Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

01/12/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, y prynhawn yma, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bôn nhw, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag ydyn nhw i'r Aelodau sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. 

Deuoli'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gost a amcangyfrifir ar gyfer deuoli'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun? OQ55986

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. £590 miliwn yw cost cyfalaf cwblhau gwaith deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd drwy'r darn olaf o Ddowlais i Hirwaun.

Diolch, Prif Weinidog. Pan gadarnhawyd y prosiect mewn adroddiad asesu cynllun cam 3 yn 2017, £308 miliwn oedd y gost adeiladu amcanestynedig, ac amcangyfrifwyd mai £428 miliwn fyddai cyfanswm cost y prosiect. Yn ddiweddar, datgelodd y Western Mail rywbeth tebyg i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, bod y gost adeiladu bellach wedi cynyddu, fel yr adroddwyd ganddyn nhw, i £550 miliwn er fy mod i'n derbyn y ffigur yr ydych chi newydd ei ddweud fel bod yn £590 miliwn. Ond, yr hyn a oedd yn syndod gwirioneddol ei ddarganfod oedd bod Llywodraeth Cymru, wrth symud i'r model ariannu buddsoddi cydfuddiannol, bellach wedi ymrwymo i dalu £38 miliwn y flwyddyn am 30 mlynedd fel taliad gwasanaeth blynyddol. Bydd cyfanswm cost y taliad gwasanaeth blynyddol am y cyfnod o 30 mlynedd yn swm syfrdanol o £1.14 biliwn. Daw hynny â chyfanswm cost y prosiect i £1.7 biliwn dros 30 mlynedd, sy'n gynnydd o £1.3 biliwn o'r amcanestyniad cychwynnol o £428 miliwn. Gadewch i ni alw'r gwallgofrwydd hwn yr hyn yr ydyw, Prif Weinidog—menter cyllid preifat o dan enw arall. Mae gwario £1.7 biliwn ar seilwaith yn y Cymoedd yn syniad gwych, ond beth am ei wario ar adfywio cymunedol, cynlluniau creu gwaith, cludiant cyhoeddus, gwella tai ac ysgolion yn hytrach nag ar yr hyn y mae'n rhaid ei bod yn un o'r ffyrdd drytaf y filltir erioed.

Wel, Llywydd, roedd hwnna'n fwy o gawdel o gamddealltwriaeth a chamliwio na chwestiwn atodol. Rwy'n ofni nad oes gan yr Aelod unrhyw ddealltwriaeth o gwbl o'r model buddsoddi cydfuddiannol, model, wrth gwrs, a fabwysiadwyd gan Lywodraeth yr Alban ar ôl i'r Cymry ei ddyfeisio. Felly, mae ei chwaer blaid yn yr Alban wedi dewis dilyn ein hesiampl ni yn y mater hwn. Mae camystumio cyfres o gostau ac yn methu â gwneud synnwyr o'r un ohonyn nhw. Nid yw'r arian a fydd yn cael ei wario drwy refeniw ar ôl cwblhau'r ffordd yn talu'r ddyled yn unig, ond mae'n talu am yr holl waith cynnal a chadw parhaus ar y ffordd honno drwy gydol ei hoes. Mae'r costau hynny yn cael eu hysgwyddo mewn unrhyw gynllun adeiladu ffyrdd, ond nid ydyn nhw mor dryloyw ac ar gael i bawb graffu arnyn nhw ag y maen nhw yn y model buddsoddi cydfuddiannol.

Mae'r model sydd gennym ni yma yng Nghymru yn wahanol iawn i fenter cyllid preifat. Rwyf i wedi ei drafod ar lawr y Senedd gydag arweinydd ei phlaid hi ar sawl achlysur, pan ofynnodd, er enghraifft, i mi archwilio pa un a ellid ymestyn y gyfran ecwiti o 15 y cant yr ydym ni'n ei chymryd yn y cwmnïau a fydd yn adeiladu'r ffordd. Roedd y rheini, yn fy marn i, yn sgyrsiau synhwyrol iawn i gael y budd mwyaf o'r model. Rwy'n ofni bod angen i'r Aelod fynd yn ôl, gwneud ei gwaith cartref, ac yna cawn sgwrs gallach.

Rwy'n cytuno â Delyth Jewell ar hyn. Mae'r newyddion bod trethdalwyr yn wynebu'r swm afresymol o arian a wariwyd ar y gwaith deuoli hwn o Hirwaun i Ddowlais, ar ôl i gostau adeiladu gynyddu gan 25 y cant mewn llai na blwyddyn, yn wirioneddol ddychrynllyd. Mae hwn yn swm afresymol o arian i fod yn ei wario ar brosiect o'r fath ac rwy'n cytuno'n llwyr â Delyth Jewell ar hynny. Mae hyn yn dilyn eich methiant i gadw addewid maniffesto i ddarparu ffordd liniaru'r M4 a chyfarwyddo Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i beidio ag ystyried traffordd arall i hwyluso ei gynigion ar y tagfeydd ar yr M4. O ystyried hanes echrydus eich Llywodraeth, pa ffydd all fod gan y cyhoedd ynoch chi i gyflawni prosiectau seilwaith trafnidiaeth yn y dyfodol, fel ffordd osgoi arfaethedig Cas-gwent, yn brydlon ac o fewn y gyllideb?

13:35

Wel, Llywydd, mae'r Aelod, fel y byddwn i wedi ei ddisgwyl, mewn gwirionedd, wedi methu'n llwyr â deall mai'r hyn y mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn ei ddarparu ar gyfer y darn o ffordd rhwng Dowlais a Hirwaun yw contract pris sefydlog. Felly, mae'r risgiau yn cael eu hysgwyddo gan y contractwr sector preifat—mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu'r ffordd hon yn unol â'r gyllideb ac ar amser, neu fel arall mae cosbau sylweddol iawn i'w hysgwyddo ganddyn nhw ac nid gan y pwrs cyhoeddus. Dyna un o fanteision dyfeisio'r model yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud, oherwydd mae'n rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r cyhoedd mai'r swm o arian y cytunwyd arno gyda'r cwmni yw'r swm o arian a fydd yn cael ei dalu, ac os eir i gostau pellach, y contractwr preifat sy'n ysgwyddo'r risg ac nid y pwrs cyhoeddus.

Wel, rwyf i wedi edrych ar y model buddsoddi cydfuddiannol ac mae'n rhaid i mi ddweud bod nifer o fanteision iddo. Yn gyntaf oll, bydd yn helpu'r Llywodraeth i gyflwyno'r prosiect hwn yn llawer cyflymach nag y gallai fod wedi ei wneud fel arall, ac mae'n rhaid i ni ddweud nad oes unrhyw amheuaeth fod y rhan hon o'r A465 yn brosiect seilwaith hanfodol. Ynghyd â'r gwaith sy'n cael ei wneud yn narn ceunant Clydach, bydd yn creu cefnffordd o ansawdd da, gan gysylltu trefi Blaenau'r Cymoedd i'r gorllewin cyn belled ag Abertawe ac i'r dwyrain cyn belled â chanolbarth Lloegr, a hyd yn oed gyda Llundain drwy'r M4. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y bydd yn offeryn arbennig o gryf i gael busnesau i leoli ar hyd coridor Blaenau'r Cymoedd a'i fod felly yn helpu i liniaru tanberfformiad economaidd yr ardal?

Wel, Llywydd, diolchaf i David Rowlands am y pwyntiau yna. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod Llywodraethau Llafur olynol yma yn y Senedd hon wedi darparu 13 mlynedd barhaus o fuddsoddiad i gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd, am y rhesymau y mae David Rowlands wedi'u nodi—y bydd yn dod â chyfleoedd economaidd newydd i'r cymunedau hynny ym Mlaenau'r Cymoedd. Bydd yn eu cysylltu mewn ffordd nad ydyn nhw erioed wedi cael eu cysylltu o'r blaen, â seilwaith modern, i'r dwyrain â chanolbarth Lloegr ac i'r gorllewin â gorllewin Cymru. Mae'n rhan hanfodol o fuddsoddiad y Llywodraeth hon yn y cymunedau hynny, ac mae cwblhau'r darn rhwng Dowlais a Hirwaun yn cyflawni ein hymrwymiad i'r cymunedau hynny.

Ac a gaf i ddweud bod David Rowlands hefyd wedi gwneud pwynt pwysig? Pe na baem ni'n ei wneud drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol, ni fyddai'r ffordd hon yn cael ei hadeiladu. Dyma'r unig ffordd y gallwn wneud y buddsoddiad hwnnw, ac ar adeg pan wyddom, o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos diwethaf ac amcangyfrifon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r hyn a fydd yn digwydd i'r economi y flwyddyn nesaf, ein bod ni angen prosiectau sy'n barod i gychwyn nawr. Bydd mil o bobl yn cael eu cyflogi ar anterth gwaith adeiladu'r ffordd hon, 120 o brentisiaethau, 60 o hyfforddeiaethau, 320 o interniaethau, i bobl ifanc yn y rhan honno o Gymru, lle bydd y manteision yn cael eu teimlo yn y cymunedau hynny sydd eu hangen fwyaf. [Torri ar draws.] Nid yw'n syndod i mi bod y Torïaid yn ei wrthwynebu—wrth gwrs y bydden nhw; nid oes ganddyn nhw ddiddordeb o gwbl yn yr hyn sy'n digwydd yn y rhan honno o Gymru. Ond yma ar y meinciau hyn, rydym ni'n falch dros ben o'n record o fuddsoddi yn y ffordd hon, yn y cymunedau hynny, a dyna fydd y darn olaf hwn yn ei gyflawni.

Prif Weinidog, nid yw'n syndod, wrth gwrs, gweld Plaid Cymru a'r Torïaid yn cyfuno i gondemnio buddsoddiad yng Nghymoedd y de. Rwy'n ddigon hen nawr i gofio mai Gweinidog Plaid Cymru, wrth gwrs, a ataliodd fuddsoddiad yn ffordd Blaenau'r Cymoedd yn ôl yn 2007. Mae'r ffordd yno nid yn unig i ddarparu cyswllt, ond fel dull o ddatblygu economaidd. Ac wrth gefnogi rhai o'r cymunedau tlotaf yn y wlad—ac rydym ni'n gwybod nad oes gan y bobl hyn ar fy ochr chwith yn y fan yma unrhyw ddiddordeb ynddynt—mae'n bwysig i sicrhau bod gennym ni gynllun swyddi er mwyn i Flaenau'r Cymoedd fanteisio i'r eithaf ar werth y buddsoddiad cyhoeddus hwn fel y gallwn ni fuddsoddi mewn pobl a lleoedd a chymunedau Blaenau'r Cymoedd. Dyna pam y maen nhw'n ein cefnogi ni a pham y byddan nhw'n parhau i'n cefnogi ni ac nid y sŵn sy'n dod o'r meinciau hyn.

13:40

Wel, Llywydd, mae Alun Davies yn llygad ei le—nid ffordd o ran ei hun yn unig yw'r ffordd; mae'n fater o'r holl gyfleoedd economaidd y bydd yn eu datgloi yn y cymunedau hynny. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud wrthym ni, Llywydd, y disgwylir i ddiweithdra godi o 4.8 y cant heddiw i 7.5 y cant, ac y bydd pobl yng Nghymru yn gweld cynnydd i ddiweithdra o 70,000 heddiw i 114,000 y flwyddyn nesaf. Rwyf i wedi clywed y blaid gyferbyn yn dadlau o'r blaen dros fuddsoddiadau sy'n rhoi pobl mewn gwaith, sy'n creu cyfleoedd i bobl a lleoedd. Mae ganddyn nhw un yn y fan yma, lle mae'r gwaith eisoes wedi dechrau, lle bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn y gwanwyn, yn union pan fo'i angen fwyaf, ac maen ormod iddyn nhw allu dweud yr un gair i'w gefnogi. Yn ffodus, mae gennym ni Aelodau sy'n cynrychioli'r cymunedau hynny yma yn y Senedd a fydd yn gwneud hynny ar eu rhan.

Tlodi sy'n Gysylltiedig â'r Coronafeirws

2. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith tlodi sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws yng Nghymru? OQ55952

Llywydd, rydym ni'n defnyddio amrywiaeth eang o waith ymchwil a dadansoddi i ddeall effaith tlodi sy'n gysylltiedig â coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, arolwg gweithlu y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Resolution Foundation, arolwg cenedlaethol Cymru, Cyngor ar Bopeth a Sefydliad Bevan.

Diolch. Wel, nododd dogfen ymchwil Cyngor ar Bopeth Cymru, 'Facing the cliff edge: Protecting people in Wales from the financial consequences of Covid-19', ym mis Mai bod

yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol o ran annog pobl i wirio pa fudd-daliadau neu gymorth y mae ganddyn nhw hawl iddynt...Dylai hyn gynnwys cynlluniau budd-daliadau a chymorth a weinyddir yng Nghymru, fel Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a'r Gronfa Cymorth Dewisol.

Nododd adroddiad Sefydliad Bevan ym mis Medi, 'Reducing the impact of Coronavirus on Poverty in Wales', y dylai Llywodraeth Cymru ymgymryd ag ymgyrch manteision ar fudd-daliadau graddfa fawr i sicrhau bod pobl yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i'w cael, gan gynnwys budd-daliadau nawdd cymdeithasol y DU, yn ogystal â chynlluniau a weithredir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, fel cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a'r gronfa cymorth dewisol, a sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer prydau ysgol am ddim, grant datblygu disgyblion a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Pa gamau penodol dilynol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd?

Wel, Llywydd, rwyf i wedi hen arfer â'r ffaith bod y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn barth di-eironi, ond, hyd yn oed yn ôl ei safonau arferol, welais i ddim byd tebyg iawn i'r cwestiwn atodol yna. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod yr hyn y bydd pobl yn ei ganfod yng Nghymru pan fyddan nhw'n mynd i gael gwirio eu hawl i fudd-daliadau gan y canolfannau cyngor ar bopeth, gan ddefnyddio'r gronfa gynghori sengl yr ydym ni wedi ei darparu: yr hyn y byddan nhw'n ei ganfod yw bod penderfyniadau ei Lywodraeth ef yn cymryd £1,000 oddi wrth y teuluoedd tlotaf yng Nghymru; bod y bobl hynny sydd wedi llwyddo i gadw eu pennau uwchlaw'r dŵr, o ganlyniad i dlodi sy'n gysylltiedig â coronafeirws yng Nghymru bellach yn canfod y gofynnir iddyn nhw ysgwyddo baich yr effaith ar ein heconomi.

Roeddwn i'n meddwl yn adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos diwethaf, o'r holl siomedigaethau niferus ynddo, y gwaethaf ohonynt i gyd oedd gwrthodiad y Canghellor i roi sicrwydd i'r teuluoedd hynny y bydd yr £20 yr wythnos y maen nhw'n ei gael nawr yn parhau i fod ar gael iddyn nhw ar ôl diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae tri deg pump y cant o'r holl aelwydydd nad ydyn nhw yn bensiynwyr yng Nghymru yn elwa ar hynny—30,000 o deuluoedd yng Nghymru, yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree. Pan fydd pobl, fel y gofynnodd yr Aelod i mi, yn mynd i'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu yma yng Nghymru i gael gwybod beth sydd ganddyn nhw hawl iddo, y peth cyntaf y byddan nhw'n ei ddarganfod yw bod y Llywodraeth Geidwadol hon wedi troi ei chefn arnyn nhw unwaith eto.

Rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, o'r gwaith ymchwil y mae wedi ei grybwyll, o effaith anghymesur COVID yn economaidd ar fenywod, ac yn enwedig teuluoedd un rhiant, sy'n tueddu i gael eu harwain gan fenywod. Mae'r taliad o £500 sydd ar gael i bobl ar incwm isel sy'n hunanynysu i'w groesawu yn fawr ac rydym ni'n gwybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn galluogi pobl i hunanynysu. Ond, wrth gwrs, nid yw'r taliad hwnnw, fel y mae pethau ar hyn o bryd, ar gael i rieni plant y mae'n rhaid iddyn nhw ynysu neu sy'n cael eu hanfon adref oherwydd bod eu cydweithwyr yn ynysu. Wrth siarad ag etholwr y diwrnod o'r blaen, dywedodd wrthyf, 'Beth wyf i fod i'w wneud? Rwy'n gwybod na ddylwn i fynd â'm plant i fod gyda fy mam, oherwydd rwy'n gwybod nad yw hynny'n ddiogel. Maen nhw i fod i aros gartref gyda fi, ond os nad wyf i'n mynd i'r gwaith, nid wyf i'n cael fy nhalu. Os byddaf yn gwneud cais am fudd-daliadau, byddaf yn aros wythnosau ac wythnosau cyn iddyn nhw ddod drwodd.'

A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog heddiw a wnaiff ef edrych eto ar gymhwysedd ar gyfer y taliad hwn? Rydym ni i gyd yn sylweddoli nad oes gan Lywodraeth Cymru goeden arian hud, ond o ran blaenoriaethau, rwy'n gobeithio y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod galluogi rhieni, yn enwedig mamau sengl, i aros gartref gyda'u plant pan fydd yn rhaid i'r plant ynysu, yn rhywbeth y dylem ni i gyd weithio tuag ato, oherwydd ni fyddai'r un ohonom ni eisiau canfod ein hunain yn y sefyllfa honno lle mae'n rhaid i ni naill ai allu roi bara ar y bwrdd neu ddilyn y rheolau.

13:45

Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiwn atodol grymus yna, a bydd yn gwybod bod ei chyd-Aelod Leanne Wood wedi codi'r mater hwn gyda mi, yma ar lawr y Senedd, bythefnos yn ôl. Cefais gyfarfod gyda swyddogion ddoe, o ganlyniad i'r pwyntiau a godwyd gyda mi, ac mae gwaith yn cael ei wneud i weld a allwn ni, o fewn y gallu ariannol sydd ar gael i ni, ymateb i'r anawsterau gwirioneddol sy'n cael eu hadrodd.

Gwn y bydd Helen Mary Jones yn gwybod, os bydd plentyn yn cael prawf positif a bod yn rhaid iddo aros gartref gan fod profi, olrhain, diogelu wedi gofyn iddo wneud hynny, yna gall y rhiant sy'n gofalu hawlio'r £500. Mae'r anhawster yn codi o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd, pan fo plant yn cael eu hanfon adref o'r ysgol gan fod plentyn arall yn y dosbarth wedi cael prawf positif. Nawr, weithiau, mae'r plant hynny yn ôl yn yr ysgol yn gyflym iawn, ond os bydd yn ymestyn i 14 diwrnod llawn o hunanynysu, mae hynny'n sicr yn achosi beichiau ariannol ychwanegol, yn enwedig yn y teuluoedd a ddisgrifiwyd gan Helen Mary Jones. Felly, mae fy swyddogion yn gweithio yn ddiwyd iawn i weld a yw'n bosibl dyfeisio ffordd y gellid darparu cymorth i deuluoedd o dan yr amgylchiadau hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd Gweinidogion yn gweld canlyniad y gwaith hwnnw cyn diwedd yr wythnos hon.

Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod ergyd ariannol coronafeirws wedi taro'r rhai sydd eisoes o dan anfantais galetaf, ac mae hyn wedi dod ar ben degawd o gyni cyllidol y Torïaid, ac er gwaethaf ymdrechion Llywodraethau Cymru a datganoledig i liniaru hyn, mae effaith gyfunol toriadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau ac oediadau a chosbau wedi cosbi'r aelwydydd sydd â'r cyflogau isaf a'r incwm isaf ac sy'n agored i niwed.

Addawodd y Ceidwadwyr i ni flynyddoedd yn ôl y byddai cyni cyllidol yn cael ei ysgwyddo gan y rhai â'r ysgwyddau mwyaf llydan, ac eto fe'i llwythwyd ganddyn nhw ar y rhai hynny sydd eisoes wedi'u pwyso i lawr gan ddyled a thlodi. Felly, a fyddai e'n cytuno â mi bod cynigion Boris Johnson i dorri credyd cynhwysol, i dorri credyd treth gwaith, a rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus yn awgrymu ein bod ni'n gweld yr un hen blaid Dorïaidd yn ymosod ar y teuluoedd a'r aelwydydd sy'n gweithio tlotaf un yng Nghymru?

Wel, beth glywsom ni yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos diwethaf, Llywydd, ond bydd y bobl dlotaf yn y byd bellach yn wynebu toriad i'r cymorth y mae un o wledydd mwyaf cyfoethog y byd yn ei roi iddyn nhw? Diwrnod siomedig iawn, wrth i David Cameron, cyn Brif Weinidog Ceidwadol y DU, ddweud mai'r bobl dlotaf sy'n cael eu cosbi yn y wlad hon pan nad oes ganddyn nhw'r achubiaeth honno o £20 yr wythnos. Ac mae'r gweision cyhoeddus, sydd wedi cael eu canmol o'r meinciau yn y fan yma drwy gydol argyfwng y coronafeirws am y ffordd y maen nhw wedi bod ar y rheng flaen, neu weithwyr gwastraff neu weithwyr awdurdod lleol neu athrawon—sawl gwaith yr wyf i wedi clywed Aelodau'r wrthblaid yn y fan yma yn eu canmol nhw am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud, dim ond i ganfod mai eu gwobr nawr yw cael eu hincwm wedi ei rewi unwaith yn rhagor? Ac nid dyma'r tro cyntaf, fel y mae Huw Irranca-Davies yn ei ddweud. Daw hyn ar ôl degawd lle mae'r cyflogau hynny wedi eu dal yn ôl gan Lywodraethau Ceidwadol olynol, ac rydym ni'n ei weld eto yn y fan yma. Crafwch nhw, a byddwch yn gweld yr hyn a gewch chi. Maen nhw'n blaid sydd wedi credu erioed y dylai'r cyfoethog ffynnu a bod yn rhaid i'r tlawd dalu'r pris. A dyma nhw wrthi eto.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru na chaniateir i fusnesau lletygarwch werthu alcohol, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw gau eu drysau am 6 p.m., mae John Evans, landlord tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon, wedi dweud:

Nid yw'n deg ar y tafarndai a'r bwytai niferus hynny sydd wedi dilyn y rheolau a gwneud y peth iawn.

Bydd y golled o refeniw yn aruthrol—bydd yn rhaid i ni daflu cwrw a stoc arall i ffwrdd.

Yng Nghaerdydd, mae rheolwr cyffredinol tafarn y Grange, Dai Dearden, wedi dweud bod y cyhoeddiad yn 'ergyd drom'. Ac ym Mrynbuga, Sir Fynwy, mae Kelly Jolliffe, perchennog y Greyhound Inn, wedi dweud ei bod hi'n 'hynod siomedig' yn y rheoliadau. Felly, Prif Weinidog, beth yw eich neges i'r busnesau hyn, a llawer mwy ledled Cymru, y mae eu bywoliaeth mewn perygl oherwydd eich penderfyniad i gau'r sector lletygarwch yn rhannol yma yng Nghymru?

13:50

Wel, fy neges i i'r busnesau hynny yw, er gwaethaf yr holl ymdrechion y maen nhw wedi eu gwneud—ac rwy'n cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae cynifer o fusnesau wedi eu gwneud—rydym ni'n dal i wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac er gwaethaf yr ymdrechion hynny a phopeth arall sydd wedi ei wneud, mae nifer y bobl sydd wedi'u heintio â coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu bob dydd, ac mae hynny yn trosi ei hun, yn anochel, i fwy o bobl mewn gwelyau ysbyty yng Nghymru, mwy o bobl angen gofal critigol a mwy o bobl yn colli eu bywydau. Dyna'r cyd-destun na ellir ei osgoi y mae'r penderfyniad yn cael ei wneud oddi mewn iddo.

Ac, ar ôl dweud hynny wrth bobl, bod hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus lle mae'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu bywydau y gellir eu hachub ac a fyddai fel arall yn cael eu colli, byddwn i'n dweud wrthyn nhw ein bod ni wedi rhoi'r pecyn cymorth mwyaf hael i'r diwydiant hwnnw yn unrhyw fan yn y Deyrnas Unedig—£340 miliwn a fydd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r diwydiant hwnnw drwy'r wythnosau anodd iawn sydd o'n blaenau. Rwy'n deall bod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi £40 miliwn heddiw ar gyfer Lloegr gyfan ar gyfer y diwydiant lletygarwch. Bydd £340 miliwn ar gael yma yng Nghymru yn unig. A dyna'r peth arall y byddwn i'n ei ddweud wrth y diwydiannau hynny, mai'r cymorth y byddan nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru fydd y gorau sydd ar gael mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

Wel, Prif Weinidog, mae cau lletygarwch Cymru yn rhannol yn ergyd drom i'r sector, a bydd tafarndai a bwytai, mewn ardaloedd lle mae cyfraddau trosglwyddo yn isel, a fydd yn briodol yn teimlo'n ofidus bod eu busnesau yn cael eu rhoi mewn perygl, heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, ac mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw dystiolaeth bod rhyngweithio lletygarwch yn arwain at gynnydd i gyfraddau trosglwyddo. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym ni ei bod yn estyn allan i'r sector dros y penwythnos, ond mae'n amlwg nad yw safbwyntiau'r sector wedi cael eu cymryd i ystyriaeth ac y bydd llawer o fusnesau ledled y wlad na fyddant yn goroesi'r gaeaf. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni gyda phwy y gwnaethoch chi a'ch Llywodraeth gyfarfod dros y penwythnos i drafod y cynigion hyn, a pha drafodaethau a gawsoch chi am gau'r sector yn rhannol? A pha mor ffyddiog ydych chi y bydd y mesur hwn yn lleihau ffigurau trosglwyddo a ddim yn arwain at bobl yn ymgynnull mewn cartrefi ac yn cael partïon tŷ yn hytrach, oherwydd nad ydyn nhw'n cael prynu diod alcoholig mewn tafarn?

Wel, Llywydd, mae bywydau pobl yn cael eu peryglu yma yng Nghymru heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain oherwydd y feirws hwn. Rwyf i wedi bod yn gwrando'n astud iawn ar yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, ac rwy'n siŵr, yn y pen draw, y bydd yn cydnabod bod hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac mai dyma pam mae'r camau hyn yn cael eu cymryd. Nid wyf i wedi ei glywed yn cyfeirio at hynny unwaith yn ei gwestiynau hyd yn hyn.

Dros y penwythnos hwn, roedd Gweinidogion mewn trafodaethau gydag amrywiaeth eang o wahanol grwpiau buddiant. Roeddem ni'n siarad â'n cydweithwyr yn yr awdurdod lleol; roeddem ni'n siarad gyda'r undebau llafur; roeddem ni'n siarad gyda'r awdurdodau gorfodi; roeddem ni'n siarad gyda'r sector ei hun. Nid oes unrhyw benderfyniadau hawdd yn y fan yma. Nid oes unrhyw benderfyniadau hawdd o unrhyw fath ar hyn o bryd. Fe wnaethom ni edrych yn ofalus iawn ar y cyfyngiadau haen 3 yn Lloegr lle mae busnesau ar gau yn llwyr; nid ydyn nhw'n agor eu drysau o gwbl. Fe wnaethom edrych yn ofalus ar y cyfyngiadau lefel 3 yn yr Alban. Fe wnaethom edrych ar adolygiad SAGE o'r ddau ddull hynny, ac mae dull SAGE yn awgrymu nad oes gwahaniaeth iechyd cyhoeddus rhwng y ddau fesur—mae'r ddau yn llwyddiannus. Oherwydd hynny, ein dewis oedd dilyn model yr Alban, lle bydd y busnesau hynny sy'n dewis agor yn gallu parhau i fasnachu tan 6 o'r gloch fin nos. A dyna oedd ein penderfyniad, mewn trafodaeth â'r sector, i wneud yr hyn a allem i sicrhau'r cydbwysedd anodd rhwng achub bywydau pobl a gorfod rhoi sylw i fywoliaeth pobl. A bydd y cymorth y byddwn ni'n ei gynnig i bobl y mae eu busnesau yn cael eu heffeithio yn mynd y tu hwnt i unrhyw beth sydd wedi bod ar gael hyd yn hyn yng Nghymru, a'r tu hwnt i unrhyw beth a fyddai ar gael iddyn nhw mewn unman arall yn y Deyrnas Unedig.

13:55

Prif Weinidog, rydych chi newydd gyfeirio at SAGE, ond dywedodd SAGE ym mis Medi y byddai cyrffyw ar fariau yn cael effaith ymylol ar leihau trosglwyddiadau. Rydych hi'n dweud bod tystiolaeth; wel, os oes tystiolaeth, cyhoeddwch y dystiolaeth honno fel y gall pobl weld canlyniadau eich cynigion. A gadewch i ni fod yn eglur: nid oes busnesau lletygarwch yn unman arall yn y DU yn wynebu'r mathau hyn o fesurau ar sail genedlaethol. Yma, yng Nghymru, bydd tafarn ar agor ond ni fydd yn cael gwerthu unrhyw alcohol pa un a yw yng Nghaerdydd neu yng Nghonwy. A ydych chi'n disgwyl i'r busnesau hyn oroesi ar ddiodydd ysgafn a chrafiadau porc?

Nawr, Prif Weinidog, mae Carlsberg UK wedi dweud hyn, a dyfynnaf: 'Mae gadael tafarndai ar agor, ond dim ond tan 6.00 p.m. heb weini cwrw neu wydraid o win i'w fwynhau yn gyfrifol yn dangos diffyg dealltwriaeth a pharch llwyr at y rhan hollbwysig hon o'n cymdeithas a'r sector.' Ac mae Alistair Darby o Brains wedi dweud bod y rheolau newydd i dafarndai yn 'ergyd enfawr' i'r sector. Wrth gwrs, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nawr bod cymorth busnes ar gael ar frys, a'i fod yn hygyrch i'r rhai sydd ei angen.

Nawr, bydd yn rhaid i chi faddau i fusnesau ledled Cymru os nad ydyn nhw'n gwbl ffyddiog y byddan nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Ni ddylid caniatáu i'r ffordd draed moch o ymdrin â cham 3 y gronfa cadernid economaidd gael ei hailadrodd. Fodd bynnag, rydym ni newydd glywed gan eich Gweinidog yr economi na fydd busnesau yn gallu gwneud cais am gymorth ariannol tan fis Ionawr. Prif Weinidog, nid yw hynny'n ddigon da. A ydych o ddifrif yn credu y bydd busnesau yn goroesi'r cyfnod hwn, o gofio na fyddan nhw'n gallu cael cymorth tan fis Ionawr, ac, felly, a wnewch chi ailystyried nawr y penderfyniad trychinebus hwn a sicrhau bod busnesau yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw nawr ac nid ymhen pedair neu bum wythnos?

Wel, Llywydd, gwrandewais eto ar yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid. Cynigiais gyfle iddo gydnabod yr argyfwng iechyd cyhoeddus, y bywydau sydd yn y fantol yn y fan yma, ac am y trydydd tro y prynhawn yma, methodd â gwneud hynny. Nawr, mae'n ddigon hawdd iddo eistedd yn y fan yna yn honni ei fod, wrth gwrs, yn ei gredu, ond gallai fod wedi dweud hynny, oni allai? Gallai fod wedi dweud hynny. Yn hytrach, mae'n ymddwyn fel pe byddai hon yn gyfres hawdd iawn o benderfyniadau lle gellid bod wedi sicrhau'r cydbwysedd yr ydym ni wedi ei sicrhau yn hawdd iawn mewn ffordd arall.

Gadewch i mi ddweud hyn wrtho: yn union fel yr ydym ni eisiau lleihau heintiau coronafeirws i achub bywydau, felly hefyd y mae eu lleihau yn allweddol i achub yr economi.

Meddyliwch am eiliad beth fyddai'n digwydd i'n heconomi pe byddem ni'n caniatáu i heintiau gyrraedd y fath lefel fel bod ein GIG yn cael ei orlethu. A fyddai teuluoedd yn chwilio am fariau gorlawn a bwytai prysur pe bydden nhw'n gwybod y gallen nhw fod yn heintio ffrindiau a pherthnasau na ellid eu trin pe bydden nhw'n cael eu taro'n wael? A fyddem ni'n heidio i arwerthiannau mis Ionawr pe byddai drysau ein hysbytai ar gau?

Nid fy ngeiriau i, Llywydd, ond geiriau Michael Gove dros y penwythnos. Ie, geiriau Michael Gove. Ni fyddech chi'n eu hadnabod, wrth gwrs. Ond yr hyn yr oedd Michael Gove yn ei ddweud oedd hyn yn union: oni bai eich bod chi'n barod—[Torri ar draws.] Oni bai eich bod chi'n barod—. Peidiwch â phwyntio ataf i. Dim pwyntio.

Andrew R.T. Davies, y cwestiwn gan arweinydd eich plaid yw hwn, nid oes angen i chi fod yn pwyntio bys at—. Nid wyf i eisiau bysedd yn cael eu pwyntio yn y Siambr hon, os gwelwch yn dda. Y Prif Weinidog i barhau, os gwelwch yn dda.

Mae'r cydbwysedd yr ydym ni'n ei sicrhau bob amser rhwng achub bywydau pobl a rhoi sylw i'w bywoliaeth, a dyna'r cydbwysedd yr ydym ni wedi ei sicrhau yn y pecyn yr ydym ni wedi ei gyhoeddi dros y penwythnos ac yna ddydd Llun.

Mae'r Aelod yn gofyn am y cymorth a roddwyd i fusnesau yma yng Nghymru: dyfarnwyd 64,000 o grantiau ardrethi busnes eisoes—eisoes—i fusnesau yng Nghymru, gwerth £768 miliwn. Yn y gronfa fusnes cyfyngiadau symud 175, a oedd ar gael rhwng 23 Hydref a 9 Tachwedd yn unig—felly, ychydig wythnosau yn unig yn ôl—dyfarnwyd 31,000 o grantiau i fusnesau eisoes, gwerth bron i £100 miliwn. Wrth gwrs, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gan weithio gyda'n cydweithwyr sydd dan bwysau mewn llywodraeth leol, i gael y cymorth yr ydym ni wedi ei gyhoeddi i ddwylo'r rhai sydd ei angen, cyn gynted ag y gallwn. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y sector yn cydnabod maint y cymorth sy'n cael ei ddarparu iddyn nhw, yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i roi'r cymorth hwnnw lle mae ei angen fwyaf, a'r ffaith ein bod ni, drwy weithredu yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud, yn diogelu iechyd pobl yng Nghymru a rhagolygon hirdymor y busnesau hynny.

14:00

Diolch, Llywydd. Fel y dywed adroddiad diweddaraf y gell cynghori technegol, collwyd effeithiau cadarnhaol y cyfnod atal byr i raddau helaeth. Fe wnaethom ni gefnogi'r cyfnod atal byr ar yr amod nad cyfyngiadau symud oedd y strategaeth ddiofyn. Fe wnaethom ni rybuddio bod angen i'r cyfyngiadau wrth ddod allan o'r cyfnod atal byr fod yn llymach. Mae'r camgymeriad hwnnw a'r methiant parhaus i gael trefn ar y system brofi wedi arwain at gyhoeddiad anffodus ddoe. Y sector lletygarwch sy'n dwyn y baich unwaith eto. Mae llawer o fusnesau na fyddant yn goroesi, a cheir gwrthwynebiad cyhoeddus dealladwy. A all y Prif Weinidog roi i ni fanylion y cyngor a'r dystiolaeth wyddonol sy'n sail i'r penderfyniad i gau caffis, bwytai a bariau am 6 p.m. ac i wahardd gwerthu alcohol yn llwyr, ac a gawn ni ofyn i'r rhain gael eu cyhoeddi yn llawn heddiw? Ac a allwch chi ddweud, Prif Weinidog, yn ogystal ag edrych ar fodel haen 3 yr Alban a model haen 3 Lloegr, a wnaethoch chi hefyd fodelu ateb unigryw i Gymru i gydbwyso achub bywydau a bywoliaeth mewn gwahanol ffordd i'r penderfyniad a wnaed gennych?

Wel, mae'r hyn sydd gennym ni yn fodel unigryw i Gymru, Llywydd. Nid yw'n copïo dull Lloegr na dull yr Alban yn llawn. Ni fwriadwyd erioed y byddem ni'n cael dull llusgo a gollwng o rywle arall, felly byddwch yn gweld gwahaniaethau sylweddol rhwng y mesurau sydd gennym ni yma yng Nghymru a'r rhai a ddefnyddir mewn mannau eraill. Maen nhw'n fwy hael mewn nifer o ffyrdd. Ym model yr Alban, nid yw'n bosibl i bedwar o bobl o bedair aelwyd gyfarfod gyda'i gilydd mewn lletygarwch. Felly, bydd yr Aelod yn gweld bod gwahaniaethau pwysig iawn, wedi'u cynllunio yn benodol i fodloni'r amgylchiadau sy'n ein hwynebu ni yma yng Nghymru yn yr ymarfer cydbwyso anodd iawn hwnnw.

Mae'r wyddoniaeth eisoes ar gael i'r Aelodau. Fe'i cyhoeddwyd gan SAGE ar 11 a 19 Tachwedd. Cyfeirir ato yn ein hadroddiadau cell cynghori technegol eisoes. Yr un wyddoniaeth yw hon, Llywydd, a arweiniodd at Lywodraeth yr Alban a'i gydweithwyr ef yno yn gwneud y penderfyniadau a wnaed ganddyn nhw. Yr un wyddoniaeth yw hon a oedd ar gael i Weinidogion Lloegr pan gyflwynwyd mesurau haen 3 ganddyn nhw yn Lloegr. Yr un wyddoniaeth yw hon a argyhoeddodd ein prif swyddog meddygol a phrif weithredwr y GIG yng Nghymru i argymell y camau gweithredu hyn i Lywodraeth Cymru. Nid oes diffyg tystiolaeth; mae'r dystiolaeth yr un dystiolaeth ag sydd wedi arwain at Lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig ac, yn wir, ledled Ewrop yn cymryd y camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd.

Rwy'n synnu braidd at gyfeiriad yr Aelod at y system brofi, oherwydd yn y system brofi yma yng Nghymru, ers 21 Mehefin tan 21 Tachwedd, holl gyfnod ein trefn Profi, Olrhain, Diogelu, cafwyd gafael ar 98 y cant o achosion mynegai a chafwyd gafael ar 92 y cant o achosion dilynol. O'r achosion mynegai hynny, cafwyd gafael ar 87 y cant o'r rhai y llwyddwyd i gael gafael arnyn nhw yn ystod yr wythnos diwethaf o fewn 24 awr, cysylltwyd ag 80 y cant o'r cysylltiadau hynny y llwyddwyd i gael gafael arnyn nhw o fewn 24 awr, a'r wythnos diwethaf, Llywydd, cwblhawyd 91 y cant o'r profion yr oedd angen cael canlyniad cyflym yn eu cylch o fewn un diwrnod. Nawr, mae hynny'n dweud wrthyf i fod y system sydd gennym ni yma yng Nghymru yn system lwyddiannus sy'n llwyddo, ac mae rhan o hynny oherwydd y buddsoddiad ychwanegol y cytunwyd arno ar gyfer y system honno yn ystod y cyfnod atal byr.

Mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei herydu, oherwydd nid yw pobl yn deall rhesymeg y penderfyniad fel y mae'n cael ei gyfleu ar hyn o bryd. Sut gall pedwar o bobl o bedair gwahanol aelwyd yn cael paned gyda'i gilydd fod yn fwy diogel na dau berson o'r un aelwyd yn cael peint? Pam mae gwin poeth alcoholig sy'n cael ei weini yn yr awyr agored mewn marchnad Nadolig yn berygl? Mae'r diffyg rhesymeg hwn mewn perygl o danseilio cydymffurfiad cyffredinol, a cheir perygl wedyn y bydd mwy o bobl yn mynd i gartrefi ei gilydd o ganlyniad.

Ein cynnig amgen fyddai caniatáu i gaffis, bwytai a bariau aros ar agor tan 8 p.m. gydag alcohol yn cael ei weini tan saith. Gallai hyn ddilyn canllawiau llymach a oedd yn cynnwys cyfyngu nifer y diodydd alcoholig, gyda gwasanaeth bwrdd wedi'i drefnu ymlaen llaw yn unig. Gellid hefyd gwahardd gwerthu alcohol mewn siopau diodydd trwyddedig ac archfarchnadoedd ar ôl y terfyn o 7 p.m. i annog pobl i beidio ag ymgynnull mewn cartrefi. Oni fyddech chi'n cytuno, Prif Weinidog, y byddai hwn yn gyfaddawd symlach, mwy eglur a mwy cyson sy'n sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng niweidiau COVID a niweidiau nad ydyn nhw'n rhai COVID wrth i'r olaf ddod yn fwyfwy amlwg yr hiraf y bydd y pandemig yn parhau?

