Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/04/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz. 

Ceisiadau Cynllunio i Storio Batris

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol gyda cheisiadau cynllunio i storio batris? OQ62574

Mi fyddem ni’n croesawu cynlluniau bach, yn sicr, yn y maes yma. Ond, wrth gwrs, rŷn ni’n gwybod hefyd fod yna nifer eithriadol o gynlluniau mawr ar y bwrdd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae yna 40 o gynigion ar raddfa fawr, a’r diweddaraf, ddim ond yr wythnos hon, yn 500 MW o gynllun sy'n cael ei gynnig yn Llaneurgain yn sir y Fflint. Nawr, mi fyddai’r rheini i gyd—jest y prosiectau mawr yma gyda’i gilydd—yn cynhyrchu 27 gwaith y lefel o ynni sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd.

Nawr, mae hyn i gyd yn mynd i wthio’r gyfundrefn gynllunio i’r eithaf, onid yw e, o safbwynt capasiti ac o safbwynt arbenigedd ac yn y blaen. Ac mae’r rhain hefyd yn glanio ar gymunedau yn ddisymwth iawn yn rhy aml o lawer, ac mae hynny’n creu rhyw fath o friction sydd hefyd ddim yn mynd i helpu’r drafodaeth. Ar yr un pryd, wrth gwrs, cymharol ychydig sydd yna o safbwynt rheoleiddio o ran y sector yma yn benodol. Does dim strategaeth genedlaethol. Does dim byd o ran lle neu beth sydd angen—lle mae nhw’n mynd i fynd, pryd, faint ohonyn nhw sy’n addas, ac yn blaen. Ac yn dilyn tanau a ffrwydradau mewn rhai safleoedd, rŷn ni’n gweld ardaloedd fel talaith Califfornia yn cyflwyno deddfwriaeth frys i wahardd datblygu cyfleusterau fel hyn o fewn 1 km i ble mae pobl yn byw.

A ydych chi, felly, Brif Weinidog, yn cytuno â fi bod angen i’r Llywodraeth weithredu ar frys yn y maes yma, i sicrhau nad yw’r free-for-all yma, fel rŷn ni’n gweld yn digwydd nawr, yn parhau, a bod llawer gwell reolaeth dros beth sy’n dechrau troi mewn i ryw fath o goldrush ynni mewn ardaloedd o Gymru?

Diolch yn fawr. Rŷn ni yn trawsnewid ein ffordd ni o gynllunio. Mae gyda ni eisoes yr Infrastructure (Wales) Act, ac roedd hwn wedi dod â phroses newydd mewn ar gyfer cynllunio ar gyfer prosiectau mawr. Ar ben hynny, dwi wedi dod â lot fwy o arian mewn ar gyfer cynllunio—£5 miliwn yn ychwanegol i helpu NRW, a hefyd arian ar gyfer y planning directorate a Planning and Environment Decisions Wales. Felly, mae lot o arian ychwanegol, ond y cynllun yna, y consultation yna, dyna'r lle i ni sicrhau bod gyda ni gynllun a fydd yn gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n cael y goldrush, fel rydych chi'n sôn amdani.

13:35
Toriadau i Fudd-daliadau Lles

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau i fudd-daliadau lles ar drigolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62582

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith cynlluniau Llywodraeth y DG i dorri budd-daliadau ar Gymru? OQ62580

Dwi'n deall eich bod chi wedi grwpio cwestiynau 2 a 5.

Dwi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gofyn a oes modd rhannu unrhyw ddadansoddiad sydd wedi'i wneud gan ei hadran o’r effaith berthnasol ar Gymru yn sgil newidiadau i’r system fudd-daliadau.

