Y Cyfarfod Llawn

Plenary

30/03/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf y prynhawn yma ac rwyf wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd yr holl gwestiynau o dan yr eitem yma yn cael eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ran y Gweinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Diogelwch Tomenni Glo

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch tomenni glo yn Nwyrain De Cymru? OQ57887

Diolch. Hoffwn gyfeirio'r Aelod at y datganiad llafar a wnaed ddoe, ac yr ydym yn dadlau hyn y prynhawn yma wrth gwrs. Fel y dywedasom yn glir, mae arolygiadau o domenni sydd wedi’u graddio’n uwch wedi'u cwblhau'n ddiweddar, ac rydym wedi ymrwymo £44.4 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw dros y tair blynedd nesaf.

Diolch am yr ateb.

Roedd yn amlwg o’r datganiad ar ddiogelwch tomenni glo ddoe fod llawer mwy o waith i’w wneud yn y blynyddoedd i ddod i ddiogelu'r hyn a adawyd ar ôl gan ein gorffennol diwydiannol yng Nghymru. Bydd yn cymryd llawer o flynyddoedd a channoedd o filiynau o bunnoedd i ymdrin â hyn. Afraid dweud mai San Steffan, a gafodd y buddion a’r elw o’r diwydiant glo, a ddylai fod yn talu’r bil. Mae'n sgandal nad ydynt yn gwneud hynny. Sut ydych chi'n cysylltu ag adrannau eraill o’r Llywodraeth i sicrhau y bydd gennym yr arbenigedd a’r capasiti angenrheidiol yng Nghymru i wneud y gwaith arbenigol sydd ei angen i ddiogelu ein cymunedau? Erbyn hyn, mae angen ailasesu gwaith adfer a oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol ddegawdau’n ôl yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu.

Diolch, ie, ac rwy’n cytuno’n llwyr fod rôl yma i Lywodraeth y DU. Dyma a adawyd ar ôl o orffennol diwydiannol Prydain. Mae'r tomenni'n dyddio o adeg cyn i bwerau gael eu datganoli i Gymru, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan a thalu'r bil hwnnw. A chredaf fod consensws yn y Siambr hon, yn sicr ar y meinciau nad ydynt yn rhai Ceidwadol, ynglŷn â hynny.

Fel y dywed yr Aelod yn gwbl gywir, mae angen inni sicrhau bod arloesi a thechnoleg wrth wraidd y ffordd yr awn i’r afael â bygythiad y tomenni yn ogystal â'r cyfle a geir yn sgil adfywio. A thrwy sgilio a thrwy'r gadwyn gyflenwi, yn ogystal ag arloesi, nid oes amheuaeth y gellir darparu manteision wrth gyflawni ein rhwymedigaeth i fynd i'r afael â'r tomenni hyn i'r cymunedau lle mae'r tomenni hynny wedi'u lleoli ar hyn o bryd. Felly, mae gennym raglen arloesi, y soniais amdani ddoe, sy'n defnyddio technolegau o'r radd flaenaf, a byddwn yn treialu'r rheini yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol, ac fel rhan o’r ymgynghoriad yn awr ar adroddiad Comisiwn y Gyfraith, byddwn yn asesu'r gwaith o greu corff statudol newydd, y bydd angen iddo fod yn bartneriaeth gydag asiantaethau cyflawni eraill yng Nghymru fel y gallwn fynd i'r afael gyda'n gilydd â'r her y mae hyn yn ei chyflwyno.

Ddirprwy Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth Comisiwn y Gyfraith nifer o argymhellion ar gyfer trefn ddiogelwch newydd i helpu i amddiffyn rhag amrywiaeth o fygythiadau i ddiogelwch tomenni glo ac i sicrhau y ceir dull cyson o ymdrin â phob tomen yng Nghymru, ac fe wnaethoch ddatganiad mewn ymateb i hynny ddoe. Yn eich datganiad, fe ddywedoch chi nad oes gan Lywodraeth Cymru gyllid i sicrhau bod tomenni glo yn ddiogel yng Nghymru. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2020, ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru lythyr at holl Aelodau’r Senedd yn dweud y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried o ddifrif pob cais am gyllid i gefnogi'r gwaith o reoli tomenni glo, yn dilyn y llifogydd ledled de Cymru bryd hynny. Felly, a gaf fi ofyn, Ddirprwy Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cyllid hwn gan Swyddfa Cymru i sicrhau’r camau gweithredu gofynnol i sicrhau diogelwch tomenni glo yn y cyfnod cyn ichi gyflwyno a phasio deddfwriaeth? Diolch.

Wel, cyfanswm y cyllid a ddarparwyd ar ôl y llifogydd oedd oddeutu £9 miliwn, ac mae oddeutu hanner hwnnw wedi mynd tuag at ddiogelwch tomenni glo yn Tylorstown. Rydym wedi gwario oddeutu £20 miliwn ar hynny. Rydym yn wynebu bil o fwy na £500 miliwn. Rydym wedi ymrwymo £44.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhoi rhagor o arian, ac mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i is-ysgrifennydd wedi dweud yn gyson ac yn gadarn nad yw’n fater iddynt hwy bellach. Yn eu barn hwy, mater i ni yw datrys hyn, ac rwy'n gwrthod y dadansoddiad hwnnw. Credaf y byddai’n llawer gwell pe gallem gydweithio ar hyn a chydnabod ein bod yn rhannu'r rhwymedigaeth i fynd i'r afael â’r her hon. Nid dyna farn yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ond byddai’n wych pe gallai'r Aelodau gyferbyn helpu fel y gellid gweld rhywfaint o synnwyr.

13:35
Datgarboneiddio Tai

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatgarboneiddio tai? OQ57878

Diolch. Rydym wedi cyflwyno safonau adeiladu newydd ar gyfer cartrefi cymdeithasol, sy'n gwahardd y defnydd o danwydd ffosil, gydag uchelgeisiau i ddatblygwyr preifat fabwysiadu'r gofynion hyn erbyn 2025. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, gan archwilio'r ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon o ddatgarboneiddio'r stoc o dai cymdeithasol sy'n bodoli'n barod.

Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Yn bersonol, hoffwn ganmol Cyngor Abertawe a’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol am y gwaith y maent wedi’i wneud yn datgarboneiddio eu tai newydd. Rwy’n cynrychioli etholaeth a chanddi nifer fawr o dai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr a thai rhentu preifat, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pa gynnydd a wnaed i leihau’r gwres a gollir o dai preifat a thai rhentu preifat? A beth yw'r cynllun i ddatgarboneiddio'r tai hyn? Rwy'n cydnabod y bydd yn broses hir ac rwy'n cydnabod y bydd yn broses anodd.

Wel, hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am Gyngor Abertawe. Credaf ei bod yn enghraifft wych o bartneriaeth rhwng awdurdod lleol sy’n cael ei redeg gan Lafur a Llywodraeth Lafur Cymru. Maent hwy eu hunain wedi buddsoddi oddeutu £60 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon mewn cartrefi cynhesach, mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, gan greu oddeutu 25 o gartrefi carbon isel newydd, yn ogystal â rhaglen effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi sy'n bodoli'n barod, gwerth cyfanswm o oddeutu £46 miliwn. Credaf fod honno’n ymdrech aruthrol ar eu rhan i fynd i'r afael â’r argyfwng costau byw, drwy ddarparu cymorth ymarferol i ymdopi â thlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r her sero net.

Ar fater tai preifat, rydym yn ffodus iawn fod gennym Rhentu Doeth Cymru, sy’n rhywbeth nad oes gan rannau eraill o’r DU, ac sy’n caniatáu inni fapio’r eiddo yn y sector preifat i weld pa rai nad ydynt yn bodloni'r safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol ar hyn o bryd. Wedyn, gyda'r wybodaeth honno, gallwn edrych ar ba gymysgedd o grantiau a benthyciadau sydd eu hangen i gymell y cartrefi hynny i gyrraedd a rhagori ar y safon. Ein dull o weithredu, fel y gŵyr Mike Hedges, yw treialu ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sy’n fuddsoddiad o £220 miliwn gennym ni, a mabwysiadu ymagwedd yr ydym yn ei galw'n ddull 'ffabrig yn gyntaf', gan gydnabod y bu anawsterau gyda rhaglenni ôl-osod ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf a bod pob tŷ'n wahanol. Yn benodol, mae gan Gymru hen stoc dai, gyda thai amrywiol iawn, a gallai’r hyn a allai fod yn ateb i dŷ teras yn y Cymoedd fod yn wahanol ar gyfer byngalo maestrefol. Felly, mae angen inni dreialu ffabrigau gwahanol, ac rydym yn gwneud hynny, er mwyn deall beth fyddai'n fwyaf effeithlon, a phan fyddwn yn deall yr agweddau ymarferol hynny, gallwn nodi llwybr wedyn tuag at ddatgarboneiddio.

Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Weinidog, mae mwy na 70 y cant o’r 1.4 miliwn o gartrefi sydd gennym yng Nghymru yn eiddo i berchen-feddianwyr. Ar gyfartaledd, mae ein heiddo'n hŷn nag mewn mannau eraill yn y DU, a bydd llawer yn wynebu her i ddatgarboneiddio yn unol â’r targed a osodwyd gennych. Os mai cyflenwad ynni yw’r broblem, sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i deuluoedd symud oddi wrth nwy tuag at ffynonellau adnewyddadwy, a sut y bydd yn talu am hynny?

Wel, hoffwn groesawu Altaf Hussain i’r meinciau Llafur—[Chwerthin.] Mae llawer o lawenydd yn y nefoedd am bob pechadur sy’n edifarhau.

A gaf fi egluro bod gormod o Dorïaid i ffitio ar fainc y Torïaid, ac felly bod angen sedd ymhlith y garfan Lafur?

Ni allwn gytuno mwy, Lywydd. Yn wir, mae gormod o Dorïaid, a byddwn yn sicrhau bod llai ohonynt yn yr etholiad nesaf—[Chwerthin.] Ond o ddifrif, i ateb pwynt cwestiwn yr Aelod, ac rwy'n diolch iddo amdano, mae'r modd yr ydym yn mynd i'r afael â chartrefi'r sector preifat yn amlwg yn her i bob un ohonom. Sylwais yng nghyllideb y Canghellor iddo gyhoeddi gostyngiad TAW ar gyfer rhywfaint o dechnoleg adnewyddadwy solar, ac rydym yn croesawu hynny, ond mae arnaf ofn ei fod yn annigonol ar gyfer yr her sy’n ein hwynebu. I raddau helaeth, nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud; mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud ledled y DU, ac mae datgarboneiddio cartrefi yn mynd i fod yn rhan allweddol o'r gwaith o gyflawni ein targedau sero net, ar gyfer gwres ac ar gyfer trydan. Mae'r dechnoleg ar gael, mae wedi'i phrofi ac mae'n gosteffeithiol.

Roeddwn o'r farn mai camgymeriad enfawr oedd i Lywodraeth y DU gael gwared ar y tariff cyflenwi trydan ychydig flynyddoedd yn ôl. Fe’i cyflwynwyd yn 2010 gan glymblaid y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr, a bu'n llwyddiannus iawn yn cymell perchnogion tai preifat i fuddsoddi yn eu heiddo eu hunain, yn ogystal â chyfrannu ynni at y grid drwy ffynonellau adnewyddadwy. A chredaf fod cael gwared ar hwnnw yn 2019 yn gamgymeriad mawr. Felly, credaf fod angen rhaglen sylweddol ledled y DU yn awr i gymell perchnogion tai i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Dyna'r ffordd i ddiogelu ffynonellau ynni. Dyna’r ffordd i sicrhau nad ydym yn ddibynnol ar olew a nwy o Rwsia, a dyna’r ffordd i ddatgarboneiddio a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ond hyd yn hyn, ychydig iawn a glywsom gan Lywodraeth y DU ynglŷn â hyn, ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda hwy i unioni hynny.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi galw ddoe yn ystod y cwestiynau busnes, drwy’r Trefnydd, ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i wneud datganiad am y sefyllfa erchyll ddydd Llun pan gafodd nifer o drenau, sawl cerbyd, cannoedd o deithwyr eu gadael am sawl awr ar drenau ar ddiwrnod cynnes iawn, ac roedd y sefyllfa'n llai na delfrydol. Wel, rwy’n falch iawn o ddweud bod y Gweinidog a minnau wedi siarad brynhawn ddoe, wedi hynny, ac addawodd y byddai’n cael rhyw fath o wybodaeth yn ôl gan Trafnidiaeth Cymru. Rwy’n ddiolchgar iawn am y llythyr a gefais gan y prif weithredwr, drwoch chi, Ddirprwy Weinidog, ac maent yn mynd i lansio ymchwiliad difrifol i hynny. Maent yn gofyn i unrhyw un yr effeithiwyd arnynt yn fawr gan hyn i roi gwybod, a hoffwn annog pobl i wneud hynny. Diolch.

Felly, gan symud ymlaen at fy nghwestiynau fel llefarydd, mae fy un cyntaf yn ymwneud â diogelu ffynonellau ynni. Nawr, mae'n rhaid i'n camau gweithredu ar ddiogelu ffynonellau ynni fod yn gadarn ac yn bendant os ydym am ddiogelu dyfodol llewyrchus a rhyngwladol i Gymru. Mae'n rhaid inni chwarae ein rhan i roi diwedd ar y ddibyniaeth fyd-eang ar ynni Rwsia a rhyddhau grym ein draig Gymreig ein hunain. Ar hyn o bryd, mae 8 y cant o'r galw am olew yn y DU a 4 y cant o'r galw am nwy yn y DU yn cael ei ddiwallu gan fewnforion o Rwsia. Nawr, mewn ymateb i'r ymosodiad brawychus ac anghyfreithlon ar Wcráin, bydd Llywodraeth y DU yn dod â mewnforion olew i ben yn raddol yn ystod y flwyddyn. Mae effaith prisiau nwy anwadal byd-eang ar y DU yn tanlinellu pwysigrwydd cynllun Llywodraeth y DU i gynhyrchu mwy o ynni rhad, glân, adnewyddadwy ac ynni niwclear yn y DU. Mae eich gweledigaeth ar sut i gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi'i hamlinellu yn yr archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy. Disgwylir i rai o’r argymhellion gymryd peth amser i’w cyflawni—2023 ar gyfer ardaloedd adnoddau strategol morol, a 2024 ar gyfer cynllun ynni cenedlaethol. Yng ngoleuni'r argyfwng ynni newydd, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gyflymu'r gwaith ar gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a chyflwyno'r cynllun ynni cenedlaethol? Diolch.

Wel, Lywydd, mae dau bwynt ar wahân i'w hateb, a cheisiaf ateb y ddau ohonynt. Ar y cyntaf, roeddwn yn bresennol brynhawn ddoe yn ystod y cwestiynau busnes, a chlywais gan yr Aelod am y profiad dirdynnol a gafodd hi a’i chyd-deithwyr, ac roedd yn ddrwg iawn gennyf glywed am hynny. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru yn syth ar ôl hynny i drafod y mater. Yn amlwg, nid yw'n iawn mai'r rheswm y cafwyd ymateb oedd am fod gwleidyddion ar y trên, ond roedd nifer o Aelodau yno a oedd yn gallu rhoi tystiolaeth uniongyrchol, ac fe'i cymerais o ddifrif, yn enwedig sylwadau aelodau o'r cyhoedd nad oeddent wedi gallu mynd i angladdau ac a gafodd helynt gyda'u swyddi. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru o ddifrif ynglŷn â hyn. Roedd problem gyda’r trên wrth iddo adael y depo cynnal a chadw—nid depo cynnal a chadw Trafnidiaeth Cymru—ond yna, methodd weithio ar ôl ychydig, ac achosodd hynny lu o broblemau dilynol. Felly, rwy'n awyddus iawn, fel y maent hwy, i ddefnyddio'r digwyddiad i ddysgu gwersi, yn enwedig ynghylch y cyfathrebu. Ymddengys y bu rhai methiannau sylweddol yn y ffordd yr ymdriniwyd â'r negeseuon. Felly, rwyf wedi cael sgwrs adeiladol a chadarn iawn gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â hyn, ac maent hwy a minnau'n awyddus i ddysgu o'r profiad i sicrhau y gallwn geisio atal hyn rhag digwydd eto. A hoffwn ailadrodd yr ymddiheuriad a roddais i'r Aelodau y bore yma i bob aelod o'r cyhoedd a oedd ar y trên hwnnw. Bydd pethau’n digwydd o bryd i’w gilydd ar y rheilffyrdd, ond credaf mai sut rydym yn ymateb iddynt sy'n bwysig, ac rwy'n gobeithio y gallwn yn bendant ddysgu’r gwersi o hynny.

Ar fater diogelu ffynonellau ynni, mae'n rhaid imi anghytuno â'r ffordd y mae Janet Finch-Saunders wedi disgrifio ymateb Llywodraeth y DU. Y ffordd i ddiogelu ffynonellau ynni yw nid yn unig drwy ddiddyfnu ein hunain oddi ar olew o Rwsia, ond diddyfnu ein hunain oddi ar danwydd ffosil. Nid yn unig ein bod yn wynebu argyfwng ynni yn y tymor byr, rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ar yr un pryd, ac mae cloddio mwy o olew o fôr y Gogledd, sef yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn cynnig ei wneud, yn mynd yn gwbl groes i'r hyn y mae'r wyddoniaeth yn ei ddweud, yn gwbl groes i'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ychydig fisoedd yn ôl yn Glasgow. Yn sydyn iawn, mae ei gof wedi'i ddileu'n llwyr unwaith eto ac nid yw wedi dysgu unrhyw beth o wersi'r gorffennol. Yr hyn sydd ei angen arnom yw ynni adnewyddadwy ar waith ledled y DU ar unwaith, ar lefel tai—cael ynni solar ar bob tŷ, ar bob adeilad, yn ogystal ag effeithlonrwydd ynni—a’r ystod o dechnolegau micro, ynni dŵr a chynhyrchu ynni y gwyddom eu bod yn gweithio, y gwyddom eu bod yn gosteffeithiol, ac y gwyddom eu bod yn fwy o ran o'r cymysgedd ynni. Mae hynny’n gamgymeriad mawr.

Ar ei beirniadaeth nad ydym yn mynd ati'n ddigon cyflym i fanteisio ar ynni'r môr, a’r syniad y gellir cyflwyno ynni niwclear yn gyflym braidd yn obeithiol. Byddwn yn dweud wrthi nad yw'n rhad nac yn lân nac yn gyflym. Mae gennym safbwynt pragmatig ar ynni niwclear. Yng ngogledd Cymru, gwyddom ei fod yn darparu arloesedd a datblygu economaidd, a’i fod yn rhan o’r cymysgedd ynni wrth inni gynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy yn gyflym. Ond mae'n ateb tymor byr. Credaf y byddai'n annoeth i Lywodraeth y DU fanteisio ar hynny fel ymateb i’r argyfwng ynni. Ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrth Altaf Hussain yn gynharach: mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi dileu’r tariff cyflenwi trydan yn 2019, y moratoriwm ar ynni gwynt ar y tir, a’r methiant i gefnogi morlyn llanw Abertawe yn gamgymeriadau hanesyddol. Rydym wedi colli degawd. Yn hytrach na sicrhau ein bod yn gydnerth gyda diogelwch gwirioneddol o ran ffynonellau ynni a system adnewyddadwy, maent wedi parhau â'n dibyniaeth ar olew a nwy o Rwsia, ac edrychwch lle mae hynny wedi ein harwain.

13:45

Diolch i’r Dirprwy Weinidog am y ddau ymateb. Yn ogystal â bwrw ymlaen â’r gwaith o gyflawni argymhellion yr archwiliad dwfn, gallech weithredu ar ewyllys mwyafrifol y Senedd. Er bod yr archwiliad dwfn yn argymell cyhoeddi canllawiau i gyfeirio at feysydd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu gwahanol dechnolegau ynni adnewyddadwy, rhoddodd y Senedd ei chefnogaeth lawn i fy nghynnig deddfwriaethol, a oedd yn galw am ysgogiadau cyfreithiol megis dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso’r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol. Fel y mae’r RSPB wedi’i nodi, mae diffyg polisïau gofodol a rheolaethau datblygu statudol cadarn wedi'u pwysoli i lywio datblygiadau oddi wrth ardaloedd amgylcheddol sensitif o’r cychwyn yn creu ansicrwydd i bawb. Ac fel yr amlygir yn yr adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, mae rhanddeiliaid amgylcheddol wedi galw am gynllun gofodol statudol traws-sector sy’n mynd i’r afael ag effeithiau cronnol datblygu morol. Felly, yn hytrach na gadael y gwaith o leoli cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr eu hangen i ganllawiau ac Ystad y Goron, a wnewch chi ymateb i'n cynnig deddfwriaethol llwyddiannus drwy greu cynllun datblygu morol cenedlaethol? Diolch.

Mae’r Aelod yn ailadrodd dadleuon a gawsom ychydig wythnosau yn ôl yn Siambr y Senedd, ac nid wyf yn bwriadu mynd drwyddynt i gyd eto, heblaw dweud ein bod yn fodlon, fel y nodwyd gennym yn y ddadl honno, fod mecanwaith gennym i wneud hynny, mae gennym gynllun hirdymor, ac mae polisïau a chamau gweithredu eisoes ar waith a fydd yn gwneud hynny. Fel y soniodd, cynhaliwyd yr archwiliad dwfn i edrych ar unrhyw rwystrau tymor byr. Un o'r pethau a nodwyd gennym oedd yr angen i adolygu'r broses drwyddedau a chaniatadau morol, ac rydym yn gwneud hynny yn awr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Y cynnig yw edrych arno o safbwynt datblygwr, a mynd gam wrth gam drwy'r hyn a allai fod yn ei arafu, unrhyw beth sy'n achosi gwrthdaro, a chael gwared arno. Credaf fod hynny wedi'i groesawu'n fawr gan y rhanddeiliaid, a chredaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.

Diolch. Ochr yn ochr â’n cefnogaeth ar y cyd i gynlluniau adnewyddadwy, mae’n bwysig inni wneud popeth a allwn i gefnogi ynni niwclear. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Prif Weinidog y DU gyfarfod bord gron gydag arweinwyr o’r diwydiant niwclear i drafod sut i wella diogelwch ffynonellau ynni domestig a chyflymu prosiectau niwclear yn y DU. Fel y dywedodd y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, ein Prif Weinidog,

'nawr yw'r amser i roi cyfres o fetiau mawr newydd ar ynni niwclear'.

Yr wythnos hon, rydym wedi dysgu bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cymryd cyfran o 20 y cant yn Sizewell C. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â’r Unol Daleithiau i hyrwyddo Wylfa. Rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cwmni Egino. Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud yn glir y bydd Plaid Cymru yn glynu’n gadarn at eu safbwynt gwrth-niwclear. O ystyried eu rôl fel partneriaid cydweithio, pa drafodaethau a gawsoch am ddyfodol niwclear yng Nghymru? A allwch egluro a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu prosiectau niwclear yn Wylfa a Thrawsfynydd, neu a fydd eich cytundeb cydweithio neu gytundeb clymblaid yn newid eich barn ar hynny? Diolch.

13:50

Wel, fy hoff wir anrhydeddus yw’r Gwir Anrhydeddus Elin Jones, a byddai’n llawer gwell gennyf pe baem yn canolbwyntio arni hi, yn hytrach nag ar Boris Johnson.

Rwy'n teimlo o ddifrif nad yw Llywodraeth y DU yn dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol. Rydych newydd feirniadu'r system ynni am fod yn ddibynnol ar olew a nwy o Rwsia, ac rydym yn awr yn rhuthro i ddenu buddsoddwyr o Tsieina i ymrwymo i adeiladu gorsafoedd niwclear mawr. Hwy yw'r unig fuddsoddwyr sydd ar gael hyd yn hyn mewn perthynas ag ynni niwclear. A ydym o ddifrif am roi ein hunain yn nwylo partner rhyngwladol anwadal arall? Awgrymaf nad ydym.

Fel y dywedais, mae ein polisi niwclear wedi'i hen sefydlu. Mae gennym gynigion drwy Gwmni Egino a chyn hynny i edrych ar ddatblygiad technoleg niwclear newydd ar safleoedd presennol, ac rydym wedi sefydlu cwmni i archwilio hynny. Credwn fod manteision economaidd i wneud hynny yn y tymor byr. Ond fel y dywedais, mae ein polisi ynni'n canolbwyntio'n bennaf ar ynni adnewyddadwy gan y credwn fod effaith amgylcheddol hynny'n fach iawn a'i fod hefyd yn cynhyrchu cydnerthedd ynni. Ac os byddwn yn ei wneud yn iawn, byddwn yn cadw'r holl fanteision economaidd yng Nghymru, yn hytrach na pharhau i golli cyllid, fel y mae ynni niwclear, yn wir, mewn perygl o'i wneud.

Ofnaf fod y blaid gyferbyn, er gwaethaf eu hymrwymiad i sero net a’u hymrwymiad i ddatblygu economaidd yng Nghymru, yn gwneud yr un hen gamgymeriadau eto.

Llefarydd Plaid Cymru, Delyth—

A oeddech chi wedi gorffen? Iawn.

Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ledled Cymru, mae gennym lawer o safleoedd ecolegol pwysig mewn ardaloedd arfordirol isel iawn. Mae safleoedd fel RSPB Casnewydd ar wastadeddau Gwent, RSPB Conwy, canolfan gwlyptiroedd Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli a RSPB Ynys-hir ger Machynlleth i gyd yn safleoedd hanfodol bwysig i adar yr arfordir, sydd eisoes mewn perygl, yn anffodus. Byddai hyd yn oed ychydig o gynnydd yn lefel y môr yn drychinebus i rywogaethau fel pibydd y dorlan, y bioden fôr, a nifer o rywogaethau eraill hefyd, fel dyfrgwn a thrychfilod prin. Gallai hyd yn oed madfallod ddiflannu yng Nghymru pe baem yn colli ein gwlyptiroedd unigryw. Rwy'n pryderu efallai na fydd canolbwyntio'n unig ar atal newid hinsawdd pellach a chynnydd pellach yn lefel y môr yn ddigon i achub ein rhywogaethau adar hardd. Dylai adeiladu amddiffynfeydd ar yr arfordir i warchod safleoedd ecolegol rhag llifogydd fod yn rhan o’n hymdrech i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Weinidog, gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi archwiliad dwfn i edrych ar weithredu targed 30 erbyn 30 fframwaith bioamrywiaeth byd-eang y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, sy’n deitl hir iawn, gan ddweud y byddai hynny’n cychwyn ar ôl hanner tymor mis Chwefror, gyda thrafodaethau manwl wedi'u cwblhau erbyn canol mis Mai. O ystyried pwysigrwydd hyn cyn uwchgynhadledd COP15 eleni, a allwch roi rhagor o fanylion i ni, os gwelwch yn dda, ynghylch pryd y bydd trafodaethau'r archwiliad dwfn yn dechrau a phryd y bydd y cylch gorchwyl yn cael ei bennu?

Diben yr archwiliadau dwfn hyn yw creu adolygiad cyflym o rwystrau, ac maent yn dechrau fel proses benagored. Yn y rhai a gynhaliais ar greu coetir ac ynni adnewyddadwy, ac rwy'n gwneud rhywbeth tebyg ar hyn o bryd ar ganol trefi, y broses yn hytrach na'r canlyniad sy'n dechrau wedi'i chynllunio ymlaen llaw. Felly, rydym yn dod ag amrywiaeth o bobl ynghyd mewn ystafell, ac rydym yn cyfarfod yn ddwys dros gyfnod byr. Mae gennym gymysgedd o leisiau. Mae gennym bobl sy'n ymarferwyr, mae gennym bobl sy'n academyddion ac yn arbenigwyr polisi, ac mae gennym rai cymeriadau sy'n fwriadol lletchwith—a chredaf fod hyn yn rhan wirioneddol bwysig o'r cymysgedd—i greu rhywfaint o her a thensiwn. Yna, gofynnwn iddynt ddod gyda ni i nodi'r hyn y credant, o ystyried eu profiad, yw'r prif rwystrau a'r prif faterion sy'n codi. Ac yna, yr her allweddol gan y Gweinidog iddynt—a Julie James fydd yn arwain yr un ar fioamrywiaeth—yw eu cael i droi eu beirniadaeth yn gamau ymarferol. Mae'n hawdd iawn i arsylwyr ddweud wrthym beth sy'n bod; yr hyn sy'n anos yw llunio polisïau ymarferol a all wneud gwahaniaeth. Dyna rydym wedi'i wneud yn llwyddiannus, yn fy marn i, yn yr archwiliadau dwfn eraill, a dyna fyddwn yn ceisio ei wneud â'r archwiliad hwn y bydd Julie James yn ei arwain. Felly, mae'n amhosibl rhagweld beth fydd yn codi ohono, gan mai dyna'r holl bwynt—nid ydym yn gwybod. Ond byddwn yn dibynnu ar gynghrair dros newid i weithio gyda ni i nodi camau ymarferol.

13:55

Diolch, Weinidog. Yn amlwg, rwy'n gobeithio y bydd amddiffyn yr arfordir yn rhan o’r gwaith hwnnw, ond edrychaf ymlaen at ddarganfod mwy wrth i amser fynd rhagddo.

Gan droi, yn ail ac yn olaf, at adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar CNC, mae wedi tynnu sylw at bryder eang ymhlith rhanddeiliaid ynghylch gallu CNC i gyflawni ei rolau a’i gyfrifoldebau’n effeithiol oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau. Mae hynny’n cynnwys ei allu i fonitro ac asesu cyflwr ardaloedd gwarchodedig morol ac ar y tir ar gyfer natur. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, os gwelwch yn dda, am unrhyw asesiadau a wnaed o’r capasiti a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer rhaglen fonitro ddigonol ar gyfer y safleoedd hyn, a sut y mae hyn yn cymharu â’r capasiti a’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd?

Wel, ar ôl mwy na 10 mlynedd o gyni, nid oes gan yr un corff cyhoeddus yng Nghymru y capasiti y byddent yn dymuno'i gael, a chredaf fod honno'n ffaith y mae'n rhaid i ni ei derbyn. Nid yw CNC yn wahanol i gyngor Conwy nac i unrhyw gorff cyhoeddus arall, ac mae’n rhaid i ni, bob un ohonom, fyw o fewn ein gallu. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt gydag CNC ynghylch sut rydym yn blaenoriaethu. Er enghraifft, yn yr archwiliad dwfn y cyfeiriwyd ato eisoes a wneuthum ar greu coetir, un o’r pethau a nodwyd gennym yno yw bod yna 82 o bobl yr oedd rhan o’u swyddi creu coetir yn ymwneud â chodi rhwystrau rhag plannu coed. Felly, nid mater o gapasiti oedd hynny; roedd yn ymwneud â sut rydym yn defnyddio’r capasiti sydd gennym i’w alinio â’n canlyniadau polisi. Yr hyn yr ydym am ei wneud yn yr achos hwnnw yw ailgalibro’r ymdrech honno fel bod yr un bobl yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniad polisi gwahanol. Nid yw'n ymwneud â phobl ychwanegol; mae'n ymwneud â defnyddio'r bobl sydd gennych mewn ffordd wahanol. Felly, mae'r drafodaeth honno i'w chael gydag CNC yn gyffredinol, ond mae angen blaenoriaethu hefyd. Rydym wedi cynnal ymarfer cyllideb sylfaenol gyda hwy. Rydym yn mynd drwy hynny gyda hwy ar hyn o bryd fel rhan o’r ymarfer gosod cyllideb, ac rydym yn cael trafodaethau eraill gyda hwy ynglŷn â sut rydym yn trin gwahanol fathau o wariant er mwyn eu galluogi i wneud y dasg y mae pob un ohonom am iddynt ei gwneud.

Atal Llifogydd

3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynllun atal llifogydd bae Hirael, Bangor? OQ57867

Diolch. Mae Cyngor Gwynedd yn llunio cynllun i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol ym mae Hirael. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn adolygu data modelu afon Adda. Bydd yr adolygiad yn cadarnhau'r safon warchodaeth bresennol ac yn ystyried y peryglon posibl yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd.

Diolch yn fawr. Mae nifer o ffactorau yn dod at ei gilydd i greu'r risg ym mae Hirael, yn cynnwys cynnydd yn lefelau'r môr, bwrdd dŵr uchel a'r ffordd mae'r Afon Adda yn tywallt i'r môr. Dwi'n hynod o falch bod yna arian sylweddol yn cael ei neilltuo i gynllun amddiffyn. Dwi'n ymwybodol bod yna gynllun arall ar droed yn yr ardal yma, sef cynllun i ymestyn llwybr yr arfordir. Felly, hoffwn i ddeall sut bydd y ddau gynllun yma yn plethu i'w gilydd, a sut byddwch chi'n sicrhau bod y gwaith yn digwydd ar y cyd ac yn brydlon. 

Mae’r Aelod yn iawn; mae ardal Hirael yn wynebu peryglon gan ei bod yn agored i gyfuniad o ffynonellau llanw, glawog ac afonol—o'r môr, yr afon a'r awyr. Bydd hyn yn gwaethygu wrth i’r newid yn yr hinsawdd ddwysáu—gwyddom fod hyn yn wir—ac mae Hirael yn arbennig o agored i niwed. Felly, rydym yn buddsoddi, fel y nododd, £213 miliwn mewn cynlluniau llifogydd, ac mae hyn yn cynnwys cynllun ym mae Hirael. Mae ar y cam dylunio manwl gyda Chyngor Gwynedd ar hyn o bryd, ac mae'r gwaith adeiladu wedi'i gynllunio i ddechrau yn y flwyddyn ariannol nesaf sydd ar fin dechrau. Mae CNC hefyd yn diweddaru’r gwaith o fodelu perygl llifogydd afonol ar gyfer system afon Adda. Ar y pwynt penodol ynglŷn â sut y gallwn sicrhau'r manteision mwyaf posibl o ddau gynllun ar wahân, credaf fod hwnnw’n bwynt rhagorol, ac os nad oes ots ganddi, fe ystyriaf hynny ac ysgrifennu ati, yn hytrach na rhoi ateb gwag.FootnoteLink

Weinidog, diolch am eich ymateb i’r mater pwysig a godwyd gan yr Aelod dros Arfon. Gellir ailadrodd y mater a godwyd yno mewn llawer o ardaloedd ledled Cymru, yn enwedig fy rhanbarth i yn y gogledd, lle mae perygl arbennig o lifogydd arfordirol. Yn y Siambr yn gynharach y mis hwn, croesawais eich datganiad, neu ddatganiad Llywodraeth Cymru, ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Yn y datganiad hwn, Ddirprwy Weinidog, fe awgrymoch chi fod gan CNC lawer i’w wneud, ac fe sonioch chi am hynny ychydig funudau yn ôl, o ran yr adnoddau a'r ffaith bod yr adnoddau o dan bwysau. Felly, yn wyneb hyn, a chyda llifogydd mor niweidiol i’n cymunedau ac yn peri’r fath risg, yn enwedig gyda risg newid hinsawdd a grybwyllwyd gennych hefyd, pa ystyriaethau a roddwyd gennych i ddatblygu asiantaeth llifogydd genedlaethol i ymdrin yn benodol â’r risgiau hyn?

14:00

Wel, bydd Sam Rowlands yn gwybod am y pwysau ar adnoddau a'r pwysau sydd wedi dwysáu o ganlyniad i gyllideb y gwanwyn lle bydd gennym £600 miliwn yn llai yn y cylch cyllidebol hwn nag yr oeddem yn ei ragweld dros y tair blynedd nesaf, oherwydd toriadau a wnaed gan y Canghellor. Felly, nid oes gennym arian i wneud yr holl bethau yr hoffem eu gwneud. Felly, nid yw creu cyrff cyhoeddus ychwanegol yn rhywbeth y byddwn yn ymrwymo'n ysgafn iddo; byddwn am edrych yn gyntaf ar sut y gallwn gydweithio â llywodraeth leol. Ac fel cyn-arweinydd awdurdod lleol, fe fydd, rwy'n siŵr, yn sicrhau ein bod yn defnyddio llywodraeth leol i'r eithaf a ninnau wedi ymrwymo i bartneriaeth gyda hwy ar hynny. A neithiwr, er enghraifft, ar ddiogelwch adeiladau, yn hytrach na chreu cyrff ychwanegol, fel y maent yn ei wneud yn Lloegr, fe wnaethom nodi ein bod yn rhoi rhai o'r cyfrifoldebau hynny i awdurdodau lleol.

Felly, bydd yr un peth yn wir am y ffordd yr awn i'r afael â newid hinsawdd yn gyffredinol. Byddwn yn edrych, yn gyntaf oll, ar y cyrff sydd gennym—Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol, yn ogystal â phartneriaethau ag awdurdodau rheoli llifogydd eraill—i weld sut y gallwn wneud y gorau o'r rheini cyn inni ddechrau meddwl am sefydliadau ychwanegol i'w creu a'u rhedeg.

Diogelu Ynni

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau diogelwch ynni? OQ57890

Mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau diogelwch ffynonellau ynni'r DU, a disgwyliwn weld gweithredu beiddgar yn ei strategaeth diogelu ffynonellau ynni sydd ar y ffordd, ac sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi'i gohirio eto. Yng Nghymru, rydym yn cyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy, gan gefnogi marchnadoedd ynni lleol, cynllunio a threialu arloesedd, i adeiladu system ynni sero net ar gyfer y dyfodol.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Mae ein dibyniaeth ar danwydd a fewnforiwyd a hyd yn oed ynni yn ein gadael yn agored i fygythiadau allanol. Mae Vladimir Putin, ers blynyddoedd, wedi defnyddio'r bygythiad o dorri cyflenwadau i roi pwysau ar ei gymdogion Ewropeaidd. Hyd yn oed yn awr, gyda gwledydd yr UE yn gosod sancsiynau ar ffederasiwn Rwsia, maent yn dal i bwmpio biliynau i beiriant rhyfel Putin am fod angen y nwy a'r olew arnynt. Diolch byth, nid ydym mor agored i hynny, ond mae'r sgil-effeithiau wedi dyblu ein biliau ynni. Ddirprwy Weinidog, mae'r sefyllfa hon wedi tynnu sylw at yr angen am ffynonellau ynni annibynnol, gan gynnwys yr angen am bŵer niwclear newydd, fel y soniwyd mewn cwestiynau blaenorol. Wrth gwrs, bydd llawer o'r gwaith sydd ei angen yn galw am arweiniad gan Lywodraeth y DU, ond gall Llywodraeth Cymru arwain ar storio ynni, gan alluogi gwell defnydd o'n hynni adnewyddadwy. Sut y mae eich Llywodraeth yn gweithio gyda'r diwydiant i greu gwell atebion storio ynni yma yng Nghymru?

Wel, cytunaf fod storio ynni batri yn sicr yn un o'r pethau y mae angen inni fod yn ei gyflymu, ac yn sicr mae potensial gan hydrogen gwyrdd i weithredu fel ffynhonnell ar gyfer dal a storio'r ynni hwnnw. Ond unwaith eto, mae gennym gyfraniad gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma sy'n canolbwyntio ar niwclear ac ychydig iawn o bwyslais a gafwyd ar ynni adnewyddadwy. Roedd sôn am storio ynni  batris, ond nid am dechnolegau adnewyddadwy, ac mae hyn yn peri dryswch i mi, o ystyried yr hyn a glywsom ganddynt am yr angen i ddiogelu ffynonellau ynni ac am gyrraedd sero net.

Rwy'n gobeithio nad oes blinder ideolegol mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy; rydym wedi gweld hynny'n ymarferol gyda'r moratoriwm ar wynt ar y tir sydd wedi bod ar waith dros y 10 mlynedd diwethaf, ac a fu'n gyfle enfawr a gollwyd. Pe bai hynny wedi bod ar waith yn awr, ni fyddem yr un mor agored i'r rhyfel yn Wcráin ag yr ydym, felly mae rhywfaint o euogrwydd ar ran Llywodraeth y DU am ei dallineb ar ynni adnewyddadwy. Felly hefyd, fel y soniais, gyda rhoi diwedd ar y tariff cyflenwi trydan yn 2019—camgymeriad o bwys sydd bellach yn ein gadael ymhellach byth ar ôl. Yn ogystal â'r methiant i gefnogi morlyn llanw bae Abertawe, a gefnogwyd gan Charles Hendry, cyn Weinidog ynni'r Ceidwadwyr, ac nid oes dim wedi'i wneud. Felly, clywn y Canghellor yn awr yn sôn am roi ffynonellau niwclear ar waith yn gyflym. Pe byddent wedi mabwysiadu'r un agwedd tuag at ddefnyddio ynni adnewyddadwy'n gyflym, ni fyddem yn wynebu'r argyfwng ynni yn awr.

Ac unwaith eto, yn y gyllideb, datganiad y gwanwyn, clywsom y Canghellor yn cyhoeddi toriad yn y dreth ar danwydd, sy'n doriad treth ar danwydd ffosil, ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £31 miliwn mewn prosiect ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn—y grant mawr olaf o gronfeydd strwythurol yr UE, y pleidleisiodd llawer yn y blaid gyferbyn dros ddod â hwy i ben. Felly, nid ydynt wedi ein rhoi mewn sefyllfa i allu wynebu'r argyfwng ynni hwn yn hyderus, a gobeithio y byddant yn cydnabod eu camgymeriad.

14:05

A gaf fi, drwy'r Dirprwy Weinidog, awgrymu wrth gyd-Aelodau ar feinciau Ceidwadol yma nad yw'n rhy hwyr i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn technoleg forol a llanw yng Nghymru, gan gynnwys technoleg môr-lynnoedd? Diwrnod ofnadwy iawn i Gymru oedd yr un pan ddywedodd Charles Hendry, y mae gennyf lawer o barch tuag ato, fod buddsoddi yn y morlyn llanw yn Abertawe yn rhywbeth amlwg i'w wneud. Rydym ar ei hôl hi pan allem fod wedi ymdrin â mater diogelu ffynonellau ynni. Ond a gaf fi ofyn iddo: a yw'n credu ei bod yn iawn mai'r hyn y dylem fod yn ei wneud yn awr, wrth inni wynebu nid yn unig argyfwng o ran diogelu ffynonellau ynni, ond yr argyfwng hir, parhaus—a bydd gyda ni am genedlaethau i ddod—newid hinsawdd, yw mynd i'r afael â'r ddau gyda'i gilydd? Ac mae hynny'n golygu dyblu ymdrechion mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, a storio ynni batris ac yn y blaen, ond heb fynd ati i ailagor tanwydd ffosil a ffracio olew môr y Gogledd—dyblu ein hymdrechion gydag ynni adnewyddadwy, technoleg hydrogen ac yn y blaen? Dyna'r ffordd y dylai Cymru arwain y maes.

Wel, bydd Huw Irranca-Davies yn cofio mai ni, yng Nghynhadledd y Partïon yn Glasgow, oedd yr unig Lywodraeth yn y DU a safodd ochr yn ochr â Denmarc a Sweden a Seland Newydd ac eraill i sefydlu Cynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy, gan addo peidio ag echdynnu rhagor o olew a nwy. Mae gan Gymru gyflenwad sylweddol o'r ddau, o bosibl, ond rydym wedi gwneud penderfyniad egwyddorol clir nad yw hynny'n gyson â'n nod o gyrraedd ein rhwymedigaethau sero net, a hyd yn oed yn wyneb argyfwng, nid ydym yn mynd i gilio rhag hynny. Mae Llywodraeth y DU, a wnaeth lawer o siarad mawr yn Glasgow, wedi anghofio'r ymrwymiadau hynny'n gyflym ac maent bellach yn troi'n ôl at danwydd ffosil, heb ddysgu dim o wersi'r gorffennol, a hefyd heb gadw at eu hymrwymiadau sero net. Ni fydd yn bosibl cyrraedd sero net erbyn 2050 os ydym yn cynyddu ein hallyriadau o olew môr y Gogledd. Mae hynny'n gamgymeriad sylweddol ac yn ymagwedd dymor byr eto fyth gan Lywodraeth y DU.

Mae Huw Irranca-Davies yn iawn: mae cyfle yma i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd tra byddwn hefyd yn cynyddu cydnerthedd ffynonellau ynni, gan leihau tlodi tanwydd, a chynyddu cyfoeth lleol drwy harneisio potensial economaidd ynni adnewyddadwy i economi Cymru, a dyna rydym yn canolbwyntio arno.

