Y Cyfarfod Llawn

Plenary

29/06/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol sydd gyntaf heddiw, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.

Cyllidebu ar Sail Rhywedd

1. Pa effaith fydd y cynlluniau cyllidebu ar sail rhywedd yn ei chael ar etholaeth Arfon? OQ58276

Mae ein hymagwedd at gyllidebu ar sail rhywedd yn Arfon a ledled Cymru yn parhau i esblygu yn unol â chynllun gwella'r gyllideb a'r rhaglen lywodraethu. Mae tri chynllun peilot ar y gweill, ac yn ogystal â gwerthuso eu heffaith, rydym hefyd yn parhau i ddysgu o arferion gorau rhyngwladol.

Diolch yn fawr. GDP ydy’r mesur mwyaf cyffredin o incwm cenedlaethol—model sydd, wrth gwrs, yn mesur maint y gacen a faint rydym ni yn ei gynhyrchu efo'n hadnoddau ni yn hytrach na safon byw a chydraddoldeb. Ac mi fyddai cyllidebu ar sail rhywedd yn defnyddio offerynnau fel gwerthusiadau polisi ac asesiadau effaith er mwyn inni fod yn ymwybodol o’r holl ffyrdd y mae cyllidebau’r Llywodraeth a pholisi cyllidol yn effeithio’n wahanol ar fenywod a dynion.

Un enghraifft o ddefnyddio’r offerynnau yma ydy gallu asesu penderfyniadau cyllido gwasanaethau cyhoeddus, sydd yn effeithio ar fenywod yn fwy sylweddol na dynion gan fod yna fwy o fenywod yn gweithio yn y sector cyhoeddus nag sydd yna o ddynion. Ac mae hynny'n fwy perthnasol fyth i Arfon ac i Wynedd—Gwynedd ydy'r trydydd yng Nghymru o ran cyfradd y gweithwyr sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus. Felly, mae gen i ddiddordeb mawr mewn clywed sut mae penderfyniadau gwariant y Llywodraeth a pholisi cyllidol yn cael eu gwneud drwy'r lens benodol yma ac i ba raddau maen nhw'n cael eu cymeradwyo gan sefydliadau fel Grŵp Cyllideb Menywod Cymru.

Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am ei chwestiwn. Credaf ei bod yn nodi pam ei bod mor bwysig inni ddechrau edrych ar ein cyllideb drwy wahanol lensys. Mae cynnyrch domestig gros yn ffynhonnell ddata bwysig ac mae gennym rywfaint o ddata arbrofol sy’n edrych ar gynnyrch domestig gros ar lefel sy'n benodol i Gymru. Nid yw’n ddefnyddiadwy eto, ond fel y dywed Siân Gwenllian, dim ond un ffordd o edrych ar bethau yw honno ac mae'n rhaid inni edrych ar bethau’n fwy creadigol er mwyn inni gael dealltwriaeth briodol o effaith ein penderfyniadau cyllidebu ar wahanol grwpiau yn y gymdeithas ac er mwyn gallu ystyried ein penderfyniadau yn groestoriadol hefyd. A dyma un o'r rhesymau pam fod cynllun gwella'r gyllideb yn amlinellu ein gweledigaeth ac yn cynnwys camau gweithredu tymor byr a'r uchelgeisiau tymor canolig sydd gennym dros y pum mlynedd nesaf i wella'r broses o bennu ein cyllidebau yma yng Nghymru drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fel rhan o’r cynllun hwn, mae gennym dri chynllun peilot cyllidebu ar sail rhywedd ar y gweill ar hyn o bryd, a bydd pob un ohonynt yn cael eu hasesu’n annibynnol a bydd y canfyddiadau hynny wedyn yn ein galluogi i sicrhau bod y dysgu hwnnw’n llywio ein proses gyllidebu yn fwy cyffredinol ar draws y Llywodraeth.

Mae nifer wedi nodi pwysigrwydd ymgysylltu ar raddfa eang hefyd. Felly, rydym yn parhau i ymgysylltu â Grŵp Cyllideb Menywod Cymru a phartïon eraill a chanddynt fuddiant drwy’r grŵp cynghori ar wella ac asesu effaith y gyllideb ar ei newydd wedd, ac mae hynny, unwaith eto, yn ein helpu i ddatblygu ein hymagwedd at gyllidebu ar sail rhywedd. Ac rwyf hefyd yn falch iawn fod gan y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd hon gryn ddiddordeb yn y mater hwn. Ar yr un pryd, rydym yn edrych yn rhyngwladol ac yn gweithio gyda rhwydwaith Llywodraethau'r Economi Llesiant i gryfhau ein cysylltiadau ag arweinwyr y byd yn y maes hwn, gan gynnwys yng Ngwlad yr Iâ a Chanada. Felly, mae llawer i’w ddysgu, ond credaf y bydd ein tri chynllun peilot yn gryn dipyn o gymorth i ni o ran meddwl yn wahanol am y ffordd yr edrychwn ar ein cyllidebau yma yng Nghymru.

Mae cyllidebu ar sail rhywedd, fel y gwyddoch, yn hyrwyddo tegwch rhwng y rhywiau i fenywod, dynion a grwpiau amrywiol o ran rhywedd. Canfu arolwg gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer llety hunanddarpar a sut y maent yn effeithio ar fenywod a/neu ofalwyr di-dâl, arolwg lle roedd 83 y cant o’r rhai a ymatebodd iddo yn fenywod, fod gan 71 y cant o ymatebwyr gyfrifoldebau gofalu am blant oedran ysgol, plentyn neu bartner anabl, neu rieni oedrannus; fod 69 y cant yn ffitio'r gwaith o gynnal y llety hunanddarpar o amgylch y cyfrifoldebau hynny; ac y byddai 94 y cant yn ei chael hi’n anodd neu’n heriol rhedeg eu busnes llety hunanddarpar pe bai'r cynnydd yn nifer y nosweithiau y byddai angen iddynt fod ar gael i’w rhentu, i 252, ac yn nifer y nosweithiau y cânt eu gosod, i 182, yn dod i rym. Yn y rhan fwyaf o achosion, menywod sy'n bennaf gyfrifol am redeg y busnesau hyn. Felly, pa ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i’r menywod busnes hyn yn Arfon, a ledled y gogledd, wrth benderfynu ar eu cynnig i godi’r meini prawf defnydd ar gyfer llety hunanddarpar 160 y cant cyn y bydd busnesau dilys yn cael esemptiad o bremiymau'r dreth gyngor o hyd at 300 y cant o fis Ebrill nesaf ymlaen?

13:35

Wel, rwy’n ymwybodol fod menywod, gan gynnwys y rheini a chanddynt gyfrifoldebau gofalu, a’r rheini sydd wedi ymddeol, a dweud y gwir, yn gyffredin iawn ymhlith gweithredwyr llety hunanddarpar. Ond nid yw'n glir, fodd bynnag, y byddai gweithredwyr o'r fath yn llai abl na phobl eraill i osod eu heiddo am gyfnod hirach o'r flwyddyn, o ystyried y ffaith eu bod yn gweithredu busnesau. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael yn hyn o beth, ac yn sicr, nid oes unrhyw dystiolaeth y gellir ei dilysu gan Lywodraeth Cymru, ond rwy’n ymwybodol o’r pryderon y mae’r Aelod yn eu codi.

Blaenoriaethau Gwariant

2. Beth yw blaenoriaethau gwariant y Gweinidog ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru am y 12 mis nesaf? OQ58269. Diolch

Mae'r blaenoriaethau gwariant ar gyfer y tair blynedd nesaf wedi'u nodi yn y gyllideb derfynol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni. Mae hyn wedi arwain at nifer o fuddsoddiadau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, er enghraifft, ym meysydd iechyd, addysg a thrafnidiaeth, ynghyd â'n hymrwymiad mwy hirdymor o £55 miliwn i gronfa twf canolbarth Cymru.

Diolch, Weinidog. Hoffwn eich holi ynglŷn â'r cynnydd cynnar gyda bargen twf canolbarth Cymru. Deallaf fod rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Powys, yn pryderu am y diffyg cyllid sbarduno refeniw i roi hwb i’r prosiectau cyfalaf a nodwyd fel rhan o’u rhaglen a fyddai’n rhoi hwb gwirioneddol i’r cymunedau hynny ac i lywodraeth leol. Y rhwystredigaeth yw bod prosiectau’n dod i stop oherwydd y flaenoriaeth a roddir i gyllid cyfalaf yn hytrach na chyllid refeniw, a’r cwestiwn sydd wedi’i ofyn i mi yw beth am fwy o hyblygrwydd ynghylch defnyddio cyllid y fargen twf fel cyllid refeniw er mwyn rhoi hwb i’r prosiectau hynny. Felly, fy nghwestiwn yw p'un a oes unrhyw gamau y gellid eu cymryd i ddarparu hyblygrwydd neu i ddarparu’r cyllid sbarduno hwnnw i awdurdodau lleol er mwyn rhoi hwb i’r prosiectau hynny. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am eich cwestiwn. Llofnodwyd cytundeb terfynol bargen twf canolbarth Cymru, wrth gwrs, gan bob ochr ym mis Ionawr eleni, ac mae hwnnw’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a fframwaith bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ar sut y byddai’r fargen yn cael ei rhoi ar waith. Ac mae hynny'n cynnwys y trefniadau sylfaenol hollbwysig hynny fel y llywodraethu, sicrwydd, monitro, gwerthuso a chyfathrebu sydd ynghlwm wrth hyn. A dylid canolbwyntio yn awr yn y rhanbarth ar ddatblygu achosion busnes y rhaglenni a'r prosiectau ar y rhestr fer, sy'n esblygu fel rhan o achos busnes y portffolio. Rydym yn rhagweld y byddai’r rhan gyntaf o'r cyllid yn cael ei thynnu i lawr, fel y dywedaf, yn 2023-24. Fodd bynnag, mae gennym swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â swyddogion o gynghorau Powys a Cheredigion ar ran bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru, a byddaf yn sicrhau eu bod yn trafod y materion a ddisgrifiwyd gennych ymhellach. Wrth gwrs, fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, sy’n arwain ar hyn, a byddaf yn sicrhau, unwaith eto, ei fod yn ymwybodol o’ch pryderon a’ch cais heddiw.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ond ar bwnc blaenoriaethau gwariant, hoffwn godi mater cadwraeth adeiladau hanesyddol Cymru gyda chi, gan fod llawer ohonynt yn y gorllewin. Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â chastell Pictwn, adeilad canoloesol a drawsnewidiwyd yn blasty yn y ddeunawfed ganrif gan y teulu Philipps. Mae hanes y castell ei hun wedi'i wreiddio yn ein diwylliant, ein hunaniaeth a'n cenedligrwydd hanesyddol, o gael ei gipio gan Owain Glyndŵr i fod yn llety i filwyr America yn yr ail ryfel byd. Dyma un o'r ychydig eiddo canoloesol ym Mhrydain y mae pobl wedi byw ynddo'n barhaus. Ac er iddo fod yn addas ar gyfer teuluoedd brenhinol, ac wedi croesawu brenhinoedd, mae'n dal i fod angen cyweirio toeau, ac adfer ystafelloedd gwely. Felly, sut y gall Ymddiriedolaeth Castell Pictwn weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu cymaint â phosibl o gyfleoedd ariannu, gan sicrhau bod y safle hanesyddol hwn a'r lleoliad pwysig hwn yn hanes ein cenedl yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol? Diolch.

Byddwn yn sicr yn annog Ymddiriedolaeth Castell Pictwn, yn y lle cyntaf, i ymgysylltu â’r Dirprwy Weinidog diwylliant er mwyn gweld a oes cyfleoedd am gymorth. Fel cam cyntaf, byddwn yn eu hannog i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i ofyn am ddeialog bellach, gyda swyddogion o bosibl, ynglŷn â'r mater hwn.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, o’ch trafodaethau parhaus ag arweinwyr cynghorau, un o’r pethau pwysicaf ar gyfer cyngor llwyddiannus yw’r gallu i flaengynllunio yn ariannol. Wrth gwrs, mae'r cyhoeddiad y llynedd ein bod ar setliad dangosol tair blynedd yn sicr wedi'i groesawu gennyf fi a'r cynghorau yn gyffredinol. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o ba mor ddigonol fydd setliad dangosol cychwynnol llywodraeth leol y flwyddyn nesaf i gynghorau?

Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedwch, mae gennym ragolygon gwariant tair blynedd bellach o ganlyniad i adolygiad gwariant tair blynedd Llywodraeth y DU, a oedd i’w groesawu ynddo’i hun. Ond un o'r heriau y mae pob un ohonom wedi'u cydnabod yw bod y cynnydd wedi'i ddarparu i raddau helaeth ym mlwyddyn gyntaf y setliad. Felly, cawsom godiad yn y flwyddyn ariannol hon, y bu modd i ni ei drosglwyddo'n effeithiol iawn, yn fy marn i, i lywodraeth leol, a ddisgrifiodd y setliad—ar y pryd, o leiaf—fel un eithriadol o dda. Ond wrth gwrs, rydym yn wynebu pwysau chwyddiant bellach, sy'n achosi pryder ar draws llywodraeth leol. Felly, yr hyn y gallaf ei ddweud yw y byddem am i Lywodraeth y DU roi codiad cyffredinol i adrannau—fel y maent yn ein galw, p'un a ydym yn Llywodraethau datganoledig ai peidio—i edrych ar bob adran i ddarparu codiad i adlewyrchu'r effaith y mae chwyddiant yn ei chael. Ac wrth gwrs, byddem yn ystyried beth y gallem ei wneud wedyn i gefnogi llywodraeth leol ymhellach. Ond fel y saif pethau, credaf fod Llywodraeth y DU—. Y negeseuon a glywaf yn gliriach ac yn gliriach gan Weinidogion y Trysorlys yw y bydd disgwyl i bob un ohonom fyw o fewn yr amlenni cyllidebol sydd gennym, sy’n golygu na fydd unrhyw gyllid pellach, mae arnaf ofn, i'w drosglwyddo ar hyn o bryd.

Diolch, Weinidog, a diolch hefyd am gydnabod y pwysau y mae awdurdodau lleol yn debygol o'i wynebu yn y flwyddyn ariannol nesaf gyda’r setliadau dangosol y maent yn debygol o’u cael. Fel y gwyddom, mae setliadau llywodraeth leol yn darparu oddeutu 70 y cant o wariant awdurdod lleol yn eu hardal, sydd, wrth gwrs, yn darparu’r gwasanaethau hanfodol y mae cynghorau a chynghorwyr am eu darparu ar gyfer eu cymunedau lleol. Gwyddom hefyd fod cynghorau'n dal i deimlo effeithiau pandemig COVID-19 o ran yr incwm y maent wedi'i golli a gwariant ychwanegol, ac wrth gwrs, maent yn parhau i gael cyfrifoldebau pellach, sy'n rhywbeth y byddaf yn parhau i’w gefnogi. Ond mae’n amlwg y bydd y flwyddyn ariannol nesaf yn anodd iawn i awdurdodau lleol a byddwn yn disgwyl y bydd hynny'n cael effaith andwyol ar rai o’r gwasanaethau y mae’n rhaid iddynt eu darparu. Felly, er mwyn gallu mantoli’r cyfrifon, tybed beth ydych chi'n disgwyl i’n cynghorau wneud llai ohono er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hynny a’r cymorth hwnnw’n parhau.

Byddwn yn llwyr gydnabod bod llywodraeth leol wedi wynebu anawsterau gwirioneddol yn ystod y pandemig, o ran colli incwm a’r cyfleoedd a gollwyd i gynhyrchu incwm, ac wrth gwrs, y pwysau ychwanegol a fu ar ystod o'u gwasanaethau, a dyna pam y credaf fod cymaint wedi cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ofalus iawn i ddarparu cymorth mewn perthynas ag incwm a gollwyd a chymorth arall i lywodraeth leol bryd hynny. Ond fel y dywed Sam Rowlands, mae blynyddoedd dau a thri o’r adolygiad o wariant yn llawer anoddach oherwydd y ffordd y darparwyd y cynnydd ar gychwyn y setliad i raddau helaeth, ac mae’n golygu y bydd yn rhaid i lywodraeth leol wneud penderfyniadau anodd, yn union fel bydd yn rhaid i ni eu gwneud yn Llywodraeth Cymru, lle bydd ein cyllideb dros yr adolygiad o wariant tair blynedd yn werth £600 miliwn yn llai na'r hyn y deallem y byddai pan gyhoeddwyd yr adolygiad o wariant, o ganlyniad i chwyddiant. Felly, bydd llywodraeth leol yn wynebu penderfyniadau anodd yn union fel y byddwn ninnau ynghylch yr hyn y gallwn ei gyflawni a pha mor gyflym y gallwn ei gyflawni. Credaf fod y ffordd y mae llywodraeth leol yn penderfynu mynd i'r afael â’r pwysau'n fater i bob un ohonynt yn unigol. Ond yn amlwg, byddem yn ceisio'u cefnogi ac ymgysylltu'n agos â hwy wrth iddynt wneud y penderfyniadau anodd hynny.

Unwaith eto, diolch, Weinidog. Byddai’n ddiddorol clywed, efallai mewn ymateb pellach, am unrhyw beth penodol y credwch y gallai cynghorau wneud llai ohono. Cytunaf yn llwyr mai mater i’r aelodau democrataidd lleol hynny yw gwneud y penderfyniad hwnnw, ond rwy’n siŵr y byddai awgrym o beth y gallai rhai o’r disgwyliadau hynny fod yn ddefnyddiol. Wrth gwrs, mae fformiwla gyllido deg ar gyfer awdurdodau lleol yn hollbwysig er mwyn darparu’r gwasanaethau hynny. Rwy’n siŵr eich bod wedi cyffroi gymaint â minnau yr wythnos hon, Weinidog, wrth weld rhai o brif ffigurau’r cyfrifiad yn cael eu cyhoeddi. Ac mae rhai o'r ystadegau diweddaraf hynny'n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd. Maent yn dangos poblogaeth sy’n heneiddio, ac roeddem yn gwybod am hynny eisoes, ond mae’r cyfrifiad yn parhau i dynnu sylw at hynny, gydag oddeutu 21 y cant o’n poblogaeth yng Nghymru bellach dros 65 oed, 1 y cant dros 90 oed, ac mewn lleoedd fel sir Conwy, y ffigur ar gyfer pobl dros 90 oed yw’r uchaf yng Nghymru, sef 1.5 y cant; mae oddeutu 2,000 o bobl dros 90 oed yn yr un sir honno yn unig. Ac fel rwyf wedi'i grybwyll droeon, nid yw’r fformiwla gyllido bresennol, yn fy marn i, yn rhoi ystyriaeth briodol i bobl hŷn nac yn eu cefnogi y lefel o gymorth sydd ei angen arnynt. A gwelsom yr wythnos diwethaf hefyd bleidlais Cyngor Sir Fynwy, sydd bellach yn cael ei redeg gan Lafur, dros gynnig—cynnig trawsbleidiol, a gefnogwyd gan bawb, yn ôl yr hyn a ddeallaf—a oedd yn galw am adolygu'r fformiwla gyllido. Felly, nid cynghorau Ceidwadol yn unig sy’n edrych ar hyn bellach; ymddengys bod cynghorau Llafur hefyd yn anfodlon â'r fformiwla gyllido. Felly, yng ngoleuni hyn, a wnewch chi roi asesiad cychwynnol i ni yma heddiw, Weinidog, o'r wybodaeth sy'n deillio o'r cyfrifiad a sut y gallai hynny effeithio ar y fformiwla gyllido yn y dyfodol, a hefyd, beth yw eich barn ynglŷn â galwadau'r cyngor Llafur am adolygu'r fformiwla gyllido?

13:45

Diolch am godi’r materion hyn. Rwyf am ddechrau gyda'ch cwestiwn ynglŷn â lle y gallai llywodraeth leol fod yn teimlo pwysau penodol. Rwyf eisoes wedi cael cyfleoedd i gyfarfod â holl arweinwyr llywodraeth leol ar y cyd, gan gynnwys ein carfan newydd o arweinwyr, a chredaf eu bod yn awyddus iawn i bwysleisio pwysigrwydd edrych ar eu setliad cyfalaf, gan fod ein cyllideb gyfalaf ar draws y tair blynedd, wrth gwrs, yn arbennig o wael, gan ei bod yn werth llai ym mhob blwyddyn unigol yn nhermau arian parod ar draws y cyfnod o dair blynedd. Ac wrth gwrs, mae'r goblygiadau yno i lywodraeth leol, ac yn arbennig felly o ran chwyddiant. Felly, yn amlwg, bydd dewisiadau iddynt eu gwneud ynghylch pa brosiectau y byddant yn penderfynu buddsoddi ynddynt a sut y maent yn proffilio'r gwariant hwnnw a pha mor araf y byddant yn cyflawni prosiectau o ganlyniad i hynny. Felly, dyna fydd rhai o’r anawsterau posibl.

Do, roeddwn wedi cyffroi gymaint â chithau pan gyhoeddwyd data'r cyfrifiad, a bydd hynny'n parhau, mewn gwirionedd, gan y bydd data'n cael ei ddarparu, yn fisol yn ôl pob tebyg, o nawr hyd at fis Tachwedd. Felly, bydd mwy o lawer inni gael ein dannedd ynddo wrth i wahanol ddarnau o wybodaeth o'r cyfrifiad gael eu cyhoeddi. Ond yn amlwg, bydd goblygiadau i gyllid llywodraeth leol. Mae’r amcanestyniadau poblogaeth, sef yr elfen bwysicaf yn ôl pob tebyg, neu un o’r elfennau pwysicaf, i lywodraeth leol, yn cael eu defnyddio fel rhan o’r fformiwla gyllido, a bydd canlyniadau heddiw, neu ganlyniadau’r cyfrifiad, yn llywio'r diweddariadau i amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn y dyfodol.

Y bwriad yw diweddaru amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol Llywodraeth Cymru o 2024, ac mae hynny'n amodol ar gadarnhau cynlluniau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar 2021 ac amcangyfrifon canol blwyddyn diwygiedig o'r boblogaeth ar gyfer 2012 i 2020. Felly, bydd y data hwnnw'n bwysig. Ond gwn fod y pwynt y ceisiwch ei wneud mewn gwirionedd yn ymwneud â'r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol, sy'n cael ei hadolygu'n gyson. Rwy’n gweld y Llywydd yn gwgu arnaf, felly rwyf am ddirwyn i ben. Ond mae’r fformiwla gyllido'n cael ei hadolygu’n gyson, fel rydym wedi’i drafod, yn ôl data newydd sy’n cael ei gyhoeddi, ond byddwn yn cyfarfod â’r is-grŵp cyllid yr wythnos ar ôl y nesaf, pan fyddwn yn trafod y fformiwla gyllido, ac yn enwedig amseroldeb a chywirdeb a phwysigrwydd data, ac mae'r pwynt a wnaethoch yn flaenorol am garfanau oedran yn dal i fod yn rhan o'r drafodaeth honno.

