Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/12/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd a Chyhoeddiad am ethol Aelodau newydd i Senedd Ieuenctid Cymru

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. 

Mae gen i un cyhoeddiad ac un datganiad i'w gwneud cyn i ni gychwyn ar fusnes y prynhawn yma. Y cyhoeddiad yw'r cyhoeddiad ar Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru sydd newydd eu hethol, yn dilyn ymgyrch etholiadol Senedd Ieuenctid Cymru a gynhaliwyd fis Tachwedd. Fy mraint felly yw cyhoeddi'r canlyniadau ar gyfer ein hail Senedd Ieuenctid ni. Dyma benllanw misoedd lawer o waith gan fudiadau, ysgolion a thîm Senedd Ieuenctid ymroddgar y Senedd, ac mae ein dyled yn fawr i bawb a sicrhaodd bod y prosiect arloesol yma'n ffynnu unwaith eto. Roedd yna 272 ymgeisydd ac etholiad ym mhob un sedd etholaeth, ac mae gennym 18 sefydliad partner sy'n sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli o bob cwr o Gymru.

Bydd ail dymor Senedd Ieuenctid Cymru yn rhedeg am ddwy flynedd a chynhelir y cyfarfod agoriadol ym mis Chwefror 2022. Mi greodd y seneddwyr ifanc cyntaf argraff fawr arnom ni i gyd a dwi'n siŵr bydd yr Aelodau newydd yn ysbrydoli ac yn gweithredu gyda'r un egni ac asbri gan sicrhau bod eu cyfoedion yn gweld perthnasedd y Senedd Ieuenctid gan gyfrannu at waith ein Senedd ni. 

I'r bobl ifanc hynny a safodd yn yr etholiad, ond nad oeddent yn llwyddiannus y tro hwn, gwn y byddwch wedi cael siom, ond diolch am eich ymgyrchoedd caled ac am gynnig eich enwau. Gobeithiwn y byddwch yn parhau i ddilyn gwaith Senedd Ieuenctid Cymru ac yn cyfrannu yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Nid yw'r stori drosodd i chi, rwy'n siŵr.

Rwy'n falch iawn felly o gyhoeddi'r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru, sy'n cynrychioli etholaethau a sefydliadau partner. Dyma'r enwau.

Dyma enwau'r seneddwyr ifanc: Isaac Floyd-Eve, Poppy Jones, Owain Williams, Dylan Chetcuti, Finley Mills, Laura Green, Leaola Roberts-Biggs, Bartosz Firmaty, Rhys Rowlandson, Iago Llŷn Evans, Jake Dillon, Keira Bailey-Hughes, Samantha Ogbeide, Amir Alenezi, Lloyd Warburton, Tilly Jones, Finn Sinclair, Zach Davis, Iestyn Jones, Freddie Webber, Kelsey Hannah Brookes, Tegan Skyrme, Cerys Harts, Ffion Williams, Ruben Kelman, Ellis Peares, Qahira Shah, Andrew Millar, Kasia Tomsa, Tegan Davies, Tobias Baysting, Harriet Wright-Nicholas, Maddie Mai Malpas, Sonia Marwaha, Fatma Nur Aksoy, Ffred Hayes, Milly Floyd Evans, Fiona Garbutt, Hanna Mahamed, Hermione Vaikunthanathan-Jones, Bisan Ibrahim, Ella Kenny, Jake Dorgan, Stella Orrin, Roan Goulden, Ewan Bodilly, Ruby Cradle, Jack Lewis, Ffion Fairclough, Evie Kwan, Seth Burke, Georgia Miggins, Ollie Davies, Elena Ruddy, Shania Adams, Bowen Raymond Cole, Daniel Downton, Sultan Awolumate. 

A dyna ni—yr holl Aelodau. [Cymeradwyaeth.] Bydd dau Aelod, o Llamau a Voices from Care, hefyd yn cael eu cyhoeddi maes o law, sy'n gwneud 60 Aelod o'n Senedd newydd, Senedd Ieuenctid Cymru. Rwy'n dymuno pob lwc i chi gyda'ch gwaith, a llongyfarchiadau i bob un ohonoch, a gobeithiwn yn fawr y bydd modd i ni eich croesawu i'r Senedd ar gyfer y cyfarfod agoriadol ym mis Chwefror.

Felly, llongyfarchiadau i bawb ar y gwaith yna.

13:35
Datganiad gan y Llywydd: Y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru

Datganiad sydd gyda fi nesaf i chi, ac mae'r datganiad hynny ar y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi gwneud datganiad ysgrifenedig hefyd ar y ffaith bod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru wedi llofnodi cytundeb cydweithio heddiw. Mae'r cytundeb yn gwneud trefniadau sy'n rhai newydd ac sy'n codi cwestiynau ynghylch gweithrediad busnes y Senedd. Gan hynny, rwyf wedi cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch effaith y cytundeb ar statws Plaid Cymru fel grŵp, ac yn benodol pa un ai yw'n grŵp sydd â rôl weithredol. O dan delerau'r cytundeb, ni fydd gan Blaid Cymru unrhyw rolau gweinidogol, ac felly fy marn ar hyn o bryd yw nad yw'n grŵp sydd â rôl weithredol. Mae diffiniad Deddf Llywodraeth Cymru 2006 o rôl weithredol hefyd yn gymwys i'n Rheolau Sefydlog.

Er y sefyllfa gyfreithiol, mae manylion y cytundeb yn arwain at ystyriaethau o ran gweithredu busnes y Senedd a'n confensiynau presennol. Yn benodol, mae angen ystyried yn ofalus y mater o gyflwyno rôl newydd i Aelodau dynodedig. Byddaf yn awr, felly, yn ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes ac yn gwneud datganiad pellach ar sut y mae'r cytundeb yn debygol o effeithio ar weithrediad Cyfarfodydd Llawn y Senedd yma a'n pwyllgorau.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Rydyn ni nawr yn barod i symud ymlaen i gwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Ken Skates.

Digwyddiadau Mawr yng Ngogledd Cymru

1. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru? OQ57277

Diolch am eich cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant Cymru yn cynnal digwyddiadau mawr. Rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda pherchnogion digwyddiadau ledled Cymru gyfan, ac roeddwn yn falch o weld digwyddiadau fel Focus Cymru a Cwpan Curtis yn darparu buddion economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i ogledd Cymru eleni.

Diolch, Weinidog. Yn wir, roedd Cwpan Curtis yn llwyddiant ysgubol, a Focus Cymru hefyd, ac wrth gwrs, mae gennym ddigwyddiadau blynyddol gwych y mae Llywodraeth Cymru'n eu cefnogi yng ngogledd Cymru. Ac yn wir, mae potensial gan ddigwyddiadau mawr fel y Tour de France a Cwpan y Byd UEFA i drawsnewid y cymunedau y maent wedi'u lleoli ynddynt er gwell. Weinidog, beth yw eich asesiad o sut y byddai cais llwyddiannus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant yn helpu'r fwrdeistref sirol gyfan i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr a mewnfuddsoddiad i'r ardal?

Diolch am eich cwestiwn. A dylwn ddweud, mae gan Gymru hanes da nid yn unig o ddenu ond o gael budd gwirioneddol o ddigwyddiadau mawr, a dylid canmol yr Aelod am ei gyfnod yn y Llywodraeth yn helpu i ddatblygu hynny. Rydym yn gweld y digwyddiadau rydym yn helpu i'w hariannu yn gwneud elw ar y buddsoddiad o tua 10:1, felly mae'n darparu budd economaidd sylweddol, a budd diwylliannol a chymdeithasol hefyd fel y dywedwyd. Ac rwy'n frwdfrydig ynghylch cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU; hwy yw'r unig ymgeisydd o Gymru sydd ar ôl yn y ras. Ac rydym wedi gweld o ddinasoedd diwylliant eraill y DU y gall fod yn gatalydd ar gyfer mwy o fuddsoddiad a gwell dealltwriaeth o'r ddinas honno a'i chymdogion agos, a'r hyn y gall hynny ei wneud i ddenu mwy o fuddsoddiad gan fewnfuddsoddwyr o ran busnes, yn ogystal â gallu adeiladu ar hanes o economi ymwelwyr gynaliadwy. Felly credaf ei bod yn agwedd gadarnhaol iawn, a bydd fy swyddogion yn fwy na pharod i archwilio cyfleoedd i gydweithio i arddangos digwyddiadau ar gyfer 2025, pe bai Wrecsam yn llwyddiannus. Ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn y Siambr—o'r gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin—yn dymuno’n dda i Wrecsam gyda'u cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU ymhen ychydig flynyddoedd.

Weinidog, nid oes angen dweud bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i ddigwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru, a ledled Cymru gyfan. Bu'n rhaid canslo digwyddiadau ar fyr rybudd. Bellach, mae rhai trefnwyr digwyddiadau'n gyndyn o gynnal digwyddiadau oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â mesurau lliniaru COVID. Ond nid yw wedi bod cynddrwg â hynny, gan fod y pandemig wedi golygu bod mwy o bobl wedi dod ar wyliau i ogledd Cymru, sy'n wych. Gwelsom gynyrchiadau teledu mawr fel I'm a Celebrity, hyd yn oed, yn dod i'r rhanbarth—ac roedd yn dda eu gweld yn ôl ar ITV neithiwr, ar ôl ychydig ddyddiau oddi ar y teledu oherwydd storm Arwen. Mae'r digwyddiadau hyn yn arddangos beth sydd gan y rhanbarth i'w gynnig, ac wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr â fy etholaeth. Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i drefnwyr digwyddiadau yn Nyffryn Clwyd, ac ar draws rhanbarth gogledd Cymru, na fydd mwy o gyfyngiadau symud ac y dylent barhau i drefnu digwyddiadau drwy gydol 2022?

13:40

Wel, gallwn gytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd yr Aelod a'i gefnogi, tan iddo ddweud 'Rhowch warant i mi ar y dyfodol.' Edrychwch, y gwir amdani yw, os byddwn yn gweld amrywiolyn newydd omicron, ac os yw'n rhywbeth sy'n lledaenu'n llawer cyflymach na hyd yn oed amrywiolyn delta, ac os yw'n peri'r un lefel o niwed yn y boblogaeth ac i bob unigolyn, yna oherwydd y ffaith ei fod yn lledaenu'n gyflymach, bydd yn amrywiolyn mwy peryglus. Dyna pam fod pob Llywodraeth ledled y DU wedi rhoi cyfres o fesurau newydd ar waith.

Er hynny, hoffwn allu cefnogi'r economi ymwelwyr ledled gogledd Cymru, ledled de a chanolbarth Cymru, i ddeall sut rydym yn cynhyrchu mwy o weithgarwch ac yn cael hyder i wella'r economi ymwelwyr yn fwy cyffredinol, gan fy mod yn sicr yn cydnabod ei fod yn sector economaidd pwysig ar gyfer y dyfodol. A hoffwn adeiladu ar y ffaith bod mwy o bobl wedi dod i wahanol rannau o Gymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac i gael economi ymwelwyr wirioneddol gynaliadwy—drwy gydol y flwyddyn, a chanddi swyddi da yn hytrach na swyddi tymhorol yn unig.

Felly, byddwn yn gwneud popeth a allwn i gefnogi'r economi ymwelwyr, a'r economi ehangach, a byddwn yn cymryd pob cam rhesymol y gallwn eu cymryd i osgoi mesurau pellach y gallai fod angen eu cymryd yn ystod y pandemig, gan ein bod yn cydnabod, os ydym yn cymryd cam yn ôl, y gallai hynny arwain at niwed gwirioneddol i'r economi, yn ogystal ag iechyd corfforol a meddyliol. Felly, bydd dewisiadau'r Llywodraeth yn parhau i fod yn glir, yn gyson, yn gytbwys ac yn agored.

Y Sector Gweithgareddau Hamdden Egnïol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gweithgareddau hamdden egnïol yng ngogledd Cymru? OQ57289

Member
Dawn Bowden 13:41:35
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Mae ein rhaglen lywodraethu'n nodi ein hymrwymiadau i hybu mynediad cydradd at weithgareddau chwaraeon a hamdden a’n nodau ar gyfer sector twristiaeth a hamdden diogel a chroesawgar ledled Cymru. Mae gogledd Cymru'n cael cryn dipyn o sylw yng ngweithgarwch hyrwyddo Croeso Cymru ac yn ein rhaglen buddsoddi cyfalaf ar gyfer twristiaeth.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â Phlas y Brenin, cyfleuster gwych ar gyfer chwaraeon antur a hyfforddiant yng nghanol Eryri, ac mae'n cael ei redeg gan elusen Gymreig, yr Ymddiriedolaeth Hyfforddiant Mynydd. Maent yn edrych am gyllid i wneud eu hadeilad a'u cyfleusterau awyr agored i fod yn gwbl hygyrch i bobl anabl er mwyn cynyddu cynhwysiant ac ehangu'r cynnig. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi'r diwydiant hwn, sydd mor hanfodol i les economaidd a chymdeithasol gogledd Cymru i adfer wedi'r pandemig a thyfu, ac a fyddai modd i chi, Ddirprwy Weinidog, a swyddogion gyfarfod â mi er mwyn archwilio beth y gellir ei wneud i helpu'r cyfleuster gwych hwn i dyfu ac addasu? Diolch.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol? Do, gwelais eich bod wedi ymweld â Phlas y Brenin yn ddiweddar; rwy'n eich dilyn ar Twitter. Mae'n amlwg ei fod yn gyfleuster rhagorol, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi cael profiad cadarnhaol yno. Ac rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd gweithgareddau hamdden egnïol ledled Cymru wrth gwrs, ac yn y cyd-destun hwn, pwysigrwydd yr ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i gefnogi pobl anabl a chael gwared ar y rhwystrau a allai atal pobl rhag mwynhau'r mathau hynny o atyniadau i ymwelwyr. Rwy'n sicr yn gobeithio cael cyfle i ymweld â'r lle fy hun cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i gael sgyrsiau pellach gyda chi ynglŷn â hynny.

Fodd bynnag, Sport England sy'n berchen ar Blas y Brenin ac yn ei redeg. Felly, byddwn yn rhagweld y byddai cyllid cyfalaf ar gyfer y cyfleuster yn rhywbeth y byddai angen i Sport England ei adolygu fel sefydliad. Ond wedi dweud hynny, ar draws gogledd Cymru, mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi naw phrosiect amwynder cyhoeddus ar hyn o bryd drwy gynllun y Pethau Pwysig i wella'r profiad i ymwelwyr, a bydd llawer o'r rhain yn darparu gwell mynediad i'n hamgylcheddau, fel mynediad i'r traeth yn nhraeth Dwygyfylchi yng Nghonwy. Bydd yn darparu gwell cyfleusterau, gan gynnwys cyfleusterau storio beiciau ac ati. Ac wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo yn y rhaglen lywodraethu i barc cenedlaethol newydd i ogledd Cymru, y cyntaf ers dros hanner canrif, yn ardal aruthrol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, y gwn ei bod yn agos iawn at eich calon.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i ystyried cyfleoedd datblygu cyfalaf sy'n cefnogi cyrchfannau ymwelwyr a hamdden allweddol—er enghraifft, yn Sir Ddinbych, i gefnogi'r gwaith o ehangu ac uwchraddio cyfleusterau gwesty arfordirol y Beaches Hotel ym Mhrestatyn, a dau gam o fuddsoddiad £8 miliwn ym Mharc Antur Eryri, a £380,000 arall i Westy Plas Weunydd yn Llechwedd i greu gwesty a fydd yn ychwanegu at gynnig datblygiad Zip World. Gallwn barhau, ond credaf mai'r pwynt a gewch yma yw bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â chefnogi cyfleusterau a chanolfannau hamdden awyr agored, ac yn llwyr gydnabod eu pwysigrwydd i economi ehangach gogledd Cymru.

13:45

Fel y nodwyd, mae gweithgareddau hamdden egnïol, wrth gwrs, yn hanfodol i iechyd a ffyniant llawer o bobl ar draws gogledd Cymru. Nid yn unig fod gweithgareddau hamdden egnïol o fudd i bobl yn gorfforol, maent hefyd yn darparu buddion aruthrol i iechyd meddwl. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae gogledd Cymru'n ardal ardderchog ar gyfer gweithgareddau hamdden egnïol, gyda natur a golygfeydd gwych ar gyfer pob math o ymarfer corff, ac yn wir, yn ôl ym mis Mai, roeddwn yn hynod falch, gan ichi sôn am Barc Antur Eryri, o gael bod yno yn agoriad gwesty'r Hilton, canolbwynt i anturiaethau dan do ac awyr agored arobryn yng ngogledd Cymru, gyda'r cyfleusterau syrffio mewndirol cyntaf yn y byd. Felly, ie, enghraifft wych o safle sy'n galluogi gweithgareddau hamdden egnïol—rhanddeiliad pwysig iawn yn y rhanbarth. Ond i ddychwelyd at y buddion, o ran iechyd corfforol, ac wrth gwrs, iechyd meddwl, tybed pa waith rydych yn ei wneud gyda'r Gweinidog iechyd i ddeall y buddion yn well, Ddirprwy Weinidog, a sut y gall bwrdd iechyd gogledd Cymru—bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr—hefyd sicrhau eu bod yn cefnogi'r sector gweithgareddau hamdden egnïol?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? A chredaf ei fod yn llygad ei le: nid yw hyn yn rhywbeth sy'n gyfyngedig neu'n gyfrifoldeb i un portffolio yn unig. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a chyda'r Gweinidog iechyd ynglŷn â sut y gallwn weithio ar draws ein portffolios i gyflawni rhai o'r amcanion iechyd a lles hynny, gan gynnwys rhai materion cyllidebol. Yn amlwg, yn fy mhortffolio, mae gennym lawer o feysydd a all helpu i gyflawni'r mathau hynny o weithgareddau, boed drwy'r celfyddydau, diwylliant neu chwaraeon. Nid oes gennym yr holl gyllideb sy'n cyd-fynd â hynny o reidrwydd, os yw'n ymwneud yn benodol ag amcan iechyd meddwl a lles, ond mae gennym amcan clir iawn yn ein rhaglen lywodraethu ynghylch cyflwyno presgripsiynu cymdeithasol, ac mae'r meysydd yn fy mhortffolio yno i allu rhoi'r cymorth hwnnw i'r sectorau iechyd hefyd. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth rydym yn ei ystyried yn rheolaidd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'r amrywiolyn newydd o COVID-19 wedi peri pryder dealladwy, yn enwedig o gofio nad ydym yn gwybod eto pa mor ffyrnig yw'r amrywiolyn, ac felly ni allwn fod yn gwbl sicr o fygythiad y feirws i Gymru. Serch hynny, bydd y newyddion am amrywiolyn newydd yn achosi cryn bryder i fusnesau Cymru, ac felly mae'n hanfodol cynnal deialog barhaus gyda Llywodraeth Cymru ynghylch effaith yr amrywiolyn newydd ar sut rydym yn byw ac yn gweithio fel yr ymgynghorir â busnesau ar unrhyw fesurau newydd neu unrhyw newidiadau i'r mesurau a'r strategaethau presennol. Nawr, gwrandewais yn ofalus iawn ar yr ateb a roesoch i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, ond Weinidog, ar hyn o bryd, a allwch ddweud wrthym sut y mae'r amrywiolyn newydd yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd? Ac a allwch ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyhoeddi unrhyw fesurau newydd wedi'u targedu at fusnesau yng Nghymru cyn y Nadolig?

Diolch am eich cwestiwn. Yr hyn sy'n anodd gydag amrywiolyn omicron yw nad oes gennym ddarlun llawn o'i effaith gyffredinol. Ond rydym yn wirioneddol bryderus ei fod yn lledaenu hyd yn oed yn gyflymach nag amrywiolyn delta yn ôl pob golwg. Byddwch wedi clywed Gweinidogion Ceidwadol Llywodraeth y DU yn sôn am hynny hefyd, ond am y ffaith nad ydym gyda'n gilydd yn y DU yn deall y tair prif broblem. Ar y gyntaf: mae gennym rai effeithiau, ond nid ydym yn gwybod faint yn gyflymach na delta yr ymddengys ei fod yn lledaenu, ond mae'n ymddangos ei fod yn lledaenu'n gyflymach; yr ail yw a yw'n peri mwy o niwed nag amrywiolyn delta, a dof yn ôl at hynny; a'r drydedd yw a all weithio heibio'r brechlyn.

Nawr, os ystyriwch y peth fel hyn: mae gennym oddeutu 2,000 o bobl y dydd yng Nghymru'n profi'n bositif am COVID—delta yw pob achos, bron â bod—a gwyddom fod hynny'n arwain at nifer penodol o bobl yn cael niwed, yn mynd i'r ysbyty. Yn anffodus, gwyddom na fydd nifer penodol o bobl yn goroesi. Os yw omicron yn cael yr un effaith yn y 2,000 o bobl hynny, dywedwch, yna byddech yn dweud bod ganddo'r un math o'r hyn y mae gwyddonwyr yn ei alw'n allu pathogenig. Y broblem yw: os yw omicron yn lledaenu'n gyflymach, byddwn yn gweld mwy o bobl yn dod i mewn i'n system iechyd a gofal yn llawer cyflymach, ac mae perygl gwirioneddol y gallai hynny achosi effaith ddifrifol iawn, hyd yn oed os nad yw'n gallu gweithio heibio i effaith y brechlyn. Felly, rydym yn ymdrin â chryn dipyn o ansicrwydd ar hyn o bryd.

Mae ein gwyddonwyr ledled y DU yn disgwyl gallu darparu rhywfaint yn rhagor o wybodaeth i wleidyddion o fewn y ddwy i dair wythnos nesaf fel y gallant ddeall y ffactorau ychwanegol hynny. Felly, rydym yn ymdrin ag ansicrwydd gwirioneddol, ar yr adeg fwyaf anghyfleus i lawer o fusnesau yn ystod yr wythnosau olaf cyn y Nadolig. Felly, nid ydym yn bwriadu cyflwyno mwy o gyfyngiadau cyn y Nadolig, ond pan gawn fwy o wybodaeth am amrywiolyn omicron—nid yn unig yr hyn y mae'n ei achosi a'r hyn y mae'n ei olygu, ond hefyd pa mor eang y mae wedi lledaenu eisoes yn y DU. Ac nid oes gennym ddarlun llawn eto; wrth gwrs, mae gennym achosion a gadarnhawyd ac achosion tebygol, ond gan y gwnaed penderfyniad oddeutu chwe wythnos yn ôl i roi'r gorau i'r gofyniad i bobl sy'n dod i mewn i'r wlad wneud profion PCR, golyga hynny nad ydym wedi gallu dilyniannu ymlaen llaw. Felly, mae'n debygol fod mwy o omicron yn y wlad a ledled y DU nag y gwyddom amdano ar hyn o bryd. Pan gawn ddarlun llawnach o ble y mae a'i effaith benodol, bydd angen i Lywodraeth Cymru wneud dewisiadau, a bydd angen gwneud dewisiadau ledled y DU, a dyna pam yr ysgrifennodd y Prif Weinidog ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban at Lywodraeth y DU i nodi'n glir, os oes angen cymryd camau, yr hoffem gael cymorth Trysorlys y DU i wneud hynny pe bai'r effaith honno'n cael ei theimlo yn gyntaf mewn rhan arall o'r undeb yn hytrach na Lloegr. Rydym wedi gweld hynny yn y gorffennol, a chredaf y byddai ymateb priodol a synhwyrol i hynny'n dangos y DU yn ymddwyn fel y dylai ac yn gwneud ei gorau i sicrhau bod y peryglon a'r cyfleoedd yn cael eu rhannu'n gyfartal ar y cam diweddaraf yn hanes parhaus y pandemig hwn.

13:50

Wel, Weinidog, fy mhwynt yw ei bod yn hanfodol, wrth i fwy o wybodaeth ddod i'r amlwg am y feirws hwn, fod Llywodraeth Cymru'n cyfathrebu'n glir â busnesau Cymru ac yn nodi ei bwriadau, ac felly edrychaf ymlaen at glywed mwy gennych dros yr wythnosau nesaf. Nawr, dros yr wythnosau diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sawl datganiad economaidd ac wedi dyrannu cryn dipyn o gyllid, ac mae'n bwysig inni ddeall yn well a fydd yr amrywiolyn newydd hwn yn cael unrhyw effaith ar gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth becyn cyllid gwerth £45 miliwn, gyda'r nod o helpu busnesau bach ledled Cymru i dyfu a chefnogi miloedd o bobl ledled Cymru, gobeithio, i hyfforddi i weithio mewn sectorau allweddol. Mae'r cyllid hwnnw'n hanfodol wrth fynd i'r afael â bylchau sgiliau ac uwchsgilio'r gweithlu. Yn wir, fe ddywedoch chi eich hun wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod pob sector busnes y siaradwch â hwy—bach, canolig neu fawr—bob amser yn wynebu her sgiliau allweddol. Felly, a allwch ddweud mwy wrthym am y ffrwd gyllido benodol hon a sut y bydd yn cael ei dyrannu ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru? Ac a allwch ddweud wrthym pa mor hyderus rydych chi y bydd y cyllid hwn yn ddigon nid yn unig i ddiogelu 4,000 o swyddi, ond hefyd i helpu i greu 2,000 o swyddi newydd yng Nghymru, fel yr amlinelloch chi yr wythnos diwethaf?

Gallaf. Felly, o ran y cyllid ychwanegol roeddwn yn falch o'i gyhoeddi—ac rwy'n arbennig o falch fy mod wedi cyhoeddi y byddwn ei ddarparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, a fydd yn darparu'r cyllid ac yn gallu gwneud dewisiadau o fewn ardal yr awdurdod lleol, felly bydd ar gael i bob awdurdod lleol yn y wlad. Ac mae'r ffigurau a ddarparwyd gennym ar nifer y swyddi newydd y credwn y bydd yn eu creu, yn ogystal â'r rheini a ddiogelir, yn dod o'n profiad o weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a busnesau yn ystod y pandemig. Credwn y bydd hyn, yn arbennig, o fantais wirioneddol i fusnesau bach a chanolig hefyd.

Felly, dyna'r sail dros ddyrannu cyllid a pham ein bod wedi nodi ffigurau ynghylch yr effaith y credwn y bydd yn ei chael, ac roeddwn yn falch iawn o ymweld â busnes ym mwrdeistref sirol Caerffili, yn etholaeth Islwyn rwy'n credu, pan lansiwyd y gronfa, ac maent hwy eisoes wedi nodi'r cymorth y maent wedi'i gael drwy rowndiau blaenorol o gymorth gan Lywodraeth Cymru, a'r hyn y mae wedi caniatáu iddynt ei wneud wrth arallgyfeirio eu busnes a llwyddo i dyfu, a daw'r twf hwnnw o gyflogaeth leol—felly, swyddi da, ac fel y dywedwn yn Llywodraeth Cymru, gwell swyddi yn nes at adref. Mae'n enghraifft dda o'r cyllid hwnnw'n cyflawni hynny. Mae busnesau wedi dangos awydd gwirioneddol i wneud hynny. Rhan o'r her oedd datgloi buddsoddiad ar gyfer eu busnesau eu hunain. Felly, mae'r gronfa'n caniatáu i bobl wneud cais am grant, ac i fuddsoddi rhywfaint eu hunain hefyd. Mae'n enghraifft wirioneddol o 'rywbeth am rywbeth', sydd â phob gobaith, yn ein barn ni, o fod yn llwyddiannus.

Ar eich pwynt ehangach am gyfathrebu â busnesau mewn perthynas â'r llwybr drwy'r pandemig, rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd ag amrywiaeth o wahanol sectorau yn yr economi. Rwy'n siarad ag undebau llafur ac rwy'n siarad â sefydliadau busnes. Byddaf yn cael cyfres arall o sgyrsiau gyda grwpiau busnes yn ddiweddarach yr wythnos hon. Felly, mae'r cyfathrebu'n rheolaidd ac mae'r grwpiau busnes eu hunain yn dweud nad ydynt erioed wedi cael perthynas agosach neu well â Llywodraeth Cymru. Mae anghenion yn sgil y pandemig wedi gorfodi rhywfaint o hynny, ond credaf fod gennym well dealltwriaeth, ein bod yn rhannu gwybodaeth yn well, a bod gennym well ymddiriedaeth a hyder.

Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o'r sicrwydd i'r Aelod, y credaf ei bod yn rhesymol iddo ofyn amdano, fod sgyrsiau rheolaidd yn cael eu cynnal rhyngof fi, fy swyddogion a grwpiau busnes, a bod y rheini mewn sefyllfa dda i allu gwneud yr hyn sydd angen inni ei wneud, ond rwy'n mawr obeithio nad oes angen inni gyflwyno cyfyngiadau pellach. Ond byddaf i a Gweinidogion eraill yn y Llywodraeth yn gwneud y dewisiadau cywir i gadw pobl Cymru'n ddiogel, ac i wneud yr hyn a allwn i achub bywoliaeth pobl ar yr un pryd.

13:55

Wel, rwy'n falch iawn o glywed, Weinidog, eich bod yn cael trafodaethau parhaus gyda'r gymuned fusnes, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau dros yr wythnosau nesaf yn y cyfnod cyn y Nadolig. Nawr, yn yr un sesiwn graffu gweinidogol â Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, fe ddywedoch chi hefyd nad yw'r adferiad wedi'r pandemig o ran busnes wedi'i gwblhau eto yn sicr, ond mae'n destun trafodaethau rhyngoch chi a'r Gweinidog cyllid am y math o gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i fusnesau yn y dyfodol.

Nawr, fel y gwyddoch, dydd Sadwrn nesaf yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach, ac rwy'n gobeithio, Weinidog, y byddwch chi allan yn profi ac yn mwynhau popeth sydd gan ein busnesau bach i'w gynnig. Mae busnesau bach Cymru'n dal i fod mewn sefyllfa fregus, a gallai'r amrywiolyn newydd fygwth hynny, gan ei bod yn aeaf a gwyddom fod COVID-19 yn ffynnu mewn amgylcheddau dan do. Nawr, yn yr Alban, sefydlwyd cronfa gwerth £25 miliwn ar gyfer awyru busnesau, ac mae sefydliadau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwneud yr un peth yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, cyn y Dydd Sadwrn Busnesau Bach, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau rhyngoch chi a'r Gweinidog cyllid mewn perthynas â chymorth i fusnesau, ac yn arbennig, a oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch ardrethi busnes? Yn ail, a allwch ddweud wrthym pa gymorth tymor byr y mae Llywodraeth Cymru'n ei gynnig i fusnesau fel y gallant sicrhau bod eu lleoliadau mor ddiogel â phosibl dros fisoedd y gaeaf, gan gynnwys cronfa awyru bosibl, fel sydd wedi'i sefydlu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig?

Iawn, rwy'n fwy na pharod i drafod y pwyntiau hynny. Ni fydd yn syndod o gwbl i chi nad wyf am gyhoeddi'r gyllideb ymlaen llaw. Ni fyddai’r Gweinidog cyllid na’r Prif Weinidog yn arbennig o hapus pe bawn yn ceisio cyhoeddi rhannau o’r gyllideb a fydd yn cael ei chyhoeddi ddiwedd y flwyddyn ymlaen llaw, ond fel y Gweinidog cyllid, rwyf wedi clywed y galwadau gan ystod o sefydliadau busnes am ryddhad ardrethi pellach yn y flwyddyn newydd. Rydym mewn sefyllfa, wrth gwrs, lle gwnaethom ddarparu rhyddhad gwell o lawer yng Nghymru ar gyfer ystod o sectorau o gymharu â Lloegr, felly rydym eisoes ar y blaen i'r busnesau hynny sy'n gorfod gweithio gyda lefelau cymorth Lloegr, sydd wedi bod yn gostwng ers peth amser bellach.

Ar gronfa awyru'r Alban, roedd gennym ddiddordeb yn yr hyn roeddent yn ei wneud, ond nid oeddem wedi ein hargyhoeddi y byddai'r gronfa fel y'i cyhoeddwyd yn yr Alban yn gweithio i ni yma. Ni chredaf ei bod yn glir sut y byddai'n cael ei gweithredu a beth fyddai'n digwydd gyda'r gadwyn gyflenwi. Yr hyn rydym wedi'i wneud nawr, serch hynny, gyda'r gronfa £35 miliwn rydym wedi'i chyhoeddi ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, yw sicrhau bod awyru'n un o'r dibenion y mae'r gronfa ar gael ar eu cyfer, gan fod rhai busnesau eisoes wedi cymryd camau i wella awyru yn eu hadeiladau, ac rwy'n siŵr fod y rhai sydd wedi gwneud hynny wedi cysylltu â chi. O ran busnesau eraill nad ydynt wedi gwneud hynny ac sy'n awyddus i wella awyru ymhellach, dyna un o'r dibenion y gallant wneud cais amdanynt i'r gronfa a gyhoeddais yn ddiweddar, ac rydych wedi fy helpu i dynnu sylw ati'n gynharach yn y cwestiynau heddiw.

Yn fwy cyffredinol ar eich pwynt ynglŷn â busnesau bach, rwy'n gobeithio y bydd cytundeb ar draws y Siambr yn ddiweddarach y prynhawn yma yn y ddadl ar fusnesau bach—y ddadl fer 30 munud a gyflwynwyd gan eich grŵp. Yn sicr, rwy'n cefnogi busnesau bach yn fy etholaeth fy hun ac yn fwy cyffredinol, ac edrychaf ymlaen at glywed pobl o bob cefndir gwleidyddol yn y Siambr yn gwneud hynny ac yn tynnu sylw at fusnesau bach yr hoffem i bobl eu cefnogi yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau. Roedd pobl yn cefnogi busnesau bach ar anterth y pandemig, pan fu'n rhaid i bobl siopa'n lleol, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dal i ddewis siopa'n lleol a chefnogi eich stryd fawr leol a chefnogi eich busnesau bach lleol.

Diolch, Lywydd. Ar hyn o bryd, mae gan Busnes Cymru raglenni sgiliau a hyfforddiant mewn tri maes: recriwtio a staffio, sgiliau yn y gweithle, ac arweinyddiaeth. Sut y mae Busnes Cymru'n dewis pa gyrsiau i'w cynnig, ac a oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno mwy o gyrsiau i helpu i roi hwb i fusnesau yng Nghymru?

Byddai hynny'n fater i'w drafod gyda'r sectorau busnes eu hunain, o ran pa gyrsiau y byddent yn eu cynnig yn uniongyrchol a beth yw ein cynnig mwy cyffredinol ar yr agenda sgiliau a hyfforddiant. Mae gennyf ddiddordeb mewn dyfodol gwaith a phobl ifanc sy'n dod i fyd gwaith am y tro cyntaf ac sy'n awyddus i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd. Dyna pam ein bod wedi lansio'r warant i bobl ifanc wrth gwrs. Mae'r warant i bobl ifanc yn cynnwys prentisiaethau, nad ydynt ar gyfer pobl ifanc yn unig. Dyma hefyd pam fod y cyhoeddiad diweddar ar gyfrifon dysgu personol yn ymwneud â buddsoddi yn y gweithlu presennol, a dyna pam fy mod mor bryderus ynglŷn â'r heriau mewn perthynas â'r gostyngiad yn y gallu i gynnal rhaglen sgiliau addas a chadarn gyda'r newidiadau i'r gronfa codi'r gwastad. Mae'n bryder gwirioneddol i ni. Ond edrychaf ymlaen at sgyrsiau pellach gyda mi a chyda fy swyddogion ar ledaeniad y gefnogaeth a'r cymorth y dylem eu darparu, a sut y mae hynny'n diwallu anghenion busnesau. Bydd hynny, wrth gwrs, yn cael ei lywio gan lawer o'r gwaith a wneir gan ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac mae hynny'n ffactor allweddol wrth gynllunio sut y byddwn yn cefnogi busnesau yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch am yr ymateb, Weinidog.

Ac rwy'n falch ei fod wedi dweud bod hwnnw'n gwestiwn i fusnesau. Fel y mae Paul Davies eisoes wedi nodi, mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn agosáu'n gyflym, a chyda Dydd Sadwrn Busnesau Bach mewn golwg, mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi ymweld â’n busnesau lleol ein hunain. Rhan o hynny, i mi, fu ymweld â busnesau yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru.

Mae un awgrym cyson a glywais yn ymwneud â rhai o'r cyrsiau a ddarperir gan Busnes Cymru. Er enghraifft, nododd un busnes ddiffyg cymorth mewn perthynas â hyfforddiant optimeiddio peiriannau chwilio, a nododd un arall ddiffyg cyrsiau'n ymwneud â thyfu eu busnesau. O fy ymchwil fy hun, ymddengys mai prif gwrs Busnes Cymru sy'n canolbwyntio ar dwf yw rhaglen arweinyddiaeth 2020. Fodd bynnag, yn ôl gwefan Busnes Cymru, dim ond i fusnesau sy'n gweithredu yn nwyrain Cymru, neu weithwyr sy'n byw yno, y darperir y cwrs hwnnw. A oes monitro'n digwydd i weld pa mor effeithiol yw'r dewis o gyrsiau a ddarperir, a beth yw'r rhesymeg pam yr ymddengys bod llawer o raglenni'n ymwneud ag ochr weithredol ac ymarferol busnes, ond ychydig iawn ar dwf ac arloesi? A fyddai'r Gweinidog yn ystyried gweithredu rhaglen arweinyddiaeth 2020 Busnes Cymru ledled Cymru i ddarparu mwy o gyrsiau sy'n canolbwyntio ar dwf ac arloesi ym mhob rhan o Gymru?

14:00

Ie, mae gennyf ddiddordeb, wrth gwrs, mewn asesu effaith pob un o'r cyrsiau a gynhelir gennym a sut y cânt eu cyflwyno mewn gwahanol rannau o Gymru i ddiwallu anghenion busnesau sy'n cael eu hasesu yno. Credaf fod eich pwynt ehangach ynghylch y mathau o gyrsiau sy'n cael eu cynnal a'r ddarpariaeth i helpu busnesau i dyfu yn bwynt a gododd mewn sgwrs gyda'r Aelod dros Gwm Cynon am y newid nid yn unig o ran helpu i gefnogi busnesau i ddechrau, ond yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud yn ein cymorth busnes i helpu busnesau i dyfu. Mae wedi bod yn ffactor allweddol o dan arweinyddiaeth flaenorol Ken Skates ac mae'n parhau yn awr, a byddwch yn gweld hyn yn y gronfa busnesau bach a ddarperir gyda'r awdurdodau lleol. Mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn helpu busnesau i oroesi ac i dyfu hefyd.

Felly, mae'n ymwneud â chyllid ac mae hefyd yn ymwneud â pheth o'r cymorth a'r sgiliau, ond mae llawer o hynny hefyd yn ymwneud â busnesau eu hunain yn nodi'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i dyfu. Nid yw'r holl syniadau hynny'n cael eu cadw'n ganolog o fewn y Llywodraeth. Felly, mae'n ymwneud â'r math o bartneriaeth sydd gennym gyda busnesau eu hunain, gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n dweud wrthym beth y mae angen inni ei ddarparu, a lle y darperir hynny'n uniongyrchol—ni fydd darpariaeth uniongyrchol gan Busnes Cymru bob amser. Ond byddwn yn fwy na pharod i gymryd rhan mewn sgwrs fanylach gyda'r Aelod am yr amrywiaeth o gyrsiau gwahanol a ddarparwn yn uniongyrchol a sut y gwnawn hynny.

Dylwn ddweud, serch hynny, mewn perthynas â busnesau bach, fy mod yn mynd at fusnesau bach yn fy etholaeth fy hun yn rheolaidd. Efallai y byddwch wedi sylwi fy mod wedi cael fy ngwallt wedi'i dorri yn ddiweddar, busnes bach yn fy etholaeth a wnaeth hynny; rwy'n mynd at gigydd lleol, y siop ffrwythau leol, gallwn sôn am lawer mwy, ond rwy'n siŵr y byddwn yn clywed llawer o'r ganmoliaeth honno i fusnesau lleol pobl wrth eu henwau yn ddiweddarach y prynhawn yma hefyd.

Wrth gwrs, byddaf innau hefyd yn tynnu sylw at lawer o'r busnesau lleol rwyf wedi bod yn eu defnyddio yn y ddadl yn nes ymlaen, ac wrth gwrs byddaf yn rhannu fy nghyfrinach ynglŷn â ble rwy'n cael fy ngwallt wedi'i dorri hefyd. [Chwerthin.] Ac wrth gwrs rwy'n falch iawn fod y Gweinidog yn dweud ei fod yn ymgysylltu â busnesau. Yn amlach na pheidio, mae llawer o'r syniadau sy'n datrys llawer o'r problemau sy'n wynebu'r busnesau hyn wedi codi ar wyneb y gwaith felly rwy'n falch bod sgwrs yn digwydd.

Os caf fi droi at fasnach a phrotocol Gogledd Iwerddon, mae bygythiadau gan Lywodraeth y DU i danio erthygl 16 nid yn unig yn peri pryder mewn perthynas â sefydlogrwydd, heddwch a masnach yng Ngogledd Iwerddon, ond byddai tanio erthygl 16 yn effeithio'n negyddol ar gysylltiadau masnachu Cymru â'r UE. Tra bo Cymru'n ceisio adfer o effeithiau blynyddoedd o gyni, Brexit a COVID-19, ac wrth gwrs rydym eisoes wedi gweld tarfu ar fasnach yng Nghaergybi, ni allwn greu risg o darfu pellach ar economi Cymru. A yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw eglurhad ynghylch sut y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithredu erthygl 16, os byddant yn gwneud hynny, a beth fyddai rôl y Llywodraethau datganoledig yn y broses honno? A fyddwn, er enghraifft, yn gallu codi pryderon am yr effaith ar fasnach Cymru ac economi Cymru, a pha baratoadau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i leddfu'r ergyd i economi Cymru rhag ofn y bydd erthygl 16 yn cael ei thanio?

Tua dechrau mis Tachwedd, ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, gofynnais i'r Gweinidog am yr amserlen ar gyfer asesiad o effeithiau cronnol y darpariaethau mynediad i'r farchnad ar gyfer amaethyddiaeth yng nghytundebau masnach rydd Seland Newydd ac Awstralia, a dywedwyd wrthyf ei fod yn dibynnu ar y wybodaeth a ddarparwyd ac a yw'r cytundebau mewn egwyddor yn dod yn rhai terfynol. A yw'r Gweinidog wedi cael rhagor o fanylion gan Lywodraeth y DU ac a yw'n gallu rhannu'r manylion hynny â mi heddiw?

Rwyf am ymdrin â'ch ail bwynt yn gyntaf, ar y cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd. Credwn y gallai'r cytundebau mewn egwyddor newid yn y testun terfynol. Fe fyddwch wedi gweld bod llawer o ddyfalu wedi bod yn gyhoeddus am hynny hefyd. Ni allaf roi datganiad wedi'i ddiweddaru i chi ar hyn o bryd am nad ydynt wedi'u cwblhau. Pan fyddant wedi'u cwblhau, rwyf eisoes wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu ein hasesiad o'r effeithiau uniongyrchol gydag Aelodau a'r cyhoedd yn ehangach. Rhag-weld fydd rhywfaint o hynny, wrth gwrs, oherwydd, er enghraifft, mae'r cynnydd sylweddol yn y cwotâu ar gyfer cynnyrch amaethyddol y gellir ei fewnforio yn peri pryder ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn awr ond hefyd yn y dyfodol, dros amser, gyda chynnydd sylweddol yn y cwotâu cyfradd tariff—y cwotâu y cytunwyd arnynt—gyda'r ddwy wlad, a'r bar y mae hynny'n ei osod i'r trafodaethau gyda gwledydd eraill a phartneriaethau masnachu eraill.