14:05

Wel, Llywydd, rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol bod wedi ystyried gwahanol ddulliau a gwahanol syniadau. Rwy'n credu, fodd bynnag, mai'r cwbl a fyddai'n digwydd fyddai y byddai un gyfres o anomaleddau yn cael ei disodli gan wahanol gyfres o anomaleddau, oherwydd nid oes dianc rhag y ffaith, yn y systemau cymhleth y mae'n rhaid i ni eu gweithredu, bod pethau ymylol y gellir tynnu sylw atyn nhw bob amser a gall pobl ddweud, 'Pam mae hyn yn cael ei ganiatáu pan nad yw hynna wedi'i ganiatáu? Pam na allaf i wneud hyn pan mai'r dystiolaeth ar gyfer hyn yw ei fod yn ddiogel?' Nid oes modd osgoi'r anomaleddau hynny pan fyddwch chi'n ceisio ymateb i gymhlethdod y sefyllfa sy'n ein hwynebu ni heddiw. Y cwbl y byddai'r camau y mae'r Aelod wedi eu hargymell, sydd, fel y dywedais, yn gyfraniad defnyddiol at y ddadl a'r ystyriaethau am hyn i gyd, yw ein harwain i wahanol gyfres o gyfaddawdau, gwahanol gyfres o anomaleddau. Nid oes dianc rhag y ffaith, pan fyddwch chi'n ceisio llunio ymatebion i'r amgylchiadau anodd iawn sy'n newid yn gyflym yr ydym ni yn eu hwynebu, nad yw'n bosibl cael rhesymeg sy'n gynhwysfawr ar bob un achlysur ac ym mhob un agwedd. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ofyn i bobl ei wneud yw cymryd y pecyn yn ei gyfanrwydd, ac mae'r pecyn yn ei gyfanrwydd wedi'i gynllunio yma yng Nghymru i'n rhoi ni yn ôl mewn sefyllfa lle gall ein gwasanaeth iechyd ymdopi â nifer yr achosion o coronafeirws, y gall y gwasanaeth iechyd barhau i wneud yr holl bethau eraill yr ydym ni angen iddo eu gwneud, lle bydd bywydau yn cael eu hachub. Dyna'r wobr y mae'n rhaid i bob un ohonom ni ei chadw o'n blaenau.

Er bod y pecyn ychwanegol o gymorth ariannol a gyhoeddwyd ddoe yn amlwg i'w groesawu, nid yw'n digolledu'r sector lletygarwch yn llawn am y refeniw y bydd yn ei golli dros dymor yr ŵyl, a cheir sectorau eraill sy'n cael eu cloi allan o gymorth digonol yn barhaus—y gyrwyr tacsi y mae eu masnach ym mis Rhagfyr yn dibynnu i raddau helaeth ar fynd â phobl i fariau a bwytai ac oddi yno, a gweithwyr yn yr economi gig, sy'n dibynnu ar waith tymhorol. I gynifer o bobl, mae'r cyfyngiadau hyn fel y maen nhw wedi'u sefydlu ar hyn o bryd yn ffon i gyd a dim moron, ac nid yw'r cymorth yn eu digolledu yn ddigonol am y golled o enillion. Rydym ni wedi cael y cyhoeddiad am Debenhams heddiw a'r cyhoeddiad gan Brains; ers dechrau 2020, bu cynnydd o 41 y cant i ddiweithdra yng Nghymru o'i gymharu â 18 y cant yn Lloegr, sy'n golygu bod tua 20,000 o bobl ychwanegol yn chwilio am waith. I ddiogelu swyddi ac er budd llesiant ehangach pobl, ac i gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y polisi iechyd cyhoeddus cyffredinol, a gaf i annog y Prif Weinidog i ailystyried penderfyniad ddoe?

Wel, rwy'n amau'n fawr y byddai ailystyried penderfyniad ddoe yn ychwanegu at ymddiriedaeth y cyhoedd, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw ei fod, wrth gwrs, yn iawn i dynnu sylw at effaith echrydus coronafeirws ym mywydau cynifer o bobl. Nid yw'r pecyn cymorth yr ydym ni wedi ei gyhoeddi yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar letygarwch ei hun; bydd £180 miliwn ohono yn cael ei ddarparu i'r 8,000 o fusnesau lletygarwch hynny a'r 2,000 o fusnesau sy'n eu cefnogi yn y gadwyn gyflenwi, ond mae gweddill y pecyn gwerth £340 miliwn ar gael i helpu amrywiaeth ehangach o fusnesau y mae'r penderfyniad yn effeithio arnyn nhw, ac mae hynny'n cynnwys busnesau manwerthu, pan eu bod nhw'n gallu dangos y bu effaith uniongyrchol ar eu gallu i fasnachu, ond mae hefyd yn cynnwys unig fasnachwyr hefyd. Ceir elfen bwysig yn y pecyn a fydd yn caniatáu i lanhawyr, er enghraifft, sy'n glanhau lleoedd lletygarwch—nid ydyn nhw'n cael eu cyflogi gan y busnes, maen nhw'n cael eu cyflogi ganddyn nhw eu hunain—allu cael cymorth o'r pecyn hwn, ac felly hefyd gyrwyr tacsis, Llywydd. Cefais gyfarfod â grŵp o yrwyr tacsi ddydd Sul, fy hun. Gofynnwyd i mi yn gynharach pa grwpiau yr oeddem ni wedi siarad â nhw dros y penwythnos. Ymwelais â mosg fy hun ddydd Sul, yn benodol i gyfarfod â grŵp o bobl yn y fasnach dacsis, ac maen nhw wedi cael amser eithriadol o galed yn ystod y cyfnod hwn, ond mae cymorth ar gael iddyn nhw, yn rhannol drwy Lywodraeth Cymru ac yn rhannol drwy Lywodraeth y DU. Ac mae'r pecyn hwn yn parhau i helpu pobl, nid yn unig ym maes lletygarwch ond y rhai y mae eu bywoliaeth yn gysylltiedig ag ef.

Cyfleusterau Iechyd Cymunedol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfleusterau iechyd cymunedol yng nghanolbarth Cymru? OQ55949

Diolchaf i Russell George am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae gwasanaethau lleol wedi gwneud cynnydd cyflym o ran gweithredu agweddau allweddol ar fodel gofal sylfaenol Cymru. Yn y canolbarth, mae bwrdd iechyd Powys yn bwrw ymlaen ag ailddatblygiad Bro Ddyfi ym Machynlleth a meddygfa newydd yn Llanfair Caereinion.

14:10

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Rwy'n ymwybodol o'r ddau gynnig yna. Prif Weinidog, rwy'n ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys bellach wedi cyflwyno cais ffurfiol am gyfleuster iechyd newydd sbon yn y Drenewydd. Byddai'r ganolfan llesiant newydd, wrth gwrs, o fudd enfawr i filoedd o bobl ar draws gogledd Powys. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r cynigion, gallem weld cyfleuster o'r radd flaenaf ym Mhowys, a allai gynnig mwy o wasanaethau yn lleol a dod â'r dechnoleg a'r hyfforddiant diweddaraf i'r canolbarth. Byddai'r cyfleuster newydd hefyd yn caniatáu i archwiliadau ac apwyntiadau gael eu cynnig yn lleol, yn hytrach na bod pobl yn gorfod teithio y tu allan i'r sir fel y maen nhw ar hyn o bryd. Rwyf i hefyd yn ymwybodol—fel y byddwch chithau—y bu anhawster gwirioneddol mewn recriwtio gweithwyr iechyd proffesiynol i'r canolbarth, yn enwedig meddygon teulu, felly rwy'n credu'n gryf hefyd y bydd y cyfleuster newydd yn annog gweithwyr iechyd proffesiynol i symud i'r canolbarth. Felly, a fyddech chi, Prif Weinidog, yn gallu cadarnhau eich cefnogaeth i'r cyfleuster iechyd hwn i gynorthwyo pobl gogledd Powys?

Diolchaf i Russell George am hynna a diolchaf iddo, yn wir, am ei gefnogaeth i'r datblygiadau ym Machynlleth a Llanfair Caereinion, y gwn ei fod wedi'i gofnodi fel bod wedi ei wneud. Gwn, o safbwynt y canolbarth, y bydd hefyd wedi croesawu'r ffaith bod fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, mewn datganiad ar 16 Tachwedd, wedi gallu cadarnhau ein bod ni bellach wedi recriwtio 200 o feddygon teulu dan hyfforddiant i Gymru yn y dair rownd recriwtio yn 2020. Mae hynny i fyny o 186 y llynedd, ac mae'n llawer uwch na'r targed o 160 yr ydym ni wedi ei osod. Yn yr un datganiad, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd ein bod ni'n mynd i barhau i ariannu'r cynllun cymrodyr academaidd ar gyfer y canolbarth a'r gorllewin am ddwy flynedd arall mewn ymdrech i ymateb i'r pwynt a wnaeth Russell George am yr angen i ddenu meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i'r rhan honno o Gymru.

Mae datblygiad y Drenewydd yn rhan o'r tair canolfan wledig ranbarthol y mae'r bwrdd iechyd lleol wedi eu nodi. Mae achos busnes y rhaglen ar gyfer y campws amlddisgyblaeth yn y Drenewydd wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac mae swyddogion yn craffu arno. Fel y dywedodd Russell George, Llywydd, mae'n darparu ar gyfer cyfleusterau iechyd a gofal cymdeithasol, ond mwy na hynny; mae ysgol gynradd newydd yn rhan o'r datblygiad ac mae tai newydd yn y datblygiad hefyd. Felly, mae'n gynnig cymhleth a bydd angen dod â chyllid o wahanol ffrydiau at ei gilydd er mwyn gallu cael y cyllid y tu ôl iddo. Ond mae'n enghraifft dda iawn, rwy'n credu, o'r gwaith y mae'r bwrdd iechyd llawn dychymyg hwnnw yn ei wneud, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn y Drenewydd yn cael eu calonogi gan y ffaith bod ganddyn nhw gyfres lawn dychymyg, greadigol ac effeithiol, rwy'n credu, o gynigion sydd bellach yn cyrraedd y pwynt hwn yn eu datblygiad.

Mae cwestiwn 4 [OQ55953] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 5, Rhun ap Iorwerth.

Porthladd Caergybi

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trefniadau ym mhorthladd Caergybi ar ôl i'r cyfnod pontio ddod i ben? OQ55984

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn, Llywydd. Mae model gweithredu ffiniau'r Deyrnas Unedig yn fater a gadwyd yn ôl. Lle mae'r model hwnnw'n effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ac ar gymunedau yng Nghymru, rydym yn ceisio rheoli a lliniaru ei effaith.

Mae trefniadau pontio Brexit yn dod i ben fis i heddiw, ac mae'r llanastr llwyr o'r diffyg parodrwydd wedi cael ei amlygu yn eglur, rwy'n credu, gan benderfyniad ymddangosiadol Llywodraeth y DU i gymryd arhosfan lorïau Roadking yng Nghaergybi drosodd i'w ddefnyddio fel man gwirio nwyddau o fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf. Dywedir wrthyf fod 28 o staff wedi cael gwybod y byddan nhw'n colli eu swyddi, ac mae angen sicrwydd arnom ni y byddan nhw'n cael eu hailgyflogi ar y ffin newydd. Er y gallai hyn fod wedi helpu i ddatrys un darn o jig-so Brexit, mae wedi creu problemau newydd, oherwydd mae'r arhosfan lorïau yn rhan hanfodol o seilwaith y porthladd, gan atal lorïau rhag gorfod parcio ym mhob rhan o'r dref. Yr hyn yr oedd ei angen arnom ni oedd datblygiad ffin newydd yn ardal Caergybi, ond ar yr unfed awr ar ddeg hon, rydym ni'n gweld panig dall, rwy'n meddwl, gan Lywodraeth y DU sydd wedi rhoi fawr ddim sylw i anghenion Caergybi. Mae rhan o seilwaith ffin Caergybi yn dal i fod wedi'i chlustnodi ar gyfer Warrington, hyd y gwyddom.

A gaf i ofyn beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wybod am y cynlluniau Roadking? Ewch â ni yn ôl at pam y penderfynwyd y byddai Cyllid a Thollau EM yn arwain y gwaith o ddarparu'r holl ffiniau a seilwaith porthladd angenrheidiol ar gyfer Caergybi. Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gallu chwarae rhan yn y fan yma. Pa sicrwydd a roddwyd i chi gan Lywodraeth y DU? Cyplyswch hyn i gyd â'r nerfusrwydd ynghylch yr archwiliadau electronig newydd sydd heb eu profi eto ar nwyddau allforio sy'n cael eu cyflwyno ar 1 Ionawr, a gallwn weld y risg y mae Caergybi yn ei hwynebu nawr. Dyma'r groesfan orau o fôr Iwerddon, ac rwy'n nerfus iawn ynghylch yr holl sôn am gynyddu trefniadau cludo nwyddau uniongyrchol rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop er mwyn osgoi problemau pont dir. Felly, pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd nawr i helpu i oresgyn y problemau hyn sy'n parhau, ac i atal porthladd Caergybi a swyddi'r porthladd rhag cael eu tanseilio?

14:15

Llywydd, a gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yna? Mae'n dair blynedd a hanner ers refferendwm Brexit, a chydag wythnosau i fynd nawr, mae cyflwr y paratoadau yng Nghaergybi wir yn dangos gymaint o draed moch y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud o ddarparu'r canlyniad yr ymgyrchodd Prif Weinidog y DU drosto. Eisteddais mewn cyfarfod, Llywydd, yn yr adeilad hwn ym mis Gorffennaf—y mis Gorffennaf ar ôl y refferendwm ym mis Mehefin—gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar y pryd, David Davis. Gofynnodd y Prif Weinidog blaenorol iddo yn benodol bryd hynny am borthladdoedd Cymru a thraffig sy'n dod o ynys Iwerddon drwy Gymru. Maen nhw wedi bod yn ymwybodol o'r broblem hon o'r cychwyn cyntaf, a dyma ni—mae'r Aelod wedi nodi'r safle ar yr ynys y mae Llywodraeth y DU yn ei ffafrio, mae'n debyg, ond nid wyf i wedi eu gweld nhw'n cyhoeddi hwnnw yn ffurfiol fel y lleoliad hyd yn oed heddiw. Ac wrth gwrs, mae Rhun ap Iorwerth yn iawn: nid yw'r systemau tollau electronig wedi eu profi eto hyd yn oed.

Nawr, y tro cyntaf i ni wybod am y trafferthion yr oedd Llywodraeth y DU ynddyn nhw oedd pan wnaethon nhw rannu hyn gyda ni ddiwedd mis Awst, ac roedd hynny oherwydd eu bod nhw wedi methu â sicrhau cytundeb yr awdurdod lleol i'r cynlluniau yr oedd ganddyn nhw ar waith ar gyfer ymdrin ag effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar borthladd Caergybi. Ers hynny, rydym ni wedi gweithio gydag awdurdodau'r porthladd, y cyngor lleol a Llywodraeth Iwerddon. Mae'r Prif Gonswl Iwerddon i Gymru yn ymweld â Chaergybi heddiw, fel y mae'r Aelod yn gwybod, a chyda CThEM a Llywodraeth y DU i geisio datrys rhai o'r materion ymarferol iawn hynny y maen nhw wedi cael tair blynedd a hanner i fynd i'r afael â nhw, ac y maen nhw'n dal i fod, ar y funud olaf un hon, mewn brys i'w datrys. Mae hyn yn arwydd o'r hyn sydd i ddod, a'r rhai a ddadleuodd o'i blaid sy'n gyfrifol.

Y Gwasanaeth Iechyd yn y Gogledd

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am welliannau i'r GIG yng ngogledd Cymru? OQ55964

Llywydd, mae'r gwelliant i wasanaethau'r GIG yn y gogledd wedi bod yn amlwg yn ymateb cydlynol a chynhwysfawr y bwrdd iechyd i'r argyfwng coronafeirws. Roedd hyn a thystiolaeth arall o welliant yn sail i'r argymhelliad diweddar y dylai'r sefydliad gael ei lacio i ymyrraeth wedi'i thargedu.

Prif Weinidog, ers cyhoeddi'r cam o lacio mesurau arbennig i ymyrraeth wedi'i thargedu, mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi sydd wedi'u drysu'n llwyr gan y penderfyniad i leihau lefel yr ymyrraeth yn y bwrdd iechyd hwnnw. Byddwch yn ymwybodol, gan mai chi wnaeth y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig, bod pryderon difrifol ar yr adeg y'i gwnaed yn destun mesurau arbennig, ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl ac, yn wir, ei berthynas â'r cyhoedd. Fe'i hysbyswyd bod angen iddo ailgysylltu â'r cyhoedd, adennill ffydd y cyhoedd, a rhoi trefn ar ei wasanaethau iechyd meddwl, ac eto dyma ni, dros bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i fod mewn sefyllfa lle mae ffydd y cyhoedd yn isel dros ben a lle mae gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i fod yn annigonol. Nid oes hyd yn oed strategaeth effeithiol i'w rhoi ar waith ar iechyd meddwl er mwyn gwella'r gwasanaethau hynny. Pam, o ystyried absenoldeb tystiolaeth o welliant i ofal iechyd meddwl, ac yn wir absenoldeb tystiolaeth o welliant yn y berthynas â'r cyhoedd, yn arbennig, mae'r sefydliad hwn wedi cael ei dynnu allan o fesurau arbennig yn gyfan gwbl?

Wel, mae'r sefydliad wedi cael ei dynnu allan o fesurau arbennig, Llywydd, oherwydd bod y system driphlyg sy'n cynghori prif weithredwr y GIG wedi ei gyfarwyddo i argymell i'r Gweinidog iechyd mai dyma'r adeg iawn y dylid llacio'r mesurau. Mae hwnnw yn fater arferol yn y gwasanaeth iechyd—mae byrddau iechyd yn symud i fyny ac i lawr o ran mesurau. Ym mis Awst 2019, llaciwyd mesurau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i fonitro rheolaidd, ac ym mis Medi eleni, llaciwyd mesurau Bae Abertawe a Hywel Dda o ymyrraeth wedi'i thargedu i fonitro estynedig. Efallai fod yr Aelod yn credu bod ei ymdrechion i berswadio pobl i ddrwgdybio'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd wedi llwyddo, ond nid yw wedi llwyddo ymhlith pawb. Cyhoeddodd Unsain, roeddwn yn falch iawn o ddweud, ddatganiad i'r wasg ar y diwrnod y gwnaed y penderfyniad. Mae'r penderfyniad hwn, meddai:

yn cyfiawnhau gwaith caled pob un gweithiwr gofal iechyd yn Betsi, y bobl hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino i weld BIPBC yn cael ei dynnu allan o fesurau arbennig.

Ac yn fwy cyffredinol, Llywydd, bydd y boblogaeth yn y gogledd yn gwybod mai gwasanaethau canser yn y gogledd, y perfformiad 62 diwrnod a'r perfformiad 31 diwrnod, yw'r gorau yng Nghymru gyfan, bod y nifer uchaf erioed o feddygon teulu a recriwtiwyd y cyfeiriais ato yn fy nghwestiwn diwethaf wedi dod o ganlyniad i'r gwaith a wnaed yn Betsi i ddyfeisio'r modiwl hyfforddi newydd sydd bellach wedi'i gyflwyno ar lefel Cymru gyfan, yr holl leoedd meddygon teulu dan hyfforddiant a lenwyd yn Wrecsam, ym Mangor ac yn Nyffryn Clwyd. Mae gan weithwyr proffesiynol ffydd yng ngwaith y sefydliad hwnnw, hyd yn oed os nad oes gan yr Aelod.

14:20
Diogelwch ar y Ffyrdd

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Sir Fynwy? OQ55985

Mae fframwaith diogelwch ar y ffyrdd Cymru yn nodi'r camau yr ydym ni a'n partneriaid yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. Bydd Sir Fynwy hefyd yn elwa ar y camau a gymerwyd i gyflwyno'r terfynau cyflymder 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig ac i fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd.

Diolch. Prif Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella diogelwch ar y ffyrdd ar yr A4042 yn Llanelen? Ceir man lle mae pont grom dros afon Wysg, ac rwy'n gwybod bod llwybrau troed yn arwain at y bont ar y ddwy ochr. Mae unrhyw gerddwyr yn cael eu gorfodi i wrthdaro â cherbydau drwy beidio â chael unrhyw ddewis ond cerdded ar y gerbytffordd. Dyma'r unig ran o'r A4042 rhwng Llanelen a'r Fenni lle nad oes troedffordd, sy'n ymddangos yn rhyfedd iawn, ac ni allaf ddychmygu bod unrhyw leoedd tebyg ar gefnffordd yng ngweddill Cymru. Mae trigolion lleol yn achwyn am y diffyg cynnydd a gellir deall eu rhwystredigaeth oherwydd yr oedi. Beth amser yn ôl, 18 a mwy o fisoedd yn ôl, cadarnhaodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bod dewisiadau yn cael eu hystyried ar gyfer y bont i gerddwyr yn Llanelen, ac y byddai mesurau yn cael eu cymryd i wella diogelwch cerddwyr. Rwy'n meddwl tybed a allwch chi roi syniad i ni yn fras o sut neu hysbysu pryd y bydd y gwaith a addawyd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn dechrau ar y ffordd hon? Diolch.

Llywydd, cynhaliwyd adolygiad o ddiogelwch a therfynau cyflymder ledled Cymru yn 2019; aseswyd 413 o ddarnau o gefnffyrdd ac argymhellwyd 114 o leoliadau ar gyfer gwaith yn ystod y rhaglen pum mlynedd. O ran yr A4042, gwnaed gwaith draenio gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai eleni, unwaith eto, mater diogelwch ar y ffyrdd uniongyrchol i wella'r anawsterau yr oedd y rhan honno o'r ffordd wedi eu dioddef o'r blaen. Nid wyf i'n ddigon cyfarwydd, mae arnaf i ofn, â'r rhan benodol o'r ffordd honno y mae'r Aelod yn cyfeirio ati, ond rwy'n siŵr, os yw hi'n dymuno ysgrifennu ataf i neu at y Gweinidog trafnidiaeth, y byddwn ni'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi am hynny.

Tlodi yn y Rhondda

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yn y Rhondda? OQ55974

Diolchaf i Leanne Wood am y cwestiwn yna, Llywydd. Rydym ni'n mynd i'r afael â thlodi yn y Rhondda drwy gyfres o raglenni sy'n rhoi neu'n gadael arian ym mhocedi'r rhai sydd ei angen fwyaf. Ers mis Ebrill eleni, er enghraifft, mae'r gronfa cymorth dewisol wedi gwneud dros 11,000 o ddyfarniadau yn Rhondda Cynon Taf, gan ddarparu £1 filiwn i'r rhai na fyddent wedi cael dim fel arall.

Prif Weinidog, roedd tlodi yn broblem ddifrifol yn y Rhondda cyn i bandemig COVID daro, ac mae pethau wedi gwaethygu yn sylweddol i lawer o bobl ers hynny. Rwy'n gwybod hynny gan fy mod i'n rhedeg cynllun rhannu bwyd lle mae'r galw yn cynyddu ac mae'n dibynnu ar wirfoddolwyr gwych i wneud gwaith gwrthdlodi eithaf hanfodol. Ac rydym ni hefyd yn gwybod y bydd y sefyllfa yn gwaethygu yn fuan gyda'r newidiadau a fydd yn cael eu gwneud i gredyd cynhwysol. Nawr, mae Plaid Cymru o'r farn y gallai incwm cynhwysol fod yn ffordd allan o hyn. Mae'r system dameidiog bresennol o grantiau a chymorth ariannol wedi golygu bod llawer iawn o bobl wedi syrthio drwy'r bylchau. Nawr, ni wnaiff San Steffan ystyried hyn, felly a fyddech chi'n barod i ystyried cynllun incwm sylfaenol arbrofol? A phe byddech chi'n barod i ystyried hynny, a fyddech chi'n ystyried y Rhondda fel lleoliad ar ei gyfer, mewn ardal lle mae'r angen yn amlwg yn eithaf mawr?

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bu gen i ddiddordeb erioed, yn bersonol, mewn incwm sylfaenol cynhwysol. Hefyd, rwyf i wedi trafod hynny gyda nifer o Aelodau o amgylch y Siambr hon, ac yn wir fe'i trafodais yn fanwl gydag arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban Cyngor Dinas Glasgow, lle'r oedd ymgais ar gynllun arbrofol yn cael ei gynnal. Disgrifiodd i mi rai o'r anawsterau ymarferol gwirioneddol sy'n bodoli, o ystyried y rhyngwyneb rhwng incwm sylfaenol a ddarperir gan Lywodraeth ddatganoledig a'r system fudd-daliadau, ac rwy'n credu mai cynllun arbrofol yw'r dull iawn i geisio gallu archwilio mewn ffordd ymarferol beth allai'r rhwystrau hynny fod. Pa un a yw'n well gwneud hynny ar sail ddaearyddol neu a yw'n well gwneud hynny ar sail sectoraidd, gan ddewis grŵp o bobl—dyna'r dull yr oedd Glasgow yn ei ystyried ar y pryd—mae cael grŵp penodol o bobl ac yna cynnal cynllun arbrofol gyda nhw, rwy'n credu, yn rhywbeth y dylem ni ei ddadlau a'i drafod ymhellach. Ac rwyf i hefyd yn credu, Llywydd, bod angen i'r holl ddadl ynghylch incwm sylfaenol ymuno â'r bobl hynny sy'n dadlau y byddai sicrwydd gwasanaeth sylfaenol cynhwysol yn gwneud mwy i bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus na dim ond incwm sylfaenol ar ei ben ei hun. Ond mae hwn yn faes cyfoethog ar gyfer trafodaeth ac archwilio polisi, ac rwy'n credu y byddai'n dda iawn pe gallem ni gael hynny ar sail drawsbleidiol yma yng Nghymru.

14:25
Marwolaethau yn Dilyn Coronafeirws a Gafwyd yn yr Ysbyty

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl sydd wedi marw ar ôl cael y coronafeirws yn ysbytai Cymru? OQ55957

Llywydd, nid yw'r Swyddfa Ystadegau Cyhoeddus nac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ffigurau marwolaethau ar y sail hon. Cafodd esboniad cynhwysfawr o ffynonellau data marwolaethau Cymru ei gyhoeddi gan y prif ystadegydd yn gynharach yn y pandemig.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac yn amlwg, mae ein meddyliau gyda'r holl deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, ble bynnag maen nhw yng Nghymru, i coronafeirws. Ond yn fy rhanbarth etholiadol fy hun, mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi dioddef nifer enfawr o farwolaethau, mewn ysbytai, ac mae'n ymddangos ei fod wedi mynd drwy'r tri ysbyty cyffredinol rhanbarthol sydd wedi'u lleoli o fewn y bwrdd iechyd lleol hwnnw. Mae'n bwysig bod gwersi yn cael eu dysgu ac mae'n bwysig bod yr hyn sy'n cael ei ddysgu o'r gwersi hynny yn cael ei roi ar waith. Rwyf i'n cwmpasu ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, gan fy mod i'n Aelod rhanbarthol, ac yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw, diolch byth, nid ydym ni wedi gweld cymaint o farwolaethau yn yr ysbyty. Felly, mae'n amlwg bod arfer da yn digwydd mewn byrddau iechyd eraill. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi y bydd yr ymarfer dysgu gwersi sy'n sicr yn cael cael ei gynnal gan Gwm Taf yn mynd i weithredu mesurau rheoli llymach fel na welwn ni'r golygfeydd trasig a welsom ni yn ysbytai Brenhinol Morgannwg, Tywysoges Cymru a Tywysog Siarl Merthyr yn cael eu hailadrodd?

Llywydd, diolchaf i Andrew R.T. Davies am hynna. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd. Mae'r marwolaethau yr ydym ni wedi'u gweld o coronafeirws yn y gymuned ac yn yr ysbyty bob amser yn drasiedi unigol i'r teuluoedd dan sylw ac mae wir angen i'n meddyliau fod gyda nhw. Ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 22 Tachwedd, mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 94 y cant o'r holl achosion a gadarnhawyd, wedi'u caffael yn y gymuned, a bod 3 y cant o achosion wedi'u caffael yn yr ysbyty, ond mae hynny yn golygu bod gan ysbytai rwymedigaeth benodol i sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal lledaeniad y feirws pan fydd wedi cael unrhyw fath o sylfaen mewn lleoliad caeëdig fel ysbyty.

Fe wnaethom ni ddysgu gwersi yn gynharach yn yr haf, Llywydd, o frigiad yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac maen nhw wedi bod yn cynghori cydweithwyr yng Nghwm Taf hefyd, ac mae'r gwersi sy'n cael eu dysgu yno yn cael eu lledaenu i rannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Ond mae'n ffaith anffodus ac anochel, wrth i nifer yr achosion cymunedol gynyddu, fod y siawns y bydd y feirws yn mynd i leoliad caeëdig, boed yn gartref gofal neu'n ysbyty neu'n garchar, yn cynyddu ar yr un pryd. Yn y cymunedau hynny lle mae coronafeirws wedi bod yn cylchredeg yn arbennig o ffyrnig—ac mae hynny'n sicr wedi bod yn wir am Rhondda Cynon Taf—yna mae'r risgiau hynny hyd yn oed yn fwy. Ond mae dysgu'r gwersi o'r profiad a sicrhau eu bod ar gael i eraill a allai wynebu'r un heriau yn rhan bwysig iawn o'r ymateb, ac i raddau helaeth, mi wn, yn rhan o'r ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r arbenigwyr yn y maes hwn yn cydweithio.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae gennyf i dri newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, mae'r datganiad ar ailadeiladu economaidd wedi ei dynnu'n ôl. Yn ail, mae'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil marchnad fewnol y Deyrnas Unedig wedi ei gohirio tan ddydd Mawrth nesaf, 8 Rhagfyr. Ac, yn olaf, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar gyfyngiadau coronafeirws mis Rhagfyr fel yr eitem olaf o fusnes heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

14:30

Trefnydd, a gaf i ddweud mor siomedig yr wyf i nad oes gennym ni ddadl yr wythnos hon cyn y rheoliadau cyfyngol iawn a fydd yn dod i rym ledled Cymru ddydd Gwener? Rydych chi wedi cael y cyfle. Gallech chi fod wedi cyflwyno dadl 'cymerwch sylw' y prynhawn yma i'r Siambr hon drafod cynigion Llywodraeth Cymru ac i roi syniad o'i barn arnyn nhw. Rydych chi a minnau yn gwybod y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do. Mae llawer o'r busnesau hynny a fydd yn cael eu heffeithio eisoes ar eu gliniau, gyda degau o filoedd o swyddi yn y fantol, ac mae eich cyfyngiadau chi yn mynd i achosi hyd yn oed mwy o boen i'r busnesau hynny.

Mae llawer o bobl o'r farn bod y cynigion hyn yn gwbl anghymesur â lefel y risg yn y sefydliadau hynny, sydd, wrth gwrs, eisoes yn cael eu rheoleiddio ac sy'n amgylcheddau diogel o ran COVID ar y cyfan. Ac, wrth gwrs, nid yw eich cyfyngiadau yn rhoi unrhyw ystyriaeth o gwbl i'r ffaith bod y feirws yn cylchredeg ar gyfraddau gwahanol iawn mewn gwahanol rannau o'r wlad. Yng ngogledd Cymru, mae'n llawer llai, er enghraifft, nag mewn rhai rhannau o'r de. A allwch chi esbonio i'r Senedd heddiw pam ar y ddaear nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfle i gael pleidlais ar y rheoliadau hyn cyn y dydd Gwener hwn?

Wel, Llywydd, bydd cyfle i'r Senedd bleidleisio ar y rheoliadau yn llawn o fewn yr amserlen sydd wedi'i nodi gan Reolau Sefydlog y Senedd hon. Ac mae hefyd yn rhoi cyfle i'r pwyllgor deddfwriaeth—LGC, y pwyllgor deddfwriaeth—y pwyllgor materion cyfansoddiadol ymgymryd â'i waith. Felly, bydd hyn i gyd yn cael ei gyflawni yn llawn o fewn yr amserlen a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd, ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddatganiad gan y Prif Weinidog y prynhawn yma, cyn gynted ag y bo modd i'r Prif Weinidog gyflwyno datganiad i Aelodau'r Senedd i'w graffu ar y rheoliadau.

Yn ystod y mis diwethaf, rwyf i wedi codi pryderon dro ar ôl tro ynglŷn â'r angen i wneud ysgolion yn lleoedd mwy diogel i athrawon a disgyblion. Bydd y rhan fwyaf o rieni yng Nghymru erbyn hyn wedi cael profiad uniongyrchol o o'u plentyn yn gorfod aros gartref o'r ysgol oherwydd achos positif yn y dosbarth, neu byddan nhw'n adnabod rhywun arall y mae ei blentyn wedi bod i ffwrdd o'r ysgol o ganlyniad i'r pandemig. Mae mynychter achosion o COVID mewn ysgolion wedi arwain at ganlyniadau angheuol i aelodau staff yn Lloegr, ac rwy’n deall bod y Llywodraeth yn y fan yma yn adolygu trefniadau i reoli heintiau a throsglwyddiad mewn lleoliadau addysg. Ac rwyf i'n annog y Llywodraeth i ystyried mwy o ddulliau, fel profion torfol a phrofion rheolaidd, fel gofal plant ychwanegol a chymorth ariannol, ac amddiffyn y bobl hynny sydd angen eu gwarchod.

Hoffwn i hefyd gael datganiad am allu adrannau achosion brys ledled de y wlad hon. Mae fy ysbyty lleol i, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, wedi dioddef pwysau difrifol yn ddiweddar. Ac rwy'n deall bod problemau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys eraill yn ychwanegu at y pwysau hynny. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Llywodraeth ymchwilio i'r mater hwn ac adrodd yn ôl i'r Aelodau fel mater o frys. Diolch yn fawr.

Diolch i Leanne Wood am godi'r ddau fater yna. Ar y cyntaf, fe wnaf yn siŵr fy mod i'n siarad â'r Gweinidog addysg, oherwydd roedd eich cais am ddatganiad yn cynnwys amrywiaeth eithaf eang o agweddau, gan gynnwys profi mewn ysgolion, cymorth i bobl sy'n gwarchod eu hunain, a hefyd cymorth ariannol i'r rhieni hynny sydd hefyd yn gorfod cymryd amser i ffwrdd pan fydd yn ofynnol i'w plant fod allan o'r ysgol. Felly, fe wnaf yn siŵr y byddaf yn cael y sgwrs honno gyda'r Gweinidog i archwilio'r ffordd orau o ddiweddaru Aelodau'r Senedd, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw, ynghylch y materion hynny. Ac, unwaith eto, mae gennym ni gwestiynau i'r Gweinidog iechyd yfory, felly efallai y bydd cyfleoedd i drafod yn fwy manwl y cwestiwn am bwysau ar safleoedd ysbytai ledled Cymru. Felly, efallai mai dyna fydd y cyfle cyntaf i gael y trafodaethau hynny.

A gaf i ofyn i'r Trefnydd ystyried adroddiad i'r Siambr hon ar ymchwiliad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i ffiniau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru? Mae gennyf i broblem benodol sy'n wynebu'r bobl hynny yn Forge Mill yn Ystrad Mynach, lle maen nhw wedi cael eu symud o un ardal cyngor cymuned, y maen nhw'n cysylltu'n gryf â hi—Cyngor Cymuned Gelligaer—i ardal cyngor cymuned arall, nad ydyn nhw yn cysylltu â hi, sef cyngor cymuned Llanbradach. Nid wyf i erioed wedi cael cynifer o bobl yn cwyno wrthyf i am ffiniau llywodraeth leol o'r blaen—mae hyn wedi effeithio ar 528 o etholwyr, a bydd yn eu symud i bob pwrpas o Ystrad Mynach i Lanbradach, ac Ystrad Mynach yw'r gymuned y mae ganddyn nhw'r cysylltiad agosaf â hi. Ac yn wir, gan fy mod yn byw gerllaw, rwy'n gallu deall y teimladau hynny. Mae problem hefyd o ran bod Bargoed ac Aberbargoed yn cael eu cysylltu â'i gilydd. Wel, mae Aberbargoed yn etholaeth Islwyn, ac mae Bargoed yn etholaeth Caerffili, a'r unig beth sydd gan y ddwy dref hynny yn gyffredin yw bod gan y ddwy ohonyn nhw 'bargoed' yn eu henwau, a dyna'r cwbl.

Rwyf i wedi codi'r pryderon hynny yn uniongyrchol â'r Gweinidog yr wythnos diwethaf, ac mae'n rhaid iddi weithredu mewn modd lled-farnwrol, felly ni fydd hi'n gallu gwneud datganiad ar hyn cyn iddi wneud ei phenderfyniad ei hun. Ond yr hyn yr hoffwn i ei gael yw adroddiad i'r Siambr hon ynghylch y penderfyniad hwnnw. Ac a gaf i hefyd amserlen ar gyfer faint o amser y bydd yn ei gymryd i wneud y penderfyniad hwnnw? Bydd yn chwe wythnos ar ôl cyflwyno'r papur, sef 5 Tachwedd, ond, yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'n anodd dweud pryd yn union fydd hynny—felly, rhyw fath o amserlen ynghylch sut y caiff y penderfyniad hwnnw ei wneud. Mae pobl, yn enwedig yn Forge Mill, wedi cyflwyno sylwadau cryf iawn ynghylch hyn.

14:35

Diolch i Hefin David am godi'r mater pwysig hwn ar ran ei etholwyr. Ac rwy'n gwybod ei fod ef wedi cael cyfle i gyflwyno sylwadau cryf ac uniongyrchol iawn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn bersonol hefyd, fel ei bod yn gallu clywed yn uniongyrchol ganddo o ran pryderon ei etholwyr. Fel y mae Hefin yn ei ddweud, bydd cyfnod o chwe wythnos, a bydd y Gweinidog yn ystyried yr holl sylwadau a dderbynnir, gan gynnwys y rhai gan Hefin David. Ond byddaf i'n siŵr o roi mwy o fanylion i'r Aelod ynghylch yr amserlen—nid wyf i'n siŵr o hynny fy hun heddiw, ond byddaf i'n sicr yn darganfod hynny ar ei ran, ac yn amlwg, byddaf hefyd yn cyfleu'r cais hwnnw am yr adroddiad fwy manwl i'r Senedd.FootnoteLink

Gweinidog, tybed a allech chi fy helpu i ar dri mater, os gwelwch yn dda. Y cyntaf yw pa un a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i wneud datganiad clir o gyngor neu arweiniad i gyflogwyr cyflogeion sy'n rhieni sengl y mae eu plant yn cael eu hanfon adref i hunanynysu o'r ysgol. Ar hyn o bryd mae'n drosedd i blant gael eu gadael ar eu pennau eu hunain os ydyn nhw mewn perygl—nid oes terfyn oedran penodol wedi'i osod ar hynny, ond rwy'n credu y gallai fod rhywfaint o ddryswch i gyflogwyr ynghylch pryd y dylen nhw gytuno i'r ceisiadau a wneir gan gyflogeion sy'n poeni ynghylch gadael plant dros 12 oed ar eu pennau eu hunain gartref.

Yn ail, tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am y sgyrsiau y maen nhw wedi bod yn eu cael yn fwyaf diweddar gydag archfarchnadoedd. Rwy'n deall bod Asda, oherwydd ailymddangosiad pasys danfon blaenoriaethol, ddim ond yn blaenoriaethu cyfeiriadau yn Lloegr. Rwy'n siŵr na fyddwn ni eisiau edrych ar hyn unwaith eto wrth i ni agosáu tuag at y Nadolig. Dylai cyfeiriadau yng Nghymru gael eu trin â'r un parch â chyfeiriadau yn Lloegr.

Ac yna yn olaf, os gallem ni gael datganiad gan Weinidog yr economi o ran y cynnydd ar safle Brocastle, a oedd, efallai y byddwch chi'n cofio, wedi ei adael gan Ineos, a thrwy hynny wedi siomi gobeithion economaidd llawer o'm hetholwyr, yn ogystal â chymryd £1.4 miliwn o arian cyhoeddus. Hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd bod yr holl arian hwnnw wedi'i adhawlio erbyn hyn, a bod rhywfaint o obaith o hyd ar y gorwel i'r gweithwyr Ford hynny, yn arbennig, a oedd yn edrych ymlaen at gyfleoedd iddyn nhw yn ffatri Ineos. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Suzy Davies am godi'r holl faterion yna. Yn sicr, rydym ni'n gobeithio y byddai cyflogwyr yn gwneud y peth iawn ar gyfer eu cyflogeion sy'n rieni i blant a gaiff eu hanfon adref o'r ysgol, ond yn sicr, byddaf i'n trafod â Gweinidog yr economi beth fyddai'r ffordd orau i ni allu rhoi cyngor i'r cyflogwyr hynny. A hefyd, ar y mater yn ymwneud ag archfarchnadoedd, rwy'n siomedig iawn o glywed, os yw hynny'n wir, bod Asda yn blaenoriaethu cyfeiriadau yn Lloegr. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes hwn yn awyddus i gael sgyrsiau gyda'r archfarchnadoedd ynglŷn â hynny, a hefyd, byddaf yn sicrhau eich bod chi'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynny. A byddaf hefyd yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch safle Brocastle hefyd.