Roeddwn yn edrych arnoch gyda diddordeb. [Chwerthin.] Mae gennyf ddiddordeb bob amser yn y fformiwla gyllido llywodraeth leol.

Roeddwn yn meddwl efallai fy mod wedi bod yn siarad yn rhy hir.

Mae angen imi weithio ar fy wyneb chwarae pocer, yn amlwg. [Chwerthin.]

Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. 

Diolch, Lywydd. Bydd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd hon cyn bo hir. Nawr, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi y bydd gweithgareddau'r banc, ac rwy'n dyfynnu, yn darparu

'cymorth ariannol i brosiectau sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â seilwaith’

ac yn darparu

'benthyciadau i awdurdodau cyhoeddus perthnasol ar gyfer prosiectau o'r fath'.

Mae'n mynd yn ei flaen i egluro bod ei waith yn cael ei gefnogi gan strategaeth seilwaith genedlaethol newydd a chanddi dri phrif amcan, sef adferiad economaidd, ffyniant bro a datgloi potensial yr undeb. I ba raddau y credwch fod y tri amcan hynny'n adlewyrchu amcanion a blaenoriaethau buddsoddi Llywodraeth Cymru? A beth a wnewch i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad a allai ddod i Gymru drwy'r banc buddsoddi arfaethedig yn ategu amcanion ehangach y Senedd hon, fel y cânt eu hadlewyrchu yn neddfwriaeth Cymru ar hyrwyddo datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn y blaen?

13:50

Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac wrth gwrs, mae Banc Seilwaith y DU i fod yn olynydd i Fanc Buddsoddi Ewrop, ond yn fy marn i, os edrychwch ar y symiau sydd ar gael iddo eu buddsoddi, maent yn fach iawn o gymharu â'r hyn y byddem wedi gallu cael mynediad ato drwy Fanc Buddsoddi Ewrop. Felly, hoffwn annog Llywodraeth y DU i ystyried faint o gymorth sydd ar gael iddo.

Ond mae'r pwynt a wnaed ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn yn wirioneddol bwysig, gan nad wyf mewn sefyllfa eto i roi fy marn ar p'un a fyddwn yn gallu argymell y dylai'r Senedd hon gydsynio â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Yn sicr, credaf fod lle i ganmol y banc, yn sicr—credaf y byddai eu ffocws ar fuddsoddi mewn datgarboneiddio yn gadarnhaol ac yn rhywbeth y byddem yn ei gefnogi, ac yn rhywbeth sy’n cyd-fynd â’n hamcanion ein hunain yma yng Nghymru. Ond er mwyn gallu argymell cydsyniad, credaf y byddai’n rhaid imi gael gwybod gan Lywodraeth y DU, a chael y cytundeb clir hwnnw drwy welliannau i’r Bil, y byddai gennym lais yn y broses o lywodraethu’r banc hwnnw, yn ogystal â'r broses o bennu cylch gwaith y banc. Felly, credaf fod y rheini’n ddau amod gwirioneddol bwysig cyn gallu argymell cydsyniad.

Ond fy nealltwriaeth i yw nad oes yr un o’r amodau hynny yn eu lle ar hyn o bryd, ac a dweud y gwir, mae perygl gwirioneddol fod y Bil hwn yn San Steffan yn enghraifft arall o Lywodraeth y DU yn ymyrryd â materion datganoledig yn fwriadol, gan anwybyddu penderfyniadau a wneir yma, a chan danseilio datganoli ac uniondeb y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn ymdrech i orfodi eu hagenda Geidwadol ar Gymru—yn syth ar ôl i'r newyddion ddod i'r amlwg ddydd Llun fod San Steffan, i bob pwrpas, yn bwriadu diddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017, a gyflwynwyd yma ychydig flynyddoedd yn ôl i ddiogelu hawliau gweithwyr. Mae’n amlwg fod dyddiau cipio pwerau yn ôl i San Steffan yn dawel bach bellach wedi troi i fod yn ymosodiad clir ac amlwg ar ddatganoli, ar ein Senedd ac ar ddemocratiaeth yma yng Nghymru.

Felly, o ystyried bod y Prif Weinidog, mewn ymateb i arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ddoe wedi dweud y byddai’n gwrthsefyll—ei air ef, ‘resist’—y camau hyn gan Lywodraeth y DU, y byddai’n ceisio amddiffyn uniondeb deddfwriaethol y Senedd hon, er na allai ddweud wrthym sut yn union y byddai'n gwneud hynny, gyda llaw, yn yr un modd, a gaf fi ofyn beth a wnewch chi fel Gweinidog cyllid i amddiffyn uniondeb Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru mewn ystyr gyllidol, pan fyddai Banc Seilwaith y DU yn gwneud penderfyniadau a fyddai'n mynd ati’n rhagweithiol i danseilio penderfyniadau polisi a gwariant a wneir yma yn y Senedd?

Wel, credaf fod eich cwestiwn yn nodi pam ei bod mor bwysig ein bod yn cael y gwelliannau hyn i Fil Llywodraeth y DU, o ran llywodraethu’r banc—felly, ar hyn o bryd, dim ond Gweinidogion Trysorlys y DU sy’n cael enwebu pobl i'r bwrdd; yn amlwg, rydym o'r farn y dylai fod rôl gan Lywodraethau datganoledig yn hynny o beth, a dywedais hynny’n glir wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys pan gyfarfûm ag ef ychydig wythnosau yn ôl—ac yna, mae pennu cylch gwaith y banc yn bwysig iawn hefyd. Bydd yn gweithredu mewn meysydd datganoledig o ran datblygu economaidd a chefnogi ein busnesau yng Nghymru, felly byddem yn awyddus i’r buddsoddiad hwnnw gael ei wneud mewn ffordd sy’n ategu ac yn gweithio yn unol â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio’i gyflawni.

Cefais gyfle i gyfarfod â chadeirydd Banc Seilwaith y DU, a dywedais wrth gadeirydd y banc beth yw ein blaenoriaethau. Ond credaf fod yn rhaid i hyn gynnwys gwelliannau i’r Bil, ac os caiff y gwelliannau hynny eu gwneud, gallwn argymell cydsyniad i’r Senedd, ond nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto. Felly, yn amlwg, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hyn i fy nghyd-Aelodau.

Llety Hunanarlwyo a Threth

3. Pa effaith a gaiff newid dosbarthiad eiddo hunanarlwyo at ddibenion treth ar drigolion mewn cymunedau sydd â mwy a mwy o lety hunanarlwyo? OQ58249

Bydd ein newidiadau, sy’n rhan o’n dull tair rhan, yn helpu i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng capasiti o fewn y sector twristiaeth hunanddarpar, a’r buddion economaidd a ddaw yn sgil hynny, a chefnogi cymunedau hyfyw o drigolion lleol i fyw a gweithio yn yr ardaloedd hyn.

Diolch, Weinidog. Mae'n dda iawn clywed hyn, gan y byddech yn cytuno, rwy’n siŵr, fod twristiaeth yn hanfodol bwysig i economi Cymru, ond wrth gwrs, gyda’r cynnydd sydyn mewn unedau hunanddarpar, mae perygl y bydd rhai trefi a phentrefi yn darparu mwy ar gyfer ymwelwyr nag ar gyfer preswylwyr. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi’i godi gyda mi gan drigolion pryderus yn Llangollen ar sawl achlysur, lle mae rhannau o’r dref—cymaint ag un eiddo o bob pump—bellach yn cael eu hysbysebu fel unedau hunanddarpar ar Airbnb. A fyddech yn cytuno bod rhaid inni sicrhau bod trefi a phentrefi ledled Cymru yn fyw ac yn weithredol 12 mis y flwyddyn, ac a wnewch chi warantu y bydd y mesurau a amlinellwyd gennych yn arwain at gydbwysedd gofalus rhwng ein buddiannau wrth hybu'r economi ymwelwyr a'r angen i sicrhau bod trefi a phentrefi yn drefi a phentrefi byw?

13:55

Yn hollol. Mae’r agwedd hon ar ein polisi, a mynd i’r afael â’r effaith y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar rai cymunedau yng Nghymru, yn ymwneud â gwneud yr union beth y mae Ken Skates wedi’i ddisgrifio, sef creu cymunedau cynaliadwy lle y gall pobl fyw drwy'r flwyddyn a lle nad ydych, yn y gaeaf, yn mynd i'r pentrefi hynny ac yn gweld bod y goleuadau wedi'u diffodd yn y rhan fwyaf o'r eiddo.

Gwyddom fod 40 y cant o'r eiddo yn Nhrefdraeth, sir Benfro, er enghraifft, neu yn Abersoch, yn ail gartrefi a llety gwyliau, ac nid yw cymunedau felly yn gymunedau gytbwys. Felly, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd twristiaeth, ond credaf fod angen inni gydnabod hefyd fod cymunedau cynaliadwy yn bwysig, a rhoi cyfleoedd i bobl fyw yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt a'r lleoedd y maent wedi ffurfio cysylltiad â hwy, a lle maent yn dymuno gweithio a chreu bywyd iddynt eu hunain.

Credaf ei bod hefyd yn werth inni ystyried, lle mae perchnogion ail gartrefi'n gweithredu’n achlysurol iawn, neu o bryd i'w gilydd, o fewn y sector hunanddarpar, eu bod yn cystadlu’n uniongyrchol â busnesau hunanddarpar go iawn. Felly, mae hynny unwaith eto'n arwydd nad yw'r system fel y mae yn gytbwys, ac fel y dywedais, rydym yn rhoi nifer o gamau ar waith i fynd i'r afael â hyn.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau wedi mynegi ein gwrthwynebiad i’r newidiadau hyn ar sawl achlysur. Un o'r rhesymau dros hynny yw'r canlyniadau anfwriadol a allai godi yn sgil y newidiadau. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad ers hynny â nifer o fusnesau sydd wedi codi pryderon difrifol am rai o ganlyniadau anfwriadol y newid. Felly, a gaf fi ofyn ychydig o gwestiynau?

Felly, er enghraifft, sut yn union y bydd y dyddiau hyn yn cael eu cyfrifo? Beth fydd yn digwydd—ac yn anffodus, mae hyn yn digwydd—os bydd rhywun yn canslo eu gwyliau ar y funud olaf? A yw hynny'n dal i gyfrif tuag at y cwota o 182 diwrnod? Hefyd, pryder arall, fel y saif pethau, yw bod taliadau casglu sbwriel yn daladwy os yw’r busnes yn talu ardrethi busnes, ond beth sy’n digwydd os bydd y busnes hwn yn cael ei orfodi i newid yn ôl i dalu’r dreth gyngor? A oes rhaid iddynt dalu am gasgliadau sbwriel, neu a fydd rhywfaint o'r gost honno'n cael ei had-dalu?

Yn olaf, hoffwn wybod pa asesiad effaith, os o gwbl, a wnaed ar nifer yr eiddo hunanddarpar y rhagwelir y bydd ar gael yng Nghymru ar ôl i’r newid hwn ddod i rym yn llawn, ac os gallwch rannu’r canfyddiadau hynny â’r Senedd, er mwyn inni gael gwell dealltwriaeth o effaith y newidiadau hynny.

Diolch am godi’r mater hwn. Rydym wedi rhannu cymaint o fanylion ag y gallwn yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, a gyhoeddwyd gyda'r ddeddfwriaeth. Rydym wedi bod yn awyddus i roi cymaint o amser â phosibl i weithredwyr addasu eu model busnes i fynd i'r afael â rhai o'u pryderon. Maent wedi cael o leiaf 12 mis o rybudd cyn i'r materion hyn ddod i rym. Byddwn yn darparu rhestr gyflawn o gwestiynau cyffredin, os mynnwch, ar gyfer gweithredwyr, fel y gallant ddeall sut y gallai hyn effeithio arnynt hwy yn bersonol.

Ond os yw gweithredwyr yn gweithredu fel busnes ac yn cyrraedd y trothwy, byddant yn derbyn holl gyfrifoldebau a manteision cael eu trin fel busnes. Os na fyddant yn cyrraedd y trothwy hwnnw, byddant yn cael eu hystyried yn annedd ddomestig at ddibenion y dreth gyngor, o leiaf. Ond rwy'n fwy na pharod i lunio rhestr o gwestiynau cyffredin, ac os oes gan fy nghyd-Aelodau unrhyw gwestiynau manwl, byddwn yn awyddus i roi sylw iddynt yn y rhestr honno.

Prydau Ysgol am Ddim i Bawb

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch ariannu prydau ysgol am ddim i bawb yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol? OQ58274

O ganlyniad i’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn rhagweld y bydd bron i 60,000 yn rhagor o ddisgyblion oedran cynradd yn cael eu bwydo ym mlwyddyn gyntaf y cynllun. Byddwn yn rhoi'r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod pob disgybl cynradd yn cael cinio ysgol am ddim erbyn 2024.

Diolch. Mae'n chwyldroadol, mewn gwirionedd, onid yw, y bydd prydau ysgol am ddim i bawb yn dechrau cael eu cyflwyno o fis Medi ymlaen yng Nghymru. Rwyf mor falch fod hyn yn digwydd o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Hoffwn ofyn i chi, Weinidog, am y cymorth sy’n cael ei roi i awdurdodau lleol i sicrhau bod ysgolion yn gallu ymdopi â’r newid hwn. Rwyf mor ddiolchgar i awdurdodau lleol ledled Cymru am weithio mor gyflym i sicrhau y bydd y babanod ieuengaf yn dechrau cael y prydau hyn o fis Medi ymlaen, ond fe fydd yna heriau logistaidd: bydd angen i rai ysgolion gael ceginau newydd, staff newydd, neu ddod o hyd i gyflenwyr newydd, o bosibl. Felly, a wnewch chi amlinellu, os gwelwch yn dda, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau y gall ysgolion ymdopi â'r rhwystrau hyn a bod y plant ieuengaf yn gallu dechrau cael prydau ysgol am ddim i bawb o fis Medi ymlaen mewn ysgolion ledled Cymru?

14:00

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn ac yn rhannu'r brwdfrydedd dros y polisi hwn. Nid wyf yn credu y gallai fod wedi dod ar adeg well, mewn gwirionedd, oherwydd pan ddechreuodd trafodaethau am y polisi penodol hwn, rwy'n gwybod nad oeddem mewn sefyllfa lle roeddem yn deall lefel yr argyfwng costau byw a oedd ger ein bron, felly yn sicr, dyma'r polisi cywir ar yr adeg iawn yn fy marn i.

Rydym yn awyddus i gefnogi llywodraeth leol mewn nifer o ffyrdd i gyflawni'r polisi hwn. Yn amlwg, bydd cymorth ariannol yn hollbwysig i allu cyflawni. Rydym wedi ymrwymo £200 miliwn mewn refeniw drwy gydol y cytundeb, ac rydym eisoes wedi darparu £25 miliwn cychwynnol mewn cyllid cyfalaf, fel bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi i wneud buddsoddiadau cynnar yn yr offer a'r seilwaith sy'n angenrheidiol i gyflawni. Mae trafodaethau'n parhau gyda phartneriaid i ddeall pa gymorth pellach y gallai fod ei angen o ran buddsoddi yn yr ystad ysgolion, felly credaf fod cymorth ariannol yn bwysig iawn.

Credaf y bydd cefnogi trafodaethau aml gyda llywodraeth leol wrth iddynt fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r polisi hwn hefyd yn bwysig er mwyn deall y goblygiadau iddynt hwy a'u profiad o gyflawni, a gallwn ddysgu o hynny wrth inni symud ymlaen. Ac yna credaf y bydd cefnogaeth glir i lywodraeth leol o ran bod yn hyblyg wrth iddynt ddechrau cyflawni hyn yn bwysig hefyd, oherwydd, fel y gwyddom, ni fydd pob ysgol mewn sefyllfa i ddarparu'r math o brydau poeth a ragwelwn, ond a oes pethau y gallwn fod yn eu gwneud i gefnogi datblygiad y polisi wrth inni weithio i gyrraedd y pwynt hwnnw?

Weinidog, fel y dywedoch chi, gwyddom eich bod wedi buddsoddi neu y byddwch yn buddsoddi £200 miliwn a £25 miliwn o gyfalaf i fynd i'r afael ag uwchraddio ceginau a chyfleusterau, a gwn fod rhywfaint o bryder o hyd nad yw hynny'n ddigon o bosibl, ond rwy'n cymryd y bydd y materion hynny'n cael sylw gan awdurdodau lleol. Fodd bynnag, gyda'r cyfraddau chwyddiant cynyddol ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn effeithio'n sylweddol ar gostau bwyd, mae pryderon na fydd yr arian a gyhoeddwyd yn ddigon i sicrhau y gall ysgolion ddarparu prydau maethlon o ansawdd uchel i bawb. Yn amlwg, rydym yn debygol o weld costau cynyddol wrth i bethau symud ymlaen. Felly, mae polisi'r Llywodraeth mewn perygl o beidio â chyd-fynd â'r canlyniadau y mae'n gobeithio eu cyflawni. Weinidog, pa ddadansoddiad manwl y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r costau sy'n gysylltiedig â'r ymrwymiad i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i awdurdodau lleol o safbwynt cyfalaf a refeniw, yn enwedig pe bai prisiau bwyd yn codi fel sy'n debygol? Ac a wnewch chi gyhoeddi'r dadansoddiad hwn fel y gallwn weld yn gliriach sut y mae'r penderfyniadau ariannu hyn wedi cael eu gwneud, ac i ba raddau y maent yn cwrdd â'r costau sy'n wynebu awdurdodau lleol ac ysgolion? Diolch.

Credaf fod hon yn enghraifft arall o'r pwysau ar lywodraeth leol yr oedd eich cyd-Aelod, Sam Rowlands, yn ei drafod yn gynharach yn y sesiwn heddiw, yn yr ystyr fod eu cyllideb hwy, fel ein cyllideb ni, yn werth llai na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Mae prisiau bwyd wedi cynyddu 8.7 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Mai 2022 ac mae'n amlwg fod llawer o ansicrwydd byd-eang o hyd, ac ni allwn fod yn siŵr na fyddant yn cynyddu ymhellach eto, felly credaf fod hyn yn un o'r pethau niferus sy'n rhoi pwysau ar lywodraeth leol. Wedi dweud hynny, credaf fod llywodraeth leol yn y sefyllfa orau bosibl, diolch i'r setliad da a gafwyd yn ein hadolygiad o wariant tair blynedd, ond yn amlwg byddwn yn gweithio'n agos ac yn cadw llygad ar hyn gyda llywodraeth leol. Wedi dweud hynny, credaf fod hyn yn ategu'r angen i Lywodraeth y DU ddarparu cynnydd cyffredinol i gyllidebau i adlewyrchu'r math o bwysau y mae Peter Fox yn sôn amdano gydag effaith chwyddiant o ddydd i ddydd ar y modd y cyflawnir polisïau, ac yn enwedig y rheini sy'n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Weinidog, mae gwella iechyd a llesiant ac addysg ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru mor bwysig—a hyd yn oed yn fwy pwysig yn awr, yn dilyn y pandemig. Bydd prydau ysgol am ddim yn chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a'r Gweinidog addysg am eu holl waith caled ers yr adolygiad i sicrhau y bydd hwn yn dod yn normal newydd ar draws ysgolion yng Nghymru. Gwyddom fod prydau ysgol am ddim yn helpu i fynd i'r afael ag absenoldeb disgyblion, fel na fydd mwy a mwy o'n pobl ifanc yn colli addysg. Gwyddom hefyd fod swyddogion cyswllt â theuluoedd yn allweddol i leihau absenoldeb disgyblion, ond yn anffodus, nid yw pob ysgol yng Nghymru yn gallu fforddio'r swyddogion hyn. A wnaiff y Gweinidog archwilio'r posibilrwydd o ariannu swyddogion cyswllt â theuluoedd yn uniongyrchol drwy awdurdodau lleol i sicrhau bod mwy o ysgolion yng Nghymru yn gallu elwa o'u gwaith amhrisiadwy?

14:05

Cytunaf yn llwyr fod y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd hynny'n gwneud gwaith rhagorol yn cydgysylltu â'r ysgol a'r teulu, ac fel y cyfryw, yng nghyllideb 2022-23, byddwn yn buddsoddi £3.84 miliwn i gynyddu nifer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a gyflogir gan ysgolion. Mae'r cyllid wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol, ac mae hwnnw, felly, yn caniatáu iddynt dargedu'r ysgolion y credant fod angen y capasiti ychwanegol hwnnw arnynt, gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol. Ac yn ogystal, fel rhan o ddatblygiad ein polisi, byddwn hefyd yn cynghori ysgolion ar arferion effeithiol swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, ac wrth gwrs, y dysgu proffesiynol ehangach, sy'n rhaid ei gyflawni i wneud y defnydd gorau o'r unigolion hynny. Rydym hefyd yn darparu £660,000 ar gyfer treialu swyddi rheolwyr ysgolion bro yng Nghymru, a bydd y rolau hynny'n helpu i ddatblygu gwell ymgysylltiad rhwng ysgolion a'r cymunedau, i gydnabod nad yw bywydau plant yn gorffen pan fydd cloch yr ysgol yn canu, a bod llawer y mae angen ei wneud y tu hwnt i'r oriau hynny i gefnogi teuluoedd hefyd. Ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd hynny. 

Polisi Economaidd Llywodraeth y DU

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith polisi economaidd Llywodraeth y DU ar gyllideb Llywodraeth Cymru? OQ58251

Polisïau economaidd ac ariannol Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am dwf cymharol wael economi'r DU. Pe bai cyllideb Llywodraeth Cymru ers 2010 wedi cadw i fyny â thwf hirdymor yr economi cyn 2010, byddai dros £4.5 biliwn yn uwch na'r hyn ydyw ar hyn o bryd.

