Y Cyfarfod Llawn

Plenary

28/09/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Prynhawn da. Dyma ni'n cychwyn ar y cyfarfod. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain.

Y Dreth Gyngor

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol ar ddyfodol y dreth gyngor? OQ58421

Drwy ein trefniadau partneriaeth sefydledig, rwyf wedi cynnwys llywodraeth leol ar bob cam wrth ddatblygu cynlluniau i greu treth gyngor decach. Cyfarfûm â phob un o’r 22 arweinydd ym mis Mehefin, cyn lansio ein hymgynghoriad cam 1, a byddaf yn cynnull trafodaethau rheolaidd wrth inni symud ymlaen.

Weinidog, mae llawer o bobl yn poeni am gostau byw. Mae llawer yn ofni bellach y bydd eich ymgynghoriad ar ddyfodol y dreth gyngor yn golygu y bydd mwy o aelwydydd yn talu llawer mwy mewn treth, fel a ddigwyddodd gyda'r ailbrisio diwethaf. Y dreth gyngor, ynghyd â morgeisi neu renti a chostau ynni yw’r gwariant mwyaf y bydd teulu’n ei wynebu bellach, a rhagwelir hefyd y byddant yn arwain at galedi ariannol i lawer y flwyddyn nesaf. A yw’r Gweinidog wedi ystyried—[Anghlywadwy.]

Y peth cyntaf i’w ddweud am ein cynigion mewn perthynas â diwygio’r dreth gyngor yw nad ydynt yn mynd i ddigwydd ar unwaith ac na fydd angen ailbrisio ein holl eiddo yng Nghymru er mwyn rhoi’r blociau adeiladu i ni ar gyfer yr ailbrisio. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi gwneud rhywfaint o waith ar ein cyfer gan edrych ar y goblygiadau posibl, a chredwn y bydd mwy o bobl ar eu hennill, naill ai drwy gael gostyngiad yn eu treth gyngor neu drwy gael eu treth gyngor yn aros yr un fath, nag sydd o bobl a fyddai'n wynebu cynnydd. Rydym yn meddwl am drefniadau pontio ar gyfer y bobl a allai wynebu cynnydd, ac mae hynny'n rhan o'n hymgynghoriad hefyd. Ond ar hyn o bryd, mae a wnelo hyn â phrofi ein syniadau a chasglu cymaint o ymatebion i'r ymgynghoriad ag y gallwn. Rydym wedi cael 900 hyd yn hyn, felly mae wedi bod yn hynod boblogaidd, ond rydym am glywed gan gynifer o bobl gyda chymaint o safbwyntiau â phosibl.

O ran heriau uniongyrchol yr argyfwng costau byw, hoffwn dynnu sylw pawb at ein cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor. Gwyddom fod yna bobl ledled Cymru nad ydynt yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo drwy'r cynllun hwnnw. A gall pobl ymweld naill ai â gwefan eu cyngor neu wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybod mwy a gweld sut y gallant wneud cais am y cymorth hwnnw oherwydd, fel y dywedaf, nid yw pawb sydd â hawl iddo'n manteisio arno.

Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro fod angen diwygio’r dreth gyngor. Mae wedi dyddio, mae'n anflaengar, ac mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn cydnabod hyn. Y cynigion y cytunwyd arnynt ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yw’r cam cyntaf i newid system y dreth gyngor i un sy’n decach ac yn fwy blaengar gan barhau i gefnogi’r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Ond gyda’r argyfwng costau byw yn cydio a chan wybod bod ôl-ddyledion y dreth gyngor eisoes yn broblem sylweddol ac yn debygol o waethygu, pa sgyrsiau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda rhanddeiliaid perthnasol ynglŷn â'r posibilrwydd o goelcerth dyledion, gan faddau dyledion y rheini sydd ag ôl-ddyledion? Gwn y byddai hynny’n gwneud cryn dipyn i helpu cynifer o bobl yng Nghymru heddiw.

Rwy’n cydnabod hefyd fod hwn yn faes cydweithio pwysig rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Rwy’n ddiolchgar iawn i Cefin Campbell yn arbennig am y gwaith y mae wedi’i wneud i helpu i lunio’r syniadau ar gyfer treth gyngor a fydd yn ailgydbwyso baich trethi ar aelwydydd ac yn ariannu’r gwasanaethau y mae pawb yn elwa ohonynt, ac sy’n cysylltu pobl â’u cymunedau, ac sy'n cynnwys diweddariadau rheolaidd i'w chadw'n deg yn y dyfodol.

Credaf mai’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i gefnogi pobl ar hyn o bryd yw sicrhau bod pawb sydd â hawl i gymorth drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor yn gallu cael y cymorth hwnnw—ac fel y dywedais, ceir llawer o bobl nad ydynt yn ei gael—yn ogystal â gweithio gydag awdurdodau lleol ar eu dull o weithredu ar ôl-ddyledion. Felly, rydym wedi mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithredu ar hynny. Mae'r awdurdodau lleol eu hunain wedi llunio set o ganllawiau a phecyn cymorth i'w helpu i fabwysiadu dull o'r fath sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac i archwilio gyda'r unigolyn i weld a oes mwy y gallent fod yn ei wneud.

Yn syml iawn, mae coelcerth dyledion yn anfforddiadwy ar hyn o bryd, oni bai, wrth gwrs, y gall Plaid Cymru nodi meysydd lle y gallwn fynd ag arian o gyllideb Llywodraeth Cymru i gefnogi hynny. Rwyf bob amser yn agored i’r trafodaethau a’r syniadau hynny, ond ar hyn o bryd, credaf fod a wnelo hyn â sicrhau bod gennym gynifer o bobl â phosibl yn cael y cymorth, gan ostwng eu biliau i ddim o bosibl, yn ogystal â chefnogi'r rheini sydd mewn dyled i gael rhaglen ymarferol i dalu'r dyledion hynny yn ôl i'r cyngor.

13:35

Rwy'n croesawu'r agenda ddiwygio bresennol i addasu'r system dreth bresennol sydd gennym a'i gwneud ychydig yn fwy blaengar, ac mewn gwirionedd, mae’n hen bryd gwneud hynny, ond dyna pam fy mod hefyd yn cael llythyrau gan fy etholwyr, gan y bydd bob amser rhai pobl yn ennill a rhai'n colli, ac mae gennyf rai etholwyr yn poeni y byddant yn colli mewn perthynas â hyn, ond mae'n hen bryd gwneud hyn. Ond a gaf fi ofyn i’r Gweinidog, yn fwy hirdymor, a oes diddordeb gan Lywodraeth Cymru o hyd, gyda phleidiau eraill hefyd, yn y trafodaethau ynghylch treth diwygio tir, newid sylfaenol i’r system, yn fwy hirdymor wrth gwrs, neu ryw fath o fodel hybrid? Gwyddom fod arbrofion wedi'u cynnal ledled y byd ar hyn, ond fersiwn Gymreig o hyn, yn sicr, yn fwy blaengar, yn fwy teg, a rhywbeth hefyd sy'n dreth ar gyfoeth y tirfeddianwyr, yn hytrach na threth ar fuddsoddi yng ngwerth ychwanegol y tir hwnnw, fel nad yw’n ddatgymhelliad i entrepreneuriaeth. A yw hynny'n dal ar yr agenda?

Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le ei bod yn hen bryd diwygio. Mae'n rhywbeth y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd wedi'i nodi yn ei adroddiad. Dywedodd fod y dreth gyngor wedi dyddio, yn anflaengar ac yn afluniol, ac rydym yn cydnabod hynny oll. Roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn cydnabod mai ni yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig erioed sydd wedi ailbrisio ei sylfaen dreth gyngor, ond serch hynny, rydym yn dal i fod ymhell ar ei hôl hi. A chredaf y bydd y gwaith a wnawn yn cymryd tymor cyfan y Senedd hon er mwyn cyflawni ein diwygiadau i’r dreth gyngor, ond nid yw hynny'n golygu nad ydym yn meddwl am ddiwygiadau mwy radical a sylfaenol ar gyfer y dyfodol hefyd. Felly, ochr yn ochr â'r gwaith a gyflawnwn ar ailbrisio, a'r gwaith arall sydd ynghlwm wrth hynny, gan gynnwys edrych ar ein cymorth a'n heithriadau a'n premiymau ac ati, rydym hefyd yn parhau â'r gwaith ar y dreth gwerth tir, i archwilio beth y gallai hynny ei olygu i Gymru, sut y gallai weithredu, a hefyd, yn arbennig, gyda diddordeb yn y lle cyntaf, efallai, yn y modd y gallai weithredu ym maes ardrethi annomestig. Felly, credaf fod llawer o botensial yno, ond hoffwn roi sicrwydd i'm cyd-Aelodau sydd â diddordeb cryf yn hynny ei fod yn dal i fod yn rhan o'n harchwiliadau.

Y Gronfa Ffyniant Bro

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thrysorlys EF ynglŷn â chronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU? OQ58438

Mae Llywodraeth y DU wedi diystyru Llywodraeth Cymru a’r Senedd mewn perthynas â'r gronfa hon, sy’n methu mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol parhaus ledled y DU. Dro ar ôl tro, rwyf wedi sôn wrth gyfres o Gangellorion a Gweinidogion y Trysorlys am y tarfu a’r golled sylweddol o gyllid cyffredinol sy’n effeithio ar gymunedau, busnesau ac elusennau yng Nghymru.

Ac mae'n achosi problem wirioneddol; mae’r newid arweinyddiaeth yn y Trysorlys ac yn y Llywodraeth wedi arwain at lawer o ansicrwydd, er bod ansicrwydd yno eisoes. Ar hyn o bryd, mae gennym Lywodraeth sy'n rhoi eu troed ar y sbardun a'r brêc ar yr economi ar yr un pryd, ac yn gorweithio'r injan—nid yw'n syndod nad ydynt wedi denu sylw at godi'r gwastad. Efallai eu bod wedi denu sylw at godi'r gwastad—codi'r gwastad i fancwyr, ond nid codi'r gwastad i'n cymunedau. [Torri ar draws.] Efallai nad ydych yn hoffi hynny, ond dyna'r gwir. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gallu cael rhywfaint o’r cyllid, ond y broblem yw bod terfynau amser tynn iawn ynghlwm wrtho, ac mae hynny’n cynyddu faint o risg ac ansicrwydd sy’n gysylltiedig â'r gwaith o ddarparu’r cyllid. Mae'n rhaid iddynt wario'r arian hwnnw yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ond mae'r cyngor a'r ffordd y caiff yr arian ei ddarparu'n ansicr iawn. Felly, a wnaiff y Gweinidog ei gorau i godi hyn gyda Llywodraeth y DU? Mae cyngor Caerffili yn chwarae eu rhan, ac mae'n bryd bellach i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan hithau.

Rwy'n fwy na pharod i barhau i gyflwyno’r dadleuon hyn ynghylch y gronfa ffyniant bro a’r gronfa ffyniant gyffredin i Lywodraeth y DU. Mae gennym gyfarfod nesaf y pwyllgor sefydlog rhyngweinidogol, sef y cyfarfodydd pedairochrog gynt, lle mae holl Weinidogion cyllid y DU yn dod ynghyd, ac rydym wedi gofyn yn benodol am drafodaeth ar arian newydd yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r terfynau amser byr yn bryder gwirioneddol. Wrth gwrs, gyda chyllid Ewropeaidd, byddech yn proffilio'r gwariant dros nifer o flynyddoedd, a chredaf fod y terfynau amser byr ar gyfer ceisiadau a chyflawni yn destun cryn bryder. Yn ogystal â hynny, mae maint y gronfa'n destun cryn bryder hefyd. Gwn fod Caerffili wedi gwneud cais am fwy na £66 miliwn o gyllid drwy ail rownd y gronfa ffyniant bro, ond nid yw’r gronfa ei hun ond yn werth £800 miliwn ar gyfer yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, felly ychydig iawn y bydd yn ei wneud i godi'r gwastad, ac rydym yn ofni y gallai nifer o awdurdodau lleol gael eu siomi mewn perthynas â'r ceisiadau y maent wedi'u cyflwyno. Ond yn sicr, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU—rwy'n gwneud hynny gyda fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, sy'n arwain ar hyn—i gael dull mwy amserol, ac i gynyddu lefel y cyllid sydd ar gael drwy'r cronfeydd hyn.

13:40

Mae agenda ffyniant bro Llywodraeth y DU wedi darparu buddion sylweddol i ganolbarth Cymru, gyda chyfanswm o £22 miliwn yn cael ei fuddsoddi ym Mhowys yng nghyllideb yr hydref diwethaf ar gyfer elfennau o ofal cymdeithasol, twristiaeth a thai, y mae gwir angen y rhan fwyaf ohonynt yn fy nghymuned. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod cyllid o'r fath gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn hwb enfawr i gymunedau gwledig, arian na fyddai byth wedi’i ddarparu gan yr UE na Llywodraeth Cymru o dan hen systemau ariannu biwrocrataidd, gan fod Llywodraeth Geidwadol y DU yn awyddus i godi'r gwastad, a chithau ond yn awyddus i ostwng y gwastad?

Wel, roeddwn yn meddwl tybed ble i ddechrau gyda’r cyfraniad hwnnw, gan y gwyddom fod y fethodoleg yn unig yn golygu y bydd Cymru’n cael £1 biliwn yn llai mewn arian newydd gan y Deyrnas Unedig o gymharu â’r hyn y byddem wedi’i gael gan yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae Cymru ar ei cholled yn llwyr yn hyn. Ac os ydych yn credu bod £20 miliwn mewn un ardal o Gymru yn gyfystyr â llwyddiant mawr yn sgil y gronfa, mae hynny'n gwbl chwerthinllyd, gan fod swm y cyllid sydd bellach yn dod i Gymru gymaint yn llai nag y gallai fod, a byddwn yn gallu gwneud llai o lawer ledled Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, gwn i bethau fynd braidd yn danbaid yn y Siambr ddoe, felly hoffwn fynd yn ôl i ganolbwyntio ar sut y gallwn helpu economi Cymru a busnesau Cymru i symud ymlaen. Yn eich datganiad ddoe, fe wnaethoch awgrymu nad oeddech yn cefnogi’r syniad o barthau buddsoddi, er fy mod yn derbyn y byddwch yn cael mwy o sgyrsiau gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'r rhain. Credaf fod gan y parthau hyn botensial i hybu twf busnes a swyddi crefftus iawn yn yr ardaloedd sydd eu hangen fwyaf. Yn hytrach na chael gwared ar weithgarwch economaidd, os cânt eu cynllunio yn y ffordd gywir, gallent fod yn gyfle inni ledaenu buddsoddiad a dyhead ledled y wlad. Mae ganddynt botensial hefyd i ategu rhai o’r bargeinion twf eraill, bargeinion dinesig, a phorthladdoedd rhydd posibl hefyd. Nawr, gwn fod ein profiad gydag ardaloedd menter wedi bod yn gymysg ledled Cymru, ond mae lle felly i gynlluniau mwy uchelgeisiol roi hwb i ddatblygu. Fel y dywedodd Ben Francis, cadeirydd polisi Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru,

'Ni all Cymru fforddio cael ei gadael ar ôl yn y genhadaeth i hybu cystadleurwydd rhanbarthol.'

Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i ni eich bod yn bwriadu mabwysiadu agwedd agored tuag at y posibilrwydd o sefydlu parthau buddsoddi yng Nghymru, ac os ydych yn erbyn parthau buddsoddi, beth yw strategaeth Cymru? Sut y mae Gweinidogion yn bwriadu defnyddio eu hysgogiadau i sicrhau'r lefelau o dwf economaidd sydd eu hangen i oresgyn yr heriau presennol ac i sicrhau dyfodol mwy disglair i’n cymunedau?

Wel, rydym yn amheus iawn ynghylch y manteision y gallai parthau buddsoddi eu darparu, gan ein bod yn anghytuno â’ch dadansoddiad yn yr ystyr ein bod yn credu bod parthau buddsoddi’n tueddu i dynnu buddsoddiad oddi wrth rai ardaloedd, gan gael gwared ar weithgarwch economaidd o’r ardaloedd lle mae ei angen fwyaf. A dyna oedd un o'n pryderon ynghylch y porthladdoedd rhydd hefyd.

Rydym yn agored, wrth gwrs, i gael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn i glywed beth yn union yw eu cynnig. Credaf ei bod yn drueni na chawsant drafodaethau gyda ni cyn y cyhoeddiad, gan gofio, os ydynt am roi'r polisi hwn ar waith yng Nghymru, y bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda hwy yn yr ystyr fod ardrethi annomestig wedi'u datganoli i Gymru, mae’r dreth trafodiadau tir wedi’i datganoli i Gymru, mae cynllunio wedi’i ddatganoli i Gymru. Felly, bydd angen yr holl arfau hynny arnynt er mwyn creu'r parthau buddsoddi hynny. Wrth gwrs y byddwn yn cael y sgyrsiau, ond credaf mai ein man cychwyn yw ein bod yn amheus ynghylch y manteision y gallent eu darparu.

Diolch, Weinidog. Credaf mai’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i brofi, drwy ei thrafodaethau a’i gweithredu ar borthladdoedd rhydd gyda Llywodraeth Cymru, yw eu bod yn barod i siarad a gweithio gyda chi. Felly, rwy'n siŵr y gall hynny ddigwydd gyda'r parthau eraill hefyd.

Lywydd, rydym wedi clywed llawer am yr argyfwng ynni dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n croesawu cynllun rhyddhad ar filiau ynni Llywodraeth y DU yn fawr. Mae hyn yn rhywbeth sy’n amlwg yn cynnig sicrwydd i fusnesau ac yn darparu cymorth gwerthfawr ar adeg anodd. Ond mater nad oes llawer o sôn wedi bod amdano yw’r argyfwng costau gwneud busnes, fod gorbenion busnes wedi cynyddu, gan leihau elw a rhoi mwy o bwysau ar fusnesau. Mae problemau o’r fath yn cael effaith ar bob rhan o’r economi, gyda’r baromedr busnes diweddaraf gan Fanc Lloyds yn dangos bod cwmnïau o Gymru wedi nodi bod ganddynt lai o hyder yn eu rhagolygon busnes eu hunain o un mis i'r llall, i lawr 37 pwynt ar 4 y cant. Mae busnesau wedi awgrymu wedyn y bydd angen cymorth ariannol ychwanegol arnynt yn ogystal â chymorth ar gyfer costau ynni i'w helpu drwy'r cyfnod hwn.

Weinidog, pa drafodaethau a gynhaliwyd gennych gyda busnesau a chyrff busnes am yr help sydd ei angen arnynt, a sut y bydd hyn yn bwydo i mewn i'ch cyllideb yr hydref hwn? Er enghraifft, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i gyflwyno cynllun dewisol mewn partneriaeth â chynghorau, yn debyg i’r hyn a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig? Ac yn olaf, pa sgyrsiau a gawsoch gyda’ch swyddogion cyfatebol ar lefel y DU am ffyrdd y gellir rhoi cymorth wedi’i addasu ar gyfer pobl hunangyflogedig, gan gydnabod y pryderon penodol sydd ganddynt ar hyn o bryd?

13:45

Wel, i orffen y darlun, am wn i, ar y cwestiwn diwethaf, gan ichi sôn am borthladdoedd rhydd, dylwn fod wedi ychwanegu hefyd y byddai unrhyw drafodaethau ac unrhyw gytundeb y gallem ddod iddo, wrth gwrs, yn dilyn ein hymagwedd at borthladdoedd rhydd, lle nad oeddem yn fodlon derbyn unrhyw wanychu ar ein safonau amgylcheddol na’n hymagwedd at waith teg. Felly, bydd y pethau hynny’n hollbwysig mewn unrhyw drafodaethau a gynhelir yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU.

Ond rhannaf eich pryderon am effaith yr argyfwng ynni, a’r helbul economaidd ehangach, bellach, ar fusnesau ledled Cymru. Bydd cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn gwneud rhywfaint i gefnogi busnesau, ond ni chredaf fod rhoi gwarant am chwe mis yn ddigon o bell ffordd, ac mae llawer o ansicrwydd ynglŷn â'r hyn a ddaw ar ôl y cyfnod hwnnw o chwe mis.

Cyn datganiad bach y Canghellor, ysgrifennais ato i ofyn am gamau brys i fynd i’r afael â’r bylchau sylweddol yn y cymorth i fusnesau, ymhlith sectorau eraill, ac yn amlwg, nid oedd unrhyw beth ar y ffordd i fusnesau mewn gwirionedd, y tu hwnt i’r cyhoeddiad ar y cap ynni gan Lywodraeth y DU. Credaf eu bod wedi ailgyhoeddi rhywbeth ar rewi'r lluosydd, a oedd eisoes wedi'i ymgorffori yn eu cynlluniau a'n cynlluniau ninnau, felly roedd hynny'n amlwg yn siomedig.

Wrth gwrs, byddwn yn parhau i gael trafodaethau. Roedd cynrychiolydd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain mewn cyfarfod partneriaid cymdeithasol ar yr argyfwng costau byw y bore yma, gyda mi, y Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac eraill, ac roedd hwnnw’n gyfarfod hynod bwysig a defnyddiol. Gwn fod fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, yn cyfarfod yn aml iawn â chynrychiolwyr busnes hefyd. Ac wrth gwrs, bydd cymorth i fusnesau ar frig yr agenda yn ein trafodaethau unwaith eto pan fyddwn yn cyfarfod fel grŵp o Weinidogion yn ein grŵp rhyngweinidogol nesaf.

Diolch, Weinidog. Rwy’n dal i fod ychydig yn bryderus gan nad ymddengys fod gan Lywodraeth Cymru strategaeth glir ar sut y maent yn mynd i gefnogi busnesau yn benodol i symud ymlaen ar adeg anodd iawn. Gwn eich bod eisoes yn adolygu dyfodol ardrethi annomestig yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld eich awgrymiadau maes o law, ond gwyddom hefyd, ar hyn o bryd, fod ardrethi'n uwch yma yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU, tra bo lluosydd Cymru eisoes ar ei lefel uchaf erioed. Ond ychwanegwch y pryderon am yr effaith y bydd y lefel uchel bresennol o chwyddiant yn ei chael ar ardrethi busnes at y pryderon presennol, ac mae’n amlwg pam fod y sector yn galw am gymorth brys i leddfu’r pwysau arnynt. A bod yn deg, hoffwn groesawu’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi eisoes, yn enwedig yn ystod COVID, ond yn amlwg, mae arnom angen dull newydd o weithredu trethi busnes sy’n cymell yn hytrach na datgymell twf a chreu swyddi.

Yn y tymor byr, Weinidog, a ydych yn cytuno â galwadau arnoch gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru i ddefnyddio’r gyllideb sydd gennych ar y ffordd i rewi ardrethi busnes, o leiaf, er mwyn cefnogi manwerthwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn? Ac yn fwy hirdymor, a wnewch chi ystyried edrych ar ffyrdd mwy arloesol o annog twf busnes, megis dull graddedig o gyflwyno ardrethi busnes ar gyfer busnesau newydd a chynlluniau rhyddhad ar gyfer busnesau sydd am ehangu i safleoedd ychwanegol a chyflogi gweithwyr a phrentisiaid newydd? Diolch.

Felly, ar fater ardrethi annomestig, rwy'n falch fod yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar wedi cael croeso cynnes, ac edrychaf ymlaen at ddarllen yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw. O ran yr hyn y gallem fod yn ei gynllunio yn awr ar gyfer ein cyllideb, y byddwn yn ei chyhoeddi ganol mis Rhagfyr, fe fyddwch wedi clywed y datganiad gan y Canghellor ddydd Llun wrth gwrs nad oes unrhyw fwriad yn awr i gyflwyno cyllideb tan y gwanwyn. Felly, rydym yn gweithio ar y sail y bydd ein cyllideb yn sefydlog, yn y bôn, o'r hyn y cytunwyd arno yn ein cynlluniau gwariant tair blynedd y llynedd. Felly, nid ydym yn ystyried sefyllfaoedd lle bydd gennym arian ychwanegol i'w ddyrannu, ac ar y sail honno y gofynnaf i'm cyd-Aelodau, ac eraill o'r tu allan i'r Senedd, pan fyddant yn gofyn am gyllid ychwanegol ar gyfer gwahanol feysydd, yn enwedig y rheini a fyddai'n costio cannoedd o filiynau o bunnoedd, fel yr hyn yr ydych newydd ei ddisgrifio, mae angen inni nodi o ble yn ein cynlluniau presennol y byddem yn symud yr arian hwnnw. Oherwydd hoffwn nodi'n glir iawn fod ein cynlluniau ar hyn o bryd yn seiliedig ar ein cyllideb yn aros yn sefydlog, ac nad oes cyllid ychwanegol ar gael i'w gyhoeddi yn ein cyllideb ddrafft. Felly, credaf fod hynny'n gyd-destun pwysig i bob un ohonom. Yr unig gam sylweddol a welwn ar hyn o bryd fyddai ad-dalu cyllid y cyfraniadau yswiriant gwladol, na fydd angen i gyflogwyr eu talu bellach wrth gwrs, felly cafodd hynny ei gynnwys yn yr adolygiad o wariant, ac rwy'n credu y bydd angen i hynny fynd yn ôl i San Steffan.

13:50

Diolch yn fawr, Llywydd. Gwnes i godi gyda chi ddoe, Gweinidog, yr angen i'r Llywodraeth ddefnyddio, nawr, y pwerau sydd gennych chi i amddiffyn y radd sylfaenol o dreth incwm yng Nghymru, er mwyn amddiffyn y gwasanaethau allweddol, wrth gwrs, y bydd nifer o bobl fregus yn dibynnu arnyn nhw yn ystod y cyfnod anodd sydd o'n blaenau ni. Wnaethoch chi ddim ateb fy nghwestiwn i bryd hynny, ond fe ddywedoch chi, ac rŷch chi wedi dweud yn gyson, fod cynlluniau'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn regressive ac yn annheg. 'It embeds unfairness' mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud, ac mae e'n iawn, wrth gwrs. Ond mae hynny yr un mor wir am y toriad yn y radd sylfaenol hefyd, onid yw e? Achos mi fydd miliynyddion ar eu hennill o hyn, ac, unrhyw un sy'n ennill mwy na £50,000, mi fyddan nhw'n cael o leiaf pum gwaith yn fwy o fudd o weld ceiniog oddi ar y radd sylfaenol na rhywun, dyweder, sydd ar £20,000 y flwyddyn. A bydd mwyafrif ein pensiynwyr ni, ac unrhyw un sydd ddim yn ennill digon i dalu treth incwm, sef y tlotaf mewn cymdeithas, fyddan nhw ddim yn gweld budd uniongyrchol o hyn. Ond, wrth gwrs, nhw fydd y cyntaf i weld ac i deimlo effaith y colli gwasanaethau a ddaw yn ei sgil e. Felly, os nad ŷch chi'n barod i ymrwymo i gadw'r radd sylfaenol o dreth incwm ar 20c yng Nghymru, a wnewch chi o leiaf gadarnhau eich bod chi'n cytuno nad yw defnyddio toriad yn y radd sylfaenol yn ffordd sydd wedi'i thargedu'n ddigonol i gynorthwyo'r rhai mwyaf anghenus a bregus mewn cymdeithas?

Mae Llyr Gruffydd yn llygad ei le nad atebais ei gwestiwn ddoe, a sylweddolais hynny'n syth ar ôl imi orffen siarad. Ond roeddwn yn falch o allu ateb yr un cwestiwn, a godwyd gan ei gyd-Aelod, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yn yr un sesiwn. Ac ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedais ddoe, yn yr ystyr fod gan Lywodraeth Cymru broses sefydledig ar gyfer ymdrin â'r gwaith o osod cyfraddau treth incwm Cymru. Rydym yn cyhoeddi ein cynlluniau, rydym yn dod â hwy i'r Senedd, rydym yn eu dadlau ac rydym yn pleidleisio arnynt yma, ac mae hynny fel arfer yn digwydd ochr yn ochr â'n cyllideb derfynol. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i ddweud rhagor heddiw. Yn amlwg, bydd ystyriaethau a thrafodaethau i’w cael cyn hynny, ond yn sicr, bydd hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod ac yn pleidleisio arno fel Senedd maes o law. Ond ni chredaf fod y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ddydd Gwener yn golygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad cynnar, er fy mod yn deall y pwyntiau a wnaed.

Wel, does bosib eich bod chi wedi pwyso a mesur rhywfaint ar y mater yma. Roedd gradd sylfaenol, neu doriad yn y gradd sylfaenol, yn mynd i ddigwydd o 2024 o dan gynlluniau Rishi Sunak, wrth gwrs. Felly, onid oeddech chi eisoes wedi dechrau ystyried neu asesu a oedd yr amser wedi dod i ddefnyddio'ch pwerau chi o ran graddfeydd treth incwm Cymreig? Oes yna fodelu wedi, neu yn, neu ar fin digwydd i hysbysu'r drafodaeth honno? Oherwydd, ar un llaw, rŷch chi'n cwyno'n barhaol am y diffyg mewn cyllid i gynnal gwasanaethau—rŷch chi wedi gwneud hynny eto yn gynharach y prynhawn yma—ond, ar y llaw arall, mae'n ymddangos eich bod chi'n gyndyn nid i godi'r treth yn y sefyllfa yma, ond i gadw'r treth ar ei lefel bresennol, rhywbeth fyddai, wrth gwrs, yn cynhyrchu dros £200 miliwn i helpu amddiffyn gwasanaethau iechyd, gofal, addysg yng Nghymru rhag y toriadau rŷch chi'n cwyno amdanyn nhw. Onid oes yna wrth-ddweud mawr eich bod chi'n gyndyn ar un llaw i edrych o ddifrif ar lefel y dreth yng Nghymru o fewn y pwerau sydd gennych chi, tra, ar y llaw arall, yn cwyno does yna ddim digon o bres yn y coffrau?

13:55

Wel, rydym yn ystyried ein holl ysgogiadau treth ar bob pwynt ar draws y cyfraddau a’r bandiau y gallwn eu pennu yng nghyfraddau treth incwm, treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi Cymru, wrth edrych hefyd ar y trethi lleol sydd gennym yma yng Nghymru. Felly, mae’r holl bethau hyn yn cael eu hadolygu’n gyson. Wrth gwrs, rydym yn gwneud y gwaith modelu i ddeall beth fyddai effaith gwahanol ddewisiadau. Gwnaeth y Pwyllgor Cyllid waith pwysig iawn yn flaenorol a edrychai ar oblygiadau codi’r gyfradd ychwanegol ar y pryd, a chredaf fod hynny'n eithaf defnyddiol ar gyfer mynd i’r afael â’r hyn sy'n rhywbeth newydd iawn i ni, wrth gwrs. Dim ond ers 2019 y bu gennym gyfraddau treth incwm Cymreig yma yng Nghymru, ac rydym yn dechrau deall beth y gallai’r opsiynau fod ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, rydym yn ystyried yr holl bethau hyn bob amser, ond yr hyn nad wyf am ei wneud yw gwneud unrhyw gyhoeddiadau y tu allan i'n proses gyllidebol arferol.

Lleoedd Gofal Plant

3. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ddigonolrwydd lleoedd gofal plant wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23? OQ58454

Iawn. Mae darpariaeth cymorth gofal plant digonol yn un o’n polisïau allweddol i gefnogi teuluoedd. Roedd y gyllideb derfynol ddiweddaraf yn cynnwys cynnydd o £100 miliwn i dalu am raglenni cyfalaf a refeniw gofal plant a Dechrau’n Deg ar gyfer y cyfnod cyllideb tair blynedd presennol.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig yw gofal plant i deuluoedd, yn enwedig teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd, a pha mor bwysig yw hi i’n rhieni a’n gofalwyr ddychwelyd i’r gwaith. Felly, tybed a wnewch chi ystyried ymestyn y ddarpariaeth gofal plant fel bod pob plentyn naw mis oed a hŷn yn gallu cael gofal plant am ddim. Diolch yn fawr iawn.

Lywydd, fe ofynnaf i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros ofal plant a darparu gofal plant, roi ateb ysgrifenedig i'r cwestiwn hwn efallai, gan nad yw’r rheini’n drafodaethau rwyf wedi’u cael yn uniongyrchol gyda’r Gweinidog, a chredaf y byddai hynny'n ddewis polisi iddi hi ei wneud. Felly, ymddiheuriadau na allaf roi ateb manylach.

Blaenoriaethau Gwario ar gyfer Preseli Sir Benfro

4. Beth yw blaenoriaethau gwario'r Gweinidog ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf? OQ58431

Mae fy mlaenoriaethau wedi’u nodi yn ein rhaglen lywodraethu a’n cyllideb ar gyfer 2022-23; mae paratoadau ar gyfer cyllideb 2023-24 yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Er gwaethaf y cyd-destun cyllidol heriol, byddwn yn gwneud yn siŵr fod ein blaenoriaethau gwariant yn cael cymaint o effaith â phosibl er mwyn sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Nawr, yn rhagair strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi yn seilwaith Cymru, fe ddywedoch ei bod yn

'hanfodol manteisio i’r eithaf ar y rhan mae seilwaith yn ei chwarae, a bod gennym y seilwaith i gefnogi’r Gymru mae arnom eisiau ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.'

Ac rwy'n cytuno'n gryf â’r datganiad hwnnw.