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wrth gwrs, wedi pwysleisio'n gyson dros fisoedd lawer erbyn hyn mai ei bwriad hi yw cyhoeddi Papur Gwyn ar y cynllun ffermio cynaliadwy cyn diwedd y flwyddyn yma. Dwi'n edrych ar y datganiad busnes sydd wedi'i gyhoeddi, a does yna ddim datganiad llafar yn ymwneud â'r Papur Gwyn hwnnw yn yr amserlen arfaethedig. Mae hynny'n fy arwain i i ddod i'r casgliad naill ai na fydd hi'n gwneud y cyhoeddiad hwnnw cyn diwedd y flwyddyn, neu, wrth gwrs, mai bwriad y Llywodraeth yw cyhoeddi'r Papur Gwyn hwnnw nid i'r Senedd yn gyntaf, drwy ddatganiad llafar, ond drwy ddatganiad ysgrifenedig.

Nawr, byddwch chi'n deall cystal â fi, dwi'n siŵr, pa mor arwyddocaol fydd y Papur Gwyn yma, oherwydd mae e'n cyflwyno argymhellion am newid unwaith mewn cenhedlaeth i'r modd y mae amaethyddiaeth yn cael ei gefnogi yng Nghymru. Mae e hefyd yn ddadleuol, a byddwn i'n gobeithio'n fawr nad bwriad Llywodraeth Cymru yw rhyddhau'r Papur Gwyn yma, dyweder, fel dwi wedi'i glywed, ar ddiwrnod olaf y tymor, 16 Rhagfyr, fyddai'n caniatáu, wedyn, i Weinidogion redeg bant a chuddio o dan garreg tan y flwyddyn newydd, gan obeithio bod y ffỳs wedi marw lawr ychydig cyn inni fel Aelodau gael cyfle i drafod y Papur Gwyn yn y Siambr. Felly, gaf i ofyn am ddatganiad llafar i gyd-fynd â rhyddhau'r Papur Gwyn yna? 

Gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth mewn ymateb i'r adolygiad gwariant, wrth gwrs, gan Ganghellor Llywodraeth y Deyrnas Unedig? Mi fyddwch chi, gymaint ag unrhyw un, yn ymwybodol, dwi'n siŵr, o oblygiadau hwnnw i gyllidebau yma yng Nghymru. Dwi'n meddwl yn benodol, wrth gwrs, am y toriad, oherwydd dyna yw e, yn y gefnogaeth ariannol i amaethyddiaeth yng Nghymru—nifer ohonom ni'n poeni'n fawr am hyn. Rŷch chi, fel Llywodraeth, yn amlwg yn ymwybodol mai toriad yw e, Llywodraeth yr Alban yn ei ddisgrifio fe yn yr un ffordd, gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, yr undebau amaeth—mae'r neges yn glir. Mae nifer ohonom ni, wrth gwrs, wedi rhybuddio ynglŷn â thanwario o fewn yr rural development plan, a dwi'n gwybod bod gennym ni flynyddoedd ychwanegol i wario'r pres hwnnw, ond mae'n amlwg nawr, wrth gwrs, ein bod ni'n cael ein cosbi o'r herwydd hynny.

Felly, mi fyddwn i'n leicio clywed, naill ai gan y Gweinidog amaeth, efallai, pa oblygiadau fydd y toriad yma yn ei gael ar y sector yng Nghymru, neu, efallai, gennych chi, yn ehangach, nid yn unig ar hwn, ond ar yr oblygiadau o safbwynt newid yn y ffordd mae gwariant yn Lloegr ar drafnidiaeth, a materion eraill yn ymwneud â'r adolygiad gwariant, oherwydd maen nhw'n mynd i fod yn bellgyrhaeddol iawn. 

14:40

Diolch i Llyr am godi'r ddau fater pwysig iawn yna. Byddaf i'n cyfleu'r cais hwnnw i'r Gweinidog ynglŷn â datganiad llafar yn ymwneud â'r Papur Gwyn. Rwy'n ofni nad oes gennyf i ddyddiad ar y papurau sydd o fy mlaen, felly byddaf i'n sicrhau fy mod i'n cael y sgwrs honno i sefydlu'r bwriadau yn hynny o beth ac i gyfleu eich cais penodol.

O ran yr adolygiad o wariant, llwyddais i ddarparu datganiad ysgrifenedig i'r Senedd yn syth ar ôl yr adolygiad o wariant yr wythnos diwethaf, a oedd yn siomedig i ni yng Nghymru ar nifer o lefelau, ond yn enwedig ynglŷn â'r materion sy'n wynebu ariannu ffermydd a'r hyn sydd wedi bod yn fradychiad llwyr o Gymru wledig, yn fy marn i, gyda £137 miliwn yn llai y flwyddyn nesaf i'w fuddsoddi yn y maes penodol hwnnw. Rwyf i ar hyn o bryd, yn fy swydd fel Gweinidog cyllid, yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth ar hyn o bryd i lunio ein cyllideb ddrafft mewn ymateb i hynny, a byddaf yn ei chyflwyno cyn y Nadolig. Ond, yn amlwg, byddwn i'n awyddus i chwilio am gyfleoedd eraill i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau am yr adolygiad o wariant a'r goblygiadau i ni, ac rwy'n ymwybodol fy mod i wedi cael gwahoddiad i'r Pwyllgor Cyllid, felly gallai hynny fod yn gyfle arall i gael y trafodaethau hynny.

Yn gyntaf, roeddwn i'n meddwl tybed a allwn ni gael datganiad i egluro polisi rhyngwladol Llywodraeth Cymru, o ran pa un a yw'n cynnwys datgoedwigo gwledydd ledled y byd, yn enwedig yn y gwledydd tlotaf, er mwyn sicrhau ein bod ni'n datblygu amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru nad yw'n dibynnu ar fewnforio bwydydd sy'n cael eu tyfu mewn rhannau o'r byd lle mae pobl yn torri coed er mwyn tyfu soia a grawn, i fwydo ein da byw

Yn ail, roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth ar yr adroddiad rhagorol gan Arglwydd Burns ac arbenigwyr eraill, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, i wneud cysylltiadau trafnidiaeth yn y de-ddwyrain yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd sy'n effeithio ar bob un ohonom ni. Rwyf wedi fy nghalonogi yn arbennig gan y rhan ganolog sy'n cael ei rhoi i'r pedair rheilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt, yr rwyf i wedi dadlau ers tro y byddai modd eu defnyddio'n well i fynd i'r afael â thagfeydd diangen ar yr M4. Rwy'n gobeithio y gall y ddadl ddechrau nawr o ran sut y gallwn ni gyflawni'r uchelgais yn yr adroddiad hwn, er gwaethaf yr holl heriau sy'n wynebu'r sector trafnidiaeth oherwydd COVID.

14:45

Wel, o ran ail gais Jenny Rathbone, rwy'n falch iawn o allu ymateb yn gadarnhaol a chadarnhau y bydd datganiad yr wythnos nesaf yn y Senedd, ar 8 Rhagfyr, gan y Gweinidog ar argymhellion Burns a'r camau nesaf sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, rwy'n credu y bydd hwnnw'n ddatganiad i'w groesawu'n fawr ar fater pwysig iawn sy'n peri pryder i bob un ohonom ni.

Ac yna, o ran y mater o i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried goblygiadau rhyngwladol ei chaffael o dramor ac yn y blaen, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog a oedd yn arfer bod yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol i ysgrifennu ar bwnc y strategaeth ryngwladol ac i ba raddau yr ydym ni'n cynnwys yr agweddau pwysig hynny yn y gofyniad sydd gennym ni o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol i fod yn Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang, a sicrhau nad rhywbeth yr ydym ni'n ymarfer gartref yn unig yw ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, ond sy'n rhywbeth yr ydym ni, mewn gwirionedd, yn sicrhau ein bod ni'n ei wneud pan fyddwn ni'n ceisio gwneud ein buddsoddiadau dramor hefyd.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Un mewn cysylltiad â'r cynllun canser sy'n dod i ben ddiwedd y mis hwn, 31 Rhagfyr. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dogfen olynol er gwaethaf y dyddiad terfyn hwn sy'n hysbys iawn i'r Llywodraeth. Rwy'n sylweddoli bod swyddogaeth y Llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio ar COVID, ond nid rhywbeth sydd newydd ymddangos ger ein bron yw hyn. Ac un peth yr ydym ni wedi ei ddysgu drwy COVID, yn anffodus, yw bod diflaniad gwasanaethau canser ar ddechrau COVID, yn amlwg, yn anffodus, wedi arwain at lawer o bobl erbyn hyn, yn anffodus, fel y mae Macmillan wedi ei nodi, yn cerdded o amgylch Cymru â chanser yn ddiarwybod iddyn nhw—maen nhw'n amcangyfrif bron i 3,000 o bobl—ac yn anffodus bydd bron i 2,000 o bobl, yn eu hamcangyfrifon, yn marw yn gynamserol o ganser oherwydd, yn amlwg, nad oedden nhw'n gallu manteisio ar y gwasanaethau y bydden nhw, mewn amgylchiadau arferol, wedi gallu eu defnyddio, pe na byddai COVID wedi taro'r gwasanaeth iechyd. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig bod y ddogfen hon yn cael ei chyflwyno fel mater o frys gan Lywodraeth Cymru fel bod cynllun olynol ar waith pan fyddwn ni'n mynd i mewn i'r flwyddyn newydd, oherwydd mae hwn yn fan cyfyng o fewn y GIG yng Nghymru, a byddwn i'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i ddatblygu'r cynllun hwnnw. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch sut y mae'n mynd i gyflwyno'r cynllun newydd ac, yn bwysig, sut y mae'r cynllun hwnnw wedi ei brofi gyda gweithwyr proffesiynol ym maes canser i sicrhau ei fod yn ddigon cadarn?

Mae'r ail ddatganiad yr wyf yn gofyn amdano, oddi wrth y Gweinidog iechyd unwaith eto, yn ymwneud â gwasanaethau ambiwlans. Ni fyddaf i'n gofyn i chi ymateb yn uniongyrchol i'r achos y byddaf i'n tynnu eich sylw ato, ond yr wythnos hon, yng Nghaerdydd, cefais wybod am achos pan alwyd am ambiwlans am hanner dydd ddydd Sadwrn ar gyfer anaf diwydiannol, pryd yr oedd dyn wedi disgyn oddi ar lori ac wedi cracio ei ben ar goncrit. Cafodd ei adael am wyth awr yn aros am ambiwlans i gyrraedd rhan ddeheuol Caerdydd, mewn dinas lle mae ei hadran damweiniau ac achosion brys, fel yr hed y frân, tua milltir a hanner neu ddwy filltir o'r digwyddiad hwnnw. Daeth yr ambiwlans o'r diwedd pan oedd hi bron yn 8 o'r gloch y nos. Mae gennyf i'r lluniau ar fy ffôn; maen nhw'n rhy graffig i'w dangos mewn unrhyw ffordd ystyrlon heb iddyn nhw achosi gofid. Ni fyddwn i'n disgwyl i chi ymateb i'r digwyddiad penodol hwnnw, ond mae'r dystiolaeth yr ydym ni wedi ei chymryd yn y pwyllgor iechyd wedi dangos bod pwysau cynyddol ar y gwasanaeth ambiwlans, am resymau hollol ddealladwy mewn rhai achosion—gorfod defnyddio cyfarpar diogelu personol a diheintio a glanhau ambiwlansys ar ôl pob defnydd—ac mae hwn yn destun pwysau cynyddol wrth i ni fynd ymhellach i mewn i'r gaeaf. Ni allaf gofio datganiad yn ddiweddar gan y Gweinidog iechyd ynghylch gwasanaethau ambiwlans, ac mae'n bwysig ein bod ni'n ddeall sut y mae'r Gweinidog yn ymgysylltu â'r ymddiriedolaeth i sicrhau, pan ei bod yn bosibl, nad yw pobl sydd angen presenoldeb ambiwlans fel mater o frys, yn dioddef oediadau o'r math yr wyf i wedi ei amlinellu y prynhawn yma.

Diolch i Andrew R.T. Davies am godi'r ddau fater pwysig yna, ac rwyf mor bryderus ag y mae ef o wybod am yr achos penodol y mae wedi ei ddisgrifio y prynhawn yma. Byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch chi gyda rhagor o wybodaeth ynghylch yr ymgysylltu diweddaraf gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o ran amseroedd ymateb ac yn y blaen, er mwyn i chi gael y darlun diweddaraf ynghylch hynny.

Byddaf hefyd yn gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch y bwriadau o ran yr olynydd i'r cynllun cyflawni ar gyfer canser, oherwydd, fel y nodwyd gan Andrew R.T. Davies, mae llawer iawn o niwed yn gysylltiedig â COVID, ac mae un ohonyn nhw yn ymwneud â phobl nad ydyn nhw'n dod ymlaen i gael triniaeth neu ddiagnosis ar gyfer cyflyrau eraill hefyd, ac mae hynny'n amlwg yn destun pryder gwirioneddol i ni.FootnoteLink

14:50

Gweinidog, fe hoffwn i gael datganiad i roi rhywfaint o sicrwydd i'r rhai sy'n berchen ar fusnesau yn fy ardal i a chyfiawnhad am y penderfyniadau hynny a wnaethoch chi i gyfyngu ar werthu alcohol a chau tafarndai, clybiau, bariau, bwytai a busnesau lletygarwch o 6 o'r gloch ddydd Gwener. Rwy'n awyddus i gael rhywfaint o esboniad pam, a pha dystiolaeth a oedd gennych wrth benderfynu ar hynny ond hefyd sut ydych chi am ariannu'r golled aruthrol hon i lawer iawn o'n busnesau ni. Nid yw'r gronfa cadernid economaidd yr ydych chi'n ei chynnig yn ddigonol, ac yn ôl Busnes Cymru ni fydd rhai taliadau yn dechrau cyrraedd y busnesau hyd yn oed tan fis Ionawr. Felly, fe fydd camau eich Llywodraeth chi yn golygu y bydd busnesau lletygarwch yn colli mwy byth o arian. Mae'n rhaid i fusnesau wneud cais ar-lein erbyn hyn i'w hawdurdod lleol perthnasol nhw am yr elfennau dewisol. Fel y tro diwethaf, a oes yna debygolrwydd y bydd yr arian hwn yn dod i ben? Fe gaiff y ceisiadau eu trin o hyd ar sail y cyntaf i'r felin. Fe welsom ni'r hyn a ddigwyddodd y tro diwethaf—fe chwalodd y system ymhen un diwrnod yn unig. Rwy'n gwybod am rai yn y rhanbarth nad ydyn nhw byth wedi cael unrhyw gyllid o gam 3, felly pa hyder sydd gennyf i y byddwch chi, yn y Llywodraeth, yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y cyfyngiadau hyn a orfodwyd ar ein busnesau?

A wnewch chi roi datganiad ar hynny, os gwelwch chi'n dda, a sut y byddwch chi'n sicrhau y bydd pob cais yn cael ei werthuso, a fydd proses apelio yn debygol o fod ar gael ac, yn olaf, a fydd yn rhaid i orielau masnachol sy'n gwerthu gwaith celf gau?—mae gennyf i oriel dda iawn yn fy etholaeth i sy'n gwerthu gweithiau celf. Os mai felly y bydd hi, sut ellir cyfiawnhau y gall siopau werthu gwaith celf i'r cyhoedd? Mae llaweroedd o gwestiynau gennym ni, Gweinidog, ac yn fy marn i, fe ddylech chi, fel Gweinidog Cyllid, roi mwy o wybodaeth inni fel y gallwn egluro i'n busnesau ni. Ac fe hoffwn i ddweud ar goedd fy mod i wedi cael fy siomi'n ddirfawr gan y penderfyniad a wnaethoch chi, eich Llywodraeth chi a'r Prif Weinidog.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Wel, wrth gwrs, fe atebodd y Prif Weinidog nifer o'r cwestiynau hynny yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, pan atebodd y cwestiynau a ofynnwyd gan arweinydd y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru. Fe fydd y Prif Weinidog yn cymryd cwestiynau hefyd am o leiaf 45 munud brynhawn heddiw gan Aelodau ar draws y Siambr, a hwnnw fydd y cyfle perffaith, rwy'n credu, i godi'r pryderon arbennig hyn. Fe hoffwn i hefyd dynnu sylw fy nghyd-Aelodau at y datganiad a gyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y prynhawn yma, sy'n rhoi mwy o fanylion am y pecyn ariannu sylweddol a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau, sef y pecyn cymorth mwyaf hael o bell ffordd sydd ar gael yn unman yn y DU.

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ailadeiladu Economaidd

Fe gafodd eitem 3, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ailadeiladu economaidd, ei thynnu'n ôl.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau

Ac felly, rydym am symud at eitem 4, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da. Ddydd Iau yr wythnos hon fydd Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig. Ers 1992, mae'r Cenhedloedd Unedig wedi dynodi 3 Rhagfyr yn ddiwrnod i hyrwyddo hawliau a llesiant pobl anabl a dathlu eu cyflawniadau ledled y byd. Y thema ar gyfer 2020 yw adeiladu'n ôl yn well tuag at fyd ôl-COVID-19, sy'n gynhwysol o ran anabledd, yn hygyrch ac yn gynaliadwy. Mae'r pandemig wedi taflu goleuni ar y problemau yn ein cymdeithas ni ac wedi ymhelaethu arnyn nhw. Nid yw llawer o'r rhain yn bethau newydd nac yn benodol i COVID, ond maen nhw wedi dod yn fwy amlwg i bob un ohonom ni. Yn ystod y pandemig, mae unigedd, datgysylltiad, torri ar drefn arferol a thorri ar wasanaethau wedi effeithio'n fawr iawn ar fywydau ac iechyd meddwl llawer o bobl anabl.

Mae'r data diweddaraf sydd ar gael gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos 68 y cant, neu bron saith ym mhob 10, o farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID yn deillio o gymunedau ein pobl anabl yng Nghymru yn y cyfnod rhwng misoedd Mawrth a Gorffennaf. Fe adroddwyd hefyd bod niferoedd anghymesur o bobl ag anableddau dysgu yn fwy tebygol o farw oherwydd COVID, ac rwy'n siŵr fod hwnnw'n achos tristwch mawr i ni i gyd. Fe ddaeth i'r amlwg hefyd nad o ganlyniad syml ac anochel i anabledd y cafwyd y gyfradd hon o farwolaethau, gan fod llawer o'r marwolaethau hyn yn amlwg wedi eu gwreiddio mewn ffactorau economaidd-gymdeithasol. Gan adeiladu ar y cynnydd araf, rhaid cyfaddef, a wnaed dros y 25 mlynedd diwethaf ers cyflwyno'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ym mis Tachwedd 1995, mae'n rhaid inni gymryd camau cadarnhaol fel y gallwn wneud yn well wrth inni ddod dros effeithiau COVID.

Ers 2002, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, model sy'n cydnabod bod pobl sydd â namau yn cael eu gwneud yn anabl gan weithredoedd ein cymdeithas ni ac nid gan eu hanableddau nhw. Wrth ddweud 'gweithredoedd ein cymdeithas ni', mae'n rhaid cofio mai pobl sy'n dylunio ac yn cyflawni'r camau anablu hyn, a phobl a systemau sy'n gwneud pobl yn anabl, boed hynny'n cael ei ysgogi gan ddiwylliant sefydliadol, anwybodaeth, rhagfarn neu ddifaterwch pur. Er bod llawer o'n gwaith ni wedi canolbwyntio'n briodol ar geisio lliniaru gweithredoedd ein diwylliant ni o ragfarn yn erbyn pobl anabl, rwy'n bwriadu archwilio sut y gallwn ni fynd i'r afael yn uniongyrchol â rhagfarn yn erbyn pobl anabl.

Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn deall y model hwn, gan ei fod yn newid ein ffordd ni o feddwl. Mae'n golygu ein bod ni'n canolbwyntio ar nodi a dileu'r rhwystrau i gyfraniadau pobl anabl. Mae'n rhaid inni gynnwys y dull hwn yn ein holl waith ni wrth ddatblygu a chyflawni polisïau ar draws holl waith y Senedd. Dyna pam rwy'n falch o gefnogi ymgynghoriad presennol y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sefydlu cronfa newydd i roi cymorth i bobl anabl geisio am swydd etholedig yn etholiadau Senedd 2021 ac etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae hwn yn gam rhagweithiol tuag at leihau rhai o'r rhwystrau a allai fod fel arall yn atal unigolyn rhag cymryd rhan mewn democratiaeth leol a chynrychioli ei gymuned drwy sefyll am swydd etholedig. Rwy'n mawr obeithio y bydd y gronfa hon yn annog pobl anabl i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r flwyddyn nesaf. Mae angen clywed eu lleisiau nhw ym mhob rhan o'r gymdeithas.

Mae gan bobl anabl ran allweddol i'w chwarae yn ein hadferiad economaidd ni hefyd, a dyna pam, yng Nghymru, y bydd gennym ni hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl cyn bo hir. Fe fydd yr hyrwyddwyr hyn yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i lunio gweithlu sy'n cynrychioli pawb ac yn agored i bawb. Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y cyflogwyr yn cael eu cefnogi gan becyn cymorth newydd, 'Cymru fwy cyfartal: canllaw ymarferol i gyflogwyr sy'n cyflogi pobl anabl', a gaiff ei lansio ddydd Iau nesaf i gyd-fynd â diwrnod rhyngwladol pobl anabl.

Fe fyddaf i'n siarad â rhanddeiliaid a chynrychiolwyr sefydliadau pobl anabl yn rheolaidd drwy ein fforwm cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl. Rwyf wedi cadeirio chwe chyfarfod o'r fforwm hwn ers dechrau'r pandemig, ac fe gynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ar 21 Hydref. Mae eu cyngor a'u harweiniad nhw wedi ein helpu ni i ddeall sut mae'r pandemig yn effeithio ar wahanol gymunedau, yr hyn sy'n achos pryder i bobl, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i wneud pethau'n well, yn haws ac yn deg. Fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r grŵp trawsbleidiol ar bobl anabl hefyd am eu rhan nhw yn y gwaith o daflu goleuni ar effeithiau COVID-19 o ran annhegwch. Mae aelodau fforymau anabledd yn cyfrannu at grŵp cyfathrebu hygyrch Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi gwybod inni am yr anawsterau a ddaw ar draws gwahanol grwpiau, gan gynnwys pobl anabl, wrth gael gafael ar wybodaeth yn ystod pandemig COVID-19. Fe roddodd aelodau'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl adborth allweddol ar y canllawiau 'Creu mannau cyhoeddus mwy diogel: coronafeirws', gan sicrhau bod ystyriaethau hygyrchedd yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu ac addasu canolfannau trefol a mannau gwyrdd. Felly, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ychwanegu at ein dealltwriaeth ni dros y misoedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae gallu gweithio mor agos gyda'n partneriaid wedi bod o fudd enfawr.

Un o sgil-effeithiau enbydus y pandemig fu'r effaith ar yr economi ac yn enwedig o ran gallu sefydliadau'r trydydd sector i godi arian a chynnal eu hincwm. Mae hynny yn ei dro wedi cyfyngu ar eu gallu i gefnogi eu haelodau ac mae'r dyfodol yn llai sicr iddynt. Dyna pam rwy'n falch y dyrannwyd £200,000 o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer ail-greu i ariannu prosiectau anabledd ledled Cymru. Fe fydd hyn yn ychwanegu at y £100,000 a ddyrannwyd i Gymru o gynllun argyfwng COVID ledled y DU. Fe fydd yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu mewn grantiau bach i naw o sefydliadau pobl anabl ledled Cymru, gan gefnogi gwaith hanfodol, rhoi gwybodaeth a chyngor a datblygu ffyrdd newydd o ymateb i anghenion pobl anabl o ran COVID-19.

Rwy'n hapus dros ben fod yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd wedi cytuno i arwain prosiect i lunio adroddiad ar effaith COVID ar bobl anabl. Fe fydd aelodau'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl yn gweithio ochr yn ochr â'r Athro Foster i ddwyn ynghyd yr wybodaeth, y dystiolaeth a'r astudiaethau achos.

Yn olaf, fy mwriad i yw y bydd yr adroddiad pwysig hwn yn llywio'r gwaith o adnewyddu fframwaith 'Gweithredu ar Anabledd' a lansiais i yn 2019. Drwy ystyried y fframwaith eto yng ngoleuni COVID, rwy'n benderfynol y byddwn ni'n gallu gweithredu ar garlam i ymgorffori'r hyn a ddysgwyd yn sgil y pandemig hwn. Gydag ystod mor bwysig o waith yn digwydd yng Nghymru, mae'n bleser gennyf wahodd pob un o Aelodau'r Senedd i ddathlu gyda mi gyfraniad pobl anabl yng Nghymru ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl y Cenhedloedd Unedig.

15:00

Diolch, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl, sy'n ceisio nodi a mynd i'r afael â'r gwahaniaethu, ymyleiddio, allgáu a diffyg hygyrchedd y mae llawer o bobl sy'n byw gydag anableddau yn eu hwynebu. Fe alwodd y Cenhedloedd Unedig nôl ym 1992 am ddiwrnod rhyngwladol i ddathlu pobl sy'n byw gydag anableddau i'w gynnal ar yr adeg hon, ar y dyddiad hwn ym mis Rhagfyr bob blwyddyn. Mae'n gyfle inni amlinellu ac ailadrodd ein hymrwymiad i greu cymunedau sy'n gynhwysol, yn hygyrch ac yn gynaliadwy yma yng Nghymru ein gwlad. Mae effeithiau'r coronafeirws, fel y mae'r Dirprwy Weinidog newydd ei ddweud, wedi pwysleisio'r angen i weithredu yn hyn o beth, a hynny ar fyrder.

Mae llawer o elusennau pobl anabl yma yng Nghymru wedi uno i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu gyda phendantrwydd i ddiogelu llesiant a goroesiad pobl anabl ac eraill sydd mewn perygl mawr o gael y feirws. I bobl anabl, mae'n amhosibl dilyn llawer o'r cyngor ar sut i osgoi haint, fel hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol. Mae angen cymorth bob dydd ar lawer o bobl anabl ac mae angen cymorth cynorthwywyr personol a gweithwyr gofal arnynt. Fe fynegwyd pryderon ynghylch ansawdd y gofal y gellir ei ddarparu pan fydd gweithwyr gofal yn ynysu neu'n mynd yn sâl. Mae elusennau pobl anabl wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau cydgysylltiedig ar waith ar sut i ymateb i brinder gweithwyr gofal. Mae'n amlwg bod pobl anabl yn debygol o wynebu niwed, nid yn unig yn sgil coronafeirws ei hun ond drwy'r pwysau cyffredinol sydd ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ddarparu gofal cymdeithasol a darparu gwybodaeth a chymorth hawdd ei gael yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu trin fel dioddefwyr anochel yn y pandemig hwn, ac felly rydym yn croesawu'r arian yr ydych chi newydd ei amlinellu yng ngoleuni COVID-19.

Rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog, yn ei hateb hi, i gadarnhau y rhoddir blaenoriaeth i bobl anabl yn y rhaglen frechu sydd i ddod yma yng Nghymru. Mae troseddau casineb yn broblem gynyddol yn y DU ac, yn anffodus, ni chaiff Cymru ei heithrio o hynny. Fe fu yna gynnydd o 84 y cant yn nifer y troseddau casineb anabledd ar-lein a adroddwyd i'r heddlu yng Nghymru y llynedd. Er nad yw deddfwriaeth troseddau casineb yn gyfrifoldeb a ddatganolwyd i'r Senedd hon, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer eiriolaeth a chymorth i ddioddefwyr. Mae'n rhaid inni ddal ati i annog yr heddlu i weithio mewn partneriaeth â phobl anabl a'u sefydliadau nhw i sicrhau bod troseddau casineb anabledd yn cael eu cydnabod, eu cofnodi a'u hadrodd yn fanwl gywir.

Mae'r Dirprwy Weinidog yn gwybod fy mod i'n cefnogi ymgyrch y Bleidlais Borffor, a anelir at godi mater ymwybyddiaeth o anabledd i'r rhai sydd mewn swyddi etholedig ar bob lefel. Mae'r gymdeithas yn parhau i osod heriau sylweddol ar bobl anabl, ac mae'n hanfodol bod pob llais o bob sector o gymdeithas Cymru yn cael eu clywed a'u bod nhw i gyd yr un mor ddilys â'i gilydd. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cronfa newydd i roi cymorth i bobl anabl wrth geisio swydd etholedig ar gyfer etholiadau Senedd 2021 ac etholiadau llywodraeth leol 2022. Rwy'n croesawu hyn ac yn edrych ymlaen at weld mwy o ymgeiswyr anabl yn sefyll mewn etholiadau ar lefel leol a chenedlaethol yn y dyfodol. Fe fyddai hynny'n ychwanegu llawer o werth at y gwaith a gafodd ei wneud yn y fan hon.

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, a gaf i ofyn am y cyfleoedd sydd gan bobl anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru? Mae angen i gyrff llywodraethu chwaraeon fabwysiadu dull sydd wedi'i gynllunio, sy'n fwy cydlynol a chydgysylltiedig o ymdrin â chwaraeon pobl anabl yng Nghymru. A ydych chi'n cytuno y dylai cyrff llywodraethu chwaraeon osod nodau ar gyfer codi cyfraddau cyfranogiad ymhlith pobl anabl, a sut mae Llywodraeth Cymru am arolygu'r cynnydd hwnnw o ran cael mwy o bobl anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon? Ac a ydych chi'n cytuno â mi fod angen mwy o gyfleusterau pob tywydd yng Nghymru i sicrhau bod cyfranogiad yn bosibl drwy gydol y flwyddyn? Fe all cymryd rhan mewn chwaraeon fod â rhan bwysig wrth wneud i bobl anabl deimlo eu bod yn cymryd mwy o ran a'u bod yn rhan gynhenid o gymdeithas. Dyma un o'r amcanion ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, a diolchaf i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad hi heddiw.

Wel, diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones. Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am ei chefnogaeth hi i ymuno â'r dathliad hwnnw a chydnabod cefnogaeth gadarnhaol i Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig, a diolch i chi nid yn unig am groesawu'r datganiad, ond am gyflwyno materion eraill hefyd, yn enwedig materion na wnes i fynd i'r afael â nhw, er enghraifft, o ran chwaraeon pobl anabl.

Mae'n bwysig ein bod ni'n dechrau, wrth gwrs, drwy ymateb i'r pwyntiau lluosog iawn a wnaethoch chi, drwy edrych ar yr effaith sydd wedi bod ar bobl anabl o ganlyniad i COVID-19, a phwysigrwydd dysgu, gwrando a gweithio gyda phobl anabl i fynd i'r afael â'r materion hynny. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith ein bod ni, yn gynharach yn ystod y pandemig, wedi cydnabod bod llawer o anawsterau, er enghraifft, sy'n wynebu pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg: cadw pellter cymdeithasol, ac fe gyfeirioch at y pwynt hwnnw am newidiadau i'r amgylchedd ffisegol, ac anawsterau o ran cynnal y pellter cymdeithasol o 2m. Fe godwyd hyn—y pwyntiau hynny—mewn fforwm cynnar ar gydraddoldeb anabledd, ac roedd yn ddefnyddiol iawn cael papur briffio a ddrafftiwyd gan RNIB Cymru a Chŵn Tywys Cymru, yn ôl ym mis Mai, a oedd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch mesurau trafnidiaeth gynaliadwy arfaethedig. Ac, wrth gwrs, fe fu'n rhaid adlewyrchu'r pwyntiau hynny mewn asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb; mae Cŵn Tywys Cymru yn anfon briff i mi a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac yn cyfleu hynny wedyn i awdurdodau lleol o ran newidiadau i amgylcheddau ffisegol, ac yna, ym mis Mehefin, fel y dywedais i, wrth gyhoeddi canllawiau o'r enw 'Creu mannau cyhoeddus mwy diogel: coronafeirws'. Mae'r rhain i gyd yn faterion allweddol ar gyfer egluro sut rydym ni wedi gweithio gyda phobl anabl a'u sefydliadau nhw i geisio sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, cyn belled ag y bo modd, o ran yr effeithiau.

Ac, wrth gwrs, mae'n bwysig hefyd ein bod ni wedi sicrhau bod cyllid ar gael i'r trydydd sector, ac yn arbennig drwy ddweud bod £1.1 miliwn o gymorth i'w roi i 24 o sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl—y gronfa argyfwng gwasanaethau gwirfoddol. Roedd 14 o sefydliadau, gan gynnwys Sparkle (De Cymru), Mirus-Cymru, RNIB, Anabledd Gallu Gwneud, Pobl yn Gyntaf y Fro, Parlys yr Ymennydd Cymru—yr holl sefydliadau hyn yn gallu cael cymorth o ganlyniad i'r gronfa honno a ddarparwyd gennym ni.

Mae'n bwysig eich bod wedi codi mater troseddau casineb, ac roedd y ffaith bod yr ystadegau troseddau casineb a gawsom ni'n fwyaf diweddar yn nodi bod 11 y cant yn parhau i fod yn droseddau casineb anabledd. Mae hyn yn peri pryder mawr. Mae'n rhaid inni godi ymwybyddiaeth. Rydym wedi rhoi cyllid o £22,000 i Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ar gyfer ymgynghoriad troseddau casineb gyda'u holl rwydweithiau nhw o oedolion ag anableddau dysgu. Mae'n hanfodol gwneud hynny, wrth gwrs, drwy sesiynau o bell, gan ymgysylltu â Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, i archwilio dewisiadau. Ond rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref hefyd i annog Llywodraeth y DU i gydnabod troseddau casineb ac, wrth gwrs, rydym ni'n aros nawr am y safbwynt o gyhoeddiad adolygiad Comisiwn y Gyfraith.

Rydych chi'n codi nifer o bwyntiau allweddol, ac rwyf wedi mynd i'r afael â llawer ohonyn nhw yn fy mhapur i heddiw. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn—fel yr ydych chi eich hun wedi cydnabod—y bydd argaeledd y gronfa swyddi etholedig yn gwneud gwahaniaeth. Yn wir fe ddyfarnwyd y contract i Anabledd Cymru ar gyfer cyflwyno'r gronfa hon—prosiect peilot—i estyn cymorth i ymgeiswyr anabl, yn ein hetholiadau Seneddol a llywodraeth leol, ac rydym yn gobeithio y bydd y gronfa honno'n eu helpu nhw i gystadlu ar yr un lefel ag ymgeiswyr nad ydynt yn anabl. Felly, rwy'n croesawu eich holl sylwadau, yn arbennig o ran cydnabod y sgôp a sylweddoli mai trwy weithio gyda phobl anabl sy'n dymuno gweithredu, a dysgu oddi wrthyn nhw—nid dim ond gwrando, maen nhw'n dymuno gweithredu—y gallwn ni ddwyn hyn ynghyd a bod yn atebol yn y datganiad heddiw.

15:05

Diolch yn fawr iawn am y datganiad.

Mae grŵp Plaid Cymru yn croesawu'r datganiad hwn, Dirprwy Weinidog. Rydym ni'n cefnogi'r nod o nodi a dileu'r rhwystrau ar gyfraniadau pobl anabl i fywyd cyhoeddus, ac fe fyddwn ni'n hapus i hyrwyddo'r gronfa newydd hon i alluogi a chefnogi pobl i ennill swydd etholedig. Nawr, ynglŷn â'r gronfa honno, fe hoffwn i wybod beth sy'n cael ei wneud, mewn ffordd gyfredol, i sicrhau y caiff y gronfa ei gweinyddu a'i rhoi ar waith yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rwy'n croesawu'r ffaith mai Anabledd Cymru fydd yn gwneud y gwaith gweinyddol, ond mae angen arolygaeth barhaus ar hynny.

Erbyn hyn, mae pandemig COVID wedi amharu ar fywyd bob dydd i bawb. Eto i gyd, mae'n hanfodol nad ydym ni'n colli golwg ar y ffordd anghymesur yr effeithiwyd ar fywydau pobl anabl. Mae unigedd, unigrwydd, datgysylltiad, torri ar drefn arferol bywyd a thorri ar wasanaethau wedi effeithio'n fawr ar fywydau ac iechyd meddwl pobl anabl. Felly, pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog gyda sefydliadau pobl anabl a niwroamrywiaeth i sicrhau bod cyfyngiadau COVID Llywodraeth Cymru yn gymesur ac nad ydyn nhw'n gwahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol rhwng pobl nac yn rhoi pobl anabl dan anfantais?

Mae gweithwyr sy'n anabl wedi ymdrin â'r bwlch cyflogaeth anabledd a'r bwlch cyflog anabledd ers ymhell cyn argyfwng COVID-19. Mae diwylliant sydd â rhagfarn yn erbyn pobl anabl yn golygu bod gweithwyr sy'n anabl yn ei chael hi'n anodd cael eu cyflogi, i ddatblygu o fewn eu cyflogaeth a chael eu talu'n iawn. Felly, rwy'n croesawu'r rhaglen hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl a'r canllawiau newydd i gyflogwyr, ond a wnaiff y Gweinidog egluro beth y gall hi ei wneud i sicrhau bod cyflogwyr yn ymgysylltu â'r rhaglen newydd a'r canllawiau ac yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl? Diolch yn fawr.

15:10

Diolch yn fawr, Leanne Wood, a diolch am gydnabod y datganiad, a hefyd, yn fy marn i, ymhlyg yn hynny roedd cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd. Mae hyn yn ymwneud â'r camau y mae'n rhaid inni eu cymryd i ddileu'r rhwystrau, pan rydym yn gwneud pobl yn anabl drwy bolisi ac arferion oherwydd nad ydym wedi ystyried effaith y rhwystrau hyn.

Rwyf am ateb yn gyntaf—dim ond i roi mwy o eglurder ar argaeledd y gronfa swyddi etholedig. Ac rwy'n falch, fel rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom ni yma yn y Senedd—fe fyddai pob plaid yn derbyn bod hwn yn beth pwysig. Dyfarnwyd y contract i Anabledd Cymru. Y diben yw darparu cymorth hanfodol i ganiatáu i ymgeiswyr sy'n anabl gymryd rhan mewn etholiadau i'r Senedd a llywodraeth leol, oherwydd maen nhw'n debygol o wynebu costau uwch oherwydd eu hanableddau, felly fe fydd y gronfa'n eu helpu nhw i gael yr arian i dalu'r costau hynny. Hyd yn ddiweddar, mae yna ffactor cyfyngol wedi bod o ran sefydlu cronfa, oherwydd mae wedi bod yn anodd eithrio'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag anableddau'r unigolyn oddi wrth derfyn treuliau'r ymgeiswyr, ond rydym yn mynd i'r afael â hynny erbyn hyn. Disgwylir i ddeddfwriaeth fod ar waith erbyn diwedd y flwyddyn hon, a fydd yn hwyluso'r dull hwn ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol.

Ond mae'n bwysig bwrw ymlaen â hyn, ac fe fydd gwasanaeth cynghori i annog a chefnogi pobl anabl i ymgeisio mewn etholiad, cymorth ariannol i gynorthwyo darpar ymgeiswyr—felly, mae'r rhain i gyd yn fanylion cyhoeddus pwysig ar gyfer y pleidiau gwleidyddol heddiw—i dalu costau cymorth ychwanegol, gweinyddu'r gronfa a rheoli dyraniadau sydd ar gael i gefnogi ymgeiswyr anabl. Fe fydd adroddiad gwerthuso yn cael ei baratoi erbyn mis Rhagfyr 2022 i lywio'r gwaith o ddatblygu cynllun tymor hwy, ac rwy'n siŵr mai dyna'r hyn yr oeddech yn ei geisio o ran canlyniadau hynny, sef cynyddu cynrychiolaeth pobl anabl ar bob lefel o gynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru. Felly, fe agorodd yr ymgynghoriad ar 11 Tachwedd ac fe ddaw i ben ar 21 Ionawr, ac rwy'n annog pawb i ymateb i hwnnw.

Rwy'n ddiolchgar hefyd eich bod chi wedi codi materion am effaith COVID ei hun, y cyfyngiadau symud a'r cyfyngiadau cymdeithasol, a chyfyngiadau ar fywydau pobl anabl. Rydym wedi ymgysylltu â sefydliadau pobl anabl a niwroamrywiaeth nid yn unig drwy ein fforymau cydraddoldeb i bobl anabl, ond drwy lawer o feysydd eraill lle'r ydym wedi gallu dod at ein gilydd a gwrando a dysgu o'u profiad nhw.

Wrth gwrs, fe fynegwyd bod gweithio o gartref a gweithio rhithwir wedi bod yn fanteisiol ar sawl cyfrif yn hyn o beth. Mae wedi golygu nad oes cymaint o faterion wedi bod yn ymwneud ag argaeledd cludiant. Ond mae hynny wedi arwain at unigrwydd ac ynysu hefyd, ac, wrth gwrs, mae yna bobl anabl hefyd nad oes modd iddynt weithio gartref o ran yr effaith ar eu cyflogwyr a'u disgwyliadau nhw. Mae'n rhaid inni weithio yn agos iawn â Chyngres Undebau Llafur Cymru i edrych ar eu hawliau nhw hefyd, oherwydd mae gan bobl anabl ran allweddol yn ein hadferiad economaidd ni.

