Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/04/2025

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 2. Business Statement and Announcement
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 3. Statement by the Cabinet Secretary for Transport and North Wales: The Bus Services (Wales) Bill
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithio i bawb 4. Statement by the Cabinet Secretary for Transport and North Wales: Travel for all
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio 5. Statement by the Minister for Mental Health and Wellbeing: Suicide Prevention and Self-Harm Strategy
6. Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 6. The Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (Consequential Amendments) Regulations 2025
7. Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 7. The Children Act 2004 (Children Missing Education Database) (Pilot) (Wales) Regulations 2025
8. & 9. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 8. & 9. The general principles of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill and the financial resolution in respect of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill
Cynnig ar gyfer Dadl Frys Proposal for an Urgent Debate
10. Cyfnod Pleidleisio 10. Voting Time

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz. 1

Good afternoon and welcome to this afternoon's Plenary session. The first item on our agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Samuel Kurtz.

Ceisiadau Cynllunio i Storio Batris
Battery Storage Planning Applications

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol gyda cheisiadau cynllunio i storio batris? OQ62574

1. How is the Welsh Government supporting local authorities with battery storage planning applications? OQ62574

We support local authorities through national planning policy and regulatory requirements to consult key stakeholders on certain applications. Our work on resilience includes proposals to increase planning application fees and improve the capacity of local planning services.2

Rydyn ni'n cefnogi awdurdodau lleol trwy bolisi cynllunio cenedlaethol a gofynion rheoleiddio i ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol ar geisiadau penodol. Mae ein gwaith ar gydnerthedd yn cynnwys cynigion i gynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio a gwella capasiti gwasanaethau cynllunio lleol.

Prif Weinidog, I recently met with AMP Clean Energy, who are looking to invest £45 million in 150 small-scale battery box projects across Wales. These compact 24 sq m battery units can be rapidly deployed, as they’re not constrained by grid capacity issues, and they offer long-term ground rental income for local authorities and landowners, at no cost to them. Each unit has the potential to save nearly 5,000 tonnes of carbon dioxide over its lifetime. However, a key challenge is the inconsistency in how Wales’s 22 local authorities handle lease agreements and planning applications. While some councils manage these efficiently, others do not, leading to delays and possible loss of investment. Given the importance of these projects in supporting Wales’s energy ambitions, and the financial benefits they offer councils, what steps is your Government taking to ensure a more consistent and streamlined planning process across the whole of the 22 local authorities? Also, would you and your Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning be willing to meet with AMP Clean Energy to better understand the opportunities these projects could bring to Wales?3

Prif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar gydag AMP Clean Energy, sydd eisiau buddsoddi £45 miliwn mewn 150 o brosiectau bocs batri graddfa fach ledled Cymru. Gellir defnyddio'r unedau batri 24 metr sgwâr cywasgedig hyn yn gyflym, gan nad ydyn nhw wedi eu cyfyngu gan broblemau capasiti'r grid, ac maen nhw'n cynnig incwm rhent tir hirdymor i awdurdodau lleol a pherchnogion tir, heb unrhyw gost iddyn nhw. Mae gan bob uned y potensial i arbed bron i 5,000 tunnell o garbon deuocsid yn ystod ei hoes. Fodd bynnag, her allweddol yw'r anghysondeb yn y ffordd y mae 22 awdurdod lleol Cymru yn ymdrin â chytundebau les a cheisiadau cynllunio. Er bod rhai cynghorau yn rheoli'r rhain yn effeithlon, nid yw hynny'n wir am eraill, gan arwain at oedi a cholli buddsoddiad posibl. O ystyried pwysigrwydd y prosiectau hyn i gefnogi uchelgeisiau ynni Cymru, a'r manteision ariannol y maen nhw'n eu cynnig i gynghorau, pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau proses gynllunio fwy cyson a symlach ar draws y 22 awdurdod lleol cyfan? Hefyd, a fyddech chi a'ch Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn fodlon cyfarfod ag AMP Clean Energy i ddeall yn well y cyfleoedd y gallai'r prosiectau hyn eu cynnig i Gymru?

Thanks very much. I’m absolutely determined, as a Labour Government, that we increase the amount of energy we produce from renewable resources. And I think there are real opportunities, in particular off our coasts. But the fact is that, very often, the wind blows or the sun shines at a time when you don’t need it, and you do need, therefore, to develop battery technology, and it’s great to see AMP, and other organisations, have the appetite to explore what more we can do in this area.4

In relation to planning, you’re quite right—it’s one of the things that I’ve focused on since I became First Minister. We’ve had a consultation promoting a resilient and high-performing planning service, and that was issued by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning last November. So, there’s the opportunity for us to get that more consistent approach that you’re interested in developing.5

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwbl benderfynol, fel Llywodraeth Lafur, ein bod ni'n cynyddu faint o ynni yr ydym ni'n ei gynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy. Ac rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol, yn enwedig oddi ar ein harfordiroedd. Ond y gwir amdani, yn aml iawn, yw bod y gwynt yn chwythu neu fod yr haul yn tywynnu ar adeg pan nad oes ei angen arnoch chi, ac mae angen i chi, felly, ddatblygu technoleg batri, ac mae'n wych gweld bod gan AMP, a sefydliadau eraill, yr awydd i archwilio beth yn fwy y gallwn ni ei wneud yn y maes hwn.

O ran cynllunio, rydych chi'n gwbl gywir—mae'n un o'r pethau yr wyf i wedi canolbwyntio arno ers i mi ddod yn Brif Weinidog. Rydyn ni wedi cael ymgynghoriad yn hyrwyddo gwasanaeth cynllunio cydnerth â pherfformiad uchel, a chyhoeddwyd hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio fis Tachwedd diwethaf. Felly, dyna'r cyfle i ni gael y dull mwy cyson hwnnw y mae gennych chi ddiddordeb yn ei ddatblygu.

Mi fyddem ni’n croesawu cynlluniau bach, yn sicr, yn y maes yma. Ond, wrth gwrs, rŷn ni’n gwybod hefyd fod yna nifer eithriadol o gynlluniau mawr ar y bwrdd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae yna 40 o gynigion ar raddfa fawr, a’r diweddaraf, ddim ond yr wythnos hon, yn 500 MW o gynllun sy'n cael ei gynnig yn Llaneurgain yn sir y Fflint. Nawr, mi fyddai’r rheini i gyd—jest y prosiectau mawr yma gyda’i gilydd—yn cynhyrchu 27 gwaith y lefel o ynni sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd.6

Nawr, mae hyn i gyd yn mynd i wthio’r gyfundrefn gynllunio i’r eithaf, onid yw e, o safbwynt capasiti ac o safbwynt arbenigedd ac yn y blaen. Ac mae’r rhain hefyd yn glanio ar gymunedau yn ddisymwth iawn yn rhy aml o lawer, ac mae hynny’n creu rhyw fath o friction sydd hefyd ddim yn mynd i helpu’r drafodaeth. Ar yr un pryd, wrth gwrs, cymharol ychydig sydd yna o safbwynt rheoleiddio o ran y sector yma yn benodol. Does dim strategaeth genedlaethol. Does dim byd o ran lle neu beth sydd angen—lle mae nhw’n mynd i fynd, pryd, faint ohonyn nhw sy’n addas, ac yn blaen. Ac yn dilyn tanau a ffrwydradau mewn rhai safleoedd, rŷn ni’n gweld ardaloedd fel talaith Califfornia yn cyflwyno deddfwriaeth frys i wahardd datblygu cyfleusterau fel hyn o fewn 1 km i ble mae pobl yn byw.7

A ydych chi, felly, Brif Weinidog, yn cytuno â fi bod angen i’r Llywodraeth weithredu ar frys yn y maes yma, i sicrhau nad yw’r free-for-all yma, fel rŷn ni’n gweld yn digwydd nawr, yn parhau, a bod llawer gwell reolaeth dros beth sy’n dechrau troi mewn i ryw fath o goldrush ynni mewn ardaloedd o Gymru?8

We would welcome small projects in this area, but we also know that there are a large number of major schemes on the table in Wales at the moment. There are 40 large-scale proposals at the moment, and the latest, just this week, is a 500 MW proposal in Llaneurgain in Flintshire. Now, all of those major projects together would produce 27 times the level of energy used in Wales at the moment.

Now, this will all push the planning system to its limits in terms of capacity and expertise and so on. But these projects also land in communities without warning way too often, and that creates some friction that won’t help the discussion. Simultaneously, there is relatively little in place in terms of regulation for this sector particularly. There is no national strategy. There is nothing in terms of where or what is needed—where they’ll go, when, how many are appropriate and so on. And following fires and explosions on some sites, we are seeing areas such as the state of California introducing urgent legislation to ban the development of these facilities within a kilometre of where people live.

First Minister, do you, therefore, agree with me that the Government needs to take urgent action in this area in order to ensure that this free-for-all that we’re seeing developing does not continue, and that there is far better regulation of what is starting to turn into an energy goldrush in certain areas of Wales?

Diolch yn fawr. Rŷn ni yn trawsnewid ein ffordd ni o gynllunio. Mae gyda ni eisoes yr Infrastructure (Wales) Act, ac roedd hwn wedi dod â phroses newydd mewn ar gyfer cynllunio ar gyfer prosiectau mawr. Ar ben hynny, dwi wedi dod â lot fwy o arian mewn ar gyfer cynllunio—£5 miliwn yn ychwanegol i helpu NRW, a hefyd arian ar gyfer y planning directorate a Planning and Environment Decisions Wales. Felly, mae lot o arian ychwanegol, ond y cynllun yna, y consultation yna, dyna'r lle i ni sicrhau bod gyda ni gynllun a fydd yn gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n cael y goldrush, fel rydych chi'n sôn amdani.9

Thank you very much. We are transforming the way in which we plan. We already have the Infrastructure (Wales) Act 2024, and that brought in a new process for planning in respect of major projects. In addition to that, I’ve brought in a lot more funding for planning—£5 million in additional funding to help Natural Resources Wales, and funding for the planning directorate and Planning and Environment Decisions Wales. So, there is a lot of extra funding, but that scheme, that consultation, that's where we ensure that we do have a scheme that will ensure that we don't have that goldrush, as you mentioned.

13:35
Toriadau i Fudd-daliadau Lles
Cuts to Welfare Benefits

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau i fudd-daliadau lles ar drigolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62582

2. What assessment has the Welsh Government made of the impact of cuts to welfare benefits on residents in Mid and West Wales? OQ62582

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith cynlluniau Llywodraeth y DG i dorri budd-daliadau ar Gymru? OQ62580

5. What assessment has the Welsh Government made of the impact on Wales of the UK Government's plans to cut benefits? OQ62580

Dwi'n deall eich bod chi wedi grwpio cwestiynau 2 a 5.10

Dwi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gofyn a oes modd rhannu unrhyw ddadansoddiad sydd wedi'i wneud gan ei hadran o’r effaith berthnasol ar Gymru yn sgil newidiadau i’r system fudd-daliadau.11

I understand that you've grouped questions 2 and 5.

I have written to the Secretary of State for Work and Pensions asking whether it is possible to share any analysis that has been undertaken by her department on the relevant impact on Wales of changes to the benefits system.

Diolch. Gaf fi gymryd munud i roi enghreifftiau i chi o bryderon llawr gwlad am y toriadau gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan i'r taliadau annibyniaeth personol, neu'r PIPs? Rai wythnosau nôl, bues i mewn digwyddiad yn Llanelli—grŵp People Speak Up ar gyfer pobl 50 oed ac uwch. Bues i'n siarad â phobl yn fanna am effaith y toriadau arnyn nhw. Roedd un wraig yn dweud, pe byddai'r PIP yn cael ei dorri, y byddai hi'n colli ei chartref. Roedd un arall yn dweud y byddai hi'n gorfod torri nôl ar brynu bwyd oherwydd y taliadau yma. Dyma ddifrifoldeb y sefyllfa sy'n wynebu pobl yn ein cymunedau ni, a dyna pam mae asesiad mor eithriadol o bwysig. Nawr, ddoe, aeth fy swyddfa i ati i weld faint o bobl yn ein rhanbarth ni sy'n derbyn y PIPs yma: Gwynedd, dros 7,000; Powys, bron i 9,000; Ceredigion, dros 4,000; sir Benfro, bron i 10,000; sir Gaerfyrddin, bron i 18,000. Pwy a ŵyr faint o bobl debyg i'r menywod y gwnes i gwrdd â nhw yn Llanelli a fydd yn wynebu caledi oherwydd y toriadau hyn?12

Thank you. May I take a moment to give you some examples of the grass-roots concerns about these cuts by the Labour Westminster Government to the personal independence payments, or PIPs? Some weeks ago, I attended an event in Llanelli, with the People Speak Up group for those of 50 years and over. I spoke to people there about the impact of the cuts on them. One woman told me that if the PIP was to be cut, she would lose her home. Another said that she would have to cut back on buying food because of these payments. That's the gravity of the situation facing people within our communities, and that's why an assessment is so exceptionally important. Now, yesterday, my office explored how many people in our region were receiving these PIPs: Gwynedd, over 7,000; Powys, almost 9,000; Ceredigion, more than 4,000; Pembrokeshire, nearly 10,000; Carmarthenshire, nearly 18,000. Who knows how many people like those women I met in Llanelli will be facing hardship because of these cuts?

First Minister, you were elected, like me, by the good people of Mid and West Wales to represent and advocate on their behalf. Can I ask, therefore, whether this is the kind of policy you expected from a Labour-led Government in Westminster—a policy that's going to hit the most vulnerable—13

Prif Weinidog, fe gawsoch chi eich ethol, fel fi, gan bobl dda Canolbarth a Gorllewin Cymru i gynrychioli ac eirioli ar eu rhan. A gaf i ofyn, felly, ai dyma'r math o bolisi yr oeddech chi'n ei ddisgwyl gan Lywodraeth dan arweiniad Llafur yn San Steffan—polisi sy'n mynd i daro'r rhai mwyaf agored i niwed—

I think you've asked the question now.14

Rwy'n credu eich bod chi wedi gofyn y cwestiwn nawr.

—in our society and push thousands more into poverty? Is this what you meant by a partnership in power?15

—yn ein cymdeithas a gwthio miloedd yn fwy i dlodi? Ai dyma'r hyn yr oeddech chi'n ei olygu gan bartneriaeth mewn grym?

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni, cyn sôn am ddim byd arall, yn deall ein bod ni'n sôn am bobl fan hyn. Pan fyddwn ni'n sôn am newidiadau, mae'n rhaid i ni ddeall bod pobl yn dioddef fan hyn, a bod angen i ni sefyll gyda nhw a gwrando arnyn nhw a gwneud yn siŵr ein bod ni'n siarad drostyn nhw.16

Thank you very much. I think it is important, before we talk about anything else, that we understand that we're talking about people here. When we talk about changes, we have to understand that people are suffering here, and that we need to stand with them and listen to them and ensure that we speak for them.

I think it's really important for us to recognise that, all over Wales today, there are tens of thousands of people who are really worried about the impact that proposed reforms could have, but they don't know to what extent it will happen, they don't know when it will happen. I am determined to make sure that Welsh voices are heard when it comes to welfare reform. I think it's also important to make it clear that reform of the system definitely needs to happen; I think trapping people in a welfare poverty trap is also cruel.17

One of the things we've done as a Government is to make sure, in places like Mid and West Wales, we have introduced a system for people to claim what's theirs of right. Over the years, we have seen 361,000 people gain an additional £170 million. In Mid and West Wales, it's helped 50,000 people to claim an additional income of £31 million. Now, I think there is about £2 billion that is not being claimed in Wales. One of the things that we've done last week was to increase the amount of money that we give to that 'Claim what's yours' national benefit take-up campaign. We hope that that will support some people. But I will be making the case on behalf of people who we know are very concerned because of the reform proposals.18

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod bod degau o filoedd o bobl ledled Cymru heddiw sy'n ofidus iawn am yr effaith y gallai diwygiadau arfaethedig ei chael, ond nad ydyn nhw'n gwybod i ba raddau y bydd yn digwydd, nid ydyn nhw'n gwybod pryd y bydd yn digwydd. Rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr bod lleisiau pobl Cymru yn cael eu clywed pan ddaw i ddiwygio lles. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig ei gwneud yn eglur bod angen i ddiwygio'r system ddigwydd yn bendant; rwy'n credu bod dal pobl mewn trap tlodi lles hefyd yn greulon.

Un o'r pethau yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yw gwneud yn siŵr, mewn lleoedd fel Canolbarth a Gorllewin Cymru, ein bod ni wedi cyflwyno system i bobl hawlio'r hyn sy'n perthyn iddyn nhw drwy hawl. Dros y blynyddoedd, rydym ni wedi gweld 361,000 o bobl yn cael £170 miliwn ychwanegol. Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae wedi helpu 50,000 o bobl i hawlio incwm ychwanegol o £31 miliwn. Nawr, rwy'n credu bod tua £2 biliwn nad yw'n cael ei hawlio yng Nghymru. Un o'r pethau a wnaed gennym ni yr wythnos diwethaf oedd cynyddu'r swm o arian yr ydym ni'n ei roi i'r ymgyrch manteisio ar fudd-daliadau genedlaethol honno, 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny yn cynorthwyo rhai pobl. Ond byddaf yn gwneud y ddadl ar ran pobl yr ydym ni'n gwybod sy'n bryderus iawn oherwydd y cynigion diwygio.

First Minister, I hope you would agree with me, but I don't want to see people dependent or reliant on welfare benefits in the first place, of course. Can I ask, First Minister, what steps is the Welsh Government taking to support people in mid Wales to benefit and be less reliant on welfare benefits and come into long-term and good employment?19

Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi, ond nid wyf i eisiau gweld pobl yn gaeth neu'n ddibynnol ar fudd-daliadau lles yn y lle cyntaf, wrth gwrs. A gaf i ofyn, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo pobl yn y canolbarth i elwa a bod yn llai dibynnol ar fudd-daliadau lles a dod i gyflogaeth hirdymor a da?

13:40

Well, look, I think it is important for us to make sure we support people to get into work. I don’t think we should apologise for that. I think that is a good thing. I think that trapping people on welfare is not a great situation either. And the fact is that, we know from things like the report that was written in the Senedd that many, many disabled people are really keen to work, and we need to make sure that we provide them with a pathway and a ladder into work.20

What we know works well in Wales is the way we did the youth unemployment. We tackled that particular issue by giving a guarantee, but by recognising that you can’t click your fingers and expect them to walk into a job. Some of these people are extremely vulnerable, some of them have real mental health issues, some of them have serious physical issues, and you can’t do it overnight. So, what we’ve done with them is to stand with them, and it’s made a difference. We haven’t done it overnight. We’ve worked with them over a period of months and we’re getting results. That’s why our youth unemployment rates in Wales are half what they are in England.21

Wel, edrychwch, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cynorthwyo pobl i gael gwaith. Dydw i ddim yn credu y dylem ni ymddiheuro am hynny. Rwy'n credu bod hynny'n beth da. Rwy'n credu nad yw cadw pobl ar les yn sefyllfa wych chwaith. A'r gwir amdani yw ein bod ni'n gwybod o bethau fel yr adroddiad a ysgrifennwyd yn y Senedd bod llawer iawn o bobl anabl yn awyddus iawn i weithio, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu llwybr ac ysgol i waith iddyn nhw.

Yr hyn yr ydyn ni'n ei wybod sy'n gweithio'n dda yng Nghymru yw'r ffordd y gwnaethom ni'r diweithdra ieuenctid. Fe wnaethom ni fynd i'r afael â'r broblem benodol honno trwy roi gwarant, ond trwy gydnabod na allwch chi glicio eich bysedd a disgwyl iddyn nhw gerdded i mewn i swydd. Mae rhai o'r bobl hyn yn hynod agored i niwed, mae gan rai ohonyn nhw broblemau iechyd meddwl go iawn, mae gan rai ohonyn nhw broblemau corfforol difrifol, ac ni allwch chi ei gyflawni dros nos. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud gyda nhw yw sefyll gyda nhw, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth. Dydyn ni ddim wedi ei wneud dros nos. Rydym ni wedi gweithio gyda nhw dros gyfnod o fisoedd ac rydym ni'n sicrhau canlyniadau. Dyna pam mae ein cyfraddau diweithdra ieuenctid yng Nghymru hanner yr hyn y maen nhw yn Lloegr.

Sioned Williams. Sorry, I forgot.22

Sioned Williams. Mae'n ddrwg gen i, anghofiais i.

Diolch, Llywydd. My breath has been taken away. You said you’re going to speak up for disabled people in your answer to Cefin Campell, you said you’re going to listen to them. It doesn’t sound like you’re listening. As has already been highlighted to you, these cuts have been roundly criticised, condemned even by policy experts, by support organisations, and, most importantly, by disabled people themselves.23

Though you won’t share it, and we haven’t had any light shone on that again today, whatever Liz Kendall said in her answer to you, we know what the impact will be on Wales: it will push thousands of disabled people and thousands of children into poverty. Since these misguided plans were first revealed, you and your Ministers have been asked time and again by Plaid Cymru to listen to those expert voices, to speak up for the disabled people in Wales, warned you of the dire consequences, especially for Wales. You kept saying, 'Oh, it’s not my responsibility'. It’s really disappointing. The Green Paper wasn’t even published in accessible formats. Did you ask Liz Kendall about that?24

Contrary to statements, and you’re making them again, you’re saying that some of these planned changes, such as the tightening of PIP eligibility criteria, are up for consultation. It’s not. That is not in the consultation. Only the mitigations are. So, I’ll ask again: how many people in Wales will be pushed into poverty by Labour’s welfare cuts, how many children, what work is being done to address this added human and financial cost across your Government? Will you condemn the cuts—yes or no?25

Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi fy syfrdanu. Fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n mynd i godi llais dros bobl anabl yn eich ateb i Cefin Campell, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n mynd i wrando arnyn nhw. Nid yw'n swnio fel eich bod chi'n gwrando. Fel y tynnwyd eich sylw ato eisoes, mae'r toriadau hyn wedi cael eu beirniadu'n hallt, eu condemnio hyd yn oed gan arbenigwyr polisi, gan sefydliadau cymorth, ac, yn bwysicaf oll, gan bobl anabl eu hunain.

Er na wnewch chi ei rannu, ac nid ydym ni wedi cael unrhyw oleuni wedi'i daflu ar hynny eto heddiw, beth bynnag y dywedodd Liz Kendall yn ei hateb i chi, rydym ni'n gwybod beth fydd yr effaith ar Gymru: bydd yn gwthio miloedd o bobl anabl a miloedd o blant i mewn i dlodi. Ers i'r cynlluniau annoeth hyn gael eu datgelu gyntaf, mae Plaid Cymru wedi gofyn i chi a'ch Gweinidogion dro ar ôl tro i wrando ar y lleisiau arbenigol hynny, i godi llais dros y bobl anabl yng Nghymru, wedi eich rhybuddio am y canlyniadau enbyd, yn enwedig i Gymru. Fe wnaethoch chi ddweud dro ar ôl tro, 'O, nid fy nghyfrifoldeb i yw ef'. Mae'n wirioneddol siomedig. Ni chyhoeddwyd y Papur Gwyrdd mewn fformatau hygyrch hyd yn oed. A wnaethoch chi ofyn i Liz Kendall am hynny?

Yn groes i ddatganiadau, ac rydych chi'n eu gwneud nhw eto, rydych chi'n dweud bod rhai o'r newidiadau hyn a gynlluniwyd, fel tynhau meini prawf cymhwysedd PIP, yn destun ymgynghori. Dydyn nhw ddim. Nid yw hynny yn yr ymgynghoriad. Dim ond y mesur lliniaru sydd ynddo. Felly, fe wnaf i ofyn eto: faint o bobl yng Nghymru fydd yn cael eu gwthio i mewn i dlodi gan doriadau lles Llafur, faint o blant, pa waith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r gost ddynol ac ariannol ychwanegol hon ar draws eich Llywodraeth? A wnewch chi gondemnio'r toriadau—gwnewch neu na wnewch?

I’ve been in contact with the Secretary of State for Work and Pensions and made it clear to her that I have no problem with her releasing the letter. I hope she’s going to do that later today. The implication in her letter is that there is recognition that the cuts will fall more heavily in Wales, although there’s no detailed assessment yet. My job is—[Interruption.] Would you like me to finish? My job is to stand up for Wales, and I have been honest with the UK Government about the fact that we are very exercised about these proposals.26

Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ac wedi ei gwneud hi'n eglur iddi nad oes gen i unrhyw broblem gyda hi'n cyhoeddi'r llythyr. Rwy'n gobeithio ei bod hi'n mynd i wneud hynny yn ddiweddarach heddiw. Y goblygiad yn ei llythyr yw bod cydnabyddiaeth y bydd y toriadau yn disgyn yn drymach yng Nghymru, er nad oes unrhyw asesiad manwl eto. Fy nghyfrifoldeb i yw—[Torri ar draws.] Hoffech chi i mi orffen? Fy nghyfrifoldeb i yw sefyll dros Gymru, ac rwyf i wedi bod yn onest gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ffaith ein bod ni'n bryderus iawn am y cynigion hyn.

My concern is about the failure to share information that the UK Government is sitting on. The concordat that was written between the DWP and the Welsh Government is absolutely clear that efficient and effective government requires good communications. There was a commitment to provide the detail of policy as well as information including statistics and research. The Treasury must have this information, so why is it not possible for them to share it with us?27

Fy mhryder i yw y methiant i rannu gwybodaeth y mae Llywodraeth y DU yn eistedd arni. Mae'r concordat a ysgrifennwyd rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru yn gwbl eglur bod llywodraeth effeithlon ac effeithiol yn gofyn am gyfathrebu da. Roedd ymrwymiad i ddarparu manylion polisi yn ogystal â gwybodaeth gan gynnwys ystadegau ac ymchwil. Mae'n rhaid bod yr wybodaeth hon gan y Trysorlys, felly pam nad yw'n bosibl iddyn nhw ei rhannu gyda ni?

The concordat was updated in February, and that establishes an agreed framework to ensure that there’s close liaison between the Department for Work and Pensions and the Welsh Government. Now, we do have a reasonably good relationship at official and ministerial level. The inter-governmental relationship follows that review of inter-governmental relations that is more general. Data analysis and data sharing have been recognised as a barrier to streamlining the delivery of Welsh benefits, and also a barrier that prevented people from claiming their entitlements. The DWP tell us that they are exploring how they can share their data in order for us to ensure that more people are able to pick up that £2 billion that they are eligible for.28

Diweddarwyd y concordat ym mis Chwefror, ac mae hwnnw'n sefydlu fframwaith y cytunwyd arno i sicrhau bod cysylltiad agos rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru. Nawr, mae gennym berthynas weddol dda ar lefel swyddogion a gweinidogion. Mae'r berthynas rhynglywodraethol yn dilyn yr adolygiad hwnnw o gysylltiadau rhynglywodraethol sy'n fwy cyffredinol. Cydnabuwyd bod dadansoddi data a rhannu data yn rhwystr i symleiddio'r broses o ddarparu budd-daliadau Cymru, a hefyd yn rhwystr a wnaeth atal pobl rhag hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n archwilio sut y gallan nhw rannu eu data er mwyn i ni sicrhau bod mwy o bobl yn gallu casglu'r £2 biliwn hwnnw y maen nhw'n gymwys i'w dderbyn.

13:45

Good afternoon, First Minister. There is a real sense of despair and a sense that we expected Welsh Labour to stand up, as you have done, for the poor, the vulnerable, those who are voiceless, and yet we are not seeing this, if we're honest. I suspect that a lot of people on the back benches, and maybe you as well, feel in a difficult position here with what is happening in the UK Government. You are our voice with the Labour Government. We've seen reports of 31 per cent of children here in Wales living in poverty, and that was last week. That is shameful, and we are so, so saddened to think that we live in a country with that degree of children living in poverty. We plead with you—what else can we do—to say, ‘Enough is enough’. We have to scrap the two-child benefit. We have to make sure that payments are restored to people who need them. And we need you to stand up for us, please, First Minister. Will you do that? And would you consider things like the Scottish child payment as well? Bringing that here to Wales would make a huge difference. So, I’d ask you just to take those things back and just change the position of UK Labour, so that we don’t have 31 per cent—a third—of our children here in Wales living in poverty. Diolch yn fawr iawn. 29

Prynhawn da, Prif Weinidog. Ceir ymdeimlad gwirioneddol o anobaith ac ymdeimlad ein bod ni'n disgwyl i Lafur Cymru sefyll yn gadarn, fel yr ydych chi wedi ei wneud, dros bobl dlawd, pobl agored i niwed, y rhai sy'n ddi-lais, ac eto nid ydym ni'n gweld hyn, os ydym ni'n onest. Rwy'n amau bod llawer o bobl ar y meinciau cefn, ac efallai chithau hefyd, yn teimlo mewn sefyllfa anodd yma gyda'r hyn sy'n digwydd yn Llywodraeth y DU. Chi yw ein llais ni gyda'r Llywodraeth Lafur. Rydym ni wedi gweld adroddiadau o 31 y cant o blant yma yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac roedd hynny yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n gywilyddus, ac rydym ni mor, mor drist o feddwl ein bod ni'n byw mewn gwlad â'r lefel honno o blant yn byw mewn tlodi. Rydym ni'n pledio â chi—beth arall allwn ni ei wneud—i ddweud, 'Digon yw digon'. Mae'n rhaid i ni ddileu'r budd-dal dau blentyn. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod taliadau yn cael eu hadfer i bobl sydd eu hangen nhw. Ac rydym ni angen i chi sefyll yn gadarn drosom ni, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog. A wnewch chi hynny? Ac a fyddech chi'n ystyried pethau fel taliad plant yr Alban hefyd? Byddai dod â hwnnw yma i Gymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Felly, byddwn yn gofyn i chi fynd â'r pethau hynny yn ôl a newid safbwynt Llafur y DU, fel nad oes gennym ni 31 y cant—traean—o'n plant yma yng Nghymru, yn byw mewn tlodi. Diolch yn fawr iawn.

I recognise that the Chancellor had really difficult choices to make, but it's up to her and the UK Government to defend positions taken by their Government. I am not a spokesperson for the UK Government. My job is to stand up for the people of Wales—[Interruption.]30

Rwy'n cydnabod bod gan y Canghellor ddewisiadau anodd iawn i'w gwneud, ond ei chyfrifoldeb hi a Llywodraeth y DU yw amddiffyn safbwyntiau sy'n cael eu mabwysiadu gan eu Llywodraeth. Nid wyf i'n llefarydd ar ran Llywodraeth y DU. Fy nghyfrifoldeb i yw sefyll yn gadarn dros bobl Cymru—[Torri ar draws.]

I need to hear the First Minister. Allow the First Minister to continue with her response. 31

Rwyf i angen clywed y Prif Weinidog. Gadewch i'r Prif Weinidog barhau â'i hymateb.

My job is to stand up for the people of Wales. That's what I have done and I will continue to do. And if that requires me to take a different view from others, that's what I will do. I will always stand up for Wales and put country before party. 32

Fy nghyfrifoldeb i yw sefyll yn gadarn dros bobl Cymru. Dyna beth rwyf i wedi ei wneud ac y byddaf i'n parhau i'w wneud. Ac os yw hynny'n ei gwneud yn ofynnol i mi gymryd gwahanol safbwynt i bobl eraill, dyna beth fyddaf i'n ei wneud. Byddaf bob amser yn sefyll yn gadarn dros Gymru ac yn rhoi gwlad o flaen plaid. 

Let me make it more clear and easy for you, First Minister. UK Government plans to help people into work outlined in the 'Pathways to Work' Green Paper are expected to save the UK Treasury £4.8 billion by 2029-30. Most of the savings will come from making it harder for people to qualify for personal independence payment, or PIP, a benefit for people with disabilities. Many people believe that this will hurt the poorest in our society. The Daily Mirror made the starkest assessment of UK Labour's financial mismanagement with the headline33

'Balancing the books on the backs of the poor'.34

My question to you, First Minister, is that since the UK Labour Government—[Interruption.]35

Gadewch i mi ei gwneud yn fwy eglur a rhwydd i chi, Prif Weinidog. Disgwylir i gynlluniau Llywodraeth y DU i helpu pobl i mewn i waith a amlinellir yn y Papur Gwyrdd 'Pathways to Work' arbed £4.8 biliwn i Drysorlys y DU erbyn 2029-30. Bydd y rhan fwyaf o'r arbedion yn dod o'i gwneud hi'n anoddach i bobl fod yn gymwys i gael taliad annibyniaeth personol, neu PIP, budd-dal i bobl ag anableddau. Mae llawer o bobl yn credu y bydd hyn yn niweidio'r tlotaf yn ein cymdeithas. Gwnaeth y Daily Mirror yr asesiad mwyaf llym o gamreolaeth ariannol Llafur y DU gyda'r pennawd

'Mantoli'r cyfrifon ar draul y tlawd'.

Fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw gan fod Llywodraeth Lafur y DU—[Torri ar draws.]

Allow the questioner to continue his question, please. Altaf Hussain, you may continue. 36

Gadewch i'r holwr barhau â'i gwestiwn, os gwelwch yn dda. Altaf Hussain, fe gewch chi barhau. 

The question to you, First Minister, is this: since the UK Labour Government is changing who qualifies for PIP, what will the Welsh Government do now to ensure that those who no longer qualify for, or get less, PIP don't become poorer? I am sure that everyone agrees that those who are better off should help those who are struggling the most. Thank you. 37

Y cwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw hwn: gan fod Llywodraeth Lafur y DU yn newid pwy sy'n gymwys i gael PIP, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud nawr i sicrhau nad yw'r rhai nad ydyn nhw'n yn gymwys i gael PIP mwyach, neu'n cael llai, yn mynd yn dlotach? Rwy'n siŵr bod pawb yn cytuno y dylai'r rhai sy'n well eu byd helpu'r rhai sy'n cael yr anawsterau mwyaf. Diolch. 

Thank you, Altaf. Your party will understand inequality and poverty, because you're the party that forced so many people in our country into that situation. It's part of the reason why we have quite so many people in a welfare system that is broken, doesn't work well for the majority of people and doesn't get people into work or protect the most vulnerable. And let's be clear, we are a party that believes in social justice, we are a party that stands with the most vulnerable, and we will make sure that those people who absolutely need the support will get the support.38

Diolch, Altaf. Bydd eich plaid chi yn deall anghydraddoldeb a thlodi, gan mai chi yw'r blaid a orfododd gynifer o bobl yn ein gwlad i'r sefyllfa honno. Mae'n rhan o'r rheswm pam mae gennym ni gynifer o bobl mewn system les sydd wedi torri, nad yw'n gweithio'n dda i'r mwyafrif o bobl ac nad yw'n cael pobl i mewn i waith nac yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. A gadewch i ni fod yn eglur, rydym ni'n blaid sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, rydym ni'n blaid sy'n sefyll gyda'r rhai mwyaf agored i niwed, a byddwn ni'n gwneud yn siŵr y bydd y bobl hynny sydd wir angen y cymorth yn cael y cymorth.

13:50

What a disgrace this situation is. What contempt Westminster shows us, leaving us in Wales to second-guess the effect that these benefit cuts will have because Westminster refuses to tell us. They refuse to confirm what we all know, that Labour's cuts to welfare will hit us in Wales the hardest. We've become used to Westminster's cruelty. Under the Tories, we expected nothing less; under Labour, many would have hoped for better. How wrong that hope now seems. The savagery of these cuts must be acknowledged, yet so far they've refused to own the consequences of their actions. First Minister, are you content with how this is going? Don't you think that we in Wales deserve better than this?39

Am warth yw'r sefyllfa hon. Y fath ddirmyg y mae San Steffan yn ei ddangos atom ni, gan ein gadael ni yng Nghymru i ragweld yr effaith y bydd y toriadau hyn i fudd-daliadau yn ei chael gan fod San Steffan yn gwrthod dweud wrthym ni. Maen nhw'n gwrthod cadarnhau yr hyn yr ydym ni i gyd yn ei wybod, y bydd toriadau Llafur i les yn ein taro ni yng Nghymru galetaf. Rydyn ni wedi dod i arfer â chreulondeb San Steffan. O dan y Torïaid, roeddem ni'n disgwyl dim llai; o dan Lafur, byddai llawer wedi gobeithio am well. O mor anghywir y mae'r gobaith hwnnw yn ymddangos bellach. Mae'n rhaid cydnabod ffyrnigrwydd y toriadau hyn, ac eto hyd yma maen nhw wedi gwrthod cymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau eu gweithredoedd. Prif Weinidog, a ydych chi'n fodlon â sut mae hyn yn mynd? Onid ydych chi'n meddwl ein bod ni yng Nghymru yn haeddu gwell na hyn?

Well, I've just told you that I will stand up for Wales, that we are exercised about the proposals in relation to welfare. I think that there are areas that are positive: I think that £1 billion to help people to get onto a ladder is something positive. But one of the things that I lament is the fact that, really, ideally, it should have been about putting people and the benefits system and the need to reform it first and then to worry about how that is organised afterwards. That's what we've done in Wales. We've done it through the youth unemployment scheme, we found the money and it is paying dividends. 40

Wel, rwyf i newydd ddweud wrthych chi y byddaf i'n sefyll yn gadarn dros Gymru, ein bod ni'n bryderus am y cynigion o ran lles. Rwy'n credu bod meysydd sy'n gadarnhaol: rwy'n credu bod £1 biliwn i helpu pobl i gael troed ar ysgol yn rhywbeth cadarnhaol. Ond un o'r pethau yr wyf i'n resynu yw'r ffaith y dylai, mewn gwirionedd, yn ddelfrydol, fod wedi golygu rhoi pobl a'r system fudd-daliadau a'r angen i'w diwygio yn gyntaf ac yna poeni am sut mae hynny'n cael ei drefnu wedyn. Dyna'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yng Nghymru. Rydyn ni wedi ei wneud drwy'r cynllun diweithdra ieuenctid, fe wnaethom ni ddod o hyd i'r arian ac mae'n talu ar ei ganfed. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Darren Millar. 41

Questions now from the party leaders. The leader of the Conservatives first, Darren Millar. 

First Minister, back in September, you said, and I quote:42

'Delivery, accountability and improved productivity will be the watchwords of my Government—making things happen on the people's priorities. And this will include more transparency and visibility for the public'.43

First Minister, you said that you wanted more transparency, but what is your record? So far, you've refused to publish any correspondence about the operation of grooming gangs in Wales, you've refused to allow the Senedd's Wales COVID-19 Inquiry Special Purpose Committee to interview witnesses under oath, and now you have refused to publish a letter that you have received from the UK Government that highlights how the welfare cuts in Wales will impact vulnerable people the length and breadth of this country. It looks like you've got something to hide. What is it?44

Prif Weinidog, yn ôl ym mis Medi, fe wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Cyflawni, atebolrwydd a gwell cynhyrchiant fydd arwyddeiriau fy Llywodraeth—gwneud i bethau ddigwydd o ran blaenoriaethau'r bobl. A bydd hyn yn cynnwys mwy o dryloywder a gwelededd i'r cyhoedd'.

Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi eisiau mwy o dryloywder, ond beth yw eich record? Hyd yma, rydych chi wedi gwrthod cyhoeddi unrhyw ohebiaeth am weithrediad gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru, rydych chi wedi gwrthod caniatáu i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru y Senedd gyfweld â thystion dan lw, ac rydych chi bellach wedi gwrthod cyhoeddi llythyr yr ydych chi wedi ei dderbyn gan Lywodraeth y DU sy'n tynnu sylw at sut y bydd y toriadau lles yng Nghymru yn effeithio ar bobl agored i niwed ar hyd a lled y wlad hon. Mae'n edrych fel bod gennych chi rywbeth i'w guddio. Beth yw ef?

Thanks very much. Listen, I've been one of the people who have been up to my neck in the COVID inquiry, and I can tell you there's nothing more transparent than the system we've just been through. We've spent millions of pounds, taken hours of lawyers' time, making sure that we give answers to those people who suffered during the pandemic. So, I don't think that there's a lack of transparency in relation to COVID. And as I've just mentioned, I have no problem at all in Liz Kendall publishing that letter, and I hope she'll do so this afternoon. 45

Diolch yn fawr iawn. Gwrandewch, rwyf i wedi bod yn un o'r bobl sydd wedi bod dros fy mhen a'm clustiau yn yr ymchwiliad COVID, a gallaf ddweud wrthych chi nad oes unrhyw beth mwy tryloyw na'r system yr rydym ni newydd fod drwyddi. Rydym ni wedi gwario miliynau o bunnoedd, wedi cymryd oriau o amser cyfreithwyr, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi atebion i'r bobl hynny a ddioddefodd yn ystod y pandemig. Felly, nid wyf i'n credu bod diffyg tryloywder o ran COVID. Ac fel yr wyf i newydd sôn, nid oes gen i unrhyw broblem o gwbl gyda Liz Kendall yn cyhoeddi'r llythyr hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd hi'n gwneud hynny y prynhawn yma.

First Minister, I know it's April Fools' Day, but we will not be taken for fools. The reality is this: you had the opportunity to make sure that Ministers were required to tell the truth under oath; you rejected it. You had the opportunity to make sure that you published on the public record the correspondence between you, local authorities and the police about grooming gangs; you declined that request. And today, you still stand by your error of judgment in refusing to publish a copy of a letter that you would have relished the opportunity to publish had there been a UK Conservative Government still in this country. We will not be taken for fools and neither will the people of Wales. 46

You told the people of Wales that having two Labour Governments working at both ends of the M4 would be delivering for the people of Wales. And you've been as good as your word, you have been delivering, but all of the wrong things. Let's have a look at what you've delivered: the longest waiting lists in Britain; the lowest educational standards in the United Kingdom; and the highest unemployment rates in the UK. And meanwhile, your colleagues in Westminster have delivered increased taxes, with national insurance contributions going up for employers—a jobs tax—a change to inheritance tax, which is going to destroy Welsh family farms, and a cruel end to the winter fuel payment that will force many pensioners to choose between heating and eating. In a pre-Christmas message to Labour Party members, you said:47

'we are demonstrating the difference only Labour can make.'48

You certainly are demonstrating a difference. First Minister, are you proud of this appalling record?49

Prif Weinidog, rwy'n gwybod ei bod hi'n Ddydd Ffŵl Ebrill, ond dydyn ni ddim yn fodlon cael ein trin fel ffyliaid. Y gwir yw hyn: cawsoch chi y cyfle i wneud yn siŵr ei bod hi'n ofynnol i Weinidogion ddweud y gwir o dan lw; fe wnaethoch chi ei wrthod. Cawsoch chi y cyfle i wneud yn siŵr eich bod chi'n cyhoeddi ar y cofnod cyhoeddus yr ohebiaeth rhyngoch chi, awdurdodau lleol a'r heddlu am gangiau meithrin perthynas amhriodol; fe wnaethoch chi wrthod y cais hwnnw. A heddiw, rydych chi'n dal i sefyll wrth eich camfarn drwy wrthod cyhoeddi copi o lythyr y byddech chi wedi ymhyfrydu yn y cyfle i'w gyhoeddi pe bai Llywodraeth Geidwadol y DU yn y wlad hon o hyd. Nid ydym ni'n fodlon cael ein trin fel ffyliaid ac nid yw pobl Cymru chwaith. 

Fe wnaethoch chi ddweud wrth bobl Cymru y byddai bod â dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio ar ddau ben yr M4 yn arwain at gyflawni dros bobl Cymru. Ac rydych chi wedi cadw at eich gair, rydych chi wedi bod yn cyflawni, ond yr holl bethau anghywir. Gadewch i ni gymryd golwg ar yr hyn yr ydych chi wedi ei gyflawni: y rhestrau aros hiraf ym Mhrydain; y safonau addysgol isaf yn y Deyrnas Unedig; a'r cyfraddau diweithdra uchaf yn y DU. Ac yn y cyfamser, mae eich cydweithwyr yn San Steffan wedi cyflawni mwy o drethi, â chyfraniadau yswiriant gwladol yn codi i gyflogwyr—treth swyddi—newid i dreth etifeddiant, sy'n mynd i ddinistrio ffermydd teuluol Cymru, a diwedd creulon i daliad tanwydd y gaeaf a fydd yn gorfodi llawer o bensiynwyr i ddewis rhwng gwres a bwyta. Mewn neges cyn y Nadolig i aelodau'r Blaid Lafur, fe wnaethoch chi ddweud:

'rydyn ni'n dangos y gwahaniaeth mai dim ond Llafur sy'n gallu ei wneud.'

Rydych chi'n sicr yn dangos gwahaniaeth. Prif Weinidog, a ydych chi'n falch o'r record ofnadwy hon?

13:55

I'll tell you what I am proud of: the £1.5 billion extra that is now going into public services, no thanks to you and no thanks to Plaid. Because that is helping to bring our waiting lists down. It's really good to see that it is absolutely going in the right direction, and we'll be validating the numbers to make sure that we are where we hoped we would be. But that budget is answering and responding to the concerns of the people in this country, who were keen to see those waiting lists come down, who were keen to see mental health support, who were keen to see women's health hubs, who were keen to see new transport and trains in Wales, potholes being filled, who were keen to see how we are transforming our education services. You ask about what difference a UK Labour Government is making, and as I say, it's up to them to defend that. But today, 150,000 people in Wales will get an uplift as a result of the minimum wage, and that will make a difference to their lives. Because bills are going up—we know that—but there's an opportunity for them to help pay those bills.50

Fe ddywedaf i wrthych beth rwy'n falch ohono: y £1.5 biliwn ychwanegol sydd bellach yn mynd i wasanaethau cyhoeddus, dim diolch i chi a dim diolch i Plaid. Oherwydd mae hynny yn helpu i leihau ein rhestrau aros. Mae'n braf iawn gweld ei fod yn sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir, a byddwn yn dilysu'r niferoedd i wneud yn siŵr ein bod ni lle'r oeddem ni'n gobeithio y byddem ni. Ond mae'r gyllideb honno yn ateb ac yn ymateb i bryderon y bobl yn y wlad hon, a oedd yn awyddus i weld y rhestrau aros hynny yn lleihau, a oedd yn awyddus i weld cymorth iechyd meddwl, a oedd yn awyddus i weld canolfannau iechyd menywod, a oedd yn awyddus i weld trafnidiaeth a threnau newydd yng Nghymru, tyllau mewn ffyrdd yn cael eu llenwi, a oedd yn awyddus i weld sut rydym ni'n trawsnewid ein gwasanaethau addysg. Rydych chi'n holi am ba wahaniaeth mae Llywodraeth Lafur y DU yn ei wneud, ac fel y dywedais i, mater iddyn nhw yw amddiffyn hynny. Ond heddiw, bydd 150,000 o bobl yng Nghymru yn cael hwb o ganlyniad i'r isafswm cyflog, a bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Oherwydd mae biliau yn cynyddu—rydym ni'n gwybod hynny—ond ceir cyfle iddyn nhw i helpu i dalu'r biliau hynny.

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. [Torri ar draws.]51

Leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. [Interruption.]

I apologise, Darren Millar. Your third question.52

Ymddiheuraf, Darren Millar. Eich trydydd cwestiwn.

I tell you what is going up: council tax bills, energy bills, water bills. These are the things that are going up under a Labour Government here in Wales and in Westminster. The truth is you give us the same old tired answers. You're a clapped-out Government that is running out of steam, running out of ideas, and let me tell you: you're running out of time too. The legacy of the previous UK Government was that you inherited the fastest-growing economy in the G7, and in just months, you've brought that growth to a standstill. Growth is down, inflation is up, taxes are up and unemployment is up. That's your record as a Labour Government here in the UK, and the British people, and people here in Wales, are working harder, paying more and getting less. It's economic chaos. That's why we had an emergency budget just last week.53

More than 200,000 businesses have closed across the United Kingdom since Rachel Reeves was put in charge of the UK economy, the largest number in British history—more than 770 businesses per day. Many of those businesses, of course, are here in Wales, and those people that would've been employed by them are now on the dole. What is your Government doing to fix this? You're giving them the highest business rates in Britain. And just before the Easter holidays, when people should be looking forward to a beautiful break here in Wales, you're about to introduce legislation that will pave the way for a tourism tax. Can you tell us, First Minister, how increasing taxes, having the least competitive business rates system in Britain, and a tourism tax will benefit our Welsh economy?54

Fe ddywedaf i wrthych chi beth sy'n cynyddu: biliau'r dreth gyngor, biliau ynni, biliau dŵr. Dyma'r pethau sy'n cynyddu o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru ac yn San Steffan. Y gwir yw eich bod chi'n rhoi'r un hen atebion blinedig i ni. Rydych chi'n Llywodraeth sydd wedi gweld ei dyddiau gwell, sy'n rhedeg allan o stêm, yn rhedeg allan o syniadau, a gadewch i mi ddweud wrthych chi: rydych chi'n rhedeg allan o amser hefyd. Etifeddiaeth Llywodraeth flaenorol y DU oedd eich bod chi wedi etifeddu'r economi a oedd yn tyfu gyflymaf yn y G7, ac mewn misoedd yn unig, rydych chi rhoi terfyn llwyr ar y twf hwnnw. Mae twf i lawr, mae chwyddiant i fyny, mae trethi i fyny ac mae diweithdra i fyny. Dyna eich record fel Llywodraeth Lafur yma yn y DU, ac mae pobl Prydain, a phobl yma yng Nghymru, yn gweithio'n galetach, yn talu mwy ac yn cael llai. Mae'n anhrefn economaidd. Dyna pam y cawsom ni gyllideb frys dim ond yr wythnos diwethaf.

Mae mwy na 200,000 o fusnesau wedi cau ledled y Deyrnas Unedig ers i Rachel Reeves gael ei gwneud yn gyfrifol am economi'r DU, y nifer fwyaf yn hanes Prydain—mwy na 770 o fusnesau y dydd. Mae llawer o'r busnesau hynny, wrth gwrs, yma yng Nghymru, ac mae'r bobl hynny a fyddai wedi cael eu cyflogi ganddyn nhw bellach ar y dôl. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddatrys hyn? Rydych chi'n rhoi'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain iddyn nhw. Ac ychydig cyn gwyliau'r Pasg, pan ddylai pobl fod yn edrych ymlaen at seibiant hyfryd yma yng Nghymru, rydych chi ar fin cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer treth dwristiaeth. A allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, sut y bydd cynyddu trethi, bod â'r system ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain, a threth dwristiaeth o fudd i'n heconomi yng Nghymru?

You're right, I give a lot of the same answers, because they're the right answers. It's because we're responding to the priorities of the people of Wales. And I'm not going to be distracted from that. You can go off and ask me about all those other things that actually don't chime with the people of Wales, and they don't chime because—[Interruption.] You know why? You know why they don't chime? We know they don't chime because you tried it in the general election last July, and it didn't go well, did it? If we're honest, it didn't go well for you. I do think it's important to recognise that we have spent £5 billion on supporting some of the poorest people over the past few years, to make sure that they do get the support they need, and we're getting people into jobs. Fifteen thousand people have been helped with our employability scheme. Jobs matter. That's how you make a difference in people's lives, and we're going to stand with them to deliver that.55

Rydych chi'n iawn, rwy'n rhoi llawer o'r un atebion, gan mai dyna'r atebion cywir. Mae hynny oherwydd ein bod ni'n ymateb i flaenoriaethau pobl Cymru. A nid wyf i'n mynd i gael fy sylw wedi ei dynnu oddi wrth hynny. Gallwch fynd i ffwrdd a gofyn i mi am yr holl bethau eraill hynny nad ydyn nhw wir yn atseinio gyda phobl Cymru, a dydyn nhw ddim yn atseinio oherwydd—[Torri ar draws.] Rydych chi'n gwybod pam? Rydych chi'n gwybod pam nad ydyn nhw'n atseinio? Rydym ni'n gwybod nad ydyn nhw'n atseinio gan eich bod chi wedi rhoi cynnig arnyn nhw yn yr etholiad cyffredinol fis Gorffennaf diwethaf, ac ni aeth yn dda, naddo? Os ydym ni'n onest, ni aeth yn dda i chi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ein bod ni wedi gwario £5 biliwn ar gynorthwyo rhai o'r bobl dlotaf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac rydym ni'n cael pobl i mewn i swyddi. Mae pymtheg mil o bobl wedi cael eu helpu gyda'n cynllun cyflogadwyedd. Mae swyddi yn bwysig. Dyna sut rydych chi'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, ac rydym ni'n mynd i sefyll yn gadarn â nhw i gyflawni hynny.

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.56

Leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Llywydd, we still haven't had a satisfactory answer from the First Minister on her views of the recently announced welfare cuts or on the question of when she will release details of the UK Government's response to her question about the assessment of the impact of those welfare cuts on Wales. She'd asked the Secretary of State for Work and Pensions for any analysis that has been undertaken on the impact of changes to the benefits system as they will apply in Wales. Later, we'll be calling for an urgent debate on the impact on Wales. If Labour won't do it, Plaid Cymru will. But does the First Minister recognise that publishing that response is rather important? And if she won't release it, will she at least acknowledge that, just as in the scrutiny committee last week, she's exposing this Labour Government's absolute lack of fight on behalf of the people of Wales? Why won't she just release it?57

Diolch, Llywydd. Llywydd, dydyn ni byth wedi cael ateb boddhaol gan y Prif Weinidog ar ei barn ar y toriadau lles a gyhoeddwyd yn ddiweddar nac ar y cwestiwn o pryd y bydd yn cyhoeddi manylion ymateb Llywodraeth y DU i'w chwestiwn am yr asesiad o effaith y toriadau lles hynny ar Gymru. Roedd hi wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau am unrhyw ddadansoddiad a wnaed ar effaith newidiadau i'r system fudd-daliadau fel y byddan nhw'n berthnasol yng Nghymru. Yn ddiweddarach, byddwn yn galw am ddadl frys ar yr effaith ar Gymru. Os na wnaiff Llafur ei wneud, fe wnaiff Plaid Cymru ei wneud. Ond a yw'r Prif Weinidog yn cydnabod bod cyhoeddi'r ymateb hwnnw yn eithaf pwysig? Ac os na wnaiff ei gyhoeddi, a wnaiff hi o leiaf gydnabod ei bod hi'n datgelu diffyg parodrwydd llwyr y Llywodraeth Lafur hon i ymladd dros bobl Cymru? Pam na wnaiff hi ei gyhoeddi?

14:00

Do you know what? My mother studied under Saunders Lewis, and he gave her a tip once:58

Wyddoch chi beth? Astudiodd fy mam o dan Saunders Lewis, a rhoddodd gyngor iddi unwaith:

dysgwch wrando.59

learn to listen.

Learn to listen. Did you not listen to what I said? I don't have a problem with that letter being published, and I'm hopeful that it will be published this afternoon. It's not mine to publish, but I'm hopeful it will be published this afternoon. But what I know—[Interruption.]—what I know is that there are people in this country who are suffering, who need us to stand by their side. We will be making it clear that we will be expressing our Welsh communities' concerns plainly and unambiguously in the evidence that we will present in response to the welfare reform Green Paper. I'm going to be listening to the concerns of people currently on benefits. I'm also going to be listening to the concerns of people who are trapped in a system that makes it difficult for them to work.60

Dysgwch wrando. Oni wnaethoch chi wrando ar yr hyn a ddywedais i? Nid oes gen i broblem gyda'r llythyr hwnnw yn cael ei gyhoeddi, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei gyhoeddi y prynhawn yma. Nid fy un i yw ef i'w gyhoeddi, ond rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei gyhoeddi y prynhawn yma. Ond yr hyn yr wyf i'n ei wybod—[Torri ar draws.]—yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw bod pobl yn y wlad hon sy'n dioddef, sydd angen i ni sefyll ochr yn ochr â nhw. Byddwn yn ei gwneud hi'n eglur y byddwn ni'n mynegi pryderon ein cymunedau yng Nghymru yn eglur ac yn ddiamwys yn y dystiolaeth y byddwn ni'n ei chyflwyno mewn ymateb i'r Papur Gwyrdd ar ddiwygio lles. Rwy'n mynd i fod yn gwrando ar bryderon pobl sydd ar fudd-daliadau ar hyn o bryd. Rwyf i hefyd yn mynd i fod yn gwrando ar bryderon pobl sydd wedi'u dal mewn system sy'n ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw weithio.

The First Minister says she's listening, but she's not hearing a single thing. On not releasing that letter, this is the First Minister that read out a letter from the UK transport Secretary live on air in January, calling it 'breaking news', and that was shafting Wales as well. She wants this delayed because she knows that we'll confirm that there has been no impact assessment on Wales.61

And on this business of reserving judgment, I think the First Minister would probably be happy with some of the newspaper headlines last week: 'First Minister refuses to back welfare cuts'. But I'll tell you what I find quite deplorable, that headline could just as easily have said, 'The First Minister refuses to condemn the welfare cuts'. We've got Save the Children and Action for Children saying this is a political choice. The most vulnerable children, 50,000 more children, into poverty. The Resolution Foundation—'Lower-income households are set to become £500 a year poorer'; Barnardo's, 'A bad situation made even worse'. Are they all wrong, First Minister, or are you reserving judgment on that as well?62

Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei bod hi'n gwrando, ond nid yw'n clywed unrhyw beth o gwbl. Ar beidio â chyhoeddi'r llythyr hwnnw, dyma'r Prif Weinidog a ddarllenodd lythyr gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU yn fyw ar yr awyr ym mis Ionawr, gan ei alw'n 'newyddion diweddaraf', ac roedd hwnnw'n gwneud tro gwael â Chymru hefyd. Mae hi eisiau i hyn gael ei oedi gan ei bod hi'n gwybod y byddwn ni'n cadarnhau na fu unrhyw asesiad effaith ar Gymru.

Ac ar y busnes hwn o ohirio cynnig barn, rwy'n credu ei bod hi'n debygol y byddai'r Prif Weinidog yn hapus gyda rhai o benawdau papurau newydd yr wythnos diwethaf: 'Y Prif Weinidog yn gwrthod cefnogi toriadau lles'. Ond fe wnaf i ddweud wrthych chi yr hyn yr wyf i'n ei gredu sy'n gwbl resynus, gallai'r pennawd hwnnw fod wedi dweud yr un mor hawdd, 'Y Prif Weinidog yn gwrthod condemnio'r toriadau lles'. Mae gennym ni Achub y Plant a Gweithredu dros Blant yn dweud bod hwn yn ddewis gwleidyddol. Y plant mwyaf agored i niwed, 50,000 yn fwy o blant, i mewn i dlodi. Y Resolution Foundation—'Aelwydydd incwm is ar fin dod £500 y flwyddyn yn dlotach'; Barnardo's, 'Sefyllfa wael yn cael ei gwneud yn waeth fyth'. A ydyn nhw i gyd yn anghywir, Prif Weinidog, neu a ydych chi'n gohirio cynnig barn ar hynny hefyd?

Look, I'm really pleased the UK Government has committed to invest an additional £1 billion a year to build towards a guarantee of personalised support when it comes to employment. I think that's really constructive. That's standing by people, that's following the kind of approach that we have in relation to youth unemployment. Now, the UK Government is going to be supporting the Welsh Government as we lead the design of a 'get Britain working' trailblazer, and that's going to be backed by £10 million of funding to explore how work, health and skills—how that skills support will be delivered by the Welsh and UK Governments, how we join that up to help people to move towards and into work. In the longer term, the UK Government has also committed to devolving non-Jobcentre Plus employment support funding to the Welsh Government, and the Secretary of State has offered to work with us on the impact of the welfare proposals on Wales. And whilst, of course, we'll work with them, this is a UK Government proposal, and they must take ownership of it, but I will take up the offer to meet Liz Kendall to work through this.63

Edrychwch, rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi £1 biliwn ychwanegol y flwyddyn i adeiladu tuag at sicrwydd o gymorth wedi'i bersonoli o ran cyflogaeth. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol adeiladol. Mae hynny'n sefyll yn gadarn â phobl, mae hynny'n dilyn y math o ddull sydd gennym ni o ran diweithdra ieuenctid. Nawr, mae Llywodraeth y DU yn mynd i fod yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth i ni arwain y gwaith o ddylunio arloeswr 'cael Prydain i weithio', ac mae hwnnw'n mynd i gael ei gefnogi gan £10 miliwn o gyllid i archwilio sut y bydd gwaith, iechyd a sgiliau—sut y bydd y cymorth sgiliau hwnnw yn cael ei ddarparu gan Lywodraethau Cymru a'r DU, sut rydym ni'n cydgysylltu hynny i helpu pobl symud tuag at ac i mewn i waith. Yn y tymor hwy, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw'n gymorth Canolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru, ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cynnig gweithio gyda ni ar effaith y cynigion lles ar Gymru. Ac er y byddwn ni'n gweithio gyda nhw, wrth gwrs, cynnig Llywodraeth y DU yw hwn, ac mae'n rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb amdano, ond fe wnaf i dderbyn y cynnig i gyfarfod â Liz Kendall i weithio drwy hyn.

This is a First Minister that seems very happy to read out published notes from a UK Government that she says she wants to stand up to. Let me summarise the First Minister's position: she won't be publishing the letter herself from a Labour colleague on the impact of welfare reforms on Wales, whilst the Secretary of State for Wales, of course, says that the First Minister supports those cuts. She disagrees with experts working in the field of child poverty who warn of the disastrous consequences of the cut; she doesn’t know who she spoke to in Downing Street when discussing the reforms; and, on top of that, she can't even bring herself to support a Plaid Cymru motion this week on bringing in a direct payment to children living in poverty. All of this, remember, within days of child poverty rates in Wales going up. The First Minister made opportunity for every family one of her top priorities. Now, the words are good, but on the deeds, she's falling well, well short. Is that because she's unwilling to do what's right, or unable to because for fear of upsetting her Labour colleagues at Westminster?64

Dyma Brif Weinidog sy'n ymddangos yn hapus iawn i ddarllen nodiadau cyhoeddedig gan Lywodraeth y DU y mae hi'n dweud ei bod hi eisiau sefyll i fyny iddi. Gadewch i mi grynhoi safbwynt y Prif Weinidog: ni fydd hi'n cyhoeddi'r llythyr ei hun gan gydweithiwr Llafur ar effaith diwygiadau lles ar Gymru, tra bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth gwrs, yn dweud bod y Prif Weinidog yn cefnogi'r toriadau hynny. Mae'n anghytuno ag arbenigwyr sy'n gweithio ym maes tlodi plant sy'n rhybuddio am ganlyniadau trychinebus y toriad; nid yw'n gwybod â phwy y siaradodd hi yn Downing Street wrth drafod y diwygiadau; ac, ar ben hynny, ni all hyd yn oed ddod â'i hun i gefnogi cynnig Plaid Cymru yr wythnos hon ar gyflwyno taliad uniongyrchol i blant sy'n byw mewn tlodi. Mae hyn o gyd, cofiwch, o fewn dyddiau i gyfraddau tlodi plant yng Nghymru godi. Fe wnaeth y Prif Weinidog gyfleoedd i bob teulu yn un o'i phrif flaenoriaethau. Nawr, mae'r geiriau'n dda, ond o ran y gweithredoedd, mae hi'n brin iawn, iawn. A yw hynny oherwydd nad yw'n fodlon gwneud yr hyn sy'n iawn, neu nad yw'n gallu gan ei bod hi'n ofni siomi ei chydweithwyr Llafur yn San Steffan?

14:05

I've got a lot of people trying to put words into my mouth these days, haven't I? You've summarised my position. I had somebody else last week trying to speak for me. I speak for myself. I speak for the Welsh Government. The UK Government can speak up for itself, and they can defend their positions. I will defend the position of the Welsh Labour Government here in Wales.65

Mae gen i lawer o bobl yn ceisio rhoi geiriau yn fy ngheg y dyddiau hyn, onid oes? Rydych chi wedi crynhoi fy safbwynt. Roedd gen i rywun arall yr wythnos diwethaf yn ceisio siarad drosof i. Rwy'n siarad drosof fy hun. Rwy'n siarad ar ran Llywodraeth Cymru. Gall Llywodraeth y DU siarad drosti ei hun, a gallan nhw amddiffyn eu safbwyntiau. Fe wnaf i amddiffyn safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru yma yng Nghymru.

Fframwaith Cysylltiadau Rhynglywodraethol
Inter-governmental Relations Framework

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar weithrediad y fframwaith cysylltiadau rhynglywodraethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2022? OQ62545

3. Will the First Minister make a statement on the operation of the inter-governmental relations framework published by the UK Government in 2022? OQ62545

Partnership working has grown between the Welsh Government and the UK Government since last summer, including more effective use of the framework provided by the inter-governmental relations review published in 2022.66

Mae gweithio partneriaeth wedi tyfu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ers yr haf diwethaf, gan gynnwys defnydd mwy effeithiol o'r fframwaith a ddarparwyd gan yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a gyhoeddwyd yn 2022.

Thank you for that answer. Of course, the framework has developed since then, and it provides for a secretariat, it provides for a disputes process, which has certainly not been used as I'm aware, and it also contains very serious commitments to supporting the principles and respect for devolution. But since then we've been in dispute in respect of HS2 funding, the Crown Estate, Barnett reform, welfare reform, data, youth justice, probation, and the list could go on. Now, our duty in this Senedd, it seems to me, is to stand up for Wales. So, I wonder if we could we have a statement on the operation and the efficacy of the framework, and its fitness for purpose? And would you also give consideration to—? Perhaps the biggest problem is that it is not in any form of statutory basis, and what we really need is a new constitutional reform Act.67

Diolch am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae'r fframwaith wedi datblygu ers hynny, ac mae'n darparu ar gyfer ysgrifenyddiaeth, mae'n darparu ar gyfer proses anghydfodau, nad yw wedi cael ei defnyddio yn sicr fel yr wyf i'n ei deall hi, ac mae hefyd yn cynnwys ymrwymiadau difrifol iawn i gefnogi egwyddorion a pharch at ddatganoli. Ond ers hynny rydym ni wedi bod mewn anghydfod o ran cyllid HS2, Ystad y Goron, diwygio Barnett, diwygio lles, data, cyfiawnder ieuenctid, prawf, a gallai'r rhestr barhau. Nawr, ein dyletswydd ni yn y Senedd hon, mae'n ymddangos i mi, yw sefyll yn gadarn dros Gymru. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad ar weithrediad ac effeithiolrwydd y fframwaith, a'i addasrwydd i'r diben? Ac a fyddech chi hefyd yn rhoi ystyriaeth i—? Efallai mai'r broblem fwyaf yw nad yw mewn unrhyw fath o sail statudol, a'r hyn sydd wir ei angen arnom ni yw Deddf diwygio cyfansoddiadol newydd.

Thanks very much. Well, certainly, the inter-governmental relations structures feel more stable since the UK general election, and we've definitely seen an increase in the amount of engagement with the UK Government. We think that the review of inter-governmental relations can provide the machinery needed to bring the Governments of the UK together to discuss the right things at the right time. I think there's still work to do on this. But you're quite right, we need to make sure that that is matured and that we're able to use it when those disputes happen. But there are examples, I think, where inter-governmental engagement has led to genuinely positive outcomes for Wales. Tata Steel saw an improved deal for workers. We saw additional investment when it came to coal tips. And there were additional jobs and investment in Shotton Mill up in north Wales.68

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn sicr, mae'r strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol yn teimlo'n fwy sefydlog ers etholiad cyffredinol y DU, ac rydym ni'n bendant wedi gweld cynnydd i'r ymgysylltiad â Llywodraeth y DU. Rydym ni'n credu y gall yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol ddarparu'r peirianwaith sydd ei angen i ddod â Llywodraethau'r DU at ei gilydd i drafod y pethau iawn ar yr adeg iawn. Rwy'n credu bod gwaith i'w wneud ar hyn o hyd. Ond rydych chi'n gwbl gywir, mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei aeddfedu a'n bod ni'n gallu ei ddefnyddio pan fydd yr anghydfodau hynny yn digwydd. Ond ceir enghreifftiau, rwy'n credu, lle mae ymgysylltu rhynglywodraethol wedi arwain at ganlyniadau gwirioneddol gadarnhaol i Gymru. Gwelodd Tata Steel fargen well i weithwyr. Gwelsom fuddsoddiad ychwanegol o ran tomenni glo. Ac roedd swyddi a buddsoddiad ychwanegol ym Melin Shotton i fyny yn y gogledd.

First Minister, the Welsh Government has noted positive experiences of inter-governmental relations in relation to the work that has been on the freeport programme, which has rightly been called a benchmark for how Welsh Government can act in a partnership of equals with the UK Government. Now, we know that some progress has already been made in developing the freeport programme, and it's vital that that momentum isn't lost. So, First Minister, can you tell us whether you believe the freeport programme is still a benchmark for future inter-governmental working between the Welsh and UK Governments? And can you also provide us with an update on the freeport programme so we can hear more about the collaborative work that is taking place?69

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi profiadau cadarnhaol o cysylltiadau rhynglywodraethol o ran y gwaith sydd wedi cael ei wneud ar y rhaglen porthladdoedd rhydd, sydd wedi cael ei alw, yn briodol, yn feincnod ar gyfer sut y gall Llywodraeth Cymru weithredu mewn partneriaeth gyfartal â Llywodraeth y DU. Nawr, rydym ni'n gwybod bod rhywfaint o gynnydd eisoes wedi cael ei wneud o ran datblygu'r rhaglen porthladdoedd rhydd, ac mae'n hanfodol nad yw'r momentwm hwnnw yn cael ei golli. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n credu bod y rhaglen porthladdoedd rhydd yn dal i fod yn feincnod ar gyfer gweithio rhynglywodraethol yn y dyfodol rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU? A allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y rhaglen porthladdoedd rhydd fel y gallwn ni glywed mwy am y gwaith cydweithredol sy'n digwydd?

I think it's been really interesting in relation to the freeport programme. You'll be aware that there's one in the Milford Haven area and, of course, there's one in Anglesey as well. And one of the interesting things about the model that we have is that it's a model that works in social partnership. That means that we are making sure that everybody is involved in the process of developing what that looks like, in particular the unions, and the UK Government now is looking at that model to see if they can replicate it across the whole of the United Kingdom.70

Rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn ddiddorol iawn o ran y rhaglen porthladdoedd rhydd. Byddwch yn ymwybodol bod un yn ardal Aberdaugleddau ac, wrth gwrs, mae un yn Ynys Môn hefyd. Ac un o'r pethau diddorol am y model sydd gennym ni yw ei fod yn fodel sy'n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Mae hynny'n golygu ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod pawb yn rhan o'r broses o ddatblygu sut mae hynny'n edrych, yn enwedig yr undebau, ac mae Llywodraeth y DU yn edrych ar y model hwnnw bellach i weld a allan nhw ei ailadrodd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.

14:10

I know the First Minister has fought hard for Wales in terms of taking the Welsh message about what we require here to UK Government, but we also need to see some results. Many of us were profoundly disappointed with the news on the Crown Estate. We are profoundly disappointed with the lack of devolution of rail infrastructure. We are profoundly disappointed with the lack of progress in terms of devolution of criminal justice and policing and the rest of it. But perhaps the most important question facing us now is reform of the Barnett formula. Now, I know this is something that the Welsh Government has pursued with the United Kingdom Government over some time. Will the First Minister now give an undertaking that we will set out what reforms are required and the timetables by which we expect to see reforms delivered, because the real question facing this Government and this Parliament is protecting and investing in the future of our people and our communities. We can't do that if Wales is the worst-funded country in the United Kingdom. We need fairness and we need equality, here and across the whole of the UK.71

Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi brwydro yn galed dros Gymru o ran cyfleu neges Cymru am yr hyn sydd ei angen arnom ni yma i Lywodraeth y DU, ond mae angen i ni weld canlyniadau hefyd. Roedd llawer ohonom ni'n siomedig dros ben â'r newyddion am Ystad y Goron. Rydym ni'n siomedig dros ben â'r diffyg datganoli seilwaith rheilffyrdd. Rydym ni'n siomedig dros ben â'r diffyg cynnydd o ran datganoli cyfiawnder troseddol a phlismona a'r gweddill ohono. Ond efallai mai'r cwestiwn pwysicaf sy'n ein hwynebu nawr yw diwygio fformiwla Barnett. Nawr, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros gryn amser. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo nawr y byddwn ni'n nodi pa ddiwygiadau sydd eu hangen a'r amserlenni yr ydym ni'n disgwyl gweld diwygiadau yn cael eu cyflawni yn unol â nhw, oherwydd y gwir gwestiwn sy'n wynebu'r Llywodraeth hon a'r Senedd hon yw diogelu a buddsoddi yn nyfodol ein pobl a'n cymunedau. Allwn ni ddim gwneud hynny os mai Cymru yw'r wlad sy'n cael ei hariannu waethaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni angen tegwch ac rydym ni angen cydraddoldeb, yma ac ar draws y DU gyfan.

Thanks very much, Alun. I couldn't agree more, and that's why I have made it a point of bringing up these issues at every opportunity that I have had with both the Prime Minister and even last week with the Chancellor. I think it makes sense for us to focus on things where there is a manifesto, a Labour manifesto commitment. So, for example, we're really pushing on flexibilities when it comes to the financial framework. Now, that sounds really dry and boring, but actually what it means is that we're able to use our money in a different way, which means that we'll be able to put it towards helping people in our communities and focusing on those priority areas. So, that's an area I'm very keen to make sure that we move on as quickly as possible. The Crown Estate—not going quite so well, but we're not giving up. And the same thing in relation to the fairness when it comes to rail infrastructure. I will not stop banging that drum. I did it again with the Chancellor when she visited Cardiff last week.

