Y Cyfarfod Llawn
Plenary
26/10/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths.
1. Pa adnoddau ariannol ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i'w helpu i ddelio â'r argyfwng costau byw? OQ58608
Yn yr adolygiad o wariant, gwnaethom y defnydd mwyaf posibl o'r holl gyllid a oedd ar gael i ni. Blaenoriaethais gyllid ar gyfer llywodraeth leol yng nghyllideb Cymru fel bod pob awdurdod yng Nghymru yn cael cynnydd o fwy nag 8.4 y cant yn eu cyllid.
Diolch am yr ateb.
Mae pobl yn ofni'r posibilrwydd o fethu fforddio'r pethau sylfaenol y gaeaf hwn, ac nid oes ganddynt lawer o ffydd y bydd Prif Weinidog hynod gyfoethog yn gwneud unrhyw beth drostynt. Yn absenoldeb cymorth digonol gan San Steffan, mae angen defnyddio'r cronfeydd sydd gan awdurdodau lleol wrth gefn ar gyfer diwrnodau glawog. Yn anffodus, mae gennych awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn cadw cronfeydd enfawr gwerth £180 miliwn wrth gefn. Cynyddodd y pentwr hwn o arian, sy’n fwy na chronfeydd wrth gefn yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru, £16 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig. Dyma pam fod fy nghyd-aelod o Blaid Cymru, y cynghorydd Greg Ead, wedi galw am gynyddu cronfa galedi costau byw cyngor sir Caerffili o £3 miliwn i £10 miliwn. A ddylai’r Llywodraeth osod terfyn ar feintiau cronfeydd wrth gefn er mwyn atal awdurdodau lleol Scrooge-aidd rhag eistedd ar gronfeydd enfawr o arian?
Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n ddisgrifiad teg o awdurdodau lleol a'r ffordd y maent yn ymdrin â'u cronfeydd wrth gefn. Ond a bod yn gwbl onest, rwy’n falch fod awdurdodau lleol, yn gyffredinol, mewn sefyllfa well o lawer nag y byddent wedi bod fel arall, ac mae hynny’n rhannol oherwydd y £50 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gennym i lywodraeth leol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ac roedd hynny i'w helpu i reoli eu cyllideb mewn ymateb i bwysau cynyddol chwyddiant a phwysau ar wasanaethau roeddent yn ei nodi ac yn ei deimlo bryd hynny.
Ond credaf fod angen inni feddwl am gronfeydd wrth gefn mewn perthynas â chyllideb gyffredinol llywodraeth leol. Ac yn sicr, ar lefel Cymru gyfan, y dehongliad ehangaf o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy—a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig—yw 26 y cant o gyfanswm y gwariant blynyddol. Felly, dim ond tri mis o ddarpariaeth ar gyfer holl gostau llywodraeth leol yw hynny. Felly, rwy'n falch fod awdurdodau lleol mewn lle gwell nag y byddent wedi bod fel arall diolch i'r cyllid ychwanegol y bu modd i ni ei ddarparu. Ond ar yr un pryd, mae'n rhaid imi ddweud bod cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn wahanol i sefyllfa cronfeydd wrth gefn cyffredinol, oherwydd, wrth gwrs, bydd awdurdodau lleol wedi clustnodi cyllid ar gyfer gwahanol bethau, yn enwedig ein buddsoddiad yn y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy a'r rhaglen ysgolion newydd ac ati.
Diolch i Peredur Owen Griffiths am gyflwyno’r cwestiwn hwn. Roeddwn yn awyddus i sôn hefyd am y pwynt ynglŷn â chronfeydd wrth gefn, gan y credaf ei fod yn bwysig, ac rydych yn llygad eich lle—nid yw pobl o reidrwydd yn deall y diffiniad o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy, yn enwedig y cynghorau sy’n eu galw’n gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy ac yna byth yn eu defnyddio. Felly, yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, roedd gan gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn 2019-20, gyfanswm o £288 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn. Yn 2021, cynyddodd y ffigur hwnnw i £400 miliwn. A wnewch chi egluro pam fod y tri chyngor hynny, dau ohonynt yn cael eu rhedeg gan eich plaid, wedi ychwanegu £110 miliwn at eu cronfeydd defnyddiadwy mewn blwyddyn, ac a ydych chi'n cefnogi hynny?
Yn sicr, gallaf egluro hynny, Lywydd, a'r rheswm yw ‘y pandemig’, a dyna un o’r rhesymau pam y darparwyd cyllid ychwanegol sylweddol i lywodraeth leol drwy’r pandemig. Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd awdurdodau lleol, o ystyried y bwlch enfawr yn y cyllid y maent wedi'i nodi, nid yn unig ar gyfer eleni, ond ar gyfer y blynyddoedd i ddod hefyd, yn edrych ar y cronfeydd wrth gefn hynny. Ond gadewch inni gofio, dim ond unwaith y gallwch wario’r cronfeydd wrth gefn hynny, felly pan fyddaf yn clywed galwadau, er enghraifft, am gynyddu cyflogau a phwysau eraill, dim ond unwaith y gallwch ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn hynny, a gwn y bydd awdurdodau lleol yn awyddus i ddefnyddio'r cronfeydd hynny'n ofalus iawn. Ond nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am ddarparu cyllid ychwanegol sylweddol i awdurdodau lleol drwy'r pandemig, ac a dweud y gwir, rwy'n falch eu bod mewn sefyllfa well nag y byddent wedi bod fel arall pe baem wedi penderfynu peidio â gwneud hynny.
Yn y pythefnos diwethaf, roedd Tom Giffard a minnau mewn sesiwn friffio gydag arweinwyr llywodraeth leol o’n hardal ni, ond hefyd ar lefel genedlaethol yng Nghymru, yn cael asesiad eithaf di-flewyn ar dafod am gyflwr difrifol cyllid awdurdodau lleol. Ac wrth gwrs, gwyddom hefyd fod hyn yn wir ar draws y sector gwirfoddol a'r trydydd sector hefyd, ar adeg pan nad yw'r angen am y gwasanaethau cyhoeddus hynny a chyrhaeddiad y trydydd sector i'r cymunedau erioed wedi bod mor ddifrifol. Felly, a gaf fi ofyn i chi, gan anghofio'r sôn am y cronfeydd wrth gefn, sydd a dweud y gwir, os ydynt ar gael, a bod ychydig o arian ynddynt, yn mynd i gael eu defnyddio'n eithaf cyflym bellach, sut y gallwn dargedu adnoddau gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau, ar draws y sectorau, fod awdurdodau lleol a sefydliadau lleol, rhanbarthol a hefyd y trydydd sector yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ac yn cydweithio er mwyn gwneud hynny, gan y gwyddom y bydd yn rhaid inni wneud i'r arian hwn, boed yn gronfeydd wrth gefn ai peidio, ymestyn yn llawer pellach nag erioed o'r blaen?
Cytunaf yn llwyr fod yn rhaid i’r ymagwedd fod yn un o bartneriaeth gymdeithasol o ran mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. A dyma un o'r rhesymau pam fod y Prif Weinidog wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet ar gostau byw, is-bwyllgor rwyf fi a Gweinidogion eraill yn ei fynychu, ond rydym hefyd yn gwahodd cynrychiolwyr o'r trydydd sector, llywodraeth leol, a phartneriaid cymdeithasol eraill i'r cyfarfodydd hynny, i sicrhau ein bod oll yn tynnu i'r un cyfeiriad ac yn gwneud y mwyaf o'n hadnoddau mewn ffyrdd sy'n ategu ein gilydd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i'm cyd-Aelodau mai dyna'n union yw'r dull a fabwysiadir gennym.
A chredaf y gallwn edrych hefyd ar rywfaint o’r gwaith y bûm yn ei wneud yn ddiweddar ar ein hymagwedd at bolisi grantiau. O'r blaen, byddai gennym grantiau un flwyddyn, a byddai hynny’n anodd iawn i’r trydydd sector yn enwedig, ond hefyd i eraill, gan gynnwys llywodraeth leol, o ran gallu cael golwg fwy hirdymor a strategol ar sut y maent yn gwario'u harian. Felly, rydym bellach wedi caniatáu i grantiau bara hyd at bum mlynedd—os gallant dreiglo o un flwyddyn i'r llall, ac mae'n rhaid iddynt fodloni profion meincnodi a diwydrwydd dyladwy eraill hefyd. Ond credaf fod hynny wedi helpu i roi’r olwg fwy hirdymor honno, sydd hefyd wedyn yn darparu gwell gwerth am arian.
Gaf i ddiolch hefyd i Peredur am godi'r mater yma?
Prynhawn da, Weinidog. Ers y pandemig, mae llawer o'n gweithwyr gofal wedi'i chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, ac rwy'n siŵr fod llawer ohonom wedi clywed am y sefyllfa y mae'r rhai sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n rhoi gofal ynddi. Ym mis Gorffennaf, gwnaeth gweinyddiaeth newydd Cyngor Sir Powys—grŵp o bleidiau gwleidyddol: Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a Gwyrddion; ac mae angen inni weithio gyda'n gilydd ar hyn, ni ddylai cyllid llywodraeth leol ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol, gan fod pob un ohonom yn adnabod y bobl sy'n derbyn y gwasanaethau hynny—godi costau teithio i 45c y filltir, yn unol â chostau teithio gweithwyr yr awdurdod lleol. Costiodd y pecyn hwnnw oddeutu £150,000 i’w roi ar waith, Weinidog. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych chi, y Llywodraeth, i gefnogi awdurdodau lleol i barhau â’r cyllid hwnnw ar gyfer gweithwyr gofal, i sicrhau eu bod yn darparu gofal cymdeithasol hanfodol i bobl agored i niwed? Diolch yn fawr iawn.
Felly, yn y lle cyntaf, rydym yn ceisio cael Llywodraeth y DU i ddeall pa mor bwysig o fewn CThEM yw codi'r taliad fesul milltir mewn perthynas â theithio sy'n gysylltiedig â gwaith. Felly, dyna'r ffordd gyntaf y ceisiwn fynd i'r afael â hyn, a gwn fod swyddogion fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, wedi bod yn weithgar yn eu trafodaethau gyda CThEM ynglŷn â hyn. Mae fy swyddogion innau wedi codi'r mater gyda'r Trysorlys hefyd, a fy mwriad yw codi'r mater gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys maes o law yn ogystal.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r arweinyddiaeth etholedig newydd yng Nghyngor Sir Fynwy? OQ58622
Cynhaliais gyfarfod rhagarweiniol gyda'r arweinydd newydd ym mis Awst. Ac rwyf hefyd yn cyfarfod â'r holl arweinwyr yn rheolaidd drwy ein cyfarfodydd bob pythefnos gyda bwrdd gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac ar wahân ar faterion fel diwygio trethiant. Rwyf hefyd wedi trafod heriau ariannol llywodraeth leol gyda dirprwy arweinydd sir Fynwy drwy’r is-grŵp cyllid.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Dwyrain Casnewydd yn cynnwys ardal Glannau Hafren, sy’n rhan o ardal Cyngor Sir Fynwy. Roeddwn yn falch iawn o weld Llafur yn ennill rheolaeth ar y cyngor yno ym mis Mai, am y tro cyntaf ers canol y 1990au. Gwn fod gan yr arweinydd newydd, Mary Ann Brocklesby, a’i chabinet gynlluniau uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r bwlch fforddiadwyedd mewn tai yn sir Fynwy. Mae’r ardal wedi dioddef yn sgil tanfuddsoddi hanesyddol mewn tai fforddiadwy, ac wedi bod yn or-ddibynnol ar landlordiaid preifat. Yn ddiweddar, cymeradwyodd y cyngor Llafur newydd gynlluniau ar gyfer tai fforddiadwy 100 y cant ar hen safle ysgol Cil-y-coed, a Chymdeithas Tai Sir Fynwy oedd y cynigydd a ffafrir. Mae hyn yn dangos uchelgais a gwaith cyngor newydd sir Fynwy, Weinidog. Ond tybed sut y gallwch chi fel Gweinidog cyllid, gan weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, weithio'n agos gyda'r arweinyddiaeth newydd, i'w cefnogi yn eu huchelgeisiau am fwy o dai fforddiadwy yn yr ardal hon?
Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths am godi’r mater hwn, ac rwy'n cydnabod yr hyn y mae’n ei ddweud o ran y ffaith bod prisiau eiddo'n uwch na’r cyfartaledd yn sir Fynwy, ac yn amlwg, mae cysylltiadau rhwng cyfleoedd gwaith a phrisiau tai uwch. Ond gall prisiau eiddo gael eu hystumio, wrth gwrs, gan berchnogaeth ail gartrefi, a hefyd gan nifer sylweddol o lety gwyliau tymor byr mewn ardal, a dyna pam fod y gwaith a wnawn mewn partneriaeth â Phlaid Cymru i fynd i’r afael â sefyllfa ail gartrefi yn wirioneddol bwysig, a chredaf y bydd yn cael effaith yn sir Fynwy.
Ond wrth gwrs, mae'n bwysig fod tai cymdeithasol o ansawdd da a thai fforddiadwy yn y sector rhentu preifat ar gael yn yr ardaloedd hyn, a chynlluniau fel yr hyn rydych wedi'i ddisgrifio, y gwn ei fod bellach wedi'i gadarnhau gan weinyddiaeth newydd Cyngor Sir Fynwy, yw’r union fath o uchelgais y mae’r Llywodraeth Cymru hon am ei weld er mwyn diwallu anghenion ein dinasyddion. Felly, gallaf roi sicrwydd i John Griffiths y byddaf i a’m cyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn bendant yn awyddus i gefnogi sir Fynwy yn eu huchelgeisiau.
Diolch i John Griffiths am godi hyn, a chroesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio o'r newydd ar sir Fynwy; yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny am 13 mlynedd pan oeddwn yn arweinydd. Ac rwyf hefyd yn falch iawn fod y weinyddiaeth Lafur newydd yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau a roddwyd ar waith gennym ni, felly diolch iddynt.
Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi rhoi pwyslais cyson, drwy gydol fy amser mewn llywodraeth leol, ac ers imi fod yma, ar bwysigrwydd ariannu teg, ac rwyf wedi herio’r fformiwla ariannu bresennol sawl gwaith. A gwn mai dim ond ddoe y dywedodd y Prif Weinidog, os yw llywodraeth leol yn dymuno cael newid i'r fformiwla, os byddant yn gofyn amdano, y byddwch yn gwneud hynny. Nawr, gwyddom na fydd tyrcïod yn pleidleisio dros y Nadolig, ac mae gan sawl arweinydd hyd at £208 miliwn o gronfeydd wrth gefn, tra bo gan eraill £30 miliwn o gronfeydd wrth gefn yn unig. Nid ydynt yn mynd i bleidleisio dros rywbeth sy'n disodli hynny. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a wnewch chi gymryd y cam cyntaf a galw comisiwn annibynnol ar y fformiwla ariannu? Gwyddom mai dim ond un gacen sydd, a'i bod yn annhebygol o fynd yn fwy, ond mae rhai pobl yn cael tafelli enfawr, ac mae eraill yn cael briwsion. Nid yw hynny’n deg, a chyfrifoldeb y Llywodraeth hon, gan weithio gydag awdurdodau lleol, yw newid hynny. A wnewch chi hynny? A wnewch chi alw'r comisiwn hwnnw?
Wel, Lywydd, mae’r cyllid refeniw craidd a ddarparwn i awdurdodau lleol bob blwyddyn yn cael ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy'n ystyried llwyth o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol yr awdurdodau hynny. Ac nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl fod unrhyw awdurdod, neu grŵp o awdurdodau, sydd ag unrhyw nodweddion daearyddol neu gymdeithasol penodol o dan anfantais yn sgil y fformiwla ariannu llywodraeth leol honno. Nid oes a wnelo hyn ag agenda wleidyddol. Nid oes a wnelo hyn â dylanwad gwleidyddol, a chaiff ei lywio gan ddata. Ac mewn gwirionedd, caiff y fformiwla ei gosod gan 70 o wahanol ddangosyddion o'r angen i wario, a chaiff y rhan fwyaf o hynny, sef 72 y cant o’r cyllid, ei ddiweddaru’n flynyddol. Ac wrth gwrs, i sicrhau lefel o annibyniaeth, mae gennym aelodau annibynnol yn yr is-grŵp dosbarthu i sicrhau nad oes tuedd o blaid nac yn erbyn buddiannau unrhyw awdurdod unigol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Fel y gwelsoch, o bosibl, ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, Weinidog, gwnaed gwerth cannoedd o bunnoedd o ddifrod i gar unigolyn a fu'n ymgeisydd etholiadol i gyngor Casnewydd yn 2022, ac nid dyna’r ymosodiad cyntaf ar ei eiddo, gyda'i gartref yn cael ei dargedu, hoelion yn cael eu gwthio i mewn i deiars ei gar, a throlio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr etholiadau cyngor a Senedd diweddar. Felly, o ystyried hyn, Weinidog, beth yw eich barn ynglŷn ag ymgeiswyr cynghorau, sy’n ddigon dewr i gynrychioli eu cymunedau, sy'n gorfod ymdopi â’r gamdriniaeth ffiaidd hon?
Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud—a gwn fod Sam Rowlands yn cytuno â mi ar hyn—fod yn rhaid inni barchu unrhyw un sy’n cynnig eu hunain fel ymgeisydd ar gyfer etholiad cyngor cymuned, cyngor tref neu gyngor sir, gan ei bod yn cymryd elfen o ddewrder i wneud hynny. Ac mae cam-drin unrhyw ymgeisydd yn gwbl annerbyniol, ac mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i atal hynny.
Un o'r pethau rwy'n falch iawn inni allu eu gwneud oedd sicrhau ein bod yn cael gwared ar yr angen i ymgeiswyr ddarparu eu cyfeiriad cartref yn gyhoeddus, sydd, yn fy marn i, yn darparu lefel o ddiogelwch a sicrwydd, er y gwn fod ymgeiswyr yn aml yn adnabyddus iawn beth bynnag yn eu cymunedau, felly mae’n rhaid inni gadw hynny mewn cof. Ac rydym hefyd yn gwneud gwaith ar hyn o bryd i edrych ar arolwg a wnaethom o aelodau'r cyhoedd i fesur eu dealltwriaeth o gynghorwyr a'r rôl y mae cynghorwyr yn chwarae yn eu cymunedau, i weld beth arall y gallwn ei wneud i helpu pobl i ddeall rôl cynghorwyr yn well, a gobeithio y gallai hynny fynd i'r afael â'r bwlch rhwng diffyg dealltwriaeth rhai pobl a’r ymroddiad gwirioneddol aruthrol sydd gan bobl i'r rolau hyn. Ac ni waeth a gânt eu hethol ai peidio yn y pen draw, credaf fod yn rhaid inni roi parch dyledus i'r bobl hynny am gynnig eu hunain.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac am amlinellu rhai o’r camau gweithredu sydd eisoes ar y gweill. Yn amlwg, nid mater diweddar neu fater unigol i un ymgeisydd yn unig yw hwn. Yn etholiadau mis Mai, gwelsom baent yn cael ei daflu dros geir a oedd yn eiddo i gynghorydd hirsefydlog yn Abertawe, a arweiniodd at ddifrod parhaol; gwelsom ddau gynghorydd yng Nghaerffili yn derbyn llythyrau difrïol, yn eu galw'n bob math o bethau, a bu'n rhaid i’r heddlu ymyrryd; yn ogystal, rhannodd cynghorydd o Gaerdydd, a oedd wedi bod yn gynghorydd yma ers amser maith, straeon erchyll am beth o’r gamdriniaeth y bu’n rhaid iddi ei hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, rydych eisoes wedi amlinellu rywfaint o'r gwaith a wnewch a'r camau a roddir ar waith gennych. Byddai'n dda gennyf ddeall pryd y disgwyliwch iddo ddwyn ffrwyth, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld nid yn unig dealltwriaeth o'r mater, ond y camau gweithredu hynny'n cael eu rhoi ar waith, gan fod hyn yn bwysig iawn, fel y dywedwch, ac fel y mae pob un ohonom yn cytuno, ein bod yn amddiffyn ein cynghorwyr lleol, ein hymgeiswyr lleol, rhag yr ymddygiad ffiaidd hwn.
Credaf mai un o'r pethau pwysig y mae'n rhaid inni eu gwneud hefyd yw helpu cynghorwyr i ddeall nad yw'r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol, oherwydd yn aml, mae tueddiad ar ran cynrychiolwyr etholedig i feddwl bod camdriniaeth yn rhan o'r swydd, ac ni ddylai fod o gwbl, a gwn fod pob un ohonom yn deall hynny yn y Siambr hon. A dyna un o'r rhesymau, unwaith eto, pam ein bod wedi adnewyddu 'Canllaw'r cynghorydd da' yn ddiweddar, ac mae hwnnw'n ymwneud i raddau helaeth â helpu'r cynghorwyr hynny i ddeall yr hyn sy'n dderbyniol a'r hyn nad yw'n dderbyniol, o ran yr ymateb a gânt, ac o bosibl, y gamdriniaeth a gânt, ac mae hefyd felly yn eu helpu i ddeall pa gymorth a allai fod ar gael iddynt. Felly, byddech yn disgwyl i awdurdodau lleol unigol roi cynlluniau priodol ar waith i gefnogi lles a llesiant y cynghorwyr hynny, ond hefyd i weithio mewn partneriaeth yn lleol â’r heddlu, a all ddarparu cymorth a chyngor ychwanegol, fel y bo'r angen, ar gyfer mathau mwy difrifol o gamdriniaeth, a thrais, bron iawn, mewn rhai achosion, fel yr hyn a ddisgrifiwyd gennych.
Ie. Diolch unwaith eto am hynny, Weinidog, ac mae’n braf gweld hynny. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom o amgylch y Siambr hon yn cytuno bod angen gwneud mwy a bod mwy'n cael ei wneud i sicrhau bod ein hymgeiswyr a'n haelodau etholedig yn cael eu hamddiffyn yn briodol. Ond unwaith eto, yn etholiad mis Mai, gwelsom 74 o seddi un ymgeisydd, gyda llawer o bobl yn awgrymu nad ydynt yn fodlon sefyll gan eu bod yn ofni, ar adegau, y gamdriniaeth a'r ymddygiad tuag at ymgeiswyr. Wrth gwrs, mae'r lefel hon o ddemocratiaeth mor hanfodol nid yn unig ar gyfer darparu gwasanaethau, ond hefyd fel enghraifft o unigolion etholedig yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny'n ddiduedd. Cawsom garfan newydd o gynghorwyr yn cael eu hethol yn etholiadau mis Mai, felly tybed pa waith y gallech fod yn ei wneud gyda hwy i sicrhau eu bod, yn eu swyddi etholedig erbyn hyn, yn teimlo'n hyderus i wneud rhai o'r penderfyniadau anodd hynny heb fygythiad gan bob math o bobl sydd, yn anffodus, yn rhan o'n cymuned?
Diolch unwaith eto am eich cwestiwn pwysig. Fel chithau, roeddwn yn siomedig gyda lefel y seddi un ymgeisydd. Credaf fod cael seddi a ymleddir a rhoi dewis i bobl leol yn beth cadarnhaol iawn, a dyna pam fod y gwaith a wnawn drwy ein rhaglen amrywiaeth a democratiaeth mor bwysig i ehangu mynediad at swyddi etholedig i bawb yn ein cymuned. Rydym wedi cyflwyno ein cronfa mynediad i swyddi etholedig, a fydd, gobeithio, yn cefnogi ystod ehangach o bobl i ddod yn ymgeiswyr, a chawsom rywfaint o lwyddiant gyda hynny. Fe'i gweinyddwyd yn yr etholiad diwethaf gan Anabledd Cymru, ond rydym yn ystyried bellach pa nodweddion gwarchodedig eraill y gallwn eu cynnwys yn y gwaith ehangach hwnnw hefyd. Ond gwn fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol unigol yn gweithio’n galed i gynorthwyo cynghorwyr newydd i ddeall y pethau hyn, a gobeithio, i’w cyfeirio at gymorth lleol os ydynt yn teimlo dan fygythiad neu eu bod yn cael eu tanseilio mewn unrhyw ffordd yn eu rôl benodol, ond rwy'n fwy na pharod i gael sgyrsiau pellach, os oes syniadau da ynglŷn â beth arall y gallwn ni neu awdurdodau lleol ei wneud yn y maes pwysig hwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gyda'i gilydd, mae'r pwysau ariannol sy'n cronni yn y system llywodraeth leol y tu hwnt i unrhyw beth a welsom erioed, yn ôl pob tebyg, er bod pwysau yn y flwyddyn ariannol gyfredol wedi'u gwrthbwyso i raddau gan setliad gwell na'r disgwyl ar gyfer eleni. Mae hynny'n teimlo fel byd gwahanol, onid ydyw—wyth mis yn ôl yn unig, pan gadarnhawyd y setliad hwnnw o 9.4 y cant.
Mae'n dod yn amlwg fod cynghorau lleol yng Nghymru eleni o bosibl yn wynebu pwysau ychwanegol o dros £0.25 biliwn yn ystod y flwyddyn, a disgwylir diffyg cronnol o dros £800 miliwn erbyn diwedd y cylch gwariant neu gyllido tair blynedd hwn. Mae pob awdurdod bellach yn nodi bylchau yn eu cyllideb, ac ar wahân i brofiad misoedd cynnar y pandemig COVID efallai, mae’r pwysau hyn sy’n cael ei wynebu yn ddigynsail. Felly, ni ellir gorbwysleisio’r risgiau i holl wasanaethau llywodraeth leol, gan gynnwys gwasanaethau statudol pwysig, megis addysg a gofal cymdeithasol. Felly, os yw’r gwasanaethau statudol hynny, fel sy’n cael ei awgrymu, yn wynebu toriadau sylweddol, pa drafodaethau a gawsoch, neu pa ystyriaeth a roddwch i gynghori awdurdodau lleol ynghylch pa wasanaethau statudol y dylent eu blaenoriaethu? Oherwydd mae llawer o'r cynghorau'n dweud wrthyf fod angen arweiniad clir arnynt gan Lywodraeth Cymru. Mewn hinsawdd lle na allant gyflawni'r hyn y disgwylir iddynt ei gyflawni, y neges a gaf yw bod gwir angen i Lywodraeth Cymru nodi'n glir beth y mae disgwyl i gynghorau ei flaenoriaethu er mwyn diogelu gwasanaethau allweddol.
Wel, rwyf wedi cael cyfle i drafod y materion hyn yn fanwl gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn ddiweddar iawn. Felly, fel rydych wedi'i glywed, rydym bellach yn cael cyfarfodydd gydag arweinwyr awdurdodau lleol bob pythefnos. Yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf, mewn gwirionedd, un o'r eitemau mwyaf oedd pwysau cyllidebol, a gwnaethant roi'r ffigurau hynny i mi yn y cyfarfod hwnnw. Cafodd yr is-grŵp cyllid gyfarfod hefyd, yr wythnos diwethaf neu’r wythnos cyn hynny, lle buom yn ymchwilio unwaith eto i’r ffigurau hynny’n fanylach. Yn amlwg, maent yn peri cryn bryder o ran y pwysau a wynebir.
Felly, dywedir wrthyf fod y meysydd allweddol yn cynnwys chwyddo cyflogau, costau ynni, ysgolion, gofal cymdeithasol, yr ymateb i’r sefyllfa yn Wcráin a materion ymfudo ehangach, ochr yn ochr â thai, digartrefedd, ac wrth gwrs, buddsoddiad cyfalaf a’r buddsoddiad cysylltiedig yn y newid yn yr hinsawdd—felly, llawer o feysydd pwysig yno. Mae rhai nad ydynt yn statudol, ond serch hynny, maent yn gwbl hanfodol. Felly, rydym yn cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei wneud yn ymarferol i’w cefnogi. Efallai mai un o’r pethau hynny fyddai eu cynorthwyo gyda'r ymarfer blaenoriaethu yn lleol. Rydym hefyd yn edrych ar y grantiau a ddarparwn i lywodraeth leol. Felly, caiff £1.2 biliwn o grantiau eu darparu i lywodraeth leol bob blwyddyn, ac mae llywodraeth leol yn dadlau efallai y dylai rhai o’r rheini fynd i’r grant cynnal refeniw yn hytrach na thrwy grantiau penodol, felly rwyf wedi dweud y byddwn yn trefnu trafodaethau â pha bynnag Weinidogion perthnasol sydd angen eu cynnwys. A hefyd, edrych eto ar gyfalafu rhai costau—maent wedi gofyn inni edrych ar hynny. Felly, rydym wedi mynd yn ôl at lywodraeth leol i ofyn am ragor o fanylion ynghylch y trafodaethau hynny. Felly, yn amlwg, rydym yn rhoi cymaint o gymorth ag y gallwn i lywodraeth leol ar adeg sy'n peri cryn bryder iddynt hwy ac i ninnau.
Iawn, wel, rydych chi'n blaenoriaethu popeth bron iawn, felly nid wyf yn siŵr a yw hynny'n bosibl, ond rwy'n falch fod yr ymgysylltu a'r drafodaeth yn digwydd, gan fod y neges yn glir fod angen iddynt wybod beth yw blaenoriaethau'r Llywodraeth ynghylch yr hyn y gofynnwch iddynt ei gyflawni o dan yr amgylchiadau hyn.
Rwy’n falch ichi ddweud eich bod yn edrych ar yr hyn y gallwch ‘ei wneud yn ymarferol’—eich geiriau chi—i gefnogi cynghorau lleol, gan eu bod yn ymwybodol iawn hefyd fod cyfrifoldebau a rolau a dyletswyddau ychwanegol yn dod tuag atynt gan Lywodraeth Cymru drwy reoliadau, drwy ddeddfwriaeth ac ati. Maent yn gweld pethau fel gorfodi’r gwaharddiad ar blastig untro, y gwn fod pob un ohonom—llawer iawn ohonom—am ei weld yn cael ei roi ar waith. Mae'n bur debyg y gallai hynny arwain at gostau ychwanegol. Meiddiaf ddweud bod rhoi'r terfyn cyflymder 20 mya ar waith hefyd yn golygu gwaith ychwanegol y mae angen ei wneud. Felly, mae cynghorau'n dweud yn glir, heb adnoddau ychwanegol, fod yn rhaid i rywbeth arall fynd.
Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod wedi ymrwymo naill ai i ddarparu'r adnoddau ychwanegol i gyflawni'r dyletswyddau newydd y mae'r Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau lleol eu cyflawni, neu os nad ydych yn darparu'r adnoddau ychwanegol hynny, a ydych yn trafod beth arall nad oes angen iddynt ei wneud er mwyn rhyddhau’r capasiti i gyflawni’r dyletswyddau ychwanegol hynny, neu'n wir, a yw’r Llywodraeth yn camu'n ôl, ac edrych ar y darlun ehangach, ac yn mynd ati'n rhagweithiol i amlinellu'r gwaith o gyflawni cyfrifoldebau newydd er mwyn ysgafnhau'r baich gwaith?
Gallaf weld bod llefarydd Plaid Cymru a minnau wedi bod yn cael yr un sgyrsiau ag arweinwyr llywodraeth leol yn ddiweddar, a’ch bod yn clywed yr un neges â minnau i raddau helaeth, sy’n beth cadarnhaol yn fy marn i. Unwaith eto, dyna un o'r pethau eraill rydym yn edrych arnynt o ran yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol i gefnogi llywodraeth leol mewn perthynas â'r disgwyliadau ychwanegol a osodwn ar lywodraeth leol, y pethau ychwanegol y gofynnwn iddynt eu gwneud, gan archwilio gyda hwy yn awr beth yn benodol—. Felly, rydych wedi enwi un neu ddau o'r meysydd penodol hynny, ond rydym wedi gofyn i swyddogion archwilio gyda llywodraeth leol beth yn benodol sy'n rhoi pwysau ychwanegol ar eu hadnoddau, ar eu hamser, ar eu cyllid ac ati, i weld a oes rhywbeth y gallwn ei wneud yn ymarferol i'w helpu yn y cyswllt hwnnw hefyd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi fod y trafodaethau hynny’n fyw iawn ar hyn o bryd.
3. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sut y gall helpu awdurdodau lleol i ddyfeisio cynlluniau wrth gefn i liniaru costau ynni uwch? OQ58616
Mae costau ynni cynyddol yn peri cryn bryder i gymunedau lleol, ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i roi camau ar waith i atal y cynnydd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar draws y sector cyhoeddus drwy fuddsoddi mewn sgiliau, effeithlonrwydd ynni, ymchwil, arloesi, datgarboneiddio a dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru.
Diolch, Weinidog. Mae Huw eisoes wedi sôn am y cyfarfod ar y cyd y gwnaethom ni fel Aelodau Gorllewin De Cymru ei fynychu gydag arweinwyr cynghorau ar draws ein rhanbarth, a hoffwn ddiolch i Mike Hedges am drefnu'r cyfarfod hwnnw. Mae realiti’r sefyllfa'n enbyd. Rydym yn wynebu toriadau mawr i wasanaethau cynghorau. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu, er enghraifft, her ariannol ddigynsail dros y blynyddoedd nesaf, ac maent yn amcangyfrif y gallai fod angen gostyngiadau gwariant o hyd at £20 miliwn yng nghyfnod ariannol 2023-24 er mwyn cydbwyso'r gyllideb. Nawr, er fy mod yn byw mewn gobaith y bydd y gyllideb sydd bellach wedi'i gohirio yn darparu rhywfaint o ryddhad—rwy'n hoffi meddwl fy mod yn optimistaidd bob hyn a hyn—pa waith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud gydag awdurdodau lleol i'w helpu i reoli eu cyllidebau, ond hefyd i helpu ein darparwyr trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol i reoli eu cyllidebau hwythau? Mae'n gyfnod anodd, mae pethau ar fin mynd yn anoddach, ond mae adegau fel hyn hefyd yn galw am gydweithio ar bob lefel i ddiogelu ein hetholwyr.
Rwy'n ategu eich diolch i Mike Hedges am drefnu’r drafodaeth. Gallaf ddweud ei bod yn drafodaeth a gafodd lawer o effaith, a hynny nid yn unig ar sail y papur trefn ar gyfer y cwestiynau heddiw; gwelaf fod y trafodaethau a gawsoch gyda llywodraeth leol wedi cael effaith wirioneddol o ran rhoi syniad clir i chi o'r mathau o bwysau sydd arnynt a'r bylchau y maent yn ceisio mynd i'r afael â hwy yn eu cyllidebau. Gwn eich bod yn arbennig o bryderus am gost ynni, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol. Mae'r awdurdodau lleol eu hunain mewn gwell sefyllfa yn y flwyddyn ariannol hon yn yr ystyr fod y rhan fwyaf ohonynt yn prynu eu hynni gan Wasanaeth Masnachol y Goron, felly maent wedi'u hamddiffyn yn y flwyddyn ariannol hon rhag prisiau ynni byd-eang anwadal. Ond ar hyn o bryd rydym yn asesu'r effaith ar brisiau a chyllidebau ar gyfer 2023-24, ac mae ein gweithwyr caffael proffesiynol yn Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio gyda chyflenwyr a Gwasanaeth Masnachol y Goron i gefnogi awdurdodau lleol fel y gallant gynllunio gyda rhywfaint o hyder o leiaf o ran y ffigurau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Gan fod llawer o gontractau awdurdodau lleol eisoes wedi’u cytuno, credaf ein bod yn llai pryderus eleni, fel y dywedaf, ond mae gennym bryderon gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn nesaf, a dyma pam ei bod yn wirioneddol bwysig fod adolygiad ynni Llywodraeth y DU yn cael ei gwblhau'n gyflym, fel y gallwn roi'r hyder hwnnw, ond hefyd ei fod o ddifrif yn ystyried yr effaith ar lywodraeth leol ac ar y trydydd sector, fel y nodwyd gennych, ac yn caniatáu iddynt barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y maent yn eu darparu. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom wedi cael trafodaethau ynglŷn â chost dim ond cadw’r goleuadau ymlaen mewn ysgolion, er enghraifft, sydd wedi mynd drwy’r to ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Felly, gwn fod y trafodaethau hynny’n fyw, a hoffwn roi sicrwydd i chi fod ein tîm caffael yn rhan o hynny.
Weinidog, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am bennu cyllidebau ysgolion, ac ynni yw un o’r costau mawr y mae ein hysgolion yn eu hwynebu. Mewn llawer o ysgolion, gwelwn hen foeleri mawr sy'n ddrud iawn i'w rhedeg. Pa asesiadau a wnaethoch gydag awdurdodau lleol o’r costau sy’n wynebu ysgolion bellach wrth inni edrych tua'r chwe mis a’r 12 mis nesaf? A pha fesurau sydd dan ystyriaeth gennych i sicrhau y gall ein hysgolion gadw’n gynnes? Diolch.
Wel, wrth gwrs, y peth gorau a allai ddigwydd, mewn perthynas â chadw ysgolion yn gynnes, fyddai i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed y Ceidwadwyr yn griddfan yn uchel, ond dyna fyddai'r ateb gorau i sicrhau bod yna bris fforddiadwy am ynni mewn ysgolion. Ni fyddai hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru'n ymwrthod â'i chyfrifoldeb. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw camu i'r adwy mewn perthynas â phrisiau ynni. Ni allai Llywodraeth Cymru gyflwyno treth ffawdelw, hyd yn oed pe bai eisiau gwneud hynny, oherwydd nid oes gennym y pwerau i wneud hynny. Mae hwnnw'n rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU fod yn ei wneud ar hyn o bryd.
Yn ffodus, rydym wedi cael trafodaethau am gronfeydd wrth gefn yn gynharach yn y sesiwn gwestiynau hon, ac mae cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion yn edrych yn iach. Felly, bydd rhai ysgolion yn gallu gwneud buddsoddiadau ac yn gallu ystyried sut i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Wedi dweud hynny, rwy'n ymwybodol iawn nad yw'r sefyllfa bositif mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn mewn ysgolion yn unffurf ledled Cymru, ac mae yna ysgolion nad oes ganddynt y cronfeydd wrth gefn sylweddol hynny y byddant eisiau dibynnu arnynt.
Mae cwestiwn 4 [OQ58605] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 5, Heledd Fychan.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i gynnal eu gwasanaethau statudol? OQ58625
Eleni, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.1 biliwn, a thros £1 biliwn mewn cyllid grant penodol i gefnogi gwasanaethau statudol ac anstatudol awdurdodau lleol.
Diolch. Roeddwn yn cyfeirio, yn arbennig, at yr awdurdodau o fewn fy rhanbarth.
Un ddarpariaeth statudol hanfodol yw gwasanaethau cymdeithasol, ac, yn benodol, gofal. Gwyddom fod problemau dirfawr o ran recriwtio gofalwyr. O’r herwydd, mae mwy a mwy o unigolion yn dod yn ofalwyr di-dâl er mwyn gofalu am eu hanwyliaid, ac yn wynebu caledi ariannol o’r herwydd. A oes unrhyw drafodaethau wedi bod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran ymestyn y cymorth ariannol costau byw i bob gofalwr di-dâl, nid dim ond y 10 y cant sydd yn derbyn lwfans gofalwyr ar y funud? Yn bellach, a oes modd gwneud mwy i hyrwyddo ei bod hi’n bosibl i ofalwyr di-dâl dderbyn taliad uniongyrchol i ddarparu gofal, hyd yn oed os ydynt yn byw ar yr un aelwyd, os nad yw’n bosibl canfod gofal amgen? Mae nifer o deuluoedd o dan yr argraff nad yw hyn yn bosibl, ond y gwir amdani yw bod hawl gan awdurdodau lleol i ganiatáu hyn gyda thystiolaeth briodol. Felly, a oes trafodaethau wedi bod gyda'r gymdeithas llywodraeth leol hefyd am hyn?
Gwn fod y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol yn bresennol yn y cyfarfod diweddar am y pwysau cyllidebol sy'n wynebu arweinwyr awdurdodau lleol, a llwyddasant i ddechrau'r trafodaethau, o leiaf, ar y pwysau a'r pryderon penodol ynghylch gofal cymdeithasol. Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnewch yn gysylltiedig â'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' sydd ar y gweill gennym ar hyn o bryd, oherwydd, fel y dywedwch, ceir digonedd o bobl nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn gallu hawlio lwfans gofalwyr. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn gallu hawlio taliadau uniongyrchol, felly mae'n bwysig ein bod yn ymgymryd â chymaint o waith ag y gallwn i sicrhau bod pobl yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Felly, byddwn, fe fyddwn yn dyblu ein hymdrechion yn hynny o beth.
Weinidog, fel y gwyddoch ac fel sydd eisoes wedi'i godi gan sawl Aelod yn y Siambr, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy helaeth yn eu coffrau. Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020-21, ffurfient gyfanswm o dros £2.1 biliwn, cynnydd o £600 miliwn ers y flwyddyn flaenorol, gyda rhai awdurdodau lleol, megis fy awdurdod lleol i yn Rhondda Cynon Taf, yn meddu ar ychydig o dan £208 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy. Fe fyddwch yn ymwybodol hefyd fod y cyfrifiad ar gyfer y swm y bydd awdurdodau lleol yn ei dderbyn o'r grant cynnal refeniw yn rhagdybio nad oes defnydd o'r cronfeydd ariannol hyn nac ychwanegiadau atynt. Mae hyn yn golygu, yn y pen draw, Weinidog, fod awdurdodau lleol yn cael eu cymell i barhau i gynyddu cyfraddau treth gyngor o flwyddyn i flwyddyn, a chadw arian heb unrhyw effaith ariannol ar y grant cynnal refeniw gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn hefyd yn golygu bod y rhai sy'n talu'r dreth gyngor yn cael eu taro'n galed flwyddyn ar ôl blwyddyn gan filiau treth gyngor uwch, er mwyn i gynghorau allu parhau i gynyddu eu cronfeydd ariannol wrth gefn. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o gyfyngu ar faint o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy y gall cyngor eu cadw cyn i'r grant cynnal refeniw gael ei effeithio? A pha asesiad effaith a wnaethoch o'r anfantais y mae aelwydydd yn ei hwynebu pan fo awdurdodau lleol yn parhau i gynyddu eu cyfraddau treth gyngor er bod ganddynt gronfeydd defnyddiadwy mor sylweddol?
Nid wyf yn siŵr a yw'r Gweinidog yn gallu clywed. A glywsoch chi hynny?
Clywais y—
Roedd llawer o sgwrsio'n digwydd ar yr un meinciau â'r Aelod a oedd yn gofyn y cwestiwn. A glywsoch chi?
Do. Deallais 90 y cant—
Y Gweinidog i ymateb.
—felly rwy'n credu ein bod ni'n iawn.
Gallwch ateb y cwestiwn. Maent bellach yn cweryla dros bwy oedd yn cael y sgwrs. [Chwerthin.] Weinidog. Weinidog.
Iawn. Felly, i ateb y cwestiwn ar gronfeydd wrth gefn: rwy'n credu ei fod yn beth cadarnhaol fod gan lywodraeth leol gronfeydd sylweddol wrth gefn wrth inni nesu at argyfwng costau byw. A gadewch i ni gofio, pan oeddem yn trafod y gyllideb y llynedd, roeddem yn siarad am y setliad gwell yn y flwyddyn gyntaf o'r adolygiad o wariant tair blynedd, a ddarparodd gynnydd o dros 9 y cant yn y gyllideb i awdurdodau lleol. Ond fe wnaethom siarad, hyd yn oed bryd hynny, pan nad oedd gennym gysyniad go iawn o faint yr argyfwng costau byw a oedd yn ein hwynebu, am y ffaith bod blynyddoedd 2 a 3 o'r adolygiad o wariant am fod yn anodd, felly rwy'n credu ei bod yn hollol iawn fod awdurdodau lleol yn edrych yn awr i weld sut y gallant ddefnyddio'u cronfeydd wrth gefn mewn ffordd briodol i helpu i reoli rhywfaint o'r pwysau arbennig hwnnw. Rwy'n credu mai lle awdurdodau lleol yw penderfynu ar ba raddfa y maent yn gosod eu treth gyngor; mae'n rhan bwysig iawn o ddemocratiaeth leol, ac rwy'n credu mai mewn amgylchiadau eithafol yn unig y byddem yn camu i mewn i ddweud wrth awdurdodau lleol beth i'w wneud ar y dreth gyngor. Rwy'n credu ei fod yn offeryn pwysig y dylid ei ddefnyddio ar sail leol.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllido awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58621
Byddaf yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy gynhyrchu fformiwla ddosbarthu dryloyw a theg ar gyfer y setliad llywodraeth leol ar y cyd â'n partneriaid llywodraeth leol.