Ar erthygl 16, rydym yn pryderu'n wirioneddol ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd os caiff erthygl 16 ei danio, ond yn yr un modd, rydym yn pryderu am y cyfnod presennol o amser a'r ansicrwydd y mae'r ddiplomyddiaeth drwy benawdau ac areithiau yn ei achosi yn y cysylltiadau masnachu presennol. Pan oeddem yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, credaf fod dwsin o groesiadau fferi uniongyrchol rhwng ynys Iwerddon a chyfandir Ewrop, ac mae'r nifer bellach wedi cynyddu i dros 40, felly mae cynnydd sylweddol wedi bod eisoes mewn masnach sy'n osgoi porthladdoedd Cymru ac sy'n mynd yn uniongyrchol i dir mawr Ewrop. Mae hynny'n effeithio ar fasnach ac mae'n effeithio ar swyddi ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn masnach drwy ein porthladdoedd eisoes. Os caiff erthygl 16 ei thanio, mae bron yn sicr y ceir mesurau i ddial am hynny. Ni allwn ddweud wrthych beth fydd effaith y rheini, oherwydd nid ydym yn gwybod beth fyddai'r mesurau hynny. Rydym eisoes wedi mynegi ein pryderon am yr hyn y byddai tanio erthygl 16 yn ei wneud i swyddi a busnesau yng Nghymru, ond nid ydym mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn ein cynnwys yn uniongyrchol yn y sgyrsiau hynny. Rwyf wedi egluro fy mod yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhan o'r sgyrsiau hynny oherwydd yr effaith uniongyrchol ar drefniadau gydag ynys Iwerddon gyfan—y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon—a'r hyn y mae'n ei wneud i fasnach yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu â ni ar hynny.

O ystyried yr hyn sydd i'w weld yn gynnig adeiladol gan yr Undeb Ewropeaidd i newid ystod o ofynion ar wirio nwyddau, rwy'n obeithiol y gellir cytuno ar ffordd adeiladol a chytûn ymlaen nad yw'n achosi'r aflonyddwch sylweddol a'r niwed economaidd diamheuol a fyddai'n cael ei achosi pe bai erthygl 16 yn cael ei thanio. Ond nid wyf mewn sefyllfa i roi unrhyw fath o warantau i'r Aelod am hynny; fel y gŵyr yr Aelod, nid oes gennyf reolaeth dros y trafodaethau hynny. Ond beth bynnag sy'n digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu a chyflwyno'r achos dros swyddi a busnesau yng Nghymru'n glir ac wrth gwrs, byddaf yn parhau i adrodd yn ôl i'r Senedd a'r pwyllgorau pwnc perthnasol.

14:05
Y Sector Cyfreithiol

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch cyfraniad y sector cyfreithiol i economi Cymru? OQ57269

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a minnau wedi cael trafodaeth gymharol ddiweddar ar bwysigrwydd cyfraniad y sector cyfreithiol i'r economi. O ran gwerth ychwanegol gros, gan ddefnyddio diffiniad ehangach i gynnwys rhai gwasanaethau cyfrifyddiaeth, cyfrannodd y sector cyfreithiol £926 miliwn i economi Cymru yn 2019. Mae hefyd, wrth gwrs, yn hynod o bwysig yn gymdeithasol. A dylwn nodi fy mod yn arfer bod yn gyfreithiwr ac rwy'n digwydd bod yn briod â chyfreithiwr go iawn gyda thystysgrif ymarfer go iawn, felly mae gennyf rywfaint o ddiddordeb personol yn hyn hefyd.

Dylwn hefyd ddatgan buddiant yn hyn fel aelod o Gylchdaith Cymru a Chaer, fel bargyfreithiwr. Nawr, rydych yn llygad eich lle ynghylch cyfraniad y sector cyfreithiol i economi Cymru; mae'n gyfran debyg i gyfraniad y sector amaeth i economi Cymru. Rwy'n siŵr, Weinidog, y byddwch yn cytuno â mi y byddai ystod lawn o brentisiaethau cyfreithiol hyd at lefel 7 yn rhoi hwb i gyfraniad sylweddol y sector cyfreithiol i economi Cymru. Byddai hefyd yn helpu gyda chynaliadwyedd mewn perthynas ag ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol; byddai'n helpu gydag amrywiaeth ac yn helpu i annog pobl na allant fforddio mynd i'r brifysgol i ymuno â'r proffesiwn. Felly, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ochr yn ochr â'r proffesiwn i ddefnyddio'r ystod lawn o brentisiaethau cyfreithiol sydd ar gael i gynyddu'r cyfraniad sylweddol y mae'r sector cyfreithiol eisoes yn ei wneud i economi Cymru? Diolch yn fawr.

Diolch. Mewn gwirionedd, roedd rhan o'r sgwrs a gefais gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar yr union sail hon: y potensial i ddatblygu prentisiaethau ac ar gyfer galwedigaethau paragyfreithiol hefyd. Mae peth o'r gwaith paragyfreithiol ar y trywydd cywir i gael ei gyflwyno ym mis Ionawr. Mae'r llwybr cymhwyster ar gyfer cyfreithwyr cymwysedig yn rhywbeth rydym yn dal i'w archwilio. Rwy'n deall—a chredaf fod hyn yn rhesymol—nad yw cwmnïau cyfreithiol a gafodd eu dal gan yr ardoll brentisiaethau yn teimlo'u bod yn cael gwerth am arian; cafwyd treth heb unrhyw enillion ar brentisiaethau a deallaf y pryder hwnnw. Mae'n bryder tebyg i amryw o fusnesau eraill hefyd. Yr hyn sy'n wahanol, wrth gwrs, am y proffesiwn cyfreithiol yw nad oes gennym brinder cyfreithwyr; mae'r her yn ymwneud â phwy sy'n mynd i'r proffesiwn cyfreithiol a'r hyn y gellir ei wneud am bobl o rannau o'n cymdeithas nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn y proffesiwn.

Yr her amgen i ni, yn Llywodraeth Cymru, yw ymdeimlad o flaenoriaeth. Pe byddem yn darparu cyllid ar gyfer prentisiaethau gradd i gyfreithwyr pan oeddwn i, er enghraifft, yn ariannu fy hun—cefais fenthyciad i wneud fy nghwrs—. Cefais y budd a'r cysur o gontract hyfforddi, ond ad-dalais hwnnw wedyn yn ystod fy mywyd gwaith—y benthyciad a gefais. Mae'n ymwneud ag a oes angen i ni gael llwybrau amgen i gymhwyster ai peidio; mae'n un o argymhellion comisiwn Thomas. Felly, rydym yn cwmpasu'r gwaith hwnnw o fewn y Llywodraeth ac rydym yn bwriadu siarad â'r proffesiwn amdano.

Ond wrth gwrs, mae'r trefniadau i gwmnïau cyfreithiol gefnogi pobl i astudio mewn lle gwahanol i rannau eraill o fywyd, lle gall prentisiaethau gradd wneud gwahaniaeth mwy. Mae gan brentisiaethau gradd eu hunain hanes da o gael pobl i swyddi sgiliau uwch, gwerth uwch. Wrth gwrs, mae gennym her gyllidebol sylweddol i'w rheoli, o ystyried y modd y cafodd ein cyllidebau eu bachu gyda'r ffordd y dyrannwyd yr arian codi'r gwastad ar gyfer y dyfodol. Felly, mae yna gwestiynau ymarferol go iawn am yr hyn y gallwn ei wneud, nid yn gymaint yr hyn rydym eisiau ei wneud, ond mae'r Cwnsler Cyffredinol a minnau'n parhau i gynnal trafodaethau adeiladol iawn i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen.

14:10
Strategaeth Twristiaeth

4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru yng Ngorllewin De Cymru? OQ57280

Gwnaf, nod ein cynllun adfer twristiaeth, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, yw pontio rhwng y pandemig a'r strategaeth dwristiaeth drosfwaol, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r Economi Ymwelwyr 2020-2025'. Ei nod yw tyfu twristiaeth a sicrhau manteision ledled Cymru gyfan, gyda chynaliadwyedd amgylcheddol a llesiant cymdeithasol a diwylliannol wrth wraidd hynny.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod bod twristiaeth yn gyflogwr mawr yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru. Mae'n creu miloedd o swyddi mawr eu hangen ac oddeutu 9.5 y cant o gyflogaeth ledled Cymru. Fodd bynnag, ar ôl darllen y ddogfen glymblaid a gytunwyd rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, ac a lofnodwyd heddiw, rwy'n gweld bod treth dwristiaeth sy'n bygwth cosbi'r busnesau hyn yn dal i fod yn yr arfaeth.

Gwyddom y byddai'r dreth hon yn niweidio economïau lleol a bywoliaeth pobl, gan daro trethdalwyr yn ariannol ar adeg o ansicrwydd economaidd. Gyda'r diwydiant eisoes yn wynebu sawl problem, o gyfyngiadau COVID i'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, bydd llawer yn gweld y ffaith bod Plaid Cymru a'r Blaid Lafur hyd yn oed yn ystyried y dreth hon yn gwbl annerbyniol. Disgrifiodd prif swyddog gweithredol Twristiaeth Gogledd Cymru, Jim Jones, y peth fel enghraifft o beidio â gwrando ar y bobl y bydd yn effeithio fwyaf arnynt. Dywedodd,

'Pan gafodd ei gynnig yn ôl yn 2017, roedd yn amhoblogaidd. Dyna pam y cafodd ei roi heibio. Nid oes unrhyw beth wedi newid.'

Nawr, darllenais o'ch cytundeb clymblaid y bydd y dreth dwristiaeth hon yn cael ei chynnwys yn y ddeddfwriaeth ar gyfer diwygio cyllid llywodraeth leol, gan ei gysylltu o bosibl â diwygio'r dreth gyngor leol a ffyrdd eraill y mae cynghorau'n codi refeniw. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa asesiad effaith economaidd a wnaethoch o dreth dwristiaeth ar ein heconomi dwristiaeth a busnesau bach? Yng ngoleuni'r cytundeb clymblaid a lofnodwyd heddiw, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i sicrhau nad yw'r cynghorau sy'n penderfynu peidio â mabwysiadu treth dwristiaeth yn cael eu cosbi'n ariannol drwy ddulliau eraill?

Wel, credaf fod yna anghywirdeb—rwy'n ei ddweud yn gwrtais—yn y ffordd y mae'r Aelod wedi cyflwyno hyn. Mae'r cynigion i ymgynghori ar ardoll dwristiaeth yn rhan o'r maniffesto a arweiniodd at 30 o Aelodau Llafur Cymru yn cael eu hethol gan bobl Cymru i'r Senedd. Maent eisoes yn rhan o'r rhaglen lywodraethu, ac nid yw'n syndod eu bod yno o fewn y cytundeb cydweithio sydd wedi'i lofnodi heddiw.

Rydym wedi bod yn glir iawn ar sawl achlysur yn y gorffennol, pan fo'r Aelod ac eraill wedi gofyn am hyn, ein bod yn bwriadu ymgynghori ar hyn yn ystod y flwyddyn nesaf. Bydd hynny'n cael ei arwain gan y Gweinidog cyllid, fel ychwanegiad newydd posibl i bolisi trethiant, a byddai ar sail ganiataol i roi'r gallu i awdurdodau lleol ddefnyddio'r pwerau rydym yn bwriadu eu rhoi iddynt.

Nawr, efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â hynny, a mater iddynt hwy fyddai hynny. Pŵer caniataol rydym yn bwriadu ymgynghori arno, yn hytrach na'i gwneud yn ofynnol i bobl gael ardoll dwristiaeth. Credaf ei bod yn werth ystyried sut y gallai pobl yn y sector weld bod hynny'n gadarnhaol, ond hefyd sut y mae'n cefnogi twristiaeth gynaliadwy, gyda'r pwysau ychwanegol y mae twristiaeth yn ei achosi i rai cymunedau ledled Cymru a'r gwasanaethau sy'n bodoli ar gyfer pobl leol sy'n byw yno drwy gydol y flwyddyn yn ogystal ag ymwelwyr. Rydym eisiau cael cydbwysedd priodol yn y ffordd y mae'r economi ymwelwyr yn gweithredu, gyda swyddi da drwy gydol y flwyddyn, gan wella'r natur dymhorol a sicrhau nad yw cyfleusterau a gwasanaethau lleol yn cael eu peryglu.

Wrth gwrs, bob tro y bydd Ceidwadwr yn codi i ddweud y byddai ardoll dwristiaeth yn dinistrio swyddi ac yn erchyll, mae'n werth nodi bod ardollau twristiaeth yn gwbl normal mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys ein cymdogion agos. Mae unrhyw un sydd wedi bod ar eu gwyliau yn Sbaen bron yn sicr o fod wedi talu ardoll dwristiaeth; mae llawer o bobl sy'n mynd i Ffrainc bron yn sicr o fod wedi talu ardoll dwristiaeth ar ryw adeg. Mae'n rhywbeth eithaf arferol i ganiatáu i awdurdodau lleol benderfynu a ydynt eisiau ei ddefnyddio ac os felly, ar ba lefel ac at ba ddiben. Yn sicr, nid yw wedi atal pobl o Brydain rhag teithio i wahanol rannau o'r byd i gyfrannu at yr economi ymwelwyr mewn rhannau eraill o'r byd. Credaf fod hwn yn gyfraniad synhwyrol iawn, ac mae'n un rydym wedi ymrwymo i ymgynghori arno yn ein maniffesto. Ni ddylai fod yn syndod ei fod yn ymddangos yn y cytundeb cydweithio a lofnodwyd heddiw.

14:15
Sectorau â Chyflogau Uwch

5. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael eu cyflogi mewn sectorau â chyflogau uwch yn yr economi? OQ57262

Diolch. Fel y gŵyr yr Aelod, ar 18 Hydref, cynhaliais uwchgynhadledd economaidd i drafod gyda rhanddeiliaid sut y gallwn gydweithio i fynd ar drywydd polisi economaidd blaengar sy'n canolbwyntio ar swyddi gwell, yn lleihau'r gagendor sgiliau ac yn trechu tlodi. Un enghraifft wych yw bargen ddinesig bae Abertawe, sy'n anelu at greu dros 9,000 o swyddi medrus a chynnydd o £1.8 miliwn yn y gwerth ychwanegol gros.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Byddai unrhyw un sy'n gwrando ar drafodaethau yn y Senedd yn meddwl mai amaethyddiaeth a thwristiaeth yw'r ddau sector economaidd allweddol ac mai ein huchelgais, felly, yw efelychu llwyddiant economaidd Gwlad Groeg. Hoffwn weld mwy yn cael ei wneud i gefnogi tri o'r sectorau â chyflog uchel, sef TGCh, gwyddorau bywyd a gwasanaethau proffesiynol medrus iawn. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda phrifysgolion Cymru i ddatblygu'r sectorau economaidd hyn?

Diolch am y cwestiwn atodol. Nid wyf yn credu y byddwn yn rhannu disgrifiad yr Aelod o ddadleuon yn y Senedd a blaenoriaethau'r Llywodraeth. Heddiw, wrth gwrs, clywsom am dwristiaeth mewn nifer o gwestiynau, ond mae'n rhan bwysig o'n heconomi. Credwn y gall dyfu'n gynaliadwy yn y dyfodol, drwy gydol y flwyddyn. Ond rydym wedi sôn hefyd am sectorau eraill. Rydym wedi clywed cwestiwn am wasanaethau cyfreithiol proffesiynol heddiw, ac rwyf fi fy hun wedi cael cyfarfod dilynol yn ddiweddar yn fy rôl fel y Gweinidog sy'n arwain ar wyddoniaeth yn y Llywodraeth gyda'r hyb gwyddorau bywyd rownd y gornel o'r Senedd. Felly, yn bendant mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd rydym yn sicrhau sgiliau uchel a chyflogau da yma yng Nghymru. Mae wedi bod yn rhan allweddol o'r hyn rwyf wedi'i drafod a'r hyn y gwnaeth fy rhagflaenydd yn glir yn ystod ei amser fel Gweinidog yr economi hefyd.

Rwy'n obeithiol ynglŷn â'n gallu i greu mwy o dwf yn y meysydd hyn. Gwyddom fod arloesi digidol yn allweddol ar gyfer busnesau bach, canolig a mawr yn y dyfodol. Gyda gwyddorau bywyd, gwyddom ein bod eisoes yn gwneud yn well na'r disgwyl. Mae'r ffordd y trefnir y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o fudd gwirioneddol i greu mwy o fuddsoddiad yn y sector hwnnw, yn ogystal â'r rhagoriaeth ymchwil o fewn y sector prifysgolion. Bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn ymwybodol fod gan ei brifysgol leol, Prifysgol Abertawe, Pfizer, er enghraifft, lle gwnaethant ddewis dod i Abertawe oherwydd rhagoriaeth yn y brifysgol ac oherwydd yr hyn y mae'r system gofal iechyd yn ei gynnig ar gyfer cael dadansoddiad system gyfan o welliant.

Felly, rydym eisoes yn gweithio gyda phrifysgolion. Maent yn pryderu ynglŷn â cholli rhywfaint o'r cyllid ymchwil yr arferent ei gael drwy arian Ewropeaidd, ond rwy'n hyderus y byddwn yn parhau i weld mwy o elw o'r hyn y mae prifysgolion yn ei wneud ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi i wella ein heconomi, nid yn unig yn y tri maes y mae'r Aelod yn eu disgrifio, ond mewn meysydd eraill hefyd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelod i wneud hynny.

Weinidog, mae'r cwestiwn am fwy o bobl mewn sectorau â chyflogau uwch yn hanfodol. Ceir rhai rhannau o Gymru lle nad yw pobl wedi cael cyfle i gael eu cyflogi yn y sectorau cyflog uwch hynny oherwydd nad ydym wedi gweld y twf gofynnol. Beth yw eich uchelgais, a pha gyfran o swyddi yng Nghymru a fydd yn cael cyflogau uwch erbyn diwedd y tymor seneddol? Diolch.

Nid oes gennym ddiffiniad o'r hyn a olygwch wrth gyflogau uwch. Yn sicr, credwn fod ein sylfaen drethu yng Nghymru ar y ffurf anghywir. Mae arnom angen mwy o bobl sy'n drethdalwyr cyfradd uwch. Gallwn wneud hynny drwy dyfu'r economi yma yng Nghymru, buddsoddi mewn sgiliau a phobl, yn ogystal â deall yr hyn y gallwn ei wneud yn rhai o'r sectorau lle mae gennym arbenigedd penodol mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru. Dyna pam ein bod wedi buddsoddi cymaint o amser ac ymdrech fel Llywodraeth i sicrhau fframwaith priodol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, oherwydd credwn y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna pam ein bod wedi bod yn bartneriaid priodol ac adeiladol mewn bargeinion twf dinesig a rhanbarthol. Cafwyd ymateb gwirioneddol gan fusnesau, awdurdodau lleol, ac undebau llafur yn wir i'r genhadaeth sydd gennym o fewn y Llywodraeth.

Dyna pam y mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn a wnawn i sicrhau nad oes angen i bobl ifanc adael y wlad—mae angen i'r dywediad nad oes angen i chi adael i allu ffynnu fod yn realiti yn hytrach na slogan yn unig—a dyna pam hefyd y mae gennym ddiddordeb mewn gweld a allwn berswadio mwy o bobl i sefydlu eu hunain a'u busnesau yma yng Nghymru. Mae cyfleoedd gwirioneddol i wneud hynny. Nid wyf am demtio ffawd drwy gael dangosydd canran penodol ar gyfer twf. Mae'n ymwneud â pha mor llwyddiannus y gallwn fod wrth wneud yr hyn y mae cenhadaeth y Llywodraeth yn ei nodi—sicrhau Cymru decach, fwy llewyrchus a mwy cynaliadwy. Erbyn diwedd y tymor hwn, rwy'n hyderus y byddwn wedi gwneud hynny.

Weinidog, mae'r diwydiant awyrofod yn ffynhonnell cyflogaeth â chyflog da yn fy etholaeth i, yn enwedig Airbus a'i gadwyn gyflenwi gyfagos, ond mae'r manteision yn mynd yn llawer pellach nag Alun a Glannau Dyfrdwy yn unig—maent yn ymestyn ar draws pob rhan o Gymru. Bydd y setiau sgiliau hyn yn y diwydiant o fantais i ni ar gyfer y dyfodol, a chredaf ein bod wedi gweld y gorau o'r set sgiliau honno y llynedd pan welsom y gweithwyr yn mynd ati i gynhyrchu peiriannau anadlu mewn cyfnod o angen dybryd. Yn fy marn i, mae'n bwysig yn awr ein bod yn anfon neges glir ein bod yn cefnogi'r sector awyrofod a bod ewyllys wleidyddol i wneud hynny. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi ynglŷn â phwysigrwydd y neges glir hon, ac a wnewch chi gyfarfod â mi i drafod y mater hwn ymhellach?

14:20

Rwyf wedi bod yn gyson iawn ers i mi ymgymryd â'r swydd hon, a chyn hynny hyd yn oed. Yn sail i fy niddordeb yn yr economi fel Gweinidog iechyd oedd y realiti fod pobl sydd mewn gwaith sy'n talu'n well yn llawer mwy tebygol o gael gwell canlyniadau iechyd. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r trethi y maent yn eu talu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ond maent yn llai tebygol o fod angen gofal iechyd hefyd. Cefais nifer o sgyrsiau gyda Ken Skates yn y rôl flaenorol honno am ein diddordeb mewn gwyddorau bywyd, ein diddordeb ein dau mewn helpu cyflogwyr i ddod yn gyflogwyr gwell. Oherwydd mae gwella llesiant yn y gweithle yn ffactor pwysig iawn i'r gwasanaeth iechyd hefyd. Wrth sôn am swyddi sy'n talu'n dda mewn gweithgynhyrchu uwch, mae awyrofod yn enghraifft dda, ac rwy'n awyddus iawn inni beidio â gweld swyddi'n gadael Cymru; rwyf eisiau gweld y sector hwn yn parhau i gael dyfodol da yng Nghymru, a dyfodol lle mae'n tyfu yn wir. Rhan o hynny yw'r gwaith y mae'r cwmnïau hynny eisoes yn ei wneud, wrth edrych ar sut y maent yn datgarboneiddio'r diwydiant, sut y maent yn manteisio ar ddulliau adeiladu newydd a all wella'r cynhyrchion y maent yn eu darparu, ac yn hollbwysig, rwy'n credu, y newid i dechnolegau tanwydd newydd hefyd. Mae hedfan sero-net yn debygol o fod genhedlaeth i ffwrdd, ond yn y cyfamser, mae rheidrwydd gwirioneddol i leihau'r carbon nid yn unig yn y broses gynhyrchu ond yn y ffordd y mae awyrofod yn gweithredu, ac mae gennym amrywiaeth o'r enghreifftiau hynny yng Nghymru. Felly, byddwn yn hapus i gyfarfod â'r Aelod i drafod hynny'n fanylach, oherwydd rwy'n hyderus ac yn gadarnhaol ynghylch dyfodol y diwydiant awyrofod yma yng Nghymru.

Y Gwarant i Bobl Ifanc

6. Beth yw strategaeth y Gweinidog ar gyfer sicrhau bod y gwarant i bobl ifanc yn helpu i lenwi'r bylchau sgiliau mwyaf arwyddocaol sy'n dal yr economi yn ôl? OQ57291

Diolch. Gall cyflogwyr lenwi eu bylchau sgiliau gyda'r warant i bobl ifanc drwy gynnig lleoedd prentisiaeth, recriwtio a hyfforddiant drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd, neu drwy hysbysebu eu swyddi drwy fwletin swyddi Cymru'n Gweithio. Gall cyflogwyr drafod eu hanghenion drwy gysylltu â phorth sgiliau Busnes Cymru.

Mae perygl yn hynny nad ydym yn gwneud dim byd ond creu mwy o newyddiadurwyr, er enghraifft, neu bobl trin gwallt. Mae eraill wedi sôn am y diwydiant awyrofod; rwyf eisiau canolbwyntio ar y diwydiant adeiladu. Clywsom gan y grŵp trawsbleidiol ar adeiladu yn gynharach yr wythnos hon fod 3,000 o swyddi gwag heb eu llenwi yn y sgiliau adeiladu traddodiadol, felly mae'n amlwg bod cyfleoedd yno. Ond hefyd, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi tynnu sylw at y miloedd o swyddi a sgiliau sydd eu hangen i adeiladu'r tai cymdeithasol di-garbon sydd gennym, yn ogystal ag ôl-osod ein holl gartrefi presennol, ac mae hynny'n cynnwys yr angen am bron i 3,000 o aseswyr peirianneg ôl-osod. Hoffwn ddeall beth yw strategaeth y Llywodraeth ar gyfer sicrhau bod y warant wych hon i bobl ifanc yn arwain at y gwaith ôl-osod ac adeiladu arbenigol y mae cymaint o'i angen i sicrhau ein bod yn cyflawni'r strategaeth ddi-garbon rydym wedi'i gosod i'n hunain.

Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r gwaith a wnawn gyda'r warant, yn ogystal â'r hyn rydym yn ei wneud, yn fwy cyffredinol, ar geisio creu gwell gwerth o gadwyni cyflenwi lleol. Pan oeddem yn siarad am yr economi sylfaenol a sicrhau gwell swyddi yn nes at adref, mae hyn yn rhan ohono mewn gwirionedd, sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn busnesau lleol. Mae'r busnes yr ymwelais ag ef i lansio'r gronfa £35 miliwn yn enghraifft dda yn yr union faes hwn. Maent yn darparu gwasanaethau effeithlonrwydd ynni, maent yn ôl-osod tai, gan gynnwys eiddo carreg solet, i wella nid yn unig y biliau i'r person hwnnw ond yr hyn y mae'n ei olygu i gael cartref gwirioneddol weddus a chynnes. Maent yn enghraifft dda o ble maent eisoes yn buddsoddi yn eu gweithlu presennol a'u gweithlu yn y dyfodol i ddarparu'r union sgiliau y cyfeiriwch atynt.

Soniais yn gynharach mewn atebion heddiw am bartneriaethau sgiliau rhanbarthol. Maent yn bwysig iawn i sicrhau nad ydym yn gwneud yr hyn yr awgrymoch chi y gallai ddigwydd o ran cynhyrchu nifer o bobl ar gyfer swyddi nad ydynt yn bodoli. Mae'n bwysig iawn paru'r sgiliau y mae busnesau'n dweud wrthym y byddant eu hangen ar gyfer y dyfodol, y sgiliau rydym yn cydnabod ein bod eu hangen yn y dyfodol, a sicrhau bod y ffordd y mae darparwyr yn darparu'r cyrsiau yn cyfateb i'r sgiliau sydd eu hangen mewn gwirionedd. Mae'n ymwneud â phartneriaeth go iawn—partneriaethau sgiliau, awdurdodau lleol, busnesau, undebau llafur a'r Llywodraeth—ac mae'r cyfan yn cyd-fynd â'n dull o fuddsoddi'n rhanbarthol a chefnogi ein heconomi. Rwy'n hyderus ac yn obeithiol y bydd y warant i bobl ifanc yn cyd-fynd â hynny. Bydd y ffordd rydym yn strwythuro'r rhaglen newydd Twf Swyddi Cymru+, a'r cyhoeddiad y byddaf yn ei wneud yn y flwyddyn newydd ar ReAct + mwy, rwy'n credu, yn rhoi'r math o gysur y mae'r Aelod yn gofyn amdano ein bod o ddifrif yn edrych ar sgiliau ar gyfer y dyfodol. 

14:25
Masnach Ryngwladol

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach ryngwladol? OQ57282

Diolch. Mae ein cynllun gweithredu ar allforio yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd i hyrwyddo manteision masnach ryngwladol. Mae hyn yn cynnwys darparu ystod gynhwysfawr o raglenni allforio i gefnogi busnesau ar eu taith allforio. Rydym eisiau adeiladu capasiti allforio ac ysbrydoli busnesau eraill i allforio, i ddod o hyd i gwsmeriaid tramor ac i gael mynediad at farchnadoedd tramor. Byddwn yn parhau i wneud y gwaith hwnnw gyda fy swyddogion, a sefydliadau busnes eu hunain yn wir.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddom, mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y farchnad allforio ym mhob rhan o'r byd. Yng Nghymru, er enghraifft, mae gwerth allforion nwyddau wedi gostwng £2 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rwy'n cydnabod y gwaith y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r farchnad allforio, megis drwy'r cynllun gweithredu ar allforio, fel rydych newydd sôn. Er bod y cynllun yn nodi bod y Llywodraeth yn canolbwyntio ei chymorth ar sectorau blaenoriaeth, mae hefyd yn nodi bod ffocws y strategaeth bresennol ar sectorau galluogi fel y'u gelwir, megis twristiaeth ac addysg, yn cael ei ddiwygio yn sgil effaith y pandemig. Weinidog, a allwch chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad y cynllun, a'r effaith y gallai ansicrwydd presennol, megis yr amrywiolyn omicron, ei chael ar allforion Cymru? Hefyd, sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu sectorau galluogi i helpu i'w hyrwyddo yn y byd yn ehangach? Diolch.

Ar yr amrywiolyn omicron, rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd, felly mae'n anodd cael rhaglen benodol pan nad ydym yn sicr beth fydd y canlyniad yn y pen draw. Credaf mai dyna fyddai ymateb unrhyw Weinidog yn unrhyw un o'r pedair gweinyddiaeth ar draws y DU. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad wyf yn ceisio nodi lefel artiffisial o sicrwydd a fydd yn anghywir ac a allai arwain at bobl yn gwneud dewisiadau y maent yn edifar amdanynt wedyn ar sail yr hyn a ddywedais. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn deall hynny.

Ar eich pwynt ynglŷn â sectorau galluogi, mae gennym eisoes gefnogaeth i dwristiaeth o fewn y DU fel economi ymwelwyr, ond hefyd, gan droi'n ôl, os hoffech, at un o bwyntiau Jack Sargeant am ddyfodol cynaliadwy i'r diwydiant awyrofod, rydym yn dal i ddisgwyl y bydd teithio rhwng gwahanol wledydd at ddibenion hamdden a busnes, ac mae sut y gwelir Cymru yng ngweddill y byd yn bwysig yn hynny o beth. Felly, rydym yn edrych ar ymwelwyr rhyngwladol mewn perthynas â'r hyn y mae hynny'n ei olygu i fodel cynaliadwy o economi ymwelwyr rhyngwladol, beth y mae'n ei olygu i ddelwedd Cymru o gwmpas y byd, ac nid yn unig mewn pethau fel ein traddodiadau chwaraeon a diwylliannol, sy'n rhan bwysig o'r cynnig. Credaf fod pobl weithiau'n tangyfrif y cynnig diwylliannol sydd gan Gymru ynddo'i hun. Ond mewn gwirionedd, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, credaf fod Cymru fel gwlad wedi bod â diddordeb sylweddol mewn rhannau eraill o'r byd yn fwy cyffredinol. Rwyf wedi gwneud mwy o waith ar gyfryngau rhyngwladol yn ystod y flwyddyn a hanner ddiwethaf nag a wneuthum yn y chwe neu saith mlynedd blaenorol fel Gweinidog y Llywodraeth, a chredaf ei bod hefyd yn wir bod Prif Weinidog Cymru wedi gwneud llawer mwy o waith ar gyfryngau rhyngwladol na'i ragflaenydd.

Felly, mewn gwirionedd, mae proffil Cymru ar lefel wahanol yn awr, ac mae hynny'n beth da, oherwydd mae wedi cael ei ystyried yn gyffredinol fel rhywbeth cadarnhaol hefyd. Rydym yn edrych wedyn i weithio ochr yn ochr â busnesau i ddeall beth yw eu dyheadau, sut rydym yn cyflwyno Cymru mewn rhai o'r fforymau rhyngwladol sy'n datblygu—mae expo'r byd, er enghraifft, yn enghraifft dda—ond gweithio ochr yn ochr hefyd â busnesau a sefydliadau fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain. Roedd fy araith ddiweddar i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn yr union ofod hwn yn ymwneud â'r hyn y gallwn ei wneud i fusnesau Prydain, gan gynnwys busnesau Cymru, i sicrhau eu bod yn llawer gwell am ennill marchnadoedd newydd yn rhyngwladol. Felly, nid wyf yn credu y bydd yr Aelod yn gweld anghytundeb rhyngom ar y pwyntiau hynny.

Yr Economi Sylfaenol

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi sylfaenol yng Nghymru? OQ57275

Diolch. Mae'r economi sylfaenol yn ganolog i'n cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu'r economi. Rydym yn cefnogi partneriaid i gyflawni prosiectau sy'n meithrin yr economi sylfaenol, a'r gronfa cefnogi cwmnïau lleol wrth gwrs, a gyhoeddais yn gynharach y mis hwn. Credwn y bydd y rhain yn helpu busnesau i oresgyn rhwystrau i ymgysylltu â chaffael, ac yn darparu mwy o swyddi a gwell swyddi yn nes at adref.

Diolch am eich ateb. Wrth gwrs, mae cronfa her yr economi sylfaenol wedi helpu nifer o fusnesau yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ers iddi gael ei lansio. Un o'r pethau y mae wedi'i helpu yw Cyfle, sy'n darparu prentisiaethau a chyfleoedd rhagorol yn y diwydiant adeiladu, ac mae Jenny Rathbone eisoes wedi sôn y bore yma fod angen i'r diwydiant hwnnw gael ei gynnal mewn perthynas â'r cyfleoedd prentisiaeth hynny. Rydych wedi achub y blaen ar y ffaith fy mod am godi'r £1 filiwn a gyhoeddwyd gennych yn gynharach ar gyfer y gronfa cefnogi cwmnïau lleol. Yr hyn yr hoffwn ei wybod, Weinidog, yw pa bryd y byddwch yn gallu rhoi unrhyw fanylion am fusnesau yn fy rhanbarth a fydd yn elwa o'r gronfa newydd honno sydd i'w chroesawu'n fawr.

14:30

Byddwn yn hapus i weithio gyda'r Aelod wrth inni gyhoeddi'r gronfa cefnogi cwmnïau lleol, a phan fyddwn yn nodi'r cwmnïau a fu'n llwyddiannus, oherwydd nid gweld ble maent yn unig rydym am ei wneud, ond beth fydd effaith yr arian a sut y byddwn am eu helpu i ymgysylltu o fewn eu heconomi leol. Felly, byddwn yn fwy na pharod i fanteisio ar gyfle i fynd â'r Aelod drwy hynny ar ôl inni gael rhai o'r canlyniadau. A phwy a ŵyr, efallai y gallwn ymweld ag un o'r cwmnïau hynny yn ei rhanbarth yn y dyfodol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

A dyma ni felly yn symud ymlaen at eitem 2, sef y cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.

Meddygon Teulu

1. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal ynglŷn â chapsiti meddygon teulu i ymateb i'r galw ar wasanaethau yng Nghaerdydd? OQ57270

Diolch yn fawr. Mae pob practis meddygon teulu ar draws Cymru yn gweithio'n galed i ymateb i'r pwysau a'r galw cynyddol gan gleifion. Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chadeiryddion y byrddau iechyd i drafod sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u darparu.

Diolch yn fawr, Weinidog. Yn chwarter cyntaf 2022, bydd canolfan feddygol Saltmead yn Grangetown a meddygfa Albert Road ym Mhenarth yn cau eu drysau i filoedd o gleifion am y tro olaf. Yn ogystal, os bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cael ei ffordd a bwrw ymlaen gyda chynigion, bydd yr un peth yn digwydd ym Mhentyrch. Hyn, er gwaetha'r ffaith bod yna gannoedd o dai wedi cael eu hadeiladu yn yr ardal yn ddiweddar.

Fe wnes i ysgrifennu atoch chi yn ôl ym mis Hydref, yn codi pryderon ynglŷn â chau'r feddygfa yna, ac er gwaethaf argymhellion y cyngor iechyd cymunedol, dyw'r bwrdd iechyd heb ymgynghori â'r gymuned leol ynglŷn â'r cau. Mae yna gyfarfod cyhoeddus ym Mhentyrch ar nos Lun, 13 Rhagfyr. A wnewch chi annog cynrychiolwyr o'r bwrdd iechyd i fynychu'r cyfarfod hynny, neu os dyw hynny ddim yn bosib, sicrhau bod yna ymgynghoriad llawn yn digwydd gyda'r trigolion lleol fel bod modd iddyn nhw godi eu pryderon a'u bod nhw ddim yn teimlo fel eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Dwi'n ymwybodol bod y sefyllfa yn peri pryder i bobl sy'n byw yn ardal Albert Road, Pentyrch ac yn Saltmead, a dyna pam mae'r bwrdd iechyd yn edrych i mewn i'r sefyllfa yma. Wrth gwrs, o ran Albert Road, bydd y bobl sydd yn mynd i'r feddygfa yna yn gallu parhau i fynd yna tan 18 Mawrth, ac wedyn byddan nhw'n cael mynediad i bractis arall yn yr ardal leol. 

Fel rŷch chi'n ei ddweud, o ran Pentyrch, dwi'n gwybod eu bod nhw wedi bod yn gweithio gyda thrydydd parti i weld ble maen nhw'n gallu codi lle newydd, ac wrth gwrs, dwi'n meddwl ei fod yn bwysig fod pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yna a'u bod nhw yn cael eu llais nhw wedi ei glywed. A hefyd o ran Saltmead Medical Centre, mi fydd y gwasanaeth yn fanna yn cau, fel rŷch chi'n ei ddweud, ar 25 Chwefror blwyddyn nesaf. Beth sy'n digwydd yw bod y timau lleol a'r bwrdd iechyd lleol wrth gwrs yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa ac maen nhw'n rhoi pethau mewn lle i sicrhau fod pobl yn cael y ddarpariaeth sydd ei angen arnyn nhw.

Mae arolwg tracio diweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain wedi datgelu bod dros hanner y meddygon a holwyd yng Nghymru wedi gweithio oriau ychwanegol yn ystod y pandemig gyda chwarter ohonynt yn dweud bod yr oriau hyn yn ddi-dâl. Roedd dros draean o'r meddygon a ymatebodd i arolwg y BMA yn teimlo dan bwysau gan eu cyflogwr i weithio oriau ychwanegol ac roedd dros draean hefyd naill ai wedi peidio â chymryd eu hamser egwyl dynodedig neu wedi'i gymryd ar adegau prin yn unig. Yn anffodus, mae hyn wedi golygu bod nifer wedi gorflino, gyda dros hanner y meddygon a arolygwyd yn cofnodi lefel uwch na'r arfer o flinder neu orflinder, ac mae'n destun pryder fod 76.6 y cant yn datgelu bod eu lefelau straen wedi gwaethygu ers dechrau'r pandemig COVID-19. Dangosodd arolwg arall a gomisiynwyd gan y BMA ym mis Ebrill eleni fod 51 y cant o'u haelodau yn dioddef o iselder, gorbryder, straen, gorflinder, trallod emosiynol, neu gyflwr iechyd meddwl arall ar hyn o bryd, mae 16 y cant yn bwriadu gadael y GIG yn gyfan gwbl, ac mae 47 y cant yn bwriadu gweithio llai o oriau ar ôl y pandemig. Rwy'n siŵr fod y canrannau hyn wedi eu hadlewyrchu ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt, ond maent yn dangos bod y proffesiwn meddygol dan straen enfawr, ac ni fydd parhad y pandemig a'r math omicron newydd ond yn gwaethygu pethau. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i gefnogi iechyd a lles meddygon teulu wrth inni wynebu gaeaf arall gyda COVID? Diolch.

14:35

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n fwy na ymwybodol o'r pwysau sydd wedi bod ar feddygon teulu ers cryn dipyn o amser bellach. Gwn fod llawer ohonynt wedi blino'n llwyr, eu bod wedi gweld llawer mwy o gleifion nag a welsant erioed o'r blaen, fod y ffordd y maent wedi gorfod newid y ffordd y maent yn hwyluso mynediad i gleifion yn gyflym iawn wedi bod yn anodd i lawer, ac rwy'n ymwybodol fod y lefelau salwch oddeutu 11 y cant, sy'n sylweddol uwch na llawer o bobl eraill sy'n gweithio yn y GIG. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny, a bydd fy nghyd-Aelod sy'n gyfrifol am iechyd meddwl yn ymwybodol o hynny ac yn sicrhau bod y cymorth i weithwyr iechyd proffesiynol ar gael iddynt. Rydym wedi rhoi £1 filiwn tuag at hynny yn ystod y pandemig. Ac wrth gwrs, gyda'r cyhoeddiad heddiw y bydd cynnydd o 3 y cant yn yr hyn rydym yn ei roi i gynorthwyo meddygon, rydym yn ceisio cydnabod y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud dros y cyfnod hynod anodd hwn.

Mae'n mynd i fod yn anodd. Rydym wedi newid y ffordd y gweithiwn, ac mae rhywfaint o hynny wedi gweithio'n dda iawn i gleifion, ond mae meddygon teulu wedi gorfod addasu hefyd. A chredaf fod yn rhaid i bawb ohonom sicrhau ein bod yn deall y pwysau sydd wedi bod arnynt, a dyna pam y byddwn yn annog pobl Cymru i ystyried a oes mecanweithiau eraill iddynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt. A gallai hynny fod drwy ffonio 111; gallai fod drwy ofyn i'w fferyllfa am gymorth. Felly, gwneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o'r dewisiadau amgen hynny.

Mynediad at Ofal Sylfaenol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at ofal sylfaenol yng Nghymru? OQ57287

Mae mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol wedi newid yn ddramatig ar draws Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae gwasanaethau wedi gorfod addasu fel y gall cleifion gael mynediad at ofal sylfaenol mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Mae llawer yn defnyddio technoleg ddigidol i helpu i ddarparu'r gwelliannau hyn.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae nifer o etholwyr yn cwyno wrthyf yn rheolaidd eu bod yn ei chael yn anodd iawn cael apwyntiad i weld eu meddyg teulu. Fel arfer, maent yn ffonio am 8 a.m. yn ôl yr angen, ond nid ydynt yn gallu mynd drwodd am gryn dipyn o amser, maent yn ffonio drwy'r amser, ac yna, pan fyddant yn mynd drwodd at y feddygfa yn y pen draw, dywedir wrthynt fod yr holl apwyntiadau ar gyfer y diwrnod hwnnw wedi'u rhannu ac y dylent ffonio'n ôl am 8 a.m. y bore wedyn, pan fyddant yn mynd drwy'r un profiad eto. Felly, yng ngoleuni'r problemau hynny, Weinidog, rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad rydych wedi'i wneud heddiw ynghylch newidiadau i'r contract meddygon teulu, fel y bydd cyllid newydd a systemau newydd yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y gwasanaethau ffôn hyn, er mwyn gallu cael gwell mynediad, ac fel nad ydym yn wynebu'r sefyllfa 8 a.m. hon fel petai. Ond tybed a allech ddweud wrthyf pryd y mae'r systemau newydd hyn yn debygol o fod ar waith, a hefyd a fyddwch yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i sicrhau mai'r practisau sydd â'r problemau mwyaf fydd y rhai cyntaf i gael y cymorth hynod o angenrheidiol hwn?

Diolch yn fawr iawn, John. Rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw heddiw. Mae wedi bod yn nifer o fisoedd o drafodaethau sensitif iawn gyda'r bobl sydd wedi bod ar y rheng flaen am yr holl amser hwnnw. Felly, bu'n rhaid inni gael y cydbwysedd yn iawn yma oherwydd, yn amlwg, mae gennym gyfrifoldeb i gefnogi'r meddygon teulu, sydd mewn sefyllfa anodd iawn, ond hefyd i sicrhau bod darpariaeth a gwasanaeth gweddus i bobl Cymru. A dyna pam ein bod wedi canolbwyntio'n fawr ar y contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn perthynas â'r problemau mynediad y mae cymaint o'ch etholwyr ac eraill yn eu cael, fel rydych chi wedi nodi, gyda'r tagfeydd 8 a.m. yn enwedig yn broblem i gynifer o bobl, a phobl yn ceisio dro ar ôl tro i fynd drwodd at eu meddygfeydd.

Felly, rydym wedi cyhoeddi cyfraniad o £12 miliwn heddiw. Mae'n amlwg y bydd rhywfaint ohono'n mynd tuag at y codiad cyflog o 3 y cant, ond rydym yn sicrhau hefyd y bydd cymorth ychwanegol i fuddsoddi mewn systemau a fydd yn gwella'r ffordd y mae pobl yn mynd drwodd, ond hefyd, i gael gwell cynlluniau ar waith yn y meddygfeydd fel na fydd y pwysau ychwanegol hwnnw ganddynt ar adeg benodol o'r dydd.

Felly, mae hyn yn mynd i ddigwydd o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ond yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod popeth yn ei le ac yn barod i fynd o fis Ebrill ymlaen, a dyna pam y gwnaethom y cyhoeddiad hwnnw heddiw.