72

Diolch yn fawr iawn, Alun. Ni allwn i gytuno mwy, a dyna pam rwyf i wedi ei wneud yn bwynt o godi'r materion hyn ar bob cyfle yr wyf i wedi ei gael gyda'r Prif Weinidog a hyd yn oed yr wythnos diwethaf gyda'r Canghellor. Rwy'n credu ei fod yn gwneud synnwyr i ni ganolbwyntio ar bethau lle ceir ymrwymiad maniffesto, maniffesto Llafur. Felly, er enghraifft, rydym ni wir yn gwthio ar hyblygrwydd pan ddaw i'r fframwaith ariannol. Nawr, mae hynny'n swnio'n sych ac yn ddiflas iawn, ond yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yw ein bod ni'n gallu defnyddio ein harian mewn ffordd wahanol, sy'n golygu y byddwn ni'n gallu ei roi tuag at helpu pobl yn ein cymunedau a chanolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth hynny. Felly, mae hwnnw'n faes yr wyf i'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n symud arno cyn gynted â phosibl. Ystad y Goron—nid yw'n mynd cystal, ond dydyn ni ddim yn rhoi'r gorau iddi. A'r un peth o ran y tegwch pan ddaw i seilwaith rheilffyrdd. Ni wnaf i roi'r gorau i guro'r drwm hwnnw. Fe wnes i hynny eto gyda'r Canghellor pan ymwelodd â Chaerdydd yr wythnos diwethaf.

Tanau Gwyllt
Wildfires

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i atal tanau gwyllt yng Ngogledd Cymru? OQ62584

4. How is the Welsh Government working with partners to prevent wildfires in North Wales? OQ62584

The fire and rescue service is primarily responsible for preventing wildfires. It leads well-established strategic and tactical partnerships, including the police, Natural Resources Wales, the Met Office and the Welsh Government. It also communicates extensively with landowners and others to mitigate the risk.73

Y gwasanaeth tân ac achub sy'n bennaf gyfrifol am atal tanau gwyllt. Mae'n arwain partneriaethau strategol a thactegol sydd wedi'u hen sefydlu, gan gynnwys yr heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Swyddfa Dywydd a Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cyfathrebu'n helaeth â thirfeddianwyr ac eraill i liniaru'r risg.

Thank you for that response. I was really surprised and disheartened, really, to see the number of wildfires that have happened and are still actually ongoing now. The devastation to our wildlife and natural environment is really concerning, and also it's worrying for residents as well, when they get out of control. So, First Minister, do responders know why or how they are being started? And would you join me in raising concerns about the impact of these wildfires on nature, and the impact that carelessness or even direct action can cause? Thank you.74

Diolch am yr ymateb yna. Cefais fy synnu a'm digalonni, mewn gwirionedd, o weld nifer y tanau gwyllt sydd wedi digwydd ac sy'n dal i barhau nawr a dweud y gwir. Mae'r dinistr i'n bywyd gwyllt a'n hamgylchedd naturiol yn peri pryder mawr, ac mae'n peri pryder i drigolion hefyd, pan fyddan nhw'n mynd allan o reolaeth. Felly, Prif Weinidog, a yw ymatebwyr yn gwybod pam neu sut maen nhw'n cael eu cychwyn? Ac a wnewch chi ymuno â mi i godi pryderon am effaith y tanau gwyllt hyn ar natur, a'r effaith y gall esgeulustod neu hyd yn oed weithredu uniongyrchol ei achosi? Diolch.

Well, thanks very much, Carolyn. I think we're all concerned to see the large number of grassland fires—several significant ones in north Wales. At this time of year, the risk is particularly high if the weather is dry, as was the case for most of March, and what happens is that the upland vegetation is highly combustible just before it's replaced by the new season growth from about May onwards. And this also marks the end of the season during which landowners are permitted to undertake controlled burning, to clear the land for other use. So, those are the reasons why, at this time of year. Now, the good news is that, actually, in 2023-34, reported grass fires were the lowest on record—58 per cent lower than in the past 10 years. So, I think that that's an outstanding achievement when it comes to reducing the number of fires.75

Wel, diolch yn fawr iawn, Carolyn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn pryderu o weld y nifer fawr o danau glaswelltir—sawl un sylweddol yn y gogledd. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'r risg yn arbennig o uchel os yw'r tywydd yn sych, fel yr oedd yn wir yn ystod y rhan fwyaf o fis Mawrth, a'r hyn sy'n digwydd yw bod llystyfiant yr ucheldir yn hynod losgadwy ychydig cyn iddo gael ei ddisodli gan dwf tymor newydd o tua mis Mai ymlaen. Ac mae hyn hefyd yn nodi diwedd y tymor pan ganiateir i berchnogion tir ymgymryd â llosgi wedi'i reoli, i glirio'r tir at ddefnydd arall. Felly, dyna'r rhesymau pam, ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Nawr, y newyddion da yw, mewn gwirionedd, yn 2023-34, y tanau glaswellt a adroddwyd oedd yr isaf a gofnodwyd—58 y cant yn is nag yn y 10 mlynedd diwethaf. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n gyflawniad rhagorol o ran lleihau nifer y tanau.

Last week, there were over 20 wildfire incidents across Conwy, Denbighshire and Gwynedd. One in Corwen led to the Natural Resources Wales helicopter delivering 1,200 litres of water to fire and rescue services, and that was the first time it's ever been deployed. I would like to thank all active common land farmers for the invaluable contribution they make to the management of our uplands. Active common land farming and grazing does in fact reduce the risk of wildfires. However, the tradition is in decline. More than 56 per cent of registered grazing rights have been abandoned since 1965. A common land association in my constituency has seen active graziers decline from 48 members to 21. The sustainable farming scheme now is set to see all individuals with common land rights eligible for financial support—even whether they graze, even whether they're active not, still being able to take resources.76

I'd like to also put on record my thanks to those emergency responders, because, as, Carolyn, you've rightly pointed out, it's pretty scary when you see the acreage that's going on fire at the moment. Do you agree with me, First Minister, that farmers, in particular, who do use their common land grazing rights should be entitled to support through the new scheme, and also what resources will you provide to our hard-working fire crews, who really cannot keep coming to the rescue at all times? Now, we're going to be seeing more of these wildfires, if you read the reports from our fire services. So, I think they really do need some extra resource to help with that. Diolch yn fawr.77

Yr wythnos ddiwethaf, bu dros 20 o ddigwyddiadau tanau gwyllt ar draws Conwy, sir Ddinbych a Gwynedd. Arweiniodd un yng Nghorwen i hofrennydd Cyfoeth Naturiol Cymru ddanfon 1,200 litr o ddŵr i wasanaethau tân ac achub, a dyna'r tro cyntaf erioed iddo gael ei ddefnyddio. Hoffwn ddiolch i'r holl ffermwyr tir comin gweithredol am y cyfraniad hynod werthfawr y maen nhw'n ei wneud i reoli ein hucheldiroedd. Mae ffermio tir comin gweithredol a phori wir yn lleihau'r risg o danau gwyllt. Fodd bynnag, mae'r traddodiad yn dirywio. Ildiwyd mwy na 56 y cant o hawliau pori cofrestredig ers 1965. Mae cymdeithas tir comin yn fy etholaeth wedi gweld gostyngiad i borwyr gweithredol o 48 aelod i 21. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy bellach ar fin golygu bod pob unigolyn sydd â hawliau tir comin yn gymwys i gael cymorth ariannol—hyd yn oed pa un a ydyn nhw'n pori, hyd yn oed pa un a ydyn nhw'n weithredol ai peidio, yn dal i allu cymryd adnoddau.

Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r ymatebwyr brys hynny, oherwydd, fel y gwnaethoch chi nodi'n briodol, Carolyn, mae'n eithaf brawychus pan welwch chi nifer yr erwau sy'n mynd ar dân ar hyn o bryd. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, y dylai ffermwyr, yn arbennig, sy'n defnyddio eu hawliau pori tir comin fod â hawl i gael cymorth drwy'r cynllun newydd, a hefyd pa adnoddau wnewch chi eu darparu i'n criwiau tân gweithgar, na allan nhw mewn gwirionedd barhau i gynnig achubiaeth drwy'r amser? Nawr, rydym ni'n mynd i fod yn gweld mwy o'r tanau gwyllt hyn, os darllenwch chi'r adroddiadau gan ein gwasanaethau tân. Felly, rwy'n credu eu bod nhw wir angen rhywfaint o adnoddau ychwanegol i helpu gyda hynny. Diolch yn fawr.

14:15

Well, thanks very much, and I know that the Deputy First Minister is particularly proud of the fact that the SFS will be extended to include those on common land, so that is, I think, a big win. I think it's also worth setting out that controlled burning is something that is accepted as something that is legitimate during a permitted season, but it's got to be done in a planned way, and landowners have to inform the fire and rescue services before burning happens. Now, firefighters are extensively trained and they're fully equipped to tackle wildfires effectively. Our formal arrangements for strategic planning are, I think, clearly bearing fruit.78

So, any additional resources: well, you might have had some if you had voted for the budget, but, as it happens, you didn't. [Interruption.] You say this, but it's true; £4 billion you voted against. You can't keep asking for more money after you've just voted down the opportunity of getting £4 billion extra.79

Wel, diolch yn fawr, ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog yn arbennig o falch o'r ffaith y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei ymestyn i gynnwys y rhai hynny sydd ar dir comin, felly mae honno'n fuddugoliaeth fawr, yn fy marn i. Rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi hefyd fod llosgi dan reolaeth yn rhywbeth a dderbynnir sy'n gyfreithlon yn ystod tymor pan ganiateir hynny, ond mae'n rhaid ei wneud mewn ffordd a gynllunnir, ac mae'n rhaid i dirfeddianwyr roi gwybod i'r gwasanaethau tân ac achub cyn i'r llosgi ddigwydd. Nawr, mae diffoddwyr tân wedi cael hyfforddiant eang ac mae'r offer i gyd ganddyn nhw ar gyfer taclo tanau gwyllt yn effeithiol. Mae ein trefniadau ffurfiol ni ar gyfer cynllunio strategol, rwy'n credu, yn dwyn ffrwyth yn amlwg.

Felly, unrhyw adnoddau ychwanegol: wel, efallai y byddech wedi cael rhai ohonyn nhw pe byddech chi wedi pleidleisio dros y gyllideb, ond, fel mae'n digwydd, wnaethoch chi ddim. [Torri ar draws.] Rydych chi'n dweud hyn, ond mae'n wir; fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn £4 biliwn. Allwch chi ddim cadw gofyn am fwy o arian ar ôl i chi bleidleisio yn erbyn cyfle i gael £4 biliwn yn ychwanegol.

Dwi eisiau ategu lot o beth roedd Janet Finch-Saunders yn ei ddweud yn fanna, a diolch i’r gweithlu sydd wedi bod yn gweithio. Hwyrach y dylwn i ddatgan budd, oherwydd roedd yna dân mawr y tu ôl i’m nhŷ i. Roedd yr awyr yn goch yn y nos, ac rydym ni wedi cael nifer fawr o danau yn Nwyfor a Meirionnydd—Llwyngwril, Abersoch, Trawsfynydd, Islaw'r-dref a'r Bala ac yn y blaen. Y gwir ydy bod gennym ormod o dyfiant ar lot o’n hucheldiroedd ni erbyn hyn—tyfiant sych sydd wedi cynnig ei hun yn berffaith ar gyfer yr amgylchiadau yma, efo gormod o eithin, gormod o rug a llus a gwair sych. Ac ar ben hynny, does gennym ni ddim digon o dda byw ar ein hucheldiroedd er mwyn pori’r tir yna, er mwyn medru rheoli'r tir. Mae hyn felly yn dangos y perig o adael i dyfiant fynd yn wyllt, a hynny, wrth gwrs, ydy canlyniad ailwylltio. Ydych chi, felly, yn derbyn bod yn rhaid inni gael system rheoli tir, ac nad ailwylltio ydy'r ateb i hynny?80

I want to echo much of what Janet Finch-Saunders said there, and to thank the workforce who have been working. Perhaps I should declare an interest, because there was a major fire behind my home. The sky was red at night, and we've had a number of fires in Dwyfor and Meirionnydd—Llwyngwril, Abersoch, Trawsfynydd, Islaw'r-dref, Bala and so on. The fact of the matter is that we have too much growth on much of our highland areas, upland areas—dry growth, which is lends itself perfectly to these circumstances, with too much vegetation and dry grass. And in addition to that, we don't have enough cattle on our uplands to graze that land, and sheep too, in order to manage that land. So, this shows the danger of allowing things to grow wild, and that is the result of rewilding. So, would you accept, therefore, that we do have to have a land management system, and that rewilding isn't the solution to that?

Wel, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni sicrhau bod y peth sy’n bwysig yw bod yna reolaeth, a dyna’r peth pwysicaf, ein bod ni'n gwybod beth sy’n digwydd ble, ac, er mwyn gwneud hynny, beth sydd gyda ni yw partneriaeth ffurfiol mewn lle rhwng yr heddlu, y FRS, NRW, y Met Office, y parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, ac mae'r rheini i gyd yn cydweithio i sicrhau eu bod nhw yn edrych ar sut i stopio'r pethau yma rhag digwydd.81

Well, I think that we have to ensure is that what's important is that there is management, and that's the most important thing, that we know what's happening where, and, in order to do that, what we have is a formal partnership in place between the police, the FRS, NRW, the Met Office, the national parks and the Welsh Government, and they all co-operate to ensure that they're looking at how to stop these things from happening.

Canlyniadau Iechyd yn Nwyrain De Cymru
Health Outcomes in South Wales East

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd yn Nwyrain De Cymru? OQ62549

6. What is the Welsh Government doing to improve health outcomes in South Wales East? OQ62549

Improving health outcomes, as well as reducing waiting times, are priorities for this Government. We've allocated just over £57 million of additional funding this year to support Aneurin Bevan University Health Board to deliver high-quality, safe and timely care to their residents.82

Mae gwella canlyniadau iechyd, yn ogystal â byrhau amseroedd aros, yn flaenoriaethau i'r Llywodraeth hon. Fe  wnaethom ni ddyrannu ychydig dros £57 miliwn o gyllid ychwanegol eleni i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy'n ddiogel ac amserol i'w trigolion.

Thank you, First Minister. I want to share a horrific experience from one of my constituents and what they had to endure when trying to get medical attention. My constituent's mother had a nasty fall at home and sustained some injuries. The family called for an ambulance and was told there would be a 14-hour wait. Following advice from 111, the family were told to move her onto the settee and keep an eye on her condition whilst they waited for a doctor to arrive. The following day, after her spending a night on the sofa, the doctor phoned to say he wouldn't be visiting, as his shift had finished, and, instead, told my constituent to take his mother to the Royal Gwent. As it was impossible for my constituent to lift his 98-year-old mother and carry her to the car, she remained on the settee.83

Two days later, my constituent's mother's condition deteriorated and an ambulance arrived to take the patient to the Grange hospital, where she faced a nine-and-a-half-hour wait in an ambulance before being admitted. She was then transferred to the Royal Gwent, and one afternoon, as my constituent was parking his car at the hospital, the doctor called him to tell him to make his way to the hospital as soon as possible as his mother did not have long to live. After entering the hospital, he was told, in fact, that his mother had died two hours prior. First Minister, I appreciate this is a lot to unpack, but this really isn't acceptable, and I'm not having a dig at our fantastic healthcare staff at all, but I'd like to know what is the Welsh Government doing to stop truly upsetting and unacceptable incidents like this from ever happening again in the future. Thank you.84

Diolch i chi, Prif Weinidog. Fe hoffwn i rannu gyda chi brofiad dychrynllyd a gafodd un o fy hetholwyr i a'r hyn y bu'n rhaid ei ddioddef wrth geisio cael sylw meddygol. Fe gafodd mam fy etholwr godwm cas yn ei chartref a chafodd rai anafiadau. Fe alwodd y teulu am ambiwlans ac fe ddywedwyd wrthyn nhw y byddai'n rhaid aros am 14 awr. Yn dilyn cyngor gan 111, fe ddywedwyd wrth y teulu am ei symud hi i'r soffa a chadw llygad ar ei chyflwr wrth iddyn nhw aros i'r meddyg gyrraedd. Drannoeth, wedi iddi dreulio noson ar y soffa, ffoniodd y meddyg i ddweud na fyddai'n ymweld, oherwydd bod ei shifft wedi dod i ben, ac yn hytrach, dywedodd wrth fy etholwr i fynd â'i fam i Ysbyty Brenhinol Gwent. Gan nad oedd hi'n bosibl i fy etholwr godi ei fam 98 oed a'i chario hi i'r car, arhosodd hi ar y soffa.

Dau ddiwrnod wedi hynny, roedd cyflwr mam fy etholwr wedi dirywio ac fe gyrhaeddodd ambiwlans i fynd â'r claf i ysbyty'r Faenor, lle bu'n aros am naw awr a hanner mewn ambiwlans cyn cael ei derbyn. Yna fe gafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Brenhinol Gwent, ac un prynhawn, wrth i fy etholwr barcio ei gar wrth yr ysbyty, ffoniodd y meddyg e ar ei ffôn a dweud wrtho am wneud ei ffordd i'r ysbyty cyn gynted â phosibl am fod ei fam ar fin marw. Wedi iddo fynd i mewn i'r ysbyty, fe ddywedwyd wrtho fod ei fam wedi marw ddwy awr ynghynt, mewn gwirionedd. Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o fanylion yma i'w deall ond dydy hyn ddim yn dderbyniol o gwbl, a dydw i ddim yn beirniadu ein staff gofal iechyd gwych o gwbl, ond fe hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal digwyddiadau gwirioneddol ofidus ac annerbyniol fel hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol. Diolch i chi.

14:20

Well, that sounds like an absolutely dreadful experience, and that is not good enough. That is absolutely not good enough. What I can tell you is that additional funding has been given to the health board to try and tackle some of these issues. I know that the health Secretary is undertaking a review of the amber category in relation to the Welsh ambulance service at the moment. Also, as a Government, there has been £14 million additional capital investment to improve and support the expansion of the Grange emergency department, and that will double the current wait capacity. But that is simply not good enough.85

I think it's probably worth saying that there are some great things happening, though, in Aneurin Bevan, that there are hundreds of thousands of people who are getting a good-quality service every day, and it's probably worth just emphasising that the two-year waits are down by nearly 30 per cent, and they're on track to eliminate 104 weeks in all but three specialities by today.86

Wel, mae hwnnw'n swnio fel profiad cwbl frawychus, ac nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw hynny'n ddigon da, yn sicr. Yr hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw y rhoddwyd cyllid ychwanegol i'r bwrdd iechyd i geisio mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd iechyd yn cynnal adolygiad o'r categori ambr o ran gwasanaeth ambiwlans Cymru ar hyn o bryd. Hefyd, o ran y Llywodraeth, rhoddwyd £14 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol i wella a chefnogi ehangu adran frys y Faenor, ac fe fydd hynny'n dyblu'r capasiti presennol ar gyfer aros. Ond nid yw hynny'n ddigon da o gwbl.

Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud bod rhai pethau gwych yn digwydd, serch hynny, yn Aneurin Bevan, sef fod cannoedd o filoedd o bobl yn cael gwasanaeth o ansawdd da bob dydd, ac mae'n debyg ei bod hi'n werth pwysleisio bod y cyfnodau aros o ddwy flynedd wedi gostwng bron i 30 y cant, ac maen nhw ar y trywydd iawn i ddiddymu cyfnodau aros o 104 wythnos ym mhob un ond tri o'r arbenigeddau erbyn heddiw.

Blaenoriaethau Trafnidiaeth ar gyfer Delyn
Transport Priorities for Delyn

7. Beth yw blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Delyn? OQ62583

7. What are the Welsh Government's transport priorities for Delyn? OQ62583

'Llwybr Newydd', our transport strategy, sets out our vision and priorities for transport in Wales, including Delyn. Our national transport delivery plan, plus the regional transport plans being developed by corporate joint committees, will set out how it will be delivered.87

Mae 'Llwybr Newydd', ein strategaeth trafnidiaeth, yn nodi ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, sy'n cynnwys Delyn. Fe fydd ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, ynghyd â'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n cael eu datblygu gan gyd-bwyllgorau corfforedig, yn nodi sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni.

Thank you for that response, First Minister. When it comes to the road network, investment in improvement needs to be about the right roads and the right places, to look to future solutions and not fall back on past proposals. The draft north Wales regional transport plan is out for consultation until 14 April, and buried away in the plan is what looks like an attempt to resurrect the so-called red route. When this proposal was previously on the table, I raised concerns about it, including inadequacies with the consultation process; it started life as the Deeside corridor proposals, when the red route itself most impacted communities outside of the Deeside area. Indeed, back in 2017, I said in this Siambr that I was more than happy to offer Cardiff Bay's officials a crash course on the respective communities of north-east Wales and Flintshire. But, in all seriousness, though, there was strong opposition to the proposals from communities in my constituency. Of course, we all recognise that we need improvements to the A55 and the A494, some of which I've raised in here previously, but recycling the red route is not the answer; it is environmentally, economically and politically illiterate.88

I'll be encouraging people in my constituency to have their say as part of the consultation, and I will certainly make representations on this, alongside, of course, investment in our public transport infrastructure as well. So, First Minister, do you agree that it should be made as accessible as possible for citizens to have their say on any transport proposals, and, as part of your Government's commitment to connecting communities, do you share my view that we need to focus on improving existing road infrastructure and looking to seek innovative solutions that serve both people and places? Diolch.89

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Prif Weinidog. O ran y rhwydwaith ffyrdd, mae angen i fuddsoddiad mewn gwelliant ymdrin â'r ffyrdd priodol a'r mannau priodol, i edrych tuag at atebion i'r dyfodol a pheidio â syrthio yn ôl ar gynigion y gorffennol. Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft ar gyfer y gogledd allan ar gyfer ymgynghoriad tan 14 o Ebrill, ac wedi ei gladdu yn y cynllun mae'r hyn sy'n ymddangos fel ymgais i atgyfodi'r llwybr coch fel y'i gelwir. Pan oedd y cynnig hwn ar y bwrdd yn flaenorol, fe godais i bryderon yn ei gylch, gan gynnwys annigonolrwydd o ran y broses ymgynghori; fe ddechreuodd fel cynigion ar gyfer coridor Glannau Dyfrdwy, pan oedd y llwybr coch ei hun yn effeithio fwyaf ar gymunedau y tu allan i ardal Glannau Dyfrdwy. Yn wir, yn ôl yn 2017, fe ddywedais i yn y Siambr hon fy mod i'n fwy na hapus i gynnig cwrs carlam i swyddogion Bae Caerdydd ar gymunedau'r gogledd-ddwyrain a sir y Fflint. Ond, i fod yn ddifrifol, er hynny, roedd yna wrthwynebiad cryf i'r cynigion gan gymunedau yn fy etholaeth i. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn cydnabod bod angen gwelliannau i'r A55 a'r A494, rwyf i wedi codi rhain ohonynt yn y fan hon o'r blaen, ond nid ailgylchu'r llwybr coch yw'r ateb; mae'n anllythrennog yn amgylcheddol, yn economaidd, ac yn wleidyddol.

Fe fyddaf i'n annog pobl yn fy etholaeth i i ddweud eu dweud yn rhan o'r ymgynghoriad, ac yn sicr fe fyddaf i'n gwneud sylwadau ar hyn, ochr yn ochr, wrth gwrs, â buddsoddiad yn ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno y dylid ei gwneud hi mor hygyrch â phosibl i ddinasyddion ddweud eu dweud ar unrhyw gynigion ynglŷn â thrafnidiaeth, ac, yn rhan o ymrwymiad eich Llywodraeth chi i gysylltu cymunedau, a ydych chi o'r un farn â mi ynglŷn â'r angen i ni ganolbwyntio ar wella'r seilwaith ffyrdd presennol a chwilio am atebion arloesol a fydd o wasanaeth i bobl a lleoedd? Diolch.

Thanks. I think it's absolutely right that local people should have a say on what their regional transport plan looks like, and my understanding is that that is currently out to consultation. What's good about that is that it's trying to bring all the local authorities together, because the fact is roads just don't stop at one local authority and start in another. So, that regional approach, I think, makes a difference.90

What is important is that we get all of these things right. We are in favour of trying to get more people ionto public transport. That's why I was really delighted to see that the bus Bill was brought forward yesterday, and we hope that that will be transformational when it comes to how we organise buses in future. That is something that I think we should be really proud of, as well as the fact that we are seeing 87 per cent of services in north Wales now being operated on new trains, following our massive investment in rolling stock.91

Diolch. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl gywir y dylai pobl leol gael dweud eu dweud ar eu cynllun trafnidiaeth ranbarthol, a fy nealltwriaeth i yw ei fod allan i ymgynghoriad ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n dda am hynny yw ei fod yn ceisio dod â'r holl awdurdodau lleol at ei gilydd, oherwydd y gwir amdani yw nad yw ffyrdd yn gorffen mewn un awdurdod lleol ac yn dechrau mewn un arall. Felly, mae'r dull rhanbarthol hwnnw, yn fy marn i, yn gwneud gwahaniaeth.

Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n gwneud yr holl bethau hyn yn iawn. Rydyn ni o blaid ceisio denu mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Dyna pam roeddwn i'n falch iawn o weld y Bil Bysiau yn cael ei gyflwyno ddoe, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n drawsnewidiol o ran sut y byddwn ni'n trefnu bysiau yn y dyfodol. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn falch iawn ohono, yn ogystal â'r ffaith ein bod ni'n gweld 87 y cant o wasanaethau yn y gogledd yn cael eu gweithredu ar drenau newydd nawr, yn dilyn ein buddsoddiad enfawr ni mewn cerbydau rheilffyrdd.

14:25
Datganoli Pwerau dros Ystad y Goron
Devolution of Powers over the Crown Estate

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt y Llywodraeth ar ddatganoli pwerau dros Ystâd y Goron i Gymru? OQ62585

8. Will the First Minister provide an update on the Government’s position on the devolution of powers over the Crown Estate to Wales? OQ62585

Ein safbwynt ni ers tro byd yw y dylai Ystad y Goron gael ei datganoli i Gymru, fel mae gwahanol gomisiynau annibynnol wedi argymell. Rŷn ni’n parhau i gael deialog agored ac adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe fyddwn ni’n dal ati i gyflwyno’r achos.92

Our long-standing position is that the Crown Estate should be devolved to Wales, as various independent commissions have recommended. We continue to have an open, constructive and ongoing dialogue with the UK Government, and we will continue to make the case.

Wel, mae yna gonsensws Gymru gyfan bron iawn erbyn hyn, onid oes, o blaid datganoli Ystad y Goron i Gymru, a hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod 18 o'r 22 awdurdod lleol wedi cefnogi'r alwad i ddatganoli—19 os ŷch chi'n cynnwys Cyngor Caerdydd, wrth gwrs, sydd wedi cefnogi egwyddor y cynnig. Mae polau piniwn yn dangos bod 75 y cant o bobl Cymru yn cefnogi datganoli Ystad y Goron. Rŷch chi wedi cadarnhau ei fod e'n bolisi ar Lywodraeth Cymru. Mae o leiaf tair o'r pedair plaid yn y Senedd yma'n cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru. Yr unig rai sydd yn erbyn, erbyn hyn, wrth gwrs, yw'r Ceidwadwyr ac Aelodau Seneddol eich plaid chi, y Blaid Lafur, yn Llundain. Ydych chi, felly, yn cytuno â mi ei fod e'n hen bryd i'ch cyd-Aelodau Llafur chi yn San Steffan ddechrau gwrando, darllen yr ystafell a rhoi pobl Cymru yn gyntaf?93

Well, there is a Wales-wide consensus almost now in favour of the devolution of the Crown Estate to Wales, and that's reflected in the fact that 18 of the 22 local authorities have supported the call to devolve—19 if you include Cardiff Council, which supported the proposal in principle. Opinion polls show that 75 per cent of people in Wales support the devolution of the Crown Estate. You have confirmed that it is the Welsh Government's policy. At least three of the four parties in this Senedd support the devolution of the Crown Estate to Wales. The only ones who oppose now, of course, are the Conservatives and MPs of your own Labour Party in London. Do you, therefore, agree with me that it is about time that your fellow Labour Members in Westminster started listening, read the room and put the people of Wales first?

Wel, gallan nhw siarad dros eu hunain; dwi'n mynd i siarad dros fy mhlaid i yn y Senedd yma, ac a gaf fi ei gwneud hi'n hollol glir ein bod ni yn cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru?94

Well, they can speak for themselves; I'm going to speak for my party in the Senedd, and can I make it entirely clear that we do support the devolution of the Crown Estate to Wales?

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.96

The next item will be the business statement and announcement. I call on the Trefnydd to make that statement—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:27:18
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae dadl yfory ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru wedi ei gohirio. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig.97

Thank you, Llywydd. There is one change to this week's business. Tomorrow's debate on the report of the Wales COVID-19 Inquiry Special Purpose Committee has been postponed. The business for the next three weeks is set out in the business statement, which is available to Members electronically.

Trefnydd, I'd like to request a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care regarding ophthalmology waiting times across Wales. In my own local health board area, the average waiting time for a first ophthalmology out-patient appointment is 22 weeks, and the average waiting time for someone to actually start treatment is, indeed, 36 weeks. More worryingly, around 10 per cent of patients in the health board area are waiting 85 weeks or more to start treatment following their referral being received by the hospital. Now, I'm sure that you'll agree with me that these waits are unacceptable and that some patients are at risk of losing their sight while waiting for treatment. Therefore, I'd be grateful if we could have a statement from the Welsh Government on how it's helping health boards across Wales to address waiting times for ophthalmology, so that we can learn more about how this issue is being prioritised and so patients can understand what is being done to minimise their waits for treatment.98

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag amseroedd aros offthalmoleg ledled Cymru. Yn fy ardal bwrdd iechyd lleol i, yr amser aros cyfartalog ar gyfer yr apwyntiad cyntaf i gleifion offthalmoleg allanol yw 22 wythnos, a'r amser aros cyfartalog i rywun ddechrau triniaeth mewn gwirionedd yw 36 wythnos, yn wir. Yn fwy pryderus, mae tua 10 y cant o gleifion yn ardal y bwrdd iechyd yn aros am 85 wythnos neu ragor i ddechrau triniaeth ar ôl i'r ysbyty gael yr atgyfeiriad. Nawr, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi fod y cyfnod aros hwn yn annerbyniol ac mae rhai cleifion mewn perygl o golli eu golwg tra eu bod nhw'n disgwyl am driniaeth. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y mae'n cynorthwyo byrddau iechyd ledled Cymru i fynd i'r afael ag amseroedd aros ar gyfer offthalmoleg, i ni gael dysgu mwy am y flaenoriaeth a roddir i'r mater hwn ac i'r cleifion gael deall pa bethau sy'n cael eu gwneud i fyrhau'r cyfnodau y maen nhw'n aros am driniaeth.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Clearly, this is an area where action is being taken in terms of tackling waiting times, and ophthalmology is crucially important. Of course, in Wales, we do have that eye care initiative, which enables optometrists to play a key role in engaging and then referring for secondary care. But this is an issue that I will, of course, draw to the attention of the Cabinet Secretary for Health and Social Care in terms of your question in your region, which, of course, is Hywel Dda. And I'm sure that you will be raising this with them, as it's their responsibility.99

Diolch yn fawr, Paul Davies. Yn amlwg, mae hwn yn faes lle mae camau yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros, ac mae offthalmoleg yn hanfodol bwysig. Wrth gwrs, yng Nghymru, mae'r fenter gofal llygaid honno gennym ni, sy'n caniatáu i optometryddion fod â rhan allweddol wrth ymgysylltu a chyfeirio at ofal eilaidd wedyn. Ond mae hwn yn fater y byddaf i, wrth gwrs, yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ato o ran eich cwestiwn chi ynglŷn â'r sefyllfa yn eich rhanbarth chi, sef, wrth gwrs, Hywel Dda. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi hyn gyda nhw, gan mai eu cyfrifoldeb nhw ydyw hyn.

Trefnydd, rydym ni newydd glywed nifer fawr o Aelodau yn codi cwestiynau ynglŷn â thannau gwyllt; mae o'n rhywbeth sydd wedi effeithio ar nifer o ardaloedd, gan gynnwys fy rhanbarth i. Dwi'n nodi atebion y Prif Weinidog, ond, mewn amryw achosion, o ran rheoli'r tannau, nid ffermwyr sydd yn gyfrifol am hyn, ac mae'r rheswm yn ansicr dros ben. Buaswn i'n hoffi gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd, yn benodol o ran y tannau sydd yn agos at rai o'r tipiau glo i roi sicrwydd nad oes yna unrhyw ansefydlogi wedi bod. Yn amlwg, mae hwn yn rhywbeth sy’n bryderus dros ben i drigolion yn yr ardaloedd hyn, ac mi fyddwn i yn hoffi eglurder gan y Llywodraeth o ran sut maen nhw’n cydweithio efo’r gwasanaeth tân i sicrhau nad oes yna unrhyw ansefydlogi wedi bod.100

Trefnydd, we've just heard a number of Members raising questions on wildfires and it's something that has affected a number of areas, including my own region. I note the First Minister's responses, but, in many cases, in terms of fire management, it is not farmers who are responsible for this, and the reason is unknown. I would like to ask for a statement from the Cabinet Secretary for climate change, specifically in terms of the fires close to coal tips, to give an assurance that there has been no destabilisation. Obviously, this is very concerning for residents in those areas, and I would like some clarity from the Government as to how they are working with the fire service to ensure that there has been no destabilisation of these tips.

14:30

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. And it’s really important that we look at this in terms of the South Wales Fire and Rescue Service particularly, but across Wales, in terms of fires close to coal tips. I will raise this, of course, with the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs.101

Clearly, this is something where, again, we’ve acknowledged the role and the courage of the South Wales Fire and Rescue Service, and all emergency services, but what’s important is the communities, and community cohesion, engagement and safety and security, and, of course, the role of local authorities as well. So, it’s an important point that’s been raised this afternoon, which I’m sure we can clarify.102

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Ac mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried hyn yn arbennig o ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ond ledled Cymru hefyd, o ran tanau ar bwys tomenni glo. Fe fyddaf i'n codi hyn, wrth gwrs, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Yn amlwg, mae hwn yn rhywbeth, unwaith eto, y gwnaethom ni gydnabod gwaith a dewrder Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a'r holl wasanaethau brys, ond yr hyn sy'n bwysig yw'r cymunedau, a chydlyniant cymunedol, ymgysylltiad a diogelwch a sicrwydd, a gwaith yr awdurdodau lleol hefyd, wrth gwrs. Felly, mae'n bwynt pwysig sydd wedi ei godi yma'r prynhawn yma, yr wyf i'n siŵr y gallwn ni daflu goleuni arno.

Can I call for a statement from an appropriate Welsh Government Minister in respect of the use of drones in Wales? Many people find drones to be a nuisance, particularly when they invade their privacy in their back gardens and the like. But I had a concerning report from Ruthin this week about drones that appeared to be hovering in and around two local schools in the town. Clearly, that is inappropriate. I don’t know why that was happening, or who was operating the drone, but we do need some clear guidance on drone nuisance, and the impact that it has, both on schoolchildren, and their privacy and safety, but also on homeowners and local residents across the country. And I think it’s about time that the Government works together in order to address this problem in order that it doesn’t become more of a nuisance in the future.103

A gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog priodol yn Llywodraeth Cymru o ran defnyddio dronau yng Nghymru? Mae llawer o bobl yn ystyried bod dronau yn achosi niwsans, yn enwedig pan fyddan nhw'n ymosod ar breifatrwydd pobl yn eu gerddi cefn ac yn y blaen. Ond fe gefais i adroddiad pryderus o Ruthun yr wythnos hon am dronau a oedd yn ymddangos fel pe bydden nhw'n hofran uwchben tir ac o gwmpas dwy ysgol leol yn y dref. Yn amlwg, mae hynny'n amhriodol. Nid wyf i'n gwybod pam mae hynny'n digwydd, na phwy oedd yn cyfeirio'r drôn, ond mae angen canllawiau clir arnom ni ar niwsans dronau, a'r effaith a gaiff hynny ar blant ysgol, a'u preifatrwydd a'u diogelwch nhw, ond ar berchnogion tai a thrigolion lleol ledled y wlad hefyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd i'r Llywodraeth weithio ar y cyd i fynd i'r afael â'r broblem hon fel nad yw'n dod yn fwy o niwsans yn y dyfodol.

Diolch yn fawr, Darren Millar. This is an important issue, which, in terms of responsibility, we’d have to look into. I am chairing the policing partnership board tomorrow morning, and this is the sort of issue that I’m sure would be brought to their attention. But thank you for raising this today, and particularly in relation to your concerns as it appeared to be near a school. They are used for commercial reasons, we know. They’re used for all sorts of surveillance, planning, et cetera. But there are obviously concerns about their use, and I think it’s very helpful that you’ve raised it, as I’m meeting with our police colleagues, particularly, tomorrow morning.104

Diolch yn fawr, Darren Millar. Mae hwn yn fater pwysig y byddai'n rhaid i ni, o ran y cyfrifoldebau, ei ystyried yn ofalus. Fe fyddaf i'n cadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona bore fory, ac mae hwn y math o fater yr wyf i'n siŵr a fyddai'n cael ei ddwyn i'w sylw nhw. Ond diolch i chi am godi hyn heddiw, ac yn enwedig o ran eich pryderon chi oherwydd ymddangosiad drôn gerllaw ysgol. Maen nhw'n cael eu defnyddio am resymau masnachol, fe wyddom ni. Maen nhw'n cael eu defnyddio ar gyfer pob math o wyliadwriaeth, cynllunio, ac ati. Ond mae hi'n amlwg bod pryderon ynglŷn â'u defnydd nhw, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda o beth eich bod chi wedi codi hyn, yn enwedig felly gan y byddaf i'n cwrdd â'n cydweithwyr ni yn yr heddlu bore fory.

I call for a Government debate, please, about how we can change planning systems. The planning system we have doesn’t work for residents; it works for large developers.105

In recent weeks, I’ve been contacted by constituents in Gelligaer, Trethomas and Abercarn, all expressing frustration and anger about how impenetrable the planning system is. Some concerns about small, local decisions; others about developments of national significance. But there are common points in what each of them has said about decisions made by planning committees where only one resident is allowed to speak, or decisions that never make it to committee, or how exclusionary the language is that’s used in these complex, technical documents. How are we meant to get planning decisions that work for our communities if residents find it so difficult to engage in the process? And how can it be fair that, when decisions go against developers, they can appeal, but communities themselves cannot, when their lives will be disrupted by further developments?106

So, can we have a debate, please, to settle how these things can change, because it needs to happen?107

Rwy'n galw am ddadl gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â sut y gallwn ni newid systemau cynllunio. Nid yw'r system gynllunio sydd gennym ni'n gweithio ar gyfer trigolion; mae hi'n gweithio ar gyfer ddatblygwyr mawr.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae etholwyr yng Ngelligaer, Trethomas ac Abercarn wedi bod yn cysylltu â mi, pob un ohonyn nhw'n mynegi eu rhwystredigaeth a'u digofaint am fod y system gynllunio mor ddyrys. Roedd rhai pryderon ynglŷn â phenderfyniadau bychain, lleol; ac eraill ynglŷn â datblygiadau sydd ag arwyddocâd cenedlaethol. Ond fe geir rhai pwyntiau sy'n gyffredin yn yr hyn a ddywedodd pob un ohonyn nhw am benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan bwyllgorau cynllunio pryd nad oes dim ond un preswylydd yn cael siarad, neu benderfyniadau nad ydyn nhw fyth yn dod gerbron pwyllgor, neu pa mor anodd yw deall yr iaith sy'n cael ei defnyddio yn y dogfennau cymhleth, technegol hyn a bod hynny'n allgáu pobl. Sut fyddwn ni'n cael penderfyniadau cynllunio sy'n gweithio ar gyfer ein cymunedau ni os yw trigolion yn ei chael hi'n anodd cyfranogi yn y broses? A sut y gall hyn fod yn deg, sef pan fydd penderfyniadau yn mynd yn erbyn datblygwyr, fe gaiff y datblygwr apelio, ond ni all cymunedau eu hunain wneud felly, er mai eu bywydau nhw a fydd yn cael eu hamharu arnyn nhw gan ddatblygiadau pellach?

Felly, a gawn ni ddadl, os gwelwch chi'n dda, i sefydlu sut y gall y pethau hyn newid, oherwydd mae angen i hynny ddigwydd?

Well, these are issues for our local authorities, and, clearly, our local authorities with their planning powers and responsibilities, and their engagement and transparency with local people and those they represent, and indeed, of course, guided by policy planning guidelines from the Welsh Government.108

But this is something, obviously, you could raise with the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning—as I’m sure you have done—in her oral Senedd questions, or indeed you could consider this in terms of your opportunities to raise debates, as well, as a party, and as a Member. But, again, you’re on the record raising this as an issue in our communities.109

Wel, materion yw'r rhain i'n hawdurdodau lleol ni, ac, yn amlwg, i'n hawdurdodau lleol ni gyda'u pwerau a'u cyfrifoldebau nhw o ran cynllunio, a'u hymgysylltiad a'u tryloywder â phobl leol a'r rhai y maen nhw'n eu cynrychioli, ac yn wir, wrth gwrs, yn cael eu harwain gan ganllawiau cynllunio polisi Llywodraeth Cymru.

Ond mae hyn yn rhywbeth, yn amlwg, y gallech chi ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio—fel rwy'n siŵr eich bod wedi gwneud—yn ei chwestiynau llafar hi yn y Senedd, neu yn wir fe allech chi ystyried hyn o ran eich cyfleoedd chi i godi dadleuon, hefyd, fel plaid, ac fel Aelod. Ond, eto, rydych ar y cofnod yn codi'r mater hwn sy'n bodoli yn ein cymunedau ni.

Trefnydd, I’d like an urgent statement from the Cabinet Secretary for Education into the damning Estyn report on the education service in Powys County Council. The report highlighted what many parents and teachers have been telling me and others, that education in Powys, under the Liberal Democrats, is failing. The report highlighted political leadership as one of the failures in the report. What we're seeing is the council, led by the Lib Dems, running those services into the ground.110

So, can we please have an urgent statement on this matter? And do you not agree with me, Trefnydd, that the time has come to look at putting commissioners into Powys County Council, because it is clear that the Liberal Democrats are a party of protest, they're not a party for delivering for the people who I serve? I think it's about time that the Welsh Government grasped the mettle and actually stepped in and dealt with the Liberal Democrats in Powys once and for all.111

Trefnydd, fe hoffwn i gael datganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adroddiad damniol Estyn ar y gwasanaeth addysg yng Nghyngor Sir Powys. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at yr hyn y mae llawer o rieni ac athrawon wedi bod yn ei ddweud wrthyf i ac wrth eraill, sef fod addysg ym Mhowys, o dan y Democratiaid Rhyddfrydol, yn ddiffygiol. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at yr arweinyddiaeth wleidyddol yn un o'r diffygion yn yr adroddiad. Yr hyn a welwn ni yw'r cyngor, dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol, yn gadael i'r gwasanaethau hynny fynd i'r gwellt.

Felly, a gawn ni ddatganiad brys ar y mater hwn? Ac onid ydych chi'n cytuno â mi, Trefnydd, bod yr amser wedi dod i ystyried penodi comisiynwyr i Gyngor Sir Powys, oherwydd mae hi'n amlwg mai plaid brotest yw'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac nid plaid sy'n ceisio cyflawni er mwyn y bobl yr wyf i'n eu gwasanaethu? Rwyf i o'r farn ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru afael ynddi hi a chamu i mewn ac ymdrin â'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhowys unwaith ac am byth.

14:35

Thank you for your question. We're aware that the outcome of Estyn's recent inspection of Powys education service wasn't positive, and the local authority is being judged to be causing concern. This is a disappointing outcome. As you are aware, regular independent inspection of a local authority is a fundamental part of the accountability system, but also plays a major role in driving and directing improvements. So, Estyn has made, as you are aware, a number of recommendations. There now is a process to follow. The local authority will produce a post-inspection action plan, and set out how it intends to address the recommendations set out in the report. Estyn will undertake a series of monitoring visits to measure progress, and this is a fully transparent process. But senior officials of the Cabinet Secretary for Education, her officials are in regular contact with the leadership at Powys and Estyn, to ensure that the local authority also receives the support it needs to improve.112

Diolch i chi am eich cwestiwn. Rydyn ni'n ymwybodol nad oedd canlyniad arolygiad diweddar Estyn o wasanaeth addysg Powys yn gadarnhaol, a'r farn yw fod yr awdurdod lleol yn peri pryder. Mae hwn yn ganlyniad siomedig. Fel y gwyddoch chi, mae arolygiad annibynnol rheolaidd o awdurdod lleol yn rhan sylfaenol o'r gyfundrefn ar gyfer atebolrwydd, ond mae i hynny ran bwysig hefyd wrth ysgogi a chyfeirio gwelliannau. Felly, fe wnaeth Estyn nifer o argymhellion, fel y gwyddoch chi. Mae yna broses i'w dilyn nawr. Bydd yr awdurdod lleol yn cynhyrchu cynllun gweithredu wedi arolwg, ac yn nodi sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad. Bydd Estyn yn cynnal cyfres o ymweliadau monitro i fesur cynnydd, ac mae hon yn broses gwbl dryloyw. Ond mae uwch swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ei swyddogion hi mewn cysylltiad rheolaidd ag arweinyddiaeth Powys ac Estyn, i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cael y gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer gwelliant hefyd.

Trefnydd, can I request a statement from the Minister for culture in the Welsh Government, after the news that Bauer Media, who run Hits Radio in Swansea, decided to cease operations, closing broadcasting hubs right across the United Kingdom, including in Swansea, and now have condensed their so-called 'local' radio offer to four broadcasting hubs across the UK, in London, Manchester, Glasgow and Belfast—not one in Wales? Does the Welsh Government agree that that is a profoundly disappointing decision, not only for people across Wales, but particularly in Swansea, where Hits Radio was the spiritual successor to the legendary radio station, The Wave, which has served communities across Swansea for so many years, and it will be disappointing to see that the iconic studio in Swansea is being closed by Bauer as a result? So, can I ask for a statement from the Welsh Government on the future of local commercial radio in Wales?113

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Diwylliant yn Llywodraeth Cymru, ar ôl y newyddion fod Bauer Media, sy'n rhedeg gorsaf Hits Radio yn Abertawe, wedi penderfynu rhoi'r gorau i weithredu, a chau canolfannau darlledu ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yn Abertawe, ac maen nhw wedi talfyrru eu gorsafoedd radio 'lleol' fel y'u gelwir nhw i bedair canolfan ddarlledu ledled y DU, yn Llundain, Manceinion, Glasgow a Belfast—dim un yng Nghymru? A yw Llywodraeth Cymru yn cytuno mai penderfyniad hynod siomedig yw hwnnw, nid yn unig i bobl ledled Cymru, ond yn enwedig i bobl yn Abertawe, lle roedd Hits Radio wedi bod yn olynydd i orsaf radio chwedlonol The Wave a oedd yn rhoi gwasanaeth i gymunedau ledled Abertawe ers cymaint o flynyddoedd, ac fe fydd hi'n siomedig gweld y stiwdio eiconig yn Abertawe yn cael ei chau gan Bauer o ganlyniad i hyn? Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol radio masnachol lleol yng Nghymru?

Thank you for drawing this to our attention, Tom Giffard, in terms of our radio. Clearly, that is a decision taken by Bauer Media, and the independent broadcasting authority would have been aware of this issue as well. I'm just being aware of my own local radio station, very much community led in fact, as there are many across Wales. The Minister for Culture, Skills and Social Partnership, I'm sure, would be interested at some stage in reporting on how things are going in terms of community radio in Wales. But thank you for drawing this to our attention, because, obviously, community radio and access to radio is really important in terms of local news, information and entertainment.114

Diolch i chi am dynnu ein sylw ni at hyn, Tom Giffard, o ran radio lleol yng Nghymru. Yn amlwg, penderfyniad gan Bauer Media yw hwnnw, a byddai'r awdurdod darlledu annibynnol wedi bod yn ymwybodol o'r mater hwnnw hefyd. Dim ond newydd ddechrau bod yn ymwybodol o'r orsaf radio leol yn fy ardal i yr wyf i, sy'n cael ei harwain gan y gymuned mewn gwirionedd fel llawer un ledled Cymru. Fe fyddai'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, rwy'n siŵr, yn dymuno adrodd ryw dro ar y sefyllfa o ran radio cymunedol yng Nghymru. Ond diolch i chi am dynnu ein sylw ni at hyn, oherwydd, yn amlwg, mae radio cymunedol a mynediad at radio yn bwysig iawn o ran newyddion, gwybodaeth ac adloniant lleol.

I'd like to call for a statement from the Cabinet Secretary for Housing and Local Government regarding last week's decision by Denbighshire County Council to sell off its remaining leisure services to Denbighshire Leisure Ltd. Now, the first issue is that the decision was made behind closed doors, which I do take issue with—such large decisions not being subject to public scrutiny.115

But one of the comments that the managing director made was that no other council in Wales would be in a position to do what Denbighshire decided to do last week. Now, I'm wondering whether that's something that is successfully being done by Denbighshire, or is it Denbighshire doing something different to every other council in Wales. Because I'm trying to establish why any other council wouldn't be in the same position to do those things, and why leisure services couldn't be sold to an adjoining company to the council.116

From the Welsh Government, I'd like to establish details of the advice and guidance that the Welsh Government have offered to Denbighshire County Council regarding the establishment and oversight of this new leisure management company, and assurances that Denbighshire County Council will not continue paying for properties formerly owned by Denbighshire Leisure. This really is something that hasn’t been seen before, and my constituents are asking me questions to get to the bottom of what’s going on. As I said, the decisions were made behind closed doors, which has limited my priviness to this matter, hence why I’m raising that in the Senedd today.117

Fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ynglŷn â phenderfyniad Cyngor Sir Ddinbych wythnos diwethaf i werthu ei wasanaethau hamdden sydd ar ôl i Denbighshire Leisure Ltd. Nawr, y mater cyntaf yw i'r penderfyniad gael ei wneud y tu ôl i ddrysau caeedig, ac rwy'n anghytuno â hynny—nad yw penderfyniadau mawr fel hyn yn destun craffu cyhoeddus.

Ond un o'r sylwadau a wnaeth y rheolwr gyfarwyddwr oedd na fyddai unrhyw gyngor arall yng Nghymru mewn sefyllfa i wneud yr hyn y penderfynodd sir Ddinbych ei wneud yr wythnos diwethaf. Nawr, rwy'n meddwl tybed a yw hwnnw'n rhywbeth y mae sir Ddinbych yn ei wneud yn llwyddiannus, neu a yw sir Ddinbych yn gwneud rhywbeth mewn ffordd wahanol i bob cyngor arall yng Nghymru. Oherwydd rwy'n ceisio cadarnhau pam na fyddai unrhyw gyngor arall yn yr un sefyllfa i wneud y pethau hyn, a pham na ellid gwerthu gwasanaethau hamdden i gwmni cysylltiedig â'r cyngor.

Gan Lywodraeth Cymru, fe hoffwn i gael cadarnhad o fanylion y cyngor a'r canllawiau a gynigiodd Llywodraeth Cymru i Gyngor Sir Ddinbych ynglŷn â sefydlu a goruchwylio'r cwmni rheoli hamdden newydd hwn, a chael sicrwydd na fydd Cyngor Sir Ddinbych yn dal i dalu am adeiladau a oedd yn eiddo i Denbighshire Leisure yn flaenorol. Mae hyn yn rhywbeth na welwyd o'r blaen, ac mae fy etholwyr i'n gofyn cwestiynau i mi i ddeall yn iawn beth sy'n digwydd. Fel y dywedais i, fe gafodd y penderfyniadau eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig, sydd wedi cyfyngu ar faint rwy'n ei wybod am y mater hwn, a dyna pam rwy'n codi hynny yn y Senedd heddiw.

14:40

Thank you very much, Gareth Davies. Of course, this is a decision that was made by Denbighshire County Council, by democratically elected local councillors, who I’m sure will be the first point of call in terms of accountability for decisions made by the authority. Of course, there is monitoring governance as well for the authority, but this is a decision that has been made by that local authority.118

Diolch yn fawr iawn i chi, Gareth Davies. Wrth gwrs, penderfyniad yw hwn a wnaed gan Gyngor Sir Ddinbych, gan y cynghorwyr lleol a etholwyd yn ddemocrataidd, ac rwy'n siŵr mai yno fyddai'r gyrchfan gyntaf o ran ceisio atebolrwydd am benderfyniadau a wnaeth yr awdurdod. Wrth gwrs, mae llywodraethu'r awdurdod yn cael ei fonitro hefyd, ond penderfyniad yw hwn a gafodd ei wneud gan yr awdurdod lleol hwnnw.

Trefnydd, I’d like to call for a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care on parking capacity in Welsh hospitals. I’ve had frequent contact from residents in Wrexham about parking issues at Maelor Hospital, because of course people rightly expect adequate parking spaces when they’re visiting loved ones in hospital. The car park is often overflowing, causing distress, yes, for those visitors, but also for out-patients when they are attending appointments, and indeed for staff also. It’s causing issues on the surrounding streets around the hospital. There’s clearly a problem there with the capacity for visitors, out-patients and staff alike. I’ve written to the health board on this, and I’m sure there are similar issues across Wales, and indeed across north Wales as well. So, I’d appreciate, Trefnydd, an update on what action the Welsh Government is taking to support health boards in Wales to ensure there is enough capacity at car parks at hospitals, so people don’t have to go through the distress of trying to find a parking space when attending a hospital visit. Thank you.119

Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar le i barcio wrth ysbytai Cymru. Rwy'n clywed yn aml gan drigolion Wrecsam am broblemau parcio wrth Ysbyty Maelor, oherwydd wrth gwrs mae pobl yn iawn i ddisgwyl y bydd lle digonol ar gael i barcio pan fyddan nhw'n ymweld â'u hanwyliaid yn yr ysbyty. Mae'r maes parcio hwnnw'n orlawn yn aml, sy'n achosi gofid, ie, i'r ymwelwyr hynny, ond i gleifion allanol hefyd pan fyddan nhw'n mynd i'w hapwyntiadau, ac i'r staff hefyd, mewn gwirionedd. Mae hynny'n achosi problemau ar strydoedd cyfagos sydd o gwmpas yr ysbyty. Mae problem amlwg yno o ran lle i ymwelwyr, cleifion allanol a staff fel ei gilydd. Fe ysgrifennais i at y bwrdd iechyd ynglŷn â hyn, ac rwy'n siŵr bod materion tebyg yn bodoli ledled Cymru, ac yn wir ar draws y gogledd. Felly, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad, Trefnydd, ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nhw i gefnogi byrddau iechyd yng Nghymru wrth sicrhau bod digon o le mewn meysydd parcio wrth ysbytai, fel na fydd yn rhaid i bobl fynd trwy'r gofid o chwilio am le i barcio pan fyddan nhw'n ymweld ag ysbyty. Diolch i chi.

Thank you very much, Sam Rowlands, and you’ve taken the right action by writing to the health board about the issues and concerns that will have been raised with you about parking capacity. It hasn’t been drawn to our attention in terms of other hospital parking arrangements, although I’m aware that hospitals indeed in the capital city of Cardiff have also got other ways and means to enable people to come to hospitals, which sometimes can be easier by other means, such as public transport and park and ride. And, of course, it’s staff first in terms of being able to access hospitals. You’ve taken the right action by writing to the health board in the first instance.120

Diolch yn fawr iawn i chi, Sam Rowlands, ac fe wnaethoch chi gymryd y cam priodol wrth ysgrifennu at y bwrdd iechyd ynglŷn â'r materion a'r pryderon a godwyd gyda chi am le i barcio. Ni chafodd hyn ei ddwyn i'n sylw ni o ran trefniadau parcio wrth ysbytai eraill, er fy mod i'n ymwybodol bod ysbytai hefyd yn wir ym mhrifddinas Caerdydd â ffyrdd a dulliau eraill i alluogi pobl i ddod i ysbytai, sy'n haws trwy ddulliau eraill weithiau, fel trafnidiaeth gyhoeddus a pharcio a theithio. Ac, wrth gwrs, y staff sy'n dod gyntaf o ran gallu cael mynediad i'r ysbytai. Fe wnaethoch chi gymryd y cam priodol wrth ysgrifennu at y bwrdd iechyd yn y lle cyntaf.

Trefnydd, could I have a statement from the Cabinet Secreaty for rural affairs on the Monmouthshire and Brecon canal in my region, please? Recently, I visited Goytre Wharf to meet with Mark Evans from the Canal and River Trust to discuss urgently what we can do to prevent the potential closure of the Monmouthshire and Brecon canal. The canal’s been voted Britain’s prettiest canal and is home to various wildlife. Yet due to new abstraction licences issued by NRW to take water from the River Usk, the canal potentially could face closure. This could be a devastating loss to the local community as the canal relies on having 81 per cent of its water from the River Usk and will be unnavigable without it.121

The canal generates £26.5 million annually, 4.6 million people visit the canal every year, and there are 290 pubs, restaurants and cafes within a mile of the water that rely on the footfall the canal creates. The local councillor Jan Butler has started a petition to protect the canal, which has now reached the 10,000 people mark, demonstrating the strength of local feeling about the issue, and I look forward to debating it in this Chamber soon.122

So, can I please request an urgent statement from the Welsh Government on what discussions they’re having with Welsh Water, the canal trust and other stakeholders? Because there is a solution that the water can be taken from the nearby Llandegfedd reservoir, which is owned by Welsh Water. This is a great historic and economic asset to my region. So, please can we have that? Thank you.123

Trefnydd, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ar gamlas sir Fynwy ac Aberhonddu yn fy rhanbarth i, os gwelwch chi'n dda? Yn ddiweddar, fe ymwelais â Glanfa'r Goetre i gwrdd â Mark Evans o Landŵr Cymru i drafod yn daer yr hyn a allwn ei wneud i rwystro cau camlas sir Fynwy ac Aberhonddu o bosibl. Mae'r gamlas wedi ennill gwobr camlas harddaf Prydain drwy bleidlais ac mae'n gartref i fywyd gwyllt amrywiol. Ond oherwydd trwyddedau newydd tynnu dŵr a gyhoeddwyd gan CNC ar gyfer tynnu dŵr o Afon Wysg, fe ellid cau'r gamlas hon. Fe allai hynny fod yn golled ddifrifol i'r gymuned leol oherwydd mae'r gamlas yn dibynnu am 81 y cant o'i dŵr o Afon Wysg ac ni fyddai cychod yn gallu llywio arni heb hwnnw.

Mae'r gamlas yn cynhyrchu £26.5 miliwn bob blwyddyn, mae 4.6 miliwn o bobl yn ymweld â'r gamlas bob blwyddyn, ac mae yna 290 o dafarndai, bwytai a chaffis o fewn milltir i'r dŵr sy'n dibynnu ar yr ymwelwyr y mae'r gamlas yn eu denu. Mae'r cynghorydd lleol Jan Butler wedi agor deiseb i ddiogelu'r gamlas, sy'n cynnwys 10,000 o enwau erbyn hyn, sy'n dangos cryfder y teimlad lleol ynglŷn â'r mater, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod hyn yn y Siambr hon yn fuan.

Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar unrhyw drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda Dŵr Cymru, ymddiriedolaeth y gamlas a rhanddeiliaid eraill? Oherwydd mae yna ateb i hyn sef y gellir tynnu'r dŵr o gronfa ddŵr Llandegfedd sydd gerllaw, a Dŵr Cymru yw perchennog honno. Mae hwn yn ased hanesyddol ac economaidd pwysig yn fy rhanbarth i. Felly, os gwelwch chi'n dda, a gawn i hwnnw? Diolch i chi.

Thank you very much, Laura Anne Jones, and I’m aware of this as an issue as a question was raised previously with me. I’m aware that the Deputy First Minister recently met with Lynne Neagle, in her Senedd capacity, and also with the leader of Torfaen council to discuss the challenges. I’m aware that there’s an abstraction licence issue facing the Monmouthshire and Brecon canal.124

The licence restrictions were put in place to ensure compliance with the habitats directive and to protect the River Usk as a special area of conservation river. And I understand the licensing process was undertaken by Natural Resources Wales, in accordance with relevant regulations, and the appeals process heard independently by Planning and Environment Decisions Wales. So, if a technical solution is available, it will require agreement between the Canal and River Trust and Dŵr Cymru Welsh Water. So, the Welsh Government have no part in this. But NRW have been engaged with both the Canal and River Trust and Dŵr Cymru regarding this solution, and they're prepared to continue with this engagement. So, we hope that all can be done to make water efficiency improvements to the canal to allow it to operate in line with the current licences. 125

Diolch yn fawr iawn i chi, Laura Anne Jones, ac rwy'n ymwybodol o'r mater hwn oherwydd fe godwyd y cwestiwn hwn gyda mi o'r blaen. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cwrdd â Lynne Neagle yn ddiweddar, yn rhinwedd ei swydd yn y Senedd, a chydag arweinydd cyngor Torfaen hefyd ar gyfer trafod yr heriau. Rwy'n ymwybodol bod problem gyda thrwydded i dynnu dŵr sy'n wynebu camlas sir Fynwy ac Aberhonddu.

Rhoddwyd y cyfyngiadau trwydded ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfarwyddeb cynefinoedd ac amddiffyn Afon Wysg fel afon ardal cadwraeth arbennig. Ac rwy'n deall i'r broses drwyddedu gael ei chynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn unol â'r rheoliadau perthnasol, ac fe wrandawyd ar y broses apelio yn annibynnol gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Felly, os oes ateb technegol ar gael, bydd angen cytundeb rhwng Glandŵr Cymru a Dŵr Cymru. Felly, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn hyn. Ond mae CNC wedi bod yn ymgysylltu â Glandŵr a Dŵr Cymru ynglŷn â'r ateb hwn, ac maen nhw'n barod i barhau â'r ymgysylltiad hwn. Felly, rydym ni'n gobeithio y gellir gwneud popeth i wella effeithlonrwydd dŵr yn y gamlas i ganiatáu iddi weithio yn unol â'r trwyddedau cyfredol. 

14:45
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)
3. Statement by the Cabinet Secretary for Transport and North Wales: The Bus Services (Wales) Bill

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, Ken Skates. 127

The next item will be a statement by the Cabinet Secretary for Transport and North Wales on the Bus Services (Wales) Bill, and I call on the Cabinet Secretary, Ken Skates. 

Diolch, Llywydd. Yesterday, the Bus Services (Wales) Bill and explanatory memorandum were laid before the Senedd. This legislation marks a fundamental change in the way the bus network is designed, procured and operated. It represents a significant, necessary and exciting change. The Bill delivers on our programme for government commitment to create a modern legislative basis for transport in Wales. It marks a significant shift in the way Welsh bus services are delivered, moving us away from a deregulated model that has seen services and passenger numbers gradually contract since 1985.128

When we published our White Paper in 2022, we set out our vision of one network, one timetable, one ticket across public transport in Wales. This Bill will support the delivery of this vision. Under the new model, Welsh Ministers, through Transport for Wales, and in close collaboration with local authorities and corporate joint committees, will establish a national bus network that puts passengers first and supports us to reduce emissions from road transport. Bus services will be planned and co-ordinated at a national level and delivered principally through franchised contracts by private, third and public sector operators. 129

The Bill includes a duty on Government to develop and publish a Welsh bus network plan, and determine the local bus services that are required to secure safe, integrated, sustainable, efficient and economic transport in Wales. This will ensure that the development of bus services is transparent and guided by core principles. A centrally co-ordinated network will also support us to develop bus services that better connect with rail facilities, increasing opportunities for integrated ticketing. 130

The Bill also makes provision in relation to the collection and sharing of data. It will require bus operators and local authorities to share information with the Welsh Government in order to effectively manage the delivery of the network. Information on matters such as patronage, frequency and routes will help us create a modern, integrated bus network. The Bill will also ensure appropriate information is made available to the public to aid confidence and build patronage. We want to use technology to allow passengers to receive live up-to-date information on their bus services. 131

The Bill will also deliver on our programme for government commitment to lift the ban on local authorities setting up new publicly owned bus companies. Therefore, for example, in rural areas that have historically been poorly served by the deregulated model and where there may be limited market interest in a franchise contract under the new system, local authorities will be empowered to bid for contracts or seek permits to run the bus services needed in their communities. To maintain the integrity of the new framework, the Bill places a restriction on bus operators from running local bus services in Wales, except where those services are provided under a contract, permit, directly via Transport for Wales or other exceptions specified in the Bill. Powers to take enforcement action against bus operators who breach these provisions are also set out in the Bill.132

A key consideration in taking this new model for delivery forward is the workforce. Without drivers and other key staff to keep our bus services moving, we will not have a network to run. We have made provision in the Bill for a regulation-making power to apply the Transfer of Undertakings (Protection of Employment) Regulations to certain circumstances arising out of the Bill. We will work with the unions, with industry and with others to ensure we provide assurance for staff and facilitate the smooth transfer of operations during the transition to franchising and in the future. We are aware that some SME operators are concerned about competing for contracts with larger operators. I have instructed TfW to develop an approach that attracts a range of operators, offering various types of franchising packages that will be attractive to smaller operators and others that may be more attractive to larger ones. We will also consider what additional support can be provided to aid this process.133

I have been clear that creating a new network primarily delivered through bus services contracts will be a complex challenge, so it should not be introduced across the whole of Wales at once. Therefore, as I have previously set out, a phased implementation will take place, with our public sector delivery partners using a regional approach modelled on the CJC regions. Regional and local input into the delivery of bus reform is absolutely vital. So, TfW are collaborating closely with CJCs and local authorities to establish effective ways of working to ensure that local knowledge and expertise is embedded in the development of the network plan and in all aspects of implementing bus reform. Progress is most mature in south-west Wales, which is due to be the first region to be rolled out in 2027.134

At the heart of our plans is the desire to improve services for bus users and potential users of the network. As I said in the Siambr before Christmas, buses are a vital public service that are a lifeline for some of the most vulnerable and isolated people in society. This Bill will help lay the foundations of a network that prioritises the people who rely on these services, and make better use of the significant funding the Welsh Government already injects into the bus network.135

The current deregulated system is not working for the people of Wales. I know there has been frustration that this Bill has taken time to develop and introduce. This reflects the complexity of legislating to end the deregulation of the bus industry on an all-Wales basis. This is a significant change and we want to get it right. I believe this Bill will facilitate the changes we need to address the decline in the bus service provision, as well as help to deliver on our commitments to reduce emissions and attain our social justice agenda. I'll ensure that the drive for positive stakeholder engagement and collaboration that has been at the core of this legislation will continue, going forward. I look forward to the scrutiny of the Bill by Members and to hearing the views of stakeholders, delivery partners and the public during the legislative process. Diolch yn fawr iawn.136

Diolch, Llywydd. Ddoe, fe gyflwynwyd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a'r memorandwm esboniadol gerbron y Senedd. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn nodi newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r rhwydwaith bysiau yn cael ei ddylunio, ei gaffael a'i redeg. Mae'n golygu newid arwyddocaol, angenrheidiol a chyffrous. Mae'r Bil yn cyflawni ar ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i greu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n nodi newid sylweddol yn y ffordd y mae gwasanaethau bysiau Cymru yn cael eu darparu, gan ein symud i ffwrdd o fodel dadreoledig a welodd wasanaethau a nifer y teithwyr yn crebachu yn raddol ers 1985.

Pan gyhoeddwyd ein Papur Gwyn yn 2022, fe wnaethom nodi ein gweledigaeth o un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn ar draws trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Bydd y Bil hwn yn cefnogi'r gwaith o wireddu'r weledigaeth hon. Yn unol â'r model newydd, bydd Gweinidogion Cymru, drwy gyfrwng Trafnidiaeth Cymru, ac mewn cydweithrediad agos a'r awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforaethol, yn sefydlu rhwydwaith bysiau cenedlaethol a fydd yn rhoi teithwyr yn flaenaf ac yn ein cefnogi ni wrth leihau allyriadau oherwydd trafnidiaeth ar ffyrdd. Bydd gwasanaethau bysiau yn cael eu cynllunio a'u cydlynu ar lefel genedlaethol ac yn cael eu darparu yn bennaf trwy gyfrwng cytundebau masnachfraint â gweithredwyr y sectorau preifat a chyhoeddus, a'r trydydd sector. 

Mae'r Bil yn cynnwys rhoi dyletswydd ar y Llywodraeth i ddatblygu a chyhoeddi cynllun rhwydwaith bysiau Cymru, a phenderfynu ar y gwasanaethau bysiau lleol sydd eu hangen i sicrhau trafnidiaeth sy'n ddiogel, integredig, cynaliadwy, effeithlon ac economaidd yng Nghymru. Fe fydd hyn yn sicrhau bod datblygiad gwasanaethau bysiau yn dryloyw ac yn cael ei arwain gan egwyddorion hanfodol. Fe fydd cydlyniant canolog y rhwydwaith hefyd yn ein cefnogi ni wrth ddatblygu gwasanaethau bysiau sy'n cysylltu yn well â chyfleusterau rheilffyrdd, a fydd yn ehangu'r cyfleoedd ar gyfer tocynnau integredig.

Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth hefyd o ran casglu a rhannu data. Fe fydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol rannu gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru er mwyn rheoli'r gwaith o ddarparu'r rhwydwaith yn effeithiol. Bydd gwybodaeth am faterion fel poblogrwydd, amlder a llwybrau yn ein helpu ni i greu rhwydwaith bysiau modern, integredig. Bydd y Bil yn sicrhau bod gwybodaeth briodol ar gael i'r cyhoedd i gynorthwyo hyder ac annog defnydd hefyd. Rydym ni'n dymuno defnyddio technoleg i ganiatáu i deithwyr dderbyn gwybodaeth gyfredol am wasanaethau eu bysiau.

Bydd y Bil yn cyflawni ar ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i godi'r gwaharddiad ar awdurdodau lleol rhag sefydlu cwmnïau bysiau newydd sy'n eiddo i'r cyhoedd hefyd. Felly, er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig a welodd wasanaeth truenus yn hanesyddol oherwydd model o ddadreoleiddio ac efallai nad oes ond diddordeb cyfyngedig gan y farchnad mewn contract masnachfraint yn ôl y system newydd, fe fydd awdurdodau lleol yn cael eu galluogi i gynnig am gytundebau neu geisio trwyddedau i redeg y gwasanaethau bws angenrheidiol yn eu cymunedau nhw. I gynnal uniondeb y fframwaith newydd, mae'r Bil yn rhoi cyfyngiad ar weithredwyr bysiau rhag rhedeg gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, ac eithrio pan ddarperir y gwasanaethau hynny o dan gontract, trwydded, yn uniongyrchol drwy gyfrwng Trafnidiaeth Cymru neu eithriadau eraill sy'n cael eu nodi yn y Bil. Nodir pwerau i gymryd camau gorfodi yn erbyn gweithredwyr bysiau sy'n torri'r darpariaethau hyn a nodir yn y Bil hefyd.

Ystyriaeth allweddol wrth ddwyn y model newydd hwn yn ei flaen ar gyfer ei gyflwyno yw'r gweithlu. Heb yrwyr a staff allweddol eraill i gadw ein gwasanaethau bws ar y ffyrdd, ni fyddai gennym ni unrhyw rwydwaith i'w redeg. Fe wnaethom ni ddarpariaeth yn y Bil ar gyfer pŵer i lunio rheoliadau i gymhwyso'r Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) i amgylchiadau penodol sy'n deillio o'r Bil. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r undebau, y diwydiant ac eraill i sicrhau ein bod ni'n cynnig sicrwydd i staff ac yn hwyluso trosglwyddo gweithrediadau yn llyfn yn ystod y cyfnod pontio i fasnachfreinio ac i'r dyfodol. Rydym ni'n ymwybodol bod rhai gweithredwyr BBaCh yn pryderu am gystadlu am gytundebau gyda gweithredwyr mwy. Rwyf i wedi cyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu dull a fydd yn annog ystod o weithredwyr, ac a fydd yn cynnig gwahanol fathau o becynnau masnachfreinio a fydd yn ddeniadol i weithredwyr llai ac eraill a allai fod yn fwy deniadol i'r rai mwy o faint. Fe fyddwn ni'n ystyried pa gymorth ychwanegol y gellir ei ddarparu i gynorthwyo'r broses hon hefyd.

