sure that all parties that would wish to put that proposition to the public will make sure that their proposals rest on that sort of serious work.

Diolch i Alun Davies am yr hyn a ddywedodd am aeddfedrwydd y dull yr wyf wedi ceisio ei nodi y prynhawn yma. Ar ôl chwarter canrif o'r Senedd hon, rydym yn sefyll ar ffin y datblygiad mawr nesaf mewn datganoli, gyda'r Senedd newydd a mwy honno gyda'r holl gyfleoedd y bydd ganddi ar gyfer craffu a gwneud penderfyniadau gwell, fel yr awgrymodd Heledd Fychan, a'r hyn yr wyf eisiau ceisio ei wneud yw sicrhau bod y penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud yn y maes hanfodol hwn yn caniatáu i'r Senedd newydd honno gael y dechrau gorau posibl.

Wrth gwrs, rwy'n cytuno ag Alun Davies ynglŷn â'r cyd-destun ehangach hwnnw. Rydym yn defnyddio'r arian sy'n dod atom drwy'r system bresennol, ac rydym yn gwybod bod y system bresennol yn ddiffygiol yn y ffordd y gwnaethom drafod yma ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf. Dywedais yn y ddadl honno y byddwn yn codi'r materion hyn yng nghyfarfod y Gweinidogion cyllid ar y diwrnod canlynol, ac fe wnes i hynny'n briodol. Rhoddais nifer o'r pwyntiau a wnaed ar lawr y Senedd hon i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn fy nghyfarfod dwyochrog fy hun gydag ef, ac rwyf wedi cytuno i ysgrifennu ato i nodi'r pwyntiau hynny yn fwy manwl. Fel yr esboniais yr wythnos diwethaf, bydd y drafodaeth honno, rwy'n credu, yn ymwneud â sut y gallwn wneud i'r system bresennol weithio'n well. Mae dadl wahanol am system newydd, a bydd honno, rwy'n credu, yn rhywbeth i bleidiau gwleidyddol ei hystyried wrth iddynt wneud eu cynigion i'r cyhoedd yng Nghymru.

Yr hyn y bydd y cyhoedd eisiau ei wybod yw y bydd y dewisiadau amgen hynny'n sicrhau canlyniad gwell i Gymru, ac mae angen gwaith manwl ac ystyriaeth ofalus o hynny, ac rwy'n siŵr y bydd pob plaid a fyddai'n dymuno rhoi'r cynnig hwnnw i'r cyhoedd yn gwneud yn siŵr bod eu cynigion yn dibynnu ar y math hwnnw o waith difrifol.

5. Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025
5. The Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (Exclusions and Variation of Campaign Expenditure Limits) (Wales) Regulations 2025

Eitem 5 sydd nesaf, Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Item 5 is next, the Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (Exclusions and Variation of Campaign Expenditure Limits) (Wales) Regulations 2025, and I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to move the motion—Jayne Bryant.

Cynnig NDM8942 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod Rheoliadau drafft Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025 yn cael eu llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mehefin 2025.

Motion NDM8942 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (Exclusions and Variation of Campaign Expenditure Limits) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 10 June 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Deputy Llywydd, and can I thank the Legislation, Justice and Constitution Committee and its Chair for its consideration of these regulations, as well as the Electoral Commission for its constructive engagement in this work?

In a little over 10 months, Wales will go to the polls to elect a new Senedd. For the first time, this will be under a fully proportional electoral system and will return 96 Members. These regulations revise the campaign expenses regime for political parties, reflecting those electoral changes, but retaining a maximum limit broadly equivalent to the current system. This will ensure that parties are able to campaign effectively under the new system and inform voters of their policies.

Without these regulations, only one part of the existing limits would apply, meaning a reduction in campaign expense limits for parties of up to 85 per cent. This would undermine every party's ability to engage with voters.

The public consultation returned a wide range of views on how the existing limits should be adapted to the new system, requiring a balanced approach to be taken. I have therefore sought to minimise change where possible.

Changes from the indicative models outlined in the consultation reflect further discussions with the Electoral Commission in recent months. The Electoral Commission must provide consent to any substantive use of this power, and I'm pleased to inform the Senedd that such consent has been received for the regulations under consideration today. The process of obtaining that consent has required genuine engagement, collaboration and compromise, and has resulted in a better proposal to which I hope this Senedd will agree.

The regulations will also exempt security-related costs from party and non-party campaigner spending limits for Welsh elections. This follows a similar exemption for individual candidates in the draft Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025, the conduct Order, which is due to be debated on 8 July. We are all too aware of the rise in abuse in politics in recent years, which is a significant barrier to participation. These exemptions implement a recommendation from the Jo Cox Foundation report, and follow close discussions with and a formal recommendation from the Electoral Commission.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'i Gadeirydd am ystyried y rheoliadau hyn, yn ogystal â'r Comisiwn Etholiadol am ymgysylltu'n adeiladol yn y gwaith hwn?

Ymhen ychydig dros 10 mis, bydd Cymru yn pleidleisio i ethol Senedd newydd. Am y tro cyntaf, bydd hyn o dan system etholiadol gwbl gyfrannol a bydd yn dychwelyd 96 o Aelodau. Mae'r rheoliadau hyn yn adolygu'r drefn gwariant ymgyrch ar gyfer pleidiau gwleidyddol, gan adlewyrchu'r newidiadau etholiadol hynny, ond gan gadw terfyn uchaf sy'n cyfateb yn fras i'r system bresennol. Bydd hyn yn sicrhau bod pleidiau'n gallu ymgyrchu'n effeithiol o dan y system newydd a hysbysu pleidleiswyr o'u polisïau.

Heb y rheoliadau hyn, dim ond un rhan o'r terfynau presennol fyddai'n gymwys, fyddai'n golygu gostyngiad yn y terfynau gwariant ymgyrch i bleidliau o hyd at 85 y cant. Byddai hyn yn tanseilio gallu pob plaid i ymgysylltu â phleidleiswyr.

Dychwelodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ystod eang o safbwyntiau ar sut y dylid addasu'r terfynau presennol i'r system newydd, gan ei gwneud yn ofynnol i ddull cytbwys gael ei fabwysiadu. Felly, rwyf wedi ceisio lleihau newid lle bo modd.

Mae newidiadau o'r modelau dangosol a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad yn adlewyrchu trafodaethau pellach gyda'r Comisiwn Etholiadol yn ystod y misoedd diwethaf. Rhaid i'r Comisiwn Etholiadol roi cydsyniad i unrhyw ddefnydd sylweddol o'r pŵer hwn, ac rwy'n falch o roi gwybod i'r Senedd fod cydsyniad o'r fath wedi'i dderbyn ar gyfer y rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw. Mae'r broses o gael y cydsyniad hwnnw wedi gofyn am ymgysylltiad, cydweithredu a chyfaddawdu gwirioneddol, ac mae wedi arwain at gynnig gwell yr wyf yn gobeithio y bydd y Senedd hon yn cytuno iddo.

Bydd y rheoliadau hefyd yn eithrio costau sy'n gysylltiedig â diogelwch o derfynau gwariant ymgyrchwyr plaid a di-blaid ar gyfer etholiadau Cymru. Mae hyn yn dilyn eithriad tebyg ar gyfer ymgeiswyr unigol yng Ngorchymyn drafft Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, y Gorchymyn cynnal etholiadau, a fydd yn cael ei drafod ar 8 Gorffennaf. Rydym i gyd yn rhy ymwybodol o'r cynnydd mewn camdrin mewn gwleidyddiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy'n rhwystr sylweddol rhag cyfranogi. Mae'r eithriadau hyn yn gweithredu argymhelliad o adroddiad Sefydliad Jo Cox, ac yn dilyn trafodaethau agos gyda'r Comisiwn Etholiadol.

16:15

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

I have no other speakers. So, the proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

6. Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025
6. Statutory Instrument Consent Motion: The Legislative Reform (Disclosure of Adult Social Care Data) Order 2025

Eitem 6 yw'r cynnig cydsyniad offeryn statudol o ran y Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.

Item 6 is a statutory instrument consent motion on the Legislative Reform (Disclosure of Adult Social Care Data) Order 2025. And I call on the Cabinet Secretary for Local Government and Housing to move the motion. Jayne Bryant.

Cynnig NDM8943 Jayne Bryant

Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2025.

Motion NDM8943 Jayne Bryant

To propose that Senedd Cymru agrees, in accordance with section 11(1) of the Legislative and Regulatory Reform Act 2006, and Standing Order 30A.10, that the Secretary of State makes the Legislative Reform (Disclosure of Adult Social Care Data) Order 2025, in accordance with the draft laid in Table Office on 23 May 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Deputy Llywydd. Thank you for this opportunity to explain the background to the statutory instrument consent motion in relation to the Legislative Reform (Disclosure of Adult Social Care Data) Order 2025. The memorandum laid before the Senedd on 23 May, together with a written statement published the same day, summarised the provision of the Order and set out the changes to primary legislation for which consent is sought. I would like to thank the Legislation, Justice and Constitution Committee for its work in scrutinising the statutory instrument consent memorandum and its report published yesterday. 

The Order makes amendments to the Public Audit (Wales) Act 2004 and equivalent UK Government legislation. The purpose of the Order is to enable the recommencement of the sharing of matched adult social care data between the national fraud initiative, a team within the Public Sector Fraud Authority, and local authorities in Wales and England for the purpose of identifying fraud and error.

Amendments made in 2016 by separate UK Government legislation to section 251(12A) of the National Health Service Act 2006 had the unintended effect of preventing local authorities in Wales from being able to access the results of adult social care data matching under the Public Audit (Wales) Act 2004. Local authorities' adult social care data became defined as 'patient' data and, once matched, could only be shared with relevant NHS bodies. Local authorities in England and Wales were not designated as relevant NHS bodies for the purpose of sharing the results of data matching, and therefore local authorities’ social care data could not be shared with local authorities, even though local authorities are responsible for the provision of social care. This consequence was wholly unintended. 

Data matching is done for the purpose of fraud detection, and the amendments made in this Order will, once again, allow the national fraud initiative to share matched adult social care data with local authorities. Examples of adult social care fraud or error that the Order has identified are deceased care home residents who were still in receipt of direct payments; care users receiving a personal budget from more than one authority at once; and undeclared capital or property ownership in relation to care funding.

So, it’s my view that it is appropriate to deal with these provisions in this Order. The power to make this Order lies with the Secretary of State under section 1 of the Legislative and Regulatory Reform Act 2006. That power can only be used to legislate in areas that are devolved, with the Senedd’s consent. If approved, these provisions will support work by local authorities in Wales to identify fraud and error and ensure the best use of public money. Estimates suggest that, on average, £7,000 per authority per year can be saved.

I have laid the motion in accordance with the requirements under Standing Order 30A, and I consider the Order to be relevant to statutory instruments because it makes provision in relation to Wales amending primary legislation that is within the legislative competence of the Senedd. So, it’s on that basis that the statutory instruments consent motion is placed before you for your approval.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle hwn i esbonio cefndir y cynnig cydsyniad offeryn statudol mewn perthynas â Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025. Roedd y memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd ar 23 Mai, ynghyd â datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yr un diwrnod, yn crynhoi darpariaeth y Gorchymyn ac yn nodi'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth sylfaenol y gofynnir am gydsyniad ar eu cyfer. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith wrth graffu ar y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a'i adroddiad a gyhoeddwyd ddoe.

Mae'r Gorchymyn yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a deddfwriaeth gyfatebol Llywodraeth y DU. Pwrpas y Gorchymyn yw galluogi ailddechrau rhannu data gofal cymdeithasol oedolion wedi'u paru rhwng y fenter twyll genedlaethol, tîm o fewn Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus, ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr at ddibenion adnabod twyll a gwallau.

Cafodd diwygiadau a wnaed yn 2016 gan ddeddfwriaeth ar wahân gan Lywodraeth y DU i adran 251(12A) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 yr effaith anfwriadol o atal awdurdodau lleol yng Nghymru rhag gallu cael mynediad at ganlyniadau paru data gofal cymdeithasol oedolion o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Diffiniwyd data gofal cymdeithasol oedolion awdurdodau lleol fel data 'cleifion' ac, ar ôl iddynt gael eu paru, dim ond â chyrff perthnasol y GIG y gellid eu rhannu. Ni ddynodwyd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr fel cyrff perthnasol y GIG at ddibenion rhannu canlyniadau paru data, ac felly ni ellid rhannu data gofal cymdeithasol awdurdodau lleol gydag awdurdodau lleol, er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gofal cymdeithasol. Roedd y canlyniad hwn yn gwbl anfwriadol.

Gwneir paru data at ddibenion canfod twyll, a bydd y diwygiadau a wneir yn y Gorchymyn hwn, unwaith eto, yn caniatáu i'r fenter twyll genedlaethol rannu data gofal cymdeithasol oedolion cyfatebol gydag awdurdodau lleol. Enghreifftiau o dwyll neu wall gofal cymdeithasol oedolion y mae'r Gorchymyn wedi'i nodi yw preswylwyr cartrefi gofal wedi marw a oedd yn dal i dderbyn taliadau uniongyrchol; defnyddwyr gofal yn derbyn cyllideb bersonol gan fwy nag un awdurdod ar yr un pryd; a chyfalaf heb ei ddatgan neu berchnogaeth eiddo mewn perthynas â chyllid gofal.

Felly, fy marn i yw ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Gorchymyn hwn. Yr Ysgrifennydd Gwladol sydd â'r pŵer i wneud y Gorchymyn hwn o dan adran 1 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006. Dim ond i ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, gyda chydsyniad y Senedd, y gellir defnyddio'r pŵer hwnnw. Os cânt eu cymeradwyo, bydd y darpariaethau hyn yn cefnogi gwaith awdurdodau lleol yng Nghymru i nodi twyll a gwallau a sicrhau'r defnydd gorau o arian cyhoeddus. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gellir arbed £7,000 fesul awdurdod fesul blwyddyn ar gyfartaledd.

Rwyf wedi gosod y cynnig yn unol â'r gofynion o dan Reol Sefydlog 30A, ac rwy'n ystyried bod y Gorchymyn yn berthnasol i offerynnau statudol oherwydd ei fod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Felly, ar y sail honno y mae'r cynnig cydsyniad offerynnau statudol yn cael ei roi ger eich bron i'w gymeradwyo.

16:20

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.

Thank you, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered the Welsh Government’s statutory instrument consent memorandum for this draft Order last week. We noted that the UK Government must secure the consent of the Senedd before making the Order, in line with the Legislative and Regulatory Reform Act 2006. We also noted that the Welsh Ministers have no power under that Act to make a legislative reform Order such as this one.

As a committee, our assessment of the provisions within the draft Order that require consent aligns with the Welsh Government’s assessment, and our report, which was laid yesterday afternoon, confirms this position.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad femorandwm cydsyniad offeryn statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gorchymyn drafft hwn yr wythnos diwethaf. Nodwyd bod yn rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau cydsyniad y Senedd cyn gwneud y Gorchymyn, yn unol â Deddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006. Nodwyd hefyd nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bŵer o dan y Ddeddf honno i wneud Gorchymyn diwygio deddfwriaethol o'r fath hwn.

Fel pwyllgor, mae ein hasesiad o'r darpariaethau o fewn y Gorchymyn drafft sy'n gofyn am gydsyniad yn cyd-fynd ag asesiad Llywodraeth Cymru, ac mae ein hadroddiad, a osodwyd brynhawn ddoe, yn cadarnhau'r safbwynt hwn.

While we agree with the underlying rationale for this Order, and we of course support efforts to enhance the effectiveness of anti-fraud monitoring and enforcement mechanisms in the social care sector, from a legislative perspective, we are concerned by the method through which this change is being enacted. The Cabinet Secretary will appreciate the reality that a statutory instrument consent motion provides an even thinner layer of scrutiny and accountability than an ordinary LCM. And when we consider the particular sensitivity surrounding issues of data handling and sharing, this does set an unfortunate precedent. So, while we don’t object to the practical implementation of this Order, I would be grateful if the Cabinet Secretary were to elaborate on her thoughts on whether this is the appropriate legislative vehicle to achieve this end. Diolch yn fawr.

Er ein bod yn cytuno â'r rhesymeg sylfaenol dros y Gorchymyn hwn, ac rydym wrth gwrs yn cefnogi ymdrechion i wella effeithiolrwydd mecanweithiau monitro a gorfodi gwrth-dwyll yn y sector gofal cymdeithasol, o safbwynt deddfwriaethol, rydym yn pryderu am y dull a ddefnyddir i ddeddfu'r newid hwn. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwerthfawrogi'r realiti bod cynnig cydsyniad offeryn statudol yn darparu haen hyd yn oed yn deneuach o graffu ac atebolrwydd na chynnig cydsyniad deddfwriaethol cyffredin. A phan ystyriwn y sensitifrwydd arbennig sy'n ymwneud â materion trin a rhannu data, mae hyn yn gosod cynsail anffodus. Felly, er nad ydym yn gwrthwynebu gweithrediad ymarferol y Gorchymyn hwn, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymhelaethu ar ei meddyliau ynghylch a yw hwn yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i gyflawni'r diben hwn. Diolch yn fawr.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i ymateb. 

I call on the Cabinet Secretary for Local Government and Housing to reply.

Diolch, Deputy Llywydd. Thank you for the contributions. As I outlined in my opening remarks, the provisions that amend primary legislation within the legislative competence of the Senedd are made to correct an unintended consequence of separate UK Government legislation, so there is no change in policy.

In response to Peredur's point, I think I laid out in my opening statement that it is my view that it is appropriate to deal with these provisions in this Order, and as I said, I think that is clear from my opening remarks. The purpose is to ensure that relevant data can once again be shared to identify fraud in adult social care. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfraniadau. Fel yr amlinellais yn fy sylwadau agoriadol, mae'r darpariaethau sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn cael eu gwneud i gywiro canlyniad anfwriadol deddfwriaeth ar wahân gan Lywodraeth y DU, felly nid oes unrhyw newid mewn polisi.

Mewn ymateb i bwynt Peredur, credaf fy mod wedi gosod allan yn fy natganiad agoriadol ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Gorchymyn hwn, ac fel y dywedais, credaf fod hynny'n glir o'm sylwadau agoriadol. Y pwrpas yw sicrhau y gellir rhannu data perthnasol unwaith eto i nodi twyll mewn gofal cymdeithasol oedolion. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

7. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)
7. Motion to vary the order of Stage 3 amendments to the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill

Eitem 7 yw cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.

Item 7 is a motion to vary the order of the Stage 3 amendments to the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill. I call on the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs to move the motion. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8941 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) Adran 1;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 2-49;

d) Atodlen 2;

e) Adran 50;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 51-90;

h) Enw Hir.

Motion NDM8941 Jane Hutt

To propose that Senedd Cymru in accordance with Standing Order 26.36:

Agrees to dispose of sections and schedules to the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill at Stage 3 in the following order

a) Section 1;

b) Schedule 1;

c) Sections 2-49;

d) Schedule 2;

e) Section 50;

f) Schedule 3;

g) Sections 51-90;

h) Long Title.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Member
Huw Irranca-Davies 16:24:48
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

I move formally.

Rwy'n cynnig yn ffurfiol.

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

16:25

Gan nad oes unrhyw bleidleisiau y prynhawn yma, bydd egwyl fer nawr, cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu bum munud cyn inni ailymgynnull. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.

As there are no votes to be taken this afternoon, we will now take a short break before we begin Stage 3 proceedings. The bell will be rung five minutes before we reconvene. I would encourage Members to return to the Chamber promptly, please.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:25.

Plenary was suspended at 16:25.

16:35

Ailymgynullodd y Senedd am 16:36, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

The Senedd reconvened at 16:36, with the Llywydd in the Chair.

9. Cyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)
9. Stage 3 of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill
Grŵp 1: Pŵer i estyn y Ddeddf i ddocfeydd ac angorfeydd (Gwelliannau 67, 104, 108)
Group 1: Power to extend Act to berths and moorings (Amendments 67, 104, 108)

Dwi'n credu ein bod ni'n barod i roi cychwyn ar Gyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â phwerau i estyn y Ddeddf i ddocfeydd ac angorfeydd. Gwelliant 67 yw'r prif welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar Sam Rowlands i gynnig y prif welliant ac i siarad am y grŵp.

I think we are ready to make a start on our Stage 3 consideration of the Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill. The first group of amendments relates to the power to extend the Act to berths and moorings. Amendment 67 is the lead amendment in this group, and I call on Sam Rowlands to move and speak to the lead amendment and the group.

Cynigiwyd gwelliant 67 (Sam Rowlands).

Amendment 67 (Sam Rowlands) moved.

Thank you, Llywydd. I stand to move amendment 67 before us today. In my opening contribution here today I want to make some broader points in relation to the legislation in front of us and reiterate the Welsh Conservatives’ general opposition to this visitor levy Bill.

The tourism sector is united in its opposition to the Bill, and that's for very good reason. The sector, particularly after COVID, desperately needs a Government that understands it and encourages it, not one that imposes taxes that will drive people away. It's a truth that whatever you tax, you get less of; certainly a good thing when trying to manage negative outcomes of choices, but our visitor sector is one of the most positive parts of our struggling economy in Wales, and does not need a barrier to make it even less competitive.

We know that tourism is responsible for one in eight jobs directly and through the supply chain here in Wales, supporting our communities through economic growth—a multibillion pound sector that already pumps significant sums into the public purse through business rates, through income tax, through corporation tax, through dividends tax, through value added tax, through national insurance and through capital gains tax. Tourism businesses in Wales are already taxed significantly, making them less competitive than the international market.

Our opposition to the Bill remains steadfast, but of course our tabling of amendments today recognises the political reality of the situation given Labour and Plaid Cymru's agreed support in general for the principles of this Bill. I hope the amendments I've put forward today are taken in the spirit of constructive amendments seeking to make the Bill stronger and better for the people of Wales.

On to group 1 of the amendments, regarding berths and moorings. I'd like to recognise the campaigning work of British Marine Wales, who are vocal in support of the sector they represent, and the three amendments here are laid in support and recognition of that sector. We are proposing to remove berths and moorings from the visitor levy, for example through amendment 67, which removes the power of Welsh Ministers to extend this Act so it applies in relation to berths and moorings provided for vessels.

The reason for this is simple. In my view, the Act would unfairly burden those using berths and moorings as they aren't visitor accommodations in a traditional sense, as boats are meant to move, not stay put. Boaters don't sign up for accommodation. They pay for moorings or marine services, which is something very different, and recreational boating is a leisure or sporting activity—it's not an overnight accommodation. Since the stated aim of the Bill is to supposedly support communities impacted by tourism, it's worth noting that boaters are largely self-contained within the mooring area, and the impact on local services is significantly less than someone staying in a town-centre hotel, for example. These are the reasons I've laid these amendments before us here today. Diolch yn fawr. 

Diolch, Llywydd. Rwy'n sefyll i gynnig gwelliant 67 sydd ger ein bron heddiw. Yn fy nghyfraniad agoriadol yma heddiw rwyf am wneud rhai pwyntiau ehangach mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron ac ailadrodd gwrthwynebiad cyffredinol y Ceidwadwyr Cymreig i'r Bil ardoll ymwelwyr hwn.

Mae'r sector twristiaeth yn unedig yn ei wrthwynebiad i'r Bil, ac mae hynny am reswm da iawn. Mae'r sector, yn enwedig ar ôl COVID, angen Llywodraeth sy'n ei ddeall ac yn ei annog, nid un sy'n gosod trethi a fydd yn gyrru pobl i ffwrdd. Mae'n wirionedd, beth bynnag rydych chi'n ei drethu, rydych chi'n cael llai ohono; yn sicr yn beth da wrth geisio rheoli canlyniadau negyddol o ddewisiadau, ond mae ein sector ymwelwyr yn un o'r rhannau mwyaf cadarnhaol o'n heconomi sy'n cael trafferth yng Nghymru, ac nid oes angen rhwystr arno i'w wneud hyd yn oed yn llai cystadleuol.

Rydym yn gwybod bod twristiaeth yn gyfrifol am un o bob wyth swydd yn uniongyrchol a thrwy'r gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru, yn cefnogi ein cymunedau trwy dwf economaidd—sector gwerth biliynau o bunnau sydd eisoes yn pwmpio symiau sylweddol i'r pwrs cyhoeddus trwy ardrethi busnes, trwy dreth incwm, trwy dreth gorfforaethol, trwy dreth ddifidendau, trwy dreth ar werth, trwy yswiriant gwladol a thrwy dreth enillion cyfalaf. Mae busnesau twristiaeth yng Nghymru eisoes yn cael eu trethu yn sylweddol, sy'n eu gwneud yn llai cystadleuol na'r farchnad ryngwladol.

Mae ein gwrthwynebiad i'r Bil yn parhau i fod yn gadarn, ond wrth gwrs mae ein cyflwyniad o'r gwelliannau heddiw yn cydnabod realiti gwleidyddol y sefyllfa o ystyried cefnogaeth gyffredinol gytunedig Llafur a Phlaid Cymru i egwyddorion y Bil hwn. Gobeithio y bydd y gwelliannau rydw i wedi'u cyflwyno heddiw yn cael eu cymryd yn ysbryd gwelliannau adeiladol sy'n ceisio gwneud y Bil yn gryfach ac yn well i bobl Cymru.

Ymlaen at grŵp 1 o'r gwelliannau, ynglŷn â docfeydd ac angorfeydd. Hoffwn gydnabod gwaith ymgyrchu British Marine Wales, sy'n lleisiol o blaid y sector maen nhw'n ei gynrychioli, ac mae'r tri gwelliant yma wedi'u gosod i gefnogi a chydnabod y sector hwnnw. Rydym yn cynnig tynnu docfeydd ac angorfeydd o'r ardoll ymwelwyr, er enghraifft drwy welliant 67, sy'n dileu pŵer Gweinidogion Cymru i ymestyn y Ddeddf hon fel ei bod yn gymwys mewn perthynas â docfeydd ac angorfeydd a ddarperir ar gyfer llongau.

Mae'r rheswm am hyn yn syml. Yn fy marn i, byddai'r Ddeddf yn pwyso'n annheg ar y rhai sy'n defnyddio docfeydd ac angorfeydd gan nad ydynt yn lletyau ymwelwyr yn yr ystyr draddodiadol, gan fod cychod i fod i symud, nid aros mewn un lle. Nid yw defnyddwyr cychod yn cofrestru am lety. Maen nhw'n talu am angorfeydd neu wasanaethau morol, sy'n rhywbeth gwahanol iawn, ac mae cychod hamdden yn weithgaredd hamdden neu chwaraeon—nid llety dros nos ydyw. Gan mai nod datganedig y Bil yw cefnogi cymunedau yr effeithir arnynt gan dwristiaeth, mae'n werth nodi bod cychod yn hunangynhwysol i raddau helaeth yn yr ardal angori, ac mae'r effaith ar wasanaethau lleol yn sylweddol llai na rhywun sy'n aros mewn gwesty yng nghanol y dref, er enghraifft. Dyma'r rhesymau pam rydw i wedi gosod y gwelliannau hyn ger ein bron ni yma heddiw. Diolch yn fawr.

16:40

Does gyda fi ddim siaradwyr eraill oni bai am yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i siarad ar y grŵp yma. 

I have no other speakers other than the Cabinet Secretary now who will contribute on this group.

Diolch yn fawr, Llywydd. The issue of berths and moorings has been discussed at both earlier Stages of the Bill. The Government's position is unchanged. Application of the visitor levy to berths and moorings is properly within the scope of this Bill. Wales has an industry where cruise liners and private boats come to Wales and stay in Welsh waters. They are types of visitor accommodation, just as are hotels and guest houses. They should be captured by the levy, and the Bill will allow that to happen.

But as we have acknowledged, there are complexities in the marine sector that need further exploration and resolution, so the Bill takes a power to return to this issue in the future. I don’t believe it would be thought a good use of Senedd resources to bring a single piece of primary legislation, divorced from its context, simply to deal with berths and moorings. But before proposals are brought back to the Senedd, more work will be undertaken, including further consultation with the marine sector.

The Scottish Government considered including cruise ships in their visitor levy Act, but also decided to treat them separately due to the distinct operational and legal complexities involved. The Scottish Government has concluded its consultation on a discrete cruise ship levy, and is currently analysing responses, which their Ministers will consider. We will continue to reflect on that experience.

