Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/11/2020

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021
4. Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020
6. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
Grŵp 1: Etholiadau llywodraeth leol (Gweliannau 84, 85, 1, 86, 87, 99, 101,102, 103,104,105, 2, 106, 62, 64, 65, 66, 67, 147, 58, 59, 60, 61, 79, 55, 56)
Grŵp 2: System bleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol (Gwelliannau 152, 88, 89, 153, 154, 90, 91, 92, 94, 93, 95, 96, , 97, 155, 98, 156, 100, 157, 145, 176, 146, 63, 177, 83, 151, 148, 168, 137, 169, 170, 171, 144)
Grŵp 3: Safonau’r Gymraeg (Gwelliannau 158, 159, 165, 166)
Grŵp 4: Pŵer cymhwysedd cyffredinol (Gwelliannau 107, 3, 108, 109, 110, 68, 74, 69)
Grŵp 5: Cyfranogiad y cyhoedd (Gwelliannau 111, 112, 113, 114, 115, 116, 117)
Grŵp 6: Cyfarfodydd awdurdodau lleol (Gwelliannau 6, 7, 8, 9, 10, 77, 12, 13, 14, 15, 118, 16, 17, 18, 70, 4, 5, 50, 51, 52, 72, 53)
Grŵp 7: Aelodau a swyddogion awdurdodau lleol (Gwelliannau 119, 80, 75)
Grŵp 8: Cydraddoldeb ac amrywiaeth a rhannu swydd (Gwelliannau 161, 178, 179, 162, 163, 160, 172, 174)
Grŵp 9: Cyd-bwyllgorau corfforedig—pan na fo cais wedi ei wneud (Gwelliannau 164, 120, 121, 122, 125, 126, 167, 127, 128, 129, 130, 131, 133, 135, 173, 175)
Grŵp 10: Cyd-bwyllgorau corfforedig—gofynion eraill (Gwelliannau 19, 123, 124, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 132, 134, 149, 76, 150)
Grŵp 11: Perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu (Gwelliannau 136, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 81, 82)
Grŵp 12: Ailstrwythuro awdurdodau lleol (Gwelliannau 138, 139, 140, 39, 141, 71, 40, 41, 42, 43, 44, 73, 78)
Grŵp 13: Rhan 9—amrywiol (Gwelliannau 45, 46, 47, 54)
Grŵp 14: Awdurdodau tân ac achub (Gwelliannau 142, 48, 49, 57)
Grŵp 15: Iawndal i brif gynghorau (Gwelliant 143)

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn a, chyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Gyda hynny, felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. 

Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wleidyddiaeth

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth yng Nghymru? OQ55848

Llywydd, diolchaf i Delyth Jewell am y cwestiwn yna. Ni fu cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddemocratiaeth yng Nghymru, a ledled y byd, erioed yn bwysicach. Rwyf i wedi ysgrifennu heddiw at y darpar Arlywydd Biden i'w longyfarch ar ei fuddugoliaeth yn etholiadau yr wythnos diwethaf yn yr Unol Daleithiau. Mae'r broses gwneud penderfyniadau yn y Senedd hon yn ystod argyfwng coronafeirws wedi dangos arwyddocâd gwleidyddiaeth ym mywydau pawb mewn ffordd ddigynsail.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr, fel y mae newydd ei ddweud, ei fod wedi bod yn dilyn nid yn unig canlyniad etholiad yr Unol Daleithiau, ond y sylw diddorol sydd wedi bod iddo yn y cyfryngau. Rwyf i wrth fy modd â buddugoliaeth y Democratiaid yn erbyn Llywydd gwaethaf yr Unol Daleithiau mewn hanes, yn ôl pob tebyg, ac rwy'n falch bod y Prif Weinidog wedi ymuno â mi i longyfarch Joe Biden a Kamala Harris ar eu buddugoliaeth. Ond mae'r sylw manwl hwnnw yn gwrthgyferbynnu â'r sefyllfa yng Nghymru, lle mae'n rhaid i bobl fynd allan o'u ffordd i ganfod ffeithiau. Mae astudiaeth Prifysgol Caerdydd o etholiad Cymru yn 2016 yn cynnig darlun llwm o ddealltwriaeth wleidyddol o etholiadau'r Senedd. Mae'r canfyddiadau yn cynnwys nad oedd hanner y boblogaeth yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am iechyd ac addysg, ac roedd 40 y cant yn credu mai Plaid Cymru oedd y blaid mewn Llywodraeth rhwng 2011 a 2016. Nawr, rydym ni'n gwybod y rheswm am hyn—mae'r rhan fwyaf o ddinasyddion Cymru yn cael eu newyddion gan gyfryngau yn Llundain. Mae'r un astudiaeth yn dangos mai dim ond 6 y cant o bleidleiswyr Cymru sy'n darllen papurau Cymru. Mae'n 46 y cant yn yr Alban. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i am y ffigurau hyn, ac a yw'n cytuno nad bai dinasyddion Cymru yw hyn, ond yn hytrach eu bod nhw'n cael eu siomi gan sefyllfa bresennol y cyfryngau, ac, os felly, a fyddai'n fodlon gweithio yn drawsbleidiol i archwilio ffyrdd o hysbysu'r cyhoedd yn briodol cyn etholiad y flwyddyn nesaf?

Llywydd, diolchaf i Delyth Jewell am y cwestiynau atodol yna. Rwy'n cytuno â hi mai gwendid cyfryngau Cymru erioed fu her o ran cyfleu arwyddocâd datganoli yma yng Nghymru, ac mae hynny yn gwrthgyferbynnu'n sylweddol â'r sefyllfa yn yr Alban, er enghraifft, lle mae dinasyddion yr Alban yn llawer mwy tebygol o gael eu newyddion o ffynhonnell yn yr Alban, yn hytrach na dibynnu ar ffynonellau y tu hwnt i'r Alban, fel y mae gennym ni gynifer o ddinasyddion yn dibynnu ar ffynonellau y tu hwnt i Gymru. Rwy'n credu bod profiad eleni wedi cael effaith sylweddol, fodd bynnag, ar gydnabyddiaeth pobl yng Nghymru o'r ffaith bod datganoli, a'r Senedd hon, yn gyfrifol am gynifer o agweddau ar eu bywydau sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth dros y misoedd hyn.

Rwy'n hapus iawn i ymrwymo i weithio gydag eraill i godi ymwybyddiaeth o'r etholiadau sydd ar ddod yma yng Nghymru ac o ddemocratiaeth Cymru. Yn gynharach yn nhymor y Senedd hon, Llywydd, yn rhan o gytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, daethpwyd o hyd i rywfaint o arian ar gyfer cyfryngau hyperleol yma yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod yn arwyddocaol yn ystod yr argyfwng pandemig hwn hefyd.

Diolch am eich ateb i Delyth Jewell, Prif Weinidog, ond, wrth gwrs, dim ond rhan o'r ateb yw'r cyfryngau. Mae addysg yn chwarae rhan hanfodol, a chyda'r etholfraint yn cael ei hymestyn i gynnwys pobl ifanc 16 oed yn etholiad cyffredinol nesaf Cymru, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn cael golwg wrthrychol, deg a chytbwys ar y rhan bwysig y mae gwleidyddiaeth yn ei chwarae ym mywydau pob un ohonyn nhw. Mae'r cwricwlwm newydd yn datgan mai un o'i ddibenion craidd yw sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu dod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru, ond mae wedi methu â chynnwys dysgu am wleidyddiaeth yn rhan orfodol o hyn. Mae gwleidyddiaeth yn fwy na dim ond rhoi croes yn y blwch, ond deall pa newid y gall y groes honno ei gyflawni. A wnewch chi addo edrych eto ar yr alwad, a gefnogir gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, i ymgorffori addysg wleidyddol yn y cwricwlwm, er mwyn sicrhau bod Cymru yn gallu gwireddu yn llawn ei nod o rymuso ein pobl ifanc gyda'r wybodaeth wrth iddyn nhw ddechrau ar eu bywydau fel oedolion?

13:35

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno ag Angela Burns ynglŷn â phwysigrwydd addysg o ran pobl ifanc 16 a 17 oed. Dyma un o'r rhesymau pam y cefais fy nenu at gefnogi'r cynnig hwnnw, gan y bydd pobl ifanc yn dal i fod mewn addysg orfodol ac yn cael cyfle i ddod y dinasyddion â gwybodaeth foesegol hynny o Gymru a'r byd mewn ffordd nad yw'n bosibl i lawer o bobl ifanc pan yr oedden nhw eisoes wedi gadael yr ysgol cyn cyrraedd 18 oed. Ond nid wyf i'n cytuno â'r Aelod nad yw paratoi yn bosibl o fewn y cwricwlwm newydd. Bydd maes y dyniaethau o ddysgu a phrofiad yn cyflawni yn union yr hyn y mae hi'n chwilio amdano, heb orlwytho'r cwricwlwm gyda maes penodol arall ar ei ben ei hun. Rwyf i wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau yn y Siambr hon yr wyf i wedi clywed areithiau gan Aelodau yn dadlau dros nodi rhyw fath o arbenigedd penodol ar wahân o fewn y cwricwlwm. Ac mae'n rhaid i holl ddiben ein diwygio olygu peidio â bwrw ymlaen yn y modd hwnnw; y nod fu darparu meysydd eang, ac yna rhoi'r cyfrifoldeb i'r rhai hynny yn yr ystafell ddosbarth, sy'n adnabod eu disgyblion orau, sy'n deall y cyd-destun y maen nhw'n darparu'r cwricwlwm ynddo. A byddan nhw'n gwneud yr hyn y mae Angela Burns wedi ei ofyn, rwy'n siŵr, wrth baratoi ein pobl ifanc i gymryd rhan yn nemocratiaeth Cymru. Ddydd Iau diwethaf, Llywydd, aeth comisiwn Llywodraeth Cymru i adnoddau addysgol, cyn etholiadau mis Mai nesaf, yn fyw, wedi'i gynnal ar blatfform Hwb, ac mae ar gael i ysgolion ym mhob rhan o Gymru.

Fel chithau, Prif Weinidog, roeddwn i wrth fy modd o weld y darpar Arlywydd Biden yn ennill yr etholiad yr wythnos diwethaf. Cefais fy synnu o ddarganfod, felly, cyn ymuno â'r cyfarfod heddiw, ei fod mewn gwirionedd wedi colli'r etholiad yr wythnos diwethaf ac nad yw'n ddarpar Arlywydd bellach. Cefais y newyddion hwn gan wefan Americanaidd, y gwiriwyd ei ffeithiau gan wefan arall, ac a gefnogwyd gan wefan newyddion wahanol. Mae'r holl eitemau newyddion hynny, wrth gwrs, yn ffug ac yn gelwydd ac yn anghywir a nid hysbysu yw eu nod, ond camhysbysu a chamarwain. Ac un o'm pryderon mawr—ac mae gennym ni etholiad ein hunain ymhen chwe mis—yw bod y ddealltwriaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru yn cael ei thanseilio gan arian tywyll, gan sefydliadau cyfryngau a ariennir o dramor, sy'n ceisio amharu ar ein gwleidyddiaeth a'i thanseilio. Gwelsom hyn yn ystod refferendwm Brexit, rydym ni wedi ei weld dro ar ôl tro ers hynny, ac rydym ni wedi ei weld yn yr Unol Daleithiau heddiw. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, os ydym ni'n mynd i sicrhau bod gan bobl ddealltwriaeth briodol a theg o wleidyddiaeth a materion cyfoes yng Nghymru, nid yn unig y mae angen i ni wneud yr holl bethau yr ydych chi eisoes wedi eu dadlau a'u trafod, ond mae angen i ni hefyd reoleiddio'r broses o ariannu gwleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig a rheoleiddio'r cyfryngau cymdeithasol?

Wel, Lywydd, rwy'n sicr yn rhannu pryderon Alun Davies ynghylch y ffordd y mae cyfryngau cymdeithasol modern, sydd ar y cyfan o fantais enfawr i ni, ond serch hynny, yn amlygu ein democratiaeth i ymosodiadau gan bobl nad oes ganddyn nhw ddiddordeb am eiliad mewn gwneud yn siŵr ein bod ni wedi hysbysu pobl ifanc yn foesegol, gyda dealltwriaeth o ddemocratiaeth Cymru, a diddordeb ynddi ac ymgysylltiad â hi, ond sydd yn hytrach yn hysbysebu neges benodol a sinistr iawn am y ffordd y gall Llywodraeth chwarae rhan yn eu bywydau a gallan nhw eu hunain gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Ac nid ydym ni'n ddiogel rhag hynny yma yng Nghymru, fel y gwn fod Alun Davies ei hun wedi gwneud pwynt arbennig o dynnu sylw pobl ato. Mae'r grymoedd hynny yn gweithredu yng Nghymru, yn yr un modd a phob man arall, a byddan nhw yn chwarae eu rhan, os byddwn ni'n caniatáu iddyn nhw wneud hynny, yn ein hetholiadau ein hunain ym mis Mai, a dyna pam y gwnaed y galwadau gan Alun Davies ar ddiwedd ei gyfraniad i wneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i reoleiddio'r rhan hon o'r byd yn briodol, ac nad ydym ni'n caniatáu i'n gwleidyddiaeth gael ei heintio gan arian o fannau eraill yn y byd nad oes ganddo'r nod o hysbysu nac addysgu, ond i gamarwain a pherswadio pobl bod pethau y maen nhw'n eu hofni yn eu bywydau yn wahanol iawn i'r realiti yr ydym ni'n ei ddeall.

13:40
Cyfyngiadau'r Coronafeirws yng Nghaerffili

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lacio cyfyngiadau'r coronafeirws yng Nghaerffili? OQ55845

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. O 9 Tachwedd, bydd dinasyddion Caerffili yn helpu i ymdrin â coronafeirws trwy gyfres newydd o reolau cenedlaethol. Ni ofynnwyd mwy gan bobl mewn unrhyw fan yng Nghymru nag yng Nghaerffili, a diolchaf i bawb sydd wedi gwneud cymaint o ymdrech i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel ac yn iach.

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog unwaith eto am gydnabod yr ymdrechion yr ydym ni wedi eu gwneud, yn hwy na neb arall yng Nghymru, yng Nghaerffili, a gwnaed llawer iawn o gynnydd gennym ni yn gynnar o ran atal twf y feirws yn ein cymunedau. Mae llawer o bobl yn anfon negeseuon e-bost ataf i nawr ac yn gofyn cwestiynau am frechlyn. Clywsom newyddion ddoe am gynnydd a wnaed gan Pfizer a brechlyn posibl. Rwyf i o'r farn bod angen i ni drin y cyhoeddiad hwn gyda gofal, ac mae'n rhaid i ni bwysleisio'r ffaith bod yn rhaid i bobl barhau i gadw at y cyfyngiadau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith er mwyn diogelu'r GIG ac achub bywydau. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa gynlluniau sydd ganddo i baratoi Cymru ar gyfer brechlyn posibl? Pa gyfathrebiad y mae wedi ei gael gyda Llywodraeth y DU, a sut y gallai hyn ein helpu, gyda'r ymataliad gofalus hwnnw ar waith, yn y dyfodol?

Diolchaf i Hefin David am hynna, Llywydd. A gadewch i mi ddechrau drwy gysylltu fy hun â'i sylwadau agoriadol. Rwy'n credu bod llawer i bryderu yn ei gylch o ran y ffordd fuddugoliaethus y mae rhai rhannau o'r wasg adain dde yn y Deyrnas Unedig wedi adrodd am gyhoeddiad Pfizer. Wrth gwrs, mae i'w groesawu bod cam 3 eu treial wedi bod yn llwyddiant, ond nid dyna ddiwedd y stori o gwbl. Mae camau pellach pwysig iawn y mae'n rhaid eu cymryd cyn y gallai'r brechlyn hwnnw, neu unrhyw un o'r 11 brechlyn arall sy'n destun treialon cam 3, gael eu rhyddhau yn y pen draw, ac rwyf i'n wirioneddol benderfynol nad yw pobl yng Nghymru yn cymryd y neges anghywir o'r hyn a oedd yn cael ei ddweud ddoe. Byddwn yn ymladd coronafeirws gyda'r arfau presennol sydd ar gael i ni am fisoedd lawer i ddod, ac, er ein bod ni'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd brechlyn ar gael, mae angen i ni fod yn ofalus yn y ffordd yr ydym ni'n mynd ati a pheidio â pherswadio pobl i ymddwyn fel pe byddai coronafeirws ar ben a bod cymorth ar fin cyrraedd. Nid yw'n mynd i fod felly o gwbl.

Yn y cyfamser, mae gennym ni gytundeb â Llywodraeth y DU. Roedd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, mewn cyfarfod gyda Gweinidogion iechyd eraill ledled y Deyrnas Unedig, ddydd Iau yr wythnos diwethaf, yn cytuno ar gyfres drwyadl o fesurau. Byddwn yn cael ein cyfran boblogaeth o unrhyw frechlyn pan fydd wedi'i gymeradwyo yn briodol ac ar gael. Bydd y gwaith o gynllunio ar gyfer ei storio a'i ddosbarthu yn nwylo Llywodraeth Cymru ac, o ran brechlyn Pfizer, mae hwnnw'n gyfrifoldeb arbennig o bwysig gan fod hwn yn frechlyn y gellir ei storio yn briodol dim ond ar dymheredd isel dros ben, yn wahanol iawn i'r ffordd y bydd y rhai sydd wedi bod i gael eu brechiad rhag y ffliw mewn meddygfa deulu yn ei weld yn cael ei storio mewn oergell gyffredin ac yn gwbl ddiogel yn y modd hwnnw. Nid yw brechlyn Pfizer yn ddim byd tebyg i hynny o gwbl, ac mae'r materion logistaidd y bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt yn real iawn, ond maen nhw wedi bod yn cael eu paratoi ers misoedd lawer, a phan fyddwn ni'n cyrraedd pwynt lle ceir brechlyn sy'n wirioneddol ddiogel a'i fod yn hysbys bod hynny'n wir ac i'w ddefnyddio yn y boblogaeth, yna byddwn wedi paratoi ac yn barod i wneud hynny yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, ydy, mae hynny'n newyddion i'w groesawu'n fawr am y brechlyn, ond, fel y dywedwch, mae angen i bobl barhau i ymddwyn yn ddoeth, ac mae'n amlwg mai diogelwch sy'n dod gyntaf. Ond mae gen i gwestiwn i chi na wnes i ei wneud mor eglur ag y dylwn fod wedi ei wneud yr wythnos diwethaf, mae'n debyg, ac mae hwnnw yn ymwneud â phêl-droed. Felly, mae'n effeithio ar glybiau sydd wedi cysylltu â mi o Gaerffili, Dwyrain De Cymru ac, wrth gwrs, mae'n effeithio ar Gymru gyfan. O ran y rheol o gael 30 yn yr awyr agored ar ôl y cyfnod atal byr, mae'n amlwg—rwy'n gefnogwr pêl-droed, felly rwy'n gwybod—11 bob ochr mewn gêm bêl-droed. Ond yn y rheol o 30, mae gennych chi 11 bob ochr os yw timau pêl-droed eisiau chwarae yn erbyn ei gilydd, un eilydd bob un, un rheolwr ac un hyfforddwr, ac yna mae digon o le i ddyfarnwr a swyddog cymorth cyntaf. Nid oes lle i lumanwyr ac, yn amlwg, nid oes lle i ragor o eilyddion. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed, Prif Weinidog, gan fod hynny yn iawn ar gyfer ymarfer, ac mae'n iawn, mewn ffordd, ar gyfer gemau cyfeillgar, ond yn dipyn o straen gyda dim ond un eilydd, os yw ein clybiau yn mynd i ddechrau eu tymor—maen nhw wedi dechrau arno yn Lloegr, dim ond ar seibiant maen nhw—os ydyn nhw'n mynd i ddechrau ar eu tymhorau yma yng Nghymru, sut ydych chi'n cynnig eu bod nhw'n gwneud hynny os yw'r rheol o 30 yn amlwg yn golygu y cawn nhw gael y bobl hynny ar y maes yn unig, ond ni allan nhw gael y llumanwyr a phopeth o'r math hwnnw? A fydd rhyw fath o hyblygrwydd i sicrhau y cawn nhw ddechrau eu tymor? Tybed a allech chi ei egluro ychydig yn fwy i mi, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog, neu ymchwilio i'r mater. Diolch.

13:45

Wel, Llywydd, rwy'n deall y cyfyngiadau sy'n bodoli pan fydd gennych chi uchafrif o bobl sy'n cael cymryd rhan mewn digwyddiad wedi'i drefnu yn yr awyr agored, ond mae'r rheolau yno am reswm. Y bygythiad mwyaf yr ydym ni i gyd yn ei wynebu yw ailymddangosiad coronafeirws, a bwriad y nifer o 30 yw ceisio cyfyngu'r risgiau sy'n dod gyda phobl yn cyfarfod mewn unrhyw gyd-destun yn yr awyr agored. Ac er ei fod yn her, ac rwy'n deall pam mae'r cyfyngiadau hyn yn real i bobl y mae'n rhaid iddyn nhw drefnu'r gweithgareddau hynny—maen nhw yno am reswm da a phwysig iawn, a dim ond pan fyddwn ni'n fwy ffyddiog ein bod ni'n atal y feirws yma yng Nghymru mewn gwirionedd y bydd modd cynnig unrhyw hyblygrwydd pellach.

Nawr, rydym ni'n parhau i drafod y pethau hyn drwy'r amser gyda'r cyrff llywodraethu, ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at yr adeg pan fyddwn ni'n gallu cynnig mwy i bobl sy'n rhoi o'u hamser, yn rhoi eu hymrwymiad i drefnu timau a gwneud yn siŵr y caiff pobl ifanc yn arbennig gymryd rhan ynddyn nhw. Ond nid ydym wedi cyrraedd yr adeg honno. Rydym ni ar adeg pan fo gennym ni fwy o bobl o hyd yn ein hysbytai heddiw a mwy o bobl mewn gofal critigol nag oedd gennym ni yn ôl ym mis Mai eleni. Felly, tan ein bod ni wedi cyrraedd yr adeg honno pan fo pethau yn gwella ac yn gwella'n sylweddol, rydym ni wedi cynllunio'r system mewn modd cystal ag y gallwn ni ac mae'n rhaid i ni ofyn i bobl allu gweithredu yn unol â hi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, byddwn ni i gyd, wrth gwrs, yn naturiol, wedi ein calonogi gan y llygedyn o obaith a welsom ddoe, ond, fel yr ydych chi'n dweud eich hun, ni ddylid ystyried brechlyn fel bwled arian, yn sicr yng nghyfnod hwn y pandemig. Ond serch hynny, roedd y newyddion, rwy'n credu, o bosibl yn leinin arian i'r hyn sydd wedi bod yn flwyddyn dywyll ac anodd hyd yn hyn. A allwch chi ddweud ychydig mwy am y cynlluniau y cyfeiriasoch chi atyn nhw yn eich ateb yn gynharach? A ydych chi'n bwriadu, ar sail wrth gefn o leiaf, os caiff y cymeradwyaethau angenrheidiol eu rhoi, neu a oes potensial i gyflwyno'r brechlyn fis nesaf i gychwyn? Ac a allwch chi ddweud ychydig mwy am y cynlluniau logistaidd y cyfeiriasoch atyn nhw? Felly, a ydych o bosibl yn edrych ar rwydwaith o ganolfannau imiwneiddio torfol, canolfannau gyrru drwodd a awgrymwyd, timau imiwneiddio symudol o bosibl a chyfleusterau dros dro mewn meddygfeydd teulu? Pwy sy'n cydgysylltu ac yn arwain yr ymdrech hon ar draws y Llywodraeth? Ac o ran y cwestiwn oergelloedd y cyfeiriasoch ato, wrth gwrs, cafwyd trafodaeth am gapasiti oergelloedd o ran Brexit 'dim cytundeb' a meddyginiaethau flwyddyn yn ôl, ac efallai ein bod ni yn y sefyllfa honno unwaith eto. A ydych chi'n fodlon bod y capasiti gennym ni yn y gadwyn oer i ymdrin â'r feirws, o bosibl?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig yna? Rwy'n credu bod ei ddisgrifiad ohono fel llygedyn o obaith yn un da, gan fy mod i'n credu mai dyna ydyw. Mae yn obeithiol ac mae angen ychydig o obaith arnom ni yn y cyfnod anodd hwn, ond mae'n rhaid i ni beidio â'i orliwio ychwaith. Swyddfa'r prif swyddog meddygol yng Nghymru sy'n gyfrifol am gynllunio ar gyfer unrhyw frechlyn a fydd yn dod ar gael i ni. Roedd y prif swyddog meddygol yn rhan o hyn mor bell yn ôl â mis Mehefin, ac roedd yn gohebu â'n byrddau iechyd ym mis Gorffennaf i wneud yn siŵr bod cynlluniau ar waith.

O ran y mater o storio, Llywydd, rwy'n credu mai ein disgwyliad ar hyn o bryd os mai brechlyn Pfizer fyddai ar gael yn gyntaf, gyda'r angen i'w storio islaw -75 gradd canradd, yna byddem ni'n defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael i Wasanaeth Gwaed Cymru, sydd â chyfleusterau ac mewn gwahanol rannau o Gymru sy'n gallu cadw pethau yn oer ar y tymheredd hwnnw. Ond ceir cymhlethdodau. Fy nealltwriaeth i o'r brechlyn hwn yw mai dim ond ar bedwar achlysur y gellir ei dynnu allan o'r oergell cyn nad oes modd ei ddefnyddio mwyach. Felly, ceir rhai cyfyngiadau gwirioneddol yn gysylltiedig ag ef. Mae'n rhaid ei roi ddwywaith, fel y gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, bob tair wythnos, ac nid yw'n dod yn effeithiol tan yr wythnos gyntaf ar ôl rhoi ail ddos y brechlyn. Felly, dyna gyfres arall o gymhlethdodau anodd. Nid ydym ni'n gwybod eto pa un a fydd yn effeithiol ai peidio mewn pobl hŷn, ac mae honno yn her arbennig ar hyn o bryd gan mai cynllun Cymru, sy'n debyg iawn i gynlluniau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yw dechrau gyda grwpiau blaenoriaeth a dechrau gyda staff blaenoriaeth sy'n gallu rhoi'r brechlyn. Felly, ein bwriad yw y byddem ni'n dechrau gyda brechwyr profiadol, pobl sy'n gwneud hyn drwy'r amser, ac yna byddem ni'n ehangu y tu hwnt i hynny. Felly, mae hynny o ran darparu'r brechlyn.

O ran pwy fydd yn cael y brechlyn, tan y byddwn ni'n sicr—yn fwy sicr nag yr ydym ni ar hyn o bryd—ynghylch pa grwpiau yn y boblogaeth y bydd y brechlyn penodol hwn yn effeithiol ar eu cyfer, yna rydym ni'n debygol o ddechrau gyda staff gofal iechyd, staff gofal cymdeithasol, i wneud yn siŵr bod gweithwyr rheng flaen sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl â coronafeirws yn cael eu brechu, ac yna, os yw'n effeithiol mewn pobl hŷn, yna preswylwyr cartrefi gofal a phobl yn ddiweddarach yn eu bywydau fydd yn cael y flaenoriaeth nesaf. Felly, system flaenoriaeth yw hi; bydd yn dibynnu ar ba mor gyflym y bydd y brechlyn ar gael. Byddwn yn cael cyfran boblogaeth ohono yma yng Nghymru, ond ceir llawer o gwestiynau na fyddwn ni'n gwybod yr atebion iddyn nhw eto, ac wrth i'r atebion hynny ddod i'r amlwg, byddwn yn gallu cadarnhau'r rhaglen a fydd gennym ni ar gyfer darparu'r brechlyn i'r rhai sydd ei angen fwyaf yn gyntaf. 

13:50

Diolch. Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud ei bod wedi cytuno i'w chwota brechlynnau, os hoffech chi, gael ei bennu ar sail cyfran boblogaeth gan mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng hynny a chyfrifo ar sail rhywbeth sy'n debycach i fformiwla yn seiliedig ar anghenion. Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol, Prif Weinidog, bod Cymru, yng nghyd-destun COVID, yn fwy agored i niwed gan ei bod hi'n hŷn, yn fwy sâl ac yn dlotach na'r cyfartaledd. Felly, a fyddwch chi'n dadlau'r achos i'n dyraniad adlewyrchu cyfran fwy na chyfran poblogaeth ar y sail hon?

Ac o ran y mater blaenoriaethu yr ydych chi newydd gyfeirio ato a'r drefn flaenoriaethu dros dro a nodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ar 25 Medi, y dywedasoch y byddem ni'n ei dilyn yn fras, a ydych chi wedi ystyried dulliau eraill o flaenoriaethu, er enghraifft offeryn rhagfynegi risg Rhydychen, sy'n trefnu'r boblogaeth yn ôl rhestr ehangach o ffactorau risg? Yn arbennig, a fyddwch chi'n rhoi blaenoriaeth i gyflwyno'r brechlyn mewn cymunedau y mae'n amlwg eu bod yn fwy tebygol o gael eu heintio, yn bennaf ar gyfer ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol uchel, y cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac ardaloedd â lefelau uwch o haint?

Llywydd, oherwydd y cyflymder y bydd angen i ni symud yn y lle cyntaf, rydym ni wedi cytuno ar gyfran poblogaeth i Gymru. Nid yw hynny'n golygu na allwn ni ddychwelyd at hynny, ond yn y lle cyntaf, bydd cael ein cyfran poblogaeth yn ein galluogi i roi'r rhaglen ar waith ac rydym ni'n debygol o gael ein harwain yn y lle cyntaf hefyd gan gyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, y mae gennym ni hanes maith o ymgysylltu ag ef ac sy'n deall rhai o'r heriau penodol sy'n ein hwynebu o ran poblogaeth Cymru. Fodd bynnag, nid oes dim o hynny yn golygu, ar ôl i ni roi'r rhaglen frechu hon ar waith, na allwn ni ei mireinio, trwy geisio gweld a oes gennym ni ddadl dros gael mwy o frechlynnau i Gymru a thrwy wneud yn siŵr bod y blaenoriaethu yr ydym ni'n ei gytuno yn cael ei fireinio yn fanwl i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru. Ac rwy'n cytuno, wrth gwrs, gydag Adam Price bod grwpiau penodol yn y boblogaeth—y gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn sicr—sy'n fwy agored i niwed o ran y feirws hwn ac felly, mewn system flaenoriaethu, byddech chi'n dymuno rhoi rhywfaint o sylw priodol i hynny.

13:55

Tra ein bod ni'n aros am i frechlyn effeithiol gael ei gyflwyno, mae dulliau eraill o osgoi gorddibyniaeth ar gyfyngiadau symud fel prif arf polisi yn bwysig, wrth gwrs, a dyna pam mae'r rhaglen profi torfol sy'n cael ei threialu yn Lerpwl a'r enghraifft a gawsom yn Slofacia yn bwysig. Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos mai 300 o bob 100,000 o'r boblogaeth yw'r gyfradd wythnosol o COVID yn Lerpwl. Mae'r ffigurau cyfatebol ar gyfer Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent i gyd yn uwch na 400 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth. Gan gofio cyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y dylai profion torfol ategu yn hytrach na disodli tracio ac olrhain, onid oes dadl gymhellol dros gyflwyno rhaglen profi torfol debyg ar frys yn yr ardaloedd hyn yng Nghymru? Darllenais heddiw fod Lloegr yn sôn y bydd 66 o awdurdodau lleol yn rhan o don nesaf y rhaglen profi torfol. A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, pa un a yw Llywodraeth Cymru yn cynllunio yn weithredol rhaglen debyg yn yr ardaloedd hyn yng Nghymru ac i wneud hynny ar raddfa fawr ac yn gyflym?

Llywydd, mae'n bosibl y bydd gan brofion torfol ran bwysig iawn i'w chwarae. Byddwn yn dysgu llawer iawn o arbrawf Lerpwl. Nid yw'n syml. Os byddwch chi'n dewis profi'r boblogaeth gyfan, rydych chi'n gwneud hynny ar sail wirfoddol. Mae materion logistaidd sylweddol iawn i'w hystyried, a dim ond un rhan ohono yw'r profion, oherwydd mae'n rhaid i chi gael popeth ar waith i ymdrin â'r nifer ychwanegol o bobl y byddwch chi'n sicr o ddarganfod eu bod nhw'n bositif gyda coronafeirws os byddwch chi'n profi yn y ffordd honno.

Rydym ni yn ymgysylltu â chynllun arbrofol Lerpwl. Rydym ni'n cynllunio yn bwrpasol ar gyfer y ffordd y gallem ni ddefnyddio 'profion tref gyfan' poblogaeth dorfol, fel y'i gelwir, yma yng Nghymru. A thrwy ddysgu o'r gwersi cynnar iawn sy'n dod i'r amlwg eisoes o brofiad Lerpwl, rwy'n credu y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â dull tref gyfan o brofi mewn ffordd a fydd yn fwy effeithiol ar unwaith, ac rwyf i eisiau gwneud yn siŵr, pan ddaw'r adeg briodol, ein bod ni'n gallu gwneud hynny yma yng Nghymru. Rydym ni wedi gwneud yr holl waith paratoi fel ei fod yn cyflawni ar gyfer y boblogaeth leol honno.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, byddwch wedi gweld y pryderon sydd gan rai arbenigwyr iechyd, ac sy'n peri gofid mawr, y gallai cynifer â 2,000 o bobl yng Nghymru farw o ganlyniad i oedi yn gysylltiedig â COVID. Mae'r Athro Tom Crosby o Rwydwaith Canser Cymru wedi dweud ei fod yn ofni bod tswnami digynsail o alw am wasanaethau canser ar y ffordd. Pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn sy'n peri gofid mawr?

Yn amlwg, Llywydd, mae'r camau mwyaf brys yr ydym ni'n eu cymryd ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud i wrthdroi llanw coronafeirws, oherwydd mae'r bygythiad mwyaf i driniaethau ar gyfer cyflyrau ac eithrio coronafeirws yn deillio o'r ffaith nad yw'r capasiti gan ein GIG i allu parhau i gynnig y triniaethau hynny, ac rydym ni'n dal yn rhy agos o lawer at y sefyllfa honno yng Nghymru heddiw. Rydym ni'n gobeithio y bydd y cyfnod atal byr wedi rhoi'r cyfle i ni barhau yn y GIG yng Nghymru i ddarparu gofal canser, i ddarparu gofal coronaidd, i ddarparu gofal strôc, a'r holl bethau pwysig eraill hynny y mae'r GIG yn eu gwneud, ond y camau pwysicaf y gallwn ni eu cymryd, a'r camau pwysicaf y gall pob un dinesydd yng Nghymru eu cymryd, yw gwneud popeth i wrthdroi llanw coronafeirws, oherwydd bydd hynny yn golygu y bydd ein gwasanaeth iechyd yn gallu parhau i wneud y pethau eraill hynny a gwneud hynny yn gynyddol, gan ei fod wedi cynyddu ei gapasiti i wneud hynny ers mis Ebrill eleni.

Wrth gwrs, ac rwy'n cytuno yn llwyr â'r Prif Weinidog. Mae'n rhaid i ni roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r feirws hwn, ond, wrth gwrs, mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd y gall llawdriniaethau a gwasanaethau rheolaidd barhau, oherwydd mae ffigurau heddiw wedi dangos bod oddeutu 49,000 o gleifion ym mis Medi wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG yng Nghymru, ac mae hynny yn gynnydd o ddeg gwaith cymaint ar gyfer pob triniaeth o'i gymharu â mis Medi y llynedd—49,000 o bobl, â llawer o bobl ledled y wlad yn byw mewn poen ac anesmwythder yn aros am driniaeth. Ac mae'r un ffigurau hynny yn dangos bod 18,000 o bobl yn aros am ryw fath o driniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—bwrdd iechyd, wrth gwrs, sydd o dan eich rheolaeth chi yn uniongyrchol. Nawr, mae'r Gweinidog iechyd ei hun wedi cyfaddef y bydd canlyniadau gwaeth o ganlyniad, mwy o bobl gydag anabledd y gellid ei osgoi a mwy o bobl o bosibl yn colli eu bywydau gyda gofal nad yw'n ofal COVID. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda byrddau iechyd ledled Cymru ynghylch rheoli'r amseroedd aros hyn, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar GIG Cymru yn y tymor canolig a'r tymor hwy? Ac o ystyried natur frys y mater hwn, a wnewch chi roi ystyriaeth ddifrifol nawr i sefydlu ysbytai di-COVID ledled Cymru efallai, fel y gallwn ni ddechrau mynd i'r afael â'r ffigurau hyn sy'n peri pryder?

14:00

Wel, Llywydd, wrth gwrs rydym ni'n trafod y pethau hyn drwy'r amser gyda'n byrddau iechyd lleol. Bydd yr Aelod yn gweld yn eu cynlluniau chwarter 3 a chwarter 4 yr holl gamau y maen nhw'n eu cymryd i geisio darparu ar gyfer gofal nad yw'n ofal coronafeirws gan ymdrin ag effaith y pandemig byd-eang. Yr hyn y mae byrddau iechyd yn ei ddweud wrthym ni yw bod eu staff wedi blino'n lân yn sgil profiad eleni, a'n bod ni'n mynd i ofyn iddyn nhw eto y gaeaf hwn ymdopi nid yn unig â thros 1,000—wel, dros 1,400—o gleifion sydd mewn gwelyau yn ysbytai Cymru erbyn hyn yn dioddef o coronafeirws, ond rydym ni'n mynd i ofyn iddyn nhw wneud yr holl bethau eraill hynny hefyd. Ac mae ein byrddau iechyd yn adrodd, fel y mae sefydliadau fel y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol ac yn y blaen, pryderon gwirioneddol am gydnerthedd ein gweithlu ym mhopeth yr ydym ni'n ei ofyn ganddyn nhw, a llawer o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gofalu am y staff hynny fel y gallan nhw barhau i wneud yr holl bethau y mae Paul Davies wedi eu hawgrymu.

Mae'r syniad o ysbytai di-goronafeirws yng Nghymru yn un anodd, rwy'n credu. Mae'n well gan ein byrddau iechyd gael parthau gwyrdd a pharthau coch y tu mewn i ysbytai presennol. Fe roddaf yr enghraifft iddo y bydd yn ei hadnabod orau. Beth yr hoffai ef i Lwynhelyg fod—ysbyty wedi ei neilltuo ar gyfer coronafeirws yn unig, fel bod unrhyw un â coronafeirws yn mynd i Lwynhelyg, neu fod yn rhaid i unrhyw un yn ardal Llwynhelyg sydd â coronafeirws fynd i rywle arall i dderbyn eu gofal, gan fod Llwynhelyg wedi troi'n ysbyty di-COVID? Ac mae hwnnw yn fater anodd, fel y bydd e'n cydnabod, ym mhob rhan o Gymru, onid yw? Oherwydd mae gennym ni gymunedau gwledig gydag un ysbyty, bach yn aml o ran maint, yn gwneud popeth sydd ei angen ar gyfer y boblogaeth leol honno. Ac os ydych chi mewn ardal fetropolitan fawr iawn, lle mae gennych chi ysbytai yn agos at ei gilydd, yna efallai fod hynny yn bosibilrwydd ymarferol. Rwy'n credu ei bod hi'n llawer anoddach ei wneud i gyd-fynd â'r ddaearyddiaeth a dosbarthiad y boblogaeth yng Nghymru.

Prif Weinidog, wrth gwrs, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn archwilio pob cyfle i ailddechrau gofal nad yw'n ofal COVID fel y gall pobl gael triniaethau hanfodol cyn gynted â phosibl, ac mae'n destun pryder mawr clywed y Gweinidog iechyd yn dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben. Nawr, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y mae hefyd yn cefnogi ein gweithwyr GIG ar hyn o bryd, fel y mae'r Prif Weinidog newydd gyfeirio ato. Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi ei gwneud yn eglur bod nifer gynyddol o staff yn cael cymorth iechyd meddwl oherwydd y pandemig, felly mae'n gwbl hanfodol bod strategaeth i gefnogi gweithlu'r GIG yn cael ei chyflwyno i feithrin ac yn wir cefnogi ein staff rheng flaen. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i bryderon y Coleg Nyrsio Brenhinol, ac eraill yn wir, ynglŷn â'r effaith ar weithwyr y GIG? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa waith cynllunio'r gweithlu sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd, a, phe byddai pwysau pellach ar y GIG yn y dyfodol, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn cefnogi ein gweithwyr GIG yn wyneb y pwysau hynny?

Wel, rwyf i yn cytuno yn llwyr, Llywydd, a dywedais hynny fy hun wrth ateb ail gwestiwn Paul Davies, mai un o'r cyfyngiadau gwirioneddol sy'n ein hwynebu y gaeaf hwn yw'r nifer gyfyngedig o staff sydd gennym ni, y profiad y maen nhw i gyd wedi ei gael, y ffaith eu bod nhw, fel staff rheng flaen, yn arbennig o agored i ddal coronafeirws eu hunain, nad yw eu gwellhad yn ddim gwahanol i un neb arall ac yn aml mae'n hir ac yn anodd. Felly, dywedais wrth arweinydd yr wrthblaid bod cynlluniau chwarter 3 a chwarter 4 gan ein cydweithwyr yn y GIG yn canolbwyntio yn benodol ar wneud yn siŵr y gallwn ni gynnal ein staff drwy'r cyfnod anodd iawn hwn. Rydym ni wedi darparu gwasanaethau newydd, sydd ar gael i holl staff y GIG, o ran iechyd meddwl; rydym ni wedi darparu hyfforddiant ychwanegol er mwyn i staff allu ymdopi ag amrywiaeth ehangach o ofynion a fydd yn eu hwynebu. Ond, pan edrychwn ni ymlaen at aeaf lle nad yw coronafeirws yn dangos fawr ddim arwydd o ddiflannu, lle nad ydym ni wedi dechrau tymor y ffliw hyd yn hyn, lle mae'r gaeaf yn dod â'r holl bethau eraill yr ydym ni'n gwybod sy'n digwydd pan fo gennych chi boblogaeth hŷn, salach, fwy agored i niwed, fel y mae Adam Price yn ei ddweud, yna mae gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd ar frig fy agenda i ac agenda'r Gweinidog iechyd yn y fan yma.

Nid yw rhai o'r pethau yr oeddem ni'n gallu eu defnyddio yn gynharach yn y flwyddyn ar gael mor rhwydd i ni. Roeddem ni, fel y bydd Paul Davies yn gwybod, yn ôl ym mis Ebrill a mis Mai, yn gallu recriwtio myfyrwyr a oedd ar fin gorffen eu cyrsiau; roedden nhw'n barod i gael eu defnyddio mewn amgylchiadau clinigol. Nid yw hynny yn wir ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Recriwtiwyd yn ôl i'r gwasanaeth pobl a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar ac a oedd yn barod i ddychwelyd. Mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n gofyn i bobl ein helpu ni yn y modd hwnnw unwaith eto.