Prosiectau Ynni Adnewyddadwy

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Os caf barhau â thema ynni adnewyddadwy.

5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i brosiectau ynni adnewyddadwy bach a chymunedol? OQ57877

Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi llwyddo i gefnogi ynni cymunedol ers 2010. Ar hyn o bryd rydym yn darparu cymorth drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru a thrwy gyllid grant Ynni Cymunedol Cymru. Rydym yn cynyddu ein cefnogaeth i ynni lleol a chymunedol drwy weithredu argymhellion yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy.

Diolch yn fawr iawn. Y llynedd cefais gyfle i ymweld â phrosiect trydan dŵr Hafod y Llan, prosiect ynni adnewyddadwy mawr cyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ar fy ymweliad, tynnodd tîm y prosiect sylw at y ffaith y byddai'r cyfleoedd ariannol sydd ar gael i gynlluniau bach fel eu rhai yn yr Alban yn helpu i roi hwb gwirioneddol i'r sector yma yng Nghymru. Sefydlodd Llywodraeth yr Alban y Cynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy i annog perchnogaeth leol a chymunedol ar brosiectau ynni adnewyddadwy ledled yr Alban ac i helpu i hybu manteision systemau ynni adnewyddadwy i'r eithaf, boed yn eiddo masnachol neu gymunedol. A gaf fi ofyn felly pa gymorth ariannol y byddwch yn ceisio'i gyflwyno ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy bach, megis y rhai yn Hafod y Llan, i gyflawni ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.

Wel, fel y soniodd Jane Dodds yn gywir, mae gennym darged i sicrhau cynnydd o 100 MW yn yr ynni a gynhyrchir gan gyrff cyhoeddus rhwng yn awr a 2026. Rydym wedi gweld enghraifft ragorol Ysbyty Treforys, lle mae fferm solar bellach wedi'i hagor sy'n pweru'r ysbyty'n gyfan gwbl am ran sylweddol o'r amser. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda grwpiau ynni cymunedol, oherwydd fel y dywedais, yr egwyddor a ddaeth allan o'r archwiliad dwfn oedd bod angen inni nid yn unig gyrraedd ein targedau newid hinsawdd, ond bod angen inni wneud hynny mewn ffordd sy'n cadw cyfoeth o fewn ein heconomi leol, ac nid ydym am weld datblygiad economaidd echdynnol fel y gwelsom ar adegau blaenorol o chwyldro diwydiannol yn digwydd y tro hwn. Felly, mae ynni cymunedol yn hanfodol i hynny. Ac mae llawer i'w edmygu am Gynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy yr Alban. Mae gennym ein cynllun ein hunain, sef gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cymorth technegol a masnachol i brosiectau a arweinir gan y gymuned. Yn ddiweddar, rydym wedi dyfarnu £2.35 miliwn i Gydweithfa Egni i gyflwyno cam arall o'u rhaglen solar ardderchog ar doeon, cynllun yr ymwelais ag ef yng Nghaerllion yn ddiweddar, a bydd hwnnw'n darparu 2 MW arall o gapasiti mewn dwylo lleol ac yn hollbwysig, fe fydd yn darparu cynnig cyfranddaliad cymunedol. Felly, nid yn unig y mae'r adeiladau cyhoeddus hyn yn cael trydan rhad ac am ddim, maent hefyd yn cael cyfran yn y gydweithfa. Mae'n esiampl wych.

Felly, o ran esiampl yr Alban, mae ein grant ynni lleol ein hunain a'n cronfeydd benthyciadau ynni lleol mewn gwirionedd yn cynnig cymorth mwy hael nag y mae cynllun yr Alban yn ei wneud. Ond rwy'n credu bod eu model allgymorth cymunedol yn un diddorol iawn, ac yn un y byddwn yn sicr â diddordeb mewn edrych arno ymhellach fy hun. Felly, diolch ichi am dynnu ein sylw at hynny.

14:10

Wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn atodol hwn, roeddwn i'n meddwl yr awn i dudalen we ynni cymunedol Llywodraeth Cymru i weld beth oedd yr wybodaeth a'r canllawiau diweddaraf ar gyfer pobl Cymru sy'n awyddus i chwarae eu rhan drwy ddatblygu ynni gwyrdd ac adnewyddadwy iddynt hwy eu hunain a'u cymunedau. Ac o gofio bod y Dirprwy Weinidog, yn yr ymateb i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi dweud bod ynni cymunedol yn cael ei gynyddu, roeddwn yn disgwyl gwefan sy'n llawn o'r holl wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf cyfredol, o gofio'r brys sydd yna i newid i ynni adnewyddadwy. Cefais syndod, felly, o weld nad yw eich gwefan chi, gwefan Llywodraeth Cymru ei hun sydd â'r nod o gefnogi'r bobl i ddatblygu ynni cymunedol, wedi'i diweddaru ers mis Medi 2019, gyda pheth gwybodaeth megis canllawiau ar y tariff cyflenwi trydan a chanllawiau ar y cymhelliad gwres adnewyddadwy yn mynd yr holl ffordd yn ôl i 2015, cyn i'r Dirprwy Weinidog gael ei ethol i'r lle hwn hyd yn oed. Efallai eich bod yn siarad yn dda, Ddirprwy Weinidog, ond onid y gwir amdani yw bod yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei ddweud a'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud yn ddau beth gwahanol iawn?

Wel, mwynheais yn fawr y ffordd yr ymlwybrodd yr Aelod ar hyd yr uwchbriffordd wybodaeth. Nid wyf yn siŵr a yw'n taro'r pwynt yn llwyr, serch hynny, ond rwy'n barod i edrych ar hynny, oherwydd yn amlwg, mae angen ei ddiweddaru. Ond fel y soniais yn fy ateb i Jane Dodds, rydym yn ariannu Ynni Cymunedol Cymru i fod yn ganolbwynt i ddarparu cyngor ar sut i fwrw ymlaen â chynlluniau ynni cymunedol, ac rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelod fod eu gwefan hwy yn gwbl gyfredol.

Cerbydau Gwyrdd

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion i yrru cerbydau gwyrddach? OQ57872

Rydym yn buddsoddi mewn cyflwyno pwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd i gefnogi'r newid i gerbydau trydan yn unol â'n strategaeth wefru cerbydau trydan. Rydym hefyd yn mapio cynlluniau gyda'r diwydiant i newid i fysiau dim allyriadau, treialu cynlluniau tacsis a cherbydau hurio preifat, treialu cynlluniau e-feiciau a buddsoddi mewn clybiau ceir dim allyriadau.

Mae gwerthiant e-geir yn cynyddu'n gyson ledled y DU, wrth i weithgynhyrchwyr ceir hyrwyddo'n berffaith y manteision o gefnu ar ddiesel a phetrol. Ar y cyfandir, dyblodd yr Almaen gymhellion ar gyfer cerbydau trydan yn 2020, gan gynnig bonws o €3,000 ar gyfer cerbydau trydanol llawn a €2,250—Ewros, gallwn ychwanegu—tuag at gerbydau hybrid, yn ogystal ag esemptiad treth 10 mlynedd a chyfraddau TAW is. Mae Ffrainc hefyd wedi ymuno â'r rhestr o wledydd Ewropeaidd sy'n darparu cymhellion cerbydau trydan, gan gynnig pecyn cymorth i gynhyrchwyr cenedlaethol fel Renault i'w hannog i gynhyrchu mwy o gerbydau trydan. Mae Llywodraeth Ffrainc hefyd yn cynnig esemptiadau treth sy'n gysylltiedig â charbon deuocsid i ddefnyddwyr a chymorthdaliadau o hyd at €7,000 a chynllun sgrapio hen geir tanwydd traddodiadol. A wnaiff y Gweinidog gefnogi galwadau i gynnal cynllun sgrapio o'r fath yma yng Nghymru, ac a wnewch chi wedyn weithio gyda chwmnïau cerbydau trydan fel y gallent symud eu gweithgareddau cynhyrchu yma inni allu ysgogi swyddi medrus iawn yn y sector gwyrdd a hyrwyddo Cymru fel arweinydd a diwydiant marchnad werdd fyd-eang? 

Wel, fe wnaethom gyhoeddi cynllun gweithredu ym mis Hydref y llynedd, ac rwy'n falch fod Llywodraeth y DU, ddydd Gwener diwethaf, wedi cyhoeddi ei strategaeth hirddisgwyliedig ar gyfer gwefru cerbydau trydan o'r diwedd. Roedd honno'n gosod targed ar gyfer deg gwaith yn fwy o wefru cyhoeddus ledled y DU erbyn 2030, felly rydym yn croesawu hynny. Llywodraeth y DU sydd â'r dulliau o wneud hyn yn bennaf, ac rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i wneud cais i gronfa'r Swyddfa Cerbydau Dim Allyriadau ar gyfer gwefru cyhoeddus. Nawr, yn anffodus, mae awdurdod yr Aelod ei hun yng Nghonwy wedi methu ymgysylltu â'r gronfa hon, ond byddwn yn mynd ar drywydd hyn ymhellach, oherwydd mae cyfle i'w hetholwyr elwa o hyn. Ac yn wir, pan oeddwn yn bwriadu gyrru i Landudno fy hun yn ddiweddar mewn cerbyd trydan, ychydig iawn o safleoedd y gallwn ddod o hyd iddynt ar yr ap Zap-Map, felly rwy'n gobeithio y bydd yn perswadio ei hawdurdod ei hun, a chredaf ei bod yn dal yn aelod ohono, neu tan yr wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Tan yr wythnos diwethaf, mae'n ddrwg gennyf. Felly, mae—

Na, nid oes angen i chi wneud pwynt o drefn. Nid wyf yn meddwl bod Janet Finch-Saunders yn gynghorydd mwyach.

Na, yn wir, tan yr wythnos diwethaf. Maddeuwch imi, Lywydd, rwy'n dal i glywed ei datganiadau o fuddiant yn fy mhen, felly maent wedi aros yno.

Rydym wedi ariannu cynllun peilot tacsis gwyrdd yn sir Ddinbych, yn sir Benfro ac yng Nghaerdydd i 'brofi cyn prynu' ac rydym wedi gosod pwyntiau gwefru cyflym yn yr ardaloedd hynny, ac rydym yn cynllunio pwyntiau gwefru cyflym ar y rhwydwaith ffyrdd strategol eleni, yn ogystal â'r prosiect peilot beiciau trydan, fel y soniais, gydag un ohonynt yn y Rhyl, ac roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn hwnnw fy hun, gan ei fod yn brosiect rhagorol sy'n ennyn brwdfrydedd mawr.

Ar ei phwynt am gynlluniau sgrapio, mae'n bwynt diddorol ac yn un y mae gennym feddwl agored yn ei gylch. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o'i wneud yw ar lefel y DU. Mae perygl yma, rwy'n credu, oherwydd ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu fforddio ceir trydan am beth amser, nes y daw marchnad geir ail-law gadarn i'r amlwg. Rydym yn gweld tua chwarter yr aelwydydd heb fynediad at unrhyw gar o gwbl, ac mae angen inni benderfynu lle'r ydym yn rhoi adnoddau prin. A ydym yn gwneud hynny drwy wasanaethu pobl sydd eisoes â ffordd o gael car a rhoi car gwyrdd braf iddynt, neu a ydym yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus, a rhoi hynny i bobl ar incwm isel nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth? Felly, dyna'r cyfyng-gyngor sydd gennym. Mae cynllun diddorol iawn ar waith yn Birmingham fel rhan o'u parth aer glân, y gwn eich bod yn ei wrthwynebu, sy'n edrych ar gynllun sgrapio i gymell pobl i yrru i ganol y ddinas mewn cerbydau glân. Felly, credaf fod dadl barhaus i bawb ohonom ei chael am y cydbwysedd cywir i'w daro er mwyn cyrraedd y targedau angenrheidiol hyn.

14:15
Yr Argyfwng Ynni

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni? OQ57875

Bydd methiant Llywodraeth y DU i gamu i'r adwy yn ddinistriol i aelwydydd ledled y DU. Rydym wedi rhoi camau cyflym ar waith—gan ddyblu'r taliad tanwydd y gaeaf i £200 ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf, cyflwyno ad-daliad treth gyngor mwy hael na Llywodraeth y DU a chynyddu ein cronfa ddewisol ar gyfer deiliaid tai sy'n ei chael yn anodd.  

Weinidog, rydych yn iawn ynglŷn ag un peth: mae'r rhyfel yn Wcráin, fel y dywedoch chi'n gynharach, wedi rhoi ffocws clir i bwysigrwydd ffynonellau ynni annibynnol. Gan ei fod o fewn eich rheolaeth, ac o ran diddordeb, fel Llywodraeth a fyddwch chi yn awr yn ailystyried eich safbwynt ar ffracio?

Diwallu'r Angen am Dai

8. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau tai addas i ateb galw cymunedol? OQ57882

Gwnaethom ragori ar ein hymrwymiad tai blaenorol yng Nghymru ac rydym yn parhau i adeiladu ar hyn. Mae ein targed o 20,000 o gartrefi yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y cartrefi yn y sector cymdeithasol. Rydym wedi dyrannu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn tai am y tair blynedd nesaf i gefnogi'r angen am gartrefi ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hwnna. Dwi'n croesawu'r cynnydd sydd wedi cael ei weld yn y gyllideb tuag at dai cymdeithasol. Os ydyn ni i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, yna mae'n rhaid, wrth gwrs, wrth rhagor o dai cymdeithasol, ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn addas i bwrpas. Dwi wedi mynd i weld nifer fawr o etholwyr yn ddiweddar sydd yn gorfod byw mewn tai anaddas. Cymerwch Claire, er enghraifft. Mae hi'n fam i bedwar o blant bach, dwy ohonyn nhw'n fabanod, ac mae hithau'n byw ar y fflat uchaf ac yn gorfod cario'r goetsh i fyny, gadael y baban i fyny'r staer, yna mynd i lawr staer i gario'r goetsh, yna mynd â'r ail faban, ac yna'n ôl lawr staer eto am y trydydd neu'r pedwerydd gwaith i fynd i nôl ei siopa—tŷ cwbl anaddas ar ei chyfer hi, a'r tŷ hefyd yn oer ac yn damp. Un enghraifft ydy Claire o nifer fawr yn fy etholaeth i, heb sôn am enghreifftiau ym mhob etholaeth arall.

Rydyn ni'n gwybod hefyd fod yna alw am fyngalos ar gyfer pobl ag anghenion symudedd neu bobl oedrannus, ac mae yna alw cynyddol am dai un llofft ar gyfer haen o bobl benodol o fewn ein cymdeithas ni. Pa gamau, felly, ydych chi fel Llywodraeth yn eu cymryd, nid yn unig i adeiladu mwy o dai ond i adnabod anghenion pobl a sicrhau bod y tai newydd naill ai yn cyfarch y galw neu'n medru cael eu haddasu'n hawdd ac yn rhad i gyfarch anghenion penodol?

Wel, mae Mabon ap Gwynfor yn gwneud nifer o bwyntiau teg yno, ac mae'n gwneud dwy feirniadaeth hanfodol nad yw'r system tai cymdeithasol wedi bwydo'r galw ers degawdau lawer, sy'n gywir, a bod tai'r sector preifat yn darparu gormod o'r un mathau o dai ac nad ydynt yn darparu ar gyfer yr ystod o anghenion, megis byngalos, a cheir set gymhleth o broblemau o dan y ddau fater hynny.

Rydym yn mynd i'r afael â'r cyntaf gyda tharged uchelgeisiol iawn o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol, ac mae cynnydd yn cael ei wneud eleni yng Ngwynedd. Rwy'n falch o weld saith cynllun tai yn cael eu hariannu ar gyfer rhent cymdeithasol, sydd â'r potensial i ddarparu 88 o gartrefi yn y blynyddoedd i ddod, gan wneud peth gwahaniaeth yn y cymunedau hynny. O ran y feirniadaeth ehangach o'r ffordd y gall y farchnad ddarparu dull mono o ymdrin â thai, dull gweithredu ar raddfa fawr, ac nid yr amrywiaeth sydd ei hangen ar boblogaeth sy'n heneiddio, mae hynny'n galw am darfu pellach ar fodel y farchnad. Ac fel y gŵyr, drwy ein cytundeb cydweithio, rydym yn treialu amrywiaeth o wahanol ddulliau, yn ogystal â'n cyfres o ddiwygiadau dulliau modern o adeiladu, er mwyn annog adeiladu tai sydd wedi'u cynllunio'n dda ac amrywiaeth ehangach o dai i ailgyflenwi'r stoc dai.

Ond yn y pen draw, methiant y farchnad yw hyn, a thrwy ein prosiectau economi sylfaenol, mae angen inni weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ysgogi cadwyni cyflenwi lleol a chael cwmnïau adeiladu bach a chanolig lleol i gamu'n ôl i'r farchnad dai yn hytrach na gwneud estyniadau a garejys fel y maent yn canolbwyntio'n bennaf arnynt ar hyn o bryd am fod hynny'n darparu elw dibynadwy a chyflym. Mae angen inni gael dull o weithredu sy'n wahanol i'r farchnad er mwyn diwallu'r angen y mae'n ei grybwyll.

14:20
2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.

Myfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

1. Pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ57891

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn gallu cael mynediad at addysg o safon uchel a chyrraedd eu potensial llawn. Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i ddiwallu angen dysgu ychwanegol yn cael y cymorth wedi'i gynllunio'n briodol a'i ddiogelu.

Diolch, Weinidog, a chyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Yn ddiweddar, rwyf wedi llwyddo i helpu teulu etholwr yn sir Benfro sydd wedi gorfod ymladd er mwyn i'w plentyn allu ymuno â'u chwaer a mynychu uned gynhwysiant Canolfan Elfed yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth dros y ffin yn sir Gaerfyrddin. Mae'r uned hon yn darparu gwasanaeth a darpariaeth ragorol ar gyfer ystod o blant oedran ysgol uwchradd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fodd bynnag, heb fy ymyrraeth i, ni fyddai'r plentyn wedi gallu ymuno â'u chwaer, gan rannu'r un tacsi i ac o'r ysgol, a chael y cymorth addysgol y maent ei angen. Roedd diffyg cyfathrebu neu ddealltwriaeth rhwng y ddau awdurdod lleol, ac anwybyddwyd synnwyr cyffredin. Yr hyn yr hoffwn ei wybod, Weinidog, yw: pam ei bod mor anodd i ddisgyblion ag angen dysgu ychwanegol gael y cymorth sydd ei angen arnynt os yw'n golygu croesi ffin sirol? A pha gamau yr ydych chi a'ch Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad yw cymorth anghenion dysgu ychwanegol yn loteri cod post? Diolch, Lywydd.

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Ni allaf wneud sylw am fanylion sefyllfa ei etholwyr am resymau y bydd yn eu deall, ond os gwnaiff ysgrifennu ataf am y sefyllfa benodol honno, byddaf yn hapus iawn i gael fy swyddogion i ymchwilio i'r mater.

Myfyrwyr Safon Uwch

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr safon uwch eleni o ystyried effaith y pandemig ar eu haddysg? OQ57864

Mae CBAC wedi cyhoeddi addasiadau i arholiadau, gan leihau cynnwys a darparu gwybodaeth ymlaen llaw i helpu dysgwyr i baratoi. Rydym wedi darparu £24 miliwn o gyllid ar gyfer y flwyddyn arholiadau i ddarparu cymorth gyda phresenoldeb, addysgu, adolygu a phontio i alluogi myfyrwyr Safon Uwch i symud ymlaen. Mae ymgyrch gyfathrebu sy'n cyfeirio dysgwyr at adnoddau adolygu a llesiant defnyddiol wedi dechrau.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm â myfyrwyr Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Llanidloes yn fy etholaeth fy hun wedi i fyfyriwr penodol gysylltu â mi. Cyfarfûm â nifer o fyfyrwyr. Fe wnaethant amlinellu eu pryderon. Soniais am lawer o'r hyn yr ydych newydd ei ddweud yn awr, Weinidog—soniais am y pecyn cymorth a gyhoeddwyd gennych cyn y Nadolig. Ond daeth un myfyriwr penodol yn ôl ataf, ac fe nodaf yr hyn a ddywedodd. Rwy'n gobeithio y gallwch chi helpu i'w ateb yn uniongyrchol. Yr hyn y mae'r myfyriwr penodol hwn yn ei ddweud yw y 'dylai cymorth addysgol fod yr un mor hygyrch i bob myfyriwr, ni waeth pwy y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried yn fwy difreintiedig.' Credaf ei fod yn gwneud y pwynt hwnnw oherwydd eich bod yn targedu disgyblion difreintiedig yn fawr iawn. Wel, maent am wybod pwy sy'n ddifreintiedig a sut rydych chi'n diffinio hynny.

Mae'r myfyriwr yn mynd rhagddo i ddweud, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r ffyrdd y mae ffactorau megis presenoldeb yn effeithio'n negyddol ar ddisgyblion?' Ac mae'n mynd rhagddo i ddweud y gallai fod 100 y cant o'r disgyblion yn bresennol, ond efallai nad yw athrawon i mewn oherwydd y pandemig, a sut y mae hynny'n effeithio ar eu dysgu addysgol hefyd. Mae hefyd yn sôn sut 'nad yw newid neu dorri cynnwys yn darparu llawer o farciau, yn seiliedig ar ein gwybodaeth am bapurau'r gorffennol.' Ac mae'r rhain yn ffactorau nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn eu hystyried wrth gynnig cymorth. Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch helpu i ymateb yn uniongyrchol i'r myfyriwr penodol hwn sydd â'r pryderon penodol hyn a'r pwyntiau penodol y maent wedi'u crybwyll wrthyf.

Gallaf, wrth gwrs. Mae'r cymorth sydd ar gael yno i fyfyrwyr ym mhob rhan o Gymru, ac mae ar gael yn gyfartal. A hoffwn ofyn i'ch myfyriwr edrych ar wefan Lefel Nesa, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru rai wythnosau'n ôl, sydd â chyfres o adnoddau i gefnogi dysgwyr gyda'u harholiadau yn ogystal â dynodiad cynhwysfawr o beth yw'r newidiadau i gynnwys cyrsiau, beth yw'r rhybudd ymlaen llaw ynglŷn â phob un o'r meysydd arholi, a'r gyfres o adnoddau sydd ar gael i'w cefnogi gyda materion llesiant ac iechyd meddwl, ac mae hynny ar gael i bob dysgwr unigol yng Nghymru.

Bydd y ffiniau graddau ar gyfer arholiadau yr haf hwn, fel y gŵyr yr Aelod, ar bwynt rhwng 2019 a 2021, a bydd hynny'n berthnasol i bob myfyriwr yn gyfartal. Mae'r £7.5 miliwn o gyllid a ddyrannwyd i gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau craidd mewn cymwysterau fel mathemateg a Saesneg ar gael i bob myfyriwr. Yn benodol—gan fod ei etholwr wedi nodi'r pryder ynglŷn â'r rhai y bu'n rhaid iddynt golli llawer o ysgol—bydd £7 miliwn o'r cyllid a gyhoeddais cyn y Nadolig yn cefnogi'r rheini y mae eu lefelau presenoldeb wedi bod yn arbennig o isel, a £9.5 miliwn arall i gefnogi pob myfyriwr sy'n pontio o'r ysgol i addysg bellach neu golegau chweched dosbarth. Felly, mae'r pecyn hwnnw o gymorth ar gael i bob myfyriwr yng Nghymru. Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anghenion penodol, ond mae hynny'n adeiladu i raddau helaeth ar y dull y mae'r Llywodraeth hon wedi'i fabwysiadu drwy gydol y broses, sef darparu lefel gyffredinol o gymorth, ond targedu cymorth ychwanegol at y rhai sydd fwyaf o'i angen.

14:25

Roedd fy nghwestiwn yn mynd i fod yn debyg iawn i gwestiwn Russell George, felly fe wnaf ei addasu ychydig i ddweud fy mod innau wedi cael yr un math o sylwadau. Mae un etholwr yn benodol wedi gofyn am beidio â chynnal arholiadau eleni. Nawr, nid yw honno'n farn rwy'n ei chefnogi mewn gwirionedd, oherwydd os ydym am symud oddi wrth arholiadau credaf fod angen ei wneud mewn ffordd strategol ac wedi'i chynllunio. Ond yn sicr mae'n dynodi'r pryder y mae'r rhiant dan sylw'n ei deimlo dros eu plant, a sut y mae eu plant yn teimlo. Felly, rydych wedi amlinellu peth o'r cymorth ychwanegol. Yn y dyfodol, a wnewch chi ystyried edrych ar arholiadau fel dull o asesu, ac efallai, mewn pynciau nad yw arholiadau yn ddull mor addas o'u hasesu, yn ystyried symud at fath mwy cytbwys o asesu a allai ddileu peth o'r straen ar yr adeg honno o'r flwyddyn i fyfyrwyr?

Wel, ar y pwynt ynglŷn ag arholiadau, rwy'n deall, yn amlwg, y bydd myfyrwyr eleni yn sefyll arholiadau allanol am y tro cyntaf, ac mae rhywfaint o'r cymorth a amlinellais yn fy ateb i Russell George wedi'i fwriadu'n benodol ar gyfer cefnogi'r myfyrwyr hynny. Yr her y buom yn ymgodymu â hi drwy gydol y broses mewn gwirionedd yw colli amser addysgu. Dyna'r cwestiwn sylfaenol y mae dysgwyr eu hunain yn ymgodymu ag ef, ac roedd y penderfyniad i gynnal arholiadau eleni yn adlewyrchu'n rhannol y sefyllfa ledled y DU, ac nid oeddwn am i ddysgwyr yng Nghymru fod o dan anfantais oherwydd hynny, ond yn yr un modd, roedd y profiad o bennu graddau gan ganolfannau ar gyfer y llynedd yn golygu bod hyd yn oed llai o amser addysgu ar gael, oherwydd cafodd amser athrawon ei dreulio'n gwneud yr asesiad mewn gwirionedd. Felly, mae hynny'n rhan o'r meddwl y tu ôl i'r penderfyniad i gynnal arholiadau yr haf hwn.

Mae'r cwestiwn mwy hirdymor yn gwestiwn pwysig. Credaf ein bod, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, wedi deall bod gan wahanol ddulliau asesu gyfraniad gwahanol i'w wneud. Fel y gŵyr, mae Cymwysterau Cymru yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd o arholiadau TGAU yn gyffredinol. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chynnwys cyrsiau, ond mewn gwirionedd mae trafodaeth bwysig iawn i'w chael am y cydbwysedd rhwng dulliau arholi a dulliau nad ydynt yn cynnwys arholiadau, a hefyd yr adegau o'r flwyddyn y caiff asesiadau eu cynnal, ac rwy'n gobeithio y bydd y broses honno, y broses adolygu honno, sy'n agored i bawb gyfrannu ati, yn arwain at ddiwygio uchelgeisiol yn hynny o beth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Weinidog, gallwn ofyn myrdd o bethau ichi heddiw, ar brydau ysgol am ddim, llyfr jiwbilî'r Frenhines, arholiadau, fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod, neu unrhyw beth, ond mae gennyf faterion gwirioneddol bwysig yr hoffwn ichi roi sylw iddynt. Mae wedi dod i'r amlwg yn ystod ein hadolygiad o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion a gynhelir gennym ar hyn o bryd yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg nad oes neb wedi'i gomisiynu gan y Llywodraeth hon i gasglu tystiolaeth ar yr effaith y mae wedi'i chael ar blant sy'n cael eu haddysg gartref. Dechreuodd hyn ganu larymau yn fy meddwl wrth gwrs, gan fod Cymru wedi gweld nifer y plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, gellid dweud bod y dystiolaeth hon yn hanfodol mewn gwirionedd, ac mae'n arwain at gwestiynau pellach ynglŷn â pha dystiolaeth sy'n bodoli ar blant a addysgir gartref. Felly, eglurodd yr Athro Renold, a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth, nad oes tystiolaeth ar gael, ac os caf ei dyfynnu hi, dywedodd fod gwir angen ei chael. Felly, a oes gennych dystiolaeth, Weinidog, am blant sy'n cael eu haddysgu gartref a sut yr effeithiwyd arnynt, nid yn unig gan aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, ond gan y pandemig ac yn fwy cyffredinol? A pha amddiffyniadau sydd ar waith ar gyfer y plant hyn tra'u bod yn cael eu haddysg gartref?

14:30

Mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn am fater difrifol iawn. Ac mae hi'n iawn, yn amlwg, i nodi'r ffaith ei bod yn fwy heriol ceisio deall profiad plant sy'n cael eu haddysgu gartref, a dyna pam ein bod yn awyddus i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu yn yr ysgol gyda'u cyfoedion, yn ddarostyngedig i'r drefn ddiogelu y mae pob ysgol yn ei gweithredu.

Bydd yn gwybod bod y gwaith a oedd gennym ar y gweill i gyflwyno deddfwriaeth i ddiweddaru'r deddfau addysgu gartref wedi'i ohirio, neu wedi'i oedi i bob pwrpas, oherwydd COVID. Ond gallaf ddweud ein bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn—gobeithio y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yr haf hwn—gyda'r bwriad o'i roi ar waith erbyn y flwyddyn nesaf, a fyddai'n cryfhau'r offer sydd ar gael i awdurdodau lleol yn y maes hwn.

Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o arweinyddiaeth addysgol y llynedd. Cwblhawyd yr adolygiad arweinyddiaeth yr hydref diwethaf, ond nid yw wedi'i gyhoeddi. Weinidog, yn syml: pryd y byddwch yn rhyddhau'r adroddiad hwn a pham y buoch yn ei ddal yn ôl cyhyd?

Wel, nid wyf wedi bod yn ei ddal yn ôl. Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn. Fe wyddom—a bydd yn cofio o fy natganiad yr wythnos diwethaf ynglŷn â sicrhau bod gennym system sy'n cyflawni safonau a dyheadau uchel ar gyfer ein holl ddysgwyr—mai un o'r pethau sy'n cyfrannu'n allweddol at hynny yw arweinyddiaeth ysgolion ac mae arweinyddiaeth dda mewn ysgolion yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn nodi hynny fel blaenoriaeth. Mae'r gwaith gyda'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn y lle hwn yn dystiolaeth o hynny. Byddaf yn cyflwyno datganiadau pellach mewn perthynas ag arweinyddiaeth yn ystod tymor yr haf.

Weinidog, nid yw'n ddigon da eich bod wedi bod yn dal yr adroddiad hwn yn ôl cyhyd. Dywedwyd wrthym yn ystod y cyhoeddiad am yr adolygiad:

'Bydd yr Adolygiad Arweinyddiaeth hwn yn llywio datblygiadau yn y dyfodol ac yn rhoi eglurder ar y cymorth sydd gennym i arweinwyr ysgolion ar draws y system, a'r cymorth y bydd ei angen arnynt i'w galluogi i wireddu'r cwricwlwm newydd.'  

Dywedwyd wrthym hefyd y byddai'n cael ei ryddhau ddiwedd y llynedd, yma yn natganiad eich Llywodraeth eich hun i'r wasg—yr adroddiad penodol hwn, Weinidog. Pam nad yw wedi'i ryddhau, Weinidog? Ai oherwydd bod yr adroddiad yn eithaf damniol ynglŷn â'r consortia rhanbarthol ac felly, drwy gysylltiad, ynglŷn ag arweinyddiaeth y Llywodraeth hon ar addysg yng Nghymru? Weinidog, mae'n fater o 'ie' neu 'na' syml ar hyn: a wnewch chi ymrwymo i ryddhau'r adroddiad penodol hwnnw ar unwaith?

Fel y dywedais wrth yr Aelod yn fy ymateb cynharach, bwriadaf gyflwyno datganiad yn nhymor yr haf ar arweinyddiaeth a bydd hwnnw'n nodi ein safbwynt bryd hynny.

Diolch, Llywydd. Weinidog, mae adroddiad blynyddol diweddaraf 'Cymraeg 2050', a gyhoeddwyd mis diwethaf, yn nodi bod yna bellach 19 o ganolfannau trochi a thair canolfan uwchradd ar draws 10 sir yng Nghymru, gyda siroedd yn darparu cymorth trochi hwyr i ddysgwyr o ystod o oedrannau. Hefyd, mis diwethaf, cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig o ran addysg drochi Cymraeg, ac mae hwn yn rhestri'r canolfannau trochi Cymraeg yng Nghymru ac mae'n gwneud yn glir bod diffyg canolfannau trochi mewn 12 awdurdod lleol—a hyd yn oed pan fod yna ganolfan, nifer bach o ganolfannau trochi sydd.

Fel mae'r Gweinidog wedi'i gydnabod, mae darpariaeth trochi hwyr yn hanfodol wrth inni weithio tuag at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac er bod £2.2 miliwn wedi cael ei gyhoeddi i gefnogi trochi yn y Gymraeg, a bod wyth ardal awdurdod lleol wedi creu canolfannau trochi hwyr Cymraeg cyntaf, mae yna'n dal angen dirfawr ledled Cymru. Pa gynnydd sydd wedi ei wneud, felly, Weinidog, yn sgil hyn, o ran ehangu nifer y canolfannau trochi ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, ac ydy'r £2.2 miliwn o gyllid a ddyrannwyd yn mynd i fod yn ddigon i ddiwallu'r angen a hynny mewn modd sy'n gyfartal a chyson ledled Cymru?

Wel, mae'r cwestiwn—. Diolch i'r Aelod am y gydnabyddiaeth o'r buddsoddiad o £2.2 miliwn eleni. Mae'r buddsoddiad hwnnw, wrth gwrs, yn gam mawr ymlaen. Rwy wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n cefnogi'r sector drochi oherwydd y rôl greiddiol sydd gan drochi yn darparu mynediad hafal at addysg Gymraeg.

Mae amryw o gyfleodd fan hyn. Beth rŷn ni wedi'i weld gyda dyraniad y grant o jest dros £2 filiwn yw bod diddordeb ym mhob rhan o Gymru i allu cynyddu'r gallu i ddarparu. Dyw pob un awdurdod ddim yn yr un man o ran eu llwybr tuag at hynny. Mae rhai, wrth gwrs, yn arloesi ac yn arwain y ffordd, ac yn dangos esiampl efallai i rannau eraill o Gymru i ddysgu. Felly, mae hynny'n beth calonogol yn ei hunan, ond mae pob rhan, pob awdurdod lleol, wedi dangos diddordeb, ond efallai diddordeb o wahanol fath. Mae rhai'n ehangu darpariaeth, mae rhai yn ehangu cyflogi staff i allu dechrau ar y llwybr, ond mae'r darlun o gynnydd yn gyffredin ar draws Cymru.

14:35

Diolch, Weinidog. Ar thema debyg, cyfeiriodd Samuel Kurtz at ei etholwr yn gynharach, gan ddisgrifio ADY fel 'loteri cod post', ac fel y gwyddoch yn iawn, un o nodau craidd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw system ddwyieithog. Codwyd pryderon yn ystod taith y Ddeddf drwy'r Senedd, yn bennaf ynghylch argaeledd gwasanaethau ADY drwy gyfrwng y Gymraeg a gallu'r system i ateb y galw. Hynny yw, a yw'r gweithlu angenrheidiol ar waith i sicrhau mynediad cyfartal at ddarpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg.

O ran y ddarpariaeth bresennol, lle mae angen cymorth mwy arbenigol, fel cymorth gan seicolegwyr addysg neu therapyddion lleferydd ac iaith, nid yw hyn bob amser ar gael yn Gymraeg, oherwydd diffyg niferoedd digonol o weithwyr proffesiynol hyfforddedig mewn ardal leol benodol. Unwaith eto, mae hyn yn amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Rwy'n croesawu'r cyllid sydd wedi'i ddarparu ar gyfer ADY, gan gynnwys y £18 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ond hoffwn ofyn i'r Gweinidog: faint o fuddsoddiad sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y system ADY yn wirioneddol ddwyieithog, drwy gynyddu capasiti canolfannau addysgol a chynyddu'r gweithlu ADY cyfrwng Cymraeg? 

Wel, credaf fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am y—. Yn amlwg, mae'n hanfodol gallu darparu gwasanaethau a chymorth anghenion dysgu ychwanegol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Felly, mae'r cwestiwn am recriwtio yn rhan o gyfres ehangach o heriau yr ydym wedi'u trafod yn y Siambr yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan o'r cynllun recriwtio y byddwn yn ei gyflwyno yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

Ar fater seicolegwyr addysg yn benodol, rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau bod yr arian a ddarperir i gefnogi'r maes yng Nghymru hefyd yn annog y rhai sy'n ei ymarfer drwy astudio i barhau i ymarfer yng Nghymru, a gobeithiwn y bydd hynny'n denu siaradwyr Cymraeg hefyd yn amlwg, ac i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac ymarfer yng Nghymru, oherwydd mae'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio yn y maes hwnnw yn her wirioneddol.

Mewn perthynas â—. 

O edrych ar yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r ddarpariaeth, fel rhan o'u cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae'n ofynnol ar bob awdurdod lleol ddisgrifio'r hyn maen nhw'n ei wneud er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael yn y Gymraeg, yn seiliedig ar y review bydd pob awdurdod wedi ei wneud o dan y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Felly, mae hynny'n rhan o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Ac, yn fwy eang na hynny, mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau cytundeb trwyddedu gyda chwmnïau cyhoeddi masnachol i gael fersiynau Cymraeg o adnoddau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, fel profion dyslecsia ac adnoddau therapi iaith a lleferydd. Felly, mae'r gwaith yna yn digwydd ar hyn o bryd.

Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn Ysgolion

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y cronfeydd ariannol wrth gefn sydd gan ysgolion? OQ57873

Nid oedd y lefel uchel o gronfeydd wrth gefn y llynedd yn syndod, oherwydd bod llawer o weithgareddau wedi cael eu gohirio a bod arian ychwanegol wedi cael ei ddarparu yn ystod y pandemig. Gwyddom mai sefyllfa dros dro yw hon, ac rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i weithio gyda'u hysgolion i reoli unrhyw arian dros ben yn hyblyg o dan yr amgylchiadau presennol.

Ydynt, maent yn eithaf pryderus, mewn gwirionedd, pan fo'r data diweddaraf ar lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan ysgolion yn dangos cynnydd ymddangosiadol sydyn o £32 miliwn, sef £70 y disgybl, ym mis Mawrth 2020, i £181 miliwn, sef £393 y disgybl ym mis Mawrth 2021. Cronfeydd wrth gefn yw'r rhain. Mae'r arian hwnnw'n eistedd yno. Nawr, wrth inni ragweld dyfodiad plant o Wcráin i Gymru, a chyda'r cronfeydd hyn yn y cyfrifon banc o fewn y maes addysg hwn, a yw'n debygol y gellid rhyddhau rhai o'r cronfeydd wrth gefn hyn i ddarparu ar gyfer Wcreiniaid ifanc sy'n dod i Gymru, fel y gallwn sicrhau eu llesiant, fel Aelodau yma, gan y byddant yn ein gofal, a sicrhau nad yw ein system addysg ein hunain yn cael ei rhoi o dan unrhyw bwysau gormodol?

Wel, credaf y bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o'r rhesymau pam fod gan ysgolion gronfeydd wrth gefn. Rydym wedi cael heriau sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf—[Torri ar draws.]—a'n barn ni fel Llywodraeth yw y dylem barhau i ariannu ysgolion er mwyn darparu'r hyblygrwydd sydd ei angen arnynt i ymateb i bwysau COVID er budd eu dysgwyr. Felly, bydd yr arian ychwanegol i'r system wedi effeithio ar y balansau hynny, a disgwyliwn weld y sefyllfa honno'n parhau pan gawn yr adroddiad nesaf, a bydd hynny, rwy'n credu, ym mis Hydref eleni.

Credaf fod ysgolion wedi bod yn ddarbodus mewn perthynas â hyn, a chredaf fod awdurdodau lleol yn gallu penderfynu ynghylch yr hyn sy'n briodol i amgylchiadau unigol pob ysgol. A dylai. ac fe fydd ysgolion sydd ag arian dros ben yn amlwg yn cael eu monitro'n barhaus gan eu hawdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod cynlluniau cymeradwy i wario'r balansau hynny'n cael eu cyflawni o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt gyda'r awdurdod.

Ar y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, a hynny'n briodol, ynghylch sicrhau ein bod yn gallu darparu addysg y gall plant sy'n dod i Gymru o Wcráin ei chael, mae llawer o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol i ddeall y ffordd orau o wneud hynny. Yn amlwg, mae pa rannau o Gymru y mae pobl yn dod i fyw ynddynt, ac felly anghenion plant yn yr ardaloedd hynny am addysg leol, yn rhywbeth sydd yn amlwg y tu hwnt i'n rheolaeth, ac nid yw'n gwbl glir ar hyn o bryd, ond mae cyfres fyw iawn o drafodaethau'n digwydd ar draws y system ysgolion i sicrhau y gallwn gefnogi'r plant hynny wrth iddynt ddod i Gymru. 

14:40
Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngogledd Cymru? OQ57868

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau addysg addas i blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. A bydd y system ADY newydd yn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff dysgwyr ledled Cymru eu cefnogi i sicrhau y gallant gyflawni eu potensial llawn.

Wel, yn ddiweddar cyfarfûm â mam a thad o sir y Fflint a ddywedodd na chafodd eu mab ddiagnosis o awtistiaeth am nad oedd yn arddangos nodweddion awtistig yn yr ysgol, gan ei fod yn celu ac yn atal y rhan fwyaf o'i diciau a'i bryderon. Roeddent yn dweud wrthyf:

'Mae'n ymddwyn yn dda yn yr ysgol, ond mae'n chwalu pan ddaw adref ar ôl cael diwrnod gwael.'

Yr un diwrnod, ysgrifennais atoch ar ran etholwr gwahanol y mae ei ferch, sy'n arddangos ymddygiad tebyg, o dan ofal Cyngor Sir y Fflint, gan gyfrannu at y realiti brawychus mai Cymru, o bob gwlad yn y DU, sydd â'r gyfran uchaf o blant yn derbyn gofal gan y wladwriaeth.

Rwyf wedi gweithredu dros nifer o flynyddoedd ac rwy'n dal i weithredu mewn swydd gynrychioliadol ar ran nifer o deuluoedd gwahanol sydd wedi wynebu rhwystrau tebyg. Mae pob achos yn cynnwys plant â chyflyrau niwroddatblygiadol gydol oes, gan gynnwys cyflyrau sbectrwm awtistiaeth, lle nad ydynt wedi cael diagnosis, a/neu ddealltwriaeth a chefnogaeth oherwydd bod y disgyblion yn mabwysiadu strategaethau ymdopi a chelu i guddio eu nodweddion awtistig yn yr ysgol, gan ddynwared ymddygiad y rhai o'u cwmpas i allu ffitio i mewn, gyda gorbryder yn taro wedyn pan fyddant yn cyrraedd adref. Ac mae pob achos naill ai wedi awgrymu neu wedi dweud bod bai ar riant. Pryd y bwriadwch weithredu i roi diwedd ar y sgandal drasig hon, oherwydd mae gormod o'r teuluoedd hyn yn dioddef?

Rwy'n rhannu pryder yr Aelod am yr amgylchiadau y mae wedi'u disgrifio yn ei gwestiwn, ac fel y gŵyr, diben y diwygiadau yr ydym yn eu cyflwyno yw mynd i'r afael â'r ystod wirioneddol o heriau y mae wedi'u disgrifio yn ei gwestiwn. Mae'r rhain yn ddiwygiadau arwyddocaol iawn, a gwn fod yr Aelod wedi ein herio o'r blaen mewn perthynas â'r gefnogaeth i'r system i gyflawni'r diwygiadau hyn yn effeithiol. Rwy'n gobeithio y bydd yn cydnabod, yn ystod y chwe mis diwethaf, ein bod wedi gallu darparu adnoddau pellach i'r system er mwyn gallu ymateb i'r mathau o heriau y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiwn. Ac rwyf wedi bod yn parhau i wneud hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf, mewn perthynas ag effaith y pandemig, a chostau trawsnewid y system hefyd.

Amser Chwarae ac Iechyd Meddwl

5. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith amser chwarae yn ystod y diwrnod ysgol ar iechyd meddwl plant? OQ57883

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd canllawiau statudol gennym ar gyfer ysgolion ar gefnogi anghenion llesiant poblogaeth yr ysgol gyfan. Mae'r canllawiau'n hyrwyddo ac yn cydnabod yr effaith y mae chwarae hunangyfeiriedig a ddewisir yn rhydd yn ei chael ar iechyd a llesiant plant, a bydd ein gwaith yn cael ei werthuso'n llawn yn y blynyddoedd i ddod.

Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae chwarae'n hanfodol i iechyd a llesiant plant, ac yn rhan angenrheidiol o'u datblygiad cymdeithasol gan ei fod yn helpu i ddatblygu sgiliau i ymdopi â heriau, wynebu ansicrwydd, a sut i fod yn hyblyg ac addasu i amgylchiadau gwahanol. Ers 1995, mae ymchwil wedi dangos bod amseroedd egwyl yn y diwrnod ysgol wedi gostwng hyd at 45 munud yr wythnos i blant rhwng pump a saith oed, ac wedi gostwng 65 munud i rai rhwng 11 ac 16 oed. Mae hyn wedi golygu bod wyth o bob 10 plentyn bellach yn cael llai nag awr o weithgarwch corfforol y dydd. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod plant y tu allan i'r ysgol 50 y cant yn llai tebygol o gyfarfod â ffrindiau wyneb yn wyneb, gyda 31 y cant o blant yn dweud nad ydynt yn aml yn cwrdd â chyfoedion a ffrindiau, o'i gymharu â 15 y cant yn 2006. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau yn cytuno bod tueddiadau fel hyn yn peri pryder gan eu bod yn newid y ffordd y mae plant yn datblygu'n oedolion ac yn gallu arwain at ganlyniadau annisgwyl, yn enwedig o ran iechyd meddwl. Weinidog, yn gyntaf, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i iechyd plant ysgol o ganlyniad i golli amser chwarae, a pha gynlluniau sydd gennych ar waith i gynyddu amser chwarae i blant ledled Cymru? Diolch.

14:45

Mae'r Aelod yn codi pwyntiau pwysig iawn yn ei gwestiwn atodol. Bydd yn gwybod, fel rhan o'u dyletswyddau yn ymwneud â digonolrwydd cyfleoedd chwarae, o dan Fesur 2010, y bydd pob awdurdod lleol yn cyflwyno eu hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae eleni i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn ein galluogi i gynnal adolygiad o'r rheini. Mae Chwarae Cymru eisoes yn gweithio gydag awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer yr asesiadau hynny a'r cynllun gweithredu cynnar. Er mwyn cydnabod y baich ychwanegol ar awdurdodau, rydym wedi ymestyn y dyddiad cau er mwyn caniatáu i'r asesiadau hynny gael eu cyflwyno ychydig yn hwyrach nag y byddent wedi cael eu cyflwyno fel arall, i adlewyrchu'r effaith yn yr ysgol. Rydym wedi gofyn i Chwarae Cymru gwmpasu ymyriadau amser chwarae mewn ysgolion, a byddant yn datblygu rhaglen gymorth i helpu ysgolion i fabwysiadu dull ysgol gyfan i ddarparu hawl y plant i chwarae. Fe fydd yn gwybod hefyd wrth gwrs am y gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn ei ariannu mewn perthynas â'r prosiect gwyliau Gwaith Chwarae, Haf o Hwyl, a Gaeaf Llawn Lles, sy'n dod i ben yfory.

Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Ruby, sy'n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac yn aelod ifanc o'r Senedd dros y Rhondda. Gwn y bydd y Gweinidog yn ymweld â'r ysgol yn fuan, yn dilyn y cynlluniau cyffrous i adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac rwy'n siŵr y byddai Ruby wrth ei bodd yn rhoi taith o'r ysgol ichi. Buom yn trafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â bywyd ysgol o ddydd i ddydd, ond yr un neges glir drwyddi draw oedd yr effaith sylweddol y mae tlodi'n ei chael ar ein pobl ifanc. Mae tlodi, yn ddi-os, yn effeithio ar fywyd y cartref a'r ysgol, o bryderon ynghylch cynhwysiant digidol i dlodi mislif. Mae hyn yn effeithio ar iechyd meddwl ein pobl ifanc. Pa gamau y mae'r Gweinidog addysg yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl y bobl ifanc fwyaf difreintiedig yn y Rhondda, yn enwedig yn awr gyda'r argyfwng costau byw?

Mae'r Aelod yn codi cwestiwn pwysig iawn. Fe fydd yn gwybod ein bod wedi cyhoeddi ein fframwaith ar gyfer dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant y llynedd. Ac eleni, rwy'n falch o ddweud bod y gyllideb ar gyfer hynny wedi cael ei hymestyn yn sylweddol er mwyn gallu darparu cwnsela ychwanegol, er mwyn gallu darparu estyniad i'r mewngymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a ddarperir yn yr ysgol, yn ogystal â hyfforddi athrawon i allu nodi anghenion llesiant ac iechyd meddwl eu disgyblion, a hefyd i ddarparu cymorth i'r disgyblion hynny yn uniongyrchol. Fe fydd hefyd yn gwybod, wrth gwrs, am y gwaith a wnawn ar dreialu gweithgareddau ychwanegol mewn ysgolion ar hyn o bryd, ac mae'r adroddiadau amser real yr ydym wedi'u cael o'r treialon hynny yn dweud eu bod yn fuddiol iawn o ran llesiant ac iechyd meddwl rhai o'n disgyblion mwyaf difreintiedig, efallai, yn aml iawn. Felly, edrychwn ymlaen yn fawr at weld canlyniadau'r treialon hynny ymhen ychydig wythnosau.

Cynlluniau i Uno Ysgolion ym Mhenarth

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am uno Ysgol Gynradd Evenlode ac Ysgol Feithrin Bute Cottage ym Mhenarth? OQ57893

Daeth y cyfnod cyflwyno gwrthwynebiadau i'r cynnig gan Gyngor Bro Morgannwg i ben ar 16 Mawrth. Yn unol â'r cod trefniadaeth ysgolion, rhaid i'r cyngor ystyried gwrthwynebiadau'n gydwybodol ochr yn ochr â dadleuon mewn perthynas â'r cynnig a phenderfynu a ddylid cymeradwyo'r cynnig ai peidio o fewn 16 wythnos i'r dyddiad hwnnw.

Weinidog, yn rhan o'r cynigion, ceir ymarfer ymgynghori a gynhelir gan y cyngor wrth gwrs—ac rwy'n datgan buddiant fel aelod o'r awdurdod lleol, Cyngor Bro Morgannwg. Yn yr achos penodol hwn, daeth 238 o ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw. Roedd dros 70 y cant o'r ymatebion yn cefnogi'r sefyllfa bresennol ac nid oeddent eisiau newid dynameg bresennol y ddwy ysgol. Felly, fel Gweinidog pa bwysau y byddech yn ei roi i'r ymarfer ymgynghori, ac unrhyw awdurdod yn benodol, ond yn yr achos hwn, Cyngor Bro Morgannwg, gan roi sylw dyledus i ddymuniadau llethol y gymuned i gynnal y sefyllfa bresennol a chadw'r ddwy ddarpariaeth bwysig hyn yn eu cymuned?

14:50

Fel y dywedodd yr Aelod, diben ymgynghoriad yw cael barn y cyhoedd ac eraill mewn perthynas â chynnig ad-drefnu penodol, ac mae'r cod trefniadaeth ysgolion wrth gwrs yn nodi'r hyn y mae angen i'r cyngor ei ystyried pan fydd yn cael yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Gwn ei fod yn ymwybodol y gellir cyfeirio cynigion sydd naill ai wedi'u cymeradwyo neu eu gwrthod gan awdurdod lleol at Weinidog Cymru i'w hystyried os bydd rhai partïon cyfyngedig yn penderfynu cymryd y cam hwnnw o fewn y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud. Felly, o gofio bod gan Weinidogion rôl yn y broses statudol honno, ni allaf wneud sylw penodol am rinweddau neu ddiffyg rhinweddau'r cynnig hwnnw, ond mae'r cod trefniadaeth ysgolion ei hun yn glir iawn, rwy'n credu.

Disgyblion sy'n Byw mewn Tlodi

7. Pa gymorth y mae'r Gweinidog yn ei roi ar waith i gefnogi disgyblion sy'n byw mewn tlodi dros wyliau ysgol y Pasg? OQ57885

Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi yn flaenoriaeth allweddol i ni. Fel rhan o becyn cymorth ehangach i helpu teuluoedd sy'n cael trafferthion, mae £4.4 miliwn ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer 2022-2023 i gefnogi cost prydau gwyliau i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r Pasg yn y flwyddyn academaidd hon.

Rwy'n ddiolchgar ichi am hynny, Weinidog. Rydym i gyd eisiau i blant edrych ymlaen at eu gwyliau. Rydym eisiau iddynt edrych ymlaen at dreulio amser gyda'u teuluoedd. Rydym eisiau iddynt edrych ymlaen at allu ymlacio heb ofal yn y byd, a gallu mwynhau eu hunain dros gyfnod y gwyliau. Mae'n drasiedi lwyr—mae'n drasiedi lwyr—fod yna blant yr ydych chi'n eu cynrychioli, rwyf fi'n eu cynrychioli, yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli, sy'n teimlo ofn a diflastod wrth feddwl am y gwyliau, a rhieni a theuluoedd yn y wlad hon a fydd yn colli cwsg dros yr ychydig wythnosau nesaf wrth wybod am y pwysau ariannol y byddant yn ei wynebu dros y gwyliau, sy'n llawer gwaeth nag yn ystod y tymor. Mae'n fwy trasig byth fod hyn yn digwydd oherwydd bod gennym Lywodraeth y DU nad yw'n poeni o gwbl am effaith eu polisïau, a'r polisïau y maent wedi bod yn eu dilyn, ar rai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn y wlad hon. Weinidog, rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy a'u bod yn rhoi cymorth a chefnogaeth i rai o'r teuluoedd tlotaf yn y wlad hon. A wnewch chi warantu i'r Senedd hon y prynhawn yma y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ddarparu'r holl gymorth y gall ei roi i blant ac i deuluoedd yn y wlad hon er mwyn sicrhau nad yw bwgan tlodi yn amharu ar eu bywydau yn y ffordd y mae wedi amharu ar fywydau cenedlaethau o bobl o'n blaenau oherwydd Llywodraeth y DU nad yw'n poeni amdanynt hwy a'u cymunedau?

Diolch i Alun Davies am hynny, a chredaf mai'r sefyllfa lom y mae'n ei disgrifio yw'r realiti i'w etholwyr ef a minnau a chyd-Aelodau eraill yn y Siambr heddiw. Bydd y Llywodraeth hon, Llywodraeth Cymru, yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi teuluoedd yng Nghymru. Fe wyddoch am y cyhoeddiadau a wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ychydig wythnosau'n ôl. Fe fyddwch yn cofio'r cyhoeddiad a wneuthum wythnos yn ôl ynglŷn â chefnogi teuluoedd sydd angen cymorth penodol gyda chostau gwisg ysgol, cit ysgol, tripiau ysgol ac yn y blaen. Ond yn y pen draw, mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb i gydnabod canlyniad y dewisiadau y mae'n eu gwneud. Ac rydym i gyd yn gwybod bod Canghellor y Trysorlys, pan ddylai fod wedi bod yn helpu'r bobl sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd, wedi dewis troi llygad ddall.

Weinidog, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan enfawr yn natblygiad plant ifanc, ac i rai o'r plant mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau, yr ysgol yw'r unig gyfle sydd ganddynt i gael mynediad at chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon. Felly, Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith yn ystod gwyliau'r Pasg i gefnogi plant sy'n byw mewn tlodi i gael mynediad gwych at gyfleusterau chwaraeon? Diolch, Lywydd.

Bydd yr Aelod yn gwybod am y cyhoeddiad a wneuthum mewn perthynas ag ysgolion bro yr wythnos diwethaf, sy'n cydnabod y pwynt pwysig y mae'n ei wneud, sef mai un o'r cyfraniadau allweddol y gallwn ei wneud i gefnogi dysgwyr difreintiedig yn eu haddysg yw galluogi ysgolion i gael ffocws ar y gymuned yn yr hyn a wnânt a sut y maent yn gweithredu. A bydd wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn buddsoddi £25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i helpu ysgolion i ehangu eu cynnig i'r gymuned, a bydd hynny hefyd yn cynnwys cyllid i gefnogi ysgolion yn eu gwaith allgymorth i deuluoedd yn eu cymuned ysgol sydd o dan anfantais arbennig, lle mae eu plant yn wynebu heriau gyda'u presenoldeb. Felly, bydd y Llywodraeth hon yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi dysgwyr difreintiedig yn ein hysgolion. Yr hyn sydd ei angen arnom yw partner ar ben arall yr M4 sy'n barod i wneud hynny hefyd. 

14:55
Perthnasoedd Iach

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo perthnasoedd iach yng nghwricwlwm yr ysgol? OQ57899

Mae ffocws cryf ar ddatblygu perthnasoedd iach ym maes iechyd a llesiant y cwricwlwm newydd. Mae tyfu'n unigolion iach a hyderus yn un o bedwar diben y cwricwlwm newydd, a chaiff dysgwyr eu cefnogi i ddeall bod perthnasoedd iach yn hanfodol i'n llesiant.

Diolch yn fawr, Weinidog. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi hefyd am eich taith ddiweddar i Ysgol Gynradd Llangrallo ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn Sbectrwm Cymru i ddysgu am deimlo'n ddiogel a mynegi emosiynau. Fel Aelod cymharol newydd o'r Senedd, un o fy hoff rannau o fy swyddogaeth yw ymweld ag ysgolion a siarad â phobl ifanc am eu blaenoriaethau, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Llangrallo gyda chi ac Ysgol Gynradd Porthcawl, ac roedd yn bleser clywed am eu prosiectau ar gynwysoldeb, o ddysgu am hawliau LHDT i Mae Bywydau Du o Bwys. Mae'r byd yn newid, a'n gwaith ni yw darparu'r offer i alluogi pobl ifanc i ddeall y byd o'u cwmpas drwy ddathlu gwahaniaeth, yn hytrach na'i ofni. Mae deall perthnasoedd iach yn hanfodol os ydym am adeiladu Cymru oddefgar a chynhwysol, a chredaf hefyd y gall cynnwys perthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol megis casineb at fenywod. O ddeall yr hyn sy'n gwneud perthynas iach i gydsyniad, dylid parchu plant o bob oedran a'u gwneud yn ymwybodol o ffiniau. Mae'n anochel y bydd yr offer a ddarparwn ar gyfer ein plant yn llunio'r gymdeithas y byddant yn tyfu i mewn iddi. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi gwybod inni sut y mae'n gweithio gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar fynd i'r afael â'r union faterion hyn, megis casineb at fenywod a chydsyniad, drwy'r cwricwlwm newydd, os gwelwch yn dda? 

Gwnaf. Credwn yn gryf y dylai fod gan bob person ifanc hawl i gael gafael ar wybodaeth, cymorth ac adnoddau dysgu sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed, ac mae hynny'n cynnwys—a gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb arbennig yn y maes hwn—diogelwch ar-lein a gwybod beth sy'n gywir ac yn anghywir fel y gallant godi materion gydag oedolion cyfrifol. Ar y pwynt penodol y mae'n ei godi yn ei chwestiwn, mae'r cod gorfodol newydd ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb a'r canllawiau sy'n cyd-fynd â hynny yn sail i hawliau dysgwyr i fwynhau perthnasoedd boddhaus, iach a diogel drwy gydol eu bywydau, ac yn cyfrannu tuag at y nodau a'r amcanion a nodwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y strategaeth ddrafft newydd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mwynheais ein hymweliad ag Ysgol Gynradd Llangrallo, ac roedd yn wych gweld y gwaith y mae Sbectrwm yn ei wneud, gan ganolbwyntio ar berthnasoedd iach. Gwn ei bod yn rhannu fy nghyffro wrth weld y ffordd yr oedd y plant yn croesawu ac yn ymgysylltu'n wirioneddol â'r addysg a gaent. Ac yn ogystal â bod y bechgyn a'r merched yn dysgu ohoni, teimlwn yn sicr fod yna rai gwersi y gallem ni fel oedolion eu dysgu ohoni hefyd. 

Prynhawn da, Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y dylai addysg cydberthynas a rhywioldeb gefnogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd i ddeall sut y mae perthnasoedd a rhywioldeb yn siapio eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill. Dylai dysgwyr gael eu harfogi a'u galluogi i geisio cymorth ar faterion sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb ac i addysgu eu hunain ac eraill. Ar ddatblygu perthnasoedd iach, hoffwn wybod sut y bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau ein bod yn gwneud mwy i gefnogi dealltwriaeth a pharch diwylliannol, gan gydnabod harddwch ein hamrywiaeth. Diolch yn fawr, Weinidog. 

Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, ac roedd y sail y datblygwyd y cod addysg a'r canllawiau ar addysg cydberthynas a rhywioldeb arni yn broses gynhwysol, a oedd yn cynnwys nifer o grwpiau a chynrychiolwyr cymunedol, fel y gallem sicrhau bod y cod a'r adnoddau, pan fyddant yn ein hysgolion, yn ddefnyddiol ac yn gefnogol ac yn cyflawni'r canlyniadau y gwn ei fod yn poeni amdanynt yn fawr iawn hefyd. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl gadarnhaol ac amddiffynnol i'w chwarae yn addysg ein pobl ifanc, ac fel yr oeddwn yn ei ddweud yn fy ateb i Sarah Murphy, pan welwch y math o weithgareddau sydd mewn ystafelloedd dosbarth i gefnogi ein dysgwyr i ddeall natur eu hawliau eu hunain, ond hefyd pwysigrwydd perthnasoedd iach, credaf fod gweld hynny'n cael ei ddarparu mewn ffordd gynhwysol iawn yn rhoi boddhad ac yn calonogi'n fawr hefyd.

15:00

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a phrynhawn da, Gweinidog.

Cau Ysgolion ym Mhowys

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y penderfyniad i gau ysgolion ym Mhowys a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar dargedau Llywodraeth Cymru i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg? OQ57888

Mae Powys yn ymrwymo i wella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol, ac mae eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a gyflwynwyd yn ddiweddar yn cynnig cyflwyno darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar draws pedair ardal o fewn y pum mlynedd gyntaf, gan gyfrannu at eu targed cyffredinol i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg i o leiaf 36 y cant erbyn 2032.

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o benderfyniad Cyngor Sir Powys i gau ysgolion gwledig yn yr ardal, sydd wedi bod yn ergyd drom i lawer o gymunedau. Rwy’n poeni fwyfwy am yr effaith y bydd y rhaglen trawsnewid hon fel y'i gelwir yn ei chael ar addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, felly diolch am eich ymateb. Mae ymrwymiad llawer o’r ysgolion gwledig hyn i addysg Gymraeg yn galonogol, a gwn eich bod yn rhannu fy mhryderon y gallai’r rhaglen hon o gau ysgolion olygu y bydd y Gymraeg yn dirywio, ac o bosibl, yn diflannu yn y cymunedau hyn. Felly, a gaf fi ofyn pa sylw ychwanegol y byddwch yn ei roi i sicrhau bod rhaglenni addysg Gymraeg yn gallu ffynnu mewn ysgolion gwledig? Diolch yn fawr iawn.

Wel, gyda'r cafeat a roddais i Andrew R.T. Davies ynghylch gallu gwneud sylwadau ar gynigion penodol, ar y cwestiwn ehangach y mae'r Aelod yn ei ofyn am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, dylwn ddweud fy mod yn asesu pob un o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar hyn o bryd. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn ag a ddylid cymeradwyo, cymeradwyo gydag addasiadau neu wrthod y cynlluniau hynny cyn diwedd tymor yr haf. Efallai y bydd yn gwybod bod Powys wedi ymrwymo, fel y soniais yn gynharach, i'r pedair darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghrucywel, y Gelli Gandryll, Llanandras ac ardal gogledd Powys. Ceir ymrwymiad hefyd yn y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg i gefnogi ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg dwy ffrwd i symud ar hyd y continwwm iaith, ac i wneud hynny gan ddefnyddio arferion trochi. Ceir cynllun peilot yn Ysgol y Cribarth, y bydd yn ymwybodol ohono, rwy’n siŵr, sy’n enghraifft wych o hyn, ac edrychaf ymlaen at ymweld â hwy ym mis Mai. Rwyf hefyd, fel y buom yn ei drafod yn gynharach yn y sesiwn hon, wedi cyhoeddi £2.2 miliwn ar gyfer y grant trochi Cymraeg fis Medi diwethaf. Mae Powys wedi elwa o’r grant hwnnw i dreialu canolfan drochi Gymraeg newydd yn Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd. Mae cynllun strategol Cymraeg mewn addysg Powys yn uchelgeisiol, fel sy'n wir mewn rhannau eraill o Gymru, ac fel Gweinidog, rwy’n llwyr ddisgwyl i’r uchelgeisiau hynny gael eu gwireddu.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweindog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac i'w ofyn gan Russell George. 

Ysbyty Athrofaol y Faenor

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi datgan rhybudd du neithiwr? TQ615

Yng ngoleuni pwysau eithriadol ac er gwaethaf ymdrechion i sefydlogi eu gwasanaethau, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigwyddiad parhad busnes yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ar brynhawn 29 Mawrth. Dyma’r lefel uwchgyfeirio uchaf sydd ar gael, ac mae’n dangos yn glir y pwysau difrifol y mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ei wynebu.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae’r ffaith bod ysbyty mawr yn datgan rhybudd du ar noson yn ystod yr wythnos, wrth gwrs, yn dangos nad yw’r GIG yng Nghymru yn barod i gefnogi’r rheini sydd ei angen fwyaf. Rwy'n arbennig o bryderus, wrth gwrs, am y staff yn yr ysbyty, sydd o dan bwysau sylweddol ac sy'n teimlo eu bod hwy eu hunain wedi cael cam, rwy'n siŵr. Hoffwn wybod, Weinidog, am yr asesiad brys a wnaethoch o’r rhybudd du yn adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty'r Faenor. Roedd yr ysbyty i fod yn ysbyty blaenllaw, wrth gwrs, ac fe’i hagorwyd yn gynnar. Felly, hoffwn ofyn am eich asesiad chi ynglŷn ag a oedd agor yr ysbyty’n gynnar yn benderfyniad cywir ai peidio. Mae prinder staff wedi bod yn broblem barhaus ac enfawr yn yr ysbyty ers iddo agor. Ceir adroddiadau parhaus o brinder staff ers i'r ysbyty agor gyntaf. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a welsoch chi hyn yn dod, a pha gymorth y gallwch ei gynnig yn awr? Beth yw eich cynllun i gefnogi’r ysbyty, ac yn benodol, i gefnogi’r gweithlu sydd o dan gymaint o bwysau yn yr ysbyty?

15:05

Diolch yn fawr iawn. Mae sefyllfa anodd—hynod o anodd—yn wynebu nid yn unig bwrdd iechyd Aneurin Bevan ond byrddau iechyd ledled Cymru gyfan ar hyn o bryd. Rydym bob amser wedi bod yn agored ynglŷn â'r heriau y mae GIG Cymru ac adrannau brys yn eu hwynebu, ac maent o dan bwysau nas gwelwyd ei debyg drwy gydol y pandemig. Nid yw cyfraddau COVID erioed wedi bod yn uwch yn ein cymunedau. Mae gennym 1,468 o bobl yn yr ysbyty gyda COVID. Dyna'r nifer mwyaf mewn blwyddyn. Yn y chwe wythnos diwethaf, rydym wedi bod ar y lefel uchaf o welyau llawn yn y GIG ers dechrau'r pandemig. Mae gennym 900 yn rhagor o gleifion yn yr ysbyty heddiw nag a oedd gennym flwyddyn yn ôl. A oedd hi'n iawn agor yr ysbyty'n gynnar? Oedd wrth gwrs ei bod, oherwydd dychmygwch pe na baem wedi gwneud hynny. Roedd angen y gwelyau hynny arnom. Nid yw hon yn sefyllfa sy’n unigryw i Gymru, ond mae’n gwbl amlwg fod hwn yn bwysau sy’n wynebu pobl ledled y Deyrnas Unedig hefyd.

Un mater yr ydym yn gorfod mynd i'r afael ag ef yw'r ffaith bod niferoedd uchel iawn o gleifion yn barod i gael eu rhyddhau o'r ysbyty ond nid ydynt yn gallu gwneud hynny oherwydd breuder ein gwasanaethau gofal. Gwn fod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n anhygoel o galed i sicrhau ein bod yn cael gwell llif drwy ein systemau. Y gwir amdani yw bod gennym, ym mwrdd Aneurin Bevan, oddeutu 270 o gleifion sy’n barod i adael, ond mae wedi bod yn amhosibl i lawer ohonynt adael gan fod 70 o’n cartrefi gofal ym mwrdd Aneurin Bevan wedi cau oherwydd COVID. A allwch chi baratoi ar gyfer y mathau hynny o bethau? Rydym wedi bod yn ceisio paratoi, ond rydym mewn sefyllfa hynod o anodd ar hyn o bryd a chredaf ei bod yn gwbl briodol inni ddeall y math o bwysau sydd ar ein staff. Ac ar ben hynny, gadewch inni feddwl am y staff, oherwydd mewn gwirionedd, mae llawer ohonynt hwythau'n dal COVID hefyd, sy'n amlwg yn cynyddu'r pwysau hyd yn oed yn fwy ar y rheini sydd ar ôl yn yr ysbytai.

Diolch, Weinidog, am eich ateb hyd yn hyn.

Yn ystod fy nghymorthfeydd stryd niferus ar draws y rhanbarth, cwyn gyffredin fu’r gwasanaeth y mae cleifion wedi’i gael yn ysbyty'r Faenor. Mae hyn wedi bod yn wir ar draws y rhanbarth. Ymddengys bod pobl yn cael anawsterau i gyrraedd safleoedd, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol, a’r amseroedd aros hir i gael eu gweld pan fyddant yn cyrraedd yno yn y pen draw. Mae pethau’n amlwg wedi mynd o ddrwg i waeth yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae cael cyfleuster newydd sbon yn un peth, ond onid yw hanes byr ysbyty'r Faenor yn dangos nad yw ysbyty newydd yn ddim heb ei staff? Cryfder mwyaf y GIG yw ei bobl, ac rydym mewn perygl o’u gorfodi allan o’r sector oni bai ein bod yn gwella eu hamodau gwaith. Rydym hefyd yn peryglu iechyd cleifion pan gyrhaeddir pwynt o argyfwng fel hyn. Pa wersi sydd wedi’u dysgu o agor ysbyty'r Faenor, a pha gynlluniau sydd ar waith i roi’r ysbyty ar sylfaen iachach? Mae'n rhaid unioni’r sefyllfa hon cyn gynted â phosibl, er lles y cleifion a’r staff. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, roedd gwersi i’w dysgu o agor ysbyty'r Faenor. Fe wnaethom ei agor oherwydd, a dweud y gwir, roeddem yng nghanol pandemig, ac roeddem angen yr holl gymorth y gallem ei gael. Felly, dyna oedd y peth iawn i'w wneud yn bendant, ond yn amlwg, golygodd na chawsom amser i wneud y paratoadau y byddem wedi'u gwneud pe na baem yn y sefyllfa honno. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Coleg Brenhinol y Meddygon wedi ymweld ag Ysbyty Athrofaol y Faenor beth amser yn ôl. Roeddent yn eithaf beirniadol, a bod yn onest, o’r gwasanaethau yno, ond maent bellach wedi llunio adolygiad dilynol a gyhoeddwyd heddiw, ac maent yn cymeradwyo llawer o’r camau gweithredu a gyflawnwyd gan y bwrdd iechyd. Felly, rwy’n falch iawn o weld hynny.

Beth arall y gallwn ei wneud i helpu? Wel, a dweud y gwir, gall pob un ohonom fod o gymorth o dan yr amgylchiadau hyn. Rydym mewn sefyllfa lle mae angen i bob un ohonom weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud fel dinasyddion. Ein blaenoriaeth, wrth gwrs, yw sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu’n ddiogel ac yn effeithlon i bawb, ond hoffwn apelio ar aelodau’r cyhoedd: os gallwch helpu gyda rhyddhau aelodau o'ch teulu o’r ysbyty os ydynt yn barod i gael eu rhyddhau, dewch i'n helpu i'w rhyddhau o'r ysbyty a rhoi'r gefnogaeth honno iddynt, fel y gallwn gael mwy o achosion brys i mewn i'r ysbyty ar yr adeg anodd hon.

15:10

Diolch am eich ymatebion, Weinidog. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr hyn sy'n digwydd yn ysbyty'r Faenor, yn hytrach na gwrando ar sïon. Cafwyd rhai llwyddiannau sylweddol yn sgil canoli gwasanaethau yn ysbyty'r Faenor, ac rwyf wedi siarad ag etholwyr dros yr wythnos ddiwethaf sydd wedi cael triniaethau rhagorol ac sydd wedi cael lefelau gwych o ofal yn ysbyty'r Faenor. Credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod hynny a chydnabod y gwaith caled sy’n mynd rhagddo yn ysbyty'r Faenor a’r ysbytai eraill yn rhwydwaith Aneurin Bevan.

Weinidog, y materion rwy'n ymdrin â hwy yw’r materion rwyf wedi’u dwyn i’ch sylw eisoes dros yr ychydig wythnosau diwethaf, sy’n ymwneud â gofal heb ei drefnu, sy’n ymwneud â mynediad brys, ac mae’r materion hynny’n faterion real iawn. Mae problem gyda gallu ysbyty’r Faenor i ymdopi â’r pwysau sydd arno, ac mae problem sylweddol lle nad yw rhai cleifion agored iawn i niwed weithiau wedi cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt ar frys. Tynnais eich sylw at sefyllfa etholwr yr wythnos diwethaf, lle na chafodd y driniaeth yr oedd ei hangen, sef galw brys mewn perthynas â chanser. Felly, mae angen inni edrych ar realiti’r hyn sy’n digwydd yn ysbyty'r Faenor a mynd i'r afael â’r problemau go iawn.

Weinidog, a oes modd i Lywodraeth Cymru ddarparu adnoddau i fwrdd iechyd Aneurin Bevan, neu weithio gyda’r bwrdd iechyd, i’w galluogi i oresgyn y problemau yr ydych wedi’u disgrifio ac y mae pob un ohonom yn gyfarwydd â hwy, a fydd yn eu galluogi i ymdopi â’r pwysau presennol, i’w galluogi i adeiladu’r math o wasanaethau cynaliadwy sydd eu hangen arnom yn yr ysbyty ac yn y rhwydwaith o ysbytai, ond hefyd i sicrhau bod y gwahanol fyrddau iechyd sy’n darparu gwasanaethau i bobl ym Mlaenau Gwent yn siarad â'i gilydd, er mwyn sicrhau, pan eir â chlaf, er enghraifft, i Ysbyty’r Tywysog Siarl, fod eu cynllun triniaeth yn cael eu cydnabod gan staff yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, a’u bod yn gallu cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt?

Fel eraill yn y Siambr y prynhawn yma, credaf y dylai pob un ohonom dalu teyrnged i'r gwaith caled y mae staff yn ysbyty'r Faenor yn ei wneud o dan y pwysau mwyaf eithriadol y mae’r Gweinidog eisoes wedi’i ddisgrifio. Fel gwleidyddion, credaf mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn rhoi’r strwythurau ar waith sy’n ofynnol i gefnogi’r aelodau staff hynny, i gefnogi’r gwasanaethau hynny, ac i ddarparu’r driniaeth sydd ei hangen ar bobl ar yr adeg y maent ei hangen.

Diolch yn fawr, Alun. Credaf eich bod yn llygad eich lle, mae'n bwysig nad ydym yn gweithredu ar sail sïon yn unig, ond mae llawer o brofiadau cleifion unigol yn dorcalonnus a bod yn onest. Cefais e-byst dros y penwythnos gan bobl a oedd yn anobeithio am eu bod wedi bod yn aros am oriau maith.

Rydym mewn sefyllfa eithafol ar hyn o bryd. Rwy’n hyderus na fyddwn yn parhau i fod yn y sefyllfa hon, ond dyna lle'r ydym arni ar hyn o bryd. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig i bobl ddeall bod y GIG yn dal i fod ar agor ac yn weithredol. Rydym yn gweld 200,000 o gleifion y mis o hyd, fel cleifion allanol. Credaf ei bod yn bwysig ymateb i'r ffaith hefyd fod Coleg Brenhinol y Meddygon yn dweud bod pethau'n gwella. Y broblem yw ein bod yn y sefyllfaoedd hynod anodd hyn ar hyn o bryd.

Mae'r llif yn rhan o'r broblem. Sut y gall pobl gael eu derbyn i adrannau damweiniau ac achosion brys os yw'r holl welyau'n llawn? Fel y clywsoch, oherwydd y sefyllfa gyda chael pobl allan o ysbytai am fod cartrefi gofal ar gau, mae hynny’n creu problem wirioneddol i ni. Mae’n anodd iawn gwybod beth i'w wneud o dan yr amgylchiadau hynny, a dyna pam ein bod yn galw ar bobl i ddod i nôl eu hanwyliaid o’r ysbyty a gofalu amdanynt os gallant, fel y gallwn eu cael allan o’r ysbyty, a gallwn helpu i gefnogi aelodau eraill o'u teulu a allai fod angen triniaeth ar fwy o frys hefyd.

Rydym wedi rhoi cymorth ychwanegol sylweddol i’r gwasanaeth ambiwlans. Rydym wedi recriwtio cannoedd o bobl newydd i'n gwasanaeth. Rydym wedi rhoi £250 miliwn yn ychwanegol i leddfu pwysau y llynedd. Rydym yn rhoi £170 miliwn o gyllid ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Ac mewn gwirionedd, rydym—. Mae bwrdd Aneurin Bevan yn dweud yn gwbl glir eu bod, o dan yr amgylchiadau eithafol hyn, yn dargyfeirio cleifion ac yn helpu cleifion i fynd i fyrddau iechyd eraill nad ydynt, efallai, o dan yr un pwysau.

15:15

Yn ôl yn yr hydref pan euthum yn sâl, treuliais 22 awr mewn adran ddamweiniau ac achosion brys, ac rwy'n gwbl ymwybodol o'r pwysau sydd ar staff, ond hefyd yr anobaith y mae cleifion yn ei deimlo. Byddwn yn ddiolchgar iawn i gael gwybod gan y Gweinidog beth yw'r cymarebau staffio yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor, ac os nad yw’r wybodaeth honno ganddi, a allai ddarparu hynny ar ffurf llythyr y gellid ei roi yn y llyfrgell? Ac yn bwysig, ar y cymarebau staff hynny, faint sy'n staff craidd a faint sy'n staff banc? Oherwydd yr un peth a ddaeth yn amlwg i mi yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys y bûm ynddi am gyfnod sylweddol o amser oedd fod llawer o staff banc yno nad oeddent yn gyfarwydd â’r lleoliadau a’r gweithdrefnau yr oedd angen i’r adran honno eu defnyddio o ddydd i ddydd, ac roedd hynny'n achosi llawer o broblemau wrth ryddhau cleifion a chyda llif cleifion y cyfeiriodd y Gweinidog ato. Felly, a wnaiff hi ddarparu'r wybodaeth honno, gan dderbyn, os nad yw ganddi heddiw, y gallai ei rhoi yn y llyfrgell a gallai pob un ohonom ei gweld?

Yn sicr. A na, nid yw'r wybodaeth benodol gennyf, ond yn amlwg, rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny. Ceir problemau bob amser gyda phwysau yn yr ysbyty, ac os yw pobl gartref yn sâl, yn amlwg—ac mae llawer o bobl gartref yn sâl; mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd â COVID ar hyn o bryd—yn amlwg, mae’n effeithio ar staff ysbytai hefyd, a dyna pam fod yn rhaid ichi ddibynnu wedyn ar y staff banc hynny.

Yr hyn y ceisiwn ei wneud, ac rydym wedi bod yn ei wneud ers peth amser bellach, yw recriwtio staff ychwanegol. Rydym wedi recriwtio 53 y cant yn fwy o staff nag y gwnaethom 20 mlynedd yn ôl. Mae hwnnw’n gynnydd aruthrol. Rydych yn edrych ar ein recriwtio a'n hyfforddiant i nyrsys a bydwragedd—cynnydd sylweddol: 73 y cant a 92 y cant; cynnydd aruthrol yn nifer y bobl yr ydym yn eu hyfforddi. Ond mae'n anodd, ac nid ydym erioed wedi gweld pwysau fel hyn o'r blaen.

Weinidog, ers i ysbyty'r Faenor agor, mae wedi’i lethu gan orlenwi ac amseroedd aros hir, ac fel rydym wedi'i glywed eisoes, nid yw hyn yn deg i gleifion nac i staff. Mae'r ffaith bod amseroedd aros 14 awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys neithiwr yn arwydd o broblem ddifrifol. Fis Hydref diwethaf—rydych wedi bod yn cyfeirio at adroddiadau Coleg Brenhinol y Meddygon am feddygon dan hyfforddiant a meddygon ymgynghorol yn ofni mynd i'r gwaith. Pan gaeodd ysbytai eraill fel ysbyty’r glowyr yng Nghaerffili, cafodd y cleifion addewid na fyddai unrhyw darfu ar eu gofal, ond mae gorganoli gwasanaethau yn arwain at hynny. Felly, mae gennym staff sydd, ar brydiau, bron â chyrraedd pen eu tennyn, a chleifion nad ydynt yn cael y gofal y maent ei angen.

Ond Weinidog, yn ogystal â’r hyn y dywedwch y bydd y Llywodraeth yn amlwg yn ei wneud i newid hyn, rydych newydd ddweud bod pob un ohonom yn adnabod rhywun sy’n dioddef o COVID ar hyn o bryd. Nawr, rwy'n gofyn hyn yn ddiffuant, nid wyf yn gofyn hyn yn slic o gwbl: a ydych chi'n meddwl o ddifrif mai yn awr yw'r amser i gael gwared ar ofynion cyfreithiol i hunanynysu a gwisgo masgiau COVID mewn siopau ac ar drafnidiaeth? Oni fydd mwy o achosion o COVID yn gwneud sefyllfa enbyd hyd yn oed yn waeth?

Diolch yn fawr iawn. Wel, hoffwn eich annog—ac rydych yn llygad eich lle, bu rhywfaint o feirniadaeth eithafol ynglŷn â'r hyn a oedd yn digwydd yn ysbyty'r Faenor gan leoedd fel Coleg Brenhinol y Meddygon—i ddarllen yr adolygiad dilynol, sy'n awgrymu y bu llawer o welliannau ers yr arolygiad cychwynnol hwnnw. Hoffwn ofyn hefyd i bobl ddefnyddio’r gwasanaethau ffôn 111, sydd ar gael ar gyfer Cymru gyfan bellach, ac sy’n darparu mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau a gwasanaethau gofal sylfaenol brys, gan sicrhau eich bod yn cael y cymorth iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn. Felly, mae dewisiadau amgen i'w cael yn lle adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn eu defnyddio.

Hefyd, fe sonioch chi am y gofynion cyfreithiol. Wel, gadewch imi ddweud wrthych nad oedd gan eich chwaer blaid yn yr Alban erioed unrhyw ofyniad cyfreithiol i hunanynysu, ac ymddengys bod hynny wedi gweithio’n eithaf da iddynt hwy. Felly, rydym mewn sefyllfa bellach lle rydym yn rhoi cyfrifoldeb yn ôl i'r cyhoedd. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych, yng Nghymru, mae'r cyhoedd wedi bod yn wych. Maent wedi dilyn ein cyngor, ac rydym bellach yn ymddiried ynddynt i barhau i wneud y gwaith da y maent yn gwybod y dylid ei wneud. Pan fyddant yn gwybod bod cyfraddau ar y lefelau uchaf yn eu cymuned, rwy’n siŵr y byddant yn parhau i wneud y peth iawn, i wisgo gorchuddion wyneb pan fo’n briodol, i sicrhau eu bod yn profi os yw’n briodol ac i sicrhau, hefyd, eu bod yn hunanynysu os ydynt yn dal COVID.

15:20

Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, a diolch i Russell am godi'r mater yma.

Dim ond pwynt byr iawn. Mae llawer o drigolion de Powys yn mynd i Ysbyty Nevill Hall ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan yn Y Fenni. Yn y datganiad neithiwr gan fwrdd Aneurin Bevan ar ysbyty'r Faenor, cafwyd argymhelliad fod cleifion yn cael eu dargyfeirio i ysbytai eraill fel ysbyty Nevill Hall. Rwy’n siŵr fod hyn wedi’i ystyried, ond a wnewch chi roi sicrwydd i ni fod cymorth ychwanegol yn cael ei gynnig i ysbytai fel ysbyty Nevill Hall, a fydd yn wynebu straen ychwanegol yn y tymor byr yn sgil y sefyllfa yn ysbyty'r Faenor? Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Wel, mae straen ar draws y system gyfan. Mae'n effeithio'n arbennig ar ysbyty'r Faenor, ond mae hwn yn straen sy'n bodoli ledled Cymru, ac yn wir, ledled y Deyrnas Unedig gyfan. A dywed fy swyddogion wrthyf fod safleoedd, er enghraifft, yn Lloegr, hefyd wedi datgan digwyddiadau mawr neithiwr, gan gynnwys ysbyty Henffordd ac Ysbyty Brenhinol Amwythig, a arweiniodd at oedi cyn trosglwyddo gofal o hyd at 20 awr i gerbydau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a oedd yn cludo cleifion o Gymru i’r safleoedd hynny. Felly, nid yng Nghymru yn unig y mae’r pwysau'n bodoli, ond ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Yn amlwg, byddwn yn rhoi cymaint o gefnogaeth ag y gallwn i’r system, ond mae yna lefelau uwchgyfeirio y mae’r byrddau iechyd yn gwybod bod angen iddynt eu defnyddio a’u gweithredu, ac rydym ar lefel benodol o uwchgyfeirio ym mwrdd Aneurin Bevan, sef y lefel uwchgyfeirio uchaf, a golyga hynny eu bod yn rhoi’r gorau i wneud y gwaith rheolaidd ac yn canolbwyntio ar eu gwaith brys. Ac rwy’n siŵr y byddwch yn deall yr angen i wneud hynny.

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Weinidog yr Economi a'i ofyn gan Rhun ap Iorwerth.

Orthios

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad fod Orthios wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ac effaith hynny ar y 120 o swyddi yn lleol? TQ616

Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf fy nghyfieithiad, ond mae wedi'i ysgrifennu. A gaf fi glustffon ar gyfer y cwestiwn dilynol? Mae'n ddrwg gennyf.

A hoffech chi fenthyg fy un i?

Na, bydd yn mynd i mewn i fy nghlustiau.

Diolch am y cwestiwn. Deallaf y bydd hwn yn gyfnod pryderus iawn i weithwyr, eu teuluoedd a chymuned ehangach Caergybi. Mae fy swyddogion wedi estyn llaw i'r cwmni ac yn barod i gynnig cymorth i'r bobl yr effeithir arnynt ar yr adeg drallodus hon.

Bydd yn rhaid imi aros am y clustffon am y tro, gan iddo ofyn y cwestiwn yn Gymraeg.

Mae hon wedi bod yn ergyd ofnadwy i economi’r ynys, a byddaf yn dweud mwy am hynny mewn eiliad, ond yn fwy uniongyrchol, wrth gwrs, i'r gweithlu, ac rwy'n cydymdeimlo â hwy heddiw. Dywedodd un wrthyf eu bod wedi cael gwybod drwy grŵp negeseuon WhatsApp. Mae aelod o fy nhîm wedi bod yn cymryd rhan y prynhawn yma mewn cyfarfod tasglu a sefydlwyd i helpu gweithwyr, ac rwy’n ddiolchgar i Cyngor ar Bopeth am ei gynnull, i gyngor Ynys Môn ac i asiantaethau eraill am y rhan y maent yn ei chwarae hefyd.