Rwyf i wedi bod yn eglur y bydd creu rhwydwaith newydd a ddarperir yn bennaf trwy gyfrwng cytundebau gwasanaeth bws yn her gymhleth, ac felly ni ddylid cyflwyno hyn ledled Cymru ar unwaith. Felly, fel y nodais i o'r blaen, bydd hyn yn cael ei weithredu bob yn dipyn, gyda'n partneriaid cyflenwi sector cyhoeddus yn defnyddio dull rhanbarthol a gaiff ei fodelu ar ranbarthau'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae mewnbwn rhanbarthol a lleol yn gwbl hanfodol i gyflawni diwygio bysiau. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio yn agos â'r cyd-bwyllgorau corfforedig a'r awdurdodau lleol i sefydlu ffyrdd effeithiol o weithio i sicrhau bod gwybodaeth ac arbenigedd lleol yn cael eu hymgorffori yn natblygiad cynllun y rhwydwaith ac ym mhob agwedd ar weithredu diwygio bysiau. Mae'r cynnydd ar ei fwyaf aeddfed yn y de-orllewin, sef y rhanbarth cyntaf a gyflwynir yn 2027.

Wrth wraidd ein cynlluniau ni y mae'r awydd i wella'r gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr bysiau a defnyddwyr posibl y rhwydwaith. Fel y dywedais i yn y Siambr cyn y Nadolig, mae bysiau yn rhoi gwasanaeth cyhoeddus hanfodol sy'n cynnig rhaff achub i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig yn y gymdeithas. Bydd y Bil hwn yn helpu i osod sylfeini rhwydwaith sy'n blaenoriaethu pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, ac a fydd yn gwneud gwell defnydd o'r cyllid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwistrellu i'r rhwydwaith bysiau eisoes.

Nid yw'r system ddadreoledig gyfredol yn gweithio ar gyfer pobl Cymru. Fe wn i am y rhwystredigaeth a fu am fod y Bil hwn wedi cymryd llawer o amser i'w ddatblygu a'i gyflwyno. Mae hynny'n adlewyrchu cymhlethdod deddfu a roi terfyn ar ddadreoleiddio'r diwydiant bysiau ar sail Cymru gyfan. Mae hwn yn newid sylweddol ac rydym ni'n awyddus i wneud hyn yn iawn. Rwyf i o'r farn y bydd y Bil hwn yn hwyluso'r newidiadau sydd eu hangen arnom ni i fynd i'r afael â'r dirywiad a fu yn y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau, yn ogystal â'n helpu ni i gyflawni ein hymrwymiadau i leihau allyriadau a chyflawni ar ein hagenda cyfiawnder cymdeithasol. Byddaf yn sicrhau y bydd yr ymgyrch am ymgysylltiad a chydweithrediad cadarnhaol â rhanddeiliaid a fu wrth hanfod y ddeddfwriaeth hon yn parhau, wrth fwrw ymlaen. Rwy'n edrych ymlaen at graffu gan Aelodau ar y Bil a chlywed barn rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Diolch yn fawr iawn.

14:50

Can I thank you, Cabinet Secretary, for your statement and, indeed, for yesterday's statement also? It's clear that, here in Wales, things have to change when it comes to the management of our bus services, as you recognise. We've seen bus passenger journeys reduce over many years, and certainly plummet since COVID, especially in our rural communities. Over the last decade or more, we've seen hundreds of bus services either altered, reduced or withdrawn, and it's clear that the Government has dragged its feet too long on addressing the situation. Hopefully now we can put some things right. 137

Inadequate and unreliable bus services have restricted the movement of many in Wales, particularly the elderly and most vulnerable in our communities, and we know that it has affected our younger generations, too, making it more difficult for many to get to school or further education. Public transport in Wales hasn't been a high enough priority for this Government and, as a result, we see mismatches in Government policy, where one aspiration is contradicted by the lack of ambition in another. And this isn't uncommon, I've noticed, in this place. A bus Bill was expected in 2020. We know that COVID held that up, but why has it taken over five years to bring further thinking and potential solutions forward? Labour have been in Government here for over 25 years, yet these proposals could take that additional five years.138

Through this Bill, the Government has to put the needs of people first, especially in rural areas, where the person too often comes second to the profitability of routes. We know the Government favours bus franchising as their preferred model of reform, however the verdict is still out on this for many. What is important, though, is that whatever future delivery models are decided on, they have to make sure that the industry can operate sustainably and that smaller bus companies are not disadvantaged or pushed out. What is clear is that the Welsh Government has to create a sustainable and joined-up public transport system, but one that is affordable and deliverable. The Government mustn't create something that ends up taking us backwards or that places huge additional pressures on local authorities, who would have to pick up the pieces if patronage targets aren't met and fare revenues fall against assumptions. This would present significant risks to the local authorities.139

A report from the Confederation of Passenger Transport Cymru has stressed the fact that simply introducing franchising will not address the key factors that influence our bus services in Wales, including the shift away from office working as well as greater reliance on online shopping. The CPT also highlights the fact that altering the model of transport will not affect the issues around reliability, punctuality, the speed of bus journeys and congestion—those things that hold things up.140

We also know that franchising can be expensive. Just look at greater Manchester, where, over five years, the cost is likely to be circa £700 million, yet Wales is a far smaller place with a greater—. Sorry, their region is smaller than Wales, but has greater infrastructure. Currently, the Welsh Government provides about £140 million a year in subsidy, and we know that £8 million of that will go to fund the under-21s fare. Well, that's a long way short of what we're likely to need. So, Cabinet Secretary, can you outline how much money your proposals will cost, including through transition to delivery phase and then, perhaps, on ongoing administration? Wales isn't like London, greater Manchester or Liverpool—it's far more diverse, with passengers sparsely spread. The transitional costs will be huge, for sure.141

Where will Wales get the professional expertise from to run the franchise model across the whole country? Will you, Cabinet Secretary, consider alternative models, and I think you said you would, to gross franchising, such as net franchises or enhanced partnership arrangements? You'll know that Jersey, for instance, set up in 2002 a franchising model and changed in 2013 to a different model because it wasn't working; they found a better solution. These are fundamental questions that, hopefully, will be answered through the scrutiny process. Cabinet Secretary, I look forward to working with you to ensure that this Bill does get the scrutiny it deserves. 142

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ac, yn wir, am y datganiad ddoe hefyd? Mae hi'n amlwg, yma yng Nghymru, ei bod hi'n rhaid i bethau newid o ran rheoli ein gwasanaethau bysiau, fel rydych chi'n cydnabod. Fe welsom ni niferoedd teithiau gan deithwyr ar fysiau yn lleihau dros nifer o flynyddoedd, ac yn sicr yn cwympo'n sylweddol ers COVID, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig ni. Dros y degawd diwethaf neu fwy, fe welsom ni gannoedd o wasanaethau bysiau naill ai'n cael eu newid, eu cwtogi neu'n cael eu diddymu, ac mae'n amlwg bod y Llywodraeth wedi llusgo ei thraed am ormod o amser cyn mynd i'r afael â'r sefyllfa. Rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud rhai pethau yn iawn nawr.

Mae gwasanaethau bysiau annigonol ac annibynadwy wedi cyfyngu ar allu llawer i deithio yng Nghymru, yn enwedig yr henoed a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac fe wyddom ni fod hyn wedi effeithio ar ein cenedlaethau iau hefyd, gan ei gwneud hi'n fwy trafferthus i lawer fynychu'r ysgol neu sefydliadau addysg bellach. Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn ddigon o flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac o ganlyniad i hynny fe welsom ni anghysondebau ym mholisi'r Llywodraeth, lle mae un dyhead yn cael ei wadu gan ddiffyg uchelgais mewn maes arall. Ac nid yw hynny'n beth anghyffredin, rwyf i wedi sylwi, yn y lle hwn. Roedd disgwyl y byddai Bil bysiau yn 2020. Fe wyddom ni fod COVID wedi rhwystro hynny, ond pam mae hi wedi cymryd dros bum mlynedd i gyflwyno syniadau pellach ac atebion posibl? Mae'r Blaid Lafur wedi bod yn y Llywodraeth yn y fan hon ers dros 25 mlynedd ond, fel hyn, fe allai'r cynigion hyn gymryd pum mlynedd arall.

Trwy'r Bil hwn, mae'n rhaid i'r Llywodraeth roi anghenion pobl yn flaenaf, yn ardaloedd cefn gwlad yn enwedig, lle mae'r unigolyn yn ail i broffidioldeb y llwybrau. Fe wyddom ni fod y Llywodraeth yn ffafrio masnachfreinio bysiau fel y model dewisol ar gyfer diwygio, ond nid yw llawer wedi rhoi eu dyfarniad ar hyn eto. Yr hyn sy'n bwysig, serch hynny, yw bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau bod y diwydiant yn gallu gweithredu mewn ffordd gynaliadwy ac nad yw cwmnïau bysiau llai dan anfantais nac yn cael eu gwthio allan. Yr hyn sy'n amlwg yw y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru lunio system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gynaliadwy ac yn gydgysylltiedig, ond yn un fforddiadwy ac y gellir ei chyflawni. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymwrthod â chreu rhywbeth a fyddai'n mynd â ni yn ein holau neu a fyddai'n rhoi pwysau ychwanegol aruthrol ar yr awdurdodau lleol, a fyddai'n gorfod dod i'r adwy pe na fyddai'r targedau o ran defnyddwyr yn cael eu cyflawni a phe byddai refeniw tocynnau yn gostwng yn groes i'r rhagdybiaethau. Byddai hyn yn cyflwyno risgiau sylweddol i'r awdurdodau lleol.

Mae adroddiad gan Gydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru wedi pwysleisio'r ffaith na fydd cyflwyno masnachfreinio yn mynd i'r afael â'r ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar ein gwasanaethau bysiau ni yng Nghymru, sy'n cynnwys y symudiad oddi wrth weithio mewn swyddfeydd yn ogystal â mwy o ddibyniaeth ar siopa ar-lein. Mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yn tynnu sylw hefyd at y ffaith na fydd newid y model trafnidiaeth yn effeithio ar y materion sy'n ymwneud â dibynadwyedd, prydlondeb, cyflymder teithiau bysiau a thagfeydd—y pethau hynny sy'n rhwystro materion.

Fe wyddom ni hefyd y gall masnachfreinio fod yn gostus. Edrychwch chi ar Fanceinion fwyaf, lle, dros bum mlynedd, y bydd y gost yn debygol o fod tua £700 miliwn, ond mae Cymru yn lle llawer llai gyda mwy—. Mae'n ddrwg gen i, mae eu rhanbarth nhw'n llai na Chymru, ond mae mwy o seilwaith yno. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua £140 miliwn y flwyddyn mewn cymhorthdal, ac fe wyddom ni y bydd £8 miliwn o hwnnw'n mynd tuag at ariannu'r prisiau i rai dan 21 oed. Wel, mae hynny'n brin iawn o'r hyn y byddwn ni'n debygol o fod ei angen. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi amlinellu faint o arian y bydd eich cynigion chi'n ei gostio, gan gynnwys trwy bontio i'r cyfnod cyflawni ac wedyn, efallai, ar weinyddiaeth barhaus? Nid yw Cymru yn lle tebyg i Lundain, Manceinion Fwyaf na Lerpwl—mae'n llawer mwy amrywiol yma, ac mae'r teithwyr yn wasgaredig iawn. Fe fydd y costau pontio yn enfawr, yn siŵr i chi.

O ble y caiff Cymru'r arbenigedd proffesiynol i redeg y model masnachfraint ledled y wlad? A wnewch chi, Ysgrifennydd Cabinet, ystyried modelau amgen, ac rwy'n credu i chi ddweud y byddech chi, fel masnachfreinio gros, fel masnachfreintiau net neu drefniadau partneriaeth uwch? Rydych chi'n gwybod bod Jersey, er enghraifft, wedi sefydlu model masnachfraint yn 2002 ac wedi newid i fodel arall yn 2013 am nad oedd yn gweithio; fe ddaethon nhw o hyd i ddatrysiad gwell. Mae'r rhain yn gwestiynau sylfaenol a fydd, rwy'n gobeithio, yn cael eu hateb trwy gyfrwng y broses graffu. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau y bydd y craffu ar Bil hwn yn deilwng ohono. 

14:55

Can I thank Peter Fox for his questions and his comments? I was pleased to hear that, in broad terms, the Member is supportive of the change that is required. Change is needed because the system, as has been operating for far too long, does not meet the needs of passengers across the whole of Wales. In taking control of the network, and taking control of timetables and the fare regime, we will be able to provide an integrated public transport system. 143

Now, Peter Fox rightly identified that bus services are particularly important for the most vulnerable people in society, especially the elderly, people who face disabling barriers in their daily lives, and young people. Indeed, 20 per cent of people in Wales do not own a private car and desperately rely on bus services. That's particularly the case in rural communities, and I think that this legislation will be of immense value in rural communities in particular. But, Peter Fox is right that this is not a panacea—this is a huge step forward, but it must be met with complementary work to improve reliability and punctuality. So, for example, investment in bus priority lanes will be required in order to attract more people to use buses.144

In terms of professional expertise and alternative models, we've learnt valuable lessons from elsewhere, including Jersey—we, indeed, looked at Jersey very closely—and, of course, places like Manchester and London. We believe that the model that we have presented in the Bill is a model that suits Wales best. Investment will be a matter for future governments, of course, but we can take great comfort from what has happened where we do currently have control over a bus network, that being the TrawsCymru network. I was in Corwen yesterday, and I learnt that the local bus stop there has seen a 22 per cent increase in patronage in the space of just one year because of the introduction and enhancement of TrawsCymru services. They're reliable, they're punctual and people can depend on them for the long term. That's the whole point of franchising—to give certainty to passengers. Some of those TrawsCymru network bus services have seen an increase over the last year in excess of 40 per cent in terms of patronage. So, I do believe that we can demonstrate that when you take control of a network and a timetable, and when you construct services that meet the needs of people, you attract more people to the network. Now, that means that, in the future, in terms of the investment that will go into buses, I would hope that future Ministers would have a choice to be able to deliberate. One, they could reduce the subsidy in bus services. I wouldn't go for that, personally; I would prefer to see any increase in farebox reinvested in expanding the network still further.145

In terms of contracts, I think Peter Fox makes a really important point about sustainability. The contracts are going to be awarded on a gross cost basis, and that means that we can then reinvest ticket revenue in providing more services—that’s what my hope would be for any future Minister—and offer simple multiservice tickets. Revenue from local bus services can be redistributed as well across all of Wales—not just focusing on commercially focused routes, but ensuring, I think, a more equal provision of bus services across the country. This is particularly important, again, to rural areas and areas where commercially viable services do not operate.146

Llywydd, in closing, I would also say that, in response to Peter Fox, we are working very closely with the industry to ensure that the innovation and the best practice from SMEs and larger operators can be maintained and enhanced in the future. I’ve outlined some of the methods by which we’ll ensure that there is a mixed market of all types of operators, large and small. We wish to make sure that we can grow the sector through franchising, that we can grow the economy through franchising, and that we can better connect communities.147

A gaf i ddiolch i Peter Fox am ei gwestiynau a'i sylwadau? Roeddwn i'n falch o glywed bod yr Aelod yn cefnogi'r newid sydd ei angen, yn fras. Mae newid yn angenrheidiol am nad yw'r system, fel y bu hi'n gweithio ers llawer gormod o amser, yn diwallu anghenion teithwyr ledled Cymru. Wrth gymryd rheolaeth o'r rhwydwaith, a chymryd rheolaeth ar amserlenni a phrisiau tocynnau, fe fyddwn ni'n gallu darparu system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n integredig.

Nawr, roedd Peter Fox yn gywir i nodi bod gwasanaethau bysiau yn arbennig o bwysig i'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas, yn enwedig yr henoed, pobl sy'n wynebu rhwystrau oherwydd anableddau yn eu bywydau bob dydd, a phobl ifanc. Yn wir, nid yw 20 y cant o bobl yng Nghymru yn berchen ar gar preifat ac maen nhw'n dibynnu ar wasanaethau bysiau i raddau helaeth iawn. Mae hynny'n arbennig o wir mewn cymunedau gwledig, ac rwy'n credu y bydd y ddeddfwriaeth hon o werth aruthrol mewn cymunedau gwledig yn arbennig. Ond, mae Peter Fox yn gywir i ddweud nad yw hyn yn datrys popeth—mae hwn yn gam enfawr ymlaen, ond mae'n rhaid ei gyflawni gyda gwaith cyflenwol i wella dibynadwyedd a phrydlondeb. Felly, er enghraifft, fe fydd angen buddsoddi mewn lonydd blaenoriaeth bysiau i ddenu mwy o bobl i ddefnyddio bysiau.

O ran arbenigedd proffesiynol a modelau amgen, rydyn ni wedi dysgu gwersi gwerthfawr o fannau eraill, gan gynnwys Jersey—fe wnaethom ni, yn wir, edrych yn fanwl iawn ar Jersey—ac, wrth gwrs, lleoedd fel Manceinion a Llundain. Rydyn ni o'r farn mai'r model y gwnaethom ni ei gyflwyno yn y Bil yw'r model sy'n gweddu orau i Gymru. Mater i lywodraethau'r dyfodol fydd buddsoddi, wrth gwrs, ond fe allwn ni gael cysur mawr yn yr hyn sydd wedi digwydd lle mae rheolaeth dros rwydwaith bysiau gennym ni ar hyn o bryd, sef ar rwydwaith TrawsCymru. Roeddwn i yng Nghorwen ddoe, ac fe ddysgais i fod y safle bws leol sydd yno wedi gweld cynnydd o 22 y cant yn ei defnydd mewn blwyddyn yn unig oherwydd cyflwyno a gwella gwasanaethau TrawsCymru. Maen nhw'n ddibynadwy, maen nhw'n brydlon ac fe all pobl ddibynnu arnyn nhw yn yr hirdymor. Dyna yw holl ddiben masnachfreinio—i roi sicrwydd i deithwyr. Mae rhai o'r gwasanaethau bysiau ar rwydwaith TrawsCymru wedi gweld cynnydd o dros 40 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf o ran eu defnydd. Felly, rwy'n credu y gallwn ni ddangos beth sy'n digwydd pan ydych chi'n cymryd rheolaeth o rwydwaith ac amserlenni, a phan ydych chi'n sefydlu gwasanaethau sy'n ateb anghenion pobl, rydych chi'n denu mwy o bobl i ddefnyddio'r rhwydwaith. Nawr, mae hynny'n golygu, yn y dyfodol, o ran y buddsoddiad a fydd yn cael ei roi mewn bysiau, fe fyddwn i'n gobeithio y byddai gan Weinidogion y dyfodol ddewis i allu trafod hynny. Yn un peth, fe allen nhw leihau'r cymhorthdal mewn gwasanaethau bysiau. Ni fyddwn i'n gwneud y dewis hwnnw'n bersonol; fe fyddai'n well gen i weld unrhyw gynnydd yn yr enillion drwy werthu tocynnau yn cael eu hailfuddsoddi yn ehangiad pellach y rhwydwaith eto.

O ran contractau, rwy'n credu bod Peter Fox yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â chynaliadwyedd. Bydd y contractau yn cael eu dyfarnu ar sail cost gros, ac mae hynny'n golygu y gallwn ni ail-fuddsoddi refeniw o docynnau wedyn yn narpariaeth rhagor o wasanaethau—dyna y byddwn i'n ei obeithio y byddai unrhyw Weinidog yn ei wneud yn y dyfodol—a chynnig tocynnau syml aml-wasanaeth. Fe ellir ailddosbarthu refeniw o wasanaethau bysiau lleol ledled Cymru hefyd—nid yn unig gan ganolbwyntio ar lwybrau sy'n canolbwyntio ar elw masnachol, ond gan sicrhau, rwy'n credu, darpariaeth fwy cyfartal o wasanaethau bws ledled y wlad. Mae hyn yn arbennig o bwysig, unwaith eto, i ardaloedd cefn gwlad ac ardaloedd lle na all gwasanaethau weithredu â hyfywedd masnachol.

Llywydd, wrth gloi, fe fyddwn i'n dweud hefyd, wrth ymateb i Peter Fox, ein bod ni'n gweithio yn agos iawn gyda'r diwydiant i sicrhau y gellir cynnal a gwella'r arloesedd a'r arfer gorau gan fusnesau bach a chanolig a gweithredwyr mwy i'r dyfodol. Rwyf i wedi amlinellu rhai o'r dulliau y byddwn ni'n eu defnyddio i sicrhau marchnad gymysg gyda phob math o weithredwyr, rhai bach a mawr. Rydyn ni'n dymuno sicrhau y gallwn ni feithrin y sector trwy fasnachfreinio, y gallwn ni feithrin yr economi trwy fasnachfreinio, ac y gallwn ni gysylltu cymunedau yn well.

15:00

A bit like waiting for a bus in Wales, after a long wait and, at times, wondering whether it would ever arrive, I’m very glad to finally see the statement today on the bus services Bill. This is a historic moment.148

If we take a moment to look at Manchester, we can see how franchising has transformed public transport, improving connectivity and service reliability, introducing a more eco-friendly fleet, lowering fares and creating more jobs. These are the kinds of benefits we should be striving for in Wales. However, my concern lies in the Government’s delivery. I regularly hear all the right words from the Cabinet Secretary in this Siambr during questions and debates, but then I am disappointed when the delivery doesn’t always match up in reality. If you speak to people across Wales, they’ll tell you time and again just how poor our transport system is.149

There is also a concern about funding. Bus Users UK and others have raised concerns, in particular regarding how much funding will be available to make the franchising work. Right now, the Welsh Government spends only £2 on buses for every £5 on trains. This has got to change for this Bill to be successful. Buses are the most widely used mode of public transport in Wales and are a lifeline for our most vulnerable communities. Without adequate investment, bus franchising simply won’t succeed.150

Under franchising, we want to see more routes restored and the damage from years of service cuts reversed. Deregulation definitely has not worked. We need clarity on how route planning will be carried out, how local voices, businesses and communities will be engaged in the process, and how this will contribute to economic development and prosperity. Maybe the Cabinet Secretary can explain how this will work in practice in our local communities in his response. Mapping commuter patterns, as well as housing density around bus stops, should play a key part in this strategy, and I welcome the news about the collection of data. This data should drive some of those decisions.151

The Cabinet Secretary knows I’ve been particularly concerned with learner transport, as we highlighted in the debate last week. I expect he will point to the reduced fares scheme for young people aged 16 to 21, but this is a short-term measure and a pilot scheme and it cannot replace a more consistent and reliable approach to learner travel. There is a real risk of blurring the lines between statutory provision and more informal schemes. The Government itself has acknowledged the link between bus reform and learner travel, so I want to know how will the provisions in this Bill improve transport for children and families. This legislation must align with other commitments the Welsh Government has made, such as its child poverty strategy.152

Finally, I want to see a reserved number of contracts for the SMEs and local bus providers. I heard what you said about the instruction to Transport for Wales to develop an approach that attracts a range of operators. This is an area where Manchester has not done as well as it could, and I urge the Cabinet Secretary to support procurement policies that use franchising as a tool for local development and Welsh business growth. Can you say a little bit more about this in your response?153

In summary, my colleagues and I in Plaid Cymru are broadly supportive of the Bill. We are committed to securing the best possible version of it through this Senedd, but ultimately the devil is in the detail and the Government must ensure that the legislation delivers real, lasting improvements for the people of Wales. Diolch yn fawr.154

Mae ychydig fel aros am fws yng Nghymru, ar ôl aros yn hir ac, ar adegau, yn meddwl tybed a fyddai byth yn cyrraedd, rwy'n falch iawn o weld o'r diwedd y datganiad heddiw ar y Bil gwasanaethau bysiau. Mae hon yn foment hanesyddol.

Os cymerwn eiliad i edrych ar Fanceinion, gallwn weld sut mae masnachfreinio wedi trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus, gwella cysylltedd a dibynadwyedd gwasanaethau, cyflwyno fflyd fwy ecogyfeillgar, gostwng prisiau a chreu mwy o swyddi. Dyma'r mathau o fuddion y dylem fod yn ymdrechu amdanynt yng Nghymru. Fodd bynnag, mae fy mhryder yn ymwneud â chyflawniad y Llywodraeth. Rwy'n clywed yr holl eiriau cywir gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn y Siambr hon yn rheolaidd yn ystod cwestiynau a dadleuon, ond yna rwy'n siomedig pan nad yw'r cyflawniad bob amser yn cyd-fynd â nhw mewn gwirionedd. Os ydych chi'n siarad â phobl ledled Cymru, byddant yn dweud wrthych dro ar ôl tro pa mor wael yw ein system drafnidiaeth.

Mae pryder hefyd am gyllid. Mae Bus Users UK ac eraill wedi codi pryderon, yn enwedig ynghylch faint o gyllid fydd ar gael i wneud i'r masnachfreinio weithio. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gwario dim ond £2 ar fysiau am bob £5 ar drenau. Mae'n rhaid i hyn newid er mwyn i'r Bil hwn fod yn llwyddiannus. Bysiau yw'r dull trafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru ac maen nhw'n achubiaeth i'n cymunedau mwyaf agored i niwed. Heb fuddsoddiad digonol, ni fydd masnachfreinio bysiau yn llwyddo.

Gyda masnachfreinio, rydym eisiau gweld mwy o lwybrau yn cael eu hadfer a'r difrod o flynyddoedd o doriadau i wasanaethau yn cael ei wrthdroi. Yn bendant nid yw dadreoleiddio wedi gweithio. Mae angen eglurder arnom ar sut y bydd cynllunio llwybrau yn cael ei gynnal, sut y bydd lleisiau, busnesau a chymunedau lleol yn cymryd rhan yn y broses, a sut y bydd hyn yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd a ffyniant. Efallai y gall yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio sut y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol yn ein cymunedau lleol yn ei ymateb. Dylai mapio patrymau cymudwyr, yn ogystal â dwysedd tai o amgylch safleoedd bws, chwarae rhan allweddol yn y strategaeth hon, ac rwy'n croesawu'r newyddion am gasglu data. Dylai'r data ysgogi rhai o'r penderfyniadau hynny.

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod fy mod wedi bod yn arbennig o bryderus ynghylch cludiant dysgwyr, fel y gwnaethom amlygu yn y ddadl yr wythnos diwethaf. Rwy'n disgwyl y bydd yn tynnu sylw at y cynllun prisiau gostyngol ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed, ond mae hwn yn fesur tymor byr ac yn gynllun treialu ac ni all ddisodli dull mwy cyson a dibynadwy o deithio gan ddysgwyr. Mae perygl gwirioneddol o bylu'r llinellau rhwng darpariaeth statudol a chynlluniau mwy anffurfiol. Mae'r Llywodraeth ei hun wedi cydnabod y cysylltiad rhwng diwygio bysiau a theithio gan ddysgwyr, felly rwyf eisiau gwybod sut y bydd y darpariaethau yn y Bil hwn yn gwella trafnidiaeth i blant a theuluoedd. Rhaid i'r ddeddfwriaeth hon alinio ag ymrwymiadau eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud, megis ei strategaeth tlodi plant.

Yn olaf, rwyf eisiau gweld nifer o gontractau wedi'u cadw ar gyfer y busnesau bach a chanolig a darparwyr bysiau lleol. Clywais yr hyn a ddywedoch am y cyfarwyddyd i Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu dull sy'n denu amrywiaeth o weithredwyr. Mae hwn yn faes lle nad yw Manceinion wedi gwneud cystal ag y gallai, ac rwy'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i gefnogi polisïau caffael sy'n defnyddio masnachfreinio fel offeryn ar gyfer datblygu lleol a thwf busnes yng Nghymru. Allwch chi ddweud ychydig mwy am hyn yn eich ymateb?

I grynhoi, mae fy nghyd-Aelodau a minnau ym Mhlaid Cymru yn gefnogol iawn o'r Bil. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r fersiwn orau bosibl ohono drwy'r Senedd hon, ond yn y pen draw gall problemau godi yn y manylion ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol, parhaol i bobl Cymru. Diolch yn fawr.

15:05

Can I thank Peredur for his questions and the indication that Plaid Cymru will be, broadly at least, in support of the Bill? I do admire the development of the Manchester Bee Network. It has been quite a considerable success in terms of providing regular, reliable franchise services for the people of greater Manchester, but we've also learned from some of the challenges that have been faced in that part of the UK, principally with the award of contracts not necessarily to SMEs. I think market engagement and industry engagement is hugely important in this regard.155

We know that there are in excess of 100 bus companies in Wales, many of them very small indeed, but they provide a very considerable benefit to the communities that they're embedded in. They're part of the foundational economy and they know their communities as well as anyone can possibly know them, in terms of where people move around and the individuals who use the services. So engagement with the industry at every level is going to be vitally important. I outlined how we're looking at packaging contracts to ensure that SMEs, as well as the larger bus companies, have an opportunity to succeed in a world of franchising.156

Delivery is vitally important, and I've already outlined how TrawsCymru is delivering more passenger services and attracting more passengers as a result of being able to better match up what people need with the routes. It's an astonishing fact that 190,000 bus journeys are taken every day. I want to see that figure only rise. Of course it will be for future governments to determine how much money is invested in public transport. My view is that public transport is the third public service, and bus services in particular are those that speak loudest to social justice, for the reasons that I gave in my response to Peter Fox.157

I can say that, by the end of this Senedd term, we'll have invested £600 million in support for bus services. That excludes the money that we invest through learner travel, which this year I believe is in the region of £204 million. So the investment in bus services is enormous, but we don't get maximum effect for it, and by taking back control of the routes and the timetables and the fare regime, I believe that we will be able to gain maximum impact and benefit for communities.158

I do think that data sharing is going to be vitally important, so too new and emerging technology that maps movements of people. That's going to be very important indeed when we come to devise solutions for challenges around learner travel. So too local authorities and corporate joint committees will be vitally important in shaping the routes with us and the timetables and the fare regimes. We want to make sure that we collaborate very effectively indeed in putting together the network across Wales.159

The Member is right: the £1 cap on bus fares for young people is a pilot, but it's going to make a very significant difference to a considerable number of people. It will be, again, a decision for future governments whether to maintain that, but I think that it's going to be vitally important that we learn from that pilot scheme. I'm confident that it will reap benefits. I'm confident that it will help encourage more young people to choose bus services over acquiring a private vehicle. It will certainly give young people better options and more affordable options for accessing employment and training. So I am very proud that we are taking forward this particular initiative, and I do hope that in some form it can be retained for the future, but of course we will learn from it before decisions are made to that effect.160

In terms of bus reform and how it interfaces with learner travel, I've already mentioned some of the benefits, but I think one of the principal benefits is that it will better enable us to take full advantage of regularly planned services with home-to-school provision, so the two aren't in conflict, so the buses, the vehicles themselves, can be better used, so that bus drivers are able to be employed throughout the day to ensure that we can get movement of people wherever they want to go. But certainly interfacing learner travel with regular scheduled bus services is something that we'll be able to do once we've got the legislation through and once franchises have been agreed.161

A gaf i ddiolch i Peredur am ei gwestiynau a'r arwydd y bydd Plaid Cymru, yn fras o leiaf, yn cefnogi'r Bil? Rwy'n edmygu datblygiad Bee Network Manceinion. Mae wedi bod yn llwyddiant eithaf sylweddol o ran darparu gwasanaethau masnachfraint rheolaidd, dibynadwy i bobl Manceinion fwyaf, ond rydym hefyd wedi dysgu o rai o'r heriau y maen nhw wedi'u hwynebu yn y rhan honno o'r DU, yn bennaf gyda dyfarnu contractau nid o reidrwydd i fusnesau bach a chanolig. Rwy'n credu bod ymgysylltu â'r farchnad ac ymgysylltu â'r diwydiant yn hynod bwysig yn hyn o beth.

Gwyddom fod dros 100 o gwmnïau bysiau yng Nghymru, llawer ohonyn nhw'n fach iawn mewn gwirionedd, ond maen nhw'n darparu budd sylweddol iawn i'r cymunedau y maen nhw wedi'u gwreiddio ynddynt. Maen nhw'n rhan o'r economi sylfaenol ac maen nhw'n adnabod eu cymunedau cystal ag y gall unrhyw un eu hadnabod, o ran ble mae pobl yn symud o gwmpas a'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Felly mae ymgysylltu â'r diwydiant ar bob lefel yn mynd i fod yn hanfodol bwysig. Amlinellais sut rydym ni'n ystyried pecynnu contractau i sicrhau bod busnesau bach a chanolig, yn ogystal â'r cwmnïau bysiau mwy, yn cael cyfle i lwyddo mewn byd o fasnachfreinio.

Mae cyflawni'n hanfodol bwysig, ac rwyf eisoes wedi amlinellu sut mae TrawsCymru yn cyflawni mwy o wasanaethau i deithwyr ac yn denu mwy o deithwyr oherwydd maen nhw wedi gallu diwallu'n well anghenion pobl o ran llwybrau. Mae'n ffaith syfrdanol fod yna 190,000 o deithiau bws bob dydd. Rydw i eisiau gweld y ffigur hwnnw yn codi eto. Wrth gwrs, bydd i fyny i lywodraethau'r dyfodol i benderfynu faint o arian sy'n cael ei fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Fy marn i yw mai trafnidiaeth gyhoeddus yw'r trydydd gwasanaeth cyhoeddus, a gwasanaethau bysiau yn arbennig yw'r rhai sy'n ymwneud fwyaf â chyfiawnder cymdeithasol, am y rhesymau a roddais yn fy ymateb i Peter Fox.

Gallaf ddweud, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, y byddwn wedi buddsoddi £600 miliwn mewn cymorth i wasanaethau bysiau. Mae hynny ar wahân i'r arian rydym ni'n ei fuddsoddi trwy deithio gan ddysgwyr, sydd eleni rwy'n credu oddeutu £204 miliwn. Felly mae'r buddsoddiad mewn gwasanaethau bysiau yn enfawr, ond nid ydym yn cael yr effaith mwyaf posibl yn ei sgil, a thrwy gymryd rheolaeth o'r llwybrau a'r amserlenni a'r drefn pris siwrnai, rwy'n credu y byddwn yn gallu cael yr effaith a'r budd mwyaf posibl i gymunedau.

Rwy'n credu bod rhannu data yn mynd i fod yn hanfodol bwysig, felly hefyd technoleg newydd a datblygol sy'n mapio symudiadau pobl. Mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn pan ddaw yn amser i ni ddyfeisio atebion ar gyfer heriau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr. Hefyd bydd awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig yn hanfodol bwysig wrth lunio llwybrau gyda ni a'r amserlenni a'r drefn pris siwrnai. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cydweithio'n effeithiol iawn wrth greu'r rhwydwaith ledled Cymru.

Mae'r Aelod yn iawn: mae'r cap o £1 ar brisiau bysiau i bobl ifanc yn gynllun treialu, ond mae'n mynd i wneud gwahaniaeth sylweddol iawn i nifer sylweddol o bobl. Unwaith eto, llywodraethau'r dyfodol fydd yn penderfynu a ddylid cynnal hynny, ond rwy'n credu ei bod yn mynd i fod yn hanfodol bwysig ein bod ni'n dysgu o'r cynllun treialu hwnnw. Rwy'n hyderus y bydd yn fuddiol dros ben. Rwy'n hyderus y bydd yn helpu i annog mwy o bobl ifanc i ddewis gwasanaethau bysiau yn hytrach na defnyddio cerbyd preifat. Bydd yn sicr yn rhoi opsiynau gwell i bobl ifanc ac opsiynau mwy fforddiadwy ar gyfer cael mynediad at gyflogaeth a hyfforddiant. Felly rwy'n falch iawn ein bod yn bwrw ymlaen â'r fenter benodol hon, ac rwy'n gobeithio y gellir ei chadw ar gyfer y dyfodol, ond wrth gwrs byddwn yn dysgu ohoni cyn gwneud penderfyniadau i'r perwyl hwnnw.

O ran diwygio bysiau a sut mae'n rhyngwynebu â theithio gan ddysgwyr, rwyf eisoes wedi sôn am rai o'r manteision, ond rwy'n credu mai un o'r prif fanteision yw y bydd yn ein galluogi i fanteisio i'r eithaf ar wasanaethau a gynlluniwyd yn rheolaidd sydd hefyd yn darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol, fel nad yw'r ddau yn gwrthdaro, felly gellir defnyddio'r bysiau, y cerbydau eu hunain, yn well, fel bod gyrwyr bysiau yn cael eu cyflogi trwy gydol y dydd i sicrhau y gallwn symud pobl i ble bynnag maen nhw eisiau mynd. Ond yn sicr mae teithio gan ddysgwyr â gwasanaethau bysiau rheolaidd yn rhywbeth y byddwn yn gallu ei wneud unwaith y byddwn wedi cael y ddeddfwriaeth drwodd ac unwaith y bydd masnachfreintiau wedi'u cytuno.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

I really welcome this bus Bill coming forward now. I submitted a petition nearly six years ago calling for buses for people, not profit, because at the time we had operators competing for the same lucrative passengers in the urban areas while they were cutting the less profitable but equally important ones in the rural areas. There were people devastated in communities. I was going to meetings in village halls and it was awful to hear them really concerned that they were going to be left at home and not be able to get out. 162

I know now that many operators are struggling and they do welcome this, but I know it will take time to build the network and funding, as happened with Transport for Wales, the roll-out of the new services, £800 million invested in new trains and carriages, and it's been transformational. We've seen passengers increase by about 25 per cent. So, it's really important that we get that network right.163

Will there be extra help and resources for local government, who know the network and residents so well? I know in Flintshire there's 450 different contracts, so it's very complicated going forward. How important is it that we continue to have Governments that invest in public service funding going forward so we can build it and make sure it's there for our most vulnerable residents? Thank you.164

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil bysiau hwn yn cael ei gyflwyno nawr. Fe wnes i gyflwyno deiseb bron i chwe blynedd yn ôl yn galw am fysiau i bobl, nid er elw, oherwydd ar y pryd roedd gennym weithredwyr yn cystadlu am yr un teithwyr proffidiol yn yr ardaloedd trefol gan dorri'r rhai llai proffidiol ond yr un mor bwysig yn yr ardaloedd gwledig. Roedd pobl wedi'u siomi'n fawr mewn cymunedau. Roeddwn i'n mynd i gyfarfodydd mewn neuaddau pentref ac roedd yn ofnadwy eu clywed yn pryderu eu bod nhw'n mynd i gael eu gadael gartref ac yn methu mynd allan. 

Rwy'n gwybod nawr bod llawer o weithredwyr yn cael trafferthion ac maen nhw'n croesawu hwn, ond rwy'n gwybod y bydd yn cymryd amser i adeiladu'r rhwydwaith a'r cyllid, fel y digwyddodd gyda Trafnidiaeth Cymru, cyflwyno'r gwasanaethau newydd, buddsoddi £800 miliwn mewn trenau a cherbydau newydd, ac mae wedi bod yn drawsnewidiol. Rydym wedi gweld nifer y teithwyr yn cynyddu tua 25 y cant. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael y rhwydwaith hwnnw'n iawn.

A fydd cymorth ac adnoddau ychwanegol i lywodraeth leol, sy'n adnabod y rhwydwaith a'r trigolion mor dda? Rwy'n gwybod yn sir y Fflint bod 450 o gontractau gwahanol, felly mae'n gymhleth iawn wrth symud ymlaen. Pa mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i gael Llywodraethau sy'n buddsoddi mewn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol fel y gallwn ei adeiladu a gwneud yn siŵr eu bod yno ar gyfer ein trigolion mwyaf agored i niwed? Diolch.

15:10

Can I thank Carolyn Thomas for the way that she's welcomed this piece of legislation? You've long fought for it and it's my view that you probably have greater expertise in this area than anyone else in this Chamber, given your previous role as lead member in Flintshire. This is part of our aspiration to deliver better transport for all. You highlighted the £800 million of new trains, the increase in patronage on Transport for Wales services, which is considerable indeed, and we hope to replicate this through franchising. 165

I can assure the Member that local government will have a central role in designing and forming the network and the timetables, and local government will be supported in that endeavour by Transport for Wales. So too corporate joint committees will have a vitally important role to play as well. We're looking at how perhaps a memorandum of understanding will give greater strength to the role of CJCs, but the local knowledge that comes from local authorities and from bus operators themselves will prove invaluable when we put together the network. 166

A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am y ffordd y mae hi wedi croesawu'r darn hwn o ddeddfwriaeth? Rydych wedi ymladd drosto ers amser maith ac rwy'n credu bod gennych fwy o arbenigedd yn y maes hwn nag unrhyw un arall yn y Siambr hon, o ystyried eich rôl flaenorol fel aelod arweiniol yn sir y Fflint. Mae hyn yn rhan o'n dyhead i ddarparu gwell trafnidiaeth i bawb. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at werth £800 miliwn o drenau newydd, y cynnydd mewn defnydd o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, sy'n sylweddol mewn gwirionedd, ac rydym yn gobeithio ailadrodd hyn drwy fasnachfreinio. 

Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd gan lywodraeth leol rôl ganolog wrth ddylunio a ffurfio'r rhwydwaith a'r amserlenni, a bydd llywodraeth leol yn cael ei chefnogi yn yr ymdrech honno gan Trafnidiaeth Cymru. Bydd gan gyd-bwyllgorau corfforedig rôl hanfodol bwysig i'w chwarae hefyd. Rydym yn edrych i weld sut efallai y bydd memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn rhoi mwy o gryfder i rôl cyd-bwyllgorau corfforedig, ond bydd yr wybodaeth leol a gawn oddi wrth awdurdodau lleol ac oddi wrth weithredwyr bysiau eu hunain yn amhrisiadwy pan fyddwn yn llunio'r rhwydwaith. 

Thank you for your statement, Cabinet Secretary. There is no doubt that bus services and bus stops in Wales need to see improvements, especially in rural areas where transport links are vital for the economy, for people to live their lives and for school transport. However, I do have some serious concerns about this franchising model.167

It's clear that improvements in services and investment in public bus stops need to be made. However, spending an enormous amount of money on a massive reorganisation will actually result in minimal difference in output unless you have an endless amount of money at your disposal. Is it really the right use for this enormous amount of money to be put into this pet project? I understand the aims and welcome some of them, but surely some of them could be better spent on improvements to the current system and to routes. 168

Having visited local bus operators recently, it's clear to me that wholesale change of how buses operate in Wales has a huge risk attached to it, and an even bigger price tag, and amounts to little more than a power grab by Welsh Ministers, taking away—169

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Nid oes amheuaeth bod angen gwelliannau i wasanaethau bysiau a safleoedd bws yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol i'r economi, er mwyn i bobl fyw eu bywydau ac ar gyfer cludiant ysgol. Fodd bynnag, mae gennyf i rai pryderon difrifol am y model masnachfreinio hwn.

Mae'n amlwg bod angen gwneud gwelliannau mewn gwasanaethau a buddsoddi mewn safleoedd bws cyhoeddus. Fodd bynnag, bydd gwario swm enfawr o arian ar ad-drefnu enfawr mewn gwirionedd yn arwain at ychydig iawn o wahaniaeth mewn allbwn oni bai bod gennych swm diddiwedd o arian ar gael i chi. Ai dyma'n wir yw'r defnydd cywir o'r swm enfawr hwn o arian, sef ei roi yn yr hoff brosiect hwn? Rwy'n deall y nodau ac yn croesawu rhai ohonynt, ond yn sicr gellid gwario rhywfaint ohono'n well ar welliannau i'r system bresennol ac i lwybrau. 

Ar ôl ymweld â gweithredwyr bysiau lleol yn ddiweddar, mae'n amlwg i mi fod gan y newid mawr i'r ffordd y mae bysiau'n gweithredu yng Nghymru risg enfawr ynghlwm wrtho, a phris hyd yn oed yn fwy, ac mae'n gyfystyr â dim mwy na Gweinidogion Cymru yn cipio pŵer, cael gwared—

You need to ask your question now, please. 170

Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda. 

—local decision making and the ease of adapting to local need.171

Cabinet Secretary, you talk of new stock in your statement. What is happening to the old stock? Are you proposing that there be a hard border for any new ticketing scheme for young people between England and Wales? And importantly, can you guarantee that all these changes will result in lower costs for users, and that there'll be more rather than fewer services? Diolch.  172

—ar wneud penderfyniadau'n lleol a'r rhwyddineb o addasu i anghenion lleol.

Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n sôn am stoc newydd yn eich datganiad. Beth sy'n digwydd i'r hen stoc? Ydych chi'n cynnig bod ffin galed ar gyfer unrhyw gynllun tocynnau newydd i bobl ifanc rhwng Cymru a Lloegr? Ac yn bwysig, a allwch chi warantu y bydd yr holl newidiadau hyn yn arwain at gostau is i ddefnyddwyr, ac y bydd mwy yn hytrach na llai o wasanaethau? Diolch.  

Dirprwy Lywydd, this is not a power grab; this is just taking back control. This is something that I'm sure will prove to be—[Interruption.]173

Dirprwy Lywydd, nid cipio pŵer yw hyn; cymryd rheolaeth yn ôl yw hyn. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y bydd yn profi i fod—[Torri ar draws.]

Cabinet Secretary, two seconds. If the back benches will keep quiet, I can actually listen to the Cabinet Secretary giving a response to the question. 174

Ysgrifennydd Cabinet, dwy eiliad. Os bydd y meinciau cefn yn cadw'n dawel, gallaf wrando ar yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymateb i'r cwestiwn. 

Dirprwy Lywydd, I'm confident that the people of Wales will welcome franchising, will welcome addressing the failures of deregulation in the mid 1980s, which I'm afraid have, yes, led to great benefits for some in terms of operating very profitable services, but where profit can't be achieved it's left to the taxpayer forking out for bus services that will otherwise simply not operate. And in many circumstances, bus operations have ceased because they are not commercially viable and because of austerity as well. Local authorities have been stretched to the limit due to austerity, and yet in some cases, have still maintained a contribution, even though it's not statutory. I think they are to be congratulated. They've supported some of the most deprived communities in Wales by ensuring that bus services are subsidised. But the system as it is at the moment is not sustainable, it doesn't provide value for money at all, and there's a big difference between cost and value. Yes, the amount of money that we put into public services and specifically, in this regard, into bus services is considerable. It comes with great cost—I admit that—£600 million is going into bus services this Senedd term. But the value—the value—to the people of Wales is even greater. And we can see from the impact assessments and the benefit-cost ratio that accompanies this piece of legislation that the value is considered to be very high. That's because this will provide opportunities for young people to get to and from work. This will better connect communities. This will ensure greater accessibility as well, because we'll be able to create training standards that ensure that drivers are able to welcome and accept and help people who face disabling barriers in their everyday life.175

This legislation will also help to address the climate emergency, because we'll be able to utilise Transport for Wales as a purchaser of electric vehicles, who would then be able to lease them to small and medium-sized enterprises. So, in so doing, it will actually also help small and medium-sized enterprises that would otherwise not be able to afford expensive, new electric buses. I believe that pretty much everybody wins in this scenario. Perhaps—perhaps—those who seek the greatest profit may lose out, but the people of Wales, and I believe the vast majority of operators in Wales, will benefit from this legislation.176

Dirprwy Lywydd, rwy'n hyderus y bydd pobl Cymru yn croesawu masnachfreinio, yn croesawu mynd i'r afael â methiannau dadreoleiddio yng nghanol y 1980au, sydd, mae gennyf ofn, wedi arwain at fanteision mawr i rai o ran gweithredu gwasanaethau proffidiol iawn, ond lle na ellir cyflawni elw mae'r trethdalwr yn gorfod talu am wasanaethau bysiau na fyddant fel arall yn gweithredu. Ac mewn llawer o amgylchiadau, mae gweithrediadau bysiau wedi dod i ben oherwydd nad ydynt yn fasnachol hyfyw ac oherwydd cyni hefyd. Mae awdurdodau lleol wedi cael eu gwasgu'n dynn oherwydd cyni, ac eto mewn rhai achosion, maen nhw wedi parhau i gyfrannu er nad yw'n statudol. Rwy'n credu bod angen eu llongyfarch. Maen nhw wedi cefnogi rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru drwy sicrhau bod gwasanaethau bysiau'n cael cymhorthdal. Ond nid yw'r system fel y mae ar hyn o bryd yn gynaliadwy, nid yw'n darparu gwerth am arian o gwbl, ac mae gwahaniaeth mawr rhwng cost a gwerth. Ydy, mae'r swm o arian rydym ni'n ei roi i mewn i wasanaethau cyhoeddus ac yn benodol, yn hyn o beth, i wasanaethau bysiau, yn sylweddol. Mae'n dod â chost fawr yn ei sgil—rwy'n cyfaddef hynny—mae £600 miliwn yn mynd i wasanaethau bysiau yn nhymor y Senedd hon. Ond mae'r gwerth—y gwerth—i bobl Cymru hyd yn oed yn fwy. A gallwn weld o'r asesiadau effaith a'r gymhareb cost a budd sy'n cyd-fynd â'r darn hwn o ddeddfwriaeth bod y gwerth yn cael ei ystyried yn uchel iawn. Mae hynny oherwydd y bydd hyn yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith. Bydd hyn yn cysylltu cymunedau'n well. Bydd hyn yn sicrhau mwy o hygyrchedd hefyd, oherwydd byddwn yn gallu creu safonau hyfforddi sy'n sicrhau bod gyrwyr yn gallu croesawu a derbyn a helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau anabledd yn eu bywyd bob dydd.

Bydd y ddeddfwriaeth hon hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, oherwydd byddwn yn gallu defnyddio Trafnidiaeth Cymru fel prynwr cerbydau trydan, a fyddai wedyn yn gallu eu rhoi ar les i fentrau bach a chanolig. Felly, wrth wneud hynny, bydd mewn gwirionedd hefyd yn helpu busnesau bach a chanolig na fyddai fel arall yn gallu fforddio bysiau trydan drud, newydd. Rwy'n credu bod bron pawb yn ennill yn y senario hwn. Efallai—efallai—bydd y rhai sy'n ceisio'r elw mwyaf ar eu colled, ond bydd pobl Cymru, ac rwy'n credu, y mwyafrif helaeth o'r gweithredwyr yng Nghymru, yn elwa ar y ddeddfwriaeth hon.

15:15

In 2022-23, over 61 million bus passenger journeys were taken in Wales. Prior to the pandemic, the figure was over 91 million. At the moment, when bus passenger numbers are low, either services have to be cut or more investment found to maintain services, and when I questioned many Government Ministers on the plans to increase passenger numbers, I've always been told to wait for the bus Bill. Well, here it is, it's finally arrived. But given concerns that have been raised regarding the level of investment required to fulfil the ambitions of the Bill—ambitions that I wholeheartedly welcome—and the length of time it'll take for its full implementation, can I ask again what efforts are being undertaken right now to increase passenger numbers across the bus network?177

I've spoken to many constituents across my region who don't have any other means of transport. They rely on buses every day, they have a wealth of knowledge and experience, and, more often than not, they are the most keen to want to help build a better service. So, you said this Bill will ensure local bus services are planned and co-ordinated, in consultation with key partners, local government and industry, but can I ask exactly how bus users, those who don't have access to cars, not just the CJCs, not just the local authorities, are meaningfully involved in the design and delivery of this Bill?178

Yn 2022-23, roedd dros 61 miliwn o deithiau bws yng Nghymru. Cyn y pandemig, roedd y ffigur dros 91 miliwn. Ar hyn o bryd, pan fydd nifer y teithwyr bysiau yn isel, mae'n rhaid torri gwasanaethau neu gael mwy o fuddsoddiad i gynnal gwasanaethau, a phan wnes i holi llawer o Weinidogion y Llywodraeth ar y cynlluniau i gynyddu nifer y teithwyr, dywedwyd wrthyf bob tro i aros am y Bil Bysiau. Wel, dyma fe, mae wedi cyrraedd o'r diwedd. Ond o ystyried pryderon sydd wedi'u codi ynglŷn â lefel y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni uchelgeisiau'r Bil—uchelgeisiau yr wyf yn eu croesawu'n llwyr—a'r amser y bydd yn ei gymryd i'w weithredu'n llawn, a gaf i ofyn eto pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd i gynyddu nifer y teithwyr ar draws y rhwydwaith bysiau?

Rwyf wedi siarad â llawer o etholwyr ar draws fy rhanbarth nad oes ganddynt unrhyw ddulliau trafnidiaeth eraill. Maen nhw'n dibynnu ar fysiau bob dydd, mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ac, yn amlach na pheidio, nhw yw'r rhai mwyaf awyddus i helpu i greu gwasanaeth gwell. Felly, dywedoch chi y bydd y Bil hwn yn sicrhau bod gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u cydlynu, mewn ymgynghoriad â phartneriaid allweddol, llywodraeth leol a diwydiant, ond a gaf i ofyn yn union sut mae defnyddwyr bysiau, y rhai nad oes ganddyn nhw geir, nid y cyd-bwyllgorau corfforedig yn unig, nid yr awdurdodau lleol yn unig, yn cymryd rhan ystyrlon yn y gwaith o ddylunio a chyflwyno'r Bil hwn?

Well, the citizen's voice, you're absolutely right, will be at the heart of this. That's why we're ensuring that local authorities are at the heart of planning the networks and the timetables. We are increasing bus funding this year to support the network ahead of franchises: between capital and revenue, we've increased it this coming year to £170 million, and as I said previously, over the course of this Senedd term, the sum will exceed £600 million. So, it is a huge sum of money that is designed at stabilising the network after COVID and preparing bus services for a world in which we franchise.179

There is a very strong link between the farebox and service provision. When the farebox falls, as you've rightly said, the risk is that without subsidy, services will be withdrawn, and that's what we've seen in all too many circumstances. But where we've got control—full control—we've seen the opposite happening recently. As I mentioned, TrawsCymru services have seen a very considerable increase in patronage on most of what they operate, and that's because, with TrawsCymru, we are able to match up people's needs, passenger needs, with the network itself, with the timetables and with the routes. So, I am very confident that, with that local knowledge, with a system that is fully responsive to passengers, we will be able to drive up patronage, and in so doing, drive up the farebox, whilst also making sure that we have a fair fares regime. And in so doing, I would hope that future Ministers will then choose to use that additional fare box revenue to increase the network.180

Wel, bydd llais y dinesydd, rydych chi'n hollol iawn, wrth wraidd hyn. Dyna pam rydym ni'n sicrhau bod awdurdodau lleol wrth wraidd cynllunio'r rhwydweithiau a'r amserlenni. Rydym yn cynyddu cyllid bysiau eleni i gefnogi'r rhwydwaith cyn masnachfreinio: rhwng cyfalaf a refeniw, rydym wedi ei gynyddu yn y flwyddyn sydd i ddod i £170 miliwn, ac fel y dywedais i o'r blaen, yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y swm yn fwy na £600 miliwn. Felly, mae'n swm enfawr o arian sydd wedi'i gynllunio i sefydlogi'r rhwydwaith ar ôl COVID a pharatoi gwasanaethau bysiau ar gyfer byd lle rydym ni'n masnachfreinio.

Mae cysylltiad cryf iawn rhwng derbyniadau bysiau a'r ddarpariaeth o wasanaethau. Pan fydd y derbyniadau'n lleihau, fel y dywedoch chi yn gywir, y risg yw, heb gymorthdal, y bydd gwasanaethau yn cael eu tynnu'n ôl, a dyna beth rydym ni wedi'i weld mewn gormod o amgylchiadau. Ond lle mae gennym reolaeth—rheolaeth lawn—rydym wedi gweld y gwrthwyneb yn digwydd yn ddiweddar. Fel y soniais i, mae gwasanaethau TrawsCymru wedi gweld cynnydd sylweddol mewn defnydd ar y rhan fwyaf o'r hyn y maen nhw'n ei weithredu, ac mae hynny oherwydd, gyda TrawsCymru, rydyn ni'n gallu trefnu bod y rhwydwaith ei hun yn diwallu anghenion pobl, anghenion teithwyr, gyda'r amserlenni a'r llwybrau. Felly, rwy'n hyderus iawn, gyda'r wybodaeth leol honno, gyda system sy'n gwbl ymatebol i deithwyr, y byddwn yn gallu cynyddu'r defnydd, a thrwy wneud hynny, cynyddu derbyniadau, gan hefyd sicrhau bod gennym drefn pris siwrnai deg. Ac wrth wneud hynny, byddwn yn gobeithio y bydd Gweinidogion y dyfodol wedyn yn dewis defnyddio'r refeniw derbyniadau ychwanegol hwnnw i gynyddu'r rhwydwaith.

15:20

Dwi'n croesawu'r datganiad heddiw. 181

I welcome today's statement. 

I just have a couple of points to raise. You rightly talk about the regional approach and the role of the CJCs, which is incredibly important. We know that buses don't stop at county borders; that wouldn't make for an effective service connecting our communities. But can I ask how that will work on a cross-border basis? People in my part of the world, which you know well, want to stop at Saltney or Broughton, but they actually want to get to Chester and beyond as well. So, what means is there for making that work in practice? And on that practical point, can I ask how the Welsh Government has engaged with the workforce through trade unions to date in the development of the bus Bill, and what mechanism is in place to make sure there is meaningful partnership working, not just as the legislation progresses, but, all importantly, at implementation too, because I'm sure you'll agree with me that social partnership isn't just about walking the walk, it's actually about talking the talk.182

Mae gennyf ychydig o bwyntiau i'w codi. Rydych chi'n sôn, yn gywir, am y dull rhanbarthol a rôl y cyd-bwyllgorau corfforedig, sy'n hynod o bwysig. Gwyddom nad yw bysiau yn stopio ar ffiniau sir; ni fyddai hynny'n sicrhau gwasanaeth effeithiol sy'n cysylltu ein cymunedau. Ond a gaf i ofyn sut y bydd hynny'n gweithio ar sail drawsffiniol? Mae pobl yn fy rhan i o'r byd, yr ydych chi'n ei adnabod yn dda, eisiau stopio yn Saltney neu Frychdyn, ond maen nhw mewn gwirionedd eisiau cyrraedd Caer a thu hwnt hefyd. Felly, sut gellir gwneud hynny weithio yn ymarferol? Ac ar y pwynt ymarferol hwnnw, a gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r gweithlu drwy undebau llafur hyd yma wrth ddatblygu'r Bil bysiau, a pha fecanwaith sydd ar waith i sicrhau bod gwaith partneriaeth ystyrlon, nid yn unig wrth i'r ddeddfwriaeth fynd rhagddi, ond, yn bwysig, wrth weithredu hefyd, oherwydd rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi nad yw partneriaeth gymdeithasol yn ymwneud â dweud yn unig, mae'n ymwneud â gwneud mewn gwirionedd.

Yes, I'd agree entirely. Considerable engagement has been undertaken with trade unions over the course of putting together this piece of legislation and in the years that preceded this particular work as well, as a result of what trade unions were telling us as we embarked on this particular path. So, I'm confident that the legislation does recognise the desires and the needs of trade union members, but we will go on working in social partnership with trade unions and with bus operators. Through the contracts, we'll be able to ensure that there's the best possible relationship between operators and trade unions, and my view is that we will be able to encourage best practice in the process that we are following—best practice in terms of provision for customers and also how the workers are treated.183

Now, I fully respect the importance of cross-border services to our border communities—cross-border services across local authorities within Wales, but also cross-border services across the Wales-England border. We've worked pretty extensively with Liverpool city region, with Manchester city region and with Dee area councils to ensure that we can share best practice, innovation and route planning. We've also worked with the Department for Transport on this matter, and we are looking at using permits that will enable and ensure that cross-border services can be not just maintained in the future, but that they can be enhanced and that they can fully integrate with the franchise network here in Wales, and indeed with our rail services as well.184

Byddwn, byddwn i'n cytuno'n llwyr. Mae ymgysylltu sylweddol wedi ei wneud ag undebau llafur yn ystod y gwaith hwn o ddeddfwriaeth ac yn y blynyddoedd cyn y gwaith penodol hwn hefyd, o ganlyniad i'r hyn yr oedd undebau llafur yn ei ddweud wrthym wrth i ni gychwyn ar y llwybr penodol hwn. Felly, rwy'n hyderus bod y ddeddfwriaeth yn cydnabod dymuniadau ac anghenion aelodau undebau llafur, ond byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur a gyda gweithredwyr bysiau. Trwy'r contractau, byddwn yn gallu sicrhau'r berthynas orau bosibl rhwng gweithredwyr ac undebau llafur, a fy marn i yw y byddwn yn gallu annog arfer gorau yn y broses yr ydym yn ei dilyn—arfer gorau o ran darpariaeth i gwsmeriaid a hefyd sut mae'r gweithwyr yn cael eu trin.

Nawr, rwy'n parchu'n llawn bwysigrwydd gwasanaethau trawsffiniol i'n cymunedau ar y ffin—gwasanaethau trawsffiniol ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, ond hefyd gwasanaethau trawsffiniol ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Rydym wedi gweithio'n eithaf helaeth gyda dinas-ranbarth Lerpwl, gyda dinas-ranbarth Manceinion a chyda chynghorau ardal Dyfrdwy i sicrhau ein bod yn gallu rhannu arfer gorau, arloesedd a chynllunio llwybrau. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth ar y mater hwn, ac rydym yn ystyried defnyddio trwyddedau a fydd yn galluogi ac yn sicrhau y gellir cynnal gwasanaethau trawsffiniol nid yn unig yn y dyfodol, ond y gellir eu gwella ac y gallant integreiddio'n llawn â'r rhwydwaith masnachfraint yma yng Nghymru, ac yn wir â'n gwasanaethau rheilffyrdd hefyd.

This Bill is a step in the right direction; there's no way other than putting it that way. And I think, actually, the very valid point the Cabinet Secretary made was around value for money, because right now the system encourages us to use public money to subsidise shareholder profits. Now, that isn't a good use of public money, that doesn't provide value for money. So, it's a good thing that we're getting to grips with that issue. And of course, it allows us then to get over the catch-22 situation where those services that aren't profitable are being cut, making it so that buses aren't then considered to be a viable option for people because they're not reliable—they're not even present in those communities. So, this really does give us the basis to actually create a system that is reliable, that is frequent and becomes a real option for people.185

I think there is a valid question, though, to ask around the delivery aspect of this. Now, of course, it's taken six years for this Bill to get to the Chamber in its current form. Reports out there are showing, or suggest, that it could take an additional five years to deliver. Now, there's no wonder that communities are disillusioned with the Senedd and politicians when that is the timeline for delivery on something so important. So, would the Cabinet Secretary outline what the explicit barriers are here? I take on board what he said around the phased approach and the complicated picture, but is there an issue in terms of capacity within the Welsh Government to deliver this project? An important thing that needs to happen now is that we actually do deliver this, because there are needs in communities right now that aren't being fulfilled.186

Mae'r Bil hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir; does dim ffordd arall i fynegi hyn. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y pwynt dilys iawn a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet oedd ynghylch gwerth am arian, oherwydd ar hyn o bryd mae'r system yn ein hannog i ddefnyddio arian cyhoeddus i roi cymhorthdal ar gyfer elw cyfranddalwyr. Nawr, nid yw hynny'n ddefnydd da o arian cyhoeddus, nid yw hynny'n darparu gwerth am arian. Felly, mae'n beth da ein bod ni'n mynd i'r afael â'r mater hwnnw. Ac wrth gwrs, mae'n caniatáu i ni wedyn osgoi'r sefyllfa lle mae'n amhosibl ennill, lle mae'r gwasanaethau hynny nad ydynt yn broffidiol yn cael eu torri, gan wneud i bobl ystyried nad yw bysiau yn opsiwn hyfyw oherwydd nad ydyn nhw'n ddibynadwy—nid ydynt hyd yn oed yn bresennol yn y cymunedau hynny. Felly, mae hyn wir yn rhoi'r sylfaen i ni greu system sy'n ddibynadwy, â bysiau rheolaidd ac sy'n dod yn opsiwn go iawn i bobl.

Rwy'n credu bod cwestiwn dilys, fodd bynnag, i'w ofyn ynglŷn â'r agwedd ar gyflawni hyn. Nawr, wrth gwrs, mae wedi cymryd chwe blynedd i'r Bil hwn gyrraedd y Siambr yn ei ffurf bresennol. Mae adroddiadau yn dangos, neu'n awgrymu, y gallai gymryd pum mlynedd ychwanegol i'w gyflawni. Nawr, does dim syndod bod cymunedau'n siomedig gyda'r Senedd a gwleidyddion pan welir mai dyna'r amserlen ar gyfer cyflawni rhywbeth mor bwysig. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu beth yw'r rhwystrau penodol yma? Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd ynglŷn â'r dull cam wrth gam a'r darlun cymhleth, ond a oes problem o ran capasiti o fewn Llywodraeth Cymru i gyflawni'r prosiect hwn? Y peth pwysig nawr yw ein bod ni'n cyflawni hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae anghenion mewn cymunedau ar hyn o bryd nad ydynt yn cael eu diwallu.

Can I thank Luke for his questions and for welcoming the legislation? I'd agree entirely with him that this does offer the prospect of us gaining greater value for money for the services that we invest in. Particularly, it enables us to take revenue from the most lucrative routes in Wales and then distribute it more fairly across Wales, particularly those areas that rely so heavily on subsidised routes.187

In terms of the delivery time frame, we're actually working right now in mid Wales, because all of the routes are subsidised, pretty much, so we're looking at how we can implement a franchised system in mid Wales that other regions can then learn from. I do want to get this right. This is a once-in-a-generation opportunity to correct the failures of deregulation in an area of public service that matters so much—so much—to the people that we serve. So, I accept that it might seem a lengthy process, four years, between now and 2029, but I do want to make sure that we get it right, and phasing it across the regions is, in our view, the best way to do it and the safest way to do it. We're going to be able to learn as we go along, but some of the regions are more advanced than others, so we need some time to be given, to be afforded, to those regions that have a more complicated ecosystem of bus service provision and bus operators. But we don't want to hold back those regions that are more advanced in the meanwhile, so we're going to go first with south-west Wales—even though we're using mid Wales right now as, if you like, a trailblazer—then north Wales, then south-east Wales. And mid Wales will be formalised with their franchise services as well by the end of this decade.188

A gaf i ddiolch i Luke am ei gwestiynau ac am groesawu'r ddeddfwriaeth? Byddwn yn cytuno'n llwyr ag ef bod hyn yn cynnig y posibilrwydd i ni ennill mwy o werth am arian am y gwasanaethau rydym ni'n buddsoddi ynddynt. Yn benodol, mae'n ein galluogi i gymryd refeniw o'r llwybrau mwyaf proffidiol yng Nghymru ac yna ei ddosbarthu'n fwy teg ar draws Cymru, yn enwedig yr ardaloedd hynny sy'n dibynnu cymaint ar lwybrau sy'n cael cymhorthdal.

O ran yr amserlen gyflawni, rydym ni'n gweithio ar hyn o bryd yn y canolbarth, oherwydd mae'r holl lwybrau yn cael cymhorthdal, felly rydym ni'n edrych i weld sut y gallwn weithredu system fasnachfraint yn y canolbarth y gall rhanbarthau eraill wedyn ddysgu ohoni. Rydw i eisiau cael hyn yn iawn. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gywiro methiannau dadreoleiddio mewn maes gwasanaeth cyhoeddus sydd mor bwysig—mor bwysig—i'r bobl rydym ni'n eu gwasanaethu. Felly, rwy'n derbyn y gallai ymddangos yn broses hir, pedair blynedd, rhwng nawr a 2029, ond rwyf eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y gwaith yn iawn, a'i gyflwyno'n raddol ar draws y rhanbarthau, yn ein barn ni, yw'r ffordd orau i wneud hyn a'r ffordd fwyaf diogel. Rydym ni'n mynd i allu dysgu wrth i ni fynd ymlaen, ond mae rhai o'r rhanbarthau yn fwy datblygedig nag eraill, felly mae angen peth amser arnom i'w gyflwyno i'r rhanbarthau hynny sydd ag ecosystem fwy cymhleth o ddarparu gwasanaethau bysiau a gweithredwyr bysiau. Ond nid ydym eisiau dal y rhanbarthau hynny sy'n fwy datblygedig yn ôl yn y cyfamser, felly rydym ni'n mynd i droi at y de-orllewin yn gyntaf—er ein bod ni'n defnyddio'r canolbarth ar hyn o bryd fel arloeswr os hoffech chi—yna'r gogledd, yna'r de-ddwyrain. A bydd y canolbarth yn cael ei ffurfioli gyda gwasanaethau masnachfraint hefyd erbyn diwedd y degawd hwn.

15:25

I warmly welcome the introduction of this Bill and congratulate the Cabinet Secretary for getting it over the line. There will be critics of this, as we've heard, but nobody can accuse the Welsh Government of having rushed this. And it's right that time is taken, because this is probably the most complex change to the public transport system in more than a generation. This is more far-reaching reform than in any part of the UK—more radical than that in Manchester and more radical than previous plans brought forward. And it is going to be tricky to get it right. So, I completely support the Cabinet Secretary in what he just said about taking the time to implement this properly.189

Just on a couple of points of detail. He quite rightly said the revenue risk now will fall to the Welsh Government, and there are critics, we've heard, mostly from the corporate sector, who are trying to use this to cause some concern. But will he confirm the flip side of that is now there's going to be an absolute direct interest in the Welsh Government in driving up bus use? It's going to have a direct financial link and stake in doing that, which will see us have improving bus services. To do that obviously requires the skill and wherewithal within Transport for Wales as a guiding mind to link together train and bus planning so you have an integrated one-ticket, one-network system, and that is a big change for Transport for Wales. So, can he just provide us with an update on how they're getting on with that? Because even though the legislation has been slow in coming, the work has been going on in earnest within Transport for Wales.190

And then finally—191

Rwy'n croesawu'n gynnes cyflwyno'r Bil hwn ac yn llongyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet am lwyddo i'w gael dros y llinell. Bydd rhai yn beirniadu hwn, fel yr ydym wedi clywed, ond ni all neb gyhuddo Llywodraeth Cymru o fod wedi rhuthro hwn. Ac mae'n iawn ei fod yn cymryd amser, oherwydd mae'n debyg mai dyma'r newid mwyaf cymhleth i'r system drafnidiaeth gyhoeddus mewn mwy na chenhedlaeth. Mae hwn yn ddiwygiad mwy pellgyrhaeddol nag mewn unrhyw ran o'r DU—yn fwy radical na ddigwyddodd ym Manceinion ac yn fwy radical na'r cynlluniau blaenorol. Ac mae'n mynd i fod yn anodd ei wneud yn iawn. Felly, rwy'n cefnogi'r Ysgrifennydd Cabinet yn llwyr o ran yr hyn a ddywedodd am gymryd yr amser i weithredu hwn yn iawn.

Dim ond ychydig o bwyntiau ar fanylion. Dywedodd, yn gywir, y bydd y risg refeniw nawr yn disgyn ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru, ac mae yna feirniaid, rydym ni wedi clywed, yn bennaf yn y sector corfforaethol, sy'n ceisio defnyddio hyn i achosi rhywfaint o bryder. Ond a wnaiff gadarnhau mai'r ochr arall y geiniog yw y bydd nawr ddiddordeb uniongyrchol absoliwt yn Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r defnydd o fysiau? Bydd ganddi gysylltiad ariannol uniongyrchol a menter mewn gwneud hynny, a fydd yn ein gweld i ni yn gwella gwasanaethau bysiau. Er mwyn gwneud hynny, mae'n amlwg bod angen y sgiliau a'r modd o fewn Trafnidiaeth Cymru i fod yn feddwl arweiniol i gysylltu cynllunio trenau a bysiau fel bod gennych system integredig un tocyn, un rhwydwaith, ac mae hynny'n newid mawr i Trafnidiaeth Cymru. Felly, a wnaiff ddarparu diweddariad i ni ar sut maen nhw'n mynd ymlaen â hynny? Oherwydd er bod y ddeddfwriaeth wedi bod yn araf yn dod, mae'r gwaith wedi bod yn mynd ymlaen o ddifrif o fewn Trafnidiaeth Cymru.

Ac yna yn olaf—

—the other crucial point for this is the work of local authorities in working in a trusted relationship with TfW and the Welsh Government. So, again, it's just some reassurance that there is full buy-in from that. But I look forward to supporting this legislation as it goes through this Chamber.193

—y pwynt hanfodol arall ynghylch hyn yw gwaith awdurdodau lleol wrth weithio mewn perthynas y gellid ymddiried ynddi â TrC a Llywodraeth Cymru. Felly, unwaith eto, dim ond rhywfaint o sicrwydd bod cefnogaeth lawn i hynny. Ond edrychaf ymlaen at gefnogi'r ddeddfwriaeth hon wrth iddi fynd trwy'r Siambr hon.