O ran yr hyrwyddwyr cyflogaeth, mae hon yn neges hyglyw i gyflogwyr am bwysigrwydd recriwtio a chadw, mewn ffordd sy'n gynhwysol, weithwyr sy'n anabl. Hyrwyddwyr cyflogaeth i bobl anabl ydyn nhw ac fe fyddan nhw'n ganolog i'n gwaith ni wrth symud ymlaen. Mae gennym becyn cynhwysfawr o gefnogaeth i gyflogwyr, fel y dywedais i yn fy natganiad—pecyn cymorth ar-lein, rhwydwaith o bobl anabl, cynllun hyrwyddwyr cyflogaeth i'w lansio. Ond hefyd yn rhan o'r ymrwymiad i gyflogadwyedd COVID-19, rydym wedi recriwtio chwe hyrwyddwr cyflogaeth i bobl anabl. Ceir llawer mwy o gyfleoedd i gydweithio gydag arweinwyr busnes, gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol a chynrychiolwyr cyflogwyr. Ac rwy'n credu y bydd gwaith yr hyrwyddwyr hynny'n ysbrydoledig ac fe gaiff ei anelu nid yn unig at ddileu camsyniadau ond at gymryd camau hefyd ar gyfer darganfod lle gall cyflogwyr gael yr offer i ddileu'r rhwystrau, drwy gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yn eu gweithle. Ond fe geir bwlch cyflog pobl anabl yn ogystal â bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn ogystal â bwlch cyflog hiliol, ac mae'n rhaid edrych ar yr holl faterion economaidd-gymdeithasol hynny hefyd. 

15:15

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. I nodi'r diwrnod rhyngwladol ddydd Iau, fe fyddaf i, ynghyd ag eraill, yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar gyfer Leonard Cheshire Cymru, a'r pwnc yw ymgysylltiad gwleidyddol, gan annog pobl ifanc anabl i ddefnyddio eu llais nhw a phleidleisio yn y broses wleidyddol. Felly, fe fydd y drafodaeth heddiw yn fan cychwyn da ar gyfer y digwyddiad hwnnw. Eleni, wrth gwrs, fe gaiff y diwrnod ei fframio gan y pandemig, ac mae gennyf i ychydig o gwestiynau am anabledd a choronafeirws. Yn gyntaf, Gweinidog, a ydych chi wedi cael trafodaethau gydag UNSAIN am eu gwaith ymchwil ar weithwyr anabl a gweithio gartref? Yn ôl eu hymchwil nhw, mae gweithwyr anabl sy'n gweithio gartref wedi bod yn fwy cynhyrchiol ac wedi bod yn absennol oherwydd salwch am lai o amser na phan roedden nhw yn y swyddfa. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi galwad yr undeb i roi hawliau newydd i bobl anabl weithio o gartref os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny yn rhan o'r amddiffyniad 'addasiadau rhesymol' sydd ganddyn nhw eisoes o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb?

Fy ail bwynt i yw nad yw pob anabledd i'w weld yn amlwg, fel y crybwyllwyd sawl gwaith yn y fan hon heddiw. Mae rhai yn fwy gweladwy nag eraill. Mae'r wythnos hon yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Crohn a Colitis hefyd, ac fe amcangyfrifir bod chwarter y bobl sydd â'r cyflyrau hynny wedi eu rhoi yn y dosbarth sy'n 'eithriadol o agored i niwed'. Un o'r prif faterion y maen nhw wedi eu hwynebu drwy gydol y pandemig yw mynediad i doiledau rhad ac am ddim, sy'n lân ac ar gael i'w defnyddio. Felly, a wnewch chi gefnogi ymgyrch Crohn a Colitis UK i sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus, y busnesau a'r cyflogwyr yn rhoi arwyddion priodol ar eu toiledau nhw i ddangos nad yw pob anabledd yn amlwg? Ac yn benodol, a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Crohn's a Colitis UK i flaenoriaethu mynediad i gyfleusterau toiled gyda'r gwasanaethau newid a gwaredu gwastraff priodol i ganiatáu i bawb sydd â bagiau colostomi allu newid y rhain gydag urddas mewn amgylchedd preifat a glân, ac nad ydyn nhw'n rhwystro’r unigolion hyn rhag byw bywyd llawn fel pawb arall dim ond oherwydd na allan nhw gael mynediad i'r cyfleusterau toiled sy'n weddus? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod chi am nodi'r diwrnod, fel y dywedwch chi, ddydd Iau, drwy ymuno â Leonard Cheshire. Yn wir, fe dreuliais i lawer o amser nid yn unig gyda'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl ond gyda sefydliadau eraill hefyd fel Leonard Cheshire, sydd wedi ymgysylltu â mi a Gweinidogion eraill, ac mae pobl ifanc yn codi cwestiynau gyda ni am y materion sy'n effeithio arnyn nhw. Fe wn i y byddwch chi'n gallu cymryd rhan ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n rhoi ystyriaeth i'r datganiad hwn ddydd Iau.

Rwy'n credu mai un o nodweddion y misoedd diwethaf fu amlder yr ymgysylltu a gawsom ni gyda sefydliadau. Mewn rhai ffyrdd, rydym wedi llwyddo i ymgysylltu'n rhithwir â mwy byth o sefydliadau o bosibl, oherwydd bod modd ymgysylltu o gartref. O'r gogledd i'r de-ddwyrain a'r gorllewin, rydym ni'n ymgysylltu â phobl anabl. Yfory mae gennyf i fy fforwm hiliol i Gymru; fe fyddwn ni'n ymgysylltu yn yr un ffordd o Ynys Môn i Gasnewydd. Fe wn i oherwydd sylwadau a gefais i fod TUC Cymru wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd hefyd. Rwyf i wedi bod yn cyfarfod â'u pwyllgor cydraddoldebau nhw ac, wrth gwrs, yna rydych chi'n clywed gan y gwahanol undebau am y materion a'r heriau penodol a'r gwaith da y maen nhw wedi bod yn ei wneud o ran arolygon.

Ond yn sicr, o ran gwaith a sylwadau UNSAIN, fe fyddwn ni'n rhoi ystyriaeth i'r rhain, oherwydd fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru ei hunan yn datblygu polisïau gweithio o bell ac yn ystyried yr effaith a gaiff hynny ar bobl sy'n gallu gweithio o gartref ac sy'n dymuno gweithio o gartref, o gofio, yn aml, efallai ei bod yn fwy anodd ar bobl rheng flaen nad ydyn nhw'n gallu gweithio o gartref, neu sydd ar gyflog is ac sydd â llai o awdurdod o fewn eu sefydliad. Felly, rwy'n credu y bydd gwaith a thystiolaeth a sylwadau UNSAIN yn bwysig iawn yn hyn o beth. Yn sicr, rwyf i am wneud yn siŵr, ar gyfer pob ffrwd bolisi sy'n cael ei chyflwyno, fod yna asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a'n bod ni'n gofyn am farn ac yn ymgysylltu â'r rhai sydd fwyaf difreintiedig ac nad oes ganddynt lais mor gryf ag eraill, efallai, sydd mewn sefyllfa economaidd-gymdeithasol well.

Felly, byddwn, fe fyddwn ni'n ystyried hynny'n ofalus iawn, ac rwy'n falch eich bod chi wedi achub ar y cyfle hwn, Joyce, i godi'r materion hyn sy'n ymwneud â'r rhai sy'n cael profiad ac yn dioddef o afiechyd Crohn. Mae wythnos Crohn yn wythnos bwysig i godi ymwybyddiaeth o bobl sy'n agored iawn i niwed, ond pobl sy'n gallu byw eu bywydau—ac, wrth gwrs, lle nad yw hynny bob amser yn weladwy, fel yr ydych chi'n dweud; nid yw anableddau yn weladwy bob amser mewn ystod eang o anableddau. Ond mae wythnos Crohn yn golygu y gallwch gyflwyno'r galwadau penodol hyn sy'n ymwneud â thoiledau cyhoeddus, hygyrchedd, arwyddion, a chydnabyddiaeth o anghenion penodol y rhai sy'n dioddef o afiechyd Crohn. Diolch.

15:20

Rwy'n edrych ymlaen at siarad a gwrando ar ddiwrnod ymgysylltu gwleidyddol pobl ifanc anabl Leonard Cheshire a lansiad Anabledd Cymru o faniffesto pobl anabl ddydd Iau. Mae gan bob awdurdod cyhoeddus ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb y DU 2010 i sicrhau eu bod nhw'n ateb anghenion pobl anabl ac yn cynnwys pobl anabl mewn ffordd weithredol wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau. Mae Deddf Cydraddoldeb y DU yn nodi hefyd bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ystyried ymlaen llaw a chymryd camau i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n effeithio ar bobl anabl, ac na ddylech aros hyd nes y bydd unigolyn anabl yn cael anhawster defnyddio rhyw wasanaeth. Er hynny, fe wn i o'm gwaith achos i fy hun a'm gwaith i wrth gadeirio grwpiau trawsbleidiol ar anabledd, awtistiaeth a chyflyrau niwrolegol yn y Senedd hon yng Nghymru fod gormod o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i ddweud wrth bobl anabl beth y gallan nhw ei gael, yn hytrach na gweithio gyda nhw i gytuno ar eu hanghenion a gofyn iddyn nhw beth maen nhw'n awyddus i'w gyflawni. Mae hyn yn niweidiol ac yn gostus, ac yn rhywbeth y gellir ei lwyr osgoi ac mae'n arbennig o berthnasol i bobl ag anableddau cudd. O ystyried mai'r thema ar gyfer 2020 ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl y Cenhedloedd Unedig ddydd Iau yw 'nid yw pob anabledd yn weladwy', pryd a sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cynnwys pobl anabl yn y gwaith o gynllunio, gwerthuso ac adolygu gwasanaethau yn unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb a'ch deddfwriaeth chi eich hun hefyd?

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Fel y dywedais, rwy'n diolch i'r grŵp trawsbleidiol am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud. Rwyf wedi ymddangos ger eich bron ac mae eich cyfraniad chi wedi bod mor bwysig, unwaith eto o safbwynt trawsbleidiol. Ond hefyd, roeddwn i'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn fawr iawn, a oedd yn cwmpasu'r holl anghydraddoldebau a ddaeth i'r amlwg o ganlyniad i'r pandemig. Ond ar un ystyr, mae'n debyg mai dyna un o destunau diwrnod y Cenhedloedd Unedig, a'r hyn a drafodir ddydd Iau yw nid yn unig sut y gellir dysgu gwersi; ond sut y gallwn fynd i'r afael â hyn nawr mewn gwirionedd—. Mae'r ddeddfwriaeth gennym ni, fel y dywedwch chi, mae'r Ddeddf Cydraddoldeb gennym ni; mae'n ymwneud â gweithredu—rwy'n credu mai hwnnw yw'r pwynt allweddol—y ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny.

Rwy'n credu imi grybwyll yn fy natganiad—wel, rwy'n gwybod fy mod i wedi crybwyll—y fframwaith 'Gweithredu ar Anabledd', a lansiais i yn 2019 ac a gyd-gynhyrchwyd, mewn gwirionedd, â sefydliadau pobl anabl sy'n cwmpasu pob agwedd ar bolisi'r Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod yn hollbwysig—ac fe wn i eich bod chi'n cydnabod hyn, Mark—nad yw hyn yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol yn unig; mae'n ymwneud â thrafnidiaeth, mae'n ymwneud â diwylliant, mae'n ymwneud â thai, mae'n ymwneud ag addysg. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gyflawni hynny wedyn drwy ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Rwy'n credu hefyd, pan fyddwn ni, fel rwy'n siŵr ac yn gobeithio y byddwn ni, yn pasio'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a fydd yn dod gerbron y Senedd yn fuan iawn, y bydd hyn hefyd yn bwysig o ran yr effeithiau ar bobl anabl.

Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd. Mae hi'n gwneud y gwaith nawr gyda phobl anabl ar effeithiau COVID. Fe fydd hyn yn ein helpu ni i ddysgu'r gwersi, ond hefyd i ddod o hyd i'r ffordd ymlaen o ran mynd i'r afael â'r materion hyn fel bydd pobl anabl yn dylanwadu yn wirioneddol ar bolisi cyhoeddus o safbwynt eu bywydau nhw eu hunain, o'r dystiolaeth sydd gennym ni, y data yr ydym ni'n eu deall, ac y bydd hynny'n dylanwadu nid yn unig ar Lywodraeth Cymru, ond ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru.

15:25

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Rydym ni am atal y trafodion nawr i ganiatáu ar gyfer newid drosodd yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, a wnewch chi hynny'n ddiymdroi? Fe fydd y gloch yn cael ei chanu ddau funud cyn ailgychwyn y trafodion. Fe ddylai unrhyw Aelod sy'n cyrraedd wedi'r newid drosodd aros nes i'r gloch gael ei chanu cyn dod i mewn i'r Siambr. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:26.

15:30

Ailymgynullodd y Senedd am 15:34, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol—Ymateb i Adolygiad Brown

Rydym ni nawr yn ailymgynnull ar gyfer ein hagenda, a symudwn at eitem 5, sy'n ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar arloesi digidol—ymateb i adolygiad Brown. A galwaf ar Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Diolch yn fawr iawn. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd yr Athro Phil Brown ei adroddiad terfynol ar effaith arloesi digidol ar yr economi a dyfodol gwaith yng Nghymru. Siaradodd yr Athro Brown am Gymru'n wynebu ras yn erbyn amser, gyda chyflymder a graddfa arloesedd digidol â'r potensial i oddiweddyd ein gallu fel cenedl i ymateb.

Mae'r pandemig byd-eang wedi dod â heriau adolygiad Brown i'r amlwg, gyda'r cyfrwng digidol bellach yn rhan annatod o fywydau llawer ohonom ni. Y gwir plaen yw y bydd cam nesaf ein trawsnewidiad diwydiannol yn digwydd p'un a ydym yn ei gofleidio ai peidio. Ac yn erbyn y cefndir yna rwyf eisiau annerch yr Aelodau heddiw.

Mae arloesi digidol wedi dod yn rym pwerus ac aflonyddgar, ac yn un na ellir ei anwybyddu. Mae'n bwysig nad ydym yn colli golwg ar hyn wrth i ni edrych y tu hwnt i'r pandemig.

Mae Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau wedi rhybuddio, ers dechrau pandemig COVID-19, fod yr hyn sy'n cyfateb i werth pum mlynedd o awtomeiddio a digideiddio wedi digwydd, gyda swyddi lletygarwch, manwerthu a gweithgynhyrchu yn rhai o'r rheini a gafodd eu taro galetaf. Maen nhw'n dadlau bod yr ymateb i'r feirws o bosibl yn rhoi gobaith ffug i lawer o weithwyr yn y diwydiannau hyn heb ddyfodol hirdymor yn oes yr awtomeiddio.

Mae'r byd gwaith yn sicr o newid. Mae mwy o bobl yn gweithio o bell, ac rydym ni eisiau gweld hynny'n parhau fel y drefn arferol y tu hwnt i'r argyfwng. Mae'r ffordd y mae gwasanaethau'n gweithio, a sut y cyflawnir tasgau, hefyd yn cael eu hailgynllunio wrth i drawsnewid ac awtomeiddio digidol ddigwydd. Nid yr hyn a wnawn yn unig, ond sut yr ydym yn ei wneud sy'n trawsnewid. Mae'r pandemig wedi ein gorfodi i addasu'n gyflym yn unigol, gyda llawer o fusnesau hefyd yn symud i fodelau cyflenwi newydd gan fod arferion a disgwyliadau cwsmeriaid wedi newid.

Er gwaethaf maint y newidiadau, dylem gydnabod y rhan gadarnhaol y mae arloesi digidol wedi'i chwarae, ac y bydd yn parhau i'w chwarae, mewn cymdeithas fodern. Mae rhai manteision gwirioneddol o ran rhyddhau pobl o dasgau cyffredin, creu datblygiadau arloesol newydd a chefnogi swyddi sgiliau uwch y dyfodol. Nid oes ond rhaid inni edrych ar Gaerffili, lle nad oes rhaid i rieni sy'n chwilio am gymorth ar frys gan y cyngor i gael prydau ysgol am ddim, aros pum diwrnod hir am benderfyniad mwyach, gallan nhw nawr gofrestru ar unwaith. Mae awtomeiddio prosesau robotig, a groesawyd gan y cyngor, ac a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Codebase 8 Ltd, busnes digidol bach yn Llanelli, wedi dileu'r gwaith papur, gwella'r gwasanaeth i'r dinesydd, a rhyddhau staff o dasgau ailadroddus i helpu gyda gwaith brys arall.

Ond mae arfer gorau yn aml yn anodd ei ledaenu. Dyma pam rydym ni wedi sefydlu'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nglynebwy, sy'n creu canolfan arbenigedd. Maen nhw eisoes yn rhannu arfer gorau wrth ddefnyddio dulliau digidol i wella'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus, ac, yn hollbwysig, yn cynnig cymorth a hyfforddiant ymarferol i gynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr. Mae'r cyntaf o'u carfanau trawsnewid digidol wrthi'n gweithio gyda thri chyngor lleol i ddeall oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol i oedolion sut y gallan nhw wella'r gwasanaeth ar eu cyfer. A dyna yw nod y cyfrwng digidol: mynd i'r afael â hen broblemau mewn ffordd newydd er budd y dinesydd, a chreu sgiliau ac arloesedd newydd wrth i ni wneud hynny.

Mae'r pandemig wedi gorfodi'r newid i ddigwydd yn gyflymach. Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran rhoi offer TG i gefnogi unigolion i gysylltu â'r byd, o addysg gartref, i ddarparu mynediad i'r rhai mewn cartrefi gofal. Rydym ni wedi gweld y datblygiadau cyflym sy'n cael eu gwneud mewn apwyntiadau fideo gofal iechyd drwy'r gwasanaeth 'Attend Anywhere'. Ym mhob un o'r achosion hyn, roedd y ddarpariaeth yn seiliedig ar angen brys, a dylid canmol y timau dan sylw am eu hymdrechion i gyflwyno gwasanaethau mewn wythnosau a allai gymryd blynyddoedd i'w cyflawni mewn cyfnod arferol.

Ond er gwaethaf ein llwyddiannau, rwy'n awyddus i beidio â bod yn hunanfodlon. Mae gwersi y dylem fod yn eu dysgu o'r broses o gyflwyno gwasanaethau, gan gynnwys gweithredu'r gwasanaethau'n anghyson weithiau. Er enghraifft, mae mwy na thraean o'r dyfeisiau a aeth i gartrefi gofal heb eu troi ymlaen eto, sy'n dangos nad yw darparu cyfarpar ar ei ben ei hun yn ddigon. Mae angen i ni feithrin hyder a sgiliau pawb i ddefnyddio technoleg. Ac mae'n ein hatgoffa ni bod angen gwneud mwy i sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i fod wrth wraidd y broses o gynllunio gwasanaethau.

Dirprwy Lywydd, mae Cymru'n cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl o ran swyddi a sgiliau technoleg, ac roedd adroddiad diweddaraf Tech Nation Visa yn tynnu sylw at lwyddiant ysgubol Cymru. Rydym ni wedi gweld newid sylweddol yn y galw am sgiliau seiber a deallusrwydd artiffisial yng Nghymru, a chynnydd o 200 y cant yn y galw am swyddi deallusrwydd artiffisial dros y tair blynedd diwethaf. Mae'r cynllun adfer economaidd sydd ar y gorwel yn addo adeiladu ar hynny. Gan dderbyn argymhellion yr Athro Brown i gyflymu trawsnewid diwydiannol, pwyslais y cynllun fydd annog datblygiad clystyrau arloesi digidol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda diwydiant, sefydliadau ymchwil a rhanddeiliaid eraill i gyd-gynhyrchu'r partneriaethau y bydd eu hangen er mwyn i'r clystyrau hyn ffynnu.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn ymgysylltu â chyflogwyr mewn digwyddiad ar-lein i gyflymu'r defnydd o'r cyfrwng digidol yn eu busnesau. Mae ein rhaglen Cyflymu Cymru yn parhau i gynnig cymorth ymarferol, a bydd canfyddiadau diweddaraf ein mynegai aeddfedrwydd digidol yn dangos y cynnydd yr ydym yn ei wneud.

Mae prifysgolion yn chwarae rhan hollbwysig hefyd, ac rwy'n falch iawn bod prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor wedi dod at ei gilydd mewn prosiect ar y cyd er mwyn creu cyflymydd cenedl ddata. Roedd hwn yn un o argymhellion penodol adolygiad Brown, ac mae ganddo'r potensial i roi mantais i Gymru wrth gymhwyso ymchwil, datblygu ac arloesi mewn deallusrwydd artiffisial a gwyddor data. Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a chyllidwyr y DU i gyflwyno'r achos dros gefnogi'r bartneriaeth hon.

Heddiw, rydym yn barod i lansio strategaeth ddigidol newydd i Gymru, ond yn hytrach na'i chyhoeddi fel cynnyrch gorffenedig, rwy'n awyddus i gofleidio dull gweithredu o gyfrannu torfol. Rydym yn ei roi ar-lein, ar ffurf ddrafft, i bobl gynnig sylwadau, beirniadu a gwella. Nid yw'r cyfrwng digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig, Llywydd, mae'n ymwneud ag agwedd agored at arloesi, ac yn yr ysbryd hwnnw, rwyf hefyd yn cyhoeddi'r cyntaf mewn cyfres o negeseuon blog er mwyn i ddinasyddion lunio ein strategaeth ddigidol. Byddwn yn ystyried awgrymiadau a'r bwriad yw cyhoeddi fersiwn derfynol ym mis Mawrth.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod hwn yn faes polisi yr wyf wedi bod yn angerddol yn ei gylch ers i mi ymuno â'r Senedd yn 2016. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd dros y pedair blynedd diwethaf, ond yn sicr mae llawer mwy i'w wneud. Rwyf yn cydnabod y rhan y gall y Llywodraeth ei chwarae wrth ddarparu cyfeiriad ar gyfer yr agenda hon, ond nid mater i'r Llywodraeth yn unig yw arwain y daith hon. Ni all y Llywodraeth ar ei phen ei hun symud yn ddigon cyflym i gynyddu ar yr un raddfa a'r newid digidol, a rhaid i ddinasyddion, busnesau a sefydliadau chwarae eu rhan i dyfu'r mudiad hwn yng Nghymru yn effeithiol. Nid yw newid yn ddewis, ac oni bai ein bod yn fodlon gadael iddo ddigwydd i ni, rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd i ddefnyddio'r newid er budd dinasyddion Cymru. Diolch.

15:40

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw a'r copi ymlaen llaw hefyd? Wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, mae wedi bod yn angerddol ynghylch hyn ers iddo gyrraedd y Senedd yn 2016, felly rwy'n ymwybodol o hynny hefyd. A gaf i ddiolch hefyd i'r Athro Brown am ei adroddiad hefyd o ran heriau a chyfleoedd arloesi digidol? Ac o'm safbwynt i, rwy'n credu ein bod wedi gweld newid sylweddol o ran datblygiadau technolegol o ganlyniad i'r pandemig. Rwy'n gweithio gartref heddiw, ac yn cael fy herio gan dechnoleg, fel y mae'n digwydd, heddiw.

Ond tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i werthuso sut mae gwasanaethau cyhoeddus wedi addasu yng nghyd-destun y pandemig, efallai'n negyddol ac yn gadarnhaol. Mae gwasanaethau'n cael eu darparu'n draddodiadol hefyd, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad yw'r gwasanaethau hynny yn israddol i'r rhai sy'n parhau i fod wedi eu hallgáu yn ddigidol, wrth gwrs. Mae'r Athro Brown wedi dweud o'r blaen na ddylid ystyried arloesi digidol fel datblygiadau technolegol yn unig—mae'n ymwneud â thrawsnewid diwylliannau sefydliadol a chynyddu anghenion cynhwysiant digidol fel blaenoriaeth. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys ar yr agenda benodol hon, o ran y rhai sy'n agored i niwed, y rhai a allai ddod o ardaloedd o amddifadedd lluosog, y rhai sy'n dod o fan cychwyn gwahanol, mae'n debyg, o ran eu hyder wrth ddefnyddio technoleg benodol a sgiliau amrywiol?

Gwn fod yr Athro Brown wedi dweud ei fod eisiau sgwrs genedlaethol ynglŷn ag arloesi digidol, felly rwy'n falch bod y Dirprwy Weinidog newydd sôn am gyflwyno ei gynigion ar ffurf ddrafft yn gyntaf. Rwy'n croesawu hynny. Mae'n dweud ei fod yn croesawu her a beirniadaeth, felly edrychaf ymlaen at hynny oherwydd weithiau nid yw'r Dirprwy Weinidog yn hoffi beirniadaeth, felly rwy'n falch o hynny.

Gwn, yn y gorffennol, fod eraill, academyddion ac arbenigwyr, wedi awgrymu y dylid cael tsar cynhwysiant digidol—tsar cynhwysiant digidol—felly tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog efallai amlinellu beth yw ei farn am y cynnig penodol hwnnw. Ac felly o ran sut y bydd craffu ar y Llywodraeth yn digwydd—sut y bydd ef, ei swyddogion, adrannau—sut y bydd y gwaith o graffu arnyn nhw a'u dwyn i gyfrif yn digwydd o ran sicrhau arloesedd digidol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru? Gwn ar 29 Medi fod y Dirprwy Weinidog wedi dweud y byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ym mis Tachwedd am gyflwyno Cyflymu Cymru. Nid wyf yn credu y bu unrhyw ddiweddariad ac rydym ni nawr ym mis Rhagfyr, felly cywirwch fi os wyf yn anghywir, ond os wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, oherwydd, yn amlwg, mae'r rhaniad hwnnw rhwng y rhai y mae ganddynt a'r rhai nad oes ganddynt, sydd yn aml—ond nid bob tro—rhwng y Gymru drefol a'r Gymru wledig. Felly, efallai y gallwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny.

Ac eto, dyma un o hoff bynciau trafod y Dirprwy Weinidog, ond, o ran awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial, mae datblygiadau'n cael eu gwneud mor gyflym fel na all busnesau a hyd yn oed y Llywodraeth ddal i fyny. Felly, o ran hynny, mae yna rai sy'n ennill sgiliau ar hyn o bryd na fydd angen eu sgiliau mewn cyfnod byrrach efallai nag y byddem wedi'i ddisgwyl. Felly, sut y mae'r Llywodraeth yn ymdrin â hynny, ac o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i elwa ar arloesi digidol hefyd? Ac yn olaf, tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Gweinidog cyllid o ran cynnydd mewn cyllid ymchwil a datblygu i gyflawni'r hyn y mae eisiau ei gyflawni yn y bôn.

15:45

Wel, diolch am y sylwadau yna, Russell George. Gallaf deimlo nad yw ei lefelau ynni yr un fath heddiw oherwydd ei broblemau TG, a chredaf y rheswm yn ôl pob tebyg yw absenoldeb Winston Churchill yn hongian y tu ôl iddo, sydd wedi bod yn gydymaith rheolaidd i Russell yn ystod ei bresenoldeb digidol yn y Siambr. Felly, rwy'n credu ei fod yn colli ei ysbryd heddiw, efallai.

Yn sicr, dydw i ddim yn adnabod y darlun ohonof sef nad ydw i'n rhywun sy'n hoffi beirniadaeth. Yn sicr, rwy'n awyddus i gael beirniadaeth ac yn awyddus i'w annog. Nid yw'n golygu fy mod bob amser yn cytuno â hi pan fyddaf yn ei chael, wrth gwrs, ond mae hynny'n fater gwahanol, a chredaf, drwy gyhoeddi'r strategaeth hon fel dogfen cyfrannu torfol, rydym yn cydnabod bod y Llywodraeth, yn rhy aml, yn eistedd mewn ystafelloedd ar ei phen ei hun ac yn llunio cynllun nad yw'n ei brofi gyda'r bobl sy'n ei weithredu yn y byd go iawn. Dyna pam rwyf yn awyddus i wneud hyn. Gan gymdeithas sifil mae'r arbenigedd yma, ac rwyf wir eisiau iddyn nhw deimlo eu bod yn berchen ar y strategaeth hon ac yn gallu ei newid, fel bod ganddi fwy o siawns o lawer o gael ei gweithredu pan gaiff ei chyhoeddi ym mis Mawrth os oes teimlad ei bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau a phroblemau'r byd go iawn.

Gofynnodd sut rydym yn gwerthuso sut mae gwasanaethau cyhoeddus wedi addasu. Credaf fod hwnnw'n gwestiwn da, a soniais mewn eiliad o onestrwydd yn ystod yr araith am rai o'n mentrau, er eu bod yn llawn bwriadau da, a oedd yn aflwyddiannus. Felly, cyflwyno dyfeisiau digidol i gartrefi gofal y soniais amdanyn nhw yn y datganiad. Rydym ni wedi llongyfarch ein hunain, a hynny'n briodol, am lwyddo i'w cyflwyno mor gyflym, ond rydym ni wedi synnu o nodi nad yw nifer ohonyn nhw wedi cael eu defnyddio. Nid yw hynny'n annodweddiadol o ystyried profiad blaenorol. Roeddwn yn ymwybodol, o glywed sïon o'r blaen fod cyfrifiaduron llechen wedi eu rhoi i athrawon ysgol, a bod llawer ohonyn nhw yn gorwedd mewn droriau heb eu defnyddio. Credaf fod hynny'n dod â ni at un o'i bwyntiau am sgiliau a hyder, a'r cysyniad o allgáu, oherwydd pan soniwn am allgáu digidol, rydym ni, mi gredaf, yn creu delwedd o bobl nad oes ganddyn nhw sgiliau o gwbl, ond mae allgáu mewn gwirionedd yn llawer ehangach na hynny. Mae'n ymwneud â'r gallu i elwa i'r eithaf ar y dechnoleg. Felly, efallai na all rhai pobl ond gwneud y pethau sylfaenol heb gael y manteision llawn.

Felly, rydym yn sicr yn ymwybodol eisoes o'r gwasanaethau yr ydym ni wedi'u cyflwyno nad yw hi'n ddigonol rhoi pecyn i bobl yn unig. Mae'n rhaid i chi newid y diwylliant ac mae'n rhaid i chi eu galluogi a rhoi'r sgiliau iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu ei ddefnyddio. Rwy'n credu mai dyna bwynt allweddol y dull digidol hwn. A gofynnodd sut yr ydym yn sicrhau nad yw pobl yn cael gwasanaeth israddol. Rwy'n credu bod y ddau gysyniad hyn yn gysylltiedig. Roedd holl ddiben sefydlu'r ganolfan ddigidol hon ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nglynebwy yn seiliedig ar broses o ddarganfod, fel y'i gelwir, ymarfer ymchwil i ddeall beth oedd yr anghenion, a gwelsom nad oedd llawer o arweinwyr a gweision cyhoeddus yn teimlo'n hyderus ynghylch y cyfrwng digidol, nad oedden nhw'n deall ei botensial, ac nad oedden nhw mewn gwirionedd yn deall y cysyniad o gynllunio gwasanaethau drwy ystyried y defnyddiwr terfynol. Felly, rydym ni bellach yn cyflwyno rhaglen hyfforddi i weision cyhoeddus yn gyflym er mwyn iddyn nhw ddeall hyn. Ac ar ôl i ni gael hyn yn iawn, bydd gwasanaeth sydd wedi'i gynllunio gyda'r defnyddiwr mewn golwg yn cael ei gynllunio ar gyfer y rhai sydd ar-lein yn ogystal â'r rhai nad ydyn nhw ar-lein. Felly, ni ddylai'r gallu i ymgysylltu â'r gwasanaeth ddibynnu ar ba mor fedrus ydych chi gyda thechnoleg; dylai'r gwasanaeth gael ei gynllunio mewn modd y gellir ei ddefnyddio gan bobl pa un a ydyn nhw'n defnyddio technoleg ar-lein ai peidio. Ac rwy'n credu bod hynny'n newid diwylliant pwysig iawn yr ydym ni yn ei gofleidio, ac mae hynny'n hanfodol, gan droi at ei bwynt arall am yr angen i gael pobl ar ein hochr ni. Felly, ni ddylem fod angen tsar cynhwysiant digidol; dylem brif ffrydio cynhwysiant i'r ffordd yr ydym yn cynllunio gwasanaethau, a chredaf mai dyna'r dull yr ydym yn ei fabwysiadu.

Gofynnodd am y newyddion diweddaraf am 'Cyflymu Cymru' yn ystod mis Tachwedd. Ymddiheuraf os yw hynny ddiwrnod yn hwyr. Rwyf yn sicr wedi cymeradwyo hynny a gobeithio y bydd yn cael hynny cyn diwedd heddiw, os nad yfory. Ond rydym yn sicr wedi ymrwymo i gadw'r llif hwnnw o wybodaeth yn llifo ac i'w helpu yn ei allu i'n dwyn i gyfrif o ran cyflawni. Mae ei gwestiwn ynglŷn â sut y cawn ein dwyn i gyfrif yn un diddorol, oherwydd cyfeiriodd at gyflawni yn Llywodraeth Cymru, a chredaf mai dyma'r pwynt yr wyf wedi dod i'w ddeall ers ymgymryd â'r swydd hon—a soniais am hyn yn y datganiad—mae Llywodraeth Cymru yn chwaraewr bach yn hyn o beth, ac rwy'n credu na ddylem ni weld Llywodraeth Cymru fel prif sbardun y newid hwn. Rydym yn gatalydd, ac mae'n rhaid inni weithio gydag eraill—sefydliadau eraill a phartneriaid eraill—i wneud i hyn ddigwydd, oherwydd ni all Llywodraeth Cymru symud yn ddigon cyflym, ac nid oes ganddi'r pwysau i gwrdd â maint y newid a'r her y mae awtomeiddio'n ei gyflwyno inni. Mae ganddi swyddogaeth, ac nid wyf yn ceisio osgoi hynny, ond nid wyf yn credu y dylem ni weld ein hunain yn arwain ar hyn; rydym yn rhan o ecosystem y mae angen iddi sicrhau newid.

Ei gwestiwn olaf am ymchwil a datblygu—rydym yn edrych ymlaen at ragor o fanylion am gyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd yn cynyddu'r gwariant ar ymchwil a datblygu. Rydym yn sicr wedi cael trafodaethau yn y cyfnod cyn ein cyllideb ein hunain ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud fel rhan o'r agenda hon, ac edrychaf ymlaen, fel y mae ef, at glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog cyllid i'w ddweud am hynny.

15:50

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad ac, yn amlwg, am y copi ymlaen llaw. Hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy ddweud fy mod yn credu bod Llywodraeth Cymru i'w chanmol am edrych ymlaen ar adeg pan fo cymaint o egni'n canolbwyntio ar ymdrin â phethau heddiw. Credaf y gallwn i gyd fod yn falch iawn bod y gwaith hwn wedi cael ei ddatblygu, yn wyneb pwysau mawr ar Weinidogion ac, yn amlwg, ar eu swyddogion ar yr adeg anodd a heriol hon.

Mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn, wrth gwrs, i nodi, fel y mae'r adroddiad ei hun yn ei wneud, fod digidol—yr oes ddigidol, awtomeiddio—yn rym pwerus ac aflonyddgar, a gall tarfu fod yn gadarnhaol a gall fod yn negyddol. Hoffwn ganfod ychydig mwy am yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am rannu arfer gorau, oherwydd byddwn yn cytuno ag ef ein bod ni, yng Nghymru, weithiau'n dda iawn am ddatblygu menter newydd, ond yna nid ydym bob amser yn dda iawn yn ei lledaenu. Tybed a all ddweud ychydig mwy yn ei ymateb ynglŷn â sut y mae'r ganolfan ddigidol yn nodi rhai o'r rhwystrau hynny rhag newid. Mae'n debyg bod gennyf ddiddordeb hefyd gwybod, ar y pwnc penodol hwn, tybed a allai rhywfaint o'r hyn y maen nhw'n ei ddysgu am y rhwystrau hynny rhag newid, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, a sut y caiff y rheini eu goresgyn, fod yn wersi y gallwn ni eu goresgyn pan fyddwn yn ceisio lledaenu arfer da, o bosibl, mewn meysydd eraill.

Roeddwn yn falch o'i weld yn tynnu sylw at bwysigrwydd y cyflymydd arloesedd data. Mae'n gadarnhaol iawn gweld ein prifysgolion yn cydweithio yn y ffordd honno; nid yw bob amser yn hawdd iddyn nhw wneud hynny. Tybed a all ddweud ychydig mwy yn ei ymateb i mi am y ffordd y mae Llywodraeth y DU a chyllidwyr y DU yn ymateb i'w gais i gefnogi'r fenter hon, ac a oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud. Rwy'n gofyn, yn y cyd-destun hwn, a oes adnoddau ledled y DU y gallwn fanteisio arnyn nhw i gefnogi'r gwaith hwn, mae hynny i'w annog i raddau helaeth.

Rwyf eisiau croesawu'r dull y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddefnyddio i gwblhau'r strategaeth ddigidol newydd. Credaf fod y math hwnnw o ddull cydweithredol, agored, yn fodel arfer da, yn enwedig mewn byd fel hwn lle nad oes neb, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, yn gwybod yr holl atebion, gan fod hwn yn fyd mor newydd i bawb. Tybed a fyddai'n ystyried, neu os yw eisoes, cymryd camau arbennig i annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses honno. Gwn fod rhai o'n prif elusennau gwaith ieuenctid wedi cydweithio â Microsoft, gyda Google—mae pobl ifanc na fyddech efallai'n disgwyl iddyn nhw feddu ar lefelau da o sgiliau digidol mewn gwirionedd yn gwybod llawer iawn am hyn, ac yn sicr yn gwybod mwy amdano—wyddoch chi, y genhedlaeth ddigidol- frodorol sy'n cymryd y pethau hyn yn ganiataol. Felly, tybed, os nad yw wedi gwneud hynny eisoes, a allai ystyried sut y gellid gwneud hynny.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn, wrth gwrs, i ddweud y bydd hyn yn dod ac mae'n iawn i ddweud y bydd hyn yn drawsnewidiad enfawr, a chredaf ei bod yn iawn y dylai'r dull o ymdrin â'r trawsnewid hwnnw fod yn rhagweithiol ac yn gadarnhaol, ond tybed a fydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn cydnabod y gallwn ddisgwyl i fyd gwaith gael ei drawsnewid yn llwyr gan hyn dros amser. Pan fydd yn sôn am ddileu tasgau gweddol ddinod, wel, mae hynny'n wir, wrth gwrs, ond rhaid inni ystyried sut y bydd y rhai sydd bellach yn ennill eu bywoliaeth yn gwneud y tasgau gweddol ddinod hynny yn ennill eu bywoliaeth yn y dyfodol.

Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi fod y trawsnewidiad mawr diwethaf yn ein heconomi yng Nghymru—diwedd cyfnod cloddio glo, diwedd llawer o ddiwydiannau trwm—yn drawmatig iawn i lawer o gymunedau, fel rhai Cwm Gwendraeth, y mae ef a fi yn eu hadnabod yn dda, ac mae rhai o'r cymunedau hynny'n dal i fyw gydag effeithiau gwael y trawsnewid hwnnw.

Efallai na fydd digon o waith i bawb fel yr oedd yn draddodiadol, wrth i'r trawsnewid hwn gael ei gyflwyno, felly tybed a fyddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, yn ogystal â datblygu'r strategaeth ddigidol genedlaethol gadarnhaol honno ac, fel y dywed yn gywir, y Llywodraeth yn cymryd yr awenau ond nid ar ei phen ei hun yn unig, ac yn gweithio mewn partneriaeth, y dylem ni hefyd fod yn edrych ar ymatebion mwy radical o bosibl i sut yr ydym yn meddwl am waith, beth yw gwaith, beth sy'n bwysig. A ddylem ni fod yn ystyried wythnos waith fyrrach? A ddylem ni ystyried swyddogaeth bosibl i incwm sylfaenol cyffredinol a allai ryddhau dinasyddion i fod yn fwy creadigol, i dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd, beth bynnag y dymunan nhw ei wneud?

Hoffwn argymell bod y Dirprwy Weinidog yn ystyried edrych ar waith y 'Just Transition Commission', a sefydlwyd gan Lywodraeth yr Alban, sy'n ceisio sicrhau bod y chwyldro diwydiannol digidol newydd hwn yn cael ei reoli yn y fath fodd fel ei fod yn gwella bywydau pobl a chymunedau mewn gwirionedd, yn hytrach na'r perygl, os gadawn ni hyn i'r farchnad yn unig, y byddwn yn eu gwneud yn waeth.