Diolch. Gaf fi gymryd munud i roi enghreifftiau i chi o bryderon llawr gwlad am y toriadau gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan i'r taliadau annibyniaeth personol, neu'r PIPs? Rai wythnosau nôl, bues i mewn digwyddiad yn Llanelli—grŵp People Speak Up ar gyfer pobl 50 oed ac uwch. Bues i'n siarad â phobl yn fanna am effaith y toriadau arnyn nhw. Roedd un wraig yn dweud, pe byddai'r PIP yn cael ei dorri, y byddai hi'n colli ei chartref. Roedd un arall yn dweud y byddai hi'n gorfod torri nôl ar brynu bwyd oherwydd y taliadau yma. Dyma ddifrifoldeb y sefyllfa sy'n wynebu pobl yn ein cymunedau ni, a dyna pam mae asesiad mor eithriadol o bwysig. Nawr, ddoe, aeth fy swyddfa i ati i weld faint o bobl yn ein rhanbarth ni sy'n derbyn y PIPs yma: Gwynedd, dros 7,000; Powys, bron i 9,000; Ceredigion, dros 4,000; sir Benfro, bron i 10,000; sir Gaerfyrddin, bron i 18,000. Pwy a ŵyr faint o bobl debyg i'r menywod y gwnes i gwrdd â nhw yn Llanelli a fydd yn wynebu caledi oherwydd y toriadau hyn?

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni, cyn sôn am ddim byd arall, yn deall ein bod ni'n sôn am bobl fan hyn. Pan fyddwn ni'n sôn am newidiadau, mae'n rhaid i ni ddeall bod pobl yn dioddef fan hyn, a bod angen i ni sefyll gyda nhw a gwrando arnyn nhw a gwneud yn siŵr ein bod ni'n siarad drostyn nhw.

13:40
13:45
13:50
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Darren Millar. 

13:55

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. [Torri ar draws.]

14:00
14:05
Fframwaith Cysylltiadau Rhynglywodraethol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar weithrediad y fframwaith cysylltiadau rhynglywodraethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2022? OQ62545

14:10
Tanau Gwyllt

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i atal tanau gwyllt yng Ngogledd Cymru? OQ62584

14:15

Dwi eisiau ategu lot o beth roedd Janet Finch-Saunders yn ei ddweud yn fanna, a diolch i’r gweithlu sydd wedi bod yn gweithio. Hwyrach y dylwn i ddatgan budd, oherwydd roedd yna dân mawr y tu ôl i’m nhŷ i. Roedd yr awyr yn goch yn y nos, ac rydym ni wedi cael nifer fawr o danau yn Nwyfor a Meirionnydd—Llwyngwril, Abersoch, Trawsfynydd, Islaw'r-dref a'r Bala ac yn y blaen. Y gwir ydy bod gennym ormod o dyfiant ar lot o’n hucheldiroedd ni erbyn hyn—tyfiant sych sydd wedi cynnig ei hun yn berffaith ar gyfer yr amgylchiadau yma, efo gormod o eithin, gormod o rug a llus a gwair sych. Ac ar ben hynny, does gennym ni ddim digon o dda byw ar ein hucheldiroedd er mwyn pori’r tir yna, er mwyn medru rheoli'r tir. Mae hyn felly yn dangos y perig o adael i dyfiant fynd yn wyllt, a hynny, wrth gwrs, ydy canlyniad ailwylltio. Ydych chi, felly, yn derbyn bod yn rhaid inni gael system rheoli tir, ac nad ailwylltio ydy'r ateb i hynny?

Wel, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni sicrhau bod y peth sy’n bwysig yw bod yna reolaeth, a dyna’r peth pwysicaf, ein bod ni'n gwybod beth sy’n digwydd ble, ac, er mwyn gwneud hynny, beth sydd gyda ni yw partneriaeth ffurfiol mewn lle rhwng yr heddlu, y FRS, NRW, y Met Office, y parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, ac mae'r rheini i gyd yn cydweithio i sicrhau eu bod nhw yn edrych ar sut i stopio'r pethau yma rhag digwydd.

Canlyniadau Iechyd yn Nwyrain De Cymru

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd yn Nwyrain De Cymru? OQ62549

14:20
Blaenoriaethau Trafnidiaeth ar gyfer Delyn

7. Beth yw blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Delyn? OQ62583

14:25
Datganoli Pwerau dros Ystad y Goron

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt y Llywodraeth ar ddatganoli pwerau dros Ystâd y Goron i Gymru? OQ62585

Ein safbwynt ni ers tro byd yw y dylai Ystad y Goron gael ei datganoli i Gymru, fel mae gwahanol gomisiynau annibynnol wedi argymell. Rŷn ni’n parhau i gael deialog agored ac adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe fyddwn ni’n dal ati i gyflwyno’r achos.