Well, can I thank Lee Waters for his contribution and for the work that he did over many years with regard to this piece of legislation? I remember us speaking about—. I think we called it, at one point, a 'Martini approach'—any time, any place, anywhere with the same ticket. That then evolved into 'one network, one timetable, one ticket'. And were it not for COVID, I think, probably, we would have seen this legislation passed some time ago. But with COVID, our objective was to save the bus network. It was on its knees because there were no passengers, and in a deregulated environment, I'm afraid, if money isn't being made, it's lost. So, our objective during COVID was to rescue the bus network. We did that, and now we're at the point of being able to legislate. And for the reasons that Lee Waters has outlined, it is important that we take proper time to deliver on the franchises across Wales.194

And you're absolutely right, the revenue risk for this particular piece of work also provides us with an opportunity. I don't consider it so much of a risk, because where we have had control, in the way that we're going to have control if this Bill is passed, we've actually seen success. We've seen a remarkable increase in terms of patronage on Transport for Wales rail services, which Carolyn Thomas outlined—25 per cent. And we've seen that remarkable increase in patronage on TrawsCymru services, because we've got skin in the game, because we want to maximise value for money and the benefit—the value to people—of these services. So, I am very confident indeed, moving forward, that future Ministers will have an opportunity through this legislation to expand the bus network, rather than preside over it contracting.195

TfW has undergone considerable change over the years, growing from something that we created to manage the procurement process for the Wales and borders franchise to now being a planner, operator, manager of multimodal transport provision in Wales. And it’s grown in expertise quite considerably. We’ve also learnt from other transport authorities, like those in Manchester and London, and, as a result of that, we’ve been able to carefully consider so many different models for supporting a future bus network.196

We believe we’ve got the right model in front of us in this legislation. I’m looking forward to Members supporting it, and I’m also looking forward to Transport for Wales continuing to provide expertise and invaluable support to local authorities, not just on bus services, but across all modes.197

Wel, a gaf i ddiolch i Lee Waters am ei gyfraniad ac am y gwaith a wnaeth dros flynyddoedd lawer mewn perthynas â'r darn hwn o ddeddfwriaeth? Rwy'n cofio ni'n siarad am—. Rwy'n credu ein bod ni'n cyfeirio ato, ar un adeg, fel 'dull Martini'—unrhyw bryd, unrhyw le, unrhyw le gyda'r un tocyn. Yna esblygodd hynny i 'un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'. Ac oni bai am COVID, rwy'n credu, mae'n debyg, y byddem wedi gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio beth amser yn ôl. Ond gyda COVID, ein nod oedd achub y rhwydwaith bysiau. Roedd ar ei liniau oherwydd nad oedd yna deithwyr, ac mewn amgylchedd wedi ei ddadreoleiddio, rwy'n ofni, os nad yw arian yn cael ei wneud, mae'n cael ei golli. Felly, ein nod yn ystod COVID oedd achub y rhwydwaith bysiau. Fe wnaethom ni hynny, a nawr rydym ni yn y sefyllfa lle gallwn ddeddfu. Ac am y rhesymau y mae Lee Waters wedi'u hamlinellu, mae'n bwysig ein bod yn cymryd amser priodol i gyflawni'r masnachfreintiau ledled Cymru.

Ac rydych chi'n hollol iawn, mae'r risg refeniw ynghylch y darn penodol hwn o waith hefyd yn rhoi cyfle i ni. Dydw i ddim yn ei ystyried yn gymaint o risg, oherwydd lle rydym ni wedi cael rheolaeth, yn y ffordd y byddwn ni'n cael rheolaeth pe bai'r Bil hwn yn cael ei basio, rydym wedi gweld llwyddiant mewn gwirionedd. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol o ran y defnydd o wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, a amlinellodd Carolyn Thomas—25 y cant. Ac rydym wedi gweld y cynnydd rhyfeddol hwnnw mewn defnydd ar wasanaethau TrawsCymru, oherwydd bod gennym fuddsoddiad er mwyn cyrraedd y nod, oherwydd ein bod eisiau sicrhau'r gwerth am arian a'r budd mwyaf—gwerth i bobl—y gwasanaethau hyn. Felly, rwy'n hyderus iawn yn wir, wrth symud ymlaen, y bydd Gweinidogion y dyfodol yn cael cyfle trwy'r ddeddfwriaeth hon i ehangu'r rhwydwaith bysiau, yn hytrach na llywyddu dros ei gontractio.

Mae TrC wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, gan dyfu o rywbeth a grëwyd gennym i reoli'r broses gaffael ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau i fod bellach yn gynllunydd, gweithredwr a rheolwr darpariaeth trafnidiaeth aml-ddull yng Nghymru. Ac mae wedi tyfu o ran arbenigedd yn eithaf sylweddol. Rydym hefyd wedi dysgu oddi wrth awdurdodau trafnidiaeth eraill, fel y rhai ym Manceinion a Llundain, ac, o ganlyniad i hynny, rydym wedi gallu ystyried cymaint o wahanol fodelau ar gyfer cefnogi rhwydwaith bysiau yn y dyfodol.

Rydym yn credu bod gennym y model cywir o'n blaenau yn y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n edrych ymlaen at weld Aelodau'n ei chefnogi, ac rwy'n edrych ymlaen hefyd at Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddarparu arbenigedd a chefnogaeth amhrisiadwy i awdurdodau lleol, nid yn unig ar wasanaethau bysiau, ond ar draws pob dull.

15:30

South-east Wales is at the bottom of the list, unfortunately, for this phased implementation. I understand there are reasons for doing it in this phased way, but I really hope that we can roll this out with the minimum delay required, particularly for those suffering in areas where the paucity of services really restricts their ability to get to work or social opportunities, or even to get the shopping in, and also people who live in transport poverty being forced to have a car, even though they can’t actually afford to run it, but they simply have no other means of transport to get to work or fulfil caring responsibilities.198

So, I want to understand how we’re ensuring that there’s no unnecessary delay in terms of the discussions that the CJC covering Cardiff is having in preparation for the bus network plan, and how they’re using data, for example, from mobile phones, to track where journeys to work and school are taking place, so that we can, as quickly as possible, get that modal shift from car to bus or other public transport or active travel, because otherwise we’re all going to drown in the air quality problems that we have.199

Mae'r de-ddwyrain ar waelod y rhestr, yn anffodus, ar gyfer y gweithredu fesul cam hwn. Rwy'n deall bod rhesymau dros wneud hynny yn y ffordd hon, ond rwy'n gobeithio y gallwn gyflwyno hyn gyda'r oedi lleiaf sydd ei angen, yn enwedig i'r rhai sy'n dioddef mewn ardaloedd lle mae prinder gwasanaethau yn cyfyngu ar eu gallu i fynd i'r gwaith neu ar gyfleoedd cymdeithasol, neu hyd yn oed i siopa, a hefyd pobl sy'n byw mewn tlodi trafnidiaeth yn cael eu gorfodi i fod â char, er nad ydynt yn gallu fforddio ei redeg, ond nid oes ganddyn nhw unrhyw ffordd arall i deithio i'r gwaith neu i gyflawni cyfrifoldebau gofalu.

Felly, rwyf eisiau deall sut rydym yn sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen o ran y trafodaethau y mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig sy'n cwmpasu Caerdydd yn eu cael wrth baratoi ar gyfer cynllun y rhwydwaith bysiau, a sut maen nhw'n defnyddio data, er enghraifft, o ffonau symudol, i olrhain ble mae teithiau i'r gwaith a'r ysgol yn digwydd, fel y gallwn, cyn gynted â phosibl, cael y newid dulliau teithio hwnnw o gar i fws neu i drafnidiaeth gyhoeddus arall neu i deithio llesol, oherwydd fel arall rydym ni i gyd yn mynd i foddi yng nghanol y problemau ansawdd aer sydd gennym.

Well, can I thank Jenny Rathbone for her questions and for welcoming this legislation? Yes, south-east Wales will see its franchise network emerge in 2028-29, but, in the meantime, we are delivering an enormous ambitious metro programme in south-east Wales, also the dualling of the Heads of the Valleys road, which comes with a huge investment tag as well, and so we are doing a huge amount for this particular region. But, as I said, some of the other regions are more advanced and developed and less complicated to roll out franchising in. We wouldn’t wish to conduct this on a parallel basis, because it is such a complicated process to follow, but, in terms of discussions with the CJC, Councillor Andrew Morgan, of course, is an observer on the Transport for Wales board, and has contributed to bus reform quite considerably. So, the discussions are very advanced and ongoing.200

Jenny Rathbone rightly raised the potential benefits of new and emerging technology. Recently, we discussed in this Chamber the mobile tracking systems that TfW are able to utilise and the innovation that we’ve seen from some of our higher education institutions, which will be fully exploited as we put together the network maps and timetables in the future.201

Jenny Rathbone also raised the vitally important point of transport poverty still being prevalent in Wales. This actually probably relates more appropriately to my next oral statement on travel for all, but we are acutely aware of the need to make sure that we have a fairer fare regime for the bus network, and that we maintain concessions if the public purse allows it.202

Wel, a gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau ac am groesawu'r ddeddfwriaeth hon? Bydd, fe fydd ardal y de-ddwyrain yn gweld ei rhwydwaith masnachfraint yn dod i'r amlwg yn 2028-29, ond, yn y cyfamser, rydym yn cyflwyno rhaglen fetro uchelgeisiol enfawr yn y de-ddwyrain, hefyd deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, sydd â thag buddsoddi enfawr hefyd, ac felly rydym yn gwneud llawer iawn i'r rhanbarth penodol hwn. Ond, fel y dywedais i, mae rhai o'r rhanbarthau eraill yn fwy datblygedig ac yn llai cymhleth o ran cyflwyno masnachfreinio iddynt. Ni fyddem eisiau cynnal hyn yn gyfochrog, oherwydd mae'n broses mor gymhleth i'w dilyn, ond, o ran trafodaethau gyda'r cyd-bwyllgor corfforedig, mae'r Cynghorydd Andrew Morgan, wrth gwrs, yn sylwedydd ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru, ac mae wedi cyfrannu at ddiwygio bysiau yn sylweddol. Felly, mae'r trafodaethau yn ddatblygedig iawn ac yn parhau.

Cododd Jenny Rathbone, yn gywir, fanteision posibl technoleg newydd sy'n datblygu. Yn ddiweddar, fe wnaethom drafod yn y Siambr hon y systemau tracio symudol y gall TrC eu defnyddio a'r arloesedd a welsom gan rai o'n sefydliadau addysg uwch, y byddwn yn manteisio'n llawn arnyn nhw wrth i ni roi mapiau rhwydwaith ac amserlenni at ei gilydd yn y dyfodol.

Cododd Jenny Rathbone hefyd y pwynt pwysig iawn o dlodi trafnidiaeth sy'n dal i fod yn gyffredin yng Nghymru. Mae'n debyg bod hwn yn ymwneud, yn fwy priodol, â'm datganiad llafar nesaf ar deithio i bawb, ond rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i wneud yn siŵr bod gennym drefn pris siwrnai decach ar gyfer y rhwydwaith bysiau, a'n bod yn cynnal consesiynau os yw'r pwrs cyhoeddus yn caniatáu hynny.

Thank you, Deputy Presiding Officer. Cabinet Secretary, I warmly welcome the statement this afternoon, and it’s good to see the Welsh Government clearing away the last vestiges of Thatcherism from this country. The privatisation of bus services has been an unmitigated disaster for the people that I represent in Blaenau Gwent. And let me tell you, people across the borough, and across the country, will be welcoming this statement from the Government today. Because when I speak to constituents—. I spoke to a lady in Tredegar on Friday, who was speaking to me about the difficulties that she has accessing train services, whether they be in Rhymney or Ebbw Vale, accessing town from another part of town—small, very local services and also, then, the wider scale services going to Abergavenny and Cardiff and the rest of it. To ensure that people are able to travel easily by public transport, these are the sorts of improvements that people want to see. But also accessing public services: we've seen the creation of the Grange hospital, the opening of the Grange in Cwmbran, but also services being delivered from Nevill Hall and Ysbyty Aneurin Bevan in Ebbw Vale, but also—204

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu'r datganiad yn gynnes y prynhawn yma, ac mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn clirio'r olion olaf o Thatcheriaeth o'r wlad hon. Mae preifateiddio gwasanaethau bysiau wedi bod yn drychineb llwyr i'r bobl rwy'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent. A gadewch i mi ddweud wrthych chi, bydd pobl ledled y fwrdeistref, ac ar draws y wlad, yn croesawu'r datganiad hwn gan y Llywodraeth heddiw. Oherwydd pan fyddaf yn siarad ag etholwyr—. Siaradais â menyw yn Nhredegar ddydd Gwener, a oedd yn siarad â mi am yr anawsterau sydd ganddi wrth gael mynediad at wasanaethau trên, boed yn Rhymni neu Lynebwy, er mwyn cyrraedd y dref o ran arall o'r dref—gwasanaethau bach, lleol iawn ac yna'r gwasanaethau ar raddfa ehangach sy'n mynd i'r Fenni a Chaerdydd ac ati. Er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu teithio'n hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus, dyma'r mathau o welliannau y mae pobl eisiau eu gweld. Ond hefyd cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus: rydym wedi gweld adeiladu ysbyty'r Faenor, agor y Faenor yng Nghwmbrân, ond hefyd gwasanaethau yn cael eu darparu o Nevill Hall ac Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglynebwy, ond hefyd—

15:35

You need to ask a question now, please, Alun.205

Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda, Alun.

—hospitals and clinics elsewhere. So, what we need to be able to do is to ensure that people are able to access public services easily and to be able to ensure that they themselves can live the lives that they want to lead.206

—ysbytai a chlinigau mewn mannau eraill. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn rhwydd ac i sicrhau eu bod nhw eu hunain yn gallu byw'r bywyd y maen nhw eisiau ei fyw.

Can I thank Alun Davies for the points that he raised? I saw Joel James nodding at those very points—or perhaps it was something else that was on his screen. But, yes, you're absolutely right: this will sweep away one of the most contentious pieces of reform that Margaret Thatcher introduced in the 1980s, and, in its place, it will create a far more beneficial scheme, with social justice at its heart, for the people of Wales. Now, I don't think deregulation at all failed because of the drivers or the operators or the directors of those companies. Deregulation failed because it's inefficient, it leads to a fractured market, it prevents cross-subsidisation, and it also places the most vulnerable at the greatest risk of losing their services. So, we will address all of those failures.207

In regard specifically to better connecting services with people, I know that Members have raised in the Chamber the example of the Grange hospital. Just recently, I had an example of the hospital in Gobowen raised with me, which, of course, is across the border. The lead official for this particular piece of work in Transport for Wales is acutely aware of the need to make sure that the networks and the timetables meet people's needs, not just in terms of accessing employment centres and education and high streets, but also, crucially, hospital services and medical centres.208

A gaf ddiolch i Alun Davies am y pwyntiau a gododd? Gwelais Joel James yn nodio ar yr union bwyntiau hynny—neu efallai mai rhywbeth arall oedd ar ei sgrin. Ond, ydych, rydych chi'n hollol gywir: bydd hyn yn cael gwared ar un o'r darnau mwyaf dadleuol o ddiwygio a gyflwynodd Margaret Thatcher yn y 1980au, ac, yn ei le, bydd yn creu cynllun llawer mwy buddiol, gyda chyfiawnder cymdeithasol wrth ei galon, ar gyfer pobl Cymru. Nawr, nid wyf yn credu o gwbl bod dadreoleiddio wedi methu oherwydd y gyrwyr neu'r gweithredwyr neu gyfarwyddwyr y cwmnïau hynny. Methodd dadreoleiddio oherwydd ei fod yn aneffeithlon, mae'n arwain at farchnad wedi'i thorri, mae'n atal croes-gymhorthdal, ac mae hefyd yn creu'r risg fwyaf i'r rhai mwyaf agored i niwed o ran colli eu gwasanaethau. Felly, byddwn yn mynd i'r afael â'r holl fethiannau hynny.

Mewn perthynas yn benodol â chysylltu gwasanaethau â phobl yn well, gwn fod Aelodau wedi codi yn y Siambr esiampl ysbyty'r Faenor. Dim ond yn ddiweddar, codwyd enghraifft o'r ysbyty yn Gobowen gyda mi, sydd, wrth gwrs, ar draws y ffin. Mae'r prif swyddog ar gyfer y darn penodol hwn o waith yn Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r angen i wneud yn siŵr bod y rhwydweithiau a'r amserlenni yn diwallu anghenion pobl, nid yn unig o ran cael mynediad at ganolfannau cyflogaeth ac addysg a'r strydoedd mawr, ond hefyd, yn hollbwysig, gwasanaethau ysbyty a chanolfannau meddygol.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithio i bawb
4. Statement by the Cabinet Secretary for Transport and North Wales: Travel for all

Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, teithio i bawb. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.210

Item 4 is a statement by the Cabinet Secretary for Transport and North Wales, travel for all. I call on the Cabinet Secretary, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. People and communities across Wales use our transport system every day—to see friends and family, to get to work, to access healthcare, education and leisure activities. The ability to travel is something a lot of us take for granted: driving a car, catching a train or bus, calling a taxi, or taking a walk or cycling—overall, a pretty uneventful part of the day. Sadly, travelling is anything but uneventful for some. Since my appointment to this portfolio, I have met many people from different parts of Wales who have shared their poor experiences of using our transport networks. I was left feeling deeply saddened and disappointed. I was struck by how this affected their lives—losing confidence, their independence and their ability to access employment, education and vital public services.211

Now, barriers to travel are wide ranging, from a lack of level boarding on trains to not enough blue badge parking, fares that people struggle to afford, or something as basic as not having access to a toilet. The House of Commons' Transport Select Committee's 'Access denied' report, published last week, echoed this. It found that, of the disabled people who responded to their survey, just under 90 per cent experienced access challenges or barriers that make it difficult to travel either often, most of the time, or always. That's why I'm committed to changing the way that we do transport policy in Wales to ensure that access and inclusion is genuinely at the heart of everything that we do.212

Now, we're already taking a range of measures to break down those barriers. Our £800 million investment in new rolling stock, combined with over £1 billion of transformation of the core Valleys lines, is providing customers level boarding access from platform to train for passengers using services on the part of the network that we fully own and control. For the first time, many customers will be able to board trains independently, without having to book assistance in advance. They too will be able to turn up and go, moving freely across our country and beyond.213

We will undertake a rapid accessibility audit of rail stations in Wales, and work in partnership with UK Government to address the physical barriers facing people, ensuring those affected are involved in designing solutions to those problems. We'll seek to harness innovative ideas and technology to empower more people to travel. Transport for Wales has embarked on a comprehensive digital programme to provide accessible journey planning tools to anyone travelling in Wales. And, as bus reform is implemented, passengers will benefit from further integrated ticketing and joined-up services across public transport. This will not see the death of non-digital options, which will continue to be available to support everyone to travel.214

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn defnyddio ein system drafnidiaeth bob dydd—i weld ffrindiau a theulu, i fynd i'r gwaith, i gael mynediad at ofal iechyd, addysg a gweithgareddau hamdden. Mae'r gallu i deithio yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol: gyrru car, dal trên neu fws, galw tacsi, neu fynd am dro neu feicio—ar y cyfan, rhan eithaf digynnwrf o'r dydd. Yn anffodus, mae teithio yn unrhyw beth ond digynnwrf i rai. Ers fy mhenodiad i'r portffolio hwn, rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl o wahanol rannau o Gymru sydd wedi rhannu eu profiadau gwael wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth. Roeddwn i'n teimlo'n drist ac yn siomedig. Cefais fy nharo gan sut roedd hyn yn effeithio ar eu bywydau—colli hyder, eu hannibyniaeth a'u gallu i gael mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Nawr, mae rhwystrau rhag teithio yn eang, o ddiffyg mynediad gwastad i drenau i brinder mannau parcio bathodyn glas, prisiau siwrneiau y mae pobl yn cael trafferth eu fforddio, neu rywbeth mor sylfaenol â bod heb fynediad i doiled. Roedd adroddiad 'Access denied' Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Drafnidiaeth, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn adleisio hyn. Canfu, o'r bobl anabl a ymatebodd i'w arolwg, bod ychydig o dan 90 y cant wedi profi heriau mynediad neu rwystrau sy'n ei gwneud hi'n anodd teithio naill ai'n aml, y rhan fwyaf o'r amser, neu bob amser. Dyna pam rwyf wedi ymrwymo i newid y ffordd rydym ni'n gwneud polisi trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau bod mynediad a chynhwysiant yn wirioneddol wrth wraidd popeth rydym ni'n ei wneud.

Nawr, rydym eisoes yn cymryd ystod o fesurau i chwalu'r rhwystrau hynny. Mae ein buddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau newydd, ynghyd â dros £1 biliwn i drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd, yn darparu mynediad gwastad i gwsmeriaid o blatfform i drên i deithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau ar ran y rhwydwaith yr ydym yn berchen arni ac yn ei rheoli'n llawn. Am y tro cyntaf, bydd llawer o gwsmeriaid yn gallu mynd ar drenau yn annibynnol, heb orfod trefnu cymorth ymlaen llaw. Byddant hefyd yn gallu troi i fyny a mynd, gan symud yn rhydd ar draws ein gwlad a thu hwnt.

Byddwn yn cynnal archwiliad hygyrchedd cyflym o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r rhwystrau ffisegol sy'n wynebu pobl, gan sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn chwarae rhan wrth i ni ddylunio atebion i'r problemau hynny. Byddwn yn ceisio defnyddio syniadau a thechnoleg arloesol i rymuso mwy o bobl i deithio. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cychwyn ar raglen ddigidol gynhwysfawr i ddarparu offer cynllunio teithiau hygyrch i unrhyw un sy'n teithio yng Nghymru. Ac, wrth i ddiwygio bysiau gael ei weithredu, bydd teithwyr yn elwa ar docynnau integredig pellach a gwasanaethau cydgysylltiedig ar draws trafnidiaeth gyhoeddus. Ni fydd hyn yn gweld diwedd ar opsiynau nad ydynt yn ddigidol, a byddant yn parhau i fod ar gael i gefnogi pawb i deithio.

As we’ve just heard, buses are a vital public service and a lifeline for some of the most vulnerable and isolated people in our society. The bus Bill will help lay the foundations of a network that prioritises the people who rely on these services. It will allow us to prioritise making services more accessible, helping people feel safe and welcomed as a result.215

Our new TrawsCymru vehicles are compliant with public service vehicle accessibility regulations and the latest accessible information regulations. Passengers benefit from bilingual next stop displays and audio announcements, as well as induction loop functionality. We’re also working to increase the number of wheelchair spaces available. We’ll build on these successes and renew the bus fleet in Wales to the level of the latest accessibility regulations as we implement bus reform here in Wales. I was delighted to visit Cardiff bus interchange in the new year and see the range of accessibility features, including tactile paving, improved signage, accessible seating and inclusive toilets. Building accessibility into our infrastructure right from the design phase not only saves time and money by avoiding retrofits, it also means accessibility is always at the forefront of everyone’s minds. I thank the Transport for Wales access and inclusion panel for their ongoing involvement and expertise in such projects.216

To build on this approach, Transport for Wales will establish a dedicated travel for all team to work across all transport modes to embed accessibility and inclusivity in all aspects of our work. It will become a centre of excellence for transport professionals across Wales, including local authorities and corporate joint committees, to get professional advice and support in designing and delivering accessible schemes, seeking out best practice from around the world. This will include how to better involve people with a wide range of lived experiences in our work. Without a full understanding of the barriers people face every day, we will never be able to eliminate them. The team will support local government to ensure that they have genuine involvement so that, as they deliver their regional transport plans, they thoroughly assess the impacts of their plans on people and communities, and involve them in designing and delivering their transport schemes.217

I’m keen that we engage and involve all voices at all levels to ensure that we capture lived experiences and encourage a diverse range of views in the design of our transport policies and strategies. We will establish an inclusive travel board, which will work across transport modes and include representation from all protected characteristics. It will work with our existing active travel and road safety boards to support officials and Transport for Wales in making our transport networks feel safe and welcoming, and, importantly, improve accessibility. This work will include our first dedicated disabled people’s inclusive travel panel during 2025-26. This will help ensure that the rights and voices of disabled people are central to shaping transport policies. By integrating their perspectives and expertise, we aim to create an inclusive transport infrastructure that respects and upholds the rights of all disabled people.218

Now, our 10-year disabled people’s rights plan, set to be published for consultation this spring, aims to remove barriers and create long-term positive change for disabled people, placing the social model of disability at the core of our vision for Wales. We’ll set up an external advisory board to provide advice and support on the implementation, delivery and impact of the disabled people’s rights plan, which will work closely with our disabled people’s inclusive travel panel and the Transport for Wales access and inclusion group.219

Of course, accessibility can mean different things to different people. There is no one-size-fits-all approach. Our approach to blue badges in Wales has been one guided by enforcement and reducing fraud, but this has left many people having to share the same information time and time again to obtain one, only to start the process again within three years when they need to re-apply. I’ll convene an expert group working in partnership with local authorities and the WLGA to explore all options to better share data and cut down on the burden facing people with a real need for accessible parking and a blue badge.220

Listening to and acting on the views of children and young people is something that I’m passionate about. I’ve met many young people in particular who have found the cost of using public transport a barrier to them seeking work or just getting out and about, seeing friends and family. The budget recently agreed by this Senedd includes plans for the introduction of a £1 cap on single bus journeys and a £3 cap on multiple journeys for all 16 to 21-year-olds, investing £15 million over the next two financial years. Young people have been calling for help, so that they can access education, employment, training and services, and this scheme will help them to do so simply and affordably.221

Our travel for all approach extends beyond public transport. Our streets, pavements and crossings are an important and sometimes overlooked part of transport networks. Barriers, such as cluttered street furniture, a lack of pedestrian crossings and poor lighting can discourage people from using them. Places where pedestrians and other modes of transport like cars, vans, cyclists and buses mix can also make people feel anxious, unwelcome and unsafe if they aren’t designed well. We have a responsibility to make sure that people are safe using our streets, and we can’t do that if people are recklessly using modified e-bikes or e-scooters alongside pedestrians, travelling at speeds that you’d expect from a car.222

The £45 million that I've allocated to local authorities this year for walking, wheeling and cycling includes £15 million of core funding—the same level as last year. I have asked local authorities to use at least 60 per cent of their core active travel funding to make tangible improvements on the ground quickly, like fixing or widening footways, dropping kerbs, installing seats, to create safer and better streets for all. Transport for Wales are using their design expertise to further strengthen accessible design principles in the refresh of the Active Travel (Wales) Act 2013 guidance. This will be based on extensive involvement of people with lived experience in solving the problems they face.223

I have clear ambitions for transport networks that work for all. These measures seek to put people at the centre of our policies, planning and delivery of transport services and infrastructure. We recognise that accessibility is both a non-negotiable matter of human rights and discrimination, and a health and safety issue. It is not an optional customer service matter. It is my ambition to see the next Senedd make travel for all a shared priority. Together, we will break down systemic barriers and make everyone feel safe and welcomed when travelling in Wales.224

Fel yr ydym newydd glywed, mae bysiau yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol ac yn achubiaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig yn ein cymdeithas. Bydd y Bil bysiau yn helpu i osod sylfeini rhwydwaith sy'n blaenoriaethu'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn. Bydd yn caniatáu i ni flaenoriaethu gwneud gwasanaethau yn fwy hygyrch, gan helpu pobl i deimlo'n ddiogel a bod croeso iddynt o ganlyniad.

Mae ein cerbydau newydd TrawsCymru yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a'r rheoliadau gwybodaeth hygyrch diweddaraf. Mae teithwyr yn elwa ar arddangosfeydd arhosiad nesaf dwyieithog a chyhoeddiadau sain, yn ogystal â gwasanaeth dolenni sain. Rydym hefyd yn gweithio i gynyddu nifer y lleoedd ar gyfer cadeiriau olwyn sydd ar gael. Byddwn yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn ac yn adnewyddu'r fflyd bysiau yng Nghymru i lefel y rheoliadau hygyrchedd diweddaraf wrth i ni weithredu diwygio bysiau yma yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â chyfnewidfa fysiau Caerdydd yn y flwyddyn newydd a gweld yr ystod o nodweddion hygyrchedd, gan gynnwys palmant botymog, arwyddion gwell, seddi hygyrch a thoiledau cynhwysol. Mae adeiladu hygyrchedd i'n seilwaith o'r cam dylunio nid yn unig yn arbed amser ac arian trwy osgoi ôl-osod, mae hefyd yn golygu bod hygyrchedd bob amser ar flaen meddyliau pawb. Diolch i banel mynediad a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru am eu cyfranogiad a'u harbenigedd parhaus mewn prosiectau o'r fath.

Er mwyn ategu'r dull hwn, bydd Trafnidiaeth Cymru yn sefydlu tîm teithio i bawb pwrpasol i weithio ar draws pob dull trafnidiaeth i ymgorffori hygyrchedd a chynhwysiant ym mhob agwedd ar ein gwaith. Bydd yn dod yn ganolfan ragoriaeth i weithwyr proffesiynol ym maes trafnidiaeth ledled Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig, i gael cyngor a chefnogaeth broffesiynol wrth ddylunio a chyflawni cynlluniau hygyrch, gan chwilio am arfer gorau o bob cwr o'r byd. Bydd hyn yn cynnwys sut i gynnwys pobl ag ystod eang o brofiadau bywyd yn ein gwaith. Heb ddealltwriaeth lawn o'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu bob dydd, ni fyddwn byth yn gallu eu dileu. Bydd y tîm yn cefnogi llywodraeth leol i sicrhau bod ganddynt gyfranogiad gwirioneddol fel eu bod, wrth iddynt gyflawni eu cynlluniau trafnidiaeth ranbarthol, yn asesu effeithiau eu cynlluniau ar bobl a chymunedau'n drylwyr, a'u cynnwys wrth ddylunio a chyflawni eu cynlluniau trafnidiaeth.

Rwy'n awyddus ein bod yn ymgysylltu ac yn cynnwys pob llais ar bob lefel i sicrhau ein bod yn casglu profiadau byw ac yn annog ystod amrywiol o safbwyntiau wrth ddylunio ein polisïau a'n strategaethau trafnidiaeth. Byddwn yn sefydlu bwrdd teithio cynhwysol, a fydd yn gweithio ar draws dulliau trafnidiaeth ac yn cynnwys cynrychiolaeth o'r holl nodweddion gwarchodedig. Bydd yn gweithio gyda'n byrddau teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd presennol i gefnogi swyddogion a Trafnidiaeth Cymru i wneud i'n rhwydweithiau trafnidiaeth deimlo'n ddiogel ac yn groesawgar, ac, yn bwysig, i wella hygyrchedd. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ein panel teithio cynhwysol pwrpasol cyntaf i bobl anabl yn ystod 2025-26. Bydd hwn yn helpu i sicrhau bod hawliau a lleisiau pobl anabl yn ganolog i lunio polisïau trafnidiaeth. Trwy integreiddio eu safbwyntiau a'u harbenigedd, rydym yn bwriadu creu seilwaith trafnidiaeth gynhwysol sy'n parchu ac yn cynnal hawliau pob person anabl.

Nawr, mae ein cynllun hawliau pobl anabl 10 mlynedd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad y gwanwyn hwn, yn ceisio cael gwared ar rwystrau a chreu newid cadarnhaol hirdymor i bobl anabl, gan roi'r model cymdeithasol o anabledd wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer Cymru. Byddwn yn sefydlu bwrdd cynghori allanol i ddarparu cyngor a chefnogaeth ar weithredu, cyflawni ac effaith y cynllun hawliau pobl anabl, a fydd yn gweithio'n agos gyda'n panel teithio cynhwysol i bobl anabl a grŵp mynediad a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru.

Wrth gwrs, gall hygyrchedd olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. Mae ein dull gweithredu o ran bathodynnau glas yng Nghymru wedi bod yn un sy'n cael ei arwain gan gamau gorfodi a lleihau twyll, ond mae hyn wedi gorfodi llawer o bobl i rannu'r un wybodaeth dro ar ôl tro er mwyn cael un, dim ond i ddechrau'r broses eto o fewn tair blynedd pan fydd angen iddynt ail-ymgeisio. Byddaf yn cynnull grŵp arbenigol sy'n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a CLlLC i archwilio'r holl opsiynau i rannu data yn well a lleihau'r baich sy'n wynebu pobl sydd ag angen gwirioneddol am barcio hygyrch a bathodyn glas.

Mae gwrando ar farn plant a phobl ifanc a gweithredu ar y farn honno yn rhywbeth rydw i'n angerddol amdano. Rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl ifanc yn arbennig sydd wedi gweld y gost o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr iddyn nhw wrth iddyn nhw chwilio am waith neu fynd allan, gweld ffrindiau a theulu. Mae'r gyllideb y cytunwyd arni yn ddiweddar gan y Senedd hon yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cyflwyno cap o £1 ar deithiau bysiau sengl a chap o £3 ar deithiau lluosog ar gyfer pob person ifanc 16 i 21 oed, gan fuddsoddi £15 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf. Mae pobl ifanc wedi bod yn galw am help, fel y gallant gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwasanaethau, a bydd y cynllun hwn yn eu helpu i wneud hynny yn syml ac yn fforddiadwy.

Mae ein dull teithio i bawb yn ymestyn y tu hwnt i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae ein strydoedd, palmentydd a chroesfannau yn rhan bwysig o rwydweithiau trafnidiaeth ac weithiau wedi'u hanwybyddu. Gall rhwystrau, fel dodrefn stryd anniben, diffyg croesfannau i gerddwyr a goleuo gwael atal pobl rhag eu defnyddio. Gall mannau lle mae cerddwyr a dulliau trafnidiaeth eraill fel ceir, faniau, beicwyr a bysiau yn cymysgu hefyd wneud i bobl deimlo'n bryderus, yn anniogel ac nad oes croeso iddynt os nad ydynt wedi'u cynllunio'n dda. Mae gennym gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel wrth ddefnyddio ein strydoedd, ac ni allwn wneud hynny os yw pobl yn fyrbwyll wrth ddefnyddio e-feiciau neu e-sgwteri wedi'u haddasu ochr yn ochr â cherddwyr, gan deithio ar gyflymder y byddech chi'n ei ddisgwyl gan gar.

Mae'r £45 miliwn rydw i wedi'i ddyrannu i awdurdodau lleol eleni ar gyfer cerdded, olwyno a beicio yn cynnwys £15 miliwn o gyllid craidd—yr un lefel â'r llynedd. Rwyf wedi gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio o leiaf 60 y cant o'u cyllid teithio llesol craidd i wneud gwelliannau diriaethol ar lawr gwlad yn gyflym, fel trwsio neu ehangu troedffyrdd, cyflwyno cyrbau isel, gosod seddi, er mwyn creu strydoedd mwy diogel a gwell i bawb. Mae Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio eu harbenigedd dylunio i gryfhau egwyddorion dylunio hygyrch ymhellach wrth adnewyddu canllawiau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Bydd hyn yn seiliedig ar gyfranogiad helaeth pobl sydd â phrofiad bywyd wrth ddatrys y problemau y maen nhw'n eu hwynebu.

Mae gennyf i uchelgeisiau clir ar gyfer rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n gweithio i bawb. Mae'r mesurau hyn yn ceisio sicrhau bodi pobl yn ganolog i'n polisïau, cynllunio a darparu gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith. Rydym yn cydnabod bod hygyrchedd yn fater o hawliau dynol a gwahaniaethu nad yw'n agored i drafodaeth, ac yn fater iechyd a diogelwch. Nid yw'n fater gwasanaeth cwsmeriaid dewisol. Fy uchelgais yw gweld y Senedd nesaf yn gwneud teithio i bawb yn flaenoriaeth a rennir. Gyda'n gilydd, byddwn yn chwalu rhwystrau systemig ac yn gwneud i bawb deimlo'n ddiogel a bod croeso iddyn nhw wrth deithio yng Nghymru.

15:45

Can I thank you again, Cabinet Secretary, for this statement? I really do welcome this statement. It's comprehensive; there's an awful lot in it, and it's difficult to reflect on all of it in such a short period.225

Inclusive transport is key, if we are to ensure that Wales is a fair and accessible place for everyone looking to travel for any reason. In this day and age, it should be a given that all parts of society can access all transport modes. It's a sad fact that we are where we are at the moment. I welcome much of the statement, and I'm glad that we've seen that investment in our rail system, especially the rolling stock, which was far too old.226

And you are right, that, sadly, barriers to travel are wide ranging. One of the barriers, as we've talked about to date, is to education and employment, and part of that is the lack of transport availability for everyone. I recognise that you are taking steps to ensure that new infrastructure is put in place and more suitable, but, as you recognise, it has to be suitable for all. On a broader point, Cabinet Secretary, while I'm glad you are taking action to improve accessibility, the fact is that far too much of our transport infrastructure is creaking, and it's a shame that it's taken until now to implement more opportunities for access for all.227

Transport for Wales has been long criticised for its delays and poor customer service, which are improving now, but still frustrate passengers. Indeed, complaints about accessibility and TfW have more than doubled since 2021. You mention undertaking an audit of rail stations in Wales. When can we expect to see that come to fruition? And how long do you envisage it will take to put right the shortfalls that are found relating to access for all? 228

Furthermore, Cabinet Secretary, the bus services continue to diminish, as we've talked about just before, especially across our rural communities, restricting movement for those who are most vulnerable in our community. And while I know the bus Bill, as we've discussed, has come forward, and I look forward to scrutinising it, the truth is that the bus Bill may not be the magic bullet and the core issues that many operators and passengers are facing will not change. But let's hope that they will. 229

However, you have an opportunity through the use of this legislation to improve accessibility for disabled people. So, with this in mind, Cabinet Secretary, what steps will you take to use this legislation to drive improvement? And as we know, it's not just the disabled in society who face barriers; many elderly and vulnerable people do also. I wonder what assurance you can give to this important demographic. Many bus stops, for instance, lack essential facilities, like just benches for people to sit on while they're waiting for their buses. I welcome the establishment of the inclusive travel board to work across all areas of transport and modes of transport. I think that that's a good thing. I think it will be a good thing.230

The statement highlighted the importance of affordable travel, but the simple fact is that a 2022 report found that, since 2012, fuel prices have risen by less than 10 per cent while rail, coach and bus ticket prices have increased by between 33 per cent and 56 per cent. Bus fares increased by 3.5 per cent from 2019 to 2020 alone, and a 3.8 per cent increase in rail fares was announced in 2022. Higher fares have a greater impact on people who rely heavily on public transport as well as people on lower incomes. For the 23 per cent of people in Wales who do not have access to a car, public transport services—as I know you said earlier—are relied upon to access the basic and essential services. So, it's incredibly important that we keep costs low as well as getting reliability right. I hope, in the emerging bus Bill, that we're not only looking at integrated ticketing, but the price of those tickets, because it's quite fundamental to all demographics within our country to make sure that public transport is not only accessible, it's affordable. 231

A gaf i ddiolch i chi eto, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad hwn? Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr. Mae'n gynhwysfawr; mae yna lawer iawn ynddo, ac mae'n anodd myfyrio ar y cyfan mewn cyfnod mor fyr.

Mae trafnidiaeth gynhwysol yn allweddol, os ydym am sicrhau bod Cymru yn lle teg a hygyrch i bawb sy'n dymuno teithio am unrhyw reswm. Yn yr oes hon, dylai fod yn ffaith ddiamheuol y gall pob rhan o gymdeithas gael mynediad at bob dull teithio. Mae'n ffaith drist ein bod ni lle rydym ni ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu llawer o'r datganiad, ac rwy'n falch ein bod wedi gweld y buddsoddiad hwnnw yn ein system reilffyrdd, yn enwedig y cerbydau, a oedd yn llawer rhy hen.

Ac rydych chi'n iawn, bod rhwystrau rhag teithio yn anffodus yn eang. Un o'r rhwystrau, fel yr ydym wedi siarad amdano hyd yma, yw'r rhwystr rhag addysg a chyflogaeth, a rhan o hynny yw'r ffaith nad yw trafnidiaeth ar gael i bawb. Rwy'n cydnabod eich bod yn cymryd camau i sicrhau bod seilwaith newydd yn cael ei roi ar waith ac sy'n fwy addas, ond, fel yr ydych yn cydnabod, mae'n rhaid iddo fod yn addas i bawb. Ar bwynt ehangach, Ysgrifennydd Cabinet, er fy mod yn falch eich bod yn cymryd camau i wella hygyrchedd, y gwir yw bod llawer gormod o'n seilwaith trafnidiaeth yn gwegian, ac mae'n drueni ei bod wedi cymryd tan nawr i weithredu mwy o gyfleoedd ar gyfer mynediad i bawb.

Mae rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru wedi cael ei feirniadu ers amser maith am ei oedi a'i wasanaeth cwsmeriaid gwael, sy'n gwella nawr, ond sy'n dal i greu rhwystredigaeth i deithwyr. Yn wir, mae cwynion am hygyrchedd a TrC wedi mwy na dyblu ers 2021. Rydych chi'n sôn am gynnal archwiliad o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru. Pryd allwn ni ddisgwyl gweld hynny'n dwyn ffrwyth? A pha mor hir ydych chi'n rhagweld y bydd yn ei gymryd i gywiro'r diffygion sy'n cael eu canfod mewn perthynas â mynediad i bawb? 

Ar ben hynny, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r gwasanaethau bysiau yn parhau i leihau, fel yr ydym wedi ei drafod gynnau, yn enwedig ar draws ein cymunedau gwledig, gan gyfyngu ar symud i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Ac er fy mod yn gwybod bod y Bil bysiau, fel yr ydym wedi'i drafod, wedi ei gyflwyno, ac rwy'n edrych ymlaen at graffu arno, y gwir yw efallai nad y Bil bysiau yw'r un ateb syml ac ni fydd y materion craidd y mae llawer o weithredwyr a theithwyr yn eu hwynebu yn newid. Ond gadewch i ni obeithio y byddant.

Fodd bynnag, mae gennych gyfle trwy ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hon i wella hygyrchedd i bobl anabl. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd Cabinet, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hon i ysgogi gwelliant? Ac fel y gwyddom, nid dim ond yr anabl mewn cymdeithas sy'n wynebu rhwystrau; mae llawer o bobl oedrannus ac agored i niwed hefyd yn eu hwynebu. Tybed pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r grŵp demograffig pwysig hwn. Mae llawer o  safleoedd bws, er enghraifft, heb gyfleusterau hanfodol, fel meinciau i bobl eistedd arnynt wrth iddynt aros am fws. Rwy'n croesawu sefydlu'r bwrdd teithio cynhwysol i weithio ar draws pob maes trafnidiaeth a dulliau teithio. Rwy'n credu bod hwnnw'n beth da. Rwy'n credu y bydd yn beth da.

Tynnodd y datganiad sylw at bwysigrwydd teithio fforddiadwy, ond y ffaith syml yw bod adroddiad yn 2022 wedi canfod bod prisiau tanwydd wedi codi llai na 10 y cant ers 2012 tra bod prisiau tocynnau rheilffyrdd, coetsys a bysiau wedi cynyddu rhwng 33 y cant a 56 y cant. Cynyddodd prisiau bysiau 3.5 y cant rhwng 2019 a 2020 yn unig, a chyhoeddwyd cynnydd o 3.8 y cant mewn prisiau tocynnau trên yn 2022. Mae prisiau uwch yn cael mwy o effaith ar bobl sy'n dibynnu'n helaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â phobl ar incwm is. Ar gyfer y 23 y cant o bobl yng Nghymru nad oes ganddynt gar, mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus—fel y gwn y dywedoch yn gynharach—yn hanfodol ar gyfer cael mynediad at y gwasanaethau sylfaenol a hanfodol. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod yn cadw costau yn isel yn ogystal â chael dibynadwyedd yn iawn. Rwy'n gobeithio, yn y Bil bysiau sydd ar ddod, ein bod nid yn unig yn edrych ar docynnau integredig, ond pris y tocynnau hynny, oherwydd mae'n eithaf sylfaenol i bob grŵp demograffig yn ein gwlad i wneud yn siŵr bod trafnidiaeth gyhoeddus nid yn unig yn hygyrch, ond ei bod yn fforddiadwy. 

15:50

Well, I'm very grateful for Peter Fox's response to this oral statement. I also recently asked Transport for Wales to ensure that the access and inclusion panel, which has proved so valuable in advising on the whole array of modes in which Transport for Wales has an interest—to make sure that they have their full support in discharging their invaluable advice and support.232

The audit that I mentioned concerning train stations I would hope will be completed over the summer. And on the future of rail investment, we're in discussions with UK Government on the future specifically of the access for all programme. But I think it's well recognised now that Wales has a disproportionately large number of stations that still, unfortunately, do not have step-free access. And in many circumstances, such as with my local station at Ruabon, if you're not able-bodied, it's incredibly difficult to gain access to the northbound platform. So, we'll undertake that work rapidly between now and the summer. I'll obviously report back to Members with the results of that particular audit. 233

I would agree entirely with Peter Fox that the bus Bill in itself is not a panacea for the problems that the bus network faces, but it will provide significant help in driving benefits for people who wheel, people who are deaf, partially sighted, blind, who push pushchairs, because what we're going to be able to do with contracts is to ensure that driver training is of the highest standard. When we acquire new buses, as we have done with the TrawsCymru network, we can make them far, far more accessible. And that can apply because Transport for Wales may be in a position to be able to purchase and then lease the buses. That would apply to SMEs, not just the larger operators who, perhaps, have deeper pockets to purchase those incredibly advanced vehicles. So, the bus Bill will go a considerable way, but it's not the only solution that needs to be pursued in this regard. 234

I would agree entirely that some of the simple things really matter considerably. Leaking bus stops, information that is not up to date, lighting that isn't working, these are all combined factors that prevent people, inhibit people from accessing public transport or from being active in their daily lives. And, as I outlined in the statement, we're getting to grips with them. 235

Integrated ticketing as well will be hugely important—integrated ticketing across the network and also integrated with rail services. But a fair fare regime is going to be vitally important in driving social justice and enabling those who simply can't afford any other means of transport to get from A to B for whatever purpose.236

Wel, rwy'n ddiolchgar iawn am ymateb Peter Fox i'r datganiad llafar hwn. Yn ddiweddar, gofynnais hefyd i Trafnidiaeth Cymru sicrhau bod y panel mynediad a chynhwysiant, sydd wedi profi mor werthfawr wrth gynghori ar yr ystod gyfan o ddulliau y mae gan Trafnidiaeth Cymru ddiddordeb ynddynt—i sicrhau bod ganddynt eu cefnogaeth lawn i gyflawni eu cyngor a'u cefnogaeth amhrisiadwy.

Bydd yr archwiliad a grybwyllais ynglŷn â gorsafoedd trên yn cael ei gwblhau, gobeithio, dros yr haf. Ac ar ddyfodol buddsoddiad rheilffyrdd, rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar ddyfodol, yn benodol y rhaglen mynediad i bawb. Ond rwy'n credu ei bod yn cael ei gydnabod yn eang nawr bod gan Gymru nifer anghymesur o fawr o orsafoedd sydd eto, yn anffodus, heb fynediad di-risiau. Ac mewn llawer o amgylchiadau, fel gyda fy ngorsaf leol yn Rhiwabon, os ydych yn anabl, mae'n anhygoel o anodd cael mynediad i'r platfform tua'r gogledd. Felly, byddwn yn ymgymryd â'r gwaith hwnnw'n gyflym rhwng nawr a'r haf. Byddaf yn amlwg yn adrodd yn ôl i'r Aelodau gyda chanlyniadau'r archwiliad penodol hwnnw. 

Byddwn yn cytuno'n llwyr â Peter Fox nad yw'r Bil bysiau ynddo'i hun yn ateb i bob problem y mae'r rhwydwaith bysiau yn ei hwynebu, ond bydd yn rhoi cymorth sylweddol i ysgogi buddion i bobl sy'n olwyno, pobl fyddar, pobl sy'n gweld yn rhannol, pobl sy'n ddall, pobl sydd â chadair wthio, oherwydd yr hyn rydym ni'n mynd i allu ei wneud gyda chontractau yw sicrhau bod hyfforddiant gyrwyr o'r safon uchaf. Pan fyddwn yn caffael bysiau newydd, fel y gwnaethom gyda rhwydwaith TrawsCymru, gallwn eu gwneud yn llawer mwy hygyrch. A gall hynny fod yn berthnasol oherwydd efallai y bydd Trafnidiaeth Cymru mewn sefyllfa i allu prynu ac yna rhoi'r bysiau ar les. Byddai hynny'n berthnasol i fusnesau bach a chanolig, nid dim ond y gweithredwyr mwy sydd, efallai, â phocedi dyfnach i brynu'r cerbydau hynod ddatblygedig hynny. Felly, bydd y Bil Bysiau yn cyflawni llawer, ond nid dyma'r unig ateb y mae angen ei ddilyn yn hyn o beth.

Byddwn yn cytuno'n llwyr fod rhai o'r pethau syml yn bwysig iawn. Safleoedd bws sy'n gollwng dŵr, gwybodaeth nad yw'n gyfredol, goleuadau nad ydynt yn gweithio, mae'r rhain i gyd yn ffactorau cyfunol sy'n atal pobl, yn rhwystro pobl rhag cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus neu rhag bod yn egnïol yn eu bywydau bob dydd. Ac, fel yr amlinellais yn y datganiad, rydym ni'n mynd i'r afael â nhw. 

Bydd tocynnau integredig hefyd yn hynod bwysig—tocynnau integredig ar draws y rhwydwaith a hefyd wedi'u hintegreiddio â gwasanaethau rheilffyrdd. Ond mae trefn pris siwrnai deg yn mynd i fod yn hanfodol bwysig wrth ysgogi cyfiawnder cymdeithasol a galluogi'r rhai nad ydynt yn gallu fforddio unrhyw ffordd arall o drafnidiaeth i fynd o A i B beth bynnag yw'r diben.

15:55

Diolch yn fawr am y datganiad yma y prynhawn yma.237

Thank you very much for this statement this afternoon.

There's very little to disagree with in your statement, and I too have had those conversations with people the length and breadth of Wales, and it saddens me too that our systems aren't up to scratch. Of course, we wholeheartedly support the principle that transport must be inclusive. Everybody should have access to safe, accessible and affordable transport options. Unfortunately, it's not the case for all people across Wales, and I raised this very issue with you just a few weeks ago, so I won't go into those details again, but I want to stress an important point, that active travel and inclusive travel must not be seen as competing priorities. They go hand in hand.238

Investing in better pavements, fixing dropped kerbs and potholes, tackling e-bike misuse and making roads safer are all essential steps in making active travel more accessible. My colleague Delyth Jewell, when she was transport spokesperson, was particularly focused on improving safety and infrastructure in public spaces, ensuring that women and vulnerable people feel safer when travelling. Given the new focus on transport for all, I'd welcome a meeting between the Cabinet Secretary, myself and Delyth to explore how that work can be continued.239

You mentioned on BBC Politics Wales this Sunday that money was being made available to fix potholes. A promise to repair 100,000 potholes is very welcome, but fixing roads alone doesn't deliver the transformative shift that Wales needs in transport. And what is a bit of a concern for me is the transparency. Where does the money come from to back up this statement today? And maybe you could give us a breakdown of what's been defunded to be able to afford some of these payments. That would be of great interest.240

We know that active travel funding will no longer be ring-fenced, but I note that you've asked local government to spend 60 per cent of their core active travel funding on walking, wheeling and cycling. So, what discussions did you have with local authorities on the practicalities of doing that? Are they in a position to be able to deliver on that, and are you confident that the funding will meet the need and how that's been split across local authorities? But does it mean that the Government is shifting funding away from active travel towards road maintenance, which is a concern for some cyclists and walkers and wheelers? So, can you be clear on those priorities and address some of those concerns that cyclists and wheelers and walkers may have in some of this statement?241

Plaid Cymru will always continue to strive for a transport strategy that is both inclusive and ambitious, and that truly delivers for our communities, so I welcome this statement today. Diolch yn fawr.242

Nid oes llawer iawn i anghytuno ag ef yn eich datganiad, ac rwyf hefyd wedi cael y sgyrsiau hynny gyda phobl ar hyd a lled Cymru, ac mae'n drist i mi hefyd nad yw ein systemau yn barod. Wrth gwrs, rydym yn cefnogi'n llwyr yr egwyddor bod yn rhaid i drafnidiaeth fod yn gynhwysol. Dylai pawb gael mynediad at opsiynau trafnidiaeth diogel, hygyrch a fforddiadwy. Yn anffodus, nid yw'n wir i bawb ledled Cymru, a chodais y mater hwn gyda chi ychydig wythnosau yn ôl, felly ni fyddaf yn mynd i mewn i'r manylion hynny eto, ond rwyf eisiau pwysleisio pwynt pwysig, na ddylid ystyried teithio llesol a theithio cynhwysol fel blaenoriaethau cystadleuol. Maen nhw'n mynd law yn llaw.

Mae buddsoddi mewn palmentydd gwell, trwsio cyrbau isel a thyllau yn y ffordd, mynd i'r afael â chamddefnyddio e-feiciau a gwneud ffyrdd yn fwy diogel i gyd yn gamau hanfodol i wneud teithio llesol yn fwy hygyrch. Roedd fy nghyd-Aelod Delyth Jewell, pan oedd hi'n llefarydd trafnidiaeth, yn canolbwyntio'n arbennig ar wella diogelwch a seilwaith mewn mannau cyhoeddus, gan sicrhau bod menywod a phobl agored i niwed yn teimlo'n fwy diogel wrth deithio. O ystyried y ffocws newydd ar drafnidiaeth i bawb, byddwn yn croesawu cyfarfod rhwng yr Ysgrifennydd Cabinet, fi a Delyth i archwilio sut y gellir parhau â'r gwaith hwnnw.

Fe wnaethoch chi sôn ar y rhaglen Politics Wales ar y BBC ddydd Sul yma bod arian yn cael ei ddarparu i drwsio tyllau yn y ffordd. Mae addewid i atgyweirio 100,000 o dyllau yn cael ei groesawu'n fawr, ond nid yw trwsio ffyrdd ar ei ben ei hun yn cyflawni'r newid trawsnewidiol sydd ei angen ar Gymru o ran trafnidiaeth. A'r hyn sy'n dipyn o bryder i mi yw'r tryloywder. O ble mae'r arian yn dod i gefnogi'r datganiad hwn heddiw? Ac efallai y gallech roi dadansoddiad i ni o'r hyn sydd wedi'i ddadariannu er mwyn gallu fforddio rhai o'r taliadau hyn. Byddai hynny o ddiddordeb mawr.

Rydym yn gwybod na fydd cyllid teithio llesol yn cael ei neilltuo mwyach, ond rwy'n nodi eich bod wedi gofyn i lywodraeth leol wario 60 y cant o'u cyllid teithio llesol craidd ar gerdded, olwyno a beicio. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi gydag awdurdodau lleol ar ymarferoldeb gwneud hynny? A ydyn nhw mewn sefyllfa i allu cyflawni hynny, ac a ydych chi'n hyderus y bydd y cyllid yn diwallu'r angen a sut mae hynny wedi'i rannu ar draws awdurdodau lleol? Ond a yw'n golygu bod y Llywodraeth yn symud cyllid i ffwrdd o deithio llesol tuag at gynnal a chadw ffyrdd, sy'n bryder i rai beicwyr a cherddwyr ac olwynwyr? Felly, allwch chi fod yn glir ynghylch y blaenoriaethau hynny a mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hynny sydd efallai gan feicwyr ac olwynwyr a cherddwyr yn rhan o'r datganiad hwn?

Bydd Plaid Cymru bob amser yn parhau i ymdrechu am strategaeth drafnidiaeth sy'n gynhwysol ac yn uchelgeisiol, ac sy'n wirioneddol yn cyflawni ar gyfer ein cymunedau, felly rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw. Diolch yn fawr.

Can I thank Peredur for his statement and for the questions that he raised? I think, from what I understand, the Member has heard from people with lived experience, and from what I've heard it's pretty obvious that more needs to be done to provide better transport for all, particularly in terms of accessible transport. Members may have recently read about the experience that Dame Tanni Grey-Thompson had on the railways—thankfully not a Transport for Wales service, but it was a pretty disgusting example of how a modern rail service is failing people, failing people who are the most vulnerable. And that's why it's absolutely vital that we pursue a travel for all agenda. And it doesn't just apply to active travel.243

My point about travel for all is that it applies to every mode. We must address every single mode and make each and every one of them more accessible. And transport modes are largely interfaced and integrated as well. Still, the single most popular active travel journey is the walk to the bus. And so, the condition of the street, the condition of the pavements, the condition of the street lights and the bus shelter will determine whether or not someone is active in getting to the bus stop. If they're not active in getting to the bus stop, in many cases, as Peter Fox has already outlined, because they don't have any other means of transport, they remain isolated. They don't go on the bus. 244

It's quite simple stuff, but just bolting everything together and making sure that we deal with the fundamentals is vitally important. The feedback that I've had from local authorities is that utilising 60 per cent of the core active travel fund this year will lead to on-the-ground, pretty simple, straightforward, easy, quick solutions to some of the issues that you and other Members have raised. That doesn't mean that it comes at the expense of the development of a long-term pipeline, because the funding allocation ensures that that takes place as well.245

There are other areas that I think need action—as I mentioned, illegal use of e-bikes, e-scooters. Some of them actually look more like motorbikes these days. I wouldn't know at a glance what is a legal bike and what is an illegal bike. On enforcement, we have to give our credit to the police. They do an amazing job on stretched resources, but trying to enforce this new culture of using e-mobility devices when some are illegal and others are legal is really difficult. I've been working with UK Government Ministers, Scottish Ministers and Northern Ireland to discuss how we can collectively deal with this pretty recent emerging challenge. It's a challenge that impacts not just on blind and partially sighted people, deaf people, parents pushing a pram, dog walkers, but it also impacts on other cyclists, it impacts on motorists as well, and it certainly impacts on people who use a wheelchair. I've heard that personally from the access and inclusion panel. So, we need to get to grips with that as well.246

Likewise, pavement parking, for various reasons that have been outlined over months and years. This is a hugely challenging, complicated issue to get to grips with. I met with UK Government Ministers recently about pavement parking, and there is recognition that it has to be addressed. It's been in the news, I think, nationally, that Ministers want to deal with this particular problem. My understanding is that the Department for Transport is considering amending regulation 103 of the road vehicles regulations to create a specific offence of unnecessary obstruction of the pavement. Longer term plans may also include considering a wider ban on pavement parking, which is a menace in many communities.247

I will also continue to work very closely with the access and inclusion panel as we develop different ideas and innovation and try to identify each and every hazard and barrier to moving safely and securely within our communities and across our communities. But I'd very much welcome a discussion with you and with Delyth, who I know was keen to pursue a piece of backbench legislation aimed at making movement and travel safer. It was largely focused, I think, on women, who feel incredibly vulnerable at times for some of the reasons that I've outlined, but I think the same issues apply to many individuals that we represent.248

In terms of fixing roads, the potholes that we'll be filling, the roads that we're going to be resurfacing, they'll be of benefit, obviously, to motorists, but also to cyclists; I think around 15 per cent of cycling accidents occur because of potholes. And of course, this money for local authorities, the local borrowing initiative, won't just apply to roads; it'll apply to pavements as well. Because—I'm afraid to say it—creaking infrastructure and pavements is a massive barrier to the elderly and the frail getting out of their homes. So, that money will support improvements in terms of pedestrian infrastructure as well.249

A gaf i ddiolch i Peredur am ei ddatganiad ac am y cwestiynau a gododd? Rwy'n credu, o'r hyn rwy'n ei ddeall, fod yr Aelod wedi clywed gan bobl sydd â phrofiad bywyd, ac o'r hyn rydw i wedi'i glywed mae'n eithaf amlwg bod angen gwneud mwy i ddarparu gwell trafnidiaeth i bawb, yn enwedig o ran trafnidiaeth hygyrch. Efallai fod yr Aelodau wedi darllen yn ddiweddar am y profiad a gafodd y Fonesig Tanni Grey-Thompson ar y rheilffyrdd—diolch byth, nid gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru, ond roedd yn enghraifft eithaf ffiaidd o sut mae gwasanaeth rheilffyrdd modern yn siomi pobl, yn siomi pobl sydd fwyaf agored i niwed. A dyna pam y mae'n hollol hanfodol ein bod yn mynd ar drywydd agenda teithio i bawb. Ac nid yw'n berthnasol i deithio llesol yn unig.

Fy mhwynt am deithio i bawb yw ei fod yn berthnasol i bob dull. Rhaid i ni fynd i'r afael â phob dull unigol a gwneud pob un ohonynt yn fwy hygyrch. Ac mae dulliau trafnidiaeth wedi'u rhyngwynebu a'u hintegreiddio i raddau helaeth hefyd. Eto, yr enghraifft fwyaf poblogaidd o deithio llesol yw'r daith gerdded i'r bws. Ac felly, bydd cyflwr y stryd, cyflwr y palmentydd, cyflwr y goleuadau stryd a'r safle bws yn penderfynu a yw rhywun yn cyflawni teithio llesol wrth gyrraedd y safle bws ai peidio. Os nad ydyn nhw'n cyflawni teithio llesol wrth gyrraedd y safle bws, mewn llawer o achosion, fel y mae Peter Fox eisoes wedi'i amlinellu, oherwydd nad oes ganddyn nhw unrhyw ddulliau teithio eraill, maen nhw'n aros yn ynysig. Dydyn nhw ddim yn mynd ar y bws.

Mae'n eithaf syml, ond mae dod â phopeth at ei gilydd a gwneud yn siŵr ein bod ni'n ymdrin â'r pethau sylfaenol yn hanfodol bwysig. Yr adborth rydw i wedi'i gael gan awdurdodau lleol yw y bydd defnyddio 60 y cant o'r gronfa teithio llesol craidd eleni yn arwain at atebion ar lawr gwlad, eithaf syml, hawdd, cyflym i rai o'r problemau rydych chi ac Aelodau eraill wedi'u codi. Nid yw hynny'n golygu ei fod yn dod ar draul datblygu llif prosiect hirdymor, oherwydd mae'r dyraniad cyllid yn sicrhau bod hynny'n digwydd hefyd.

Mae yna feysydd eraill lle rwy'n credu bod angen camau gweithredu—fel y soniais i, defnydd anghyfreithlon o e-feiciau, e-sgwteri. Mae rhai ohonynt mewn gwirionedd yn edrych yn debycach i feiciau modur y dyddiau hyn. Ni fyddwn yn gwybod ar olwg sydyn beth yw beic cyfreithlon a beth yw beic anghyfreithlon. O ran gorfodi, mae'n rhaid i ni dalu clod i'r heddlu. Maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel gydag adnoddau tynn, ond mae ceisio gorfodi'r diwylliant newydd hwn o ddefnyddio dyfeisiau e-symudedd pan fydd rhai yn anghyfreithlon ac eraill yn gyfreithlon yn anodd iawn. Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, Gweinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon i drafod sut y gallwn ymdrin gyda'n gilydd â'r her eithaf diweddar hon. Mae'n her sy'n effeithio nid yn unig ar bobl ddall a rhai sy'n gweld yn rhannol, pobl fyddar, rhieni sy'n gwthio pram, cerddwyr cŵn, ond mae hefyd yn effeithio ar feicwyr eraill, mae'n effeithio ar fodurwyr hefyd, ac mae'n sicr yn effeithio ar bobl sy'n defnyddio cadair olwyn. Rydw i wedi clywed hynny'n bersonol o'r panel mynediad a chynhwysiant. Felly, mae angen i ni fynd i'r afael â hynny hefyd.

Yn yr un modd, parcio ar y palmant, am wahanol resymau mae hwnnw wedi'u amlinellu dros fisoedd a blynyddoedd. Mae hwn yn fater hynod heriol, cymhleth i fynd i'r afael ag ef. Cyfarfûm â Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ddiweddar ynglŷn â pharcio ar y palmant, ac mae cydnabyddiaeth bod yn rhaid mynd i'r afael ag ef. Mae wedi bod yn y newyddion, rwy'n credu, yn genedlaethol, fod Gweinidogion eisiau ymdrin â'r broblem benodol hon. Fy nealltwriaeth yw bod yr Adran Drafnidiaeth yn ystyried diwygio rheoliad 103 o'r rheoliadau cerbydau ffyrdd i greu trosedd benodol o rwystro diangen ar y palmant. Gall cynlluniau tymor hwy hefyd gynnwys ystyried gwaharddiad ehangach ar barcio ar y palmant, sy'n fygythiad mewn llawer o gymunedau.

Byddaf hefyd yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r panel mynediad a chynhwysiant wrth i ni ddatblygu gwahanol syniadau ac arloesedd a cheisio nodi pob perygl a rhwystr rhag symud yn ddiogel yn ein cymunedau ac ar draws ein cymunedau. Ond byddwn yn croesawu trafodaeth gyda chi a gyda Delyth, yr wyf yn gwybod ei bod yn awyddus i fynd ar drywydd darn o ddeddfwriaeth meinciau cefn gyda'r nod o wneud symud a theithio yn fwy diogel. Roedd yn canolbwyntio i raddau helaeth, rwy'n credu, ar fenywod, sy'n teimlo'n anhygoel o agored i niwed ar adegau am rai o'r rhesymau rydw i wedi'u hamlinellu, ond rwy'n credu bod yr un materion yn berthnasol i lawer o unigolion rydym ni'n eu cynrychioli.

O ran trwsio ffyrdd, y tyllau y byddwn ni'n eu llenwi, y ffyrdd rydym ni'n mynd i roi wyneb newydd arnynt, byddant o fudd, yn amlwg, i fodurwyr, ond hefyd i feicwyr; rwy'n credu bod tua 15 y cant o ddamweiniau beicio yn digwydd oherwydd tyllau. Ac wrth gwrs, ni fydd yr arian hwn ar gyfer awdurdodau lleol, y fenter fenthyca leol, yn berthnasol i ffyrdd yn unig; bydd yn berthnasol i balmentydd hefyd. Oherwydd—rwy'n ofni dweud hyn—mae seilwaith a phalmentydd sy'n gwegian yn rhwystr enfawr i'r henoed a'r rhai agored i niwed o ran mynd allan o'u cartrefi. Felly, bydd yr arian hwnnw'n cefnogi gwelliannau o ran seilwaith cerddwyr hefyd.

16:00

There are seven speakers who still wish to contribute, and we are limited in time, so I expect all speakers to stick to their time, please. 250

Mae saith siaradwr sy'n dal yn dymuno cyfrannu, ac mae'r amser yn gyfyngedig, felly rwy'n disgwyl i bob siaradwr gadw at ei amser, os gwelwch yn dda. 

Given the focus of the statement this afternoon, it would be remiss of me not to recognise the investment into Flint station at the outset and the difference that's going to make in finally making Flint station fully accessible. I know many of us that were involved in campaigning for that for many years will be pleased to see it completed.251

Cabinet Secretary, I've written to you previously about my transport forum I held last year in Flint, and there were a number of concerns raised there about issues that disabled travellers may face. That was about infrastructure in terms of stations not being staffed or having toilets available, and the impact that has, but also more broadly about the infrastructure in terms of rolling stock. If there isn't any toilet suitable for disabled passengers on the train, many often struggle to use toilets because they're unable to get off the train at stops, because there isn't that assistance there.252

The final point around infrastructure I want to raise is what I could term digital infrastructure and potential exclusion from that. At the forum, concerns were raised about systems for accessing help on trains being online and via an app, which not every person has access to. They felt that there should be perhaps more accessible call stations for disabled people as well. So, can I ask what assurances you can give on this and how that can be addressed moving forward? Diolch.253

O ystyried ffocws y datganiad y prynhawn yma, byddai'n ddiofal ar fy rhan i mi beidio â chydnabod y buddsoddiad yng ngorsaf y Fflint ar y dechrau a'r gwahaniaeth y mae'n mynd i wneud i sicrhau bod gorsaf y Fflint yn gwbl hygyrch o'r diwedd. Rwy'n gwybod y bydd llawer ohonom a oedd yn ymgyrchu dros hynny ers blynyddoedd lawer yn falch o'i weld wedi'i gwblhau.

Ysgrifennydd Cabinet, rwyf wedi ysgrifennu atoch o'r blaen am fy fforwm trafnidiaeth a gynhaliais y llynedd yn y Fflint, ac roedd nifer o bryderon wedi'u codi yno am broblemau y gallai teithwyr anabl eu hwynebu. Roedd hynny'n ymwneud â seilwaith o ran gorsafoedd nad ydynt wedi'u staffio neu fod dim toiledau ar gael, ac effaith hynny, ond hefyd yn ehangach ynghylch y seilwaith o ran cerbydau. Os nad oes unrhyw doiled sy'n addas ar gyfer teithwyr anabl ar y trên, mae llawer yn aml yn cael trafferth defnyddio toiledau oherwydd nad ydyn nhw'n gallu dod oddi ar y trên mewn arosfannau, oherwydd nad yw'r cymorth hwnnw yno.

Y pwynt olaf ynghylch seilwaith yr wyf am ei godi yw'r hyn y gallwn ei alw'n seilwaith digidol ac eithrio posibl o hynny. Yn y fforwm, codwyd pryderon am systemau ar gyfer cael mynediad at gymorth ar drenau ar-lein a thrwy ap, nad oes gan bob person fynediad atynt. Roedden nhw'n teimlo y dylai fod gorsafoedd galw mwy hygyrch i bobl anabl hefyd. Felly, a gaf i ofyn pa sicrwydd y gallwch chi ei roi ynghylch hyn a sut gellir mynd i'r afael â hynny wrth symud ymlaen? Diolch.

16:05

Can I thank Hannah Blythyn for her questions? The work that's been done at Flint station is very welcome indeed, it's quite considerable investment we've seen at that particular station, but it is one of the most regularly used stations along the north Wales main line, vitally important, not just for Flint itself, but for surrounding communities. It would have been in the past, when I lived just outside of Mold, the go-to station for myself, so it does have quite a significant draw from the wider community. When I visited Flint station to see the work, it wasn't completed at that moment in time, but it did strike me that it had been designed and was being delivered in conjunction with the needs, hopes and desires, and ideas of people who face disabling barriers.254

The new trains that we have ordered and that are being delivered are a world apart from the ones that we inherited in 2018. We're taking the fleet from being one of the oldest in Europe to one of the newest, 270 trains to 484, and they include, of course, provision that is compliant with modern-day regulations.255

I do recognise that the issue of cash in an increasingly cashless environment is very challenging for some, but it is still possible on TfW trains to purchase a ticket on board with cash. That's something that I don't believe all transport operators are offering at present. Certainly a lot of airlines have gone to cashless only, I see, these days, but TfW are determined to make sure that inclusion and accessibility are at the very heart of the services they provide.256

A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau? Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud yng ngorsaf y Fflint i'w groesawu'n fawr iawn, mae'n fuddsoddiad eithaf sylweddol yr ydym wedi'i weld yn yr orsaf benodol honno, ond mae'n un o'r gorsafoedd a ddefnyddir fwyaf rheolaidd ar hyd prif linell y gogledd, yn hanfodol bwysig, nid yn unig i'r Fflint ei hun, ond i'r cymunedau cyfagos. Byddai wedi bod yn y gorffennol, pan oeddwn i'n byw ychydig y tu allan i'r Wyddgrug, yr orsaf o ddewis i mi, felly mae'n denu teithwyr o'r gymuned ehangach yn sylweddol. Pan ymwelais â gorsaf y Fflint i weld y gwaith, nid oedd wedi'i gwblhau ar yr adeg honno, ond fe wnaeth fy nharo ei bod wedi'i dylunio a'i bod yn cael ei chyflawni gan ystyried anghenion, gobeithion a dymuniadau, a syniadau pobl sy'n wynebu rhwystrau anabledd.

Mae'r trenau newydd yr ydym wedi'u harchebu ac sy'n cael eu dosbarthu yn hollol wahanol i'r rhai a etifeddwyd gennym yn 2018. O fod yn un o'r hynaf yn Ewrop mae ein fflyd yn awr yn un o'r rhai mwyaf modern, o 270 o drenau i 484, ac maen nhw'n cynnwys, wrth gwrs, darpariaeth sy'n cydymffurfio â rheoliadau modern.

Rwy'n cydnabod bod mater arian parod mewn amgylchedd sy'n gynyddol heb arian parod yn heriol iawn i rai, ond mae'n dal yn bosibl ar drenau TrC i brynu tocyn ar y trên gydag arian parod. Mae hynny'n rhywbeth nad wyf yn credu bod pob gweithredwr trafnidiaeth yn ei gynnig ar hyn o bryd. Yn sicr, mae llawer o gwmnïau hedfan wedi mabwysiadu system di-arian-parod, rwy'n gweld, y dyddiau hyn, ond mae TrC yn benderfynol o wneud yn siŵr bod cynhwysiant a hygyrchedd wrth wraidd y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu.

Thank you for the statement, Cabinet Secretary. It is very welcome, as there is so much to do, isn't there, in terms of making travel truly accessible for all in Wales. It is absolutely right to place that emphasis on accessibility when it comes to public transport, and I'd like to just say I welcome what you said about making improvements to the blue badge scheme as well. That's excellent to hear.257

When I visited Newport Bus recently, it was great to see the changes that they've already made to their fleet to fall in line with the new UK legislation to make buses fit for purpose for the hard of hearing, with those bilingual next stop monitors that you mentioned in your statement. But I also heard from Newport Bus and constituents how unsuitable some bus stops are in my region and across Wales for people with disabilities. My son and I spent the day on the bus on Sunday, as you do, and had a lovely time on our bus adventure, but I was quite shocked by the state of some of the bus stops, with no timetables, no seating, as my colleague said. Also, there was one bus stop that essentially dropped passengers off in a hedge in Penallt in Monmouthshire, which I didn't think was very good—258

Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae i'w groesawu'n fawr, gan fod cymaint i'w wneud, onid oes, o ran gwneud teithio yn wirioneddol hygyrch i bawb yng Nghymru. Mae'n gwbl iawn i roi'r pwyslais hwnnw ar hygyrchedd pan ddaw i drafnidiaeth gyhoeddus, a hoffwn ddweud fy mod yn croesawu'r hyn a ddywedoch am wneud gwelliannau i'r cynllun bathodyn glas hefyd. Mae hynny'n ardderchog i'w glywed.

