Y Cyfarfod Llawn
Plenary
30/03/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi.
Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf y prynhawn yma ac rwyf wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd yr holl gwestiynau o dan yr eitem yma yn cael eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ran y Gweinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch tomenni glo yn Nwyrain De Cymru? OQ57887

Diolch. Hoffwn gyfeirio'r Aelod at y datganiad llafar a wnaed ddoe, ac yr ydym yn dadlau hyn y prynhawn yma wrth gwrs. Fel y dywedasom yn glir, mae arolygiadau o domenni sydd wedi’u graddio’n uwch wedi'u cwblhau'n ddiweddar, ac rydym wedi ymrwymo £44.4 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw dros y tair blynedd nesaf.
Diolch am yr ateb.
Roedd yn amlwg o’r datganiad ar ddiogelwch tomenni glo ddoe fod llawer mwy o waith i’w wneud yn y blynyddoedd i ddod i ddiogelu'r hyn a adawyd ar ôl gan ein gorffennol diwydiannol yng Nghymru. Bydd yn cymryd llawer o flynyddoedd a channoedd o filiynau o bunnoedd i ymdrin â hyn. Afraid dweud mai San Steffan, a gafodd y buddion a’r elw o’r diwydiant glo, a ddylai fod yn talu’r bil. Mae'n sgandal nad ydynt yn gwneud hynny. Sut ydych chi'n cysylltu ag adrannau eraill o’r Llywodraeth i sicrhau y bydd gennym yr arbenigedd a’r capasiti angenrheidiol yng Nghymru i wneud y gwaith arbenigol sydd ei angen i ddiogelu ein cymunedau? Erbyn hyn, mae angen ailasesu gwaith adfer a oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol ddegawdau’n ôl yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu.
Diolch, ie, ac rwy’n cytuno’n llwyr fod rôl yma i Lywodraeth y DU. Dyma a adawyd ar ôl o orffennol diwydiannol Prydain. Mae'r tomenni'n dyddio o adeg cyn i bwerau gael eu datganoli i Gymru, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan a thalu'r bil hwnnw. A chredaf fod consensws yn y Siambr hon, yn sicr ar y meinciau nad ydynt yn rhai Ceidwadol, ynglŷn â hynny.
Fel y dywed yr Aelod yn gwbl gywir, mae angen inni sicrhau bod arloesi a thechnoleg wrth wraidd y ffordd yr awn i’r afael â bygythiad y tomenni yn ogystal â'r cyfle a geir yn sgil adfywio. A thrwy sgilio a thrwy'r gadwyn gyflenwi, yn ogystal ag arloesi, nid oes amheuaeth y gellir darparu manteision wrth gyflawni ein rhwymedigaeth i fynd i'r afael â'r tomenni hyn i'r cymunedau lle mae'r tomenni hynny wedi'u lleoli ar hyn o bryd. Felly, mae gennym raglen arloesi, y soniais amdani ddoe, sy'n defnyddio technolegau o'r radd flaenaf, a byddwn yn treialu'r rheini yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol, ac fel rhan o’r ymgynghoriad yn awr ar adroddiad Comisiwn y Gyfraith, byddwn yn asesu'r gwaith o greu corff statudol newydd, y bydd angen iddo fod yn bartneriaeth gydag asiantaethau cyflawni eraill yng Nghymru fel y gallwn fynd i'r afael gyda'n gilydd â'r her y mae hyn yn ei chyflwyno.
Ddirprwy Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth Comisiwn y Gyfraith nifer o argymhellion ar gyfer trefn ddiogelwch newydd i helpu i amddiffyn rhag amrywiaeth o fygythiadau i ddiogelwch tomenni glo ac i sicrhau y ceir dull cyson o ymdrin â phob tomen yng Nghymru, ac fe wnaethoch ddatganiad mewn ymateb i hynny ddoe. Yn eich datganiad, fe ddywedoch chi nad oes gan Lywodraeth Cymru gyllid i sicrhau bod tomenni glo yn ddiogel yng Nghymru. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2020, ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru lythyr at holl Aelodau’r Senedd yn dweud y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried o ddifrif pob cais am gyllid i gefnogi'r gwaith o reoli tomenni glo, yn dilyn y llifogydd ledled de Cymru bryd hynny. Felly, a gaf fi ofyn, Ddirprwy Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cyllid hwn gan Swyddfa Cymru i sicrhau’r camau gweithredu gofynnol i sicrhau diogelwch tomenni glo yn y cyfnod cyn ichi gyflwyno a phasio deddfwriaeth? Diolch.
Wel, cyfanswm y cyllid a ddarparwyd ar ôl y llifogydd oedd oddeutu £9 miliwn, ac mae oddeutu hanner hwnnw wedi mynd tuag at ddiogelwch tomenni glo yn Tylorstown. Rydym wedi gwario oddeutu £20 miliwn ar hynny. Rydym yn wynebu bil o fwy na £500 miliwn. Rydym wedi ymrwymo £44.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhoi rhagor o arian, ac mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i is-ysgrifennydd wedi dweud yn gyson ac yn gadarn nad yw’n fater iddynt hwy bellach. Yn eu barn hwy, mater i ni yw datrys hyn, ac rwy'n gwrthod y dadansoddiad hwnnw. Credaf y byddai’n llawer gwell pe gallem gydweithio ar hyn a chydnabod ein bod yn rhannu'r rhwymedigaeth i fynd i'r afael â’r her hon. Nid dyna farn yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ond byddai’n wych pe gallai'r Aelodau gyferbyn helpu fel y gellid gweld rhywfaint o synnwyr.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatgarboneiddio tai? OQ57878
Diolch. Rydym wedi cyflwyno safonau adeiladu newydd ar gyfer cartrefi cymdeithasol, sy'n gwahardd y defnydd o danwydd ffosil, gydag uchelgeisiau i ddatblygwyr preifat fabwysiadu'r gofynion hyn erbyn 2025. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, gan archwilio'r ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon o ddatgarboneiddio'r stoc o dai cymdeithasol sy'n bodoli'n barod.
Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Yn bersonol, hoffwn ganmol Cyngor Abertawe a’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol am y gwaith y maent wedi’i wneud yn datgarboneiddio eu tai newydd. Rwy’n cynrychioli etholaeth a chanddi nifer fawr o dai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr a thai rhentu preifat, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pa gynnydd a wnaed i leihau’r gwres a gollir o dai preifat a thai rhentu preifat? A beth yw'r cynllun i ddatgarboneiddio'r tai hyn? Rwy'n cydnabod y bydd yn broses hir ac rwy'n cydnabod y bydd yn broses anodd.
Wel, hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am Gyngor Abertawe. Credaf ei bod yn enghraifft wych o bartneriaeth rhwng awdurdod lleol sy’n cael ei redeg gan Lafur a Llywodraeth Lafur Cymru. Maent hwy eu hunain wedi buddsoddi oddeutu £60 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon mewn cartrefi cynhesach, mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, gan greu oddeutu 25 o gartrefi carbon isel newydd, yn ogystal â rhaglen effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi sy'n bodoli'n barod, gwerth cyfanswm o oddeutu £46 miliwn. Credaf fod honno’n ymdrech aruthrol ar eu rhan i fynd i'r afael â’r argyfwng costau byw, drwy ddarparu cymorth ymarferol i ymdopi â thlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r her sero net.
Ar fater tai preifat, rydym yn ffodus iawn fod gennym Rhentu Doeth Cymru, sy’n rhywbeth nad oes gan rannau eraill o’r DU, ac sy’n caniatáu inni fapio’r eiddo yn y sector preifat i weld pa rai nad ydynt yn bodloni'r safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol ar hyn o bryd. Wedyn, gyda'r wybodaeth honno, gallwn edrych ar ba gymysgedd o grantiau a benthyciadau sydd eu hangen i gymell y cartrefi hynny i gyrraedd a rhagori ar y safon. Ein dull o weithredu, fel y gŵyr Mike Hedges, yw treialu ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sy’n fuddsoddiad o £220 miliwn gennym ni, a mabwysiadu ymagwedd yr ydym yn ei galw'n ddull 'ffabrig yn gyntaf', gan gydnabod y bu anawsterau gyda rhaglenni ôl-osod ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf a bod pob tŷ'n wahanol. Yn benodol, mae gan Gymru hen stoc dai, gyda thai amrywiol iawn, a gallai’r hyn a allai fod yn ateb i dŷ teras yn y Cymoedd fod yn wahanol ar gyfer byngalo maestrefol. Felly, mae angen inni dreialu ffabrigau gwahanol, ac rydym yn gwneud hynny, er mwyn deall beth fyddai'n fwyaf effeithlon, a phan fyddwn yn deall yr agweddau ymarferol hynny, gallwn nodi llwybr wedyn tuag at ddatgarboneiddio.
Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Weinidog, mae mwy na 70 y cant o’r 1.4 miliwn o gartrefi sydd gennym yng Nghymru yn eiddo i berchen-feddianwyr. Ar gyfartaledd, mae ein heiddo'n hŷn nag mewn mannau eraill yn y DU, a bydd llawer yn wynebu her i ddatgarboneiddio yn unol â’r targed a osodwyd gennych. Os mai cyflenwad ynni yw’r broblem, sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i deuluoedd symud oddi wrth nwy tuag at ffynonellau adnewyddadwy, a sut y bydd yn talu am hynny?
Wel, hoffwn groesawu Altaf Hussain i’r meinciau Llafur—[Chwerthin.] Mae llawer o lawenydd yn y nefoedd am bob pechadur sy’n edifarhau.
A gaf fi egluro bod gormod o Dorïaid i ffitio ar fainc y Torïaid, ac felly bod angen sedd ymhlith y garfan Lafur?
Ni allwn gytuno mwy, Lywydd. Yn wir, mae gormod o Dorïaid, a byddwn yn sicrhau bod llai ohonynt yn yr etholiad nesaf—[Chwerthin.] Ond o ddifrif, i ateb pwynt cwestiwn yr Aelod, ac rwy'n diolch iddo amdano, mae'r modd yr ydym yn mynd i'r afael â chartrefi'r sector preifat yn amlwg yn her i bob un ohonom. Sylwais yng nghyllideb y Canghellor iddo gyhoeddi gostyngiad TAW ar gyfer rhywfaint o dechnoleg adnewyddadwy solar, ac rydym yn croesawu hynny, ond mae arnaf ofn ei fod yn annigonol ar gyfer yr her sy’n ein hwynebu. I raddau helaeth, nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud; mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud ledled y DU, ac mae datgarboneiddio cartrefi yn mynd i fod yn rhan allweddol o'r gwaith o gyflawni ein targedau sero net, ar gyfer gwres ac ar gyfer trydan. Mae'r dechnoleg ar gael, mae wedi'i phrofi ac mae'n gosteffeithiol.
Roeddwn o'r farn mai camgymeriad enfawr oedd i Lywodraeth y DU gael gwared ar y tariff cyflenwi trydan ychydig flynyddoedd yn ôl. Fe’i cyflwynwyd yn 2010 gan glymblaid y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr, a bu'n llwyddiannus iawn yn cymell perchnogion tai preifat i fuddsoddi yn eu heiddo eu hunain, yn ogystal â chyfrannu ynni at y grid drwy ffynonellau adnewyddadwy. A chredaf fod cael gwared ar hwnnw yn 2019 yn gamgymeriad mawr. Felly, credaf fod angen rhaglen sylweddol ledled y DU yn awr i gymell perchnogion tai i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Dyna'r ffordd i ddiogelu ffynonellau ynni. Dyna’r ffordd i sicrhau nad ydym yn ddibynnol ar olew a nwy o Rwsia, a dyna’r ffordd i ddatgarboneiddio a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ond hyd yn hyn, ychydig iawn a glywsom gan Lywodraeth y DU ynglŷn â hyn, ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda hwy i unioni hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi galw ddoe yn ystod y cwestiynau busnes, drwy’r Trefnydd, ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i wneud datganiad am y sefyllfa erchyll ddydd Llun pan gafodd nifer o drenau, sawl cerbyd, cannoedd o deithwyr eu gadael am sawl awr ar drenau ar ddiwrnod cynnes iawn, ac roedd y sefyllfa'n llai na delfrydol. Wel, rwy’n falch iawn o ddweud bod y Gweinidog a minnau wedi siarad brynhawn ddoe, wedi hynny, ac addawodd y byddai’n cael rhyw fath o wybodaeth yn ôl gan Trafnidiaeth Cymru. Rwy’n ddiolchgar iawn am y llythyr a gefais gan y prif weithredwr, drwoch chi, Ddirprwy Weinidog, ac maent yn mynd i lansio ymchwiliad difrifol i hynny. Maent yn gofyn i unrhyw un yr effeithiwyd arnynt yn fawr gan hyn i roi gwybod, a hoffwn annog pobl i wneud hynny. Diolch.
Felly, gan symud ymlaen at fy nghwestiynau fel llefarydd, mae fy un cyntaf yn ymwneud â diogelu ffynonellau ynni. Nawr, mae'n rhaid i'n camau gweithredu ar ddiogelu ffynonellau ynni fod yn gadarn ac yn bendant os ydym am ddiogelu dyfodol llewyrchus a rhyngwladol i Gymru. Mae'n rhaid inni chwarae ein rhan i roi diwedd ar y ddibyniaeth fyd-eang ar ynni Rwsia a rhyddhau grym ein draig Gymreig ein hunain. Ar hyn o bryd, mae 8 y cant o'r galw am olew yn y DU a 4 y cant o'r galw am nwy yn y DU yn cael ei ddiwallu gan fewnforion o Rwsia. Nawr, mewn ymateb i'r ymosodiad brawychus ac anghyfreithlon ar Wcráin, bydd Llywodraeth y DU yn dod â mewnforion olew i ben yn raddol yn ystod y flwyddyn. Mae effaith prisiau nwy anwadal byd-eang ar y DU yn tanlinellu pwysigrwydd cynllun Llywodraeth y DU i gynhyrchu mwy o ynni rhad, glân, adnewyddadwy ac ynni niwclear yn y DU. Mae eich gweledigaeth ar sut i gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi'i hamlinellu yn yr archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy. Disgwylir i rai o’r argymhellion gymryd peth amser i’w cyflawni—2023 ar gyfer ardaloedd adnoddau strategol morol, a 2024 ar gyfer cynllun ynni cenedlaethol. Yng ngoleuni'r argyfwng ynni newydd, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gyflymu'r gwaith ar gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a chyflwyno'r cynllun ynni cenedlaethol? Diolch.
Wel, Lywydd, mae dau bwynt ar wahân i'w hateb, a cheisiaf ateb y ddau ohonynt. Ar y cyntaf, roeddwn yn bresennol brynhawn ddoe yn ystod y cwestiynau busnes, a chlywais gan yr Aelod am y profiad dirdynnol a gafodd hi a’i chyd-deithwyr, ac roedd yn ddrwg iawn gennyf glywed am hynny. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru yn syth ar ôl hynny i drafod y mater. Yn amlwg, nid yw'n iawn mai'r rheswm y cafwyd ymateb oedd am fod gwleidyddion ar y trên, ond roedd nifer o Aelodau yno a oedd yn gallu rhoi tystiolaeth uniongyrchol, ac fe'i cymerais o ddifrif, yn enwedig sylwadau aelodau o'r cyhoedd nad oeddent wedi gallu mynd i angladdau ac a gafodd helynt gyda'u swyddi. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru o ddifrif ynglŷn â hyn. Roedd problem gyda’r trên wrth iddo adael y depo cynnal a chadw—nid depo cynnal a chadw Trafnidiaeth Cymru—ond yna, methodd weithio ar ôl ychydig, ac achosodd hynny lu o broblemau dilynol. Felly, rwy'n awyddus iawn, fel y maent hwy, i ddefnyddio'r digwyddiad i ddysgu gwersi, yn enwedig ynghylch y cyfathrebu. Ymddengys y bu rhai methiannau sylweddol yn y ffordd yr ymdriniwyd â'r negeseuon. Felly, rwyf wedi cael sgwrs adeiladol a chadarn iawn gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â hyn, ac maent hwy a minnau'n awyddus i ddysgu o'r profiad i sicrhau y gallwn geisio atal hyn rhag digwydd eto. A hoffwn ailadrodd yr ymddiheuriad a roddais i'r Aelodau y bore yma i bob aelod o'r cyhoedd a oedd ar y trên hwnnw. Bydd pethau’n digwydd o bryd i’w gilydd ar y rheilffyrdd, ond credaf mai sut rydym yn ymateb iddynt sy'n bwysig, ac rwy'n gobeithio y gallwn yn bendant ddysgu’r gwersi o hynny.
Ar fater diogelu ffynonellau ynni, mae'n rhaid imi anghytuno â'r ffordd y mae Janet Finch-Saunders wedi disgrifio ymateb Llywodraeth y DU. Y ffordd i ddiogelu ffynonellau ynni yw nid yn unig drwy ddiddyfnu ein hunain oddi ar olew o Rwsia, ond diddyfnu ein hunain oddi ar danwydd ffosil. Nid yn unig ein bod yn wynebu argyfwng ynni yn y tymor byr, rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ar yr un pryd, ac mae cloddio mwy o olew o fôr y Gogledd, sef yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn cynnig ei wneud, yn mynd yn gwbl groes i'r hyn y mae'r wyddoniaeth yn ei ddweud, yn gwbl groes i'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ychydig fisoedd yn ôl yn Glasgow. Yn sydyn iawn, mae ei gof wedi'i ddileu'n llwyr unwaith eto ac nid yw wedi dysgu unrhyw beth o wersi'r gorffennol. Yr hyn sydd ei angen arnom yw ynni adnewyddadwy ar waith ledled y DU ar unwaith, ar lefel tai—cael ynni solar ar bob tŷ, ar bob adeilad, yn ogystal ag effeithlonrwydd ynni—a’r ystod o dechnolegau micro, ynni dŵr a chynhyrchu ynni y gwyddom eu bod yn gweithio, y gwyddom eu bod yn gosteffeithiol, ac y gwyddom eu bod yn fwy o ran o'r cymysgedd ynni. Mae hynny’n gamgymeriad mawr.
Ar ei beirniadaeth nad ydym yn mynd ati'n ddigon cyflym i fanteisio ar ynni'r môr, a’r syniad y gellir cyflwyno ynni niwclear yn gyflym braidd yn obeithiol. Byddwn yn dweud wrthi nad yw'n rhad nac yn lân nac yn gyflym. Mae gennym safbwynt pragmatig ar ynni niwclear. Yng ngogledd Cymru, gwyddom ei fod yn darparu arloesedd a datblygu economaidd, a’i fod yn rhan o’r cymysgedd ynni wrth inni gynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy yn gyflym. Ond mae'n ateb tymor byr. Credaf y byddai'n annoeth i Lywodraeth y DU fanteisio ar hynny fel ymateb i’r argyfwng ynni. Ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrth Altaf Hussain yn gynharach: mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi dileu’r tariff cyflenwi trydan yn 2019, y moratoriwm ar ynni gwynt ar y tir, a’r methiant i gefnogi morlyn llanw Abertawe yn gamgymeriadau hanesyddol. Rydym wedi colli degawd. Yn hytrach na sicrhau ein bod yn gydnerth gyda diogelwch gwirioneddol o ran ffynonellau ynni a system adnewyddadwy, maent wedi parhau â'n dibyniaeth ar olew a nwy o Rwsia, ac edrychwch lle mae hynny wedi ein harwain.
Diolch i’r Dirprwy Weinidog am y ddau ymateb. Yn ogystal â bwrw ymlaen â’r gwaith o gyflawni argymhellion yr archwiliad dwfn, gallech weithredu ar ewyllys mwyafrifol y Senedd. Er bod yr archwiliad dwfn yn argymell cyhoeddi canllawiau i gyfeirio at feysydd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu gwahanol dechnolegau ynni adnewyddadwy, rhoddodd y Senedd ei chefnogaeth lawn i fy nghynnig deddfwriaethol, a oedd yn galw am ysgogiadau cyfreithiol megis dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso’r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol. Fel y mae’r RSPB wedi’i nodi, mae diffyg polisïau gofodol a rheolaethau datblygu statudol cadarn wedi'u pwysoli i lywio datblygiadau oddi wrth ardaloedd amgylcheddol sensitif o’r cychwyn yn creu ansicrwydd i bawb. Ac fel yr amlygir yn yr adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, mae rhanddeiliaid amgylcheddol wedi galw am gynllun gofodol statudol traws-sector sy’n mynd i’r afael ag effeithiau cronnol datblygu morol. Felly, yn hytrach na gadael y gwaith o leoli cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr eu hangen i ganllawiau ac Ystad y Goron, a wnewch chi ymateb i'n cynnig deddfwriaethol llwyddiannus drwy greu cynllun datblygu morol cenedlaethol? Diolch.