In the meantime, this power should remain in the Bill as that wider work is undertaken. I call on Members therefore to reject amendments 67, 104 and 108 related to the application of the levy to berths and moorings.

Diolch yn fawr, Llywydd. Trafodwyd mater docfeydd ac angorfeydd yn nau Gyfnod cynharach y Bil. Nid yw safbwynt y Llywodraeth wedi newid. Mae cymhwyso'r ardoll ymwelwyr i ddocfeydd ac angorfeydd yn briodol o fewn cwmpas y Bil hwn. Mae gan Gymru ddiwydiant lle mae llongau mordeithio a chychod preifat yn dod i Gymru ac yn aros yn nyfroedd Cymru. Maent yn fathau o lety i ymwelwyr, yn union fel y mae gwestai a thai gwesty. Dylent gael eu dal gan yr ardoll, a bydd y Bil yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Ond fel yr ydym wedi cydnabod, mae cymhlethdodau yn y sector morol sydd angen eu harchwilio a'u datrys ymhellach, felly mae'r Bil yn cymryd pŵer i ddychwelyd at y mater hwn yn y dyfodol. Nid wyf yn credu y byddai'n cael ei ystyried yn ddefnydd da o adnoddau'r Senedd i ddod ag un darn o ddeddfwriaeth sylfaenol, wedi'i hysgaru o'i chyd-destun, yn unig i ymdrin â docfeydd ac angorfeydd. Ond cyn i gynigion gael eu dwyn yn ôl i'r Senedd, bydd mwy o waith yn cael ei wneud, gan gynnwys ymgynghori pellach â'r sector morol.

Ystyriodd Llywodraeth yr Alban gynnwys llongau mordeithio yn eu Deddf ardoll ymwelwyr, ond penderfynodd hefyd eu trin ar wahân oherwydd y cymhlethdodau gweithredol a chyfreithiol gwahanol. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cwblhau ei hymgynghoriad ar ardoll llongau mordeithio ar wahân, ac ar hyn o bryd mae'n dadansoddi ymatebion, y bydd eu Gweinidogion yn eu hystyried. Byddwn yn parhau i fyfyrio ar y profiad hwnnw.

Yn y cyfamser, dylai'r pŵer hwn aros yn y Bil wrth i'r gwaith ehangach hwnnw gael ei wneud. Galwaf ar yr Aelodau felly i wrthod gwelliannau 67, 104 a 108 sy'n ymwneud â chymhwyso'r ardoll ar ddocfeydd ac angorfeydd.

Sam Rowlands i ymateb. 

Sam Rowlands to reply. 

Do you want to respond? 

Ydych chi eisiau ymateb? 

Of course, I'm not surprised by the Cabinet Secretary's position on this. I'd like to remain with our position in terms of the amendments laid before us, because the matter of boats and craft is very different to that fixed accommodation that the Cabinet Secretary outlined, so we still believe that these should not be within the scope. Thank you.

Wrth gwrs, nid wyf wedi fy synnu gan safbwynt yr Ysgrifennydd Cabinet ar hyn. Hoffwn aros gyda'n safbwynt o ran y gwelliannau a osodwyd ger ein bron, oherwydd mae'r mater o gychod a llongau yn wahanol iawn i'r llety sefydlog hwnnw a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, felly rydym yn dal i gredu na ddylai'r rhain fod o fewn y cwmpas. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 67? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 67. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, felly mae gwelliant 67 wedi ei dderbyn. Grŵp 2 yw'r grŵp nesaf—[Torri ar draws.] Mae gwelliant 67 wedi ei wrthod, mae'n ddrwg gyda fi; fy nghamgymeriad i oedd hynny. Roedd y nymbyrs yn glir. Felly, mae gwelliant 67 wedi ei wrthod.  

The question is that amendment 67 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. Therefore, we will move to a vote on amendment 67. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 67 is agreed. The next group is group 2—[Interruption.] Amendment 67 is not agreed; that was my mistake. The numbers were clear. Therefore, amendment 67 is not agreed.

Gwelliant 67: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 67: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Grŵp 2: Adolygu’r Ddeddf (Gwelliannau 65, 66, 105)
Group 2: Review of Act (Amendments 65, 66, 105)

Grŵp 2 yw'r grŵp nesaf o welliannau, yn ymwneud ag adolygu'r Ddeddf. Gwelliant 65 yw'r prif welliant yn y grŵp. Peredur Owen Griffiths sy'n cynnig y prif welliant. 

Group 2 is the next group of amendments, and relates to review of the Act. Amendment 65 is the lead amendment in this group. Peredur Owen Griffiths will be moving and speaking to the lead amendment.

Cynigiwyd gwelliant 65 (Peredur Owen Griffiths).

Amendment 65 (Peredur Owen Griffiths) moved.

Diolch, Llywydd. I'd like to begin this afternoon by thanking the Finance Committee team for their work on this Bill, especially while supporting members of the committee with the scrutiny of the draft budget, the supplementary budget, all the financial resolutions of all Government Bills, and the scrutiny of budgets of the directly funded bodies at the same time. This important work can go under the radar, but I'm sure all members of the Finance Committee would like to join me in our thanks to them.

Turning to my amendments in this group, I'd like to move that amendment, and I'm grateful for the constructive discussion we've had with the Government since Stage 2, and I'm pleased that we have been able to come to an agreement on this review mechanism, following the recommendations made on this issue by the Finance Committee. It would oblige Welsh Ministers to conduct a review of the Act within five years, as well as enabling relevant input from the Welsh Revenue Authority. We've always been of the view that periodic reviews of the effectiveness of policy is good practice. As such, I urge Members to support these amendments. Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau'r prynhawn yma drwy ddiolch i dîm y Pwyllgor Cyllid am eu gwaith ar y Bil hwn, yn enwedig wrth gefnogi aelodau'r pwyllgor gyda chraffu ar y gyllideb ddrafft, y gyllideb atodol, holl benderfyniadau ariannol holl Filiau'r Llywodraeth, a chraffu ar gyllidebau'r cyrff a ariennir yn uniongyrchol ar yr un pryd. Gall y gwaith pwysig hwn ddigwydd heb ddod i'r amlwg, ond rwy'n siŵr y byddai holl aelodau'r Pwyllgor Cyllid yn hoffi ymuno â mi i ddiolch iddynt.

Gan droi at fy ngwelliannau yn y grŵp hwn, hoffwn gynnig y gwelliant hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar am y drafodaeth adeiladol a gafwyd gyda'r Llywodraeth ers Cyfnod 2, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu dod i gytundeb ar y mecanwaith adolygu hwn, yn dilyn yr argymhellion a wnaed ar y mater hwn gan y Pwyllgor Cyllid. Byddai'n gorfodi Gweinidogion Cymru i gynnal adolygiad o'r Ddeddf o fewn pum mlynedd, yn ogystal â galluogi mewnbwn perthnasol gan Awdurdod Refeniw Cymru. Rydym bob amser wedi bod o'r farn bod adolygiadau cyfnodol o effeithiolrwydd polisi yn arfer da. Felly, rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch yn fawr.

16:45

I'm grateful to Peredur Owen Griffiths's amendments, as laid out here. From our side, just to confirm that we would support the amendments as laid out. We recognise that amendment 105, which I have laid, does a very similar role. I was seeking for that review to take place in a shorter time period. Also to confirm, Llywydd, that if amendments 65 and 66 are supported, I would look to withdraw amendment 105, as our amendment looks to achieve very similar outcomes. Diolch yn fawr iawn.

Yr wyf yn ddiolchgar i welliannau Peredur Owen Griffiths, fel y'u nodir yma. O'n hochr ni, dim ond i gadarnhau y byddem yn cefnogi'r gwelliannau fel y'u gosodwyd. Rydym yn cydnabod bod gwelliant 105, yr wyf wedi'i osod, yn cyflawni swyddogaeth debyg iawn. Roeddwn i'n ceisio i'r adolygiad hwnnw ddigwydd mewn cyfnod byrrach. Hefyd i gadarnhau, Llywydd, os cefnogir gwelliannau 65 a 66, byddwn yn ystyried tynnu gwelliant 105 yn ôl, gan fod ein gwelliant yn bwriadu cyflawni canlyniadau tebyg iawn. Diolch yn fawr iawn.

Firstly, I'd like to reiterate Plaid's support for this Bill, which was a part of the co-operation agreement. As we've mentioned several times, we strongly believe the current model of tourism in Wales is overly extractive in nature, which then puts considerable pressure on communities without allowing them, then, to fully reap the rewards from the thousands of people who visit our nation each year. The current model is also unfairly weighted against our domestic tourism industry, which of course exists in a symbiotic relationship with the communities that accommodate those visitors. So, there is a clear case, therefore, to even the playing field and nurture a more sustainable approach to tourism in Wales, and this Bill is an important step forward in this respect.

Let's remember, the introduction of a levy of this kind would, of course, be in line with the arrangements that are already in place in many countries and cities across the globe, arrangements that are either in place or are being considered elsewhere in the UK, like in Liverpool, like in Manchester, and being considered in places like Cornwall. They've done this, or are considering a levy, for a reason, because we all know the pressures on our local authorities. This potentially unlocks investment for those local authorities to put into our communities.

So, in support of amendments 65 and 66, tabled by Peredur Owen Griffiths, it's important that as the levy beds in, a review is conducted to work out if it's achieving the very things that I've just mentioned. It's a sensible step, and we will be supporting those amendments.

Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd cefnogaeth Plaid Cymru i'r Bil hwn, a oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Fel yr ydym wedi sôn sawl gwaith, credwn yn gryf bod y model presennol o dwristiaeth yng Nghymru yn rhy echdynnol ei natur, sydd wedyn yn rhoi cryn bwysau ar gymunedau heb ganiatáu iddynt, felly, fanteisio ar y miloedd o bobl sy'n ymweld â'n gwlad bob blwyddyn. Mae'r model presennol hefyd yn cael ei bwysoli'n annheg yn erbyn ein diwydiant twristiaeth domestig, sydd wrth gwrs yn bodoli mewn perthynas symbiotig â'r cymunedau sy'n darparu ar gyfer yr ymwelwyr hynny. Felly, mae achos clir, i gydbwyso a bod yn decach a meithrin dull mwy cynaliadwy ar gyfer twristiaeth yng Nghymru, ac mae'r Bil hwn yn gam pwysig ymlaen yn hyn o beth.

Gadewch i ni gofio, byddai cyflwyno ardoll o'r math hwn, wrth gwrs, yn unol â'r trefniadau sydd eisoes ar waith mewn llawer o wledydd a dinasoedd ledled y byd, trefniadau sydd naill ai ar waith neu sy'n cael eu hystyried mewn mannau eraill yn y DU, fel yn Lerpwl, fel ym Manceinion, ac yn cael eu hystyried mewn llefydd fel Cernyw. Maen nhw wedi gwneud hyn, neu'n ystyried ardoll, am reswm, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod beth yw'r  pwysau ar ein hawdurdodau lleol. Mae hyn o bosibl yn datgloi buddsoddiad i'r awdurdodau lleol hynny ei roi yn ein cymunedau.

Felly, i gefnogi gwelliannau 65 a 66, a gyflwynwyd gan Peredur Owen Griffiths, mae'n bwysig bod adolygiad yn cael ei gynnal i weithio allan a yw'n cyflawni'r union bethau yr wyf newydd sôn amdanynt. Mae'n gam synhwyrol, a byddwn yn cefnogi'r gwelliannau hynny.

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr, Mark Drakeford.

The Cabinet Secretary now, Mark Drakeford.

Diolch, Llywydd. The Government welcomes amendments 65 and 66. We agree that it's good practice to review the effect of the policy and the legislation, and that has always been the Government's intention. At Stage 1, as Members have heard, the Finance Committee recommended that the Welsh Government amend the Bill to commit to undertaking and publishing a review of the operation and effect of the entire Act no later than five years after Part 2 of the Act comes into force. The Chair of the committee has now moved an amendment based on its work in this area, and I'm very grateful to the Chair of the Finance Committee for the discussions we've had on this matter. I heard, of course, Llywydd, what Sam Rowlands said about amendment 105 and acknowledge that it's a different form of review. The Government believes that amendments 65 and 66 are more practicable, and we will support those amendments, and were it to be put to a vote, we would therefore ask Members to reject amendment 105.

Diolch, Llywydd. Mae'r Llywodraeth yn croesawu gwelliannau 65 a 66. Rydym yn cytuno ei bod yn arfer da i adolygu effaith y polisi a'r ddeddfwriaeth, ac mae hynny bob amser wedi bod yn fwriad gan y Llywodraeth. Yng Nghyfnod 1, fel y clywodd yr Aelodau, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio'r Bil er mwyn ymrwymo i gynnal a chyhoeddi adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf gyfan heb fod yn hwyrach na phum mlynedd ar ôl i Ran 2 o'r Ddeddf ddod i rym. Mae Cadeirydd y pwyllgor bellach wedi cynnig gwelliant yn seiliedig ar ei waith yn y maes hwn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y trafodaethau rydym ni wedi'u cael ar y mater hwn. Clywais, wrth gwrs, Llywydd, beth ddywedodd Sam Rowlands am welliant 105 ac yn cydnabod ei fod yn ffurf wahanol o adolygiad. Mae'r Llywodraeth yn credu bod gwelliannau 65 a 66 yn fwy ymarferol, a byddwn yn cefnogi'r gwelliannau hynny, a phe bai'n cael ei roi i bleidlais, byddem felly yn gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliant 105.

Peredur Owen Griffiths i ymateb.

Peredur Owen Griffiths to reply.

Jest i ddweud 'diolch yn fawr' i bawb am eu cydsyniad i'r gwelliant yma, ac a fedrwn ni ei symud o i bleidlais, os gwelwch yn dda?

Just to thank everyone for having indicated their support for this amendment, and I'd like to move it to a vote, please.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 65? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae gwelliant 65 wedi'i dderbyn.

The question, therefore, is that amendment 65 be agreed to. Does any Member object? There is no objection. Therefore, amendment 65 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Grŵp 3: Partneriaethau a chyrff anghorfforedig (Gwelliannau 1, 53, 19, 20, 60, 38, 39, 40, 51)
Group 3: Partnerships and unincorporated bodies (Amendments 1, 53, 19, 20, 60, 38, 39, 40, 51)

Fe fyddwn ni'n symud ymlaen nawr i grŵp 3 o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â phartneriaethau a chyrff anghorfforedig. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp. Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y prif welliant yma.

We'll move on now to group 3 of amendments. This group relates to partnerships and unincorporated bodies. Amendment 1 is the lead amendment in this group. I call on the Cabinet Secretary to move and speak to the lead amendment.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Mark Drakeford).

Amendment 1 (Mark Drakeford) moved.

Diolch yn fawr, Llywydd. As you said, the amendments in this group all relate to partnerships and unincorporated bodies. Partnerships and unincorporated bodies are entities that often require technical provisions to ensure tax liability applies correctly to the persons who are members of them. This is because these business arrangements do not sit neatly within the categories of individual or body corporates, which are both legal entities. Most partnerships and unincorporated bodies do not have such a legal personality, and therefore responsibility lies with the members of the partnership. Many businesses registering as a visitor accommodation provider will be partnerships, for example some smaller bed and breakfasts owned by spouses or civil partners. All amendments in this group are designed to clarify the legal obligations of partnerships and unincorporated bodies within the Bill, and therefore the majority of the amendments in this group are technical in nature. They make clear what people are expected and not expected to do, to support our goal of ensuring clear understanding of duties and responsibilities.

Amendment 1 and amendment 20 remove those parts of the Bill that previously defined the term 'person' as including two or more people acting in partnership. We're adding a new section that covers partnerships and unincorporated bodies. Amendment 19 inserts that new section, which makes provision about the continuity of registration when members of the partnership or unincorporated body changes. It also provides clarity that anybody who leaves the partnership or body will continue to be treated as a member until the register is updated to reflect their departure.

Amendment 53 requires that the register must contain the names and addresses of each member of the partnership or the unincorporated body, an issue to which we will return with further amendments in group 4.

Llywydd, amendment 60 amends the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 in relation to the application of penalty points to partnerships and unincorporated bodies. This provision means that the penalty points are, in effect, awarded to and held by the partnership or body as a whole, but that the individual members will be jointly and severally liable to any fines that result from the accumulation of penalty points.

Amendments 38 and 39 are technical amendments to section 54 of the Bill. Both amendments are intended to clarify the effect of provisions in Part 2 of the Bill and remove any suggestion that they operate only in relation to provision that is expressly about partnerships or unincorporated bodies.

Amendment 40 deletes the definition of 'managing members of an unincorporated body' from section 54. This is now included in the interpretation section of the Bill, as this term appears in several places across it.

And finally, amendment 51 defines 'managing members of an unincorporated body' in the interpretation section of the Bill, that is section 63. This has general application throughout the legislation. The approach was adopted in the light of amendment 53, which introduces a reference to 'managing members' in Schedule 1 to the Bill.

Llywydd, while these are technical amendments, given the nature of visitor accommodation ownership in Wales, they are important ones, and I ask Members to support them all.

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y dywedoch, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn i gyd yn ymwneud â phartneriaethau a chyrff anghorfforedig. Mae partneriaethau a chyrff anghorfforedig yn endidau sy'n aml yn gofyn am ddarpariaethau technegol i sicrhau bod atebolrwydd treth yn berthnasol i'r personau sy'n aelodau ohonynt yn gywir. Mae hyn oherwydd nad yw'r trefniadau busnes yn eistedd yn daclus o fewn y categorïau o unigolion neu gyrff corfforedig, sy'n endidau cyfreithiol. Nid oes gan y rhan fwyaf o bartneriaethau a chyrff anghorfforedig bersonoliaeth gyfreithiol o'r fath, ac felly mae cyfrifoldeb yn gorwedd ar aelodau'r bartneriaeth. Bydd llawer o fusnesau sy'n cofrestru fel darparwr llety ymwelwyr yn bartneriaethau, er enghraifft rhai gwely a brecwast llai sy'n eiddo i gwpl priod neu bartneriaid sifil. Mae'r holl welliannau yn y grŵp hwn wedi'u cynllunio i egluro rhwymedigaethau cyfreithiol partneriaethau a chyrff anghorfforedig o fewn y Bil, ac felly mae'r mwyafrif o'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn dechnegol eu natur. Maent yn gwneud yn glir beth mae pobl yn disgwyl ac nad ydynt yn disgwyl ei wneud, i gefnogi ein nod o sicrhau dealltwriaeth glir o ddyletswyddau a chyfrifoldebau.

Mae gwelliant 1 a gwelliant 20 yn dileu'r rhannau hynny o'r Bil a ddiffiniodd y term 'person' yn flaenorol fel cynnwys dau neu fwy o bobl sy'n gweithredu mewn partneriaeth. Rydym yn ychwanegu adran newydd sy'n cwmpasu partneriaethau a chyrff anghorfforedig. Mae gwelliant 19 yn mewnosod yr adran newydd honno, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch parhad cofrestru pan fydd aelodau'r bartneriaeth neu'r corff anghorfforedig yn newid. Mae hefyd yn rhoi eglurder y bydd unrhyw un sy'n gadael y bartneriaeth neu'r corff yn parhau i gael ei drin fel aelod nes bod y gofrestr yn cael ei diweddaru i adlewyrchu ei ymadawiad.

Mae gwelliant 53 yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i'r gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob aelod o'r bartneriaeth neu'r corff anghorfforedig, mater y byddwn yn dychwelyd ato gyda gwelliannau pellach yng ngrŵp 4.

Llywydd, mae gwelliant 60 yn diwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn perthynas â chymhwyso pwyntiau cosb i bartneriaethau a chyrff anghorfforedig. Mae'r ddarpariaeth hon yn golygu bod y pwyntiau cosb yn cael eu dyfarnu i'r bartneriaeth neu'r corff ac yn cael eu dal ganddynt yn eu cyfanrwydd, ond bydd yr aelodau unigol yn agored ar y cyd ac yn unigol i unrhyw ddirwyon sy'n deillio o gronni pwyntiau cosb.

Mae gwelliannau 38 a 39 yn welliannau technegol i adran 54 o'r Bil. Bwriad y ddau welliant yw egluro effaith darpariaethau yn Rhan 2 o'r Bil a dileu unrhyw awgrym eu bod yn gweithredu mewn perthynas â darpariaeth sy'n ymwneud yn benodol â phartneriaethau neu gyrff anghorfforedig.

Mae gwelliant 40 yn dileu'r diffiniad o 'aelodau rheoli corff anghorfforedig' o adran 54. Mae hwn bellach wedi'i gynnwys yn adran dehongli'r Bil, gan fod y term hwn yn ymddangos mewn sawl man ar draws y Bil.

Ac yn olaf, mae gwelliant 51 yn diffinio 'aelodau rheoli corff anghorfforedig' yn adran dehongli'r Bil, sef adran 63. Mae hyn yn gymwys yn gyffredinol trwy'r ddeddfwriaeth. Mabwysiadwyd y dull yng ngoleuni gwelliant 53, sy'n cyflwyno cyfeiriad at 'aelodau rheoli' yn Atodlen 1 i'r Bil.

Llywydd, er bod y rhain yn welliannau technegol, o ystyried natur perchnogaeth llety i ymwelwyr yng Nghymru, maent yn rhai pwysig, a gofynnaf i'r Aelodau i'w cefnogi i gyd.

16:50

Does gyda fi ddim siaradwyr yn y grŵp yma. Dyw'r Ysgrifennydd y Cabinet ddim eisiau ateb ei hunan. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

I have no speakers in this group. The Cabinet Secretary, I assume, doesn't want to reply to himself. So, the question is that amendment 1 be agreed to. Does any Member object? There is no objection. Therefore, amendment 1 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Grŵp 4: Cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr (Gwelliannau 2, 3, 116, 68, 106, 109, 110, 111)
Group 4: Register of visitor accommodation providers (Amendments 2, 3, 116, 68, 106, 109, 110, 111)

Byddwn ni'n mynd ymlaen nawr i grŵp 4 o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â chofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliant yma eto. 

We'll move on now to group 4 of amendments. These relate to a register of visitor accommodation providers. Amendment 2 is the lead amendment in this group, and the Cabinet Secretary will again move and speak to the lead amendment.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Mark Drakeford).

Amendment 2 (Mark Drakeford) moved.

Llywydd, this group of amendments focus on the operation of the register, an important foundation stone of the Bill, primarily to provide for the collection and management of the visitor levy, but also to support wider decision making through better data. The registration system also takes us a step further towards licensing proposals, and those will be brought in front of the Senedd through a separate Bill.

I'll deal first with Government amendment 3. During Stage 2, an amendment was tabled and agreed that requires the WRA to establish and maintain the registration system. It also sets out what the WRA must, may and may not publish from the register of accommodation providers. Amendment 3 deals with and aligns the publication of names of individuals operating in a partnership or unincorporated body, with the exemption for the publication of names of individual providers. This provision balances ensuring the published register is transparent and fit for purpose, while affording protection to individuals who operate visitor accommodation businesses. It has the effect of preventing the WRA from publishing without consent the names of such individuals unless the individual's full name and surname are part of the business name of the visitor accommodation provider. This also aligns with amendment 53, which was discussed in the previous group, which provides consistency in approach between members of partnerships and unincorporated bodies with individuals.

Llywydd, mae'r grŵp hwn o welliannau yn canolbwyntio ar weithredu'r gofrestr, carreg sylfaen bwysig i'r Bil, yn bennaf i ddarparu ar gyfer casglu a rheoli'r ardoll ymwelwyr, ond hefyd i gefnogi gwneud penderfyniadau ehangach drwy well data. Mae'r system gofrestru hefyd yn mynd â ni gam ymhellach tuag at gynigion trwyddedu, a bydd y rheini yn cael eu dwyn ger bron y Senedd trwy Fil ar wahân.

Fe wnaf ymdrin yn gyntaf â gwelliant 3 y Llywodraeth. Yn ystod Cyfnod 2, cyflwynwyd gwelliant a chytunwyd ar hynny sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ACC sefydlu a chynnal y system gofrestru. Mae hefyd yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i'r ACC ei gyhoeddi, a'r hyn y gall ac na all ei gyhoeddi o'r gofrestr o ddarparwyr llety. Mae gwelliant 3 yn ymdrin â chyhoeddi enwau unigolion sy'n gweithredu mewn partneriaeth neu gorff anghorfforedig, ac yn alinio hynny â'r eithriad ar gyfer cyhoeddi enwau darparwyr unigol. Mae'r ddarpariaeth hon yn cydbwyso rhwng sicrhau bod y gofrestr gyhoeddedig yn dryloyw ac yn addas i'r diben, a rhoi amddiffyniad i unigolion sy'n gweithredu busnesau llety ymwelwyr. Mae'n cael yr effaith o atal yr ACC rhag cyhoeddi enwau unigolion o'r fath heb ganiatâd oni bai fod enw llawn a chyfenw'r unigolyn yn rhan o enw busnes y darparwr llety ymwelwyr. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â gwelliant 53, a drafodwyd yn y grŵp blaenorol, sy'n rhoi cysondeb i'r dull gweithredu wrth ymdrin ag aelodau partneriaethau a chyrff anghorfforedig ac unigolion.

The amendment also changes the approach taken in the Bill to addresses, applying the same rationale. The amendment means that the WRA cannot publish the addresses of any individuals, including those operating through partnerships or as managing members of an unincorporated association, without consent, except where an individual's address is the place at which the visitor accommodation is provided. It is important that the address as provided remains visible on the register, even in those instances where the individual lives there, to ensure the register is an accurate, open record of visitor accommodation in Wales. It means that a partnership operating visitor accommodation from their home would be able to refuse consent for their names to appear on the public register, but their address would be published.

Amendment 2 is a technical amendment, consequential on the subsections inserted by amendment 3.

If I turn to the non-Government amendments in this group, I cannot support amendment 116, which would place a duty on principal councils to notify the WRA when it receives information that a visitor accommodation provider has not registered and is satisfied that the information is not 'frivolous or vexatious'. I have thought carefully about this amendment, Llywydd, because I agree that such information sharing is important. The question is whether a duty has to be placed on principal councils to secure that information sharing. My conclusion is that the sole purpose of amendment 116 could and will be secured in other ways. There already exist information-sharing gateways that permit the disclosure of data for compliance purposes, and I believe that local councils have every incentive to do so. However, in view of the serious purpose of the amendment and to reinforce those powers and incentives, I have given the undertaking this afternoon that we will issue guidance to local authorities that encourages and supports providing the WRA with useful information for those compliance purposes. I agree, of course, that the operation of the Bill will need to be reviewed, but as we have already supported amendment 66, tabled by Peredur Owen Griffiths—we debated that earlier this afternoon in group 2—therefore, I cannot support amendment 68.

Amendment 106 removes the power of Welsh Ministers to make different provisions for different areas within regulations made under the Bill. A similar amendment was rejected at Stage 2 and I cannot support this amendment now. Given that it is likely that the Bill will, in practice, operate in some areas of Wales but not others, it is entirely reasonable for the Welsh Ministers to make different provision for different areas within the regulations made under section 62. There is no case to fetter how we will implement the legislation in this way, and having the flexibility allows us to ensure that the correct approach is taken.

In the same way as amendment 106, amendment 111 removes the power for the Welsh Ministers to make different provisions for different areas, with this amendment removing the flexibility for the commencement Order for provisions relating to the register. There are good reasons, Llywydd, why a Government may wish to phase-in the registration requirements by area and there's no case, I believe, for removing this flexibility. I therefore ask Members to reject amendment 111.

Another amendment that seeks to remove decision making from principal councils is amendment 109, which stipulates that the regulation required to be made under Sam Rowlands's amendment 112, related to commencing the levy, cannot be laid before the Senedd until the report required by Sam Rowlands's amendment 68 has been laid before the Senedd. The required regulation may not be approved until 90 days have passed since the draft Order was laid. Amendment 110 is linked to this amendment, as it removes the wording that commences Part 3. The effect of all these amendments together is to delay the levy coming into force. We believe that local authorities must have freedom of action. Some may choose to wait for the data from the register; others will have good insight and better data from which to make decisions. It is a matter for principal councils to decide. I therefore reject amendments 109 and 110.

Amendment 112 is in a separate group, but, as it is linked to these amendments, I want to be clear with Members now that I will also reject it. The risk of accepting these amendments is clear; delay would turn into a permanent inhibition on direct introduction of the levy. By contrast, the Government amendments in this group take our ambition forward. I therefore ask Members to support amendments 2 and 3, and to reject all others in this group.