Pan ymwelais â Bws Casnewydd yn ddiweddar, roedd yn wych gweld y newidiadau y maent eisoes wedi'u gwneud i'w fflyd i gyd-fynd â deddfwriaeth newydd y DU i wneud bysiau'n addas i'r diben ar gyfer pobl drwm eu clyw, gyda'r sgriniau safle nesaf dwyieithog hynny y soniwyd amdanynt yn eich datganiad. Ond clywais hefyd gan Fws Casnewydd ac etholwyr pa mor anaddas yw rhai safleoedd bws yn fy rhanbarth ac ar draws Cymru i bobl ag anableddau. Treuliodd fy mab a minnau'r diwrnod ar y bws ddydd Sul, fel mae rhywun yn ei wneud, a chael amser hyfryd ar ein hantur bws, ond cefais fy nychryn gan gyflwr rhai o'r safleoedd bws, heb amserlenni, dim seddi, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod. Hefyd, roedd un safle bws lle roedd teithwyr yn cael eu gollwng i wrych i bob pwrpas, ym Mhenallt yn sir Fynwy, ac nid oeddwn yn meddwl fod hwnnw'n beth da iawn—

You need to ask now, please.259

Mae angen i chi ofyn nawr, os gwelwch yn dda.

Yes, I will do. My question to you is this: obviously, this is mainly on local authorities, so will the Government be making more money available to local councils to ensure essential works can be carried out, or what conversations is he having with councils to push changes for the aims he outlines in the statement? Because without those safe, adapted bus stops, they will continue to be a barrier for people who require accessibility improvements across Wales. Diolch.260

Iawn, fe wnaf. Fy nghwestiwn i chi yw hyn: yn amlwg, mae hyn yn bennaf ynghylch awdurdodau lleol, felly a fydd y Llywodraeth yn rhoi mwy o arian i gynghorau lleol i sicrhau bod gwaith hanfodol yn cael ei wneud, neu pa sgyrsiau y mae'n ei chael gyda chynghorau i wthio newidiadau ar gyfer y nodau y mae'n eu hamlinellu yn y datganiad? Oherwydd heb y safleoedd bws diogel, wedi'u haddasu, byddant yn parhau i fod yn rhwystr i bobl sydd angen gwelliannau hygyrchedd ledled Cymru. Diolch.

Can I thank Laura Jones for her questions? The blue badge scheme is something that I know that Carolyn Thomas's Petitions Committee have considered quite extensively, and I've received a lot of correspondence, as you can imagine, over the years, regarding the scheme. I'm not comfortable with where we currently are on it, because it's basically designed with fraud in mind, and levels of fraud I don't think justify having to make every single person reapply and go through that tremendously bureaucratic process. So, I'm looking forward to convening local authorities, the WLGA and other organisations to discuss how we can share information and data.261

In regard to improving bus stops, the condition of our bus stops is largely an illustration of the effects of austerity over the years. As we move forward, we're looking at how Transport for Wales can work more closely with local authorities, not just in terms of improving bus stops, but in ensuring that we have them at a consistent high standard when it comes to the form of bus stop that is installed. Some bus stops simply don't prevent people from being subject to the elements, I'm afraid. There has to be a consistent approach that protects people and that provides up-to-date information, and in terms of lighting that ensures that people feel safe. So, we're looking at how we can support local authorities in that regard.262

As I said, the core funding for active travel will see immediate effect this coming financial year in terms of improving access to and from bus stops. I think there are in the region of 20,000 bus stops across Wales, so modernising them and improving them is going to be a significant piece of work. But they're an integral part of our streetscape, so doing this work on bus stops right now, looking at how we can utilise the most modern technology for information—and that might not be screens, it might be QR codes and so forth, or a combination of the two—we're going to do it through the eyes and lived experience of the most vulnerable in society so that we provide bus stops and other stations that can serve every single citizen's needs.263

A gaf i ddiolch i Laura Jones am ei chwestiynau? Mae'r cynllun bathodyn glas yn rhywbeth yr wyf yn gwybod bod Pwyllgor Deisebau Carolyn Thomas wedi'i ystyried yn eithaf helaeth, ac rwyf wedi derbyn llawer o ohebiaeth, fel y gallwch ddychmygu, dros y blynyddoedd, ynglŷn â'r cynllun. Nid wyf yn gyfforddus o ran lle rydym ni arni ar hyn o bryd, oherwydd mae'n cael ei gynllunio yn y bôn gyda thwyll mewn golwg, a lefelau twyll nad wyf yn credu eu bod yn cyfiawnhau gorfod gwneud i bob person ailymgeisio a mynd trwy'r broses hynod fiwrocrataidd honno. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gynnull awdurdodau lleol, CLlLC a sefydliadau eraill i drafod sut y gallwn rannu gwybodaeth a data.

O ran gwella safleoedd bws, mae cyflwr ein safleoedd bws yn enghraifft o effeithiau cyni dros y blynyddoedd. Wrth i ni symud ymlaen, rydym yn edrych i weld sut y gall Trafnidiaeth Cymru weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol, nid yn unig o ran gwella safleoedd bws, ond wrth sicrhau eu bod o safon uchel yn gyson o ran y math o safle bws sy'n cael ei osod. Nid yw rhai safleoedd bws yn amddiffyn pobl rhag yr elfennau, mae gen i ofn. Mae'n rhaid bod dull cyson sy'n amddiffyn pobl ac sy'n darparu gwybodaeth gyfredol, ac o ran goleuadau, sy'n sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel. Felly, rydym ni'n edrych i weld sut y gallwn gefnogi awdurdodau lleol yn hynny o beth.

Fel y dywedais i, bydd y cyllid craidd ar gyfer teithio llesol yn cael effaith ar unwaith yn y flwyddyn ariannol nesaf o ran gwella mynediad i safleoedd bws ac oddi yno. Rwy'n credu bod tua 20,000 o safleoedd bws ledled Cymru, felly mae eu moderneiddio a'u gwella yn mynd i fod yn ddarn sylweddol o waith. Ond maen nhw'n rhan annatod o'n strydlun, felly gwneud y gwaith hwn ar safleoedd bws ar hyn o bryd, edrych i weld sut y gallwn ddefnyddio'r dechnoleg fwyaf modern ar gyfer gwybodaeth—ac efallai nad sgriniau yw hynny, efallai mai codau QR ydyn nhw ac ati, neu gyfuniad o'r ddau—rydym ni'n mynd i wneud hynny trwy lygaid a phrofiad bywyd y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas fel ein bod ni'n darparu safleoedd bws a gorsafoedd eraill sy'n gallu diwallu anghenion pob dinesydd unigol.

16:10

I'm grateful to the Cabinet Secretary, again, for his statement. It'll be no surprise to him that I'm going to raise the Ebbw valley line with him and invite him to Abertillery to see where the potential is for the Abertillery spur to be completed and to connect the town to the overall rail network. But also, of course, he's aware of the issue with the use of bus passes on the Ebbw valley line, with the new service to Newport not a part of the overall concession scheme. I'd be grateful if he could—I know he's aware of it—continue to look into that. But there is a fundamental issue—it was touched on by Laura Anne Jones, in fact—in terms of the quality of service offered to people in different parts of the country. I'm very aware that, as you go further north or perhaps into the Heads of the Valleys, you do see lower quality vehicles and lower quality infrastructure. And what I think we need to be able to do if we are to achieve the modal switch that I think we all want to see is to ensure that there is an equality of access and an equality of infrastructure to support public transport across the whole of the country. I hope, also, that—264

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet, unwaith eto, am ei ddatganiad. Ni fydd yn syndod iddo fy mod i'n mynd i godi llinell Glynebwy gydag ef a'i wahodd i Abertyleri i weld ble mae'r potensial i gwblhau llinell gangen Abertyleri ac i gysylltu'r dref â'r rhwydwaith rheilffyrdd cyffredinol. Ond hefyd, wrth gwrs, mae'n ymwybodol o'r broblem gyda'r defnydd o basiau bysiau ar linell Glynebwy, gyda'r gwasanaeth newydd i Gasnewydd ddim yn rhan o'r cynllun consesiwn cyffredinol. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai—rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol ohono—barhau i edrych i mewn i hynny. Ond mae yna fater sylfaenol—fe grybwyllodd Laura Anne Jones hwn, mewn gwirionedd—o ran ansawdd y gwasanaeth a gynigir i bobl mewn gwahanol rannau o'r wlad. Rwy'n ymwybodol iawn, wrth i chi fynd ymhellach i'r gogledd neu efallai i mewn i Flaenau'r Cymoedd, eich bod chi'n gweld cerbydau o ansawdd is a seilwaith o ansawdd is. A'r hyn rwy'n credu sydd angen i ni ei wneud os ydym am gyflawni'r newid dulliau teithio yr wyf yn credu ein bod ni i gyd eisiau ei weld, yw sicrhau bod yna fynediad cyfartal a seilwaith cyfartal i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus ledled y wlad gyfan. Gobeithio, hefyd—

—he can look at blue badges to ensure that there is equality of access there. I was speaking to people in my constituency on Friday who pointed out that where there is a separated family and a blue badge for the child, quite often that can lead to some significant problems. I will write to the Cabinet Secretary on that matter, but I think it would be useful for us to review those things.266

—y gall edrych ar fathodynnau glas i sicrhau bod mynediad cyfartal yno. Roeddwn i'n siarad â phobl yn fy etholaeth ddydd Gwener a oedd yn nodi, lle mae teulu wedi gwahanu a bathodyn glas ar gyfer y plentyn, yn eithaf aml gall hynny arwain at rai problemau sylweddol. Fe ysgrifennaf at yr Ysgrifennydd Cabinet ar y mater hwnnw, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i ni adolygu'r pethau hynny.

Can I thank Alun Davies? I look forward to receiving his letter on that very important point. I think what the Member was saying about different standards of infrastructure and services largely goes back to the way that we've been dealing with investment decisions over many, many decades, where we utilise a Treasury Green Book that will always see more investment pumped into the most affluent areas, because that's how you get the biggest benefit-cost ratio.267

My understanding is that the Chancellor, Rachel Reeves, wants to move away from that, wants to reform that approach so that we can truly level up. But it's something that I and others in the Welsh Government have been acutely conscious of over many years, and that's why we've pursued—. And my goodness, we've faced some challenges with the dualling of the Heads of the Valleys road in terms of the cost of that particular scheme, but we pursued it because we knew that it would make a huge difference to people's lives in those communities that it serves. And we're acutely aware, as well, of the role that the metro will play in driving social justice and employment opportunities.268

We inherited the concession scheme that Alun Davies refers to. It's certainly always under review. The future of it is largely based on the cost and affordability, but as the Member said, we are regularly looking at that. And I would very much enjoy a visit to Abertillery with the Member to see where the spur could go.269

A gaf ddiolch i Alun Davies? Edrychaf ymlaen at dderbyn ei lythyr ar y pwynt pwysig iawn yna. Rwy'n credu bod yr hyn yr oedd yr Aelod yn ei ddweud am wahanol safonau seilwaith a gwasanaethau yn mynd yn ôl i raddau helaeth i'r ffordd yr ydym wedi bod yn ymdrin â phenderfyniadau buddsoddi dros ddegawdau lawer, lawer, lle rydym yn defnyddio Llyfr Gwyrdd y Trysorlys a fydd bob amser yn gweld mwy o fuddsoddiad yn cael ei roi yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog, oherwydd dyna sut rydych chi'n cael y gymhareb cost a budd fwyaf.

Fy nealltwriaeth i yw bod y Canghellor, Rachel Reeves, eisiau symud i ffwrdd o hynny, eisiau diwygio'r dull hwnnw fel y gallwn weld ffyniant bro go iawn. Ond mae'n rhywbeth yr wyf i ac eraill yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol iawn ohono dros nifer o flynyddoedd, a dyna pam rydym ni wedi mynd ar drywydd—. Bobl bach, rydym wedi wynebu rhai heriau gyda deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd o ran cost y cynllun penodol hwnnw, ond fe wnaethom ei ddilyn oherwydd ein bod yn gwybod y byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yn y cymunedau hynny y mae'n eu gwasanaethu. Ac rydym yn ymwybodol iawn, hefyd, o'r rôl y bydd y metro yn ei chwarae wrth ysgogi cyfiawnder cymdeithasol a chyfleoedd cyflogaeth.

Etifeddwyd y cynllun consesiwn y mae Alun Davies yn cyfeirio ato. Yn sicr mae bob amser yn cael ei adolygu. Mae'r dyfodol yn seiliedig i raddau helaeth ar y gost a fforddiadwyedd, ond fel y dywedodd yr Aelod, rydym yn edrych ar hynny yn rheolaidd. A byddwn i'n mwynhau ymweliad ag Abertyleri gyda'r Aelod i weld ble y gallai'r llinell gangen fynd.

Thank you for your statement today, Cabinet Secretary. As Chair of the active travel cross-party group, I'm aware of some great schemes across Wales to get more sections of society involved in cycling, including Pedal Power in Cardiff and Cycling 4 All in Wrexham—schemes and organisations that enable people with a wide range of disabilities to enjoy riding a bike or trike.270

My Newport East constituent Rhys Holmes is very involved with Pedal Power and sits on the board of trustees. He had a brain tumour as a child and has had to live with the effects ever since. Now in his 30s, he has a rare chronic neurological condition called superficial siderosis. Through Pedal Power, Rhys has been a great advocate of the importance of being active, in particular through cycling, and wants to help others with neurological conditions. Cabinet Secretary, would you congratulate Rhys for his advocacy and also the work of Pedal Power and other such organisations across Wales in getting more people active, especially those with disabilities, and enabling them to take part in cycling?271

Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol teithio llesol, rwy'n ymwybodol o rai cynlluniau gwych ledled Cymru i gael mwy o rannau o'r gymdeithas i gymryd rhan mewn beicio, gan gynnwys Pedal Power yng Nghaerdydd a Cycling 4 All yn Wrecsam—cynlluniau a sefydliadau sy'n galluogi pobl ag ystod eang o anableddau i fwynhau reidio beic neu dreic.

Mae fy etholwr o Ddwyrain Casnewydd, Rhys Holmes, yn ymwneud llawer â Pedal Power ac mae'n eistedd ar fwrdd yr ymddiriedolwyr. Pan oedd yn blentyn cafodd diwmor ar yr ymennydd ac mae wedi gorfod byw gyda'r effeithiau byth ers hynny. Nawr yn ei 30au, mae ganddo gyflwr niwrolegol cronig prin o'r enw siderosis arwynebol. Trwy Pedal Power, mae Rhys wedi bod yn eiriolwr mawr dros bwysigrwydd bod yn egnïol, yn enwedig trwy feicio, ac mae eisiau helpu eraill sydd â chyflyrau niwrolegol. Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n llongyfarch Rhys am ei eiriolaeth a hefyd gwaith Pedal Power a sefydliadau eraill o'r fath ledled Cymru sy'n ceisio cael mwy o bobl i fod yn egnïol, yn enwedig y rhai ag anableddau, a'u galluogi i gymryd rhan mewn beicio?

16:15

Can I thank John Griffiths for what he shared with us today about Rhys. He sounds like a pretty inspirational person. I may be wrong, but I think I've visited Pedal Power in the past, albeit it was in regard to a youth employment scheme at the time. I'm pretty sure that I did visit them, and I found it a really welcoming place—a truly welcoming place. But what John Griffiths raises about physical ability in regard to cycling is vitally important, but so too the financial ability of people to be able to get bikes. That's why, when we look at the cost, I think it's really important that we recognise the work of various organisations, and I have one in my constituency in Llangollen, which, effectively, recycle cycling equipment, including bikes, at very low or nil cost, and that makes it accessible for all.272

A gaf i ddiolch i John Griffiths am yr hyn a rannodd â ni heddiw am Rhys. Mae'n swnio fel person ysbrydoledig iawn. Efallai fy mod yn anghywir, ond rwy'n credu fy mod wedi ymweld â Pedal Power yn y gorffennol, er ei fod mewn perthynas â chynllun cyflogaeth ieuenctid ar y pryd. Rwy'n eithaf siŵr fy mod wedi ymweld â nhw, ac roeddwn i'n ei weld yn lle croesawgar iawn—lle gwirioneddol groesawgar. Ond mae'r hyn y mae John Griffiths yn ei godi am allu corfforol mewn perthynas â beicio yn hollol hanfodol, ond hefyd gallu pobl yn ariannol i allu cael beiciau. Dyna pam, pan edrychwn ar y gost, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod gwaith gwahanol sefydliadau, ac mae gen i un yn fy etholaeth yn Llangollen, sydd, yn effeithiol, yn ailgylchu offer beicio, gan gynnwys beiciau, am gost isel iawn neu ddim cost, ac mae hynny'n ei wneud yn hygyrch i bawb.

I really welcome today's statement. I also welcome the fact that you responded recently around Eastbrook railway station, where there's a campaign currently, and I know they'd very much welcome you and welcome today's statement. I just wanted to ask: how do we ensure that some of the investments that are taking place are actually accessible? You've mentioned the inclusive travel board, but recently we've seen Porth transport hub open—obviously, really welcome—but accessibility being an issue and reviews having to take place. Surely, that should never happen—things that are brand-new should be accessible. Also, pavements—still, when there have been upgrades with pavements, they're not the right ones, leading to people tripping and injuring themselves. We don't want to be spending this money twice, do we—once to have the improvement and then to correct things? So, how are we going to ensure that expenditure in future is the right one and when do you foresee that this vision of having all transport being inclusive for everyone becoming a reality? Are there any targets in place for this?273

Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw yn fawr. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith eich bod wedi ymateb yn ddiweddar ynghylch gorsaf reilffordd Eastbrook, lle mae ymgyrch ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod y byddent yn eich croesawu'n gynnes ac yn croesawu'r datganiad heddiw. Roeddwn i eisiau gofyn: sut ydym ni'n sicrhau bod rhai o'r buddsoddiadau sy'n digwydd yn hygyrch mewn gwirionedd? Rydych chi wedi sôn am y bwrdd teithio cynhwysol, ond yn ddiweddar rydym wedi gweld canolfan drafnidiaeth Porth yn agor—yn amlwg, yn cael ei groesawu'n fawr—ond mae hygyrchedd yn broblem ac adolygiadau yn gorfod digwydd. Yn sicr, ni ddylai hynny byth ddigwydd—dylai pethau sy'n newydd sbon fod yn hygyrch. Hefyd, palmentydd—eto, pan fu gwaith uwchraddiadau palmentydd, ni chafwyd y rhai cywir, gan arwain at bobl yn baglu ac yn anafu eu hunain. Nid ydym eisiau gwario'r arian hwn ddwywaith, a ydym ni? Unwaith i gael y gwelliant ac yna i gywiro pethau? Felly, sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod gwariant yn y dyfodol yn un cywir a phryd ydych chi'n rhagweld bydd y weledigaeth hon o gael pob trafnidiaeth yn gynhwysol i bawb yn cael ei gwireddu? A oes unrhyw dargedau ar gyfer hyn?

Well, these are very early stages of an agenda that I hope, after the Senedd elections, we'll have a consensus on and we'll be able to move forward collectively. But I think you raise a really, really crucial point about monitoring and, indeed, determining how investment is going to contribute to this agenda. Now, you're probably aware of how submissions come to Ministers. They're very lengthy and then, near the end, you'll have impact assessments outlined, including an equalities impact assessment. I've heard from the access and inclusion panel their concerns that it's a box-ticking exercise and that, as you say, failure to actually consider equalities issues and access issues at the very start actually leads to retrofitting solutions later on, and that can come at great cost.274

What I've asked officials to do, and I guess this could apply across portfolios, is maintain the equalities impact assessment—that's absolutely fine, I'm happy with that—but at the start of a process, and at the top of a ministerial submission—we call them MAs—have an equalities optimisation assessment, so that the Minister will be able to determine whether or not all consideration and all opportunities have been sought when a particular policy or a political investment project is being devised. That way, right at the outset, you have that vision of how to deliver something that will suit everybody's needs, rather than having to retrofit solutions after you've actually delivered.275

Wel, mae'r rhain yn gamau cynnar iawn o agenda yr wyf yn gobeithio, ar ôl etholiadau'r Senedd, y bydd gennym gonsensws arni a byddwn yn gallu symud ymlaen gyda'n gilydd. Ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt hanfodol iawn ynglŷn â monitro ac, yn wir, penderfynu sut mae buddsoddiad yn mynd i gyfrannu at yr agenda hon. Nawr, mae'n debyg eich bod chi'n ymwybodol o sut mae cyflwyniadau yn dod i Weinidogion. Maent yn hir iawn ac yna, yn agos at y diwedd, bydd gennych asesiadau effaith wedi'u hamlinellu, gan gynnwys asesiad effaith cydraddoldeb. Rwyf wedi clywed gan y panel mynediad a chynhwysiant eu pryderon ei fod yn ymarfer ticio blychau a bod, fel y dywedwch chi, y methiant wrth ystyried materion cydraddoldeb a materion mynediad ar y dechrau mewn gwirionedd yn arwain at atebion ôl-osod yn nes ymlaen, a gall hynny fod yn gostus.

Yr hyn rydw i wedi gofyn i swyddogion ei wneud, ac rwy'n dyfalu y gallai hyn fod yn berthnasol ar draws portffolios, yw cynnal yr asesiad effaith cydraddoldebau—mae hynny'n hollol iawn, rwy'n hapus â hynny—ond ar ddechrau proses, ac ar frig cyflwyniad gweinidogol—rydym ni'n eu galw'n MAs—cael asesiad optimeiddio cydraddoldebau, fel y bydd y Gweinidog yn gallu penderfynu a geisiwyd yr holl ystyriaethau a'r holl gyfleoedd pan fo polisi penodol neu brosiect buddsoddi gwleidyddol yn cael ei ddyfeisio. Yn y modd hwnnw, ar y dechrau, mae gennych y weledigaeth honno o sut i gyflwyno rhywbeth a fydd yn addas i anghenion pawb, yn hytrach na gorfod ôl-osod datrysiadau ar ôl i chi gyflawni mewn gwirionedd.

I welcome this statement. My question is about blue badges. We've had many meetings recently to resolve issues for people with lifelong conditions so that they don't have to reapply every three years—to resubmit the form, all of the medical details and evidence, then incorrectly face rejection, and being told that they can't appeal when they're not going to get better. Would the Cabinet Secretary agree, across all local authorities that deliver it, we need the not-for-reassessment option to be available on a shared local authority database and used so that just an updated photo and proof of residence need to be submitted? There needs to be a consistent, more sympathetic approach, with mandatory training. And would you agree that, when you set up this expert panel, it's not just Welsh Government officials and the Welsh Local Government Association? Could you also have experts from disability groups and the excellent Stand North Wales community interest company, who have been leading on this and sent a petition to the Senedd on it—that they can be a part of this expert panel? Thank you.276

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Mae fy nghwestiwn i yn ymwneud â bathodynnau glas. Rydym wedi cael llawer o gyfarfodydd yn ddiweddar i ddatrys problemau ar gyfer pobl â chyflyrau gydol oes fel nad oes rhaid iddynt ailgeisio bob tair blynedd—ailgyflwyno'r ffurflen, yr holl fanylion meddygol a thystiolaeth, yna wynebu gwrthodiad ar gam, a chael gwybod na allant apelio pan nad ydyn nhw'n mynd i wella. A fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno, ar draws yr holl awdurdodau lleol sy'n ei gyflwyno, bod angen i'r opsiwn o beidio gorfod cael ailasesiad fod ar gael ar gronfa ddata awdurdod lleol a rennir a'i ddefnyddio fel bod dim ond angen cyflwyno llun wedi'i ddiweddaru a phrawf preswylio? Mae angen dull cyson, gyda mwy o gydymdeimlad, gyda hyfforddiant gorfodol. Ac a fyddech chi'n cytuno, pan fyddwch chi'n sefydlu'r panel arbenigol hwn, nad swyddogion Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn unig fydd arno? A allech hefyd gael arbenigwyr o grwpiau anabledd a chwmni buddiannau cymunedol rhagorol Stand Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn arwain ar hyn ac wedi anfon deiseb i'r Senedd arno—fel y gallant fod yn rhan o'r panel arbenigol hwn? Diolch.

16:20

Can I thank Carolyn Thomas for her questions today and for the ongoing interest that she has in this subject area? It's one that I know she is passionate about. Given my indication that I am not comfortable with where we are on blue badges and my decision to convene local authorities, the WLGA and other organisations together to look at how we can better share data and information, I'd very much welcome a further discussion with the Member about how we can move forward with a scheme that enables people not to have to go through a very, very heavily administrative process, often filling in 15 pages of information only to find that their application has been rejected because one part of it hasn't been filled in correctly.277

There are over 280,000 blue badges in Wales. Obviously, a very significant number of people who have blue badges should not be for reassessment, but what's happening is that the fear of fraud and the lack of data sharing is driving a system that actually puts those people that you've just outlined, the people that you've called for action on, at a disadvantage, and we want to end it.278

A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiynau heddiw ac am ei diddordeb parhaus yn y maes pwnc hwn? Mae'n un rwyf yn gwybod ei bod hi'n angerddol amdano. O ystyried y sylw rwyf wedi'i wneud nad wyf yn gyfforddus gyda ble rydym arni o ran bathodynnau glas a'm penderfyniad i ddwyn awdurdodau lleol, CLlLC a sefydliadau eraill ynghyd i edrych ar sut allwn ni rannu data a gwybodaeth yn well, byddwn i'n croesawu trafodaeth bellach gyda'r Aelod ynglŷn â sut allwn ni symud ymlaen gyda chynllun sy'n galluogi pobl i beidio â gorfod mynd trwy broses weinyddol drom iawn, iawn, gan lenwi 15 o dudalennau o wybodaeth yn aml dim ond i ddarganfod bod eu cais wedi'i wrthod am nad yw un rhan ohono wedi'i llenwi'n gywir.

Mae dros 280,000 o fathodynnau glas yng Nghymru. Yn amlwg, ni ddylai nifer sylweddol iawn o bobl sydd â bathodynnau glas fod yn cael eu hailasesu, ond yr hyn sy'n digwydd yw bod ofn twyll a diffyg rhannu data yn gyrru system sy'n rhoi'r bobl hynny rydych chi newydd sôn amdanyn nhw, y bobl rydych chi wedi galw am weithredu mewn perthynas â nhw, o dan anfantais, ac rydym am roi terfyn arno.

Diolch, Dirprwy Lywydd. 'Travel for all' is a fantastic statement and there have been many, many improvements over many years to give physical accessibility to railway stations. One of the latest ones is the installation of lifts in the Newtown station, making that station a step-free station, so, therefore, allowing that accessibility for all people, and Network Rail, of course, were key partners in that. The delivery, of course, of your proposals will indeed need partnership working, and I'm quite interested to know how you're going to engage with the partners who are going to deliver the change, and also interested in whether you are going to welcome the step-free railway station in Newtown.280

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 'teithio i bawb' yn ddatganiad gwych ac mae llawer iawn o welliannau wedi'u gwneud dros flynyddoedd lawer i sicrhau bod gorsafoedd rheilffordd yn hygyrch yn ffisegol. Un o'r rhai diweddaraf yw gosod lifftiau yng ngorsaf y Drenewydd, gan wneud yr orsaf honno'n orsaf heb risiau ac, felly, caniatáu'r hygyrchedd hwnnw i bawb, ac roedd Network Rail, wrth gwrs, yn bartneriaid allweddol yn hynny. Wrth gwrs, bydd angen gweithio mewn partneriaeth i gyflawni'ch cynigion, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod sut rydych chi'n mynd i ymgysylltu â'r partneriaid sy'n mynd i gyflawni'r newid, a diddordeb hefyd mewn gwybod a ydych chi'n mynd i groesawu'r orsaf reilffordd heb risiau yn y Drenewydd.

Well, I very much welcome the step-free station in Newport that Joyce Watson campaigned so much for. I think it may have been signed off—[Interruption.] Sorry, Newtown. What did I say? Newport. Apologies. I'm glad that you corrected me; thank you. I know that you campaigned tirelessly for Newtown train station to have step-free access, and I think that the sign-off was provided by Peter Hendy in Network Rail, who, of course, is now rail Minister. I know Peter Hendy is determined to ensure that we get more inclusive elements of infrastructure included in our rail network, principally on our stations, but also on our trains. That will be driven by Great British Railways, and rail reforms are being pursued by Peter Hendy at the moment. I'm working very closely on this particular area of work, and as I said earlier, we're going to carry out that rapid audit of all rail stations to look at which stations need support and need investment as soon as possible.281

Wel, rwy'n croesawu'r orsaf heb risiau yng Nghasnewydd y bu Joyce Watson yn ymgyrchu cymaint drosti. Rwy'n credu y gallai fod wedi'i chymeradwyo—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, y Drenewydd. Beth ddywedais i? Casnewydd. Ymddiheuriadau. Rwy'n falch eich bod chi wedi fy nghywiro; diolch. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymgyrchu'n ddiflino dros gael mynediad heb risiau i orsaf drenau'r Drenewydd, ac rwy'n credu ei bod wedi'i chymeradwyo gan Peter Hendy yn Network Rail sydd, wrth gwrs, yn Weinidog rheilffyrdd nawr. Rwy'n gwybod bod Peter Hendy yn benderfynol o sicrhau bod elfennau mwy cynhwysol o seilwaith yn cael eu cynnwys yn ein rhwydwaith rheilffyrdd, yn bennaf ar ein gorsafoedd, ond hefyd ar ein trenau. Bydd hynny'n cael ei lywio gan Great British Railways, ac mae Peter Hendy yn mynd ar drywydd diwygiadau i'r rheilffyrdd ar hyn o bryd. Rwy'n gweithio'n agos iawn ar y maes gwaith penodol hwn, ac fel y dywedais yn gynharach, rydym yn mynd i gynnal yr archwiliad cyflym hwnnw o'r holl orsafoedd rheilffordd i edrych ar ba orsafoedd sydd angen cymorth ac angen buddsoddiad cyn gynted â phosibl.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio
5. Statement by the Minister for Mental Health and Wellbeing: Suicide Prevention and Self-Harm Strategy

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.283

Item 5 today is a statement by the Minister for Mental Health and Well-being on the suicide prevention and self-harm strategy. I call on the Minister, Sarah Murphy.

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. If I may just begin, before I read my statement today, by saying that I will be discussing topics such as self-harm, suicidal ideation and suicide today. So, that is a trigger warning, and also I will be adhering to the Samaritans's sensitive reporting guidelines in my responses. 284

I am very pleased today to launch Wales's new 10-year suicide prevention and self-harm strategy, 'Understanding'. This ambitious strategy seeks to create a more compassionate Wales where we try to understand the many causes and reasons why people experience suicidal thoughts and self-harm, so that we can, ultimately, better support them. Our aim is to reduce the enduring rates of suicide that we have seen in Wales and across the UK in recent years, and to save lives.285

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Os gallaf ddechrau, cyn i mi ddarllen fy natganiad heddiw, trwy ddweud y byddaf yn trafod pynciau fel hunan-niweidio, syniadau hunanladdol a hunanladdiad heddiw. Felly, rwy'n rhoi rhybudd am hynny, a byddaf hefyd yn cadw at ganllawiau adrodd sensitif y Samariaid yn fy ymatebion. 

Rwy'n falch iawn heddiw o lansio strategaeth newydd 10 mlynedd Cymru ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio, 'Dealltwriaeth'. Mae'r strategaeth uchelgeisiol hon yn ceisio creu Cymru fwy tosturiol lle rydym yn ceisio deall yr achosion a'r rhesymau niferus pam mae pobl yn profi meddyliau hunanladdol a hunan-niweidio, fel y gallwn ni, yn y pen draw, eu cefnogi nhw'n well. Ein nod yw lleihau'r cyfraddau parhaol o hunanladdiad rydym wedi'u gweld yng Nghymru ac ar draws y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac achub bywydau.

In developing this new approach, I am indebted to the great many families and people across Wales who have bravely shared their experience so that others may benefit from improved services and support. And I also want to pay tribute to my Cabinet colleague Lynne Neagle, who prepared the foundations of this strategy and its sister strategy, the new mental health and well-being strategy, which will be launched after Easter recess. I know that she will welcome me also thanking our Welsh Government officials, who have done a tremendous amount of work on this.286

Dirprwy Lywydd, the new suicide prevention and self-harm strategy builds on its predecessor, 'Talk to me 2', and the developments in support and services that we have put in place over the last few years. These include the appointment of a national suicide and self-harm programme lead for Wales, and regional leads to drive national and local partnership action; the launch of the real-time suspected suicide surveillance in 2022, which collects data directly from police forces related to sudden or unexplained deaths that are suspected to have been suicides—that was also launched, and enables us to respond more quickly to suspected suicides; and the National Advisory and Liaison Service Cymru, which is a single point of contact and support for everyone who has been affected by suicide.287

But with the enduring rates of self-harm and suicide in Wales, we know we need to do more. As I said in my introduction, we want to create a more compassionate understanding of suicide and self-harm, and the strategy will ensure that people who self-harm receive holistic and person-centred support, and all relevant services where people may present with self-harm or suicidal ideation will provide timely, compassionate and evidence-based support and interventions. If we are to better understand suicide and self-harm, we need the knowledge about who is affected, why, and what support is needed.288

Alongside the strategy, we are also announcing the launch of the national centre for suicide prevention and self-harm research for Wales, which will provide the infrastructure to help improve our understanding. An action in the delivery plan spoke to establishing the national centre as the Welsh Government's advisory body, and I am pleased to announce that those arrangements have now been formalised. Central to this will be involving people with lived experience, and this is being taken forward by the Samaritans, building on its existing experience and established networks across Wales. This means we have established a direct link between lived experience, data and research, with national policy and delivery. Everything we do will be based on our most up-to-date understanding of what is happening around us, and people's experiences, which will help us develop more timely and effective responses.289

However, understanding is also about shifting people's perceptions, and increasing understanding in the general population that suicide and self-harm are often responses to difficult emotional situations such as grief and trauma. By increasing wider understanding, we can change attitudes, reduce stigma and allow people to open up sooner without fear of being judged and labelled. This will help allow people to access more timely support and prevent escalation to the point of crisis.290

Dirprwy Lywydd, this strategy has been developed following extensive engagement with people and stakeholders across Wales. Listening to people affected by suicide and self-harm has been fundamental. We have also worked across Government to ensure the new strategy builds and strengthens work under way to tackle the risk factors for suicide and self-harm. This includes specific, joined-up work in key areas such as education, employability, substance use and housing. This strategy has been written alongside the new mental health and well-being strategy, which will be published later this month.291

Suicide and self-harm are not mental health conditions, but they share a range of underlying risk factors, such as unemployment, low socioeconomic status, peer victimisation, substance use, a history of trauma or abuse, relationship breakdown and chronic physical health conditions. Both strategies, therefore, have a focus on prevention and collaborative, cross-Government working to tackle these risk factors.292

Also, people who experience self-harm or suicidal thoughts, as well as those caring for them, often rely on mental health services, among other services, for advice and support. There is an interdependency with the mental health and well-being strategy to improve mental health services to ensure people who self-harm or experience suicidal ideation get timely access to support when and where it's needed.293

However, at the heart of this strategy is a recognition that people do not always need to access specialist services. Often people need someone to talk to without the fear of being judged or labelled. We are adopting a whole-society and whole-system approach to breaking down that stigma, which will help people to access the support that they need sooner.294

We have done our utmost to ensure this strategy and the accompanying delivery plan are accessible to everyone. They are available on our website alongside easy-read versions, and we have developed a children and young people’s version, which is available on request. A British Sign Language version will also be published shortly.295

This is a 10-year strategy. It continues the work that we have done to improve services and access to support for people across Wales. I look forward to the journey ahead to creating a more compassionate Wales, where we can face self-harm and suicidal ideation with a greater understanding and more tailored support for all of those who need it, as well as their loved ones. Diolch. 296

Wrth ddatblygu'r dull newydd hwn, rwy'n ddyledus i'r nifer fawr o deuluoedd a phobl ledled Cymru sydd wedi bod mor ddewr wrth rannu eu profiad fel y gall eraill elwa ar wasanaethau a chymorth gwell. Ac rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Lynne Neagle, a baratôdd sylfeini'r strategaeth hon a'i chwaer strategaeth, y strategaeth iechyd meddwl a lles newydd, a fydd yn cael ei lansio ar ôl toriad y Pasg. Rwy'n gwybod y bydd hi hefyd yn croesawu fy mod i'n diolch i'n swyddogion yn Llywodraeth Cymru, sydd wedi gwneud llawer iawn o waith ar hyn.

Dirprwy Lywydd, mae'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio newydd yn adeiladu ar ei rhagflaenydd, 'Siarad â fi 2', a'r datblygiadau mewn cymorth a gwasanaethau rydym wedi'u rhoi ar waith dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys penodi arweinydd rhaglen hunanladdiad a hunan-niweidio genedlaethol ar gyfer Cymru, ac arweinwyr rhanbarthol i lywio gweithredu drwy bartneriaeth yn genedlaethol ac yn lleol; lansio'r gwyliadwriaeth amser real hunanladdiad tybiedig yn 2022, sy'n casglu data yn uniongyrchol gan heddluoedd sy'n gysylltiedig â marwolaethau sydyn neu anesboniadwy y tybir eu bod yn hunanladdiadau—cafodd honno ei lansio hefyd, ac mae'n ein galluogi i ymateb yn gyflymach i hunanladdiadau tybiedig; a Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol Cymru, sy'n un pwynt cyswllt a chymorth i bawb y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt.

Ond gyda'r cyfraddau parhaus o hunan-niweidio a hunanladdiad yng Nghymru, rydym yn gwybod bod angen i ni wneud mwy. Fel y dywedais i yn fy nghyflwyniad, rydym am greu dealltwriaeth fwy tosturiol o hunanladdiad a hunan-niweidio, a bydd y strategaeth yn sicrhau bod pobl sy'n hunan-niweidio yn cael cymorth holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bod yr holl wasanaethau perthnasol ar gyfer pobl a all fod yn hunan-niweidio neu'n cael syniadau hunanladdol yn darparu cymorth ac ymyriadau amserol, tosturiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Os ydym am ddeall hunanladdiad a hunan-niwed yn well, mae angen yr wybodaeth arnom am bwy sy'n cael ei effeithio, pam, a pha gymorth sydd ei angen.

Ochr yn ochr â'r strategaeth, rydym hefyd yn cyhoeddi lansiad y ganolfan genedlaethol ar gyfer ymchwil atal hunanladdiad a hunan-niwed ar gyfer Cymru, a fydd yn darparu'r seilwaith i helpu i wella ein dealltwriaeth. Roedd un o'r camau gweithredu yn y cynllun cyflawni yn sôn am sefydlu'r ganolfan genedlaethol fel corff cynghori Llywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o gyhoeddi bod y trefniadau hynny bellach wedi'u ffurfioli. Bydd cynnwys pobl â phrofiad bywyd yn ganolog i hyn, ac mae hyn yn cael ei wneud gan y Samariaid, gan adeiladu ar ei brofiad presennol a'i rwydweithiau sefydledig ledled Cymru. Mae hyn yn golygu ein bod ni wedi sefydlu cyswllt uniongyrchol rhwng profiad bywyd, data ac ymchwil, gyda pholisi a darpariaeth genedlaethol. Bydd popeth a wnawn yn seiliedig ar ein dealltwriaeth ddiweddaraf o'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas, a phrofiadau pobl, a fydd yn ein helpu i ddatblygu ymatebion mwy amserol ac effeithiol.

Fodd bynnag, mae dealltwriaeth hefyd yn ymwneud â newid canfyddiadau pobl, a chynyddu dealltwriaeth yn y boblogaeth gyffredinol bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn aml yn ymatebion i sefyllfaoedd emosiynol anodd fel galar a thrawma. Trwy gynyddu dealltwriaeth ehangach, gallwn ni newid agweddau, lleihau stigma a chaniatáu i bobl agor i fyny yn gynt heb ofni cael eu barnu a'u labelu. Bydd hyn yn helpu i ganiatáu i bobl gael mynediad at gymorth mwy amserol ac atal cynnydd i'r pwynt o argyfwng.

Dirprwy Lywydd, mae'r strategaeth hon wedi'i datblygu yn dilyn ymgysylltiad helaeth â phobl a rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae gwrando ar bobl y mae hunanladdiad a hunan-niweidio wedi effeithio arnynt wedi bod yn sylfaenol. Rydym hefyd wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod y strategaeth newydd yn cryfhau ac yn adeiladu ar waith sydd ar y gweill i fynd i'r afael â'r ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae hyn yn cynnwys gwaith cydgysylltiedig penodol mewn meysydd allweddol fel addysg, cyflogadwyedd, defnyddio sylweddau a thai. Mae'r strategaeth hon wedi'i hysgrifennu ochr yn ochr â'r strategaeth iechyd meddwl a lles newydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.

Nid yw hunanladdiad a hunan-niweidio yn gyflyrau iechyd meddwl, ond maen nhw'n rhannu ystod o ffactorau risg sylfaenol, fel diweithdra, statws economaidd-gymdeithasol isel, erledigaeth cyfoedion, defnyddio sylweddau, hanes o drawma neu gamdriniaeth, tor-perthynas a chyflyrau iechyd corfforol cronig. Mae'r ddwy strategaeth, felly, yn canolbwyntio ar atal a gweithio cydweithredol, traws-lywodraethol i fynd i'r afael â'r ffactorau risg hyn.

Hefyd, mae pobl sy'n hunan-niweidio neu'n cael meddyliau hunanladdol, yn ogystal â'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw, yn aml yn dibynnu ar wasanaethau iechyd meddwl, ymhlith gwasanaethau eraill, am gyngor a chymorth. Mae yna gyd-ddibyniaeth â'r strategaeth iechyd meddwl a lles i wella gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn sicrhau bod pobl sy'n hunan-niweidio neu sy'n profi syniadau hunanladdol yn cael mynediad amserol at gymorth pan a lle mae ei angen.

Fodd bynnag, wrth wraidd y strategaeth hon mae cydnabyddiaeth nad oes angen i bobl gael mynediad at wasanaethau arbenigol bob amser. Yn aml, mae angen i bobl gael rhywun i siarad â nhw heb ofni cael eu barnu neu eu labelu. Rydym yn mabwysiadu dull cymdeithas gyfan a system gyfan i chwalu'r stigma hwnnw, a fydd yn helpu pobl i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt yn gynt.

Rydym wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y strategaeth hon a'r cynllun cyflawni cysylltiedig yn hygyrch i bawb. Maen nhw ar gael ar ein gwefan ochr yn ochr â fersiynau hawdd eu darllen, ac rydym wedi datblygu fersiwn i blant a phobl ifanc, sydd ar gael ar gais. Bydd fersiwn Iaith Arwyddion Prydain hefyd yn cael ei chyhoeddi'n fuan.

Mae hon yn strategaeth 10 mlynedd. Mae'n parhau â'r gwaith rydym wedi'i wneud i wella gwasanaethau a mynediad at gymorth i bobl ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at y daith sydd o'n blaenau i greu Cymru fwy tosturiol, lle gallwn ni wynebu hunan-niweidio a syniadau hunanladdol gyda mwy o ddealltwriaeth a chymorth wedi'i deilwra i bawb sydd ei angen, yn ogystal â'u hanwyliaid. Diolch. 

16:30

Thank you, Minister, for your statement today. One of the most consistent issues that gets repeated to me as a Senedd Member is that mental health intervention doesn't happen quickly enough. When those who are suffering reach out, appointments just take too long and this then manifests itself in preventative self-harm and suicide. Minister, we know that most people do not seek help until they reach crisis point, the moment that they can no longer cope, so the speed of access to mental health services is critical to the overall outcome. Yet, according to StatsWales, in November 2024, just four months ago, over 1,400 people in Wales were waiting over 56 days between their local primary mental health support service assessment and the start of a therapeutic intervention. I think I speak for everyone here in saying that this is a major contributing factor for poor outcomes of treatment and for prolonging the mental health issues of individuals, and is contributing significantly to the number of suicides and self-harm incidents. So, with this in mind, Minister, how does this plan help substantially improve waiting times for therapeutic treatment? 297

We talk a lot in this Chamber about waiting lists, but, for those waiting for mental health treatment, time is a critical factor. You said in your delivery plan that you want to improve access to and the delivery of services, and improve multi-agency rapid responses, but you make no mention of how you're going to do this. Do you believe health boards will recruit more trained staff to deliver this? In the delivery plan, there is no specific mention of any targeted approach towards men, other than of the Samaritans running a male suicide prevention campaign. But, as you know, men make up 77 per cent of suicides in Wales, and they are predominantly in the construction and agricultural sectors. Minister, you have set out to improve the accessibility of universal suicide and self-harm awareness, as well as supporting information and resources so that everyone will be empowered with the knowledge and awareness to recognise those in need. However, this doesn't necessarily help those specific groups that we know have the highest suicide and self-harm rates. It seems your plan is to spread the resources. Minister, why haven't you made any targeted approach to improve empowerment and access to mental health services in the specific industries that I have mentioned? 298

Unfortunately, I find the lack of defined actions in this plan frustrating. It talks too much about review boards and how to be clearer in terminology. Like many others, I would argue that this plan needs clear and well-defined actions about when, where, who and how it will engage with those who are at risk of suicide and self-harm. It is widely known that the influence of certain groups on social media and the fact that social media is used as a tool for bullying are major factors in causing self-harm and suicide, yet there is almost no mention of this other than the Smoothwall service, which allows schools to block sites that are deemed inappropriate. Minister, why is it not mentioned? Why is there no specific aim to improve understanding by children and young people of the dangers and the predatory nature of people on social media? Why is there no mention of viral self-harm trends and how they target specific vulnerable people? 299

Where is the strategy for helping to prevent self-harm and suicide? I do not think that your proposals for raising the visibility of suicide and self-harm, with Government establishing and maintaining governance arrangements that facilitate effective communication or reviewing processes for considering suicide and self-harm in policy development will mean very much to those people in our communities who are exposed and need help. 300

Minister, this plan seems to be weighted entirely towards reviewing and improving current methodologies and strategies, and training and ensuring consistent approaches to the co-production with regard to clarity of roles and responsibilities, but it lacks any mention of reaching out into communities to identify specific needs. You may be aware that studies have shown that, in society as a whole, 15 per cent of adolescents engage in self-harm. This risk of self-harm is six times higher for bully-victims, five times higher for the bullied and three times higher for those who actually do the bullying. This risk of self-harm as a result of being bullied is significantly greater for girls than boys. Depression, anxiety and parental conflict has accounted for some of the association between the bullied and self-harm, and between bully-victims and self-harm. Moreover, Minister, the relationship between those who are bullied and then self-harming is found to be significantly reduced when they have improved parental support and school well-being.301

Sadly, I think your vision is unambitious. You aim to continuously decrease suicide by making those who self-injure, self-poison, have suicidal thoughts, or who have attempted suicide, feel safe and understood by informed and compassionate communities. But I would argue that your vision should also include helping to reach out into communities, improving support at every stage of life, improving parental knowledge and awareness, and helping schools to provide better and more appropriate support.302

So, finally, Minister, what efforts are you going to take to improve early-stage intervention in schools and industries that are known to have a higher prevalence of self-harm and suicide, so that every possible step is taken to help people before their mental health deteriorates to a state where they contemplate self-harm and suicide? Thank you.303

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Un o'r materion mwyaf cyson sy'n cael ei ailadrodd i mi fel Aelod o'r Senedd yw nad yw ymyrraeth iechyd meddwl yn digwydd yn ddigon cyflym. Pan fydd y rhai sy'n dioddef yn estyn allan, mae apwyntiadau yn cymryd rhy hir ac wedyn mae hyn yn amlygu ei hun mewn hunan-niweidio ataliol a hunanladdiad. Gweinidog, rydym yn gwybod nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ceisio help nes eu bod nhw'n cyrraedd pwynt argyfwng, y foment pan na allan nhw ymdopi mwyach, felly mae cyflymder mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn hanfodol i'r canlyniad cyffredinol. Ac eto, yn ôl StatsCymru, ym mis Tachwedd 2024, dim ond pedwar mis yn ôl, roedd dros 1,400 o bobl yng Nghymru yn aros dros 56 diwrnod rhwng cael asesiad gan eu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a dechrau ymyrraeth therapiwtig. Rwy'n credu fy mod i'n siarad ar ran pawb yma wrth ddweud bod hyn yn ffactor pwysig sy'n cyfrannu at ganlyniadau gwael o ran triniaeth ac at ymestyn problemau iechyd meddwl unigolion, ac mae'n gwneud cyfraniad sylweddol at nifer yr hunanladdiadau a digwyddiadau hunan-niweidio. Felly, gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, sut mae'r cynllun hwn yn helpu i wella amseroedd aros ar gyfer triniaeth therapiwtig yn sylweddol? 

Rydym yn siarad llawer yn y Siambr hon am restrau aros, ond, i'r rhai sy'n aros am driniaeth iechyd meddwl, mae amser yn ffactor hanfodol. Fe ddywedoch chi yn eich cynllun cyflawni eich bod chi am wella mynediad at wasanaethau a'r ffordd y cânt eu darparu, a gwella ymatebion cyflym aml-asiantaeth, ond dydych chi ddim yn sôn am sut rydych chi'n mynd i wneud hyn. Ydych chi'n credu y bydd byrddau iechyd yn recriwtio mwy o staff hyfforddedig i gyflawni hyn? Dydy'r cynllun cyflawni ddim yn sôn yn benodol am unrhyw ymagwedd wedi'i dargedu tuag at ddynion, heblaw am y Samariaid yn rhedeg ymgyrch atal hunanladdiadau ymhlith dynion. Ond, fel y gwyddoch chi, dynion sy'n cyfrif am 77 y cant o hunanladdiadau yng Nghymru, ac maen nhw'n bennaf yn y sectorau adeiladu ac amaethyddol. Gweinidog, rydych chi wedi ceisio gwella hygyrchedd ymwybyddiaeth gyffredinol o hunanladdiad a hunan-niweidio, yn ogystal â chefnogi gwybodaeth ac adnoddau fel y bydd pawb yn cael eu grymuso â'r wybodaeth a'r ymwybyddiaeth i adnabod y rhai mewn angen. Fodd bynnag, dydy hyn o reidrwydd ddim yn helpu'r grwpiau penodol hynny rydym yn gwybod bod ganddyn nhw'r cyfraddau hunanladdiad a hunan-niweidio uchaf. Mae'n ymddangos eich bod chi'n bwriadu lledaenu'r adnoddau. Gweinidog, pam nad ydych chi wedi gwneud unrhyw ddull wedi'i dargedu i wella grymuso a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn y diwydiannau penodol rwyf wedi sôn amdanyn nhw?

Yn anffodus, mae'r diffyg camau gweithredu diffiniedig yn y cynllun hwn yn rhwystredig. Mae'n sôn gormod am fyrddau adolygu a sut i fod yn gliriach o ran terminoleg. Fel llawer o rai eraill, byddwn i'n dadlau bod angen i'r cynllun hwn gynnwys camau gweithredu clir a diffiniedig ynghylch pryd, ble, pwy a sut y bydd yn ymgysylltu â'r rhai sydd mewn perygl o hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae'n dra hysbys bod dylanwad grwpiau penodol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r ffaith bod y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio fel offeryn ar gyfer bwlio yn ffactorau pwysig sy'n achosi hunan-niwed a hunanladdiad, ond does dim sôn bron am hyn heblaw am y gwasanaeth Smoothwall, sy'n caniatáu i ysgolion blocio gwefannau sy'n cael eu hystyried yn amhriodol. Gweinidog, pam nad oes sôn am hyn? Pam nad oes nod penodol i wella dealltwriaeth plant a phobl ifanc o'r peryglon a natur ysglyfaethus pobl ar y cyfryngau cymdeithasol? Pam nad oes sôn am dueddiadau feirol i hunan-niweidio a sut maen nhw'n targedu pobl penodol sy'n agored i niwed?

Ble mae'r strategaeth ar gyfer helpu i atal hunan-niweidio a hunanladdiad? Dydw i ddim yn credu y bydd eich cynigion i sicrhau bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn fwy gweladwy, gyda'r Llywodraeth yn sefydlu ac yn cynnal trefniadau llywodraethu sy'n hwyluso cyfathrebu effeithiol neu'n adolygu prosesau ar gyfer ystyried hunanladdiad a hunan-niweidio wrth ddatblygu polisïau, yn golygu rhyw llawer i'r bobl hynny yn ein cymunedau sy'n agored ac sydd angen help. 

Gweinidog, ymddengys fod y cynllun hwn wedi'i bwysoli'n gyfan gwbl tuag at adolygu a gwella methodolegau a strategaethau cyfredol, a hyfforddi a sicrhau dulliau cyson o gyd-gynhyrchu o ran eglurder rolau a chyfrifoldebau, ond nid yw'n sôn o gwbl am estyn allan i gymunedau i nodi anghenion penodol. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod astudiaethau wedi dangos, yn y gymdeithas yn gyffredinol, fod 15 y cant o bobl ifanc yn eu harddegau yn hunan-niweidio. Mae'r risg hon o hunan-niweidio chwe gwaith yn uwch i ddioddefwyr bwlio, bum gwaith yn uwch i'r rhai sy'n cael eu bwlio a thair gwaith yn uwch i'r rhai sy'n gwneud y bwlio. Mae'r risg hon o hunan-niweidio o ganlyniad i gael eu bwlio yn uwch o lawer i ferched na bechgyn. Mae iselder, gorbryder a gwrthdaro rhieni wedi cyfrif am rywfaint o'r cysylltiad rhwng y rhai sy'n cael eu bwlio a hunan-niwed, a rhwng dioddefwyr bwlio a hunan-niwed. Ar ben hynny, Gweinidog, canfyddir bod y berthynas rhwng y rhai sy'n cael eu bwlio ac yna'n hunan-niweidio yn lleihau'n sylweddol pan fyddan nhw'n cael gwell cymorth gan eu rhieni a phan fydd gwelliant o ran lles yn yr ysgol.

Yn anffodus, rwy'n credu bod eich gweledigaeth yn anuchelgeisiol. Rydych chi'n anelu at leihau hunanladdiad yn barhaus trwy wneud i'r rhai sy'n hunan-anafu, sy'n hunan-wenwyno, sy'n cael meddyliau hunanladdol, neu sydd wedi ceisio lladd eu hunain, deimlo'n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu deall gan gymunedau gwybodus a thosturiol. Ond byddwn i'n dadlau y dylai eich gweledigaeth hefyd gynnwys helpu i estyn allan i gymunedau, gwella cymorth ar bob cam o fywyd, gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth rhieni, a helpu ysgolion i ddarparu cymorth gwell a mwy priodol.

Felly, yn olaf, Gweinidog, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i wella ymyrraeth cyfnod cynnar mewn ysgolion a diwydiannau yr ydym yn gwybod bod ganddyn nhw achosion uwch o hunan-niweidio a hunanladdiad, fel bod pob cam posibl yn cael ei gymryd i helpu pobl cyn i'w hiechyd meddwl ddirywio i gyflwr lle maen nhw'n ystyried hunan-niweidio a hunanladdiad? Diolch.

16:35

I don't know, really, where to start with that statement, Joel James, because I don't feel like you've read the entirety of the strategy and the accompanying delivery plan. I'm really perplexed by your saying that there are no actions. There's literally a delivery plan that goes through the listening and learning, prevention, empowering, supporting, equipping and responding. And then what it has is that it has very clear action points underneath it, and then it also says how it's going to cross over into each of those areas. So, I'm genuinely baffled. I really don't know what to do other than stand here and read you out the delivery plan, which undermines absolutely everything that you've just asked me.304

So, instead, what I will do is that I will actually push back on some of the I would say potentially harmful misconceptions and generalisations that you've made about self-harm and suicide in that statement. So, just to say that the facts about self-harm are that it increases the likelihood that the person will die by suicide by between 50 and 100 times, and over half of young people who die by suicide do have a history. We know this. Three quarters of people who have self-harmed cited relieving unpleasant feelings of anger, tension, anxiety or depression as a reason for doing so, and a third reported self-harm in order to draw attention to or to change their situation. I hope you can understand that, through the absolutely incredible research that we have, we're not just saying, 'Oh, well it's bullying.' We're actually getting to the heart of what makes that person feel, and why they then might self-harm.305

We've also done an exhaustive list—well, a non-exhaustive list, sorry—of the risk factors as well, and these do include, actually, females and people from a low socioeconomic status, alcohol and substance misuse, but it can also be situational. It can be because of job and financial losses. It can be that there are clusters of self-harm that have an element of contagion. We also know that there are sociocultural issues as well, the stigma associated with poor health, and help-seeking behaviour.306

I also wanted to say that, talking about online, social media and images, it's actually not as simple as to say that everything online is dangerous or can be damaging. What we've found is that there are harms and benefits; it's not a dichotomy. Actually, some of the good is that people find it a source of empathy and support. They find a sense of community; it's a coping mechanism. But, yes, there is the bad: the normalising of self-harm behaviour, online bullying, internet addiction. I have a wealth of research here that is also looking at self-harm in older people, which doesn't get talked about an awful lot.307

But I will just come back to that this is a strategy with a very, very clear and comprehensive delivery plan that I will remind you has been co-produced with people who are experts in their field—expert researchers, people on the ground. You dismiss it as if the Samaritans campaign and the work that they're doing is not enough; it's huge, what they're doing, trying to get men to reach out and speak more. They're also doing a tremendous amount in rural communities as well. So, I would ask that you please read it and try to address some of those questions that you put to me yourself. Diolch.308

Dydw i wir ddim yn gwybod ble i ddechrau gyda'r datganiad hwnnw, Joel James, oherwydd dydw i ddim yn teimlo eich bod chi wedi darllen y strategaeth gyfan a'r cynllun cyflawni cysylltiedig. Rwyf wir wedi drysu gan y ffaith eich bod chi'n dweud nad oes unrhyw gamau gweithredu. Mae yna gynllun cyflawni sy'n mynd trwy'r gwrando a'r dysgu, atal, grymuso, cefnogi, arfogi ac ymateb. Ac yna'r hyn sydd ganddo yw pwyntiau gweithredu clir iawn oddi tano, ac yna mae hefyd yn dweud sut mae'n mynd i groesi drosodd i bob un o'r meysydd hynny. Felly, rwyf mewn dryswch llwyr. Dydw i wir ddim yn gwybod beth i'w wneud heblaw sefyll yma a darllen y cynllun cyflawni i chi, sy'n tanseilio popeth rydych chi newydd ofyn i mi.

Felly, yn lle hynny, rwyf am wthio'n ôl ar rai o'r camsyniadau a'r cyffredinoliaethau rydych chi wedi'u gwneud am hunan-niweidio a hunanladdiad yn y datganiad hwnnw, a allai fod yn niweidiol. Felly, dim ond i ddweud mai'r ffeithiau am hunan-niweidio yw ei fod yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd y person yn marw trwy hunanladdiad rhwng 50 a 100 gwaith, ac mae gan dros hanner y bobl ifanc sy'n marw trwy hunanladdiad hanes o hyn. Rydym yn gwybod hyn. Nododd tri chwarter y bobl sydd wedi hunan-niweidio eu bod yn gwneud hynny er mwyn lleddfu teimladau annymunol o ddicter, tensiwn, gorbryder neu iselder, a dywedodd traean eu bod yn hunan-niweidio er mwyn newid eu sefyllfa neu dynnu sylw ati. Rwy'n gobeithio y gallwch chi ddeall, trwy'r ymchwil hollol anhygoel sydd gennym ni, nad ydym ond yn dweud, 'O, wel mae'n fwlio.' Rydym yn mynd at galon yr hyn sy'n gwneud i'r person hwnnw deimlo, a pham y gall wedyn fynd ati i hunan-niweidio.

Rydym hefyd wedi llunio rhestr gynhwysfawr—wel, rhestr anghynhwysfawr, mae'n ddrwg gen i—o'r ffactorau risg hefyd ac, yn wir, mae'r rhain yn cynnwys menywod a phobl o statws economaidd-gymdeithasol isel, camddefnyddio alcohol a sylweddau, ond gall sefyllfa fod yn ffactor hefyd. Gall fod oherwydd colli swydd a cholledion ariannol. Gall fod yna glystyrau o hunan-niweidio sydd ag elfen heintus. Rydym hefyd yn gwybod bod yna faterion cymdeithasol-ddiwylliannol hefyd, y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd gwael, ac ymddygiad ceisio help.

Roeddwn i hefyd eisiau dweud, wrth siarad am ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a delweddau, nad yw mor syml â dweud bod popeth ar-lein yn beryglus neu'n gallu bod yn niweidiol. Yr hyn rydym wedi'i ddarganfod yw bod yna niwed a manteision; nid yw'n ddeuoliaeth. Yn wir, rhywfaint o'r da yw bod pobl yn ei chael yn ffynhonnell empathi a chefnogaeth. Maen nhw'n canfod ymdeimlad o gymuned; mae'n fecanwaith ymdopi. Ond, ie, mae'r drwg: normaleiddio ymddygiad hunan-niweidio, bwlio ar-lein, dibyniaeth ar y rhyngrwyd. Mae gen i gyfoeth o ymchwil yma sydd hefyd yn edrych ar hunan-niweidio ymhlith pobl hŷn, nad oes llawer o sôn amdano.

Ond fe ddof yn ôl at y ffaith bod hon yn strategaeth gyda chynllun cyflawni clir a chynhwysfawr iawn, iawn y gwnaf eich atgoffa sydd wedi'i gyd-gynhyrchu gyda phobl sy'n arbenigwyr yn eu maes—ymchwilwyr arbenigol, pobl ar lawr gwlad. Rydych chi'n ei ddiystyru fel pe na bai ymgyrch y Samariaid a'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn ddigon; mae'n enfawr, yr hyn maen nhw'n ei wneud, yn ceisio cael dynion i estyn allan a siarad mwy. Maen nhw hefyd yn gwneud llawer iawn mewn cymunedau gwledig hefyd. Felly, byddwn i'n gofyn i chi ei ddarllen a cheisio mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau hynny y gwnaethoch chi ofyn i mi eich hun. Diolch.

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad, a dwi am ddechrau drwy ei chymeradwyo am y cyhoeddiad yma. Dwi’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran pob Aelod yma pan fyddaf yn dweud ein bod ni i gyd yn dymuno gweld y cynllun yma yn dwyn ffrwyth, er, hwyrach, fod yna amheuaeth am hynny ar ôl y cyfraniad ynghynt.309

Dwi’n croesawu’r ffaith bod y cynllun yn seiliedig ar gyfnod o ddegawd. Dyma’r union fath o weledigaeth hirdymor sydd ei hangen, a beth bynnag ydy canlyniad yr etholiad flwyddyn nesaf, dwi’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth newydd o ba bynnag liw yn parhau gyda’r trywydd sydd wedi cael ei osod allan yma.310

Y realiti trist ydy bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn llawer rhy gyffredin yn ein cymdeithas. Fe gollais i fy nghefnder, a oedd yn union yr un oedran a fi, i hunanladdiad dros 20 mlynedd yn ôl, ond mae'r boen yn dal i frifo heddiw. Os medrwn ni gymryd y camau i atal teuluoedd eraill rhag dioddef y boen yma, yna mae am fod yn beth da.311

Yn ôl ystadegau diweddaraf yr ONS, mae graddfeydd hunanladdiad ar eu huchaf am chwarter canrif, ac yn uwch yng Nghymru ar gyfartaledd o'i chymharu â Lloegr. Hunanladdiad ydy'r achos pennaf o farwolaeth ymysg dynion o dan 50 oed hefyd. Mae'n amlwg taw ehangu a chryfhau gwasanaethau iechyd meddwl ddylai fod y brif flaenoriaeth yn hyn o beth, yn enwedig wrth i ni ystyried bod capasiti gwelyau ar gyfer afiechydon iechyd meddwl difrifol wedi gostwng 37 y cant ers 2010. Tra dwi'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi cynnal y llinell gyllidol neilltuedig ar gyfer iechyd meddwl unwaith eto, ydych chi, Weinidog, yn hyderus bod hyn yn ddigon yng nghyd-destun y patrymau yma dwi wedi sôn amdanyn nhw, ac oes yna dargedau penodol yn y cynllun er mwyn adfer y dirywiad capasiti penodol yma?312

Fel dwi wedi sôn yn gyson, mae casglu data o ansawdd da yn effeithiol ac yn amserol yn allweddol hefyd o ran cynllunio'r gwasanaethau a'r gweithlu priodol. Ond mae oedi wrth gofrestru adroddiadau crwner ar hunanladdiadau yn uwch yng Nghymru o’i chymharu â Lloegr, sydd, wrth gwrs, yn tanseilio gwerth a dibynadwyedd ystadegau cyhoeddedig. Felly, gaf i ofyn sut mae'r cynllun yma'n bwriadu mynd i'r afael a'r mater hwn ac a all y Gweinidog roi unrhyw gerrig milltir penodol ar leihau'r bwlch gyda Lloegr?313

Mae ffocws ataliadol y cynllun i'w groesawu, ac un o'r mannau sydd angen sylw penodol ydy'r agweddau diwylliannol niweidiol sy'n rwystr i gymaint o bobl rhag estyn allan am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mi fyddwch yn ymwybodol o sylwadau Mind Cymru dros y penwythnos, a oedd yn sôn am yr agweddau tuag at iechyd meddwl yng Nghymru, ac yn dangos bod lefelau o stigma tuag at iechyd meddwl ar eu huchaf erioed, gyda'r nifer o bobl sy'n credu bod y rhai sy'n byw gydag afiechyd meddwl yn faich ar gymdeithas wedi dyblu yn y pum mlynedd diwethaf. Mae'n amlwg, felly, er gwaethaf y cynnydd rydym wedi ei weld o ran codi ymwybyddiaeth ar faterion iechyd meddwl, fod yna angen clir am waith parhaol o addysgu cyhoeddus. A fydd y cynllun yma yn cydweithio, felly, gyda rhaglenni eraill y Llywodraeth—yn y maes addysg, er enghraifft—er mwyn mynd i'r afael â hyn?314

Ar yr un thema, mae adnabod afiechydon iechyd meddwl yn gynnar mewn bywyd yn allweddol ar gyfer agenda ataliadol effeithiol, ond y gwir ydy bod plant a phobl ifanc yn dioddef rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau sy'n gymharol uwch na'r rhai sy'n wynebu oedolion. Un o'r prif rwystrau mae rhanddeiliaid wedi bod yn uwcholeuo ydy'r ffaith nad oes darpariaeth ddigonol ar gyfer y cyfnod trosiannol yna rhwng llencyndod hwyr a bod yn oedolyn, gyda sawl un yn syrthio rhwng y craciau o ganlyniad. Felly, pa ystyriaeth ydych chi, Weinidog, wedi'i roi ynglŷn â sefydlu haen o wasanaethau penodol ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed er mwyn galluogi system sydd yn ymateb yn fwy esmwyth i'r trosiant rhwng plentyndod a bod yn oedolyn?  315

Ac i gloi, fel gyda chynifer o gyflyrau iechyd eraill, allwn ni ddim dianc rhag y ffaith bod cyflyrau iechyd meddwl yn perthyn i dlodi hefyd. Heb fynd i'r afael â thlodi, yna allwn ni ddim mynd i'r afael ag afiechydon meddwl. Yn anffodus, mae bwriadau Llywodraeth San Steffan i dorri a chwtogi ar daliadau credyd cynhwysol a PIP am wthio mwy o bobl i dlodi, ac am roi poen meddwl acíwt i nifer o'n pobl fwyaf bregus. Felly, ydych chi'n cydnabod y bydd cyflawni'r cynllun yma, er mor deilwng eu hamcanion, am fod gymaint yn anoddach o ganlyniad i'r toriadau diweddaraf i'r system lles, a beth ydych chi am ei wneud i ynysu gweledigaeth y cynllun rhag penderfyniadau San Steffan cyn belled â phosib? Diolch. 316

I’d like to thank the Minister for the statement, and I want to start by praising her for this announcement. I'm sure that I speak for every Member here when I say that we all want to see the plan bear fruit, although maybe there is some doubt about that after the previous contribution.

I welcome the fact that the plan is based on a period of 10 years. That's exactly the type of long-term vision that's needed, and, whatever the result of the election next year, I really do hope that the new Government of whatever stripe will continue along the pathway that has been set out here.

The sad reality is that suicide and self-harm are far too common in our society. I lost my own cousin, who was exactly the same age as me, to suicide over 20 years ago, but I still feel that pain today. If we can take action to prevent other families from suffering this pain, then that will be a good thing.

According to the latest ONS statistics, suicide rates are at their highest levels for a quarter of a century, and they're higher in Wales on average compared to England. Suicide is the leading cause of death among men under the age of 50 as well. It's clear that expanding and strengthening mental health services should be the main priority in this regard, especially when we consider that bed capacity in hospitals for serious mental health illnesses has decreased by 37 percent since 2010. While I recognise that the Government has once again maintained the dedicated budget line for mental health, are you, Minister, confident that this is enough in the context of these patterns that I've mentioned, and are there specific targets in the plan in order to restore this decline in capacity?

As I have said consistently, gathering good quality data in an effective and timely manner is also vital when it comes to planning services and an appropriate workforce. But delays in recording coroner's reports on suicides are much greater in Wales than in England, which of course undermines the value and reliability of published statistics. So, may I ask how the plan intends to address this issue and whether the Minister can provide any specific milestones on reducing the gap with England? 

The preventative focus of the plan is to be welcomed, and one of the areas that needs specific attention is the harmful cultural attitudes that prevent so many people from reaching out for the support that they need. You will be aware of Mind Cymru's comments over the weekend regarding attitudes towards mental health in Wales, demonstrating that levels of stigma towards mental health are at an all-time high, with the number of people who believe that those living with mental illness are a burden on society having doubled over the last five years. It's therefore clear that, despite the progress that we have seen in terms of raising awareness on mental health issues, there is a clear need for permanent work on educating the public. Will this plan work together, therefore, with other Government programmes—in the area of education, for example—in order to address this?

On the same theme, identifying mental health illnesses early in life is vital to an effective preventive agenda, but the truth is that children and young people are stuck on waiting lists for services that are relatively higher than those facing adults. One of the main barriers that stakeholders have been highlighting is the fact that there is insufficient provision for that transitional period between late adolescence and adulthood, with many falling between the cracks as a result. So, what consideration, Minister, have you given to establishing a layer of specific services for young people aged 16 and 17 in order to facilitate a system that responds more smoothly to the transition between childhood and adulthood?  

And to conclude, like with so many other health conditions, we can't escape the fact that mental health conditions are also related to poverty. Without tackling poverty, we can't tackle mental illness. Unfortunately, the intentions of the Westminster Government to reduce universal credit and personal independance payments will drive more people into poverty, but will also cause acute mental torment for many of our most vulnerable people. So, do you recognise that delivering this plan, however worthy its objectives, will be so much more difficult as a result of the recent cuts to the welfare system, and what are you going to do to insulate the vision of the plan from decisions made in Westminster to the greatest degree possible? Thank you.

16:40

Thank you very much for all of those questions, Mabon. I'd just like to start by just reiterating that our vision is that the annual rates of suicide in Wales will continuously decrease. People who self-injure, self-poison, who have suicidal ideation or who have attempted suicide will feel safe and understood. They will belong to informed and compassionate communities and will be able to access support and services that meet their needs when and where they need them. That is what we're trying to achieve and committing to here.317

I really thank you for welcoming it. I agree with you; we need to see this 10-year strategy through, whoever that may be with. And also thank you for sharing your own experience as well. I've actually had many people reach out to me today. It's something that people want to talk about when they want to talk about it, and I feel that, even myself.318

Diolch yn fawr iawn am yr holl gwestiynau yna, Mabon. Hoffwn ddechrau trwy ailadrodd mai ein gweledigaeth yw y bydd cyfraddau hunanladdiad blynyddol yng Nghymru yn gostwng yn barhaus. Bydd pobl sy'n hunan-anafu, sy'n hunan-wenwyno, sy'n cael syniadau hunanladdol neu sydd wedi ceisio lladd eu hunain yn teimlo'n ddiogel ac yn teimlo bod pobl yn eu deall. Byddan nhw'n perthyn i gymunedau gwybodus a thosturiol a byddan nhw'n gallu cael mynediad at gymorth a gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion pan fo'u hangen arnynt a lle mae eu hangen arnynt. Dyna'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni ac yn ymrwymo iddo yma.

Diolch yn fawr i chi am ei groesawu. Rwy'n cytuno â chi; mae angen i ni weld y strategaeth 10 mlynedd hon yn cael ei chyflawni, ni waeth pwy sydd wrth y llyw. A hefyd diolch am rannu eich profiad eich hun hefyd. Rwyf wedi cael llawer o bobl yn estyn allan ataf heddiw. Mae'n rhywbeth y mae pobl eisiau siarad amdano pan ydyn nhw eisiau siarad amdano, ac rwy'n teimlo hynny, hyd yn oed fy hun.