Y newyddion da, er gwaethaf hyn i gyd, yw bod recriwtio i GIG Cymru yn parhau i fod yn llwyddiannus iawn. Rydym ni wedi llenwi ein rotâu hyfforddi ymarferwyr cyffredinol, ac wedi eu gorlenwi eleni, o'u cymharu ag unrhyw flwyddyn arall, gan gynnwys yn y gogledd, y soniodd yr Aelod amdano. Felly, mae cynaliadwyedd tymor hwy ein staff yn y gwasanaeth iechyd yn seiliedig ar ein gallu i recriwtio i gyrsiau, i gynlluniau hyfforddi, ac, o'r safbwynt hwnnw, er gwaethaf y flwyddyn lem iawn yr ydym ni ynddi, rydym ni'n parhau i wneud yn dda yng Nghymru.

14:05
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am driniaeth nad yw'n gysylltiedig â COVID-19 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ55816

Diolch, Llywydd. Bydd pob bwrdd iechyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae fframweithiau gweithredu chwarterol GIG Cymru a'r cynlluniau dilynol sy'n cael eu datblygu gan fyrddau iechyd yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd i gynyddu capasiti, gan adfer gwasanaethau eraill yn ofalus ac yn ddiogel dros amser, gyda dull gweithredu fesul cam yn seiliedig ar flaenoriaeth glinigol.

Diolch, Prif Weinidog. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn dilyn y pwyntiau perthnasol iawn y mae ein harweinydd yn y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi eu codi yma heddiw, oherwydd, yn sicr, mae trigolion ac, yn wir, cleifion—trigolion i mi a chleifion yn Aberconwy sydd ag anghenion meddygol nad ydynt yn rhai COVID yn sicr yn cael eu gadael ar ôl. Mae gen i un etholwr y cafodd ei apwyntiad gastro ei ganslo ym mis Ebrill a dim ond trwy droi at Twitter a'i ddefnyddio y llwyddodd i sicrhau ymgynghoriad dros y ffôn. Mae un arall o'm trigolion wedi bod yn aros am ddau ben-glin newydd ers mis Tachwedd 2017.

Mewn ymateb i achos orthopedig arall, ysgrifennodd y Gweinidog iechyd ataf ei bod hi'n anodd i'r bwrdd iechyd gynnig dealltwriaeth o pryd y gallai gwasanaethau ddychwelyd i gleifion nad ydynt yn achosion brys. Yn olaf, dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd Mark Polin, cadeirydd y bwrdd iechyd, wrthyf y bu cynnydd sylweddol erbyn hyn i'r nifer sy'n aros am apwyntiadau orthopedig. Ni all y prif weithredwr dros dro na'r Gweinidog roi dyddiadau i mi ar gyfer triniaeth lle mae fy nghleifion wedi bod yn aros am y driniaeth hon yr ystyrir, mewn llawer o achosion, ei bod yn driniaeth frys, ac maen nhw'n dal i aros am wythnosau a misoedd.

Felly, pa gamau brys a wnewch chi eu cymryd i sicrhau bod mwy o wardiau yn cael eu neilltuo ar gyfer triniaeth nad yw'n gysylltiedig â COVID yn y gogledd? A wnewch chi roi rhywfaint o werth i'r cynigion a wnaed gan Paul Davies heddiw i agor rhai mannau—mannau nad ydynt yn rhai COVID—lle gellir darparu triniaeth i ymdrin, yn sicr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda'u hargyfwng orthopedig a gofynion triniaeth eraill? Diolch.

Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu mai dyna'r union bwynt a wnaeth Paul Davies i mi. Roedd Mr Davies yn holi pa un a fyddem ni'n ystyried gwneud ysbytai cyfan yn safleoedd rhydd o goronafeirws. Eglurais wrtho pam yr oeddwn i'n meddwl y byddai hynny yn anodd, o ystyried ein daearyddiaeth. Rwy'n credu y byddai'n anodd, o ystyried ein daearyddiaeth, yn y gogledd. Nid wyf i'n siŵr a fyddai etholwyr yr Aelod yn diolch iddi pe byddem ni'n cymryd y cyngor hwnnw, o ystyried y goblygiadau y byddai hynny yn eu hachosi i bobl sy'n dioddef o coronafeirws yn ei hetholaeth hi neu etholaethau eraill.

Fel yr wyf i wedi dweud, mae effaith coronafeirws ar ein gwasanaeth iechyd yn ddofn, nid yn unig o ran nifer y bobl sydd yn ein hysbytai yn dioddef ohono, ond yn y ffyrdd y mae'n rhaid i glinigwyr weithredu erbyn hyn. Felly, mae'n debyg bod theatr lawdriniaeth a fyddai wedi cyflawni wyth llawdriniaeth orthopedig mewn un diwrnod yn gallu cyflawni tair llawdriniaeth o'r fath yn unig erbyn hyn. Y rheswm am hynny yw bod yn rhaid glanhau'r theatr lawdriniaeth ar ôl pob un llawdriniaeth, gan fod clinigwyr yn gwisgo cyfarpar diogelu personol llawn wrth wneud hynny. Mae'r cynhyrchiant—ni waeth pa mor galed yr ydych chi'n ceisio ac ni waeth faint yr ydym ni'n ei ofyn gan ein staff, mae coronafeirws yn cael effaith wirioneddol iawn, nid yn unig ar nifer y bobl y gallwn ni eu tynnu i mewn i'r system, ond y gyfradd y gall ein clinigwyr eu trin.

Nawr, fe wnaeth y Gweinidog iechyd ddatganiad yma yn y Senedd yr wythnos diwethaf yn nodi cynlluniau ar gyfer Betsi Cadwaladr. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi croesawu'r £30 miliwn ychwanegol y flwyddyn am y tair blynedd a hanner nesaf a fydd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod gennym ni raglen gofal heb ei gynllunio a gofal wedi'i gynllunio barhaus, gan gynnwys orthopedeg, yn y gogledd, ac edrychaf ymlaen at weld y prif weithredwr newydd yn cyrraedd ddechrau mis Ionawr , ac iddi hi allu cynllunio nawr ar gyfer dyfodol gwasanaethau yn y gogledd, gan wybod bod ganddi'r buddsoddiad ychwanegol sylweddol hwnnw ar gael iddi y gall hi ei ddefnyddio i ymgymryd ag arweinyddiaeth y sefydliad hwnnw.

14:10

Prif Weinidog, mae effaith y pwyslais ar COVID-19 gan yr holl wasanaethau iechyd yn y DU wedi cael ei thrafod droeon yn y Siambr hon, fel yr ydym ni newydd ei glywed, ond, unwaith eto, er mwyn i bawb gael gwybod, mae elusennau canser yn amcangyfrif bod atgyfeiriadau ar gyfer sgrinio am ganser wedi gostwng gan 70 y cant. Nawr, gallai hyd yn oed person lleyg weld bod pwyslais y gwasanaeth iechyd ar COVID—mae hon yn drychineb sydd ar fin digwydd. Nawr, mae adroddiadau diweddar yn awgrymu bod COVID yn Rhif 19 yn y gynghrair o achosion marwolaeth yng Nghymru ym mis Medi. Mewn gwirionedd, y lladdwr mwyaf toreithiog oedd clefyd y galon a salwch yn gysylltiedig â dementia. Nid wyf i'n credu eich bod chi wedi ateb Janet Finch-Saunders yn benodol, felly gofynnaf y cwestiwn hwn gyda hynny mewn golwg. Pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i sicrhau nad yw GIG Cymru yn troi'n wasanaeth COVID cenedlaethol? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n anghytuno yn llwyr â'r Aelod, oherwydd rwy'n credu mai ei hawgrym hi yw ein bod ni rywsut wedi gor-flaenoriaethu triniaeth i gleifion coronafeirws yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y ddwy filfed claf yng Nghymru i farw o coronafeirws yn cael ei adrodd yn eu hystadegau. Nid wyf i'n credu y byddai'r bobl hynny na'u teuluoedd yn cytuno â Mandy Jones y dylem ni rywsut fod wedi esgeuluso gofal cleifion coronafeirws er mwyn gofalu am bobl eraill. Ac mae'n ymddangos ei bod hi'n gwadu'r ffaith bod dewis y mae'n rhaid ei wneud yma, oherwydd, yn syml, ni all y gwasanaeth iechyd lwyddo i wneud popeth yr ydym ni'n ei ofyn ganddo mewn pandemig byd-eang a pharhau fel pe na byddai'r pandemig byd-eang yn digwydd. Mae'n hawdd iawn, o ble mae hi'n eistedd, meddwl y gellir gwneud dewisiadau hawdd o'r math hwnnw. Nid ydyn nhw'n bodoli yn y byd go iawn. Nid ydyn nhw'n bodoli ym mywydau'r staff yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Y cyfraniad unigol mwyaf y gellir ei wneud at wneud yn siŵr y gellir parhau â gofal nad yw'n ofal coronafeirws yw cymryd coronafeirws o ddifrif. Dyna mae hi'n methu â'i wneud ac mae hi'n ei wneud eto y prynhawn yma.

Rheoli'r Defnydd o Dân Gwyllt

4. Pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i reoli sut y defnyddir tân gwyllt? OQ55813

Diolchaf i Mike Hedges am hynna, Llywydd. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau penodol i reoli'r defnydd o dân gwyllt. Rheolir gwerthu a defnyddio tân gwyllt yng Nghymru gan reoliadau o dan Ddeddf Tân Gwyllt 2003. Gweinidogion y DU sy'n gyfrifol am wneud rheoliadau o'r fath.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb a'i eglurhad o gan bwy y mae'r pwerau? Yn gyntaf, nid oes gen i unrhyw broblem gyda thân gwyllt ar 5 Tachwedd, arddangosfa tân gwyllt wedi'i threfnu, naill ai ar 5 Tachwedd neu ar gyfer digwyddiadau fel y flwyddyn newydd Tsieineaidd a Diwali. Mae fy mhryder i ynghylch y defnydd o dân gwyllt drwy gydol y flwyddyn, sy'n effeithio ar rai plant ifanc, rhai pobl oedrannus, ac yn enwedig rhai personél milwrol, a allai gael eu hail-drawmateiddio o glywed ffrwydrad annisgwyl, yn ogystal â'r effaith y mae'n ei chael ar anifeiliaid. Mae gen i bryderon hefyd am yr effaith y mae'n ei chael ar ansawdd yr aer. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i gryfhau'r Ddeddf Tân Gwyllt?

Diolchaf i Mike Hedges am hynna. Mae'n tynnu sylw yn briodol at yr effaith niweidiol ar amrywiaeth eang o unigolion ac achosion eraill yn ein cymdeithas o'r defnydd anghyfrifol o dân gwyllt. Nawr, gwn y bydd Mike Hedges yn gwybod bod Pwyllgor Deisebau Tŷ'r Cyffredin wedi adrodd ar werthu a defnyddio tân gwyllt tuag at ddiwedd y llynedd. Ar 14 Ionawr, ysgrifennodd fy nghyd-Weinidogion Lesley Griffiths a Hannah Blythyn ar y cyd at Weinidog y DU sy'n gyfrifol am ymateb i'r adroddiad hwnnw gan y Pwyllgor Deisebau. Fe'u hanogwyd gennym i dderbyn argymhellion yr adroddiad gan gynnig cydweithio â Llywodraeth y DU ar amrywiaeth o faterion. Fe wnaethom ni ofyn yn benodol am ddeialog ar adolygu pwerau awdurdodau lleol yn y maes hwn; fe wnaethom ni ofyn am adolygiad o derfynau desibelau; ac fe wnaethom ni dynnu sylw at fater penodol gwerthiannau ar-lein nad yw braidd yn cael sylw o gwbl ar hyn o bryd o dan trefn reoleiddio 2003.

Llywydd, rwyf i wedi gweld ers hynny bod Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn Senedd yr Alban, gan ddefnyddio pwerau sydd ganddyn nhw nad ydyn nhw gennym ni, a'u presgripsiwn ar gyfer cyflwyno amodau gorfodol ar ble y ceir prynu tân gwyllt, cyfyngu ar yr adegau o'r dydd pan geir gwerthu tân gwyllt, cyfyngu ar y diwrnodau a'r amseroedd y ceir cynnau tân gwyllt, a chyflwyno ardaloedd neu barthau dim tân gwyllt. Mae'r rheini i gyd yn ymddangos i mi fel mesurau synhwyrol, a byddwn yn parhau i ddadlau drostyn nhw, oherwydd pe bydden nhw'n cael eu cyflwyno ar sail y DU gyfan, byddai Cymru yn sicr yn elwa.

14:15

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod camau yn cael eu cymryd i leihau'r defnydd o dân gwyllt. Does dim amheuaeth yn fy meddwl i eu bod nhw wedi dod yn broblem fwy rheolaidd, mae'n ymddangos i mi, o tua diwedd Calan Gaeaf yr holl ffordd drwodd i'r flwyddyn newydd. Ac rydym ni'n gwybod, fel y mae Mike Hedges wedi ei nodi yn gwbl briodol, nad anifeiliaid anwes yn unig, nad da byw, bywyd gwyllt neu blant ifanc yn unig, ond gall ein personél milwrol, yn enwedig y rhai sydd ag anhwylder straen wedi trawma, ddioddef niwed sylweddol, a gall sbarduno pob math o atgofion ofnadwy iddyn nhw.

A gaf i ofyn i chi, yn y cyfamser, os nad oes gan Gymru y pwerau i weithredu yn fwy pendant, pa waith fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn hyrwyddo'r defnydd cyfrifol o dân gwyllt trwy bethau fel canllawiau, y gellir eu dosbarthu, wedyn, yn enwedig i'r rhai sy'n trefnu digwyddiadau lle bydd tân gwyllt yn cael eu cynnau? Rwy'n credu bod y rhain yn bethau defnyddiol y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud gyda'i phwerau presennol, a hefyd, wrth gwrs, mae angen addysgu pobl ifanc yn ein hysgolion. Rydym ni'n aml yn sôn am beryglon tân gwyllt yn ein hysgolion ar gyfer pobl ifanc, ond nid ydym ni'n sôn yn aml am yr effaith y mae eu defnyddio yn ei chael ar bobl eraill. Rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth efallai y gellid ei wneud.

Llywydd, rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw defnydd cyfrifol o dân gwyllt. Fel mae'n digwydd, rwy'n eithaf hoff o arddangosfa tân gwyllt dda fy hun; rwy'n mwynhau gweld un. Ond rydych chi eisiau ei wneud mewn ffordd nad yw'n achosi'r niwed anfwriadol y mae Darren Millar wedi cyfeirio ato.

Rydym ni wedi gweithio gyda'n hawdurdodau lleol a'n heddlu yma yng Nghymru ar y pwerau gorfodi sydd ganddyn nhw. Gwn y bydd gan yr Aelod ddiddordeb yn y ffaith fod yr adroddiadau gan bedwar heddlu Cymru ar ôl yr wythnos diwethaf yn awgrymu cryn wahaniaeth rhwng y lluoedd hynny sy'n plismona ardaloedd gwledig mwy neu lai, a adroddodd noson tân gwyllt dawel heb fawr ddim gofynion ar eu gwasanaethau, a rhai adegau llawer mwy anodd yn ardaloedd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent, gydag ymosodiadau cwbl annerbyniol ar ddiffoddwyr tân ac ar swyddogion heddlu pan alwyd arnynt i ymdrin â digwyddiadau anweddaidd.

Buom yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn y cyfnod cyn y noson tân gwyllt hon ar ymgyrch hyrwyddo yn ceisio perswadio pobl i ddefnyddio tân gwyllt yn briodol ac yn gyfrifol. Rwy'n hapus iawn i barhau i wneud mwy o hynny, ond rwy'n credu bod mater rheoleiddio yn y fan yma. Rhoddwyd Deddf 2003 ar y llyfr statud oherwydd y cyfnod ar ôl y mileniwm, pan oedd yn ymddangos bod defnydd eang o dân gwyllt wedi parhau yn y blynyddoedd yn syth ar ei ôl mewn ffordd nad oedd yn dderbyniol iawn. Felly, roedd rheoliadau 2003 o gymorth i roi rhywfaint o ffurf o amgylch hynny ac i atal yr achosion gwaethaf o ormodedd. Os ydym ni'n gweld hynny yn dechrau digwydd eto, yna byddai edrych eto ar y rheoliadau a gwneud mwy i wneud yn siŵr bod tân gwyllt yn cael ei werthu yn gyfrifol ac yn cael ei ddefnyddio yn gyfrifol, rwy'n credu, yn ddefnydd da iawn o amser y Llywodraeth.

14:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr atebion y mae eisoes wedi eu rhoi. Hynny yw, dyna brofiad rhannau o'r rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli yn sicr. Rwyf i wedi cael galwadau digynsail yr wythnos diwethaf o leoedd fel Llanelli, Pontyberem, Cydweli, lle gallai'r defnydd heb ei reoleiddio o dân gwyllt fod wedi bod yn fwy nag a fyddai wedi digwydd fel arfer, oherwydd, wrth gwrs, nad oedd unrhyw arddangosfeydd ffurfiol. Roedd gen i ddiddordeb yn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am y diffyg pwerau, ac mae'n amlwg nad yw hynny yn rhywbeth y gellir ei newid yn gyflym, a hefyd yn yr hyn a oedd gan y Prif Weinidog i'w ddweud am weithio gydag awdurdodau lleol o ran gorfodi, a chyda gwasanaeth yr heddlu. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog heddiw edrych unwaith eto ar hynny wrth i ni agosáu at y flwyddyn newydd, sy'n adeg arall pan fyddwn ni'n gweld llawer o dân gwyllt yn cael ei ddefnyddio, i weld a oes digon o gapasiti ac a allai fod angen rhai adnoddau ychwanegol, naill ai gan wasanaeth yr heddlu neu gan awdurdodau lleol, i'w caniatáu i blismona'r mathau hyn o ddigwyddiadau yn effeithiol? Oherwydd, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud wrth ymateb i bobl eraill, gall hyn beri gofid mawr i unigolion yn ogystal ag i anifeiliaid anwes a da byw.

Yn sicr, Llywydd, ein nod fydd gweithio gyda'n heddluoedd a'n hawdurdodau lleol, gan ddysgu'r gwersi o'r dyddiau diwethaf. Wrth gwrs, roeddem ni mewn cyfnod atal byr yma yng Nghymru, a ychwanegodd haen arall at gymhlethdod hyn, ond byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr. Fel y dywedais, mae gennym ni gyfres ragarweiniol o adroddiadau gan bob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru, byddwn yn casglu gwybodaeth gan ein hawdurdodau lleol hefyd, a chawn weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud, gan gydweithio, i gynllunio a pharatoi ar gyfer rhannau eraill o'r flwyddyn pan fydd tân gwyllt yn cael ei ddefnyddio yn eang.

Prif Weinidog, hoffwn innau hefyd bwysleisio'r effaith y mae tân gwyllt yn ei chael ar bobl ac anifeiliaid anwes bob blwyddyn. Mae noson tân gwyllt wedi troi'n wythnos tân gwyllt yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae tân gwyllt wedi dod yn fwyfwy pwerus. Mae cyn-filwyr ac anifeiliaid anwes yn byw mewn ofn yn ystod y cyfnod hwn wrth i ardaloedd tawel ymdebygu i barthau rhyfel. Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'r Llywodraethau eraill yn y DU ynghylch cyfyngu'r defnydd o dân gwyllt i oriau penodol, er enghraifft, rhwng 6 ac 8 p.m. ar 5 Tachwedd, neu, yn ddelfrydol, caniatáu arddangosfeydd wedi eu trefnu yn unig? Diolch.

Diolchaf i Caroline Jones am hynna. Rydym ni'n cynnal trafodaethau gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Llywodraeth y DU, ac yn wir gyda Llywodraeth yr Alban ynghylch eu cynigion. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i weithio gydag eraill ar y mater hwn. Ceir amrywiaeth o wahanol atebion posibl, a chyfeiriodd Caroline Jones at rai ohonyn nhw, ond fy nealltwriaeth i yw ei bod hi'n berffaith bosibl erbyn hyn gweithgynhyrchu tân gwyllt nad ydynt yn gwneud synau uchel, felly gallwch chi gael yr arddangosfa heb yr effeithiau niweidiol sydd, fel y clywsom gan Darren Millar ac eraill, yn cael effaith ar bobl sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma neu anifeiliaid neu blant ifanc iawn, sy'n gallu bod yn ofnus iawn yn wir, yn fwy oherwydd y sŵn nag oherwydd gweld tân gwyllt. Os gall gweithgynhyrchwyr wneud hynny, yna efallai y gallwn ni ddatrys y broblem yn ei tharddle, yn ogystal â gwneud rhai o'r pethau eraill y mae Aelodau, y prynhawn yma, wedi eu hawgrymu.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig yn y dyfodol? OQ55821

Llywydd, ychydig iawn o gyfleoedd a gynigiwyd i drafod y gronfa ffyniant gyffredin gyda Gweinidogion y DU, er gwaethaf ceisiadau i wneud hynny. Nid ydym ni'n disgwyl bellach i hyn gael ei ddatrys rhwng nawr a'r adolygiad cynhwysfawr o wariant ar 25 Tachwedd.

Diolch, Prif Weinidog. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â ColegauCymru i drafod pwysigrwydd y gronfa ffyniant gyffredin i ariannu sgiliau a phrentisiaethau yn y dyfodol, gan fod cyllid Ewropeaidd, fel y gwyddoch, wedi bod yn ysgogwr allweddol i'r agenda sgiliau. Ceir pryder gwirioneddol yn y sector y bydd yn fwyfwy anodd i golegau gefnogi economïau lleol a chymdeithas ehangach heb yr un faint o gyllid newydd ag a oedd ar gael o'r blaen. Rydym ni'n gwybod mai dim ond un enghraifft yw hon o'r niwed a achosir gan y diffyg eglurder ac ymrwymiad gan Weinidogion y DU. Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth godi pryderon y sector addysg bellach yma yng Nghymru gyda'ch cymheiriaid ar lefel y DU?

14:25

Diolch, Vikki Howells. Byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Rydym ni'n gwneud hyn ar bob cyfle a gawn ni. Nid yw'n cael gwrandawiad o gwbl, Llywydd. Dywedodd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin, dan gadeiryddiaeth AS Ceidwadol yng Nghymru, eu bod eu hunain yn:

siomedig ei bod yn ymddangos mai cynnydd bach iawn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud o ran datblygu ei threfniadau newydd yn hytrach na chyllid ESI ac nad yw ei haddewidion mynych o ymgynghoriad wedi eu gwireddu, gan ddangos diffyg blaenoriaeth.

Ysgrifennodd ein cyd-Aelod y Cwnsler Cyffredinol, at Robert Jenrick, yr aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y gronfa ffyniant gyffredin, ar 12 Hydref, yn gofyn am gyfarfod i drafod materion yn ymwneud ag addysg a'r holl bethau eraill a gefnogwyd gan gyllid yr UE yng Nghymru. Dydyn ni ddim hyd yn oed wedi cael ateb hyd yma, heb sôn am gael cyfarfod.

Ac mae Vikki Howells yn iawn, Llywydd, i dynnu sylw at bwysigrwydd y cyllid hwn yn ein sector addysg bellach. Ac nid mater o'r cwantwm arian yn unig ydyw yn hynny o beth, ond y ffaith bod gennych chi, o dan gyllid Ewropeaidd, fframwaith ariannu aml-flwyddyn saith mlynedd, felly os ydych chi'n mynd i ddod â phrentisiaid drwy'r system, allwch chi ddim gwneud hynny mewn un flwyddyn, mae angen i chi allu cynllunio dros flynyddoedd i'r dyfodol, fel y gallwch chi gyflogi staff, y gallwch chi ddatblygu cyfleusterau, y gallwch chi gynnig sicrwydd i'r bobl ifanc hynny. Dydyn ni ddim hyd yn oed yn gwybod faint o arian a fydd yn dod i ni o'r flwyddyn nesaf ymlaen, heb sôn am gael cyfle i sicrhau hynny dros y math o gyfnod yr oeddem ni wedi gallu ei fwynhau yn flaenorol gyda'r holl fanteision a nodwyd gan Vikki Howells.

TAW ar Gyfarpar Diogelu Personol

6. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Thrysorlys y DU ynghylch TAW ar gyfarpar diogelu personol? OQ55832

Diolchaf i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar 30 Hydref i ofyn i'r penderfyniad i ail-gyflwyno TAW ar gyfarpar diogelu personol clinigol o 1 Tachwedd gael ei ailystyried ar frys.

Diolchaf i chi am yr ateb yna, ond ni ellir amgyffred mewn gwirionedd y byddai Trysorlys y DU yn ychwanegu TAW at gyfarpar diogelu personol a'r effaith y byddai'r gordal hwnnw yn ei chael ar fusnesau bach ledled Cymru sy'n ceisio gwneud y peth iawn, a hynny'n briodol, ar gyfer eu staff ac ar gyfer eu cwsmeriaid er mwyn cadw'r bobl hynny yn ddiogel, a hefyd o ran elusennau a sefydliadau trydydd sector, sy'n darparu cymorth uniongyrchol i bobl mewn cymunedau ledled Cymru gyfan, ac unwaith eto yn ceisio cadw'r bobl hynny yn ddiogel. Felly, a wnewch chi ofyn unwaith eto i Drysorlys y DU i beidio â gorfodi'r dreth ddiogelwch hon ar fusnesau, elusennau a sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru?

Wel, Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am hynna ac rwy'n cytuno yn llwyr â hi. Nid wyf i'n gallu amgyffred pam mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu mai dyma'r adeg iawn i ychwanegu costau ychwanegol at gyfarpar diogelu hanfodol. Rydym ni'n darparu cyfarpar diogelu personol ar raddfa ddiwydiannol yn y GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru: 440 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol eisoes eleni, a darparwyd 220 miliwn ohonyn nhw i ddarparwyr gofal cymdeithasol. Bydd yn costio, yn system Cymru yn unig, £20 miliwn yn ychwanegol, sy'n arian nad yw gennym ni nawr i ddarparu gwasanaethau i gleifion canser a chleifion cardiaidd na'r pethau eraill y mae Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr wedi bod yn fy holi amdanyn nhw y prynhawn yma. Bydd yr arian hwnnw yn cael ei ddychwelyd i'r Trysorlys bellach, o ganlyniad i'r penderfyniad hwn.

Ond mae Joyce Watson yn llygad ei lle i dynnu sylw at yr effaith ar fusnesau bach ac elusennau yma yng Nghymru, sefydliadau sy'n ei chael hi'n anodd iawn yn ystod y pandemig, y mae eu model busnes wedi ei effeithio yn wael iawn ganddo, sy'n ceisio gwneud y peth iawn, sy'n gwario arian ar gyfarpar diogelu personol i'w staff ac weithiau i gwsmeriaid. Byddan nhw'n talu TAW nawr. Awgrymodd Andrew R.T. Davies wrthyf y byddan nhw'n ei gael yn ôl. Wel, ni fydd busnesau bach nad ydyn nhw wedi'u cofrestru ar gyfer TAW yn ei gael yn ôl o gwbl. Ni fydd elusennau sydd wedi'u heithrio rhag TAW yn ei gael yn ôl o gwbl. Felly, rwy'n falch o'i weld yn ei amddiffyn. Rwy'n falch o weld ei fod yn credu ei fod yn syniad da y dylid cyflwyno treth diogelwch yma yng Nghymru. Mae'n dweud llawer wrthym ni am flaenoriaethau pobl ar y meinciau yna, eu bod nhw'n barod i bregethu pan fyddan nhw'n credu ei fod o fantais iddyn nhw ac yna, pan fydd rhywbeth mor hurt â hyn yn digwydd, maen nhw'n barod i amddiffyn hynny hefyd.

14:30
COVID-19 ym Merthyr Tudful

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y data diweddaraf am heintiau COVID-19 yn ardal awdurdod lleol Merthyr Tudful? OQ55843

Bu nifer fawr o achosion o haint COVID-19 yn ardal awdurdod lleol Merthyr Tudful yn ystod yr wythnosau diwethaf. Y cynnydd i nifer yr achosion a welwyd ledled Cymru oedd y rheswm dros i ni gyflwyno cyfnod atal byr. Ceir arwyddion cynnar o ostyngiad i nifer yr achosion ym Merthyr Tudful ac mewn mannau eraill yng Nghymru.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae pobl yn naturiol yn teimlo rhyddhad ein bod ni bellach wedi gadael y cyfnod atal byr. Fodd bynnag, mae'r data ar gyfer Merthyr Tudful yn dal i beri pryder. Ac er ei bod hi'n wir, fel yr ydych chi eisoes wedi dweud, bod yr arwyddion cychwynnol o'r cyfnod atal byr yn ymddangos yn gadarnhaol yn yr ardal, mae angen i ni barhau i ymddwyn mewn ffyrdd sy'n lleihau'r risg o haint, yn y gobaith y bydd cyfradd y profion positif yn parhau i ostwng dros y pythefnos nesaf. Fel chithau, rwy'n sicr yn pwysleisio'r neges honno ar bob cyfle. Ond hefyd yn bwysig, Prif Weinidog, oedd eich sylwadau ddoe eich bod chi'n monitro llwyddiant y cynllun arbrofol profion tref gyfan yn Lerpwl, ac rwy'n deall bod ystyriaeth weithredol yn cael ei rhoi i wneud hyn ym Merthyr Tudful. Felly, yn dilyn eich ateb i Adam Price ar y pwynt hwn yn gynharach, a allwch chi gadarnhau pryd y cawn ni benderfyniad ynghylch hyn, a phryd y byddai rhaglen brofi dorfol o'r fath ym Merthyr Tudful yn benodol yn debygol o ddechrau? Ac a allwch chi fy sicrhau bod trafodaethau yn cael eu cynnal o fewn Llywodraeth Cymru am heriau logistaidd proses o'r fath a'r canlyniadau ymarferol niferus a allai godi, gan gynnwys sicrhau y bydd gan awdurdodau lleol yr adnoddau digonol ar gael iddyn nhw i gefnogi rhaglen o'r fath, yn enwedig o ran profi ac olrhain a chymorth cymunedol?

Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am hynna, a diolch iddi am bopeth y gwn ei bod hi'n ei wneud, fel y mae cyd-Aelodau eraill, i gyfleu'r neges honno i bobl mewn gwahanol gymunedau yng Nghymru, er ein bod ni i gyd yn teimlo rhyddhad ar ddiwedd y cyfnod atal byr, mai sut yr ydym ni'n ymddwyn yn y pythefnos nesaf hyn a fydd yn hollbwysig. Ac os bydd pobl yn troi synnwyr o ryddhad yn synnwyr o beidio â gwneud y pethau y mae angen i bob un ohonom ni eu gwneud, yna byddwn ni'n colli'r holl fuddion yr ydym ni wedi eu sicrhau gyda'n gilydd drwy'r ffordd y cydymffurfiwyd â'r cyfnod atal byr yng Nghymru. Felly, diolchaf yn fawr iawn iddi am bopeth y mae'n ei wneud i atgyfnerthu'r neges honno.

Rwy'n hapus i gadarnhau eto bod tîm cynllunio wedi'i sefydlu. Fe'i harweinir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae gyda'r awdurdod lleol, a'i ddiben yw cynllunio ar gyfer profion bwrdeistref gyfan ym Merthyr. Bydd tri chynllunydd milwrol yn ymuno â'r tîm hwnnw ddydd Iau yr wythnos hon. Byddan nhw'n unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Lerpwl, a byddan nhw'n dod â hynny i gyd i'r grŵp cynllunio hwnnw. Ond cynllunio yw er hynny, a chynllunio nid yn unig ar gyfer y profion, ond fel y dywedodd Dawn Bowden, ar gyfer canlyniadau'r profion hynny, oherwydd pan fyddwch chi yn dod o hyd i lawer iawn yn fwy o bobl sydd wedi cael profion positif, mae angen timau arnoch yn y system profi, olrhain a diogelu i wneud gwaith dilynol arnyn nhw wedyn a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu cynghori yn briodol. Mae angen i hynny i gyd fod ar waith er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl ym Merthyr, os mai dyna lle y cawn ni'r profion tref gyfan cyntaf yng Nghymru, yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw. Dyna'r hyn y bwriedir i'r cynllunio hwnnw ei gyflawni.

Cefnogi Ysgolion

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion drwy'r pandemig COVID-19? OQ55846

Diolchaf i Jayne Bryant am hynna, Llywydd. Rydym ni'n parhau i weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu cymorth parhaus yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi canllawiau gweithredu ar gyfer awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda'u hysgolion i sicrhau bod ysgolion yn dal i fod mor ddiogel â phosibl.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'r ymroddiad a'r hyblygrwydd y mae'r sector addysg wedi eu dangos drwy gydol y pandemig hwn wedi bod yn rhyfeddol. Mae dysgu ar-lein, protocolau iechyd a diogelwch helaeth, swigod, a'r holl waith o drefnu adeiladau ysgolion wedi arwain at athrawon a staff yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu ar ddisgyblion. Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, ceir heriau. Mae'n gwbl briodol bod llawer o sylw wedi ei roi i'r hyn y mae hynny yn ei olygu i ddisgyblion mewn blynyddoedd arholiad, ond ceir problem ar draws pob grŵp oedran, ac mae angen i'r blynyddoedd cynnar ac ysgolion cynradd yn arbennig ddal i fyny o ran sgiliau sylfaenol, ac mae hon yn broblem ledled y DU. Mae'r rhain yn ganlyniadau hirdymor posibl, rhai a fydd yn cael eu teimlo ar ôl i ni fynd heibio'r gwaethaf o'r pandemig o'r diwedd. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd athrawon yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi eu disgyblion, ond bydd angen cymorth sylweddol arnyn nhw ar hyd y ffordd. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch cynnydd mewn addysg plant, a pha adnoddau ychwanegol allwn ni eu darparu i'n hysgolion i'w helpu i gyflawni hyn?

Diolchaf i Jayne Bryant am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru mae'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a lansiwyd gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog addysg, yn gynharach eleni. Nod honno yw rhoi i ysgolion yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i recriwtio staff ychwanegol i ymdrin â'r union faterion y mae Jayne Bryant wedi eu nodi—y bwlch cynnydd a'r effaith ar ddysgu sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r coronafeirws. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod ysgolion yn defnyddio'r arian hwnnw mewn ffyrdd llawn dychymyg. Maen nhw'n recriwtio staff newydd a chynorthwywyr addysgu newydd, ond maen nhw hefyd yn ymestyn oriau staff rhan-amser, gan ddefnyddio pobl mewn ffyrdd mwy hyblyg. A bwriad hynny i gyd yw gwneud yr hyn y mae Jayne Bryant wedi ei awgrymu, Llywydd—gwneud yn siŵr bod yr adnoddau yno, yn ariannol ac o ran staff, gwneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny sydd wedi colli addysg heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, oherwydd effaith y pandemig, yn gallu gwneud iawn am y diffyg hwnnw gymaint â phosibl yn ystod yr wythnosau anodd iawn sydd yn dal i fod o'n blaenau.

14:35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Mae'r datganiad hynny i'w wneud gan y Trefnydd, Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Ers y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae Busnes Cymru wedi dod yn ffynhonnell wybodaeth allweddol. Nawr, yn ystod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y mis diwethaf, fe godais i'r ffaith nad yw gwefan Busnes Cymru bob amser yn darparu gwybodaeth gywir, ac mae hyn yn arwain at ddryswch ymhlith llawer o berchnogion busnes sydd dan straen. Nawr, croesawodd y Prif Weinidog yr adborth hwn ynghylch lle mae angen gwneud pethau'n well, ond mae angen rhywfaint o welliant ar unwaith. Mae gennyf i nifer o fusnesau y bu'n ofynnol iddyn nhw ddarparu gwybodaeth ychwanegol i Fusnes Cymru, ond ni chawsant gyngor ganddyn nhw ynghylch sut i wneud hynny. Pan oeddent yn ymgeisio am y grantiau cyllido a oedd ar gael, yn ystod y cyfnod cul iawn hwnnw, daeth eu hamser i ben ar ôl 20 munud ac nid oedd yn bosibl iddynt uwchlwytho dogfennau. Mae'n amlwg fod gan rai ohonyn nhw fand eang gwael ar y diwrnod a chawsant wybod ei bod yn rhy hwyr a bod y ffenestr wedi cau. Mae eraill yn cwyno ynghylch amseroedd aros hir iawn ar y ffôn. Ddoe, gofynnais i aelod o staff ffonio Busnes Cymru ac, ar ôl awr a 10 munud, fe roddwyd y gorau iddi.

Felly, er mwyn gwneud yn siŵr fod yr adroddiadau'n gywir, fel y dywedais i, rhoddodd un o fy nhîm i alwad iddyn nhw. Ond daeth y llinell i ben yn sydyn am 5 o'r gloch. Mae'n ddrwg gennyf; nid oedd yr aelod o fy staff i wedi rhoi'r gorau iddi—roedd e'n parhau i weithio, wrth gwrs. Ond daeth y llinell i ben am 5 p.m. Nid yw hynny'n foddhaol i berchnogion busnes sy'n ei chael hi'n wirioneddol anodd, Trefnydd. Felly, a allech chi drefnu i ddatganiad gael ei wneud am alluoedd gweithredu Busnes Cymru? Rwy'n wirioneddol gredu bod y tîm hwn yn cael ei orlethu ac, oherwydd hynny, dylem gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd yn y Senedd hon ynghylch sut yr ydych chi'n rheoli'r cyfrifoldeb enfawr am gymorth busnes, a phryd y gallwch chi agor cronfa—cronfa ystyrlon—a fydd yn helpu i wneud yn iawn am lawer o golledion busnesau fel fy rhai i, yn sicr—a gwn  fod hyn yn berthnasol ledled Cymru, Llywydd; mae taer angen y cyllid cymorth hwn ar bobl. Diolch.

Diolch i Janet Finch-Saunders am godi'r mater hwnnw. Wrth gwrs, bydd cydweithwyr yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yn ei le y pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau unrhyw le yn y DU. Ond rydym yn amlwg yn ymwybodol iawn nad yw pob busnes wedi gallu elwa ohono. Yr wythnos diwethaf, atebodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gwestiwn amserol am beth amser ar y mater penodol hwn, ac roedd wedi gallu nodi ei ymateb i rai o'r materion a godwyd gan Janet Finch-Saunders. Ac wrth gwrs, yfory, mae ganddo gwestiynau llafar eto yn y Siambr. Rwyf newydd edrych, ac mae nifer o gyfleoedd yno iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cymorth economaidd i fusnesau hefyd. Ac wrth gwrs, roedd adroddiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf wedi'i ddarparu gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd. Os hoffech rannu rhai o'r enghreifftiau eraill hynny gyda mi, byddwn i'n fodlon ymchwilio iddyn nhw gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Ond yn amlwg, fel pob rhan arall o'r gwasanaeth cyhoeddus, mae Busnes Cymru dan bwysau mawr ar hyn o bryd—mae'r bobl sy'n gweithio yno'n gweithio'n galed iawn, dan amodau anodd iawn. Rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau enfawr sydd arnyn nhw. Mae'n wir yn cynrychioli'r pwysau enfawr sydd ar fusnesau yng Nghymru. Ond rydym ni'n ymdrechu'n gyson i wella'r gwasanaeth a'r cynnig i fusnesau, felly bydd unrhyw sylwadau y byddai cydweithwyr fel Janet Finch-Saunders yn dymuno'u gwneud yn ddefnyddiol.

14:40

Trefnydd, mae gan fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg gyfraddau uchel iawn o COVID-19, ac mae gan Ferthyr y gyfradd uchaf yn y DU. O ystyried y ffigurau hyn, ni allaf i ddeall pam nad ydym wedi gweld mesurau diogelu ychwanegol yn ein hysgolion, lle mae lledaeniad asymptomatig yn digwydd. Pam nad oes mygydau yn yr ystafell ddosbarth? Beth sy'n cael ei wneud i leihau'r risg o ledaenu ar gludiant i'r ysgol? Sut rydym yn atal plant rhag trosglwyddo COVID-19 i'w perthnasau sy'n agored i niwed? A fyddai profion wythnosol mewn ysgolion, yn ogystal â'r gymuned ehangach, yn gwneud synnwyr, o ystyried ei fod yn digwydd yn Lerpwl, lle mae'r cyfraddau'n is nag sydd gennym ni yma? Mae'r farn bod y cyfnod atal byr ar ben ac y gallwn ni i gyd ddychwelyd i normalrwydd yn awr yn beryglus mewn ardal fel y Rhondda, lle'r ydym yn gweld ein hysbyty lleol yn llawn o welyau gofal dwys ac yn clywed sôn am wasanaethau iechyd yn cael eu tynnu'n ôl eto. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa fesurau cymorth ychwanegol a chyllid y byddai modd eu darparu i'r ardaloedd sydd â'r cyfraddau uchaf o COVID 19, ac a gawn ni'r datganiad hwnnw fel mater o frys, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch am godi'r mater hwnnw. Roedd y cyntaf yn ymwneud yn benodol â'r cymorth a'r cyngor sy'n cael eu darparu i ysgolion, ac roedd cyfres o gwestiynau eithaf manwl yno, felly gofynnaf i i'r Gweinidog Addysg ysgrifennu atoch gyda mwy o wybodaeth am y canllawiau sy'n cael eu darparu i ysgolion mewn cysylltiad â chyfarpar diogelu personol ac ymdrechion eraill i gadw plant a'u teuluoedd yn ddiogel, a'r rhesymeg sy'n sail i'r cyngor yr ydym wedi'i ddarparu ar y materion hynny. Yn amlwg, bydd sawl cyfle i holi'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd am y materion penodol o ran y gymuned y mae Leanne Wood yn cyfeirio ati ac yn ei chynrychioli.

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad addysg. Yn gyntaf, datganiad am brydau ysgol am ddim yn ehangu i wyliau ysgol. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad ar y Nadolig a'r Pasg eleni, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i ni edrych arno drwy'r amser, yn hytrach na dim ond fel rhywbeth untro. Mae'n rhywbeth yr wyf i wedi bod yn galw amdano ers cael fy ethol. A hefyd, pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i ehangu cymhwysedd darpariaeth prydau ysgol am ddim? I lawer o blant, dyma eu prif bryd bwyd am y diwrnod.

Yn ail, hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar addysgu gartref, i gynnwys awdurdodau lleol yn defnyddio dull cydgysylltiedig ledled Cymru o ymgysylltu â'u cymuned addysgu gartref leol sy'n datblygu gwasanaethau ac sy'n seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch, ac a fydd yn meithrin perthynas gadarnhaol rhwng awdurdodau lleol a'r gymuned addysgu gartref ac yn trefnu pethau fel cael mynediad i ganolfannau arholiadau— nid eleni, mae'n amlwg, ond mewn blynyddoedd arferol—i'r rhai sydd wedi cael eu haddysgu gartref.