Mae'r gwelliant hefyd yn newid y dull a fabwysiadwyd yn y Bil o ran cyfeiriadau, gan gymhwyso'r un rhesymeg. Mae'r diwygiad yn golygu na all yr ACC gyhoeddi cyfeiriadau unrhyw unigolion, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu trwy bartneriaethau neu fel aelodau rheoli cymdeithas anghorfforedig, heb ganiatâd, ac eithrio pan fo cyfeiriad unigolyn yn cyfateb i gyfeiriad y lle y darperir y llety i ymwelwyr. Mae'n bwysig bod y cyfeiriad fel y'i darperir yn parhau i fod yn weladwy ar y gofrestr, hyd yn oed yn yr achosion hynny lle mae'r unigolyn yn byw yno, er mwyn sicrhau bod y gofrestr yn gofnod cywir, agored o lety ymwelwyr yng Nghymru. Mae'n golygu y byddai partneriaeth sy'n gweithredu llety ymwelwyr o'u cartref yn gallu gwrthod caniatâd i'w henwau ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus, ond byddai eu cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi.

Mae gwelliant 2 yn welliant technegol, sy'n ganlyniadol i'r is-adrannau a fewnosodwyd gan welliant 3.

Os trof at y gwelliannau nad ydynt yn rhai'r Llywodraeth yn y grŵp hwn, ni allaf gefnogi gwelliant 116, a fyddai'n rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i hysbysu'r ACC pan fyddant yn derbyn gwybodaeth nad yw darparwr llety ymwelwyr wedi cofrestru ac yn fodlon nad yw'r wybodaeth yn 'yn wacsaw neu’n flinderus'. Rwyf wedi meddwl yn ofalus am y gwelliant hwn, Llywydd, oherwydd rwy'n cytuno bod rhannu gwybodaeth o'r fath yn bwysig. Y cwestiwn yw a oes rhaid rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i sicrhau eu bod yn rhannu'r wybodaeth honno. Fy nghasgliad yw y gellid ac y bydd unig bwrpas gwelliant 116 yn cael ei sicrhau mewn ffyrdd eraill. Mae pyrth rhannu gwybodaeth eisoes yn bodoli sy'n caniatáu datgelu data at ddibenion cydymffurfio, ac rwy'n credu bod gan gynghorau lleol bob cymhelliant i wneud hynny. Fodd bynnag, o ystyried pwrpas difrifol y gwelliant ac i atgyfnerthu'r pwerau a'r cymhellion hynny, rwyf wedi rhoi ymrwymiad y prynhawn yma y byddwn yn cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol sy'n annog ac yn cefnogi darparu gwybodaeth ddefnyddiol i'r ACC at y dibenion cydymffurfio hynny. Cytunaf, wrth gwrs, y bydd angen adolygu gweithrediad y Bil, ond gan ein bod eisoes wedi cefnogi gwelliant 66, a gyflwynwyd gan Peredur Owen Griffiths—fe wnaethom drafod hynny yn gynharach y prynhawn yma yng ngrŵp 2—felly, ni allaf gefnogi gwelliant 68.

Mae gwelliant 106 yn dileu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer gwahanol feysydd o fewn rheoliadau a wneir o dan y Bil. Gwrthodwyd gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2 ac ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn nawr. O ystyried ei bod yn debygol y bydd y Bil, yn ymarferol, yn gweithredu mewn rhai ardaloedd o Gymru ond nid eraill, mae'n gwbl resymol i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol feysydd o fewn y rheoliadau a wneir o dan adran 62. Nid oes achos i rwystro sut y byddwn yn gweithredu'r ddeddfwriaeth yn y modd hwn, ac mae cael yr hyblygrwydd yn ein galluogi i sicrhau bod y dull cywir yn cael ei fabwysiadu.

Yn yr un modd â gwelliant 106, mae gwelliant 111 yn dileu'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer gwahanol feysydd, gyda'r gwelliant hwn yn dileu'r hyblygrwydd ar gyfer y Gorchymyn cychwyn ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â'r gofrestr. Mae rhesymau da, Llywydd, pam y gallai Llywodraeth fod yn dymuno graddio'r gofynion cofrestru yn ôl ardal ac nid oes unrhyw achos, rwy'n credu, dros gael gwared ar yr hyblygrwydd hwn. Gofynnaf felly i'r Aelodau wrthod gwelliant 111.

Gwelliant arall sy'n ceisio tynnu'r cyfrifoldeb o wneud penderfyniadau oddi ar brif gynghorau yw gwelliant 109, sy'n nodi nad ellir gosod y rheoliad y mae'n ofynnol ei wneud o dan welliant 112 gan Sam Rowlands, sy'n ymwneud â dechrau'r ardoll, gerbron y Senedd nes bod yr adroddiad sy'n ofynnol gan welliant 68 Sam Rowlands wedi'i osod gerbron y Senedd. Ni chaniateir cymeradwyo'r rheoliad gofynnol nes bod 90 diwrnod wedi mynd heibio ers gosod y Gorchymyn drafft. Mae gwelliant 110 yn gysylltiedig â'r gwelliant hwn, gan ei fod yn dileu'r geiriad sy'n dechrau Rhan 3. Effaith yr holl welliannau hyn gyda'i gilydd yw gohirio'r adeg y daw'r ardoll i rym. Credwn fod yn rhaid i awdurdodau lleol gael rhyddid i weithredu. Efallai y bydd rhai yn dewis aros am y data o'r gofrestr; bydd gan eraill fewnwelediad da a data gwell er mwyn gwneud penderfyniadau. Mae'n fater i brif gynghorau benderfynu. Felly, gwrthodaf welliannau 109 a 110.

Mae gwelliant 112 mewn grŵp ar wahân, ond, gan ei fod yn gysylltiedig â'r gwelliannau hyn, rwyf am fod yn glir gyda'r Aelodau nawr y byddaf hefyd yn ei wrthod. Mae'r risg o dderbyn y gwelliannau hyn yn glir; byddai oedi yn troi'n ataliad parhaol rhag cyflwyno'r ardoll yn uniongyrchol. Mewn cyferbyniad, mae gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn yn mynd â'n huchelgais ymlaen. Gofynnaf felly i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 2 a 3, ac i wrthod pob un arall yn y grŵp hwn.

17:00

I shall speak to amendments that the Cabinet Secretary referred to in his closing moments there, which are the amendments I've laid, the principal amendments being 68 and 109, with the associated consequential amendments. The issue that is trying to be tackled with these amendments is the acknowledgement by many, and clear in the explanatory memorandum, that the data available to the Government in preparing this legislation is very limited, to say the least. For Members who've had the pleasure of reading through the explanatory memorandum, you will note that the range of outcomes and the range of impact as a result of this legislation is significant. That is because very little is actually known about the detail of the accommodation likely to be impacted as a result of this legislation. What this amendment seeks to do—. Rather than having an ad hoc approach to registration by various councils across Wales, this amendment seeks to have an all-Wales registration take place at the same time, so that Members in this place can get a better grip and understanding of the accommodation picture that this legislation is going to impact in Wales.

We've heard historically that we should be led by the science and we should always be looking at more and better data to inform our decision making. These amendments seek to do that; they seek to provide much better data all at once, so that an informed decision can be made as to whether a visitor levy is a good or a bad idea, and the impact of that levy being in place. I think it's a very reasonable set of amendments that I've laid in relation to this. We support registration; I think that is a good idea within this legislation, so Government and local authorities and our communities have a better understanding of the picture that's in front of us. I think the ad hoc approach that is likely to take place, with various councils instigating registration at different times, has a risk of causing confusion and does not paint a picture of accommodation providers in Wales all at once. So, I would ask Government to reconsider their current position on the amendments I've laid here.

Turning to Government amendments that have been laid in this section, we're happy to support those; they make sense. As I say, the general principle of registration is an important one and we're happy to support those. I would also, though, echo the Cabinet Secretary's comments in relation to amendment 116. We do not believe that placing a duty on councils in relation to this is the right approach, and expect this will be dealt with in other ways that will be more practical and more efficient ways of doing so. Diolch yn fawr iawn.

Rwyf am siarad am y gwelliannau y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet atynt wrth iddo gloi, sef y gwelliannau rydw i wedi'u gosod, y prif welliannau yw 68 a 109, gyda'r gwelliannau canlyniadol cysylltiedig. Y mater mae'r gwelliannau yn ceisio mynd i'r afael ag ef yw'r gydnabyddiaeth gan lawer, ac yn glir yn y memorandwm esboniadol, bod y data sydd ar gael i'r Llywodraeth wrth baratoi'r ddeddfwriaeth hon yn gyfyngedig iawn, a dweud y lleiaf. I'r Aelodau sydd wedi cael y pleser o ddarllen drwy'r memorandwm esboniadol, byddwch yn sylwi bod yr ystod o ganlyniadau a'r ystod o effaith o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon yn sylweddol. Mae hynny oherwydd ychydig iawn sy'n hysbys mewn gwirionedd am fanylion y llety y mae'n debygol yr effeithir arno o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon. Yr hyn y mae'r gwelliant hwn yn ceisio ei wneud—. Yn hytrach na chael dull ar hap o gofrestru gan wahanol gynghorau ledled Cymru, mae'r gwelliant hwn yn ceisio cael cofrestriad Cymru gyfan ar yr un pryd, fel y gall Aelodau yn y lle hwn gael gwell gafael a dealltwriaeth o'r math ar lety y bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio arno yng Nghymru.

Rydym wedi clywed yn hanesyddol y dylem gael ein harwain gan y wyddoniaeth a dylem bob amser fod yn edrych ar fwy o ddata a data gwell i lywio ein penderfyniadau. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio gwneud hynny; maent yn ceisio darparu data llawer gwell ar unwaith, fel y gellir gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch a yw ardoll ymwelwyr yn syniad da neu ddrwg, ac effaith yr ardoll honno pan fydd ar waith. Rwy'n credu fy mod wedi gosod cyfres resymol iawn o welliannau mewn perthynas â hyn. Rydym yn cefnogi cofrestru; rwy'n credu bod hynny'n syniad da o fewn y ddeddfwriaeth hon, felly mae'r Llywodraeth ac awdurdodau lleol a'n cymunedau yn cael gwell dealltwriaeth o'r darlun sydd o'n blaenau. Rwy'n credu bod y dull ar hap sy'n debygol o ddigwydd, gyda chynghorau amrywiol yn annog cofrestru ar wahanol adegau, yn peri risg o achosi dryswch ac nid yw'n paentio darlun o ddarparwyr llety yng Nghymru ar yr un pryd. Felly, rwyf yn gofyn i'r Llywodraeth ailystyried eu safbwynt presennol ar y gwelliannau rydw i wedi'u gosod yma.

Gan droi at welliannau'r Llywodraeth sydd wedi'u gosod yn yr adran hon, rydym yn hapus i gefnogi'r rheini; maen nhw'n gwneud synnwyr. Fel y dywedaf, mae'r egwyddor gyffredinol o gofrestru yn un bwysig ac rydym yn hapus i gefnogi'r rheini. Byddwn hefyd yn adleisio sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet mewn perthynas â gwelliant 116. Nid ydym yn credu mai gosod dyletswydd ar gynghorau mewn perthynas â hyn yw'r dull cywir, ac yn disgwyl y bydd hyn yn cael ei drin mewn ffyrdd eraill a fydd yn ffyrdd mwy ymarferol a mwy effeithlon o wneud hynny. Diolch yn fawr iawn.

17:05

We have a situation here where there is cross-party agreement. Registration is very important if this levy is to work. We heard it from Sam Rowlands, we've heard it several times from the Cabinet Secretary, that the lack of data within the sector and the lack of understanding around the different types of accommodation that are within our communities creates a problem. So, it's incredibly important we get this right for a number of reasons, not just now, but also into the future. 

That's what is behind the spirit of amendment 116, and I would like to just say thank you to Siân Gwenllian for helping to put this amendment together. The purpose of this amendment is to place a duty on local authorities, as we heard from the Cabinet Secretary, to co-operate with the Welsh Revenue Authority in cases where credible information has been received that a qualifying visitor accommodation provider has not registered in accordance with the terms of this Bill. Now, the Cabinet Secretary is completely right in terms of his argument that we need accuracy when it comes to this register, and we believe that this helps towards that objective. It enables an appropriate and effective safeguard against unfair non-compliance, as well as then embedding collaboration between the responsible oversight bodies and the local community.

Of course, I welcome what the Cabinet Secretary said in terms of issuing guidance. However, on this occasion, we would want to see something a bit more cast iron. That's why we've called for a duty on local authorities, and we will be looking to push to a vote. But, in terms of the Government amendments, I fully support the Government amendments going forward.

Mae gennym sefyllfa yma lle mae cytundeb trawsbleidiol. Mae cofrestru yn bwysig iawn os yw'r ardoll hon i weithio. Clywsom gan Sam Rowlands, rydym wedi clywed sawl gwaith gan yr Ysgrifennydd Cabinet, bod y diffyg data o fewn y sector a'r diffyg dealltwriaeth ynghylch y gwahanol fathau o lety sydd yn ein cymunedau yn creu problem. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n cael hyn yn iawn am nifer o resymau, nid yn unig nawr, ond hefyd i'r dyfodol. 

Dyna sydd y tu ôl i ysbryd gwelliant 116, a hoffwn ddiolch i Siân Gwenllian am helpu i roi'r gwelliant hwn at ei gilydd. Pwrpas y gwelliant hwn yw gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol, fel y clywsom gan yr Ysgrifennydd Cabinet, i gydweithredu ag Awdurdod Cyllid Cymru mewn achosion lle mae gwybodaeth gredadwy wedi'i derbyn nad yw darparwr llety ymwelwyr cymwys wedi cofrestru yn unol â thelerau'r Bil hwn. Nawr, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn hollol gywir o ran ei ddadl bod angen cywirdeb arnom pan ddaw i'r gofrestr hon, ac rydym yn credu bod hyn yn helpu o ran yr amcan hwnnw. Mae'n galluogi diogelwch priodol ac effeithiol rhag diffyg cydymffurfio annheg, yn ogystal ag ymgorffori cydweithrediad wedyn rhwng y cyrff goruchwylio cyfrifol a'r gymuned leol.

Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet o ran cyhoeddi canllawiau. Fodd bynnag, ar yr achlysur hwn, byddem eisiau gweld rhywbeth ychydig yn fwy cadarn. Dyna pam rydym ni wedi galw am ddyletswydd ar awdurdodau lleol, a byddwn yn ceisio gwthio hyn i bleidlais. Ond, o ran gwelliannau'r Llywodraeth, rwy'n cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth yn llwyr wrth symud ymlaen.

Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.

The Cabinet Secretary to reply to the debate.

Diolch, Llywydd. This Bill will improve data through the maintenance of the register. I'm grateful to both Luke Fletcher and Sam Rowlands for acknowledging that. But, Llywydd, the Bill has always been one that seeks to provide a permissive power for local authorities. It's for local authorities to decide whether or not they wish to introduce a visitor levy in their area. Sam Rowlands refers to that as an ad hoc system. For the Government, it is a system designed to offer choice to local authorities. I do not see the argument that suggests that a local authority in north Wales that wishes to go ahead with a visitor levy and has the data from the register for their area should be held up in doing so until the whole of the rest of Wales has been registered, including in local authorities that don't have an intention to introduce a visitor levy. That's why I'm asking Members to reject his—

Diolch, Llywydd. Bydd y Bil hwn yn gwella data drwy gynnal y gofrestr. Rwy'n ddiolchgar i Luke Fletcher a Sam Rowlands am gydnabod hynny. Ond, Llywydd, mae'r Bil bob amser wedi bod yn un sy'n ceisio darparu'r pŵer caniataol i awdurdodau lleol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol benderfynu a ydyn nhw'n dymuno cyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal ai peidio. Mae Sam Rowlands yn cyfeirio at hynny fel system ar hap. I'r Llywodraeth, mae'n system sydd wedi'i chynllunio i gynnig dewis i awdurdodau lleol. Nid wyf yn gweld y ddadl sy'n awgrymu y dylai awdurdod lleol yn y gogledd sy'n dymuno bwrw ymlaen ag ardoll ymwelwyr ac sydd â'r data o'r gofrestr ar gyfer eu hardal gael ei ddal rhag gwneud hynny nes bod gweddill Cymru gyfan wedi'i chofrestru, gan gynnwys mewn awdurdodau lleol nad oes ganddynt fwriad i gyflwyno ardoll ymwelwyr. Dyna pam rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod ei—

Will you take an intervention?

A wnewch chi gymryd ymyriad?

Cabinet Secretary, just to build on the point I was making, what you're asking Members in this place to do today is to support the introduction of a levy at a rate, which we'll come on to in later discussions, but without the data to understand the impact of that. So, my amendments seek to provide us in this place, as responsible decision makers, an ability to understand the full picture before being asked to enable a levy to be implemented. Surely that is a commonsense approach.

Ysgrifennydd Cabinet, dim ond i adeiladu ar y pwynt yr oeddwn yn ei wneud, yr hyn rydych chi'n gofyn i Aelodau yn y lle hwn ei wneud heddiw yw cefnogi cyflwyno ardoll ar gyfradd, y byddwn yn dod ato mewn trafodaethau diweddarach, ond heb y data i ddeall effaith hynny. Felly, mae fy newidiadau yn ceisio rhoi gallu i ni yn y lle hwn, fel rhai sy'n gwneud penderfyniadau cyfrifol, ddeall y darlun llawn cyn y gofynnir i ni alluogi gweithredu'r ardoll. Mae'n rhaid mai hwnnw yw'r dull synnwyr cyffredin.

No, I think it's an approach that misunderstands the purpose of the Bill, Llywydd. The decision whether or not to go ahead with a visitor levy is not one that will be made in the Senedd. The Senedd is providing a permissive power for local authorities, who go on and make that decision. There is no case, as I see it, to delay that decision making for an authority that has the data and the register and wants to go ahead because there are other local authorities in Wales where that has not yet taken place. That would be the effect of the amendments Sam Rowlands has introduced. It would delay every part of Wales until the whole of Wales has completed the register, and that has never been our intention.

Llywydd, Luke Fletcher makes a good case for his amendment. It's one that I thought carefully about in advance of today. The difference between us is not in the intention or the object of the amendment; it's whether or not you need to place a duty on a local authority to do something that I believe a local authority has every incentive to do in the first place. Because a local authority will want to collect the levy, and, if an accommodation is not on the register, they won't get the levy and therefore they have every incentive to make sure that the WRA is alerted to visitor accommodation that ought to be registered and is not. And I don't think it's necessary always to place a duty on public bodies to do what they would do in any case. As I say, we will publish guidance to reinforce that point with them, and I share the intention behind the amendment, even though, from a Government side, we think it is unnecessary. 

Na, rwy'n credu ei fod yn ddull sy'n camddeall pwrpas y Bil, Llywydd. Nid yw'r penderfyniad a ddylid bwrw ymlaen ag ardoll ymwelwyr yn un a fydd yn cael ei wneud yn y Senedd. Mae'r Senedd yn darparu pŵer caniataol i awdurdodau lleol, sy'n mynd i wneud y penderfyniad hwnnw. Nid oes unrhyw achos, fel yr wyf yn ei weld, i ohirio'r penderfyniad hwnnw i awdurdod sydd â'r data a'r gofrestr ac sydd eisiau bwrw ymlaen oherwydd bod yna awdurdodau lleol eraill yng Nghymru lle nad yw hynny wedi digwydd eto. Dyna fyddai effaith y gwelliannau y mae Sam Rowlands wedi'u cyflwyno. Byddai'n oedi pob rhan o Gymru nes bod Cymru gyfan wedi cwblhau'r gofrestr, ac nid yw hynny erioed wedi bod yn fwriad gennym.

Llywydd, mae Luke Fletcher yn gwneud achos da dros ei welliant. Mae'n un yr wyf wedi meddwl yn ofalus amdano cyn heddiw. Nid yw'r gwahaniaeth rhyngom ni yn y bwriad nac yng ngwrthrych y gwelliant; mae'n p'un a oes angen i chi roi dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud rhywbeth yr wyf yn credu bod gan awdurdod lleol bob cymhelliant i'w wneud yn y lle cyntaf. Oherwydd bydd awdurdod lleol eisiau casglu'r ardoll, ac, os nad yw llety ar y gofrestr, ni fyddant yn cael yr ardoll ac felly mae ganddynt bob cymhelliant i wneud yn siŵr bod yr ACC yn cael ei rybuddio am lety ymwelwyr y dylid ei gofrestru ac sydd heb wneud. Ac nid wyf yn credu ei bod yn angenrheidiol bob amser i roi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wneud yr hyn y byddent yn ei wneud beth bynnag. Fel y dywedaf, byddwn yn cyhoeddi canllawiau i atgyfnerthu'r pwynt hwnnw gyda nhw, ac rwy'n rhannu'r bwriad y tu ôl i'r gwelliant, er ein bod ni fel Llywodraeth yn meddwl ei fod yn ddiangen. 

17:10

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.

The question, therefore, is that amendment 2 be agreed to. Does any Member object? There is no objection. Therefore, amendment 2 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 3. Yn cael ei symud yn ffurfiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet?

Amendment 3. Is it moved formally by the Cabinet Secretary?

Cynigiwyd gwelliant 3 (Mark Drakeford).

Amendment 3 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 3, felly, wedi'i dderbyn.

Yes, it is. The question is that amendment 3 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 3 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 53. Yn cael ei symud, Ysgrifennydd Cabinet?

Amendment 53. Is it moved, Cabinet Secretary?

Cynigiwyd gwelliant 53 (Mark Drakeford).

Amendment 53 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 53? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 53 hefyd wedi'i dderbyn.

Yes, it is. The question is that amendment 53 be agreed to. Does any Member object? There is no objection. Therefore, amendment 53 is also agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Grŵp 5: Cosbau (Gwelliannau 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 54, 55)
Group 5: Penalties (Amendments 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 54, 55)

Y pumed grŵp o welliannau nawr, ac mae'r gwelliannau yma'n ymwneud â chosbau. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac rwy'n cynnig bod gwelliannau 4 i 16 yn y grŵp yma'n cael eu gwaredu ar y cyd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Na, does dim gwrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n eu gwaredu nhw ar y cyd pan ddown ni i'r pleidleisio. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig gwelliannau 4 i 16.

We'll move to our fifth group of amendments now, and these amendments relate to penalties. The lead amendment in the group is amendment 4, and I propose that amendments 4 to 16 are disposed of en bloc. Does any Member object? No, there are no objections, therefore we will dispose of the amendments en bloc when it comes to voting. I call on the Cabinet Secretary to move amendments 4 to 16.

Cynigiwyd gwelliannau 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 ac 16 (Mark Drakeford).

Amendments 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 and 16 (Mark Drakeford) moved.

Diolch, Llywydd. The amendments in group 5, while technical in nature, are important to ensure the correct operation of penalties in the Bill. 

Amendments 17 and 18 ensure that, even after someone stops being a visitor accommodation provider, they can still be held responsible for any penalties they incurred while they were providing accommodation, such as not registering under section 7, or failing to inform the WRA of changes or inaccuracies, as required by section 10 of the Bill. Amendment 55 inserts an amendment into the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016, which will apply Part 7 of that Act to fines levied on persons relating to the register. Part 7 of the Act deals with the mechanics of the collection and enforcement of fines by the Welsh Revenue Authority and makes other related provisions. Amendment 54 amends section 25(1) of the TCMA to make it clear that any funds collected by the WRA in the exercise of its functions relating to the register—that is to say any financial penalties collected relating to registration—should be paid into the Welsh consolidated fund. 

Llywydd, as you have said, we have also a series of amendments made to section 7 of the Bill, amendments 4 to 16. Those amendments substitute the word 'person' with 'visitor accommodation provider'. Legal drafters advise that, because the penalties for failing to register within section 7 only apply to people who are visitor accommodation providers, the terminology in the Bill should be amended to reflect that fact. I ask Members to support all the amendments in this group.

Diolch, Llywydd. Mae'r gwelliannau yng ngrŵp 5, er eu bod yn dechnegol eu natur, yn bwysig er mwyn sicrhau gweithrediad cywir y cosbau yn y Bil. 

Mae gwelliannau 17 a 18 yn sicrhau, hyd yn oed ar ôl i rywun roi'r gorau i fod yn ddarparwr llety ymwelwyr, y gallant dal i fod yn gyfrifol am unrhyw gosbau a gawsant pan oeddent y darparu llety, megis peidio â chofrestru o dan adran 7, neu fethu â rhoi gwybod i'r ACC am newidiadau neu anghywirdebau, fel sy'n ofynnol gan adran 10 o'r Bil. Mae gwelliant 55 yn mewnosod gwelliant i Ddeddf Casglu a Rheoli Treth (Cymru) 2016, a fydd yn cymhwyso Rhan 7 o'r Ddeddf honno i ddirwyon a godir ar bersonau sy'n ymwneud â'r gofrestr. Mae Rhan 7 o'r Ddeddf yn ymdrin â mecaneg casglu a gorfodi dirwyon gan Awdurdod Cyllid Cymru ac mae'n gwneud darpariaethau cysylltiedig eraill. Mae gwelliant 54 yn diwygio adran 25(1) o'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd Twristiaeth i'w gwneud yn glir y dylid talu unrhyw arian a gesglir gan ACC wrth arfer ei swyddogaethau sy'n ymwneud â'r gofrestr—hynny yw, dylid talu unrhyw gosbau ariannol a gesglir mewn perthynas â chofrestru—i gronfa gyfunol Cymru. 

Llywydd, fel y dywedoch, mae gennym gyfres o welliannau a wnaed i adran 7 o'r Bil hefyd, gwelliannau 4 i 16. Mae'r gwelliannau hynny'n rhoi'r geiriau 'darparwr llety ymwelwyr' yn lle 'person'. Mae drafftwyr cyfreithiol yn cynghori, oherwydd bod y cosbau am fethu â chofrestru o fewn adran 7 yn berthnasol i bobl sy'n ddarparwyr llety ymwelwyr yn unig, y dylid diwygio'r derminoleg yn y Bil i adlewyrchu'r ffaith honno. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.

Does gen i ddim siaradwyr yn siarad ar y grŵp yma. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliannau 4 i 16? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r gwelliannau yna i gyd wedi'u derbyn.

I have no other speakers to this group. The question, therefore, is that amendments 4 to 16 be agreed to. Does any Member object? No. Those amendments are all, therefore, agreed.

Derbyniwyd y gwelliannau yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendments agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Sy'n caniatáu i ni symud ymlaen i welliant 17. Ydy e'n cael ei symud yn ffurfiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet?

Which allows us now to move on to amendment 17. Is it formally moved by the Cabinet Secretary?

Cynigiwyd gwelliant 17 (Mark Drakeford).

Amendment 17 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 17 wedi'i dderbyn.

It is. The question is that amendment 17 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 17 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Luke Fletcher, ydy gwelliant 116 yn cael ei symud?

Luke Fletcher, is amendment 116 moved?

Cynigiwyd gwelliant 116 (Luke Fletcher).

Amendment 116 (Luke Fletcher) moved.

Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 116? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 116. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 116 wedi'i wrthod. 

It is. The question is that amendment 116 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will therefore move to a vote on amendment 116. Open the vote. Close the vote. In favour 12, no abstentions and 39 against. Therefore, amendment 116 is not agreed.

17:15

Gwelliant 116: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 116: For: 12, Against: 39, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 18. Yn cael ei gynnig?

Amendment 18. Is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 18 (Mark Drakeford).

Amendment 18 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, gan yr Ysgrifennydd Cabinet. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 18? Nac oes. Felly, mae gwelliant 18 wedi'i basio.

It is, by the Cabinet Secretary. Are there any objections to amendment 18? There are none. Therefore, amendment 18 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 19. Ydy e'n cael ei symud?

Amendment 19. Is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 19 (Mark Drakeford).

Amendment 19 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae'n cael ei gynnig. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 19? Nac oes. Mae gwelliant 19 wedi'i dderbyn.

It is. Are there any objections to amendment 19? No. Amendment 19 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 20. Ydy e'n cael ei symud?

Amendment 20. Is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 20 (Mark Drakeford).

Amendment 20 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad i welliant 20? Nac oes. Mae felly'n pasio.