Rwy'n derbyn hynny, Weinidog, ond weithiau, credaf ein bod yn rhoi gormod o bwyslais ar wariant yn unig. Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â sut rydym yn codi arian yn ogystal. Mae obsesiwn Llywodraeth y DU â chyni wedi creu problemau strwythurol sylweddol iawn yn yr economi. Ond mae eu penderfyniad i sicrhau Brexit caled, gan adael y farchnad sengl a'r undeb tollau, wedi golygu bod economi'r DU ac economi Cymru yn dioddef niwed hirdymor. Tybiaf y bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar yr arian a godir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'i pholisi trethi. Fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw: i ba raddau y mae'r dadansoddiad hwn yn gywir? A ydych wedi cael cyfle i asesu effaith polisi economaidd y DU? Ac os ydych wedi gwneud asesiad, sut y gallwch chi leddfu'r effaith honno?

Diolch ichi am godi hynny. Ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd gennym yn ôl ym mis Rhagfyr, darparodd y prif economegydd ddiweddariad o'i asesiad o'r effaith, a oedd yn cynnwys effaith Brexit, a byddwn yn cymeradwyo hwnnw i bob un o'r cyd-Aelodau. Gwyddom ein bod wedi colli, neu fod y DU, dylwn ddweud, wedi colli biliynau lawer o bunnoedd mewn treth, o ganlyniad uniongyrchol i Brexit. Ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei niweidio o ganlyniad uniongyrchol i hynny; nid oes amheuaeth am hynny. Byddaf yn cael gyfle i godi'r mater penodol hwn y prynhawn yma, yn un o'n cyfarfodydd rhyngweinidogol gyda Llywodraeth y DU, a byddaf yn ystyried y pwyntiau y mae Alun Davies wedi'u gwneud, ac yn eu defnyddio i lywio fy nghyfraniad yn y cyfarfod hwnnw.

Weinidog, mae polisi economaidd cryf Llywodraeth y DU ers 2010, a chael cynllun economaidd hirdymor, wedi helpu i sicrhau'r setliad gorau y mae Cymru wedi'i gael erioed: gwerth £18 biliwn o gyllid eleni. Ac oherwydd polisïau economaidd cryf Llywodraeth y DU, mae gennym y gronfa ffyniant bro, y gronfa adfywio cymunedol, bargeinion dinesig a thwf, porthladdoedd rhydd, buddsoddiad mewn ynni gwyrdd a'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd yn fy etholaeth, a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Deunaw biliwn o bunnoedd yn ychwanegol eleni, ac rydych yn dal i fod yn cwyno am Brexit. Mawredd. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y bydd economi Cymru yn tyfu oherwydd Llywodraeth Geidwadol gref yn y DU, gyda pholisïau economaidd cryf, oherwydd y budd i economi ehangach y DU, ac y bydd gennych fwy o arian yn Nhrysorlys Llywodraeth Cymru?

14:10

Wel, mae'n rhaid bod y siec yn y post o hyd os ydym yn disgwyl £18 biliwn yn ychwanegol i'n cyllideb eleni, oherwydd mae Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd mewn gwirionedd o ganlyniad i ddull Llywodraeth y DU o ddarparu cyllid yn lle cyllid yr UE. Mae gan y Pwyllgor Cyllid gyfle i holi Gweinidogion Llywodraeth y DU yfory a byddaf yn talu mwy o sylw na'r arfer hyd yn oed i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid, oherwydd byddwn wrth fy modd yn gweld Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ceisio amddiffyn eu penderfyniadau mewn perthynas â chyllid ar ôl gadael yr UE, oherwydd credaf nad oes modd eu hamddiffyn. Addawodd Llywodraeth y DU na fyddem geiniog yn waeth ein byd o ganlyniad i Brexit; rydym £1.2 biliwn yn waeth ein byd o ganlyniad i Brexit ac o ganlyniad i'r dewisiadau penodol a wnaethant, ac nid wyf yn credu bod unrhyw bwynt ceisio cuddio rhag hynny.

Monitro'r Defnydd o Arian Grant

6. Pa strwythurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i fonitro'r defnydd o arian grant a ddyfernir i brosiectau yng Nghymru? OQ58252

Mae monitro'n rhan allweddol o brosesau grant Llywodraeth Cymru. Mae gan reolwyr grantiau hyblygrwydd i deilwra gofynion monitro yn ôl maint, gwerth a risg prosiectau. Nodir gofynion monitro yn nhelerau ac amodau'r llythyr dyfarnu grant, sy'n ffurfio'r cytundeb sy'n rhwymo mewn cyfraith rhwng Llywodraeth Cymru a'r derbynwyr.

Diolch. Wel, yn wahanol i'r hyn a ddywed fy nghyd-Aelod mewn perthynas â pha mor dda yw Llywodraeth y DU wrth ddyrannu arian, mae Llywodraeth Cymru, yn sicr yn fy nghyfnod i—rwyf wedi bod yma ers 11 mlynedd—a chyn hynny, ers datganoli, wedi gwastraffu miliynau a miliynau o bunnoedd: £221 miliwn ar ardaloedd menter anghystadleuol; £9.3 miliwn ar gyllid cychwynnol diffygiol—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod ei fod yn boenus, ond gadewch imi orffen. Naw pwynt tri miliwn o bunnoedd ar gyllid cychwynnol diffygiol ar gyfer Cylchffordd Cymru; £157 miliwn ar ymchwiliad ffordd liniaru'r M4; £750,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf ar y cyswllt hedfan rhwng Ynys Môn a Chaerdydd nad yw wedi bod yn hedfan; ac yn fy etholaeth i, £400,000 ar G.M. Jones, a hynny er mwyn adeiladu unedau pwrpasol yn Llanrwst a oedd tan yn ddiweddar iawn wedi bod yn wag ers iddynt gael eu hadeiladu. Nid yw'r busnes hwnnw'n bodoli bellach oherwydd goblygiadau'r costau uwch. Gallwn fynd ymlaen, ond mae'r enghraifft olaf yn arbennig yn tynnu sylw at faes amlwg lle mae arian yn dynn iawn yn awr yn fy marn i; mae gennym ryw fath o argyfwng costau byw.

Fe'i codais ym mhwyllgor craffu'r Prif Weinidog, a gofynnais i'r Prif Weinidog yn fy nghwestiwn, 'Pan fyddwch wedi trosglwyddo symiau mawr o arian i'r cwmnïau hyn, sut y byddwch yn eu monitro wedyn?' A'r ymateb i bob pwrpas oedd, 'Wedi inni drosglwyddo'r arian, mater i'r busnes yw hynny mewn gwirionedd.' Felly, sut y gallwch fy argyhoeddi, Weinidog, fod gennych uniondeb ariannol da wrth wraidd Llywodraeth Cymru, fel na fyddwn yn gweld hyn yn digwydd dro ar ôl tro, oherwydd mewn gwirionedd, rydych yn gwastraffu arian trethdalwyr? Diolch.

Mae Llywodraeth Cymru yn anfon miloedd o lythyrau dyfarnu bob blwyddyn at ystod eang o randdeiliaid, megis awdurdodau lleol, y trydydd sector a sefydliadau'r sector preifat at ystod eang iawn o ddibenion, a'u bwriad yw ein helpu i fwrw ymlaen â'n hamcanion polisi. Mae monitro ein cyllid grant yn elfen annatod o sicrhau bod y prosiectau hynny'n cyflawni'r hyn a fwriedir, ond mae'n wir ac yn gwbl briodol fod gweithgareddau monitro yn amrywiol a dylent fod yn benodol i'r cyllid sy'n cael ei ddyfarnu, ac mae'r rheolwyr grantiau hynny'n gyfrifol am sefydlu'r lefel gywir o fonitro sydd ei hangen.

Felly, gellir defnyddio ystod eang o weithgareddau i gael y sicrwydd yr ydym ei angen fod gofynion y grantiau'n cael eu bodloni. Gallant gynnwys adroddiadau cynnydd, monitro targedau a cherrig milltir, cyfarfodydd ac ymweliadau safle, adroddiadau ysgrifenedig a hawliadau gan y sawl sy'n derbyn y grant a/neu drydydd parti annibynnol. Ac fel y dywedais yn yr ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, mae'r rheini'n rhan o'r llythyr dyfarnu sy'n rhwymo mewn cyfraith a dylid ystyried y telerau a'r amodau hynny o'r cychwyn cyntaf. Ni ddylai derbynwyr grantiau gytuno i'r rheini os nad ydynt yn argyhoeddedig y gallant fodloni'r telerau ac amodau hynny.

Rwyf am ddweud bod rheolwyr grantiau bellach yn gallu ceisio cyngor, cymorth ac arweiniad drwy amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ein canolfan ragoriaeth grantiau, llywodraethu corfforaethol, gwasanaethau cyfreithiol a'u tîm gweithrediadau eu hunain, felly mae gennym ystod eang o gymorth ac arweiniad ar gael i reolwyr grantiau allu sicrhau eu bod yn gallu cyflawni'r gwaith monitro hwnnw'n gywir. Mae monitro grantiau gweithredol yn gwbl allweddol.

14:15
Tai Hygyrch

7. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ddyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu tai hygyrch wrth benderfynu ar setliad llywodraeth leol 2022-23? OQ58267

Eleni, mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.1 biliwn i helpu awdurdodau lleol i ddarparu eu gwasanaethau statudol ac anstatudol, gan gynnwys blaenoriaethau megis tai.

Diolch yn fawr, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â chynrychiolwyr o Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor Cymru, ynghyd â phobl sy'n dioddef o'r cyflwr, mewn digwyddiad a noddwyd gan fy nghyd-Aelod galluog iawn, Peter Fox. Un o'r materion a dynnwyd i fy sylw oedd y ffaith bod cleifion Clefyd Niwronau Motor yn cael eu caethiwo mewn cartrefi anhygyrch oherwydd nad yw awdurdodau lleol wedi darparu'r addasiadau angenrheidiol. Yn syml, mae'r gost, y diffyg cyllid a'r amserlenni dan sylw yn achosi caledi gwirioneddol i bobl â Chlefyd Niwronau Motor a'u teuluoedd. Mae traean o bobl â Chlefyd Niwronau Motor yn marw o fewn blwyddyn i gael diagnosis a'u hanner yn marw o fewn dwy flynedd. Yn ystod yr amser hwnnw, mae'r symptomau'n gwaethygu ac mae'r anghenion yn cynyddu, felly nid oes gan ddioddefwyr sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor amser i aros. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i roi cymorth i bobl â Chlefyd Niwronau Motor ar lwybr carlam, gan ddileu'r prawf modd ar gyfer addasiadau sy'n isel o ran cost ac yn fawr eu heffaith, a chynnal cofrestr o gartrefi hygyrch sydd ar gael iddynt? Diolch.

Diolch ichi am godi'r mater. Rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd symud yn gyflym i gefnogi pobl â Chlefyd Niwronau Motor. O ran llywodraeth leol, wrth ystyried eu cyfrifoldebau tai cyffredinol, rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac rydym yn annog awdurdodau lleol i gadw'r cofrestrau tai hygyrch hynny fel y gellir dyrannu tai sy'n addas ar gyfer anghenion pobl anabl. Mae gwaith ar y gweill hefyd drwy gymdeithas dai i ddatblygu cofrestr tai hygyrch safonol i bob awdurdod lleol allu ei defnyddio. Hefyd, mae ganddynt gyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 i ddarparu grantiau cyfleusterau anabl gorfodol i bobl anabl cymwys wneud addasiadau i eiddo. Rydym wedi bod yn gweithio dros nifer o flynyddoedd i wneud y broses honno mor gyflym ac mor syml â phosibl, ac i ddileu, lle bo'n briodol, y lefel honno o brofion modd, unwaith eto, i geisio cyflymu pethau drwy'r system. Rydym hefyd yn darparu cyllid i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu addasiadau cost is yn gyflym. Unwaith eto, mae hyn heb brofion modd. Gwnaethom gynyddu'r grant hwnnw ym mis Ebrill 2021 i £6 miliwn y flwyddyn. Ond rwyf am achub ar y cyfle, pan fyddaf yn ei gael, gyda llywodraeth leol, ac yn enwedig eu llefarwyr ar dai, i archwilio'r mater hwn ymhellach, ac os na allaf ei wneud fy hun yn fuan, byddaf yn gwneud hynny drwy fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog tai. 

Cefnogi Busnesau Bach a Chanolig

8. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint wrth benderfynu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23? OQ58259

Mae'r gyllideb derfynol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yn darparu £1.8 biliwn yn 2022-23 i gefnogi portffolio'r economi. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys £35 miliwn i gefnogi busnesau bach a chanolig yn benodol. Mae cymorth arall yn cynnwys £116 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi a £103 miliwn ar gyfer Trawsnewid Trefi.

Diolch yn fawr, Weinidog. Yn ddiweddar, rwyf wedi cyfarfod â nifer o fusnesau yng nghwm Cynon sy'n ceisio buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy, neu beiriannau mwy modern sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Wrth gwrs, gall hyn fod yn ddrud iawn i fentrau teuluol bach. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r math hwn o fuddsoddiad fel y gall busnesau arloesi, moderneiddio a chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd?

Diolch ichi am godi'r pwynt pwysig hwn, oherwydd busnesau bach a chanolig eu maint, wrth gwrs, yw asgwrn cefn ein heconomi yma yng Nghymru, ond mae ganddynt hefyd rôl enfawr i'w chwarae yn ein helpu i weithio tuag at ein nodau datgarboneiddio. Ym mis Tachwedd y llynedd, lansiwyd pecyn gwerth £45 miliwn gan fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, i hyfforddi staff ac i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i dyfu, ac yn y pecyn hwn roedd £35 miliwn a fydd yn helpu busnesau bach a chanolig i ail-lansio, i ddatblygu ac yn bwysig, i ddatgarboneiddio er mwyn helpu i lywio'r adferiad yn dilyn y pandemig COVID. Felly, bydd honno'n ffynhonnell bwysig o gymorth posibl y byddwn yn annog busnesau yng nghwm Cynon, ac mewn mannau eraill, i'w hystyried.

Credaf hefyd ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi'r dechreuad gorau posibl i fusnesau bach a chanolig newydd. A dyna pam, ym mis Chwefror 2022, y lansiodd Busnes Cymru ei grant cychwyn busnes carbon sero net, sef cynllun peilot sy'n cynnig cymorth ariannol a thechnegol i helpu mentrau cymdeithasol newydd i baratoi eu busnesau ar gyfer masnachu neu fuddsoddi, ac yn hollbwysig, i ymgorffori arferion sy'n ystyriol o'r hinsawdd mewn mentrau cymdeithasol newydd o'r cychwyn cyntaf. Mae'r cynllun hwn yn agored i unrhyw fusnes cymdeithasol neu sefydliad gwirfoddol sy'n masnachu yng Nghymru. Unwaith eto, bydd hyn yn rhywbeth y gwn y bydd sefydliadau cymwys yng nghwm Cynon, ac mewn mannau eraill, yn awyddus i'w archwilio.

14:20
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Y cwestiynau nesaf fydd i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.

Perchnogaeth Gyfrifol ar Anifeiliaid Anwes

1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddarparu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus rheolaidd ar berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes i wrthbwyso'r risg o gynnydd yn nifer yr anifeiliaid a gaiff eu gadael o ganlyniad i'r argyfwng costau byw? OQ58257

Member
Lesley Griffiths MS 14:21:27
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch. Mae ein hymgyrch #ArosAtalAmddiffyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo prynu cyfrifol ac yn ein hatgoffa o'r costau gydol oes sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar anifail anwes. Rydym hefyd yn parhau i gysylltu â'n partneriaid yn y trydydd sector i gefnogi eu gwaith i hyrwyddo disgwyliadau ynghylch perchnogaeth gyfrifol, yn enwedig wrth i bwysau gynyddu ar gyllidebau aelwydydd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n sylweddoli bod yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol #ArosAtalAmddiffyn yn rhedeg yn bennaf dros gyfnod y Nadolig a'i bod yn eithaf tymhorol a chyfyngedig, ac yn canolbwyntio ar brynu cyfrifol mewn perthynas ag anifeiliaid anwes. Mae'n amlwg yn ymgyrch lwyddiannus, ond yn eithaf cyfyngedig. Mewn cyferbyniad, yn Lloegr, mae ganddynt Petfished, ymgyrch hirdymor i godi ymwybyddiaeth o brynu anifeiliaid anwes, ac yn yr Alban, mae gan Lywodraeth yr Alban ymgyrch Buy a Puppy Safely—mae gan y ddwy ymgyrch wefannau pwrpasol, parhaus ac adnoddau codi ymwybyddiaeth, ac mae'r ddwy wedi'u hategu gan fesurau codi ymwybyddiaeth eraill hefyd.

Fe fyddwch yn ymwybodol, fel y mae llawer ohonom, rwy'n siŵr, fod y mynegai caredigrwydd tuag at anifeiliaid newydd gan yr RSPCA yn awgrymu bod 19 y cant o'r bobl sy'n berchen ar anifeiliaid anwes yn poeni am brynu bwyd i'w hanifeiliaid anwes yng nghanol yr argyfwng costau byw. Mae'r RSPCA eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer yr anifeiliaid a dderbynnir i ganolfannau'r RSPCA, yn cynnwys 49 y cant yn fwy o gwningod, 14 y cant yn fwy o gathod a 3 y cant yn fwy o gŵn yn ystod pum mis cyntaf 2022. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddefnyddio ymgyrch hyrwyddo barhaol i gyfeirio perchnogion at y pecynnau cymorth sydd ar gael mewn mannau eraill, a allai fod yn ddefnyddiol iawn i berchnogion sy'n ansicr lle i droi, os na allwn gychwyn ein hymgyrch barhaol ein hunain?

Byddaf yn sicr yn ystyried edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn fwy parhaol, ond rydym yn hyrwyddo ac yn rhannu negeseuon gan sefydliadau eraill ar berchnogaeth gyfrifol yn rheolaidd. Yr wythnos diwethaf, roedd gennym un ar ofalu am anifeiliaid mewn tywydd poeth, er enghraifft, a gadael cŵn, yn enwedig, mewn ceir. Felly, rydym yn hyrwyddo ac yn rhannu llawer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill, a byddwn yn annog holl Aelodau'r Senedd i wneud hynny hefyd. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, mae'r un neu ddwy o ganolfannau achub y gallais ymweld â hwy eleni wedi gweld cynnydd, yn anffodus, yn nifer yr anifeiliaid anwes y maent yn gorfod eu derbyn. Yn amlwg, rydym wedi cael pobl yn prynu anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig COVID ac yna, pan fyddant wedi gorfod mynd yn ôl i weithio'n llawn amser efallai, maent wedi sylweddoli cymaint o anawsterau sydd ynghlwm wrth ofalu am anifail anwes pan fyddant yn ôl yn y gwaith, a'r argyfwng costau byw wedyn, fel rydych newydd ei nodi. Ond rwy'n sicr yn agored i unrhyw awgrymiadau ynglŷn â gweld beth y gallem ei wneud yn fwy parhaol.

Weinidog, mae gadael anifeiliaid anwes yn fater o bwys ac mae wedi bod yn broblem fawr erioed. I rai o drigolion cartrefi, rhaid iddynt adael eu hanifeiliaid anwes oherwydd yn y sector rhentu, mae rhai landlordiaid yn dweud na chaniateir unrhyw anifeiliaid anwes. Yn San Steffan, maent yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn diddymu hynny ac yn ei gwneud yn anghyfreithlon i landlordiaid fynnu na ellir mynd ag anifeiliaid anwes i gartrefi, yn enwedig pan fo'r anifail yn anifail anwes sy'n chwarae rhan bwysig yn iechyd meddwl yr unigolyn hwnnw. A ydych yn bwriadu ystyried y ddeddfwriaeth honno sy'n mynd drwy San Steffan, ac a wnewch chi, ar y cyd â'ch cyd-Weinidog, y Gweinidog tai, ystyried mesurau tebyg yma yng Nghymru?

Yn sicr, mae'n rhywbeth a drafodais gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am dai wrth gwrs. Ac fel y gwyddoch, mae'n debyg, yr wythnos nesaf, byddwn yn trafod deddfwriaeth arfaethedig Luke Fletcher ynghylch cymalau dim anifeiliaid anwes. Rwy'n siŵr y byddwn, fel Gweinidogion, yn cael trafodaethau pellach gyda Luke.

14:25

Weinidog, yn ddiweddar ymwelodd fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, a minnau â Hope Rescue ger Llanharan. Gwelsom y gwaith gwych yr oeddent yn ei wneud, ond roeddent yn dweud wrthym am y cynnydd enfawr yn nifer yr ymholiadau y maent yn eu cael gan berchnogion sy'n gofyn, 'Sut y gallaf fforddio cadw fy anifail anwes yn awr? Sut y gallaf ei fwydo? Sut y gallaf dalu ffioedd milfeddyg? Sut y gallaf dalu am yswiriant?' Maent hefyd yn gweld niferoedd cynyddol o bobl yn gadael anifeiliaid anwes, niferoedd llawer uwch na'r hyn y maent erioed wedi'i weld o'r blaen. Rydym wedi gweld yr un peth gyda Dogs Trust ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd. Oherwydd hyn, a fyddech yn ymrwymo i gyfarfod â'r bobl awdurdodol yn y maes i weld sut y gallant weithio nid yn unig gyda'r cŵn a'r anifeiliaid anwes sy'n cael eu cyflwyno iddynt, ond hefyd gyda'r perchnogion i roi cyngor da iddynt, fel nad oes rhaid iddynt adael yr anifeiliaid anwes hynny, a sicrhau bod ffynonellau eraill o gymorth ar gael, yn hytrach na'u bod yn crwydro neu'n cael eu gadael, neu'n cael eu hel i ganolfannau achub fel Hope Rescue?

Diolch am hynny. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â chanolfan Hope Rescue. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â chanolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd i fyny yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â'r trydydd sector i weld beth y gallwn ei wneud i helpu pobl sy'n amlwg yn wynebu penderfyniadau anodd iawn. Ac yn sicr, unwaith eto, ar ôl cyfarfod â pherchnogion, maent yn dweud wrthyf y byddent yn bwydo eu hanifeiliaid anwes cyn bwydo eu hunain, pe byddent yn wynebu penderfyniad o'r fath. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i ymgysylltu, yn enwedig gyda'r trydydd sector, i weld beth arall y gallwn ei wneud i gynorthwyo.