So, yes, our rates of suicide are higher than England, about the same as Scotland—both nations are struggling at the moment. And I also wanted to say that a lot of what you asked about, in terms of the prevention and people seeing somebody in the mental health services, I do have the mental health and well-being strategy coming at the end of the month, and that is the sister strategy to this. What I'm really passionate about and what I would really like to see is more parity, which we talk about, with physical health. When you go and see somebody and you initially do that reach out, which is so difficult to do, particularly difficult for men—I know this from men in my own life—to get them to actually go and ask for that help and try to explain how they're feeling, it's absolutely essential that they see somebody really quickly, if not immediately. We're seeing an awful lot of research to suggest that that single session, just having a chat with somebody immediately, makes all the difference, and that is where I would like us to get to, and I'll be talking about that more in the mental health strategy. But I believe that that's true parity, true prevention. I think that it can do an awful lot to prevent people reaching crisis point. So, that's a big part of this.319

Yes, you scrutinised me in the Health and Social Care Committee over the funding. I'm very pleased, the two people sitting on the front bench here—Mark Drakeford, Cabinet Secretary, and Lynne Neagle—are very big on the fact that we do have that parity and we have that ring fence for mental health, which we absolutely, as a Welsh Government, are committed to: whenever the health budget goes up, the mental health budget goes up with it. It is £820 million at the moment. I think that what I would suggest is that not that it's not enough money, I would always welcome more money, but it's not that it's not enough money, it's just that what we really need to do now is to shift it into the prevention space. And that is not easy to do. I wish that we could just do that overnight, but it's not. For example, trying to move £100,000 from a tier 4 service in mental health to tier 3, even with the modelling to tell us the difference that that would make, you're still going to have to do that in a transition, in a phased approach, but that is where we need to be, and that's what I'm trying to do at the moment. So, yes, I would say it needs to be much more in prevention.320

You mentioned about the statistics as well. So, thank you for raising this. It is important to remember, though, when we talk about data and statistics, that we are talking about people. As I always say, behind every number is a person. But, yes, the Office for National Statistics, last August, reported 386 suicides registered in Wales. This is 14 per cent more than in 2022. The real time suspected suicide surveillance report, published in December 2024, is complementary to the ONS figures, and does allow for more timely monitoring of trends in suicides in Wales, but this only covers suspected suicides, not those confirmed by a coroner inquest, as reported by the ONS. So, I would say that we have the ability there. I think that we just need to join that up a little bit more, but I'm really pleased that we do have that surveillance in Wales, and it does allow us to make faster decisions and see what's happening. Many people have observed today that the highest rates are in males; residents from the most deprived areas; those who are unemployed, who are over 12 times higher than any other employment group; those known to the police; and those with pre-existing mental health conditions, and that's the same across both data sets. And I think, really, the most important part here is that we're identifying those demographics that we then need to target with support.321

I'd like to very much thank Mind Cymru. With the funding that they've had from the Welsh Government to do Time to Change and raising awareness about the stigma of mental health, they've done absolutely tremendous work, and they've really embedded it in communities, and I'm very, very grateful for that, and a lot of what they've done has contributed to both of these strategies.322

The stigma is still very real. I would say that people have become more comfortable with talking about depression and anxiety, but when you get into talking about psychosis and talking about the more serious episodes that people can have, that is still very, very difficult, and there is still an awful lot of stigma. Because we have to remember, people can recover and, with the right support, people can really get better. It can be very similar to physical health, and they're very intertwined, and that's where we need to get better. I think more people talking about their recovery is actually one of the most empowering things that we can do.323

I work extremely closely with the Cabinet Secretary for Education. We're doing work now around schools, of course, which we know is so important, and the child and adolescent mental health services' in-reach programme is going to be coming under the NHS executive for delivery. So, we're doing so much work in this area, and we will continue to do so. Just to say, these two strategies have been done so cross-Government. I think everyone is a bit fed up of seeing it coming through all the time, but it's been updated and constantly added to, even up until last week, and it really has had that collaboration. Everyone has taken responsibility for this, because it is cross-Government. It really is.324

And then just in terms of that transition period, I remember when I was on the Health and Social Care Committee and we did the 'Sort the Switch' scrutiny, and I heard from the young people in that, making that transition from CAMHS to adult, and you know, it's very, very difficult. We're still doing a lot of work on that, but I would say it's one of the reasons we've done all-ages strategies. It hasn't been popular with everybody, but we've done all-ages strategies for both of them, because at the end of the day, it's about everybody receiving that timely care, person centred. But I will take on board the work that we need to do around that cohort and that age group. There's an awful lot of good in here, specifically targeting that group. One of the key things that I found very interesting was that so much, again, is related to education and attainment. The rates are higher for people who don't go on to university, for example. So, there's something that we really need to look at there, and that's where the cross-Government comes in as well. So, diolch.325

Felly, ydyn, mae ein cyfraddau hunanladdiad yn uwch nag yn Lloegr, tua'r un peth â'r Alban—mae'r ddwy wlad yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd. Ac roeddwn i hefyd eisiau dweud bod llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ofyn amdano, o ran atal a phobl yn gweld rhywun yn y gwasanaethau iechyd meddwl, mae gen i'r strategaeth iechyd meddwl a lles sy'n cael ei chyflwyno ddiwedd y mis, a dyna'r chwaer strategaeth i hyn. Yr hyn rwy'n angerddol iawn amdano a'r hyn hoffwn ei weld yw mwy o gydraddoldeb, yr ydym yn siarad amdano, gydag iechyd corfforol. Pan fyddwch chi'n mynd i weld rhywun ac rydych chi'n estyn allan i ddechrau, sydd mor anodd i'w wneud, yn arbennig o anodd i ddynion—rwy'n gwybod hyn o ddynion yn fy mywyd fy hun—i'w cael nhw i fynd i ofyn am yr help hwnnw a cheisio esbonio sut maen nhw'n teimlo, mae'n hollol hanfodol eu bod nhw'n gweld rhywun yn gyflym iawn, os nad ar unwaith. Rydym yn gweld llawer iawn o ymchwil sy'n awgrymu bod yr un sesiwn honno, cael sgwrs gyda rhywun ar unwaith, yn gwneud byd o wahaniaeth, a dyna lle hoffwn i ni gyrraedd, ac fe fyddaf yn siarad am hynny yn fwy yn y strategaeth iechyd meddwl. Ond rwy'n credu mai dyna yw cydraddoldeb go iawn, atal go iawn. Rwy'n credu y gall wneud llawer iawn i atal pobl rhag cyrraedd pwynt argyfwng. Felly, mae hynny'n rhan fawr o hyn.

Do, fe wnaethoch chi graffu arnaf yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y cyllid. Rwy'n falch iawn bod y ddau berson sy'n eistedd ar y fainc flaen yma—Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cabinet, a Lynne Neagle—o'r farn bod sicrhau'r cydraddoldeb hwnnw yn bwysig a bod gennym yr arian hwnnw sy'n cael ei glustnodi ar gyfer iechyd meddwl, yr ydym, fel Llywodraeth Cymru, yn gwbl ymrwymedig iddo: pryd bynnag y bydd y gyllideb iechyd yn codi, bydd y gyllideb iechyd meddwl yn codi gyda hi. Mae'n £820 miliwn ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai'r hyn y byddwn i'n ei awgrymu yw, byddwn i ddim yn awgrymu nad yw'n ddigon o arian, byddwn i bob amser yn croesawu mwy o arian, ond nid yw'n ymwneud â'r ffaith nad yw'n ddigon o arian, yr hyn mae angen i ni ei wneud nawr yw ei symud i'r gofod atal. Ac nid yw hynny'n hawdd gwneud hynny. Hoffwn pe gallen ni wneud hynny dros nos, ond gallwn ni ddim. Er enghraifft, ceisio symud £100,000 o wasanaeth haen 4 mewn iechyd meddwl i haen 3, hyd yn oed gyda'r modelu i ddweud wrthym y gwahaniaeth y byddai hynny'n ei wneud, rydych chi'n dal i orfod gwneud hynny mewn dull pontio, cam wrth gam, ond dyna lle mae angen i ni fod, a dyna'r hyn rwy'n ceisio ei wneud ar hyn o bryd. Felly, byddwn, byddwn i'n dweud bod angen rhoi llawer mwy o bwyslais ar atal.

Fe sonioch chi am yr ystadegau hefyd. Felly, diolch am godi hyn. Mae'n bwysig cofio, fodd bynnag, pan fyddwn ni'n siarad am ddata ac ystadegau, ein bod ni'n siarad am bobl. Fel rwyf bob amser yn dweud, y tu ôl i bob rhif mae person. Ond, ie, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fis Awst diwethaf, fod 386 o hunanladdiadau wedi'u cofrestru yng Nghymru. Mae hyn 14 y cant yn fwy nag yn 2022. Mae'r adroddiad gwyliadwriaeth amser real hunanladdiad tybiedig, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024, yn ategu ffigurau SYG, ac mae'n caniatáu ar gyfer monitro tueddiadau mewn hunanladdiadau yng Nghymru yn fwy amserol, ond dim ond hunanladdiadau tybiedig y mae hwn yn eu cwmpasu, nid y rhai a gadarnhawyd gan gwest crwner, fel yr adroddwyd gan SYG. Felly, byddwn i'n dweud bod gennym y gallu yn y fan yna. Rwy'n credu bod angen i ni ddod â hynny at ei gilydd ychydig yn fwy, ond rwy'n falch iawn bod gennym ni'r wyliadwriaeth honno yng Nghymru, ac mae'n caniatáu i ni wneud penderfyniadau cyflymach a gweld beth sy'n digwydd. Mae llawer o bobl wedi sôn heddiw am y ffaith bod y cyfraddau uchaf ymhlith dynion; trigolion o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig; y rhai sy'n ddi-waith, sydd dros 12 gwaith yn uwch nag unrhyw grŵp cyflogaeth arall; y rhai sy'n hysbys i'r heddlu; a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes, ac mae hynny yr un peth ar draws y ddwy set ddata. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai'r rhan bwysicaf yma yw ein bod ni'n nodi'r ddemograffeg honno y mae angen i ni wedyn eu targedu â chymorth. 

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Mind Cymru. Gyda'r cyllid maen nhw wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru i wneud Amser i Newid a chodi ymwybyddiaeth am stigma iechyd meddwl, maen nhw wedi gwneud gwaith hollol aruthrol, ac maen nhw wir wedi ei ymgorffori mewn cymunedau, ac rwy'n ddiolchgar iawn, iawn am hynny, ac mae llawer o'r hyn maen nhw wedi'i wneud wedi cyfrannu at y ddwy strategaeth hyn.

Mae'r stigma yn dal i fod yn real iawn. Byddwn i'n dweud bod pobl wedi dod yn fwy cyfforddus gyda siarad am iselder a gorbryder, ond pan fyddwch chi'n mynd i siarad am seicosis a siarad am yr episodau mwy difrifol y gall pobl eu cael, mae hynny'n dal i fod yn anodd iawn, iawn, ac mae yna lawer iawn o stigma o hyd. Oherwydd mae'n rhaid i ni gofio, gall pobl wella a, gyda'r cymorth cywir, gall pobl wella go iawn. Gall fod yn debyg iawn i iechyd corfforol, ac maen nhw'n cydblethu i raddau helaeth, a dyna lle mae angen i ni wella. Rwy'n credu bod mwy o bobl yn siarad am eu gwellhad yn un o'r pethau mwyaf grymusol y gallwn ni ei wneud, mewn gwirionedd.

Rwy'n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rydym yn gwneud gwaith nawr o amgylch ysgolion, wrth gwrs, yr ydym yn gwybod ei fod mor bwysig, ac mae rhaglen fewngymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn mynd i fod yn cael ei darparu o dan weithrediaeth y GIG. Felly, rydym yn gwneud cymaint o waith yn y maes hwn, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Dim ond i ddweud, mae'r ddwy strategaeth hyn wedi cael eu gwneud yn draws-lywodraethol. Rwy'n credu bod pawb wedi blino ar ei gweld yn dod drwodd drwy'r amser, ond mae wedi cael ei diweddaru ac mae pethau wedi cael eu hychwanegu ati'n gyson, hyd yn oed tan yr wythnos diwethaf, ac mae wir wedi cael y cydweithrediad hwnnw. Mae pawb wedi cymryd cyfrifoldeb am hyn, am ei bod yn draws-lywodraethol. Ydy wir.

Ac yna o ran y cyfnod pontio hwnnw, rwy'n cofio pan oeddwn i ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac fe wnaethon ni'r craffu 'Sortiwch y Switsh', ac fe glywais i gan y bobl ifanc yn hynny, yn gwneud y newid hwnnw o CAMHS i oedolion, a wyddoch chi, mae'n anodd iawn, iawn. Rydym yn dal i wneud llawer o waith ar hynny, ond byddwn i'n dweud ei fod yn un o'r rhesymau pam rydym wedi gwneud strategaethau pob oed. Dydy e ddim wedi bod yn boblogaidd gyda phawb, ond rydym wedi gwneud strategaethau pob oed ar gyfer y ddwy ohonynt, oherwydd ar ddiwedd y dydd, mae'n ymwneud â sicrhau bod pawb yn cael y gofal amserol hwnnw, sy'n canolbwyntio ar y person. Ond fe fyddaf yn ystyried y gwaith y mae angen i ni ei wneud o amgylch y garfan honno a'r grŵp oedran hwnnw. Mae yna lawer iawn o bethau da yma, sy'n targedu'r grŵp hwnnw yn benodol. Un o'r pethau allweddol oedd yn ddiddorol iawn yn fy marn i oedd bod cymaint, unwaith eto, yn ymwneud ag addysg a chyrhaeddiad. Mae'r cyfraddau'n uwch ymhlith pobl nad ydyn nhw'n mynd ymlaen i'r brifysgol, er enghraifft. Felly, mae yna rywbeth mae angen i ni edrych arno go iawn yn y fan yna, a dyna lle mae'r gwaith traws-lywodraethol yn dod i mewn hefyd. Felly, diolch.

16:50

Minister, it's good to hear you mention your work with Samaritans Cymru, and it was very good to have you at the launch of their impact report at the Norwegian church last week. We heard there about the 386 lives lost in Wales to suicide in 2023, and the fact that that was an increase, as you described, and the ripple effect, which makes suicide so damaging, not just for family and friends—important though that is—but for communities, work colleagues. And of course, as I mentioned at the event, here in the Senedd we had the experience of Carl Sargeant, father of our current Member, Jack, several years ago. I think those of us here at the time are familiar with that ripple effect, you know, of how far those ripples extend, and over a great extended period of time. Some understanding, nothing like the family and friends of Carl, obviously.326

But it was really good to hear about the work of Samaritans Cymru and how important it is: the helpline, the outreach, the work with schools, the work with prisons, the work with the rail network. It's so extensive, and I'm sure that I know you will join me in paying tribute to all the volunteers involved in the services, the vital services, provided by Samaritans Cymru. And I know very well you're so committed to working with the organisation into the future, for the benefit of so many people in Wales, in terms of that vital prevention policy and active listening, which they explained at the event.327

Gweinidog, mae'n dda eich clywed chi'n sôn am eich gwaith gyda Samariaid Cymru, ac roedd e'n dda iawn eich cael chi yn lansiad eu hadroddiad effaith yn yr eglwys Norwyaidd yr wythnos diwethaf. Clywsom yno am y 386 o fywydau a gollwyd yng Nghymru i hunanladdiad yn 2023, a'r ffaith bod hynny'n gynnydd, fel y disgrifioch chi, a'r effaith ganlyniadol, sy'n gwneud hunanladdiad mor niweidiol, nid yn unig i deulu a ffrindiau—er bod hynny'n bwysig—ond i gymunedau, cydweithwyr. Ac wrth gwrs, fel y soniais i yn y digwyddiad, yma yn y Senedd fe gawson ni brofiad Carl Sargeant, tad ein Haelod presennol, Jack, sawl blwyddyn yn ôl. Rwy'n credu bod y rhai ohonom yma ar y pryd yn gyfarwydd â'r effaith ganlyniadol honno, wyddoch chi, o ba mor bell mae'r crychdonnau hynny'n ymestyn, a thros gyfnod estynedig o amser. Rhywfaint o ddealltwriaeth, dim byd tebyg i deulu a ffrindiau Carl, yn amlwg.

Ond roedd e'n dda clywed am waith Samariaid Cymru a pha mor bwysig ydyw: y llinell gymorth, yr allgymorth, y gwaith gydag ysgolion, y gwaith gyda charchardai, y gwaith gyda'r rhwydwaith rheilffyrdd. Mae mor helaeth, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi i dalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r gwasanaethau, y gwasanaethau hanfodol, sy'n cael eu darparu gan Samariaid Cymru. Ac rwy'n gwybod yn iawn eich bod chi mor ymrwymedig i weithio gyda'r sefydliad yn y dyfodol, er budd cynifer o bobl yng Nghymru, o ran y polisi atal hanfodol hwnnw a gwrando gweithredol, a esboniwyd ganddyn nhw yn y digwyddiad.

Thank you so much, John Griffiths, and for sponsoring that event and for your commitment as well, and highlighting the work of the Samaritans. We did hear about that ripple effect after you lose somebody, and that grief, and how that goes on through the years. It really does. And then conversely, we heard of the kind of positive ripple effect as well, from people who have become volunteers with the Samaritans. We heard from somebody who stood up and said that he became a Samaritan when he went to prison. He was in Parc prison, and he got trained up there, and he was the person then that all the other prisoners went to to talk to. Even now, afterwards, after he's been released, he continues to do that work. They really stressed, didn't they, how important it is to really, really listen and to really understand, and often that's what people need. So, I absolutely pay tribute to everything that they have done. Their helpline is absolutely amazing, but also the work that they do in rural communities.328

I'd actually just like to say as well that when we went down to do the launch of this at Swansea University, because that's where Professor Ann John is, and many of her colleagues who are doing research in this space, I got to speak to Neil Ingham from Samaritans Cymru, and, 'The thing is', he said, 'we always talk about the lived experience and the co-production, but what you have to remember when you're doing something around suicide like this is that there's a lived experience that we'll never hear.' And he said that in everything that he does, he always remembers that often it's the people who have tried and are still with us, it's the people who have been bereaved, and he said it's always important to mentally, or physically even, leave that empty chair there and remember that there's a lived experience that we will actually never hear, as well, and to leave space for that too. And that's where I think we can learn not to be judgmental and to be as understanding as we possibly can of something that is very difficult sometimes to understand. So, I really do pay tribute to the Samaritans for that. Thank you.329

Diolch yn fawr iawn, John Griffiths, ac am noddi'r digwyddiad hwnnw ac am eich ymrwymiad hefyd, a thynnu sylw at waith y Samariaid. Fe glywson ni am yr effaith ganlyniadol honno ar ôl i chi golli rhywun, a'r galar hwnnw, a sut mae hynny'n cario ymlaen dros y blynyddoedd. Ydy wir. Ac yna i'r gwrthwyneb, fe glywson ni am y math o effaith ganlyniadol gadarnhaol hefyd, gan bobl sydd wedi dod yn wirfoddolwyr gyda'r Samariaid. Fe glywson ni gan rywun a safodd i fyny a dweud ei fod wedi dod yn Samariad pan aeth i'r carchar. Roedd yng ngharchar Y Parc, ac fe gafodd ei hyfforddi yno, ac yna ef oedd y person roedd yr holl garcharorion eraill yn mynd i siarad ag ef. Hyd yn oed nawr, wedyn, ar ôl iddo gael ei ryddhau, mae'n parhau i wneud y gwaith hwnnw. Fe wnaethon nhw bwysleisio, on'd do fe, pa mor bwysig yw gwrando a deall mewn go iawn, ac yn aml dyna sydd ei angen ar bobl. Felly, rwy'n talu teyrnged i bopeth maen nhw wedi'i wneud. Mae eu llinell gymorth yn hollol anhygoel, ond hefyd y gwaith maen nhw'n ei wneud mewn cymunedau gwledig.

Hoffwn ddweud hefyd, pan aethom lawr i lansio hyn ym Mhrifysgol Abertawe, oherwydd dyna lle mae'r Athro Ann John, a llawer o'i chydweithwyr sy'n gwneud ymchwil yn y gofod hwn, fe ges i gyfle i siarad â Neil Ingham o Samariaid Cymru, ac, 'Y peth yw', meddai, 'rydym bob amser yn siarad am y profiad bywyd a'r cyd-gynhyrchu, ond yr hyn y mae'n rhaid i chi ei gofio pan fyddwch chi'n gwneud rhywbeth o gwmpas hunanladdiad fel hyn yw bod yna brofiad bywyd na fyddwn byth yn ei glywed.' Ac fe ddywedodd, ym mhopeth mae'n ei wneud, ei fod bob amser yn cofio mai'r bobl sydd wedi ceisio ac sy'n dal gyda ni, y bobl sydd wedi cael profedigaeth ydyn nhw'n aml, a dywedodd ei bod bob amser yn bwysig i adael y gadair wag yno, yn feddyliol, neu hyd yn oed yn ffisegol, a chofio bod yna brofiad bywyd na fyddwn ni byth yn ei glywed, hefyd, ac i adael lle i hynny hefyd. A dyna lle rwy'n credu y gallwn ni ddysgu i beidio â bod yn feirniadol ac i fod mor gydymdeimladol ag y gallwn ni ynghylch rhywbeth sy'n anodd iawn i'w ddeall weithiau. Felly, rwy'n talu teyrnged i'r Samariaid am hynny. Diolch.

16:55

Diolch, Deputy Presiding Officer. And I'd like to thank the Deputy Minister for the strategy that's come forward today. I think it's a really positive strategy, and one life lost across Wales to suicide is one too many, and anything we can do to address that should actually be encouraged and welcomed.331

Deputy Minister, given that suicide is more prevalent in males between the ages of 30 and 55, and self-harm is a lot more prevalent in young females, I've been hastily reading through the delivery plan now, as I've been sat here and earlier upstairs, and I can't see any specific mechanisms or programmes around that specific group, so I'd be interested to know what exactly the Government's going to do on targeting that area to try and drive down suicide rates within those groups.332

Secondly, can you also explain how the Government is breaking down silos as well? Because, as the previous Minister in this area always used to say, mental health is everybody's business. It's a complete cross-governmental matter, and I'm just interested in how you're bringing everybody together, because I've seen in the delivery plan a lot of different groups across Government are leading on certain areas, from the NHS executive to others, so I'm just interested in how you're going to pull all that together and drive the delivery that we want to see. Because these plans are lovely written down, but it's actually the delivery on the ground that makes a big difference, and I'm just interested in how you're doing that and working across Government in those areas.333

Diolch, Dirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y strategaeth sydd wedi'i chyflwyno heddiw. Rwy'n credu ei bod yn strategaeth gadarnhaol iawn, ac mae un bywyd a gollwyd i hunanladdiad yng Nghymru yn un yn ormod, a dylid annog a chroesawu unrhyw beth allwn ni ei wneud i fynd i'r afael â hynny.

Dirprwy Weinidog, o ystyried bod hunanladdiad yn fwy cyffredin ymhlith dynion rhwng 30 a 55 oed, a bod hunan-niweidio yn llawer mwy cyffredin ymhlith merched ifanc, rwyf wedi bod yn darllen drwy'r cynllun cyflawni yn gyflym nawr, tra fy mod i wedi bod yn eistedd yma ac yn gynharach i fyny'r grisiau, a galla i ddim gweld unrhyw fecanweithiau neu raglenni penodol o amgylch y grŵp penodol hwnnw, felly byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth yn union mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ar dargedu'r maes hwnnw er mwyn ceisio gostwng cyfraddau hunanladdiad yn y grwpiau hynny.

Yn ail, allwch chi hefyd esbonio sut mae'r Llywodraeth yn chwalu seilos hefyd? Oherwydd, fel yr oedd y Gweinidog blaenorol yn y maes hwn yn arfer ei ddweud bob amser, mae iechyd meddwl yn fusnes i bawb. Mae'n fater cwbl draws-lywodraethol, ac mae gen i ddiddordeb mewn sut rydych chi'n dod â phawb at ei gilydd, oherwydd rwyf wedi gweld yn y cynllun cyflawni bod llawer o wahanol grwpiau ar draws y Llywodraeth yn arwain ar feysydd penodol, o weithrediaeth y GIG i eraill, felly mae gen i ddiddordeb mewn sut rydych chi'n mynd i dynnu hynny i gyd at ei gilydd ac ysgogi'r hyn rydym am ei weld yn cael ei gyflawni. Oherwydd mae'r cynlluniau hyn yn hyfryd wedi'u hysgrifennu i lawr, ond yr hyn sy'n cael ei gyflawni ar lawr gwlad sy'n gwneud gwahaniaeth mawr, ac mae gen i ddiddordeb mewn sut rydych chi'n gwneud hynny ac yn gweithio ar draws y Llywodraeth yn y meysydd hynny.

Of course. Thank you very much, and thank you so much for welcoming this as well. You've always been so passionate about mental health and about men and men's mental health as well. And I always remember, again, people have said to me—men in particular have said to me—'You did so much to encourage us to speak up and speak out and ask for help, and then when we have, it's not always there.' And that's something that really, really stays with me. So, you are right; it's about having that support that is person centred and exactly what they need at that moment. I do think that a lot of this does come through from the third sector, truly. I think that we have groups within our communities that are really immersed, and I think of Men's Sheds, like I said, like Lads and Dads, I think of the Jac Lewis Foundation now, which started in that way and now offers bereavement support to people all across Wales.334

I think that those things are really important and we are seeing a big improvement, but the key thing about this and the next steps that we're going to be doing is that, first of all, they need to be heard in terms of what they're seeing on the ground, but also we need to be ensuring—and this is what I hear as well—that we really do have these services all joined up, because they're seeing people when they get to crisis, and by that point, it's really, really hard then to get people back to the place where they need to be, where they're actually kind of having a chat and talking about their issues and their problems. So, the equipping part, I think, of objective 5 is really important. We're now going to be mapping services that encounter people at high risk of suicide and self-harm, and that's going to be doing a service mapping exercise and that's also going to take into account other substance misuse services, the job centres and the domestic abuse services. We're reviewing the current provision and need within the wider settings, and identifying those opportunities. We're also going to enhance the offer available, so directing services to available resources for understanding and skills, and we're also going to enhance the offer of support in children's services and ultimately create those multi-agency mechanisms for collaboration.335

So, I know that sounds like a lot of words and not exactly what's going to be happening, but I have my well-being and mental health boards as well. We're now going to have a new advisory group to the Government, like I said, where all of this research is going to be coming through and it really is just going to take that multi-agency work.336

So, that's why I think that this is so important, but I think the key thing it comes back to is that we called the suicide prevention and self-harm strategy, 'Understanding', but we don't understand enough and we've got to do so much more in this area and with those demographics. And I keep asking people in my life, 'Why is this happening? Why aren't people asking for help?' People who self-harm, actually, they don't reach out for help. The stigma's too high. The data is showing this. They're just not letting anybody know that this is happening, and so, like I said, when we're saying that it increases the likelihood that a person will die by suicide by between 50 and 100, and it's not something that anybody knows where to ask for that help, that's one of the key things, and that's why it's a suicide prevention and self-harm strategy. The two are very linked.337

I would also say, though, that this is very, very cross-Government, because it has to be. We all know that if you're stressed, if you're lonely, if you're sad, if you're grieving, it's going to impact your mental health and well-being. We know that there's that life course approach that will come out more in my mental health and well-being strategy. We know where there are going to be these pressure points.338

Some of the things that have been found in the research are what we can do as a whole society. We know that active labour market programmes make a big difference, we know that debt relief makes a big difference. We know that provision of adequate welfare benefits makes a big difference. We know that staff in NHS and social services and the advice sector who can access regular, updated information on key advice agencies to signpost people make a difference. Front-line staff are most likely to be in contact with vulnerable people, and they should receive training to recognise that.339

The near real-time monitoring of changing suicide rates is essential, and we need to monitor the impact of policy changes and prevention measures and ensure timely signposting to bereavement support. Those are all the things that we know that we have to do. They'll make the biggest difference. I don't have many of those in my portfolio, and that's why I work with my colleagues here to ensure that we do.340

I'm really hopeful, honestly, that this is going to make a difference now and we're going to achieve that vision of seeing that rate of suicide in Wales come down across all demographics, and especially men, who seem to be particularly in pain at the moment.341

Wrth gwrs. Diolch yn fawr iawn, a diolch yn fawr am groesawu hyn hefyd. Rydych chi bob amser wedi bod mor angerddol am iechyd meddwl ac am ddynion ac iechyd meddwl dynion hefyd. Ac rwyf wastad yn cofio, unwaith eto, mae pobl wedi dweud wrtha i—mae dynion yn arbennig wedi dweud wrtha i—'Fe wnaethoch chi gymaint i'n hannog ni i godi llais a gofyn am help, ac yna pan ydym wedi gwneud hynny, dydy e ddim wedi bod yno bob amser.' Ac mae hynny'n rhywbeth sydd wir yn aros gyda mi. Felly, rydych chi'n iawn; mae'n ymwneud â chael y cymorth hwnnw sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n union beth sydd ei angen arnyn nhw ar y foment honno. Rydw i wir yn credu bod llawer o hyn yn dod drwodd o'r trydydd sector. Rwy'n credu bod gennym ni grwpiau o fewn ein cymunedau sydd wedi'u trwytho'n llawn, ac rwy'n meddwl am Men's Sheds, fel y dywedais i, fel Lads and Dads, rwy'n meddwl am Sefydliad Jac Lewis nawr, a ddechreuodd yn y modd hwnnw ac sydd, erbyn hyn, yn cynnig cymorth profedigaeth i bobl ledled Cymru.

Rwy'n credu bod y pethau hynny'n bwysig iawn ac rydym yn gweld gwelliant mawr, ond y peth allweddol am hyn a'r camau nesaf rydym yn mynd i fod yn eu cymryd yw, yn gyntaf, mae angen iddyn nhw gael eu clywed o ran yr hyn maen nhw'n ei weld ar lawr gwlad, ond hefyd mae angen i ni fod yn sicrhau—a dyma beth rwy'n ei glywed hefyd—bod yr holl wasanaethau hyn yn gydgysylltiedig, oherwydd maen nhw'n gweld pobl pan fyddan nhw mewn argyfwng, ac erbyn hynny, mae'n wirioneddol anodd wedyn i gael pobl yn ôl i lle mae angen iddyn nhw fod, lle maen nhw'n cael sgwrs ac yn siarad am eu problemau. Felly, rwy'n credu bod y rhan arfogi o amcan 5 yn bwysig iawn. Rydym nawr yn mynd i fod yn mapio gwasanaethau sy'n dod ar draws pobl sy'n wynebu risg uchel o hunanladdiad a hunan-niwed, ac mae hynny'n mynd i fod yn gwneud ymarfer mapio gwasanaethau ac mae hynny hefyd yn mynd i ystyried gwasanaethau camddefnyddio sylweddau eraill, y canolfannau gwaith a'r gwasanaethau cam-drin domestig. Rydym yn adolygu'r ddarpariaeth a'r angen presennol yn y lleoliadau ehangach, ac yn nodi'r cyfleoedd hynny. Rydym hefyd yn mynd i wella'r cynnig sydd ar gael, felly cyfeirio gwasanaethau at yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer dealltwriaeth a sgiliau, ac rydym hefyd yn mynd i wella'r cynnig o gymorth mewn gwasanaethau plant ac, yn y pen draw, creu'r mecanweithiau amlasiantaeth hynny ar gyfer cydweithio.

Felly, rwy'n gwybod bod hynny'n swnio fel llawer o eiriau ac nid yn union beth sy'n mynd i fod yn digwydd, ond mae gen i fy myrddau lles ac iechyd meddwl hefyd. Rydyn ni nawr yn mynd i gael grŵp cynghori newydd i'r Llywodraeth, fel y dywedais i, lle mae'r holl ymchwil yma yn mynd i fod yn dod trwodd ac mae'n mynd i fod yn cymryd y gwaith amlasiantaeth hwnnw.

Felly, dyna pam rwy'n credu bod hyn mor bwysig, ond rwy'n credu mai'r peth allweddol mae'n dod yn ôl ato yw ein bod ni wedi galw'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn 'Dealltwriaeth', ond dydyn ni ddim yn deall digon ac mae'n rhaid i ni wneud cymaint mwy yn y maes hwn a gyda'r ddemograffeg honno. Ac rwy'n cadw gofyn i bobl yn fy mywyd, 'Pam mae hyn yn digwydd? Pam nad yw pobl yn gofyn am help?' Dydy pobl sy'n hunan-niweidio ddim, mewn gwirionedd, yn estyn allan am help. Mae'r stigma yn rhy uchel. Mae'r data yn dangos hyn. Dydyn nhw ddim yn gadael i unrhyw un wybod bod hyn yn digwydd, ac felly, fel y dywedais i, pan ydym yn dweud ei fod yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd person yn marw trwy hunanladdiad rhwng 50 a 100, ac nid yw'n rhywbeth mae unrhyw un yn gwybod lle i ofyn am yr help hwnnw, dyna un o'r pethau allweddol, a dyna pam mae'n strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae cysylltiad agos rhwng y ddau.

Byddwn i hefyd yn dweud, fodd bynnag, bod hyn yn draws-lywodraethol iawn, iawn, oherwydd mae'n rhaid iddo fod. Rydym ni i gyd yn gwybod, os ydych chi o dan straen, os ydych chi'n unig, os ydych chi'n drist, os ydych chi'n galaru, mae'n mynd i effeithio ar eich iechyd meddwl a'ch lles. Rydym yn gwybod am y dull cwrs bywyd hwnnw a fydd yn dod allan yn fwy yn fy strategaeth iechyd meddwl a lles. Rydym yn gwybod lle y bydd y pwyntiau pwysau hyn.

Rhai o'r pethau sydd wedi'u canfod yn yr ymchwil yw'r hyn y gallwn ni ei wneud fel cymdeithas gyfan. Rydym yn gwybod bod rhaglenni marchnad lafur weithgar yn gwneud gwahaniaeth mawr, rydym yn gwybod bod rhyddhad dyled yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn gwybod bod darparu budd-daliadau lles digonol yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn gwybod bod staff yn y GIG a gwasanaethau cymdeithasol a'r sector cyngor sy'n gallu cael mynediad at wybodaeth reolaidd wedi'i ddiweddaru am asiantaethau cynghori allweddol i gyfeirio pobl yn gwneud gwahaniaeth. Staff rheng flaen sy'n fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â phobl agored i niwed, ac fe ddylen nhw gael hyfforddiant i gydnabod hynny.

Mae monitro cyfraddau hunanladdiad sy'n newid mewn amser real bron yn hanfodol, ac mae angen i ni fonitro effaith newidiadau polisi a mesurau atal a sicrhau bod modd cyfeirio'n amserol at gymorth profedigaeth. Dyna'r holl bethau rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni eu gwneud. Nhw fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Nid oes gennyf lawer o'r rheini yn fy mhortffolio, a dyna pam rwy'n gweithio gyda fy nghyd-Aelodau yma i sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny.

Rwy'n wirioneddol obeithiol, a dweud y gwir, fod hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth nawr a'n bod ni'n mynd i gyflawni'r weledigaeth honno o weld y gyfradd hunanladdiad honno yng Nghymru yn gostwng ar draws pob demograffeg, ac yn enwedig dynion, y mae'n ymddangos eu bod, yn arbennig, mewn gwewyr ar hyn o bryd.

17:00
6. Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025
6. The Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (Consequential Amendments) Regulations 2025

Eitem 6 yw Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025. Galwaf ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i wneud y cynnig—Vikki Howells.343

Item 6 is the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (Consequential Amendments) Regulations 2025. I call on the Minister for Further and Higher Education to move the motion—Vikki Howells.

Cynnig NDM8868 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2025.

Motion NDM8868 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (Consequential Amendments) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 4 March 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I move the motion before us today. Following on from Medr becoming operational last summer, I am now seeking to make the necessary provisions so as to deliver the next phase of Medr's functions, as provided for in the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022. The 2022 Act provides for amendments to the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 in relation to the reorganisation of school sixth forms. These amendments remove the Welsh Ministers' powers to make proposals to restructure local authority-maintained school sixth form education, replacing them with similar powers for Medr.344

Through the provisions, we are establishing a legislative framework that enables Medr to take a strategic approach, offering a wider perspective to school sixth form provision and ensuring it can provide support, choice and progression and avoid unnecessary duplication. The amendments made to the 2013 Act do not remove protections or safeguards, for example in respect of Welsh language provision. These remain as requirements within that Act, and also within the statutory school organisation code. The consequential regulations before you today will ensure that existing primary and secondary legislation accurately reflects the legislative changes brought about by the amendments to the 2013 Act. I'd like to thank the Legislation, Justice and Constitution Committee for their scrutiny of these regulations, and ask Members to approve these regulations today.345

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Ar ôl i Medr ddod yn weithredol yr haf diwethaf, rwy'n ceisio gwneud y darpariaethau angenrheidiol nawr er mwyn cyflawni'r cam nesaf o swyddogaethau Medr, fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae Deddf 2022 yn darparu ar gyfer diwygiadau i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 o ran ad-drefnu chweched dosbarth ysgolion. Mae'r diwygiadau hyn yn dileu pwerau Gweinidogion Cymru i wneud cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, gan eu disodli â phwerau tebyg ar gyfer Medr.

Trwy'r darpariaethau, rydym yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol sy'n galluogi Medr i gymryd dull strategol, gan gynnig persbectif ehangach i ddarpariaeth chweched dosbarth ysgolion a sicrhau ei fod yn gallu darparu cymorth, dewis a dilyniant ac osgoi dyblygu diangen. Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 2013 yn dileu amddiffyniadau na mesurau diogelwch, er enghraifft mewn perthynas â darpariaeth Gymraeg. Mae'r rhain yn parhau i fod yn ofynion o fewn y Ddeddf honno, a hefyd o fewn y cod trefniadaeth ysgol statudol. Bydd y rheoliadau canlyniadol sydd ger eich bron heddiw yn sicrhau bod deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth bresennol yn adlewyrchu'n gywir y newidiadau deddfwriaethol a achoswyd gan y diwygiadau i Ddeddf 2013. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu craffu ar y rheoliadau hyn, a gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.346

There are no other speakers, so the proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

7. Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025
7. The Children Act 2004 (Children Missing Education Database) (Pilot) (Wales) Regulations 2025

Eitem 7, Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Lynne Neagle.347

Item 7 is the Children Act 2004 (Children Missing Education Database) (Pilot) (Wales) Regulations 2025. I call on the Cabinet Secretary for Education to move the motion—Lynne Neagle.

Cynnig NDM8869 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2025.

Motion NDM8869 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Children Act 2004 (Children Missing Education Database) (Pilot) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 3 March 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I move the motion to approve the Children Act 2004 (Children Missing Education Database) (Pilot) (Wales) Regulations 2025 today. As you know, I am and always have been passionate about ensuring that all children in Wales can thrive and are supported to do their very best in an education system that puts their welfare first. Above all, it is essential that all children receive their right to an education, regardless of where or how this is delivered.348

In September, I agreed to trial the children missing education database arrangements with seven local authorities. The pilot will start on 8 April, and will run for a year. When local authorities receive the information from their local health board, they will review and compare the one-off data set with their existing data to identify children previously not known to them and those children where the suitability of education is not known. Local authorities will then follow up with those families to make sure that every child is in receipt of a suitable education. An independent evaluation will test the effectiveness of the database and inform our next steps.349

I want to be clear that these arrangements are not about home education and they are completely separate to the provisions in the UK Government's Children's Wellbeing and Schools Bill—the two should not be conflated. The children missing education database is simply a mechanism to help local authorities undertake their existing duties. We already have statutory children missing education guidance; this sets out what local authorities should do to identify children and ensure that appropriate education provision is in place for each child. Whilst I know that local authorities follow the guidance as far as they are able, there is not a system that ensures that they know about all the children they are responsible for.350

This is not a new issue, but the need to address it is now critical. The numbers of children who have been deregistered from school following the pandemic have increased, and sadly, the reasons behind this are not always positive. With the increase in children not in school comes the inherent risk that some of these children will fall through the cracks and not receive a suitable education. Even if a child is receiving a suitable education at home, local authorities need to know that this is the case. Ultimately, these regulations are about promoting the welfare of children and I am grateful to local authorities and our local health board partners for the constructive way they have worked with us to develop this pilot. I would also like to thank the Legislation, Justice and Constitution Committee for its careful scrutiny of the regulations and I ask Members to approve the regulations today.351

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 heddiw. Fel y gwyddoch, rwy'n angerddol ac rwyf wastad wedi bod yn angerddol ynghylch sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu ffynnu ac yn cael ei gefnogi i wneud ei orau mewn system addysg sy'n rhoi ei les yn gyntaf. Yn anad dim, mae'n hanfodol bod pob plentyn yn derbyn eu hawl i addysg, ni waeth ble neu sut y caiff hyn ei ddarparu.

Ym mis Medi, fe gytunais i dreialu trefniadau cronfa ddata plant sy'n colli addysg gyda saith awdurdod lleol. Bydd y peilot yn dechrau ar 8 Ebrill, a bydd yn rhedeg am flwyddyn. Pan fydd awdurdodau lleol yn derbyn yr wybodaeth gan eu bwrdd iechyd lleol, byddan nhw'n adolygu ac yn cymharu'r set ddata untro â'r data sydd ganddynt eisoes i nodi plant nad oeddent yn hysbys iddyn nhw o'r blaen a'r plant hynny lle nad yw addasrwydd addysg yn hysbys. Yna, bydd awdurdodau lleol yn mynd ar drywydd hyn gyda'r teuluoedd hynny i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn derbyn addysg addas. Bydd gwerthusiad annibynnol yn profi effeithiolrwydd y gronfa ddata ac yn llywio ein camau nesaf.

Rwyf am fod yn glir nad yw'r trefniadau hyn yn ymwneud ag addysg gartref ac maen nhw'n gwbl ar wahân i'r darpariaethau ym Mil Lles Plant ac Ysgolion Llywodraeth y DU—ni ddylid cyfuno'r ddau. Yn syml, mae'r gronfa ddata plant sy'n colli addysg yn fecanwaith i helpu awdurdodau lleol i ymgymryd â'u dyletswyddau presennol. Mae gennym ganllawiau statudol ar blant sy'n colli addysg eisoes; mae'r rhain yn nodi'r hyn y dylai awdurdodau lleol ei wneud i nodi plant a sicrhau bod darpariaeth addysg briodol ar waith ar gyfer pob plentyn. Er fy mod i'n gwybod bod awdurdodau lleol yn dilyn y canllawiau cyn belled ag y gallan nhw, does dim system sy'n sicrhau eu bod nhw'n gwybod am yr holl blant y maen nhw'n gyfrifol amdanynt.

Nid mater newydd yw hwn, ond mae'r angen i fynd i'r afael ag ef yn hanfodol nawr. Mae nifer y plant sydd wedi cael eu dadgofrestru o'r ysgol yn dilyn y pandemig wedi cynyddu ac, yn anffodus, nid yw'r rhesymau y tu ôl i hyn bob amser yn gadarnhaol. Gyda'r cynnydd mewn plant nad ydynt yn yr ysgol daw'r risg gynhenid y bydd rhai o'r plant hyn yn syrthio trwy'r craciau ac na fyddant yn derbyn addysg addas. Hyd yn oed os yw plentyn yn derbyn addysg addas gartref, mae angen i awdurdodau lleol wybod bod hyn yn wir. Yn y pen draw, mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â hyrwyddo lles plant ac rwy'n ddiolchgar i awdurdodau lleol a'n partneriaid bwrdd iechyd lleol am y ffordd adeiladol maen nhw wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r peilot hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei graffu gofalus ar y rheoliadau ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

17:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.352

I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.

Thank you, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered these draft regulations last week, and yesterday afternoon we considered the Welsh Government's response to the committee’s report.353

The committee’s report contains three technical reporting points, all of which highlight matters that we consider need further explanation. I will comment on the first and third points this afternoon. In the first technical point, the committee notes that, in the preamble, it is unclear if the enabling powers should also cite section 66(1) of the Children Act 2004 as only some of the local authorities in Wales are included in the list of pilot local authorities in Schedule 1 to these regulations. Section 66(1)(b) of the 2004 Act provides the power that enables regulations to make different provisions for different cases or areas. The Government does not consider that a reference to section 66(1)(b) of the 2004 Act is necessary. However, to assist the reader and subject to approval of the regulations this afternoon, it will be amending the preamble to include reference to that provision prior to making.354

In the third technical point, the committee has sought clarity about the use of the same term in the Welsh text to mean both 'usually resident' and 'ordinarily resident', which have different meanings in the English text. The committee’s report notes that this approach could be potentially problematic in future legislation if both the terms were being used within the same provision of an instrument as there would be no way of distinguishing between them, and any difference as to their meaning, in the Welsh text. The Government is content with the drafting but has confirmed that it will give appropriate consideration to the use of the terms in future legislation.355

The committee’s report also contains three merits reporting points, and I will just highlight the last of these. The committee noted that the regulations will be made using powers contained in section 29 of the 2004 Act. The explanatory memorandum laid alongside the draft regulations on 11 March stated in section 2 that a commencement order is required to bring section 29 of the Children Act 2004 into force. However, section 29 of the 2004 Act was brought into force on 10 March by the Children Act 2004 (Commencement No. 10) (Wales) Order 2025. The Government has since withdrawn the EM originally laid alongside the draft regulations and a new version has been laid that corrects the error.356

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bu'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystyried y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf, a phrynhawn ddoe gwnaethom ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys tri phwynt adrodd technegol, y mae pob un ohonyn nhw'n tynnu sylw at faterion y mae angen eu hesbonio ymhellach, yn ein barn ni. Fe wnaf i sylwadau ar y pwynt cyntaf a'r trydydd pwynt y prynhawn yma. Yn y pwynt technegol cyntaf, mae'r pwyllgor yn nodi, yn y rhaglith, nad yw'n glir a ddylai'r pwerau galluogi sôn hefyd am adran 66(1) o Ddeddf Plant 2004 gan mai dim ond rhai o'r awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr o awdurdodau lleol peilot yn Atodlen 1 i'r rheoliadau hyn. Mae adran 66(1)(b) o Ddeddf 2004 yn darparu'r pŵer sy'n galluogi rheoliadau i wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer gwahanol achosion neu feysydd. Nid yw'r Llywodraeth o'r farn bod angen cyfeirio at adran 66(1)(b) o Ddeddf 2004. Fodd bynnag, er mwyn cynorthwyo'r darllenydd ac yn amodol ar gymeradwyaeth y rheoliadau y prynhawn yma, bydd yn diwygio'r rhaglith i gynnwys cyfeiriad at y ddarpariaeth honno cyn eu gwneud.

Yn y trydydd pwynt technegol, mae'r pwyllgor wedi ceisio eglurder ynglŷn â'r defnydd o'r un term yn y testun Cymraeg i olygu 'usually resident' ac 'ordinarily resident', sydd ag ystyron gwahanol yn y testun Saesneg. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi y gallai'r dull hwn fod yn broblematig mewn deddfwriaeth yn y dyfodol pe bai'r ddau derm yn cael eu defnyddio o fewn yr un ddarpariaeth mewn offeryn gan na fyddai unrhyw ffordd o wahaniaethu rhyngddyn nhw, ac unrhyw wahaniaeth ynghylch eu hystyr, yn y testun Cymraeg. Mae'r Llywodraeth yn fodlon â'r drafftio ond mae wedi cadarnhau y bydd yn rhoi ystyriaeth briodol i'r defnydd o'r termau mewn deddfwriaeth yn y dyfodol.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn cynnwys tri phwynt adrodd teilyngdod, ac fe dynnaf sylw at yr olaf o'r rhain, a hwnnw'n unig. Nododd y pwyllgor y bydd y rheoliadau'n cael eu gwneud gan ddefnyddio pwerau a gynhwysir yn adran 29 o Ddeddf 2004. Roedd y memorandwm esboniadol a osodwyd ochr yn ochr â'r rheoliadau drafft ar 11 Mawrth yn nodi yn adran 2 bod angen gorchymyn cychwyn i ddod ag adran 29 o Ddeddf Plant 2004 i rym. Fodd bynnag, daethpwyd ag adran 29 o Ddeddf 2004 i rym ar 10 Mawrth gan Orchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 10) (Cymru) 2025. Ers hynny, mae'r Llywodraeth wedi tynnu'r memorandwm esboniadol a osodwyd yn wreiddiol ochr yn ochr â'r rheoliadau drafft yn ôl ac mae fersiwn newydd wedi'i gosod sy'n cywiro'r gwall.

Safeguarding our children is absolutely paramount. We must do all that we can collectively to avoid truly tragic cases such as Sara Sharif's murder from ever happening again. But we have to get the balance right. We must take people on that journey, ensure that they are listened to and engaged with.357

Cabinet Secretary, these proposals, mixed with the Children's Wellbeing and Schools Bill, which I'm sure we'll talk about at a later date, have sparked a lot of concern amongst home educators, with many of them contacting my office over the last few weeks. Concerns range from the proposed data sharing being a violation of privacy to the plans putting extra pressure on families who home educate their children. Every step must be taken to make sure we do not stigmatise or unduly burden parents who have made a positive and legitimate choice to home educate their children.358

In light of that, Cabinet Secretary, I'd really like to know if you could please kindly outline how the Welsh Government has been engaging with some home educators across Wales over the CME database. Could you also please clarify and explain why the Welsh Government is pushing towards these regulations to start a year-long database trial when it has already asked the UK Government to legislate in this area through its Children's Wellbeing and Schools Bill, which also includes the need for a database? You did say in the introduction that you did not want the two to be conflated, but could you please, for the benefit of this Senedd, just clarify today?359

The regulations say that home-educated children who receive a suitable education will not be included on the database, so could you please clarify what constitutes a suitable education? Will the criteria to check its suitability be universal across all seven local authorities taking part in the trial or will it differ from council to council? What commitments can you make that this pilot is truly a pilot, Cabinet Secretary, and not merely a smokescreen for a Wales-wide roll-out, which was exactly what we saw with this Government's shambolic 20 mph speed limit policy?360

Cabinet Secretary, as Welsh Conservatives we are pro parental choice, and I certainly do agree that children should be safeguarded at every single opportunity. But I firmly believe that you do need to strike a balance and ensure that home educators and those impacted by these regulations are not alienated. That's why, Cabinet Secretary, the Welsh Conservative group will be abstaining on these regulations this afternoon. Thank you.361

Mae diogelu ein plant yn hollbwysig. Mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni gyda'n gilydd i osgoi achosion gwirioneddol drasig fel llofruddiaeth Sara Sharif rhag digwydd eto. Ond mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn. Mae'n rhaid i ni fynd â phobl ar y daith honno, sicrhau bod pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn ymgysylltu â nhw.

Ysgrifennydd Cabinet, mae'r cynigion hyn, yn gymysg â'r Bil Lles Plant ac Ysgolion, yr wyf yn siŵr y byddwn ni'n siarad amdano yn nes ymlaen, wedi ennyn llawer o bryder ymhlith addysgwyr cartref, gyda llawer ohonyn nhw'n cysylltu â'm swyddfa dros yr wythnosau diwethaf. Mae pryderon yn amrywio o'r rhannu data arfaethedig yn mynd yn groes i breifatrwydd i'r cynlluniau yn rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd sy'n addysgu eu plant gartref. Mae'n rhaid cymryd pob cam i wneud yn siŵr nad ydym yn stigmateiddio rhieni sydd wedi gwneud dewis cadarnhaol a chyfreithlon i addysgu eu plant gartref, nac yn rhoi gormod o faich arnyn nhw.

Yng ngoleuni hynny, Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn wybod a allech chi amlinellu'n garedig sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â rhai addysgwyr cartref ledled Cymru ynghylch y gronfa ddata CME. A allech chi hefyd egluro pam mae Llywodraeth Cymru yn gwthio tuag at y rheoliadau hyn i ddechrau treial cronfa ddata blwyddyn o hyd pan yw eisoes wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu yn y maes hwn drwy ei Bil Lles Plant ac Ysgolion, sydd hefyd yn cynnwys yr angen am gronfa ddata? Fe ddywedoch chi yn y cyflwyniad nad oeddech chi eisiau i'r ddau gael eu cyfuno, ond a allech chi roi eglurhad heddiw, er budd y Senedd hon?

Mae'r rheoliadau'n dweud na fydd plant a addysgir gartref sy'n derbyn addysg addas yn cael eu cynnwys ar y gronfa ddata, felly allech chi egluro beth yw addysg addas? A fydd y meini prawf i wirio ei haddasrwydd yn gyffredinol ar draws y saith awdurdod lleol sy'n cymryd rhan yn y treial neu a fyddant yn wahanol o gyngor i gyngor? Pa ymrwymiadau allwch chi eu gwneud bod y cynllun peilot hwn yn gynllun peilot go iawn, Ysgrifennydd Cabinet, ac nid dim ond sgrin fwg ar gyfer proses gyflwyno Cymru gyfan, sef yn union beth a welsom gyda pholisi terfyn cyflymder 20 mya di-drefn y Llywodraeth hon?

Ysgrifennydd Cabinet, fel Ceidwadwyr Cymreig rydym o blaid rhoi dewis i rieni, ac rwy'n sicr yn cytuno y dylai plant gael eu diogelu ar bob cyfle. Ond rwy'n credu'n gryf bod angen i chi daro cydbwysedd a sicrhau nad yw addysgwyr cartref a'r rhai yr effeithir arnynt gan y rheoliadau hyn yn cael eu dieithrio. Dyna pam, Ysgrifennydd Cabinet, bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y rheoliadau hyn y prynhawn yma. Diolch.

17:10

As my colleague Natasha Asghar has just outlined, child safeguarding is of the utmost importance for all public bodies, including, of course, Cabinet Secretary, yourselves as a Welsh Government and local authorities, and, indeed, also, for parents—the safeguarding of their children is the No. 1 priority that any parent would have. I'm speaking from a place where I was a child who was home educated for a number of years myself.362

I appreciate today, Cabinet Secretary, that you're seeking to draw a distinction between, as you described it, children missing education and home educated. I guess the difference you'd outline is those who would elect to inform a local authority are those being home educated and those, perhaps, not electing to inform a local authority are those children missing education. But, of course, you'll recognise that many of those children deemed to be missing education will actually be home educated. At the moment, it's parental choice as to whether they involve the local authority in that information or not.363

We all appreciate that children are home educated for a number of reasons, one of which is outlined in your impact assessment, which is those children being bullied at school, which may cause a traumatic experience for them and their families. As a result, there can be suspicion towards authorities that those families feel may have failed them through the course of their education. So, I'd be interested to understand how you plan to ensure that parents who feel that they have that suspicion towards local authorities in particular at the moment, and, perhaps, where relationships have broken down over a number of years—how there will be partnership working there, rather than a potential for a hostile relationship between those local authorities and parents who choose to home educate their children.364

I was disappointed that within the explanatory memorandum for the proposal here before us today there are only two options presented. It does feel like a bit of an all-or-nothing proposal. I'd be interested to hear from the Cabinet Secretary whether other options were considered, because the option that is the preferred one, which is proposed here today, does seem to lump a number of things together that could have been broken down differently, I suspect. In particular, the choice to require local health boards to share information and including general practitioners to share information as well—that could have been a separate option within the proposals here today. So, I'd be interested to understand why we've only been presented with two options, as they've been outlined today.365

On the point of health boards and medical practitioners having to share information with local authorities, there is a recognition that this could discourage vulnerable children or their families from attending medical practices—those, perhaps, who are currently avoiding those interactions with their local authority. There is a risk that they may go on to avoid attendance at those all-important medical appointments if they feel as though there's going to be an element of suspicion towards them. So, I wonder what assessments you've made of any potential risks in that area, and any additional workload for GPs in particular, and their training to identify, perhaps, those children who they would be required in this to flag with the local authority.366

And additionally, Llywydd, there are data-sharing measures contained within these regulations here today, so I wonder what measures are in place to ensure that the privacy and security of children's information are safeguarded in compliance with data protection laws, particularly during that process of information transfer between those medical or health professionals and the local authorities themselves. We know of the challenges around data sharing across public bodies here in Wales, so I'll be pleased to hear assurances that that has been properly considered and is being properly dealt with.367

My overriding plea, though, Cabinet Secretary, is just to—I'm sure you are—walk really sensitively through this, recognising there are often very serious reasons why parents choose to educate their children at home or in different circumstances, and I think it has to be dealt with really sensitively. Diolch yn fawr iawn.368

Fel mae fy nghyd-Aelod Natasha Asghar newydd amlinellu, mae diogelu plant yn bwysig iawn i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys, wrth gwrs, Ysgrifennydd Cabinet, chi eich hunain fel Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac, yn wir, hefyd, i rieni—diogelu eu plant yw'r brif flaenoriaeth y byddai gan unrhyw riant. Rwy'n siarad o le lle roeddwn i'n blentyn a addysgwyd gartref am nifer o flynyddoedd fy hun.

Rwy'n gwerthfawrogi heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod chi'n ceisio gwahaniaethu rhwng, fel y gwnaethoch chi ei ddisgrifio, plant sy'n colli addysg a'r rhai sy'n cael addysg gartref. Rwy'n tybio mai'r gwahaniaeth y byddech chi'n ei amlinellu yw mai'r rhai a fyddai'n dewis hysbysu awdurdod lleol yw'r rhai sy'n cael eu haddysg gartref a'r rhai nad ydynt yn dewis hysbysu awdurdod lleol, o bosibl, yw'r plant hynny sy'n colli addysg. Ond, wrth gwrs, byddwch chi'n cydnabod y bydd llawer o'r plant hynny yr ystyrir eu bod yn colli addysg yn cael eu haddysg gartref mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, rhieni sy'n dewis a ydyn nhw'n rhoi'r wybodaeth honno i'r awdurdod lleol ai peidio.

Rydym i gyd yn gwerthfawrogi bod plant yn cael eu haddysg gartref am nifer o resymau, y caiff un ohonyn nhw ei amlinellu yn eich asesiad effaith, sef y plant hynny sy'n cael eu bwlio yn yr ysgol, a all fod yn brofiad trawmatig iddyn nhw a'u teuluoedd. O ganlyniad, gall fod amheuaeth tuag at awdurdodau y mae'r teuluoedd hynny'n teimlo eu bod wedi'u methu trwy gydol eu haddysg. Felly, byddai gen i ddiddordeb mewn deall sut rydych chi'n bwriadu sicrhau bod rhieni sy'n teimlo bod ganddyn nhw'r amheuaeth honno tuag at awdurdodau lleol yn arbennig ar hyn o bryd, ac, efallai, lle mae perthnasoedd wedi chwalu dros nifer o flynyddoedd—sut y bydd gwaith partneriaeth yn y fan yna, yn hytrach na photensial am berthynas elyniaethus rhwng yr awdurdodau lleol hynny a rhieni sy'n dewis addysgu eu plant gartref.

Roeddwn i'n siomedig mai dim ond dau opsiwn sydd wedi'u cyflwyno yn y memorandwm esboniadol ar gyfer y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Mae'n teimlo fel cynnig popeth neu ddim. Byddai gen i ddiddordeb mewn clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet p'un a ystyriwyd opsiynau eraill, oherwydd mae'n ymddangos bod yr opsiwn a ffefrir, sy'n cael ei gynnig yma heddiw, yn cyfuno nifer o bethau a allai fod wedi cael eu rhannu'n wahanol, rwy'n amau. Yn benodol, gallai'r dewis i'w gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol rannu gwybodaeth a chynnwys meddygon teulu i rannu gwybodaeth hefyd—gallai hynny fod wedi bod yn opsiwn ar wahân yn y cynigion yma heddiw. Felly, byddai gen i ddiddordeb mewn deall pam mai dim ond dau opsiwn sydd wedi'u cyflwyno, fel y maen nhw wedi'u hamlinellu heddiw.

Ar y pwynt ynglŷn â byrddau iechyd ac ymarferwyr meddygol yn gorfod rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol, mae cydnabyddiaeth y gallai hyn atal plant agored i niwed neu eu teuluoedd rhag mynychu practisau meddygol—y rheini, efallai, sy'n osgoi'r rhyngweithiadau hynny â'u hawdurdod lleol ar hyn o bryd. Mae risg y gallan nhw fynd ymlaen i osgoi mynychu'r apwyntiadau meddygol hollbwysig hynny os ydyn nhw'n teimlo y bydd elfen o amheuaeth tuag atyn nhw. Felly, tybed pa asesiadau rydych chi wedi'u gwneud o unrhyw risgiau posibl yn y maes hwnnw, ac unrhyw lwyth gwaith ychwanegol i feddygon teulu yn benodol, a'u hyfforddiant i nodi, efallai, y plant hynny y byddai'n ofynnol iddyn nhw hysbysu'r awdurdod lleol amdanyn nhw yn hyn o beth.

Ac yn ogystal, Llywydd, mae mesurau rhannu data wedi'u cynnwys yn y rheoliadau hyn yma heddiw, felly tybed pa fesurau sydd ar waith i sicrhau bod preifatrwydd a diogelwch gwybodaeth plant yn cael eu diogelu yn unol â chyfreithiau diogelu data, yn enwedig yn ystod y broses honno o drosglwyddo gwybodaeth rhwng y gweithwyr meddygol neu iechyd proffesiynol hynny a'r awdurdodau lleol eu hunain. Rydym yn gwybod am yr heriau sy'n ymwneud â rhannu data ar draws cyrff cyhoeddus yma yng Nghymru, felly byddaf yn falch o glywed sicrwydd bod hynny wedi cael ei ystyried yn briodol ac yn cael ei drin yn briodol.

Fy mhrif apêl, fodd bynnag, Ysgrifennydd Cabinet, yw eich bod chi'n cerdded yn sensitif iawn trwy hyn—rwy'n siŵr eich bod chi—gan gydnabod bod rhesymau difrifol iawn yn aml pam mae rhieni'n dewis addysgu eu plant gartref neu mewn gwahanol amgylchiadau, ac rwy'n credu bod yn rhaid delio ag ef yn sensitif iawn. Diolch yn fawr iawn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

17:15

Ysgrifennydd y Cabinet nawr i ymateb. Lynne Neagle.369

The Cabinet Secretary to reply to the debate. Lynne Neagle.

Thank you very much, Llywydd, and can I thank Natasha and Sam for their contributions? Natasha, I'm very grateful for your stated commitment that the safeguarding of our children is paramount. I wanted to repeat again that this is not the same as the measures we're taking with the Children’s Wellbeing and Schools Bill. This is a tool to ensure that local authorities can fulfil their existing statutory duties in relation to children missing education, and we've chosen to do that pilot so that we can examine some of the very issues that your colleague Sam Rowlands has raised in his contribution. There has been an extensive consultation on this, and home-educating parents and children were involved in that consultation. The consultation was supported, which is why we have brought forward the regulations and why we are having this debate today, and that's why they've been brought forward in their original state.370

Sam Rowlands raised some issues around the health service. Can I assure him that the information that will be collected from the health service will be minimal and just involve the name of the child so that local authorities can fulfil their statutory duties? We are, of course, mindful of the risk of parents choosing not to register with a GP. That's something that I've raised myself with officials, but the assessment that we've made is that the risk of this is low, because parents who don't want authorities, such as social services, to know about a child will have likely already taken separate relevant steps to remain undetected. The potential risk cannot be fully measured at this stage, but can be more accurately assessed following the pilot by comparing census data with the completed education sets for the pupil level annual school census, education otherwise than at school, independent schools, children missing education and elective home education lists, so it will give us the opportunity to triangulate that information so that we don't have children slipping off the radar. So, thank you, Llywydd, and I urge Members to support these regulations.371

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac a gaf fi ddiolch i Natasha a Sam am eu cyfraniadau? Natasha, rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad datganedig bod diogelu ein plant yn hollbwysig. Roeddwn i eisiau ailadrodd eto nad yw hyn yr un peth â'r mesurau rydym yn eu cymryd gyda'r Bil Lles Plant ac Ysgolion. Mae hwn yn offeryn i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol presennol mewn perthynas â phlant sy'n colli addysg, ac rydym wedi dewis gwneud y cynllun peilot hwnnw fel y gallwn ni archwilio rhai o'r union faterion y mae eich cyd-Aelod Sam Rowlands wedi'u codi yn ei gyfraniad. Bu ymgynghoriad helaeth ar hyn, ac roedd rhieni sy'n addysgu gartref a phlant yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw. Cefnogwyd yr ymgynghoriad, a dyna pam rydym wedi cyflwyno'r rheoliadau a pham rydym yn cael y ddadl hon heddiw, a dyna pam eu bod nhw wedi cael eu dwyn ymlaen yn eu cyflwr gwreiddiol.

Cododd Sam Rowlands rai materion ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd. A gaf i ei sicrhau mai'r swm lleiaf posibl o wybodaeth fydd yn cael ei chasglu gan y gwasanaeth iechyd, dim ond enw'r plentyn, fel bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol? Rydym, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r risg y bydd rhieni'n dewis peidio â chofrestru gyda meddyg teulu. Mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i godi fy hun gyda swyddogion, ond yr asesiad rydym wedi'i wneud yw bod y risg o hyn yn isel, oherwydd bydd rhieni nad ydyn nhw am i awdurdodau, fel gwasanaethau cymdeithasol, wybod am blentyn yn debygol o fod wedi cymryd camau perthnasol ar wahân eisoes i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu canfod. Ni ellir mesur y risg bosibl yn llawn ar hyn o bryd, ond fe ellir ei hasesu'n fwy cywir yn dilyn y peilot trwy gymharu data'r cyfrifiad â'r setiau addysg wedi'u cwblhau ar gyfer y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, addysg heblaw yn yr ysgol, ysgolion annibynnol, plant sy'n colli addysg a rhestrau addysg gartref dewisol, felly bydd yn rhoi cyfle i ni driongli'r wybodaeth honno fel nad oes gennym blant sy'n mynd heb eu nodi. Felly, diolch, Llywydd, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.372

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] There is an objection, so I will defer voting under this item until voting time.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

Yr eitemau nesaf yw eitemau 8 a 9, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 8 a 9 yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân.373

The next items are items 8 and 9, and in accordance with Standing Order 12.24, unless a Member objects, the two motions under items 8 and 9 will be grouped for debate but with separate votes.

8. & 9. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)
8. & 9. The general principles of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill and the financial resolution in respect of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill

Ac felly, os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, fe wnaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i wneud y cynigion yma—Mark Drakeford.374

And so, if there is no objection to that, I will call on the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to move the motions—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8866 Mark Drakeford

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).

Motion NDM8866 Mark Drakeford

To propose that Senedd Cymru in accordance with Standing Order 26.11:

Agrees to the general principles of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill.

Cynnig NDM8867 Mark Drakeford

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Motion NDM8867 Mark Drakeford

To propose that Senedd Cymru, for the purposes of any provisions resulting from the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill, agrees to any increase in expenditure of a kind referred to in Standing Order 26.69, arising in consequence of the Bill.

Cynigiwyd y cynigion.

Motions moved.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n symud y cynigion o flaen y Senedd. Dwi eisiau dweud diolch yn fawr i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu gofalus ar y Bil, ac wrth gwrs dwi'n croesawu argymhelliad y Pwyllgor Cyllid fod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Dwi eisiau diolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn trafod gyda ni a chyfrannu at ein syniadau wrth inni ddatblygu'r ddeddfwriaeth.375

Yn amlwg, mae rhai manylion yn adroddiadau'r pwyllgorau sydd angen eu hystyried yn ofalus. Dwi wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn barod, a byddaf i'n ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ôl y ddadl heddiw.376

Mae dadl heddiw yn gofyn i'r Senedd gymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil. Byddaf yn canolbwyntio ar hynny i ddechrau. Fy mwriad wedyn yw ymateb i'r prif faterion polisi a gafodd eu codi yn ystod craffu Cyfnod 1.377

Thank you very much, Llywydd. I move the motions before the Senedd. I want to thank the Chair and members of the Finance Committee and the Legislation, Justice and Constitution Committee for their detailed scrutiny work on this Bill, and of course I welcome the recommendation of the Finance Committee that the Senedd should agree to the general principles of the Bill. I also want to thank everyone who's been having discussions with us and contributing to our ideas as we develop this legislation.

Clearly, there are details in the committee reports that need to be given careful consideration. I have written to the Finance Committee already, and I will be writing to the Legislation, Justice and Constitution Committee following this afternoon's debate.

Today's debate asks the Senedd to agree the general principles of the Bill. I will focus on that first of all. My intention then is to respond to the main policy issues that were raised during Stage 1 scrutiny.

So, Llywydd, dealing with the principles behind the Bill, the first principle is that this is intended to be an enabling Bill. It allows local authorities to decide whether or not to introduce a visitor levy in their areas, reflecting local needs and circumstances. It delivers a commitment made in Welsh Labour's manifesto, reaffirmed in our programme for government. Participating councils will have the option, but of course not an obligation, to apply a levy on overnight stays in visitor accommodation.378

In a second principle, the visitor levy before you is grounded in fairness, ensuring that the costs of maintaining the infrastructure and the services that help make Wales such a compelling destination are shared by those who benefit from them. Visitor levies are common across the world, with many destinations reaping the benefits from applying a small but fair charge, and this Bill allows Wales to join that global community.379

Felly, Llywydd, wrth ymdrin ag egwyddorion y Bil, yr egwyddor gyntaf yw bod hwn wedi'i fwriadu i fod yn Fil galluogi. Mae'n caniatáu i awdurdodau lleol benderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd ai peidio, yn dibynnu ar anghenion ac amgylchiadau lleol. Mae'n cyflawni ymrwymiad a wnaed ym maniffesto Llafur Cymru, a gadarnhawyd yn ein rhaglen ar gyfer llywodraethu. Bydd gan gynghorau sy'n cymryd rhan y dewis, ond wrth gwrs nid rhwymedigaeth, i godi ardoll ar ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety.

A'r ail egwyddor, mae'r yr ardoll ymwelwyr o'ch blaen wedi'i seilio ar degwch, gan sicrhau bod costau cynnal a chadw'r seilwaith a'r gwasanaethau sy'n helpu i wneud Cymru yn gyrchfan mor atyniadol yn cael eu rhannu gan y rhai sy'n cael budd ohonyn nhw. Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ledled y byd, gyda llawer o gyrchfannau yn elwa ar godi tâl bach ond teg, ac mae'r Bil hwn yn caniatáu i Gymru ymuno â'r gymuned fyd-eang honno.

17:20

Will you take an intervention, Cabinet Secretary? I appreciate that you're making progress with your speech. You made reference to the norm, with visitor levies being prevalent in some parts of the world. I don't dispute that. But do you also accept that it is the norm that value added tax levels tend to be significantly reduced for visitor accommodation, and therefore that offsets very significantly the visitor levies that are in place?380

A wnewch chi dderbyn ymyriad, Ysgrifennydd Cabinet? Rwy'n sylweddoli eich bod yn gwneud cynnydd gyda'ch araith. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y norm, gydag ardollau ymwelwyr yn gyffredin mewn rhai rhannau o'r byd. Dydw i ddim yn dadlau hynny. Ond a ydych chi hefyd yn derbyn ei bod yn norm bod lefelau treth ar werth yn tueddu i gael eu gostwng yn sylweddol ar gyfer llety i ymwelwyr, ac felly mae hynny'n gwrthbwyso'n sylweddol iawn yr ardollau ymwelwyr sydd ar waith?

Llywydd, Wales will be the fiftieth country in the world to introduce a visitor levy, should this Bill proceed. Some of those countries have VAT, but many of them do not. It is one of the many variables, and it is not an argument. It is not a compelling argument against the measures in front of the Senedd.381

Now, in Wales our local authorities will have an ability to ensure that visitors will contribute towards sustaining the very qualities that attracted them to an area in the first place. If all 22 local authorities were to implement a visitor levy, we estimate that it could generate up to £33 million in a full year, a significant investment in the future success of the industry.382

Thirdly, Llywydd, the Bill is designed to meet the Welsh Government's core tax principles. It is simple, straightforward and fair. A flat rate levy, as we propose, is simple to understand, it's clear to visitors and providers alike. Moreover, it is straightforward to administer. Most small businesses will only be required to submit one annual return, and all businesses will have the choice of making that return through an agent.383

And finally, it's fair. It’s fair because the levy is based on how many visitors are staying overnight and how many nights they stay, ensuring a proportionate contribution. And in a further effort to ensure the fairness of the levy, we have also provided for a lower rate—a lower rate that applies to stays in shared accommodation on campsite pitches, recognising that these are often provided on a more affordable basis. And, Llywydd, in any case, the broad base of the levy means that the proposed rates are lower than comparable levies applied in other destinations and represent a small percentage, and in most cases a very small percentage, of the overall cost of a visit.384

Llywydd, Cymru fydd yr hanner canfed wlad yn y byd i gyflwyno ardoll ymwelwyr, pe bai'r Bil hwn yn mynd rhagddo. Mae gan rai o'r gwledydd hynny dreth ar werth, ond nid oes gan lawer ohonyn nhw dreth ar werth. Mae'n un o'r nifer o newidynnau, ac nid yw'n ddadl. Nid yw'n ddadl gymhellol yn erbyn y mesurau sydd ger bron y Senedd.

Nawr, yng Nghymru bydd gan ein hawdurdodau lleol y gallu i sicrhau y bydd ymwelwyr yn cyfrannu tuag at gynnal yr union rinweddau a'u denodd i ardal yn y lle cyntaf. Pe bai pob un o'r 22 awdurdod lleol yn gweithredu ardoll ymwelwyr, rydym yn amcangyfrif y gallai gynhyrchu hyd at £33 miliwn mewn blwyddyn lawn, buddsoddiad sylweddol yn llwyddiant y diwydiant yn y dyfodol.