Diolch i Mike Hedges am godi'r ddau fater pwysig hyn y prynhawn yma. Fel y dywed, mae ef wedi bod yn eiriolwr dros ddarparu prydau ysgol am ddim y tu allan i'r tymor ers amser maith. Rwy'n falch iawn nad oedd angen i Lywodraeth Cymru ymateb i ymgyrch gan Marcus Rashford i wneud y peth iawn. Gwnaethom ni'r peth iawn amser maith yn ôl, ar ddechrau'r pandemig hwn. O ran y dyfodol, byddai cynyddu'r niferoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn golygu newid y meini prawf cymhwysedd, a gallai hynny o bosibl olygu cynyddu'r trothwy incwm ar gyfer y rhai sy'n hawlio credyd cynhwysol ac sydd hefyd eisiau hawlio prydau ysgol am ddim i'w plant. Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu cadw'r trothwy fel y mae tan ddiwedd y cyfnod cyflwyno credyd cynhwysol, ond mae'n amlwg y byddwn ni'n parhau i adolygu hynny.

Fel y dywedodd Mike Hedges, mae mor bwysig bod gan rieni sy'n addysgu eu plant gartref berthynas dda â'r awdurdod lleol yn yr ardal y maen nhw'n byw ynddi. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £400,000 i awdurdodau lleol ar gyfer 2020-21 i roi cymorth i deuluoedd sy'n addysgu gartref. Mae hynny wedi'i ddyrannu ar sail pro rata, yn seiliedig ar nifer y plant yn yr awdurdod sy'n hysbys eu bod yn cael eu haddysg yn y cartref, fel y cawsant eu hadrodd i ddata cyfrifiad blynyddol ysgolion ar lefel disgyblion. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r wybodaeth honno ond, fel y dywed Mike Hedges, mae sicrhau bod lefel dda o ymddiriedaeth rhwng y ddwy blaid yn gwbl hanfodol.

14:45

Trefnydd, a gaf i ofyn am eich cymorth wrth geisio mynd i'r afael ag ansawdd yr atebion y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i Aelodau? Cefais rai ymatebion yn ôl yr wythnos diwethaf a chefais wybod bod Gweinidogion yn mynd i ysgrifennu ataf gyda'u hatebion nhw ar ôl eistedd arnyn nhw am tua 10 diwrnod i bythefnos. Roeddent yn gwestiynau eithaf syml. Roedd un yn gofyn o ble y daeth y data ym mriff y Prif Weinidog a oedd yn cymharu Torfaen ag Oldham. Nawr, byddwn i wedi tybio, o gofio iddo sôn am hynny yn ei friff i'r wasg, y byddai'r wybodaeth honno ar gael yn rhwydd, oherwydd mae'n amlwg bod modd ei chroesgyfeirio. Ni allaf weld pam y byddech chi'n eistedd ar ateb am 10 diwrnod ac yna'n dweud eich bod yn mynd i ysgrifennu at yr Aelod. Ac roedd yr ail gwestiwn yn deillio o sesiwn friffio'r Gweinidog Iechyd ar 26 Hydref—y briff i'r wasg, oherwydd mae'n ymddangos mai dyna lle mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn cael eu gwybodaeth y dyddiau hyn—o ran gwelyau gofal critigol. Fe gyfeiriodd at y gwelyau gofal critigol ychwanegol a fyddai ar gael i GIG Cymru, a gofynnais i gwestiwn syml: a allai nodi ym mhle y byddai'r gwelyau gofal critigol hyn yn cael eu dyrannu a pha fyrddau iechyd fyddai'n elwa o'r gallu ychwanegol? Unwaith eto, cefais i ateb arall yn dweud y byddent yn ysgrifennu ataf gyda'r ateb pan oeddent yn teimlo y gallent wneud hynny.

Wel, oherwydd bod y ddau achos yn awgrymu bod gwybodaeth wedi'i defnyddio mewn sesiwn friffio i'r wasg gyhoeddus, er i'r wasg yn hytrach nag i Aelodau'r Senedd hon, byddwn i wedi tybio y byddai'n gymharol hawdd i Lywodraeth Cymru ddarparu'r atebion hynny. Mae'n dangos dirmyg llwyr i Aelodau'r sefydliad hwn nad yw'r atebion hyn yn cael eu darparu mewn modd amserol. Rwy'n derbyn yn llawn y gallai fod angen mwy o amser pe bai modd ei ehangu i fod yn ateb o sylwedd, ond rwyf  wedi rhoi dau achos ichi yna o gwestiynau cymharol syml y byddai wedi bod yn bosibl eu hateb yn rhwydd, oherwydd mae'r wybodaeth eisoes wedi'i defnyddio mewn sesiynau briffio i'r wasg gyhoeddus. Felly, yn eich swydd fel trefnydd busnes y Llywodraeth, a gaf i ofyn am eich cymorth wrth geisio egluro sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wella eu ffordd o fynd i'r afael ag ymatebion i Aelodau seneddol Cymru yn y sefydliad hwn?

Rwy'n nodi pryderon Andrew R.T. Davies y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn hurt awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn eistedd ar atebion. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio o amgylch y cloc, yn llythrennol, i geisio mynd i'r afael â phandemig byd-eang a goblygiadau hynny yng Nghymru, ac rydym ni'n gwneud ein gorau i ddarparu atebion mewn modd amserol. O ran y ddau gwestiwn yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, mae'n amlwg y ceisiaf i sicrhau bod ateb yn dod cyn gynted ag sy'n bosibl. Fel y dywedais, rwyf wedi nodi eich sylwadau, ond rydym ni'n gwneud ein gorau glas i ddarparu atebion cyn gynted ag y gallwn ni.

Gweinidog, rydym ni mewn cyfnod mor rhyfedd ar hyn o bryd, ac nid yw digwyddiadau chwaraeon yn ddiogel rhag effeithiau'r mesurau coronaferirws, ond mae'n bwysig edrych tua'r dyfodol gyda rhywfaint o obaith. Felly, rwy'n diolch i'r beiciwr brwd Geraint Rowlands am ei awgrym, sydd wedi fy arwain i ofyn a gawn ni ddadl ar gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru yn y dyfodol? Ac yn benodol, gyda'r tair ffordd sy'n croestorri ei gilydd ac yn dringo o'r Rhondda, yr Afan a chymoedd Ogwr dros y Bwlch—sy'n llythrennol yn hollol syfrdanol—a'r Rhigos anhygoel yn cael ei gynnwys ar ben hynny, fel amffitheatr ôl-rewlifol naturiol, sy'n cyfrannu at yr effaith weledol a'r apêl i wylwyr digwyddiadau beicio, yn agos at ardaloedd poblog lleol, a gawn ni yn y dyfodol gynnig gwneud hyn yn rhan o gam epig Cymru o Daith Feicio Prydain, Gweinidog? Gadewch inni gael dadl ar hynny.

Diolch i Huw Irranca-Davies am ein hatgoffa bod angen rhywbeth arnom ni i gyd, mewn gwirionedd, i edrych ymlaen ato yn y cyfnod anodd hwn. Rwy'n credu bod Cymru, cyn y pandemig, yn gwneud gwaith gwych yn rhoi ei hun ar y map fel man pwysig i gynnal digwyddiadau mawr a digwyddiadau rhyngwladol pwysig. Byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, ein bod ni wedi cynnal camau o Daith Dynion a Merched Prydain ers 2010, a, thros y blynyddoedd, cafodd camau'r ras eu cynnal ledled Cymru. Mae swyddogion yn Digwyddiadau Cymru yn gweithio'n agos nawr gyda threfnwyr y ras i sicrhau bod dosbarthiad daearyddol teg ledled y wlad. Ond gallaf i sicrhau Huw Irranca-Davies y bydd swyddogion yn edrych ar yr awgrym a gyflwynwyd ganddo heddiw i gynnal cam yn yr ardaloedd a awgrymodd, sydd, fel y dywed, yn llwybrau heriol iawn, ac yn amlwg maen nhw'n rhan o'r Dragon Ride llwyddiannus iawn hefyd, sef un o'r digwyddiadau hynaf a mwyaf eiconig o'i fath ledled y DU. Felly, gallaf i sicrhau Huw Irranca-Davies y bydd swyddogion yn ymchwilio i'r awgrym hwnnw.

14:50

Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â rhaglen Dechrau'n Deg. Mae rhywun amlwg ym Mhort Talbot wedi cysylltu â mi yn mynegi pryderon ynghylch hyfywedd y rhaglen i'r dyfodol. Nid yw cyfleusterau gofal plant ym Mhort Talbot wedi gweld cynnydd yng nghyfraddau eu tâl nhw am ddarparu gofal dros y pedair blynedd diwethaf, gyda llawer o ddarparwyr yn datgan bod y sefyllfa yn mynd yn anghynaladwy erbyn hyn. Ni all y rhaglen fodoli oni bai am y darparwyr hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y Trefnydd yn cytuno bod busnes yn haeddu cael tâl sy'n ddigonol am y gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig, yn enwedig gan fod darparwyr gofal plant wedi cael eu taro'n arbennig o galed gan y pandemig. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog Iechyd neu ei ddirprwy yn rhoi datganiad i'r Siambr hon ynglŷn â dyfodol rhaglen Dechrau'n Deg ac a fydd darparwyr yn gweld unrhyw gynnydd yn eu harian nhw. Diolch yn fawr.

Diolch am godi'r mater penodol hwn. Wrth gwrs, drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ystod o gymorth, y bu modd i ddarparwyr gofal plant gael gafael arno—sy'n amrywio o dalu am leoedd nad oedd plant yn eu defnyddio ar gyfer sicrhau y bydd y ddarpariaeth yn para i fod yn hyfyw, i ddarparu grantiau ar gyfer rhannau o'r sector hefyd. Ond yn amlwg, unwaith eto, nid yw'n bosibl inni gyrraedd pob darparwr unigol, felly fe fyddai o werth mawr pe byddai Caroline Jones yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd am yr achosion penodol hynny y mae hi'n gyfarwydd â nhw ym Mhort Talbot er mwyn i hynny lywio'r ystyriaeth a roddir i gefnogaeth i'r sector wrth inni symud ymlaen.

Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Addysg, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd—rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi yn y fan hon heddiw i glywed y cais. Mae'r cyntaf yn ymwneud â chofrestru athrawon mewn ysgolion annibynnol. Rwy'n gwybod i hynny gael ei godi gyda chi'n weddol ddiweddar, ond gan ei fod yn fater o ddiogelu ac rydych chi'n brwydro'n gryf iawn o ran diogelu yng nghyd-destun elfen addysg cydberthnasau a rhywioldeb y cwricwlwm, rwy'n credu y byddai'n dra defnyddiol i'r Senedd gael deall pam na roddir lle mwy blaenllaw ar yr agenda i'r dasg hon sy'n llawer haws.

Ac yna, yn ail, tybed a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sefydlu athrawon, gan ein bod ni'n clywed yn aml iawn y ceir gwendid o ran addysgu, ac rwy'n siŵr nad amharodrwydd athrawon i fod yn athrawon da yw achos hynny.

Ac yna os caf i ymestyn hyd at un arall, fe fyddwn i wrth fy modd cael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar danau naddion pren. Mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers inni glywed am broblemau mawr yn fy rhanbarth arbennig i, ond fe gawsom ni addewid bryd hynny am newidiadau i reoliadau a fyddai'n grymuso naill ai'r awdurdodau cynllunio neu Gyfoeth Naturiol Cymru, ac felly fe hoffwn i wybod beth sydd wedi digwydd yn hyn o beth mewn gwirionedd. Diolch.

Fel yr oeddech chi'n dweud, mae'r Gweinidog Addysg yn bresennol i glywed eich ceisiadau am ddatganiad ar reoleiddio a chofrestru athrawon mewn ysgolion annibynnol a'r materion o ran sefydlu athrawon y gwnaethoch chi eu disgrifio hefyd. Ac mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwylio ar Zoom, ond fe wnaf innau ymdrech i siarad â hi hefyd a cheisio'r wybodaeth ddiweddaraf honno i chi ynglŷn â thanau naddion pren.

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw Datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ymdrin â chymwysterau yn 2021, ac rwy'n galw ar y Gweinidog, Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Heddiw, fe hoffwn i rannu fy mhenderfyniad polisi â chi ynglŷn â'r dull o ymdrin â chymwysterau yng Nghymru yn 2021. Wrth wneud hynny, fe hoffwn i ddiolch yn gyntaf i Cymwysterau Cymru a'r adolygiad annibynnol, dan gadeiryddiaeth Louise Casella, am eu hargymhellion a'u cyngor nhw i mi. Rwyf wedi cael fy arwain gan yr ystyriaethau yn y ddau adolygiad fel ei gilydd wrth imi ddod i'm penderfyniad i. Law yn llaw â hyn, rwyf wedi cyfarfod â phenaethiaid ac arweinwyr colegau, prifysgolion, a'r dysgwyr yn uniongyrchol i glywed eu barn nhw. Rwyf wedi edrych yn ofalus hefyd ar y dadansoddiad cynnar o oddeutu 4,000 o safbwyntiau a fynegwyd yn yr arolwg a ymgymerodd yr adolygiad annibynnol.

Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod na welwyd ei debyg erioed. Rwyf am roi eglurder a sicrwydd ar gam mor gynnar â phosibl, i nodi llwybr y gellir ei droedio ac, yn hollbwysig, sy'n ddull mor gadarn ag sy'n bosibl o gofio'r ansicrwydd a all fod yn y flwyddyn sydd i ddod. Unwaith eto, mae hon yn flwyddyn eithriadol, ond yn eithriadol mewn ffordd wahanol i gymwysterau yn 2020. Roedd carfannau sydd i'w harholi eleni nid yn unig yn absennol o'r ysgol a'r coleg yn ystod tymor yr haf, ond maen nhw eisoes wedi gweld anghysondebau yn eu profiad nhw o addysg yn ystod y tymor hwn hefyd.

Mewn rhai ysgolion a cholegau, mae COVID-19 wedi ei gwneud hi'n ofynnol i ddisgyblion hunanynysu am wythnosau ar y tro. Mae rhai ysgolion, ar adegau, wedi gorfod cau dros dro hyd yn oed. Mae ysgolion a cholegau eraill wedi bod yn llawer mwy ffodus hyd yn hyn, ond ni allwn ni, ni allaf i, fod yn hyderus ynghylch yr hyn wnaiff ddigwydd yn ystod gweddill y flwyddyn ysgol. A'r ansicrwydd parhaus hwn yn ogystal â sicrhau tegwch, cyfiawnder a lles i ddysgwyr sy'n llywio fy meddylfryd i o ran cymwysterau ar gyfer 2021.

Fy ystyriaeth allweddol arall i yw'r angen i neilltuo amser ar gyfer profiadau addysgu a dysgu o ansawdd da yn ystod y flwyddyn hon, i sicrhau bod yr wybodaeth gan y dysgwyr, ynghyd â'r sgiliau a'r hyder, i symud ymlaen i'w cam nesaf nhw. Rwy'n awyddus i ddysgwyr mewn ysgol neu goleg fod yn mwynhau profiadau addysgol cadarnhaol, nid dim ond yn paratoi ar gyfer asesiadau a hynny'n unig. Ar y sail hon, ac yn unol ag argymhelliad Cymwysterau Cymru a'r adolygiad annibynnol, rwy'n bwriadu dweud wrth Cymwysterau Cymru na ddylid cael arholiadau diwedd blwyddyn ar gyfer cymwysterau TGAU na Lefel AS ar gyfer 2021. Rwy'n gallu cadarnhau hefyd mai fy mwriad i yw na fydd yna unrhyw arholiadau terfynol ar gyfer disgyblion Lefel A, a fydd yn dilyn proses debyg i'r hyn a geir ar gyfer cymwysterau TGAU a Lefel AS. Rwyf wedi nodi pryderon na allwn ni ragweld beth fydd y sefyllfa o ran y feirws yn ystod yr haf ac, felly, fe allai fod yn anodd cynnal arholiadau yn ffisegol, ac mae'n wir y gallai hynny fod yn heriol. Eto i gyd, mae'n rhaid imi ailadrodd mai prif ddiben fy mholisi i yw sicrhau tegwch, ac fe fydd y cyfnodau o amser a dreulir gan ddysgwyr mewn ysgolion a cholegau wedi amrywio yn aruthrol. Mae'n annheg i gredu y gellid cynnal yr arholiadau ar unrhyw sail a fyddai'n cynrychioli tegwch i bawb.

Rwyf wedi ymgynghori â phrifysgolion, sydd wedi tynnu sylw at y ffaith mai eu blaenoriaeth nhw yw i fyfyrwyr fod wedi ymdrin ag agweddau hanfodol ar eu cyrsiau nhw. Maen nhw wedi cadarnhau eu bod yn gyfarwydd â derbyn llawer o wahanol fathau o gymwysterau. Maen nhw'n disgwyl dull tryloyw a chadarn sy'n dangos tystiolaeth o wybodaeth a gallu dysgwr. Ac mae fy null arfaethedig i o weithredu yn gwneud yn union hynny, gan iddo gael ei gynllunio i wneud yn fawr o'r amser ar gyfer addysgu a dysgu. Yn hytrach nag arholiadau ar ddiwedd blwyddyn, rydym ni'n bwriadu gweithio gydag athrawon a darlithwyr i ddatblygu asesiadau a reolir gan athrawon. Fe ddylai'r rhain gynnwys asesiadau a fydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol, ond a gynhelir yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth o dan oruchwyliaeth athrawon. Fe fydd gan athrawon hyblygrwydd o ran yr amser mwyaf addas i ymgymryd â nhw, yng nghyd-destun amserlenni'r canlyniadau. Fy nisgwyliad i yw y bydd y rhain yn sail i ganlyniadau sy'n cael eu cynnal mewn canolfannau, yn gysylltiedig â dull cenedlaethol cyffredin, gan sicrhau cysondeb ledled Cymru. Fy mwriad i yw i hyn fod yn berthnasol i gymwysterau TGAU, Lefel AS a Lefel A a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru. Fe fydd y dull arfaethedig o ymdrin â hyn yn cael ei ddatblygu gan arweinwyr ysgolion a cholegau, ac yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gyfarwyddo gan Cymwysterau Cymru a CBAC. Wrth ddatblygu'r cynnig ynglŷn â chanlyniadau wedi eu seilio ar ganolfan, rydym ni'n bwriadu dysgu o brofiadau 2020 ac fe gaiff ei lywio gan ail gam gwaith yr adolygiad annibynnol hefyd. Fy mwriad i o ran polisi yw y bydd dull cyffredin o weithredu ledled Cymru drwy gyfrwng CBAC, gan ddarparu tryloywder a thrylwyredd i sicrhau prifysgolion a cholegau o'n dull ni o weithredu.

Gan droi at gymwysterau galwedigaethol, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r tirlun cymwysterau galwedigaethol yn wahanol. Fe gaiff swm sylweddol o ddysgu galwedigaethol ei gyflwyno ar sail mewn ac allan, gyda dysgwyr yn dechrau arni gydol y flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol a gymerir gan ddysgwyr yng Nghymru ar gael yng ngwledydd eraill y DU hefyd. Ar gyfer sicrhau cysondeb, rwyf i wedi gofyn i Cymwysterau Cymru weithio'n agos gyda rheoleiddwyr eraill i sicrhau dull pragmatig sy'n gweithio er budd dysgwyr ac sy'n rhoi eglurder iddyn nhw ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Fe gyhoeddwyd canllawiau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol fis diwethaf, sy'n nodi'r egwyddorion y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu cymhwyso wrth wneud addasiadau mewn ymateb i effaith COVID-19. Mae hyn yn golygu y bydd archwiliadau sydd wedi eu hamserlennu ar gyfer cymwysterau galwedigaethol ar gyfer cyfres yr haf yn parhau er mwyn cynnal dull cyson ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Serch hynny, fe fydd fy swyddogion i a Cymwysterau Cymru yn parhau i adolygu'r sefyllfa hon ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda rheoleiddwyr cymwysterau eraill yng ngoleuni'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd.

Heddiw, rwyf hefyd yn sefydlu grŵp cynghori dylunio a darparu o blith arweinwyr ysgolion a cholegau, y rheoleiddiwr a'r corff dyfarnu. Geraint Rees fydd cadeirydd y grŵp hwn ac fe'i cefnogir gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Ni fydd y grŵp yn ymhél ag atebolrwydd sefydliadau unigol, atebolrwydd yr ysgolion, y rheoleiddiwr na'r corff dyfarnu, ond fe fydd yn datblygu cynigion polisi ar gyfer ein dull gweithredu ni, gan gynnwys cynigion manwl ar gyfer yr ystod o brosesau asesu ac apelio. Fe fydd rheoleiddiwr a chorff dyfarnu Cymru yn cynnig arbenigedd i'r grŵp ynglŷn ag asesu, ac rwy'n disgwyl gallu ystyried a chadarnhau cyfeiriad ein polisi erbyn diwedd mis Rhagfyr ar gyfer rhoi amser i'w weithredu o fis Ionawr ymlaen. Fe fydd y grŵp wedyn, yn ystod y flwyddyn, yn fy nghynghori i ar gyflawni'r pecyn gwaith hwn ac rwy'n disgwyl gweld ein blaenoriaethau cydraddoldeb ni wrth galon y cyfan.

Dirprwy Lywydd, mae hon yn parhau i fod yn flwyddyn heriol iawn. Rwyf wedi pennu llwybr heddiw sy'n tynnu'r pwysau oddi ar ddysgwyr ac yn rhoi amser clir i addysgu a dysgu. Rwy'n gofyn i'n hysgolion ni, ein colegau ni, ein cyrff cymwysterau ni a'r sector addysg yn fwy eang weithio ar y cyd ac yn gydweithredol drwy gydol y flwyddyn i gefnogi ein dysgwyr a'u galluogi nhw i fwrw ymlaen yn hyderus. Diolch yn fawr.

15:00

A gaf innau ddechrau hefyd drwy ddiolch i Louise Casella a Cymwysterau Cymru am y cyngor y maen nhw wedi ei roi i'r Gweinidog ynglŷn â hyn? Mae'n rhaid imi ddechrau, serch hynny, drwy ddweud, er fy mod i'n deall eich safbwynt chi'n llwyr o ran dymuno cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ychydig yn gynharach heddiw fel y bydd ysgolion yn deall mai hon yw'r ffordd yr ydych chi'n bwrw ymlaen â hi, rwy'n siomedig iawn ei bod yn ymddangos bod y Sunday Times wedi cael gafael ar y stori hon o leiaf 48 awr cyn ei chyflwyno ar lawr y Siambr hon. Y sibrydion yw bod hynny o ganlyniad i gyfweliad bythefnos yn ôl, ond efallai y gwnewch chi egluro hynny, Gweinidog, oherwydd yn amlwg—[Torri ar draws.] Wel, yn Aelod hir sefydlog o'r wrthblaid, roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi sylweddoli pa mor bwysig yw hi inni wneud datganiadau o'r fath ar lawr y Siambr.

Beth bynnag am hynny, rwy'n falch o'ch clywed chi'n dweud bod hon yn flwyddyn eithriadol. Ni fyddwn i'n dymuno ffoi oddi wrth benderfyniad heddiw oherwydd ei fod yn gosod cynsail, pan mae'n amlwg mai ymateb yw hwn i gyfres benodol o heriau. Mae'r coronafeirws, wrth gwrs, yn mynd i fod gyda ni hyd y gellir rhagweld, ond ni ddylai'r ymateb iddo fod yn gylch parhaus o gau grwpiau blwyddyn neu ysgolion hyd yn oed. Felly, efallai mai fy nghwestiwn cyntaf, rwy'n credu, fyddai a ydych chi'n dadlau dros roi blaenoriaeth i blant ac athrawon wrth gynnig y brechlyn newydd. Nawr, mae'n amlwg fy mod i'n deall mai dyddiau cynnar iawn yw hi o ran cyflwyniad y brechiadau, ond efallai y gwnewch chi roi ychydig o ddealltwriaeth i ni o'ch barn chi am hynny i sicrhau bod tarfu fel hyn yn cael ei gyfyngu yn y dyfodol, oherwydd rwyf i o'r farn mai'r hyn a ddatgelodd yr adolygiadau hyn yw nad yw addysg yn y cartref na dysgu cyfunol yn cyfateb o gwbl i ddysgu mewn ysgol mewn gwirionedd.

Fe gafodd yr anghysondeb o ran profiad pobl ifanc, a'n hathrawon hefyd, a bod yn deg, yn y cyfnod hwnnw pan oedd yr ysgol ar gau—fe'i nodwyd i bob pwrpas yn eich penderfyniad chi heddiw yn brif reswm dros ddiddymu arholiadau fel yr ydym ni'n meddwl amdanynt. Ac yn hytrach na'r ansicrwydd ynghylch y sefyllfa y byddwn ni ynddi yn yr haf, mae'n ymddangos mai'r hyn a welwyd yn barod a fu'n ysgogydd i hyn. Felly, rwy'n falch eich bod chi wedi cytuno ar gynnig Cymwysterau Cymru o ran dewis amgen i arholiadau cyn belled ag y bydd yna elfen allanol yn hyn, sydd, yn fy marn i—. Mae gosod yr asesiadau hyn yn allanol a'u marcio nhw'n allanol yn rhoi cyfradd o gydraddoldeb iddyn nhw, rwy'n credu, â'r arholiadau traddodiadol yr ydym ni'n fwy cyfarwydd â nhw. Felly, wrth ddewis y ffordd hon ymlaen, pa ystyriaeth a wnaethoch chi ei rhoi i gynnwys yr asesiadau hyn o ran cydraddoldeb y gellir ei nodi â'r hyn sydd wedi bod o'r blaen ac felly'n cefnogi'r ddadl a wnes i gynne o ran cael cyfradd o gydraddoldeb rhwng blynyddoedd?

Ac er bod hyn yn ymwneud â thegwch, cyfiawnder a lles i ddysgwyr, fel yr oeddech chi'n ei ddweud yn eich datganiad heddiw, faint o ystyriaeth a roddwyd i les athrawon hefyd? Oherwydd yn bersonol rwyf i o'r farn fod gan yr athrawon ddigon ar eu plât ar hyn o bryd yn ceisio dal i fyny, ac yn ymdrin â pharatoadau ar gyfer y cwricwlwm, a'r peth olaf sydd ei angen arnyn nhw nawr, yn fy marn i, yw treulio amser yn cymryd rhan fawr yn nyluniad system gymedroli. Felly, pa mor ddylanwadol oedd sylw Cymwysterau Cymru ynglŷn â sefydlu system gymedroli gadarn, o ystyried y tro hwn ei bod hi bron yn amhosibl gwneud hynny? Ond pe bai amser i gyflwyno system gymedroli ar gyfer graddau a aseswyd yn ganolog, ai hwnnw fyddai eich dewis chi wedi bod? Fe fyddwn i'n falch o glywed eich syniadau cynnar chi ynglŷn â sut rydych chi'n credu y gallai athrawon reoli asesiadau yn y stafell ddosbarth os bydd yn rhaid cau ysgol, ar adeg dyngedfennol, naill ai'n gyfan gwbl neu ei bod yn rhaid anfon grŵp blwyddyn adref. Nid wyf i'n gweld hyn yn gweithio ar-lein mewn gwirionedd, felly beth yw'r dewis arall ar gyfer hynny, os oes gennych chi flwyddyn ysgol heb fod mewn sefyllfa i gael asesiad yn y stafell ddosbarth a reolir gan athrawon?

Rwy'n credu bod angen imi ofyn rhywbeth ichi am Lefel A. Rwy'n deall y rheswm a roddoch i egluro pam na fydd myfyrwyr Lefel A yn sefyll arholiad o unrhyw fath, ac rwy'n deall yr hyn y dywedasoch am y prifysgolion yn adrodd eu bod nhw wedi arfer â phethau o'r fath, ond pa gyngor a fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd chi ynghylch sicrhau bod prifysgolion yn cadw eu gair yn hyn o beth? A oes unrhyw syniadau gennych o ran sut y mae eu penderfyniadau nhw—haf nesaf fydd hi, onid e—yn debygol o gael eu monitro i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cadw at eu gair?

Ac yna'n olaf ynglŷn â chymwysterau galwedigaethol, rwy'n falch iawn eich bod chi wedi crybwyll y rhain. Rwy'n gwybod mai darlun llawer mwy cymhleth yw hwn gan ei fod yn ddarlun o'r DU, fwy neu lai. Tybed a wnewch chi ddweud wrthyf sut ymateb a fu i ganllawiau'r DU a gyhoeddwyd tua mis yn ôl, a hefyd, i sgwario'r cylch hwn, beth yw sefyllfa myfyrwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol mewn colegau yn bennaf—fe fyddan nhw wedi bod yn yr union sefyllfa o ran tarfu â'r rhai sy'n astudio ar gyfer cymwysterau cyffredinol, ac eto i gyd y rhagdybiaeth yw y byddan nhw yn sefyll arholiadau yn yr haf. Felly, pam mae arholiadau ar gyfer y myfyrwyr hyn yn deg pan nad ydyn nhw'n deg i fyfyrwyr Lefel A? Diolch.

15:05

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf ddiolch i Suzy Davies am y cwestiynau yna? A gaf i ddechrau drwy ddweud nad oeddwn i'n bwriadu dirmygu Aelodau'r Siambr hon o gwbl o ran y cyfweliad a roddais i i'r Sunday Times? Mae'r Aelod yn llygad ei lle, fe gynhaliwyd y cyfweliad hwnnw bythefnos yn ôl. Nid wyf i'n deall yn iawn pam wnaeth y Sunday Times oedi cyn cyhoeddi'r cyfweliad, ac fe'i rhoddwyd i'r papur hwnnw mewn ymateb i gyhoeddi dwy gyfres o gynghorion a roddwyd i mi, a'r hyn a roddwyd i'r papur oedd disgrifiad o hynny, oherwydd nid oedden nhw'n deall y gwahaniaeth rhwng y ddwy gyfres o gynghorion. Roedd cyhoeddi'r cyfweliad hwn y tu hwnt i'm rheolaeth i, ond fe allaf i eich sicrhau chi nad oeddwn i'n bwriadu dirmygu Aelodau'r Siambr hon mewn unrhyw ffordd, ac fel yr ydych chi wedi darllen, os ydych chi wedi darllen y stori yn y Sunday Times, roedd yna lawer iawn o ddyfalu, rhywfaint o hynny'n amlwg iawn, o gofio'r tebygrwydd rhwng y ddwy gyfres o gynghorion o ran—[Anghlywadwy.]—ac roedd y stori'n anghywir o ran y penderfyniad a wneuthum i o ran Lefel A. Felly, rwy'n awyddus i dawelu meddwl y Siambr nad oedd hynny'n golygu unrhyw amharch, ac fe ddysgais innau wers yn hynny o beth.

Fe soniodd yr Aelod am y brechlyn, ac rwy'n deall pam, oherwydd mae hon wedi bod yn flwyddyn sobr o ddigalon i bob un ohonom ac felly mae hyd yn oed y llygedyn hwn o oleuni ynglŷn â'r posibilrwydd y caiff brechlyn ei gyflwyno yn rhywbeth yr ydym i gyd yn awyddus i ddal ein gafael ynddo o dan yr amgylchiadau. Dirprwy Lywydd, rwy'n amau ein bod ni i gyd yn ddiolchgar am y doniau anhygoel hynny ledled y byd sydd wedi gweithio mor galed i geisio datblygu'r brechlyn hwnnw, ond rwy'n credu ei bod yn rhaid inni bwyllo ychydig bach. Mae llawer i'w wneud eto, ac mae maint y sialens o ran dosbarthu, hyd yn oed os byddwn ni'n cyrraedd y sefyllfa lle gellir dosbarthu brechlyn, yn wirioneddol heriol, ac fe amlinellodd y Prif Weinidog rai o'r rhain yn gynharach.

O ran cyflwyno'r brechlyn hwnnw, yn amlwg, rydym ni'n cael ein harwain gan y pwyllgor sy'n rhoi cyngor i Lywodraethau ledled y DU ynghylch defnyddio brechlyn yn briodol, ac mae'n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd, ond, yn amlwg, fe fydd aelodau'r gymdeithas sy'n agored i niwed, os bydden nhw'n gweithio ym myd addysg neu'r tu allan i fyd addysg, rwy'n siŵr, yn cael blaenoriaeth. Yr hyn yr ydym ni'n edrych arno hefyd yw cyfundrefnau profi eraill ar gyfer cefnogi addysg a helpu i leihau'r tarfu ac mae hynny'n llawer mwy blaenllaw yn ein hystyriaethau ni, oherwydd mae honno'n sefyllfa sy'n llawer mwy tebygol y gallwn ni weithredu yn gynt arni yng Nghymru yn hytrach nag aros am y brechlyn.

Roedd Suzy Davies yn dweud bod y penderfyniad heddiw yn amlygu heriau dysgu cyfunol, a'n dull ni o gefnogi dysgwyr sy'n eu cael eu hunain y tu allan i'r ysgol. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod y sefyllfa honno'n amrywio, ac rydym yn parhau i weithio gyda'r sector addysg i ddatrys amrywioldeb hynny. Dim ond yr wythnos diwethaf, yn ystod y cyfnod atal byr, rwy'n ymwybodol bod rhai ysgolion wedi cyflwyno eu hamserlen gyfan drwy wersi byw; nid oedd ysgolion eraill mewn sefyllfa i allu gwneud hynny. Ond rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cyfaddef—a phe bai hi wedi gwrando ar y pennaeth a oedd yn siarad ar Radio Wales y bore yma—hyd yn oed pan fo'r dysgu cyfunol hwnnw o'r ansawdd gorau, nid yw hynny'n cymryd lle cael bod mewn ysgol. A'r broblem sy'n fy wynebu i, a'r broblem y mae ein hathrawon a'n myfyrwyr ni'n ei hwynebu, yw na allwn ni warantu faint o amser y byddan nhw'n ei dreulio yng nghwmni eu hathrawon. Rydym eisoes wedi gweld llawer iawn o amrywioldeb. Mae rhai plant, fel y dywedais i, yn ffodus iawn, heb gael eu heffeithio ac maen nhw wedi gallu bod yn yr ysgol drwy'r amser. Mae plant eraill—myfyrwyr y bûm i'n siarad â nhw—wedi colli pedair wythnos eisoes oherwydd gorfod ynysu gan eu bod nhw mewn swigen a oedd wedi bod ag achos cadarnhaol o'r feirws. Felly, nid—. Rwy'n cytuno bod angen inni wneud yn well o ran dysgu cyfunol, ond nid dyna'r rheswm am ysgogi hyn heddiw o reidrwydd.

O ran natur yr asesiadau, mae'n bwysig iawn fod yna amrywiaeth o ffyrdd ar gyfer asesu plant. O ran natur a nifer yr asesiadau, y grŵp dylunio a chyflwyno a fydd yn rhoi ystyriaeth i hynny, fel mewn ymateb i argymhelliad adroddiad Louise Casella, gan ddysgu gwersi'r llynedd yn sgil peidio â gwneud unrhyw beth i'r system, ond mewn gwirionedd gan weithio gyda'r system i greu system sydd mor gadarn a chyfartal a theg â phosibl ac sy'n wir ymwybodol o'r pwysau gwaith ar athrawon. Mae yna gydbwysedd i'w ganfod o ran grymuso athrawon yn y broses hon, a chredwch chi fi, maen nhw'n dymuno cael eu grymuso, ac mae llawer ohonyn nhw'n awyddus i ymgymryd â'r gwaith, ond, yn ogystal â hynny, i ystyried y pwysau anhygoel sydd arnyn nhw eisoes wrth gadw'r drysau ar agor, ac mae'r cydbwysedd hwnnw i'w ganfod yn yr hyn y gall aelodau eraill o'r sector addysg ei wneud yng Nghymru i'w cefnogi nhw yn y gwaith hwn.

Fe soniodd yr Aelod am yr hyn sy'n digwydd hefyd os bydd grŵp allan o'r ysgol. Wel, fe fydd yr asesiadau a bennir yn allanol ar gael i ysgolion, ond yr ysgolion a fydd yn penderfynu, pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny, pryd y dylid cynnal yr asesiadau hyn, felly mae yna rywfaint o hyblygrwydd yn hyn o beth a ddylai roi ystyriaeth i rai o'r heriau o ran iechyd y cyhoedd y gallwn ni fod yn eu hwynebu. O ran prifysgolion, fe fynegodd y prifysgolion yn eglur iawn i mi beth oedd eu blaenoriaethau nhw. Yn gyntaf, addysg, addysgu a dysgu yw hynny, a sicrhau bod yr wybodaeth a'r cysyniadau allweddol ym meddiant y myfyrwyr i ganiatáu iddyn nhw fod yn llwyddiannus pan fyddan nhw'n cyrraedd y brifysgol. Ac felly roedd gwneud yn fawr o'r amser ar gyfer addysgu a dysgu yn bwysig iawn iddyn nhw;  mae'r system hon yn caniatáu inni wneud hynny. Yr elfen bwysig arall oedd bod sicrwydd cydraddoldeb, a bod ein rheoleiddiwr yn fodlon i roi eu henwau nhw wrth y cynigion hyn, a honno, unwaith eto, yw'r system y gwnaethom ni ymgyrraedd ati.

O ran cymwysterau galwedigaethol, nid ydym yn yr un sefyllfa o ran cymwysterau galwedigaethol, o ystyried eu natur nhw, sef bod y mwyafrif llethol o fyfyrwyr Cymru, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn dilyn cymwysterau sy'n cael eu rhannu â gweddill y DU, ac nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn cael eu rheoleiddio gan ein rheoleiddiwr ni ein hunain. Felly, ni allaf i orchymyn rheoleiddiwr mewn gwlad arall i weithredu mewn ffordd arbennig. Ond dyna pam y bydd ein rheoleiddiwr ni'n parhau i weithio gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau i sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd, i sicrhau tegwch yn y sectorau galwedigaethol hefyd, lle nad oes gennym ni reolaeth ar gymwysterau ein rheoleiddiwr ni. 

15:10

Dwi yn croesawu'r newyddion yma. Fel y gwyddoch chi, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwneud yr achos dros ddileu arholiadau'r haf ers misoedd bellach. Mi fydd y cyhoeddiad yma yn rhyddhad i bobl ifanc, i rieni ac i ysgolion ledled Cymru. Mi fyddai hi wedi bod yn amhosib cynnal arholiadau allanol mewn modd fyddai'n rhoi tegwch i ddisgyblion dan yr amgylchiadau presennol. Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd trefniadau amgen yn eu lle ac na fydd angen gwneud newidiadau disymwth funud olaf, fel y digwyddodd yr haf diwethaf, ac mae hynny i'w groesawu yn fawr iawn. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth roi ei phobl ifanc dan bwysau sylweddol diangen, fel y gwnaethpwyd yr haf diwethaf. Byth eto roi cymhwyster cyn llesiant. Byth eto greu cymaint o bryder i filoedd o bobl ifanc Cymru.

Felly, dwi yn croesawu'r newyddion, ond mae gen i bryderon a llawer iawn o gwestiynau am y trefniadau amgen sydd i'w rhoi ar waith. Rydych chi newydd gyhoeddi gwybodaeth am gymwysterau galwedigaethol, ac y bydd yna arholiadau diwedd blwyddyn i'r cohort yma o fyfyrwyr. Ac unwaith eto, mae'r myfyrwyr yma—y bobl ifanc yma—yn cael eu gadael i lawr, achos maen nhw'n cael eu heffeithio yn union yr un peth â disgyblion eraill Cymru, ac mi fyddwn i yn eich annog chi yn gryf i gadw hyn dan adolygiad manwl a chadw golwg barcud ar y sefyllfa.

A gaf i droi at y trefniadau asesu newydd—y profion a'r asesiadau allanol—ar gyfer TGAU, AS a lefel A? Pam wnaethoch chi benderfynu bod yn rhaid cael asesiadau allanol, sef asesiadau sydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol? Dwi wedi cael etholwr prynhawn yma yn cysylltu ac yn gofyn hyn: beth ydy'r gwahaniaeth rhwng asesiadau dan amodau arholiad sydd wedi eu cynllunio gan fwrdd arholi o'i gymharu â sefyll arholiadau o dan yr hen drefn? Mae'r etholwr yma yn dweud bod y gair 'canslo' yn rhoi camargraff llwyr, ac mai arholiadau drwy'r drws cefn fydd yn digwydd efo'r asesiadau allanol yma, felly hoffwn i gael eich barn chi am hynny. Pam ddim gosod y tasgau'n fewnol a'u safoni yn allanol? Oni fyddai hynny yn ffordd decach ymlaen, o gofio bod addysg ein pobl ifanc ni yn cael ei amharu arni yn waeth mewn rhai mannau lle mae'r haint yn uchel, a bod y bwlch digidol hefyd yn creu sefyllfa anghydradd, sef yr un dadleuon, mewn gwirionedd, dros ganslo arholiadau? Onid ydy'r rheini yn berthnasol i brofion allanol hefyd?

Fe fydd pobl eisiau gwybod faint o brofion fydd yna a faint fydd gwerth y profion tuag at y cymhwyster terfynol, ac mi fydd yna gwestiynau hefyd ynglŷn ag aseiniadau—yr aseiniad lle mae disgybl yn cael y cwestiwn ymlaen llaw ac arholiad ar ddiwedd y dydd. Ai hynny fydd yn digwydd efo aseiniadau? A fydd yna aseiniad ym mhob pwnc ac a fyddan nhw'n seiliedig ar y fanyleb gyfan ym mhob pwnc? Nifer o gwestiynau, a dwi'n gwybod eich bod chi'n nodi bod grŵp wedi cael ei sefydlu i bennu y manylder yma ynglŷn â'r trefniadau asesu amgen. Mae yna lawer iawn o waith i'w wneud a thrafodaethau manwl a thechnegol i'w cael, ac mae hi yn bwysig bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud o safbwynt faint o'r trefniadau sy'n digwydd yn fewnol, yn yr ysgolion, a faint o rôl fydd gan CBAC neu eraill. Mi fyddai'n dda cael gwybod prynhawn yma beth ydy union amserlen y grŵp yma.

Rydym ni'n disgwyl penderfyniadau erbyn diwedd y flwyddyn. Gobeithio na fydd yna ddim llusgo traed. Mae'n rhaid caniatáu i ysgolion roi'r trefniadau priodol yn eu lle ac i ddisgyblion gael deall sut y byddan nhw'n cael eu hasesu, achos tra bo ansicrwydd yn parhau mi fydd athrawon a disgyblion yn parhau i fod yn bryderus. Llawer o fanylion i'w trafod, felly, a'u cytuno, ac mi fyddaf i'n parhau i gyfrannu'n adeiladol at y trafodaethau, ac mi fyddaf i, bob tro, yn mynnu mai lles plant a phobl ifanc fydd canolbwynt pob penderfyniad gan y Llywodraeth hon.