Cefnogaeth i Ffermwyr yng Ngogledd Cymru

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr yng Ngogledd Cymru? OQ58261

Diolch. Ochr yn ochr â chynllun y taliad sylfaenol, cyhoeddais becyn cymorth gwerth dros £227 miliwn yn ddiweddar ar gyfer nifer o gynlluniau sydd ar gael i ffermwyr ledled Cymru. Bydd fy swyddogion hefyd yn ystyried ceisiadau rhanddirymiad gan ffermwyr sy'n profi caledi oherwydd y sefyllfa economaidd bresennol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod wrth eich bodd, fel yr oeddwn innau yr wythnos hon, wrth weld y cyhoeddiad fod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda Chymru'n gweld cynnydd mwy nag unrhyw un o wledydd eraill y DU yng ngwerth allforion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â hyn, y categori allforio gwerth uchaf oedd cig a chynhyrchion cig, ac wrth gwrs, ein ffermwyr gwych ar hyd a lled y wlad sy'n gyfrifol am hyn. Yn wir, yr wythnos diwethaf cefais y fraint o fod yn aelod o'r panel yn nigwyddiad dyfodol ffermio Da Byw yng ngogledd Cymru, ac roedd ffermwyr yno'n awyddus i atgoffa'r panel fod cynhyrchu bwyd o safon yn ganolog i ffermio, ac y bydd bob amser yn ganolog iddo. Rwy'n cael fy atgoffa'n rheolaidd o hyn hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol gan ffermwyr fel Gareth Wyn Jones yn Llanfairfechan, sy'n tynnu sylw at y gwaith caled y mae ffermwyr yn ei wneud i fwydo'r genedl. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'n ffermwyr ledled gogledd Cymru a'u llongyfarch ar eu hymdrechion i gynhyrchu bwyd, a rhoi sicrwydd heddiw fod cynhyrchu bwyd yn ganolog i uchelgais y Bil amaethyddiaeth sydd ar y ffordd?

Diolch. Yn sicr, rwy'n hapus iawn i ymuno â chi i longyfarch ein holl ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd a diod gwych o Gymru, sydd wedi cyflawni cymaint o allforion. Ac ni allech gael cyfnod mwy heriol i'n hallforwyr, oni allech? Yr wythnos diwethaf, ymwelais â busnes newydd, sydd ond yn flwydd oed, yn Nhrefynwy, ac roeddent eisoes yn allforio. Cwmni diod ydoedd, ac roeddent eisoes yn allforio eu diod. Rwy'n credu bod i gwmni fod yn ddigon dewr i allforio yn y cyfnod arbennig o heriol hwn—. Ac roeddent yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru yno. Rwy'n mwynhau edrych ar ffrwd Twitter Gareth Wyn Jones yn arbennig. Mae'n dda iawn, rwy'n credu, am ddangos y gwaith caled y mae ffermwyr yn ei wneud i gynhyrchu'r bwyd anhygoel hwnnw. Rydym yn arwain y byd yng Nghymru gyda'r bwyd a gynhyrchwn yma. Gallaf eich sicrhau y bydd cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn rhan gwbl ganolog o'r cynllun ffermio cynaliadwy, y byddaf yn ei gyhoeddi cyn toriad yr haf, a'r Bil amaethyddol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Weinidog, fe ddechreuaf gyda physgodfeydd, os caf, gan fod gwahoddiadau wedi'u hanfon bellach at randdeiliaid i ymuno â grŵp cynghori'r Gweinidog ar gyfer pysgodfeydd Cymru, grŵp newydd yr wyf fi a rhanddeiliaid yn gobeithio y bydd yn arwain at well ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector yma yng Nghymru. O gofio bod hwn yn grŵp newydd sy'n awyddus i dyfu'r diwydiant, a wnewch chi ddarparu rhagor o wybodaeth am y strwythurau y byddwch yn eu defnyddio i gydgynllunio dull mawr ei angen o gyd-reoli ein pysgodfeydd yn erbyn cefndir o ddirywiad enfawr yn y glaniadau, a'r pwysau a brofir ar draws y sector? Ac o ystyried eich bod wedi rhoi sicrwydd i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig eich bod am gynnal y cyfarfod cyntaf yng nghanol mis Gorffennaf, a yw hyn yn dal i fod yn wir?

Roeddwn yn meddwl eich bod wedi gweld y gwahoddiad eisoes. Ydi, mae'n wir. Ar 14 Gorffennaf, byddaf yn cynnal y cyfarfod cyntaf, ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu hynny. Fel y dywedoch chi, rhoddais sicrwydd i'r pwyllgor. Bydd yn ddiddorol gweld hynny. Credaf ei bod yn hanfodol fod gennym strwythur newydd ar waith. Roedd gennym Grŵp Cynghori Cymru ar y Môr a Physgodfeydd ers cryn dipyn o amser, ond rydym mewn byd newydd yn awr—rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—ac mae'n rhaid inni sicrhau bod ein pysgotwyr yn cael llawer mwy o gyfleoedd nag y maent wedi'u cael yn y gorffennol. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i sicrhau bod pysgotwyr Cymru'n cael eu cyfran deg o gwotâu. Rydym bob amser wedi cydgynllunio a chydreoli pysgodfeydd, o ran rheolaeth a'r ffordd yr ydym wedi edrych ar gynlluniau a gyflwynwyd gennym, yn enwedig gyda COVID ac yn y blaen. Felly, nid wyf yn credu y bydd y strwythur yn newid. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw bod y cyngor a roddir i mi, fel Gweinidog, a fy swyddogion, yn cwmpasu'r holl ystod o bysgodfeydd a materion morol.

14:30

Diolch. Weinidog, rwyf am dynnu eich sylw hefyd at y nifer o deuluoedd sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin sy'n chwilio am loches yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch, rhaid i'r anifeiliaid anwes teuluol sy'n dymuno ymuno â'u perchnogion yng Nghymru fodloni meini prawf penodol er mwyn gwneud hynny: rhaid iddynt gael eu brechu rhag y gynddaredd, cael microsglodyn, cael triniaeth llyngyr, a meddu ar basbort anifeiliaid anwes llawn. Mae eich adran wedi cadarnhau eu bod yn gwneud popeth posibl i symleiddio'r broses hon a sicrhau bod yr anifeiliaid anwes hyn yn gallu dychwelyd at eu perchnogion cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, cefais ohebiaeth gan etholwr sy'n dweud, er gwaethaf y cyngor a gafwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn honni eu bod yn hapus i ryddhau eu cath, mai Llywodraeth Cymru sy'n gwrthod trwydded i deulu o ffoaduriaid o Wcráin i'w caniatáu i gadw'r anifail dan gwarantin yn y cartref, er yn honni bod Llywodraeth Cymru yn adolygu pob cais fesul achos.

Nawr, ceir achosion lle y credaf y dylai hyn fod yn opsiwn ymarferol, felly a gaf fi alw arnoch i ailystyried y penderfyniad hwn a sicrhau bod yr anifeiliaid anwes hyn, sy'n aelodau pwysig o'r teulu, yn cael eu rhoi yn ôl i'w perchnogion mor gyflym a diogel ag sy'n rhesymol?

Yn sicr. Rwy'n amlwg yn cydnabod ei bod yn sefyllfa anodd a gofidus iawn sydd wedi arwain pobl Wcráin i'n gwlad ac ni chymerwyd y penderfyniad i beidio â chaniatáu cwarantin yn y cartref yn ysgafn. Rwyf wedi gwneud hyn i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd ein hanifeiliaid yma yng Nghymru. Rydych yn nodi un achos unigol; nid wyf yn ymwybodol o'r manylion hynny. Fodd bynnag, rwyf am ddweud mai'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr holl waith papur yn gywir. Felly, os yw'r gwaith papur yn gywir, ni allaf weld pam y byddem yn gwrthod hynny. Rwy'n hapus iawn—. Os hoffech ysgrifennu ataf, rwy'n ymwybodol eich bod wedi ysgrifennu ataf eisoes ynglŷn ag etholwr, mewn perthynas ag anifeiliaid anwes o Wcráin rwy'n credu—nid wyf yn gwybod ai'r un un ydyw, ond os hoffech ysgrifennu ataf, fe wnaf edrych arno fel mater o frys.

Rwy'n ddiolchgar am hynny, Weinidog, a byddaf yn mynd ar drywydd hynny'n ysgrifenedig gyda chi.

Yn olaf, hoffwn dynnu eich sylw at y digwyddiad 'Dathlu Cymru Wledig' diweddar, a gynhaliwyd ar faes y Sioe Frenhinol yn gynharach y mis hwn, digwyddiad y nododd datganiad i'r wasg eich Llywodraeth ei fod yn gyfle

'i ddysgu'r gwersi o lwyddiannau niferus y CDG'—

cynllun datblygu gwledig a feirniadwyd yn flaenorol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Nawr, roedd cost ariannol y digwyddiad hwn dros £85,000, y cadarnhawyd ei fod wedi'i ariannu drwy gyllideb cymorth technegol y rhaglen datblygu gwledig. Mewn datganiad i'r wasg, fe ddywedoch chi fod tua 200 o bobl wedi mynychu'r digwyddiad, gan olygu bod y gwariant oddeutu £425 y pen. Nawr, o gofio bod arian cyhoeddus wedi'i ddefnyddio i ariannu'r digwyddiad hwn, byddwn yn disgwyl i'r digwyddiad gael ei gynnal er budd y rhai sy'n gwneud ceisiadau i Taliadau Gwledig Cymru. Fodd bynnag, nid oedd cael cyfeirnod cwsmer yn un o'r rhagofynion ar gyfer mynychu. Os na allwn fesur nifer y mynychwyr a oedd yn derbyn arian drwy'r cynllun datblygu gwledig, h.y. y rhai a all ddysgu gwersi i ni ynglŷn â chyllid y cynllun, pa fetrig a ddefnyddiwyd i fesur llwyddiant y gynhadledd hon? Ac er mwyn bod yn dryloyw, sut rydych yn dangos bod y digwyddiad hwn yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru?

Diolch. Wel, rwy'n credu y dylwn eich cywiro pan ddywedwch fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu'r rhaglen datblygu gwledig—roedd cannoedd a channoedd a channoedd o gynlluniau yn llythrennol, ac mae'r manteision i'n cymunedau gwledig, yn fy marn i, yn amlwg iawn mewn llawer iawn o achosion.

Credaf fod y digwyddiad a gynhaliwyd, y gynhadledd, a'r digwyddiad BlasCymru a gynhaliwyd drws nesaf i'r gynhadledd, wedi bod yn llwyddiannus iawn. Yr hyn yr oeddwn am ei wneud oedd siarad â phobl. Nid wyf yn gwybod a oeddech yn bresennol eich hun, ond roeddwn am siarad â phobl a oedd wedi bod yn derbyn cyllid datblygu gwledig—pa fudd yr oeddent wedi'i gael ohono. Roedd rhai o'r cynlluniau, a rhai o'r rhaglenni—roedd y bobl y siaradais â hwy wedi bod yn eu gwneud ers tua 10 mlynedd, felly roedd cyfoeth o ddata a thystiolaeth, ac yn amlwg, trafodaethau anecdotaidd hefyd, rwy'n derbyn, i'n helpu wrth inni gyflwyno'r rhaglen olynol. Yr hyn y gofynnais i swyddogion ei wneud yw tynnu hynny i gyd at ei gilydd mewn dogfen, ac os gallaf, byddaf yn sicr yn ei chyhoeddi. 

14:35

Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am godi mater dwi wedi codi o'r blaen, os caf i. Mae'r cynnydd aruthrol mewn prisiau porthiant, tanwydd a gwrtaith yn taro'n ffermwyr ni yn galed iawn ar hyn o bryd. Mae yna ddiffyg calch mewn rhai ardaloedd. Mae prinder disel coch, sydd wedi cynyddu 50 y cant mewn blwyddyn, ac mae pris gwrtaith wedi mwy na threblu ers y llynedd. Mae yna ddiffyg argaeledd cynhwysion bwyd anifeiliaid, fel indrawn, neu maize fel dwi wedi dysgu heddiw, a phrydau blodau haul. Ac mae'r bwrdd datblygu amaeth wedi amcangyfrif y bydd pris dwysfwydydd porthiant yn cynyddu 40 y cant. O ganlyniad, mae ffermwyr eisoes yn edrych i addasu eu cynlluniau hadu a phlannu.

Mae'r arwyddion i gyd yma o'r potensial inni weld problemau cynhyrchu a chyflenwi bwyd ar y gorwel. Fel soniodd fy nghyfaill Llyr Gruffydd ddoe, ym mis Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Iwerddon gynllun tyfu cnydau gwerth €12 miliwn, ymhlith nifer o gamau eraill. Mae angen cynllun arnom ni yma er mwyn osgoi argyfwng bwyd, ynghyd ag argyfwng lles anifeiliaid. Dylai trafferthion diweddar ffermydd moch fod yn rhagrybudd o hynny. Mae'r atebion a gafwyd ddoe yn dangos nad oes yna gynllun penodol mewn lle ar gyfer sicrhau diogelwch porthiant. Felly, a oes bwriad gan y Llywodraeth i ddatblygu cynllun i fynd i'r afael â'r argyfwng porthiant anifeiliaid sy'n wynebu ffermwyr y gaeaf hwn? Wedi'r cyfan, mae'n well paratoi rŵan na phanicio wedyn.

Wel, nid wyf yn credu bod unrhyw banig, ac yn sicr, yn y trafodaethau a gefais gyda rhanddeiliaid, gyda fy nghyd-Weinidogion, gyda'r undebau ffermio, ac yn sicr y trafodaethau y mae swyddogion wedi'u cael, nid wyf yn credu mai 'panig' yw'r gair cywir i'w ddefnyddio o gwbl. Mae llawer o'r grymoedd hyn yn nwylo Llywodraeth y DU, megis tanwydd, er enghraifft, felly mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt. Cyfarfûm ddoe i drafod mater arall gyda'r Gweinidog Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ac rydym yn mynd i barhau i gael trafodaethau ynghylch materion tanwydd, bwyd a gwrtaith. Yn Sioe Frenhinol Cymru, byddwn yn cael cyfarfod grŵp rhyngweinidogol, lle byddwn yn parhau i'w cael.

Mae fy swyddogion yn rheolaidd yn mynychu'r grŵp monitro'r farchnad y mae Llywodraeth y DU wedi'i gydlynu gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill fel y gallwn fonitro prisiau ar draws pob sector amaethyddol, ac yn sicr, y cynlluniau a gyflwynwyd gennym ym mis Chwefror eleni. Ac mae rhai cynlluniau ar agor yn awr; bydd mwy o gynlluniau'n agor yn sgil y £237 miliwn y cyfeiriais ato mewn ateb cynharach. Mae rhywfaint o'r cyllid hwnnw—mae ffermwyr eisoes yn dweud ei fod yn eu helpu gyda'u cynlluniau, yn enwedig rheoli maethynnau a gwasgaru gwrtaith. Soniais mewn ateb cynharach i Sam Rowlands y gall ffermwyr sy'n rhan o gynllun Glastir, er enghraifft, gyflwyno cais rhanddirymiad. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, hyd yma, nid oes neb wedi gwneud hynny eto, ond mae'r rhain i gyd yn llwybrau sy'n agored iddynt. 

Diolch yn fawr i chi am yr ateb hynny. Os caf fynd ymlaen i'r pwynt nesaf, un peth sy'n wych am y swydd yma, wrth gwrs, yw bod rhywun yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd, a dwi wedi dysgu yn ddiweddar iawn mai 'y clafr' ydy'r term am sheep scab. Felly, dwi am ofyn cwestiwn ar y clafr.

Fel dŷn ni'n gwybod, y clafr ydy un o'r clefydau mwyaf heintus mewn defaid yng Nghymru, ac fe'i nodwyd fel blaenoriaeth i glefydau gan grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Mae'n costio tua £8 miliwn y flwyddyn i ddiwydiant defaid y Deyrnas Gyfunol, sy'n cynnwys 14,000 o daliadau yma yng Nghymru, gyda 9 y cant o ffermwyr defaid yn profi o leiaf un achos o'r clafr y flwyddyn. Mae fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru Llywodraeth Cymru, y cynllun gweithredu ar gyfer 2022-24, yn nodi y bydd y grŵp fframwaith yn gweithio gyda'r Llywodraeth ac yn ymgysylltu â ffermwyr defaid a'u milfeddygon i ddatblygu dull sydd wedi cael ei gytuno arno ar y cyd i reoli'r clefyd yma. Mae e hefyd yn nodi y dylai'r dull hwn ganolbwyntio ar atal y clefyd rhag mynd i ddiadelloedd defaid drwy fesurau bioddiogelwch syml ond effeithiol y gall pob fferm ddefaid eu rhoi ar waith yn rhwydd. 

Yn y Senedd ddiwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog ei hun fod dileu'r clafr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, a gwnaed addewid y bydd yna £5 miliwn ar gael i helpu dileu'r clafr ar ffermydd yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd a wnaed i ddileu'r clafr yng Nghymru, ac yn fwy penodol, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o effaith y rhaglen £5 miliwn ar y clafr yng Nghymru?

Nid yw'r ffigurau gennyf yn fy llaw ar y gostyngiad a welsom yn y clafr. Gwn fod gostyngiad, a byddaf yn sicr yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â hynny. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i, os ydym am ddileu'r clafr, yw ein bod yn gweithio'n galed iawn mewn partneriaeth â'r sector amaethyddol. Cofiaf ymweld â fferm—roeddwn yn mynd i ddweud y llynedd, ond mae'n debyg nad yw hynny'n wir am ei fod cyn COVID, felly mae'n debyg ei fod tua thair blynedd yn ôl—fferm yn y canolbarth a oedd wedi llwyddo i ddileu'r clafr o'u fferm. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod yr arferion gorau'n cael eu rhannu rhwng ein ffermwyr, ond rwy'n derbyn ei bod yn ymdrech ar y cyd rhyngom.

Fe wneuthum roi arian. Roedd y cyllid y gallwn ei roi ychydig yn llai na £5 miliwn. Yn sicr, ni allais roi cymaint ag yr oeddwn wedi bwriadu ei wneud, ac roedd hynny'n bendant oherwydd y pandemig COVID a'r ffordd y bu'n rhaid inni ailddyrannu rhywfaint o gyllid. Ond unwaith eto, fe roddaf y manylion mewn llythyr at yr Aelod.

14:40
Lleihau Gwastraff Amaethyddol

3. Sut y bydd polisi ffermio Llywodraeth Cymru yn y dyfodol helpu i leihau gwastraff amaethyddol? OQ58278

Diolch. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn helpu ffermwyr i gymryd amrywiaeth o gamau i'w helpu i ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon. Byddwn yn helpu ffermwyr i fabwysiadu ymagwedd gylchol, gan gadw adnoddau a deunyddiau mewn defnydd cyhyd ag y bo modd ac osgoi gwastraff.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n cydnabod yn llwyr fod y sector amaethyddol yn gwella drwy'r amser o ran lleihau eu gwastraff, ond un ffactor ystyfnig sy'n ymddangos yn anos ei ddatrys yw'r plastig a gynhyrchir gan y sector ar gyfer pethau fel silwair, pibellau, dyfrhau, gwasgaru tomwellt, pecynnu a gorchuddion tŷ gwydr. Mae'r gweithgareddau hyn yn creu llawer iawn o wastraff plastig sy'n aml yn llychwino'r dirwedd hardd. Bydd deunydd lapio silwair yn enwedig yn olygfa gyffredin i'r rhai sy'n ymweld â chefn gwlad, ond mae plastigion teneuach, fel yr hyn a ddefnyddir ar gyfer tomwellt a thai gwydr, yn cynnig bygythiad gwahanol wrth iddynt ddadelfennu'n ficroblastigion.

Cynhyrchodd y Cenhedloedd Unedig adroddiad y llynedd yn nodi'r ffordd drychinebus y caiff plastig ei ddefnyddio mewn ffermio ledled y byd, gan fygwth diogelwch bwyd ac iechyd pobl. Gwelir llawer o'r arferion gwaethaf mewn gwledydd eraill, ond nid yw Cymru a rhannau eraill o'r DU wedi'u heithrio. Ar adeg pan fo pwysau'n ddifrifol ar y sector amaethyddol, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod yn cefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd i waredu eu plastig yn gywir, a sut yr ydym yn eu helpu i leihau eu defnydd o blastig yn y lle cyntaf?

Diolch. Felly, os caf ateb ail ran eich cwestiwn yn gyntaf, rydym yn dal yn gwbl ymrwymedig i gynorthwyo ein sector ffermio i ffermio yn y ffordd fwyaf ecogyfeillgar sy'n bosibl, ac mae gwaredu ac ailgylchu plastigion fel deunydd lapio silwair yn briodol yn cael ei fonitro'n weithredol drwy gynlluniau tebyg i gynlluniau gwarant fferm. Yn sicr, fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, byddwn yn edrych, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, ar yr adnoddau cylchol hynny. Ceir gwasanaethau yng Nghymru i gasglu haenau plastig fferm i'w hailgylchu. Mae dau o brif weithfeydd ailgylchu haenau plastig fferm y DU wedi eu lleoli yng Nghymru. Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i blastig ailgylchadwy gael ei wahanu ar gyfer ei ailgylchu ym mhob safle annomestig yng Nghymru, ac mae'n amlwg y byddai hynny'n cynnwys ffermydd.

Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am ofyn y cwestiwn hwn. Mae eich ffigurau eich hun yn awgrymu, Weinidog, fod tua 30 y cant o'r gwastraff a gynhyrchir ar ffermydd yn blastig gradd isel, a gall fod yn anodd iawn i ffermwyr gael gwared arno. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sefydlu mentrau cydweithredol a gweithio gyda ffermwyr fel y gallant helpu i waredu'r plastig hwnnw a'i ailgylchu? A pha waith ymchwil a datblygu sydd wedi'i wneud gyda Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i helpu'r sector ffermio i leihau ei ddefnydd o blastigion ar gyfer pethau fel deunydd lapio silwair, sy'n anodd iawn i'w ailgylchu? Diolch, Lywydd.

Diolch. Nid wyf yn ymwybodol, heb fynd i edrych, o unrhyw ymchwil a datblygu, ond yn sicr rwyf wedi cael trafodaethau gyda ffermwyr. Cofiaf un ffermwr yn arbennig a oedd yn awyddus iawn i weld beth y gallai ei wneud i ddod o hyd i ffordd o ymdrin â deunydd lapio silwair yn enwedig. Gwyddom fod gennym, yn bennaf yng Nghymru, sector da byw sy'n seiliedig ar laswellt ac sy'n dibynnu'n fawr ar silwair yn ystod misoedd y gaeaf. Felly, byddwn yn hapus iawn os oes unrhyw un am gyflwyno unrhyw atebion i'r broblem hon. Byddwn yn hapus iawn i weithio gyda hwy.