15:55

A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am naws gadarnhaol ei chyfraniad ac am y cwestiynau perthnasol iawn y mae hi wedi'u gofyn? Fe geisiaf ymdrin â'r rheini yn eu tro. Felly, o ran lledaenu arfer gorau a deall y rhwystrau rhag newid, y ffordd yr ydym ni wedi sefydlu'r canolfannau digidol—. Felly, arweiniais banel arbenigol ddwy flynedd yn ôl, cyn imi ymuno â'r Llywodraeth, yn edrych ar ddiwygio digidol gwasanaethau cyhoeddus, ac yna bûm yn ymwneud â rhoi hynny ar waith. Cynhaliodd Sally Meecham, sydd bellach yn arwain y ganolfan i ni, gyfnod darganfod, sef i ddeall, drwy siarad ag ystod eang o bobl ar draws gwasanaethau cyhoeddus, beth oedd yr angen. Un o egwyddorion newid digidol yw ei fod yn seiliedig ar angen y defnyddiwr—rydych yn deall beth yw'r anghenion ac yna byddwch yn cynllunio ac yn profi ac yn dyblygu gwasanaeth sy'n diwallu'r anghenion hynny. Rydych chi'n arloesi, yn newid ac yn ymateb yn gyson, a dyna yw natur y cyfrwng digidol—nid yw'n ymwneud â TG; mae'n ymwneud ag agwedd agored at ddysgu a newid.

Felly, gwnaethpwyd hynny i lunio a chyflwyno'r achos dros y ganolfan ddigidol, ac rydym ni bellach yn y cyfnodau cynnar—yn amlwg, mae COVID wedi'i arafu—o ran cyflwyno honno. Mae ganddi nifer o swyddogaethau allweddol: un yw bod yn ganolfan arbenigedd a bod yn fan cychwyn lle gall gwasanaethau cyhoeddus yn arbennig fynd i gael cyngor ar arfer da, ond hefyd wedyn i gyflawni'r newid. Felly, mae'r carfanau trawsnewid digidol y soniais amdanyn nhw'n cael eu cynnal fel rhan o'r ganolfan, ac maen nhw'n gweithio, yn y lle cyntaf, gyda chynghorau Blaenau Gwent, Torfaen a Chastell-nedd ar ofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd carfan ar wahân yn gweithio yng nghyngor Blaenau Gwent ar wastraff.

Rydym ni eisiau gweld mwy a mwy o'r carfanau trawsnewid digidol hyn ym mhob sefydliad, oherwydd maen nhw'n gweithio ar draws disgyblaethau ac maen nhw'n gweithio fel tîm ac maen nhw'n mynd i'r afael â phroblem gyda newid yn y system gyfan mewn golwg. Drwy wneud y broses honno'n iawn, eir i'r afael â'r rhwystrau rhag newid wrth fynd ymlaen, oherwydd drwy ddeall yr anghenion rydych chi wedyn yn canfod yr atebion. Felly, gobeithio—diben diwygio digidol yw ei fod, fel y dywedais, yn ffordd newydd o fynd i'r afael â hen broblem. Mae'n gyfle newydd i ymdrin â diffygion cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus a defnyddio'r cyfrwng digidol fel ffordd o roi cynnig arall arni.

Mae arwyddion cynnar llwyddiant y ganolfan yn galonogol iawn. Maen nhw wedi recriwtio bwrdd cynghori o safon uchel iawn i helpu'r gwaith. Mae llawer o ewyllys da, a'r peth arall yr ydym wedi'i wneud hefyd ochr yn ochr ag ef yw creu, nawr, ecosystem o arweinyddiaeth ddigidol. Felly, mae gennym ni brif swyddog digidol newydd yn Llywodraeth Cymru; rydym ni newydd benodi prif swyddog digidol ar gyfer llywodraeth leol, dan adain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i godi sgiliau a disgwyliadau, i fod yn arweinydd yn y maes; ac mae gennym ni ymrwymiad i greu prif swyddog digidol yn y GIG hefyd. A bydd gan y rheini gyda'i gilydd swyddogaeth arweiniol i osod y safonau digidol, oherwydd dyna'r rhan allweddol arall o swyddogaeth y ganolfan. Rydym ni wedi gweld o'r blaen, a phan oeddwn ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gwelsom nifer o enghreifftiau o hyn, lle'r oedd gennym ymagwedd a elwid yn ddull 'unwaith i Gymru', sef yr egwyddor gywir i bob pwrpas, ond bu'n gweithio ar gyflymder yr arafaf. Felly, sut allwn ni sicrhau cysondeb heb arafu pawb? A thrwy osod safonau cyffredin yw'r ffordd i wneud hynny, a dyna fydd swyddogaeth arall y ganolfan. Felly, rwy'n gyffrous ynghylch ei photensial, a dim ond dechrau arni y mae hi.

Cyflymydd y genedl ddigidol, rwyf wedi cyfarfod sawl gwaith gyda'r is-gangellorion i'w drafod. Unwaith eto, potensial enfawr. Mae'n dal i gael ei lunio ac rydym yn cael sgyrsiau cynnar ynghylch sut y gallwn lunio hwnnw mewn ffordd sy'n ddefnyddiol. Oherwydd, o'm safbwynt i, effaith sy'n bwysig, a'r hyn nad wyf yn ei ddymuno'n arbennig yw cyfres o brifysgolion yn llunio prosiect a arweinir gan ymchwil, sy'n eu cyffroi'n fawr, ond nad yw'n ein helpu ni i sicrhau'r newid y nododd Phil Brown fod angen i ni fynd i'r afael ag ef. Felly, mae'r sgyrsiau yr wyf wedi bod yn eu cael gyda nhw ynghylch y ffaith fy mod yn credu bod angen i gyrff cyllido'r DU roi cyfran sylweddol tuag ato, oherwydd, fel y gwyddoch chi, nid ydym yn cael ein cyfran deg, ein cyfran o'r boblogaeth, o gyllid gan gyrff ariannu'r DU, felly mae'n bwysig bod hwn yn brosiect y dylen nhw ei groesawu. Ond rydym ni, Llywodraeth Cymru, yn barod i chwarae ein rhan wrth lunio hynny, cyn belled â bod yr hyn y maen nhw'n ei ddatblygu yn diwallu ein hanghenion mewn gwasanaethau cyhoeddus a diwygio economaidd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n fargen deg.

Mae'r pwynt am y strategaeth ddigidol yn un ardderchog ynghylch y ffordd yr ydym yn ymgysylltu â phobl ifanc. Pan fyddaf i'n eistedd, Dirprwy Lywydd, byddaf yn cyhoeddi'r cyntaf o'r blogiau, a bydd mwy i'w ddilyn yn gyflym ar ôl hynny, ac mae rhyddid i bawb eu darllen. Byddan nhw'n cael eu cyflwyno mewn themâu a phenodau, fel y gall pobl sydd â diddordeb arbennig mewn gwahanol elfennau ohono ymateb o fewn eu maes diddordeb. Ond rwy'n credu bod y pwynt ynglŷn â sut yr ydym yn ymgysylltu'n benodol â phobl ifanc yn un da iawn, a byddaf yn myfyrio'n gyflym ynghylch sut y gallwn geisio gwneud hynny, ac unrhyw awgrymiadau sydd ganddi, byddwn yn ddiolchgar o'u cael. Gwnaeth ambell awgrym yn ei datganiad, felly byddaf, fel y dywedais, yn myfyrio arnyn nhw.

Ac yna mae ei phwynt olaf am y byd gwaith sy'n cael ei drawsnewid ac mae dweud ei fod yn drawmatig i'r rhai sy'n gysylltiedig yn hollol gywir. Mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn mynd i ddod â manteision enfawr i nifer fach o bobl, a bydd yn disodli ac yn tarfu ar nifer o bobl ac yn eu niweidio drwy'r trawsnewid hefyd. A swyddogaeth y llywodraeth a llywodraethau yw ymyrryd er mwyn sicrhau bod y manteision hynny'n cael eu lledaenu'n eang, a bod y rhai sy'n cael eu dadleoli yn cael cymorth i addasu. A chredaf fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd os nad ydym yn ymdrin â hyn yn iawn, gallai hwn fod yn rym negyddol iawn a gallai fod yn ffynhonnell o darfu cymdeithasol mawr ac aflonyddwch a niwed economaidd. Ond nid oes angen iddo fod felly.

Felly, yr hyn yr oeddwn yn ei hoffi'n arbennig am yr enghraifft a ddyfynnais yng Nghaerffili, lle maen nhw wedi defnyddio awtomeiddio prosesau robotig, a ddefnyddiwyd mewn rhai achosion i sicrhau arbedion ariannol a llai o bobl, yw mai'r hyn y mae Caerffili wedi'i ddweud yw, 'Rydym ni eisiau defnyddio hyn i dynnu staff oddi ar bethau diflas nad oes angen i bobl fod yn eu gwneud ac a wneir orau drwy algorithmau.' Ond wedyn nid gweld hynny fel rheswm i gael gwared ar y staff hynny, ond i ryddhau'r staff hynny mewn gwasanaethau cyhoeddus, sydd dan bwysau, i wneud pethau eraill, oherwydd gwyddom fod yna swyddi y mae pobl yn eu gwneud yn well na pheiriannau, sy'n cynnwys empathi a helpu pobl, ac mae hynny'n rhywbeth y dylai pobl gael eu rhyddhau gan dechnoleg i'w wneud. Os dilynwn y dull hwnnw y mae Caerffili yn arwain y ffordd ag ef, yna rwy'n credu bod gennym gyfle da i lwyddo'n hyn o beth mewn ffordd sy'n helpu cymdeithas ac nad yw'n ei niweidio. Er y bydd adegau pan na fydd popeth yn mynd yn llyfn ar hyd y ffordd, mae'n siŵr.

A'r cwestiwn olaf am incwm sylfaenol cyffredinol, rwyf innau hefyd yn credu, yn y tymor hir, fod hyn yn rhywbeth sy'n ddeniadol, a chredaf i'r Prif Weinidog ddweud yn gynharach yn y Siambr ei fod yn awyddus i ystyried archwilio cynllun treialu ar gyfer hyn ar sail drawsbleidiol, ac roeddwn yn falch iawn o'i glywed yn dweud hynny.

16:00

Diolch. Rydym ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r datganiad 45 munud hwn, ac mae gennyf nifer o siaradwyr ar ôl, felly fe roddaf hynny—[Torri ar draws.] Na, na, rwyf dim ond yn cofnodi hynny. Jenny Rathbone.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae Brown yn siarad am y newid y mae'n ei ragweld i siopa ar-lein, ac mae hynny wrth gwrs yn cael ei adleisio yn y newyddion ofnadwy heddiw am gwymp Arcadia a Debenhams, heb os wedi'i gyflymu a'i waethygu gan y pandemig. Nid dim ond arweinyddiaeth wael y berchnogaeth ecwiti preifat i gael y gwerth mwyaf dros ben yw'r rheswm; rhaid ei fod hefyd oherwydd y newid mewn arferion siopa. Fel y dywedsoch chi, os na fyddwn yn newid, rydym yn marw.

Felly, sut ydych chi'n credu y gellid defnyddio'r pedwerydd chwyldro diwydiannol i gynorthwyo Caerdydd i ail-lunio ei chanolfannau masnachol i fod yn fannau cymunedol gymaint â mannau lle'r ydym yn parhau i siopa? Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthyf am NearMeNow, Caerffili, sydd, mi gredaf, yn helpu i gynnal y cysylltiadau hynny sy'n hanfodol yn yr economi sylfaenol, gan roi siopau lleol mewn cysylltiad â siopwyr lleol.

Yn ail, sut gall y Llywodraeth helpu'r gweithlu y mae eu swyddi'n diflannu heddiw ym maes manwerthu i ailhyfforddi i ateb y cynnydd hwnnw o 200 y cant yn y galw am swyddi deallusrwydd artiffisial y sonioch chi amdanyn nhw yn eich datganiad? A fyddai hynny'n swyddogaeth i wasanaethau cyhoeddus digidol yng Nglynebwy neu drwy'r cyflymydd cenedl ddata, dan arweiniad y pedair prifysgol hyn? Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd rwy'n siŵr y byddai llawer o weithwyr manwerthu'n awyddus iawn i glywed hynny.

16:05

Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone, ac mae ei sylw yn un da iawn. Yn amlwg, rydym yn gweld heddiw realiti a chanlyniad tarfu digidol—rydym wedi'i weld mewn llawer o feysydd eraill hefyd. Gallwn ei weld yn nhynged y cyfryngau lleol, sydd wedi bod yn astudiaeth achos berffaith mewn tarfu digidol. Does dim dwywaith bod cwestiwn enfawr ynghylch dyfodol canol trefi a chanolfannau siopa wrth i bobl symud ar-lein, ac nid wyf yn credu y gallwn ni atal y duedd hon; rwy'n credu bod angen i ni geisio ei defnyddio. Felly, rwy'n credu, fel y dywedais yn y datganiad, fy mod yn awyddus i weld sut y gallwn ni helpu busnesau bach i ddod yn fwy craff yn ddigidol er mwyn iddyn nhw allu gwerthu a masnachu ar-lein. Ac rwy'n credu bod ap NearMeNow y mae Jenny Rathbone yn sôn amdano yn enghraifft wych o geisio helpu canol trefi a busnesau bach i allu mynd ar-lein i gynnig eu nwyddau, ac rwy'n awyddus i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu busnesau bach a chanolig yn arbennig i wneud hynny.

Dydw i ddim yn credu mai'r ganolfan ddigidol yng Nglynebwy na chyflymydd cenedl ddigidol yw'r cerbydau cywir ar gyfer hynny. Mae'r ganolfan yng Nglynebwy yn ymwneud â diwygio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'r cyflymydd yn ymwneud ag ymchwil a datblygu a sut y caiff ei gymhwyso. Ond mae swyddogaeth enfawr o ran ailsgilio pobl. Mae prosiect ReAct, yr ydym ni eisoes yn ei ariannu, yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi'n ddigidol. Mewn gwirionedd, mae gennym ni ystod eang o fentrau, o brentisiaethau gradd mewn TG a fframweithiau i gymwysterau sgiliau hanfodol, Cronfa Ddysgu Undebau Cymru a'r prosiect DigiTALent, sy'n caniatáu i bobl sydd eisoes mewn gwaith a graddedigion diweddar uwchsgilio. Ond rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy yn y maes hwn, a chredaf mai'r her i bob un ohonom ni yw: sut gallwn ni helpu pobl i uwchsgilio wrth iddyn nhw fynd ymlaen, yn hytrach nag aros i'w swyddi ddiflannu ac yna sylweddoli nad oes ganddyn nhw sgiliau sy'n berthnasol i'r farchnad mwyach? Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer o ran sgiliau, ond rwy'n credu mai dyma un o'r meysydd hyn lle mae pob un ohonom ni yn gwybod bod angen i gymdeithas wneud mwy i helpu pobl i addasu.

Wrth agor fy nghyfraniad i'r ddadl hon, hoffwn adleisio geiriau'r Athro Brown, yn ei raglith i'w adroddiad, ble mae'n dweud ei fod yn gobeithio;

'mai catalydd yw’r adroddiad hwn, a fydd yn cychwyn trafodaeth genedlaethol am yr hyn y mae arloesi digidol yn ei olygu i bobl a chymunedau yng Nghymru, ac nid yn unig i fusnesau arloesol technolegol y dyfodol.'

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'n fanwl yr effaith y gallai deallusrwydd artiffisial ei gael ar gyflogaeth yng Nghymru, a gaiff ei drafod yn aml mewn cyd-destun negyddol. Fodd bynnag, o ystyried yr arweinyddiaeth a'r cymorth ariannol cywir, credaf y gellir osgoi'r effaith drychinebus y mae rhai'n ei rhagweld ar gyfer Cymru yn sylweddol. Mae'r ffordd arloesol a amlinellwyd gan y Dirprwy Weinidog, drwy gyhoeddi adroddiad drafft, a fyddai'n caniatáu mewnbwn gan sectorau sydd â diddordeb, wedi creu argraff fawr arnaf. Ond a gaf i ofyn sut y bydd y drafft yn cael ei hyrwyddo?

Mae pobl wedi bod yn rhagweld colli swyddi drwy awtomeiddio ers cyfnod y Ludiaid; y gwir amdani yw fod awtomeiddio wedi golygu llai o oriau gwaith a mwy o gyfnodau gwyliau, sydd wedi creu cynnydd enfawr mewn swyddi yn y diwydiannau gwasanaeth a lletygarwch. Ond dylai Cymru edrych ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol fel cyfle gwych i bobl gefnu ar y sector swyddi cyflogau isel, a cheisio dod yn arweinwyr byd-eang yn rhai o'r marchnadoedd arbenigol y bydd y cyfrwng digidol a deallusrwydd artiffisial yn eu creu. Yn wir, mae'n rhaid i ni longyfarch Llywodraeth Cymru ar ei chefnogaeth i'r ganolfan arloesi seiber, a grëwyd yn y de-ddwyrain, gyda'r nod o wneud Cymru'n arweinydd byd-eang yn y maes hwn. Mae hyn yn profi, mewn sectorau sydd wedi'u targedu'n benodol, y gallwn fod ar flaen y gad o ran technoleg newydd ac felly creu economi newydd sy'n seiliedig ar dechnoleg ar gyfer Cymru. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddynodi marchnadoedd arbenigol o'r fath y mae'n bwriadu eu harchwilio yn y dyfodol?

Er mwyn sefydlu economi o'r fath, dylem weithredu argymhelliad cyntaf yr adroddiad ar unwaith wrth greu chwe chlwstwr arloesi diwydiannol, i ddatblygu mapiau ffyrdd trawsnewid diwydiannol. Byddai'r mapiau hyn yn helpu i nodi cryfderau cyfredol ac arloesi digidol posibl ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Er mwyn cyflawni hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon, credaf y dylid ailstrwythuro llywodraeth leol yn chwe rhanbarth, pob un â mwy o bŵer a chyllidebau mwy, er mwyn helpu i hwyluso mwy o integreiddio, ffrydio glanach a gweithredu'r canolfannau arloesi digidol hyn yn fwy cynhwysfawr. A wnaiff y Gweinidog ddweud a fydd yn dilyn y cyngor hwn?

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd weithredu, fel mater o frys, ail argymhelliad yr adroddiad, integreiddio cymorth busnes, sgiliau ac arloesi sy'n bodoli eisoes i ffurfio un broses ddiagnostig a thrawsnewid busnes, a sicrhau—

16:10

Iawn. [Anghlywadwy.]—i gefnogi trawsnewid diwydiant digidol newydd.

Diolch. Roedd llawer yn y fan yna, a dim llawer o amser i ymateb, felly ceisiaf fod yn gryno. Croesawaf y sylwadau cadarnhaol a wnaeth David Rowlands am y dull yr ydym yn ei ddilyn, ac yn enwedig am y ganolfan arloesi seiber, sydd, mi gredaf, fel y mae'n cydnabod, â photensial sylweddol.

Soniais, o ran y clystyrau diwydiannol digidol, ein bod yn ymgymryd â'r argymhelliad hwnnw yn adolygiad Brown. Nid wyf yn credu, fel y dywedais, mai mater i Lywodraeth Cymru yw arwain pob un o'r clystyrau hynny; rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn chwarae ein rhan gydag eraill i'w gwneud yn berthnasol i'r sectorau y maen nhw wedi'u cynllunio i'w datblygu. Rwy'n credu bod y prosiect cyflymydd cenedl ddigidol gan y prifysgolion yn enghraifft dda iawn, lle bu'r prifysgolion yn arwain ac yn achub y blaen, ac maen nhw bellach yn dod atom ni i ofyn sut y gallwn ni eu helpu i wireddu eu gweledigaeth, a chredaf mai dyna'r ffordd gywir. Ni ddylai hyn fod yn ddull gweithredu sy'n cael ei arwain gan y Llywodraeth o'r brig i lawr; mae'n rhaid i hyn fod yn seiliedig ar anghenion yr economi.

O ran ei bwynt am farchnadoedd arbenigol, rwy'n credu ei fod yn bwynt diddorol ac mae'n adlewyrchu pwynt yn gynharach yn ei gyfraniad: nid wyf yn credu bod hyn yn ymwneud â'r diwydiannau uwch- dechnoleg sgleiniog newydd yn unig; mae'n rhaid i hyn ymwneud ag economi bob dydd hefyd. Felly, y cwestiwn y mae gennyf ddiddordeb ynddo yw: sut mae integreiddio'r agenda hon i'r economi sylfaenol, sydd, yn rhy aml, wedi'i nodweddu fel un o sgiliau isel, cynhyrchiant isel, cyflog isel, ond nid oes angen iddyn nhw fod felly? Felly, sut mae cael yr agenda arloesi hon i'r gwasanaethau bob dydd? Mae cronfa her sylfaenol yr economi, er enghraifft, wedi ymgymryd â nifer o'r prosiectau hynny. Mae un prosiect yn Sir Ddinbych yn ceisio canfod sut y gallwn ni ddefnyddio awtomeiddio a roboteg i helpu pobl mewn gofal i addasu, mynd i'r afael ag unigrwydd, er enghraifft. Felly, credaf fod pob math o ffyrdd arbenigol cadarnhaol, i ddefnyddio'i derm, y gallwn ni ddefnyddio'r agenda hon i helpu problemau eraill sydd gennym.

Ac yn olaf, ynghylch ei bwynt cyntaf ynglŷn â sut yr ydym yn hyrwyddo'r ymgynghoriad, wel, byddwn yn ddiolchgar am gymorth pob Aelod i dynnu sylw pobl at y ffaith bod hwn yn fyw erbyn hyn. Byddwn yn ei drydar y prynhawn yma, ac yna'n gadael i'r dorf wneud ei gorau.

Fe wnaf i ddim cymryd llawer o amser. Mae yna lawer o bwyntiau pwysig iawn wedi cael eu gwneud yma yn barod, ond a hithau mor bwysig, dwi'n meddwl, i dynnu syniadau o ar draws y Senedd, eisiau tynnu sylw ydw i at y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol dwi yn ei sefydlu ar hyn o bryd. Dwi'n meddwl bod yna gytundeb, onid does, ei bod hi mor bwysig cael y strategaethau yn gywir ar ddigidol, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cael platfform ar gyfer dod â gwahanol bartneriaid at ei gilydd er mwyn ceisio dylanwadu ar Lywodraeth. Dwi'n meddwl bod y cyfle yma o'n blaenau ni i drafod yr ymgynghoriad ar y strategaeth ddigidol yn golygu—wel, mae'n awgrymu i mi mai dyma'r amser iawn i wneud hyn. Felly, diolch yn fawr iawn i'r rheini sydd wedi dangos eu bod nhw am gefnogi hyn. Diolch i'r Gweinidog hefyd am ymateb yn bositif—neu'r Dirprwy Weinidog, ddylwn i ddweud—i hyn. Mae yna gymaint o newidiadau cymdeithasol a chyfleon economaidd yn ddeillio allan o ddigidol—yr M-SParc yn fan hyn a'r ganolfan DSP, Compound Semiconductor Applications Catapult yng Nghasnewydd, y ganolfan sbectrwm yn Aberystwyth. Mae yna gymaint eisiau ei drafod yn economaidd a chymdeithasol, ac rydw i'n gwahodd pawb i chwarae eu rhan yn y drafodaeth yna.

16:15

Diolch yn fawr am y sylwadau yna. Croesawaf naws a chynnwys y cyfraniad, ac rwyf innau hefyd yn cefnogi'r mentrau y mae M-Sparc yn eu cynnal yn Ynys Môn. Rwy'n credu eu bod yn arwain y ffordd o ran arloesedd, o brosiect o'u heiddo yr wyf yn ymwybodol ohono'n ddiweddar mewn hydroponeg wrth gynhyrchu bwyd, ond hefyd, rwy'n credu, rhywbeth arbennig o gyffrous yw eu defnydd o LoRaWAN, sef pyrth amledd isel y gellir eu haddasu i ddod â'r agenda 'rhyngrwyd pethau' yn fyw. Felly, maen nhw wedi gwneud gwaith da iawn yn hynny o beth ar bethau syml fel gatiau fferm, i helpu ffermwyr gyda deallusrwydd amser real i'w helpu i reoli eu da byw a'u tir, a'r prosiect Patrwm mewn nifer o ganol trefi ar draws y gogledd, lle maen nhw'n gallu monitro mewn amser real nifer y bobl sy'n dod i ganol trefi. Mae hyn wedi deillio o brosiect a ddechreuodd yn Aberteifi, lle mae'r Cynghorydd Clive Davies, maer presennol Aberteifi, wedi gwneud gwaith rhagorol, gan weithio gyda masnachwyr lleol i ddefnyddio'r signalau band eang am ddim sydd wedi'u hariannu i gael data i helpu'r siopwyr i ddeall o ble mae pobl yn dod, pa adegau o'r dydd y maen nhw'n dod, a ydyn nhw yn ymateb i ddigwyddiadau. Credaf mai'r her yn awr yw defnyddio'r data hynny i ddylanwadu ar bolisïau. Felly, mae'n wych cael y data, ond nawr mae angen i ni ddeall beth y mae'r data'n ei ddweud wrthym ni sy'n arwain at arloesi a newid ymhellach. Rwy'n credu y bydd M-SParc i'w canmol yn fawr am yr arweinyddiaeth y maen nhw wedi'i dangos yn hyn o beth, ac mae llawer mwy y gallan nhw ei gyfrannu at brif ffrydio'r agenda hon ledled Cymru.

6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Eitem 6 ar yr agenda yw'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, sydd wedi'i ohirio tan 8 Rhagfyr.

7. Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Eitem 7 yw dadl ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y cynnig hwnnw—Jeremy Miles.

Cynnig NDM7490 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi ail adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cymru yn gweithredu.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Jeremy Miles 16:17:39
Counsel General and Minister for European Transition

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n hynod falch ein bod ni'n cynnal y ddadl hon ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, adroddiad sy'n cwmpasu'r flwyddyn ariannol 2019-20. Hon yw'r ddadl gyntaf inni gael ar yr adroddiadau blynyddol sy'n cael eu cyhoeddi gan y llywydd. Roedd ei adroddiad blynyddol cyntaf fe yn cwmpasu'r cyfnod o 2017 i fis Mawrth 2019, ac yn yr adroddiad hwnnw gwnaeth y llywydd yn ei eiriau ei hun ddweud ein bod ni

'yn cychwyn ar daith tuag at gyflwyno system dribiwnlysoedd fodern a hyblyg i Gymru—system a fydd yn gallu ymateb i anghenion rhesymol y rheini sy’n defnyddio’r tribiwnlysoedd'.

Syr Wyn Williams yw'r cyntaf i ymgymryd â swydd llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Mae ei benodiad e yn un hynod bwysig i Gymru, nid yn unig o safbwynt yr arweiniad cyfreithiol a'r cyfoeth o brofiad sy'n dod gydag ef i'r rôl, ond hefyd oherwydd mai dyma'r penodiad barnwrol ar lefel uchel cyntaf ers 1830 sy'n ymwneud â Chymru yn unig. Rhaid inni gofio, o ran ffurf y tribiwnlysoedd sydd gyda ni, y ceir yma yng Nghymru farnwriaeth sydd, er ei bod hi'n fach o ran maint, yn gwbl neilltuedig o ran barnwriaeth Lloegr ar lefel y dyfarniad cyntaf.

Cyn i fi fyfyrio ychydig ar yr adroddiad blynyddol, dwi'n siŵr y bydd Aelodau am ymuno â mi i ddiolch i Syr Wyn am ei ymrwymiad i swydd llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Dwi hefyd yn siŵr y bydd Aelodau am ymuno â fi i longyfarch Syr Wyn ar ei benodiad fel cadeirydd ymchwiliad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i system dechnoleg gwybodaeth Horizon Swyddfa'r Post. Mae'n amlwg bod parch iddo yn y Llywodraeth yma yng Nghymru ac yn San Steffan. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Bydd aelodau wedi cael cyfle i ystyried ail adroddiad blynyddol y llywydd, ac, fel fi, rwy'n credu, byddan nhw wedi'i ddarllen gyda diddordeb. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae tribiwnlysoedd Cymru wedi gweithredu'n effeithiol, gan sicrhau bod defnyddwyr tribiwnlysoedd wedi parhau i allu sicrhau cyfiawnder yn briodol. Bydd adroddiad blynyddol nesaf y llywydd, rwy'n tybio, yn myfyrio'n fanylach ar effaith pandemig y coronafeirws.

Nid oes amheuaeth nad yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd y cyfnod adrodd wedi peri risgiau sylweddol o ran gallu sicrhau cyfiawnder, ac, i'r rheini a fyddai'n gallu troi at y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl, y posibilrwydd o ymyrryd â'u hawl i gael prawf teg. Ond gyda dim ond rhai gohiriadau, mae tribiwnlysoedd Cymru wedi parhau i weithredu, ac rwy'n cael fy sicrhau'n benodol gan y ffordd y mae'r tribiwnlys adolygu iechyd meddwl wedi parhau i allu gwaredu achosion heb fod angen dibynnu ar y mesurau brys a nodir yn Neddf Coronafeirws 2020, sydd i bob pwrpas wedi diogelu hawliau cleifion o ganlyniad. Yn fy marn i, mae'r ffordd y mae pawb sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd Cymru wedi ymateb mewn amgylchiadau gwirioneddol eithriadol wedi bod yn drawiadol iawn. 

Gan droi at yr agenda cyfiawnder ehangach, mae'r ail adroddiad blynyddol yn rhoi sylwadau ar y comisiwn ar gyfiawnder, ac yn enwedig ar yr argymhellion sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd Cymru. Roedd Syr Wyn Williams, wrth gwrs, yn gomisiynydd ei hun. Cyfeiriodd comisiwn Thomas at y gwaith sydd i'w ddatblygu gan Gomisiwn y Gyfraith i dribiwnlysoedd yng Nghymru ac y byddai Comisiwn y Gyfraith yn gallu ystyried diwygio'n fanylach nag y gallai comisiwn Thomas ei hun. Ac er ei fod wedi'i ohirio ychydig, rwy'n falch bod prosiect Comisiwn y Gyfraith bellach ar y gweill ac yn debygol o adrodd yn ôl yn ystod haf y flwyddyn nesaf.

Er fy mod i yn siomedig na allwn ni adrodd am gynnydd pellach nag a wnaethom ni o ran bwrw ymlaen ag adroddiad y comisiwn cyfiawnder, mae'r agenda cyfiawnder yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yr effeithiau mwyaf ar ddiwygio'r system gyfiawnder yw datblygu materion sy'n gofyn am fewnbwn gan Lywodraeth y DU. A realiti'r sefyllfa bresennol, wrth gwrs, yw bod blaenoriaethau mwy uniongyrchol yn wynebu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, lle mae pandemig y coronafeirws a diwedd cyfnod pontio'r UE, wrth gwrs, ar frig yr agenda. Ond nid oes amheuaeth nad yw'r ymateb i'r pandemig wedi taflu goleuni ar rychwant eang iawn cymhwysedd Llywodraeth Cymru a'r Senedd mewn meysydd a ystyrir yn draddodiadol, efallai, fel rhai a gadwyd yn ôl.

Os gallwn ddeddfu yn y meysydd hyn yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, pam nad at ddibenion eraill sy'n cyfuno cyfiawnder â meysydd cyfrifoldeb sydd eisoes wedi'u datganoli? Os rhywbeth, mae'r dadleuon a wnaed gan y comisiwn ar gyfiawnder dros newid cyfansoddiadol a datganoli cyfiawnder wedi'u cryfhau gan yr amgylchiadau eithriadol y buom ynddyn nhw dros y chwe mis diwethaf a bydd hynny'n parhau hyd y gellir rhagweld. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r hyn a allwn ni yng Nghymru, a byddwn yn defnyddio ein profiadau ar y cyd yma yng Nghymru i geisio creu consensws a chefnogaeth i'r ddadl dros newid, i ddatblygu hynny gyda Llywodraeth y DU pan fydd yr amser yn briodol ar gyfer hynny.

Dirprwy Lywydd, wrth gloi, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i ddiolch i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei ail adroddiad blynyddol. 

16:20

A gaf i ymddiheuro os yw unrhyw beth a grybwyllaf yn fy nghyfraniad eisoes wedi cael sylw yn y rhan o araith y Cwnsler Cyffredinol a gyflwynwyd yn Gymraeg? Nid oedd y cyfieithu yn gweithio ar fy nyfais i, mae arnaf ofn.

Rwy'n credu bod hwn yn adroddiad defnyddiol iawn wrth ddadansoddi gweithrediad tribiwnlysoedd yng Nghymru, ac felly bydd o ddiddordeb cyffredinol i bobl, oherwydd gall yr ystadegau ynglŷn â defnydd tribiwnlysoedd fod yn ddangosydd da iawn o ba mor llyfn y mae meysydd polisi cyhoeddus allweddol yn rhedeg o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru a chyfraith Cymru. Rwy'n siŵr bod y rhai sydd wedi edrych ar yr adroddiad wedi gweld y rhan honno'n ddiddorol iawn—i weld y newidiadau amrywiol o ran defnydd, i fyny ac i lawr. Yn aml, mae rhesymau penodol dros hynny, wrth gwrs, ond mae'n dal yn ddangosydd da iawn.

O ddiddordeb arbennig i mi yw'r hyn sydd gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams, i'w ddweud am argymhellion 25 a 27 y comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru, y cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol ato. Mae argymhelliad 25 yn nodi y dylai pob corff cyhoeddus, ombwdsmyn, fel yr ydym ni yn dal i'w galw, a thribiwnlysoedd eraill a sefydlwyd o dan gyfraith Cymru gan Lywodraeth Cymru ac sy'n gwneud penderfyniadau barnwrol neu led-farnwrol gael eu dwyn o dan oruchwyliaeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac mae argymhelliad 26 yn nodi y dylai uned Tribiwnlysoedd Cymru fod yn strwythurol annibynnol ac y dylid defnyddio Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer datrys anghydfodau sy'n ymwneud â deddfwriaeth Cymru yn y dyfodol. Fel y mae Syr Wyn yn nodi, os caiff ei dderbyn a'i weithredu, byddai'r argymhellion hyn yn cynyddu llwyth gwaith rhai tribiwnlysoedd yn sylweddol. Mae'n nodi pa mor sylweddol fyddai nifer yr anghydfodau sy'n deillio o iechyd, addysg, tai a chyfraith amaethyddol.

Yn benodol, mae Syr Wyn yn dyfynnu deddfwriaeth tai, lle mae'n rhaid i anghydfodau gael eu datrys ar hyn o bryd gan y llys sirol. Ond fel y gwyddom ni o'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd, o ran y Bil rhentu cartrefi, ni fydd yn rhoi terfyn ar droi allan heb fai, ond credaf fod pawb sydd wedi edrych ar y Bil hwnnw'n sylweddoli bod yn rhaid iddo ganiatáu i landlordiaid droi yn effeithiol at y gyfraith pan fydd ganddyn nhw achos i droi allan. Oherwydd ein bod ni wedi symud, yn gwbl briodol yn fy marn i, i system sy'n seiliedig ar fai, i ffwrdd o'r system dim bai, i bob pwrpas, sydd wedi goroesi ers diwedd y 1980au. Ond ar hyn o bryd, mae mynd ag achos i'r llysoedd sirol a'r gost dan sylw a'r amser a gymerir yn aml yn rhwystr sylweddol iawn. Felly, roedd adroddiad pwyllgor Cyfnod 1 yn adlewyrchu ar hyn ac yn wir gofynnodd i Lywodraeth Cymru edrych ar y cysyniad o dribiwnlys tai yn ymwneud â'r rhan hon o gyfraith dai a datrys anghydfodau.

Felly, rwy'n credu bod hynny'n enghraifft glir iawn o sut y gellid defnyddio tribiwnlysoedd yn fwy effeithiol, a chredaf ein bod i gyd yn credu bod defnyddio tribiwnlysoedd wrth weinyddu cyfraith gyhoeddus yn aml yn effeithiol iawn ac yn caniatáu mwy o fynediad i'r system gyfreithiol nag y byddai dinasyddion yn ei gael drwy'r llysoedd sirol. Felly, rwyf yn croesawu'r ffordd yr aethpwyd ati, ac rwy'n cymeradwyo, fel y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol, yr ail adroddiad hwn gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Diolch yn fawr, Llywydd.

16:25

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i hefyd fod yn rhan o'r ddadl bwysig yma, sydd efallai yn torri cwys newydd yn ein hanes, wrth gwrs—dadl ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams. Yn y lle cyntaf, dwi hefyd yn diolch i Syr Wyn Williams am ei waith dros y blynyddoedd, ac yn ategu'r holl eiriau caredig rydyn ni wedi eu dweud amdano fe eisoes, yn enwedig geiriau'r Cwnsler Cyffredinol.

Mae'r cefndir, fel mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi olrhain—. Achos yn naturiol, mae rhai ohonom ni wedi bod yn clochdar ers blynyddoedd am yr angen i ddatganoli'r gyfundrefn gyfiawnder—plismona, carchardai, gwasanaeth prawf ac ati—i'r Senedd yma. Mae'n ddigon hawdd, felly, anghofio bod un rhan o'r system gyfiawnder eisoes yn ddatganoledig, a dyna'r system rydyn ni'n ei thrafod y prynhawn yma—rydyn ni'n anghofio hynny weithiau; wel, yn eithaf aml, mae'n rhaid dweud—sef y system gyfiawnder gweinyddol, sydd yn edrych ar sut rydyn ni'n gweinyddu'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn ddatganoledig yma; y gwahanol tribiwnlysoedd, hynny yw, mewn chwe gwahanol faes. Ac fel Aelod o'r Senedd yma dros y blynyddoedd, dwi wedi bod ynghlwm ag ambell i dribiwnlys wrth gynrychioli etholwyr sydd efo problem—anghydfod, fel rheol, gyda'r sir lleol ynglŷn â'r gyfundrefn addysg arbennig.

Tribiwnlys arall, wrth gwrs, ydy'r un sydd yn adolygu iechyd meddwl, a hwnna, wrth gwrs, o edrych ar y ffigurau, ydy'r prysuraf oll o'r hanner dwsin ohonyn nhw. Ond fel mae'r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi olrhain, mae'r tribiwnlysoedd eisoes yn cyfro tiroedd megis tir amaethyddol yn ogystal ag iechyd meddwl ac anghenion addysgu ychwanegol, hefyd tribiwnlys y Gymraeg a'r tribiwnlysoedd eiddo preswyl. Af i ddim i droedio ar yr un un tir ag y mae David Melding newydd sôn, ond, wrth gwrs, mae yna le i gryfhau gwaith y tribiwnlysoedd yma, yn enwedig rŵan wrth i Lywodraeth y Senedd yma fod yn deddfu o'r newydd mewn rhai meysydd datganoledig megis tai, a bydd hynna, wrth gwrs, â'r potensial i greu gwaith y buasem ni'n ei gyfarch—a rhaid iddo fo ddigwydd—i'r tribiwnlysoedd. Ac, wrth gwrs, mae yna dribiwnlys panel dyfarnu, hefyd.

Felly, mae yna doreth o waith sydd eisoes yn mynd yn ei flaen, a dwi'n siŵr bod y rhan fwyaf ohonom ni ddim yn sylweddoli bod y gwaith cyfiawnder yna eisoes wedi'i ddatganoli i fan hyn. Wrth gwrs, bu i Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd yma fod yn craffu ar waith y tribiwnlysoedd yn y gorffennol, a dwi'n siŵr y bydd y Cadeirydd, os bydd e'n siarad, yn olrhain union graffu ein pwyllgor deddfwriaeth yma yn y Senedd, gan gynnwys cael Syr Wyn Williams i'n pwyllgor yn rhithiol.

Wrth gwrs, fel mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i olrhain, cefndir hyn oll ydy adroddiad comisiwn Thomas, y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a oedd yn olrhain, fel y mae pawb yn gwybod, y sefyllfa bresennol yng nghylch cyfiawnder a throsedd yng Nghymru, ei fod yn hollol anfoddhaol a'r angen i'w newid a'i chryfhau. Mae'r system tribiwnlysoedd yn rhan o hynny, yn naturiol, ond, wrth gwrs, mae angen diogelu annibyniaeth y tribiwnlysoedd hefyd oddi wrth Lywodraeth Cymru. Jest i bwysleisio'r pwynt—hynny yw, y ffordd mae'r tribiwnlysoedd yn cael eu hariannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan Lywodraeth, ond wrth gwrs, mae disgwyl iddyn nhw hefyd fod yn dyfarnu'n annibynnol oddi wrth Lywodraeth hefyd yn y gwahanol feysydd, megis tai, addysg ac iechyd meddwl. Mae hynna'n her, a buaswn i'n dweud hefyd yn her i dribiwnlys y Gymraeg hefyd: neilltuo a sicrhau annibyniaeth y tribiwnlysoedd fel mae eu pwerau nhw'n cynyddu, a buasem ni'n disgwyl gweld eu pwerau nhw'n cynyddu wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.