15:15

Diolch, Siân Gwenllian, am y cwestiynau yna. Fe ddechreuodd drwy ddweud ei bod hi'n credu y dylid bod wedi diddymu'r arholiadau cyn hyn. Wel, polisi Plaid Cymru yw cael gwared ar arholiadau, ac mae hwnnw'n bolisi cwbl ddilys i'w gael. Nid yw'n bolisi yr wyf i'n cytuno ag ef; rwyf i o'r farn fod arholiadau yn rhan bwysig o'n system addysg ni. Pe bawn i'n credu bod modd cynnal arholiadau mewn ffordd deg a chyfartal, fe fyddwn i wedi eu cynnal nhw eleni. Nid penderfyniad hawdd i ni heddiw oedd eu diddymu nhw.

Felly, nid wyf i o'r un farn gyffredinol â hi ynglŷn ag arholiadau, ond mae'n amlwg i mi, o dan ein hamgylchiadau presennol, a chyda'r ansicrwydd parhaus ynghylch beth allai'r sefyllfa fod o ran iechyd y cyhoedd dros y gaeaf, na ellir cyflwyno arholiadau mewn ffordd deg a chyfartal, ac rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn cyn gynted ag yr oeddwn i'n gallu gwneud felly. Mae'n gwbl bosibl y bydd rhai yn fy meirniadu i gan ddweud y dylwn i ddal fy ngafael ac aros i weld sut aeaf fydd hwn, ond, pe byddwn i wedi gwneud hynny, fe fyddai hynny wedi arwain at ragor—nid o ddryswch, ond rhagor o ofid wrth i fyfyrwyr ac athrawon geisio marchogaeth dau geffyl, gydag un ceffyl yn credu bod arholiad am ddigwydd ac felly'n dysgu'r holl ffeithiau ac yn paratoi am arholiad, a'r ceffyl arall yn asesu a phrofi'n barhaus, heb wybod o un wers i'r llall pa ddarn o waith fyddai'r darn o waith i'w ystyried gan arholwr allanol o bosibl. Dyna sy'n rhoi straen ar ein plant a'n hathrawon ni, ac rydym wedi gwneud penderfyniad heddiw i roi eglurder llwyr, fel y gall ein holl amser a'n sylw ni droi nawr at brofiadau addysgu a dysgu gwirioneddol gadarnhaol.

O ran cymwysterau galwedigaethol, rwy'n deall bod y sefyllfa yn un anodd a gwahanol ar gyfer y myfyrwyr hynny, ond, fel yr oeddwn i'n egluro i Suzy Davies, nid wyf i mewn sefyllfa i roi cyfarwyddiadau i wahanol reoleiddiwr, ac felly—. Ond fe allaf i roi'r sicrwydd y byddwn ni'n cadw, fel gyda Cymwysterau Cymru, mewn cysylltiad agos gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau i sicrhau nad yw'r myfyrwyr hynny o dan anfantais.

O ran yr hyn a ddisgrifiodd yr Aelod yn 'brofion', nid profion yw'r rhain ac rwy'n credu y dylem ni fod yn ofalus iawn gyda'r derminoleg yn hyn o beth. Asesiadau yw'r rhain a ddarperir ar gyfer ysgolion gan CBAC. A pham hynny? Wel, mae yna ddau reswm pwysig iawn. Rydym newydd glywed gan Suzy Davies am bwysau gwaith ar athrawon. Mewn gwirionedd, mae cael corff allanol sy'n dod â'r capasiti a'r adnodd ychwanegol hwnnw i mewn i'r system yn golygu nad oes yn rhaid iddyn nhw gynllunio'r asesiadau hyn. Fe fydd rhywun arall yn gwneud y gwaith hwnnw drostyn nhw. Ac mae honno'n un ffordd o dynnu'r baich oddi ar y proffesiwn addysgu. Yr ail reswm yw bod cysondeb cenedlaethol ar gael wedyn sy'n ein galluogi ni i gymedroli, oherwydd fe ofynnir i bob plentyn gwblhau tasg gymharol yn yr un modd yn y stafell ddosbarth honno.

Felly, o ystyried cymedroli a sicrhau bod sgôr o A yn Llandudno yn gwbl gyfystyr â sgôr A yng Nghaerdydd, yna fe ellir gwneud hynny ar sail yr un dasg yn union sy'n cael ei chyflawni o fewn y dosbarth, gan sicrhau'r cysondeb cenedlaethol hwnnw. Ac yn ail hefyd sicrhau bod—. Rwy'n siŵr bod yr Aelod wedi darllen yn fanwl trwy'r dadansoddiad o waith ynglŷn â chymwysterau o ran effeithiau graddau a asesir mewn canolfannau ar gydraddoldeb, sef pen ein taith ni'r haf diwethaf. Roedden nhw'n codi rhai materion difrifol iawn ynglŷn â materion cydraddoldeb, ac felly mae cael rhywfaint o unffurfiaeth yn y system hon yn sicrhau bod y bobl hynny sydd â phryderon am ragfarn anymwybodol ac ati—fe ellir mynd i'r afael â'r pryderon hynny. Hefyd, mae hyn yn caniatáu inni gael llwybr i'r system arholi ar gyfer ein harholwyr annibynnol ni.

Yn gynharach, fe ofynnodd Suzy Davies imi am ddatganiad—o, mae'n ddrwg gen i, Mike Hedges oedd yn gofyn am ddatganiad—am blant sy'n cael eu haddysg yn y cartref. Nawr, y llynedd, roedd hi'n anodd iawn gallu ymateb i ymgeiswyr annibynnol. Ar ôl cytuno'n genedlaethol ar dasgau a gynlluniwyd gan ein bwrdd arholi ni i blant eu cyflawni, mae hynny'n cynnig llwybr inni ar gyfer rhai o'r ymgeiswyr annibynnol hynny i allu ennill gradd eleni mewn ffordd nad oedd yn bosibl iddyn nhw heb fod yn rhan o ganolfan asesu ffurfiol. Felly, mae hyn yn gyfle inni fynd i'r afael ag anghenion y myfyrwyr hynny hefyd, ac rydym yn ceisio gwneud cyfiawnder â phob dysgwr sydd gennym yn ein system ar hyn o bryd.

O ran eu nifer a'u natur nhw, mater i'r grŵp fydd hynny. Fe allem ni weld—. Fe allen nhw fy nghynghori i y bydd nifer y tasgau yn amrywio yn ôl natur y cwrs a astudir. Wrth siarad â phrifysgolion, er enghraifft, roedden nhw'n pryderu llawer am fathemateg a myfyrwyr a oedd yn awyddus i fynd ymlaen i astudio am radd sy'n gysylltiedig â mathemateg—ac am sicrhau bod yr holl sail sylfaenol yn cael ei gosod i ganiatáu iddyn nhw allu llwyddo yng ngham nesaf eu gyrfaoedd nhw. Felly, efallai y bydd y grŵp yn argymell dulliau ychydig yn wahanol, yn ôl y pynciau, ond mater iddyn nhw yw hynny, ac mae'n bwysig iawn cydnabod y bydd penaethiaid a darlithwyr ac arweinwyr colegau sydd ar y rheng flaen yn mynd i'r afael â'r materion hynny ac fe fydd y ffordd orau o wneud hynny mewn ffordd deg yn hysbys iddyn nhw. Rwy'n disgwyl y bydd y gwaith hwnnw, fel y dywedais i yn fy natganiad, wedi ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr, ac felly fe allwn ni ddechrau cyflwyno'r rhaglen waith hon ym mis Ionawr.

15:20

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n mawr groesawu'r gallu i gael eglurder gwirioneddol nawr, er mwyn i'n pobl ifanc ni a'n hathrawon wybod i ble y byddan nhw'n mynd a beth i'w anelu ato ar ddiwedd y flwyddyn. Mae gennyf i hefyd—. Gyda phrofiad o fod wedi dysgu mewn ysgolion cyfun, colegau addysg bellach a phrifysgolion, rwy'n gwybod fod yna lawer iawn o brofiad o fewn y proffesiwn i allu cynnal asesiadau fel hyn, cael cymedroli allanol, a sicrhau bod cysondeb a thegwch yn berthnasol ledled y pynciau i gyd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd o'n plaid ni'n fawr iawn.

Rwyf i'n awyddus i ofyn ychydig o gwestiynau am Lefel AS, efallai—rydym wedi sôn am Lefel A ac rydym wedi sôn am gymwysterau TGAU, ond beth am flwyddyn 10 a blwyddyn 12? Sut fydd hyn yn effeithio ar eu hastudiaethau nhw ar gyfer y flwyddyn ganlynol yn 2022, fel eu bod nhw hefyd yn gwybod a'u hathrawon nhw'n gwybod beth fydd eu targedau nhw ar gyfer yr arholiadau hynny? Oherwydd fe fydd hynny'n hanfodol i'r grwpiau hynny o fyfyrwyr. Mae'n wir y bydd yna darfu. Mae gennyf hyder llwyr yn y dull cyfunol o ddysgu, ond mae angen inni hefyd edrych ar yr asesiadau hynny, yn enwedig o ran gwaith galwedigaethol, lle ceir asesiadau a gynhelir mewn canolfannau sy'n seiliedig ar asesiadau ymarferol, y mae'n rhaid eu cynnal ar y safle. Sut ydych chi wedi datrys y trefniant hwnnw i sicrhau, os bydd yna darfu, y gall y myfyrwyr y mae angen iddyn nhw fod ar y safle ar gyfer gwaith ymarferol wneud hynny ac y bydd y profion neu'r asesiadau hynny'n cael eu cynnal?

A wnewch chi ddweud wrthyf hefyd, yn glir, ynglŷn â hyfforddi athrawon i sicrhau eu bod nhw'n gwbl ymwybodol ac yn deall yn union beth yw eu swyddogaeth nhw yn hyn? Oherwydd rwy'n tybio, pan fyddwch chi'n siarad am asesiad a bennwyd yn allanol a marcio allanol, mai'r hyn fydd yn digwydd mewn gwirionedd yw y gallai athrawon fod yn gwneud y gwaith marcio yn seiliedig ar gynlluniau marcio a bennwyd yn allanol, ac fe gaiff hynny ei gymedroli drwy samplu. Oherwydd, fel arall, byddai angen i'r arholwyr allanol neu gymedrolwyr allanol wneud llawer o waith i archwilio popeth a chymedroli'r cyfan yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, mae yna wahaniaeth yn hynny o beth. A allwch wneud yn siŵr fod yna eglurder y byddan nhw'n cael eu hasesu gan yr athrawon i ddechrau, yn seiliedig ar gyfres allanol o gynlluniau marcio, ac yna y byddan nhw'n cael eu samplu a'u cymedroli ledled Cymru i sicrhau cysondeb? 

15:25

Diolch yn fawr iawn i David Rees am ei gwestiynau ef. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod ni'n ceisio cynllunio system sy'n gyfarwydd i'r athrawon. Nid dyma'r amser i greu ffyrdd newydd sbon o wneud pethau, a ninnau'n  cydnabod y straen aruthrol sydd ar athrawon, ysgolion a cholegau unigol ar hyn o bryd. Felly, cynnal asesiadau, tasgau o'r math hwn ac asesu parhaus—mae'r prosesau hyn yn gyfarwydd i'r ysgolion ac mae'r ysgolion yn eu deall nhw'n iawn. Felly, ni ddylai fod angen i ysgol ymgyfarwyddo â system gwbl newydd a gwahanol—mae'r egwyddorion yr ydym yn sôn amdanyn nhw yma yn hysbys ac yn cael eu deall yn iawn gan y gweithlu addysgu.

O ran arholiadau ymarferol, David, rydych chi'n iawn. Ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol, mae'r gallu i ddangos eich sgil technegol, eich arbenigedd a'ch gallu chi i ymgymryd â'r gwaith hwnnw'n rhan hanfodol o ennill eich achrediad ar gyfer ymuno â phroffesiwn. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y dysgwyr hynny wedi cael blaenoriaeth ar ddiwedd y gwanwyn ac ar ddechrau'r haf y llynedd i'w cael nhw yn ôl i'w colegau o flaen neb arall i'w galluogi nhw i orffen eu hastudiaethau. Ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n colegau a'n darparwyr addysg sy'n seiliedig ar waith i sicrhau bod pob cam yn cael ei gwblhau i ganiatáu i fyfyrwyr orffen ac ennill cymhwyster sy'n eu galluogi i naill ai symud ymlaen i astudio ymhellach neu fynd ymlaen i'r byd gwaith.

O ran hyfforddiant, yn amlwg, fe fydd yna angen hyfforddiant a'n disgwyliad ni yw mai mater o bob un yn torchi ei lewys fydd hi yn y senario hwn. Felly, fe fyddem ni'n disgwyl i'n gwasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion ni, yn ogystal â CBAC, allu darparu hyfforddiant a chyngor i ysgolion ynghylch sut y dylen nhw weinyddu unrhyw asesiadau yn y dosbarth, ac, fel yr oeddech chi'n dweud, unrhyw gynlluniau o ran marcio, nid yn unig ar gyfer yr asesiadau a asesir yn allanol, ond, mewn gwirionedd, y broses gymedroli gyfan a neilltuo graddau, oherwydd mae hwnnw'n waith anodd a heriol iawn. Y llynedd, y feirniadaeth oedd—a hynny'n gwbl briodol—na roddwyd y cyfle hwnnw ar waith i roi'r cymorth hwnnw i ysgolion. Cafodd yr ysgolion eu gadael i fwrw ymlaen fwy neu lai ar eu pennau eu hunain. Ac mae angen inni ddysgu'r gwersi a sicrhau bod seilwaith yno o ran yr ysgolion y tro hwn i gefnogi'r gwaith o wireddu a gweithredu'r system hon. Diolch.

15:30

Gweinidog, diolch am y datganiad hwn a'r eglurhad heddiw. Rwy'n credu y bydd yna rai yn eich barnu chi am beidio â phwyllo digon, ac fe fydd yna eraill yn dweud eich bod wedi cymryd gormod o bwyll. Rwyf i o'r farn eich bod wedi gorfod gwneud penderfyniad, rydych wedi edrych ar y dystiolaeth ac wedi penderfynu ar y ffordd orau ymlaen, ac roedd yn rhaid dod i farn ynglŷn â hynny. Bellach o leiaf mae gennym sicrwydd ac eglurder i fyfyrwyr ac athrawon a phenaethiaid ac uwch staff. Felly, diolch i chi am yr hyn a gawsom heddiw.

A gaf i ofyn ichi, beth fydd y cynigion hyn yn ei olygu, wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno, i'r disgyblion a'r myfyrwyr hynny sydd eisoes dan anfantais addysgol, naill ai oherwydd eu profiad blaenorol nhw o addysg, neu'r amgylchiadau ar yr aelwyd, ac yn y blaen? A fydd y cynigion hyn, wrth iddyn nhw gael eu datblygu gan y grŵp a sefydlwyd gennych chi, yn eu galluogi nhw nid yn unig i weithio'r un mor gyflym ond i ddal i fyny os ydyn nhw wedi colli tir? A gaf i ofyn hefyd a fydd yna hyblygrwydd i unrhyw garfannau neu unrhyw unigolion sydd wedi eu heffeithio, naill ai nawr neu dros y misoedd nesaf, gan COVID, sy'n parhau i fod gyda ni? A fydd rhywfaint o hyblygrwydd o ran dyddiadau ac amseroedd addysgu ac asesu—cyfyngedig fel y mae'n rhaid i hynny fod—er mwyn iddyn nhw allu cwblhau eu cwrs a chael canlyniadau da ar y diwedd?

Ac yn olaf, wrth gwrs, nid ydym ar ein pennau ein hunain yn hyn o beth, Gweinidog. Tybed pa drafodaethau sy'n digwydd gyda chymheiriaid yn Lloegr, yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon, ond hefyd â'n cymdogion Ewropeaidd cyfagos, gan gynnwys yn Iwerddon, fel y gallwn ni rannu profiadau, dysgu gwersi, a chynllunio'r ffordd orau ymlaen gyda'n gilydd, gan ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Diolch yn fawr iawn i Huw Irranca-Davies. A gaf i ddweud, drwy gydol y pandemig hwn, pa bortffolio bynnag y cewch chi eich hunan ynddo, nid oes unrhyw benderfyniadau yn hawdd eu gwneud? Mae pob penderfyniad sy'n dod ger fy mron i, neu gerbron unrhyw gyd-Aelodau eraill, ymhell o fod y sefyllfa orau y byddem ni'n dymuno bod ynddi. Ac mae hyn yn heriol iawn, iawn, gan ei bod yn heriol iawn i fod allan yno yn ein hysgolion a'n colegau ni ar hyn o bryd. Nid wyf i'n credu y dylem fod dan unrhyw gamargraff pa mor anodd a heriol yw hyn. Ni allaf i ragweld yr hyn a all ddigwydd yn y misoedd o'n blaenau ni, ond os gwelwn ni'r tarfu a welsom hyd yn hyn yn cael ei ailadrodd, yna, yn amlwg, nid yw'n deg o gwbl.

Eich cwestiwn chi o ran sut y gallwn helpu myfyrwyr i ddal i fyny. Rydych chi wedi gweld yn y cyngor gan Cymwysterau Cymru, sy'n mynegi nad swyddogaeth system gymwysterau, ac nad yw'n bosibl chwaith i system gymwysterau, fynd i'r afael â'r mater sylfaenol sydd gennym dan sylw yma, sef y tarfu enbyd ar ein haddysg. Ni all y system gymwysterau ynddi hi ei hun, ar ei phen ei hun, lenwi bwlch y gwersi hynny a gollwyd. Yr hyn y mae'n rhaid i'r system gymwysterau ei wneud yw adlewyrchu amgylchiadau'r addysg a roddir ar hyn o bryd. Ac mae gennym ni fentrau polisi eraill a gynlluniwyd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gennych chi. Mae bron yn amhosibl i'r system gymwysterau wneud hynny, ond mae angen inni ei wneud mor deg ag y gallwn ni o dan yr amgylchiadau, ac rwyf i o'r farn mai dyna a wnaethom ni heddiw.

Bydd, fe fydd yna hyblygrwydd ynghylch amseru yw'r ateb i'ch cwestiwn chi. Mae hyn yn ymwneud â grymuso ein penaethiaid ni, ein huwch dimau rheoli ni, a'n hathrawon dosbarth ni i gynnal asesiadau ar yr amserau mwyaf cyfleus iddyn nhw a'u carfan nhw.

Ac o ran y trafodaethau yng ngweddill y Deyrnas Unedig, wel, ni yw'r rhan olaf o'r Deyrnas Unedig i wneud penderfyniad ynglŷn â 2021. Rydym wedi cael ein barnu oherwydd hynny, ond mae hyn wedi ein galluogi ni i roi ystyriaeth wirioneddol i'r hyn sydd wedi digwydd ac i gyngor yr adolygiad annibynnol. Nid wyf yn feirniadol o'r Gweinidogion Addysg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig am ddewis dulliau amrywiol; rydym ni i gyd yn ymlafnio gyda'r un problemau dybryd, ac, fel y dywedais, nid oes atebion hawdd. Maen nhw wedi cymryd eu llwybrau eu hunain, ac rwyf innau wedi gwneud y penderfyniad yn y ffordd yr wyf i'n teimlo sydd er lles gorau ein system addysg ni ein hunain. Ond rydym yn dal i siarad â'n gilydd am sut y gallwn ddysgu gwersi oddi wrth ein gilydd, a sut y gallwn ni weithredu'r syniadau gorau o ran polisi, os ydyn nhw er budd ein plant ni ein hunain. Ac rydym ni'n gwneud hynny o fewn y Deyrnas Unedig ac yn rhan o'n haelodaeth ni o'r Atlantic Rim Collaboratory, lle rydym ni'n edrych o safbwynt rhyngwladol ar brofiadau mewn rhannau eraill o'r byd, i weld pa wersi y gallwn ni eu dysgu, nid yn unig o ran arholiadau, ond o ran sut yr ydym ni am redeg system addysg yng nghanol pandemig byd-eang.

A gaf i achub ar y cyfle i groesawu eich cyhoeddiad chi, a'r holl waith a wnaethoch fel Gweinidog Addysg hefyd? Ers imi gael fy ethol gyntaf yn 2016 rwyf wedi eistedd yma droeon yn rhyfeddu at y gwaith a wnaethoch, ac rydym yn falch iawn o'ch cael chi yn rhan o'r Siambr hon.

O ran y penderfyniad hwn, a gaf i bwyso arnoch ryw ychydig bach ynglŷn â'r hyn a ofynnodd David Rees? Ac efallai y gwnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y broses gymedroli a sut fydd y cymedroli'n digwydd mewn ffordd a fydd yn ennyn hyder ymysg y boblogaeth addysg. Ac un peth arall ar ben hynny, onid oes modd cyflwyno proses o adolygu gan gymheiriaid ar lefel leol ymhlith clystyrau o ysgolion er mwyn ychwanegu haen ychwanegol o drylwyredd? Rwy'n deall efallai y byddai hynny'n reit uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond onid yw hon yn ffordd o ailgodi'n gryfach efallai yn y dyfodol hefyd?

15:35

A gaf i ddiolch i Hefin David am ei gwestiynau a'i sylwadau caredig? Rwy'n credu bod gennyf i'r swydd orau yn y byd, hyd yn oed yng nghanol pandemig byd-eang, felly diolch am eich geiriau caredig. Y caredigrwydd sydd wastad yn eich llethu chi, onid e, Dirprwy Lywydd? Ond diolch yn fawr am hynny.

O ran cymedroli, manylion y broses gymedroli yw prif waith y grŵp dylunio a chyflawni. Nid wyf yn cyfyngu ar hynny mewn unrhyw fodd, ac eithrio'r egwyddorion cyffredinol eu bod yn deg ac yn gyfiawn ac yn magu hyder. A byddwn ni'n ceisio gwirio prosesau cymedroli, boed hynny ar lefel ysgol neu boed hynny ar lefel clwstwr, ond fe hoffwn ni wirio'n genedlaethol bod gan yr ysgol—y ganolfan unigol—bopeth sydd ei angen arni i fod yn ffyddiog bod ei phrosesau cymedroli yn deg ac yn gadarn. Rwy'n ymwybodol o'r llwyth gwaith, fel bob amser, yn hyn i gyd, ac, wrth gwrs, wrth inni hawlio mwy o amser athrawon a'u cymryd nhw o'u dosbarthiadau i ymdrin â'r mathau hyn o faterion, rydym ni yn eu tynnu nhw oddi wrth eu gwaith o ddysgu eu plant a'u myfyrwyr. Ond, yn amlwg, bydd hynny'n ystyriaeth i'r grŵp dylunio a chyflawni, ond mae'n sicr yn rhywbeth y dylid ei ystyried yn ofalus.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am fynd i'r afael â'r broblem, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n llesol iawn, nid yn unig i ddysgwyr, ond hefyd i athrawon gael rhywfaint o sicrwydd ynghylch sut y byddwn yn gweithredu ar y mater pwysig hwn, oherwydd fel arall mae'r hen athrawon druan yn poeni'n fawr am sut y byddant yn tywys myfyrwyr drwy hyn i gyd pan fydd yn rhaid iddyn nhw ynysu carfan benodol o fyfyrwyr am ychydig wythnosau, neu hyd yn oed am ail gyfnod. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gyhoeddiad defnyddiol iawn.

Mae tegwch yn ddyhead ond, a dweud y gwir, yn y sefyllfa hon, mae'n anodd iawn gweld sut y byddwn yn sicrhau tegwch, oherwydd mae'n dibynnu ar ba mor drylwyr y mae uwch dimau rheoli yn rhedeg eu hysgolion i sicrhau ein bod yn cyfyngu unrhyw achosion o'r haint y mae myfyriwr neu athro yn eu trosglwyddo o'r gymuned i gyn lleied o athrawon â phosib, ac mae hefyd yn dibynnu ar ein hamgylchiadau personol. Nid athrawon ydym ni. Efallai y gallem ni gael hwyl pur dda ar wleidyddiaeth Safon Uwch, ond oni bai mai Dai Lloyd yw ein henw ni, ni fyddem yn gallu dysgu bioleg i'n myfyrwyr. Byddem ar goll yn llwyr. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall, os nad yw disgyblion yn yr ysgol, mae'n debyg na fyddant yn dysgu i'r safon â phe baen nhw yn yr ysgol.

Felly, i ddechrau, mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n gwbl dderbyniol i fyfyrwyr fod eisiau ail-wneud blwyddyn, oherwydd os ydyn nhw wedi colli llawer iawn o ddysgu ac nad ydynt nhw wedi gallu cael y graddau Safon Uwch sydd eu heisiau arnyn nhw er mwyn mynd ymlaen i'r cam nesaf, dyweder, er enghraifft, prifysgol, mae angen iddyn nhw gael ail gyfle er mwyn dangos bod ganddyn nhw y cymhwysedd hwnnw. Ond, yn yr un modd, ni allwn ni fod yn rhoi graddau i fyfyrwyr o ran caredigrwydd yn unig os nad oes ganddyn nhw'r sylfaen sydd ei hangen i ddilyn cwrs addysg uwch, ac mae prifysgolion yn llygad eu lle i bwysleisio hynny.

Felly, rwy'n cefnogi'n gryf y syniad hwn o grŵp o randdeiliaid, o grŵp cynghori dylunio a darparu a wnaiff eich helpu i benderfynu pa mor drylwyr fyddwn ni o ran sicrhau y bydd safonau yng Nghaernarfon, Caersws a Chaerdydd yr un fath i sicrhau y caiff bobl gymwysterau penodol. Ond, fel y dywedwch chi, bydd trylwyredd y broses hon yn galluogi prifysgolion, i fod yn ffyddiog eu bod yn sicr y gallan nhw gynnig lleoedd i bobl, oherwydd maen nhw wedi hen arfer â derbyn cymwysterau gwahanol, oherwydd addysg prifysgol yw un o'n hallforion mwyaf llwyddiannus ac mae'n amlwg eu bod yn asesu pobl sydd—

15:40

—ag ystod eang o gymwysterau. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni sut ydych chi'n credu y bydd prifysgolion yn ymroi yn frwdfrydig i hyn, nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr.

Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddweud nad oes a wnelo hyn o gwbl â ni yn bod yn garedig neu yn glên wrth fyfyrwyr yn y garfan hon? Mae'n fater o fod yn deg â nhw. Effeithiwyd ar eu haddysg mewn ffordd na allai'r un ohonom ni fod wedi'i dychmygu ym mis Chwefror y llynedd, felly nid yw hyn yn fater o fod yn glên nac yn garedig; mae a wnelo hyn â chreu system drylwyr sy'n caniatáu iddyn nhw gael gradd ac yn caniatáu iddyn nhw wneud cynnydd. Ac mae athrawon yn gwybod, mae athrawon yn gwybod yn iawn nad ydyn nhw yn gwneud unrhyw gymwynas o gwbl os ydyn nhw yn gorbwysleisio gallu'r myfyriwr hwnnw mewn pwnc. Nid yw hynny ond yn arwain at fethiant o bosib yn ddiweddarach a llawer iawn o drallod, ac rwy'n gwybod nad yw ein gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc eisiau i hynny ddigwydd. Byddant yn rhoi asesiad teg, a byddant yn cael cymorth i roi asesiad teg gan y dull cenedlaethol hwnnw o fod â thasgau y gallan nhw gyfeirio atyn nhw yn rhan o'r system hon.

Ac o ran prifysgolion, a gaf i ddweud, fel y dywedais, eu bod yn glir iawn bod arnyn nhw eisiau rhywfaint o ddilysu allanol? Buon nhw hefyd yn glir iawn gyda mi eu bod yn disgwyl i'n rheoleiddiwr cymwysterau gadarnhau fod y cymwysterau hyn yn rhai cadarn. Ond mae ganddyn nhw rywbeth arall y gallan nhw fod yn sicr ohono hefyd pan fyddant yn ystyried myfyrwyr Cymru: roedd ein cyfradd basio, ar y lefelau uchaf un o Safon Uwch cyn y pandemig, yn tyfu bob blwyddyn. Yn 2019, cawsom y ganran uchaf o fyfyrwyr a gafodd A* ac A yn eu harholiadau Safon Uwch. Dyna oedd ansawdd ein haddysg ôl-16 yng Nghymru cyn y pandemig. Deallaf fod carfannau'n newid o flwyddyn i flwyddyn, ond mae'r ansawdd hwnnw yno o hyd. Mae'n dal yno yn ein system, caiff hynny ei ddarparu o ddydd i ddydd, boed hynny drwy addysgu wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth neu drwy athrawon yn gweithio gartref, neu drwy fyfyrwyr yn dysgu gartref. Mae'r ansawdd hwnnw yno o hyd a gallant fod yn sicr o ansawdd ymgeisydd sy'n dod o Gymru, y bydd wedi cael gradd deg am ei waith ac fe allan nhw gynnig lle iddo yn y brifysgol yn gwbl, gwbl ffyddiog. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe allwch chi honni'r ansawdd hwnnw, ond penderfyniad prifysgolion yw derbyn hynny neu ddod i'w casgliad eu hunain a allai fod yn wahanol, ac, yn yr un modd, cyflogwyr. Fe wnaethoch chi ddweud mai'r hyn yr ydych chi wedi'i wneud yw sicrhau cysondeb cenedlaethol, felly bydd A yn Llandudno yn golygu'r un peth ag A yng Nghaerdydd, ond ni fydd yn golygu bod A yn Llandudno yn golygu'r un peth ag A yn Lerpwl neu A yn Llundain. Does dim rhyfedd bod Plaid Cymru yn cefnogi'r polisi hwn: rydych chi wedi creu rhaniad arall eto rhwng Cymru a Lloegr. Bydd y canlyniadau a gaiff myfyrwyr Cymru, oherwydd y dull gwahanol iawn o asesu o'i gymharu â sut y caiff plant yn Lloegr eu hasesu eleni, yn her, boed hynny gyda phrifysgolion neu ynglŷn â darbwyllo cyflogwyr bod barn eu hathrawon amdanyn nhw'n cyfateb i arholiad cystadleuol allanol y bydd llawer o'r bobl y maen nhw'n cystadlu yn eu herbyn wedi'u cyflawni yn Lloegr, gyda phenderfyniadau Llywodraeth y DU. Felly, mae'n siŵr y bydd y penderfyniad hwnnw i'n gwneud yn wahanol, er ei bod yn gwybod am y penderfyniadau a wnaed mewn mannau eraill, yn ei gwneud hi'n anoddach i'r rhai yma yr effeithir arnyn nhw, gystadlu, boed hynny mewn prifysgol neu yn y farchnad gyflogaeth. Oni wnaeth Andrew Adonis, Gweinidog ysgolion Tony Blair, daro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd yn gynharach heddiw, mewn ymateb i ddatgelu eich cyhoeddiad a'ch datganiad,

Rwy'n cefnogi'n gryf bod myfyrwyr yn Lloegr yn sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch y flwyddyn nesaf ac ni fyddwn yn dymuno i'r llywodraeth efelychu polisi Cymru yn eu hatal, sy'n gam yn ôl yn gymdeithasol'?

Mr Reckless, dywedwch a fynnoch chi i ddifrïo athrawon Cymru, myfyrwyr Cymru a system addysg Cymru; rwy'n anghytuno, syr. Mae gennyf bob ffydd yn ein pobl ifanc, ein plant, ein darlithwyr, ein hathrawon, ein bwrdd arholi a'n rheoleiddiwr annibynnol i sicrhau y bydd gan fyfyrwyr sy'n gadael ein system addysg eleni gymwysterau a gaiff eu hystyried yn gyfwerth â rhai o unrhyw le arall, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig hon, yr ydych chi'n treulio llawer o'ch amser yn siarad amdani, ond, yn wir, y byd.

Wn i ddim pryd oedd y tro diwethaf i chi siarad â thiwtor derbyn, ond mae'r system brifysgol yn ymdrin â chymwysterau myfyrwyr o bedwar ban byd. Cânt eu hasesu mewn amryfal ffyrdd gwahanol, maen nhw'n derbyn y myfyrwyr hynny i'w prifysgolion, ac nid oes dim byd gwahanol eleni. Yn wir, cyfeiliornus braidd yw meddwl bod arholiadau Safon Uwch ar draws y Deyrnas Unedig a'r arholiadau uwch yn Yr Alban yn cyfateb yn union iddyn nhw; dydyn nhw ddim. Mae gwahaniaethau eisoes yn ein systemau.

Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn yn awr er lles ein plant a lles ein system addysg. Rwy'n gobeithio'n fawr y gall myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig fwrw ymlaen yn y ffordd y mae eu Llywodraethau wedi amlinellu hyd yma, ond nid wyf yn fodlon mentro felly gyda'n myfyrwyr ni a newid meddwl yn hwyr yn y dydd. Rwy'n egluro nawr i'r bobl ifanc hynny, ac rwy'n neilltuo'r amser fel y gallan nhw gael profiadau addysgu a dysgu cadarnhaol ac y gallwn ninnau gynllunio math gwahanol o system asesu eleni sy'n gadarn.

15:45
4. Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020 a galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NDM7451 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i agor y ddadl yn gofyn i Aelodau gymeradwyo Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020. Mae'r rheoliadau hyn, y cyfeirir atyn nhw yn gyffredin fel 'lle i anadlu', y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Fodd bynnag, heb gymeradwyaeth y Senedd, ni fydd yr amddiffyniadau a gynigir drwy'r moratoriwm lle i anadlu ar gael i bobl yng Nghymru. Gwyddom mai digwyddiadau bywyd fel diweithdra, salwch a chwalu perthynas yw'r sbardunau allweddol ar gyfer problemau dyled, ac mae'r amgylchiadau yr ydym ni yn eu hwynebu gyda COVID-19 yn cynyddu dyled ar aelwydydd ledled Cymru. Pan fydd pobl yn mynd i ddyled, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.

Ond, diolch byth, gall pobl ddod allan o ddyled. Yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yw'r amser i geisio cyngor proffesiynol a deall y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw heb gredydwyr yn bygwth camau gorfodi neu yn cynyddu eu dyled drwy ychwanegu taliadau llog a ffioedd eraill. Dyma'r hyn y mae lle i anadlu yn ei gynnig. Am gyfnod o 60 diwrnod, caiff pobl sy'n ymrafael gyda dyled, amddiffyniadau cyfreithiol i atal credydwyr rhag cynyddu eu dyled a rhag cymryd camau gorfodi, gan roi amser iddyn nhw gael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw i ddechrau rheoli eu dyledion.

Mae digon o dystiolaeth o'r cysylltiad rhwng iechyd meddwl gwael a dyled. Mae gan hanner yr holl oedolion sydd mewn dyledion sylweddol broblem iechyd meddwl hefyd, ac rwy'n falch ei bod hi'n haws i'r bobl sy'n cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl elwa ar y warchodaeth y mae lle i anadlu yn ei chynnig. Bydd eu hamddiffyniadau hefyd yn para'n hwy na'r 60 diwrnod safonol, gan ganiatáu i bobl gwblhau eu triniaeth, ac yna i gael amser i gael cyngor a'r cymorth i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â rheoli eu dyled.

Lle i anadlu yw rhan gyntaf y cynllun seibiant dyledion. Y cynllun ad-dalu dyledion statudol yw'r ail ran a disgwylir iddo gael ei gyflwyno hyd at 2022. Fel gyda lle i anadlu, bydd swyddogion yn gweithio gyda llunwyr polisi i sicrhau bod y cynllun ad-dalu dyledion statudol yn cyd-fynd ag anghenion pobl Cymru ac fe gaiff y rheoliadau eu cyflwyno i'r Senedd i ni eu cymeradwyo.

Galwaf ar Carwyn Jones i siarad ar ran Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Carwyn Jones.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y rheoliadau hyn ar 2 Tachwedd, ac mae ein hadroddiad ar gael yn rhan o'r agenda. Rydym ni wedi nodi y gwneir y rheoliadau hyn gan y Trysorlys o dan Ran 1 o Ddeddf Canllawiau Ariannol a Hawliadau 2018, y rhoddodd y Senedd ei chydsyniad deddfwriaethol iddi ar 13 Chwefror 2018. Yn ystod y ddadl honno yn y Cyfarfod Llawn, dyma ddywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd am unrhyw gynllun seibiant dyledion yn y dyfodol:

Mae ffordd bell i fynd, ond byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r Corff Canllawiau Ariannol Sengl, pan gaiff ei sefydlu, yn ogystal â darparwyr cyngor a rhanddeiliaid eraill i ddylanwadu ar ddatblygiad unrhyw gynllun a phenderfynu a yw'n diwallu anghenion Cymru.

O ystyried y datganiad hwn, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru nodi sut y datblygwyd y cynllun seibiant dyledion i ddiwallu anghenion Cymru a chadarnhau a yw'n fodlon nad yw y rheoliadau hyn yn dod i rym yn gyffredinol tan 4 Mai y flwyddyn nesaf. Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y bu swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r Trysorlys ar y polisi ar gyfer y cynllun seibiant dyledion ers 2018. Yn ogystal, dywedwyd wrthym ni fod cyfreithwyr Llywodraeth Cymru wedi asesu'r rheoliadau drafft ar gyfer y cynllun, ac yn dilyn hynny diwygiodd Llywodraeth y DU y rheoliadau drafft i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â deddfwriaeth Cymru.

O ran dyddiad cychwyn y rheoliadau, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dangos y bu oedi cyn datblygu'r cynllun seibiant dyledion ar ddau achlysur, ffaith y bu yn siomedig yn ei chylch. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod llawer o waith heriol eto i'w wneud, ac er y byddai'n croesawu gweithredu'r cynllun cyn mis Mai y flwyddyn nesaf, mae hi o'r farn ei bod hi'n bwysicach gweithredu cynllun gyda phob amddiffyniad ar waith. O'r herwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn dyddiad gweithredu o 4 Mai 2021.

Fel pwyllgor, rydym yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd yn ogystal â Bil Gwasanaethau Ariannol y DU. Tynnaf sylw'r Aelodau at hyn y prynhawn yma gan fod y memorandwm hwnnw'n dangos mai'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw yw rhan gyntaf y cynllun seibiant dyledion. Mae'r ail ran, y cynllun ad-dalu dyledion statudol, yn destun Bil Gwasanaethau Ariannol y DU. Bydd ein pwyllgor yn ystyried y memorandwm ar gyfer y Bil hwn yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae'n siŵr y gofynnir i'r Senedd ystyried cynnig cydsyniad yn y dyfodol agos. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:50

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedodd Carwyn Jones, credaf fod yr ymatebion i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi dangos mai dyma'r adeg briodol i fwrw ymlaen. Os caiff ei gyflwyno yng Nghymru ym mis Mai 2021, bydd lle i anadlu yn helpu'r bobl hynny sydd wedi bod yn dioddef o ddyled, yr aelwydydd y mae eu baich ariannol yn sylweddol, yn enwedig gyda COVID-19 yn rhoi cyllid cartrefi o dan straen enfawr. Rhaid i ni symud ymlaen o ran sicrhau y bydd lle i anadlu yn helpu'r bobl hyn i ymdrin â'u dyled, efallai ar adeg, fel y dywedais, pan na fu erioed mwy o angen am gymorth. Felly rwy'n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau ymuno â mi i gymeradwyo'r rheoliadau ar gyfer lle i anadlu.

Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Fe gawn ni seibiant nawr cyn i ni ddechrau ar Gyfnod 3, a byddwn yn canu'r gloch pan fyddwn yn barod i ailddechrau'r trafodion.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:52.

16:05

Ailymgynullodd y Senedd am 16:06, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

6. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Croeso nôl, a dyma ni'n cyrraedd Cyfnod 3 ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Grŵp 1: Etholiadau llywodraeth leol (Gweliannau 84, 85, 1, 86, 87, 99, 101,102, 103,104,105, 2, 106, 62, 64, 65, 66, 67, 147, 58, 59, 60, 61, 79, 55, 56)

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau'n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol. Gwelliant 84 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 84 (Mark Isherwood).

Pnawn da. Nod gwelliannau 84, 85 a 103 yw dileu'r ddarpariaeth bresennol sy'n ymestyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ar gyfer pob dinesydd tramor, waeth beth fo'i ddinasyddiaeth. Mae gan y rhan fwyaf o wledydd a chenhedloedd sy'n caniatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion bleidleisio, ofyniad preswylio sylfaenol. Er enghraifft, er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio yn Seland Newydd, mae'n rhaid i'r person fod wedi byw'n barhaus yn y wlad am 12 mis, ac i bleidleisio mewn etholiadau rhanbarthol a threfol yn Nenmarc, er enghraifft, mae'n rhaid i berson fod wedi preswylio'n barhaol yn y wlad am dair blynedd cyn dyddiad yr etholiad. Fodd bynnag, os bydd y gwelliannau hyn yn methu, adlewyrchir ein cred y dylai hawliau pleidleisio fod ynghlwm wrth ddinasyddiaeth person yng ngwelliant 104 o'n heiddo ni, sy'n welliant cyfaddawd i gyflwyno gofyniad preswylio sylfaenol o dair blynedd, gan adlewyrchu'r hyn sy'n eithaf cyffredin ledled y byd, i ganiatáu i ddinasyddion tramor cymwys bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Fel y dywedais yn y ddadl yn ystod Cyfnod 1, gall dinasyddion Iwerddon a'r Gymanwlad ar hyn o bryd, a dinasyddion perthnasol yr UE bleidleisio mewn llywodraeth leol ac etholiadau datganoledig, ond byddai'r Bil hwn yn galluogi pob dinesydd tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae cytundeb cyfatebol hirsefydlog rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon o ganlyniad i'r berthynas hanesyddol rhwng y ddwy wlad, ac mae gallu dinasyddion y Gymanwlad i bleidleisio yn etholiadau'r DU yn etifeddiaeth o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Fodd bynnag, credwn fod y Bil hwn yn cynnig cam yn rhy bell. Mae gan o leiaf y rhan fwyaf o'r ychydig wledydd sy'n caniatáu i ddinasyddion tramor bleidleisio ofyniad preswylio sylfaenol, ond mae hyd yn oed hynny ar goll yma. Fel y dywedodd David Melding wrth graffu ar ddarpariaethau tebyg yn y Bil Senedd ac etholiadau:

dylai eu dinasyddiaeth benderfynu ble maen nhw'n pleidleisio'n bennaf, ac os ydyn nhw'n dewis peidio â cheisio am ddinasyddiaeth yma, yna eu dewis nhw yw peidio â bod â hawliau gwleidyddol i'r graddau y gellir pleidleisio yn ein hetholiadau.