14:40

Weinidog, gan fod ymarferwyr gofal sylfaenol yn aml yn gofalu am bobl dros gyfnodau estynedig, dros flynyddoedd lawer ambell waith, mae'r berthynas rhwng y claf a'r meddyg yn arbennig o bwysig. Nawr, gyda phroblemau iechyd meddwl, canfuwyd bod cynnal perthynas ymddiriedus yn anodd, oherwydd, yn syml iawn, ni allant fynd drwodd at eu meddyg teulu. Ac yn fy mwrdd iechyd lleol fy hun, rwy'n gweld llawer o gleifion yn cael eu trosglwyddo rhwng adrannau yn awr, o bared i bost, oherwydd bod trosiant staff mor uchel mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Nawr, drwy gael gweithwyr cymorth iechyd meddwl penodol yn eu meddygfeydd, neu nyrsys iechyd meddwl, mae meddygon teulu wedi canfod eisoes fod y rhain yn ddefnyddiol iawn, ac wedi gallu darparu cymorth yn y fan a'r lle. Mae meddygon teulu lleol wedi gofyn imi godi hyn eto ynglŷn â phryd y gellid dod â'r nyrsys hyn yn ôl i feddygfeydd meddygon teulu. A wnewch chi gadarnhau pa gamau rydych wedi'u cymryd i werthuso'r costau hyfforddi a recriwtio sydd eu hangen i roi gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ym mhob meddygfa ar draws ein hetholaethau, ac a wnewch chi wrando ar ein meddygon teulu ar y rheng flaen, sy'n galw am hyn? Diolch.

Diolch yn fawr. Wel, yn amlwg, mater y mae fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, yn arwain arno yw iechyd meddwl, a gwn y byddwch yn ymwybodol o'i hymrwymiad anhygoel i'r achos hwn dros lawer o flynyddoedd. Mae'n gwbl glir fod nifer y bobl sy'n cysylltu â'u meddygon teulu am gymorth iechyd meddwl wedi cynyddu'n sylweddol, ac mae llawer o ffyrdd i ni ymdrin â hyn. Fodd bynnag, credaf mai un o'r pethau allweddol yw bod angen inni beidio â gorfeddygoli materion iechyd meddwl os nad ydynt yn feddygol. Felly, mae presgripsiynu cymdeithasol yn rhywbeth rydym yn awyddus iawn i'w annog, ond gwn mai'r cymorth cynnar yn ein cymuned yw'r union fath o lwybr y mae Lynne Neagle yn awyddus iawn inni ganolbwyntio arno.

O safbwynt achosion penodol, nyrsys yn ein cymunedau, credaf mai'r hyn sy'n fwy tebygol o ddigwydd yw y byddwn yn dechrau hynny ar sail clwstwr o ryw fath, a chredaf mai dyna'r llwybr, mae'n debyg, fel ein bod yn gwybod, mewn ardal benodol o leiaf, y bydd mynediad ar gael. Ond fel y dywedais, credaf fod angen inni gyrraedd y pwynt lle deallwn nad yw problemau iechyd meddwl i gyd yn rhai meddygol. Weithiau maent yn ymwneud â materion cymdeithasol, maent yn ymwneud â materion perthynas; nid ydynt yn faterion meddygol. Ac mae angen inni sicrhau nad ydym yn gorfeddygoli materion iechyd meddwl os nad oes angen gwneud hynny.

Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith rydych chi wedi'i wneud; mae gennych swydd hynod o brysur. Ond rwyf am sôn am ddannedd a deintyddion, yn enwedig dannedd pobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a dannedd y bobl yn nhref Llandrindod yn benodol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi ysgrifennu atoch droeon, ond mae pryderon enfawr ynghylch diffyg deintyddion ar draws y rhanbarth, ac yn Llandrindod yn enwedig, ac mae hynny wedi bod yn wir ers nifer o flynyddoedd, cyn COVID. Gwyddom fod heriau sylweddol gyda COVID mewn perthynas â thrin pobl mewn deintyddfeydd, ond mae gwahaniaeth enfawr yma. Os ewch at ddeintydd preifat, gallwch gael eich gweld bron ar unwaith. Os ewch at ddeintydd y GIG, ni allwch wneud hynny. Ac nid yw'n gwneud gwahaniaeth os ydym mewn cyfnod o COVID neu beidio.

Felly, rwyf am ofyn i chi'n benodol: a allwch ddweud wrthym beth yw eich cynlluniau ar gyfer deintyddion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ac yn Llandrindod, ac ar draws Cymru gyfan hefyd? Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr iawn, a diolch am eich dyfalbarhad ar y mater hwn. A gwn ei fod yn fater sy'n bwysig iawn i chi yn arbennig; gwn fod problem benodol yn ardal Llandrindod, a dyna pam y buom yn ceisio canolbwyntio ein sylw ar hynny.

Nid yw'n fater hawdd i'w ddatrys, ond un o'r pethau a wnaethom yw sicrhau ein bod wedi chwistrellu £2 filiwn yn ychwanegol eleni i geisio annog deintyddion i fanteisio ar fwy o gyfleoedd i weld y cleifion GIG rydym mor awyddus iddynt eu trin ar hyn o bryd. Felly, mae'r arian hwnnw wedi'i roi ar y bwrdd. Rhan o'r broblem sydd gennym, a dweud y gwir, yw na fydd llawer o ddeintyddion yn dod i gymryd yr arian. Felly, dyna ran o'n problem, ac felly credaf fod problem fwy hirdymor i fynd i'r afael â hi yma.

Mae angen inni gael sefyllfa, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ddechrau datblygu cynllun 10 mlynedd, i ddeall ble rydym yn mynd gyda hyn, oherwydd mae'n gwbl glir i mi fod mwy o bobl yng Nghymru eisiau cael mynediad at ddeintyddion y GIG nag sydd o leoedd ar gael, ac ar hyn o bryd, nid yw'r model yn darparu ar gyfer hynny. Felly, mae angen inni feddwl yn sylfaenol ynglŷn â sut rydym yn newid y model a'r hyn sy'n bosibl yma. Felly, nid yw'n mynd i fod yn ateb cyflym, mae arnaf ofn, ac nid yw'n hawdd gwneud hyn tra bo gwasanaethau deintyddol, wrth gwrs, yn dal i fod o fewn y categori oren. Felly, rydych yn ymwybodol, ar hyn o bryd, pan fo COVID yn dal i fod yn broblem, a'n bod yn gweld newid a phethau'n cael eu cario drwy aerosol, mae'n broblem wirioneddol. A'r glanhau rhwng triniaethau, nid yw hynny i gyd yn helpu i gyflymu'r sefyllfa. 

Mae'n rhaid inni hefyd ddefnyddio'r holl dechnegwyr deintyddol a phobl sydd â sgiliau gwirioneddol, a gwn fod llawer iawn o waith da wedi'i wneud ym Mhrifysgol Bangor i ddangos y gallem ddefnyddio'r sgiliau hynny i raddau llawer ehangach nag a wnawn ar hyn o bryd. Ond rwy'n cyfarfod yn fisol yn awr—. Nid wyf ond wedi dewis tua phum peth gwahanol i barhau i ddod yn ôl atynt i wneud yn siŵr nad ydym yn colli ffocws ar hyn, a gallaf eich sicrhau bod deintyddiaeth yn rhywbeth rwy'n cael cyfarfodydd misol yn ei gylch fel fy mod yn cadw'r ffocws hwnnw'n glir iawn ar yr hyn y mae angen iddo ddigwydd.

14:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych yn hyderus fod popeth yn cael ei wneud, o fewn eich pŵer, i sicrhau bod y brechiad atgyfnerthu'n cael ei gyflwyno'n gyflym yng Nghymru?

Wel, diolch yn fawr iawn, Russell. Rwy'n hyderus fod yr holl bethau'n cael eu gwneud, wrth inni siarad; bod byrddau iechyd y GIG yn datblygu, ac i fod i ddod yn ôl atom heddiw gyda'u cynigion i gynyddu'n aruthrol y broses o gyflwyno'r brechiad atgyfnerthu yng Nghymru. Nid i fyrddau iechyd yn unig y gofynnwn hynny; gwyddom ein bod yn cael cynigion o gefnogaeth gan lywodraeth leol, gan y frigâd dân, ac efallai y byddwn yn gofyn i'r fyddin am fwy o gefnogaeth hefyd. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cael eu rhoi ar waith. Gwyddom nad oes problem gyda'r cyflenwad, ond byddwn yn galw am fyddin o wirfoddolwyr hefyd, yn enwedig y bobl a gamodd i'r adwy y tro cyntaf ac na fydd angen eu hailhyfforddi. Gofynnwn i bobl gamu ymlaen am gyfnod byr. Os gallwn wneud hyn yn gyflym iawn, cyn i unrhyw don omicron bosibl ein taro, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n credu ei fod yn ateb cadarnhaol. Credaf ei bod yn gywir inni ddefnyddio pob arf sydd gennym at ein defnydd a galw ar y fyddin a'r fyddin o wirfoddolwyr y sonioch chi amdanynt hefyd. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu, ac wrth gwrs, mae'n newyddion da fod gennym y cyflenwad hwnnw hefyd.

Ond mae un maes yr hoffwn ei godi, ac mae hyn, unwaith eto, yn ymwneud â chanolfannau galw i mewn ar gyfer brechiadau atgyfnerthu. Codais hyn gyda chi ddoe, ac fe gyfeirioch chi at gyngor y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu y dylid gweithio drwy bob grŵp oedran yn eu trefn, ac fe honnoch chi unwaith eto y byddai'n agored i bawb. Nawr, rwy'n credu efallai fod camddealltwriaeth wedi bod ynglŷn â beth yw canolfan galw i mewn a sut y mae'n gweithredu. Cyngor GIG Lloegr yw bod llythyrau, negeseuon testun ac e-byst yn cael eu hanfon yn awtomatig at y rhai sydd angen cael brechiad atgyfnerthu, ac y gellir mynd â hwy wedyn i'r ganolfan galw i mewn. Ac os nad ydych chi'n cael un, gallwch ofyn i'ch meddyg teulu. Felly, heb lythyr, ni chewch bigiad. Felly, dyma'r drefn gywir ac mae wedi'i wneud ar sail angen, ond mae hefyd yn golygu bod y rhai sydd i gael y brechiad atgyfnerthu yn gallu gwneud hynny cyn gynted â phosibl ac mor hawdd â phosibl iddynt hwy.

Rydym yn awr ar bwynt lle mae'r amrywiolyn newydd, wrth gwrs, wedi'i ganfod yn y DU, a byddwn yn dweud bod yn rhaid inni atgyfnerthu'r rhaglen atgyfnerthu. A dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain y bore yma, 'Os ydynt am i ni fod yn rhan'—gan siarad amdanoch chi—'Os ydynt am i ni fod yn rhan o'r ymgyrch brechiadau atgyfnerthu COVID, mae'n rhaid i rywbeth roi wrth gwrs.' Felly, er mwyn sicrhau bod gennym nifer sylweddol o bobl yn manteisio ar y brechiad atgyfnerthu, mae'n amlwg fod angen i ni ddefnyddio pob arf sydd ar gael i ni. Felly, gyda meddygon teulu wedi'u gorlethu, a gaf fi ofyn yn awr i chi ailystyried y ffordd rydych chi wedi gwrthod canolfannau galw i mewn fel modd o gefnogi'r broses o gyflwyno'r pigiad atgyfnerthu?

14:50

Mae'n ddrwg gennyf os bu rhywfaint o gamddealltwriaeth ynglŷn â'r sefyllfa gyda'r BMA. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, wrth gwrs, maent yn ymwybodol fod eu haelodau dan bwysau enfawr eisoes, ond nid wyf yn credu eu bod yn cau'r drws ar yr opsiwn o gael meddygon teulu i helpu os gelwir arnynt i wneud hynny. Yr hyn roeddent yn ei ddweud yw, os gwnawn hynny, yna, yn amlwg, bydd yn rhaid i rywbeth arall roi. Nawr, rydym yn deall hynny. Credwn fod hyn yn flaenoriaeth yn awr er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein llethu'n ddiweddarach, a gwn y bydd practisau meddygon teulu ledled Cymru yn fwy na pharod i gamu i'r adwy gyda hyn.

O ran canolfannau galw i mewn, wel, efallai ein bod yn cymysgu terminoleg yma. Mae'n amlwg fod gennym ganolfannau brechu torfol, lle mae pobl yn dod i mewn gyda'u hapwyntiadau. Felly, mae hynny'n swnio'n eithaf tebyg i ganolfan galw i mewn i mi, os mai am hynny rydych chi'n sôn, ac mae'r rheini gennym ledled Cymru wrth gwrs. Yn amlwg, rydym yn edrych ar sut y gallwn gynyddu'n aruthrol y nifer o bobl sy'n cael eu derbyn i'r canolfannau hynny.

Diolch, Weinidog. Rwy'n deall, os mai camddealltwriaeth yw hyn, fod hynny'n gadarnhaol—efallai'n gam ymlaen i sicrhau bod gennym ganolfannau brechu galw i mewn ledled Cymru, oherwydd mae rhai byrddau iechyd eisoes yn gweithredu'r rheini. Felly, credaf efallai y byddai'n ddefnyddiol rhoi eglurhad i fyrddau iechyd ynglŷn â'ch safbwyntiau chi mewn perthynas â chanolfannau galw i mewn ar gyfer rhoi'r brechiad atgyfnerthu.

Fe wyddoch chi a minnau, Weinidog, ein bod yn wynebu lefel ddigynsail o alw ar y GIG. Yn anffodus, mae gennym amseroedd aros gwaeth nag erioed mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ochr yn ochr â'r amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf erioed. Ar ben hynny, mae un o bob pump o boblogaeth Cymru ar restr aros. Yn fwyaf arbennig, mae'n destun pryder mawr mai 59 y cant o gleifion canser a gafodd eu trin o fewn 62 diwrnod o'r dyddiad yr amheuid bod ganddynt ganser. Gwyddom hefyd o'ch ffigurau eich hun fod 20,000 yn llai o bobl wedi cael eu hatgyfeirio ar frys am ddiagnosis canser rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd y llynedd, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, cyn y pandemig, a dechreuodd 1,700 yn llai o bobl gael triniaeth yn ystod blynyddoedd cyntaf y pandemig. Felly, mae'r gweithlu canser hefyd wedi'i ymestyn y tu hwnt i gapasiti. Nawr, cyhoeddodd eich rhagflaenydd y datganiad ansawdd ar gyfer canser ym mis Mawrth, ond cafodd ei feirniadu'n ddifrifol gan y Gynghrair Ganser am nad oedd yn cynnwys digon o fanylion ac atebolrwydd, sy'n golygu mai ni fydd yr unig wlad yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn ymateb yn fanylach i ddadl yr Aelod y prynhawn yma. Ond a gaf fi ofyn i chi pa mor bell rydych chi wedi mynd gyda'ch cynlluniau i gyflwyno canolfannau diagnosis cyflym ar draws pob bwrdd iechyd, pa gynnydd rydych yn ei wneud ar hybiau llawfeddygol rhanbarthol, a pha bryd y byddwch yn cyhoeddi strategaeth ar gyfer y gweithlu canser?

Diolch yn fawr. Wel, nid oes unrhyw amheuaeth fod ein gwasanaethau GIG dan bwysau na welsant erioed mo'i debyg o'r blaen. Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn y galw, ond gallaf eich sicrhau bod gwasanaeth canser wedi bod yn wasanaeth hanfodol erioed; nid yw erioed wedi bod yn rhywbeth rydym wedi'i ddiffodd. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol mewn offer newydd, a bydd gennyf lawer mwy i'w ddweud am hynny yn y ddadl yn ddiweddarach. Mae'r llwybr canser yn ddull o weithredu sy'n unigryw yn y Deyrnas Unedig, ac yn sicrhau ein bod yn cyfrif pobl o'r dyddiad y ceir amheuaeth o ganser. Mae'n ddull gwahanol iawn, ac efallai fod hynny'n gwneud rhywfaint i egluro pam y gwelwn lawer mwy ar restrau aros yng Nghymru, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r ffordd rydym yn cyfrif cleifion yng Nghymru yn wahanol iawn. Maent yn cael eu cyfrif mewn ffordd wahanol iawn yn Lloegr, yn enwedig mewn perthynas â chanser. Felly, mae diagnosis cyflym yn bwysig iawn wrth gwrs, ac mae datblygu gweithlu digonol yn allweddol hefyd, a dyna pam ein bod yn buddsoddi yn y rheini hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r Gweinidog wedi disgrifio yn reit frwdfrydig sut mae am greu byddin frechu ar gyfer cyflymu cynlluniau i roi'r booster. Does yna ddim llawer o fanylion eto; mae'n eithaf cynnar. Dwi'n edrych ymlaen at weld rhagor o'r manylion. Ond, er fy mod i'n ymwybodol o'r datganiad gafodd ei gyhoeddi heddiw am ddiwygio contractau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol, rydyn ni wedi clywed pryderon gan y BMA heddiw fod yna broblem ddifrifol o gapasiti gan feddygon teulu i gyfrannu at wneud y gwaith. Felly, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gweithredu'r cynlluniau brechu yma, yn cynnwys gofal sylfaenol, ac ar yr un pryd drio sicrhau bod gofal sylfaenol yn gynaliadwy?

14:55

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, bydd yna broblem capasiti os ydyn ni'n mynd i daflu popeth at hwn yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn amlwg, fe fydd yn rhaid i bethau eraill gymryd sedd sydd ychydig tu ôl i hynny. O ran gofal sylfaenol, rŷn ni'n ymwybodol iawn fod pwysau aruthrol arnyn nhw, ond mae'n ddiddorol i weld bod rhai meddygon teulu wedi bod yn barod i ddod i'r adwy, i gymryd yr awenau yn fan hyn. Fel rydych chi wedi gweld yn ardal Pen Llŷn, er enghraifft, maen nhw eisoes wedi bod yn helpu gyda'r boosters. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n deall y sefyllfa. Dwi'n obeithiol iawn y bydd meddygon teulu yn camu i'r adwy, ynghyd â phobl ar draws Cymru, y rheini sy'n wirfoddolwyr ac, wrth gwrs, bobl o lywodraeth leol ac ati hefyd. 

Diolch am yr ateb yna. Pan fydd y Gweinidog yn sôn am rai pethau'n gorfod cael eu rhoi yn y sedd gefn, dyna dwi'n poeni amdano fo, ac mae yna, wrth gwrs, oblygiadau difrifol iawn—y mwyaf difrifol—pan fydd rhai pethau'n cael eu rhoi yn y sedd gefn, a dwi'n meddwl am ganser a'r angen am ddiagnosis canser, er enghraifft. Mae yna lawer o bobl sydd yn dal, o bosib, yn cadw draw o ofal sylfaenol, â pheswch, a dylen nhw fod yn cael triniaeth oherwydd efallai mai canser yr ysgyfaint ydy o, ond yn dewis am ba bynnag rheswm i gadw draw. Mi ges i gyfarfod â Tenovus ddoe, oedd yn disgrifio beth roedden nhw'n ei weld fel nifer devastating, i'w dyfynnu nhw, o bobl rŵan oedd ddim yn canfod canser yr ysgyfaint, er enghraifft, tan gyfnod 4. Mi fyddai strategaeth i sicrhau bod canser yn cael ei ganfod yn gynnar, wrth gwrs, yn rhan allweddol o'r cynllun canser newydd i Gymru rydyn ni'n wirioneddol angen ei weld. Ond, beth mae'r Gweinidog am ei wneud rŵan i sicrhau (1) fod pobl yn teimlo eto'n ddiogel i fynd at y meddyg teulu, (2) eu bod nhw yn gallu gweld meddygon teulu, a (3) pan fydd hi'n dod at ganser, fod y referral yn dal yn gallu digwydd rŵan, hyd yn oed pan fyddwn ni'n wynebu'r amrywiolyn newydd yma sy'n achosi cymaint o bryder?

Wel, diolch yn fawr. Mae'n rili bwysig i danlinellu'r ffaith bod canser bob amser wedi cael blaenoriaeth a'i fod wastad wedi bod yn wasanaeth hanfodol, hyd yn oed ar ddechrau'r pandemig. Felly, dydyn ni byth wedi cymryd y ffaith fod hwnna'n flaenoriaeth i ni i ffwrdd o'r cynllun. Bydd hi'n bwysig i ni gael cyngor clinigol ynglŷn â beth fydd yn rhaid inni ei roi yn y sedd gefn wrth inni ddatblygu'r system frechu yma dros yr wythnosau nesaf. Bydd yn rhaid i hwnna fod yn benderfyniad clinigol, a byddaf yn edrych ymlaen at dderbyn cyngor ar hynny. 

O ran gweld meddyg teulu, rydych chi wedi gweld heddiw ein bod ni wedi gwneud cyhoeddiad. Bydd mwy o arian yn mynd i mewn i sicrhau bod pobl yn gallu cael gwell access i weld meddygon teulu. Mae £12 miliwn wedi mynd tuag at hynny, yn cynnwys systemau newydd ac yn cynnwys y ffaith efallai y gallen nhw recriwtio mwy o bobl er mwyn gwneud y penderfyniadau yna, a bod pobl yn cael eu harwain at y gwasanaeth cywir a'r person cywir. Nid y GP yw'r person cywir ar bob achlysur. Felly, mae hwnna'n rhywbeth rydyn ni'n awyddus iawn i'w weld, ac rydyn ni'n falch dros ben ein bod ni wedi cael cytundeb oddi wrth y GMC. 

Dwi am newid trywydd ar gyfer fy nhrydydd cwestiwn, os caf i. Roedd yna groeso cyffredinol yn ddiweddar pan wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y byddai tasglu menopos yn cael ei greu fel rhan o'r strategaeth iechyd menywod. Dydy hi ddim yn hollol glir, o bosib, lle mae'r ffiniau o ran datganoli yn hyn o beth, ond yn sicr mae yna fwy o ddisgwyliadau gan ferched yng Nghymru rŵan, a da o beth ydy hynny, yn sgil y cyhoeddiad yna yn San Steffan.

Mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod ym mis Hydref, mi ddaeth hi'n reit amlwg fod yna dipyn o loteri cod post mewn difrif pan fydd hi'n dod at wasanaethau sy'n cael eu cynnig i ferched sy'n mynd drwy'r menopos yma yng Nghymru. Felly, all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa gamau y mae hi am eu gweld yn cael eu cymryd i wella gofal menopos yng Nghymru? Pa bryd welwn ni effaith y camau hynny yn cael eu cymryd? A sut allwn ni fod yn hyderus y bydd yr adnoddau ar gael i roi'r gofal y mae menywod ei angen wrth fynd drwy'r menopos?

15:00

Wel, diolch yn fawr, a diolch am y cwestiwn. Fel menyw sydd o'r oedran yna ble mae'n rhaid inni ofidio am y pethau yma, dwi'n falch o weld bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dilyn beth rŷn ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi bod yn cynnig HRT am ddim ers blynyddoedd lawer, felly mae'r chwyldro sy'n digwydd yn Lloegr wedi bod mewn lle ers blynyddoedd lawer yma yng Nghymru. Rŷch chi'n eithaf reit o ran y loteri cod post, ac un o'r pethau sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau dyw menywod ddim yn gorfod aros cweit mor hir cyn bod pobl yn deall mai dyna yw'r rheswm pam, efallai, maen nhw'n teimlo'r ffordd y maen nhw. Dyna pam dwi wedi gofyn i'r women's implementation group, sy'n gyfrifol am edrych ar iechyd—. Ar hyn o bryd, maen nhw'n edrych ar ychydig iawn o bethau mewn ffordd eithaf cul, o ran mesh ac ati. Dwi wedi gofyn iddyn nhw feddwl am sut gallan nhw ehangu ar hynny. Un peth dwi'n benderfynol o'i wneud yw edrych ar raglen iechyd i fenywod, a byddwch chi'n clywed mwy am hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.

Capasiti Ysbytai yn Nwyrain De Cymru

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gapasiti ysbytai yn Nwyrain De Cymru dros gyfnod y gaeaf? OQ57297

Diolch yn fawr iawn. Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio i ddiwallu anghenion eu trigolion. Mae gwaith wedi'i wneud ar y cyd drwy gydol y pandemig i ragweld y galw ac i ddatblygu capasiti ymchwydd i ymdopi â'r adegau prysuraf a ragwelir. Mae sicrhau capasiti digonol ar gyfer y gaeaf yn flaenoriaeth allweddol ac mae'n rhywbeth sy'n cael ei drafod yn rheolaidd gyda byrddau iechyd, ac mae wedi'i gynnwys yng nghynlluniau'r gaeaf.

Diolch, Weinidog. Mae data newydd a gyhoeddwyd yn 2021 gan Lywodraeth Cymru yn dangos, ar gyfartaledd yn ysbytai Cymru, fod 10,340 o welyau ar gael, gostyngiad o dros 200 o welyau a gofnodwyd yn y 12 mis blaenorol. Weinidog, pryd y gwnaed y penderfyniad mai lleihau nifer y gwelyau oedd y cam cywir, yn enwedig yn ystod y pandemig? Yn 1999, pan sefydlwyd y Senedd gyntaf, roedd cyfartaledd o 14,723.4 o welyau ar gael bob dydd yng Nghymru. Mae hynny'n ostyngiad o bron i 30 y cant yn nifer y gwelyau ysbyty ers i Lafur fod mewn grym yng Nghymru. Fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru, yw'r ardal yr effeithiwyd arni waethaf o hyd o ran nifer yr heintiadau COVID, gyda phryderon pellach, yn amlwg, ynghylch lefelau ffliw dros y gaeaf, ac mae gwelyau'n dal i fod ar lefelau is nag yn 2009-10, bron i 50 yn llai o welyau yn fy rhanbarth i. A all y Gweinidog roi sicrwydd i mi na fydd yn gwneud unrhyw doriadau pellach i nifer y gwelyau ac y bydd yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i gynyddu capasiti gwelyau yn Nwyrain De Cymru a gweddill Cymru?

Wel, credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddeall bod gennym raglen ar waith, ac mae'r rhaglen, 'Cymru Iachach', yn ceisio sicrhau bod pobl yn cael cymorth mor agos i'w cartref â phosibl, ac yn ddelfrydol, byddai'n digwydd yn y cartref. Felly, at hynny y mae angen inni anelu. Credaf fod yn rhaid inni ddeall hefyd fod y ffordd rydym yn ymdrin ag iechyd yn newid drwy'r amser. Felly, ychydig flynyddoedd yn ôl, os oedd gennych broblem gyda'ch golwg, er enghraifft, byddai'n rhaid ichi fynd i'r ysbyty, cael llawdriniaeth, a byddech yno am ddyddiau. Wel, heddiw, gallwch fynd yno a gadael ar yr un diwrnod. Felly, yn amlwg, nid oes angen gwelyau ar gyfer y math hwnnw o lawdriniaeth yn y dyfodol. Felly, mae technoleg wedi ein helpu i symud pethau yn eu blaenau.

Credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddeall hefyd ein bod, os gallwn, yn awyddus i gael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Y cwestiwn nesaf y byddwch yn ei ofyn i mi yw pam fod gennym gymaint o heintiau mewn ysbytai. Nid wyf eisiau cael pobl yn yr ysbyty. Hoffwn sicrhau eu bod yn cyrraedd adref cyn gynted ag y gallwn. Felly, dyna'r ateb—mae gwir angen inni ddarparu cymaint o ofal ag y gallwn yn y cartref.

Nawr, ar hyn o bryd, rydym yn amlwg mewn sefyllfa lle rydym dan bwysau. Y gwir yw bod oddeutu 9 y cant o welyau ysbyty yng Nghymru yn cael eu defnyddio gan gleifion COVID ar hyn o bryd, a llawer ohonynt heb gael y brechlyn. A chredaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl Cymru'n gwrando ar hyn, yn enwedig y bobl nad ydynt wedi manteisio ar y cyfle hwnnw. Rydych yn defnyddio gwely pan ellid bod wedi osgoi hynny. Mae pobl a allai fod wedi cael y gwely hwnnw'n aros mewn poen, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall eu cyfrifoldeb i'r gymuned ehangach i achub ar y cyfle i gael y brechlyn.

15:05

Weinidog, rwyf wedi clywed adroddiadau amrywiol am ysbyty newydd y Faenor yng Nghwmbrân, a hoffwn bwysleisio nad yw hyn yn feirniadaeth o staff arwrol y rheng flaen mewn unrhyw ffordd. Mae adroddiad diweddar Coleg Brenhinol y Meddygon yn galw am adolygiad brys o ddarpariaeth gofal i'r henoed; maent yn mynegi pryderon ynghylch llwythi gwaith cronig a phroblemau staffio ac roeddent yn sôn am gleifion yn cael eu symud rhwng ysbyty'r Faenor a thri ysbyty arall yn yr ardal lle nad oes ganddynt adrannau damweiniau ac achosion brys, gyda chleifion oedrannus â dementia yn cael eu symud wyth gwaith rhwng gwahanol ysbytai a wardiau. Yn ddiweddar, mae uwch-feddyg wedi rhybuddio bod yr ysbyty'n ei chael hi'n anodd cael cleifion drwy'r system yn ddiogel a bod yr ysbyty'n ei chael hi'n anodd ymdopi â derbyniadau brys, gydag ambiwlansys yn gorfod aros y tu allan. Weinidog, nodaf eich bod wedi dweud mewn ateb ysgrifenedig i Peter Fox yn ddiweddar fod bron i 8,500 achos o oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans wedi codi ers i'r ysbyty agor. Nawr, gwn ein bod yn wynebu cyfnod anodd iawn dros y gaeaf, Weinidog, ac mae hyn yn peri pryder. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech nodi pa gymorth y gall y Llywodraeth ei gynnig i'r bwrdd iechyd i wella diogelwch cleifion wrth inni fynd i mewn i fisoedd tyngedfennol y gaeaf er mwyn cael gwared ar y problemau systemig hyn a rhoi sicrwydd i'r staff fod rhywun yn gwrando ar eu pryderon.

Diolch yn fawr. Credaf ei fod—. Rwy'n ymwybodol iawn o ymchwiliad Coleg Brenhinol y Meddygon i ysbyty'r Faenor. Gwn fod y bwrdd iechyd wedi ymateb ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hynny, ond rwy'n ymwybodol fod y cyngor iechyd cymuned wedi ysgrifennu adroddiad hefyd. Maent hwythau hefyd yn tynnu sylw at rai o'r heriau yn ysbyty'r Faenor, ond maent wedi pwysleisio rhai enghreifftiau o ofal cleifion da yn ogystal, a phrofiadau cadarnhaol ymhlith cleifion a staff, felly credaf ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn difrïo ysbyty'r Faenor. Mae hwn yn gyfleuster anhygoel; mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall ei fod yn gyfleuster yng nghanol ardal enfawr, ac y cafodd ei gynllunio'n ofalus iawn, ond yn amlwg, ar hyn o bryd, rydym yn wynebu pwysau enfawr nas gwelwyd ei debyg o'r blaen, yn enwedig ar wasanaethau ambiwlans. Dyna pam ein bod wedi darparu £25 miliwn o arian cymorth ychwanegol ar gyfer y gwaith o drawsnewid gwasanaethau gofal brys i sicrhau ein bod yn darparu'r gofal iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn. Gwn ei fod yn cael ei ddefnyddio yn ysbyty'r Faenor i weld a allwn wneud mwy o waith ar garfanu nifer o gleifion sydd wedi cyrraedd mewn ambiwlansys—felly, mae llawer o syniadau creadigol yn cael eu cynnig yno.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd pethau'n gwella yn ysbyty'r Faenor wrth gwrs. Credaf eu bod yn sicrhau bod yno fwrdd amseroedd aros electronig, fel y gall pobl weld am ba hyd y bydd yn rhaid iddynt aros, ond mae yno ffrwd waith hefyd ar osgoi derbyn i'r ysbyty, a dyna sy'n rhaid inni ei weld, i sicrhau bod pobl yn mynd i'r ysbyty iawn ar yr amser iawn. Gwn eu bod wedi anfon taflen i bob cartref yn yr ardal, ond mae'n bwysig fod pobl yn achub ar y cyfle cyn cychwyn efallai i sicrhau eu bod yn mynd i'r ysbyty iawn ar gyfer eu gofal.

Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta

4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr holl wasanaethau anhwylderau bwyta yn gallu darparu ymyrraeth gynnar? OQ57288

Rydym yn parhau i flaenoriaethu cymorth ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru ac rydym wedi bod yn cynyddu ein buddsoddiad bob blwyddyn ers 2017. Nod y cyllid hwn yw cefnogi'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, yn unol â'r argymhellion yn adolygiad annibynnol 2018.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Fel y dywedwch yn gwbl gywir, fe wnaethoch nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gwasanaeth o safon fyd-eang ym mhob rhan o Gymru yn adolygiad a strategaeth 2018. Galwai am newid tuag at atal ac ymyrraeth gynnar rymusol ac am fynediad teg at driniaeth a chymorth ar sail tystiolaeth. Mae staff mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta bellach o dan fwy o bwysau nag o'r blaen oherwydd lefel y galw am driniaeth. A yw'r Llywodraeth Cymru yn mynd i gyhoeddi fframwaith neu fodel gwasanaeth newydd, gan gynnwys amserlenni, i arwain byrddau iechyd yn eu hymateb i'r adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta? Ac a fydd yn sicrhau bod adnoddau canolog priodol ar gael i gefnogi'r gwaith hwn?

15:10

A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn? Fel y gŵyr, rwy'n credu, mae byrddau iechyd bellach yn derbyn, ers 2017, £3.8 miliwn ychwanegol i gefnogi gwelliannau mewn amseroedd aros a gwasanaethau anhwylderau bwyta, ac ers 2019, mae cyllid wedi'i ddarparu i fyrddau iechyd yn benodol er mwyn ad-drefnu gwasanaethau i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar fel y gellir gweithio tuag at gyflawni safonau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar anhwylderau bwyta o fewn dwy flynedd, ac i ddatblygu cynlluniau i gyflawni amser aros o bedair wythnos ar draws gwasanaethau oedolion a phlant, fel yr argymhellir yn yr adolygiad. Rydym hefyd wedi darparu £100,000 yn ychwanegol i elusen anhwylderau bwyta Beat o ganlyniad uniongyrchol i'r pwysau a welwyd yn ystod y pandemig y cyfeiriodd hi ato yn ei chwestiwn atodol.

Ar wahân i'r cyllid a ddarparwyd gennym yn benodol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta, rydym hefyd yn gwella dealltwriaeth o fewn gofal sylfaenol drwy ledaenu adnoddau clinigol ar gyfer meddygon teulu, gwella ymwybyddiaeth yn y gymuned bediatrig o'r angen mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta am eu sgiliau a'u profiad, gwella gwybodaeth arbenigol am anhwylderau bwyta ymhlith staff anghlinigol, a chynnwys delwedd corff a pherthynas â bwyd a materion sy'n ymwneud â'r corff yn y cwricwlwm llesiant newydd a'r dull ysgol gyfan. Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein dull system gyfan ar draws y Llywodraeth i gynnwys cymorth ymyrraeth gynnar i bobl ifanc, gan gynnwys yn eu hysgolion a'u colegau.

Mae tystiolaeth yn dangos bod effaith COVID ar bobl sy'n byw gydag anhwylderau bwyta wedi bod yn sylweddol iawn, a thrwy gydol y pandemig mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cyllid gyda hyblygrwydd i reoli'r cynnydd yn y galw o fewn y gwasanaeth anhwylderau bwyta. Wrth gwrs, gwyddom y bydd mwy o waith i'w wneud, ac fe fydd yr Aelod yn ymwybodol fod arweinydd gweithredu wedi bod yn annog y newid hwnnw ledled Cymru.

Ddirprwy Weinidog, mae'r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio'n aruthrol ar bobl ifanc, ac mae apiau fel Instagram yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn gweld eu cyrff. Caiff rhai pobl ifanc eu dylanwadu gan yr hyn a welant ar-lein, ond i lawer o bobl eraill, y gwir amdani yw, oherwydd nifer enfawr o ffactorau, gan gynnwys geneteg, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a fforddiadwyedd, ni fyddant byth yn edrych fel y bobl ar y cyfryngau cymdeithasol a'r ffordd y mae cymdeithas yn disgwyl iddynt edrych. O ganlyniad, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu trin am anorecsia a bwlimia, ac mae'r nifer wedi bron â dyblu dros y pum mlynedd diwethaf. Yma yng Nghymru, nid oes gennym dargedau amser aros i'r rheini sy'n dioddef o anhwylderau bwyta neu i ganolfannau arbenigol allu helpu pobl, ac ni all hynny barhau. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu am effeithiau cyfryngau cymdeithasol? A pha gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella mynediad i bobl sy'n dioddef o anhwylderau bwyta?

Diolch am eich cwestiwn, James. Credaf fy mod eisoes wedi nodi'r buddsoddiad sylweddol iawn rydym yn ei wneud mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta er mwyn eu trawsnewid ledled Cymru, gan ganolbwyntio'n gadarn iawn ar ymyrraeth gynnar. Rydym yn buddsoddi £3.8 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn, ac mae hynny wedi parhau ers 2017. Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn, gan y gwelsom gynnydd yn ystod y pandemig nid yn unig yn nifer y bobl sy'n dioddef o anhwylderau bwyta, ond cynnydd hefyd o ran difrifoldeb yr anhwylder mewn pobl wrth iddynt ofyn am gymorth. Mae hynny wedi bod yn heriol iawn, a dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym, drwyddi draw, yr ystod honno o wasanaethau o ofal sylfaenol i fyny, gan gynnwys y gwasanaeth anhwylderau bwyta a ddarperir gan elusen Beat, sy'n cynnig ystod o gymorth rhagorol ar-lein a dros y ffôn i bobl ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd i geisio sicrhau bod cymorth ar gael ym mhob man.

Mae'r mater a godoch chi mewn perthynas â'r cyfryngau cymdeithasol yn un heriol iawn, a chredaf ei fod yn un y mae pob un ohonom yn ei gydnabod. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio gyda phobl ifanc drwy ein dull ysgol gyfan i sicrhau eu bod yn deall nad yw'r hyn a welant ar y cyfryngau cymdeithasol o reidrwydd yn rhywbeth sy'n mynd i fod yn gyraeddadwy i'r rhan fwyaf ohonom. Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod, drwy'r gwaith mewn ysgolion a'r gwaith arall a wnawn drwy fframwaith Nyth, yn sicrhau bod cymorth cynnar ar gael, yn ogystal ag annog pobl i ofyn am help. Ond mae'r heriau gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn real, maent yn sylweddol, ac wrth gwrs, maent yn mynd ymhell y tu hwnt i Gymru ac yn cynnwys—. Rwy'n gobeithio y byddwch yn codi rhai o'r dadleuon hynny gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r gwaith y maent yn ei wneud i geisio mynd i'r afael â rhywfaint o'r niwed a achosir gan y cyfryngau cymdeithasol.

15:15

Nid yw pobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn edrych fel y bobl ar y cyfryngau cymdeithasol o ran eu ffotograff. Mae llawer wedi'u golygu â meddalwedd Photoshop ac mae llawer wedi defnyddio ffilteri i wneud i'w hunain edrych yn llawer gwell. A gaf fi ddweud bod anhwylderau bwyta, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl arall, o dan bwysau cynyddol? Cafwyd adroddiadau fod gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru yn wynebu galw digynsail o ran nifer yr atgyfeiriadau. Felly, y cwestiwn sydd gennyf yw: pa bryd y gwelwn argymhellion yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta Cymru yn cael eu gweithredu'n llawn, gan gynnwys darparu hyfforddiant digonol i staff a chynllun gweithredu?

Diolch am eich cwestiwn atodol, Mike. Dywedasom yn glir, pan gyhoeddwyd adolygiad Tan, na fyddai'r newidiadau'n digwydd dros nos, o ystyried nifer a chynnwys yr argymhellion, a dyna pam ein bod wedi parhau i fuddsoddi swm mor sylweddol o gyllid er mwyn gweithredu argymhellion Tan flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fel rydych wedi'i nodi, mae'r pwysau ar wasanaethau anhwylderau bwyta o ganlyniad i'r pandemig wedi creu heriau gyda'u gweithredu. Rwy'n falch iawn fod y galw cynyddol yn rhan olaf 2020 bellach wedi sefydlogi yn ôl pob golwg. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos, gan gynnal diwrnodau cyfrifiad i feintioli maint a chymhlethdod cleifion sydd mewn gwely oherwydd anhwylderau bwyta.

O ran y problemau a nodwyd gennych gyda'r gweithlu, yn anffodus, mae recriwtio i swyddi mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta yn her ledled y DU. Mae'r arweinydd gweithredu ar gyfer anhwylderau bwyta'n cadarnhau bod pob swydd o'r cyllid ar gyfer 2020-21 wedi'i llenwi erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ond roedd recriwtio ar eu cyfer yn aml yn broses araf. Fel arweinydd gweithredu, mae Dr Menna Jones wedi hyrwyddo atebion mwy creadigol e.e. uwchsgilio'r staff cyfredol i ddileu'r swydd wag; gostwng y strwythur, a allai fod yn haws ei lenwi gan staff llai medrus; a recriwtio ar sail ranbarthol i sicrhau bod gan unigolyn gontract amser llawn, ond ar draws ardaloedd. Nid yw hon, wrth gwrs, yn broblem sy'n gyfyngedig i Gymru; ceir heriau recriwtio ym maes iechyd meddwl ledled y DU, gan gynnwys ym maes anhwylderau bwyta. Ond hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod fod gweithredu adolygiad Tan yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi fel Dirprwy Weinidog.

Sector Gofal Cymdeithasol

5. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu i sbarduno recriwtio i'r sector gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru? OQ57276

[Anghlywadwy.]—ariannu ymgyrch hysbysebu a chyfryngau cymdeithasol genedlaethol. Rydym yn cefnogi ystod o fentrau wedi'u targedu i annog pobl i weithio ym maes gofal cymdeithasol. Rydym yn ariannu staff rhanbarthol i gefnogi ymgyrchoedd a arweinir gan awdurdodau lleol a chan fyrddau iechyd.

Diolch, Weinidog, mae'n wych clywed hynny, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod cartrefi gofal yn fy etholaeth yn Ne Clwyd wedi ymdopi'n anhygoel o dda drwy gydol y pandemig gyda'r heriau enfawr a ddaeth yn sgil y coronafeirws, yn aml ar draul iechyd corfforol a meddyliol y staff. Ar ran y lleoliadau gofal hynny yn fy etholaeth, a gaf fi ofyn sut y bydd y £42 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo?

Diolch i Ken Skates am ei gwestiwn, a diolch iddo hefyd am ei gydnabyddiaeth o'r gwaith aruthrol a wnaed yn y sector gofal yn ystod y pandemig. Roeddem yn falch iawn o ddyrannu'r dyraniad ychwanegol o £42 miliwn, ac fe'i cyhoeddwyd drwy gynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae cynllun y gaeaf yn nodi sut y bydd y buddsoddiad hwn yn darparu ymatebion integredig yn y gymuned, a chymorth ychwanegol i ofalwyr ac i deuluoedd. Gwn fod yr ymatebion a gawsom gan awdurdodau lleol i'r cynllun adfer yn dangos y bydd De Clwyd yn elwa o gymorth ariannol wedi'i dargedu ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol, gan gynyddu nifer gyfredol y gwirfoddolwyr a recriwtio rhagor o bobl i'r gweithlu ar gyfer meysydd gwasanaeth penodol, megis gwasanaethau anableddau cymhleth, gofal cartref, gwasanaethau plant a gwasanaethau byw â chymorth. Lle nad yw darparwyr wedi gallu ailddechrau darparu gwasanaethau gofal dydd, er enghraifft, bydd cymorth ariannol ar gael yn ogystal â buddsoddiad i gefnogi technoleg ychwanegol mewn cyfleusterau preswyl a mwy o weithgareddau i breswylwyr.

15:20
Amser Ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amser ymateb gwasanaethau ambiwlans ym Mlaenau Gwent? OQ57272

[Anghlywadwy.]—ambiwlans Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i roi ystod o gamau gweithredu ar waith i reoli’r galw am wasanaeth 999 ym Mlaenau Gwent. Bydd hyn yn arwain at fwy o gapasiti, gwell ymateb i bobl sydd â chwynion lle mae amser yn dyngedfennol, a'r gallu i drosglwyddo cleifion ambiwlans yn gyflymach.