Wrth gwrs, fy mhwynt olaf i rŵan ydy bod y pandemig COVID wedi cael effaith syfrdanol ar weithgaredd ein tribiwnlysoedd, fel mewn pob gweithgaredd arall, ac mae nifer o'r tribiwnlysoedd wedi mynd ar-lein, wedi cael cyfarfodydd rhithiol, yn delio efo problemau, yn enwedig ynglŷn â thribiwnlysoedd iechyd meddwl, dros y ffôn ac ati, yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb, achos doedd hi ddim yn bosibl cyfarfod wyneb yn wyneb y rhan fwyaf o'r flwyddyn yma, ond eto, mae gwaith y tribiwnlysoedd yn mynd rhagddo.

Felly, i orffen, cychwyn ar y ffordd ydyn ni. Mae nifer ohonom ni yn y Senedd yma eisiau gweld y system, y gyfundrefn gyfiawnder a throsedd, wedi cael ei datganoli yn gyfan gwbl i'r Senedd yma. Rydyn ni'n canolbwyntio yn fan hyn ar y darn sydd eisoes wedi'i ddatganoli, ac rydyn ni eisiau gweld cryfhau hwnna, hefyd, fel gweld cryfhau'r ffordd yr ydyn ni'n delio efo cyfiawnder a throsedd yma yng Nghymru, y ffordd yn dod yn glir, adeiladu ar y seiliau sydd gyda ni gan weld y dydd pan fyddwn ni'n gweld datganoli'r system plismona, carchardai, gwasanaeth prawf, y system cyfiawnder troseddol yn ei gyfanrwydd yma yn nwylo pobl Cymru, yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:30

Llywydd, yn gynharach eleni cefais y fraint o gadeirio'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i arwain y gwaith o graffu ar lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams, ar ei ail adroddiad blynyddol, ac roedd hynny'n anrhydedd gan ei fod yn sesiwn hanesyddol. Dyma'r tro cyntaf yn hanes Cymru i un o bwyllgorau'r Senedd hon, Senedd Cymru, allu craffu ar weithrediad y rhan honno o'r system gyfiawnder sydd wedi'i datganoli i'r Senedd ers sefydlu Cyngor Cymru yn 1571 gan Edward IV, ac ers diddymu llysoedd Cymru, y Sesiynau Mawr, ym 1830. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn cynrychioli system farnwrol ac awdurdodaeth gyfreithiol newydd i Gymru, ac mae'n cyd-fynd â newidiadau cyfreithiol a chyfansoddiadol eraill sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru ac yn y DU yn sgil ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn cyflwyno heriau gwirioneddol i Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu gweinyddiaeth ein system llysoedd a thribiwnlysoedd. Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â hygyrchedd, annibyniaeth penodi a gweithredu'r swyddogaethau barnwrol a lled-farnwrol hynny, a gweinyddu cyfiawnder.

Nawr, wrth i'r pwyllgor graffu ar y swyddogaethau hyn, rydym ni yn ymwybodol iawn o natur ddiffygiol ein trefniadau barnwrol presennol. Mae cymorth cyfreithiol y DU yn gyfyngedig iawn, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi'i ddinistrio, gan adael y rhan fwyaf o ddinasyddion a chymunedau Cymru heb fawr o fynediad at gyfiawnder, ar wahân i'r gronfa gynghori sengl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Cyngor ar Bopeth Cymru. Mewn llawer o feysydd polisi cymdeithasol pwysig eraill, nid Llywodraeth Cymru yw'r Senedd gyfrifol ar hyn o bryd, ac eto mae llawer o rannau perthnasol o'r system farnwrol yn aros yn nwylo San Steffan o dan oruchwyliaeth awdurdodaeth i Gymru a Lloegr. Mae llysoedd wedi cau ledled Cymru, felly mae'r cysyniad o gyfiawnder i bobl wedi ei weinyddu yn y cymunedau y maen nhw'n byw ynddyn nhw wedi dod yn rhywbeth o'r gorffennol. Mae cynigion gan Lywodraeth y DU i'w alluogi i osgoi'r llysoedd a thorri rhwymedigaethau rhyngwladol hefyd yn tanseilio uniondeb rheolaeth y gyfraith a'n systemau barnwrol. Ni ddylai gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru ddod yn frwydr grym rhwng San Steffan a'r Senedd hon, ond yn hytrach dylai fod yn seiliedig ar y system orau o weinyddu cyfiawnder i bobl Cymru a chydnabyddiaeth o'r berthynas annatod sy'n bodoli rhwng y system gyfreithiol a pholisi cymdeithasol.

Gan droi'n fwy penodol at adroddiad Syr Wyn Williams, mae nifer o faterion y bydd angen mynd ar eu trywydd yn y Senedd nesaf. Mae gweithrediad tribiwnlysoedd Cymru a swyddogaeth y llywydd yn greiddiol yn hyn o beth, felly rwyf yn cefnogi'n fawr bwyslais ei adroddiad ar y meysydd hyn, yr angen am system unedig dan oruchwyliaeth y llywydd, ac annibyniaeth y system Lywodraethu. Mae'n hen bryd cyhoeddi gwaith Comisiwn y Gyfraith i fynd i'r afael â'r materion hyn ac mae'n hanfodol bwysig o ran sicrhau datblygiad ein system farnwrol Gymreig, a'i fod yn seiliedig ar egwyddorion cadarn a fydd yn darparu sylfaen sy'n seiliedig ar egwyddorion cyfiawnder naturiol a rheolaeth y gyfraith. Yr hyn sy'n allweddol i hyn yw'r sylw a wnaed gan Syr Wyn Williams yn yr adroddiad ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn dechrau llunio ei chynigion ei hun ynghylch swyddogaeth a datblygiad y llywyddiaeth yn y cyd-destun hwn yn y dyfodol. Ac mae'n dweud hyn fel bod Comisiwn y Gyfraith yn cael cymaint o gymorth ar y mater hwn ag sy'n bosibl. 

Nawr, mae angen trafod beth yw swyddogaeth yr ombwdsmon cyhoeddus yn yr ystyriaethau hyn. Credaf hefyd, yn y Senedd nesaf, ei bod hi'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu Gweinidog dros gyfiawnder. Nid oes cyfiawnhad dros y farn bod hyn yn dibynnu ar ddatganoli cyfiawnder ymhellach, yn fy marn i. Mae angen llais arnom ni yn y Senedd hon i siarad dros y system gyfiawnder fel y mae'n gweithredu yng Nghymru gyfan, wedi'i datganoli ac nad yw wedi'i datganoli. Byddai Gweinidog o'r fath yn mynd i'r afael â'r berthynas ddiffygiol bresennol rhwng swyddogaethau datganoledig a swyddogaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Nid oes ffiniau i gyfiawnder ac anghyfiawnder, fel y gwyddom ni, a chredaf y byddai hyn yn dechrau mynd i'r afael ag argymhelliad 61 comisiwn Thomas

"Mae'n rhaid i arweinyddiaeth glir ac atebol ar gyfiawnder yn Llywodraeth Cymru gael ei sefydlu o dan y drefn ddatganoli bresennol"

Galwodd yr Arglwydd Thomas am arweiniad cydgysylltiedig drwy un Gweinidog neu Ddirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru gyda goruchwyliaeth o'r holl faterion cyfiawnder, ac y dylai'r Senedd fod â swyddogaeth fwy rhagweithiol yn y gwaith craffu priodol ar weithrediad y system gyfiawnder. Llywydd, dyma'r broses yr ydym ni wedi dechrau arni heddiw gyda thrafodaeth ar yr adroddiad blynyddol hanesyddol hwn. Diolch, Llywydd. 

16:35

Yn gyntaf, a gaf i ddweud diolch yn fawr iawn i Syr Wyn Williams fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei adroddiad blynyddol ond hefyd am bopeth y mae ef a'i farnwyr wedi eu gwneud? Mae'r heriau wedi bod yn fwy oherwydd y coronafeirws, ond hyd yn oed mewn adegau arferol, anaml iawn y mae'r gwaith beunyddiol yn waith hyfryd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn diolch ar goedd am yr hyn a wneir.

Wrth ddarllen yr adroddiad blynyddol, gobeithio na chaiff dim a ddywedaf ei gymryd fel beirniadaeth o'r llywydd neu'r adroddiad, ond yn fwy o ddiddordeb yn yr hyn y mae wedi'i ysgrifennu. Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yr adroddiad blynyddol yn sefyll ar ei draed ei hun. Nid wyf wedi darllen yr adroddiad blaenorol yn yr un manylder ag eraill efallai, ac fel un enghraifft, y cyfeiriad ym mharagraff 2.5 at 'cross-ticketing', nid wyf yn gwybod beth yw ystyr hyn, ac nid yw'n cael ei esbonio, hyd y gwelaf, yn y ddogfen. Mae'n cyfeirio at y ffaith bod aelod o Dribiwnlysoedd Cymru wedi gwneud hyn, ac yna mae'n nodi tribiwnlys penodol. Rwy'n tybio mai'r ystyr yw aelod o dribiwnlys arall yng Nghymru yn symud i un nad yw yn aelod ohono, ond hoffwn petai yna ychydig mwy o eglurder ynglŷn â hynny. Mae cyfeiriad hefyd at un unigolyn sy'n symud o dribiwnlys eiddo haen gyntaf Lloegr i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru, felly nid wyf yn siŵr a yw'n beth cyffredinol pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth nad yw ar y tribiwnlys y'i penodir iddo.

Mae'r siaradwr blaenorol, ar ôl siarad, rwy'n credu, yn bur frwdfrydig a chadarnhaol am ail-ymddangosiad system farnwrol newydd i Gymry—. Nid wyf yn cefnogi hynny yn y ffordd y mae ef yn ei wneud, ond rwyf yn rhannu ei bryderon am yr hyn y credaf ei fod yn ei alw'n briodol yn drefn ddiffygiol, ac rwy'n credu bod ansawdd a graddau'r gwaith a ddigwyddodd ar y comisiwn cyfiawnder yn wahanol iawn i awydd Llywodraeth y DU i ymateb iddo ac i wella'r system a'i llunio o'r newydd. Caf fy nharo gan ba mor fach yw rhai o'r tribiwnlysoedd hyn, a hefyd pa mor wahanol yw eu swyddogaethau. Felly, mae ganddyn nhw'r cyffredinrwydd o fod yn dribiwnlysoedd yng Nghymru, ond yna mae gwahaniaethau sylweddol iawn rhwng y rhan fwyaf ohonyn nhw a'r hyn a wnânt.

Edrychaf gyda diddordeb hefyd yng ngoleuni'r pwyslais a roddir ar y Gymraeg wrth ddatblygu barnwriaeth a phenodiadau Cymreig, o ran pa mor eang y cafodd ei defnyddio yn y tribiwnlysoedd, a sylwaf, y tu allan i dribiwnlys y Gymraeg, o 2,251 o achosion, mai dim ond naw a gynhaliwyd yn Gymraeg.

Os caf i, mae gennyf gwestiwn i'r Gweinidog am uned tribiwnlysoedd Cymru, a sut yr ydym yn ymdrin â materion megis annibyniaeth y farnwriaeth pan fydd llywydd y tribiwnlysoedd yn edrych, yn ôl a ddeallaf, ar ddau was sifil o fewn uned tribiwnlysoedd Cymru fel strwythur lle gellir ceisio a chael cyngor cyfreithiol pan fo angen. A gaiff uned tribiwnlysoedd Cymru ei hystyried yn weinyddiaeth gyfiawnder embryonig i Gymru, ac os felly, pan fydd y Gweinidog yn dweud bod ganddo gryn annibyniaeth strwythurol, a yw hynny yn y ffordd y byddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, o ran Llywodraeth y DU, yn aml, o ran Lloegr, yn ei wneud neu a yw'n edrych ar rywbeth cryfach na hynny?

Sylwaf fod y llywydd yn cyfeirio at ei dymor ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith a sut y mae angen gwneud penderfyniad yn y tymor byr i ganolig am swyddogaeth y llywydd, ac mae'n nodi mai gweinyddol a bugeiliol yw ei swyddogaeth yn bennaf, ac rwy'n siŵr bod yna bethau gwerthfawr a phwysig iawn y mae'n eu gwneud—heb os—ond roeddwn wedi synnu braidd gweld nad oes sail statudol glir i'r llywydd wasanaethu fel barnwr ar dribiwnlysoedd. Derbynnir yn gyffredinol y gallant, neu y dylent o bosibl, ond yna mae'r llywydd presennol yn nodi ei farn ynglŷn â sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaeth ei hun, a meddwl ydw i tybed a oes angen gwell dealltwriaeth arnom ni yn y fan yma, ymhlith barnwyr, ond hefyd yn bennaf, efallai, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, oherwydd credaf fod maint y gwahaniaeth rhwng uchelgais y comisiwn ar gyfiawnder—. Ac roedd y llywydd yn un o'r comisiynwyr hynny ac mae'n cyfeirio yn yr adroddiad hwn at rai o'r pethau a ddysgodd drwy hynny ac mae wedi gwneud i mi ddeall agweddau ar yr adroddiad hwnnw mewn ffordd na wnes i o'r blaen, oherwydd yr hyn a ddywed yn yr adroddiad blynyddol hwn heddiw. A yw'r gwahaniaeth barn hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn golygu nad ydym yn cael atebion pragmatig a synhwyrol ynglŷn â gweithrediad y system?

A chytunaf â Mick Antoniw; bu trefn ddiffygiol, ond mae dwy ffordd bosibl o ymdrin â hyn. Yr hyn yr ydym yn tueddu i'w glywed yma yw sut y mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni weld datganoli cyfiawnder. Y ffordd arall o ymdrin ag ef yw gweithredu rhai pethau ar sail y DU neu o leiaf ar sail Cymru a Lloegr, yn hytrach na datganoli pellach, ac nid wyf yn glir ymhle y mae Llywodraeth y DU yn sefyll. Nid yw'n cymryd cymaint o ddiddordeb yn hyn â ni, ond gwrandewais ar David Melding ac nid wyf yn siŵr a yw ei safbwynt a'i bwyslais o reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt ei grŵp ef neu Lywodraeth y DU. Felly, mae rhywfaint o ddryswch. Rwy'n cydymdeimlo â'r llywydd o ran ei alwadau am ddatrys y dryswch hwnnw, hyd yn oed os na fyddwn yn cytuno â rhai o'r ffyrdd yr hoffai i hynny ddigwydd. Diolch.

16:40

Rwy'n credu mai dyma'r adeg amserol i drafod sut yr ydym yn dosbarthu cyfiawnder yng Nghymru, ac rwy'n siŵr, Cwnsler Cyffredinol, y byddwch yn cytuno nad yw cyfiawnder ar gael yn hawdd nac yn amserol nac yn rhad, ac roeddwn eisiau siarad yn benodol am sut y gallem ni ei gwneud hi'n haws i denantiaid gael cyfiawnder pan fo ganddyn nhw landlordiaid sy'n torri'r gyfraith. Mae gennyf i lawer o achosion lle tynnwyd y drwydded oddi ar landlordiaid, lle na chafwyd tystysgrifau trydanol, lle nad oedd tystysgrifau cyfarpar nwy yn bodoli. Ac erbyn i unrhyw un allu mynd i'r llys a chael gwrandawiad, mae'r tenantiaid wedi symud ymlaen ac mae'r broblem wedi'i hetifeddu gan denantiaid newydd. Felly, tybed a yw'n bosibl ystyried sefydlu llys tai yng Nghymru sy'n ymroddedig i'r materion hyn fel y gallai hynny ryddhau ychydig mwy o amser yn y prif lysoedd ar gyfer materion troseddol. Tybed a wnewch chi ddweud unrhyw beth am hynny.

16:45

Galwaf, felly, ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl. 

Member
Jeremy Miles 16:45:54
Counsel General and Minister for European Transition

Diolch, Llywydd, rwy'n credu, oherwydd y cyfieithiad—efallai mai ar fy ochr i y mae'r broblem—gwnaf fy sylwadau yn Saesneg, os caf i.

Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Credaf ei bod hi'n bwysig inni gael y ddadl hon am y rhesymau y mae llawer o gyfranwyr wedi'u hamlinellu, fel cam pwysig yn swyddogaeth gynyddol y Senedd o ran craffu ar weithrediad rhannau o'r system gyfiawnder yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy'n effeithio ar feysydd polisi eraill yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw drwy'r setliad datganoledig yng Nghymru.

Gwnaeth nifer o'r siaradwyr, gan ddechrau gyda David Melding, y sylw am yr angen am ryw fath o ddull o resymoli, os mynnwch chi, gwaith y tribiwnlysoedd yn gyffredinol, a phwysigrwydd annibyniaeth y tribiwnlysoedd. Gwnaeth Mark Reckless a Dai Lloyd sylwadau tebyg hefyd. A hoffwn gefnogi'r datganiad a wnaeth Mick Antoniw pan oedd yn Gwnsler Cyffredinol, gan danlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i annibyniaeth y tribiwnlysoedd yma yng Nghymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn egwyddor hanfodol. Ymunais â'r Prif Weinidog yn ei gyfarfod diweddar â Syr Wyn i glywed barn Syr Wyn ynghylch sut y gallai hynny ddatblygu i'r dyfodol, ac yn sicr uchelgais y Llywodraeth yw i'r strwythurau sydd gennym ar waith i wasanaethu gwaith y tribiwnlysoedd ddod yn fwy annibynnol dros amser. Credaf mai un garreg filltir bwysig ar y daith honno fydd adroddiad Comisiwn y Gyfraith yr haf nesaf, sydd wedi'i gynllunio'n benodol i edrych ar weithrediad cyffredinol y system dribiwnlysoedd yng Nghymru—cwestiynau ynghylch penodi, trefnu ac ati. Felly, byddan nhw yn ystyriaethau pwysig o ran sut yr ydym yn sicrhau ein bod yn cynnal annibyniaeth tribiwnlysoedd yng Nghymru.

Soniodd sawl siaradwr am amlygrwydd cynyddol, y gydnabyddiaeth gynyddol, os mynnwch chi, sydd i'r corff cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, sy'n cael effaith sylweddol iawn ar fywydau beunyddiol dinasyddion ledled Cymru mewn ffyrdd ystyrlon iawn. Mae dealltwriaeth a thrafodaeth gynyddol ohono yma yn y Senedd, yn y byd academaidd, ond hefyd, yn bwysicaf oll, yn yr orchwyl ymarferol o gael rhwymedïau i bobl. Ac roedd gan David Melding a Jenny Rathbone awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella hynny hyd yn oed ymhellach i'r dyfodol.

Hoffwn adleisio'r sylw a wnaeth Dai Lloyd yn ei gyfraniad ynghylch pwysigrwydd—arwyddocâd, yn hytrach—y ffaith bod y system tribiwnlysoedd wedi parhau i allu ymdrin â materion, hyd yn oed yng nghyd-destun coronafeirws. Credaf fod nifer fach iawn o wrandawiadau wedi'u gohirio oherwydd efallai y bydd angen ymweld â thir, er enghraifft, ac ni ragwelir y bydd yr un o'r rheini, yn ôl a ddeallaf, yn cael effaith benodol ar yr achos. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dyst i'r arloesedd a'r hyblygrwydd y mae'r system tribiwnlysoedd wedi'u dangos yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf o ganlyniad i COVID.

Yn amlwg, anghytunaf â phwynt Mark Reckless am y daith sydd o'n blaenau, ond hoffwn gefnogi'r sylwadau a wnaeth am y gwerthfawrogiad y dylem ei ddangos i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y system dribiwnlysoedd dros y flwyddyn ddiwethaf yn yr adroddiad.

Credaf mai sylwadau Mick Antoniw, i gloi, yw'r canllaw i ni yma. Mae'n bwysig inni gael y ddadl hon yma yn y Senedd nid yn unig am fod gwaith y tribiwnlysoedd yn gorgyffwrdd â pholisïau yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw fel arall, ond hefyd fel rhan o'r cyfrifoldeb cynyddol hwnnw ym maes cyfiawnder y mae llawer, os nad y rhan fwyaf ohonom ni, eisiau ei weld. A chredaf fod rhan o'r swyddogaeth honno, a ddisgrifiwyd gan Mick fel swyddogaeth fwy rhagweithiol, yn cael ei chyflawni drwy gael y mathau hyn o ddadleuon a dod â gwaith y system tribiwnlysoedd i brif ffrwd ein syniadau a'n hystyriaethau yma yn y Senedd.

Felly, diolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau, a diolch i Syr Wyn unwaith eto am ei waith.

16:50

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, mae yna wrthwynebiad, ac fe fyddaf i'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dwi ar ddeall fod yna broblem gyda'r cyfieithu wedi bod, ond fod hynny wedi cael ei gywiro erbyn hyn.

Rwy'n deall bod problem cyfieithu wedi bod. Os yw Aelodau sy'n defnyddio'r cyfieithiad wedi deall yr hyn yr wyf newydd ei ddweud yn Gymraeg, a wnewch chi ddweud ar Zoom eich bod yn clywed y cyfieithiad? Ie, gallaf weld hynny, felly gallwn fwrw ymlaen yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda rhywfaint o hyder.

8. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws—Cyfyngiadau Mis Rhagfyr

Reit, felly, awn ni at y datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws a'r cyfyngiadau mis Rhagfyr, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad hwnnw—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ddydd Gwener, byddwn yn cryfhau ein rheolau mewn ymateb i’r cynnydd mewn achosion coronafeirws yng Nghymru. Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ddoe yn tynnu sylw’r Aelodau at y rheolau newydd. Prynhawn yma, byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i esbonio’r cefndir a phaham fod angen gweithredu nawr. 

Yn gryno, mae'r feirws yn dal i ledaenu'n gyflym yng Nghymru, ac mae'n rhaid inni ymateb er mwyn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd wrth inni baratoi am gyfnod y Nadolig. Buodd y toriad brys mis diwethaf yn llwyddiannus yn dod â nifer yr achosion i lawr ar draws Cymru. Ond does dim osgoi’r ffaith bod y niferoedd yn cynyddu unwaith eto, fel y gwelsom ar draws y Deyrnas Unedig, a ledled Ewrop a'r byd cyfan.

Llywydd, mae'r coronafeirws unwaith eto'n lledaenu ledled Cymru, gan erydu'r buddion a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod atal byr. Oni bai ein bod ni'n ymateb yn awr i'r nifer cynyddol o bobl sydd wedi'u heintio â'r feirws, y cyngor gan ein cynghorwyr gwyddonol a meddygol yw y gallai cyfanswm nifer y bobl â'r feirws yn yr ysbyty yng Nghymru godi i 2,200 erbyn 12 Ionawr.

Mae ein modelu'n awgrymu, heblaw ein bod ni'n gweithredu, y gallai rhwng 1,000 a 1,700 o farwolaethau y gellir eu hatal ddigwydd dros gyfnod y gaeaf. Dydd Gwener, cyfradd digwyddedd saith diwrnod Cymru gyfan oedd 187 o achosion fesul 100,000 o bobl; mae hyn wedi codi i bron i 216 o achosion fesul 100,000 o bobl heddiw. 

Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y cyngor gwyddonol ac wedi cymryd camau i atal y gyfradd drosglwyddo. Mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, SAGE, wedi adolygu'r cyfyngiadau a ddefnyddir ledled y Deyrnas Unedig. Maen nhw wedi tynnu sylw at y mesurau haen 3 yn Lloegr a'r mesurau lefel 3 yn yr Alban fel rhai sy'n darparu tystiolaeth o leihau'r epidemig yn yr ardaloedd hynny.

Nawr, mae eisoes gennym lawer o'r cyfyngiadau cyfatebol ar waith ledled Cymru. Y gwahaniaethau allweddol fu cyfyngiadau ar letygarwch, busnesau adloniant ac ar atyniadau twristiaeth dan do. Mae'r rhain yn fannau lle mae'r risg o drosglwyddo yn uwch, oherwydd gall pobl fod yn agos at ei gilydd am gyfnodau sylweddol o amser. Gyda chyfraddau cynyddol ledled Cymru, dyma'r lleoedd y mae'n rhaid i ni ymyrryd ynddynt.

Mae'r cyfyngiadau, a fydd yn dod i rym ddydd Gwener, yn canolbwyntio ar addasu'r hyn sydd wedi bod yn effeithiol mewn mannau eraill i ychwanegu at y rhestr o fesurau sydd eisoes ar gael yng Nghymru. O ddydd Gwener, bydd yn rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau erbyn 6 p.m. ac ni fyddan nhw'n cael gweini alcohol yn y safle; ar ôl 6 p.m., dim ond gwasanaethau cludfwyd y byddan nhw'n gallu eu darparu.

Mater i fusnesau lletygarwch eu hunain fydd penderfynu aros ar agor neu beidio, ond bydd y rhai sy'n gwneud hynny'n darparu lle i bobl gyfarfod. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl ifanc a'r bobl hynny nad ydyn nhw wedi gallu manteisio ar ein trefniant aelwyd estynedig. Dyna, Llywydd, pam ein bod yn cadw'r trefniadau rheol pedwar. Gyda'r cyfyngiadau yr ydym ni'n eu nodi, gan gynnwys ar letygarwch, mae'r peryglon o gyfarfod mewn grwpiau bach o'r fath yn lleihau.

Ac oherwydd difrifoldeb y sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu, o ddydd Gwener, mae'n rhaid i bob lleoliad adloniant dan do, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, alïau bowlio, canolfannau chwarae meddal, casinos, lloriau sglefrio ac arcedau diddanu, gau. Bydd yn rhaid i atyniadau ymwelwyr dan do, er enghraifft amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth, gau hefyd. Bydd atyniadau ymwelwyr awyr agored yn aros ar agor.

Llywydd, wrth gwrs, nid oedd gosod cyfyngiadau pellach ar letygarwch yn benderfyniad hawdd. Rydym ni'n cydnabod yr ymdrech enfawr a wnaed gan y sector i gydymffurfio â'r rheoliadau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth y maen nhw wedi'i wneud. Yn anffodus, bu'n rhaid cyflwyno cyfyngiadau tebyg ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig ac, yn wir, ledled y byd. Mae swyddogion iechyd a llunwyr polisi yn rhyngwladol wedi nodi bod yfed alcohol yn cynyddu'r risg o drosglwyddo, gan y gall ymbellhau cymdeithasol chwalu gan fod canfyddiad pobl o risg yn newid. Mae adborth gan dimau rheoli digwyddiadau yng Nghymru yn amlygu dro ar ôl tro faterion sy'n gysylltiedig ag alcohol a rhai lleoliadau lletygarwch. Mae data o'r system profi ac olrhain yn rheolaidd yn amlygu lletygarwch fel lleoliadau lle nodir cysylltiadau unigolion heintus.

Llywydd, bydd y newidiadau hyn yn berthnasol ledled Cymru. Gwyddom o'n profiad uniongyrchol ein hunain fod ansefydlogrwydd y feirws yn golygu y gall yr ardaloedd hynny sydd â nifer gymharol isel o achosion heddiw weld cynnydd cyflym iawn mewn ychydig ddyddiau'n unig. Mae cyngor y pwyllgor SAGE yn glir: mae'r mesurau'n fwyaf effeithiol pan gânt eu gweithredu yn gynnar. Bydd y mesurau yr ydym ni'n eu cymryd yn diogelu pob rhan o Gymru ar adeg pan fo'r feirws yn codi mewn 15 o'n 22 ardal awdurdod lleol ymhlith pobl ifanc, a lle mae'r cynnydd hwnnw eisoes yn troi'n heintiau yn codi ymhlith pobl dros 60 oed. Yn wir, mae 14 o'n 22 awdurdod lleol yn gweld cynnydd yn yr ystod oedran 60 oed a hŷn heddiw. A thra bod y sefyllfa'n parhau fel y mae hi ar hyn o bryd, mesurau cenedlaethol i gefnogi ymdrech genedlaethol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o hyd o ddiogelu pob un ohonom ni.

Fel Llywodraeth, rydym ni'n cydnabod y bydd y cyfyngiadau newydd hyn yn arbennig o anodd ar un o adegau prysuraf y flwyddyn i'r sector lletygarwch. I gefnogi'r busnesau hynny yr effeithir arnynt, byddwn yn darparu pecyn cymorth o £340 miliwn. Dyma'r pecyn mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac, wrth gwrs, mae'n ychwanegol at gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn cynnwys cynllun grant gwerth £160 miliwn yn benodol ar gyfer busnesau twristiaeth, hamdden a lletygarwch. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau, lle y gallwn, y byddwn yn gwneud taliadau i fusnesau yr effeithir arnyn nhw cyn gynted â phosibl cyn y Nadolig.

Llywydd, fel y gwyddom ni, mae mwy nag un math o niwed a ddaw yn sgil y feirws hwn. Mae ein penderfyniadau wedi'u llywio gan asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a hawliau plant, sydd wedi helpu i nodi lle y gallwn leihau effeithiau andwyol a rhoi cymorth ychwanegol ar waith. Mae hyn yn cynnwys cynnal gweddill y rheoliadau presennol yng Nghymru cyn belled ag y bo modd. Felly, nid yw'r rheolau ar gyfarfod dan do ac yn yr awyr agored wedi newid. Mae dwy aelwyd yn dal i allu ffurfio aelwyd estynedig gyda'i gilydd. Fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, bydd ysgolion, campfeydd, manwerthu nad yw'n hanfodol a gwasanaethau cyswllt agos yn parhau ar agor. Mae caniatáu i bobl wneud ymarfer corff yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles. Rydym yn gwybod bod cadw ysgolion ar agor yn hanfodol i blant ysgol, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed ac o gefndiroedd mwy difreintiedig.

Yn olaf, Llywydd, mae hyn i gyd yn parhau i gael ei adolygu'n rheolaidd. Yn rhan o hynny, yr wythnos hon bydd y Cabinet yn ystyried cyfyngiadau teithio, y rheolau ar hunanynysu, ein cyfundrefn hysbysiadau cosb benodedig, a materion cysylltiedig eraill. Byddwn wedyn yn cyflwyno rheoliadau newydd i ddod i rym ddydd Gwener am 6 p.m. Byddwn ni'n adolygu'r cyfyngiadau hyn yn ffurfiol erbyn 17 Rhagfyr, ac yna bob tair wythnos. 

Llywydd, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig, mae angen i ni weithredu'n awr i roi ein hunain yn y sefyllfa orau y gallwn ni cyn y llacio dros dymor y Nadolig. Bydd y cyfyngiadau cryfach hyn yn diogelu iechyd pobl, yn arafu lledaeniad y feirws a, gyda chymorth pob un ohonom ni, byddan nhw'n diogelu Cymru. Diolch yn fawr.

17:00

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, mynnodd y Prif Weinidog fy mod i'n ei gwneud yn glir ein bod mewn argyfwng iechyd cyhoeddus. Wel, mae'n iawn, rydym ni, ond rydym ni yng nghanol argyfwng economaidd hefyd, ac argyfwng economaidd a fydd yn parhau i dyfu, yn enwedig pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu cau sectorau o'r economi y mae cynifer o weithwyr yng Nghymru yn dibynnu arnynt. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn cydnabod ein bod ni mewn argyfwng economaidd yn ogystal ag argyfwng iechyd cyhoeddus.

Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r darlun llawn o ddata ac yn esbonio lle mae COVID-19 mewn lletygarwch yn digwydd. Oherwydd, i ormod o bobl ledled Cymru, mae'r mesur hwn yn ymddangos fel cam rhy bell. Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach nad oes tystiolaeth ar gael. Wel, os yw hynny'n wir, yna mae angen iddo sicrhau bod hynny ar gael a chyhoeddi'r wybodaeth. Mae hyd yn oed yr Aelod ar gyfer Blaenau Gwent wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth i gefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau felly nad yw'r dystiolaeth wedi'i chyhoeddi eto.

O ddydd Gwener, bydd pobl ledled Cymru yn gallu parhau i brynu alcohol o archfarchnadoedd a siopau, ond nid mewn tafarn neu fwyty, ac felly ni allaf weld sut y byddai dewis diod alcoholig gyda'ch cinio yn hytrach na diod ddi-alcohol yn gofyn am gyflwyno mesur sy'n gymaint o gosb. Felly, efallai wrth ymateb, y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa mor benodol y bydd gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a bwytai yn ystod y dydd yn cael effaith ar lefelau trosglwyddo. A sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu a yw hyn wedi llwyddo, neu a allem ni fod yn edrych ar y cyfyngiadau hyn yn aros yn eu lle am lawer mwy nag ychydig wythnosau?

Mae ofn gwirioneddol y gallai'r mesur hwn arwain at fwy o bobl yn ymgynnull yng nghartrefi pobl. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa fodelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar hyn, o gofio y gallai peidio â gweini alcohol mewn tafarndai, bariau a bwytai arwain at fwy o bobl yn ymgasglu ac yn yfed yn nhai ei gilydd, a allai wedyn arwain at gynnydd yn nhrosglwyddo'r feirws?

Bydd mesurau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar fusnesau lletygarwch ledled Cymru, p'un a ydynt wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae risg isel, canolig neu uchel, ac mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag ystyried hyn. Mae busnesau lletygarwch yng Nghonwy, er enghraifft, bellach o dan yr un cyfyngiadau â thafarndai a bwytai ym Mlaenau Gwent a Merthyr, lle mae'r cyfraddau'n sylweddol uwch. Rwy'n deall bod arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn mynegi ei siom ynghylch annhegwch y dull hwn a'r diffyg ymgysylltu wrth ymgynghori ar y cynigion hyn. A yw'r Prif Weinidog felly'n derbyn y rhwystredigaeth a'r gofid a deimlir gan fusnesau ac, yn wir, arweinwyr lleol mewn ardaloedd fel Conwy, sy'n teimlo eu bod wedi eu cosbi'n anghymesur o ganlyniad i ddull diweddaraf Llywodraeth Cymru?

Wrth gwrs, yn sail i'r dull newydd, mae'n hanfodol bod busnesau ledled Cymru yn gallu cael gafael ar y cymorth y mae ei angen arnynt. Mae llawer o fusnesau lletygarwch a hamdden yng Nghymru wedi bod o dan ryw fath o gyfyngiad gan y Llywodraeth am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu pryderon ac yn eu helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw a chael gafael arno yn gyflym. Mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir y bydd y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y pecyn newydd hwn ar gael erbyn 11 Rhagfyr a dim ond ym mis Ionawr y bydd y broses ymgeisio'n agor, sy'n gwbl annerbyniol. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gadarnhau pa gyllid brys a fydd ar gael i fusnesau lletygarwch ledled Cymru cyn mis Ionawr, o gofio bod disgwyl iddyn nhw gadw at y cyfyngiadau hyn o ddydd Gwener? Ac o ystyried y datganiad heddiw gan Weinidog yr economi, a yw'n derbyn na fydd rhai busnesau lletygarwch a hamdden yn gallu goroesi tan fis Ionawr ac y dylai'r cymorth hwnnw fod ar gael o ddydd Gwener ymlaen, nid ymhen pedair i bum wythnos?

Fel y gwŷr Aelodau, cyflogir un o bob 10 o'r gweithlu gan fusnesau lletygarwch a byddai llawer yn dibynnu ar fasnach cyn y Nadolig. Mae'r cyhoeddiad hwn yn peryglu'r swyddi hynny ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym ni sut y mae'n bwriadu cefnogi'r bobl hynny sy'n colli eu swydd o ganlyniad uniongyrchol i'r mesur hwn. Mae'r swyddi hyn yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac wrth ymateb i'r datganiad hwn, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn dweud wrthym beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r bobl hynny bydd yn colli eu swydd y gaeaf hwn oherwydd y mesur penodol hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym ni ei bod wedi ymgysylltu â'r sector ac wedi ymgynghori â nhw ar eu cynigion. Fodd bynnag, mae llefarydd ar ran Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru, sy'n cynrychioli atyniadau teuluol ledled Cymru, wedi'i gwneud yn gwbl glir na ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â'u harweinwyr cyn penderfynu ar y mesurau hyn. Siawns na all fod yn dderbyniol i'r Llywodraeth fwrw ymlaen â mesurau a fydd yn arwain at ganlyniadau difrifol i'r sector heb o leiaf ymgynghori â'r sector yn y lle cyntaf.

Llywydd, mae'r sector lletygarwch, adloniant a thwristiaeth yng Nghymru wedi bod mewn cylch diddiwedd o gyfyngiadau gan Lywodraeth Cymru ers misoedd lawer, a bydd y penderfyniad diweddaraf hwn yn golygu na fydd llawer o fusnesau, yn anffodus, yn goroesi. Mae'r Gweinidog Iechyd yn iawn wrth ddweud nad oes cydbwysedd perffaith rhwng diogelu iechyd y cyhoedd a busnes, ond bydd hyn yn cael effaith enfawr ar ein lletygarwch, ein hadloniant a'n busnesau dan do, ac rwy'n annog y Prif Weinidog, yn lle hynny, i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n gwrando ar, ac sy'n deall, pryderon busnesau ledled Cymru, oherwydd nid yw'n rhy hwyr i wrthdroi'r penderfyniad trychinebus hwn.

17:05

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr argyfwng economaidd gyda gwerth £340 miliwn o gydnabyddiaeth; dyna'r graddau yr ydym ni'n cydnabod yr argyfwng hwn. Bydd ef wedi gweld y cymorth pitw—rwy'n dyfynnu'r gymdeithas fasnach yn Lloegr—sydd wedi'i gynnig yno heddiw ar gyfer yr un sector. A phan fydd yr Aelod yn gofyn i mi pam ein bod yn gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a lletygarwch, gobeithio y bydd wedi bod yn gwrando ar arweinydd ei blaid, y Prif Weinidog, yn esbonio yr union beth hynny yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw, yn y rhannau hynny o Loegr lle mae miliynau a miliynau yn fwy o bobl nag sy'n byw yng Nghymru yn destun amodau llymach nag yr ydym ni'n eu cyflwyno yn y fan yma. Roedd y Prif Weinidog yn esbonio i bobl pam nad yw tafarndai yn Lloegr ar agor tan 6 o'r gloch gyda'r nos yn unig, ond eu bod ar gau yn llwyr, pam mae bwytai ar gau yn llwyr. Os na all ei gymryd oddi wrthyf i, yna efallai y bydd yn fodlon gwrando ar yr hyn sydd gan y Prif Weinidog ac arweinydd ei blaid ei hun i'w ddweud ar y mater hwnnw, oherwydd mae'r esboniad yr un fath yno ag y mae yn y fan hon.

Gofynnodd yr Aelod i mi am gasglu yng nghartrefi pobl. Wel, wrth gwrs, buom yn trafod gyda'r awdurdodau gorfodi y mater hwnnw, a sut y gallwn ni ymateb iddo os gwelwn ni dystiolaeth o hynny. Rwy'n annog pobl, ac rwy'n gobeithio y bydd arweinydd yr wrthblaid yn annog pobl, i beidio â thorri'r gyfraith yma yng Nghymru, oherwydd dyna y byddai cyfarfod o'r fath yn ei olygu. Bydd y Cabinet yr wythnos hon yn ystyried papur lle byddwn ni'n cynyddu'r gosb i bobl sy'n torri'r gyfraith yng Nghymru yn y ffordd honno, oherwydd pan fydd pobl yn torri'r gyfraith ac yn ymgynnull yng nghartrefi ei gilydd yn y ffordd nad yw'r gyfraith yn caniatáu yma yng Nghymru, yna mae gan y feirws yr holl amodau y mae angen iddo i ledaenu eto.

Rwy'n anghytuno'n llwyr â'r hyn y mae Paul Davies yn ei ddweud am geisio gwahanu rhai rhannau o Gymru lle mae'r ffigurau yn is nag ydyn nhw mewn rhannau eraill o Gymru dros dro, mae arnaf ofn. Byddwn i wedi meddwl y byddai wedi bod yn fwy parod i fanteisio ar ei brofiad uniongyrchol ei hun. Rwy'n credu mai dim ond pythefnos yn ôl y gofynnwyd i mi pam yr oedd mesurau tebyg yn cael eu rhoi ar waith yng Ngheredigion a Sir Benfro, oherwydd yr oedd y niferoedd yn y rhan honno o Gymru mor wahanol i rannau eraill o Gymru. Heddiw, mae'r ffigurau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ddigwyddedd o dros 200 fesul 100,000 yn Sir Gaerfyrddin, dros 155 fesul 100,000 yng Ngheredigion, a thros 130 fesul 100,000 yn Sir Benfro. O fewn ychydig wythnosau'n unig, mae ardaloedd oedd â chylchrediad isel iawn o'r feirws mewn sefyllfa wahanol iawn, ac mae anwadalrwydd y feirws yn golygu nad yw'n gwneud synnwyr bod â lefelau gwahanol o gyfyngiadau mewn gwahanol rannau o Gymru. Heddiw, yn anffodus, mae'r gyfradd ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyd wedi codi am y tro cyntaf ers y cyfnod atal byr, ac mae hynny'n dweud rhywbeth wrthym ni, y mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod yn barod i'w ddeall, nad yw'r feirws hwn yn parchu ffiniau daearyddol yng Nghymru a bod yn rhaid i ni fod yn ddigon difrifol i gymryd cyngor y pwyllgor cynghori gwyddonol a gweithredu'n gynnar. Pan welwch chi broblem yn digwydd, peidiwch ag aros i'r broblem fynd allan o reolaeth, gweithredwch yn gynnar, oherwydd yn y ffordd honno rydych yn atal mwy o bobl rhag dioddef, mwy o farwolaethau rhag digwydd. Rwy'n benderfynol y byddwn ni'n cynnig yr amddiffyniad hwnnw i bobl yn y gogledd, a dyna beth mae ein penderfyniad ni yn ei gyflawni.