It is. Any objections to amendment 20? No. The amendment is therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Sam Rowlands, gwelliant 68. Ydy e'n cael ei gynnig yn ffurfiol?

Sam Rowlands, amendment 68. Is it moved formally?

Cynigiwyd gwelliant 68 (Sam Rowlands).

Amendment 68 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 68? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, mi wnawn ni symud i bleidlais ar welliant 68. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 68 wedi ei wrthod.

It is moved. The question is that amendment 68 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We will therefore proceed to a vote on amendment 68. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions and 27 against. Therefore, amendment 68 is not agreed. 

Gwelliant 68: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 68: For: 24, Against: 27, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Grŵp 6: Cyfraddau’r ardoll (Gwelliannau 69, 77, 78, 79, 80, 81, 83, 84, 85)
Group 6: Rates of the levy (Amendments 69, 77, 78, 79, 80, 81, 83, 84, 85)

Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sy'n ymwneud â chyfraddau'r ardoll. Gwelliant 69 yw'r prif welliant yn y grŵp, a Sam Rowlands sy'n cynnig y gwelliant.

The next group of amendments relates to rates of the levy. Amendment 69 is the lead amendment, and I call on Sam Rowlands to move the amendment.

Cynigiwyd gwelliant 69 (Sam Rowlands).

Amendment 69 (Sam Rowlands) moved.

Diolch, Llywydd. I move amendment 69, as the lead amendment for this group of amendments. There are three main amendments within this group, which I will speak to, with their consequential amendments as well.

The first is amendment 69, and in agreement with the Cabinet Secretary's comments about the power to principal councils and, as he described it, the permissive power to local authorities within this legislation, my amendment 69 provides principal councils with the power to introduce one rate of the levy without the other. The amendment seeks to give greater flexibility to councils when introducing the levy.

For Members' awareness, currently, with the way in which the Bill is laid out, a council has the ability to implement the levy in full or not at all. The Government has identified and introduced two distinct groups of accommodation providers—one at a lower rate and one at a higher rate. I believe that it would be beneficial to councils to have flexibility as to whether they choose to introduce the levy into one of these groups, another of the groups, to all of the groups, or to none at all. So, currently, councils can either have a levy on all types of visitor accommodation or no visitor accommodation at all. This amendment and its consequential amendments seek to give greater flexibility to local authorities reflecting the areas that they represent and the constituents that they are responsible for supporting.

Members in this place—and we've already heard it here today—often like to quote and point to other schemes around the world or, indeed, in places like Manchester, which only apply a levy to limited groups of accommodation providers. The scheme in Manchester, which has already been mentioned today, is limited to hotel providers there. This amendment in front of us today allows councils to do a similar thing in identifying the differences in those accommodation providers—in those separate groups that the Government has identified—and ensuring that only one of those groups, if a council chooses to do so, is liable for this levy.

Amendment 79 revises the basis on which the levy is charged, changing it from a fixed figure on a per person, per night basis to a percentage rate of the cost of the accommodation. I believe that this is a fairer system and better reflects the differences between different types of accommodation and the resulting visitor levy bill that people have to pay. Of course, a percentage charge, by its very nature of being a percentage, is a proportionate charge for the visitor levy. We know that the fixed amount per person, per night is clearly not fully proportionate. A percentage charge is a much fairer way of implementing this tax. Also, and I think importantly, it avoids the frequent, what is likely to be painful, exercise of having to adjust the value of the charge, as of course, every year, inflation will eat into the relative value of a fixed amount per person, per night, as laid out in the legislation. I think a percentage charge would be much fairer for families as well.

This amendment also removes the higher and lower rate of the levy and replaces them with a single standard rate, because, of course, we won't need a lower and higher rate, because a percentage is relative. This will be easier for visitor accommodation providers, and also easier for visitors to understand, imposing less of a burden, and also making the payments more transparent and, again, fairer.

If those particular amendments to implement a standard percentage rate fail, then I have a further amendment in here, where I wish to see a pitch or area for camping, and a dormitory or other room provided on the basis that it may be shared with other people, being subject to the lower rate, and mobile homes, such as static caravans, should also be subject to the lower rate of the levy, as outlined in amendments 84 and 85. Again, these amendments attempt to reflect the fact that this type of accommodation may typically be used more by families, especially those at the lower end of the prosperity scale.

I think we must be really careful to not assume that families can just afford the additional payments of the visitor levy. We know, for example, a family staying in self-catering accommodation at around £300 a week, that would cost that family an additional £60 because of the tourism tax. That's a 20 per cent increase in the cost of that family staying away on that holiday. It's an extra cost that, sadly, for too many families, is the difference between taking a break here in Wales and not having that break that they'd like to have.

I do have other amendments in here that the Cabinet Secretary may believe are slightly more facetious. Amendments 80 and 81 seek to set the levy at 1p rather than the amount identified by the Cabinet Secretary, but my other amendments are, I hope, to be taken very seriously. I truly believe a percentage levy is much fairer, clearly proportionate by its very nature, and I believe amendments to enable councils to have that flexibility, which we've already heard about the importance of from the Cabinet Secretary, to implement parts of the levy would be a significant improvement. Diolch, Llywydd.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliant 69, fel y prif welliant ar gyfer y grŵp hwn o welliannau. Mae tri phrif welliant o fewn y grŵp hwn, y byddaf yn siarad amdanynt, gyda'u gwelliannau canlyniadol hefyd.

Y cyntaf yw gwelliant 69, ac mewn cytundeb â sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet am y pŵer i brif gynghorau ac, fel y disgrifiodd ef, y pŵer caniataol i awdurdodau lleol o fewn y ddeddfwriaeth hon, mae fy ngwelliant 69 yn rhoi'r pŵer i brif gynghorau gyflwyno un gyfradd o'r ardoll heb y llall. Mae'r gwelliant yn ceisio rhoi mwy o hyblygrwydd i gynghorau wrth gyflwyno'r ardoll.

Er ymwybyddiaeth yr Aelodau, ar hyn o bryd, gyda'r ffordd y mae'r Bil wedi'i osod allan, mae gan gyngor y gallu i weithredu'r ardoll yn llawn neu ddim o gwbl. Mae'r Llywodraeth wedi nodi a chyflwyno dau grŵp gwahanol o ddarparwyr llety—un ar gyfradd is ac un ar gyfradd uwch. Rwy'n credu y byddai'n fuddiol i gynghorau gael hyblygrwydd ynghylch a ydynt yn dewis cyflwyno'r ardoll i un o'r grwpiau hyn, grwpiau eraill, i bob un o'r grwpiau, neu i ddim o gwbl. Felly, ar hyn o bryd, gall cynghorau naill ai gael ardoll ar bob math o lety i ymwelwyr neu ar ddim llety i ymwelwyr o gwbl. Mae'r gwelliant hwn a'i welliannau canlyniadol yn ceisio rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol sy'n adlewyrchu'r ardaloedd y maent yn eu cynrychioli a'r etholwyr y maent yn gyfrifol am eu cefnogi.

Mae aelodau yn y lle hwn—ac rydym eisoes wedi clywed hynny yma heddiw—yn aml yn hoffi dyfynnu a chyfeirio at gynlluniau eraill ledled y byd neu, yn wir, mewn llefydd fel Manceinion, sy'n cymhwyso ardoll i grwpiau cyfyngedig o ddarparwyr llety yn unig. Mae'r cynllun ym Manceinion, sydd eisoes wedi'i grybwyll heddiw, wedi'i gyfyngu i ddarparwyr gwestai yno. Mae'r gwelliant hwn sydd ger ein bron heddiw yn caniatáu i gynghorau wneud rhywbeth tebyg wrth nodi'r gwahaniaethau yn y darparwyr llety hynny—yn y grwpiau gwahanol hynny y mae'r Llywodraeth wedi'u nodi—a sicrhau mai dim ond un o'r grwpiau hynny, os bydd cyngor yn dewis gwneud hynny, sy'n agored i'r ardoll hon.

Mae gwelliant 79 yn adolygu'r sail y codir yr ardoll arni, gan ei newid o ffigur sefydlog fesul person, fesul noson i gyfradd ganrannol cost y llety. Rwy'n credu bod hon yn system decach ac yn adlewyrchu'r gwahaniaethau'n well rhwng gwahanol fathau o lety a'r bil ardoll ymwelwyr y mae'n rhaid i bobl ei dalu sy'n deillio o hynny. Wrth gwrs, mae tâl canran, yn ôl ei natur o fod yn ganran, yn dâl cymesur ar gyfer yr ardoll ymwelwyr. Gwyddom nad yw'r swm sefydlog fesul person, fesul noson yn amlwg yn gwbl gymesur. Mae tâl canran yn ffordd llawer tecach o weithredu'r dreth hon. Hefyd, ac rwy'n meddwl yn bwysig, mae'n osgoi'r ymarfer cyffredin, sy'n debygol o fod yn boenus, o orfod addasu gwerth y tâl, oherwydd wrth gwrs, bob blwyddyn, bydd chwyddiant yn bwyta gwerth cymharol swm sefydlog fesul person, fesul noson, fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Rwy'n credu y byddai tâl canran yn llawer tecach i deuluoedd hefyd.

Mae'r gwelliant hwn hefyd yn dileu cyfradd uwch ac is yr ardoll ac yn eu disodli gydag un gyfradd safonol, oherwydd, wrth gwrs, ni fydd angen cyfradd is nac uwch, oherwydd mae canran yn gymharol. Bydd hyn yn haws i ddarparwyr llety ymwelwyr, a hefyd yn haws i ymwelwyr ei ddeall, gan osod llai o faich, a hefyd gwneud y taliadau'n fwy tryloyw ac, eto, yn decach.

Os yw'r gwelliannau penodol hynny i weithredu cyfradd ganran safonol yn methu, yna mae gennyf welliant pellach yma, lle hoffwn weld llain neu ardal ar gyfer gwersylla, ac ystafell aml-wely neu ystafell arall sy'n cael ei darparu ar y sail y gellir ei rhannu â phobl eraill, fod yn cael eu rhoi ar gyfradd is, a chartrefi symudol, megis carafanau statig, a ddylai hefyd fod ar gyfradd is yr ardoll, fel yr amlinellir yng ngwelliannau 84 ac 85. Unwaith eto, mae'r gwelliannau hyn yn ceisio adlewyrchu'r ffaith y gall y math hwn o lety fel arfer gael ei ddefnyddio mwy gan deuluoedd, yn enwedig y rhai llai cefnog.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio â chymryd yn ganiataol bod teuluoedd yn gallu fforddio taliadau ychwanegol yr ardoll ymwelwyr. Rydym yn gwybod, er enghraifft, i deulu sy'n aros mewn llety hunanarlwyo sy'n costio £300 yr wythnos, y byddai'n costio £60 ychwanegol i'r teulu hwnnw oherwydd y dreth dwristiaeth. Mae hynny'n gynnydd o 20 y cant yng nghost y teulu hwnnw sydd ar eu gwyliau. Mae'n gost ychwanegol sydd, yn anffodus, i ormod o deuluoedd, y gwahaniaeth rhwng cael seibiant yma yng Nghymru a pheidio â chael y seibiant hwnnw yr hoffent ei gael.

Mae gen i welliannau eraill yma y gallai'r Ysgrifennydd Cabinet gredu eu bod ychydig yn fwy cellweirus. Mae gwelliannau 80 ac 81 yn ceisio gosod yr ardoll ar 1c yn hytrach na'r swm a nodwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ond gobeithio y bydd fy newidiadau eraill yn cael eu cymryd wir o ddifrif. Rwy'n credu bod ardoll ganran yn llawer tecach, yn amlwg yn gymesur yn ôl ei natur, ac rwy'n credu y byddai gwelliannau i alluogi cynghorau i gael yr hyblygrwydd hwnnw, yr ydym eisoes wedi clywed am ei bwysigrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, i weithredu rhannau o'r ardoll yn welliant sylweddol. Diolch, Llywydd.

17:20

Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r grŵp yma.

The Cabinet Secretary to reply to this group.

Diolch yn fawr, Llywydd. I've listened carefully to the case the Member has made for his amendments, but I want to remind colleagues of the underlying principles on which the Bill has been created, and that is that the visitor levy should be as simple, as straightforward and as easy to administer as possible, where the charge per night, per person is kept as low as it can be by having a broad base to the tax. That's why I can't agree to amendment 68, which allows local authorities to choose to have either the higher or the lower rate to be introduced. If you choose between the two, you inevitably lower the amount of money that is taken in through the tax, and that erodes the viability of the tax for any local authority, because the Member makes no proposals as to where that money should be made up. I don't recall a single local authority advocating for this sort of amendment during the passage of the Bill, and I don't think that the amendment aligns, therefore, with the intention of the legislation. 

Nor do I accept amendment 79, which seeks to remove the higher and lower rates and introduce a percentage rate. I'll come to why I reject them, because I do think that that is a serious amendment and does deserve, and has had, considerable consideration. Amendments 83 and 84 are consequential to amendment 79 and therefore would have to be rejected as well, as would amendments 77 and 78, which are consequential to amendment 79.

On the issue of whether a per person, per night levy should be preferred to a percentage rate, as I say, I think the Member has made a case for that, but the reason that the Government decided not to do that is that I'm afraid it does not have some of the advantages that Sam Rowlands claimed for it. Particularly, it does not have advantages of simplicity. If you are a visitor accommodation provider under this Bill, you know very straightforwardly how much you have to charge each person in your accommodation. If it is a percentage rate, you have to decide which items on the bill are captured by the levy. If it is bed-and-breakfast accommodation, you would have to apply 5 per cent to the bed and you would have to extract the amount charged for breakfast. It inevitably creates additional burdens on the shoulders of accommodation providers, and our aim is to keep the system simple and easy for them to administer.

I am interested in it because I was able to say to the Member that, when I was in Scotland recently, the largest campaign by the industry against the Scottish levy is a campaign to abolish the percentage rate, which they have there, and to use instead the flat rate that we are proposing in Wales. The industry is doing that because of the reasons that I just outlined. So, while it does have advantages—I’m not denying some of the advantages that the Member referred to—those advantages are outweighed by the disadvantages of the complexity that a percentage rate introduces.

Of course, Llywydd, I reject amendments 80 and 81. I am happy to say that the majority of the amendments we have debated this afternoon so far from the Welsh Conservatives are constructive amendments, and there is a proper case to be made for them. There is no case to reduce the rate to 1p. That is simply a wrecking amendment that would destroy the purpose of the Bill. Now, of course, that is the position of the Welsh Conservatives, but I do not think you can overturn the will of the Senedd, which at Stage 1 was to proceed and to accept the general principles of the Bill, by hokey amendments that simply seek to undo the Bill in other ways.

Finally, Llywydd, the approach in amendment 85 would also be inconsistent with our policy rationale for the lower rate. We have a lower rate not because of families, but because the lower rate reflects the fact that some accommodation has an element of sharing with other people. It applies to areas for camping or stays in accommodation where shared accommodation is part of the deal, and therefore we apply a lower rate to it. Accommodation types captured by amendment 85 go beyond that core definition, and I ask Members to reject it and all other amendments in this group.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar ddadl yr Aelod dros ei welliannau, ond fe hoffwn i atgoffa cyd-Aelodau o'r egwyddorion sylfaenol y mae'r Bil wedi'i greu arnynt, a hynny yw y dylai'r ardoll ymwelwyr fod mor syml, mor uniongyrchol ac mor hawdd i'w gweinyddu â phosibl, lle mae'r tâl fesul noson, fesul person yn cael ei gadw mor isel ag y gall fod trwy gael sylfaen eang i'r dreth. Dyna pam na allaf gytuno â gwelliant 68, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol ddewis cael naill ai'r gyfradd uwch neu'r gyfradd is i'w chyflwyno. Os dewiswch chi rhwng y ddau, byddwch yn anochel yn gostwng y swm o arian a godir drwy'r dreth, ac mae hynny'n erydu hyfywedd y dreth ar gyfer unrhyw awdurdod lleol, oherwydd nad yw'r Aelod yn gwneud unrhyw gynigion ynghylch ble y dylid gwneud iawn am yr arian hwnnw. Nid wyf yn cofio unrhyw awdurdod lleol yn eiriol dros y math hwn o welliant yn ystod hynt y Bil, ac nid wyf yn credu bod y gwelliant yn cyd-fynd â bwriad y ddeddfwriaeth.

Nid wyf ychwaith yn derbyn gwelliant 79, sy'n ceisio dileu'r cyfraddau uwch ac is a chyflwyno cyfradd ganrannol. Fe ddof i at y rheswm pan fyddaf yn eu gwrthod, achos rwyf yn credu fod hwn yn welliant o ddifrif, a'i fod yn haeddu, ac mae wedi cael, sylw sylweddol. Mae gwelliannau 83 ac 84 yn ganlyniadol i welliant 79 ac felly byddai'n rhaid eu gwrthod hefyd, ac felly hefyd gwelliannau 77 a 78, sy'n ganlyniadol i welliant 79.

Ynghylch y mater a ddylid ffafrio ardoll fesul person, y noson yn hytrach na chyfradd ganrannol, fel y dywedaf, credaf fod yr Aelod wedi cyflwyno dadl dros hynny, ond y rheswm pam y penderfynodd y Llywodraeth beidio â gwneud hynny yw fy mod yn ofni nad oes ganddo rai o'r manteision a honodd Sam Rowlands. Yn arbennig, nid oes ganddo fanteision symlrwydd. Os ydych chi'n ddarparwr llety ymwelwyr o dan y Bil hwn, rydych chi'n gwybod yn syml iawn faint y mae'n rhaid i chi godi tâl ar bob person yn eich llety. Os yw'n gyfradd ganrannol, mae'n rhaid i chi benderfynu pa eitemau ar y bil sy'n dod o dan yr ardoll. Os yw'n llety gwely a brecwast, byddai'n rhaid i chi roi 5 y cant ar y gwely a byddai'n rhaid i chi dynnu'r swm a godir am frecwast. Mae'n anochel yn creu beichiau ychwanegol ar ysgwyddau darparwyr llety, a'n nod yw cadw'r system yn syml ac yn hawdd iddyn nhw ei gweinyddu.

Mae gen i ddiddordeb ynddo oherwydd roeddwn i'n gallu dweud wrth yr Aelod, pan oeddwn i yn Yr Alban yn ddiweddar, mai'r ymgyrch fwyaf gan y diwydiant yn erbyn ardoll yr Alban yw ymgyrch i ddileu'r gyfradd ganrannol, sydd ganddyn nhw yno, ac i ddefnyddio'r gyfradd unffurf yr ydym ni'n ei gynnig yng Nghymru yn lle hynny. Mae'r diwydiant yn gwneud hynny oherwydd y rhesymau yr wyf newydd eu hamlinellu. Felly, er bod ganddo fanteision—nid wyf yn gwadu rhai o'r manteision y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw—mae'r manteision hynny'n llai nag anfanteision y cymhlethdod y mae cyfradd ganrannol yn ei gyflwyno.

Wrth gwrs, Llywydd, rwy'n gwrthod gwelliannau 80 ac 81. Rwy'n hapus i ddweud bod y mwyafrif o'r gwelliannau yr ydym ni wedi'u trafod y prynhawn yma hyd yma gan y Ceidwadwyr Cymreig yn welliannau adeiladol, ac mae dadl briodol drostyn nhw. Nid oes achos i leihau'r gyfradd i 1c. Byddai hynny'n ddim amgenach na gwelliant dinistriol a fyddai'n dinistrio diben y Bil. Nawr, wrth gwrs, dyna safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, ond nid wyf yn credu y gallwch chi wyrdroi ewyllys y Senedd, a honno oedd, yng Nghyfnod 1 i fwrw ymlaen a derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, trwy welliannau ffuantus sy'n ceisio dadwneud y Bil mewn ffyrdd eraill.

Yn olaf, Llywydd, byddai'r dull yng ngwelliant 85 hefyd yn anghyson â'n rhesymeg bolisi dros y gyfradd is. Mae gennym ni gyfradd is nid oherwydd teuluoedd, ond oherwydd bod y gyfradd is yn adlewyrchu'r ffaith bod rhai llety yn cynnwys elfen o rannu gyda phobl eraill. Mae'n berthnasol i ardaloedd ar gyfer gwersylla neu aros mewn llety lle mae llety a rennir yn rhan o'r fargen, ac felly rydym ni'n cymhwyso cyfradd is iddo. Mae mathau o lety a gwmpesir gan welliant 85 yn mynd y tu hwnt i'r diffiniad craidd hwnnw, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau ei wrthod a'r holl wellianau eraill yn y grŵp hwn.

17:25

Diolch, Llywydd. I am grateful to the Cabinet Secretary for his response to the amendments and my comments on them. I would push back on a number of points. We heard the Cabinet Secretary outline the principles of the Bill in terms of the flexibility, and we heard slightly different principles in the contribution earlier about giving flexibility to local authorities. Those principles seem to shift slightly when it comes to my amendment, which I think is a genuinely helpful amendment, for local authorities to have that flexibility of choice as to whether not just to introduce the levy in whole or not, but elements of it. I believe it would be beneficial for them to have that.

In terms of the amendment around the percentage rather than a fixed amount being introduced, I don't think it's as complicated as the Cabinet Secretary seems to try to outline. Of course, businesses are dealing with percentages all the time through things like VAT and other areas as well. In fact, there are complications with the per person, per night, in particular when accommodation providers may have to clock who is there as a day visitor in that accommodation and who's there sleeping overnight at the accommodation, and checking some of the ages of those people attending that accommodation overnight. A fixed percentage amount is a very simple way of doing it. There's a charge for the accommodation and a percentage of that charge is for a visitor levy, rather than having to clock who is in and who is out of that accommodation every single time.

I would reject the comments made by the Cabinet Secretary and would seek to proceed and seek support of the Senedd for the amendments as outlined. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymateb i'r gwelliannau a'm sylwadau arnyn nhw. Byddwn yn gwrth-ddadlau ar nifer o bwyntiau. Fe glywsom ni'r Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu egwyddorion y Bil o ran yr hyblygrwydd, ac fe glywsom ni egwyddorion ychydig yn wahanol yn y cyfraniad yn gynharach ynglŷn â rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol. Mae'n ymddangos bod yr egwyddorion hynny yn newid ychydig o ran fy ngwelliant, sydd yn fy marn i'n welliant gwirioneddol ddefnyddiol, i awdurdodau lleol gael yr hyblygrwydd hwnnw o ddewis ynghylch p'un a yw nid yn unig yn cyflwyno'r ardoll yn gyfan gwbl neu beidio, ond elfennau ohono. Rwy'n credu y byddai'n fuddiol iddyn nhw gael hynny.

O ran y gwelliant ynglŷn â chyflwyno canran yn hytrach na swm sefydlog, nid wyf yn credu ei fod mor gymhleth ag yr ymddengys bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn ceisio ei amlinellu. Wrth gwrs, mae busnesau'n delio â chanrannau trwy'r amser trwy bethau fel treth ar werth a meysydd eraill hefyd. Mewn gwirionedd, mae cymhlethdodau gyda'r dull fesul person, fesul noson, yn enwedig pan fydd darparwyr llety yn gorfod nodi pwy sydd yno fel ymwelydd dydd yn y llety hwnnw a phwy sydd yno yn cysgu dros nos yn y llety, a gwirio oedran rhai o'r bobl hynny sydd yn y llety hwnnw dros nos. Mae swm canran sefydlog yn ffordd syml iawn o wneud hynny. Mae tâl am y llety ac mae canran o'r tâl hwnnw ar gyfer ardoll ymwelwyr, yn hytrach na gorfod nodi pwy sydd i mewn a phwy sydd allan o'r llety hwnnw bob tro.

Byddwn yn gwrthod y sylwadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cabinet a byddwn yn ceisio bwrw ymlaen a cheisio cefnogaeth y Senedd ar gyfer y gwelliannau fel y'u hamlinellwyd. Diolch yn fawr iawn. 

17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 69? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 69. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 69 wedi ei wrthod.  

The question is that amendment 69 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We will therefore move to a vote on amendment 69. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Amendment 69 is not agreed. 

Gwelliant 69: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 69: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Grŵp 7: Esemptiadau ac ad-daliadau (Gwelliannau 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 22, 119, 120, 121, 122)
Group 7: Exemptions and refunds (Amendments 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 22, 119, 120, 121, 122)

Grŵp 7 o welliannau sydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud ag esemptiadau ac ad-daliadau. Gwelliant 70 yw'r prif welliant yn y grŵp yma a Sam Rowlands sy'n cynnig. 

We'll now move to group 7 and these amendments relate to exemptions and refunds. The lead amendment in this group is amendment 70 and I call on Sam Rowlands to move the amendment.

Cynigiwyd gwelliant 70 (Sam Rowlands).

Amendment 70 (Sam Rowlands) moved.

Diolch, Llywydd. This group of amendments focuses on exemptions and refunds, and I move the principal amendment 70 as I start my contribution for this group of amendments. These amendments would provide a number of important carve-outs for certain people and groups of people where we feel that the visitor levy feels particularly inappropriate. For example—and I'll talk to these in slightly more detail—these would apply to those on educational trips, members of the armed forces and young carers.

First of all, in terms of educational trips, it doesn't seem to me to capture the spirit or the intent of legislation for a tourism tax to charge children and their teachers who have an educational trip here in Wales. I acknowledge and understand that there are already some adjustments that the Welsh Government are making to the lower group of accommodation for under-18s, but it would still, of course, apply to adults supporting children on those trips, such as teachers. It would also apply to accommodation outside—[Interruption.] Is there an intervention, sorry? No. It would also apply to accommodation outside of the lower rate. Surely Members can see that an exemption for educational trips just makes sense, and would be much more in line with the spirit of the legislation in front of us.

Amendment 71 seeks to provide an exemption for carers, which I believe is a reasonable amendment as well. Members will be aware of the good work of organisations like the Carers Trust, who ran a Give Carers a Break campaign earlier this year, and recognises the importance of carers having that time to recharge and continue the good work that they do for loved ones at home. It's an example, for me, of one way in which an amendment to this Bill could have a wider positive impact, ensuring that barriers are removed from enabling carers to have that much-needed rest.

Amendment 74 is an important amendment. I believe that exemption should also apply to charities, and would capture voluntary groups and organisations such as the Scout Association and the Guide Association. This would reduce the burden on volunteers and allow those important life-changing visits to go ahead in Wales, without the additional fees and bureaucracy. I've heard Members' comments around the value of the fee only being 80p a night, but there is also, of course, a bureaucracy linked to this, because those accommodation providers—perhaps a Scout volunteer at a Scout site—would have to ensure that they don't fall foul of the law.

Currently, as the legislation is laid out, they'll have to do a return within 30 days. We need to put less of a burden on our volunteers. These organisations are struggling to recruit volunteers. The less bureaucracy that there is for them, the best fighting chance that they have to recruit those volunteers in place. So, I believe that amendment 74 is an important one to exempt those charities and voluntary groups.

Amendment 121 is an amendment that should make people in Wales happy, because I believe that people in Wales shouldn't have to pay the visitor levy. Anybody who domiciles here in Wales shouldn't have to pay the levy. I think it's wrong that someone from Cardiff spending a night in Carmarthen is charged a tourism tax. Again, it's outside of the spirit of what is intended. Or someone from Bridgend staying in Builth, the same principle. The Welsh Government's own figures show that 30 per cent of overnight stays in Wales are undertaken by people from Wales. So, 30 per cent of this tax and this levy will be raised against Welsh people. I want to encourage Welsh people to visit other parts of the country, to stay overnight, because we know that overnight stays are the best way to strengthen this part of our economy. Charging them extra to do this flies in the face of that ambition. I would urge Members to support the amendments as laid out in front of us. Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn canolbwyntio ar eithriadau ac ad-daliadau, a chynigiaf y prif welliant, sef rhif 70, wrth i mi ddechrau fy nghyfraniad ar gyfer y grŵp hwn o welliannau. Byddai'r gwelliannau hyn yn darparu nifer o eithriadau pwysig i rai pobl a grwpiau o bobl lle rydym ni'n teimlo bod yr ardoll ymwelwyr yn teimlo'n arbennig o amhriodol. Er enghraifft—a byddaf yn siarad am y rhain ychydig yn fwy manwl—byddai'r rhain yn berthnasol i'r rhai ar deithiau addysgol, aelodau o'r lluoedd arfog a gofalwyr ifanc.