A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu hynny gan y Gweinidog? Bydd y Gweinidog wedi gweld yr un adroddiadau â minnau ac wedi gwrando ar yr un profiadau gan yr etholwyr rwy'n eu cynrychioli ac y mae hithau'n eu cynrychioli mewn gwahanol rannau o'r wlad. Gwyddom fod argyfwng gwirioneddol ar hyn o bryd ar y rhyngwyneb rhwng y gwasanaeth iechyd gwladol a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, a gwyddom fod y gwasanaeth ambiwlans yn ganolog yn hynny. Gwyddom fod pobl yn gweithio'n galetach nag erioed o bosibl, a bod adnoddau o dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych yn benodol ar y ffordd rydym yn rheoli'r gwasanaeth ambiwlans? A wnaiff Llywodraeth Cymru edrych yn benodol ar yr adnoddau sydd ar gael i'r gwasanaeth ambiwlans? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gellir rhoi prosesau a strwythurau brys ar waith heddiw a dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth y mae pobl ei angen, yn galw amdano ac y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl, lle bynnag y bônt?

Diolch yn fawr iawn, Alun, ac nid oes unrhyw amheuaeth fod y gwasanaeth ambiwlans wedi bod dan bwysau enfawr, ac wrth gwrs, nid oes unrhyw un o'r pethau hyn yn bodoli'n annibynnol ar y llall. Credaf ei bod yn werth pwysleisio, mae'n debyg, o ran galwadau 999, er enghraifft, y bu cynnydd o 24 y cant ym mis Hydref o gymharu â mis Hydref y llynedd. Felly, nid yw'n ymwneud â'u perfformiad yn unig; maent yn ceisio ymdopi â chynnydd enfawr yn y galw, ac felly credaf fod yn rhaid inni ddeall beth sy'n digwydd yma. Yr hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau bod gwasanaeth ambiwlans Cymru yn gwella'n sylweddol o ran eu gallu i ragweld galw, eu bod yn gweithredu gofynion yr adolygiad annibynnol o alw a chapasiti, a fu'n edrych ar y ffordd y câi pethau eu rheoli, a'n bod yn cyfeirio pobl at ddewisiadau amgen sy'n glinigol ddiogel i geisio lleihau rhywfaint o'r 24 y cant hwnnw. Ond fe fyddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi darparu £25 miliwn o gyllid ychwanegol er mwyn ceisio datrys y broblem hon dros fisoedd y gaeaf; fod 100 aelod o'r lluoedd arfog, ers mis Hydref, wedi bod yn darparu cymorth i wasanaeth ambiwlans Cymru; a bod yr ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i recriwtio 127 aelod arall o staff eleni. Felly, bydd yr holl bethau hyn, gobeithio, yn dechrau gwneud gwahaniaeth cyn bo hir. Yn amlwg, mae angen i hynny ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, gan ein bod ar fin mynd i mewn i fisoedd y gaeaf, a fydd yn cynyddu'r pwysau hyd yn oed ymhellach. Felly, rydym yn fwy nag ymwybodol o'r angen i ddatrys y broblem hon yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Recriwtio Staff Gofal Iechyd

7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i annog recriwtio staff gofal iechyd ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ57290

Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gwasanaeth iechyd Cymru i gynyddu'r gweithlu yn Hywel Dda, ac mewn mannau eraill o Gymru. Mae hwn yn cynnwys mesurau i gynyddu recriwtio a chadw pobl i weithio yn yr NHS, a hefyd annog pobl broffesiynol i ailgydio yn eu gyrfa a dychwelyd i ymarfer.

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol mai'r feddygfa fwyaf ond un yng Nghymru yw Grŵp Meddygol Argyle, sydd wedi'i lleoli yn Noc Penfro yn fy etholaeth, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Yn ôl y data diweddaraf, mae Argyle yn gyfrifol am ofal dros 22,000 o gleifion, sy'n golygu ei bod yn un o bum practis yng Nghymru a chanddynt dros 20,000 o gleifion cofrestredig; serch hynny, naw meddyg teulu cofrestredig yn unig sydd gan y grŵp yn gweithio o'r ganolfan. Mae hyn yn cymharu ag 17 meddyg teulu yng Nghanolfannau Meddygol Sgeti a Chilâ yn Abertawe, sydd â nifer debyg o gleifion. Golyga hyn fod y gymhareb rhwng cleifion a meddygon teulu ym mhractis Stryd Argyle yn 2,506 o gleifion i bob meddyg teulu, sy'n beryglus. Peidiwch â chamddeall, mae staff Grŵp Meddygol Argyle yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaeth o'r ansawdd gorau y gallant. Fodd bynnag, ac fel y dengys yr ystadegau, mae eu dwylo wedi'u clymu oherwydd pwysau cynyddol gyda recriwtio. O ystyried y sefyllfa hon, a all y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae'n eu cymryd i gynorthwyo Grŵp Meddygol Argyle i recriwtio rhagor o staff, gan gynnwys meddygon teulu, ymarferwyr nyrsio, fferyllwyr a ffisiotherapyddion, i sicrhau bod pob aelod o staff yn cael eu cefnogi i ddarparu'r gofal gorau ar gyfer eu cleifion? Diolch.

15:25

Diolch yn fawr iawn, Sam. Mae'n bwysig cydnabod ei bod bob amser wedi bod yn anodd recriwtio i rai o'n hardaloedd mwy anghysbell. Dyna pam y cawsom yr ymgyrch bwysig iawn, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', sydd wedi bod yn arwyddocaol ac rydym wedi llwyddo i recriwtio niferoedd sylweddol i orllewin Cymru oherwydd yr ymgyrch honno—30 yn 2020 a 26 yn 2021. Felly, mae gennym hefyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sydd wedi cyhoeddi eu strategaeth 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu, ond credaf ei bod yn bwysig fod pob meddygfa'n edrych nid yn unig ar recriwtio meddygon teulu, ond ar fodelau ymarfer eraill hefyd. Mae gwahanol bractisau'n galw ar weithwyr proffesiynol eraill sy'n gallu darparu cymorth clinigol ar lefel a safon uchel iawn, ac nid o reidrwydd gan feddygon teulu. Ond rydym yn ymwybodol bob amser fod angen cynyddu nifer y meddygon teulu yng Nghymru. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, dros y pum mlynedd nesaf, wedi ymrwymo i hyfforddi 12,000 o feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol ychwanegol yng Nghymru.

Polisi Cymeradwyo Ymlaen Llaw Cymru Gyfan

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y polisi cymeradwyo ymlaen llaw Cymru gyfan ar gymunedau sydd wedi'u lleoli ger ffiniau byrddau iechyd? OQ57268

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol. Mae cynllun cymeradwyo ymlaen llaw Cymru gyfan yn sicrhau bod cleifion yn cael eu trin mor agos â phosibl i’w cartrefi o fewn ardal eu bwrdd iechyd lleol eu hunain.

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog. Mae'r polisi cenedlaethol yn nodi ni ddylai cleifion ganfod triniaeth feddygol mewn bwrdd iechyd arall heblaw i bob opsiwn lleol methu â darparu'r driniaeth honno. Mae e'n effeithio'n drwm iawn ar gymunedau sydd ar y ffiniau. Dwi'n meddwl am Frynaman Uchaf, er enghraifft, yn fy etholaeth i, lle mae pentref wedi'i rhannu'n ddwy—Brynaman Isaf ym mwrdd iechyd rhanbarth Abertawe a Brynaman Uchaf wedyn ym mwrdd iechyd Hywel Dda—sy'n golygu, wrth gwrs, fod yr amser i gyrraedd ysbyty Glangwili o Frynaman Uchaf dair gwaith yr amser y byddai'n cymryd i gyrraedd yr ysbyty agosaf yn Abertawe. Ers cyflwyno'r polisi cenedlaethol yma yn 2018, mae'r trigolion lleol yn teimlo bod yna waethygu wedi bod yn eu triniaeth glinigol. Felly, onid dyma'r amser, Weinidog, i adolygu'r polisi er mwyn sicrhau bod yna ddatrysiad sydd yn deg i'r cymunedau hynny sy'n digwydd bod ar gyrion ein rhanbarthau iechyd?

Diolch yn fawr. Mae byrddau iechyd yn gorfod datblygu gwasanaethau ar sail beth yw'r boblogaeth leol, ac os ydy cleifion wedyn yn gofyn i fynd i rywle arall, mae hwnna yn gallu cael effaith ar ansefydlogi’r gwasanaethau yn y ddau fwrdd iechyd. Felly, os ydyn nhw wedi cynllunio ar gyfer un peth ac mae rhywbeth arall yn digwydd, yn amlwg mae hwnna'n mynd i greu problem. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig i gydnabod pe bai, er enghraifft, rhywun eisiau mynd o fwrdd Hywel Dda i Abertawe, beth fyddai hynny mewn gwirionedd yn golygu yn y tymor hir i'r ysbyty yng Nghaerfyrddin. So, mae'n rhaid meddwl drwy beth yw'r goblygiadau. Felly, beth rŷn ni'n trio'i wneud yw cael byrddau iechyd i weithio mwy ar raddfa ranbarthol, ond dwi yn meddwl ei bod yn bwysig bod pobl yn deall ein bod ni'n gwneud y pethau yma nid achos ein bod ni'n ceisio gwneud bywyd yn anodd i bobl, ond er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi gwasanaeth i bob un a sicrhau ein bod ni'n gallu cynllunio gwasanaeth ar gyfer pob un.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw'r cwestiwn amserol. Mae un cwestiwn i'w ofyn heddiw a hwnnw gan Paul Davies.

Y Cytundeb Cydweithio

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fecanweithiau'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru? TQ584

Member
Lesley Griffiths 15:29:49
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Llofnododd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru y cytundeb cydweithio y bore yma. Mae'r cytundeb, y rhaglen bolisi fanwl a'r ddogfen fecanweithiau sy'n nodi sut y bydd y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru'n gweithio hefyd wedi'u cyhoeddi.

15:30

Weinidog, mae mecanweithiau'r cytundeb cydweithio a gyhoeddwyd y bore yma yn ddiddorol iawn. Ac o ystyried yr effaith enfawr y bydd y glymblaid hon yn ei chael ar bobl Cymru, mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno datganiad llafar i'r Siambr yn amlinellu'r mecanweithiau hyn, fel y gall Aelodau gael y cyfle i graffu a gofyn cwestiynau. Mae hyd yn oed yn fwy siomedig nad yw'r Prif Weinidog yma i ymateb i'r cwestiwn pwysig hwn. Felly, Drefnydd, a allwch chi egluro i ni pam fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â gwneud datganiad ar y cytundeb hwn yn y Siambr, a pham ei bod yn hytrach yn cael ei gorfodi i ymateb i gwestiwn amserol gan y gwrthbleidiau? Oherwydd rwy'n siŵr y byddai hyd yn oed Aelodau meinciau cefn y Blaid Lafur yn croesawu'r cyfle i graffu ar y fargen benodol hon.

Gan droi at fanylion y mecanweithiau, mae'r ddogfen yn cadarnhau bod

'Llywodraeth Cymru yn cytuno i wneud penderfyniadau ar y cyd â Phlaid Cymru ar draws y meysydd y cytunwyd i gydweithio arnynt'

ar 46 o feysydd polisi. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod ganddi hyblygrwydd i ehangu cwmpas y cytundeb hwn, oherwydd mae'r ddogfen yn dweud bod

'Gall unrhyw benderfyniad i ehangu cwmpas y cydweithio yn y cytundeb hwn yn y cyfamser ac unrhyw ddiwygiad arall iddo gael eu gwneud drwy gytundeb ar y cyd rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru.'

Ac mae ehangu cwmpas y cytundeb hwn hyd yn oed yn fwy eglur, gan fod Plaid Cymru wedi cytuno i hwyluso'r broses o basio cyllidebau blynyddol ac atodol yn gyfnewid am ddylanwad ar faterion cyllidebol eraill. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn bod y cytundeb hwn yn cwmpasu mwy na dim ond y 46 maes polisi a nodwyd ganddo'n wreiddiol i bobl Cymru y bore yma?

Wrth gwrs, bydd y cytundeb yn cael effaith ar fusnes y Senedd, a sylwaf fod y ddwy blaid yn honni eu bod yn parchu annibyniaeth system bwyllgorau'r Senedd a rolau a swyddogaethau penodol y pleidiau yn y Senedd. Felly, Drefnydd, a allwch chi gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Llywydd ynghylch effaith y cytundeb hwn ar fusnes y Senedd?

Mae'r ddogfen hefyd yn ei gwneud yn glir y bydd y cytundeb cydweithio yn cael ei gefnogi gan uned gwasanaeth sifil, a elwir yn uned y cytundeb cydweithio. Felly, Drefnydd, a allwch chi ddweud wrthym yn union faint o arian trethdalwyr sydd wedi'i glustnodi ar gyfer yr uned newydd hon, ac yn wir unrhyw agweddau eraill ar beirianwaith a fydd yn cael ei roi ar waith i gefnogi'r cytundeb penodol hwn?

Mae'r ddogfen hefyd yn dweud y bydd gan Aelodau dynodedig o Blaid Cymru yr un cyfrifoldebau â Gweinidogion Llywodraeth Cymru i barchu didueddrwydd gwleidyddol y gwasanaeth sifil, ac y byddant wedi'u rhwymo i agweddau ar y cod gweinidogol. A allwch chi ddweud wrthym pam fod hynny'n wir, o gofio bod y ddogfen yn ei gwneud yn glir na fyddant yn cael eu cynrychioli gan benodiadau gweinidogol neu ddirprwy weinidogol yn Llywodraeth Cymru? Drefnydd, a wnaeth arweinydd Plaid Cymru anghofio gofyn am benodiadau gweinidogol i Blaid Cymru?

Ac yn olaf, mae'r cytundeb hwn yn dweud bod cyfraniad Plaid Cymru yn cael ei gydnabod fel rhan o gyfathrebiadau arferol y Llywodraeth, ac o'r herwydd, mae hon yn glymblaid ym mhob dim ond enw. Felly pam na wnaiff Llywodraeth Cymru fod yn onest gyda phobl Cymru a'i alw yr hyn ydyw—sef clymblaid?

Ni all y Prif Weinidog fod gyda ni y prynhawn yma, ond rwyf yma, yn amlwg, i ateb ar ran Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hapus iawn i ateb eich cwestiynau. Mae hynny'n aml yn digwydd gyda chwestiynau amserol. Fe ofynnoch chi gwestiynau penodol iawn, ac rydych yn gwbl iawn i wneud hynny, ond dylwn dynnu sylw at y ffaith mai swyddogaethau'r Llywodraeth yw llawer o'r trefniadau mewn perthynas â'r cytundeb cydweithio, ac nid cyfrifoldebau'r Senedd yw'r rheini yn amlwg—materion i Lywodraeth Cymru ydynt.

Rydych yn holi am Blaid Cymru mewn perthynas â busnes y Senedd. Wel, mater i'r Llywydd, i'r bwrdd taliadau, ac i Gomisiwn y Senedd yw hynny. Rydych yn gofyn pa drafodaethau a gafwyd. Efallai eich bod yn ymwybodol fod y Llywydd wedi bod yn gohebu â'r Prif Weinidog, ac maent yn parhau i ohebu. A chyn cyhoeddi'r cytundeb cydweithio, gwn fod trafodaethau'n sicr wedi cael eu cynnal ar lefel swyddogol.

Nid yw hon yn glymblaid, mae'n gytundeb cydweithio. Ac os edrychwch yn ôl ar 22 mlynedd olaf y Senedd, a'r Cynulliad cyn hynny, mae pob Cynulliad ers inni gael datganoli 22 mlynedd yn ôl wedi cynnwys trefniant partneriaeth o ryw fath. Nid ydym wedi cael cytundeb cydweithio o'r blaen, ond gwelwn lawer o drefniadau gwahanol, ledled y byd. Nid yw hwn yn beth newydd; mae'n wahanol i'r hyn rydym ni wedi'i gael o'r blaen, ond yn sicr nid yw'n beth newydd. Ac mae gennym hanes o gydweithio er budd pobl Cymru. Rydym yn hapus iawn os yw'r blaid Dorïaidd eisiau ymrwymo i drefniadau anffurfiol gyda ni. Gwyddoch fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at arweinydd yr wrthblaid ynglŷn â Bil aer glân, er enghraifft. Y drafferth yw, nid oes gan y Torïaid ddiddordeb mewn cydweithio, a chredaf fod hynny'n dweud mwy am eich plaid chi nag y mae'n ei ddweud am fy mhlaid i. 

Fe ofynnoch chi ynglŷn â chyllid ar gyfer uned y cytundeb cydweithio. Wel, mae'n bosibl eich bod wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud bod arian wedi'i neilltuo, a bydd hwnnw'n rhan o'n cyllideb ddrafft y byddwn yn ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn, ac wrth gwrs, byddwch yn gallu craffu ar honno.

Mewn perthynas â'ch cwestiwn ynglŷn â'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau dynodedig o Blaid Cymru, fel y byddwch wedi gweld, mae hwnnw wedi'i gynnwys yn atodiad A, a gyhoeddwyd yn rhan o ddogfen mecanweithiau'r cytundeb y bore yma. Ond rwy'n ailadrodd nad clymblaid yw hyn; mae'n gytundeb i ddarparu rhaglen waith a rennir drwy'r cytundeb cydweithio am gyfnod o dair blynedd.

15:35

Efallai nad yw'n glymblaid, ond mae'n edrych fel un. Rwy'n croesawu'r cytundeb. Rwy'n croesawu cyhoeddi'r dogfennau heddiw sy'n sail i'r cytundeb; credaf fod hynny'n bwysig o ran tryloywder. Rwy'n croesawu wleidyddiaeth y cytundeb; rwy'n credu ei fod yn beth da i'w wneud. Ac rwy'n croesawu'r datganiad gan y Llywydd y bore yma ar y cyngor y mae wedi'i gael. 

Ond mae hyn yn codi cwestiynau i ni fel Senedd, ac nid wyf yn credu y gall y Llywodraeth eu brwsio o dan y mat ac esgus nad ydynt yn bodoli. Mae'r Llywodraeth eisoes yn rhy bwerus yn y Siambr hon. Mae'n bwerus, ac nid yw'n destun yr un prosesau craffu â Llywodraethau eraill, naill ai yn San Steffan neu Holyrood, neu hyd yn oed yn Stormont. Felly, mae cwestiynau yma, oherwydd bydd gan Blaid Cymru rôl sy'n mynd y tu hwnt i gytundeb cyllideb rydym wedi'i gael o'r blaen. Mae'r ffaith bod pwyllgor cyllid o fewn y Llywodraeth yn goruchwylio gwariant cyhoeddus yn iawn yn fy marn i, a chredaf ei fod yn briodol, ac rwy'n ei groesawu, ond mae'n wahanol ac mae'n rhoi Plaid Cymru mewn sefyllfa wahanol. 

Rwy'n croesawu'r ffaith bod yna Aelodau dynodedig. Rwy'n croesawu penodiad Siân Gwenllian, a welais ar Twitter yn gynharach y prynhawn yma. Credaf y bydd yn grymuso Llywodraeth Cymru, a chredaf y bydd yn cryfhau Llywodraeth Cymru, ond unwaith eto, mae'n codi cwestiynau ynglŷn â chraffu. Rwy'n croesawu'r ffaith bod cytundebau ar waith rhwng y ddwy blaid i reoli busnes yn y Siambr hon. Unwaith eto, mae hynny'n codi cwestiynau. Nid yw'n gredadwy dadlau bod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn golygu nad oes gan Blaid Cymru rôl weithredol. Nid yw honno'n ddadl gredadwy i'w gwneud. 

Rwy'n credu bod angen inni ystyried y mater hwn. Nid wyf yn siŵr mai'r ffordd orau o ddatrys y materion hyn yw drwy gwestiwn amserol y prynhawn yma, ond credaf fod angen i Swyddfa'r Llywydd, a'r Llywodraeth, a phob un ohonom fel Aelodau, fabwysiadu'r un agwedd tuag at graffu ar y Llywodraeth ag y mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi'i mabwysiadu tuag at gyflawni gwaith y Llywodraeth. Mae llywodraeth dda yn gwella drwy graffu gwell. Mae angen inni sicrhau bod y strwythurau ar waith yn y Senedd hon i sicrhau na fydd y Senedd hon yn dod yn ddiangen ac yn ddim ond gwyliwr dros y tair blynedd nesaf.

Rwy'n credu ein bod wedi bod yn agored ac yn dryloyw iawn. Rydym wedi cyhoeddi'r holl ddogfennau y bore yma, sy'n nodi'n glir sut y bydd yn gweithio. Nid wyf yn credu y gallem fod wedi bod yn fwy agored a thryloyw, ac yn sicr, nid oes gennym unrhyw beth i'w guddio. Nid wyf yn credu bod neb yn dadlau ynghylch rôl Plaid Cymru. Mater i'r Llywydd, i Gomisiwn y Senedd, ac i'r bwrdd taliadau yw statws Plaid Cymru fel plaid yn y Siambr hon, fel y dywedais yn fy ateb i Paul Davies. Mater i Lywodraeth Cymru yw gwaith y Llywodraeth—y gwaith mewnol—sydd, mae'n rhaid imi ddweud, yn sych iawn; yn sydyn iawn, mae pawb i'w gweld â diddordeb mawr ynddynt. Bydd yr Aelod yn gwybod yn iawn nad clymblaid yw hon. Mae'n deall yn iawn beth yw clymblaid.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 sydd nesaf, y datganiadau 90 eiliaid, ac mae'r datganiad cyntaf gan Adam Price. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn wneud datganiad cyflym heddiw ar SUDEP, sef marwolaeth annisgwyl sydyn oherwydd epilepsi. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 32,000 o bobl yn byw gydag epilepsi. Mae 21 o bobl yr wythnos neu dri o bobl bob dydd yn y Deyrnas Unedig yn marw o SUDEP, gyda chanran fawr ohonynt yn ddynion ifanc rhwng 20 a 40 oed. Fel grŵp, mae risg pobl sy'n byw gydag epilepsi o SUDEP yn un mewn 1,000. Fodd bynnag, gall hyn newid yn llwyr i rai pobl yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol. I rai o fy etholwyr, mae hwn yn fater real iawn y maent yn byw gydag ef bob dydd, ac mae rhai o'r profiadau y maent wedi'u rhannu â mi dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.

Hoffwn gyfeirio'n arbennig at Hayden Brown, dyn ifanc o Rydaman a gollodd ei fywyd i SUDEP ychydig dros ddwy flynedd yn ôl yn awr. Mae ei fam, Helen, yn gweithio gyda Hywel Dda i gynhyrchu adnodd y gellir ei roi i bobl ar adeg y diagnosis i gynyddu ymwybyddiaeth pobl a'u hysbysu sut y gallant leihau risgiau. Mae hi hefyd yn rhoi gwobr yn ei enw bob blwyddyn yn ei hen ysgol gynradd, Ysgol Bro Banw.

Mae SUDEP Action yn elusen ragorol sy'n gwneud ei gorau glas i godi ymwybyddiaeth o SUDEP yn benodol, a hoffwn annog unrhyw un sydd â theulu neu anwyliaid yr effeithiwyd arnynt gan y cyflwr i ymweld â'u gwefan. Hefyd, mae Epilepsy Action Cymru yn gwneud gwaith gwych o godi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o'r cyflwr yma yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau hyn am eu gwaith rhagorol ar y mater hwn.

15:40

Ddydd Llun, cynhaliwyd gwasanaeth coffa i'r diweddar Fonesig Cheryl Gillan yn San Steffan. I'r rhai nad ydynt yn gwybod, ganed Cheryl yn Llandaf, Caerdydd, a'i magu yn ne Cymru. Yn wir, mae ei theulu'n dal i gynnal fferm ym Mrynbuga. Cafodd ei haddysg yn Elm Tree House, fy hen ysgol, ac ysgol gynradd Norfolk House yng Nghaerdydd, cyn mynychu Cheltenham Ladies' College a Choleg y Gyfraith. Ym 1992, fe'i hetholwyd i'r Senedd yn Aelod Seneddol dros Chesham and Amersham, sedd a gadwodd nes ei marwolaeth drist a sydyn ym mis Ebrill eleni. Penodwyd Cheryl yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y fenyw gyntaf i gael y swydd, ar ôl yr etholiad cyffredinol yn 2010, swydd a gyflawnodd gydag anrhydedd a balchder pur. Roeddwn yn ei hadnabod ers blynyddoedd lawer, ac roedd ei hangerdd a'i charedigrwydd bob amser yn amlwg. Roedd hi'n uchel ei pharch ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac roedd ei hymroddiad i Gymru yn destun edmygedd. Gwelir colli Cheryl yn fawr gan ei holl ffrindiau yng Nghymru, a fydd bob amser yn cofio ei hiwmor a'i charedigrwydd. Mae bywyd cyhoeddus yn sicr yn dlotach hebddi. Diolch.

Diolch yn fawr am hynny. Egwyl fer nesaf nawr er mwyn gwneud ambell i newid i'r Siambr, ac fe fyddwn ni'n dychwelyd ar gyfer eitem 5. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:42.

15:50

Ailymgynullodd y Senedd am 15:53, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis a thriniaeth canser

Eitem 5 yw'r nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): diagnosis a thriniaeth canser. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7842 Mabon ap Gwynfor

Cefnogwyd gan Altaf Hussain, Cefin Campbell, Heledd Fychan, James Evans, Jane Dodds, Janet Finch-Saunders, Joel James, Laura Anne Jones, Luke Fletcher, Mark Isherwood, Paul Davies, Peter Fox, Rhun ap Iorwerth, Rhys ab Owen, Sam Rowlands, Siân Gwenllian, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru.

2. Yn cydnabod:

a) mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018).

b) bod COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru, gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

c) bod amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai 61.8 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed perfformiad llwybr canser tybiedig o 75 y cant.

d) hyd yn oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi, patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol.

e) heb fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol, neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau yn gynnar.

f) bod Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i gefnogi gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi ymhellach. 

g) mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod gan bob gwlad.

3. Yn croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i ddatblygu clinigau diagnostig cyflym.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar gyfer canser, gan gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith;

b) mynd i'r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a diagnostig;

c) ystyried sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike Richards o wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno’r cynnig yma heddiw ger eich bron, a diolch i’r holl Aelodau eraill sydd wedi ei gefnogi o. Mae’r nifer sydd wedi cefnogi'r cynnig yn dyst i bwysigrwydd y testun.

Mae canser, wrth gwrs, yn rhywbeth sydd yn agos iawn at bob un ohonom ni—yn llawer rhy agos mewn gwirionedd. Mae fy nhad yn glaf canser, ac wedi bod ers diwedd 2019. Yn ôl yn yr haf, cafodd fy nhad y newyddion da fod y canser wedi diflannu, a'i fod mewn remission. Roedd yn achos dathlu, wrth reswm. Yna, ar ddechrau’r hydref, wrth fynd am ei brofion, gwelwyd fod y tyfiant wedi dod yn ôl.

Dwi’n dyst, felly, i’r ffaith fod y broses ddiagnosis, aros am ganlyniadau, aros am driniaeth, aros am atebion pan fo rhywbeth annisgwyl yn codi—hyn oll yn boen meddwl creulon, a gallaf ddim dychmygu'r gwewyr mae fy nhad a mam yn gorfod mynd drwyddo heb wybod os ydy’r erchyll beth yma yn tyfu ynghynt y tu mewn iddo, neu wedi ymledu.

Ond dydw i ddim ar fy mhen fy hun yn byw'r profiadau yma. Mae yna filoedd o gleifion a theuluoedd yng Nghymru yn byw'r profiad yma yn ddyddiol ac, wrth gwrs, mae eraill yn y Siambr yma heddiw wedi ei brofi o, dwi’n siŵr.

Rydyn ni oll, wrth gwrs, heddiw, yn cofio am yr annwyl a'r diweddar Steffan Lewis, a gyfrannodd gymaint mewn amser llawer yn rhy fyr, ac fe'i gollwyd o i ganser.

Wrth gyflwyno’r cynnig yma heddiw, dwi am ganolbwyntio ar effaith COVID ar wasanaethau canser, y gweithlu, amseroedd aros a diagnosis.

Wel, mae ychydig o dan 20,000 o bobl yn derbyn diagnosis canser yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae'n wybyddus i bawb erbyn hyn fod canser yn lladd mwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw glefyd arall. Y newyddion da ydy fod y nifer sy'n goroesi'r clefyd yma yn cynyddu, gyda 60 y cant o’r cleifion a dderbyniodd ddiagnosis rhwng 2014 a 2018 yn goroesi eu canser am bum mlynedd neu fwy, sydd yn dangos bod triniaethau yn gwella.

Ond er y camau ymlaen, mae effaith COVID-19 a'r diffyg staff yn y gwasanaeth iechyd yn debyg o arwain atom ni'n gweld y niferoedd sydd yn goroesi yn lleihau am y tro cyntaf. Mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru wedi'u dwysáu oherwydd COVID, fel ym mhob sector o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae ffigurau'r Llywodraeth yn dangos bod 20,000 yn llai o bobl wedi cael eu cyfeirio ar frys am ddiagnosis canser rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2020 o'i gymharu â chyn y pandemig. Gwyddom bellach fod 1,700 yn llai o bobl wedi dechrau triniaeth canser yng Nghymru yn y flwyddyn rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021. Arweiniodd y COVID yma at y gwasanaethau canser yn cael eu tarfu'n sylweddol gan beryglu diagnosis a’i wneud yn anoddach i’w drin, a oedd wedyn yn arwain at ddirywiad yn eu cyfleoedd i oroesi.

Gwyddom hefyd fod staff y gwasanaeth iechyd wedi blino'n lan ar ôl ymateb i'r pandemig, yn ogystal â cheisio cynnal y gwasanaethau canser, tra hefyd yn ceisio cynnal mwy o fesurau rheoli heintiau. Ond, er bod llawer o wasanaethau canser bellach wedi dychwelyd, i raddau helaeth, i'r lefelau lle yr oedden nhw cyn COVID, y gwir ydy nad oedd canlyniadau canser yng Nghymru yn ddigon da cyn y pandemig. Fedrwn ni felly ddim mynd yn ôl i fel oedd pethau. Erys yr angen i drawsnewid gwasanaethau ar frys er mwyn gwella canlyniadau canser yn y tymor hir.

Sydd yn dod â mi at y gweithlu. Dwi eisiau gosod ar record yma heddiw ein diolch i’r gweithlu sydd wedi mynd yr ail filltir drosodd a thro yn ystod y cyfnod anodd diweddar. Fel mab i glaf canser, dwi’n diolch yn bersonol iddyn nhw, a dwi’n sicr fod y diolch hwnnw yn cael ei ategu gan bawb yma heddiw. Ond, y gwir anghyfleus ydy fod y gwasanaeth iechyd wedi dibynnu ar ewyllys da'r gweithlu er mwyn cynnal y gwasanaeth, gyda rhagor nag un o bob pedwar meddyg yn gweithio dros oriau yn ddi-dâl. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu diagnostig a chanser, megis delweddu, endosgopi, patholeg ac oncoleg nad yw'n lawfeddygol, neu non-surgical oncology.

Mae’r bylchau yma wedi effeithio yn sylweddol ar ein gallu i adnabod canser yn gynnar; darparu'r math mwyaf effeithiol o driniaeth; a gwella cyfleoedd goroesi. Er enghraifft, tra bod yna gynnydd wedi bod yng ngweithlu ymgynghorwyr oncoleg glinigol trwy’r Deyrnas Gyfunol a thrwy Ewrop, does yna ddim cynnydd wedi bod yn y bum mlynedd ddiwethaf yn ardal Betsi Cadwaladr. Yn 2020, dim ond 7.8 radiolegydd am bob 100,000 o’r boblogaeth oedd yng Nghymru, tra bod y cyfartaledd Ewropeaidd yn 12.8. Yn wir, mae gan Gymru hanner nifer y radiolegwyr i bob pen o’r boblogaeth ag sydd gan Ffrainc a Sbaen. Ac mae gan ogledd a gorllewin Cymru'r nifer lleiaf o radiolegwyr clinigol y pen o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol.

Mae yna gamau y gellir eu cymryd yn y tymor byr i ddiwallu’r sefyllfa, megis cymysgu sgiliau. Gall arloesi efo technolegau newydd helpu i wneud y mwyaf o allu'r gweithlu canser hefyd. Ac, wrth gwrs, mae’n rhaid edrych ar gefnogi lles y gweithlu er mwyn eu cadw. Ond, tra gall y camau yma helpu, dim ond trwy fynd i’r afael â’r argyfwng yn y gweithlu go iawn y cawn ni ddatrysiad i’r cwestiwn ehangach o staffio. Rhaid felly gweld y Llywodraeth yn ehangu'r nifer o staff mewn proffesiynau canser allweddol drwy fuddsoddi mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff canser i lenwi'r swyddi gwag cyfredol a sicrhau bod gan y gweithlu'r gallu i ateb y galw cynyddol, yn ogystal ag amser i arloesi a thrawsnewid gwasanaethau.

Daw hyn â fi at y pwynt nesaf, sef amseroedd aros. Mae’n deg dweud, fel rydym ni wedi sôn, fod COVID wedi cael effaith andwyol ar y gwasanaethau canser. Dengys data mis Medi 2021 fod 59 y cant o gleifion wedi derbyn triniaeth cyntaf o fewn 62 niwrnod i’r amheuaeth fod ganddyn nhw ganser. Mae hyn ymhell o dan y targed o 75 y cant. Mae’r ystadegyn pryderus yma yn dweud wrthym ni fod llawer gormod o gleifion yn aros llawer rhy hir cyn cael diagnosis neu driniaeth. Ond fedrwn ni ddim gwella’r canlyniadau heblaw ein bod ni’n gweld cynnydd yn y gweithlu a’r offer angenrheidiol er mwyn ei ddal yn ddigon cynnar.

Rŵan, mae’r llwybr amheuaeth o ganser, a gafodd ei gyhoeddi nôl yn y gwanwyn, i'w groesawu. Ond mae angen gwneud mwy i leihau yr amseroedd aros a rhoi’r cyfle gorau posib i gleifion gael diagnosis cynnar, i gael triniaeth buan ac i oroesi.

Dwi hefyd yn croesawu’r datganiad ansawdd ar gyfer canser a gyhoeddwyd eleni. Ond mae’n ddatganiad sydd yn annigonol. Nid strategaeth canser mohoni, ac mae’r strategaeth canser flaenorol bellach yn dirwyn i ben. Cymru, felly, fydd yr unig genedl yn y Deyrnas Gyfunol heb strategaeth canser, rhywbeth y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y dylai pob Llywodraeth ei mabwysiadu. Mae'n rhaid cryfhau’r datganiad ansawdd canser, felly, a datblygu strategaeth canser i Gymru ar fyrder.

Yn olaf, dwi am droi'n sydyn at adolygiad Richards gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Un o argymhellion allweddol yr adolygiad hwnnw oedd hybiau diagnostig ar gyfer diagnostig dewisol, elective diagnostics, a chymryd yr elfennau megis sganio a phrofion allan o ysbytai acíwt er mwyn adeiladu capasiti. Ond, wrth gwrs, mae angen buddsoddiad ychwanegol i greu’r rhain, ynghyd â gweithlu, offer ac yn y blaen. Mae angen i’r Llywodraeth, felly, roi ystyriaeth lawn i hyn, a byddwn yn annog y Llywodraeth i ymchwilio i fewn i’r posibilrwydd o sefydlu peilot, gyda golwg i ddatblygu hybiau o’r fath yma yng Nghymru.

Felly, i gloi, rydym ni'n cydnabod bod yr argyfwng COVID wedi gwneud pethau yn anodd iawn i'r gwasanaeth canser a gwasanaethau iechyd eraill, ac rydym ni'n diolch yn swyddogol i'r gweithlu am eu dewrder a'u gwaith yn ystod y cyfnod yma. Ond doedd pethau ddim yn iawn cyn hynny. Rydyn ni'n cydnabod bod yna gamau wedi cael eu cymryd i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen llawer iawn mwy. Mae'n rhaid gweld buddsoddi yn y gweithlu, sydd yn golygu cynyddu'r cyfleoedd hyfforddiant a chynyddu'r niferoedd, yn arbennig felly'r gweithlu arbenigol. Mae angen strategaeth canser glir, gan adeiladau ar y datganiad a wnaed yn y gwanwyn, gan osod gweledigaeth, targedau clir ac atebolrwydd. Ac yn olaf, mae angen gweld ymrwymiad i dreialu a mabwysiadu rhai o'r argymhellion yn adroddiad Richards. Wedi'r cyfan, does dim angen ailddyfeisio'r olwyn. Trwy weithredu’r rhain, gallwn fod yn hyderus y caiff fwy o gleifion ddiagnosis sydyn ac y bydd cyfraddau goroesi yn cynyddu. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

16:00

Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Mabon am gyflwyno dadl mor bwysig heddiw, a dweud hefyd ei bod yn ddrwg gennyf glywed beth y mae ei deulu'n mynd drwyddo a chlywed y rhesymau personol pam y daeth â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw.

Bydd y pwyntiau a godwyd hyd yma yn peri pryder a gofid i bobl ar hyd a lled ein gwlad. Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y llwybr canser sengl newydd i gleifion yng Nghymru i sicrhau bod triniaeth yn dechrau, os amheuir bod ganddynt ganser, o fewn 62 diwrnod yn newyddion i'w groesawu ar ôl blynyddoedd o restrau aros cynyddol am ddiagnosis a thriniaeth canser. Bu'n adlewyrchiad cywilyddus o ddiffyg gweithredu hanesyddol Llywodraethau Llafur olynol i fynd i'r afael ag amseroedd aros rhy hir am ddiagnosis a thriniaeth canser. Er gwaethaf cyflwyno'r llwybr sengl newydd, mae rhestrau aros erchyll o hir yn dal i fod yn bla yng Nghymru ac maent yn dal i fynd yn hirach. Yn gwbl amlwg, mae angen llawer mwy i unioni'r argyfwng canser presennol sy'n ein hwynebu. Mae cyfran sylweddol o'r broblem wedi'i hachosi gan brinder cronig o staff ysbyty ar draws adrannau ein byrddau iechyd. Unwaith eto, rydym wedi gweld Llywodraethau Llafur olynol yn caniatáu i'n GIG wynebu sefyllfa eithriadol o anodd ar eu pen eu hunain.

Un peth yw cyflwyno strategaethau newydd i leihau rhestrau aros a gwella canlyniadau i gleifion, ond nid oes ffordd y gall wneud hynny. Os nad ydym yn sicrhau bod digon o staff i gyflawni canlyniadau, ni fydd y strategaeth newydd hon yn ddim mwy na phlastr dros glwyf dwfn iawn. Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ers iddo ddechrau ym mis Mawrth 2020. Rydym i gyd wedi clywed straeon am wahanol bobl yr amheuir bod ganddynt ganser yn mynd heb ddiagnosis am lawer rhy hir, gan waethygu ôl-groniadau hanesyddol. Yn anffodus, roedd y rhan fwyaf o'r problemau hyn yma ymhell cyn i'r pandemig daro. Er gwaethaf argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd y dylai pob gwlad gael strategaeth ganser ar waith, mae'n destun pryder enfawr i mi fod Cymru'n dal i aros am gynllun gweithredu clir, aml-elfen a all fynd i'r afael â chraidd y broblem.

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ac mae angen iddi weithredu nawr. Mae gwir angen gosod strategaeth ar waith yn y tymor byr i fynd i'r afael â'r problemau staffio uniongyrchol sy'n wynebu'r GIG. Heb hyn, ni all fod unrhyw obaith o leihau rhestrau aros. Yn wir, efallai mai gweld rhestrau aros yn cynyddu a wnawn fel arall. Mae angen cyplysu hyn â chyflwyno cynllun hirdymor i leihau rhestrau aros, fel y gall cleifion gael triniaeth cyn gynted â phosibl, cyn y targed 62 diwrnod os oes modd. Ni all y Llywodraeth Lafur orffwys ar ei rhwyfau mwyach a chladdu ei phen yn y tywod o dan y camargraff y bydd problemau'n datrys eu hunain. Ni allant ymroi i feio San Steffan ychwaith, oherwydd mae'r cyfrifoldeb yma, gyda Llywodraeth Lafur Cymru.

Mae'r materion hyn yn galw am ymyrraeth frys ac wedi'i thargedu nawr. Mae diagnosis cyflym yn gwbl allweddol. Mae angen rheoli'r sefyllfa, neu fel arall byddwn yn parhau i weld rhestrau aros rhy hir a mwy o farwolaethau wedi'u hachosi gan ganser, marwolaethau y gellid bod wedi osgoi llawer ohonynt yn gyfan gwbl gyda chamau gweithredu priodol. Nid yw'r ffaith mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb strategaeth yn ddigon da; mae'n bryd gweithredu.

16:05

Diolch i Mabon am ddod â'r cynnig yma o'n blaenau ni heddiw yma. Mae pobl Cymru'n aros yn rhy hir am driniaeth canser, ac mae hynny'n effeithio ar ba mor debygol ydyn nhw o oroesi. Dyna ydy'r gwir sylfaenol sy'n gefndir i'r cynnig yma heddiw, ac wrth wraidd yr ateb mae'r angen am gynllun canser cenedlaethol newydd i Gymru. Mae'r Gweinidog wedi clywed y galwadau cyson ac uchel gan y gwahanol randdeiliaid bod angen cynllun o'r fath; dydy'r datganiad ansawdd ar gyfer canser ddim yn rhoi inni y strategaeth, y cynllun gweithredu clir, sydd ei angen. Mi oedd angen, wrth gwrs, strategaeth felly cyn y pandemig, ac mae hynny gymaint mwy gwir erbyn hyn.

Ym mlwyddyn gyntaf y pandemig, mi wnaeth 1,700 yn llai o bobl ddechrau triniaeth canser nag y bydden ni wedi'i ddisgwyl o ffigurau'r cyfnod cyn hynny. Mi all y Gweinidog ddod i'r Senedd, fel y gwnaeth hi'n gynharach heddiw wrth ateb cwestiynau gen i, a dweud bod canser wedi parhau yn flaenoriaeth drwy gydol y pandemig. Dwi ddim yn amau o gwbl mai dyna oedd y dymuniad, ond mae'r ystadegau'n dweud stori wahanol, onid ydyn? Mae ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod 20,000 yn llai o bobl wedi cael referral brys am ddiagnosis canser yn naw mis cyntaf y pandemig na'r cyfnod cyn hynny. Mi gafodd y pandemig effaith sylweddol—mae disgwyl hynny, wrth gwrs, i raddau helaeth, ond yr ymateb i hynny rydym ni'n sôn amdano fo heddiw. Felly, mae angen nid gwneud mwy o'r un peth hyd yn oed, ond mae angen trawsnewid gwasanaethau i allu bwrw ymlaen efo'r adferiad COVID, ac mae angen cynllun canser cenedlaethol newydd er mwyn gwneud hynny. Rydym ni angen canolfannau diagnosis newydd ar frys. Rydym ni angen gweld cryfhau sgrinio cynnar, fel profion iechyd yr ysgyfaint—y lung health checks—sydd, rydym ni'n gwybod, yn gweithio. Does dim angen mwy o dystiolaeth, mewn difrif; maen nhw yn gweithio ac rydym ni eisiau ei wneud o yng Nghymru. Rydym ni angen cynllun gweithlu clir. Mi oedd yna dyllau mawr yn y gweithlu cyn y pandemig; mae llenwi'r tyllau hynny yn fater mwy argyfyngus nag erioed rŵan. Mae'r gweithlu yn wych. Mae unrhyw un sydd wedi dod ar eu traws nhw yn methu â diolch digon iddyn nhw am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ond mae yna ddiffyg yn y gweithlu hwnnw, a'r pwysau wedyn ar y rhai o fewn y gweithlu yn anghynaliadwy. Mae angen buddsoddi yn y gweithlu hwnnw, a buddsoddi ar frys.

Dwi angen gwneud y pwynt yma hefyd: mae angen gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y buddsoddiadau cywir yn yr hirdymor ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru. Dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn ddiweddar i ofyn iddi edrych eto a gwrando eto ar farn arbenigwyr canser sy'n galw am gydleoli canolfan canser newydd yn y brifddinas ar yr un safle â'r ysbyty athrofaol, yn dilyn y patrymau rhyngwladol arferol erbyn hyn. Ydy hi wir yn argyhoeddedig bod y penderfyniad sydd wedi ei gymryd hyd yma yr un gorau? Achos mae'n rhaid sicrhau bod cleifion canser Cymru heddiw a'r dyfodol yn cael y gwasanaethau gorau posib.