Wel, mae yna gonsensws Gymru gyfan bron iawn erbyn hyn, onid oes, o blaid datganoli Ystad y Goron i Gymru, a hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod 18 o'r 22 awdurdod lleol wedi cefnogi'r alwad i ddatganoli—19 os ŷch chi'n cynnwys Cyngor Caerdydd, wrth gwrs, sydd wedi cefnogi egwyddor y cynnig. Mae polau piniwn yn dangos bod 75 y cant o bobl Cymru yn cefnogi datganoli Ystad y Goron. Rŷch chi wedi cadarnhau ei fod e'n bolisi ar Lywodraeth Cymru. Mae o leiaf tair o'r pedair plaid yn y Senedd yma'n cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru. Yr unig rai sydd yn erbyn, erbyn hyn, wrth gwrs, yw'r Ceidwadwyr ac Aelodau Seneddol eich plaid chi, y Blaid Lafur, yn Llundain. Ydych chi, felly, yn cytuno â mi ei fod e'n hen bryd i'ch cyd-Aelodau Llafur chi yn San Steffan ddechrau gwrando, darllen yr ystafell a rhoi pobl Cymru yn gyntaf?

Wel, gallan nhw siarad dros eu hunain; dwi'n mynd i siarad dros fy mhlaid i yn y Senedd yma, ac a gaf fi ei gwneud hi'n hollol glir ein bod ni yn cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru?

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:27:18
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae dadl yfory ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru wedi ei gohirio. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, rydym ni newydd glywed nifer fawr o Aelodau yn codi cwestiynau ynglŷn â thannau gwyllt; mae o'n rhywbeth sydd wedi effeithio ar nifer o ardaloedd, gan gynnwys fy rhanbarth i. Dwi'n nodi atebion y Prif Weinidog, ond, mewn amryw achosion, o ran rheoli'r tannau, nid ffermwyr sydd yn gyfrifol am hyn, ac mae'r rheswm yn ansicr dros ben. Buaswn i'n hoffi gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd, yn benodol o ran y tannau sydd yn agos at rai o'r tipiau glo i roi sicrwydd nad oes yna unrhyw ansefydlogi wedi bod. Yn amlwg, mae hwn yn rhywbeth sy’n bryderus dros ben i drigolion yn yr ardaloedd hyn, ac mi fyddwn i yn hoffi eglurder gan y Llywodraeth o ran sut maen nhw’n cydweithio efo’r gwasanaeth tân i sicrhau nad oes yna unrhyw ansefydlogi wedi bod.

14:30
14:35
14:40
14:45
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, Ken Skates. 

14:50
14:55
15:00
15:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:10
15:15
15:20
15:25
15:30
15:35
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithio i bawb

Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, teithio i bawb. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.

15:45
15:50
15:55
16:00
16:05
16:10
16:15
16:20
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.

16:30
16:35

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad, a dwi am ddechrau drwy ei chymeradwyo am y cyhoeddiad yma. Dwi’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran pob Aelod yma pan fyddaf yn dweud ein bod ni i gyd yn dymuno gweld y cynllun yma yn dwyn ffrwyth, er, hwyrach, fod yna amheuaeth am hynny ar ôl y cyfraniad ynghynt.

Dwi’n croesawu’r ffaith bod y cynllun yn seiliedig ar gyfnod o ddegawd. Dyma’r union fath o weledigaeth hirdymor sydd ei hangen, a beth bynnag ydy canlyniad yr etholiad flwyddyn nesaf, dwi’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth newydd o ba bynnag liw yn parhau gyda’r trywydd sydd wedi cael ei osod allan yma.