Yn drydydd, Llywydd, mae'r Bil wedi'i gynllunio i fodloni egwyddorion treth craidd Llywodraeth Cymru. Mae'n syml, yn ddiamwys ac yn deg. Mae ardoll gyfradd unffurf, fel yr ydym ni'n ei gynnig, yn syml i'w ddeall, mae'n glir i ymwelwyr a darparwyr fel ei gilydd. Ar ben hynny, mae'n syml i'w weinyddu. Dim ond un ffurflen flynyddol y bydd yn ofynnol i'r rhan fwyaf o fusnesau bach ei chyflwyno, a bydd gan bob busnes y dewis o gyflwyno'r ffurflen honno drwy asiant.

Ac yn olaf, mae'n deg. Mae'n deg oherwydd mae'r ardoll yn seiliedig ar faint o ymwelwyr sy'n aros dros nos a faint o nosweithiau maen nhw'n aros, gan sicrhau cyfraniad cymesur. Ac mewn ymdrech bellach i sicrhau tegwch yr ardoll, rydym ni hefyd wedi darparu ar gyfer cyfradd is—cyfradd is sy'n berthnasol i aros mewn llety a rennir ar gaeau gwersylla, gan gydnabod bod y rhain yn aml yn cael eu darparu ar sail fwy fforddiadwy. A, Llywydd, mewn unrhyw achos, mae sylfaen eang yr ardoll yn golygu bod y cyfraddau arfaethedig yn is na'r ardollau cymharol a godir mewn cyrchfannau eraill ac yn cynrychioli canran fach, ac yn y rhan fwyaf o achosion canran fach iawn, o gost gyffredinol ymweliad.

In a fourth key principle, the Bill strikes a balance between national arrangements and local discretion. The Bill requires that the levy be applied to destination management and improvement wherever a visitor levy is implemented in Wales. Transparency is the tool that will ensure that this takes place. Any principal council that wishes to introduce a visitor levy must consult on that proposal, must keep the revenues in a separate account and must publish a report annually, demonstrating how those revenues have been spent in accordance with the requirements of the Bill.385

Now, Llywydd, before turning to committee reports, I should say something about the new national register for which the Bill also makes provision. The register will record both visitor accommodation providers and the accommodation itself. The register will be an important foundation stone for multiple policy areas. It will support the efficient collection and administration of the levy, provide valuable data to inform tourism development and enable local authorities to better understand how accommodation in their area is used. The register will be set up and maintained by the Welsh Revenue Authority, bringing its well-established expertise to this new policy area. It will also bring its collaborative approach to working with the sector, helping providers know where and how to access information and support for registration and the levy itself.386

Llywydd, I turn now to issues raised during Stage 1 scrutiny. A number of witnesses proposed that the Bill should require participating local authorities to establish a visitor levy forum to enable communities, businesses and organisations operating in the tourism sector to influence how revenue from the levy would be allocated. In their report, the Finance Committee endorsed that proposal. I hope to work with the committee so that an amendment can be brought forward at Stage 2 to ensure that there are effective partnership arrangements between principal councils, businesses and local communities in deciding how best to allocate visitor levy revenues. 387

Secondly, I can confirm this afternoon that the regulation-making powers included in the Bill in relation to the registration provisions will be subject to a Government amendment at Stage 2, as indicated in my evidence to the Finance Committee. The Bill, as introduced in November 2024, included provisions for registration but also had significant regulation-making powers in Part 2, where further policy development was required. That development has now taken place and I will table amendments to replace or amend the regulation-making powers under Part 2(7) of the Bill. My officials are due to meet the Finance Committee on Thursday of this week to provide a briefing on the approach taken in the proposed amendments, and those amendments have been shared with the committee this afternoon.   388

I turn now to the matter of principal council discretion in relation to the levy. The Finance Committee heard competing views about the power in the Bill for principal councils to levy an additional amount according to their local circumstances. At the final Finance Committee session in February, I committed to reviewing the flexibility of principal councils to apply such an additional amount. My conclusion is that the Bill should make such provision, but that the use of these powers should be delayed until the levy itself has been introduced and has had an opportunity to bed in. I will therefore introduce an additional regulation-making power at Stage 2 that will permit principal councils to levy an additional amount, but sequential to rather than contemporaneous with the introduction of the levy itself. 389

Llywydd, probably the most common theme debated during the committee's Stage 1 scrutiny was whether it is fair to apply the levy to children and young people. This is, of course, an entirely proper debate and I've been grateful to the Finance Committee for its careful consideration of this issue. I'm glad to have been able to respond positively to the committee's recommendation to provide the Senedd with data on this matter. However, I can inform Members this afternoon that, having read the committee's report and having considered again the evidence presented to it, I have decided to go further than the recommendation itself. At Stage 2, I will bring forward a Government amendment to exempt under-18-year-olds staying at lower rated accommodation from the levy altogether. This will add to the progressive nature of the Bill and will, I believe, go a long way to respond to the case made by youth organisations and others to amend the Bill in this way. But, Llywydd, I must emphasise that any reduction in the broad base of the levy has to be made up by higher charges on those visits that remain in scope. The Stage 2 amendment will therefore also increase the levy on those on whom it will be charged from the 75p originally proposed to 80p, and from £1.25 to £1.30 per night for the higher rate.390

Llywydd, during Stage 1, many suggestions have been made for exemptions from the levy. The changes to the treatment of children are the only ones I intend to introduce. Exemptions inevitably cause complexity. They erode the principle of simplicity, they add administrative costs to those who provide accommodation, they reduce the revenue raised by local authorities, or, as I've illustrated this afternoon, cause the levy to be increased for remaining payers. For all those reasons, the Government does not intend to go beyond the changes I have just indicated, and I note that the Finance Committee made no recommendation that I should do so.391

Mewn pedwaredd egwyddor allweddol, mae'r Bil yn taro cydbwysedd rhwng trefniadau cenedlaethol a disgresiwn lleol. Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol bod yr ardoll yn cael ei chymhwyso i reoli a gwella cyrchfannau lle bynnag y codir ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Tryloywder yw'r offeryn a fydd yn sicrhau bod hyn yn digwydd. Rhaid i unrhyw brif gyngor sy'n dymuno cyflwyno ardoll ymwelwyr ymgynghori ar y cynnig hwnnw, rhaid iddo gadw'r refeniw mewn cyfrif ar wahân a rhaid iddo gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn, sy'n dangos sut mae'r refeniw hwnnw wedi'i wario yn unol â gofynion y Bil.

Nawr, Llywydd, cyn troi at adroddiadau pwyllgorau, fe ddylwn i ddweud rhywbeth am y gofrestr genedlaethol newydd y mae'r Bil hefyd yn darparu ar ei chyfer. Bydd y gofrestr yn cofnodi darparwyr llety ymwelwyr a'r llety ei hun. Bydd y gofrestr yn garreg sylfaen bwysig ar gyfer sawl maes polisi. Bydd yn cefnogi casglu a gweinyddu'r ardoll yn effeithlon, yn darparu data gwerthfawr i lywio datblygiad twristiaeth ac yn galluogi awdurdodau lleol i ddeall yn well sut mae llety yn eu hardal yn cael ei ddefnyddio. Bydd y gofrestr yn cael ei sefydlu a'i chynnal gan Awdurdod Refeniw Cymru, gan ddod â'i arbenigedd sefydledig i'r maes polisi newydd hwn. Bydd hefyd yn dod â'i ddull cydweithredol o weithio gyda'r sector, gan helpu darparwyr i wybod ble a sut i gael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer cofrestru a'r ardoll ei hun.

Llywydd, trof yn awr at faterion a godwyd wrth graffu yn ystod Cyfnod 1. Cynigiodd nifer o dystion y dylai'r Bil ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan sefydlu fforwm ardoll ymwelwyr i alluogi cymunedau, busnesau a sefydliadau sy'n gweithredu yn y sector twristiaeth i ddylanwadu ar sut y byddai refeniw o'r ardoll yn cael ei ddyrannu. Yn eu hadroddiad, cymeradwyodd y Pwyllgor Cyllid y cynnig hwnnw. Rwy'n gobeithio gweithio gyda'r pwyllgor fel y gellir cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i sicrhau bod trefniadau partneriaeth effeithiol rhwng prif gynghorau, busnesau a chymunedau lleol wrth benderfynu sut orau i ddyrannu refeniw ardoll ymwelwyr.

Yn ail, gallaf gadarnhau y prynhawn yma y bydd y pwerau gwneud rheoliadau sydd wedi'u cynnwys yn y Bil mewn perthynas â'r darpariaethau cofrestru yn ddarostyngedig i welliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2, fel y nodir yn fy nhystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid. Roedd y Bil, fel y'i cyflwynwyd ym mis Tachwedd 2024, yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cofrestru ond roedd ganddo hefyd bwerau gwneud rheoliadau sylweddol yn Rhan 2, lle roedd angen datblygu polisi pellach. Cafwyd y datblygiad hwnnw bellach a byddaf yn cyflwyno gwelliannau i ddisodli neu ddiwygio'r pwerau gwneud rheoliadau o dan Ran 2(7) o'r Bil. Mae disgwyl i fy swyddogion gwrdd â'r Pwyllgor Cyllid ddydd Iau yr wythnos hon ynghylch sut yr aethpwyd ati gyda'r gwelliannau arfaethedig, ac mae'r gwelliannau hynny wedi'u rhannu gyda'r pwyllgor y prynhawn yma.   

Rwy'n troi yn awr at y mater o ddisgresiwn y prif gyngor mewn perthynas â'r ardoll. Clywodd y Pwyllgor Cyllid farn gyferbyniol am y pŵer yn y Bil i brif gynghorau godi swm ychwanegol yn ôl eu hamgylchiadau lleol. Yn sesiwn olaf y Pwyllgor Cyllid ym mis Chwefror, ymrwymais i adolygu faint o hyblygrwydd sydd gan y prif gynghorau i godi swm ychwanegol o'r fath. Fy nghasgliad yw y dylai'r Bil wneud darpariaeth o'r fath, ond y dylid gohirio'r defnydd o'r pwerau hyn nes bod yr ardoll ei hun wedi'i gyflwyno ac wedi cael cyfle i ymwreiddio. Felly, byddaf yn cyflwyno pŵer rheoleiddio ychwanegol yng Nghyfnod 2 a fydd yn caniatáu i brif gynghorau godi swm ychwanegol, ond ar ôl cyflwyno'r ardoll ei hun, ac nid ar yr un pryd.

Llywydd, mae'n debyg mai'r thema fwyaf cyffredin a drafodwyd gan y pwyllgor wrth graffu yn ystod Cyfnod 1 oedd a yw'n deg cymhwyso'r ardoll i blant a phobl ifanc. Mae hon, wrth gwrs, yn ddadl hollol briodol ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am eu hystyriaeth ofalus o'r mater hwn. Rwy'n falch fy mod wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad y pwyllgor i ddarparu data i'r Senedd ar y mater hwn. Fodd bynnag, gallaf roi gwybod i'r Aelodau y prynhawn yma, ar ôl darllen adroddiad y pwyllgor ac ar ôl ystyried eto y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo, fy mod wedi penderfynu mynd ymhellach na'r argymhelliad ei hun. Yng Nghyfnod 2, byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i eithrio pobl dan 18 oed sy'n aros mewn llety â sgôr is o'r ardoll yn gyfan gwbl. Bydd hyn yn ychwanegu at natur flaengar y Bil a bydd, rwy'n credu, yn ymateb i'r farn a gyflwynwyd gan sefydliadau ieuenctid ac eraill i ddiwygio'r Bil yn y modd hwn. Ond, Llywydd, rhaid i mi bwysleisio bod yn rhaid gwneud iawn am unrhyw ostyngiad yn sylfaen eang yr ardoll gan ffioedd uwch ar yr ymweliadau hynny sy'n parhau i fod o fewn cwmpas. Felly, bydd gwelliant Cyfnod 2 hefyd yn cynyddu'r ardoll ar y rhai y caiff ei chodi arnyn nhw o'r 75c a gynigiwyd yn wreiddiol i 80c, ac o £1.25 i £1.30 y noson ar gyfer y gyfradd uwch.

Llywydd, yn ystod Cyfnod 1, mae llawer o awgrymiadau wedi'u gwneud ar gyfer eithriadau o'r ardoll. Y newidiadau i driniaeth plant yw'r unig rai rwy'n bwriadu eu cyflwyno. Mae eithriadau yn anochel yn achosi cymhlethdod. Maen nhw'n erydu'r egwyddor o symlrwydd, maen nhw'n ychwanegu costau gweinyddol i'r rhai sy'n darparu llety, maen nhw'n lleihau'r refeniw a godir gan awdurdodau lleol, neu, fel yr wyf wedi dangos y prynhawn yma, yn achosi i'r ardoll gael ei chynyddu ar gyfer y talwyr sy'n weddill. Am yr holl resymau hynny, nid yw'r Llywodraeth yn bwriadu mynd y tu hwnt i'r newidiadau yr wyf newydd eu nodi, ac rwy'n nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud unrhyw argymhelliad y dylwn wneud hynny.

Llywydd, mae’r Bil sydd o flaen y Senedd heddiw wedi elwa o gyngor a chefnogaeth llawer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys yr awdurdodau lleol a’r diwydiant twristiaeth. Dwi’n ddiolchgar am eu cymorth, a dwi’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y blynyddoedd i ddod. Dwi’n arbennig o ddiolchgar i gydweithwyr yma yn y Senedd sydd wedi cymryd rhan yn y broses graffu. Dwi wedi dweud sawl gwaith dros y blynyddoedd nad ydw i erioed wedi gweld Bil sydd heb gael ei wella gan y craffu sy’n digwydd yma, ac mae hynny’n wir am y Bil ardoll ymwelwyr, a dwi’n ei argymell i’r Senedd.392

Llywydd, the Bill before the Senedd today has benefited from the advice and support of many individuals and organisations, including local authorities and the tourism industry. I am grateful for their assistance, and I look forward to working with them in coming years. I am particularly grateful to colleagues here in the Senedd who have participated in the scrutiny process. I have said on several occasions over the years that I have never seen a Bill that hasn’t been improved by the scrutiny process in this place, and that is certainly true about the visitor levy Bill, and I urge the Senedd to support it.

17:30

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.393

The Chair of the Finance Committee, Peredur Owen Griffiths.

Diolch, Llywydd. Dwi'n falch o allu siarad yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sydd wedi cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil yma. Hoffwn i hefyd ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd i’n hymchwiliad, gan gynnwys pawb a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig a phawb a ddaeth i’r sesiynau tystiolaeth lafar. Clywsom ni amrywiaeth eang o safbwyntiau, ac roedd y rheini’n allweddol o ran llunio ein hargymhellion a’n casgliadau. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymgysylltiad ac am ei ymateb i’n hadroddiad yn dilyn hynny, ac rwy’n falch o weld ei fod wedi derbyn ein hargymhellion i gyd, un ai yn llawn neu mewn egwyddor.394

Diolch, Llywydd. I'm pleased to speak in today’s debate as Chair of the Finance Committee, which has undertaken Stage 1 scrutiny of this Bill. I would like to start by thanking all those who contributed to our inquiry, including everyone who provided written evidence and attended oral evidence sessions. We heard a broad range of views, and they were instrumental in shaping our recommendations and our conclusions. I would also like to thank the Cabinet Secretary for his engagement and subsequent response to our report, and I'm pleased to see that he has accepted all of our recommendations, either fully or in principle.

I’ll begin with our views on the general principles. Although the Cabinet Secretary told us that the idea of a tourism levy had been in train for some time, witnesses told us about the cumulative effect of Government policies on the tourism sector, as well as the challenges being faced following the pandemic, and questioned whether the proposed levy could deter visitors and result in a detrimental impact on the tourism industry. To ensure the levy’s success, it will be essential to gain the trust of these stakeholders, and our report seeks to take this into account throughout its recommendations.395

We did not reach a unanimous decision on the Bill’s general principles, with three of four Members supporting them. The majority of the committee agreed that the introduction of the levy has the potential to improve infrastructure and services within local areas, to the benefit of both tourists and the local economy. Sam Rowlands did not support the Bill progressing beyond Stage 1, and I’m sure he’ll outline the reasons for this in his contribution. Nevertheless, we agreed on a number of areas where improvements should be made to the Bill, which I will outline today.396

A key element for the long-term success of this policy will be understanding the impact of mandatory registration of visitor accommodation providers and the effectiveness of any initial visitor levy schemes. For this reason, we call on the Welsh Government to amend the Bill to commit to undertaking a review of the operation and effect of the whole Act, and for this review to take place no later than four years after Part 2 of the Act comes into force. I welcome the assurances from the Cabinet Secretary, in response to our recommendations, that the Welsh Government are considering how such a review should be undertaken.397

Rwyf am ddechrau gyda'n barn ar yr egwyddorion cyffredinol. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrthym ni fod y syniad o ardoll dwristiaeth wedi bod ar y gweill ers peth amser, dywedodd tystion wrthym ni am effaith gronnol polisïau'r Llywodraeth ar y sector twristiaeth, yn ogystal â'r heriau a wynebir yn dilyn y pandemig, a chwestiynwyd a allai'r ardoll arfaethedig atal ymwelwyr ac arwain at effaith niweidiol ar y diwydiant twristiaeth. Er mwyn sicrhau llwyddiant yr ardoll, bydd yn hanfodol ennill ymddiriedaeth y rhanddeiliaid hyn, ac mae ein hadroddiad yn ceisio ystyried hyn trwy gydol ei argymhellion.

Ni fu i ni ddod i benderfyniad unfrydol ar egwyddorion cyffredinol y Bil, gyda thri o bedwar Aelod yn eu cefnogi. Cytunodd mwyafrif y pwyllgor fod modd i'r ardoll wella seilwaith a gwasanaethau mewn ardaloedd lleol, er budd twristiaid a'r economi leol. Nid oedd Sam Rowlands yn cefnogi'r Bil i fynd rhagddo y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y bydd yn amlinellu'r rhesymau dros hyn yn ei gyfraniad. Serch hynny, fe wnaethom ni gytuno ar nifer o feysydd lle dylid gwneud gwelliannau i'r Bil, y byddaf yn eu hamlinellu heddiw.

Elfen allweddol ar gyfer llwyddiant hirdymor y polisi hwn fydd deall effaith cofrestru gorfodol ar ddarparwyr llety ymwelwyr ac effeithiolrwydd unrhyw gynlluniau ardoll ymwelwyr cychwynnol. Am y rheswm hwn, galwn ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r Bil i ymrwymo i gynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf gyfan, ac i'r adolygiad hwn ddigwydd heb fod yn hwyrach na phedair blynedd ar ôl i Ran 2 o'r Ddeddf ddod i rym. Croesawaf y sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, mewn ymateb i'n hargymhellion, bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y dylid cynnal adolygiad o'r fath.

We recognise that the Bill may present challenges for organisations seeking to establish whether its provisions would apply to their specific arrangements. That is why the Welsh Government and the Welsh Revenue Authority must ensure that guidance for accommodation providers is appropriately targeted, and we recommend that the Welsh Government should clarify the applicability of the registration requirements.398

We agree that the establishment of a register, as provided for in Part 2 of the Bill, has the potential to improve the data available and better inform future assessments of its impact. However, we believe that this could be strengthened further, and have called for the Welsh Government to amend the Bill to commit to publishing periodic reports, including such data as the number and types of providers and accommodation across local authorities, in order to shape future policy decisions. I note the Cabinet Secretary's commitment to publishing reports on data and welcome this as a step in the right direction. However, I am disappointed that this is not going to be enshrined in the legislation. We also note that the work is still to be done on the Welsh Revenue Authority's approach to enforcement and compliance, and look forward to hearing more from the Welsh Government about how this is progressing.399

A recurring concern raised during our scrutiny was that the Bill would create an additional administrative burden for Welsh businesses, particularly as a number of accommodation providers are often microbusinesses, who often manage without additional administrative support. The Cabinet Secretary told us that the Bill creates a system for operating the levy that is proportionate. Nonetheless, we call on the Welsh Government to take proactive steps to ensure that providers are aware of the support and the guidance available to them.400

Turning now to section 14, which enables a principal council to add a premium to the lower and/or the higher rate of the levy, some witnesses suggested that the premium could add complexity, and that further information was needed. We welcome the Cabinet Secretary's commitment to consider a stronger framework for this element of the Bill, and ask him to provide further details on his intentions. I welcome the Cabinet Secretary's further clarification on this section and his commitment to work with stakeholders to ensure that any amendments made at Stage 2 are evidence-based.401

We heard support throughout the evidence for various exemptions to the levy, particularly for children and young people, education trips and charitable organisations. The Cabinet Secretary told us that the decision on any potential exemption would be a trade-off, and that if the base is narrowed, as he explained earlier, the levy would need to be raised. While we accept this argument, it was apparent that the Welsh Government had already carried out some modelling, particularly in the case of potential exemptions for children. We have asked the Welsh Government to share this analysis with the Senedd, and I am grateful to the Cabinet Secretary for agreeing to this, and for his comments earlier. I look forward to working on that, or looking at that amendment, at Stage 2.402

I'll move on now, with the levy to be used by principal councils. We heard a range of views on the list of areas in the Bill where the proceeds of the levy can be spent, and concluded that the approach allows for the necessary flexibility to deliver the policy intention. However, we also heard repeated concerns that the levy could be used to displace existing funding by local authorities. While we note the assurances provided by the Cabinet Secretary that the proceeds of the levy will provide additional funding, we agree with views that bringing local industry representatives together on this issue would be an effective and positive way to garner trust.403

The Visitor Levy (Scotland) Act 2024 provides for the mandatory establishment of visitor levy forums where principal councils decide to introduce the levy, and, having listened to some of the strong views expressed during scrutiny, we believe that such an approach could be beneficial in Wales. This would allow for a collaborative and constructive approach to agreeing levy spending priorities, which would, in turn, strengthen relationships between principal councils and their stakeholders and shine a light on the decisions being made. I'm pleased that the Cabinet Secretary will work with the committee to bring forward amendments to provide for the creation of visitor forums, and look forward to working on the detail of these amendments in due course.404

Rydym yn cydnabod y gallai'r Bil gyflwyno heriau i sefydliadau sy'n ceisio sefydlu a fyddai ei ddarpariaethau yn berthnasol i'w trefniadau penodol. Dyna pam mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Refeniw Cymru sicrhau bod canllawiau ar gyfer darparwyr llety yn cael eu targedu'n briodol, ac rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro sut i gymhwyso'r gofynion cofrestru.

Rydym yn cytuno bod gan sefydlu cofrestr, fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan 2 o'r Bil, y potensial i wella'r data sydd ar gael a bod yn sail i asesiadau o'i effaith yn y dyfodol yn well. Fodd bynnag, credwn y gellid cryfhau hyn ymhellach, ac rydym ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r Bil i ymrwymo i gyhoeddi adroddiadau cyfnodol, gan gynnwys data fel nifer a mathau o ddarparwyr a llety ar draws awdurdodau lleol, er mwyn llunio penderfyniadau polisi yn y dyfodol. Rwy'n nodi ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i gyhoeddi adroddiadau ar ddata ac yn croesawu hyn fel cam i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, rwy'n siomedig nad yw hyn yn mynd i gael ei ymgorffori yn y ddeddfwriaeth. Rydym ni hefyd yn nodi bod gwaith i'w wneud o hyd ar ddull Awdurdod Refeniw Cymru o ran gorfodi a chydymffurfio, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy gan Lywodraeth Cymru am sut mae hyn yn mynd rhagddo.

Pryder a godwyd dro ar ôl tro yn ystod ein gwaith craffu oedd y byddai'r Bil yn creu baich gweinyddol ychwanegol i fusnesau Cymru, yn enwedig gan fod nifer o ddarparwyr llety yn aml yn ficrofusnesau, sy'n aml yn llwyddo heb gymorth gweinyddol ychwanegol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym ni fod y Bil yn creu system ar gyfer gweithredu'r ardoll sy'n gymesur. Serch hynny, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod darparwyr yn ymwybodol o'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael iddyn nhw.

Gan droi nawr at adran 14, sy'n galluogi prif gyngor i ychwanegu premiwm at gyfradd is a/neu uwch yr ardoll, awgrymodd rhai tystion y gallai'r premiwm ychwanegu cymhlethdod, a bod angen rhagor o wybodaeth. Rydym yn croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i ystyried fframwaith cryfach ar gyfer yr elfen hon o'r Bil, ac yn gofyn iddo ddarparu rhagor o fanylion am ei fwriadau. Rwy'n croesawu eglurhad pellach yr Ysgrifennydd Cabinet ar yr adran hon a'i ymrwymiad i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau a wneir yng Nghyfnod 2 yn seiliedig ar dystiolaeth.

Fe glywsom ni gefnogaeth trwy gydol y dystiolaeth ar gyfer eithriadau amrywiol i'r ardoll, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc, teithiau addysg a sefydliadau elusennol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym ni y byddai'r penderfyniad ar unrhyw eithriad posibl yn gyfaddawd, ac os yw'r sylfaen yn cael ei chulhau, fel yr eglurodd yn gynharach, byddai angen codi'r ardoll. Er ein bod yn derbyn y ddadl hon, roedd yn amlwg bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud rhywfaint o fodelu, yn enwedig yn achos eithriadau posibl i blant. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru rannu'r dadansoddiad hwn gyda'r Senedd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am gytuno i hyn, ac am ei sylwadau yn gynharach. Edrychaf ymlaen at weithio ar hynny, neu edrych ar y gwelliant hwnnw, yng Nghyfnod 2.

Symudaf ymlaen nawr, gyda'r ardoll i'w defnyddio gan brif gynghorau. Fe glywsom ni ystod o safbwyntiau ar y rhestr o feysydd yn y Bil lle gellir gwario elw yr ardoll, ac fe ddaethom ni i'r casgliad bod y dull yn caniatáu'r hyblygrwydd angenrheidiol i gyflawni bwriad y polisi. Fodd bynnag, fe glywsom ni bryderon dro ar ôl tro y gellid defnyddio'r ardoll i ddisodli'r cyllid presennol gan awdurdodau lleol. Er ein bod yn nodi'r sicrwydd a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd elw yr ardoll yn darparu cyllid ychwanegol, rydym yn cytuno â'r farn y byddai dod â chynrychiolwyr diwydiant lleol ynghyd ar y mater hwn yn ffordd effeithiol a chadarnhaol o feithrin ymddiriedaeth.

Mae Deddf Ardoll Ymwelwyr (Yr Alban) 2024 yn darparu ar gyfer sefydlu fforymau ardoll ymwelwyr gorfodol lle mae prif gynghorau yn penderfynu cyflwyno'r ardoll, ac, ar ôl gwrando ar rai o'r safbwyntiau cryf a fynegwyd wrth graffu, credwn y gallai dull o'r fath fod yn fuddiol yng Nghymru. Byddai hyn yn caniatáu dull cydweithredol ac adeiladol o gytuno ar flaenoriaethau o ran gwario'r ardoll, a fyddai, yn ei dro, yn cryfhau'r berthynas rhwng prif gynghorau a'u rhanddeiliaid ac yn taflu goleuni ar y penderfyniadau a wneir. Rwy'n falch y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda'r pwyllgor i gyflwyno gwelliannau i ddarparu ar gyfer creu fforymau ymwelwyr, ac edrychaf ymlaen at weithio ar fanylion y gwelliannau hyn maes o law.

Yn unol â'r dull arferol o graffu ar Filiau, gwnaethon ni ystyried y goblygiadau ariannol. Er ein bod ni ar y cyfan yn fodlon ag effaith ariannol y Bil fel y'i nodir yn y RIA, roedden ni'n cytuno bod y diffyg data uniongyrchol ar gyfer llywio amcangyfrifon costau yn siomedig. Gwnaethon ni nodi, yn benodol, yr effaith ariannol ar awdurdodau lleol, ac roedden ni’n argymell y dylai’r Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ag awdurdodau lleol ynglŷn â chostau parhaus ychwanegol, gan ddiwygio'r RIA ar ôl hynny.405

Yn olaf, gwnaethon ni ystyried y costau a fyddai'n disgyn ar Awdurdod Cyllid Cymru o'r Bil, yn enwedig gan fod yr effaith ar ei wasanaethau yn parhau i fod yn aneglur, ac rydym yn galw am ragor o fanylion ynghylch a oes ganddo gapasiti digonol i ddelio â'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol cyn Cyfnod 3, gyda diwygiadau i'r costau a nodwyd mewn ymateb i'n hargymhellion, a gofynnaf iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd yn y maes hwn.406

Rwy'n edrych ymlaen rŵan i glywed barn Aelodau eraill y prynhawn yma. Diolch yn fawr.407

In line with our usual approach to Bill scrutiny, we considered its financial implications. While we were broadly content with the Bill’s financial impact as set out in the regulatory impact assessment, we agreed that the lack of immediate data in informing cost estimates is disappointing. We noted in particular the financial impact on local authorities, and we recommend that the Cabinet Secretary should provide an update on discussions with local authorities relating to additional ongoing costs, with revisions made to the RIA thereafter.

Finally, we considered the costs falling on the Welsh Revenue Authority arising from the Bill, particularly as the impact on its services remains unclear, and we call for further details on whether it has sufficient capacity to deal with these additional responsibilities. I welcome the fact that the Cabinet Secretary will update the RIA ahead of Stage 3, with revisions to the identified costs in response to our recommendations, and I ask him to update the committee regarding progress in this area.

I look forward now to hearing the views of other Members here this afternoon. Thank you.

17:40

Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a'r cyfansoddiad nawr—Mike Hedges.408

The Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. The Legislation, Justice and Constitution Committee's report drew four conclusions and made 16 recommendations. It's the committee's view that Welsh Government was not ready to introduce the Bill to the Senedd when it did. The committee has acknowledged the spirit in which draft provisions for Stage 2 amendments have been shared with committees, and has welcomed the Cabinet Secretary's good intentions.409

The committee has concluded that the regulation-making powers in sections 2(5) and 9(5) are significant powers, changing the meaning of 'visitor accommodation', and changing the circumstances in which an overnight stay in visitor accommodation takes place and whether the levy is chargeable. Both have the potential to extend taxpayer liability under the Bill. As such, recommendations 5 and 9 asked the Cabinet Secretary to confirm whether the Government considered making the regulation-making powers subject to a superaffirmative procedure.410

The committee believes that section 7 represents a clear illustration of the difficulties for the Senedd when considering legislation that is still actively under development by the Government at Stage 1. The Government's intention regarding a registration system has been confused by releasing indicative drafting for new provisions shortly after Stage 1 scrutiny began. As such, in recommendation 6, the committee has said that the Cabinet Secretary should explain any additional proposed powers the Government intends to bring forward at Stage 2 regarding the registration of visitor accommodation providers and associated data.411

As regards the coming into force of Part 2 of the Bill, the committee has noted that it is the Cabinet Secretary's intention to commence Part 2 by principal council areas on a phased basis. The committee believes there should be certainty in law as to when the register will be operational. Recommendation 8 states that section 44 of the Bill should be amended so that Part 2 of the Bill comes into force no later than 31 December 2029, and the Welsh Ministers should retain the ability to bring Part 2 into force at an earlier date by Order.412

The Cabinet Secretary has described the power in section 37 to impose advertising and billing requirements on visitor accommodation providers as an intentionally wide power. The committee has concluded that it is inappropriate to seek such an intentionally wide power with no intention to use it.413

The committee also has concerns with the justification provided that section 40 is needed for futureproofing reasons. Futureproofing in this way, which would enable any Government in the future to act in a manner that has received no consideration by this Senedd, falls below the standard of what many would consider to be constitutionally appropriate. Should section 40 remain in the Bill, recommendation 15 states it should be amended so the regulation-making power is subject, again, to a superaffirmative scrutiny procedure.414

Can I move on to my view on the Bill now, as opposed to LJCC's? I very much support the visitor levy. Tourist taxes are introduced by Governments to battle the issues that come with overtourism and ensure people visiting the country are keeping its economy thriving and paying the additional costs that they create. The question is: why have we waited so long? In the UK, Edinburgh is set to introduce its inaugural tourism tax for the visitor levy. This charge will be added to any accommodation booked in the city for trips reserved after 1 October 2025 and taking place from 24 July 2026. It will apply to all visitors, including Scottish and UK citizens. Manchester has one, the Peak District is proposing one. I expect more in Britain to follow. Many countries and cities introduced a tourism tax in 2023, and many more are due to launch theirs in 2024. Tourism tax is not a new thing. We have probably paid one before, tied with the cost of a plane ticket or the tax paid in your hotel. We know that France has had one for over 100 years.415

We also know what happens when we have major events. Hotels are charging over double the regular rate for Oasis concert nights. Cardiff hotels are at least three times more expensive for the first reunion gig—416

Diolch, Llywydd. Daeth adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i bedwar casgliad a gwnaeth 16 o argymhellion. Mae'r pwyllgor o'r farn nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i gyflwyno'r Bil i'r Senedd pan wnaeth hynny. Mae'r pwyllgor wedi cydnabod ysbryd y ffordd y rhannwyd y darpariaethau drafft ar gyfer gwelliannau Cyfnod 2 gyda phwyllgorau, ac wedi croesawu bwriadau da yr Ysgrifennydd Cabinet.

Mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod y pwerau gwneud rheoliadau yn adrannau 2(5) a 9(5) yn bwerau sylweddol, gan newid ystyr 'llety ymwelwyr', a newid yr amgylchiadau lle mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd ac a yw'r ardoll yn berthnasol. Mae gan y ddau y potensial i ymestyn atebolrwydd trethdalwr o dan y Bil. Felly, gofynnodd argymhellion 5 a 9 i'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a oedd y Llywodraeth yn ystyried llunio'r pwerau gwneud rheoliadau yn rhai darostyngedig i weithdrefn uwch-gadarnhaol.

Mae'r pwyllgor yn credu bod adran 7 yn enghraifft glir o'r anawsterau i'r Senedd wrth ystyried deddfwriaeth sy'n dal i gael ei datblygu gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 1. Mae bwriad y Llywodraeth ynglŷn â system gofrestru wedi cael ei ddrysu trwy'r drafftio dangosol ar gyfer darpariaethau newydd yn fuan ar ôl dechrau craffu yng Nghyfnod 1. Felly, yn argymhelliad 6, mae'r pwyllgor wedi dweud y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio unrhyw bwerau ychwanegol arfaethedig y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 ynglŷn â chofrestru darparwyr llety ymwelwyr a data cysylltiedig.

O ran gweithredu Rhan 2 o'r Bil, mae'r pwyllgor wedi nodi mai bwriad yr Ysgrifennydd Cabinet yw dechrau Rhan 2 fesul prif ardaloedd cyngor fesul cam. Mae'r pwyllgor yn credu y dylai fod sicrwydd yn y gyfraith ynghylch pryd y bydd y gofrestr yn weithredol. Mae Argymhelliad 8 yn nodi y dylid diwygio adran 44 o'r Bil fel bod Rhan 2 o'r Bil yn dod i rym heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2029, a dylai Gweinidogion Cymru fod â'r gallu i ddod â Rhan 2 i rym ar ddyddiad cynharach drwy Orchymyn.

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi disgrifio'r pŵer yn adran 37 i osod gofynion hysbysebu a bilio ar ddarparwyr llety ymwelwyr fel pŵer bwriadol eang. Mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad ei bod yn amhriodol ceisio pŵer mor fwriadol eang heb unrhyw fwriad i'w ddefnyddio.

Mae gan y pwyllgor bryderon hefyd gyda'r cyfiawnhad a roddwyd bod angen adran 40 am resymau sy'n diogelu i'r dyfodol. Mae diogelu at y dyfodol yn y modd hwn, a fyddai'n galluogi unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol i weithredu mewn modd nad yw'n cael unrhyw ystyriaeth gan y Senedd hon, yn disgyn yn is na safon yr hyn y byddai llawer yn ei ystyried yn gyfansoddiadol. Pe bai adran 40 yn aros yn y Bil, mae argymhelliad 15 yn nodi y dylid ei diwygio fel bod y pŵer gwneud rheoliadau yn ddarostyngedig, unwaith eto, i weithdrefn graffu uwch-gadarnhaol.

A gaf i symud ymlaen at fy marn ar y Bil nawr, yn hytrach na barn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad? Rwy'n cefnogi'r ardoll ymwelwyr yn fawr. Mae trethi twristiaeth yn cael eu cyflwyno gan Lywodraethau i frwydro yn erbyn y problemau sy'n dod gyda gor-dwristiaeth a sicrhau bod pobl sy'n ymweld â'r wlad yn cadw ei heconomi yn ffynnu ac yn talu'r costau ychwanegol y maen nhw'n eu creu. Y cwestiwn yw: pam ydym ni wedi aros mor hir? Yn y DU, mae Caeredin ar fin cyflwyno ei threth dwristiaeth gyntaf ar gyfer yr ardoll ymwelwyr. Caiff y tâl hwn ei ychwanegu at unrhyw lety sydd wedi'i archebu yn y ddinas ar gyfer teithiau a archebir ar ôl 1 Hydref 2025 ac sy'n digwydd o 24 Gorffennaf 2026. Bydd yn berthnasol i bob ymwelydd, gan gynnwys dinasyddion yr Alban a'r DU. Mae gan Fanceinion un, mae'r Peak District yn cynnig un. Rwy'n disgwyl i fwy ym Mhrydain ddilyn. Cyflwynodd llawer o wledydd a dinasoedd dreth dwristiaeth yn 2023, ac mae disgwyl i lawer mwy gyflwyno eu treth yn 2024. Nid yw treth twristiaeth yn beth newydd. Mae'n debyg ein bod ni wedi talu un o'r blaen, yn rhan o gost tocyn awyren neu'r dreth a dalwyd yn eich gwesty. Gwyddom y bu gan Ffrainc un ers dros 100 mlynedd.

Rydym ni hefyd yn gwybod beth sy'n digwydd pan fydd gennym ni ddigwyddiadau mawr. Mae gwestai yn codi tâl dros ddwbl y gyfradd arferol ar gyfer nosweithiau cyngerdd Oasis. Mae gwestai Caerdydd o leiaf dair gwaith yn ddrytach ar gyfer y gig aduniad cyntaf—

17:45

Will you take an intervention?417

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Can I just finish this sentence? Of the 25 hotels analysed, the Parkgate Hotel in Cardiff led the price surge, increasing rates by 319 per cent for the 4 July opening leg of the tour. Certainly.418

A gaf i orffen y frawddeg hon? O'r 25 gwesty a ddadansoddwyd, Gwesty'r Parkgate yng Nghaerdydd arweiniodd y cynnydd prisiau, gan gynyddu cyfraddau 319 y cant ar gyfer cymal agoriadol y daith ar 4 Gorffennaf. Wrth gwrs.

Thank you. I was at the National Tourism Awards for Wales on Thursday, and a professor was there who had spoken on stage during that summit, mentioning exactly what you have mentioned, Cabinet Secretary, that 50 countries have imposed this. I asked him, 'Which one of those 50 countries has the same rate of VAT as we do here in this country?' Not one. Would you not say that this is just a further burden of tax collecting on these businesses for the Welsh Government, and it's not going to help our tourism industry one little bit?419

Diolch. Roeddwn yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ddydd Iau, ac roedd athro yno a oedd wedi siarad ar y llwyfan yn ystod yr uwchgynhadledd honno, gan sôn am yr union beth rydych chi wedi'i grybwyll, Ysgrifennydd Cabinet, bod 50 o wledydd wedi gorfodi hyn. Gofynnais iddo, 'Pa un o'r 50 gwlad hynny sydd â'r un gyfradd TAW ag sydd gennym ni yma yn y wlad hon?' Dim un. Oni fyddech chi'n dweud nad yw hyn yn ddim mwy na Llywodraeth Cymru yn rhoi baich pellach o gasglu trethi ar y busnesau hyn, ac nad yw'n mynd i helpu ein diwydiant twristiaeth yr un iot?

But they all have substantially lower income tax—sorry, substantially higher income tax. We are substantially lower in income tax; they're substantially higher. [Interruption.] You can't just look at one tax or two taxes. They vary. They vary from country to country.420

Fans were shocked at how much the prices had increased. One person on the social media blogging site X wrote:421

'the @oasis tour madness kicked in already one night a hotel in Cardiff for the first gig £424 !!'422

Another person said that if you check the hotels, the location and the dates of the Oasis tour, they are all either mysteriously sold out, or the prices have tripled. One chimed in that within five minutes of Oasis announcing their gigs, at a very ordinary hotel in Swansea, prices increased ridiculously. This is not just hotels; Airbnbs and guest houses increased their prices. Whilst the increase was not of same size, many hotels in between Newport and Swansea also increased their prices.423

There was also the Taylor Swift effect. The luxury hotel, the Parkgate, which is very close to the Principality Stadium, hugely increased their prices for June 2024 when Taylor Swift was there. Comparing the price, one room for one adult was £115 on the cheapest date I could find; for Taylor Swift, it was £588. These major events cost the local council money—a considerable amount of money. Additional portable toilets are needed to be installed and removed. A major street cleaning exercise is needed to clear up after a major concert. These are expensive.424

And finally, I'm not going to run through them all, because you won't let me, Presiding Officer, but there's a long list of countries throughout Europe who have this tax. It's normal. Why do we want to be different?425

Ond mae gan bob un ohonyn nhw dreth incwm sylweddol is—mae'n ddrwg gen i, treth incwm sylweddol uwch. Rydym ni'n sylweddol is o ran treth incwm; maen nhw'n sylweddol uwch. [Torri ar draws.] Allwch chi ddim edrych ar un dreth neu ddwy dreth yn unig. Maen nhw'n amrywio. Maen nhw'n amrywio o wlad i wlad.

Roedd cefnogwyr wedi'u syfrdanu gan faint roedd y prisiau wedi cynyddu. Ysgrifennodd un person ar y safle blogio cyfryngau cymdeithasol X:

'Mae gwallgofrwydd y daith @oasis wedi dechrau eisoes, un noson mewn gwesty yng Nghaerdydd ar gyfer y gig cyntaf £424 !!'

Dywedodd rhywun arall, os ydych chi'n edrych ar y gwestai, lleoliad a dyddiadau taith Oasis, maen nhw i gyd naill ai wedi gwerthu allan drwy ryw ddirgelwch, neu mae'r prisiau wedi treblu. O fewn pum munud i Oasis gyhoeddi eu gigs, mewn gwesty cyffredin iawn yn Abertawe, cynyddodd prisiau'n chwerthinllyd. Nid gwestai yn unig yw hyn; cynyddodd Airbnbs a thai gwestai eu prisiau. Er nad oedd y cynnydd o'r un maint, cynyddodd llawer o westai rhwng Casnewydd ac Abertawe eu prisiau hefyd.

Roedd yna effaith Taylor Swift hefyd. Cynyddodd y gwesty moethus, y Parkgate, sy'n agos iawn at Stadiwm Principality, eu prisiau yn sylweddol ar gyfer Mehefin 2024 pan oedd Taylor Swift yno. Wrth gymharu'r pris, roedd un ystafell i un oedolyn yn £115 ar y dyddiad rhataf y gallwn i ddod o hyd iddo; i Taylor Swift, roedd yn £588. Costiodd y digwyddiadau mawr hyn arian i'r cyngor lleol—swm sylweddol o arian. Mae angen gosod a thynnu toiledau cludadwy ychwanegol. Mae angen ymgyrch fawr i lanhau strydoedd i glirio ar ôl cyngerdd mawr. Mae'r rhain yn ddrud.

Ac yn olaf, nid wyf yn mynd i'w crybwyll i gyd, oherwydd ni fyddwch yn gadael i mi, Llywydd, ond mae rhestr hir o wledydd ledled Ewrop sydd â'r dreth hon. Mae'n normal. Pam ydym ni eisiau bod yn wahanol?

I'm grateful to the Cabinet Secretary for outlining the proposal here for us today, and for his notification of intended amendments to come forward as well. I'm also thankful to the Chair of the Finance Committee for outlining the committee's view and my personal view in that committee as well. I'm grateful for the work of the committee in terms of the number of witnesses we had during those sessions over the last few months.426

The context of this proposal here today, though, is really important to understand. These are difficult times for our economy in the UK, and certainly here in Wales. After 26 years of Welsh Labour, Welsh workers are taking home the lightest pay packets in the United Kingdom. Wales also has the lowest employment rate of any part of the UK, and the lowest levels of gross disposable income per head. And what's the answer to these problems? Well, for Welsh Labour, as ever, it's a desire to introduce a new tax, and this one is aimed at people who actually put money into the Welsh economy.427

Now, there is a basic principle truth of taxation, which is, whatever you tax, you get less of, and that's why we tax things like smoking, because we want less of it to happen. Whatever you tax, you get less of. This tax will cause tourism levels to reduce. This proposal today is the very definition of biting the hand that feeds. [Interruption.] Certainly.428

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am amlinellu'r cynnig yma i ni heddiw, ac am ei hysbysiad o welliannau arfaethedig i'w cyflwyno hefyd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am amlinellu barn y pwyllgor a fy marn bersonol yn y pwyllgor hwnnw hefyd. Rwy'n ddiolchgar am waith y pwyllgor o ran nifer y tystion a gawsom ni yn ystod y sesiynau hynny dros y misoedd diwethaf.

Mae cyd-destun y cynnig hwn yma heddiw, fodd bynnag, yn bwysig iawn i'w ddeall. Mae'r rhain yn amseroedd anodd i'n heconomi yn y DU, ac yn sicr yma yng Nghymru. Ar ôl 26 mlynedd o Lafur Cymru, mae gweithwyr Cymru yn mynd adref â'r pecynnau cyflog ysgafnaf yn y Deyrnas Unedig. Cymru hefyd sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf o unrhyw ran o'r DU, a'r lefelau isaf o incwm gwario gros y pen. A beth yw'r ateb i'r problemau hyn? Wel, i Lafur Cymru, fel erioed, awydd i gyflwyno treth newydd, ac mae hon wedi'i hanelu at bobl sy'n rhoi arian i mewn i economi Cymru.

Nawr, mae yna egwyddor sylfaenol ynghylch gwirionedd trethiant, sef beth bynnag rydych chi'n trethu, fe gewch chi lai ohono, a dyna pam rydym ni'n trethu pethau fel smygu, oherwydd mae arnom ni eisiau llai ohono. Beth bynnag rydych chi'n trethu, fe gewch chi lai ohono. Bydd y dreth hon yn achosi i lefelau twristiaeth ostwng. Y cynnig hwn heddiw yw'r union ddiffiniad o frathu'r llaw sy'n eich bwydo. [Torri ar draws.] Yn sicr.

You've just pointed out that in Wales there are many people on low wages. Do you think then that it's acceptable that they pay the council tax to provide for visitors, rather than the other way around?429

Rydych chi newydd nodi bod llawer o bobl ar gyflogau isel yng Nghymru. Ydych chi'n meddwl felly ei bod hi'n dderbyniol eu bod yn talu'r dreth gyngor i ddarparu ar gyfer ymwelwyr, yn hytrach nag i'r gwrthwyneb?

I'm not entirely sure what the point of that was. 430

Dydw i ddim yn hollol siŵr beth oedd eich pwynt. 

Council tax is for domestic rates for people living in a home. We're talking about a taxation on visitors coming into our area. 432

Tourism providers up and down Wales are deeply worried about this tourism tax. It's clear that tourism is a core part of our economy in Wales and supports a large number of jobs, particularly in north and west Wales. Data from 2022 shows that the tourism sector accounted for about one in eight jobs and a significant proportion of GVA. It employs people across the whole of Wales, providing jobs at a time when far too many people in Wales aren't working. Even the Welsh Government's own figures highlighted the multi-million-pound risk to the economy as a result of the tourism tax, and the figures show the potential for significant job losses as well. An annual economic hit of around £47.5 million is something that the Welsh economy can ill afford, particularly when tourism is one of the areas that has been a real success story for Wales. I think it's brilliant that people want to come to visit Wales and take in our breathtaking scenery or epic historical and cultural sites. I want more people to enjoy Wales rather than trying to push them away with a tourism tax.433

We've already heard from the parties here opposite that this type of tax is used in other countries around the world, and colleagues on this side of the Chamber have highlighted that Wales is already amongst the highest taxed countries in the world when it comes to this sector. Indeed, of the 115 top-destination countries in the world, the UK is number 113 in terms of the tax level paid by the tourism and hospitality sector. We've heard comments already that sound as though this sector does not pay into the system. It pays significantly into the system, through VAT, through national insurance, through corporation tax, through non-domestic rates—every tax going. This sector is paying into it and should expect the services in their areas to reflect this contribution.434

We've also heard from parties opposite today that this is just a few pounds, a small proportion or a small percentage of a family's or an individual's holiday. This is a completely misunderstood perspective. The truth is that this is going to hit people from all sorts of backgrounds going on holiday. I'm grateful that the Cabinet Secretary recognised the impact on under 18s in particular. It's family holidays on those pitches. The Caravan and Motorhome Club, of which I am a member, have shared that, for a family of four, under the initial proposals, on a £30 pitch, the tax would mean a 12 per cent increase to the cost of their holiday. And the Professional Association of Self Caterers estimates that, for an October half-term, it would equate to 17 per cent of the cost of a family visit. So, I'm grateful that the Cabinet Secretary has listened to the impact on families, and I'll be interested to see the proposals for the amendments as they come forward, because this is a significant proportion of some families' costs for their holiday.435

There are a multitude of specific concerns detailed in the Bill that I will be raising as we go through this process: the lack of flexibility is one; there still continues to be a charge for children, although an element of that has been adjusted, as we've heard here today; I'm concerned that educational and voluntary institutions are being hit with this tax; the potential issues around the premium, which the Cabinet Secretary again has acknowledged here today, which was not part of the consultation that went out in respect of this legislation; and the added burden on small accommodation providers, who are already overstretched in terms of the additional administration that this will impose.436

So, in closing, Llywydd, the Welsh Conservatives are clear that we oppose this tourism tax, because we believe that the Welsh tourism sector needs encouragement and support. It needs a Welsh Government that welcomes visitors to Wales and the money that they spend in our hotels, our restaurants, our cafes and attractions, supporting jobs, supporting our communities, making Wales an even more vibrant place to be. So, I would call on Labour and Plaid Cymru here today to actually listen to tourism and hospitality businesses. Stand with us as Welsh Conservatives, as we want to axe the tax and oppose the general principles of the Bill today. We make no apologies in opposing the Welsh Government's assault on our tourism sector. Diolch yn fawr iawn. 437

Mae'r dreth gyngor ar gyfer ardrethi domestig i bobl sy'n byw mewn cartref. Rydym ni'n siarad am dreth ar ymwelwyr sy'n dod i'n hardal.

Mae darparwyr twristiaeth ar hyd a lled Cymru yn bryderus iawn am y dreth dwristiaeth hon. Mae'n amlwg bod twristiaeth yn rhan greiddiol o'n heconomi yng Nghymru ac yn cefnogi nifer fawr o swyddi, yn enwedig yn y gogledd a'r gorllewin. Mae data o 2022 yn dangos bod y sector twristiaeth yn cyfrif am tua un o bob wyth swydd a chyfran sylweddol o werth ychwanegol gros. Mae'n cyflogi pobl ledled Cymru gyfan, gan ddarparu swyddi ar adeg pan fo llawer gormod o bobl yng Nghymru heb waith. Roedd hyd yn oed ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn tynnu sylw at y risg o filiynau o bunnau i'r economi o ganlyniad i'r dreth dwristiaeth, ac mae'r ffigurau'n dangos y potensial o golli swyddi'n sylweddol hefyd. Nid yw ergyd economaidd flynyddol o tua £47.5 miliwn yn rhywbeth y gall economi Cymru ei fforddio, yn enwedig pan fo twristiaeth yn un o'r meysydd sydd wedi bod yn llwyddiant go iawn i Gymru. Rwy'n credu ei bod hi'n wych bod bobl eisiau dod i ymweld â Chymru a mwynhau ein golygfeydd syfrdanol neu safleoedd hanesyddol a diwylliannol epig. Fe hoffwn i i fwy o bobl fwynhau Cymru yn hytrach na cheisio eu gwthio i ffwrdd gyda threth dwristiaeth.

Rydym ni eisoes wedi clywed gan y pleidiau yma gyferbyn bod y math yma o dreth yn cael ei defnyddio mewn gwledydd eraill ledled y byd, ac mae cyd-Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cymru eisoes ymhlith y gwledydd sy'n cael eu trethu fwyaf yn y byd o ran y sector hwn. Yn wir, o'r 115 o wledydd cyrchfan uchaf yn y byd, mae'r DU yn rhif 113 o ran lefel y dreth a delir gan y sector twristiaeth a lletygarwch. Rydym ni wedi clywed sylwadau eisoes sy'n swnio fel pe na bai'r sector hwn yn talu i'r system. Mae'n talu'n sylweddol i'r system, trwy dreth ar werth, trwy yswiriant gwladol, trwy dreth gorfforaeth, trwy ardrethi annomestig—pob treth bosib. Mae'r sector hwn yn talu ei ffordd a dylai ddisgwyl i'r gwasanaethau yn eu hardaloedd adlewyrchu'r cyfraniad hwn.

Rydym ni hefyd wedi clywed gan y pleidiau gyferbyn heddiw mai dim ond ychydig bunnau, cyfran fach neu ganran fach o wyliau teulu neu unigolyn yw hyn. Mae hwn yn safbwynt wedi ei gamddeall yn llwyr. Y gwir yw y bydd hyn yn taro pobl o bob math o gefndiroedd sy'n mynd ar wyliau. Rwy'n ddiolchgar bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod yr effaith ar blant dan 18 yn arbennig. Mae'n wyliau teuluol ar y meysydd gwersylla hynny. Mae'r Caravan and Motorhome Club, yr wyf yn aelod ohono, wedi rhannu, i deulu o bedwar, o dan y cynigion cychwynnol, ar gae o £30, y byddai'r dreth yn golygu cynnydd o 12 y cant i gost eu gwyliau. Ac mae'r Professional Association of Self Caterers yn amcangyfrif y byddai, yn ystod hanner tymor mis Hydref, yn cyfateb i 17 y cant o gost ymweliad teuluol. Felly, rwy'n ddiolchgar bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrando ar yr effaith ar deuluoedd, a bydd gen i ddiddordeb gweld y cynigion ar gyfer y gwelliannau wrth eu cyflwyno, oherwydd mae hyn yn gyfran sylweddol o gostau rhai teuluoedd ar gyfer eu gwyliau.

Mae llu o bryderon penodol yn y Bil y byddaf yn eu crybwyll wrth i ni fynd trwy'r broses hon: mae'r diffyg hyblygrwydd yn un; mae tâl yn cael ei godi ar blant o hyd, er bod elfen o hynny wedi'i haddasu, fel yr ydym ni wedi clywed yma heddiw; rwy'n pryderu bod y dreth hon yn effeithio ar sefydliadau addysgol a gwirfoddol; y problemau posibl ynghylch y premiwm, y mae'r Ysgrifennydd Cabinet eto wedi cydnabod yma heddiw, nad oedd yn rhan o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth hon; a'r baich ychwanegol ar ddarparwyr llety bach, sydd eisoes wedi'u llethu o ran y weinyddiaeth ychwanegol y bydd hon yn ei chyflwyno.

Felly, i gloi, Llywydd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn glir ein bod yn gwrthwynebu'r dreth dwristiaeth hon, oherwydd credwn fod angen anogaeth a chefnogaeth ar sector twristiaeth Cymru. Mae angen Llywodraeth Cymru sy'n croesawu ymwelwyr i Gymru a'r arian y maen nhw'n ei wario yn ein gwestai, ein bwytai, ein caffis a'n hatyniadau, cefnogi swyddi, cefnogi ein cymunedau, gwneud Cymru yn lle hyd yn oed yn fwy bywiog. Felly, byddwn yn galw ar Lafur a Phlaid Cymru yma heddiw i wrando ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch mewn gwirionedd. Sefwch gyda ni fel Ceidwadwyr Cymreig, gan fod arnom ni eisiau rhoi terfyn ar y dreth a gwrthwynebu egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw. Nid ydym ni'n ymddiheuro wrth wrthwynebu ymosodiad Llywodraeth Cymru ar ein sector twristiaeth. Diolch yn fawr iawn. 

17:50

We support the general principles of the Bill. The Conservative spokesperson—[Interruption.]438

Rydym ni'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Bu i lefarydd y Ceidwadwyr—[Torri ar draws.]

Can I please hear what Luke Fletcher has just started to say? Can we have some silence, please, for that? Diolch, Luke.439

Gaf i glywed beth mae Luke Fletcher newydd ddechrau ei ddweud? Gawn ni rywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda, ar gyfer hynny? Diolch, Luke.

Diolch, Llywydd. The Conservative spokesperson was completely right, we need to listen to the voices of the people in the industry. There are, of course, two voices that need to be listened to, though: those in the industry and those of our local communities. And the reality is that the current way in which we do tourism isn't sustainable in the long term. There really does need to be a balance between visitor experience and then the experience of local people, because for too long, we have seen an extractive model that places unsustainable pressures on our communities, particularly in those areas, of course, where tourism is at its most intense. Essentially, what we want to see is an economy in which tourism is a sustainable and value-added feature, and that can only happen if we look to get the balance that I mentioned earlier, and that that balance is struck.440

There's no escaping this, and I know it's difficult to accept, but this kind of measure is standard practice across much of the world. Cities in countries across Europe and beyond have long operated visitor levies without any detrimental impact on their tourism sectors, so it can be argued that this is a trend that highlights a growing recognition of visitor levies as a sustainable way to support local economies and tourism infrastructure. And guess what? In Scotland, all local authorities now have the power to introduce a visitor levy. Some will progress with that, some will choose not to. It will be the same situation here in Wales. Manchester has implemented a city visitor charge and London is actively considering a similar approach. So, Wales isn't acting in isolation here, but is moving in step with many places both in and outside of the UK.441

But implementation matters. A fair, effective levy must be introduced in collaboration with the industry, as I said, and with due consideration for any unintended consequences, and I look forward to working with the Cabinet Secretary as we work through some of those amendments that he mentioned earlier. I would particularly welcome the exemption for those under 18. I'd be interested just to understand how that would interact with educational trips in the long term, and whether or not that also means that educational trips themselves are exempt. If not, that would be something that I'd be very interested in exploring with the Cabinet Secretary.442

We're also interested as well in discussions around a potential amendment about how we can ensure that persons using emergency and temporary accommodation are exempted on arrival to that accommodation, rather than being required to apply for a refund. There are lots of concerns there around, potentially, those people not applying for that refund and therefore spending money when really they shouldn't have to.443

And I'd also be interested, actually, in having that discussion with the Cabinet Secretary around how we might be able to look at a tiered approach to the levy, so considering differentiating between small independent accommodation providers and larger accommodation chains, which I accept would be complicated. As the Cabinet Secretary outlined, the way in which the current levy would operate, as proposed, is a simpler way of doing things, but a lower levy for local businesses would incentivise tourists to support independent establishments, and then help to retain wealth within our communities, ensuring that the economic benefits of tourism remain in Wales rather than being extracted by some of the larger cross-border providers.444

Ultimately, the success of this Bill will be in how it supports sustainable tourism while benefiting local people. So, the funds raised must be used transparently, as the Cabinet Secretary rightly argues, and effectively to invest in destination management, improve that infrastructure and enhance the visitor experience in a way that aligns with our communities' needs. That must be the bottom line.445

Diolch, Llywydd. Roedd llefarydd y Ceidwadwyr yn hollol gywir, mae angen i ni wrando ar leisiau'r bobl yn y diwydiant. Mae yna, wrth gwrs, ddau lais y mae angen gwrando arnyn nhw, fodd bynnag: y rhai yn y diwydiant a rhai ein cymunedau lleol. A'r gwir amdani yw nad yw'r ffordd bresennol rydym ni'n ymdrin â thwristiaeth yn gynaliadwy yn y tymor hir. Mae angen cydbwysedd rhwng profiad ymwelwyr ac yna profiad pobl leol, oherwydd ers rhy hir, rydym ni wedi gweld model echdynnol sy'n rhoi pwysau anghynaladwy ar ein cymunedau, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny, wrth gwrs, lle mae twristiaeth ar ei fwyaf dwys. Yn y bôn, yr hyn mae arnom ni eisiau ei weld yw economi lle mae twristiaeth yn nodwedd gynaliadwy sy'n rhoi gwerth ychwanegol, a gall hynny ddigwydd dim ond os ydym yn ceisio cael y cydbwysedd y soniais amdano yn gynharach, ac y llwyddir i gael y cydbwysedd hwnnw.

Does dim dianc rhag hyn, ac rwy'n gwybod ei fod yn anodd ei dderbyn, ond mae'r math hwn o fesur yn arfer safonol ar draws llawer o'r byd. Mae dinasoedd mewn gwledydd ledled Ewrop a thu hwnt wedi gweithredu ardollau ymwelwyr ers amser maith heb unrhyw effaith niweidiol ar eu sectorau twristiaeth, felly gellir dadlau bod hon yn duedd sy'n tynnu sylw at gydnabyddiaeth gynyddol o ardollau ymwelwyr fel ffordd gynaliadwy o gefnogi economïau lleol a seilwaith twristiaeth. A wyddoch chi beth? Yn yr Alban, mae gan bob awdurdod lleol bellach y pŵer i gyflwyno ardoll ymwelwyr. Bydd rhai yn symud ymlaen gyda hynny, bydd rhai yn dewis peidio â gwneud hynny. Yr un fydd y sefyllfa yma yng Nghymru. Mae Manceinion wedi dechrau codi tâl ar ymwelwyr i'r ddinas ac mae Llundain yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg. Felly, nid yw Cymru yn dilyn ei llwybr ei hun yma, ond mae'n gweithredu yn unol â llawer o lefydd yn y DU a'r tu hwnt.

Ond mae gweithredu yn bwysig. Rhaid cyflwyno ardoll deg, effeithiol mewn cydweithrediad â'r diwydiant, fel y dywedais, a chydag ystyriaeth briodol i unrhyw ganlyniadau anfwriadol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Ysgrifennydd Cabinet wrth i ni weithio trwy rai o'r gwelliannau hynny y soniodd amdanyn nhw'n gynharach. Byddwn yn croesawu'r eithriad yn arbennig i'r rhai dan 18 oed. Byddai gen i ddiddordeb dim ond deall sut y byddai hynny'n gweithio gyda theithiau addysgol yn y tymor hir, ac a yw hynny hefyd yn golygu bod teithiau addysgol eu hunain wedi'u heithrio. Os na, byddai hynny'n rhywbeth y byddai gen i ddiddordeb mawr ei archwilio gyda'r Ysgrifennydd Cabinet.

Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn trafodaethau ynghylch gwelliant posibl ynghylch sut y gallwn ni sicrhau bod pobl sy'n defnyddio llety brys a dros dro yn cael eu heithrio wrth gyrraedd y llety hwnnw, yn hytrach na'i bod yn ofynnol iddyn nhw wneud cais am ad-daliad. Mae yna lawer o bryderon yno o ran, o bosibl, y bobl hynny nad ydyn nhw'n gwneud cais am yr ad-daliad hwnnw ac felly yn gwario arian pan na ddylen nhw orfod gwneud hynny.

A byddai gen i ddiddordeb hefyd, mewn gwirionedd, cael y drafodaeth honno gyda'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â sut y gallwn ni ystyried dull haenog i'r ardoll, felly gan ystyried gwahaniaethu rhwng darparwyr llety annibynnol bach a chadwyni llety mwy, yr wyf yn derbyn y byddai'n gymhleth. Fel yr amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet, mae'r ffordd y byddai'r ardoll bresennol yn gweithredu, fel y cynigir, yn ffordd symlach o wneud pethau, ond byddai ardoll is i fusnesau lleol yn cymell twristiaid i gefnogi sefydliadau annibynnol, ac yna'n helpu i gadw cyfoeth yn ein cymunedau, gan sicrhau bod manteision economaidd twristiaeth yn parhau yng Nghymru yn hytrach na chael eu hechdynnu gan rai o'r darparwyr trawsffiniol mwy.

Yn y pen draw, llwyddiant y Bil hwn fydd y ffordd y mae'n cefnogi twristiaeth gynaliadwy wrth fod o fudd i bobl leol. Felly, rhaid defnyddio'r arian a godir mewn ffordd dryloyw, fel y dadleua'r Ysgrifennydd Cabinet yn gywir, ac yn effeithiol i fuddsoddi mewn rheoli cyrchfannau, gwella'r seilwaith hwnnw a gwella profiad ymwelwyr mewn ffordd sy'n cyd-fynd ag anghenion ein cymunedau. Mae'n rhaid mai dyna'r llinell waelod.

17:55

I just want to come back to the difficulty that Sam Rowlands was having about understanding the link between residents paying domestic rates and the cost of clearing up after visitors. In Cardiff, we have to pay for the additional cost of policing these very large events that occur either at the Millennium stadium or at the Motorpoint arena, where there are large concerts, or indeed down here at the Wales Millennium Centre. There is no additional money coming to the police service in south Wales because of Cardiff being a capital city where we have regular large events as well as large numbers of demonstrations; that's something that does occur in London and in Manchester and in Edinburgh.446

Fe hoffwn i ddim ond dychwelyd at yr anhawster yr oedd Sam Rowlands yn ei gael ynglŷn â deall y cysylltiad rhwng preswylwyr sy'n talu ardrethi domestig a'r gost o glirio ar ôl ymwelwyr. Yng Nghaerdydd, mae'n rhaid i ni dalu am y gost ychwanegol o blismona'r digwyddiadau mawr iawn hyn sy'n digwydd naill ai yn stadiwm y Mileniwm neu yn arena Motorpoint, lle mae cyngherddau mawr, neu yn wir yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Nid oes unrhyw arian ychwanegol yn dod i'r gwasanaeth heddlu yn ne Cymru oherwydd bod Caerdydd yn brifddinas lle mae gennym ni ddigwyddiadau mawr rheolaidd yn ogystal â nifer fawr o brotestiadau; mae hynny'n rhywbeth sy'n digwydd yn Llundain ac ym Manceinion ac yng Nghaeredin.

Thank you for taking the intervention. I don't have difficulty in understanding what it is you're trying to explain; what I'm outlining is that these businesses already pay significantly into the tax pot, and therefore, it's an issue of the funding formula then, not of them paying tax. They pay multiple amounts of taxation, which I've already outlined, which needs to come back to the areas to be redistributed appropriately to deliver the services that they deserve.447

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Nid wyf yn cael anhawster deall beth ydych chi'n ceisio ei esbonio; yr hyn rydw i'n amlinellu yw bod y busnesau hyn eisoes yn talu'n sylweddol i'r gronfa dreth, ac felly, mae'n fater o'r fformiwla ariannu bryd hynny, nid ohonyn nhw'n talu treth. Maen nhw'n talu sawl swm o drethiant, yr wyf eisoes wedi'i amlinellu, sydd angen dod yn ôl i'r ardaloedd i'w hailddosbarthu'n briodol i ddarparu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu haeddu.

18:00

Well, good luck talking to the UK Treasury. Of course, everybody's paying VAT when they're buying meals or anything, just like the rest of us, but that money doesn't necessarily come back to Wales. But this is enabling us to pay for the clear-ups that have to take place, because we don't want our city to be an eyesore.448

In addition to that, let's look at rural areas where we haven't got the large numbers of people who live in Cardiff who possibly can more easily absorb the cost of having visitors. Let's just look at what happens at the Eryri national park. They have 5 million visitors a year, and it's worth quite a lot of money, the tourism industry, to the area, but the money for the clean-up of the mountains where people chuck their litter, that isn't paid for by the people who are providing the accommodation and restaurants. It's being done by volunteers at the moment, because it's a very difficult task and—449

Wel, pob lwc wrth siarad â Thrysorlys y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, mae pawb yn talu treth ar werth wrth brynu prydau bwyd neu unrhyw beth, yn union fel y gweddill ohonom ni, ond nid yw'r arian hwnnw o reidrwydd yn dod yn ôl i Gymru. Ond mae hyn yn ein galluogi i dalu am y clirio y mae'n rhaid ei wneud, oherwydd does arnom ni ddim eisiau i'n dinas fod yn hyllbeth.

Yn ogystal â hynny, gadewch i ni edrych ar ardaloedd gwledig lle nad oes gennym y nifer fawr o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd sydd o bosibl yn gallu amsugno'r gost o gael ymwelwyr yn haws. Gadewch i ni edrych ar yr hyn sy'n digwydd ym mharc cenedlaethol Eryri. Mae ganddyn nhw 5 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, ac mae'n werth cryn dipyn o arian, y diwydiant twristiaeth, i'r ardal, ond yr arian ar gyfer glanhau'r mynyddoedd lle mae pobl yn taflu eu sbwriel, nid yw'n cael ei dalu gan y bobl sy'n darparu'r llety a'r bwytai. Mae'n cael ei wneud gan wirfoddolwyr ar hyn o bryd, oherwydd mae'n dasg anodd iawn a—

Will you take an intervention, just on these issues?450

A wnewch chi dderbyn ymyriad, dim ond ar y materion hyn?

Look, I accept that there are challenges with some irresponsible people who drop litter. Many of those are irresponsible residents of Wales who drop litter and go to our national park, not people who necessarily always come and stay overnight and spend a lot of money in the local economy. What you've described in terms of national parks is—. Many of those individuals will be day-trippers who are not going to be making any contribution whatsoever for the clean-up costs of their sandwiches, packed lunches or whatever they're taking. We know that the most lucrative part of the tourism industry is those people who stay overnight in Wales. That's what puts money into our economy more than anything else, especially more than day-trippers. So, why do you think it's a good idea to penalise people who stay overnight, rather than those people who actually do drop the litter, who might be day-trippers, or in the main will be day-trippers?452

Edrychwch, rwy'n derbyn bod yna heriau gyda rhai pobl anghyfrifol sy'n taflu sbwriel. Mae llawer o'r rheiny yn drigolion anghyfrifol Cymru sy'n gollwng sbwriel ac yn mynd i'n parc cenedlaethol, nid pobl sydd o reidrwydd bob amser yn dod ac yn aros dros nos ac yn gwario llawer o arian yn yr economi leol. Yr hyn rydych chi wedi'i ddisgrifio yn nhermau parciau cenedlaethol yw—. Bydd llawer o'r unigolion hynny yn deithwyr dydd nad ydyn nhw'n mynd i wneud unrhyw gyfraniad o gwbl ar gyfer costau glanhau eu brechdanau, pecynnau bwyd neu beth bynnag maen nhw'n ei gario. Fe wyddom ni mai'r rhan fwyaf proffidiol o'r diwydiant twristiaeth yw'r bobl hynny sy'n aros dros nos yng Nghymru. Dyna sy'n rhoi arian i'n heconomi yn fwy nag unrhyw beth arall, yn enwedig yn fwy na theithwyr dydd. Felly, pam ydych chi'n meddwl ei bod hi'n syniad da cosbi pobl sy'n aros dros nos, yn hytrach na'r bobl hynny sy'n gollwng y sbwriel, a allai fod yn deithwyr dydd, neu yn bennaf yn deithwyr dydd?

I wouldn't disagree with you. We need to penalise anybody who drops litter, because, obviously, it's an absolute eyesore as well as environmental damage that's created by the plastics that are going into the rivers, et cetera. But it's not really a penalty to make a contribution towards the footprint that visitors are making, and, yes, it would be nice to be able to charge day-trippers, but, as the Cabinet Secretary has already pointed out in the Finance Committee, that's practically not possible. Yes, Trash Free Trails are talking about a deposit-return scheme, and I agree, but we haven't got a deposit-return scheme at the moment to enable those polluters, i.e. those companies who produce these drinks, to pay for them to be cleared up.453

My point is that we absolutely have to see businesses making a tiny contribution. We're talking about 80p a day. For 10 nights, that's £8, or 14 nights, £11.32, I think, is the correct figure. And so this is not a substantial sum of money in the overall cost of the accommodation. There is no way that I can find that we could charge day-trippers, unless we put some money on the petrol that's being sold in Wales or something like that. But this is a simple way of having a very small sum of money contributed by visitors to the costs of the environmental thing. So, I support the principle.454

Fyddwn i ddim yn anghytuno â chi. Mae angen i ni gosbi unrhyw un sy'n gollwng sbwriel, oherwydd, yn amlwg, mae'n hyllbeth enfawr yn ogystal â'r niwed amgylcheddol sy'n cael ei greu gan y plastigau sy'n mynd i mewn i'r afonydd, ac ati. Ond nid yw'n gosb mewn gwirionedd i wneud cyfraniad tuag at yr ôl troed y mae ymwelwyr yn ei greu, a, byddai, byddai'n braf gallu codi tâl ar deithwyr dydd, ond, fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet eisoes wedi nodi yn y Pwyllgor Cyllid, nid yw hynny'n bosibl. Ydy, mae Trash Free Trails yn sôn am gynllun dychwelyd ernes, ac rwy'n cytuno, ond nid oes gennym ni gynllun dychwelyd ernes ar hyn o bryd i alluogi'r llygrwyr hynny, h.y. y cwmnïau hynny sy'n cynhyrchu'r diodydd hyn, i dalu iddyn nhw gael eu clirio.