Yn gyntaf oll, o ran teithiau addysgol, nid yw'n ymddangos i mi yn unol ag ysbryd na bwriad deddfwriaeth ar gyfer treth dwristiaeth i godi ar blant a'u hathrawon sydd â thaith addysgol yma yng Nghymru. Rwy'n cydnabod ac yn deall bod rhai addasiadau eisoes y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'r grŵp is o lety i bobl dan 18 oed, ond byddai, wrth gwrs, yn berthnasol i oedolion sy'n cefnogi plant ar y teithiau hynny, fel athrawon. Byddai hefyd yn berthnasol i lety y tu allan—[Torri ar draws.] Oes yna ymyriad, mae'n ddrwg gen i? Nac oes. Byddai hefyd yn berthnasol i lety y tu allan i'r gyfradd is. Siawns y gall yr Aelodau weld bod eithriad ar gyfer teithiau addysgol yn gwneud synnwyr, a byddai'n cyd-fynd llawer mwy ag ysbryd y ddeddfwriaeth sydd o'n blaenau.

Mae gwelliant 71 yn ceisio darparu eithriad i ofalwyr, y credaf ei fod yn welliant rhesymol hefyd. Bydd aelodau'n ymwybodol o waith da sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, a gynhaliodd ymgyrch Rhowch Seibiant i Ofalwyr yn gynharach eleni, ac yn cydnabod pwysigrwydd bod gofalwyr yn cael yr amser hwnnw i orffwys a pharhau â'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud i anwyliaid gartref. Mae'n enghraifft, i mi, o un ffordd y gallai gwelliant i'r Bil hwn gael effaith gadarnhaol ehangach, gan sicrhau bod rhwystrau yn cael eu dileu rhag galluogi gofalwyr i gael y gorffwys hwnnw sy'n fawr ei angen arnyn nhw.

Mae gwelliant 74 yn welliant pwysig. Rwy'n credu y dylai eithriad hefyd fod yn berthnasol i elusennau, a byddai'n cwmpasu grwpiau a sefydliadau gwirfoddol fel y Gymdeithas Sgowtiaid a'r Gymdeithas Geidiaid. Byddai hyn yn lleihau'r baich ar wirfoddolwyr ac yn caniatáu i'r ymweliadau pwysig hynny sy'n newid bywydau gael eu cynnal yng Nghymru, heb y ffioedd a'r fiwrocratiaeth ychwanegol. Rwyf wedi clywed sylwadau Aelodau ynglŷn â'r ffi yn ddim ond 80c y noson, ond mae yna hefyd, wrth gwrs, fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â hyn, oherwydd byddai'n rhaid i'r darparwyr llety hynny—efallai gwirfoddolwr Sgowtiaid ar safle Sgowtiaid—sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu'n groes i'r gyfraith.

Ar hyn o bryd, fel y mae'r ddeddfwriaeth, bydd yn rhaid iddyn nhw lenwi ffurflen o fewn 30 diwrnod. Mae angen i ni roi llai o faich ar ein gwirfoddolwyr. Mae'r sefydliadau hyn yn cael trafferth recriwtio gwirfoddolwyr. Po leiaf o fiwrocratiaeth sydd ar eu cyfer, y siawns orau sydd ganddyn nhw i recriwtio'r gwirfoddolwyr hynny. Felly, rwy'n credu bod gwelliant 74 yn un pwysig i eithrio'r elusennau a'r grwpiau gwirfoddol hynny.

Mae gwelliant 121 yn welliant a ddylai wneud pobl yng Nghymru yn hapus, oherwydd rwy'n credu na ddylai pobl yng Nghymru orfod talu'r ardoll ymwelwyr. Ni ddylai unrhyw un sy'n byw yma yng Nghymru orfod talu'r ardoll. Rwy'n credu ei bod hi'n anghywir bod rhywun o Gaerdydd sy'n treulio noson yng Nghaerfyrddin yn gorfod talu treth dwristiaeth. Unwaith eto, mae y tu hwnt i ysbryd yr hyn sydd wedi'i fwriadu. Neu rywun o Ben-y-bont ar Ogwr yn aros yn Llanfair-ym-Muallt, yr un egwyddor. Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos mai pobl Cymru yw 30 y cant o'r rheini sy'n aros dros nos yng Nghymru. Felly, bydd 30 y cant o'r dreth hon a'r ardoll hon yn cael eu codi ar bobl Cymru. Fe hoffwn i annog pobl Cymru i ymweld â rhannau eraill o'r wlad, i aros dros nos, oherwydd rydym ni'n gwybod mai aros dros nos yw'r ffordd orau o gryfhau'r rhan hon o'n heconomi. Mae codi tâl ychwanegol iddyn nhw wneud hyn yn tanseilio'r uchelgais honno. Byddwn yn annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau fel y'u cyflwynwyd o'n blaenau. Diolch yn fawr.

17:35

Yr Ysgrifennydd Cabinet sydd nawr yn siarad.

The Cabinet Secretary now to speak. 

Diolch yn fawr, Llywydd. I begin with amendment 70. A significant proportion of educational trips will already be exempted from the levy due to the amendment agreed at Stage 2 to remove children and young people from being subject to the lower rate. The amendment contains no definition of what is to be regarded as an educational trip. It is an amendment without borders, and as such, open to repeated challenge. I ask that it be rejected.

I also do not support amendments 71, 72 and 75. All of Sam Rowlands's amendments in this group erode the basis on which the Bill has been constructed. There is no policy rationale for the exemptions that the Member suggests, and again, the foundational principle of the Bill is that this is a modest levy, and designed to be simple.

Regarding amendment 73—and I don't think I heard the Member address amendment 73—the Bill takes an approach that is consistent with other Welsh legislation, that those staying for longer than 31 nights are more alike to residents than visitors. Therefore, these longer term stays are outside the scope of the levy. Reducing that period to 14 days, which is what amendment 73 suggests, undermines that rationale and is unworkable in practice. How would a provider know the visiting history of a visitor to Wales? Only if at all by placing a significant administrative burden on visitors and providers to demonstrate that a levy should not apply.

I cannot support amendment 74. The exemption it suggests is too broad. It could have unintended consequences, and it would mean that, in some cases, organisations that are competing with other providers in an area would have an unfair advantage. Charities can operate as visitor accommodation providers. The National Trust, for example, offers a variety of visitor accommodation across Wales, and it does it at market rates and it competes with other visitor accommodation providers in those areas. I don't think it would be fair to advantage one sort of provider against others in the way that the amendment would require.

I definitely cannot support amendment 119, Llywydd. The policy intent that underpins the levy is that visitors should contribute to the costs borne by a local authority due to the visit. It is not related to the country of residence. A person visiting Pembrokeshire from Cardiff should pay a contribution in the same way as a visitor travelling from outside Wales. It is a very curious amendment for the Conservative and Unionist Party to bring forward an amendment that appears intended to deter visitors from outside Wales from coming to Wales, and that's certainly not the purpose of the Government.

No evidence has been provided by the mover of the amendment as to the impact of these changes on the revenues that would become, potentially, subject to refund claims. Proposals to reduce revenue raised by the levy have, I believe, to be matched by proposals to raise revenue by other means. To fail to do so would fatally undermine the Bill, reducing revenue to a point where it will be unviable for any local authority to make use of the permissive powers provided in the Bill because they simply wouldn't be recouping enough through the levy to make it worthwhile. That may, of course, be the purpose of the amendment. In either case, I ask Members to reject it and the consequential amendments 120, 121 and 122 that flow from it.

Finally in this group, Llywydd, Government amendment 22 adjusts the period during which an application for a refund must be made, from three months to 90 days from the last day a person was entitled to reside in the accommodation, where the Bill already provides for such a refund to be claimed. During Stage 2, a non-Government amendment was tabled by Sam Rowlands, including an amendment to increase the amount of time a person has to apply for a refund. The Government, on that day, resisted that amendment, but I indicated my intention to bring forward a proposal that reflected the same intention, using days rather than months for consistency and clarity. That is the purpose of amendment 22, Llywydd, and I want to acknowledge the influence of Sam Rowlands in bringing that amendment forward.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dechreuaf gyda gwelliant 70. Bydd cyfran sylweddol o deithiau addysgol eisoes wedi'u heithrio o'r ardoll oherwydd y gwelliant y cytunwyd arno yng Nghyfnod 2 i atal plant a phobl ifanc rhag dod o dan y gyfradd is. Nid yw'r gwelliant yn cynnwys diffiniad o'r hyn sydd i'w ystyried fel taith addysgol. Mae'n welliant heb ffiniau, ac fel y cyfryw, yn agored i'w herio dro ar ôl tro. Gofynnaf iddo gael ei wrthod.

Nid wyf chwaith yn cefnogi gwelliannau 71, 72 a 75. Mae holl welliannau Sam Rowlands yn y grŵp hwn yn erydu'r sail y mae'r Bil wedi'i hadeiladu arni. Does dim rhesymeg polisi dros yr eithriadau y mae'r Aelod yn eu hawgrymu, ac unwaith eto, egwyddor sylfaenol y bil yw bod y dreth yn un fechan, ac wedi ei dylunio i fod yn syml.

O ran gwelliant 73—ac nid wyf yn credu fy mod wedi clywed yr Aelod yn sôn am welliant 73—mae'r Bil yn mabwysiadu agwedd sy'n gyson â deddfwriaeth arall yng Nghymru, bod y rhai sy'n aros am fwy na 31 noson yn debycach i breswylwyr nag ymwelwyr. Felly, mae'r arosiadau tymor hwy hyn y tu allan i gwmpas yr ardoll. Mae lleihau'r cyfnod hwnnw i 14 diwrnod, a dyna beth mae gwelliant 73 yn ei awgrymu, yn tanseilio'r rhesymeg honno ac yn anymarferol. Sut fyddai darparwr yn gwybod hanes ymwelydd â Chymru? Dim ond os o gwbl trwy osod baich gweinyddol sylweddol ar ymwelwyr a darparwyr i ddangos na ddylai ardoll fod yn berthnasol.

Ni allaf gefnogi gwelliant 74. Mae'r eithriad mae'n ei hawgrymu yn rhy eang. Gallai gael canlyniadau anfwriadol, a byddai'n golygu y byddai, mewn rhai achosion, sefydliadau sy'n cystadlu â darparwyr eraill mewn ardal yn cael mantais annheg. Gall elusennau weithredu fel darparwyr llety ymwelwyr. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er enghraifft, yn cynnig amrywiaeth o lety i ymwelwyr ledled Cymru, ac mae'n gwneud hynny ar gyfraddau'r farchnad ac mae'n cystadlu â darparwyr llety ymwelwyr eraill yn yr ardaloedd hynny. Nid wyf yn credu y byddai'n deg rhoi mantais i un math o ddarparwr dros eraill yn y ffordd y byddai'r gwelliant yn gofyn amdano.

Ni allaf gefnogi gwelliant 119, Llywydd. Y bwriad polisi sy'n sail i'r ardoll yw y dylai ymwelwyr gyfrannu at y costau a delir gan awdurdod lleol oherwydd yr ymweliad. Nid yw'n gysylltiedig â'r wlad breswyl. Dylai rhywun sy'n ymweld â sir Benfro o Gaerdydd dalu cyfraniad yn yr un modd ag ymwelydd sy'n teithio o'r tu allan i Gymru. Mae'n welliant rhyfedd iawn i'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol gyflwyno gwelliant sy'n ymddangos mai ei fwriad yw atal ymwelwyr o'r tu allan i Gymru rhag dod i Gymru, ac yn sicr nid dyna yw diben y Llywodraeth.

Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi'i darparu gan gynigydd y gwelliant ynghylch effaith y newidiadau hyn ar y refeniw a fyddai, o bosibl, yn destun hawliadau ad-daliad. Mae'n rhaid i gynigion i leihau refeniw a godir gan yr ardoll, rwy'n credu, gynnwys cynigion i godi refeniw trwy ddulliau eraill. Byddai methu â gwneud hynny yn tanseilio'r Bil yn angheuol, gan leihau refeniw i bwynt lle bydd yn anhyfyw i unrhyw awdurdod lleol wneud defnydd o'r pwerau caniataol a ddarperir yn y Bil oherwydd na fyddent yn adennill digon trwy'r ardoll i'w wneud yn werth wneud hynny. Efallai mai dyna, wrth gwrs, yw diben y gwelliant. Yn y naill achos neu'r llall, gofynnaf i'r Aelodau ei wrthod a gwelliannau canlyniadol 120, 121 a 122 sy'n deillio ohono.

Yn olaf, yn y grŵp hwn, Lywydd, mae gwelliant 22 y Llywodraeth yn addasu'r cyfnod y mae'n rhaid gwneud cais am ad-daliad, o dri mis i 90 diwrnod o'r diwrnod olaf yr oedd gan rywun hawl i breswylio yn y llety, lle mae'r Bil eisoes yn darparu ar gyfer hawlio ad-daliad o'r fath. Yn ystod Cyfnod 2, cyflwynwyd gwelliant nid o eiddo'r Llywodraeth gan Sam Rowlands, gan gynnwys gwelliant i gynyddu faint o amser sydd gan rywun i wneud cais am ad-daliad. Gwrthwynebodd y Llywodraeth, ar y diwrnod hwnnw, y gwelliant hwnnw, ond nodais fy mwriad i gyflwyno cynnig sy'n adlewyrchu'r un bwriad, gan ddefnyddio dyddiau yn hytrach na misoedd ar gyfer cysondeb ac eglurder. Dyna yw diben gwelliant 22, Llywydd, ac mae arna i eisiau cydnabod dylanwad Sam Rowlands wrth gyflwyno'r gwelliant hwnnw.

17:40

Diolch, Llywydd. In response, I'm grateful to the Cabinet Secretary for acknowledging the work on amendment 22. We'll support the Government on that amendment. On the broader points that I laid out, in terms of exemptions, I believe I laid out what were reasonable points to acknowledge—groups of people and organisations who I believe should be exempt from this visitor levy because they do not fit within the spirit of what people would reasonably expect a tourism tax to seek to achieve. I think it's completely reasonable that children should not be taxed for going on holiday, and I think it's completely reasonable for people within Wales to not expect to be taxed for holidaying within Wales as well. I believe it's reasonable for the charitable sector, in particular those voluntary groups who work day in, day out to support all sorts of vulnerable people across Wales, to not have to be included within the tourism tax either. I do not believe they fit within the spirit of what this legislation is seeking to achieve, so I continue to seek Members' support for the amendments as laid out. Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd. Mewn ymateb, rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am gydnabod y gwaith ar welliant 22. Byddwn yn cefnogi'r Llywodraeth ar y gwelliant hwnnw. Ynghylch y sylwadau ehangach a wnes i, o ran eithriadau, rwy'n credu imi egluro'r hyn oedd yn bwyntiau rhesymol i'w cydnabod—grwpiau o bobl a sefydliadau yr wyf yn credu y dylen nhw gael eu heithrio o'r ardoll ymwelwyr hon oherwydd nad ydyn nhw'n cyd-fynd ag ysbryd yr hyn y byddai pobl yn rhesymol ddisgwyl i dreth dwristiaeth geisio ei gyflawni. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl resymol na ddylai plant gael eu trethu am fynd ar wyliau, ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl resymol i bobl yng Nghymru beidio â disgwyl cael eu trethu am wyliau yng Nghymru hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n rhesymol i'r sector elusennol, yn enwedig y grwpiau gwirfoddol hynny sy'n gweithio ddydd ar ôl dydd i gefnogi pob math o bobl agored i niwed ledled Cymru, beidio â gorfod cael eu cynnwys yn y dreth dwristiaeth chwaith. Nid wyf yn credu eu bod yn cyd-fynd ag ysbryd yr hyn y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ceisio ei gyflawni, felly rwy'n parhau i geisio cefnogaeth yr Aelodau i'r gwelliannau fel y cawson nhw eu cyflwyno. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 70? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 70. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 70 wedi ei wrthod.

The question is that amendment 70 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will therefore move to a vote on amendment 70. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 27 against. Therefore, amendment 70 is not agreed. 

Gwelliant 70: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 70: For: 24, Against: 27, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 71. Ydy e'n cael ei symud, Sam Rowlands?

Amendment 71. Is it moved, Sam Rowlands?

Cynigiwyd gwelliant 71 (Sam Rowlands).

Amendment 71 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae wedi'i symud. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 71? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Cymerwn ni bleidlais ar welliant 71. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 71 yn cael ei wrthod. 

It is moved. Does any Member object to amendment 71? [Objection.] There is objection. We will therefore move to a vote on amendment 71. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 27 against. Therefore, amendment 71 is not agreed. 

Gwelliant 71: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 71: For: 24, Against: 27, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 72.

Amendment 72.

Is it being moved?

A yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 72 (Sam Rowlands).

Amendment 72 (Sam Rowlands) moved.

Ydy mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 72? [Gwrthwynebiad.] Oes. Cymerwn ni bleidlais ar welliant 72. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 72 wedi ei wrthod.

It is. Are there any objections? [Objection.] There are. We will therefore move to a vote on amendment 72. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. And therefore amendment 72 is not agreed.

17:45

Gwelliant 72: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 72: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 73. Yn cael ei symud, Sam Rowlands?

Amendment 73. Is it moved, Sam Rowlands?

Cynigiwyd gwelliant 73 (Sam Rowlands).

Amendment 73 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae e, felly fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 73. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 73 wedi ei wrthod.

Yes, it is. Are there any objections? [Objection.] Yes, there are, and we will therefore move to a vote on amendment 73. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Amendment 73 is not agreed.

Gwelliant 73: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 73: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 74. Yn cael ei gynnig, Sam Rowlands?

Amendment 54. Is it moved, Sam Rowlands?

Cynigiwyd gwelliant 74 (Sam Rowlands).

Amendment 74 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 74? Rwyf wedi gofyn y cwestiwn yn barod, felly rwy'n gwybod yr ateb. Agor y bleidlais ar welliant 74. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 74 wedi ei wrthod.

Yes, it is. Are there any objections? [Objection.] Yes, there are. The question is that amendment 74 be agreed to. I've already asked the question, so I know the response. Open the vote on amendment 74. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. And therefore amendment 74 is not agreed.

Gwelliant 74: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 74: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Ddim yn cael ei symud, ac felly fydd yna ddim pleidlais ar welliant 75.

It is not moved, and therefore we will not vote on amendment 75.

Ni chynigiwyd gwelliant 75 (Sam Rowlands). 

Amendment 75 (Sam Rowlands) not moved.

Mae gwelliant 76 yn cael ei symud.

Amendment 76, it is moved.

Cynigiwyd gwelliant 76 (Sam Rowlands).

Amendment 76 (Sam Rowlands) moved.

Being moved.

Yn cael ei gynnig.

Oes gwrthwynebiad i welliant 76? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 76. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 76 wedi ei wrthod.

Are there any objections to amendment 76? [Objection.] There are objections, and we will therefore move to a vote on amendment 76. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Amendment 76 is not agreed.

Gwelliant 76: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 76: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Cynigiwyd gwelliant 77 (Sam Rowlands).

Amendment 77 (Sam Rowlands) moved.

Wedi cael ei symud. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy. Mae yna wrthwynebiad. Gymerwn ni bleidlais ar welliant 77. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 77 wedi ei wrthod.

It is moved. Are there any objections? [Objection.] Yes, there are objections. We will therefore vote on amendment 77. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 77 is not agreed. 

Gwelliant 77: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 77: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 78. Yn cael ei symud?

Amendment 78. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 78 (Sam Rowlands).

Amendment 78 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy. Agor y bleidlais ar welliant 78. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 78 yn cael ei wrthod.

Yes, it is. Are there any objections? [Objection.] Yes, there are. Open the vote on amendment 78. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Amendment 78 is not agreed.

Gwelliant 78: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 78: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 79. Yn cael ei symud, Sam Rowlands?

Amendment 79. Is it moved, Sam Rowlands?

Cynigiwyd gwelliant 79 (Sam Rowlands).

Amendment 79 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy, mae e. Agorwn ni'r bleidlais ar welliant 78. [Torri ar draws.] Gwelliant 79. 

Yes, it is. Are there any objections? [Objection.] There are. We will therefore open the vote on amendment 78. [Interruption.] Amendment 79, I do apologise.

You're on the ball. [Laughter.]

Rydych chi wedi codi'n fore. [Chwerthin.]

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 79 wedi ei wrthod.

Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions and 38 against. And therefore amendment 79 is not agreed.

Gwelliant 79: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 79: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Cynigiwyd gwelliant 80 (Sam Rowlands).

Amendment 80 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae'n cael ei gynnig. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy. Agor y bleidlais ar welliant 80. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 80 wedi ei wrthod.

Yes, it is moved. Are there any objections? [Objection.] There are. Open the vote on amendment 80. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 80 is not agreed.

Gwelliant 80: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 80: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Grŵp 8: Amrywiol (Gwelliannau 21, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 58, 61, 62, 63, 32, 33, 34, 41, 43, 49, 52)
Group 8: Miscellaneous (Amendments 21, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 58, 61, 62, 63, 32, 33, 34, 41, 43, 49, 52)

Grŵp 8 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â gwelliannau amrywiol. Gwelliant 21 yw'r prif welliant, a'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliant yma. Mark Drakeford.

We'll move to the eighth group of amendments now. These are on miscellaneous amendments. The lead amendment is amendment 21, and I call on the Cabinet Secretary to move the amendment. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Mark Drakeford).

Amendment 21 (Mark Drakeford) moved.

Diolch, Llywydd. This is a group of relatively minor miscellaneous amendments. Some adjust words or replace words, others omit words and phrases that are no longer required. The common theme is that no amendment in this group represents a substantial change in policy. Llywydd, I will briefly summarise the purpose of each amendment, but of course I'm happy to provide further details in replying to the debate, should Members require it.

Amendment 21 is a technical amendment that inserts the word 'and' into subsection (1). Amendment 23 is a refinement to clarify and ensure consistent drafting within the Bill. Amendments 24 and 26 amend the section that refers to accounting periods. The term 'person' has been replaced with the term 'visitor accommodation provider' because this section only applies to visitor accommodation providers. Amendments 25 and 27 improve readability and better reflect how the Bill will operate in practice. Amendment 28 is a consequential amendment.

Amendment 58 is a technical amendment that replaces references to 'provider' with 'visitor accommodation provider' for consistency across the Bill.

Amendments 61, 62 and 63 replace reference to 'visitor accommodation provider' with the word 'person'. This is to reflect the fact that the new section 122B of the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 can impose fines on persons who have ceased to be a visitor accommodation provider.

Amendments 32 and 33 improve consistency and readability. Amendment 34 deals with transitional provisions when the levy is introduced or changed. In section 47, the words 'change or abolish' are removed and are replaced with 'or change', as this section only deals with the introduction of, or changes to the levy, meaning that the word 'abolish' here is unnecessary.

Amendment 41 revises section 55, the power to make further provision about partnerships and unincorporated bodies, to make it clear that the Act, should this Bill become an Act, itself can be amended in future. Amendment 43 is a similar amendment. 

Amendment 49 revises section 58, the power to make provision about transfers of businesses as going concerns, to clarify that this Act itself can be amended in future.

And finally, amendment 52 is a minor technical amendment to reflect that sections 53 to 58 of the Bill constitute a single chapter, which should be treated as a whole for the purpose of commencement of the Bill. I ask Members to support all the amendments in this group.

Diolch, Llywydd. Mae hwn yn grŵp o welliannau amrywiol cymharol fach. Mae rhai yn addasu geiriau neu'n disodli geiriau, eraill yn hepgor geiriau ac ymadroddion nad oes eu hangen mwyach. Y thema gyffredin yw nad oes unrhyw welliant yn y grŵp hwn yn golygu newid sylweddol mewn polisi. Llywydd, byddaf yn crynhoi'n fyr ddiben pob gwelliant, ond wrth gwrs rwy'n hapus i roi rhagor o fanylion wrth ymateb i'r ddadl, pe bai'r Aelodau yn gofyn am hynny.

Mae gwelliant 21 yn welliant technegol sy'n mewnosod y gair 'a' yn is-adran (1). Mae gwelliant 23 yn fireiniad i egluro a sicrhau drafftio cyson o fewn y Bil. Mae gwelliannau 24 a 26 yn diwygio'r adran sy'n cyfeirio at gyfnodau cyfrifyddu. Mae'r term 'person' wedi'i ddisodli gyda'r term 'darparwr llety ymwelwyr' oherwydd bod yr adran hon yn berthnasol i ddarparwyr llety ymwelwyr yn unig. Mae gwelliannau 25 a 27 yn gwella darllenadwyedd ac yn cyfleu'n well sut y bydd y Bil yn gweithredu yn ymarferol. Mae gwelliant 28 yn welliant canlyniadol.

Mae gwelliant 58 yn welliant technegol sy'n disodli cyfeiriadau at 'darparwr' gyda 'darparwr llety ymwelwyr' er mwyn cysondeb drwy'r Bil.

Mae gwelliannau 61, 62 a 63 yn disodli'r cyfeiriad at 'darparwr llety ymwelwyr' gyda'r gair 'person' yn. Mae hyn er mwyn cyfleu'r ffaith y gall adran 122B newydd o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 osod dirwyon ar bobl sydd wedi peidio â bod yn ddarparwr llety ymwelwyr.

Mae gwelliannau 32 a 33 yn gwella cysondeb a darllenadwyedd. Mae gwelliant 34 yn ymdrin â darpariaethau trosiannol pan fydd yr ardoll yn cael ei chyflwyno neu ei newid. Yn adran 47, mae'r geiriau 'newid neu ddileu' yn cael eu dileu a'u disodli gyda 'neu newid', gan fod yr adran hon yn ymdrin â chyflwyno'r ardoll neu newidiadau iddi yn unig, sy'n golygu bod y gair 'dileu' yma yn ddiangen.

Mae gwelliant 41 yn adolygu adran 55, y pŵer i wneud darpariaeth bellach am bartneriaethau a chyrff anghorfforedig, er mwyn ei gwneud hi'n glir y gellir diwygio'r Ddeddf, pe bai'r Bil hwn yn dod yn Ddeddf, ei hun yn y dyfodol. Mae gwelliant 43 yn welliant tebyg.

Mae gwelliant 49 yn adolygu adran 58, y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch trosglwyddiadau busnesau fel busnesau parhaus, i egluro y gellir diwygio'r Ddeddf hon ei hun yn y dyfodol.

Ac yn olaf, mae gwelliant 52 yn fân welliant technegol i adlewyrchu bod adrannau 53 i 58 o'r Bil yn ffurfio un bennod, y dylid ei thrin yn ei chyfanrwydd at ddibenion cychwyn y Bil. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.

17:50

Does gen i ddim siaradwyr ar y grŵp yma, ac felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 21 wedi ei dderbyn. 

I have no other speakers for this group, so the question is that amendment 21 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 21 is therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 81. Yn cael ei symud gan Sam Rowlands? 

Amendment 81. Is it moved, Sam Rowlands?

Cynigiwyd gwelliant 81 (Sam Rowlands).

Amendment 81 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 81. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 81 wedi ei wrthod.

Yes, it is. Are there any objections? [Objection.] Open the vote, therefore, on amendment 81. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 81 is not agreed. 

Gwelliant 81: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 81: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Grŵp 9: Ychwanegu swm ychwanegol at gyfradd ardoll (Gwelliannau 82, 86, 87, 118, 88, 113, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 107)
Group 9: Adding an additional amount to the levy rate (Amendments 82, 86, 87, 118, 88, 113, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 107)

Grŵp 9 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag ychwanegu swm ychwanegol at gyfradd yr ardoll. Gwelliant 82 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Sam Rowlands sy'n siarad i'r gwelliant.

Group 9 is next, and this group of amendments relates to adding an additional amount to the levy rate. Amendment 82 is the lead amendment in this group. Sam Rowlands to move and to speak to the lead amendment. 

Cynigiwyd gwelliant 82 (Sam Rowlands).

Amendment 82 (Sam Rowlands) moved.

Diolch, Llywydd. I'm speaking in relation to group 9, adding an additional amount to the levy rate, and I move the principal amendment on this, which is amendment 82.