Mae’r Aelod yn ailadrodd dadleuon a gawsom ychydig wythnosau yn ôl yn Siambr y Senedd, ac nid wyf yn bwriadu mynd drwyddynt i gyd eto, heblaw dweud ein bod yn fodlon, fel y nodwyd gennym yn y ddadl honno, fod mecanwaith gennym i wneud hynny, mae gennym gynllun hirdymor, ac mae polisïau a chamau gweithredu eisoes ar waith a fydd yn gwneud hynny. Fel y soniodd, cynhaliwyd yr archwiliad dwfn i edrych ar unrhyw rwystrau tymor byr. Un o'r pethau a nodwyd gennym oedd yr angen i adolygu'r broses drwyddedau a chaniatadau morol, ac rydym yn gwneud hynny yn awr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Y cynnig yw edrych arno o safbwynt datblygwr, a mynd gam wrth gam drwy'r hyn a allai fod yn ei arafu, unrhyw beth sy'n achosi gwrthdaro, a chael gwared arno. Credaf fod hynny wedi'i groesawu'n fawr gan y rhanddeiliaid, a chredaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Diolch. Ochr yn ochr â’n cefnogaeth ar y cyd i gynlluniau adnewyddadwy, mae’n bwysig inni wneud popeth a allwn i gefnogi ynni niwclear. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Prif Weinidog y DU gyfarfod bord gron gydag arweinwyr o’r diwydiant niwclear i drafod sut i wella diogelwch ffynonellau ynni domestig a chyflymu prosiectau niwclear yn y DU. Fel y dywedodd y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, ein Prif Weinidog,
'nawr yw'r amser i roi cyfres o fetiau mawr newydd ar ynni niwclear'.
Yr wythnos hon, rydym wedi dysgu bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cymryd cyfran o 20 y cant yn Sizewell C. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â’r Unol Daleithiau i hyrwyddo Wylfa. Rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cwmni Egino. Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud yn glir y bydd Plaid Cymru yn glynu’n gadarn at eu safbwynt gwrth-niwclear. O ystyried eu rôl fel partneriaid cydweithio, pa drafodaethau a gawsoch am ddyfodol niwclear yng Nghymru? A allwch egluro a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu prosiectau niwclear yn Wylfa a Thrawsfynydd, neu a fydd eich cytundeb cydweithio neu gytundeb clymblaid yn newid eich barn ar hynny? Diolch.
Wel, fy hoff wir anrhydeddus yw’r Gwir Anrhydeddus Elin Jones, a byddai’n llawer gwell gennyf pe baem yn canolbwyntio arni hi, yn hytrach nag ar Boris Johnson.
Rwy'n teimlo o ddifrif nad yw Llywodraeth y DU yn dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol. Rydych newydd feirniadu'r system ynni am fod yn ddibynnol ar olew a nwy o Rwsia, ac rydym yn awr yn rhuthro i ddenu buddsoddwyr o Tsieina i ymrwymo i adeiladu gorsafoedd niwclear mawr. Hwy yw'r unig fuddsoddwyr sydd ar gael hyd yn hyn mewn perthynas ag ynni niwclear. A ydym o ddifrif am roi ein hunain yn nwylo partner rhyngwladol anwadal arall? Awgrymaf nad ydym.
Fel y dywedais, mae ein polisi niwclear wedi'i hen sefydlu. Mae gennym gynigion drwy Gwmni Egino a chyn hynny i edrych ar ddatblygiad technoleg niwclear newydd ar safleoedd presennol, ac rydym wedi sefydlu cwmni i archwilio hynny. Credwn fod manteision economaidd i wneud hynny yn y tymor byr. Ond fel y dywedais, mae ein polisi ynni'n canolbwyntio'n bennaf ar ynni adnewyddadwy gan y credwn fod effaith amgylcheddol hynny'n fach iawn a'i fod hefyd yn cynhyrchu cydnerthedd ynni. Ac os byddwn yn ei wneud yn iawn, byddwn yn cadw'r holl fanteision economaidd yng Nghymru, yn hytrach na pharhau i golli cyllid, fel y mae ynni niwclear, yn wir, mewn perygl o'i wneud.
Ofnaf fod y blaid gyferbyn, er gwaethaf eu hymrwymiad i sero net a’u hymrwymiad i ddatblygu economaidd yng Nghymru, yn gwneud yr un hen gamgymeriadau eto.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth—
A oeddech chi wedi gorffen? Iawn.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ledled Cymru, mae gennym lawer o safleoedd ecolegol pwysig mewn ardaloedd arfordirol isel iawn. Mae safleoedd fel RSPB Casnewydd ar wastadeddau Gwent, RSPB Conwy, canolfan gwlyptiroedd Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli a RSPB Ynys-hir ger Machynlleth i gyd yn safleoedd hanfodol bwysig i adar yr arfordir, sydd eisoes mewn perygl, yn anffodus. Byddai hyd yn oed ychydig o gynnydd yn lefel y môr yn drychinebus i rywogaethau fel pibydd y dorlan, y bioden fôr, a nifer o rywogaethau eraill hefyd, fel dyfrgwn a thrychfilod prin. Gallai hyd yn oed madfallod ddiflannu yng Nghymru pe baem yn colli ein gwlyptiroedd unigryw. Rwy'n pryderu efallai na fydd canolbwyntio'n unig ar atal newid hinsawdd pellach a chynnydd pellach yn lefel y môr yn ddigon i achub ein rhywogaethau adar hardd. Dylai adeiladu amddiffynfeydd ar yr arfordir i warchod safleoedd ecolegol rhag llifogydd fod yn rhan o’n hymdrech i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Weinidog, gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi archwiliad dwfn i edrych ar weithredu targed 30 erbyn 30 fframwaith bioamrywiaeth byd-eang y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, sy’n deitl hir iawn, gan ddweud y byddai hynny’n cychwyn ar ôl hanner tymor mis Chwefror, gyda thrafodaethau manwl wedi'u cwblhau erbyn canol mis Mai. O ystyried pwysigrwydd hyn cyn uwchgynhadledd COP15 eleni, a allwch roi rhagor o fanylion i ni, os gwelwch yn dda, ynghylch pryd y bydd trafodaethau'r archwiliad dwfn yn dechrau a phryd y bydd y cylch gorchwyl yn cael ei bennu?
Diben yr archwiliadau dwfn hyn yw creu adolygiad cyflym o rwystrau, ac maent yn dechrau fel proses benagored. Yn y rhai a gynhaliais ar greu coetir ac ynni adnewyddadwy, ac rwy'n gwneud rhywbeth tebyg ar hyn o bryd ar ganol trefi, y broses yn hytrach na'r canlyniad sy'n dechrau wedi'i chynllunio ymlaen llaw. Felly, rydym yn dod ag amrywiaeth o bobl ynghyd mewn ystafell, ac rydym yn cyfarfod yn ddwys dros gyfnod byr. Mae gennym gymysgedd o leisiau. Mae gennym bobl sy'n ymarferwyr, mae gennym bobl sy'n academyddion ac yn arbenigwyr polisi, ac mae gennym rai cymeriadau sy'n fwriadol lletchwith—a chredaf fod hyn yn rhan wirioneddol bwysig o'r cymysgedd—i greu rhywfaint o her a thensiwn. Yna, gofynnwn iddynt ddod gyda ni i nodi'r hyn y credant, o ystyried eu profiad, yw'r prif rwystrau a'r prif faterion sy'n codi. Ac yna, yr her allweddol gan y Gweinidog iddynt—a Julie James fydd yn arwain yr un ar fioamrywiaeth—yw eu cael i droi eu beirniadaeth yn gamau ymarferol. Mae'n hawdd iawn i arsylwyr ddweud wrthym beth sy'n bod; yr hyn sy'n anos yw llunio polisïau ymarferol a all wneud gwahaniaeth. Dyna rydym wedi'i wneud yn llwyddiannus, yn fy marn i, yn yr archwiliadau dwfn eraill, a dyna fyddwn yn ceisio ei wneud â'r archwiliad hwn y bydd Julie James yn ei arwain. Felly, mae'n amhosibl rhagweld beth fydd yn codi ohono, gan mai dyna'r holl bwynt—nid ydym yn gwybod. Ond byddwn yn dibynnu ar gynghrair dros newid i weithio gyda ni i nodi camau ymarferol.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, rwy'n gobeithio y bydd amddiffyn yr arfordir yn rhan o’r gwaith hwnnw, ond edrychaf ymlaen at ddarganfod mwy wrth i amser fynd rhagddo.
Gan droi, yn ail ac yn olaf, at adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar CNC, mae wedi tynnu sylw at bryder eang ymhlith rhanddeiliaid ynghylch gallu CNC i gyflawni ei rolau a’i gyfrifoldebau’n effeithiol oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau. Mae hynny’n cynnwys ei allu i fonitro ac asesu cyflwr ardaloedd gwarchodedig morol ac ar y tir ar gyfer natur. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, os gwelwch yn dda, am unrhyw asesiadau a wnaed o’r capasiti a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer rhaglen fonitro ddigonol ar gyfer y safleoedd hyn, a sut y mae hyn yn cymharu â’r capasiti a’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd?
Wel, ar ôl mwy na 10 mlynedd o gyni, nid oes gan yr un corff cyhoeddus yng Nghymru y capasiti y byddent yn dymuno'i gael, a chredaf fod honno'n ffaith y mae'n rhaid i ni ei derbyn. Nid yw CNC yn wahanol i gyngor Conwy nac i unrhyw gorff cyhoeddus arall, ac mae’n rhaid i ni, bob un ohonom, fyw o fewn ein gallu. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt gydag CNC ynghylch sut rydym yn blaenoriaethu. Er enghraifft, yn yr archwiliad dwfn y cyfeiriwyd ato eisoes a wneuthum ar greu coetir, un o’r pethau a nodwyd gennym yno yw bod yna 82 o bobl yr oedd rhan o’u swyddi creu coetir yn ymwneud â chodi rhwystrau rhag plannu coed. Felly, nid mater o gapasiti oedd hynny; roedd yn ymwneud â sut rydym yn defnyddio’r capasiti sydd gennym i’w alinio â’n canlyniadau polisi. Yr hyn yr ydym am ei wneud yn yr achos hwnnw yw ailgalibro’r ymdrech honno fel bod yr un bobl yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniad polisi gwahanol. Nid yw'n ymwneud â phobl ychwanegol; mae'n ymwneud â defnyddio'r bobl sydd gennych mewn ffordd wahanol. Felly, mae'r drafodaeth honno i'w chael gydag CNC yn gyffredinol, ond mae angen blaenoriaethu hefyd. Rydym wedi cynnal ymarfer cyllideb sylfaenol gyda hwy. Rydym yn mynd drwy hynny gyda hwy ar hyn o bryd fel rhan o’r ymarfer gosod cyllideb, ac rydym yn cael trafodaethau eraill gyda hwy ynglŷn â sut rydym yn trin gwahanol fathau o wariant er mwyn eu galluogi i wneud y dasg y mae pob un ohonom am iddynt ei gwneud.
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynllun atal llifogydd bae Hirael, Bangor? OQ57867
Diolch. Mae Cyngor Gwynedd yn llunio cynllun i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol ym mae Hirael. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn adolygu data modelu afon Adda. Bydd yr adolygiad yn cadarnhau'r safon warchodaeth bresennol ac yn ystyried y peryglon posibl yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd.
Diolch yn fawr. Mae nifer o ffactorau yn dod at ei gilydd i greu'r risg ym mae Hirael, yn cynnwys cynnydd yn lefelau'r môr, bwrdd dŵr uchel a'r ffordd mae'r Afon Adda yn tywallt i'r môr. Dwi'n hynod o falch bod yna arian sylweddol yn cael ei neilltuo i gynllun amddiffyn. Dwi'n ymwybodol bod yna gynllun arall ar droed yn yr ardal yma, sef cynllun i ymestyn llwybr yr arfordir. Felly, hoffwn i ddeall sut bydd y ddau gynllun yma yn plethu i'w gilydd, a sut byddwch chi'n sicrhau bod y gwaith yn digwydd ar y cyd ac yn brydlon.
Mae’r Aelod yn iawn; mae ardal Hirael yn wynebu peryglon gan ei bod yn agored i gyfuniad o ffynonellau llanw, glawog ac afonol—o'r môr, yr afon a'r awyr. Bydd hyn yn gwaethygu wrth i’r newid yn yr hinsawdd ddwysáu—gwyddom fod hyn yn wir—ac mae Hirael yn arbennig o agored i niwed. Felly, rydym yn buddsoddi, fel y nododd, £213 miliwn mewn cynlluniau llifogydd, ac mae hyn yn cynnwys cynllun ym mae Hirael. Mae ar y cam dylunio manwl gyda Chyngor Gwynedd ar hyn o bryd, ac mae'r gwaith adeiladu wedi'i gynllunio i ddechrau yn y flwyddyn ariannol nesaf sydd ar fin dechrau. Mae CNC hefyd yn diweddaru’r gwaith o fodelu perygl llifogydd afonol ar gyfer system afon Adda. Ar y pwynt penodol ynglŷn â sut y gallwn sicrhau'r manteision mwyaf posibl o ddau gynllun ar wahân, credaf fod hwnnw’n bwynt rhagorol, ac os nad oes ots ganddi, fe ystyriaf hynny ac ysgrifennu ati, yn hytrach na rhoi ateb gwag.FootnoteLink
Weinidog, diolch am eich ymateb i’r mater pwysig a godwyd gan yr Aelod dros Arfon. Gellir ailadrodd y mater a godwyd yno mewn llawer o ardaloedd ledled Cymru, yn enwedig fy rhanbarth i yn y gogledd, lle mae perygl arbennig o lifogydd arfordirol. Yn y Siambr yn gynharach y mis hwn, croesawais eich datganiad, neu ddatganiad Llywodraeth Cymru, ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Yn y datganiad hwn, Ddirprwy Weinidog, fe awgrymoch chi fod gan CNC lawer i’w wneud, ac fe sonioch chi am hynny ychydig funudau yn ôl, o ran yr adnoddau a'r ffaith bod yr adnoddau o dan bwysau. Felly, yn wyneb hyn, a chyda llifogydd mor niweidiol i’n cymunedau ac yn peri’r fath risg, yn enwedig gyda risg newid hinsawdd a grybwyllwyd gennych hefyd, pa ystyriaethau a roddwyd gennych i ddatblygu asiantaeth llifogydd genedlaethol i ymdrin yn benodol â’r risgiau hyn?
Wel, bydd Sam Rowlands yn gwybod am y pwysau ar adnoddau a'r pwysau sydd wedi dwysáu o ganlyniad i gyllideb y gwanwyn lle bydd gennym £600 miliwn yn llai yn y cylch cyllidebol hwn nag yr oeddem yn ei ragweld dros y tair blynedd nesaf, oherwydd toriadau a wnaed gan y Canghellor. Felly, nid oes gennym arian i wneud yr holl bethau yr hoffem eu gwneud. Felly, nid yw creu cyrff cyhoeddus ychwanegol yn rhywbeth y byddwn yn ymrwymo'n ysgafn iddo; byddwn am edrych yn gyntaf ar sut y gallwn gydweithio â llywodraeth leol. Ac fel cyn-arweinydd awdurdod lleol, fe fydd, rwy'n siŵr, yn sicrhau ein bod yn defnyddio llywodraeth leol i'r eithaf a ninnau wedi ymrwymo i bartneriaeth gyda hwy ar hynny. A neithiwr, er enghraifft, ar ddiogelwch adeiladau, yn hytrach na chreu cyrff ychwanegol, fel y maent yn ei wneud yn Lloegr, fe wnaethom nodi ein bod yn rhoi rhai o'r cyfrifoldebau hynny i awdurdodau lleol.
Felly, bydd yr un peth yn wir am y ffordd yr awn i'r afael â newid hinsawdd yn gyffredinol. Byddwn yn edrych, yn gyntaf oll, ar y cyrff sydd gennym—Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol, yn ogystal â phartneriaethau ag awdurdodau rheoli llifogydd eraill—i weld sut y gallwn wneud y gorau o'r rheini cyn inni ddechrau meddwl am sefydliadau ychwanegol i'w creu a'u rhedeg.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau diogelwch ynni? OQ57890
Mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau diogelwch ffynonellau ynni'r DU, a disgwyliwn weld gweithredu beiddgar yn ei strategaeth diogelu ffynonellau ynni sydd ar y ffordd, ac sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi'i gohirio eto. Yng Nghymru, rydym yn cyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy, gan gefnogi marchnadoedd ynni lleol, cynllunio a threialu arloesedd, i adeiladu system ynni sero net ar gyfer y dyfodol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Mae ein dibyniaeth ar danwydd a fewnforiwyd a hyd yn oed ynni yn ein gadael yn agored i fygythiadau allanol. Mae Vladimir Putin, ers blynyddoedd, wedi defnyddio'r bygythiad o dorri cyflenwadau i roi pwysau ar ei gymdogion Ewropeaidd. Hyd yn oed yn awr, gyda gwledydd yr UE yn gosod sancsiynau ar ffederasiwn Rwsia, maent yn dal i bwmpio biliynau i beiriant rhyfel Putin am fod angen y nwy a'r olew arnynt. Diolch byth, nid ydym mor agored i hynny, ond mae'r sgil-effeithiau wedi dyblu ein biliau ynni. Ddirprwy Weinidog, mae'r sefyllfa hon wedi tynnu sylw at yr angen am ffynonellau ynni annibynnol, gan gynnwys yr angen am bŵer niwclear newydd, fel y soniwyd mewn cwestiynau blaenorol. Wrth gwrs, bydd llawer o'r gwaith sydd ei angen yn galw am arweiniad gan Lywodraeth y DU, ond gall Llywodraeth Cymru arwain ar storio ynni, gan alluogi gwell defnydd o'n hynni adnewyddadwy. Sut y mae eich Llywodraeth yn gweithio gyda'r diwydiant i greu gwell atebion storio ynni yma yng Nghymru?
Wel, cytunaf fod storio ynni batri yn sicr yn un o'r pethau y mae angen inni fod yn ei gyflymu, ac yn sicr mae potensial gan hydrogen gwyrdd i weithredu fel ffynhonnell ar gyfer dal a storio'r ynni hwnnw. Ond unwaith eto, mae gennym gyfraniad gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma sy'n canolbwyntio ar niwclear ac ychydig iawn o bwyslais a gafwyd ar ynni adnewyddadwy. Roedd sôn am storio ynni batris, ond nid am dechnolegau adnewyddadwy, ac mae hyn yn peri dryswch i mi, o ystyried yr hyn a glywsom ganddynt am yr angen i ddiogelu ffynonellau ynni ac am gyrraedd sero net.
Rwy'n gobeithio nad oes blinder ideolegol mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy; rydym wedi gweld hynny'n ymarferol gyda'r moratoriwm ar wynt ar y tir sydd wedi bod ar waith dros y 10 mlynedd diwethaf, ac a fu'n gyfle enfawr a gollwyd. Pe bai hynny wedi bod ar waith yn awr, ni fyddem yr un mor agored i'r rhyfel yn Wcráin ag yr ydym, felly mae rhywfaint o euogrwydd ar ran Llywodraeth y DU am ei dallineb ar ynni adnewyddadwy. Felly hefyd, fel y soniais, gyda rhoi diwedd ar y tariff cyflenwi trydan yn 2019—camgymeriad o bwys sydd bellach yn ein gadael ymhellach byth ar ôl. Yn ogystal â'r methiant i gefnogi morlyn llanw bae Abertawe, a gefnogwyd gan Charles Hendry, cyn Weinidog ynni'r Ceidwadwyr, ac nid oes dim wedi'i wneud. Felly, clywn y Canghellor yn awr yn sôn am roi ffynonellau niwclear ar waith yn gyflym. Pe byddent wedi mabwysiadu'r un agwedd tuag at ddefnyddio ynni adnewyddadwy'n gyflym, ni fyddem yn wynebu'r argyfwng ynni yn awr.
Ac unwaith eto, yn y gyllideb, datganiad y gwanwyn, clywsom y Canghellor yn cyhoeddi toriad yn y dreth ar danwydd, sy'n doriad treth ar danwydd ffosil, ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £31 miliwn mewn prosiect ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn—y grant mawr olaf o gronfeydd strwythurol yr UE, y pleidleisiodd llawer yn y blaid gyferbyn dros ddod â hwy i ben. Felly, nid ydynt wedi ein rhoi mewn sefyllfa i allu wynebu'r argyfwng ynni hwn yn hyderus, a gobeithio y byddant yn cydnabod eu camgymeriad.
A gaf fi, drwy'r Dirprwy Weinidog, awgrymu wrth gyd-Aelodau ar feinciau Ceidwadol yma nad yw'n rhy hwyr i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn technoleg forol a llanw yng Nghymru, gan gynnwys technoleg môr-lynnoedd? Diwrnod ofnadwy iawn i Gymru oedd yr un pan ddywedodd Charles Hendry, y mae gennyf lawer o barch tuag ato, fod buddsoddi yn y morlyn llanw yn Abertawe yn rhywbeth amlwg i'w wneud. Rydym ar ei hôl hi pan allem fod wedi ymdrin â mater diogelu ffynonellau ynni. Ond a gaf fi ofyn iddo: a yw'n credu ei bod yn iawn mai'r hyn y dylem fod yn ei wneud yn awr, wrth inni wynebu nid yn unig argyfwng o ran diogelu ffynonellau ynni, ond yr argyfwng hir, parhaus—a bydd gyda ni am genedlaethau i ddod—newid hinsawdd, yw mynd i'r afael â'r ddau gyda'i gilydd? Ac mae hynny'n golygu dyblu ymdrechion mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, a storio ynni batris ac yn y blaen, ond heb fynd ati i ailagor tanwydd ffosil a ffracio olew môr y Gogledd—dyblu ein hymdrechion gydag ynni adnewyddadwy, technoleg hydrogen ac yn y blaen? Dyna'r ffordd y dylai Cymru arwain y maes.