Dirprwy Lywydd, dwi'n falch iawn, fel dwi'n dweud, o allu cefnogi'r cynnig yma heddiw, achos mae o'n gyfle arall inni gofio'r angen am ffocws clir ar elfen sydd mor allweddol o'n gwasanaethau iechyd a gofal. Mi wnaeth Mabon sôn am y profiad mae o a'i deulu'n mynd drwyddo fo ar hyn o bryd, ac rydym ni'n dymuno'n dda iawn i dad yn ei frwydr o. Ein profiad ni fel teulu oedd bod y diagnosis wedi dod yn rhy hwyr i mam, bron i 10 mlynedd yn ôl bellach, iddi hi allu cael unrhyw driniaeth o gwbl, felly dwi'n dymuno yn dda i unrhyw un sy'n cael y cyfle hwnnw i allu brwydro. Ond mi allwn ni wella gobeithion pobl o gael diagnosis cynnar, o gael referral amserol, o gael triniaeth effeithiol, o oroesi canser, ond wnaiff o ddim ond digwydd efo penderfynoldeb digyfaddawd a chynllun cenedlaethol clir.

16:10

Wel, unwaith eto, hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn ddiffuant i Mabon ap Gwynfor AS am gyflwyno'r cynnig pwysig iawn hwn, yn ogystal ag i'r 15 Aelod a gefnogodd y galwadau pwysig hyn i fynd i'r afael ag amseroedd aros hir am ddiagnosis a thriniaethau canser. Fel y bydd y ddadl hon yn dangos yn glir, mae amseroedd aros canser y GIG ar gyfer mis Medi 2021 yn dangos mai 59 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, sy'n llawer is na tharged y llwybr canser o 75 y cant.

Weinidog, roedd datganiad ansawdd mis Mawrth ar gyfer canser yn gyfle i Lywodraeth Cymru nodi strategaeth ar gyfer gwella diagnosis canser, ond mae'n brin o fanylion pellach a mecanweithiau atebolrwydd. Fel y dywedodd Cancer Research UK yn glir, cyn bo hir Cymru fydd yr unig wlad yn y DU heb strategaeth ganser y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad. Rwy'n ymuno â fy nghyd-Aelodau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gamau nesaf y datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gofynnaf i chi fanylu ar ba fecanweithiau sy'n cael eu hystyried ar gyfer cyflymu'r broses o olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith.

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd bylchau sylweddol yn y gweithlu yng Nghymru sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi, oncoleg nad yw'n feddygol a nyrsys arbenigol. Canlyniad y bylchau staffio hyn yw bod achosion gofidus yn troi at fy swyddfa i chwilio am gymorth, gan gynnwys achosion lle mae cleifion yn cael gwybod am ddiagnosis o ganser sy'n newid bywyd dros y ffôn, yn hytrach na drwy sgwrs bersonol, wyneb yn wyneb.

Yn ogystal â phrinder staff, mae'n wir yng ngogledd Cymru fod yn rhaid i'r bwrdd iechyd atgyfeirio llawer o gleifion yn ôl i Loegr i gael y driniaeth angenrheidiol. O fod yn cynorthwyo etholwr yn ddiweddar iawn, gwn nad yw'r broses yn llyfn, gydag oedi, er enghraifft, oherwydd bod cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol rhwng bwrdd Betsi Cadwaladr a'r ysbyty perthnasol yn Lloegr weithiau ond yn digwydd unwaith yr wythnos. Mae'n ymddangos bod datganoli'n peri oedi diangen ac annerbyniol i driniaethau canser. Mae arnom angen gwell cydweithrediad ar draws y ffiniau a'r GIG ledled y DU, fel nad yw trigolion gogledd Cymru dan anfantais oherwydd diffyg arbenigedd yn y rhanbarth. Gwyddom fod aflonyddu ar wasanaethau hefyd yn peryglu diagnosis ar gamau diweddarach, gan ei wneud yn llawer anos ei drin a chan leihau'r nifer sy'n goroesi canser.

Felly, hoffwn gloi drwy ofyn i'r Gweinidog ddefnyddio ei hateb i gadarnhau a fydd cyllideb aml-flwyddyn Llywodraeth Cymru sydd i'w chyhoeddi cyn bo hir yn cael ei defnyddio fel cyfle i fuddsoddi yn y gweithlu canser yng Nghymru yn y tymor hir, ac rwy'n gofyn yn gadarn iawn, yn sicr yng ngogledd Cymru, am weld gweithredu'n digwydd ynglŷn â'r modd y rhoddir gwybod i gleifion am afiechydon gydol oes o'r fath sy'n newid bywydau. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n credu ei fod yn fater eithriadol o bwysig y credaf fod pob plaid yn poeni yn ei gylch yn y Siambr hon, ac mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn yn ddigon cyflym, mewn gwirionedd, i roi fy enw i gefnogi'r ddadl cyn ei chyflwyno. Ond hoffwn nodi y byddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw, ac rwy'n cytuno â'r pwyntiau yn y cynnig y mae Mabon wedi'i gyflwyno. 

Yn anffodus, credaf fod cleifion canser wedi cael eu gadael ar ôl yng Nghymru. Ers gormod o amser rydym wedi gohirio sgrinio, wedi oedi cyn rhoi triniaeth, ac mae'r pandemig wedi rhoi straen sylweddol ar weithlu sydd eisoes wedi'i orlwytho, ac mae nifer sylweddol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol bellach yn dioddef straen a gorflinder. Os yw Cymru am ateb y galw cynyddol a sicrhau canlyniadau rhagorol i gleifion canser, rhaid iddi fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG fel mater o frys. Felly, rwy'n cefnogi'n gryf yr alwad ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phrinder staff yn y gweithlu canser.

A nodaf mai Cymru fydd yr unig wlad yn y DU cyn bo hir heb strategaeth canser. Ac fel y mae dau Aelod eisoes wedi nodi, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai pob gwlad gael strategaeth. Felly, o gofio bod tri Aelod bellach wedi sôn am hynny yn y ddadl heddiw, gobeithio y gall y Gweinidog fynd i'r afael â'r pwynt hwnnw'n benodol. Ond rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys yn hynny o beth, ac mae angen gweledigaeth ar Gymru i nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru a sut y bydd yn cefnogi gwasanaethau i adfer yn sgil effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi canser drwy arloesi a thrawsnewid yn y tymor hir.

Ar ddechrau'r ddadl, nododd Mabon ei brofiad a'i sefyllfa deuluol ei hun, ac rwy'n tybio bod canser wedi effeithio ar bob Aelod o'r Siambr hon mewn rhyw ffordd, a bydd hynny yr un fath i bobl ledled Cymru. Felly, rwy'n credu ei fod yn destun pryder mawr i bob un ohonom, onid yw, pan fydd gennym restrau aros hirach, a chredaf y bydd hynny'n effeithio ar bob person ledled Cymru yn yr ystyr y byddant yn bryderus ynghylch rhestrau aros hirach ar gyfer canser. Gwn y bydd cyd-Aelodau'n sicr yn cytuno â hynny.

Ond drwy'r pandemig, gwelsom amseroedd aros hirach nag erioed. Dangosodd amseroedd aros canser y GIG ar gyfer mis Medi fod 59 y cant o gleifion wedi cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuid bod ganddynt ganser, ac mae hyn yn llawer is na'r llwybr canser o 75 y cant. Felly, ni fyddwn yn gwella canlyniadau canser oni bai ein bod yn lleihau amseroedd aros yng Nghymru. A chredaf fod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i fuddsoddi yn y staff a'r seilwaith sydd eu hangen i helpu mwy o bobl i gael diagnosis a thriniaeth amserol, fel y nododd Mabon yn ei sylwadau agoriadol. Felly, byddaf yn sicr yn cefnogi'r cynnig heddiw fel y'i cyflwynwyd, a gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn unol â hynny i'r ddadl hon y prynhawn yma. 

16:15

Rwy'n hoff iawn o naws y drafodaeth heddiw, oherwydd mae hwn yn fater emosiynol iawn. Mae gennym ni i gyd deulu neu ffrindiau sydd wedi cael neu sydd â chanser, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn ystyriol yn y ffordd rydym yn trafod hyn.

Credaf mai un o'r problemau mwyaf gyda chanser yw bod pobl yn aml yn araf iawn i ofyn am gyngor. Mae gwir angen i bobl wrando ar eu cyrff a meddwl, 'Nid yw hyn yn normal, efallai fod angen i mi fynd at y meddyg.' Ac rwy'n credu ei bod yn ffaith hysbys fod dynion yn llawer llai tebygol na menywod o ofyn am gyngor yn gyflym. Ond hefyd rwy'n credu bod pobl sydd â lefelau isel o hunan-barch, sydd â disgwyliadau isel o beth y gall gwasanaethau eu gwneud drostynt, yn cymryd yn ganiataol ei fod yn rhan o'u stori ac maent yn meddwl, 'Wel, nid wyf yn teimlo'n dda, ond nid oes neb yn mynd i wneud unrhyw beth yn ei gylch.' Mae'n rhaid ei bod yn anodd iawn i glinigwyr allu gwahaniaethu rhwng pobl iach sy'n poeni a'r ymwelydd amharod â'r meddyg teulu a allai fod yn dweud y stori lawn wrth y clinigwr, neu a allai beidio â gwneud hynny, a meddwl, 'O, nid wyf am drafferthu'r meddyg.' Felly, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol anodd, ac nid oes diben i bawb gael eu hanfon am brawf canser, oherwydd yn amlwg byddai hynny'n tagu'r gwasanaethau y mae pobl yr amheuir bod ganddynt ganser eu hangen mewn gwirionedd. Ond mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddyg teulu feddwl yn ddeallusol, 'A yw hyn yn rhywbeth y bydd meddyginiaeth syml yn ei ddatrys, neu a oes rhywbeth mwy na hynny'n digwydd yma? A yw'r person hwn wedi colli pwysau yn ddiweddar?'

Felly, rwy'n credu ei fod yn fater anodd iawn, ac yn y pen draw, mae pob un ohonom yn marw o rywbeth, ac yn aml rydym yn marw o ganser oherwydd ein bod wedi byw y tu hwnt i'n defnyddioldeb. Ond yn amlwg, y mathau gwaethaf o ganser yw'r rhai y bydd pobl ifanc iawn yn eu dioddef, gan gynnwys plant a phobl ifanc yn gyffredinol, oherwydd bod y canser yn llawer mwy ffyrnig. Rwy'n adnabod rhywun sydd wedi bod yn byw gyda chanser y prostad ers 15 mlynedd; mae hyn yn eithaf normal os ydych chi'n oedrannus. Mae pobl yn byw gyda chanser yn berffaith iawn gyda chymorth triniaeth briodol.

Mae gennyf ffrind, ffrind agos, sy'n marw o ganser y pancreas, ac rwy'n ymwybodol mai dyma un o'r canserau anoddaf i'w trin, ac felly roeddwn yn awyddus iawn i dderbyn y cynnig o gyfarfod gyda Pancreatic Cancer UK yn ddiweddar, ac roedd tyst arbenigol yno a oedd yn wraig i rywun a oedd wedi marw o ganser y pancreas yn ystod y pandemig. Roedd yn ddefnyddiol iawn gwrando ar y wraig yn sôn sut y cafodd ei gŵr ei drin, sut y llwyddodd o'r diwedd i weld y meddyg teulu yn ystod y cyfyngiadau symud, ond dim ond am iddo fynnu y cafodd weld y maethegwyr, felly roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn darllen y llwybr cenedlaethol gorau ar gyfer canser y pancreas, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2020 yn anffodus—am resymau rydym i gyd yn ymwybodol ohonynt nid oedd yn fis da ar gyfer sefydlu newid. Ond rwy'n falch iawn o weld bod y llwybr hwnnw'n datgan yn glir iawn na ddylai pobl aros am drafodaeth tîm amlddisgyblaethol lleol cyn atgyfeirio rhywun at y grŵp canser gastroberfeddol uchaf lleol, yn ogystal ag at y maethegwyr. Mae hyn yn gwbl allweddol er mwyn ystyried rhoi therapi amnewid ensymau pancreatig, oherwydd mae natur canser y pancreas yn golygu na all eich corff dreulio bwyd. Mae'n ymddangos yn amlwg iawn, ond rwyf am glywed gan y Gweinidog pam ei bod yn meddwl mai dim ond tri o bob pump o bobl—yn ôl sefydliad Pancreatic Cancer UK—sy'n cael therapi amnewid ensymau pancreatig, sef y prionau sydd eu hangen arnoch. Oherwydd er na wnaeth achub bywyd y person roedd ei weddw yn y drafodaeth, fe wnaeth ei alluogi i gael ansawdd bywyd rhesymol tra gallai, er mwyn rhannu prydau gyda'i deulu, a chredaf fod hynny'n gwbl hanfodol ac yn enghraifft dda o sut y mae trin canser yn fater ar gyfer tîm amlddisgyblaethol cyfan o bobl, nid y meddyg sy'n arbenigwr canser yn unig, oherwydd mae'n effeithio ar gynifer o bobl. Diolch.

16:20

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Mabon am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon a dweud ei bod hi'n ddrwg gennyf glywed am sefyllfa ei dad. Rydym i gyd yn dymuno'n dda iddo gyda'i sefyllfa.

Er y bydd y Llywodraeth yn ymatal, mae'n fater hollbwysig, fel yr adlewyrchwyd yng nghyfraniadau'r Aelodau heddiw, yn bwysicaf oll o ran sut y mae'n effeithio ar ein hetholwyr, ond hefyd sut y mae wedi effeithio ar fywydau teuluoedd a chyfeillion yr Aelodau eu hunain. Credaf mai ychydig iawn o bobl sydd heb gael rhyw fath o brofiad personol o weld effeithiau canser, ac fel y crybwyllwyd, gwelsom hynny'n glir iawn yn y Siambr yn y cyfraniad anhygoel a wnaeth Steffan Lewis yn yr amser byr y bu gyda ni yn y Siambr. Yn anffodus, collais fy chwaer-yng-nghyfraith, Polly, yn ifanc iawn i ganser ddwy flynedd yn ôl, i'r clefyd creulon hwn.

Nawr, mewn cyfnod mwy arferol, byddem yn sôn am ganser fel prif achos marwolaeth, prif achos colli blynyddoedd o fywyd o ganlyniad i farwolaeth gynamserol, a phrif achos blynyddoedd bywyd a addaswyd o achos anabledd yn sgil yr effaith gorfforol barhaus ar oroeswyr canser. Dyna pam y mae iddo broffil mor sylweddol a pham ei fod yn ffocws mor fawr i unrhyw Lywodraeth.

Nid un peth yw canser, wrth gwrs; mae'n fwy na 200 o glefydau. Clefyd y broses heneiddio ydyw yn bennaf, ond gellir atal cyfran sylweddol o achosion, yn enwedig drwy fynd i'r afael â chyfraddau ysmygu a gordewdra. Cyn y pandemig cawsom nifer o fersiynau o strategaethau a chynlluniau cyflawni cenedlaethol, a gwelsom flynyddoedd olynol o welliant graddol mewn cyfraddau goroesi a marwolaethau canser, yn ogystal â lefelau uchel iawn o brofiad cadarnhaol ymhlith cleifion. Roeddem wedi buddsoddi'n helaeth mewn offer radiotherapi, wedi cyflwyno'r archwiliad cyflawn cyntaf yn y DU o amseroedd aros canser, ac wedi sefydlu arweinyddiaeth genedlaethol ragorol ar gyfer datblygu gwasanaethau canser. Ac rwy'n falch o nodi bod rhan 3 o'r cynnig yn cydnabod un o lwyddiannau nodedig y dull gweithredu hwn, sef sefydlu cysyniad y ganolfan ddiagnostig gyflym. Mae hyn yn dangos sut y gall dull cenedlaethol helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer modelau gwasanaeth newydd, ariannu cynlluniau peilot o ansawdd uchel, datblygu sylfaen dystiolaeth a chefnogi'r gwaith o gyflwyno hyn ar lefel fwy ledled Cymru.

Mae'n anochel fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ofal canser. Yn gynnar yn y pandemig, aeth llawer llai o bobl i ofyn am archwiliad. Ataliwyd y rhaglenni sgrinio dros dro, nid oedd rhai pobl am fynychu eu hapwyntiadau, a newidiwyd therapi rhai pobl i leihau eu risg. Gwnaethom gyhoeddi canllawiau ar gyfer gwasanaethau hanfodol ar unwaith, gan gynnwys ymchwiliadau a thriniaeth canser, a daeth ein gwasanaethau canser at ei gilydd yn gyflym i newid y ffordd roeddent yn darparu gwasanaethau.

Tua diwedd 2020, roedd gweithgarwch atgyfeirio'n gwella, diolch byth, wrth i niferoedd arferol o bobl ddechrau mynd at eu meddyg teulu, ond roedd y ffigurau'n dangos bod llai o bobl nag y byddai disgwyl iddynt gael eu gweld fel arfer wedi cael eu gweld y llynedd. O ddechrau 2021 rydym wedi gweld atgyfeiriadau ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser yn cynyddu'n sylweddol uwchlaw'r lefelau arferol, ac mae hyn yn cyfuno â chapasiti cyfyngedig yn deillio o absenoldeb staff a mesurau atal heintiau. Y galw uwch nag arfer a'r capasiti is nag arfer yw'r hyn sy'n gyrru'r perfformiad amseroedd aros canser a ddisgrifir yn y cynnig.

Mae staff y GIG yn parhau i weithio'n eithriadol o galed i archwilio a thrin pobl â chanser, ac maent yn trin mwy o bobl nag mewn blynyddoedd blaenorol. Fel Llywodraeth, rydym yn darparu adnoddau ychwanegol i'r GIG i ymgymryd â chymaint â phosibl o weithgarwch sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, ac rwyf wedi gwneud adfer gwasanaethau canser yn flaenoriaeth gynllunio i'r GIG, fel yr adlewyrchir yn ein dull o adfer, 'COVID-19: Edrych tua'r dyfodol', wedi'i gefnogi gan bron i £250 miliwn o adnoddau ychwanegol.

Er nad oes gennym unrhyw dystiolaeth glir ar hyn o bryd o ganlyniadau canser gwaeth, credwn fod y tarfu a ddigwyddodd yn sgil y pandemig yn debygol o gael effaith yn y blynyddoedd i ddod. Yn anffodus, mae cyfnodau pandemig yn gwneud llawer o niwed anuniongyrchol i lefelau mynediad at ofal iechyd arferol, fel y mae'r prif swyddog meddygol wedi'i nodi'n fanwl.

Yn ogystal â'n dull ehangach o adfer, ym mis Mawrth eleni cyhoeddwyd y datganiad ansawdd ar gyfer canser, fel y soniodd llawer o bobl. Ac a gaf fi fod yn glir fy mod yn deall y pryderon a godwyd mewn perthynas â'r dull gweithredu newydd hwn? Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ystyried sut y gwnaethom gyrraedd y pwynt hwnnw, ac mae hyn yn mynd yn ôl at adolygiadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac adolygiadau seneddol, a arweiniodd at ymrwymiadau a wnaed yn 'Cymru Iachach', ac rydym wedi ymrwymo yn 'Cymru Iachach' i gyflwyno cyfres o ddatganiadau ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru. Ni allwn gyflawni'r ymrwymiad hwn a dal i gydymffurfio â'i resymeg tra'n glynu wrth yr hen ffordd o wneud pethau.

Yr hyn y ceisiwn ei gyflawni yw dull integredig gwell a mwy effeithiol yn seiliedig ar ansawdd o weithredu nifer o wasanaethau clinigol; dull sy'n cyd-fynd yn well â'r fframwaith cynllunio ar gyfer cyrff GIG lleol ac sy'n llywio'n well y trefniadau atebolrwydd a ddefnyddiwn gyda holl gyrff lleol y GIG. A disgrifir y dull hwn yn fanwl iawn yn y fframwaith clinigol cenedlaethol. Dyma'r dull rydym wedi penderfynu y bydd yn gweithio orau i Gymru ac i'n system iechyd. Mae'n ffordd gwbl newydd o wneud pethau, ond mae'n adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r dull gweithredu ar gyfer canser wedi'i seilio ar alluogi i wella ansawdd. Mae'n canolbwyntio'n helaeth ar ei gwneud hi'n bosibl canfod a chael triniaeth yn gynharach. Mae ffocws pwysig hefyd ar gyflwyno system gwybodeg canser newydd, gan alluogi dull gwell o gynllunio'r gweithlu canser a chefnogi'r gwaith o gynllunio gwasanaethau'n well.

Bydd y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd yn ymateb drwy eu cynlluniau lleol i’r datganiad ansawdd. Byddwn ni wrth reswm yn llywio datblygiad y cynlluniau hynny ac yn monitro’r datblygiad hefyd. Bydd bwrdd Rhwydwaith Canser Cymru yn cefnogi’r byrddau iechyd gyda’r llwybrau sy’n gweithio orau yn genedlaethol—y llwybrau sydd angen eu mabwysiadu. Byddan nhw hefyd yn helpu’r byrddau iechyd i dynnu’r data i gyflenwi gwasanaethau ac i ddod â nhw ynghyd. Mae’r llwybrau cenedlaethol hyn yn cael eu cynnwys yn y datganiad ansawdd ac mae nifer o fanylebau gwasanaeth wedi eu cynnwys yn barod.

Rŷn ni wedi cyhoeddi yn barod fod tua £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn offer delweddu—offer fel sganwyr CT, MRI a PET/CT. Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr, ac i gefnogi’r buddsoddiad hwn, bydd rhagor o leoliadau hyfforddi ar gael i radiolegwyr a radiograffwyr. Mae hyn i gyd yn bosibl diolch i’n hacademi delweddu. Rŷn ni wedi cynyddu nifer ein lleoliadau hyfforddi yn sylweddol yn y maes oncoleg. Mae hyn yn wir hefyd mewn meysydd arbenigol cysylltiedig sy’n trin pobl sydd â chanser, fel iwroleg a gastroenteroleg. Mae rhagor o waith i’w wneud eto o safbwynt cynllunio’r gweithlu canser a diagnosteg, ond mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n barod drwy’r cynlluniau cenedlaethol perthnasol.

Byddwn ni’n buddsoddi bron i £6.5 miliwn mewn system wybodaeth canser newydd. Mae hon yn rhaglen waith uchelgeisiol iawn sy’n cyffwrdd â phob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Rydym ni am gyflwyno cofnod cleifion integredig cadarn ar gyfer pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser. Rydym ni’n buddsoddi miliynau mewn cyflymwyr llinellol—linear accelerators—newydd, sef dyfeisiau sy’n rhoi triniaeth radiotherapi. Yn ogystal ag hynny, rydym ni’n bwrw ymlaen gyda chanolfan ganser newydd yn y de-ddwyrain ac yn ystyried y posibilrwydd hefyd o sefydlu is-ganolfan radiotherapi yn yr ardal er mwyn gwella mynediad.

Y flwyddyn nesaf, byddwn ni hefyd yn cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol a fframwaith cyflenwi gwasanaeth iechyd. Cyn gynted ag y bydd cytundeb terfynol ar y rhain, byddwn yn diweddaru’r datganiad ansawdd gyda’r targedau a’r metrigau canser perthnasol. Bydd bwrdd Rhwydwaith Canser Cymru yn rhan o weithrediaeth y gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd hyn yn sicrhau yn y dyfodol y bydd yr agenda hon yn elwa ar gefnogaeth arweinwyr sy’n gweithio ar lefel uchel iawn a bydd pob rhan o’r system yn gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Mae hon yn agenda hynod o uchelgeisiol—agenda dwi’n hyderus a fydd yn helpu i liniaru effaith y pandemig ac yn caniatáu inni wella canlyniadau i gleifion unwaith eto.

16:30

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb ddaru ymateb i'r drafodaeth yma y prynhawn yma. Mi ddaru ni glywed i gychwyn, wrth gwrs, gan Laura Anne Jones. Diolch iddi hithau am ei geiriau caredig, a hithau'n pwysleisio unwaith eto y diffyg staff a'r rhestrau aros hanesyddol hir yna, ond fod pethau ddim o reidrwydd wedi gwella, â phobl yn mynd heb ddiagnosis am gyfnodau maith. 

Rhun wedyn yn sôn am hanes trist teuluol—cydymdeimladau, wrth gwrs, i Rhun ac i bawb arall sydd wedi sôn am eu hamgylchiadau personol. Roedd o'n sôn am yr angen am gynllun canser cenedlaethol, yn pwysleisio'r angen yna am strategaeth a ffocws clir, ac yna ein bod ni'n gweld yr angen am ganolfannau diagnosis, sgrinio cynnar, cynllun gweithlu clir ac yn y blaen—yr angen yna i gael y strategaeth mewn lle.

Roedd Janet Finch-Saunders, wrth gwrs, yn sôn am y nifer sy'n cael triniaeth yn is na'r targed, fel rydyn ni wedi clywed, eto yn pwysleisio'r angen am strategaeth a hefyd yn pwysleisio'r angen i gael cyngor clir i gleifion hefyd yn yr achos yma.

Russell George—diolch yn fawr iawn, Russ, am y geiriau caredig, eto yn pwysleisio effaith y pandemig a'r galw am yr angen i leihau'r amseroedd yma, a'r ymateb brys sydd ei angen er mwyn cael diagnostics sydyn a sicrhau bod pobl yn goroesi oherwydd diagnostics sydyn. Diolch yn fawr iawn i Russell George. 

Roedd Jenny Rathbone yn gwneud pwyntiau pwysig iawn, yn enwedig ar y diwedd yn sôn am ganser pancreatig a'r rôl bwysig mae maethegwyr yn medru ei chwarae yn hyn o beth, a maeth i gleifion, a phwysigrwydd timau amlddisgyblaethol pan fo'n dod i adnabod canser. 

Ac yn olaf, wrth gwrs, diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei hymateb. Rydych chi'n sôn am y buddsoddiad sydd yn cael ei roi mewn. Wrth gwrs, rydyn ni yn cydnabod effaith y pandemig yma ac yn diolch yn fawr iawn, yn amlwg, am unrhyw fuddsoddiad ychwanegol. Rydych chi'n sôn am ffigurau sydd tu hwnt i fy nealltwriaeth i—am £0.25 biliwn rydych chi'n sôn; ffigurau mawr iawn—ac yn sôn am fframwaith glinigol. Ond eto, yr hyn ddaru ni ddim ei glywed oedd y gair 'strategaeth'; er y fframwaith a'r fframweithiau gwahanol, doeddech chi ddim yn sôn am strategaeth genedlaethol, sydd yn golygu fod Cymru yn mynd i fod heb strategaeth ganser glir. Ydy'r fframweithiau yma efo'i gilydd yn mynd i fod yn rhyw fath o strategaeth? Dydy hynny ddim yn glir. Felly, dwi'n edrych ymlaen i weld beth fydd strategaeth canser y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.

Ac er y buddsoddiad yma o filiynau o bunnoedd—pres cyfalaf, yn bennaf, dwi'n cymryd, ydy hynna—does yna ddim sôn wedi bod am bres i ariannu'r bwlch yma yn y staffio, sydd yn parhau. Fel roeddem ni'n sôn, mae nifer y radiolegwyr dipyn yn is yma yng Nghymru na thrwy weddill y cyfandir, ac mae angen i ni leihau'r bwlch yna a sicrhau fod y staff yna gennym ni. Felly, dwi'n edrych ymlaen i weld pa fuddsoddiad fyddwch chi'n ei roi mewn er mwyn cau'r bwlch yna, oherwydd os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â hyn a sicrhau fod pobl yn cael diagnosis cynnar, ac felly yn medru goroesi'r salwch, yna mae'n rhaid cael y staff yna mewn lle er mwyn adnabod y clefyd ymlaen llaw.  

Ac yn olaf, doedd yna ddim sôn am adolygiad Richards a pha wersi rydych chi'n eu dysgu o'r adolygiad yna yn Lloegr. Mae yna wersi pwysig iawn yna, dwi'n meddwl, sydd angen i'r Llywodraeth bigo i fyny arnynt. Felly, a wnewch chi roi ystyriaeth i'r gwersi hynny, a hwyrach o bosib ddod â chyflwyniad arall i'r Senedd yma rhyw ben i sôn am pa wersi rydych chi yn eu dysgu gan adroddiad Richards? Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd.  

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. 

Yr eitem nesaf yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, ar fusnesau bach. Galwaf ar Paul Davies i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7854 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod dydd Sadwrn busnesau bach sy'n hyrwyddo busnesau bach Cymru.

2. Yn credu mai busnesau bach yw calonnau'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a'u bod yn rhan hanfodol o economi Cymru.

3. Yn annog cymunedau i siopa'n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu, gan greu swyddi i bobl leol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau mewn polisi caffael ar draws y sector cyhoeddus, gan eu helpu i wella o bandemig COVID-19.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Dydd Sadwrn yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach, a gobeithiaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn achub ar y cyfle i gefnogi a hyrwyddo busnesau bach yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau. Mae'r ymgyrch, wrth gwrs, yn ei nawfed flwyddyn yn y DU, ar ôl tyfu'n sylweddol bob blwyddyn, gyda £1.1 biliwn, mwy nag erioed, yn cael ei wario gyda busnesau bach ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach yn 2020, a 15.4 miliwn o bobl yn dewis siopa'n fach. Yng Nghymru, gwyddom fod busnesau bach yn fwy na mentrau yn unig; maent hefyd yn rhan bwysig o'n cymunedau a'n cymdeithasau hefyd. Yn ystod y pandemig, fe wnaeth busnesau bach estyn llaw i helpu eu cymunedau lleol. Er enghraifft, helpodd bwytai ac arlwywyr i ddosbarthu prydau bwyd i weithwyr y GIG, mae siopau wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â thrigolion lleol bregus, ac mae'r rhestr yn parhau.

Wrth i bandemig COVID effeithio ar bob un ohonom mewn un ffordd neu'r llall, mae'r un peth yn wir am ein busnesau bach, ac mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraethau ar bob lefel yn gwneud popeth yn eu gallu i gynorthwyo eu hadferiad a chefnogi eu twf. Rwy'n falch, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU wedi cymryd camau cadarnhaol i gefnogi busnesau bach yng nghyllideb 2021. Er enghraifft, mae'r toriad i ardrethi busnes ac ymestyn cynllun benthyciadau adfer y Llywodraeth yn bethau sydd wedi cael croeso gan fusnesau ledled Cymru. Mae'r polisïau hyn, wrth gwrs, yn dilyn cyhoeddi rhaglen £520 miliwn Cymorth i Dyfu yn gynharach eleni, rhaglen a gyflwynwyd i gynorthwyo busnesau bach i gynyddu eu cynhyrchiant. Ac a bod yn deg, cafwyd rhai ymrwymiadau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru hefyd, fel y pecyn cyllid £45 miliwn i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys £10 miliwn i hybu cyfrifon dysgu personol, a fydd yn sicr yn helpu colegau lleol i ddarparu cyrsiau a chymwysterau ychwanegol mewn sectorau â blaenoriaeth. Ac ni allwn anwybyddu peth o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol, fel Cyngor Sir Fynwy, sydd wedi mynd ati o ddifrif i hyrwyddo agenda 'siopa'n lleol' gyda'u hymgyrch Wynebau Sir Fynwy, gyda rhai o berchnogion busnesau'r sir yn esbonio pam fod siopa'n lleol yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae gweithgarwch cadarnhaol iawn yn digwydd, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn manteisio ar y gwaith da hwnnw ac yn adeiladu arno.

Ar yr ochr hon i'r Siambr rydym yn uchelgeisiol ar ran busnesau Cymru, ac rydym yn awyddus i gynnig polisïau adeiladol i helpu ein busnesau bach ar ôl y pandemig. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod yn awyddus i edrych ar ffyrdd o gryfhau ein harferion caffael, i helpu busnesau bach, lleol i ymgeisio am gontractau'r sector cyhoeddus. Gadewch inni gofio bod ymchwil wedi dangos, am bob £1 y mae busnes bach yn ei gael, fod 63c yn cael ei ailfuddsoddi yn yr economi leol, o gymharu â 40c yn achos cwmnïau mwy o faint. Dyna pam ei bod yn hanfodol fod y system gaffael mor hygyrch â phosibl i fusnesau bach a'u bod yn cael pob cyfle i ennill contractau yn y lle cyntaf.

Rwy'n deall mai fy etholaeth i sydd â'r nifer uchaf ond un o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac un o'r pryderon sydd gan berchnogion busnesau lleol yw'r angen am welliannau i'r seilwaith, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried ein cynnig i gyflwyno cronfa fuddsoddi 'ailadeiladu Cymru' i helpu i gyflawni'r gwelliannau i'r seilwaith y mae busnesau Cymru yn galw amdanynt. Wrth gwrs, ardrethi busnes, yn wir, sydd ar frig y rhestr o bryderon a dynnwyd i fy sylw gan fusnesau bach. Mae’r Gweinidog wedi dweud ei fod yn cael trafodaethau gyda’r Gweinidog cyllid, ac yn gynharach heddiw, dywedodd y byddai’n rhaid imi aros ychydig wythnosau tan i gyllideb Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi. Felly, edrychaf ymlaen at weld rhywbeth yn y gyllideb honno ar ardrethi busnes, oherwydd i rai busnesau, gallai ailgyflwyno ardrethi busnes wneud y gwahaniaeth rhwng aros ar agor neu gau am byth. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried breuder busnesau bach a chanolig yn ystod y pandemig ac yn cofio hynny wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar ardrethi busnes.

Mae ein cynnig yn cydnabod y rôl y mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn ei chwarae yn hyrwyddo busnesau bach Cymru, ac er ei fod yn gyfle gwych inni ddangos ein cefnogaeth i fusnesau lleol, mae'n rhaid inni gofio nad yw un diwrnod y flwyddyn yn diogelu cynaliadwyedd busnes bach, ac felly rwy’n mawr obeithio y bydd yr holl Aelodau’n parhau i hyrwyddo’r busnesau bach a chanolig yn eu hetholaethau ymhell ar ôl Dydd Sadwrn Busnesau Bach.

Ddirprwy Lywydd, er bod y pandemig wedi creu cryn dipyn o ansicrwydd i fusnesau ledled Cymru, mae hefyd wedi rhoi cyfle inni edrych ar bethau'n wahanol, i roi cynnig ar syniadau newydd ac i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â hen broblemau. Felly, i gloi, hoffwn weld mwy o weithredu mewn perthynas ag arferion caffael, i sicrhau y gall busnesau bach gystadlu am gontractau'r sector cyhoeddus. Mae angen inni weld gweithredu mewn ymateb i bryderon busnesau bach ynglŷn â seilwaith, ac mae angen i Lywodraeth Cymru wrando ar eu galwadau wrth benderfynu beth i'w wneud gydag ardrethi busnes ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ac yn olaf, wrth inni edrych tuag at Ddydd Sadwrn Busnesau Bach y penwythnos hwn, gadewch inni ddyblu ein hymdrechion a hyrwyddo ein busnesau bach a chanolig drwy brynu'n lleol a hyrwyddo ein busnesau bach lleol. Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Diolch.

16:40

Rydw i wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Ym mhwynt 4, ar ôl 'cyhoeddus' ychwanegu, 'sy'n seiliedig ar egwyddor lleol yn gyntaf, a fydd yn cynyddu’r lefel caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o'r lefel bresennol o 52 y cant'.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Gan Gymru y mae un o'r lefelau isaf mewn unrhyw economi ddatblygedig o fusnesau mewn perchnogaeth leol. Mae'n rhaid i hynny newid, wrth gwrs. Dro ar ôl tro, gwariwyd arian cyhoeddus ar ddenu buddsoddiad newydd, a naill ai mae'r buddsoddwr wedyn yn allforio'r elw, neu'n gadael. Dyma fu hanes datblygu economaidd yng Nghymru ers dros 50 mlynedd. Yn hytrach, dylai ein cynlluniau ar gyfer economi ddoethach fod yn seiliedig ar ehangu, cefnogi a gwarchod busnesau domestig. Gellid adeiladu polisi 'lleol yn gyntaf' o ran caffael o gwmpas perchnogaeth leol ar yr economi, a sicrhau model Cymreig o gaffael cyhoeddus lleol yn rhan o hyn sydd wedi'i adeiladu ar yr economi sylfaenol. Gan ddefnyddio cyllideb gaffael gwerth £6.3 biliwn Llywodraeth Cymru, a thrwy weithio mewn partneriaeth agos â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, hoffai Plaid Cymru weld targed i gynyddu lefel caffael y sector cyhoeddus o 52 y cant i 75 y cant o gyfanswm y gwariant. Amcangyfrifir y bydd hyn yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol.

Croesawodd llawer ohonom yn y Siambr hon y warant i bobl ifanc. Yn y warant, ceir cyfle arall i gryfhau busnesau bach yma yng Nghymru. Mae'r egwyddor 'meddwl yn fach yn gyntaf' yn cyfarwyddo llunwyr polisi i ystyried busnesau bach wrth ddatblygu polisi. Mae'r egwyddor yn dibynnu ar y ffaith nad yw un maint yn addas i bawb. Wrth gwrs, fel y mae cynnig y Ceidwadwyr yn nodi, cefnogodd llawer o'r busnesau hyn ein cymunedau drwy gydol y pandemig, a byddwn ar fai'n peidio â sôn am y cymorth a roddwyd gan Verlands Stores yn fy nhref, a fu, fel llawer o fusnesau bach eraill ledled Cymru, yn dosbarthu bwyd ar garreg y drws i'n cymdogion, ac yn amlach na pheidio, gallent stocio rhai o'r cyflenwadau na allai'r siopau mwy eu stocio—sy'n dyst i ystwythder busnesau bach.

Yn olaf, fel y bydd llawer o Aelodau yn siŵr o grybwyll heddiw, ac mae Paul Davies yn briodol iawn wedi sôn am hyn eisoes, mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn prysur agosáu, ac addewais i’r Siambr yn ystod cwestiynau’r llefarwyr y byddwn yn datgelu lle rwy’n cael torri fy ngwallt a fy marf; Blackout Barbers ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n gyfrifol am y steil rwy'n ei fodelu heddiw. Ond wrth gwrs, rwy'n mynychu busnesau eraill hefyd, ac rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr hon i ymweld â phob un ohonynt. Os ydych chi, fel fi, yn gwerthfawrogi brechdan dda, nid oes lle gwell i fynd na'r Sandwich Co ym Mhencoed. Hwy a fu'n fy mwydo yn ystod yr etholiad i bob pwrpas, ac a dweud y gwir, maent yn dal i wneud hynny. Byddwn yn argymell yr Arnie sarnie a'r osborne fel cwrs cyntaf, a pheidiwch ag anghofio prynu browni ar eich ffordd allan. A sôn am bwdin, WHOCULT Coffee & Donuts ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw'r lle i fynd, a gallwch hefyd gael llond cwpwrdd o ddillad newydd drwy bicio drws nesaf i siop ddillad WHOCLO. Ac yn olaf, nid oes amser i restru pawb, ond rhoddaf un argymhelliad arall i'r Aelodau: Valley Mill yn Abertawe—canhwyllau a phob math o nwyddau llechi i'r cartref. A gyda llaw, nid oes rhaid ichi deithio'n bell i brynu un o'u cynhyrchion, gallwch ddod o hyd iddynt i fyny'r grisiau yn siop y Senedd. Bob dydd, rwy'n dod adref i arogl eu cannwyll pice ar y maen, a pheidiwch â phoeni, rwyf innau hefyd yn gofyn i mi fy hun, 'Faint yn fwy Cymreig y gallwn fod?', pan fo hyd yn oed fy nghanhwyllau'n ddigywilydd o Gymreig. Yr ateb yw: cryn dipyn, mwy na thebyg.

16:45

Nid wyf am ddweud wrth bawb ble rwy'n cael torri fy ngwallt, byddwn yma drwy'r dydd.

Mae cyfyngiadau symud COVID wedi gwneud inni sylweddoli pa mor bwysig yw ein busnesau lleol; maent wedi bod yn achubiaeth i gymunedau gwledig yn fy etholaeth. O bosibl, yr ymweliad â'r siop leol neu'r dafarn yw'r unig sgwrs a chyswllt wyneb yn wyneb y mae rhai pobl yn ei gael bob wythnos, ac mae'n rhaid imi ddatgan diddordeb yma, Ddirprwy Lywydd, gan fy mod yn dal i yrru ein fan ddosbarthu o bryd i'w gilydd, er mwyn dosbarthu cig carw o'r safon uchaf, ond mae sefydliadau eraill ar gael.

Mae'r angen i brynu cynnyrch lleol o'r safon uchaf yn fwy nag erioed bellach. Mae angen inni helpu'r amgylchedd drwy leihau milltiroedd cludiant, ac adleisiwyd hyn ym Mil fy nghyd-Aelod, Peter Fox, yr wythnos diwethaf. Ac mae cynhyrchwyr bwyd yn fy etholaeth ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn gwneud eu gorau glas i gynhyrchu bwyd lleol o safon uchel sy'n ecogyfeillgar. Bûm yn hyrwyddo'r angen i brynu'n lleol a chefnogi busnesau lleol ar y stryd fawr ers amser, ymhell cyn dod i'r lle hwn, gan arwain y gwaith ar dyfu economi Powys drwy gynllun punt Powys a llawer o gymelliadau eraill pan fyddwn yn mynd o gwmpas i gyfarfod â llawer o fusnesau bach ym mhob rhan o Bowys. Mae pwysigrwydd ein busnesau bach i'n heconomi yn enfawr ac mae hyn yn amlwg yn yr ystadegau. Mae mwy na 265,000 o fusnesau micro, bach a chanolig eu maint yng Nghymru, sydd gyda'i gilydd yn 99.4 y cant o'r holl fusnesau sy'n gweithredu yn y wlad.

Mae busnesau bach a chanolig yn gwneud trosiant o £46 biliwn y flwyddyn—sy'n swm enfawr o arian—ac maent yn sicrhau twf a swyddi mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru. Ond mae eu gwerth yn fwy nag ystadegyn; mae'n fwy nag arian. Mae'n ymwneud â chefnogi ein cymunedau lleol, ein ffrindiau a'n cymdogion sy'n berchen ar fusnesau bach neu sy'n gweithio mewn busnes neu'n cyflenwi'r busnes. Mae'n ymwneud â'n synnwyr o hunaniaeth fel gwlad, ac mae pob un ohonom yn adnabod y cigydd lleol, fel W.J. George Butchers Ltd yn Nhalgarth neu'r gwerthwr llysiau fel Grenfell's & Sons Grocers yng Nghrucywel ac eraill sy'n mynd y tu hwnt i'r galw i gefnogi eu cymunedau gyda gwaith elusennol a rhoddion ar gyfer digwyddiadau pwysig iawn. Ond rydym wedi gweld llawer o dafarndai a siopau pentref yn cau ar draws fy etholaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny wedi gadael twll ynghanol llawer o'n cymunedau, ond mae mor gadarnhaol gweld cymunedau'n dod at ei gilydd, fel Siop Llan-gors yn fy nghymuned, sy'n gweithio gyda'i gilydd i greu siop ar gyfer y gymuned honno, mae'n hollol wych.

Ond nid yw lefelau masnachu llawer o fusnesau yn ôl fel roeddent cyn y pandemig eto. Mae nifer is yn ymweld â llawer o fusnesau o ganlyniad i gyflwyno pàs COVID Llywodraeth Cymru a newid i arferion siopa. Ardrethi busnes yw'r gost uchaf i'r rhan fwyaf o fusnesau bach ar ôl rhenti a chyflogau staff, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn cefnogi ein busnesau bach a chanolig drwy barhau â'r hoe rhag talu ardrethi busnes, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn dilyn Llywodraeth y DU yn eich cyllideb ac yn gwneud mwy i gefnogi ein busnesau bach. Felly, rwy'n annog pawb i feddwl am eich busnesau lleol yn eich cymunedau yn y dyfodol. Efallai y bydd yn rhatach ac yn fwy cyfleus ichi wneud eich siopa Nadolig ar Amazon neu yn rhywle arall, ond meddyliwch am y masnachwyr lleol a'r gwasanaethau amhrisiadwy y maent yn eu cynnig sy'n mynd ymhell y tu hwnt i ddarparu nwyddau a gwasanaethau. Felly, y penwythnos hwn, ewch allan i gefnogi eich cymuned a chefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach.