Stadiwm Valley Greyhounds

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol stadiwm Valley Greyhound? OQ58270

Diolch. Mae'r rhaglen lywodraethu a'n cynllun lles anifeiliaid yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno model cenedlaethol ar gyfer trwyddedu gweithgareddau sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yng Nghymru. Fy mwriad yw ystyried rasio milgwn yn rhan o'r ymgynghoriad arddangos anifeiliaid ar gynllun trwyddedu diwygiedig.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Deallaf fod cyngor Caerffili wedi penderfynu peidio â pharhau â'r nifer presennol o archwiliadau lles anifeiliaid yn stadiwm Valley. O'r 10 archwiliad a drefnwyd, mae chwech wedi'u cwblhau, ond mae'n annhebygol y bydd y pedwar arall yn cael eu cynnal. Mae data gan Hope Rescue yn awgrymu bod llawer o gŵn yn cael eu hanafu ar y trac, a cheir pryderon parhaus am anafiadau, lles y cŵn ac nad yw milfeddygon bob amser yn bresennol yn ystod rasys, sydd, fel y byddech yn deall, rwy'n siŵr, yn rhoi'r cŵn mewn perygl enfawr. A gaf fi ofyn am sicrwydd gennych eich bod yn gweithio gyda chyngor Caerffili i sicrhau y bydd yr arolygiadau lles yn Valley, megis y rhai a gynhelir o dan y cynllun cyflawni partneriaeth, yn parhau i gael eu cynnal, ac yn fwy penodol, a wnewch chi weithio gyda'r cyngor a'r trac rasio i sicrhau bod milfeddygon yn bresennol ym mhob ras yn y stadiwm? Diolch yn fawr iawn.

14:45

Diolch, Jane Dodds. Gallwch fod yn gwbl sicr y byddaf yn parhau i roi pwysau ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Fel y gwyddoch, ysgrifennais at berchennog newydd y trac rasio yn ôl ym mis Mawrth. Nid wyf wedi cael unrhyw ymateb eto, er fy mod wedi mynd ar drywydd y llythyr hefyd, ac fe gyfarfûm â Bwrdd Milgwn Prydain Fawr hefyd i weld beth yn ychwanegol y gallwn ei wneud. Yn amlwg, yn awr, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel y dywedoch chi, wedi cael o leiaf chwe archwiliad yn y stadiwm, gyda milfeddyg bob amser yn bresennol, ac mae'n bwysig iawn fod yr archwiliadau hynny'n parhau a bod milfeddyg yn bresennol. Felly, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau ei fod yn parhau, a byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Weinidog, nid oes neb yn poeni mwy am les milgwn na Bwrdd Milgwn Prydain Fawr. Mae'r bwrdd yn ymdrechu'n gyson i leihau'r posibilrwydd o anafiadau i filgwn drwy ariannu gwelliannau i'r traciau, gwelliannau i gybiau cŵn a sicrhau bod milfeddygon annibynnol yn bresennol ar bob trac Bwrdd Milgwn Prydain Fawr i archwilio iechyd a lles milgwn cyn ac ar ôl rasio. A ydych yn cytuno, Weinidog, mai'r ffordd orau o sicrhau lles milgwn yw drwy gael rasio wedi'i reoleiddio'n briodol fel chwaraeon gwylwyr rheoledig, yn hytrach na'i orfodi i fod yn danddaearol gyda'r risg o rasio anghyfreithlon a pheryglus, a fyddai ond yn cynyddu nifer yr anafiadau i filgwn? Diolch.

Wel, yn sicr nid wyf am weld unrhyw rasio anghyfreithlon. Fe fyddwch yn ymwybodol mai dim ond un trac sydd gennym yma yng Nghymru, sef yr un y gofynnodd Jane Dodds y cwestiwn gwreiddiol amdano. Rwy'n pryderu ynglŷn â nifer y milgwn sy'n cael eu hanafu. Rwyf wedi gweld rhai anafiadau erchyll, ac mae'n ymddangos bod y trac yn ymfalchïo yn y ffaith bod ganddo'r troad anoddaf yn y wlad. Mae hynny'n ymddangos yn destun balchder iddynt, ac ni allaf ddeall hynny o gwbl.

I adeiladu ar gwestiwn Jane, ac mae'n gwestiwn y mae'r Gweinidog yn ei ddisgwyl bob tro y mae'n gweld cwestiwn am filgwn rwy'n siŵr, neu os oes unrhyw gyfle imi gysylltu milgwn â chwestiwn atodol, roeddwn yn meddwl tybed a yw'r Gweinidog bellach mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnwys rasio milgwn yn rhan o'r cynllun trwyddedu yn y dyfodol fel y'i nodir yn y cynllun lles anifeiliaid. Rwy'n dychmygu bod y Gweinidog, fel finnau, mewn cysylltiad agos â llawer o elusennau lles anifeiliaid ledled Cymru, ac mae hwn yn gwestiwn y maent yn ei ddwyn i fy sylw'n barhaus. Rwyf hefyd yn awyddus i sefydlu beth yw safbwynt y Llywodraeth ar y ddeiseb a gyflwynwyd gan Hope Rescue, er fy mod yn derbyn nad yw adroddiad y Pwyllgor Deisebau wedi'i ryddhau eto.

Ydw, yn sicr, pan fydd Jane Dodds yn gofyn cwestiwn, rwy'n disgwyl un oddi wrthych chi, ac fel arall, ar y mater pwysig hwn. Rwy'n ddiolchgar i chi am ei godi, fel y mae llawer o filgwn, rwy'n siŵr. Roeddwn yn meddwl bod y digwyddiad a gawsoch gyda Hope Rescue yn y Senedd, Paws in the Bay, yn wych ac roedd yn wych siarad â phobl a oedd yn berchen ar filgwn wedi'u hachub, fel Jane Dodds. Mae'n sicr yn fy helpu gyda fy syniadau, a swyddogion hefyd.

Mae'n sicr yn rhan o'n cynllun lles. Ni allaf roi diweddariad pellach i chi. Fel y gwyddoch, mae'n gynllun pum mlynedd a byddwn yn ei gyflwyno wrth inni fynd drwy dymor y Llywodraeth hon. Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, o'r adroddiad y mae'r Pwyllgor Deisebau yn edrych arno. Byddwn yn synnu'n fawr os na chawn ddadl yn y Siambr o ganlyniad iddo, a byddwn yn croesawu hynny'n fawr.

Bridio Cŵn yn Anghyfreithlon

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi canolfannau ailgartrefu anifeiliaid i ofalu am gŵn sy'n cael eu hachub rhag bridio anghyfreithlon? OQ58248

Diolch. Mae ein prosiect gorfodi i awdurdodau lleol wedi cyfrannu at ymafael mewn nifer sylweddol o gŵn bach sy'n cael eu bridio'n anghyfreithlon. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o'r pwysau ychwanegol sy'n wynebu'r sector ailgartrefu anifeiliaid mewn tirwedd ôl-bandemig ochr yn ochr â'r argyfwng costau byw. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn y trydydd sector i ystyried a chefnogi atebion lle bynnag y bo modd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Ymwelais yn ddiweddar â chanolfan Hope Rescue gyda Huw Irranca-Davies, fel y soniodd, a chredaf y gallwn i gyd gytuno bod yr ymweliad gan Hope Rescue ac ymgyrch achub milgwn de Cymru wedi gadael argraff enfawr ar lawer ohonom, yn ôl y cwestiynau a gawsom heddiw. Ond rwy'n credu y gallwn i gyd weld, fel y dywedoch chi, pa mor rhagorol oedd y gofal am y cŵn. Ar ein hymweliad â'r ganolfan, fodd bynnag, dywedodd y staff wrthym sut y maent bellach yn cael eu llethu gan gŵn a atafaelwyd oddi wrth fridwyr anghyfreithlon. Dywedodd y BBC fod ymchwiliadau i fridio cŵn anghyfreithlon wedi codi 63 y cant yng Nghymru. Mae hyn yn beth da iawn, ond wrth gwrs cânt eu cludo i'r canolfannau achub i gael gofal, ac mae'r rheini'n orlawn. Roeddent yn dweud wrthyf, ers ein hymweliad bythefnos yn ôl, fod 10 o gŵn tarw sâl wedi'u hatafaelu, a thra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr heddlu, y broblem yw na all y cŵn a atafaelwyd symud i gartref parhaol, felly mae hyn yn creu ôl-groniad enfawr o gŵn yn y ganolfan, ac mae lle'n brin erbyn hyn i gŵn newydd os bydd angen eu hachub. Roeddent yn dweud, os daw un alwad ffôn arall gan yr heddlu yn awr, maent yn mynd i orfod dweud 'na'; ni allant dderbyn rhagor. Felly, Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gryfhau'r rheoliadau ac atal bridio cŵn anghyfreithlon yn ein cymunedau, ond yn fwy na dim, a oes unrhyw beth y gellir ei wneud neu amserlen ar gyfer pa mor hir y gall y cŵn fod yn y cartref cyn y gellir eu hailgartrefu?

14:50

Diolch. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac roedd y ci bach yr oeddwn yn ei gario o dan fy mraich am ran hir o'r daith honno yn anifail o'r fath na allent ei ailgartrefu. Gwn eu bod wedi bod yn edrych ar y mater yn yr Alban, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu â swyddogion yn yr Alban i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei ddysgu ganddynt er mwyn gallu edrych ar yr amserlen honno, fel y dywedwch. Mae capasiti i ymchwilio i fridio anghyfreithlon a'i atal wedi cynyddu'n sylweddol o fewn awdurdodau lleol, ac mae hynny o ganlyniad uniongyrchol i'r prosiect gorfodi a gyflwynwyd gennym. Mae'r prosiect yn mynd i'r afael â'r rhwystrau i orfodi. Mae'n darparu gwell hyfforddiant ac arweiniad i'n harolygwyr, ac mae'n gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau presennol o fewn awdurdodau lleol unigol a ledled Cymru. Felly, roeddwn yn falch iawn o weld bod y prosiect wedi cael ei gymeradwyo gan yr RSPCA a chan y BBC yn ddiweddar, ond nid wyf yn diystyru'r gwaith sylweddol y mae angen i ni ei wneud o hyd.

Diolch, Sarah, am godi'r mater pwysig hwn. Rydych yn iawn—adroddodd y BBC am 63 y cant o fridio cŵn anghyfreithlon, er bod nifer yr erlyniadau'n parhau'n isel iawn. Pa gamau penodol y gellir eu cymryd fel rhan o'ch cynllun lles anifeiliaid i sicrhau bod capasiti o fewn y canolfannau ailgartrefu i ymdrin â chynnydd o'r fath a gweithio gyda'r RSPCA i atgyfnerthu pwysigrwydd erlyniadau? Diolch.

Ie. Nid wyf yn credu bod angen inni gadarnhau pwysigrwydd erlyniadau; mae'n rhywbeth a godais yn fy nhrafodaethau gyda'r heddlu, nad yw'n faes datganoledig yn amlwg, ond rwy'n sicr wedi cael trafodaethau gyda'r RSPCA, ac rwyf wedi bod allan, fel llawer o'r Aelodau yn y Siambr mae'n debyg, gyda'r RSPCA ac wedi gweld yr anawsterau y maent yn eu hwynebu os dônt ar draws sefyllfa lle y credant fod angen mynd â chi oddi wrth rywun ac nad oes ganddynt bwerau i wneud hynny. Felly, rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'r RSPCA ar hynny ac yn parhau i wneud hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn am y berthynas gref iawn sydd gennym gyda'r sefydliadau trydydd sector hyn a chydag awdurdodau lleol. Credaf ei fod bellach yn rhywbeth y mae angen inni barhau i fynd ar ei drywydd gyda'r heddlu.

Deddfwriaeth Diogelu Cŵn

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd deddfwriaeth Cymru o ran diogelu cŵn? OQ58244

Diolch. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect gorfodi awdurdodau lleol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau lles anifeiliaid i fonitro effeithiolrwydd ein gwaith i ddiogelu cŵn ac i ystyried camau pellach. Rwy'n cefnogi mesurau pellach i sicrhau bod safonau lles uchel yn cael eu cynnal mewn materion fel bridio cŵn.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel llawer o Aelodau'r Senedd, roeddwn yn frwd fy nghefnogaeth i gyflwyno'r fersiwn Gymreig o gyfraith Lucy, a gyflwynwyd gennych yn y Senedd ddiwethaf. Rwyf fi, fel llawer o'r Aelodau yma, yn cefnogi'r ymgyrch Justice for Reggie, sy'n galw am reoleiddio gwerthiant cŵn ar-lein, gyda rheoleiddio pob gwefan lle y caiff anifeiliaid eu gwerthu, er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i wefannau ddilysu pwy yw'r holl werthwyr, ac i luniau anifeiliaid ifanc 'ar werth' gyda'u rhieni gael eu postio gyda phob anifail ar y rhestr. A yw Llywodraeth Cymru o blaid cymryd camau o'r fath, ac a yw'n gyfrifoldeb datganoledig?

Diolch. Er ei fod yn gam pwysig iawn, rwy'n credu fy mod bob amser yn pwysleisio nad oedd y rheoliadau a gyflwynais y llynedd ar werthiannau anifeiliaid anwes yn mynd i'r afael â'r holl broblemau sy'n gysylltiedig â masnachu cŵn bach. I adlewyrchu hyn, rydym yn cefnogi mesurau pellach i sicrhau safonau lles uchel mewn sefydliadau bridio cŵn. Rwyf hefyd yn cydnabod atyniad gwerthiant cyflym, heb ei reoleiddio a all ddenu bridwyr a gwerthwyr diegwyddor i wefannau. Felly, am y rheswm hwnnw, rydym yn cefnogi gwaith y grŵp cynghori DU gyfan ar hysbysebu anifeiliaid anwes sy'n ceisio sicrhau bod hysbysebion anifeiliaid anwes ar-lein yn gyfreithlon ac yn foesegol. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod hefyd wedi cefnogi'r prosiect gorfodi i awdurdodau lleol, ac mae hwnnw'n cysylltu'n agos â'r heddlu, felly mae'n faes a gadwyd yn ôl. Ond rwyf am ddweud, os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon penodol, dylent gysylltu â CrimeStoppers fel mater o frys.

14:55

Weinidog, ar y pwynt hwnnw am werthiannau heb eu rheoleiddio neu sydd wedi eu rheoleiddio'n wael, efallai y cofiwch, yn ôl ym mis Hydref, fy mod wedi gofyn i chi ynglŷn â system raddio neu sgorio i'w gweithredu ar gyfer bridwyr cŵn yng Nghymru, ac fe ymateboch chi ar y pryd drwy ddweud bod hynny'n sicr yn rhywbeth yr oeddech yn ei ystyried. Nawr, mae ffigurau newydd a ryddhawyd yr wythnos hon gan yr RSPCA a Hope Rescue yn dangos bod awdurdodau lleol wedi derbyn bron 1,000 o ymholiadau gan aelodau pryderus o'r cyhoedd yn 2020 a 2021, ac fel y clywsom gan Sarah Murphy ac Altaf Hussain, mae nifer yr ymchwiliadau wedi cynyddu 63 y cant hefyd, a chredaf mai'r rheswm y mae'r tri ohonom wedi sôn am hynny yw ei fod yn ffigur eithaf syfrdanol. Mae'n awgrymu, er y gallai defnyddwyr fod yn dod yn fwy ymwybodol o rai o'r arferion gan fasnachwyr twyllodrus, fod hynny'n destun pryder hefyd. Felly, o gofio hynny, Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud ar weithredu argymhellion fel y rhain, fel y nodwyd yn y grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol?

Nid oes gennyf ddiweddariad penodol, ac yn sicr ni allaf roi amserlen i chi. Fel y dywedais mewn ateb blaenorol, mae'r cynllun yn gynllun pum mlynedd. Dim ond ail flwyddyn y cynllun ydyw, ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn ei fonitro'n agos iawn.

Pobl Ifanc yn y Sector Amaethyddol

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i ymuno â'r sector amaethyddol a'u cadw? OQ58280

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc a'r rhai sydd am ymuno â'r diwydiant amaethyddol, drwy raglenni fel Cyswllt Ffermio a Mentro. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn helpu newydd-ddyfodiaid i ymuno â'r diwydiant a sefydlu busnesau cynaliadwy.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog, a chyfeiriaf yr Aelodau at fy natganiad o fuddiant fel ffermwr fy hun. Fel Gweinidog, rydych wedi datgan bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mentrau sy'n cael eu croesawu i gadw pobl ifanc yn y diwydiant, ac mae'n ymddangos, gobeithio, y bydd rhagor ohonynt yn y dyfodol, ac mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, er gwaethaf y mentrau hyn, nid yw'r sector yn mynd yn iau. Mae oedran cyfartalog ffermwr tua 59 oed, ac mae hynny'n agos at fy oedran i, ac rwy'n sicr yn teimlo'n eithaf hen. Ac eto, mae digwyddiadau diweddar wedi dangos ei bod yn bwysicach nag erioed annog pobl newydd i mewn i'r byd amaeth i helpu i sicrhau diogeledd bwyd domestig, yn ogystal â chynnal diwydiant bywiog sy'n darparu swyddi a sgiliau ar gyfer ein hardaloedd gwledig. Felly, Lywydd, credaf fod angen inni wneud mwy yng Nghymru i annog mwy o bobl, ac yn enwedig y rheini nad ydynt eisoes o gefndiroedd amaethyddol, i gamu i'r sector. Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i gyflwyno strategaeth gweithlu gyda'r nod o gadw ac ehangu'r gweithlu amaethyddol domestig, yn ogystal ag uwchsgilio ac ailsgilio pobl ifanc i agor cyfleoedd iddynt? Bydd y bobl ifanc hyn yn gwbl allweddol i system fwyd gynaliadwy. Diolch.

Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, oherwydd os nad ydym yn annog y genhedlaeth nesaf, ni fydd gennym y diwydiant ffyniannus a deinamig yr ydym am ei weld yma yng Nghymru. Felly, ers imi fod â'r portffolio, mae wedi bod yn rhywbeth y bûm yn awyddus iawn i'w annog, a chawsom y rhaglen Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc yn ôl ym mis Mawrth. Credaf iddi orffen ym mis Mawrth 2020, ac roedd honno'n llwyddiannus iawn—cawsom tua 150 o geisiadau, a chredaf fod y rhan fwyaf ohonynt yn llwyddiannus. Felly, efallai y byddai'n dda cael golwg arall ar weld a allwn wneud rhywbeth tebyg ar gyfer y dyfodol.

Soniais ein bod wedi cyflwyno rhai cynlluniau i helpu pobl ifanc i ymuno â'r sector, ond credaf ichi wneud pwynt perthnasol iawn am bobl nad ydynt o gefndir amaethyddol, oherwydd weithiau credaf ei bod hyd yn oed yn anos iddynt hwy, ac mae methu cael mynediad at dir a chyfalaf yn cael eu gweld fel prif rwystrau i'r bobl ifanc hynny rhag gallu ymuno â'r diwydiant, yn enwedig os nad oes ganddynt gefndir ffermio neu deulu sy'n ffermio i'w cefnogi.

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau ar gael strategaeth gweithlu yn benodol. Fel y gwyddoch, mae gennym gynllun Mentro. Mae hwnnw wedi'i gynllunio i baru tirfeddianwyr a ffermwyr sy'n awyddus i gamu'n ôl o'r diwydiant gyda newydd-ddyfodiaid sy'n chwilio am ffordd i mewn i'r sector, a chredaf ei bod yn fenter dda iawn. Mae'n arloesol, mae'n cael ei rhedeg drwy Cyswllt Ffermio, sydd, fel y gwyddoch, ar gael yma yng Nghymru yn unig, ac mae'n arwain pobl ar y ddwy ochr drwy'r camau allweddol i wneud y bartneriaeth fusnes bosibl honno. Ac unwaith eto, rwyf wedi cael trafodaethau diddorol iawn gyda'r ffermwr iau a'r ffermwr hŷn ynglŷn â pha mor llwyddiannus y bu. Rwy'n credu eu bod yn sicr yn gwerthfawrogi'r mentora, y cyngor arbenigol a'r cymorth busnes a gafwyd. 

15:00
Archwiliadau Mewnforio'r Undeb Ewropeaidd

8. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU am effaith oedi cyn cyflwyno archwiliadau mewnforio'r Undeb Ewropeaidd ar ffermio yng Nghymru? OQ58277

Diolch. Wel, yn syth ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddent yn gohirio ac yn ailgynllunio rheolau ar fewnforio, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Ddoe, cefais gyfarfod pellach gyda Gweinidog Ffermio, Pysgodfeydd a Bwyd Llywodraeth y DU a fy swyddog cyfatebol yn yr Alban, a byddaf yn cadeirio trafodaethau pellach y mis nesaf yn ein grŵp rhyngweinidogol.

Diolch, Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn iawn i nodi’r oedi parhaus cyn cyflwyno archwiliadau mewnforio’r Undeb Ewropeaidd, sy’n risg i'n bioddiogelwch cyffredinol. Mae'r risg yn cael ei dwysáu yn sgil diffyg mynediad at allu i olrhain, systemau hysbysu am glefydau a systemau ymateb brys yr Undeb Ewropeaidd. Mae gwarchod bioddiogelwch yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond yn amlwg, mae'n synnwyr cyffredin fod dull gweithredu DU gyfan o ymdrin â hyn yn cael ei fabwysiadu, gyda Thrysorlys y DU yn ariannu unrhyw wariant sydd ei angen ar fesurau rheoli ffiniau. Felly, pa ddeialog a sicrwydd pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu ceisio gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau ffermio Cymru yn cael eu diogelu yn fwy hirdymor?

Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedoch chi. Credaf fod hyn bellach yn dod yn fater brys difrifol, a dywedais hynny’n glir iawn wrth Victoria Prentis yn y cyfarfod neithiwr. Dywedais yn glir iawn hefyd, er bod—. Credaf ein bod ar yr un dudalen ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar hyn mewn gwirionedd, a Llywodraeth yr Alban; rydym am weld polisi ar gyfer y DU gyfan. Ond dywedais yn glir iawn na ddylent gymryd ein cefnogaeth yn ganiataol. Os byddwn yn gweld rhywbeth nad ydym yn hapus yn ei gylch, byddwn yn mynd ati ar ein liwt ein hunain. Fel y dywedwch, mae'n faes datganoledig, ac rwy'n awyddus iawn i'r gwiriadau hyn gael eu cynnal, gan fynd yn ôl at yr hyn yr oeddem yn ei ddweud am anifeiliaid anwes o Wcráin yn fy ateb i Sam Rowlands—mae'n bwysig iawn ein bod yn diogelu iechyd cyhoeddus pobl ac anifeiliaid yma yng Nghymru. Dyma’r trydydd cyfnod o oedi bellach, ac rydym wedi gorfod rhoi’r gorau i gynllunio ein safleoedd rheoli ffiniau, ac o'r gorau, rydym wedi ailafael ynddi bellach, ond a oes gennym sicrwydd ynghylch arian? Nac oes. Felly, dywedais yn glir iawn unwaith eto wrth DEFRA neithiwr fod angen i’r Trysorlys ddarparu arian. Fe fyddwch yn ymwybodol fod fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi gwneud datganiad ddoe yn y Siambr ar safleoedd rheoli ffiniau; rwy'n gweithio'n agos iawn gydag ef. Ond mae cymaint o ansicrwydd ynghylch yr hyn y dylem fod yn paratoi ar ei gyfer, a sut bethau fydd y safleoedd rheoli ffiniau hynny. Bioddiogelwch, i mi, yw un o rannau pwysicaf fy mhortffolio.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, a''r cwestiwn cyntaf heddiw i'w ateb eto gan y Trefnydd, ac i'w ofyn gan Rhys ab Owen.

Setliad Datganoli Cymru

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu setliad datganoli Cymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddileu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017? TQ645

Member
Lesley Griffiths MS 15:03:15
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch eu bwriad i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn enghraifft arall eto o’u dirmyg tuag at y setliad datganoli a’u hamarch tuag at y Senedd hon a etholwyd yn ddemocrataidd. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i wrthsefyll hyn.

Mae hynny'n gwbl gywir, onid yw, Drefnydd? Oherwydd, ers dechrau datganoli democrataidd, drwy etholiad neu refferenda, mae pobl Cymru wedi pleidleisio dro ar ôl tro i gynyddu pwerau deddfu’r Senedd. Mae’r union egwyddor a sefydlwyd drwy ddulliau democrataidd yn cael ei thanseilio gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan. Mae’r Siambr hon yn cael ei thanseilio. Mae dirmyg Prif Weinidog y DU tuag at reolaeth y gyfraith yn llawn cymaint â thuag at ddatganoli yn yr achos hwn.

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio sawl tro y gallai proses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol danseilio’r lle hwn. Rwy’n mawr obeithio y bydd y Siambr hon yn dechrau cydnabod y diystyrwch amlwg hwn tuag at ein Siambr yma, wrth i Lywodraeth San Steffan danseilio deddfwriaeth sylfaenol Cymru drwy eu deddfwriaeth eu hunain. Mae'r amser ar gyfer llythyrau llym, yr amser ar gyfer cynddaredd, wedi dod i ben. Mae arnom angen gweithredu. I fenthyg ymadrodd gan y rheini sydd wedi gorfod ymladd dros eu rhyddid democrataidd, mae bellach yn bryd gweithredu, nid siarad. Felly, Drefnydd, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymateb i’r weithred warthus a dinistriol hon? Diolch yn fawr.

Wel, nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedoch chi, ac rydych yn llygad eich lle, nid dyma'r tro cyntaf. Mae wedi digwydd o'r blaen, a chredaf, unwaith eto, pan fo wedi digwydd o'r blaen, pan wnaethant orymestyn yn gyfansoddiadol, ac maent wedi gwneud hynny, nid ydym wedi bod yn brin o ddewrder, ac rydym yn sicr wedi eu herio ar bob cyfle. Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth y DU wedi cymryd unrhyw gamau uniongyrchol, felly nid oes unrhyw beth i fynd i'r afael ag ef ar y funud. Ond yn amlwg, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cael trafodaethau gyda chyfreithwyr a phartneriaid perthnasol eraill, ac os neu pan fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu'n uniongyrchol, yn amlwg, byddai cyfreithwyr Llywodraeth Cymru yn barod i ymateb. Credaf fod agwedd Llywodraeth y DU tuag at undebau llafur, yn amlwg, yn hynod wrthwynebus, ac mae ei dull o weithredu yn dangos difaterwch llwyr ynghylch hawliau gweithwyr. Ond yn bennaf, rwy'n credu mai'r hyn sydd mor haerllug ar hyn o bryd yw'r amarch tuag at ddatganoli a thuag at ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan y Senedd hon.

15:05

Lywydd, yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, daeth y Torïaid i gymunedau fel fy un i yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac addo codi'r gwastad; gwnaethant addo gwneud bywydau'n well. Ac roedd ensyniad clir yn hynny, sef: os gwnewch chi bleidleisio dros y Ceidwadwyr, bydd gennych fwy o arian yn eich pocedi a mwy o gyfleoedd i chi a'r plant. Ond mae hynny ymhell o fod yn realiti, onid yw? Oherwydd, yr wythnos hon, gwelsom realiti llwm yr hyn y mae Llywodraeth Geidwadol yn ei gynnig i bobl sy’n gweithio.

Ddwy flynedd yn ôl, Weinidog, buont yn sefyll ac yn curo dwylo dros weithwyr allweddol. Yn y pen draw, daeth i'r amlwg mai gweithred ddisylwedd oedd y gymeradwyaeth hon a'u hagenda i godi'r gwastad, fel y'i gelwir. Y gwir amdani yw eu bod yn chwerthin am ein pennau. Maent yn ceisio diddymu pwerau Llywodraeth Cymru yn unswydd er mwyn cyfyngu ar gyflogau gweithwyr a thanseilio eu telerau ac amodau. Mae hynny nid yn unig yn amharchu ac yn tanseilio’r sefydliad hwn a etholwyd yn ddemocrataidd, mae’n amharchu ac yn tanseilio gweithwyr Cymru a’u teuluoedd hefyd.

Weinidog, a wnewch chi gyfleu'r neges i Lywodraeth Geidwadol y DU fod cymunedau fel fy un i, a’r cymunedau hynny ledled Cymru, yn gandryll? Ac a wnewch chi gyfleu'r neges iddynt, a rhannu ein dicter â Llywodraeth y DU? Ac os ydynt yn cymryd camau i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon, a wnewch chi amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthsefyll y newid hwn ar ran gweithwyr Cymru? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych chi hefyd yn cytuno â mi—a dywedaf hyn, Lywydd, fel undebwr llafur balch—mai'r ffordd i bobl sy'n gweithio amddiffyn eu safonau byw yw drwy ymuno ag undeb llafur?

Ie, yn hollol. Cytunaf â’ch pwynt olaf. Mae’n bwynt pwysig iawn. Unwaith eto, nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd Jack Sargeant. Credaf fod codi'r gwastad—. Sut yn y byd y gall hyn fod yn godi'r gwastad? Mae'n gwbl warthus, yr ymosodiad hwn ar ein datganoli unwaith eto. Amlinellais, yn fy ateb gwreiddiol, yr hyn y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud ar hyn o bryd, a beth fydd yn digwydd os bydd, neu pan fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu'n uniongyrchol, a bydd cyfreithwyr Llywodraeth Cymru, fel y dywedaf, yn barod i ymateb, os bydd hynny'n digwydd. Credaf fod hyn yn enghraifft arall—mae Llywodraeth y DU wedi dangos difaterwch llwyr ynghylch confensiwn Sewel—o'r rheswm pam fod gwir angen diwygio’r setliad datganoli presennol, a pham ein bod wedi sefydlu’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i ystyried ffyrdd o gryfhau’r setliad presennol, ac mae’n ddigon posibl fod hwn yn faes y byddent yn dymuno ei archwilio, ond wrth gwrs, mater iddynt hwy fyddai hynny.

Rwy’n siarad fel rhywun sy’n cefnogi datganoli’n gryf, ac rwy’n falch iawn fod pwerau wedi’u datganoli i ddinasoedd mawr Lloegr. Ond a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi nad yw datganoli anghymesur yn gweithio, fod uchafiaeth San Steffan yn golygu y gall ddiystyru cyfraith Cymru yn ogystal ag ymyrryd â chyfraith Cymru, fod arnom angen setliad datganoli yr ydym yn cytuno arno, gyda model cadw pwerau priodol, yn hytrach na'r model cadw pwerau sydd gennym ar hyn o bryd, sydd ag ychydig iawn yn gyffredin â model cadw pwerau, ac yn olaf, fod arnom angen 'devo max'?

Credaf fod yr hyn y mae Mike Hedges wedi’i ddweud ynglŷn ag uchafiaeth, mewn perthynas â Llywodraeth y DU, yn amlwg yn bwysig iawn. Ac af yn ôl at fy ateb i Jack Sargeant—dyna pam ein bod wedi sefydlu’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gall hwnnw edrych yn fanwl iawn ar yr awgrymiadau a oedd gan Mike Hedges, i weld a allem gryfhau’r setliad presennol.

Nid oeddwn wedi bwriadu codi, ond cofiaf, o ohebiaeth â’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mai ar gyfer heddiw y trefnwyd ail gyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, ac un o’r eitemau—un o’r ddwy eitem—a oedd wedi'u hamserlennu, a diolchwn i'r Gweinidogion am eu tryloywder gyda'r Senedd ar hyn, oedd cysylltiadau rhynglywodraethol y DU yn wir. A gawn ni gymryd—credaf efallai fod hwnnw'n mynd rhagddo wrth inni siarad yma nawr—a gawn ni gymryd bod y materion hyn yn cael eu cyflwyno i’w trafod y prynhawn yma? Oherwydd dyna'r fforwm a ddylai fod yn datrys y materion hyn cyn iddynt ddod yn destun heriau cyfreithiol?

15:10

Mae’r cyfarfod hwnnw'n mynd rhagddo, yn wir. Yn amlwg, nid wyf yn y cyfarfod hwnnw; dyna pam fy mod yn y Siambr yn ateb y cwestiwn hwn. Ond credaf y gallwn ddweud gyda rhywfaint o sicrwydd, rwy’n siŵr, y bydd y Cwnsler Cyffredinol neu’r Prif Weinidog, neu bwy bynnag sy’n bresennol yn y cyfarfod hwnnw, yn codi hynny, yn wir.

Credaf mai'r un pwynt arall yr hoffwn ei wneud, ar ôl ymchwilio i hyn yn llawer manylach bellach, yw bod Llywodraeth y DU, yn fy marn i, yn llawer gwannach am na wnaeth herio bum mlynedd yn ôl, yn ystod y cyfnod hysbysu. Ac mae gwneud hyn yn sydyn—ei sleifio allan fel y gwnaethant—unwaith eto, yn ymosodiad haerllug yn fy marn i.

Diolch i'r Trefnydd. Mae'r cwestiwn nesaf, felly, i'w ateb gan y Gweinidog iechyd, a'r cwestiwn i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies. 

Gwasanaethau Gofal Llygaid

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhybudd gan Dr Gwyn Williams o Goleg Brenhinol yr Ophthalmolegwyr, y gallai ton o ddallineb diangen ledaenu drwy Gymru os na chaiff gwasanaethau gofal llygaid eu diwygio? TQ647

Diolch yn fawr. Lywydd, mae Gwyn Williams, ein harweinydd clinigol ar offthalmoleg, ynghyd â Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r strategaeth gofal llygaid yr ydym yn ei chyflawni erbyn hyn. Dros y 12 mis diwethaf, mae gwasanaethau gofal llygaid wedi cyflwyno llawer o ddatblygiadau arloesol i sicrhau bod cleifion sydd mewn perygl o golli eu golwg yn cael eu gweld a’u trin.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae’r amseroedd aros yn ofnadwy ar gyfer triniaethau llygaid yn unrhyw le yng Nghymru. Ac mae anawsterau ledled y Deyrnas Unedig; rwy'n derbyn hynny, Weinidog. Mae Dr Williams yn tynnu sylw at dri phwynt sydd, yn ei farn ef, yn dangos bod angen ymyrraeth ddramatig ar ran y Llywodraeth, gan weithio gyda'r byrddau iechyd. Y cyntaf, yn amlwg, yw newid arferion gwaith a defnyddio sylfaen ehangach o weithwyr proffesiynol i ymdrin â gwasanaethau gofal llygaid; yr ail yw recriwtio pobl i'r gwasanaeth i gynyddu capasiti'r gwasanaeth; a'r trydydd yw creu tair canolfan ragoriaeth gofal llygaid ledled Cymru ac edrych ar yr hyn y gall optometryddion ei wneud yn eu lleoliadau ar y stryd fawr i wella lefel y gwasanaeth a allai fod ar gael i bobl â chyflyrau llygaid.

Rwy'n awgrymu na fyddai unrhyw beth yn waeth na cholli eich golwg dros gyfnod penodol o amser, pan wyddoch y gallai ymyrraeth atal y dirywiad hwnnw yn eich golwg, a'ch atal rhag mynd i mewn i fyd o dywyllwch. Pa mor hyderus ydych chi, Weinidog, y bydd y cynllun a roesoch ar waith yn bodloni’r tri amcan y mae Dr Williams wedi’u nodi fel rhai hollbwysig os ydym am ehangu’r gwasanaeth yma yng Nghymru, ac na fyddwn yma ymhen 12 mis yn dal i ddadlau, yn dal i drafod amseroedd aros hirfaith ar gyfer triniaeth gofal llygaid yng Nghymru, gyda llawer o bobl, yn anffodus, yn colli eu golwg a'r tywyllwch yn llenwi eu bywydau?

Diolch yn fawr, Andrew. Rwy’n gwbl ymwybodol o’r ffaith bod yna rai achosion lle mae'n rhaid inni symud yn gyflym, ac mae hwn yn un ohonynt, a dyna pam ein bod wedi gofyn i glinigwyr drefnu blaenoriaethau, rhoi pobl mewn categorïau fel ein bod yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf o angen yr help mwyaf yn gynt na neb arall. Wrth gwrs, yr hyn a wnawn yw rhoi argymhellion adroddiad Pyott ar waith, ac mae un o’r rheini’n cael ei weithredu ar hyn o bryd. Felly, mae gennym ddwy theatr lawfeddygol symudol newydd yn benodol ar gyfer triniaeth cataractau. Maent ar waith yng Nghaerdydd a’r Fro, a chawsant eu hariannu gan £1.4 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Ar arferion gwaith, rydym yn awyddus i newid y rheolau. Felly, mae’r rheolau ar hyn o bryd yn dweud mai dim ond archwilio golwg pobl y gall optometryddion ar y stryd fawr, er enghraifft, ei wneud, ond mae eu sgiliau’n mynd ymhell y tu hwnt i hynny, ac mae angen inni newid y rheolau i ganiatáu iddynt wneud hynny. Felly, nid yw’r broses o newid y rheolau mor syml ag y mae'n ymddangos, ond rydym yn y broses o weld pa mor bell a pha mor gyflym y gallwn wneud hynny.

Ar recriwtio, wrth gwrs, rydym yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru  mewn perthynas ag arbenigo a sicrhau bod gennym y bobl iawn i wneud y pethau iawn yn y lle iawn. Ac yn sicr, o ran y stryd fawr, rydym yn awyddus iawn i sicrhau eu bod yn rhan o'r ateb i'r broblem hon.

Ers 2018, y polisi yng Nghymru ydy bod gofal llygaid a'r math o ofal sy'n cael ei gynnig yn seiliedig ar y lefel o risg. Mi oedd yn arloesol yn hynny o beth, efo cleifion i gael eu gweld yn ôl faint o risg maen nhw'n ei wynebu. Ac mae'r ffactor risg uchaf ar gyfer y rheini sy'n wynebu'r risg o newid di droi nôl, neu irreversible harm. Ac i bobl sydd â problem efo'u golwg, mae hynny yn golygu risg o golli eu golwg. Rŵan, er mwyn i system fel yna weithio, mae'n rhaid i bobl gael eu gweld o fewn amser penodedig. Mae mor syml â hynny, a dyna pam bod y targed yn nodi bod angen i 95 y cant o gleifion gael eu gweld o fewn yr amser hwnnw. Mi ddylai fod yn 100 y cant, am wn i, ond mae 95 y cant yn ystadegol yn eithaf agos ati. Ond rŵan rydyn ni'n clywed bod 65,000 o bobl ddim yn cael eu gweld o fewn yr amser penodedig: 65,000 o bobl yn wynebu colli eu golwg.

Mi wnes i dynnu sylw at hyn yng nghanol misoedd tywyll y pandemig ym mis Chwefror y llynedd, yn poeni am effaith y pandemig, ond rŵan ein bod ni'n symud allan, gobeithio, o'r pandemig, mae'r problemau yn dwysáu. Mae'n ddigon drwg pan fydd pobl yn aros mewn poen am driniaeth orthopedig, o bosibl, ond rydyn ni yn sôn fan hyn, fel dwi'n dweud, am bobl sy'n colli eu golwg. 

Rydyn ni wedi clywed am yr NHS yn dechrau cael targedau newydd ôl COVID, felly, Llywydd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog yn syml iawn pa bryd fydd hi'n ymrwymo nid i leihau faint o bobl sy'n aros yn hirach nag y dylen nhw, ond i gael gwared ar yr amseroedd aros yma'n llwyr? Does yna ddim pwynt i chi gael system sy'n seiliedig ar fesur risg os ydych chi wedyn yn gadael degau o filoedd o bobl yn agored i'r lefel uchaf posibl o risg.

15:15

Diolch. Fel rŷch chi'n ymwybodol, roeddwn i'n falch o weld, am y tro cyntaf, bod rheini sydd wedi aros am ddwy flynedd a hirach, bod y rhestrau hynny yn dod i lawr am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig. Felly, rŷn ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir, ond, wrth gwrs, nid yw'n ddigon cyflym. Ond mae'n rhaid i chi gofio o ran y ffigurau rydyn ni'n delio â nhw ar hyn o bryd, mi ddaethon ni mas â'n cynllun ni ym mis Ebrill, a ffigurau mis Ebrill sydd gyda ni. Felly, mae e'n cymryd amser i roi systemau mewn lle, a beth sydd gyda ni nawr, er enghraifft, yw'r NHS Wales university eye-care centre. Maen nhw yn datblygu gweithlu sydd yn gallu rhoi'r gofal soffistigedig yna, ac sydd yn rhoi'r cyfleoedd yna i optometrists ar draws Cymru i weithio. 

Felly, dwi'n falch o weld bod y strwythurau yna o ran risg mewn lle, ond beth rŷm ni'n ceisio ei wneud nawr yw i fynd trwy pobl cyn gyflymed â phosibl, a dyna pam mae'n bwysig cael y llefydd yma sy'n sefyll ar wahân ac ar eu pennau eu hunain, a fydd ddim yn cael eu cnocio allan am resymau fel urgent care ac ati. Beth rŷm ni'n debygol o weld yw bod y rhestrau hynny yn dod i lawr lot yn gyflymach nag rŷm ni wedi'i weld yn y gorffennol. Os ydych yn edrych, er enghraifft, ar Abertawe, mae'r modular theatre newydd yna. Rŷm ni'n gobeithio gweld tua 200 o operations y mis yn ychwanegol i beth oedd yn digwydd cyn hynny.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ond nid yw Vikki Howells yma ar gyfer cyflwyno'r datganiad yn ei henw hi.

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus—Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

Ac felly, dwi'n mynd i orfod mynd ymlaen i eitem 5, sef y datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus i wneud y datganiad yma. Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, a diolch am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw, Lywydd.

Efallai y bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod oedi sylweddol wedi bod cyn cymeradwyo cyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. I roi hynny yn ei gyd-destun, byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol fel arfer yn gwneud gwaith craffu manwl ar y cyfrifon hyn yn flynyddol yn ystod tymor yr hydref, ac roeddem wedi gobeithio parhau â hyn yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystod y tymor hwn. I roi rhywfaint o gyd-destun, fel y dywedais, mae hyn wedi digwydd erioed.

Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wybod yn anffurfiol yr haf diwethaf gan Lywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru efallai y byddai cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn hwyrach na'r arfer yn cael eu cwblhau. Dywedwyd wrthym fod yr oedi'n deillio o'r gwaith ychwanegol a oedd yn cael ei wneud gan Archwilio Cymru ar grantiau cymorth i fusnes a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Roeddem yn deall bod hwn yn fater cymhleth yr oedd angen ei adolygu a’i drafod ymhellach rhwng yr archwilydd cyffredinol a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ar y pryd, roeddem yn disgwyl i’r cyfrifon gael eu cwblhau erbyn mis Tachwedd 2021 fan bellaf, a oedd o fewn yr amserlen statudol ar gyfer gwneud hynny. Ie, 'statudol'; mae hwn yn fater sydd wedi'i rwymo mewn cyfraith. Tua diwedd mis Tachwedd, cawsom wybod y byddai oedi pellach, pan oedd angen i Lywodraeth Cymru roi gwybod i Archwilio Cymru am ddigwyddiad ôl-fantolen posibl er mwyn sicrhau tryloywder llawn.

Ar y pryd, ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru atom hefyd, gan gadarnhau’r oedi pellach hwn a datgan ei fod wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth iddo erbyn dechrau mis Ionawr 2022. Derbyniwyd hyn gan y pwyllgor, a gwnaethom gytuno i aros am ganlyniad y gwaith pellach hwn, gan barchu'r broses archwilio angenrheidiol. Rydym yn gwerthfawrogi rôl a gwaith Archwilio Cymru yn sicrhau y cedwir at y safonau adrodd ariannol gorau ac na ddylai’r gwaith hwn gael ei danseilio, ei ruthro na’i lyffetheirio. Mae'r archwilydd cyffredinol wedi'i rwymo gan ddyletswyddau i sicrhau bod y prosesau archwilio priodol ar waith.

Mae'n rhaid imi bwysleisio na allwn drafod y rheswm penodol dros yr oedi. Hyd nes y caiff y cyfrifon eu cymeradwyo, ni allwn drafod hyn, gan nad yw'n wybodaeth gyhoeddus, ac yn ôl yr hyn a ddeallwn, gallai fod yn destun achos cyfreithiol hyd yn oed. Hoffwn gofnodi hefyd, er bod y cyfrifon wedi’u gohirio, fod y pwyllgor wedi bod yn derbyn diweddariadau preifat rheolaidd ar y cynnydd a wnaed yn cwblhau’r cyfrifon. Mae’r diweddariadau hyn wedi’u darparu gan yr archwilydd cyffredinol a Llywodraeth Cymru, gan alluogi’r pwyllgor i fonitro’r sefyllfa.