Wel, bydd Huw Irranca-Davies yn cofio mai ni, yng Nghynhadledd y Partïon yn Glasgow, oedd yr unig Lywodraeth yn y DU a safodd ochr yn ochr â Denmarc a Sweden a Seland Newydd ac eraill i sefydlu Cynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy, gan addo peidio ag echdynnu rhagor o olew a nwy. Mae gan Gymru gyflenwad sylweddol o'r ddau, o bosibl, ond rydym wedi gwneud penderfyniad egwyddorol clir nad yw hynny'n gyson â'n nod o gyrraedd ein rhwymedigaethau sero net, a hyd yn oed yn wyneb argyfwng, nid ydym yn mynd i gilio rhag hynny. Mae Llywodraeth y DU, a wnaeth lawer o siarad mawr yn Glasgow, wedi anghofio'r ymrwymiadau hynny'n gyflym ac maent bellach yn troi'n ôl at danwydd ffosil, heb ddysgu dim o wersi'r gorffennol, a hefyd heb gadw at eu hymrwymiadau sero net. Ni fydd yn bosibl cyrraedd sero net erbyn 2050 os ydym yn cynyddu ein hallyriadau o olew môr y Gogledd. Mae hynny'n gamgymeriad sylweddol ac yn ymagwedd dymor byr eto fyth gan Lywodraeth y DU.
Mae Huw Irranca-Davies yn iawn: mae cyfle yma i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd tra byddwn hefyd yn cynyddu cydnerthedd ffynonellau ynni, gan leihau tlodi tanwydd, a chynyddu cyfoeth lleol drwy harneisio potensial economaidd ynni adnewyddadwy i economi Cymru, a dyna rydym yn canolbwyntio arno.
Cwestiwn 5, Jane Dodds.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Os caf barhau â thema ynni adnewyddadwy.
5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i brosiectau ynni adnewyddadwy bach a chymunedol? OQ57877
Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi llwyddo i gefnogi ynni cymunedol ers 2010. Ar hyn o bryd rydym yn darparu cymorth drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru a thrwy gyllid grant Ynni Cymunedol Cymru. Rydym yn cynyddu ein cefnogaeth i ynni lleol a chymunedol drwy weithredu argymhellion yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy.
Diolch yn fawr iawn. Y llynedd cefais gyfle i ymweld â phrosiect trydan dŵr Hafod y Llan, prosiect ynni adnewyddadwy mawr cyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ar fy ymweliad, tynnodd tîm y prosiect sylw at y ffaith y byddai'r cyfleoedd ariannol sydd ar gael i gynlluniau bach fel eu rhai yn yr Alban yn helpu i roi hwb gwirioneddol i'r sector yma yng Nghymru. Sefydlodd Llywodraeth yr Alban y Cynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy i annog perchnogaeth leol a chymunedol ar brosiectau ynni adnewyddadwy ledled yr Alban ac i helpu i hybu manteision systemau ynni adnewyddadwy i'r eithaf, boed yn eiddo masnachol neu gymunedol. A gaf fi ofyn felly pa gymorth ariannol y byddwch yn ceisio'i gyflwyno ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy bach, megis y rhai yn Hafod y Llan, i gyflawni ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.
Wel, fel y soniodd Jane Dodds yn gywir, mae gennym darged i sicrhau cynnydd o 100 MW yn yr ynni a gynhyrchir gan gyrff cyhoeddus rhwng yn awr a 2026. Rydym wedi gweld enghraifft ragorol Ysbyty Treforys, lle mae fferm solar bellach wedi'i hagor sy'n pweru'r ysbyty'n gyfan gwbl am ran sylweddol o'r amser. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda grwpiau ynni cymunedol, oherwydd fel y dywedais, yr egwyddor a ddaeth allan o'r archwiliad dwfn oedd bod angen inni nid yn unig gyrraedd ein targedau newid hinsawdd, ond bod angen inni wneud hynny mewn ffordd sy'n cadw cyfoeth o fewn ein heconomi leol, ac nid ydym am weld datblygiad economaidd echdynnol fel y gwelsom ar adegau blaenorol o chwyldro diwydiannol yn digwydd y tro hwn. Felly, mae ynni cymunedol yn hanfodol i hynny. Ac mae llawer i'w edmygu am Gynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy yr Alban. Mae gennym ein cynllun ein hunain, sef gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cymorth technegol a masnachol i brosiectau a arweinir gan y gymuned. Yn ddiweddar, rydym wedi dyfarnu £2.35 miliwn i Gydweithfa Egni i gyflwyno cam arall o'u rhaglen solar ardderchog ar doeon, cynllun yr ymwelais ag ef yng Nghaerllion yn ddiweddar, a bydd hwnnw'n darparu 2 MW arall o gapasiti mewn dwylo lleol ac yn hollbwysig, fe fydd yn darparu cynnig cyfranddaliad cymunedol. Felly, nid yn unig y mae'r adeiladau cyhoeddus hyn yn cael trydan rhad ac am ddim, maent hefyd yn cael cyfran yn y gydweithfa. Mae'n esiampl wych.
Felly, o ran esiampl yr Alban, mae ein grant ynni lleol ein hunain a'n cronfeydd benthyciadau ynni lleol mewn gwirionedd yn cynnig cymorth mwy hael nag y mae cynllun yr Alban yn ei wneud. Ond rwy'n credu bod eu model allgymorth cymunedol yn un diddorol iawn, ac yn un y byddwn yn sicr â diddordeb mewn edrych arno ymhellach fy hun. Felly, diolch ichi am dynnu ein sylw at hynny.
Wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn atodol hwn, roeddwn i'n meddwl yr awn i dudalen we ynni cymunedol Llywodraeth Cymru i weld beth oedd yr wybodaeth a'r canllawiau diweddaraf ar gyfer pobl Cymru sy'n awyddus i chwarae eu rhan drwy ddatblygu ynni gwyrdd ac adnewyddadwy iddynt hwy eu hunain a'u cymunedau. Ac o gofio bod y Dirprwy Weinidog, yn yr ymateb i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi dweud bod ynni cymunedol yn cael ei gynyddu, roeddwn yn disgwyl gwefan sy'n llawn o'r holl wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf cyfredol, o gofio'r brys sydd yna i newid i ynni adnewyddadwy. Cefais syndod, felly, o weld nad yw eich gwefan chi, gwefan Llywodraeth Cymru ei hun sydd â'r nod o gefnogi'r bobl i ddatblygu ynni cymunedol, wedi'i diweddaru ers mis Medi 2019, gyda pheth gwybodaeth megis canllawiau ar y tariff cyflenwi trydan a chanllawiau ar y cymhelliad gwres adnewyddadwy yn mynd yr holl ffordd yn ôl i 2015, cyn i'r Dirprwy Weinidog gael ei ethol i'r lle hwn hyd yn oed. Efallai eich bod yn siarad yn dda, Ddirprwy Weinidog, ond onid y gwir amdani yw bod yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei ddweud a'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud yn ddau beth gwahanol iawn?
Wel, mwynheais yn fawr y ffordd yr ymlwybrodd yr Aelod ar hyd yr uwchbriffordd wybodaeth. Nid wyf yn siŵr a yw'n taro'r pwynt yn llwyr, serch hynny, ond rwy'n barod i edrych ar hynny, oherwydd yn amlwg, mae angen ei ddiweddaru. Ond fel y soniais yn fy ateb i Jane Dodds, rydym yn ariannu Ynni Cymunedol Cymru i fod yn ganolbwynt i ddarparu cyngor ar sut i fwrw ymlaen â chynlluniau ynni cymunedol, ac rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelod fod eu gwefan hwy yn gwbl gyfredol.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion i yrru cerbydau gwyrddach? OQ57872
Rydym yn buddsoddi mewn cyflwyno pwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd i gefnogi'r newid i gerbydau trydan yn unol â'n strategaeth wefru cerbydau trydan. Rydym hefyd yn mapio cynlluniau gyda'r diwydiant i newid i fysiau dim allyriadau, treialu cynlluniau tacsis a cherbydau hurio preifat, treialu cynlluniau e-feiciau a buddsoddi mewn clybiau ceir dim allyriadau.
Mae gwerthiant e-geir yn cynyddu'n gyson ledled y DU, wrth i weithgynhyrchwyr ceir hyrwyddo'n berffaith y manteision o gefnu ar ddiesel a phetrol. Ar y cyfandir, dyblodd yr Almaen gymhellion ar gyfer cerbydau trydan yn 2020, gan gynnig bonws o €3,000 ar gyfer cerbydau trydanol llawn a €2,250—Ewros, gallwn ychwanegu—tuag at gerbydau hybrid, yn ogystal ag esemptiad treth 10 mlynedd a chyfraddau TAW is. Mae Ffrainc hefyd wedi ymuno â'r rhestr o wledydd Ewropeaidd sy'n darparu cymhellion cerbydau trydan, gan gynnig pecyn cymorth i gynhyrchwyr cenedlaethol fel Renault i'w hannog i gynhyrchu mwy o gerbydau trydan. Mae Llywodraeth Ffrainc hefyd yn cynnig esemptiadau treth sy'n gysylltiedig â charbon deuocsid i ddefnyddwyr a chymorthdaliadau o hyd at €7,000 a chynllun sgrapio hen geir tanwydd traddodiadol. A wnaiff y Gweinidog gefnogi galwadau i gynnal cynllun sgrapio o'r fath yma yng Nghymru, ac a wnewch chi wedyn weithio gyda chwmnïau cerbydau trydan fel y gallent symud eu gweithgareddau cynhyrchu yma inni allu ysgogi swyddi medrus iawn yn y sector gwyrdd a hyrwyddo Cymru fel arweinydd a diwydiant marchnad werdd fyd-eang?
Wel, fe wnaethom gyhoeddi cynllun gweithredu ym mis Hydref y llynedd, ac rwy'n falch fod Llywodraeth y DU, ddydd Gwener diwethaf, wedi cyhoeddi ei strategaeth hirddisgwyliedig ar gyfer gwefru cerbydau trydan o'r diwedd. Roedd honno'n gosod targed ar gyfer deg gwaith yn fwy o wefru cyhoeddus ledled y DU erbyn 2030, felly rydym yn croesawu hynny. Llywodraeth y DU sydd â'r dulliau o wneud hyn yn bennaf, ac rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i wneud cais i gronfa'r Swyddfa Cerbydau Dim Allyriadau ar gyfer gwefru cyhoeddus. Nawr, yn anffodus, mae awdurdod yr Aelod ei hun yng Nghonwy wedi methu ymgysylltu â'r gronfa hon, ond byddwn yn mynd ar drywydd hyn ymhellach, oherwydd mae cyfle i'w hetholwyr elwa o hyn. Ac yn wir, pan oeddwn yn bwriadu gyrru i Landudno fy hun yn ddiweddar mewn cerbyd trydan, ychydig iawn o safleoedd y gallwn ddod o hyd iddynt ar yr ap Zap-Map, felly rwy'n gobeithio y bydd yn perswadio ei hawdurdod ei hun, a chredaf ei bod yn dal yn aelod ohono, neu tan yr wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Tan yr wythnos diwethaf, mae'n ddrwg gennyf. Felly, mae—
Pwynt o drefn—
Na, nid oes angen i chi wneud pwynt o drefn. Nid wyf yn meddwl bod Janet Finch-Saunders yn gynghorydd mwyach.
Na, yn wir, tan yr wythnos diwethaf. Maddeuwch imi, Lywydd, rwy'n dal i glywed ei datganiadau o fuddiant yn fy mhen, felly maent wedi aros yno.
Rydym wedi ariannu cynllun peilot tacsis gwyrdd yn sir Ddinbych, yn sir Benfro ac yng Nghaerdydd i 'brofi cyn prynu' ac rydym wedi gosod pwyntiau gwefru cyflym yn yr ardaloedd hynny, ac rydym yn cynllunio pwyntiau gwefru cyflym ar y rhwydwaith ffyrdd strategol eleni, yn ogystal â'r prosiect peilot beiciau trydan, fel y soniais, gydag un ohonynt yn y Rhyl, ac roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn hwnnw fy hun, gan ei fod yn brosiect rhagorol sy'n ennyn brwdfrydedd mawr.
Ar ei phwynt am gynlluniau sgrapio, mae'n bwynt diddorol ac yn un y mae gennym feddwl agored yn ei gylch. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o'i wneud yw ar lefel y DU. Mae perygl yma, rwy'n credu, oherwydd ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu fforddio ceir trydan am beth amser, nes y daw marchnad geir ail-law gadarn i'r amlwg. Rydym yn gweld tua chwarter yr aelwydydd heb fynediad at unrhyw gar o gwbl, ac mae angen inni benderfynu lle'r ydym yn rhoi adnoddau prin. A ydym yn gwneud hynny drwy wasanaethu pobl sydd eisoes â ffordd o gael car a rhoi car gwyrdd braf iddynt, neu a ydym yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus, a rhoi hynny i bobl ar incwm isel nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth? Felly, dyna'r cyfyng-gyngor sydd gennym. Mae cynllun diddorol iawn ar waith yn Birmingham fel rhan o'u parth aer glân, y gwn eich bod yn ei wrthwynebu, sy'n edrych ar gynllun sgrapio i gymell pobl i yrru i ganol y ddinas mewn cerbydau glân. Felly, credaf fod dadl barhaus i bawb ohonom ei chael am y cydbwysedd cywir i'w daro er mwyn cyrraedd y targedau angenrheidiol hyn.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni? OQ57875
Bydd methiant Llywodraeth y DU i gamu i'r adwy yn ddinistriol i aelwydydd ledled y DU. Rydym wedi rhoi camau cyflym ar waith—gan ddyblu'r taliad tanwydd y gaeaf i £200 ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf, cyflwyno ad-daliad treth gyngor mwy hael na Llywodraeth y DU a chynyddu ein cronfa ddewisol ar gyfer deiliaid tai sy'n ei chael yn anodd.
Weinidog, rydych yn iawn ynglŷn ag un peth: mae'r rhyfel yn Wcráin, fel y dywedoch chi'n gynharach, wedi rhoi ffocws clir i bwysigrwydd ffynonellau ynni annibynnol. Gan ei fod o fewn eich rheolaeth, ac o ran diddordeb, fel Llywodraeth a fyddwch chi yn awr yn ailystyried eich safbwynt ar ffracio?
Na fyddwn.
8. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau tai addas i ateb galw cymunedol? OQ57882
Gwnaethom ragori ar ein hymrwymiad tai blaenorol yng Nghymru ac rydym yn parhau i adeiladu ar hyn. Mae ein targed o 20,000 o gartrefi yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y cartrefi yn y sector cymdeithasol. Rydym wedi dyrannu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn tai am y tair blynedd nesaf i gefnogi'r angen am gartrefi ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hwnna. Dwi'n croesawu'r cynnydd sydd wedi cael ei weld yn y gyllideb tuag at dai cymdeithasol. Os ydyn ni i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, yna mae'n rhaid, wrth gwrs, wrth rhagor o dai cymdeithasol, ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn addas i bwrpas. Dwi wedi mynd i weld nifer fawr o etholwyr yn ddiweddar sydd yn gorfod byw mewn tai anaddas. Cymerwch Claire, er enghraifft. Mae hi'n fam i bedwar o blant bach, dwy ohonyn nhw'n fabanod, ac mae hithau'n byw ar y fflat uchaf ac yn gorfod cario'r goetsh i fyny, gadael y baban i fyny'r staer, yna mynd i lawr staer i gario'r goetsh, yna mynd â'r ail faban, ac yna'n ôl lawr staer eto am y trydydd neu'r pedwerydd gwaith i fynd i nôl ei siopa—tŷ cwbl anaddas ar ei chyfer hi, a'r tŷ hefyd yn oer ac yn damp. Un enghraifft ydy Claire o nifer fawr yn fy etholaeth i, heb sôn am enghreifftiau ym mhob etholaeth arall.
Rydyn ni'n gwybod hefyd fod yna alw am fyngalos ar gyfer pobl ag anghenion symudedd neu bobl oedrannus, ac mae yna alw cynyddol am dai un llofft ar gyfer haen o bobl benodol o fewn ein cymdeithas ni. Pa gamau, felly, ydych chi fel Llywodraeth yn eu cymryd, nid yn unig i adeiladu mwy o dai ond i adnabod anghenion pobl a sicrhau bod y tai newydd naill ai yn cyfarch y galw neu'n medru cael eu haddasu'n hawdd ac yn rhad i gyfarch anghenion penodol?
Wel, mae Mabon ap Gwynfor yn gwneud nifer o bwyntiau teg yno, ac mae'n gwneud dwy feirniadaeth hanfodol nad yw'r system tai cymdeithasol wedi bwydo'r galw ers degawdau lawer, sy'n gywir, a bod tai'r sector preifat yn darparu gormod o'r un mathau o dai ac nad ydynt yn darparu ar gyfer yr ystod o anghenion, megis byngalos, a cheir set gymhleth o broblemau o dan y ddau fater hynny.
Rydym yn mynd i'r afael â'r cyntaf gyda tharged uchelgeisiol iawn o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol, ac mae cynnydd yn cael ei wneud eleni yng Ngwynedd. Rwy'n falch o weld saith cynllun tai yn cael eu hariannu ar gyfer rhent cymdeithasol, sydd â'r potensial i ddarparu 88 o gartrefi yn y blynyddoedd i ddod, gan wneud peth gwahaniaeth yn y cymunedau hynny. O ran y feirniadaeth ehangach o'r ffordd y gall y farchnad ddarparu dull mono o ymdrin â thai, dull gweithredu ar raddfa fawr, ac nid yr amrywiaeth sydd ei hangen ar boblogaeth sy'n heneiddio, mae hynny'n galw am darfu pellach ar fodel y farchnad. Ac fel y gŵyr, drwy ein cytundeb cydweithio, rydym yn treialu amrywiaeth o wahanol ddulliau, yn ogystal â'n cyfres o ddiwygiadau dulliau modern o adeiladu, er mwyn annog adeiladu tai sydd wedi'u cynllunio'n dda ac amrywiaeth ehangach o dai i ailgyflenwi'r stoc dai.
Ond yn y pen draw, methiant y farchnad yw hyn, a thrwy ein prosiectau economi sylfaenol, mae angen inni weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ysgogi cadwyni cyflenwi lleol a chael cwmnïau adeiladu bach a chanolig lleol i gamu'n ôl i'r farchnad dai yn hytrach na gwneud estyniadau a garejys fel y maent yn canolbwyntio'n bennaf arnynt ar hyn o bryd am fod hynny'n darparu elw dibynadwy a chyflym. Mae angen inni gael dull o weithredu sy'n wahanol i'r farchnad er mwyn diwallu'r angen y mae'n ei grybwyll.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr eitem yna.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.
1. Pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ57891

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn gallu cael mynediad at addysg o safon uchel a chyrraedd eu potensial llawn. Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i ddiwallu angen dysgu ychwanegol yn cael y cymorth wedi'i gynllunio'n briodol a'i ddiogelu.
Diolch, Weinidog, a chyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Yn ddiweddar, rwyf wedi llwyddo i helpu teulu etholwr yn sir Benfro sydd wedi gorfod ymladd er mwyn i'w plentyn allu ymuno â'u chwaer a mynychu uned gynhwysiant Canolfan Elfed yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth dros y ffin yn sir Gaerfyrddin. Mae'r uned hon yn darparu gwasanaeth a darpariaeth ragorol ar gyfer ystod o blant oedran ysgol uwchradd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fodd bynnag, heb fy ymyrraeth i, ni fyddai'r plentyn wedi gallu ymuno â'u chwaer, gan rannu'r un tacsi i ac o'r ysgol, a chael y cymorth addysgol y maent ei angen. Roedd diffyg cyfathrebu neu ddealltwriaeth rhwng y ddau awdurdod lleol, ac anwybyddwyd synnwyr cyffredin. Yr hyn yr hoffwn ei wybod, Weinidog, yw: pam ei bod mor anodd i ddisgyblion ag angen dysgu ychwanegol gael y cymorth sydd ei angen arnynt os yw'n golygu croesi ffin sirol? A pha gamau yr ydych chi a'ch Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad yw cymorth anghenion dysgu ychwanegol yn loteri cod post? Diolch, Lywydd.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Ni allaf wneud sylw am fanylion sefyllfa ei etholwyr am resymau y bydd yn eu deall, ond os gwnaiff ysgrifennu ataf am y sefyllfa benodol honno, byddaf yn hapus iawn i gael fy swyddogion i ymchwilio i'r mater.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr safon uwch eleni o ystyried effaith y pandemig ar eu haddysg? OQ57864
Mae CBAC wedi cyhoeddi addasiadau i arholiadau, gan leihau cynnwys a darparu gwybodaeth ymlaen llaw i helpu dysgwyr i baratoi. Rydym wedi darparu £24 miliwn o gyllid ar gyfer y flwyddyn arholiadau i ddarparu cymorth gyda phresenoldeb, addysgu, adolygu a phontio i alluogi myfyrwyr Safon Uwch i symud ymlaen. Mae ymgyrch gyfathrebu sy'n cyfeirio dysgwyr at adnoddau adolygu a llesiant defnyddiol wedi dechrau.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm â myfyrwyr Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Llanidloes yn fy etholaeth fy hun wedi i fyfyriwr penodol gysylltu â mi. Cyfarfûm â nifer o fyfyrwyr. Fe wnaethant amlinellu eu pryderon. Soniais am lawer o'r hyn yr ydych newydd ei ddweud yn awr, Weinidog—soniais am y pecyn cymorth a gyhoeddwyd gennych cyn y Nadolig. Ond daeth un myfyriwr penodol yn ôl ataf, ac fe nodaf yr hyn a ddywedodd. Rwy'n gobeithio y gallwch chi helpu i'w ateb yn uniongyrchol. Yr hyn y mae'r myfyriwr penodol hwn yn ei ddweud yw y 'dylai cymorth addysgol fod yr un mor hygyrch i bob myfyriwr, ni waeth pwy y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried yn fwy difreintiedig.' Credaf ei fod yn gwneud y pwynt hwnnw oherwydd eich bod yn targedu disgyblion difreintiedig yn fawr iawn. Wel, maent am wybod pwy sy'n ddifreintiedig a sut rydych chi'n diffinio hynny.