Nawr, un prosiect seilwaith y bûm yn ymgyrchu drosto ers sawl blwyddyn bellach yw pont droed ar yr A487 drwy Gwm Abergwaun, ond ychydig o gynnydd a wnaed, er gwaethaf ymrwymiadau parhaus gan Weinidogion olynol Llywodraeth Cymru i edrych ar y mater. Weinidog, mae’n hanfodol fod diogelwch cerddwyr yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, felly a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am y mathau hyn o brosiectau, ac o ystyried eich sylwadau yn y strategaeth buddsoddi yn y seilwaith, a wnewch chi gadarnhau y bydd cyllid ar gael fel bod cynlluniau diogelwch cerddwyr fel hyn yn gallu mynd rhagddynt yn y dyfodol?

Rwy’n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac yn sicr, byddaf yn trafod yr achos penodol a godwch gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ond mae diogelwch cerddwyr a chynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn amlwg yn bwysig i ni, ynghyd â'n cynlluniau teithio llesol, sydd, wrth gwrs, yn cefnogi cerddwyr a beicwyr a defnyddwyr eraill hefyd. Felly, byddwch wedi gweld bod ein buddsoddiad mewn teithio llesol yn arbennig wedi cynyddu’n fawr iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn iddo. Rydym yn siomedig ar y cyfan gyda lefel y cyllid cyfalaf sydd ar gael i ni. Mae'n cwympo ym mhob un o dair blynedd cyfnod yr adolygiad o wariant. Roeddwn yn siomedig iawn na chyhoeddwyd cyllid cyfalaf ychwanegol yn y gyllideb fach yr wythnos diwethaf; byddai hynny wedi bod yn gyfle gwirioneddol i chwistrellu buddsoddiad i seilwaith ein cymunedau. Ond mae'n rhywbeth yr ydym yn parhau i alw amdano. Ond byddaf yn trafod yr achos penodol hwn wrth inni barhau i ddadlau'r achos dros gyllid cyfalaf ychwanegol.

14:00
Perfformiad Llywodraeth Leol

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella perfformiad llywodraeth leol o ran darparu gwasanaethau lleol? OQ58435

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi sefydlu gweithdrefn berfformio newydd i ysgogi gwelliant mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Ochr yn ochr â hyn, rwyf wedi cytuno i ddarparu cyllid o £800,000 ar gyfer rhaglen wella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi gwelliant corfforaethol o fewn cynghorau.

Diolch am eich ymateb cychwynnol, Weinidog. Fel rwy'n siŵr y byddwch yn ei gydnabod, mae cynghorau'n aml ar y rheng flaen gyda'r gwahanol fathau o bwysau y mae cymunedau'n eu hwynebu ar hyn o bryd, sydd, wrth gwrs, yn cael effaith ganlyniadol ar bwysau o fewn cynghorau. Rwy'n siŵr eich bod wedi nodi erthygl y BBC dros y penwythnos, lle'r oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr cynghorau'n tynnu sylw at rai o'r problemau sy'n eu hwynebu. Nawr, mae rhai o'r rhain, wrth gwrs, yn ariannol, ond mae peth o'r pwysau i'w deimlo mewn ffyrdd eraill hefyd, boed drwy anawsterau gyda recriwtio ar adegau neu bwysau'n ymwneud â thai—rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn y galw yn y meysydd hynny. Ond mae hyn oll tra bod awdurdodau lleol yn gorfod ymdrin â rhaglen ddeddfwriaethol newydd, gan achosi mwy o bwysau'n aml a mwy o alw am amser swyddogion. Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod angen cydbwysedd clir rhwng angen a chapasiti i awdurdodau lleol allu cyflawni, ac rwy'n gwybod bod pryder o fewn awdurdodau lleol fod faint o ddeddfwriaeth newydd sy'n rhaid iddynt ei chyflawni yn rhoi pwysau sylweddol arnynt wrth iddynt geisio darparu eu gwasanaethau hanfodol. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, a oes unrhyw gamau uniongyrchol y byddwch yn eu cymryd o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol i wneud yn siŵr fod capasiti gan ein cynghorau i ddarparu'r gwasanaethau y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt?

Un o'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu yw lleihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, felly rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith hwnnw drwy gysylltu â'r awdurdodau lleol, arweinwyr, prif weithredwyr a rhai o fewn Cymdeithas Trysoryddion Cymru ac eraill er mwyn deall yr hyn y maent yn ei ystyried yn faich gweinyddol penodol. Felly, byddwn yn edrych ymlaen at yr adroddiad, ac rwy'n deall fod disgwyl iddo gael ei gyhoeddi—. Mae'n debyg y bydd yn cymryd mis neu ddau o leiaf, ond pan ddaw, bydd yn ein helpu i nodi'r meysydd lle gallwn wneud newidiadau pragmataidd ac ymarferol i helpu i leihau'r baich gweinyddol hwnnw.

Rydym wedi rhoi rhywfaint o arian i awdurdodau lleol i helpu gyda'r gwaith o sefydlu'r cyd-bwyllgorau corfforedig—£100,000 i bob cyd-bwyllgor corfforedig rwy'n credu—er mwyn helpu gyda rhai o'r costau hynny a gweithredu'r ddeddfwriaeth honno. Ond unwaith eto, os oes meysydd penodol o bryder lle gallai fod ffyrdd i Lywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol, efallai drwy ddarparu arbenigedd neu ddod o hyd i ffordd o sicrhau mai dim ond unwaith y caiff pethau eu gwneud, yn amlwg byddwn yn awyddus i ddeall beth yw'r problemau penodol hynny a gallwn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i helpu.

Weinidog, gallai tua £45 biliwn o ostyngiadau treth i bobl a busnesau erbyn 2027 fod wedi talu am gynnydd o 19 y cant yn y sector cyhoeddus, ar wella gwasanaethau, llenwi swyddi gwag a thyfu'r economi yma yng Nghymru lle mae bron i draean y bobl yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus. Weinidog, nid yw'r gyllideb fach gan Lywodraeth y DU yn gwneud fawr ddim i helpu'r sector cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, i ymdopi â phwysau chwyddiant a recriwtio gweithlu i ddarparu gwasanaethau lleol lle mae eu hangen yn fwy nag erioed yn awr. Weinidog, pa gynlluniau sydd gennych i helpu gyda recriwtio a'r pwysau y mae llywodraeth leol yn ei wynebu, fel y gallant barhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am godi hynny ac wrth gwrs, rwy'n credu mai un o effeithiau mwyaf y datganiad a wnaed ddydd Gwener diwethaf fydd y ffaith nad oedd dim byd o gwbl ynddi i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud ddoe fod cyllideb Llywodraeth Cymru, ar draws y tair blynedd yma, yn werth hyd at £4 biliwn yn llai na phan wnaethom osod ein cynlluniau gwario, ac yn amlwg mae hynny'n cael sgil-effaith ar lywodraeth leol a'r penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid iddynt eu gwneud dros yr hydref a'r gaeaf, yn ogystal â'r flwyddyn ariannol nesaf. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddod o hyd i gyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Fe fydd gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol dros y ffin yn cyflwyno'r un dadleuon i Lywodraeth y DU a gorau po gyntaf y byddant yn deffro ac yn cydnabod bod yn rhaid iddynt gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn gallu darparu'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw wedyn i gefnogi ein hawdurdodau lleol ac iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Cyd-bwyllgorau Corfforaethol

6. Sut y bydd sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Ddinbych? OQ58429

14:05

Mae dyletswydd ar gyd-bwyllgorau corfforedig i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol. Bydd y rhain yn llywio'r modd y mae awdurdodau lleol ym mhob rhanbarth yn gweithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth diogel, integredig, effeithlon ac economaidd, gan gynnwys yn sir Ddinbych.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Er bod cyfarwyddyd ar gyfer gwasanaethau bysiau yn sir Ddinbych, mae diffyg arweiniad ar gyfer gwasanaethau tacsi, sydd, fel y gwyddoch, wedi'u trwyddedu gan awdurdodau lleol sy'n darparu fframweithiau rheoleiddio i gwmnïau lynu wrthynt. Cysylltodd gweithredwr tacsi lleol o'r Rhyl â mi i ddweud ei fod yn pryderu am ddiffyg strategaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cwmnïau llogi preifat pe bai cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu creu. Ac wrth gwrs, fel y gwyddom, mae'r mwyafrif helaeth o weithredwyr a gyrwyr tacsis yn fusnesau preifat sydd angen cynllunio ar gyfer y dyfodol ac sydd â llawer o weithwyr hunangyflogedig yn gweithio mewn sector sydd wedi'i reoleiddio'n helaeth, gan arwain at lawer o orbenion—er enghraifft, yr angen am ddau MOT y flwyddyn i geir a llawer o waith trin ceir, sy'n hollol gywir, ond yn y sefyllfaoedd hynny mae angen sicrhau bod canllawiau clir ar waith er mwyn i fusnesau fod yn effeithlon. Felly, Weinidog, pa arweiniad y gallwch ei ddarparu heddiw i weithredwyr tacsis yn sir Ddinbych sy'n awyddus i wybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol os bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn dod yn weithredol, fel y gallwn sicrhau bod pobl sir Ddinbych yn gallu parhau i deithio o gwmpas?

Os hoffai'r Aelod rannu'r ohebiaeth honno gyda mi, efallai y gallaf edrych arni'n fwy manwl ac ymateb i chi'n ysgrifenedig pan fyddwn wedi cael cyfle i archwilio'r pryderon ymhellach.

Cymorth Costau Byw

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â chymorth costau byw i awdurdodau lleol? OQ58420

Rwyf wedi ysgrifennu at y Canghellor a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn nodi bod rhaid rhoi'r flaenoriaeth bennaf i'r argyfwng costau byw a'r argyfwng ynni. Nid oedd cyllideb fach yr wythnos diwethaf yn cynnwys unrhyw beth ar gyfer cymorth costau byw i awdurdodau lleol.

Diolch, Weinidog. Dros doriad yr haf, bûm yn gweithio gyda'r tîm yng Nghanolfan Pentre i sefydlu siop arbennig i gefnogi trigolion ledled Rhondda drwy'r argyfwng costau byw. Mae wedi bod yn galonogol clywed bod y cymorth sydd wedi ei roi gan Lywodraeth Cymru drwy awdurdodau lleol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd pan fyddant yn ymweld â'r siop. Rydym wedi clywed straeon yn y cyfryngau am blant yn esgus bwyta allan o focsys bwyd gwag am nad ydynt eisiau i'w ffrindiau wybod nad oes bwyd gartref. Mae'r Prif Weinidog Torïaidd newydd, drwy'r gyllideb fach, yn credu mai'r ateb yw torri trethi miliwnyddion, nid cael gwared ar fonysau bancwyr, a gadael i gwmnïau ynni gadw eu helw afresymol. Nid yw'r gyllideb fach yn gwneud dim dros awdurdodau lleol ychwaith. Bellach, mae ganddynt £200 miliwn yn llai i'w wario y flwyddyn nesaf. Bydd yn amhosibl cadw'r un lefel o wasanaeth heb ymyrraeth. A wnaiff y Gweinidog barhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, ochr yn ochr â CLlLC, er mwyn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru?

Yn sicr. [Anghlywadwy.]—mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn gwneud gwaith ardderchog yn ceisio cyfleu'r heriau sylweddol a real iawn y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu i Lywodraeth y DU ac mae'r heriau hynny'n bwydo i mewn wedyn wrth gwrs i'w cymunedau a bywydau bob dydd y bobl y maent yn eu gwasanaethu yn y cymunedau hynny. Roedd y gyllideb yn gwbl ddinistriol i bobl gyffredin ac yn gwthio mwy o arian i ddwylo'r bobl nad ydynt ei angen ar hyn o bryd. Mae'n argyfwng costau byw. Roedd yn gyllideb anfoesol ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonom wedi cael ein synnu gan y gyllideb. Mae'r Ceidwadwyr y tu ôl i mi'n cwyno oherwydd eu bod i'w gweld fel pe baent yn meddwl ei bod yn gyllideb dda. Mae'n rhaid mai hwy yw'r unig rai. Byddwn i gyd wedi gweld yr ymyrraeth gan Fanc Lloegr amser cinio, wrth iddynt gamu i mewn i ddiogelu'r DU rhag ei Llywodraeth ei hun. Nid oes gennyf syniad sut y gall y meinciau y tu ôl i mi gefnogi hynny. A dyfarniad y Gronfa Ariannol Ryngwladol wrth gwrs. Yn amlwg, mae hwnnw'n hynod o ddifrifol. Mae bron yn ddigynsail iddi ymyrryd yn y fath fodd ym musnes un o wledydd y G7. Mae hon yn adeg hollol anghyffredin, ac mae'n drueni fod pethau mor ddifrifol.

Weinidog cyllid, fe wnaethoch chi anghofio crybwyll y ffaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ddydd Mercher y bydd awdurdodau lleol yn gallu elwa o gymorth gwerth £50 biliwn o'r cap ar brisiau ynni. Pa ymdrechion a wnewch dros awdurdodau lleol fel y gallant fanteisio ar yr arian hwn? Ac a fyddech yn cytuno gyda mi mai'r ffordd orau y gall Llywodraeth y DU dalu'r arian hwn i awdurdodau lleol yw yn uniongyrchol i awdurdodau lleol wrth gwrs, yn hytrach na'i roi i Lywodraeth Cymru a allai frigdorri'r arian hwnnw yn y pen draw?

Nid wyf yn siŵr o ble mae arweinydd y Ceidwadwyr yn credu bod yr arian hwn yn dod. Nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi £50 biliwn i unrhyw un. Mae'n £50 biliwn y mae Llywodraeth y DU yn ei wrthbwyso o ran darparu cyllid ychwanegol i'r cwmnïau ynni, nad ydynt ei angen, ac a fydd yn cael ei fenthyg a bydd gweithwyr ar incwm isel yn talu am hynny am amser hir. Felly, ni fydd awdurdodau lleol yn gallu manteisio ar unrhyw arian; nid oes unrhyw arian ychwanegol. Nid arian ychwanegol yw cap ar brisiau.

14:10
Panel Strategaeth Datgarboneiddio

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berthynas Llywodraeth Cymru â phanel strategaeth ddatgarboneiddio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru? OQ58443

Cafodd y panel ei sefydlu gan gyngor partneriaeth Cymru er mwyn llywio gwaith llywodraeth leol ar newid hinsawdd. Mae ein perthynas yn seiliedig ar bartneriaeth.

Diolch. Fel y gwyddoch, mae gan banel strategaeth datgarboneiddio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dasg aruthrol yn helpu i sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyrraedd eu targed carbon sero net erbyn 2030. Rwy'n deall bod newid hinsawdd yn eitem sefydlog yng nghyngor partneriaeth Cymru a gadeirir gennych chi. Gyda hyn mewn golwg, ers cyhoeddi'r fframwaith gweithredu ym mis Hydref 2021, hoffwn wybod pa raglenni gwaith sydd wedi'u datblygu'n rhanbarthol ac yn genedlaethol, pa dargedau a osodwyd i sicrhau cynnydd, a pha heriau ychwanegol a nodwyd gennych mewn perthynas â chyrraedd y targed hwn, o ystyried y cynnydd eithriadol mewn prisiau ynni cyfanwerthol. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac rwyf wedi bod yn hapus iawn gyda gwaith y panel, a barhaodd drwy gydol y pandemig mewn gwirionedd ac a lwyddodd i barhau i gyflawni, oherwydd yn amlwg rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod sefydliadau'r sector cyhoeddus yn cyflawni uchelgais sero net 2030, ac rydym yn gwneud hynny drwy'r panel drwy ddarparu cymorth technegol ac ariannol ar gyfer ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, wrth gwrs, ac mae hynny'n digwydd drwy ein gwasanaeth ynni.

Mae'r gwasanaeth ynni ei hun wedi gweld £28 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn 43 o brosiectau effeithlonrwydd ynni ar draws 25 o sefydliadau. Maent yn cynnwys byrddau iechyd, awdurdodau lleol, colegau a pharciau cenedlaethol, ac mae ganddynt amrywiaeth o brosiectau, er enghraifft, o osod lampau stryd LED i atebion gwresogi carbon isel. Ac mae amrywiaeth o weithgareddau'n digwydd yn y maes arbennig hwnnw.

Rwy'n credu bod y panel wedi gwneud cynnydd sylweddol ers ei sefydlu, gan ei fod hefyd wedi cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu eu hymrwymiadau eu hunain ar gyfer cynllun Cymru Sero Net, a gyhoeddwyd gennym yr hydref diwethaf. Felly, mae'n dangos sut y bydd pob awdurdod lleol yn gwneud ei ymrwymiad ei hun tuag at yr ymgyrch honno. Ac mae hefyd yn goruchwylio rhaglen waith sy'n cefnogi cyflawniad yr ymrwymiadau hynny ac yn darparu cyfeiriad strategol i raglen gymorth newid hinsawdd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n cael oddeutu £300,000 y flwyddyn am bum mlynedd drwy Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n falch iawn o waith y panel. Mae'n waith pwysig iawn ac wrth gwrs, os yw'r argyfwng ynni'n dweud unrhyw beth wrthym, mae'n ymwneud â phwysigrwydd buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.

Yr Argyfwng Costau Byw

9. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wrth i'r argyfwng costau byw ddwysau? OQ58456

Fe wneuthum flaenoriaethu cyllid ar gyfer llywodraeth leol yng nghyllideb Cymru fel bod pob awdurdod yng Nghymru yn derbyn cynnydd o fwy na 8.2 y cant yn eu cyllid. Mae ein mesurau costau byw, dros £1.5 biliwn eleni yn unig, yn cefnogi pobl ym mhob rhan o Gymru'n uniongyrchol a thrwy awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf eisoes wedi galw yn gyhoeddus ar gynghorau yn fy rhanbarth i i agor banciau cynnes i helpu pobl ddygymod ag effeithiau gwaethaf y gost uchel o dalu am ynni dros y gaeaf hwn. Felly, wrth gwrs, dwi'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi £1 miliwn ar gyfer cefnogi awdurdodau lleol i sefydlu banciau cynnes, tra'n rhyfeddu ar yr un pryd fod angen y math yma o ddarpariaeth arnom ni yn yr unfed ganrif ar hugain. Ond, a all y Gweinidog ddweud mwy am sut y bydd y cronfeydd hyn yn cael eu dosbarthu? Ac a ydy'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder i bod £1 miliwn ar draws 22 o awdurdodau lleol efallai ddim yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â maint yr her y bydd pobl Cymru yn ei wynebu dros y gaeaf? Ac wrth i gynghorau ar draws fy rhanbarth i ystyried mesurau cymorth er mwyn helpu pobl i gadw'n gynnes, er enghraifft, ymestyn oriau agor llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid a darparu pecynnau cynnes i bobl sy'n methu teithio i fannau cyhoeddus, pa gymorth ariannol pellach gall y Llywodraeth ei gynnig i lywodraeth leol i sicrhau eu bod nhw'n medru helpu pobl ar lawr gwlad?

14:15

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n credu bod yr £1 filiwn sydd wedi'i gyhoeddi yn bwysig iawn ar gyfer helpu i gefnogi rhai o'r canolfannau cynnes hyn, gyda phethau y bydd awdurdodau lleol yn ceisio eu gwneud, a sefydliadau eraill hefyd—eglwysi, sefydliadau trydydd sector, lleoliadau ffydd eraill ac yn y blaen. Yn amlwg, byddwn yn monitro defnydd o'r gronfa honno i ddeall pwy fydd yn manteisio arni, ond rwy'n credu y bydd yna fwy na dim ond y gronfa honno, fodd bynnag, yn cefnogi canolfannau cynnes; bydd yna bethau y bydd elusennau lleol, cynghorau cymuned ac eraill yn eu gwneud gyda'u hadnoddau eu hunain hefyd. Ond rwy'n rhannu anghrediniaeth yr Aelod, mewn gwirionedd, ein bod yn sôn am greu llefydd i bobl fynd ac aros yn gynnes y gaeaf hwn am y bydd hi'n rhy ddrud iddynt gadw'n gynnes gartref. Yn amlwg, byddwn yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar hynny ac efallai y byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau ynglŷn â'r gronfa a sut y gellir manteisio arni.

Datganiad Cyllidol Llywodraeth y DU

10. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y caiff datganiad cyllidol Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ58452

Mae'r newidiadau treth a gyhoeddwyd yn y datganiad cyllidol yn ffafrio'r cyfoethog a byddant yn gwaethygu anghydraddoldeb. Nid yw'r datganiad yn rhoi unrhyw gymorth ychwanegol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus ar adeg pan fo costau'n codi'n sydyn.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Roedd rhaid i mi ei alw'n ddatganiad cyllidol am mai dyna mae Llywodraeth y DU wedi ei alw, yn hytrach na chyllideb fach, er mwyn osgoi craffu gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ôl pob tebyg. Ond cyllideb oedd hi ac nid oedd yn gyfrifol o gwbl. Drwy gyflwyno'r llu anllythrennog yn economaidd o doriadau treth i gyfoethogion, bonysau digyfyngiad i fancwyr a diogelu elw dihaeddiant cwmnïau ynni mawr, mae'r Torïaid—ac rwy'n eu clywed yn ei amddiffyn draw acw—yn gamblo gyda'n dyfodol ni i gyd. Mae'n fyrbwyll, ac mae'n annheg. Roedd yna adeg pan oeddent yn arfer cuddio'r annhegwch; nid ydynt yn gwneud hynny mwyach wrth gwrs. Bydd eich adran yn brysur yn gweithio drwy'r ffigurau, rwy'n gwybod, ond a ydych yn cytuno â mi fod penderfyniad y Canghellor i beidio ag uwchraddio mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes dan bwysau difrifol yn sgil chwyddiant, yn hynod anghyfrifol ac anfoesol? Ac o ystyried hynny, y tu hwnt i'r hyn a wnawn yma yng Nghymru eisoes i ddiogelu pobl rhag yr anfoesoldeb hwnnw, beth arall y gallwch ei wneud i ddiogelu'r gwasanaethau hynny ar gyfer pobl Cymru?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw. Gallaf glywed y Ceidwadwyr yn parablu y tu ôl i mi; rwy'n edmygu'r ffordd y mae arweinydd yr wrthblaid yn cryfhau ei gefnogaeth i Lywodraeth y DU, er bod y marchnadoedd—a phawb—yn amlwg yn ymateb iddo mewn ffordd wahanol iawn i arweinydd y Ceidwadwyr. Mae'n rhaid imi ddweud, fe'i clywais yn dweud mai dim ond dau ragolwg y flwyddyn sydd angen i'r swyddfa cyfrifoldeb cyllidebol ei wneud yn gyfreithiol, ond mae'r swyddfa cyfrifoldeb cyllidebol wedi cynnig gwneud rhagolwg; dywedodd y byddai'n ei wneud ar unrhyw adeg ar ôl cyflwyno'r Prif Weinidog newydd, ond fe wnaethant benderfynu peidio â manteisio ar y cynnig hwnnw. Ac fe wyddom pam: oherwydd eu bod yn gwybod beth y byddai'n ei ddangos. Mae'r ffaith nad ydynt wedi gwneud unrhyw asesiad effaith dosbarthiadol o'u gwaith yn dangos bod ganddynt ormod o gywilydd i ddangos beth fyddai'r effaith.

Ond wrth gwrs mae Cymru wedi gwneud y gwaith hwnnw. Canfu Dadansoddi Cyllid Cymru fod 90 y cant o'r enillion a wnaed ddydd Gwener yn mynd i'r 50 y cant uchaf o'r dosbarthiad incwm yma yng Nghymru, ac mae 40 y cant o'r enillion hynny'n mynd i'r 10 y cant uchaf, ynghanol argyfwng costau byw. Mae'n gyllideb hollol ffiaidd ac rwy'n rhyfeddu bod yna un Ceidwadwr sy'n parhau i'w chefnogi.

Diolch i'r Gweinidog.

Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i ni gael toriad technegol byr. Nid oherwydd bod y Gweinidog materion gwledig wedi colli dŵr dros ei chyfarpar technegol, ond oherwydd ein bod yn cael problem gyda meicroffonau y prynhawn yma. Bydd yn doriad byr, a byddwn yn ailymgynnull cyn gynted â phosibl.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:19.

14:30

Ailymgynullodd y Senedd am 14:32, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Ocê, dyma ni yn medru ailgychwyn, felly, gyda'r cwestiynau ar gyfer y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Iechyd a Lles Anifeiliaid

1. Pa ymgysylltiad y mae'r Gweinidog wedi'i gael gyda chydweithwyr yn y cabinet ynglŷn ag iechyd a lles anifeiliaid? OQ58436

Member
Lesley Griffiths 14:33:03
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Mae gan iechyd a lles anifeiliaid gysylltiadau clir ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, newid hinsawdd, yr economi, a bioamrywiaeth. Rwy'n trafod y meysydd trawsbynciol hyn yn aml gyda chyd-Aelodau Cabinet. Mae datganiadau wedi eu cyhoeddi am ein cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru a'r strategaeth TB, ac rwyf wedi cynnal trafodaethau pellach ynglŷn â mesurau rheoli ffiniau. Mae symud anifeiliaid anwes o Wcráin hefyd wedi bod yn bwynt trafod pwysig eleni.

Diolch. Roedd datganiad y Prif Weinidog ar gyfrifoldebau gweinidogol yr wythnos diwethaf yn nodi y byddwch chi'n ysgwyddo cyfrifoldeb yn awr am ddiogelu a rheoli bywyd gwyllt, er bod cyfrifoldebau trawsbynciol y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dal i gynnwys bioamrywiaeth a'r cynllun adfer natur.

Wrth siarad yn lansiad 'Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir' gan Gylfinir Cymru fis Tachwedd diwethaf fel hyrwyddwr rhywogaethau Cymru ar gyfer y gylfinir, dywedais fod yr adolygiad o fanteision bioamrywiaeth ac ecosystemau ehangach adfer y gylfinir a'i berthnasedd i Gymru, a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dweud bod adolygiad llenyddiaeth o 62 o bapurau gwyddonol wedi creu ystod eang o dystiolaeth sy'n dangos y byddai adfer y gylfinir o fudd i rywogaethau lluosog, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ac ymhellach, mae'n sail i'n dealltwriaeth o'r gylfinir fel rhywogaeth ddangosol.

Addawodd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn y lansiad y byddai'n gweithio gyda Gylfinir Cymru i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru ariannu'r cynllun gweithredu a'i sefydlu. Fodd bynnag, er ei bod wedi ymrwymo arian i'r rhaglen rhwydweithiau natur, dim ond ei safleoedd gwarchodedig sydd wedi eu cynnwys yn honno, ac nid yw mwyafrif y gylfinirod yn nythu ar safleoedd gwarchodedig, maent yn amrywio'n eang ac felly mae angen ymateb ar raddfa tirwedd. Rhagwelir mai dim ond naw tymor nythu sydd gennym ar ôl bellach i achub y rhywogaeth ddangosol eiconig hon rhag difodiant fel poblogaeth nythu yng Nghymru. Mae hyn yn eich dwylo chi yn awr. Sut y byddwch chi'n gweithio gyda chynghrair Gylfinir Cymru felly i gyflawni'r ymyrraeth sydd ei hangen ar frys?

14:35

Diolch. Byddaf yn hapus iawn i weithio gyda'r sefydliad, os carent ysgrifennu ataf i ofyn am gyfarfod. Rwy'n ymwybodol iawn o'r brys sy'n angenrheidiol mewn perthynas â'r gylfinir, ac roedd yn un o fy nghyfrifoldebau yn nhymor diwethaf y Llywodraeth wrth gwrs. Felly, os oes gennych gyswllt yno, gofynnwch iddynt ysgrifennu ataf neu os ydynt yn clywed hyn, a byddaf yn hapus iawn i'w cyfarfod.

Mae cwestiwn 2[OQ58441] wedi ei dynnu nôl, felly cwestiwn 3, Peter Fox.

Y Sector Pysgota

3. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi datblygiad y sector pysgota? OQ58449

Diolch. Rydym yn datblygu'r sector pysgota mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys cyflwyno cynllun cymorth ariannol. Gosodais offeryn statudol ddoe i sefydlu hyn. Rydym yn darparu cefnogaeth barhaus i ddatblygu marchnadoedd newydd, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol, ac rydym wedi ymrwymo i weithredu'r cyd-ddatganiad pysgodfeydd.

Diolch am hynny, Weinidog. Mae hynny'n gysur. Mae'r sector pysgota a genweirio'n rhan bwysig o economi cefn gwlad Cymru. Mae pysgota afon yn unig yn cyfrannu tua £20 miliwn y flwyddyn i'r economi, ac yn cynnal tua 700 o swyddi. Ar ben hynny, mae'r dwristiaeth ychwanegol y mae ein dyfroedd yn ei denu yn darparu budd i ardaloedd lleol.

Mae pysgota hefyd yn hobi boblogaidd i nifer o bobl, sy'n mynd â hwy allan i'r awyr agored ac yn cynnig cyfleoedd i gymdeithasu. Ond mae'r sector dan bwysau gwirioneddol, fel y gwaharddiad diweddar ar bysgota ar draws Cymru oherwydd y sychder—mae hynny wedi rhoi pwysau aruthrol arnynt. Nawr, er bod rhai cynlluniau defnyddiol wedi bod i hybu sector pysgota Cymru, fel gwefan Pysgota yng Nghymru, mae cyn bencampwr genweirio'r byd, Hywel Morgan, wedi awgrymu yn ddiweddar fod lle i wneud mwy i ddenu pysgotwyr o bob cwr o'r byd—er enghraifft, defnyddio'r ffeiriau hela a sioeau arbennig eraill i dyfu'r gamp i gynulleidfaoedd newydd. Weinidog, sut rydych chi'n gweithio gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet i sicrhau bod y sector pysgota a genweirio'n cael lle canolog yn strategaeth y Llywodraeth i hybu twristiaeth a datblygu'r economi wledig? A pha gefnogaeth a ddarparir gennych i fusnesau hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy o fewn y sector i helpu i wella amgylcheddau lleol, gan dyfu'r busnes genweirio ar yr un pryd? Ac rwy'n ymwybodol o'ch ateb cyntaf.

Diolch. Rydych chi'n hollol iawn, mae'n hobi boblogaidd iawn i lawer o bobl, ac un o'r pethau a wnawn i'w chefnogi yw ceisio gwella ansawdd ein hafonydd ar gyfer y dyfodol wrth gwrs. Fel y gwyddoch, mae dyletswydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal, i wella a datblygu pysgodfeydd mewndirol a mudol. Felly, yn amlwg, rydym yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r Gweinidog Newid Hinsawdd sy'n gyfrifol am CNC wrth gwrs. Nid wyf yn cofio cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth mewn perthynas â'r maes hwn, ond o safbwynt fy mhortffolio, rwy'n credu bod angen inni sicrhau ein bod yn gwrthdroi'r dirywiad a welsom gyda rhywogaethau eiconig cyn gynted â phosibl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, pa drafodaethau rydych chi wedi'u cynnal gyda'r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth ynglŷn â chynigion eich Llywodraeth ar gyfer ardoll twristiaeth?

Nid wyf wedi cynnal unrhyw drafodaethau penodol gydag unrhyw faes o fewn y diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru. Mae'n rhaid imi ddweud, dros yr haf, ychydig o'r sefydliadau a'r busnesau y gwneuthum eu cyfarfod—treuliais amser ym mhob ardal awdurdod lleol, a hwy oedd yn dewis pwy y byddwn yn cyfarfod â hwy—fe wnaeth rhai pobl ofyn imi ynglŷn â'r ardoll ymwelwyr. Ni chefais unrhyw drafodaethau penodol, ond yn amlwg, fe wneuthum drosglwyddo pryderon, a hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, fe wneuthum gyfarfod â busnesau a oedd yn cymeradwyo'r hyn yr ydym wedi argymell ei wneud.

Weinidog, bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n gwbl syfrdanol, o ystyried pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru, nad ydych chi wedi cyfarfod yn benodol â busnesau er mwyn trafod y dreth bosibl bwysig hon arnynt. Mae Go North Wales yn cynrychioli 15,000 o fusnesau ar draws gogledd Cymru, ac fe fyddwch chi'n gwybod eu bod wedi mynegi llawer o bryder. A wnewch chi gytuno i ymuno â mi mewn cyfarfod gyda Go North Wales, a chynrychiolwyr eraill o'r diwydiant twristiaeth, er mwyn ichi glywed ganddynt hwy o lygad y ffynnon am effaith andwyol bosibl y dreth gosbol a diangen hon ar dwristiaid sy'n aros dros nos yng Nghymru, a'r effaith y gallai ei chael ar swyddi a bywoliaeth pobl yn y rhanbarth?

Nid ydynt wedi gofyn i mi am gyfarfod. Yn amlwg, efallai fod busnesau wedi trafod y peth gyda'r Gweinidog perthnasol yn hytrach na gyda fi, sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am ogledd Cymru. Fel y dywedais, fe wnaeth rhai busnesau ei grybwyll—o'i blaid ac yn ei erbyn—a dywedais y byddwn yn dwyn eu sylwadau i sylw'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Byddwn yn hapus iawn pe bai Go North Wales yn fy nghyfarfod, os gofynnant am wneud hynny; byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Mae gennyf ddyddiau ar gyfer gogledd Cymru os mynnwch, pan fyddaf yn gwneud ymweliadau—maent yn tueddu i fod ar ddydd Iau—pan fyddaf yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol. Byddaf yng ngogledd Cymru yn gwneud hynny yfory, felly os ydynt am ofyn am gyfarfod i drafod y mater, rwy'n hapus iawn i wneud hynny. 