Nawr, un flaenoriaeth amlwg yw sicrhau bod staff yn cael eu talu. Deallaf mai yfory yr oedd disgwyl iddynt gael eu talu. Dywed rhai na fyddant yn gallu talu eu rhenti y mis nesaf. Nawr, a wnaiff y Gweinidog wneud hyn yn flaenoriaeth mewn trafodaethau â'r gweinyddwyr ac a wnaiff amlinellu camau eraill y mae swyddogion y Llywodraeth yn barod i’w cymryd i gefnogi’r gweithlu ar yr adeg hon? Yr elfen arall yma yw pwysigrwydd y safle hwn—hen safle Alwminiwm Môn a’i lanfa ar gyfer llongau mordeithio, canolbwynt rheilffyrdd, canolbwynt pŵer, mae cymaint o agweddau iddo. Dywedir wrthym fod y problemau sy'n ein hwynebu heddiw yn gysylltiedig ag ariannu prosiect Orthios. Yn ddiau, byddwn yn dod i ddeall mwy ac yn gallu siarad mwy am y materion hynny maes o law. Felly, (a) a gaf fi ofyn i’r Gweinidog a wnaiff gyfarfod â mi i drafod y sefyllfa bresennol a dyfodol y safle? A (b) a wnaiff ymrwymo i wneud popeth sy'n bosibl wrth weithio gydag Orthios, eu buddsoddwyr a phartneriaid eraill i sicrhau y gellir manteisio i'r eithaf ar botensial y safle hwn, ac mewn ffordd gynaliadwy? Mae llawer o gwestiynau wedi’u gofyn a rhwystredigaeth wirioneddol ynghylch cyflymder datblygu ers i Orthios ddod yn gyfrifol am y safle, ond yn fwy diweddar, cafwyd buddsoddiad a chrëwyd swyddi. Ond wrth geisio dod o hyd i ffordd ymlaen yn awr a cheisio ailgyflogi'r gweithwyr yn fuan iawn, mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod datblygu'n wirioneddol gynaliadwy yn y dyfodol.

Diolch am eich cwestiwn a’r gyfres o bwyntiau. Gan ddechrau gyda’r hyn a ddywedais yn fy ymateb agoriadol, rwy'n cydymdeimlo gyda gweithwyr ar adeg drallodus. Mae bob amser yn anodd pan fyddwch yn colli swydd pan nad ydych eisiau gwneud hynny, ond yn enwedig colli swydd mewn amgylchiadau dramatig, lle nad ydych wedi gweld hynny'n dod a heb unrhyw rybudd ymlaen llaw. Ac mae rheswm da pam fod cyfraith cyflogaeth yn y wlad hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ymgynghori â'r gweithlu cyn dileu swyddi. Nawr, rydym wedi cael enghreifftiau eraill o arferion cyflogaeth gwirioneddol wael. Rwy'n awyddus i ddeall beth sydd wedi digwydd yma. A yw'n wir fod rhywbeth wedi digwydd mor gyflym fel na ellid bod wedi ymgynghori? Byddai hynny'n fy synnu. A chredaf fod hynny hefyd yn cyffwrdd ar eich ail bwynt ynglŷn â chyflogau. Mewn bywyd blaenorol, yr hyn yr arferwn ei weld yn y swyddfa taliadau dileu swydd oedd y mathau o hawliadau y gallech eu cael pe na baech yn cael tâl, ond mewn gwirionedd, nid yw hynny yr un fath â chael eich cyflog cytundebol, a gallai gweithwyr golli arian pe bai angen iddynt ddibynnu ar y ddarpariaeth statudol sydd ar gael hefyd. Ac mae hynny'n aml yn cymryd amser, a bron bob amser yn annhebygol o ddigwydd oni bai bod pobl yn cael cymorth eu hundeb llafur. Deallaf mai undeb Unite yw'r undeb ar y safle. Mae'n werth nodi bod swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cael sgyrsiau â'r undeb llafur, i gael eu dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd ar y safle hefyd.

Ar y pwynt ynghylch gwneud popeth sy'n bosibl, rwy'n fwy na pharod i gadarnhau mai dyna fydd ymagwedd y Llywodraeth hon yn sicr, gan weithio gyda'r cyngor a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae tîm amlasiantaethol eisoes yn cael ei gydlynu i edrych ar y gwahanol fathau o gymorth y gall y ddwy Lywodraeth genedlaethol ei ddarparu, gyda'r cyngor, i gynorthwyo gweithwyr i chwilio am gyflogaeth amgen gynaliadwy.

A chredaf fod hynny'n dod â ni at eich pwynt olaf, lle rwy'n hapus i gyfarfod â'r Aelod i drafod nid yn unig y sefyllfa bresennol, ond y tymor hwy ar gyfer y safle hwn. Mae’n safle allweddol o ran cyflogaeth, gyda’r cysylltiadau â pŵer a’n huchelgeisiau ar gyfer economi’r dyfodol yn yr ardal hon, gyda chyflogaeth dda y credwn y gellid ac y dylid ei chreu, ac rwy’n awyddus i sicrhau nad yw’r safle’n cael ei golli i ddatblygiadau ffrwythlon yn y dyfodol, yn ogystal â cheisio mynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol. Bydd fy swyddfa'n hapus i gysylltu i drefnu amser cyfleus inni gyfarfod.

15:25

Diolch i’r Aelod o Ynys Môn hefyd am gyflwyno’r cwestiwn hynod bwysig hwn heddiw—nid yn unig yr effaith yng Nghaergybi ac Ynys Môn, ond yn rhanbarth gogledd Cymru, oherwydd arwyddocâd ac arwyddocâd posibl y safle. Mae’r cyhoeddiad fod Orthios wedi’i roi yn nwylo’r gweinyddwyr yn amlwg yn peri cryn bryder, ac rwy’n rhannu'r pryderon a leisiodd yr Aelod dros Ynys Môn, a gennych chi, Weinidog, yn gyfan gwbl. Bydd hyn, ac mae wedi bod, yn sioc i lawer o bobl, ac mae mor drist gweld y posibilrwydd y bydd llawer o bobl yn colli eu swyddi. Ac mae arwyddocâd y safle wedi'i grybwyll eisoes, ac yn sicr, hoffwn ymuno â'r galwadau gan yr Aelod dros Ynys Môn i weld cynllun clir ac addas yn cael ei wneud ar gyfer y safle hwnnw, gan fod cyfleoedd anhygoel i'w cael yno, ac mae'n drueni nad ydynt wedi'u gwireddu eto. Mae llawer iawn o waith y gellir ei wneud.

Ond Weinidog, fe wyddoch, yn amlwg, fod gennych gyfrifoldeb mewn perthynas â chymorth a chyngor ar gyfer twf busnes a datblygu busnes, gwybodaeth busnes, cymorth busnes, felly yng ngoleuni hyn, byddwn yn falch o ddeall pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i Orthios dros y misoedd diwethaf, cyn i’r cyhoeddiad hwn gael ei wneud, a pha gamau a gymerwyd gennych i estyn llaw iddynt dros y misoedd diwethaf hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Wel, gwnaed ymdrechion cyson i estyn llaw i'r cwmni, ac rydym wedi cael sgyrsiau gyda hwy am y lanfa a'r sefyllfa i longau mordeithio. Fe gofiwch inni gytuno ar drefniant amgen i sicrhau na chafodd y tymor ei ganslo y llynedd. Yr her i ni yw sicrhau bod y sgwrs yn ddeialog wirioneddol yn hytrach na chynnig o gymorth, lle nad oes—. Ni allwn orfodi'r cwmni i dderbyn cymorth, felly mae angen iddynt ymateb i ni, ac mae fy swyddogion yn aros i glywed gan y cwmni. Gwnaed ymdrechion cyson i gysylltu â'r cwmni dros y misoedd diwethaf a’r dyddiau diwethaf, ac rwy'n dweud eto y byddem am i’r cwmni ymgysylltu â ni ynglŷn â'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud, yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud gyda’r gweithlu, a sut y gallwn edrych ar y safle i sicrhau bod y cyfleoedd sylweddol—ac rwy'n cydnabod, ar draws gogledd Cymru, ac ar draws y partïon ar gyfer y safle hwn—yn cael eu gwireddu, ac nid wyf am golli golwg ar y naill na'r llall, y sefyllfa uniongyrchol, ond hefyd y potensial mwy hirdymor ar gyfer y safle.

Diolch i’r Aelod, Rhun ap Iorwerth, am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn heddiw, ac rwy’n cytuno'n fawr iawn â’r hyn y mae wedi’i ddweud eisoes. Weinidog, a gaf fi newid y cwestiwn ychydig? Ac mae'r cyhoeddiad yn amlwg yn peri cryn bryder i lawer o unigolion a llawer o deuluoedd ar draws gogledd Cymru, ac mae'n amlwg fod hwn yn gyfnod anodd, ac mae'n anodd iawn ymdopi ag ergydion fel hyn yn yr hinsawdd sydd ohoni. Ond a gaf fi ofyn i chi pa gymorth a chyngor y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i fusnesau y mae arian yn ddyledus iddynt gan Orthios, fel yr un yn fy etholaeth i sydd wedi cysylltu â mi a Carolyn Thomas, yn ei rôl fel Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yr wythnos hon?

15:30

Diolch. Mae'n bwynt pwysig. Yn aml, pan fydd busnesau mwy yn rhoi'r gorau i weithredu neu'n lleihau eu gweithgarwch yn sylweddol, mae'n aml yn wir fod busnesau eraill yn eu cadwyn gyflenwi yn cael eu gadael mewn trafferthion ariannol hefyd. Felly, mae effaith  ganlyniadol digwyddiad arwyddocaol fel hwn yn gallu bod yn gudd weithiau. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei godi.

O ran cymorth ymarferol, byddai gennyf ddiddordeb mawr pe gallai rannu'r manylion gyda ni. Gall busnesau eraill bob amser gysylltu â Busnes Cymru i gael y cyngor a'r cymorth y gallwn eu darparu i sicrhau eu bod yn cyrraedd y pwynt cywir, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gadwyn gyflenwi a beth yw'r trefniadau cytundebol sydd ar waith rhyngddynt hwy a'r prif gwmni. Ond rwy'n ymwybodol iawn y bydd hyn yn debygol o effeithio ar nifer o fusnesau eraill, nid yn unig y dros 100 o weithwyr sydd wedi colli eu swyddi dros nos. 

4. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiadau 90 eiliaid, ac mae'r datganiad cyntaf gan Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, nid yw cymhorthion clywed a masgiau'n mynd gyda'i gilydd. 

Yr wythnos hon yw Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd, sy'n ceisio helpu i newid agweddau tuag at bobl awtistig. Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, sy'n nodi 60 mlynedd ers ei sefydlu, am i bawb ddeall awtistiaeth yn well, ac mae'n tynnu sylw at y pum prif beth y mae pobl awtistig a theuluoedd am i'r cyhoedd eu gwybod: y gall pobl awtistig deimlo pryder am newidiadau neu ddigwyddiadau annisgwyl; profi sensitifrwydd synhwyraidd, bod naill ai'n llai sensitif neu'n rhy sensitif i synau, arogleuon, golau, blas a chyffyrddiad; efallai y bydd angen amser ychwanegol arnynt i brosesu gwybodaeth fel cwestiynau neu gyfarwyddiadau; wynebu lefelau uchel o bryder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a chael anhawster i gyfathrebu a rhyngweithio â phobl eraill.

Amcangyfrifir bod 30,000 neu fwy o bobl awtistig yng Nghymru, ac er bod bron bawb wedi clywed am awtistiaeth, nid oes digon o bobl yn deall sut beth yw bod yn awtistig a pha mor anodd yw bywyd os nad yw pobl awtistig yn cael y cymorth cywir. Er y gall diagnosis newid bywydau, gan helpu i egluro pwy ydych chi, mae miloedd o blant ac oedolion yng Nghymru yn aros misoedd lawer neu flynyddoedd hyd yn oed am asesiad. Canfu astudiaeth ddiweddar mai dim ond 28 y cant o ddisgyblion awtistig yng Nghymru a deimlai fod eu hathrawon yn deall awtistiaeth, ac mae data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu mai dim ond 29 y cant o bobl awtistig sydd mewn unrhyw fath o waith. Heb gymorth, mae llawer o bobl awtistig yn datblygu problemau iechyd meddwl, weithiau i'r graddau lle y daw'n argyfwng. Dyna pam y mae Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd mor bwysig. Diolch. 

A gaf fi fanteisio ar y cyfle i longyfarch Mark Isherwood ar hynny, oherwydd mae'n fater sy'n agos iawn at fy nghalon?

Roedd yr wythnos cyn diwethaf yn Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2022, sef dathliad 10 diwrnod o STEM, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a gynhaliwyd rhwng 11 ac 20 Mawrth. A'r thema eleni oedd 'chwalu stereoteipiau', drwy ddathlu pobl a gyrfaoedd amrywiol pobl mewn gyrfaoedd STEM yng Nghymru. Mae'r sectorau STEM yn llawer mwy amrywiol nag y byddech yn ei feddwl ac y byddai'r stereoteip yn ei awgrymu. Mae yna bobl yn astudio ac yn gweithio mewn labordai, mewn colegau, prifysgolion, ac mewn gwaith, sydd wedi dod o lawer o wahanol gefndiroedd ac sydd wedi dilyn llawer o wahanol lwybrau i mewn i'w gyrfa.

Mae Colegau Cymru wedi tynnu fy sylw at achos Chloe Thomas, sy'n enghraifft o ddysgwr a elwodd o'r buddsoddiad mewn STEM. Llwyddodd i sicrhau prentisiaeth gyda Trafnidiaeth Cymru, a mynychodd Goleg y Cymoedd yn Ystrad Mynach yn fy etholaeth i. A dywedodd fod y coleg wedi rhoi amgylchedd dysgu ymarferol cadarnhaol iddi gyda gweithdai a labordai modern. Felly, arwyddocaol. Ac mae hi bellach wedi cael swydd barhaol gyda Trafnidiaeth Cymru fel peiriannydd cymorth ar gyfer y fflyd, ar ôl bod yn brentis benywaidd cyntaf i weithio yn y depo yn Nhreganna. 

Un peth y byddwn yn ei ddweud, wrth inni ystyried—a gwn fod Gweinidog yr Economi yn ystyried—prentisiaethau gradd, yw nad ydym wedi cael y cydbwysedd cywir o ran rhywedd gyda phrentisiaethau gradd. Felly, mae cyfle pellach ar y lefel honno i lwyddo gyda phrentisiaethau lefel gradd yn y ffordd y mae stereoteipiau wedi'u chwalu ar lefel addysg bellach. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Heddiw, byddaf yn siarad am gronfa Rhian Griffiths Forget Me Not, cronfa deyrnged er cof am Rhian Griffiths, a fu farw yn 25 oed ym mis Mehefin 2012 o ganser ceg y groth. Roedd Rhian yn ferch a chwaer annwyl iawn, a oedd wedi ymrwymo i'w gwaith fel athrawes feithrin. Drwy gydol ei hamser yn cael triniaeth yn Felindre, roedd hi'n glaf yr oedd gan bobl feddwl mawr ohoni yn yr ysbyty. Er gwaethaf popeth yr aeth Rhian drwyddo, dangosodd gryfder cymeriad ac agwedd gadarnhaol a wnaeth argraff ar bawb a gyfarfu â hi, a gofynnodd i'w rhieni, Wayne a Jane, barhau â'i gwaith yn codi arian dros Felindre.

Mae'r teulu, drwy Gronfa Rhian Griffiths Forget Me Not, yn anrhydeddu ei dymuniadau ac yn coffáu ei bywyd drwy barhau gydag ymdrechion i godi arian ar gyfer Felindre. Ar hyn o bryd, mae ychydig o dan £700,000 yn y gronfa, gyda thad Rhian, Wayne, yn ymgysylltu ag ysgolion, colegau, Sefydliadau'r Merched, cartrefi gofal, tafarndai a chlybiau, busnesau lleol—y cyfan oll—i gyfleu'r neges. Y gobaith yw y daw ymchwil o hyd i ffordd o wella canser fel na fydd neb yn gorfod mynd drwy'r hyn yr aeth Rhian drwyddo, ac ni fydd yn rhaid i unrhyw deulu weld eu hanwyliaid yn dioddef, ac y bydd Felindre, yn y cyfamser, yn parhau i ddatblygu eu cefnogaeth i gleifion a'u teuluoedd, gan ddarparu canolfan o safon byd-eang go iawn i drin pob math o ganser. Hoffwn ddiolch i Wayne am ddod i lawr i risiau'r Senedd heddiw, ac i'r Aelodau a gyfarfu â Wayne i ddysgu mwy am gronfa Rhian Griffiths Forget Me Not. Diolch.

15:35
Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgor

Yr eitem nesaf yw cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Darren Millar.

Cynnig NNDM7978 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

1. Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru);

2. Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig), a

3. Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio'

Yr eitem nesaf yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jenny Rathbone.

Cynnig NDM7970 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ‘Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’, a osodwyd ar 28 Ionawr 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae mynediad at ofal plant da a fforddiadwy yn allweddol i fywydau hapusach ac iachach ac economi gryfach, decach a mwy cynhyrchiol. Diffyg gofal plant fforddiadwy yw un o brif ysgogwyr y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a welir yn gyson. Fel y gwelsom yn ystod y pandemig, cymerwyd yn ganiataol mai menywod fyddai'n ysgwyddo'r baich pan gaeodd ysgolion, a dyna'n union a ddigwyddodd. Gwyddom fod menywod wedi cael eu gadael i jyglo eu rôl fel athrawon yn ogystal â chogyddion, golchwyr llestri, a cheisio cadw swydd â thâl. Mae ein hadroddiad yn cyfeirio at ystod o gamau y gellir eu cymryd i wella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i rieni, cryfhau'r gweithlu a dysgu o arferion gorau gwledydd eraill. Hoffwn ddiolch i randdeiliaid a gyfrannodd at y gwaith hwn, o Gymru ac yn rhyngwladol, gan gynnwys y rhieni a'r gweithwyr gofal plant rheng flaen, y credaf fod rhai ohonynt yn yr oriel y prynhawn yma. Hoffwn ddiolch hefyd i'r staff ymchwil a chlercio rhagorol a gefnogodd ein hymchwiliad.

Mae'n werth nodi bod yna nifer sylweddol o deuluoedd nad ydynt yn gwybod beth y mae ganddynt hawl iddo. A phan edrychwch ar arolwg blynyddol diweddaraf Coram Family and Childcare o bob awdurdod ym Mhrydain, prin y gallwch synnu, oherwydd bod mwy na hanner ein hawdurdodau lleol heb ddigon o ofal plant ar gyfer hyd yn oed yr hawliau addysg gynnar am ddim y dylai plant fod yn eu cael. Felly, nid yw'n syndod nad yw awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau i ddweud wrth bobl am ddarpariaeth nad yw'n bodoli mewn gwirionedd. Nododd Sefydliad Bevan fod hyd yn oed ymwybyddiaeth o'r 10 awr o ddarpariaeth i bawb ar gyfer plant tair a phedair oed yn isel. A mynegodd cyfranogwyr ein grwpiau ffocws wahanol raddau o ymwybyddiaeth ynglŷn â chwmpas a meini prawf cymhwysedd Dechrau'n Deg a'r cynnig gofal plant. Mae'n ddarlun eithaf dryslyd, felly.

Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad ar gyfer sut y gallwn unioni'r sefyllfa hon. Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys ysgrifennu at rieni newydd, neu hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael wrth gofrestru'r enedigaeth. Mae'r Gweinidog wedi rhoi llawer o bwyslais ar yr wybodaeth sydd ar gael gan wasanaeth gwybodaeth i deuluoedd pob awdurdod lleol, ac edrychwn ymlaen at y diweddariad o'r llyfryn 'Dewis Gofal Plant' ar-lein yr ydych wedi'i gomisiynu a fydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni. Ond rydym yn gwybod nad yw gwybodaeth ar-lein yn ddigon i gyrraedd pob teulu ynglŷn â hawl eu plentyn. Ac mae'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd ei hun yn rhagorol yn yr ystyr ei fod yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth aros a chwarae, sydd yr un mor bwysig yn y dyddiau cynnar iawn o fod yn rhiant, ond nid yw'n tynnu sylw amlwg iawn at beth yn union sydd ar gael fel hawl plentyn. 

Mae'n dda iawn gwybod ei bod yn ofynnol i dimau Dechrau'n Deg gael strategaethau eraill ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a bod disgwyl iddynt amlinellu'r rhain fel rhan o'u cynlluniau blynyddol, a chredaf fod hynny'n beth pwysig iawn. Ond yn anffodus, rydych hefyd yn dweud yn eich ymateb y bydd Dechrau'n Deg ei hun yn defnyddio mwy o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon allweddol i deuluoedd Dechrau'n Deg, ac mae hynny'n iawn i rai, ond ofnaf na fydd yn cyrraedd y rhai mwyaf difreintiedig. 

Gan droi at gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, yn wreiddiol canolbwyntiai'n unig ar deuluoedd lle mae'r ddau riant—neu, ar aelwyd un rhiant, y rhiant hwnnw—yn gweithio dros 16 awr yr wythnos. Felly, rydym yn croesawu'r ffaith ei fod yn ymestyn i gynnwys rhieni sydd mewn addysg, hyfforddiant neu ar gyrion gwaith, ac yn enwedig y ffaith eich bod yn derbyn ein hargymhelliad fod angen cynnal asesiadau o'r effaith ar hawliau plant ac asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ac y cânt eu cyhoeddi o leiaf fis cyn y bydd unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth yn dod yn weithredol.

Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu pob awdurdod cyhoeddus i fynd i'r afael â sut, er enghraifft, y bydd pobl sy'n gweithio oriau anarferol, megis gweithwyr shifftiau, yn gallu elwa o'r cynnig gofal plant, oherwydd mae'r rhan hon o'r gweithlu sy'n talu cyflogau isel i raddau helaeth wedi'i heithrio rhag elwa o'r cynnig gofal plant gan nad yw'r farchnad wedi darparu ar gyfer y lefel hon o gymhlethdod eto. Rydych wedi rhoi'r cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i fynd i'r afael â hyn fel rhan o'u hasesiadau digonolrwydd gofal plant, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd y pwyllgor yn edrych gyda diddordeb mawr ar fanylion y rheini maes o law i weld a ydynt yn mynd i'r afael â'r pryder penodol hwnnw mewn gwirionedd.

Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom gan arbenigwyr yn yr Alban a Sweden, ac mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn dysgu gan y goreuon fel ffordd o wella ansawdd ein darpariaeth a'n safonau ar draws y sector, fel ei bod yn fwy na rhaglen ar gyfer cael mwy o rieni yn ôl i waith yn gyflymach, a'i bod hefyd yn gyfrwng hanfodol ar gyfer lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.

Mae Llywodraeth Cymru, a'r Dirprwy Weinidog yn enwedig, yn gwerthfawrogi'n fawr y cwricwlwm dysgu drwy chwarae ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chyfnod allweddol 1, ond teimlaf fod y sgiliau addysgegol yn bwysicach yn y blynyddoedd cynnar iawn nag yn unman arall. Dyma'r grŵp anoddaf o blant i'w addysgu, ac felly mae arnom angen yr athrawon gorau yn y maes hwn. Felly, rydym yn falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad am y rôl hanfodol y gall ysgolion bro ei chwarae yn gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ar draws y sector gofal plant. 

Mae'n ofnadwy o ddryslyd i'r plentyn sydd ar hyn o bryd yn gorfod cael ei gludo rhwng hyd at dri lleoliad ar wahân dros yr oriau y mae eu rhiant yn gweithio, a mynegodd rhieni a gymerodd ran yn ein hymgynghoriadau ddryswch ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng addysg gynnar a gofal plant. Mae'n ymddangos i mi y gall ysgolion bro wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy sicrhau bod y cynnig cymuned gyfan yn dda.

A chredaf fod angen cryn dipyn o newid diwylliannol o ganlyniad i hyn, oherwydd trydarodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon y dylid cadw gofal plant allan o ysgolion mewn ymateb i'n hadroddiad, gan ddiystyru'r rôl y mae gofal plant cynhwysfawr safonol yn ei chwarae yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a achosir gan dlodi mewn modd gwirioneddol syfrdanol. Ni allant synnu bod plant yn cyrraedd yr ysgol yn dair oed gyda dim ond tri neu bedwar gair os nad ydynt yn talu sylw i ba ofal plant y maent yn ei gael cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol brif ffrwd. 

Yn sicr, nid yw hyn yn ymwneud ag ysgolion yn mabwysiadu'r rôl werthfawr a chwaraeir gan y meithrinfeydd preifat a chymunedol, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog yn ei hymateb egluro sut y gallwn gynyddu capasiti a gallu'r sector gofal plant cyfan, sy'n cael ei reoli i raddau helaeth gan sefydliadau preifat a gwirfoddol, ac mae hynny'n arbennig o bwysig yng nghyd-destun anghenion dysgu ychwanegol.

Cawsom dystiolaeth wirioneddol frawychus gan rywun nad oedd eu plentyn awtistig yn gallu cael unrhyw gefnogaeth o gwbl yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud oherwydd dywedwyd wrth y gweithwyr allweddol fod angen i'r ddarpariaeth gau, ac mae'n ymddangos i mi fod angen i'r math hwnnw o unigolyn, y math hwnnw o deulu, yn anad yr un, fod wedi cael llawer mwy o ystyriaeth. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn clywed ychydig mwy ynglŷn â sut y byddwn yn gwneud hynny, oherwydd i deulu sydd â phlentyn anabl, nid ydynt am fod yn cludo eu plentyn gryn bellter er mwyn gallu cael y lefel o ddarpariaeth sydd ei hangen ar y plentyn. Mae angen i'r plentyn allu cael yr un ddarpariaeth â'r plant eraill y mae'n chwarae yn eu plith mewn bywyd bob dydd a pheidio â gorfod mynd i rywle arbennig. Mae angen eu hintegreiddio o'r dechrau.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed ar y cydweithio a fu rhwng Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru ar y ddarpariaeth gofal plant ac a oes mwy o rôl i Estyn i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth gofal plant yn cael cefnogaeth pobl sydd â chymwysterau addas i gynllunio'r cwricwlwm, yn enwedig i blant ag anghenion ychwanegol.

Ac yn olaf, rwyf am ddweud bod arnom angen sector gofal plant sy'n adlewyrchu'r boblogaeth. Felly, mae llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod pobl o wahanol gymunedau'n cael eu hannog i ymgymryd â'r swydd bwysig hon ym maes gofal plant, ac mae'r ffordd y gwobrwywn ein gweithlu ac y dangoswn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith pwysig hwn yn rhywbeth y mae gwir angen i bob un ohonom roi sylw iddo, oherwydd, fel y dywedodd un o'n cyfranwyr,

'Rydym ar gontractau dim oriau ac rydym yn gofalu am y dyfodol.'

Felly, mae cyflog a phroffesiynoli'r sector yn allweddol i'r gymdeithas sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n canolbwyntio ar y teulu y mae pawb ohonom ei heisiau.

15:45

Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am gyflwyno'r adroddiad heddiw. Efallai eich bod yn synnu braidd wrth fy ngweld i'n siarad ar yr eitem hon heddiw, ond rhaid imi ddweud, cefais y pleser o fynychu dau o gyfarfodydd y pwyllgor ar ran fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod dros y misoedd diwethaf, a mwynheais waith y pwyllgor a gyflawnwyd ar gyflogaeth rhieni a gofal plant—y mater penodol hwn. Rwy'n siŵr fod y pwyllgor wedi mwynhau fy mhresenoldeb yno hefyd, ar adegau. [Chwerthin.]

Ond fel y gwyddom, mae gofal plant a chyflogaeth rhieni wedi bod yn broblem ers nifer o flynyddoedd a daeth i'r amlwg, yn sicr, drwy bandemig COVID-19. Fel a rannwyd eisoes drwy'r adroddiad, gan fod mynediad at ofal plant fforddiadwy a hyblyg yn cael ei nodi'n aml gan lawer o rieni fel un o'r prif rwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio neu gamu ymlaen ymhellach yn eu gyrfaoedd—ac mae fy ngwraig a minnau'n sicr wedi profi hyn gyda'n tri phlentyn, sydd o dan 10 oed—mae yna her a all godi i rieni sy'n gweithio.

Cyn imi droi at  rai o'r pwyntiau a wnaeth fy nharo yn yr adroddiad a gwaith y pwyllgor ar hyn, wrth i'r adroddiad gael ei gyflwyno, un peth a aeth drwy fy meddwl oedd tybed a ydym, weithiau, yn colli cyfle gyda gofal sy'n pontio'r cenedlaethau. Rwyf bob amser yn cofio'r stori, yn fy mywyd blaenorol, fy swydd flaenorol, roedd gennyf bennaeth newydd a ddaethai draw ar secondiad o Hyderabad yn India, ac ni allai ddod dros y ffordd yr ydym yn ymdrin â gofal, gofal plant, gofalu am ein henoed, o'i gymharu â rhai o'r ffyrdd diwylliannol y byddai ei draddodiad ef yn eu defnyddio. Tybed weithiau a ydym yn colli cyfle gyda'r berthynas rhwng teidiau a neiniau a'u hwyrion a all ddigwydd a'r gefnogaeth a ddarparwn yno ar draws sawl cenhedlaeth. Sylw wrth basio yw hynny, mae'n debyg.

Ond o ran yr adroddiad a'r pwyntiau a wnaeth argraff arnaf, fel y nodwyd, yn ystod y dystiolaeth y pwyllgor, mae llawer o rieni heb fod yn ymwybodol o'r cymorth gofal plant sydd ar gael iddynt mewn gwirionedd, yn enwedig y cymorth sydd ar gael i rieni newydd, a phrofais innau hyn tua naw mlynedd yn ôl. Mae'n bwysig iawn yn fy marn i fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agosach gydag awdurdodau lleol yn enwedig, a byrddau iechyd a sefydliadau perthnasol i wella'r ymwybyddiaeth hon a darparu rhagor o wybodaeth i rieni, fel y gallant ddefnyddio nifer o'r opsiynau gwych sydd ar gael, ac mae'n hanfodol fod gofal plant a chymorth yn cael eu targedu, yn sicr, at deuluoedd sydd ei angen, a'n bod yn ceisio osgoi'r loteri cod post a all ddigwydd o bryd i'w gilydd.

Yn ail, o ran y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae'n amlwg fod rhywfaint o ddarpariaeth yno i wella ac ehangu gofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu gofal plant cyfrwng Cymraeg wedi'i gryfhau, a byddwn yn sicr yn croesawu hynny o'r ochr hon i'r meinciau. Mae'r rhain yn eitemau y buom yn galw amdanynt ers amser maith hefyd ac mae'n dda gweld cynnydd yn y maes hwnnw.

Yn olaf, credaf ei bod yn amlwg o ymgysylltiad y pwyllgor fod angen gwneud pob ymdrech i annog pobl o bob cefndir, fel y nodwyd gan y Cadeirydd yno, i ystyried gyrfa mewn gofal plant. Rwy'n gwybod er enghraifft fod fy ngwraig wedi gweithio yn y maes hwn am gyfnod byr a byddai'n dda gweld cymysgedd ehangach o bobl yn ymwneud â gofal plant proffesiynol, a bod plant yn gallu gweld gwahanol fathau o bobl yn gofalu amdanynt dros wahanol gyfnodau yn eu bywydau, mae'n debyg.

Felly, i gloi, hoffwn gofnodi fy niolch i'r pwyllgor cyfan am gynhyrchu'r gwaith pwysig hwn ar ofal plant a'r canlyniadau cadarnhaol a gaiff. Diolch hefyd i'r sefydliadau a'r cyrff cyhoeddus a phob math o gyrff a roddodd dystiolaeth i helpu'r pwyllgor gyda'u hargymhellion. Diolch yn fawr iawn. 

15:50

Rwy'n falch o gyfrannu i'r ddadl fel llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a hefyd fel aelod o'r pwyllgor. Ychydig wythnosau yn ôl, fe fuon ni'n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac yn trafod yma yn y Siambr adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg. Roedd yr adroddiad hwnnw'n datgelu bod gennym ffordd bell i fynd o ran anghydraddoldeb rhywedd.

Pan ofynnodd y pwyllgor i'n tystion beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth fwyaf o ran cau y bwlch cyflog rhywedd a'r anghydraddoldebau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, teuluoedd a phlant, gwella cyfleon menywod yn y gweithle ac yn y gymdeithas yn gyffredinol, yr ateb oedd gofal plant am ddim i bawb, a bod hynny ar gael o flwydd oed, os nad yn gynt. Byddai hynny nid yn unig, wrth gwrs, yn taclo anghydraddoldeb rhywedd, ond fe fyddai hefyd yn helpu taclo tlodi ac anfantais; yn dda i rieni a mamau yn enwedig, ac yn dda, yn bwysicach efallai, i blant. Dyna'r ddelfryd, dyna'r safon aur.

Mae adroddiad ymchwil ar ôl adroddiad ymchwil yn pwyntio at hynny fel rhywbeth y mae'n rhaid i ni anelu ato, ac fe gadarnhawyd hynny, dwi'n credu, gan y dystiolaeth sy'n cael ei hadlewyrchu yn adroddiad y pwyllgor. Mae'n galondid, felly, ers i ni fel pwyllgor benderfynu ar destun ein hymchwiliad, fod y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru wedi sicrhau cynnydd at y nod hwnnw o ehangu gofal plant i bob plentyn dwyflwydd oed fel cam cyntaf.

Un o brif negeseuon yr adroddiad a fydd, gobeithio, yn medru dylanwadu ar y gwaith pwysig hwn oedd, fel rŷn ni wedi clywed, y diffyg ymwybyddiaeth, yr anhawster wrth geisio canfod pa fath o ofal oedd ar gael ble, ar gyfer pa oedran, am faint o oriau. Yn eu tystiolaeth, fe wnaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru rannu gyda ni fod 67 y cant o'r ymatebwyr i'w harolwg nhw yn dweud bod angen gwybodaeth fwy hygyrch a thryloyw arnyn nhw am y darpariaethau gofal plant sydd ar gael. Ategwyd hyn gan gyfranogwyr ein grwpiau ffocws o ran eu hymwybyddiaeth o'r cynnig gofal plant a Dechrau'n Deg.

Darlun pytiog a bratiog, felly, o ddarpariaeth a gafwyd. Loteri cod post oedd yr hyn a ddisgrifiwyd i ni, sy'n golygu nad yw'r ddarpariaeth yn gyson ar gyfer pob teulu ac yn cwrdd ag anghenion pob plentyn ym mhob man yng Nghymru, a'r diffygion o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol yn dod i'r wyneb yn glir.

Gan eu bod wedi derbyn nifer fawr o argymhellion y pwyllgor, ac yn dilyn y datganiad yr wythnos diwethaf ar y cyd ag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian, am ehangu rhaglen Dechrau'n Deg, hoffwn ddeall gan y Dirprwy Weinidog beth yw ei gweledigaeth hi o ran sut y gallwn ni wireddu'r nod yma o ehangu gofal plant, o gofio'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud wrthym ni am yr heriau sydd angen eu goresgyn i sicrhau hynny. Beth yw rhan ehangu rhaglen Dechrau'n Deg yn y cynllun ehangach o ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn o ddwy oed? Beth yw'r cynllun o ran cynyddu a datblygu'r gweithlu a'r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom? A sut mae'r Llywodraeth am sicrhau gwell fynediad at wybodaeth fwy syml a hygyrch i rieni a chreu llwybr gofal plant mwy llyfn i bawb ym mhob cwr o Gymru?

Mae gwahaniaethau o ran mynediad, argaeledd ac ansawdd gofal plant i wahanol grwpiau cymdeithasol yn atgyfnerthu anghydraddoldeb a chanlyniadau rhwng y grwpiau hyn, a dyna pam y mae mynediad cyffredinol, o ansawdd uchel at ofal plant mor bwysig wrth geisio creu Cymru ffyniannus, heb dlodi plant, lle mae plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Credir bod datblygiad plant y teuluoedd tlotaf eisoes 10 mis ar ei hôl hi o gymharu â phlant o gefndiroedd mwy cefnog erbyn iddynt droi'n dair oed. Nid yn unig y mae cynyddu'r ddarpariaeth gofal plant yn gwella canlyniadau i'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond mae hefyd yn lleihau cyfraddau tlodi mewn gwaith a thlodi mwy cyffredinol ledled Cymru.

Tynnodd yr argyfwng costau byw presennol sylw at yr angen i wella'r ddarpariaeth gofal plant, a bydd cyflogau sy'n aros yn eu hunfan yng Nghymru yn ei ddwysáu. Fel y crybwyllwyd gennym droeon yn y lle hwn, bydd y prisiau ynni, y prisiau tanwydd, y prisiau bwyd, y codiadau treth, y chwyddiant a phenderfyniad gwarthus Llywodraeth y DU i dorri'r ychwanegiad i'r credyd cynhwysol a pheidio â chynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant yn golygu y bydd y storm economaidd sy'n taro ein gwlad yn taro'r tlotaf yn ein cymdeithas yn galetach na neb, a theuluoedd â phlant, yn enwedig, yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu gael pryd o fwyd gweddus. Mae tri o bob 10 aelwyd ag incwm sy'n llai na £40,000 y flwyddyn wedi gweld eu hincwm yn gostwng ers mis Mai 2021. Bydd gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn yn gyflym, yn effeithlon ac yn llawn yn helpu i arafu effaith yr argyfwng hwn gan ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol.

Rwy'n falch fod y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn dechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd yn adroddiad y pwyllgor. Fodd bynnag, dylai hyn ysbrydoli cynnydd a pheidio â chael ei weld fel diwedd ar y broblem, wrth inni bwyso am ofal plant cyffredinol i bawb, gwella canlyniadau i blant, creu cyfleoedd i rieni, yn enwedig i fenywod allu cael mynediad at waith ac addysg, neu ddychwelyd atynt. Diolch.

15:55

Rwy'n falch iawn o godi i siarad yn fyr yn y ddadl hon, a diolch hefyd i'r pwyllgor am eu gwaith ac am barhau â'u sylw i'r maes polisi cymdeithasol gwirioneddol bwysig hwn, oherwydd mae'n sicr yn wir—bron nad oes angen ei ddweud, ond rwy'n benderfynol o'i ddweud—os cawn y buddsoddiad yn iawn mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar, mewn system gydlynol, unedig o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, byddwn yn trawsnewid cyfleoedd bywyd ac mae'n rhaid inni adeiladu ar yr hyn sydd gennym yno.

Rwyf am ddechrau drwy edrych ar hynny a chyffwrdd ar sut y cyrhaeddwn lle rydym am fod, gyda system briodol o addysg a gofal plentyndod cynnar unedig a chydlynol sy'n mynd o'r blynyddoedd cynnar iawn yr holl ffordd drwodd, gyda'r continwwm hwn. Ac mewn gwirionedd, dyna a nodwyd ychydig flynyddoedd yn ôl pan lansiodd Llywodraeth Cymru ei huchelgais. Nodaf yn y llythyr bryd hynny at Lynne Neagle, sydd bellach yn Weinidog, ond a oedd ar y pryd yn cadeirio'r un pwyllgor, fod Julie Morgan wedi ysgrifennu at Lynne, gan ddweud mai ein nod addysg a gofal plentyndod cynnar yw creu un dull addysg a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel ledled Cymru sy'n canolbwyntio ar y plentyn, un sy'n cydnabod gwerth addysg gynnar a gofal plant, gan dynnu'r gorau o'r ddau at ei gilydd mewn un profiad unigol, gyda rhieni'n gallu cael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Nawr, dyna'r uchelgais yn llwyr a gosododd lwybr 10 mlynedd i'w wneud. Wel, aeth tair blynedd a hanner heibio o'r foment honno, gyda'r llythyr hwnnw.

Rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru o ddifrif am geisio adeiladu ar y fframwaith sydd gennym, ond roeddem yn sôn am hyn dair, bedair, bum mlynedd yn ôl a mwy. Mae gennym Dechrau'n Deg yng Nghymru, ac mae'n gwneud gwaith aruthrol, ond nid yw'n cyrraedd pob plentyn y mae angen i Dechrau'n Deg ei gyrraedd. Mae gennym ffocws da iawn ar rieni sy'n gweithio, er ei fod bellach wedi'i ymestyn i rieni sy'n meithrin sgiliau a chael hyfforddiant neu addysg uwch, sy'n ymestyn y cynnig gofal plant i blant tair a phedair oed, ond nid yw'n mynd i bawb, felly nid yw'n gynnig cyffredinol yn y modd hwnnw.

Ac fel y nodwyd yn gywir ar hyn, y broblem sydd gennym, pan fydd gennych rywbeth sy'n gymysgedd cymhleth o ddulliau cyflenwi a galw gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, y rhai sy'n tueddu i fod ar eu colled yw'r rhai sy'n ei chael yn system rhy gymhleth i'w llywio, y rheini mewn ardaloedd difreintiedig. A gallwn weld yn bendant y graffiau sy'n mynd yn ôl flynyddoedd sy'n dangos mewn lleoedd fel Merthyr a Blaenau Gwent ac Ogwr, yn wahanol i Ben-y-bont ar Ogwr, er enghraifft—o'r gogledd i'r de o'r draffordd—y gwahaniaeth yn y ddarpariaeth gofal plant, lle nad oes mantais i ddarparwyr gofal plant a blynyddoedd cynnar agor mewn ardaloedd lle y ceir anfantais economaidd. Felly, mae gwir angen inni dynnu rhai o'r rhain at ei gilydd.

Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog heddiw roi syniad inni i ba raddau yr ydym wedi symud ymlaen i ddatblygu'r strwythur addysg a gofal plentyndod cynnar sengl, unedig, cydlynol hwn. Nid oeddem byth yn mynd i'w wneud dros nos, ond mae'r adroddiad hwn, unwaith eto, wedi tynnu sylw at faint ymhellach y mae'n rhaid inni fynd. Rydym yn adeiladu ar sector sy'n amrywiol ac yn gymhleth yn ei ddarpariaeth. Mae gennym sefyllfa o hyd i rai tair a phedair oed lle mae'n mynd o ardaloedd ac awdurdodau lleol lle y ceir sectorau a gynhelir yn gyfan gwbl, fel Castell-nedd Port Talbot, i ardaloedd eraill, fel Mynwy, lle mae darparwyr annibynnol amrywiol nas cynhelir yn dominyddu'r sefyllfa. Sut ydych chi'n datblygu strwythur addysg a gofal plentyndod cynnar unedig, sengl a chydlynol pan fydd gennych y math hwnnw o ddarpariaeth? Mae'r diffyg cymhelliant i fuddsoddi mewn ardaloedd difreintiedig yn golygu bod lleoedd fel Merthyr yn dal i fod ar eu colled yn sylweddol, ac yn unrhyw le, os mynnwch, i'r gogledd o'r llinell eira.

Nid oes Dechrau'n Deg ym mhobman. Mae'r dull ochr gyflenwi, sy'n seiliedig ar brawf modd yng Nghymru, sy'n gwrthgyferbynnu â'r ochr galw a yrrir gan y farchnad yn Lloegr, yn fframwaith cymhleth mewn gwirionedd. Byddai unrhyw un yn ei chael hi'n anodd llywio hyn, hyd yn oed gyda'r awdurdodau lleol yn rhoi cyngor. Mae'n rhaid i chi gael yr hyder i fynd yno a chanfod beth sydd orau i chi. Yna mae gennym nifer o nodau gan y Llywodraeth. A yw hyn yn ymwneud â dull sy'n seiliedig ar hawliau'r plentyn, dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn, neu a yw'n ymwneud â mynd i'r afael ag anfantais, neu lawer o bethau eraill, neu ddarparu cyfleoedd economaidd? Mewn gwirionedd, mae'n gwneud y rhain i gyd, ond yn bennaf oll, gadewch inni gael y naratif yn glir, gadewch inni gael y darlun cydlynol y mae angen iddo ganolbwyntio ar—. Mae pob un o'r gwledydd sydd wedi gwneud hyn wedi ei wneud orau gyda gweledigaeth unedig, un sy'n dweud yn glir, 'Mae'r plentyn yn ganolog iddo, ond rydym hefyd yn mynd i wneud x, y a z.' Dyna lle mae angen inni fod. Felly, gadewch imi grynhoi gyda rhai cwestiynau i'r Gweinidog—. Ac mae gennym fater costau hefyd. Mae'n debyg ein bod ddwywaith neu fwy, ledled y DU, y costau y dylai pobl fod yn talu amdano.