Mae gwelliannau 86 ac 87 yn gosod dyletswydd benodol ar Weinidogion Cymru i gyflwyno fframwaith cenedlaethol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed ac i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ynglŷn â hyrwyddo ymwybyddiaeth o addysg wleidyddol. Mae'r gwelliannau hyn yn ymateb i argymhelliad 2 y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a oedd yn dadlau y dylid diwygio'r Bil i gynnwys darpariaeth benodol a fydd yn ychwanegu rhyw lefel ddigonol o addysg ynglŷn â gwleidyddiaeth a democratiaeth ym mhob ysgol yng Nghymru.

Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, neu yr ERS fel y'i gelwir hi, yn argymell y dylid diwygio'r Bil i gynnwys darpariaeth benodol i gyflwyno lefel ddigonol o addysg ar wleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru ym mhob ysgol. Yn benodol, dywedant, dylai pobl ifanc o 14 a 15 oed gael yr addysg hon i'w paratoi ar gyfer pleidleisio yn 16 oed. Dylai'r rhaglen hon o ymwybyddiaeth wleidyddol gyd-fynd â chynlluniau gwersi clir, maen nhw'n dweud, i rymuso athrawon i gyflwyno'r gwersi.

Yn ystod Cyfnod 2 y Bil hwn, dadleuodd y Gweinidog yn erbyn y gwelliant hwn, gan ddweud y bydd Cwricwlwm newydd Cymru yn caniatáu i athrawon benderfynu sut i ddarparu addysg wedi'i theilwra i anghenion penodol eu disgyblion. Mae hyn yn cynnwys addysg wleidyddol, a fydd yn dod o dan y diben craidd o gefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, gan dynnu sylw at gyfleoedd i archwilio gwleidyddiaeth o fewn y cwricwlwm drwy fagloriaeth Cymru yn rhan o'r her dinasyddiaeth fyd-eang. Fel y dywed y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, fodd bynnag, y gwir amdani yw, ar hyn o bryd a hyd yn oed yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd, athrawon fydd yn dysgu addysg wleidyddol, a hynny beth bynnag fo'r adnoddau sydd ar gael. Yn y dyfodol, fel yn awr, bydd disgyblion felly â gwahanol haenau o ddealltwriaeth o sut y gwneir penderfyniadau yng Nghymru, a bydd y rheini ar yr haen isaf yn ei chael hi'n anodd gwybod yn well sut y gallan nhw leisio eu barn yn eu cymdeithas. Fel y dywedodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol wrthyf dim ond 11 diwrnod yn ôl, 'Rydym yn poeni am beidio â chynnwys gofyniad pendant y dysgir gwleidyddiaeth i bob disgybl yn rhan o'r cwricwlwm. Ar ôl darllen a gwrando ar Lywodraeth Cymru ar y mater,' medden nhw, 'maen nhw'n rhoi pwyslais mawr y bydd adnoddau o'r radd flaenaf ar gael ond, unwaith eto, ni fyddai sicrwydd, mewn cwricwlwm yn seiliedig ar fwriad, y caent eu defnyddio.' Mae ein gwelliant, felly, yn ceisio sicrhau cysondeb o ran addysg wleidyddol ac ymwybyddiaeth ledled Cymru. Mae'r mater hwn yn rhy bwysig i'w wneud fel arall mewn cenedl sydd eisoes yn cael trafferth gyda diffyg democrataidd.

Mae gwelliant 99 yn ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys rhanddeiliaid yn llawn cyn gwneud rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau lleol yng Nghymru. Yn ei adroddiad Cyfnod 1, awgrymodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phrif gynghorau a chymunedau cyn diwygio'r trefniadau etholiadol. Mae ein gwelliant yn ceisio mynd ymhellach nag awgrym y pwyllgor drwy ei gwneud hi'n ofynnol cynnwys prif gynghorau a chynghorau cymuned yn ogystal â chymunedau lleol i sicrhau y caiff unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol eu cyd-gynhyrchu gan y cymunedau y maen nhw yn effeithio arnynt, yn hytrach na chael eu gorfodi arnynt. Byddai ein gwelliant hefyd yn sicrhau bod y Bil hwn yn cyd-fynd â'r saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio y mae hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus eu harddel er mwyn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a anwybyddir yn rhy aml yn ymarferol.

Fel y dadleuais yn nadl pwyllgor Cyfnod 1, mae'n destun pryder mawr felly i'r Gweinidog wrthod argymhelliad y pwyllgor bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â rhaglen ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn ystod trafodion Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Gweinidogion Cymru ymgynghori â'r rhai y tybiant ei bod hi'n briodol ymgynghori â nhw, a byddai hyn yn cynnwys y rhai a restrir yn y gwelliant hwn wrth ddatblygu'r rheolau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd ein gwelliant yn sicrhau y caiff rhanddeiliaid eu cynnwys yn llawn yn y gwaith o gyd-gynhyrchu rheolau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, drwy eu cynnwys ar wyneb y Bil, gan droi rhethreg yn realiti ynghylch grymuso cymunedau lleol.

Mae gwelliannau 101, 102 a 147 yn ceisio diwygio'r darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestru heb wneud cais i sicrhau y caiff unigolion sydd wedi'u cofrestru eu rhoi ar y gofrestr etholiadol lawn gaeedig yn hytrach na'r gofrestr lawn agored—dylwn ddweud y 'gofrestr gaeedig' yn hytrach na'r 'gofrestr lawn agored'. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio ymateb i bryderon am y ddarpariaeth bresennol sydd wedi'i chynnwys yn y Bil sy'n golygu y caiff pobl sydd wedi'u cofrestru heb iddyn nhw wneud cais am hynny eu rhoi ar y gofrestr agored yn ddiofyn. Mae'r Academyddion Toby James a Paul Bernal o Brifysgol East Anglia yn dadlau bod y gofrestr a olygwyd ar gael yn rhwydd i gwmnïau a thrydydd partïon ei phrynu heb unrhyw gyfyngiadau ar ei defnyddio. Nid yw'n ateb unrhyw ddiben o ran cynnal yr etholiad. Mae'n debygol na fydd dinasyddion yn gwybod fawr ddim bod eu data'n cael ei ddefnyddio fel hyn. Felly, byddai gwybodaeth am etholwyr Cymru ar werth heb eu caniatâd penodol.

Cynigiwn felly y caiff y Bil ei ddiwygio fel na chaiff dinasyddion sydd wedi'u cofrestru'n awtomatig eu hychwanegu yn ddiofyn at y gofrestr a olygwyd. Dywedodd Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, nad yw'r gofyniad presennol i ysgrifennu at unigolion yn rhoi gwybod iddyn nhw am gofrestru awtomatig yn ddigonol, gan nad yw llawer o bobl mewn rhai amgylchiadau yn ymateb i ohebiaeth swyddogol. At hynny, cododd Cytûn bryder penodol am y ddarpariaeth gofrestru bresennol. Dywedant, drwy roi pobl ar y gofrestr agored, y gallai hyn effeithio ar rai unigolion sydd wedi dewis peidio â chofrestru'n bwrpasol rhag ofn iddyn nhw gael eu hadnabod gan gyn-bartner treisgar neu eraill a allai ddymuno eu niweidio. Felly, mae ein gwelliant yn rhoi'r dewis i bobl gael eu rhoi ar y gofrestr agored, yn hytrach na chael eu rhoi'n ddiofyn ar y gofrestr agored.

Yng Nghyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog, ac rwy'n dyfynnu:

Rwy'n credu y dylid rhoi dewis i bleidleiswyr ynglŷn â sut y defnyddir eu gwybodaeth.... O'r herwydd, bydd y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn caniatáu i berson hysbysu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol o'i ddymuniad.

Fodd bynnag, nid dyma ddiben ein gwelliant. Mae ein gwelliant yn ceisio sicrhau y caiff pobl a roddir ar y gofrestr etholiadol heb gais eu rhoi ar y gofrestr gaeedig yn awtomatig ac yn cael y dewis i'w cynnwys ar y gofrestr agored, yn hytrach nag i'r gwrthwyneb. Diben hyn yw sicrhau bod pobl nad ydyn nhw wedi dewis bod ar y gofrestr etholiadol yn fwriadol yn parhau i gael eu diogelu, gan gyflawni nod y Bil o gynyddu faint o bobl sy'n cofrestru i bleidleisio. 

Mae gwelliant 105 yn ceisio ehangu'r diffiniad o swyddi sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol nad yw eu deiliaid yn gymwys i fod yn aelod o awdurdod lleol. Mae'r diwygiad yn addasu'r diffiniad o swyddi sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol yn adran 2 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 drwy gynnwys unrhyw un sy'n gyflogedig gan gyngor ac sy'n rhoi cyngor a chymorth yn rheolaidd i aelod etholedig neu aelodau etholedig o'r awdurdod. Mae hyn yn ehangu cwmpas presennol y ddarpariaeth, sy'n cyfeirio at roi cyngor yn rheolaidd i unrhyw aelod o'r weithrediaeth sydd hefyd yn aelod o'r awdurdod. Bydd y Bil fel y'i drafftiwyd yn caniatáu i staff y cyngor sefyll dros eu cyngor eu hunain heb orfod ymddiswyddo'n gyntaf. Rydym yn cefnogi hyn. Fodd bynnag, mae ein gwelliant yn egluro ac yn sicrhau nad yw unrhyw swyddog sy'n dod i gysylltiad rheolaidd ag aelodau etholedig ac yn rhoi cyngor iddynt, ac a allai fod â gwrthdaro buddiannau sylweddol pe baent yn sefyll dros y cyngor y maent yn gyflogedig ganddo, yn cael sefyll mewn etholiad heb ymddiswyddo'n gyntaf.

Yng Nghyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog na fyddai'n derbyn ein gwelliant, fel y dywedodd:

Hoffwn i fwy o bobl sefyll i gael eu hethol i gynghorau yng Nghymru, felly ni allwn i heb reswm da gefnogi darpariaeth a oedd yn ceisio gwahardd mwy o bobl rhag sefyll mewn etholiad.

Nid ein bwriad yw lleihau nifer y bobl sy'n sefyll mewn etholiad. Byddai ein darpariaeth yn dal i ganiatáu i fwy o bobl sefyll mewn etholiad. Ac er ein bod yn cytuno y dylai'r rhan fwyaf o staff y cyngor gael sefyll dros eu cyngor eu hunain heb orfod ymddiswyddo'n gyntaf, diben ein gwelliant yw ehangu'r diffiniad o swyddi sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol, sydd wedi'i ddiffinio'n gul iawn ar hyn o bryd, gan adlewyrchu'r ffaith nad yw pŵer wedi'i wahanu'n ffurfiol rhwng y weithrediaeth a'r ddeddfwrfa o fewn prif gyngor, ac mai'r un swyddogion cyngor, felly, sy'n cefnogi'r cabinet a'r meinciau cefn, yn wahanol i'r rhaniad rhwng y staff sy'n cefnogi seneddau a'r gweision sifil sy'n cefnogi'r Llywodraeth yn y fan yma ac mewn mannau eraill. Mewn geiriau eraill, rydym ni yn ceisio osgoi gwrthdaro buddiannau anochel a fyddai'n codi fel arall.

Mae gwelliant 106 yn ceisio dod â'r rheoliadau ar gyfer hysbysebion gwleidyddol ar-lein y telir amdanynt—

16:15

Mark Isherwood, os gaf i dorri ar eich traws am eiliad, mae gennych chi 10 munud i gyflwyno'ch gwelliannau, ac rydych ni nawr ar 12 munud. Bydd gennych chi amser i gau'r grŵp hwn hefyd, felly a wnewch chi orffen eich sylwadau agoriadol? Byddaf yn eich galw ar ddiwedd y grŵp eto i ddychwelyd at unrhyw faterion y mae angen i chi ymdrin â nhw.

Iawn. Wel, fe ddof i ben gyda'r sylw yna, felly, a chrybwyll, fel y dywedwch chi, y pwyntiau sy'n weddill yn fy nghasgliad. Diolch.

Gwrthwynebaf roi hawliau i bleidleisio ar sail bod yn dramorwr yn y wlad hon nad yw'n barod i gymryd y cam terfynol o drefnu dinasyddiaeth. Yn y cyfnod canoloesol, roedd hawliau pob dinesydd yn deillio yn y pen draw o'r cysyniad o deyrngarwch i'r goron. Wel, rydym ni wedi symud ymlaen, mewn termau democrataidd, o hynny, ond, yn y pen draw, mae hyn i gyd yn ymwneud â theyrngarwch i'ch gwlad. Ac mae'n gwneud niwed sylfaenol, yn fy marn i, i'r cysyniad hwnnw o gydlyniant cenedlaethol y mae hynny'n ei gynrychioli.

Wedi'r cyfan, yr hawl i bleidleisio yw un o'r pwysicaf o hawliau dinasyddiaeth, a chredaf fod yn rhaid i chi gael ymrwymiad hirdymor i'r wlad hon er mwyn bod yn deilwng o hynny. Os mai dim ond am gyfnod cymharol fyr yr ydych chi'n preswylio yn y wlad hon ac nad oes gennych chi unrhyw fwriad, o bosib, i fyw yn y wlad hon yn barhaol, nid wyf fi, yn bersonol, yn gweld pam y dylech chi gael yr hawl i benderfynu ar fuddiannau hirdymor y wlad.

Mae hon yn ddarpariaeth anarferol yn rhyngwladol hefyd. Nid yw'r rhan fwyaf o wledydd yr UE yn rhoi hawliau fel y gofynnir i ni eu rhoi y prynhawn yma. Yn sicr, nid yw'r gwledydd mwy—Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Gwlad Pwyl—yr un ohonyn nhw yn rhoi'r hawl i dramorwyr bleidleisio yn eu hetholiadau. Credaf ei fod yn dibrisio dinasyddiaeth yn sylfaenol ac, yn wir, y cysyniad o gymhathu, sydd, wrth gwrs, yn newid yr amgylchiadau cyfreithiol y mae rhywun yn byw ynddynt.

Credaf fod hyn i gyd, yn y pen draw, yn ymwneud â'ch ymrwymiad i'r wlad yr ydych yn byw ynddi; nid dim ond rhywbeth a gewch chi yn gyfnewid am dalu trethi. Wedi'r cyfan, mae pob math o bobl yn talu trethi dim ond drwy'r ffaith eu bod yn prynu rhywbeth mewn siop ac yn talu treth ar werth arno, ond ni ddylai hynny, ynddo'i hun, fod yn gyfiawnhad dros roi pleidlais iddynt. Credaf fod hwn yn fater dwys iawn, yr ydym ni yn ei drin mewn ffordd gymharol ddibwys.

Wrth gwrs, fe wyddom ni i gyd pam y gwneir hyn, oherwydd, o ganlyniad i'r sioc a roddodd Brexit i'r pwysigion dinesig, dyma un o'r pethau y penderfynasant ei wneud er mwyn, efallai, gwneud i ail refferendwm sicrhau canlyniad gwahanol. Mae hyn yn waddol o ddwy flynedd yn ôl, pan gafodd ei ddatblygu yn rhan o bolisi'r Blaid Lafur. Credaf fod hynny'n rheswm gresynus dros wneud newid o'r math hwn, sydd â goblygiadau eang iawn yn wir. Ond bu'n rhaid cynnal sylfaen pleidleiswyr Llafur, wrth gwrs, mewn gwahanol ffyrdd wrth i hwnnw edwino. Hyrwyddwyd mudo torfol o dan Lywodraeth Blair bron yn benodol er mwyn, fel yr ysgrifennodd Andrew Neather, a oedd yn gynghorydd i Lywodraeth Blair, mewn eiliad o ddidwylledd mewn erthygl, yn yr Evening Standard, rwy'n credu—dywedodd mai bwriad mudo torfol, hyd yn oed os nad dyna oedd ei brif ddiben, oedd i:

ddilorni'r asgell dde ag amrywiaeth a gwneud i'w dadleuon ymddangos yn rhai hen.

Credaf fod y syniad hwn o ymestyn hawliau pleidleisio i'r rheini nad oes ganddyn nhw deyrngarwch i'n gwlad yn y bôn yn rhan o'r agenda honno. Y nod yw cryfhau'r posibilrwydd i'r rheini y mae'r Blaid Lafur yn credu sy'n mynd i'w dewis nhw, neu bleidiau eraill o'r chwith, yn hytrach na phleidiau o'r dde. Felly, yn y bôn, credaf fod hyn yn ergyd i hanfod democratiaeth Prydain. Am y rheswm hwnnw, gobeithiaf y caiff ei drechu. Diolch.

16:20

Rwy'n croesawu'r cyfle i ystyried gwelliannau i Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) heddiw. Gan droi at y gwelliannau, mae arnaf ofn fy mod yn gwrthod gwelliannau 84 ac 85 ac yn galw ar Aelodau i wneud yr un peth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir iawn dros y pedair blynedd diwethaf y dylai'r etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig gynnwys y rhai sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Credwn y dylai unrhyw un sy'n cyfrannu at ein bywyd cymdeithasol neu economaidd gael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig ar y materion sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Y llynedd, pleidleisiodd y Senedd i ymestyn yr etholfraint ar gyfer ei hetholiadau i ddinasyddion tramor cymwys, a chredaf y dylid ailadrodd hyn ar gyfer llywodraeth leol. Byddai dwy etholfraint wahanol ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru yn annheg â phleidleiswyr, ffaith y mae Aelodau wedi'i chrybwyll o'r blaen yn y Siambr hon. Ni chredaf fod unrhyw reswm pam na ddylai rhywun sy'n pleidleisio mewn etholiad yn y Senedd allu pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol. Dylai'r rhai y mae penderfyniadau llywodraeth leol yn effeithio arnyn nhw gael ethol eu cynrychiolwyr. Yn ogystal, pan ymgynghorwyd ar y mater hwn yn 2017, cytunodd 73 y cant o'r ymatebwyr y dylai pawb sy'n byw yng Nghymru gael pleidleisio, ni waeth ble y cawsant eu geni.

Rwyf hefyd yn gwrthod gwelliant 103. Dylai ymestyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor cymwys ymestyn i'r dinasyddion hynny sy'n gallu sefyll ar gyfer etholiad. Rydym yn cydnabod bod angen i rywun fod â chysylltiad cryf ac ymrwymiad i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu os hoffai sefyll etholiad. Mae cysylltiad o'r fath yn rhan annatod o'r cymhwyster i sefyll etholiad fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 1972. Hefyd, mae'n rhaid i unrhyw ddinesydd tramor cymwys sy'n ymgeisio mewn etholiad llywodraeth leol naill ai fod mewn sefyllfa lle nad yw'n ofynnol iddo gael caniatâd i ddod i neu i aros yn y DU, neu ei fod wedi cael caniatâd i ddod neu aros fel y nodir yn Neddf Mewnfudo 1971, neu y cânt eu trin felly yn ôl y gyfraith.

Ni allaf ychwaith gefnogi gwelliant 104. Nid oes unrhyw ofynion wedi'u gosod ar unrhyw gategori arall o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru o ran preswylio yn y DU. Ni chredaf ei bod hi'n briodol ei gwneud hi'n ofynnol i ddinesydd tramor cymwys fodloni gofynion ychwanegol pan fydd dinesydd o'r Gymanwlad, er enghraifft, ar yr amod ei fod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, yn ymgeisio ni waeth pa mor hir y bu yn y DU.

Mae adran 22 o'r Bil, fel y'i cyflwynwyd, yn ailddatgan y ddarpariaeth bresennol mewn cysylltiad â gwariant gan swyddogion canlyniadau mewn etholiadau lleol yng Nghymru, gan gymhwyso'r ddarpariaeth yn benodol i Gymru drwy fewnosod adran newydd 36C yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Gan fod y ddarpariaeth hon yn ailddatgan y ddeddfwriaeth bresennol, mae'n fwy priodol ei chynnwys mewn Atodlen, ac felly mae gwelliant 62 yn symud y ddarpariaeth hon i Atodlen 2 o'r Bil, tra bo gwelliant 2 yn dileu adran 22. Mae hyn yn gyson â darpariaethau eraill yn y Bil. Mae gwelliant 79 yn ganlyniad i'r gwelliannau hyn ac yn dileu'r darpariaethau presennol mewn cysylltiad â gweithredu adran 22.

Rwy'n galw hefyd ar Aelodau i wrthod gwelliant 86. Mae helpu pobl ifanc i ddatblygu dealltwriaeth dda o brosesau democrataidd yn rhan hanfodol o ymestyn yr etholfraint, ac mae'r Bil hwn eisoes yn gwneud darpariaethau i'r perwyl yma, gan osod dyletswydd ar brif gynghorau i hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc berthnasol ynghylch trefniadau cofrestru a phleidleisio a'u cynorthwyo yn hynny o beth. Wrth gyflwyno'r gwelliant hwn, nid yw'r Aelod wedi ystyried y trefniadau newydd a nodir yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Nid yw gwelliant 87 ychwaith yn ystyried y Bil Cwricwlwm ac Asesu, gan ei fod yn cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol, tra bod y cwricwlwm newydd yn cael ei gynllunio, ei fabwysiadu a'i weithredu ar lefel ysgol, nid ar lefel awdurdod lleol. Buom yn glir yn ein bwriad y bydd y cwricwlwm newydd yn caniatáu i athrawon benderfynu sut i ddarparu addysg wedi'i theilwra i anghenion penodol eu disgyblion. Un o bedwar diben y cwricwlwm newydd yw cefnogi dysgwyr i ddod yn

'ddinasyddion moesegol gwybodus o Gymru a’r byd'.

Byddai addysg dda ar wleidyddiaeth a democratiaeth yn rhan hanfodol o'r gwaith o gyflawni'r diben craidd hwn. Mae paratoi pobl ifanc ar gyfer ymgysylltu o ddifrif â chymdeithas yn agwedd bwysig ar ein system addysg, ac rydym ni eisiau gweld ein holl bobl ifanc yn datblygu yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd. Bydd pobl ifanc, wrth iddyn nhw ddechrau ar eu taith ddemocrataidd, yn dysgu drwy faes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, lle bydd gan ddysgwyr rhwng tair ac 16 oed ddealltwriaeth o'r gwahanol strwythurau a systemau llywodraethu sy'n bodoli yng Nghymru, eu hawliau a'u cyfrifoldebau democrataidd, gan gynnwys eu hawliau pleidleisio, yn ogystal â dysgu am bynciau hanesyddol, daearyddol, economaidd a chymdeithasol yn y maes hwn.

Er mwyn helpu i gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg wleidyddol, nid yn unig mewn ysgolion ond hefyd mewn lleoliadau fel clybiau ieuenctid ac ati, mae pecyn adnoddau, Vote2Voice, ar gael ar Hwb. Bwriedir hefyd i gynllunio adnoddau pellach ar gyfer cymorth dysgu proffesiynol a bagloriaeth Cymru o fis Ebrill nesaf ymlaen. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda chonsortia addysg rhanbarthol i ddarparu cymorth proffesiynol i athrawon, gan gynnwys canllawiau i'w galluogi i ymdrin yn hyderus â sefyllfaoedd a allai godi mewn gwersi, megis sut i ymdrin â materion gwleidyddol dadleuol. Felly, nid wyf o'r farn bod gwelliant 86 a gwelliant 87 yn briodol nac yn angenrheidiol a gofynnaf i Aelodau eu gwrthod.

Er fy mod yn deall yr egwyddorion cyffredinol sy'n sail i welliant 99, rwyf yn ei wrthod, gan nad wyf yn ei ystyried yn briodol nac yn angenrheidiol. Mae'r Bil fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unigolion priodol cyn gwneud rheolau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau lleol. Byddwn i'n rhagweld ymgynghoriad o'r fath yn cynnwys aelodau'r Comisiwn Etholiadol, gweinyddwyr etholiadol, swyddogion canlyniadau, aelodau awdurdodau lleol a grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y newidiadau sy'n cael eu gwneud, fel y bo'n briodol. Hefyd, mae'r gwelliant fel y'i drafftiwyd yn cyfeirio at 'gynnwys', ac er fy mod yn deall yn llwyr yr hyn y mae'r Aelod yn bwriadu ei gyflawni, nid yw 'cynnwys' yn gyson â'r termau a ddefnyddir mewn mannau eraill yn neddfwriaeth Cymru, ac ni chredaf ei fod yn briodol yma. Credaf fod y ddarpariaeth fel y'i drafftiwyd eisoes yn cyflawni'r hyn y mae gwelliant 99 yn ceisio'i gyflawni.

Ni allaf ychwaith gefnogi gwelliannau 102 a 147, ac yn sgil hynny, gwelliant 101. Credaf y dylid rhoi dewis i bleidleiswyr ynglŷn â sut y defnyddir eu gwybodaeth. Efallai y bydd rhai eisiau i'w manylion gael eu heithrio o'r gofrestr a olygwyd a bydd y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn caniatáu i unigolyn wneud ei ddymuniadau yn hysbys i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Byddai gwelliannau 101, 102 a 147 yn golygu y gellid gwrthod cynnwys rhywun ar y gofrestr a olygwyd, hyd yn oed pe bai'n rhoi caniatâd, gan ddileu dewis yr unigolyn. Dylid nodi y caiff darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestru etholwyr llywodraeth leol heb gais eu gweithredu drwy Orchymyn yn y dyfodol. Cyn dod â'r darpariaethau hyn i rym, byddwn yn gweithio gyda gweinyddwyr etholiadol a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau eu bod nhw a phleidleiswyr yn deall y newidiadau ac yn ymwybodol o'r mesurau diogelu yn y ddarpariaeth.

Gan droi at welliant 105, rwyf eisiau mwy o bobl i sefyll mewn etholiadau cynghorau yng Nghymru felly ni allwn, heb reswm da, gefnogi darpariaeth sy'n ceisio gwahardd mwy o bobl rhag sefyll mewn etholiad. Trafodwyd y gwelliant hwn yng Nghyfnod 2, fel y cydnabu Mark Isherwood, ac, yn fy marn i, ni roddwyd rheswm da pam fod ei angen.

Mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 eisoes yn glir iawn o ran cynnwys llawer mwy na dim ond y swyddogion hynny sy'n rhoi cyngor yn rheolaidd i'r weithrediaeth, neu i unrhyw aelod o'r weithrediaeth. Yn ogystal â'r swyddogion hynny, mae'n rhaid cynnwys unrhyw swyddog sy'n rhoi cyngor yn rheolaidd i'r cyngor llawn, i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor y cyngor, neu i unrhyw gyd-bwyllgor o'r cyngor, yn y rhestr hefyd. Mae'n annhebygol iawn y bydd galw ar unrhyw swyddog cyngor i roi cyngor yn rheolaidd i gynghorydd unigol y tu allan i fecanweithiau cyfarfodydd llawn y cyngor neu'r pwyllgor. Felly, gwrthodaf welliant 105 gan nad wyf o'r farn y byddai'n cyflawni unrhyw beth ac rwy'n ofni na fyddai ond yn creu mwy o fiwrocratiaeth.

Er fy mod yn deall yr egwyddor y tu ôl i welliant 106, nid wyf yn cytuno â'r gwelliant ei hun. Rydym ni wedi ymrwymo i wella ansawdd yr wybodaeth a gyflwynir i bleidleiswyr ac i egluro pwy sy'n gyfrifol am yr wybodaeth a ddarperir. Fodd bynnag, gan fod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi'u lleoli ledled y byd, a chan fod hysbysebion cyfryngau cymdeithasol yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â hyn yw ar sail y DU gyfan, er nad ydym ni wedi ein cyfyngu gan gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Felly, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cyfundrefn gyson ar draws yr holl weinyddiaethau sy'n rhoi gwybodaeth glir i bleidleiswyr am darddiad negeseuon gwleidyddol.

Mae gwelliant 66 yn rhoi'r hawl i ymgeiswyr yn etholiadau prif gynghorau a chynghorau cymuned, a rhai pobl sydd wedi eu hethol i swyddogaethau gyda llywodraeth leol, weld yr wybodaeth sydd ar gadw ynglŷn â phobl ifanc. Mae hyn yn ymwneud â manylion penodedig etholwyr a disgyblion o dan 16 oed, fel sydd wedi'u cynnwys ar gofrestr etholiadol llywodraeth leol. Mae'r gwelliant hefyd yn ymestyn pŵer i wneud rheoliadau yn adran 26 o Ddeddf y Senedd, gan alluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach ynghylch pwy sydd â hawl i weld yr wybodaeth hon mewn cysylltiad ag etholiadau llywodraeth leol a refferenda.

Mae gwelliant 56 yn darparu ar gyfer gweithredu'r darpariaethau a fewnosodwyd gan welliant 66, tra bo gwelliannau 1, 64, 65 a 67 yn ganlyniad i welliant 66 ac yn gwneud mân ddiwygiadau technegol i'r Bil. Mae gwelliannau 58 i 61 i gyd yn welliannau technegol sy'n sicrhau cysondeb ac eglurder ar draws y Bil o ran y cyfeiriadau at ddogfennau ac at wybodaeth.

Mae'r diwygiadau hyn yn mireinio'r ddarpariaeth bresennol fel y gall Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad ag arolwg cychwynnol a gynhelir o dan Atodlen 1, gyfarwyddo prif gynghorau i ddarparu dogfennau neu wybodaeth i'r comisiwn ffiniau, neu gyfarwyddo'r comisiwn i ddarparu dogfennau neu wybodaeth. Diolch.

16:30

Ymateb siomedig ond rhagweladwy, mae'n debyg. Rwy'n credu i'r Gweinidog ddechrau drwy gyfeirio at arolwg yn 2017 a chanran yr ymatebwyr. Roedd y rheini'n samplau anghynrychioliadol ac mae'n gwybod cystal â mi fod ein gwelliannau'n ceisio adlewyrchu, drwy farn y cyhoedd ar y mater hwn, yr holl sbectrwm gwleidyddol, lle mae pleidleisio a dinasyddiaeth yn faterion pwysig. Maen nhw'n rhan o ddefod newid byd, ymrwymiad newydd, hunaniaeth newydd, ac yn rhywbeth a gydnabyddir yn fyd-eang mewn democratiaethau rhyddfrydol gorllewinol fel rhywbeth na ddylid ei roi'n ddiofyn. Nid yw ein cynigion yn radical, dim ond ceisio gweithredu'r arfer da cenedlaethol y maen nhw drwy gael cyfnod preswylio gofynnol fel cyfaddawd.

O ran addysg ar wleidyddiaeth, mae'n amlwg na fyddech chi'n ystyried diwygiadau i'r cwricwlwm a bod y Bil eisoes yn darparu ar gyfer crybwyll y pryder hwnnw. Na, nid yw'n gwneud hynny. Ac, ydym, rydym ni eisoes wedi ystyried diwygiadau i'r cwricwlwm. Mae fy ngwelliannau'n adlewyrchu, fel y dywedais, pryderon a amlygwyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, oherwydd wrth ddrafftio'r Bil ac fel y mae'r Gweinidog yn ymddangos yn benderfynol o'i grybwyll o hyd, bydd hyn yn golygu bod rhai pobl ifanc yng Nghymru yn wybodus iawn, ond y bydd yn broses haenog, gyda llawer o rai eraill heb ddeall cystal ag y dylent sut y mae'r system yn eu cenedl yn gweithredu.

Clywn lawer o rethreg am rymuso dinasyddion, llais cymunedol ac ymgysylltu â'r gymuned, ond eto, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio dileu gwelliannau a fyddai mewn gwirionedd yn rhoi dannedd i gysyniadau o'r fath ac yn eu troi'n realiti byw yn ein cymunedau. Mae'r gair 'cynnwys' yn air allweddol o fewn sector rhyngwladol enfawr sy'n gweithio ar rymuso cymunedol, ymgysylltu â chymunedau a'r hyn y cyfeirir ato'n gyffredin fel 'cyd-gynhyrchu'. Mae'n mynd ymhell y tu hwnt i'r lleiaf—[Anhyglyw.] —geiriau sy'n golygu pethau eraill, megis 'ymgynghori' neu 'gydweithio'. Ystyr 'cynnwys' yw llais cyfartal. Mae'n golygu parch at eich gilydd. Mae'n golygu gorfod gwneud pethau gyda'ch gilydd er lles cyffredin a chyda gwir ymrwymiad.

Unwaith eto, methodd y sylwadau ynglŷn â'r gofrestr etholiadol gydnabod yr angen i amddiffyn rhai pobl agored i niwed a fydd, o dan y cynigion, yn dal i fod yn hysbys pan fyddant wedi dewis peidio â bod.

Bydd ein cynigion yn dal i alluogi llawer mwy o swyddogion llywodraeth leol i sefyll mewn etholiad. Gwn fod y Gweinidog wedi cael gyrfa helaeth mewn llywodraeth leol ac yn gwybod llawer mwy na mi ynghylch sut y mae'r agweddau ymarferol yn gweithio, ond gwn, fel rhywun a oedd yn briod â chynghorydd sir ac sy'n adnabod dwsinau o gynghorwyr sir yn bersonol ar draws yr holl bleidiau, bob dydd yn ddi-ffael mae cynghorydd effeithiol yn gweithio'n agos gyda swyddogion, gan geisio cyngor a chymorth. Nid pob swyddog, drwy'r dydd yw hyn, ac felly mae'n garfan fach yr ydym yn sôn amdani, ond byddai'r bobl hynny'n cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd iawn, felly hefyd y cynghorwyr, yn y ffordd y mae'r Bil wedi ei gynnig ar hyn o bryd.

Yn olaf, hoffwn gefnogi ein cynnig i sicrhau bod cysondeb rhwng rheoliadau ar gyfer hysbysebion gwleidyddol y telir amdanynt ar-lein a hysbysebion gwleidyddol wedi'u hargraffu y telir amdanynt. Dylai hyn fod yn hollol amlwg. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i lenyddiaeth brintiedig, megis taflenni, gynnwys argraffnod o wybodaeth am bwy a dalodd am hyrwyddo'r deunydd. Dywedodd y Comisiwn Etholiadol y byddai argraffnodau ar ddeunydd etholiad digidol yn eu helpu i orfodi'r rheolau gwario, i gael darlun cliriach o bwy sydd angen iddyn nhw eu cofrestru er mwyn cyflwyno cynllun gwariant wedyn. Yn ddiweddar mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud argraffnodau digidol yn ofynnol ar gyfer etholiadau seneddol a lleol. Mae Llywodraeth y DU hefyd wrthi'n cyflwyno deddfwriaeth gynhwysfawr ar gyfer argraffnodau digidol. Dywedodd y Gweinidog yng Nghyfnod 2 ei bod yn cydymdeimlo â'r egwyddor hon, ond bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cyfundrefn gyson ar draws yr awdurdodaeth. Fel arfer, byddwn yn cefnogi'r dull cydgysylltiedig hwnnw'n gryf. Rydym yn deall ei barn, ond credwn y dylai Cymru arwain y ffordd, gan wella atebolrwydd a thryloywder mewn hysbysebu gwleidyddol digidol ac y dylai ddefnyddio ei phwerau i wella safonau hysbysebu gwleidyddol er mwyn gwella democratiaeth Cymru.

Er mwyn gwella democratiaeth Cymru, byddaf yn cynnig yr holl welliannau hyn, gan apelio ar Aelodau i ystyried yr hyn sydd y tu ôl iddyn nhw mewn gwirionedd, yn hytrach na rhywfaint o'r rhethreg wleidyddol bleidiol yr ydym ni wedi'i chlywed.

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 84? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, gan fod yna wrthwynebiad, dwi'n atal y cyfarfod dros dro er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais ar y gwelliannau cyntaf. Felly, atal y cyfarfod dros dro.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:38.

16:45

Ailymgynullodd y Senedd am 16:46, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 84 yn enw Mark Isherwood. Dwi'n galw am bleidlais ar y gwelliant hynny yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. 

Gwelliant 84: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 85 yw'r gwelliant nesaf. 

Mark Isherwood, a yw wedi ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 85 (Mark Isherwood).

Ocê. Y bleidlais nesaf, felly, ar welliant 85. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 85: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf yw gwelliant 1. 

Julie James, a yw wedi ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 1 (Julie James).

Pleidlais ar welliant 1, felly, yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i gario.

Gwelliant 1: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Mark Isherwood, a yw gwelliant 86 wedi'i gynnig? Mark Isherwood, a yw gwelliant 86 wedi'i gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 86 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 86? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.

Mae gwrthwynebiad.

Felly, symudwn ni i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, dau yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 86 wedi'i wrthod.

Gwelliant 86: O blaid: 19, Yn erbyn: 30, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 87 (Mark Isherwood).

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 87? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Galwaf bleidlais ar welliant 87. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pedwar yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Gwelliant 87: O blaid: 19, Yn erbyn: 28, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: System bleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol (Gwelliannau 152, 88, 89, 153, 154, 90, 91, 92, 94, 93, 95, 96, , 97, 155, 98, 156, 100, 157, 145, 176, 146, 63, 177, 83, 151, 148, 168, 137, 169, 170, 171, 144)

Grŵp 2 yw'r ail grŵp o welliannau, sydd yn ymwneud â'r system bleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Gwelliant 152 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gynnig y prif welliant—Delyth Jewell. 

Cynigiwyd gwelliant 152 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Rydym ni wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn i newid y system bleidleisio mewn llywodraeth leol i un tecach. Mae'r dadleuon wedi'u trafod o'r blaen, ac ymddiheuraf i aelodau'r pwyllgor sydd efallai wedi fy nghlywed yn cyflwyno'r dadleuon hyn o'r blaen, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig eu datgan eto nawr.

Mae system y cyntaf i'r felin wedi creu llawer o ganlyniadau annemocrataidd. Er enghraifft—ac roedd yn enghraifft a godais yn gynharach hefyd—yn Sgeti, Abertawe yn 2012, enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol bob un o'r pum sedd, er mai dim ond 38 y cant o'r bleidlais a enillwyd. Methodd y Blaid Lafur, gyda 29.2 y cant, a'r Ceidwadwyr, gydag 20 y cant, ennill yr un sedd yn y ward pum aelod honno, er gwaethaf cefnogaeth leol gref. Nawr, o dan y system bresennol, gall y rhai a orffennodd yn drydydd o ran cyfran y bleidlais fynd ymlaen i ennill y nifer fwyaf o seddi. Yr enghraifft amlycaf o hyn o bosibl oedd yn 2008, pan ddaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyntaf o ran seddi yng Nghaerdydd, ond yn drydydd o ran pleidleisiau. Mae'n debyg bod eironi'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill seddi o'r fath yn annheg o dan system y cyntaf i'r felin yn ddoniol i rai, ond nid pwynt pleidiol yw hwn. Mae pob plaid wedi elwa'n anghymesur ar y drefn system y cyntaf i'r felin, ac mae pob un wedi dioddef o'i herwydd.

Mae wardiau aml-aelod yn gwneud hyn hyd yn oed yn waeth, ac yn creu rhyw fath o loteri. Y cwestiwn mewn gwirionedd yw a ydym ni yn derbyn annhegwch a loteri, neu a ydym ni eisiau gwneud newid cadarnhaol. Nawr, rwy'n gwybod fod cefnogaeth i'r newidiadau hyn ar draws y sbectrwm yn y Siambr, felly fy apêl i bob Aelod yn unigol fyddai, i fod yn barod i sefyll dros eich egwyddorion ac anfon neges ei bod hi'n bryd rhoi terfyn ar y system annemocrataidd hon. Diolch.

Mae ein gwelliannau yn y grŵp hwn yn ceisio dileu gallu awdurdodau lleol unigol i newid eu system bleidleisio o system y cyntaf i'r felin i bleidlais sengl drosglwyddadwy. Nid yw hyn i fod yn groes, mae hyn er mwyn adlewyrchu'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth leol yng Nghyfnod 1, a gefnogwyd gan yr Aelodau, lle nad oedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn cefnogi'r darpariaethau i alluogi prif gynghorau i ddewis pa systemau pleidleisio i'w defnyddio. Er enghraifft, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod angen

system bleidleisio glir a chyson ar draws pob awdurdod lleol er mwyn osgoi cymhlethdod a'r peryg o ddryswch ymhlith pleidleiswyr,

gan ychwanegu y gallai'r cymhlethdod wrth ganiatáu i brif gynghorau ddewis eu system bleidleisio eu hunain fod yn 'eithaf erchyll', gyda'r perygl o anhrefn yn bryder gwirioneddol.

Mynegwyd pryderon a gwrthwynebiad tebyg i'r ddarpariaeth gan holl brif gynghorau a chynrychiolwyr cynghorau tref a chymuned a ymatebodd i ymgynghoriad y pwyllgor. Cydnabu Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol y gallai fod manteision tybiedig o ganiatáu dewis i brif gynghorau, ond dywedodd y gallai'r perygl o gymhlethdod a dryswch o gael dwy system bleidleisio

ddifreinio pleidleiswyr o bosib a'r sefyllfa waethaf fyddai cael effaith ar y nifer sy'n pleidleisio.

Er bod y Comisiwn Etholiadol yn cydnabod mai mater i Lywodraeth Cymru a'r Senedd yw penderfynu pa system etholiadol i'w defnyddio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, roedd yn cytuno bod risgiau a heriau'n gysylltiedig â'r cynnig. Mae hyn yn cynnwys mwy o berygl o ddryswch i bleidleiswyr a heriau gweinyddol. Nododd y comisiwn y byddai'n ofynnol iddo gyhoeddi dwy gyfres o ganllawiau, un ar bob system bleidleisio ar gyfer gweinyddwyr etholiadol, ar gyfer pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantau, ac yna rhedeg ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd ar wahân.

Cyfeiriodd y Comisiwn Etholiadol hefyd at yr ethos o gysondeb mewn cynllunio etholiadol sydd wedi datblygu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a dywedodd y byddai'n siomedig pe bai'r gweithgarwch cydgysylltu hwnnw'n cael ei danseilio gan systemau gwahanol yn gweithredu mewn gwahanol siroedd. Fel y dywedais yn ystod y ddadl yng Nghyfnod 1, roedd 33 o'r 35 ymatebydd i ymgynghoriad y Papur Gwyn yn anghytuno ac roedd yn well ganddyn nhw gadw un system bleidleisio ar gyfer Cymru gyfan. At hynny, fel y dywed adroddiad ein pwyllgor, mae'r

'rhan fwyaf o’r dystiolaeth a gafwyd yn gwrthwynebu’r darpariaethau sy’n caniatáu i brif gynghorau ddewis eu system
bleidleisio eu hunain.'

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol hefyd yn nodi y bydd costau ychwanegol pe bai prif gyngor yn dewis newid ei system bleidleisio, ond nid yw'r costau hyn yn hysbys ar hyn o bryd.