14:40

Rydych chi'n cadw dweud nad chi yw'r Gweinidog perthnasol. Chi yw eu Gweinidog perthnasol; chi yw Gweinidog gogledd Cymru, ac mae pobl yn disgwyl i chi godi llais dros ogledd Cymru o amgylch bwrdd y Cabinet ac ymwneud â busnesau yn y gogledd pan fydd mater mor bwysig yn codi yn eu mewnflwch. Mae miloedd, miloedd lawer, degau o filoedd o swyddi yn ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth a'r fasnach dwristiaeth yn y rhanbarth. A gadewch imi fod yn glir wrthych chi a'r cyd-Aelodau yn y Cabinet sy'n eistedd o amgylch y bwrdd: ni allwch gefnogi treth dwristiaeth a bod o blaid yr economi yng ngogledd Cymru; ni allwch gefnogi treth twristiaeth a chefnogi busnesau yng ngogledd Cymru; ni allwch fod o blaid treth dwristiaeth a chefnogi swyddi yng ngogledd Cymru. Mae arnaf ofn mai'r un hen stori yw hi gan y Blaid Lafur hon: o blaid trethiant, yn erbyn twf; o blaid trethiant, yn erbyn busnes; ac o blaid trethiant—ac mae arnaf ofn—yn erbyn gogledd Cymru. Dyna a gawn gan y Llywodraeth yma, ac mae'n hen bryd i'r stori honno newid. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle y sonioch chi y byddwch yn manteisio arno i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru i wrando ar eu safbwyntiau. 

Un cwestiwn olaf, os caf. Un o'r pethau y mae'r diwydiant twristiaeth yn ei ddweud sy'n llygedyn o obaith ar y gorwel iddynt hwy yn y blynyddoedd i ddod yw'r potensial a ddaw yn sgil dynodi ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol—rhywbeth y bûm yn ei godi ers dros ddegawd, wrth gwrs, fel rhywbeth y gallai'r Llywodraeth ei wneud i hybu'r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth. Chi yw'r Gweinidog sy'n uniongyrchol gyfrifol am wthio'r mater penodol hwnnw yn ei flaen, ond ychydig iawn a glywsom am y cynnydd sy'n cael ei wneud. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni fod hynny'n mynd i gael ei gyflawni o fewn tymor y Llywodraeth hon, ac a wnewch chi ddweud wrthym ble rydych chi arni ar hynny?

Diolch. Fe atebaf y pwynt hwnnw yn gyntaf. Fel y dywedwch, mae newydd ddod yn ôl i fy mhortffolio yr wythnos diwethaf. Gofynnais am gyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Ar y gwaith a wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd gyda CNC, rwy'n gwybod bod adnoddau sylweddol wedi eu rhoi mewn perthynas â sicrhau ein bod yn cael y parc cenedlaethol hwnnw. Yn amlwg, roedd yn ymrwymiad ym maniffesto fy mhlaid; mae bellach yn ymrwymiad yn y rhaglen llywodraethu. Mae'n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog yn awyddus iawn i'w weld yn nhymor y Llywodraeth hon, ac rydym yn disgwyl ei weld yn nhymor y Llywodraeth hon. Ac rwyf wedi gofyn am gyfarfod, sydd heb ddigwydd hyd yma, ond mae yn fy nyddiadur, rwy'n meddwl, o fewn y tair neu bedair wythnos nesaf. Felly, byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddaf wedi cael y cyfarfod hwnnw. 

Ar eich pwynt cyntaf, ni allaf gyfarfod â phob busnes i drafod pob polisi pob cyd-Aelod Cabinet ar draws y portffolio, ac rwy'n siŵr y byddwch yn deall hynny. Ond fel Gweinidog gogledd Cymru, fel rwy'n dweud, rwy'n treulio dyddiau penodol ar ogledd Cymru, ac os oes unrhyw fusnes am ysgrifennu ataf, yn amlwg mae croeso mawr iddynt wneud hynny. Ac fe wneuthum drafod yr ardoll ymwelwyr gyda sawl busnes dros yr haf. Er enghraifft, ymwelais â Dylan's yn Llandudno er mwyn trafod eu cynllun prentisiaethau, a manteisiais ar y cyfle'n rhagweithiol i ofyn eu barn. 

Mae'n ymddangos eich bod chi'n meddwl ei fod yn beth drwg iawn. Rwy'n anghytuno. Mae gennym drethi twristiaeth. Roedd treth dwristiaeth yn bodoli lle'r euthum ar wyliau eleni. A feddyliais i ddwywaith am y peth? Naddo. Nid oedd rhaid i mi feddwl 'Wel, nid af i'r fan honno am fod ganddynt dreth twristiaeth.' Os caiff y trethi hynny eu gwario'n ddoeth, bydd yn hwb mawr i dwristiaeth yng ngogledd Cymru, felly rwy'n anghytuno'n sylfaenol gyda chi ynglŷn â'r yr hyn a ddywedoch chi, yn enwedig am y Blaid Lafur a'r ffordd yr ydym yn trin busnesau. Wrth gwrs ein bod ni o blaid gogledd Cymru; ni fyddech yn disgwyl i mi ddweud unrhyw beth arall. Rwy'n dod o ogledd Cymru ac rwy'n falch iawn fy mod yn dod o ogledd Cymru, ac nid yw hyn yn ddrwg, fel rydych chi i'ch gweld yn ei bortreadu. 

Diolch yn fawr iawn. Dwi am gychwyn efo cwestiwn am y diciâu, Llywydd. Mae'r ystadegau diweddaraf am niferoedd—

Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, rwy'n cael problemau; mae sŵn ofnadwy ar fy mhorthiant sain ac ni allaf glywed. 

Tybed a yw hynny i'w wneud â'r dŵr a gafodd ei golli ynghynt yn y cyfarfod. [Chwerthin.]

Mae'n ddrwg gennyf. Neu a fyddai modd imi wrando yn rhywle arall?

14:45

Nid wyf yn credu mai'r clustffonau sydd ar fai, oherwydd nid oedd y rheini ar y stand.

Eisiau cychwyn efo'r diciâu oeddwn i. Mae'r ystadegau diweddaraf am niferoedd yr haint yng Nghymru i'w croesawu. Mae'r niferoedd absoliwt yn lleihau ac rydyn ni wedi gweld yr haint yn haneru yn ei niferoedd yma dros y 12 mlynedd ddiwethaf. Ond, y newyddion llai calonogol ydy bod yr haint wedi dechrau ymddangos mewn ardaloedd newydd o Gymru, megis yng ngogledd Conwy a sir Ddinbych, a phryder ei fod yn dod i fewn i Bennal yn ne Meirionnydd. Fe wyddoch gystal ag unrhyw un arall am y niwed enbyd y mae'r diciâu yn ei gael ar nid yn unig yr anifeiliaid ond hefyd ar iechyd meddwl pawb sydd ynghlwm â'r gyr o wartheg, boed yn ffarmwr neu'n ffariar.

Os am atal y diciâu, mae'n rhaid atal ei ledu. Rhaid cymryd camau i'w rwystro rhag cyrraedd tir newydd a'i gyfyngu a'i leihau yn y tiroedd lle mae'n bodoli. Yr allwedd i hynny ydy addysgu a chymorth. Felly, mae'n bryder clywed bod y niferoedd sydd yn defnyddio adnodd Cymorth TB Cymru yn isel iawn, tra, yn Lloegr, fod clod mawr yn cael ei roi i wasanaeth TBAS, y TB Advisory Service, efo nifer uchel o ddefnyddwyr. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o TBAS, felly pa wersi y mae hi wedi eu dysgu o gynllun TBAS, pa arfer da y mae hi yn ei fabwysiadu ohono, a pha gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd er mwyn adnabod pam mae'r niferoedd sy'n defnyddio Cymorth TB Cymru mor isel, a sut ydyn ni am weld cynnydd yn y defnydd?

Diolch. Yn sicr ni fyddem am weld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn. Efallai eich bod yn ymwybodol fy mod wedi sefydlu grŵp cynghori technegol yn ddiweddar i helpu gyda chymorth cyfannol i'r rhaglen TB, ac rwyf wedi penodi'r Athro Glyn Hewinson, y gwyddoch amdano rwy'n siŵr, i arwain y gwaith hwn. Mae'n ddull cyfannol o weithredu ein rhaglen TB, i ategu'r cymorth a gynigir gennym. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod yn gwneud datganiad yma yn y Siambr bob blwyddyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Fel y dywedwch, rydym wedi gweld gostyngiad addawol yn rhai o'r ystadegau, er nad dyna'r darlun cyflawn, ac rwy'n derbyn hynny. Rydym yn gweld rhai ardaloedd ystyfnig a mannau lle mae'r broblem yn waeth. Yn amlwg, rydych chi'n cyfeirio at ardal lle'r oedd nifer yr achosion yn arfer bod yn eithaf isel ac rydym yn gweld cynnydd yn awr, ac yn sicr, nid ydym am weld hynny. Rwyf wedi gofyn i'r grŵp ystyried, er enghraifft, y drefn brofi TB bresennol i weld a oes unrhyw beth pellach y gallwn ei wneud. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael ymgynghoriad yn gynharach eleni, ond rwy'n credu y gwnaf ofyn i Glyn gael golwg ar beth y gallwn ei wneud. Efallai nad y math o wasanaethau yr ydym yn eu rhoi yw'r hyn y mae pobl ei eisiau. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ei fod yn union yr hyn y maent ei eisiau, oherwydd os nad yw'n gweithio i'r ffermwyr sydd angen y gwasanaethau hynny, yn amlwg nid yw'n mynd i weithio i neb.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Dwi am droi fy sylw rŵan i'r mater o blannu coed ar ffermydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o achos fferm Tyn y Mynydd ar Ynys Môn a'r ffaith i adran goedwigaeth y Llywodraeth brynu tir âr da yno at ddibenion plannu coed. Rŵan, mae tir amaethyddol da yn brin yng Nghymru, ac mae'r Llywodraeth wedi cymryd camau i warchod y tiroedd gorau. Tua 7 y cant yn unig o dir Cymru sy'n cael ei ystyried yn dir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas—tir BMV—ac mae'r tir yma wedi ei raddio yn raddau 1, 2 a 3a. Mae'r tir yma mor bwysig fel bod canllawiau cynllunio y Llywodraeth yn sôn am yr angen i warchod y tir at ddibenion amaeth. Yn wir, fe ataliodd y Gweinidog amgylchedd ddatblygiad fferm solar yn sir Ddinbych yn ddiweddar oherwydd ei fod yn dir BMV.

Ystyriwch fy syndod, felly, wrth fynd ar borthol mapio'r Llywodraeth a gweld fod tir Tyn y Mynydd ar Ynys Môn wedi'i raddio yn dir 2 a 3a, sef ein tir mwyaf ffrwythlon a thir sydd angen ei warchod. Mae gweld adran o'r Llywodraeth yn anwybyddu canllawiau'r Llywodraeth yn gosod cynsail peryglus. Os ydy data'r Llywodraeth yn gywir, yna mae'n rhaid i ni weld cynlluniau ar gyfer Tyn y Mynydd yn newid a'r tir yn cael ei rentu yn ôl i ffermwr ifanc lleol. Rhaid hefyd cryfhau canllawiau er mwyn gwarchod tiroedd amaethyddol gorau Cymru. Ydy'r Gweinidog amaeth felly'n cytuno â mi ei fod yn gwbl annerbyniol fel peth o dir gorau Cymru, sydd i fod i gael ei warchod at ddibenion amaeth, wedi cael ei brynu gan y Llywodraeth at ddibenion coedwigaeth ac yn cytuno y dylid newid y cynlluniau yma yn ddi-oed?

14:50

Wel, mae hyn yn sicr yn rhywbeth y bûm yn edrych arno ers imi ddod yn ymwybodol ohono. Yn amlwg, mae angen inni blannu mwy o goed; rydym yn gwybod hynny, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â hynny. Gosododd Cymru Sero Net darged i blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, ac rydym yn bwriadu gwneud hynny fel rhan o'n coedwig genedlaethol i Gymru. Yn amlwg, fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, rydym yn gofyn i ffermwyr ein helpu gyda'r 10 y cant ar draws yr holl dir fferm. Ond rwy'n ymchwilio i'r mater yr ydych newydd ei ddisgrifio, ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu atoch ar ôl ystyried ymhellach.

Diogelwch Bwyd

4. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo diogelwch bwyd? OQ58445

Diolch. Mae'r system fwyd yn gweithredu ar lefel y DU gyfan, ac mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i nodi risgiau, ac mae'n ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w rheoli. Yng Nghymru, rydym yn hyrwyddo diogelwch drwy fuddsoddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, cefnogi amaeth a darparu cymorth sylweddol i amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol.

Diolch am yr ateb.

Mae cost gynyddol eitemau hanfodol yn rhywbeth yr ydym i gyd yn rhy gyfarwydd ag ef. Mae'r gyfradd chwyddiant bresennol, sef tua 9.9 y cant, yn achosi problemau ariannol enbyd i bobl yng Nghymru. Mewn amaethyddiaeth, mae cyfradd chwyddiant yn 23.5 y cant yn flynyddol, ond mewn rhai mannau rwy'n credu ei fod hyd yn oed yn uwch. Mae hyn yn achosi i nifer o ffermwyr gwestiynu eu dyfodol yn y diwydiant. Fel y dywedodd un ffermwr mynydd yn fy rhanbarth i, 'Efallai y bydd ffermwyr yn dal eu gafael a chynhyrchu bwyd ar golled am flwyddyn, ond ni fyddant yn gwneud hynny am ddwy flynedd. Mae angen sicrwydd hirdymor arnom, gan fod hwn yn amser pryderus'. Weinidog, rwy'n gwybod bod amser o hyd i ddylanwadu ar y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig tan ddiwedd mis Hydref. Hoffwn sicrwydd gan y Llywodraeth ei bod yn cydnabod bod yr heriau sy'n wynebu amaethyddiaeth wedi newid yn ddramatig yn ystod y misoedd diwethaf. Hoffwn ymrwymiad hefyd fod yna ddyfodol cynaliadwy i ffermio yng Nghymru, ar adeg pan fo'r angen am fwy o ddiogelwch bwyd wedi mynd yn llawer mwy difrifol. 

Diolch. Nid wyf am anghytuno ag unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn; y ffigur a glywais gan rai ffermwyr yw 30 y cant, felly rwy'n meddwl eich bod chi'n hollol iawn i ddweud bod 23.5 y cant yn isel yn ôl pob tebyg. Mae'n gyfnod ansicr a phryderus iawn i'n ffermwyr, ac rwy'n cydnabod hynny'n llwyr. Rwyf wedi ceisio rhoi rhywfaint o sicrwydd iddynt gyda pharhad cynllun y taliad sylfaenol, er enghraifft. Nid wyf wedi ei leihau yn y ffordd a wnaethant yn Lloegr—o flwyddyn i flwyddyn yn Lloegr, mewn gwirionedd. Byddaf yn gwneud datganiad am gynllun y taliad sylfaenol—fel arfer, yn y ffair aeaf, rwy'n gwneud datganiad yno.

Yn amlwg, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy cyfan yn gwneud yn union hynny: mae'n gwneud ein sector amaethyddol mor ddiogel ac mor gynaliadwy â phosibl. Yn amlwg, fe fyddwch yn gwybod fy mod, dros y ddeuddydd diwethaf, wedi dechrau'r broses ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yma yn y Senedd. Unwaith eto, mae hynny'n ymwneud â chadw ein ffermwyr ar y tir, oherwydd, fel y dywedwch, ni allant gynhyrchu bwyd ar golled ac wrth gwrs, rydym yn dibynnu arnynt i'n bwydo. Ond mae'n anodd iawn gallu darparu'r sicrwydd y gwn eu bod ei angen pan nad wyf yn gwybod beth fydd fy nghyllideb i y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n anodd iawn imi allu siarad am y cymorth y byddent yn ei gael, yn y ffordd y gwnaethant ei gael pan oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd, a ninnau bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn methu dibynnu ar y ffigur hwnnw bob blwyddyn, er i Lywodraeth y DU ddweud y gallem pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae popeth a wnawn mewn perthynas â'r cynllun ffermio cynaliadwy yn digwydd er mwyn sicrhau bod ein ffermwyr yn cael eu cadw ar y tir, ac rwy'n falch eich bod chi wedi dweud bod yna gyfle o hyd. Ddoe, dywedais y byddai'n help mawr pe bai pob ffermwr, a phe baem ninnau fel Aelodau yn annog ein hetholwyr, i'n helpu i lunio'r cynllun ar y cyd ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), a fydd yn ymgorffori'r egwyddor o gaffael cymdeithasol gyfrifol mewn cyfraith, yn pennu y dylai caffael ymwneud â mwy na dim ond pwy sy'n darparu'r cynnyrch rhataf, ac ystyried hefyd pwy sy'n darparu'r cynnyrch gorau. Un ffordd y gallwch gyflawni hyn yw drwy gadwyni cyflenwi bwyd lleol, sydd, wrth gwrs, yn cynnig cyfleoedd i gynhyrchwyr lleol dyfu, yn ogystal â'r ffaith ei fod ar y cyfan yn well i'r amgylchedd ac yn lleihau'r angen i fewnforio bwyd. Ffordd arall y gallech gyrraedd y nod hwnnw, wrth gwrs, yw trwy gefnogi Bil bwyd Peter Fox. Ond gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gynorthwyo cynhyrchwyr i fod yn barod i fanteisio ar gyfleoedd i gyflenwi mwy o'u cynnyrch yn eu hardaloedd lleol, fel chwyddo busnesau neu gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i brynu offer. Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, sut yr ewch chi ati i helpu i sicrhau bod cynhyrchwyr lleol yn barod ac yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd o'r fath?

14:55

Wel, rydym yn gwneud llawer iawn i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi na ddylai ymwneud â'r dewis rhataf bob amser; mae yna werth cymdeithasol, ac fe fyddwch yn ymwybodol, fel y dywedwch, o'r hyn a wnawn mewn perthynas â chaffael i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n cytuno â llawer sydd ym Mil bwyd Peter Fox, fel y mae'n gwybod. Rwy'n credu y gallwn wneud llawer o hynny heb ddeddfwriaeth, ac rydym yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Unwaith eto, fe welwch rai o awgrymiadau Peter yn y Bil amaeth, oherwydd rwy'n meddwl bod y ddau'n mynd law yn llaw, ynghyd â'n strategaeth fwyd gymunedol, sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, ac rwy'n cael trafodaethau gyda Cefin Campbell, yr Aelod dynodedig, i weld beth arall y gallwn ei wneud ar hynny. Hefyd ceir y prydau ysgol am ddim—rhan o'r cytundeb cydweithio eto—lle rydym yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o gynhyrchwyr bwyd lleol nag y gwnaethom o'r blaen, yn sicr. Rwy'n falch iawn o'r buddsoddiad a'r gefnogaeth a roddwn ni fel Llywodraeth i'n gweithgynhyrchwyr bwyd a diod, ac rydym wedi gweld ein harian yn cael ei adennill sawl gwaith drosodd. Ni yw'r unig ran o'r DU sydd wedi cynyddu ein hallforion yn sylweddol, ac unwaith eto, mae'r sector bwyd sylfaenol yma yng Nghymru yn werth dros £8.5 biliwn, felly rydym yn bendant yn cefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru.

Bwydydd Lleol

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad o fwydydd sy'n dod o ffynonellau lleol? OQ58450

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu buddsoddiad a chymorth sylweddol i'r diwydiant bwyd. Mae ein rhaglen masnachu bwyd yn sicrhau archebion cynnyrch Cymreig newydd gan fanwerthwyr, a bydd canllawiau caffael cyhoeddus newydd yn blaenoriaethu buddion economaidd-gymdeithasol ehangach. Bydd ein polisi prydau ysgol am ddim hefyd yn agor cyfleoedd i gyflenwyr a chynhyrchwyr lleol. 

Diolch am eich ateb. Wrth gwrs, mae dwy ochr i gynhyrchu bwyd—cyflenwad a galw. Rydym yn nesu'n gyflym at y Nadolig, a bydd pobl yn prynu bwyd o ffynonellau lleol, ac rwy'n credu bod cyfle go iawn yma, efallai'n fwy nag erioed, i ganolbwyntio meddyliau pobl ar brynu'n lleol—y bobl hynny, wrth gwrs, sydd ag unrhyw arian ar ôl i brynu unrhyw beth o gwbl ar ôl y gyllideb hon. Hoffwn ofyn i chi, Weinidog, a wnewch chi weithio gyda chyflenwyr lleol i allu gwerthu eu nwyddau i'r farchnad leol. Rydym wedi gweld llawer o hyn yn ystod y cyfyngiadau symud, a mabwysiadwyd arferion da iawn gan gyflenwyr lleol ar ffurf hamperau bwyd a phethau tebyg. Rwy'n credu y gallem fod yn wynebu argyfwng arall yn y farchnad, felly hoffwn ofyn a ydych chi'n meddwl ar hyd y llinellau hynny, a pharhau a hyrwyddo'r arferion da iawn a welwyd ddwy flynedd yn ôl, ac i gymhwyso hynny yn awr.

Diolch. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Yn sicr yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf a'r cyfyngiadau symud dilynol, ond yn ystod y pandemig, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod llawer o bobl wedi mynd ati am y tro cyntaf i brynu gan eu cigyddion lleol, eu marchnad leol, ac fel y dywedwch, daeth llawer o'n cynhyrchwyr bwyd a diod o hyd i ffyrdd newydd o werthu eu cynnyrch yn lleol.

Mae hi'n dymor y gwyliau bwyd—ar ôl sioeau amaethyddol yr haf, rwy'n credu ein bod ni'n troi at gyfnod y gwyliau bwyd. Roeddwn yn fy etholaeth ddydd Sadwrn yng Ngwledd Wrecsam, ac roedd hi'n wych gweld cymaint o gynhyrchwyr lleol yno. Mae Gŵyl Fwyd Llangollen ar y gorwel, ynghyd ag Aberhonddu, ac rwy'n siŵr fod pawb am weiddi enwau eu gwyliau bwyd lleol yn awr. Mae'n gyfle da iawn, ac rwy'n falch iawn fel Llywodraeth ein bod ni'n gallu cefnogi'r gwyliau bwyd lleol hyn, oherwydd efallai y bydd rhywun yn mynd yno am y tro cyntaf a chyfarfod â chynhyrchwyr lleol nad ydynt wedi'u gweld o'r blaen o bosibl, ac yna'n parhau i wneud hynny. Felly, rwy'n credu bod yna gyfle enfawr, ac rwy'n hapus iawn i allu cefnogi cymaint o wyliau bwyd â phosibl.

Mae pandemig COVID-19, rhyfel Wcráin, ac wrth gwrs, ein hargyfwng hinsawdd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir fod rhaid i ni leihau ein dibyniaeth ar fwyd wedi'i fewnforio. Wrth gwrs, gall y sector bwyd a ffermio Cymreig gwerth £8.5 biliwn ein helpu i wneud hynny, ac mae angen inni ddiolch i'n ffermwyr yng Nghymru, sy'n chwarae rhan enfawr yn y gwaith o gynhyrchu cynnyrch lleol sy'n hinsawdd-gyfeillgar ac o safon uchel. Nawr, rydym yn croesawu'r Bil Amaeth (Cymru), ond mae un diffyg sylweddol a sylfaenol ynddo. Er i chi nodi'n gwbl briodol mai cynhyrchu bwyd ddylai fod yn amcan cyntaf, nid yw hynny'n cyd-fynd mewn gwirionedd â gorfodi ein ffermwyr i bob pwrpas i gael gorchudd coed dros 10 y cant o'u tir drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, a'r mesur ofnadwy hwnnw o ehangu'r parthau perygl nitradau o 2.4 y cant i 100 y cant o dir ffermio Cymru. Nawr, yn hytrach na chefnogi fy ffermwyr yn Aberconwy i gynhyrchu bwyd lleol sy'n hinsawdd-gyfeillgar, yr hyn y maent yn ei weld yw Llywodraeth Cymru—ac maent yn dweud hyn wrthyf—sy'n codi bwyell at eu busnesau, yn torri eu gallu i gynhyrchu a'u gobaith o oroesi. Felly, a wnewch chi sicrhau nad amcan deddfwriaethol yn unig yw cynhyrchu bwyd a'i fod yn dod yn realiti, ac a wnewch chi hefyd adolygu rhai o'r beichiau rheoleiddiol a osodwyd gennych cyn yr argyfyngau a ddisgrifiais yn awr, fel bod gan ein ffermwyr obaith da o leiaf o gynhyrchu a darparu'r bwyd lleol y mae cymaint o'i angen arnom i gyd? 

15:00

Nid wyf yn credu bod yna ddiffyg. Credaf ei bod yn agenda gyflenwol. Felly, mae’n wirioneddol bwysig fod ein ffermwyr yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ac maent yn gwneud hynny, a byddant yn cael eu gwobrwyo am hynny; mae hynny'n gwbl briodol. Mae'r gorchudd coed o 10 y cant y gofynnwn amdano'n golygu rhannu'r baich ledled Cymru. Os nad yw ffermwyr yn dymuno plannu coed, nid oes raid iddynt blannu coed, ond i mi, mae'n amlwg mai hwy yw'r bobl y byddem yn gofyn iddynt wneud hynny yn y lle cyntaf, ond os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, nid oes raid iddynt; nid oes raid iddynt fod yn rhan o’r cynllun.

Nid oes y fath beth â pharthau perygl nitradau bellach. Gwnaethom gyflwyno'r rheoliadau diogelu ansawdd dŵr rhag llygredd amaethyddol; mae'r parthau perygl nitradau wedi mynd. Mae gennym ein huchelgeisiau sero net. Mae gennym ein targedau hinsawdd i’w cyflawni, ac mae arnaf ofn—. Rydym yn gweld effaith newid hinsawdd yn awr. A gwyddom y bydd ffermwyr cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio o dan amgylchiadau anodd iawn a gwahanol iawn i nawr. Gallwn weld y tywydd yn newid; nid oes ond angen ichi edrych ar yr haf hwn, ac ar yr hyn y mae'n rhaid iddynt ymgodymu ag ef.

Dylwn ddweud mai un o'r pethau y gallem eu gwneud i gefnogi ein ffermwyr—a hoffwn alw ar bob Aelod yn y Siambr hon, ac mae hynny'n cynnwys Aelodau o'ch grŵp chi—yw lobïo Llywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn colli'r un geiniog o'r gyllideb amaethyddol, fel y cafodd ei haddo i ni.

Hen Safle Alwminiwm Môn

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â dyfodol hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi? OQ58451

Diolch. Rwyf wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi ynghylch hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi. Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol fod manylion gwerthiant y safle wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar, a bod hyn yn newyddion da i ogledd Cymru.

Yn sicr, a diolch am eich ymateb, Weinidog. Roedd yn sicr yn braf clywed eich bod yn trafod safle mor bwysig gyda Gweinidog yr Economi, ac rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â mi ei fod yn newyddion gwych gweld Stena Line yn buddsoddi yn y porthladd i hybu eu gweithrediadau, sy’n gydnabyddiaeth glir o’r cyfleoedd gwych sydd gan borthladd Caergybi i’w cynnig. Gwyddom hefyd, Weinidog, fod Stena ar flaen y gad yn ceisio darparu porthladd rhydd yng Nghaergybi, a fyddai mor fuddiol i ogledd Cymru, ac wrth gwrs, mae wedi cael cefnogaeth lawn consortiwm cais porthladd rhydd Ynys Môn, dan gadeiryddiaeth Virginia Crosbie. Yng ngoleuni hyn, Weinidog, sut y byddwch yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi a Stena Line i sicrhau y manteisir i’r eithaf ar y cyfle gwych i gael porthladd rhydd, a fydd yn rhoi hwb i’n heconomi yng ngogledd Cymru, yn cefnogi cymunedau ac yn creu swyddi?

Diolch. Gwn fod Gweinidog yr Economi wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch porthladdoedd rhydd. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud iddynt gael dechrau anodd, ond fel y gwyddoch, gwnaethom lansio ein rhaglen porthladd rhydd yng Nghymru gyda Llywodraeth y DU ar 1 Medi, rwy'n credu. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn ailddychmygu rôl porthladdoedd yn nyfodol economi Cymru. Mae Caergybi'n borthladd mor bwysig, ac fel y dywedwch, i Ynys Môn, mae’n gwbl hanfodol. Credaf mai'r hyn yr ydym yn edrych arno yw sut y gallwn symleiddio gweithdrefnau tollau; rydym yn sicr wedi gweld cynnydd mewn biwrocratiaeth ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae angen inni edrych ar ryddhad ar dollau tramor, buddion treth a hyblygrwydd datblygu. Felly, rydym bellach yn gwahodd ceisiadau ar gyfer porthladd rhydd cyntaf Cymru. Mae hynny wedi’i nodi yn y prosbectws a gyhoeddwyd, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’n hamcanion. Rydym hefyd wedi dadlau'n llwyddiannus y bydd angen i borthladd rhydd yng Nghymru weithredu mewn modd sy'n cyd-fynd â'n polisïau yma yng Nghymru ar waith teg a phartneriaeth gymdeithasol.

Fel y dadleuais, mae'n gwbl briodol ein bod yn ceisio manteisio ar botensial porthladd rhydd, ond yr hyn y gelwais amdano yw gonestrwydd ynglŷn â beth y gallai'r risgiau fod a'r angen i liniaru hynny. Roedd yn siomedig fod y Ceidwadwyr, gan gynnwys yr AS lleol, yn fodlon derbyn £8 miliwn yn hytrach na £25 miliwn ar gyfer porthladd rhydd ar Ynys Môn, ac rwy’n falch bellach ein bod, drwy gydweithio, wedi gallu sicrhau y gallai'r swm llawn o gyllid, fel sy’n mynd i borthladdoedd rhydd yn Lloegr, ddod i Gaergybi. Mae hefyd yn bwysig mai'r cyngor sy'n chwarae'r brif ran bellach yn sicrhau bod cynnig cryf, diogel a chadarn yn cael ei lunio. A wnaiff y Gweinidog ddweud sut y mae’n bwriadu gweithio gyda’r cyngor yn awr i sicrhau bod Ynys Môn mewn sefyllfa ddigon cryf i wneud cynnig da, ond hefyd i ddiogelu lles gweithwyr a rheoliadau amgylcheddol?

15:05

Diolch. Mewn perthynas â phwynt olaf eich cwestiwn, dywedais yn fy ateb cynharach i Sam Rowlands fy mod yn credu ei bod yn gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod angen i hyn gyd-fynd â’n polisïau gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny’n tawelu eich meddwl. Cefais sgwrs ag arweinydd cyngor Ynys Môn yn sioe Môn, ynghylch y cyfleoedd y gallai hyn eu cynnig i Gaergybi, ond fel y dywedaf, Gweinidog yr Economi, yn amlwg, a fydd yn arwain ar hyn, a bydd yn parhau i gael trafodaethau â’r awdurdod lleol hefyd.

Safonau Lles Pysgod Aur

7. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella safonau lles pysgod aur? OQ58444

Diolch. Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn gosod dyletswydd gofal ar berchnogion a cheidwaid i ddiwallu anghenion lles eu hanifeiliaid. Rwyf wedi gofyn i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru roi eu barn i mi ar roi anifeiliaid, a physgod aur yn benodol, yn wobrau.

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae’n arfer cyffredin o hyd, yn anffodus, i bysgod aur gael eu rhoi'n wobrau yng Nghymru mewn sioeau, ffeiriau a digwyddiadau eraill, yn yr hyn a elwir yn ‘gemau difyfyr’. Yn aml iawn, oherwydd diffyg paratoi ar ran y perchennog newydd, mae pysgod a roddir yn wobrau yn aml yn dioddef. Yn anffodus, gallant ddioddef sioc a diffyg ocsigen, a gallant farw yn sgil newidiadau yn nhymheredd eu dŵr, sy'n golygu bod llawer ohonynt yn marw cyn iddynt hyd yn oed gyrraedd eu darpar gartrefi newydd. Yn ychwanegol at hynny, fel arfer, nid oes gan bobl sy'n cael pysgod aur yn wobrau acwariwm yn barod gartref, felly efallai y byddant yn cadw eu pysgod mewn mannau anaddas, a bydd rhai'n cael eu gollwng yn anghyfreithlon i ddyfrffyrdd lleol hyd yn oed. Mae naw o’r 22 o gynghorau yng Nghymru eisoes wedi cymryd camau uniongyrchol i atal anifeiliaid anwes, pysgod aur fel arfer, rhag cael eu rhoi'n wobrau, yn dilyn ymgyrch gan yr RSPCA y llynedd, pan ofynnodd oddeutu 9,000 o drigolion i’w hawdurdodau lleol wahardd yr arfer hwn. Yn Lloegr, credaf fod 27 o gynghorau wedi rhoi camau ar waith i osod cyfyngiadau neu waharddiadau llwyr. Fodd bynnag, yng Nghymru, deddfwriaeth genedlaethol yw’r opsiwn gorau o hyd i ddod â’r arfer hwn i ben yn llwyr, a chyda hyn mewn golwg, Weinidog, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am safbwynt Llywodraeth Cymru ar waharddiad cenedlaethol ar roi anifeiliaid yn wobrau? Diolch.