Felly, Weinidog, pa mor agos ydym ni at gyrraedd yr egwyddorion unedig hynny ar gyfer dull addysg a gofal plentyndod cynnar unedig, gyda hawliau plant ar y brig? A allwn roi diwedd ar y gwahaniaeth rhwng addysg a gofal? Hyd yn oed gyda'r darparwyr amrywiol hyn, a allwn roi diwedd ar y gwahaniaeth hwnnw? Oherwydd mae gormod ohono allan yno. A gawn ni sefydlu cwricwlwm clir, sydd hefyd yn briodol i oedran ac sydd hefyd â chwarae yn ganolog iddo, mewn ffordd sy'n briodol i oedran, ond cwricwlwm clir fel bod cysondeb ymhlith yr holl ddarparwyr? A gawn ni roi'r dull unedig o weithredu addysg a gofal plentyndod cynnar o dan un adran unedig—rwy'n gofyn y cwestiwn—un Gweinidog, heb ei rannu ar draws adrannau'r Llywodraeth? Ac a gawn ni ddod â'r bylchau yn y ddarpariaeth addysg a gofal plentyndod cynnar i ben? Ni allwn wneud y cyfan dros nos. Nid ydym ond traean o'r ffordd i mewn, sy'n golygu bod gennym ddwy ran o dair o'r ffordd i fynd o'r degawd hwn i'w newid mewn gwirionedd. A dywedaf hyn fel cyn-Weinidog a gafodd y fraint o ymdrin â hyn am y cyfnod byr iawn y bûm yn Weinidog. Roedd gennyf swyddogion gwych a oedd yn gwneud llawer o waith ar hyn. Mae'n dechrau digwydd, gadewch inni fynd yr holl ffordd. 

16:00

Fel rhywun nad yw'n Aelod o'r pwyllgor, hoffwn wneud cyfraniad byr. Rwy'n fam sengl i ddau fachgen ac rwy'n gweithio, ac felly roeddwn eisiau dweud cymaint rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ymchwilio i hyn. Hoffwn ddiolch i Jenny a'r pwyllgor am wneud hyn yn flaenoriaeth, oherwydd nid yn unig y mae'n rhywbeth sydd wedi cael effaith arnaf fi, mae hefyd yn rhywbeth sy'n effeithio ar lawer iawn ohonom ledled Cymru. Mae gennyf brofiad uniongyrchol a gwn beth yw'r heriau y mae rhieni sy'n gweithio yn eu hwynebu o un diwrnod i'r llall. 

Dewisais gymryd ychydig flynyddoedd i ffwrdd o'r gwaith gyda fy mhlentyn cyntaf fel mam sengl, a fy newis i oedd hynny. Ond fe'i cefais yn anodd iawn dychwelyd at waith—er nad oedd hynny oherwydd diffyg ymdrech neu awydd—o ran y cymorth gyrfa a oedd ar gael, ac yn amlwg y cymorth gofal plant, gydag arian yn brin ar y pryd. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ymchwilio i'r mathau hyn o rwystrau a phopeth yr ydych wedi'i gasglu ar hyn mewn gwirionedd. Rwyf hefyd eisiau croesawu, gyda fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, y gofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed. Mae mor bwysig fod gennym ofal plant sy'n fforddiadwy, yn hyblyg ac yn hygyrch i bawb. Fel y dywedwyd eisoes, yn y blynyddoedd cynnar hynny, mae cefnogaeth yn gwbl hanfodol. 

Yn ogystal ag edrych yn briodol ar y lleoliadau gofal plant eu hunain, mae'n amlwg fod y pandemig wedi dangos bod gweithio rhithwir yn arf mor ddefnyddiol i bobl â phlant ond hefyd y rhai sydd eisiau dychwelyd at waith ar ôl cael plant. Dylwn ddatgan buddiant fel cynghorydd sir yn sir Fynwy. Fel cyn-gynghorydd, roeddwn eisiau, ar y pryd, fel y gwnaeth cynghorydd o fy mlaen, ar ôl cael plentyn—. Fe wnaethom ofyn a gaem ymuno â'r Siambr yn rhithwir, a dywedwyd wrthym fod hynny'n rhy anodd ar y pryd. Ac eto fisoedd yn ddiweddarach, tarodd y pandemig ac roeddem i gyd yn rhithwir o fewn eiliadau, neu roedd yn ymddangos felly. Felly, nid oedd fy mhroblemau i, ein problemau ni a'n rhwystrau ni, yn ddigon pwysig. Dyna'r argraff a gefais. Dyna'r math o agwedd yr ydym yn ei hwynebu, a dyna beth y mae angen inni ei oresgyn. Credaf fod angen inni ddysgu o'r pandemig a sylweddoli, mewn amgylchiadau esgusodol, y dylai gofalwyr sydd â phlant neu berthnasau oedrannus allu ymuno'n rhithwir lle bo angen yn awr, yn enwedig fel cymorth i ddychwelyd at waith ar ôl cael plentyn. Fel y mae'n digwydd, roeddwn yn y Siambr bythefnos wedyn beth bynnag, ond roedd gennyf rieni cefnogol iawn. Nid wyf yn gwybod sut y mae pobl yn ymdopi os nad oes ganddynt rieni cefnogol yn byw gerllaw, a'r rhwydwaith cymorth hwnnw, yn enwedig os nad oes gennych lawer o arian, fel o fy nghwmpas i yn sir Fynwy, fel y nodwyd yn awr, i fforddio'r lleoliadau gofal plant preifat drud iawn at ei gilydd.

Felly, nid yw'r rheini ond yn ychydig o'r pethau yr oeddwn eisiau tynnu sylw atynt, ond credaf y gallem osod esiampl a chywair o fewn y Senedd hon ei hun. Yn 2003 rwy'n credu, pan oeddwn yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf, addawyd y byddai gennym crèche yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fel y bydd y Gweinidog wrth eich ochr, Jane Hutt, yn gwybod. Roedd y gymhareb menywod a dynion yn y Siambr yn 50:50, a chydnabuwyd bod angen inni gefnogi ein rhieni a'n gofalwyr gyda phobl ifanc yn dod i mewn i wleidyddiaeth. Câi ei ystyried yn un o'r rhwystrau i lawer o bobl a oedd yn dod i weithio ym myd gwleidyddiaeth, na allent ei wneud gyda phlant bach, ac mae'n rhywbeth y mae angen inni ei oresgyn. Rwy'n credu ei bod yn wrthun, pan ddeuthum yn ôl ym mis Gorffennaf 2020 yn disgwyl gweld crèche yma, nad oedd un i'w gael. Rwy'n credu bod hynny'n wendid, ac mae angen inni osod esiampl a cheisio sefydlu crèche yma'n fuan iawn. Mae 20 mlynedd wedi bod ers i'r Llywodraeth Lafur hon ei addo gyntaf, ac mae'n siomedig nad yw wedi digwydd. Felly, hoffwn gael eich barn ar hynny os gwelwch yn dda, Weinidog. Diolch yn fawr iawn. 

16:05

A gaf i ddiolch i weddill y pwyllgor am eu gwaith, ac i'r sefydliadau hynny ddaeth i roi tystiolaeth i ni fel rhan o'n gwaith? 

Diolch hefyd i Sam Rowlands am ymuno â ni. Gofal plant yw'r rhwystr a nodir amlaf i fenywod sy'n gweithio. Mae'n gost enfawr i deuluoedd sy'n gweithio, ac mae'n rhwystr i rieni sy'n awyddus i ailymuno â'r gweithlu, fel y clywsom gan Laura Anne. Mae hynny cyn ichi ystyried cymhlethdod y trefniadau a'r meini prawf cymhwysedd y mae angen i rieni a gofalwyr lywio drwyddynt, fel y mae Jenny Rathbone, ein Cadeirydd, eisoes wedi nodi. 

Mae'n wych clywed ystod mor eang o gyfraniadau o'r Siambr, ond roeddwn am ganolbwyntio ar un argymhelliad, sef argymhelliad 2, sef mynd i'r afael â’r bwlch mewn gofal plant rhwng diwedd absenoldeb mamolaeth a chymhwystra ar gyfer y cynnig gofal plant. Mae'r cyfnod hwnnw rhwng y cyfnod mamolaeth a thair oed yn allweddol i blant. Mae mynediad at ofal plant o ansawdd da i bob plentyn, beth bynnag fo'u cefndir, yn hanfodol os ydym am greu dyfodol mwy disglair i bob plentyn yng Nghymru. 

Ar hyn o bryd, mae costau a chymhlethdod y trefniadau rhwng naw mis ac oedran ysgol yn anfantais i lawer o deuluoedd. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynnig gofal plant ar hyn o bryd, rhaid i bob rhiant ar yr aelwyd fod yn gweithio ac yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn. Felly, gallai plentyn y mae gan ei rieni incwm blynyddol cyfun o £99,999 fod yn gymwys, ond nid yw plentyn o deulu rhiant sengl nad yw’n gweithio, neu deulu dau riant lle nad yw un neu’r ddau riant yn gweithio, yn gymwys. Ni all hyn fod yn iawn. Mae chwiliad cyflym o feithrinfeydd dydd ar hyn o bryd ar draws fy rhanbarth yn dangos bod y prisiau oddeutu £800 i £1,000 y mis. Mae tystiolaeth gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dangos bod rhagor o ddarpariaeth dysgu a gofal plant blynyddoedd cynnar yn gwella cyrhaeddiad plentyn mewn blynyddoedd diweddarach, gyda gwelliant parhaus mewn canlyniadau gydol oes ym maes iechyd, cyflogaeth ac addysg.

Hoffwn ailadrodd y galwadau y mae fy mhlaid wedi'u gwneud yn yr etholiad, a'r rhai a wnaed hefyd gan Chwarae Teg, am ofal plant am ddim i bob plentyn o enedigaeth hyd at bedair oed, ni waeth beth fo statws cyflogaeth eu rhieni. Credaf y byddai hyn yn trawsnewid bywydau rhieni a gofalwyr a'n heconomi, a dylai fod yn ddyhead sydd gan y Llywodraeth hon ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Gorau po gyntaf y byddwn yn cydnabod bod gofal plant, absenoldeb â thâl i rieni a gofalwyr a buddsoddiad mewn teuluoedd yn fuddsoddiad yn ein heconomi a'n dyfodol. Fel y clywsom, mae'n bwysig hefyd fod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael gwell mynediad at ofal plant. Yn olaf, rwy'n croesawu'r adroddiad hwn yn fawr, ac rwy'n ddiolchgar am y gwaith y mae pawb ohonom wedi gallu ei wneud. Rwy'n gobeithio y gallwn gadw'r dyhead i bob plentyn a theulu gael gofal plant am ddim o ansawdd da er mwyn creu Cymru fwy cyfartal, mwy addysgedig, mwy iach, mwy brwd a mwy diddorol, a mwy gweithgar yn economaidd. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn ogystal â phawb yr ymgynghorodd y pwyllgor â hwy i allu llunio'r adroddiad hwn. Fel Aelod o'r pwyllgor, roeddwn eisiau dweud pa mor hanfodol yw hi ein bod, fel cymdeithas, yn blaenoriaethu gofal plant ac yn sicrhau nad oes neb yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol neu benderfyniadau cyflogaeth yn seiliedig ar oblygiadau system gofal plant anghyfartal.

Rhaid imi ddatgan hefyd fy mod yn croesawu'r newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ymestyn mynediad at ofal plant i blant tair a phedair oed i rieni mewn addysg a hyfforddiant, yn ogystal â'r rhai sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu, ac edrychaf ymlaen at symud ymlaen ar y cytundeb cydweithio, sy'n mynd i ddarparu gofal plant i blant dwyflwydd oed. Ond ni allwn ddianc rhag y ffaith ei bod yn hen bryd i hyn ddigwydd. I lawer o rieni, mamau yn aml, myfyrwyr, rhai ar incwm isel, rhai mewn swyddi ansicr, gofal plant yn aml yw'r un mater mwyaf sy'n llywio eu penderfyniadau ar sut i symud ymlaen gyda'u cyflogaeth, a'r dewisiadau bywyd a wnânt. Rwy'n falch fod yr adroddiad yn cydnabod hyn. Mae etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cysylltu â mi'n aml gyda straeon gan rieni nad ydynt yn gwybod pa gymorth sydd ar gael, sydd wedi teimlo'n gaeth gyda'r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd. Dyna pam, fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, ac fel a nododd fy nghyd-Aelodau, fod yn rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod gwybodaeth am y ddarpariaeth gofal plant yn cael ei chyfathrebu i rieni yn yr un modd ag y mae gwasanaethau eraill.

Mae hyn yn fy arwain at argymhelliad arall, ar lenwi'r bwlch rhwng diwedd cyfnod mamolaeth a'r cynnig gofal plant presennol. Mae Chwarae Teg, Ymchwil Arad a'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod wedi dod â'r profiadau hyn i galon ein hadroddiad, yn ogystal ag ymgysylltu'n uniongyrchol â darparwyr gofal plant. Y realiti ariannol i lawer o rieni yw eu bod yn gorfod cwtogi ar waith am na allant fforddio gofal plant, neu weithio i ariannu lleoliad eu plentyn mewn feithrinfa. Rydym wedi bod yn sôn am ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru, y DU a'r byd gorllewinol ers dros 50 mlynedd. Yn aml, caiff ei drafod fel pe bai gofal plant cyffredinol yn rhyw fath o baradwys, rhywbeth na ellir byth ei gyflawni, ond nid yw hyn yn wir. Rhaid i Gymru weithredu i sicrhau bod gofal plant yn wasanaeth sydd yr un mor hygyrch i bawb. Mae Asiantaeth Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Sweden yn dangos, os ydym o ddifrif am sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, fod yn rhaid inni fwrw ymlaen â sefydlu pileri'r system honno. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau gan y Gweinidog am eu safbwyntiau ar beth yw ein nod yn y pen draw, a sut y gallwn gyrraedd y nod hwnnw, a'u barn ar y gofal plant am ddim i bawb fel y nododd Sioned Williams a'r dull unedig a nodwyd gan Huw Irranca-Davies.

Rwyf am orffen fy nghyfraniad drwy dynnu sylw at un argymhelliad olaf a nodwyd yn yr adroddiad, sef argymhelliad ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal plant. Roedd ein gweithwyr proffesiynol gofal plant ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, ac maent yn gorfod wynebu gwaith ansicr a chyflog isel. Ar hyn o bryd rydym yn gwybod bod cynnydd yn nifer yr achosion o COVID yn ein cymunedau; mae'r meithrinfeydd yn cael eu taro'n galed gan hyn, gyda chymaint o blant yn gorfod aros gartref. Euthum i ymweld â chanolfan blant Corneli yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, ac nid oedd 10 o blant yn bresennol oherwydd COVID. Roeddwn hefyd eisiau dweud bod ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu, a'r gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau datblygiad a hapusrwydd cenedlaethau'r dyfodol, yn rhagorol. Felly, mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu gyda gwaith diogel, cydnabyddiaeth gyrfa a chyflog teg. Diolch.

Hoffwn rannu rhai o fy mhrofiadau fy hun fel mam i dri a oedd â rolau gwirfoddol yn y sector fel ysgrifennydd pwyllgor cylch chwarae a chodwr arian i dynnu sylw at pam fod mynediad at ofal plant mor bwysig i rieni sy'n gweithio.

Ar ôl i fy mhlentyn cyntaf gael ei eni—ac mae hyn yn mynd yn ôl ychydig flynyddoedd, pan oedd pethau'n haws—euthum yn ôl i fy swydd mewn swyddfa, ond roeddwn yn gwario'r rhan fwyaf o fy nghyflog ar ffioedd meithrinfa. Pan oedd gennyf ddau o blant yn dilyn cyfnod mamolaeth, roedd yn rhaid i mi roi'r gorau i fy swydd yn y swyddfa gan fod gofal plant yn rhy ddrud, ac euthum i weithio mewn siop gyda'r nos pan fyddai fy ngŵr yn dod adref o'r gwaith. Wedyn, bûm yn gweithio mewn tafarn ac yn gwneud rownd Avon am nifer o flynyddoedd. Pan gefais fy nhrydydd plentyn, roeddwn yn ffodus oherwydd roedd yn ystod y cyfnod cyn y credyd cynhwysol, cyn y toriadau i nawdd cymdeithasol, ac roedd gennym gredyd treth plant a chredyd treth gwaith o hyd, a olygai, gydag £80 ychwanegol yr wythnos at gyflog fy ngŵr, y gallwn fforddio treulio rhywfaint o amser gartref gyda fy mhlant ifanc am gyfnod byr, nes imi ddechrau mynd yn ôl i weithio ar sail ran amser, ac yna'n amser llawn, er y byddai'n rhaid i mi fynd â fy mhlentyn ieuengaf gyda mi weithiau.

Roedd hwnnw'n gyfnod anodd, ond roeddwn yn ffodus, oherwydd gyda chredyd cynhwysol, toriadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol a chostau byw cynyddol, nid yw'r opsiwn hwnnw ar gael mwyach i gynifer o deuluoedd. I'r rhan fwyaf o bobl, mae cael plant a chydbwyso incwm yn anodd, gan fod y rhan fwyaf o deuluoedd yn dibynnu ar ddau gyflog. Mae gofal plant yn rhy ddrud, a gall neiniau a theidiau, a allai fod wedi helpu ar un adeg, fod yn gweithio eu hunain, fel roedd fy mam, neu'n byw'n rhy bell i ffwrdd. Ar ôl i'r plant gyrraedd tair a hanner a phedair blwydd oed a chael gofal plant am ddim mewn cylch chwarae neu feithrinfa ysgol, roedd yn gymaint o ryddhad—carreg filltir i mi ddychwelyd i'r gwaith.

Efallai y bydd rhai'n dweud na ddylem gael plant os na allwn eu fforddio, ond nid wyf yn credu fy mod erioed wedi gallu fforddio fy mhlant ac rwy'n falch o bob un ohonynt a'r hyn y maent wedi'i gyflawni, gan roi'n ôl i gymdeithas. Ac nid yw'n syndod fod gostyngiad pryderus yn y cyfraddau geni erbyn hyn, rhywbeth a fydd, os na fyddwn yn ei ddatrys, yn achosi problemau yn y blynyddoedd i ddod, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a neb i dalu trethi neu ofalu amdanynt. Mae'n ganlyniad i galedi ariannol, ansicrwydd a phryder cyffredinol am y dyfodol. Cododd y gyfradd enedigaethau yn ystod Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, diolch i addysg feithrin am ddim, gofal plant, credydau treth, a 3,500 o ganolfannau plant Cychwyn Cadarn. Dechreuodd y gyfradd enedigaethau blymio eto yn 2012, sef yr adeg y dechreuodd y toriadau cyni didostur a oedd wedi'u targedu at blant. Roedd nifer y babanod a anwyd yn 2019 wedi gostwng cymaint â 12.2 y cant o'i gymharu â 2012, gyda gostyngiad pellach o 4 y cant dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Heb gartref diogel a sicrwydd o fwyd ar y bwrdd, nid yw pobl yn meiddio cael babanod. 

Pan oeddwn ar bwyllgor y cylch chwarae, bu'n rhaid inni godi arian, gan nad oedd y swm a dalai rhieni a chyllid gan y Llywodraeth ar gyfer gofal plant am ddim yn ddigon i dalu cyflogau, llogi cyfleusterau, yr yswiriant, y deunyddiau. Ac yn union fel ysgolion cynradd, mae'n rhaid iddynt hefyd lynu wrth gwricwlwm ac arolygiadau'r cyfnod sylfaen. Mae'n rhaid prynu deunyddiau a theganau dysgu arbennig, rhaid darparu byrbrydau iach amrywiol—i gyd am gost ychwanegol.

Fel ysgolion, mae cylchoedd chwarae hefyd yn cael eu harolygu gan Estyn. Yn aml, telir isafswm cyflog i oruchwylwyr cylch chwarae am wasanaeth sydd bellach, oherwydd cwricwla ac arolygiadau, yn gofyn am sgiliau a hyfforddiant arbennig. Rwy'n cofio weithiau y byddai goruchwylwyr y cylch chwarae'n mynd heb gael eu talu am ychydig nes i'r arian ddod i law, a chofiaf weithiau ein bod yn arfer ceisio talu eu cyflogau hefyd, ni ein hunain yn bersonol. Mae'n rhaid i'w rôl yn awr gynnwys cynllunio, arsylwi ac asesu, a rhaid iddynt gadw at anghenion unigol plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial, sy'n iawn, ond dylent gael eu talu am hynny. Mae'n rhaid sicrhau bod hyn i gyd ar bapur at ddibenion archwilio ac mae'n rhaid i adroddiadau gael eu hysgrifennu.

Gan fod gofyniad cyfreithiol bellach i ysgolion recriwtio staff i gadw at y gymhareb 1:8, mae llawer o oruchwylwyr cymwysedig yn gadael cylchoedd chwarae i symud i ysgolion lle mae'r cyflog a'r amodau gwaith gymaint yn well. Felly, mae cadw staff sydd â chymwysterau addas bellach yn broblem fawr, yn syml iawn oherwydd na all cylchoedd chwarae fforddio rhoi'r gydnabyddiaeth ariannol y maent yn ei haeddu i'w staff. Mae cylchoedd chwarae'n chwalu oherwydd na all staff fforddio gweithio am gyflogau mor isel am y cyfrifoldeb sydd ganddynt mwyach. Mae angen inni fod yn well am gydnabod y gwaith pwysig y mae'r aelodau staff hyn yn ei wneud.

Rwyf wedi gweld dogfennau a strategaethau'n datgan bod plant ifanc yn dechrau mewn ysgolion meithrin gyda sgiliau cyfathrebu gwael, a pha mor bwysig yw hi iddynt fynychu cylchoedd chwarae, a hefyd pa mor bwysig yw hi i addysg drwy'r cyfnod sylfaen ddechrau cyn gynted â phosibl, yn ddwyflwydd a hanner hyd yn oed, ond nid oes cyllid i gefnogi hyn.

Mae ysgolion yn dweud cymaint haws yw hi i blant sydd wedi bod mewn cylch chwarae ac i athrawon gan eu bod eisoes wedi cael eu dysgu i gadw tegannau, i ddewis drostynt eu hunain, ac wedi cael rhywun yn dangos iddynt sut i wneud yr holl bethau hyn. Maent gymaint yn fwy parod ar gyfer yr ysgol, ac mae hynny yn ei dro yn cynorthwyo athrawon i symud ymlaen gyda'r cyfnod sylfaen.

16:15

Iawn, diolch ichi. Mae'n wych fod Llywodraeth Cymru eisiau ariannu plant dwyflwydd oed i fynychu lleoliadau gofal plant o ansawdd uwch, ond cytunaf â chanfyddiadau'r adroddiad na fydd ond yn effeithiol os gall y lleoliadau aros ar agor a bod y cyllid yn ddigonol i dalu cyflog byw gwirioneddol i staff. Diolch.

Diolch, ac yn gyntaf hoffwn ddiolch i'r pwyllgor ac i'm cydweithwyr yn fan hyn am gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig hon.

Credaf fod hon wedi bod yn ddadl gwbl wych, ac mae wedi bod mor dda clywed gan bawb a phrofiadau personol pobl a'r ymrwymiad mawr a ddangoswyd yn y Siambr hon a chan y pwyllgor i ehangu gofal plant a chydnabod ei bwysigrwydd, oherwydd credaf na ddylai lle'r ydych yn byw na'r amgylchiadau y cewch eich geni iddynt benderfynu eich dyfodol. Mae angen inni fod â dyheadau uchel ar gyfer pob plentyn a theulu yng Nghymru, a gwyddom fod mynediad at addysg a gofal cynnar o ansawdd uchel yn amhrisiadwy i blant, ac yn enwedig i'r rheini o gymunedau mwy difreintiedig. A sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael cefnogaeth o ansawdd uchel, a'r addysg a gofal cynnar a gânt, yw'r allwedd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, fel y dywedodd Jenny Rathbone yn ei chyflwyniad i'r ddadl.

Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi canolbwyntio'n gryf ar blant. Mae Llywodraethau olynol wedi rhoi hawliau ac anghenion plant yn uchel ar yr agenda, o benodi Comisiynydd Plant Cymru, y cyntaf yn y DU, i arwain ar hyrwyddo chwarae plant a chyflwyno cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweld gwerth plant a phobl ifanc Cymru ac mae wedi ymrwymo i wneud Cymru'n lle gwych i dyfu i fyny ynddo. Ac yng Nghymru mae gennym ddarpariaeth gofal plant ragorol ar draws y blynyddoedd cynnar a chynnig addysg gynnar hirsefydlog ac uchel ei barch i blant tair a phedair blwydd oed. Ac mae ein hagwedd at addysg a gofal plentyndod cynnar yn adeiladu ar y sylfeini hyn, ac yn ganolog iddo, mae'r nod y bydd pob plentyn yn cael profiad dysgu a gofal ysgogol o ansawdd uchel mewn unrhyw leoliad addysg a gofal y byddant yn ei fynychu, yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Mae'r math o leoliad y maent yn ei fynychu yn amherthnasol os ydynt yn cael eu cefnogi a'u meithrin yn ôl yr angen. Ac mewn ymateb i gyfraniad Huw Irranca-Davies, rwy'n hyderus ein bod yn symud tuag at ddyfodol pan fydd pob plentyn ledled Cymru yn gallu manteisio ar brofiadau gofal plant a chwarae ysgogol, cyffrous a buddiol, a bydd hyn yn galluogi eu teuluoedd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gynigir iddynt. Felly, rydym ar y daith honno tuag at addysg a gofal plentyndod cynnar y gwn ei fod, fel Gweinidog, yn gefnogol iawn iddo pan oedd yn y rôl hon, ac yn ddiweddarach yn yr haf, byddwn yn cyhoeddi disgrifiad manylach o sut y byddwn yn ei gyrraedd. Ond rwyf am sicrhau'r Siambr ein bod ar y daith hon a'n bod yn credu ei bod yn un o'r pethau pwysicaf y mae angen inni ei wneud.

Cefnogi teuluoedd â chostau gofal plant yw un o'n prif flaenoriaethau, ac rwy'n falch iawn fod ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn ein cefnogi yn yr uchelgais hwn, oherwydd mae mynediad at ofal plant fforddiadwy a hyblyg yn rhan bwysig o gefnogi rhieni, a mamau yn enwedig, fel y clywsom heddiw—roeddwn yn falch iawn o glywed gan Sam hefyd—i oresgyn un o'r prif rwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio neu rhag gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, ac mae hynny wedi'i ddangos yn y ddadl hon. Oherwydd mae gofal plant ar bob ffurf yn gwneud hynny: mae'n rhoi dewisiadau i rieni, dewisiadau ynglŷn ag a allant, er enghraifft, fynd am ddyrchafiad, newid gyrfa, gweithio oriau hwy i wneud mwy o incwm yn y cyfnod ariannol cynyddol heriol hwn, oherwydd mae gofal plant yn alluogwr, mae'n helpu i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Ac yn y cyfnod ofnadwy hwn, pan fo cynifer o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd, mae gofal plant wedi'i ariannu yn elfen hanfodol yn y frwydr yn erbyn tlodi, a chredaf fod Sioned wedi sôn am yr amgylchiadau anodd iawn sy'n wynebu cynifer o bobl yma yng Nghymru heddiw, ac rwy'n ystyried bod gofal plant yn ffordd hanfodol o fynd i'r afael â'r anawsterau enfawr hynny y mae pobl yn eu profi.

Mae darparu model cymysg o ddarpariaeth sy'n addas i anghenion gwahanol deuluoedd yn heriol, ac rwy'n falch fod gennym sbectrwm eang o wasanaethau yng Nghymru i gefnogi'r gwahanol anghenion a darpariaethau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Ond rwy'n ymwybodol hefyd y gall ystod enfawr o ffactorau ddylanwadu ar yr opsiynau sydd ar gael i deuluoedd. Er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd llai cefnog, gwelwn fod llai o ddewis i rieni yn bendant ac mae angen inni wneud mwy i sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Ar ddechrau ei chyfraniad, soniodd Jenny am blant, plant anabl, sydd efallai'n cael eu symud o gwmpas rhwng gwahanol fathau o ddarpariaeth, a byddem yn amlwg eisiau osgoi hynny, ac rydym yn annog darpariaeth gofal plant ar safleoedd ysgol, ac rwy'n gobeithio y cawn gefnogaeth rai penaethiaid i barhau i wneud hynny, a hefyd mae ein grantiau cyfalaf, ein grantiau cyfalaf gofal plant, wedi ei gwneud hi'n bosibl darparu mwy o ofal plant ar safleoedd.

Hoffwn ddweud fod sawl Aelod wedi gwneud y pwynt fod llawer o bobl nad ydynt yn gwybod pa ofal plant sydd ar gael, a chredaf fod hwn yn bwynt pwysig iawn y mae'r pwyllgor wedi'i godi. Rydym yn dibynnu'n fawr ar y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd, oherwydd credwn ei bod yn dda cael yr wybodaeth mewn un man. Ac rydym yn gweithio'n galed gyda'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd i sicrhau ei fod mor eang ag y gall fod. Rydym hefyd yn gweithio gyda Cwlwm i sicrhau bod yr hyn sydd ar y wefan yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl. Felly, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, fod yn rhaid inni wybod beth sydd ar gael.

Rydym wedi ymrwymo i ariannu gofal plant i fwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant drwy ein cynnig gofal plant i blant tair a phedair blwydd oed, ac rydym hefyd, fel y crybwyllwyd lawer gwaith yma heddiw, yn ehangu gofal plant i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, rhywbeth sydd wedi'i groesawu'n fawr, ac mae hwnnw'n ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Felly, bydd cam 1 yr ehangu yn cynnwys cynnig pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg i tua 2,500 o blant ychwanegol. A bydd y plant dwyflwydd oed yn derbyn y gofal plant a ariennir. Credaf ei bod yn bwysig iawn nodi bod yr ymchwil sydd wedi'i wneud ar Dechrau'n Deg wedi dangos ei fod wedi lleihau'r bwlch, a'i fod wedi bod yn llwyddiannus iawn. A dyna pam y penderfynasom ehangu'r ddarpariaeth i blant dwyflwydd oed drwy Dechrau'n Deg, oherwydd mae'r cyfuniad o bedair elfen Dechrau'n Deg wedi pontio'r bwlch hwnnw, ac wedi'i bontio'n llwyddiannus iawn. Felly, credaf ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir i ehangu drwy Dechrau'n Deg.

Ac yn yr haf, byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau ynglŷn â sut y byddwn yn bwrw ymlaen ag ehangu Dechrau'n Deg, oherwydd mae gennym y nod o sicrhau bod pob plentyn dwyflwydd oed yn gallu cael gofal plant wedi'i ariannu yn ystod tair blynedd y cytundeb cydweithio—erbyn diwedd y tair blynedd. Ac mae'n uchelgeisiol iawn—mae'n gynllun uchelgeisiol iawn. Mae'n rhaid inni weithio mewn partneriaeth wirioneddol â'r sector i sicrhau ein bod yn cyflawni'r cynllun hwn. Rhaid inni siarad â'r holl wahanol sefydliadau sy'n ymwneud â'r sector i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn yn llwyddiannus. Ac mae llawer o olwynion cysylltiedig yn y system hon, ac rydym eisiau sicrhau mai'r gwelliannau a wneir yw'r rhai cywir i blant Cymru, a chynnig gwasanaethau sy'n cynnwys yr holl anghenion a phrofiadau.

Roeddwn yn credu ei bod yn bwysig iawn gwneud y pwynt ein bod, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol. Dyna un o'r meysydd rydym eisiau edrych arno mewn perthynas â'r sector gofal plant. Oherwydd bydd y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn cael ei gyhoeddi, rwy'n credu, ac mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma, erbyn mis Mai 2022—

16:25

—a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu camau gweithredu ar gyfer y sector gofal plant a chwarae, oherwydd credaf fod hwn yn sector hollol hanfodol. 

Felly, i gloi—credaf fod llawer o bwyntiau eraill yr hoffwn eu trafod, ond i gloi, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i ymestyn gofal plant. Credwn y dylai gofal plant am ddim fod ar gael i'r holl blant sydd ei angen yng Nghymru, ac rydym gam yn nes ar y daith honno. Diolch.

Diolch yn fawr am gyfraniadau pawb; mae wedi bod yn ddadl wirioneddol gyfoethog. Sam Rowlands, diolch am gymryd rhan yn ein hymchwiliad. Yn sicr, mae rôl bwysig i neiniau a theidiau. Os ydynt yn rhy fusgrell i eistedd ar y llawr, sef yr hyn sydd ei angen arnoch yn y blynyddoedd cynnar, mae yna rôl bwysig iawn iddynt helpu plant i ddarllen yn yr ysgol wrth gwrs. Ond mae yna rôl, mewn gwirionedd, i unrhyw un sy'n canolbwyntio ar y plentyn i weithio gyda phlant ifanc iawn.

Pwysleisiodd Sioned effaith ofnadwy'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sydd i raddau helaeth, fel y dywed Chwarae Teg, yn deillio o ddiffyg gofal plant. Ac yn amlwg, roeddech yn dadlau o blaid y safon aur, y dylem ddarparu gofal plant i bob plentyn o un oed ymlaen. A rhaid inni anelu at hynny wrth gwrs, ond mae Sweden wedi bod wrthi ers y 1970au i gyrraedd lle maent heddiw ac ni allwn ond symud ymlaen fesul cam, a bod yn onest.

Sioned, fe wnaethoch chi hefyd bwysleisio pwysigrwydd ehangu Dechrau'n Deg a holi ble y caiff ei dargedu. A fydd, er enghraifft, yn cael ei dargedu at bocedi o dlodi nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan Dechrau'n Deg, rhywbeth y gwn fod y Dirprwy Weinidog bob amser wedi bod yn canolbwyntio arno. 

Mae'n ddefnyddiol iawn clywed gan Huw Irranca-Davies, a oedd yn arfer gwneud y swydd hon yn y Llywodraeth. Wrth gwrs, y blynyddoedd cynnar iawn—. Mae plant yn dechrau dysgu o'u genedigaeth. Nid oes ond raid i chi weld y ffordd y mae'r ffotograffau'n ei ddal—y lluniau geni hyn, gyda'r plentyn yn edrych ar y fam. Cyfathrebu yw hynny a dyna pryd y mae'n dechrau. Felly, credaf fod Huw Irranca wedi gwneud pwynt pwysig iawn, sef nad oes mantais ariannol i gynnig y ddarpariaeth mewn ardaloedd difreintiedig, a dyna lle mae'n rhaid i'r wladwriaeth ymyrryd, os nad yw'r farchnad yn gweithio. Yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod y rheini sy'n chwarae rhan werthfawr iawn yn y sectorau preifat a chymunedol yn gallu ei wneud.

Laura Anne Jones—ni ddylech ymddiheuro o gwbl am gyfrannu at hyn. Nid ydym yn siarad â ni ein hunain; rydym yn siarad â'r Senedd gyfan. Mae hwn yn fater y mae angen i bob un ohonom roi sylw iddo, oherwydd mae tystiolaeth Darpariaeth Effeithiol Addysg Cyn Ysgol yn gwbl glir, a chyhoeddwyd hwnnw yn 2004: mae addysg cyn ysgol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i anfantais, a dyna y mae angen inni ei wneud. Felly, mae gofal plant i blant dan dair oed yn gwbl hanfodol.

Jane Dodds, roeddech chi hefyd yn galw am y nod pennaf, sef gofal plant o ddiwedd y cyfnod mamolaeth ymlaen, ond gan dynnu sylw hefyd at y ffaith nad yw'r cynnig gofal plant presennol yn cynnwys rhai nad ydynt yn gweithio neu lle mae gennych deulu dau riant lle nad yw un rhiant yn gweithio.

Sarah, fe wnaethoch chi gyfleu trafferthion eich etholwyr—y myfyrwyr, pobl ar gyflogau isel—y rheini y mae gofal plant yn rhwystr mwyaf iddynt, a phobl sy'n gweithio i ariannu eu gofal plant. Ac yna Carolyn Thomas—am gyfraniad gwych—eich profiad eich hun o hynny'n union, gorfod ennill digon o arian i ariannu'r gofal plant. Dyna dynged y rhan fwyaf o bobl ar enillion is na'r cyfartaledd. Yn gyffredinol, nid yw'n bosibl gweithio oni bai bod gennych neiniau a theidiau defnyddiol neu aelodau eraill o'r teulu sy'n barod i'ch cynorthwyo. A chredaf eich bod hefyd wedi sôn am frwydr y sector gwirfoddol, am orfod codi arian er mwyn talu cyflogau, talu costau, a phrynu cyflenwadau. Mae hyn mor bwysig. 

Ac yna, Julie Morgan, diolch yn fawr am groesawu ein hadroddiad. Yn amlwg, mae llawer iawn o gwestiynau heb eu hateb y bydd angen inni ddychwelyd atynt. Er enghraifft, y gofal plant i rai dwyflwydd oed—ai addysg gynnar neu ofal plant ydyw? Oherwydd mae hynny'n gwbl allweddol. O'm rhan i, credaf y dylai fod yn addysg gynnar, oherwydd dyna sy'n mynd i fod o fudd i'r plentyn ac yn y pen draw, mae tri pheth mewn gwirionedd, rwy'n credu—

16:30

Ymyriad byr iawn. Yn syml, hoffwn ddweud bod yr holl brofiad rhyngwladol yn dangos, o oedran priodol—. O oedran ifanc iawn, o naw mis ymlaen, yr hyn sydd ei angen arnoch yw’r dull unedig hwnnw sy'n dod ag addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant ynghyd. Mae hynny’n cynnwys chwarae, ond mae’r dull unedig hwnnw’n allweddol i lwyddiant a chanlyniadau.

Rydym yn cytuno. Gŵyr pob un ohonom mai dysgu drwy chwarae yw’r peth gorau oll i’w wneud, ac mai dyna’r canlyniad gorau i blant ifanc.

Ond credaf mai'r tair her y mae pob un ohonom yn eu hwynebu—. Un yw cost, yr ail yw'r angen i ganolbwyntio ar y plentyn a'r trydydd yw cysondeb y cwricwlwm ar draws pob lleoliad, lle bynnag y caiff y gofal plant ei ddarparu. Dyna’r tri pheth y mae angen inni symud ymlaen arnynt.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:35

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, cefnogi fferyllwyr. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7971 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae fferyllwyr wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, yn ogystal â'u rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd. 

2. Yn croesawu'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Clinigol Cenedlaethol newydd sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2022.

3. Yn pryderu am ganlyniadau Arolwg Lles Gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, sy'n dangos bod naw o bob 10 ymatebydd mewn perygl mawr o gael eu gorweithio a bod un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lleihau biwrocratiaeth ar frys drwy gyflwyno e-bresgripsiynau a darparu mynediad at gofnodion meddygol;

b) sicrhau amser dysgu pwrpasol wedi'i ddiogelu o fewn oriau gwaith ar gyfer lles ac astudio; 

c) buddsoddi yn y gweithlu fferyllol i hyfforddi mwy o staff fferylliaeth ac uwchsgilio staff presennol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Drwy gydol y pandemig, yn gwbl briodol wrth gwrs, rydym wedi canmol ein gweithwyr allweddol, onid ydym, a staff ein GIG am eu hymateb i COVID-19. Ond ni theimlaf fod pob un ohonom wedi cefnogi rôl fferyllwyr ddigon, a dyna pam rwy’n falch iawn heddiw o arwain y ddadl hon i dynnu sylw at y rôl bwysig y mae fferyllwyr wedi’i chwarae drwy gydol y pandemig, ac i ofyn i Lywodraeth Cymru fynd ychydig ymhellach mewn meysydd sy'n ymwneud â fferylliaeth. Mae fferyllfeydd yn haeddu diolch am y rôl hollbwysig y maent wedi’i chwarae yn ystod y pandemig wrth gwrs, yn cefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd. Maent wedi cefnogi’r broses o ddarparu brechlyn COVID-19 ledled y wlad, onid ydynt, gan helpu i roi'r pigiadau hynny ym mreichiau pobl ledled Cymru, fel y gallwn ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd, yn sgil y pandemig.

Ac nid yw rôl fferyllwyr, wrth gwrs, yn gyfyngedig i ddarparu presgripsiynau yn unig. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon, gobeithio, yn ymwybodol o hynny, ond ni fydd llawer yn sylweddoli hynny. Canfu Fferylliaeth Gymunedol Cymru—mae hwn yn ystadegyn pwysig—pe na bai fferyllfeydd wedi bod ar gael, dywedodd 53 y cant o gleifion, sy'n ffigur syfrdanol, y byddent wedi ymweld â’u meddyg teulu yn y lle cyntaf, gan arwain at dros 35,000 o ymgynghoriadau yr wythnos mewn meddygfeydd. Nawr, mae hwnnw'n ystadegyn syfrdanol, onid ydyw? Felly, i roi hynny mewn rhyw fath o gyd-destun, mae hynny'n 86 apwyntiad ym mhob un o'r 410 o bractisau meddygon teulu ledled Cymru yr wythnos. A byddai 3 y cant yn ychwanegol hefyd wedi ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys neu unedau mân anafiadau, gan arwain at gynnydd o 2,000 o apwyntiadau bob wythnos. Nawr, yn anffodus, mae fferyllwyr wedi bod o dan bwysau a straen enfawr, a chredaf nad wyf yn gor-ddweud wrth nodi eu bod yn aml iawn ar ben eu tennyn. Felly, credaf fod angen mwy o gymorth arnynt, mae angen mwy o fuddsoddiad arnynt, gan gynnwys nifer sylweddol uwch o leoedd hyfforddi.

Nawr, rwyf fi a’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol clinigol cenedlaethol a fydd yn cael ei gyflwyno ar 1 Ebrill, ac rwy’n sicr yn teimlo bod hwn yn gytundeb arloesol ac eang ei gwmpas rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru, a fydd yn cyflwyno gwasanaeth fferylliaeth gymunedol clinigol cenedlaethol. Mae'r pedwar gwasanaeth blaenoriaethol yn cynnwys galluogi pob fferyllfa i ddarparu triniaeth ar gyfer mân anhwylderau ac anhwylderau cyffredin; mynediad at bresgripsiynau rheolaidd mewn argyfwng; brechiadau ffliw blynyddol; a mathau o atal cenhedlu brys a rheolaidd. Maent oll yn gamau gwych, yn fy marn i—cam gwych tuag at leddfu a helpu i leddfu’r pwysau ar feddygon teulu a gwasanaethau’r GIG. Hefyd, teimlaf fod angen cyfathrebu'n glir gyda'r cyhoedd yma—dyna sydd ei angen arnom—ynghylch y newidiadau. A chredaf y bydd sicrhau'r cyfathrebu clir hwnnw’n galluogi cymunedau i fynd ati'n syth bin i ddefnyddio’r system newydd hon. Felly, credaf fod angen inni gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd i’r eithaf. Bydd hynny, yn ei dro, wrth gwrs, yn arwain at fanteision mawr yn gyflym iawn o ran lleddfu’r pwysau ar feddygfeydd meddygon teulu a gwasanaethau iechyd. Ac enghraifft dda yma, rwy'n credu, er tegwch i’r Gweinidog yma, yw ymgyrch 'Helpwch ni i’ch helpu chi' y GIG. Mae’n enghraifft dda iawn yn fy marn i o’r math hwn o ymgyrch godi ymwybyddiaeth. Felly, credaf mai dyma sydd ei angen arnom yn yr achos hwn.

Ac er mor wych y bydd neu y gallai'r gwasanaeth newydd fod, credaf fod angen inni fynd i'r afael o hyd â'r ffaith bod y gweithlu fferyllol o dan bwysau aruthrol. Nid yw ffigurau Cymru gyfan ar gyfer bylchau yn y gweithlu fferyllol yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn. Fodd bynnag, cyn y pandemig, canfu Addysg a Gwella Iechyd Cymru fod nifer y swyddi gwag yr adroddwyd amdanynt mewn fferylliaeth gymunedol ar gyfer pob swydd yn 354 o staff cyfwerth ag amser llawn, neu 652 o staff fesul y pen, sy'n rhoi cyfradd gymedrig o 7 y cant o swyddi gwag ar draws y swyddi cyfwerth ag amser llawn. Felly, credaf ei bod yn dorcalonnus clywed, onid yw, fod un o bob pedwar o ymatebwyr mewn fferyllfeydd cymunedol wedi dweud na chawsant gynnig seibiannau gorffwys, a bod dros hanner yr ymatebwyr mewn fferyllfeydd ysbyty yn dweud eu bod yn cael cynnig seibiannau, ond eu bod yn aml yn methu eu cymryd. Felly, rwyf fi a fy nghyd-Aelodau o reidrwydd yn bryderus iawn am hyn, ond yr hyn yr ydym yn ei ddweud yn benodol yw nad yw hyn bob amser yn ymwneud â chyflogau, mae hyn hefyd yn ymwneud ag amodau staff hefyd. Ac o ran hynny, credaf fod staff sydd wedi’u gorweithio yn mynd i fod yn gadael y proffesiwn a mynd i rywle arall. Felly, credaf fod cadw staff yn amlwg yn bwysig iawn yn hyn o beth.