Er mwyn sicrhau cysondeb â hyn, mae gwelliant 137 yn ceisio dileu'r pŵer i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru benderfynu pa system bleidleisio sydd i'w defnyddio yn etholiad cyffredin cyntaf cynghorwyr i'r prif gyngor ar gyfer prif ardal newydd. Mae system bleidleisio adran 125 yn caniatáu i reoliadau uno bennu pa system etholiadol—system y cyntaf i'r felin neu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy—sydd i'w defnyddio ar gyfer etholiadau cyntaf ar gyfer prif gyngor sydd newydd ei greu. Mae'r gwelliant hwn yn dileu'r dewis hwn, gan sicrhau cysondeb o ran systemau etholiadol llywodraeth leol ledled Cymru.

Mae gwelliant 94 yn gwneud darpariaethau i'w gwneud hi'n ofynnol cynnal refferendwm cyn i brif gyngor arfer ei bŵer i newid systemau pleidleisio. Mae hwn yn welliant cyfaddawd. Drwy nifer o welliannau, rydym yn ceisio dileu gallu prif gynghorau i newid eu system bleidleisio'n unochrog er mwyn sicrhau cysondeb systemau etholiadol llywodraeth leol ledled Cymru ac osgoi cymhlethdod a dryswch ymhlith pleidleiswyr. Fodd bynnag, bydd y gwelliant hwn yn golygu, os na fydd ein gwelliannau'n mynd rhagddynt, mai pobl leol fydd â'r penderfyniad i newid y system bleidleisio wrth ethol prif gyngor yn hytrach na'r cyngor ei hun, drwy refferendwm. Bydd gwelliant o'r fath yn helpu i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn penderfyniadau lleol, sydd i fod yn un o brif amcanion y Bil hwn.

Mae gwelliannau 83, 92 a 148 yn ganlyniadol i welliant 94. Diolch.

16:55

Diolch, Llywydd. Polisi Llywodraeth Cymru, fel y darperir ar ei gyfer yn y Bil hwn, yw galluogi prif gynghorau i ddewis rhwng dwy system bleidleisio. Rwy'n ystyried bod cyflwyno'r dewis hwn yn cefnogi'r egwyddor o wneud penderfyniadau yn fwy lleol. Ni chredaf y bydd y dewis lleol hwn yn arwain at ddryswch: mae pob etholiad cyngor yn ddigwyddiad ar wahân. Bydd pleidleiswyr yn canolbwyntio ar yr etholiad ar gyfer eu cyngor nhw, ac nid ar yr un drws nesaf.

Ni allai prif gyngor wneud newid yn fympwyol. Yn gyntaf byddai'n rhaid iddo ymgynghori ag etholwyr lleol, cynghorau cymuned yn yr ardal ac unigolion eraill y mae o'r farn ei bod hi'n briodol ymgynghori â nhw, fel y'u cynhwysir yn adran 8, ac mae penderfyniad i newid y system bleidleisio yn ei gwneud hi'n ofynnol i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddi cynghorwyr ar y cyngor bleidleisio o blaid. O'r herwydd, gwrthodaf welliannau 151 i 157, 176 a 177, sy'n cael yr effaith o orfodi pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer pob etholiad prif gyngor, drwy ddileu'r holl ddarpariaethau sy'n ymwneud â'r system fwyafrif syml, neu system y cyntaf i'r felin. Canlyniad hyn fyddai dim dewis i brif gynghorau.

Ni allaf ychwaith gefnogi gwelliannau 168 i 171, a'u heffaith gyfunol fyddai gorfodi pleidlais sengl drosglwyddadwy ar unrhyw brif gyngor newydd a grëwyd drwy uno neu ailstrwythuro. Mae hyn yn mynd yn groes i'r egwyddor y gall cynghorau ddewis eu system bleidleisio eu hunain. Yn yr un modd, mae arnaf ofn na allaf gefnogi gwelliannau 83, 88 i 91, 93, 95 i 98, 100 a 144 i 146. Mae'r gwelliannau hyn hefyd yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru, drwy ddileu'r darpariaethau sy'n darparu ar gyfer cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy fel un o ddwy system bleidleisio fydd ar gael i brif gynghorau. Byddai'r gwelliannau hyn yn cadw pethau fel y maen nhw, felly system y cyntaf i'r felin ar gyfer pob etholiad i brif gynghorau a dim dewis.

Galwaf ar Aelodau i wrthod gwelliant 137. Mae'r gwelliant hwn yn dileu adran 125, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i reoliadau uno bennu pa un o'r ddwy system bleidleisio fydd yn berthnasol i'r cyngor a grëwyd gan yr uno. Mae angen cael darpariaeth o'r fath o ganlyniad i ddwy system bleidleisio.

Mae gwelliant 92 yn dileu'r gofyniad yn adran 8 o'r Bil i brif gyngor ymgynghori ar gynnig i newid ei system bleidleisio, tra bod gwelliant 94 mewn gwirionedd yn ei ddisodli gan ofyniad i gynnal refferendwm cyn newid system bleidleisio.

Mae prif gynghorau wedi rhoi cynnig ar systemau ar gyfer ymgynghori â phobl leol. Credaf, yn yr achos hwn, fod ymgynghori lleol yn ffordd fwy cost-effeithiol ac ystyriol o gloriannu safbwyntiau a cheisio barn na refferendwm lleol. Dyna pam y gwnaethom ni gynnwys yr union ddarpariaeth yn adran 8(5), y byddai gwelliant 92 yn ei dileu. Felly, gofynnaf i Aelodau wrthod gwelliannau 92 a 94. Am y rhesymau hyn, galwaf hefyd ar Aelodau i wrthod gwelliant 148, sy'n galluogi cynghorau i drefnu pleidlais leol i ganfod barn pobl leol am y cynigion i newid y system bleidleisio.

Yn olaf, gofynnaf i Aelodau gefnogi gwelliant 63. Mân ddiwygiad technegol yw hwn i fireinio'r cyfarwyddyd sy'n diffinio, o fewn y testun sy'n cael ei ddiwygio, ble y dylid mewnosod y gwelliant y darperir ar ei gyfer gan baragraff 18(b) o Atodlen 2 i'r Bil. Diolch.

17:00

Diolch, Llywydd. Wel, diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl. Mae'n siomedig i glywed bod y Llywodraeth yn colli cyfle unwaith eto i greu system bleidleisio decach, a byddwn ni'n gwthio ein gwelliannau yma i bleidlais. Diolch.

Os derbynnir gwelliant 152, bydd gwelliant 88 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 152? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n pleidleisio ar welliant 152 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, dau yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

Gwelliant 152: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 88 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 88? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] 

Felly, pleidleisiwn ar welliant 88.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, dau yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

Gwelliant 88: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Os derbynnir gwelliant 89, bydd gwelliannau 153 a 154 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 89?

Os yw'n cael ei gynnig—

Cynigiwyd gwelliant 89 (Mark Isherwood).

Ie. Anwybyddwch hwnna—mae wedi'i gynnig, ac felly pleidlais ar welliant 89 yn enw Mark Isherwood.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, dau yn ymatal, 37 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

17:05

Gwelliant 89: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Delyth Jewell, gwelliant 153.

Wedi ei gynnig? Iawn. Fe wnaf i dderbyn bawd i fyny am y tro.

Cynigiwyd gwelliant 153 (Delyth Jewell).

Gwelliant 153, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, dau yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 153: O blaid: 10, Yn erbyn: 39, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 154 (Delyth Jewell).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 154? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe bleidleisiwn ni ar welliant 154. Agor y bleidlais.

Mae'r bleidlais wedi ei bwrw. Cau'r bleidlais.

O blaid 10, dau yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 154 wedi ei wrthod.

Gwelliant 154: O blaid: 10, Yn erbyn: 39, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 90 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 90? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe fyddwn ni'n pleidleisio ar welliant 90. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 90 wedi ei wrthod.

Gwelliant 90: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 91 (Mark Isherwood).

Os bydd gwelliant 91 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 92 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 91? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, gelwir am bleidlais ar welliant 91. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Gwelliant 91 wedi'i wrthod.

Gwelliant 91: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 92 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 92? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad, felly cynnal pleidlais. Gwelliant 92. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 92 wedi'i wrthod.

17:10

Gwelliant 92: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 94 (Mark Isherwood).

Os derbynnir gwelliant 94, bydd gwelliant 93 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid gwelliant 94? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly pleidlais ar welliant 94. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, pedwar yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 94: O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 93 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 93? Unrhyw wynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, felly rŷn ni'n cael pleidlais ar welliant 93. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 93 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 93: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 95 (Mark Isherwood).

A ddylid derbyn gwelliant 95? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 95. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 95 wedi'i wrthod.

Gwelliant 95: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 96 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 96? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Pleidlais, felly, ar welliant 96. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 96 wedi'i wrthod.

Gwelliant 96: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 97 (Mark Isherwood).

Os derbynnir gwelliant 97, bydd gwelliant 155 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 97? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Yes, there is. Felly, pleidlais ar welliant 97. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal a 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 97 wedi'i wrthod.

Gwelliant 97: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 155 (Delyth Jewell).

Mae'n cael ei symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 155? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 155. Agor y bleidlais. Diolch. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 155 wedi'i wrthod.

Gwelliant 155: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 98 (Mark Isherwood).

Moved. Os derbynnir 98, bydd gwelliant 156 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 98? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 98. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, dau yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 98: O blaid: 21, Yn erbyn: 28, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Wedi'i symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 156? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 156. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 156 wedi'i wrthod.

17:15

Gwelliant 156: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 99 (Mark Isherwood).

Cynigiwyd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 99? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]

Oes, mae gwrthwynebiad.

Pleidlais, felly, ar welliant 99. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 99 wedi'i wrthod.

Gwelliant 99: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 100 (Mark Isherwood).

—wedi ei gynnig.

Os bydd gwelliant 100 yn cael ei dderbyn, yna bydd gwelliant 157 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 100? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 100. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn erbyn—tri yn ymatal, mae'n ddrwg gen i—36 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 100 yn cael ei wrthod.

Gwelliant 100: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 157 (Delyth Jewell).

Yn cael ei symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn 157?[Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu. Felly, pleidlais ar welliant 157. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 157 wedi'i wrthod.

Gwelliant 157: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 101 (Mark Isherwood).

A ddylid derbyn gwelliant 101—unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, pleidlais ar welliant 101. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pump yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 101: O blaid: 9, Yn erbyn: 37, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 102 (Mark Isherwood).

Cynigiwyd.

A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 102? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, pleidlais ar welliant 102. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pump yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 102: O blaid: 9, Yn erbyn: 37, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 103 (Mark Isherwood).

Yn cael ei symud. Os derbynnir gwelliant 103, bydd 104 yn methu. Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 103? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly pleidlais ar welliant 103. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 103 wedi'i wrthod.

Gwelliant 103: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 104 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 104? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, pleidlais ar 104. Agor y bleidlais.

Mewn union bryd.

Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 104 wedi'i wrthod.

17:20

Gwelliant 104: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 105 (Mark Isherwood).

Oes unrhyw wrthwynebiad i 105? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar gwelliant 105. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pump yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 105 wedi ei wrthod.

Gwelliant 105: O blaid: 9, Yn erbyn: 37, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 2 (Julie James).

Cynigiwyd.

A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 2? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, felly dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, pump yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 2: O blaid: 43, Yn erbyn: 3, Ymatal: 5

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 3: Safonau’r Gymraeg (Gwelliannau 158, 159, 165, 166)

Felly, mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â safonau'r Gymraeg. Gwelliant 158 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gyflwyno'r gwelliant hwnnw ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp yma. Delyth Jewell.

Cynigiwyd gwelliant 158 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser cael arwain y ddadl ar y grŵp yma a chynnig yn ffurfiol y pedwar gwelliant sydd yn y grŵp—y pedwar ohonynt wedi cyflwyno yn fy enw i ar ran Plaid Cymru.

Pedwar gwelliant sydd i gyd mewn dwy set, sef gwelliannau 158 a 159, a gwelliannau 165 a 166. Bwriad y set gyntaf hon yw dileu'r anomali yn y gyfraith sy'n golygu nad ydy swyddogion canlyniadau etholiadau, na swyddogion canlyniadau gweithredol, yn destun unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol yn ymwneud â'r Gymraeg, er bod eu gwaith yng ngolwg unrhyw berson cyffredin heb os yn rhan annatod o waith llywodraeth leol, sydd, wrth gwrs, yn destun disgwyliadau clir ar ddefnydd y Gymraeg o dan y safonau.

Bwriad yr ail set o welliannau hyn yw sicrhau y bydd unrhyw gyd-bwyllgorau corfforedig newydd fydd yn cael eu creu neu eu sefydlu yn agored i orfod cydymffurfio â safonau'r Gymraeg, so byddem ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw yn gorfod cydymffurfio o'r cychwyn cyntaf, ac y gall Comisiynydd y Gymraeg osod safonau arnynt. O'u derbyn, byddai'r gwelliannu yma yn ychwanegu swyddogion canlyniadau etholiadau, a'r cyd-bwyllgorau corfforedig arfaethedig, at yr Atodlenni ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac yn eu hychwanegi at y set fwyaf perthnasol o reoliadau yn yr achos yma, sef Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, a basiwyd gan y Senedd eisoes ar gyfer cyrff llywodraeth leol yn ôl yn 2015. Byddai hynny wedyn yn caniatáu i'r comisiynydd wneud ei waith o osod y safonau mwyaf addas.

Mae'r gwelliannau wedi eu drafftio yn union yr un dull sydd wedi'i dderbyn gan y Llywodraeth eisoes fel ffordd gwbl briodol o ychwanegu cyrff at y safonau. Cefnogodd y Llywodraeth y dull hwn o fanteisio ar ddarn o ddeddfwriaeth gynradd fel cerbyd i gyflwyno safonau yn achos Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), gan arwain at ychwanegu yn gyntaf yr ombwdsmon a chorff llais y dinesydd at y safonau o ganlyniad i'r rheini. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi sôn sawl gwaith yn ystod y Senedd hon am y cyfyngiadau ar ei chapasiti deddfwriaethol sy'n ei hatal rhag cyflwyno mwy o safonau a chreu rhagor o hawliau i ddefnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr Cymraeg eu hiaith. Ond mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod yn parhau yn uchelgais ganddi i weld mwy o gyrff yn dod yn destun safonau. Felly, mae cyfle ar blât i wneud hynny heddiw a dwi'n gobeithio fy mod i wedi gwneud cymwynas â chi fel Llywodraeth, drwy arbed tipyn o gapasiti'r Llywodraeth drwy gyflwyno'r safonau ar eich rhan. Edrychaf ymlaen at glywed y Gweinidog yn cadarnhau, felly, wrth ymateb i'r ddadl, y bydd y Llywodraeth yn gallu cefnogi'r gwelliannau hyn.

Mae'r angen i weithredu yn glir, ond peidiwch â chymryd fy ngair i am hynny—mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi sawl adroddiad ac wedi dweud wrth bwyllgorau'r Senedd yma ar sawl achlysur fod siaradwyr Cymraeg yn cael trafferth ceisio gwasanaethau syml, fel ffurflenni Cymraeg, yn y maes, a bod y Gymraeg yn aml yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth gyhoeddi canlyniadau etholiadau. 'Annigonol' oedd y ddarpariaeth Gymraeg yn hyn o beth yn etholiadau'r Cynulliad 2016, yn ôl y comisiynydd ar y pryd. Dydy hi ddim yn gwneud dim synnwyr bod swyddogion canlyniadau etholiadau a swyddogion canlyniadau gweithredol, sydd, yn fwy aml na ddim, yn swyddogion awdurdodau lleol, yn defnyddio adnoddau awdurdodau lleol ac yn cael eu talu gan awdurdodau lleol, ond eu bod nhw ddim yn destun yr un dyletswyddau â'r awdurdod lleol hwnnw yn rhinwedd yr agwedd briodol hon o'u gwaith.

Mae'n bryder gan y comisiynydd hefyd, nifer y sefydliadau cenedlaethol o bwys newydd sydd wedi'u creu bod y Llywodraeth yn gosod safonau arnyn nhw am gryn amser. Mae rhai yn dal i aros i dderbyn sylw. Ni allwn ni ganiatáu i gydbwyllgorau corfforedig, o ystyried y rôl arwyddocaol y gallan nhw eu chwarae ym mywydau pobl Cymru, fod yn ychwanegiad diweddaraf at y rhestr hir o gyrff sydd wedi'u hanghofio. Awgrymodd y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2 mai eu bwriad byddai defnyddio'r rheoliadau sy’n sefydlu pwyllgorau i osod gofynion o ran y Gymraeg arnyn nhw. Ond mae yna farc cwestiwn ynglŷn â gallu'r comisiynydd i osod a monitro safonau drwy’r dull hwnnw. Mae'r gwelliannau hyn yn ffordd fwy dymunol, clir a thaclus o gyflwyno'r nod hwnnw. Diolch.

17:25

Rwy'n cefnogi egwyddorion gwelliannau 158 a 159 yn llwyr, ac rwy'n cytuno bod angen gwaith pellach gyda'r gymuned etholiadol gyfan ynghylch sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal drwy gydol y broses etholiadau. 

Mae'r Bil eisoes yn cynnwys darpariaeth i wella hygyrchedd dogfennau etholiadol, gan gynnwys yn Gymraeg, ac, ar wahân, rwy'n cyflwyno rheoliadau i eithrio costau cyfieithu Cymraeg a Saesneg o derfynau gwariant ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y gwelliant hwn yn rhan o ddarn llawer ehangach o waith sydd eisoes ar y gweill, sy'n ymwneud â'r Bil gweinyddu etholiadol technegol y bydd angen ei gyflwyno yn y Senedd nesaf. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i drafod gyda swyddogion canlyniadau, Comisiynydd y Gymraeg a'r gymuned etholiadol i sicrhau bod profiad cyfan yr ymgeisydd a phleidleiswyr ar gyfer etholiadau datganoledig yr un fath yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rwyf eisiau sicrhau ein bod ni'n cael hyn yn gywir drwy roi'r amser i sicrhau bod yr holl faterion angenrheidiol yn cael eu hystyried cyn inni ddechrau gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol. Yn y cyfamser, ar gyfer etholiadau 2021, gofynnaf i fy swyddogion godi'r mater yn ystod eu trafodaethau rheolaidd â'r gymuned etholiadol.

Rwyf hefyd yn cydnabod ac yn cytuno â'r bwriad y tu ôl i welliannau 165 a 166 o ran cyd-bwyllgorau corfforedig. Fodd bynnag, nid yw'r gwelliannau hyn yn angenrheidiol nac yn unol â'r dull sy'n cael ei ddefnyddio yn yr achos hwn. Mae'r Bil yn darparu'r fframwaith ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig; bydd y manylion sy'n cefnogi eu gweithredu yn cael eu nodi mewn rheoliadau. Amlinellir y dull hwn yn yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft sy'n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig, a gafodd eu lansio fis diwethaf.

Rwyf eisoes yn bwriadu sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig, lle y bo'n briodol, i'r un rheolau a gweithdrefnau â phrif gynghorau a'm bwriad yw cymhwyso'r un safonau iaith Gymraeg i'r cyd-bwyllgorau corfforedig ag sy'n berthnasol i brif gynghorau. Mae fy swyddogion wedi bod yn trafod gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod y rheoliadau'n cyflawni hyn.

Rhoddir sylw i safonau'r Gymraeg yn rhan o'r rheoliadau cyffredinol y cyfeiriwyd atyn nhw yn ymgynghoriad y cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu'r rheoliadau hyn, a'm bwriad i yw sicrhau eu bod ar waith cyn y bydd yn ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig gyfarfod am y tro cyntaf. Ar y sail hon, Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau wrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Diolch.

Oes. Diolch, Llywydd. Diolch i'r Gweinidog am hynny. Rwyf yn siomedig i glywed bod y Gweinidog yn dweud bod y Llywodraeth yn barod i gytuno mewn egwyddor, ond ddim yn fodlon gweithredu ar hyn yn syth yn y dull dŷn ni'n rhoi ymlaen. Ond rwyf yn clywed beth mae'n ei ddweud, ac mae rhai pethau yna, yn amlwg, rŷn ni yn croesawu.

Buaswn i jest yn dweud eto fod y Llywodraeth wedi derbyn y drafftio a'r dull union hwn o ychwanegu cyrff at y safonau yn y gorffennol, so does dim anhawster technegol, ac mae'n bolisi gan y Llywodraeth i ehangu'r safonau i ragor o gyrff er mwyn creu rhagor o gyfleoedd a hawliau i bobl Cymru fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, does dim anghydweld polisi yma chwaith.

Mae'r Llywodraeth yn cwyno yn aml, efallai ddim jest nawr gan y Gweinidog, ond yn aml mae'r Llywodraeth yn cwyno am y diffyg capasiti, ac yn amlwg, mewn cyfnod o bandemig, bydd yna hyd yn oed fwy o ddiffyg capasiti deddfwriaethol i gyflwyno ragor o safonau. Ac mae yna hefyd, fel roeddwn i'n dweud yn fy araith o'r blaen, mae yna gyfle fan hyn, ar blât yma heddiw, i wneud hyn. Felly, y gwrthwyneb i ddiffyg capasiti ac adnodd sydd yma. Byddwn i'n erfyn arnoch chi felly, Weinidog, i ailystyried hyn. Os yw'r Llywodraeth yn gwrthod y gwelliannau yma heddiw, fel rydych chi wedi sôn byddwch chi'n gwneud, gall y Llywodraeth fyth ddefnyddio'r esgusodion diffyg capasiti ac adnodd pan ddaw hi at beidio cyflwyno safonau byth eto, ac fe fydd hi'n glir i bawb i weld mai diffyg brwdfrydedd mewn deddfu o blaid y Gymraeg ydy'r gwir broblem, a buaswn i ddim eisiau i bobl feddwl hynny.

So, i gloi, Llywydd, dwi eisiau gofyn i Aelodau i ystyried rhywbeth. Cawson ni ein hatgoffa dros y dyddiau diwethaf o'r gwaith arbennig y mae swyddogion canlyniadau etholiadau yn ei wneud yn enw democratiaeth, gan sicrhau bod y broses ddemocrataidd yn hygyrch i bawb, a bod pleidlais pawb yn cyfri yr un faint. Siarad ydw i, yn amlwg fanna, am America, ond yng Nghymru mae'n hollbwysig fod y Gymraeg yn cael ei phriod le ac y gall ein dinasyddion fod yn hyderus y bydd y gyfraith yn gwarantu, fel mater o hawl, nid disgresiwn y swyddog canlyniadau unigol, eu gallu i ymwneud â'r broses ddemocrataidd ac i ymwneud â chyrff democrataidd Cymru yn Gymraeg, yn enwedig wrth i ni ehangu'r etholfraint ac ehangu ein democratiaeth i'r genhedlaeth nesaf trwy'r Bil yma. Felly, roeddwn i'n meddwl bod hwn yn gyfle euraid. Mae gan Aelodau'r Senedd yma gyfle i sicrhau hyn heddiw. Dewch i ni gydio ynddo.

17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 158? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, pleidlais ar welliant 158. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 11 yn ymatal, 31 yn erbyn. Ac, felly, mae gwelliant 158 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 158: O blaid: 9, Yn erbyn: 31, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 159 (Delyth Jewell).

Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i 159? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar 159. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 11 yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Gwelliant 159: O blaid: 9, Yn erbyn: 31, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 106 (Mark Isherwood).

Oes gwrthwynebiad i 106? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar 106. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pump yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 106: O blaid: 17, Yn erbyn: 29, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 62 (Julie James).

A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 62? [Gwrthwynebiad.] Ocê, mae yna wrthwynebiad. Dwi'n gweld y gwrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 62. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 62: O blaid: 44, Yn erbyn: 1, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 145 (Mark Isherwood).

Os derbynnir 145, bydd gwelliant 176 yn methu. A oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gwelliant 145. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, pedwar yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae gwelliant 145 wedi cwympo.

17:35

Gwelliant 145: O blaid: 10, Yn erbyn: 37, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 176 (Delyth Jewell).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i 176? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar 176. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 176 wedi ei wrthod.

Gwelliant 176: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 146 (Mark Isherwood).

Os derbynnir gwelliant 146, bydd gwelliannau 63 ac 177 yn methu. Oes gwrthwynebiad i welliant 146? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar 146. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, tri yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 146: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 63 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 63? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn i bleidlais ar welliant 63. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pump yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 63 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 63: O blaid: 44, Yn erbyn: 2, Ymatal: 5

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 177 (Delyth Jewell).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gwelliant 177 i'r bleidlais, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 177: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 64 (Julie James).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 64? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, pleidlais ar welliant 64. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, chwech yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 64 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 64: O blaid: 43, Yn erbyn: 2, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 65 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 65? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad gan Gareth Bennett. Felly, pleidlais ar welliant 65. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 65 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 65: O blaid: 44, Yn erbyn: 1, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 66 (Julie James).

Ydy, yn cael ei symud. Felly, unrhyw wrthwynebiad i welliant 66? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 66. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 66: O blaid: 44, Yn erbyn: 1, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 67 (Julie James).

Ydy, yn cael ei symud gan y Gweinidog. Oes gwrthwynebiad i welliant 67? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae e. Felly, pleidlais ar welliant 67. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly mae gwelliant 67 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 67: O blaid: 44, Yn erbyn: 1, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 147 (Mark Isherwood).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 147. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pump yn ymatal, 29 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

17:40

Gwelliant 147: O blaid: 17, Yn erbyn: 29, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 83 (Mark Isherwood).

Ydy, mae'n cael ei symud. Os bydd e'n cael ei basio, yna fydd gwelliant 151 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 83? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

Gwelliant 83: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 151 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i 151? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 151. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 151: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 4: Pŵer cymhwysedd cyffredinol (Gwelliannau 107, 3, 108, 109, 110, 68, 74, 69)

Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â phwer cymhwysedd cyffredinol. Gwelliant 107 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r prif welliant ac i siarad ar y grŵp yma o welliannau. Mark Isherwood. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 107 (Mark Isherwood).

Diolch. Mewn llythyr at y pwyllgor, fe wnaeth Parciau Cenedlaethol Cymru ddadlau fod cyfle wedi'i golli trwy beidio â chynnwys awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn yr adran sy'n ymwneud â'r pŵer cymhwysedd cyffredinol sydd wedi'i gynnig ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Mae gwelliant 107 yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru. 

Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn dweud y byddai cael y pŵer hwn yn galluogi awdurdodau'r parciau cenedlaethol

'i fanteisio ar gyfleoedd masnachol pan fydd cyfleoedd yn codi'

a fyddai'n caniatáu i awdurdodau parciau cenedlaethol wireddu'r potensial masnachol llawn sydd gan barc cenedlaethol er budd yr awdurdod ac wrth gwrs y parc cenedlaethol ei hun. 

Mae gwelliannau 108, 109 a 110 wedi'u drafftio i adlewyrchu pryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn ystod trafodion Cyfnod 1, tynnodd cynrychiolwyr Archwilydd Cyffredinol Cymru sylw at bryderon ynghylch defnyddio meini prawf cyfrifon diamod fel rhan o'r meini prawf ar gyfer cyngor tref neu gymuned cymwys i arfer pŵer cymhwysedd cyffredinol. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru na chafodd y broses archwilio ei chynllunio i ystyried

'addasrwydd cyngor i wneud penderfyniadau o ran arfer ei bwerau.'

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dadlau yn lle hynny y dylai'r cynghorau tref a chymuned sy'n dymuno arfer y pŵer cyffredinol baratoi eu hunain i sicrhau y gallant arfer y pŵer yn gywir. Felly, mae gwelliant 109 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i gynghorau tref a chymuned cymwys baratoi strategaeth ar gyfer arfer y pŵer yn briodol.

Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog 

Bydd ysbryd y gwelliant...yn sail i'r canllawiau statudol ar fod yn gymwys i gynghorau cymuned. Fodd bynnag, mae llythyr Archwilio Cymru at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 30 Medi yn nodi: 

'Bydd y cyfyngiad ychwanegol ar yr amserlenni ar gyfer arfer swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol sy'n angenrheidiol i gynnwys Gweinidogion Cymru yn effeithio ar y modd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer. Mae'n anochel y bydd y cyfyngiad ychwanegol ar amserlenni yn lleihau ehangder a/neu ddyfnder archwiliadau ac astudiaethau archwilio.'

Cofiwch, rydym yn gwrando ar yr arbenigwyr yma—y corff arweiniol yng Nghymru. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yr adran yn lleihau'r beichiau gweinyddol o ran archwilio. Fodd bynnag, mae'r gwrthwyneb yn debycach o lawer o fod yn wir. Bydd yr adran yn cynyddu beichiau gweinyddol. Felly, dywedwn ni, mae ein gwelliant yn ceisio sicrhau bod y meini prawf ar gyfer bod yn awdurdod cymwys, o ran pŵer cymhwysedd cyffredinol, yn fwy cadarn. Diben y gwelliant hwn, felly, yw ailddatgan cred a dealltwriaeth yr archwilydd cyffredinol nad yw'r darpariaethau presennol yn y Bil yn ddigonol. Diolch.

17:45

Yn anffodus, rwy'n gwrthod gwelliant 107. Yn 2018, cadarnhaodd Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd y byddai awdurdodau parciau cenedlaethol yn cael eu cadw ac na fyddai eu diben o warchod a gwella harddwch naturiol yn cael ei wanhau. Y penderfyniad oedd cadw pwerau presennol y parciau cenedlaethol. Ac er fy mod i o'r farn y bydd y pŵer cyffredinol yn arf gwerthfawr i brif gynghorau cymuned a chynghorau cymuned cymwys, nid wyf wedi gweld digon o dystiolaeth bod pwerau a dibenion presennol awdurdod parc cenedlaethol yn rhwystr o ran cyflawni'n ymarferol.

Er fy mod i'n cydnabod y bu rhai galwadau i'r awdurdodau hyn gael defnyddio pŵer cyffredinol, nid wyf wedi fy argyhoeddi o hyd pa wahaniaeth cadarnhaol y byddai pŵer cyffredinol yn ei wneud yn realistig i awdurdod un pwrpas. Nid yw hyn yn golygu na ddylai awdurdodau parciau cenedlaethol ddilyn gweithgarwch arloesol sy'n cefnogi cadernid cymdeithasol ac economaidd cymunedau yn eu hardaloedd gan ganolbwyntio rhywfaint ar incwm masnachol. Fe ddylent wneud hynny, ac nid wyf i o'r farn bod unrhyw rwystr iddynt wneud hynny o fewn eu pwerau presennol.

O ran y gwelliant hwn, rwy'n nodi hefyd mai bwriad y darpariaethau yw eu cymhwyso i brif gynghorau cymuned a chynghorau cymuned cymwys. Pe bai'n fwriad rhoi pŵer cyffredinol i awdurdodau parciau cenedlaethol, ni fyddai modd ei gyflawni drwy eu cynnwys yn y darpariaethau hyn yn unig gan fod amrywiaeth o ddeddfwriaeth y byddai angen ei hystyried.

Rwyf hefyd yn gwrthod gwelliannau 108 a 109, a fyddai'n dileu'r gofyniad bod yn rhaid i ddwy farn archwilio ddiweddaraf cyngor cymuned gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn ddiamod cyn y gall osod ei hun yn gymwys i ddefnyddio'r pŵer cymhwysedd cyffredinol. Bu pryderon ei fod yn rhoi Archwiliad Cymru mewn sefyllfa o fesur cymhwysedd cyngor, ond nid yw'r Bil yn darparu ar gyfer hynny ac nid wyf i erioed wedi dweud ei fod yn gwneud hynny. Dyma un o dri maen prawf y mae'n rhaid i gyngor eu bodloni cyn gosod ei hun yn gymwys i ddefnyddio'r pŵer cymhwysedd cyffredinol ac mae'n darparu dangosydd mesuradwy, gwrthrychol bod cyngor yn cynnal gweithdrefnau llywodraethu'n briodol. Nid yw paratoi strategaeth ynddo'i hun yn amod priodol ar gyfer cymhwysedd, gan nad yw'n rhoi unrhyw arwydd gwiriadwy bod y cyngor cymuned yn barod i arfer y pŵer cyffredinol, dim ond y gall baratoi strategaeth. Yn ogystal â hyn, un o ganlyniadau dileu'r meini prawf hyn yw y gallai cyngor cymuned ag archwiliadau cymwysedig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mewn theori, arfer y pŵer cyffredinol. Rwy'n synnu y byddai Aelod yn fodlon cynnig y cam hwn.

Mae rhinwedd i'r egwyddor y dylai cynghorau cymuned baratoi ar gyfer arfer y pŵer cyffredinol, a chaiff hyn ei nodi mewn canllawiau statudol i gynghorau cymuned. Ar ôl ystyried y dadleuon a gyflwynwyd yn ystod trafodion Cyfnod 2 ac eto heddiw, rwyf i'n dal o'r farn bod y meini prawf er mwyn i gynghorau cymuned fod yn gymwys i gael y pŵer cyffredinol i gyd yn briodol ac yn ofynnol. Ar y cyd, maen nhw'n darparu amodau cymhwysedd gwrthrychol, cymesur a mesuradwy, gan gynnwys agweddau democrataidd, llywodraethu a phroffesiynol cyngor cymuned. Rwy'n galw felly ar yr Aelodau i wrthod gwelliannau 108 a 109, a hefyd welliant 110, sy'n ganlyniadol i'r gwelliannau hynny.

Gan droi at y gwelliannau yr wyf i wedi'u cyflwyno, mae gwelliant 3 yn fân welliant technegol sy'n newid y drafftio yn adran 29 er mwyn sicrhau cysondeb â darpariaethau eraill yn y Bil. Nid yw hyn yn newid effaith y ddarpariaeth. Mae gwelliannau 68, 69 a 74 yn dechnegol eu natur ac yn hepgor diwygiadau canlyniadol a fyddai wedi dileu prif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys o adran 95 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 95 o Ddeddf 2003 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Gorchymyn yn eu hawdurdodi i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y gallant ei wneud at ddibenion cyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau arferol. Mae'n angenrheidiol bod prif gynghorau a chynghorau chymunedau yn cael eu cadw o fewn diffiniad awdurdod perthnasol yn adran 95 o Ddeddf 2003, gan mai dim ond i awdurdodau sy'n gwneud rhywbeth at ddiben masnachol y mae'r Bil yn darparu pan fo'n cael ei wneud o dan bŵer cymhwysedd cyffredinol. Diolch.

Diolch, Llywydd. A allwch chi fy nghlywed i? Gallwch. Unwaith eto, ymateb siomedig ond nid annisgwyl. Mae'n ymddangos bod y Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn credu bod llawer o bethau sydd wedi'u gwrth-ddweud yn uniongyrchol gan y cyrff arbenigol perthnasol yn yr achos hwn, yn gyson â'r ymwrthodiad blaenorol o bryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Solace ac eraill. Ac yn awr maen nhw nid yn unig yn gwybod yn well nag awdurdodau'r parciau cenedlaethol, ond maen nhw hefyd yn gwybod yn well nag Archwilydd Cyffredinol Cymru. Byddai'n well gennyf fi gael cyngor gan y cyrff arbenigol ar hyn, ac nid yw ein gwelliannau yn bleidiol, maen nhw'n rhoi llais i'r pryderon hynny a godwyd gan gyrff anwleidyddol sydd ag arbenigedd yn y meysydd hyn. Nid yw doethineb yn dod gydag etholiad, daw doethineb o wybod nad oes gennych fonopoli ar wybodaeth na dealltwriaeth, a bod person doeth felly'n ymgysylltu â'r arbenigwyr hynny sy'n gweithio yn y maes, ac yn cymryd arweiniad ganddynt. Mae'n siomedig nad yw hyn, unwaith eto, yn ymddangos fel pe byddai'n digwydd yn yr achos hwn.

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 107? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 107. Agor y bleidlais.

Cau'r bleidlais.

O blaid 18, pump yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 107 wedi'i wrthod. 

17:50

Gwelliant 107: O blaid: 18, Yn erbyn: 27, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 3 (Julie James).

Mae'n cael ei symud. Oes yna wrthwynebiad i welliant 3? [Gwrthwynebiad.] Oes, Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 3. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, 3 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 3: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 108 (Mark Isherwood).

Oes gwrthwynebiad i 108? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 108. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 9, pump yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 108: O blaid: 9, Yn erbyn: 37, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 109 (Mark Isherwood).

Oes gwrthwynebiad i 109? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 109. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 9, pump yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae gwelliant 109 wedi'i wrthod.

Gwelliant 109: O blaid: 9, Yn erbyn: 37, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 110 (Mark Isherwood).

Mae gwelliant 110 wedi cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gwelliant 110. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae 110 wedi'i wrthod.

Gwelliant 110: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 68 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 68? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, pleidlais ar welliant 68. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, mae yna bedwar yn ymatal, ac mae tri yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.

17:55

Gwelliant 68: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 148 (Mark Isherwood).

A oes gwrthwynebiad i welliant 148? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 148. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, chwech yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae gwelliant 148 wedi'i wrthod.

Gwelliant 148: O blaid: 9, Yn erbyn: 36, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 74 (Julie James).

A oes gwrthwynebiad i welliant 74? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 74. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 74: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 69 (Julie James).

Mae'n cael ei gyflwyno, felly a oes gwrthwynebiad i welliant 69? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 69. Agor y bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, a thri yn erbyn ar welliant 69. 

Gwelliant 69: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cyn y grŵp nesaf o bleidleisiau, bydd ein technegwyr yn cysylltu gyda'r ddau Aelod sydd wedi methu pleidleisio'n electronig y tro yna. Felly all y ddau Aelod sicrhau eu bod nhw ar gael i siarad gyda'r technegwyr?

Grŵp 5: Cyfranogiad y cyhoedd (Gwelliannau 111, 112, 113, 114, 115, 116, 117)

Felly, rydyn ni'n symud ymlaen i'r grŵp nesaf ar gyfranogiad y cyhoedd. Gwelliant 111 yw'r gwelliant cyntaf yn y grŵp yma a'r prif welliant. Dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r gwelliant yna a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Isherwood. 

Cynigiwyd gwelliant 111 (Mark Isherwood).

Diolch. Mae gwelliant 111 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol i'w cefnogi i gyflawni gwell cynnwys, neu 'cyfranogiad' fel y mae wedi'i ddrafftio yn y Bil ar hyn o bryd. Cynigiwyd y term 'cynnwys' i ni gan gyrff arbenigol allanol sy'n gweithio ym maes ymgysylltu cymunedol, grymuso ac adfywio ar ddulliau sy'n seiliedig ar asedau a chryfder yn hytrach na dulliau sy'n seiliedig ar ddiffyg. Mae'n derm a ddefnyddir yn aml, a dderbynnir yn eang yn y DU a thu hwnt.

Yn ystod trafodion Cyfnod 1, dywedodd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru y gallai'r Bil fel y'i drafftiwyd arwain at effeithiolrwydd ysbeidiol ar lefel awdurdodau lleol o ran gwella cyfranogiad neu gynnwys. Fe wnaethon nhw nodi hefyd nad yw'r ddarpariaeth fel y'i drafftiwyd yn dangos y math o ymgysylltu neu gynnwys y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei weld gan awdurdodau lleol.

Fe wnaethon nhw nodi hefyd nad oes swyddogaeth benodol i Lywodraeth Cymru o ran rhannu gwybodaeth a chanllawiau ag awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i sicrhau gwell cyfranogiad neu gynnwys. Felly, mae gwelliant 112 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau gynnwys awdurdodau cysylltiedig wrth annog y cyhoedd i gymryd rhan yn y gwaith o wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth leol. Mae llawer o'n gwelliannau i'r Bil hwn yn ei gyfanrwydd yn ymwneud ag ymgorffori egwyddorion cyd-gynhyrchu a datblygu cymunedol sy'n seiliedig ar asedau yn y Bil ac felly wrth gyflawni strategaethau cynnwys y cyhoedd, yn ogystal â dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Rwyf wedi clywed llawer o Aelodau ar draws y Siambr yn siarad o blaid yr egwyddorion hyn; dyma gyfle i chi eu rhoi ar waith yn eich cymunedau eich hun. Mae cyd-gynhyrchu yn ymwneud â meithrin hyder a chapasiti cymunedau cydnerth. Mae'n ymwneud ag ystyried pawb yn bartneriaid cyfartal mewn gwasanaethau lleol, chwalu'r rhwystrau rhwng pobl sy'n darparu gwasanaethau a'r rhai sy'n eu defnyddio, gwneud pawb yn eich neuadd sir yn bartner i chi, nid yr un sy'n penderfynu'r hyn y cewch neu na chewch ei gael.

Mae cyd-gynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus â defnyddwyr a chymunedau yn mynd y tu hwnt i'r modelau ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau er mwyn darparu'n well ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill i boblogaethau sy'n heneiddio, i bobl sy'n wynebu salwch ac anabledd, i'r bobl economaidd anweithgar ac i'r rhai hynny sy'n byw mewn ynysigrwydd cymdeithasol—sy'n berthnasol iawn ar hyn o bryd. Mae'n ymwneud ag atal ac ail-alluogi drwy gyfrifoldeb personol a chymunedol a lleoliaeth. Mae'n ymwneud ag adfywio economaidd cymdeithasol a chymunedol cynaliadwy, ac mae hefyd yn rhan o ddull polisi datganedig Llywodraeth Cymru. Fel y mae adroddiad newydd yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau 'Building Stronger Welsh Communities' yn ei ddweud,

mae datgysylltu rhwng Llywodraeth, cyrff cyhoeddus a chymunedau yn rhwystr i weithredu cymunedol, er gwaethaf enghreifftiau o gydweithio ar draws sectorau.

Maen nhw'n dweud bod pobl yng Nghymru yn teimlo'n gynyddol lai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Mae llawer o grwpiau cymunedol yn croesawu uchelgais polisi Llywodraeth Cymru i'w cynnwys yn fwy, ond mae teimlad nad yw geiriau teilwng yn cael eu hategu gan weithredu. Wrth gyfeirio at ganfyddiadau dros 250 o sgyrsiau â phobl o sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad ledled Cymru, dywed eu hadroddiad fod

grwpiau yn dal i ddisgrifio modelau diffyg tuag at gymunedau yn dominyddu meddylfryd y Llywodraeth a bod cyrff cyhoeddus yn gwneud i bobl a chymunedau, nid gyda nhw.

Maen nhw hefyd yn disgrifio ffyrdd sefydledig o weithio yn y sector cyhoeddus, wedi eu nodweddu gan gyfathrebu gwael, diffyg ymddiriedaeth, osgoi risg, gweithio mewn adrannau unigol, rhagfarn broffesiynol a diffyg cymhelliant staff fel rhwystrau sylweddol i fwy o weithredu cymunedol.

Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu darpariaethau tebyg o'r Bil mewn ymateb i bryderon gan Un Llais Cymru y byddai'r ddarpariaeth ar y pryd i'w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau annog pobl leol i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau gan awdurdodau sy'n gysylltiedig â'r cyngor yn arwain at brif gynghorau yn cyfarwyddo cynghorau cymuned ac yn annog mwy o gyfranogiad yn y broses o wneud penderfyniadau lleol. Felly, mae'r gwelliant hwn yn ceisio ymateb i'r pryderon hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau gynnwys awdurdodau cysylltiedig wrth annog mwy o ymwneud â phrosesau gwneud penderfyniadau lleol. Byddai hyn yn sicrhau cyd-gynhyrchu gwirioneddol rhwng gwahanol gyrff wrth annog mwy o ymwneud â llywodraeth leol. Byddai gwell cydweithredu rhwng prif gynghorau ac awdurdodau cysylltiedig hefyd yn sicrhau bod strategaethau lleol i annog y cyhoedd i ymwneud â llywodraeth leol yn gyson, gan ystyried pryderon Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru.

Mae gwelliant 113 yn diwygio adran 41(2)(f) er mwyn helpu i annog Aelodau etholedig i ddefnyddio ystod ehangach o lwyfannau cyfryngau i gynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau. Ar hyn o bryd, mae isadran (f) dim ond yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau etholedig fod yn ymwybodol o fuddion defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol. Fodd bynnag, mae'n rhaid cydnabod nad oes gan lawer o bobl fynediad at gyfryngau cymdeithasol ac felly mae'n bwysig bod Aelodau etholedig yn ymwybodol o ystod ehangach o ddulliau sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau er mwyn cynnwys pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol. Felly, mae'r gwelliant hwn yn ymgorffori ond nid yw wedi ei gyfyngu i gyfryngau cymdeithasol er mwyn annog Aelodau etholedig i gynnwys pawb yn y broses o wneud penderfyniadau.

Mae gwelliannau 114 a 116 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor bennu trothwy ar gyfer nifer y llofnodion sydd eu hangen ar ddeiseb i gael ei thrafod naill ai gan un o bwyllgorau'r cyngor neu gyfarfod y cyngor llawn. Er ein bod yn croesawu'r darpariaethau yn y Bil i lunio cynllun deisebu, rydym ni o'r farn bod yn rhaid i'r cynllun alluogi pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol i gymryd rhan yn y broses ehangach o wneud penderfyniadau. Mewn arolwg a gafodd ei gynnal gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dywedodd 56 y cant o'r ymatebwyr mai'r prif rwystr i ymgysylltu â'r cyngor oedd nad oedden nhw'n credu y byddai eu barn yn gwneud unrhyw wahaniaeth. Felly, trwy alluogi deisebau i gael eu hystyried a'u trafod gan gynghorau, gall aelodau etholedig ystyried barn y gymuned yn uniongyrchol, a fydd yn caniatáu iddyn nhw gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Yn ystod Cyfnod 2, cefnogodd y Gweinidog y bwriad y tu ôl i'n gwelliant blaenorol yng Nghyfnod 2, ond dywedodd fod

angen meddwl yn ofalus wrth osod unrhyw derfynau rhifyddol mewn deddfwriaeth sylfaenol.

Mae'r gwelliant hwn, felly, yn ceisio ymateb i sylwadau'r Gweinidog, a rhoi'r hyblygrwydd i brif gynghorau benderfynu ar eu trothwy lleol, a dylid cynllunio hyn drwy gynnwys pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol.

Mae gwelliant 115 yn cryfhau yn fwy adran 43—dyletswydd i greu cynllun deisebau—trwy sicrhau bod prif gynghorau yn mynd ati i hyrwyddo eu cynllun deisebau, a'i gwneud mor rhwydd â phosibl i gael gafael arno. Nododd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn ei thystiolaeth Cyfnod 1 i'r pwyllgor fod deisebau hefyd yn ffordd dda o ymgysylltu â'r cyhoedd, ond mae'n hanfodol bod mecanweithiau tryloyw yn cael eu rhoi ar waith o fewn y broses. Fe wnaethon nhw dynnu sylw hefyd at bryder nad yw'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo'r cynllun deisebau ar ôl ei sefydlu, gan ofyn pwy sy'n mynd i roi gwybod i'r pleidleiswyr bod y cynllun ar waith, pwy sy'n mynd i fesur ei lwyddiant a dwyn yr awdurdod lleol i gyfrif. Mae ein gwelliant, felly, yn mynd i'r afael â hyn.

Mae gwelliant 117 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i brif gynghorau ar sut y bydd y cynllun deisebau yn gweithredu. Diben y gwelliant hwn yw sicrhau bod rhywfaint o gysondeb yng ngweithrediad arferol cynlluniau deisebau cynghorau ledled Cymru, sy'n golygu bod y system ddeisebau ar gael yn i gynifer o bobl â phosibl. Diolch.

18:05

Rwyf i'n credu'n gryf y dylai fod mor syml â phosibl i bobl gymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol, a dyna beth y bydd y darpariaethau yn Rhan 3 o'r Bil yn ei gyflawni. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddatblygu'r canllawiau a fydd yn cefnogi gweithrediad y darpariaethau hyn. Ar ôl gwrando ar y ddadl yng Nghyfnod 2, rwyf yn awyddus i geisio sylwadau gan gyrff perthnasol i sicrhau bod y canllawiau yn gyflawn ac wedi eu datblygu yn llawn. Er enghraifft, rwyf yn ddiolchgar i'r Aelodau am godi barn a sylwadau yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, ac yn gallu cadarnhau bod fy swyddogion yn cyfarfod yn rhithwir â chynrychiolwyr yr ymddiriedolaeth honno yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Rwy'n gwrthod gwelliannau 111 a 117, sy'n cynnig rhagor o ddarpariaethau canllaw. Mae adran 45 o'r Bil eisoes yn gwneud darpariaeth o ran canllawiau ac, felly, nid oes angen rhagor o ddarpariaethau canllaw.

Galwaf ar yr Aelodau i wrthod gwelliant 112, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gynnwys cynghorau cymuned ac awdurdodau parciau cenedlaethol pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan yn ei benderfyniadau ei hun. Ar adeg ei gyflwyno, roedd adran 46 yn cynnwys dyletswydd ar brif gynghorau i annog pobl leol i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yr awdurdodau cysylltiedig hyn. Fodd bynnag, ar ôl gwrando ar bryderon a gafodd eu mynegi yn ystod sesiynau tystiolaeth i'r pwyllgor yng Nghyfnod 1 ynghylch priodoldeb dyletswydd o'r fath, cynigiodd y Llywodraeth welliant yng Nghyfnod 2 i'w dileu. Cafodd y gwelliant hwn ei dderbyn. Felly, rwyf i o'r farn bod y gwelliant hwn yn mynd yn groes i'r pryderon a godwyd yn flaenorol ac yr ymatebwyd iddyn nhw.

Nid wyf i'n gallu cefnogi gwelliant 113, sy'n ceisio disodli'r term 'cyfryngau cymdeithasol' â 'llwyfannau digidol a chyfryngau cyfredol a rhai sy'n datblygu'. Fel y nodwyd yng Nghyfnod 2, caiff y term 'cyfryngau cymdeithasol' ei gydnabod yn gyffredinol, ac nid wyf i o'r farn y byddai newid y geiriad yn y ffordd a awgrymwyd yn ddefnyddiol. Yn wir, rwyf i o'r farn y gallai'r gwelliant fod yn ddi-fudd hyd yn oed a gwneud y ddarpariaeth yn llai clir.

Mae gwelliant 114 yn ychwanegu at welliant Cyfnod 2 yr Aelod, pan geisiodd bennu'r camau i'w cymryd pan fo nifer y llofnodion a gafwyd ar gyfer deiseb yn cyrraedd trothwyon penodol. Rwy'n falch ei bod yn ymddangos bod yr Aelod wedi derbyn fy mhryderon ynghylch gosod terfynau rhifyddol mewn deddfwriaeth sylfaenol, ac nid yw'r gwelliant hwn yn cynnwys trothwyon penodol. Yn hytrach, mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau bennu a chyhoeddi'r trothwy sydd ei angen ar ddeiseb i gael ei thrafod naill ai gan un o bwyllgorau'r cyngor neu mewn cyfarfod llawn o'r cyngor. Rwyf i yn deall y bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwn. Fel yr wyf i wedi sôn, mae gwaith yn mynd rhagddo gyda llywodraeth leol i ddatblygu canllawiau, a fydd yn cynnwys manylion i gefnogi gweithrediad cynlluniau deisebau. Bydd hyn yn cynnwys materion fel trothwyon a phroses. Fy nod yw ceisio cydbwysedd rhwng dull gweithredu cyson ledled Cymru a disgresiwn lleol.

Mae gen i bryder hefyd ynglŷn â'r gwelliant hwn gan ei fod yn cyfeirio at 'gynnwys', heb eglurder ynghylch yr hyn sy'n cael ei geisio. Fel y cafodd ei nodi yng Nghyfnod 2, os yw hwn yn ofyniad ymgynghori mewn gwirionedd, mae'r term 'ymgynghori' yn cynnwys ystyr penodol yn y gyfraith sy'n cael ei ddeall a'i ddefnyddio'n gyson drwy'r Bil a deddfwriaeth arall Cymru. Pe byddai'r gwelliant hwn yn cael ei fabwysiadu, byddai'n cwestiynu statws y gofynion ymgynghori hyn ac, o bosib, gofynion ymgynghori eraill yn y Bil hwn a thu hwnt. Er bod cymryd rhan yn ganlyniad yr ydym yn ceisio'i gyflawni, ac mae'r Bil yn cynnwys llawer o ddarpariaethau sy'n cyfrannu at hyn, os ydym am gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod wneud rhywbeth, mae'n rhaid iddi fod yn glir. Nid wyf i o'r farn bod defnyddio'r term 'cynnwys' yn y cyd-destun hwn yn glir. Rwyf yn galw felly ar yr Aelodau i wrthod gwelliant 114, a hefyd gwelliant 116, sy'n gysylltiedig ag ef.

Er fy mod i'n cytuno â'r bwriad y tu ôl i welliant 115, ni allaf ei gefnogi. Mae adran 43 o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd fynd i'r afael â ffyrdd o hyrwyddo a hwyluso prosesau y gall pobl leol eu defnyddio i gyflwyno sylwadau i'r prif gyngor ynghylch penderfyniad cyn ac ar ôl iddo gael ei wneud. Rwyf i'n credu y byddai'r ddarpariaeth hon yn cynnwys hyrwyddo bodolaeth a gweithrediad ei chynllun deisebu, ac felly nid wyf i o'r farn bod y gwelliant arfaethedig yn angenrheidiol nac yn ddefnyddiol. Diolch.

18:10

Diolch, Llywydd. Wel, mae'n amlwg fy mod i'n falch o glywed y Gweinidog yn dweud bod ei swyddogion yn mynd i gwrdd â'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n eu cyfarwyddo neu'n eu gwahodd i ofyn iddyn nhw beth mae'r term 'cynnwys' yn ei olygu. Fel y dywedais o'r blaen, mae hwn yn derm a gaiff ei ddefnyddio yn eang nid yn unig yn y DU, ond yn rhyngwladol, ac mae'n ysgogi egin rhaglenni credadwy mewn llawer o gymunedau ymhob cwr o Gymru, ond ceir pryder gwirioneddol ynghylch camddefnydd, gorddefnydd a chamddealltwriaeth o'r term 'ymgynghori' sy'n cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro fel dewis amgen yn lle cyd-gynhyrchu a geiriau cyd-gynhyrchiol, yn ymarferol i wella bywydau a chryfhau cymunedau, pan mai ymgynghori yw'r rhwystr, gan ei fod yn anochel bod ymgynghori'n ymwneud â chadarnhau penderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud yn hytrach na chynllunio a darparu gwasanaethau a gweithgareddau eraill o fewn cymunedau lleol eu hunain a gyda nhw. Rwyf i'n edrych ymlaen at y diwrnod—rwy'n gobeithio y byddaf i'n byw i'w weld—pan fydd gennym ni Lywodraeth Cymru sydd o'r diwedd yn defnyddio gwir ystyr yr iaith hon ac yn deall nad yw'n fygythiad. Mae'n gyfle i wella bywydau, gwella ffyniant, cysylltu pobl, a mynd i'r afael â llawer o'r pethau yr ydym ni i gyd yn eu codi yn y Siambr bob wythnos fel problemau gwirioneddol sy'n wynebu'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 111? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 111. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 111: O blaid: 18, Yn erbyn: 30, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 112 (Mark Isherwood).

Gwelliant 112 yn enw Mark Isherwood, yn cael ei symud. A oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 112. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 112: O blaid: 18, Yn erbyn: 27, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 113 (Mark Isherwood).

Gwelliant 113, yn cael ei symud. A oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar 113. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 113: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 114 (Mark Isherwood).

Gwelliant 114, yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 114. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 114 wedi'i wrthod.

Gwelliant 114: O blaid: 18, Yn erbyn: 30, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 115 (Mark Isherwood).

Gwelliant 115, yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly pleidlais ar welliant 115. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

Gwelliant 115: O blaid: 18, Yn erbyn: 27, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 116 (Mark Isherwood).

Gwelliant 116, yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 116. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

18:15

Gwelliant 116: O blaid: 18, Yn erbyn: 27, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 117 (Mark Isherwood).

Mae gwelliant 117 yn cael ei symud yn enw Mark Isherwood. [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad—oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 117. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 117: O blaid: 18, Yn erbyn: 30, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 6: Cyfarfodydd awdurdodau lleol (Gwelliannau 6, 7, 8, 9, 10, 77, 12, 13, 14, 15, 118, 16, 17, 18, 70, 4, 5, 50, 51, 52, 72, 53)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 6, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol. Gwelliant 6 yw'r prif welliant a dwi'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r gwelliant ac i gyflwyno'r grŵp. Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Julie James).

Diolch, Llywydd. Cyn siarad am y gwelliannau unigol, hoffwn i ddarparu rhywfaint o gyd-destun, gan fy mod i'n ymwybodol iawn nad yw'n arferol cyflwyno gwelliannau o'r math hwn yng Nghyfnod 3. Llywydd, hoffwn i hefyd ymddiheuro am yr amser y bydd hyn yn ei gymryd ymlaen llaw.

Mae'r grŵp yn cynrychioli pecyn cynhwysfawr o ddarpariaethau, sy'n cynnwys pedwar bloc adeiladu, gyda'r bwriad o roi ffyrdd modern a chadarn o weithio i awdurdodau lleol. Mae'r pandemig wedi amlygu pa mor hen a chyfyngol y mae rhai o'r darpariaethau. Yn wir, nodir llawer o'r gofynion mewn deddfwriaeth sylfaenol sy'n dyddio'n ôl mor bell â 1960, ac sy'n adlewyrchu byd a ffyrdd o wneud busnes cyn y rhyngrwyd a chyfathrebu electronig.

Mewn ymateb i'r pandemig, fe wnaethom ni reoliadau brys ym mis Ebrill er mwyn caniatáu i gyrff llywodraeth leol gyfarfod o bell a chyhoeddi dogfennau cyfarfodydd yn electronig. Ni fyddai'r cyrff hyn wedi gallu cyfarfod yn gyfreithlon ac yn ddiogel, na pharhau â'u busnes yn ystod y pandemig, heb yr ymyriad hwn. Cafodd y rheoliadau hyn eu croesawu'n wresog gan randdeiliaid, ac maen nhw wedi arwain at fuddion eraill. Mae cyrff llywodraeth leol wedi gallu gweithio'n fwy hyblyg ac effeithlon ac mae prosesau gwneud penderfyniadau wedi bod ar gael i gynulleidfa lawer ehangach. Hefyd, mae rhai cyrff wedi nodi mewn gwirionedd fod mwy o bresenoldeb mewn cyfarfodydd.

Fodd bynnag, mae'r rheoliadau brys hyn wedi'u cyfyngu o ran amser a dim ond tan 1 Mai 2021 y maen nhw'n berthnasol i gyfarfodydd. Heb ragor o newid deddfwriaethol, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddychwelyd at y drefn cyn y pandemig, gan golli'r buddion y maen nhw wedi eu cael. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ychwanegu at y newidiadau a wnaed gan y rheoliadau hynny, gan ddod â gweithdrefnau cyfarfodydd i'r unfed ganrif ar hugain a rhoi mecanweithiau ar waith sy'n caniatáu i'r darpariaethau newydd gael eu hadolygu, eu harchwilio a'u diweddaru pan fo angen.

Mae'r gwelliannau hyn hefyd yn darparu ar gyfer darlledu cyfarfodydd awdurdodau lleol yn electronig fel y gall unigolion ddilyn trafodion a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw.

Gan droi, felly, at y gwelliannau, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 15, sy'n cynrychioli'r bloc adeiladu cyntaf. Rhoddodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 drefniadau ar waith i aelodau fynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell. Fodd bynnag, un agwedd allweddol ar y trefniant oedd bod yn rhaid i 30 y cant o'r aelodau fod yn bresennol yn yr un lleoliad er mwyn i'r cyfarfod fod â chworwm.

Fel y'i cyflwynwyd, diwygiodd adran 48 o'r Bil rai agweddau ar Fesur 2011. Fodd bynnag, yng ngoleuni amgylchiadau diweddar, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, yn enwedig o gofio bod y rhan fwyaf o gyfarfodydd yn cael eu cynnal bellach yn gyfan gwbl o ystafelloedd byw, swyddfeydd cartref a lleoedd eraill o'r fath. Yn ogystal, byddai darpariaethau Mesur 2011 yn ymestyn i brif gynghorau yn unig ac nid i gyrff fel parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned, sydd wedi canfod bod yr hyblygrwydd a roddwyd gan y rheoliadau yn amhrisiadwy.

Mae gwelliant 15 yn rhoi adran newydd yn y Bil sy'n ymwneud â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd awdurdodau lleol, gan ddarparu i bob pwrpas ar gyfer yr hyn y cyfeirir ato'n gyffredin fel presenoldeb o bell. Mae'r darpariaethau newydd hyn yn cwmpasu'r teulu llywodraeth leol ehangach, gan gynnwys awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub, cynghorau cymuned, neu awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru.

O dan y darpariaethau newydd, mae'n rhaid i awdurdodau wneud a chyhoeddi trefniadau i hwyluso cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd cwbl rithwir, cyfarfodydd lled-rithwir neu hybrid ac, wrth gwrs, cyfarfodydd lle mae pawb yn yr un lle. Mae'n rhaid i awdurdodau sicrhau bod modd cynnal pob cyfarfod a gwmpesir gan y darpariaethau hyn yn rhithwir. Fodd bynnag, ni fydd yn rhaid cynnal pob cyfarfod yn rhithwir; mater i'w benderfynu'n lleol fydd hynny.

Bydd yn ofynnol i awdurdodau roi sylw i ganllawiau, a fydd yn cynnwys y disgwyliad y dylid ystyried amgylchiadau personol unigolion wrth benderfynu ar y math o gyfarfodydd i'w cynnal. Bydd hwn yn gam mawr ymlaen i gefnogi mwy o amrywiaeth ymhlith aelodau etholedig.

Bydd cyfarfodydd yn ddarostyngedig i'r amod sylfaenol bod yn rhaid i'r cyfarpar neu gyfleuster arall alluogi pawb i siarad â'i gilydd a chlywed ei gilydd. Yr eithriad i'r safon hon yw pan fo'n ofynnol i ddarlledu cyfarfod o dan y Bil. Yn yr achosion hyn, mae'n rhaid i bawb allu gweld ei gilydd a chael eu gweld gan ei gilydd yn ogystal â gallu siarad â'i gilydd a chlywed ei gilydd.

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu at, diwygio neu hepgor amodau neu roi cyd-fwrdd i'r ddarpariaeth. Mae'r rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol y Senedd drwy welliant 51.

Nid wyf i'n cefnogi gwelliant 118, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau baratoi a chyhoeddi ar eu gwefannau y gweithdrefnau pleidleisio i'w mabwysiadu os bydd yr offer yn methu pan fydd aelodau'n mynychu cyfarfodydd o bell. Rwy'n cytuno y dylai trefniadau pleidleisio a sut y caiff effaith unrhyw darfu technegol ar y trefniadau hynny ei rheoli gael ei nodi'n glir cyn cynnal y cyfarfodydd. Fodd bynnag, mae profiad yn ystod y misoedd diwethaf wedi gweld awdurdodau lleol yn sefydlu'r mesurau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd hyn, a dylai hyn fod yn fater i'w benderfynu'n lleol yn fy marn i. Byddaf i hefyd yn sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ystyried wrth ddatblygu'r canllawiau. Hefyd, mae'r gwelliant hwn yn newid adran 4 o Fesur 2011, a fydd yn cael ei hepgor o ganlyniad i'r adran newydd a fydd yn cael ei hychwanegu gan welliant 15. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliant 118.

Darperir ar gyfer yr ail floc adeiladu gan welliant 70, sy'n disodli Atodlen 4 newydd i'r Bil ac yn diwygio darpariaethau yn Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac Atodlen 12 iddi ac yn Neddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960. Mae Rhan 1 o Atodlen 4 wedi ei seilio ar yr egwyddorion cyffredinol bod yn rhaid i ddogfennau penodol sy'n ymwneud â chyfarfodydd gael eu cyhoeddi'n electronig ac yn amserol, fel y gall y cyhoedd ddilyn y broses o wneud penderfyniadau. Bydd cyhoeddi electronig yn ategu ac yn helaethu hawl unigolyn i fynychu cyfarfod, boed yn bersonol neu drwy ddulliau o bell.

Mae paragraff 17 o Atodlen 4 yn diwygio adran 232 o Ddeddf 1972 fel bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad cyhoeddus y mae'n ofynnol ei gyhoeddi gan awdurdod lleol yng Nghymru gael ei gyhoeddi'n electronig, oni wneir darpariaeth benodol mewn man arall mewn deddfwriaeth. Mae is-baragraff 4 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud darpariaeth ynghylch y dull o roi'r hysbysiadau cyhoeddus y mae'n ofynnol i awdurdod lleol eu rhoi. Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn darparu ar gyfer diwygiadau sy'n ganlyniadol i'r adran newydd a fewnosodwyd gan welliant 15.

Y trydydd bloc adeiladu yw'r pwerau gwneud rheoliadau y darperir ar eu cyfer yng ngwelliannau 17 a 18. Mae gwelliant 17 yn cefnogi'r prif newidiadau a wneir gan Atodlen 4. Bydd y pŵer newydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau cyfarfodydd ac ynghylch cyhoeddi gwybodaeth. Bydd y pŵer yn rhoi'r hyblygrwydd i'r trefniadau newydd gael eu hadolygu a'u diweddaru'n amserol. Mae angen y pŵer hwn i sicrhau bod y trefniadau hyn yn parhau i fod yn ymarferol wrth i dechnoleg a materion eraill esblygu.

Mae gwelliant 18 hefyd yn bŵer i wneud rheoliadau a fydd yn caniatáu i Weinidogion wneud rheoliadau ynghylch cyfarfodydd cymunedol. Nodir y darpariaethau presennol hefyd yn Neddf 1972. Bydd hyblygrwydd y pŵer i wneud rheoliadau hefyd yn caniatáu i ni gynnal adolygiad a moderneiddio'r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd o'r fath y mae mawr ei angen. Mae'r darpariaethau presennol yn hen iawn ac nid oes rheswm dros eu rhagnodi mewn deddfwriaeth sylfaenol yn y math o fanylder y darperir ar ei gyfer yn well o lawer mewn rheoliadau. Er enghraifft, yr unig ddewis ar gyfer cyfarfodydd cymunedol ar hyn o bryd yw presenoldeb corfforol gan etholwr.

Gall y pwerau gwneud rheoliadau yng ngwelliannau 17 a 18 fod yn effeithiol a chyflawni'r diben o ddarparu system lywodraethu effeithiol, dryloyw a hyblyg i lywodraeth leol ar yr un sail â gwasanaethau cyhoeddus eraill dim ond os ydyn nhw'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol berthnasol. Felly, mae'r holl bwerau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol drwy welliannau 50, 51 a 52, tra bod gwelliant 53 yn darparu ar gyfer y darpariaethau dod i rym angenrheidiol.

Mae gwelliannau 4, 5 ac 16 yn welliannau technegol sy'n ganlyniadol i welliannau eraill yn y grŵp. Mae gwelliannau 4 a 5 yn newid yr adran drosolwg ar gyfer Rhan 3 i adlewyrchu'r adran sydd wedi ei mewnosod gan welliannau 17 a 18, tra bod gwelliant 16 yn newid adran 50 o'r Bil i adlewyrchu bod Atodlen 4 yn cynnwys dwy ran.

Mae'r bloc adeiladu terfynol yn ymwneud â darlledu cyfarfodydd yn electronig a darperir ar ei gyfer yng ngwelliannau 6 i 10, 12 i 14 a 77. Bydd darlledu cyfarfodydd yn electronig yn galluogi unigolion nad ydyn nhw'n gallu mynychu cyfarfodydd i weld a chlywed y trafodion sy'n effeithio ar eu bywydau a bod yn dyst i'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud a'r safbwyntiau sy'n cael eu mynegi gan eu cynrychiolwyr. Yn ganolog iddo, mae'r darpariaethau hyn yn ymwneud â thryloywder democratiaeth leol. Mae'r gwelliannau hyn i gyd yn mireinio adran 47 o'r Bil ac maen nhw wedi eu llywio gan y pryderon a gafodd eu codi yn ystod Cyfnod 1 ynghylch cwmpas eang y darpariaethau darlledu. Yn unol â hynny, mae'r diwygiadau yn dileu'r gofyniad i holl gyfarfodydd prif gyngor gael eu darlledu'n fyw. Yn hytrach, bydd y diwygiadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau wneud a chyhoeddi trefniadau i sicrhau mai dim ond cyfarfodydd cyngor llawn o brif gynghorau y mae'n rhaid eu darlledu. Y sefyllfa rhagosodedig yw bod yn rhaid darlledu cyfarfodydd llawn y cyngor yn fyw, yn amodol ar unrhyw eithriadau mewn rheoliadau. Bydd hyn yn galluogi pob aelod o'r gymuned i weld a chlywed y cyfraniadau sy'n cael eu gwneud gan eu cynghorwyr lleol yng nghyfarfodydd llawn y cyngor. Os bydd trefniadau yn cael eu diwygio neu eu disodli, mae'n rhaid i brif gynghorau gyhoeddi'r trefniadau newydd.

Bydd y gwelliannau yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ychwanegu ystod o gyfarfodydd at y rhestr ac, yn bwysig, bydd gwelliant 77 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau eraill o ran darlledu trafodion mewn rheoliadau. Er enghraifft, bydd rheoliadau yn gallu nodi pa gyfarfodydd y mae'n rhaid eu darlledu'n fyw a pha rai y gellir eu recordio'n fyw a'u darlledu'n ddiweddarach. Byddan nhw hefyd yn gallu pennu'r cyfnod y mae'n rhaid cadw'r darllediadau electronig.

Fel y'i drafftiwyd i'w gyflwyno, roedd y darpariaethau hyn yn galluogi Gweinidog Cymru i nodi mewn rheoliadau y byddai'r trafodion yng nghyfarfodydd awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol, gan gynnwys eu pwyllgorau neu eu his-bwyllgorau, yn cael eu darlledu. Mae'r pŵer hwn wedi ei gadw a'i ehangu i gynnwys trafodion yng nghyfarfodydd cyd-bwyllgorau un neu fwy o brif gynghorau, un neu fwy o Awdurdodau Tân ac Achub neu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a hefyd cyd-fyrddau.

Ac yn olaf, mân welliant technegol yw gwelliant 72 sy'n dileu cyfeiriad at ddarpariaeth sy'n ddibwrpas o ganlyniad i'r newidiadau i Atodlen 4, fel y'i mewnosodwyd gan welliant 70. Diolch.

18:25

Wel, os yw Aelodau'r Senedd yn credu y dylai aelodau cynghorau sy'n mynychu cyfarfodydd o bell allu pleidleisio os bydd cyfleusterau sy'n galluogi presenoldeb o bell yn methu, yna mae'n rhaid iddyn nhw bleidleisio dros welliant 118, sy'n gosod dyletswydd ar brif gynghorau i baratoi a chyhoeddi gweithdrefn ar gyfer hyn. Mae'r gwelliant hefyd yn dirymu unrhyw gyfarfod lle mae problemau technegol yn atal pleidleisio oni bai bod gweithdrefn bleidleisio amgen wedi'i chytuno. Mae'n bwysig, wrth gwrs, y gall aelodau etholedig gyflawni eu dyletswyddau'n llawn fel eu bod yn cael cyfle cyfartal i ddylanwadu ar y broses benderfynu. Mae'r gwelliant hwn, felly, yn ceisio sicrhau y caiff gweithdrefnau pleidleisio brys amgen eu rhoi ar waith i sicrhau y gall pob aelod gyflawni ei ddyletswyddau, p'un a ydyn nhw'n mynychu cyfarfod yn gorfforol neu o bell, yn union fel ni. Mae'r gwelliant hwn yn ategu gwelliannau Llywodraeth Cymru drwy ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi gweithdrefn fel y gall aelodau sy'n bresennol o bell bleidleisio os bydd unrhyw rai o'r cyfleusterau sy'n galluogi presenoldeb o bell yn methu yn ystod y cyfnod pleidleisio. Mae'n synnwyr cyffredin amlwg. Diolch.

Y Gweinidog i ymateb. Na.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? Oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Dwi'n gweld Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, pleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 6 wedi ei basio.

Gwelliant 6: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 7 (Julie James).

Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 7? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 7 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 7: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 8 (Julie James).

Ydy. Oes unrhyw un yn erbyn gwelliant 8? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, mae yna bleidlais ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 8 yn cael ei gymeradwyo.

Gwelliant 8: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 9 (Julie James).

Yn cael ei symud. Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 9? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 9 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 9: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 10 (Julie James).

Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 10? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 10. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 10 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 10: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 77 (Julie James).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 77? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 77. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 77 wedi'i gymeradwyo.

18:30

Gwelliant 77: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 12 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 12? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 12. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 12: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 13 (Julie James).

Wedi symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 13? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 13. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 13 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 13: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 14 (Julie James).

Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 14? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 14. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pump yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae gwelliant 14 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 14: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 5

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 15 (Julie James).

Yn cael ei symud. Oes yna wrthwynebiad i welliant 15? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac, os derbynnir gwelliant 15, bydd gwelliant 118 yn methu. Agor y bleidlais ar welliant 15. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae gwelliant 15 wedi'i gymeradwyo. Mae gwelliant 118 yn cwympo.

Gwelliant 15: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 118.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Julie James).

Y gwelliant wedi'i symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 16? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 16. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 16 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 16: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 17 (Julie James).

Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 17? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 17. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn. Mae gwelliant 17 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 17: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 18 (Julie James).

Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 18? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 18. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 18 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 18: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 70 (Julie James).

Ydy, mae'n cael ei gyflwyno. Oes unrhyw wrthwynebiad i 70? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 70. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae gwelliant 70 wedi ei dderbyn.

18:35

Gwelliant 70: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 4 (Julie James).

Ydy, yn cael ei gyflwyno gan y Gweinidog. Oes gwrthwynebiad i welliant 4? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 4. Cau'r bleidlais. O blaid 45, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 4: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 5 (Julie James).

Yn cael ei symud gan y Gweinidog. Oes gwrthwynebiad i welliant 5? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae gwelliant 5 wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 5: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 7: Aelodau a swyddogion awdurdodau lleol (Gwelliannau 119, 80, 75)

Grŵp 7 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud ag aelodau a swyddogion awdurdodau lleol. Gwelliant 119 yw'r prif welliant yn y grŵp a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r gwelliant hwnnw ac i siarad i'r grŵp o welliannau. Mark Isherwood. 

Mark Isherwood, a wnewch chi ddad-dawelu eich hun, neu a wnaiff rhywun eich dad-dawelu? Ie. Dyna ni.

Roeddwn i'n aros am y botwm 'dad-dawelu', a gyrhaeddodd o'r diwedd. Diolch.

Cynigiwyd gwelliant 119 (Mark Isherwood).

Mae gwelliant 119 yn ceisio ailgyflwyno darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau baratoi a chyhoeddi trefniadau ar gyfer system rheoli perfformiad y prif weithredwr. Mae'n ymddangos bod llawer o ddryswch ynghylch beth yw ystyr 'system rheoli perfformiad', ond mae'n ymwneud mewn gwirionedd â chefnogi gweithwyr ar bob lefel i'w buddiant cyffredin nhw a'ch buddiant cyffredin chi. 

Yn ystod trafodion Cyfnod 2, fe wnaeth gwelliannau Llywodraeth Cymru ddileu'r ddyletswydd ar brif gynghorau i wneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer rheoli perfformiad prif weithredwr y cyngor. Dadleuodd y Gweinidog mai'r rheswm am hyn oedd bod pryderon wedi eu codi ynglŷn â'r potensial i'r ddarpariaeth roi trwydded i faterion perfformiad a gallu unigol gael eu cynnal yn gyhoeddus. Ac, wrth gwrs, byddai hynny'n gwbl annerbyniol. Fodd bynnag, mae'r gwelliant hwn yn canolbwyntio ar sut y bydd trefniadau rheoli perfformiad prif weithredwr yn cael eu cynnal. Mae'n ei gwneud yn glir bod systemau rheoli perfformiad yn ymgorffori, ond nad ydyn nhw wedi eu cyfyngu i, arfarniadau blynyddol, a bod yn rhaid i'r system rheoli perfformiad ar gyfer prif weithredwyr ystyried dulliau priodol eraill.

Mae systemau rheoli perfformiad yn hanfodol i waith effeithiol unrhyw sefydliad. Fodd bynnag, dim ond os ydyn nhw'n ymgorffori pob cyflogai, gan gynnwys eu prif weithredwyr y maen nhw'n wirioneddol effeithiol. Mae'r arfer da hwn o ran rheoli adnoddau dynol, drwy ddiffiniad, yn cael ei gynnal yn breifat yn rhan o broses barhaus lle mae arfarniadau yn chwarae rhan fach yn unig ac yn gipolwg ar amser penodol. Mae sefydliadau sy'n methu â darparu'r systemau rheoli perfformiad hyn yn methu â chefnogi, ysgogi a grymuso eu gweithwyr trwy gydnabod yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y maen nhw wedi ei wneud yn dda, ond hefyd cytuno â nhw beth y mae angen ei wneud yn wahanol ac yna eu cefnogi i gyflawni hynny. Felly, mae'r gwelliant hwn yn hanfodol i fwriadau datganedig y Bil hwn, a byddai peidio â chynnwys hyn yn niweidiol i unrhyw gyflogai mewn unrhyw sefydliad yr effeithir arno felly. 

Mae arnaf i ofn na allaf i gefnogi gwelliant 119, sy'n ymwneud â rheoli perfformiad prif weithredwyr. Cafodd y ddyletswydd ar brif gynghorau i wneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer rheoli perfformiad prif weithredwr y cyngor ei dileu o'r Bil yng Nghyfnod 2. Gwnaed y penderfyniad i ddileu'r darpariaethau ar ôl gwrando'n ofalus ar y dystiolaeth a gafodd ei darparu yn ystod Cyfnod 1. Mynegodd Solace a CLlLC bryder mawr ynghylch lefel y rhagnodi yn y ddarpariaeth, a chafodd hyn ei atgyfnerthu gan drafodaethau pellach gyda'r rhanddeiliaid hyn cyn Cyfnod 2. Fel y nodais yng Nghyfnod 2 yn y pwyllgor, byddwn i'n disgwyl i'r dull hunanasesu a phanel asesu newydd o ymdrin â pherfformiad a llywodraethu a nodir yn y Bil archwilio arweinyddiaeth y sefydliad a'i effeithiolrwydd. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant.

Mae'r gwelliannau yr wyf i wedi eu cyflwyno yn y grŵp hwn yn fân ac yn dechnegol. Mae gwelliant 75 yn mireinio'r cyfarwyddyd sy'n nodi, o fewn y testun sy'n cael ei ddiwygio, y dylid mewnosod y diwygiadau y darperir ar eu cyfer gan baragraff 6 o Atodlen 8, ac mae gwelliant 80 yn dileu diwygiad canlyniadol i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy'n ddiangen yn sgil adran 54. Diolch.

18:40

Dad-dawelu. Iawn. Wel, cyn cael fy ethol i'r Senedd, treuliais dros ddau ddegawd yn rheoli timau o bobl o fewn strwythurau rheoli perfformiad. Roedd hyn yn hynod o ysgogol iddyn nhw. Fe wnaeth fy helpu i yn fawr, fel rhywun a oedd yn eu rheoli o'r tu ôl, i gydnabod nad oedd gen i'r holl ddoethineb na phŵer, ond y gallem ni, gyda'n gilydd, wireddu cryfderau pawb er budd ein gilydd ac yn unol â'n nodau corfforaethol cyffredin. Dyna sut y mae'r sefydliadau gorau ym mhob sector yn gweithio. Mae er budd yr holl weithwyr. Ac yn fy sefydliad i, fel ym mron pob sefydliad arall y gwnes i ddod i gysylltiad ag ef, gan gynnwys pan oeddwn i'n aelod gwirfoddol o fwrdd sefydliadau allanol ar sail ddi-dâl, roedd y prif weithredwr bob amser yn rhan o'r broses honno, ac yn ddiolchgar amdani, gan ei bod yn galluogi problemau i gael eu datrys cyn iddyn nhw fod yn ddifrifol, ac yn sicrhau partneriaeth wirioneddol rhwng y cyflogai ar bob lefel a'r rhai hynny a oedd yn rheoli gyda nhw i sicrhau bod llywodraethu corfforaethol yn cyflawni ei botensial mwyaf, yn mynd i'r afael â phroblemau yn gyflym, ond, yn fwy perthnasol, yn cynorthwyo pobl i dyfu, datblygu, gweithredu'n effeithiol, â phwerau dirprwyedig gwirioneddol, ond yn atebol yn y ffordd iawn i'w cydweithwyr a'u cymheiriaid a'r rhai hynny a oedd yn gweithio gyda nhw ar bob lefel.

Rwy'n synnu'n fawr ac wedi siomi'n fawr efallai na fydd Aelodau yn deall bod y system hon yn hanfodol i waith effeithiol unrhyw sefydliad, ac mai cyfyngu ar berfformiad y sefydliad hwnnw yw peidio â'i gael, ni waeth pa mor dda y mae'r bobl sydd ynddo.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 119? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe wnawn ni bleidleisio ar 119. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, tri yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Gwelliant 119: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 80 (Julie James).

Wedi'i gyflwyno. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 80? [Gwrthwynebiad.] Oes—gwrthwynebiad gan Gareth Bennett. Agor y bleidlais ar welliant 80. Cau'r bleidlais, felly. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant yna wedi ei gymeradwyo.

18:45

Gwelliant 80: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Ac ar hynny, fe gymerwn ni egwyl fer, ac fe wnawn ni sorto unrhyw broblemau technegol allan, ac fe gaiff Aelodau rhyw gymaint o amser. Fe wnawn ni geisio ailgychwyn mewn 20 munud, tua 7.05 p.m.. Diolch, bawb.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:45.

19:05

Ailymgynullodd y Senedd am 19:09, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Grŵp 8: Cydraddoldeb ac amrywiaeth a rhannu swydd (Gwelliannau 161, 178, 179, 162, 163, 160, 172, 174)

Iawn, dyma ni'n cyrraedd grŵp 8. Grŵp 8 yw'r gwelliannau sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a rhannu swydd. Gwelliant 161 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rwy'n galw ar Delyth Jewell i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp. Delyth Jewell.

19:10

Cynigiwyd gwelliant 161 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn, sydd wedi eu cyflwyno yn dilyn trafodaethau gyda sefydliadau allanol, sydd, fel minnau, yn wastadol siomedig o ran y diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Yng Nghyfnod 2 cyflwynais nifer o welliannau treiddgar ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithio gyda ni ar yr agenda hon, ni waeth sut aiff y bleidlais hon.

Gan droi at welliant penodol, ac wrth gwrs mae rhai ohonyn nhw yn ganlyniadol i'r prif rai, byddai gwelliant 162 yn caniatáu i gynghorwyr rannu swyddi. Mae trefniadau rhannu swyddi yn hollbwysig i wneud unrhyw swydd yn fwy hygyrch ac rydym yn gobeithio gweld rhywfaint o symud ar hyn yn y dyfodol agos.

Byddai gwelliant 163 yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig ddarparu gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr yn ôl nodweddion gwarchodedig. Y gwir amdani yw bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i wella amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus a gall gofyniad bach i gyhoeddi gwybodaeth, sef y cyfan y mae'r gwelliant hwn yn ei wneud, fod yn gyfraniad cadarnhaol i'r nod pwysig hwn.

Byddai gwelliant 172 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiweddaru eu cynlluniau cydraddoldeb strategol. Mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, eisoes yn adolygu ac yn diweddaru'r cynlluniau hynny, ond byddai'r gwelliant hwn yn sicrhau y byddai'r rhai nad ydyn nhw'n ei ystyried yn flaenoriaeth yn gwneud hynny.

Unwaith eto, rwyf yn ailadrodd fy mod yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno bod y rhain a nifer o welliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 2 yn dangos i ba raddau y dylem ni fod yn diweddaru llywodraeth leol, ei harferion a chystadleuaeth, a gobeithio y gallwn ni barhau â'r ddadl hon eto ni waeth beth fydd canlyniad y bleidlais, ond rwy'n gobeithio yn fawr iawn y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliant. Diolch yn fawr.

Byddai gwelliannau 178 a 179 yn dileu'r cyfyngiad ar nifer yr aelodau gweithredol mewn achosion lle caiff un neu fwy o gynghorwyr eu hethol neu eu penodi i'r weithrediaeth mewn swydd a rennir. Rwy'n deall yr egwyddor sy'n sail i'r gwelliant hwn, ac mae'n un sy'n hybu mwy o amrywiaeth, ond yn anffodus nid yw'r gwelliant yn ystyried goblygiadau posibl dull gweithredu o'r fath. Yn ystod datblygiad y Bil, er y rhoddwyd ystyriaeth i ba un a ddylid dileu'r cyfyngiad o 10 yn llwyr, y teimlad oedd bod angen cyfyngu ar faint cyffredinol y cabinet o hyd i sicrhau na fyddai nifer y cynghorwyr a oedd wedi eu cynnwys ynddo yn golygu bod gan y cabinet ormod o rym o fewn y cyngor yn ei gyfanrwydd.

Mae hyn yn arbennig o wir mewn cynghorau llai, ac mae gennym ni nifer o gynghorau sydd ag oddeutu 30 o aelodau. Er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti ar gyfer lefelau priodol o graffu ar y weithrediaeth, mae angen cynnal y cydbwysedd a dyma ble mae'r niferoedd yn bwysig. Gadewch i ni ystyried sefyllfa lle mae pob swydd weithredol yn cael ei dal ar sail rhannu swydd. Mewn rhai cynghorau, gallai hyn arwain at nifer fach iawn o aelodau a fyddai ar gael i lenwi swyddogaethau craffu hanfodol.