Iawn. Diolch. Rydych yn llygad eich lle: mae gan awdurdodau lleol rym i wahardd yr arfer o roi anifeiliaid yn wobrau ar eu tir. Nid wyf yn hollol yn siŵr faint a ddywedoch chi allan o'r 22. Credaf mai pump yw'r ffigur; nid wyf yn siŵr os mai naw a ddywedoch chi, ond fy nealltwriaeth i yw mai pump yw'r ffigur ar hyn o bryd, ond efallai ei fod wedi cynyddu, ac efallai eich bod yn gywir. Fel y dywedaf, rwyf wedi gofyn i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru ystyried y mater. Gofynnais—. Mae'n debyg fod oddeutu tair blynedd wedi bod bellach, ond fel y gallwch ddychmygu, gyda phandemig COVID a phopeth sydd wedi digwydd, mae hyn wedi llithro i lawr yr agenda. Ond gwn fod papur sy'n edrych ar yr hyn y gallem ei wneud wedi'i roi i'r Aelodau bellach, felly, cyn gynted ag y caf eu safbwyntiau, byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Defnyddio Cewyll ar gyfer Anifeiliaid Fferm

8. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio? OQ58455

Diolch. Rydym wedi ymrwymo i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid fferm. Rydym yn gweithio ar y cyd â gweinyddiaethau eraill i archwilio’r defnydd o gewyll wedi’u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy, llociau porchella ar gyfer moch, a chewyll bridio ar gyfer adar hela.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch y defnydd o gewyll ar gyfer bridio adar hela. Mae petris fel arfer yn paru â phartner am oes yn y gwyllt, ond mewn cewyll bridio masnachol, cânt eu gorfodi at ei gilydd, ac weithiau, eu gwneud i wisgo cyfrwyau a gorchuddion ar eu pigau i'w hamddiffyn rhag cael eu hanafu. Mae'r arfer hwn yn greulon a diangen, a'r cyfan yn enw chwaraeon. Yn 2021, canfu arolwg barn a gomisiynwyd gan y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon fod 72 y cant o bobl yng Nghymru yn gwrthwynebu’r defnydd o gewyll ar gyfer bridio adar hela. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraethau’r DU a’r Alban i archwilio’r dystiolaeth ynghylch y defnydd o gewyll ar gyfer bridio adar hela, a pha gynnydd a wnaed mewn perthynas â hyn ers cyhoeddi cynllun lles anifeiliaid Cymru eleni? Diolch.

Diolch. Rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill—fe sonioch chi am Lywodraethau'r DU a'r Alban—i edrych ar sut a ble y defnyddir cewyll, ochr yn ochr ag effeithiau lles systemau presennol a lle ceir systemau amgen hefyd. Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 yn nodi amodau manwl ar gyfer cadw anifeiliaid fferm, ac mae gennym god ymarfer hefyd ar gyfer lles adar hela sy'n cael eu magu at ddibenion chwaraeon. Mae hwnnw’n darparu canllawiau ymarferol, sy’n esbonio beth sydd angen i unigolyn ei wneud i fodloni’r safonau gofal y mae’r gyfraith yn eu mynnu. Ni ddylid ystyried defnyddio, fel mater o drefn, arferion neu ddyfeisiau rheoli nad ydynt yn caniatáu i adar fynegi eu hystod o ymddygiadau arferol yn llawn, a dylai ceidwaid weithio tuag at ddefnyddio systemau rheoli lle nad oes angen dyfeisiau o'r fath.

Rydym wedi cael adolygiad o’n cod ymarfer ar gyfer lles adar hela, ond ar hyn o bryd, mae hwnnw wedi cael ei ohirio am fod gennym gymaint o waith gan y Llywodraethau eraill y mae angen i ni ei archwilio. Felly, ar ôl inni edrych ar y dystiolaeth mewn perthynas â hynny, gallwn edrych i weld a oes angen newid y cod ymarfer hwnnw. Ni fyddem yn ei newid heb ymgynghori gyda'n rhanddeiliaid, gan y credaf fod hynny'n bwysig iawn.

15:10

Weinidog, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar saethu a chadwraeth, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi anfon llythyrau atoch o'r blaen ynghylch ffliw adar a’r anawsterau a achosodd hynny mewn perthynas â mewnforio wyau i ddeorfeydd yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae digwyddiadau saethu adar hela yng Nghymru yn bwriadu datblygu eu rhaglenni bridio eu hunain fel nad ydynt bellach yn dibynnu ar fewnforio wyau. Felly, pa waith a wnewch i sicrhau bod y busnesau hyn yn ymwybodol o’r newidiadau y byddwch yn eu gwneud, fel y gallant fuddsoddi eu harian yn ddoeth?

Diolch. Wel, yn sicr, gyda ffliw adar, rydym wedi cael blwyddyn anodd iawn. Mae fel arfer yn dechrau oddeutu mis Hydref ac rydym yn gweld rhywfaint o welliant erbyn mis Mawrth, ond yn anffodus, credaf ein bod wedi cael tri achos newydd yn y DU yr wythnos ddiwethaf yn unig. Felly, nid ydym wedi cael unrhyw egwyl o gwbl. Felly, rydych yn llygad eich lle i godi mater ffliw adar. Fel y dywedais, ni fyddem yn gwneud unrhyw beth heb ymgynghori â’n rhanddeiliaid, ac yn amlwg, byddent hwy'n rhai o’r rhanddeiliaid, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y dystiolaeth helaeth sy'n dod gan y gweinyddiaethau datganoledig eraill a Llywodraeth y DU.

Bwyd a Diod o Gymru a Chwpan y Byd

9. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r gwaith o hyrwyddo a marchnata bwyd a diod o Gymru fel rhan o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil tîm pêl-droed dynion Cymru yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd? OQ58440

Diolch. Mae is-adran fwyd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’n swyddfeydd rhyngwladol a’n his-adran chwaraeon i arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru mewn dau ddigwyddiad allweddol—cinio VIP rhwydwaith busnes gyda thema Gymreig ar 25 Hydref, a digwyddiad diwylliannol ehangach ar 21 Tachwedd. Bydd y ddau ddigwyddiad yn cael eu cynnal gan y llysgennad i Qatar.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr ymateb hwnnw. Wrth gwrs, ddoe, mi gawsom ni ddatganiad efo peth o'r wybodaeth yma gan Weinidog yr Economi. Yr hyn hoffwn i ofyn ydy sut y byddwch yn mesur llwyddiant y digwyddiadau hyn o ran gwaddol y buddsoddiad hwn yn dilyn cwpan y byd.

Diolch. Wel, yr hyn a wnawn fel arfer pan fydd gennym ddigwyddiadau o'r fath—ac rwy'n derbyn mai dyma'r tro cyntaf inni gael unrhyw beth fel hyn—yw y byddem yn gosod targed. Felly, er enghraifft, pan fo gennym Blas Cymru, rwy'n gosod targed o ba fusnes newydd, yn bennaf, a ddaw drwy Blas Cymru. Felly, yn amlwg, bydd hwn yn ddigwyddiad llai i ni—er fy mod yn derbyn ei fod yn ddigwyddiad byd-eang enfawr—a chredaf ei fod yn llwyfan delfrydol i hyrwyddo ein diwydiant bwyd a diod o Gymru i gynulleidfa proffil uchel iawn yn Qatar. Rwy’n falch iawn fod y digwyddiad cyntaf yn digwydd cyn cwpan y byd, gan y credaf ei bod yn dda arddangos y cynnyrch hwnnw cyn y digwyddiad. Rydym yn mynd i gael cogydd gwych o Gymru yno'n coginio cig oen Cymreig ac yn arddangos ein bwyd. Ond byddwn yn gosod targedau i gael golwg ar—. Yn amlwg, rydym yn rhoi arian tuag ato ac mae angen inni sicrhau ein bod yn annog ac yn cefnogi, gobeithio, ein diwydiant bwyd a diod o Gymru i sicrhau eu bod yn cael mwy o fusnes yn sgil digwyddiad o'r fath.

Llygredd Amaethyddol

10. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith llygredd amaethyddol ar afonydd Cymru? OQ58423

Diolch. Mae’r asesiad o ansawdd dŵr ac effeithiau llygredd, gan gynnwys o ffynonellau amaethyddol, yn cael ei gynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni gofynion rheoleiddiol, datblygu cynlluniau rheoli basnau afonydd ac i nodi ymyriadau posibl lle mae angen gwelliannau.

Diolch, Weinidog. Mae gwaith modelu Asiantaeth yr Amgylchedd yn awgrymu bod ffynonellau llygredd yn afon Gwy yn dod yn bennaf o amaethyddiaeth. Gwyddom fod llygredd ffosfforws yn achosi proses ewtroffigedd mewn afonydd, mater hynod broblemus sy'n achosi tyfiant gormodol o algâu, sy'n mygu ac yn rhwystro golau rhag cyrraedd planhigion ac anifeiliaid dyfrol eraill. Dywedodd CNC fod

'ymlediad ffosfforws yn gyffredin yn afonydd ACA Cymru gyda dros 60% o'r cyrff dŵr yn methu yn erbyn y targedau heriol a osodwyd.'

A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi yn awr fod angen i dargedau o’r fath fod yn ofyniad cyfreithiol, yn hytrach na tharged yn unig?

15:15

Diolch. Wel, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig ar 1 Awst, ac roedd hwnnw'n nodi rhaglen waith fanwl a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt yn yr uwchgynhadledd a gynhaliodd yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf i fynd i’r afael â llygredd ffosfforws yn afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig Cymru. Yn fy marn i, ni ellir datrys yr argyfwng hwn drwy un mesur unigol. Nid oes ateb cyflym, a chredaf mai’r hyn yr oedd y Prif Weinidog am ei gyfleu yn yr uwchgynhadledd honno oedd bod angen dull tîm Cymru o weithredu, lle mae gennym y Llywodraeth, y rheoleiddwyr a’r holl sectorau perthnasol yn gweithio gyda’i gilydd yn y tymor byr a’r tymor canolig i wireddu'r canlyniadau hirdymor yr ydym am eu gweld i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd.

Diweddariad Datganiad Busnes

Ac nawr i ddiweddaru'r Senedd ar y datganiad busnes, dwi'n galw ar y Trefnydd, eto Lesley Griffiths, i gyflwyno'r diweddariad hynny.

I roi diweddariad i ni.

Member
Lesley Griffiths 15:16:10
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datganiad busnes. Fy mwriad yw diwygio amserlen y cwestiwn llafar ar ddatganiad busnes yr wythnos nesaf, fel y bydd cwestiynau i Weinidog yr Economi yn cael eu symud o 12 Hydref i 19 Hydref, a chwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn cael eu symud o 19 Hydref i 12 Hydref. Yn anffodus, ni chytunwyd ar y newid hwn mewn pryd i'w ystyried yn y datganiad busnes ddoe, ac ymddiheuraf am hynny. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i roi gwybod i'r Aelodau y bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad ar ddatblygiad economaidd rhanbarthol yr wythnos nesaf, 4 Hydref, sydd wedi’i symud ymlaen o 11 Hydref. Diolch.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, eitem 4 sydd nesaf, y datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf heddiw yw Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle i hyrwyddo’r diwrnod hwn a’r Gynghrair Llaeth Ysgolion a Meithrinfeydd ar lawr y Siambr hon. A wyddech chi y gall carton 189 ml o laeth hanner sgim ddarparu 42 y cant o'r cymeriant calsiwm dyddiol a argymhellir i blentyn saith i 10 oed, a 24 y cant o'r cymeriant protein a argymhellir? Mae hefyd yn darparu 100 y cant o'r cymeriant B12 a argymhellir, fitamin pwysig am sawl rheswm, yn enwedig ei waith yn cadw'r system nerfol yn iach. Yma yng Nghymru, rydym yn cynhyrchu cynhyrchion llaeth o'r safon uchaf, ac nid yw llaeth Cymreig yn eithriad. Felly, er mwyn i ddysgwyr Cymru gael y gorau o'u haddysg, gadewch inni ddefnyddio Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd i sicrhau bod ein disgyblion yn cael eu pweru gan y llaeth gorau oll—llaeth Cymreig.

Diolch, Lywydd. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae ein gwlad wedi uno mewn galar am ein diweddar frenhines, y Frenhines Elizabeth II. Roedd y cyfnod hefyd yn hynod drist yn fy etholaeth i ar ôl colli cyn-ddirprwy arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Bob Greenland. A hoffwn dalu teyrnged i'r dyn gwych hwn, un o gewri'r teulu llywodraeth leol. Yn aml, mae pobl fel Bob, sydd wedi gwneud cymaint i wella ein cymunedau, yn cael eu hanghofio am nad yw llywodraeth leol bob amser yn cael y gydnabyddiaeth y dylai ei chael. Pobl fel Bob sydd wedi rhoi siâp i'n bywydau. Roedd yn ddyn llawn o gariad, o garedigrwydd, o uniondeb, o gadernid, o broffesiynoldeb ac o ddewrder.

Dechreuodd fy mherthynas i â Bob yn ystod etholiadau cyngor 2004 pan ymladdodd am sedd Devauden ar Gyngor Sir Fynwy. Roedd yn un o'r bobl brin hynny sy'n sefyll allan yn ein byd gwleidyddol. Dangosodd ei 18 mlynedd yn y cyngor hynny. Yn 2008, daeth Bob yn ddirprwy arweinydd i mi, a bu'n ddirprwy arweinydd am 14 mlynedd, tan yr etholiad fis Mai diwethaf. Mae rhai o’i gyflawniadau’n cynnwys adfywio canol tref y Fenni, yn ogystal â darparu canolfan dda byw newydd o’r radd flaenaf ar gyfer sir Fynwy ger Rhaglan, a’r ganolfan hamdden newydd o’r radd flaenaf yn Nhrefynwy. Mae'n rhaid imi fod yn gwbl onest, â llaw ar fy nghalon, ni fyddai'r pethau hynny wedi digwydd heb ddyfalbarhad a dylanwad Bob, ac ef oedd yn gyfrifol am bob un ohonynt.

Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i Bob frwydro yn erbyn ei salwch ac ymladd brwydr ar ôl brwydr, fe barhaodd i weithio. Drwy'r holl ddioddef, ni chwynodd am ei sefyllfa. Roedd Bob Greenland yn ŵr bonheddig, yn ddyn hyfryd, yn hynod mewn cymaint o ffyrdd, ac yn berson rwy'n hynod falch o fod wedi'i adnabod a gweithio gydag ef. Ni chaiff y twll a adawodd yn y gymdeithas byth mo'i lenwi yn yr un modd, a bydd bob amser yn cael ei gofio a'i golli. Diolch.

15:20
5. Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22

Eitem 5 sydd nesaf, felly, y cynnig i gymeradwyo'r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y chweched Senedd ac i nodi yr adroddiad blynyddol ar y cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer 2021-22. Dwi'n galw ar y Comisiynydd, Rhun ap Iorwerth, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8078 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 21 Medi 2022; a

2. Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2021-22, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Mehefin 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser cyflwyno dwy ddogfen gerbron y Senedd heddiw, sef yr adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol y Senedd ar gyfer 2021-22, a'r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y chweched Senedd.

Gadewch i fi droi, yn y lle cyntaf, at yr adroddiad blynyddol. Mi fydd Aelodau yn gyfarwydd efo'r drefn o gynnal dadl flynyddol ar ein gwaith dros y flwyddyn. Yn unol â gofynion Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, mae'n rhaid i Gomisiwn y Senedd adrodd yn flynyddol ar ei waith yn darparu gwasanaethau dwyieithog, ac unrhyw gwynion neu achosion fu o fethu â chydymffurfio. Yn ôl yr arfer, mi gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar y cyd ag adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Senedd, a'r adroddiadau blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant a chynaliadwyedd, fis Mehefin.

Eleni, mae gwaith y tîm ieithoedd swyddogol wedi canolbwyntio yn bennaf ar y broses o baratoi'r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y chweched Senedd—mi fyddaf i'n troi at y cynllun hwnnw yn nes ymlaen—a chau pen y mwdwl ar gynllun y bumed Senedd.

Dros y flwyddyn, mi groesawyd nifer fawr o Aelodau newydd o'r Senedd, wrth gwrs, ac mi fu'r tîm yn gweithio efo'r Aelodau hynny i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o ofynion y cynllun, a hefyd i sicrhau eu bod nhw'n gallu gweithio yn eu dewis iaith neu ieithoedd swyddogol yn ddiofyn. Dwi eisiau diolch i'r holl Aelodau a'u staff cymorth nhw hefyd am eu cefnogaeth wrth inni roi gofynion y cynllun ar waith, ac am gynnig adborth, sydd mor bwysig, ar ein gwasanaethau dwyieithog.  

Wrth sôn am wasanaethau dwyieithog, mae'n bwysig hefyd nodi bod nifer y dysgwyr sy'n derbyn gwersi gan y tîm tiwtora wedi cynyddu; mae hynny'n dda iawn i'w weld bob amser wrth gwrs, p'un ai'n Aelodau gafodd eu hailethol yn dychwelyd i'w gwersi neu'n ddysgwyr cwbl newydd. Mae'n braf gweld yr Aelodau sy'n dysgu wedyn yn defnyddio eu sgiliau mewn trafodion, a'r ffordd y mae eu cyd-Aelodau nhw ar draws y Senedd yn dathlu eu llwyddiannau wrth iddyn nhw gyfrannu, am y tro cyntaf o bosib, yn gyhoeddus yn y Gymraeg. Nid peth hawdd ydi mentro ac mae'r gefnogaeth honno yn bwysig er mwyn annog Aelodau i gario ymlaen i ddysgu, ar un llaw, ond yn bwysicach, mae'n siŵr, i ddefnyddio eu Cymraeg.

Mi fydd Aelodau yn ymwybodol o'r wybodaeth ystadegol sy’n rhan o'r adroddiadau blynyddol erbyn hyn. Mae'r wybodaeth yn bwysig. Mae o'n caniatáu inni fonitro sawl maes, gan gynnwys nifer y swyddi sy'n cael eu hysbysebu ar lefel cwrteisi, neu sydd â gofyniad am sgiliau ar lefel uwch na hynny, sy'n rhan o'n prosesau cynllunio ieithyddol parhaus. Rydyn ni hefyd yn monitro canran y cyfraniadau cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu gwneud mewn Cyfarfodydd Llawn fel hyn, neu mewn cyfarfodydd pwyllgorau. Mae casglu gwybodaeth o'r math yma yn ein helpu ni i fonitro effeithiolrwydd y gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau, i'w helpu nhw i ddefnyddio'u dewis iaith wrth baratoi ac wrth gymryd rhan mewn trafodion. Mi fyddwn ni'n parhau i fonitro ac i chwilio am ffyrdd o annog a thyfu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg, ac i ddeall a chael gwared ar y rhwystrau sydd yn bodoli o bryd i'w gilydd, er mwyn sicrhau bod y patrwm sydd ar y cyfan yn bositif yn parhau.

Ac wrth gwrs, mae hyn yr un mor bwysig wrth hwyluso pobl sy'n dod i gyswllt efo'r Senedd, i'w cael nhw i deimlo’n gyfforddus yn defnyddio'r Gymraeg—tystion i bwyllgorau ac yn y blaen. Dwi wedi sôn o'r blaen fy mod i'n credu bod gweithio ar-lein o ganlyniad i'r pandemig wedi tynnu rhai o'r rhwystrau mewn rhai ffyrdd, bod cyfieithu'n digwydd yn gwbl naturiol ac yn llifo'n haws, mewn llawer o ffyrdd, heb yr angen am roi a thynnu clustffonau ac ati. Mae eisiau dysgu o hynny, dwi'n meddwl, ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu hybrid hefyd.

Cyn imi droi at y cynllun newydd, mae'n werth imi dynnu sylw at y ffaith na chafodd unrhyw gwynion eu derbyn eleni am ein gwasanaethau dwyieithog, a phrin iawn hefyd fu'r nifer o achosion o fethu â chydymffurfio efo'r cynllun—adlewyrchiad, efallai, o'r ffaith bod egwyddorion y cynllun wedi eu gwreiddio go iawn i brosesau a gwaith bob dydd y sefydliad. Wrth gwrs, pan fydd achosion o’r fath yn codi, mi fyddwn ni yn sicrhau ein bod ni’n cymryd camau i unioni’r sefyllfa ac yn cofnodi ac yn rhannu unrhyw wersi sydd angen eu dysgu er mwyn osgoi achosion tebyg rhag codi yn y dyfodol. Dysgu ydym ni o hyd.

Mi symudaf i ymlaen rŵan at y cynllun ieithoedd swyddogol newydd ar gyfer y chweched Senedd. Mi fydd y rheini sy’n gyfarwydd â’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y bumed Senedd yn gweld yn syth ein bod ni wedi gwneud newid eithaf sylweddol i ddiwyg y cynllun ar gyfer y chweched Senedd. Mae hyn mewn ymateb i sylwadau gan Aelodau a staff ynglŷn â hyd y ddogfen, o bosib, ac ambell dro beth oedd yn cael ei weld efallai fel natur ychydig yn amwys i rai elfennau o’r safonau gwasanaeth. Wrth ddrafftio’r cynllun ar gyfer y chweched Senedd felly, mi oedd yna ymdrech fwriadol i gwtogi rhywfaint ar y naratif ac i lunio safonau gwasanaeth mwy penodol, a'u gwneud nhw mor glir ag sy'n bosib. Ein gobaith ni ydy y bydd hyn yn creu dogfen sy’n fwy perthnasol ac yn haws i’w defnyddio i’n holl randdeiliaid ni.

Rydyn ni hefyd wedi cyfuno’r strategaeth sgiliau iaith, oedd yn arfer bod yn ddogfen ar wahân, efo’r cynllun ei hun. Wrth drafod efo rhanddeiliaid a defnyddwyr dros gyfnod y bumed Senedd, y teimlad oedd bod y strategaeth yn rhan annatod mewn difrif o’r cynllun ieithoedd swyddogol ac felly y byddai’n fwy synhwyrol cyfuno’r ddwy ddogfen yn un. Cawn ni weld os ydych chi'n cytuno â hynny. Mi fydd hyn, dwi’n meddwl, nid yn unig yn sicrhau ein bod ni’n cadw gofynion y strategaeth mewn cof wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau dwyieithog yn y dyfodol, ond mi fydd o hefyd yn ei gwneud hi’n haws i Aelodau ein dal ni i gyfrif ar y cynnwys yn ystod y dadleuon blynyddol fel hyn, ac mae hynny'n bwysig iawn, wrth gwrs.

Yn unol â gofynion y Ddeddf, mae’r cynllun ar gyfer y chweched Senedd hefyd yn nodi’r meysydd gwaith hynny y bydd Comisiwn y Senedd yn canolbwyntio arnyn nhw dros gyfnod y chweched Senedd, a hynny ar ffurf themâu. Mae’r themâu yn cynnwys amcanion fydd yn llywio ein gwaith ni ac yn sicrhau ein bod ni, gobeithio, yn parhau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog o’r radd flaenaf. Rydyn ni’n trio gwella a chryfhau’r gwasanaethau o hyd. Mi fyddwn ni, er enghraifft, yn adolygu’r systemau recriwtio o ran gofynion sgiliau iaith a gafodd eu rhoi ar waith yn ystod y bumed Senedd. A dweud y gwir, ein teimlad ni ydy mai mireinio a chynnal safonau ydy prif ddiben y themâu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cynnal ein henw da fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy’n arwain y ffordd yn y maes yma. A thra ein bod ni'n chwilio wastad, fel dwi'n ei ddweud, am gyfleoedd i ddysgu oddi wrth eraill, rydyn ni hefyd yn eiddgar iawn i rannu’n profiadau ni a’n harbenigedd efo eraill.

A ninnau bellach wedi dod i arfer efo’r normal newydd yn dilyn y pandemig, mi fyddwn ni, fel y gwnes i gyfeirio ato fo’n gynharach, hefyd yn cyflwyno thema fydd yn nodi sut y byddwn ni'n dysgu o’n profiadau yn ystod y pandemig, yn benodol o ran y defnydd o’n hieithoedd swyddogol mewn trafodion, ond hefyd yn gyffredinol o ran yr heriau a’r cyfleoedd sydd wedi codi o ran darparu gwasanaethau dwyieithog.

Fel y gwyddoch chi, cyn y gall cynllun ieithoedd swyddogol newydd gael ei gyflwyno, mae’n rhaid i Gomisiwn y Senedd ymgynghori ar y cynnwys ac ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law drwy'r broses honno. Mi ddigwyddodd yr ymgynghoriad hwnnw ar sawl ffurf, gan gynnwys trafodaethau wyneb yn wyneb ac ar-lein, cyflwyno sylwadau ar ffurf electronig, ac ymgynghoriad ffurfiol ar ein gwefan ni hefyd, a buaswn i'n licio defnyddio'r cyfle yma i ddiolch i bawb a wnaeth ein helpu ni drwy'r broses honno i lunio'r cynllun fel ag y mae o erbyn hyn. Mi oedd pob un sylw yn werthfawr ac yn ddefnyddiol. Diolch yn arbennig i’r Aelodau a’u staff cymorth am eu hamser a’u sylwadau, a hefyd i’r pwyllgor diwylliant am gymryd amser i ystyried drafft. Mi gawson ni sylwadau hefyd gan sefydliadau allanol, a mewnbwn gan yr undebau llafur a staff Comisiwn y Senedd. Ac wrth gwrs dwi’n ddiolchgar tu hwnt i’r tîm wnaeth roi y cyfan at ei gilydd.

Wrth orffen am y tro, mi liciwn i ategu’r hyn ddywedais i yn y rhagair i’r cynllun newydd, sef ein bod ni fel Senedd yn gwasanaethu cenedl amrywiol, cenedl sy’n cynnwys yr ystod lawn o allu ieithyddol, cenedl aml-ddiwylliannol. Mae pobl Cymru yn disgwyl ein gweld ni yn gosod y safonau uchaf posibl ar draws ein holl wasanaethau, a gadewch i fi ddweud hyn: mae Senedd Cymru yn sefydliad i bawb, mae'r iaith Gymraeg yn iaith i bawb, ac mae’r cynllun yma, dwi'n ffyddiog, yn gosod fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog sy’n cefnogi pawb, sy’n eu hannog nhw i fynegi eu hunaniaeth, ac i wneud defnydd o'u sgiliau iaith waeth bynnag yw lefel y sgiliau hynny. Dwi'n edrych ymlaen at y cyfraniadau. Diolch yn fawr iawn ichi.

15:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch i'r Llywydd am gyflwyno hyn, ac am yr holl waith pwysig y mae hi'n ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith ar lawr y Senedd hon ac ar draws ystad Senedd Cymru. Diolch hefyd i'r Aelod o Ynys Môn am agor y ddadl. Mae'n bwysig ein bod yn arwain drwy esiampl yma yn y Senedd, nid yn unig i gyflawni targedau uchelgeisiol 'Cymraeg 2050', y byddwn yn cael diweddariad arnynt yr wythnos nesaf, ond hefyd i chwarae ein rhan i ddiogelu'r Gymraeg am genedlaethau i ddod.

Mae'r chweched Senedd hon wedi tystio i ddau ddiwrnod pwysig yn hanes modern yr iaith Gymraeg. Fis Hydref diwethaf, cafwyd yr agoriad brenhinol, sef ymweliad olaf y Frenhines Elizabeth. Fel y noda'r adroddiad, bu dwyieithrwydd yn rhan annatod o'r digwyddiad hwn, gyda chyfraniadau a pherfformiadau yn gwneud defnydd o'r ddwy iaith swyddogol fel rhan o'r dathliadau. Roedd yr ail un hefyd yn digwydd bod yn ymweliad brenhinol, pan ymwelodd y Brenin newydd â'r Senedd yn gynharach y mis hwn i dderbyn ein cynnig o gydymdeimlad. Gwelsom ein Brenin yn siarad â'r Siambr hon yn Gymraeg—araith wirioneddol ddwyieithog. Roedd hwn yn achlysur hanesyddol, sy'n dangos pa mor bell y mae'r Gymraeg wedi dod. Bydd hyn hefyd yn rhoi ysbrydoliaeth i lawer o'n hetholwyr.

Rwy'n falch o fod yn rhan o Senedd sy'n enghraifft gref o weithle dwyieithog, agored a chefnogol, sy'n meithrin datblygiad a defnydd o'r Gymraeg ar yr un lefel â'r Saesneg. Mae'r ffigurau ar gael i ddangos sut y mae'r defnydd o'r Gymraeg wedi cynyddu mewn busnes swyddogol gan Aelodau'r Senedd. Gofynnwyd 14 y cant o gwestiynau llafar yn Gymraeg neu'n ddwyieithog yn 2021-22, i fyny o 11 y cant yn y flwyddyn cyn COVID, 2018-19. Yn ystod yr un cyfnod, gwnaed 30 y cant o gyfraniadau ar lawr y Senedd yn ddwyieithog neu yn y Gymraeg, o'i gymharu ag 18 y cant yn 2018-19. Mae'r rhain yn ddatblygiadau gwych, ond mae llawer mwy i'w wneud.

Mae'n werth nodi, dros yr un cyfnod o amser, bod nifer y cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn y Gymraeg wedi gostwng o 10 y cant i 4 y cant, sy'n arwydd, efallai, bod mwy o gysur wrth ddefnyddio Cymraeg llafar na Chymraeg ysgrifenedig—rhywbeth rydw i'n bersonol yn ei deimlo. Nodaf o'r adroddiad bod nifer o gynlluniau ar waith i ddatblygu'r cynllun ieithoedd swyddogol ymhellach yn ystod y tymor seneddol hwn. Byddwn yn annog rhywfaint o ffocws ar yr agwedd ysgrifenedig ar yr iaith, yn ogystal â'r gair llafar, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oes unrhyw dargedau yn eu lle i fesur llwyddiant y cynllun dros y blynyddoedd i ddod.

Dirprwy Lywydd, mae llwyddiant y cynllun hwn yn bwysig. Fel y Blaid Geidwadol, mae gan y cynllun ein cefnogaeth; fe wnaf i wneud popeth y gallaf i'w weld e'n llwyddiannus, a gweld datblygiad a defnydd pellach o'r famiaith hanesyddol ar draws yr ystad seneddol ac ym mhob agwedd ar ein gwaith. Diolch.

Diolch yn fawr am y cynlluniau a'r adroddiadau yma. Dros y penwythnos, fe ges i'r pleser o ganu efo fy nghôr, CF1, gyda chôr arall ar gyfer y sioe deledu efo Rhys Meirion, Canu Gyda fy Arwr, i'w darlledu'n gynnar y flwyddyn nesaf. Dydy hi ddim yn anarferol i ni ymuno â chôr arall, ond yr hyn oedd yn anarferol ar yr achlysur yma oedd bod y corau nid yn unig yn canu ond hefyd yn defnyddio Makaton, ffurf o British Sign Language. Mae Lleisiau Llawen, sy'n cael eu hyfforddi gan Ceri a Sian, ac wedi eu lleoli yng Nghaernarfon, yn gôr adnabyddus sy'n rhoi cyfleon arbennig iawn i bobl anabl. Roedd yn bleser gweld aelodau'r côr hwnnw'n mynegi eu hunain drwy'r canu, ac roedd yr hapusrwydd ar eu hwynebau wrth berfformio yn hynod o emosiynol. Roedd y profiad yn fy atgoffa ac yn tanlinellu pwysigrwydd gweledigaeth Plaid Cymru i wneud Cymru'n lle mwy cynhwysol a thecach, gwlad lle nad yw neb yn cael ei adael ar ôl—dyna'r Gymru rydw i eisiau bod yn rhan ohoni. Gyda hynny mewn golwg, a oes unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i wneud BSL yn iaith swyddogol o fewn y Senedd? Os nad ydych chi'n gallu rhoi'r ymrwymiad hwnnw i mi heddiw, pa fesurau pellach sydd yna y gellir eu cymryd i hyrwyddo BSL ac annog pobl i'w ddefnyddio'n ddyddiol i wella eu gallu i ymgysylltu â'r Senedd? Diolch yn fawr. 

15:35

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y ddau gyfraniad a gawson ni gan Sam Kurtz a Peredur Owen Griffiths. Dim ond ychydig o sylwadau oedd gen i, felly, i ymateb. Diolch yn fawr iawn i Sam Kurtz. Ydy, mae hi'n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn dangos arweiniad yn bendant. Rydyn ni eisiau dangos yn fan hyn, onid ydyn, pa mor naturiol mae dwyieithrwydd yn gallu gweithredu mewn sefyllfa gyda'r mwyaf ffurfiol allwch chi gael, mewn ffordd. Ond hefyd, mae'r elfen yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ati hi o Gymraeg llafar yn rhywbeth dwi'n eiddgar iawn i'w ddathlu. O ran bod yn rhugl, mae lefel a defnydd pobl o iaith yn amrywio o un person i'r llall, ac mae eisiau cefnogi a dathlu pob ffordd mae pobl yn defnyddio'r iaith. 

O ran mesur llwyddiant, fel rôn i'n sôn, mae yna ffyrdd rydyn ni'n gallu casglu data—casglu data mor foel â faint o Gymraeg sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod gweithgareddau'r Senedd. Ond mae yna fwy na hynny iddi hi dwi'n meddwl. Nid dim ond cyfri geiriau ydy mesur pa mor naturiol mae dwyieithrwydd yn digwydd. Mae hynny'n digwydd, gobeithio, mewn adborth drwy'r amser. Dwi eisiau i Aelodau fan hyn deimlo eu bod nhw'n gallu siarad efo fi fel comisiynydd—a dwi'n siŵr fy mod i'n gallu siarad ar ran y Llywydd a'r Dirprwy—fel bod yna ymdeimlad yma o allu rhannu ein syniadau a'n pryderon ynglŷn â sut i ehangu dwyieithrwydd yma. 