16:50

Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw cyn Dydd Sadwrn Busnesau Bach. Dydd Sadwrn Busnesau Bach—fel y nodwyd eisoes, dylem fod yn dathlu'r gorau o'n busnesau nid yn unig ar un dydd Sadwrn y flwyddyn, ond drwy gydol y flwyddyn, ac yn annog pobl i ddefnyddio eu busnesau bach amrywiol a di-rif ar bob diwrnod o'r flwyddyn. Ond mae hyn yn rhoi cyfle, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, i atgoffa pobl o'r pwysigrwydd. Peidiwch â mynd i lawr at y masnachwyr mawr a pheidiwch â mynd ar-lein; ewch i weld rhai o'r cynhyrchion anhygoel—nid yn unig y cynhyrchion, ond y gwasanaeth cwsmeriaid a gewch drwy grwydro drwy ddrws eich masnachwyr a'ch manwerthwyr lleol.

Rydym wedi cael amser gwych dros y mis diwethaf, fel y cawn bob amser, Chris Elmore a minnau, yn arddangos y goreuon o'n busnesau lleol hynod amrywiol, creadigol ac anhygoel. Mae mwy nag erioed eleni yn cymryd rhan yn Nydd Sadwrn Busnesau Bach. Yn wir, os edrychwch ar ba mor amrywiol yw'r busnesau, rydym weithiau'n meddwl mai mater o gerdded ar hyd y stryd fawr ydyw, ond os edrychwch ar rai o'r busnesau yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, mae gennym DAC Training Solutions, sy'n darparu addysg, hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghori ar gyfer busnesau bach eraill; mae gennym Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro; mae gennym gwmnïau fel Atomic Knitting ym Mryncethin, sy'n darparu offer ac ategolion gwau a chrosio pwrpasol; siopau crefftau fel Florrie's ym Maesteg; delweddu o'r awyr—y gwasanaethau delweddu o'r awyr gorau un, a ddefnyddir mewn meysydd fel gwasanaethau achub brys hefyd, felly Airpix Aerial Images ym Maesteg.

Mae gennym lawer o siopau bwyd—llawer o siopau cacennau ac ati, fel Kellys Cakes ym Mhencoed. Mae gennym gwmnïau ffilm a sinema, fel—[Anghlywadwy.]—a CineMerse, sydd wedi'u lleoli ym Mhencoed, o gwmpas y cwmnïau teledu a chynyrchiadau stiwdio llewyrchus, mawr sydd gennym bellach. Wel, mae hynny wedi arwain at greu'r cwmnïau ffilm a theledu lleol bach, unigryw hyn hefyd.

Yna, mae gennych bethau fel Sims Foods Limited, gyda'r cynhyrchion figanaidd, llysieuol, heb glwten anhygoel ym Mhont-y-clun. Maent yn flasus—rydym yn eu bwyta'n rheolaidd ac maent yn ardderchog. Rhag ofn, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae gennym siop anhygoel Seasons ar ystâd ddiwydiannol Brynmenyn. Dyma'r lle yng Nghymru y byddech yn mynd i brynu eich Siôn Corn, addurniadau Nadolig ac ati, boed yn garw acrylig metr o uchder gyda switsh lliw, gyda gwaelod gwyn a gwyn cynnes, neu'ch Siôn Corn tri metr o uchder awyr agored, gyda thraed o goed ffawydd a gwaelod haearn. Gallwch gael popeth yn Seasons; mae'n eithaf anhygoel, ac mae wedi bod ar y teledu a Wales Online, a phopeth arall yno.

Weinidog, yr hyn roeddwn am ei ofyn i chi yw: fel y nodwyd yn wir yn sylwadau agoriadol llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, rydym yn cydnabod bod cryn dipyn o gymorth wedi'i roi, yn enwedig drwy'r pandemig, i rai o'r busnesau hyn. Mae rhai o'r busnesau hyn wedi rhoi llawer yn ôl hefyd. Os edrychwch, er enghraifft, ar un yn fy ardal i: James Thomas, dyn anhygoel o gwmni adnabyddus Beefy's Baps—

Iawn, rwy'n dod at y diwedd. Roedd yn un o lawer. Dosbarthodd fwy na 2,300 o brydau bwyd yn ystod ton gyntaf y pandemig, gyda chymorth clwb rygbi'r Gilfach Goch a'r gymuned leol, i bobl agored i niwed a'r henoed. Weinidog, rwyf am ddweud yn syml: gadewch inni ddathlu'r busnesau hyn, a darparu'r cymorth sydd ei angen arnynt yn y dyfodol hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae Dyffryn Clwyd yn gartref i lawer o fusnesau bach gwych, gormod lawer i'w rhestru yn y ddadl fer hon y prynhawn yma. Gallwn barhau i siarad drwy'r prynhawn, ond mae pob un yn hanfodol i economi fy etholaeth, ac i economi gogledd Cymru, ac i ffyniant ein cenedl gyfan, gan mai busnesau bach yw anadl einioes ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd. Ein cyfrifoldeb ni, yma yn y lle hwn, yw sicrhau ein bod yn creu amgylchedd lle gall busnesau bach ffynnu a goroesi.

Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru'n gwneud cryn dipyn o siarad, ond pan ddaw'n fater o greu'r amodau cywir i helpu busnesau bach i barhau i fasnachu, maent yn methu gweithredu, ac yn fwy na hynny, maent yn aml yn mynd ar drywydd polisïau sy'n wrthwynebus i fusnesau bach. Mae gennym y gyfradd ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, ac er fy mod yn croesawu'r cynllun rhyddhad ardrethi dros dro i fusnesau bach, beth fydd yn digwydd ar ôl i gyfnod presennol y pandemig ddod i ben?

Mae Llywodraeth Cymru, a'u cynorthwywyr bach ym Mhlaid Cymru, fel rwy'n hoff o ddweud, yn cynllunio hyd yn oed mwy o drethi ar fusnesau bach—y cynllun gwirion diweddaraf yw'r dreth dwristiaeth. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i gynlluniau o'r fath a chreu amgylchedd busnes treth isel. Mae ein busnesau bach, gyda llawer ohonynt yn rhai teuluol ac yn cael eu rhedeg gan deuluoedd, yn cyflogi bron i ddwy ran o dair o'r cyhoedd yng Nghymru. Nid ffynhonnell ddiddiwedd o arian ydynt er mwyn ariannu gwastraff a gormodedd y Llywodraeth.

Mae'n rhaid inni helpu ein busnesau bach i oroesi ac i ffynnu. Er na allaf wneud fawr ddim am gymwysterau busnes Llywodraeth Cymru, gallaf ddangos fy nghefnogaeth i fusnesau bach ledled Cymru, a'r penwythnos hwn, byddaf yn dilyn fy mhregeth fy hun. Byddaf yn ymweld â busnesau ar draws fy etholaeth ac yn annog eraill i siopa’n lleol, ac rwy’n annog pobl yn fy etholaeth, ddydd Sadwrn, i osgoi mynd i leoedd fel parc Brychdyn, Parc Prestatyn, Parc Llandudno neu Gaer, ac i fwyta bwyd a diod lleol a phrynu nwyddau a gwasanaethau lleol, drwy fwynhau brecwast cyn siopa yng nghaffi Glass Onion yn Ninbych, prynu bwrdd caws Nadolig yn y Little Cheesemonger ym Mhrestatyn a Rhuddlan, argraffu calendrau Nadolig munud olaf yn Perham Prints yn y Rhyl, neu fwynhau pryd nos haeddiannol a pheint neu ddau yn y Plough yn Llanelwy. Mae dewis eang ac amrywiol o fusnesau bach i'w cefnogi yn fy etholaeth a phob etholaeth arall yng Nghymru, ond nid ar gyfer y Nadolig yn unig y mae busnesau bach yn bodoli—mae'n rhaid inni ddangos ein cefnogaeth i'r busnesau hyn drwy gydol y flwyddyn, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn gwbl gywir. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig ac i siopa'n lleol ar bob cyfle. Diolch yn fawr.

16:55

Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd eisoes ar draws y Siambr, ac mae'n hyfryd clywed cymaint o Aelodau'n hyrwyddo eu busnesau lleol heddiw, ac yn briodol felly. Rydym yn lwcus iawn o gael llu o fusnesau bach amrywiol, gwych ar draws fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru, ac mae mor bwysig hefyd ein bod yn eu cefnogi ym mhob ffordd y gallwn, ac yn arwain drwy esiampl.

Busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi yng Nghymru, a chalon cymunedau ledled Cymru. Gyda Dydd Sadwrn Busnesau Bach ar y gorwel y penwythnos hwn, rwy'n gobeithio y gwelwn fwy hyd yn oed na'r £1.1 biliwn a wariwyd y llynedd yn cael ei wario yn ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd. Y penwythnos hwn yw ein cyfle i dalu yn ôl i'n busnesau bach a dweud, 'Diolch am fod yno pan oedd ein cymunedau eich angen fwyaf.' Mae busnesau bach wedi dioddef yn fawr dros y 18 mis diwethaf, ond maent wedi dangos cryn dipyn o gryfder, ac mae'r ffordd y maent wedi addasu yn ystod y pandemig wedi bod yn anhygoel. Er enghraifft, wrth inni weld gwasanaethau cludfwyd a danfon bwyd yn ymddangos ym mhobman dros nos, a busnesau'n addasu i'r hyn sydd ei angen ar eu cymunedau. Mae wedi bod yn wirioneddol wych a thrawiadol gweld pobl yn addasu yn y ffordd y gwnaethant.

Ond yn anffodus, nid ydym yn cefnogi busnesau bach yn y ffordd orau sy'n bosibl yma yng Nghymru. Roedd pecyn cymorth y pandemig yn galonogol, ond Cymru sydd â'r ardrethi busnes uchaf yn y DU, sef 53.5c, ac mae hynny'n gywilyddus. Nid yw'n ddigon da. Wrth i fusnesau bach geisio ymadfer wedi'r pandemig, galwaf ar y Llywodraeth Lafur hon i gael gwared ar y trethi cosbol a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelodau yn gynharach, a chreu amgylchedd treth isel, a arweinir gan y farchnad, fel y gall busnesau ffynnu. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar berchnogion busnesau, yn gweithio gyda hwy, ac yn gweithio tuag at greu amgylchedd cyfeillgar i fusnesau bach allu ffynnu fel nad yw Cymru'n dod yn fan arbrofi syniadau sosialaidd. Mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i adfywio'r stryd fawr. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n busnesau lleol i roi'r cyfle gorau iddynt ffynnu a thyfu a chystadlu yn erbyn y cwmnïau manwerthu mawr, fel Amazon, a ddisgrifiwyd gan fy nghyd-Aelod, James Evans, yn gynharach. Dyna'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein stryd fawr. Mae angen inni sicrhau ei bod yr un mor hawdd ac yr un mor ddeniadol i siopa'n lleol.

Mae angen inni wneud mwy i hyrwyddo safon a natur unigryw y cynhyrchion a welwn gan ein busnesau bach. Ceir enghreifftiau o arferion gorau yn y ffordd y mae ein siambr fasnach a'n cynghorau'n gweithio ledled Cymru, ac mae angen inni ganolbwyntio ar yr enghreifftiau hynny, a'u hefelychu ledled ein gwlad. Mae rhywfaint o waith arloesol, gwych wedi'i wneud mewn cynghorau lleol yn fy rhanbarth i.

Byddwn yn annog unrhyw un a all siopa’n lleol y Nadolig hwn i wneud hynny, ac fel y dywedodd Aelodau eraill, i barhau’r arfer drwy gydol y flwyddyn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Bydd Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn ei nawfed flwyddyn bellach, ac wrth gwrs, mae'n ganolbwynt yn y calendr i helpu i ddathlu llwyddiant a phwysigrwydd busnesau micro a bach i economi Cymru—sef anadl einioes yr economi, fel y byddai Hefin David yn ein hatgoffa pe bai yma, gan mai dyna yw dros 98 y cant o fentrau yng Nghymru. Busnesau teuluol, gweithgynhyrchwyr bach neu fanwerthwyr lleol yw'r rhain yn aml, ac maent yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i wead ein cymunedau ac yn cyfrannu dros hanner cyflogaeth y sector preifat a thua chwarter y trosiant. Felly, rydym wrthi'n weithredol yn hyrwyddo Dydd Sadwrn Busnesau Bach drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Ac rwy'n falch o'n hanes o ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd cryfach. Drwy Busnes Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad hirdymor i sector BBaChau ein heconomi i leihau'r cymhlethdod yn y ffordd rydym yn cefnogi busnesau yma yng Nghymru. Mae Busnes Cymru yn darparu cyngor diduedd gan arbenigwyr busnes profiadol, ac ers 2016, mae wedi cynorthwyo 12,400 o unigolion i ddilyn uchelgeisiau entrepreneuraidd, gan gynnwys helpu dros 5,000 o entrepreneuriaid i ddechrau busnes. Mae ein cefnogaeth wedi arwain at greu dros 25,000 o swyddi, gan ddangos yr effaith a'r gwerth i'n cymunedau. A dylai darparu'r cymorth cywir yn gyson sicrhau bod ein gwerthoedd fel Llywodraeth a'n hawydd i weld gwerth am arian cyhoeddus yn mynd law yn llaw.

Mae dros 3,000 o'r busnesau a gefnogwyd wedi gwella arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a defnydd effeithlon o adnoddau. Maent wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a'n huchelgeisiau Cymru Sero Net drwy ein haddewid twf gwyrdd. Mewn perthynas â gwerth am arian, gwyddom y gellir cysylltu pob £1 a fuddsoddir yn Busnes Cymru ag o leiaf £10 a hyd at £18 yn fwy o werth ychwanegol gros net y flwyddyn.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae gan fusnesau sy'n cael cymorth gyfradd oroesi o 77 y cant dros gyfnod o bedair blynedd, o'i gymharu â chyfartaledd o 37 y cant o fusnesau nad ydynt yn cael cymorth. Felly, mae'r cymorth a ddarparwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ac mae llawer o'n busnesau bach yn dangos potensial twf gwirioneddol. Y mis diwethaf, buom yn dathlu ein carreg filltir 10,000 o swyddi drwy raglen twf carlam Busnes Cymru. A thrwy'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £2.6 biliwn drwy ddull wedi'i dargedu i gefnogi busnesau. Dyna'r pecyn mwyaf hael yn y DU, ac rydym wedi dweud hynny'n gyson fel mater o ffaith, ac mae'r cymorth hwnnw i fusnesau bach a chymunedau Cymru wedi helpu i ddiogelu cannoedd o filoedd o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall. Gwnaeth Huw Irranca bwynt nad endidau economaidd yn unig yw busnesau bach; maent yn rhan o'r gymuned ac maent yn rhoi'n ôl i'w cymuned mewn ffyrdd na allwch o reidrwydd ei fesur mewn gwerth economaidd.

Nawr, ni chafodd ei gydnabod gan unrhyw siaradwr Ceidwadol yn y ddadl hon wrth gwrs, ond mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi hoe rhag talu ardrethi busnes hyd at fis Ebrill y flwyddyn nesaf i bob busnes yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o hyd at £0.5 miliwn—pecyn llawer mwy hael nag y mae busnesau bach yn Lloegr yn ei gael. Rydym yn cadw cyllid eleni rhag ofn y bydd angen i ni ddarparu rhagor o gymorth argyfwng i fusnesau, gan fod y pandemig ymhell o fod ar ben, yn anffodus. Felly, byddwn yn parhau i gymryd camau pellach i gefnogi economïau lleol cryfach a'r gwaith hanfodol o drechu tlodi. A chlywaf alwadau arnom yn rheolaidd i weithio law yn llaw â busnesau a llywodraeth leol, a dyna'n union y buom yn ei wneud. Mae'r pecyn £35 miliwn a gyhoeddais ar gyfer gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu gweithgarwch grantiau busnes ychwanegol a buddsoddiad wedi'i dargedu sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau.

Byddwn hefyd yn defnyddio ein dulliau caffael i helpu busnesau bach i elwa ar gyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus. Nawr, mewn dadl ddiweddar ar yr economi sylfaenol, tynnais sylw at lwyddiant busnesau bach a'r GIG. Rwy'n falch iawn o glywed, o ganlyniad i gyngor busnes parhaus, fod Slice & Dice, busnes teuluol yn Abertawe, wedi sicrhau £1 filiwn o fusnes newydd ac wedi creu mwy o swyddi newydd drwy ennill lle ar fframwaith cyflenwyr llysiau ffres y GIG sy'n werth dros £5.5 miliwn. Felly, rydym yn gwneud yr hyn y dywedasom y byddem yn ei wneud ac nid dim ond siarad amdano.

Rydym wedi ymrwymo i wneud mwy ar fanteision caffael, ac rydym yn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol drwy'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Ond rwyf hefyd wedi siarad yn rheolaidd yn y Siambr hon, a'r tu allan, am yr angen i ddarparu mwy o fynediad a llwyddiant i fusnesau bach a chanolig allu ennill cyfran fwy o'r swm mwy byth o gaffael sector preifat a chadwyni cyflenwi, lle gallai ac y dylai busnesau bach gael rôl hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.

Nid wyf am ymateb i'r agweddau negyddol yn rhai o'r sylwadau a wnaed; hoffwn weld dull o weithredu sy'n uno ar gyfer y ffordd y dylid cynnal y ddadl hon a'n cymorth i fusnesau ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau. Rydym yn cefnogi'r cynnig, ond bydd y Llywodraeth yn pleidleisio yn erbyn y cynnig er mwyn sicrhau y gallwn gyrraedd y gwelliant rydym hefyd yn ei gefnogi. Gobeithio, yn y pen draw, y bydd holl Aelodau'r Senedd yn llwyddo i bleidleisio yn yr un modd yn y bleidlais olaf ar y pwnc hwn. Ond bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ddarparu a datblygu cymorth a chyfle i fusnesau bach er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu a darparu cyfleoedd cyflogaeth lleol da ym mhob cymuned ledled Cymru. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

17:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Paul Davies, am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Senedd heddiw. Mae wedi bod yn braf clywed eich holl gariad a pharch at fusnesau bach, a darganfod lle mae eich gwallt yn cael ei dorri, Luke Fletcher, a lle rydych chi'n prynu eich torthenni, Huw Irranca-Davies, yn ogystal â lle rydych chi'n mynd am beint, Gareth Davies. Hoffwn adleisio'r teimladau a grybwyllodd fy nghyd-Aelod, Gareth Davies, yn gynharach: nid oes amheuaeth o gwbl yn fy meddwl, nac yn eich meddyliau chi ychwaith, mai busnesau bach a chanolig eu maint yw anadl einioes economi Cymru, gan ddarparu swyddi i lawer a sbarduno twf. Mae'n ffaith bod 99.4 y cant o fusnesau yng Nghymru yn fentrau bach a chanolig. Wedi'u gwreiddio yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, maent yn cyfrannu at ymdeimlad o gymuned, hunaniaeth, yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol ac yn cyfrannu at gadernid lleol, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, maent wedi addasu i bob sefyllfa a wynebwyd ganddynt yn ystod y pandemig, ac maent yn haeddu clod gwirioneddol am hynny.

Mae busnesau bach yng Nghymru yn ailadeiladu ac yn ymadfer ar hyn o bryd o effeithiau'r coronafeirws—nid yw'n gyfrinach. Ond wrth wneud hynny, maent yn wynebu nifer o heriau. Mae problemau yn y gadwyn gyflenwi yn achosi prinder, y gwn amdano o fy nhrafodaethau gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant logisteg, sy'n gweithio'n ddiflino ac yn galed iawn i fynd i'r afael â hwy fesul un. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i leddfu'r pwysau yn y gadwyn gyflenwi, gyda hyd at 4,000 o bobl yn gallu manteisio ar gyrsiau hyfforddi i ddod yn yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru—do, fe ddywedais rywbeth cadarnhaol yno—fod £10 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer helpu i hyfforddi pobl mewn swyddi yng Nghymru sydd wedi eu taro gan brinder llafur, gan gynnwys gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a gweithwyr lletygarwch.

Mae'r angen i gadw costau i lawr a mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau cynyddol yn allweddol i adferiad busnesau bach. Mae'n destun pryder fod y Ffederasiwn Busnesau Bach yn nodi bod 76 y cant o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn wynebu costau gweithredu cynyddol. Dywed 38 y cant fod diffyg argaeledd staff priodol yn eu dal yn ôl, ac mae bron i chwarter y cyflogwyr yn dweud bod anhawster i ddod o hyd i unigolion sydd â'r sgiliau cywir ar gyfer y swydd yn frwydr real.

I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i greu'r amodau yng Nghymru a fydd yn galluogi busnesau bach i dyfu ac i ffynnu. Roeddwn yn hapus i glywed y bydd y Gweinidog yn hyrwyddo Dydd Sadwrn Busnesau Bach drwy'r cyfryngau cymdeithasol, ac mae hynny'n wych i'w glywed. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud camau cadarnhaol, ond mae angen gwneud mwy ac fe ellir gwneud mwy. Soniodd James Evans a Luke Fletcher fod busnesau bach yn achubiaeth yn ystod y pandemig, ac rwyf fi a phawb yma, rwy'n gwybod, yn sicr yn diolch i bob un sydd wedi gweithio yn y busnesau bach a chanolig hyn, oherwydd, hebddynt hwy, byddai llawer ohonom wedi ei chael hi'n anodd iawn drwy gydol y pandemig. Dywedodd Huw Irranca-Davies pan oedd yn siarad y dylem eu dathlu bob dydd, ac ategaf hynny ac yn sicr credaf fod angen rhoi clod pan fo clod yn ddyledus. Bydd darparu cymorth economaidd, helpu i leihau baich ardrethi busnes a sicrhau cyflenwad o staff gyda'r sgiliau cywir yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu busnesau llai, cefnogi ein heconomi ac adeiladu'r cymunedau cryf a gwydn rydym i gyd yn y pen draw am eu gweld yn llwyddo ac yn ffynnu ledled Cymru, a dyna pam rwy'n gobeithio y byddwch i gyd yn cefnogi ein cynnig yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Clefyd niwronau motor

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. 

Yr eitem nesaf yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma: clefyd niwronau motor. Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7855 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym nad oes gwellhad ar ei gyfer a bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o gael diagnosis.

2. Yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor.

3. Yn cydnabod bod mynediad teg a chyflymach at addasiadau tai yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas yn eu cartrefi eu hunain.

4. Yn credu bod effaith yr oedi wrth osod addasiadau tai a'r broses profi modd yn cael effaith enfawr ar yr amser sydd ar ôl gan y pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symleiddio mynediad at addasiadau tai drwy greu proses nad yw'n seiliedig ar brawf modd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar.

Cyn imi ddechrau, hoffwn ddatgan fy mod yn falch o fod yn un o hyrwyddwyr y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor, a hoffwn ddiolch iddynt am y cymorth y maent wedi'i roi i mi i baratoi ar gyfer y ddadl hon. 

Aelodau, am ychydig eiliadau, dychmygwch eich bod wedi colli eich lleferydd a'ch symudedd. Dychmygwch deimlo fel pe baech wedi eich cloi mewn corff sy'n dirywio, yn methu symud, siarad nac anadlu yn y pen draw. I rai pobl yng Nghymru, nid oes raid iddynt ddychmygu hyn gan eu bod yn byw gyda realiti o'r fath yr eiliad hon. Mae clefyd niwronau motor yn glefyd angheuol sy'n datblygu'n gyflym gan effeithio ar yr ymennydd a'r asgwrn cefn, fel nad yw'r cyhyrau'n gweithio mwyach. Mae'n effeithio ar hyd at 5,000 o oedolion yn y DU ar unrhyw un adeg. Yng Nghymru, mae tua 200 o bobl yn byw gyda chlefyd niwronau motor ar hyn o bryd. Efallai nad yw'n swnio'n llawer o bobl, ond mae'r clefyd ofnadwy hwn yn arwain at ganlyniadau sylweddol i'r rhai sy'n byw gydag ef, yn ogystal â'u teulu a'u ffrindiau. Yn greulon, mae'n lladd traean o bobl o fewn blwyddyn i gael diagnosis, a mwy na hanner o fewn dwy flynedd. Nid oes gwellhad, a bydd cyflwr yr unigolyn yn gwaethygu dros amser oherwydd natur gynyddol y clefyd. Credaf y gallem i gyd groesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor, a chydnabod gwelliant Plaid Cymru heddiw y gallwn wneud mwy i wella maint ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd.

Yn y pen draw, bydd angen offer arbenigol ar bobl â chlefyd niwronau motor i helpu i gynnal urddas ac annibyniaeth, gan ganiatáu iddynt aros yn eu cartrefi eu hunain. Felly, mae addasiadau tai yn cefnogi darparu gofal yn agos at y cartref, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen fel iechyd a gofal cymdeithasol, a gwella lles yr unigolyn a'u teuluoedd. Fodd bynnag, fel hyrwyddwr clefyd niwronau motor, rwyf wedi clywed gan bobl sy'n byw gyda'r clefyd am yr heriau diangen y maent yn eu hwynebu i addasu eu cartrefi i ddiwallu eu hanghenion. Yn wir, mae ymchwil gan elusennau fel y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor wedi canfod bod y broses bresennol ar gyfer addasu tai yn llawer rhy hir i bobl sydd â chlefydau sy'n datblygu'n gyflym. Fel y dywedodd y gymdeithas, mae'r oedi hwn yn un o sgil-effeithiau anfwriadol esblygiad deddfwriaeth, yr amrywiaeth o gyfundrefnau ariannu sydd wedi bodoli'n flaenorol, yn ogystal â'r nifer fawr o sefydliadau sy'n ymwneud â darparu addasiadau. Mae'r broses bresennol hefyd yn rhy gymhleth ac annheg yn ariannol. Mae profion modd ar gyfer addasiadau yn arafu'r broses ymhellach, tra bod gan wahanol gynghorau ddiffiniadau a phrosesau amrywiol, gan arwain at loteri cod post o gymorth ledled Cymru.

Nawr, deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd sydd i'w groesawu ar y mater hwn, ac rwy'n croesawu camau i symleiddio'r broses yn ddiweddar i bobl gael cymorth gydag addasiadau bach a chanolig i'w cartrefi. Ond mae clywed bod rhai cynghorau'n parhau i ddefnyddio profion modd nes bod rhwymedigaeth gyfreithiol i beidio â gwneud hynny yn peri pryder i mi, a gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gellir ymchwilio iddo ymhellach.

Ddirprwy Lywydd, i gloi, rydym wedi cymryd camau i'r cyfeiriad cywir yng Nghymru, ond mae angen inni fynd ymhellach. Mae angen i Lywodraeth Cymru, pob Llywodraeth yn wir, weithio gyda chynghorau a darparwyr gofal cymdeithasol i sefydlu proses gyflym ar gyfer gwneud addasiadau i dai a rhoi diwedd ar y system prawf modd bresennol, fel bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl. Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd hon yng Nghymru, ni waeth beth fo'u plaid, yn cefnogi'r ddadl hon ac yn cydweithio fel un Siambr i sicrhau'r urddas a'r tawelwch meddwl y mae pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn ei haeddu. Edrychaf ymlaen at wrando ar y ddadl, Ddirprwy Lywydd. Diolch.

17:10

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y gweilliant a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sefydlu canolfannau arbenigedd yng Nghymru ar gyfer clefydau niwrolegol i wella graddfa ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl yma heddiw yma. Rydym ni'n cyd-fynd â'r neges glir sydd yn y cynnig ei hun, ac yn gofyn am gefnogaeth i'n gwelliant ni hefyd. 

Ychydig o eiriau sydd gen i yn fan hyn. Mi allaf i grynhoi ein safbwynt ni, mewn ffordd, drwy roi pwyslais ar ddau beth: yn gyntaf, yr angen i bobl sydd yn byw efo afiechyd motor neurone allu byw efo urddas a byw yn annibynnol, a'r ail hanner, sy'n deillio o'n gwelliant ni, ydy'r angen i sicrhau ein bod ni yn cynyddu ein capasiti ni o fewn Cymru i greu a datblygu arbenigedd mewn cyflyrau niwrolegol, er mwyn gwella sgêl a safon y treialon ac ati sydd ar gael a gwella mynediad at driniaeth. O edrych ar y cynnig ei hun, fel dwi'n ei ddweud, mae'r alwad yn eithaf syml, o gwmpas addasiadau tai. Os ydym ni'n edrych ar yr adroddiad 'Adapt Now' gan Gymdeithas MND yn gynharach eleni, maen nhw yn nodi'n glir fod yna nifer o ffaeleddau i'r broses o ddarparu addasiadau tai ar hyn o bryd. Dydy'r system fel sydd gennym ni ddim yn ffit i bwrpas, ac y mae nifer o elfennau gwahanol yn adlewyrchu hynny.

Yn gyntaf, mae'r broses yn cymryd llawer gormod o amser rhwng gwneud cais a gwireddu'r hyn sydd ei angen, yn enwedig pan ydyn ni'n ystyried bod dirywiad yn llawer o'r cleifion yn digwydd yn gyflym a bod angen i'r addasiadau ddigwydd yn gyflym er mwyn i'w budd nhw gael ei deimlo. Does yna ddim tegwch ariannol, dwi'n meddwl, yn y broses ar hyn o bryd, ac mae'r means testing sydd yn digwydd yn arafu y broses ymhellach ac yn cael effaith andwyol ar fywydau pobl sydd ag MND a'u teuluoedd nhw. 

Mae hefyd yn glir bod yna ddiffyg cysondeb ar draws Cymru. Dyma'r ail dro heddiw imi gyfeirio at loteri cod post, ac mae'n rhaid cael y cysondeb yna, dwi'n meddwl, yn y diffiniadau gwahanol sy'n cael eu defnyddio gan wahanol awdurdodau lleol ar draws Cymru. Ac yn y prosesau sydd mewn lle, mae yna ddiffyg tegwch, dwi'n meddwl, os ydyn ni'n cymharu beth sy'n digwydd mewn rhai ardaloedd o'i gymharu ag eraill. Ac mae yna gymhlethdod cyffredinol, dwi'n meddwl. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad 'Adapt Now'. Felly, o gymryd y cyfan efo'i gilydd, mae'r rhwystrau yn amlwg i ni ar y meinciau yma yn llawer gormod i bobl sydd angen gweld newidiadau—bach weithiau, mawr dro arall—all wneud gwahaniaeth i'w safon bywyd nhw. 

O droi at ein gwelliant ni, galw ydyn ni ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gellid datblygu canolfannau yma yng Nghymru ar gyfer treialon ar gyfer sicrhau bod triniaethau newydd yn gallu—

17:15

—cael eu profi gan bobl sydd â motor neurone. Dyna dwi'n meddwl sydd yn mynd i gyfrannu eto tuag at safon bywyd. Mae yna ormod o bobl yn gorfod teithio dros y ffin ar hyn o bryd am driniaeth. Rydyn ni angen gweld sut mae cryfhau'r ddarpariaeth yma yng Nghymru. 

Diolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno'r ddadl wirioneddol bwysig hon. Fel yr amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Peter Fox, a agorodd ein dadl heddiw, mae clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym ac yn anffodus, nid oes modd ei wella. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod am rywun y mae'r clefyd ofnadwy hwn wedi effeithio arnynt. Ddirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofio a thalu teyrnged yn fyr i ffrind i mi, y diweddar Gynghorydd William Knightly MBE, a gollodd ei frwydr y erbyn clefyd niwronau motor yn 2014. Yn dilyn dyrchafiad yr Aelod dros Aberconwy i'r Senedd yn 2011, daeth y Cynghorydd William yn arweinydd grŵp arnaf yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a fi oedd ei ddirprwy. Felly, buom yn gweithio'n agos am nifer o flynyddoedd—rhyw lun ar Batman a Robin, gallech ddweud. Fodd bynnag, roedd yn gynghorydd lleol ac yn arweinydd grŵp rhagorol. Ac rwy'n dal i gofio'r adegau yr arferem chwerthin gyda'n gilydd yn y misoedd cynnar wedi iddo gael diagnosis o glefyd niwronau motor. Pan gollodd ei allu i siarad, yn null dihafal y Cynghorydd William, penderfynodd ddefnyddio peiriant testun-i-leferydd yng nghyfarfodydd y cyngor, a arferai, ar adegau—roedd y peiriant, yn ôl pob tebyg, yn dweud pob math o bethau anfwriadol. [Chwerthin.] Nawr, os oedd unrhyw un yn adnabod y Cynghorydd William, rwy'n siŵr nad bai'r peiriant oedd bod y sylwadau hynny wedi cael eu clywed yn y cyfarfodydd hynny.

Ond mae wedi bod yn braf gweld ymwybyddiaeth o glefyd niwronau motor yn codi yn y cyfnod diweddar. Yn wir, yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, nodais fod Kevin Sinfield, cyn chwaraewr rygbi'r gynghrair i Leeds Rhinos, wedi rhedeg 100 milltir mewn 24 awr—cyflawniad hollol anghredadwy—a hynny er budd ei ffrind a'i gyn gyd-aelod o'r tîm, Rob Burrow, a oedd hefyd yn chwaraewr rygbi proffesiynol am dros 16 mlynedd ac a gafodd ddiagnosis o glefyd niwronau motor ym mis Rhagfyr 2019. Erbyn heddiw, mae'r her wedi codi £1.8 miliwn, gan godi arian yn uniongyrchol i bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor. Ac mae achosion fel hyn yn haeddu llawer iawn o glod gan y Siambr hon yma heddiw.

Fel y soniais, nid oes modd gwella clefyd niwronau motor ar hyn o bryd, ond mae ein cynnig yn ceisio sicrhau bod addasiadau tai'n cael eu darparu'n gyflymach ac yn fwy teg, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n ddiogel, yn annibynnol a chydag urddas yn eu cartrefi eu hunain. A dyma pam y mae angen proses garlam heb brawf modd ar gyfer addasiadau tai. Roeddwn yn falch iawn o weld nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant i'r cynnig heddiw, ac rwyf hefyd yn falch o weld Plaid Cymru yn galw am ganolfannau arbenigedd yng Nghymru ar gyfer clefydau niwrolegol i wella maint ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig heddiw ac y gallwn weld newidiadau hirdymor i gefnogi'r rhai sy'n dioddef o glefyd niwronau motor a'u teuluoedd. Diolch yn fawr iawn.

17:20

A ddywedoch chi fy enw nawr? Do. Ni allwn eich clywed. Roedd eich meicroffon wedi'i ddiffodd. Iawn, diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

Rwy'n croesawu'r ddadl yma heddiw, a hoffwn ddiolch i Peter Fox am ei chyflwyno; mae'n gwbl hanfodol ein bod yn siarad am hyn. Er ei fod yn brin, nid oes llawer o gyflyrau mor ddinistriol â chlefyd niwronau motor, cyflwr sy'n datblygu'n gyflym yn y rhan fwyaf o achosion, ac mae bob amser yn angheuol. Fel arfer, bydd dioddefwyr yn colli'r gallu i siarad a llyncu, a defnydd o'u coesau a'u breichiau. Oherwydd hyn, mae addasiadau tai a thai hygyrch yn eithriadol o bwysig i ddarparu'r ansawdd bywyd gorau ac i gynnal lefel o urddas ac annibyniaeth wrth i'r clefyd ddatblygu.

Yn anffodus, oherwydd prinder tai hygyrch, rhestrau aros ar gyfer addasiadau i'r cartref, a chostau'r addasiadau hynny, mae llawer o bobl â chlefyd niwronau motor wedi'u caethiwo mewn tai nad ydynt yn diwallu eu hanghenion. O ystyried bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn i'r diagnosis, mae'n annheg i ddioddefwyr, eu teuluoedd a'u gofalwyr fod rhai pobl wedi gorfod aros hyd at 40 wythnos i addasiadau gael eu cwblhau. Oherwydd yr anawsterau hyn, mae llawer o bobl â chlefyd niwronau motor wedi gorfod treulio cyfnodau hir yn yr ysbyty, gan nad yw eu cartrefi'n addas neu am eu bod wedi cael anafiadau fel cwympiadau neu dorri esgyrn. Pan fo'r clefyd hwn yn amddifadu pobl o ansawdd bywyd, mae'n warthus fod yn rhaid iddynt aros mor hir.

Canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mai dim ond un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi gosod targedau ar gyfer tai hygyrch ac addasadwy. Yn yr unfed ganrif ar hugain, a ninnau mor ymwybodol yn awr o'r angen am addasiadau—fel y dywedodd Rhun ac fel y dywedodd Peter—nid yw loteri cod post ledled Cymru yn ddigon da mwyach ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys. Mae system ymgeisio rhy gymhleth am grantiau i wneud addasiadau i'r cartref yn gwaethygu'r anghydraddoldebau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu.

Mae ffordd bell i fynd i gefnogi pobl â chlefyd niwronau motor ac anableddau eraill, a rhaid inni weld mesurau ymatebol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r ansawdd bywyd gorau posibl i'r bobl hyn. Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y buddsoddiad o £15 miliwn i sefydliadau'r GIG i helpu i gynnal mwy o dreialon clinigol mewn meysydd fel clefyd niwronau motor, a Llywodraeth Geidwadol y DU, sydd wedi creu cronfa ymchwil gwerth £50 miliwn gyda'r nod o wella clefyd niwronau motor. Ond mae angen gwneud mwy, ac mae angen gwneud mwy yn awr. Ni allwn barhau i wneud cam â phobl â chlefyd niwronau motor a'u teuluoedd sy'n dioddef yn ofnadwy o un diwrnod i'r llall. Rhaid inni wneud mwy ac rwy'n eich annog, bawb yn y Siambr hon, i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, a fydd yn mynd beth o'r ffordd tuag at greu cymorth hirdymor i'r bobl hyn.

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Peter Fox am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr ac i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Gwrandewais yn astud ar yr holl siaradwyr a chredaf fod llawer o bwyntiau dilys wedi'u gwneud.

Mae clefyd niwronau motor, fel y mae cynifer wedi dweud, yn glefyd dinistriol ac rwy'n gwybod hynny am fod fy ewythr annwyl, Robert, wedi dioddef o'r aflwydd creulon hwn ac roedd yn gwbl dorcalonnus gwylio ei anableddau corfforol yn cynyddu'n ddyddiol i bwynt lle na allai symud cyhyr, yn llythrennol, tra bod ei feddwl yn parhau i fod mor effro ag erioed.

Ar gyfer y math mwyaf cyffredin o glefyd niwronau motor, mae disgwyliad oes fel arfer yn ddwy i bum mlynedd o ddechrau'r symptomau. Yn anffodus, ar hyn o bryd, ni ellir atal na gwrthdroi clefyd niwronau motor, ond gall therapïau, offer a meddyginiaeth helpu i reoli symptomau ochr yn ochr ag addasu cartrefi pobl i'w gwneud mor ddiogel ac mor hygyrch â phosibl. Fel y dywedodd Peter Fox, mae tua 200 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd niwronau motor ar unrhyw adeg a diolch byth, nid yw'n glefyd cyffredin, ond i'r bobl sy'n cael diagnosis o glefyd niwronau motor, wrth gwrs, nid yw hynny'n gysur o gwbl.

Credaf yn gryf fod darparu gwasanaethau o ansawdd da i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, megis clefyd niwronau motor, yn gwbl hanfodol, ac mae angen cydbwyso hyn â chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol ledled Cymru, gan gynnwys clefyd niwronau motor.

Fel rhan o'r opsiwn triniaeth a gynigir i gleifion, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd gan dreialon clinigol rôl bwysig i'w chwarae, wrth inni chwilio am driniaeth ar gyfer clefyd niwronau motor. Rwy'n cydnabod y manteision y gallai canolfannau arbenigedd yng Nghymru ar gyfer clefydau niwrolegol eu cynnig, ond nid wyf yn credu bod angen canolfannau ymchwil arbenigol arnom i wella maint ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn gysylltiedig ag unrhyw ymchwil newydd sydd ar y gweill ym mhob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol, ac rydym eisoes yn gwneud hyn, a dyna pam, mae arnaf ofn, na fyddaf yn cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru i'r cynnig heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu ymchwil ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys cyllid o tua £15 miliwn i sefydliadau'r GIG i'w galluogi i gynnal treialon clinigol o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd, sy'n cynnwys clefyd niwronau motor. Drwy fy nghydweithwyr yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rwy'n ymwybodol fod nifer o astudiaethau o glefyd niwronau motor eisoes ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mewn rhai achosion, mae cymorth hefyd ar gael i gleifion sy'n gymwys ar gyfer astudiaethau ymchwil clinigol y tu allan i Gymru.

Mae gan bobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor a chyflyrau dirywiol eraill, ynghyd â'u partneriaid, eu teuluoedd a'u gofalwyr, hawl i ddisgwyl inni wneud ein gorau glas i'w helpu i gynnal eu hannibyniaeth a byw gydag urddas. Mae gennym raglenni addasu cynhwysfawr yng Nghymru sy'n cynnwys cynghorau, cymdeithasau tai ac asiantaethau gofal a thrwsio. Gyda'i gilydd, cyfanswm ein gwariant blynyddol yw tua £60 miliwn.

Mae'n ofynnol i bob darparwr i gadw at y safonau gwasanaeth ar gyfer addasiadau tai a gyhoeddon ni yn 2019. Mae'r rhain yn cynnwys targedau ar gyfer amseroedd aros am wahanol fathau o addasiadau. Addasiadau bach yw'r rhan fwyaf, sy'n cael eu cwblhau mewn ychydig o ddyddiau, ond y grŵp mwyaf o addasiadau o ran gwerth yw addasiadau o faint canolig. Mae'r rhain yn cynnwys yr addasiadau mwyaf cyffredin, fel lifft grisiau, cawod â mynediad gwastad, ystafell wlyb lawr grisiau a rampiau mawr, neu gyfuniad o'r pethau hyn. Ar gyfartaledd, mae addasiad canolig yn cymryd ychydig dros bedwar mis i'w gwblhau.

Eleni, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn darparu £1 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn osgoi defnyddio prawf modd ar gyfer addasiadau o faint canolig. Mae'r ymateb gan awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn, ond mae mabwysiadu polisïau newydd drwy weithdrefnau'r cynghorau yn cymryd amser. Rŷn ni'n disgwyl y bydd y mwyafrif llethol o gynghorau, os nad pob un, wedi mabwysiadu polisi o beidio â chynnal prawf modd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Dim ond ychydig o addasiadau mawr sy'n cael eu gwneud bob blwyddyn, ac mae'r rhain yn cynnwys newidiadau sylweddol i'r adeilad, er enghraifft, estyniad sydd angen, efallai, caniatâd cynllunio. Dyw hi ddim yn syndod bod y rhain yn cymryd mwy o amser oherwydd eu cymhlethdod, ac ar gyfartaledd maen nhw'n cymryd tua 40 wythnos. Nawr, i bobl sydd ag MND mae'r amserlen yma yn anodd iawn, a dwi'n deall, wrth gwrs, y gall 40 wythnos fod yn amser rhy hir iddyn nhw i helpu'r bobl hyn. Fe roddon ni discretion ym mis Ebrill eleni i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ddefnyddio cyfalaf o'r gronfa gofal integredig i ychwanegu at y grant cyfleusterau i'r anabl ar gyfer addasiadau sy'n costio mwy na'r drefn statudol o £36,000.

Wrth gwrs, dyw gwneud gwaith adeiladu mawr ar adeg mor anodd ddim wastad yn beth dymunol, felly mae'n bwysig bod pobl ag MND yn gallu cael mynediad at amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a fydd yn gallu darparu gwahanol ddulliau a therapïau i bobl i fyw bywyd cystal â phosibl am gyhyd â phosibl. Byddan nhw'n gweithio gyda phobl a theuluoedd i chwilio am ddewisiadau eraill posibl yn lle addasiadau.

Bydd y gofal arbenigol sy'n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth ystum corff a symudedd yng Nghymru hefyd yn cefnogi pobl gydag MND drwy ddarparu'r offer symudedd a chyfathrebu cywir, yn ôl yr angen. Mae therapi galwedigaethol cymunedol, ffisiotherapi a therapi iaith a lleferydd hefyd yn gallu helpu pobl gydag MND i reoli eu symptomau, a lleihau effaith y clefyd ar eu bywyd bob dydd. Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gweithio gyda'i gilydd, ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol a chydweithwyr yn y trydydd sector, i ddarparu gwasanaethau integredig, a hynny o'r diagnosis hyd at ofal diwedd oes. Mae gofalu am y teulu cyfan yn hanfodol, ac mae ein gweithwyr proffesiynol yn cymryd gofal enfawr i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth yn amserol, ac nad yw yn rhy ymwthiol i deuluoedd sy'n dymuno gwneud y gorau o'r amser byr, o bosib, sydd gyda nhw ar ôl. I gloi, Llywydd, dwi eisiau annog y Siambr i gefnogi'r cynnig.