Fodd bynnag, ym mis Chwefror eleni, pan oedd y cyfrifon yn dal i fod heb eu cwblhau, ysgrifennais at y Llywydd, yn mynegi fy mhryder ynghylch yr oedi. Roedd y pwyllgor yn dod yn fwyfwy pryderus am ei allu i graffu ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion pwysig hyn. Mae'r oedi hwn wedi arwain at fethu terfynau amser statudol ar gyfer adrodd ariannol. Ac o ystyried ein bod yn cyfeirio at gyfrifon Llywodraeth, mae'n bwysig fod y mater hwn a phryderon y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cael eu cofnodi'n gyhoeddus a'u codi yn y Siambr hon i sicrhau bod y Senedd ehangach yn ymwybodol o'r mater. Hoffwn pe bai mwy o'r Aelodau'n deall hynny a phe byddent wedi dod i'r sesiwn fer hon er mwyn elwa ohoni.

Mae adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth gyflwyno ei chyfrifon i’r archwilydd cyffredinol i’w harchwilio erbyn 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol ganlynol—h.y. mis Ebrill i fis Mawrth. Yna, mae’n ofynnol i’r archwilydd cyffredinol gyflwyno ei archwiliad ac ardystiad o’r cyfrifon hynny gerbron y Senedd o fewn pedwar mis i dderbyn set archwiliadwy o gyfrifon. Mae hyn yn statudol, ac wedi’i ymgorffori mewn deddfwriaeth, ac eto, dyma ni ym mis Mehefin, heb unrhyw arwydd clir o hyd ynglŷn â pha bryd y caiff y cyfrifon hyn eu cyflwyno.

Diben y terfynau amser hyn yw sicrhau y gall atebolrwydd cyhoeddus, craffu ac adrodd i Drysorlys Ei Mawrhydi ddigwydd o fewn cyfnod rhesymol o amser. Mae gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus swyddogaeth ddifrifol i'w chyflawni yn craffu ar y cyfrifon hyn gan eu bod yn adrodd ar y swm mwyaf o wariant cyhoeddus gan unrhyw gorff cyhoeddus yng Nghymru. Ac mae amseriad ein gwaith craffu wedi'i gynllunio i sicrhau bod ein gwaith yn berthnasol ac yn gallu dylanwadu ar yr adroddiadau ariannol yn y flwyddyn ganlynol. Mae'r oedi cyn cymeradwyo'r cyfrifon hyn wedi tanseilio ein gallu i wneud hynny.

Serch hynny, er bod y terfyn amser statudol hwn bellach wedi’i fethu, nid oes unrhyw fesurau diogelu yn y broses sy’n atal hyn, ac mae hynny felly'n llesteirio'r gwaith craffu. Rydym yn pryderu ynghylch y diffyg camau unioni yn sgil methu terfynau amser, ac nid ydym am i hyn fod yn gynsail ar gyfer y dyfodol. Mewn gwirionedd, nid yw’r prosesau sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru yn gymaradwy â darpariaethau a nodir mewn deddfau eraill ar gyfer cyfrifon eraill yn y sector cyhoeddus.

Er enghraifft, mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn nodi bod yn rhaid i gorff llais y dinesydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gyflwyno ei gyfrifon i Lywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru erbyn 31 Awst fan bellaf. Fodd bynnag, os na all yr archwilydd cyffredinol osod y cyfrifon hyn gerbron y Senedd am nad yw’n rhesymol yn ymarferol i wneud hynny, y gwahaniaeth allweddol yw bod rhaid gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw, ac mae’n rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys y rhesymau pam.

Mae’r ddeddf hon, fel Deddf Llywodraeth Cymru, yn cydnabod na ellir cydymffurfio â’r amserlen o bedwar mis bob amser, ond os bydd sefyllfa o’r fath yn codi, fod yn rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi gwybod i’r Senedd am y sefyllfa yn gyhoeddus ac yn ffurfiol. Bydd y pwyllgor yn edrych yn agosach ar y prosesau hyn maes o law, i weld a ellir gwneud newidiadau er mwyn cysoni adroddiadau ariannol Llywodraeth Cymru â’r disgwyliadau a osodir ar gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Hoffwn gofnodi hefyd fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus o ddifrif ynghylch y materion hyn, ac na fyddwn yn rhuthro nac yn ildio i bwysau i leihau ein gwaith craffu ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyhoeddi.

Rhagwelwn y bydd y rhain yn gyfres fwy cymhleth o gyfrifon, gyda nifer o faterion pwysig, y bydd angen amser arnom i graffu’n fanwl arnynt yn gyhoeddus. Rydym yn ymwybodol iawn y bydd y cyfrifon hyn yn cynnwys gwariant cyhoeddus sylweddol yn sgil y pandemig, sy’n fater o ddiddordeb i’r cyhoedd. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud y gwaith hwn, yn cyflawni ein rôl yn y cylch atebolrwydd ariannol, ac yn ennyn hyder y cyhoedd ein bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ei gwariant. Gobeithiwn y gallwn edrych ymlaen at allu gwneud y gwaith hwn yn nhymor yr hydref yn unol â hynny. Diolch yn fawr.

15:25

Diolch, Mark Isherwood, am wneud y datganiad hwn yn y Senedd heddiw. Credaf ei bod yn bwysig fod materion o’r fath yn cael eu trafod yn gyhoeddus gerbron y Senedd. Mae’r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wedi craffu ar gyfrifon nifer o wahanol sefydliadau cyhoeddus yn flynyddol ers blynyddoedd lawer. Mae'r gwaith yn bwysig iawn, er nad yw fel arfer yn hawlio sylw'r penawdau. Mae'r gwaith hwn wedi arwain at welliannau o flwyddyn i flwyddyn yng nghyflwyniad a hygyrchedd cyfrifon ac adroddiadau blynyddol y cyrff cyhoeddus sydd wedi ymddangos gerbron y pwyllgor. Bu problemau yn y gorffennol gyda chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, nad wyf am fanylu arnynt yma ond sydd ar gael i'r cyhoedd, ac mae’r rhain hefyd wedi’u hadrodd i’r Senedd.

Mae’r pwyllgor yn craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae’r pwyllgor wedi canfod bod y gwaith hwn wedi bod yn bwysig er mwyn annog adroddiadau ariannol tryloyw, ar ôl nodi materion a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau. I'ch atgoffa: rydym yn trafod cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r cyfrifon wedi’u cymeradwyo a’u gosod o fewn yr amserlen statudol ar gyfer gwneud hynny, yn gynnar fel arfer. Mae’r terfyn amser statudol ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol wedi’i fethu, ac fel y dywedodd Mark Isherwood, mae adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth gyflwyno eu cyfrifon i’r archwilydd cyffredinol i’w harchwilio erbyn 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol ganlynol. Dylai’r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus fod wedi cymeradwyo’r adroddiad, naill ai ar ddiwedd tymor yr hydref neu ym mis Ionawr.

I'ch atgoffa: mae'r cyfrifon hyn yn cael eu cynhyrchu gan weision sifil y Llywodraeth heb unrhyw ymwneud gwleidyddol. Rwy'n siŵr fod pawb yn falch nad oes unrhyw ymyrraeth wleidyddol wrth gynhyrchu'r cyfrifon hyn. Mater gweinyddol yw hwn yn gyfan gwbl.

Tri chwestiwn i chi, Mark Isherwood. Pryd fydd y pwyllgor yn cynnal ei waith craffu ar gyfrifon 2021? A oes angen rhagor o wybodaeth eto ar yr archwilydd cyffredinol gan weision sifil Llywodraeth Cymru? A sut y bydd yr oedi hwn yn effeithio ar yr archwiliad o gyfrifon 2021-22?

Diolch, Mike Hedges, aelod gwerthfawr o'r pwyllgor, sydd wrth gwrs wedi bod yn rhan o'r ymgais i graffu ar y mater pwysig hwn hyd yma. Fel y nodais, ac fel y gwyddoch o'ch amser ar y pwyllgor, rydym yn gobeithio gallu craffu ar hyn yn yr hydref, ac rydym yn gobeithio y bydd y cyfrifon wedi’u cwblhau erbyn hynny, wedi'u gosod yn gywir, gyda'r holl gwestiynau a oedd heb eu hateb yn cael eu hateb yn briodol i'r archwilydd cyffredinol, a gallwn fynd ati o'r diwedd i gyflawni ein rôl yn hyn o beth. Fel y nodwyd, mae’r pryder, wrth gwrs, yn ymwneud nid yn unig â’r oedi, lle byddwn flwyddyn ar ei hôl hi eisoes erbyn mis Tachwedd eleni, ond anallu gwersi a ddysgwyd o’n gwaith craffu ar y cyfrifon hyn i ddylanwadu ar y set nesaf o gyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru, sy’n prysur agosáu, ac ni fyddant mewn sefyllfa i elwa ar y gwaith a wnaethom.

Edrychaf ymlaen at eistedd wrth y bwrdd gyda chi—yn yr hydref gobeithio—a chael ein dannedd i mewn i hyn, gan ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ôl yr angen, yn dibynnu ar gasgliad y cyfrifon hyn, ond hefyd i geisio dylanwadu yn ôl-weithredol mewn unrhyw ffordd a allwn ar y cyfrifon yn y flwyddyn ganlynol lle mae'r rhain yn berthnasol i'r un materion neu faterion cysylltiedig.

15:30

Diolch ichi am roi'r cyfle imi siarad am hyn. Nid wyf ond wedi bod yn Aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ers blwyddyn, ac mae'n amlwg i mi fod llawer o safonau dwbl yn bodoli yma, gwaetha'r modd. Mae'n ymddangos fy mod yn ei dweud hi fel y mae heddiw ac mae'n ymddangos mai dyma'r thema, felly waeth i mi barhau. Mae cyhoeddi'r cyfrifon blynyddol wedi'i ohirio oherwydd taliad mawr gan Lywodraeth Cymru; mae mor syml â hynny. Mynegais bryderon yn flaenorol a dywedais yn union yr un geiriau mewn datganiad busnes yma yn y Siambr hon ar 18 Ionawr 2022 am yr oedi, sydd, yn fy marn i, wedi llesteirio gwaith y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus yn craffu ar Lywodraeth Cymru a'i dwyn i gyfrif.

Fel gwlad, bob blwyddyn, mae'n rhaid i unigolion a busnesau di-rif ledled y DU gyflwyno eu ffurflenni'n gyfreithiol i CThEM a Thŷ'r Cwmnïau, neu wynebu dirwy am yr oedi. Nid oes neb yn hoffi cael dirwy, gan fy nghynnwys i a llawer o fy etholwyr yn y de-ddwyrain, a ledled Cymru rwy'n siŵr, ac yn gwbl onest, rwyf wedi fy syfrdanu gan yr oedi yma yn Llywodraeth Cymru, a chan ddiffyg embaras Llywodraeth Cymru am hyn. Hoffwn dalu teyrnged ddiffuant i fy nghyd-Aelod dysgedig, Mike Hedges, sydd, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, wedi holi'n ofer am y diweddariadau i'r cyfrifon. Rhaid imi hefyd ganmol yr archwilydd cyffredinol a'i dîm am ei amynedd gyda'r mater hwn. Mewn byd lle nad yw ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddion yn ffafriol iawn, hoffwn ofyn i Gadeirydd y pwyllgor: Mark, a ydych yn rhannu fy mhryder na fydd oedi parhaus diangen ond yn gwaethygu canfyddiad y cyhoedd o wleidyddion? Mae Llywodraeth ddatganoledig Cymru yn fy siomi'n fawr, gan fy mod yn disgwyl i sefydliad gwleidyddol ddangos llawer mwy o barch at derfynau amser drwy lynu wrthynt.

Fy ail gwestiwn i chi, Mark, fydd: a ydych yn cytuno, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, fod Llywodraeth Cymru yn siomi ei Haelodau'n systematig, a'r cyhoedd hefyd bellach, oherwydd y diffyg tryloywder, proffesiynoldeb ac uniondeb yn ystod yr oedi hwn, ac nad yw'n ymddangos y bydd unrhyw oleuni ar ben draw'r twnnel hir hwn? Diolch yn fawr iawn.

Cytunaf yn llwyr â'r pwynt cyntaf. Efallai na ddylwn wneud sylw ar yr ail bwynt o gofio fy mod yn siarad fel Cadeirydd pwyllgor. Byddwn yn craffu ar y cyfrifon hyn yn y dyfodol. Ond rwy'n deall eich neges gyffredinol a sail eich pryder, oherwydd fel y clywsom, dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r cyfrifon wedi'u llofnodi a'u gosod o fewn yr amserlen statudol ar gyfer gwneud hynny, a'r tro hwn, mae'r amserlen statudol honno wedi'i thorri. Mae hwnnw'n fater difrifol ac mae'n ffodus ac yn hanfodol fod gennym bwyllgorau fel y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cadw llygad ar hyn, a swyddfa fel Archwilio Cymru, a rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gweithredu'n ddiduedd ond yn hanfodol ac yn ddygn mewn materion o'r fath i sicrhau bod eu rôl yn cael ei chyflawni'n unol â'u cylch gwaith statudol. Felly, ydw, rwy'n credu y gallwch gymryd hynny fel arwydd fy mod yn cytuno â'r pwynt cyntaf, ond fy mod efallai'n osgoi ymateb i'r ail yn ddiplomyddol. Diolch.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—'Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru'

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Russell George.

Cynnig NDM8039 Russell George

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ‘Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch y prynhawn yma ein bod yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn fy enw i.

Yr hyn sy'n bwysig i'w ddweud yw bod pobl eisoes yn aros yn llawer rhy hir am ddiagnosis, gofal a thriniaeth cyn y pandemig. Wrth gwrs, mae COVID wedi gwneud y sefyllfa'n waeth ar draws pob arbenigedd a phob cam o lwybrau cleifion. Dywedir yn aml fod yr hyn sy'n cyfateb i un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros am ddiagnosis neu driniaeth. Y tu ôl i'r niferoedd hynny wrth gwrs mae unigolion y mae oedi cyn cael diagnosis neu ofal yn effeithio ar eu bywydau bob dydd ac o bosibl bywydau eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u gofalwyr. Ochr yn ochr â thystiolaeth ysgrifenedig a llafar, roedd yr astudiaethau achos pwerus a gasglwyd gan dîm ymgysylltu'r Senedd yn dangos profiadau pobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth eu hunain, neu ar gyfer rhywun y maent yn gofalu amdanynt, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a oedd yn barod i rannu eu profiadau gyda ni fel pwyllgor.

15:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Clywsom am bobl sydd mewn poen, anesmwythder neu sy'n profi pryder. A chlywsom am bobl y mae eu hanghenion yn mynd yn fwy cymhleth, sy'n rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd ac ar ofalwyr di-dâl, y gallai fod gofyn iddynt ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu mwy cymhleth. Clywsom hefyd am bobl sy'n llai abl i weithio, astudio neu ymgymryd â'u cyfrifoldebau gofalu arferol, ac y mae eu costau byw wedi cynyddu, wrth gwrs, o ganlyniad i'w cyflwr. Clywsom hefyd am y pwysau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd, a chan y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, wrth iddynt fynd i'r afael â'r pandemig a'r ôl-groniad o ran amseroedd aros. Ac wrth gwrs, rydym yn diolch i'r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr, am yr holl waith y maent wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud. Heb weithlu cynaliadwy, ymgysylltiedig ac wedi'i gefnogi—rhaid inni gofio bod y gweithlu'n llawer ehangach na meddygon a nyrsys yn unig—ni fyddwn yn gallu sicrhau'r trawsnewidiad y mae angen inni ei weld yn ein gwasanaethau iechyd a gofal. 

Roedd ein hadroddiad yn canolbwyntio ar effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros, a'r hyn y gellir ei wneud i helpu pobl i aros yn iach. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 26 o'n hargymhellion yn llawn, a'r un argymhelliad sy'n weddill mewn egwyddor. Y cyfrwng i fynd i'r afael â llawer o'n hargymhellion yw cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi casglu barn ysgrifenedig ar y cynllun, ac yn gynharach heddiw, mewn gwirionedd, cyfarfuom ni fel pwyllgor, fel Aelodau, â rhanddeiliaid yma yn y Senedd. Mae rhanddeiliaid yn croesawu'r cynllun yn gyffredinol; maent eisiau ei weld yn llwyddo, fel rwyf innau, wrth gwrs, ond mae ganddynt bryderon hefyd ynglŷn ag a yw'r cynllun yn ddigon manwl, a yw'n darparu gweledigaeth ddigon clir ar gyfer trawsnewid ein gwasanaethau iechyd, ac a oes digon o gapasiti i'w gyflawni. Ac mae honno'n neges allweddol, mewn gwirionedd, gan y grŵp o randdeiliaid y siaradais â hwy y bore yma. Y neges allweddol oedd bod y cynllun yn wych, mae'r cynllun yn uchelgeisiol, ond roeddent yn pryderu nad oes digon o gapasiti i gyflawni'r cynllun. 

Fe wyddom i gyd y bydd yn cymryd amser i leihau amseroedd aros. Mae Archwilio Cymru, yn ei adroddiad diweddar ar ofal wedi'i gynllunio, yn amcangyfrif y gallai gymryd saith mlynedd neu fwy i restrau aros ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Mae'n hanfodol, felly, fod pobl yn cael eu cefnogi i aros yn iach. Mae hynny'n rhan o argymhelliad 1. Felly, rydym yn croesawu'r ffaith bod cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i wella'r wybodaeth a'r cymorth sydd ar gael i bobl wrth iddynt aros am ddiagnosis a gofal.

Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu'r datblygiadau megis yr ymrwymiad i wella cyfathrebu â chleifion, a gafodd ei gyfleu'n arbennig y bore yma gan randdeiliaid hefyd, maent wedi dweud wrthym fod angen mwy o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer cyflawni, sut y caiff pŵer a phrofiad y trydydd sector eu harneisio a sut y caiff risgiau allgáu digidol eu rheoli. Bydd angen i rywfaint o wybodaeth a chyfathrebiadau gael eu personoli a'u haddasu i anghenion unigolion er mwyn sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth gywir ar gyfer eu hamgylchiadau. Clywais am brofiad brawychus y bore yma ynghylch sut y mae llythyr templed weithiau'n gorfod mynd drwy 20 cam cyn y cytunir arno yn y pen draw. Fodd bynnag, dywedodd rhanddeiliaid wrthym y bore yma y bydd angen amser, adnoddau ac arbenigedd er mwyn i gyfathrebu fod yn effeithiol ac yn hygyrch, a byddwn yn croesawu eglurhad pellach gan y Gweinidog ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael, a sut y caiff cydbwysedd ei sicrhau o ran cydgysylltu cenedlaethol er mwyn sicrhau bod negeseuon yn gyson ac i osgoi dyblygu.

Mae anghydraddoldebau iechyd yn flaenoriaeth allweddol i ni, a gofynnwyd i'r Gweinidog egluro sut y byddai cymorth yn cael ei dargedu at bobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Rydym yn croesawu'r awgrym bod grŵp cenedlaethol yn cael ei sefydlu i ddatblygu atebion i gefnogi poblogaethau lleol a nodi sut y bydd bylchau anghydraddoldeb mewn atal a gofal wedi'i gynllunio yn cael eu cau. Edrychwn ymlaen at glywed mwy am waith y grŵp pwysig hwn maes o law. Fodd bynnag, yn y cyfamser, mae rhanddeiliaid, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Meddygon, a Chymorth Canser Macmillan, wedi dweud wrthym eu bod yn pryderu nad oes gan gynllun Llywodraeth Cymru ddigon o fanylion ynglŷn â sut y bydd yn rhoi sylw i anghydraddoldebau iechyd ac yn mynd i'r afael â hwy. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud rhywbeth heddiw am waith y grŵp cenedlaethol a sut y bydd hwnnw'n llywio gweithrediad cynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio.

Mae ein hadroddiad yn galw am gyhoeddi data amseroedd aros yn rheolaidd, wedi'i ddadgyfuno yn ôl arbenigedd ac ysbyty. Roedd argaeledd, tryloywder a manylion data yn fater allweddol a godwyd gan randdeiliaid y bore yma. Fel ninnau, maent eisiau gweld mwy o fanylion am y mathau o driniaethau y mae pobl yn aros amdanynt, ac maent eisiau i'r data hwnnw gael ei ddadelfennu ymhellach. Derbyniodd y Gweinidog ein hargymhelliad, ond dywedodd ei bod yn dal i ystyried ei dull gweithredu, gan gynnwys pa wybodaeth fydd yn ddefnyddiol ac yn ystyrlon. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym hefyd fod angen gwell data am y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan ein rhybuddio y bore yma hefyd fod proffil oedran staff mewn rhai arbenigeddau ar ymyl y dibyn o ran capasiti'r gweithlu. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym y prynhawn yma am yr amserlenni ar gyfer gwella argaeledd data mewn perthynas ag amseroedd aros a'r gweithlu.

Bydd lleihau amseroedd aros yn galw am arweiniad a chyfeiriad cenedlaethol. Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym eu bod yn cefnogi uchelgais y cynllun yn gyffredinol, ond bod angen rhagor o fanylion am y trefniadau arwain a sut y caiff newid ei gyflawni, gan gynnwys sut y bydd partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector yn cael eu cynnwys. Mae'r materion allweddol a godwyd yn cynnwys rôl byrddau partneriaethau gweithredol a rhanbarthol newydd y GIG, a'r angen am fwy o eglurder ynghylch sut y caiff atebolrwydd cyffredinol am gyflawni ei rannu rhwng gwahanol raglenni cynllunio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, grwpiau prosiect a rhwydweithiau. Clywsom bryderon hefyd ynglŷn ag a yw'r cynllun yn gwneud digon i gydnabod effaith heriau ym maes gofal cymdeithasol.

Yn ei hymateb i argymhelliad 26, esboniodd y Gweinidog y byddai'n dwyn byrddau iechyd i gyfrif yn erbyn eu cynlluniau tymor canolig integredig, a bod cyfarwyddwr cenedlaethol newydd ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, gwelliant ac adferiad wedi'i benodi i weithio gyda'r GIG i sicrhau bod cynlluniau gwella lleol yn bodloni ymrwymiadau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu barn y Gweinidog y prynhawn yma ar awgrymiadau rhanddeiliaid y dylid gosod adroddiad cynnydd blynyddol gerbron y Senedd, a bod angen gwneud mwy i annog byrddau iechyd i gydweithio a chyflymu'r broses o ddatblygu modelau rhanbarthol.