I Peredur Owen Griffiths, diolch yn fawr iawn am rannu'r profiad o ganu efo'r côr, ac am gyfeirio at yr egwyddorion yna o gynhwysiant a thegwch sydd mor bwysig i ni. Mae'r cynhwysiant a'r tegwch yna yn rhywbeth sydd yn gallu cael ei roi yng nghyd-destun defnydd rhywun o iaith hefyd. Mae'n anodd i fi roi'r ymrwymiad, fel yr oedd yn awgrymu, ynglŷn â chreu statws iaith swyddogol arall, ond yr hyn ddywedaf efo BSL yw bod y Senedd, wrth gwrs, yn eiddgar iawn i weithio efo'n partneriaid i wneud yn siŵr bod yna gymaint â phosib o ddefnydd yn gallu cael ei wneud o BSL, ac yn sicr, pan fo pobl yn ymwneud â'r Senedd mewn sefyllfaoedd swyddogol, er enghraifft ceisio am swyddi a'r math yna o beth, bod y cynhwysiant yna yn cael ei ddangos tuag at bobl sydd yn defnyddio BSL. Mae'n darpariaeth ni ymhell o fod yn berffaith yma fel sefydliad, ond, wrth gwrs, rydyn ni'n eiddgar iawn i ddysgu a gwella o hyd. 

Felly, diolch i chi am yr amser i gael trafod y ddau adroddiad yma heddiw. Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu trafod adroddiadau yn y ffordd yma yn dangos mor normal a naturiol a chyfforddus mae dwyieithrwydd yn gorwedd yma yn y Senedd. Mae yna le i wella yn fan hyn. Mae yna le i ni basio'n arbenigedd i eraill, ond peidiwch ag aros tan ymgynghoriadau swyddogol chwaith i drafod efo'r Comisiwn eich syniadau eich hun ynglŷn â defnydd yr iaith. Mae'n drws ni fel Comisiwn ar agor bob amser. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'

Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'. Galwaf ar Buffy Williams i wneud y cynnig ar ran y pwyllgor. 

Cynnig NDM8077 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016’, a gasglodd 10,572 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n falch iawn o agor y drafodaeth ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'. Mae testun y ddeiseb yn dweud: 

'Mae nyrsys ledled Cymru yn brin o 1,719 o aelodau staff medrus iawn sy'n achub bywydau. Mae hyn yn golygu bod staff nyrsio yn rhoi 34,284 o oriau ychwanegol i GIG Cymru bob wythnos – ac nid yw'n ddigon o hyd. Mae ymchwil yn dangos, os oes llai o nyrsys, mae cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw, ac, yn gyffredinol, mae hyn yn codi i 29 y cant yn dilyn cyfnodau cymhleth o aros yn yr ysbyty. Dylai Llywodraeth Cymru ehangu Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i ddarparu’r tîm llawn o nyrsys sydd eu hangen yn daer ar y cyhoedd yng Nghymru.'

Diolch i'r Pwyllgor Busnes am gytuno â'n cais i drafod y ddeiseb hon, sydd wedi cael 10,572 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn rhan o ymgyrch ehangach sy'n cael ei harwain gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Maent yn dadlau y bydd ymestyn adran 25B—yr adran yn y Ddeddf sy'n ymwneud â chyfrifo lefelau staff mewn ystod o leoliadau—yn achub bywydau.

Maent yn cyfeirio at y cynnydd hyd yma, ers i'r Ddeddf gael ei phasio yn 2016. Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i amddiffyn gofal cleifion drwy osod lefelau staff nyrsio mewn deddfwriaeth. Roedd hyn yn gyflawniad arloesol. Drwy gyflwyno'r ddeddfwriaeth, tynnwyd sylw at nyrsio, newidiwyd ymddygiad byrddau iechyd, a sicrhawyd bod cleifion yn fwy diogel. Mae'r Alban wedi dilyn Cymru drwy gyflwyno Deddf Iechyd a Gofal (Staffio) (Yr Alban) 2019.

Mae'r lleoliadau sydd wedi'u cynnwys yn adran 25B eisoes wedi'u hymestyn. Pan basiwyd y ddeddf am y tro cyntaf, nid oedd adran 25B ond yn berthnasol i wardiau oedolion meddygol a llawfeddygol acíwt yn unig. Ar 1 Hydref 2021, cafodd ei ymestyn i gynnwys wardiau plant. Mae ymgyrchwyr bellach yn dadlau y dylai fod yn berthnasol ym mhob lleoliad lle mae gofal nyrsio yn cael ei ddarparu, gan ddechrau gyda wardiau nyrsio cymunedol a wardiau iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol. Nid oeddwn yn Aelod pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth, ond roedd dadleuon am ba mor bell a pha mor gyflym y gellid ymestyn lefelau staffio'n rhan fawr o daith graffu'r Bil. Mae'n parhau i fod yn fater cyfredol.

Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru adroddiad ar weithredu'r ddeddfwriaeth. Canfu hwn fod Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 wedi gwella gofal cleifion a chynyddu nifer y staff nyrsio ar wardiau sy'n cael eu cynnwys yn adran 25B. Yn llythyr Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Deisebau, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dweud bod cynsail teitl y ddeiseb yn ddiffygiol ac yn brin o gyd-destun deddfwriaethol pwysig. Mae hefyd yn nodi'r prinder byd-eang o staff nyrsio a'r gwaith parhaus i ddatblygu cynlluniau mwy effeithiol ar gyfer y gweithlu.

Mewn gohebiaeth i'r pwyllgor, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dadlau y bydd y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru amlinellu amserlen ar gyfer ymestyn a thynnu sylw at unrhyw rwystrau a chyfyngiadau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Byddai hyn yn caniatáu i'r cyhoedd gael gwell dealltwriaeth ynghylch pam na fu'n bosibl ymestyn adran 25B hyd yma. Edrychaf ymlaen at glywed y dadleuon ar bob ochr.

15:40

Diolch, Buffy, am agor y ddadl hon. Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi ymestyn Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys lleoliadau nyrsio cymunedol ac iechyd meddwl i gleifion mewnol. Rydym yn cefnogi ymestyn oherwydd mae'n amlwg i ni fod y sefyllfa y mae nyrsys yn cael eu rhoi ynddi'n annerbyniol ac yn y tymor hir, yn gwbl anghynaladwy i'r proffesiwn.

Bob wythnos, mae nyrsys yn gweithio 67,780 o oriau ychwanegol i GIG Cymru, sy'n gyfystyr â 1,807 o nyrsys ychwanegol. Yn y bôn golyga fod nyrsys yn cael eu gorweithio'n systematig gan fyrddau iechyd sy'n torri corneli yn y pen draw drwy beidio â chyflogi digon o nyrsys ar gyfer gofal cleifion. Yn y tymor hir, mae hyn yn niweidiol i iechyd meddwl ac iechyd corfforol nyrsys, sydd wedyn yn creu risg uwch y bydd gofal cleifion yn cael ei beryglu, ac yn cael sgil-effaith enfawr ar fywyd teuluol nyrsys wrth iddynt dreulio mwy a mwy o amser oddi wrth eu teuluoedd, yn gweithio shifftiau hwy o hyd. Mae'n creu argraff negyddol fod nyrsio'n ddewis gwael fel gyrfa.

Cefais fy synnu'n wirioneddol gan y nifer o achosion ym myrddau iechyd Cymru lle mae prinder staff wedi arwain at bryderon dwfn ynglŷn â diogelwch cleifion, a hyd yn oed wedi arwain at anafiadau a marwolaethau—o brinder bydwragedd yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lle canfu adolygiad annibynnol y gallai traean o farw-enedigaethau fod wedi cael eu hatal gyda gofal a thriniaeth briodol, i brinder yng ngwasanaethau fasgwlaidd a gwasanaethau brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle canfu Coleg Brenhinol y Llawfeddygon bwysau gweithredol uniongyrchol yn sgil argaeledd meddygon ymgynghorol a staff nyrsio o fewn y bwrdd iechyd. Mae'n amlwg fod pwysau staffio difrifol yn parhau ac yn arwain at ddiffygion difrifol mewn gofal.

Gan droi at iechyd meddwl, canfu adroddiad Ockenden ar Tawel Fan fod rhai cleifion wedi profi colli urddas, wedi cael eu gadael mewn cynfasau gwlyb gan wrin neu wedi'u canfod yn crwydro'r ward heb oruchwyliaeth. Yn yr un modd, canfu adroddiad Holden ar uned Hergest yng ngogledd Cymru fod lefelau staffio annigonol yn golygu na chafodd anghenion cleifion yn yr uned eu diwallu, ac arweiniodd hyn at beryglu urddas a diogelwch cleifion. Mae ymchwil grŵp y Ceidwadwyr Cymreig eu hunain wedi tynnu sylw at lefelau staffio anniogel yn unedau damweiniau ac achosion brys Cymru, ac mae'n amlwg fod gweithlu GIG Cymru yn parhau i wynebu gorflinder ar ôl sawl blwyddyn o'r pandemig, ochr yn ochr â rhestrau aros cynyddol a phwysau mewn gofal brys. Rwyf fi, fel llawer o bobl eraill, yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o gefnogaeth yn y maes hwn, a chanolbwyntio ymdrechion ar gynyddu lleoedd i fyfyrwyr, a chefnogi gweithlu mwy y GIG yn y pen draw.

Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, Cymru yw'r unig wlad yn y DU nad yw'n cyhoeddi ystadegau cenedlaethol ar gyfer swyddi nyrsio gwag yng Nghymru, sy'n gwneud i lawer gredu bod rhywbeth i'w guddio. Ond bydd o ddiddordeb i'r Aelodau glywed bod ffigurau a roddwyd i mi gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn dangos bod 2,900 o swyddi nyrsio gwag yn 2021-22, gan gostio £133.4 miliwn i GIG Cymru mewn nyrsio brys—cynnydd o 41 y cant o'r flwyddyn ariannol flaenorol. Ac fel y soniodd fy nghyd-Aelod Buffy Williams hefyd, canfu'r Coleg Nyrsio Brenhinol fod 144 o nyrsys cyfwerth ag amser llawn ychwanegol a 597 o weithwyr cymorth gofal iechyd amser llawn ar wardiau adran 25B ym mis Tachwedd 2020, o'i gymharu â mis Mawrth 2018, a oedd cyn i adran 25B ddod i rym. Mae hyn yn dangos y bydd ymestyn adran 25B ar lefelau staff nyrsio'n cael effaith gadarnhaol bwysig. Rwy'n credu y bydd pob Aelod yma yn cytuno â mi y byddai'n annerbyniol iawn inni beidio ag ymestyn adran 25B. Ac rwy'n annog pob Aelod yma felly i gefnogi'r cynnig. Diolch. 

15:45

Cyn i mi symud ymlaen, mae yna sŵn bach yn y Siambr, ac rwyf wedi gofyn i TGCh edrych ar hynny. A yw'r Aelodau'n hapus i barhau, neu a yw'r sŵn yn tynnu eich sylw? Ydy? Iawn. Wel, fe gawn weld a allwn ni ddatrys hynny, gobeithio. Fe wnawn ni barhau. Rhun ap Iorwerth. 

Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma. Diolch i'r deisebwyr, wrth gwrs, am gasglu'r enwau er mwyn tynnu sylw eto at y sefyllfa argyfyngus rydyn ni'n ei hwynebu, o ran niferoedd swyddi gwag a'r angen i ymestyn y ddeddfwriaeth ar lefelau nyrsio diogel o fewn ein gwasanaeth iechyd ni. A dwi'n ailadrodd y gair yna: 'diogel'. Mae hyn yn ymwneud â diogelwch cleifion. Rhywun o'ch teulu chi efallai—chi eich hun, efallai. O ddyfynnu o'r ddeiseb ei hun, os oes llai o nyrsys na ddylai fod,

'mae cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw.'

Diogelwch ydy hyn. Ac, wrth gwrs, mae'r fframwaith yn y ddeddfwriaeth ar gyfer sicrhau lefel staffio diogel gennym ni yn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Eisiau ei hymestyn hi ydym ni. Rydyn ni'n galw eto heddiw—. Oes oedd gofyn i'r Ddeddf gyrraedd pob rhan o'r NHS nôl yn 2016 yn gofyn lot, os oedd o'n ormod bryd hynny, mewn termau ymarferol, wel, â ninnau yn 2022, mae'n amser i ymestyn ymhellach—ymestyn adran 25B.

Wrth gwrs, nid yw profiadau'r pandemig ond wedi atgyfnerthu'r hyn yr ydym yn ei wybod eisoes am y GIG a'r gweithlu nyrsio—gweithlu a oedd yn dioddef o brinder staff, cyflogau isel, digalondid, un a weithredai mewn amgylchedd wedi ei amddifadu o fuddsoddiad ac adnoddau. Nid oes ryfedd mai un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu yw cynaliadwyedd y gweithlu nyrsio. Mae llawer mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag o nyrsys sydd newydd gymhwyso neu nyrsys sydd wedi'u recriwtio'n rhyngwladol. Ac yn anffodus, nid oes digon o weithredu wedi bod gan Lywodraeth Cymru ers adroddiad diwethaf y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2019 i fynd i'r afael â phroblem cadw staff nyrsio.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw arwain, a chymryd yr awenau, mewn perthynas â chadw nyrsys drwy greu strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw staff. Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi cyhoeddi papur ar gadw staff sy'n nodi'r hyn a wneir mewn rhannau eraill o'r DU a'r hyn y gellid ei wneud yng Nghymru. Yn lle hynny, mae'n ymddangos y byddai'n well gan Lywodraeth Cymru guddio ei phen yn y tywod yn hytrach na wynebu maint y broblem. Nid oes unrhyw ystadegau cenedlaethol wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar swyddi nyrsio gwag. Wel, rydym wedi ceisio helpu gyda hynny; mae'r ddeiseb sydd gennym o'n blaenau yn sôn am 1,700 o swyddi gwag. Yn ddiweddar, cefais ffigur o dros 400 o lefydd gwag mewn un bwrdd iechyd. Felly, o weld hynny, roeddwn yn gwybod bod 1,700 yn swnio'n rhy isel, felly fe wnaethom gynnal ein hymchwil newydd ein hunain ochr yn ochr â'u hymchwil hwy. Fe wnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yr un peth, a daethom i'r un canlyniad: mae bron i 3,000 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru. Mae'n ffigur brawychus, ond mae ymchwil ehangach y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud mwy wrthym: dangosodd ffigurau yn gynharach eleni fod dros hanner nyrsys Cymru wedi digalonni oherwydd argyfwng staffio. Roedd 78 y cant o nyrsys yn teimlo bod gofal cleifion yn cael ei beryglu. Nid yw'r problemau hyn yn mynd i ddiflannu; mae angen mynd i'r afael â hwy yn awr.

Yn y gorffennol, mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud bod adran 25B yn seiliedig ar dystiolaeth; y ffaith ei bod wedi ei seilio ar dystiolaeth yw'r hyn sy'n rhoi hygrededd i'r Ddeddf, ond er bod y dystiolaeth yn dynodi'r angen yn glir i sicrhau diogelwch cleifion drwy staffio diogel, mae hi'n parhau i fod yn amharod i weithredu. Edrychwch ar ganfyddiadau adroddiad Tawel Fan ym mis Medi 2014; mae hwnnw'n sicr yn dangos bod y cyfuniad o ddiffyg cyllid, prinder staff digonol, prinder sgiliau yn y gweithlu a diffyg arweinyddiaeth gyda'i gilydd yn cael effaith erchyll ar ofal cleifion, ac nid eir i'r afael â'r problemau sy'n codi o hynny. Ym mis Mehefin 2021, ysgrifennodd 16 o sefydliadau at y Prif Weinidog i annog y Llywodraeth i sicrhau lefelau staff nyrsio diogel ac ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys lleoliadau cymunedol a wardiau iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol. Ond rydym yn dal i aros. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weld gwerth ein gweithlu nyrsio yn y ffordd hon?

Deallaf fod y prif swyddog nyrsio wedi ysgrifennu at Addysg a Gwella Iechyd Cymru ynglŷn â rhaglen staff nyrsio Cymru, a'i bod wedi nodi nad yw am gyhoeddi'r egwyddorion ar gyfer iechyd meddwl nac ymwelwyr iechyd. Nawr, nid yw hynny'n argoeli'n dda. Byddai'n golygu bod y gwaith ar gyfer y ffrydiau gwaith hynny'n annhebygol o symud ymlaen. A gaf fi ofyn, a yw'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi'r egwyddorion ar gyfer iechyd meddwl ac ymwelwyr iechyd, ac os nad yw am wneud hynny, pam ddim? Rydym yn gwybod bod lefelau staffio sy'n rhy isel yn peryglu llesiant—a hyd yn oed bywydau—cleifion. Rydym yn gwybod ei fod yn gwaethygu digalondid ymhlith y gweithlu, gan arwain at golli staff profiadol a gwerthfawr. Ni allwn aros mwyach. A gawn ni weld Llywodraeth Lafur sy'n barod i wneud yr hyn sy'n iawn i'r gweithlu nyrsio ac i gleifion? Ac unwaith eto, diolch i'r deisebwyr.

15:50

Dylai pawb ohonom fod yn bryderus ynglŷn â'r posibilrwydd fod bron i 1,800 o swyddi'n wag ledled Cymru, oherwydd nid oes amheuaeth y bydd prinder nyrsys yn peryglu gofal nyrsio; mae'n anochel. Dywedodd Buffy Williams wrthym ei fod wedi arwain at newid ymddygiad o fewn byrddau iechyd, ac rwy'n gobeithio, felly, y bydd gwelliant a mwy o ffocws ar sicrhau bod lefelau staffio'n ddigonol mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt, oherwydd yn amlwg dyna lle mae'r cleifion mwyaf difrifol wael fel arfer, ac felly, y rhai y gellir achub eu bywydau drwy sicrhau gofal nyrsio gwell.

Ond mae'n debyg mai'r hyn rwyf am ei ddeall yw a yw'r ymestyn diweddar i gynnwys wardiau plant ym mis Hydref y llynedd wedi llwyddo i sicrhau bod gennym gyflenwad llawn o nyrsys mewn wardiau plant, oherwydd, yn y pen draw, mae hyn i gyd yn ymwneud â recriwtio a chadw nyrsys, ac os ydym ond yn datrys un broblem drwy greu un arall, nid ydym yn ateb y broblem o gwbl mewn gwirionedd. Os ydym am ei ymestyn i leoliadau nyrsio cymunedol ac iechyd meddwl, sy'n swnio'n ddelfrydol, a yw'r nyrsys hyn yn bodoli allan yno mewn gwirionedd, ac os nad ydynt, pam ddim? Felly, rwyf eisiau edrych ar y problemau recriwtio a chadw staff y mae pob bwrdd iechyd yn eu hwynebu, a hynny'n rhannol oherwydd os ydych yn gyflogedig fel aelod o staff fel nyrs, ni cheir yr hyblygrwydd sydd ei angen ar rywun sydd hefyd â chyfrifoldebau gofalu er mwyn sicrhau eu bod ond yn cytuno i wneud y gwaith y maent ar gael i'w wneud, yn hytrach na'r hyn y mae'r GIG eisiau iddynt ei wneud.

Os oes gennych chi blant bach, ni fyddwch yn gallu gollwng popeth dros nos, gweithio dros nos, gweithio diwrnodau gwahanol pan nad oes gennych ofal plant; nid yw'n bosibl. Ac felly, dyna un o'r rhesymau pam fod nyrsys ar y brif raddfa yn cael eu gyrru i wneud gwaith asiantaeth. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2021-22, gwariodd GIG Cymru £133 miliwn ar nyrsys asiantaeth, cynnydd o 41 y cant ers y flwyddyn ariannol flaenorol. Nawr, byddai hynny'n talu cyflogau bron i 5,000 o nyrsys newydd gymhwyso, felly mae rhywbeth o'i le yma, a byddai'n ddefnyddiol clywed barn y Gweinidog ar hyn, oherwydd mae asiantaethau'n cynnig tâl gwell o'i gymharu â thâl cyfatebol staff y GIG. A dyna sydd wedi arwain at y sefyllfa hurt lle mae nyrsys asiantaeth yn teithio o Lundain neu Fanceinion i lenwi swyddi gwag yn ysbyty Heath neu yn Ysbyty Gwynedd.

Felly, rwy'n deall pam fod contract fframwaith asiantaeth newydd Cymru a lofnodwyd y llynedd ar gyfer 2021-24 yn capio'r cyfraddau fesul awr i asiantaethau nyrsio, neu fel arall, rydych yn gwneud y broblem yn waeth. Ond os ydych yn dibynnu ar nyrsys asiantaeth, rydych yn gwario mwy o arian y gallech fod yn ei wario ar weithlu parhaol, ond rydych chi hefyd mewn perygl o fod mewn sefyllfa beryglus iawn lle na fydd gennym ddigon o staff, a bydd y rhai sy'n dal i weithio i'r GIG wedi ymlâdd yn llwyr a naill ai'n ymddeol yn gynnar neu'n chwilio am swydd arall. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn a dylem ddiolch yn fawr i'r deisebwyr am ei godi.

Rwy'n credu mai un o'r pethau y gallem ddysgu ohono yw pwysigrwydd gofal iechyd darbodus ac i ba raddau yr ydym yn defnyddio timau amlddisgyblaethol yn effeithiol, dan arweiniad nyrsys cymwys iawn, ond gyda phobl eraill lai cymwys yn gweithio oddi tanynt i wneud rhai o'r swyddi gofalu pwysig y gwn eu bod yn cael eu gwneud gan nyrsys cynorthwyol neu gynghorwyr bwydo ar y fron, yn dibynnu ar ba leoliad y maent yn gweithio ynddo. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n un ateb ar gyfer atal chwalfa bosibl yn y ffordd yr awn ati i ddarparu gofal nyrsio yn y gymuned ac yn ein hysbytai.

15:55

Cefais fy ysgogi, mewn gwirionedd, i gyfrannu at yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl dau ymweliad. Roedd yr ymweliad cyntaf ag Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn fy etholaeth dros doriad yr haf, lle cyfarfûm â staff a chefais drafodaeth ddi-flewyn-ar-dafod a gonest iawn gyda hwy ynghylch y lefelau staff nyrsio y maent yn eu gweld. Rydym yn hollol gywir i siarad am nyrsys yn gadael y proffesiwn, ond mae'r rhai sy'n aros yn gwneud hynny am eu bod yn ofni siomi eu cydweithwyr, sydd, yn fy marn i, yn eithaf torcalonnus i'w glywed gan y rhai sydd ar y rheng flaen yn ein gwasanaethau ysbyty. Maent ar ben eu tennyn.

Roedd yr ail ymweliad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ddoe, lle cefais ffigurau fy mwrdd iechyd fy hun, sef Hywel Dda. Roedd gwariant Hywel Dda ar nyrsys asiantaeth yn £28.9 miliwn ar gyfer 2021-22, ac roedd y gyfradd swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig yn 2021-22 yn 539.2—sef tua 20 y cant—yr uchaf yng Nghymru. Mae'r rhain yn ystadegau anhygoel, ac maent yn dangos pam ein bod ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, ar yr ochr hon i'r Siambr yn sefyll yn unedig ar hyn ac yn cefnogi ymestyn adran 25B yn llwyr. Rwy'n credu bod gwir angen inni asesu'r hyn yr ydym yn ei wneud i gefnogi ein nyrsys, oherwydd hwy yw asgwrn cefn ein system gofal iechyd, boed mewn ysbytai cyffredinol, neu mewn meddygfeydd, lle mae ymarferwyr nyrsio yn datblygu rôl strategol fwy. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n croesawu'r ddadl hon heddiw, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau. 

Fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf fi, wrth gwrs, yn deall yr heriau y mae ein gweithlu GIG yn eu hwynebu bob dydd. Rydym wedi byw drwy bandemig heriol, yn bennaf oherwydd ymdrechion anhygoel ein gweithwyr rheng flaen, a'r staff nyrsio yn enwedig, a byddwn yn ddiolchgar iddynt am byth am hynny.

Nawr, rwy'n ymwybodol nad yw'r pandemig ar ben ac nid ydym yn gwybod pa ddigwyddiadau annisgwyl a fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol. Y gwir amdani yw bod ei effeithiau gweddilliol yn creu pwysau gwirioneddol ar draws y system. Bydd y rhagolygon economaidd llwm yn y gaeaf sydd ar y ffordd a thu hwnt yn cael effaith bellach ar hynny. 

O ganlyniad, mae sicrhau bod gennym y gymysgedd gywir o sgiliau gweithlu ar draws ein system iechyd a gofal i ddarparu gofal priodol, holistig, personol i bobl Cymru yn sylfaenol bwysig, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno ar y pwynt hwnnw. Ond mae arnaf ofn na allaf gytuno â honiad y ddeiseb hon y bydd ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) ynddo'i hun yn cyflawni hynny. Yn gyntaf, mae'r Ddeddf yn mynnu bod offeryn cynllunio'r gweithlu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn elfen angenrheidiol ar gyfer ystyried cymhwyso adran 25B i unrhyw sefyllfa ofal benodol, ac nid oes offer o'r fath yn bodoli ar gyfer sefyllfaoedd eraill ar hyn o bryd. Felly, nid ydym yn dweud 'byth', rydym yn dweud 'ddim ar hyn o bryd'. [Torri ar draws.] Ac mae unrhyw alwad i gymhwyso—os gwnewch chi adael i mi orffen y frawddeg, diolch—mae unrhyw alwad i gymhwyso adran 25B o'r Ddeddf ar draws lleoliadau clinigol newydd yn anwybyddu'r ffaith honno. A phan edrychwch er enghraifft ar wardiau iechyd meddwl, y ffaith amdani yw eu bod yn galw am ofal mwy cymhleth, felly mae ganddynt dimau amlddisgyblaethol, ac maent yn fwy cymhleth. Felly, ni allwch edrych yn unig ar yr hyn sy'n digwydd ar un ward a'i estyn i ward arall. Mae'n rhaid inni ddeall bod amgylchiadau gwahanol yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r offer cynllunio hynny fod yn effeithiol. 

16:00

Diolch am gymryd yr ymyriad, Weinidog. O ran cynllunio'r gweithlu, clywsom fod y gyfradd swyddi gwag ychydig o dan 3,000, ond daw'r ffigur hwnnw gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, ac mae'r gwrthbleidiau yma wedi gwneud eu hymchwil eu hunain i gyrraedd y ffigur hwnnw. Ond yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi'r ffigurau hynny, a tybed a fyddech chi'n ystyried gwneud hynny, oherwydd byddai hynny ynddo'i hun o gymorth, rwy'n gobeithio, i dynnu sylw at y problemau a helpu i fynd i'r afael â'r materion sy'n codi mewn perthynas â'r gweithlu.

Diolch yn fawr. Wel, gofynnais i Addysg a Gwella Iechyd Cymru wneud ychydig o waith ar hyn, felly dof at hynny mewn eiliad, os nad oes ots gennych.

Yr ail bwynt y credaf ei bod yn bwysig iawn ei ddeall yw, hyd yn oed pe bai'r adnoddau hynny ar gael ar gyfer pob sefyllfa nyrsio, mae'n anghywir awgrymu y byddai ymestyn adran 25B i gynnwys pob un o'r meysydd hynny'n arwain at roi'r 'tîm llawn o nyrsys' i Gymru, fel y mae'r ddeiseb yn ei roi, a hynny'n syml am nad yw'r nyrsys hynny'n bodoli ar hyn o bryd. Felly, mae'r prinder staff nyrsio yn broblem a brofir yn fyd-eang; nid problem yng Nghymru'n unig yw hi. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amcangyfrif mai swyddi gwag ym maes nyrsio a bydwreigiaeth ar hyn o bryd yw mwy na 50 y cant o'r prinder byd-eang o weithwyr iechyd. Nawr, gwyddom fod cryn dipyn o swyddi nyrsys cofrestredig eisoes yn wag yn ein byrddau iechyd ac ar draws ein sectorau gofal, ac nad yw hyn yn fater a fyddai'n cael ei ddatrys yn uniongyrchol drwy ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru).

Nawr, rydym eisoes yn gwneud llawer iawn i recriwtio a hyfforddi nyrsys. Mae nifer y llefydd hyfforddi a gomisiynwyd wedi cynyddu 69 y cant i 2,396 ers 2016, felly byddai hynny'n mynd â ni'n bell tuag at y 3,000 a nodwyd gennych. Ond mae angen inni gydnabod mai cadw staff yw'r broblem, a dyna pam fy mod wedi gofyn i Addysg a Gwella Iechyd Cymru wneud mwy o waith ar gadw staff nyrsio yn benodol. Rwy'n falch iawn o fynd i Aberystwyth ddydd Gwener i agor y ganolfan newydd lle byddwn yn hyfforddi rhagor o nyrsys yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n deall hefyd—. Ac rwy'n cydnabod ein bod yn gwario gormod o arian yn awr ar nyrsys asiantaeth, felly rwyf wedi gofyn eto am i rywfaint o waith gael ei wneud ar hynny. Sut mae gostwng cost nyrsys asiantaeth? Nid yw'n syml. Os ydych chi'n rhoi mwy o arian i'n nyrsys presennol, bydd costau staff asiantaeth yn codi ac mae gennym fylchau o hyd. Felly, nid oes dim ohono'n syml, ond rwyf wedi gofyn i rai pobl allweddol helpu, i feddwl am syniadau ar gyfer sut y gallwn—

[Anghlywadwy.]—byddwn yn gwerthfawrogi pe baech yn gadael imi wneud ymyriad byr ar nyrsys asiantaeth, os yn bosibl.

O, maddeuwch i fi. O'r gorau. Fe wnaethoch chi ofyn am syniadau; roeddwn i am roi un i chi.

Diolch. Wel, nid pan wyf ar fy nhraed ar ganol dadl. Gofynnais am syniadau gan y gweithwyr proffesiynol sy'n fy helpu gyda hyn.

Nawr, mae'n ymddangos mai'r hyn y mae llofnodwyr y ddeiseb yn ei ddweud yw eu bod yn dymuno gweld y nifer gywir o nyrsys a staff gofal iechyd yn y system i ddiwallu anghenion gofal pobl Cymru, a dyna yw fy nymuniad i hefyd. Ond fydd addewid deddfwriaethol nad oes modd ei gyflawni ddim yn sicrhau hynny, a allaf i ddim ymrwymo Llywodraeth Cymru i'r dull yna o weithredu. Yn hytrach, mae'r camau a fyddai'n helpu i sicrhau hynny yw cynllunio a modelu'r gweithlu mewn modd effeithiol, strategaethau effeithiol ar gyfer recriwtio a chadw staff, gan gynnwys rhaglenni sydd wedi'u safoni ar gyfer darparu goruchwyliaeth glinigol a thiwtoriaeth i'n staff nyrsio, a hefyd, wrth gwrs, recriwtio rhyngwladol. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn arwain ar ddatblygu cynllun gweithlu cenedlaethol cynaliadwy ar gyfer nyrsio, a dwi'n disgwyl y bydd y gwaith hwn yn arwain at ddatrysiadau a ffocws i fynd i'r afael â'r heriau sylfaenol yma o ran y gweithlu. Diolch. 

16:05

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb, a hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw a'r Gweinidog am ei hateb. Nyrsys yw tua 40 y cant o weithwyr GIG Cymru; hwy yw calon ac enaid ein gwasanaeth iechyd gwladol. Pa blaid bynnag yr ydym yn perthyn iddi a pha gymuned bynnag yr ydym yn ei chynrychioli, yr hyn sydd wedi bod yn glir yn y ddadl hon yw ein bod i gyd am sicrhau bod gennym y nifer priodol o nyrsys i sicrhau diogelwch a lles cleifion. Ond yr her allweddol yw sut y gallwn gyflawni hynny, yn enwedig yn wyneb prinder byd-eang o nyrsys. Hoffwn ddiolch i aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol am fynychu'r ddadl heddiw; edrychaf ymlaen at eu gweld yn y Neuadd yn ddiweddarach heno i nodi lansiad eu hadroddiad newydd.

Rwy'n gobeithio bod y ddadl heddiw wedi taflu goleuni pellach ar y cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf a'r heriau sy'n parhau, ac rwy'n gwybod bod hwn yn fater a fydd yn parhau i gael ei drafod ymhell i'r dyfodol. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol

Eitem 7 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig—canser gynaecolegol. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8082 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod mis Medi yn fis ymwybyddiaeth canser gynaecolegol.

2. Yn mynegi ei phryder mai'r perfformiad llwybr canser unigol isaf yn ôl safle tiwmor yw'r un gynaecolegol, gyda llai na thraean o gleifion yn cael eu gweld o fewn 62 diwrnod.

3. Yn gresynu at y ffaith bod cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.

4. Yn nodi ymhellach ymchwil a wnaed gan Jo's Cervical Cancer Trust sy'n amlygu na all 80 y cant o fenywod sy'n gweithio'n llawn amser gael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gynnal adolygiad brys i amseroedd aros canser gynaecolegol;

b) sicrhau bod cynlluniau'r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser yn canolbwyntio ar iechyd gynaecolegol; ac

c) cyflwyno ei chynllun gweithredu canser ar unwaith.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Yn y cynnig hwn heddiw, rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun gweithredu ar gyfer canser yn cael ei gyhoeddi ar frys, ochr yn ochr â chanolbwyntio ei chynllun gweithlu canser ar iechyd gynaecolegol, gyda nodau clir a mesuradwy y gellir eu cyflawni o fewn y pump i 10 mlynedd nesaf.

Yn awr yn fwy nag erioed, mae'n rhaid rhoi'r flaenoriaeth y maent yn ei haeddu i wasanaethau canser gynaecolegol. Nid oes fawr o amheuaeth fod y pandemig, wrth gwrs, wedi cyflymu anghydraddoldebau mewn gofal iechyd, yn enwedig ym maes canserau benywaidd. Mae'r cyfraddau goroesi canser diweddaraf rhwng 2015 a 2019 yn dangos bod y cyfraddau goroesi pum mlynedd wedi lleihau 4 y cant ar gyfer canser y groth dros y degawd diwethaf, yr unig ganser i weld ei gyfraddau goroesi'n lleihau dros gyfnod o 10 mlynedd.