17:30

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, sy'n ddadl bwysig iawn. A diolch enfawr yn arbennig i fy nghyd-Aelod, Peter Fox, am gyflwyno'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma. Fel y nododd Peter, mae clefyd niwronau motor yn salwch ofnadwy, heb wellhad, ac mae'n datblygu'n syfrdanol o gyflym gan amddifadu dioddefwyr o'u bywydau'n drasig mewn cyfnod mor fyr a phoenus. Mae hanner yr holl ddioddefwyr yn colli eu brwydr i'r clefyd hwn o fewn dwy flynedd i gael diagnosis. Yn ystod y frwydr fer hon, mae clefyd niwronau motor yn niweidio gallu'r ymennydd i gyfathrebu â'r corff. Gall effeithio ar sut rydych yn cerdded, siarad, bwyta, yfed a hyd yn oed anadlu. Y peth olaf sydd ei angen ar ddioddefwyr clefyd niwronau motor yw gorfod brwydro gyda'u hawdurdod lleol am yr addasiadau sydd eu hangen arnynt i fyw'n ddiogel a chydag urddas yn eu cartrefi eu hunain.

Ond dyma'r realiti y mae'n rhaid i'r rhai sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor ei wynebu yng Nghymru heddiw. Er gwaethaf camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, mae gennym loteri cod post mewn perthynas ag addasiadau i'r cartref, ac os ydych chi, fel finnau, eisiau dod â'r loteri honno i ben, fe'ch anogaf i gefnogi ein cynnig heddiw. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, gan ein bod ninnau hefyd yn credu bod Cymru ar ei hôl hi mewn perthynas ag ymchwil feddygol, yn enwedig i gyflyrau niwrolegol. Fel y nododd Rhun ap Iorwerth, mae addasiadau tai i bobl â chlefyd niwronau motor yn wael. Ymhelaethodd Laura Anne Jones ar hynny gyda'r loteri cod post, a'r gwaethygu sy'n digwydd o ganlyniad i hynny. Soniodd Sam Rowlands am stori bersonol gyda'r diweddar Gynghorydd William Knightly o Dowyn. Mae gennyf atgofion hoffus amdano, fel y bydd gan lawer o'r Aelodau o ogledd Cymru ar ein meinciau, mae'n siŵr.

Weinidog, roedd yn addawol clywed am waith Llywodraeth Cymru ar dreialon clinigol ar gyfer triniaeth, a chydnabod yr angen am dreialon clinigol, oherwydd os ydym am fwrw ymlaen â hyn ac edrych o ddifrif ar driniaethau fel hyn, credaf fod angen inni arwain ar geisio datblygu ymchwil ar hyn fel ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Trist oedd clywed am eich ewythr Robert a'i frwydr bersonol gyda'r clefyd. Hoffwn gloi'r ddadl heddiw drwy annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar. 

Yr eitem nesaf yw eitem 8, dadl Plaid Cymru ar ddyled aelwydydd. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7856 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Sefydliad Bevan ar effaith COVID-19 ar ddyled aelwydydd.

2. Yn nodi prisiau cynyddol biliau cyfleustodau.

3. Yn nodi datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar gymorth ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf a chostau byw aelwydydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig a chynyddu'r dreth ar danwydd mewn ardaloedd sydd wedi cael buddsoddiad cyhoeddus uwch na chyfartaledd y DU mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig;

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i sefydlu llinell sylfaen gyson o gymorth gan gyflenwyr ynni ar gyfer cwsmeriaid sydd â dyledion;

c) archwilio'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i atal dyled.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl bwysig hon a chyflwyno'r cynnig sydd ger eich bron. Roedd yr ymchwiliad cyntaf i mi gael y fraint o fod yn rhan ohono fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddyled a'r pandemig. Fel pwyllgor, penderfynasom fod angen ymchwilio i'r darlun o galedi economaidd a oedd yn amlwg wedi dechrau ffurfio flwyddyn a mwy i mewn i argyfwng COVID, ac argymhellwyd camau i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru rhag pwysau ariannol eithafol. Roedd y canfyddiadau, er nad oeddent yn syndod gwaetha'r modd, yn frawychus.

Canfu'r ymchwiliad fod costau byw cynyddol yn bryder penodol i bobl a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws ar ddyledion. Mae'n peri gofid fod llawer o'r cyfranogwyr yn cytuno nad yw gwir effaith y pandemig wedi'i wireddu eto, gan gyfeirio at storm berffaith neu swnami wrth ddisgrifio'r senario debygol dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Yn ei restr o argymhellion, mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda chostau sylfaenol i aelwydydd, gan rybuddio nad ydym wedi profi effaith lawn y pandemig eto a bod mwy o bobl yn mynd i ddyled er mwyn talu am hanfodion o ddydd i ddydd, biliau'r cartref a'r dreth gyngor, ac y bydd prisiau bwyd a thanwydd cynyddol yn gyrru pobl i dlodi dyfnach y gaeaf hwn. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn llwm. Mae'r geiriau a ddefnyddiodd un tyst wedi aros gyda mi. Roeddent yn dweud:

'Yr hyn sy’n fy mhoeni’n fawr yw cynnydd posibl o 30 y cant mewn prisiau nwy a thrydan yn 2022. Mae hynny’n mynd i wthio pobl i dlodi ar lefel oes Fictoria.'

Tlodi ar lefel oes Fictoria. Mae Plaid Cymru yn croesawu argymhelliad y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyflymu'r gwaith i sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd sgôr ynni A o ganlyniad i gostau ynni cynyddol, ac i adolygu ei chynllun gweithredu tlodi tanwydd, yn ogystal â'r galwadau am hyrwyddo a chefnogaeth well i wasanaethau cynghori ar ddyled a ffynonellau credyd fforddiadwy i rai sy'n wynebu mwy o risg o ddyled. Rydym hefyd yn cefnogi'r argymhelliad i archwilio 'coelcerthi dyledion', gan y gwelwyd mai ôl-ddyledion treth gyngor yw'r elfen fwyaf o ddyled aelwydydd a bod diffyg sylfaen statudol ar gyfer protocol y dreth gyngor i Gymru weithiau'n arwain at arferion a all ddyfnhau lefel dyled yn sylweddol. Mae ein cynnig heddiw yn galw ar y Llywodraeth i weithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig, ac i edrych ar gyflwyno dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i atal dyled.

Canfu adroddiad diweddar Sefydliad Bevan ar ddyledion aelwydydd yng Nghymru fod degau o filoedd o bobl ledled y wlad yn byw mewn dyled broblemus ymhell cyn i'r pandemig daro, ond bod effaith economaidd COVID-19 wedi dyfnhau'r argyfwng hwn. Ledled Cymru, roedd 130,000 o aelwydydd—mae hynny yn un ym mhob 10 o holl aelwydydd Cymru—mewn dyled ar ryw fil rhwng Ionawr a Mai 2021. Dros yr un cyfnod, roedd 230,000 o aelwydydd—17 y cant o'r holl aelwydydd yng Nghymru—wedi benthyca arian. Mae hyn wedi arwain at nifer o aelwydydd yng Nghymru yn cael eu gwthio i mewn i dlodi, yn gorfod mynd heb hanfodion bywyd bob dydd, ac yn dioddef o'r straen a'r pryder a achosir gan dlodi a dyled. Does dim dwywaith y bydd y gaeaf hwn yn anodd iawn i gymaint o aelwydydd ledled Cymru.

Mae Llywodraeth y Torïaid yn San Steffan wedi bradychu pobl Cymru. Gwaethygwyd y pwysau ariannol sy'n wynebu teuluoedd mewn sawl achos gan y penderfyniad creulon i dorri'r codiad credyd cynhwysol o £20. Mae'r apêl o sawl cyfeiriad, gan gynnwys o Lywodraeth Cymru, i wyrdroi'r toriad trychinebus hwnnw wedi cwympo ar glustiau byddar. Credwn mai mesur arall y gallai Llywodraeth Cymru bwyso ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i'w weithredu fyddai ymestyn y cynllun rhyddhad dyletswydd tanwydd gwledig i Gymru. Mae'r cynllun yn darparu gostyngiad o 5c y litr i werthwyr tanwydd mewn ardaloedd gwledig penodol, ond does yr un ohonynt yng Nghymru ar hyn o bryd. Byddai hyn yn sicrhau nad yw pobl mewn ardaloedd gwledig yn cael eu gorfodi i ysgwyddo cyfran annheg o gostau tanwydd uwch. Yn y tymor hir, wrth gwrs, mae'n rhaid buddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddyled ledled Cymru yw'r rhai sydd eisoes yn wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, wrth gwrs, fel rhentwyr, pobl anabl, plant, rhieni sengl, menywod, pobl hŷn, pobl sy'n gadael gofal, ac aelwydydd sy'n dod o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Dylai pob un ohonom ni wybod, yn sgil y ffaith inni nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl â thrafodaeth yn y Siambr hon ddoe, fod pobl anabl yn wynebu costau ychwanegol yn eu bywydau bob dydd o dros £500 y mis. Nid yw'n syndod felly fod pobl anabl wedi bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn ôl-ddyledion dros y pandemig. Roedd 20 y cant o bobl anabl yng Nghymru mewn ôl-ddyledion yn hanner cyntaf eleni, a bu'n rhaid i bron i chwarter o bobl anabl fenthyca arian i gael dau ben llinyn ynghyd dros yr un cyfnod.

Mae Barnardo's Cymru hefyd wedi tanlinellu'r heriau ariannol sy'n cael eu hwynebu pan fydd ymadawyr gofal yn trosglwyddo i fyw'n annibynnol, oherwydd gall sefydlu eu cartref eu hunain achosi pryder sylweddol i ymadawyr gofal, gyda llawer yn gorfod cymryd benthyciadau diwrnod tâl i dalu dyledion sy'n arwain at gylch dieflig o anawsterau ariannol.

Er bod y mesurau cyfyngedig a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i liniaru'r lefel erchyll ac annerbyniol hon o ddyled aelwydydd i'w croesawu, wrth gwrs, teimlwn y gellid gwneud mwy i gefnogi teuluoedd nid yn unig dros y misoedd nesaf ond hefyd yn fwy hirdymor. Mae'r cyhoeddiad diweddar ar y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn golygu y bydd aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio sy'n seiliedig ar brawf modd yn gallu hawlio taliad untro o £100 i ddarparu cymorth tuag at dalu biliau tanwydd gaeaf, y gwyddom y byddant yn uchel iawn. Ond i rai sy'n cael budd-daliadau oedran gweithio yn seiliedig ar brawf modd yn unig y caiff ei roi. Ac mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu nad yw 69 y cant o aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn derbyn y budd-daliadau hynny. Felly, yn amlwg, ni fydd y taliad yn cyrraedd pawb sy'n mynd i fod ei angen. Ac o ran tlodi tanwydd, gwyddom y bydd pethau'n anoddach fyth ar ôl y codiad nesaf i'r cap ar brisiau ynni sydd i ddod i rym o fis Ebrill nesaf.

Mae croeso hefyd wrth gwrs i'r cymorth brys a gyhoeddwyd hefyd, a fydd ar gael o dan y gronfa cymorth dewisol i'r rhai oddi ar y grid mewn ardaloedd gwledig yn bennaf sy'n dibynnu ar nwy petrolewm hylifedig ac olew fel tanwydd. Ond unwaith eto, nid yw'r cymorth brys hwn ond ar gael yn ystod y misoedd oeraf, a byddai cymorth drwy gydol y flwyddyn, yn ôl grwpiau fel National Energy Action, yn fwy effeithiol a theg gan y gallai pobl gael cymorth pryd bynnag y bydd ei angen arnynt a gallent gyllidebu a chynllunio'n well ar gyfer y gaeaf yn hytrach na gorfod aros am fisoedd y gaeaf pan fydd hi eisoes yn oer. Gallent hefyd dalu am danwydd ar adeg pan fo llai o bwysau ar wasanaethau cyflenwi a gwell gwerth am arian y litr, sydd hefyd yn cyd-fynd, wrth gwrs, â'r dulliau ataliol parhaus drwy gydol y flwyddyn a argymhellir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn amlwg, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull trawsadrannol a thrawslywodraethol o fynd i'r afael â'r argyfwng dyled aelwydydd cynyddol sydd ar y gorwel er mwyn sicrhau bod anghenion y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu diwallu. Mae'r rhagolygon yn llwm i ormod o deuluoedd yng Nghymru. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y rhai sydd mewn dyled yn cael eu cefnogi ac na chânt eu gwthio ymhellach i argyfwng ariannol dyfnach a'u gorfodi i wneud penderfyniadau amhosibl sy'n bygwth iechyd a llesiant eu teuluoedd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw er mwyn helpu i gyflawni hynny. Diolch.

17:40

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 4.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu 5(c) a rhoi yn ei le:

gweithio gyda chyrff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i archwilio mesurau i atal dyled problemus.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:

creu a chyhoeddi cynllun tywydd oer;

ehangu'r cymorth ariannol sydd ar gael i gynorthwyo'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni cynyddol;

buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni cartref, gan flaenoriaethu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon;

cynhyrchu amcangyfrifon rheolaidd o nifer yr aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch. Rwy'n cynnig gwelliannau 1, 2 a 3. Fel y dywed adroddiad Sefydliad Bevan, 'Debt in the pandemic',

'Roedd miloedd o bobl ledled Cymru yn byw gyda dyledion problemus ymhell cyn y pandemig.'

Er bod

'gweithio gartref a llai o gyfleoedd i wario oherwydd cyfyngiadau COVID-19 wedi galluogi rhai aelwydydd i dalu dyledion.... Mae effaith economaidd COVID-19 wedi gweld sefyllfa ariannol llawer o deuluoedd Cymru yn gwaethygu, gan wthio rhai i ddyled broblemus am y tro cyntaf a chynyddu maint dyled rhai o'r bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.'

Fel y mae hyn yn ei gwneud yn glir, y broblem yw dyled broblemus, nid dyled ynddi ei hun, sy'n cynnwys, wrth gwrs, morgeisi ar sail risg a benthyciadau ceir. Felly, mae ein cynnig i ddileu pwynt 5(c) o'r cynnig yn galw yn hytrach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyrff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i archwilio mesurau i atal dyled problemus. Rwy'n meddwl am y gwaith helaeth a wnaed ar y mater hwn yn ystod tymhorau blaenorol y Senedd. Roeddwn yn Aelod o'r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant a luniodd yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' 11 mlynedd yn ôl. Gan ddyfynnu Les Cooper, cydlynydd fforwm gallu ariannol gogledd Cymru ar y pryd, sydd bellach wedi ein gadael, yn anffodus:

'nid yw'r adnoddau a'r dulliau a ddefnyddir ar hyn o bryd i gynyddu gallu ariannol "yn mynd i'r afael â'r heriau sgiliau sylfaenol sydd gennym yng Nghymru."'

Roedd Les wedi hyrwyddo'r cynllun arobryn mewn rhai ysgolion yn sir y Fflint a gyflwynai lythrennedd ariannol drwy berfformiad theatrig cyfranogol. Daethant â'u cynhyrchiad i'r Senedd hyd yn oed yn y gobaith y byddai'r model arferion gorau hwn, 11 mlynedd neu fwy yn ôl, yn cael ei rannu a'i fabwysiadu ledled Cymru.

Wrth holi'r Prif Weinidog yma ym mis Ionawr 2018, dyfynnais ymchwil y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, a ganfu fod llawer o bobl ifanc yng Nghymru heb gael eu paratoi'n ddigonol ar gyfer ymdrin â chyfrifoldebau ariannol oedolion, gyda 35 y cant yn unig yn dysgu sut i drin arian yn yr ysgol. Gofynnais iddo ailedrych ar argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant a gyhoeddwyd yn 2010. 

Mae ein gwelliannau eraill heddiw yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan gynnwys cynhyrchu amcangyfrifon rheolaidd o nifer yr aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru, lle mae amcangyfrifon blaenorol wedi bod yn ysbeidiol, yn 2004, 2008 a 2018. 

Yn 2018, cyn y pandemig, amcangyfrifwyd bod 12 y cant neu 155,000 o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd. Cyn COVID, gwelwyd cynnydd o 45 y cant yng Nghymru yn nifer y marwolaethau ychwanegol yn ystod gaeaf 2019-20. Mae stoc dai Cymru yn un o'r rhai hynaf a lleiaf effeithlon yn thermol o gymharu â'r DU ac Ewrop.

Ar 1 Hydref, cododd y cap ar brisiau ynni a osodwyd gan y rheoleiddiwr ynni, y Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan, ar ôl i brisiau nwy gyrraedd y lefel uchaf erioed wrth i'r byd ddod allan o'r cyfyngiadau symud. Er bod y cap ar brisiau yn sicrhau mai dim ond costau cyfreithlon y mae cyflenwyr yn eu trosglwyddo i gwsmeriaid, mae National Energy Action Cymru wedi amcangyfrif y gallai'r cynnydd hwn wthio 22,500 yn fwy o aelwydydd yng Nghymru i dlodi tanwydd y gaeaf hwn, ac y gallem weld y niferoedd mewn tlodi tanwydd yn codi 50 y cant neu fwy o gymharu ag amcangyfrifon 2018. Galwai am fwy o amddiffyniad i aelwydydd incwm isel y gaeaf hwn.

Ychwanegodd NEA fod gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol i'w chwarae yn cefnogi aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd ar draws deiliadaethau drwy ôl-osod ac uwchraddio effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r cymorth ariannol sydd ar gael i gynorthwyo'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni cynyddol, yn ogystal â buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn fwy hirdymor, gan flaenoriaethu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon.

Wrth siarad yma yn 2018, nodais fod y gost flynyddol i GIG Cymru o drin pobl sy'n mynd yn sâl o ganlyniad i'r ffaith eu bod yn byw mewn cartrefi oer a llaith oddeutu £67 miliwn bob blwyddyn ar y pryd. Mae cartrefi oer hefyd wedi'u cysylltu ag iechyd meddwl gwael, ynysigrwydd cymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol is.

Mae bron i dair blynedd ers i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai'n datblygu cynllun tywydd oer ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Pan ofynnais i'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol yma y mis diwethaf pa gynlluniau gwrthsefyll tywydd oer penodol drwy gydol y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn awr, atebodd y Gweinidog,

'Bydd gennym gynllun tywydd oer ar waith'.

Ond roedd angen i hyn gael ei gyhoeddi a'i weithredu cyn i aeaf oer arall ein taro.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yng nghyllideb yr hydref y bydd y dreth tanwydd yn cael ei rhewi unwaith eto, gan gydnabod bod tanwydd yn gost fawr i aelwydydd a busnesau. Fel y mae wedi cael ei ddrafftio, gallai cynnig Plaid Cymru i ddiwygio'r cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig gosbi trigolion a busnesau gwledig, sydd eto i gyd â chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus gwael.  

17:45

Yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru gymryd sylw o fonitor tlodi tanwydd 2021 NEA Cymru, a lansiwyd ddoe, sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio gwresogi domestig ar gyfer aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd. Diolch.

Diolch i Blaid Cymru.

Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr iawn heno. Mae dyled yn beth ofnadwy. Mae'n rhywbeth sydd ar eich meddwl drwy'r amser; mae'n rhoi pwysau arnoch; mae'n gwneud i chi deimlo na allwch ddod o hyd i ffordd allan; mae'n gwneud i chi weiddi ar eich plant; mae'n gwneud i chi deimlo'n sâl. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a fyddai'n helpu ac rydym wedi clywed rhai atebion posibl drwy'r adroddiad ar ddyledion a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Efallai bod rhai'n gweld rhai o'r syniadau hynny fel syniadau iwtopaidd sosialaidd—geiriau'r Ceidwadwyr—ond rwy'n erfyn arnoch chi i gyd i edrych arnynt, oherwydd nid oes yr un ohonom eisiau gweld pobl mewn dyled ac nid oes yr un ohonom eisiau gweld pobl dan bwysau ac yn dioddef problemau iechyd meddwl oherwydd hynny.

Mae'r syniad o 'goelcerth dyledion' y soniodd Sioned amdano yn un rydym wedi'i wthio ymlaen, ac rwy'n falch iawn o'i weld yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Gadewch imi egluro ychydig amdano. Pan fydd dyled yn cyrraedd arwerthiant dyled, mae'r sefydliad sydd wedi rhoi'r person mewn dyled eisoes wedi derbyn nad yw'n debygol o adennill cyfanswm gwerth y ddyled sy'n ddyledus. Tra bod y cwmni wedyn yn anghofio am y ddyled, mae unigolion a theuluoedd yn brwydro gyda phwysau dyled ar eu hysgwyddau. Rydym eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn meddwl o ddifrif am y syniad hwn, a gweld arian yn cael ei gyflwyno i ddiystyru'r ddyled, rhan fach iawn o'r hyn sy'n ddyledus. Ond bobl bach, yr effaith y byddai hynny'n ei chael ar yr unigolion a'r teuluoedd hynny sydd mewn dyled—

17:50

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud hefyd yw bod y ddyled hon weithiau'n ennill mwy a mwy o log, ac mae'n mynd yn fwy ac yn fwy. Pan nad yw pobl yn gallu fforddio ei dalu ar y dechrau, nid yw ei gwneud yn fwy ac yn fwy ond yn gwneud pethau'n waeth ac yn waeth. Diolch.

Diolch i fy nghyd-Aelod am yr ymyriad hwnnw, ac rydych yn llygad eich lle—mae twf esbonyddol y ddyled yn ychwanegu at y pwysau gwirioneddol ar y teulu penodol hwnnw.

Yr ail syniad, unwaith eto, y gellir ei ystyried o bosibl yn syniad sosialaidd, iwtopaidd, yw incwm sylfaenol cyffredinol, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth Lafur i hyn. Ond hoffwn hefyd ei gweld yn mynd ymhellach ac yn ei ymestyn y tu hwnt i'r trefniant arfaethedig ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Incwm sylfaenol cyffredinol yw gwasanaeth iechyd gwladol y genhedlaeth hon. Ac fel y GIG ym 1946, pan bleidleisiodd Torïaid Winston Churchill yn ei erbyn 21 gwaith, rydym yn dal i weld gwrthwynebiad parhaus i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol er mwyn rhoi cyfle i bawb gael lefel incwm sylfaenol, sy'n sicrhau y gallant fwydo eu plant, sy'n sicrhau y gallant wresogi eu cartrefi, sy'n sicrhau urddas iddynt yn eu bywydau. Dywedodd Churchill ym 1946 mai GIG oedd y cam cyntaf i Brydain ddod yn economi sosialaidd genedlaethol. Mae'r incwm sylfaenol cyffredinol sydd wedi'i argymell yn un y byddwn yn erfyn eto ar bawb i wrando arno, pawb i ddysgu amdano. Cyn i chi ei gondemnio, edrychwch ar y dystiolaeth i weld sut y mae'n mynd i'r afael o ddifrif â thlodi.

I gloi, hoffwn weld llawer o syniadau'n cael eu mabwysiadu i gefnogi pobl sydd mewn dyled. Ni allwn barhau fel hyn. Ac mae'r pandemig, fel rydym wedi'i weld a'i glywed, wedi rhoi hyd yn oed mwy o bobl yn y sefyllfa hon. Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn, rwyf eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn, a hoffwn gloi hefyd gyda gair am y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain, sydd, yn fy marn i, wedi rhoi mwy fyth o bobl mewn dyled drwy ddiddymu'r ychwanegiad o £20 i'r credyd cynhwysol. Cefnogwch y cynnig hwn os gwelwch yn dda. 

Diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru hefyd. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch i Jane Dodds am y geiriau yna rŵan.

Yn ei sylwadau agoriadol, dangosodd fy nghyd-Aelod, Sioned Williams, sut y mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu gwthio i dlodi a dyled. Mae'r gair 'gwthio' hwnnw'n bwysig, oherwydd yn rhy aml clywn rai gwleidyddion yn trafod tlodi fel pe bai'n ddewis, neu'n rhywbeth sy'n digwydd i bobl oherwydd eu gweithredoedd eu hunain. Ac er bod dyled yn broblem bersonol sy'n achosi gofid enfawr i'r unigolyn neu'r teulu sy'n wynebu caledi economaidd, credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod heddiw ei bod yn broblem gymdeithasol sy'n galw am weithredu gan bob un ohonom. I ormod o bobl sy'n byw yn ein cymunedau, nid yw'r dyfyniad a ddarllenodd Sioned am dlodi ar lefelau oes Fictoria yn gor-ddweud neu'n gor-ddramateiddio'r realiti. Ac yn gynyddol, gwelwn fwy o raniad, gyda mwy a mwy o bobl yn ei chael hi'n anodd sicrhau eu hawl ddynol sylfaenol i fwyd a chartref diogel a chynnes.

Nid yw pobl yn cael eu gwthio fwyfwy i ddyled am eu bod yn prynu pethau moethus. Mae'r bobl sydd wedi dod ataf am gymorth yn bobl sydd wedi gwneud popeth posibl i osgoi mynd i ddyled, ond maent wedi dioddef amgylchiadau y gallai unrhyw un ohonom ni eu hwynebu yn yr un modd, ac mae'r pandemig wedi gwneud hyn yn waeth.

Er ein bod, wrth gwrs, yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol tan ddiwedd mis Mawrth 2022 yn dilyn sylwadau a gyflwynwyd, nid yw hyn yn ddigon i ddatrys yr argyfwng dyled yng Nghymru. Dyna pam ein bod, fel rhan o'n cynnig, wedi argymell y dylid archwilio'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i atal dyledion.

Byddai mabwysiadu dull polisi blaengar o reoli dyledion yn gallu gwahardd cyrff cyhoeddus rhag mabwysiadu arferion sy'n cynyddu dyled. Er enghraifft, gellid ei gymhwyso'n dda i awdurdodau lleol a chasglu dyled y dreth gyngor. Wedi'r cyfan, ledled y DU ar hyn o bryd, gwelwyd cynnydd cyflym yng nghroniad dyledion y dreth gyngor, a dyna'r brif broblem ddyled y mae pobl yn cysylltu â'r ganolfan cyngor ar bopeth yn ei chylch. Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon, roedd bron i 1 o bob 20 o aelwydydd yng Nghymru ag ôl-ddyledion treth gyngor, ac ym mis Mawrth 2019, roedd dyledion treth gyngor aelwydydd yng Nghymru yn £94 miliwn, ffigur sy'n debygol o fod wedi codi yn ystod y pandemig.

Mae'r dreth gyngor hefyd yn cael ei hystyried yn ddyled flaenoriaethol, gan y gall cynghorau fynd ag unigolion i'r llys os byddant yn methu talu, gydag awdurdodau lleol yn aml yn defnyddio beilïaid i orfodi gorchmynion llys, sy'n gallu achosi straen a phryder sylweddol i'r rhai sydd mewn dyled. Ar ben hynny, gall colli hyd yn oed un taliad treth gyngor olygu bod yn rhaid i unigolyn dalu ei fil blynyddol llawn. Mae hyn, ochr yn ochr â ffioedd cyfreithiol a ffioedd beilïaid o bosibl, yn aml yn golygu bod pobl nad oeddent yn gallu talu eu bil treth gyngor ar y dechrau yn mynd i fwy o ddyled, fel y soniodd Mike Hedges yn ei ymyriad blaenorol yn rhan o'r ddadl hon. Ni ddylai ein cyrff cyhoeddus fod yn gyrru pobl i fwy o ddyled. Yn hytrach, dylem fod yn helpu i atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf, neu rhag iddi fynd yn amhosibl i'w rheoli. Yn y cynnig hwn felly, gofynnwn i Lywodraeth Cymru weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig ac archwilio sut i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus Cymru i leihau dyled.

Yn gynharach yr wythnos hon cyfarfûm â Samariaid Cymru, ac un o'r materion a drafodwyd gennym oedd sut y gall pryderon ariannol yrru rhai pobl i gyflawni hunanladdiad, fel yr adlewyrchir yn nifer y bobl sy'n ffonio'r Samariaid i siarad yn benodol am ddyled. Ac os oes unrhyw un allan yno'n cael trafferth gyda dyled heddiw, gadewch inni anfon neges glir nad ydych ar eich pen eich hunain ac mae cymorth ar gael, ac nad ydym ni yng Nghymru yn derbyn bod tlodi'n anochel nac yn dderbyniol. Gadewch inni uno i sicrhau bod mwy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng dyled aelwydydd a chefnogi'r cynnig hwn heddiw a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn y cymunedau a gynrychiolir gennym.

17:55

A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno â phopeth y mae Heledd Fychan newydd ei ddweud? Ac yn anffodus, rwy'n gobeithio na fyddaf yn ailadrodd unrhyw ran ohono yn ystod yr hyn a ddywedaf yma.

Credaf ei bod yn bwysig iawn inni feddwl am bobl sydd mewn dyled. Maent mewn dyled oherwydd eu bod yn dlawd. A gaf fi ymateb i Mark Isherwood? Nid yw dyled yn cael ei hachosi gan wariant anghyfrifol, nid yw'n cael ei achosi gan ddiffyg llythrennedd ariannol; mae'n cael ei achosi gan ddiffyg arian. Mae'n cael ei achosi gan filiau sy'n dod i mewn a'r anallu i'w talu. A'r broblem fwyaf sy'n gallu wynebu unrhyw un yw marwolaeth annisgwyl yn y teulu lle mae'n rhaid i bob aelod o'r teulu ddod at ei gilydd a chasglu arian, benthyg arian ym mha ffordd bynnag y gallant, er mwyn cael angladd syml. [Torri ar draws.]

A fyddech yn derbyn fy mod yn dyfynnu o adroddiadau pwyllgor yn y Senedd, a oedd yn drawsbleidiol, yn seiliedig ar ymchwil fanwl, ac yn nodi rhywfaint o arferion da ac yn gweithio gyda'r teuluoedd ar y pryd?

Rwy'n derbyn hynny; yr hyn rwy'n ei ddweud yw, yn fy marn i—a dim ond fy marn i ydyw, ond rwy'n cael fy nhalu i ddod yma i'w rhoi—nid yw'n cael ei achosi gan wariant anghyfrifol. Mae'r rhan fwyaf o bobl dlawd rwy'n eu hadnabod mewn dyled, caiff ei achosi gan fil annisgwyl. Mae'n digwydd. Ac angladdau yw'r pethau gwaethaf. Rwyf am sôn am achos rwy'n ymwybodol ohono. Felly, os wyf yn defnyddio gwryw a benyw yn yr achos hwn, mae hynny oherwydd y bobl rwy'n siarad amdanynt yn hytrach na dim i'w wneud â rhywedd. A bu farw chwaer-yng-nghyfraith rhywun yn annisgwyl. Roedd hi'n byw mewn tŷ cyngor yn Abertawe, felly ychydig iawn o arian oedd ganddi. Roedd ganddi blant y bu'n rhaid i weddill y teulu ofalu amdanynt, felly rhoddodd hynny bwysau ar weddill y teulu yn syth. Yn dilyn hynny, bu'n rhaid iddynt dalu am yr angladd, ac mae angladd sylfaenol yn eithriadol o ddrud, ac mae'n cael effaith wirioneddol. Bu'n rhaid i bedwar neu bump aelod o'r teulu ddod at ei gilydd, ond rydych yn sôn am £500, £600 yr un. Pan fo hynny'n cyfateb yn fras i'r hyn y mae'n rhaid ichi ei wario ar angenrheidiau bywyd mewn mis, mae'n achosi problemau aruthrol i chi.

A gaf fi ddweud bod gormod o bobl yng Nghymru, gan gynnwys llawer o fy etholwyr, yn byw mewn tlodi a dyled? Yn y 1990au, y ffordd allan o dlodi a dyled oedd cael swydd—syml. Mae gan lawer o bobl sy'n byw mewn tlodi yn awr, sy'n cronni dyled, un neu ddau aelod o'r teulu mewn gwaith ac sy'n dal i fod mewn dyled. Yr hyn y mae tlodi'n ei olygu yw bod pobl yn mynd yn llwglyd, tai heb wres digonol a phlant yn mynd heb bethau y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol. Rydym yn nesáu at y Nadolig, ac wrth i lawer baratoi ar gyfer yr ŵyl, mae llawer o bobl yma yn cynllunio ar gyfer eu plant a'u hwyrion, mae eraill lle na fydd llawer o anrhegion i'r plant, os o gwbl, nac unrhyw fwyd arbennig ar gyfer y Nadolig. Yn Abertawe, mae fy Aelod Seneddol, Carolyn Harris, yn codi arian i Mae Pawb yn Haeddu Nadolig, a byddaf yn casglu bwyd yn fy swyddfa leol ar gyfer y banciau bwyd lleol ac yn cyfrannu at apêl Mr X, sy'n rhoi anrheg Nadolig i blant na fyddent fel arall yn cael anrheg adeg y Nadolig. Mae hyn i gyd wedi'i waethygu gan y toriad creulon mewn credyd cynhwysol, sydd wedi gwneud pethau gymaint yn waeth i lawer o bobl dlawd. I rai pobl yma, mae £20 yn swm bach iawn o arian; i eraill, bydd yn talu am eu siopa am wythnos, ac yn gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddo i gadw eich pen uwchben y dŵr a methu ymdopi. Nid wyf am ddyfynnu Mr Micawber gan nad oes gennyf amser, ond mae'n mynd o 'bedwar ar bymtheg a chwech' i 'ugain a chwech', sy'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Ond pam fod pobl mewn dyled ac mewn tlodi, yn enwedig y rhai sy'n gweithio? Y rheswm am hynny yw eu bod yn gweithio o dan amodau nad oedd y rhan fwyaf ohonom erioed wedi meddwl y byddem yn eu gweld yn ystod ein hoes. Mae gennych gontractau dim oriau ac mae gennych y rhai gwaethaf sy'n gontractau gwarant isafswm wythnosol. Felly, mewn wythnos, byddwch yn sicr o weithio saith awr. Y rhan fwyaf o wythnosau, efallai y byddwch yn gweithio 30 neu 40 awr; rydych yn cadw eich pen uwchben y dŵr. Ond os ydych yn sâl, neu os oes gan y cwmni broblem, rydych yn mynd yn ôl i'ch saith awr, ac yn sydyn iawn, yn hytrach na chael £300, £400 am yr wythnos honno, byddwch yn cael £70. Nid yw'r biliau'n gostwng, felly beth allwch chi ei wneud? Rydych yn troi at fenthyca. A chredaf mai dyna un o'r problemau sydd gennym gyda dyled: mae pobl yn benthyca oherwydd bod eu hincwm wedi gostwng yn helaeth mewn un wythnos. Peidiwch â mynd yn sâl—dyna'r peth; os ydych ar gyflog isel, peidiwch â mynd yn sâl. Ni allwch fforddio bod yn sâl, ac mae'n ddigon posibl mai dyna sy'n achosi rhai o'r problemau gyda COVID. Oherwydd ni allwch fforddio bod yn sâl ac mae'n rhaid i chi weithio'r oriau hynny er mwyn cael eich talu. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddechrau sylweddoli pam fod pobl mewn dyled. Nid oherwydd eu bod yn gwario arian yn ofer nac oherwydd eu bod yn gwastraffu arian. Yn wir, os gofynnwch i berson tlawd faint o arian sydd ganddynt, byddant yn gallu dweud wrthych i'r geiniog agosaf. Pe bawn i'n gofyn i'r rhan fwyaf o bobl yma, mae'n debyg na allent ddweud wrthyf i'r £100 agosaf. Credaf mai dyna'r broblem sydd gennym mewn gwirionedd—llawer o bobl dlawd iawn, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld diswyddo ac ailgyflogi yn cael ei gyflwyno, i wneud pethau'n waeth. Mae angen inni dorri'r cylch, ond dim ond cyflogau uwch, oriau gwarantedig a swyddi priodol fydd yn tynnu pobl allan o'r cylch tlodi a dyled y mae llawer gormod o fy etholwyr a llawer gormod o bobl rwy'n eu hadnabod ynddo.

18:00

Er bod y pandemig wedi bod yn anodd i sawl rhan o'r gymdeithas, mae pobl hŷn wedi dioddef mwy na'r rhan fwyaf. Mae bygythiad cynyddol y coronafeirws i'w hiechyd wedi cynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd, gan effeithio'n drwm ar iechyd meddwl a chorfforol pobl hŷn. Mae'r cwymp economaidd hefyd wedi cael effaith fawr ar bobl hŷn. Ers dechrau'r pandemig, mae 24 y cant o weithwyr rhwng 60 a 64 oed wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, wedi colli oriau a/neu eu cyflog, ac wedi colli eu swyddi'n llwyr o bosibl. Pan fydd gweithwyr hŷn yn colli eu swydd, gwyddom eu bod yn aml yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith o'i gymharu â phobl iau. Mae'n realiti trist na fydd rhai rhwng 50 a 60 oed sy'n colli eu swyddi yn ystod y pandemig byth yn dod o hyd i swydd arall cyn cyrraedd oedran ymddeol y wladwriaeth o bosibl, gan gynyddu lefelau tlodi ar ôl ymddeol. Amcangyfrifir eisoes fod un o bob pump o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol—ffigur sydd wedi bod yn codi dros y blynyddoedd diwethaf ac a allai gynyddu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.

I waethygu pethau, nid yw credyd ar gael mor hawdd i bobl hŷn. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n gyfarwydd ag ef oherwydd fy mhrofiad ym maes bancio adwerthol. Caiff y rheolau eu llunio fel bod pobl hŷn yn aml yn methu cael benthyciadau y gallai fod eu hangen arnynt i dalu costau annisgwyl. O ganlyniad, mae llawer o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i fynd heb neu droi at fenthycwyr diegwyddor sydd â chyfraddau llog uchel.

Un o'r prif anfanteision i incwm aelwydydd a fydd yn taro pobl hŷn yn anghymesur yw'r codiadau eithafol mewn biliau cyfleustodau. Rhwng mis Ionawr a mis Hydref, cododd prisiau nwy yn y DU 250 y cant, yn ôl y grŵp diwydiant Oil and Gas UK. Mae methiant Llywodraeth Dorïaidd San Steffan i adeiladu capasiti dros ben a chynlluniau wrth gefn ar gyfer cynnydd sydyn ym mhrisiau nwy cyfanwerthol wedi achosi anhrefn yn y farchnad ynni. Mae wedi gwneud pobl yn agored i effeithiau gwaethaf y farchnad. Yn gyffredinol, mae angen pobl hŷn am gynhesrwydd yn fwy yn ystod y gaeaf, o'i gymharu â phobl iau, sy'n golygu y bydd prisiau ynni'n cael mwy o effaith ar gyllideb yr aelwyd. Credir bod 67,000 o aelwydydd hŷn yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Gwyddom fod byw mewn cartrefi oer, llaith yn niweidiol i iechyd unrhyw un. Mae hyn yn bryder arbennig i bobl hŷn wrth i'r gaeaf nesáu ac yn sgil canfod amrywiolyn COVID newydd. Rhaid inni sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn mynd heb wres, oherwydd bydd yn cynyddu eu risg o gael clefydau anadlol a chlefydau'r galon a chylchrediad y gwaed.

Hoffwn i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU a chyflenwyr ynni i sefydlu llinell sylfaen o gymorth ar gyfer cwsmeriaid sydd â dyledion. Dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi hefyd mewn ymgyrch proffil uchel i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn. Yn 2018-19, roedd cyfanswm y credyd pensiwn na chafodd ei hawlio yn £214 miliwn. Ar wahân i'r arian ychwanegol, mae hawlio'r credydau hyn yn datgloi amrywiaeth o hawliau eraill, megis gostyngiadau'r dreth gyngor, gofal deintyddol am ddim a chymorth gyda chostau tai. Pe gallai'r Llywodraeth wneud hyn, gallai wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl hŷn. Diolch yn fawr.

18:05

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol nawr i gyfrannu i'r ddadl—Jane Hutt.

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n tynnu sylw at y lefelau cynyddol o ddyled aelwydydd yng Nghymru a amlinellwyd gan siaradwyr heddiw, a hefyd y camau rydym yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i liniaru peth o'r caledi difrifol sy'n wynebu pobl. Ac rwyf hefyd yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddyled a'r pandemig. Edrychaf ymlaen at ymateb i'r argymhellion, a byddaf yn eu hystyried yn ofalus.

Mae tystiolaeth i'r pwyllgor wedi dangos y canlyniadau i bobl sy'n cael trafferth gyda dyledion problemus, a dengys tystiolaeth yr effeithiau poenus a hirhoedlog hynny, fel y mae Sioned Williams a Jane Dodds, aelodau o'r pwyllgor, wedi'u nodi ac wedi clywed amdanynt yn y dystiolaeth honno. Mae aelwydydd o dan bwysau ariannol digynsail o ganlyniad i'r pandemig, ond hefyd yn sgil y ffaith ein bod wedi gadael yr UE, costau byw, tanwydd a bwyd cynyddol, a thoriadau i gymorth lles. Fel y clywsom heddiw, mae'r storm berffaith hon—y storm berffaith hon o gostau cynyddol ac effeithiau andwyol—yn gwthio llawer mwy o aelwydydd mwy agored i niwed i mewn i dlodi, fel y disgrifiodd Mike Hedges.

Rwy'n cytuno ag asesiad Sefydliad Bevan y bydd lefelau dyled ledled Cymru yn cynyddu yn ystod y misoedd nesaf, yn anffodus. Gwyddom y bydd hyn yn cynnwys dyled i gredydwyr sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Roeddem yn croesawu'r amddiffyniadau cyfreithiol rhag camau gorfodi mewn perthynas â dyledion ac amynedd credydwyr sydd wedi lleddfu'r baich ariannol ar lawer o aelwydydd ledled Cymru yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, fel y dengys Sefydliad Bevan yn eu hadroddiad, ni allwn osgoi'r realiti fod pobl Cymru wedi'u gadael i ysgwyddo dyledion problemus gan fod yr amddiffyniadau cyfreithiol, trugaredd credydwyr a'r cynnydd o £20 yr wythnos yn y credyd cynhwysol wedi dod i ben bellach.

Mae'r rhan fwyaf o'r pwerau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yn nwylo Llywodraeth y DU, ond byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth Cymru i helpu teuluoedd drwy'r gaeaf hwn. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r heriau digynsail hyn, rydym yn sicrhau bod £51 miliwn ar gael i ddatblygu ein cronfa gymorth i aelwydydd bwrpasol ein hunain i helpu teuluoedd sy'n wynebu'r argyfwng costau byw i dalu eu biliau y gaeaf hwn. Bydd y gronfa gymorth i aelwydydd yn helpu i liniaru penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri'r achubiaeth credyd cynhwysol o £20 i ddegau o filoedd o deuluoedd, er gwaethaf y galwadau eang i atal y toriad hwnnw, fel y gwelwyd yma eto heddiw.

Rwyf am siarad am y gronfa gymorth i aelwydydd oherwydd bydd y cam cyntaf yn rhoi cymorth ychwanegol i deuluoedd dalu eu biliau ynni dros y gaeaf, ac yn rhoi arian ychwanegol i fanciau bwyd a chynlluniau bwyd cymunedol. Bydd mwy na £38 miliwn ar gael drwy gynllun cymorth tanwydd gaeaf, fel y clywsom heddiw, ar gyfer aelwydydd sy'n cael budd-daliadau oedran gweithio sy'n seiliedig ar brawf modd. Mae'n bwysig rhannu'r wybodaeth: bydd y cynllun yn agor ar gyfer ceisiadau ar 13 Rhagfyr a bydd aelwydydd cymwys yn gallu hawlio taliad arian parod untro o £100.