We do have concerns about what might be described as mission creep with adding additional amounts to the levy rate. It was previously called a premium, but has been reworded. Of course, there is the ability within the legislation currently to keep adding additional amounts and putting greater and greater burdens on people undertaking overnight stays in Wales. I don't believe that this is helpful for the sector and it is not helpful for making the sector more competitive and an attractive destination in an international market—

Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad mewn perthynas â grŵp 9, sef ychwanegu swm ychwanegol at y gyfradd ardoll, ac rwy'n cynnig y prif welliant ar hyn, sef gwelliant 82.

Mae gennym ni bryderon am yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel ehangu cwmpas gydag ychwanegu symiau ychwanegol at y gyfradd ardoll. Fe'i gelwid yn flaenorol yn bremiwm, ond mae wedi cael ei ail-eirio. Wrth gwrs, mae yna allu o fewn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd i barhau i ychwanegu symiau ychwanegol a rhoi mwy a mwy o faich ar bobl sy'n aros dros nos yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod hyn yn gymorth i'r sector ac nid yw'n gymorth i wneud y sector yn fwy cystadleuol ac yn gyrchfan ddeniadol mewn marchnad ryngwladol—

17:55

Will you take an intervention?

Wnewch chi dderbyn ymyriad?

But that's what happens all the time when you have a major event, be it Oasis, be it Taylor Swift coming here—the price of a hotel triples or quadruples in price.

Ond dyna sy'n digwydd drwy'r amser pan fydd gennych chi ddigwyddiad mawr, boed yn Oasis, boed yn Taylor Swift yn dod yma—mae pris gwesty yn cynyddu dair neu bedair gwaith mewn pris.

I think it's a really interesting intervention, because that's not what the ability of the—. The legislation, as laid out at the moment, does not give that flexibility that Mike Hedges seeks. My previous amendment of having a percentage charge would do exactly what Mike Hedges is seeking there, which is to reflect the relative changes when there is pressure on accommodation.

What is in legislation at the moment is enabling local authorities to apply the additional amount to the levy rate over an extended period of time, not reflective of seasonality, not reflective of pressures such as concerts in Cardiff here and other pressures that would drive prices up. I'm not arguing the percentage point again, but the percentage point would address what Mike Hedges was seeking to be addressed just a moment ago.

Amendment 86 seeks to remove the whole section titled 'Adding an additional amount to a levy rate' and seeks to remove the power that Welsh Ministers would otherwise have to provide principal councils the power to add an additional amount to both rates of the levy. Let me explain why that is important as well. We heard from the Cabinet Secretary a few moments ago that one of the principles of this legislation is to keep it as simple as possible. Different local authorities having different levy rates across Wales is not simple, in my view. That has the risk of causing confusion, especially for those visitors when trying to understand an additional cost of their overnight accommodation. It's not in line with the principle of simplicity as the Cabinet Secretary outlined a few moments ago. There is a risk of confusion with different levy rates across Wales.

And there's a general issue here that Welsh Government and local authorities shouldn't be constantly looking to add additional fees and additional taxes to visitors here in Wales. The fact that it's been done before the Bill has even passed through the Senedd is a concerning fact in and of itself.

Further amendments in here, 118 and 88, seek to, first of all, recognise that my principal amendments are unlikely to pass and therefore apply a cap on additional levy rates that local authorities would seek to put in place. I think that's fair. It allows the Senedd to have an element of control over any excessive levy rates that some local authorities may seek to apply. The majority of my other amendments in there are consequentials to those that I've spoken to already.

I'd like to speak briefly to amendment 113, which is the amendment laid by Luke Fletcher. This amendment seems to seek to punish larger accommodation providers. I think we should be doing everything possible to enable businesses to grow in Wales, because this particular amendment seeks to apply higher levies dependent on the number of people employed by that business. So, we will not be supporting amendment 113. It seems unfair to me when we're trying to seek businesses to invest, seek businesses to employ more people and seek businesses to grow. This is a disincentive for that investment and for that growth here in Wales. So, I'd urge Members to support the amendments as I've laid out before you today. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n credu ei fod yn ymyriad ddiddorol iawn, oherwydd nid dyna beth yw gallu'r—. Nid yw'r ddeddfwriaeth, fel y'i cyflwynwyd ar hyn o bryd, yn rhoi'r hyblygrwydd hwnnw y mae Mike Hedges yn ei geisio. Byddai fy ngwelliant blaenorol o gael tâl canran yn gwneud yn union yr hyn y mae Mike Hedges yn ei geisio yno, sef adlewyrchu'r newidiadau cymharol pan fydd pwysau ar lety.

Yr hyn sydd mewn deddfwriaeth ar hyn o bryd yw galluogi awdurdodau lleol i gymhwyso'r swm ychwanegol i'r gyfradd ardoll dros gyfnod estynedig o amser, heb adlewyrchu tymoroldeb, heb adlewyrchu pwysau fel cyngherddau yng Nghaerdydd yma a phwysau eraill a fyddai'n gwthio prisiau i fyny. Dydw i ddim yn dadlau'r pwynt canran eto, ond byddai'r pwynt canran yn mynd i'r afael â'r hyn yr oedd Mike Hedges yn ceisio mynd i'r afael ag ef eiliad yn ôl.

Mae gwelliant 86 yn ceisio dileu'r adran gyfan o'r enw 'Ychwanegu swm ychwanegol at gyfradd ardoll' ac yn ceisio dileu'r pŵer y byddai gan Weinidogion Cymru fel arall i roi'r pŵer i brif gynghorau ychwanegu swm ychwanegol at ddwy gyfradd yr ardoll. Gadewch imi egluro pam mae hynny'n bwysig hefyd. Fe glywsom ni gan yr Ysgrifennydd Cabinet ychydig funudau yn ôl mai un o egwyddorion y ddeddfwriaeth hon yw ei chadw mor syml â phosibl. Nid yw gwahanol awdurdodau lleol gyda chyfraddau ardoll gwahanol ledled Cymru yn syml, yn fy marn i. Mae modd i hynny achosi dryswch, yn enwedig i'r ymwelwyr hynny wrth geisio deall cost ychwanegol eu llety dros nos. Nid yw'n unol â'r egwyddor o symlrwydd fel yr amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet ychydig funudau yn ôl. Mae perygl o ddryswch gyda gwahanol gyfraddau ardoll ledled Cymru.

Ac mae yna fater cyffredinol yma na ddylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fod yn gyson yn ceisio ychwanegu ffioedd ychwanegol a threthi ychwanegol i ymwelwyr yma yng Nghymru. Mae'r ffaith fod hyn wedi'i wneud cyn i'r Bil hyd yn oed basio trwy'r Senedd yn ffaith bryderus ynddo'i hun.

Mae gwelliannau pellach yma, 118 ac 88, yn ceisio, yn gyntaf oll, gydnabod bod fy mhrif welliannau yn annhebygol o basio ac felly cymhwyso cap ar gyfraddau ardoll ychwanegol y byddai awdurdodau lleol yn ceisio eu rhoi ar waith. Rwy'n credu bod hynny'n deg. Mae'n caniatáu i'r Senedd gael elfen o reolaeth dros unrhyw gyfraddau ardoll gormodol y gall rhai awdurdodau lleol geisio eu cymhwyso. Mae'r mwyafrif o'm gwelliannau eraill yno yn ganlyniadau i'r rhai rydw i wedi eu crybwyll eisoes.

Fe hoffwn i siarad yn fyr am welliant 113, sef y gwelliant a gyflwynwyd gan Luke Fletcher. Mae'n ymddangos bod y gwelliant hwn yn ceisio cosbi darparwyr llety mwy. Rwy'n credu y dylem ni fod yn gwneud popeth posibl i alluogi busnesau i dyfu yng Nghymru, oherwydd mae'r gwelliant penodol hwn yn ceisio cymhwyso ardollau uwch yn dibynnu ar nifer y bobl a gyflogir gan y busnes hwnnw. Felly, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 113. Mae'n ymddangos yn annheg i mi pan fyddwn yn ceisio cael busnesau i fuddsoddi, yn ceisio cael busnesau i gyflogi mwy o bobl a cheisio cael busnesau i dyfu. Mae hyn yn fodd o lyffetheirio'r buddsoddiad hwnnw ac i'r twf hwnnw yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau fel yr wyf wedi eu cyflwyno nhw o'ch blaen heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Speaking to amendment 113, its purpose is to enable local authorities to vary amounts added on to the base levy rate based on the number of people employed at the relevant visitor accommodation. So, what we mean by this is if we're saying that we want to support our local communities and support those local economies, we would want to incentivise people to go and stay in those locally owned B&Bs, those locally owned hotels, rather than go and stay, for example, in a Premier Inn where the profits from that Premier Inn go outside of Wales. We are looking to retain those profits within our community. So, it's disappointing to hear that the Conservatives are unwilling to support that principle, at least it seems. That's the practice of this amendment, to maintain and keep that profit within our communities, which is in the spirit of the levy as set out by the Government.

What I would like from the Cabinet Secretary, and I'm thinking back to one of the amendments that the Conservatives have put forward in relation to allowing local authorities to select to implement the levy partially rather than just in full—. I understand the Cabinet Secretary's response to that around the complication of this and I understand that this would cause some complication in that levy, but what I would be seeking from the Cabinet Secretary is to understand whether or not this is something that he thinks that we could explore. If we're talking about the spirit of the levy maintaining and making sustainable communities in the sustainable sector, we believe that this goes some way to helping to ensure that. So, I'd be looking from the Cabinet Secretary to understand whether this is something that the Government believes can be achieved and whether it can be explored.

O ran gwelliant 113, ei ddiben yw galluogi awdurdodau lleol i amrywio'r symiau sy'n cael eu hychwanegu at y gyfradd ardoll sylfaenol yn seiliedig ar nifer y bobl a gyflogir yn y llety perthnasol i ymwelwyr. Felly, yr hyn rydym ni'n ei olygu wrth hyn yw os ydym ni'n dweud bod arnom ni eisiau cefnogi ein cymunedau lleol a chefnogi'r economïau lleol hynny, byddai arnom ni eisiau ysgogi pobl i fynd i aros yn y llety gwely a brecwast hynny sydd mewn dwylo lleol, y gwestai hynny sydd mewn dwylo lleol, yn hytrach na mynd i aros, er enghraifft, mewn Premier Inn lle mae'r elw o'r Premier Inn hwnnw yn mynd y tu allan i Gymru. Rydym yn ceisio cadw'r elw hwnnw o fewn ein cymuned. Felly, mae'n siomedig clywed nad yw'r Ceidwadwyr yn fodlon cefnogi'r egwyddor honno, o leiaf dyna fel mae'n ymddangos. Dyna arfer y gwelliant hwn, i gadw'r elw hwnnw o fewn ein cymunedau, sydd yn ysbryd yr ardoll fel y'i cyflwynwyd gan y Llywodraeth.

Yr hyn yr hoffwn i gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n meddwl yn ôl at un o'r gwelliannau y mae'r Ceidwadwyr wedi'u cyflwyno mewn perthynas â chaniatáu i awdurdodau lleol ddewis gweithredu'r ardoll yn rhannol yn hytrach na dim ond yn llawn—. Rwy'n deall ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i hynny ynglŷn â chymhlethdod hyn ac rwy'n deall y byddai hyn yn achosi rhywfaint o gymhlethdod gyda'r ardoll honno, ond yr hyn y byddwn yn ei geisio gan yr Ysgrifennydd Cabinet yw deall a yw hyn yn rhywbeth y mae'n meddwl y gallem ni ei archwilio. Os ydym ni'n siarad am ysbryd yr ardoll yn cynnal ac yn gwneud cymunedau cynaliadwy yn y sector cynaliadwy, credwn fod hyn yn helpu sicrhau hynny. Felly, byddwn yn troi at yr Ysgrifennydd Cabinet i ddeall a yw hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn credu y gellir ei gyflawni ac a ellir ei archwilio.

18:00

The purpose of the Bill is to ensure that, in future, local authorities will have the ability to adjust visitor levy rates in response to the needs of their communities. We made amendments at Stage 2 that will delay that possibility until the basic visitor levy has settled in, but the Finance Committee received representations from various councils who presented compelling arguments for additional flexibilities in the rate of the levy to reflect their local circumstances. The nature of tourism in Cardiff is very different to the nature of tourism in Ceredigion. We aim to incorporate that flexibility in the Bill and we don't accept the arguments that Sam Rowlands has made for removing that ability altogether.

Mike Hedges made the point this afternoon, which he made during earlier stages of the Bill, that when a major concert happens in Cardiff, accommodation costs rise, not by a tiny additional amount as the levy Bill would provide, but by literally hundreds of pounds. People still come and they still pay those amounts. To deny the local authority the same flexibility, I think, would certainly not be justified in the way that he set out. And, of course, he also proposed a percentage approach, which I reject for the same reasons that I set out when we debated that earlier in group 6.

In terms of Luke Fletcher's amendment, I do understand the intention behind the amendment, but the Government's contention has always been that the small sums of money involved in the levy will not have a behavioural impact. We don't believe that fewer people will come to Wales because of the levy. We don't think that an additional rate locally would change people's behaviour. If that is true of the levy itself, I think it must be even more the case in relation to the marginal changes envisaged in amendment 113. The market signal that the amendment seeks to provide would, I think, be very weak, but the administrative complexity, as Luke Fletcher recognised, would increase. The number of employees at a visitor accommodation will fluctuate, with providers having to notify the WRA every time that number moves above or below this new threshold. Luke Fletcher asked whether the Government would be willing to continue to discuss the purpose of the amendment, the intention of the amendment, which is to provide some advantage to local businesses whose profits remain in Wales, rather than large multinational organisations where that is not the case. While we can't accept this amendment, and I don't think this can appear on the face of this Bill, I am very happy to go on discussing with the Member how the purpose behind his amendment might be achieved through more effective means.

Pwrpas y Bil yw sicrhau y bydd gan awdurdodau lleol y gallu i addasu cyfraddau ardoll ymwelwyr yn y dyfodol mewn ymateb i anghenion eu cymunedau. Gwnaethom welliannau yng Nghyfnod 2 a fydd yn gohirio'r posibilrwydd hwnnw nes bod yr ardoll ymwelwyr sylfaenol wedi ymsefydlu, ond derbyniodd y Pwyllgor Cyllid sylwadau gan wahanol gynghorau a gyflwynodd ddadleuon cymhellol dros hyblygrwydd ychwanegol yng nghyfradd yr ardoll i adlewyrchu eu hamgylchiadau lleol. Mae natur twristiaeth yng Nghaerdydd yn wahanol iawn i natur twristiaeth yng Ngheredigion. Ein nod yw ymgorffori'r hyblygrwydd hwnnw yn y Bil ac nid ydym yn derbyn y dadleuon y mae Sam Rowlands wedi'u gwneud dros gael gwared ar y gallu hwnnw yn gyfan gwbl.

Gwnaeth Mike Hedges y pwynt y prynhawn yma, a wnaeth yn ystod cyfnodau cynharach y Bil, pan fydd cyngerdd mawr yn digwydd yng Nghaerdydd, mae costau llety yn codi, nid gan swm bach ychwanegol fel y byddai'r ardoll yn ei ddarparu, ond gan gannoedd o bunnau yn llythrennol. Mae pobl yn dal i ddod ac maen nhw'n dal i dalu'r symiau hynny. Yn sicr, ni fyddai cyfiawnhad dros wrthod yr un hyblygrwydd i awdurdodau lleol, rwy'n credu, yn y modd y gwnaeth ef ei amlinellu. Ac, wrth gwrs, cynigiodd hefyd ddull canran, yr wyf i yn ei wrthod am yr un rhesymau a nodais pan wnaethom drafod hynny yn gynharach yng ngrŵp 6.

O ran gwelliant Luke Fletcher, rwy'n deall y bwriad y tu ôl i'r gwelliant, ond dadl y Llywodraeth bob amser yw na fydd y symiau bach o arian sy'n gysylltiedig â'r ardoll yn cael effaith ymddygiadol. Dydyn ni ddim yn credu y bydd llai o bobl yn dod i Gymru oherwydd yr ardoll. Dydyn ni ddim yn credu y byddai cyfradd ychwanegol yn lleol yn newid ymddygiad pobl. Os yw hynny'n wir am yr ardoll ei hun, rwy'n credu bod yn rhaid iddo fod hyd yn oed yn fwy gwir o ran y newidiadau ymylol a ragwelir yng ngwelliant 113. Byddai arwydd y farchnad y mae'r gwelliant yn ceisio ei ddarparu yn wan iawn, ond byddai'r cymhlethdod gweinyddol, fel y cydnabu Luke Fletcher, yn cynyddu. Bydd nifer y gweithwyr mewn llety ymwelwyr yn amrywio, gyda darparwyr yn gorfod hysbysu ACC bob tro y bydd y nifer hwnnw'n symud yn uwch neu'n is na'r trothwy newydd hwn. Gofynnodd Luke Fletcher a fyddai'r Llywodraeth yn fodlon parhau i drafod pwrpas y gwelliant, sef rhoi rhywfaint o fantais i fusnesau lleol y mae eu helw yn aros yng Nghymru, yn hytrach na sefydliadau rhyngwladol mawr lle nad yw hynny'n wir. Er na allwn dderbyn y gwelliant hwn, ac nid wyf yn credu y gall ymddangos ar wyneb y Bil hwn, rwy'n hapus iawn i barhau i drafod gyda'r Aelod sut y gellid cyflawni'r pwrpas y tu ôl i'w welliant trwy ddulliau mwy effeithiol.

Sam Rowlands sy'n ymateb i'r ddadl. Diolch.

Sam Rowlands to reply to the debate. Thank you.

Diolch, Llywydd. I am grateful for the Member's contributions on the amendments within this group. Just to address a couple of the points that have been addressed, the Cabinet Secretary has just described that he didn't believe that the levy would reduce the number of visitors coming into Wales. That flies in the face of the explanatory memorandum from him ahead of this legislation, which described hundreds of job losses, potentially, as a result of this legislation. Those job losses won't happen because we're seeing the same number of people visit Wales; those job losses will happen because fewer people would choose to visit Wales—and it's the Welsh Government's own papers that reflect that.

On the comments around the flexibility for local authorities to introduce an additional amount to the levy rate, to be clear, the flexibility being proposed by the Government here is a flexibility that would apply to all of the accommodation within that category for all of the financial year. It's very, very rigid flexibility. It's not the type of flexibility that people like Mike Hedges speak to, which is the ability to adjust when those peak and very demand-led seasonal impacts on accommodation pressure are understood and felt. So, there needs to be an understanding that the flexibility that's been described here is literally just a higher amount of levy for the year for that whole local authority area. We know, in our local authorities, some areas are much more sought after than others. This would apply to the whole local authority for the whole year. I think it's a very poor way of trying to introduce some flexibility, and I don't think it's going to be helpful for, as I say, visitors, with confusion about different rates across different parts of Wales at different points in time. It's not good for those accommodation providers either. I'll continue to seek Members' support for the amendments, as I've laid out already. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am gyfraniadau'r Aelod ynghylch y gwelliannau o fewn y grŵp hwn. Dim ond i fynd i'r afael â dau o'r pwyntiau sydd wedi'u trafod, mae'r Ysgrifennydd Cabinet newydd ddisgrifio nad oedd yn credu y byddai'r ardoll yn lleihau nifer yr ymwelwyr sy'n dod i Gymru. Mae hynny'n gwrth-ddweud yn llwyr y memorandwm esboniadol ganddo cyn y ddeddfwriaeth hon, a ddisgrifiodd cannoedd yn colli swyddi, o bosibl, o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon. Ni fydd y colli swyddi hynny yn digwydd oherwydd ein bod ni'n gweld yr un nifer o bobl yn ymweld â Chymru; bydd y swyddi hynny yn cael eu colli oherwydd y byddai llai o bobl yn dewis ymweld â Chymru—a phapurau Llywodraeth Cymru ei hun sy'n dweud hynny.

Ynghylch y sylwadau am yr hyblygrwydd i awdurdodau lleol gyflwyno swm ychwanegol i'r gyfradd ardoll, i fod yn glir, mae'r hyblygrwydd sy'n cael ei gynnig gan y Llywodraeth yma yn hyblygrwydd a fyddai'n berthnasol i'r holl lety o fewn y categori hwnnw ar gyfer yr holl flwyddyn ariannol. Mae'n hyblygrwydd anhyblyg iawn, iawn. Nid dyma'r math o hyblygrwydd y mae pobl fel Mike Hedges yn sôn amdano, sef y gallu i addasu pan deimlir ac y deellir effeithiau'r adegau prysur hynny a'r effeithiau tymhorol hynny sy'n ddibynnol iawn ar alw ar faint o lety sydd ar gael. Felly, mae angen dealltwriaeth bod yr hyblygrwydd a ddisgrifiwyd yma yn llythrennol yn swm uwch o ardoll am y flwyddyn ar gyfer yr holl ardal awdurdod lleol honno. Rydym ni'n gwybod, yn ein hawdurdodau lleol, fod rhai ardaloedd yn llawer mwy poblogaidd nag eraill. Byddai hyn yn berthnasol i'r awdurdod lleol cyfan am y flwyddyn gyfan. Rwy'n credu ei fod yn ffordd wael iawn o geisio cyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd, a dydw i ddim yn meddwl y bydd yn ddefnyddiol i, fel y dywedais i, ymwelwyr, gyda dryswch am wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o Gymru ar wahanol adegau. Nid yw'n dda i'r darparwyr llety hynny chwaith. Byddaf yn parhau i geisio cefnogaeth yr Aelodau i'r gwelliannau, fel yr wyf wedi'i nodi eisoes. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 82? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 82. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 82 wedi ei wrthod.

The question is that amendment 82 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. Therefore, we'll move to a vote on amendment 82. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 82 is not agreed. 

Gwelliant 82: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 82: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Ydy gwelliant 83 yn cael ei symud, Sam Rowlands?

Amendment 83, is it moved, Sam Rowlands?

Mae gwelliant 83 heb ei symud. Felly, wnawn ni ddim cael pleidlais ar welliant 83.

Amendment 83 is not moved. Therefore, we won't have a vote on amendment 83.

Ni chynigiwyd gwelliant 83 (Sam Rowlands). 

Amendment 83 (Sam Rowlands) not moved.

Ydy gwelliant 84 yn cael ei symud?

Amendment 84, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 84 (Sam Rowlands).

Amendment 84 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 84? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Os derbynnir gwelliant 84, bydd gwelliant 85 yn methu. Oes, mae yna wrthwynebiad, felly, agor y bleidlais ar welliant 84. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 84 wedi ei wrthod. 

Yes, it is. Is there objection to 84? [Objection.] Yes, there is. If amendment 84 is agreed to, then amendment 85 will fall. There is objection, therefore we'll move to a vote. Open the vote on amendment 84. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 84 is not agreed.

Gwelliant 84: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 84: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Ydy gwelliant 85 yn cael ei symud, Sam Rowlands?

Amendment 85, is it moved, Sam Rowlands?

Cynigiwyd gwelliant 85 (Sam Rowlands).

Amendment 85 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 85? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 85. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 85 wedi ei wrthod.

It is. Is there objection to amendment 85? [Objection.] Yes, there is. A vote on amendment 85. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 85 is not agreed.

Gwelliant 85: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 85: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Ydy gwelliant 86 yn cael ei symud, Sam Rowlands?

Amendment 86, is it moved, Sam Rowlands?

Cynigiwyd gwelliant 86 (Sam Rowlands).

Amendment 86 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yn wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 86. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 86 wedi ei wrthod.

Yes, it is. Is there objection? [Objection.] Yes, there is. We will take a vote on amendment 86. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 86 is not agreed.

Gwelliant 86: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 86: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Na, dyw e ddim yn cael ei symud. Felly, fydd yna ddim pleidlais.

No, it's not moved. Therefore, there won't be a vote.

Ni chynigiwyd gwelliant 87 (Sam Rowlands). 

Amendment 87 (Sam Rowlands) not moved.

Cynigiwyd gwelliant 118 (Sam Rowlands).

Amendment 118 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae e. Agor y bleidlais ar welliant 118. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 118 wedi ei wrthod.

Yes, it is moved. Is there objection? [Objection.] Yes, there is. Open the vote on amendment 118. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 118 is not agreed.

Gwelliant 118: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 118: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Ydy gwelliant 88, Sam Rowlands, yn cael ei symud?

Amendment 88, Sam Rowlands, is it moved?

Na, dyw gwelliant 88 ddim yn cael ei symud. 

No, it is not moved.

Ni chynigiwyd gwelliant 88 (Sam Rowlands). 

Amendment 88 (Sam Rowlands) not moved.

18:10

Gwelliant 113, Luke Fletcher, ydy e'n cael ei symud? Dyw gwelliant 113 ddim yn cael ei symud, felly fydd yna ddim pleidlais.

Amendment 113, Luke Fletcher, is it moved? Amendment 113 is not being moved, therefore there won't be a vote on it.

Ni chynigiwyd gwelliant 113 (Luke Fletcher). 

Amendment 113 (Luke Fletcher) not moved.

Gwelliant 22, Ysgrifennydd y Cabinet, ydy e'n cael ei symud?

Amendment 22, Cabinet Secretary, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 22 (Mark Drakeford).

Amendment 22 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 22? Nac oes, does yna ddim. Felly, mae gwelliant 22 wedi'i dderbyn.

Yes, it is. Is there objection to amendment 22? There is no objection. Therefore, amendment 22 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Sam Rowlands, gwelliant 119. 

Sam Rowlands, amendment 119.

Cynigiwyd gwelliant 119 (Sam Rowlands).

Amendment 119 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 119. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 119 wedi'i wrthod.

Yes, it is moved. Is there objection? [Objection.] Yes, there is. Open the vote on amendment 119. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 119 is not agreed.

Gwelliant 119: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 119: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Ydy gwelliant 120 yn cael ei symud?

Amendment 120, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 120 (Sam Rowlands).

Amendment 120 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 120. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 120 wedi'i wrthod.

Yes, it is. Is there objection? [Objection.] Yes, there is. Therefore, open the vote on amendment 120. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 120 is not agreed.

Gwelliant 120: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 120: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 121, Sam Rowlands. Na, dyw e ddim yn cael ei symud. Felly, dim pleidlais.

Amendment 121, Sam Rowlands. No, it is not moved. Therefore, no vote.

Ni chynigiwyd gwelliant 121 (Sam Rowlands). 

Amendment 121 (Sam Rowlands) not moved.

Dyw gwelliant 122 ddim yn cael ei symud gan Sam Rowlands.

Amendment 122 is not moved by Sam Rowlands.

Ni chynigiwyd gwelliant 122 (Sam Rowlands). 

Amendment 122 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 23, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae yn cael ei symud.

Amendment 23, Cabinet Secretary. It is moved.

Cynigiwyd gwelliant 23 (Mark Drakeford).

Amendment 23 (Mark Drakeford) moved.

A oes gwrthwynebiad? Na, dim gwrthwynebiad. Mae gwelliant 23 yn cael ei dderbyn.

Is there objection? There is no objection. Therefore, amendment 23 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Grŵp 10: Rhoi cyfrif am yr ardoll, a thalu’r ardoll (Gwelliannau 114, 89, 115, 90, 29, 56, 57, 59, 64)
Group 10: Accounting for, and payment of, the levy (Amendments 114, 89, 115, 90, 29, 56, 57, 59, 64)

Grŵp 10 sydd nesaf. Mae'r degfed grŵp o welliannau yn rhoi cyfrif am yr ardoll a thalu’r ardoll. Gwelliant 114 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a Luke Fletcher sy'n cynnig y prif welliant yma.

Group 10 is next. The tenth group of amendments relates to accounting for and payment of the levy. Amendment 114 is the lead amendment in this group, and Luke Fletcher will be moving and speaking to this lead amendment.

Cynigiwyd gwelliant 114 (Luke Fletcher).

Amendment 114 (Luke Fletcher) moved.

Diolch, Llywydd. I will move amendments 114 and 115. Our first amendment, 114, in this group, changes the date for filing annual returns from 30 April to 31 May, which then enables the second amendment, 115, which extends the period that those eligible for exemptions from the levy can make claims for a refund from 30 to 60 days.

We've already discussed throughout this process how the eligibility criteria for exemption includes individuals sheltering from domestic violence, and I'm sure everyone can appreciate the importance of giving such individuals as much flexibility as possible to reclaim the levy without obliging them to declare up front the particular circumstances for their seeking of accommodation. This amendment, therefore, provides added flexibility for people who are already facing the most difficult of circumstances and who, for completely understandable reasons, may require more time to claim their refund. I'm grateful to the Cabinet Secretary for those conversations around how such an amendment would work, and I would ask the Senedd to support these amendments.