Mae oedi gwasanaethau sgrinio hanfodol am bedwar mis yn 2020, ochr yn ochr â chyfyngiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi peri i'r nifer sy'n mynychu sgriniadau serfigol ostwng i'w lefel isaf ers dros ddegawd. Ar ben hynny, mae llawer o fenywod a gafodd wahoddiad i apwyntiadau yn ei chael hi'n anodd trefnu amser addas gyda'u cyflogwyr, a rhai'n aml yn defnyddio gwyliau blynyddol ar gyfer mynychu triniaethau meddygol.

Yn anffodus, nid yw amseroedd aros hir am driniaethau canser yn newydd. Ni chyrhaeddwyd targedau amseroedd aros canser ers 2008. Roedd y nifer a gafodd driniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Chwefror 2020 yn 56%; roedd hynny cyn y pandemig wrth gwrs. Er bod gan ganserau gynaecolegol gyfradd oroesi un flwyddyn a phum mlynedd sydd fel arfer yn uchel, mae perfformiad triniaeth i safleoedd tiwmor gynaecolegol yn erbyn y llwybr canser unigol wedi gostwng yn sylweddol, gan arwain at bryderon ynglŷn ag a fydd cyfraddau goroesi yn lleihau ymhellach oherwydd y pandemig. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bryd, ac mae'n hanfodol, fod cleifion yn cael eu gweld yn gyflym, i dderbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt, a drwy gael cynllun cadarn yn ei le, rwy'n credu y gallwn ddechrau gwneud cynnydd ar hyn.

Fel rhan o hyn, rwy'n credu o ddifrif y dylai gweithlu canser arbenigol sy'n gallu ymdopi â'r galw ac ôl-groniadau cynyddol fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, er mwyn atal cyfraddau goroesi canser gynaecolegol rhag llithro ymhellach. Eisoes, yng Nghymru y ceir y prinder mwyaf o arbenigwyr canser yn y DU. Dywedodd 90% o gyfarwyddwyr clinigol yng Nghymru wrth Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn 2021 eu bod yn poeni am ddiogelwch cleifion. Ac nid oes dim o'r hyn a nodais, wrth gwrs, yn fater pleidiol wleidyddol. Nid yw'r pwyntiau a wneir yn rhai pleidiol wleidyddol. Mae llawer o sefydliadau wedi mynegi pryder mawr ynghylch y gweithlu. Er enghraifft, canfu Cymorth Canser Macmillan hefyd fod un o bob pump o'r rhai a gafodd ddiagnosis o ganser yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf yn dweud nad oeddent wedi cael darpariaeth nyrsio canser arbenigol wrth gael diagnosis neu driniaeth, ac mae Ymchwil Canser y DU hefyd wedi nodi bod bylchau yng ngweithlu'r GIG yn rhwystr sylfaenol rhag gallu trawsnewid gwasanaethau canser a gwella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. Ac yn syfrdanol, er gwaethaf y pryderon difrifol hyn, nid yw cynllun gweithlu 10 mlynedd diwethaf y GIG yn cynnwys cynllun gweithlu penodol ar gyfer arbenigwyr canser. A dweud y gwir, nid yw strategaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Hydref 2020 yn sôn am ganser o gwbl. Ac er bod yna nodau canmoladwy, wrth gwrs—rwy'n derbyn hynny—yn natganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar ganser, mae'r diffyg manylion yng nghynllun gweithlu 10 mlynedd y GIG ar gyfer arbenigwyr canser wedi ei adlewyrchu yn y ddogfen hon, gwaetha'r modd.

Mewn ymateb i ddadl Mabon ap Gwynfor ar driniaeth a diagnosis canser ym mis Rhagfyr, er bod y Gweinidog wedi sôn am y datganiad ansawdd canser, unwaith eto, ni roddwyd llawer o fanylion i sicrhau sut y gellid cyflawni'r gwaith o ehangu'r gweithlu canser. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn bryderus dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynglŷn â'r diffyg cynnydd a wnaeth Llywodraeth Cymru ar gefnogi gwasanaethau canser i adfer o'r pandemig a'r diffyg blaengynllunio i sicrhau bod gwasanaethau canser yn addas ar gyfer y dyfodol.

Diolch, Weinidog, am wrando'n astud ar fy nghyfraniad i heddiw. I mi, un peth yw i mi ailadrodd yr un dadleuon ag y buom yn eu cael ers blynyddoedd, ond mae hwn yn faes penodol y credaf o ddifrif y dylem fod yn arwain drwy esiampl arno. Mae Jo's Cervical Cancer Trust wedi amlinellu'n ffurfiol yr hyn sy'n rhwystro menywod rhag cael prawf syml a fyddai'n eu hatal rhag mynd drwy driniaethau sy'n aml yn gymhleth neu wynebu risg o farw hyd yn oed, felly nid wyf yn credu y gallwn oedi ymhellach. Mae'n rhaid inni sicrhau bod menywod yn cael profion, yn cael diagnosis yn gynharach, ac yn cael eu profi o fewn amseroedd targed, ar gyfer canser gynaecolegol yn enwedig.

Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cynnig hwn heddiw'n ennyn cefnogaeth drawsbleidiol. Nid mater pleidiol wleidyddol ydyw; mae'n rhywbeth y credaf y gall pawb ohonom ei gefnogi. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl heddiw.

16:10

Diolch yn fawr i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig hwn, oherwydd mae iechyd menywod yn cael llawer llai o sylw gan y GIG, gan ymchwil feddygol a'r diwydiant fferyllol, felly mae croeso gwirioneddol i unrhyw beth sy'n taflu goleuni ar iechyd menywod. A dylem i gyd boeni bod llai na thraean o atgyfeiriadau gynaecolegol yn cael eu gweld o fewn 62 diwrnod, ond ar ôl siarad â rhai o'r gynaecolegwyr a'r obstetregwyr sy'n gweithio yn Lloegr, rwy'n derbyn nad rhywbeth sy'n wynebu Cymru'n unig yw hyn; mae hefyd yn destun pryder mawr ar draws y GIG.

Rwy'n meddwl mai un o'r pethau sydd angen inni ei wneud wrth edrych ar pam fod atgyfeiriadau gynaecolegol—. Yn amlwg, mae rhestrau aros yn llawer hirach nag y mae gennym gapasiti i'w gweld ar hyn o bryd. A ydynt yn briodol, yr atgyfeiriadau gynaecolegol hyn, neu a yw'n wir nad yw pobl mewn gofal sylfaenol yn ymdrin â materion eu hunain, pan ddylent fod yn gwneud hynny? Nawr, mae angen inni ddechrau, wrth gwrs, gydag atal, ac rwy'n credu bod yr addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn helpu pob dinesydd i fod yn ymwybodol o sut mae eu corff yn gweithio a'r hyn sy'n normal a beth nad yw'n normal, a phryd y dylent ofyn am gyngor. Mae hynny'n bwysig iawn. Mae angen inni weithredu gofal iechyd darbodus mewn gofal sylfaenol, ac rwy'n cofio, er enghraifft, sut y bu'n rhaid llusgo Llywodraeth y DU gerfydd ei fferau i wneud erthyliadau telefeddygol yn nodwedd barhaol o ddarpariaeth iechyd rhywiol, rhywbeth y gwnaeth Cymru wneud penderfyniad beiddgar yn ei gylch. Mae'n amlwg mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud, yn enwedig i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu neu sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, lle mae cyrraedd clinig yn mynd i fod yn llawer anos nag i bobl sy'n byw mewn etholaeth drefol fel fy un i.

Yn yr un modd, mae angen inni sicrhau bod gan bobl fynediad at ddarpariaeth atal cenhedlu fel nad oes angen erthyliadau arnynt yn y lle cyntaf. Mae hynny i gyd yn rhan o ofal iechyd darbodus. Rwy'n gwybod bod gennym gardiau-C ar gyfer pobl dan 25 oed, fel y gallant gael condomau, ac mae hynny'n amlwg yn helpu i atal beichiogrwydd diangen yn ogystal â heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac mae'r ddau beth yn eithriadol o bwysig i atal problemau gynaecolegol yn nes ymlaen.

Yr wythnos hon, clywais gan feddyg ymgynghorol ym maes iechyd menywod yn ysbyty'r menywod yn Lerpwl mai dulliau atalgenhedlu gwrthdroadwy hirdymor—LARCs—sef pigiad i'ch galluogi i beidio â beichiogi sy'n gweithio dros gyfnod hir, oedd yr ymyrraeth iechyd cyhoeddus mwyaf effeithiol. Fe wneuthum ei nodi oherwydd roeddwn o'r farn ei fod yn ddatganiad beiddgar iawn. Ond roedd hi'n dweud, yn Lloegr beth bynnag, ei bod hi'n anodd iawn cael gafael arno, a gwyddom o waith cynharach a wnaed gan Lywodraeth Cymru fod hwn yn ddull atal gwirioneddol effeithiol ar gyfer grwpiau bregus—pobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi beichiogi ac sy'n amlwg eisiau sicrhau nad ydynt yn beichiogi eto.

Felly, mae angen inni sicrhau bod pob person sy'n rhywiol weithredol yn gallu cael y cyngor priodol ar gyfer eu hanghenion, a hefyd i ddiogelu eu hunain rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Clamydia yw un o brif achosion anffrwythlondeb, sydd wedyn yn arwain at nifer enfawr o atgyfeiriadau at gynaecolegwyr, a thaith gymhleth a hir iawn i geisio gwrthdroi'r problemau a allai fod wedi eu creu gan glefydau a drosglwyddir yn rhywiol na chafodd eu trin yn ddigon effeithiol ac yn ddigon buan.

Nawr, fe wyddom hefyd, yn fwy diweddar, fod datblygiadau mawr wedi bod yn y gefnogaeth a roddwn i bobl gyda'r menopos, o ganlyniad i ymgyrchoedd gan bobl fel Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, 'Y menopos yn y gweithle' TUC Cymru, a'r hyfforddiant i gyflogwyr sy'n cael ei gynnig gan bobl fel Jayne Woodman, sy'n cynnwys cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Academi Wales. Roeddwn yn falch iawn o weld bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn treialu holiadur i bawb dros 40 oed sy'n mynychu sgriniad serfigol, i dynnu eu sylw at y symptomau menopos y gallent fod yn eu profi. Mae hyn yn helpu i gynyddu gwybodaeth menywod am eu cyrff, ac yn eu harfogi â rhywfaint o wybodaeth cyn iddynt ymweld â'u meddyg teulu, fel bod ganddynt restr fach o bethau sy'n berthnasol i'r mater dan sylw, gan leihau hyd yr ymgynghoriad a chynyddu effeithiolrwydd yr ymgynghoriad hwnnw.

16:15

Gallai hyn fod yn arf pwysig iawn i sicrhau bod pob menyw yn gwybod amdano.

Yr eliffant yn yr ystafell, yn fy marn i, yn endometriosis, ac rwy'n derbyn ein bod yn gwneud llawer o waith i wella dealltwriaeth meddygon teulu a gynaecolegwyr ynglŷn â hyn. Ond mae'n fater gwirioneddol ddifrifol, ac mae'n anodd iawn ei wahanu oddi wrth ganser gynaecolegol, oherwydd os oes gennych chi broblemau o'r fath—

—mae'n gallu bod yn broblematig iawn, ac yn amlwg mae angen inni wneud llawer mwy o waith ar hyn. 

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ar bwnc mor bwysig ym mywydau llawer o fenywod yng Nghymru. Ac er y gall godi aeliau fod dyn yn siarad am iechyd menywod, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i wella bywydau menywod yng Nghymru drwy fynd i'r afael â'r rhwystrau i sgrinio serfigol, ac osgoi marwolaethau diangen oherwydd canser gynaecolegol.

Roeddwn i'n gweithio yn y GIG am 11 mlynedd, os nad oeddech chi'n gwybod yn barod, ac er nad oeddwn yn gweithio'n uniongyrchol ym maes iechyd menywod, roeddwn i'n gweithio mewn timau iechyd meddwl cymunedol a byddwn yn cefnogi iechyd meddwl menywod, a fyddai'n dirywio o ganlyniad i'w hiechyd corfforol. A'r pwynt yr hoffwn ei wneud yw ein bod weithiau'n canolbwyntio ar y mater craidd, sy'n hollol gywir, ond yr hyn sy'n rhaid inni ei ystyried hefyd a gofalu amdano yw'r sgil-effeithiau y mae afiechydon o'r fath yn eu cael ar hunan-barch ac iechyd meddwl menywod, wrth gwrs.

Ddirprwy Lywydd, mae Jo's Cervical Cancer Trust wedi amlinellu'r problemau y mae menywod yn eu hwynebu eisoes mewn perthynas â sgrinio serfigol, gan gynnwys embaras, poen, ofn, ofn canlyniadau ac anghyfleustra. Mae'r rhwystrau hyn sy'n bodoli, yn ogystal â COVID-19 yn creu cyfyngiadau mewn ôl-groniadau ac wrth weld meddygon teulu, wedi golygu bod nifer y rhai sy'n cael sgriniadau serfigol wedi gostwng i 69.5 y cant ym mis Hydref y llynedd, y lefel isaf mewn dros 13 mlynedd, ac yn is na'r safon gwasanaeth gofynnol i sgrinio 70 y cant—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

16:20

Diolch am dderbyn ymyriad. Tybed a allwch chi ddweud wrthym os mai ffigurau'r DU neu ffigurau Cymru yw'r rheini, oherwydd mae Jo's Cervical Cancer Trust yn elusen ledled y DU.

Ie, ffigurau Cymru yn unig yw'r rhain, oherwydd rwy'n mynd i sôn yn awr, ym Merthyr Tudful, fod llai na dwy ran o dair o fenywod wedi cael eu prawf sgrinio, sy'n frawychus yn fy marn i ond nid yw'n syndod, a dweud y lleiaf, pan fo llawer o fenywod wedi dweud mai trefnu eu profion o amgylch eu gwaith oedd y prif rwystr ac fel y soniodd Russell George wrth agor y ddadl, mae menywod mewn sefyllfa lle maent yn gorfod defnyddio gwyliau blynyddol er mwyn gwneud apwyntiadau sgrinio serfigol. Nododd Jo's Cervical Cancer Trust hefyd mai dim ond un o bob pedair menyw oedd wedi gallu cael apwyntiad sgrinio canser cyfleus yn 2021, a dywedodd un o bob pum menyw eu bod wedi defnyddio gwyliau blynyddol fwy nag unwaith i fynychu apwyntiadau sgrinio serfigol. Ac mae 80 y cant o fenywod sy'n gweithio'n llawn amser yn methu cael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus, a 15 y cant wedi gohirio sgrinio am eu bod yn teimlo na allent gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.

Ond nid fy lle i yw dweud wrth y Siambr heddiw pa mor anodd yw hi i fenywod gael apwyntiadau sgrinio canser. Fodd bynnag, rwyf am ddefnyddio geiriau un o fy etholwyr, a gafodd drafferthion wrth drefnu ei phrawf. 'Ym mis Awst,' meddai, 'cefais lythyr gan fy meddyg teulu ynglŷn â fy apwyntiad sgrinio canser serfigol tair blynedd. Rwy'n gwybod ei fod yn bwysig ac roeddwn i'n lwcus fod gan fy meddygfa gyfeiriad e-bost, felly nid oedd raid imi deimlo'n anghyfforddus ynglŷn â ffonio. Ond er i'r feddygfa nodi fy e-bost ar yr un diwrnod, ni fu modd imi drefnu apwyntiad cyfleus tan fis Hydref. Mae fy ngwaith yn golygu bod rhaid imi fod yn y swyddfa ar rai dyddiau penodol ac ar adegau penodol, felly er fy mod yn bryderus ynglŷn â'r apwyntiad, nid oedd modd imi drefnu amser cynharach. Felly, byddaf yn aros deufis o'r dyddiad y cefais fy llythyr i gael y prawf. Er bod fy mos wedi bod yn gefnogol, mae'n gas gennyf feddwl am y menywod sy'n cael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt drefnu gwyliau blynyddol ar gyfer apwyntiad meddygol.'

Nawr, un person yn unig yw hynny, ond caiff ei stori ei hailadrodd ledled Cymru. Gohiriodd fy etholwr ei sgriniad serfigol. Gallai'r canlyniadau fod yn drychinebus pe bai diagnosis o gelloedd canser posibl wedi ei wneud ar gam diweddarach, byddai ei chyfradd goroesi yn gostwng o 95 y cant wedi pum mlynedd neu fwy ar gam 1 i ddim ond 15 y cant ar gam 4. Ac fel y clywsom yn flaenorol, hyd yn oed pan fydd diagnosis wedi ei wneud o ganserau gynaecolegol, ychydig dros draean fydd yn cael eu trin o fewn 62 diwrnod ar y llwybr canser unigol, ac rwy'n credu bod honno'n sefyllfa annerbyniol i roi menywod a merched Cymru ynddi.

Ddirprwy Lywydd, i gloi, fe ddylai fod yn ddyletswydd arnom i gael gwared ar y rhwystrau hynny a gosod esiampl i hanner poblogaeth Cymru. Rhaid i gyflogwyr, a ninnau fel gwleidyddion hyd yn oed, sicrhau bod profion canser hanfodol yn cael eu cyflawni, fel bod menywod yn cael diagnosis ac yn cael eu trin yn gynt, ac ni allwn oedi hyn ymhellach. Felly, mae'n bryd inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar ganserau gynaecolegol, ochr yn ochr â chwyddo ein gweithlu canser, ac yn anad dim, mae'n bryd profi, felly cefnogwch ein cynnig y prynhawn yma. Diolch.

Dwi'n croesawu y cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw, wrth inni nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol. Mae pob merch yng Nghymru a phob merch o gwmpas y byd yn wynebu risg o ganser gynaecolegol. Mae o yn cynyddu efo oed, ond mae o yn rhywbeth sy'n risg i bawb. Ond, wrth gwrs, fel efo pob canser, y ffordd i gynyddu'r siawns o oroesi, os ydy y canser yn cael cyfle i gymryd gafael, ydy i ganfod a thrin y canser hwnnw'n gynnar. Ond, mae'r realiti'n un digalon iawn, mae'n rhaid dweud, yng Nghymru: llai nac un o bob tri claf canser gynaecolegol sy'n cael eu gweld o fewn y targed 62 diwrnod. Mae'r cyfraddau goroesi un a phum mlynedd ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf. Mi ddylai ein bod ni'n gweld cyfraddau goroesi yn cynyddu yn yr unfed ganrif ar hugain. Ac, yn drasig, mae dros hanner y mathau o ganser efo'r cyfraddau goroesi isaf yng Nghymru yn cael eu darganfod yn hwyr, sy'n gwneud y gwaith o drin yn fwy anodd.

Ym mis Mai, gelwais ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth iechyd menywod bwrpasol ar gyfer Cymru. Dylai strategaeth o'r fath ganolbwyntio ar gau'r bylchau rhwng y rhywiau mewn gofal iechyd, gan ddarparu buddsoddiad, cefnogaeth a thriniaeth gyson i iechyd menywod. Ond mae'r ddadl heddiw eto yn dangos bod cymaint o waith i'w wneud o hyd. Hyd yn oed cyn y pandemig COVID, sydd ar adegau yn gallu teimlo fel pe bai'n cael y bai am bopeth, roedd Cymru'n gweld bylchau sylweddol yn y gweithlu diagnostig a chanser, mewn delweddu, mewn endosgopi, patholeg, oncoleg anfeddygol. Mae'r GIG wedi dibynnu, onid yw, ar ewyllys da ei weithlu i gadw gwasanaethau'n weithredol.

Ym mis Gorffennaf eleni, dywedodd y ffigurau wrthym mai dim ond 34 y cant o ganserau gynaecolegol a gyrhaeddodd darged y llwybr lle'r amheuir canser i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i'r pwynt lle'r amheuir canser yng Nghymru. Mae hyn ymhell islaw'r targed o 75 y cant o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.

Yn 2017, lluniodd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad ar y pryd adroddiad a oedd yn galw am ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ymhlith y cyhoedd yng Nghymru. Hyd yma, ni fu unrhyw ymgyrch ymwybyddiaeth benodol ar ganser yr ofari, er gwaethaf lefelau isel o ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari yng Nghymru. Mae bron i 400 o fenywod yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser yr ofari bob blwyddyn. Bydd ymhell dros eu hanner yn marw o ganser yr ofari yng Nghymru bob blwyddyn. Os nad oes ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, os nad oes ymwybyddiaeth gyffredinol o ganser yr ofari, gan gynnwys y symptomau cyffredin, pryd y dylai pobl ofyn am gyngor meddygol, nid yw'r rhai sydd â'r canser yn cael eu canfod a'u trin, ac mae canfod yn gynnar, fel y dywedais, yn hanfodol.

Mae Target Ovarian Cancer eisiau cwtogi'r llwybr diagnostig. Nawr, ar hyn o bryd, mae profion unigol yn cael eu cynnal ar wahân, gan adael menywod yn aros yn hirach am ddiagnosis. Rydym am weld y profion perthnasol yn cael eu cynnal ar yr un pryd, gan ganiatáu i fenywod gael diagnosis yn gynt.

Mae sgrinio'n allweddol pan ddaw hi i iechyd menywod. Mae llawer o fywydau wedi cael eu hachub drwy gael diagnosis cynnar yn deillio o raglenni sgrinio. Mi roedd y symudiad tuag at sgrinio pum mlynedd yn hytrach na thair blynedd cynt yn benderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth. Mi roedd o'r penderfyniad cywir, ond mi gafodd y peth ei ddelio ag o mewn ffordd a oedd yn gwbl annerbyniol—cyfathrebu gwael, diffyg manylion, ac mae hynny'n digwydd yn rhy aml pan ddaw hi at gyflyrau iechyd menywod ledled Cymru. Ond, wrth gwrs, mae Jo's Cervical Cancer Trust yn pwysleisio nad ydy atal canser ceg y groth yn dechrau a gorffen efo sgrinio. Mae llawer mwy o waith i'w wneud o ran dilyn llwybr y claf wedi'r diagnosis.

I gloi, yn ôl Cancer UK, mae yna gyfraddau sylweddol uwch o ganser y groth yng Nghymru na sydd yna yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae canser y fylfa yn effeithio ar tua 80 o ferched yng Nghymru bob blwyddyn—triniaeth arbenigol a chymhleth. Does gennym ni ddim gweithdrefnau sgrinio ar gyfer hynny o gwbl.

Mi roedd Cymru'n perfformio'n wael ar gyfraddau diagnosis, trin a goroesi canser, fel dwi'n dweud, ymhell cyn yr argyfwng COVID. Dyna pam rydyn ni ar y meinciau yma ac eraill wedi bod yn gofyn am gynllun canser ers blynyddoedd. Gadewch i ni heddiw yma, yng nghyd-destun merched yn benodol, a chanser gynaecolegol, i wneud yr alwad honno eto. Gallwn ni ddim gweithredu'n rhy gyflym pan fo'n dod at ganser a'r bygythiad i fywydau merched yng Nghymru.

16:25

Mae effeithiau andwyol y pandemig ar y modd y darperir gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn dal i gael eu teimlo, ac mae'n arbennig o bryderus mewn perthynas â gwasanaethau canser. Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Russell George yn gynharach, sef y bu'n rhaid oedi gwasanaethau sgrinio canser hanfodol am bedwar mis yn 2020, ac mae gosod cyfyngiadau ar symud a chyfarfodydd wyneb yn wyneb wedi golygu bod y niferoedd sy'n mynychu sgriniadau serfigol wedi gostwng i'w lefelau isaf ers dros ddegawd, sy'n drueni mawr, ond rydym hefyd yn deall pam. Bob blwyddyn, mae tua 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yma yng Nghymru. Mae'r gyfradd achosion ar gyfer canser gynaecolegol yn sylweddol uwch yng Nghymru, gyda 72 achos ymhob 100,000 o fenywod, o gymharu â chyfartaledd y DU o 68 achos. Yn anffodus, mae'r gyfradd farwolaethau hefyd yn sylweddol uwch yma, gyda 26 marwolaeth ym mhob 100,000, o gymharu â 24 yn y DU—tua 470 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae'r llwybr lle'r amheuir canser yn gosod targed o 62 diwrnod i bobl ddechrau triniaeth o'r pwynt lle'r amheuir canser. Yng Nghymru, ym mis Gorffennaf eleni, dim ond 34 y cant o gleifion canser gynaecolegol a wnaeth gyrraedd y targed hwn. Mae'n glir fod angen gweithredu ar frys, nid yn unig i adfer gwasanaethau canser i lefelau cyn y pandemig, ond hefyd i wella canlyniadau canser a chyfraddau goroesi yn y dyfodol. Heb y camau hyn gyda'r nod o sicrhau diagnosis amserol a thriniaeth effeithiol, ni fydd canlyniadau i gleifion canser yng Nghymru yn gwella.

Mae datganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar ganser yn parhau i fod yn annelwig. Nid yw'n nodi targed ac mae'n brin o fanylion ynglŷn â sut y bydd yn lleihau amseroedd aros a sut y mae'n bwriadu cynyddu gweithlu canser y GIG. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu diagnostig a chanser, megis delweddu, endosgopi, patholeg ac oncoleg anfeddygol. Mae'r bylchau hyn wedi effeithio'n ddifrifol ar allu GIG Cymru i roi diagnosis gynnar o ganserau, darparu'r driniaeth ganser fwyaf effeithiol a gwella cyfraddau goroesi canser.

Ni chafwyd ond 3 y cant y flwyddyn o gynnydd yn y gweithlu meddygon ymgynghorol oncoleg glinigol yng Nghymru a Lloegr dros y pum mlynedd diwethaf, o'i gymharu â 5 y cant yng Ngogledd Iwerddon a 6 y cant yn yr Alban. Mae gwariant ar staff asiantaeth ar gyfer GIG Cymru wedi cynyddu o £50 miliwn yn 2011 i £143 miliwn yn 2019. Mae hyn yn gyfystyr â mwy na hanner gwariant blynyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar hyfforddiant addysg gofal iechyd. Mae'r adnodd sylweddol hwn yn cael ei wario ar gontractau allanol yn hytrach na buddsoddi yn nhwf hirdymor gweithlu'r GIG yma yng Nghymru. Heb y buddsoddiad hwn, ni fydd gennym y staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd eu hangen arnom i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser. Weinidog, mae'r amser wedi dod i gael cynllun gweithredu manwl ar gyfer canser. Rhaid i'r cynllun gynnwys mecanweithiau adrodd cadarn i adrodd ar gynnydd yn rheolaidd ac yn dryloyw.

16:30

Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn gwbl annigonol, fel y dywedoch chi, ac mae angen rhywbeth gwell cyn gynted â phosibl. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu ffocws hynod fanwl ar ganserau yn gyffredinol yng Nghymru a llunio strategaeth i fynd i’r afael â hwy. Bydd hyn oll yn llywio ac yn arwain nid yn unig meddygon a staff clinigol eraill, ond hefyd y rheolwyr y mae angen iddynt ddeall beth fydd y blaenoriaethau yn y dyfodol.

Mewn perthynas â’r cynllun gweithredu ar ganser, dylai’r cynllun gynnwys, fel ei nod canolog, yr egwyddor y dylai pawb gael mynediad cyfartal at ddiagnosis amserol a’r sylfaen dystiolaeth, y driniaeth a’r cymorth mwyaf effeithiol. Dylid ystyried sut y gellir dod ag arbenigedd a chapasiti digonol ynghyd i alluogi mynediad amserol a thrawsnewidiad, a sut i ddod â gwasanaethau canser yn nes at gymunedau a chleifion yn gyffredinol. Fodd bynnag, bydd trawsnewidiad parhaol a fydd yn gwella canlyniadau'n amhosibl heb fuddsoddiad digonol, tyfu’r gweithlu canser a gwella'r seilwaith. Mae angen inni weld dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau mewn meysydd fel diagnosis a chanfod achosion yn gynnar, patholeg ddigidol a datblygu systemau TG integredig.

Weinidog, mae eich Llywodraeth a phob plaid yn y Senedd hon wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau menywod, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ddydd Llun, cymerais ran yng nghyfarfod cyntaf grŵp llywio'r cawcws menywod, a drefnwyd gan ein cyd-Aelod uchel ei pharch Joyce Watson. Ar sail awydd y Senedd i gefnogi menywod ym mhob maes, ni fyddai unrhyw beth yn dangos eich ymrwymiad i hyrwyddo hawliau menywod yn gliriach na thrwy roi eich cefnogaeth i’r cynnig heddiw. Diolch.

Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed cryn dipyn o gynnydd ar atal canser ceg y groth drwy gyflwyno rhaglen y brechlyn feirws papiloma dynol. Cyflwynwyd y brechlyn hwnnw gyntaf mewn ysgolion yn y DU ar gyfer merched yn eu harddegau yn 2008 ac mae wedi bod ar gael i fechgyn ers 2019. Mae wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar gyfraddau canser ceg y groth ers ei gyflwyno. Dangosodd astudiaeth ddiweddar, a oedd yn cynnwys degawdau o ymchwil, fod cyfraddau canser ceg y groth wedi gostwng 90 y cant ymhlith merched yn eu hugeiniau a oedd wedi cael y brechlyn hwnnw yn 12 neu 13 oed. Mae HPV yn enw ar grŵp cyffredin o feirysau, ac mae llawer ohonynt yn ddiniwed, ond gwyddys bod rhai feirysau HPV yn arwain at risg uchel am eu bod yn gysylltiedig â datblygiad rhai canserau fel canser ceg y groth. Mewn gwirionedd, mae HPV yn gysylltiedig â 99 y cant o ganserau ceg y groth.

Mae'n bwysig nodi nad yw hyn wedi dileu'r angen am brofion ceg y groth—mae hynny wedi'i grybwyll yma heddiw—a'u bod yn dal i fod mor bwysig ag erioed, gan nad oes unrhyw frechlyn yn effeithiol 100 y cant, ac mae'n dal i fod yn bosibl i'r feirws gael ei drosglwyddo er gwaethaf y brechiad hwnnw. Ond mae wedi bod yn ddatblygiad enfawr ym maes iechyd menywod, a chanfuwyd ei fod yn effeithiol wrth amddiffyn menywod rhag canserau gynaecolegol eraill—sef canser y fwlfa a'r wain. Mae’r nifer sy’n cael y brechlyn hwn yng Nghymru wedi bod yn uchel ar y cyfan ers ei gyflwyno—oddeutu 80 y cant. Bu gostyngiad, fel y gŵyr pob un ohonom, rhwng 2019 a 2021, wrth i frechiadau rheolaidd gael eu hoedi. Ymddengys bod cyfradd derbyn o 80 y cant yn gyfradd dda iawn, ac mae hynny'n wir, ond os cymharwch hynny â'r brechlyn MMR, mae'r gyfradd derbyn ar gyfer hwnnw'n 90 i 95 y cant. Felly, rwy'n awyddus i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer yr unigolion 12 i 13 oed sy'n cael y brechlyn HPV.

Gwn fod Jenny wedi ceisio sôn am endometriosis, felly rwyf am grybwyll hynny—y cysylltiad ag endometriosis heb ei ddiagnosio mewn menywod, a pho hiraf y mae menywod yn byw gyda'r cyflwr heb gael diagnosis, y mwyaf yw'r perygl y bydd yn ymledu ac mae'r tebygolrwydd y daw'n ymlediad canseraidd yn cynyddu. Felly, galwaf arnoch, Weinidog—rwy’n siŵr fy mod yn gwthio wrth ddrws agored—i edrych ar hynny.

Y peth arall yw bod canser yr ofari yn cael ei adnabod—fel y soniodd Rhun—fel y llofrudd cudd. Mae'n rhaid inni wneud mwy i addysgu'r bobl sy'n gweithio yn y maes, ond hefyd y bobl sy'n dioddef symptomau, i wybod beth y maent yn ymdrin ag ef. Ni ddylai fod yn llofrudd cudd—dylem fod yn ei amlygu ac yn sicrhau bod menywod a merched, yn ogystal â'u partneriaid a’r bobl o’u cwmpas, yn gwybod am yr arwyddion a’r symptomau o oedran ifanc iawn, yn ogystal â'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chanserau a'r camau y gallant eu cymryd i helpu i leihau'r risg honno, fel brechu, deiet a ffordd o fyw. Yn sicr, hoffwn weld ymdrech wirioneddol i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn. Gofynnaf i chi, Weinidog: a yw hynny’n rhywbeth y gallech fod yn ei gynnwys yn eich cynllun iechyd menywod i Gymru?