Y realiti trist ydy bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn llawer rhy gyffredin yn ein cymdeithas. Fe gollais i fy nghefnder, a oedd yn union yr un oedran a fi, i hunanladdiad dros 20 mlynedd yn ôl, ond mae'r boen yn dal i frifo heddiw. Os medrwn ni gymryd y camau i atal teuluoedd eraill rhag dioddef y boen yma, yna mae am fod yn beth da.

Yn ôl ystadegau diweddaraf yr ONS, mae graddfeydd hunanladdiad ar eu huchaf am chwarter canrif, ac yn uwch yng Nghymru ar gyfartaledd o'i chymharu â Lloegr. Hunanladdiad ydy'r achos pennaf o farwolaeth ymysg dynion o dan 50 oed hefyd. Mae'n amlwg taw ehangu a chryfhau gwasanaethau iechyd meddwl ddylai fod y brif flaenoriaeth yn hyn o beth, yn enwedig wrth i ni ystyried bod capasiti gwelyau ar gyfer afiechydon iechyd meddwl difrifol wedi gostwng 37 y cant ers 2010. Tra dwi'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi cynnal y llinell gyllidol neilltuedig ar gyfer iechyd meddwl unwaith eto, ydych chi, Weinidog, yn hyderus bod hyn yn ddigon yng nghyd-destun y patrymau yma dwi wedi sôn amdanyn nhw, ac oes yna dargedau penodol yn y cynllun er mwyn adfer y dirywiad capasiti penodol yma?

Fel dwi wedi sôn yn gyson, mae casglu data o ansawdd da yn effeithiol ac yn amserol yn allweddol hefyd o ran cynllunio'r gwasanaethau a'r gweithlu priodol. Ond mae oedi wrth gofrestru adroddiadau crwner ar hunanladdiadau yn uwch yng Nghymru o’i chymharu â Lloegr, sydd, wrth gwrs, yn tanseilio gwerth a dibynadwyedd ystadegau cyhoeddedig. Felly, gaf i ofyn sut mae'r cynllun yma'n bwriadu mynd i'r afael a'r mater hwn ac a all y Gweinidog roi unrhyw gerrig milltir penodol ar leihau'r bwlch gyda Lloegr?

Mae ffocws ataliadol y cynllun i'w groesawu, ac un o'r mannau sydd angen sylw penodol ydy'r agweddau diwylliannol niweidiol sy'n rwystr i gymaint o bobl rhag estyn allan am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mi fyddwch yn ymwybodol o sylwadau Mind Cymru dros y penwythnos, a oedd yn sôn am yr agweddau tuag at iechyd meddwl yng Nghymru, ac yn dangos bod lefelau o stigma tuag at iechyd meddwl ar eu huchaf erioed, gyda'r nifer o bobl sy'n credu bod y rhai sy'n byw gydag afiechyd meddwl yn faich ar gymdeithas wedi dyblu yn y pum mlynedd diwethaf. Mae'n amlwg, felly, er gwaethaf y cynnydd rydym wedi ei weld o ran codi ymwybyddiaeth ar faterion iechyd meddwl, fod yna angen clir am waith parhaol o addysgu cyhoeddus. A fydd y cynllun yma yn cydweithio, felly, gyda rhaglenni eraill y Llywodraeth—yn y maes addysg, er enghraifft—er mwyn mynd i'r afael â hyn?

Ar yr un thema, mae adnabod afiechydon iechyd meddwl yn gynnar mewn bywyd yn allweddol ar gyfer agenda ataliadol effeithiol, ond y gwir ydy bod plant a phobl ifanc yn dioddef rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau sy'n gymharol uwch na'r rhai sy'n wynebu oedolion. Un o'r prif rwystrau mae rhanddeiliaid wedi bod yn uwcholeuo ydy'r ffaith nad oes darpariaeth ddigonol ar gyfer y cyfnod trosiannol yna rhwng llencyndod hwyr a bod yn oedolyn, gyda sawl un yn syrthio rhwng y craciau o ganlyniad. Felly, pa ystyriaeth ydych chi, Weinidog, wedi'i roi ynglŷn â sefydlu haen o wasanaethau penodol ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed er mwyn galluogi system sydd yn ymateb yn fwy esmwyth i'r trosiant rhwng plentyndod a bod yn oedolyn?  