Fy mhwynt yw bod yn rhaid i ni mewn difrif calon weld busnesau yn gwneud cyfraniad bach. Rydym ni'n siarad am 80c y dydd. Am 10 noson, dyna £8, neu 14 noson, £11.32, rwy'n credu, yw'r ffigur cywir. Ac felly nid yw hyn yn swm sylweddol o arian yng nghost gyffredinol y llety. Does dim ffordd y gallaf i weld y gallem ni godi tâl ar deithwyr dydd, oni bai ein bod ni'n rhoi rhywfaint o arian ar y petrol sy'n cael ei werthu yng Nghymru neu rywbeth tebyg. Ond mae hon yn ffordd syml o gael swm bach iawn o arian a gyfrennir gan ymwelwyr at gostau'r agwedd amgylcheddol. Felly, rwy'n cefnogi'r egwyddor.

Can I say at the start that I and we as a group are absolutely, totally in support of our hospitality businesses, our retailers, and we are totally against this? Well, to be honest, it's quite disgusting. We haven't yet come out of COVID, and businesses really are—. And I say, 'Shame on you, other Members.' I'm really proud to represent a constituency that has some fantastic tourism. It's practically the only industry we've got, and there are many Members I see around here who also have several tourism businesses within your constituencies, and you are letting them down.455

We know that this proposed visitor accommodation levy Bill—456

A gaf i ddweud ar y dechrau fy mod i a ni fel grŵp yn llwyr, yn gwbl gefnogol i'n busnesau lletygarwch, ein manwerthwyr, a'n bod yn llwyr yn erbyn hyn? Wel, i fod yn onest, mae'n eithaf ffiaidd. Nid ydym ni wedi dod allan o COVID eto, ac mae busnesau mewn gwirionedd—. Ac rwy'n dweud, 'Cywilydd arnoch chi, Aelodau eraill.' Rwy'n falch iawn o gynrychioli etholaeth sydd â thwristiaeth wych. Dyma'r unig ddiwydiant sydd gennym ni i bob pwrpas, ac mae yna lawer o Aelodau rwy'n eu gweld o gwmpas yma sydd hefyd â sawl busnes twristiaeth yn eich etholaethau, ac rydych chi'n eu siomi.

Gwyddom fod y Bil arfaethedig hwn ar gyfer ardoll llety ymwelwyr—

Will the Member give way?457

A wnaiff yr Aelod ildio?

I certainly will for you. [Laughter.]458

Gwnaf yn sicr i chi. [Chwerthin.]

18:05

Sometimes I feel like I'm on Candid Camera. You often tell us about localism and the importance of local democracy. This is a choice for local authorities to opt into if they choose to, for which they'll be accountable to their local voters. This is not an imposition on anybody; it's up to local people to choose it or not.459

Weithiau rwy'n teimlo fel fy mod i ar Candid Camera. Rydych chi'n aml yn dweud wrthym am leoliaeth a phwysigrwydd democratiaeth leol. Mae hwn yn ddewis i awdurdodau lleol optio i mewn iddo os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny, y byddan nhw'n atebol i'w pleidleiswyr lleol amdano. Nid yw hyn yn orfodaeth ar unrhyw un; mae i fyny i bobl leol ei ddewis neu beidio.

Just like your second home council tax premium that, actually, most of the local authorities have implemented, and is now seeing people who bring strength to our local economy saying that Wales is a no-go area for tourists. And that's nothing to be proud of.460

So, this is going to be detrimental to Welsh tourism businesses, such as self-catering businesses. We've noticed already a decrease in the number of days that people are staying. It will also affect our retailers who, as a result of fewer people staying overnight, will have fewer people going over their doorsteps. And I have to be honest with you, you're quite brave standing up and challenging me. You were the man who brought in 20 mph. It is a fact that, when people, visitors are asked why would they come to Wales or why would they not, your 20 mph policy is actually detracting—[Interruption.] Yes, of course it is. I mean, you couldn't be more anti-business and anti-tourism if you tried. So, as you put it, Jenny, about adding a proposed 75p or 80p to £1.25 per night—with the added VAT, remember—'Oh, that’s not a lot of money', well, I'm sorry, but not everybody is on the same salary as you or me, as a Member of this Senedd.461

With ScoutsCymru in an evidence session with the Finance Committee noting the lack of exemptions and considerations for non-profit, volunteer-led accommodation providers, where overnight stays are not their primary purpose, I'd like a little bit more information from the Cabinet Secretary. On top of this, as I say, tourism in Wales is still struggling. I interviewed some people—we had a fantastic policy forum on Saturday in Llandudno and, along with my colleague, the leader of our party in Wales, Darren Millar, we interviewed people and the stark reality is that they said, 'This is the final nail that could be in our coffin now, of remaining in business'. The Wales Tourism Alliance commented that—[Interruption.] Do you want to ask me for an intervention?462

Yn union fel eich premiwm treth gyngor ar ail gartrefi y mae, mewn gwirionedd, y rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol wedi'i weithredu, ac mae bellach yn gweld pobl sy'n dod â chryfder i'n heconomi leol yn dweud bod Cymru yn ardal i dwristiaid ei hosgoi. A dydy hynny'n ddim byd i fod yn falch ohono.

Felly, mae hyn yn mynd i fod yn niweidiol i fusnesau twristiaeth Cymru, fel busnesau hunanarlwyo. Rydyn ni eisoes wedi sylwi ar ostyngiad yn nifer y diwrnodau y mae pobl yn aros. Bydd hefyd yn effeithio ar ein manwerthwyr a fydd, o ganlyniad i lai o bobl yn aros dros nos, yn gweld llai o bobl yn mynd dros stepen eu drws. Ac mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, rydych chi'n eithaf dewr yn sefyll i fyny ac yn fy herio i. Chi oedd y dyn a gyflwynodd 20 mya. Mae'n ffaith, pan ofynnir i bobl, ymwelwyr, pam y bydden nhw'n dod i Gymru neu pam na fydden nhw, bod eich polisi 20 mya mewn gwirionedd yn amharu—[Torri ar draws.] Ydy, wrth gwrs ei fod e. Allech chi ddim bod yn fwy gwrth-fusnes a gwrth-dwristiaeth pe baech chi'n ceisio gwneud hynny. Felly, fel y dywedwch chi, Jenny, am y bwriad i ychwanegu 75c neu 80c i £1.25 y noson—gyda'r TAW ychwanegol, cofiwch—'O, dydy hynny ddim yn llawer o arian', wel, mae'n ddrwg gen i, ond dydy pawb ddim ar yr un cyflog â chi neu fi, fel Aelod o'r Senedd hon.

Gyda ScoutsCymru mewn sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor Cyllid yn nodi'r diffyg esemptiadau ac ystyriaethau ar gyfer darparwyr llety dielw, dan arweiniad gwirfoddolwyr, lle nad aros dros nos yw eu prif bwrpas, hoffwn gael ychydig mwy o wybodaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Ar ben hyn, fel y dywedais i, mae twristiaeth yng Nghymru yn dal i fod mewn trafferthion. Fe wnes i gyfweld â rhai pobl—fe gawson ni fforwm polisi gwych ddydd Sadwrn yn Llandudno ac, ynghyd â fy nghyd-Aelod, arweinydd ein plaid yng Nghymru, Darren Millar, fe wnaethon ni gyfweld â phobl a'r gwir amdani yw y gwnaethon nhw ddweud, 'Dyma'r hoelen olaf a allai fod yn ein harch nawr, o aros mewn busnes'. Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru—[Torri ar draws.] Ydych chi eisiau gofyn i mi am ymyriad?

I'm just simply pointing out that Darren is not the leader of the Welsh Conservatives.463

Dim ond i ddweud nad Darren yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Well, in my eyes he is. [Laughter.]464

The Wales Tourism Alliance commented to the Finance Committee that Welsh tourism provision is more fragile than it has been for many years, and the timing of this proposal—the visitor levy—is adding to the pressure rather than being a small part of relieving it. It's further emphasised by the Federation of Small Businesses. They've said that Wales is the only UK nation not to recover visitor spending levels from 2019, according to the tourism barometer. It's just unacceptable, what you're doing. Instead of introducing a Bill that could support the Welsh tourism industry, you are now actually doing all you can to ruin it. By doing this, it will naturally deter any significant economic benefit to our Welsh economy. If this Bill progresses, in the first 10 years of operation, the levy and the registration scheme are forecast to cost from £313 million to £576 million. And it's interesting, First Minister, who has just sat down, you said to my colleague over there, Rhun, this morning, 'You're not listening'. Well, you're not listening, First Minister. On the actual surveys that have been done on this, you have had overwhelming results that say, 'We do not want a tourism levy in Wales', yet you have completely ridden roughshod and actually ignored them. So, you're the one who's not listening.465

There's a potential loss of £250 billion in the worst-case scenario. The Bill is not the best way to support our tourism businesses, as we all know. And anybody watching this, tell your friends, tell your family that we, the Welsh Conservatives, will support businesses across Wales in whatever they do. As we've seen from the start the impact this Bill will have, and the potential it has to act as a factor for families, couples and even lone travellers when deciding on coming to Wales for a visit, it is for these reasons that we will not be supporting this. At what stage, Cabinet Secretary, will you realise that if you make your private sector businesses stronger, they employ more staff, they pay more tax and we have better services? At what point will the Welsh Labour Government, both here and in the UK, understand that quite simple and fundamental process?466

Wel, yn fy llygaid i mae e. [Chwerthin.]

Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru wrth y Pwyllgor Cyllid fod darpariaeth twristiaeth Cymru yn fwy bregus nag y mae wedi bod ers blynyddoedd lawer, ac mae amseriad y cynnig hwn—yr ardoll ymwelwyr—yn ychwanegu at y pwysau yn hytrach na bod yn rhan fach o'i leddfu. Mae'n cael ei bwysleisio ymhellach gan Ffederasiwn y Busnesau Bach. Maen nhw wedi dweud mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU i beidio ag adfer lefelau gwariant ymwelwyr o 2019, yn ôl y baromedr twristiaeth. Mae'n gwbl annerbyniol, yr hyn rydych chi'n ei wneud. Yn hytrach na chyflwyno Bil a allai gefnogi diwydiant twristiaeth Cymru, rydych chi nawr yn gwneud popeth o fewn eich gallu i'w ddifetha. Trwy wneud hyn, bydd yn naturiol yn atal unrhyw fudd economaidd sylweddol i'n heconomi yng Nghymru. Os bydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, yn ystod 10 mlynedd cyntaf ei weithredu, rhagwelir y bydd yr ardoll a'r cynllun cofrestru yn costio rhwng £313 miliwn a £576 miliwn. Ac mae'n ddiddorol, Prif Weinidog, sydd newydd eistedd i lawr, fe ddywedoch chi wrth fy nghyd-Aelod yn y fan yna, Rhun, y bore 'ma, 'Dydych chi ddim yn gwrando'. Wel, dydych chi ddim yn gwrando, Prif Weinidog. Ar yr arolygon gwirioneddol sydd wedi'u gwneud ar hyn, rydych chi wedi cael canlyniadau llethol sy'n dweud, 'Dydyn ni ddim eisiau ardoll twristiaeth yng Nghymru', ond rydych chi wedi eu hanwybyddu'n llwyr a'u diystyru mewn gwirionedd. Felly, chi yw'r un sydd ddim yn gwrando.

Mae yna golled bosibl o £250 biliwn yn y senario gwaethaf. Nid y Bil yw'r ffordd orau o gefnogi ein busnesau twristiaeth, fel y gwyddom ni i gyd. Ac unrhyw un sy'n gwylio hyn, dywedwch wrth eich ffrindiau, dywedwch wrth eich teulu y byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi busnesau ledled Cymru ym mha beth bynnag maen nhw'n ei wneud. Rydym wedi ei weld o'r cychwyn cyntaf yr effaith y bydd y Bil hwn yn ei chael, a'r potensial sydd ganddo i weithredu fel ffactor i deuluoedd, cyplau a hyd yn oed teithwyr unigol wrth benderfynu dod i Gymru am ymweliad ac, am y rhesymau hyn, ni fyddwn yn cefnogi hyn. Ar ba gam, Ysgrifennydd Cabinet, y byddwch chi'n sylweddoli, os ydych chi'n gwneud eich busnesau sector preifat yn gryfach, maen nhw'n cyflogi mwy o staff, maen nhw'n talu mwy o dreth ac rydym yn cael gwasanaethau gwell? Ar ba bwynt y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, yma ac yn y DU, yn deall y broses eithaf syml a sylfaenol honno?

18:10

Fel yr Aelod dros Arfon, dwi’n gwbl ymwybodol o’r budd economaidd sydd yn dod yn sgil twristiaeth, ond dwi hefyd yn gwybod am yr heriau a’r pwysau sy’n cael eu creu. Castell Caernarfon ydy un o brif atyniadau twristaidd Cymru, efo dros 200,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Mae’r Wyddfa yn fy etholaeth i hefyd, ac mae’n denu dros 600,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Rydyn ni, fel pobl leol, yn falch iawn o’r atyniadau yma ac rydym yn barod i’w rhannu nhw efo pobl o bob cwr o’r byd, ond maen nhw yn creu problemau mawr, yn enwedig yn ystod cyfnod yr haf. Mi fyddai rhoi’r pŵer i’r cyngor godi ardoll fechan yn arwain at wella profiadau'r ymwelwyr a phrofiadau'r bobl sydd yn byw yma drwy’r flwyddyn—arian a allai gael ei wario ar wella gwasanaethau sydd dan bwysau mawr ar adegau, o wagio biniau cyhoeddus i wella parcio a’r isadeiledd yn gyffredinol.467

Dwi yn dymuno talu teyrnged i arweiniad Mark Drakeford. Diolch yn fawr i chi am fwrw ymlaen efo’r Bil yma ac am ddeall pwysigrwydd yr egwyddor o ddatblygu twristiaeth gynaliadwy. Wrth i ni drafod y camau nesaf, mae’n bwysig ein bod ni’n cadw golwg ar y nod a ddim yn rhoi ystyriaethau proses uwchlaw pwysigrwydd egwyddor yr hyn y mae’r Bil yma yn trio ei wneud—dwi'n meddwl mai neges i Mike Hedges a'r pwyllgor deddfwriaeth ydy honno yn bennaf.468

Mae’n bwysig hefyd ein bod ni'n sicrhau y bydd y Bil yn rhoi sicrwydd bod y darpariaethau yma yn cael eu gweithredu. Felly, mi fuaswn yn licio holi pa ystyriaeth sy’n cael ei roi i ryw fath o backstop ar wyneb y Bil—er enghraifft, bod yn rhaid i’r gwaith o gofrestru bob llety gwyliau fod wedi’i orffen erbyn dyddiad penodol.469

O ran yr argymhellion penodol gan y pwyllgorau, dwi hefyd yn pryderu am rai o’r materion sydd wedi cael eu codi. Er enghraifft, dwi yn credu bod angen eglurder am y pwerau cyfreithiol fydd gan Awdurdod Cyllid Cymru i ddelio efo honiadau nad ydy darparwr llety wedi cofrestru. Felly, efallai y bydd modd unioni hynny yn ystod Cyfnod 2.470

Rydyn ni wedi bod yn trafod yr ardoll yn fan hyn y prynhawn yma, ond mae’r gofrestr yn hollbwysig. Mae gan y gofrestr swyddogaeth i sicrhau gwybodaeth ddefnyddiol iawn am natur llety gwyliau a’i effaith ar y stoc tai lleol. Dwi’n hynod o falch o weld ymrwymiad gan y Llywodraeth i gyflwyno Bil i roi trwyddedu llety ymwelwyr ar waith yng Nghymru, yn unol â’r cytundeb cydweithio efo fy mhlaid i. Mewn ymateb i argymhelliad 4 gan y Pwyllgor Cyllid, rydych chi'n cadarnhau y bydd angen i ddarparwyr llety gwyliau gael eu trwyddedu i’w galluogi i weithredu. Dwi'n gweld eich bod am ganolbwyntio ar ddarparwyr llety hunanddarpar—hynny yw, llety gosod tymor byr—yn y lle cyntaf. Mae hynny'n synhwyrol, ac yn sicr mi fyddai'n arwain at wella profiadau ymwelwyr a sicrhau eu bod nhw yn ddiogel. Dwi'n edrych ymlaen at weld y manylion a’r cynlluniau gweithredu pan fydd yr ail Fil yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Dwi'n derbyn bod hynny at eto, ond yn y cyfamser mae'n bleser gen i gefnogi egwyddorion y Bil llety ymwelwyr y prynhawn yma. Diolch.471

As the Member for Arfon, I'm fully aware of the economic benefits stemming from tourism, but I also know about the challenges and pressures that are created. Caernarfon castle is one of the principal tourist attractions in Wales, with over 200,000 people visiting each year. Yr Wyddfa is in my constituency too, and it attracts over 600,000 visitors every year. We, as local people, are very proud of these attractions, and we are ready to share them with people from all over the world, but they do create major problems, especially during the summer period. Giving the council the power to raise a small levy would lead to improving the experience of visitors and the experiences of those people who live here all year round. That money could be spent on improving services that are under great pressure at times, from emptying public bins to improving parking and the infrastructure in general.

I do wish to pay tribute to Mark Drakeford's leadership. Thank you very much for pressing ahead with this Bill and for understanding the importance of the principle of developing sustainable tourism. As we discuss the next steps, it's important that we keep our eyes on the prize, without putting process considerations above the key principle underpinning what this Bill is trying to achieve—I think that's a message for Mike Hedges and the legislation committee, principally.

I think it's also important that there is certainty that the provisions will be implemented. So, I'd like to ask what consideration is being given to the need for some sort of backstop on the face of the Bill—for example, that the registration of all holiday accommodation must be completed by a certain date.

In terms of the specific recommendations made by the committees, I'm also concerned about some of the issues that have arisen. For example, I do believe that there is a need for clarity regarding the legal powers that the Welsh Revenue Authority will have to deal with allegations that an accommodation provider has not registered. So, I hope that this can be rectified at Stage 2.

We've been discussing the levy this afternoon, but the register is vital, as it will play an important role in securing useful information about the nature of holiday accommodation and its effect on the local housing stock. I'm extremely pleased to see a commitment from the Government to introduce a Bill to implement the licensing of visitor accommodation in Wales, in accordance with the co-operation agreement with my party. In response to recommendation 4 from the Finance Committee, you do confirm that holiday accommodation providers will need to be licensed to enable them to operate. I see that you want to focus on self-catering accommodation providers, namely short-term lets, in the first instance. That is sensible and certainly would lead to improving the experience of visitors and ensuring that they are safe. I do look forward to seeing the details and the action plans when the second Bill is published later this year. I accept that that is for the future, but in the meantime it's my pleasure to support the principles of the visitor levy Bill this afternoon. Thank you.

My job, of course, is to represent the best interests of Mid and West Wales's residents, so this is a straightforward one for me. The Bill will do that and support the development of one of our key sectors.472

We know that visitor levies—and we've heard it here multiple times today—are used very successfully in over 40 countries around the world and other parts of the UK. We would be the twenty-fifth country in Europe to implement such a scheme. We know it'll be up to local authorities to implement that, and also to decide on that spending, because the money raised will be ring-fenced. It will be invested back into the local community to deliver better services for visitors and residents alike.473

There's no surprise that, from the opposition, I hear the echoes of the minimum wage debate of decades ago. The Tories seem to be locked in a doom-monger approach to absolutely everything. They do live up to their name as being the party of opposition. They oppose just about everything, including the budget, which would have actually given an awful lot of money to each one of their communities. I wonder how you sell that back to those communities.474

I fully support this. It's a small broad-based tax. It is a nominal amount for individuals, but it has the potential of raising millions of pounds. It won't affect the businesses, because the businesses aren't paying it, as you would have believed from Janet Finch-Saunders's contribution. [Interruption.] In a minute. If this is properly implemented in collaboration with businesses and local stakeholders, it will enhance the appeal of the destinations by tackling the challenges of tourism. Who wanted an intervention? 475

Fy swydd i, wrth gwrs, yw cynrychioli buddiannau gorau trigolion Canolbarth a Gorllewin Cymru, felly mae hwn yn un syml i mi. Bydd y Bil yn gwneud hynny ac yn cefnogi datblygiad un o'n sectorau allweddol.

Rydym yn gwybod bod ardollau ymwelwyr—ac rydym wedi ei glywed yma sawl gwaith heddiw—yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus iawn mewn dros 40 o wledydd ledled y byd a rhannau eraill o'r DU. Ni fyddai'r pumed gwlad ar hugain yn Ewrop i weithredu cynllun o'r fath. Rydym yn gwybod mai dewis awdurdodau lleol fydd ei weithredu, a hefyd i benderfynu ar y gwariant hwnnw, oherwydd bydd yr arian a godir yn cael ei neilltuo. Bydd yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y gymuned leol i ddarparu gwell gwasanaethau i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.

Does dim syndod fy mod i'n clywed, gan yr wrthblaid, adleisiau dadl yr isafswm cyflog degawdau yn ôl. Mae'n ymddangos bod y Torïaid wedi'u cloi mewn agwedd codi bwganod at bopeth. Maen nhw'n sicr yn gwneud yr hyn y mae'r enw yr wrthblaid yn ei awgrymu. Maen nhw'n gwrthwynebu bron popeth, gan gynnwys y gyllideb, a fyddai wedi rhoi llawer iawn o arian i bob un o'u cymunedau. Tybed sut rydych chi'n gwerthu hynny yn ôl i'r cymunedau hynny.

Rwy'n cefnogi hyn yn llwyr. Mae'n dreth fach eang. Mae'n swm nominal i unigolion, ond mae ganddo'r potensial i godi miliynau o bunnoedd. Ni fydd yn effeithio ar y busnesau, oherwydd nid yw'r busnesau'n ei dalu, fel y byddech wedi credu o gyfraniad Janet Finch-Saunders. [Torri ar draws.] Mewn munud. Os caiff hwn ei weithredu'n briodol mewn cydweithrediad â busnesau a rhanddeiliaid lleol, bydd yn gwella apêl y cyrchfannau trwy fynd i'r afael â heriau twristiaeth. Pwy oedd eisiau ymyriad? 

18:15

Joyce, I spoke to many businesses in my constituency that are going to be impacted by this tax, and they tell me quite clearly that this tax is going to have a detrimental effect on their businesses, and they're not quite sure that any of this money raised is actually going to improve the visitor experience either. It could be swallowed up into other council services and not reinvested into the communities. So, what do you say to those businesses in Brecon and Radnorshire, which you also represent? Are you saying that they're lying and the Government is right?476

Joyce, siaradais â llawer o fusnesau yn fy etholaeth i fydd yn cael eu heffeithio gan y dreth hon, ac maen nhw'n dweud wrthyf yn eithaf clir y bydd y dreth hon yn cael effaith niweidiol ar eu busnesau, a dydyn nhw ddim yn hollol siŵr a fydd unrhyw gyfran o'r arian hwn a godir yn gwella profiad ymwelwyr chwaith. Gallai gael ei lyncu i wasanaethau eraill y cyngor a pheidio â chael ei ailfuddsoddi yn y cymunedau. Felly, beth ydych chi'n ei ddweud wrth y busnesau hynny yn Aberhonddu a Sir Faesyfed, yr ydych chi hefyd yn eu cynrychioli? Ydych chi'n dweud eu bod nhw'n dweud celwydd a bod y Llywodraeth yn iawn?

I think that's a ridiculous word to use. What I will say to you is that you're misrepresenting them if you haven't pointed out that this money is ring-fenced to be used for tourism. You could have told them that and you could have asked them, because they will be asked by any authority that decides they're going to implement this. They will have to ask those businesses and local people how they want that money spent. But it will be ring-fenced, so they can only spend it to enhance the tourist industry. You will be coming back here with a shopping list asking for things, and, at the same time, not only did you oppose the budget, but you want to oppose this, living up to the name of opposition: 'We'll oppose anything.'477

I'm a little bit disappointed, on behalf of the people you represent, that you don't want to boost the businesses, that you don't want to enhance the tourism experience for visitors and their host communities. The details have to be worked out, and if it's properly implemented, it will make a significant difference. I think that proper scrutiny—and we've heard a lot about that, as we're going through the different stages—proper monitoring and evaluation have to be at the forefront going forward to make sure that the levy is effective but also fair.478

The proposed register for accommodation, I agree with Siân Gwenllian, is absolutely pivotal in all of this, because if you collect that data, it can inform policy, it can identify opportunities also for growth. Wales has an outstanding tourism offer, but there is room for improvement in terms of economic growth, employment and sustainable communities. This Bill represents an opportunity to deliver on all three counts.479

Rwy'n credu bod hwnnw'n air chwerthinllyd i'w ddefnyddio. Yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrthych chi yw eich bod chi'n eu camgynrychioli nhw os nad ydych chi wedi dweud wrthyn nhw bod yr arian hwn wedi'i neilltuo i'w ddefnyddio ar gyfer twristiaeth. Gallech chi fod wedi dweud hynny wrthyn nhw a gallech chi fod wedi gofyn iddyn nhw, oherwydd bydd unrhyw awdurdod sy'n penderfynu ei fod yn mynd i weithredu hyn yn gofyn iddyn nhw. Bydd yn rhaid iddo ofyn i'r busnesau hynny a'r bobl leol sut maen nhw eisiau i'r arian hwnnw gael ei wario. Ond bydd yn cael ei neilltuo, felly dim ond i wella'r diwydiant twristiaeth y gall ei wario. Byddwch chi'n dod yn ôl yma gyda rhestr siopa yn gofyn am bethau, ac, ar yr un pryd, nid yn unig yr oeddech chi'n gwrthwynebu'r gyllideb, ond rydych chi eisiau gwrthwynebu hyn, gan gyflawni'r hyn y mae'r enw yr wrthblaid yn ei awgrymu: 'Fe wnawn ni wrthwynebu unrhyw beth.'

Rwyf ychydig yn siomedig, ar ran y bobl rydych chi'n eu cynrychioli, nad ydych chi eisiau rhoi hwb i'r busnesau, nad ydych chi eisiau gwella'r profiad twristiaeth i ymwelwyr a'r cymunedau sy'n eu lletya. Mae'n rhaid gweithio allan y manylion, ac os caiff ei weithredu'n iawn, bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Rwy'n credu bod yn rhaid i graffu priodol—ac rydym wedi clywed llawer am hynny, wrth i ni fynd trwy'r gwahanol gamau—monitro a gwerthuso priodol fod yn flaenllaw yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod yr ardoll yn effeithiol ond hefyd yn deg.

Mae'r gofrestr arfaethedig ar gyfer llety, rwy'n cytuno â Siân Gwenllian, yn hollbwysig yn hyn i gyd, oherwydd os byddwch chi'n casglu'r data hwnnw, gall lywio polisi, gall nodi cyfleoedd ar gyfer twf hefyd. Mae gan Gymru arlwy twristiaeth rhagorol, ond mae lle i wella o ran twf economaidd, cyflogaeth a chymunedau cynaliadwy. Mae'r Bil hwn yn gyfle i gyflawni pob un o'r tri hynny.

18:20

I just want to put on the record to start that the Welsh Conservatives don't oppose everything. We're a low-tax party who oppose this tourism tax. We believe in lower taxes. We always have done. The Conservative Party are a low-tax party. Anybody who knows an iota about politics knows that the Conservative Party is a low-tax party and we support more money in people's pockets. It's no big mystery. Everybody seems to turn round with some element of excitement when the Conservatives say things that are conservative. We support businesses and we make no apology in doing that. 480

This toxic tourism tax is symbolic of a Government that has grown complacent and more radical in its destructive policies. It's fair to say that this is another ideological policy cooked up with the Welsh nationalists that has overwhelming opposition amongst the sector. What's more, it is humiliating seeing the rest of the United Kingdom look on with astonishment as we prepare to inflict this bizarre act of self-harm. The tourism sector—481

Rwyf eisiau rhoi ar y cofnod i ddechrau nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu popeth. Rydyn ni'n blaid treth isel sy'n gwrthwynebu'r dreth dwristiaeth hon. Rydyn ni'n credu mewn trethi is. Rydyn ni bob amser wedi gwneud. Mae'r Blaid Geidwadol yn blaid treth isel. Mae unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am wleidyddiaeth yn gwybod bod y Blaid Geidwadol yn blaid treth isel ac rydym yn cefnogi mwy o arian ym mhocedi pobl. Nid yw'n ddirgelwch mawr. Mae'n ymddangos bod pawb yn troi rownd gyda rhyw elfen o gyffro pan fo'r Ceidwadwyr yn dweud pethau sy'n geidwadol. Rydyn ni'n cefnogi busnesau a dydyn ni ddim yn ymddiheuro am wneud hynny. 

Mae'r dreth dwristiaeth wenwynig hon yn symbol o Lywodraeth sydd wedi tyfu'n hunanfodlon ac yn fwy radical yn ei pholisïau dinistriol. Mae'n deg dweud bod hwn yn bolisi ideolegol arall sydd wedi ei greu gyda'r cenedlaetholwyr Cymreig sydd â gwrthwynebiad llethol ymhlith y sector. Ar ben hynny, mae'n codi cywilydd gweld gweddill y Deyrnas Unedig yn edrych arnom gyda syndod wrth i ni baratoi i achosi'r weithred ryfedd hon o hunan-niwed. Y sector twristiaeth—

Will you take an intervention?482

Wnewch chi dderbyn ymyriad?

There are other parts of the United Kingdom that are implementing a tourism levy.484

Mae yna rannau eraill o'r Deyrnas Unedig sy'n gweithredu ardoll ar dwristiaeth.

There are other parts of the United Kingdom, but they're also subject to the same party, under Labour metro mayors, who have done the same. So I go back to my original point that the Conservatives, as we do, oppose higher taxes in terms of what we're debating here today.485

Nineteen per cent of tourist businesses—[Interruption.] I want to make some progress, Mike. I will come back to you.486

Mae yna rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond maen nhw hefyd yn ddarostyngedig i'r un blaid, o dan feiri dinesig Llafur, sydd wedi gwneud yr un peth. Felly rwy'n mynd yn ôl at fy mhwynt gwreiddiol bod y Ceidwadwyr, fel y gwnawn, yn gwrthwynebu trethi uwch yn nhermau'r hyn rydyn ni'n ei drafod yma heddiw.

Mae un deg naw y cant o fusnesau twristiaeth—[Torri ar draws.] Rydw i eisiau bwrw ymlaen, Mike. Fe ddof yn ôl atoch chi.

I was going to say I'm glad Labour has now got control of the Peak district. That's probably the first time ever. 487

Roeddwn i'n mynd i ddweud fy mod i'n falch bod Llafur bellach wedi cael rheolaeth o'r Peak District. Mae'n debyg mai dyna'r tro cyntaf erioed. 

I don't know the political landscape of all areas of the UK, but I'm sure that's a correct comment that you're making there in terms of its colour.488

But 19 per cent of tourist businesses had more customers in 2024 than 2023, but 39 per cent had fewer. For self-catering accommodation providers these figures are worse, with 16 per cent of businesses seeing more customers but 45 per cent seeing fewer. In a PASC UK survey, businesses ranked Welsh Government policies as the fourth biggest reason for the downturn in trade. I suspect this will rank higher once this toxic tax is introduced.489

One of the most harmful consequences of this tax is the message it sends to those thinking of booking a holiday in Wales. It sends the message that Wales is closed for business and tourists are not welcome, playing into harmful stereotypes the sector have worked hard to shake off for years. It signals a Welsh Labour Government more interested in indulging a radical anti-tourist minority rather than supporting the tourism sector, which employs over 11 per cent of people in Wales and pumps more than £3.8 billion into the Welsh economy.490

It does sadden me that the Member for Ynys Môn is chattering away there against tourism—[Interruption.]—when he represents a constituency that is rife with tourism, and a very healthy tourism trade. What you're proposing and what you're going to be voting for tonight is exactly against your constituents. I hope you're proud of that, by the way.491

The Cabinet Secretary for Economy—492

Dydw i ddim yn gwybod beth yw tirwedd wleidyddol pob ardal o'r DU, ond rwy'n siŵr bod hwnnw'n sylw cywir rydych chi'n ei wneud yn y fan yna o ran ei liw.

Ond roedd gan 19 y cant o fusnesau twristiaeth fwy o gwsmeriaid yn 2024 nag yn 2023, ond roedd gan 39 y cant lai. Ar gyfer darparwyr llety hunanarlwyo mae'r ffigurau hyn yn waeth, gyda 16 y cant o fusnesau yn gweld mwy o gwsmeriaid ond 45 y cant yn gweld llai. Mewn arolwg gan PASC UK, gwnaeth busnesau nodi mai polisïau Llywodraeth Cymru oedd y pedwerydd rheswm mwyaf dros y dirywiad mewn masnach. Rwy'n amau y bydd yn uwch pan fydd y dreth wenwynig hon yn cael ei chyflwyno.

Un o ganlyniadau mwyaf niweidiol y dreth hon yw'r neges y mae'n ei hanfon i'r rhai sy'n meddwl am drefnu gwyliau yng Nghymru. Mae'n anfon y neges bod Cymru ar gau ar gyfer busnes ac nad oes croeso i dwristiaid, gan greu stereoteipiau niweidiol y mae'r sector wedi gweithio'n galed i'w diosg ers blynyddoedd. Mae'n arwydd bod gan Lywodraeth Lafur Cymru fwy o ddiddordeb mewn bodloni lleiafrif gwrth-dwristiaeth radical yn hytrach na chefnogi'r sector twristiaeth, sy'n cyflogi dros 11 y cant o bobl yng Nghymru ac yn cyfrannu mwy na £3.8 biliwn i economi Cymru.

Mae'n drist i mi fod yr Aelod dros Ynys Môn yn parablu yn y fan yna yn erbyn twristiaeth—[Torri ar draws.]—pan fo'n cynrychioli etholaeth sy'n byrlymu â thwristiaeth, a masnach dwristiaeth iach iawn. Mae'r hyn rydych chi'n ei gynnig a'r hyn y byddwch chi'n pleidleisio drosto heno yn union yn erbyn eich etholwyr. Gobeithio eich bod chi'n falch o hynny, gyda llaw.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi—

Will you take another intervention?493

A wnewch chi gymryd ymyriad arall?

I have a huge amount of optimism and faith in our tourism offer in Ynys Môn and the rest of Wales. I have confidence that people will still want to come and enjoy what is a massively important export for us in Wales. Where's your support for businesses on export in Wales? 495

Mae gen i lawer iawn o optimistiaeth a ffydd yn y dwristiaeth rydym yn ei chynnig yn Ynys Môn a gweddill Cymru. Mae gen i hyder y bydd pobl yn dal i fod eisiau dod i fwynhau'r hyn sy'n allforyn hynod bwysig i ni yng Nghymru. Ble mae eich cefnogaeth i fusnesau ar allforio yng Nghymru? 

We'll have to see. Time will tell. But you’ve got many business operators on Ynys Môn who are probably at the far opposite of relishing these proposals. If I was a business who just struggled through the swells of COVID-19, the cost-of-living crisis and whatever else, I think I'd be very apprehensive about this Bill's proposal. When business owners in your constituency are reflecting on that, I'm sure they'll look at your voting record.496

Yet the Welsh Government still wishes to tax when confidence among the sector is at its lowest ebb. The managing director of Seren, which operates several hotels and restaurants across the country, said that the introduction of the levy could, and I quote,497

‘needlessly exacerbate existing pressures on the hospitality sector, which is already navigating significant economic challenges.’498

Concerns were also raised by a variety of other organisations in the Finance Committee report, such as Scouts Cymru, the Wales Tourism Alliance and the Federation of Small Businesses. The timing of this Bill is staggering given the condition of the UK economy more broadly, and, indeed, the policies coming from Westminster with Rachel Reeves's latest spring statement, but particularly the Welsh economy, which is in a worse state.499

The amount of money this tax will raise is also miniscule. If every local authority in Wales opted to impose the levy, it would only raise £35 million. To put that into perspective, the Vale of Glamorgan Council, which indicated it will not impose the levy, spent £25 million on the Welsh Government's nation of sanctuary scheme, another wasteful vanity project. If the Welsh Government are looking to find money, there's millions more it could raise by cutting the masses of taxpayers' money frittered away and wasted. 500

The Bill is also estimated to cost between £313 million and £576 million. I know there's very little business experience on the other benches, but most Members in this Chamber recognise that a tax that costs over £300 million and, at best, will raise £35 million is a very poor deal. I'm pleased, however, that the Welsh Government are reviewing the 182-day rule, but I hope you go further and adopt the Welsh Conservatives' policy in reducing 182 days to 105 days. 501

To conclude, Llywydd—I won't test your patience much more—the disruption caused by second home ownership is a legitimate concern and could be mitigated through other means. We will be shooting ourselves in the foot with this levy. It gives the impression of an inward-looking Wales that doesn't need or want tourism, which is the opposite to the truth. It also gives the impression of a Government out of ideas and kicking a sector that's already down. This tax will cause millions of pounds' worth of damage to the Welsh economy for a meagre return. I urge all Members to vote against this Bill tonight.    502

Bydd yn rhaid i ni weld. Amser a ddengys. Ond mae gennych chi lawer o weithredwyr busnes ar Ynys Môn sy'n debygol o fod i'r gwrthwyneb llwyr o groesawu'r cynigion hyn. Pe bawn i'n fusnes a oedd newydd straffaglu drwy drafferthion COVID-19, yr argyfwng costau byw a beth bynnag arall, rwy'n credu y byddwn i'n bryderus iawn am gynnig y Bil hwn. Pan fydd perchnogion busnes yn eich etholaeth chi yn myfyrio ar hynny, rwy'n siŵr y byddan nhw'n edrych ar eich cofnod pleidleisio.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod eisiau trethu pan fo hyder ymhlith y sector ar ei isaf. Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Seren, sy'n gweithredu sawl gwesty a bwyty ledled y wlad, y gallai cyflwyno'r ardoll, ac rwy'n dyfynnu,

'waethygu yn ddiangen y pwysau presennol ar y sector lletygarwch, sydd eisoes yn ymdopi â heriau economaidd sylweddol.'

Codwyd pryderon hefyd gan amrywiaeth o sefydliadau eraill yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, megis ScoutsCymru, Cynghrair Twristiaeth Cymru a Ffederasiwn y Busnesau Bach. Mae amseriad y Bil hwn yn syfrdanol o ystyried cyflwr economi'r DU yn ehangach, ac, yn wir, y polisïau sy'n dod o San Steffan gyda datganiad gwanwyn diweddaraf Rachel Reeves, ond yn enwedig economi Cymru, sydd mewn cyflwr gwaeth.

Mae'r swm o arian y bydd y dreth hon yn ei godi hefyd yn fach iawn. Pe bai pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dewis gorfodi'r ardoll, dim ond £35 miliwn y byddai'n ei godi. I roi hynny mewn persbectif, gwariodd Cyngor Bro Morgannwg, a nododd na fydd yn gorfodi'r ardoll, £25 miliwn ar gynllun cenedl noddfa Llywodraeth Cymru, prosiect gwagedd gwastraffus arall. Os yw Llywodraeth Cymru yn ceisio dod o hyd i arian, mae miliynau yn fwy y gallai ei godi trwy dorri'r llwyth o arian trethdalwyr sy'n cael ei wastraffu a'i golli.

Amcangyfrifir hefyd y bydd y Bil yn costio rhwng £313 miliwn a £576 miliwn. Rwy'n gwybod mai ychydig iawn o brofiad busnes sydd ar y meinciau eraill, ond mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon yn cydnabod bod treth sy'n costio dros £300 miliwn ac y bydd, ar y gorau, yn codi £35 miliwn yn fargen wael iawn. Rwy'n falch, fodd bynnag, bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r rheol 182 diwrnod, ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n mynd ymhellach a mabwysiadu polisi Ceidwadwyr Cymru o ran lleihau 182 diwrnod i 105 diwrnod.

I gloi, Llywydd—ni fyddaf yn trethu eich amynedd llawer yn fwy—mae'r aflonyddwch a achosir gan berchnogaeth ail gartref yn bryder dilys a gellid ei liniaru trwy ddulliau eraill. Byddwn yn cosbi ein hunain gyda'r ardoll hon. Mae'n rhoi'r argraff o Gymru sy'n edrych i mewn ac sydd ddim angen nac eisiau twristiaeth, sydd y gwrthwyneb i'r gwir. Mae hefyd yn rhoi'r argraff o Lywodraeth sy'n brin o syniadau ac sy'n cosbi sector sydd eisoes yn dioddef. Bydd y dreth hon yn achosi gwerth miliynau o bunnoedd o ddifrod i economi Cymru am enillion prin. Rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio yn erbyn y Bil hwn heno.    

18:25

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg nawr i ymateb i'r ddadl. 503

The Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to reply to the debate. 

Llywydd, diolch yn fawr. Let me begin by thanking the Chairs of both committees that have studied the Bill. I look forward to continuing to work with the Finance Committee. We were able to accept all the recommendations and, as I say, there are ways in which the Bill will be improved as a result. I thank Mike Hedges for his powerful endorsement of the Bill. I think he asked the most sensible question of the whole evening: why has it taken so long to get to this very modest measure? 504

Llywydd, I want to attend to a very small number of specific questions that I was asked. Luke Fletcher asked whether we might change the arrangement in which people arrive at emergency accommodation. I think it's a complex argument. On the whole, I'm persuaded that I do not want a woman fleeing domestic violence to have to declare that on her arrival at emergency accommodation. There may be many, many reasons why that would not be the right thing for that person to do, and if that's how this issue is to be navigated, I think we place the onus on the shoulders of the person who has been the victim of difficult circumstances, rather than allowing them to claim back the very modest amount of money that they might have to put upfront. But I understand the argument and it's not an easy one to resolve.  505

Llywydd, diolch yn fawr. Gadewch i mi ddechrau trwy ddiolch i Gadeiryddion y ddau bwyllgor sydd wedi astudio'r Bil. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid. Roeddem yn gallu derbyn yr holl argymhellion ac, fel y dywedais i, mae yna ffyrdd y bydd y Bil yn cael ei wella o ganlyniad. Diolch i Mike Hedges am ei gymeradwyaeth bwerus o'r Bil. Rwy'n credu ei fod wedi gofyn y cwestiwn mwyaf synhwyrol o'r noson gyfan: pam mae wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd y cam cymedrol iawn hwn? 

Llywydd, rwyf am ateb nifer fach iawn o gwestiynau penodol a ofynnwyd i mi. Gofynnodd Luke Fletcher a allwn ni newid y trefniant lle mae pobl yn cyrraedd llety brys. Rwy'n credu ei bod yn ddadl gymhleth. Ar y cyfan, rwy'n argyhoeddedig nad wyf am i fenyw sy'n ffoi rhag trais domestig orfod datgan hynny wrth iddi gyrraedd llety brys. Efallai y bydd llawer iawn o resymau pam na fyddai hynny y peth iawn i'r person hwnnw ei wneud, ac os mai dyna sut y bydd y mater hwn yn cael ei lywio, rwy'n credu ein bod yn rhoi'r pwysau ar ysgwyddau'r person sydd wedi dioddef amgylchiadau anodd, yn hytrach na chaniatáu iddynt hawlio'n ôl y swm cymedrol iawn o arian y gallai fod yn rhaid iddynt ei roi ymlaen llaw. Ond rwy'n deall y ddadl ac nid yw'n un hawdd i'w datrys.  

Diolch i Siân Gwenllian am beth ddywedodd hi. Y bwriad yw i gael pob un ar y gofrestr erbyn 2028. So, mae dyddiad gyda ni. Wrth gwrs, dwi'n edrych ymlaen at yr ail Fil sy'n mynd i ddod o flaen y Senedd a dwi'n edrych ymlaen at Gyfnod 2, ble gallwn ni drafod un neu ddau o bethau mae Siân wedi eu codi'n barod.  506

Thank you to Siân Gwenllian for her comments. The intention is to have everyone on the register by 2028. So, we have a date in place for that. Of course, I look forward to the second Bill that will come before the Senedd and I look forward to Stage 2 when we can discuss some of the things that Siân has already raised. 

Dwi'n deall eich bwriad chi i gael pawb wedi eu cofrestru erbyn 2028, ond dydy hynna ddim ar wyneb y Bil. 507

I understand that your intention is to have everyone registered by 2028, but that's not on the face of the Bill. 

Dydy hi ddim ar wyneb y Bil, ond dwi'n barod i roi'r amserlen lan i'r Aelodau. Rŷm ni wedi trafod pethau gyda'r WRA. Maen nhw'n hyderus y gallan nhw wneud hynny o fewn y cyfnod dwi wedi esbonio y prynhawn yma. 508

It's not on the face of the Bill, but I am willing to provide Members with a timetable. We've discussed the issues with the WRA and they are confident that they can deliver that within the timescale that I have set out this afternoon. 

Can I also explain to Janet Finch-Saunders that the phrase she read out—? Maybe I should wait for her to be able to listen. Thank you. You quoted part of the Bill and asked me to explain it further. I'm happy to say that that is there directly in response to something that Darren Millar raised at the very start of the journey of the Bill when he asked me about church halls and faith tourism. I'm pleased that the phrase that you read out gives a guarantee that those are not captured by the Bill. 509

Llywydd, only Conservative voices have been raised in opposition to the Bill. I tried, in this thing, as in all other things, to follow the advice of my leader when she quoted Saunders Lewis to us earlier this afternoon. I was trying to listen carefully. I started listening carefully to Gareth Davies, but when he said in his first sentence that the Conservative Party was a low-tax party, it took me several minutes of his contribution to recover from that and listen to the rest of what he said, given that his party raised taxes to a 70-year high across the whole of the United Kingdom. What a low-tax record that turned out to be.510

I did listen carefully to what Janet Finch-Saunders said, and, of course, I noticed that not once in her whole contribution did she mention the word 'residents'. It was the first word that Joyce Watson raised. She came here to speak up for her residents; Janet Finch-Saunders came here to speak up for her businesses. Not once did she talk about those people in her constituency who, at the moment, have to bear all the costs that are associated with that industry in her locality.511

A gaf i hefyd egluro wrth Janet Finch-Saunders fod yr ymadrodd a ddarllenodd allan—? Efallai y dylwn i aros iddi allu gwrando. Diolch. Fe wnaethoch chi ddyfynnu rhan o'r Bil a gofyn i mi ei hegluro ymhellach. Rwy'n hapus i ddweud bod hwnnw yno'n uniongyrchol mewn ymateb i rywbeth a gododd Darren Millar ar ddechrau taith y Bil pan ofynnodd i mi am neuaddau eglwysi a thwristiaeth ffydd. Rwy'n falch bod yr ymadrodd y gwnaethoch chi ei ddarllen yn rhoi gwarant nad yw'r rheiny'n cael eu cynnwys gan y Bil. 

Llywydd, dim ond lleisiau Ceidwadol sydd wedi eu codi yn erbyn y Bil. Ceisiais, yn y peth hwn, fel ym mhob peth arall, ddilyn cyngor fy arweinydd pan ddyfynnodd Saunders Lewis i ni yn gynharach y prynhawn yma. Roeddwn i'n ceisio gwrando'n ofalus. Dechreuais wrando'n ofalus ar Gareth Davies, ond pan ddywedodd yn ei frawddeg gyntaf fod y Blaid Geidwadol yn blaid treth isel, cymerodd sawl munud o'i gyfraniad i mi adfer o hynny a gwrando ar weddill yr hyn a ddywedodd, o gofio bod ei blaid wedi codi trethi i'r lefel uchaf mewn 70 mlynedd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Am record treth isel yr oedd honno.

Gwrandawais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders, ac, wrth gwrs, sylwais na wnaeth hi, yn ei chyfraniad cyfan, ddweud unwaith y gair 'trigolion'. Dyma'r gair cyntaf a ddywedodd Joyce Watson. Daeth yma i siarad dros ei thrigolion; daeth Janet Finch-Saunders yma i siarad dros ei busnesau. Nid unwaith y soniodd hi am y bobl hynny yn ei hetholaeth sydd, ar hyn o bryd, yn gorfod talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant hwnnw yn ei hardal.

18:30

Will you take an intervention?512

Wnewch chi gymryd ymyriad?

Can I just tell you, in the 14 years I've been elected, I've never had a single resident ever complain to me about any overtourism or any effects of tourism? Many of our residents are employed in that tourism sector, and it's those residents who you will be now, probably, putting out of a job.514

A gaf i ddweud wrthych chi, yn ystod y 14 mlynedd yr wyf wedi cael fy ethol, nad wyf erioed wedi cael yr un o fy nhrigolion erioed yn cwyno wrthyf am unrhyw or-dwristiaeth nac unrhyw effeithiau twristiaeth? Mae llawer o'n trigolion yn cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth hwnnw, a'r trigolion hynny y byddwch chi nawr, mae'n debyg, yn eu gwneud yn ddi-waith.

Well, I don't accept that, of course. What is absolutely clear, as others in the debate said, is that my constituents in Cardiff West have to pay for all the costs that those many tourists, who are absolutely welcome to Cardiff, who come for those special events that Mike Hedges referred to—. All those costs—. I see Cardiff Council doing an excellent job the morning after a major event—all those people out clearing up the rubbish, making sure that the streets are able to be used again. All the people who have visited Cardiff—they don't contribute a single penny to that, but my residents have to pay it all. And what this Bill does is it re-levels that playing field in a very modest way.515

Now, Sam Rowlands was the main spokesperson for the opposition, and he offered us, I think, a series of misunderstandings of the Bill. He said that we should not be introducing a tax. Of course, the Bill does not introduce a tax, the Bill introduces a power for local authorities who choose to do it. Nobody in Wales is taxed as a result of this Bill, it is only where local authorities make that decision. And I think it was Lee Waters who said that, once upon a time, the Conservative Party claimed to be the party of localism—they believed the Government shouldn't make decisions on behalf of local people. That's exactly what this Bill does—it gives local people a decision. And maybe Labour-controlled Vale of Glamorgan will not introduce the tax, and that's fine, isn't it? Because they've made that decision on behalf of their residents.516

Wel, dydw i ddim yn derbyn hynny, wrth gwrs. Yr hyn sy'n hollol glir, fel y dywedodd eraill yn y ddadl, yw bod yn rhaid i fy etholwyr i yng Ngorllewin Caerdydd dalu am yr holl gostau y mae'r twristiaid niferus hynny, sy'n cael eu croesawu yn sicr i Gaerdydd, sy'n dod ar gyfer y digwyddiadau arbennig hynny y cyfeiriodd Mike Hedges atynt—. Yr holl gostau hynny—. Rwy'n gweld Cyngor Caerdydd yn gwneud gwaith ardderchog y bore ar ôl digwyddiad mawr—yr holl bobl hynny allan yn clirio'r sbwriel, gan wneud yn siŵr bod modd defnyddio'r strydoedd eto. Mae'r holl bobl sydd wedi ymweld â Chaerdydd—dydyn nhw ddim yn cyfrannu'r un geiniog at hynny, ond mae'n rhaid i fy nhrigolion i dalu'r cyfan. A'r hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yw rhoi chwarae teg mewn ffordd gymedrol iawn.

Nawr, Sam Rowlands oedd prif lefarydd yr wrthblaid, ac fe gynigiodd gyfres o gamddealltwriaethau o'r Bil i ni, rwy'n credu. Dywedodd na ddylem fod yn cyflwyno treth. Wrth gwrs, nid yw'r Bil yn cyflwyno treth, mae'r Bil yn cyflwyno pŵer i awdurdodau lleol sy'n dewis ei wneud. Nid oes neb yng Nghymru yn cael ei drethu o ganlyniad i'r Bil hwn, dim ond lle bydd awdurdodau lleol yn gwneud y penderfyniad hwnnw. Ac rwy'n credu mai Lee Waters a ddywedodd bod y Blaid Geidwadol yn honni ei bod yn blaid lleoliaeth ar un adeg—roedden nhw'n credu na ddylai'r Llywodraeth wneud penderfyniadau ar ran pobl leol. Dyna'n union beth mae'r Bil hwn yn ei wneud—mae'n rhoi penderfyniad i bobl leol. Ac efallai na fydd Bro Morgannwg a reolir gan Lafur yn cyflwyno'r dreth, ac mae hynny'n iawn, on'd yw e? Oherwydd maen nhw wedi gwneud y penderfyniad hwnnw ar ran eu trigolion.

I'm just interested to hear from you, Cabinet Secretary—. During the LJC report, it was raised about the United Kingdom Internal Market Act 2020, and actually, the Office for the Internal Market are looking at levies as an area that could actually be to the detriment of the UK in terms of the internal market Act. What sort of assessment have you made of the internal market Act and its impact on this levy, and if there was a challenge, do you expect there to be one?517

Mae gen i ddiddordeb mewn clywed gennych, Ysgrifennydd Cabinet—. Yn ystod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, soniwyd am Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac mewn gwirionedd, mae'r Swyddfa ar gyfer y Farchnad Fewnol yn edrych ar ardollau fel maes a allai fod yn niweidiol i'r DU o ran Deddf y farchnad fewnol. Pa fath o asesiad ydych chi wedi'i wneud o Ddeddf y farchnad fewnol a'i heffaith ar yr ardoll hon, a phe byddai yna her, ydych chi'n disgwyl y bydd un?

For four years of Conservative Government, Llywydd, that Government knew that this Bill was coming in front of the Senedd; not one Government Minister of a Conservative hue ever raised the internal market Act in relation to this Bill, and neither has the Government elected in July of last year.518

Sam Rowlands went on to say that the sector is heavily taxed, but, of course, this Bill doesn't tax the sector at all. No business pays any more money as a result of a local authority deciding to introduce the tax; the tax is paid by the visitor, not by the business.519

Am bedair blynedd o Lywodraeth Geidwadol, Llywydd, roedd y Llywodraeth honno'n gwybod bod y Bil hwn yn dod gerbron y Senedd; nid oes yr un Gweinidog Llywodraeth o liw Ceidwadol erioed wedi codi Deddf y farchnad fewnol mewn perthynas â'r Bil hwn, ac nid yw'r Llywodraeth a etholwyd ym mis Gorffennaf y llynedd wedi gwneud hynny ychwaith.

Aeth Sam Rowlands ymlaen i ddweud bod y sector yn cael ei drethu'n drwm, ond, wrth gwrs, nid yw'r Bil hwn yn trethu'r sector o gwbl. Ni fydd unrhyw fusnes yn talu mwy o arian o ganlyniad i awdurdod lleol yn penderfynu cyflwyno'r dreth; mae'r dreth yn cael ei thalu gan yr ymwelydd, nid gan y busnes.

I'm sorry, Cabinet Secretary, you're being unclear with that, because it's the business that's liable to make the payment of the tax to the WRA; it's not the visitor who's making that payment. The business can choose whether to charge the visitor for that or not, as you well know, and it's the business who's liable for making sure that the payment goes through to the WRA. Isn't that correct?520

Mae'n ddrwg gen i, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n aneglur gyda hynny, oherwydd y busnes sy'n atebol i dalu'r dreth i Awdurdod Cyllid Cymru; nid yr ymwelydd sy'n gwneud y taliad hwnnw. Gall y busnes ddewis a ddylid codi tâl ar yr ymwelydd am hynny ai peidio, fel y gwyddoch chi'n iawn, a'r busnes sy'n atebol am wneud yn siŵr bod y taliad yn mynd drwodd i ACC. Onid yw hynny'n gywir?

The clue is in the name, isn't it? It's a 'visitor' levy. The visitor will pay the business and the business will pay the WRA. That is what will happen in practice and that is clear to anybody.521

And then Sam offered us this touching picture of visitors to Wales rushing out to eat at restaurants, enjoying tourism attractions in every part of Wales, and then saying to themselves, 'I'm not going to do that, because there's a visitor levy that will cost me less than a sausage roll. And because of that 80p, I'm not going to do all the things that Sam Rowlands said that I was planning to do. I've got to pay something that is less than half a cup of coffee, less than a bottle of water, and that is going to—'. [Interruption.] No, I've taken enough interventions from Conservative Members, and I don't think another one will help me very much.522

Look, it's surely true this is the most modest contribution that people will pay to make sure that the tourism industry in the place that they have chosen to visit, for all the reasons we know why Wales is such a great place to visit—that that place goes on being attractive to them. I share Rhun ap Iorwerth's optimism about Wales and about the tourism industry. I don't believe for a single moment that paying this modest levy will put people off from everything that Wales has to offer. That's the bleak view of Wales that the Conservative Party has at its core, and you've heard it time after time this afternoon. This modest Bill will do good, it will offer choice to local people, it's right that it proceeds onto the statute book, and I hope that Members will support it this afternoon.523

Mae'r cliw yn yr enw, onid yw e? Mae'n ardoll 'ymwelwyr'. Bydd yr ymwelydd yn talu'r busnes a bydd y busnes yn talu ACC. Dyna fydd yn digwydd yn ymarferol ac mae hynny'n glir i unrhyw un.

Ac yna cynigiodd Sam y darlun teimladwy hwn i ni o ymwelwyr â Chymru yn rhuthro allan i fwyta mewn bwytai, yn mwynhau atyniadau twristiaeth ym mhob rhan o Gymru, ac yna'n dweud wrth eu hunain, 'Dydw i ddim yn mynd i wneud hynny, oherwydd mae yna ardoll ymwelwyr a fydd yn costio llai na rholyn selsig i mi. Ac oherwydd yr 80c hwnnw, dydw i ddim yn mynd i wneud yr holl bethau y dywedodd Sam Rowlands yr oeddwn i'n bwriadu eu gwneud. Mae'n rhaid i mi dalu rhywbeth sy'n llai na hanner paned o goffi, llai na photel o ddŵr, ac mae hynny'n mynd i—'. [Torri ar draws.] Na, rydw i wedi cymryd digon o ymyriadau gan Aelodau Ceidwadol, a dydw i ddim yn credu y bydd un arall yn fy helpu i ryw lawer.

Edrychwch, siawns ei bod yn wir mai dyma'r cyfraniad mwyaf cymedrol y bydd pobl yn ei dalu i wneud yn siŵr bod y diwydiant twristiaeth yn y lle maen nhw wedi dewis ymweld ag ef, am yr holl resymau rydyn ni'n gwybod pam mae Cymru'n lle mor wych i ymweld ag ef—bod y lle hwnnw'n parhau i fod yn ddeniadol iddyn nhw. Rwy'n rhannu optimistiaeth Rhun ap Iorwerth am Gymru ac am y diwydiant twristiaeth. Dydw i ddim yn credu am un eiliad y bydd talu'r ardoll gymedrol hon yn atal pobl rhag ymgymryd â phopeth sydd gan Gymru i'w gynnig. Dyna'r farn llwm o Gymru sydd gan y Blaid Geidwadol yn ei chraidd, ac rydych chi wedi ei glywed dro ar ôl tro y prynhawn yma. Bydd y Bil cymedrol hwn yn gwneud daioni, bydd yn cynnig dewis i bobl leol, mae'n iawn ei fod yn mynd ymlaen i'r llyfr statud, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ei gefnogi y prynhawn yma.

18:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly byddaf i'n gohirio hynny tan y cyfnod pleidleisio.524

The proposal is to agree the motion under item 8. Does any Member object? [Objection.] There are objections, and therefore I will defer voting until voting time.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

Gan fod y bleidlais yna ar egwyddorion cyffredinol y Bil wedi cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio, byddaf i hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y penderfyniad ariannol sydd yn gysylltiedig.525

As that vote on the general principles of the Bill has been deferred until voting time, I will also defer the vote on the financial resolution related to it. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

Cynnig ar gyfer Dadl Frys
Proposal for an Urgent Debate

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cynnig ar gyfer dadl frys, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, dwi wedi derbyn cais gan Sioned Williams i wneud cynnig am ddadl frys. Sioned Williams.526

The next item is a proposal for an urgent debate, and in accordance with Standing Order 12.69, I have accepted a request from Sioned Williams to move a proposal for an urgent debate. I call on Sioned Williams.

Cynnig

Cynnig bod y Senedd, o dan Reol Sefydlog 12.69, yn ystyried effaith diwyigadau lles diweddar y Canghellor fel mater brys sydd o bwys cyhoeddus.

Motion

To propose that the Senedd, under Standing Order 12.69, consider the impact of the Chancellor’s recent welfare reforms as a matter of urgent public importance.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Llywydd. The welfare reforms announced by the Chancellor as part of the UK Government's spring budget could push an additional 50,000 children into poverty, according to the Government's own assessment. Initial analysis from the Resolution Foundation said that the combination of a weak economic outlook and benefit cuts that fall disproportionately on lower income families means that the average income for the poorest half of households is on track to fall by £500 on average over the next five years. Disability charities and campaigners have renewed their criticisms of the personal independent payment and the restricting of eligibility of PIP and the freezing of the health elements of universal credit, and say this will do nothing to help get people into work.527

Whatever your view of the Chancellor's reforms, the indisputable fact is that we have no official assessment of the impact of these reforms and the impact that they'll have on the people of Wales or on the Welsh Government's budget. This is evidenced by a letter from the First Minister to the Secretary of State for Work and Pensions, in which she asked the UK Government to provide a Wales-specific assessment, and also in a tv interview, in which the Secretary of State for Wales defended the 'England and Wales' status of the assessment. We deserve better than this after a quarter of a century of devolution.528

The First Minister has been in receipt of a response from the Secretary of State for Work and Pensions since last week, but it's taken these benches for its contents to be made public by this afternoon. And surprise, surprise, there is no assessment of the impact of the welfare reforms on Wales, no disaggregated data, no specific mitigation measures offered, considering that Wales will be disproportionately hit by these reforms. Liz Kendall's letter also refers to a substantial piece of correspondence from the Cabinet Secretary for Social Justice. For full transparency, this Senedd should have sight of that letter also.529

Taken together, Llywydd, the so-called partnership in power has failed its test: one end of the partnership failing in its duty to provide an assessment, the other toothless in persuading it to do so. Members from all sides of the Chamber have voiced their concerns about the Chancellor's plans, and Members deserve timely and adequate opportunity to scrutinise their impact and the Welsh Government's response to them. I've seen many Members talk about the fact that the Green Paper is the start of the conversation and, in fact, Eluned Morgan, the First Minister, says that in her letter to Liz Kendall. What we need to understand, for example, is that the Department for Work and Pensions is not consulting on 12 policy decisions through the Green Paper, including only awarding the daily living part of PIP if you score at least four points in one daily living activity. I'm sure many Members have had e-mails of people really worried about that change. It's not being consulted on.530

Diolch, Llywydd. Gallai'r diwygiadau lles a gyhoeddwyd gan y Canghellor fel rhan o gyllideb wanwyn Llywodraeth y DU wthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi, yn ôl asesiad y Llywodraeth ei hun. Dywedodd dadansoddiad cychwynnol gan y Resolution Foundation fod y cyfuniad o ragolygon economaidd gwan a thoriadau i fudd-daliadau sy'n disgyn yn anghymesur ar deuluoedd incwm is yn golygu bod yr incwm cyfartalog ar gyfer hanner tlotaf yr aelwydydd ar y trywydd iawn i ostwng £500 ar gyfartaledd dros y pum mlynedd nesaf. Mae elusennau ac ymgyrchwyr anabledd wedi adnewyddu eu beirniadaeth o'r taliad annibynnol personol a chyfyngu ar gymhwysedd PIP a rhewi elfennau iechyd credyd cynhwysol, ac yn dweud na fydd hyn yn gwneud dim i helpu i gael pobl i mewn i waith.

Beth bynnag yw eich barn chi am ddiwygiadau'r Canghellor, y ffaith ddiamheuol yw nad oes gennym unrhyw asesiad swyddogol o effaith y diwygiadau hyn a'r effaith y byddan nhw'n ei chael ar bobl Cymru nac ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Ceir tystiolaeth o hyn mewn llythyr gan y Prif Weinidog at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, lle gofynnodd i Lywodraeth y DU ddarparu asesiad penodol i Gymru, a hefyd mewn cyfweliad teledu, lle amddiffynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru statws 'Cymru a Lloegr' yr asesiad. Rydyn ni'n haeddu gwell na hyn ar ôl chwarter canrif o ddatganoli.

Mae'r Prif Weinidog wedi derbyn ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ers wythnos diwethaf, ond mae wedi cymryd y meinciau hyn i'w gynnwys gael ei gyhoeddi erbyn y prynhawn yma. A dyna syndod, does dim asesiad o effaith y diwygiadau lles ar Gymru, dim data wedi'i wahanu, dim mesurau lliniaru penodol wedi'u cynnig, o ystyried y bydd Cymru'n cael ei tharo'n anghymesur gan y diwygiadau hyn. Mae llythyr Liz Kendall hefyd yn cyfeirio at ddarn sylweddol o ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Er mwyn cael tryloywder llawn, dylai'r Senedd hon weld y llythyr hwnnw hefyd.

Gyda'i gilydd, Llywydd, mae'r bartneriaeth mewn grym, fel y'i gelwir hi, wedi methu ei phrawf: mae un pen o'r bartneriaeth yn methu yn ei dyletswydd i ddarparu asesiad, a'r llall â dim grym i'w pherswadio i wneud hynny. Mae Aelodau o bob ochr i'r Siambr wedi mynegi eu pryderon am gynlluniau'r Canghellor, ac mae'r Aelodau'n haeddu cyfle amserol a digonol i graffu ar eu heffaith ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt. Rwyf wedi gweld llawer o Aelodau'n sôn am y ffaith mai'r Papur Gwyrdd yw dechrau'r sgwrs ac, yn wir, mae Eluned Morgan, y Prif Weinidog, yn dweud hynny yn ei llythyr at Liz Kendall. Yr hyn y mae angen i ni ei ddeall, er enghraifft, yw nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymgynghori ar 12 penderfyniad polisi drwy'r Papur Gwyrdd, gan gynnwys ond yn dyfarnu'r rhan bywyd bob dydd o PIP os ydych chi'n sgorio o leiaf bedwar pwynt mewn un gweithgaredd bywyd bob dydd. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau wedi cael negeseuon e-bost gan bobl sy'n poeni'n fawr am y newid hwnnw. Nid oes ymgynghori arno.

18:40

You've had your three minutes now, so if you can conclude.531

Rydych chi wedi cael eich tair munud nawr, felly os gallwch chi ddod i ben.

Okay, I'm finishing. So, one written statement from the Cabinet Secretary for finance is inadequate. An exchange of letters by two Labour colleagues, with little transparency, is unacceptable. I therefore urge Members to vote in support of the motion, which will give the Senedd a voice on this most important of matters, which will impact so many of our constituents.532

Iawn, rwy'n gorffen. Felly, mae un datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn annigonol. Mae cyfnewid llythyrau gan ddau gydweithiwr Llafur, heb fawr o dryloywder, yn annerbyniol. Felly, rwy'n annog Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig, a fydd yn rhoi llais i'r Senedd ar y mater pwysicaf hwn, a fydd yn effeithio ar gynifer o'n hetholwyr.

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt. 533

The Cabinet Secretary for Social Justice to reply to the debate. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 18:40:48
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. And can I say, at the outset, that we will be supporting the motion? And I would like to say a few words in response to this motion. So, I want to begin by acknowledging that welfare policy is, of course, a matter for the UK Government. But we know that the focus on disability benefits, as the First Minister has said, is causing serious concern amongst many people in Wales who are currently receiving personal independence payments. It is important that the information shared is correct, and that there is no misinformation being given. This is about people’s lives. And I want to reassure people that, in our engagement with the UK Government, we will continue to emphasise the need for those who will be affected by the welfare reforms to be properly supported. And I know the First Minister will share concerns, as she does, and has done, with the UK Government, and will always stand up for Wales. And, of course, I will share my letter as well—the letter that I wrote to the Secretary of State for Work and Pensions.534

But we also work with the UK Government so that the people of Wales are served by a welfare system that provides meaningful support to help those who can work into sustainable employment, and which offers an effective financial safety net for people who are unable to work.535

So, when we discuss benefit reforms, finally, Llywydd, it is my first priority to remember that this is fundamentally about people—people who are concerned about what the future holds. And it is important to note, as we said today, that there is an estimated £2 billion of unclaimed benefits in Wales every year, and how the Welsh Government is committed to ensuring that people in Wales claim every £1 to which they are entitled. Through our single advice fund services, people can access that advice on their rights, their entitlements, not only to personal independence payments, but to the other financial support they’re entitled to claim, on which, of course, we’ll expand tomorrow. Diolch yn fawr.536

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddweud, ar y dechrau, y byddwn ni'n cefnogi'r cynnig? A hoffwn ddweud ychydig eiriau mewn ymateb i'r cynnig hwn. Felly, rwyf eisiau dechrau trwy gydnabod bod polisi lles, wrth gwrs, yn fater i Lywodraeth y DU. Ond gwyddom fod y pwyslais ar fudd-daliadau anabledd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn achosi pryder difrifol ymhlith llawer o bobl yng Nghymru sy'n derbyn taliadau annibyniaeth personol ar hyn o bryd. Mae'n bwysig bod y wybodaeth a rennir yn gywir, ac nad oes unrhyw gamwybodaeth yn cael ei rhoi. Mae hyn yn ymwneud â bywydau pobl. Ac rwyf eisiau rhoi sicrwydd i bobl, yn ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU, y byddwn yn parhau i bwysleisio'r angen i'r rhai y bydd y diwygiadau lles hyn yn effeithio arnyn nhw gael eu cefnogi'n briodol. Ac rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog yn rhannu pryderon, fel y mae hi'n ei wneud, ac mae hi wedi ei wneud, gyda Llywodraeth y DU, a bydd bob amser yn sefyll dros Gymru. Ac, wrth gwrs, byddaf i'n rhannu fy llythyr i hefyd—y llythyr a ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.

Ond rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU fel bod pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu gan system les sy'n darparu cymorth ystyrlon i helpu'r rhai sy'n gallu gweithio i gael cyflogaeth gynaliadwy, ac sy'n cynnig rhwyd ddiogelwch ariannol effeithiol i bobl nad ydynt yn gallu gweithio.

Felly, pan fyddwn ni'n trafod diwygiadau budd-daliadau, yn olaf, Llywydd, fy mlaenoriaeth gyntaf yw cofio bod hyn yn ymwneud yn sylfaenol â phobl—pobl sy'n pryderu am y dyfodol. Ac mae'n bwysig nodi, fel y dywedom ni heddiw, bod amcangyfrif o £2 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn, a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob £1 y mae ganddyn nhw hawl iddi. Trwy wasanaethau ein cronfa gynghori sengl, gall pobl gael mynediad at y cyngor hwnnw ar eu hawliau, eu hawlogaethau, nid yn unig i daliadau annibyniaeth personol, ond i'r cymorth ariannol arall y mae ganddyn nhw hawl iddo, a byddwn ni, wrth gwrs, yn ymhelaethu ar hyn yfory. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig am ddadl frys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.537

The proposal is to agree the proposal for an urgent debate. Does any Member object? No, there are no objections. And therefore the motion is agreed. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

A chan fod y cynnig wedi ei dderbyn, mi fydd y ddadl yn cael ei chynnal yfory o dan eitem 5.538

And as the motion is agreed, the debate will be held tomorrow under item 5. 

10. Cyfnod Pleidleisio
10. Voting Time

Y cyfnod pleidleisio sydd nesaf. Ac oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu’r gloch, mi fyddaf yn symud at y pleidleisiau. Mae’r bleidlais gyntaf, felly, y prynhawn yma ar eitem 7—Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025. Dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae’r rheoliadau wedi eu derbyn.539

That brings us to voting time, and unless three Members wish for the bell to be rung, I will move to this afternoon’s vote. And the first vote this afternoon is on item 7—the Children Act 2004 (Children Missing Education Database) (Pilot) (Wales) Regulations 2025. I call for a vote on the motion. Open the vote. Close the vote. In favour 41, 15 abstentions, none against. And therefore the regulations are agreed.

Eitem 7. Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Item 7. The Children Act 2004 (Children Missing Education Database) (Pilot) (Wales) Regulations 2025: For: 41, Against: 0, Abstain: 15

Motion has been agreed

Eitem 8 sydd nesaf—egwyddorion cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yw hwn. A dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, 1 yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae’r cynnig yna wedi ei dderbyn.540

Item 8 is next—the general principles of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill. And I call for a vote on the motion tabled in the name of Mark Drakeford. Open the vote. Close the vote. In favour 40, 1 abstention, 15 against. And therefore the motion is agreed.

18:45

Eitem 8. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Item 8. The general principles of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill: For: 40, Against: 15, Abstain: 1

Motion has been agreed

Eitem 9 yw’r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Felly, pleidlais ar eitem 9 ar y cynnig yma yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, 1 yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae’r penderfyniad ariannol yna wedi ei dderbyn hefyd.541

Item 9 is the financial resolution in respect of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill. So, I call for a vote on the motion under item 9, tabled in the name of Mark Drakeford. Open the vote. Close the vote. In favour 40, 1 abstention, 15 against. And therefore the financial resolution is also agreed.

Eitem 9. Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Item 9. The financial resolution in respect of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill: For: 40, Against: 15, Abstain: 1

Motion has been agreed

Dyna ni, dyna ddiwedd y pleidleisio a diwedd y gwaith am heddiw.542

There we are, that concludes voting and brings our proceedings to a close for today. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.

The meeting ended at 18:45.