16:35

Un o anfanteision siarad yn hwyrach yn y dadleuon hyn yw bod llawer o bobl eisoes wedi dweud llawer o'r hyn roeddwn am ei godi. Nid wyf am ailadrodd llawer o’r sylwadau y mae pobl eraill wedi’u gwneud, ond un peth yr oeddwn am ei ddweud, a rhywbeth am yr ystadegau allweddol sydd wedi sefyll allan o ddifrif i mi, yw bod 1,200 o bobl bob blwyddyn yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol, ac o hynny, mae 470 yn marw. Dyna 470 o chwiorydd, neiniau, gwragedd a mamau. Nid yw'n ddigon da fod y bobl hynny'n marw. Rhaid i’r Llywodraeth wneud mwy. Mae’r Gweinidog wedi clywed, ar draws y Siambr heddiw, syniadau ynglŷn â sut y gallwn fynd i’r afael â hyn, gan Aelodau o bob ochr i’r hollt wleidyddol. Bu'r bobl hyn yn dioddef mewn poen, ac yna fe fuont farw, ac rwy'n siŵr fod y Llywodraeth yn awyddus i fynd i'r afael â hyn. Dyna nod clir ein cynnig. Nid yw hyn yn wleidyddol, mae a wnelo â mynd i'r afael â phroblem, mynd i'r afael â chanser gynaecolegol fel nad oes raid i bobl farw'n ddiangen, gan fy mod yn siŵr, fel y dywedais yn gynharach, fod y chwiorydd, y gwragedd, y mamau a'r neiniau hynny'n dymuno bod yma o hyd, ac os gall y Llywodraeth wneud mwy i roi cynllun gweithredu ar ganser ar waith, ni fydd raid i unrhyw un farw’n ddiangen oherwydd y clefyd cwbl atgas hwn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Bydd un o bob dau ohonom yn datblygu rhyw fath o ganser yn ystod ein hoes. Mae hyn yn anochel yn golygu y bydd pob un ohonom yn teimlo effeithiau canser, ond yn debyg iawn i lawer o afiechydon a chlefydau eraill, diolch i gyllid ymchwil arloesol, nid yw pob diagnosis o ganser yn dedfrydu i farwolaeth. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y degawdau, gyda chyfraddau goroesi'n dyblu dros y 40 mlynedd diwethaf, ond mae anghydraddoldebau’n parhau, felly mae gwaith i’w wneud o hyd. Mae darllen y cynnig heddiw'n gwneud imi deimlo llawer iawn o dristwch. Perfformiad y llwybr canser gynaecolegol yw'r perfformiad llwybr canser unigol isaf yn ôl safle tiwmor, ac mae cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn sylweddol. Mae'r anghydraddoldeb hwn yn annheg, ac nid yw ond yn iawn ein bod yn trafod hyn ar lawr y Siambr gyda'n gilydd yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol.

Os ydym am achub mwy o fywydau, ac os ydym am gyflawni uchelgeisiau’r cynnig heddiw, mae'n rhaid inni gael gwared ar y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu ar bob carreg filltir ar eu taith gyda chanser. Mae'n gwbl syfrdanol na all 80 y cant o fenywod sy'n gweithio amser llawn gael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus. Os ydym am achub mwy o fywydau, mae angen inni ddiagnosio'n gynnar. Dim ond os yw menywod yn gallu trefnu apwyntiadau pan fo angen y byddwn yn sicrhau bod hyn yn digwydd. I mi, mae'n rhaid mai hon yw’r agwedd bwysicaf ar y cynllun gweithredu ar ganser. Ar ôl cael diagnosis, yn rhy aml, rydym yn clywed straeon gan fenywod sy'n aros am gyfnodau annerbyniol rhwng un apwyntiad a'r nesaf. Mae'r ansicrwydd y mae hyn yn ei achosi yn arwain at ddirywiad pellach yn eu hiechyd a'u hiechyd meddwl. Mae’n hanfodol cynnal adolygiad brys o amseroedd aros gynaecolegol os ydym am ddod â hyn i ben.

Yn y dadleuon hyn, credaf y gall yr iaith a ddefnyddiwn a’r pwyntiau a wnawn wneud i staff y GIG deimlo mai hwy yw’r rhai sydd ar fai. Felly, gadewch imi ddweud un peth yn gwbl glir: nid staff y GIG yw'r broblem. Mae arnom angen mwy o staff ymroddedig yn y GIG, fel nad yw meddygon a nyrsys yn gweithio mwy nag oriau eu contract yn enw ewyllys da. Mae arnom angen mwy o staff ymroddedig yn y GIG i lenwi'r bylchau mewn endosgopi, delweddu, patholeg ac oncoleg anfeddygol. Nid hwy yw'r broblem; hwy yw’r ateb, ac ni allaf ddiolch digon iddynt am eu gwaith. Mae angen inni gefnogi Canolfan Ganser newydd Felindre yn ddiedifar, nid cilio rhagddi na'i thrin fel rhyw fath o reg. Mae angen inni gefnogi, yn ddiedifar, y cynlluniau ar gyfer canolfan sydd o'r safon uchaf ar gyfer ymdrin â phob math o ofal canser—heb os nac oni bai.

Hoffwn orffen fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i Wayne Griffiths, y cyfarfu rhai ohonoch ag ef yn gynharach eleni yn y Senedd. Fel y gŵyr llawer ohonoch, rwy’n falch o gefnogi cronfa Forget Me Not, cronfa deyrnged er cof am Rhian Griffiths, a fu farw'n 25 oed ym mis Mehefin 2012 o ganser ceg y groth. Mae stori Rhian a’r hyn y mae'n ei adael ar ei hôl, diolch i’w rhieni, yn newid bywydau bob dydd. Gadewch i Rhian, ei rhieni, a chronfa Forget Me Not, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni, ein hysbrydoli i sicrhau y gallwn newid y canlyniadau i fenywod sy’n cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru. Diolch.

16:40

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Russell a’r Ceidwadwyr am gyflwyno dadl bwysig arall ar wasanaethau canser. Hoffwn ddiolch i eraill hefyd am eu cyfraniadau pwerus a meddylgar iawn i'r ddadl hon.

Wrth inni ddod dros effaith y pandemig, mae'n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar adferiad mewn gwasanaethau canser a cheisio lleihau unrhyw effaith ar ganlyniadau. Rydym wedi nodi, mewn nifer o gynlluniau, y gwaith a wnawn i gefnogi gwasanaethau canser, ac rydym yn canolbwyntio'n agos ac yn barhaus ar hyn yn ein trafodaethau gyda byrddau iechyd. A dweud y gwir, nid ydym yn gwneud yn ddigon da eto, ac rwy'n ymwybodol iawn fod llawer gennym ar ôl i'w wneud ar hyn. Mae llawer o’r hyn sydd wedi’i drafod heddiw yn berthnasol i sawl math o ganser, ond credaf ei bod yn iawn, yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol, ein bod yn canolbwyntio ar ganserau’r ofari, y groth, ceg y groth a rhai o’r mathau mwy prin, megis canserau'r fwlfa a’r wain.

Gwn fod cyfraddau goroesi ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn y ffigurau diweddar, er ein bod wedi gweld gwelliannau ar gyfer canser yr ofari a chanser ceg y groth. Mae'n bwysig iawn fod pobl sydd â phryderon ynghylch canser yn mynd i weld eu meddyg teulu'n gynnar, ac mae'n rhaid inni beidio â theimlo cywilydd wrth siarad am y cyflyrau hyn a cheisio cymorth. Rwyf hefyd yn annog pobl sy’n gymwys i wneud defnydd o wasanaethau sgrinio serfigol neu'r rhaglen frechu rhag HPV, gan mai atal yw’r dull gorau oll.

Rwyf wedi clywed yn glir yr hyn y mae rhai ohonoch wedi’i ddweud am yr angen i sicrhau bod y gwasanaethau sgrinio hynny ar gael i fenywod ar adegau cyfleus. Rwy’n deall y gall fod yn heriol i fenywod o oedran gweithio wneud apwyntiadau o amgylch eu hymrwymiadau gwaith, felly rydym yn mynd i edrych ac rydym yn mynd i ddysgu gan Loegr am y potensial i gyflwyno hunan-samplu. Rwy'n cytuno nad yw perfformiad GIG Cymru mewn perthynas â chanserau gynaecolegol yn enwedig gystal ag y dylai fod, ac yn sicr, nid yw cystal â'r hyn rwy'n disgwyl ei weld. Mae'r gwasanaeth yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â hyn, gan gynnal clinigau ychwanegol, symleiddio llwybrau a chwilio am ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau. Ym mis Gorffennaf yn unig, ymunodd 1,561 o bobl â’r llwybr canser penodol hwn, ac yn yr un mis—yr un mis—cafodd 1,256 o bobl ar y llwybr canser wybod nad oedd canser arnynt. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo ac mae pobl yn mynd drwy'r system, ond nid yw hynny'n ddigon. Dechreuodd 76 o bobl eu triniaeth canser ddiffiniol gyntaf ar gyfer y cyflyrau hyn ym mis Gorffennaf.

Nawr, rydym yn dal i fod mewn pandemig, ac er bod yr effaith uniongyrchol ar wasanaethau'n cilio, mae canlyniadau anuniongyrchol tonnau cynharach y pandemig gyda ni o hyd—mae pobl a oedd efallai wedi oedi cyn lleisio pryderon bellach yn ceisio cymorth, yn ychwanegol at y rheini a fyddai fel arfer yn lleisio pryderon ar yr adeg hon. A'r hyn sy'n digwydd yw bod hynny'n arwain at niferoedd sylweddol uwch o bobl angen archwiliad—oddeutu 11 y cant yn uwch ar gyfer canserau gynaecolegol ers mis Ionawr.

Nawr, mae timau ein GIG ar y camau diagnosis a thriniaeth yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r nifer o atgyfeiriadau yr ydym yn eu gweld yn awr ac wedi bod yn eu gweld ers misoedd lawer. Ac fel y gŵyr pob un ohonom, ni allwn greu radiolegwyr, gynaecolegwyr, llawfeddygon, oncolegwyr a nyrsys arbenigol hyfforddedig ychwanegol allan o unman. Mae gennym y gweithlu a oedd gennym ar ddechrau'r pandemig. Er ein bod yn hyfforddi mwy o arbenigwyr mewn meysydd fel oncoleg a radioleg, mae'n mynd i gymryd sawl blwyddyn i weld budd y capasiti staffio ychwanegol hwn. Yn y cyfamser, rydym yn hyfforddi pobl mewn rolau ymarfer uwch i leddfu rhywfaint o'r pwysau. Ac wrth gwrs, wrth i atgyfeiriadau canser fynd drwy wasanaethau diagnostig a chleifion allanol generig, rydym yn blaenoriaethu gofal canser dros gyflyrau eraill oherwydd y brys clinigol sydd ynghlwm wrth hyn.

Ond, mae yna realiti i hyn i gyd. Mae'n mynd i gymryd amser i adfer, amser i dyfu ein gweithlu ac amser i gyrraedd lle mae angen inni fod. Nawr, dwi'n ymwybodol o safbwynt gwasanaethau canser nad yw'r amser hwnnw ar gael i bobl bob amser, ac nid gofyn i bobl i fod yn amyneddgar ydw i ond ceisio egluro beth sy'n achosi'r broblem a sut rŷn ni'n mynd i adfer y sefyllfa.

Gallaf i eich sicrhau nad oes angen adolygiad o amseroedd aros canser gynaecolegol. Rŷn ni'n edrych ar y data bob mis ar sail Cymru gyfan a gyda byrddau iechyd unigol. Rŷn ni'n trafod y perfformiad o ran canser gyda'r byrddau iechyd yn aml ym mhob un o'r fforymau atebolrwydd perthnasol. Mae'r byrddau iechyd yn deall y ffocws dwi'n disgwyl ei weld ar hwn. Mae rhai arwyddion bod perfformiad yn gwella, ac mae'n bwysig nodi hefyd fod tua 94 y cant o bobl sydd ar lwybr canser yn cael gwybod nad oes ganddyn nhw ganser. Os ydyn ni'n ystyried pawb sydd ar lwybr canser gynaecolegol, y rhai sy'n cael gwybod nad oes ganddyn nhw ganser a'r rhai sydd angen triniaeth, yr amser aros canolrif ar y llwybr i gleifion gael gwybod a oes ganddyn nhw ganser ai peidio yw 36 diwrnod. 

Byddaf i'n cynnal uwchgynhadledd o uwchreolwyr a chlinigwyr canser o bob cwr o Gymru ar 12 Hydref er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer ein gwasanaethau. 

Felly, rwy’n cynnal uwchgynhadledd, uwchgynhadledd canser, ar 12 Hydref, a gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn sicrhau fy mod yn rhoi dadansoddiadau o ganser ar sail rhywedd ar yr agenda honno er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld gwahaniaeth yn y ffordd y caiff gwahanol ganserau eu hystyried.

Dwi'n fwy na pharod i roi sylw arbennig i wella'r gwaith o gynllunio gweithlu canser ac i ystyried a yw ein darpariaeth ar gyfer y gweithlu yn ddigonol. A dwi'n bwriadu cyflwyno cynllun gweithredu gwasanaethau canser y gwasanaeth iechyd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Felly, bydd y cynllun ar gyfer y gwasanaethau canser yn cael ei gyhoeddi yn yr ychydig wythnosau nesaf.

Ac yn y cynllun yma, byddaf i'n nodi yn fanylach sut rŷn ni'n cyflawni'r disgwyliad a nodwyd yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n cynllun trawsnewid gofal sydd wedi'i gynllunio. Rŷn ni hefyd wedi cyflwyno cynllun gweithredu ar iechyd menywod i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion gofal iechyd penodol menywod yng Nghymru.

Felly, i ateb yn benodol ynglŷn â sut y mae hyn yn mynd i gael ei gynnwys yn y cynllun menywod, mae hwn yn ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny. Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo sy'n gofyn i fenywod gyfrannu: beth y dylem ei gynnwys yn y cynllun gofal iechyd menywod ar gyfer y dyfodol? Ac felly, mae hwnnw'n ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny, felly os yw pobl am i hyn fod ar yr agenda hefyd, i sicrhau bod pobl yn cyfrannu at hynny, ond byddaf yn bendant yn sicrhau ei fod yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried.

Mae cymaint i'w wneud, a dwi'n gwybod bod ein rheolwyr a'n clinigwyr ymroddedig yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiwallu anghenion pobl. Dyw codi'r pryderon hyn o ran systemau ddim yn feirniadaeth o gwbl o'u hymdrechion na'u hymroddiad nhw, a gallaf i eich sicrhau fy mod i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i i roi ffocws haeddiannol i hyn.

Dywedodd Russell nad yw hwn yn fater pleidiol wleidyddol. Gallaf roi sicrwydd i chi nad wyf yn meddwl ei fod yn fater pleidiol wleidyddol, a dyna pam ein bod ni, fel chithau, am weld gwelliant yn y system, a dyna pam y byddwn ni yn y Llywodraeth ac ar feinciau Llafur yn cefnogi’r cynnig hwn.

16:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’m cyd-Aelod, Russ George AS, am gyflwyno’r ddadl bwysig hon, a’r rheini ar draws y Siambr am eu cyfraniadau gwirioneddol bwysig i fater hynod bwysig i fenywod. Mae canser o unrhyw fath yn gystudd ofnadwy sydd eisoes yn cymryd gormod lawer o fywydau, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod canser wedi dod yn brif achos marwolaethau ers 2016, hyd yn oed gan gynnwys yr amseroedd brawychus y buom drwyddynt gyda'r pandemig COVID-19.

Fel y mae cyd-Aelodau eraill eisoes wedi'i nodi, mae oddeutu 12,000 o fenywod yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol bob blwyddyn yng Nghymru, gan arwain at farwolaethau trasig 470 o bobl bob blwyddyn. A dyna pam fod y pwynt a wnaethoch yn bwysig, James, fod y rhain yn famau, chwiorydd, merched neu berthnasau eraill i bobl—470 o deuluoedd y flwyddyn y mae eu bywydau wedi'u niweidio'n anadferadwy gan y clefyd ofnadwy hwn. Mae canser gynaecolegol, wrth gwrs, yn broblem enfawr ledled y DU, ond mae arnaf ofn ei fod yn waeth yma yng Nghymru. Tynnodd Russ George sylw at y pryderon—[Torri ar draws.]

Credaf mai un o’r pethau nad oes unrhyw un wedi’i grybwyll ac sydd angen ei grybwyll a’i gofnodi yw’r cysylltiad rhwng gordewdra a chanser. Ac mae gennym gyfraddau uwch o ordewdra yng Nghymru nag yn Lloegr, ac mae'n rhaid bod hynny'n un o'r ffactorau y mae angen inni eu cadw mewn cof pan fyddwn yn ymdrechu i ostwng cyfraddau canser.

Ie. Rydych yn gwneud pwynt dilys iawn. Pan fyddwn yn gwneud ymchwiliadau i ordewdra ymhlith plant, gwn fod gennym rai o'r ystadegau mwyaf gofidus. Felly, rydych chi'n gwneud pwynt dilys.

Tynnodd Russ George sylw at bryderon ein bod ni fel grŵp wedi bod â'r pryderon hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf a’r angen sydd wedi codi, a’i bod yn amlwg fod mwy o brofion yn rhan o’r ateb. Yn ôl Ymchwil Canser y DU, mae’r gyfradd o achosion canser gynaecolegol yn sylweddol uwch yng Nghymru, gyda 72 o achosion fesul 100,000 o fenywod, o gymharu â chyfartaledd y DU o 68. Fel pe na bai hynny’n ddigon drwg, nodwyd heddiw fod y gyfradd farwolaethau ar gyfer y canser hwn yn sylweddol uwch, gyda 26 o farwolaethau fesul 100,000 o fenywod, o gymharu â chyfartaledd y DU o 24. A Jenny, mae’r ffaith eich bod yn cydnabod bod canserau sy’n gysylltiedig â menywod yn bryder mawr, a bod angen mwy o atal, a gallu nodi arwyddion eu hunain—dylem oll, fel menywod, wybod beth i edrych amdano, beth sy'n normal, beth nad yw'n normal.

Ond nid cyfraddau achosion a marwolaethau yng Nghymru yw'r unig bethau yr ydym yn poeni amdanynt, ond yr amseroedd aros hefyd. Rydym yn deall yr effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y GIG, ond fe wyddom—gwnaeth Rhun bwynt dilys iawn fod rhai o’r problemau hyn yn bodoli yn ein system iechyd cyn y pandemig. Ym mis Gorffennaf eleni, dim ond 34 y cant o’r canserau hyn a gyrhaeddodd y targed ar gyfer llwybr lle'r amheuir canser o 62 diwrnod rhwng y pwynt amheuaeth a thriniaeth, o gymharu â 40 y cant ym mis Chwefror. Felly, mae'n peri cryn bryder, wrth inni siarad, ein bod yn gweld tuedd am i lawr. Cododd Joyce Watson bryderon dilys iawn am HPV, ac er bod datblygiadau wedi bod gyda'r brechlynnau, mae pryderon yn bodoli o hyd, wrth symud ymlaen. Mae targed Llywodraeth Cymru ei hun o 75 y cant a’r cyfrifoldeb am amseroedd aros hir iawn ar gyfer triniaeth canser ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru, ac rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr, a dweud y gwir, Weinidog, wrth weld eich bod wedi gwrando ac wedi derbyn yr holl sylwadau a wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig, yn enwedig ynghylch cyflwyno cynllun gweithredu ar ganser ar unwaith. Ac unwaith eto, mae'n galonogol clywed eich bod yn mynd i'w roi ar waith a hynny cyn bo hir.

Mae angen inni sicrhau bod cynlluniau’r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser yn canolbwyntio ar iechyd gynaecolegol, gan yr ymddengys bod y canserau gynaecolegol hyn yn llithro drwy’r rhwyd mewn perthynas â thriniaeth. Mae cyd-Aelodau eraill wedi datgan bod gwir angen i ddatganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer canser fod yn gliriach, gan mai yng Nghymru y mae'r prinder mwyaf o arbenigwyr canser yn y DU. Mewn gwirionedd, rwy'n adleisio galwadau gan gyd-Aelodau ar Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i weithio tuag at gynnydd sylweddol mewn lleoedd hyfforddi, gyda chanolfannau canser diagnostig cyflym yn cael eu cyflwyno ledled y wlad fel y gallwn sicrhau bod y canserau hyn yn cael eu canfod yn llawer cynharach. Dadleuodd Natasha Asghar, fy nghyd-Aelod, fod arnom angen y gwasanaethau hyn yn fwy lleol, ynghyd â’r angen i gyflwyno gwir gydraddoldeb i fenywod mewn gofal iechyd. Yn anffodus, efallai y bydd canser bob amser yn bla ar ein bodolaeth, ond nid oes raid iddo fod cynddrwg ag y mae ar hyn o bryd. Ar ôl y ddadl hon heddiw, rwy'n credu y byddwch yn bwrw ymlaen â’r pryderon hyn. Mae’n galonogol clywed eich bod yn cefnogi ein cynnig heddiw—diolch am hynny, a dywedaf hynny ar ran y grŵp i gyd. Buffy Williams, roedd eich cyfraniad a’ch cyfeiriad at gronfa Forget Me Not yn berthnasol iawn yn wir. Nid yw Buffy yma, ond lle bynnag yr ydych.

Beth bynnag, diolch, Weinidog. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich holl gyfraniadau, a diolch i fy ngrŵp am gyflwyno’r ddadl hon. Diolch.

16:55

[Anghlywadwy.]—a ddylid derbyn y cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cyfnod Pleidleisio
9. Dadl Fer: Dŵr yng Nghymru: Yr heriau sy'n ymwneud â thlodi dŵr a'i safon

Felly, symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer gyntaf heddiw. Galwaf ar Joel James i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Joel James.

Ac os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel os gwelwch yn dda.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o weld fy mod wedi denu tyrfa o'r fath ar gyfer fy nadl ar ddŵr, felly mae hynny'n wych. Hoffwn gadarnhau fy mod wedi cytuno i roi munud o fy amser i Mike Hedges a Sam Kurtz. Roeddwn am godi’r ddadl hon heddiw ar faterion dŵr yng Nghymru am amryw o resymau, a’r prif reswm oedd am fy mod yn credu nad ydym, fel Senedd, yn rhoi digon o sylw i’r heriau a wynebir gan y diwydiant dŵr yn y wlad hon. Yn benodol, o ran cynnal fforddiadwyedd biliau a’r rhan gymhleth y mae’n ei chwarae yn y gwaith o reoli tir a dyfrffyrdd.

Fel y gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon, nid biliau ynni cartrefi a busnesau yw’r unig filiau cyfleustodau y mae’r cynnydd digynsail mewn costau ynni cyfanwerthol yn effeithio arnynt. Nid yn unig fod y diwydiant dŵr yn wynebu costau ynni uwch ei hun, ond yn aml iawn, hwnnw yw'r bil cyntaf sy'n mynd heb ei dalu pan fo defnyddwyr yn ei chael hi'n anodd talu costau. Mae’r diwydiant dŵr felly’n wynebu her anghymesur, yn yr ystyr fod ei gostau’n cynyddu a’i refeniw'n agored i ansefydlogrwydd a dirywiad, sydd yn y pen draw yn cynyddu biliau i gwsmeriaid eraill. Mae hyn yn bwysig, nid yn unig oherwydd yr effaith ar gyllid cartrefi a busnesau, ond oherwydd y goblygiadau hirdymor i’r sector dŵr. O ganlyniad i newid hinsawdd a thwf y boblogaeth, ymhlith ffactorau eraill, ni allwn anwybyddu anghenion y sector dŵr o ran deddfwriaeth briodol a’r gofyniad i ysgogi newid ymddygiad ymhlith ein poblogaeth. Er mwyn gwneud gwell defnydd o’n hadnoddau naturiol, mae angen inni feddwl yn fwy gofalus am ddefnyddio dŵr yn gynaliadwy a’r effeithiau y mae gorlif carthffosiaeth yn eu cael ar ansawdd dŵr ein hafonydd a’n hamgylchedd naturiol.

Yng Nghymru, o’r 1.37 miliwn o aelwydydd sydd gennym, mae nifer syfrdanol, 175,000, yn wynebu tlodi dŵr, sy’n golygu bod dros 5 y cant o incwm eu haelwyd, ar ôl costau tai, yn cael ei wario ar eu biliau dŵr. O’r 175,000 o aelwydydd hynny, dim ond 35 y cant sy’n cael cymorth ariannol i dalu eu biliau dŵr, gan olygu bod 114,000 amcangyfrifedig o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr. Canfu ymchwil ar y cyd gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr ac Ofwat, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, fod traean o gwsmeriaid yn ei chael hi'n anodd talu biliau’n weddol aml, ac mae hon yn broblem enfawr sy’n cael ei gwaethygu gan y cynnydd digynsail mewn costau ynni a’r cynnydd mewn cyfraddau llog a chwyddiant. Ar hyn o bryd, mae cynlluniau fforddiadwyedd yn wahanol ar gyfer pob cwmni dŵr yng Nghymru, ac mae hyn yn creu problemau, gan fod gennym loteri cod post, bron â bod, o ran eich cymhwystra i gael cymorth ai peidio, a faint.

Felly, mae CCW, a arferai gael ei alw'n Gyngor Defnyddwyr Dŵr, yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i weithredu cynllun fforddiadwyedd dŵr unigol ar gyfer Cymru a Lloegr, er mwyn sicrhau nad oes neb yn ei chael hi'n anodd talu eu bil dŵr. Ac fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi cynllun fforddiadwyedd cyffredinol ledled Cymru a Lloegr, ac i weithio gyda'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Llywodraeth y DU i helpu i gyflawni hyn. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu gweithgor i archwilio hyfywedd cynllun fforddiadwyedd dŵr unigol, ac yn bwriadu ymgynghori ar y cynnig, gyda'r cynllun arfaethedig yn cael ei ariannu o gronfa ganolog ac yn helpu i sicrhau nad yw'r costau'n anghymesur i'r ardaloedd daearyddol sydd â'r problemau tlodi dŵr mwyaf, fel Cymru. Mewn gwirionedd, mae modelau'n awgrymu y byddai cynllun unigol i'r diwydiant yn debygol o leihau'r croes-gymorthdaliadau cyfartalog presennol ar gyfer biliau dŵr yng Nghymru, gan ddarparu cymorth mwy cynhwysfawr, ac fe fyddwn i felly'n argymell, yn y ffordd gryfaf bosibl, fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n llawn â'r ymgynghoriad a'r cynnig hwn.

Yn ogystal â'r cynllun fforddiadwyedd hwn, hoffwn annog y Llywodraeth hon hefyd i annog cwmnïau dŵr yng Nghymru i lansio ymgyrchoedd cydgysylltiedig ar lefel genedlaethol i roi gwybod i bobl am y cymorth sydd eisoes ar gael iddynt, a gwneud cymorth sy'n gysylltiedig â dŵr yn fwy gweladwy drwy asiantaethau cynghori eraill, fel y canolfannau cyngor ar bopeth. Credaf y byddai hyn yn gam gwerthfawr i helpu pobl ledled Cymru, yn enwedig gan fod tystiolaeth wedi dangos bod pobl sy'n cael trafferthion gyda dyled ac sy'n fregus yn ariannol yn cymryd dros ddwy flynedd ar gyfartaledd i ofyn am help ac o ganlyniad, mae eu trafferthion ariannol yn aml iawn yn arwain at broblemau iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, gellid bod wedi osgoi'r trafferthion hyn gydag ymyrraeth gynharach ac ymwybyddiaeth o'r cynlluniau fforddiadwyedd a dileu dyledion sydd ar gael iddynt. Hoffwn atgoffa'r Llywodraeth hon a'r Aelodau yma ei bod o fudd i bawb pan fydd y rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau dŵr yn cael yr help a'r cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl, nid yn unig oherwydd ei fod yn eu helpu hwy i leddfu'r pryder a'r straen sy'n deillio o'i chael hi'n anodd fforddio biliau a rheoli cyllid aelwyd, ond oherwydd bod y ddyled y maent yn mynd iddi yn aml yn cael ei hadennill gan gwmnïau dŵr drwy filiau uwch i gwsmeriaid eraill, a allai fod yn ei chael hi'n anodd hefyd.

I droi at reoli tir a dyfrffyrdd a materion sy'n effeithio ar ein hamgylchedd naturiol, fel newid hinsawdd, rydym yn gwybod bod gan gwmnïau dŵr ddyletswydd gofal i gynnal a gofalu am rannau o'n hamgylchedd naturiol, ac mae'r arian sydd ei angen i wneud hyn yn dod o refeniw biliau. Os caiff sefyllfa ei chreu lle mae cwmnïau dŵr yn mynd yn brin o refeniw oherwydd bod lefelau dileu dyled yn rhy uchel, mae'n lleihau'r arian sydd ar gael i gwmnïau reoli asedau, a allai arwain yn anffodus at lawer o'r problemau amgylcheddol y clywn amdanynt yn y Siambr hon. Yng Nghymru, a ledled y Deyrnas Unedig, mae angen buddsoddiad sylweddol mewn rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth i sicrhau y gallant wrthsefyll pwysau hinsawdd sy'n newid a phoblogaeth sy'n tyfu, er mwyn datblygu ffynonellau dŵr newydd a pharhau i leihau gollyngiadau a gwastraff o'r rhwydwaith. Mae'n hanfodol fod pobl ar incwm isel yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gadw biliau'n fforddiadwy. 

Fel y nododd fy nghyd-Aelod Peter Fox yn ei gwestiwn i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae Cymru bellach yn swyddogol mewn sychder yn dilyn y cyfnod o bum mis sychaf mewn 40 mlynedd, cyfnod lle na chafwyd ond 61 y cant o'r glawiad blynyddol disgwyliedig rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf yng Nghymru. Felly, mae angen inni feddwl yn ofalus iawn, fel poblogaeth, ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio dŵr. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Lloegr, NIC, yn argymell, er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch cynyddol rhwng cyflenwad a galw, y gellir lleihau traean o'r galw am ddŵr drwy helpu ac annog pobl i newid eu hymddygiad a defnyddio llai o ddŵr. Mae NIC hefyd yn awgrymu y gallai lleihau dŵr fod y cam mwyaf cost-effeithiol y gellid ei gymryd i addasu i newid hinsawdd, a byddai cyflwyno mesuryddion deallus yn gyffredinol yn niwtral o ran cost. Hoffwn herio Llywodraeth Cymru felly i sicrhau bod mesurau cynllunio sychder Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys cyfathrebu cyhoeddus ac addysg ar y ffyrdd gorau o ddefnyddio dŵr, yn enwedig gan ein bod yn debygol o brofi tywydd sychder yn amlach, a gofyn iddynt dynnu sylw at unrhyw fentrau y maent yn eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ar ben hynny hefyd, hoffwn gefnogi galwad y Cyngor Defnyddwyr Dŵr i gael asesiad trylwyr o adnoddau dŵr yng Nghymru a datblygu cydnerthedd y seilwaith cyflenwi, ac i hyn gael ei flaenoriaethu yn rhaglenni gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru yn y dyfodol.

Yng Nghymru, credaf fod yna islif o farn gyhoeddus sy'n ystyried dŵr fel rhywbeth y ceir digonedd ohono, ac felly, nad oes angen inni fod yn ymwybodol o unrhyw broblemau cyflenwi. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn wir. Er bod Cymru'n wlad lle mae gennym ddigon o lawiad, nid oes gennym gapasiti i storio llawer iawn o ddŵr, oherwydd, yn hanesyddol, nid ydym erioed wedi gorfod gwneud hynny. Oni bai ein bod yn mynd i wario symiau enfawr o arian yn cynyddu ein gallu i gadw dŵr, mae angen inni flaenoriaethu newid ymddygiad ac agweddau'r cyhoedd.

Mae angen i Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, dalu mwy o sylw i archwilio ffyrdd y gellir annog pobl i leihau'r galw ar gyflenwadau drwy helpu defnyddwyr i newid eu hymddygiad. I ategu hyn, rwy'n credu y gellir gwneud mwy i annog arloesedd a darparu cynhyrchion pellach sy'n effeithlon o ran y defnydd o ddŵr, a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl arbed dŵr.

Ymhellach, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru sut y maent wedi pwyso ar gwmnïau dŵr i gyflymu amseroedd ymateb i ollyngiadau gweladwy. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan ofynnir i bobl arbed dŵr oherwydd bod y cyfraddau glawiad wedi bod yn isel. Bydd dangos penderfyniad i fynd i'r afael â gollyngiadau yn helpu i annog pobl i wneud newidiadau bob dydd i'w defnydd o ddŵr.

Ar gyfer fy mhwynt olaf, rwyf am drafod yn fras ansawdd dŵr afonydd a gorlifoedd storm. Nid problem i Gymru'n unig yw hon ond un sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod gennym ddull cydweithredol o weithio gyda Llywodraeth y DU a'r holl gwmnïau dŵr i wella ansawdd dŵr, ac yn arbennig, i atal carthion rhag gorlifo i afonydd.

Er gwaethaf yr esboniadau niferus ynghylch pam fod gorlifoedd storm yn rhan angenrheidiol o seilwaith carthffosiaeth a nifer gymharol isel o ddigwyddiadau, ni allaf gredu ein bod, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn dal i lygru ein hafonydd a'n dyfroedd arfordirol â charthion. Mae hyn yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn gallu bod yn beryglus i nofwyr, a'r canfyddiad y mae'n ei roi i dwristiaid a phoblogaeth Cymru yw nad oes ots gennym am ein hamgylchedd, sydd, fel y gŵyr pawb ohonom, ymhell iawn o'r gwir.

Gyda diddordeb cynyddol y cyhoedd yn effaith gorlifoedd storm ar ansawdd dŵr amgylcheddol, credaf y dylai'r Gweinidog gefnogi'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i ymestyn ei waith yn adolygu llu o argymhellion ar gyfer cynyddu cydnerthedd y seilwaith dŵr gwastraff, gyda'r nod o leddfu perygl llifogydd i'n cymunedau, sicrhau gwasanaethau carthffosiaeth gwydn a gwarchod yr amgylchedd naturiol, gan ddiogelu economïau lleol hefyd.

Hoffwn ddod â fy nghyfraniad i ben drwy ddweud bod gennym rai heriau difrifol i'r diwydiant dŵr yng Nghymru, o ran helpu pobl i allu fforddio eu biliau ac uwchraddio'r rhwydwaith dŵr a charthffosiaeth i ddarparu mwy o gydnerthedd yn erbyn newidiadau hinsawdd a lleihau effaith carthion ar ein hamgylchedd. Er fy mod yn cydnabod bod llawer o waith da iawn yn digwydd, rhaid inni fod yn ymwybodol fod angen mwy o benderfyniad yn y gwaith hwnnw a mwy o frys i'w gyflawni. Diolch, Ddirprwy Lywydd.  