Mae'r myfyriwr yn mynd rhagddo i ddweud, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r ffyrdd y mae ffactorau megis presenoldeb yn effeithio'n negyddol ar ddisgyblion?' Ac mae'n mynd rhagddo i ddweud y gallai fod 100 y cant o'r disgyblion yn bresennol, ond efallai nad yw athrawon i mewn oherwydd y pandemig, a sut y mae hynny'n effeithio ar eu dysgu addysgol hefyd. Mae hefyd yn sôn sut 'nad yw newid neu dorri cynnwys yn darparu llawer o farciau, yn seiliedig ar ein gwybodaeth am bapurau'r gorffennol.' Ac mae'r rhain yn ffactorau nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn eu hystyried wrth gynnig cymorth. Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch helpu i ymateb yn uniongyrchol i'r myfyriwr penodol hwn sydd â'r pryderon penodol hyn a'r pwyntiau penodol y maent wedi'u crybwyll wrthyf.
Gallaf, wrth gwrs. Mae'r cymorth sydd ar gael yno i fyfyrwyr ym mhob rhan o Gymru, ac mae ar gael yn gyfartal. A hoffwn ofyn i'ch myfyriwr edrych ar wefan Lefel Nesa, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru rai wythnosau'n ôl, sydd â chyfres o adnoddau i gefnogi dysgwyr gyda'u harholiadau yn ogystal â dynodiad cynhwysfawr o beth yw'r newidiadau i gynnwys cyrsiau, beth yw'r rhybudd ymlaen llaw ynglŷn â phob un o'r meysydd arholi, a'r gyfres o adnoddau sydd ar gael i'w cefnogi gyda materion llesiant ac iechyd meddwl, ac mae hynny ar gael i bob dysgwr unigol yng Nghymru.
Bydd y ffiniau graddau ar gyfer arholiadau yr haf hwn, fel y gŵyr yr Aelod, ar bwynt rhwng 2019 a 2021, a bydd hynny'n berthnasol i bob myfyriwr yn gyfartal. Mae'r £7.5 miliwn o gyllid a ddyrannwyd i gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau craidd mewn cymwysterau fel mathemateg a Saesneg ar gael i bob myfyriwr. Yn benodol—gan fod ei etholwr wedi nodi'r pryder ynglŷn â'r rhai y bu'n rhaid iddynt golli llawer o ysgol—bydd £7 miliwn o'r cyllid a gyhoeddais cyn y Nadolig yn cefnogi'r rheini y mae eu lefelau presenoldeb wedi bod yn arbennig o isel, a £9.5 miliwn arall i gefnogi pob myfyriwr sy'n pontio o'r ysgol i addysg bellach neu golegau chweched dosbarth. Felly, mae'r pecyn hwnnw o gymorth ar gael i bob myfyriwr yng Nghymru. Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anghenion penodol, ond mae hynny'n adeiladu i raddau helaeth ar y dull y mae'r Llywodraeth hon wedi'i fabwysiadu drwy gydol y broses, sef darparu lefel gyffredinol o gymorth, ond targedu cymorth ychwanegol at y rhai sydd fwyaf o'i angen.
Roedd fy nghwestiwn yn mynd i fod yn debyg iawn i gwestiwn Russell George, felly fe wnaf ei addasu ychydig i ddweud fy mod innau wedi cael yr un math o sylwadau. Mae un etholwr yn benodol wedi gofyn am beidio â chynnal arholiadau eleni. Nawr, nid yw honno'n farn rwy'n ei chefnogi mewn gwirionedd, oherwydd os ydym am symud oddi wrth arholiadau credaf fod angen ei wneud mewn ffordd strategol ac wedi'i chynllunio. Ond yn sicr mae'n dynodi'r pryder y mae'r rhiant dan sylw'n ei deimlo dros eu plant, a sut y mae eu plant yn teimlo. Felly, rydych wedi amlinellu peth o'r cymorth ychwanegol. Yn y dyfodol, a wnewch chi ystyried edrych ar arholiadau fel dull o asesu, ac efallai, mewn pynciau nad yw arholiadau yn ddull mor addas o'u hasesu, yn ystyried symud at fath mwy cytbwys o asesu a allai ddileu peth o'r straen ar yr adeg honno o'r flwyddyn i fyfyrwyr?
Wel, ar y pwynt ynglŷn ag arholiadau, rwy'n deall, yn amlwg, y bydd myfyrwyr eleni yn sefyll arholiadau allanol am y tro cyntaf, ac mae rhywfaint o'r cymorth a amlinellais yn fy ateb i Russell George wedi'i fwriadu'n benodol ar gyfer cefnogi'r myfyrwyr hynny. Yr her y buom yn ymgodymu â hi drwy gydol y broses mewn gwirionedd yw colli amser addysgu. Dyna'r cwestiwn sylfaenol y mae dysgwyr eu hunain yn ymgodymu ag ef, ac roedd y penderfyniad i gynnal arholiadau eleni yn adlewyrchu'n rhannol y sefyllfa ledled y DU, ac nid oeddwn am i ddysgwyr yng Nghymru fod o dan anfantais oherwydd hynny, ond yn yr un modd, roedd y profiad o bennu graddau gan ganolfannau ar gyfer y llynedd yn golygu bod hyd yn oed llai o amser addysgu ar gael, oherwydd cafodd amser athrawon ei dreulio'n gwneud yr asesiad mewn gwirionedd. Felly, mae hynny'n rhan o'r meddwl y tu ôl i'r penderfyniad i gynnal arholiadau yr haf hwn.
Mae'r cwestiwn mwy hirdymor yn gwestiwn pwysig. Credaf ein bod, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, wedi deall bod gan wahanol ddulliau asesu gyfraniad gwahanol i'w wneud. Fel y gŵyr, mae Cymwysterau Cymru yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd o arholiadau TGAU yn gyffredinol. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chynnwys cyrsiau, ond mewn gwirionedd mae trafodaeth bwysig iawn i'w chael am y cydbwysedd rhwng dulliau arholi a dulliau nad ydynt yn cynnwys arholiadau, a hefyd yr adegau o'r flwyddyn y caiff asesiadau eu cynnal, ac rwy'n gobeithio y bydd y broses honno, y broses adolygu honno, sy'n agored i bawb gyfrannu ati, yn arwain at ddiwygio uchelgeisiol yn hynny o beth.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, gallwn ofyn myrdd o bethau ichi heddiw, ar brydau ysgol am ddim, llyfr jiwbilî'r Frenhines, arholiadau, fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod, neu unrhyw beth, ond mae gennyf faterion gwirioneddol bwysig yr hoffwn ichi roi sylw iddynt. Mae wedi dod i'r amlwg yn ystod ein hadolygiad o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion a gynhelir gennym ar hyn o bryd yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg nad oes neb wedi'i gomisiynu gan y Llywodraeth hon i gasglu tystiolaeth ar yr effaith y mae wedi'i chael ar blant sy'n cael eu haddysg gartref. Dechreuodd hyn ganu larymau yn fy meddwl wrth gwrs, gan fod Cymru wedi gweld nifer y plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, gellid dweud bod y dystiolaeth hon yn hanfodol mewn gwirionedd, ac mae'n arwain at gwestiynau pellach ynglŷn â pha dystiolaeth sy'n bodoli ar blant a addysgir gartref. Felly, eglurodd yr Athro Renold, a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth, nad oes tystiolaeth ar gael, ac os caf ei dyfynnu hi, dywedodd fod gwir angen ei chael. Felly, a oes gennych dystiolaeth, Weinidog, am blant sy'n cael eu haddysgu gartref a sut yr effeithiwyd arnynt, nid yn unig gan aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, ond gan y pandemig ac yn fwy cyffredinol? A pha amddiffyniadau sydd ar waith ar gyfer y plant hyn tra'u bod yn cael eu haddysg gartref?
Mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn am fater difrifol iawn. Ac mae hi'n iawn, yn amlwg, i nodi'r ffaith ei bod yn fwy heriol ceisio deall profiad plant sy'n cael eu haddysgu gartref, a dyna pam ein bod yn awyddus i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu yn yr ysgol gyda'u cyfoedion, yn ddarostyngedig i'r drefn ddiogelu y mae pob ysgol yn ei gweithredu.
Bydd yn gwybod bod y gwaith a oedd gennym ar y gweill i gyflwyno deddfwriaeth i ddiweddaru'r deddfau addysgu gartref wedi'i ohirio, neu wedi'i oedi i bob pwrpas, oherwydd COVID. Ond gallaf ddweud ein bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn—gobeithio y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yr haf hwn—gyda'r bwriad o'i roi ar waith erbyn y flwyddyn nesaf, a fyddai'n cryfhau'r offer sydd ar gael i awdurdodau lleol yn y maes hwn.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o arweinyddiaeth addysgol y llynedd. Cwblhawyd yr adolygiad arweinyddiaeth yr hydref diwethaf, ond nid yw wedi'i gyhoeddi. Weinidog, yn syml: pryd y byddwch yn rhyddhau'r adroddiad hwn a pham y buoch yn ei ddal yn ôl cyhyd?
Wel, nid wyf wedi bod yn ei ddal yn ôl. Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn. Fe wyddom—a bydd yn cofio o fy natganiad yr wythnos diwethaf ynglŷn â sicrhau bod gennym system sy'n cyflawni safonau a dyheadau uchel ar gyfer ein holl ddysgwyr—mai un o'r pethau sy'n cyfrannu'n allweddol at hynny yw arweinyddiaeth ysgolion ac mae arweinyddiaeth dda mewn ysgolion yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn nodi hynny fel blaenoriaeth. Mae'r gwaith gyda'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn y lle hwn yn dystiolaeth o hynny. Byddaf yn cyflwyno datganiadau pellach mewn perthynas ag arweinyddiaeth yn ystod tymor yr haf.
Weinidog, nid yw'n ddigon da eich bod wedi bod yn dal yr adroddiad hwn yn ôl cyhyd. Dywedwyd wrthym yn ystod y cyhoeddiad am yr adolygiad:
'Bydd yr Adolygiad Arweinyddiaeth hwn yn llywio datblygiadau yn y dyfodol ac yn rhoi eglurder ar y cymorth sydd gennym i arweinwyr ysgolion ar draws y system, a'r cymorth y bydd ei angen arnynt i'w galluogi i wireddu'r cwricwlwm newydd.'
Dywedwyd wrthym hefyd y byddai'n cael ei ryddhau ddiwedd y llynedd, yma yn natganiad eich Llywodraeth eich hun i'r wasg—yr adroddiad penodol hwn, Weinidog. Pam nad yw wedi'i ryddhau, Weinidog? Ai oherwydd bod yr adroddiad yn eithaf damniol ynglŷn â'r consortia rhanbarthol ac felly, drwy gysylltiad, ynglŷn ag arweinyddiaeth y Llywodraeth hon ar addysg yng Nghymru? Weinidog, mae'n fater o 'ie' neu 'na' syml ar hyn: a wnewch chi ymrwymo i ryddhau'r adroddiad penodol hwnnw ar unwaith?
Fel y dywedais wrth yr Aelod yn fy ymateb cynharach, bwriadaf gyflwyno datganiad yn nhymor yr haf ar arweinyddiaeth a bydd hwnnw'n nodi ein safbwynt bryd hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Weinidog, mae adroddiad blynyddol diweddaraf 'Cymraeg 2050', a gyhoeddwyd mis diwethaf, yn nodi bod yna bellach 19 o ganolfannau trochi a thair canolfan uwchradd ar draws 10 sir yng Nghymru, gyda siroedd yn darparu cymorth trochi hwyr i ddysgwyr o ystod o oedrannau. Hefyd, mis diwethaf, cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig o ran addysg drochi Cymraeg, ac mae hwn yn rhestri'r canolfannau trochi Cymraeg yng Nghymru ac mae'n gwneud yn glir bod diffyg canolfannau trochi mewn 12 awdurdod lleol—a hyd yn oed pan fod yna ganolfan, nifer bach o ganolfannau trochi sydd.
Fel mae'r Gweinidog wedi'i gydnabod, mae darpariaeth trochi hwyr yn hanfodol wrth inni weithio tuag at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac er bod £2.2 miliwn wedi cael ei gyhoeddi i gefnogi trochi yn y Gymraeg, a bod wyth ardal awdurdod lleol wedi creu canolfannau trochi hwyr Cymraeg cyntaf, mae yna'n dal angen dirfawr ledled Cymru. Pa gynnydd sydd wedi ei wneud, felly, Weinidog, yn sgil hyn, o ran ehangu nifer y canolfannau trochi ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, ac ydy'r £2.2 miliwn o gyllid a ddyrannwyd yn mynd i fod yn ddigon i ddiwallu'r angen a hynny mewn modd sy'n gyfartal a chyson ledled Cymru?
Wel, mae'r cwestiwn—. Diolch i'r Aelod am y gydnabyddiaeth o'r buddsoddiad o £2.2 miliwn eleni. Mae'r buddsoddiad hwnnw, wrth gwrs, yn gam mawr ymlaen. Rwy wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n cefnogi'r sector drochi oherwydd y rôl greiddiol sydd gan drochi yn darparu mynediad hafal at addysg Gymraeg.
Mae amryw o gyfleodd fan hyn. Beth rŷn ni wedi'i weld gyda dyraniad y grant o jest dros £2 filiwn yw bod diddordeb ym mhob rhan o Gymru i allu cynyddu'r gallu i ddarparu. Dyw pob un awdurdod ddim yn yr un man o ran eu llwybr tuag at hynny. Mae rhai, wrth gwrs, yn arloesi ac yn arwain y ffordd, ac yn dangos esiampl efallai i rannau eraill o Gymru i ddysgu. Felly, mae hynny'n beth calonogol yn ei hunan, ond mae pob rhan, pob awdurdod lleol, wedi dangos diddordeb, ond efallai diddordeb o wahanol fath. Mae rhai'n ehangu darpariaeth, mae rhai yn ehangu cyflogi staff i allu dechrau ar y llwybr, ond mae'r darlun o gynnydd yn gyffredin ar draws Cymru.
Diolch, Weinidog. Ar thema debyg, cyfeiriodd Samuel Kurtz at ei etholwr yn gynharach, gan ddisgrifio ADY fel 'loteri cod post', ac fel y gwyddoch yn iawn, un o nodau craidd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw system ddwyieithog. Codwyd pryderon yn ystod taith y Ddeddf drwy'r Senedd, yn bennaf ynghylch argaeledd gwasanaethau ADY drwy gyfrwng y Gymraeg a gallu'r system i ateb y galw. Hynny yw, a yw'r gweithlu angenrheidiol ar waith i sicrhau mynediad cyfartal at ddarpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg.
O ran y ddarpariaeth bresennol, lle mae angen cymorth mwy arbenigol, fel cymorth gan seicolegwyr addysg neu therapyddion lleferydd ac iaith, nid yw hyn bob amser ar gael yn Gymraeg, oherwydd diffyg niferoedd digonol o weithwyr proffesiynol hyfforddedig mewn ardal leol benodol. Unwaith eto, mae hyn yn amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Rwy'n croesawu'r cyllid sydd wedi'i ddarparu ar gyfer ADY, gan gynnwys y £18 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ond hoffwn ofyn i'r Gweinidog: faint o fuddsoddiad sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y system ADY yn wirioneddol ddwyieithog, drwy gynyddu capasiti canolfannau addysgol a chynyddu'r gweithlu ADY cyfrwng Cymraeg?
Wel, credaf fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am y—. Yn amlwg, mae'n hanfodol gallu darparu gwasanaethau a chymorth anghenion dysgu ychwanegol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Felly, mae'r cwestiwn am recriwtio yn rhan o gyfres ehangach o heriau yr ydym wedi'u trafod yn y Siambr yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan o'r cynllun recriwtio y byddwn yn ei gyflwyno yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Ar fater seicolegwyr addysg yn benodol, rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau bod yr arian a ddarperir i gefnogi'r maes yng Nghymru hefyd yn annog y rhai sy'n ei ymarfer drwy astudio i barhau i ymarfer yng Nghymru, a gobeithiwn y bydd hynny'n denu siaradwyr Cymraeg hefyd yn amlwg, ac i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac ymarfer yng Nghymru, oherwydd mae'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio yn y maes hwnnw yn her wirioneddol.
Mewn perthynas â—.
O edrych ar yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r ddarpariaeth, fel rhan o'u cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae'n ofynnol ar bob awdurdod lleol ddisgrifio'r hyn maen nhw'n ei wneud er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael yn y Gymraeg, yn seiliedig ar y review bydd pob awdurdod wedi ei wneud o dan y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Felly, mae hynny'n rhan o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Ac, yn fwy eang na hynny, mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau cytundeb trwyddedu gyda chwmnïau cyhoeddi masnachol i gael fersiynau Cymraeg o adnoddau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, fel profion dyslecsia ac adnoddau therapi iaith a lleferydd. Felly, mae'r gwaith yna yn digwydd ar hyn o bryd.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y cronfeydd ariannol wrth gefn sydd gan ysgolion? OQ57873
Nid oedd y lefel uchel o gronfeydd wrth gefn y llynedd yn syndod, oherwydd bod llawer o weithgareddau wedi cael eu gohirio a bod arian ychwanegol wedi cael ei ddarparu yn ystod y pandemig. Gwyddom mai sefyllfa dros dro yw hon, ac rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i weithio gyda'u hysgolion i reoli unrhyw arian dros ben yn hyblyg o dan yr amgylchiadau presennol.
Ydynt, maent yn eithaf pryderus, mewn gwirionedd, pan fo'r data diweddaraf ar lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan ysgolion yn dangos cynnydd ymddangosiadol sydyn o £32 miliwn, sef £70 y disgybl, ym mis Mawrth 2020, i £181 miliwn, sef £393 y disgybl ym mis Mawrth 2021. Cronfeydd wrth gefn yw'r rhain. Mae'r arian hwnnw'n eistedd yno. Nawr, wrth inni ragweld dyfodiad plant o Wcráin i Gymru, a chyda'r cronfeydd hyn yn y cyfrifon banc o fewn y maes addysg hwn, a yw'n debygol y gellid rhyddhau rhai o'r cronfeydd wrth gefn hyn i ddarparu ar gyfer Wcreiniaid ifanc sy'n dod i Gymru, fel y gallwn sicrhau eu llesiant, fel Aelodau yma, gan y byddant yn ein gofal, a sicrhau nad yw ein system addysg ein hunain yn cael ei rhoi o dan unrhyw bwysau gormodol?
Wel, credaf y bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o'r rhesymau pam fod gan ysgolion gronfeydd wrth gefn. Rydym wedi cael heriau sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf—[Torri ar draws.]—a'n barn ni fel Llywodraeth yw y dylem barhau i ariannu ysgolion er mwyn darparu'r hyblygrwydd sydd ei angen arnynt i ymateb i bwysau COVID er budd eu dysgwyr. Felly, bydd yr arian ychwanegol i'r system wedi effeithio ar y balansau hynny, a disgwyliwn weld y sefyllfa honno'n parhau pan gawn yr adroddiad nesaf, a bydd hynny, rwy'n credu, ym mis Hydref eleni.
Credaf fod ysgolion wedi bod yn ddarbodus mewn perthynas â hyn, a chredaf fod awdurdodau lleol yn gallu penderfynu ynghylch yr hyn sy'n briodol i amgylchiadau unigol pob ysgol. A dylai. ac fe fydd ysgolion sydd ag arian dros ben yn amlwg yn cael eu monitro'n barhaus gan eu hawdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod cynlluniau cymeradwy i wario'r balansau hynny'n cael eu cyflawni o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt gyda'r awdurdod.
Ar y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, a hynny'n briodol, ynghylch sicrhau ein bod yn gallu darparu addysg y gall plant sy'n dod i Gymru o Wcráin ei chael, mae llawer o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol i ddeall y ffordd orau o wneud hynny. Yn amlwg, mae pa rannau o Gymru y mae pobl yn dod i fyw ynddynt, ac felly anghenion plant yn yr ardaloedd hynny am addysg leol, yn rhywbeth sydd yn amlwg y tu hwnt i'n rheolaeth, ac nid yw'n gwbl glir ar hyn o bryd, ond mae cyfres fyw iawn o drafodaethau'n digwydd ar draws y system ysgolion i sicrhau y gallwn gefnogi'r plant hynny wrth iddynt ddod i Gymru.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngogledd Cymru? OQ57868
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau addysg addas i blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. A bydd y system ADY newydd yn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff dysgwyr ledled Cymru eu cefnogi i sicrhau y gallant gyflawni eu potensial llawn.
Wel, yn ddiweddar cyfarfûm â mam a thad o sir y Fflint a ddywedodd na chafodd eu mab ddiagnosis o awtistiaeth am nad oedd yn arddangos nodweddion awtistig yn yr ysgol, gan ei fod yn celu ac yn atal y rhan fwyaf o'i diciau a'i bryderon. Roeddent yn dweud wrthyf:
'Mae'n ymddwyn yn dda yn yr ysgol, ond mae'n chwalu pan ddaw adref ar ôl cael diwrnod gwael.'
Yr un diwrnod, ysgrifennais atoch ar ran etholwr gwahanol y mae ei ferch, sy'n arddangos ymddygiad tebyg, o dan ofal Cyngor Sir y Fflint, gan gyfrannu at y realiti brawychus mai Cymru, o bob gwlad yn y DU, sydd â'r gyfran uchaf o blant yn derbyn gofal gan y wladwriaeth.