Diolch, Weinidog. Mewn llythyr diweddar, gofynnodd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i mi bwyso am fwy o adnoddau ychwanegol er mwyn galluogi'r cyngor i barhau i gefnogi ei gymunedau drwy'r argyfyngau presennol. Mae'n cymharu'r argyfwng costau byw presennol ag argyfwng COVID, pan ddangosodd llywodraeth leol dro ar ôl tro sut y mae mewn sefyllfa unigryw i ymateb i anghenion lleol. Ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn amcangyfrif eu bod yn wynebu pwysau heb eu cyllido o £10 miliwn yn ystod y flwyddyn hon, a £24 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae effaith barhaus y pandemig a'r argyfwng economaidd presennol wedi arwain at gynnydd digynsail yn y galw ar wasanaethau. Er enghraifft, mae'r nifer sy'n manteisio ar wasanaeth opsiynau tai Cyngor Castell-nedd Port Talbot 400 y cant yn uwch na'r nifer cyn y pandemig, mae cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol plant 300 y cant yn uwch, a mynychais yr un cyfarfod CLlLC rhanbarthol yr wythnos diwethaf, lle cafodd yr un sefyllfa ddiflas ei hailadrodd a'i hamlinellu. Felly, sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn gallu cynnal gwasanaethau craidd? Gwyddom fod drws Rhif 10 Stryd Downing wedi'i gau'n dynn yn wyneb Cymru, felly pa ateb y bydd arweinwyr cynghorau Gorllewin De Cymru yn ei gael o Fae Caerdydd? Nid yw codi'r dreth gyngor yn opsiwn blaengar, felly pa ffyrdd eraill sydd yna i godi'r refeniw angenrheidiol?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, ac rwy'n cydnabod y tebygrwydd rhwng argyfwng y pandemig a'r argyfwng costau byw. Yr hyn sy'n wahanol, wrth gwrs, yw bod y pandemig wedi denu arian ychwanegol sylweddol i'n helpu i'w reoli, ond nid ydym wedi cael cyllid ychwanegol sylweddol i'n helpu i reoli'r argyfwng costau byw. Ac rwyf am ei gwneud yn glir iawn ein bod wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael. Felly, byddwch wedi gweld ein cyllideb eleni: roedd gennym gronfa fach wrth gefn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Y flwyddyn nesaf, rydym wedi dyrannu popeth, felly byddwn yn rheoli unrhyw wariant ychwanegol drwy gronfa wrth gefn Cymru a honno'n unig, ac mae'r un peth yn wir am y flwyddyn ganlynol.
Felly, mae gennym orwariant ar y rhaglen cyfalaf, sy'n amlwg dan lawer o bwysau yn y lle cyntaf, a phan wnaethom osod honno, nid oeddem yn sylweddoli y byddai Llywodraeth y DU yn cymryd £30 miliwn yn ôl er mwyn cefnogi arfau ar gyfer Wcráin. Felly, mae'r gyllideb wedi'i hymestyn yn eithriadol; nid oes cyllid ychwanegol sylweddol i'w ddyrannu, felly mae'n rhaid i ni obeithio bod Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn yn ei adolygiad o wariant—mae'n ddrwg gennyf, yn ei gyllideb yn yr hydref pan fydd yn ymddangos—ac yn darparu'r cyllid ychwanegol y mae awdurdodau'n galw amdano, ac mae'n rhaid imi ddweud, y mae'r gwasanaeth iechyd hefyd yn galw amdano yn y sefyllfa hon. Felly, rydym yn aros am hynny gyda diddordeb. Mae'n drueni ei fod wedi cael ei wthio'n ôl, oherwydd mae hynny wedi gwneud y gwaith o gynllunio ein cyllideb ein hunain yn llawer anos, ac mae'n ei gwneud yn anos wedyn i ni ddarparu'r math o sicrwydd y mae arweinydd Castell-nedd Port Talbot, ac arweinwyr eraill, yn ei geisio gennym ar hyn o bryd.
7. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddiwygio polisi treth oherwydd yr argyfwng costau byw? OQ58603
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw hwn gan ddefnyddio ein hysgogiadau cyllid a pholisi. Fel rhan o broses y gyllideb, byddaf yn ystyried sut y gallwn barhau i gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae gan ein ffrindiau yn yr Alban fwy o ysgogiadau at eu defnydd na ni. Mae ganddynt system dreth incwm flaengar, a gyflwynwyd gan Lywodraeth SNP Yr Alban, sy'n sicrhau bod y rhai ar incwm is yn talu llai o dreth nag mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, gan gefnogi gwasanaethau cyhoeddus cryfach tra'u bod yn diogelu'r rhai ar incwm is; system dreth decach lle mae'r rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r pwysau. Rwy'n gobeithio, Weinidog, y byddwch yn codi hyn gyda'ch cymheiriaid, gyda Chabinet yr wrthblaid yn San Steffan, fel y bydd gan Gymru hefyd bwerau i amrywio'r bandiau treth. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno na ddylem gael ein gadael ar ôl gan ein ffrindiau Albanaidd wrth iddynt greu cenedl decach yno?
Wel, mae'n wir fod gennym system wahanol, ac wrth gwrs, dim ond yn 2016 y cafodd ein system ni ei chytuno. Ers ychydig flynyddoedd yn unig y buom yn casglu cyfraddau treth incwm Cymru, felly ar y cychwyn o leiaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig gadael i'r system ymsefydlu, ond hefyd er mwyn deall beth fyddai'r goblygiadau o gael system fandio fwy blaengar, fel y dywedwch. Felly, mae'n drafodaeth ddiddorol y dylem fod yn ei chael, gan ystyried hefyd beth fyddai'r goblygiadau i'r derbyniadau treth cyffredinol yma yng Nghymru a pha opsiynau a allai fod ar gael i ni. Felly, wyddoch chi, mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried dyfodol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ysgogiadau cyllidol, ac rwy'n credu bod hynny'n chwarae rhan dda yn y trafodaethau hynny.
Gan adeiladu ar y pwerau treth sydd gennych, Weinidog cyllid, a ydych mewn sefyllfa y prynhawn yma i'n hysbysu, am bob ceiniog y gallech geisio ei chodi, os mai dyna oedd eich cyngor i'r Cabinet yn y cyfnod o osod cyllidebau, faint o arian ychwanegol a fyddai'n dod i goffrau Llywodraeth Cymru yn y trothwy 45c a 40c, ac fel arall, pob ceiniog y gallech ei thynnu, beth fyddai'r golled i'r Trysorlys yma yng Nghymru? Ac unrhyw gysyniadau ymddygiadol y gallech fod wedi'u modelu yn eich cyngor i'r Cabinet, a fyddech yn sicrhau eu bod ar gael fel bod yr Aelodau'n cael y ffeithiau llawn wrth ystyried y pwerau treth?
Wel, Lywydd, mae gennym ganllaw cyflym i gyfraddau treth incwm Cymru a gyhoeddwyd yn 2021, felly mae hwnnw ar gael i bob cyd-Aelod edrych arno a'i ddefnyddio. Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae'n dangos effeithiau newidiadau i gyfraddau Cymreig o refeniw treth incwm datganoledig. Felly, rydych yn gallu chwarae o gwmpas ag ef ac edrych ar wahanol bethau. Ond er eglurder, pe baem yn codi neu'n gostwng cyfradd sylfaenol treth incwm 1 geiniog ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddai'n cael effaith o £220 miliwn; ar gyfer y gyfradd uwch, byddai'n £33 miliwn; a'r gyfradd ychwanegol, £5 miliwn. Ac wrth gwrs, fe fydd effeithiau ymddygiadol o bosibl. Nid oes gennym syniad clir iawn o beth fyddai'r effeithiau ymddygiadol; mae'n debyg y byddai'r effeithiau ymddygiadol hynny ond yn berthnasol yn y gyfradd ychwanegol, beth bynnag, oherwydd mae'r bobl hynny'n tueddu i fod yn bobl fwy symudol o bosibl a chanddynt opsiynau gwahanol ar gyfer strwythuro eu materion treth. Ond wrth gwrs, gwn fod y Pwyllgor Cyllid blaenorol wedi gwneud gwaith diddorol a edrychodd ar botensial pobl yn symud ar draws ffiniau er mwyn osgoi cynnydd mewn cyfraddau ychwanegol o dreth incwm. Felly, mae'r holl wybodaeth honno ar gael, ac rwy'n argymell canllaw cyflym cyfraddau treth incwm Cymru i gyd-Aelodau sydd eisiau darganfod ychydig mwy am oblygiadau posibl gwahanol ddewisiadau. Ond dylwn ddweud y bydd unrhyw ddewis a wnawn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad cyllidol Llywodraeth y DU ar Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ58609
Er gwaethaf gwrthdroi sawl elfen o'r gyllideb fach, mae'r difrod wedi'i wneud. Mae cartrefi a busnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy a mannau eraill yn wynebu costau benthyca uwch a mwy o ansicrwydd economaidd. Rydym bellach yn wynebu'r posibilrwydd o fwy o gyni yn ein gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae'r blaid Dorïaidd eisiau i bawb ohonom esgus mai plaid Dorïaidd wahanol a chwalodd yr economi gyda rhoddion byrbwyll. [Torri ar draws.] Boed yn Geidwadwyr neu'n Dorïaid, maent i gyd o dan yr un het. Nawr, fe wnaethant chwalu'r economi gyda'u rhoddion i filiwnyddion a biliwnyddion ychydig wythnosau'n ôl yn unig. Weinidog, rydych yn iawn; mae'r difrod wedi'i wneud yn dilyn y datganiad cyllidol mwyaf trychinebus. Roeddent yn benderfynol wedyn o achosi mwy o ansicrwydd yn y cyllidebau gyda'u datganiad Calan Gaeaf fel y'i gelwid, ond daeth yn amlwg heddiw y byddant yn ein dychryn rywbryd tua diwedd mis Tachwedd. Ond yn y cyfamser, gyda'r holl nonsens ar goridorau San Steffan, gyda'r ymrafael rhyngddynt am bŵer, mae trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn ei chael hi'n anodd. Maent angen sicrwydd, Weinidog. A ydych yn cytuno â mi mai'r peth olaf un sydd ei angen arnynt yw'r dos ychwanegol o gyni Torïaidd sy'n nesu tuag atynt?
Rwy'n cytuno'n llwyr â Jack Sargeant, ac rwy'n cytuno â'i ddadansoddiad hefyd, oherwydd mae gennym weinyddiaeth newydd yn San Steffan, ond nid oes gennym lechen lân o gwbl, oherwydd mae olion bysedd y Prif Weinidog a'r Canghellor ar hyd yr argyfwng economaidd y mae pawb ohonom yn ei wynebu ar hyn o bryd. Ac mae Jack Sargeant yn iawn eto; ei etholwyr sy'n teimlo'r boen. Byddant yn ei theimlo drwy'r cynnydd yn eu taliadau morgais, a byddant yn ei theimlo os nad yw budd-daliadau'n codi yn unol â chwyddiant. Felly, rwy'n credu mai'r peth olaf sydd ei angen arnom yw rhagor o gyni ar hyn o bryd, ond mater arall yn llwyr yw i ba raddau y mae Llywodraeth y DU hyd yn oed yn clywed hynny.
Ac yn olaf, cwestiwn 9. Joyce Watson.
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau ariannu ar ôl yr UE? OQ58617
Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon mewn perthynas ag ariannu ar ôl yr UE. Mae eu cynlluniau diffygiol a thoriad ariannol o £1.1 biliwn yn cael effaith ddifrifol ar ystod o sectorau yn ogystal â swyddi a thwf. Rwyf wedi codi hyn dro ar ôl tro gyda Gweinidogion y DU a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Dywedodd Pwyllgor Cyllid y Senedd y mis hwn fod Cymru mewn perygl o fod ar ei cholled yn ariannol os yw Llywodraeth y DU yn methu cydweithio â Llywodraeth Cymru ar gyllid ar ôl yr UE. Mae hynny er gwaethaf yr addewidion Torïaidd niferus na fyddai Cymru yn derbyn yr un geiniog yn llai o ganlyniad i Brexit. Yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau'r cydweithrediad hwnnw gan Lywodraeth y DU a rhaid i'r Torïaid anrhydeddu eu haddewid. Ond a ydych yn cytuno â mi, Weinidog, fod Cymru eisoes ar ei cholled? Mae cyn-Lywodraethwr Banc Lloegr wedi tynnu sylw at y ffaith bod economi Prydain yn 90 y cant o faint economi'r Almaen yn 2016. Erbyn hyn mae'n llai na 70 y cant. Ac mae dadansoddiad gan y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd yn cyfrifo bod Brexit wedi arwain at ostyngiad o 16 y cant mewn masnach o'r DU i'r UE. Felly, yn ogystal â setliad cyllid teg i Gymru, a ydych yn cytuno bod angen ailadeiladu cysylltiadau economaidd Prydain gyda'n partner masnachu mwyaf a lleihau rhwystrau i fasnachu, a hynny ar frys?
Ydw, rwy'n cytuno â'r pwyntiau hynny, oherwydd yn fy marn i mae effaith Brexit wedi cael ei guddio'n fawr gan y pandemig ac yn awr gan yr argyfwng costau byw. Rwy'n credu bod yr enghraifft a nodoch chi, sy'n cymharu ein sefyllfa gyda'r Almaen, yn dangos y difrod y mae Brexit wedi'i wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud oni bai bod Llywodraeth y DU yn mabwysiadu ymagwedd wahanol tuag at fasnachu gyda'n partneriaid masnachu pwysicaf.
Rwy'n credu bod y mater ynglŷn â chyllid newydd yr UE yn un pwysig hefyd. Fe gawsom addewid na fyddem geiniog yn waeth ein byd. Wel, mae hynny'n wir; rydym £1.1 biliwn yn waeth ein byd yn sgil y diffyg cyllid Ewropeaidd sydd ar gael. Mae'r gronfa ffyniant gyffredin wedi bod yn fethiant llwyr fel cyllid newydd. Yn ogystal â chael bwlch ariannu, nid oes unrhyw gyllid wedi dod i Gymru eto, ond wrth gwrs pe baem yn dal i fod yn rhan o'r UE byddai'r rhaglenni UE hynny eisoes wedi dechrau ym mis Ionawr 2021. Ac nid yn unig hynny; byddent wedi bod yn rhaglenni dros nifer o flynyddoedd, a fyddai wedi caniatáu defnydd o'r cyllid hwnnw mewn modd mwy strategol, yn hytrach nag ariannu hoff brosiectau bach ar draws Cymru a benderfynwyd gan Weinidogion yn San Steffan. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed y Ceidwadwyr y tu ôl i mi, ond rwy'n ei chael hi'n eithaf chwerthinllyd fod unrhyw un yn dal i fod yn fodlon amddiffyn y sefyllfa bresennol, lle rydym yn waeth ein byd yn ariannol, a'n henw da ar draws y byd wedi'i ddifrodi gan y Blaid Geidwadol, ac na fydd modd ei adfer am gryn dipyn o amser.
Diolch i'r Gweinidog cyllid.
Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.
1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn? OQ58618
Mae cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar les cŵn yn hysbysu perchnogion am eu rhwymedigaethau'n ymwneud â rheoli eu cŵn a'r deddfwriaethau sy'n llywodraethu, ac mae llawer ohonynt. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyflwyno mesurau diogelu pellach drwy'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).
Diolch. Cefais gyfle yn ddiweddar, a phleser yn wir, o ymweld â Dogs Trust Cymru yn eu canolfan ailgartrefu o'r radd flaenaf yma ym Mae Caerdydd. Mae'r tîm yn gwneud gwaith rhyfeddol o adsefydlu, cysuro ac ailgartrefu'r cŵn, sydd, am amryw o resymau wedi'u gadael gan eu perchnogion blaenorol. Tra oeddwn yn y ganolfan, cyfarfûm â nifer o gŵn da a oedd, yn anffodus, wedi dioddef camdriniaeth. Yn wir, mae elusen arall, yr RSPCA, wedi galw ers tro am roi eu gweithgareddau ymchwilio ac erlyn ar sail ffurfiol a fyddai'n grymuso swyddogion rheng flaen i ymyrryd ynghynt, gan leihau'r ddibyniaeth ar awdurdodau lleol a heddluoedd. O ystyried hyn, a gaf fi eich annog i ystyried yr argymhelliad hwn fel bod ein hanifeiliaid anwes annwyl teuluol yn destun ymyrraeth cyn i'r senarios gwaethaf ddigwydd? Diolch.
Ie, yn hollol, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod gyda'r RSPCA ac mae swyddogion hefyd wedi cyfarfod â hwy. Rydym wedi bod yn edrych ar enghreifftiau lle mae gwledydd eraill wedi cael y pwerau hynny gyda'u trydydd sector. Hoffwn ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi mewn perthynas â Dogs Trust Cymru; mae'n un o fy hoff lefydd i ymweld â hwy.
2. Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i leihau'r risg o achosion o ffliw adar yn Sir Ddinbych? OQ58600
Ar 17 Hydref, cyflwynodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â gweinyddiaethau eraill yn y DU, barth atal ffliw adar. Mae hyn yn berthnasol i Gymru gyfan ac yn gosod rhwymedigaethau cyfreithiol ar geidwaid adar i ddilyn mesurau bioddiogelwch llym. Bioddiogelwch da yw'r amddiffyniad gorau ar gyfer atal ffliw adar mewn adar a gedwir.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn fwy nag ymwybodol o'r peryglon y mae ffliw adar yn eu hachosi, ac rwy'n croesawu'r camau gan Lywodraeth Cymru i atal ei ledaeniad drwy osod y parth gwyliadwriaeth 10 km o gwmpas y safle heintiedig. Fel y gwelsom gyda COVID, os cymerir camau gweithredu cadarn yn syth gellir sicrhau nad yw'r broblem yn gwaethygu, a galwaf ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r achosion hyn yn uniongyrchol. Er nad yw ffliw adar yn effeithio ar bobl fel arfer, gall y niwed y gallai ei wneud i'r gadwyn gyflenwi dofednod gyfrannu at chwyddo prisiau wyau a chyw iâr ar adeg pan fo cost y cynhyrchion hyn yn cynyddu oherwydd pwysau costau byw. Felly, beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau nad yw ffliw adar yn lledaenu ledled Cymru, i wneud yn siŵr nad yw'n amharu ar gyflenwad dofednod ac nad yw prisiau'n codi ymhellach i fy etholwyr yn sir Ddinbych?
Mae'n debyg y dylwn ddweud i gychwyn nad oes unrhyw achosion o ffliw adar wedi bod mewn adar sy'n cael eu cadw yn sir Ddinbych yn ystod y cyfnod 2021-22 neu'n wir yn ystod y cyfnod presennol o achosion yn 2022-23, ond mae wedi bod yn ddi-baid ar draws y DU. Nid ydym wedi cael seibiant o gwbl. Fel arfer, rydym yn cael peth seibiant yn ystod misoedd yr haf, ond nid ydym wedi cael unrhyw doriad o gwbl. Gallaf eich sicrhau fy mod yn gweithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn. Yn wir, ysgrifennais at George Eustice, yn ôl ym mis Chwefror neu fis Mawrth eleni, pan welsom achosion sylweddol yn swydd Lincoln yn Lloegr, rwy'n credu, ac roeddwn yn poeni'n arbennig am y rheini ac yn meddwl tybed a oedd rhywbeth y gallem ei wneud i weithio gyda'n gilydd. Yn amlwg, rydym wedi cael dau Ysgrifennydd Gwladol DEFRA arall ers hynny, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi'n syth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd, oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno ar draws y DU.
Fe wnaethoch chi sôn am iechyd y cyhoedd, ac yn amlwg mae risg y feirws i iechyd y cyhoedd yn isel iawn, ond mae'n cael effaith ac mae'n cael effaith hefyd ar ieir maes, er enghraifft, pan ydym wedi gorfod rhoi adar dan do. Felly, gallaf sicrhau'r Aelodau yn llwyr fod hyn yn rhywbeth rydym yn edrych arno'n ddyddiol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Christianne Glossop, a wasanaethodd fel prif swyddog milfeddygol Cymru am 17 mlynedd cyn iddi roi'r gorau iddi yn gynharach y mis hwn? Mae hi wedi gwasanaethu dan nifer o Weinidogion materion gwledig, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i gofnodi ein diolch am ei gwasanaeth a dymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol. Hefyd, hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau.
Bythefnos yn ôl, wrth drafod adroddiad parthau perygl nitradau'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, gofynnais sawl cwestiwn na chafodd eu hateb, ynghylch effaith achosion TB yn benodol. O ystyried hyn, a gaf fi ofyn am eglurhad y bydd ffermwyr sydd â chyfyngiadau symud yn cael mynd y tu hwnt i'r terfyn nitrad o 170 kg yr hectar? Fel y gwyddoch, nid yw ffermwyr o dan gyfyngiadau TB yn cael symud gwartheg, sy'n golygu y bydd niferoedd stoc yn anochel yn cynyddu, ac felly bydd y ffermwr yn torri eich rheoliadau dŵr. Gallai ufuddhau i un set o reolau olygu eu bod yn torri set arall o reolau. A oes unrhyw eithriadau ar gyfer achosion o TB mewn buchesi, neu a yw hyn yn rhywbeth i'w ystyried yn yr ymgynghoriad trwyddedu ar gyfer y rhanddirymiad 250 kg yr hectar? A pha bryd y gallwn ni ddisgwyl gweld yr ymgynghoriad yn dechrau, gan fod amser yn mynd yn ei flaen?
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei eiriau caredig am Christianne Glossop sy'n gadael ei swydd fel prif swyddog milfeddygol cyntaf Cymru ar ôl 17 mlynedd. Yn sicr fe fydd hi'n gadael esgidiau mawr i'w llenwi. Rwy'n gwybod y bydd hi'n falch iawn o glywed eich sylwadau.
Ar y cwestiwn ynglŷn â ffermydd sydd ag achosion o TB, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried, a bydd yn cael ei ystyried yn y cynllun y byddwn yn ei gyflwyno. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio y mis nesaf. Rydym yn dal i weithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio ar baratoi'r ymgynghoriad hwnnw.
Rwy'n ddiolchgar am hynny. Yn ail, wrth graffu ar y Bil amaethyddiaeth, mae'r pwyllgor rwy'n rhan ohono wedi cymryd tystiolaeth gan undebau ffermio a sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, ac er bod gwahaniaeth barn, ceir consensws a chytundeb cyffredinol. Ond ar ôl derbyn tystiolaeth gan Gymdeithas y Ffermwyr Tenant a Chymdeithas Cominwyr Mynydd Eglwysilan, Mynydd Meio a Chraig Evan Leyshon, mae yna rwystredigaeth ddofn ynglŷn â'r ffaith mai cyfeiriad cyfyngedig yn unig a geir at ffermwyr tenant a thir comin yn y Bil amaethyddiaeth ei hun. Er bod gweithgor tenantiaeth wedi'i sefydlu, a wnewch chi ymrwymo i greu gweithgor ar gyfer tir comin, i sicrhau bod y rhai sy'n ffermio ac yn mwynhau tir comin, sydd bron yn 10 y cant o dir Cymru, yn gallu siapio a chyfrannu at y Bil Amaethyddiaeth?
Rwy'n credu ei bod yn dda iawn gweld cymeradwyaeth yr undebau amaeth a'r sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, fel y dywedoch chi, yn ogystal â'r gymeradwyaeth drawsbleidiol, os mynnwch chi, i'r ffordd y mae'r Bil amaethyddiaeth wedi dechrau. Rwy'n gwybod y bydd gwelliannau'n cael eu cyflwyno, ac unwaith eto, rydym yn gweithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio i gyflwyno gwelliannau gan y Llywodraeth ar y cam nesaf.
Mae ffermwyr tenant yn rhan bwysig iawn; fe wyddoch fod nifer fawr o'n ffermwyr yn ffermwyr tenant yma yng Nghymru. Roedd hynny'n rhan o'r rheswm dros sefydlu'r gweithgor. Oherwydd yn sicr, mae fy nhrafodaethau gyda hwy dros y chwe blynedd diwethaf, wrth inni sefydlu'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r Bil amaethyddiaeth, yn dangos bod gan ffermwyr tenant bryderon gwahanol a phenodol iawn yn hynny o beth.
O ran tir comin, nid ydym wedi meddwl am gael grŵp penodol ond mae'n sicr yn rhywbeth y gallaf edrych arno. Nid wyf yn dweud y byddaf yn cyflwyno grŵp arall, ond rwy'n credu, unwaith eto, fod yna faterion sy'n benodol iawn i dir comin, a byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod fy swyddogion yn siarad â phobl os ydynt yn credu bod ganddynt unrhyw beth nad yw wedi cael ei ystyried yn barod gennym ni.
Byddwn yn dweud wrthych chi a'ch swyddogion fod y dystiolaeth a roddwyd gan yr Aelod a oedd yn cynrychioli tir comin yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf yn eithriadol. Byddwn yn eich annog chi a'ch tîm i edrych ar hynny fel man cychwyn i bryderon y rhai sy'n gysylltiedig â thir comin.
Ac yn olaf, Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy llawenydd wrth weld twf sector gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru, gyda chynnydd o 10.2 y cant yn nhrosiant 2021, o £4.9 biliwn i £5.4 biliwn. Er bod y pandemig wedi tarfu ar bethau, mae'r sector wedi bwrw drwyddi ac wedi tyfu a helpu economïau lleol i ffynnu a chreu swyddi newydd i bobl leol. Mynychais ddigwyddiad yn Stryd Downing yn ddiweddar hefyd i nodi allforio cig oen o Gymru a Phrydain, yn dilyn bwlch o 30 mlynedd, i Unol Daleithiau America, gyda'r cludiant cyntaf yn dod o Dunbia yn Llanybydder yn sir Gaerfyrddin—gan roi cig oen Cymru yn ôl ar y fwydlen yn America. Uchelgais Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yw sicrhau cynnydd o 30 y cant yn allforion bwyd-amaeth y DU erbyn diwedd y degawd. A ydych yn rhannu'r uchelgais hwn, ac os felly, pa ddarpariaeth sy'n bodoli o fewn y Bil amaethyddiaeth i sicrhau bod allforion bwyd a diod Cymru'n parhau i dyfu?
Rwy'n credu mai fi yw cefnogwr mwyaf brwd y cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig sydd gennym. Rwyf wedi sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth ers imi gael y portffolio hwn. Rydym newydd fod yn SIAL ym Mharis, a neithiwr cynhaliwyd digwyddiad yn Qatar, cyn cwpan y byd, i wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o fwyd a diod Cymreig yno hefyd.
Ar eich cwestiwn penodol mewn perthynas â'r Unol Daleithiau, roeddwn yn falch iawn o weld ein bod bellach yn gallu allforio cig oen Cymreig i'r Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers 30 mlynedd. Yn anffodus, mae'n dal i fod bum mlynedd, mae'n debyg, yn hwyrach nag y byddem wedi'i ddymuno. Roeddem bron yno pan ddaeth Donald Trump yn Arlywydd felly mae'n wych ein bod wedi llwyddo i'w wneud yn awr. Rwy'n gweithio'n agos iawn ac yn cefnogi Hybu Cig Cymru, fel y gwyddoch, i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio gyda'r Unol Daleithiau i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ein cig oen Cymreig ym mhobman yn America, rwy'n credu ei bod yn deg dweud. Yn amlwg, mae bwyd yn gwbl ganolog i'r Bil amaethyddiaeth—a chynhyrchu bwyd cynaliadwy hefyd. Felly, mae hyn yn berthnasol i bob math o gig ac i'n holl fwyd a diod Cymreig.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Lywydd. Fe wnaeth grŵp cynghori newydd y Gweinidog ar bysgodfeydd Cymru gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf. Ymhlith y blaenoriaethau a drafodwyd oedd y cynllun ariannu pysgodfeydd—yn lle cronfa pysgodfeydd yr UE. Ond mae yna bryderon fod y cynigion ar gyfer cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn syrthio'n fyr o'r cynllun cronfa pysgodfeydd arforol Ewropeaidd blaenorol a'r cynllun pysgodfeydd a physgod cregyn cyfatebol yn Lloegr. Mae cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru wrthi'n cael ei ddatblygu ac mae eisoes y tu ôl i Loegr o ran ei weithrediad. Felly mae pysgodfeydd a busnesau dyframaethu dan anfantais yma a cheir pryderon pellach nad yw cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn adlewyrchu'r gefnogaeth a'r ymyriadau wedi'u targedu sydd eu hangen i gyflawni amcanion statudol Deddf Pysgodfeydd y DU 2020.
Mae'r cynigion presennol yn cynnig cronfeydd refeniw sy'n cyfyngu felly ar allu pysgotwyr Cymru a chynhyrchwyr bwyd môr eraill i gyfrannu at y gofynion sy'n ei gwneud hi'n bosibl trosglwyddo'n effeithiol er mwyn cyflawni amcanion y Ddeddf pysgodfeydd ac ymrwymiadau sero net ehangach. A yw'r Gweinidog yn cydnabod y pryderon hyn, a sut y bydd yn sicrhau bod cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn cyfeirio'r cymorth a'r ymyriadau angenrheidiol wedi'u targedu sy'n ofynnol er mwyn cyflawni amcanion statudol Deddf Pysgodfeydd y DU 2020?
Wel, mae sicrhau bod yr arian a ddaw yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop yn gywir, yn briodol, yn bwrpasol—ei fod yn mynd i ble y mae angen iddo fynd. Mae'n un o'r rhesymau pam y newidiais fformat grŵp cynghori'r Gweinidog. Roeddwn yn meddwl bod hynny'n bwysig iawn i wneud yn siŵr—. Roedd yr un blaenorol mewn bodolaeth ers tua 10 mlynedd ac yn amlwg, mae'r byd wedi newid ac roeddwn yn meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym grŵp a fyddai'n fy nghynghori i a swyddogion ar sut i sicrhau cyllid yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop.
Fel y dywedwch, fe wnaeth y grŵp gyfarfod ar 14 Gorffennaf. Mae'r cyfarfod nesaf y mis nesaf. Byddaf yn sicrhau bod y cwynion neu'r materion rydych newydd eu dwyn i fy sylw yn cael eu hystyried, os nad ydynt yn cael eu hystyried, er fy mod yn credu ei bod yn annhebygol iawn nad yw'r hyn a ddaw yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop ar yr agenda, ond byddaf yn sicrhau ei fod. Oherwydd rydych chi'n gywir: mae angen ei wneud yn y ffordd fwyaf priodol. Ond i mi, beth sy'n bwysig iawn—mae ychydig fel y cynllun ffermio cynaliadwy—yw bod angen inni ei wneud drwy gydgynhyrchu gyda'n pysgotwyr a chyda'r sector ehangach. Ac yn hollol, y rheswm dros gael grŵp cynghori'r Gweinidog yw er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cyfrannu.
Diolch am yr ymateb. Wel, gan barhau â thema cyllid ar gyfer pysgota a dyframaethu, mae gan gronfa bwyd môr y DU gyllid o £100 miliwn o dan dair colofn: gwyddoniaeth ac arloesi, seilwaith, sgiliau a hyfforddiant. Mae cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn tynnu sylw'n briodol at yr angen i sicrhau bod cymaint ag y bo modd o gronfa bwyd môr y DU sy'n werth £100 miliwn yn dod i Gymru. Mewn egwyddor, mae hyn yn swnio'n synhwyrol, ond yn ymarferol, nid oes gan bysgotwyr yng Nghymru na'r cyrff sy'n cynrychioli pysgota fodd o lywio prosesau cronfa'r DU. Felly, mae'n annhebygol y bydd y sector yn elwa ohono. Dylai Cymru elwa o £8 miliwn o gronfa'r DU, a fyddai, ynghyd ag arian Cymru o £6.2 miliwn, yn drawsnewidiol i gynnig bwyd môr Cymru a'r gadwyn gyflenwi gyfan.
Mae colofn gwyddoniaeth ac arloesi cronfa'r DU yn sicr yn rhoi cyfle i'r sector pysgota, ond mae colofnau eraill yn gyfyngedig i borthladdoedd, harbwrs a chyfleusterau prosesu a sefydliadau hyfforddi, gan adael fawr ddim ar gyfer ein sector dal pysgod. Mae'n anodd gweld sut y byddai cynllun Cymru'n denu unrhyw gyllid o golofnau cronfa bwyd môr y DU. Gallai diwydiant bwyd môr Cymru fod dan anfantais ddifrifol oherwydd rhwystrau rhag cael mynediad at gronfa bwyd môr y DU, a allai olygu bod arian heb ei wario yn dychwelyd i'r Trysorlys neu weinyddiaethau eraill. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â'r pryderon a fynegwyd gan y sector, ac os felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru'n helpu i sicrhau y gall sector pysgota Cymru sicrhau cymaint â phosibl o'r cyllid sydd ar gael o dan gronfa bwyd môr y DU?
Rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, a chodwyd y pryderon hynny'n gynnar iawn—yr adeg hon y llynedd, mae'n debyg, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU eu cynllun bwyd môr. Rwy'n credu ei fod yn ddryslyd iawn, oherwydd byddai wedi bod yn well pe baent wedi rhoi ein cyfran o'r cyllid roedd gennym hawl i'w gael a gallem ni benderfynu beth i'w wneud gyda'r cyllid hwnnw a sut y byddem yn gweithio gyda'r sector i ddyrannu'r cyllid hwnnw. Felly, rwy'n credu iddo greu llawer o ddryswch ar y cychwyn. Felly, rydym wedi cytuno ar ddull o gyrchu'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth y DU fel nad yw ein pysgotwyr ni'n cael eu hamddifadu ohono, a bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd.
3. Sut fydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd o fudd i ffermwyr tenant ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ58614
Diolch. Bwriad y cynllun ffermio cynaliadwy yw gwobrwyo pob math o ffermwr, gan gynnwys ffermwyr tenant sy'n rheoli'r tir, er mwyn sicrhau canlyniadau amgylcheddol ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym sector amaethyddol cynaliadwy a gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch am hynny, Weinidog. Mae llawer o ffermwyr tenant ifanc yn fy etholaeth yn credu bod y cynigion fel y maent wedi'u drafftio ar hyn o bryd o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy yn dal i ogwyddo'n helaeth tuag at berchnogaeth ar dir. Mae tenantiaid, teuluoedd ffermio ifanc fel arfer sydd ar y gris cyntaf ar yr ysgol ffermio, yn gorfod ymdrin â gwahanol fathau o landlordiaid, o'r ffermwr lleol sydd wedi ymddeol, i sefydliadau mawr, fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae nifer o ffermwyr ifanc yn rhentu tir, boed hynny drwy gytundebau pori neu denantiaethau busnes fferm, a'r tenantiaid yw'r rhai sy'n ysgwyddo'r risgiau busnes ariannol ar y tir. Felly, Weinidog, a ydych chi'n fodlon fod y cynigion a nodir yn y cynllun ffermio cynaliadwy yn caniatáu i ffermwyr tenant fynd i mewn i hynny ar yr un lefel â pherchnogion tir, a bod y cynllun yn diogelu ffermwyr tenant ifanc actif a'u teuluoedd rhag y perygl o gael eu troi allan gan rai landlordiaid, fel y gallant wrthbwyso eu carbon a chyrraedd targedau amgylcheddol?
Ydw, ond hoffwn nodi ein bod yn dal i edrych ar lunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'r arolwg yn dal ar agor tan 21 Tachwedd, felly cofiwch annog eich holl gymheiriaid i sicrhau eu bod yn cwblhau'r arolwg a gadewch inni glywed eu barn. Rwyf wedi dweud ar hyd yr amser, os nad yw'n gweithio i ffermwyr tenant, ni fydd yn gweithio i unrhyw un, oherwydd maent yr un mor bwysig â ffermwyr tir, fel y dywedwch; ffermwyr tenant sy'n ffermio traean o'n tir yma yng Nghymru, felly mae hyn yn bwysig iawn. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i'r cynllun weithio iddynt hwy.
Fe wnaethoch chi sôn am ffermwyr ifanc yn enwedig, a'r rheswm ein bod ni'n cyflwyno'r gefnogaeth mewn ffordd wahanol i sut oedd pethau pan oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd yw oherwydd ein bod yn gwybod y bydd ein cenhedlaeth nesaf o ffermwyr yn ffermio mewn hinsawdd a than amodau llawer iawn caletach nag a wnawn ni yn awr. Ond rwy'n awyddus i barhau i weithio gyda ffermwyr tenant—rwyf eisiau gwneud hynny'n glir iawn. A byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i un o'n cyd-Aelodau ein bod wedi cael y gweithgor tenantiaeth i edrych yn benodol ar sut y mae'r gweithredoedd—. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r pyramid o gamau gweithredu sydd gennym yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n bwysig iawn fod pob cam gweithredu yn gweithio i ffermwyr tenant, yn yr un ffordd â'r rhai sy'n berchen ar y tir.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt y Llywodraeth ar rasio milgwn? OQ58630
5. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn perthynas â'i bwriad datganedig i ystyried rheoleiddio rasio milgwn? OQ58627
Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 5 gael eu grwpio. Nid wyf wedi celu fy awydd i fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â lles milgwn rasio yng Nghymru. Mae ein cynllun lles anifeiliaid yn nodi sut y byddwn yn ystyried cyflwyno mesurau pellach. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad y ddeiseb ddiweddar, sydd dan ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.
Diolch am yr ymateb, Weinidog.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ei diddordeb cyson yn y mater hwn. Mae'n siŵr fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r cynlluniau presennol yng Nghaerffili i newid y trac annibynnol yno i un a gaiff ei reoleiddio gan Fwrdd Milgwn Prydain. Un pryder sydd gennyf, pryder a rannaf gydag Aelodau eraill yn y Siambr, yn ogystal â Hope Rescue, Achub Milgwn Cymru, Dogs Trust, Blue Cross a'r RSPCA, yw na fydd y rheoliad hwnnw, yn enwedig os yw'n fater o ddim ond copïo'r hyn sydd gennym yn Lloegr, yn atal yr anafiadau a'r marwolaethau. Gwyddom, er enghraifft, fod 2,000 o gŵn wedi marw rhwng 2018 a 2021, a bod 18,000 arall wedi eu hanafu ar draciau trwyddedig. Rwyf fi ac eraill yn ceisio deall i ba gyfeiriad y mae'r Llywodraeth yn gwyro ar hyn o bryd—ai tuag at reoleiddio, neu tuag at waharddiad?
Diolch. Rwy'n deall eich bod chi hefyd yn dal ati i bwyso mewn perthynas â'r mater hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â chi a Jane Dodds, yr wythnos ar ôl toriad, rwy'n credu, i drafod y sefyllfa'n fwy manwl. Wrth reswm, rwy'n ymwybodol o gynlluniau'r un trac milgwn sy'n dal i fod gennym yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch, ysgrifennais at y perchennog yn ôl ym mis Mawrth, ac nid wyf wedi cael ymateb. Yr wythnos hon, ysgrifennais at y rheolwr newydd, i ofyn ambell gwestiwn, a hefyd i ofyn am gyfarfod gydag ef. Yn amlwg, mae yna gais cynllunio gerbron Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a bydd hwnnw'n fater iddynt hwy edrych arno, ac yn amlwg, ni allaf wneud sylw mewn perthynas â hynny.
Fel y gwyddoch, fel rhan o'n cynllun lles anifeiliaid a gyhoeddais flwyddyn yn ôl—rydym yn nesu at flwyddyn ers cyhoeddi'r cynllun hwnnw—a oedd yn nodi'r hyn a wnawn mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid dros dymor y Llywodraeth hon, roeddem yn edrych ar weithgareddau trwyddedu sy'n cynnwys anifeiliaid, ac mae hynny'n cynnwys milgwn rasio. Fel y dywedaf yn fy ateb i chi, rwy'n ymwybodol fod yna ddeiseb—mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn chwilio am y Cadeirydd—gerbron y Pwyllgor Deisebau; rwy'n deall bod honno wedi denu 35,000 o lofnodion erbyn hyn. Felly, gallwch weld cryfder teimladau pobl ynglŷn â hynny, ond yn amlwg, fel Llywodraeth, fe gawn olwg ar hynny. Felly, tra byddwn yn aros am ymateb gan y Pwyllgor Deisebau, nid wyf yn credu ei bod yn briodol imi wneud sylw pellach.
Mae rasio milgwn yn broblem sy'n poeni llawer o fy etholwyr. Rwyf wedi cael e-byst dirifedi ynglŷn â'r cynlluniau i ehangu'r unig drac yng Nghymru yn sir Caerffili. Fel y dywedoch chi, Weinidog, mae 35,000 o bobl—mwy na hynny—wedi llofnodi deiseb yn galw am waharddiad. Mae'r pryderon a leisiwyd ganddynt yn cynnwys y ffaith bod cannoedd o filgwn yn marw ym Mhrydain bob blwyddyn oherwydd yr arfer. Mae miloedd yn cael anafiadau sy'n arwain at golli eu coesau. Mae perygl y bydd methu cael milfeddyg cymwys ar y trac yn achosi dioddefaint diangen, ac mae'n rhaid ailgartrefu miloedd o gŵn bob blwyddyn, gyda'r costau'n cael eu talu gan elusennau a'r cyhoedd.
Fe ddywedoch chi ar ôl i chi gael eich penodi, Weinidog, y byddech chi'n blaenoriaethu'r mater hwn yn gynnar yn nhymor y Senedd, ac rwyf wedi bod yn gwrando ar yr hyn a ddywedoch chi wrth fy nghyd-Aelod Luke Fletcher. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i berswadio'r cyngor ynghylch yr angen i gynnal ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i les anifeiliaid fel rhan o'r broses gynllunio, ac a wnewch chi gadarnhau, os nad ydych yn fodlon fod lles cŵn yn cael ei flaenoriaethu, y byddwch yn barod i weithredu'n uniongyrchol i'w diogelu?
Mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r cais cynllunio. Ni fyddai'n iawn i mi ymyrryd, nac unrhyw Weinidog Cymreig arall. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn—a dyma'r hyn y gofynnais am sicrwydd yn ei gylch gan gyngor Caerffili—yw bod yr arolygiadau dirybudd yn parhau. A hyd yma, rhwng mis Chwefror 2020 a mis Awst eleni, rwy'n gwybod bod wyth arolygiad dirybudd wedi'u cynnal, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod yn parhau. Rwy'n gwybod, ar brydiau, fod milfeddygon hefyd wedi mynychu'r arolygiadau dirybudd hynny, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr awdurdod lleol yn parhau i wneud hynny, ac yn amlwg, fod unrhyw faterion sy'n peri pryder yn cael sylw.
Ond rwy'n credu eich bod chi'n nodi pwynt pwysig iawn, a gallwch weld o'ch bag post eich hun fel Aelod o'r Senedd—ac fel y dywedasom, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cael 35,000 o lofnodion—pa mor gryf yw'r teimladau ynglŷn â'r mater hwn. Rwyf fi bob amser wedi bod yn bryderus, yn enwedig am les y cŵn, a'r anafiadau y gallant ac y maent yn eu dioddef. Weithiau, mae'r canlyniadau'n ddifrifol iawn. Felly, fel y dywedaf, mae'n rhywbeth rydym yn edrych arno'n ofalus iawn, a chawn weld beth a ddaw o'r Pwyllgor Deisebau hefyd.