Felly, mae'n rhaid inni roi i staff ym maes fferylliaeth hefyd, mae'n rhaid inni roi'r amser a'r lle sydd ei angen arnynt i ddysgu, wrth gwrs, a datblygu. Ac mae angen inni hefyd eu cefnogi drwy well gwasanaethau iechyd meddwl. Maent o dan bwysau aruthrol, ac yn amlwg o dan bwysau sylweddol yn sgil y baich ychwanegol a achosir gan COVID-19, ac felly rwy'n credu bod y cymorth iechyd meddwl ychwanegol i gefnogi’r staff hefyd yn hollbwysig.

Felly, mae fferyllfeydd yng Nghymru yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi’r gymuned, ond yn aml, cânt eu llyffetheirio gan fiwrocratiaeth ddiangen, nad yw’n digwydd mewn rhannau eraill o’r DU. Rwyf bob amser yn ymwybodol pan fydd pobl yn dweud, 'Rhaid lleihau biwrocratiaeth', ond beth y mae hynny'n ei olygu? 'Rhowch enghraifft', byddaf bob amser yn dweud. Felly, dyma fy enghraifft: mae'n syfrdanol nad yw'r gallu i rannu cofnodion meddygol yn rhywbeth sydd ar gael fel mater o drefn yng Nghymru. Byddai hynny nid yn unig yn rhyddhau amser gwerthfawr i fferyllwyr a meddygon teulu, ond hefyd yn darparu gofal buddiol wedi’i deilwra i gleifion. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno e-bresgripsiynu—ac mae'r Gweinidog yn nodio; roeddwn yn edrych am eiliad. Felly, rwy'n croesawu hynny’n fawr, ond wrth gwrs, mae’r ffaith y gallai gymryd tair i bum mlynedd yn rhy araf. Credaf fod angen inni fod yn gyflymach ar hynny.

Ac wrth gwrs, ceir meysydd eraill y mae angen inni ganolbwyntio arnynt hefyd yn cynnwys—. Wel, os oes gennym e-bresgripsiynu, bydd hynny'n lleihau camgymeriadau wrth roi meddyginiaeth, wrth gwrs—problem enfawr arall—ac yn lleihau, felly, yr effaith o ran derbyniadau i'r ysbyty hefyd. Felly, mae fferyllfeydd wedi cynnal y genedl, wedi ein cefnogi ni yng Nghymru yn ystod y broses o ddarparu brechlynnau COVID, maent wedi ein helpu i roi pigiadau ym mreichiau pobl ledled Cymru fel y gellir dychwelyd at ryw fath o fywyd normal. Maent wedi helpu i leihau ymweliadau â meddygfeydd ar adeg o bwysau sylweddol arnynt hwy a'r gwasanaeth iechyd. Felly, credaf ei bod yn bryd gwneud fferyllfeydd yn un o bileri canolog gofal iechyd.

Nid oes unrhyw welliannau wedi’u cyflwyno i’n cynnig heddiw, sy’n arwydd, gobeithio, y bydd y Llywodraeth a’r holl Aelodau yn cefnogi ein cynnig heddiw. Credaf imi weld y Gweinidog yn nodio yno hefyd. Felly, os yw hynny'n wir, rwy'n falch iawn ynglŷn â hynny, a boed i'r ymagwedd honno barhau. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynllun synhwyrol er lles cleifion a fferyllwyr, ac er mwyn y GIG yn ei gyfanrwydd. Diolch yn fawr.

16:40

Diolch am y cyfle i wneud ychydig o sylwadau yn y ddadl yma, a na, dydyn ni ddim wedi cynnig gwelliannau, oherwydd mae yna set o egwyddorion yn fan hyn dwi'n siŵr y gallem ni i gyd eu cefnogi. Mae fferylliaeth wrth galon ein gwasanaethau iechyd ni. Mae'n gorfod bod, ond nid felly mae hi wastad wedi cael ei weld. Yn rhy aml, dwi'n meddwl bod fferylliaeth, a fferylliaeth gymunedol yn arbennig, wedi cael ei gweld fel rhywbeth ymylol. Pwysig, wrth gwrs, ond yno o bosib i gefnogi'r prif wasanaethau iechyd yn hytrach na bod yn rhan greiddiol o'r gwasanaethau hynny. A rydyn ni'n mynd drwy broses o fynnu newid diwylliant ar hyn o bryd, dwi'n credu, o ran sut mae pobl yn ymgysylltu â'u gwasanaethau iechyd nhw, ac mae o'n rhywbeth dwi wirioneddol yn credu yn angerddol ynddo fo. Ac mae'n rhaid inni lwyddo i newid y diwylliant yma, ni i gyd fel unigolion a chymdeithas drwyddi draw, os ydyn ni am greu gwasanaeth iechyd sydd yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ac un o'r newidiadau ydy mynd drwy'r swits yma o bobl yn teimlo eu bod nhw angen gweld doctor. Mae llawer o bobl yn gorfod gweld doctor, ond bod pobl yn mynd o'r meddylfryd hwnnw yn hytrach i, 'Sut gallaf i gael y gofal iechyd mwyaf priodol i fi neu fy nheulu?' Ac mae dyrchafu rôl y fferyllydd, ein fferyllfeydd ni o fewn ein cymunedau ni, a galluogi pobl i droi at fferyllydd yn gyntaf efo mwy a mwy o anhwylderau yn rhan allweddol o hynny.

Ac mae'r ffaith bod gennym ni y gwasanaeth fferylliaeth gymunedol clinigol cenedlaethol newydd yn dod i rym yr wythnos yma yn rhywbeth dwi'n ei groesawu yn fawr.  Mae gennym ni fframwaith rŵan sydd yn mynd i, gobeithio, wthio'r agenda yma yn ei blaen, gwthio'r newid diwylliant, ond mae yna lawer mwy, wrth gwrs, sydd angen ei wneud, ac un o'r pethau sydd angen eu gweld yn digwydd rŵan ydy mwy fyth o addysgu pobl—ni i gyd yn eu plith nhw—ynglŷn â sut i newid y ffordd rydyn ni'n meddwl am ein gwasanaethau iechyd ni. Mae'r Llywodraeth wedi buddsoddi yn y cynlluniau cyfathrebu o gwmpas y newid sy'n dod i rym yr wythnos yma, ond dwi'n credu bod yna lawer mwy y gellir ei wneud hefyd.

Ac mae'n rhaid mynd drwy nifer o gamau hefyd, er mwyn cyd-fynd â chyflwyno'r newidiadau'r wythnos yma a sicrhau go iawn fod fferylliaeth wrth galon pob clwstwr gofal sylfaenol yng Nghymru, sicrhau ein bod ni rŵan yn delifro'r newidiadau digidol y mae fferylliaeth a gofal sylfaenol eu hangen. Dwi'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ddigidol, ac yn ein cyfarfod ni amser cinio heddiw, iechyd a gofal oedd ein testun ni, ac mae yna awch rŵan i allu sicrhau bod ein gwasanaethau ni, yn cynnwys fferylliaeth, yn gallu defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Does yna ddim synnwyr yn yr unfed ganrif ar hugain, chwarter ffordd i mewn i'r unfed ganrif ar hugain, fod yna gymaint o ddarnau o bapur presgripsiynau yn dal yn hedfan o gwmpas yr NHS yng Nghymru. Mae o'n rhywbeth dwi'n cywilyddio ynddo fo, mae'n rhaid i fi ddweud, a dwi'n meddwl bod y Gweinidog hefyd.

Ac un o'r ffactorau eraill mae'n rhaid eu gwneud, ac mae'r cynnig heddiw yn adlewyrchu hynny, ydy'r buddsoddi sydd ei angen yn y gweithlu. Mae'r arolwg lles mae'r cynnig yn cyfeirio ato fo yn bryderus tu hwnt ynglŷn â'r gwendidau sydd yna o fewn y gweithlu ar hyn o bryd. Mae'n rhaid buddsoddi yn y gweithlu hwnnw. Mae'n rhaid inni, fel ydyn ni'n cael coleg meddygol newydd yng Nghymru, gael ysgol fferylliaeth newydd yng Nghymru hefyd er mwyn sicrhau'r llif o bobl drwy'r system sydd yn mynd i fod yn rhan mor ganolog o fferylliaeth wrth galon gofal sylfaenol yng Nghymru.

16:45

A ydych yn cytuno â mi, Rhun, mai gwaith Llywodraeth Cymru yw sicrhau y gallwn fuddsoddi yn y gweithlu hwnnw a sicrhau bod mwy o bobl yn dod yn fferyllwyr drwy gynnig gradd-brentisiaeth i’r llwybr fferylliaeth, a bod hynny’n rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru geisio ei wneud ar fyrder?

Byddwn yn sicr yn cytuno â hynny fel awgrym. Hoffwn feddwl am ein holl weithwyr iechyd a gofal fel prentisiaid cyflogedig mewn rhyw ffordd, yn dysgu crefft y byddant yn gallu ei defnyddio, boed hynny fel meddyg neu weithiwr gofal neu fferyllydd o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Mae’n rhaid inni fod yn arloesol yn y ffordd y ceisiwn gryfhau ein gweithlu.

Dwi'n gallu gweld bod yr amser wedi fy nghuro fi. Mae'n dda gweld cytundeb ar hwn heddiw, ond un peth ydy cael cytundeb ar set o egwyddorion, peth arall ydy gweld y Llywodraeth yn delifro ar y pethau hynny sydd wir yn mynd i wneud fferylliaeth yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Efallai y bydd yn syndod i’r Aelodau ar ôl ddoe, ond byddaf yn cefnogi’r cynnig, ac rwy'n croesawu'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod a agorodd y ddadl heddiw, efallai ei fod yn rhoi'r drol o flaen y ceffyl os yw'n meddwl na fydd unrhyw welliannau i ddadleuon yn y dyfodol yma. Ond ar gefnogaeth drawsbleidiol, gallaf weld bod yr Aelodau dros Breseli Sir Benfro a Gorllewin De Cymru wedi bod yn siop deis y blaid Lafur y prynhawn yma, felly, yn ysbryd cefnogaeth drawsbleidiol, byddaf yn sicr yn cefnogi'r ddadl hon heddiw. [Chwerthin.]

Dywedodd yr Aelod a agorodd y ddadl, Russell George, rai pethau da iawn yn ei sylwadau agoriadol, yn enwedig ar gyfathrebu. Mae angen cyfathrebu. Rydym wedi gweld enghreifftiau o gyfathrebu gwael yn y gwasanaeth iechyd yn ddiweddar, ac mae angen inni sicrhau bod hyn yn cael ei gyfathrebu’n well, fod y gwasanaeth newydd hwn yn cael ei gyfathrebu i holl drigolion Cymru. Soniodd hefyd am e-bresgripsiynu, fel y gwnaeth Rhun ap Iorwerth, ac mae’n rhaid imi gytuno, mae tair i bum mlynedd yn rhy araf. Mae’n rhy araf, ac mae'n rhaid inni wneud mwy i fynd i’r afael â hynny.

Mae bob amser yn bleser ymweld a chyfarfod â fferyllwyr ar draws Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rwyf wedi ymweld â llawer ohonynt yn ystod fy amser fel Aelod o’r Senedd, ac edrychaf ymlaen at ymweld â llawer mwy ohonynt, gan fod arnom ddyled fawr i fferyllwyr a staff mewn fferyllfeydd ledled Cymru am y gwaith a wnaethant drwy gydol y pandemig, ond hefyd y gwaith y maent yn parhau i’w wneud hefyd.

Mae’r cynnig yn nodi, yn gwbl glir, yr ystadegau ysgytwol sy'n peri gofid o’r arolwg a gynhaliwyd mewn perthynas â llesiant. Rwyf am ddarllen dau o'r ystadegau yno—mae un yn y cynnig—fod naw o bob 10 o ymatebwyr mewn perygl mawr o gael eu gorweithio, a bod saith o bob 10 wedi nodi bod eu gwaith neu eu hastudiaethau wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant. Mae hon yn sefyllfa na all barhau. Mae’r effaith a gaiff ar lesiant yn risg ddifrifol i’r gweithwyr hyn ac i’w teuluoedd hefyd, ac i ddyfodol ein gwasanaethau fferyllol yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae hyn hefyd, onid yw, yn codi pryderon ynghylch diogelwch cleifion hefyd. Weinidog, yn anochel, gall gweithio oriau hir heb gymryd seibiant corfforol neu feddyliol arwain at gynyddu camgymeriadau wrth ddarparu cyffuriau ar bresgripsiwn, ac wrth gwrs, materion eraill sy'n ymwneud â diogelwch cleifion.

Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog ymateb i’r pwyntiau penodol hynny: sut y gallwn fynd i’r afael â gorweithio. Wrth gloi, rwyf am ddweud fy mod yn cytuno â James Evans ar ei argymhelliad mewn perthynas â gradd-brentisiaethau. Mae hyn yn rhywbeth y dylem fod yn edrych arno'n llawer ehangach, ond yn sicr yn y gwasanaeth fferyllol, ac os gall y Llywodraeth gefnogi hynny, byddwn yn croesawu pe gellid rhoi sylw i hynny yn eich ymateb i’r ddadl heddiw. Ond diolch i’n holl fferyllwyr a’n holl staff fferyllol, a diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig heddiw. Diolch yn fawr.

16:50

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau, Russell a Darren, yn amlwg, am gyflwyno’r ddadl hon heddiw.

Mae fferyllfeydd wedi chwarae rhan hanfodol yn ystod y pandemig, ac maent wedi bod yn hanfodol, fel yr amlinellwyd eisoes, wrth gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd. Maent wedi cefnogi'r gwaith o ddarparu brechlyn COVID-19 ledled y wlad, gan helpu i roi pigiadau ym mreichiau pobl fel y gallai’r Deyrnas Unedig ddychwelyd at normalrwydd a symud ymlaen o’r pandemig cyn gynted â phosibl. Yn bwysig iawn, fel yr amlinellwyd eisoes—a chredaf fod hon yn rôl gwbl hanfodol—maent wedi lleihau nifer yr ymweliadau â meddygfeydd meddygon teulu. Maent wedi chwarae rhan enfawr yn hynny, yn enwedig yn ystod y pandemig, ar adeg o bwysau sylweddol ar y GIG, fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod, Russell George, yn gynharach gyda'r ystadegau a gawsom ganddo.

Ac fel y dywedodd Russell hefyd, rwyf wedi gweld â fy llygaid fy hun y gwaith y maent wedi'i wneud, ac fel y dywedodd Russell, maent yn chwarae rhan enfawr yn lleddfu'r pwysau ar feddygon teulu, ac mae mor hanfodol, fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi'i amlinellu, fod gennym ymwybyddiaeth o beth yn union y maent yn ei wneud a'r holl rolau y maent yn eu chwarae. Maent yn gwneud cymaint. Gyda Russell Goodway, prif weithredwr Fferylliaeth Gymunedol Cymru, ymwelais â Fferyllfa Evans yng Nghwm-carn yn fy rhanbarth i, ac roeddwn—. Daeth yn amlwg iawn pa mor gwbl hanfodol yw’r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu yn y gymuned honno. Trafodais hefyd effaith y pandemig a’r rolau cynyddol bwysig y mae fferyllfeydd yn eu chwarae yn eu cymunedau. Fodd bynnag, fel y dywedodd Jack Sargeant eisoes, rydym bellach yn gweld fferyllfeydd o dan lawer iawn o straen, a rhai ar ben eu tennyn. Canfu arolwg diweddar gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol fod naw o bob 10 o ymatebwyr wedi cyrraedd pen eu tennyn. Yn amlwg, ni all hyn barhau. Mae iechyd meddwl, fel y gŵyr pob un ohonom, yn hollbwysig, ac mae arnom angen cymorth a buddsoddiad priodol wedi’i dargedu gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth.

Dechrau da fyddai cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer fferyllwyr yn sylweddol, eu cefnogi, i lenwi’r nifer fawr o swyddi gwag a welwn yn ymddangos ledled Cymru, ac fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod, James Evans, credaf fod gradd-brentisiaethau ar eu cyfer yn syniad gwych. Nid yn unig fod angen inni weld mwy o fferyllwyr hyfforddedig yma yng Nghymru, ond mae fferyllwyr Cymru hefyd yn wynebu lefelau uwch o fiwrocratiaeth nag unman arall yn y DU, ac mae’n rhaid iddynt ymdopi â’r dechnoleg fwyaf sylfaenol, rhywbeth a welais hefyd ar fy ymweliad. Bûm yn gweithio mewn fferyllfa ym Mrynbuga amser maith yn ôl, yn dosbarthu cyffuriau i bobl—y math iawn. [Chwerthin.] Nid y rhai 'hwyl'. Ond gwelais yn uniongyrchol yno eu bod yn dal i ddefnyddio peiriannau ffacs. Hynny yw, roedd yn chwerthinllyd yn yr oes sydd ohoni.

Felly, y dechnoleg, mae gwir angen i honno newid. Ond nid yw e-bresgripsiynu, fel y dywedwyd eisoes, a rhannu cofnodion meddygol, er enghraifft, yn rhywbeth sydd ar gael fel mater o drefn yma yng Nghymru. Mae i'w groesawu'n fawr, ymrwymiad y Llywodraeth i hynny, fel yr amlinellwyd gan fy nghyd-Aelodau, ond mewn cyferbyniad, mae Lloegr a'r Alban wedi bod yn e-bresgripsiynu ers mwy na degawd. Mae'n drueni fod Llywodraeth Cymru mor bell ar ei hôl hi yn hynny o beth, ac rwy'n ailadrodd y galwadau gan Russell George y dylid cyflymu hynny. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu moderneiddio ein fferyllfeydd a dod â hwy i mewn i’r unfed ganrif ar hugain. Yn lle hynny, mae gennym hen system fiwrocrataidd sydd dan bwysau mawr. Yn syml, mae ein fferyllwyr a’n cleifion yn haeddu gwell. Mae ein cymunedau angen ein fferyllfeydd lleol. Diolch.

16:55

Dwi am ganolbwyntio ar un elfen o'r cynnig, sef e-bresgreibio. Mae dadlau am systemau technoleg gwybodaeth o fewn iechyd yn un o'r pethau anacronistaidd yma, onid ydy? Mae'r sector iechyd yn torri tir newydd yn ddyddiol bron efo technoleg, ond eto mae systemau IT yn dal i fodoli yn chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Mae rhai meddygfeydd yn parhau i fod yn ddibynnol ar beiriannau ffacs. Rŵan, os dwi'n sôn am ffacs i'm mhlant, fydd ganddyn nhw ddim syniad am beth dwi'n sôn. Yn wir, fuasen nhw'n rhoi row i fi am regi, siŵr braidd.

Laura Anna Jones ynghynt yn sôn bod Lloegr a'r Alban wedi cyflwyno system e-bresgreibio 10 mlynedd yn ôl. Ddaru Denmarc gychwyn e-bresgreibio yn ôl yn y 1990au. Danfonwyd yr e-bresgripsiwn cyntaf yn Sweden yn ôl yn 1983, ac mae nifer o wledydd eraill yn gweithredu e-bresgripsiwn yn llwyddiannus.

Dwi am dalu teyrnged yma i'r gwaith rhagorol y mae Fferyllwyr Llŷn yn ei wneud yn Nwyfor Meirionnydd. Mae Fferyllwyr Llŷn wedi braenaru'r tir droeon. Fe glywsom ni'n ddiweddar am y loceri presgripsiwn sydd wedi cael eu cyflwyno gan Fferyllwyr Llŷn. Fe wnaethon nhw fraenaru'r tir efo rhoi presgripsiynau ar gyfer afiechydon eu hunain, gan dynnu pwysau sylweddol oddi ar meddygfeydd a'u rhyddhau nhw i ganolbwyntio ar achosion mwy dwys. Ac, wrth gwrs, Fferyllwyr Llŷn oedd y fferyllfa gyntaf i ddarparu brechlynnau COVID. Mae yna ddywediad yn y Saesneg, necessity is the mother of invention, ac mae hynny'n sicr yn wir am gymunedau gwledig. Ac mae ein cymunedau gwledig ni yn aml wedi gorfod ffeindio ffyrdd amgen a gwell o weithredu, fel rydym ni wedi'i weld efo Fferyllwyr Llŷn.

Yn yr un modd felly, mae Fferyllfa D Powys Davies ym Mlaenau Ffestiniog, sy'n rhan o Fferyllwyr Llŷn, eisoes wedi dechrau ar broses o ddigideiddio eu presgripsiynau, gan ddangos bod y broses fewnol honno yn gwneud pethau'n fwy llyfn i'r claf ac yn well i'r fferyllfa. Ond mae o hefyd wedi arwain at lai o gamgymeriadau wrth i gleifion gasglu eu meddyginiaeth a gwell rheolau safonol—quality control. Mae hyn yn ganolog i'r alwad am e-bresgreibio. Yn wir, yn ôl yr ymchwil gan Brifysgol Rhydychen, daw 17 y cant o ymweliadau ysbyty yn sgil camgymeriadau meddyginiaethol, ac mae tua eu hanner yn rhai y gellir fod wedi'u hosgoi. Mae'r ddadl, felly, dros amddiffyn iechyd pobl efo rhoi e-bresgripsiynau yn amlwg, ond mae angen system ganolog er mwyn gwneud y mwyaf o'r dechnoleg sydd gennym ni.

Mae COVID a'r newidiadau cymdeithasol anferthol sydd wedi dod i'n rhan yn sgil yr haint yma—. Yn sgil hyn, mae'n hen bryd ein bod ni'n gweld trosglwyddo'r gallu i bresgreibio i fod yn un digidol wrth i bobl weithio adref, yn cynnwys meddygon, a'u bod nhw'n methu gwneud eu gwaith adref ar hyn o bryd. Neu, yn wir, os ydych chi'n mynd ar eich gwyliau i rhywle, buasech chi'n medru pigo presgripsiwn i fyny mewn dinas arall heb orfod mynd i'ch fferyllfa adref. Ystyriwch ni yma'n bresennol heddiw. Dwi'n gorfod dod i lawr o'r gogledd yma i Gaerdydd. Os buaswn i'n gorfod casglu fy mhwmp asthma, buaswn i'n gallu gwneud hynny yma yng Nghaerdydd heb orfod mynd adref. Felly, mae yna rinweddau amlwg.

Ond, dwi am orffen efo un rhybudd. Rydym ni wedi clywed eisoes fod yna obaith i gael e-bresgripsiwn o fewn y dair neu'r bum mlynedd nesaf, sydd i'w groesawu—dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymhelaethu ar hyn—ond i'w wneud o'n iawn, mae angen sicrhau eich bod chi'n ei wneud o mewn cydweithrediad llawn efo fferyllfeydd cymunedol. Mae yna berygl, wrth gwrs, i hyn wthio mwy a mwy o fferyllfeydd ar-lein ac wrth ein bod ni'n cael mwy o e-bresgreibio ar-lein, fod fferyllfeydd ar-lein felly yn buddio o hyn. Nid yn unig y byddai hyn yn berygl i hyfywedd fferyllfeydd cymunedol, ond byddai hyn hefyd yn torri'r cyswllt personol, sydd yn angenrheidiol yn aml, wrth i fferyllwyr adnabod y mwyafrif o'r cwsmeriaid a chleifion yn eu cymuned. Mae'r cyswllt yna am barhau i fod yn bwysig. Felly, wrth ddatblygu'r systemau newydd, mae'n rhaid ichi wneud hynny mewn cydweithrediad llawn efo'r fferyllfeydd cymunedol, gan sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn ganolog i'r broses o rannu meddyginiaeth. Dwi'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud o ran pa ymgynghoriadau mae hi wedi eu gwneud efo fferyllfeydd cymunedol i sicrhau eu bod nhw'n ganolog i'r broses honno. Diolch.

17:00

Mae'n bleser cymryd rhan yn ein dadl y prynhawn yma. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl fferyllwyr cymunedol am y gwaith anhygoel a wnaethant ac y maent yn parhau i'w wneud yn ystod y pandemig a thu hwnt. Gwaethygodd dyfodiad COVID ar y glannau hyn y problemau sydd wedi bod yn wynebu gofal sylfaenol ers blynyddoedd. Yn syml, nid ydym wedi bod yn hyfforddi digon o feddygon teulu i ddiwallu anghenion iechyd a gofal Cymru. Diolch byth, mae fferyllwyr wedi gallu llenwi'r bwlch a thynnu pwysau nid yn unig oddi ar ofal sylfaenol ond gofal eilaidd hefyd, ac mae fferyllwyr ledled Cymru yn gallu ymdrin ag anhwylderau cyffredin ac ymholiadau am feddyginiaeth bresgripsiwn. A diolch i'r ymgyrch Dewis Doeth, mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o'r rôl y mae fferyllwyr yn ei chwarae yng ngofal iechyd y genedl.

Mae ein fferyllfeydd cymunedol rhagorol yn arbed degau o filoedd o apwyntiadau meddygon teulu bob wythnos ac yn dargyfeirio miloedd o bobl o ddrysau ein hadrannau damweiniau ac achosion brys a mân anafiadau. Maent hefyd wedi chwarae rhan hanfodol wrth ymdrin â COVID-19. Nid yn unig eu bod wedi darparu cyflenwadau hanfodol o brofion COVID, masgiau a hylif diheintio, mae nifer wedi helpu hefyd drwy ddarparu brechlynnau. Yn ystod yr haf, cefais y pleser o ymweld â Fferyllfa Rowlands yn fy nhref enedigol ym Mhrestatyn. Yn ogystal â'u gwasanaethau arferol, gweithredodd Rowlands fel canolfan frechu i'r gymuned hefyd, gan adeiladu ar eu harbenigedd sylweddol yn darparu'r brechiad ffliw blynyddol. Fe wnaethant helpu i sicrhau bod trigolion Prestatyn yn cael eu brechiad COVID, ac nid oes amheuaeth gennyf y byddant yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o roi pigiadau atgyfnerthu COVID yn y dyfodol, gan ei bod yn debygol iawn y bydd angen pigiadau blynyddol arnom. 

Yn anffodus, bydd y straen ar ofal sylfaenol yn parhau i frathu, a hynny i raddau helaeth oherwydd bod y gweithlu'n heneiddio. Bydd y galwadau ar ein fferyllfeydd cymunedol yn parhau i gynyddu. Fodd bynnag, mae ein fferyllfeydd yn wynebu eu problemau eu hunain gyda'u gweithlu. Yn fy mwrdd iechyd lleol i yn unig, Betsi Cadwaladr, ceir dros 152 o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn. Mae hynny'n cyfateb i un swydd wag ym mhob fferyllfa ar draws y gogledd. Mae'r pwysau y mae hyn yn ei roi ar staff yn aruthrol, ac yn ôl cyrff y diwydiant, mae tua 90 y cant o'r staff mewn perygl o gael eu gorweithio. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o flaenoriaeth i hyfforddi a recriwtio fferyllwyr cymunedol. Rhaid iddynt hefyd fynd i'r afael â rhwystrau i weithio'n ddoethach. Nid yw symud at e-bresgripsiynu, sydd wedi'i grybwyll ychydig o weithiau yn ystod y ddadl hon hyd yma, ymhen tair i bum mlynedd yn ddigon da, yn enwedig pan fydd gennym feddygon teulu'n dal i ddefnyddio padiau presgripsiwn papur a pheiriannau ffacs, fel y dywedodd yr Aelod dros Ddwyfor Meirionydd, yn y gwasanaeth iechyd gwladol.

Cafodd y rhan fwyaf o wledydd eraill y DU wared ar y pad presgripsiwn hynafol gan ffafrio presgripsiynu electronig dros ddegawd yn ôl, ac mae cyfeiriad hyd yn oed at e-bresgripsiynu i'w weld mor bell yn ôl â'r 1990au yn Nenmarc. Mae'n dangos sut rydym ar ei hôl hi yn hynny o beth. Mae ymddiriedolaeth GIG yn Birmingham newydd gwblhau'r gwaith o gyflwyno eu meddalwedd presgripsiynu electronig a gweinyddu meddyginiaethau ail genhedlaeth. Wedi'i adeiladu ar dechnoleg cwmwl, mae'n rhoi mynediad hawdd a diogel i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol at gofnodion cleifion a meddyginiaethau. Mae'r ymddiriedolaeth yn gwasanaethu poblogaeth debyg i Gymru, ac maent eisoes yn symud eu gwasanaeth e-bresgripsiwn i'r cwmwl, ond mae ein hun ni'n dal i fod yn freuddwyd gwrach yng Nghymru. Rydym yn ddigon bach i fod yn hyblyg hefyd, ond fel gyda phopeth yn y sector cyhoeddus, mae'n cael ei orgymhlethu gan fiwrocratiaeth a meddylfryd seilo. Nid oes ond raid inni edrych ar gyflwyno'r gwasanaeth 111 i gael syniad o'r angen dybryd i foderneiddio ein gofal iechyd. Os ydym o ddifrif yn gwerthfawrogi ein gwasanaethau fferylliaeth gymunedol a gofal cleifion, rhaid inni fynd i'r afael â hyn yn awr. 

Yn gyntaf, hoffwn ategu sylwadau Aelodau eraill wrth gydnabod y cyfraniad eithriadol y mae fferyllwyr wedi'i wneud yn ystod y pandemig COVID. Heb eu hymrwymiad a'u parodrwydd i gadw eu drysau ar agor, byddai ein gwlad wedi dioddef llawer mwy ac yn ddi-os byddai mwy o fywydau wedi'u colli yn sgil COVID-19. Credaf y byddai pawb yma'n cytuno bod yr ymddiriedaeth sydd gennym yn ein fferyllwyr yn deg, ac ni ddylem ofni ehangu eu rôl yn y sector gofal iechyd, yn enwedig cyflwyno'r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol glinigol a gallu fferyllwyr i bresgripsiynu meddyginiaeth yn annibynnol ar gyfer anhwylderau cyffredin. Rwy'n croesawu, ac rwy'n gwybod bod trigolion yn fy rhanbarth yn croesawu fferyllfeydd cymunedol oherwydd mae'n cynyddu gallu rhai cleifion i gael gofal priodol yn well heb fod angen ymweld â meddyg teulu. Er bod hyn yn fanteisiol er mwyn tynnu pwysau oddi ar rannau eraill o'r system gofal iechyd, mae hefyd yn golygu y gellir addasu gwasanaethau fferyllol yn well o amgylch anghenion cleifion, ac yn eithaf arwyddocaol, mae timau fferylliaeth yn rhyngweithio mwy â chleifion, sy'n golygu bod dealltwriaeth cleifion o'r meddyginiaethau y maent yn eu cymryd yn gwella. 

Dyma lle yr hoffwn fynd ar ôl fy mhwynt cyntaf. Yng Nghymru, gwelsom gynnydd sylweddol yn y defnydd o opioidau, sef dosbarth o gyffuriau, fel y gwyddom i gyd, a geir ym mhlanhigyn y pabi opiwm, sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn fel arfer ar gyfer lleddfu poen ac maent yn gaethiwus iawn. Efallai na fydd rhai ohonoch yma'n ymwybodol, ond mae presgripsiynu opioidau wedi cynyddu 30 y cant ar gyfartaledd yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gyda bron i 1.6 miliwn o eitemau opioid yn cael eu presgripsiynu yng Nghymru ychydig cyn y pandemig. Ym Mhowys yn unig, maent wedi gweld cynnydd aruthrol o bron i 95 y cant mewn 10 mlynedd. Mae poenau parhaus, y rhoddir llawer o'r opioidau hyn ar bresgripsiwn ar eu cyfer, yn fwy cyffredin mewn ardaloedd lle y ceir mwy o amddifadedd, yn ogystal ag iselder a gorbryder, sydd i gyd yn ychwanegu at y baich poen. Er nad yw poen parhaus yn cael ei wella gan y cyffuriau analgesig hyn, ni chaiff ei wella ychwaith drwy gael gwared arnynt. Mae nifer sylweddol o bobl sy'n mynd at eu meddyg yn dioddef poen fel arfer yn anymwybodol o'r problemau niferus gyda'r cyffuriau analgesig hyn, yn fwyaf nodedig y ffaith nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn effeithiol iawn yn hirdymor. 

Gyda hyn mewn golwg, gwelaf fod y model fferylliaeth gymunedol yn gyfle mawr i'r system gofal iechyd helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd hwn yn y defnydd o opioidau. Gallai fferyllfeydd ddod yn fan cyswllt cyntaf i'r rhai sy'n dioddef poen, a gallai ddarparu llwybrau lliniaru poen eraill heb fod angen opioidau. Ac o roi hyfforddiant sylweddol ac uwchsgilio staff, gellid defnyddio fferyllfeydd cymunedol hefyd i adolygu cleifion sy'n defnyddio opioidau yn effeithiol fel mecanwaith adborth ar gyfer meddygon teulu. Gall hyn helpu'r system gofal iechyd i ddeall yn well yr effeithiau y mae opioidau yn eu cael ar gleifion. Rwy'n siŵr fod byrddau iechyd a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn gwbl abl i ganfod hyn drostynt eu hunain, felly mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod a fu unrhyw gamau gweithredol wrth asesu capasiti fferyllfeydd cymunedol i ddod yn fan cyswllt cyntaf i'r rhai sy'n dioddef poen.

Er bod gan y model fferylliaeth gymunedol botensial enfawr i ehangu i feysydd fel lleddfu poen, y pwynt nesaf yr hoffwn fynd ar ei drywydd yw mai dim ond os oes digon o fferyllwyr i ymgymryd â'r rôl y mae'n gweithio mewn gwirionedd. Deallaf fod rhywfaint o ddadlau o fewn y gymuned fferylliaeth, oherwydd dywed rhai fferyllwyr corfforaethol na allant lenwi eu holl swyddi gwag oherwydd prinder fferyllwyr, ac efallai y bydd yn rhaid iddynt leihau oriau agor neu gau fferyllfeydd. Yn wir, mae digon o fferyllwyr cofrestredig i lenwi pob rôl, a deallaf fod a wnelo'r mater hwn fwy â thelerau ac amodau annerbyniol rhai contractau fferyllol, a fferyllwyr sy'n dioddef yn sgil gorweithio, fel y soniwyd eisoes. O ystyried canlyniadau siomedig arolwg amgylchedd gwaith diogel y Gymdeithas Amddiffyn Fferyllwyr yn ddiweddar, credaf fod angen i Lywodraeth Cymru roi llawer mwy o bwysau i sicrhau bod fferyllfeydd yn cyrraedd safonau uchel o gyflog teg ac amodau gwaith teg, ac y dylai cyrraedd safonau cyflog teg ac amodau gwaith teg fod yn hanfodol os ydynt am gadw eu contractau GIG. 

Yn olaf, rwyf am fynd i'r afael â mater dosbarthu meddyginiaethau ar golled. Mewn termau real, mae fferyllfeydd wedi gweld cynnydd mawr yn eu costau, yn enwedig gyda chost cyfarpar diogelu personol, nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi ad-daliad iddynt amdano, a hefyd gyda phrisiau ynni uwch a chostau cynyddol cyffuriau. Rwy'n ymwybodol fod cost y cyffuriau hyn, megis cyffuriau gwrth-iselder penodol a chynhyrchion adfer hormonau, yn fwy na'r swm y mae'r GIG yn ei dalu i'r fferyllfa amdanynt, swm sydd wedi'i bennu ymlaen llaw. Yn anffodus, mae goblygiadau mawr i hyn, oherwydd mae'n lleihau'r arian sydd ar gael i fferyllfeydd ailfuddsoddi mewn gwasanaethau, i dalu cyflogau gwell i'w staff, ac mae hefyd yn creu posibilrwydd na fydd fferyllfeydd efallai'n gallu fforddio dosbarthu'r cyffuriau hyn, a fyddai'n cael effeithiau canlyniadol ehangach am na fydd cleifion yn gallu cael y meddyginiaethau y byddant eu hangen. Er y gall fferyllfeydd mwy o faint a mwy prysur oroesi cynnydd cyflym yn y costau, efallai na fydd practisau annibynnol llai o faint yn gallu gwneud hynny, ac mae hyn yn golygu, yn anochel, fod mwy o berygl i'r rhain gau, gan greu mwy o straen a phryder i bobl sydd eisoes yn dioddef oherwydd salwch. O ystyried sgil-effeithiau posibl dosbarthu ar golled, credaf y byddai'n werth gwybod a oes gan y Llywodraeth hon unrhyw gynlluniau i gefnogi'r fferyllfeydd hyn yn ariannol pan fyddant yn dod yn agored i gostau sylweddol uwch am gyffuriau. Diolch, Ddirprwy Lywydd. 

17:10

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig heddiw? Onid yw'n braf gallu cytuno ar rywbeth am newid? Rwy'n sicr yn croesawu'r ddadl, sy'n rhoi cyfle, ac sydd wedi rhoi cyfle, i holl Aelodau'r Senedd gofnodi ein cydnabyddiaeth o gyfraniad timau fferyllol drwy gydol y pandemig. Mae hefyd yn rhoi cyfle i mi nodi'r cynlluniau cynhwysfawr sydd gennym yn Llywodraeth Cymru ar gyfer fferylliaeth gymunedol yng Nghymru. Ond hefyd hoffwn ddiolch i chi am ein helpu i godi proffil y mater pwysig hwn yn ystod yr wythnos bwysig hon, pan fyddwn yn newid y berthynas â'n fferyllfeydd cymunedol. 

Cyn i mi barhau, hoffwn gymryd eiliad i gydnabod cyfraniad sylweddol gweithwyr fferyllol proffesiynol ym mhob rhan o'r GIG. Mae timau fferylliaeth wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi miliynau o bobl, gan helpu, fel y mae cynifer wedi nodi, i gadw pwysau oddi ar y meddygon teulu a'r ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn. Maent wedi rheoli prinder meddyginiaethau, maent wedi arwain y gwaith o gyflwyno triniaethau newydd ar gyfer COVID-19, ac maent wedi defnyddio eu harbenigedd i sicrhau llwyddiant rhaglen frechu COVID ryfeddol Cymru. 

Rwy'n cydnabod yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar unigolion mewn timau fferyllol, a hoffwn ddiolch i bawb am yr ymroddiad a'r ymrwymiad a ddangoswyd i ofal cleifion yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. Deallaf fod y gweithlu wedi bod dan bwysau aruthrol. Rwy'n falch iawn y bydd ein diwygiadau cytundebol, a ddaw i rym yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn sicrhau bod fferyllwyr cymunedol yng Nghymru yn ymarfer mewn ffordd sy'n rhoi boddhad proffesiynol ac sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru. Bydd ein diwygiadau yn sicrhau ein bod yn defnyddio gwybodaeth a sgiliau fferyllwyr yn briodol. Maent yn darparu ar gyfer dull cydweithredol, arloesol a blaengar o ddarparu gofal fferyllol, gan fanteisio i'r eithaf ar sgiliau timau fferylliaeth gymunedol i ddiwallu anghenion y GIG a phobl yng Nghymru yn awr, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gobeithio. O fis Ebrill ymlaen, bydd pob fferyllfa gymunedol yng Nghymru yn gallu darparu ystod estynedig o wasanaethau clinigol sydd ar gael yn gyson, gan gynnig gwasanaethau GIG cyfleus a hygyrch i fwy o bobl yn agosach at eu cartrefi. 

Mae gorweithio'n bryder ar draws yr holl broffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym wedi ymrwymo cyllid gogyfer â chontract Cymru gyfan newydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl i'n gweithlu. Yn flaenorol câi ei alw'n Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru, ac mae bellach wedi'i ailfrandio fel Canopi. Bydd y gwasanaeth yn darparu dull teg, system gyfan o ymdrin â chymorth iechyd meddwl a llesiant, a bydd fferyllwyr, technegwyr fferyllol a staff fferyllol yn gallu cael mynediad llawn at y cymorth y mae Canopi yn ei ddarparu. Cyn imi nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi fferylliaeth gymunedol, mae hefyd yn bwysig ei gwneud yn glir nad mater i'r Llywodraeth yn unig yw datrys y materion hyn, ac rwy'n pryderu'n arbennig wrth glywed bod cynifer o weithwyr mewn fferyllfeydd nad ydynt yn cael cynnig seibiant gorffwys. Rydym yn gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed ac mae gennym weledigaeth gadarn ar gyfer fferylliaeth gymunedol. Mae'r Llywodraeth yn chwarae ei rhan, ac mae'n rhaid i gyflogwyr wneud yr un fath. Mae'r mwyafrif llethol o berchnogion fferyllfeydd yn cefnogi ein diwygiadau, gan fuddsoddi yn eu busnesau ac yn bwysig, yn y bobl y maent yn eu cyflogi. 

Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Roeddech yn sôn am y Llywodraeth yn chwarae rhan, ond rhaid i gyflogwyr chwarae rhan. Soniodd yr Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig am amodau gwaith. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o gael gwell amodau gwaith yw drwy ymuno ag undeb llafur?

Dyna'r ffordd orau o wella'ch amodau yn sicr. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r undeb fferylliaeth yn ddiweddar iawn i drafod rhai o'r union faterion hyn.

Rwyf am fod yn glir na fydd perchnogion fferyllfeydd sy'n dewis ymwrthod—a gwn am lawer, un yn fy nghymuned fy hun—yn elwa o'n diwygiadau. Ond byddwn yn parhau i wobrwyo'r perchnogion fferyllfeydd sy'n gweithio gyda ni i sicrhau gwell mynediad a chanlyniadau i bobl Cymru. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. 

Fel rhywun sy'n cynrychioli ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, maent wedi bod yn druenus am gomisiynu gwasanaethau yn y gymuned drwy fferyllwyr. A fyddech yn cytuno bod angen mwy o ddealltwriaeth ynghylch y contract fel y gellir contractio mwy o wasanaethau i fferyllfeydd, yn enwedig yn yr agenda iechyd cyhoeddus? Oherwydd os edrychaf ymhellach i'r gorllewin, gallaf weld y gwasanaethau hynny mewn fferyllfeydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, ond ni allaf ddod o hyd iddynt yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Dyna'n union yr ydym yn ei wneud. Yr wythnos hon, mae gennym fframwaith newydd, mae gennym gontract newydd, a bydd yn rhaid iddynt ymrwymo i ddarparu'r gwasanaethau hynny, a cheir rhestr gyfan o wasanaethau y maent yn cofrestru ar eu cyfer, ond mae hwn yn gontract newydd sy'n dechrau yr wythnos hon. Felly, mae hwn yn ddechrau newydd lle'r ydym i gyd yn glir ynglŷn â'r hyn y mae angen iddynt ei gyflawni, a byddant yn cael eu talu amdano. Rydym yn rhoi swm sylweddol o arian i mewn i hyn. Rwy'n gwybod ac rwyf wedi clywed—mawredd, rwyf wedi clywed—y brys ynghylch yr angen i ddarparu e-bresgripsiynu, a gwn eich bod yn gwybod fy mod yn awyddus iawn i weld hyn yn cael ei gyflwyno. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei arwain gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ac mae cynnydd yn cael ei wneud ar draws pedwar maes e-bresgripsiynu, a chyhoeddwyd yr adolygiad hwnnw y llynedd, gan gynnwys ar gyfer gofal sylfaenol. Mae ein cynlluniau—a gallaf eich sicrhau—yn gwneud yn siŵr fod y gwaith o ddigideiddio presgripsiynau yn cael ei gynnwys ym mhob lleoliad gofal sylfaenol, gan gynnwys fferylliaeth gymunedol. Ac rwy'n disgwyl i gynllun peilot, gyda meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol, ddechrau'n fuan iawn, a gallaf eich sicrhau fy mod yn gwneud popeth yn fy ngallu i gyflymu'r broses. Y ffactor cyfyngol, mae arnaf ofn, yw sgiliau, ac nid problem i ni'n unig yw hi. Rwy'n gwybod—. Er enghraifft, mae fy mrawd yn bennaeth TG yn Sony; maent yn cael trafferth recriwtio pobl sydd â'r sgiliau technoleg. Felly, nid diffyg ymrwymiad ydyw, na diffyg arian. Mae'n ymwneud â sut rydym yn recriwtio mwy o bobl gyda'r sgiliau, ac yn amlwg mae angen inni wneud llawer mwy o waith i sicrhau y gallwn recriwtio'r bobl iawn gyda'r sgiliau hynny, ond nid yw'n rhywbeth y gellir ei wneud dros nos.