Dywedais yn fy natganiad, Llywydd, y byddem ni yn gwneud ein gorau, gan weithio gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol i gael cymorth i fusnesau cyn y Nadolig. Mae dwy elfen i'r cymorth sy'n cael ei ddarparu. Roedd arweinydd yr wrthblaid naill ai'n anwybyddu hynny, neu'n dewis peidio â'i gofio. Mae dwy elfen yn y cymorth sy'n cael ei gynnig. Rydym yn bwriadu cynnig y cymorth y gallwn ni ei ddarparu drwy awdurdodau lleol i'w gynnig cyn gynted ag y gallwn ni, gan gofio bod ein hawdurdodau lleol eisoes yn ein helpu'n aruthrol i ddarparu cymorth i fusnesau yma yng Nghymru.

Yn olaf, i fater tystiolaeth. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n clywed llawer am hyn y prynhawn yma. Rwy'n mynd i'w ddweud nawr, Llywydd, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n maddau i mi os nad wyf i'n mynd ati i ailadrodd yr un ateb drwy gydol y prynhawn. Mae'r dystiolaeth yno. Mae'r dystiolaeth yno yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus yr ydym ni'n ei wynebu. Mae gan ddau o'n hawdurdodau lleol yng Nghymru gyfraddau o fwy na 400 fesul 100,000 o'r boblogaeth; saith ohonyn nhw â chyfraddau o dros 300; 11 ohonynt â chyfraddau dros 200, ac mae'r cyfraddau hynny'n tyfu—yn tyfu ledled Cymru. Dyma ffigurau pobl sydd wedi marw yng Nghymru dros y pedair wythnos diwethaf: bedair wythnos yn ôl, 150 o bobl; dair wythnos yn ôl, 168 o bobl; bythefnos yn ôl, 177 o bobl; wythnos diwethaf, 159 o bobl. Mae chwe chant a phumdeg pedwar o bobl wedi marw o'r coronafeirws yn y pedair wythnos diwethaf yn unig. Mae tystiolaeth—mae pob un ohonyn nhw yn dangos pam mae'n rhaid i ni weithredu yn awr, oherwydd os na wnawn ni hynny, bydd bywydau nad oes angen eu colli yn cael eu colli. Mae'r dystiolaeth ar gyfer y camau yr ydym ni'n eu cymryd i'w gweld yn yr adolygiadau a gyhoeddwyd gan SAGE ar 11 a 19 Tachwedd, gan adolygu'r mesurau sydd wedi llwyddo ledled y Deyrnas Unedig, ac rydym wedi defnyddio hynny i roi ar waith yng Nghymru y camau hynny a fydd yn lleihau llif y coronafeirws ac yn achub bywydau nad oes angen eu colli. Dyna'r dystiolaeth. Dyma'r un dystiolaeth ag y mae ei Lywodraeth wedi'i defnyddio i gau tafarndai ac atal gwerthu alcohol ar lefelau haen 3 yn Lloegr; yr un dystiolaeth a arweiniodd Llywodraeth yr SNP yn yr Alban i gau tafarndai ac i atal gwerthu alcohol mewn ardaloedd lefel 3 yn yr Alban. Dyna pam mae lletygarwch ar gau yng Ngogledd Iwerddon heddiw. Mae'r dystiolaeth yr un fath ym mhobman. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y dystiolaeth honno, ac mae'r dystiolaeth yn cefnogi'r hyn yr ydym yn ei gyflwyno i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yma yng Nghymru.

17:10

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod ein bod ni ym Mhlaid Cymru, wrth gwrs, wedi cefnogi'r Llywodraeth, hyd yn oed yn gwneud dewisiadau anodd pan dŷn ni o'r farn bod y Llywodraeth wedi gwneud y peth iawn. Ac yn gyffredinol, rŷn ni yn credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y peth cywir trwy ddilyn trywydd gofalus ers dechrau'r pandemig, i raddau helaeth iawn yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng gwarchod iechyd y cyhoedd a chymryd i ystyriaeth y niwed ehangach yn economaidd a chymdeithasol sy'n deillio o'r math o gyfyngiadau dŷn ni'n eu trafod nawr. Ond mae'n rhaid inni ddweud yn ddiffuant nawr, Brif Weinidog, rŷn ni yn meddwl eich bod chi yn gwneud camsyniad cyn belled â'r rheoliadau ŷch chi wedi eu cyflwyno ddoe.

Mi oedd yna gamgymeriad arall wedi ein dod â ni i'r pwynt yma, wrth gwrs, a chyfeirio ydw i at y ffordd y gwnaethon ni yng Nghymru lacio'n rhy fuan yn dilyn y cyfnod clo. Dwi'n credu eich bod chi wedi derbyn hynny, ac efallai y gallwch chi roi hynny ar y record. Mae'n rhaid dweud, does dim unrhyw lywodraeth yn y byd sydd ddim wedi gwneud camgymeriadau—gadewch inni fod yn gwbl onest. Y peth pwysig yw dysgu o'r camgymeriadau hynny a hefyd gwrando ar leisiau'r bobl, oherwydd mae ymddiriedaeth y bobl a'u cefnogaeth nhw i'r fframwaith cyffredinol o ran y polisi mor bwysig. Dyna'r erfyn pwysicaf un sydd gennym ni yng Nghymru, a dwi yn annog y Prif Weinidog i wrando ar y lleisiau hynny nawr, oherwydd dwi'n credu bod barn y rhelyw, amrediad o bobl, yn dangos bod y rheoliadau ar hyn o bryd yn annealladwy i bobl Cymru. Mae'n herio rhesymeg o ran y cyfyngiadau sydd wedi cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac mae hynny'n beryg, oherwydd os ydych chi'n colli ffydd ac ymddiriedaeth y bobl, wedyn beth rydych chi'n gweld yw llai o gydymffurfio wedyn gyda rheoliadau eraill, sydd mor bwysig.

O ran tystiolaeth, dwi'n credu ei bod hi ond yn deg i ni sy'n gorfod penderfynu ar y rheoliadau yma i weld y dystiolaeth wedi'i chrisialu. Rydyn ni wedi gweld, wrth gwrs, ddoe yn San Steffan ddogfen 48 o dudalennau o hyd yn dod â'r dystiolaeth ynghyd. Mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at rai papurau SAGE, a dwi wedi bod yn edrych ar bapurau SAGE eraill. Mae yna grynodeb ar y dystiolaeth mor belled ag y mae'r sector lletygarwch yn y cwestiwn wedi cael ei gyhoeddi wythnos ddiwethaf—un tudalen, ar 27 Tachwedd—yn cyfeirio at wahanol gyfarfodydd o SAGE ar 12 Tachwedd, er enghraifft, a dau neu dri o bapurau gan NERVTAG, un o is-bwyllgorau SAGE. Beth sydd angen arnon ni ydy beth gawson ni, wrth gwrs, adeg yr argymhelliad ynglŷn â'r cyfnod clo byr, y toriad tân, sef papur gan TAC yn dod â'r holl dystiolaeth yma ynglŷn â'r union reoliadau rydych chi wedi eu cyflwyno, sef cael gwared â'r hawl i werthu alcohol yn llwyr a chau am 6 o'r gloch. Does bosib bod rhaid inni weld hynny eto nawr, oherwydd, wrth gwrs, bod y wybodaeth a'r ddealltwriaeth ynglŷn â'r feirws yma, yn fyd eang, yn esblygu trwy'r amser. Felly, dyw hyd yn oed cyfeirio at bapurau chwe wythnos yn ôl neu fis yn ôl ddim yn ddigonol er mwyn ein galluogi ni i wneud y penderfyniad cywir.

A gaf i ofyn hefyd inni gael pleidlais yn gynt na'r hyn sy'n cael ei awgrymu ar hyn o bryd? Oherwydd does dim pwynt inni bleidleisio ar hyn ymhen pythefnos os ydyn ni'n wirioneddol yn mynd i gwrdd â'n prif amcan ni fel Senedd, sef gwneud y penderfyniad ymlaen llaw. Unwaith eto, mae yna beryg gwirioneddol, Brif Weinidog, fod ymddiriedaeth y cyhoedd yn mynd i gael ei niweidio oherwydd bod yna ddim cefnogaeth, mae arnaf i ofn. Ac mae'r ffaith ein bod ni, fel plaid sydd wedi cymryd—. Rwy'n gobeithio y byddech chi'n derbyn ein bod ni wedi bod yn gyfrifol yn ein hymagwedd ni tuag at y pandemig, ond mae'n rhaid i fi ddweud, yn hyn o beth, o ran yr argymhellion rydych chi wedi eu rhoi gerbron ar hyn o bryd, rydyn ni wir yn eich annog chi i feddwl eto, er budd pobl Cymru.

17:15

Diolch i Adam Price. Wrth gwrs, dwi'n cydnabod y ffaith bod Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol ar y siwrnai o ddewisiadau anodd sydd wedi ein hwynebu ni yma yng Nghymru. 

Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod ein bod yn cyhoeddi cyngor y Gell Cyngor Technegol bob wythnos. Rwy'n credu mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sy'n cyhoeddi'r holl gyngor a gawn yn y ffordd honno cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny, a byddwn ni'n cyhoeddi cyngor pellach a gawn gan y Gell Cyngor Technegol eto yr wythnos hon. I fod yn gwbl glir gyda'r holl Aelodau, y bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i gyfosod y cyngor, i edrych ar yr holl wahanol ffynonellau posibl y gallwn ni eu defnyddio, ac yna ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yw ein prif swyddog meddygol, ein prif gynghorydd gwyddonol a phrif weithredwr y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Cyngor y tri i ni fel Cabinet oedd bod yn rhaid i ni weithredu a bod yn rhaid i ni gymryd y camau hyn yn awr, oherwydd yn eu barn nhw, fel pobl sy'n arbenigwyr yn y mater hwn, mae'r sefyllfa yr ydym ni yn ei hwynebu yng Nghymru mor ddifrifol fel na fyddem ni, oni bai ein bod yn cymryd y camau hyn—camau a gymerwyd eisoes ym mhob un o dair gwlad arall y Deyrnas Unedig—yn wynebu sefyllfa lle na fyddai ein GIG yn gallu parhau i wneud yr hyn y mae Aelodau yma yn fy annog i yn rheolaidd iawn i sicrhau y gall ei wneud, sef y gall ymdrin â'r coronafeirws ac y gall barhau i ddarparu'r holl wasanaethau eraill yr ydym ni eisiau i'r GIG ei wneud.

Gadewch i mi fod yn glir gyda'r Aelodau ynglŷn â hynny: dyna na fyddai'r GIG yn gallu ei wneud. Os na fyddwn ni'n cymryd y camau hyn, dyna'r sefyllfa y byddwn ni yn ei wynebu yn y pen draw. Ni allwch chi ddianc rhag y cyfrifoldeb o wynebu'r cyngor hwnnw. Yn sicr, mewn Llywodraeth, ni allwch chi ddianc rhag y cyfrifoldeb hwnnw, ac ni fyddaf i'n dianc rhag y cyfrifoldeb hwnnw fel y Prif Weinidog yma yng Nghymru. Ac fe ddywedaf wrth Mr Price fod y rhain yn benderfyniadau anodd iawn, ac efallai eu bod yn benderfyniadau amhoblogaidd yn wir, ond os bydd yn rhaid i mi wneud penderfyniad amhoblogaidd gan mai dyma'r penderfyniad cywir, yna gwnaf y penderfyniad cywir ac nid dim ond yr un sy'n fy ngwneud yn boblogaidd. Ac er fy mod i'n credu ei bod wedi bod yn gryfder enfawr i ni yng Nghymru ein bod wedi cael cefnogaeth pobl yng Nghymru i'r ffordd yr ydym ni wedi sefyll gyda'n gilydd yn wyneb argyfwng y coronafeirws—ac rwy'n credu y byddwn ni'n parhau i gael y gefnogaeth honno oherwydd y ffordd yr ydym ni yn gwneud y penderfyniadau yn y ffordd a wnawn—y peth allweddol i mi yw ein bod yn gwneud y penderfyniad cywir ac yn gwneud hynny ar sail y cyngor a gawsom, a'n bod yn wynebu ein cyfrifoldebau yma fel gwleidyddion a'n bod yn gwneud y penderfyniadau sy'n atal ein GIG rhag peidio bod ar gael i bobl sydd ei angen yn ddybryd am gyflyrau eraill—ein bod yn deall, pan ddywedir wrthym ni y gall ein gweithredoedd achub bywydau rhwng 1,000 a 1,700 o'n cyd-ddinasyddion, nid yw hynny'n rhywbeth y gallwch chi ei roi o'r neilltu wrth geisio cael tystiolaeth; dyna'r dystiolaeth sydd gennych. Dyna'r dystiolaeth rydym ni'n gweithredu arni a dyna'r penderfyniad cywir yr ydym ni'n ei wneud dros Gymru.

17:20

Hoffwn i ddarllen rhai o'r manylion yn y negeseuon e-bost yr wyf wedi'u hanfon at bobl a oedd wedi bod yn gofyn am wybodaeth am y penderfyniadau sydd wedi'u gwneud a'r dystiolaeth y tu ôl i hynny. Y bore yma, rwyf wedi bod yn edrych ar gyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE), lle mae'n dweud, a dyfynnaf o bapur SAGE ar 19 Tachwedd,

Yn Lloegr, yn haen 1, roedd gan lawer o Awdurdodau Lleol Haen Is gyfraddau twf cadarnhaol cyn ac ar ôl cyflwyno haenau. Yn haen 2, roedd yr epidemig mewn rhai ond nid pob un o'r Awdurdodau Lleol Haen Is yn lleihau ar ôl cyflwyno haenau, ac roedd bron pob un o'r ardaloedd hyn yn gweld gostyngiad yn y gyfradd twf o ganlyniad i'r ymyrraeth ond roedd llawer yn parhau i fod yn gadarnhaol, serch hynny. Roedd gan bob Awdurdodau Lleol Haen Is haen 3 (lle'r oedd nifer yr achosion ar eu huchaf ar y cyfan) gyfraddau twf negyddol ar ôl cyflwyno haenau, ac ym mhob un o'r ardaloedd hyn roedd y gyfradd twf wedi gostwng o ganlyniad i'r ymyrraeth.

Felly, yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn Lloegr yw mai'r cyfraddau haen 3 a gydnabyddir gan SAGE yw'r rhai sydd fwyaf effeithiol a hefyd sydd fwyaf tebygol o fod yn effeithiol. Gyda haen 2, nid oes gennych chi unrhyw sicrwydd, ac nid yw haen 1, yn ôl SAGE, yn effeithiol o gwbl. Mae hynny yn ôl y cyngor ar 19 Tachwedd, sydd ar gael yn gyffredinol. Ac mae haen 3, wrth gwrs, yn ymwneud wedyn ag yfed alcohol. A'r un rheolau sydd ar waith yn Lloegr o ran cau safleoedd yn haen 3, ac yn yr Alban, lle mae rheolau tebyg iawn i'r rhai yng Nghymru wedi'u cyflwyno. Felly, mae rhesymeg y tu ôl i'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud yn seiliedig ar y cyngor hwnnw gan SAGE, gan yr epidemiolegwyr, yr ymddygiadwyr hynny—sy'n rhan o SAGE—a chlinigwyr.

Un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud wrth y Prif Weinidog, serch hynny, ar ôl bod ar Facebook neithiwr, yw, wrth i ni siarad ar hyn o bryd, fod llawer o rwystredigaeth a dicter o ran y penderfyniad hwn, a'm gwaith i yw esbonio i bobl y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad a'r ffaith ei fod wedi'i gynllunio i achub bywydau. Rwy'n credu bod y nifer a ragwelir o farwolaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u nodi wedi bod yn y miloedd os na weithredwn ni. Felly, rwy'n gweld yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am fod yn boblogaidd, ac rwy'n deall bod yn rhaid i chi wneud y penderfyniadau iawn. Ond un peth y byddwn i'n ei ddweud, ac rwy'n gwneud y pwynt hwn i'r Prif Weinidog, yw bod y nodyn y gell cyngor technegol yn cael ei ddiweddaru bob dydd Iau, ac—rwy'n dweud wrth Adam Price—diweddarwyd nodyn y gell cyngor technegol ddiwethaf ar 20 Tachwedd. Byddem ni'n disgwyl un yr wythnos hon, ond mae ar ddydd Iau. Dylai fod pan gyhoeddir y penderfyniad, ac felly hoffem fod wedi gweld nodyn y gell cyngor technegol i Lywodraeth Cymru ddydd Llun, nid ddydd Iau. Felly, a allai'r Prif Weinidog hwyluso hynny, a chyhoeddi hwnnw cyn dydd Iau fel y gallwn ni gael yr wybodaeth honno sy'n ymwneud â'r cyngor SAGE hwnnw?

Yn olaf, cwestiwn yr wyf i wedi ei gael ar Facebook. Y cyfyngiadau teithio—pryd fydd y cyhoeddiad hwnnw yn cael ei wneud? Oherwydd wrth i'r cyfyngiadau symud yn Lloegr ddod i ben, mae pobl yn meddwl tybed a gawn nhw deithio i Loegr.

17:25

Llywydd, a gaf i ddiolch i Hefin David am ei gyfraniad? Rwy'n credu ei fod wedi crynhoi cyngor SAGE yn deg ac yn rymus iawn. Dim ond cyfyngiadau lefel 3 y canfuwyd eu bod yn effeithiol yn Lloegr. Mae'n rheswm arall pam nad wyf i'n barod i fod â llai na chyfyngiadau lefel 3 mewn unrhyw ran o Gymru. Pam y byddwn i'n fodlon gwneud rhywbeth yr ydym ni'n gwybod ei fod yn aneffeithiol pan allaf i wneud rhywbeth sydd yn effeithiol ac a fydd yn diogelu bywydau pobl?

Rwy'n deall y dicter a'r rhwystredigaeth y mae'n adrodd amdano. Nid oes yr un ohonom ni'n ddiogel rhag teimlo hynny, ac nid yw'n syndod, ydyw e'? Mae pawb yn flinedig, mae pawb yn rhwystredig, mae pawb yn dymuno na fyddai'n rhaid i ni wneud y pethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud i ymdopi â'r feirws. Dyma'r ffaith drist, oni bai ein bod yn barod i weithredu, y bydd llawer o'r bobl hynny sy'n ddig ac yn rhwystredig gyda ni yn gweld achosion gwaeth fyth o rwystredigaeth a gofid yn eu bywydau wrth i bobl y maen nhw'n eu hadnabod, pobl sy'n agos atyn nhw, y bobl sydd fwyaf pwysig iddyn nhw, yn cael eu cynnwys yn y nifer cynyddol o bobl sy'n mynd yn sâl, ac i rai pobl, na fyddant byth yn gwella ohono.

Ond a gaf i ddiolch iddo am bopeth yr wyf yn gwybod y mae yn ei wneud? Oherwydd rwy'n gwybod ei fod yn darparu gwasanaeth gwych i bobl ei etholaeth wrth ateb eu cwestiynau, wrth gyflwyno dadleuon iddyn nhw, wrth orfod ymdrin weithiau â phobl sydd â barn wahanol. Rwy'n credu ei fod yn darparu gwasanaeth gwych.

O ran cyngor y gell cyngor technegol, byddwn ni'n gwneud ein gorau i'w hwyluso, ond dim ond i wneud y pwynt i'r Aelodau, nid cyngor y Llywodraeth yw hwn, cyngor y gell cyngor technegol yw hwn. Nhw sy'n gyfrifol amdano. Maen nhw'n ei ddarparu pan fyddan nhw'n ffyddiog eu bod nhw wedi ei gael yn barod i'w gyhoeddi, ac mae'n bwysig iawn nad wyf i'n ceisio dylanwadu arnyn nhw yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n rhoi eu cyngor i Lywodraeth Cymru yn annibynnol ac yna rydym ni'n cyhoeddi'r cyngor hwnnw fel y gall pawb arall weld y cyngor sydd wedi ei roi i ni.

Yna, ar bwynt olaf Hefin David, Llywydd, bydd y Cabinet yn cyfarfod unwaith eto yfory. Un o'r eitemau ar ein hagenda fydd cyngor teithio a threfniadau teithio yn y cyfnod ar ôl y cyfyngiadau symud yn Lloegr. 

Prif Weinidog, fe wnaf, yn gyntaf, gydnabod y pecyn digynsail o gymorth ariannol yr ydych chi wedi ei ddadorchuddio ar gyfer y diwydiant lletygarwch. Fodd bynnag, Prif Weinidog, mae'r fasnach lletygarwch eisiau gwneud yr union beth hwnnw—masnachu. Nid ydyn nhw eisiau cael arian am wneud dim, ni waeth pa mor hael, oherwydd nid yw'n talu eu costau nhw'n ddigonol.

Prif Weinidog, mae'r gyfres ddiweddaraf hon o gyfyngiadau symud yn eithaf hurt ac yn enghraifft arall o gosbi llawer o bobl am ffwlbri ychydig o bobl, ac nid yw hyd yn oed yn seiliedig ar wyddoniaeth na'r hyn y mae'r ystadegau yn ei ddweud wrthym ni. Os byddwch chi'n cynyddu nifer y profion, fe fydd, yn sgil hynny, gynnydd yn nifer y canlyniadau cadarnhaol, ac mae hynny ledled y Deyrnas Unedig. Pa mor farwol yw clefyd os oes rhaid i chi gynnal profion i weld a yw gan bobl? Y rheswm am hyn, wrth gwrs, yw na fydd y mwyafrif llethol o'r boblogaeth sy'n ei ddal yn dioddef fawr ddim effeithiau o'r feirws. Mae angen ymyraethau wedi'u targedu, nid rhai cyffredinol.

Mae'r diwydiant lletygarwch wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau a rheoliadau mewn modd rhagorol ac mae eich ystadegau chi eich hun yn dangos nad nhw yw ffynhonnell heintiau cynyddol. Pa wyddoniaeth sydd y tu ôl i'ch penderfyniad i wahardd alcohol mewn tafarndai a bwytai? Rydych chi wedi rhoi ystyr newydd i eiriau'r hen gân honno, 'A pub with no beer'. Ni chewch chi hyd yn oed gael gwydraid o win gyda'ch pryd bwyd, ond fe gewch chi, wrth gwrs, brynu llond bocs o win o'r archfarchnad ac, os ydych chi eisiau gwneud hynny, cewch wahodd hanner dwsin o bobl draw i'w yfed heb unrhyw ragofalon diogelwch ar waith o gwbl. Wrth gwrs, y rheswm nad ydych chi wedi gwahardd archfarchnadoedd rhag gwerthu alcohol yw eich bod yn gwybod mai canlyniadau hynny fyddai anrhefn sifil. Prif Weinidog, rydych chi'n targedu ac yn dinistrio'r diwydiant lletygarwch unwaith eto, ac mae eich ystadegau chi eich hun yn dangos mai ysgolion, cartrefi gofal ac ysbytai yw gwir ffynhonnell heintiau. Os gwelwch yn dda, Prif Weinidog, rwy'n erfyn arnoch chi, ar ran y diwydiant lletygarwch a'r economi'n gyffredinol, i roi terfyn ar y gyfres hynod niweidiol hon o gyfyngiadau symud a chyfyngiadau eraill. 

17:30

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â David Rowlands y byddai'n well gan y diwydiant, wrth gwrs, fasnachu na dibynnu ar y cymorth y gallan nhw ei gael gan y Llywodraeth—wrth gwrs y byddai—a byddai'n dda gennym ninnau pe bydden nhw hefyd. Ond ble yr wyf yn anghytuno'n llwyr ag ef yw ei awgrym bod coronafeirws yn glefyd y gellir ymdrin ag ef drwy fesurau wedi'u targedu. Dysgwyd y gwersi cynharaf un ar gyfer iechyd y cyhoedd yn yr achosion o golera ym Merthyr Tudful yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Os bydd un person yn cael colera, mae'r colera hwnnw yn ymledu i bawb.

Os bydd dim ond lleiafrif o bobl yn ymddwyn yn anghyfrifol ac yn hunanol, nid yw coronafeirws yn gwahaniaethu rhyngddyn nhw a phobl sy'n dilyn y rheolau. Mae coronafeirws yn lledaenu i bawb, a dyna pam y mae'n rhaid i chi ymdrin ag ef ar draws y boblogaeth gyfan. Dyna benderfyniad pob llywodraeth ar draws y Deyrnas Unedig ac, yn wir, llywodraethau ledled y byd. Ac mae'r syniad bod hwn yn feirws y gellir ymdrin ag ef drwy wahanu rhai pobl oddi wrth bawb arall, yn camddeall natur yr epidemioleg yn llwyr. Ni fyddai'n gweithio o gwbl; nid yw'n amddiffyn y bobl sy'n dilyn y rheolau. Mae'n rhaid i ni ei wneud yn y modd yr ydym ni yn ei wneud, ac mae hynny'n ein rhoi ni, yn anffodus, ym mhrif ffrwd y modd y mae gwledydd ledled y byd yn gorfod ymateb i'r clefyd ofnadwy hwn.

Mae gennyf lawer iawn o Aelodau sy'n dymuno holi'r Prif Weinidog. Os gaf i atgoffa pawb yn awr i gadw eu cwestiynau yn gryno, yna gallaf gynnwys cynifer o enwau â phosibl. Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Llywydd. Dau bwynt cyflym, os caf i, Prif Weinidog. Yn gyntaf oll, hoffwn roi ar y cofnod fy mod i'n anghytuno â'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd, ond rwy'n deall bod gennych chi, fel Llywodraeth, yr hawl i wneud hynny. Rwyf yn gofyn am eich cefnogaeth, serch hynny, wrth ofyn am ddadl yn y Siambr hon yfory. Rwyf wedi cyflwyno cynnig yn y Swyddfa Gyflwyno i'w ystyried. Rwy'n gwerthfawrogi, yn unol â'r gweithdrefnau, o dan y Rheolau Sefydlog, y cawn ni wneud hynny, ac fe wnaethoch chi, fel Llywodraeth, ynghyd â Phlaid Cymru, yr union beth hwnnw pan gyhoeddwyd y cyfnod atal byr. Felly, byddwn yn gobeithio y byddwch chi, fel Llywodraeth, yn cynnig eich cefnogaeth i ganiatáu i'r cynnig hwnnw gael ei wneud yfory, oherwydd, fel Senedd Cymru, rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni, fel seneddwyr, yn cael pleidleisio ar hyn. Rydych chi wedi rhoi datganiad heddiw, a'r cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw cymryd cwestiynau, a werthfawrogir, ond mae'n bwysig, fel seneddwyr, ein bod ni'n cael pleidleisio.

Ac, yn ail, fe wnaethoch chi sôn yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw am gydgysylltu â'r asiantaethau gorfodi. Fel rhywun sy'n cynrychioli Canol De Cymru, lle y caewyd safleoedd trwyddedig yn hollgynhwysol, y tro diwethaf, yn ôl yn yr haf—ac rwy'n sylweddoli bod y tywydd yn dra gwahanol bryd hynny—yr oedd amryw o achosion ar draws fy rhanbarth o aflonyddwch sifil a achosodd bryder mawr i lawer o bobl ar draws y rhanbarth. Pa mor ffyddiog ydych chi na fydd unrhyw weithgareddau anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus o'r fath yn digwydd eto, a bod yr asiantaethau gorfodi wedi rhoi sicrwydd i chi y byddan nhw'n gallu ymdrin â chamau gweithredu o'r fath? Oherwydd, yn fy marn i, mae'n llawer gwell ymdrin ag alcohol mewn safle trwyddedig, lle caiff ei reoleiddio, yn hytrach na'i symud ymlaen i'r stryd neu i bartïon tŷ, a bydd eich rheoliadau chi yn cael yr effaith o wneud hynny.

Wel, Llywydd, mae'n siŵr bod yr Aelod yn un o'r rhai a fydd yn chwilio am dystiolaeth, a gallai chwilio am dystiolaeth yn y rhannau hynny o Loegr lle mae ei blaid ef eisoes wedi gosod cyfyngiadau o'r math hwn am lawer iawn o wythnosau, ac nid wyf i'n credu bod ganddo dystiolaeth o aflonyddwch cyhoeddus ar raddfa fawr nac o'r broblem yn cael ei symud yn gyfan gwbl i fannau eraill.

Fe wnaethom yn wir siarad â'r asiantaethau gorfodi. Byddan nhw yn ymateb i'r rheolau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith. Y peth allweddol, siawns, yw i bob un ohonom ni sydd ag unrhyw fath o ddylanwad o gwbl ddefnyddio'r dylanwad hwnnw i esbonio i bobl pam y byddai torri'r gyfraith a gweithredu yn y modd y mae'r Aelod wedi ei ddisgrifio yn rhoi eu hunain, a phobl eraill sydd bwysicaf iddynt, mewn perygl. Yr ateb gorau yw peidio â gorfod gorfodi rheol oherwydd ei bod yn cael ei thorri, ond ceisio defnyddio ein lleisiau i esbonio i bobl pam y mae er eu budd hwy, ac er budd pawb arall, i wneud yr hyn y gofynnir iddyn nhw ei wneud.

Mae pobl yng Nghymru wedi gwneud hynny, yn fy marn i, yn wych dros gyfnod yr argyfwng coronafeirws. Mae angen i ni ofyn i bobl barhau i wneud hynny wrth i ni symud i'r flwyddyn nesaf. Gyda phosibiliadau newydd y gwyddom eu bod yn dod i'n cyfeiriad, nid dyma'r adeg i roi'r ffidil yn y to a thybio na fydd pobl yng Nghymru yn barod i weithredu mewn ffordd sy'n ein helpu ni i gyd i atal y feirws hwn rhag parhau i waethygu o'n gafael, gyda'r holl anawsterau a difrod y gwyddom y byddai hynny yn eu hachosi.

17:35

Dros y misoedd diwethaf yma, drwy drio bod yn adeiladol wrth sgrwtineiddio'r Llywodraeth, dwi wedi trio gwrando'n ofalus iawn ar beth mae pobl yn ddweud, achos mae pobl, y cyhoedd, yn graff, ar y cyfan. Mae cael nhw i ddeall pam bod y Llywodraeth yn gwneud beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn gwbl allweddol, a dwi wirioneddol yn teimlo bod y rheoliadau yma wedi croesi llinell ym meddyliau pobl—o ddeall a chefnogi, ar y cyfan, y mwyafrif llethol, i fethu â deall ac amau beth ydy gwerth y mesurau. Ac mi rydyn ni yn sôn yn fan hyn am fesurau sydd yn llym iawn, iawn, a hynny mewn rhannau o Gymru fydd yn talu pris economaidd trwm iawn yn eu sgil nhw, ac ardaloedd lle mae nifer yr achosion yn isel iawn ar hyn o bryd, er, wrth gwrs, mae hynny'n gallu newid, a does yna neb—yn sicr, dim fi—yn dadlau y dylem ni ddim cael cyfyngiadau. 

Rydych chi wedi crybwyll yr Alban a Lloegr. Nid un rheol drwy'r gwledydd cyfan sydd yn y fan honno, ac mae'r diffyg sensitifrwydd i'r gwahanol ddarlun mewn gwahanol rannau o Gymru yn chwarae ar feddyliau pobl yn fan hyn. Felly, plîs ystyriwch yr opsiwn amgen rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn ei amlinellu. Os nad allwch chi wneud hynny, cryfhewch y dystiolaeth. Dangoswch mewn du a gwyn, cyhoeddwch o, pam mai drwy gyfyngiadau mor llym â hyn ar letygarwch a gwahardd unrhyw alcohol mae lleihau achosion. Dywedwch wrthym ni beth ydy'r mesur o'r effaith ar lesiant, achos dwi'n poeni am bobl ifanc yn arbennig, a dywedwch wrthym ni beth mae'r arbenigwyr ar ymddygiad, behavioural science, yn ei ddweud am y perygl y bydd pobl yn gwneud dewisiadau mwy peryglus yn sgil hyn—yn yfed a chasglu mewn cartrefi, ac ati. Rydyn ni angen gweld hynny mewn du a gwyn er mwyn i'r cyhoedd gael dod i farn. 

[Anghlywadwy.]mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi'i godi yn ystod y datganiad hwn. Fe ddywedaf wrtho unwaith eto ein bod ni wedi edrych yn fwriadol iawn i weld lle'r oedd y dystiolaeth ar gyfer mesurau llwyddiannus wedi ei chanfod mewn mannau eraill. Yn yr Alban, lle mae ei chwaer blaid wrth y llyw, ac mae ei blaid ef yn hoff iawn o awgrymu wrthyf i y dylai'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban fod yn fodel ar gyfer Cymru, gwelsom fod tafarndai yn cael aros ar agor tan 6 o'r gloch gyda'r nos fel ein lleoliadau lletygarwch eraill. Nid ydyn nhw'n gweini alcohol yn eu hardaloedd lefel 3 nhw, ond maen nhw'n cael aros ar agor. Rhan o'r rheswm pam y gwnaethom ni benderfynu dilyn y camau gweithredu hynny, yn hytrach na'r camau gweithredu y canfuwyd eu bod yn llwyddiannus fel haen 3 yn Lloegr, oedd oherwydd ein pryder am iechyd meddwl pobl, a phobl ifanc yn arbennig. Bydd ein rheolau ni yn fwy hael nag yn yr Alban yn hyn o beth, a byddwn ni yn dal i ganiatáu i bedwar o bobl o bedair aelwyd wahanol ddod at ei gilydd. Mae hynny yn arbennig oherwydd ein dyhead i ddod o hyd i ffordd o fewn y gyfraith i alluogi pobl ifanc i ddod at ei gilydd. Nid yw cymysgu aelwydydd, sef y cyfan a ganiateir yn yr Alban, yn helpu pobl ifanc o gwbl. Maen nhw eisiau cwrdd â'u ffrindiau. Maen nhw eisiau cwrdd â'u cyfoedion. Byddwn ni'n caniatáu i hynny ddigwydd yng Nghymru. Dyna un o'r ffyrdd yr ydym ni wedi addasu'r hyn yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill er mwyn bodloni ein pryderon ein hunain a'n hamgylchiadau ein hunain.

Nawr, clywais arweinydd Plaid Cymru yn awgrymu y dylem ni wneud yr hyn sy'n boblogaidd, ac fe wnaf i geisio ateb hynny. Mae angen i sicrhau bod gan bobl ffydd ynom ni, ac rwy'n credu ein bod yn gwneud hynny drwy esbonio i bobl mai dyma'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym ni, mai dyma'r hyn y mae'r cyngor arbenigol yn ei ddweud wrthym ni y mae'n rhaid i ni ei wneud, er ei fod yn anodd, ac yn rhwystredig, dyna yr ydym ni yng Nghymru wedi ei wneud drwy gydol y pandemig. Mae'n rhaid i ni barhau i wneud hynny, er ei fod yn galed, er ei fod yn anodd, a phan ei fod yn iawn i'w wneud yn y modd hwnnw, rwy'n credu y bydd pobl yng Nghymru yn cydnabod hynny.

17:40

Prif Weinidog, rwy'n llwyr gefnogi camau gweithredu y Llywodraeth, ac mae yn anodd, ac mae llawer o bobl o'r tu allan wedi codi cwestiynau ar y mater hwn, a phan eglurwch chi wrthyn nhw y gwir reswm y tu ôl iddo, mae ganddyn nhw ddealltwriaeth o pam yr ydym ni wedi cymryd y camau hyn. Ond rwyf eisiau canolbwyntio ar y sector gwestai, os caf i, ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae hyn hefyd yn effeithio ar westai. Mae fy ngwestai i, yn fy etholaeth i, llawer ohonyn nhw'n dweud eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn gweld ciniawau a phrydau bwyd yn cael eu canslo o ganlyniad i hyn. A allwch chi sicrhau y bydd y pecyn yr ydych chi'n ei lunio hefyd ar gael cyn mis Ionawr, oherwydd mae'r cyfnod hwn bob amser wedi bod y brif adeg i lawer o'r busnesau hynny gronni eu cronfeydd arian wrth gefn ar gyfer y flwyddyn? Mae aros tan fis Ionawr i'r cais gael ei gyflwyno yn golygu eu bod yn mynd i'w chael hi'n eithaf anodd yn ystod y mis nesaf, wrth iddyn nhw geisio goroesi tan fis Ionawr. Felly, a wnewch chi edrych yn ofalus iawn ar sut y gallwch chi helpu'r busnesau hynny, ac a wnewch chi hefyd egluro wrthyn nhw beth yr ydych chi'n ei olygu wrth wasanaeth ystafell, oherwydd gall gwasanaeth ystafell ddarparu bwyd ac efallai diodydd y tu hwnt i 6 o'r gloch? Ac rwyf i eisiau gwybod—. Mae pobl sy'n dod i westai yn aml yn cyrraedd yn hwyr, ac maen nhw'n bobl sy'n gweithio, yn aml iawn, yn ystod yr wythnos. Maen nhw wedi bod allan yn y gwaith, maen nhw'n dod yn ôl, maen nhw eisiau ymlacio, maen nhw eisiau gorffwys, ac maen nhw eisiau gallu cael y cyfle i gael bwyd pan fyddan nhw'n dod yn ôl i mewn.

Diolch i David Rees am hynna. Rwy'n cytuno ag ef fod y gwaith amyneddgar o esbonio i bobl pam y mae'n rhaid gwneud y penderfyniad yn golygu bod pobl yn deall y rhesymeg drosto. Mae'n deulu prin iawn yng Nghymru, nawr, nad yw'n adnabod rhywun sydd wedi colli rhywun yn ystod yr argyfwng hwn, a phan fyddwch chi'n esbonio i bobl mai dyna sydd yn y fantol yn y fan yma, a dyna pam mae'r penderfyniadau anodd hyn yn cael eu gwneud, rwy'n cytuno bod synnwyr greddfol pobl o'r hyn sy'n iawn, yr hyn sy'n deg, a sut y gall eu gweithredoedd gyfrannu at les pobl eraill yn dod o ffynnon ddofn iawn yma yng Nghymru.

Rwyf yn sylweddoli yn llwyr yr effaith ar westai. Byddwn ni'n gwneud ein gorau i gael cymorth i bobl cyn y Nadolig pan allwn ni, a hyd yn oed pan nad yw'n bosibl rhoi'r arian yn uniongyrchol yn nwylo pobl, rwy'n gobeithio y gallwn ni gael syniad o'r cymorth a fydd ar gael, fel y gall pobl ddefnyddio hynny gyda'u credydwyr a gallu sicrhau bod llwybr drwy'r wythnosau nesaf ar eu cyfer. O ran gwasanaeth ystafell, rydych chi'n iawn; bydd pobl sy'n byw mewn gwesty yn gallu cael gwasanaeth ystafell ar ôl 6 p.m. gyda'r nos. Ni fydd bwyty mewn gwesty yn cael gweini ar bobl nad ydyn nhw'n aros yn y gwesty ar ôl 6 o'r gloch, ond byddan nhw'n cael gweini ar bobl sydd yn aros yn y gwesty, oherwydd, fel y dywedodd David Rees, bydd llawer o'r bobl hynny yn gweithio, a bydd angen iddyn nhw fwyta ar ôl 6 o'r gloch gyda'r nos, a byddwn ni'n sicrhau ein bod yn gwneud y cyngor hwnnw yn glir gyda'r sector ei hun.

Mater bach ydyw, ond dim ond i roi syniad i gyd-Aelodau o'r manylion y bu'n rhaid i ni ymgodymu â nhw dros yr wythnos ddiwethaf, byddwn ni hefyd yn sicrhau bod y dyddiau ychwanegol y naill ochr a'r llall i gyfnod ymlacio'r cyfyngiadau dros bum niwrnod y Nadolig sydd ar gael yng Nghymru, sydd ar gael i bobl yng Ngogledd Iwerddon fel eu bod yn cael teithio i'r tir mawr ac oddi yno ar 22 Rhagfyr ac yna ar y diwrnod ar ôl i'r cyfnod ymlacio ddod i ben yng Nghymru, y byddan nhw'n cael defnyddio gwestai yng Nghymru yn rhan o'u taith ar y ddau ddiwrnod estynedig hynny.

Prif Weinidog, rydych chi wedi bod yn sôn am wneud y penderfyniad cywir. Yn syml iawn rydym ni yn anghytuno â chi. Roeddwn i'n siomedig iawn o'ch clywed chi, mewn ateb cynharach, yn cyfeirio at y rhwystredigaeth y mae pobl yn ei theimlo, sydd, yn fy marn i, yn bychanu rhai o'r effeithiau iechyd meddwl difrifol iawn y mae pobl yn eu dioddef o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud hyn. Ac rwy'n siomedig iawn hefyd, pan fyddwn ni'n sôn am dafarndai yn fy ardal i—gallwn i ddewis unrhyw un—nad ydyn nhw mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â lledaeniad y feirws, eu bod nhw i gyd wedi cael eu cau gan eich penderfyniad chi heddiw. Ac mae'n benderfyniad unochrog, oherwydd ni chawn ni bleidleisio ar hyn am bythefnos, ac rwy'n credu ei bod yn werth nodi, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn pleidleisio ar reoliadau Lloegr heno.