Weinidog, nid oes angen imi eich atgoffa bod dros 2,000 o filgwn wedi marw a bron i 18,000 o anafiadau wedi digwydd ym Mhrydain rhwng 2018 a 2021. Yn 2021, roedd 4,422 o anafiadau ar draciau trwyddedig, 307 marwolaeth ym Mhrydain, ac roedd 39 y cant o'r rheini ar y trac hwn. Rydym wedi sôn am yr un trac rasio annibynnol. Ers mis Ebrill 2018, mae Hope Rescue a'u partneriaid achub wedi cymryd bron i 200 o gŵn. Rydych chi eich hun wedi sôn am eich teimladau ynglŷn â'r cŵn hyn. Erbyn hyn, digon yw digon. Rwy'n tybio bod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Pe bawn i'n Weinidog, ni fyddwn yn cael aelod o'r wrthblaid yn gofyn i mi: pam nad ydych chi wedi gwneud unrhyw beth tan nawr? Deiseb ac arni 35,000 o lofnodion—mae hynny'n nifer fawr o bobl ar draws Cymru. Dyna ddigon ar y creulondeb hwn. A wnewch chi fwrw iddi yn awr i weithredu gwaharddiad? Diolch.
Wel, pe baech chi'n Weinidog, byddech chi'n cydnabod na allwch fynd o gwmpas yn gwahardd pethau; mae'n rhaid cael tystiolaeth ac mae'n rhaid ichi gael ymgynghoriadau, ac mae hwn yn un o'r pethau rydym yn edrych arnynt. Fe fyddwch yn gwybod am y ddeiseb. Ar ôl bod yn Gadeirydd eich hun, fe fyddwch yn ymwybodol o'r broses yr awn drwyddi gyda hynny. Fe fyddwch wedi darllen, rwy'n siŵr, y cynllun lles anifeiliaid sy'n cynnwys trwyddedu gweithgareddau, ac mae hynny'n cynnwys milgwn rasio.
Rwyf fi, a fy swyddogion yn sicr, yn cadw mewn cysylltiad agos iawn â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynglŷn ag arolygiadau. Cyfarfûm â phrif weithredwr Bwrdd Milgwn Prydain. Rwy'n ceisio cael cyfarfod gyda pherchennog a rheolwr trac rasio Valley. Rwy'n meddwl fy mod wedi ysgrifennu at y perchennog ddwywaith, ac ni chefais ymateb. Felly, gallwch fod yn sicr fy mod yn parhau i wneud popeth a allaf o fewn y cyfyngiadau arnaf innau hefyd.
Prynhawn da, Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant. Fel y gwyddoch, rwy'n berchen ar filgi achub fy hun—Arthur 10 oed, sydd wedi bod gyda ni ers ychydig dros ddwy flynedd bellach. Nid oedd modd ailgartrefu Arthur oherwydd ei lefelau uchel o orbryder. Daeth Arthur atom gydag anafiadau sylweddol; mae ganddo anaf i'w wddf o syrthio ar y trac rasio, ac rydym bellach yn gweld ei goesau cefn yn gwanychu, yn anffodus, sy'n golygu na fydd Arthur gyda ni am lawer iawn o amser eto, a'r rheswm am hynny i raddau helaeth, mae'n debyg, yw'r creulondeb a brofodd ar y trac rasio.
Rydym yn gwybod bod Bwrdd Milgwn Prydain am feddiannu trac rasio Valley. Y llynedd fe wnaeth Bwrdd Milgwn Prydain—eleni, mae'n ddrwg gennyf—. Ym mis Gorffennaf, roedd llawer ohonom yn y Sioe Frenhinol. Roedd y tymheredd yn y Sioe Frenhinol—beth oeddent—yn 25, 28 gradd Celsius. Yn ystod yr wythnos honno, cynhaliodd Bwrdd Milgwn Prydain rasys ar ddau drac; fe wnaethant orfodi'r cŵn i rasio yn y gwres hwnnw. Nid oes diddordeb gan Fwrdd Milgwn Prydain mewn gofalu am eu cŵn; maent yn greulon i'w cŵn drwy'r broses hon. Felly, hoffwn apelio arnoch, beth sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag gwahardd rasio milgwn, fel y gwnaethant yn wych gyda maglau a thrapiau glud? Gadewch inni ddangos i'r byd beth y gallwn ei wneud. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at y ffotograffau y byddwch yn anfon ataf o Arthur, ac mae'n ddrwg gennyf glywed fod ei gyflwr yn dirywio, oherwydd, fel y dywedwch, nid y marwolaethau'n unig ydyw, ond yr anafiadau y mae'r anifeiliaid hyn yn eu cael. Rwy'n meddwl fy mod wedi ateb rhan o'ch cwestiwn yn fy ateb i Janet Finch-Saunders. Mae'n rhaid inni fynd drwy broses. Rydym wedi ymrwymo i drwyddedu, ond yn amlwg, wrth imi glywed am fwy a mwy o bryderon—. Ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed—. Mewn gwirionedd, roedd hi'n 38 gradd Celsius yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol, felly gallwch weld, mae gorfodi cŵn i redeg yn y gwres hwnnw'n hollol amhriodol.
Weinidog, mae'r anifeiliaid addfwyn, sensitif hyn yn haeddu pob gwarchodaeth y gallwn ei rhoi, a dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio i amddiffyn a diogelu lles yr anifeiliaid annwyl hyn. Yn ddiweddar, cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) 2022, a fydd yn sicrhau bod pob penderfyniad polisi i'w hystyried mewn perthynas â'r effaith ar les anifeiliaid fel bodau ymdeimladol. Pa gamau a roddir ar waith gennych i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith ei pholisïau ar anifeiliaid ymdeimladol fel milgwn? Diolch.
Diolch. Wel, mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar y ddeddfwriaeth hon. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol, ac nid wyf yn credu y gallaf ateb yn fwy manwl nag y gwneuthum i atebion blaenorol.
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd er mwyn sicrhau bod gan ddatblygiadau tai newydd fannau gwyrdd cymunedol? OQ58602
Diolch. Rwy'n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-aelodau o'r Cabinet ar faterion sy'n ymwneud â fy mhortffolio. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ymrwymo i hyrwyddo lleoedd o ansawdd ac i ddatblygiadau tai newydd gael seilwaith digonol, gan gynnwys mannau gwyrdd.
Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn i'n gweld yn ddiweddar cyhoeddiad ym Madrid eu bod nhw'n mynd i gael mannau gwyrdd agored o amgylch y ddinas yna, ac mae ymgyrchydd lleol yng Nghaerdydd, Steffan Webb, yn trio gwneud rhywbeth tebyg fan hyn. Mae parciau gwych yng Nghaerdydd, ond roedd y mwyafrif llethol wedi cael eu hagor yn oes Fictoria. Mae modd creu parciau newydd yng Nghaerdydd, mewn llefydd fel Llaneirwg a Sain Ffagan. Byddai hyn yn creu ardaloedd hyfryd i bobl leol, byddai'n sicrhau llain las o amgylch y ddinas, a byddai hefyd yn amddiffyniad naturiol i lifogydd. Sut mae modd, Weinidog, i chi gydweithio ag eraill i sicrhau ein bod ni'n cael parciau newydd yn yr unfed ganrif ar hugain yng Nghaerdydd?
Diolch. Rwyf bob amser yn meddwl bod Caerdydd yn ddinas werdd iawn. Fel y dywedwch, mae llawer o barciau hardd yma. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gydag unrhyw awdurdod lleol yn dod ataf mewn perthynas â pharciau newydd ers i hyn ddod yn ôl i fy mhortffolio wrth gwrs, ond yn sicr byddem yn awyddus iawn i edrych ar rinweddau unrhyw gynnig a gâi ei gyflwyno.
Weinidog, fel y gwyddoch, cafwyd cynnig ar gyfer gorsaf bwmpio carthion newydd ar fan gwyrdd cymunedol parc Hailey yng Nghaerdydd er mwyn gwasanaethu anghenion datblygiad newydd Plasdŵr. Daeth y cynigion gerbron oherwydd bod datblygwyr yr ystad dai newydd wedi methu gwneud darpariaeth ddigonol, ac mae gwrthwynebiad ffyrnig i'r cynigion gan grwpiau lleol, fel YGC Rebel Mams, sydd wedi cael eu gorfodi i godi dros £50,000 i fynd â'r awdurdod lleol i adolygiad barnwrol, a'r cyfan am eu bod am ddiogelu'r mannau gwyrdd cyfyngedig sydd ar gael iddynt ar gyfer eu plant a'u cymuned, ac oherwydd eu bod yn teimlo na ddylent gael eu gorfodi i ysgwyddo'r baich oherwydd anallu Cyngor Caerdydd i weithio gyda datblygwyr ar gynllunio anghenion ystadau tai newydd. Weinidog, mae mannau gwyrdd yn brin iawn yng Nghaerdydd, ac mae Cyngor Caerdydd yn benderfynol o gael gwared arnynt pryd bynnag a lle bynnag y bo modd yn wyneb gwrthwynebiad ffyrnig trigolion sy'n gwybod y bydd y mannau hyn yn cael eu colli iddynt am byth. Felly, rwy'n gofyn, Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i annog Cyngor Caerdydd i beidio â gosod y tir ym mharc Hailey ar brydles i Dŵr Cymru fel y gellir atal gwaith carthffosiaeth, ac a wnewch chi gynnig ymrwymiad y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gynllunio datblygiadau'n well, gan eu hatal yn eu tro rhag cael gwared â'n mannau gwyrdd cymunedol olaf yn ein hardaloedd trefol? Diolch.
Byddai'n rhaid i chi godi hynny'n uniongyrchol gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Yn amlwg, mater i Gyngor Caerdydd yw'r hyn y cyfeiriwch ato; hwy yw'r awdurdod cynllunio lleol. Ni fyddai'n briodol i unrhyw Weinidog Cymreig wneud sylw ar deilyngdod unrhyw gynnig, er enghraifft, gan y gallai ddod gerbron Gweinidogion Cymru rywbryd yn y dyfodol.
7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am fesurau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â lledaeniad ffliw adar yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58624
Pan fydd achos o ffliw adar yn cael ei gadarnhau mewn unrhyw safle yng Nghymru, mae mesurau llym i reoli afiechydon yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith i atal lledaeniad pellach. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru barth atal ffliw adar ar 17 Hydref, sy'n ei gwneud yn ofyniad gorfodol i geidwaid adar ddilyn mesurau bioddiogelwch llym.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r mesurau yna, wrth gwrs, yn cael eu croesawu achos mae'r straen cyfredol o'r ffliw adar yn cael ei gydnabod fel y gwaethaf sydd wedi digwydd yma yn ynysoedd Prydain, gyda'r newyddion diweddar yn Norfolk bod yna rhyw 0.5 miliwn o ieir wedi cael eu difa o ganlyniad i'r haint, a phryder ymhlith y diwydiant bod hyn yn mynd i gael effaith ar nifer y twrcwn fydd ar gael ar gyfer y Nadolig.
Ond, yn ogystal â'r sector amaeth, mae lledaeniad yr haint ac effaith hynny ar fywyd gwyllt hefyd yn ddifrifol iawn, gyda rhyw 10,000 o wyddau môr wedi cael eu lladd gan yr haint y llynedd wrth iddyn nhw fudo o'r Arctig i Brydain. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi clywed am effaith hyn ar y mulfrain, cormorants, ar Ynys Gwales yn sir Benfro. Rydyn ni'n gwybod am bwysigrwydd arfordir gorllewin Cymru o ran adar môr a gwarchodfeydd natur pwysig. Felly, gyda phryderon am y lledaeniad yma y gaeaf hwn a'r berthynas rhwng y sector amaeth a bywyd gwyllt, ydy'r Gweinidog yn gallu ein sicrhau ni fod ymdrechion ac adnoddau i fynd i'r afael â'r ffliw yma yn y sector amaeth yn mynd law yn llaw gydag ymdrechion i ddiogelu ein bywyd gwyllt rhag yr haint?
Gallaf yn sicr, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r mater hwn hefyd. Cyhoeddodd y strategaeth liniaru ar gyfer ffliw adar mewn adar gwyllt yng Nghymru a Lloegr yn ôl ym mis Awst, rwy'n credu, a hynny er mwyn galluogi elusennau cadwraeth a rheolwyr tir— yn amlwg, mae hynny'n cynnwys y sector amaethyddol—i ymateb yn effeithiol a chyson i ffliw adar mewn adar gwyllt.
Fel rwy'n deall, mae achos o ffliw adar wedi bod yn fy etholaeth, ac mae'n hollbwysig, felly, fod popeth yn cael ei wneud i atal yr afiechyd rhag lledaenu ymhellach ar draws sir Benfro ac yn wir ar draws gweddill Cymru. Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n cydweithio gyda Llywodraethau eraill ledled y DU ar y mater hwn. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi gwybod inni am y trafodaethau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraethau eraill y DU ynghylch achosion o ffliw adar yn y DU, a beth arall y gellir ei wneud i fonitro'r clefyd penodol hwn ledled y DU oherwydd, fel y gwyddoch wrth gwrs, nid yw clefydau'n adnabod ffiniau?
Efallai eich bod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Gareth Davies ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU, yn enwedig Llywodraeth y DU. Fel y dywedais, roeddem yn gweithio ar hyn gyda George Eustice yn ôl ar ddechrau'r flwyddyn. Yn anffodus, ni chyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol DEFRA a adawodd y Llywodraeth ddoe, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at Thérèse Coffey ynghylch y mater. Bioddiogelwch yw'r amddiffyniad pwysicaf sydd gennym mewn perthynas â ffliw adar. Yn sicr, roedd rhai o'r achosion a welsom, a soniais am y rhai yn swydd Lincoln, mewn safleoedd mawr ar ddechrau'r flwyddyn, felly roeddem i gyd yn bryderus iawn am yr elfen fioddiogelwch. Felly, os oes unrhyw neges y gallaf ei rhoi, oherwydd mae'n amlwg yn fater enfawr lle nad ydym wedi cael unrhyw seibiant o gwbl mewn gwirionedd—rydym wedi parhau i gael achosion newydd o ffliw adar drwy gydol yr haf, ac mae'r tymor cyfrif newydd yn dechrau ar 1 Hydref, ac rydym newydd fynd yn syth i mewn i hynny—. Felly, rwy'n credu bod y neges honno'n bwysig iawn, ond mae'n bwynt difrifol iawn fod yn rhaid inni weithio gyda'n gilydd, oherwydd, fel y dywedwch, mae adar yn hedfan; nid ydynt yn gweld ffiniau ac mae mor hawdd i'r afiechyd drosglwyddo, ac mewn adar gwyllt hefyd, yn amlwg. Soniais am y gwaith y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei wneud ar hynny, ond rwy'n gobeithio y bydd gennym grŵp rhyngweinidogol fel mater o frys, a bydd yn rhywbeth y byddaf yn ei godi, ac rwy'n hapus iawn i adrodd yn ôl i'r Aelodau.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol i ffermwyr Cymru ar ôl y polisi amaethyddol cyffredin? OQ58611
Diolch. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Mae cynigion y cynllun yn arwydd o newid mawr yn y ffordd y bydd ffermwyr Cymru'n cael eu cefnogi. Bydd y cynllun yn allweddol i gefnogi ffermwyr Cymru i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o greu amgylchedd mwy gwydn ac economi wledig fwy gwydn.
Mae fy nghwestiwn yn codi, fel ambell gwestiwn arall heddiw, yn sgil y craffu a wnawn ar Fil amaeth Cymru yn y pwyllgorau. Yn fwyaf penodol, un o'r materion a godwyd yr wythnos diwethaf oedd cyllid ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn ogystal â'r hyn a dargedir yn uniongyrchol at ffermwyr, ac rydym yn gwybod bod y gadwyn gyflenwi'n amrywiol—mae'n cynnwys lladd-dai, pacwyr cig, prosesau bwyd a diod yr holl ffordd i'r cwsmer. Yr hyn roeddem yn ei ofyn i'n tystion, a'r hyn yr hoffwn i'r Gweinidog wneud sylwadau arno heddiw efallai, yw sut y bydd yr arian hwnnw'n cael ei rannu ar draws y gadwyn gyflenwi, a sut y bydd hi'n sicrhau, ar ôl y PAC, na fydd cyllid yn cael ei rannu'n rhy denau ac y bydd yn cael ei dargedu yn y mannau cywir.
Diolch. Rwy'n credu imi gael fy holi am hynny yn sicr, rwy'n credu mai Sam Kurtz a ofynnodd i mi am hynny yn y pwyllgor, ac mae'n bwynt pwysig iawn. Ond fe fyddwch yn deall ar hyn o bryd nad wyf hyd yn oed yn gwybod beth yw fy nghyllideb, felly mae'n anodd iawn rhoi unrhyw sicrwydd i chi. Mae'n bwysig fod yr arian sydd gennym yn cael ei gyfeirio at ffermwyr, ond wrth gwrs, bydd y gweithgareddau atodol y cyfeiriwn atynt yn rhan o'r gadwyn gyflenwi honno, ac wrth inni edrych ar y camau gweithredu o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n debyg ei fod ychydig fel colofn 1 a cholofn 2 yn awr; byddwn yn edrych ar sut y dyrannwn y cyllid hwnnw. Ond fel y dywedaf, mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud sut y byddwn yn ei ddyrannu am na wyddom beth yw ein cyllideb. I mi, y person y mae'n rhaid iddo elwa yn y pen draw yw'r ffermwr actif.
Mae Sam Kurtz a James Evans eisoes wedi siarad am sefyllfa'r tenantiaid, ac mae'n rhaid imi dynnu sylw'r Aelodau at fy muddiannau gan fy mod yn ffermwr actif. Ond soniodd Sam hefyd am dir comin, a hoffwn wthio ychydig ymhellach ar hynny, oherwydd mae tir comin ar hyn o bryd yn ardal gymwys at bwrpas cynllun y taliad sylfaenol, sy'n hanfodol i lawer o fusnesau ar draws Cymru. Mae ffermwyr yn gofyn, 'A fydd tir comin yn cael ei gynnwys yn haen gyffredinol y cynllun newydd, i gydnabod na fydd yn bosibl i ddeiliaid hawliau comin gyflawni llawer o'r camau cyffredinol arfaethedig ar dir comin?' Weinidog, roeddwn i'n meddwl tybed pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y cynllun newydd yn parhau i hybu rheolaeth actif ar dir comin drwy bori a mesurau amaethyddol cynaliadwy eraill.
Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud mewn ateb cynharach: rydym yn dal ar gam cyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, felly nawr yw'r amser i sicrhau bod pawb yn cyflwyno'u safbwyntiau. Soniais am yr arolwg—mae hwnnw'n agored tan 21 Tachwedd. Gofynnwch i unrhyw un sy'n cysylltu â chi gyda phryderon i sicrhau eu bod yn cwblhau'r arolwg.
Mae gennym y tair haen, fel y dywedwch, a'r haen gyffredinol y credaf y gallwn i gyd ragdybio y bydd yn haen fwyaf o'r tair. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod unrhyw un a oedd yn rhan o gynllun y taliad sylfaenol—. Rwyf eisiau i gymaint o ffermwyr â phosibl allu manteisio ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn amlwg, mae hynny'n cynnwys ffermwyr ar dir comin.
9. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar wastadeddau Gwent? OQ58623
Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i gydweithio i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur ar lefel tirwedd. Mae gwastadeddau Gwent yn enghraifft wych lle gall mabwysiadu arferion rheoli tir cynaliadwy gefnogi busnesau fferm gwydn a gwella'r amgylchedd ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.
Diolch yn fawr, Weinidog, am gydnabod gwerth yr hyn a fu'n digwydd ar wastadeddau Gwent. Y mis diwethaf, roeddwn yn falch o gael siarad yng nghynhadledd Cynnal Gwastadeddau Gwent yn Redwick, pentref bach hanesyddol yn ardal Dwyrain Casnewydd. Cafodd gwastadeddau Gwent eu hadfer o'r môr adeg y Rhufeiniaid, ac mae ganddynt system cyrsiau dŵr unigryw a hanesyddol sy'n cynnwys amrywiaeth fawr o gynefinoedd, gan gynnwys llygoden y dŵr ar gors Magwyr. Maent yn cynnwys llawer o dir ffermio cynhyrchiol hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio'n agos gyda ffermwyr a sefydliadau eraill ar y gwastadeddau i gynhyrchu'r bwyd sydd ei angen, adfer natur, gwrthsefyll newid hinsawdd a gwella ansawdd dŵr. Mae hyn yn cynnwys adfer y ffosydd, peillio helyg, adfer perllannau, ond hefyd adfer glaswelltiroedd llawn rhywogaethau a chreu gwyndynnydd llysieuol. Weinidog, a wnewch chi ddweud sut y bydd cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn helpu i gyrraedd y nodau hyn?
Diolch. Wel, byddwn yn dychmygu y bydd yr haen gydweithredol—. Rydym newydd fod yn cyfeirio at dair haen y cynllun ffermio cynaliadwy, a byddwn yn tybio y bydd haen gydweithredol y cynllun yn gallu cynnig cymorth i brosiectau ar lefel tirwedd ar wastadeddau Gwent, fel y nodwyd gennych yn awr, neu o fewn y gadwyn gyflenwi, fel y gallant gyflawni mewn perthynas â'r blaenoriaethau lleol a chenedlaethol hynny y cyfeirioch chi atynt. Gwn ein bod—wel, rydych chi, fel cadeirydd gweithgor gwastadeddau Gwent—yn edrych ar gynllun gwella strategol, a fydd ar gael yn y flwyddyn newydd, rwy'n credu, ac yna, byddwn yn dod allan o'r cyfnod cyd-gynllunio. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni edrych ar y cynllun hwnnw i weld sut y bydd yn cyd-fynd â’r cynllun ffermio cynaliadwy.
Ac yn olaf, cwestiwm 10, Vikki Howells.
10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella safonau lles anifeiliaid? OQ58604
Diolch. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi’u nodi yn ein cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru. Mae’n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau gweithredu allweddol yn erbyn y pedwar ymrwymiad sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yn ein rhaglen lywodraethu, a chamau gweithredu ar gyfer ein blaenoriaethau lles anifeiliaid eraill.
Diolch, Weinidog. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid i’w groesawu’n fawr ac mae wedi cael cefnogaeth gan gyrff lles anifeiliaid er mwyn helpu i sicrhau bod arferion gorau’n cael eu mabwysiadu. Mae rheoleiddio’r sefydliadau hyn hefyd yn bwysig, gan fod hynny'n cau bwlch y gall gwerthwyr trydydd parti fanteisio arno yng nghyfraith Lucy. O ystyried pwysigrwydd y rheoliad hwn, a wnewch chi roi unrhyw ddiweddariadau ar ei gynnydd?
Diolch. Ni allaf roi unrhyw ddiweddariad penodol i chi, oherwydd, fel y gwyddoch, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar hyn o bryd i ddatblygu dogfen o fewn y cynllun lles anifeiliaid i edrych ar yr holl ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol sy'n canolbwyntio ar les anifeiliaid—fel y gallwch ddychmygu, mae hwnnw’n waith go arwyddocaol, ond yr hyn y bydd y gwaith hwnnw'n ei wneud yw mesur ble mae'r bylchau—ac yna nodi cynigion ar gyfer y gwelliannau trwyddedu wrth symud ymlaen. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus yn ôl yr angen, ac yn amlwg, nid wyf am achub y blaen ar ganlyniadau’r ymarfer hwnnw.
Diolch i'r Gweinidog.
Ac fel y dywedwyd eisoes gan Samuel Kurtz a’r Gweinidog, a gaf innau ddiolch i’r prif swyddog milfeddygol wrth iddi symud ymlaen o’i rôl? Fel cyn-Weinidog materion gwledig fy hun, gwn yn iawn am yr ymrwymiad 100 y cant a ddangosodd Christianne Glossop i’w rôl, ond hefyd, wrth gwrs, wrth weithio ar draws y pleidiau gwleidyddol a chyda phwyllgorau a’r Senedd yn gyffredinol, ac rwy'n siŵr, ar ran y Senedd, ein bod yn dymuno'n dda iddi gyda beth bynnag a ddaw nesaf, gan fy mod yn siŵr fod llawer i ddod.
Felly, diolch i Christianne Glossop am ei gwaith bendigedig.
Cwestiynau amserol sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn heddiw gan Sioned Williams ac i'w ateb gan y Trefnydd. Sioned Williams.
1. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys ar gynlluniau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot? TQ670
Diolch. Mae cyswllt etholaethol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, felly rwy’n ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Deallaf fod y cyngor wedi nodi dyfarniad y llys mewn perthynas â chynnig cwm Tawe a'u bod yn ystyried eu camau nesaf. Mae gan y cyngor gyfnod o amser i benderfynu a fydd yn apelio, felly mae angen i unrhyw ystyriaeth bellach aros am benderfyniad y cyngor.
Diolch. Yn dilyn cais am adolygiad barnwrol gan Rhieni dros Addysg Gymraeg, fe ddyfarnodd yr Uchel Lys ddydd Llun fod penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe yn anghyfreithlon am iddyn nhw fod wedi methu ag asesu effaith hyn ar y Gymraeg ac yn benodol ar addysg Gymraeg. Mae'r dyfarniad wedi'i ddisgrifio fel un o bwys cenedlaethol gan Gwion Lewis, y bargyfreithiwr a gyflwynodd yr achos, gan ei fod yn golygu, meddai, y bydd nawr angen i gynlluniau sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg ac addysg Gymraeg asesu eu heffaith ar y Gymraeg. Tra bod y dyfarniad yn newyddion da i gwm Tawe, mae'n codi cwestiynau ynghylch y safbwynt a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater.
Ymateb y Llywodraeth i'r achos oedd ei bod hi'n fater i'r awdurdod lleol, ond, cyn i wleidyddion fel fi a chyrff fel RhAG a Dyfodol i'r Iaith dynnu sylw at y mater, o gymeradwyo'r cynllun busnes amlinellol roedd y Llywodraeth yn amlwg yn ddigon bodlon ar y cychwyn gyda'r modd y gwnaed yr ymgynghoriad ac yn cytuno â'r hyn a alwyd gan y barnwr yn gamddehongliad o bolisïau’r Llywodraeth ei hun o ran trefniadaeth ysgolion a'r polisi 'Cymraeg 2050'.
Hoffwn ofyn, felly, i'r Llywodraeth ymchwilio i'r ffaith nad oedd dealltwriaeth gan yr adran addysg o'i pholisi ei hun a sicrhau bod cefnogaeth ymarferol, drawsadrannol i'r polisi 'Cymraeg 2050'. Sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod holl gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a rhaglenni cyfalaf yn cynnwys ystyriaeth briodol o ran effaith pob datblygiad ar y Gymraeg a hefyd sicrhau dealltwriaeth a chapasiti o fewn awdurdodau lleol o ran cynllunio twf y Gymraeg ar draws pob adran?
Yn olaf, er mwyn cefnogi'r newid cyfeiriad sydd ei angen yn yr achos penodol yma, a fydd y Llywodraeth yn ymrwymo i ystyried clustnodi'r arian a addawyd i'r cynllun gwallus a niweidiol hwn i'r Gymraeg i gynllunio ad-drefnu addysg amgen na fydd yn niweidio'r Gymraeg yn y fath fodd, cyhyd â bod y cynlluniau yn cwrdd â gofynion y cynllun cyllido rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy?
Diolch. Wel, wrth symud ymlaen, yn amlwg, bydd swyddogion Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gweithio gyda’r awdurdod lleol. Yn amlwg, bydd rhaid iddynt ystyried yr hyn a gyflwynir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fel y dywedaf, y peth nesaf iddynt, yn amlwg, yw ymateb. Fy nealltwriaeth i yw bod swyddogion wedi edrych ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ac wedi'u hystyried yn y ffordd yr awgrymwyd gennych. Mewn perthynas â chyllid, credaf fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir iawn wrth yr awdurdod lleol, pe bai’r prosiect yn newid, y byddai angen iddynt ailgyflwyno achos busnes wrth gwrs, ac yna byddai swyddogion y Gweinidog yn ei ystyried eto.
Weinidog, credaf ei bod yn bwysig inni bwysleisio yma mai'r bwriad oedd i hon fod yn ysgol yr unfed ganrif ar hugain o’r radd flaenaf gyda chyfleusterau lleol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol a phwll nofio newydd hefyd, rhywbeth y mae ei angen yn fawr yn y gymuned. Ond yr hyn y mae’n rhaid ei wneud yn glir yw’r ffaith bod angen canllawiau cliriach ar awdurdodau lleol efallai pan fyddant yn ymgynghori ar faterion fel y rhain. Y dyfarniad hwn—ac mae'n werth nodi ei fod ar un o'r tri chyhuddiad—oedd bod y cyngor wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy, ac rwy'n dyfynnu,
'fethu ymgynghori ymhellach ar ôl derbyn yr asesiad o'r effaith ar y Gymraeg gyda'i ymgynghoriad.'
Cau'r dyfyniad. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yn awr yw arwydd cliriach gan y cyngor ynglŷn â'i gamau nesaf, fel y gall roi rhywfaint o eglurder i ysgolion, disgyblion a rhieni yn ysgolion Alltwen, Llan-giwg a Godre’r Graig ar hyn o bryd. Felly, o ystyried y gallai’r dyfarniad hwn arwain at oblygiadau pellach o ran ad-drefnu ysgolion eraill ledled Cymru a rhaglenni ysgolion yr unfed ganrif ar hugain mewn ardaloedd cynghorau eraill, pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi na fydd y dyfarniad hwn yn effeithio ar gynlluniau sydd ar y gweill mewn mannau eraill, a pha wersi y gellir eu dysgu o'r dyfarniad hwn ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot?
Wel, fel y dywedais yn fy ateb i Sioned Williams, y cam nesaf fydd i’r cyngor ymateb; mater iddynt hwy, wedyn, yw dod at Lywodraeth Cymru gyda'u camau nesaf. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog—. Fel y soniais ar ddechrau fy ateb, yn amlwg, mae cyswllt etholaethol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, felly, yn amlwg, os yw’n rhywbeth penodol i’w wneud â’r etholaeth, bydd y Prif Weinidog yn ei ystyried. Ond ar eich pwynt cyffredinol ynghylch canllawiau, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn edrych ar y canllawiau i weld a oes unrhyw beth y gellid bod wedi'i wneud i osgoi hyn. P'un a fydd—. Rwy'n siŵr y gellir dysgu gwersi bob amser, oni ellir, o bethau fel hyn. Ac unwaith eto, rwy'n siŵr y bydd swyddogion yn ystyried hynny.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Un yn unig heddiw. Natasha Asghar.
Diolch, Lywydd. Ar ôl bod yn Aelod am gyfnod byr o amser, nid oes gennyf amheuaeth nad yw’r Aelodau yma yn credu ym manteision gwych cymdeithas amlddiwylliannol ac aml-ffydd, a dyna pam fy mod yn falch o allu goleuo’r Siambr ynghylch pwysigrwydd Diwali yma yng Nghymru. Yn fwy adnabyddus fel gŵyl y goleuadau, ac yn deillio o'r gair Sansgrit, Deepawali, sy'n golygu 'rhes o oleuadau', mae Diwali'n adnabyddus am y lampau clai y mae'r rhai sy'n dathlu'r ŵyl yn eu cynnau a'u gosod y tu allan, neu'n dibynnu ar y tywydd, yn eu cartrefi. Eleni, dechreuodd Diwali ar ddydd Llun 24 Hydref. Caiff yr ŵyl ei dathlu gan fwy na biliwn o bobl o amrywiaeth o wahanol grefyddau ar draws India a'i diaspora, gan gynnwys Hindŵiaid, Jainiaid, Bwdhyddion a Sikhiaid, ac er bod gan bob un ohonynt eu credoau unigol eu hunain ynghylch gwreiddiau'r ŵyl, mae'n dal i gynrychioli'r un fuddugoliaeth symbolaidd, sef goleuni dros dywyllwch, da dros ddrwg a gwybodaeth dros anwybodaeth.
Mae'r diwrnod cyntaf yn dynodi Dhanteras, er clod i'r dduwies Lakshmi. Diwrnod dau—credir, ar y diwrnod hwnnw, fod Kali, duwies Shakti, neu gryfder, wedi lladd y demon Narakasura. Y trydydd diwrnod yw'r mwyaf o bum diwrnod Diwali. Mae pedwerydd diwrnod Diwali yn nodi diwrnod cyntaf y flwyddyn newydd, a diwrnod pump, y diwrnod olaf, yw Bhai Duj, sy'n dathlu'r cwlwm rhwng brodyr a chwiorydd. Mae pum diwrnod Diwali yn cael eu dathlu gyda gweddïau, gwleddoedd, tân gwyllt, aduniadau teuluol a rhoddion elusennol. Er bod gan wahanol ranbarthau India a'i chrefyddau wahanol chwedlau am weithredoedd arwrol yr ymgnawdoliadau, mae dathlu Diwali yn cynrychioli'r golau mewnol sy'n diogelu pob aelwyd ac unigolyn rhag tywyllwch ysbrydol.
Mae’n ddathliad mor bwysig i’r gymuned Hindŵaidd, sy’n rhan annatod o’r holl gymunedau yma yng Nghymru, felly, ar ran yr holl Aelodau o Senedd Cymru, diwali ki dheron shubh kamnayein, sy’n golygu ‘Diwali hapus i bawb sy'n dathlu'. Diolch.
Diwali hapus i bawb, ie, wir.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ethol Cadeirydd dros dro i'r Cyfarfodydd Llawn, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM8114 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 6.23A, yn ethol Paul Davies fel Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?
A oeddech yn gwrthwynebu?
Na, roeddwn yn codi llaw ar—[Anghlywadwy.]
O, iawn. Iawn. [Chwerthin.] Efallai y dylech ystyried eich amseru wrth godi llaw y tro nesaf. Felly, i gadarnhau, nid oes unrhyw wrthwynebiadau, ac felly, derbyniwyd y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Llongyfarchiadau i Paul Davies ar gael ei ethol yn Gadeirydd dros dro.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod. Bil addysg awyr agored (Cymru) yw hwnnw. Dwi'n galw ar Sam Rowlands i wneud y cynnig. Sam Rowlands.
Cynnig NDM8069 Sam Rowlands
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Sam Rowlands MS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 17 Awst 2022 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddweud yn gyntaf ei bod yn bleser ceisio cytundeb y Senedd heddiw imi gyflwyno fy Mil Aelod, Bil addysg awyr agored (Cymru)? Fel y gŵyr yr Aelodau, yn ôl ym mis Gorffennaf, cefais fy newis drwy bleidlais Aelodau i gyflwyno Bil. Yn amlwg, ers mis Gorffennaf, nid oes llawer iawn wedi digwydd ym myd gwleidyddiaeth yn y DU, ond rwyf fi yn sicr wedi bod yn brysur iawn, gan weithio gyda chynrychiolwyr o'r sector addysg a gweithgareddau awyr agored, prifysgolion, cynghorau, Aelodau o'r Senedd, ysgolion a disgyblion ar gyflwyno'r hyn sydd nid yn unig yn Fil hynod gyffrous yn fy marn i, ond un a fydd hefyd yn sicrhau ystod o fanteision hirdymor.
Yn ôl ym mis Gorffennaf, cefais y pleser o gyhoeddi memorandwm esboniadol 16 tudalen, a oedd yn archwilio amcanion polisi’r Bil hwn a’r gefnogaeth a ddaeth i law i’r Bil, ynghyd â’r ffactorau ariannol i’w hystyried. Rwy'n siŵr fod pob Aelod eisoes yn gwybod hyn, gan fy mod yn siŵr fod pob un ohonom wedi darllen pob gair ohono; serch hynny, bydd yr Aelodau'n falch o nodi y byddaf yn trafod y pwyntiau o'r memorandwm esboniadol drwy fy nghyfraniad heddiw, lle byddaf yn dechrau drwy amlinellu beth yw'r Bil, yn ail, byddaf yn amlinellu pam fod addysg awyr agored mor bwysig, byddaf yn esbonio pam fod angen y Bil hwn, byddaf yn egluro agweddau ariannol y Bil hefyd, ac yn olaf, byddaf yn amlinellu'r camau nesaf, yn fy marn i, ar gyfer bwrw ymlaen â'r cynnig hwn.
Felly, yn fyr, bydd y Bil yn sefydlu dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ymweliad addysg awyr agored preswyl wythnos o hyd, pedair noson, ar ryw adeg yn ystod eu gyrfa ysgol. Bydd hyn yn cael ei roi ar waith drwy sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynnig y profiadau hyn i’n holl bobl ifanc, a fyddai'n para, fel y dywedais, am o leiaf wythnos—pedair noson—ar ryw adeg yn ystod eu blynyddoedd yn yr ysgol.
Wrth gwrs, rwy’n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau’n meddwl: o’r holl gynigion polisi y gallwn fod wedi ceisio'u cyflwyno, pam y dewisais addysg awyr agored? Y prif reswm y tu ôl i hyn yw fy argyhoeddiad sylfaenol ynghylch pwysigrwydd addysg awyr agored i addysg a datblygiad cyffredinol plentyn. Fy nyhead i, a dyhead llawer o Aelodau’r Senedd, rwy'n credu, yw y dylai plant, ni waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol, eu hanghenion dysgu ychwanegol, eu cefndir diwylliannol neu eu lleoliad daearyddol, gael mwynhau’r manteision gwych a hirhoedlog y gall addysg awyr agored eu cynnig. Yn ogystal â hyn, rwyf fi ac Aelodau o bob rhan o’r Siambr wedi gweithio gyda’r sector gweithgareddau awyr agored dan gadeiryddiaeth ragorol Huw Irranca-Davies o grŵp trawsbleidiol y sector gweithgareddau awyr agored, a fu'n gymorth i mi ac aelodau’r grŵp trawsbleidiol i ddeall gwir fanteision addysg awyr agored. Rwy’n siŵr y bydd llawer o Aelodau’r Senedd yn cofio bod ar ymweliadau preswyl addysg awyr agored, gan greu atgofion, magu hyder a pharatoi ein hunain ar gyfer degawdau i ddod. Yn anffodus, rwyf hefyd yn siŵr fod yna Aelodau yma na fyddant wedi cael cyfle i gael y profiad anhygoel hwn eu hunain.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Yn wir, mae ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a gyhoeddwyd drwy Hwb, wedi nodi bod addysg awyr agored yn arwain at fanteision pendant i blant a phobl ifanc o ran eu hiechyd a’u lles corfforol, ond hefyd eu hiechyd meddwl. Yn ogystal â hyn, canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod gan addysg awyr agored fanteision eithriadol o ran dysgu personol a chymdeithasol, datblygiad gwybyddol a gwerthfawrogiad o’n hamgylchedd, a chyda’n hargyfwng hinsawdd, mae hyn yn bwysicach yn awr nag erioed.
Ynghyd â hyn, mae ymchwil o bob rhan o’r byd wedi nodi ymhellach, os yw plentyn yn profi'r manteision hyn yn ifanc, y bydd hynny'n cael effaith arnynt am weddill eu hoes, gan wneud gwahaniaeth parhaol. Ymhellach, mae maes dysgu a phrofiad iechyd a lles y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys datganiadau o'r 'hyn sy'n bwysig', sy'n rhoi pwys ar ymateb i brofiadau, gwneud penderfyniadau a dylanwadau cymdeithasol. Mae'r rhain oll yn elfennau sylfaenol o addysg awyr agored, fel y'u gwireddir yn llawn drwy brofiad preswyl o addysg awyr agored.
Hoffwn symud ymlaen yn awr at y rhesymau pam fod angen y Bil yma yng Nghymru, a’r hyn y mae’r ymchwil a’r ystadegau a gyhoeddwyd yn ei ddweud wrthym. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r ysgolion a'r sefydliadau sy'n darparu addysg awyr agored ar hyn o bryd, gyda'r gwaith gwych sy'n mynd rhagddo i alluogi hyn i ddigwydd. Y brif resymeg y tu ôl i’m Bil yw nad yw’r holl waith da hwn y mae ysgolion a sefydliadau'n ei wneud ar hyn o bryd yn mynd yn ddigon pell, gan ei fod yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n cyfoethogi yn hytrach na'n rhan hanfodol o addysg, gyda sawl rhan o’n cymunedau ar eu colled oherwydd cyfyngiadau ariannol, ble maent yn byw neu eu cefndir teuluol, a byddaf yn sôn am hynny mewn mwy o fanylder yn y man.
Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wythnos diwethaf, gyda chymorth y sector addysg awyr agored a thîm ymchwil y Senedd, cyhoeddais bapur ystadegol sy’n amlinellu’n gryno yr hyn a welwn ar hyn o bryd gyda’r rhai sy’n cymryd rhan mewn addysg awyr agored, oherwydd, yn anffodus, nid oedd unrhyw ystadegau swyddogol ynghylch nifer yr ymweliadau preswyl addysg awyr agored neu faint o’n plant a’n pobl ifanc yng Nghymru sy’n cael yr ystod glir o fanteision y maent yn eu darparu. Mae’r papur ystadegol hwn wedi cynnal arolwg o 350 o ysgolion ar draws 18 o awdurdodau lleol Cymru, a thrwy weithio gyda Phanel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru, cesglais ddata sy’n dangos pedwar canfyddiad allweddol.
Yn gyntaf, mewn dros draean o ysgolion Cymru, o’r plant y cynigir cyfle iddynt gymryd rhan mewn ymweliadau preswyl addysg awyr agored, mae llai na 75 y cant o blant yn cymryd rhan. Yn ail, nododd 60 y cant o'r ysgolion y gwnaed arolwg ohonynt mai rhesymau ariannol yw'r prif rwystr rhag cymryd rhan mewn ymweliadau preswyl addysg awyr agored. Yn drydydd, nid yw dros un o bob pump o ysgolion Cymru yn cynnig cymhorthdal i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol. Ac yn bedwerydd, mae ymchwil cychwynnol wedi awgrymu hefyd y bydd mwy o blant o ardaloedd mwy cefnog yn cymryd rhan mewn ymweliadau addysg awyr agored, tra bo'r rheini mewn ardaloedd llai cefnog yn cymryd rhan yn llai aml.
Yn wir, canfu canlyniadau'r arolwg fod 65 y cant o ysgolion ym Mlaenau Gwent wedi nodi cyfyngiadau ariannol fel problem; yng Nghaerffili, nododd 70 y cant o ysgolion fod cyfyngiadau ariannol yn broblem; ac yn Rhondda Cynon Taf, nododd 75 y cant o'r ysgolion fod cyfyngiadau ariannol yn broblem, tra bo 45 y cant yn unig yn amlinellu hyn fel problem yn sir Fynwy. Yn ogystal, yn ystod y broses hon, un peth allweddol a nodais yw’r ffaith anffodus mai ymweliad addysg awyr agored, mewn gwirionedd, yw’r unig gyfle o bosibl y caiff rhai o’ch pobl ifanc weld y tu hwnt i’r cymunedau y maent yn byw ynddynt, ac i gael profiad o rywbeth newydd.
Felly, gyda fy mhapur ystadegol, rwy'n siŵr fod dilynwyr brwd fy nghyfrif Twitter a fy nhudalen Facebook wedi gweld dwy erthygl allweddol a rannais yr haf hwn mewn perthynas ag addysg awyr agored. Yn gyntaf, canfu ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd drwy BBC Cymru, fod plant yng Nghymru ymhlith y plant lleiaf heini yn y byd, gydag ymchwilwyr yn rhoi F am ffitrwydd i blant a phobl ifanc Cymru. Canfu ail erthygl gan y BBC, a oedd yn cynnwys ymchwil gan Chwaraeon Cymru, fod plant yn cymryd rhan mewn llai o chwaraeon nag a wnaent bedair blynedd yn ôl, gyda 36 y cant o blant heb fod yn gwneud unrhyw weithgareddau y tu allan i’w gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol, o gymharu â 28 y cant bedair blynedd yn ôl yn unig. Rwy'n siŵr y gall pob Aelod o bob rhan o'r Siambr gytuno nad yw'n iawn nad yw cyfran sylweddol o'n pobl ifanc ledled Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn rhywbeth sydd mor fuddiol, naill ai oherwydd o ble maent yn dod neu sefyllfa ariannol eu teulu. Credaf na allwn sefyll yn ôl a gadael i'n plant fynd yn llai iach a’n pobl ifanc i beidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, ac nid yw’n dderbyniol inni eistedd yma a pheidio â gwneud dim ynglŷn â'r peth.