Ac i gloi, fel gyda chynifer o gyflyrau iechyd eraill, allwn ni ddim dianc rhag y ffaith bod cyflyrau iechyd meddwl yn perthyn i dlodi hefyd. Heb fynd i'r afael â thlodi, yna allwn ni ddim mynd i'r afael ag afiechydon meddwl. Yn anffodus, mae bwriadau Llywodraeth San Steffan i dorri a chwtogi ar daliadau credyd cynhwysol a PIP am wthio mwy o bobl i dlodi, ac am roi poen meddwl acíwt i nifer o'n pobl fwyaf bregus. Felly, ydych chi'n cydnabod y bydd cyflawni'r cynllun yma, er mor deilwng eu hamcanion, am fod gymaint yn anoddach o ganlyniad i'r toriadau diweddaraf i'r system lles, a beth ydych chi am ei wneud i ynysu gweledigaeth y cynllun rhag penderfyniadau San Steffan cyn belled â phosib? Diolch. 

16:40
16:50
16:55
17:00
6. Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025

Eitem 6 yw Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025. Galwaf ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i wneud y cynnig—Vikki Howells.

Cynnig NDM8868 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025

Eitem 7, Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Lynne Neagle.

Cynnig NDM8869 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

17:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

17:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yr eitemau nesaf yw eitemau 8 a 9, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 8 a 9 yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân.

8. & 9. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)

Ac felly, os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, fe wnaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i wneud y cynigion yma—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8866 Mark Drakeford

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).

Cynnig NDM8867 Mark Drakeford

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n symud y cynigion o flaen y Senedd. Dwi eisiau dweud diolch yn fawr i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu gofalus ar y Bil, ac wrth gwrs dwi'n croesawu argymhelliad y Pwyllgor Cyllid fod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Dwi eisiau diolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn trafod gyda ni a chyfrannu at ein syniadau wrth inni ddatblygu'r ddeddfwriaeth.

Yn amlwg, mae rhai manylion yn adroddiadau'r pwyllgorau sydd angen eu hystyried yn ofalus. Dwi wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn barod, a byddaf i'n ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ôl y ddadl heddiw.

Mae dadl heddiw yn gofyn i'r Senedd gymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil. Byddaf yn canolbwyntio ar hynny i ddechrau. Fy mwriad wedyn yw ymateb i'r prif faterion polisi a gafodd eu codi yn ystod craffu Cyfnod 1.

17:20

Llywydd, mae’r Bil sydd o flaen y Senedd heddiw wedi elwa o gyngor a chefnogaeth llawer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys yr awdurdodau lleol a’r diwydiant twristiaeth. Dwi’n ddiolchgar am eu cymorth, a dwi’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y blynyddoedd i ddod. Dwi’n arbennig o ddiolchgar i gydweithwyr yma yn y Senedd sydd wedi cymryd rhan yn y broses graffu. Dwi wedi dweud sawl gwaith dros y blynyddoedd nad ydw i erioed wedi gweld Bil sydd heb gael ei wella gan y craffu sy’n digwydd yma, ac mae hynny’n wir am y Bil ardoll ymwelwyr, a dwi’n ei argymell i’r Senedd.

17:30

Diolch, Llywydd. Dwi'n falch o allu siarad yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sydd wedi cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil yma. Hoffwn i hefyd ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd i’n hymchwiliad, gan gynnwys pawb a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig a phawb a ddaeth i’r sesiynau tystiolaeth lafar. Clywsom ni amrywiaeth eang o safbwyntiau, ac roedd y rheini’n allweddol o ran llunio ein hargymhellion a’n casgliadau. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymgysylltiad ac am ei ymateb i’n hadroddiad yn dilyn hynny, ac rwy’n falch o weld ei fod wedi derbyn ein hargymhellion i gyd, un ai yn llawn neu mewn egwyddor.