Rwyf wedi gweithredu dros nifer o flynyddoedd ac rwy'n dal i weithredu mewn swydd gynrychioliadol ar ran nifer o deuluoedd gwahanol sydd wedi wynebu rhwystrau tebyg. Mae pob achos yn cynnwys plant â chyflyrau niwroddatblygiadol gydol oes, gan gynnwys cyflyrau sbectrwm awtistiaeth, lle nad ydynt wedi cael diagnosis, a/neu ddealltwriaeth a chefnogaeth oherwydd bod y disgyblion yn mabwysiadu strategaethau ymdopi a chelu i guddio eu nodweddion awtistig yn yr ysgol, gan ddynwared ymddygiad y rhai o'u cwmpas i allu ffitio i mewn, gyda gorbryder yn taro wedyn pan fyddant yn cyrraedd adref. Ac mae pob achos naill ai wedi awgrymu neu wedi dweud bod bai ar riant. Pryd y bwriadwch weithredu i roi diwedd ar y sgandal drasig hon, oherwydd mae gormod o'r teuluoedd hyn yn dioddef?
Rwy'n rhannu pryder yr Aelod am yr amgylchiadau y mae wedi'u disgrifio yn ei gwestiwn, ac fel y gŵyr, diben y diwygiadau yr ydym yn eu cyflwyno yw mynd i'r afael â'r ystod wirioneddol o heriau y mae wedi'u disgrifio yn ei gwestiwn. Mae'r rhain yn ddiwygiadau arwyddocaol iawn, a gwn fod yr Aelod wedi ein herio o'r blaen mewn perthynas â'r gefnogaeth i'r system i gyflawni'r diwygiadau hyn yn effeithiol. Rwy'n gobeithio y bydd yn cydnabod, yn ystod y chwe mis diwethaf, ein bod wedi gallu darparu adnoddau pellach i'r system er mwyn gallu ymateb i'r mathau o heriau y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiwn. Ac rwyf wedi bod yn parhau i wneud hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf, mewn perthynas ag effaith y pandemig, a chostau trawsnewid y system hefyd.
5. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith amser chwarae yn ystod y diwrnod ysgol ar iechyd meddwl plant? OQ57883
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd canllawiau statudol gennym ar gyfer ysgolion ar gefnogi anghenion llesiant poblogaeth yr ysgol gyfan. Mae'r canllawiau'n hyrwyddo ac yn cydnabod yr effaith y mae chwarae hunangyfeiriedig a ddewisir yn rhydd yn ei chael ar iechyd a llesiant plant, a bydd ein gwaith yn cael ei werthuso'n llawn yn y blynyddoedd i ddod.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae chwarae'n hanfodol i iechyd a llesiant plant, ac yn rhan angenrheidiol o'u datblygiad cymdeithasol gan ei fod yn helpu i ddatblygu sgiliau i ymdopi â heriau, wynebu ansicrwydd, a sut i fod yn hyblyg ac addasu i amgylchiadau gwahanol. Ers 1995, mae ymchwil wedi dangos bod amseroedd egwyl yn y diwrnod ysgol wedi gostwng hyd at 45 munud yr wythnos i blant rhwng pump a saith oed, ac wedi gostwng 65 munud i rai rhwng 11 ac 16 oed. Mae hyn wedi golygu bod wyth o bob 10 plentyn bellach yn cael llai nag awr o weithgarwch corfforol y dydd. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod plant y tu allan i'r ysgol 50 y cant yn llai tebygol o gyfarfod â ffrindiau wyneb yn wyneb, gyda 31 y cant o blant yn dweud nad ydynt yn aml yn cwrdd â chyfoedion a ffrindiau, o'i gymharu â 15 y cant yn 2006. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau yn cytuno bod tueddiadau fel hyn yn peri pryder gan eu bod yn newid y ffordd y mae plant yn datblygu'n oedolion ac yn gallu arwain at ganlyniadau annisgwyl, yn enwedig o ran iechyd meddwl. Weinidog, yn gyntaf, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i iechyd plant ysgol o ganlyniad i golli amser chwarae, a pha gynlluniau sydd gennych ar waith i gynyddu amser chwarae i blant ledled Cymru? Diolch.
Mae'r Aelod yn codi pwyntiau pwysig iawn yn ei gwestiwn atodol. Bydd yn gwybod, fel rhan o'u dyletswyddau yn ymwneud â digonolrwydd cyfleoedd chwarae, o dan Fesur 2010, y bydd pob awdurdod lleol yn cyflwyno eu hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae eleni i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn ein galluogi i gynnal adolygiad o'r rheini. Mae Chwarae Cymru eisoes yn gweithio gydag awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer yr asesiadau hynny a'r cynllun gweithredu cynnar. Er mwyn cydnabod y baich ychwanegol ar awdurdodau, rydym wedi ymestyn y dyddiad cau er mwyn caniatáu i'r asesiadau hynny gael eu cyflwyno ychydig yn hwyrach nag y byddent wedi cael eu cyflwyno fel arall, i adlewyrchu'r effaith yn yr ysgol. Rydym wedi gofyn i Chwarae Cymru gwmpasu ymyriadau amser chwarae mewn ysgolion, a byddant yn datblygu rhaglen gymorth i helpu ysgolion i fabwysiadu dull ysgol gyfan i ddarparu hawl y plant i chwarae. Fe fydd yn gwybod hefyd wrth gwrs am y gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn ei ariannu mewn perthynas â'r prosiect gwyliau Gwaith Chwarae, Haf o Hwyl, a Gaeaf Llawn Lles, sy'n dod i ben yfory.
Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Ruby, sy'n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac yn aelod ifanc o'r Senedd dros y Rhondda. Gwn y bydd y Gweinidog yn ymweld â'r ysgol yn fuan, yn dilyn y cynlluniau cyffrous i adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac rwy'n siŵr y byddai Ruby wrth ei bodd yn rhoi taith o'r ysgol ichi. Buom yn trafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â bywyd ysgol o ddydd i ddydd, ond yr un neges glir drwyddi draw oedd yr effaith sylweddol y mae tlodi'n ei chael ar ein pobl ifanc. Mae tlodi, yn ddi-os, yn effeithio ar fywyd y cartref a'r ysgol, o bryderon ynghylch cynhwysiant digidol i dlodi mislif. Mae hyn yn effeithio ar iechyd meddwl ein pobl ifanc. Pa gamau y mae'r Gweinidog addysg yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl y bobl ifanc fwyaf difreintiedig yn y Rhondda, yn enwedig yn awr gyda'r argyfwng costau byw?
Mae'r Aelod yn codi cwestiwn pwysig iawn. Fe fydd yn gwybod ein bod wedi cyhoeddi ein fframwaith ar gyfer dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant y llynedd. Ac eleni, rwy'n falch o ddweud bod y gyllideb ar gyfer hynny wedi cael ei hymestyn yn sylweddol er mwyn gallu darparu cwnsela ychwanegol, er mwyn gallu darparu estyniad i'r mewngymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a ddarperir yn yr ysgol, yn ogystal â hyfforddi athrawon i allu nodi anghenion llesiant ac iechyd meddwl eu disgyblion, a hefyd i ddarparu cymorth i'r disgyblion hynny yn uniongyrchol. Fe fydd hefyd yn gwybod, wrth gwrs, am y gwaith a wnawn ar dreialu gweithgareddau ychwanegol mewn ysgolion ar hyn o bryd, ac mae'r adroddiadau amser real yr ydym wedi'u cael o'r treialon hynny yn dweud eu bod yn fuddiol iawn o ran llesiant ac iechyd meddwl rhai o'n disgyblion mwyaf difreintiedig, efallai, yn aml iawn. Felly, edrychwn ymlaen yn fawr at weld canlyniadau'r treialon hynny ymhen ychydig wythnosau.

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am uno Ysgol Gynradd Evenlode ac Ysgol Feithrin Bute Cottage ym Mhenarth? OQ57893
Daeth y cyfnod cyflwyno gwrthwynebiadau i'r cynnig gan Gyngor Bro Morgannwg i ben ar 16 Mawrth. Yn unol â'r cod trefniadaeth ysgolion, rhaid i'r cyngor ystyried gwrthwynebiadau'n gydwybodol ochr yn ochr â dadleuon mewn perthynas â'r cynnig a phenderfynu a ddylid cymeradwyo'r cynnig ai peidio o fewn 16 wythnos i'r dyddiad hwnnw.
Weinidog, yn rhan o'r cynigion, ceir ymarfer ymgynghori a gynhelir gan y cyngor wrth gwrs—ac rwy'n datgan buddiant fel aelod o'r awdurdod lleol, Cyngor Bro Morgannwg. Yn yr achos penodol hwn, daeth 238 o ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw. Roedd dros 70 y cant o'r ymatebion yn cefnogi'r sefyllfa bresennol ac nid oeddent eisiau newid dynameg bresennol y ddwy ysgol. Felly, fel Gweinidog pa bwysau y byddech yn ei roi i'r ymarfer ymgynghori, ac unrhyw awdurdod yn benodol, ond yn yr achos hwn, Cyngor Bro Morgannwg, gan roi sylw dyledus i ddymuniadau llethol y gymuned i gynnal y sefyllfa bresennol a chadw'r ddwy ddarpariaeth bwysig hyn yn eu cymuned?
Fel y dywedodd yr Aelod, diben ymgynghoriad yw cael barn y cyhoedd ac eraill mewn perthynas â chynnig ad-drefnu penodol, ac mae'r cod trefniadaeth ysgolion wrth gwrs yn nodi'r hyn y mae angen i'r cyngor ei ystyried pan fydd yn cael yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Gwn ei fod yn ymwybodol y gellir cyfeirio cynigion sydd naill ai wedi'u cymeradwyo neu eu gwrthod gan awdurdod lleol at Weinidog Cymru i'w hystyried os bydd rhai partïon cyfyngedig yn penderfynu cymryd y cam hwnnw o fewn y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud. Felly, o gofio bod gan Weinidogion rôl yn y broses statudol honno, ni allaf wneud sylw penodol am rinweddau neu ddiffyg rhinweddau'r cynnig hwnnw, ond mae'r cod trefniadaeth ysgolion ei hun yn glir iawn, rwy'n credu.
7. Pa gymorth y mae'r Gweinidog yn ei roi ar waith i gefnogi disgyblion sy'n byw mewn tlodi dros wyliau ysgol y Pasg? OQ57885
Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi yn flaenoriaeth allweddol i ni. Fel rhan o becyn cymorth ehangach i helpu teuluoedd sy'n cael trafferthion, mae £4.4 miliwn ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer 2022-2023 i gefnogi cost prydau gwyliau i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r Pasg yn y flwyddyn academaidd hon.
Rwy'n ddiolchgar ichi am hynny, Weinidog. Rydym i gyd eisiau i blant edrych ymlaen at eu gwyliau. Rydym eisiau iddynt edrych ymlaen at dreulio amser gyda'u teuluoedd. Rydym eisiau iddynt edrych ymlaen at allu ymlacio heb ofal yn y byd, a gallu mwynhau eu hunain dros gyfnod y gwyliau. Mae'n drasiedi lwyr—mae'n drasiedi lwyr—fod yna blant yr ydych chi'n eu cynrychioli, rwyf fi'n eu cynrychioli, yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli, sy'n teimlo ofn a diflastod wrth feddwl am y gwyliau, a rhieni a theuluoedd yn y wlad hon a fydd yn colli cwsg dros yr ychydig wythnosau nesaf wrth wybod am y pwysau ariannol y byddant yn ei wynebu dros y gwyliau, sy'n llawer gwaeth nag yn ystod y tymor. Mae'n fwy trasig byth fod hyn yn digwydd oherwydd bod gennym Lywodraeth y DU nad yw'n poeni o gwbl am effaith eu polisïau, a'r polisïau y maent wedi bod yn eu dilyn, ar rai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn y wlad hon. Weinidog, rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy a'u bod yn rhoi cymorth a chefnogaeth i rai o'r teuluoedd tlotaf yn y wlad hon. A wnewch chi warantu i'r Senedd hon y prynhawn yma y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ddarparu'r holl gymorth y gall ei roi i blant ac i deuluoedd yn y wlad hon er mwyn sicrhau nad yw bwgan tlodi yn amharu ar eu bywydau yn y ffordd y mae wedi amharu ar fywydau cenedlaethau o bobl o'n blaenau oherwydd Llywodraeth y DU nad yw'n poeni amdanynt hwy a'u cymunedau?
Diolch i Alun Davies am hynny, a chredaf mai'r sefyllfa lom y mae'n ei disgrifio yw'r realiti i'w etholwyr ef a minnau a chyd-Aelodau eraill yn y Siambr heddiw. Bydd y Llywodraeth hon, Llywodraeth Cymru, yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi teuluoedd yng Nghymru. Fe wyddoch am y cyhoeddiadau a wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ychydig wythnosau'n ôl. Fe fyddwch yn cofio'r cyhoeddiad a wneuthum wythnos yn ôl ynglŷn â chefnogi teuluoedd sydd angen cymorth penodol gyda chostau gwisg ysgol, cit ysgol, tripiau ysgol ac yn y blaen. Ond yn y pen draw, mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb i gydnabod canlyniad y dewisiadau y mae'n eu gwneud. Ac rydym i gyd yn gwybod bod Canghellor y Trysorlys, pan ddylai fod wedi bod yn helpu'r bobl sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd, wedi dewis troi llygad ddall.
Weinidog, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan enfawr yn natblygiad plant ifanc, ac i rai o'r plant mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau, yr ysgol yw'r unig gyfle sydd ganddynt i gael mynediad at chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon. Felly, Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith yn ystod gwyliau'r Pasg i gefnogi plant sy'n byw mewn tlodi i gael mynediad gwych at gyfleusterau chwaraeon? Diolch, Lywydd.
Bydd yr Aelod yn gwybod am y cyhoeddiad a wneuthum mewn perthynas ag ysgolion bro yr wythnos diwethaf, sy'n cydnabod y pwynt pwysig y mae'n ei wneud, sef mai un o'r cyfraniadau allweddol y gallwn ei wneud i gefnogi dysgwyr difreintiedig yn eu haddysg yw galluogi ysgolion i gael ffocws ar y gymuned yn yr hyn a wnânt a sut y maent yn gweithredu. A bydd wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn buddsoddi £25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i helpu ysgolion i ehangu eu cynnig i'r gymuned, a bydd hynny hefyd yn cynnwys cyllid i gefnogi ysgolion yn eu gwaith allgymorth i deuluoedd yn eu cymuned ysgol sydd o dan anfantais arbennig, lle mae eu plant yn wynebu heriau gyda'u presenoldeb. Felly, bydd y Llywodraeth hon yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi dysgwyr difreintiedig yn ein hysgolion. Yr hyn sydd ei angen arnom yw partner ar ben arall yr M4 sy'n barod i wneud hynny hefyd.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo perthnasoedd iach yng nghwricwlwm yr ysgol? OQ57899
Mae ffocws cryf ar ddatblygu perthnasoedd iach ym maes iechyd a llesiant y cwricwlwm newydd. Mae tyfu'n unigolion iach a hyderus yn un o bedwar diben y cwricwlwm newydd, a chaiff dysgwyr eu cefnogi i ddeall bod perthnasoedd iach yn hanfodol i'n llesiant.
Diolch yn fawr, Weinidog. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi hefyd am eich taith ddiweddar i Ysgol Gynradd Llangrallo ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn Sbectrwm Cymru i ddysgu am deimlo'n ddiogel a mynegi emosiynau. Fel Aelod cymharol newydd o'r Senedd, un o fy hoff rannau o fy swyddogaeth yw ymweld ag ysgolion a siarad â phobl ifanc am eu blaenoriaethau, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Llangrallo gyda chi ac Ysgol Gynradd Porthcawl, ac roedd yn bleser clywed am eu prosiectau ar gynwysoldeb, o ddysgu am hawliau LHDT i Mae Bywydau Du o Bwys. Mae'r byd yn newid, a'n gwaith ni yw darparu'r offer i alluogi pobl ifanc i ddeall y byd o'u cwmpas drwy ddathlu gwahaniaeth, yn hytrach na'i ofni. Mae deall perthnasoedd iach yn hanfodol os ydym am adeiladu Cymru oddefgar a chynhwysol, a chredaf hefyd y gall cynnwys perthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol megis casineb at fenywod. O ddeall yr hyn sy'n gwneud perthynas iach i gydsyniad, dylid parchu plant o bob oedran a'u gwneud yn ymwybodol o ffiniau. Mae'n anochel y bydd yr offer a ddarparwn ar gyfer ein plant yn llunio'r gymdeithas y byddant yn tyfu i mewn iddi. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi gwybod inni sut y mae'n gweithio gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar fynd i'r afael â'r union faterion hyn, megis casineb at fenywod a chydsyniad, drwy'r cwricwlwm newydd, os gwelwch yn dda?
Gwnaf. Credwn yn gryf y dylai fod gan bob person ifanc hawl i gael gafael ar wybodaeth, cymorth ac adnoddau dysgu sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed, ac mae hynny'n cynnwys—a gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb arbennig yn y maes hwn—diogelwch ar-lein a gwybod beth sy'n gywir ac yn anghywir fel y gallant godi materion gydag oedolion cyfrifol. Ar y pwynt penodol y mae'n ei godi yn ei chwestiwn, mae'r cod gorfodol newydd ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb a'r canllawiau sy'n cyd-fynd â hynny yn sail i hawliau dysgwyr i fwynhau perthnasoedd boddhaus, iach a diogel drwy gydol eu bywydau, ac yn cyfrannu tuag at y nodau a'r amcanion a nodwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y strategaeth ddrafft newydd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mwynheais ein hymweliad ag Ysgol Gynradd Llangrallo, ac roedd yn wych gweld y gwaith y mae Sbectrwm yn ei wneud, gan ganolbwyntio ar berthnasoedd iach. Gwn ei bod yn rhannu fy nghyffro wrth weld y ffordd yr oedd y plant yn croesawu ac yn ymgysylltu'n wirioneddol â'r addysg a gaent. Ac yn ogystal â bod y bechgyn a'r merched yn dysgu ohoni, teimlwn yn sicr fod yna rai gwersi y gallem ni fel oedolion eu dysgu ohoni hefyd.
Prynhawn da, Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y dylai addysg cydberthynas a rhywioldeb gefnogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd i ddeall sut y mae perthnasoedd a rhywioldeb yn siapio eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill. Dylai dysgwyr gael eu harfogi a'u galluogi i geisio cymorth ar faterion sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb ac i addysgu eu hunain ac eraill. Ar ddatblygu perthnasoedd iach, hoffwn wybod sut y bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau ein bod yn gwneud mwy i gefnogi dealltwriaeth a pharch diwylliannol, gan gydnabod harddwch ein hamrywiaeth. Diolch yn fawr, Weinidog.
Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, ac roedd y sail y datblygwyd y cod addysg a'r canllawiau ar addysg cydberthynas a rhywioldeb arni yn broses gynhwysol, a oedd yn cynnwys nifer o grwpiau a chynrychiolwyr cymunedol, fel y gallem sicrhau bod y cod a'r adnoddau, pan fyddant yn ein hysgolion, yn ddefnyddiol ac yn gefnogol ac yn cyflawni'r canlyniadau y gwn ei fod yn poeni amdanynt yn fawr iawn hefyd. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl gadarnhaol ac amddiffynnol i'w chwarae yn addysg ein pobl ifanc, ac fel yr oeddwn yn ei ddweud yn fy ateb i Sarah Murphy, pan welwch y math o weithgareddau sydd mewn ystafelloedd dosbarth i gefnogi ein dysgwyr i ddeall natur eu hawliau eu hunain, ond hefyd pwysigrwydd perthnasoedd iach, credaf fod gweld hynny'n cael ei ddarparu mewn ffordd gynhwysol iawn yn rhoi boddhad ac yn calonogi'n fawr hefyd.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a phrynhawn da, Gweinidog.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y penderfyniad i gau ysgolion ym Mhowys a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar dargedau Llywodraeth Cymru i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg? OQ57888
Mae Powys yn ymrwymo i wella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol, ac mae eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a gyflwynwyd yn ddiweddar yn cynnig cyflwyno darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar draws pedair ardal o fewn y pum mlynedd gyntaf, gan gyfrannu at eu targed cyffredinol i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg i o leiaf 36 y cant erbyn 2032.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o benderfyniad Cyngor Sir Powys i gau ysgolion gwledig yn yr ardal, sydd wedi bod yn ergyd drom i lawer o gymunedau. Rwy’n poeni fwyfwy am yr effaith y bydd y rhaglen trawsnewid hon fel y'i gelwir yn ei chael ar addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, felly diolch am eich ymateb. Mae ymrwymiad llawer o’r ysgolion gwledig hyn i addysg Gymraeg yn galonogol, a gwn eich bod yn rhannu fy mhryderon y gallai’r rhaglen hon o gau ysgolion olygu y bydd y Gymraeg yn dirywio, ac o bosibl, yn diflannu yn y cymunedau hyn. Felly, a gaf fi ofyn pa sylw ychwanegol y byddwch yn ei roi i sicrhau bod rhaglenni addysg Gymraeg yn gallu ffynnu mewn ysgolion gwledig? Diolch yn fawr iawn.