Diolch, Llywydd. Byddaf yn cynnig gwelliannau 114 a 115. Mae ein gwelliant cyntaf, 114, yn y grŵp hwn, yn newid y dyddiad ar gyfer ffeilio ffurflenni blynyddol o 30 Ebrill i 31 Mai, sydd wedyn yn galluogi'r ail welliant, 115, sy'n ymestyn y cyfnod y gall y rhai sy'n gymwys ar gyfer eithriadau o'r ardoll wneud hawliadau am ad-daliad o 30 i 60 diwrnod.

Rydym eisoes wedi trafod trwy gydol y broses hon sut mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer eithriad yn cynnwys unigolion sy'n cysgodi rhag trais domestig, ac rwy'n siŵr y gall pawb werthfawrogi pwysigrwydd rhoi cymaint o hyblygrwydd ag sy'n bosibl i unigolion o'r fath hawlio'r ardoll heb eu gorfodi i ddatgan ymlaen llaw eu hamgylchiadau penodol ar gyfer ceisio llety. Mae'r gwelliant hwn, felly, yn darparu hyblygrwydd ychwanegol i bobl sydd eisoes yn wynebu'r amgylchiadau anoddaf ac sydd, am resymau cwbl ddealladwy, angen mwy o amser i hawlio eu had-daliad. Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am y sgyrsiau hynny ynghylch sut y byddai gwelliant o'r fath yn gweithio, a byddwn yn gofyn i'r Senedd gefnogi'r gwelliannau hyn.

I'll speak to amendments 89 and 90 in just a moment, but I say first that we'll be supporting the amendments as laid out by the Government and by Luke Fletcher in this group in whole. 

I believe that the amendment I've laid out in 89 seeks to be broadly in line with what Luke Fletcher has in amendment 115, which is to give a greater length of time for those accommodation providers to return in regard to their accounting period. Currently, accommodation providers have 30 days to deal with any levy that's chargeable to them. I believe that should be extended to 90 days. I particularly think of those voluntary organisations I described earlier who are reliant, as I say, on those volunteers to do the work. A 30-day return, for me, feels quite tight for those organisations. I think 90 days, once a quarter, is a far more reasonable length of time to support those accommodation providers.

Amendment 90, I think, is an important amendment in regard to transparency. Amendment 90 would put a duty on visitor accommodation providers to provide information on the levy in an invoice, receipt or other documentation. That, for me, would create greater transparency as to the element of the cost of that overnight stay for visitors, the element being the visitor levy. I think Members in this place would support that transparency, so I look forward to the support of those points in the votes in a moment. Diolch yn fawr iawn.

Byddaf yn sôn am welliannau 89 a 90 mewn eiliad, ond fe ddywedaf yn gyntaf y byddwn ni'n cefnogi'r gwelliannau fel y'u gosodwyd gan y Llywodraeth a gan Luke Fletcher yn y grŵp hwn yn ei gyfanrwydd. 

Rwy'n credu bod y gwelliant rwyf wedi'i osod yn 89 yn ceisio, yn fras, bod yn unol â'r hyn sydd gan Luke Fletcher yng ngwelliant 115, sef rhoi mwy o amser i'r darparwyr llety hynny gyflwyno eu ffurflenni o ran eu cyfnod cyfrifyddu. Ar hyn o bryd, mae gan ddarparwyr llety 30 diwrnod i ymdrin ag unrhyw ardoll sy'n daladwy. Rwy'n credu y dylid ymestyn hynny i 90 diwrnod. Rwy'n meddwl yn arbennig am y mudiadau gwirfoddol hynny a ddisgrifiais yn gynharach sy'n dibynnu, fel y dywedaf, ar y gwirfoddolwyr hynny i wneud y gwaith. Mae cyfnod dychwelyd o 30 diwrnod, i mi, yn teimlo'n eithaf tynn i'r sefydliadau hynny. Rwy'n credu bod 90 diwrnod, unwaith y chwarter, yn gyfnod llawer mwy rhesymol i gefnogi'r darparwyr llety hynny.

Mae gwelliant 90, rwy'n credu, yn welliant pwysig o ran tryloywder. Byddai gwelliant 90 yn rhoi dyletswydd ar ddarparwyr llety ymwelwyr i ddarparu gwybodaeth am yr ardoll mewn anfoneb, derbynneb neu ddogfen arall. Byddai hynny, i mi, yn creu mwy o dryloywder o ran elfen cost yr arhosiad dros nos hwnnw i ymwelwyr, sef elfen yr ardoll ymwelwyr. Rwy'n credu y byddai Aelodau yn y lle hwn yn cefnogi'r tryloywder hwnnw, felly edrychaf ymlaen at gefnogaeth i'r pwyntiau hynny yn y pleidleisiau mewn eiliad. Diolch yn fawr iawn.

18:15

Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n ymateb nawr.

The Cabinet Secretary to contribute.

Diolch yn fawr, Llywydd. I welcome and support the amendments tabled by Luke Fletcher in amendments 114 and 115. I am, too, grateful for the opportunity we have had to discuss these amendments and acknowledge the usefulness of extending the timeframes from 30 days to 60 days, as those amendments do. I cannot support amendment 89, because it is not a 30 day to 60 day change, it is a 90-day limit, and this really erodes the purpose of having quarterly filing. Ninety days from the end of a quarter to file a return we believe is disproportionate. An earlier deadline would allow errors to be addressed sooner and for the tax to be paid without delay.

Nor do I accept the need for amendment 90, because there is already a power in the Bill to provide for this purpose if it is necessary. Section 51 provides Welsh Ministers with a power to impose advertising and billing requirements on visitor accommodation providers. It is a power that may not need to be exercised, because I believe that visitor accommodation providers are very likely indeed to identify on their bills where this additional sum is being required by the Welsh Government. The power, therefore, may not need to be exercised, whereas the amendment imposes an immediate duty when the levy comes into effect. I think that where there is a realistic expectation of voluntary action, that, not obligation, should be our first recourse; compulsion should be kept in reserve. And I give the Member an assurance that if voluntary action doesn’t produce the result that his amendment requires, then the Government would move to enact the power that the Bill already contains.

I turn to the Government amendments—two groups of amendments—in this group, Llywydd. Amendment 29 inserts a new section to set out that a person who stops being a visitor accommodation provider but still has outstanding duties, for example in submitting returns, remains responsible for those duties even after deregistering. Amendment 59 amends the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 to ensure that the provisions on penalty points and liabilities to fines in the new sections being added to that Act apply in circumstances where a person ceases to be an accommodation provider. Amendments 56 and 64 are consequential to amendment 59.

Finally, amendment 57 ensures that the WRA cannot impose penalties on a person who has not indicated whether they will make a quarterly or an annual return. That decision remains with the visitor accommodation provider and the WRA must act in response to it, not in anticipation of it, in imposing penalties.

I therefore call on Members to support amendments 29, 56, 57, 59, 64, 114 and 115 and to reject amendments 89 and 90.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n croesawu ac yn cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Luke Fletcher yng ngwelliannau 114 a 115. Rwyf innau hefyd yn ddiolchgar am y cyfle rydym wedi'i gael i drafod y gwelliannau hyn ac rwy'n cydnabod pa mor ddefnyddiol yw ymestyn yr amserlenni o 30 diwrnod i 60 diwrnod, fel y mae'r gwelliannau hynny'n ei wneud. Alla i ddim cefnogi gwelliant 89, oherwydd dydy e ddim yn newid o 30 diwrnod i 60 diwrnod, mae'n derfyn o 90 diwrnod, ac mae hyn mewn gwirionedd yn erydu pwrpas ffeilio chwarterol. Naw deg diwrnod o ddiwedd chwarter i ffeilio ffurflen rydyn ni'n credu sy'n anghymesur. Byddai dyddiad cau cynharach yn caniatáu ar gyfer ymdrin â gwallau yn gynt a thalu'r dreth yn ddi-oed.

Dydw i ddim ychwaith yn derbyn bod angen gwelliant 90, oherwydd mae pŵer eisoes yn y Bil i ddarparu ar gyfer y diben hwn os bydd angen. Mae adran 51 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod gofynion hysbysebu a bilio ar ddarparwyr llety ymwelwyr. Mae'n bŵer na fydd angen ei arfer efallai, oherwydd rwy'n credu bod darparwyr llety ymwelwyr yn debygol iawn o nodi ar eu biliau lle mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am y swm ychwanegol hwn. Efallai na fydd angen arfer y pŵer, felly, tra bod y gwelliant yn gosod dyletswydd ar unwaith pan ddaw'r ardoll i rym. Rwy'n credu, lle mae disgwyliad realistig o weithredu gwirfoddol, mai hynny, yn hytrach na rhwymedigaeth, y dylen ni droi ato yn gyntaf; dylid cadw gorfodaeth wrth gefn. Ac rwy'n rhoi sicrwydd i'r Aelod, os na fydd gweithredu gwirfoddol yn cynhyrchu'r canlyniad y mae ei welliant yn gofyn amdano, yna byddai'r Llywodraeth yn symud i ddeddfu'r pŵer y mae'r Bil eisoes yn ei gynnwys.

Trof at welliannau'r Llywodraeth—dau grŵp o welliannau—yn y grŵp hwn, Llywydd. Mae gwelliant 29 yn mewnosod adran newydd i nodi bod person sy'n rhoi'r gorau i fod yn ddarparwr llety ymwelwyr ond sydd â dyletswyddau heb eu cyflawni, er enghraifft wrth gyflwyno ffurflenni, yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflawni'r dyletswyddau hynny hyd yn oed ar ôl dadgofrestru. Mae gwelliant 59 yn diwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 i sicrhau bod y darpariaethau ar bwyntiau cosb a bod yn agored i ddirwyon yn yr adrannau newydd sy'n cael eu hychwanegu at y Ddeddf honno yn gymwys mewn amgylchiadau lle mae person yn rhoi'r gorau i fod yn ddarparwr llety. Mae gwelliannau 56 a 64 yn ganlyniadol i welliant 59.

Yn olaf, mae gwelliant 57 yn sicrhau na all yr ACC osod cosbau ar berson nad yw wedi nodi a fydd yn cyflwyno ffurflen chwarterol neu flynyddol. Erys y penderfyniad hwnnw gyda'r darparwr llety ymwelwyr a rhaid i'r ACC weithredu mewn ymateb iddo, nid i'r hyn a ddisgwylir, wrth osod cosbau.

Galwaf felly ar yr Aelodau i gefnogi gwelliannau 29, 56, 57, 59, 64, 114 a 115 ac i wrthod gwelliannau 89 a 90.

Diolch, Llywydd. Only to reiterate my thanks to the Cabinet Secretary for working with myself on amendments 114 and 115 and to ask that we move to a vote.

Diolch, Llywydd. Dim ond i ailadrodd fy niolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am weithio gyda fi ar welliannau 114 a 115 ac i ofyn i ni symud i bleidlais.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 114? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 114 wedi'i dderbyn.

The question, therefore, is that amendment 114 be agreed to. Does any Member object? There is no objection. Therefore, amendment 114 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Sam Rowlands, ydy gwelliant 89 yn cael ei symud?

Sam Rowlands, is amendment 89 moved?

Cynigiwyd gwelliant 89 (Sam Rowlands).

Amendment 89 (Sam Rowlands) moved.

Ydy, mae e. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy, mae e. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 89. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn.

Yes, it is. Is there objection? [Objection.] Yes, there is objection. Open the vote, therefore, on amendment 89. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against.

18:20

Gwelliant 89: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 89: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 115—yn cael ei symud, Luke Fletcher?

Is amendment 115 moved, Luke Fletcher? 

Cynigiwyd gwelliant 115 (Luke Fletcher).

Amendment 115 (Luke Fletcher) moved.

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i 115? Nac oes. Felly, mae gwelliant 115 yn cael ei basio. 

Yes, it is. Is there objection to 115? There is none. Therefore, amendment 115 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 24 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet? 

Amendment 24 is next. Cabinet Secretary, is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 24 (Mark Drakeford).

Amendment 24 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 24? Nac oes. Felly, gwelliant 24 wedi ei dderbyn. 

It is moved. Is there objection to amendment 24? There is none. Therefore, amendment 24 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 17.34.

Gwelliant 25. Yn cael ei symud? 

Amendment 25. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 25 (Mark Drakeford).

Amendment 25 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 25? Nac oes. Gwelliant 25 yn cael ei basio. 

Yes, it is. Is there objection to amendment 25? There is none. Therefore, amendment 25 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 26. Ydy e'n cael ei symud? 

Amendment 26. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 26 (Mark Drakeford).

Amendment 26 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 26 wedi ei basio. 

Yes, it is. Is there objection? There is none. Amendment 26 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 27. Ydy e'n cael ei symud? 

Amendment 27. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 27 (Mark Drakeford).

Amendment 27 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 27 yn cael ei dderbyn. 

Yes, it is. Is there objection? There is none. Amendment 27 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 28. Yn cael ei symud? 

Amendment 28. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 28 (Mark Drakeford).

Amendment 28 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? Gwelliant 28 yn cael ei dderbyn felly. 

Yes, it is. Is there objection? Amendment 28 is agreed therefore. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 90 (Sam Rowlands).

Amendment 90 (Sam Rowlands) moved.

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 90. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 90 yn cael ei wrthod. 

Yes, it is moved. Is there objection? [Objection.] Yes, there is objection. Therefore, we will move to a vote on amendment 90. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Amendment 90 is not agreed. 

Gwelliant 90: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 90: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 29 sydd nesaf. A ydy e'n cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet? 

Amendment 29 is next. Is it moved by the Cabinet Secretary? 

Cynigiwyd gwelliant 29 (Mark Drakeford).

Amendment 29 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 29? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn, felly. 

Yes, it is. Is there objection to amendment 29? There is none. Therefore, it is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 54 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud? 

Amendment 54 is next. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 54 (Mark Drakeford).

Amendment 54 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i 54? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn. 

Yes, it is. Is there objection to amendment 54? There is none. Therefore, it is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 55. Yn cael ei symud? 

Amendment 55. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 55 (Mark Drakeford).

Amendment 55 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 55 wedi ei dderbyn. 

Yes, it is. Is there objection? There is none. Therefore, amendment 55 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 56. Yn cael ei symud?

Amendment 56. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 56 (Mark Drakeford).

Amendment 56 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Gwelliant 56, oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn. 

Yes, it is. Amendment 56, is there objection? There is none. Amendment 56 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 57. Ydy e'n cael ei symud? 

Amendment 57. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 57 (Mark Drakeford).

Amendment 57 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 57 wedi ei dderbyn. 

Yes, it is. Is there objection? There is none. Therefore, the amendment is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 58. Ydy e'n cael ei symud? 

Amendment 58. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 58 (Mark Drakeford).

Amendment 58 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 58 wedi ei dderbyn. 

Yes, it is. Is there objection? There is none. Therefore, amendment 58 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 59. Ydy e'n cael ei symud? 

Amendment 59. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 59 (Mark Drakeford).

Amendment 59 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Felly, oes gwrthwynebiad i 59? Nac oes. Felly, mae gwelliant 59 wedi ei dderbyn. 

Yes, it is. Is there objection to 59? There is none. Therefore, amendment 59 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 17.34.

Gwelliant 60. Yn cael ei symud? 

Amendment 60. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 60 (Mark Drakeford).

Amendment 60 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes, does dim. Felly, 60 wedi ei dderbyn. 

Yes, it is. Is there objection? There is none. Therefore, 60 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 61 (Mark Drakeford).

Amendment 61 (Mark Drakeford) moved.

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae 61 wedi ei dderbyn. 

It's moved. Is there objection? There is none. Therefore, amendment 61 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 62. Yn cael ei symud? 

Amendment 62. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 62 (Mark Drakeford).

Amendment 62 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Felly, 62, oes gwrthwynebiad? Nac oes, does dim. Gwelliant 62 wedi ei dderbyn. 

Yes, it is. Therefore, 62, is there objection? No, there is none. Amendment 62 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 17.34.

Gwelliant 63. Ydy e'n cael ei symud? 

Amendment 63. Is it moved? 

Cynigiwyd gwelliant 63 (Mark Drakeford).

Amendment 63 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Felly, gwelliant 63, gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn. 

Yes, it is. Therefore, amendment 63, objections? No. It's agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 64 (Mark Drakeford).

Amendment 64 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 64? Nac oes. Felly, mae gwelliant 64 wedi ei dderbyn. 

Yes, it is. Are there any objections to amendment 64? There are none. Therefore, amendment 64 is agreed. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Grŵp 11: Defnyddio enillion yr ardoll (Gwelliannau 30, 31)
Group 11: Use of proceeds of the levy (Amendments 30, 31)

Grŵp 11. Mae'r unfed grŵp ar ddeg o welliannau, yn ymwneud â defnyddio enillion yr ardoll. Gwelliant 30 yw'r prif welliant. Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliant yma. 

We move now to the eleventh group of amendments, related to use of proceeds of the levy. Amendment 30 is the lead amendment. I call on the Cabinet Secretary to move the amendment. 

Cynigiwyd gwelliant 30 (Mark Drakeford).

Amendment 30 (Mark Drakeford) moved.

Diolch yn fawr, Llywydd. The amendments in this group are designed to remove ambiguity and clarify the reporting cycle for principal councils, and I apologise if the explanation doesn't sound as clear as the intention. Group 11 contains two amendments that have been made to section 43 of the Bill, which deal with a principal council’s reporting requirements.

The levy will be paid by visitor accommodation providers when they file their returns. The WRA is required to make a payment to the principal council by 30 June of each year for proceeds received by it in the preceding financial year. This is necessary to account for filing and payment deadlines and to ensure disbursements and late payments are settled before transferring the money to the principal council.

Amendment 30 reflects the fact that, in the first financial year in which the levy has effect in a council’s area, the council will not be paid the proceeds of the levy from the WRA until the following June, although the levy will be collected from visitor accommodation providers during and after that year.

Amendment 31 is intended to make clear that the report that a local authority must publish for each year that it has received proceeds of the levy must set out how much revenue the council received from the WRA in that financial year, regardless of the financial year in which the WRA collected the revenue and how much the WRA deducted from that revenue to cover its costs. This clarifying amendment provides certainty for a principal council in discharging its responsibility for reporting purposes, as the WRA may collect the levy payments across more than one financial year.

These two amendments, therefore, have been made to remove any uncertainty or ambiguity with regard to a council’s reporting cycle, particularly regarding the financial year in which the proceeds of the levy were collected by the WRA, versus when they were paid to the council, and on which it must publish a report. I ask Members to support the two amendments.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn wedi'u cynllunio i gael gwared ar amwysedd ac egluro'r cylch adrodd ar gyfer prif gynghorau, ac rwy'n ymddiheuro os nad yw'r esboniad yn swnio mor glir â'r bwriad. Mae grŵp 11 yn cynnwys dau welliant a wnaed i adran 43 o'r Bil, sy'n ymwneud â gofynion adrodd prif gyngor.

Bydd yr ardoll yn cael ei thalu gan ddarparwyr llety ymwelwyr pan fyddan nhw'n ffeilio eu ffurflenni. Mae'n ofynnol i'r ACC wneud taliad i'r prif gyngor erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn am enillion a dderbyniwyd ganddo yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae hyn yn angenrheidiol i roi cyfrif am ddyddiadau cau ffeilio a thalu ac i sicrhau bod alldaliadau a thaliadau hwyr yn cael eu setlo cyn trosglwyddo'r arian i'r prif gyngor.

Mae gwelliant 30 yn adlewyrchu'r ffaith, yn y flwyddyn ariannol gyntaf y mae'r ardoll yn cael effaith yn ardal cyngor, na fydd yr ACC yn talu enillion yr ardoll i'r cyngor tan y mis Mehefin canlynol, er y bydd yr ardoll yn cael ei chasglu gan ddarparwyr llety ymwelwyr yn ystod y flwyddyn honno ac ar ôl hynny.

Bwriad gwelliant 31 yw gwneud yn glir bod yn rhaid i'r adroddiad y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei gyhoeddi ar gyfer pob blwyddyn y mae wedi derbyn enillion yr ardoll nodi faint o refeniw a gafodd y cyngor gan yr ACC yn y flwyddyn ariannol honno, ni waeth ym mha flwyddyn ariannol y casglodd yr ACC y refeniw a faint y gwnaeth yr ACC ei ddidynnu o'r refeniw hwnnw i dalu ei gostau. Mae'r gwelliant hwn, sy'n cynnig eglurhad, yn darparu sicrwydd i brif gyngor wrth gyflawni ei gyfrifoldeb at ddibenion adrodd, gan y gall yr ACC gasglu taliadau'r ardoll ar draws mwy nag un flwyddyn ariannol.

Mae'r ddau welliant hyn, felly, wedi'u gwneud i gael gwared ar unrhyw ansicrwydd neu amwysedd o ran cylch adrodd cyngor, yn enwedig ynghylch y flwyddyn ariannol pan gasglwyd enillion yr ardoll gan yr ACC, o gymharu â phryd y cawson nhw eu talu i'r cyngor, ac y mae'n rhaid iddo gyhoeddi adroddiad arno. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau welliant.

18:25

I'm just standing to clarify our support for the amendments as laid out by the Cabinet Secretary, amendments 30 and 31. More broadly on this theme of use of proceeds of the levy, just to acknowledge and have on the record in this place the work that the committee undertook with the Government in ensuring that there will be a visitor forum in place—which took place at Stage 2 of this work—which may not fit perfectly in this group, but I think that the use of proceeds of the levy, acknowledging that local authorities will have in place a visitor forum, taking into account accommodation providers and the tourism sector more broadly, working with the local authorities to ensure that the proceeds of the levy are being spent on the types of things that would benefit those tourism businesses in our local authority areas—. So, we continue our support for the amendments as laid out by the Cabinet Secretary.

Rwy'n sefyll i egluro ein cefnogaeth i'r gwelliannau fel y'u gosodwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, gwelliannau 30 a 31. Yn fwy eang ar y thema hon o ddefnyddio elw'r ardoll, dim ond i gydnabod a chael ar gofnod yn y lle hwn y gwaith a wnaeth y pwyllgor gyda'r Llywodraeth i sicrhau y bydd fforwm ymwelwyr ar waith—a gynhaliwyd yng Nghyfnod 2 o'r gwaith hwn—nad yw'n ffitio'n berffaith i'r grŵp hwn efallai, ond rwy'n credu bod y defnydd o elw'r ardoll, cydnabod y bydd gan awdurdodau lleol fforwm ymwelwyr ar waith, ystyried darparwyr llety a'r sector twristiaeth yn ehangach, gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod elw'r ardoll yn cael ei wario ar y mathau o bethau a fyddai o fudd i'r busnesau twristiaeth hynny yn ein hardaloedd awdurdodau lleol—. Felly, rydym yn parhau i gefnogi'r gwelliannau fel y'u gosodwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet.

Y cwestiwn yw: a ddylid—? O, na. Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn moyn ymateb i hynny?

The question is that—. Oh, no. Does the Cabinet Secretary want to reply to that?

Well, just to thank Sam Rowlands for that. Amendments were moved in group 2 in relation to the visitor accommodation forum, which the Government was happy to support. Now, that forum will have clarity about the period over which the local authority is reporting, in its annual obligation to report on the proceeds of the levy and the purposes to which the levy is being applied.

Wel, dim ond i ddiolch i Sam Rowlands am hynny. Cynigiwyd gwelliannau yng ngrŵp 2 o ran y fforwm llety i ymwelwyr, yr oedd y Llywodraeth yn hapus i'w cefnogi. Nawr, bydd gan y fforwm hwnnw eglurder ynglŷn â chyfnod adrodd yr awdurdod lleol, yn ei rwymedigaeth flynyddol i adrodd ar enillion yr ardoll a'r dibenion y mae'r ardoll yn cael ei chymhwyso iddynt.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, bydd gwelliant 30 yn cael ei basio.

The question is that amendment 30 be agreed to. Does any Member object? No, there are no objections. Therefore, amendment 30 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 31. Yn cael ei symud gan—?

Amendment 31. Is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 31 (Mark Drakeford).

Amendment 31 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 31? Nac oes. Felly, gwelliant 31 yn cael ei dderbyn.

It is. Are there any objections to amendment 31? There are none. Therefore, amendment 31 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 91. Yn cael ei symud, Sam Rowlands? Nac ydy.

Amendment 91. Is it moved, Sam Rowlands? It is not.

Ni chynigiwyd gwelliant 91 (Sam Rowlands). 

Amendment 91 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 92. Yn cael ei symud? Nac ydy.

Amendment 92. Is it moved? It's not.

Ni chynigiwyd gwelliant 92 (Sam Rowlands). 

Amendment 92 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 93. Yn cael ei symud? Na.

Amendment 93. Is it moved? No.

Ni chynigiwyd gwelliant 93 (Sam Rowlands). 

Amendment 93 (Sam Rowlands) not moved.

Ni chynigiwyd gwelliant 94 (Sam Rowlands). 

Amendment 94 (Sam Rowlands) not moved.

Ni chynigiwyd gwelliant 95 (Sam Rowlands). 

Amendment 95 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 96—. Nage. Gwelliant 32. Ydy e'n cael ei symud?

Amendment 96—. No. Amendment 32. Is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 32 (Mark Drakeford).

Amendment 32 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 32? Nac oes, does yna ddim. Felly, mae gwelliant 32 wedi ei dderbyn.

It is. Are there any objections to amendment 32? There are none. Therefore, amendment 32 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 96. Yn cael ei symud, Sam Rowlands? Nac ydy. Felly, dim pleidlais ar welliant 96.

Amendment 96. Is it moved, Sam Rowlands? It's not. Therefore, there will be no vote on amendment 96.

Ni chynigiwyd gwelliant 96 (Sam Rowlands). 

Amendment 96 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 33. Yn cael ei symud?

Amendment 33. Is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 33 (Mark Drakeford).

Amendment 33 (Mark Drakeford) moved.

Oes gwrthwynebiad i welliant 33? Nac oes. Felly, gwelliant 33 wedi ei dderbyn.

Are there any objections to amendment 33? There are none. Therefore, amendment 33 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 97. Yn cael ei symud? Nac ydy. Felly, dim pleidlais.

Amendment 97. Is it moved? It is not. Therefore, no vote.

Ni chynigiwyd gwelliant 97 (Sam Rowlands). 

Amendment 97 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 98. Na, ddim yn cael ei symud.

Amendment 98. It is not moved.

Ni chynigiwyd gwelliant 98 (Sam Rowlands). 

Amendment 98 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 99, ddim yn cael ei symud i bleidlais.

Amendment 99, again not moved.

Ni chynigiwyd gwelliant 99 (Sam Rowlands). 

Amendment 99 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 100 ddim yn cael ei symud i bleidlais.

Amendment 100, not moved to a vote.

Ni chynigiwyd gwelliant 100 (Sam Rowlands). 

Amendment 100 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 101 ddim yn cael ei symud i bleidlais.

Amendment 101, not moved.

Ni chynigiwyd gwelliant 101 (Sam Rowlands). 

Amendment 101 (Sam Rowlands) not moved.

Gwelliant 34, yr Ysgrifennydd Cabinet.

Amendment 34, Cabinet Secretary.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Mark Drakeford).

Amendment 34 (Mark Drakeford) moved.

Os bydd gwelliant 34 yn cael ei dderbyn, bydd 102 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? Dim gwrthwynebiad. Felly, gwelliant 34 wedi ei dderbyn.

If amendment 34 is agreed, amendment 102 falls. The question is that amendment 34 be agreed to. There are no objections. Therefore, amendment 34 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 102, felly, wedi cwympo.

Therefore, amendment 102 falls.

Methodd gwelliant 102.

Amendment 102 fell.

Gwelliant 103. Sam Rowlands, yn cael ei gynnig? Nac ydy, dyw e ddim.

Amendment 103. Sam Rowlands, is it moved? It is not.

Ni chynigiwyd gwelliant 103 (Sam Rowlands). 

Amendment 103 (Sam Rowlands) not moved.

Grŵp 12: Swyddogaethau prif gyngor o dan Ran 3 (Gwelliannau 35, 36, 37, 50)
Group 12: Functions of a principal council under Part 3 (Amendments 35, 36, 37, 50)

Grŵp 12 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â swyddogaethau prif gyngor o dan Ran 3. Gwelliant 35 yw'r prif welliant. Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig gwelliant 35.