Gan symud ymlaen at y costau ariannol, y gwn fod yr Aelodau’n awyddus i’w deall yn well, a chredaf ei bod ond yn deg ein bod yn rhoi sylw i'r mater hwn hefyd. Mae’r ymchwil a’r ddealltwriaeth gychwynnol wedi dangos y byddai hyn yn costio rhwng £9.9 miliwn a £13.6 miliwn i’w ariannu, sef oddeutu 0.06 y cant o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru. Serch hynny, ar ôl i'r Bil gael ei roi mewn grym, credaf y byddem yn gweld manteision ariannol o ganlyniad iddo mewn gwirionedd, gydag arbedion i wasanaethau cyhoeddus drwy welliannau i iechyd, llesiant, gwasanaethau iechyd meddwl a chanlyniadau addysg, ynghyd â gwell gwerthfawrogiad o’r amgylchedd. Yn ogystal â hynny, byddai cyflwyno a chefnogi’r Bil hwn yn cyfrannu at bedwar diben allweddol Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru: byddem yn gweld dysgwyr hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol a galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes; byddem yn gweld cyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith; byddem yn gweld dinasyddion mwy moesegol a gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd; ac yn olaf, byddem yn gweld unigolion iachach a hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau hefyd ynglŷn â sut y mae hyn yn gweithio mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Fel y bydd rhai yn gwybod, mae Bil addysg awyr agored yn gweithio'i ffordd drwy Senedd yr Alban ar hyn o bryd, ac mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol siarad â chymheiriaid yno a deall bod cefnogaeth drawsbleidiol yno hefyd i gynnig o'r fath. Mae hefyd yn bwysig amlinellu’r cymorth sy’n dod o’r sector addysg awyr agored mewn perthynas â’r Bil hwn, oherwydd er imi fod yn gweithio arno dros y tri mis diwethaf, ni allaf honni o gwbl fy mod yn arbenigwr, yn wahanol i’r rheini yn y sector addysg awyr agored, sy'n byw, yn anadlu ac yn gweithio addysg awyr agored o ddydd i ddydd. A bydd yr Aelodau’n nodi, gan fy mod yn siŵr eu bod wedi darllen y memorandwm esboniadol, yn adran 41, y gefnogaeth gref gan sefydliadau awyr agored blaenllaw ledled Cymru, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, y Sefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored, Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored, y Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored a'r Cerddwyr. Ddirprwy Lywydd, mae yna nifer o sefydliadau y gallwn barhau i'w rhestru, ond mae llawer iawn o gefnogaeth i'r Bil hwn.
Hefyd, hoffwn fynegi fy nealltwriaeth a'r realiti fod angen gwneud llawer mwy o waith gyda’r Bil hwn. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf fi a llawer o bobl eraill wedi dod o hyd i lawer o waith a data arwyddocaol yn ymwneud â pham fod angen y Bil, ond wrth gwrs, mae angen gwneud mwy i ddeall hyn yn llawn. A dyna pam y credaf fod rôl hollbwysig i Aelodau’r wrthblaid ac Aelodau meinciau cefn y Senedd hon allu gweithio’n drawsbleidiol i gyflwyno newidiadau cadarnhaol a pharhaol a fydd yn ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Mae’n hollbwysig nodi hefyd, drwy gefnogi’r cynnig heddiw, ei fod yn caniatáu imi ddechrau’r broses o weithio’n ddiflino dros y flwyddyn nesaf, law yn llaw â’r sector awyr agored, i gasglu mwy o dystiolaeth a data ynghylch yr angen am ymweliadau preswyl addysg awyr agored, ac o ganlyniad, i gyflwyno hyn i'r Senedd ymhen blwyddyn. Ond mae'n bwysig ailadrodd y gellir defnyddio pleidlais heddiw fel cyfle i Aelod o'r meinciau cefn a'r wrthblaid geisio cyflwyno deddfwriaeth bwysig a fydd yn sicrhau newidiadau parhaol ac yn ategu gwaith Llywodraeth Cymru.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau a staff sydd wedi gweithio'n ddiflino i fy helpu i gynhyrchu memorandwm esboniadol y Bil, y papur ystadegol, ynghyd â chrynodeb o'r Bil. Ond hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau ar draws y Senedd am roi amser o’u hamserlenni prysur i drafod y Bil hwn gyda mi, ynghyd â’r Gweinidog addysg, yr edrychaf ymlaen at glywed ganddo yn ddiweddarach yn y ddadl hon, a’i drafodaethau cadarnhaol hyd yn hyn. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau i’r cynnig heddiw, ac rwy'n croesawu trafodaethau a chwestiynau ynglŷn â fy nghynigion. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dysgu yn yr awyr agored yn elfen sylfaenol o ran lles ein plant a'n pobl ifanc. Mae'n ffordd o'u helpu nhw i gadw'n iach yn gorfforol ac yn gallu helpu gyda'u lles meddyliol ac emosiynol hefyd. Mae'n caniatáu iddyn nhw ymwneud â'r byd o'u cwmpas, gan roi cyfle iddyn nhw brofi rhyfeddodau natur. Dyna pam mae ein cwricwlwm newydd yn pwysleisio rôl dysgu yn yr awyr agored ar draws y cwricwlwm, mewn meysydd fel iechyd a lles, gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau, a'r celfyddydau mynegiannol. Mae hyn yn cael ei wneud yn gwbl glir yn y canllawiau statudol y mae'n rhaid i bob ysgol eu hystyried wrth ddatblygu eu cwricwlwm.
Mae'n hanfodol i blant a phobl ifanc gael profiadau o ddysgu yn yr awyr agored drwy gydol eu hamser yn yr ysgol, ac i'r profiadau hynny fod yn rhai difyr a chofiadwy. Mae canllawiau statudol y Cwricwlwm i Gymru'n pwysleisio pwysigrwydd yr amgylchedd dysgu fel ysgogwr allweddol yn y cwricwlwm, ac yn nodi y dylai dysgwyr o bob oed brofi cyfleoedd dysgu dilys dan do ac yn yr awyr agored. Mae'r egwyddorion addysgeg sy'n cael eu hamlinellu yn y canllawiau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored. Mae disgwyliad clir, felly, y dylai dysgwyr fwynhau'r awyr agored yn rheolaidd.
Mae ein canllawiau statudol ar sicrhau dull ysgol gyfan o edrych ar les emosiynol a meddyliol hefyd yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng lles corfforol a meddyliol, manteision dysgu yn yr awyr agored, a chael mynediad at fannau yn yr awyr agored. Felly, rwy'n awyddus iawn i gydweithio â'r Aelod a phobl eraill sydd â buddiant ar ffyrdd o gryfhau, cefnogi a pharhau i ddatblygu'r cyfraniad y mae addysg yn yr awyr agored yn ei wneud i'r hawl i ddysgu yng Nghymru, a datblygiad ein plant a'n pobl ifanc.
Wrth gwrs, mae'n bwysig pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, fod gan wahanol ddysgwyr anghenion gwahanol. Rydym yn awyddus i rymuso ysgolion i ddewis y profiadau dysgu awyr agored sy'n cefnogi eu dysgwyr hwy orau yn eu cyd-destun penodol. Bydd hynny—ac yn gwbl briodol—yn edrych yn wahanol ar gyfer gwahanol ddysgwyr, gyda chyd-destunau gwahanol i wahanol oedrannau. Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae'n rhaid i'n hymdrechion i hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored, y mae pob un ohonom yn cytuno eu bod yn hanfodol, gydnabod hyn.
Mae angen inni sicrhau hefyd fod mynediad dysgwyr at ddysgu yn yr awyr agored yn rhywbeth sy’n digwydd drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Mae angen i ddysgwyr gael profiadau cofiadwy a difyr parhaus o ddysgu yn yr awyr agored a fydd yn datblygu'r ymddygiadau a'r agweddau sy'n meithrin cariad gydol oes at yr awyr agored.
Y pryder cyntaf sydd gennyf gyda’r Bil arfaethedig yw ei fod yn bwriadu gwneud un dull o ddarparu dysgu a phrofiad awyr agored yn ddyletswydd statudol. Dull y cwricwlwm newydd yng Nghymru yw sicrhau bod profiadau’r dysgwr yn adlewyrchu anghenion y dysgwr hwnnw mor agos â phosibl. Nid yw hynny’n cael ei adlewyrchu yn y dull y mae’r Bil yn ei argymell.
Fy ail bryder, un y mae’r Aelod wedi’i ragweld yn ei gyfraniad agoriadol, yw bod y costau’n sylweddol. Mae memorandwm esboniadol yr Aelod yn amcangyfrif y bydd y bil ar gyfer hyn oddeutu £10 miliwn i £13.6 miliwn. Byddai ein dadansoddiad cynnar yn ei roi'n nes at £18 miliwn. Ond y naill ffordd neu'r llall, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, mae hyn yn creu pwysau sylweddol iawn arall ar gronfa gyllid sydd eisoes dan lawer o bwysau. Gŵyr pob un ohonom fod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn llwm dros ben. Mae pwysau chwyddiant ar ein cyllid presennol gan Lywodraeth y DU yn golygu ein bod yn cael cryn dipyn yn llai am ein harian yn awr nag y byddem wedi’i gael pan gafodd ei ddyrannu, ac nid oes fawr ddim arwydd y bydd y pwysau hwn yn lleddfu yn y tymor byr i’r tymor canolig. Yn wir, mae yna senario real iawn lle gallem wynebu toriadau dyfnach byth i’n cyllideb.
Ar adeg pan ydym yn gwneud popeth a allwn i leihau’r baich ariannol ar ysgolion a rhieni, ni allaf ychwanegu mwy o bwysau ar bwrs y wlad, ni waeth faint o gydymdeimlad sydd gennyf ag amcanion cyffredinol y Bil arfaethedig. Yn y dyfodol, pan fyddwn yn cyrraedd adeg pan nad yw’r dewisiadau cyllidol mor llwm, efallai y bydd modd inni gael trafodaeth wahanol, ond yn yr hinsawdd sydd ohoni, nid yw hynny’n bosibl.
Fodd bynnag, ar ôl cyfarfod ar fwy nag un achlysur yn ddiweddar â’r Aelod a chydag aelodau o’r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y sector gweithgareddau awyr agored, gwn fod llawer iawn o egni, profiad ac arbenigedd ar gael i ni. Mae’r cynnig wedi dod ag egni o’r newydd i’r drafodaeth ar rinweddau dysgu yn yr awyr agored, a hoffwn weithio gyda’r sector, ochr yn ochr â fy swyddogion ac addysgwyr, ar ffyrdd o annog mwy o ddysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys profiadau preswyl awyr agored, mewn ffordd y gellir ei chyflawni'n ymarferol.
Gallai meysydd y gellid eu harchwilio, er enghraifft, gynnwys gwell cymorth dysgu proffesiynol i addysgwyr, addysg gychwynnol i athrawon, adnoddau a deunyddiau ategol, a rhannu arferion da, gan gynnwys helpu i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau y mae ysgolion yn eu hwynebu neu’n eu canfod. Byddai dull o’r fath yn gwneud addysgwyr yn ganolog i'r sgwrs ynglŷn â'r hyn sy’n gweithio orau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, a sut y gellir gwneud hyn. Gyda’r ewyllys gorau yn y byd, wrth gwrs, bydd llai o gapasiti i wneud yr holl waith da hwnnw os ydym hefyd yn gweithio gyda’r Aelod ar y Bil, ond byddwn yn gobeithio y gallem o leiaf wneud rhywfaint o gynnydd. Gwn o’n trafodaethau gyda’r Aelod y byddai’n awyddus i gydweithio, ac rwy'n croesawu hynny.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni all y Llywodraeth gefnogi’r Bil, ond rydym yn cynnig dull amgen, o fewn egwyddorion ein cwricwlwm, i weithio yn lle hynny gyda’r Aelod ac eraill ar ddatblygu pecyn o fesurau y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym, ar unwaith, gyda’r nod o gryfhau effaith addysg awyr agored a mynediad at addysg awyr agored i bob un o’n dysgwyr yng Nghymru, heb roi pwysau diangen ar y gronfa sy'n ei hariannu, cronfa sydd eisoes dan bwysau. Diolch yn fawr.
Diolch i Sam am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Mae'n hen bryd ein bod yn gwyntyllu manteision addysg a gweithgarwch awyr agored yn y Senedd. Daw'n amserol iawn yn sgil y cwricwlwm newydd, sydd wedi'i lunio gan sylweddoliad pellach o fanteision eang dysgu yn yr awyr agored. Yn wir, mae canllawiau cwricwlwm Llywodraeth Cymru yn nodi y gall dysgu yn yr awyr agored arwain at lefelau uchel o lesiant, hyder ac ymgysylltiad; mae'n cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol; mae'n rhoi cyfleoedd i ysbrydoli synnwyr o barch a rhyfeddod, i ymgysylltu a chysylltu â byd natur, i archwilio'r cysyniad o gynaliadwyedd mewn ffordd ymarferol; ac i archwilio potensial corfforol person ifanc, gan ddatblygu eu gallu i asesu a phrofi risg, a helpu i ddatblygu gwytnwch a hyder. Felly, rydym ar dir ffrwythlon, lle mae pawb, o Lywodraeth Cymru i addysgwyr rheng flaen, yn ymgyrchu i fynd â'n disgyblion, ein pobl ifanc, allan i'r awyr agored.
Mae arferion y blynyddoedd cynnar wedi'u gwreiddio ynom. Os ydym yn cymryd rhan weithredol yn yr awyr agored yn blant, mae'n aros gyda ni. Yn yr ysgol gynradd, bûm yn ddigon ffodus i ymweld â Llangrannog am wythnos, a hefyd canolfan addysg awyr agored yn y Gŵyr, yn dysgu am ystumllynnoedd a chladdfeydd cynhanesyddol. Yn yr ysgol uwchradd, aethom i'r Bala, ac fe aethom i ganŵio a dringo. Aeth ein hathrawes ddaearyddiaeth â ni i sgrialu dros fynyddoedd a chymoedd gogledd Cymru, i astudio marianau rhewlifol, cribau, drymlinau a pheirannau. Fe ddysgasom drwy brofiad personol gyda gwobrau Dug Caeredin, i lefel aur, sut i fentro i'r awyr agored yn ddiogel ym mhob tywydd, a darllen mapiau a'r bryniau o'n blaenau, yn yr hen ffordd. Ac erbyn imi adael yr ysgol, gallwn ymddiried ynof fy hun, a phobl eraill yn gallu ymddiried ynof fi, i gerdded yn ôl yn yr eira a'r lleuad llawn ar hyd crib Fan Hir, neu hyd yn oed i gerdded yr Alpau na chefais eu cerdded yn berson ifanc oherwydd bod yn rhaid talu ffi i wneud hynny. Rwyf wedi bod yno bellach, ac rwyf wedi cael y crys-T, yn llythrennol. Erbyn hyn, a minnau bron yn 60 oed, rwy'n dal i ysu i adael y Siambr a mynd i gerdded mynyddoedd, neu lwybr arfordir Cymru, neu ganŵio'r Cleddau hyd yn oed. Mae arosiadau preswyl yn fwy cyffrous i berson ifanc na'r gwibdeithiau dydd gorau hyd yn oed. Mae aros oddi cartref gyda'ch cyfoedion, gyda thiwtoriaid ac athrawon arbenigol a phrofiadol, yn brofiad dyfnach a mwy parhaol. Dyna'r gwahaniaeth rhwng trochi eich traed yn nant y mynydd a throchi ben ac ysgwydd mewn llyn ar fynydd.
Gyda fy nghefndir fy hun, ond hefyd fel cadeirydd presennol grŵp trawsbleidiol y sector gweithgareddau awyr agored, y mae Sam yn aelod amlwg ohono—ac mae llawer o sefydliadau awyr agored Cymru yn aelodau ohono mewn gwirionedd, ac mae'n debyg eu bod wedi ei helpu i ddrafftio'r cynnig deddfwriaethol—mae gennyf gydymdeimlad greddfol â hyn. Ond mae yna gwestiynau real ac anodd i'w hateb, a bydd Sam yn cydnabod hyn, cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â bwriad da nac egwyddor y cynnig, ond sy'n mynd at wraidd yr ymarferoldeb ar yr adeg hon. Mae costau ac amser deddfwriaethol yn arbennig—ac mae'r Gweinidog wedi cyffwrdd â hwy—ymhlith y rhain. Nid yw'r cynnig yn glir ar gostau eto, yn ddigon dealladwy. Mae'n amcangyfrif £10 miliwn i £15 miliwn, ond gallai fod yn fwy. Mae arwyddocâd dwysach i'r costau ar hyn o bryd, ar adeg pan wyddom fod ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ei hun o dan bwysau dwys. Rydym yn rhagweld y gallai pethau fynd yn llawer gwaeth. Rwy'n tybio bod mandadu ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i £10 miliwn neu £15 miliwn arall, neu fwy, ar gyfer arosiadau preswyl ar hyn o bryd—cost a fyddai, rhaid i mi ddweud, mewn amseroedd gwell, yn cael ei ystyried yn arian wedi'i wario'n dda—yn arian nad yw ar gael yn hawdd ar hyn o bryd, pan allai ysgolion, ar yr un pryd, fod yn wynebu penderfyniadau ynglŷn ag a ddylid diswyddo staff yr hydref hwn, nid yn unig i ba raddau y gallant fforddio codi cyflogau.
Mae'r ail fater yn ymwneud ag amser deddfwriaethol a llwyth deddfwriaethol aruthrol y Llywodraeth a'r Senedd, a'r Comisiwn yn wir. Mae gennym y ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru, sy'n mynd o nerth i nerth wrth i'r rhaglen lywodraethu ac ymrwymiadau'r cytundeb cydweithio ddod i rym; y nifer digynsail o gynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n llifo o'r ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru a Lloegr, sy'n tarddu o San Steffan; parhad y ddeddfwriaeth ôl-Brexit hirfaith a deddfwriaeth y pandemig—hyn i gyd a'r ddeddfwriaeth sydd ar y gweill mewn perthynas â Gogledd Iwerddon a'r rhuthr byrbwyll i ddiddymu cyfreithiau a gadwyd yn ôl gan yr UE o'r llyfr statud erbyn Rhagfyr 2023, sy'n cynnwys oddeutu 2,400 o reoliadau, ond nid ydym yn siŵr o'r union nifer. Nid yw'r llwyth gwaith deddfwriaethol erioed wedi gweld y fath bwysau; na chyllid ysgolion a chyllid cyhoeddus ychwaith. Ni fu amser mwy heriol erioed i gyflwyno Bil, Sam, ac rwy'n dweud hynny fel rhywun sy'n gefnogol i weld mwy o ddeddfwriaeth meinciau cefn yn rhan o'n rhaglen ddeddfwriaethol.
Os yw'r realiti rwy'n ei ddisgrifio yn gywir, Weinidog, mae cyfrifoldeb arnoch chi i egluro sut y gellir bwrw ymlaen ag ysbryd, os nad llythren, y cynnig hwn o leiaf, sydd â bwriad da. Rydych wedi dechrau gwisgo cnawd am hynny. Os nad oes gennym arian na chapasiti deddfwriaethol ar hyn o bryd, mae'n siŵr na fydd hynny bob amser yn wir. Byddwn i ac eraill yn dadlau y dylai ein plant a'n pobl ifanc gael mynediad at yr awyr agored fel defod newid byd—ac rwy'n dweud hyn mewn prif lythrennau—i sicrhau eu bod yn gallu mwynhau ac archwilio'r awyr agored drwy gydol eu hoes mewn modd diogel a chyda'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.
Weinidog, rydych wedi cydnabod yn eich datganiad y gallai profiad preswyl yn yr awyr agored fod yn rhan o fywyd pob plentyn neu berson, ac os yw'r amseru'n anghywir yn awr, ac nad yw'r drws wedi'i gau am byth ar gynnig o'r fath, y bydd y Llywodraeth yn bwrw iddi i weithio gyda'r sefydliadau sy'n cefnogi'r cynnig, y cynigydd, Sam, a'r grŵp trawsbleidiol i feddwl am ffyrdd o annog mwy o ddefnydd o brofiadau awyr agored, a bydd hyn yn edrych ar gael gwared ar rwystrau go iawn neu ganfyddedig i ddefnydd ysgolion o sefydliadau preswyl awyr agored, ond ar unwaith, ffyrdd y gall y sector weithio gyda'r cwricwlwm newydd i sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd iddynt hwy ac i ddysgwyr.
Yn olaf, Weinidog, wrth orffen hoffwn ofyn i chi wneud pob ymdrech—. Rwy'n gwybod eich bod wedi ymgysylltu'n adeiladol â Sam, ac mae yntau wedi ymateb yn yr un modd. Rwyf eisiau i chi barhau â'r ddeialog honno gyda Sam, gyda'r sector addysg a gweithgareddau awyr agored ehangach, ac os caf awgrymu, gyda'r grŵp trawsbleidiol hefyd, oherwydd mae hon yn ddeddfwriaeth ag iddi fwriadau da, hyd yn oed os yw'r amseru'n anodd.
Diolch, Sam, am ddod â hyn ger ein bron ni.
Nid wyf yn dilyn eich cyfrifon Twitter a Facebook yn frwd, rhaid imi gyfaddef; rwy'n hoffi edrych ar ôl fy mhwysedd gwaed. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi gweld yr ymchwil y cyfeirioch chi ati, ac yn sicr gallwn i gyd ailadrodd y manteision dirifedi sy'n gysylltiedig ag addysg awyr agored. Fel y soniodd Huw, mae llawer ohonom wedi cael y pleser o fod yn Llangrannog, Glan-llyn—mae pob un o'r rheini'n brofiadau amhrisiadwy, ac rwy'n siŵr yr hoffem weld pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle hwnnw.
Byddwn yn eich cefnogi i fwrw ymlaen â'r Bil. Rydym yn credu ei bod yn bwysig fod rhai o'r materion a godwyd yn cael eu harchwilio ymhellach. Wrth gwrs, mae gennym gwestiynau ynghylch y cyllid. Mae yna rai cwestiynau a amlinellais pan wnaethom gyfarfod a thrafod rhai o'r pethau ymarferol, ond credwn ei fod yn haeddu cael amser ychwanegol a ffocws ychwanegol er mwyn i ni ddeall pwy sy'n cael manteisio ar y cyfle hwn a phwy nad yw'n cael gwneud hynny, pa risgiau sy'n codi o'r argyfwng costau byw gydag awdurdodau lleol o ran y rhai sy'n cael eu hamddifadu o'r profiadau hyn ar hyn o bryd, oherwydd ni allwn gymryd hynny'n ganiataol. Yn fwyaf arbennig, y peth a'n hargyhoeddodd yn fawr oedd bod y dystiolaeth yn dangos, yn bryderus, fod dwbl canran y plant sy'n byw yn yr awdurdodau lleol mwyaf cefnog yn mynychu ymweliadau preswyl addysg awyr agored o gymharu â disgyblion yn yr awdurdodau lleol sydd â'r lefelau uchaf o amddifadedd. Os ydym yn sôn am sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd dylai hynny olygu pawb, nid yn unig y rhai mwyaf cefnog a'r rhai sy'n gallu fforddio gwneud hynny. Felly, hyd yn oed os yw'n fater o edrych ar sut y darparwn ar gyfer teuluoedd sy'n derbyn grantiau ar gyfer gwisgoedd ysgol ac yn y blaen, byddem wrth ein boddau'n gweld hyn yn cael ei ehangu fel bod mwy o blant a phobl ifanc yn gallu elwa.
Rwy'n credu bod yna bethau y gallwn eu plethu i mewn i'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg hefyd, a'n cytundeb i weithio ar Fil addysg y Gymraeg, oherwydd mae'r cyfle y mae addysg awyr agored yn ei ddarparu i blant a phobl ifanc fwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol i hyn hefyd, i allu bod yng Nglan-llyn mewn canŵ a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg, i gael yr holl brofiadau sy'n cyfoethogi bywyd. Oherwydd mae'r profiadau addysg awyr agored hyn ar gyfer mwy na'r rhai sydd mewn addysg Gymraeg ar hyn o bryd yn unig. Os ydym o ddifrif am y Gymraeg fel continwwm sengl, mae hyn yn rhoi cyfle gwych i gyflwyno'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth, mewn ffordd hwyliog a deniadol. Gwn fod yr Urdd wedi cofleidio'r cyfleoedd a ddarparir gan y Bil hwn yn arbennig. Oni fyddai'n rhyfeddol pe bai pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i fynd i Wersyll yr Urdd yma yng Nghaerdydd, neu Langrannog neu Lan-llyn, a chael y profiad hwyliog hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg? Mae hyn i gyd yn bosibl.
Rydym yn credu bod rhai pethau—. Wrth gwrs, cyllid yw'r peth mwyaf heriol. Mae penderfynu ar y cyllidebau ar gyfer ymweliadau preswyl a llunio cynllun cynhwysfawr i gyd yn bwysig, ond rydym yn cytuno â'r egwyddor, ni waeth beth fo'u hincwm teuluol neu ddemograffeg, y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle hwn. Mae angen i ni ystyried ymgysylltiad athrawon hefyd wrth gwrs. Mae athrawon, yn aml iawn, yn trefnu mentrau o'r fath yn ychwanegol at yr hyn y maent yn ei wneud eisoes. Mae'n amlwg yn golygu amser i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth hefyd, ond maent yn ei ystyried yn werthfawr, felly hoffem weld undebau athrawon yn rhan o'r gwaith wrth iddo fynd rhagddo. Ond rydym yn dymuno pob lwc i chi ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu'n fwy cadarnhaol, os eir ymlaen â hyn.
Rwy'n fwy na pharod i sefyll yma a chefnogi'r Bil hwn heddiw, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Sam Rowlands am ei gyflwyno. Roeddwn wrth fy modd yn clywed agwedd gadarnhaol Plaid Cymru ar draws y Siambr hefyd. Roeddwn wrth fy modd pan welais fod y Bil hwn wedi'i lunio, oherwydd gwn fod yr Aelod dros Ogledd Cymru yn angerddol, fel finnau, ynglŷn â sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle hwn—yn sicr fe gefais i'r cyfle pan oeddwn i'n iau—i gymryd rhan mewn ymweliad preswyl addysg awyr agored wythnos o hyd ar ryw adeg yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, gan sicrhau eu bod hwythau hefyd yn gallu dysgu sgiliau newydd a gwerthfawrogiad o'r awyr agored efallai, yn ogystal â chael budd ohono o ran ymarfer corff. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru a llywodraethau i ddilyn yn neilltuo arian i gyflawni'r nod hwn, fel y gellir sicrhau bod ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion yn gallu cyflwyno'r profiadau cyffrous hyn i'n pobl ifanc, hyd yn oed pan ydym yn wynebu amseroedd economaidd anodd.
Mae manteision ymweliadau preswyl addysg awyr agored i bobl ifanc yn glir i bawb eu gweld. Yn ogystal â'r mwynhad amlwg ar wynebau ein pobl ifanc, maent yn ffordd o greu perthynas agosach â'u cyfoedion, rhannu profiadau gyda ffrindiau, hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, gwella iechyd meddwl, a gwella canlyniadau addysgol yn aml. Nid yw'n iawn fod pobl ifanc o ardaloedd llai cefnog yn cael eu hamddifadu o'r cyfleoedd hyn, fel sy'n digwydd mewn sawl rhan o fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, ac ni ddylai ddibynnu ar ble' rydych yn byw na pha ysgol rydych yn ei mynychu. Mae llawer ohonom, fel fi, yn aml yn cymryd y cyfleoedd a'r profiadau a gawsom wrth dyfu i fyny yn ganiataol, pan fo llawer o blant a phobl ifanc ledled Cymru heb gael yr un profiadau. Mae'r Bil yn gwneud llawer i sicrhau tegwch ledled Cymru, gan sicrhau cyfle cyfartal, a gwneud yn siŵr nad oes gennym loteri cod post rhwng un cyngor a'r llall i gael profiadau fel hyn.
Fel y dywedodd Sam Rowlands, pe bai pob plentyn yn cael ei ariannu'n llawn i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, roedd yr amcangyfrifon cychwynnol o'r gost rhwng £10 miliwn a £15 miliwn, llai na 0.06 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru, er eich bod yn rhagweld y bydd yn fwy, Weinidog. Yn sicr, mae'n ymddangos i mi mai pris cymharol fach fyddai hynny i'w dalu am y canlyniadau addysg a llesiant i'n plant a fyddai'n deillio ohono. Yn amlwg, mae angen i'r arian ddod o'r canol, ac ni ddylai fod yn gyfrifoldeb i'n hawdurdodau lleol. Ond yn enwedig ar ôl y pandemig, gwelsom y buddsoddiad mewn cyfleusterau awyr agored a mannau awyr agored, a'r cynnydd mewn dysgu awyr agored, a'r ffaith bod ysgolion yn defnyddio'r amgylcheddau dysgu hynny i raddau llawer mwy erbyn hyn, a'r manteision y maent wedi'u creu ledled Cymru.
Fel Gweinidog addysg yr wrthblaid, rwy'n falch o weld syniadau fel hyn yn dod i'r Senedd, gan wella'r hyn sydd yno eisoes, a hoffwn ddiolch i Sam Rowlands am gyflwyno'r Bil hwn heddiw. Rwy'n ei gefnogi'n llawn. Rwy'n gobeithio y gall y Siambr weithio'n adeiladol ar y Bil i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu hamddifadu. Rwyf eisiau gwneud un pwynt terfynol. Roeddwn eisiau gwneud yn siŵr ei bod yn glir i bawb mai cyfle y tu allan i'r ysgol y mae Sam yn ei gynnig, nid cyfle yn yr ysgol, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu, Weinidog. Mae'r ddau'n bwysig, ac fel y dywedodd Huw yn gwbl briodol, profiad hirhoedlog dyfnach sy'n cael ei gynnig yma. Rwy'n eich annog chi i gyd heddiw i gefnogi'r cynnig hwn a'r Bil y mae Sam wedi'i gyflwyno. Diolch.
Rwy'n sefyll yma fel rhywun sydd â meddwl agored iawn. Rwyf am fod yn onest, nid wyf wedi penderfynu sut rwyf am bleidleisio, ac rwy'n deall y gallai fy mhleidlais olygu parhad neu ddiwedd hyn heddiw. Felly, rwy'n sefyll yma i rannu ambell i safbwynt. Ar y naill law, diolch am wneud hyn, Sam. Rwy'n hoffi cyffredinoliaeth y peth. Rwy'n hoffi'r ffaith ei fod yn apelio at bawb, boed yn gyfoethog neu'n dlawd, ac nad yw'n gwahaniaethu. Mewn gwirionedd, dyna mae rhai ohonom yn ei gredu mewn perthynas ag incwm sylfaenol cyffredinol—y dylem i gyd gael yr isafswm incwm. Felly, byddwn yn cefnogi cyffredinoliaeth y peth. Nid wyf yn credu bod unrhyw un yma—neb yma—yn anghytuno â'r egwyddor, felly nid oes angen unrhyw dystiolaeth bellach yn fy marn i. Nid oes angen unrhyw ddadleuon pellach sy'n dweud wrthym i gyd sut y gwnaethom elwa o allu mynd i ffwrdd neu sut y mae eraill wedi elwa o hynny.
Rwy'n meddwl am brofiad Huw Irranca-Davies yn Llangrannog. Euthum innau i Langrannog, ond nid oes unrhyw beth o gwbl y gallwn ei ddefnyddio o'r profiad hwnnw yn fy mywyd fel oedolyn. Nid yw hynny'n golygu nad oeddwn wrth fy modd gyda'r profiad, ac rwy'n credu y dylai pawb gael y profiad hwnnw. Mae'n wych fod gennych chi hynny. Ond rwy'n credu bod yna heriau enfawr yma. Fe wnaeth Sam siarad rhywfaint am hynny, ond mae gennym ni i gyd dai rydym yn eu cynnal, ac mae Llywodraeth Cymru a Gweinidogion y Cabinet yma i gydbwyso'r cyllidebau. Os gwariwn arian ar hyn, beth sy'n gorfod mynd? Deunaw miliwn o bunnoedd, a mwy o bosibl, oherwydd mae'n ymwneud â chapasiti, ac nid capasiti staff Llywodraeth Cymru yn unig, gallai capasiti staff ein hawdurdod lleol gael ei effeithio gan hyn. Felly, byddwn yn falch o glywed mwy am hynny yn y ddadl hon er mwyn imi allu penderfynu.
Nawr, gadewch inni edrych ar yr hyn sy'n wynebu ysgolion, nid fan hyn yn unig—wel, yng Nghymru, mae gennym faterion penodol—ond ledled y DU. Nid oes gennym ddigon o athrawon ac rydym eisiau rhoi cyflog gwell iddynt. Nid oes gennym ddigon o gynorthwywyr dosbarth ac rydym eisiau rhoi cyflog gwell iddynt. Rydym yn gwybod, mewn ysgolion—ac mae hwn yn brosiect bach sydd gennyf—mae gan blant bydredd dannedd drwg iawn, ac rydym eisiau gweld gwelliant yn hynny ar lawr gwlad. Hyd yn oed gyda'r Cynllun Gwên yng Nghymru, mae rhwng 2 y cant a 5 y cant o blant dan saith oed yn mynd i'r ysbyty—mae dwbl hynny'n mynd i'r ysbyty i gael tynnu eu dannedd. Maent yn cael anesthetig ac yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Felly, dyma rai o'r blaenoriaethau.
Aeth rhai ohonom i dderbyniad Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion a chlywsom am gymhwyswyr. Pobl ydynt a ddylai fod yn gweithio gyda phlant sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg ar draws ein hysgolion yng Nghymru er mwyn eu helpu i allu bwrw ymlaen â'u bywydau. Dim ond 10 ohonynt sydd i'w cael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hynny'n golygu nad yw plant sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg yn gallu bwrw ymlaen â'u bywydau. Dyna rai o'r heriau sy'n cael eu hwynebu ar draws y DU.
Yn ogystal, ac rwy'n falch o gefnogi hyn, mae Cymru wedi ymrwymo i brydau ysgol am ddim i blant. Nid wyf yn gwybod sut y byddwn yn gallu ariannu'r heriau hynny yn ogystal â'r hyn rydych yn ei gyflwyno, Sam. Felly, hoffwn glywed gennych, wrth i chi grynhoi, beth sydd am orfod mynd—yn llythrennol, beth y byddwn yn cael gwared arno, beth y byddwn yn ei daflu ymaith, os ydym am gefnogi hyn. Diolch yn fawr iawn. [Torri ar draws.] O mae'n ddrwg gennyf. Cewch, fe gewch chi ymyrryd.
Na, roeddech chi wedi gorffen. Samuel Kurtz.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n llongyfarch Sam Rowlands ar ei lwyddiant yn y bleidlais ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon ar ei Fil Addysg Awyr Agored (Cymru).
Fel rhywun a oedd yn ddigon ffodus i dyfu i fyny mewn ardal wledig yn sir Benfro gyda chefn gwlad y tu allan i ddrws y tŷ, roeddwn bob amser yn ddigon ffodus i allu mwynhau ein byd natur yn llawn. Yn wir, mae'r cysylltiad pwysig hwnnw â'n hamgylchedd yn un na ddylem ei danbrisio. Nid yn unig oherwydd ei fod yn meithrin twf a myfyrdod, ond oherwydd ei fod yn datblygu parch ac yn dysgu am bwysigrwydd ein cefn gwlad, bywyd gwledig, bwyd, ffermio a bywyd gwyllt—gan ddatblygu ein dealltwriaeth a chryfhau ein hymdrechion i amddiffyn a chadw.
Yn wahanol i rai o fy nghyd-ddisgyblion, datblygodd fy nghariad tuag at yr awyr agored o oedran cynnar, ond nid yw pob plentyn yn gallu profi cefn gwlad yn yr un ffordd ag y gwneuthum i. Gadewch inni fod yn glir, mae mynd ag addysg allan i'r awyr agored yn golygu dod â byd natur i mewn i'r ystafell ddosbarth, a thrwy wneud hynny, gallwch wella ansawdd a gwerth addysg plentyn. Ond oherwydd hynny mae angen inni sicrhau bod gan bob plentyn fynediad cyfartal at yr awyr agored. I mi a llawer o fy nghyd-ddisgyblion, teithiau i Lan-llyn a Llangrannog, y soniodd Aelodau eraill amdanynt heddiw, gwersylloedd yr Urdd, a wnaeth iddynt werthfawrogi gwerth natur yn llwyr. Felly, rwy'n falch iawn o glywed gan Sam fod yr Urdd yn cefnogi'r Bil hwn. Nid dyna'r tro cyntaf i mi a fy ffrindiau fod oddi cartref, ond i lawer, dyna oedd y tro cyntaf iddynt hwy gael cyfle i brofi'r awyr agored go iawn. O gaiacio ar draws Llyn Tegid, fel y soniodd Heledd, i deithiau cerdded natur a byw yn y gwyllt yn Llangrannog, chwaraeodd y cyfleoedd hyn ran allweddol yn fy natblygiad i a datblygiad fy ffrindiau nad oeddent mor ffodus â mi ac nad oeddent wedi profi pleserau a manteision ein hamgylchedd naturiol.
Fodd bynnag, nid yw pob person ifanc yn cael y cyfle hwn. Drwy gymeradwyo'r Bil hwn, gallwn sicrhau bod pob plentyn, ni waeth beth fo'u cefndir, yn gallu darganfod a syrthio mewn cariad â chefn gwlad. Ac fel y clywsom gan gyd-Aelodau, mae manteision hyn yn ddiguro. Boed yn wella iechyd corfforol a llesiant meddyliol, datblygu dysgu personol a chymdeithasol gwell, ochr yn ochr â'r twf mewn datblygiad gwybyddol—mae'r cyfan yn gwella cyrhaeddiad addysgol a safonau addysgu. Mae'r effaith y gall addysg awyr agored ei chael ar ein pobl ifanc yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellir ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth. Mae darganfod ein hawyr agored yn dod â chefn gwlad, ffermio, bywyd gwyllt a bywyd gwledig i mewn i'r ystafell ddosbarth ac ar hyn o bryd gallwn sicrhau bod gan bob plentyn fynediad di-ben-draw at y cyfleoedd hyn, o'r math y mae ein haddysg yn eu darparu.
Wrth ymateb i'r Aelod blaenorol, pryderon Jane Dodds ynghylch y Bil hwn, byddwn yn erfyn arni i gynnig ei chefnogaeth i Sam ar y cam hwn fel y gellir gwneud rhagor o waith ar hyn i weld sut y gellir ei wneud, ac rwy'n credu bod yr arbedion nawdd y soniodd Sam amdanynt ar y dechrau wrth agor y ddadl hon, lle byddai arian yn cael ei arbed mewn mannau eraill drwy gael plant iachach, plant mwy addysgedig—rwy'n credu mai dyna lle mae'r gwir werth ym Mil Sam heddiw. Felly, rwy'n erfyn arnoch i'w gefnogi ar y cam hwn fel bod modd casglu tystiolaeth bellach ac fel y gellir cael mwy o drafodaeth ynglŷn â hyn. Rwy'n canmol Sam am ei ddiwydrwydd, ei ymroddiad a'i benderfyniad wrth fwrw ymlaen â'r Bil hwn, ac nid wyf yn petruso o gwbl rhag cynnig fy nghefnogaeth lawn iddo ef a'r Bil. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rhaid i mi ddweud bod yna amcanion canmoladwy i'r cynnig hwn, a diolch, Sam, am gyflwyno'r mater hwn i'w drafod. Rwy'n credu bod dysgu sgiliau newydd yn ein hamgylchedd awyr agored, sgiliau fel annibyniaeth a meithrin perthynas well ag eraill mewn diwrnod mewn gwersyll neu weithgaredd awyr agored yn rhai a gofiwch, ac mae'n wych ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol a llesiant. Nid wyf yn cofio mynd i un gyda'r ysgol, ond euthum gyda'r Brownis a'r ysgol Sul, ac rwy'n cofio darllen i blant a oedd yn gweld colli eu rhieni, ac rwy'n gwybod bod hwnnw'n fater sydd wedi cael ei godi—mae bod i ffwrdd oddi wrth rhieni yn dipyn o broblem hefyd, ond mae'n dda i fagu hyder. Rwy'n credu ei bod mor bwysig i blant gysylltu â byd natur, achos os nad ydynt yn gwneud hynny'n blentyn, ni fyddant yn gwneud hynny'n oedolyn. Felly, mae hynny'n bwysig iawn wrth symud ymlaen. Ac o gofio bod yna argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd, rwy'n credu y byddwn yn hoffi i unrhyw raglen a'r cwricwlwm addysgu plant am bwysigrwydd amrywiaeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd, cysylltu â natur, ac rwy'n credu bod menter ysgolion y goedwig yn dda iawn.
Felly, credaf y byddai'n gynnig gwych iawn pe bai'r cyllid yn bodoli, ac mae'r sefyllfa'n enbyd. Ac yn ôl y Prif Weinidog newydd, bydd yn mynd i fod yn waeth byth, ac rwy'n credu bod angen wynebu gwirioneddau yma. Fel y gwyddoch, roeddwn yn gynghorydd yn sir y Fflint am 14 mlynedd ac roeddwn yn aelod o'r pwyllgor craffu ar addysg, ac rwy'n cofio, pan oeddem yn edrych ar doriadau cyllid dros y blynyddoedd, ein bod wedi edrych ar y gost o roi'r arian hwnnw i'r canolfannau addysg awyr agored. Rwy'n gwybod bod pob awdurdod yn arfer rhoi tuag at Pentre-llyn-cymmer a Nant Bwlch yr Haearn, ond yn y diwedd, roedd yn rhaid inni edrych ar gyllid craidd addysg, felly roedd yn rhaid inni dorri'r cyllid hwnnw fesul tipyn, ac roedd hynny'n ofnadwy. Rwy'n cofio, yn ystod y cyni hwnnw, bob blwyddyn, roeddem yn torri 30 y cant oddi ar bob cyllideb, ac rwy'n cofio bod yn y siambr yn wynebu aelodau'r gwrthbleidiau wrth imi geisio cyflwyno taliadau gwastraff gardd a chynnydd i ffioedd parcio, ond roedd fy nghyd-aelodau cabinet yn dweud wrthyf, 'Naill ai hynny, neu dorri ar addysg.' Nawr, ni allwn dorri ar addysg, oherwydd mae mor bwysig, ond rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol eraill wedi gwneud ac mae arnaf ofn, Sam, fod Conwy wedi torri'r cyllid craidd ar gyfer addysg gan achosi problemau enbyd yno, lle bu'n rhaid iddynt gael gwared ar gynorthwywyr addysgu a staff, ac ni allaf gefnogi hyn os na fydd yr arian hwnnw gennym yn y dyfodol.