Rwyf i eisiau cael eich ateb, serch hynny, ar hyn—mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich ymateb—sgwrs a glywais yn fy siop gornel leol ddoe, lle'r oedd ciw a oedd yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd, a bod yn deg, i gyd yn cwyno am y cyfyngiadau diweddaraf hyn mor chwyrn fel eu bod i gyd yn dweud eu bod yn mynd i bleidleisio dros Blaid Diddymu Cynulliad Cymru yn yr etholiad nesaf. A ydych chi'n derbyn bod rhai o'r penderfyniadau hyn yr ydych chi'n eu gwneud yn effeithio'n negyddol ar y sefydliad yn ei gyfanrwydd, ym marn rhai o aelodau ein cymdeithas? A phan fyddwch chi'n grwgnach am fwy o bwerau, ydych chi'n credu y dylech chi wir fod yn talu ychydig mwy o sylw i'r lleisiau sy'n credu na ddylai fod gennych chi unrhyw bwerau o gwbl? Diolch.

17:45

Wel, i ateb pwynt cyntaf Suzy Davies, rwy'n gobeithio y bydd yn cydnabod i mi ddefnyddio'r gair 'rhwystredigaeth' oherwydd dyna'r gair a ddefnyddiodd David Rowlands yn y cwestiwn a ofynnodd i mi. Felly, roeddwn i'n ymateb yn syml i'r pwynt a gyflwynwyd i mi yn uniongyrchol; yn sicr, nid oedd yn ceisio bychanu unrhyw beth.

Ar ei hail bwynt, fe wnaf i ddod yn ôl at yr hyn yr wyf i wedi'i ddweud wrth bobl eraill. Yn y pandemig hwn, mae pob Llywodraeth yn wynebu penderfyniadau amhosibl o anodd, mae'n amhosibl o anodd ceisio cydbwyso bywydau a bywoliaeth, y pedwar niwed sy'n dod o coronafeirws a sut yr ydym ni yn eu cydbwyso i gyd. Y cyfan y gallaf i ei wneud ac y gall holl aelodau fy Nghabinet ei wneud yw clywed y cyngor yr ydym yn ei gael, ei bwyso a'i fesur yn y ffordd orau y gallwn ni a gwneud penderfyniad sy'n caniatáu i chi edrych arnoch chi eich hun yn y drych y diwrnod wedyn. Nawr, gallai hynny fod yn benderfyniad gwahanol i'r un y byddai'r Aelod wedi ei wneud, wrth gwrs y gallai fod, ond dyna'r unig ffordd y gallaf i fwrw ymlaen—rwy'n gwneud y penderfyniadau sydd fwyaf tebygol, yn fy barn i, o fod er budd pobl yng Nghymru. Pa un a yw pobl, yn union ar ôl hynny, yn teimlo'n ddig ynghylch hynny ac yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio mewn gwahanol ffyrdd, wel, mater iddyn nhw yw penderfynu hynny. Ond yr hyn y mae'n rhaid i mi ei wneud yw gweithredu mewn ffyrdd sydd, yn fy marn i, yn amddiffyn y pethau sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru, a, phe na byddwn yn gwneud penderfyniadau ar y sail honno, ni fyddwn i'n gallu parhau i wneud y gwaith yr wyf yn ei wneud, hyd yn oed pan fydd Suzy Davies a phobl y mae hi'n eu cyfarfod mewn mannau eraill â safbwynt gwahanol i mi.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud nad oes neb yn amau am eiliad ddyfnder pryder y Prif Weinidog a'i ddiffuantrwydd llwyr yn yr hyn y mae'n ei ddweud heddiw, ond byddwn i'n dweud wrth y Prif Weinidog bod angen cymryd camau, wrth gwrs, ond a oedd yn rhaid iddo fod y camau gweithredu hyn? Ac, i lawer o bobl, mae hyn yn teimlo'n rhy galed, yn enwedig i bobl pan mai eu rhwydweithiau cymorth yw eu ffrindiau, nid eu teulu. I lawer ohonom ni nad ydym ni mewn perthynas deuluol draddodiadol, rydym ni'n treulio ein hamser gyda ffrindiau cyn y Nadolig, oherwydd bydd y ffrindiau hynny gyda'u teuluoedd ar adeg y Nadolig ei hun. Prif Weinidog, mae'n teimlo'n rhy anodd. Nawr, rydych chi wedi cael cefnogaeth pobl Cymru oherwydd eu bod wedi deall ac maen nhw wedi bod yn falch, rwy'n credu, o gefnogi'r dull gofalus yr ydych chi wedi ei gymryd, ond mae hyn yn teimlo'n ofnadwy o anodd i'r bobl hynny.

Hoffwn i ofyn i chi pa fodelu gwyddorau cymdeithasol y mae eich cynghorwyr wedi ei ddefnyddio i benderfynu bod gwahardd gwerthu alcohol yn gyfan gwbl mewn lletygarwch—. Nid wyf yn sôn am alluogi pobl i gael—. Wyddoch chi, gallech chi ddweud y caiff pobl gael dau ddiod yr un, fel bod y risgiau sy'n gysylltiedig ag yfed gormod—. Ond mae dweud wrth y bobl hynny na chawn nhw weld eu ffrindiau, na chawn nhw gael un gwydraid o win amser cinio—pa fodelu y mae eich cynghorwyr wedi ei ddefnyddio i benderfynu na fydd gwahardd alcohol mewn lletygarwch yn ysgogi pobl, efallai llawer o'r bobl sydd wedi cefnogi eich dull gweithredu hyd yma, i gymdeithasu gartref, yn erbyn y rheolau, mewn ffyrdd sy'n llawer anoddach?

Prif Weinidog, byddwn i wrth fy modd yn gallu cefnogi'r dull hwn a'i egluro i'm hetholwyr; rwyf wedi gwneud hynny ar hyd yr amser, hyd yn oed pan nad ydym ni wedi cytuno 100 y cant. Ond, Prif Weinidog, i bobl nad oes ganddyn nhw berthynas deuluol draddodiadol, mae hyn yn teimlo'n rhy anodd ac rwyf i wir eisiau i chi feddwl am hynny eto.

17:50

Wel, Llywydd, siawns fod Helen Mary Jones yn anghywir yn dweud na all pobl weld eu ffrindiau. Gall pobl weld eu ffrindiau. Gall lleoliadau lletygarwch, caffis, bwytai fod ar agor tan 6 o'r gloch gyda'r nos. Os ydych chi eisiau gweld eich ffrindiau, yna bydd cyfleoedd i wneud hynny, a bydd mwy o gyfleoedd yng Nghymru o dan ein rheolau ni nag a fydd ar gael i bobl yng Ngogledd Iwerddon, Lloegr neu'r Alban. Felly, rydym ni mewn gwirionedd yn ystyriol o'r sylw y mae Helen Mary yn ei wneud ynglŷn â'r angen i bobl ddod at ei gilydd ar hyn o bryd.

Yma yng Nghymru, bydd pedwar o bobl o bedair aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod, yn gallu cael pryd o fwyd gyda'i gilydd, yn gallu cymdeithasu. Yr hyn na fyddan nhw yn gallu ei wneud yw yfed alcohol. Nawr, mae'n ddrwg gennyf os yw hynny'n amddifadedd sylweddol i lawer o bobl, ond y dystiolaeth yw, pan fydd pobl yn yfed, bod eu hymddygiad yn newid, a bod eu hymddygiad yn newid mewn ffyrdd sy'n eu gwneud nhw a phobl eraill yn fwy agored i'r feirws. Dyna pam mae tafarndai, bwytai, bariau yn Lloegr mewn ardaloedd haen 3 ar gau yn gyfan gwbl; dyna pam yn yr Alban—y model yr ydym ni wedi'i ddefnyddio—pan fyddan nhw ar agor, nid yw alcohol yn cael ei weini.

Mae ein hymdrech ni'n ymgais i gydbwyso'r buddiannau gwahanol hynny. Drwy gadw lleoedd ar agor fel y gall pobl gyfarfod, yna gall yr angen i bobl weld eu ffrindiau, i gael profiad cymdeithasol, barhau. Rydym yn cydbwyso hynny drwy beidio â chaniatáu gwerthu alcohol oherwydd y risgiau ychwanegol a ddaw yn sgil hynny. Ni allwn fforddio'r risgiau ychwanegol hynny yng Nghymru, pan fydd y ffigurau a welwn ni o'n blaenau yn dweud wrthym ni beth fyddai niwed hynny, a dyna pam rydym ni wedi penderfynu ar y cydbwysedd sydd gennym ni.

Mae'r Prif Weinidog yn sôn am ddilyn y dystiolaeth, ac eto wrth ateb David Rowlands yn gynharach, cymharwyd trosglwyddo COVID â cholera. Mae'r ddau glefyd yn gwbl wahanol, oherwydd bacteriwm yw colera, nid feirws, ac mae'n cael ei ledaenu drwy lyncu dŵr halogedig, nid drwy bellter cymdeithasol.

A gaf i wahodd y Prif Weinidog i edrych ar y dystiolaeth a adroddir heddiw yn y cyfryngau o'r Swistir? Mae'r Swistir wedi haneru'r cyfraddau heintio dyddiol yn ystod y mis diwethaf, er gwaethaf ei thafarndai a'i bwytai, ei champfeydd a'i chyfleusterau chwaraeon yn aros ar agor. Bu cyfyngiadau cenedlaethol yn y Swistir, ond nid ydyn nhw o'r math didostur y bydd yn rhaid inni ei ddioddef yng Nghymru. Ni chaiff mwy na 10 o bobl gyfarfod yn breifat ac mae'n rhaid i dafarndai a bwytai gau am un-ar-ddeg, ac mae defnydd gorfodol o fasgiau wyneb mewn ardaloedd gorlawn.

Ond mae'r Swistir wedi bod yn hyblyg; mae wedi caniatáu i'w cantonau ddewis drostyn nhw eu hunain faint y dylid ymestyn y drefn gyfyngu y tu hwnt i'r mesurau cenedlaethol hynny, ac mae Genefa wedi gweld cyfyngiadau symud llawn, tra bod Zurich a Bern wedi gweld bron dim cyfyngiadau ychwanegol, ac eto, ar 5 Tachwedd eleni, cofnododd y Swistir 10,128 o achosion newydd, 26 y cant ohonynt yn gadarnhaol, ac eto dair wythnos yn ddiweddarach, ar 27 Tachwedd, roedd y ffigur wedi gostwng i 4,312 a chymhareb gadarnhaol o 15.8 y cant. Felly, pam nad yw'r Prif Weinidog yn dilyn ymagwedd hyblyg y Swistir, yn hytrach na'r anhyblygrwydd yr ydym ni yn ei gysylltu'n fwy â pharadwys sosialaidd anhapus Gogledd Korea?

Wel, Llywydd, yn y rhan fwyaf o'i gyfraniadau, mae Mr Hamilton wedi bod yn fy annog i ddilyn Sweden fel model. Gan fod amgylchiadau yn Sweden bellach wedi dirywio, byddai'n well ganddo fy annog i arddel model gwahanol eto. Dyfynnais yn gynharach, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, o'r erthygl a gyhoeddodd Canghellor Dugaeth Caerhirfryn ddydd Sul. Dyma frawddeg arall o'r un erthygl:

Mewn gwleidyddiaeth mae hi'n aml yn haws osgoi pethau yn gyfforddus na datgan gwirioneddau anghyfforddus.

Dyna beth mae Mr Hamilton yn ei gynnig i ni yn ei gyfraniadau niferus: osgoi cyfforddus, y syniad bod ateb hawdd bob amser i broblem hynod anodd, ffordd hawdd o osgoi gwirioneddau anghyfforddus. Wel, ni all Llywodraethau wneud hynny, nid os oes ganddyn nhw fuddiannau eu poblogaeth dan sylw. Y Swistir yw'r osgoi cyfforddus heddiw—mae'n siŵr, y tro nesaf, y bydd rhywle arall y bydd yn ei argymell i ni. Rydym ni yn gwneud y penderfyniadau sy'n briodol inni yma yng Nghymru.

17:55

Rwy'n credu mai dyma'r penderfyniadau anoddaf yr ydym ni wedi'u hwynebu dros y naw mis diwethaf, cyfres o benderfyniadau eithriadol o anodd a orfodir ar bob Llywodraeth o ganlyniad i'r feirws hwn. A gobeithio, wrth ymdrin â'r penderfyniadau hyn, y byddwn i gyd yn rhannu'r un penderfyniad i wneud yr hyn sy'n iawn i'r bobl a gynrychiolwn—i beidio â gwneud yr hyn sy'n hawdd, ac nid i wneud yr hyn sy'n boblogaidd, ond i wneud yr hyn sy'n iawn. Ac rwy'n gresynu at yr agwedd yma o fachu ar gyfle yr ydym ni wedi'i weld yma y prynhawn yma gan gynrychiolwyr y Ceidwadwyr, sy'n condemnio Llywodraeth Cymru am wneud yr hyn y byddant yn annog eu Haelodau Seneddol i bleidleisio drosto yn Lloegr yn ddiweddarach heno. Rhaid i ni wneud yr hyn sy'n iawn. A rhaid i ni esbonio hefyd, a rhaid i ni hefyd argyhoeddi pobl ynghylch yr hyn sy'n iawn a'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.

Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud nifer o honiadau y prynhawn yma. Hoffwn weld y dystiolaeth am y penderfyniadau a wneir. Mae'n addas ac yn briodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau hyn, ac mae'n addas ac yn briodol eu bod wedyn yn dod yma i egluro'r penderfyniadau hynny. Mae'n addas ac yn briodol bryd hynny i ni gael cyfle i drafod a dadlau y mesurau hynny. Ond ni allwn ni ond gwneud hynny os cawn ni ein hysbysu ac os oes gennym ni yr holl wybodaeth sydd ar gael i ni a'r bobl a gynrychiolwn, i'n galluogi ni wedyn i graffu'n ddigonol ar Weinidogion, dwyn Gweinidogion i gyfrif, ac yna egluro'r penderfyniadau hynny i'r bobl a gynrychiolwn, ac i roi'r arweiniad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud dros yr wythnosau diwethaf.

O'm rhan fy hun, fe hoffwn i weld mwy o orfodaeth, yn enwedig mewn gweithleoedd. Hoffwn weld mwy o brofion torfol ym Mlaenau Gwent, yn enwedig. Hoffwn weld ffordd fwy cynhwysfawr o ymdrin â pholisi. Ac os yw'r Prif Weinidog eisiau i mi ac eraill ei gefnogi yn y rheoliadau hyn, yna rhaid iddo roi'r dystiolaeth a'r cyngor a gafodd gan ei gynghorwyr i ni er mwyn ein galluogi i wneud hynny. 

Wel, Llywydd, rwy'n deall yn iawn pa mor ddifrifol y mae Alun Davies yn ymdrin â hyn, oherwydd mae'n cynrychioli Blaenau Gwent, lle mae'r cyfraddau digwyddedd saith diwrnod yn 431 ac yn cynyddu, yr ardal yng Nghymru lle mae'r angen i weithredu ar ei fwyaf. Felly, rwy'n deall yn iawn pa mor ddifrifol y mae'n cymryd hyn i gyd, a pham y mae'n chwarae'i ran wrth esbonio ac argyhoeddi, fel y mae'n rhaid i bob un ohonom ni ei wneud. A'i ddymuniad i weld camau pellach yn cael eu gorfodi, ac i ni ddysgu'r gwersi yr ydym ni yn eu dysgu o'r profion torfol ym Merthyr Tudful, a gweld beth y gallem ni ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru—mae'r rheini'n uchelgeisiau yr ydym ni i gyd yn eu rhannu.

Credaf fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o wybodaeth i'r cyhoedd nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, ein bod yn rhannu'r wybodaeth honno nid ar sail ein barn ni amdano, ond ar sail y cyngor arbenigol a gawn. Eu cyfrifoldeb nhw ydyw, eu dogfennau nhw ydyn nhw; rydym yn eu rhannu gyda chi. Credaf eu bod yn cyflwyno achos cryf dros y ffordd yr ydym ni yn gweithredu a chredaf, pan gaiff yr Aelod gyfle i astudio'r hyn y mae SAGE eisoes wedi'i ddweud, yr hyn y bydd adroddiadau TAC yn ei ddweud wrtho, beth yw'r ffigurau cadarnhaol, y trosglwyddo, niferoedd yn yr ysbyty a marwolaeth yn ei ran ef o Gymru yn dweud wrtho, y bydd yn gweld yn glir iawn pam y mae ein camau gweithredu ni yn angenrheidiol, ac yn angenrheidiol nawr.

Wrth gwrs, yn Lloegr, nid yw'r cynigion ar gyfer tafarndai a lletygarwch yr un fath â gwaharddiad llwyr. Mae'n ddull haenog sy'n seiliedig ar ystyriaethau pragmatig a thystiolaeth go iawn. Yn nodweddiadol ymhlith y dilyw o negeseuon yr wyf wedi'u derbyn ers eich cyhoeddiad mae, a dyfynnaf, 'Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn risg ddifrifol i bobl sâl neu agored i niwed, ond mae'r mesurau a roddwyd ar waith yn llawer mwy pryderus. Mae Mr Drakeford wedi dinistrio lles cenedl. Mae fy nheulu'n rhedeg dau fusnes lletygarwch, ac ni allwn fforddio rhagor o gyfyngiadau. Rydym wedi buddsoddi cymaint i wneud ein sefydliad yn ddiogel rhag COVID. Felly, mae hwn yn apêl olaf i chi—siaradwch â'n Prif Weinidog.'

Ac efallai mai'r ergyd greulonaf yw honno i briodasau. Sut ydych chi felly'n ymateb i'r briodferch a ysgrifennodd ataf ddydd Gwener diwethaf, 'Roeddwn i fod i briodi ar 30 Hydref a chwtogais y rhestr o westeion i 30. Ond oherwydd y cyfnod atal byr, caeodd ein lleoliad. Rydym ni bellach wedi symud y briodas i 19 Rhagfyr a'i lleihau i 15 o westeion. Rwyf bellach yn chwarae "dyfalu'r dyddiad y gallaf briodi"', neu i'w thad, a ysgrifennodd ataf heddiw, gan ddweud, 'Priodas fy merch wedi ei difetha am yr eildro'?

18:00

Llywydd, mae'r Aelod yn hollol annidwyll wrth geisio esgus nad yw'r cyfyngiadau yn Lloegr rywsut mor llym ag y maen nhw yma yng Nghymru. Os ydych yn haen 3 yn Lloegr, byddwch mewn cyfyngiadau llawer llymach nag y byddwch yma yng Nghymru. Ac mae'r sefyllfa yng Nghymru mor ddifrifol â hynny, ac yn mynd yn fwy difrifol bob dydd. Dyna'r hyn y mae angen i'r Aelod ei ddeall, a dyna'r hyn, mae arnaf ofn, fod angen iddo esbonio i bobl y mae'r penderfyniad hwnnw'n effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw. Ac rwy'n gwybod pa mor anodd ydyw i bobl y mae'n rhaid iddyn nhw nawr addasu i'r hyn sydd ei angen. Ond y ddadl y mae'n rhaid inni ei chyflwyno iddyn nhw yw ein bod yn byw ar adeg eithriadol, pan fo'r peryglon i ni i gyd yn tyfu bob dydd a bod yn rhaid i ni weithredu fel hyn i ddiogelu ni i gyd. Ac er na fydd pawb yn deall ac ni fydd pawb yn derbyn hynny, dyna sail yr hyn yr ydym yn ei wneud, dyna'r rheswm pam yr ydym yn gofyn am yr aberth eithriadol yma gan bobl. O ganlyniad, bydd y bobl hynny yn gweld y flwyddyn nesaf—yn gallu gweld eu busnesau yn ailddechrau, yn gweld eu priodas. Ni all yr Aelod osgoi'r ffaith, os na fyddwn yn cymryd y mesurau hyn, na fydd cannoedd a channoedd o bobl yng Nghymru, a fyddai wedi bod yn fyw fel arall, yn fyw yn 2021. Dyna, rwy'n credu, y mae'n rhaid i ni ei esbonio i bobl eraill, a phan fyddwn yn gwneud hynny, rwy'n credu y bydd pobl yn deall.

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad pwysig iawn hwn. Mae'r sefyllfa, fel y mae'n disgrifio, yn ddifrifol iawn. Bydd brechlyn yn bodoli ymhen ychydig fisoedd, ond nid eto. Mae'r mwyafrif llethol o bobl wedi glynu'n gaeth wrth y canllawiau ac wedi gwneud penderfyniadau synhwyrol, a rhaid i'r Llywodraeth barhau i sicrhau cefnogaeth y bobl hynny. Rwy'n cydnabod y cyfrifoldeb enfawr sydd gan y Prif Weinidog—ychydig iawn o bobl sy'n gyfrifol am fywyd a marwolaeth. At ei gilydd, mae pobl yn derbyn achosion angenrheidiol o gyfyngu ar ryddid, gan eu bod wedi gweld lluniau pobl mewn gwelyau ysbyty, mewn unedau gwelyau gofal dwys, a marwolaethau o COVID. Ond mae angen canlyniadau profion arnom ni yn ôl mewn diwrnod o hyd; nid yw hynny'n digwydd ym mhobman o hyd.

Nawr, mae'n siŵr y bydd myfyrwyr hanes Cymru yn ymwybodol o'r hanes cryf o ddirwest yng Nghymru. Ond o ran gwahardd tafarndai yn llwyr rhag gwerthu alcohol, Prif Weinidog, mae angen cyfiawnhad arnaf i hysbysu fy etholwyr. Mae pobl eisiau gwybod pam, mewn un frawddeg fer. Diolch.

A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am yr hyn a ddywedodd yn y cyfraniad yna? Rwy'n falch ei fod wedi tynnu sylw at y ffaith y gall y flwyddyn nesaf fod yn wahanol, ond ni fydd gennym ni frechlyn am rai misoedd eto, erbyn i bobl gael eu dau ddos, erbyn i ni gael digon o frechlyn i ledaenu i'r boblogaeth gyfan. Ni fydd hyn yn digwydd ymhen wythnosau, ni fydd hyn yn digwydd eleni, ond bydd yn digwydd. A'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw perswadio pobl i ddygnu arni, i wneud y pethau anodd nawr, fel y gallwn ni fanteisio ar y posibiliadau newydd a fydd gennym ni yn 2021.

Gwnaethom fuddsoddi llawer o ymdrech yn ystod y cyfnod atal byr i wella'r drefn brofi yng Nghymru. Yr wythnos hon, roedd 90 y cant o'r holl brofion hynny yr oedd angen iddyn nhw fod yn ôl o fewn un diwrnod yn ôl o fewn un diwrnod, ac mae hynny'n bennaf oherwydd gwelliant sylweddol ym mherfformiad labordai goleudy, y mae angen i ni weld cynnal y perfformiad hwnnw nawr, ond, yr wythnos hon, mae'r perfformiad wedi bod yn llawer agosach at yr hyn y mae arnom ni angen iddo fod, a chytunaf ag ef fod angen i'r perfformiad fod ar y graddau hynny.

Fy esboniad un frawddeg i bobl ynghylch pam yr ydym yn gofyn iddyn nhw wneud yr hyn yr ydym yn gofyn iddyn nhw ei wneud: y rheswm yw, os na wnawn ni hynny, ni fydd ein GIG yno ar eu cyfer pan fydd ei angen arnyn nhw, a bydd y perygl, iddyn nhw eu hunain a phobl y maen nhw yn eu caru, y tu hwnt i'r hyn y bydd unrhyw un ohonom yn barod i'w oddef.

18:05

Prif Weinidog, daethoch i'r Siambr ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach. Mae'n ddrwg gen i nad yw'n gyfleus i chi fod yn bresennol nawr. [Torri ar draws.]

Mae'n ddrwg gennyf, dim ond i dorri ar draws, mae angen imi ddweud yr hyn a ddywedais ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn hwn, a phob Cyfarfod Llawn, fod pob Aelod yn gallu cyfrannu'n llawn at y Cyfarfod Llawn yma ac o'u cartrefi neu eu swyddfeydd.

A brawddeg gyntaf fy nghyfraniad yw, byddai'n well gennyf weld y Prif Weinidog yma yn y cnawd. Dyna fy marn i fy hun—[Torri ar draws.] Rwy'n derbyn yn llwyr—[Torri ar draws.] Mae gennyf i fy marn fy hun.

Gadewch i'r Aelod barhau, nawr, os gwelwch yn dda. Diolch.

Iawn. Nawr, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud, 'Os gallwn ni wneud hyn, fe allwn ni gyrraedd y Nadolig', ond dyna a ddywedoch chi am y cyfnod atal byr, ac ni weithiodd, oni wnaeth? A bu ychydig gormod o hunan-glod am y cyfnod atal byr hwnnw: gwnewch hynny, achub y blaen ar y sefyllfa, gan gymharu Cymru â Lloegr ynghylch gweithredu hynny, ond nid yw'n edrych fel hynny'n awr, onid yw? Rydych chi'n dal i rygnu ymlaen am gyfyngiadau haen 3 yn Lloegr, ond ar hyd ein ffin i gyd, heblaw am dde Swydd Gaerloyw a'r ddwy bont draffordd, ceir cyfyngiadau haen 2, ac mae tafarndai'n ailagor a byddant yn gweini alcohol. Ac, yn anffodus, oherwydd hyn, 'yng Nghymru, felly, ni all tafarndai weini alcohol', mae'n dwyn anfri ar y polisi cyfan, a phan fydd pobl, p'un a ydyn nhw ar feinciau'r Ceidwadwyr neu Blaid Cymru yn dweud wrthych, 'Mewn gwirionedd, mae perygl y bydd pobl yn mynd i gael partïon tŷ, yn hytrach na bod mewn amgylchedd rheoledig', nid ydyn nhw'n annog pobl i dorri'r gyfraith, maen nhw'n gwneud sylw synhwyrol. Mae cau tafarndai ar ôl 6 p.m. ond dweud, 'Gallwch agor cyn hynny, ond ni allwch weini alcohol', fel dweud wrth gigyddion y gallan nhw agor ond na allan nhw werthu cig.

Nawr, beth aeth o'i le? Pan ddaethom allan o'r cyfnod atal byr, bu'n rhaid ichi gael dull gweithredu ledled Cymru. Adeiladu gwladwriaeth yn gyntaf, iechyd y cyhoedd yn ail. Roeddech yn caniatáu i bobl o ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion—o Ferthyr Tudful, yn fy rhanbarth i, fynd i Drefynwy, lle'r oedd nifer yr achosion yn isel, ond roeddech yn mynnu gosod ffin rhwng Cymru a Lloegr. Dyna'r broblem a gawsoch chi, ac rydych yn dal i fod â mesurau y mae'n rhaid iddyn nhw fod ychydig yn wahanol oherwydd mai Cymru yw hon, ac nid yw pobl eisiau dilyn y mesurau mwyach. Fe wnaethoch chi golli cefnogaeth y Ceidwadwyr gyda'r cyfnod atal byr, rydych chi wedi colli cefnogaeth y Blaid nawr, rydych chi hyd yn oed yn clywed rhywfaint o wrthwynebiad gan eich meincwyr cefn.

Llywydd, rwyf yn anghytuno â'r Aelod gymaint yn rhithwir ag y byddwn pe byddwn yn y Siambr gydag ef. Mae'n llwyddo i gamddeall popeth a ddywedir wrtho. Mae wedi gwneud hynny eto y prynhawn yma. Does dim byd y byddaf byth yn ei ddweud a fydd yn ei argyhoeddi ei bod hi'n bosib dod i benderfyniadau yng Nghymru sy'n diwallu anghenion pobl yng Nghymru. Nid yw'n credu yn yr egwyddor sylfaenol. Dyna pam na fydd byth yn bosib ei argyhoeddi o unrhyw sylw synhwyrol, fel y dywedodd, ac ni chlywsom unrhyw un o'r rheini ganddo y prynhawn yma.

Mae gennyf dri Aelod yr hoffwn eu galw o hyd. Rydym ymhell dros amser ar y datganiad hwn, felly, os gallaf ofyn i'r holl Aelodau fod mor gryno ag y gallan nhw ac i beidio â bod yn hwy na munud. Laura Anne Jones.

Wel, fe rown ni gynnig arni, Llywydd. Mewn ymateb i'r—

Fe wnewch chi fwy na rhoi cynnig arni; fe wnewch chi hynny.

Mewn ymateb i ymatebion y Prif Weinidog i'm cyd-Aelodau anrhydeddus yn gynharach, ie, argyfwng iechyd cyhoeddus yw hwn, oes, mae bywydau yn y fantol, ac oes, mae'r rhain yn benderfyniadau anodd. Rydym ni i gyd yn cydnabod hyn ac rydym ni i gyd yn deall hyn. Felly, yn hytrach na gwastraffu amser yn gwneud cyhuddiadau hurt ar draws y Siambr hon yn gynharach, pan roeddech chi yma, Prif Weinidog, gallem fod wedi dod o hyd i amser heddiw i drafod a phleidleisio ar y cyfyngiadau pwysig hyn. Mae'n ffiaidd nad ydym ni wedi pleidleisio ar hyn cyn iddyn nhw ddod i rym ddydd Gwener. Ac rwy'n llwyr gefnogi galwad Andrew R.T. Davies am ddadl yfory.

Bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith ddinistriol ar ein busnesau bach yn y cyfnod cyn y Nadolig, gyda digwyddiadau Nadolig eisoes yn cael eu canslo—mae hynny'n refeniw yr oedd busnesau'n dibynnu arno. Mae angen inni ddiogelu bywydau—rydym i gyd yn cytuno â hynny—ond eglurwch i'n cenedl y gwahaniaeth rhwng cael cinio allan a swper allan? Rydych chi'n cosbi busnesau bach a busnesau canolig drwy beidio â chaniatáu iddyn nhw werthu alcohol, ond, unwaith eto, rydych chi'n rhoi'r holl arian i'r archfarchnadoedd, a bydd pobl yn cynnal y partïon tŷ hyn. Nid oes ond rhaid i chi edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy'n digwydd ymhlith pobl fy oedran i ac iau—bydd hyn yn digwydd, ac rwy'n amau a fydd y cyfyngiadau hyn yn cael unrhyw effaith. Yn wir, mae'n debyg eu bod—

18:10

Wel, Llywydd, byddai mwy o hygrededd i'r Aelod a'i chyd-Aelodau pe baen nhw wedi cynnig un awgrym cadarnhaol ar gyfer sut y dylem ni fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n ein hwynebu yng Nghymru y prynhawn yma. Maen nhw wedi condemnio ac maen nhw wedi beirniadu ac maen nhw wedi cwyno am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gan honni eu bod yn cydnabod bod argyfwng iechyd y cyhoedd. Ond nid unwaith yn ystod yr oriau bellach y bûm i'n ateb cwestiynau gan Aelodau, yr wyf wedi clywed un awgrym am yr hyn y bydden nhw yn ei wneud i ymateb i'r sefyllfa sy'n ein hwynebu a byddai mwy o hygrededd yn eu cyfraniadau pe gallen nhw lwyddo i ddod o hyd i un.

Prif Weinidog, diolch ichi am y datganiad a hefyd y ffordd bwyllog a dygn yr ydych chi a'ch Cabinet yn arwain Cymru drwy'r pandemig hwn. Maen nhw'n dweud ei fod bob amser yn dywyll cyn y wawr ac rydym ni'n wynebu tymor o Adfent erbyn hyn heb ei debyg yn ystod cyfnod o heddwch. Ac fel y dywedwyd, o ddydd Gwener 4 Rhagfyr, bydd tafarndai, bwytai a chaffis Cymru yn cau erbyn 6 yr hwyr, er y gallwch chi barhau i gyfarfod. Ac yn ogystal, bydd ein sinemâu, alïau bowlio, neuaddau bingo ac amgueddfeydd ac orielau yn cau. Ond y gweithredu trwm hyn yw ymgais bellach a phriodol a chywir ac angenrheidiol Cymru i arbed marwolaethau y gellir eu hatal—bywydau go iawn o bandemig COVID-19 a dyna pam y mae angen y rheoliadau llym hyn. Heb y newidiadau hyn, Llywydd, rhagwelir y bydd rhwng 1,000 a 1,700 o farwolaethau y gellir eu hatal dros y gaeaf. Dyna'ch rhiant, eich brawd neu chwaer a dyna'ch ffrind. Ac rydym ni wedi dioddef gormod yn 2020 ac rydym ni wedi aberthu gormod—rhai, i'r eithaf—i golli ein disgyblaeth ar yr awr olaf hon.

Felly, Prif Weinidog, gan ein bod ni bellach ar fin gweld rhaglen frechu yn dechrau, a allwch chi gynnig unrhyw eiriau pellach i bobl fy etholaeth yn Islwyn ynghylch pryd a sut y mae rhaglen frechu yn debygol o gael ei chyflwyno a pham y dylai pobl Islwyn barhau i gynnal y gaer a bob un ohonom ni yn y fan yma hefyd i barhau'n bwyllog. 

Llywydd, diolch i Rhianon Passmore am hynna. Mae hi'n iawn yn ei sylw nad bywydau damcaniaethol yw'r rhain yr ydym yn sôn amdanyn nhw—maen nhw yn fywydau go iawn, maen nhw yn bobl yr ydym yn eu hadnabod, maen nhw yn bobl sy'n byw yn ein cymunedau, maen nhw yn bobl yn y teuluoedd yr ydym yn gysylltiedig â nhw. Dyna pam y mae'n rhaid i ni fod o ddifrif ynglŷn â'r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud ac yn eu trafod yma heddiw.

Fe roddaf i ddau reswm i etholwyr Rhianon Passmore: yn gyntaf oll, ar sail pedair gwlad, rydym ni wedi cytuno ar gyfnod o bum niwrnod o ymlacio dros y Nadolig. Mae'r cyngor gan gynghorwyr gwyddonol y DU ar grŵp modelu pandemig y ffliw yn dweud wrthym fod angen inni fynd i'r cyfnod hwnnw gyda chylchrediad y feirws mor isel ag y gallwn ei wneud. Fel arall, nid yn unig y gwelwn y canlyniadau yr wyf wedi'u disgrifio i Aelodau y prynhawn yma o ran yr effaith ar ein GIG a nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi, ond gwelwn gynnydd mwy fyth oherwydd mae'n anochel, pan fydd cyfyngiadau'n cael eu llacio, fod pobl yn cyfarfod â'i gilydd yn fwy a bydd y feirws yn cylchredeg hyd yn oed yn ehangach. Felly, yr angen i weithredu nawr yw er mwyn diogelu'r cyfnod yr ydym yn ei ddarparu dros y Nadolig, y gobeithiwn y bydd pobl yn ei fwynhau ac yn ei fwynhau'n gyfrifol.

Y rheswm arall yw'r rheswm y cyfeiriodd Rhianon Passmore ei hun ato: fod posibiliadau newydd yn dod i'n rhan yn y flwyddyn newydd. A rhaid i ni beidio â cholli, rhaid i ni beidio â cholli popeth yr ydym ni wedi'i wneud gyda'n gilydd nawr, ar yr adeg pan yr ydym yn dechrau gweld rhyw ffordd newydd allan o anawsterau ofnadwy eleni. Yma yng Nghymru byddwn yn barod i gyflwyno brechlyn cyn gynted ag y bydd y rheolyddion yn rhoi cymeradwyaeth iddo. Cyn gynted ag y bydd y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio yn cytuno ar restr flaenoriaethu ar gyfer darparu'r brechlyn hwnnw, mae gennym ni bethau ar waith yma yng Nghymru i fanteisio arno. Rwy'n credu y mynegodd Rhianon Passmore hynny yn dda iawn, Llywydd: 'Gadewch i ni fod yn bwyllog.' Gadewch i ni wneud y pethau yr ydym ni'n gwybod sy'n iawn i'w gwneud, oherwydd felly, rydym ni'n gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol gwahanol a gwell.

18:15

Nawr, Prif Weinidog, o ganlyniad i'ch cyfyngiadau llym ar ein tafarndai, bariau, bwytai a'n diwydiant lletygarwch, mae'n deg dweud, fe wyddoch chi o lythyrau a dderbyniwyd, fod Cynllun Gwarchod Tafarndai Gorllewin Conwy yn arfer eu hawl i beidio â chaniatáu i chi fynd i'w tafarndai. Rydych chi wedi'ch gwahardd. Ac mae dros 100 o dafarndai a 300 o fusnesau lletygarwch yn cefnogi'r ymgyrch. Yn wir, os ceisiwch fynd i mewn, byddan nhw'n nawr yn ceisio cymorth gan yr heddlu ar hyn.

Dywedoch wrth y genedl y caiff y cyfyngiadau eu cryfhau i ganolbwyntio ar fannau lle yr ydym yn cyfarfod a lle mae'r coronafeirws yn ffynnu. Ac eto, rydych chi wedi anwybyddu ystadegau sy'n profi lle mae'r coronafeirws yn ffynnu a lle nad yw'n ffynnu. Yr wythnos diwethaf, roedd gan Gymru 211.3 achos i bob 100,000 tra bo gan Sir Conwy 19.6 o achosion. Ddydd Sadwrn, roedd gan Sir Conwy gyfradd o 9.3, ac ar ddydd Sul, dim ond chwech o bob 100,000. Heddiw, does dim achosion wedi eu cofnodi. Felly, rhowch, wedi'r cyfan, y dystiolaeth i'r Siambr hon sy'n profi bod y dinistr a achosir i'n sector lletygarwch a hamdden yng Nghonwy yn deg, yn gytbwys ac yn gymesur, yr oeddwn i bob amser yn credu bod rheoliadau'n seiliedig arni.

Nawr—

Bydd yn rhaid i chi orffen yn y fan yna. Rwyf wedi bod yn hael.

Mae'r sector lletygarwch wedi gwario miloedd yn gwneud eu hunain—

Rydych chi'n parhau, Janet Finch-Saunders. Mae angen ichi orffen yn y fan yna. Diolch.

A gaf i ofyn fy nghwestiwn, os gwelwch yn dda? [Chwerthin.] Fy nghwestiwn yw—

Fy nghwestiwn i yw, ac mae'n gadarnhaol iawn: fe wnaethoch chi lwyddo i gyflwyno cyfyngiadau symud rhannol ym Mangor i daro bargen gyda Phlaid Cymru yn ystod cyfyngiadau symud yn y sir. A fyddech cystal ag ystyried edrych ar y ffigurau hynny eto? Ac mewn ardaloedd fel fy etholaeth i a'm cyd-Aelod Darren Millar—Sir Conwy—a wnewch chi edrych ar y rheini eto a gweld a allech chi, efallai, edrych ar y rheolau hynny eto a gweithio yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth yn hytrach na chymryd y ffordd hawdd o gyflwyno cyfyngiadau symud cenedlaethol? Diolch, Llywydd.

Wel, os yw'r Aelod yn credu ei bod hi'n hawdd cyflwyno cyfyngiadau cenedlaethol ledled Cymru, nid yw wedi bod yn gwrando ar y ddadl y bûm yn ymwneud â hi. Does dim byd hawdd ynghylch hyn o gwbl, gallaf ei sicrhau o hynny. Dywedais yn fy natganiad y byddwn yn adolygu'r rheoliadau erbyn 17 Rhagfyr, a phob tair wythnos ar ôl hynny.

Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw sicrhau ein bod yn amddiffyn etholwyr yr Aelod. Mae'n gwybod, oherwydd y dystiolaeth o Loegr yw nad yw cyfyngiadau haen 2 yn gweithio. Mae mor syml â hynny. Crisialwyd hynny yn dda iawn gan Hefin David yn ei gyfraniad yn gynharach y prynhawn yma. Dyna'r dystiolaeth, dyna'r wyddoniaeth. Nid yw'r hyn y mae'n gofyn imi ei wneud yn gweithio ac ni fydd yn amddiffyn ei hetholwyr. Pam ar wyneb y ddaear y byddwn i'n fodlon gwneud rhywbeth yr wyf yn gwybod, ac y mae hi'n gwybod, na fyddai'n amddiffyn pobl sy'n byw yn y rhan honno o Gymru? Ni wnaf hynny, Llywydd, ac ni wnaiff y Llywodraeth hon ychwaith.

Diolch i'r Prif Weinidog. Byddwn ni nawr yn cymryd toriad fer ar gyfer paratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:19.

18:20

Ailymgynullodd y Senedd am 18:24, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Dim ond un bleidlais y prynhawn yma, ac mae'r bleidlais honno ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, dau yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

18:25

Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru: O blaid: 48, Yn erbyn: 1, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar ein busnes am y prynhawn yma. Diolch yn fawr i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:25.