Yn unol â'r dull arferol o graffu ar Filiau, gwnaethon ni ystyried y goblygiadau ariannol. Er ein bod ni ar y cyfan yn fodlon ag effaith ariannol y Bil fel y'i nodir yn y RIA, roedden ni'n cytuno bod y diffyg data uniongyrchol ar gyfer llywio amcangyfrifon costau yn siomedig. Gwnaethon ni nodi, yn benodol, yr effaith ariannol ar awdurdodau lleol, ac roedden ni’n argymell y dylai’r Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ag awdurdodau lleol ynglŷn â chostau parhaus ychwanegol, gan ddiwygio'r RIA ar ôl hynny.

Yn olaf, gwnaethon ni ystyried y costau a fyddai'n disgyn ar Awdurdod Cyllid Cymru o'r Bil, yn enwedig gan fod yr effaith ar ei wasanaethau yn parhau i fod yn aneglur, ac rydym yn galw am ragor o fanylion ynghylch a oes ganddo gapasiti digonol i ddelio â'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol cyn Cyfnod 3, gyda diwygiadau i'r costau a nodwyd mewn ymateb i'n hargymhellion, a gofynnaf iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd yn y maes hwn.

Rwy'n edrych ymlaen rŵan i glywed barn Aelodau eraill y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

17:40

Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a'r cyfansoddiad nawr—Mike Hedges.

17:45
17:50
17:55
18:00
18:05
18:10

Fel yr Aelod dros Arfon, dwi’n gwbl ymwybodol o’r budd economaidd sydd yn dod yn sgil twristiaeth, ond dwi hefyd yn gwybod am yr heriau a’r pwysau sy’n cael eu creu. Castell Caernarfon ydy un o brif atyniadau twristaidd Cymru, efo dros 200,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Mae’r Wyddfa yn fy etholaeth i hefyd, ac mae’n denu dros 600,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Rydyn ni, fel pobl leol, yn falch iawn o’r atyniadau yma ac rydym yn barod i’w rhannu nhw efo pobl o bob cwr o’r byd, ond maen nhw yn creu problemau mawr, yn enwedig yn ystod cyfnod yr haf. Mi fyddai rhoi’r pŵer i’r cyngor godi ardoll fechan yn arwain at wella profiadau'r ymwelwyr a phrofiadau'r bobl sydd yn byw yma drwy’r flwyddyn—arian a allai gael ei wario ar wella gwasanaethau sydd dan bwysau mawr ar adegau, o wagio biniau cyhoeddus i wella parcio a’r isadeiledd yn gyffredinol.

Dwi yn dymuno talu teyrnged i arweiniad Mark Drakeford. Diolch yn fawr i chi am fwrw ymlaen efo’r Bil yma ac am ddeall pwysigrwydd yr egwyddor o ddatblygu twristiaeth gynaliadwy. Wrth i ni drafod y camau nesaf, mae’n bwysig ein bod ni’n cadw golwg ar y nod a ddim yn rhoi ystyriaethau proses uwchlaw pwysigrwydd egwyddor yr hyn y mae’r Bil yma yn trio ei wneud—dwi'n meddwl mai neges i Mike Hedges a'r pwyllgor deddfwriaeth ydy honno yn bennaf.

Mae’n bwysig hefyd ein bod ni'n sicrhau y bydd y Bil yn rhoi sicrwydd bod y darpariaethau yma yn cael eu gweithredu. Felly, mi fuaswn yn licio holi pa ystyriaeth sy’n cael ei roi i ryw fath o backstop ar wyneb y Bil—er enghraifft, bod yn rhaid i’r gwaith o gofrestru bob llety gwyliau fod wedi’i orffen erbyn dyddiad penodol.

O ran yr argymhellion penodol gan y pwyllgorau, dwi hefyd yn pryderu am rai o’r materion sydd wedi cael eu codi. Er enghraifft, dwi yn credu bod angen eglurder am y pwerau cyfreithiol fydd gan Awdurdod Cyllid Cymru i ddelio efo honiadau nad ydy darparwr llety wedi cofrestru. Felly, efallai y bydd modd unioni hynny yn ystod Cyfnod 2.