Mae cynghorau'n wynebu mwy byth o doriadau cyllid yn awr oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf, oherwydd cynnydd ym mhris tanwydd, pwysau chwyddiant, ac mae pobl yn sôn am fynd ar streic. Rwy'n gwybod bod Caerdydd yn wynebu bwlch cyllid o £53 miliwn, sir y Fflint £26 miliwn, mae Conwy mewn sefyllfa debyg, ac rwy'n credu bod sir Ddinbych oddeutu £10 miliwn. Mae'n bryderus iawn. Maent yn edrych ar resymoli meysydd chwarae hyd yn oed—meysydd chwarae; mae eu hangen arnom fel bod plant yn gallu chwarae'n lleol. Cau pyllau nofio, cynnal hawliau tramwy cyhoeddus a gwasanaethau cefn gwlad—roedd rheini ar y bwrdd i'w torri pan oeddwn yn aelod cabinet—mynediad at hawliau tramwy a pharciau gwledig. Felly, heb y rheini, beth a wnawn? A dyna sydd ar y bwrdd yn awr. Mae'n peri cymaint o bryder. Rydym mewn sefyllfa mor enbyd. Mae plant yn llwglyd ac yn oer. Mae'n fater o flaenoriaethu, a dyma pam—. Diolch byth ein bod wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i bawb; mae hynny'n gymaint pwysicach. Mae ysgolion yn edrych ar ofal cofleidiol, ar ddarparu'r gofal plant hwnnw fel y gall mamau fynd allan i weithio hefyd—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, mae pethau'n llifo'n dda ar hyn o bryd—ac ar ddod yn ganolfannau clyd. Mae hynny mor bwysig. Mae addysg bellach yn darparu brecwast oherwydd bod yna bobl yn mynychu'r rheini sy'n llwglyd. Oedolion ifanc sy'n llwgu yw'r rhain—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, nid oedd hwnnw'n ymyriad priodol, felly ni wnaf ateb.
Wrth siarad yn fyr ag aelod addysg o CLlLC—
Rwy'n credu bod yr Aelod wedi dweud na fydd yn derbyn yr ymyriad. Gadewch iddi orffen ei haraith.
—dywedodd wrthyf fod Llywodraeth Cymru, serch hynny, yn darparu cyllid grant datblygu disgyblion, felly maent yn defnyddio'r arian hwnnw i alluogi'r rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim i ymweld â chanolfannau addysg ar hyn o bryd. Felly, a allai'r Gweinidog roi gwybod i mi a yw'r cyllid hwnnw'n cael ei dorri, oherwydd mae'n hanfodol.
Fel y dywedais, nid oes adnoddau gan ysgolion. Nid nawr yw'r amser ar gyfer hyn. Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth y Torïaid, yn sôn am fwy o doriadau ariannol, a'r toriadau ariannol hynny sy'n achosi problemau yma. Mae Llywodraeth Cymru'n gwario dros 90 y cant o'i chyllideb ar gyllido gwasanaethau cyhoeddus. [Torri ar draws.] Dim o gwbl. Ac rwy'n gobeithio y bydd Sam Rowlands a'r Ceidwadwyr yn cefnogi cyllid gwasanaethau cyhoeddus ac nid toriadau pellach wrth symud ymlaen. Dyna pam rwyf bob amser yn siarad yn erbyn cyni a thoriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus. Dyna pam roeddwn eisiau dod yn aelod o'r blaid hon—i godi llais dros hynny. Nid nawr yw'r amser. Rwy'n cefnogi'r syniad ohono, ond nid nawr yw'r amser iawn, ac rwy'n gobeithio i mi eich argyhoeddi chi gyda'r pwyntiau hyn, oherwydd rwy'n teimlo'n gryf iawn am y peth. Diolch yn fawr iawn.
Y siaradwr olaf yw Peter Fox.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddweud y byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac rwy'n croesawu'r cynnig a gyflwynwyd gan Sam. Gwn fy hun faint o waith sy'n mynd i mewn i lunio Bil allan o ddim byd, ac rwy'n teimlo'n gryf fod eich memorandwm esboniadol yn rhagorol ac yn crynhoi pam fod angen y ddeddfwriaeth flaengar hon.
Fel sydd wedi'i nodi yn y ddadl, mae addysg awyr agored yn rhan mor bwysig o ddatblygiad person ifanc. Mae'r sgiliau ymarferol a geir o'r fath brofiad yn fuddiol ar gyfer yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae hefyd yn helpu i wella eu llesiant corfforol a meddyliol, ond hefyd i ddatblygu eu hannibyniaeth. Felly, ni ddylai pobl ifanc orfod cael eu hamddifadu o gyfleoedd o'r fath. Rwy'n gwybod yn bersonol sut y mae fy—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl eich bod chi eisiau ymyrryd.
Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn yr ymyriad, oherwydd fel cyn-arweinydd cyngor sir Fynwy, fe fyddwch yn ymwybodol fod y grant datblygu disgyblion yn un o'r ffyrdd y mae cyllid i fod i gael ei gyfeirio tuag at roi cyfleoedd i bobl ifanc na all eu teuluoedd fforddio talu amdanynt eu hunain. Felly, ar ôl gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedodd Sam Rowlands am y ddeddf gofal gwrthgyfartal sydd gennym yma, sef mai rhai o'r awdurdodau lleol mwyaf difreintiedig yw'r rhai sy'n cael leiaf o addysg awyr agored, mae'n amlwg yn broblem fawr. Ond mae'n rhaid inni ofyn, 'A yw ysgolion yn defnyddio'u grantiau datblygu disgyblion yn briodol?' ac yn ogystal â hynny, mae'n rhaid inni ystyried pa mor dda yr awn i'r afael â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal mewn perthynas â niferoedd y sefydliadau gwirfoddol sy'n cefnogi ysgolion i gynnal y mathau hyn o dripiau awyr agored, oherwydd rydym yn gwybod bod elusennau'n llawer llai tebygol o fod yn gweithredu mewn ardaloedd tlawd nag mewn ardaloedd sy'n well eu byd.
Diolch i chi, Jenny, ac rwy'n cydnabod eich pwynt yn llwyr ac roedd rhai pwyntiau da o ran sut y gellid defnyddio'r cymorth hwnnw. Rwyf am droi at gyllid llywodraeth leol yn y man, ond yn gyntaf hoffwn orffen y pwynt roeddwn yn ei wneud yn gynharach. Rwy'n gwybod yn bersonol sut mae fy mhlant fy hun a nifer o blant eraill yn sir Fynwy wedi elwa o'u cyfnod yng nghanolfan addysg awyr agored Gilwern a Pharc Hilston. Roedd Tal-y-bont yn arfer bod yn ganolfan addysg awyr agored hefyd, yn eiddo i Gasnewydd ond dan ofal sir Fynwy. Ac fe euthum fy hun yn fachgen ifanc, oddeutu 50 mlynedd yn ôl, i Langrannog hefyd, oherwydd cefais fy magu yng Nghaerfyrddin. Ond pan oeddwn yn arweinydd Cyngor Sir Fynwy, roeddwn bob amser yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu diogelu, hyd yn oed ar adegau pan oeddem yn wynebu setliadau heriol, ac rydym bob amser wedi cael setliadau heriol yn sir Fynwy.
Rwyf wedi cael fy siomi'n fawr dros y blynyddoedd diwethaf pan fo awdurdodau lleol cyfagos, sy'n cael llawer mwy o arian na sir Fynwy, yn tynnu'n ôl o'r gwasanaeth addysg hwnnw yng Ngwent a gadael sir Fynwy ar ei phen ei hun i ysgwyddo'r cyfrifoldeb, ond fe wnaethom ei gadw i fynd. Felly, mae'n bwysig fod awdurdodau lleol yn ogystal ag ysgolion yn dangos ymrwymiad i ddatblygiad pobl ifanc, ac yn amlwg roedd hwnnw'n cael ei dynnu allan mewn rhai ardaloedd, ac roedd ganddynt yr adnoddau i'w wneud; fe wnaethant ddewis peidio. Felly, fel y mae'r enghraifft honno'n dangos, yn anffodus nid yw pob person ifanc yn cael cyfle cyfartal i gael addysg awyr agored, ac mae'r papur ymchwil a gyhoeddwyd gan Sam yn tynnu sylw pellach at y rhwystrau i addysg o'r fath: roedd 60 y cant o'r ysgolion a arolygwyd yn nodi rhesymau ariannol; nid yw 23 ysgol yn cynnig unrhyw gymorth i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol, a'r rhwystr mwyaf o bell ffordd i addysg awyr agored oedd anallu teuluoedd i dalu.
Nawr, rwy'n gwybod ein bod mewn cyfnod heriol, ond mae'n rhaid i chi gofio y byddai'r Bil hwn, pe bai'n cael Cydsyniad Brenhinol, yn dod i rym mewn oddeutu dwy neu dair blynedd, ac rydym yn siarad am arian a chyfyngiadau ariannol sydd gennym ar hyn o bryd. Weithiau, rhaid i chi ddod o hyd i resymau pam y gall pethau ddigwydd, nid pam na allant ddigwydd. A dyna un o'r problemau mwyaf y deuthum ar eu traws ers i mi ddod yma i Gynulliad Cymru—i'r Senedd, yn hytrach—sef ein bod yn dod o hyd i resymau pam na all pethau ddigwydd a pham, Jane, ein bod yn ceisio cyfnewid 'Beth allwch chi ei wneud?' am 'Beth na allwch chi ei wneud?' Weithiau, mae'n rhaid ichi wneud i bethau ddigwydd. Mae pobl yn gwneud i bethau ddigwydd neu mae pobl yn atal pethau rhag digwydd, a dyna sy'n digwydd yn rhy aml. Mae'n rhaid ichi ragweld, edrych i'r dyfodol, sut y gallwch wella cenedlaethau'r dyfodol, oherwydd ni fydd y cyfnod anodd hwn yn para am byth. Edrychwch ymlaen, edrychwch tua'r dyfodol, edrychwch tuag at genedlaethau'r dyfodol.
Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi'r Bil hwn. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog yn rhyngweithio mwy â Sam wrth symud ymlaen. Rwy'n siomedig na all y Llywodraeth gefnogi'r Bil, a gwn y bydd mwy o waith ac ymgysylltiad yn digwydd. Ond rwy'n gofyn i chi, Jane, fel y gwnaeth Sam, i ystyried yn ofalus. Rydych mewn sefyllfa freintiedig iawn, yn dal y bleidlais fwrw mewn sawl ffordd ar benderfyniadau yma. Mae'n gyfrifoldeb mawr. Peidiwch â mygu cyfleoedd cenedlaethau'r dyfodol; rhowch gyfle iddynt anadlu. Lywydd, dyna gloi fy nadl, ac rwy'n cefnogi'r Bil.
Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddweud pa mor wych oedd gwrando ar Aelodau o bob rhan o'r Siambr y prynhawn yma yn nodi eu barn a'u cefnogaeth, mewn egwyddor fan lleiaf, am y syniadau sy'n sail i'r Bil addysg awyr agored (Cymru). Mae bob amser yn ddiddorol clywed am brofiadau Aelodau yn yr awyr agored wych a'r manteision a gawsant yn tyfu i fyny ac yn yr ysgol hefyd. Rwyf am ailadrodd ambell bwynt a godwyd heddiw gan Aelodau yn ystod y ddadl a'r drafodaeth, ac mae'n ein hatgoffa bod manteision iechyd a lles i addysg awyr agored, ynghyd â gwerthfawrogiad o'r byd rydym yn byw ynddo, ein hamgylchedd, sy'n sicr â'r gallu i ddylanwadu ar ein pobl ifanc yn y pen draw. Cawsom ein hatgoffa hefyd fod yr ystadegau a'r data'n dangos, yn anffodus, nad oes digon o'n pobl ifanc yn gallu cyfranogi, a chyfyngiadau ariannol yw'r rheswm am hynny yn bennaf.
Wrth gwrs, clywsom drwy gydol y ddadl am bryderon yr Aelodau ynghylch amseru a chostau, ac maent yn bryderon pwysig iawn. Ond fel yr amlinellais wrth agor y ddadl heddiw, rwy'n argyhoeddedig y byddai arbedion mwy hirdymor o safbwynt iechyd corfforol ac iechyd meddwl a llesiant. Rwy'n credu y byddai arbedion i'w hennill drwy'r ffordd y mae ein pobl ifanc yn ymgysylltu â'r amgylchedd yn ehangach. Ac fel y mae'r Aelodau eisoes wedi nodi yma heddiw, holl bwrpas hyn yma heddiw yw er mwyn fy ngalluogi i, gan weithio gydag eraill, i edrych ar y manylion, i ddeall yn iawn beth yw'r cyfleoedd a sut y gellir ariannu hynny wedyn ac efallai o ble y gall yr arbedion ddod hefyd. Ac fel yr amlinellodd Peter Fox eiliad yn ôl, mae Biliau, fel y gwyddom, yn cymryd blynyddoedd i fynd drwy'r broses. Felly, er bod yna bryderon uniongyrchol yma a nawr, yn sicr, rwy'n deall hynny, ond drwy roi 12 mis i mi gael golwg ar y manylion hyn, gwneud yr ymchwil yn briodol a dod yn ôl a mynd drwy'r broses, mae gennym gyfle gwych i wneud gwahaniaeth, gwahaniaeth a fydd yn para'n hir, ym mywydau ein pobl ifanc.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, felly wrth gloi hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r Bil hyd yma heddiw. Yn sicr, Weinidog, diolch am eich ymwneud chi drwy'r broses hon hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n parhau. Mae Aelodau'r Senedd, tîm cymorth y Senedd, cynghorau, yr addysg awyr agored, a llawer o rai eraill wedi darparu llawer iawn o gefnogaeth hyd yma, ac rwy'n gobeithio bod Aelodau o bob rhan o'r Siambr wedi clywed heddiw ac yn deall y pethau cadarnhaol y gallai'r Bil hwn eu darparu, a chaniatáu i mi gyflwyno'r Bil hwn yn y dyfodol a chyflawni'r gwaith sydd angen ei wneud i sicrhau manteision a fydd yn para'n hir i'n pobl ifanc a'n cymunedau ar hyd a lled Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 sydd nesaf, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil manteisio ar fudd-daliadau, a galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8108 Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil defnyddio budd-daliadau.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sicrhau bod mwy o arian yn dod i bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol;
b) gosod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol;
c) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy Gymru o ran y dull o ymgeisio am fudd-daliadau o'r fath.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar gofynnodd etholwr sy'n ei chael hi'n anodd talu ei biliau, 'Beth yw pwynt Llywodraeth Cymru os na allant ein helpu?' Mae'n gwestiwn dilys, oherwydd pa les yw datganoli os ydym yn ddi-rym i warchod ein dinasyddion mwyaf bregus fan lleiaf? Mae'r cynnig sydd o'ch blaen yn ffordd o wneud y pwerau sydd gennym, yr adnoddau y gallwn eu defnyddio, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy sicrhau bod pob punt—pob punt Gymreig o gefnogaeth sy'n cael ei chynnig—yn cyrraedd pocedi pobl mor hawdd a chyflym â phosibl. Mae'r diffygion, y gwahaniaethau, a dros y degawd diwethaf o reolaeth y Torïaid yn San Steffan, y creulondeb llwyr sy'n nodweddu system les y DU wedi achosi caledi i ddegau o filoedd o Gymry ac wedi arwain at orfodi Llywodraeth Cymru i gamu i'r adwy lle mae San Steffan wedi gwneud cam â Chymru.
Rhoddodd Deddf yr Alban 2016 bwerau newydd i'r Alban mewn perthynas â nawdd cymdeithasol, gan gynnwys cyfrifoldeb dros fudd-daliadau penodol, y mae Llywodraeth yr Alban yn eu defnyddio i greu system nawdd cymdeithasol yn yr Alban yn seiliedig ar urddas, tegwch a pharch. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro byd dros ddatganoli gweinyddu lles i Gymru, ac rydym yn falch o symud ymlaen ar y mater hwn drwy ein cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond tra byddwn yn aros am gynnydd ar yr uchelgais hwnnw, mae'r cymorth sydd ar gael o goffrau Cymru wedi bod yn cynyddu'n gyflym ac felly'n esblygu'n glytwaith o daliadau a ddarparir yn bennaf gan yr awdurdodau lleol, er nad yn llwyr. Weithiau mae'r taliadau'n ddarostyngedig i brawf modd, weithiau'n gysylltiedig â budd-daliadau penodol, gydag amodau cymhwysedd amrywiol, gwahanol ffurflenni a rheoleidd-dra talu, a dulliau o wneud ceisiadau ar wahân i'w gilydd yn bennaf, dulliau sy'n aml yn gymhleth.
Gadewch inni edrych ar y cynlluniau sydd ar gael i helpu gyda biliau tanwydd er enghraifft. Yng Nghymru, mae gennym gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, a ailenwyd yn ddiweddar yn ei ail gyfnod cyflwyno o'r mis Medi hwn yn gynllun cymorth tanwydd Cymru. Gall aelwydydd cymwys ar fudd-daliadau penodol rhwng misoedd penodol hawlio taliad ariannol untro gan eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn wahanol i'r taliad tanwydd y gaeaf a'r taliad tywydd oer sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU. Mae'r cynllun talebau tanwydd yn fath newydd o gymorth i ddarparu cymorth mewn argyfwng i aelwydydd sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni, gan ddarparu talebau ychwanegol i'r rhai ar fesuryddion rhagdalu a gwasanaeth argyfwng i aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy. Ond ni allwch wneud cais; rhaid i aelwydydd gael eu cyfeirio. Mae'r gronfa cymorth dewisol yn darparu dau fath o grant, ac mae un ohonynt, y taliad cymorth mewn argyfwng, ar gael tan ddiwedd mis Mawrth i helpu aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy sy'n dioddef caledi ariannol i dalu am olew ychwanegol ac LPG. Mae'r rhai sydd angen cymorth brys tuag at nwy ychwanegol a mesuryddion rhagdalu trydan yn gallu cael cymorth hefyd, ond os chwiliwch chi am y gronfa cymorth dewisol ar Google, fe gewch dudalen Llywodraeth Cymru nad yw'n crybwyll hyn o gwbl. Unwaith eto, rhaid i geisiadau gael eu gwneud drwy weithiwr cymorth. Felly, fe welwch sut mae pethau: amodau cymhwysedd gwahanol, rheolau gwahanol, prosesau gwahanol ar gyfer gwneud ceisiadau. Ac mae hyn i gyd i fod i helpu pobl sydd mewn argyfwng, sydd, i fod yn onest, heb fod yn y lle iawn yn feddyliol i fynd ar drywydd hyn i gyd tra'u bod yn poeni sut i gadw eu plant yn gynnes. A dim ond cymorth gyda thanwydd yw hyn.
Mae Sefydliad Bevan yn dadlau dros yr angen am system fudd-daliadau Gymreig a gwasanaethau datganoledig. Mae ei ymchwil i'r ffordd y cafodd y taliadau cymorth, lwfansau a grantiau Llywodraeth Cymru ac awdurdod lleol hyn eu gweinyddu yn awgrymu y gallai newidiadau i gynlluniau unigol a'u hintegreiddio'n system ddi-dor gynyddu eu cyrhaeddiad a'u heffaith. Pan wnaeth y galwadau hyn am y tro cyntaf, roedd yna 12 grant a lwfans gwahanol, pob un yn cael eu gweinyddu ar wahân, felly, hyd yn oed pan oedd meini prawf cymhwysedd yr un fath, roedd rhaid i bobl wneud cais am bob math o gymorth ar wahân. Fel yn achos yr enghraifft a roddais ynghylch taliadau cymorth tanwydd, mae llawer mwy wedi'u cyflwyno neu gymhwysedd wedi'u ehangu ers dechrau'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Ac felly dim ond cynyddu y mae'r sail a'r ddadl dros greu un system integredig ddi-dor.
Ac nid yw cymorth yn gymorth os nad ydych chi'n gwybod ei fod yno neu os nad yw'n hygyrch. Roedd yr arolwg diweddaraf gan Plant yng Nghymru yn cynnwys y farn hon gan un ymarferydd sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd:
'Nid yw’n ddigon i ddweud bod pobl heb wybodaeth am yr hyn y gallan nhw ei hawlio. Fyddai llawer o’r bobl agored i niwed rwyf fi’n eu gweld yn methu cael hyd i ffordd trwy’r system gymhleth hon heb lawer o gefnogaeth barhaus.'
Dylem gofio hynny wrth nodi bod llai na hanner yr aelwydydd cymwys wedi gwneud cais am rownd gyntaf y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf.
Mae mudiadau fel Home Start Cymru, sy'n gweithio ar draws 18 awdurdod lleol i gefnogi teuluoedd â phlant, yn cytuno bod angen gwella a symleiddio'r sefyllfa. Mewn cyfarfod diweddar o grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dlodi, fe wnaethant rannu safbwyntiau o'u prosiect Cefnogi Pobl Caerffili. Dywedodd un fam nad oedd hi'n gwybod bod dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y taliad costau byw ac felly ei bod ar ei cholled. Dywedodd un arall, 'Cefais daliad o £326 i mewn yr wythnos o'r blaen. Nid wyf yn siŵr ar gyfer beth y mae. Ond mae'r cyfeiriad ar fy nghyfrif banc yn dweud mai dim ond rhif ydyw.' Rhannodd staff pa mor anodd yw cefnogi teuluoedd gyda system mor gymhleth i'w llywio. Un broblem gyffredin yw bod cynghorwyr yn dweud na allant weithredu ar ran teuluoedd i helpu i ddatrys pethau fel hawliadau gostyngiadau'r dreth gyngor; mae angen caniatâd ysgrifenedig.
Ac rwy'n credu bod y dyfyniad canlynol gan weithiwr cymorth yn crisialu'r angen am newid fel y mae'r cynnig yn ei argymell: 'Tad sengl oedd un o'r bobl a gefnogais. Er ei fod yn cael credyd cynhwysol ac yn dibynnu ar fanciau bwyd, roedd wedi bod yn talu swm llawn y dreth gyngor ers 14 mis. Fe ganfyddais nad yw cynghorwyr y dreth gyngor yn gofyn a ydych chi ar fudd-daliadau.' Gwyddom mai ôl-ddyledion y dreth gyngor yw'r broblem ddyledion fwyaf i aelwydydd Cymru. Byddai cysylltu cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor â chymhwysedd i gael credyd cynhwysol yn atal pobl rhag mynd i ddyled. Byddai manteision yn sgil gostwng costau gweinyddu a chapasiti'n cael ei ryddhau i awdurdodau lleol a chynghorwyr allu hyrwyddo budd-daliadau, gan roi hwb pellach i'r nifer sy'n eu cael.
Wrth ateb cwestiynau blaenorol yn y Senedd ar wella a sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn eu cael, nododd y Gweinidog y gwaith parhaus, megis gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio sut y gellid datblygu un pwynt mynediad a rhannu arferion gorau drwy gyhoeddi pecyn cymorth ar sut i symleiddio'r broses ymgeisio. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi dweud y gall awdurdodau lleol sicrhau pasbort i'r rhai sy'n gymwys ar gyfer y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor i gynllun cymorth tanwydd Cymru, ond mae llai na hanner ein hawdurdodau lleol yn gwneud hynny. Mae angen dull cyfannol, system gyfan.
Mae'r Gweinidog wedi siarad am y gwaith ar greu siarter ar gyfer darparu'r taliadau hyn. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod ymchwil yn cael ei wneud gan Policy in Practice, a ariennir gan sawl sefydliad, i edrych ar sut y gellir cyflawni dull cyffredin a fyddai'n arwain at ddull 'dim drws anghywir' y gwyddom ei fod mor hanfodol ac effeithiol. Fy nadl i yn hyn o beth yw na fydd siarter, sef canllawiau i bob pwrpas, yn ddigon. Ni fydd yn osgoi loteri cod post; ni fydd yn osgoi'r tyllau yn y rhwyd ddiogelwch hollbwysig honno. Mae angen troedle statudol cadarn ar gyfer system sy'n seiliedig ar hawliau a fydd yn sicrhau cydlyniad ac effeithiolrwydd, ac yn caniatáu i bobl wneud cais am yr holl gymorth y mae ganddynt hawl i'w gael mewn un lle. Ac yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau rheoleiddio dros lywodraeth leol, felly mae modd cyflawni hyn.
Byddai cost i greu system sy'n siarad â'r holl systemau sydd angen iddi siarad â hwy, ond mae'r manteision yn amlwg. Yn bwysicaf oll, bydd yn helpu'r rhai sydd angen pob un geiniog o help i gadw'r gwres ymlaen, i gadw'r golau ymlaen, i roi dillad am y plant a bwyd yn eu boliau. Diolch.
Cyfraniad diddorol gan Sioned Williams, ac rwy'n rhannu eich angerdd ynghylch sicrhau bod pawb yn cael yr hyn mae ganddynt hawl iddo, ond hynny, wrth gwrs, yw prif sail cynigion Llywodraeth Cymru i geisio helpu pobl drwy'r cyfnod hynod anodd hwn. Dyna pam y mae gennym 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'.
Felly, rwy'n bendant yn cefnogi datganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru, fel yr argymhellwyd gan Sefydliad Bevan, oherwydd rwy'n deall y manteision a ddaeth yn sgil hynny yn yr Alban. Ynghanol yr argyfwng costau byw na fu ei debyg o'r blaen, mae'n edrych yn ddeniadol iawn i gyflwyno Bil o'r fath yma, ond a yw o fewn cwmpas ein pwerau ac a fydd ei angen os oes Llywodraeth yn y dyfodol yn mynd i gytuno i ddatganoli budd-daliadau?
Yn amlwg, mae angen inni wella'r hyn a wnawn ar hyn o bryd, oherwydd mae llawer gormod o bobl yn dioddef yn ddychrynllyd iawn. Ac ar hyn o bryd, mae elusennau, er enghraifft, yn codi'r faner goch dros niferoedd y bobl sy'n cael eu gorfodi i gael mesuryddion rhagdalu am ddim rheswm heblaw eu bod wedi mynd i ddyled ar eu trefniadau presennol. Mae hyn yn destun pryder mawr, ac yn rhywbeth y dylem wneud rhywbeth yn ei gylch yn ôl pob tebyg, oherwydd mae datgysylltu drwy'r drws cefn yn gwbl annerbyniol. Ni fyddem yn gwneud hyn mewn perthynas â dyled dŵr, ac nid oes angen inni ei wneud mewn perthynas â galluogi pobl i gadw'n gynnes a chadw'r golau ymlaen. Ond p'un a oes angen deddfwriaeth arnom i wella'r sefyllfa ai peidio, neu p'un a oes angen cyfarwyddyd pellach arnom gan Lywodraeth Cymru i wella asesiadau awdurdodau lleol o'r mater hwn.
Roeddwn yn bryderus iawn o glywed Sioned yn dweud bod llai na hanner yr awdurdodau lleol yn sicrhau pasbort i'r rheini sy'n derbyn budd-dal gostyngiad y dreth gyngor i fudd-daliadau eraill, fel cynllun taliad tanwydd y gaeaf yng Nghymru. Mae hynny'n peri pryder, oherwydd rwy'n gwybod yn sicr nad yw hynny'n digwydd yng Nghaerdydd lle'r oedd holl denantiaid y cyngor, er enghraifft, wedi cael pasbort awtomatig i gynllun taliadau tanwydd y gaeaf Cymru y llynedd. Nawr, nid oedd y nifer a'i câi y llynedd yn 100 y cant, oherwydd yn amlwg roedd yn rhywbeth a wnaethpwyd mewn amser byr iawn, ond gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun i gynnwys nifer mwy o aelwydydd erbyn hyn—400,000 o aelwydydd incwm isel ar gyfer y gaeaf sydd i ddod—er i'r cynllun ddechrau ar 26 Medi, rwy'n synnu'n fawr fod yn agos at hanner nifer y bobl gymwys eisoes wedi manteisio ar yr hawl. Yn amlwg mae hynny'n adlewyrchu'r angen, ond mae hefyd yn adlewyrchu cymhwysedd pobl i sicrhau eu bod yn ei gael.
Rwy'n credu bod prydau ysgol am ddim i bawb yn gyfle a gollwyd i gael sgwrs briodol gyda rhieni ynglŷn ag a ydynt yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yn aruthrol o ganlyniad i gael y sgwrs honno—
Jenny, mae angen i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
—am hyn. Yn olaf, os yw cynigion Gordon Brown ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yn cynnwys datganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru, a'u bod yn cael eu derbyn gan Lywodraeth yn y dyfodol, a fyddem angen y ddeddfwriaeth hon felly? Ac yn y cyfamser, sut y gallwn wella'r rhan y mae awdurdodau cyhoeddus yn ei chwarae yn y mater pwysig hwn?
Ym mis Ionawr 2019, lansiodd Sefydliad Bevan ei brosiect ar system fudd-daliadau Cymru, gyda'r nod o ddatblygu fframwaith cydlynol a symlach o help yng Nghymru. Roeddent yn dweud hyn:
'Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru yn darparu nifer o gynlluniau gwahanol sy'n amrywio o ddarparu prydau ysgol am ddim i daliadau tai dewisol.'
Roeddent yn ychwanegu:
'Ar hyn o bryd, mae pob un o'r cynlluniau hyn yn cael eu hystyried fel rhai ar wahân i'w gilydd, sy'n golygu bod yn rhaid i hawlwyr wneud ceisiadau lluosog yn aml i gael yr holl gymorth ychwanegol Cymreig y mae ganddynt hawl i'w gael, ac yn creu aneffeithlonrwydd yn y system.'
Wrth siarad yn seminar fforwm polisi Cymru ar leihau tlodi yng Nghymru, diwygio lles, dulliau lleol o weithredu a strategaethau hirdymor ym mis Mawrth 2019, nodais fod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol i'w galwad ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru er mwyn cydleoli gwasanaethau a'i gwneud yn bosibl i geisiadau am fudd-daliadau awdurdodau lleol gael eu gwneud ar yr un pryd â'r credyd cynhwysol.
Wrth siarad yma ym mis Medi 2020, yn y drafodaeth ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', roeddwn yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion y dylai sefydlu
'"system fudd-daliadau Gymreig" gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt... [wedi] eu cydgynhyrchu gyda phobl sy’n hawlio’r budd-daliadau hyn a’r cyhoedd ehangach yng Nghymru'
'a'i fod yn defnyddio pecyn cymorth dull bywoliaethau cynaliadwy Oxfam'.
Ychwanegais, fodd bynnag,
'Mae angen i ni droi geiriau yn weithredu go iawn yn awr fel bod pethau'n cael eu gwneud gyda phobl o'r diwedd yn hytrach nag iddyn nhw.'
'Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cwblhau'r camau sydd i'w cymryd yn dilyn ei hadolygiad o'i rhaglenni a'i gwasanaethau presennol'—
ac—
'ni fydd datblygu cyfres o egwyddorion a gwerthoedd ar gyfer seilio system fudd-daliadau Gymreig arnynt a mynd i'r afael â thlodi'n ehangach yn llwyddo heb gynnwys dinasyddion yn y canol.'
Mae hynny dros ddwy flynedd yn ôl.
Wrth siarad yma ym mis Ionawr 2021, gofynnais i'r Prif Weinidog sut roedd yn ymateb i alwadau gan Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru ar Lywodraeth Cymru i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer budd-daliadau a chynlluniau cymorth a weinyddir yng Nghymru.
Wrth siarad yma ym mis Gorffennaf 2021, fe heriais Lywodraeth Cymru am y camau a gymerodd i sefydlu system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig, fel yr argymhellwyd yn adroddiad pwyllgor 2019 ar fudd-daliadau yng Nghymru. Gofynnais i'r Trefnydd, a oedd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog,
'pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ers hynny i droi ei geiriau yn weithredu go iawn'.
Byddwn yn falch o gefnogi'r cynnig fel y'i drafftiwyd yn unol â hynny.
Rwy'n credu bod Sioned wedi taro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd nad yw cymorth yn gymorth os nad ydych yn gwybod ei fod yno. Hoffwn ddiolch iddi am gyflwyno'r cynnig hwn. Y gwir amdani yw y ceir llawer o bobl nad ydynt yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt—budd-daliadau y maent eu hangen yn ddybryd. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i chwilio am y rhai sydd mewn angen a pheidio â disgwyl i'r rhai sydd mewn angen gamu ymlaen.
Ceir stigma cynhenid wrth hawlio unrhyw gymorth; rydym wedi gweld adroddiadau dirifedi'n tynnu sylw at hyn. Clywsom fod y fiwrocratiaeth wrth wneud cais yn gweithredu fel rhwystr; unwaith eto, ceir adroddiadau dirifedi'n tynnu sylw at hyn. Fel y soniodd Sioned, nid yw pobl yn y lle iawn yn feddyliol ac nid oes ganddynt amser i chwilio am ystod fawr o gymorth gan wahanol ddarparwyr. Dyna pam rwy'n cefnogi egwyddor cyffredinoliaeth, dyna pam rwy'n credu mewn prydau ysgol am ddim i bawb a dyna pam rwy'n credu bod gwasanaethau sylfaenol cyffredinol yn hanfodol.
Rwy'n credu—yn credu'n gryf—y dylai unrhyw gymdeithas sy'n dosturiol fynd ati i sicrhau bod gan bawb fynediad at yr hanfodion. Os ydym yn mynd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, os ydym yn mynd i ddeffro o hunllef neoryddfrydol y DU heddiw, mae angen atebion radical, wedi'u seilio ar gyffredinoliaeth. Rwy'n gweld hwn fel cynnig sy'n mynd â ni i'r cyfeiriad cywir ac rwy'n cefnogi cynnig fy nghyfaill yn llwyr.
Bûm mewn tair seminar costau byw yng ngogledd Cymru yn ddiweddar, a chyfathrebu ynghylch pa fudd y mae gan bobl hawl iddo oedd y broblem fwyaf. Cafwyd amrywiaeth o awgrymiadau: gwiriwr grant ar-lein, argraffu rhif cyngor CAB ar fagiau presgripsiwn o'r fferyllfa, cael cynghorwyr cymunedol sy'n dod i adnabod y rhai sy'n anodd eu cyrraedd yn y gymuned a rhif un pwynt mynediad, a hoffwn i'r Llywodraeth ysgrifennu at bawb, fel y gwnaethant yn ystod y pandemig—dyna fy awgrym i hefyd.
Trafodwyd hefyd fod angen i drigolion a sefydliadau wybod beth sy'n digwydd. Mae angen inni wneud i bob cyswllt gyfrif, felly mae hynny'n golygu cynghorwyr; swyddfeydd cyngor ar bopeth; gofal cymdeithasol cynghorau; adrannau tai, refeniw a budd-daliadau; a swyddogion cronfa'r loteri. Mae'r rhestr yn parhau: meddygon, banciau bwyd, ymwelwyr iechyd a nyrsys ardal.
Mae darparu budd-daliadau yn flêr, yn fiwrocrataidd ac yn gostus. Mae awdurdodau lleol yn brin o staff; gwelais awdurdod lleol yn hysbysebu am 12 o staff budd-daliadau newydd, ond roedd pob un o'r rheini ar gyflogau isel hefyd, felly nid yw hynny'n helpu. Ond yn y bôn, pe bai ychwanegiad i'r credyd cynhwysol; pe bai gennym incwm sylfaenol cyffredinol; pe bai cynnydd yn incwm pawb i gyd-fynd â chwyddiant; a phe bai gwasanaethau cyhoeddus, sy'n gyflogwyr mawr yng Nghymru, yn cael eu hariannu'n iawn, yn hytrach na chael eu torri flwyddyn ar ôl blwyddyn, byddai gan bobl arian yn eu pocedi i'w wario yn yr economi leol. Byddai hynny'n sicr yn well.
Rwy'n gwrando ac yn dysgu, ac mae'r rhai sydd ag arian yn ei gadw, tra bod y rhai sydd heb lawer o arian yn fwy hael ac yn ei wario—byddant yn prynu tocynnau raffl a byddant yn helpu'r gymuned, gan wario pob ceiniog olaf o'u harian yn helpu eraill, nid yn ei gelcio.
Os nad yw'r newid hwnnw'n digwydd, mae angen inni ddatganoli nawdd cymdeithasol. Rwy'n credu bod angen newid sylfaenol. Mae angen inni gael gwared ar y system fudd-daliadau a biwrocratiaeth unwaith ac am byth. Beth bynnag, diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ar y cynnig ar gyfer Bil manteisio ar fudd-daliadau. Rwy'n croesawu'r cyfle y mae'r ddadl hon yn ei roi i adrodd ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau ac i adrodd ar y ffyrdd rydym yn gyrru hyn yn ei flaen, mewn cydweithrediad â'n hawdurdodau lleol, yn enwedig. Ni fu erioed mor hanfodol fod pobl yn cael eu hannog i hawlio pob punt y mae ganddynt hawl i'w hawlio.
Drwy ein dull gwneud i bob cyswllt gyfrif, rydym yn mabwysiadu safbwynt rhagweithiol ar gyfer adnabod cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau, gan ganolbwyntio ar y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn eu defnyddio fwyaf. Ac fel y dywedodd yr Aelod sy'n cyflwyno'r cynnig, mae ein budd-daliadau Cymreig, sy'n cynnwys cymorth fel prydau ysgol am ddim, grant datblygu disgyblion—mynediad, y cynllun gostyngiad y dreth gyngor, y gronfa cymorth dewisol a thalebau Dechrau Iach, yn achubiaeth i gannoedd o filoedd o bobl yn ystod yr argyfwng costau byw gwaethaf ers dros 40 mlynedd. Eleni, mae ein cronfa cymorth dewisol wedi cefnogi bron i 148,000 o unigolion bregus gyda mwy na £16.5 miliwn o ddyfarniadau, caiff help tuag at filiau'r dreth gyngor ei hawlio gan 268,000 o bobl, ac mae 73,024 o blant yn cael prydau ysgol am ddim, ac mae'n bwysig ein bod yn cofnodi hynny.
Mae ymwybyddiaeth o'r cymorth ariannol sydd ar gael, boed wedi'i ddatganoli neu heb ei ddatganoli, yn cynyddu mewn cartrefi ar draws Cymru oherwydd llwyddiant ymgyrchoedd fel 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae dros 9,000 o bobl hyd yma yn cael cymorth i hawlio dros £2.6 miliwn o incwm ychwanegol yn yr adroddiadau diweddaraf, ac rwy'n diolch i'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, am eu cefnogaeth i'n hymgyrch gyda'n gilydd i annog pobl ledled Cymru i hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo drwy hyrwyddo ein deunyddiau ymgyrchu.
Ond er ein bod yn gwneud gwaith rhagorol gyda'n gilydd i godi ymwybyddiaeth, rwy'n cydnabod bod mwy y gallwn ei wneud i symleiddio system fudd-daliadau Cymru, a dyna lle rydym yn canolbwyntio ein gweithredoedd. Ar hyn o bryd, bydd unigolion yn aml yn gorfod llenwi sawl ffurflen sy'n gofyn am wybodaeth debyg ond sydd angen eu hanfon at adrannau gwahanol. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhwystro pobl rhag manteisio ar eu hawliau, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn gwbl ymrwymedig i weledigaeth gyffredin o system fudd-daliadau Gymreig sydd ag un pwynt cyswllt, lle nad oes raid i unigolyn ddweud ei stori fwy nag unwaith.
Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gweithio gyda fy swyddogion i wneud gwaith archwilio a nodi atebion a fydd yn caniatáu ar gyfer system gydlynol, unedig, ac rwy'n croesawu'r ymchwil ar wahân sy'n cael ei harwain gan Sefydliad Bevan ar y rhwystrau rhag hawlio budd-daliadau Cymreig. Fodd bynnag, tra byddwn yn gweithio tuag at y nod hwn, rydym yn parhau i gyflawni gwelliannau. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y dull o weinyddu budd-daliadau Cymreig yn un sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn dosturiol, yn seiliedig ar hawliau. Mae'r gwaith a wnawn i symleiddio system fudd-daliadau Cymru yn cefnogi ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru ar ddatganoli gweinyddu lles ac archwilio'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar gyfer hyn.
Elfen hanfodol o'r gwaith hwn yw'r siarter fudd-daliadau, cyfres sylfaenol o egwyddorion ar gyfer system fudd-daliadau Gymreig y gwnaethom ei chreu gyda rhanddeiliaid o'n grŵp uchafu incwm. Rydym bellach yn bwrw ymlaen â'n siarter o'r cychwyn cyntaf hyd at ei gweithrediad drwy ymgysylltu â phobl sy'n hawlio budd-daliadau Cymreig a phartneriaid cyflawni. I gyd-fynd â siarter fudd-daliadau, mae gennym becyn cymorth arferion gorau ar gyfer awdurdodau lleol, sy'n cynnig awgrymiadau ymarferol ac arweiniad ar weinyddu budd-daliadau Cymreig. Rydym wedi datblygu'r pecyn cymorth hwnnw mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gan ddefnyddio'u profiad ymarferol a gweithredol. Credwn mai gweithio ar y cyd â'n cydweithwyr llywodraeth leol yw'r ffordd fwyaf priodol o gyflwyno'r pecyn cymorth yn effeithiol, ac rydym yn gweithio gyda hwy i rannu a chyfnewid arferion da i hybu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yng Nghymru.
Yn ddiweddar, gwelsom nifer o enghreifftiau o arferion gorau, o daliadau newydd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, yn fwyaf arbennig gydag awtomeiddio'r taliad costau byw o £150, a anfonwyd yn uniongyrchol at unigolion cymwys mewn llawer o achosion heb fod angen iddynt wneud cais—dull sydd bellach wedi'i fabwysiadu gan awdurdodau o dan gynllun cymorth tanwydd presennol Llywodraeth Cymru. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae dros 185,000 o daliadau eisoes wedi eu talu mewn llai na mis.
Felly, rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn, boed yn gweithio ar y rheng flaen yn helpu unigolion i hawlio budd-daliadau Cymreig, neu'n gyfrifol am weinyddu'r budd-daliadau hynny, am eu hymrwymiad parhaus i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu hawlio'r hyn sydd ar gael iddynt. Dyna lle rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ni allaf siarad mewn dadl ar fudd-daliadau heb sôn am yr aelwydydd ledled Cymru sy'n wynebu trafferthion ariannol dyddiol, gyda'r lefel uchaf o chwyddiant ers dros 40 mlynedd. Rwy'n gwybod y bydd holl Aelodau'r Senedd ar draws y Siambr yn ymuno â'm galwad ar y Canghellor i wneud y peth iawn a chadarnhau na fyddant yn torri eu haddewidion blaenorol, ac y byddant yn uwchraddio'r holl fudd-daliadau nawdd cymdeithasol 10.1 y cant o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Diolch.
Sioned, fe ddefnyddioch yr holl amser a neilltuwyd i chi ar gyfer agor a chloi i agor y sesiwn, ond rwyf wedi cytuno i neilltuo munud ychwanegol ichi gloi'r sesiwn, felly rwyf am roi amser ichi wneud hynny yn awr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n anodd pan ydych ar Zoom a phan fo gennych COVID.
Hoffwn ddweud wrth Jenny, sy'n dymuno aros, na all teuluoedd aros. Byddai’n well gennyf wrando ar y rheini a chanddynt brofiad bywyd, yn hytrach na Gordon Brown, ynghylch yr atebion sydd eu hangen.
Mark Isherwood, diolch am eich cefnogaeth. Rwy’n cytuno nad yw’r rhain yn syniadau newydd. Mae'n hen bryd gweithredu. Dychmygwch pe bai hyn wedi bod ar waith ychydig flynyddoedd yn ôl, cyn i'r pandemig a'r argyfwng costau byw daro. Clywsom yn y cwestiynau yn gynharach heddiw i Rebecca Evans fod awdurdodau lleol dan gymaint o bwysau; dylem wneud popeth a allwn i'w helpu i ehangu a rhyddhau eu capasiti, a byddai hyn yn gwneud hynny. Gwyddom fod Cyngor ar Bopeth yn nodi cynnydd o 200 y cant, ac roedd hynny yn ôl ar ddiwedd mis Awst a dechrau mis Medi. Mae angen inni ryddhau capasiti’r gweithwyr cymorth hynny i wneud mwy na llenwi ffurflenni.
Weinidog, rwy'n cydnabod yr ymdrech y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud ar wneud y gorau o incwm gyda 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ac ati, ond gwyddom nad yw canllawiau bob amser yn ddigon. Rydym wedi gweld, pan fuom yn siarad am gost y diwrnod ysgol, nad yw canllawiau ar wisg ysgol bob amser yn cael eu dilyn, a dyna pam nad yw 'mewn llawer o achosion' yn ddigon da. Dyna pam fod angen y math hwn o ddeddfwriaeth—er mwyn rhoi hyn oll ar sylfaen statudol.
Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Cynnig NDM8112 Jayne Bryant
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ‘Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi ddechrau fy sylwadau agoriadol, dylwn rybuddio unrhyw un sy’n gwrando ar y ddadl heddiw y byddaf yn siarad mewn ffordd gyffredinol am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith plant a phobl ifanc. Efallai y bydd rhywfaint o'r hyn rwyf fi ac eraill yn sôn amdano'n peri gofid i rai pobl.
Fe ddechreuaf drwy ddweud yn glir beth yn union rwy'n ei olygu wrth sôn am 'aflonyddu rhywiol'. Rwy'n golygu gwneud sylwadau rhywiol, jôcs, a sylwadau cas i achosi cywilydd, gofid neu ddychryn; rwy'n golygu tynnu lluniau o dan ddillad unigolyn heb yn wybod iddynt; rwy'n golygu rhannu lluniau neu fideos noeth o rywun heb eu caniatâd, neu anfon lluniau neu fideos rhywiol na ofynnwyd amdanynt. Wrth ddweud aflonyddu rhywiol, nid wyf yn golygu 'tynnu coes'. Nid 'bechgyn yn bod yn fechgyn' yw aflonyddu rhywiol, beth bynnag y mae hynny'n ei olygu. Nid bwlio mohono, chwaith. Pan fyddaf yn sôn am aflonyddu rhywiol, rwy'n sôn am fath o drais rhywiol.
Lansiwyd yr ymchwiliad hwn gennym oherwydd canfyddiadau brawychus adroddiad thematig Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021, ochr yn ochr â phryderon a fynegwyd wrthyf gan gynrychiolwyr heddluoedd yng Nghymru. Cawsom dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan weithwyr proffesiynol, sefydliadau a Llywodraeth Cymru rhwng mis Chwefror a mis Mai eleni. Hefyd, fe wnaethom lansio arolwg wedi'i anelu at blant a phobl ifanc i ofyn iddynt pa newid roeddent am ei weld i leihau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion a cholegau.
Roedd y dystiolaeth hynod gyson a gawsom yn disgrifio cefndir torcalonnus i ddysgu llawer o blant a phobl ifanc: chwibanu, sylwadau cas, cam-drin geiriol homoffobig a thrawsffobig yn ystod y diwrnod ysgol. Ac mae'r broblem yn waeth y tu allan i'r diwrnod ysgol. Mae'r sylwadau sarhaus hynny'n parhau ar apiau negeseua a'r cyfryngau cymdeithasol. Ochr yn ochr â’r sylwadau hynny, mae dysgwyr yn derbyn cymaint o ddelweddau rhywiol na ofynnwyd amdanynt fel bod llawer o bobl ifanc wedi eu dadsensiteiddio i gamdriniaeth drwy ddelweddau. Mae'r broblem mor gyffredin fel bod llawer o ferched a menywod ifanc yn ei hystyried yn rhan o fywyd normal.
Dylai hynny ddychryn pob un ohonom yma. Oherwydd mae effaith aflonyddu rhywiol yn sylweddol ac yn hirhoedlog. Mae'n effeithio ar iechyd meddwl a chyrhaeddiad addysgol pobl ifanc. Gall amharu ar hunanhyder, achosi i bobl ymwrthod ag addysg a chymdeithas, arwain at gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio a hyd yn oed ceisio lladd eu hunain. Mae'r risgiau hyn yn uwch i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed.
Mae'r ffaith bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr mor gyffredin mewn ysgolion a cholegau yn adlewyrchiad o gymdeithas yn fwy cyffredinol. Mae rhywiaeth, homoffobia a thrawsffobia wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn ysgolion, yn union fel y maent yn ein cymdeithas yn gyffredinol. Mae pornograffi sy'n dangos rhyw afrealistig, afiach neu dreisgar hyd yn oed ar gael yn hawdd, a dyma'r addysg rhyw gyntaf y mae llawer o bobl ifanc yn ei chael. Ac er bod y cyfryngau cymdeithasol ac apiau negeseua'n darparu cyfleoedd gwych i bobl gyfathrebu a chadw mewn cysylltiad, gallant greu pwysau ar bobl ifanc i edrych neu ymddwyn mewn ffordd benodol. Gallant fod yn gyfrwng ar gyfer aflonyddu rhywiol drwy ei gwneud yn hawdd rhannu delweddau rhywiol.
Mae achosion aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hynod gymhleth. Am y rheswm hwnnw, ychydig iawn o werth a welwn mewn beio unrhyw un am ei achosion sylfaenol. Ond rydym yn glir fel pwyllgor fod angen i lawer o bethau newid. Clywsom dro ar ôl tro gan weithwyr proffesiynol a chan bobl ifanc, er gwaethaf pocedi o arferion da, fod addysg rhyw a pherthnasoedd yn wael yn gyffredinol. Clywsom nad oedd yn cael ei darparu'n ddigon da, ei bod yn annigonol, o ansawdd gwael, ac weithiau hyd yn oed yn gwbl absennol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu am achosion sylfaenol aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
Clywsom dro ar ôl tro fod y cwricwlwm newydd yn gyfle i wella addysg rhyw a pherthnasoedd. Gobeithiwn y caiff ei botensial ei wireddu. Ond ni fydd unrhyw blentyn sydd ym mlwyddyn 8 neu uwch ar hyn o bryd—y rhai yn y perygl mwyaf o wynebu aflonyddu rhywiol gan gyfoedion—byth yn cael eu haddysgu o dan y cwricwlwm newydd. Felly, boed yn yr hen gwricwlwm neu'r cwricwlwm newydd, mae'n rhaid i newid ddigwydd yn gyflym er lles pob dysgwr. Clywsom hefyd gan bobl ifanc fod staff ysgolion yn aml yn bychanu eu profiadau o aflonyddu rhywiol, yn diystyru eu pryderon, neu hyd yn oed yn anwybyddu arwyddion ei fod yn digwydd yn llwyr. Mae'n rhaid i bob ysgol ddweud yn gwbl glir wrth eu dysgwyr fod aflonyddu rhywiol yn annerbyniol. Mae'n rhaid iddynt ymateb i adroddiadau o ddifrif, yn brydlon ac yn gyson.
Rydym wedi gofyn i Estyn ddiwygio eu fframwaith arolygu ar gyfer ysgolion a cholegau i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae sefydliadau addysg yn cadw cofnodion o aflonyddu rhywiol, sut y maent yn ymateb i honiadau o aflonyddu rhywiol, ac yn cefnogi dysgwyr sydd wedi’i wynebu. Ond rydym yn deall nad yw llawer o staff ysgolion yn teimlo eu bod wedi cael hyfforddiant digonol i allu ymateb i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hyderus. Nid yw'n hawdd sgwrsio â phobl ifanc am ymddygiad rhywiol afiach. Mae angen cefnogaeth ar staff ysgolion. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer hyfforddiant i bob aelod o staff ysgolion, nid staff addysgu'n unig, i nodi achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, ymateb iddynt a rhoi gwybod amdanynt.
At ei gilydd, gwnaethom 24 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rwyf eisoes wedi crybwyll rhai ohonynt, ond cyn imi droi at fy nghyd-Aelodau ar draws y Senedd ac yn y Llywodraeth am eu cyfraniadau, hoffwn ychwanegu ychydig rhagor. Efallai mai’r pwysicaf yw bod yn rhaid i bobl ifanc fod yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu ymateb Llywodraeth Cymru i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ar ffurf bwrdd cynghori pobl ifanc. Ein gobaith yw y bydd y bwrdd hwn yn llywio camau gweithredu mewn perthynas â rhai argymhellion allweddol: ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol wedi’i thargedu at ddysgwyr a’u teuluoedd; adolygiad o'r cymorth a gynigir i ddioddefwyr aflonyddu rhywiol; a datblygu cronfa o ddulliau effeithiol o ddarparu addysg rhyw a pherthnasoedd.
Ni wyddom ddigon am raddfa a natur aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd a cholegau. Clywsom y gall ddechrau ymhlith plant mor ifanc â naw oed, sy'n peri cryn bryder. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad sy’n addas i'r oedran o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i adolygiad tebyg mewn colegau, gwaith hollbwysig y mae pob un ohonom yn falch ei fod ar y gweill. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr yma heddiw yn y Senedd, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith a wnaethpwyd hyd yma a’r amserlen ar gyfer y gwaith sydd i ddod i roi’r argymhellion a dderbynnir ar waith.
Hefyd, hoffwn gyflwyno rhai pryderon i’r Gweinidog a godwyd gyda ni gan randdeiliaid pan ofynnwyd am adborth ar ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad. Y cyntaf: a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod effaith aflonyddu rhywiol ar bobl ifanc a’r effaith hirdymor y gall ei chael ar fywyd plentyn, hyd yn oed os nad yw wedi'i gategoreiddio fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod? Yn ail: nad yw'r cyllid a ddarperir ar gyfer hyfforddiant i staff ysgolion ar roi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ac ymateb iddynt yn dod ar draul cefnogaeth a hyfforddiant mawr eu hangen i staff ysgolion mewn meysydd eraill.
Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd i ni y bydd pobl ifanc yn rhan ystyrlon ac uniongyrchol o'r gwaith o gyd-ddatblygu ymateb y Llywodraeth i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, o weithio ar yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol i ddatblygu set o sesiynau ar arferion gorau i ysgolion eu haddysgu am effaith aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion? Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau gan aelodau’r pwyllgor a’r holl Aelodau ar draws y Senedd, a chan y Gweinidog. Diolch yn fawr.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Jayne Bryant, am ei holl waith caled yn ystod yr adroddiad hwn, ac wrth gwrs, i’r clercod a’r staff a fu mor fedrus wrth gynorthwyo’r pwyllgor yn ein gwaith, gan ein galluogi i gwblhau'r adolygiad pwysig hwn, a hynny mor gyflym. Roedd yn amlwg fod angen inni gwblhau'r adolygiad hwn yn gyflym i ddeall y materion a hefyd i greu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y Senedd hon, yn Llywodraeth Cymru a ledled Cymru, o ran yr hyn sy’n digwydd yn ein hysgolion—natur erchyll y peth a’r ffaith ei bod yn broblem sy’n tyfu ac a fydd yn parhau i dyfu oni bai ein bod yn gweithredu ar unwaith.
Ddirprwy Lywydd, fe wnaeth adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, '"Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon"', helpu i lywio, fel y dywedodd ein Cadeirydd, ac ysgogi'r adroddiad hwn. Yn frawychus, canfu fod hanner ein holl ddisgyblion yn dweud eu bod wedi cael profiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ar ryw ffurf, a dywedodd tri chwarter ein holl ddisgyblion eu bod wedi'i weld yn digwydd i ddisgyblion eraill, gyda’r mathau mwyaf cyffredin o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ystod y diwrnod ysgol. Gall effaith aflonyddu rhywiol ar ddysgwyr fod mor ddifrifol fel ei bod nid yn unig yn effeithio ar eu dysgu, ond hefyd ar eu perthynas ag eraill, iechyd meddwl, rhagolygon bywyd, ac mewn achosion difrifol, gall arwain at hunan-niweidio a hunanladdiad.
Ar ddechrau’r broses hon, cyfarfu ein Cadeirydd, Jayne Bryant, â chynrychiolwyr yr heddlu fis Tachwedd diwethaf, lle clywodd am bryder penodol yr heddlu ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, sydd wedi dod yn fwyfwy cyffredin, yn enwedig ar-lein. Roedd hyn yn cyd-daro â pharatoadau Estyn i adrodd ar ei ymchwiliad i aflonyddu rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd. Amlygodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ar 8 Rhagfyr 2021, anferthedd y broblem. Mae'n gyffredin mewn ysgolion, i'r fath raddau, fel yr amlinellodd ein Cadeirydd, nes ei fod wedi'i normaleiddio, sy'n peri cryn bryder.
Mae'n amlwg o'n canfyddiadau nad yw pobl ifanc yn teimlo'n gyfforddus yn dweud wrth staff ysgolion am eu problemau, ac mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd ymateb pan gânt wybod am yr achosion hynny. Mae’r aflonyddu hwn yn digwydd y tu hwnt i oriau ysgol, fel y nododd ein Cadeirydd hefyd, gan dreiddio i fywydau pobl ifanc ar-lein ac yn yr ysgol, rhywbeth a waethygwyd gan y pandemig, fel y dengys ein canfyddiadau. Fel y dywedir yn y rhagair, er inni edrych o ddifrif ar y mater bryd hynny, wrth imi edrych yn ôl chwe mis yn ddiweddarach, mae’n amlwg i mi ein bod wedi tanamcangyfrif anferthedd y broblem.
Canfu Estyn fod 61 y cant o ddisgyblion benywaidd a 29 y cant o ddisgyblion gwrywaidd wedi wynebu aflonyddu rhywiol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Hoffwn i dalu teyrnged hefyd i fy nghyd-Aelod Jayne Bryant am ei gwaith rhagorol yn cadeirio'r pwyllgor rwy'n aelod ohono. Hoffwn godi’r pwynt eich bod yn sôn am wrywod sydd hefyd yn wynebu aflonyddu rhywiol. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, ac eraill sy’n aelodau o'r pwyllgor hwnnw, na ddylai unrhyw un fod ag ofn rhoi gwybod os ydynt yn wynebu aflonyddu rhywiol, yn enwedig dynion ifanc sy’n teimlo stigma os ydynt yn rhoi gwybod. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, os oes unrhyw un yn wynebu aflonyddu rhywiol, ni waeth beth fo'u rhywedd, dylent roi gwybod i'r awdurdodau cywir.
Yn sicr. Mae fy nghyd-Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn.
Yr hyn sy'n peri pryder hefyd yw bod y niferoedd a welsom, a'r dystiolaeth rydym wedi'i chasglu, yn tanamcangyfrif y broblem yn ôl pob tebyg, o ran yr hyn a welwn. Ymhellach, er na wnaeth Estyn ystyried aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd neu golegau, fe wnaeth eu hymchwiliad eu hargyhoeddi ei bod yn debygol fod aflonyddu rhywiol yn gyffredin yn y ddau le. Clywodd ein pwyllgor yr un peth hefyd. Mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd mewn perygl, ac er nad oes data cadarn wedi'i gaffael eto i atgyfnerthu'r pwynt, mae ganddynt reswm dros gredu bod grwpiau eraill o ddysgwyr mewn perygl hefyd.
Mae achosion aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gymhleth. Maent yn cynnwys agweddau cymdeithasol sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn, ac sydd wedi'u cryfhau gan bornograffi, y cyfryngau cymdeithasol, ac yn y blynyddoedd diwethaf, y pandemig. Maent yn faterion diwylliannol sydd wedi’u gwreiddio ac sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i gylch gwaith y pwyllgor a chwmpas yr ymchwiliad hwn. Mae’n broblem ar draws y gymdeithas gyfan. Mae angen i Lywodraeth Cymru, y Senedd, awdurdodau lleol, ysgolion, elusennau, rhieni, teuluoedd, pob un ohonom, weithredu ar y cyd i ddadnormaleiddio’r ymddygiadau niweidiol hyn.
Gwn fod y Gweinidog yma heddiw ac y bydd yn ymateb i’r ddadl, ac rwyf am ofyn a wnaiff sicrhau bod yr ymgyrch ymwybyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn cael ei chreu a’i gweithredu yn ein hysgolion cyn gynted â phosibl. Dim ond drwy addysg ac ymwybyddiaeth briodol y bydd pobl ifanc yn deall y broblem go iawn, yn gallu mynd i'r afael â hi, ac yn gwybod hefyd sut i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Cawsom awgrymiadau rhagorol gan y bobl ifanc a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor, a gwelaf fod y Cadeirydd yn nodio'i phen, mae'n sicr yn werth edrych ar hynny—eu syniadau ar gyfer posteri a'r cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen. O’r dystiolaeth a roddwyd, ac o fod yn ymwybodol fel rhiant i blentyn sydd newydd adael yr ysgol gynradd yn ddiweddar, mae’n amlwg fod achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn digwydd yn y grwpiau blynyddoedd 5 a 6 hynny hefyd, gan ein bod wedi cael tystiolaeth yn ein pwyllgor sy'n profi hynny. Byddwn yn ddiolchgar i’r Gweinidog pe gallai sicrhau bod unrhyw ymgyrch yn cyrraedd y grwpiau hynny mewn ysgolion cynradd, wrth gwrs, gyda’r cynnwys yn addas i’r oedran, fel y gallwn fynd i'r afael â'r ymddygiad hwnnw cyn gynted â phosibl.
Mae 24 o argymhellion wedi’u gwneud yn yr adroddiad, sy’n ymdrin ag ystod o faterion, gyda’r gobaith y bydd Llywodraeth Cymru, Estyn, a chyrff eraill sy’n ymwneud â'r mater yn eu cael ac yn bwrw ymlaen â phethau mewn modd adeiladol. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn croesawu argymhellion y pwyllgor ac yn llwyr gefnogi’r gofynion a’r argymhellion pwysig i Lywodraeth Cymru. Credwn fod aflonyddu rhywiol ar unrhyw ffurf yn gwbl annerbyniol, a chredwn fod yn rhaid iddi fod yn flaenoriaeth lwyr i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ysgolion yng Nghymru yn amgylchedd lle mae pobl ifanc yn cael eu gwneud i deimlo’n anniogel, a lle gall aflonyddu rhywiol a thrais rhywiol ffynnu. Diolch.
Yr hyn a oedd yn amlwg i ni o'r dystiolaeth a glywsom ni fel pwyllgor oedd bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mor gyffredin fel ei fod yn cael ei dderbyn fel ymddygiad normal. Hwnna oedd y peth mwyaf trawiadol i fi, yn sicr, a bod ysgolion hefyd yn cael trafferth i ddelio gyda hyn yn effeithiol. Mae'r effaith yn un sydd, mewn rhai achosion, yn effeithio'n ddifrifol ar les, cyrhaeddiad ac iechyd dysgwyr. Fel dywedodd Laura Anne Jones, roedd yr hyn y clywson ni gan y bobl ifanc eu hunain yn hynod werthfawr, a'u syniadau ynglŷn â sut dylid delio gyda'r broblem—pethau syml ond amlwg, fel bod angen poster i esbonio beth sy'n dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi prif argymhellion yr adroddiad, sef ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth gyda phrofiad a barn pobl ifanc yn ganolog iddi hi, a'r galwadau ar Lywodraeth Cymru ac Estyn i sicrhau bod ysgolion yn ymateb yn well, yn cadw cofnodion gwell, ac yn cefnogi disgyblion yn well, yn ogystal â'r angen i gynnal adolygiad o'r sefyllfa yn ein hysgolion cynradd, achos mae'r agweddau sy'n creu'r broblem hon yn dechrau amlygu eu hunain o oedran ifanc, ac fe gawson ni dystiolaeth o hynny yn ein hymchwiliad. Mae mwyafrif llethol y rhai sy'n profi'r aflonyddu yn ferched, ac mae disgyblion LHDTC+ a disgyblion eraill sydd â nodweddion lleiafrifol hefyd yn fwy tebygol o brofi aflonyddu. Roedd yn glir o'n hymchwiliad bod achos yr aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gymhleth, ond roedd yn eglur bod agweddau cymdeithasol wrth wraidd hyn, sydd, yn anad dim, yn gyfrifol am greu'r amgylchiadau sy'n arwain at yr achosion yma tu fewn a thu hwnt i gatiau'r ysgol a choleg.
Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi rôl y cod addysg cyd-berthynas a rhywioldeb o fewn y cwricwlwm newydd i fynd i'r afael â hyn, ond mae angen gwneud mwy nawr dros y dysgwyr na fydd yn elwa o'r ymgais yma i newid dealltwriaeth ein plant er gwell o ran hyn. Mae'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n dioddef aflonyddu rhywiol yn dameidiog, yn anghyson, ac mae safon gyffredinol yr addysg rhyw a chydberthynas yn annerbyniol mewn nifer o ysgolion. I wella hyn, mae angen gwell hyfforddiant i holl staff ysgol ar bwnc sy'n anodd i nifer, ac yn anweledig i eraill, ac mae hyn yn fater brys.
Mae'n dda bod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion, ond hoffwn dynnu sylw at un y mae Stonewall Cymru wedi bod yn tanlinellu ers tro ac sydd o hyd heb ei wireddu, sef y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol cenedlaethol traws ar gyfer ysgolion erbyn mis Ionawr nesaf. Mae'r adroddiad yma yn dangos yn eglur pam fo'r oedi'n annerbyniol ac yn niweidiol, ac felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yw'r cynnydd o ran hyn.
Fel y noda'r adroddiad, nid drwy'n system addysg yn unig y gwaredwn ni ar yr agweddau niweidiol sy'n cael mynegiant yn yr aflonyddu rhywiol yma. Mae gan wleidyddiaeth, y cyfryngau, a chymdeithas yn fwy eang gyfrifoldeb i beidio a chaniatáu na derbyn agweddau misogynistaidd neu rhywiaethol, neu unrhyw iaith neu ymddygiad sy'n bychanu neu'n manteisio ar sail hunaniaeth neu rywedd. Rhaid i ni gydweithio i ddadnormaleiddio yr hyn sydd wedi ei normaleiddio, hyd yn oed ymysg ein plant lleiaf. Mae'r adroddiad a'i argymhellion yn wirioneddol bwysig os ydym o ddifrif am greu cymdeithas sy'n gydradd, yn iach ac yn ddiogel i'n pobl ifanc.
A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am gyfrannu, nid yn unig at y ddadl heddiw, ond hefyd at yr adroddiad anodd ond pwysig iawn hwn, dan arweiniad medrus y Cadeirydd, Jayne Bryant? Ond nid pwyllgor Jayne yw'r unig bwyllgor sy'n mynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Cyflwynwyd deiseb gan Hanna Andersen i'r Pwyllgor Deisebau rwy’n ei gadeirio ar ôl i’r adroddiad penodol hwn gael ei gyhoeddi, gyda chyfanswm o 417 o lofnodion. Mae'r ddeiseb honno bellach wedi cau, o ran casglu llofnodion, a bydd yn dod gerbron y pwyllgor yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ond hoffwn achub ar y cyfle i nodi teitl y ddeiseb a rhai o uchafbwyntiau’r testun. Teitl y ddeiseb yw, 'Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig'. Ac mae’n mynd ymlaen i amlygu ac awgrymu bod y dystiolaeth yn dangos bod aflonyddu hefyd yn rhemp mewn ysgolion cynradd a cholegau. Nawr, nodaf, yn sylwadau agoriadol y Cadeirydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu hyn mewn colegau, ond mae testun y ddeiseb yn nodi,
'Ni allwn aros am ragor o ymchwiliadau cyn gweithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y camau a gymerir yn sgil yr adroddiad yn cael eu hymestyn ar unwaith i gynnwys pob lleoliad, a hynny er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel rhag aflonyddu rhywiol drwy gydol eu haddysg'.
Mae’r ddeiseb ei hun yn sôn am yr adroddiad gan Estyn a grybwyllodd Laura Anne Jones y prynhawn yma, ac nid wyf am ailadrodd hynny. Lywydd, mae'r hyn y gallaf ei ddweud am y ddeiseb, ac ynglŷn â pha gamau y bydd aelodau'r pwyllgor a'r pwyllgor cyfan yn penderfynu eu cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb hon, yn amlwg yn gyfyngedig iawn, ond roeddwn yn credu ei bod yn iawn ac yn gyfle da i wneud dau beth: gwneud y ddadl hon yn ymwybodol o’r teimladau cryf a fynegwyd gan ddeisebwyr, yn ogystal â rhoi cyfle i’r Gweinidog ymateb, efallai, cyn i’r ddeiseb ddod i fy mhwyllgor, ac i roi camau ar waith sy’n cadw dysgwyr yn ddiogel ym mhob un o’r lleoliadau hynny, ac nid mewn ysgolion uwchradd yn unig. Diolch.
Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am yr adroddiad a’r holl bobl sydd wedi cyfrannu ato. Hoffwn ddiolch yn arbennig i fudiad Everyone's Invited am daflu goleuni ar fynychder aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Roeddwn yn falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i fabwysiadu diffiniad Estyn o aflonyddu rhywiol, fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mor gyffredin ymhlith plant oed ysgol a phobl ifanc fel ei fod wedi'i normaleiddio. Mae hynny’n hynod bryderus. Efallai na fydd llawer o blant a phobl ifanc hyd yn oed yn sylweddoli mai aflonyddu rhywiol yw'r hyn y maent yn ei ddioddef. Felly, mae cael diffiniad clir yn bwysig iawn. Bydd yn helpu i egluro pa ymddygiad a ystyrir yn aflonyddu rhywiol, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny’n helpu disgyblion i deimlo eu bod wedi’u grymuso i roi gwybod i athrawon, rhieni ac unrhyw sefydliad arall am ddigwyddiadau. Credaf hefyd y bydd yn rhoi eglurder i’r rheini y mae plant a phobl ifanc yn ymddiried ynddynt fod yr unigolyn yn dioddef aflonyddu rhywiol yn hytrach na'n cael eu bwlio, er enghraifft.
Mae’r adroddiad yn nodi bod llawer o bobl ifanc yn teimlo y dylid cael mwy o addysg ar y pwnc, a bydd cael diffiniad yn arbennig o ddefnyddiol wrth gyflwyno addysg ar aflonyddu rhywiol mewn ysgolion. A hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaeth gydag asiantaethau eraill ynghylch mabwysiadu'r un diffiniad, gan mai gweithio cydgysylltiedig sy'n mynd i ysgogi newid.
Yn ôl y rhestr o ysgolion ar wefan Everyone's Invited, cafwyd tystiolaeth gan ddisgyblion ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Wrth symud ymlaen, credaf y bydd yn hanfodol cael adroddiadau gonest a rheolaidd ym mhob ardal awdurdod lleol; rhaid mynd ati i annog ysgolion i roi gwybod am ddigwyddiadau i'r awdurdod lleol; ac mae'n rhaid cael cefnogaeth ar gyfer yr ysgol a'r disgybl sy'n rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Fel y gwyddom, mae cyfran enfawr o aflonyddu rhywiol yn digwydd ar-lein. Mae cael mynediad at blatfformau negeseua ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'i gwneud yn llawer haws i ddisgyblion aflonyddu, a chael eu targedu gan aflonyddu. Mae'n bosibl na fydd unigolyn sy'n cael eu targedu hyd yn oed yn mynychu'r un ysgol neu goleg â'r unigolyn sy'n aflonyddu. Felly, credaf y byddai’n hynod fuddiol i blant a phobl ifanc gael canllawiau clir ar sut i roi gwybod am ddigwyddiadau yn yr achosion hynny. Mae gweithio gyda’n gilydd a chyda’n plant a’n pobl ifanc yn hollbwysig. Weinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i’r rôl y mae cyfryngau cymdeithasol a bod ar-lein yn ei chwarae mewn aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion?
Ac yn olaf, mae'n hanfodol fod plant yn cael eu haddysgu ac yn deall sut i barchu ei gilydd, a gwn fod y cwricwlwm newydd yn bwriadu gwneud hynny, oherwydd os na fydd hynny'n digwydd—ac mae'r dystiolaeth hon yn peri cryn bryder—os yw hyn yn cael ei ystyried yn ymddygiad normal, y plant hynny fydd oedolion yfory, a bydd y safbwyntiau niweidiol hyn yn aros gyda hwy yn ystod eu hoes. Felly, diolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am hyn, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog.
Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig iawn, a chredaf ei fod yn amserol iawn hefyd. Ond fel y dywedodd Laura Anne Jones, rwy'n credu bod lefel yr aflonyddu rhywiol mor gyffredin fel bod gwir angen ymateb ar draws y gymdeithas gyfan. Ond mae'n bendant yn ategu pwysigrwydd addysg orfodol ar berthnasoedd a rhywioldeb, gan fod angen addysgu pobl ifanc ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Mae'r bwystfilod drwg hyn, sy'n gyfleus iawn i bob un ohonom, mae rhieni'n rhoi'r pethau hyn i'w plant heb sylweddoli beth maent yn rhoi mynediad iddynt ato. Cytunaf yn llwyr â lle rydych yn sôn am bwysigrwydd cael dull gweithredu cyson mewn perthynas â ffonau symudol yn yr ysgol, gan nad oes unrhyw reswm o gwbl pam y dylai unrhyw un gael ffôn symudol ymlaen pan fyddant mewn gwersi. Gallant eu cadw yn eu bagiau fel eu bod ganddynt pan fyddant yn mynd adref, ond ni ddylent gael eu gweld yn yr ysgol, a dylent gael eu cymryd oddi arnynt os cânt eu gweld, yn fy marn i.
Credaf hefyd fod eich pwyslais ar gadw cofnodion da, yn ogystal ag addysg perthnasoedd a rhywioldeb o ansawdd, yn gwbl hanfodol, oherwydd oni bai bod gan ysgolion ddull sy'n ystyriol o drawma o ymdrin â phroblemau ymddygiad unigolyn ifanc, neu'n wir, eu habsenoldeb o'r ysgol, nid yw'r ysgol yn deall beth sy'n digwydd. Yn syml iawn, mae'n rhaid iddynt sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod bod yr ysgol yn lle diogel lle gallant ddweud wrth bobl beth sy'n digwydd iddynt, oherwydd y dystiolaeth yn yr ysgol lle rwy'n llywodraethwr oedd mai'r ysgol yw'r lle mwyaf diogel yn eu bywydau mewn gwirionedd. Yn anffodus, maent yn wynebu aflonyddu gartref ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft.
Roeddwn yn falch iawn heddiw o gael ymateb i lythyr a ysgrifennais at Bws Caerdydd am yr adroddiadau o aflonyddu rhywiol ar fysiau, ac roedd yn llythyr gwirioneddol wych, a ddywedodd eu bod yn rhoi sylw difrifol i'r mater, fod eu hystafell reoli yn rheoli beth yn union sy’n digwydd ar bob bws, a’u bod yn mynd i ysgrifennu at ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus eraill fel bod gennym ddull system gyfan mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus. Felly, credaf fod hynny i'w groesawu'n fawr.
Ond beth bynnag, diolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am ei waith ar hyn, ac yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy’n mynd i fod yn waith parhaus i ni.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch, os caf i, i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad nhw. Mae ymchwiliadau fel hyn yn helpu i gadw'r sgyrsiau pwysig yma ar frig yr agenda, a hoffwn i sôn heddiw am rai o'r camau rŷn ni'n eu cymryd.
Yn gyntaf, mae'n bwysig nad ydyn ni'n diystyru pŵer lleisiau plant a phobl ifanc sy'n herio'r arfer o'r normaleiddio rŷn ni wedi sôn amdano fe heddiw—normaleiddio aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Cafodd hyn ei wneud yn arbennig o amlwg i fi mewn digwyddiad diweddar a gafodd ei gynnal gan grŵp trawsbleidiol y Senedd ar atal cam-drin plant yn rhywiol, a ches i'r cyfle o glywed gan bobl ifanc sydd wedi defnyddio eu profiad personol nhw i greu newid go iawn. Dyna pam mae'n bwysig i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn rhan hanfodol o bopeth rŷn ni'n ei wneud. Ac rŷn ni'n gweithio gyda sefydliadau partner ar y ffordd orau o gyflawni hynny ac yn cytuno bod angen sefydlu bwrdd ymgynghorol a bod ganddyn nhw rôl lawn, fel y gwnaeth Jayne Bryant ofyn i fi ei gydnabod.
Rwy'n cydnabod hefyd fod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fater cymdeithasol ehangach a bod gan rieni, gofalwyr a theuluoedd rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi pobl ifanc. Byddwn ni hefyd yn datblygu negeseuon i rieni a gofalwyr am sut i ddelio ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chwarae hefyd wrth greu amgylcheddau diogel, gan helpu sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu mwynhau cydberthnasau iach a diogel.
Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ofyniad statudol i bob dysgwr o dan y cwricwlwm newydd. Bydd y maes hwn yn chwarae rôl gadarnhaol, gan ddiogelu a helpu pob plentyn a pherson ifanc i ddeall ymddygiad a sefyllfaoedd a allai eu rhoi mewn perygl o niwed, fel eu bod yn gwybod beth i'w wneud i gadw'n ddiogel a sut i ofyn am help.
Mae technolegau digidol wedi newid y ffordd y mae pawb ohonom yn cyfathrebu, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc, fel rydym newydd glywed yng nghyfraniad Jenny Rathbone. Mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn cwmpasu ystod eang o ymddygiadau, ac rwy'n cydnabod yr her y mae hyn yn ei chreu i ysgolion. Fe ymwelais ag ysgol yn ddiweddar sydd wedi bod yn gweithio gyda bechgyn, yn yr achos hwnnw, ar ddeall effaith rhannu delweddau ar-lein, er enghraifft, ac ysgol arall lle mae merched yn codi ymwybyddiaeth gydag eraill o'r aflonyddu ar-lein roeddent wedi'i brofi yn yr ysgol a'r tu allan. Ac unwaith eto, mewn ymateb i'r pwynt y mae Joyce Watson ac eraill wedi'i wneud, mae adran 'cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb yn rhoi gwybodaeth, arweiniad a chyfleoedd hyfforddi i ysgolion ar ystod eang o faterion diogelwch ar-lein. Mae'n hanfodol bwysig fod y gweithlu addysg yn cael cyfleoedd hyfforddi a datblygu i'w cynorthwyo i adnabod, ymateb i ac adrodd am aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. Cyn bo hir, byddwn yn treialu cwrs hyfforddi pwrpasol ar aflonyddu rhywiol ar-lein i ddarparwyr addysg, a bydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru wedyn.
Gofynnwyd i mi am arian dysgu proffesiynol. Mae ysgolion eisoes yn cael grantiau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu proffesiynol fel nad yw'r arian hwnnw ar draul ffynonellau cyllid eraill, fel y gofynnodd Jayne Bryant i mi gadarnhau. Ac maent yn derbyn arweiniad yn ogystal ar sut y gallant fuddsoddi yn y dysgu proffesiynol hwnnw. Byddwn hefyd yn adolygu'r adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb ac yn ceisio nodi adnoddau effeithiol pellach a all gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn effeithiol.
Mae angen clir i adrodd yn fwy cadarn am achosion o aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg. Gwyddom nad oes gan blant a phobl ifanc hyder bob amser i adrodd am achosion wrth eu hathrawon, yn aml oherwydd eu bod yn poeni na fydd yn cael ei gymryd o ddifrif. O'r herwydd, ceir diffyg gwybodaeth am raddfa wirioneddol y broblem, yn ogystal â diffyg cysondeb, fel y buom yn ei drafod, yn y systemau adrodd, ac felly, yn ei dro, wrth gasglu data.
Cefais fy siomi o glywed bod ein disgyblion LHDTC+ yn cael profiadau personol sylweddol o aflonyddu geiriol homoffobig ac mai dyma'r math mwyaf cyffredin o aflonyddu mewn llawer o ysgolion. Mae unrhyw fath o fwlio yn gwbl annerbyniol, gan gynnwys aflonyddu a bwlio oherwydd rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd unigolyn. Bydd llawer ohonom sydd wedi tyfu i fyny'n hoyw wedi cael profiadau ein hunain o hyn yn yr ysgol. Nid oes lle iddo mewn cymdeithas, mewn ysgolion nac ym mywydau ein pobl ifanc, ac rydym wedi ymrwymo i newid y realiti hwnnw i'n disgyblion LHDTC+. Rydym eisoes yn gwneud newidiadau i'n canllawiau gwrth-fwlio, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', mewn perthynas ag aflonyddu hiliol a bwlio mewn ysgolion, a byddwn hefyd yn ystyried sut y gellir ehangu'r gwaith hwnnw'n effeithiol i gynnwys adrodd cadarn, cofnodi a chasglu data o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, gan gynnwys aflonyddu homoffobig a bwlio.
Bydd cynhwysiant a chefnogaeth LHDTC+ hefyd yn cael sylw mewn canllawiau newydd i gynorthwyo lleoliadau addysg i ymgorffori diwylliant o gynhwysiant, gwrth-wahaniaethu a hawliau. Mae'n amlwg o'n hymgysylltiad ag awdurdodau lleol, addysgwyr, athrawon a phobl ifanc fod angen arweiniad ychwanegol ar ysgolion am y ffordd orau o gefnogi plant a phobl ifanc LHDTC+, yn enwedig rhai sy'n draws neu'n anneuaidd. Mewn ymateb i gwestiwn Sioned Williams mae'r canllawiau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd ac rydym yn rhagweld y cânt eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2023. Gwyddom nad yw aflonyddu rhywiol gan gyfoedion wedi'i gyfyngu i ysgolion uwchradd ac rydym yn glir fod angen gweithredu ar draws pob lleoliad, fel y nododd Jack Sargeant yn ei gyfraniad. Mae gwell dealltwriaeth o'r ffyrdd y caiff hyn ei brofi ar wahanol oedrannau'n bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb gydag ymyriadau priodol ac wedi'u teilwra, felly rydym wedi comisiynu adolygiad thematig gan Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn y sector addysg bellach. Mae'r adolygiad hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddo adrodd yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio argymhellion Estyn i fod yn sylfaen i raglen waith benodol i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn addysg bellach. Mae angen gwell dealltwriaeth hefyd o brofiadau plant o fwlio ar sail rhyw neu aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau cynradd, ac rydym ar hyn o bryd yn ystyried cwmpas yr adolygiad hwn.
Er y bydd gwaith pellach yn helpu i sicrhau bod gennym bolisi ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, nid yw hyn yn ein hatal rhag gweithredu nawr. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, i ddatblygu cynllun gweithredu amlasiantaeth, a bydd y cynllun yn amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn eu cymryd i atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn lleoliadau addysg. Bydd yn ategu'r gwaith ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys ymddygiad rhywiol niweidiol a chamfanteisio rhywiol ar blant, a gallaf gadarnhau, mewn ymateb i gwestiwn Joyce Watson, y bydd yn mabwysiadu ar sail amlasiantaethol y diffiniad o 'aflonyddu rhywiol' a ddefnyddir gan Estyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r weledigaeth o roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Gall hyn gael effaith enfawr ar ferched a menywod ifanc, ac yn wir ar bob plentyn a pherson ifanc, sy'n gallu effeithio ar eu llesiant a'u perthynas â'u cyfoedion. Ar 24 Mai, gwnaethom gyhoeddi strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cynyddu ymwybyddiaeth mewn plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach, ac yn eu grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol. Byddwn yn mabwysiadu dull trawslywodraethol o sicrhau ei llwyddiant.
Yn olaf, gofynnodd Jayne Bryant i mi gydnabod effaith hirdymor aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, hyd yn oed lle mae hynny y tu allan i'r diffiniad o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd hwn yn fater a nodwyd yn adolygiad 2020. Un o'r argymhellion oedd i'r Llywodraeth edrych yn fwy cyfannol ar fynd i'r afael â niwed a thrawma yn ystod plentyndod, a bydd gwaith y cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedi bod ar y gweill yn cael ei adeiladu ar sylfaen dystiolaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond yn cydnabod ffynonellau eraill o niwed, a bydd hynny'n cynnwys aflonyddu rhywiol gan gyfoedion.
Heddiw amlinellais rai yn unig o'r camau y byddwn yn eu cymryd, ond byddwn yn parhau i wrando ac i weithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn esblygu ein dull o sicrhau bod ein gwaith yn cael yr effaith fwyaf.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl. Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n meddwl iddi fod yn un bwysig iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl gyfraniadau'n fawr.
Hoffwn gofnodi yn gyntaf oll fy niolch a diolch y pwyllgor i'r tîm clercio ac ymchwil, sydd wedi bod yn wych drwy gydol yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â'n tîm allgymorth, a hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor am eu hymrwymiad a'u sylw i fanylion wrth gynhyrchu adroddiad mor bwysig, ac rwy'n adleisio geiriau Laura Jones yn llwyr ynglŷn â pha mor gyflym yr aethpwyd i'r afael â'r adroddiad hwn, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos pa mor bwysig yr ystyriai'r pwyllgor y mater penodol hwn. Felly, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am y gwaith a wnaethant.
Hefyd rwyf am ddweud bod James wedi gwneud pwynt pwysig iawn—James Evans—ynglŷn â bod hwn yn fater i bawb, ac y dylai pawb yr effeithir arnynt gamu ymlaen, a dyna pam mai enw ein hadroddiad yw 'Mae'n effeithio ar bawb', ac rwy'n credu bod Estyn wedi dweud wrthym fod 29 y cant o ddisgyblion ysgolion uwchradd gwrywaidd wedi profi aflonyddu. Er ei fod yn is na'r ffigur ar gyfer merched, mae hynny'n dal i fod bron yn draean yr holl fechgyn, sy'n amlwg yn annerbyniol.
Hefyd, os caf ailadrodd un o bwyntiau Sioned ynglŷn â'r brys ynghylch hyn, ac na fydd y cwricwlwm newydd, yn anffodus, yn helpu unrhyw blentyn sydd ym mlwyddyn 8 neu'n uwch ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod imi grybwyll hynny yn fy sylwadau agoriadol, ond hoffwn ailadrodd y neges honno i'r Gweinidog.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ar y pwyntiau a wnaeth Jack Sargeant, hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r deisebydd am y pwyntiau pwysig a godwyd yn y ddeiseb, ond efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i'n helpu i egluro pam nad oedd y pwyllgor yn teimlo y gallem ymestyn ein hargymhellion i ysgolion cynradd. Fe wyddom, ac fe glywsom yn ein hymchwiliad dro ar ôl tro, fod aflonyddu rhywiol yn debygol o ddechrau yn yr ysgolion cynradd, ond ni roddodd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ystod yr ymchwiliad ddarlun digon clir o ba mor gyffredin yw aflonyddu rhywiol na natur aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd i allu gwneud argymhelliad hyddysg i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'r mater. Roedd y pwyllgor o'r farn fod mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y sector cynradd yn cyflwyno llawer o heriau sy'n wahanol i'r modd yr eir i'r afael ag ef yn y sector uwchradd, felly nid oeddem yn teimlo'n hyderus fel pwyllgor i ymestyn ein hargymhellion, sy'n seiliedig ar ymchwil ar blant oedran uwchradd, i blant sy'n llawer iau. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n helpu i egluro pam nad oedd ein hargymhellion yn cynnwys plant ysgol gynradd, ond yn amlwg, rydym yn falch iawn fod y gwaith hwnnw'n digwydd.
Clywsom gan Joyce, a soniodd y Gweinidog hefyd, am lais pobl ifanc. Clywsom gan bobl ifanc am yr atebion a'r hyn y teimlent hwy fod angen iddo newid. Cawsom dros 100 o ymatebion i'n harolwg ar-lein, ac yn bendant, fe wnaeth y safbwyntiau hynny roi ffurf i'n hargymhellion. Dylanwadwyd ar ymchwiliad y pwyllgor hefyd gan y nifer o dystebau personol dienw ar wefan Everyone's Invited, a thystiolaeth wreiddiol Estyn, sef sylfaen ein hymchwiliad. Felly, i roi syniad—wyddoch chi, rydym eisiau rhoi lleisiau pobl ifanc wrth galon popeth a wnawn.
Felly, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i'n hymchwiliad. Roedd safon y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gawsom gan bawb, yr academyddion, elusennau, ysgolion a chyrff cyhoeddus eraill, yn eithriadol o uchel. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Weinidog y Gymraeg ac Addysg ac i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am eu hymwneud adeiladol â'n hymchwiliad a'u hymateb cadarnhaol i'n hadroddiad. Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi gallu ateb rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd gan bobl o'r tu allan yn ogystal â'n hargymhellion. Mae hynny'n gadarnhaol iawn; diolch.