Ac mae'n bwysig cydnabod na allwn fynd i'r afael â'r holl fesurau cyni a roddwyd ar waith gan Lywodraeth y DU. Ein huchelgais drwy'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yw cefnogi'r aelwydydd a ddioddefodd ergyd i'w hincwm pan ddaeth Llywodraeth y DU â'u taliad ychwanegol o £20 ar eu credyd cynhwysol neu eu credyd treth gwaith i ben. Felly, rydym yn awyddus i gefnogi aelwydydd sy'n cael un o'r budd-daliadau newydd yn lle enillion ar sail prawf modd y gwrthododd Llywodraeth y DU eu cynyddu. Ond nid ydym o dan unrhyw gamargraff, ni all hyn ddigolledu'r aelwydydd a gollodd dros £1,000 y flwyddyn pan wnaed y toriad—y toriad credyd cynhwysol—yn ddiangen ac yn greulon. Ond hefyd, rhaid inni edrych ar y cyfleoedd sydd gennym mewn perthynas â'r taliad. Bydd yn helpu cwsmeriaid ynni cymwys, ni waeth a ydynt yn talu am eu tanwydd ar ffurf rhagdaliad neu drwy fesurydd credyd. Mae ymgyrch i sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio ar y taliad yn cael ei hyrwyddo a'i rhedeg gan asiantaethau sy'n darparu cyngor ac awdurdodau lleol.

Ond fel rhan o'r cynllun tlodi tanwydd ar gyfer 2021-35, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i baratoi a chyhoeddi cynllun gwrthsefyll tywydd oer. A diolch am godi'r angen inni sicrhau bod y cynllun hwnnw'n cael ei ddatblygu. Gallaf ddweud wrthych fy mod yn falch iawn o ymateb i Mark Isherwood y prynhawn yma i ddweud bod y cynllun yn nodi camau gweithredu allweddol y gallwn eu gweithredu sy'n sicrhau effaith uniongyrchol i rai mewn angen. Mae'n cynnwys hyrwyddo a darparu taliadau cymorth brys a pharhau i osod mesurau effeithlonrwydd ynni domestig. Ac rydym i fod i gyhoeddi'r cynllun ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd, y gwn y byddwch yn gwybod ei fod yn digwydd yr wythnos hon, ar 3 Rhagfyr. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu'r newyddion hwnnw heddiw. 

Yn ogystal, dros y degawd diwethaf, buddsoddwyd dros £394 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd, sydd o fudd i fwy na 67,100 o aelwydydd incwm is. Ac mae'r gwelliannau hyn yn torri dros £300 y flwyddyn ar gyfartaledd oddi ar filiau ynni aelwydydd incwm is. Yn ogystal â chefnogi teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau tanwydd, bydd y gronfa gymorth i aelwydydd yn darparu mwy na £1.1 miliwn i gefnogi a chryfhau banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol. A bydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd ac yn darparu ystod ehangach o wasanaethau i helpu pobl a theuluoedd i wneud y gorau o'u hincwm.

Ochr yn ochr â chamau i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd, rydym yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd drwy ein hymrwymiad i'r cyflog cymdeithasol a gweithgarwch wedi'i dargedu i sicrhau'r incwm mwyaf posibl ac adeiladu cydnerthedd ariannol. Gwnaethom fuddsoddi £14.9 miliwn ychwanegol yn y gronfa cymorth dewisol i gefnogi'r galw cynyddol ar y gronfa yn ystod 2021, gan ddarparu'r taliadau caledi hynny i rai sy'n profi argyfwng ariannol. Mae'r gronfa cymorth dewisol yn gweithio gyda Cyngor ar Bopeth i gyfeirio pobl sydd wedi defnyddio'r gronfa at gyngor a chymorth ehangach i fynd i'r afael â'u hanghenion ariannol sylfaenol, gan gynnwys cael cyngor arbenigol ar ddyled.

Ac mae'n bwysig ein bod yn helpu pobl yng Nghymru i hawlio'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Felly, nod ein hail ymgyrch genedlaethol 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yw codi ymwybyddiaeth pobl o'u hawliau, eu hannog i geisio cyngor—a Peredur, rwy'n cytuno ynglŷn â chredyd pensiwn; mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'—a helpu pobl i lywio drwy'r system budd-daliadau lles i gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, eu hawliau. Mae ein hymrwymiad hirsefydlog i gefnogi gwasanaethau cynghori yn sicrhau y gall pobl ledled Cymru gael cyngor diduedd am ddim ar ddyled a nawdd cymdeithasol. A chafodd 18,000 o bobl gyngor dyled a chael eu helpu i reoli dyledion o dros £8 miliwn o ganlyniad i wasanaethau ein cronfa gynghori sengl. Cynorthwywyd pobl sy'n derbyn cyngor ar eu hawliau i fudd-daliadau lles i gael incwm ychwanegol a oedd yn werth cyfanswm o £43 miliwn. 

Felly, i gloi, rhaid imi ddweud ein bod yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y ddadl bwysig hon heddiw, gan gynnwys y rhai sy'n ei chael yn anodd talu eu biliau treth gyngor. Yn amlwg, Heledd Fychan, mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol. Mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn hollbwysig, a hefyd ein cynllun i wneud y gorau o incwm er mwyn codi plant allan o dlodi. 

Felly, fy mhwynt olaf yw fy mod yn edrych ymlaen at ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a'u hargymhellion. Mae hwn yn gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth—gweithio gyda fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru, gweithio o ganlyniad i'n cytundeb cydweithio wrth inni fynd ati i weithio gyda'n gilydd i drechu tlodi, gan ymgysylltu â Llywodraeth y DU, cyflwyno sylwadau a gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â dyled aelwydydd yng Nghymru. Diolch.

18:15

Diolch, Lywydd, a diolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl amserol hon. Mae'n sicr yn foesol anghywir i unrhyw un fod mewn dyled yn syml o ganlyniad i geisio goroesi, oherwydd dyna'r hyn rydym yn sôn amdano yma: teuluoedd sy'n ei chael yn anodd fforddio costau sylfaenol, rhent, neu dreth gyngor i gadw to uwch eu pennau, a biliau nwy a thrydan i'w cadw'n gynnes ac wedi'u bwydo. Mae Sioned Williams wedi sôn am y tlodi ar lefel oes Fictoria sy'n wynebu llawer o deuluoedd. Nid y darlun o Scrooge yn ei dŷ cyfrif sydd gennym mwyach, ond y cwmni modern crand gyda gwefannau deniadol a chyfraddau llog usuriaidd. Siaradodd Mark Isherwood am wella gallu ariannol; gwn fod llythrennedd a gallu ariannol yn rhywbeth y mae Cyngor ar Bopeth wedi gweithio arno ers blynyddoedd lawer. Nid wyf yn credu y bydd yn ateb yr holl faterion rydym wedi'u codi, ond rwy'n cytuno bod hyn yn haeddu mwy o gefnogaeth. Siaradodd Jane Dodds am faich seicolegol dyled, pwysau dyled ar ysgwyddau teuluoedd—ie, yn wir.

Soniodd Heledd Fychan am y ffaith bod tlodi yn broblem i'n cymdeithas gyfan ac am y broblem o ddyledion treth cyngor a'r straen sy'n digwydd pan fydd bailiffs yn mynd at dai pobl.

Soniodd Mike Hedges am lawer o'r themâu hyn, a sut y gall hyd yn oed angladdau syml wthio pobl i ddyled—yr argyfyngau annisgwyl sy'n fwrn arnom. Nid o wario ofer y daw dyled, meddai. Rwy'n cytuno'n llwyr.

Soniodd Peredur Owen Griffiths am yr effaith mae'r pandemig a thlodi yn cael ar bobl hŷn, effaith y cynnydd mewn biliau ynni.

Soniodd hefyd sut y caiff credyd ei wrthod yn aml i bobl hŷn a sut, mewn gwirionedd, y gall pobl, oherwydd eu hamgylchiadau, gael eu heffeithio hyd yn oed yn waeth. Diolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad a'i gwybodaeth ddiweddaraf am rai o'r ffyrdd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu ar hyn. Rwy'n croesawu'r newyddion am yr ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Byddai'n well gennyf weld budd-daliadau'n cael eu talu'n awtomatig, ond rwy'n croesawu'r newyddion fod mwy o hysbysrwydd i bobl ynglŷn â'r hyn y mae ganddynt hawl i'w hawlio. Un o'r pwyntiau cryfaf sydd wedi codi dro ar ôl tro yn y ddadl hon, rwy'n meddwl, yw sut y gall amgylchiadau wthio unrhyw un i ddyled. Mae COVID a biliau cynyddol wedi gwneud dyledion pobl yn fwy difrifol, ond roedd aelwydydd ledled Cymru eisoes yn ymladd yn ddyddiol i allu fforddio cadw'r gwres ymlaen, gan dorri'n ôl ar y peth hwn, mynd heb y peth arall; pobl yn ei chael hi'n anodd gwario digon, nid ar ormodedd, ond ar ddim ond bodoli.

Yn The Sun Also Rises gan Hemingway, mae dau gymeriad yn sôn am fethdaliad ac mae un ohonynt yn gofyn i'r llall, 'Sut aethoch chi'n fethdalwr?' Mae'r llall yn ateb ei fod wedi digwydd mewn dwy ffordd: yn raddol, yna'n sydyn. Ac rwy'n credu bod hynny, Lywydd, yn crynhoi arswyd unrhyw ddyled: proses sydd wedi bod ar fin digwydd cyhyd, ac yna mae rhywbeth yn ei wthio dros yr ymyl—yr argyfwng annisgwyl, esgidiau newydd, siec gyflog nad yw'n cyrraedd, angladd. Ac yn y ddadl hon am ddyled, rydym wedi sôn am y pethau sydyn, onid ydym? Yr argyfwng biliau ynni a'r panig enfawr a achosodd; y pandemig sydd wedi creu trafferthion ym mhob agwedd ar fywyd, bron iawn; y toriad creulon i gredyd cynhwysol; gwthiodd pob un o'r pethau sydyn hyn fwy o bobl i dlodi. Ond mae pethau graddol hefyd yn achosi tlodi: yr elfennau parhaus, ysgeler sy'n cadw pobl ar ymyl y dibyn i ddistryw bob dydd; y farchnad ynni sydd gennym sy'n trosglwyddo elw di-risg i gyfranddalwyr ac yn gwthio prisiau i fyny i'r bobl sydd angen eu cynnyrch er mwyn gallu byw; y system fenthyca sy'n caniatáu i fanciau fenthyca i'w gilydd ar gyfraddau llog negyddol bron, ond sy'n gorfodi'r fam ofidus i dalu drwy ei thrwyn; systemau sy'n sicrhau i bob pwrpas fod yn rhaid cael collwyr. Mae economegwyr libertaraidd yn honni y bydd y farchnad bob amser yn darparu, ond nid ydynt yn manylu ar yr hyn y byddant yn ei ddarparu. I deuluoedd ar y gwaelod, ni all y farchnad rydd ddilyffethair ddarparu dim heblaw dioddefaint, a byw gyda'r ansicrwydd hwn, y bygythiad cyson o dlodi, sy'n llesteirio. Mae'n creu trawma cyson. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi canfod bod gan un o bob dau oedolyn sydd mewn dyled broblem iechyd meddwl, boed hynny wedi'i ysgogi gan euogrwydd, arwahanrwydd, pryder, anobaith. Canfu ymchwil yn 2018 fod pobl sy'n profi dyledion problemus dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi ystyried cyflawni hunanladdiad.

Lywydd, mae strwythurau ein cymdeithas yn caniatáu i hyn barhau. Maent yn cynnwys y boen a'r anobaith yn y pris—yn raddol, yna'n sydyn. Arferai Adam Smith sôn am law anweledig y farchnad, ond fel rwy'n gobeithio bod y ddadl hon wedi dangos, i'r tlawd yn ein cymuned, mae'r llaw anweledig honno'n ddwrn llawer rhy weladwy sy'n eu gwasgu'n ddyfnach i anobaith a chyni. Ni ddylai neb fod mewn dyled am eu bod yn ei chael hi'n anodd goroesi. Ac rwyf am orffen gyda chymal olaf ein cynnig: yr angen i gyflwyno mesurau a fyddai'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i atal dyled. Oherwydd nid yw rheoli dyled pan fydd wedi digwydd yn cael gwared ar drawma neu drasiedi. Cefnogi pobl gydag urddas a pharch ac atal y niwed hwnnw rhag digwydd—dyna sut y dylai cymdeithas wâr weithredu, ac mae'n gynnig ac yn egwyddor rwy'n ei gymeradwyo i'r Siambr. 

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Sy'n golygu ein bod ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond fe fydd angen inni gymryd toriad byr i baratoi yn dechnegol ar gyfer y bleidlais honno. Felly, gwnawn ni gymryd y toriad nawr, a fe fyddwn ni nôl i bleidleisio whap. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:21.

18:25

Ailymgynullodd y Senedd am 18:27, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl Aelodau ar ddeiagnosis a thriniaeth canser. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Pawb wedi pleidleisio, felly. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 15 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Diagnosis a thriniaeth canser: O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr ar fusnesau bach. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf—gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 54, neb yn erbyn, neb yn ymatal. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.

18:30

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 54, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7854 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod dydd Sadwrn busnesau bach sy'n hyrwyddo busnesau bach Cymru.

2. Yn credu mai busnesau bach yw calonnau'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a'u bod yn rhan hanfodol o economi Cymru.

3. Yn annog cymunedau i siopa'n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu, gan greu swyddi i bobl leol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau mewn polisi caffael ar draws y sector cyhoeddus, sy'n seiliedig ar egwyddor lleol yn gyntaf, a fydd yn cynyddu’r lefel caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o'r lefel bresennol o 52 y cant, gan eu helpu i wella o bandemig COVID-19.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn wedi ei ddiwygio.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 54, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dadl y Ceidwadwyr Cymraeg sydd nesaf, ar glefyd niwronau motor. Dwi'n galw am bleidlais felly ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Clefyd niwronau motor. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 41, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Ac felly does yna ddim rhagor o bleidleisiau ar yr eitem yna. Dadl Plaid Cymru sydd nesaf.

A gallwn symud at y ddadl hon a gallaf weld—. Nid at y ddadl; at y bleidlais. Gallaf weld llygaid Huw Irranca-Davies yn symud, felly rwy'n cymryd ei fod wedi ailgysylltu â Zoom, ac—[Torri ar draws.] Rydych chi'n ôl yn yr ystafell Zoom. Fe symudwn ymlaen at y bleidlais felly ar—

—dadl Plaid Cymru ar ddyled aelwydydd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Etem 8. Dadl PLaid Cymru - Dyled aelwydydd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Creu Cymru gerddorol ar gyfer yr 21ain ganrif: Mynediad, llesiant a chyfle

Yr eitem nesaf felly fydd y ddadl fer. Ac os gwnaiff Aelodau sy'n gadael adael yn dawel, fe fyddaf i'n galw Rhianon Passmore i wneud ei chyfraniad.

Rhianon Passmore i gyflwyno ei dadl fer. Ac fe wnawn ganiatáu i Aelodau adael yn dawel. Rhianon Passmore.

Diolch, Lywydd. Byddaf yn rhoi munud o fy amser i'r cyd-Aelodau canlynol o'r Senedd: Carolyn Thomas, Peredur Owen Griffiths, Delyth Jewell, Sam Rowlands a Mike Hedges. Rwy'n croesawu cyfraniadau Aelodau trawsbleidiol y Senedd yn y ddadl bwysig hon heddiw yn fawr. Diolch yn fawr i chi i gyd.

Rwy'n codi yn Siambr y Senedd hon yng Nghymru i alw am yr angen dybryd i gynnal Cymru gerddorol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gan ddarparu mynediad i bawb, sicrhau lles a chreu cyfleoedd. Ers y tro cyntaf imi sefyll yn y Siambr yn 2016, rwyf wedi ceisio pwysleisio, o'r Senedd hon yng Nghymru, fod cerddoriaeth yn cyfrannu'n enfawr at bwy ydym ni fel pobl a'r hyn ydym ni fel cenedl. Ac roeddwn yn hynod ddiolchgar fod y blaid Lafur Gymreig wedi ymrwymo yn ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021 i greu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a chynllun strategaeth. Rwyf wedi bod yn falch o hyrwyddo hyn ers fy niwrnod cyntaf fel yr Aelod o'r Senedd dros Islwyn.

18:35

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rwy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar gerddoriaeth ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol ddiffuant ar draws y Siambr ar y mater hollbwysig hwn. Ddydd Sadwrn diwethaf, cefais y fraint o gymryd rhan yng nghynhadledd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion lle cynrychiolais y Senedd i drafod addysg cerddoriaeth ar draws y gwledydd datganoledig. Yn wir, mae gennym enw rhyngwladol fel gwlad y beirdd a'r bandiau pres, corau a chymdeithasau corawl, gwlad y gân, hen a newydd, amrywiol a thraddodiadol, ac wedi'i wreiddio'n gryf yn niwylliant y dosbarth gweithiol ac eisteddfodau.

Mae parch i Gymru'n fyd-eang oherwydd rhagoriaeth ein sefydliadau cenedlaethol, megis Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ac rydym yn falch iawn o'n hartistiaid, megis y Fonesig Shirley Bassey, Syr Tom Jones, y Manics, y Stereophonics, Katherine Jenkins, Catrin Finch, Claire Jones a'r brodyr Watkins talentog o Islwyn, a Syr Bryn Terfel wrth gwrs, a'n mawrion o blith yr arweinyddion a'r cyfansoddwyr sydd i'w clywed ar draws yr awyr yn fyd-eang—Syr Karl Jenkins ac Owain Arwel Hughes CBE, i nodi dim ond rhai. 

Ond yn awr, mae'n bryd i ni i gyd ymatal rhag hunanfodlonrwydd. Y realiti yn 2021 yng Nghymru yw nad yw plant a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn cael mynediad at gyfleoedd cerddorol a oedd ar gael iddynt ar un adeg. Yn waeth na hynny, yn ôl ein prif sefydliadau a'n mudiadau cerddorol, nid yw disgyblion tlotach yn manteisio ar gyfleoedd cerddorol ac felly y sgiliau angenrheidiol i gyfranogi a chamu ymlaen. Mae hyn yn amlwg yn anghywir. Dylai cerddoriaeth yng Nghymru fod yn hawl i bawb, yn sicr i'n plant a'n pobl ifanc ac yn sicr ni ddylai fod yn ddibynnol ar allu eich teulu i dalu.

Yn anffodus, er gwaethaf amddiffyniadau cyllidol Llywodraeth Cymru, mae cyni wedi taro'r tlotaf oll yn galetach na neb. Rwy'n dadlau bod amddifadu plentyn o fynediad at lwybr addysgol yn gyfystyr ag allgáu diwylliannol ac allgáu economaidd. Mae diflaniad tawel ein gwasanaethau addysgu cerddoriaeth ynddo'i hun yn ddiddymiad tawel. Mae peiriannau meithrin sgiliau offerynnol a thalent ac ymarfer a chynnydd ledled Cymru wedi diflannu i'r nos i raddau helaeth. Er gwaethaf mesurau lliniarol ystyrlon Llywodraeth Cymru, mae mynediad at wersi offerynnol a lleisiol i fyfyrwyr yn gynyddol fynd yn hawl i'r cyfoethog. Dyma'r realiti. Ond y rheswm pam fod Cymru'n gwneud yn well nag y byddai disgwyl iddi ei wneud ym myd creu cerddoriaeth ryngwladol a datblygu talent yw oherwydd yr union wasanaethau hyn nad ydynt bellach yn eu lle yn strategol ac sydd bellach yn cael eu gadael fwyfwy ar gyfer y farchnad.

Ddirprwy Weinidog, rwy'n dadlau mai'r hyn sy'n ein gwneud yn Gymry heddiw yn rhannol yw ehangder a dyfnder ac amrywiaeth y doniau creadigol sydd gennym yng Nghymru a'r cyfraniad y mae cerddoriaeth yn ei wneud i'n sylfaen economaidd yng Nghymru. Mae ei chyfraniadau'n helaeth. Mae cerddoriaeth yn rhan o'n hunaniaeth ddiwylliannol a'n brand Cymru. Mae'n ein gwneud yn gryf ac yn fywiog yn ein hamrywiaeth ac mae'n cyfrannu at ein lles sylfaenol a'n hymdeimlad o hunan. Dros y cyfyngiadau symud, arweiniodd yr ymdeimlad o golled wirioneddol ymhlith corau a bandiau cymunedol at lai o lesiant. A gwelwyd bod hyn yn cyfrannu at iechyd meddwl gwaeth pob grŵp oedran ar draws ein cymunedau a'n lleoliadau addysgol.

Ddirprwy Weinidog, croesawais y cyfle i gomisiynu adroddiad 'Gwlad y Gân' gan yr Athro Paul Carr, a'r gwahanol adroddiadau pwysig a thrawiadol gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Felly, beth yw'r atebion? Dywedodd rhywun wrthyf unwaith nad oes unrhyw broblemau, dim ond atebion. Ac mae gennym yr atebion, yr ewyllys, y modd a'r cyllid. Ddirprwy Lywydd, ar wahanol adegau, rwyf wedi sefyll yn y Siambr hon ac wedi croesawu'n gadarnhaol y mentrau amrywiol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ceisio datrys y sefyllfa. Nawr, heddiw, yn y Siambr, rwy'n nodi bod y sector yn disgwyl gweld gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a chynllun strategaeth newydd yn cael eu cyhoeddi'n gyflym a'u gweithredu'n sydyn. Rwy'n croesawu'r cydweithio strategol a'r cydweithrediad y bu galw amdano ers amser maith rhwng ein sefydliadau celfyddydol mawr a ariennir a chwricwlwm newydd cyffrous Donaldson a meysydd dysgu'r celfyddydau mynegiannol o fewn y cynllun.

Mae addewid maniffesto'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol newydd i Gymru yn ceisio datrys mater y model ariannu yn radical ac mae'n darparu cynnig ansoddol a blaengar a theg ledled Cymru. Rwy'n ddiolchgar fod y grŵp rhanddeiliaid addysg cerddoriaeth wedi cyfarfod yn rheolaidd ers mis Ionawr 2021. Weinidog, fel y nodais yn y Siambr yr wythnos diwethaf, mae cwestiynau pwysig y mae angen mynd i'r afael â hwy. Sef, pryd y caiff y cynllun strategaeth ei gyhoeddi? Pryd y caiff y gwasanaeth newydd ei gyflwyno? Sut yr ariennir y gwasanaeth? Ac yn hollbwysig, a allwch chi fy sicrhau i a llawer o rai eraill heddiw y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu'n briodol? Ein dyletswydd ni yn y lle hwn yw diogelu popeth sydd gennym i'w golli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a'r presennol. A chydag effeithiau COVID ar lesiant yn dal i gael eu dioddef yn helaeth, rhaid inni weithio'n gydweithredol ar draws y Llywodraeth i ariannu agenda draws-bortffolio, sy'n hanfodol i'r Gymru rydym am ei gweld: Cymru decach, wyrddach ac iachach, un sy'n chwarae cerddoriaeth ar y llwyfan byd-eang; Cymru greadigol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Diolch.

18:40

Mae gwasanaethau a gwersi cerddoriaeth yng Nghymru a ddarperir gan awdurdodau wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol o un flwyddyn i'r llall gan fesurau cyni a thoriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus. Gwelais hyn fel cynghorydd a rhiant yn sir y Fflint y cymerodd ei mab ran mewn gwasanaeth cerddoriaeth. Ar ôl mynychu cyngerdd, gofynnais i fy mhlant a oedd yn ifanc ar y pryd a fyddent yn dysgu offeryn drwy'r ysgol. Roedd yn rhad ac am ddim ac roeddwn yn meddwl y byddai'n dda iddynt roi cynnig arni. Daeth fy mab â thrombôn adref gydag ef ac aeth ymlaen i weithio ei ffordd drwy'r holl raddau hyd at radd wyth. Ond o un flwyddyn i'r llall, wrth i'r toriadau i gyllid y cyngor gynyddu, cynyddodd y swm y byddem yn ei dalu. Roedd yn frwydr ariannol enfawr i barhau. Roedd teuluoedd yn codi arian er mwyn dal ati a rhoddodd pobl y gorau iddi. Roedd dros 2,500 o blant yn cymryd rhan 10 mlynedd yn ôl, a dim ond ychydig gannoedd sy'n gwneud hynny bellach. Collwyd cyfleoedd. Gadawyd talent heb ei chanfod, heb ei harchwilio. Mae gan bob plentyn, pob person, sgil, talent; efallai nad yw'n seiliedig ar y cwricwlwm craidd, ond dylai pob plentyn gael cyfle i ragori a darganfod eu talent, sydd wedyn yn eu helpu i ddatgloi doniau eraill. Mae dysgu cerddoriaeth fel dysgu iaith newydd, ac am y rhesymau hyn rwyf mor falch fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, ac edrychaf ymlaen at weld y manteision a ddaw yn ei sgil i blant ledled Cymru. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Rhianon am roi munud o'i hamser i mi yn y ddadl bwysig hon heno. Cefais fy atgoffa o rym cerddoriaeth yn ystod cyngerdd a swper i ddathlu 50 mlynedd ers ffurfio band tref Abertyleri ychydig wythnosau yn ôl. Roedd y cyngerdd yn wych ac roedd llawer o bobl yn eu dagrau. Yn y cinio wedyn clywyd llawer yn tystio'n bwerus i'r modd roedd y band wedi dod â cherddoriaeth i fywydau pobl ac wedi rhoi cyfleoedd iddynt na fyddent wedi'u cael fel arall. Rwy'n falch o ddweud bod y dyfodol yn edrych yn addawol i'r band gan eu bod wedi sicrhau grant yn ddiweddar i gyflwyno rhaglen gerddoriaeth allgymorth i ysgolion lleol.

Ar ôl y noson wych honno, bûm yn myfyrio ar y ffordd y mae cerddoriaeth wedi effeithio ar fy mywyd. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael dysgu'r ffidil yn yr ysgol. Er nad oeddwn yn gwneud llawer o ymarfer, roedd yn wych gallu gwneud hynny. Ond dechreuodd fy nghariad gydol oes at gerddoriaeth gorawl gyda chorau ysgol, gan symud ymlaen at gorau cymysg, gan gynnwys Côr Rhuthun, Côr Godre'r Garth a Chôr CF1. Y camaraderie, y ddisgyblaeth a'r llawenydd—mae hyn wedi fy ngalluogi i deithio i bob cwr o'r byd i ganu mewn adeiladau gwych a chystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol. Rwyf hyd yn oed wedi rhannu llwyfan gyda Take That yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae cerddoriaeth bob amser wedi bod yn hygyrch i mi wrth i mi dyfu i fyny. Dylai bob amser fod yn hygyrch i blant o bob cefndir, ni waeth beth fo'u cefndir teuluol neu eu hincwm. Dyna'r neges rwyf am ei chyflwyno yn ystod y ddadl fer heno. Diolch yn fawr, Rhianon, ac rwy'n ei hannog yn ei hymdrechion i'r perwyl hwn. Diolch yn fawr.

Diolch, Rhianon, rwyf mor falch eich bod wedi sôn am y brodyr Watkins talentog; mae eu rhieni'n ffrindiau annwyl i'r teulu. Gall cerddoriaeth newid bywydau pobl. Cawn hynny o'r ddadl fer hon hyd yn oed. Yn anffodus, mae cerddoriaeth Safon Uwch yn cael ei chynnig yn rhy anaml mewn ysgolion erbyn hyn, ond mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol o'r rhagolygon gyrfa cyffrous sy'n bodoli i offerynwyr, cantorion ac athrawon talentog. Nawr, rwy'n rhagfarnllyd oherwydd roedd fy mam yn athrawes ffidl beripatetig dros ei holl fywyd gwaith, felly rwy'n tynnu ar rai o'r profiadau hynny yn yr hyn rwy'n ei ddweud. Er mwyn i gerddoriaeth ffynnu mewn ysgolion, mae angen rhoi mwy o hygrededd i wasanaethau offerynnol peripatetig. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd yna wasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, yn hytrach na'i drin fel rhywbeth ychwanegol dewisol. Dylid rhoi adnoddau priodol i athrawon cerddoriaeth, lleoedd i addysgu sy'n addas yn lle ystafelloedd ochr sy'n gollwng, oherwydd mae cerddoriaeth, wedi'r cyfan, bob amser yn flaenllaw mewn gwasanaethau ysgol, eisteddfodau, cyngherddau Nadolig, ac mae'r rhain yn rhoi mwynhad i ddisgyblion, i rieni, i'r gymuned gyfan. Yn rhy aml, ystyrir bod cerddoriaeth yn llai pwysig fel pwnc, ac rwy'n anghytuno'n llwyr â'r syniad hwnnw. Fel rhywun sydd wedi cael y fraint o gael gwersi piano a chanu, mae'n fy nhristáu i feddwl bod hynny'n fraint; dylai fod ar gael i bawb, ac rwy'n cymeradwyo'r hyn y mae Rhianon yn ei wneud.

18:45

Diolch, Rhianon Passmore, am ganiatáu imi siarad yn eich dadl fer heddiw. Rwy'n ymddiheuro os af ychydig dros funud, ond fe wnaf fy ngorau, oherwydd mae cerddoriaeth i mi yn wirioneddol bwysig. Rwy'n cofio mai'r offeryn cyntaf y dysgais ei chwarae oedd y recorder, o bob peth, gyda fy mam yn fy nysgu sut i chwarae'r recorder. Yna, symudais ymlaen at y clarinét wrth i mi ddod yn fwy medrus wrth chwarae'r recorder. Gwneuthum fy arholiadau TGAU ar y drymiau, o bob peth, ac yna, fy ngherddoriaeth Safon Uwch ar y gitâr. Rwyf wedi dwli ar gerddoriaeth ar hyd fy oes, ac roeddwn yn falch iawn o allu siarad am hyn mor gryno ag y gallaf. 

Yn amlwg, mae pwysigrwydd cerddoriaeth i'n diwylliant yn hysbys, ond hefyd, pwysigrwydd cerddoriaeth i les meddyliol yw'r hyn rwyf am dynnu sylw ato heddiw yn ogystal. Mewn bywyd blaenorol, roeddwn i'n gweithio mewn banc, ac roedd gennyf swydd yn gweithio gartref yno am rai blynyddoedd. Ac mewn gwirionedd, cerddoriaeth a wnaeth fy helpu gartref. Datblygais obsesiwn anffodus gyda chanu gwlad o bob peth dros yr amser hwnnw. Mae gennyf gariad o hyd at ganu gwlad.

Ond hefyd, gall cerddoriaeth fod yn wych i deuluoedd, ac mae'n rhaid i mi sôn am fy merched sy'n cael gwersi piano; maent wedi cael gwersi piano heddiw. Mae fy merch hynaf, sy'n chwarae darn o'r enw 'Music Box' ar hyn o bryd, yn gwneud yn dda iawn. Mae fy merch ganol newydd ddysgu 'Old MacDonald Had a Farm', ac mae hi'n gwneud yn wych hefyd. Rwyf am i fy mhlentyn pedair oed gael gwersi rywbryd hefyd. Felly, mae'n dod â theuluoedd at ei gilydd. Mae mwy iddo nag a glyw y glust, gallech ddweud. 

Hoffwn dynnu sylw hefyd at y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan elusennau, gan gydweithfeydd, a'r rhai mewn lleoliadau addysgol i wella mynediad at gerddoriaeth ar hyn o bryd, oherwydd y manteision eithriadol y gall cerddoriaeth eu cynnig, fel y nodwyd eisoes. Enghraifft wych o hyn yw cydweithfeydd cerddoriaeth sir Ddinbych a Wrecsam, y cefais y pleser o'u cyfarfod ym mis Medi. Maent yn darparu perfformiad ffrwd fyw i ysgolion lleol, gan ddangos amrywiaeth o offerynnau i blant, ac yn caniatáu i blant ddefnyddio offerynnau a cherddoriaeth na fyddant fel arfer yn cael profiad ohonynt o bosibl. Dylid annog a chefnogi'r math hwn o gymorth a chyfraniad gan elusennau a chydweithfeydd. 

Felly, hoffwn ddiolch i chi eto, Rhianon Passmore, am gyflwyno'r ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at weddill y ddadl. 

A gaf innau ddiolch hefyd i Rhianon am roi munud i mi yn y ddadl hon? Mae gan Gymru draddodiad cerddorol balch iawn. Yn fy etholaeth i, mae gennym gorau meibion, corau cymysg, corau merched, i gyd yn cynhyrchu canu o'r safon uchaf. Mae gennym fandiau hefyd, er nad cymaint â rhai o'r etholaethau cyfagos. Mae cerddoriaeth yn bwysig i lawer o bobl. Rwyf am bwysleisio pa mor bwysig yw hi fod cyfleoedd ar gael i bob plentyn. Ni ddylai'r ffaith eich bod yn dod o gefndir difreintiedig yn ariannol eich eithrio rhag dysgu offeryn neu ddysgu canu neu lwyddo i wella'ch sgil yn chwarae offeryn neu'n canu. Mae angen inni sicrhau bod pawb yn cael cyfle. Ni ddylai incwm eich rhieni fod yn bwysicach na'ch sgil a'ch gallu. Ni ddylai cerddoriaeth fod yn rhywbeth i'r cyfoethog yn unig; dylai fod yn rhywbeth i bawb. Rwy'n cefnogi Rhianon; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad yw pobl yn cael eu heithrio oherwydd tlodi.

Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon i ymateb i'r ddadl. 

Member
Dawn Bowden 18:48:46
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am drefnu'r ddadl fer heddiw ar gerddoriaeth, a manteisio ar y cyfle hwn i gydnabod ei dycnwch yn hyrwyddo a mynd ar drywydd y mater hwn yn y Senedd? Rwy'n tueddu i feddwl, Rhianon, y gallwn enwi'r gwasanaeth cerdd cenedlaethol newydd ar eich ôl chi oherwydd eich cyfraniadau i'r ddadl.

Mae cerddoriaeth wedi bod yn flaenoriaeth i Cymru Greadigol ers ei lansio ym mis Ionawr 2020. Fel yr adlewyrchwyd yn y cyfraniadau i'r ddadl hon heno, mae'n rhan mor bwysig o'n diwylliant a'n treftadaeth. Unwaith eto, credaf fod hynny hefyd yn cael ei adlewyrchu yn nifer y bobl sydd wedi bod eisiau cyfrannu at y ddadl heddiw. Afraid dweud ei fod yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru. Fel sy'n wir am lawer o'n disgyblaethau creadigol, mae gwneud a gwrando ar gerddoriaeth yn sicr yn effeithio'n gadarnhaol ar lesiant. Mae'n bwysig fod pobl Cymru yn gallu ymgysylltu â cherddoriaeth, a bod cyfleoedd ar gael i hyn ddigwydd o oedran cynnar.

Fel chithau, Rhianon, rwy'n angerddol ynglŷn â sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn ystyried y diwydiannau creadigol yn ddewis gyrfa hygyrch a gwerth chweil, gan roi cyfleoedd gwaith gwych i'n pobl ifanc yng Nghymru mewn sector sy'n darparu cynnwys gwerthfawr, yn gwasanaethu pob cynulleidfa ac yn allweddol i gefnogi ein twf economaidd yn y dyfodol. Rwy'n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd addysg cerddoriaeth i bobl ifanc a'r manteision i'w dysgu, a dyna pam yr hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi addysg cerddoriaeth.

Mae gwaith wedi dechrau ar ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i sefydlu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid cerddoriaeth ar fodel ar gyfer y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, a bydd y cwricwlwm i Gymru yn cryfhau ei sylfaen er mwyn sicrhau mynediad i bawb, gan ddarparu gwell cyfleoedd ar gyfer gwersi cerddoriaeth a phrofiadau i ddysgwyr. Rwy'n parhau i drafod gyda'r Gweinidog addysg sut yn union a pha bryd y caiff hwn ei gyflwyno a beth fydd y gyllideb ar gyfer y gwasanaeth. Bydd y Senedd hon, wrth gwrs, yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau wrth i hynny fynd yn ei flaen.

Ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yw adeiladu ar y gefnogaeth i ddarpariaeth addysg cerddoriaeth ledled Cymru. Ar hyn o bryd, caiff hyn ei hwyluso i raddau helaeth drwy ein cyllid grant o £1.4 miliwn y flwyddyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol a £100,000 i gefnogi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rydym hefyd, yn ystod y mis diwethaf, wedi darparu cyllid ychwanegol o £503,000 ar gyfer prosiect cerddoriaeth o dan y rhaglen Gaeaf Llawn Lles i gefnogi prosiectau cerddoriaeth allgyrsiol mewn ysgolion. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer addysg cerddoriaeth, fel y dywedais, i sicrhau bod pobl ifanc yn elwa o'r cyfleoedd gorau i brofi a chymryd rhan mewn gweithgareddau cerddoriaeth.

Mae Cymru Greadigol yn parhau i ymwneud yn llawn â'r diwydiant cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghymru, ac mae'r dull cydweithredol a ymgorfforwyd gan Cymru Greadigol ar ddechrau'r pandemig yn parhau i wasanaethu'r diwydiant yng Nghymru yn well gyda llawer o randdeiliaid yn cymryd rhan lawn yn y sgyrsiau polisi ehangach ar draws Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â chyflwyno mesurau COVID newydd, megis y pàs COVID. Yn dilyn ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y bumed Senedd i'r diwydiant cerddoriaeth fyw ym mis Chwefror eleni, mae fy swyddogion yn gweithio tuag at lansio cynllun gweithredu ar gyfer y sector yng Nghymru ym mis Ebrill 2022, a rhoddir sylw ynddo i lawer o'r blaenoriaethau a nodwyd yn yr adroddiad. Bydd y cynllun gweithredu hwn yn adlewyrchu'r angen am gamau gweithredu tymor byr sydd eu hangen i helpu'r sector i adfer o'r pandemig, a chynlluniau mwy hirdymor ar gyfer dyfodol cynaliadwy yn y farchnad fyd-eang.

Gan adeiladu ar argymhellion yr adroddiad a gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, rydym wedi comisiynu prosiect ymchwil dau gam yn ddiweddar. Mae'r cam cyntaf, sydd i'w gwblhau cyn bo hir, yn plotio hyd a lled busnesau cerddoriaeth, lleoliadau cerddoriaeth fyw, stiwdios recordio a mannau ymarfer ledled Cymru. Caiff hyn ei ddangos mewn map rhyngweithiol ar ffurf offeryn cyfeirio deinamig a chaiff ei gynnwys ar wefan Cymru Greadigol. Cynhelir yr ail gam yn y flwyddyn newydd a bydd yn mynd i'r afael â diffyg data penodol yng Nghymru sy'n ymwneud â'r effaith economaidd y mae'r diwydiant cerddoriaeth yn ei chael ar economi Cymru. Cydnabyddir mai'r diwydiant cerddoriaeth fyw yw un o'r rhai a gafodd eu taro waethaf drwy gydol y pandemig, ac er bod llawer o'r busnesau bellach yn weithredol eto, maent yn debygol o gael eu heffeithio'n negyddol am gryn dipyn o amser.

Drwy gam cyntaf y gronfa adferiad diwylliannol, buddsoddwyd tua £6.6 miliwn mewn lleoliadau cerddoriaeth, mannau ymarfer a stiwdios recordio, gyda £2 filiwn arall yn cael ei fuddsoddi mewn gweithwyr llawrydd yn y sector cerddoriaeth. Bydd gwybodaeth wedi'i diweddaru am y cymorth ychwanegol a dderbyniwyd gan y sector drwy'r ail gam ar gael pan fydd y gwerthusiad o'r gronfa wedi'i gwblhau. Mae ein cymorth wedi chwarae rhan hanfodol yn cadw busnesau cerddoriaeth yn fyw. Mae'n debygol y bydd angen cyllid pellach ar y busnesau hyn, nid yn unig ar gyfer y dyfodol agos, ond ar gyfer twf a chynaliadwyedd y diwydiant yn fwy hirdymor. Byddwn yn llunio cronfa datblygu cerddoriaeth i fynd i'r afael â'r uchelgais hwn.

Fel rhan o'n cefnogaeth barhaus i'r sector, rydym heddiw wedi lansio ein cronfa cyfalaf cerddoriaeth, a fydd yn darparu hyd at £10,000 ar gyfer gwelliannau cyfalaf bach i'n lleoliadau, stiwdios recordio a mannau ymarfer. Mae'r busnesau hyn yn allweddol i sicrhau dyfodol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Hyd yn oed yn wyneb heriau digynsail, mae meysydd allweddol o'n gwaith wedi datblygu ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ehangu a chryfhau ein cefnogaeth i brosiectau datblygu talent, megis Bannau a chronfa PPL Momentum, a bydd yn rhan sylfaenol o'r cynllun gweithredu cerddoriaeth hwnnw. Rhoesom £60,000 i brosiect Bannau i redeg ei raglen eleni, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ei waith ar rymuso cenhedlaeth nesaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn siarad â Bannau am ei strategaeth ar gyfer 2022, ac rydym yn awyddus i gynrychiolwyr gyflwyno eu gwaith mewn cyfarfod o'r gweithgor trawsbleidiol ar gerddoriaeth yn y dyfodol. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglenni sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i dirwedd Cymru. Cafodd cronfa PPL Momentum a Gorwelion gymorth ariannol gan Cymru Greadigol eleni i barhau â'u gwaith rhagorol yn cefnogi artistiaid o Gymru a hyrwyddo'r artistiaid hyn yng Nghymru ac o gwmpas y byd.

Mae'n bwysig fod gan bobl Cymru fynediad at gerddoriaeth Gymreig, ond hefyd ein bod yn arddangos doniau Cymreig a'r Gymraeg ar lwyfannau rhyngwladol. Mae sianel Spotify Cymru Greadigol, a lansiwyd ym mis Mehefin 2020, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda bron i 700 o draciau wedi'u cynnwys rhwng ei lansio a mis Tachwedd 2021. Ac yn ddiweddar, rydym wedi cefnogi'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, dathliad a chydnabyddiaeth o ragoriaeth greadigol ym maes cerddoriaeth Gymreig. Mae'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ei blwyddyn olaf o gytundeb ariannu tair blynedd gyda Cymru Greadigol, ac o flwyddyn un, mae'r prosiect wedi datblygu ac ymgysylltu â phartneriaethau i hyrwyddo a chefnogi diwydiant cerddoriaeth Cymru drwy gyfnewid, cydweithio ac arddangos perfformiadau gan ganolbwyntio ar gynwysoldeb. Kelly Lee Owens oedd enillydd y wobr eleni am ei halbwm Inner Song. Comisiynwyd Kelly yn ddiweddar gan FIFA i ysgrifennu a pherfformio'r gerddoriaeth thema swyddogol ar gyfer Cwpan y Byd i Fenywod 2023. Cafodd y gerddoriaeth ei hysbrydoli gan gorau yng Nghymru, ac mae'n gyfle gwych i arddangos ei thalent anhygoel i weddill y byd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd tîm pêl-droed menywod Cymru yno i'w chlywed yn y cnawd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cefnogi FOCUS Cymru, gŵyl aml-gyfrwng ryngwladol i arddangos talentau sy'n cael ei chynnal yn Wrecsam yng ngogledd Cymru. Mae FOCUS yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn arddangos talent Cymru yn rhyngwladol. Er mwyn lliniaru risgiau i drefnwyr ac i annog y diwydiant i ailddechrau gweithgarwch, rydym wedi rhoi £5,000 yr un o gefnogaeth i ŵyl Sŵn yng Nghaerdydd a gŵyl Fringe Abertawe sydd i'w cynnal eleni, er ar raddfa lai nag arfer. Ategir y gweithgaredd hwn hefyd gan y prosiect digidol AM dwyieithog PYST, sy'n parhau i ddarparu llwyfan unigryw sy'n tyfu ar gyfer arddangos cerddoriaeth fyw. Mae'r platfform digidol hwn wedi bod yn bwysig iawn drwy gydol y pandemig yn darparu cyfleoedd a fyddai fel arall wedi'u colli oherwydd mesurau a weithredwyd i leihau lledaeniad y feirws. Bydd Cymru Greadigol yn parhau gyda'r ymateb cadarnhaol hwn i'r sector, gan weithio'n agos gyda phartneriaid y tu mewn a'r tu allan i'r Llywodraeth. Mae'r dull partneriaeth gwirioneddol hwn wedi'i ymgorffori yng ngwaith tîm cerddoriaeth Cymru Greadigol, a bydd ein cynllun gweithredu yn adlewyrchu hyn.

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am y ddadl heddiw, ac am eu cefnogaeth barhaus i'r gwasanaeth cerddoriaeth yng Nghymru? Rwy'n eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r gwasanaeth cerddoriaeth yng Nghymru.

18:55

Diolch, Dirprwy Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. 

Siwrnai ddiogel adref, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:58.