Wel, gyda'r cafeat a roddais i Andrew R.T. Davies ynghylch gallu gwneud sylwadau ar gynigion penodol, ar y cwestiwn ehangach y mae'r Aelod yn ei ofyn am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, dylwn ddweud fy mod yn asesu pob un o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar hyn o bryd. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn ag a ddylid cymeradwyo, cymeradwyo gydag addasiadau neu wrthod y cynlluniau hynny cyn diwedd tymor yr haf. Efallai y bydd yn gwybod bod Powys wedi ymrwymo, fel y soniais yn gynharach, i'r pedair darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghrucywel, y Gelli Gandryll, Llanandras ac ardal gogledd Powys. Ceir ymrwymiad hefyd yn y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg i gefnogi ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg dwy ffrwd i symud ar hyd y continwwm iaith, ac i wneud hynny gan ddefnyddio arferion trochi. Ceir cynllun peilot yn Ysgol y Cribarth, y bydd yn ymwybodol ohono, rwy’n siŵr, sy’n enghraifft wych o hyn, ac edrychaf ymlaen at ymweld â hwy ym mis Mai. Rwyf hefyd, fel y buom yn ei drafod yn gynharach yn y sesiwn hon, wedi cyhoeddi £2.2 miliwn ar gyfer y grant trochi Cymraeg fis Medi diwethaf. Mae Powys wedi elwa o’r grant hwnnw i dreialu canolfan drochi Gymraeg newydd yn Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd. Mae cynllun strategol Cymraeg mewn addysg Powys yn uchelgeisiol, fel sy'n wir mewn rhannau eraill o Gymru, ac fel Gweinidog, rwy’n llwyr ddisgwyl i’r uchelgeisiau hynny gael eu gwireddu.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweindog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac i'w ofyn gan Russell George.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi datgan rhybudd du neithiwr? TQ615

Yng ngoleuni pwysau eithriadol ac er gwaethaf ymdrechion i sefydlogi eu gwasanaethau, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigwyddiad parhad busnes yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ar brynhawn 29 Mawrth. Dyma’r lefel uwchgyfeirio uchaf sydd ar gael, ac mae’n dangos yn glir y pwysau difrifol y mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ei wynebu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae’r ffaith bod ysbyty mawr yn datgan rhybudd du ar noson yn ystod yr wythnos, wrth gwrs, yn dangos nad yw’r GIG yng Nghymru yn barod i gefnogi’r rheini sydd ei angen fwyaf. Rwy'n arbennig o bryderus, wrth gwrs, am y staff yn yr ysbyty, sydd o dan bwysau sylweddol ac sy'n teimlo eu bod hwy eu hunain wedi cael cam, rwy'n siŵr. Hoffwn wybod, Weinidog, am yr asesiad brys a wnaethoch o’r rhybudd du yn adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty'r Faenor. Roedd yr ysbyty i fod yn ysbyty blaenllaw, wrth gwrs, ac fe’i hagorwyd yn gynnar. Felly, hoffwn ofyn am eich asesiad chi ynglŷn ag a oedd agor yr ysbyty’n gynnar yn benderfyniad cywir ai peidio. Mae prinder staff wedi bod yn broblem barhaus ac enfawr yn yr ysbyty ers iddo agor. Ceir adroddiadau parhaus o brinder staff ers i'r ysbyty agor gyntaf. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a welsoch chi hyn yn dod, a pha gymorth y gallwch ei gynnig yn awr? Beth yw eich cynllun i gefnogi’r ysbyty, ac yn benodol, i gefnogi’r gweithlu sydd o dan gymaint o bwysau yn yr ysbyty?
Diolch yn fawr iawn. Mae sefyllfa anodd—hynod o anodd—yn wynebu nid yn unig bwrdd iechyd Aneurin Bevan ond byrddau iechyd ledled Cymru gyfan ar hyn o bryd. Rydym bob amser wedi bod yn agored ynglŷn â'r heriau y mae GIG Cymru ac adrannau brys yn eu hwynebu, ac maent o dan bwysau nas gwelwyd ei debyg drwy gydol y pandemig. Nid yw cyfraddau COVID erioed wedi bod yn uwch yn ein cymunedau. Mae gennym 1,468 o bobl yn yr ysbyty gyda COVID. Dyna'r nifer mwyaf mewn blwyddyn. Yn y chwe wythnos diwethaf, rydym wedi bod ar y lefel uchaf o welyau llawn yn y GIG ers dechrau'r pandemig. Mae gennym 900 yn rhagor o gleifion yn yr ysbyty heddiw nag a oedd gennym flwyddyn yn ôl. A oedd hi'n iawn agor yr ysbyty'n gynnar? Oedd wrth gwrs ei bod, oherwydd dychmygwch pe na baem wedi gwneud hynny. Roedd angen y gwelyau hynny arnom. Nid yw hon yn sefyllfa sy’n unigryw i Gymru, ond mae’n gwbl amlwg fod hwn yn bwysau sy’n wynebu pobl ledled y Deyrnas Unedig hefyd.
Un mater yr ydym yn gorfod mynd i'r afael ag ef yw'r ffaith bod niferoedd uchel iawn o gleifion yn barod i gael eu rhyddhau o'r ysbyty ond nid ydynt yn gallu gwneud hynny oherwydd breuder ein gwasanaethau gofal. Gwn fod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n anhygoel o galed i sicrhau ein bod yn cael gwell llif drwy ein systemau. Y gwir amdani yw bod gennym, ym mwrdd Aneurin Bevan, oddeutu 270 o gleifion sy’n barod i adael, ond mae wedi bod yn amhosibl i lawer ohonynt adael gan fod 70 o’n cartrefi gofal ym mwrdd Aneurin Bevan wedi cau oherwydd COVID. A allwch chi baratoi ar gyfer y mathau hynny o bethau? Rydym wedi bod yn ceisio paratoi, ond rydym mewn sefyllfa hynod o anodd ar hyn o bryd a chredaf ei bod yn gwbl briodol inni ddeall y math o bwysau sydd ar ein staff. Ac ar ben hynny, gadewch inni feddwl am y staff, oherwydd mewn gwirionedd, mae llawer ohonynt hwythau'n dal COVID hefyd, sy'n amlwg yn cynyddu'r pwysau hyd yn oed yn fwy ar y rheini sydd ar ôl yn yr ysbytai.
Diolch, Weinidog, am eich ateb hyd yn hyn.
Yn ystod fy nghymorthfeydd stryd niferus ar draws y rhanbarth, cwyn gyffredin fu’r gwasanaeth y mae cleifion wedi’i gael yn ysbyty'r Faenor. Mae hyn wedi bod yn wir ar draws y rhanbarth. Ymddengys bod pobl yn cael anawsterau i gyrraedd safleoedd, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol, a’r amseroedd aros hir i gael eu gweld pan fyddant yn cyrraedd yno yn y pen draw. Mae pethau’n amlwg wedi mynd o ddrwg i waeth yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae cael cyfleuster newydd sbon yn un peth, ond onid yw hanes byr ysbyty'r Faenor yn dangos nad yw ysbyty newydd yn ddim heb ei staff? Cryfder mwyaf y GIG yw ei bobl, ac rydym mewn perygl o’u gorfodi allan o’r sector oni bai ein bod yn gwella eu hamodau gwaith. Rydym hefyd yn peryglu iechyd cleifion pan gyrhaeddir pwynt o argyfwng fel hyn. Pa wersi sydd wedi’u dysgu o agor ysbyty'r Faenor, a pha gynlluniau sydd ar waith i roi’r ysbyty ar sylfaen iachach? Mae'n rhaid unioni’r sefyllfa hon cyn gynted â phosibl, er lles y cleifion a’r staff. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, roedd gwersi i’w dysgu o agor ysbyty'r Faenor. Fe wnaethom ei agor oherwydd, a dweud y gwir, roeddem yng nghanol pandemig, ac roeddem angen yr holl gymorth y gallem ei gael. Felly, dyna oedd y peth iawn i'w wneud yn bendant, ond yn amlwg, golygodd na chawsom amser i wneud y paratoadau y byddem wedi'u gwneud pe na baem yn y sefyllfa honno. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Coleg Brenhinol y Meddygon wedi ymweld ag Ysbyty Athrofaol y Faenor beth amser yn ôl. Roeddent yn eithaf beirniadol, a bod yn onest, o’r gwasanaethau yno, ond maent bellach wedi llunio adolygiad dilynol a gyhoeddwyd heddiw, ac maent yn cymeradwyo llawer o’r camau gweithredu a gyflawnwyd gan y bwrdd iechyd. Felly, rwy’n falch iawn o weld hynny.
Beth arall y gallwn ei wneud i helpu? Wel, a dweud y gwir, gall pob un ohonom fod o gymorth o dan yr amgylchiadau hyn. Rydym mewn sefyllfa lle mae angen i bob un ohonom weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud fel dinasyddion. Ein blaenoriaeth, wrth gwrs, yw sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu’n ddiogel ac yn effeithlon i bawb, ond hoffwn apelio ar aelodau’r cyhoedd: os gallwch helpu gyda rhyddhau aelodau o'ch teulu o’r ysbyty os ydynt yn barod i gael eu rhyddhau, dewch i'n helpu i'w rhyddhau o'r ysbyty a rhoi'r gefnogaeth honno iddynt, fel y gallwn gael mwy o achosion brys i mewn i'r ysbyty ar yr adeg anodd hon.
Diolch am eich ymatebion, Weinidog. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr hyn sy'n digwydd yn ysbyty'r Faenor, yn hytrach na gwrando ar sïon. Cafwyd rhai llwyddiannau sylweddol yn sgil canoli gwasanaethau yn ysbyty'r Faenor, ac rwyf wedi siarad ag etholwyr dros yr wythnos ddiwethaf sydd wedi cael triniaethau rhagorol ac sydd wedi cael lefelau gwych o ofal yn ysbyty'r Faenor. Credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod hynny a chydnabod y gwaith caled sy’n mynd rhagddo yn ysbyty'r Faenor a’r ysbytai eraill yn rhwydwaith Aneurin Bevan.
Weinidog, y materion rwy'n ymdrin â hwy yw’r materion rwyf wedi’u dwyn i’ch sylw eisoes dros yr ychydig wythnosau diwethaf, sy’n ymwneud â gofal heb ei drefnu, sy’n ymwneud â mynediad brys, ac mae’r materion hynny’n faterion real iawn. Mae problem gyda gallu ysbyty’r Faenor i ymdopi â’r pwysau sydd arno, ac mae problem sylweddol lle nad yw rhai cleifion agored iawn i niwed weithiau wedi cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt ar frys. Tynnais eich sylw at sefyllfa etholwr yr wythnos diwethaf, lle na chafodd y driniaeth yr oedd ei hangen, sef galw brys mewn perthynas â chanser. Felly, mae angen inni edrych ar realiti’r hyn sy’n digwydd yn ysbyty'r Faenor a mynd i'r afael â’r problemau go iawn.
Weinidog, a oes modd i Lywodraeth Cymru ddarparu adnoddau i fwrdd iechyd Aneurin Bevan, neu weithio gyda’r bwrdd iechyd, i’w galluogi i oresgyn y problemau yr ydych wedi’u disgrifio ac y mae pob un ohonom yn gyfarwydd â hwy, a fydd yn eu galluogi i ymdopi â’r pwysau presennol, i’w galluogi i adeiladu’r math o wasanaethau cynaliadwy sydd eu hangen arnom yn yr ysbyty ac yn y rhwydwaith o ysbytai, ond hefyd i sicrhau bod y gwahanol fyrddau iechyd sy’n darparu gwasanaethau i bobl ym Mlaenau Gwent yn siarad â'i gilydd, er mwyn sicrhau, pan eir â chlaf, er enghraifft, i Ysbyty’r Tywysog Siarl, fod eu cynllun triniaeth yn cael eu cydnabod gan staff yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, a’u bod yn gallu cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt?
Fel eraill yn y Siambr y prynhawn yma, credaf y dylai pob un ohonom dalu teyrnged i'r gwaith caled y mae staff yn ysbyty'r Faenor yn ei wneud o dan y pwysau mwyaf eithriadol y mae’r Gweinidog eisoes wedi’i ddisgrifio. Fel gwleidyddion, credaf mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn rhoi’r strwythurau ar waith sy’n ofynnol i gefnogi’r aelodau staff hynny, i gefnogi’r gwasanaethau hynny, ac i ddarparu’r driniaeth sydd ei hangen ar bobl ar yr adeg y maent ei hangen.
Diolch yn fawr, Alun. Credaf eich bod yn llygad eich lle, mae'n bwysig nad ydym yn gweithredu ar sail sïon yn unig, ond mae llawer o brofiadau cleifion unigol yn dorcalonnus a bod yn onest. Cefais e-byst dros y penwythnos gan bobl a oedd yn anobeithio am eu bod wedi bod yn aros am oriau maith.
Rydym mewn sefyllfa eithafol ar hyn o bryd. Rwy’n hyderus na fyddwn yn parhau i fod yn y sefyllfa hon, ond dyna lle'r ydym arni ar hyn o bryd. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig i bobl ddeall bod y GIG yn dal i fod ar agor ac yn weithredol. Rydym yn gweld 200,000 o gleifion y mis o hyd, fel cleifion allanol. Credaf ei bod yn bwysig ymateb i'r ffaith hefyd fod Coleg Brenhinol y Meddygon yn dweud bod pethau'n gwella. Y broblem yw ein bod yn y sefyllfaoedd hynod anodd hyn ar hyn o bryd.
Mae'r llif yn rhan o'r broblem. Sut y gall pobl gael eu derbyn i adrannau damweiniau ac achosion brys os yw'r holl welyau'n llawn? Fel y clywsoch, oherwydd y sefyllfa gyda chael pobl allan o ysbytai am fod cartrefi gofal ar gau, mae hynny’n creu problem wirioneddol i ni. Mae’n anodd iawn gwybod beth i'w wneud o dan yr amgylchiadau hynny, a dyna pam ein bod yn galw ar bobl i ddod i nôl eu hanwyliaid o’r ysbyty a gofalu amdanynt os gallant, fel y gallwn eu cael allan o’r ysbyty, a gallwn helpu i gefnogi aelodau eraill o'u teulu a allai fod angen triniaeth ar fwy o frys hefyd.
Rydym wedi rhoi cymorth ychwanegol sylweddol i’r gwasanaeth ambiwlans. Rydym wedi recriwtio cannoedd o bobl newydd i'n gwasanaeth. Rydym wedi rhoi £250 miliwn yn ychwanegol i leddfu pwysau y llynedd. Rydym yn rhoi £170 miliwn o gyllid ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Ac mewn gwirionedd, rydym—. Mae bwrdd Aneurin Bevan yn dweud yn gwbl glir eu bod, o dan yr amgylchiadau eithafol hyn, yn dargyfeirio cleifion ac yn helpu cleifion i fynd i fyrddau iechyd eraill nad ydynt, efallai, o dan yr un pwysau.
Yn ôl yn yr hydref pan euthum yn sâl, treuliais 22 awr mewn adran ddamweiniau ac achosion brys, ac rwy'n gwbl ymwybodol o'r pwysau sydd ar staff, ond hefyd yr anobaith y mae cleifion yn ei deimlo. Byddwn yn ddiolchgar iawn i gael gwybod gan y Gweinidog beth yw'r cymarebau staffio yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor, ac os nad yw’r wybodaeth honno ganddi, a allai ddarparu hynny ar ffurf llythyr y gellid ei roi yn y llyfrgell? Ac yn bwysig, ar y cymarebau staff hynny, faint sy'n staff craidd a faint sy'n staff banc? Oherwydd yr un peth a ddaeth yn amlwg i mi yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys y bûm ynddi am gyfnod sylweddol o amser oedd fod llawer o staff banc yno nad oeddent yn gyfarwydd â’r lleoliadau a’r gweithdrefnau yr oedd angen i’r adran honno eu defnyddio o ddydd i ddydd, ac roedd hynny'n achosi llawer o broblemau wrth ryddhau cleifion a chyda llif cleifion y cyfeiriodd y Gweinidog ato. Felly, a wnaiff hi ddarparu'r wybodaeth honno, gan dderbyn, os nad yw ganddi heddiw, y gallai ei rhoi yn y llyfrgell a gallai pob un ohonom ei gweld?
Yn sicr. A na, nid yw'r wybodaeth benodol gennyf, ond yn amlwg, rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny. Ceir problemau bob amser gyda phwysau yn yr ysbyty, ac os yw pobl gartref yn sâl, yn amlwg—ac mae llawer o bobl gartref yn sâl; mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd â COVID ar hyn o bryd—yn amlwg, mae’n effeithio ar staff ysbytai hefyd, a dyna pam fod yn rhaid ichi ddibynnu wedyn ar y staff banc hynny.
Yr hyn y ceisiwn ei wneud, ac rydym wedi bod yn ei wneud ers peth amser bellach, yw recriwtio staff ychwanegol. Rydym wedi recriwtio 53 y cant yn fwy o staff nag y gwnaethom 20 mlynedd yn ôl. Mae hwnnw’n gynnydd aruthrol. Rydych yn edrych ar ein recriwtio a'n hyfforddiant i nyrsys a bydwragedd—cynnydd sylweddol: 73 y cant a 92 y cant; cynnydd aruthrol yn nifer y bobl yr ydym yn eu hyfforddi. Ond mae'n anodd, ac nid ydym erioed wedi gweld pwysau fel hyn o'r blaen.
Weinidog, ers i ysbyty'r Faenor agor, mae wedi’i lethu gan orlenwi ac amseroedd aros hir, ac fel rydym wedi'i glywed eisoes, nid yw hyn yn deg i gleifion nac i staff. Mae'r ffaith bod amseroedd aros 14 awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys neithiwr yn arwydd o broblem ddifrifol. Fis Hydref diwethaf—rydych wedi bod yn cyfeirio at adroddiadau Coleg Brenhinol y Meddygon am feddygon dan hyfforddiant a meddygon ymgynghorol yn ofni mynd i'r gwaith. Pan gaeodd ysbytai eraill fel ysbyty’r glowyr yng Nghaerffili, cafodd y cleifion addewid na fyddai unrhyw darfu ar eu gofal, ond mae gorganoli gwasanaethau yn arwain at hynny. Felly, mae gennym staff sydd, ar brydiau, bron â chyrraedd pen eu tennyn, a chleifion nad ydynt yn cael y gofal y maent ei angen.
Ond Weinidog, yn ogystal â’r hyn y dywedwch y bydd y Llywodraeth yn amlwg yn ei wneud i newid hyn, rydych newydd ddweud bod pob un ohonom yn adnabod rhywun sy’n dioddef o COVID ar hyn o bryd. Nawr, rwy'n gofyn hyn yn ddiffuant, nid wyf yn gofyn hyn yn slic o gwbl: a ydych chi'n meddwl o ddifrif mai yn awr yw'r amser i gael gwared ar ofynion cyfreithiol i hunanynysu a gwisgo masgiau COVID mewn siopau ac ar drafnidiaeth? Oni fydd mwy o achosion o COVID yn gwneud sefyllfa enbyd hyd yn oed yn waeth?
Diolch yn fawr iawn. Wel, hoffwn eich annog—ac rydych yn llygad eich lle, bu rhywfaint o feirniadaeth eithafol ynglŷn â'r hyn a oedd yn digwydd yn ysbyty'r Faenor gan leoedd fel Coleg Brenhinol y Meddygon—i ddarllen yr adolygiad dilynol, sy'n awgrymu y bu llawer o welliannau ers yr arolygiad cychwynnol hwnnw. Hoffwn ofyn hefyd i bobl ddefnyddio’r gwasanaethau ffôn 111, sydd ar gael ar gyfer Cymru gyfan bellach, ac sy’n darparu mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau a gwasanaethau gofal sylfaenol brys, gan sicrhau eich bod yn cael y cymorth iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn. Felly, mae dewisiadau amgen i'w cael yn lle adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn eu defnyddio.
Hefyd, fe sonioch chi am y gofynion cyfreithiol. Wel, gadewch imi ddweud wrthych nad oedd gan eich chwaer blaid yn yr Alban erioed unrhyw ofyniad cyfreithiol i hunanynysu, ac ymddengys bod hynny wedi gweithio’n eithaf da iddynt hwy. Felly, rydym mewn sefyllfa bellach lle rydym yn rhoi cyfrifoldeb yn ôl i'r cyhoedd. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych, yng Nghymru, mae'r cyhoedd wedi bod yn wych. Maent wedi dilyn ein cyngor, ac rydym bellach yn ymddiried ynddynt i barhau i wneud y gwaith da y maent yn gwybod y dylid ei wneud. Pan fyddant yn gwybod bod cyfraddau ar y lefelau uchaf yn eu cymuned, rwy’n siŵr y byddant yn parhau i wneud y peth iawn, i wisgo gorchuddion wyneb pan fo’n briodol, i sicrhau eu bod yn profi os yw’n briodol ac i sicrhau, hefyd, eu bod yn hunanynysu os ydynt yn dal COVID.
Yn olaf, Jane Dodds.
Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, a diolch i Russell am godi'r mater yma.