Rŷn ni'n cydnabod pa mor bwysig yw hi i sicrhau bod amser dysgu y gweithlu fferylliaeth yn cael ei ddiogelu. Trwy weithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rŷn ni wedi ariannu cynlluniau peilot amser dysgu wedi'i ddiogelu ar gyfer fferyllwyr cymunedol eleni. Bydd y gwaith o werthuso'r rhain yn cael ei gwblhau yn ystod y misoedd sydd i ddod, a bydd canlyniad y gwaith hwn yn dylanwadu ar y trefniadau ar gyfer y dyfodol.

Yn olaf, o ran datblygu'r gweithlu fferylliaeth, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae Cymru eisoes yn cael ei chydnabod fel lle gwych i fferyllwyr hyfforddi, byw a gweithio. Yma yng Nghymru mae'r gyfradd lenwi uchaf ar gyfer swyddi fferyllwyr dan hyfforddiant a'r gyfradd lwyddo uchaf mewn arholiadau cofrestru ar gyfer fferyllwyr cyn-sylfaen dros y Deyrnas Unedig i gyd.

Er nad ydyn nhw'n rhan o'r trefniadau cytundebol ar gyfer fferyllfeydd cymunedol, rŷn ni'n gweithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau bod pethau'n gwella. Rŷn ni wedi sicrhau bod yr hyfforddiant a'r cyfleoedd datblygu sydd wedi eu cynllunio ganddyn nhw yn cyd-fynd yn agos â'n diwygiadau cytundebol ni. Yn benodol, bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn darparu cyfleoedd i fferyllwyr cymunedol hyfforddi fel presgripsiynwyr annibynnol. Bydd cyfleodd hefyd i dechnegwyr fferyllfa cyn cofrestru fanteisio ar hyfforddiant prentisiaeth fodern bob blwyddyn o 2022-23 ymlaen, felly dwi'n gallu cydnabod hynny, bod prentisiaethau eisoes yn dod i rym, ond dwi yn meddwl ei fod e'n werth edrych i mewn i a ydy e'n bosib gweld prentisiaethau gradd yn y maes yma.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol ar gyfer yr hyfforddiant hwn. Cynigir hyd at £3,000 ar gyfer pob fferyllydd, a bydd £2,000 ar gael ar gyfer pob technegydd fferyllfa. Ac rŷn ni hefyd yn buddsoddi mewn gwasanaethau er mwyn cefnogi'r gwasanaethau a'r hyfforddiant hwn.

Bydd cyllid ar gyfer gwasanaethau presgripsiynau annibynnol mewn fferyllfeydd cymunedol yn cynyddu o £1.2 miliwn i £4.2 miliwn o fis Ebrill eleni. Bydd hyn yn cefnogi ein gwasanaeth cenedlaethol newydd ar gyfer presgripsiynau annibynnol gan fferyllwyr. Felly, gobeithio y byddwch chi'n gweld y newid yna yr oeddech chi eisiau ei weld yn eich cymunedau achos y cytundeb newydd yna.

17:15

Dwi'n falch fy mod i'n gallu derbyn y cynnig heddiw, ac yn cyd-fynd â'r uchelgais hynny, dros y tymor hir, i gael sefyllfa lot gwell yn ein fferyllfeydd ar draws Cymru.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau yn gyntaf drwy ddiolch i Aelodau o bob rhan o'r Siambr heddiw am wneud cyfraniadau gwych i'n dadl bwysig a chydnabod y rôl eithriadol y mae fferyllfeydd a fferyllwyr yn ei chyflawni, a sut y gallwn wneud ein rhan i'w helpu i wella eu gwaith ymhellach eto, gan wneud bywydau ein trigolion hyd yn oed yn well. Fel y dywed pwynt 1 o'n cynnig, mae fferyllwyr wedi gwneud gwaith hanfodol drwy gydol y pandemig COVID-19; mae pawb yn y Siambr yma heddiw wedi cydnabod hynny. Ond nid yn unig hyn, eu rôl hanfodol yn cefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd, y tynnodd yr Aelodau sylw ato heddiw hefyd. Er bod llawer mewn cymdeithas a llawer ohonom ni yn gallu gweithio gartref, roedd fferyllwyr, lawer ohonynt, ar y rheng flaen, yn parhau i ddarparu cymorth a gofal wyneb yn wyneb i bobl a oedd ei angen ar y pryd. Ac yn ogystal â hyn, fel y mae Aelodau wedi nodi, yn enwedig Russell George ar y dechrau, ond yr holl Aelodau, roeddent ar flaen y gad yn cefnogi'r broses wych o gyflwyno'r brechlyn COVID-19 yn genedlaethol. Rwy'n siŵr fod rôl barhaus iddynt ei chwarae yn hynny yn y dyfodol hefyd.

Roedd yn braf iawn heddiw—mae llawer wedi sôn amdano—y gydnabyddiaeth drawsbleidiol i'r gwaith da hwn, a gallwn i gyd ddiolch am y gwaith anhygoel y mae fferyllwyr wedi'i wneud. Rwy'n siŵr fod pob Aelod hefyd wedi cael y pleser o ymweld â'n fferyllwyr gwych, rhywbeth y soniodd Gareth Davies amdano. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y rôl eithriadol y maent yn ei chyflawni mewn ystod eang o wasanaethau.

Felly, wrth gloi ein dadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dri mater allweddol sydd, yn fy marn i, wedi'u hamlygu a'u trafod yma heddiw. A'r cyntaf, fel yr amlinellais ym mhwynt 3 ein cynnig heddiw: mae'n amlwg fod ein gweithlu fferyllol o dan bwysau, ac yn agos at gyrraedd pen eu tennyn. Soniodd Jack Sargeant am hyn ac felly hefyd Laura Anne Jones. Arolwg llesiant y gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a ganfu fod 90 y cant o'r ymatebwyr mewn perygl mawr o gael eu gorweithio, ac yn anffodus, roedd un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Rwy'n siŵr fod Aelodau ar draws y Siambr yn cytuno bod yr ystadegau hyn yn peri pryder mawr, a dyma'r amser i gymryd camau i unioni hyn. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gydnabod hynny ac am amlinellu peth o'r gwaith a wneir i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Yr ail fater allweddol a nodwyd heddiw yw bod y gwasanaeth fferylliaeth gymunedol clinigol cenedlaethol—teitl bachog iawn—a amlinellir ym mhwynt 2 ein cynnig yn dod i rym ar 1 Ebrill. Ac ar draws pob un o'r meinciau ac wedi'i gynnwys, rwy'n credu, yng nghyfraniad Joel James, mae llawer yn gobeithio y bydd hyn yn lleddfu peth o'r pwysau sy'n wynebu fferyllfeydd a fferyllwyr ar hyn o bryd. A thynnodd Russell George sylw hefyd at y ffaith bod y gwasanaeth hwn wedi bod yn gytundeb eang arloesol rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru. Bydd y gwasanaeth hwn yn seiliedig ar bedair thema allweddol: ehangu rôl glinigol fferyllwyr cymunedol, datblygu sgiliau, ansawdd ac integreiddio o fewn gofal sylfaenol, a'r elfen ariannu hefyd a gafodd sylw gan lawer o Aelodau yn y Siambr heddiw. Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth hwn yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithlu, yn lleddfu'r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu ac yn cynyddu cyfathrebu hanfodol yn ein cymunedau.

A chredaf fod trydydd maes wedi'i nodi yma heddiw, ac mae wedi bod yn glir yn y ddadl. Fe'i hamlinellir ym mhwynt 4(a) ein cynnig, a thynnodd nifer o'r Aelodau sylw at hyn, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor, a Gareth Davies eto, am yr angen i gyflymu'r broses o gyflwyno datblygiadau technolegol yma yng Nghymru. Mae technoleg yma yn sylfaenol ar y gorau. Mae e-bresgripsiynu, rhannu cofnodion meddygol, nad yw ar gael fel mater o drefn—soniodd llawer o'r Aelodau am hynny—yn golygu bod ein fferyllwyr a'n meddygon teulu yn treulio llai o amser gyda chleifion. A thynnodd Aelodau sylw at y gwrthgyferbyniad rhwng Cymru a Lloegr, yr Alban a thu hwnt, sydd wedi bod yn e-bresgripsiynu—Lloegr a'r Alban—ers dros ddegawd, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno nad yw hyn yn iawn, a'i fod yn cael effaith negyddol ar les cleifion a staff. Ac unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am yr ymrwymiadau sy'n cael eu gwneud yn hyn o beth, a'r awydd i weld hyn yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig heddiw yn tynnu sylw at y rôl eithriadol a gyflawnwyd gan fferyllwyr yn ystod y pandemig, o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd i gefnogi'r broses genedlaethol ragorol o gyflwyno'r brechlyn COVID-19. Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych inni ddod at ein gilydd i ddathlu eu gwaith a diolch iddynt ar draws ein pleidiau. Serch hynny, mae wedi dod yn amlwg o'r ddadl heddiw fod fferyllwyr yn dal i fod o dan bwysau a straen eithafol ac mae angen gwneud mwy i leihau biwrocratiaeth, lleihau'r baich ar staff, gan arwain yn y pen draw at well gwasanaeth i'r rhai sydd ei angen. Ac yng ngoleuni hyn, rwy'n falch iawn o glywed a gweld nad yw meinciau'r Llywodraeth, Llafur, a Phlaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i'r ddadl heddiw. Rwy'n ddiolchgar am eu cyfraniadau drwy gydol hyn hefyd ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gefnogaeth drawsbleidiol. Unwaith eto, diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw, ynghyd â'r atebion ymarferol a real niferus a gafodd eu cynnig. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Unwaith eto, nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar, a gwelliant 3 yn enw Lesley Griffiths.

Item 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar domenni risg uchel, a galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7972 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:

a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;

b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;

c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;

d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Beth oedd cost glo i'r Cymoedd? Pa bris y mynnwyd bod ein pobl yn ei dalu am y cyfoeth a gymerwyd gan eraill? A ydym yn mesur y gost honno mewn cyrff a gladdwyd? A ddylid ei gyfrifo mewn bywoliaeth a gollwyd, coesau a breichau a gollwyd, ysgyfeintiau'n drwch o glefyd a llwch? Neu a ydym yn ei fesur mewn mwd a baw a godwyd o'r ddaear a'i adael i faeddu a chreithio ein nenlinell?

Ledled Cymru, mae mwy na 2,000 o domenni glo a thomenni segur—etifeddiaeth hyll, symbol grymus o'r hyn a gymerwyd oddi wrthym. Rydym wedi dod i arfer â hwy'n rhwystro ein golygfa. Ewch i bron unrhyw dref yn y Cymoedd ac fe welwch domen ar y gorwel uwch ei phen, fel ysbryd mewn hunllef. Ond ers tirlithriad Tylorstown yn 2020, y digwyddiad hwnnw a allai fod wedi bod mor drychinebus—ers y diwrnod hwnnw, rydym wedi dihuno eto i'r risg y mae'r tomenni hyn yn ei chreu. Nid dolur llygaid yn unig ydynt mwyach, ond hunllefau drws nesaf, bomiau amser tawel a allai ffrwydro unrhyw adeg.

Mae mwy na 300 o domenni yng Nghymru wedi'u categoreiddio'n rhai risg uchel. Nid ydym yn gwybod lle mae pob un ohonynt, a dyna pam y mae ein cynnig yn galw am ofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am leoliad y tomenni, er mwyn hyrwyddo ymddiriedaeth ac atebolrwydd. Cytunwn â Chomisiwn y Gyfraith y dylai'r wybodaeth hon gael ei chyhoeddi. Rydym yn galw am ddatblygu, ariannu a chyflwyno systemau rhybudd cynnar fel y gellir rhybuddio cymunedau am ddiffygion posibl mewn tomenni, yn union fel gyda thrychinebau naturiol eraill fel daeargrynfeydd. Byddai monitorau o bell a ddefnyddir i ganfod gweithgarwch folcanig a tswnamïau yn synhwyro tirlithriadau ac yn seinio rhybudd, a gallai pobl sy'n byw yn y cyffiniau gael rhybuddion ar eu ffonau symudol. Byddai'r systemau hyn yn fendith, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog yn ei ymateb i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau i gyflwyno'r systemau hyn a sut y byddent yn cael eu hariannu.

Mae ein cynnig yn sôn am adfer y safleoedd lle mae'r tomenni wedi'u lleoli, ac am yr angen am gynllun adfywio cenedlaethol ar gyfer yr ardaloedd hyn a gafodd eu hamddifadu cyhyd o fuddsoddiad neu ofal. Oherwydd nid yw dad-ddiwydiannu yng Nghymru, yn y DU, wedi dilyn y patrwm a welwyd mewn mannau eraill yn Ewrop. Yn Ffrainc a'r Almaen, cafodd diswyddiadau eu cynllunio a chynigiwyd cyfleoedd hyfforddi i lowyr mewn sectorau fel peirianneg sifil. Ond yn y DU, fel y mae un cyn uwch weithredwr Cymuned Glo a Dur Ewrop wedi'i roi, 'Nid ydynt yn edrych ymhellach na rhoi'r glöwr ar ei bensiwn'. Defnyddiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol a Llywodraeth Thatcher ddiswyddiadau i orfodi cytundeb ar gau pyllau glo, a chafodd y glowyr eu bradychu. Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r dreth y byddai diweithdra'n ei gosod ar gymunedau cyfan. A phan gaeodd y pyllau glo, aeth rhywfaint o ysbryd y trefi hyn gyda hwy, ac felly un o'r grymoedd cymdeithasol a gwleidyddol ffyniannus pwysicaf yn hanes Cymru. Diflannodd grym y glowyr bron dros nos. Oherwydd roedd glowyr gymaint yn fwy na'r hyn a wnaent o dan y ddaear. Roedd yna gyfeillgarwch, wrth gwrs, cwlwm a oedd yn rhwymo dynion gyda'i gilydd. Ond uwchben y ddaear, roedd y grymoedd hynny'n cyfoethogi'r trefi yn neuaddau'r glowyr, eisteddfodau, y llyfrgelloedd, yr ysfa am addysg a diwylliant cyfarfod neuadd y dref, i gyd dan arweiniad glowyr a'u teuluoedd. Efallai eu bod wedi gweithio o dan y ddaear, ond roedd eu golygon ar y wybren.

Yn un o'i gerddi, mae Harri Webb yn hel atgofion am y glowyr yn dod allan o'r cwbs yng ngorsaf Caeharris. Dynion, meddent, gyda 90 y cant o lwch, a allai daro C uchaf fel pe na bai erioed wedi bodoli. Yr aberth a wnaeth y dynion hynny, Ddirprwy Lywydd, yr erchyllterau a ddioddefasant, ac roeddent yn dal i ganu. 

Tan drychineb Aberfan yn y 1960au, nid oedd deddfwriaeth ar waith i ddarparu ar gyfer rheoli tomenni glo. Cymerodd y drychineb honno a marwolaeth 28 o oedolion a 116 o blant i San Steffan ystyried y cysgodion angau yr oeddent wedi'u gosod uwch ein pennau. Ond nid yw'r Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli bellach yn addas i'r diben hwn. Daeth i rym pan oedd y pyllau glo yn dal i fod yn weithredol, ac nid yw'r safonau a oedd yn ofynnol yn y 1980au a'r 1990au bellach yn addas yn oes newid hinsawdd. Nid oes unrhyw ddyletswydd i sicrhau diogelwch tomenni glo, ac nid oes gan gynghorau bŵer i ymyrryd hyd nes y ceir pryderon fod tomen yn ansefydlog. Ni ddylem fod yn aros i drychineb arall ddigwydd cyn i fesurau ataliol gael eu rhoi ar waith.

A phwy ddylai dalu'r bil? Mae San Steffan yn dadlau'n gyfleus fod hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Nid ydynt yn hoffi datganoli yno heblaw pan fydd yn eu hesgusodi rhag talu eu dyledion. Ddirprwy Lywydd, ni allwch ddatganoli'r gorffennol; ni allwch deithio drwy amser i osgoi gwirioneddau lletchwith. Gadawyd y tomenni hyn ar ôl o orffennol diwydiannol a daniodd fflyd y Llynges Frenhinol, a bwerodd y rheilffyrdd, a wnaeth ddwydianwyr Prydain yn gyfoethog ac a gadwodd y glowyr a'u cymunedau mewn tlodi. Creodd glo gyfoeth na ellir ei ddychmygu. Cafodd y cytundeb cyntaf gwerth miliwn o bunnoedd yn hanes y byd ei lunio yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yn sgil glo'r Cymoedd. Ond ni wariwyd dim ohono ym Margod nac ym Mrythdir. Roedd gan ein cymoedd gyfoeth o lo, ond pa gyfoeth a adawyd ar gyfer ein dyfodol ni? Fe wnaethant daro bargen gyda Mamon, morgeisio iechyd y glowyr a'u diogelwch i gael elw cyflym a hawdd o'r pyllau, ond nid oedd yr ad-daliad ar y morgais hwnnw yn un a dalwyd gan berchnogion pyllau glo na chyfranddalwyr. Mae y tu hwnt i reswm, i foesoldeb, i unrhyw gwestiwn o wirionedd neu wedduster i ddadlau y dylai sefydliad nad oedd yn bodoli pan oedd y dynion yn llafurio ac yn marw dalu i lanhau'r llanastr a adawodd y diwydianwyr hynny ar ôl—y llwch sy'n duo'r awyr yn yr un modd ag y tagodd eu hysgyfaint.

Rydym yn sôn am symiau sylweddol o arian, wrth gwrs. Mae'r Awdurdod Glo wedi amcangyfrif y bydd y gost o wneud tomenni'n ddiogel rhwng £500 miliwn a £600 miliwn dros y degawd nesaf. Ond a yw'n weddus ein bod yn cweryla ynghylch y taliad hwnnw? Oherwydd mae'r cymoedd hyn wedi cael cam ac wedi'u hamddifadu o barch yn rhy hir. Yn 1913—ac rwyf am orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—collodd 439 o lowyr ac un achubwr eu bywydau yn nhrychineb pwll glo Senghennydd, y trychineb glofaol gwaethaf yn hanes Prydain. Cafwyd ymchwiliad, gosodwyd cosbau, talodd y rheolwr ddirwy o £24, talodd y cwmni glofaol £10. Cyfrifwyd bod yn rhaid talu tua un swllt am bob dyn a bachgen a fu farw. Yn arian heddiw, byddai hynny'n gyfystyr â £13. Rwyf wedi ei glywed yn cael ei ddweud na chafodd gweddwon gyflog diwrnod llawn hyd yn oed am y diwrnod y bu farw'r glowyr, am eu bod wedi marw cyn i'w shifft ddod i ben. Dyma'r etifeddiaeth y soniwn amdani—y baich a roddodd glo ar ein cymunedau. Mae gan San Steffan gyfle yma i wneud un peth bach i ddileu eu dyled, na chafodd erioed mo'i thalu, y ddyled sydd arnynt i'r glowyr a'u trefi—cyfle i wneud taliad, cydnabyddiaeth, fel na ddylent fod â chywilydd mwyach o'r atgofion hynny. O ran parch, Dduw mawr, dylent fanteisio ar y cyfle hwnnw.

17:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gynnig gwelliant 3 yn ffurfiol.

Gwelliant 3—Lesley Griffiths

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn cyfrannu at y dull o reoli tomenni glo yn y dyfodol a’u hadfer, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi, cynnig hyfforddiant, uwchsgilio a sicrhau manteision ehangach.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch. Felly, dwi'n galw nawr ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Janet Finch Saunders.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod diogelwch tomenni glo yn gymhwysedd datganoledig.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi gwybodaeth am union leoliadau tomenni risg uchel;

b) gosod systemau rhybuddio cynnar ar gyfer tomenni risg uchel, lle bo hynny'n bosibl;

c) creu awdurdod goruchwylio tomenni glo newydd i sefydlu cyfundrefn ddiogelwch newydd, cynnal asesiadau risg a chynlluniau rheoli tomenni;

d) ffurfioli cytundebau rhwng perchnogion, defnyddwyr tir a'r awdurdod goruchwylio tomenni glo i weithredu mewn argyfwng.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch i Blaid Cymru. Diolch, Lywydd. Diolch, Blaid Cymru, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Yn y bôn, un pwynt yn unig yr ydym yn anghytuno yn ei gylch, sef eich bod yn mynnu mai Llywodraeth y DU sy'n darparu'r holl arian i addasu, adennill ac adfer y tomenni glo hyn.

Rwy'n siŵr fod fy nghyd-Aelodau ar y meinciau yno wedi darllen yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar reoleiddio diogelwch tomenni glo yng Nghymru, ac mae'n datgan yn glir fod diogelwch tomenni glo yn dod o dan gymhwysedd datganoledig, ac mae hwnnw'n gymhwysedd sydd wedi bod gennych yn y fan hon ers 22 mlynedd. Felly, onid yw'n eironig, er bod Plaid Cymru yn y ddadl hon yn galw ar Lywodraeth y DU i dalu am gyfrifoldeb datganoledig, mewn mannau eraill, mae Rhys ab Owen yn cwyno bod Llywodraeth y DU yn deddfu ar faterion datganoledig eraill. Mae Rhun—fy nghyd-Aelod, Rhun, o ogledd Cymru—ap Iorwerth, yn galw am ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn, ac mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn mynd ar drywydd Cymru annibynnol sy'n annichonadwy yn economaidd.

Gwn fod Plaid Cymru yn awyddus iawn i sofraniaeth Cymru fod yn eiddo i gomisiynwyr heb eu hethol ym Mrwsel, ond y gwir amdani yw mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelwch tomenni glo. A gadewch inni fod yn onest, mae cytundeb cydweithio ar waith erbyn hyn, felly rwy'n siŵr y gallwch weithio gyda'ch gilydd i geisio gwneud rhywfaint o synnwyr o'r mater hwn. Yn y bôn, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ei dyletswydd i ddod o hyd i gyllid drwy wneud dyraniad ychwanegol o £4.5 miliwn o refeniw dros dair blynedd, a chyfanswm cyllid cyfalaf o £44 miliwn i gefnogi gwaith cynnal a chadw hanfodol ar domenni glo. Ac rwy'n cytuno â Delyth Jewell yn gynharach, y peth pwysig mewn gwirionedd yw darganfod—. Credaf fod angen yr adnoddau ar awdurdodau lleol ac mae angen i bob un ohonom wybod yn union lle mae'r tomenni risg uchel hyn. Yn hytrach na gwastraffu rhagor o amser yn y Senedd yn sôn am lobïo Llywodraeth y DU i dalu, pam nad ydym yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y pleidiau i ganfod o ble y daw'r oddeutu £0.5 biliwn sydd ei angen dros y 10 mlynedd nesaf. Mae'n siŵr fod gweithio gyda Llywodraeth y DU yn ffordd ymlaen, ond unwaith eto, mae yna waith y mae angen i chi ei wneud, fel Llywodraeth Cymru, a gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi lle yn union y mae'r risg.

Er fy mod yn cytuno â gwelliant Llywodraeth Cymru, a fy mod am eich gweld yn ymgysylltu â chymunedau lleol, eironi arall yn y ddadl hon yw ei bod yn annerbyniol eich bod wedi cadw'r bobl yn eich cymunedau eich hunain yn y tywyllwch ynghylch lleoliad y tomenni risg uchel hyn. Mae angen inni hefyd weld systemau rhybuddio cynnar yn cael eu gosod lle bo hynny'n bosibl. Er bod 327 o domenni risg uchel, dim ond 70 o'r rhain sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen o dreialon technoleg, offer synhwyro a thechnegau arsylwi'r ddaear. Fe'n hysbyswyd o'r blaen fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar systemau monitro telemetrig ychwanegol ar gyfer synhwyro o bell ac mewn amser real. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddweud pa gynnydd sydd wedi'i wneud heddiw? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud faint o'r 2,456 o domenni sydd â system rybuddio ar waith. 

Yn olaf, hoffwn symud ymlaen at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gyfraith yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ymdrin â rhywfaint o hyn ddoe, ond hoffwn ailadrodd pwysigrwydd sefydlu un corff goruchwylio sy'n gyfrifol am ddiogelwch tomenni glo, ac roedd dros 90 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno â'r cynnig hwn. Fodd bynnag, rwy'n bryderus, oherwydd ddoe, gofynnais y cwestiwn hwn ac ni wnaethoch ymateb, Ddirprwy Weinidog. Felly, a wnewch chi ddweud a ydych yn cytuno i hwn fod yn gorff annibynnol newydd ar wahân? Ni fyddai'n gwneud synnwyr ei wneud yn adran o CNC, yn enwedig o gofio ei fod eisoes—CNC, hynny yw—angen tua 270 o staff ychwanegol i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd ganddo eisoes. Rwy'n gobeithio y bydd yn gorff gwirioneddol ar wahân, oherwydd os gweithredwn ar yr argymhellion, bydd ganddo ddyletswyddau pwysig a llym, megis trefnu i lunio asesiad risg a chynllun rheoli tomen ar gyfer unrhyw domen sydd wedi'i chynnwys ar y gofrestr, a dyrannu categori risg i bob tomen, yn seiliedig ar yr adroddiadau arolygu a'r asesiadau risg. 

Yn olaf, o ran y tomenni risg is, ni cheir pŵer o dan Ddeddf 1969 i sicrhau gwaith cynnal a chadw rheolaidd rhagweithiol. Roedd tua 80 y cant o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cynigion ar gyfer cytundebau cynnal a chadw tomenni, gan ddarparu ar gyfer cyflawni'r gweithrediadau a nodwyd yn y cynllun rheoli tomenni gan y perchennog. Gallai cytundebau o'r fath ysgogi a hwyluso gwaith cynnal a chadw, felly rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, a'r Aelodau yma yn wir, yn mynd ar drywydd y syniad hwn.

Nid oes gennyf amser i drafod rhagor o argymhellion yr adroddiad, ond edrychaf ymlaen at ddarllen ymateb manwl y Dirprwy Weinidog i'r comisiwn hwn maes o law. Ac rwy'n gobeithio y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd, atal y cecru, a gweithredu ar yr adroddiad ar frys a'n bod i gyd yn cydweithredu er budd ein cymunedau ledled Cymru. Maent yn haeddu hynny, a dim llai. Diolch.

17:40

Mae ein cymunedau'n haeddu cyfiawnder, ac mae a wnelo hyn ag atebolrwydd a chywiro anghyfiawnder hanesyddol. A chredaf mai'r cwestiwn i sylwadau Janet Finch-Saunders yw: pwy a ddaeth yn gyfoethog drwy lo? A dyna graidd y mater a pham ein bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i unioni'r anghyfiawnder hanesyddol. Mae'r dadleuon y sonioch chi amdanynt ynglŷn â fy nghyd-Aelodau'n cyflwyno'r pethau yr hoffem eu gweld yn cael eu datganoli yn ymwneud â dyfodol Cymru—

A fyddech yn cydnabod, serch hynny, fod gennym Lywodraethau Llafur ar yr adegau pan oedd y pyllau glo'n weithredol?

Yn sicr. Credaf y dylai unrhyw Lywodraeth allu bod yn atebol, ac mae wedi bod yn Llywodraeth y DU. Ond ar hyn o bryd, eich Llywodraeth Geidwadol chi sydd yno, ac mae ganddynt gyfle i unioni hyn.

Fel y mynegwyd mor huawdl gan Delyth Jewell, mae cymaint o’n hanes modern fel cenedl wedi ei lywio gan y chwyldro diwydiannol, pan ddaeth glo yn danwydd pwysig dros ben. Serch hynny, mae hanes cloddio am lo yn mynd nôl ganrifoedd cyn hynny, gyda’r Rhufeiniaid yn cloddio am lo ym Mhrydain. Yn wir, mae tystiolaeth o gloddio ym Mlaenafon yn mynd nôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac, yn Mostyn, mor bell yn ôl â 1261. Ond agor y pwll glo cyntaf yng Nghymru, yng Nghwm Rhondda yn 1790, oedd y foment fawr, ac, wedi hynny, trawsnewidiwyd tirlun ac economi’r ardaloedd glo wrth i filoedd heidio i fyw a gweithio yno. Ond, wrth i lo o Gymru deithio i bedwar ban byd, ac wrth i rai, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, elwa’n fawr ohono, dioddefodd ein cymunedau a’n pobl yn sgil diwydiant budr a pheryglus. A rŵan, wrth gwrs, rydym yn parhau i ddioddef y sgileffeithiau, nid yn unig yn economaidd a chymdeithasol, ond hefyd o ran y difrod a wnaed gan y diwydiant i’n hamgylchedd a arweiniodd at gynyddu carbon yn ein hatmosffer.

Fel y gwelsom yn Chwefror 2020, gyda’r llifogydd dinistriol, ardaloedd ôl-ddiwydiannol sydd erbyn hyn yn wynebu’r risg mwyaf o gael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd natur, gyda'r risg o lifogydd a thirlithriadau, megis yr hyn a welsom ym Mhendyrus, sydd yn peri pryder aruthrol. Yn wir, mae astudiaethau wedi awgrymu y bydd cynnydd o 6 y cant mewn glaw yn ne Cymru pob gaeaf erbyn 2050, rhywbeth sydd yn barod yn arwain at ansefydlogrwydd afonydd, tir, ac, yn bwysig, tomenni glo. Nid mater o ddiogelwch yn unig yw hyn, ond hefyd mater o gyfiawnder hanesyddol a chyfiawnder hinsawdd. Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig elwa ar fanteision y diwydiant glo, gan rwygo cyfoeth o’r cymunedau hyn oedd yn ganolog iddo, gan wedyn eu taflu i’r neilltu.

Nid pobl o'r Rhondda ac ardaloedd eraill y maes glo a elwodd ac eto maent yn parhau i gael eu heffeithio'n negyddol heddiw. Un enghraifft yn unig yw tomenni glo o'r chwerwedd a adawyd ar ôl gan y diwydiant glo a sut na all ein cymunedau ddianc rhag hyn tra'u bod yn parhau i fyw yn eu cysgod. Ni allaf ddeall, fel llawer o rai eraill rwy'n siŵr, fod hwn yn fater sy'n parhau gyda ni heddiw, yn enwedig yn dilyn arswyd yr hyn a ddigwyddodd yn Aberfan. Mae'r ffordd na ddaethpwyd o hyd i arian cyn yn awr i sicrhau diogelwch ein pobl a rhoi tawelwch meddwl iddynt yn anghredadwy.

Mae adfer a rheoli'r tomenni hefyd yn darparu cyfleoedd, gydag adroddiad Comisiwn y Gyfraith a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cyffwrdd ar y rôl y gall addysg ei chwarae yn cyfrannu at atebion i fater tomenni segur. Nodwyd bod problemau wedi bod gyda cholli arbenigedd yn y maes, a bod y prinder gweithwyr proffesiynol profiadol yn debygol o waethygu, gyda llawer o arolygwyr profiadol bellach wedi ymddeol neu'n agosáu at oed ymddeol. Felly, ceir cyfle i gywain gwybodaeth a phrofiad yr arolygwyr hyn a sefydlu rhaglen i fentora arolygwyr newydd.

Mae’n werth meddwl hefyd am werth safleoedd y tomenni o ran treftadaeth, ac, fel rhan o ymgynghoriad y comisiwn, pwysleisiodd Cadw ac ALGAO bod gan rai tomenni werth treftadaeth ac y byddai angen i waith adennill ystyried hyn. Mae'r tomenni glo o fewn tirwedd ddiwydiannol Blaenafon, er enghraifft, wedi'u dynodi gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn safle treftadaeth y byd. Mae nifer o domenni glo hanesyddol wedi'u cofnodi fel nodweddion amgylchedd hanesyddol hefyd, ac mae hyn yn rhywbeth sydd yn cael ysytriaeth o ran y broses gynllunio.

Ond ar ôl degawdau o dawelwch ar rai o'r tomenni glo hyn, mae'r sioc a'r arswyd a deimlwyd gan lawer o bobl yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd yn Tylorstown o ganlyniad i storm Dennis o'r diwedd wedi ysgogi trafodaeth a gweithredu pellach. Roedd yn ein hatgoffa'n glir o'r peryglon sy'n parhau o ganlyniad i'n hanes diwydiannol, a sut y mae Llywodraeth y DU wedi cefnu ar y cymunedau hyn yn dilyn dirywiad y diwydiant. Mae caniatáu i'r risg hon barhau yn annerbyniol.

Nid yw'r ffaith nad yw rhywbeth wedi'i wneud yn golygu y dylid caniatáu i hyn barhau, ac rwy'n gobeithio heddiw y gallwn ddod at ein gilydd yn drawsbleidiol i anfon neges glir i Lywodraeth y DU fod yn rhaid darparu cyllid i unioni'r hyn y dylent fod wedi'i wneud ymhell cyn hyn, a neges glir i'n cymunedau y byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i unioni hyn.

17:45

Gwnaed datganiad ddoe gan y Gweinidog yn ei ddatganiad llafar i'r Siambr. Dywedodd hyn:

'Dywedodd Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David T.C. Davies, wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin

''os yw Llywodraeth Lafur Cymru yn credu bod y tomenni glo hynny'n anniogel, mae'n rhaid iddyn nhw weithredu yn awr.... Mae ganddi'r arian i wneud hynny."'

Mor syml â hynny, ac wrth gwrs, dywedodd y Dirprwy Weinidog,

'Nid ni sy'n dweud ei fod yn anniogel'—

Llywodraeth Cymru—

'ond yr Awdurdod Glo...ac nid oes gennym yr arian i'w wneud.'

Mae mor syml â hynny mewn gwirionedd. Felly, credaf ei bod yn hawdd i Janet Finch-Saunders ddweud, 'Gadewch inni roi'r wleidyddiaeth o'r neilltu,' ond os ydynt hwy yn San Steffan yn gwrthod cydnabod bod yna broblem y maent yn gyfrifol amdani hyd yn oed, nid yw hynny'n mynd i ddatrys y broblem. Mae mor syml â hynny mewn gwirionedd.

Nawr, yn fy nghyflwyniad—. Cyn imi ddweud fy nghyflwyniad, dylwn ddweud hefyd mai'r Aelodau o'r Senedd a wnaeth gyflwyniad i adroddiad Comisiwn y Gyfraith oedd Huw Irranca-Davies, Heledd Fychan, Vikki Howells, Joel James a Sioned Williams. Felly, da iawn i'r Aelodau hynny am wneud y cyflwyniadau hynny, oherwydd maent yn bwysig fel bod lleisiau eich cymunedau chi a fy nghymuned i yn cael eu clywed. Felly, roedd hynny'n hanfodol. Gwnaeth cyngor Caerffili gyflwyniad hefyd.

Yn fy un i, dywedais,

'Mae angen pwerau ychwanegol i'r awdurdodau cyhoeddus priodol (datganoledig neu fel arall) reoleiddio tomenni glo sy'n eiddo preifat yng Nghymru'.

Felly, mae rheoleiddio tomenni sy'n eiddo preifat yn allweddol yn y Papur Gwyn yn fy marn i.

'Mae angen cyllid ychwanegol ar Lywodraeth Cymru (yn fwyaf tebygol gan Lywodraeth y DU)'—

er nad yn gyfan gwbl—

'i fynd i'r afael â'r gost o adfer tomenni glo sy'n eiddo cyhoeddus yng Nghymru.'

Felly, dyna'r pwyntiau allweddol a wneuthum yn fy nghyflwyniad. Byddwn hefyd yn dweud bod cyngor Caerffili wedi gwneud pedwar pwynt allweddol, ac rwy'n cytuno â thri ohonynt, ac yn anghytuno ag un ohonynt. Felly, dywedodd cyngor Caerffili fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cefnogi creu awdurdod goruchwylio trosfwaol, gan adleisio'r hyn a ddywedais, os yw'n gweithio'n hyblyg—ac mae hyn yn bwysig, Ddirprwy Weinidog—gan ganiatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio'r arbenigedd sy'n bodoli'n barod a chynnig adnoddau ychwanegol lle bo angen. Roeddent hefyd yn dadlau y dylid safoni cytundeb cynnal a chadw awdurdodau goruchwylio tomenni glo ledled Cymru.

Nawr, mae'r arbenigedd hwnnw wedi bod gan gyngor Caerffili. Rwyf wedi cyfarfod ag uwch swyddogion cyngor Caerffili, cyfarwyddwr yr amgylchedd, y llynedd, ac rwyf wedi siarad â'r prif weithredwr a'r arweinydd. Mae gennym gofrestr o domenni, rwyf wedi'i gweld, ac mae yna domenni categori D. Mae'n bwysig cofio, os yw tomen yng nghategori D, ni cheir risg uniongyrchol o reidrwydd. Y sicrwydd a gefais gan gyfarwyddwr yr amgylchedd cyngor Caerffili yw na cheir risg uniongyrchol mewn perthynas ag unrhyw domenni yng Nghaerffili, yn sicr yn fy etholaeth i, ond yn y fwrdeistref gyfan. Rydym yn ymwybodol o un sy'n gategori D yn benodol, ac mae'n cael ei monitro'n fisol, ac os oes glaw trwm, caiff ei monitro'n amlach na phob mis, ond ni cheir risg uniongyrchol.

Nawr, un peth y byddwn i'n ei ddweud wrth bob ymgeisydd gwleidyddol yn yr etholiadau llywodraeth leol yw na fydd trigolion yn diolch i chi am sefyll ar domenni a phwyntio atynt fel pe baent mewn rhyw fath o berygl sydd ar fin digwydd. Nid yw'n beth doeth i wneud hwn yn fater pleidiol wleidyddol yn yr etholiadau llywodraeth leol. Mae'r gwaith yn cael ei wneud. Mae adroddiad Comisiwn y Gyfraith, y cyflwynodd pob plaid yn y Siambr hon sylwadau iddo, yn bwrw ymlaen â hynny ac yn rhoi'r camau cywir ar waith. Rwy'n credu y bydd dychryn pobl, drwy sefyll ar domenni penodol, yn anghyfrifol.

Nawr, yr hyn y mae cyngor Caerffili yn ei ddweud ynglŷn â'r gofrestr a chael cofrestr gyhoeddus, fe wnaethant ddweud mai'r rheswm pennaf a roddwyd yn erbyn gwneud cynnwys y gofrestr yn gyhoeddus oedd y risg o amharu ar eiddo gerllaw neu'n agos at domenni risg uchel, gydag effaith ar werthoedd tir a phrisiau eiddo ac ar gost yswiriant. Gallai fod effaith hefyd ar eiddo a adeiladwyd ar safleoedd a adferwyd. Pwysleisiwyd hynny gan nifer o gynghorau, gan gynnwys Caerffili.

Siaradais â Chaerffili heddiw, a chredaf fod cydbwysedd i'w daro rhwng dychryn pobl a darparu gwybodaeth i'r cyhoedd hefyd, a dyna lle mae gennyf farn wahanol. Credaf y dylid cael cofrestr gyhoeddus, dylai fod ar gael i'r cyhoedd, ond dylai hefyd gynnwys y pethau sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng risg uniongyrchol a'r mathau o risgiau sydd yno.

Felly, dywedodd cyngor Caerffili hefyd y dylai'r system categoreiddio risg ganiatáu ar gyfer is-gategorïau o risg y gellir eu hadnabod yn ôl olddodiad, e.e. ansefydlogrwydd, llifogydd, llygredd a llosgi, ac mae hynny yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith hefyd. Credaf fod angen cydnabod hynny yn y Papur Gwyn. Credaf y byddai hynny wedyn yn gwneud rhywfaint i leddfu'r broblem o gyhoeddi'r gofrestr risg, a chredaf y byddai cyngor Caerffili yn cyfaddef hynny. Yn wir, fe wnaethant ddweud wrthyf nad oedd dim yn yr argymhellion yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith a oedd yn eu poeni'n ormodol. Yn wir, roeddent yn dweud mai'r mater allweddol, wrth gwrs, yw cyllid.

Felly, mae angen inni fabwysiadu dull cyfrifol o weithredu. Nid wyf am ddechrau brwydr bleidiol wleidyddol yn ei gylch, ond mae angen i San Steffan roi'r arian, a hoffwn i Lywodraeth Cymru a'r Papur Gwyn gynnwys rhai o'r materion a nodais heddiw.

17:50

Daeth y modd y cafodd Cymru ei hecsbloetio am ei glo, gan ddisbyddu ein tir o'i chyfoeth mwynol a'r elw enfawr a ddeilliodd o'r adnodd hwn ar gost enfawr i fywydau lleol. Mae ecsbloetio cost ddynol glo yn dal i fod yn graith ar yr undeb honedig hwn. Nawr, dywed San Steffan wrthym fod yn rhaid inni dalu'r gost o wneud ein cymunedau'n ddiogel. Dywedir wrthym fod yn rhaid inni yn awr ddod o hyd i'r arian i osgoi'r canlyniadau trychinebus a all ddeillio o dirlithriad rwbel glo, canlyniadau trychinebus yr ydym yn gyfarwydd â hwy yng Nghymru, yn anffodus. 

Mae ymddygiad Llywodraeth San Steffan ar hyn yn gywilyddus, ac ni chaiff ei anghofio. Yn fy rhanbarth i, ceir 145 o domenni glo risg uchel. Ym mhob cymuned sydd yng nghysgod tomen o'r fath, bydd llawer o anesmwythyd hyd nes y gwneir y tomenni hyn yn ddiogel. Bydd yn bryder arbennig pan fydd glaw trwm—rhywbeth y gallwn ddisgwyl mwy ohono yn y dyfodol oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Ni all y gwaith adfer ddigwydd yn ddigon buan.

Mae cwestiwn i'w ystyried ynglŷn â sut rydym yn datblygu tomenni glo ar ôl iddynt gael eu gwneud yn ddiogel. Mae llawer o domenni glo wedi dod yn fannau pwysig i fywyd gwyllt. Yn wir, mae rhywogaethau newydd wedi'u darganfod mewn safleoedd o'r fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi darparu lloches fawr ei hangen i rywogaethau sy'n dirywio'n gyflym yn ein tirweddau modern dirywiedig. Drwy gysylltu â chynefinoedd traddodiadol, maent hefyd yn gweithredu fel cerrig camu yn yr amgylchedd, gan ganiatáu i rywogaethau symud yn rhydd ar draws y dirwedd, a byddai cynefinoedd naturiol hefyd yn llawer mwy darniog heblaw am rwbel glofeydd.

Wrth adfywio ardaloedd sy'n gysylltiedig â thomenni yn ystod prosesau adfer, dylem ystyried gwerth y tomenni hyn, yr ardaloedd o'u cwmpas, a sicrhau'r manteision mwyaf posibl, sy'n ddaearegol—maent yn darparu mynediad at ffosiliau a mwynau; archeolegol—gellir dod o hyd i strwythurau ac olion hanesyddol ymhlith y rwbel; hanesyddol—maent yn ein hatgoffa'n weledol o'n hanes glofaol cyfoethog a helpodd i greu a siapio ein gwlad, ac maent hefyd yn adrodd straeon am gysylltiadau teuluol a thirweddol; diwylliannol—mae rwbel glofeydd yn rhan bwysig o'n hunaniaeth ddiwylliannol yn ne Cymru; cymdeithasol—yn aml, oherwydd eu mynediad agored a'u hagosrwydd at aneddiadau, cânt eu defnyddio'n rhwydd gan bobl leol ar gyfer gweithgareddau hamdden, gan ddarparu manteision iechyd corfforol a meddyliol, oherwydd eu bod yn aml yn darparu'r unig fannau mynediad agored i bobl leol allu mynd allan at fyd natur; ac yn olaf, gweledol—maent yn ffurfio nodweddion gweladwy sy'n arwyddocaol yn y dirwedd leol ac sy'n ddiwylliannol berthnasol. Fe'u defnyddir mewn dehongliadau rhanbarthol a lleol.

Mae enghraifft yn fy rhanbarth o dreftadaeth ddiwydiannol yn cael ei chysylltu â'r genhedlaeth newydd i'w gweld yn natblygiad paent coch Six Bells. Mae'n golygu bod gwastraff dros ben o lofa leol yn cael ei ailgylchu fel pigment a'i ddefnyddio i greu nifer o baentiau ocr arbennig sy'n unigryw i'r pentref. Hoffwn wybod, felly, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth hon i gysylltu ein treftadaeth ddiwydiannol â'n cymunedau ôl-ddiwydiannol, i gynyddu ymwybyddiaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf, i ddiogelu mannau agored mawr eu hangen ar gyfer hamdden, ac i archwilio cyfleoedd twristiaeth? Diolch yn fawr.