Yn olaf, yn ein hadroddiad, buom yn archwilio'r gwahanol ffyrdd y mae'r ôl-groniad o ran amseroedd aros yn effeithio ar wahanol gyflyrau a gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol. Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym nad yw'n glir iddynt hwy a yw pob arbenigedd yn dod o dan gynllun Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae Cymru Versus Arthritis yn nodi nad yw'n glir fod orthopedeg wedi'i chynnwys, ac mae Mind Cymru wedi galw am eglurhad ar frys ynglŷn ag a yw'r targedau adfer yn berthnasol i wasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig gan fod oedi i'r set ddata graidd ar gyfer iechyd meddwl yn golygu nad oes amseroedd aros manwl ar gael ar gyfer llawer o wasanaethau iechyd meddwl. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro a yw orthopedeg a gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas y targedau adfer yng nghynllun Llywodraeth Cymru. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan Aelodau y prynhawn yma.

15:40

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'm cyd-aelodau o'r pwyllgor am gael cydweithio efo chi ar yr adroddiad yma? Diolch i'r tîm clercio a thîm cefnogi'r pwyllgor a'r tîm ymchwil, ac wrth gwrs i bawb wnaeth rannu efo ni fel pwyllgor eu profiadau nhw a'u harbenigedd nhw wrth inni drio deall yn well effaith aros yn hir am driniaeth. 

Rydyn ni mewn perygl ar hyn o bryd o dderbyn, bron iawn, mai aros yn hir mae pobl yn mynd i'w wneud am driniaeth. Mae'n endemig. Mae rhywun yn gallu mynd i feddwl ei fod o'n anochel, ond dydy o ddim. Ac mae'r adroddiad yma, dwi'n credu, yn ei gwneud hi'n glir mewn nifer o argymhellion fod rhaid peidio â derbyn y sefyllfa fel y mae hi, a pheidio â derbyn mai mynd yn ôl i ddyddiau cyn pandemig dŷn ni eisiau ei wneud, fel dywedodd y Cadeirydd.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion y gallech eu rhoi dan ryw bennawd eang o leihau rhestrau aros. Dŷn ni'n rhoi sylw i gomisiynu capasiti uwch i gryfhau'r gweithlu, i annog diagnosis cynnar, i daclo anghydraddoldebau iechyd—y pethau yma sy'n mynd i wneud gwahaniaeth yn yr hirdymor—ond mi oedd hi'n amserol, dwi'n credu, i wneud darn o waith ar ddelio efo'r amseroedd hir sydd gennym ni a sut maen nhw'n effeithio ar bobl. Mae'r ystadegau'n frawychus, onid ydyn, efo rhywbeth fel 0.75 miliwn o boblogaeth Cymru ar ryw fath o restr aros? Ac mae'n bwysig iawn cofio bob amser mai pobl go iawn ydy'r rhain, nid ystadegau, a bod llawer ohonyn nhw'n aros mewn poen, yn bryderus, yn gweld eu hiechyd yn dirywio'n waeth, yn methu byw eu bywydau fel y dylen nhw, yn methu gweithio o bosib, ac felly mae angen meddwl am eu lles nhw bob amser wrth aros. Dŷn ni'n gwneud argymhellion ar sut i gefnogi cleifion wrth aros, ar fuddsoddi mewn helpu cleifion i reoli poen—rhywbeth lle mae yna danfuddsoddi mawr wedi bod. Mae angen rhoi gwybod i bobl am gefnogaeth amgen y gallen nhw ei chael yn eu cymunedau wrth aros, cefnogaeth drwy fferyllwyr ac ati, ac mae yna argymhellion penodol ynglŷn â'r meysydd hynny. 

Mi ddaeth hi'n amlwg iawn i ni fod yna wendidau sylfaenol iawn yn y cyfathrebu sy'n digwydd efo cleifion. Faint o weithiau ydyn ni fel Aelodau o'r Senedd yma wedi gweithredu ar ran etholwr sydd wedi cyrraedd pen ei dennyn am nad ydy o'n gwybod lle mae o arni yn y siwrnai drwy'r gwasanaeth iechyd, neu wedi gwrando ar rywun sydd yn egluro ei boen neu ei boen meddwl? Mae argymhelliad 19 yn ymwneud â defnyddio technoleg fel rhan o'r gwaith cyfathrebu yna. Ac yn gwisgo het arall fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Gymru ddigidol, mi wnaf i'ch atgoffa chi o eiriau'r Dirprwy Weinidog Lee Waters yn y Senedd yn cymharu'r math o wasanaethau dŷn ni wedi'i gael wrth archebu rhywbeth ar-lein, yn gwybod yn union le mae'ch parsel chi arni hi, efo'r hyn y dylen ni allu ei ddisgwyl yn yr unfed ganrif ar hugain yn ein gwasanaeth iechyd a gofal, siawns. Mi ydych chi'n gwybod bod eich siopa Nadolig chi yn mynd i gyrraedd am 3.30 brynhawn dydd Mawrth nesaf, ond os ydych chi eisiau gwybod pryd dŷch chi'n mynd i gael rhywbeth llawer pwysicach, fel clun newydd, gallech, mi allech chi guro ar ddrws eich cynrychiolydd yn y Senedd, ond y drefn fyddai mynd at eich meddyg teulu, fyddai wedyn yn ysgrifennu at y bwrdd iechyd a fyddai'n ysgrifennu yn ôl—cynhyrchu gwaith. Mae'r system yn aneffeithiol ac mae'n gadael cleifion yn y tywyllwch. Mae'n ychwanegu at y straen emosiynol y mae cleifion oddi tano yn aml iawn wrth aros am driniaeth.

Dirprwy Lywydd, mae taclo rhestrau aros yn y gwasanaeth iechyd yn gorfod bod yn un o flaenoriaethau mawr Llywodraeth Cymru, os nad y flaenoriaeth, ac mae eu dal nhw i gyfrif am y gwaith maen nhw'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem yn gorfod bod yn flaenoriaeth i ni fel Senedd. Dyna bwysigrwydd yr adroddiad yma. Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn 26 o'n 27 argymhelliad ni, a derbyn y llall yn rhannol, ond mae'n rhaid inni beidio â bodloni ar hynny, wrth gwrs. Ac yn aml iawn, wrth dderbyn argymhellion, beth mae Llywodraeth yn ei ddweud ydy, 'Dŷn ni'n gwneud hyn yn barod.' Ond mae hwn yn fynydd i'w ddringo, ac mae'n neges ni fel pwyllgor yn glir: dydy'r Llywodraeth ddim yn gwneud digon yn barod, ac mae pobl Cymru yn dioddef yn sgil hynny.

15:45

A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â chadeiryddiaeth Russell George, am gyflwyno'r ddadl a'r adroddiad heddiw, 'Aros yn Iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru'. Fel rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor, roedd yr adroddiad hwn yn eithriadol o bwysig i mi, gan fod yr amseroedd aros presennol ledled Cymru yn effeithio ar bawb, ac yn anffodus yn effeithio fwyaf ar fy rhanbarth i, sef Gogledd Cymru, mae'n debyg. Wrth gyfrannu at ddadl adroddiad y pwyllgor heddiw, hoffwn dynnu sylw at dri maes penodol y mae'r pwyllgor wedi ymchwilio iddynt sy'n allweddol yn fy marn i.

Yn gyntaf, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ceir yr ystadegau mewn perthynas â'r amseroedd aros a'r data y dylid sicrhau ei fod ar gael. Ac fel yr amlinellwyd eisoes, mae tua un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros—yn sicr nid yw'n ddigon da, fel y mae'r Gweinidog yn derbyn, rwy'n siŵr. A thu ôl i'r niferoedd hyn, fel y mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi'i ddweud, mae pobl go iawn yn dioddef o ddydd i ddydd. Ac yn sicr, wrth edrych ar fy rhanbarth i, Gogledd Cymru, yn gynharach eleni ym mis Ionawr 2022, sydd, wrth gwrs, yn adeg brysur i fwrdd iechyd, ond serch hynny, roedd tua 148,000 o lwybrau cleifion, pobl yn aros i ddechrau triniaeth—mae 148,000 o bobl mewn poblogaeth o tua 700,000 yn nifer go syfrdanol. Wrth gwrs, mae'r niferoedd hyn yn cael eu hailadrodd mewn byrddau iechyd eraill, ond mae gennyf ddiddordeb plwyfol fel Aelod rhanbarthol o Ogledd Cymru, ac rwyf eisiau gweld y nifer hwn yn gostwng cyn gynted â phosibl. Wrth gwrs, nid yw'n iawn fod pobl yn talu eu trethi a'u hyswiriant gwladol am y gwasanaethau iechyd hyn, ac eto, maent yn gorfod aros cyhyd i gael eu gweld, ac yn ystod y cyfnod hwnnw o aros i gael eu gweld, maent yn cael amser anodd wrth gwrs, ac yn anffodus, maent yn dioddef. Felly, mae'r maes cyntaf yn ymwneud â'r data ac adrodd ar y data a sicrhau bod yr ystadegau hynny ar gael yn rhwydd fel y gellir eu dadansoddi'n gyflym ac yn hawdd.

Mae'r ail faes, wrth edrych ar effaith amseroedd aros, ar hyn y mae'r adroddiad yn nodi ei fod yn fater hirsefydlog, yn ymwneud â recriwtio a chadw staff. Fel y gwyddom, mae cadw staff presennol yn broblem enfawr i wasanaethau iechyd ar hyn o bryd, sy'n golygu bod y sector yn parhau i'w chael hi'n anodd cynnal y lefelau staffio presennol, heb sôn am eu cynyddu, ac mae'n sicr yn broblem yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn y gogledd. Wrth gwrs, os ydym eisiau denu mwy o nyrsys a meddygon a gweithwyr gofal iechyd eraill i ddod i weithio yn y GIG, yn sicr mae angen inni weld rhywfaint o weithredu i wneud y gwasanaeth yn fwy deniadol ac amlygu'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil. Ac rwy'n sicr eisiau gweld ein byrddau iechyd yn perfformio'n dda fel y gallwn ddenu mwy o bobl i'r gwasanaeth iechyd a sicrhau ein bod yn llenwi'r swyddi pwysig hynny a'n bod yn gallu eu cadw yn y swyddi hynny hefyd.

Yn olaf, y trydydd maes, sydd eisoes wedi'i amlinellu yn yr adroddiad heddiw a'i grybwyll gan y Cadeirydd ychydig yn gynharach, yw'r angen am arweiniad gwirioneddol glir a chynllun clir i ymdrin yn effeithiol â'r ôl-groniad o ran amseroedd aros yng Nghymru. Oherwydd, fel y gwyddom, yn sicr, cafodd y broblem ei gwaethygu gan bandemig COVID-19, ond roedd yn sicr yno cyn COVID. Ac yn anffodus, pryd bynnag y gwelwn unrhyw ystadegau rhestrau aros, pobl gogledd Cymru sy'n parhau i ddioddef fwyaf. Felly, mae arnom angen arweiniad clir ar frys i gymryd cyfrifoldeb am gynllun gweithredu i unioni hyn a sicrhau nad yw'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn cael eu hanghofio. Ac yn y cynllun hwn, mae angen mesurau effeithiol i foderneiddio'r gwasanaeth iechyd—unwaith eto, fel y crybwyllwyd eisoes gan Aelodau blaenorol—gan ganolbwyntio o'r newydd ar arloesedd a digidol, a symud ymlaen gyda'r syniadau arloesol hyn, a fydd yn gwneud gwaith ein gweithwyr rheng flaen gymaint yn haws.

Felly, i gloi, hoffwn ddiolch eto i'r pwyllgor am eu hymdrechion ac am y gwaith hwn. Hefyd, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog wedi derbyn 26 o argymhellion y pwyllgor yn llawn a'r llall mewn egwyddor, wrth gwrs. Oherwydd nid yw'r sefyllfa bresennol yn ddigon da ac ni all barhau; ni allwn fforddio gadael iddo barhau, er mwyn ein pobl yma yng Nghymru. Felly, gallai gweithredu adroddiad y pwyllgor arwain at welliannau gwirioneddol i fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn o ran rhestrau aros sy'n peri pryder mawr yng Nghymru, ac mae gwir angen inni wneud hynny. Diolch yn fawr iawn.

15:50

Diolch i aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eich adroddiad ac am y cyfle i drafod amseroedd aros ar lawr y Senedd heddiw.

Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith ddwys ar ein gwasanaeth iechyd, gydag amseroedd aros yn broblem wirioneddol. Croesawaf y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog iechyd yn gynharach eleni, gan sicrhau na fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn 2025. A chytunaf yn llwyr â'r argymhellion yn yr adroddiad i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser, ond mae angen inni weld camau gweithredu ar fwy o fyrder ar amseroedd aros ar gyfer canser. Cysylltodd etholwr â fy swyddfa y mis hwn. Dywedwyd wrthynt eu bod wedi cael atgyfeiriad brys am ganser yn dilyn ymweliad â'u meddyg teulu, a chawsant wybod wedyn fod atgyfeiriadau brys bellach yn 16 wythnos neu fwy. Mae'r pryder a'r gofid a achosir dros y pedwar mis hyn yn cael effaith andwyol enfawr, nid yn unig i'r unigolion ond i'w teuluoedd a'u ffrindiau hefyd. Yn eich ymateb i'r ddadl hon, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i wneud datganiad ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau nifer yr wythnosau a'r misoedd y mae pobl yn aros am atgyfeiriadau canser?

15:55

Ddirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fel aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cefais fy syfrdanu gan gyfraniadau a thystiolaethau'r rhai yr effeithir arnynt gan argyfyngau amseroedd aros yma yng Nghymru. Nid yw'r rhwystredigaeth y mae fy nghyd-Aelodau yn y GIG yn ei mynegi yn ymwneud yn unig â'r ffaith nad ydynt yn gallu gwneud eu gwaith, ac yn wir, y swyddi y maent yn eu caru; mae fy nghydweithwyr yn teimlo eu bod yn gwneud cam â'u cleifion, yn eu gadael mewn poen, ac eto er gwaethaf eu hymdrechion gorau a'u gwaith caled mewn llawer o achosion, nid oes dim y gallant ei wneud. Ac ar ôl 11 mlynedd yn gweithio yn y GIG i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, rwy'n gwybod yn union sut y maent yn teimlo. Ond er bod y Llywodraeth eisiau rhoi'r bai i gyd ar bandemig COVID-19, hoffwn atgoffa'r Siambr hon, fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi'i wneud, fod amseroedd aros yng Nghymru wedi dyblu yn y flwyddyn cyn i'r pandemig daro. Ar ran y rhai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru, rwy'n annog y Gweinidog i wrando go iawn ar argymhellion y pwyllgor, a rhaid imi bwysleisio bod angen mynd i'r afael â'r trychineb amseroedd aros a bod angen gwneud hynny'n gyflym.

Mae pob un o'r un o bob pump o bobl yng Nghymru sydd ar restr aros, y 148,884 o bobl o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n aros i ddechrau eu triniaeth, yn annwyl i rywun, yn anwylyd sy'n dioddef yn ystod yr oedi hwn. Ac o ran gofal brys, dim ond 54.5 y cant o'r ymatebion i alwadau lle roedd bywyd yn y fantol a gyrhaeddodd o fewn wyth munud, i lawr o 60.6 y cant ym mis Mai 2021, ac fe gymerodd cymaint â 58.3 y cant o alwadau ambr i gleifion, sy'n cynnwys y rhai sy'n dioddef strôc, dros awr i gyrraedd. Gall y Llywodraeth hon feio prinder ambiwlansys, bylchau staffio neu'r pandemig, ond roedd y problemau hyn a'r ôl-groniad hwn yn bodoli cyn COVID, yn enwedig felly yng ngogledd Cymru, fel y nododd Sam Rowlands yn ei araith. Ac mae gwledydd eraill y DU sy'n wynebu'r un heriau yn gwneud yn well mewn perthynas â hyn, gyda'r amser aros canolrifol yn 12.6 wythnos o'i gymharu â 22.5 yng Nghymru—mae'n ddrwg gennyf, roedd y 12.6 wythnos yn cyfeirio at y cyfraddau yn Lloegr. Roedd yn destun siom i mi a llawer o rai eraill pan ddywedodd y Gweinidog iechyd blaenorol y byddai'n ffôl ceisio mynd i'r afael â'r problemau hyn yn gynharach. Fodd bynnag, yr hyn y mae fy etholwyr a fy nghydweithwyr yn y GIG ei eisiau, ni waeth beth fo achos yr ôl-groniadau, yw i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r ateb.

Weinidog, mae'n gadarnhaol eich bod wedi derbyn 26 o 27 argymhelliad y pwyllgor yn llawn, a'r olaf mewn egwyddor, ond rwy'n siomedig na wnaethoch roi digon o fanylion am weithredu yn eich ymateb, ac nid fy safbwynt i yn unig yw hwn ond safbwynt llawer o randdeiliaid allweddol hefyd, ac roeddwn yn ffodus i gyfarfod â rhai ohonynt y bore yma yn y pwyllgor iechyd. Ac mae'n rhwystredig hefyd mai'r rheswm a roddwyd dros dderbyn yr argymhelliad arall yn rhannol, sef argymhelliad 23, oedd oherwydd y byddai'n gymhleth. O adnabod y Gweinidog, gwn nad oes unrhyw beth yn rhy gymhleth ichi fynd i'r afael ag ef a'i ddatrys, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn edrych eto ar hynny. Hoffwn dynnu sylw at bwysigrwydd argymhelliad cychwynnol adroddiad y pwyllgor hwn, a oedd yn gofyn

'Yn ogystal â nodi sut yr eir i’r afael â’r ôl-groniad o ran amseroedd aros, rhaid i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sicrhau bod cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer gofal wedi’i gynllunio yn cynnwys ffocws ar gefnogi cleifion i aros yn iach.'

A hoffwn rannu trafferthion fy etholwr, sef Miss Isolde Williams, gyda chi. Mae hi'n un o'r nifer fawr o bobl sy'n dioddef oherwydd oedi cyn cael triniaeth ac mae wedi bod yn aros ers ei hapwyntiad cychwynnol yn 2017 am driniaeth arbenigol a phen-glin newydd. A rhannodd hyn gyda mi:

'Mae ansawdd fy mywyd yn parhau i ddirywio. Rwy'n gwbl ddibynnol ar fy nghar i fynd allan, ac mae arnaf ofn pa mor ddrwg y byddaf yn mynd cyn imi gael y driniaeth hon. Mae'r oedi wedi arwain at broblemau pellach yn fy nghoes a fy nghlun, ac rwy'n meddwl tybed pryd y bydd hyn i gyd yn dod i ben. Rwy'n colli ffydd yn ein gwasanaeth iechyd.'

I gloi, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i Isolde a chymaint o bobl eraill ledled Cymru sydd yn yr un sefyllfa y byddant yn cael y driniaeth y maent ei hangen cyn gynted â phosibl ac na ddylai neb orfod dioddef oedi o'r fath heb gymorth digonol yn y dyfodol? Diolch.

16:00

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith ar yr adroddiad pwysig yma? Dwi'n meddwl ei fod o'n anodd i'w ddarllen ond mae o'n adlewyrchu'r gwaith achos rydyn ni i gyd yn ei dderbyn, a dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig iawn ein bod ni'n atgoffa ein hunain yn aml fod yna bobl tu ôl i bob ystadegyn ac, er ein bod ni yn gweld bod yna gynllun ar waith, dydy hynna ddim yn ei wneud o'n ddim haws i'r bobl sy'n byw mewn poen neu gyda sefyllfa sydd yn peryglu eu bywydau nhw.

Y cwestiwn oedd gen i oedd yn benodol o ran adran 3 o'r adroddiad, sydd ynglŷn â'r rhai sydd yn talu i fynd yn breifat ar y funud, a'r syniad oedd yn dod drosodd yn gryf iawn o'r system ddwy haen yma, y two-tier system, a'r ffaith eithaf brawychus dwi'n meddwl ein bod ni'n gweld un o'r ymgynghorwyr mewn ysbyty yn ystyried, pan ydyn nhw'n edrych ar glaf, 'Ydy'r person yma'n mynd i allu fforddio i fynd yn breifat neu beidio?', a bod hynny'n mynd drwy eu meddwl. Mae hynny'n ategu rhywbeth dwi wedi ei glywed drwy waith achos, efo pobl yn dweud wrthyf fi eu bod nhw'n cael eu hannog i fynd yn breifat, ac efallai eu bod nhw'n edrych fel eu bod nhw'n gallu ei fforddio, ond y gwir amdani yw eu bod nhw'n methu ei fforddio.

Un o'r pethau a wnaeth eu cynddeiriogi nhw'n ddiweddar—efallai fod amryw o bobl yn y Siambr wedi gweld y rhaglen BBC Wales Investigates am yr NHS, ac yn benodol y cyfweliad gyda phrif weithredwraig yr NHS yng Nghymru, lle gwadodd bod y gwasanaeth iechyd mewn crisis. Y cwestiwn ofynnwyd imi gan etholwraig yr adeg honno oedd, 'Pam nad oes neb yn fodlon cydnabod y crisis? Os byddai pobl yn cydnabod bod yna grisis ac argyfwng, o leiaf y bydden nhw'n cydnabod maint y broblem a maint y boen rydyn ni'n eu hwynebu.' Dwi'n meddwl bod yna rywbeth o ran hynny, ein bod ni angen bod yn onest efo pobl yn lle trio cuddio o dan gynlluniau gwahanol. Un o'r pethau gofynnodd yr un etholwraig imi oedd, 'Ydw i fod i jest dderbyn bod fy mywyd i yn llai pwysig, gan na all y gwasanaeth iechyd ddarparu'r driniaeth sydd ei hangen arnaf am ddwy flynedd?' Mae hi'n gwybod bod doctoriaid wedi dweud bod angen triniaeth arni cyn gynted â phosib a bod perig iddi farw, ond mae'n rhaid iddi ddisgwyl dwy flynedd am y driniaeth yma, a methu â fforddio ei wneud.

Felly, gaf i ofyn ichi, Weinidog, beth fyddech chi yn ei roi fel neges i bobl sydd mewn sefyllfa o'r fath heddiw? Ac ydych chi'n fodlon gwneud yr hyn a fethodd prif weithredwraig yr NHS ei wneud, a chydnabod heddiw fod yna grisis a'n bod ni'n uno fel Senedd i sicrhau ein bod ni'n dod drwy hynny a sicrhau bod pethau'n gwella i bobl sydd yn y sefyllfa argyfyngus hon?