Rydyn ni wedi bod yn trafod yr ardoll yn fan hyn y prynhawn yma, ond mae’r gofrestr yn hollbwysig. Mae gan y gofrestr swyddogaeth i sicrhau gwybodaeth ddefnyddiol iawn am natur llety gwyliau a’i effaith ar y stoc tai lleol. Dwi’n hynod o falch o weld ymrwymiad gan y Llywodraeth i gyflwyno Bil i roi trwyddedu llety ymwelwyr ar waith yng Nghymru, yn unol â’r cytundeb cydweithio efo fy mhlaid i. Mewn ymateb i argymhelliad 4 gan y Pwyllgor Cyllid, rydych chi'n cadarnhau y bydd angen i ddarparwyr llety gwyliau gael eu trwyddedu i’w galluogi i weithredu. Dwi'n gweld eich bod am ganolbwyntio ar ddarparwyr llety hunanddarpar—hynny yw, llety gosod tymor byr—yn y lle cyntaf. Mae hynny'n synhwyrol, ac yn sicr mi fyddai'n arwain at wella profiadau ymwelwyr a sicrhau eu bod nhw yn ddiogel. Dwi'n edrych ymlaen at weld y manylion a’r cynlluniau gweithredu pan fydd yr ail Fil yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Dwi'n derbyn bod hynny at eto, ond yn y cyfamser mae'n bleser gen i gefnogi egwyddorion y Bil llety ymwelwyr y prynhawn yma. Diolch.

18:15
18:20
18:25

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg nawr i ymateb i'r ddadl. 

Diolch i Siân Gwenllian am beth ddywedodd hi. Y bwriad yw i gael pob un ar y gofrestr erbyn 2028. So, mae dyddiad gyda ni. Wrth gwrs, dwi'n edrych ymlaen at yr ail Fil sy'n mynd i ddod o flaen y Senedd a dwi'n edrych ymlaen at Gyfnod 2, ble gallwn ni drafod un neu ddau o bethau mae Siân wedi eu codi'n barod.  

Dwi'n deall eich bwriad chi i gael pawb wedi eu cofrestru erbyn 2028, ond dydy hynna ddim ar wyneb y Bil. 

Dydy hi ddim ar wyneb y Bil, ond dwi'n barod i roi'r amserlen lan i'r Aelodau. Rŷm ni wedi trafod pethau gyda'r WRA. Maen nhw'n hyderus y gallan nhw wneud hynny o fewn y cyfnod dwi wedi esbonio y prynhawn yma. 

18:30
18:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly byddaf i'n gohirio hynny tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gan fod y bleidlais yna ar egwyddorion cyffredinol y Bil wedi cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio, byddaf i hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y penderfyniad ariannol sydd yn gysylltiedig.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig ar gyfer Dadl Frys

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cynnig ar gyfer dadl frys, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, dwi wedi derbyn cais gan Sioned Williams i wneud cynnig am ddadl frys. Sioned Williams.

Cynnig

Cynnig bod y Senedd, o dan Reol Sefydlog 12.69, yn ystyried effaith diwyigadau lles diweddar y Canghellor fel mater brys sydd o bwys cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

18:40

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 18:40:48
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig am ddadl frys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

A chan fod y cynnig wedi ei dderbyn, mi fydd y ddadl yn cael ei chynnal yfory o dan eitem 5.

10. Cyfnod Pleidleisio

Y cyfnod pleidleisio sydd nesaf. Ac oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu’r gloch, mi fyddaf yn symud at y pleidleisiau. Mae’r bleidlais gyntaf, felly, y prynhawn yma ar eitem 7—Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025. Dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae’r rheoliadau wedi eu derbyn.

Eitem 7. Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 8 sydd nesaf—egwyddorion cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yw hwn. A dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, 1 yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae’r cynnig yna wedi ei dderbyn.

18:45

Eitem 8. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 9 yw’r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Felly, pleidlais ar eitem 9 ar y cynnig yma yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, 1 yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae’r penderfyniad ariannol yna wedi ei dderbyn hefyd.

Eitem 9. Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ni, dyna ddiwedd y pleidleisio a diwedd y gwaith am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.