We'll move therefore to group 12. This group relates to functions of a principal council under Part 3. Amendment 35 is the lead amendment. I call on the Cabinet Secretary to move the amendment.

Cynigiwyd gwelliant 35 (Mark Drakeford).

Amendment 35 (Mark Drakeford) moved.

Diolch, Llywydd. At present, the powers provided to local authorities under this Bill can only be exercised by the full council. That was a deliberate decision to reflect the significance of any decision to adopt a new local tax regime. At Stage 2, however, the Government supported an amendment to require local authorities to operate a visitor levy partnership forum. It does not seem sensible that the only way in which such a forum could conduct its business would be through the participation of every council member. Amendments 35, 36 and 37 provide a mechanism that would allow that responsibility to be delegated in future. That will be achieved by regulations made by the Senedd to provide that certain functions of principal councils under the Bill could be delegated to a committee, a sub-committee, an officer of the council, or other councils under section 101 of the Local Government Act 1972.

Amendment 50 adds the new regulation-making power inserted into section 52 by amendment 36 into the list of regulations that must be made under the draft affirmative procedure in section 62(4), thus ensuring that the Senedd will always have oversight of any use of those powers.

Diolch, Llywydd. Ar hyn o bryd, dim ond y cyngor llawn all arfer y pwerau a ddarperir i awdurdodau lleol o dan y Bil hwn. Roedd hwnnw'n benderfyniad bwriadol i adlewyrchu arwyddocâd unrhyw benderfyniad i fabwysiadu cyfundrefn dreth leol newydd. Yng Nghyfnod 2, fodd bynnag, cefnogodd y Llywodraeth welliant i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu fforwm partneriaeth ardoll ymwelwyr. Nid yw'n ymddangos yn synhwyrol mai'r unig ffordd y gallai fforwm o'r fath gynnal ei fusnes fyddai trwy gyfranogiad pob aelod o'r cyngor. Mae gwelliannau 35, 36 a 37 yn darparu mecanwaith a fyddai'n caniatáu i'r cyfrifoldeb hwnnw gael ei ddirprwyo yn y dyfodol. Bydd hynny'n cael ei gyflawni drwy reoliadau a wneir gan y Senedd i ddarparu bod swyddogaethau penodol prif gynghorau yn gallu cael eu dirprwyo o dan y Bil i bwyllgor, is-bwyllgor, swyddog o'r cyngor, neu gynghorau eraill o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Mae gwelliant 50 yn ychwanegu'r pŵer gwneud rheoliadau newydd a fewnosodwyd yn adran 52 gan welliant 36 i'r rhestr o reoliadau y mae'n rhaid eu gwneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn adran 62(4), a thrwy hynny'n sicrhau y bydd gan y Senedd oruchwyliaeth o unrhyw ddefnydd a wneir o'r pwerau hynny bob amser.

18:30

Does gennyf i ddim siaradwyr yn y grŵp yma. Felly, dwi'n cymryd bod yr Ysgrifennydd Cabinet ddim eisiau dweud mwy. Gwelliant 35, a oes unrhyw wrthwynebiad, felly? Nac oes. Mae gwelliant 35 wedi'i dderbyn.

I have no other speakers on this group. Therefore, I assume that the Cabinet Secretary doesn't want to reply. Amendment 35, does any Member object? There are no objections. Amendment 35 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 36 yn cael ei symud?

Amendment 36, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 36 (Mark Drakeford).

Amendment 36 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. 

It is. Are there any objections? There are none.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 37 yn cael ei symud?

Amendment 37, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 37 (Mark Drakeford).

Amendment 37 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 37 wedi ei dderbyn.

It is. Are there any objections? No. Amendment 37 is therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 38 yn cael ei symud?

Amendment 38, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 38 (Mark Drakeford).

Amendment 38 (Mark Drakeford) moved.

 Ydy. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei basio, felly.

It is. Are there any objections? No. It's therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 39 yn cael ei symud?

Amendment 39, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 39 (Mark Drakeford).

Amendment 39 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. A oes unrhyw wrthwynebiad? Na. Mae wedi'i dderbyn.

It is. Are there any objections? There are none. Therefore, it's agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 40 yn cael ei symud?

Amendment 40, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 40 (Mark Drakeford).

Amendment 40 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Felly, gwelliant 40, oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

It is. Are there any objections to amendment 40? There are none. It's therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 41 yn cael ei gynnig?

Amendment 41, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 41 (Mark Drakeford).

Amendment 41 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 41 wedi cael ei dderbyn.

It is. Are there any objections? There are none. Therefore, amendment 41 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

I did receive representations that it was far too cold in this Chamber about an hour ago, and I acted on those representations, and now I see Members fanning themselves because it is now too hot in this—[Interruption.] We need a—. Yes. Okay. So, obviously, it's not an ideal set-up in this Chamber, and we know now why Members, 20 years or more ago, voted to build a new Chamber with a far better heating and cooling system. Or none at all, actually, probably, is what happens there.

Fe wnes i dderbyn sylwadau ei bod hi'n llawer rhy oer yn y Siambr hon ryw awr yn ôl, ac fe wnes i weithredu ar y sylwadau hynny, a nawr rwy'n gweld Aelodau yn defnyddio ffaniau oherwydd ei bod hi nawr yn rhy boeth yn y—[Torri ar draws.] Mae angen—Ie. Iawn. Felly, yn amlwg, dydy'r trefniadau yn y Siambr hon ddim yn ddelfrydol, ac rydyn ni'n gwybod nawr pam y pleidleisiodd Aelodau, 20 mlynedd neu fwy yn ôl, i adeiladu Siambr newydd gyda system gwresogi ac oeri lawer gwell. Neu ddim un o gwbl, mewn gwirionedd, dyna'r hyn sy'n digwydd yn y fan yna fwy na thebyg.

Grŵp 13: Newid o ran personau sy’n darparu llety ymwelwyr (Gwelliannau 42, 44, 45, 46, 47, 48)
Group 13: Change in persons that provide visitor accommodation (Amendments 42, 44, 45, 46, 47, 48)

Grŵp 13 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â newid o ran personau sy'n darparu llety ymwelwyr. Gwelliant 42 yw'r gwelliant cyntaf. Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cyflwyno hwnnw.

Group 13 is next. This group relates to changes in persons that provide visitor accommodation. Amendment 42 is the lead amendment. The Cabinet Secretary.

Cynigiwyd gwelliant 42 (Mark Drakeford).

Amendment 42 (Mark Drakeford) moved.

Diolch yn fawr, Llywydd. This group of amendments is technical in nature, but necessary to ensure the correct operation of the legislation. The amendments ensure that the provisions relating to the responsibility of visitor accommodation providers, in the case of death, incapacity or insolvency, are included in the register under Part 2 and the levy. They also expand the regulation-making power to cover situations where a person who has carried on the relevant business no longer does so for any reason.

Amendment 42 applies section 56(4) in relation to the register, which enables the WRA to treat a person—person A—who runs another person's business—person B—in the event of person B's death, incapacity or insolvency, as if that person were person B.

Amendment 44 extends the power in section 57 so that it can be used to make provision applying where a person ceases to act for reasons other than death, incapacity or insolvency, for example, where a company or partnership is dissolved. Amendments 45, 46 and 47 are consequential to amendment 44.

Finally, amendment 48 removes any doubt that the regulation-making power in section 57(1), as expanded by amendment 44, may be used to make provision about the removal of a person from the register under Part 2. I ask Members to support these amendments.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn dechnegol ei natur, ond yn angenrheidiol i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu'n gywir. Mae'r gwelliannau'n sicrhau bod y darpariaethau sy'n ymwneud â chyfrifoldeb darparwyr llety ymwelwyr, yn achos marwolaeth, analluedd neu ansolfedd, yn cael eu cynnwys yn y gofrestr o dan Ran 2 a'r ardoll. Maen nhw hefyd yn ehangu'r pŵer gwneud rheoliadau i gwmpasu sefyllfaoedd lle nad yw person sydd wedi ymgymryd â'r busnes perthnasol yn gwneud hynny mwyach am unrhyw reswm.

Mae gwelliant 42 yn cymhwyso adran 56(4) o ran y gofrestr, sy'n galluogi'r ACC i drin person—person A—sy'n rhedeg busnes person arall—person B—yn achos marwolaeth, analluedd neu ansolfedd person B, fel pe bai'r person hwnnw'n berson B.

Mae gwelliant 44 yn ymestyn y pŵer yn adran 57 fel bod modd ei ddefnyddio i wneud darpariaeth sy'n gymwys pan fo person yn rhoi'r gorau i weithredu am resymau heblaw marwolaeth, analluedd neu ansolfedd, er enghraifft, pan fo cwmni neu bartneriaeth yn cael ei diddymu. Mae gwelliannau 45, 46 a 47 yn ganlyniadol i welliant 44.

Yn olaf, mae gwelliant 48 yn cael gwared ar unrhyw amheuaeth bod modd defnyddio'r pŵer gwneud rheoliadau yn adran 57(1), fel y'i hehangwyd gan welliant 44, i wneud darpariaeth ynghylch dileu person o'r gofrestr o dan Ran 2. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliannau hyn.

Does gen i ddim siaradwyr yn y grŵp yma ymhellach i hynny. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 42? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

I have no speakers on this group further to that. The question therefore is that amendment 42 be agreed to. Does any Member object? There are no objections. It is therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 43 yn cael ei symud?

Amendment 43, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 43 (Mark Drakeford).

Amendment 43 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.

It is. Are there any objections? There are none. It's therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

18:35

Ydy gwelliant 44 yn cael ei symud?

Amendment 44, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 44 (Mark Drakeford).

Amendment 44 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae 44 yn cael ei dderbyn.

It is. Are there any objections? There are none. Therefore, amendment 44 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 45 yn cael ei symud?

Amendment 45, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 45 (Mark Drakeford).

Amendment 45 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. Oes gwrthwynebiad i 45? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.

It is. Are there any objections to amendment 45? There are none. It's therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 46 yn cael ei symud?

Amendment 46, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 46 (Mark Drakeford).

Amendment 46 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. Oes gwrthwynebiad i 46? Na. Felly, mae'n cael ei gymeradwyo.

It is. Are there any objections to amendment 46? There are none. It's therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 47 yn cael ei symud?

Amendment 47, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 47 (Mark Drakeford).

Amendment 47 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

It is. Are there any objections? There are none. It's therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Ydy gwelliant 48 yn cael ei symud?

Amendment 48, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 48 (Mark Drakeford).

Amendment 48 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

It is. Are there any objections? No. It's therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 49, ydy e'n cael ei gynnig?

Amendment 49, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 49 (Mark Drakeford).

Amendment 49 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae'n cael ei gynnig. Oes gwrthwynebiad i 49? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

It is. Are there any objections to amendment 49? There are none. It's therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 104 (Sam Rowlands).

Amendment 104 (Sam Rowlands) moved.

Mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i 104? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Felly, fe wnawn ni gael pleidlais ar welliant 104. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 38 yn erbyn, neb yn ymatal. Felly, mae gwelliant 104 wedi'i wrthod.

It is moved. Are there any objections to amendment 104? [Objection.] There are. We will therefore move to a vote on amendment 104. Open the vote. Close the vote. In favour 13, 38 against, no abstentions. Therefore, amendment 104 is not agreed.

Gwelliant 104: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 104: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Ydy gwelliant 66 yn cael ei symud, Peredur Owen Griffiths?

Amendment 66, is it moved, Peredur Owen Griffiths?

Cynigiwyd gwelliant 66 (Peredur Owen Griffiths).

Amendment 66 (Peredur Owen Griffiths) moved.

Ydy, mae wedi cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 66? Na, does dim gwrthwynebiad. Mae'n cael ei gymeradwyo, felly.

It is. Are there any objections to amendment 66? There are none. It is therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Sam Rowlands, gwelliant 105. Dyw e ddim yn cael ei symud.

Sam Rowlands, amendment 105. It is not moved. 

Ni chynigiwyd gwelliant 105 (Sam Rowlands). 

Amendment 105 (Sam Rowlands) not moved.

Cynigiwyd gwelliant 106 (Sam Rowlands).

Amendment 106 (Sam Rowlands) moved.

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais, felly, ar 106. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 106 wedi'i wrthod.

It is moved. Are there any objections? [Objection.] There are. We will therefore move to a vote on amendment 106. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions and 38 against. Therefore, amendment 106 is not agreed.

Gwelliant 106: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 106: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 107, Sam Rowlands. Na, dyw e ddim yn cael ei symud. 

Amendment 107, Sam Rowlands. Not moved. 

Ni chynigiwyd gwelliant 107 (Sam Rowlands). 

Amendment 107 (Sam Rowlands) not moved.

Cynigiwyd gwelliant 50 (Mark Drakeford).

Amendment 50 (Mark Drakeford) moved.

Ydy, mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 50? Na, does yna ddim.

It is. Are there any objections to amendment 50? There are none.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Gwelliant 108, Sam Rowlands. Na, ddim yn cael ei symud. 

Amendment 108, Sam Rowlands. It's not moved. 

Ni chynigiwyd gwelliant 108 (Sam Rowlands).

Amendment 108 (Sam Rowlands) not moved.

Cynigiwyd gwelliant 109 (Sam Rowlands).

Amendment 109 (Sam Rowlands) moved.

Mae'n cael ei symud. Felly, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cymerwn ni bleidlais ar welliant 109. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 109 wedi'i wrthod.

It is moved. Are there any objections? [Objection.] There are. We will therefore move to a vote on amendment 109. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Amendment 109 is not agreed.

Gwelliant 109: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 109: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Cynigiwyd gwelliant 51 (Mark Drakeford).

Amendment 51 (Mark Drakeford) moved.

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae 51 wedi'i dderbyn.

It is moved. Are there any objections? There are none. Amendment 51 is agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 110 (Sam Rowlands).

Amendment 110 (Sam Rowlands) moved.

Mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 110. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 110 wedi'i wrthod.

It is moved. Are there any objections? [Objection.] Yes, there are. Open the vote on amendment 110. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Amendment 110 is not agreed.

Gwelliant 110: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 110: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 52, ydy e'n cael ei symud?

Amendment 52, is it moved?

Cynigiwyd gwelliant 52 (Mark Drakeford).

Amendment 52 (Mark Drakeford) moved.

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 52? Nac oes. Mae'n cael ei gymeradwyo, felly.

It is. Are there any objections to amendment 52? There are none. The amendment is therefore agreed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Grŵp 14: Dod i rym (Gwelliannau 117, 112)
Grŵp 14: Dod i rym (Gwelliannau 117, 112)

Mae hynny'n dod â ni at y grŵp olaf. Grŵp 14 yw'r grŵp yma o welliannau ac mae'r rhain yn ymwneud â dod i rym. Gwelliant 117 yw'r prif welliant. Luke Fletcher sy'n cynnig y gwelliant yma.

That brings us to the final group. It's group 14 of amendments, and these relate to coming into force. Amendment 117 is the lead amendment. Luke Fletcher to move and speak to this lead amendment.

Cynigiwyd gwelliant 117 (Luke Fletcher).

Amendment 117 (Luke Fletcher) moved.

Diolch, Llywydd. Amendment 117 is quite simple, but that doesn't mean to say I'm going to treat Members to a shortened contribution because this is the last time that I'm getting up on my feet in Stage 3, so I have a couple of 'thank yous' to give. Thank you, of course, to the clerks for helping put these amendments together. Thank you to the research service, who answered many of my questions. Some of them might have been questionable in themselves. Plaid Cymru staff as well deserve a thank you: Kiera Marshall, Lewis Owen and Billy Jones, to name just a few. I thank, of course, the Cabinet Secretary for his work and willingness to discuss many of the amendments through the process. It's been genuinely an enjoyable process in getting deep into the nitty-gritty of this Bill. Finally, I'd actually thank Adam Price, Cefin Campbell and Siân Gwenllian for their work on the levy during the co-operation agreement, much of which, I think, is reflected in the levy and the proposal that we see in front of us today.

Coming back to the amendment, as I said, it's quite simple. It specifies a date of 1 May 2026 for this Bill to come into force, so that the relevant provisions are implemented in time for the next Senedd election, thereby giving the next Government a full view of how the Act operates in practice. 

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 117 yn eithaf syml, ond dydy hynny ddim yn golygu fy mod i'n mynd i dretio'r Aelodau i gyfraniad byrrach oherwydd dyma'r tro diwethaf y bydda i'n codi ar fy nhraed yng Nghyfnod 3, felly mae gen i rai 'diolchiadau' i'w gwneud. Diolch, wrth gwrs, i'r clercod am helpu i roi'r gwelliannau hyn at ei gilydd. Diolch i'r gwasanaeth ymchwil, a atebodd lawer o'm cwestiynau. Efallai fod rhai ohonyn nhw wedi bod yn ddadleuol ynddyn nhw eu hunain. Mae staff Plaid Cymru hefyd yn haeddu diolch: Kiera Marshall, Lewis Owen a Billy Jones, i enwi ond ychydig. Hoffwn ddiolch, wrth gwrs, i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei waith a'i barodrwydd i drafod llawer o'r gwelliannau drwy'r broses. Mae wedi bod yn broses wirioneddol bleserus yn archwilio manylion y Bil hwn. Yn olaf, hoffwn ddiolch mewn gwirionedd i Adam Price, Cefin Campbell a Siân Gwenllian am eu gwaith ar yr ardoll yn ystod y cytundeb cydweithio, y mae llawer ohono, rwy'n credu, yn cael ei adlewyrchu yn yr ardoll a'r cynnig rydyn ni'n ei weld o'n blaenau ni heddiw.

Gan ddod yn ôl at y gwelliant, fel y dywedais i, mae'n eithaf syml. Mae'n nodi dyddiad o 1 Mai 2026 i'r Bil hwn ddod i rym, fel bod y darpariaethau perthnasol yn cael eu gweithredu mewn pryd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd, gan roi golwg lawn i'r Llywodraeth nesaf o'r ffordd mae'r Ddeddf yn gweithredu yn ymarferol. 

18:40

I recognise this is also my last opportunity to say a few words in this Chamber on this item. Without wanting to add too much more hot air to the room, I'd like to add my thanks for the support provided to me by the Senedd staff here, Molly Skates from our group's research office and Rhys Thomas from my own office, but also to Rebecca Sharp, who's sat in the gallery today as work experience, who has sat through our amendment process here today. So, I'm particularly grateful for her patience here today.

Amendment 112 is laid out in my name before us, which is linked to the amendments I laid earlier, which were seeking a proper understanding of the registration data before implementing the levy itself. I've already spoken to this point, and the importance of understanding the impact of the levy before implementing or enabling councils to implement the levy itself. I believe this amendment is still important.

We'll not be supporting Luke Fletcher's amendment here for the contrary reason to why I think the amendment I put in place was important. We need to understand the data; we need to understand the sector properly, and get a full picture of the registration before a levy is introduced. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n cydnabod mai hwn hefyd yw fy nghyfle olaf i ddweud ychydig eiriau yn y Siambr hon ar yr eitem hon. Heb fod eisiau ychwanegu llawer mwy o aer poeth i'r ystafell, hoffwn ychwanegu fy niolch am y gefnogaeth a ddarparwyd i mi gan staff y Senedd yma, Molly Skates o swyddfa ymchwil ein grŵp a Rhys Thomas o fy swyddfa fy hun, ond hefyd i Rebecca Sharp, sydd wedi eistedd yn yr oriel heddiw fel profiad gwaith, sydd wedi eistedd trwy ein proses ddiwygio yma heddiw. Felly, rwy'n arbennig o ddiolchgar am ei hamynedd yma heddiw.

Mae gwelliant 112 wedi'i osod yn fy enw o'n blaenau, sy'n gysylltiedig â'r gwelliannau a osodais yn gynharach, a oedd yn ceisio dealltwriaeth briodol o'r data cofrestru cyn gweithredu'r ardoll ei hun. Rwyf eisoes wedi siarad am y pwynt hwn, a phwysigrwydd deall effaith yr ardoll cyn gweithredu neu alluogi cynghorau i weithredu'r ardoll ei hun. Rwy'n credu bod y gwelliant hwn yn dal i fod yn bwysig.

Fyddwn ni ddim yn cefnogi gwelliant Luke Fletcher yn y fan yma am y rheswm gwrthwynebol i pam rwy'n credu bod y gwelliant a roddais yn bwysig. Mae angen i ni ddeall y data; mae angen i ni ddeall y sector yn iawn, a chael darlun llawn o'r cofrestru cyn i'r ardoll gael ei chyflwyno. Diolch yn fawr iawn.

Llywydd, I thank all Members for their patience this afternoon as we've gone through all these amendments. Bills of this sort are long in gestation and, as Luke Fletcher said, the origins of this Bill are to be found in manifestos that preceded the last Senedd elections and then reflected in the co-operation agreement, and the Government was always very grateful for the participation of designated Members during that period who had a real influence on the Bill. Of course, I thank my colleagues particularly for their support, for the efforts that lead to Stage 3, and to the small team of civil servants who have worked so hard to engage with some of the complexities and to deliver a Bill that stays true to those basic principles of simplicity, understandability and ease of administration.

Partly for those reasons, Llywydd, we cannot support amendment 112. It's not the policy intent of the Government to delay introduction of the visitor levy. The levy would not come into effect until April 2027 at the very earliest in any case, and the approach proposed by amendment 112 would set that date back potentially for many years, and could in the end frustrate the wish of this Senedd to introduce the levy.

While I agree in principle with amendment 117, Llywydd, as drafted the amendment would create operational challenges. In particular, it would bring the register into force by 1 May 2026, and that would mean that all the penalties associated with it would come into force on the same day. Now, the WRA intends the register to be open on 1 October 2026, and to use the time up to that point to have a soft launch phase with some businesses to test the system and the register. We do not want the penalties to go into effect immediately, to enable the WRA to support businesses in their compliance efforts. Commencement Orders, therefore, provide the best opportunity to support the effective roll-out of the registration service. But I do want to give Members an assurance that a commencement Order made by statutory instrument dealing with Part 2 of the Bill and the register of visitor accommodation providers will be brought forward well before the end of this Senedd term. That will enable the register to go live in October 2026. It will allow the WRA to test their system without penalties being incurred, and to make sure that businesses have been properly communicated with about their responsibilities, as well as enabling the WRA to support businesses in that compliance effort. Therefore, I ask Members not to support either amendment in this group, for the reasons that I've set out.

Llywydd, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu hamynedd y prynhawn yma wrth i ni fynd drwy'r holl welliannau hyn. Mae biliau o'r math hwn yn cymryd amser hir ac, fel y dywedodd Luke Fletcher, mae tarddiad y Bil hwn i'w gweld mewn maniffestos a ragflaenodd etholiadau diwethaf y Senedd ac a adlewyrchwyd wedyn yn y cytundeb cydweithio, ac roedd y Llywodraeth bob amser yn ddiolchgar iawn am gyfranogiad Aelodau dynodedig yn ystod y cyfnod hwnnw a gafodd ddylanwad gwirioneddol ar y Bil. Wrth gwrs, hoffwn ddiolch i'm cyd-Aelodau yn arbennig am eu cefnogaeth, am yr ymdrechion a arweiniodd at Gyfnod 3, ac i'r tîm bach o weision sifil sydd wedi gweithio mor galed i ymgysylltu â rhai o'r cymhlethdodau ac i gyflwyno Bil sy'n aros yn driw i'r egwyddorion sylfaenol hynny o symlrwydd, eglurder a rhwyddineb gweinyddu.

Yn rhannol am y rhesymau hynny, Llywydd, allwn ni ddim cefnogi gwelliant 112. Nid yw'n fwriad polisi y Llywodraeth i oedi cyflwyno'r ardoll ymwelwyr. Fyddai'r ardoll ddim yn dod i rym tan fis Ebrill 2027 ar y cynharaf beth bynnag, a byddai'r dull a gynigir gan welliant 112 yn gosod y dyddiad hwnnw yn ôl flynyddoedd lawer o bosibl, a gallai yn y diwedd rwystro dymuniad y Senedd hon i gyflwyno'r ardoll.

Er fy mod i'n cytuno mewn egwyddor â gwelliant 117, Llywydd, fel y'i drafftiwyd, byddai'r gwelliant yn creu heriau gweithredol. Yn benodol, byddai'n dod â'r gofrestr i rym erbyn 1 Mai 2026, a byddai hynny'n golygu y byddai'r holl gosbau sy'n gysylltiedig â hi yn dod i rym ar yr un diwrnod. Nawr, mae'r ACC yn bwriadu i'r gofrestr fod ar agor ar 1 Hydref 2026, ac i ddefnyddio'r amser hyd at y pwynt hwnnw i gael cyfnod lansio meddal gyda rhai busnesau i brofi'r system a'r gofrestr. Dydyn ni ddim eisiau i'r cosbau ddod i rym ar unwaith, er mwyn galluogi'r ACC i gefnogi busnesau yn eu hymdrechion i gydymffurfio. Mae Gorchmynion Cychwyn, felly, yn darparu'r cyfle gorau i gefnogi cyflwyno'r gwasanaeth cofrestru yn effeithiol. Ond rwyf am roi sicrwydd i'r Aelodau y bydd Gorchymyn cychwyn a wnaed gan offeryn statudol sy'n ymwneud â Rhan 2 o'r Bil a'r gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr yn cael ei gyflwyno ymhell cyn diwedd tymor y Senedd hon. Bydd hynny'n galluogi'r gofrestr i fynd yn fyw ym mis Hydref 2026. Bydd yn caniatáu i'r ACC brofi eu system heb fod cosbau yn cael eu rhoi, ac i wneud yn siŵr bod cyfathrebu priodol wedi bod gyda busnesau ynghylch eu cyfrifoldebau, yn ogystal â galluogi'r ACC i gefnogi busnesau yn yr ymdrech honno i gydymffurfio. Felly, gofynnaf i'r Aelodau beidio â chefnogi'r naill welliant neu'r llall yn y grŵp hwn, am y rhesymau rwyf wedi'u nodi.

18:45

Ydy Luke Fletcher yn moyn ymateb i'r ddadl?

Does Luke Fletcher wish to reply to the debate?

Diolch, Llywydd. For the sake of Rebecca in the gallery, let us move to a vote.

Diolch, Llywydd. Er mwyn Rebecca yn yr oriel, gadewch i ni symud i bleidlais.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 117? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi wnawn ni gael pleidlais ar welliant 117. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 117 wedi'i wrthod. 

The question is that amendment 117 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. Therefore we'll move to a vote on amendment 117. Open the vote. Close the vote. In favour 12, no abstentions and 39 against. Therefore, amendment 117 is not agreed.

Gwelliant 117: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 117: For: 12, Against: 39, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 111. Ydy e'n cael ei symud, Sam Rowlands?

Amendment 111. Is it moved, Sam Rowlands?

Cynigiwyd gwelliant 111 (Sam Rowlands).

Amendment 111 (Sam Rowlands) moved.

Ydy mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 111? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Agor y bleidlais ar welliant 111. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal a 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 111 wedi'i wrthod. 

Yes it is. Is there objection to amendment 111? [Objection.] Yes, there is. We'll move to a vote. Open the vote on amendment 111. Close the vote. In favour 13, no abstentions and 38 against. Therefore, amendment 111 is not agreed

Gwelliant 111: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 111: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Gwelliant 112. Ydy e'n cael ei symud, Sam Rowlands?

Amendment 112. Is it being moved, Sam Rowlands?

Cynigiwyd gwelliant 112 (Sam Rowlands).

Amendment 112 (Sam Rowlands) moved.

Ydy mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Felly, y bleidlais olaf, gwelliant 112. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal a 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 112 wedi'i wrthod. 

Yes it is. Is there objection? [Objection.] Yes, there is. Therefore we'll move to the final vote, on amendment 112. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions and 38 against. Therefore, amendment 112 is not agreed.

Gwelliant 112: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 112: For: 13, Against: 38, Abstain: 0

Amendment has been rejected

Mae hynny'n golygu ein bod ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 o'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn. 

That means that we've reached the end of our Stage 3 consideration of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bil. I declare that all sections and Schedules of the Bill are deemed agreed. 

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.

All sections of and Schedules to the Bill deemed agreed.

Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heno. 

That concludes our work this evening.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:48.

The meeting ended at 18:48.