Rwy'n dweud yn rhagair y Cadeirydd i'r adroddiad hefyd ein bod wedi gofyn llawer gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n wir. Rydym wedi gofyn llawer gan Lywodraeth Cymru oherwydd yr holl dystiolaeth gan Gymry ifanc ar wefan Everyone's Invited, a gyflwynwyd gan ddisgyblion ysgol ar draws Cymru a thu hwnt, oherwydd yr hyn a ddywedodd plant mewn ysgolion ar draws Cymru wrth Estyn, ac oherwydd yr hyn y mae plant mewn ysgolion ar draws Prydain wedi bod yn dweud wrth unrhyw un sy'n gofyn iddynt ers blynyddoedd maith. Ni ellir dal ysgolion yn gyfrifol am aflonyddu rhywiol. Rhaid i ni ysgwyddo cyfrifoldeb am ddadnormaleiddio'r ymddygiadau a'r rhagdybiaethau niweidiol sy'n sail iddo. Ond maent yn lleoedd delfrydol i ddechrau ar y broses honno o ddadnormaleiddio, ac maent yn safleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar a chymorth effeithiol, o ansawdd uchel i ddysgwyr yr aflonyddwyd arnynt. Bydd fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a minnau'n rhoi sylw manwl i'r modd y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithredu'r argymhellion yn ein hadroddiad i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Rwyf wedi cadw fy niolch mwyaf at y diwedd. I'r llu o bobl ifanc ledled Cymru a ymatebodd i'n harolwg: diolch am rannu eich safbwyntiau ar yr hyn roedd angen ei newid. I Ebonie, Glenn, Jake a Sophie a'ch darlithwyr: diolch am eich gwaith caled a'ch arbenigedd yn dadansoddi ein hymatebion ymgysylltu a chynhyrchu fideo'n crynhoi'r canfyddiadau hynny. Roeddem yn gwerthfawrogi eich argymhellion i ni, ac mewn gwirionedd, dylai pob Aelod weld hwnnw a'i rannu mor eang â phosibl. Fel y dywedodd Laura Jones yn ei chyfraniad, fe wnaethant ein herio go iawn pan oedd gennym ambell syniad, felly rydym yn gwybod bod eu lleisiau mor bwysig yn y gwaith sy'n digwydd drwy Lywodraeth Cymru nawr. Ac i'n Seneddwr Ieuenctid Cymru, Ffion Williams, a siaradodd mor ddewr, mor huawdl ac mor argyhoeddiadol ag ITV Cymru am ei phrofiadau ei hun o aflonyddu rhywiol mewn cyfweliad yn dilyn lansiad ein hadroddiad.
I blant a phobl ifanc ledled Cymru yn fwy cyffredinol: rwy'n gwybod nad dyma ddiwedd y sgwrs, ac na fydd newid yn digwydd dros nos. Ond mae gennych bob hawl i ddisgwyl y byddwn ni, fel eich cynrychiolwyr etholedig, yn gwneud mwy i atal aflonyddu rhywiol mewn ysgolion a cholegau. Nid yw'n normal, nid yw'n iawn ac mae'n rhaid iddo stopio. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Ac felly, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf yw eitem 9, a dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar strôc yw hon. Dwi'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark Isherwood.
Cynnig NDM8113 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.
2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.
3. Yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, i gynnal adolygiad i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel 'coch: galwadau sy'n bygwth bywyd ar unwaith' o dan y Model Ymateb Clinigol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mae ein cynnig heddiw yn argymell bod y Senedd yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022, yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc, ac yn cyfarwyddo Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i gynnal adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel coch, galwadau sy'n peryglu bywyd ar unwaith, o dan y model ymateb clinigol.
Cynhelir Diwrnod Strôc y Byd ar 29 Hydref bob blwyddyn. Mae'n gyfle i godi ymwybyddiaeth o natur ddifrifol a chyfraddau uchel strôc, ac i siarad am ffyrdd y gallwn leihau baich strôc drwy well ymwybyddiaeth gyhoeddus o ffactorau risg ac arwyddion strôc. Mae hefyd yn gyfle i ddadlau dros gamau gan wneuthurwyr penderfyniadau ar lefel fyd-eang, ranbarthol a chenedlaethol, sy'n hanfodol i wella gwaith i atal strôc, mynediad at driniaeth acíwt a chefnogaeth i oroeswyr a'r rhai sy'n gofalu. Ar gyfer 2021 a 2022, mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o arwyddion strôc a'r angen am driniaeth strôc amserol o ansawdd da.
Ar draws y DU, mae strôc yn digwydd bob pum munud. Amcangyfrifir bod 7,400 o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn cael strôc—y pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru. Hefyd, mae 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, a heb ymyrraeth gynnar a diagnosis, mae perygl o niwed sylweddol i'r claf, neu farwolaeth, yn cynyddu—a hynny'n sylweddol.
Yn ôl y Gymdeithas Strôc, ceir tri math gwahanol o strôc: isgemig, y math mwyaf cyffredin o strôc, a geir mewn tua 85 y cant o achosion, ac a achosir gan rwystr sy'n torri'r cyflenwad gwaed i'r ymennydd; gwaedlifol, a achosir gan waedu yn yr ymennydd neu o'i amgylch ac sy'n digwydd mewn 15 y cant o achosion—dyma'r math mwyaf difrifol o strôc; a phwl o isgemia dros dro, a elwir hefyd yn strôc fach, lle nad yw'r symptomau ond yn para am gyfnod byr.
Mae strôc yn gyflwr lle mae'r awr euraidd yn hanfodol. Mae gan rai cyflyrau acíwt, gan gynnwys strôc, 60 munud lle mae'n rhaid cael gofal diffiniol. Gall ymateb diweddarach gynyddu niwed, gan gynnwys niwed i'r ymennydd, anabledd corfforol a marwolaethau, yn sylweddol. Mae safonau ansawdd ar gyfer strôc mewn oedolion, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y dylai cleifion sydd wedi cael strôc acíwt gael triniaeth ddelweddu'r ymennydd o fewn awr i gyrraedd yr ysbyty os oes ganddynt unrhyw ddangosyddion ar gyfer delweddu ar unwaith. Mae NICE a'r Gymdeithas Strôc yn argymell defnyddio thrombolysis, neu feddyginiaeth chwalu clotiau, o fewn pedair awr a hanner i gael strôc isgemig. Yn ôl cyngor y GIG, mae alteplase, y feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer triniaeth, yn fwyaf effeithiol os yw'n dechrau cyn gynted â phosib ar ôl i'r strôc ddigwydd, ac yn sicr o fewn pedair awr a hanner. Mae'r GIG yn nodi ymhellach nad argymhellir meddyginiaeth fel y cyfryw os oes mwy na phedair awr a hanner wedi mynd heibio, gan nad yw'n glir pa mor fuddiol yw hi pan gaiff ei defnyddio ar ôl yr amser hwn, a'i bod yn hanfodol gwneud sgan ar yr ymennydd i gadarnhau diagnosis o strôc isgemig, gan y gall y feddyginiaeth wneud gwaedu sy'n digwydd mewn strôc waedlifol yn waeth.
Mae data diweddaraf y Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel, neu ddata SSNAP, sy'n dangos perfformiad mewn ysbytai ar reoli strôc ar draws Cymru a Lloegr, yn tynnu sylw at ostyngiad mewn gofal priodol i gleifion strôc. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, rhaid sganio cleifion strôc o fewn awr yn ôl NICE, ac eto fe wnaeth tri ysbyty yng Nghymru gymryd mwy o amser na'r amser targed hwn i sganio claf.
Mae data SSNAP, sy'n sgorio ymatebion GIG Cymru i ddangosyddion allweddol, megis amser i sganio, amser i driniaeth ac amser i gael mynediad i unedau strôc, yn tynnu sylw at rai tueddiadau pryderus yn ysbytai Cymru. Mae eu sgoriau'n amrywio o A, neu ysbyty sy'n bodloni'r safonau uchaf i bron bob claf, i E, neu ysbyty nad yw'n cyrraedd y safonau uchaf i bron pob claf. Y sgoriau cyffredinol diweddaraf ar gyfer ysbytai Cymru oedd D i bob ysbyty heblaw am Lwynhelyg, a sgoriodd C, gyda phob un o'r tri ysbyty dosbarth yng ngogledd Cymru, er enghraifft, yn sgorio E ar gyfer derbyn i unedau strôc yn y ffigyrau diweddaraf a ryddhawyd.
Mae'r data SSNAP diweddaraf hefyd yn dangos ei bod yn cymryd chwe awr a 35 munud ar gyfartaledd rhwng dechrau strôc a chyrraedd yr ysbyty yng Nghymru, o'i gymharu â thair awr a 41 munud yn Lloegr a dwy awr a 41 munud yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn effeithio ar yr amser mae'n ei gymryd i gleifion gael sgan, gyda chleifion yng Nghymru'n cael eu sganio ychydig dros wyth awr ar ôl i'w symptomau ddechrau, o'i gymharu â 4.4 awr yn Lloegr a 3.3 yng Ngogledd Iwerddon.
Mae model ymateb clinigol presennol Cymru yn dynodi strôc fel galwad ymateb oren, sy'n ddifrifol ond heb fod yn peryglu bywyd ar unwaith. Ers 2015, nid oes unrhyw amser targed wedi bod ar gyfer galwadau oren, sy'n golygu bod cleifion yn aml yn gallu aros sawl awr i ambiwlans ymateb. Er i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gadarnhau y bydd ymateb gwahanol yn cael ei wneud ar gyfer strociau gwaedlifol, gan nodi yn 2020 y byddant yn aml yn gogwyddo i'r categori coch oherwydd eu difrifoldeb, lleiafrif yw'r mathau hyn o strôc, fel y dywedais, sef 15 y cant o achosion strôc.
Ymhellach, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, er nad oedd unrhyw amseroedd targed, fod yr amseroedd ymateb delfrydol ar gyfer categorïau oren 1 a 2 tua 20 munud a 30 i 40 munud yn y drefn honno. O ystyried difrifoldeb strociau isgemig, sef y mwyafrif o achosion, a dirywiad amseroedd ymateb oren, dylid ailedrych ar hyn.
Canfu'r adolygiad diwethaf o alwadau ymateb oren, a gynhaliwyd yn 2018, fod y model ymateb clinigol yn ffordd ddilys a diogel o ddarparu gwasanaethau ambiwlans, ac nad yw'n ymddangos bod yr amser a dreulir yn aros am ymateb ambiwlans yn y categori oren yn cyfateb i ganlyniadau gwaeth. Ond erbyn 2020, a'r cyfnod cyn y pandemig, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod perfformiad oren yn parhau i beri pryder.
Ers COVID-19, mae amseroedd ymateb oren wedi dirywio'n sylweddol, gydag amser aros canolrifol o awr a 35 munud ym mis Medi—y mis diwethaf—2022. O gymharu amseroedd delfrydol categori oren 1 a 2 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, dim ond 12.6 y cant o amseroedd oren cyffredinol a gyrhaeddodd o fewn 20 munud, a 25.2 y cant o fewn 40 munud. Cymerodd 64.3 y cant—bron i ddwy ran o dair—dros awr i ymateb.
Fe wnaeth GIG Lloegr ail-gategoreiddio galwadau targed brys ambiwlansys yn 2017, gyda strôc yn cael ei gategoreiddio'n 'argyfwng', gydag amser targed o 18 munud a 90 y cant o alwadau mewn 40 munud. Ym mis Medi 2022, roedd yr amser ymateb cymedrig ar gyfer ambiwlansys categori 2 yn Lloegr yn 47 munud a 59 eiliad.
O ystyried y pandemig a'r pwysau dilynol ar ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys, rhaid ailedrych ar addasrwydd galwadau oren ar gyfer cleifion strôc yng Nghymru. O fis Ebrill i fis Mehefin 2022, roedd llai na hanner y cleifion strôc yng Nghymru—46.1 y cant—yn cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans, i lawr o 75 y cant ym mis Ionawr i fis Mawrth 2021.
Er nad yw'r Gymdeithas Strôc o blaid ail-gategoreiddio galwadau oren, gan ddatgan,
'Mae'n well i gleifion strôc gael y cerbyd ymateb mwyaf priodol'
—ambiwlans a all fynd â hwy i'r ysbyty, yn hytrach na dim ond y cerbyd cyntaf sydd ar gael, sydd efallai'n methu eu cludo i'r ysbyty i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt—mae'n cefnogi ymchwiliad pwyllgor i amseroedd ymateb ambiwlans ar gyfer strôc yng Nghymru, a fyddai'n archwilio'r mater yn fanylach. Maent yn ychwanegu y dylai'r adolygiad edrych ar brofiadau cleifion strôc o'r alwad ffôn i driniaeth, er mwyn deall sut y gellir gwella'r llwybr.
Cred y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai'r Gymdeithas Strôc gael ei gorfodi i ddewis rhwng ymateb cyflym gan gerbyd amhriodol ac ymateb araf gan ambiwlans achub bywyd, ac y dylid gallu addasu'r system i sicrhau bod ambiwlans yn cael ei anfon pan fo amheuaeth o strôc, yn amodol ar y modelu angenrheidiol. Awgrymwyd y dylid cysylltu ambell ambiwlans, er enghraifft, â'r adran meddygaeth strôc drwy linell ffôn uniongyrchol, a phwysleisiodd y dylai adsefydlu ddechrau cyn gynted ag y bydd claf yn cyrraedd yr ysbyty.
Mae'r Gymdeithas Strôc hefyd wedi galw am adnewyddu ymgyrch y prawf wyneb, braich, lleferydd, amser gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd ymgyrch FAST—face, arms, speech, time—ei lansio ledled y DU yn 2009 i wella ymwybyddiaeth o symptomau strôc ac annog y rhai sy'n profi'r rhain i ffonio 999 cyn gynted â phosibl. Mae gweithredu'n gyflym yn rhoi'r cyfle gorau i'r person sy'n cael strôc oroesi a gwella. Ond er i ymgyrch FAST gael ei chynnal yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2021, cafodd ei chynnal ddiwethaf yng Nghymru yn 2018. Yn ôl dadansoddiad o'r ymgyrch yn Lloegr, ar ôl cael gweld y deunyddiau o 2021, soniodd bron i ddwy ran o dair o'r rhai a oedd mewn perygl am yr angen i weithredu fel neges i'r ymgyrch, a soniodd dwy ran o dair am yr angen i ffonio 999 neu i ofyn am help. Canfu modelu fod yr ymgyrch yn gosteffeithiol iawn, ac ers ei lansio yn 2009 mae wedi darparu 4,000 o driniaethau thrombolysis ychwanegol, gan ddarparu 1,137 o flynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl ansawdd, ac elw ar fuddsoddiad o £8.98 ar gyfer pob £1 a wariwyd.
Drwy gydol y pandemig, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw'n adeiladol ar Lywodraeth Cymru i weithredu mewn sawl maes i helpu'r GIG yng Nghymru i wella ar ôl COVID-19. Wrth i Gymru a'r GIG geisio dod allan o'r pandemig, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu ymagwedd drawsbleidiol yn llawn. Diolch yn fawr.
Dwi wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Jenny Rathbone. Na, Rhun ap Iorwerth.
Mae'n ddrwg gennyf, Jenny. Fe'ch dychrynais i chi, braidd. Fe ddychrynais fy hun hefyd. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r testun yma o'n blaenau ni heddiw. Dwi ddim yn siŵr am y cynnig yn ei gyfanrwydd. Fe ddown ni draw at hynny mewn eiliad, ond o ran y pwynt canolog, yr hyn sydd gennym ni yng nghymalau 1 a 2 yn y cynnig heddiw yma, ydy, mae hi'n Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn 29 Hydref, ac mae'n bwysig bachu ar gyfle fel hyn bob amser i atgoffa ein hunain o'r effaith y mae strôc yn ei gael o fewn ein teuluoedd ni, o fewn ein cymunedau ni, a'r hyn y gallwn ni ei wneud a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ein hymateb ni cyn gryfed ac mor effeithiol ag y gall o fod.
Cymal 2, wrth gwrs, rydyn ni yn adnabod ac yn cydnabod bod angen ymateb brys pan fydd rhywun yn cael strôc er mwyn ceisio dylanwadu ar yr outcomes gorau i'r person hwnnw. Strôc ydy'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru. Mae'r cyfraddau goroesi wedi gwella, ac mae hynny i'w groesawu wrth i dechnolegau yn fyd-eang wella. Mae'n bwysig nodi, serch hynny, fod eich siawns chi o oroesi llawer mwy os nad ydych chi'n byw mewn tlodi, ac mae hwn yn un arall o'r meysydd yna lle mae anghyfartaledd mewn iechyd yn cael effaith go iawn ar eich siawns chi i oroesi os ydy'r gwaethaf yn digwydd.
Ond rydyn ni'n gwybod bod yna lawer mwy sydd angen ei wneud i wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig yng Nghymru ar ôl strôc. Mae angen sicrhau bod goroeswyr yn cael cefnogaeth well, yn cael eu hadolygiadau chwe mis, yn cael gwasanaethau i ailadeiladu eu bywydau mewn rhai ffyrdd. Mae angen ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, ac yn y blaen, er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth yna i bobl sydd yn dioddef strôc.
Ond hefyd, wrth gwrs, mae'r elfen yma rydyn ni'n ei gweld yn y cynnig o frys—yr angen am ymateb mor fuan â phosibl pan fydd strôc yn digwydd. Rydyn ni'n gweld yr ystadegau sydd yn dangos i ni, ar gyfartaledd, ei bod hi'n cymryd chwech awr a hanner rhwng dechrau'r strôc a chyrraedd ysbyty yng Nghymru, a bod hynny'n sylweddol hirach na'r hyn rydyn ni'n ei weld mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma. Dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei sylwadau hi yn cydnabod nad ydy hynny'n ddigon da, a bod angen gwella'r perfformiad hwnnw yn sylweddol.
Mi wnaf i dynnu sylw yn fan hyn, o ran ymateb cyflym, i'r ffaith bod ambiwlans awyr Cymru yn nodi ar eu gwefan nhw fod ymateb i strôc yn un o'r gwasanaethau y maen nhw'n ei gynnig. Mae hynny'n cael ei nodi'n glir iawn ar eu gwefan nhw. Dwi'n tynnu sylw at hynny, wrth gwrs, oherwydd y pryderon mewn rhannau o Gymru—yn y canolbarth ac yn y gogledd-orllewin yn arbennig—bod y syniadau sydd ar y bwrdd ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau ambiwlans yn mynd i olygu bod pobl yn yr ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd yn mynd i orfod aros yn hirach i A&E eu cyrraedd nhw, achos dyna, wrth gwrs, ydy'r ambiwlans awyr.
Mi wnaf droi at gymal 3. Dwi'n gweld hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, yn gymal od. Dwi'n gallu gweld bod llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd a gofal ddim yn ei sedd y prynhawn yma, am ba bynnag reswm, ond beth sydd gennym ni ydy cynnig gan ei blaid yn gorchymyn y pwyllgor iechyd i edrych ar faterion yn ymwneud â strôc a'r ymateb i strôc. Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, dwi'n gweld hynny braidd yn od. Dwi'n berffaith hapus, wrth reswm, i'r pwyllgor iechyd—os ydyn ni'n gallu gwneud amser; mae'n bosib y gallwn ni gael sgwrs efo'r Cadeirydd am hynny—edrych ar y maes yma, ond dwi yn ei gweld hi'n broses od bod hyn yn cael ei gyflwyno yn y ffordd yma.
Mi wnaf droi yn sydyn at welliant y Llywodraeth. Dwi wedi cael profiad diddorol iawn yn paratoi am y sesiwn yma heddiw, gan nad ydw i'n gallu dod o hyd i unrhyw wybodaeth o gwbl ynglŷn â beth ydy'r bwrdd rhaglen strôc mae'r Llywodraeth yn cyfeirio ato fo, ac yn dweud sydd yn mynd i wneud cyfraniad mawr at yr ymateb i strôc yng Nghymru. Does yna ddim gwybodaeth ar gael yn unrhyw le ynglŷn ag ydy o'n bodoli eto, pwy sydd ar y bwrdd yma, felly dwi'n edrych ymlaen yn arw i'r Gweinidog ein addysgu ni ar hynny. Ond mae o'n dweud wrthym ni, lle mae yna gamau yn cael eu cymryd, siawns bod angen i Lywodraeth Cymru egluro beth ydy'r camau hynny. Doedd hyd yn oed elusennau ddim yn medru dweud wrthym ni beth oedd y bwrdd yma. Mi wrandawaf i'n astud. Ond mi allwn ni i gyd fod yn gwbl, gwbl gytûn bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl sydd yn dioddef o strôc yng Nghymru yn cael cefnogaeth frys, a'r gefnogaeth orau posib.
Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r cynnig hwn, yn enwedig o gofio ei bod yn Ddiwrnod Strôc y Byd 2022 ddydd Sadwrn. Fel y soniodd Mark Isherwood yn ei sylwadau agoriadol, ar gyfartaledd, bydd 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn yng Nghymru, a dyna yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yn y wlad hon. Felly, ni ellir bychanu pwysigrwydd gwasanaethau strôc cyflym o ansawdd rhagorol, nid yn unig ar gyfer cefnogi a thrin cleifion, ond yng nghyd-destun ehangach y pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol.
Ond er mwyn i hyn fod yn wir, mae angen ailwampio'r system gyfan. Rydym wedi clywed y prynhawn yma am bwysigrwydd y 60 munud cyntaf ar ôl strôc. Yn yr amser hwnnw, gall ymyrraeth triniaeth olygu'r gwahaniaeth rhwng adferiad llwyddiannus a niwed na ellir ei wella. Ac os ydych yn byw mewn ardal wledig fel Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae pa mor gyraeddadwy yw'r targed hwn yn peri pryder enfawr. Ers 2015, ni fu unrhyw amser targed ar gyfer argyfyngau strôc, sy'n golygu bod cleifion sy'n dangos symptomau FAST yn aml yn gorfod aros sawl awr i ambiwlans ymateb i'w galwad. Ac fel y clywsom yn ystod y ddadl, nid oes gan gleifion strôc oriau i aros.
Mae angen i'r Llywodraeth adolygu ei model ymateb clinigol, ac mae angen iddi hefyd sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd ar waith i gefnogi unigolyn drwy eu cynllun gweithredu ar gyfer triniaeth strôc. Yn anffodus, nid oes yr un o'r pethau hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Dros yr wythnosau diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod â Grŵp Strôc Caerfyrddin a Chymdeithas Strôc y DU ar risiau'r Senedd i drafod effeithiolrwydd yr acronym FAST, pwysigrwydd gwasanaethau strôc o ansawdd, a gweinyddu mynediad cyflym at ofal iechyd.
Fodd bynnag, ar ôl adolygu'r data SSNAP diweddaraf ar gyfer gorllewin Cymru—y rhaglen archwilio genedlaethol ar gyfer strôc sentinel—lle mae gwasanaethau'n cael eu graddio o A i E yn dibynnu ar eu hansawdd, mae'n amlwg nad yw gwasanaethau strôc ledled y wlad wedi cael y ffocws a'r cyllid sydd ei angen arnynt. Mae data SSNAP ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg yn categoreiddio pedwar o'u chwe sgôr fel rhai sydd y tu allan i'r parth gwyrdd derbyniol, gyda'u sgôr 'mynediad at uned strôc' yn sgorio E, sef y radd isaf bosibl. Yn Ysbyty Glangwili, cafodd 'mynediad at uned strôc' a gwasanaethau thrombolysis sgôr o E. Ac yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, cafodd tri gwasanaeth—mynediad at uned strôc, thrombolysis a gwasanaethau therapi galwedigaethol—sgôr o E unwaith eto, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno nad yw hynny'n ddigon da, ac mae hyn yn digwydd yn ein rhanbarth ni fel Aelodau.
Gadewch inni fod yn glir: yn sicr nid staff ymroddedig y GIG sydd ar fai am y sefyllfa a ddisgrifiais y prynhawn yma; cyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyn. Ond os ydym am roi'r cyfle gorau am adferiad i unrhyw glaf sy'n dioddef strôc, rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau strôc yn gyffredinol o'r ansawdd gorau posibl. Dyma ein cyfle i ailwampio gwasanaethau strôc yng Nghymru a sicrhau bod gan bob person, beth bynnag fo'u cod post, fynediad rhagorol at wasanaethau o'r radd flaenaf, a all wneud yr ymyriadau angenrheidiol i atal niwed na ellir ei wella yn dilyn strôc ddifrifol. Gyda hynny, hoffwn annog pob cyd-Aelod yn y Siambr hon i bleidleisio o blaid y cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.
Mae gan fy etholwyr berthynas heriol gyda gwasanaethau strôc, yn wahanol i'r rhai mewn sawl rhan arall o Gymru, a hynny oherwydd nad oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Mae natur wledig Brycheiniog a Sir Faesyfed a diffyg darpariaeth gwasanaethau strôc yn golygu bod cael triniaeth yn anos i fy etholwyr, ac mae'n rhaid i nifer ohonynt deithio dros y ffin i swydd Henffordd a swydd Gaerwrangon i gael triniaeth. Cafodd cyfanswm o 150 o bobl ym Mhowys eu derbyn i'r ysbyty yn Lloegr ar ôl cael strôc yn 2021-22. Meddyliwch am y gwahaniaeth y gallai fod wedi ei wneud i'r bobl hynny pe gallent fod wedi cael eu trin yn nes at adref. Fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, bûm yn galw am uned strôc acíwt ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ers amser hir, i sicrhau bod pobl yn cael triniaeth amserol yn ein cymunedau. Byddai hyn yn hwb enfawr i bobl yn fy ardal sydd mewn angen dybryd am ddarpariaeth strôc fodern ac effeithiol.
Gyda strôc, mae'r eiliadau a'r munudau'n bwysig. Mae'r ffaith bod pobl o Bowys yn gorfod mynd dros y ffin am driniaeth yn golygu baich diangen o ran amser i'r bobl sydd wedi dioddef. Mae'r amseroedd teithio hir oherwydd diffyg ysbyty ym Mhowys, fel y dywedais, yn gwneud marwolaeth ac anabledd yn fwy tebygol, oherwydd mae amser yn achub bywydau. Roeddwn yn dawelach fy meddwl yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, ar ôl eich clywed chi, Weinidog iechyd, yn dweud bod gennych gynlluniau ar y gweill ar gyfer gwasanaethau strôc rhanbarthol, ond mae fy nhrigolion angen gwybod faint o bobl yn y rheini fydd yn gallu aros yng Nghymru am driniaeth yn lle mynd i Loegr. Oherwydd gorau po agosaf i adref y gallwn gael triniaeth strôc, ac rwy'n credu yr hoffwn glywed mwy o eglurder gennych chi ynghylch pryd y gwelwn y rheini'n dwyn ffrwyth.
Gan mai strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru, mae'n hanfodol fod pobl y canolbarth yn cael triniaeth dda, amserol ac nad ydynt yn cael eu hanwybyddu. Rhaid i ddarpariaeth strôc fod yn flaenoriaeth, a phan edrychwn ar amseroedd ymateb ambiwlansys ledled Cymru, mae'n ymddangos i mi ac i eraill nad yw hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch yn lle oren. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio y gall y pwyllgor iechyd edrych arno. Byddai hyn yn gydnabyddiaeth o'r heriau enfawr y mae strôc yn eu hachosi ac yn gam mawr ymlaen ar y ffordd i ddatrys y broblem, a fydd yn gwaethygu cyn ei bod yn gwella. Diolch, Lywydd.
Rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig, oherwydd, fel sydd eisoes wedi'i gydnabod, dyma'r pedwerydd prif achos marwolaeth, felly mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni ei gael yn iawn. Ond byddwn yn gochel rhag syniad James Evans y gallem gael ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys a fyddai'n darparu gofal o'r ansawdd rydych ei angen pan fydd rhywun yn cael strôc. [Torri ar draws.] Os wyf wedi eich camddeall, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Nid oeddwn yn dweud bod angen ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys; hoffwn weld un, ond rwy'n cydnabod yr heriau o wneud hynny. Yr hyn yr hoffwn ei weld mewn gwirionedd yw mwy o'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu, megis canolfan gofal strôc, yn ein hysbytai bwthyn bach neu yn ein hunedau mân anafiadau, fel y gallwn gael y gwasanaethau hynny'n nes at adref ac nad oes raid i bobl deithio dros 40 munud mewn car.
Gallai fod yn ddigon posibl darparu'r math o wasanaethau adsefydlu sydd gennych mewn golwg mewn ysbyty bwthyn, ond ni fydd yn bosibl darparu rhagoriaeth glinigol oni bai bod gennych fàs critigol o gleifion i'w gyfiawnhau. Mae'n bwysig iawn fod gennym unedau strôc ar gael i'n holl boblogaethau o fewn pellter gyrru rhesymol, ond nid oes amheuaeth, os ydych yn cael strôc, fod angen ichi fynd i uned strôc, a dyna ddiwedd arni. Dyna ddylai'r ambiwlans ei wneud—ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ein sicrhau mai dyna maent yn ei wneud—oherwydd mae'n golygu ei bod yn llawer mwy tebygol y bydd claf yn goroesi ac y cyfyngir ar unrhyw anabledd.
Mae hon yn ddadl bwysig, ac rwy'n credu ei bod yn ddefnydd da o Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn i dynnu sylw at y mater. Ond mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n cael peth trafferth gyda faint o wybodaeth a gawsom gan y Gymdeithas Strôc. Roeddwn yn eithaf pryderus pan gefais yr wybodaeth fod fy uned strôc ar gyfer fy mhoblogaeth yng Nghaerdydd a'r Fro wedi cael sgôr cyffredinol o D. Ond pan ofynnais am fwy o wybodaeth i ddeall beth yn union oedd yn digwydd, cefais fy nghyfeirio at y fethodoleg, cawl yr wyddor; nid yw hyn o gymorth. Rwyf angen disgrifiad syml o beth sydd angen inni ei wneud. Ac er fy mod yn cydnabod bod y gwasanaethau ffisiotherapi, y gwasanaethau lleferydd ac iaith, therapi galwedigaethol, yn dda iawn, a'r gwasanaethau sganio hefyd, y mater allweddol yw pa mor gyflym y gallwch gael thrombolysis pan fyddwch newydd gael strôc.
Daw hynny â ni'n ôl at y gwelliant. Nid wyf wedi fy argyhoeddi, mae arnaf ofn, mai ail-gategoreiddio strôc yn goch, yn yr un categori â galwadau lle mae bywyd yn y fantol, yw'r cam cywir ar y pwynt hwn, oherwydd, yn gwbl onest, os ydym yn ychwanegu strôc at y rhestr goch, yng nghyd-destun presennol y pwysau sydd ar wasanaethau, ofnaf y byddai hynny'n golygu y byddai pobl eraill ar y rhestr goch yn marw. Nid wyf eisiau codi bwganod ynghylch hyn, ond rwy'n credu—. Rwy'n cydnabod, fodd bynnag, fod cynnig y Torïaid yn mabwysiadu agwedd ragofalus drwy awgrymu ein bod yn cyfeirio'r mater hwn at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adolygu manteision ei ail-gategoreiddio, ond nid oes unrhyw beth yn atal y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhag gwneud hynny beth bynnag, os ydynt yn dymuno.
Rwy'n credu ei bod yn bwysicach deall yn iawn sut y mae'r grŵp gweithredu ar gyfer strôc, a sefydlwyd yn 2013, wedi bod yn gweithio i sicrhau bod yr holl unedau strôc yng Nghymru yn cyrraedd y safon angenrheidiol, a sut y mae'r bwrdd gweithredu ar gyfer strôc, a gyhoeddwyd mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Medi y llynedd, am newid pethau mewn gwirionedd. Oherwydd nid wyf yn gwybod unrhyw beth pellach am y bwrdd gweithredu ar gyfer strôc. Fel Rhun, rwyf wedi cael trafferth dod o hyd i wybodaeth am y peth. Rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig iawn, ac yn amlwg yn un y mae ein hetholwyr eisiau inni dalu sylw iddi. Ond er mwyn cael unedau strôc o ansawdd uchel, rwy'n credu bod angen inni fod yn glir fod angen inni eu cael, nid ym mhob ysbyty dosbarth; mae angen inni gael unedau strôc wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol, fel bod y boblogaeth gyfan yn gallu cyrraedd un, ond mae'n rhaid gallu cyfiawnhau hynny ar gyfer poblogaeth yr ardal honno os ydych eisiau'r ansawdd y byddai pawb yn ei ddymuno pe bai eu hanwyliaid neu eu hetholwyr yn cael strôc.
Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau'r Gweinidog. Rwyf eisiau clywed ychydig bach mwy am yr hyn y mae Dr Shakeel Ahmad, sef arweinydd clinigol cenedlaethol Cymru ar gyfer strôc, wedi bod yn ei wneud. Nodaf hefyd fod cynhadledd ar gyfer y DU yn Lerpwl ddiwedd mis Tachwedd, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o'n clinigwyr o Gymru yn mynychu honno, oherwydd mae hyn yn rhywbeth sydd yr un mor bwysig i bobl ar yr ochr arall i'r ffin. Mae gwelliannau enfawr wedi bod yn y ffordd y gofalwn am gleifion strôc, ond yn amlwg, mae mwy i'w ddysgu bob amser.
Nodwyd eisoes bod tua 7,000 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae hynny'n gyfystyr â thref gyfan yn cael strôc bob blwyddyn. Ar gyfartaledd, mae'n cymryd 6 awr 35 munud rhwng dechrau strôc a chyrraedd ysbyty yng Nghymru. Cymharwch hynny â 3 awr 41 munud yn Lloegr, a 2 awr 41 munud yng Ngogledd Iwerddon. Mae sôn wedi bod am yr angen am yr awr euraidd. Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd perthynas i mi strôc, ac yn y dyddiau hynny roedd hi bron yn ddisgwyliedig y byddai'n cael ei ystyried yn fater brys.
Mae data'r rhaglen archwilio genedlaethol ar gyfer strôc sentinel, sy'n sgorio ymatebion GIG Cymru i ddangosyddion allweddol megis amser i sgan, amser i driniaeth, amser i dderbyn i unedau strôc, yn tynnu sylw at dueddiadau pryderus yn ysbytai gogledd Cymru. O gofio mai'r sgôr waethaf bosibl yw E, nid yw Wrecsam nac Ysbyty Glan Clwyd wedi gweld unrhyw welliant yn eu sgoriau SSNAP, sef D, ers 2021. Yn wir, cymerodd Ysbyty Glan Clwyd fwy nag awr ar gyfartaledd i sganio cleifion strôc. Wrth ystyried mai strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth, nid yw'n syndod fod gennyf etholwyr sy'n bryderus iawn ynglŷn ag a fyddai ambiwlans yn cyrraedd mewn pryd, a hyd yn oed pe bai'n gwneud hynny, faint y byddai'n ei gymryd i gael sgan wedyn.
Un ysbyty'n unig yng Nghymru a lwyddodd i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at uned strôc o fewn y targed o bedair awr, ac yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae'r amser y mae'n ei gymryd i gleifion gyrraedd ysbyty yn effeithio ar yr amser y mae'n ei gymryd i gleifion gael sgan. Mae cleifion yng Nghymru'n cael eu sganio ychydig dros wyth awr ar ôl i'w symptomau gychwyn. Felly, mae'n rhaid inni gael cleifion i'r ysbyty yn gynt ac mae angen sganiau cyflymach arnom.
Ers 2015, mae'r Llywodraeth Lafur Gymreig hon wedi israddio amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer cleifion lle'r amheuir strôc i oren, heb unrhyw amser targed ar gyfer cyrraedd. Mae gan wasanaethau ambiwlans Lloegr, sydd â chategori penodol ar gyfer cleifion lle'r amheuir strôc, amser ymateb cymedrig o 47 munud a 59 eiliad. Yma yng Nghymru, mae galwadau oren yn cymryd awr a 35 munud ar gyfartaledd i gyrraedd gyda chleifion—'ar gyfartaledd' mae'n dweud; gallaf ddweud wrthych fy mod yn gwybod am enghreifftiau yn ddiweddar iawn, lle bu farw etholwr i mi oherwydd, wel, roedd yn rhy hwyr. Os yw'n hwy na 60 munud, mae'r risg o niwed, gan gynnwys niwed i'r ymennydd, anabledd corfforol a marwolaethau yn gallu cynyddu'n sylweddol. Erbyn 2020, a'r cyfnod cyn y pandemig, dywedodd hyd yn oed Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod perfformiad oren yn dal i beri pryder. O ganlyniad, mae'n rhesymol inni bleidleisio i gyfarwyddo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnal adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch—galwadau lle mae bywyd yn y fantol o dan y model ymateb clinigol. Ac rwy'n siarad fel Aelod etholedig lle mae gennym niferoedd uwch o hen bobl, yn amlwg, rwy'n siarad ar ran fy etholwyr yn Aberconwy. Bydd hynny'n rhoi cyfle teg i glywed gan fyrddau iechyd a gweithwyr proffesiynol, gan alluogi Senedd Cymru hon a'ch Llywodraeth i wneud y penderfyniad gorau a fydd hefyd yn orau i gleifion.
Felly, mae gennyf gwestiwn ac esboniad, Weinidog, ynglŷn â pham nad oes arbenigwr thrombectomi yng ngogledd Cymru. Dim ond dau sydd wedi'u cyflogi, ac mae'r ddau ohonynt yng Nghaerdydd. Mae Betsi Cadwaladr yn anfon cleifion i Ysbyty Walton. Fel yr amlinellir gan ymgyrch Saving Brains y Gymdeithas Strôc, gallai thrombectomi leihau'r perygl o anableddau fel parlys neu ddallineb yn sylweddol, a gallai hefyd arbed £47,000 y claf i'r GIG dros bum mlynedd. Cafodd llai nag 1 y cant o gleifion strôc yng Nghymru thrombectomi yn 2021. Felly, nid yw'n ddigon da. Rhyngom, dylem allu cytuno i weithio gyda byrddau iechyd i gyflawni gwell na hynny a sefydlu cynllun gweithlu fel bod gan ogledd Cymru ei arbenigwr ei hun hefyd.
Eto i gyd, mae gennym lai o wasanaethau na'r de, ac rydym yn gorfod dibynnu ar Loegr, ond rwyf eisiau dweud bod Walton yn eithriadol o dda. Er hynny, rydym wedi cael datganoli ers bron i 25 mlynedd. Weinidog, fel y gallwch ddychmygu, mae hon yn ddadl sy'n agos iawn at galonnau fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig, ond mae hefyd yn agos at galonnau a meddyliau fy etholwyr yn Aberconwy, a llawer iawn o bobl ledled Cymru. Gwn eich bod yn gwrando ar yr hyn a ddywedwn yma; os gwelwch yn dda, ar y mater hwn, astudiwch y cynnig yn ofalus a gwnewch yr hyn a allwch i helpu ein dioddefwyr strôc. Diolch.
Yn anffodus, nid yw'n rhoi pleser imi ddweud fy mod yn ymwybodol iawn o ba mor ddifrifol y gall strôc fod. Cafodd fy mam strôc beth amser yn ôl a diolch byth, drwy weithredu'n gyflym, fe lwyddasom i gyfyngu ar y niwed a achosodd. Yn gyflym trodd yr hyn a ddechreuodd fel cur pen—yn ei geiriau hi, meigryn a symptomau tebyg i ffliw—yn rhywbeth gwirioneddol sinistr. Ac ar ôl i fy mam gael ei rhuthro i'r ysbyty gyda thri chlot ar ei hymennydd, ac ar ôl aros yn yr ysbyty am bythefnos a chael ffisiotherapi a therapi lleferydd helaeth iawn, a barhaodd am fisoedd, fe lwyddodd i wella'n eithaf da. Pe na baem wedi gweithredu'n gyflym a mynd â hi i'r ysbyty mewn pryd, byddai'r canlyniad wedi bod yn hollol wahanol, ac nid wyf dan unrhyw gamargraff y gallai fod wedi marw.
Fel y mae pawb yn gwybod, gorau po gyntaf y gweithredwch pan fo rhywun yn cael strôc. Rydym i gyd wedi clywed am yr acronym FAST—wyneb, breichiau, lleferydd ac amser—mewn perthynas â strôc, ac mae'n werth ei gofio, a dim ond ar ôl i fy mam gael ei strôc y deuthum yn ymwybodol o'r awr euraidd y mae llawer o fy nghyd-Aelodau wedi siarad amdani heddiw mewn perthynas â strôc. Mae'r tebygolrwydd o gael niwed difrifol neu niwed na ellir ei wella yn ystod strôc yn cynyddu'n aruthrol os nad yw'r claf yn cael triniaeth ddiffiniol o fewn y 60 munud cyntaf. Ond yn rhyfeddol, yng Nghymru, mae'n cymryd mwy na chwe awr a 30 munud ar gyfartaledd rhwng dechrau symptomau strôc a chyrraedd yr ysbyty. O'i gymharu, mae'n cymryd ychydig dros dair awr a 40 munud yn Lloegr, a dwy awr a 41 munud yng Ngogledd Iwerddon.
Amcangyfrifir bod 7,400 o bobl y flwyddyn yn cael strôc yng Nghymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod mwy o gleifion yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl, oherwydd mae'n fater o fywyd neu farwolaeth. Mae llawer o alwadau 999 lle'r amheuir strôc yng Nghymru yn cyrraedd ar ôl yr awr euraidd, ers i'r Llywodraeth Lafur yma israddio gwasanaethau ambiwlans lle'r amheuir strôc i oren. Fel y dywedais yn gynharach, mae gweithredu'n gyflym yn hollbwysig, ac ni allaf bwysleisio pa mor ddiolchgar wyf fi i'r parafeddygon a ddaeth i roi cymorth i ni, a'r rheini sy'n parhau i helpu pobl sy'n cael strôc. Ond o ystyried bod galwadau oren yng Nghymru'n cymryd awr a 35 munud ar gyfartaledd i gyrraedd cleifion, gadewch inni fod yn onest, nid yw mor gyflym â hynny o gwbl.
Mae addysg yn allweddol i wella canlyniadau i bobl sy'n dioddef strôc. Mae angen ymdrech enfawr i wneud yn siŵr fod pobl yn gwybod pa mor bwysig yw cael sylw meddygol os ydynt yn arddangos symptomau strôc. Flynyddoedd lawer yn ôl, pan oeddwn yn gweithio i'r Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, trefnodd ddigwyddiad strôc i bob un o'i etholwyr gyda chymorth ac mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Strôc i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r symptomau a'r heriau y mae rhywun yn eu profi wrth gael strôc. Roedd yn llwyddiant ysgubol ac fe gafodd ei werthfawrogi'n fawr gan drigolion de-ddwyrain Cymru, ond yn anffodus nid yw'r Senedd yn caniatáu i ddigwyddiadau o'r fath ddigwydd rhagor, sy'n drueni mawr.
Mae angen adolygiad o'r manteision a'r heriau o ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch yn lle oren, Weinidog, a hynny ar frys. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Gweinidogion Llafur a chyd-Aelodau yma yn y Senedd heddiw yn gwrando ar yr hyn rwyf fi ac Aelodau eraill wedi'i ddweud heddiw ac yn gweithredu'n gyflym i achub bywydau. Diolch.
Y Gweinidog iechyd, nawr, i gyfrannu i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, rwyf eisiau diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r mater pwysig hwn i'r Siambr heddiw, a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwyf wedi gwrando'n astud ar bob siaradwr, ac mae llawer o bwyntiau pwysig wedi cael eu gwneud. Strôc, fel y dywedodd Mark Isherwood, yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru, ac mae'n cael effaith hirdymor sylweddol ar oroeswyr, ac mae yna 70,000 ohonynt yng Nghymru.
Mae ymateb ambiwlansys i strôc yn un elfen o ofal strôc yng Nghymru. Mae elfennau pwysig eraill yn cynnwys sut rydym yn trawsnewid ein model ar gyfer gwasanaethau strôc ar draws y system, ac yn codi ymwybyddiaeth o symptomau strôc ymhlith y cyhoedd. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cydnabod bod strôc yn gyflwr a all beryglu bywyd, a'i nod bob amser yw ymateb cyn gynted â phosibl, ac rwy'n cytuno nad yw'r perfformiad presennol yn ddigon da. Ond i gleifion strôc, nid amser yn unig sy'n bwysig; mae'n fater hefyd o wneud yn siŵr eu bod yn cael yr ymateb mwyaf priodol a mynediad cyflym at y gwasanaethau arbenigol cywir.