Dim ond pwynt byr iawn. Mae llawer o drigolion de Powys yn mynd i Ysbyty Nevill Hall ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan yn Y Fenni. Yn y datganiad neithiwr gan fwrdd Aneurin Bevan ar ysbyty'r Faenor, cafwyd argymhelliad fod cleifion yn cael eu dargyfeirio i ysbytai eraill fel ysbyty Nevill Hall. Rwy’n siŵr fod hyn wedi’i ystyried, ond a wnewch chi roi sicrwydd i ni fod cymorth ychwanegol yn cael ei gynnig i ysbytai fel ysbyty Nevill Hall, a fydd yn wynebu straen ychwanegol yn y tymor byr yn sgil y sefyllfa yn ysbyty'r Faenor? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, mae straen ar draws y system gyfan. Mae'n effeithio'n arbennig ar ysbyty'r Faenor, ond mae hwn yn straen sy'n bodoli ledled Cymru, ac yn wir, ledled y Deyrnas Unedig gyfan. A dywed fy swyddogion wrthyf fod safleoedd, er enghraifft, yn Lloegr, hefyd wedi datgan digwyddiadau mawr neithiwr, gan gynnwys ysbyty Henffordd ac Ysbyty Brenhinol Amwythig, a arweiniodd at oedi cyn trosglwyddo gofal o hyd at 20 awr i gerbydau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a oedd yn cludo cleifion o Gymru i’r safleoedd hynny. Felly, nid yng Nghymru yn unig y mae’r pwysau'n bodoli, ond ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Yn amlwg, byddwn yn rhoi cymaint o gefnogaeth ag y gallwn i’r system, ond mae yna lefelau uwchgyfeirio y mae’r byrddau iechyd yn gwybod bod angen iddynt eu defnyddio a’u gweithredu, ac rydym ar lefel benodol o uwchgyfeirio ym mwrdd Aneurin Bevan, sef y lefel uwchgyfeirio uchaf, a golyga hynny eu bod yn rhoi’r gorau i wneud y gwaith rheolaidd ac yn canolbwyntio ar eu gwaith brys. Ac rwy’n siŵr y byddwch yn deall yr angen i wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Weinidog yr Economi a'i ofyn gan Rhun ap Iorwerth.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad fod Orthios wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ac effaith hynny ar y 120 o swyddi yn lleol? TQ616

Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf fy nghyfieithiad, ond mae wedi'i ysgrifennu. A gaf fi glustffon ar gyfer y cwestiwn dilynol? Mae'n ddrwg gennyf.

A hoffech chi fenthyg fy un i?
Na, bydd yn mynd i mewn i fy nghlustiau.
Diolch am y cwestiwn. Deallaf y bydd hwn yn gyfnod pryderus iawn i weithwyr, eu teuluoedd a chymuned ehangach Caergybi. Mae fy swyddogion wedi estyn llaw i'r cwmni ac yn barod i gynnig cymorth i'r bobl yr effeithir arnynt ar yr adeg drallodus hon.
Bydd yn rhaid imi aros am y clustffon am y tro, gan iddo ofyn y cwestiwn yn Gymraeg.
Mae'n iawn.
Credaf fod y cwestiwn yn Saesneg.
Mae hon wedi bod yn ergyd ofnadwy i economi’r ynys, a byddaf yn dweud mwy am hynny mewn eiliad, ond yn fwy uniongyrchol, wrth gwrs, i'r gweithlu, ac rwy'n cydymdeimlo â hwy heddiw. Dywedodd un wrthyf eu bod wedi cael gwybod drwy grŵp negeseuon WhatsApp. Mae aelod o fy nhîm wedi bod yn cymryd rhan y prynhawn yma mewn cyfarfod tasglu a sefydlwyd i helpu gweithwyr, ac rwy’n ddiolchgar i Cyngor ar Bopeth am ei gynnull, i gyngor Ynys Môn ac i asiantaethau eraill am y rhan y maent yn ei chwarae hefyd.
Nawr, un flaenoriaeth amlwg yw sicrhau bod staff yn cael eu talu. Deallaf mai yfory yr oedd disgwyl iddynt gael eu talu. Dywed rhai na fyddant yn gallu talu eu rhenti y mis nesaf. Nawr, a wnaiff y Gweinidog wneud hyn yn flaenoriaeth mewn trafodaethau â'r gweinyddwyr ac a wnaiff amlinellu camau eraill y mae swyddogion y Llywodraeth yn barod i’w cymryd i gefnogi’r gweithlu ar yr adeg hon? Yr elfen arall yma yw pwysigrwydd y safle hwn—hen safle Alwminiwm Môn a’i lanfa ar gyfer llongau mordeithio, canolbwynt rheilffyrdd, canolbwynt pŵer, mae cymaint o agweddau iddo. Dywedir wrthym fod y problemau sy'n ein hwynebu heddiw yn gysylltiedig ag ariannu prosiect Orthios. Yn ddiau, byddwn yn dod i ddeall mwy ac yn gallu siarad mwy am y materion hynny maes o law. Felly, (a) a gaf fi ofyn i’r Gweinidog a wnaiff gyfarfod â mi i drafod y sefyllfa bresennol a dyfodol y safle? A (b) a wnaiff ymrwymo i wneud popeth sy'n bosibl wrth weithio gydag Orthios, eu buddsoddwyr a phartneriaid eraill i sicrhau y gellir manteisio i'r eithaf ar botensial y safle hwn, ac mewn ffordd gynaliadwy? Mae llawer o gwestiynau wedi’u gofyn a rhwystredigaeth wirioneddol ynghylch cyflymder datblygu ers i Orthios ddod yn gyfrifol am y safle, ond yn fwy diweddar, cafwyd buddsoddiad a chrëwyd swyddi. Ond wrth geisio dod o hyd i ffordd ymlaen yn awr a cheisio ailgyflogi'r gweithwyr yn fuan iawn, mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod datblygu'n wirioneddol gynaliadwy yn y dyfodol.
Diolch am eich cwestiwn a’r gyfres o bwyntiau. Gan ddechrau gyda’r hyn a ddywedais yn fy ymateb agoriadol, rwy'n cydymdeimlo gyda gweithwyr ar adeg drallodus. Mae bob amser yn anodd pan fyddwch yn colli swydd pan nad ydych eisiau gwneud hynny, ond yn enwedig colli swydd mewn amgylchiadau dramatig, lle nad ydych wedi gweld hynny'n dod a heb unrhyw rybudd ymlaen llaw. Ac mae rheswm da pam fod cyfraith cyflogaeth yn y wlad hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ymgynghori â'r gweithlu cyn dileu swyddi. Nawr, rydym wedi cael enghreifftiau eraill o arferion cyflogaeth gwirioneddol wael. Rwy'n awyddus i ddeall beth sydd wedi digwydd yma. A yw'n wir fod rhywbeth wedi digwydd mor gyflym fel na ellid bod wedi ymgynghori? Byddai hynny'n fy synnu. A chredaf fod hynny hefyd yn cyffwrdd ar eich ail bwynt ynglŷn â chyflogau. Mewn bywyd blaenorol, yr hyn yr arferwn ei weld yn y swyddfa taliadau dileu swydd oedd y mathau o hawliadau y gallech eu cael pe na baech yn cael tâl, ond mewn gwirionedd, nid yw hynny yr un fath â chael eich cyflog cytundebol, a gallai gweithwyr golli arian pe bai angen iddynt ddibynnu ar y ddarpariaeth statudol sydd ar gael hefyd. Ac mae hynny'n aml yn cymryd amser, a bron bob amser yn annhebygol o ddigwydd oni bai bod pobl yn cael cymorth eu hundeb llafur. Deallaf mai undeb Unite yw'r undeb ar y safle. Mae'n werth nodi bod swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cael sgyrsiau â'r undeb llafur, i gael eu dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd ar y safle hefyd.
Ar y pwynt ynghylch gwneud popeth sy'n bosibl, rwy'n fwy na pharod i gadarnhau mai dyna fydd ymagwedd y Llywodraeth hon yn sicr, gan weithio gyda'r cyngor a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae tîm amlasiantaethol eisoes yn cael ei gydlynu i edrych ar y gwahanol fathau o gymorth y gall y ddwy Lywodraeth genedlaethol ei ddarparu, gyda'r cyngor, i gynorthwyo gweithwyr i chwilio am gyflogaeth amgen gynaliadwy.
A chredaf fod hynny'n dod â ni at eich pwynt olaf, lle rwy'n hapus i gyfarfod â'r Aelod i drafod nid yn unig y sefyllfa bresennol, ond y tymor hwy ar gyfer y safle hwn. Mae’n safle allweddol o ran cyflogaeth, gyda’r cysylltiadau â pŵer a’n huchelgeisiau ar gyfer economi’r dyfodol yn yr ardal hon, gyda chyflogaeth dda y credwn y gellid ac y dylid ei chreu, ac rwy’n awyddus i sicrhau nad yw’r safle’n cael ei golli i ddatblygiadau ffrwythlon yn y dyfodol, yn ogystal â cheisio mynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol. Bydd fy swyddfa'n hapus i gysylltu i drefnu amser cyfleus inni gyfarfod.
Diolch i’r Aelod o Ynys Môn hefyd am gyflwyno’r cwestiwn hynod bwysig hwn heddiw—nid yn unig yr effaith yng Nghaergybi ac Ynys Môn, ond yn rhanbarth gogledd Cymru, oherwydd arwyddocâd ac arwyddocâd posibl y safle. Mae’r cyhoeddiad fod Orthios wedi’i roi yn nwylo’r gweinyddwyr yn amlwg yn peri cryn bryder, ac rwy’n rhannu'r pryderon a leisiodd yr Aelod dros Ynys Môn, a gennych chi, Weinidog, yn gyfan gwbl. Bydd hyn, ac mae wedi bod, yn sioc i lawer o bobl, ac mae mor drist gweld y posibilrwydd y bydd llawer o bobl yn colli eu swyddi. Ac mae arwyddocâd y safle wedi'i grybwyll eisoes, ac yn sicr, hoffwn ymuno â'r galwadau gan yr Aelod dros Ynys Môn i weld cynllun clir ac addas yn cael ei wneud ar gyfer y safle hwnnw, gan fod cyfleoedd anhygoel i'w cael yno, ac mae'n drueni nad ydynt wedi'u gwireddu eto. Mae llawer iawn o waith y gellir ei wneud.
Ond Weinidog, fe wyddoch, yn amlwg, fod gennych gyfrifoldeb mewn perthynas â chymorth a chyngor ar gyfer twf busnes a datblygu busnes, gwybodaeth busnes, cymorth busnes, felly yng ngoleuni hyn, byddwn yn falch o ddeall pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i Orthios dros y misoedd diwethaf, cyn i’r cyhoeddiad hwn gael ei wneud, a pha gamau a gymerwyd gennych i estyn llaw iddynt dros y misoedd diwethaf hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Wel, gwnaed ymdrechion cyson i estyn llaw i'r cwmni, ac rydym wedi cael sgyrsiau gyda hwy am y lanfa a'r sefyllfa i longau mordeithio. Fe gofiwch inni gytuno ar drefniant amgen i sicrhau na chafodd y tymor ei ganslo y llynedd. Yr her i ni yw sicrhau bod y sgwrs yn ddeialog wirioneddol yn hytrach na chynnig o gymorth, lle nad oes—. Ni allwn orfodi'r cwmni i dderbyn cymorth, felly mae angen iddynt ymateb i ni, ac mae fy swyddogion yn aros i glywed gan y cwmni. Gwnaed ymdrechion cyson i gysylltu â'r cwmni dros y misoedd diwethaf a’r dyddiau diwethaf, ac rwy'n dweud eto y byddem am i’r cwmni ymgysylltu â ni ynglŷn â'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud, yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud gyda’r gweithlu, a sut y gallwn edrych ar y safle i sicrhau bod y cyfleoedd sylweddol—ac rwy'n cydnabod, ar draws gogledd Cymru, ac ar draws y partïon ar gyfer y safle hwn—yn cael eu gwireddu, ac nid wyf am golli golwg ar y naill na'r llall, y sefyllfa uniongyrchol, ond hefyd y potensial mwy hirdymor ar gyfer y safle.
Diolch i’r Aelod, Rhun ap Iorwerth, am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn heddiw, ac rwy’n cytuno'n fawr iawn â’r hyn y mae wedi’i ddweud eisoes. Weinidog, a gaf fi newid y cwestiwn ychydig? Ac mae'r cyhoeddiad yn amlwg yn peri cryn bryder i lawer o unigolion a llawer o deuluoedd ar draws gogledd Cymru, ac mae'n amlwg fod hwn yn gyfnod anodd, ac mae'n anodd iawn ymdopi ag ergydion fel hyn yn yr hinsawdd sydd ohoni. Ond a gaf fi ofyn i chi pa gymorth a chyngor y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i fusnesau y mae arian yn ddyledus iddynt gan Orthios, fel yr un yn fy etholaeth i sydd wedi cysylltu â mi a Carolyn Thomas, yn ei rôl fel Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yr wythnos hon?
Diolch. Mae'n bwynt pwysig. Yn aml, pan fydd busnesau mwy yn rhoi'r gorau i weithredu neu'n lleihau eu gweithgarwch yn sylweddol, mae'n aml yn wir fod busnesau eraill yn eu cadwyn gyflenwi yn cael eu gadael mewn trafferthion ariannol hefyd. Felly, mae effaith ganlyniadol digwyddiad arwyddocaol fel hwn yn gallu bod yn gudd weithiau. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei godi.
O ran cymorth ymarferol, byddai gennyf ddiddordeb mawr pe gallai rannu'r manylion gyda ni. Gall busnesau eraill bob amser gysylltu â Busnes Cymru i gael y cyngor a'r cymorth y gallwn eu darparu i sicrhau eu bod yn cyrraedd y pwynt cywir, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gadwyn gyflenwi a beth yw'r trefniadau cytundebol sydd ar waith rhyngddynt hwy a'r prif gwmni. Ond rwy'n ymwybodol iawn y bydd hyn yn debygol o effeithio ar nifer o fusnesau eraill, nid yn unig y dros 100 o weithwyr sydd wedi colli eu swyddi dros nos.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiadau 90 eiliaid, ac mae'r datganiad cyntaf gan Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, nid yw cymhorthion clywed a masgiau'n mynd gyda'i gilydd.
Rwy'n gwybod. Na sbectol.
Yr wythnos hon yw Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd, sy'n ceisio helpu i newid agweddau tuag at bobl awtistig. Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, sy'n nodi 60 mlynedd ers ei sefydlu, am i bawb ddeall awtistiaeth yn well, ac mae'n tynnu sylw at y pum prif beth y mae pobl awtistig a theuluoedd am i'r cyhoedd eu gwybod: y gall pobl awtistig deimlo pryder am newidiadau neu ddigwyddiadau annisgwyl; profi sensitifrwydd synhwyraidd, bod naill ai'n llai sensitif neu'n rhy sensitif i synau, arogleuon, golau, blas a chyffyrddiad; efallai y bydd angen amser ychwanegol arnynt i brosesu gwybodaeth fel cwestiynau neu gyfarwyddiadau; wynebu lefelau uchel o bryder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a chael anhawster i gyfathrebu a rhyngweithio â phobl eraill.
Amcangyfrifir bod 30,000 neu fwy o bobl awtistig yng Nghymru, ac er bod bron bawb wedi clywed am awtistiaeth, nid oes digon o bobl yn deall sut beth yw bod yn awtistig a pha mor anodd yw bywyd os nad yw pobl awtistig yn cael y cymorth cywir. Er y gall diagnosis newid bywydau, gan helpu i egluro pwy ydych chi, mae miloedd o blant ac oedolion yng Nghymru yn aros misoedd lawer neu flynyddoedd hyd yn oed am asesiad. Canfu astudiaeth ddiweddar mai dim ond 28 y cant o ddisgyblion awtistig yng Nghymru a deimlai fod eu hathrawon yn deall awtistiaeth, ac mae data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu mai dim ond 29 y cant o bobl awtistig sydd mewn unrhyw fath o waith. Heb gymorth, mae llawer o bobl awtistig yn datblygu problemau iechyd meddwl, weithiau i'r graddau lle y daw'n argyfwng. Dyna pam y mae Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd mor bwysig. Diolch.
A gaf fi fanteisio ar y cyfle i longyfarch Mark Isherwood ar hynny, oherwydd mae'n fater sy'n agos iawn at fy nghalon?
Roedd yr wythnos cyn diwethaf yn Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2022, sef dathliad 10 diwrnod o STEM, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a gynhaliwyd rhwng 11 ac 20 Mawrth. A'r thema eleni oedd 'chwalu stereoteipiau', drwy ddathlu pobl a gyrfaoedd amrywiol pobl mewn gyrfaoedd STEM yng Nghymru. Mae'r sectorau STEM yn llawer mwy amrywiol nag y byddech yn ei feddwl ac y byddai'r stereoteip yn ei awgrymu. Mae yna bobl yn astudio ac yn gweithio mewn labordai, mewn colegau, prifysgolion, ac mewn gwaith, sydd wedi dod o lawer o wahanol gefndiroedd ac sydd wedi dilyn llawer o wahanol lwybrau i mewn i'w gyrfa.
Mae Colegau Cymru wedi tynnu fy sylw at achos Chloe Thomas, sy'n enghraifft o ddysgwr a elwodd o'r buddsoddiad mewn STEM. Llwyddodd i sicrhau prentisiaeth gyda Trafnidiaeth Cymru, a mynychodd Goleg y Cymoedd yn Ystrad Mynach yn fy etholaeth i. A dywedodd fod y coleg wedi rhoi amgylchedd dysgu ymarferol cadarnhaol iddi gyda gweithdai a labordai modern. Felly, arwyddocaol. Ac mae hi bellach wedi cael swydd barhaol gyda Trafnidiaeth Cymru fel peiriannydd cymorth ar gyfer y fflyd, ar ôl bod yn brentis benywaidd cyntaf i weithio yn y depo yn Nhreganna.
Un peth y byddwn yn ei ddweud, wrth inni ystyried—a gwn fod Gweinidog yr Economi yn ystyried—prentisiaethau gradd, yw nad ydym wedi cael y cydbwysedd cywir o ran rhywedd gyda phrentisiaethau gradd. Felly, mae cyfle pellach ar y lefel honno i lwyddo gyda phrentisiaethau lefel gradd yn y ffordd y mae stereoteipiau wedi'u chwalu ar lefel addysg bellach.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Heddiw, byddaf yn siarad am gronfa Rhian Griffiths Forget Me Not, cronfa deyrnged er cof am Rhian Griffiths, a fu farw yn 25 oed ym mis Mehefin 2012 o ganser ceg y groth. Roedd Rhian yn ferch a chwaer annwyl iawn, a oedd wedi ymrwymo i'w gwaith fel athrawes feithrin. Drwy gydol ei hamser yn cael triniaeth yn Felindre, roedd hi'n glaf yr oedd gan bobl feddwl mawr ohoni yn yr ysbyty. Er gwaethaf popeth yr aeth Rhian drwyddo, dangosodd gryfder cymeriad ac agwedd gadarnhaol a wnaeth argraff ar bawb a gyfarfu â hi, a gofynnodd i'w rhieni, Wayne a Jane, barhau â'i gwaith yn codi arian dros Felindre.
Mae'r teulu, drwy Gronfa Rhian Griffiths Forget Me Not, yn anrhydeddu ei dymuniadau ac yn coffáu ei bywyd drwy barhau gydag ymdrechion i godi arian ar gyfer Felindre. Ar hyn o bryd, mae ychydig o dan £700,000 yn y gronfa, gyda thad Rhian, Wayne, yn ymgysylltu ag ysgolion, colegau, Sefydliadau'r Merched, cartrefi gofal, tafarndai a chlybiau, busnesau lleol—y cyfan oll—i gyfleu'r neges. Y gobaith yw y daw ymchwil o hyd i ffordd o wella canser fel na fydd neb yn gorfod mynd drwy'r hyn yr aeth Rhian drwyddo, ac ni fydd yn rhaid i unrhyw deulu weld eu hanwyliaid yn dioddef, ac y bydd Felindre, yn y cyfamser, yn parhau i ddatblygu eu cefnogaeth i gleifion a'u teuluoedd, gan ddarparu canolfan o safon byd-eang go iawn i drin pob math o ganser. Hoffwn ddiolch i Wayne am ddod i lawr i risiau'r Senedd heddiw, ac i'r Aelodau a gyfarfu â Wayne i ddysgu mwy am gronfa Rhian Griffiths Forget Me Not. Diolch.
Diolch, bawb.
Yr eitem nesaf yw cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Darren Millar.
Cynnig NNDM7978 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
1. Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru);
2. Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig), a
3. Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jenny Rathbone.
Cynnig NDM7970 Jenny Rathbone
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ‘Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’, a osodwyd ar 28 Ionawr 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae mynediad at ofal plant da a fforddiadwy yn allweddol i fywydau hapusach ac iachach ac economi gryfach, decach a mwy cynhyrchiol. Diffyg gofal plant fforddiadwy yw un o brif ysgogwyr y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a welir yn gyson. Fel y gwelsom yn ystod y pandemig, cymerwyd yn ganiataol mai menywod fyddai'n ysgwyddo'r baich pan gaeodd ysgolion, a dyna'n union a ddigwyddodd. Gwyddom fod menywod wedi cael eu gadael i jyglo eu rôl fel athrawon yn ogystal â chogyddion, golchwyr llestri, a cheisio cadw swydd â thâl. Mae ein hadroddiad yn cyfeirio at ystod o gamau y gellir eu cymryd i wella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i rieni, cryfhau'r gweithlu a dysgu o arferion gorau gwledydd eraill. Hoffwn ddiolch i randdeiliaid a gyfrannodd at y gwaith hwn, o Gymru ac yn rhyngwladol, gan gynnwys y rhieni a'r gweithwyr gofal plant rheng flaen, y credaf fod rhai ohonynt yn yr oriel y prynhawn yma. Hoffwn ddiolch hefyd i'r staff ymchwil a chlercio rhagorol a gefnogodd ein hymchwiliad.