17:05

A gaf fi ddiolch i Joel James am roi munud imi yn y ddadl hon? Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cred y gallech roi unrhyw beth yn y môr a'r afonydd ac y byddai'n gwasgaru, heb broblem o gwbl—byddai'n gwanhau'n ddim. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, daethom i sylweddoli nad oedd hyn yn wir a dechrau glanhau ein hafonydd. Yn anffodus, mae'n ymddangos ein bod bellach yn dychwelyd i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Rwyf am wneud tri phwynt cyflym. Mae carthion heb eu trin yn cael eu gollwng i afonydd fel afon Tawe gan waith trin Trebanos; mae llygredd ffosfforaidd yn arwain at ewtroffigedd yn afon Gwy; mae microblastigion wedi mynd i'r dŵr ym mhob man. Rydym yn yfed y dŵr hwn wedyn ar ôl ei drin. Pe bai pobl yn gweld sut olwg oedd ar y dŵr cyn ei drin, mae'n debyg na fyddent yn ei yfed.

Mae angen glanhau ein hafonydd a dirwyo llygrwyr. Yr unig ffordd y gwnewch chi atal pobl rhag llygru yw pan fydd yn dechrau taro eu pocedi; fel arall, nid yw llygrwyr yn talu dim amdano ac nid yw'n gwneud unrhyw ddrwg iddynt hwy.

Ar 19 Awst, cafwyd gwaharddiad ar ddefnyddio pibelli dŵr mewn rhan fawr o fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ardal a wasanaethir gan gronfa ddŵr Llys-y-frân yn etholaeth fy nghyd-Aelod Paul Davies, sef Preseli Sir Benfro. Yn garedig iawn, fe roddodd Paul ganiatâd i mi fynd i mewn i Breseli Sir Benfro er mwyn imi ymweld â chronfa ddŵr Llys-y-frân i weld pa mor isel oedd lefel y dŵr, ac fe gefais fy syfrdanu gan ba mor isel oedd lefel y dŵr yno. Felly, gadewch inni fanteisio ar y cyfle i ddysgu gan wledydd sydd â hinsawdd sychach na'n gwlad ni er mwyn inni allu cyflwyno'r un math o dechnoleg a systemau sydd ganddynt hwy ar gyfer cadw dŵr fel y gallwn reoli ein dyfroedd yn llawer gwell, gan wybod bod yr hinsawdd wedi newid yn y fath fodd. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am y cyfle i sôn am bynciau pwysig ac amserol iawn tlodi dŵr ac ansawdd dŵr. Yn wir, mae ein sector dŵr yn wynebu her uniongyrchol a digynsail. Mae newid hinsawdd yn golygu y bydd Cymru, dros yr 20 mlynedd nesaf, yn wynebu gaeafau gwlypach, hafau poethach a sychach, cynnydd yn lefelau'r môr, a thywydd eithafol mwy aml a mwy garw. Bydd yr angen i gyflawni datgarboneiddio, y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn galw am atebion arloesol, newid ymddygiad a buddsoddiad hirdymor yn ein seilwaith dŵr. Ar yr un pryd, mae'r heriau costau byw yn waeth na dim a welwyd ers cenhedlaeth, gan roi pwysau ar incwm aelwydydd a gallu llawer o bobl i dalu am hanfodion fel bwyd, dŵr ac ynni. Mae'r pwysau hyn, ynghyd â'r ansicrwydd economaidd a geowleidyddol presennol, yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i fwrw ymlaen gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drechu tlodi drwy flaenoriaethu anghenion y tlotaf a diogelu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o dlodi a chael eu hallgáu. Fel y dywedodd Joel, mae sicrhau mynediad at wasanaethau dŵr a charthffosiaeth teg a fforddiadwy i bobl a busnesau yn ffactor pwysig yn y gwaith o leihau tlodi, ac rydym yn rhoi camau ar waith i werthuso sut y gallwn gyflawni hyn yn y ffordd orau a mwyaf effeithlon.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chwmnïau dŵr i wneud biliau dŵr yn fforddiadwy i bawb, a helpu aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd iawn talu am wasanaethau dŵr. Unwaith eto, fel dywedodd Joel, yn 2021, cyhoeddodd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr adolygiad o fforddiadwyedd a'r cymorth ariannol a oedd ar gael i ddefnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am gynnal yr adolygiad. Argymhelliad allweddol yn yr adolygiad, fel rydych yn cydnabod, oedd sefydlu cynllun fforddiadwyedd dŵr unigol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Felly, hyd nes y gwneir y penderfyniad hwnnw ar weithredu cynllun unigol, mae cwmnïau dŵr wedi mabwysiadu mesurau rhagweithiol i gynorthwyo pob aelwyd sy'n cael trafferth gyda'u biliau dŵr, gan gynnwys negeseuon gweladwy iawn ar sut i gael cymorth. Ar hyn o bryd, mae cwmnïau dŵr yng Nghymru yn cynorthwyo dros 145,000 o aelwydydd drwy wahanol gynlluniau. Mae'r Gweinidog cyllid a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi siarad â Llywodraeth y DU ynglŷn â gweithredu i leddfu'r baich ariannol ar aelwydydd Cymru yn gyffredinol, ac fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau gyfarfod â'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr ddoe i drafod eu galwad am gynllun cyffredinol, sut y gellid talu amdano a sut y gallem ei weithredu. Rydym hefyd wedi siarad â Dŵr Cymru ynglŷn â chyfeirio'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu at fudd-daliadau yn y dyfodol, oherwydd mae Joel yn llygad ei le—mae'n arwydd; yn aml, dyma fydd y bil cyntaf na chaiff ei dalu, ac mae'n arwydd fod pobl yn ei chael hi'n anodd.

Er hynny, yn rhan o'r sgwrs gyda'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, rhaid imi ddweud bod elfen wleidyddol bendant i'r ffordd y dylid ariannu'r cynllun hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd mae Ofwat—ac yn wir Ofgem, pan fyddant yn ei drafod—yn sôn am gynllun fforddiadwyedd cyffredinol y telir amdano gan gwsmeriaid eraill. Mae arnaf ofn fy mod o'r farn y dylai'r Llywodraeth ysgwyddo cyfrifoldeb ac ariannu'r cynlluniau hynny'n uniongyrchol, a pheidio â throsglwyddo'r gost i ddefnyddwyr eraill y gwasanaethau hynny. Felly, mae gwahaniaeth pendant yn y ffordd y credwn y dylid gweithredu hynny. Ond er hynny, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael cynllun cyffredinol y mae pobl yn ei ddeall ac sy'n syml, felly rwy'n sicr yn cefnogi'r alwad am hynny. Yn y cyfamser, bydd pecyn cymorth £380 miliwn Llywodraeth Cymru yn helpu aelwydydd i ymdopi â'r argyfwng costau byw, ac mae ein cynllun pwyslais ar incwm wedi rhyddhau incwm ar gyfer biliau eraill na chânt eu cynnwys yn y mesurau hynny. Mae blaenoriaethu anghenion y tlotaf a'r rhai sydd fwyaf tebygol o brofi tlodi neu gael eu hallgáu yn hollbwysig.

Gan droi wedyn at ansawdd dŵr, dŵr yw un o'n hasedau cenedlaethol mwyaf ac mae'n rhan annatod o ddiwylliant, treftadaeth a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn seiliedig ar amgylchedd naturiol iach a sylfaen asedau gwydn. Rydym yn rhagweld sector dŵr a dŵr gwastraff gwydn yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid a'r amgylchedd, yn integredig, yn gynaliadwy ac yn wydn, gan gynnig gwerth i gwsmeriaid a'r amgylchedd. Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein gweledigaeth a'n huchelgais i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae ein seilwaith cyflenwi dŵr a thrin dŵr gwastraff yng Nghymru dan bwysau gwirioneddol oherwydd newid hinsawdd, fel yr ydym wedi'i drafod droeon yn y Siambr hon. Mae newidiadau i ddwysedd a dosbarthiad poblogaeth a datblygiadau newydd yn cyfrannu at hyn. Er enghraifft, byddai cael gwared ar yr holl orlifoedd storm presennol yn brosiect hirdymor drud-ar-garbon gwerth biliynau o bunnoedd, nid dyna fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella ansawdd dŵr ac ni fyddai'n gallu gwrthsefyll pwysau cynyddol newid hinsawdd. Er hynny, rydym yn cydnabod yr angen i weithredu ar unwaith, ac rydym wedi sefydlu'r tasglu gwella ansawdd afonydd i werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant yn gyflym.

Ond nid yw mynd i'r afael â gorlifoedd ond yn un o nifer o elfennau sydd angen sylw os ydym am wella ansawdd dŵr yng Nghymru. Rydym wedi darparu ar gyfer rhaglen waith gwerth miliynau o bunnoedd dros sawl blwyddyn i wella ansawdd dŵr, sy'n werth cyfanswm o £40 miliwn dros y tair blynedd nesaf, ac rydym yn ysgogi cydweithio rhwng rhanddeiliaid a rheoleiddwyr, er enghraifft, drwy'r tasglu a'r byrddau rheoli maethynnau, sydd wedi'u sefydlu ar gyfer afonydd pob ardal cadwraeth arbennig yng Nghymru. Rydym hefyd wedi adeiladu systemau draenio cynaliadwy sy'n orfodol ym mhob datblygiad adeiladu newydd, bron iawn. Bydd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar y rhwydwaith drwy ailgyfeirio ac arafu'r cyflymder y mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i'r system garthffosiaeth, ac mae'n helpu i sicrhau bod gorlifoedd storm ond yn cael eu defnyddio fel dewis olaf.

Rwyf wedi bod yn glir fod angen inni fabwysiadu dull rheoli dalgylch integredig iawn, gan ganolbwyntio ar gydweithredu rhwng sectorau ac atebion sy'n seiliedig ar natur i sbarduno gwelliannau i ansawdd dŵr. Ond fel y mae pawb wedi cydnabod, ni ellir tanbrisio'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae hwn yn brosiect hirdymor y mae angen inni weithredu arno ar unwaith, ond gyda nodau tymor canolig a hirdymor. Rhaid i bawb ohonom gydweithio a datblygu dull tîm Cymru o weithredu fel y gallwn fynd i'r afael â'r risgiau niferus sy'n effeithio ar ein llynnoedd, ein hafonydd a'n nentydd, a sicrhau gwelliannau go iawn i ansawdd y dyfrffyrdd. Mae angen tryloywder, didwylledd a hyblygrwydd arnom yn ein hymateb i fynd i'r afael â'r materion ansawdd dŵr sy'n ein hwynebu yng Nghymru, ac mae'r tasglu a sefydlwyd o ganlyniad i'r uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru yn bwrw ymlaen â hynny yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol sy'n bosibl. Rydym hefyd yn cyfarfod ag ystod o randdeiliaid ledled Cymru a bydd fy archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth, a fydd yn cyhoeddi ei argymhellion ddydd Llun nesaf, yn mynd i'r afael â'r mater hwn hefyd. Diolch. 

17:15
10. Dadl Fer: Mapio moroedd Cymru: Buddsoddiad yn ein dyfodol gwyrdd a glas

Symudaf yn awr i'r ail ddadl fer heddiw, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. 

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi am siarad am fapio moroedd Cymru. Dwi'n falch o gael y cyfle i gyflwyno'r ddadl. Dwi'n ddiolchgar i Sam Kurtz a Joyce Watson am ddangos diddordeb yn y pwnc, a dwi'n hapus iawn i allu rhoi ychydig o amser iddyn nhw gyfrannu cyn i ni glywed ymateb y Gweinidog.

Dydy rhywun ddim yn cael ei ddewis yn aml iawn o'r het i gael cyflwyno dadl fer, ond pan mae'ch enw chi yn cael ei dynnu mae o'n gyfle gwych, ond yn dipyn o gur pen hefyd. Rydyn ni'n delio efo cymaint o faterion sy'n bwysig i'n hetholaethau ni neu'n rhanbarthau ni, sut mae dewis pwnc sy'n gallu cael yr impact mwyaf? Ond mae'r pwnc dwi wedi ei ddewis heddiw yn ddilyniant o ddadl fer y gwnes i ei chyflwyno nôl ar 11 Gorffennaf 2018, a hynny oherwydd bod y ddadl honno wedi cael impact. Mi arweiniodd at weithredu gan y Llywodraeth a, Weinidog, mae fy nisgwyliadau i yn uchel iawn y tro yma hefyd. Efo'r Llywodraeth wedi delifro'r tro diwethaf, dwi'n llawn ddisgwyl y byddwch chi'n delifro'r tro yma hefyd.

Rŵan, cyflwyno'r achos wnes i bryd hynny dros wneud llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, sydd wedi ei lleoli ym Mhorthaethwy yn fy etholaeth i, yn llong ymchwil forol genedlaethol i Gymru. Mi roedd yr adnodd gwerthfawr yma yn wynebu dyfodol ansicr. Mi roeddem ni'n wynebu ei cholli hi, a finnau eisiau ei hachub hi nid am fod ganddi hi a'i rhagflaenydd, y Prince Madog gwreiddiol, bwysigrwydd sentimental i fi a gafodd fy magu ar lannau'r Fenai, ond oherwydd ei bod hi yn rhy bwysig i'w cholli—yn cynnal swyddi yn lleol, yn arf ymchwil pwysig i Gymru, yn arf pwysig i ddenu myfyrwyr i astudio eigioneg ym Mhrifysgol Bangor, yn yr adran honno ym Mhorthaethwy sydd mor uchel ei pharch yn rhyngwladol.

Roeddwn i'n falch bod y Gweinidog ar y pryd wedi deall beth oedd yn y fantol bryd hynny. Mi roedd y Prif Weinidog wedi deall hefyd; dwi'n cofio sgwrsio efo yntau, ac mi ddaeth y Llywodraeth at y bwrdd a ffeindio ffordd ymlaen i gefnogi ymchwil yn defnyddio'r Prince Madog. Mi lwyddon ni i roi bywyd newydd i'r llong, ond rŵan mae eisiau adeiladu ar hynny. Ac mi fyddaf i'n dadlau heddiw y byddai rhaglen genedlaethol i fapio moroedd Cymru yn gallu bod yn rhan ganolog o hynny. Dwi'n meddwl y gall hwn fod yn brosiect strategol o fudd cenedlaethol sylweddol y dylai'r Llywodraeth fod am ei arwain.

Gadewch imi roi ychydig o gyd-destun. I'r rhai nad ydynt yn gwybod am Prince Madog, llong hardd yw hi ac mae'n un arbenigol iawn. Cyrhaeddodd Brifysgol Bangor yn 2001, i gymryd lle'r Prince Madog wreiddiol a oedd wedi bod yn weithredol ers 1967. Drwy gydol yr amser hwnnw, defnyddiwyd yr ased Cymreig unigryw hwn i ddysgu miloedd lawer o fyfyrwyr gwyddor môr israddedig ac uwch, mae wedi bod yn amhrisiadwy wrth gasglu data gwyddonol o wely'r môr o amgylch y DU, mae wedi bod yn sail i filoedd o gyhoeddiadau gwyddonol, a thrwy raglenni gwych Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn Dull Cynaliadwy, SEACAMS, yn arbennig, mae wedi bod yn allweddol wrth gyflawni cannoedd o brosiectau ymchwil cydweithredol a luniwyd i gynorthwyo, datblygu a gwella economi forol Cymru. 

Bellach, yn 20 oed ac ychydig, mae ganddi flynyddoedd o wasanaeth i'w gynnig o hyd. Mae hi'n cael ei chynnal a'i chadw'n dda—yn dda iawn. Fel y dywedodd un o'r tîm sy'n gweithio gyda hi wrthyf, 'Mae hi yn ei hanterth.' Mae hi hefyd yn gosteffeithiol iawn. Mae mynd yn ôl ac ymlaen i borthladdoedd yn costio llawer o arian, ond gall Prince Madog gynnig ymchwil 24 awr y dydd am 10 diwrnod ar y tro. Gall llongau tebyg gostio degau o filoedd o bunnoedd y dydd i'w llogi, gydag ychydig o hynny'n ymwneud â chostau pethau fel systemau dynamig ar gyfer rheoli lleoliad. Nawr, nid oes angen hynny ar Prince Madog oherwydd y math o dechnoleg y mae'n ei chario ar ei bwrdd, technoleg o'r radd flaenaf sy'n syfrdanol. 

Nawr, mae'r dechnoleg ei hun yno oherwydd y buddsoddiad a wnaed drwy brosiectau olynol SEACAMS a gâi eu hariannu gan yr UE. Rhoddodd SEACAMS fodd uniongyrchol i Brifysgol Bangor gynnal y casgliad o offer gwyddonol a ddefnyddir ar y llong a'i wella'n gyson. Mae hynny'n cynnwys y systemau sonar aml-belydr, sef y darn o gyfarpar gwyddonol a ddefnyddiwyd amlaf dros y degawd diwethaf, yn ddi-os. Yr offer diweddaraf, sydd ond yn flwyddyn neu ddwy oed, yw'r troswr aml-belydr Teledyne Reson T50. Nawr, mae dim ond ei ddweud yn teimlo fel pe bawn i mewn ffilm Star Wars. Ond rhowch y peth fel hyn, ar hyn o bryd mae'n un o'r darnau mwyaf datblygedig o offer y gallwch ei gael, ac mae'r system hon, ochr yn ochr â safon a hyblygrwydd y llong ei hun, yn cynnig cyfle unigryw i Gymru ddod i adnabod ei hamgylchedd morol yn fwy manwl nag erioed o'r blaen dros y degawd sydd i ddod, a byddem yn elwa'n aruthrol o wneud hynny.

Sut bethau yw mapiau manwl o'n moroedd? Gadewch imi ei ddisgrifio, gyda chymorth llyfr newydd hynod ddiddorol, astudiaeth newydd hynod ddiddorol, a gyhoeddwyd yr wythnos hon—nid wyf yma i'w hyrwyddo; mae'n ddefnyddiol i egluro beth rwy'n siarad amdano. Ond efallai eich bod wedi darllen amdano neu wedi clywed amdano yn y newyddion yr wythnos hon. Gwnaed yr astudiaeth gan yr hanesydd morol Innes McCartney. Echoes from the Deep yw'r enw, ac mae'r 'echo' yn cyfeirio at y sonar aml-belydr ar y Prince Madog, oherwydd mai'r Prince Madog a ddefnyddiodd Innes McCartney i gyflawni astudiaeth gwbl anhygoel o longddrylliadau ym môr Iwerddon. Nawr, mae'r ymchwil yn cynnwys 273 o longddrylliadau, ac mae 129 o'r arolygon hynny, sy'n edrych yn anhygoel o fanwl ar ddyfnderoedd môr Iwerddon, naill ai wedi canfod llongau am y tro cyntaf erioed—nad oeddem yn gwybod pa longau oeddent—neu longau a oedd wedi cael eu camgymryd am longau eraill. Mae rhai o'r rheini'n anferth a llawer ohonynt gryn dipyn dros 100 metr o hyd. Llongau a suddwyd gan U-boats; rhyfel byd a gafodd ei ymladd oddi ar arfordir Cymru. Un o ddioddefwyr yr U-boats oedd yr SS Mesaba, a gafodd ei tharo â thorpido yn 1919. Saith mlynedd ynghynt, roedd hi'n un o'r llongau a ymatebodd i alwadau argyfwng y Titanic. Nawr, mae'r dystiolaeth a ddarparwyd gan y Prince Madog yno, yn glir inni ei gweld. Hanes, rwyt ti'n dod yn fyw o ddyfnderoedd y môr oddi ar arfordir Cymru.

Beth yw arwyddocâd hyn i fy nghais i heddiw? Wel, gall y dechnoleg sy'n gallu adnabod llongau ar wely'r môr yn eithriadol o fanwl fapio ein tirwedd forol ar gyfer llu o ddibenion eraill: yn amgylcheddol, yn economaidd, ar gyfer pysgodfeydd, ar gyfer cynhyrchu ynni ar y môr. A dyma fanylion, dyma wybodaeth sydd ei hangen arnom ar gyfer ein dyfodol, ac mae cymaint sydd heb gael ei fapio. Felly, rwy'n gwahodd y Llywodraeth i drafod sut y gallwn ddatblygu rhaglen mapio morol cenedlaethol newydd ar gyfer dyfroedd tiriogaethol Cymru. Ac mae gennym lawer o ddyfroedd tiriogaethol. Cawn ein galw'n aml yn 'wlad y gân'; efallai y dylai fod yn 'fôr o gân' oherwydd mae gennym fwy o fôr nag sydd gennym o dir—tua 50 y cant yn fwy. Mae gennym 21,000 cilomedr sgwâr o dir, a 30,000 cilomedr sgwâr o wely môr tiriogaethol Cymreig. Ac fel mae'n digwydd, mae 'môr o ganu' yn gweithio'n dda iawn yn y Gymraeg fel ymadrodd adnabyddus i'n disgrifio fel cenedl pan fyddwn yn morio canu.

Ers 2010, mae prosiectau SEACAMS a SEACAMS2 yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn gyfrifol am gyflawni'r astudiaeth fapio gwely'r môr fwyaf eang a wnaed erioed yn nyfroedd tiriogaethol Cymru. Cynhaliwyd arolygon sonar aml-belydr eglur iawn, dros fwy nag 1 filiwn erw, 5,000 cilomedr sgwâr o wely'r môr, arolygon a gynhaliwyd dros bellter llinellol o fwy na 45,000 cilomedr—mae hynny'n fwy na chylchedd y ddaear—ac nid yw'n cael ei wneud am hwyl yn unig. Nid dim ond ar gyfer llyfrau y mae'n cael ei wneud. Mae'r data mapio wedi darparu'r wybodaeth sylfaenol ar gyfer y mwyafrif helaeth o weithgarwch presennol y diwydiant morol a mentrau newydd; mae pob math o brosiectau ynni morol wedi elwa.

Nawr, acronym yw SEACAMS o 'sustainable expansion of applied coastal and marine sectors'—ehangu sectorau arfordirol a morol cymwysedig mewn dull cynaliadwy. Mae'n ymwneud â chymhwyso'r ymchwil hon ar gyfer gweithgarwch economaidd. Ond efallai y dylwn fod wedi dweud mai dyna'r arferai SEACAMS fod yn acronym ohono, oherwydd daeth y rhaglen SEACAMS i ben ym mis Ebrill 2022—wedi ei ariannu gan yr UE. Mae yna brosiect arall gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sef y Ganolfan Ynni Effeithiol a Chlyfar, sy'n rhedeg am ychydig fisoedd yn fwy yn unig, ond wedi'r prosiectau hyn, nid oes unrhyw brosiectau olynol ôl-Brexit sydd wedi ein galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol, i ddefnyddio galluoedd ac arbenigedd yr adran ym Mhrifysgol Bangor. Mae angen inni weithredu yn awr i gynllunio sut y gallwn gadw, heb sôn am fanteisio ar, a gwneud y mwyaf o botensial, y Prince Madog a'r arbenigedd sydd ynghlwm wrth y llong y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf. Mae'r syniad o golli hyn yn rhywbeth rwy'n poeni'n fawr iawn yn ei gylch ac rwy'n awyddus iawn i osgoi hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny. Os ydym yn colli'r arbenigedd hwn, byddwn yn ei chael hi'n anodd tu hwnt i'w adfer, ac ar hyn o bryd mae llawer o gontractau, fel rwy'n deall, yn dod i ben ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Rwy'n gobeithio clywed gan y Gweinidog ei bod hi'n fodlon bwrw iddi'n gyflym ar y mater hwn.

Gallwn adrodd y ffigurau—costau, mewn gwirionedd—y mae'r tîm yn y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol wedi eu rhannu gyda mi. Nid wyf yn credu bod angen mynd i fanylion cyfraddau llogi dyddiol a chostau prosesu data a'r math hwnnw o beth yma, ond mae'n ddigon dweud y gallai rhaglen arloesol, a ariennir â channoedd o filoedd o bunnoedd yn hytrach na miliynau lawer, fod yn sail i fenter o arwyddocâd cenedlaethol go iawn yma, gan ganiatáu inni elwa ar hynny sawl gwaith drosodd wrth inni wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym yn y moroedd o'n cwmpas, boed hynny'n bysgodfeydd neu'n ynni.

Mae angen inni wybod beth sydd yno. Ni fyddem yn bodloni ar beidio ag adnabod pob cilomedr sgwâr o dir yn fanwl iawn, ac mae'r moroedd o'n cwmpas yn galw am yr un ffocws, a gall rhaglen strategol ar gyfer mapio gwely'r môr, dan arweiniad Canolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor, gynyddu'n enfawr ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o amgylchedd morol Cymru. Byddem i gyd yn elwa ohoni.

Yn gryno iawn—

Dwi am gloi drwy gyfeirio at enw'r llong arbennig yma. Pwy oedd y tywysog? Yn ôl y chwedl, mi oedd Madog ab Owain Gwynedd, yn ôl y chwedl, yn fab i Owain Gwynedd, brenin Gwynedd, a hwyliodd i gyfandir America tua 1170 ac ymsefydlu yno—dros 300 mlynedd cyn Christopher Colombus, wrth gwrs. Y chwedl ydy ei fod o a'i frawd Rhirid wedi hwylio yn ei long, Gwennan Gorn, wedi darganfod gwlad yn fanno, dod yn ôl i Gymru, nôl mwy o bobl a oedd eisiau setlo yna, a hwylio'n ôl. Stori wir? Teg dweud bod tystiolaeth ei fod o'n wir yn ddigon prin, ond mae'r dystiolaeth yn gwbl glir, dwi'n meddwl, am beth mae'r llong sydd wedi'i enwi ar ôl Madog ab Owain Gwynedd yn gallu ei gynnig i ni yng Nghymru heddiw. Dwi'n barod iawn i weithio efo'r Llywodraeth i weld sut y gallwn ni wireddu'r syniad yma. Diolch yn fawr.

17:25

Mae'n bleser i ddilyn yr Aelod o Ynys Môn. 

Roedd hi'n bleser cael y wers hanes a'r wers wyddoniaeth honno hefyd, a dysgais fwy am fapio moroedd Cymru. Rwy'n credu bod y pwynt ynghylch cyllid yn un sy'n hollol bragmataidd. Rydym yn gallu goresgyn hynny, rwy'n meddwl, ar y ddau ben i'r M4, sy'n rhywbeth y byddwn yn hapus iawn i'w gefnogi hefyd, oherwydd os ydym am wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd yno ar ffurf egni adnewyddadwy oddi ar ein harfordiroedd yma yng Nghymru—i mi, mae hynny'n golygu ynni gwynt arnofiol oddi ar arfordir de sir Benfro—mae angen gwybod yn sicr beth yr ydym yn gweithio gydag ef o ran mapio gwely'r môr. Ac yn enwedig pan fydd Llywodraeth y DU yn awyddus i gyflymu llif, rhywbeth y maent wedi'i gyhoeddi yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod prosiect fel hwn, y Prince Madog, yn cael parhau i wneud y gwaith hanfodol y mae'n ei wneud. Felly, rwy'n fodlon cynnig fy nghefnogaeth i helpu hynny yn y dyfodol. Diolch.

Diolch am gyflwyno'r ddadl hon—dadl bwysig, a'r wers hanes y tu ôl iddi. Rydym wedi cael haf o garthion ar ein glannau; rydym wedi cael y tymereddau uchaf erioed; mae gaeaf o'n blaenau gyda biliau ynni na ellir eu talu; yr elw dihaeddiant uchaf erioed i'r cwmnïau ynni mawr; a system ynni sy'n agored i unbeniaid. Mae'r argyfyngau hyn wedi'u cysylltu, felly mae angen atebion hirdymor i hynny, a bydd mapio gwely'r môr yn helpu i gyflawni'r chwyldro ynni sy'n mynd i orfod digwydd, ond sydd ar yr un pryd, yn parchu a diogelu'r effaith amgylcheddol. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn dod i Fangor i weld y llong hon, ac rwy'n siŵr, fel aelod o'n pwyllgor, y gallech ein gwahodd draw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, 'dilynwch hynny', fel maent yn ei ddweud—nid wyf hyd yn oed yn mynd i geisio gwneud hynny. Fe wnes fwynhau cyfraniad Rhun ap Iorwerth yn fawr iawn, a gallaf eich sicrhau ein bod yn ymwybodol iawn o'r gwaith pwysig iawn y mae'r llong, y Prince Madog, wedi'i wneud ar y cyd â Phrifysgol Bangor. Rwyf wedi cael y fraint enfawr o siarad â rhai o'r gwyddonwyr sydd wedi bod yn rhan o hynny, ac yn wir, rhai o'r beirdd a fu'n ymwneud â'r peth hefyd. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ased sydd gennym yno. 

Fel y mae pawb wedi cydnabod, rydym yn wynebu bygythiadau dwbl yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae hynny, yn fwy nag erioed, yn cynnwys ein moroedd. Mae angen moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol, a dyna pam rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl. Rwy'n canmol yr Aelod ar ei gais—rwy'n credu mai dyna beth ydoedd, a dweud y gwir—dros barhau rôl y llong ymchwil, y Prince Madog, ac i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae gwyddorau ymchwil a thystiolaeth yn ei chwarae yn ein hymgyrch i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y moroedd glân, gwydn a biolegol amrywiol hynny.

Bydd yr aelodau'n ymwybodol—yn wir, mae Rhun newydd ddweud wrthym—fod Llywodraeth Cymru wedi contractio â Phrifysgol Bangor yn 2019 ar gyfer defnyddio llong ymchwil y Prince Madog. Mae wedi ein galluogi i ymgymryd ag ystod enfawr o brosiectau arolygu ar y môr. Roedd yn cynnwys y gwaith labordy cysylltiedig, hwylusodd fynediad at brosiectau academaidd a setiau data morol, a chwaraeodd ran go iawn yn sicrhau dyfodol y llong ymchwil, fel y mae Rhun wedi cydnabod. Mae'r contract wedi ei gwneud hi'n bosibl darparu gwyddoniaeth o ansawdd uchel iawn, gwyddoniaeth sy'n arwain y byd, i'n helpu i ddeall ein moroedd yn well a chefnogi ystod o bolisïau blaenoriaeth gyhoeddus a rhwymedigaethau statudol.

Mae wedi darparu nifer o arolygon ac adroddiadau, gan gynnwys Gorchymyn Trwyddedau Pysgota am Gregyn y Moch (Cymru) 2021 a gafodd ei lunio ar y cyd, ac y bydd Aelodau'n ei gofio'n mynd drwy'r Senedd. Rwy'n credu mai chi oedd yr unig siaradwr arno bryd hynny, mewn gwirionedd, Rhun. Fe ddatblygodd yr asesiadau stoc pysgodfeydd ar gyfer cregyn bylchog, crancod, cimychiaid, cregyn moch a morgathod, ac fe wnaeth nodweddu gwely'r môr i nodi'r parthau cadwraeth morol a chefnogi cwblhad y rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig. Felly, mae wedi bod yn hanfodol iawn yn yr hyn y buom yn ei wneud. Maent hefyd wedi bod yn archwilio a mapio gwely'r môr mewn ardaloedd adnoddau a chasglu tystiolaeth i wella ein dealltwriaeth o garbon glas yn nyfroedd Cymru. Mae'n cynorthwyo cyflawniad ein blaenoriaethau gweinidogol allweddol ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau monitro statudol hefyd.

Fel y nododd Rhun, mae'r contract hwnnw bellach wedi dod i ben. Rydym ar hyn o bryd yn asesu ein gofynion ar gyfer darpariaeth gwyddorau morol yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n sicrhau'r Aelodau, Rhun yn enwedig, ein bod wedi parhau i drafod yn agos ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, ynghyd â'n holl sefydliadau ymchwil morol yng Nghymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny wrth inni ystyried y camau nesaf posibl a'r contract nesaf a ddaw.

Fel y dywedais, mae'n hanfodol ein bod yn cydbwyso datblygiad gyda gwarchod yr amgylchedd. Ar hyn o bryd, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rwy'n cwblhau archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar y targed 30x30. Mae hynny'n ein hymrwymo i ddiogelu 30 y cant o'n tir, a'n moroedd, yn bwysig, erbyn 2030. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar argymhellion yr archwiliad dwfn ddydd Llun 3 Hydref, a bydd cynhadledd yn y gerddi botaneg cenedlaethol i edrych ar argymhellion yr archwiliad dwfn. Rwy'n credu y byddwch yn falch iawn o ganlyniad hwnnw, ac fe gewch weld sut y mae'r gwaith a wnaethom yn y prifysgolion ledled Cymru wedi cyfrannu at hynny.

Ni allaf wneud sylw ar y contract parhaus oherwydd ei fod yn rhan o'r broses gaffael ar hyn o bryd, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn ymwybodol iawn o'r ased sydd gennym i fyny yno ym Mangor.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r ddadl heddiw ar gydnabod pwysigrwydd hanfodol ein moroedd. Maent yn ased naturiol anhygoel, ac mae datblygu gwyddorau ymchwil a thystiolaeth yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Fy ffocws clir yw sicrhau ein bod yn rheoli'r adnodd anhygoel hwn yn gynaliadwy ac yn ei ddeall yn drylwyr, ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Diolch.

17:30

Diolch, bawb. Hoffwn gofnodi ei bod hi'n braf eich gweld yn ôl yn y Siambr, Weinidog, ar ôl eich salwch byr. Mae'n dda eich gweld yn ôl.

 Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:33.