Mae ein treftadaeth ddiwydiannol wedi helpu i siapio ein cenedl. Gellir darllen hanes ein pobl yn ein tirwedd. Adeiladwyd cymunedau cyfan o amgylch diwydiant, roeddent yn darparu swyddi, bywoliaeth, ac ymdeimlad o hunaniaeth gyffredin. Teimlwyd cyrhaeddiad ac effaith hanes Cymru ymhell y tu hwnt i'n ffiniau, gan ail-lunio'r economi fyd-eang a'r ffordd o fyw i bobl ddirifedi. Ond er y cyfan a roddodd, fe gymerodd; etifeddiaeth a ysbrydolodd ac a anafodd i'r un graddau, a adeiladodd fywydau a chymunedau, ond sydd wedi gadael cyflyrau iechyd cronig, tlodi parhaus a chreithiau amgylcheddol dwfn.

Ar draws fy rhanbarth yng Ngorllewin De Cymru, ceir dros 900 o domenni segur, gyda dros 600 ohonynt yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle rwy'n byw. Bernir bod y mwyafrif llethol o'r rhain yn risg is, ond mae 39 o fewn y categorïau risg uwch. Mae'n bwysig cofio nad tomenni glo yw'r unig fath o domen y mae'n rhaid ei gwneud yn ddiogel.

Yng Ngodre'r-graig, yng nghwm Tawe, er enghraifft, mae'r bygythiad o domen rwbel chwarel wedi bod yn destun pryder ers blynyddoedd lawer. Aseswyd bod y domen rwbel chwarel yn peri risg o berygl canolig i'r gymuned islaw, ac mae daeareg y mynydd y mae'n gorwedd arno, sy'n tueddu i weld tirlithriadau, ynghyd â'r ffynhonnau a'r dŵr daear o'u cwmpas, wedi creu sefyllfa sydd wedi achosi trafferthion ac ansicrwydd. Mae'n anodd yswirio cartrefi, mae rhai teuluoedd wedi cael eu diwreiddio, ac ers 2019 mae plant Ysgol Gynradd Godre'r-graig wedi cael eu haddysgu mewn cabanau mewn ysgol filltiroedd i ffwrdd o'u pentref, yn aml heb ddarparu prydau poeth, oherwydd asesiad y cyngor o risg y domen i'w hysgol. Mae hyn wedi peri gofid enfawr i rieni, llywodraethwyr a disgyblion.

Nododd adroddiad a ddarparwyd gan Earth Science Partnership—yr arbenigwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i archwilio'r safle—risg lefel ganolig yn gysylltiedig â'r domen rwbel chwarel hon ger yr ysgol yr effeithir arni gan ddŵr daear. Pe bai'r nant yn blocio o ganlyniad i dywydd garw, canfu'r ymchwiliad bosibilrwydd y gallai lefelau dŵr a phwysedd yn y domen beri i ddeunydd lifo i lawr y rhiw. Amcangyfrifir bod y gost o gael gwared ar y domen hon yn unig yn debygol o fod dros £6 miliwn.

Mae llawer o gymunedau ar draws fy rhanbarth i ac eraill yn byw dan gysgod tebyg. Maent yn byw mewn ofn bob tro y mae'n bwrw glaw, ac mae'n hen bryd gweithredu ar hyn. Os yw'r tomenni hyn yn creu bygythiad o'r fath, rhaid diogelu ein cymunedau. Gwyddom y gallai'r glawiad cynyddol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach. Mae astudiaethau wedi awgrymu cynnydd o 6 y cant yn ystod gaeafau yn ne Cymru erbyn y 2050au, a dim ond cynyddu a wnaiff y risg hon. Mae'n hen bryd gweithredu. Ond nid mater o ddiogelwch syml ydyw, mae'n fater o gyfiawnder hanesyddol a chymdeithasol, a chyfiawnder hinsawdd.

Felly, mae'n hanfodol fod camau'n cael eu cymryd ar unwaith i nodi a chyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â'r tomenni sy'n peri'r risg fwyaf, ymgysylltu â chymunedau, a gwneud y tomenni'n ddiogel. Mae'r dadleuon dros gofrestr o domenni i fod ar gael i'r cyhoedd yn glir. Roedd ymatebwyr i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith a oedd o blaid gwneud cofrestr o domenni yn hygyrch i'r cyhoedd yn dibynnu'n fwyaf cyffredin ar yr angen i hyrwyddo ymddiriedaeth y cyhoedd, atebolrwydd a thryloywder. Fel y dywedodd y Coal Action Network:

'Credwn ei bod yn hanfodol fod y gofrestr o domenni yn cael ei gwneud yn fynediad agored ac yn hawdd ei defnyddio ar gyfer meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd ac atebolrwydd—yn enwedig i'r cymunedau sydd wedi dioddef yng nghysgod tomenni glo, heb fawr o neb i droi atynt.'

Felly, hoffwn ailbwysleisio nad yw ein dadl yn canolbwyntio ar domenni glo yn unig. Roedd sylfaen ddiwydiannol Cymru yn llawer mwy amrywiol, ac felly hefyd y gwastraff a adawyd ar ôl. Roedd cloddio am lo yn aml yn cynnwys cloddio am fwynau masnachol eraill, er enghraifft clai tân a bric-glai, a fyddai wedi cyfrannu at y rwbel.

Mae adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn darparu gwybodaeth am fathau o domenni, na ellir dweud y gwahaniaeth rhyngddynt yn weledol a thomenni glo yn unig, sy'n cynnwys deunydd siâl yn bennaf, wedi'i ffurfio o gloddio cnapiau haearn ar raddfa eang mewn gweithfeydd haearn cynnar, a chloddfeydd llai o is-haenau ar gyfer gwneud brics. Mae tomenni o'r fath yn gyffredin ar draws maes glo de Cymru. Rhaid ystyried y tomenni hyn hefyd mewn unrhyw fath o waith symud neu ymdrechion adfywio.

Mae'n amlwg fod cost i hyn i gyd, ond byddai cost diffyg gweithredu yn llawer uwch, a rhaid ystyried y tomenni hyn a'r risg bosibl y maent yn ei hachosi, megis yr un yng Ngodre'r-graig, sydd eisoes yn achosi trafferthion ac aflonyddwch enfawr i gymunedau. Mae cymunedau sydd wedi bod yn sylfaen i ddiwydiannau Cymru, ac sydd wedi talu pris digon uchel am hynny dros y cenedlaethau, yn haeddu bod yn ddiogel ac maent yn haeddu cael eu hadfer, nid colli eu hysgol bentref, calon eu cymuned. Rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod eu cyfrifoldeb yn y mater hwn. Gobeithio y gallwn anfon neges glir heddiw ar ran ein cymunedau i'r perwyl hwnnw.

18:00

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd nawr i gyfrannu at y ddadl—Lee Waters. 

Wel, Lywydd, fel mab, ŵyr a gor-ŵyr i löwr, mae'n fraint gennyf ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, a chredaf, ar y cyfan, ei bod wedi bod yn ddadl ragorol. Mae bron i 40 y cant o domenni glo segur y DU yng Nghymru—40 y cant—ac mae tomenni glo'n effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau. Gwyddom fod yna bron i 2,500 o domenni glo segur, gyda 327 yn y categori uwch. Nawr, mae'r rhain yn gategorïau dros dro ac yn adlewyrchu'r perygl o achosi risg i ddiogelwch ac felly maent yn destun archwiliadau amlach. Nid yw'n golygu eu bod yn fygythiad uniongyrchol, fel y dywedodd Hefin David mor dda yn ei gyfraniad. A Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r Awdurdod Glo i gynnal yr arolygiadau hyn, gyda chynghorau'n cynnal y gwaith cynnal a chadw a nodwyd drwy'r arolygiadau. 

Nawr, mae'r cynnig yn cyfeirio at 'domenni risg uchel', ond rhaid inni fod yn glir nad yw cael eich rhoi mewn categori risg uwch yr un fath â bod yn risg uwch, ac mae'r iaith a ddefnyddiwn yn bwysig. Fel y dywedodd Hefin David, mae dychryn pobl yn anghyfrifol. A nododd yr anawsterau mewn perthynas â chyhoeddi lleoliadau'r holl domenni yn gynamserol. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod hyn yn annerbyniol. Ond rydym wedi rhannu'r wybodaeth gydag awdurdodau lleol a fforymau lleol Cymru gydnerth i'w helpu i ddatblygu cynlluniau rheoli. Yr hyn a fyddai'n annerbyniol fyddai rhannu'r wybodaeth hon yn gyhoeddus pan nad yw'r holl waith wedi'i wneud, ac achosi braw, gofid a phryder, ac fel y crybwyllwyd, effeithio ar eiddo ac achosi llawer iawn o ofid pan allai llawer o'r rhain fod yn domenni eithaf diniwed. Mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn. Roedd sylwadau Janet Finch-Saunders yn hynny o beth yn go anghyfrifol ac ni roddwyd ystyriaeth ddigonol iddynt, os caf ddweud. 

Soniwyd am y treialon. Gofynnodd Delyth Jewell pryd y bydd rhybuddion ar gael  ar ffonau symudol er mwyn eu cyflwyno. Nawr, rydym yn treialu ystod o dechnolegau, ac mae 70 o'r tomenni risg uwch wedi'u cynnwys yn y treialon, ac mae'r rhain yn cynnwys pethau fel mesuryddion gogwydd a monitro symudiadau tir â lloeren. Bydd y rhain yn parhau tan tua 2024. Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd y rhybuddion yn cael eu rhoi i awdurdodau lleol ac na chânt eu gwneud yn gyhoeddus, oherwydd ar hyn o bryd mae peth o'r dechnoleg hon yn anwadal, mae'n annibynadwy, mae'n cael ei defnyddio am y tro cyntaf. Felly, rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn sicrhau ei fod yn gywir cyn i ni ddechrau ei wneud yn hygyrch i bawb. 

Gadewch imi droi, os caf, at fater y cyllid. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei chyfrifoldeb am y broblem yn y bôn drwy ddyrannu £44 miliwn. Roedd hyn yn anhygoel, ac rwy'n credu y byddai ein cyndeidiau a oedd yn lowyr yn gallu adnabod pa un o'r areithiau a wnaed gan y Tori y prynhawn yma. Credaf fod camddealltwriaeth sylfaenol o bwysigrwydd emosiynol y mater hwn i'n cymunedau. Fel y gofynnodd Heledd Fychan a Delyth Jewell, pwy a elwodd o'r diwydiant hwn? Iawn, fe wnaeth ein cyndeidiau a fu'n gweithio yn y pyllau glo elwa rhywfaint, ond y perchnogion, lawer ohonynt y tu allan i Gymru, oedd piau'r elw. Roedd y cyfoeth o fudd i Brydain gyfan, nid y rhai a weithiodd amdano. Ac nid yw ond yn foesol gywir fod Llywodraeth y DU yn cydnabod y cyfraniad hwn. Ac mae'r ffaith bod gennym gyfres o Dorïaid, o Simon Hart i lawr, bellach yn golchi eu dwylo o hyn yn dangos bod rheswm pam y cânt eu gweld fel plaid ar gyfer Lloegr ac nid plaid ar gyfer Cymru.

Hyd yn hyn, rydym wedi gwario £1.6 miliwn ar arolygiadau. Bydd cost o £30 miliwn i'w codi i safon, a chost o £5 miliwn y flwyddyn arall i'w cynnal, a chost adfer wedyn o tua £600 miliwn, ac mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £9 miliwn inni gan gredu bod hynny'n ddigon ganddynt. Hoffwn ofyn iddynt fyfyrio ar hynny mewn gwirionedd. Nid dyna'r undeb sy'n rhannu yr ydym yn sôn amdano, a pho fwyaf y byddant yn chwarae triciau fel hyn, y mwyaf y mae'n tanseilio'r achos dros yr undeb. Felly, hoffwn ofyn iddynt feddwl yn ofalus iawn am y ffordd y maent yn chwarae eu rhan wrth ymdrin â'r hyn y mae diwydiant Prydain wedi ei adael ar ei ôl.

Soniwyd am effaith newid hinsawdd, ac mae'n enghraifft ddramatig o'r effaith y bydd patrymau tywydd newidiol yn ei chael ar ein cymunedau. Ni allai'r effaith ar y tomenni hyn a'r canlyniadau i'n cymunedau fod yn fwy dwys. Dyna pam fod angen inni liniaru effaith newid hinsawdd, yn ogystal ag addasu i'r effeithiau sydd eisoes yn anochel.

Gofynnodd Janet Finch-Saunders hefyd am yr awdurdod goruchwylio newydd ac a fydd yn annibynnol. Yn sicr, dyna yw ein bwriad, ond byddwn yn ymgynghori ar hyn fel rhan o'n Papur Gwyn, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yma'n ymateb i hwnnw.

Ceir nifer o opsiynau adfer gwahanol yn y tymor canolig, a bydd yr opsiwn gorau yn dibynnu ar y domen benodol, gan gynnwys ei statws risg a'i agosrwydd at dderbynyddion sensitif fel cymunedau. Enghraifft amlwg o safle tomen wedi'i adfer yw Coetir Ysbryd Llynfi, lle plannwyd dros 60,000 o goed. Felly, mae cyfle yma, yn ogystal â gorfod ymdopi ag effaith newid hinsawdd, i addasu ac ymdrin ag effaith yr argyfwng natur hefyd.

Felly, mae gennym gyfle i sicrhau newid cadarnhaol yn y cymunedau hyn, a bydd unrhyw raglen fwy hirdymor sy'n canolbwyntio ar adfer angen sicrhau ymgysylltiad trylwyr â'r cymunedau lleol i archwilio opsiynau ar gyfer manteision ehangach, ac rydym wedi diwygio'r cynnig y prynhawn yma i dderbyn hynny. Rydym yn derbyn ysbryd cynnig Plaid Cymru. Credwn fod un y Torïaid yn iawn cyn belled ag y mae'n mynd, ond mae darn sylfaenol ar goll am nad yw'n derbyn bod gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae. Bydd yna gyfleoedd i'n cymunedau os gwnawn bethau'n iawn, ond os na wnawn bethau'n iawn, Lywydd, ni fydd pobl yn maddau i ni.      

18:05

Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Mae wedi bod yn amserol iawn, wrth gwrs, ac yn ddadl bwerus, dwi'n meddwl. 

Mae Janet, fel y gellid rhagweld mewn gwirionedd, wedi mynd ati, yn anghywir, i gysylltu'r syniadau am ddatganoli pwerau presennol ac offer ar gyfer y dyfodol â cheisio gwadu cyfrifoldeb am gamweddau'r gorffennol. Nid wyf yn credu ei bod yn wastraff amser i'r Senedd geisio unioni hyn, ac yn eich calon, Janet, nid wyf yn credu eich bod chi'n credu hynny ychwaith. 

Gwnaeth Heledd y pwynt fod hyn yn ymwneud â chywiro anghyfiawnder hanesyddol. 

Mae Heledd hefyd wedi ein hatgoffa bod union yr un cymunedau wnaeth ddioddef gymaint gyda'r diwydiant glo nawr yn wynebu'r argyfwng hinsawdd fwyaf.   

Nid yw'r ffaith nad oes rhywbeth wedi cael ei wneud yn golygu y dylai barhau. 

Wel, ie'n wir, Heledd. Diolch hefyd i Hefin am bwyntio mas fod San Steffan yn gwadu'r gwirionedd, fel mae nifer o Aelodau fanna wedi dweud.  

Diolch ichi am ddarparu mwy o wybodaeth am y sefyllfa yng Nghaerffili hefyd, a chytunaf yn llwyr y dylid cael cofrestr gyhoeddus, gan ystyried rhai o'r pwyntiau a wnaethoch, wrth gwrs. 

Mae Peredur wedi siarad am y pris a dalwyd gan gymunedau cyfan, y posibiliadau hefyd o ran adfywio lleoliadau, a bioamrywiaeth, a bydd yn rhaid gwarchod hynny er mwyn y dyfodol. 

A soniodd Sioned am ddeuoliaeth, unwaith eto, yr hyn a adawyd ar ôl gan y tomenni hyn, etifeddiaeth sydd wedi ysbrydoli ac anafu. Cawsom ein hatgoffa nad tomenni glo yw'r unig domenni y mae angen eu gwneud yn ddiogel wrth gwrs, ac unwaith eto, am y niwed ymarferol a seicolegol y mae'r tomenni hyn yn ei achosi pan fo risg wedi'i nodi ond na ellir ei hunioni eto. Roedd hynny'n bwerus iawn.

Diolch, unwaith eto, i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb, am rannu rhagor o wybodaeth gyda ni am dreialon y systemau rhybuddio cynnar, rhai o'r opsiynau adfer, ac eto am ein hatgoffa nad yw hi ond yn foesol gywir y dylai San Steffan dalu.

Lywydd, pan fyddwn yn sôn am domenni sy'n anharddu llethrau ein mynyddoedd, rydym yn sôn am frychau, staeniau, marciau ar ein cof cyfunol, gwrthrychau cywilydd. Maent yn sicrhau bod elfennau mwyaf hyll, mwyaf creulon, a mwyaf peryglus mwyngloddio wedi amharu ar gymunedau ac wedi'u creithio. Mae mwyngloddio wedi'u marcio i gyd, ond mae rhai marciau'n treulio'n denau. Mae yna fynwent yn Llanfabon uwchben Nelson ac yn agos at ble rwy'n byw. Rwy'n adnabod bron bob twll a chornel oherwydd bod fy nwy fam-gu a fy nau dad-cu wedi'u claddu yno. Mae'n fynwent hardd. Mae'n ddigon cyffredin mewn llawer o ffyrdd, ond mae o leiaf un elfen sy'n ei gwneud yn wahanol. Ar hyd y wal ogleddol, heb fod ymhell o'r fynedfa, ceir rhes o 11 bedd. Yng nghanol y rhes honno mae heneb ffurfiol, ond yr un geiriau sydd i'w gweld ar bob un o'r beddau: 'Unknown. Albion explosion, 1894'. Nid yw'r heneb ei hun yn cynnwys yr un o enwau'r eneidiau coll hynny. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw olion i ddynodi pwy ydynt. Rwyf bob amser yn ei chael hi'n anodd deall sut y gall fod na fyddai unrhyw olion ar ôl o fod dynol. Efallai fod eu hanafiadau'n golygu nad oedd modd eu hadnabod, ond mae'n siŵr y byddai eu teuluoedd wedi rhoi rhestr o'r eneidiau coll a'r meirw. Efallai nad oedd gan yr un ohonynt unrhyw deulu. Efallai mai'r unig bobl a oedd yn eu hadnabod oedd y bobl a fu farw gyda hwy.

Bu farw cyfanswm o 219 o ddynion a bechgyn yn nhrychineb glofa'r Albion, ond cafodd yr 11 hyn eu hamddifadu ymhellach ar ôl eu marwolaeth o'r hawl fwyaf sylfaenol honno—yr hawl i gael enw, i gael eu hadnabod a'u cofio. Chwarter canrif yn ddiweddarach, dewisodd Rudyard Kipling yr ymadrodd 'hysbys i Dduw' ar gyfer beddau milwyr anhysbys y Gymanwlad. Mae yr un mor addas i'r 11 dyn hyn, gan na wnaeth unrhyw fod meidrol alaru amdanynt. Ni wnaethant adael unrhyw ôl, na marc, nac arwydd eu bod erioed wedi byw, anadlu, llafurio a marw. Mae creulondeb gwrthnysig yn y ffaith ein bod, yn y tomenni hyn, yn cael ein hatgoffa'n gyson am ddiwydiant sydd, ar ei adegau gwaethaf, wedi dileu dynion a bechgyn oddi ar wyneb y ddaear heb adael unrhyw ôl. Ac fe gafodd y rhai a wnaeth fyw, y rhai lwcus, y llwch, fel y cyfeiriwyd ato—yn y Cymoedd, nid yw llwch yn golygu rhywbeth y byddwch yn ei sychu oddi ar gelfi; dyna oedd yr enw am y clefyd llesteiriol a wnaeth andwyo cenedlaethau o ddynion a'u gadael yn ymladd am eu hanadl. Dyna etifeddiaeth mwyngloddio. Dyna hefyd yw'r tomenni hyn, y creithiau sy'n cuddio o flaen ein llygaid. Ni allwn ddwyn i gof y rhai sy'n hysbys i Dduw yn unig, ond gallwn anrhydeddu'r cof amdanynt, ac anrhydeddu aberth yr holl lowyr a phawb a gollodd gymaint yn y blynyddoedd hynny. Ni allwn ddileu'r gorffennol, ond gallwn o leiaf geisio gwneud iawn am bethau. Rwy'n gobeithio y caiff y cynnig hwn ei dderbyn. Rwy'n gobeithio, yng nghoridorau San Steffan, y gellir sicrhau rhywfaint o gyfiawnder o'r diwedd.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr er mwyn paratoi yn dechnegol ar gyfer y bleidlais hynny.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:12.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:14, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r pleidleisiau heddiw ar ddadl Plaid Cymru ar domenni risg uchel, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei wrthod, felly.

18:15

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. - Tomenni risg uchel. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rŷn ni'n symud ymlaen at welliant 1. Dwi'n galw am bleidlais nawr ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, ac mae gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 sydd nesaf. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Fe fydd y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.

Cynnig NDM7972 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:

a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;

b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;

c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;

d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn cyfrannu at y dull o reoli tomenni glo yn y dyfodol a’u hadfer, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi, cynnig hyfforddiant, uwchsgilio a sicrhau manteision ehangach.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. - Tomenni risg uchel. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Clefyd niwronau motor a mynediad at driniaeth a chyfleusterau yng Nghymru

Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Adam Price.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gennyf fy mod yn gallu cynnal y ddadl yma heno, er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran clefyd niwronau motor, a'r mynediad at driniaeth a chyfleusterau sydd ar gael yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n bleser gyda fi gadarnhau fy mod i wedi cytuno i roi un munud o fy amser i Peter Fox, sydd wedi arwain cymaint ar y mater yma.

Mae clefyd niwronau motor, neu MND, fel mae'n cael ei alw yn gyffredinol, yn glefyd angheuol sydd yn datblygu yn hynod o gyflym, gan effeithio ar yr ymennydd a llinyn y cefn. Mae'r clefyd yn ymosod ar y nerfau sydd yn rheoli symudiad y corff, i'r fath raddfa bod cyhyrau’r corff yn methu â gweithio dim mwy. Arweinia hyn at bobl yn cael eu cloi mewn corff sydd yn eu methu, gyda siarad a symud yn amhosib, ac yn y diwedd, yn methu ag anadlu ac yn marw o ganlyniad i MND.

18:20

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Yn ôl y data, mae'r risg o berson yn datblygu MND o gwmpas un mewn 300. Yng Nghymru, ar unrhyw un adeg, mae tua 200 o bobl yn byw gydag MND. Mae'r rhif yma yn is na'r disgwyl, efallai, o ganlyniad i allu'r clefyd i ddatblygu'n hynod o gyflym. I draean o'r bobl sy'n derbyn diagnosis o MND, mae hyn yn golygu y byddant, mae'n drist i nodi, yn marw o fewn blwyddyn o'r diagnosis hwnnw. Mae dros hanner o'r rheini sydd yn byw gydag MND yn marw o fewn dwy flynedd o dderbyn y diagnosis. Pwysig iawn yw cofio, wrth gwrs, nad oes unrhyw wellhad o MND yn bodoli ar hyn y bryd, gwaetha'r modd. Gyda sefyllfa mor ddifrifol â hyn yn wynebu’r rheina sy'n byw gydag MND, mae'n hollol amlwg bod ymchwil a phrofion clinigol yn chwarae rôl allweddol wrth inni frwydro yn erbyn y clefyd erchyll yma. Positif, felly, yw'r newyddion fod profion clinigol ar waith yma yng Nghymru, ond yn anffodus, yr adborth sy'n dod o'r broses yma yw fod cynnydd yn araf iawn.

Roedd adroddiad ym mis Ionawr eleni yn nodi o’r 50 person oedd wedi cofrestru ar gyfer y profion hyn ers mis Medi 2021, dim ond un person oedd wedi cael eu gweld. Tra fy mod i'n mawr obeithio bod y profion wedi cyflymu ers hynny, hoffwn fod yn hollol glir nad beirniadaeth o'r arbenigwyr clinigol yw'r diffyg cynnydd yma. Mae’r diffyg cynnydd yma yn dangos diffyg capasiti yn y system i fedru gwthio’r gwaith yma ymlaen. O'r hyn rwy'n deall, mae’r unigolion sydd ynghlwm â’r rhaglen yma yn aml yn gwneud y gwaith ar ben pentwr o gyfrifoldebau eraill ym maes niwroleg. Onid oes achos yma dros benodi niwrolegydd arweiniol gyda briff penodol dros ymchwil a thriniaeth MND a fyddai’n gallu gyrru’r rhaglen profion allweddol yma ymlaen? Mae’r Gymdeithas MND wedi dweud yn benodol fod prinder o staff yn ffactor enfawr, gyda phrinder o niwrolegwyr i fedru rhedeg y profion, sydd yn her enfawr, mae’n amlwg. Mae’r athro niwroleg Ammar Al-Chalabi wedi adleisio'r pwynt yma gan ddweud y byddai Cymru’n buddio’n enfawr o gael niwrolegydd arweiniol gyda’r blaenoriaethau yma wedi'u gosod yn glir yn eu contract nhw.

Arf arall sydd gennym yn y frwydr yn erbyn y clefyd yw’r profion MND-SMART, a ddechreuodd ddiwedd y llynedd yng Nghymru. Mae MND-SMART yn brawf arloesol sydd yn edrych am gyffuriau newydd sydd yn medru arafu datblygiad MND, gyda’r bwriad o ddatblygu ymhellach i fedru stopio'r clefyd, ac yn y diwedd, gwrthdroi'r clefyd i gleifion sydd wedi datblygu symptomau estynedig. Yn anffodus, mae mynediad at y profion yma yn dal i fod yn anodd iawn i bobl sy’n byw gyda MND. Yn bresennol, briff rhwydwaith MND de Cymru yw darparu gofal amlddisgyblaethol ar gyfer pobl sydd yn byw gydag MND ar hyd de Cymru a rhan ddeheuol o’r canolbarth, ac maen nhw’n derbyn cyllid gan y gwasanaeth iechyd a gan y Gymdeithas MND. Y rhwydwaith sydd felly gyda’r cyfrifoldeb am ddarparu’r profion SMART, wrth gymryd rhan mewn astudiaethau eraill.

Rwyf wedi bod yn sgwrsio gyda theulu yn fy etholaeth i sydd wedi profi’r problemau systematig sydd gyda ni ar hyn o bryd gydag ymchwil a thriniaeth MND, sef teulu’r Gledhills. Cafodd Bob Gledhill ddiagnosis o MND yn Hydref 2020, ac yn anffodus nid oedd y profion SMART yng Nghymru ar gael pan dderbyniodd y diagnosis hwnnw. Roedd gwraig Bob, Lowri, am wneud unrhyw beth roedd hi'n medru ei wneud i sicrhau mynediad i Bob at brofion SMART. Aeth Lowri mor bell â Rhydychen i geisio cofrestru ei gwr mewn rhaglen SMART ond heb unrhyw lwyddiant. Yn anffodus, nid yw canolfannau profi yn awyddus i gofrestru pobl sydd yn byw’n bell i ffwrdd. Roedd hyn yn amlwg yn hynod o rwystredig iddyn nhw fel teulu wrth i amser fynd yn ei flaen, a hwythau yn dal yn edrych am fynediad at y driniaeth oedd yn cynnig y siawns orau o wella’r sefyllfa, waeth pa mor fach fo’r siawns hwnnw.

Ers hynny, mae Bob wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o’r prawf SMART yng Nghymru, a thra bod hyn yn ddatblygiad positif, rwyf ar ddeall fod Bob dal heb gael ei weld gan arbenigwr fel rhan o’r broses hynny, a hyn nawr tua 18 mis—blwyddyn a hanner—ers iddo dderbyn ei ddiagnosis. Cyfeiriaf yn ôl at yr ystadegau a ddyfynnais i ar ddechrau'r ddadl yma, sy’n amlygu’r ffaith fod amser yn bendant yn erbyn rhywun mewn sefyllfa fel Bob erbyn hyn. Fe fyddwch chi eich hun, Weinidog, yn deall fod MND fel clefyd yn annaroganadwy ac yn datblygu yn gyflym iawn, ac o ganlyniad i hyn mae mynediad amserol at wasanaethau a all gynnig unrhyw driniaeth yn dyngedfennol. Nid yw amser ar ochr pobl fel Bob sydd yn byw gydag MND. Siaradais i â Lowri am ei phrofiadau hi a’u profiadau nhw fel teulu, ac rwyf am ddarllen i chi ei geiriau hi, os gallaf i:

'Yn bersonol, does dim geiriau mewn bodolaeth sydd yn medru portreadu yn effeithiol beth mae ein teulu ni wedi profi yn y flwyddyn a hanner ers i Bob cael y diagnosis o glefyd niwronau motor. Sut ydych chi’n disgrifio'r dirywiad di-baid o ryddid personol sy’n dod gyda’r clefyd yma, sydd yn eich rhwystro rhag cyflawni hyd yn oed y tasgau mwyaf syml—y tasgau sydd yn eich diffinio chi, ac yn eich gwneud chi'r person ydych chi? Sut galla i ddechrau disgrifio sut mae’n teimlo i wylio rhywun rydych chi’n caru yn baglu a chwympo dro ar ôl tro, ond eu bod nhw mor rhwystredig ac eisiau bod yn annibynnol, eu bod nhw’n gwrthod help i godi eto? Sut ydych chi’n disgrifio'r dewrder sydd ei angen ar berson i fedru codi dro ar ôl tro pan fod pob tro yn fwy anodd na’r un diwethaf yn ddyddiol? Sut galla i ddisgrifio'r effaith o lythyr arall yn dweud nad oes modd cael mynediad at y profion clinigol, pan fod bywyd eich partner nawr yn fater o fisoedd yn hytrach na blynyddoedd? Sut galla i ddisgrifio'r cryfder sydd ei angen i barhau i frwydro dros gleifion MND pan fod yr ymateb sydd yn dod yn ôl o’r system bob tro yn dweud wrthych chi ei bod yn well rhoi’r ffidl yn y to, dweud diolch am y gadair olwyn, ac eistedd yn dawel yn y gornel?'

Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd am ddymuno’r gorau i Bob, Lowri a'r teulu wrth iddyn nhw barhau i ymdrechu mor galed trwy gyfnod mor heriol. Wrth gwrs, mae datblygiadau diweddar ar lefel y Deyrnas Unedig, gyda £50 miliwn wedi ei addo ym mis Tachwedd y llynedd i ddatblygu athrofa ymchwil MND cenedlaethol, i'w croesawu. Er mwyn i ni yng Nghymru fod yn rhan o’r prosiect yma gyda’r corff newydd, mae angen i ni ddatblygu sefydliad neu ganolfan lloeren, ac wedyn fe fydd modd i ni gael mynediad at y cyllid mor allweddol yma.

I mi, Weinidog, ar ôl darllen mas a chlywed yn uniongyrchol eiriau Lowri, mae’r datrysiad gorau i’r sefyllfa yma yng Nghymru yn hollol glir—mae angen niwrolegydd arweiniol ar gontract llawn amser yma yng Nghymru, wedi ei ariannu neu ei gefnogi’n sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Fe fyddai'r rôl yma yn medru datblygu hygyrchedd yr ymchwil clinigol i bobl sy’n byw gydag MND, arwain y cynnydd o dreialon a phrofion yng Nghymru, a sicrhau fod gan Gymru rôl yn yr athrofa ymchwil MND cenedlaethol newydd. A wnewch chi felly, Weinidog, er mwyn cefnogi'r bobl hynny yng Nghymru, fel teulu’r Gledhills, sydd yn byw â’r clefyd creulon yma, a’r rheini a fydd yn derbyn diagnosis MND yn y dyfodol, ymrwymo i hynny, fel bod modd i ni yng Nghymru adeiladu'r capasiti o fewn ein gwlad ein hunain i roi'r gefnogaeth orau posib i’r teuluoedd cwbl, cwbl arwrol yma, sydd yn delio â goblygiadau clefyd niwronau motor, ac i leddfu'r boen a'r pwysau arnyn nhw rwyf wedi gweld yn uniongyrchol? Dwi'n gwybod bod gyda chi, Weinidog, brofiad yn eich teulu eich hunan. Gad inni gymryd y cam yma a fydd yn golygu cymaint i gymaint o deuluoedd ar draws Cymru.

18:30

A gaf fi ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r ddadl hon heddiw a chaniatáu munud o'i amser imi, ond hefyd am y ffordd huawdl y gwnaethoch ddisgrifio'r sefyllfa unwaith eto? Mae hwn yn glefyd dinistriol sy'n effeithio mor ofnadwy ar deuluoedd, fel yr ydych wedi'i ddisgrifio mor dda, Adam. Ac mae'r broblem y mae Bob a Lowri yn ei hwynebu yn cael ei hailadrodd mewn llawer o deuluoedd ledled Cymru. Efallai mai dim ond nifer fach ydynt gyda'i gilydd, ond mae'n grŵp mor bwysig o bobl sydd angen ein cefnogaeth.

Rwyf wedi gwneud llawer o waith gyda'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor dros y flwyddyn ddiwethaf ac fel chi, Adam, wedi clywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n byw gydag chlefyd niwronau motor, ac mae'n glefyd dinistriol sy'n datblygu mor ddinistriol o gyflym, gan effeithio ar yr hen a'r ifanc fel ei gilydd, a chael effaith enfawr ar y teulu cyfan. Ac ni allant weld unrhyw ffordd allan, oherwydd nid yw'n gwneud dim heblaw gwaethygu—nid oes golau ar ben draw'r twnnel. Mae'n drist dros ben; nid yw amser o'u plaid.

Dim ond 0.2 y cant o'r bobl a ddewiswyd ar gyfer ymchwil yng Nghymru oedd â chlefyd niwronau motor, sy'n golygu bod llai na £30,000 o arian Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar ymchwil ar gyfer y cyflwr penodol hwn. Nid yw'n ddigon. Mae ymchwil clefyd niwronau motor Cymru yn grŵp newydd, fel y nododd Adam, sy'n anelu at wella ymchwil glinigol ledled Cymru a sicrhau bod model yng Nghymru yn cael ei ddarparu i fod yn rhan o Sefydliad Ymchwil Clefyd Niwronau Motor cenedlaethol y DU fel rhan o'r £50 miliwn a ddyfarnwyd gan Lywodraeth y DU. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog hefyd a fyddech yn ystyried cytuno i gyfarfod â chynrychiolwyr grŵp ymchwil clefyd niwronau motor Cymru i glywed sut y byddai niwrolegydd arweiniol i Gymru, sy'n arbenigo ar glefyd niwronau motor, a chyda swyddogaeth gofal ac ymchwil, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yng Nghymru.

Rydym wedi codi hyn sawl gwaith yn y Siambr, neu drafferthion pobl â chlefyd niwronau motor, a chredaf fod angen inni barhau i wneud hynny, oherwydd bob dydd, bob munud ac awr y byddwn yn aros, mae'r bobl hynny'n dioddef yn hirach ac yn hirach ac nid oes ffordd allan iddynt, felly rhaid inni weithredu'n gyflym. Diolch.

Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Adam Price am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr a diolch hefyd i Peter Fox sydd, rwy'n gwybod, wedi hyrwyddo'r achos hwn ers iddo ddod i'r Senedd.

Pan gawsom ddadl ar hyn fis Rhagfyr diwethaf, roedd yr un faint o dosturi tuag at bobl â chlefyd niwronau motor a'u teuluoedd a'u hanwyliaid ag a glywais heddiw. Mae gan rai ohonom, fel y nodwyd gennych chi, Adam, brofiad personol o hyn. Dioddefodd fy annwyl ewythr Robert farwolaeth anhygoel o greulon. A chredaf mai dyna un o'r pethau sy'n gwneud hyn mor anodd, o'i gymharu â salwch arall, yw creulondeb y cyflwr ofnadwy hwn ac yn sicr mae'n ddiagnosis nad oes neb am ei gael. Ac yn sicr, ni allaf ddechrau deall beth y mae Bob a Lowri a'r teulu yn mynd drwyddo, ond cefais gipolwg bach ar hynny yn sgil y dioddefaint ofnadwy yr aeth fy ewythr drwyddo. A diolch byth, nid yw'n glefyd cyffredin, ond i'r bobl sy'n cael diagnosis, nid yw hynny'n gysur o gwbl. Mae clefyd niwronau motor yn glefyd gwirioneddol ddinistriol sy'n byrhau bywyd heb unrhyw driniaeth na gwellhad, a disgwyliad oes i lawer yw dwy i bum mlynedd o ddechrau'r symptomau. Ac fel y dywedoch chi, Adam, mae tua 200 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd niwronau motor ar unrhyw adeg, ac maent yn gwneud hynny. Ac rydym yn ceisio rhoi mynediad iddynt at gyfres o fesurau cymorth ar gyfer eu hanghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol, a chredaf ei bod yn hanfodol inni sicrhau ein bod yn parhau i wneud hynny er mwyn eu galluogi i fyw bywyd urddasol a chadw mor annibynnol â phosibl.

Nawr, mae mynediad at gymorth perthynol, corfforol a seicogymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i fywydau pobl, a gall yr ystod o therapïau a meddyginiaethau corfforol a seicogymdeithasol helpu i reoli eu symptomau a chadw eu sgiliau, eu galluoedd a'u hannibyniaeth cyhyd ag y bo modd, a gall y rhain gynnwys technolegau cynorthwyol, gan gynnwys offer i gynorthwyo neu i gymryd lle lleferydd, a symudedd neu addasu cartrefi pobl i'w gwneud mor hygyrch â phosibl, fel y gallant barhau i wneud y pethau sy'n bwysig iddynt.

Nawr, darperir ein gwasanaeth cyfathrebu ategol ac amgen arbenigol, wedi'i ategu gan gymorth lleol gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ym mhob bwrdd iechyd a darperir mynediad at wasanaethau cyfarpar cyfathrebu arbenigol ledled Cymru. Yn 2018 gwnaed buddsoddiad ychwanegol o £608,000 i ehangu'r gwasanaeth a chynyddu swyddi therapi lleferydd ac iaith. Felly, er eich bod yn nodi nad yw'r arian yn mynd tuag at ymchwil yn y ffordd yr hoffech, mewn gwirionedd mae'r arian yn mynd tuag at wneud eu bywyd ychydig yn well tra byddant yn dal i fod gyda ni, ac mae hynny'n sicrhau bod y tîm amlbroffesiynol lleol hwnnw'n parhau i gynorthwyo'r bobl hynny cyhyd ag y bo modd.

Mae parhad gofal, cydgysylltu, partneriaeth a chydweithredu rhwng gwasanaethau a chydgynhyrchu gyda'r rhai sy'n derbyn y gwasanaethau hyn hefyd yn bwysig iawn. Yn ne Cymru, datblygwyd model gofal rhwydwaith drwy rwydwaith gofal clefyd niwronau motor de Cymru, ac mae hwn yn fodel y mae canolfannau eraill yn y DU bellach yn ceisio'i efelychu, ac mae cydweithwyr o Ogledd Iwerddon wedi treulio amser gyda thîm de Cymru i ddysgu am y model rhwydwaith, gyda'r bwriad o fabwysiadu dull tebyg. Mae'r model rhwydwaith hwnnw'n seiliedig ar gydweithredu a phartneriaeth, gan alluogi hyblygrwydd ac ystwythder o fewn y gwasanaethau i ymateb i anghenion cleifion a'u teuluoedd mewn modd amserol. Ac yn y gogledd, dyfarnwyd tystysgrif partneriaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor, a hynny i gydnabod y berthynas bartneriaeth adeiladol a hynod lwyddiannus dros nifer o flynyddoedd rhwng y bwrdd iechyd a'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor i wella safon y gwasanaeth i bobl yr effeithiwyd arnynt gan glefyd niwronau motor. Mae'r bwrdd iechyd a'r gymdeithas wedi gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth â phobl â chlefyd niwronau motor, eu teuluoedd, gofalwyr a staff, i gydgynhyrchu cyfleoedd cyffrous ac arloesol i siapio gwasanaethau clefyd niwronau motor yn y gogledd, ac mae hynny'n cynnwys penodi dau gydgysylltydd gofal clefyd niwronau motor, sydd, ochr yn ochr ag amrywiaeth o bartneriaid eraill, yn cefnogi pawb sydd â chlefyd niwronau motor yng ngogledd Cymru.

Ond fel y gwyddom, mae lle i wella bob amser. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol ledled Cymru, gan gynnwys clefyd niwronau motor, ac mae'r grŵp hwn yn rhoi blaenoriaeth i wella mynediad at gymorth seicogymdeithasol ac arbenigedd niwroleg glinigol amlbroffesiynol. Ac yn absenoldeb opsiynau triniaeth iachusol, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd gan dreialon clinigol rôl bwysig i'w chwarae wrth inni chwilio am driniaeth ar gyfer clefyd niwronau motor. Ac mae Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu'r ymchwil ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys cyllid o tua £15 miliwn i sefydliadau'r GIG, i'w galluogi i gynnal treialon clinigol o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys clefyd niwronau motor. Ac rwy'n ymwybodol, drwy fy nghydweithwyr yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fod nifer o astudiaethau cyflwr niwronau motor ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mewn rhai achosion, mae cymorth hefyd ar gael i gleifion sy'n gymwys ar gyfer astudiaethau ymchwil clinigol y tu allan i Gymru, er enghraifft yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Walton, sy'n darparu gofal arbenigol i'n cleifion sydd â chyflwr niwronau motor yng ngogledd Cymru.

Rwy'n cydnabod bod angen inni dyfu'r ystod o astudiaethau cyflwr niwronau motor sy'n cael eu cynnal yng Nghymru, gan adeiladu ar y prawf SMART cyfredol hwnnw yr ydych yn pwysleisio ei fod eisoes yn recriwtio. Ond fe roddaf ystyriaeth i'r syniad o benodi niwrolegydd arweiniol yn y maes hwn.

Yn y gyllideb ym mis Mawrth, fe wnaethom ni ychwanegu £2 filiwn at y gyllideb addasiadau, gyda chyllid ychwanegol ar gyfer gofal a thrwsio ar gyfer awdurdodau lleol, fel bod pobl yn gallu addasu eu tai nhw wrth eu bod nhw'n gwaethygu. Mae'r mwyafrif o addasiadau yn fach ac yn cael eu cwblhau mewn diwrnodau. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ychwanegu £2 filiwn at y cyllid i awdurdodau lleol.

18:35

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r hyn rŷch chi wedi ei ddweud, eich bod chi yn mynd i roi ystyriaeth i'r syniad yma o niwrolegydd arweiniol. Fel rhan o'r ystyriaeth hynny, ac fel roedd Peter Fox wedi gofyn, a fuasech chi'n fodlon cwrdd â'r rhwydwaith ymchwil MND i glywed y dadleuon a'r manteision fyddai'n deillio o hynny yn uniongyrchol? Rwy'n sicr y byddai e'n cael ei groesawu'n fawr gan y teuluoedd pe baech chi yn fodlon ymrwymo i wneud hynny.

18:40

Byddwn i'n hapus i wneud hynny, ond gadewch i fi gael edrych ar beth yw'r cyngor sy'n dod o fy mlaen i. Ond dwi'n hapus iawn i edrych i mewn i ymchwilio os bydd hyn yn rhywbeth y byddem ni eisiau gweld, ac os yw'r arbenigedd yma ar gael ar gyfer y math hwn o sylw. Felly, dwi'n hapus i wneud hynny, a gobeithio y gallwn ni gwrdd gyda chi a Peter Fox hefyd.

Mae jest gwerth dweud i orffen fod addasiadau bach ar gael i bobl, ond mae yna addasiadau mawr. Y drafferth yw bod pobl yn rhedeg allan o amser ar gyfer yr addasiadau mawr, felly mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'u partneriaid i ganfod a manteisio ar gyfleoedd i wneud y gwelliannau sy'n hollbwysig i bobl sy'n byw gydag MND, fel nad oes neb yn teimlo fel eu bod nhw ar eu pen eu hun. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:41.