Mae'n werth nodi bod yna nifer sylweddol o deuluoedd nad ydynt yn gwybod beth y mae ganddynt hawl iddo. A phan edrychwch ar arolwg blynyddol diweddaraf Coram Family and Childcare o bob awdurdod ym Mhrydain, prin y gallwch synnu, oherwydd bod mwy na hanner ein hawdurdodau lleol heb ddigon o ofal plant ar gyfer hyd yn oed yr hawliau addysg gynnar am ddim y dylai plant fod yn eu cael. Felly, nid yw'n syndod nad yw awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau i ddweud wrth bobl am ddarpariaeth nad yw'n bodoli mewn gwirionedd. Nododd Sefydliad Bevan fod hyd yn oed ymwybyddiaeth o'r 10 awr o ddarpariaeth i bawb ar gyfer plant tair a phedair oed yn isel. A mynegodd cyfranogwyr ein grwpiau ffocws wahanol raddau o ymwybyddiaeth ynglŷn â chwmpas a meini prawf cymhwysedd Dechrau'n Deg a'r cynnig gofal plant. Mae'n ddarlun eithaf dryslyd, felly.
Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad ar gyfer sut y gallwn unioni'r sefyllfa hon. Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys ysgrifennu at rieni newydd, neu hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael wrth gofrestru'r enedigaeth. Mae'r Gweinidog wedi rhoi llawer o bwyslais ar yr wybodaeth sydd ar gael gan wasanaeth gwybodaeth i deuluoedd pob awdurdod lleol, ac edrychwn ymlaen at y diweddariad o'r llyfryn 'Dewis Gofal Plant' ar-lein yr ydych wedi'i gomisiynu a fydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni. Ond rydym yn gwybod nad yw gwybodaeth ar-lein yn ddigon i gyrraedd pob teulu ynglŷn â hawl eu plentyn. Ac mae'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd ei hun yn rhagorol yn yr ystyr ei fod yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth aros a chwarae, sydd yr un mor bwysig yn y dyddiau cynnar iawn o fod yn rhiant, ond nid yw'n tynnu sylw amlwg iawn at beth yn union sydd ar gael fel hawl plentyn.
Mae'n dda iawn gwybod ei bod yn ofynnol i dimau Dechrau'n Deg gael strategaethau eraill ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a bod disgwyl iddynt amlinellu'r rhain fel rhan o'u cynlluniau blynyddol, a chredaf fod hynny'n beth pwysig iawn. Ond yn anffodus, rydych hefyd yn dweud yn eich ymateb y bydd Dechrau'n Deg ei hun yn defnyddio mwy o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon allweddol i deuluoedd Dechrau'n Deg, ac mae hynny'n iawn i rai, ond ofnaf na fydd yn cyrraedd y rhai mwyaf difreintiedig.
Gan droi at gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, yn wreiddiol canolbwyntiai'n unig ar deuluoedd lle mae'r ddau riant—neu, ar aelwyd un rhiant, y rhiant hwnnw—yn gweithio dros 16 awr yr wythnos. Felly, rydym yn croesawu'r ffaith ei fod yn ymestyn i gynnwys rhieni sydd mewn addysg, hyfforddiant neu ar gyrion gwaith, ac yn enwedig y ffaith eich bod yn derbyn ein hargymhelliad fod angen cynnal asesiadau o'r effaith ar hawliau plant ac asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ac y cânt eu cyhoeddi o leiaf fis cyn y bydd unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth yn dod yn weithredol.
Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu pob awdurdod cyhoeddus i fynd i'r afael â sut, er enghraifft, y bydd pobl sy'n gweithio oriau anarferol, megis gweithwyr shifftiau, yn gallu elwa o'r cynnig gofal plant, oherwydd mae'r rhan hon o'r gweithlu sy'n talu cyflogau isel i raddau helaeth wedi'i heithrio rhag elwa o'r cynnig gofal plant gan nad yw'r farchnad wedi darparu ar gyfer y lefel hon o gymhlethdod eto. Rydych wedi rhoi'r cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i fynd i'r afael â hyn fel rhan o'u hasesiadau digonolrwydd gofal plant, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd y pwyllgor yn edrych gyda diddordeb mawr ar fanylion y rheini maes o law i weld a ydynt yn mynd i'r afael â'r pryder penodol hwnnw mewn gwirionedd.
Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom gan arbenigwyr yn yr Alban a Sweden, ac mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn dysgu gan y goreuon fel ffordd o wella ansawdd ein darpariaeth a'n safonau ar draws y sector, fel ei bod yn fwy na rhaglen ar gyfer cael mwy o rieni yn ôl i waith yn gyflymach, a'i bod hefyd yn gyfrwng hanfodol ar gyfer lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.
Mae Llywodraeth Cymru, a'r Dirprwy Weinidog yn enwedig, yn gwerthfawrogi'n fawr y cwricwlwm dysgu drwy chwarae ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chyfnod allweddol 1, ond teimlaf fod y sgiliau addysgegol yn bwysicach yn y blynyddoedd cynnar iawn nag yn unman arall. Dyma'r grŵp anoddaf o blant i'w addysgu, ac felly mae arnom angen yr athrawon gorau yn y maes hwn. Felly, rydym yn falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad am y rôl hanfodol y gall ysgolion bro ei chwarae yn gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ar draws y sector gofal plant.
Mae'n ofnadwy o ddryslyd i'r plentyn sydd ar hyn o bryd yn gorfod cael ei gludo rhwng hyd at dri lleoliad ar wahân dros yr oriau y mae eu rhiant yn gweithio, a mynegodd rhieni a gymerodd ran yn ein hymgynghoriadau ddryswch ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng addysg gynnar a gofal plant. Mae'n ymddangos i mi y gall ysgolion bro wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy sicrhau bod y cynnig cymuned gyfan yn dda.
A chredaf fod angen cryn dipyn o newid diwylliannol o ganlyniad i hyn, oherwydd trydarodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon y dylid cadw gofal plant allan o ysgolion mewn ymateb i'n hadroddiad, gan ddiystyru'r rôl y mae gofal plant cynhwysfawr safonol yn ei chwarae yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a achosir gan dlodi mewn modd gwirioneddol syfrdanol. Ni allant synnu bod plant yn cyrraedd yr ysgol yn dair oed gyda dim ond tri neu bedwar gair os nad ydynt yn talu sylw i ba ofal plant y maent yn ei gael cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol brif ffrwd.
Yn sicr, nid yw hyn yn ymwneud ag ysgolion yn mabwysiadu'r rôl werthfawr a chwaraeir gan y meithrinfeydd preifat a chymunedol, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog yn ei hymateb egluro sut y gallwn gynyddu capasiti a gallu'r sector gofal plant cyfan, sy'n cael ei reoli i raddau helaeth gan sefydliadau preifat a gwirfoddol, ac mae hynny'n arbennig o bwysig yng nghyd-destun anghenion dysgu ychwanegol.
Cawsom dystiolaeth wirioneddol frawychus gan rywun nad oedd eu plentyn awtistig yn gallu cael unrhyw gefnogaeth o gwbl yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud oherwydd dywedwyd wrth y gweithwyr allweddol fod angen i'r ddarpariaeth gau, ac mae'n ymddangos i mi fod angen i'r math hwnnw o unigolyn, y math hwnnw o deulu, yn anad yr un, fod wedi cael llawer mwy o ystyriaeth. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn clywed ychydig mwy ynglŷn â sut y byddwn yn gwneud hynny, oherwydd i deulu sydd â phlentyn anabl, nid ydynt am fod yn cludo eu plentyn gryn bellter er mwyn gallu cael y lefel o ddarpariaeth sydd ei hangen ar y plentyn. Mae angen i'r plentyn allu cael yr un ddarpariaeth â'r plant eraill y mae'n chwarae yn eu plith mewn bywyd bob dydd a pheidio â gorfod mynd i rywle arbennig. Mae angen eu hintegreiddio o'r dechrau.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed ar y cydweithio a fu rhwng Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru ar y ddarpariaeth gofal plant ac a oes mwy o rôl i Estyn i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth gofal plant yn cael cefnogaeth pobl sydd â chymwysterau addas i gynllunio'r cwricwlwm, yn enwedig i blant ag anghenion ychwanegol.
Ac yn olaf, rwyf am ddweud bod arnom angen sector gofal plant sy'n adlewyrchu'r boblogaeth. Felly, mae llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod pobl o wahanol gymunedau'n cael eu hannog i ymgymryd â'r swydd bwysig hon ym maes gofal plant, ac mae'r ffordd y gwobrwywn ein gweithlu ac y dangoswn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith pwysig hwn yn rhywbeth y mae gwir angen i bob un ohonom roi sylw iddo, oherwydd, fel y dywedodd un o'n cyfranwyr,
'Rydym ar gontractau dim oriau ac rydym yn gofalu am y dyfodol.'
Felly, mae cyflog a phroffesiynoli'r sector yn allweddol i'r gymdeithas sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n canolbwyntio ar y teulu y mae pawb ohonom ei heisiau.
Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am gyflwyno'r adroddiad heddiw. Efallai eich bod yn synnu braidd wrth fy ngweld i'n siarad ar yr eitem hon heddiw, ond rhaid imi ddweud, cefais y pleser o fynychu dau o gyfarfodydd y pwyllgor ar ran fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod dros y misoedd diwethaf, a mwynheais waith y pwyllgor a gyflawnwyd ar gyflogaeth rhieni a gofal plant—y mater penodol hwn. Rwy'n siŵr fod y pwyllgor wedi mwynhau fy mhresenoldeb yno hefyd, ar adegau. [Chwerthin.]
Ond fel y gwyddom, mae gofal plant a chyflogaeth rhieni wedi bod yn broblem ers nifer o flynyddoedd a daeth i'r amlwg, yn sicr, drwy bandemig COVID-19. Fel a rannwyd eisoes drwy'r adroddiad, gan fod mynediad at ofal plant fforddiadwy a hyblyg yn cael ei nodi'n aml gan lawer o rieni fel un o'r prif rwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio neu gamu ymlaen ymhellach yn eu gyrfaoedd—ac mae fy ngwraig a minnau'n sicr wedi profi hyn gyda'n tri phlentyn, sydd o dan 10 oed—mae yna her a all godi i rieni sy'n gweithio.
Cyn imi droi at rai o'r pwyntiau a wnaeth fy nharo yn yr adroddiad a gwaith y pwyllgor ar hyn, wrth i'r adroddiad gael ei gyflwyno, un peth a aeth drwy fy meddwl oedd tybed a ydym, weithiau, yn colli cyfle gyda gofal sy'n pontio'r cenedlaethau. Rwyf bob amser yn cofio'r stori, yn fy mywyd blaenorol, fy swydd flaenorol, roedd gennyf bennaeth newydd a ddaethai draw ar secondiad o Hyderabad yn India, ac ni allai ddod dros y ffordd yr ydym yn ymdrin â gofal, gofal plant, gofalu am ein henoed, o'i gymharu â rhai o'r ffyrdd diwylliannol y byddai ei draddodiad ef yn eu defnyddio. Tybed weithiau a ydym yn colli cyfle gyda'r berthynas rhwng teidiau a neiniau a'u hwyrion a all ddigwydd a'r gefnogaeth a ddarparwn yno ar draws sawl cenhedlaeth. Sylw wrth basio yw hynny, mae'n debyg.
Ond o ran yr adroddiad a'r pwyntiau a wnaeth argraff arnaf, fel y nodwyd, yn ystod y dystiolaeth y pwyllgor, mae llawer o rieni heb fod yn ymwybodol o'r cymorth gofal plant sydd ar gael iddynt mewn gwirionedd, yn enwedig y cymorth sydd ar gael i rieni newydd, a phrofais innau hyn tua naw mlynedd yn ôl. Mae'n bwysig iawn yn fy marn i fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agosach gydag awdurdodau lleol yn enwedig, a byrddau iechyd a sefydliadau perthnasol i wella'r ymwybyddiaeth hon a darparu rhagor o wybodaeth i rieni, fel y gallant ddefnyddio nifer o'r opsiynau gwych sydd ar gael, ac mae'n hanfodol fod gofal plant a chymorth yn cael eu targedu, yn sicr, at deuluoedd sydd ei angen, a'n bod yn ceisio osgoi'r loteri cod post a all ddigwydd o bryd i'w gilydd.
Yn ail, o ran y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae'n amlwg fod rhywfaint o ddarpariaeth yno i wella ac ehangu gofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu gofal plant cyfrwng Cymraeg wedi'i gryfhau, a byddwn yn sicr yn croesawu hynny o'r ochr hon i'r meinciau. Mae'r rhain yn eitemau y buom yn galw amdanynt ers amser maith hefyd ac mae'n dda gweld cynnydd yn y maes hwnnw.
Yn olaf, credaf ei bod yn amlwg o ymgysylltiad y pwyllgor fod angen gwneud pob ymdrech i annog pobl o bob cefndir, fel y nodwyd gan y Cadeirydd yno, i ystyried gyrfa mewn gofal plant. Rwy'n gwybod er enghraifft fod fy ngwraig wedi gweithio yn y maes hwn am gyfnod byr a byddai'n dda gweld cymysgedd ehangach o bobl yn ymwneud â gofal plant proffesiynol, a bod plant yn gallu gweld gwahanol fathau o bobl yn gofalu amdanynt dros wahanol gyfnodau yn eu bywydau, mae'n debyg.
Felly, i gloi, hoffwn gofnodi fy niolch i'r pwyllgor cyfan am gynhyrchu'r gwaith pwysig hwn ar ofal plant a'r canlyniadau cadarnhaol a gaiff. Diolch hefyd i'r sefydliadau a'r cyrff cyhoeddus a phob math o gyrff a roddodd dystiolaeth i helpu'r pwyllgor gyda'u hargymhellion. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch o gyfrannu i'r ddadl fel llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a hefyd fel aelod o'r pwyllgor. Ychydig wythnosau yn ôl, fe fuon ni'n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac yn trafod yma yn y Siambr adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg. Roedd yr adroddiad hwnnw'n datgelu bod gennym ffordd bell i fynd o ran anghydraddoldeb rhywedd.
Pan ofynnodd y pwyllgor i'n tystion beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth fwyaf o ran cau y bwlch cyflog rhywedd a'r anghydraddoldebau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, teuluoedd a phlant, gwella cyfleon menywod yn y gweithle ac yn y gymdeithas yn gyffredinol, yr ateb oedd gofal plant am ddim i bawb, a bod hynny ar gael o flwydd oed, os nad yn gynt. Byddai hynny nid yn unig, wrth gwrs, yn taclo anghydraddoldeb rhywedd, ond fe fyddai hefyd yn helpu taclo tlodi ac anfantais; yn dda i rieni a mamau yn enwedig, ac yn dda, yn bwysicach efallai, i blant. Dyna'r ddelfryd, dyna'r safon aur.
Mae adroddiad ymchwil ar ôl adroddiad ymchwil yn pwyntio at hynny fel rhywbeth y mae'n rhaid i ni anelu ato, ac fe gadarnhawyd hynny, dwi'n credu, gan y dystiolaeth sy'n cael ei hadlewyrchu yn adroddiad y pwyllgor. Mae'n galondid, felly, ers i ni fel pwyllgor benderfynu ar destun ein hymchwiliad, fod y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru wedi sicrhau cynnydd at y nod hwnnw o ehangu gofal plant i bob plentyn dwyflwydd oed fel cam cyntaf.
Un o brif negeseuon yr adroddiad a fydd, gobeithio, yn medru dylanwadu ar y gwaith pwysig hwn oedd, fel rŷn ni wedi clywed, y diffyg ymwybyddiaeth, yr anhawster wrth geisio canfod pa fath o ofal oedd ar gael ble, ar gyfer pa oedran, am faint o oriau. Yn eu tystiolaeth, fe wnaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru rannu gyda ni fod 67 y cant o'r ymatebwyr i'w harolwg nhw yn dweud bod angen gwybodaeth fwy hygyrch a thryloyw arnyn nhw am y darpariaethau gofal plant sydd ar gael. Ategwyd hyn gan gyfranogwyr ein grwpiau ffocws o ran eu hymwybyddiaeth o'r cynnig gofal plant a Dechrau'n Deg.
Darlun pytiog a bratiog, felly, o ddarpariaeth a gafwyd. Loteri cod post oedd yr hyn a ddisgrifiwyd i ni, sy'n golygu nad yw'r ddarpariaeth yn gyson ar gyfer pob teulu ac yn cwrdd ag anghenion pob plentyn ym mhob man yng Nghymru, a'r diffygion o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol yn dod i'r wyneb yn glir.
Gan eu bod wedi derbyn nifer fawr o argymhellion y pwyllgor, ac yn dilyn y datganiad yr wythnos diwethaf ar y cyd ag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian, am ehangu rhaglen Dechrau'n Deg, hoffwn ddeall gan y Dirprwy Weinidog beth yw ei gweledigaeth hi o ran sut y gallwn ni wireddu'r nod yma o ehangu gofal plant, o gofio'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud wrthym ni am yr heriau sydd angen eu goresgyn i sicrhau hynny. Beth yw rhan ehangu rhaglen Dechrau'n Deg yn y cynllun ehangach o ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn o ddwy oed? Beth yw'r cynllun o ran cynyddu a datblygu'r gweithlu a'r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom? A sut mae'r Llywodraeth am sicrhau gwell fynediad at wybodaeth fwy syml a hygyrch i rieni a chreu llwybr gofal plant mwy llyfn i bawb ym mhob cwr o Gymru?
Mae gwahaniaethau o ran mynediad, argaeledd ac ansawdd gofal plant i wahanol grwpiau cymdeithasol yn atgyfnerthu anghydraddoldeb a chanlyniadau rhwng y grwpiau hyn, a dyna pam y mae mynediad cyffredinol, o ansawdd uchel at ofal plant mor bwysig wrth geisio creu Cymru ffyniannus, heb dlodi plant, lle mae plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Credir bod datblygiad plant y teuluoedd tlotaf eisoes 10 mis ar ei hôl hi o gymharu â phlant o gefndiroedd mwy cefnog erbyn iddynt droi'n dair oed. Nid yn unig y mae cynyddu'r ddarpariaeth gofal plant yn gwella canlyniadau i'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond mae hefyd yn lleihau cyfraddau tlodi mewn gwaith a thlodi mwy cyffredinol ledled Cymru.
Tynnodd yr argyfwng costau byw presennol sylw at yr angen i wella'r ddarpariaeth gofal plant, a bydd cyflogau sy'n aros yn eu hunfan yng Nghymru yn ei ddwysáu. Fel y crybwyllwyd gennym droeon yn y lle hwn, bydd y prisiau ynni, y prisiau tanwydd, y prisiau bwyd, y codiadau treth, y chwyddiant a phenderfyniad gwarthus Llywodraeth y DU i dorri'r ychwanegiad i'r credyd cynhwysol a pheidio â chynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant yn golygu y bydd y storm economaidd sy'n taro ein gwlad yn taro'r tlotaf yn ein cymdeithas yn galetach na neb, a theuluoedd â phlant, yn enwedig, yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu gael pryd o fwyd gweddus. Mae tri o bob 10 aelwyd ag incwm sy'n llai na £40,000 y flwyddyn wedi gweld eu hincwm yn gostwng ers mis Mai 2021. Bydd gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn yn gyflym, yn effeithlon ac yn llawn yn helpu i arafu effaith yr argyfwng hwn gan ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol.
Rwy'n falch fod y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn dechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd yn adroddiad y pwyllgor. Fodd bynnag, dylai hyn ysbrydoli cynnydd a pheidio â chael ei weld fel diwedd ar y broblem, wrth inni bwyso am ofal plant cyffredinol i bawb, gwella canlyniadau i blant, creu cyfleoedd i rieni, yn enwedig i fenywod allu cael mynediad at waith ac addysg, neu ddychwelyd atynt. Diolch.
Rwy'n falch iawn o godi i siarad yn fyr yn y ddadl hon, a diolch hefyd i'r pwyllgor am eu gwaith ac am barhau â'u sylw i'r maes polisi cymdeithasol gwirioneddol bwysig hwn, oherwydd mae'n sicr yn wir—bron nad oes angen ei ddweud, ond rwy'n benderfynol o'i ddweud—os cawn y buddsoddiad yn iawn mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar, mewn system gydlynol, unedig o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, byddwn yn trawsnewid cyfleoedd bywyd ac mae'n rhaid inni adeiladu ar yr hyn sydd gennym yno.
Rwyf am ddechrau drwy edrych ar hynny a chyffwrdd ar sut y cyrhaeddwn lle rydym am fod, gyda system briodol o addysg a gofal plentyndod cynnar unedig a chydlynol sy'n mynd o'r blynyddoedd cynnar iawn yr holl ffordd drwodd, gyda'r continwwm hwn. Ac mewn gwirionedd, dyna a nodwyd ychydig flynyddoedd yn ôl pan lansiodd Llywodraeth Cymru ei huchelgais. Nodaf yn y llythyr bryd hynny at Lynne Neagle, sydd bellach yn Weinidog, ond a oedd ar y pryd yn cadeirio'r un pwyllgor, fod Julie Morgan wedi ysgrifennu at Lynne, gan ddweud mai ein nod addysg a gofal plentyndod cynnar yw creu un dull addysg a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel ledled Cymru sy'n canolbwyntio ar y plentyn, un sy'n cydnabod gwerth addysg gynnar a gofal plant, gan dynnu'r gorau o'r ddau at ei gilydd mewn un profiad unigol, gyda rhieni'n gallu cael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Nawr, dyna'r uchelgais yn llwyr a gosododd lwybr 10 mlynedd i'w wneud. Wel, aeth tair blynedd a hanner heibio o'r foment honno, gyda'r llythyr hwnnw.
Rwy'n cymeradw