Gallai cleifion strôc brofi unrhyw gyfuniad o ystod o symptomau corfforol a niwrolegol. Y symptomau hyn fydd yn ysgogi'r alwad 999, a difrifoldeb cymharol y symptomau hyn fydd yn llywio'r modd y bydd yr alwad yn cael ei chategoreiddio gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn adolygu'r drefn o flaenoriaethu galwadau yn barhaus drwy ei grŵp meddalwedd asesu blaenoriaethau clinigol, sy'n cynnwys uwch glinigwyr a rheolwyr gweithredol. Mae gan y grŵp gylch o adolygiadau rheolaidd wedi'u cynllunio, ond bydd hefyd yn gwneud adolygiadau ad hoc mewn ymateb i dystiolaeth glinigol sy'n dod i'r amlwg. Mae hon yn broses debyg i ymddiriedolaethau eraill y DU, a'i nod yw sicrhau bod cleifion yn parhau i gael yr ymateb mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion clinigol, yn seiliedig ar y canllawiau clinigol diweddaraf.
Cafodd y model ymateb clinigol ei lunio gan glinigwyr blaenllaw, ac mae'n rhaid i benderfyniadau ar flaenoriaethu galwadau gael eu gwneud bob amser gan glinigwyr ar sail y dystiolaeth glinigol ddiweddaraf. Nid cyfrifoldeb aelodau'r pwyllgor, nac unrhyw un arall nad oes ganddynt yr wybodaeth arbenigol honno, yw penderfynu beth sy'n digwydd mewn perthynas â materion o'r fath. Pan gyflwynwyd y model ymateb clinigol am y tro cyntaf yn 2015, gwnaed hynny ar y sail y byddai 5 y cant o alwadau ar gyfartaledd yn y categori coch. A fyddai gan y pwyllgor ddiddordeb hefyd mewn dweud wrth y gwasanaethau ambiwlans pa gyflyrau eraill fydd yn cael eu hisraddio o'r categori coch presennol? Rwy'n amau'n fawr. A gaf fi fod yn glir? Ni wnaeth Llywodraeth Cymru israddio galwadau lle'r amheuir strôc i oren. Cyn hynny, rhoddwyd yr un lefel o flaenoriaeth i bob galwad, ni waeth beth fo'r difrifoldeb clinigol. Felly, cyn y newidiadau, yn ddamcaniaethol, rhoddwyd yr un amser ymateb i ataliad y galon â'r ddannoedd. Felly, cyflwynodd y gwasanaeth ambiwlans bedwar categori newydd er mwyn sicrhau bod pobl sydd angen ymateb cyflymach yn cael ymateb cyflymach. Fel y dywedaf, y targed oedd i 5 y cant o'r holl alwadau gael eu categoreiddio'n goch. Ond mae galwadau coch wedi bod mor uchel â 10.5 y cant yn ystod y misoedd diwethaf—mwy na dwywaith yr hyn y cynlluniwyd y model ar ei gyfer, a dangosydd clir fod y gwasanaeth ambiwlans yn ymateb yn gynyddol i bobl sydd â chyflyrau mwy cymhleth ac acíwt.
Awgrymodd Mark Isherwood fod gan wasanaeth ambiwlans Lloegr, sydd â chategori penodol ar gyfer cleifion lle'r amheuir strôc, amser ymateb cymedrig o 47 munud, ond nid yw hyn yn wir. Nid oes categori ar wahân na dynodedig ar gyfer strôc yn Lloegr. Er bod y categorïau a'r codau o fewn y categorïau hyn yn wahanol rhwng modelau Cymru a Lloegr, mae galwadau'n cael eu blaenoriaethu yn yr un modd yn y ddau fodel. Hynny yw, yn ôl difrifoldeb clinigol cymharol. Fel ni, nid oes ganddynt hwy un reol bendant ar gyfer pob strôc.
Gwyddom fod angen inni wneud mwy i wella prydlondeb ymatebion ambiwlansys i bob galwad, ac mae gennym gynllun gwella gwasanaethau ambiwlans cenedlaethol ar waith i gynyddu capasiti ambiwlansys, gwella'r ymateb i bobl sydd â chyflyrau lle mae amser o'r pwys mwyaf, a lleihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Rydym wedi buddsoddi £3 miliwn i alluogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i recriwtio 100 yn rhagor o staff rheng flaen, a hynny ar ben y 263 y maent wedi'u recriwtio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf hefyd wedi bod yn hynod o glir yn fy nisgwyliadau i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion, sy'n cael effaith sylweddol ar argaeledd ambiwlansys i ymateb i alwadau yn y gymuned.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Er eglurder, fe ddywedoch chi, rwy'n credu, fy mod wedi dweud bod categori arbennig ar gyfer strôc yn Lloegr a bod 47 munud—. Na, yr hyn a ddywedais oedd eu bod wedi ail-gategoreiddio galwadau strôc fel galwadau argyfwng yng nghategori 2, ac roedd gan gategori 2, yn ei gyfanrwydd, amser ymateb o 47 munud a 59 eiliad.
Felly, mae fy mhwynt yn sefyll, sef nad oes un reol bendant mewn perthynas â strôc yn Lloegr nac yng Nghymru.
Felly, mae adolygiad McClelland, a ysgogodd y newid i'r model ymateb clinigol, wedi nodi bod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bod yn destun mwy o adolygiadau nag unrhyw ran arall o'r GIG yng Nghymru a bod y craffu hwn yn cyfrannu at y problemau sy'n wynebu'r sefydliad. Daeth i'r casgliad y gall cylch parhaus o adolygiadau fod yn aflonyddgar, yn wrthgynhyrchiol ac nad yw'n debygol iawn o arwain at welliant sylweddol i gleifion.
Ni ddaeth yr adolygiad oren a gynhaliwyd gan glinigwyr yn 2018 o hyd i unrhyw dystiolaeth glinigol i gefnogi ail-gategoreiddio'r holl alwadau strôc i'r categori coch. Ni fyddai modd cyfiawnhau adolygiad arall o'r gwasanaeth ambiwlans i ysgogi newid hyd nes y bydd corff o dystiolaeth i gefnogi newid o'r fath.
Dwi am sôn nawr am yr elfennau eraill gwnes i grybwyll. Cafodd y datganiad ansawdd ar gyfer strôc ei gyhoeddi ym mis Medi 2021. Mae'n nodi 20 o nodweddion ansawdd ar gyfer gwasanaethau strôc. Ym mis Mehefin 2022, fe wnaeth prif weithredwyr y byrddau iechyd gefnogi sefydlu bwrdd rhaglen strôc genedlaethol, ac fe fydd y bwrdd yn ategu ac adeiladu ar waith y grŵp gweithredu ar gyfer strôc. Bydd hefyd yn sicrhau cysondeb o ran sefydlu canolfannau strôc ranbarthol cynhwysfawr, a oedd yn arfer cael eu galw’n unedau strôc dra acíwt, a rhwydweithiau strôc weithredol rhanbarthol. Mae'r bwrdd hwn bellach wedi'i sefydlu. Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal ar 13 Hydref. Mae'n cael ei gadeirio gan Mark Hackett, prif swyddog gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r aelodau’n cynnwys uwch gynrychiolwyr o'r byrddau iechyd, ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru, swyddfa comisiynwyr gwasanaethau ambiwlans Cymru, y Gymdeithas Strôc, cynghorau iechyd cymunedol a Llywodraeth Cymru. Mae'r bwrdd yn cael ei gefnogi gan dîm rhaglen craidd, gan gynnwys yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc yng Nghymru, Dr Shakeel Ahmad. Dyma’r mecanwaith a fydd yn goruchwylio ac yn ysgogi’r trawsnewid sydd ei angen i sefydlu model cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau strôc yng Nghymru, gan gynnwys edrych i mewn i thrombectomi. Fe fydd yn sicrhau ein bod yn cyrraedd safonau cenedlaethol ac yn gwella canlyniadau i gleifion sydd wedi cael strôc.
Dwi wedi clywed galwad Rhun ap Iorwerth a Jenny fod angen gwella’r cyfathrebu â’r cyhoedd gan y bwrdd yma. Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae, ac mae Llywodraeth Cymru yn croesawu pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o strôc fel bod pobl yn gyfarwydd â’r symptomau ac yn gallu ymateb yn gyflym. Cefais gyfarfod â’r Gymdeithas Strôc bythefnos yn ôl, ac rŷm ni'n gweithio’n agos gyda nhw i hyrwyddo Diwrnod Strôc y Byd ar 29 Hydref, ac rŷn ni'n edrych ar gyfleoedd eraill i godi ymwybyddiaeth o symptomau strôc, yn cynnwys ymgyrch FAST. I gloi, hoffwn i sicrhau'r Siambr fod gwella canlyniadau strôc yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a dwi'n annog y Siambr i gefnogi'r cynnig gyda'r gwelliant a gafodd ei gyflwyno gan Lesley Griffiths. Diolch.
Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma a chau'r ddadl yn wir. Rwy'n teimlo'n eithaf angerddol ynglŷn â strôc, a dweud y gwir, achos dyna oedd fy ngwaith cyn imi gael fy ethol i'r Senedd. Rydym yn siarad am rai o symptomau mwyaf cyfarwydd strôc. Gall gynnwys lleferydd aneglur, colli cryfder ar un ochr i'r corff; dyna'r symptomau mwyaf cyfarwydd. Ond os ydych chi eisiau gweld rhai o'r ystod o symptomau strôc, byddwn yn annog unrhyw un i dreulio diwrnod mewn uned strôc neu gyfleuster adsefydlu i weld realiti rhai o'r achosion hyn. Yn y sefyllfaoedd gwaethaf, gall pobl golli eu symudedd, gallant golli eu holl ryddid a'u hannibyniaeth, maent angen eu bwydo, maent yn colli eu holl nerth i wneud eu gofal personol eu hunain, maent angen i rywun roi cawod iddynt, maent angen i rywun eu golchi. Dyna'r pethau gwaethaf. A 24, 48 awr cyn hynny, roeddent yn byw bywyd normal, fel rydym ni i gyd yn ei wneud yn awr, ac i fynd o hynny, i'r pegwn arall hwnnw, dyna pam rwy'n pwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar y prynhawn yma, y thrombolysis, y ffisiotherapi a chael y pethau hynny yn eu lle cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau cymaint o lwyddiant â phosibl wrth adsefydlu. Weithiau, nid oes modd gwneud hynny, dyna realiti'r peth; weithiau mae achosion strôc yn rhy acíwt i allu cyflawni unrhyw adsefydlu, ond lle gallwn wneud hynny, dylem fynd ati o ddifrif i fuddsoddi mewn gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a thrombolysis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi'r cyfle gorau i bobl gael adferiad llawn ac adfer rhywfaint o annibyniaeth ac urddas yn eu bywydau.
Agorodd Mark Isherwood y ddadl drwy dynnu sylw at y ffaith ei bod yn Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn, y nawfed ar hugain, a phwysleisiodd bwysigrwydd ymwybyddiaeth gyhoeddus ar draws pob lefel o'r system iechyd. Soniodd Rhun ap Iorwerth mai dyma'r pedwerydd prif achos marwolaeth, ac adleisiwyd hynny mewn llawer o'r cyfraniadau eraill y prynhawn yma, ac unwaith eto, pwysigrwydd gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn y system gofal iechyd i gynyddu potensial adsefydlu i'r eithaf. Soniodd Sam Kurtz am rai o'r pethau lleol yn ei etholaeth, gan gynnwys Grŵp Strôc Caerfyrddin, a rhai o'r ystadegau lleol yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, ac yna fe soniodd James Evans am ei etholaeth ef a rhai o'r problemau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wrth i'w drigolion lleol orfod mynd dros y ffin i Loegr, lle gallai fod ychydig mwy o ddarpariaeth leol er mwyn i bobl ym Mhowys gael y driniaeth y maent yn ei haeddu.
Nid oeddwn yn cytuno gyda datganiad Jenny Rathbone ynglŷn â pheidio â'i gynnwys ar y rhestr goch. Mae'n siarad drosto'i hun; dyma'r pedwerydd lladdwr mwyaf, Jenny, felly mae hynny'n siarad drosto'i hun am bwysigrwydd gwneud hyn yn flaenoriaeth.
Rwy'n credu eich bod chi'n ceisio cymharu dau beth gwahanol yno. Mae'n ymwneud â'r cyflymder y mae angen ichi gael ambiwlans at rywun sy'n tagu, o'i gymharu â'r cyflymder y mae angen ichi gyrraedd rhywun sy'n cael strôc. Nid wyf yn meddwl y dylem ni benderfynu beth ddylai'r canllawiau fod ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Caiff hynny ei wneud gan glinigwyr. Rwy'n meddwl bod angen inni wella gwasanaethau strôc, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n mynd—[Anghlywadwy.]
Dyna olygfa ardderchog o'ch cefn ar y camera yno, Jenny, ond clywyd eich llais ar feicroffon Gareth, felly mae'r cyfan wedi'i gofnodi. Mae'n iawn. Gareth Davies.
Diolch, Lywydd. A phwynt teg, Jenny, a dyna pam rwy'n gobeithio y byddwch yn pleidleisio dros ein cynnig i fynd ag ef i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle gallwn gymryd tystiolaeth gan y bobl gywir, a gobeithio y byddant hwy'n adleisio ein geiriau. Soniodd Janet Finch-Saunders am ystadegau yng ngogledd Cymru, yn enwedig ar gleifion hŷn yn ei hetholaeth yn Aberconwy, ac fel cyn-weithiwr yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn yr unedau adsefydlu, rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r gwaith sy'n digwydd yn Llandudno a'ch etholaeth. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r staff gweithgar yno sy'n gwneud gwaith da yno bob dydd o'r flwyddyn.
Soniodd Natasha am rai o'r profiadau personol a gafodd hi gyda strôc wedi'r hyn a brofodd ei mam, ac mae'n dda gweld ei bod yn gwella'n dda ac yn ôl mewn iechyd da.
Weinidog, fe ddywedoch chi wrth agor eich ymateb i'r ddadl eich bod yn credu nad yw'r perfformiad yn ddigon da. Wel, mae gennym gyfle y prynhawn yma i wneud rhywbeth yn ei gylch mewn gwirionedd, felly gadewch inni fod yn uchelgeisiol, gadewch inni ddangos i bobl Cymru ein bod ar ochr dioddefwyr strôc a chael hyn ar restr goch yr ambiwlans, oherwydd mae dioddefwyr strôc yn haeddu gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar unwaith i ystyried eu poen fel blaenoriaeth goch os ydynt hwy neu unrhyw un yn dioddef strôc fel bod modd eu trin yn gyflymach, iddynt gael mwy o obaith o oroesi a bod ar ffordd gadarn i adferiad ac annibyniaeth. Hoffwn gau drwy annog pawb i gefnogi ein cynnig heb welliant y prynhawn yma. Diolch.
Y cynnig, felly, yw y dylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Does yna ddim cais i ganu'r gloch. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6 ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil gan Aelod, sef y Bil addysg awyr agored (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Sam Rowlands. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, yn ymatal un, yn erbyn 24. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod—Bil Addysg Awyr Agored (Cymru): O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Yr eitem nesaf yw'r bleidlais ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil manteisio ar fudd-daliadau. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, yn enw Sioned Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, 19 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil Manteisio ar Fudd-daliadau: O blaid: 30, Yn erbyn: 1, Ymatal: 19
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 9 yw'r eitem nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar strôc yw'r eitem yma. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—strôc. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—strôc. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 36, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8113 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.
2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.
3. Yn nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—strôc. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar bob pleidlais.
Dyma ni, felly, yn cyrraedd y ddadl fer.
Os gall Aelodau sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n dawel, fe ofynnaf i Tom Giffard gyflwyno ei ddadl fer. Tom Giffard.
Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rwyf wedi rhoi pedwar munud o fy amser, i Peter Fox, Mike Hedges, James Evans a Laura Jones ar gyfer y ddadl hon.
Yn gyntaf oll, rwyf am gofnodi fy niolch i bawb yn y British Heart Foundation, yn enwedig Gemma Roberts, am dynnu sylw at yr ymgyrch bwysig hon ac am eu gwaith yn fy helpu i ddod â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw.
Mae ymchwil, datblygu ac arloesi yn gwbl hanfodol i unrhyw economi ffyniannus. Mae gan ymchwil allu i gefnogi ein hadferiad economaidd o bandemig COVID-19. Mae yna gyfleoedd enfawr i ddod ag arian a thalent i mewn i Gymru. Ond ar hyn o bryd, mae Cymru'n methu manteisio ar y cyfleoedd hyn, ac rydym yn methu manteisio arnynt am nad yw ein prifysgolion yn cael digon o gyllid. Ni ddylid tanbrisio'r rôl y mae ymchwil yn ei chwarae yn ein heconomi. Mae'r rhai sy'n derbyn arian ymchwil yn prynu nwyddau a gwasanaethau er mwyn gwneud eu gwaith ymchwil. Mae hynny ynddo'i hun yn creu gweithgarwch yn eu cadwyni cyflenwi ac ar draws economi Cymru gyfan. Mae ymchwil yn hybu allbwn a chynhyrchiant mewn economi gyda thechnolegau, meddyginiaethau a phrosesau newydd. Ac wrth i ddulliau a thechnolegau newydd gael eu darganfod, mae gwybodaeth yn gorlifo i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae hyn yn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd ac yn y pen draw, gallai helpu i sbarduno adferiad economaidd newydd. Ond os yw Cymru'n mynd i elwa ar fanteision ymchwil, mae angen i'n prifysgolion sicrhau buddsoddiad allanol ac ennill ceisiadau cystadleuol am gyllid, ac i wneud hyn, mae angen seilwaith ar ein prifysgolion, a dyletswydd Llywodraeth Cymru yw ariannu'r seilwaith hwnnw.
Nid yw Cymru'n cyflawni ei photensial mewn ymchwil feddygol. Mae gennym brifysgolion o'r radd flaenaf, ond ni chânt eu hariannu'n briodol gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o dair gwlad ddatganoledig y DU, a phob un o naw rhanbarth Lloegr, Cymru sydd â'r gwariant isaf yn gyfrannol ar ymchwil a datblygu. Ni sy'n perfformio salaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU. Dim ond 2 y cant o'r gwariant ymchwil a datblygu yn y DU sydd yng Nghymru. Rydym yn ffurfio bron i 5 y cant o'r boblogaeth, felly oni ddylem gael 5 y cant o'r gwariant ymchwil? Dim ond 3 y cant o gyllid cystadleuol y mae Cymru'n ei ennill, ond unwaith eto, rydym yn ffurfio 5 y cant o boblogaeth y DU, felly dylem fod yn ennill o leiaf 5 y cant o gyllid cystadleuol. Ond oherwydd lefelau isel o fuddsoddiad ym mhrifysgolion Cymru, nid ydym yn denu cyfran ein poblogaeth o gyllid. Mae buddsoddiad isel yn atal llwyddiant economaidd a chyfraniad ymchwil i'n hadferiad economaidd.
Ond nid problem newydd yw hon. Yn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru ei hun adolygiad o'r amgylchedd ymchwil. Adolygiad Reid oedd hwnnw, a chanfu fod lefelau isel o gyllid seilwaith ym mhrifysgolion Cymru wedi bod yn ffynhonnell, ac rwy'n dyfynnu,
'gwendid strwythurol dros ddau ddegawd'.
Bellach, mae pedair blynedd ers cyhoeddi'r adolygiad hwnnw ac ni fu cynnydd o hyd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru i'w godi i'r un lefel â gweddill y Deyrnas Unedig. Sut y gall ein prifysgolion gystadlu pan ydym yn parhau i fuddsoddi llai ynddynt na'r Alban neu Loegr?
Rydym i gyd yn cystadlu am yr un ffrydiau ariannu, ond mae Cymru dan anfantais sylweddol—anfantais a achosir gan ddadfuddsoddi mewn termau real yn ein prifysgolion. Yn hanesyddol, mae ymchwil yng Nghymru wedi dibynnu ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, ond hyd yn oed gydag arian o'r UE roedd Cymru'n dal i fod dan anfantais o'i chymharu â gwledydd eraill y DU oherwydd lefelau isel o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn seilwaith.
Yn adolygiad Reid 2018, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, tynnodd sylw at y ffaith y dylai ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru gymryd lle ffrydiau ariannu'r UE ar y pryd. Byddai hyn yn cefnogi llwyddiant wrth gystadlu am gyllid ledled y DU ac yn denu lefelau uchel o fuddsoddiad busnes. Ond nid yw'r argymhelliad hwn wedi'i weithredu o hyd.
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy'n gweinyddu arian seilwaith i brifysgolion ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd eu cyllideb ar gyfer 2022-23 yn £81.7 miliwn. Pro rata, pe bai prifysgolion Cymru'n cael eu cefnogi i gystadlu â Lloegr, byddai'r cyllid yng Nghymru oddeutu £100 miliwn. Mae hynny'n ddiffyg o £18 miliwn o gyllid ar gyfer seilwaith hanfodol. Mae'r diffyg hwnnw'n golygu nad oes gan brifysgolion Cymru y seilwaith hanfodol sydd ei angen arnynt, ac ni allant gystadlu â phrifysgolion eraill ar draws y DU am arian. Mae hynny'n lleihau nifer y grantiau sy'n dod i mewn i Gymru yn ddramatig, ac yn cyfyngu ar y manteision posibl i economi Cymru o ymchwil a datblygu.
Mae ymchwil feddygol yn enghraifft wych o hynny. Mae ymchwil feddygol nid yn unig yn achub bywydau yn y dyfodol ond mae'n tanio ein heconomi nawr, ac mae pobl Cymru'n cytuno: yn ddiweddar adroddodd British Heart Foundation Cymru fod cymaint ag 82% o bobl yng Nghymru yn credu ei bod hi'n bwysig i Gymru fod yn gwneud ymchwil feddygol. Yn ogystal â darparu llu o fanteision i gleifion, mae ymchwil feddygol, gan gynnwys ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau, yn gwbl hanfodol i'n heconomi. Mae modelu a gafodd ei gomisiynu gan y BHF yn awgrymu bod ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau yn chwarae rôl hanfodol yn economi Cymru ac mae ganddi botensial hefyd i sbarduno twf economaidd.
Roedd ymchwil gan Sefydliad Fraser of Allander ym Mhrifysgol Strathclyde yn amcangyfrif mai cyllid elusennol yw 35 y cant o'r holl gyllid ymchwil feddygol trydydd sector a sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda chyllid ymchwil gweithredol o £21 miliwn yn 2018. Yn ôl y sefydliad, yn 2019, roedd cyllid ymchwil feddygol gan elusennau yng Nghymru yn cefnogi gwerth £86 miliwn o allbwn a £55 miliwn o werth ychwanegol gros.
Hefyd, canfu'r sefydliad, a gafodd ei gomisiynu gan British Heart Foundation, ei bod yn debygol fod gan bob £1 filiwn a werir ar ymchwil feddygol gan elusennau fanteision sylweddol fwy i'r economi na'r buddsoddiad cyfartalog yng Nghymru, sy'n golygu bod buddsoddi mewn ymchwil yn werth ardderchog am arian. Mae pob £1 filiwn a werir ar gyllid ymchwil feddygol yng Nghymru gan elusennau'n cefnogi £2.3 miliwn mewn allbwn a £1.47 miliwn mewn gwerth ychwaegol gros. Mae'r ffigyrau hynny'n golygu bod lluosyddion cyllid ymchwil feddygol yng Nghymru gan elusennau yn debygol o fod yn debyg i rai sectorau gyda'r lluosyddion gwerth ychwanegol gros uchaf yng Nghymru, gan wneud buddsoddi mewn denu ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau i Gymru yn werth ardderchog am arian.
Gall cynnydd mewn ymchwil a ariennir gan y Llywodraeth a'r trydydd sector gynyddu cyllid y sector preifat hefyd. Mae cynyddu buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a'r trydydd sector 1 y cant yn creu bron yr un cynnydd yng ngwariant y sector preifat o fewn blwyddyn. O'i roi mewn ffordd arall, bydd unrhyw beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i mewn yn debygol o ddenu arian cyfatebol gan y diwydiant o fewn blwyddyn.
Dywedodd y British Heart Foundation hefyd fod ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau yn cefnogi creu swyddi mewn sectorau medrus fel addysg, ymchwil a datblygu, iechyd a gwaith cymdeithasol a pheirianneg. Mae'r cyflogau hyn, yn amlwg, yn cael eu gwario wedyn yn ein cymunedau lleol, busnesau lleol ac economïau lleol. Ar hyn o bryd, mae ymchwil feddygol sy'n cael ei hariannu gan elusennau yn cefnogi 975 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru, hyd yn oed gyda Chymru'n tangyflawni o ran denu cyllid ymchwil. Dychmygwch y manteision pe bai Llywodraeth Cymru'n buddsoddi ac yn sicrhau bod Cymru'n cyrraedd ei photensial o ran denu'r cyllid hwnnw i Gymru.
Mae'r Sefydliad Ffiseg hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd Mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos nad yw cyllid cysylltiedig ag ansawdd yng Nghymru wedi cadw gyfuwch â chwyddiant ers 2008, ac mae Llywodraeth Yr Alban wedi llwyddo i gynnal neu gynyddu cyllid cysylltiedig ag ansawdd dros yr un cyfnod o amser. Nodaf fod y methiant i gadw gyfuwch â chwyddiant yn rhagflaenu Brexit a dadleuon ynghylch dileu cronfeydd strwythurol. Ânt rhagddynt i ddweud hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi diddymu cyllid pwrpasol ar gyfer arloesi ac ymgysylltu yn 2014-15 ac fe gafodd y cyllid ei adfer yn 2018-19 ar £7.5 miliwn, ac erbyn hyn mae'n £15 miliwn y flwyddyn. Ond mae hynny'n is na'r £25 miliwn a gafodd ei argymell yn adolygiad Reid a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Daw eu pryderon yn rhannol o ganfyddiadau arolwg economeg Cyd-ffederasiwn Diwydiant Prydain o arloeswyr ffiseg. Canfu fod arloeswyr ffiseg Cymru yn cydweithio'n fwy rheolaidd â phrifysgolion nag arloeswyr yn y DU gyfan. Gyda 54 y cant o arloeswyr Cymru'n dweud bod gwell cyfleoedd i gydweithio yn sbardun allweddol i'w cynlluniau i gynyddu buddsoddiad, gallai'r partneriaethau hyn fod yn ganolog i wireddu nodau ymchwil a datblygu ac arloesi.
Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ennill o leiaf cyfran poblogaeth Cymru o gyllid cystadleuol allanol—hynny yw, 5 y cant o gyllid cystadleuol allanol y DU. Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei buddsoddiad ei hun. Mae gwir angen i brifysgolion Cymru weld cynnydd mawr yn y cyllid ar gyfer seilwaith a ddarparir gan Lywodraeth Cymru. Heb yr un cymorth â gweddill y DU, ni fydd prifysgolion Cymru ac ymchwilwyr Cymru yn gallu cystadlu'n deg am gyllid ar gyfer y DU gyfan. Byddem yn colli manteision ymchwil feddygol, a'r cyfle hefyd i adfer yr economi a thwf economaidd. Mae yna anghydraddoldeb o ran cyllido ymchwil yn y DU, ac rwy'n credu mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â hynny.
A gaf fi ddiolch i chi, Tom Giffard, am gyflwyno'r ddadl hon a rhoi ychydig o amser i mi? Rwy'n credu bod pob un ohonom yn y Siambr yn cytuno â'r syniad fod ymchwil, datblygu ac arloesi yn sbardun pwysig i dwf economaidd a ffyniant, ac wrth gwrs mae prifysgolion yn allweddol i hyn. Nawr, mae yna newyddion da. Nodwyd bod Cymru'n chwaraewr cyson o gryf o fewn ymchwil ac arloesi rhyngwladol a rhanbarthol, ac mae ystadegau diweddar yn dangos bod gan Gymru gyfran uwch o gyhoeddiadau academaidd ymhlith y cyhoeddiadau byd-eang a ddyfynnir amlaf o'u cymharu ag unrhyw ran arall o'r DU. Ond fel y soniodd fy nghyd-Aelod yn ei gyfraniad, mae mwy y gallwn ei wneud i gynorthwyo prifysgolion i hybu eu galluoedd.
Yn un peth, rwy'n credu ein bod angen mwy o ffocws. Felly, pa feysydd penodol rydym yn eu harwain, a pha feysydd yr hoffem dyfu ynddynt? Mae'r sylw hwn wedi cael ei wneud am strategaeth arloesedd Llywodraeth Cymru. Mae negeseuon cyffredinol y strategaeth, er yn ganmoladwy, yn eithaf eang. Drwy fod â mwy ffocws ac yn fwy penodol, gallwn ei gwneud yn haws i brifysgolion, a Chymru yn wir, ddatblygu a chynyddu maint y syniadau newydd sydd eu hangen arnom. A gwelsom enghreifftiau o ba mor dda y gall hyn weithio. Er enghraifft, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi buddsoddi i ddatblygu'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan flaenoriaethu buddsoddi mewn ymchwil a datblygu a chefnogi busnesau arloesol, ac mae pawb ohonom wedi gweld prifysgolion dangos diddordeb yn y buddsoddiad hwn, gyda'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud mwy na buddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd yn unig, mae angen inni hefyd greu synergeddau rhwng y byd academaidd a busnesau i sicrhau bod eu hanghenion a'u blaenoriaethau'n cyd-fynd â'i gilydd. Diolch.
Diolch i Tom Giffard am roi munud i mi yn y ddadl hon. Mae rhanbarthau a gwledydd llwyddiannus yn y byd yn defnyddio eu prifysgolion fel sbardun economaidd—Caergrawnt, Bryste a swydd Warwick, ymhlith eraill yn Lloegr, ac mae Califfornia, Denmarc a'r Almaen, sy'n llwyddiannus yn economaidd, yn elwa o'u prifysgolion, megis Stanford, Heidelberg ac Aarhus. Mae gennym brifysgolion rhagorol yng Nghymru. Mae angen inni eu defnyddio'n fwy effeithiol. Mae datblygu parciau gwyddoniaeth gan brifysgolion a datblygu ysgolion entrepreneuriaeth prifysgolion wedi helpu i ddatblygu economïau ledled y byd.
Un maes twf pwysig yn economi'r byd yw gwyddorau bywyd. Rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth. Mae i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ond mae'n rhaid iddo chwarae rhan bwysicach mewn gwirionedd. Gall prifysgolion chwarae rhan allweddol yn datblygu diwydiant gwyddorau bywyd Cymru ymhellach. Ac yn wahanol i rannau eraill o'r DU, nid yw'r buddsoddiad mewn gweithgarwch wedi'i ganoli mewn un ardal neu ranbarth cyfoethog yn unig. Mae twf y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru yn rhychwantu hyd a lled y wlad, o gynaeafu colagen sglefrod môr yn y gorllewin i sefydliad blaengar ar gyfer prostheteg babandod yn y gogledd. Os gall hyn weithio, mae angen inni wneud iddo weithio.
Hoffwn ddiolch i Tom Giffard am roi munud o'i amser i mi ddau funud cyn i'r ddadl hon ddechrau. [Chwerthin.] Mae cyllid ymchwil yn hanfodol i ddatrys rhai o'r problemau mawr sydd gennym yn y byd, ac wrth i gyd-Aelodau yn y Siambr eistedd drwy'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn ddiweddar, roedd yn amlwg o gasglu tystiolaeth fod yna ffocws gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac eraill efallai na fyddai sefydlu'r comisiwn newydd yn canolbwyntio digon o'i amser a'i adnoddau ar ymchwil. Felly, hoffwn ofyn cwestiwn uniongyrchol i'r Gweinidog y gallai fod eisiau ei ateb. Hoffwn wybod pa drafodaethau a gawsoch gyda swyddogion CCAUC a Llywodraeth Cymru ynglŷn â sefydlu'r comisiwn newydd, a pha ffocws a chyllid y maent yn mynd i'w roi i ymchwil feddygol, oherwydd mae hynny'n mynd i fod yn hanfodol os ydym yn mynd i ddatrys rhai o'r problemau sydd gennym yn y byd heddiw.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Tom Giffard am ganiatáu munud i mi yn ystod y ddadl fer hon heddiw. Mae angen canolbwyntio'n gadarn ar fuddsoddi ym mhrifysgolion Cymru i ysgogi economi Cymru, a gwella ymchwil a datblygu. Mae'r ymgyrch newydd a'r adroddiad ar ariannu dyfodol Cymru gan British Heart Foundation Cymru yn tynnu sylw at sut y bydd ariannu ein prifysgolion disglair yn briodol yn gwella ymchwil feddygol ac yn sbarduno twf economaidd, dwy fuddugoliaeth fawr a rhesymau dros fuddsoddi. Fel y dywedodd Tom Giffard yn gynharach, mae gan Gymru oddeutu 5 y cant o boblogaeth y DU, ond dim ond 2 y cant o wariant ymchwil a datblygu y DU. Gwelsom bwysigrwydd ymchwil a datblygu ac arloesi yn ystod y pandemig. Mae angen inni fuddsoddi mewn ymchwil a all ein datblygu'n sylweddol yn feddygol ac mewn sawl ffordd arall, a byddwn yn gobeithio, fel James, y bydd y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yn ceisio mynd i'r afael â hyn wrth symud ymlaen.
Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi ein prifysgolion er mwyn iddynt allu bod yn fwy cystadleuol, fel y gallant fod mewn sefyllfa well i ennill y ceisiadau allanol a cheisiadau am gyllid yn y dyfodol. Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil cysylltiedig ag ansawdd yn llawer rhy isel ar adeg pan ddylent fod yn buddsoddi yn nyfodol Cymru. Rydym i gyd yn gwybod bod cyllid cysylltiedig ag ansawdd gan Lywodraeth Cymru yn talu am bethau nad yw grantiau'n talu amdanynt—seilwaith staff a biliau cyfleustodau, ac rwy'n siŵr fod hynny'n bryder arbennig iddynt ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae ymchwil a datblygu'n effeithio ar dwf yn uniongyrchol. Felly, diolch i chi, Tom, am adael inni dynnu sylw at hyn heddiw.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae prifysgolion yn elfen hanfodol o'n economi ni, gan gynhyrchu dros £5 miliwn o allbwn bob blwyddyn. Maen nhw'n sefydliadau angori ac yn chwarae rhan hollbwysig yn eu hardal leol drwy gynnig cyfleoedd am swyddi a chadwyni cyflenwi, a phoblogaethau amrywiol o fyfyrwyr a staff. Mae eu cyfraniad hefyd yn cael ei deimlo ar draws Cymru a thu hwnt drwy eu gwaith blaengar ar ymchwil, arloesi a datblygu sgiliau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo yn ei buddsoddiad a'i chefnogaeth i'n prifysgolion. Rŷm ni wedi cynyddu cyllidebau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru tua 82 y cant, gan eu galluogi nhw i ailgyflwyno cyllid arloesi ac ymgysylltu a chynyddu lefel y cyllid a roddir i ymchwil ar sail ei ansawdd. Mae cyfanswm cyllid ymchwil ac arloesi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 bellach bron yn £103 miliwn. Mae canlyniadau fframwaith rhagoriaeth ymchwil 2021 yn dangos yr effaith ardderchog y mae prifysgolion Cymru yn eu cael. Barnwyd bod 83 y cant o'r gwaith ymchwil a gafodd ei gyflwyno yn arwain y byd, neu yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae'r sylfaen ymchwil hon yn ysgogi lledaenu gwybodaeth, arloesi technolegol a mewnfuddsoddiad.
Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae ymchwil mewn prifysgolion yn cael ei ariannu drwy gymysgedd o arian gan fusnesau, elusennau a sefydliadau cymunedol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Mi ddof yn ôl at fater cyllid Ewropeaidd yn y man. Yn y cyfnod heriol ariannol sydd ohoni, mae'n hanfodol i sector ymchwil ac arloesi Cymru gydweithio ar flaenoriaethau cyffredin, a chanolbwyntio ar daclo'r heriau mwyaf rŷm ni'n eu wynebu fel cenedl. Rydym ni wedi buddsoddi £2 filiwn eleni yn rhwydwaith arloesi Cymru, a gafodd ei sefydlu er mwyn hwyluso cydweithio a phartneriaeth rhwng prifysgolion yng Nghymru a thu hwnt, gydag amrywiaeth eang o gyrff sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector.
Wrth gwrs, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn bartner allweddol wrth fuddsoddi mewn prifysgolion, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw er mwyn gweld sut y gallwn ni ddatblygu'n strategol y ffordd y caiff cyllid ymchwil ei ddyrannu er mwyn ennill grantiau o ffynonellau eraill. Rwy'n croesawu agwedd ymarferol a hyblyg y sector a'i barodrwydd i gydweithio er mwyn bod yn fwy cystadleuol o ran y Deyrnas Unedig. Drwy gydweithio, fe fyddwn ni'n sicrhau'r gwerth mwyaf o gyllid ymchwil Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gefnogi ymchwil ac arloesi. Yn y dyfodol, y bydd cyllid prifysgolion yn dod o dan y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Mewn ateb i James Evans, bydd disgwyl i'r comisiwn chwarae rhan allweddol yn y system ymchwil, gan weithio'n agos gyda chynghorau ymchwil y Deyrnas Unedig. Bydd yn parhau gyda gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gynyddu'r swm o gyllid ymchwil y Deyrnas Unedig sydd yn dod i Gymru.
Wrth gwrs, nid drwy ymchwil ac arloesi'n unig y mae prifysgolion yn cael effaith economaidd. Maent yn sefydliadau angori ac yn gyflogwyr sylweddol. Yn 2019-20, roedd un ym mhob 20 swydd yng Nghymru yn gysylltiedig â gweithgarwch prifysgol. Câi dros 21,700 o swyddi eu darparu gan brifysgolion Cymru, gyda 19,600 yn rhagor o swyddi wedi'u creu mewn diwydiannau eraill drwy effaith ganlyniadol addysg uwch. Rwy'n falch fod prifysgolion yng Nghymru yn talu'r cyflog byw, a byddwn yn annog mwy o gaffael lleol a rhanbarthol. Bydd twf eleni yn nifer yr israddedigion yn cael effaith economaidd ar unwaith mewn cymunedau lleol, a diolch i'n diwygiadau blaengar i gyllid myfyrwyr, mae nifer yr ôl-raddedigion yn parhau i gynyddu, gan drosi'n ymchwilwyr ac arloeswyr y dyfodol yn y blynyddoedd i ddod, gan greu ei effaith economaidd ei hun.
Mae lefelau sgiliau'n cydberthyn yn glir i dwf economaidd, ac rydym yn buddsoddi yn ein prifysgolion i ddarparu addysg ran-amser, mwy o weithgaredd ôl-raddedig, prentisiaethau gradd, a'r cyfan ochr yn ochr â'u cynnig craidd. Rydym wedi buddsoddi mewn cynllun peilot microgymwysterau, ehangu llefydd meddygol drwy ysgol feddygol newydd gogledd Cymru, a pharhau i fuddsoddi mewn pynciau cost uwch, fel cyrsiau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Rydym yn sicrhau bod Cymru'n cael ei gweld fel cyrchfan sy'n denu myfyrwyr ac ymchwilwyr rhyngwladol i astudio, a bod ein partneriaethau rhyngwladol hefyd yn gallu parhau a thyfu. Mae ein mentrau Taith a Global Wales yn enghreifftiau da o'n gwaith yn y maes hwn.
Dywedais y byddwn yn dychwelyd at fater arian Ewropeaidd. Rwy'n siŵr fod pawb yma'n pryderu am golli'r arian ymchwil a datblygu Ewropeaidd. Drwy wrthod rhoi arian yn lle'r cronfeydd hyn, mae Llywodraeth y DU yn gadael bwlch cyllid, gan danseilio cystadleurwydd yn ystod cyfnod o newid aruthrol. Rwy'n gwbl glir fod rhaid inni weld lefelau ariannu sy'n cyfateb fan lleiaf i'r rhai roeddem yn eu cael yn hanesyddol yn dychwelyd i Gymru. Er mwyn sicrhau mwy o fuddsoddi a dychwelyd i lefelau cyllid hanesyddol fan lleiaf, mae angen cefnogaeth uniongyrchol a chydweithrediad Llywodraeth y DU a'i hadrannau a'i hasiantaethau, yn enwedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU, i weithio mewn partneriaeth ar benderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru. Rhaid i Lywodraeth y DU wella'r berthynas gyda'r UE er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn y DU yn Horizon Europe, fel y cytunwyd o dan y cytundeb masnach a chydweithredu. Mae cysylltiad â'r rhaglen o fantais i'r pedair gwlad, ac fe wneuthum y pwynt hwn yn gadarn dros y deuddydd diwethaf yn fy ymweliadau â Brwsel. Ein barn gadarn ni yw mai deialog a thrafod yw'r unig lwybr i ganlyniad cadarnhaol a fyddai'n atal niwed o sylwedd i economi Cymru. Fel y dywedodd adroddiad diweddar gan grŵp Russell,
'Bydd methiant i sicrhau cysylltiad â Horizon, Euratom a Copernicus yn cyfyngu'n sylweddol ar atyniad y DU fel cyrchfan ar gyfer talent a buddsoddiad.'
Os na all Llywodraeth y DU gyflawni'r hyn y cytunwyd arno yn y cytundeb masnach a chydweithredu, rhaid i ni adeiladu perthynas agos, hirdymor gyda Horizon Europe fel trydedd wlad. Mae hyn yn hollbwysig i'n heconomi. Efallai y gall yr Aelod siarad â'i gymheiriaid yn San Steffan ynghylch rhai o'r materion hyn.
Maes arall lle roedd cyllid Ewropeaidd yn bwysig yw arloesi, sydd mor hanfodol i'n datblygiad economaidd. O dan drefniadau Llywodraeth y DU, mae cyllideb Cymru'n colli dros £1.1 biliwn o gyllid newydd yn lle cyllid yr UE. Rydym yn gwybod bod cynlluniau fel arbenigedd SMART wedi bod yn effeithiol iawn wrth gefnogi cydweithio effeithiol rhwng ymchwil a diwydiant. Mae'r rhain yn cydnabod yr ymdrech ar y cyd rhwng partïon, gan arwain at wobrau a rennir, yn enwedig cynhyrchiant eiddo deallusol, y manteisiwyd arno i greu effaith economaidd a chymdeithasol i'r holl bartneriaid.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon o'r farn fod prifysgolion yn rhan greiddiol o seilwaith economaidd ac addysgol Cymru, ac rydym wedi buddsoddi'n unol â hynny, gan gefnogi ymchwil ac arloesi, datblygu sgiliau a lledaenu gwybodaeth. Rydym wedi gweithio gyda'r sector i ddarparu'r cyflog byw go iawn, wedi annog arloesedd a chaffael a gwell ymgysylltiad â'r gymuned drwy weithgarwch cenhadaeth ddinesig. Mae buddsoddi yn ein prifysgolion yn fuddsoddiad mewn pobl, mewn ymchwilwyr, mewn staff cymorth, mewn technegwyr, mewn darlithwyr. Mae'n fuddsoddiad yn ein heconomi, mewn un ymhob 20 swydd drwy Gymru; mae'n fuddsoddiad yn ein myfyrwyr a'u dyfodol, yn y sgiliau ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ailddatgan mai rhan o fy ngweledigaeth ar gyfer addysg uwch yw sefydliadau neilltuol yn gweithio mewn partneriaeth. Drwy gydweithio, gallant wneud y gorau o'r buddsoddiad sylweddol a gânt, a thrwy gydweithio, byddant yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i dwf economaidd.
Diolch i'r Gweinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cael cyfle i orffwys yn ystod ein toriad.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.