Rydym ni wedi cydnabod yr angen i gynyddu nifer yr unigolion a gaiff fod yn y weithrediaeth i ddarparu ar gyfer rhannu swyddi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig oedi a gweld sut mae hyn yn gweithredu yn ymarferol cyn ystyried rhagor o newidiadau i'r ddarpariaeth. Rwy'n galw felly ar yr Aelodau i wrthod gwelliannau 178 a 179, a hefyd gwelliant 161, sy'n ganlyniadol i'r gwelliannau hyn.

Mae gwelliant 162 yn cyflwyno darpariaeth i alluogi dau neu fwy o bobl i sefyll ar y cyd i gael eu hethol i un sedd cyngor. Rwy'n gefnogol iawn yn wir o fesurau sydd â'r bwriad o gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth leol. Fodd bynnag, nid wyf i'n credu y gallem ni fwrw ymlaen â newid mor fawr â hyn heb ymgynghori yn helaeth â'r etholwyr i gael gwybod pa un a ydyn nhw'n ei gefnogi, ac er mwyn gwneud hynny, bydd angen i ni fod yn glir ynghylch y cwestiynau y bydd angen eu hateb.

Bydd hyn yn golygu archwiliad trylwyr o bob agwedd ar y broses, o ddewis ymgeisydd, ei enwebu, ei ethol, i'r modd y byddai yn cyflawni ei swyddogaeth fel cynrychiolydd etholedig. Byddai angen archwilio'r corff presennol o etholiadau a deddfwriaeth gweinyddu llywodraeth leol yn eithaf manwl. Er enghraifft, a fyddai'n rhaid i bartneriaid rhannu swydd fod o'r un blaid? Beth pe byddai un o'r partneriaid rhannu swydd yn gadael y blaid yr oedd wedi sefyll drosti? Beth fyddai'n digwydd pe byddai etholwyr yn hapus â pherfformiad un rhannwr swydd ond nid â'r llall? Beth pe byddai arweinydd yn dymuno cynnwys un o'r rhai sy'n rhannu swydd yn y weithrediaeth ond nid y llall? A beth pe byddai un o'r rhanwyr swydd yn cael ei atal am gamymddwyn?

Dyna pam yr ymrwymais i ymgymryd â gwaith yn y maes hwn yn rhan o gam 2 ein rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth. Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf ac, o'r herwydd, rwy'n argymell y dylai Aelodau wrthod gwelliant 162 a hefyd gwelliannau 160 a 174, sy'n ganlyniadol iddo.

Gan droi at welliant 163, sy'n ceisio ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud ag amrywiaeth yr ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiadau llywodraeth leol, byddai'r ddarpariaeth arfaethedig hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu ystod o faterion, megis disgrifiadau o wybodaeth i'w cyhoeddi, amseriad a dull y cyhoeddi, a disgrifiadau o'r pleidiau gwleidyddol y byddai'r ddyletswydd yn berthnasol iddynt.

Mae'r gwelliant hwn yn adlewyrchu dadl hirsefydlog am yr angen i gael mwy o wybodaeth am yr ystod o bobl sy'n sefyll i gael eu hethol. Y rhesymeg dros gasglu data yw po fwyaf o wybodaeth sydd gennym ni, y mwyaf y gallwn ni fesur pa un a yw'r cymorth a'r ymyraethau a roddwyd ar waith yn effeithiol o ran cynyddu amrywiaeth o fewn democratiaeth leol.

Mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol, cytunais i asesu effeithiolrwydd y darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gysylltiedig â'r arolwg ymgeiswyr ac aelodau etholedig, sydd wedi'i gynnal ar ôl pob etholiad llywodraeth leol yng Nghymru ers 2012. Mae Adran 1 o Fesur 2011 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor yng Nghymru gynnal arolwg o ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus. Mae ffurf yr arolwg, ei gwestiynau a'r dull o goladu'r wybodaeth i gyd wedi eu rhagnodi mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae'r cwestiynau rhagnodedig yn cynnwys rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, iaith, hil, oedran, anabledd, crefydd neu gred. Yn wahanol i'r cynigion yng ngwelliant 163, mae gan yr arolwg y fantais o gynnwys aelodau annibynnol yn ogystal â'r rhai hynny sy'n cynrychioli pleidiau gwleidyddol. Mae hwn yn fater arbennig o bwysig, o ystyried lefel y gynrychiolaeth annibynnol ledled Cymru.

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod unigolion yn gallu darparu'r wybodaeth yn ddienw. Fodd bynnag, nid oes rheidrwydd ar yr unigolion hyn i ymateb, sy'n codi gwirionedd pwysig am gasglu'r data hyn. Gallwn roi unrhyw nifer o drefniadau ar waith, ond ni allwn, ac ni ddylem, ei gwneud yn ofynnol i unigolion ddarparu'r hyn sydd, mewn rhai achosion, yn ddata sensitif. Gallai hyn mewn gwirionedd olygu na fydd pobl yn fodlon sefyll etholiad a'i fod yn dod yn rhwystr i amrywiaeth. Byddwn yn adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer yr arolwg etholiadau lleol yn rhan o gam 2 ein rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Yn rhan o'r gwaith hwn, byddwn ni'n gallu ystyried pa newidiadau, os o gwbl, y gellid eu gwneud i wella'r broses o gasglu data yn y maes hwn, a byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn y flwyddyn nesaf. Felly, er fy mod yn cefnogi'r meddylfryd y tu ôl i'r gwelliannau hyn, mae arnaf ofn na fyddaf yn eu cefnogi heddiw.

Gan droi at welliant 172. Mae ail ran y gwelliant yn ddiangen; bydd awdurdod newydd a sefydlir drwy reoliadau uno neu ailstrwythuro o dan Ran 7 y Bil yn ymgymryd ag ystod lawn o swyddogaethau a dyletswyddau awdurdod lleol ar y dyddiad trosglwyddo. Bydd felly yn gorff cyhoeddus fel y'i diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Fel y cyfryw, bydd pob cyngor newydd yn ddarostyngedig yn awtomatig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn Neddf 2010, bydd yn rhaid iddo gyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb, a bydd yn rhaid iddo wneud cynllun cydraddoldeb strategol—er gwaethaf y dyddiad yn rheoliad 14 o reoliadau 2011. Byddai'r cyfrwng priodol ar gyfer pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud y cynllun cydraddoldeb strategol yn y rheoliadau uno neu ailstrwythuro sy'n sefydlu'r awdurdod newydd.

Rwy'n credu ei bod yn debygol y byddwn ni yn dymuno i'r awdurdod newydd wneud ei gynllun cydraddoldeb strategol yn gynharach na'r 12 mis a awgrymwyd. Felly, gallem ni ei wneud yn un o swyddogaethau'r cyngor cysgodol a chyfarwyddo'r pwyllgor pontio perthnasol i wneud gwaith paratoi, er mwyn iddo allu bod ar waith ar y dyddiad trosglwyddo neu'n fuan iawn wedyn. Mae gofyniad adrodd i bob awdurdod cyhoeddus yng Nghymru ailwneud neu adolygu eu cynllun cydraddoldeb strategol bob 10 mlynedd hefyd yn ddiangen. Mae cysylltiad cynhenid rhwng cynllun cydraddoldeb strategol awdurdod cyhoeddus a'i amcanion cydraddoldeb, ac mae'n ofynnol i awdurdod cyhoeddus adolygu ei amcanion cydraddoldeb o leiaf bob pedair blynedd. Byddai'n anodd iawn i awdurdod gydymffurfio â rheoliadau 2011 yn gyffredinol pe na byddai'n adolygu ei gynllun cydraddoldeb strategol yn sgil adolygu ei amcanion cydraddoldeb. Fel y cyfryw, yn ymarferol, mae awdurdodau cyhoeddus yn adolygu eu cynlluniau cydraddoldeb strategol bob pedair blynedd, a byddai gosod dyletswydd statudol i adolygu neu ailwneud bob 10 mlynedd ddim ond yn ychwanegu at y beichiau monitro ac adrodd. Yn unol â hynny, mae'n ddrwg gen i ddweud fy mod i'n argymell na ddylai'r Aelodau cefnogi gwelliant 172. Diolch.

19:15

Diolch i'r Gweinidog. Dwi'n cymryd y pwyntiau am y pethau a all ddigwydd fel canlyniad i'r gwelliannau sydd yn anfwriadol. Dwi yn croesawu rhai o'r pethau mae'r Gweinidog yn eu dweud, ond oherwydd pa mor bwysig yw'r egwyddorion hyn, byddwn ni yn gwthio'r gwelliannau yma i bleidlais. Diolch.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 161? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 161. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 12 yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

19:20

Gwelliant 161: O blaid: 9, Yn erbyn: 30, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 178. Delyth Jewell, ydych chi'n symud y gwelliant?

Cynigiwyd gwelliant 178 (Delyth Jewell).

[Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i'r gwelliant, felly pleidlais ar welliant 178. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 13 yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 178 wedi'i wrthod.

Gwelliant 178: O blaid: 9, Yn erbyn: 29, Ymatal: 13

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 179, yn enw Delyth Jewell. Ydy e'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 179 (Delyth Jewell).

Ydy. Oes rhywun yn erbyn? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 179. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 13 yn ymatal, 29 yn erbyn. Gwelliant 179 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 179: O blaid: 9, Yn erbyn: 29, Ymatal: 13

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 162 (Delyth Jewell).

Gwelliant 162 yn enw Delyth Jewell yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 162. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pump yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 162 wedi'i wrthod.

Gwelliant 162: O blaid: 9, Yn erbyn: 37, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 75 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 75? [Gwrthwynebiad.] Oes, gan Gareth Bennett. Agor y bleidlais ar welliant 75. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 75: O blaid: 44, Yn erbyn: 1, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 163 (Delyth Jewell).

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 163. Cau'r bleidlais. O blaid 17, tri yn ymatal, 31 yn erbyn. Gwelliant 163 wedi ei wrthod.

Gwelliant 163: O blaid: 17, Yn erbyn: 31, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 160 (Delyth Jewell).

Mae'n cael ei symud. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu. Agor y bleidlais ar welliant 160. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pump yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 160 wedi ei wrthod.

Gwelliant 160: O blaid: 9, Yn erbyn: 37, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 9: Cyd-bwyllgorau corfforedig—pan na fo cais wedi ei wneud (Gwelliannau 164, 120, 121, 122, 125, 126, 167, 127, 128, 129, 130, 131, 133, 135, 173, 175)

Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp hynny yn ymwneud â chyd-bwyllgorau corfforedig pan na fo cais wedi ei wneud. Gwelliant 164 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gyflwyno'r gwelliant hynny a'r grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 164 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Roeddem ni'n awyddus i gyflwyno gwelliannau i ddileu pŵer y Gweinidog i orfodi awdurdodau lleol i ffurfio cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae rhai o'r gwelliannau hynny wedi eu cyflwyno gan Mark Isherwood, felly mae ein gwelliannau ni yn welliannau canlyniadol i'r rhai hynny, ond fe'u cyflwynwyd gyda'r un bwriad polisi ac, wrth gwrs, maen nhw wedi'u drafftio gan y gwasanaethau cyfreithiol yn y fan yma. Mae hyn yn adlewyrchu ein safbwynt fel plaid na ddylid gorfodi awdurdodau lleol i ffurfio cyd-bwyllgorau corfforedig. Rydym ni o'r farn y byddai pŵer o'r fath yn mynd yn rhy bell i roi pŵer gweinidogol i ailysgrifennu ôl troed rhanbarthol llywodraeth yng Nghymru heb y lefel o graffu yr hoffem ni ei gweld. Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog fod hwn yn bŵer cyfyngedig iawn sydd wedi ei gyfyngu i feysydd lle mae trefniadau gweithio rhanbarthol eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth neu mewn ymarfer. Fodd bynnag, er ein bod yn derbyn yr eglurhad hwnnw, rydym ni'n credu y dylai fod yn bosibl i awdurdod lleol dynnu ei hun allan o'r trefniadau hyn heb gael ei orfodi i mewn iddynt. Ac felly, byddwn ni'n cefnogi ein gwelliannau ni a gwelliannau Mark Isherwood yn yr adran hon. Diolch.

19:25

Mae gwelliannau 120, 121, 122, 125, 126, 127, 128, 129, 130, 133 a 135 yn dileu darpariaethau sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig pan nad oes cais wedi'i wneud, fel yr ydym newydd ei glywed gan ein cyd-Aelod ym Mhlaid Cymru.

Yn ystod trafodion Cyfnod 1, codwyd pryderon gan nifer o randdeiliaid ynglŷn â'r mater hwn. Er enghraifft, penderfynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru nodi bod ganddi bryderon sylfaenol ynghylch yr egwyddor o orfodi, yr ystyrir ei bod yn tanseilio democratiaeth leol. Hefyd, awgrymodd cymdeithas prif swyddogion awdurdodau lleol y byddai mandadu cyd-bwyllgorau corfforedig yn 'wrthgynhyrchiol', gan gwestiynu a oedd angen ôl troed gorfodol i sicrhau arbedion effeithlonrwydd.

Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyfrwng i lywodraeth leol i raddau helaeth ac mai mater i lywodraeth leol yw penderfynu sut y maen nhw'n rheoli ac yn trefnu eu trefniadau a'u cydweithrediadau rhanbarthol. Fodd bynnag, mae'r gallu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig yn tanseilio'r ddadl hon, ac nid yw pryderon rhanddeiliaid a godwyd drwy gydol y gwaith craffu ar y Bil wedi cael sylw. O ystyried eu swyddogaeth o ran seilwaith rhanbarthol a datblygu economaidd, mae'r gallu i ganiatáu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig hefyd yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol a sefydlwyd mewn ardaloedd gan gyrff megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—fel y gwyddoch, clymblaid sy'n cynnwys y ddwy Lywodraeth, pob un o'r chwe chyngor yn y gogledd, busnes a'r byd academaidd.

Mae ein gwelliannau ni, felly, yn dileu darpariaethau sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig pan nad oes cais wedi'i wneud. Diolch.

Mae arnaf i ofn fy mod yn gwrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn—hynny yw, gwelliannau 120 i 131, 133, 135, 164, 167, 173 ac 175. Nid wyf yn bwriadu siarad am bob gwelliant yn ei dro, ond fe wnaf sôn am yr egwyddor sydd, yn fy marn i, yn sail i'r gwelliannau hyn, sef yr egwyddor honno o bwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig pan nad oes cais wedi'i wneud gan lywodraeth leol.

Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed i'n sôn am sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig droeon ac mae'r model hwn yn un yr wyf i wedi bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i'w ddatblygu ers imi ddechrau yn y swydd hon. Nid wyf yn cytuno â'r cynnig y dylid dileu adrannau 73 a 74; rwy'n credu bod hynny yn elfen allweddol o'r darpariaethau hyn. Fy uchelgais wrth greu cyd-bwyllgorau corfforedig oedd darparu gwell cyfrwng ar gyfer cydweithredu mewn llywodraeth leol, gyda manteision gallu cyflogi staff a dal cyllidebau, ond hefyd i alluogi defnyddio un cyfrwng cyson ar gyfer y cydweithio hwn, yn hytrach na threfniadau ar wahân ar gyfer gwahanol swyddogaethau. Rwy'n credu bod llywodraeth leol yn rhannu'r uchelgais hwn.

Fy nod yw symleiddio darpariaeth a oedd eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth yn gysylltiedig â chydweithrediad un diben, megis cyd-awdurdodau trafnidiaeth a phaneli cynllunio strategol, a'i wneud yn un trefniant rhanbarthol sy'n gallu edrych ar y swyddogaethau cysylltiedig hyn yn gyfannol. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n bwysig bod gan Weinidogion Cymru y gallu i greu cyd-bwyllgorau corfforedig i ddisodli'r strwythurau deddfwriaethol presennol hyn. Rwyf wedi bod yn eglur mai pŵer cyfyngedig iawn yw hwn, wedi'i gyfyngu i feysydd lle mae trefniadau gweithio rhanbarthol eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth neu mewn ymarfer. Mae'r rhain yn feysydd lle ceir consensws bod gweithio ar y raddfa hon yn gwneud synnwyr, gan gyfochri dulliau datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir i ddatblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus ac annog twf lleol. Ar y sail hon, felly, rwy'n annog yr Aelodau'n gryf i wrthod pob gwelliant yn y grŵp hwn. Diolch.

Diolch, Llywydd. Yn gynharach yn y ddadl ac yng Nghyfnod 2, mae'r Gweinidog wedi gwneud pwyntiau am ganlyniadau anfwriadol a allai fod i rai gwelliannau, ac roeddwn wedi derbyn y pwynt hwnnw. Rwyf yn derbyn pwynt y Gweinidog yn y fan yma ei bod yn ddigon posibl mai bwriad y pŵer cyfyngedig hwn i orfodi awdurdodau lleol yw ei ddefnyddio mewn ystyr gyfyngedig iawn. Ond, unwaith eto, byddwn i'n gwneud yr un pwynt i'r Gweinidog am ganlyniadau anfwriadol a allai ddigwydd oherwydd hyn. Ac oherwydd y goblygiadau llym a sylweddol a difrifol iawn y gallai hyn eu cael, byddwn ni'n gwthio ein gwelliannau ein hunain i bleidlais a byddwn ni'n cefnogi'r rhai a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood, fel y dywedais yn gynharach. Diolch.

19:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 164? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais, felly, ar welliant 164. O blaid 18, chwech yn ymatal, 26 yn erbyn.

Gwelliant 164: O blaid: 18, Yn erbyn: 26, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 10: Cyd-bwyllgorau corfforedig—gofynion eraill (Gwelliannau 19, 123, 124, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 132, 134, 149, 76, 150)

Felly, mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwnued â chyd-bwyllgorau corfforedig a gofynion eraill. Gwelliant 19 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r gwelliant a'r grŵp. Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Julie James).

Diolch, Llywydd. Technegol yw gwelliant 19 ac mae'n mewnosod diffiniad o 'ddogfennau' at ddibenion Rhan 5 y Bil. Mae gwelliannau 31 a 32 yn gysylltiedig â'r gwelliant hwn ac yn mireinio'r ddarpariaeth bresennol i ddarparu, wrth wneud rheoliadau, y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau, cyd-bwyllgorau corfforedig ac yn y blaen ddarparu dogfennau yn ogystal â gwybodaeth.

Mae gwelliant 20 yn darparu mwy o eglurder ynghylch yr ystod o sefyllfaoedd lle y gellir defnyddio'r pwerau presennol yn adran 82 i wneud darpariaeth atodol. Mae gwelliant 21 yn ganlyniadol i'r gwelliant hwn ac mae'n dileu is-adran sydd wedi'i gwneud yn ddiangen.

Mae gwelliannau 22 i 30 yn darparu y gellir defnyddio pwerau presennol i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon yn gysylltiedig â materion sy'n ymwneud â symud staff, eiddo, hawliau cysylltiedig ac yn y blaen hefyd os bydd swyddogaeth yn peidio â chael ei harfer gan gyd-bwyllgor corfforedig ac yn hytrach yn cael ei harfer gan berson arall.

Yn olaf, o ran gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn, mae gwelliant 76 yn dileu diwygiad canlyniadol i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, nad oes ei angen gan fod Deddf 2005, i bob pwrpas, wedi'i diddymu gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

Gan droi at welliannau 123 a 124, sy'n ymwneud â'r swyddogaeth llesiant economaidd, bydd y swyddogaeth llesiant economaidd yn galluogi'r cyd-bwyllgorau corfforedig hynny y mae'r swyddogaeth wedi ei chaniatáu iddynt, mewn rheoliadau, i wneud unrhyw beth sy'n debygol yn eu barn nhw o hybu neu wella llesiant economaidd yr ardal. Mae gan brif gynghorau gyfoeth o brofiad o gyflawni swyddogaethau economaidd, gan gynnwys ar lefel ranbarthol, drwy, er enghraifft, y cytundebau dinas a'r cytundebau twf. Yn rhan o'r uchelgais a rennir i symleiddio trefniadau rhanbarthol a chyfochri swyddogaethau strategol allweddol ar lefel ranbarthol, rwy'n gobeithio y bydd rhanbarthau yn trosglwyddo eu trefniadau rhanbarthol presennol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig ar ôl eu sefydlu. Nid yw'n fwriad i gennyf i ddechrau gorchymyn sut y mae llywodraeth leol yn cyflawni ei swyddogaethau economaidd drwy gyd-bwyllgorau corfforedig na thrwy unrhyw drefniant arall. Os bydd angen, mae'n ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig, o dan adran 85 y Bil, roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni yn gysylltiedig â'u gweithrediadau gan gynnwys eu swyddogaethau. Yn ogystal â hyn, bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu gosod cyfyngiadau ar y modd o arfer y swyddogaeth llesiant economaidd drwy reoliadau. Ar y sail hon, nid oes angen gwelliannau 123 a 124 ac nid wyf i'n eu cefnogi.

Er fy mod i'n cydnabod y bwriad y tu ôl i welliannau 132 a 134, rwy'n gofyn i'r Aelodau eu gwrthod. Mae'r Bil yn nodi'r fframwaith ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd manylion sut y byddan nhw yn gweithredu, gan gynnwys materion fel y rhai a gwmpesir gan y gwelliannau hyn, yn cael eu nodi mewn rheoliadau. Fel yr wyf i wedi ei nodi yn yr ymgynghoriad ar y rheoliadau sefydlu drafft, a ddechreuodd yn gynnar ym mis Hydref, fy mwriad yw sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig, pan fo'n bosibl, i'r un ddeddfwriaeth neu ddeddfwriaeth debyg ag a gymhwysir ar hyn o bryd i lywodraeth leol. Er enghraifft, drwy reoliadau, byddem yn ceisio cymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r dyletswyddau cyfranogiad y cyhoedd a gynhwysir yn Rhan 3 y Bil hwn. Bydd hyn yn darparu ar gyfer yr adroddiadau blynyddol a'r gofynion cyfranogiad y mae'r gwelliannau hyn yn eu ceisio.

Rwyf hefyd yn gwrthod gwelliannau 149 a 150 ar yr un sail. Bwriedir i gyd-bwyllgorau corfforedig fod yn ddarostyngedig i'r gyfundrefn perfformiad a llywodraethu a gynhwysir yn Rhan 6 y Bil, ynghyd â darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a deddfwriaeth berthnasol arall sy'n ymwneud â llywodraethu ariannol. Bydd hyn yn rhoi'r sicrwydd a geisir gan y gwelliannau hyn ac yn sicrhau bod gan gyd-bwyllgorau corfforedig y trefniadau llywodraethu a rheoli ariannol priodol ar waith, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan gorff cyhoeddus. Ar y sail hon, gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 123, 124, 132, 13, 149 a 150. Diolch, Llywydd.

19:35

Wel, mae gwelliannau 123 a 124 yn ceisio mewnosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud a chyhoeddi canllawiau ar sut y dylai cyd-bwyllgor corfforedig gyflawni ei swyddogaeth llesiant economaidd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cryfhau'r trefniadau ar gyfer craffu ar gyd-bwyllgorau corfforedig er mwyn sicrhau atebolrwydd a thryloywder wrth iddyn nhw gyflawni eu swyddogaethau, yn ogystal â chynnwys pobl leol a sefydliadau lleol sydd wedi ei lleoli yn y gymuned yn y broses o wneud penderfyniadau. Yr agosaf y mae'r penderfyniadau hyn at bobl, y cymunedau a'r rhanbarthau, a'r pellaf o reolaeth ganolog, gorau oll fydd y canlyniad i'r bobl a'r cymunedau dan sylw.

Mae gwelliant 132 yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig gyhoeddi adroddiad blynyddol sydd i'w osod gerbron Senedd Cymru a'r cynghorau cyfansoddol sy'n rhan o'r cyd-bwyllgor corfforedig. Mae'n rhaid i'r adroddiad amlinellu nifer o bethau, gan gynnwys yr hyn y mae'r pwyllgor wedi ei gyflawni ar gyfer y maes lle mae'n arfer ei swyddogaethau, cynllun tymor canolig a hirdymor y pwyllgor ar gyfer sut y mae'n bwriadu arfer ei swyddogaethau a threfniadau'r pwyllgor o ran rheoli ei faterion ariannol. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cryfhau'r trefniadau ar gyfer craffu ar gyd-bwyllgorau corfforedig, sicrhau atebolrwydd a thryloywder a chynnwys pobl leol a sefydliadau sydd wedi eu lleoli yn y gymuned.

Mae gwelliant 134 yn ceisio sicrhau bod pobl leol a sefydliadau lleol sydd wedi eu lleoli yn y gymuned yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau cyd-bwyllgorau corfforedig. Yn ystod Cyfnod 1, cododd rhanddeiliaid bryderon am y diffyg darpariaethau ar gyfer ymwneud yn lleol â chyd-bwyllgorau corfforedig. Er enghraifft, rhannodd Cartrefi Cymunedol Cymru bryderon ynghylch y ddarpariaeth gyfyngedig ar gyfer trefniadau atebolrwydd cyd-bwyllgorau corfforedig, sydd:

yn groes i ymrwymiad y Bil i wella mynediad at y broses o wneud penderfyniadau yn lleol a chael cymryd rhan yn hynny.

Mae'r gwelliant hwn felly yn ymgorffori egwyddorion cysylltiad a chyfranogaeth o fewn y Bil. Mae dulliau cysylltu yn cynnwys gweithio gyda phobl yn gynharach, helpu i nodi materion ac atebion posibl a'u cynorthwyo i barhau i gymryd rhan drwy gydol prosesau dylunio, gweithredu a gwerthuso. Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog na fyddai hi'n derbyn y gwelliant hwn, gan, fel y dywedodd:

mai'r rheoliadau fydd yn manylu ar sut y dylai cyd-bwyllgor corfforedig weithredu.'

Dywedodd:

Rwy'n credu felly ei bod yn fwy priodol i'r materion a godwyd gan y gwelliant gael eu hystyried yn rhan o'r gwaith o baratoi rheoliadau corfforaethol y cydbwyllgor.

Fodd bynnag, fel y dywedais yn ystod trafodion Cyfnod 2:

Rydym ni yn clywed llawer o iaith gadarnhaol erbyn hyn gan aelodau o bob plaid am faterion fel cyd-gynhyrchu, grymuso cymunedau, ymgysylltu â dinasyddion, ond mewn gwirionedd, mae'n brin ar lawr gwlad.

Felly, mae'r gwelliant hwn yn ceisio sicrhau bod egwyddorion cyd-gynhyrchu yn cael eu hymgorffori'n llawn ar wyneb y Bil er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforaethol gyflawni cyfranogiad pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol.

Mae gwelliannau 149 a 150 wedi eu drafftio i adlewyrchu pryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, sy'n bwysig i hyder y cyhoedd yn y modd y defnyddir arian cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud darpariaeth o'r fath drwy reoliadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae swyddfa'r archwilydd cyffredinol wedi datgan bod defnyddio'r dull hwnnw yn creu perygl o gymhlethdod a dryswch ac y byddai darparu ar gyfer y gofyniad hwn drwy'r Bil yn sicrhau bod darpariaethau archwilio llywodraeth leol yn cael eu cydgrynhoi mewn un lle i gynorthwyo dehongli a chynnal llyfr statud sydd wedi ei strwythuro'n dda. Unwaith eto, dyma'r cyrff y dylem ni fod yn cymryd arweiniad ganddyn nhw,ac nid cyflwyno arweiniad iddyn nhw, ar y materion penodol hyn. Diolch. Diolch.

Y Gweinidog i ymateb. Dim ymateb. Iawn. Fe symudwn ni'n syth at y bleidlais.

Gwelliant 19. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 19? [Gwrthwynebiad.]

Ie, gallaf weld gwrthwynebiad gan Gareth Bennett.

Felly, agor y bleidlais ar welliant 19. Cau'r bleidlais. O blaid 42, chwech yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.

19:40

Gwelliant 19: O blaid: 42, Yn erbyn: 2, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 120 (Mark Isherwood).

Mae'n cael ei gyflwyno. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 120. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi cael ei wrthod. 

Gwelliant 120: O blaid: 18, Yn erbyn: 26, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 121 (Mark Isherwood).

Mae'n cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 121. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi cael ei wrthod. 

Gwelliant 121: O blaid: 21, Yn erbyn: 26, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 122 (Mark Isherwood).

Mae'n cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 122. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Gwelliant 122: O blaid: 21, Yn erbyn: 26, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 123 (Mark Isherwood).

Mae'n cael ei gynnig. [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, ac felly, agor y bleidlais. Gwelliant 123. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 123 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 123: O blaid: 18, Yn erbyn: 30, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 124 (Mark Isherwood).

Mae'n cael ei gyflwyno. Oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly agor y bleidlais ar welliant 124. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

Gwelliant 124: O blaid: 18, Yn erbyn: 30, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 165 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Delyth Jewell. 

Cynigiwyd gwelliant 165 (Delyth Jewell).

Mae wedi'i gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu. Felly, pleidlais ar welliant 165. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, 11 yn ymatal, 30 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

19:45

Gwelliant 165: O blaid: 10, Yn erbyn: 30, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 166 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 166. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 12 yn ymatal, 30 yn erbyn. Gwelliant 166 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 166: O blaid: 9, Yn erbyn: 30, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 125 (Mark Isherwood).

—yn cael ei symud, yn enw Mark Isherwood. Oes gwrthwynebiad i 125? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 125. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Gwelliant 125: O blaid: 18, Yn erbyn: 27, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 126 (Mark Isherwood).

—yn cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Ac yn cael ei wrthod. Ac felly, os derbynnir gwelliant 126, bydd gwelliant 167 yn methu. Pleidlais, felly, ar welliant 126. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi methu. 

Gwelliant 126: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 167 (Delyth Jewell).

Yn cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Yn cael ei wrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 167. Cau'r bleidlais. O blaid 17, chwech yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 167 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 167: O blaid: 17, Yn erbyn: 28, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 127 (Mark Isherwood).

—yn cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Yn cael ei wrthwynebu. Ac felly agor y bleidlais ar welliant 127. Cau'r bleidlais. O blaid 18, pump yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Gwelliant 127: O blaid: 18, Yn erbyn: 28, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 128 (Mark Isherwood).

Mae wedi cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 128. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 128 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 128: O blaid: 18, Yn erbyn: 27, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 129 (Mark Isherwood).

Mae'n cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Ac yn cael ei wrthwynebu. Ac felly agor y bleidlais ar welliant 129. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 129 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 129: O blaid: 18, Yn erbyn: 27, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 130 (Mark Isherwood).

—yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 130. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 130 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 130: O blaid: 18, Yn erbyn: 27, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 20 (Julie James).

—yn cael ei gyflwyno. Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 20? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gareth Bennett yn gwrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 20. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo. 

19:50

Gwelliant 20: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 21 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 21? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 21. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 21 wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 21: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 22 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 22? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 22. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 22 wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 22: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 23 (Julie James).

Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 23. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 23 wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 23: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 24 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 24? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly agor y bleidlais ar welliant 24. Cau'r bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 24 wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 24: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 25 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 25? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 25. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 25: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 26 (Julie James).

Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 26? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 26. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 26: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 27 (Julie James).

Oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 27. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 27 yn cael ei gymeradwyo. 

Gwelliant 27: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 28 (Julie James).

Oes rhywun yn gwrthwynebu gwelliant 28? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly pleidlais ar welliant 28. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei gario. 

Gwelliant 28: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 29 (Julie James).

Oes rhywun yn gwrthwynebu gwelliant 29? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 29. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant wedi'i gario. 

Gwelliant 29: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 30 (Julie James).

Oes rhywun yn gwrthwynebu gwelliant 30? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 30. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 30 wedi ei gymeradwyo. 

Gwellinant 30: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

19:55

Cynigiwyd gwelliant 131 (Mark Isherwood).

Oes rhywun yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 131. Cau'r bleidlais. O blaid 19, chwech yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 131 wedi cwympo.

Gwelliant 131: O blaid: 19, Yn erbyn: 26, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 31 (Julie James).

Oes rhywun yn gwrthwynebu gwelliant 31? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 31. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae gwelliant 31 wedi'i gario.

Gwelliant 31: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 32 (Julie James).

Oes unrhyw un yn gwrthwynebu gwelliant 32? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly agor y bleidlais ar welliant 32. Cau'r bleidlais. O blaid, 42, pedwar yn ymatal, pump yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 32 wedi'i wrthod. Na, mae'n ddrwg gyda fi—gwelliant 32 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 32: O blaid: 42, Yn erbyn: 5, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 132 (Mark Isherwood).

Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gwelliant 132—agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pedwar yn ymatal, 28 yn erbyn. Y gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 132: O blaid: 19, Yn erbyn: 28, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 133 (Mark Isherwood).

Wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar 133. Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 133 wedi'i wrthod.

Gwelliant 133: O blaid: 18, Yn erbyn: 26, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 135 (Mark Isherwood).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 135. Cau'r bleidlais. O blaid 17, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 135: O blaid: 17, Yn erbyn: 27, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 134 (Mark Isherwood).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 134? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 134.

Rwyf yn cau'r bleidlais.

O blaid 17, pump yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 134 wedi'i wrthod.

20:00

Gwelliant 134: O blaid: 17, Yn erbyn: 28, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant nesaf, felly, yw gwelliant 135 yn enw Mark Isherwood. Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i 135? [Gwrthwynebiad.] Felly, agor y bleidlais ar welliant 135.

Fy mai i—[Torri ar draws.] Ie, doeddwn i ddim wedi dileu un oddi ar fy narn o bapur, felly rwyf i wedi drysu nawr, ond gwelliant 149 ddylai'r gwelliant fod, y dylwn i fod wedi'i alw.

Cynigiwyd gwelliant 149 (Mark Isherwood).

Mae wedi ei gynnig ac mae gwrthwynebiad iddo. Felly, rwy'n galw pleidlais ar welliant 149.

Cau'r bleidlais. O blaid 18, chwech yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.

Gwelliant 149: O blaid: 18, Yn erbyn: 27, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 76 (Julie James).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 76? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 76. Cau'r bleidlais. O blaid 43, saith yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae gwelliant 76 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 76: O blaid: 43, Yn erbyn: 1, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 150 (Mark Isherwood).

—yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 150. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pump yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 150 wedi'i wrthod.

Gwelliant 150: O blaid: 19, Yn erbyn: 27, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 11: Perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu (Gwelliannau 136, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 81, 82)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 11 ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â pherffomiad a llywodraethu prif gynghorau—136 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r prif welliant a'r grŵp. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 136 (Mark Isherwood).

Diolch. Diolch. Mae gwelliant 136 yn cyflwyno darpariaeth newydd i ganiatáu gwahodd cynghorau tref a chynghorau cymuned lleol i fod yn rhan o asesiad perfformiad panel. Mae'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor benodi panel o leiaf unwaith yn ystod pob cylch etholiadol i asesu ei berfformiad. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dywedodd Un Llais Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau tref a chynghorau cymuned, y bydden nhw'n croesawu rhagor o drafodaethau ar y swyddogaeth y gallai cynghorau cymuned a chynghorau tref fod yn ei chyflawni o ran aelodaeth o broses asesu'r panel. Ychwanegodd ei fod o blaid y potensial i gynghorau cymuned a chynghorau tref gefnogi ymdrechion craffu prif gynghorau.

Gan fod prif gynghorau a chynghorau tref a chynghorau cymuned yn aml yn cydweithio ar faterion, bydd hyn yn caniatáu i gynghorau tref a chynghorau cymuned roi adborth ar eu profiadau o weithio gyda'r prif gyngor, yn ogystal â darparu argymhellion i wella cyfranogiad lleol yn y broses o wneud penderfyniadau. Byddai hyn felly yn cryfhau'r holl bartïon dan sylw.

Yn ystod trafodion Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog, er y bydd y darpariaethau yn y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn gysylltiedig â phenodi aelodau'r panel, mai eu bwriad mewn gwirionedd yw ymdrin â hyn drwy ganllawiau yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, nid yw darpariaeth o'r fath yn gwarantu y bydd pob prif gyngor yn gwahodd eu cynghorau tref a chynghorau cymuned lleol i asesiad panel, ac mae'n bwysig ar gyfer ymgysylltu gwirioneddol a llywodraethu da fod pob corff cyhoeddus lleol yn cael cyfleoedd i gyflwyno eu safbwynt yn ffurfiol ar berfformiad prif gyngor, gan gynnwys cynghorau tref a chynghorau cymuned, sy'n cynrychioli'r cymunedau y maent yn cael eu hethol i'w cynrychioli. Rwy'n gobeithio y caiff yr egwyddor y tu ôl i hyn ei chydnabod, felly, a'r cyfle i gefnogi hyn i gryfhau'r Bil hwn.

20:05

Os caf i ddechrau drwy ymateb i welliant 136, mae adran 93 eisoes yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud o ran penodi paneli, a gall y rheoliadau hyn gynnwys darpariaethau ynghylch penodi aelodau panel. Bydd unrhyw reoliadau o'r fath, wrth gwrs, yn amodol ar ymgynghoriad yn unol ag arfer safonol Llywodraeth Cymru ac yn amodol ar graffu ar weithdrefn gadarnhaol y Senedd. Dim ond un categori penodol o aelodau y mae'r gwelliant hwn yn darparu ar eu cyfer. Cyn pennu aelodaeth benodol o baneli mewn deddfwriaeth, byddai'n bwysig ystyried pwrpas rhan yr holl aelodau penodedig. Mae'n bwysig nodi, er y bydd y darpariaethau yn y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o ran penodi aelodau'r panel, ein bwriad yw ymdrin â hyn drwy ganllawiau i ddechrau. Ar y sail hon, rwy'n gwrthod gwelliant 136 ac rwy'n gofyn i'r Aelodau ei wrthod hefyd.

Gan droi at y gwelliannau sy'n weddill, mae gwelliannau 33 a 34 yn disodli adrannau 97 a 98 o'r Bil yn eu cyfanrwydd. Rydym ni wedi defnyddio'r dull hwn o weithredu yn hytrach na gwneud cyfres o ddiwygiadau unigol i'r darpariaethau. Nid yw'r diwygiadau'n addasu sylwedd pwerau mynediad ac arolygu Archwilydd Cyffredinol Cymru yn sylweddol. Yn hytrach, mae gwelliant 33 yn nodi pwerau'r Archwilydd mewn ffordd ddarllenadwy, sy'n gyson â drafftio'r adran a gafodd ei mewnosod gan welliant 34. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn rhoi pŵer ychwanegol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gadw dogfennau a archwiliwyd ganddo neu sydd wedi cael eu darparu iddo o dan yr adran hon. Fodd bynnag, dim ond am gyhyd ag sy'n angenrheidiol at ddibenion yr arolygiad arbennig y mae modd cadw'r dogfennau hyn. Mae gwelliant 34 yn mewnosod darpariaeth fanylach ynghylch yr amodau a'r cyfyngiadau sy'n gymwys i arfer pwerau mynediad ac arolygu Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn pennu gofynion gwahanol ar gyfer y gwahanol bwerau a'r bobl y ceir arfer y pwerau yn eu herbyn. Mae gwelliannau 35 a 36 yn welliannau technegol sy'n ganlyniadol i welliant 33.

Gan droi yna at welliant 37, mae hwn yn welliant technegol tebyg i welliannau yn y grŵp blaenorol sy'n newid y gwaith o ddrafftio diffiniad 'dogfen' ynghylch pennod 1 o Ran 6. Mae hyn yn sicrhau cysondeb â darpariaethau eraill yn y Bil ac nid yw'n newid effaith y diffiniad. Mae gwelliant 38 yn gysylltiedig â gwelliant 37 ac mae'n dileu'r diffiniad o 'wybodaeth' ynghylch pennod 1 o Ran 6 o'r Bil. Nid oes angen hyn, gan fod 'gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf' eisoes wedi'i chynnwys yn niffiniad 'dogfen'.

Mân ddiwygiadau technegol yw gwelliannau 81 ac 82 sy'n mireinio'r cyfarwyddiadau sy'n nodi lle o fewn y testun sy'n cael ei ddiwygio y dylai gwelliannau sydd wedi'u darparu ar eu cyfer gan y darpariaethau hyn gael eu mewnosod. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r gwelliannau hyn sydd wedi'u cyflawni yn fy enw i. Diolch.

Diolch. Wel, byddwn ni'n cefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru i hyn, ond yn siomedig o glywed unwaith eto fethiant efallai i ddeall yn llawn yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud, bod didwylledd, atebolrwydd, tryloywder ac ymgysylltu yn arwain at berthnasoedd cryfach, gwell sefydliadau gweithredu, pobl hapusach, mwy brwdfrydig a chymunedau mwy ymroddedig, nid oherwydd fy mod i'n dweud hynny, ond oherwydd bod y dystiolaeth—tystiolaeth amlwg, helaeth—allan yno yn gwneud hyn yn glir. Mae hyn yn ceisio sicrhau ein bod ni'n cyflwyno ffordd arall o gryfhau'r Bil hwn er mwyn gallu cyflawni'r nod hwnnw, ac mae'n siomedig ein bod ni unwaith eto'n colli cyfle i wella materion i bob parti sy'n ymwneud â'r ffordd hon er budd y ddwy ochr. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 136? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 136. Cau'r bleidlais. O blaid 10, chwech yn ymatal, 35 yn erbyn—gwelliant wedi'i wrthod. 

Gwelliant 136: O blaid: 10, Yn erbyn: 35, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 33 (Julie James).

Ydy e'n cael ei gyflwyno? Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 33? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 33. Cau'r bleidlais. O blaid 43, pedwar yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae gwelliant 33 wedi'i dderbyn.

20:10

Gwelliant 33: O blaid: 43, Yn erbyn: 4, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 34 (Julie James).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 34? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 34. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn—gwelliant 34 wedi ei dderbyn. 

Gwelliant 34: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 35 (Julie James).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 35? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 35. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae gwelliant 35 yn cael ei dderbyn. 

Gwelliant 35: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 36 (Julie James).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 36? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 36. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae gwelliant 36 wedi'i dderbyn. 

Gwelliant 36: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 37 (Julie James).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 37. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 37 wedi ei dderbyn. 

Gwelliant 37: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 38 (Julie James).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 38? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 38. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn—gwelliant 38 wedi ei dderbyn. 

Gwelliant 38: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 81 (Julie James).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 81? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 81. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn—gwelliant 81 yn cael ei gymeradwyo. 

Gwelliant 81: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 82 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 82? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 82. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn—gwelliant 82 wedi'i dderbyn. 

Gwelliant 82: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 168 (Delyth Jewell).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Os derbynnir gwelliant 168, bydd gwelliant 137 yn methu. Agor y bleidlais ar welliant 168. Cau'r bleidlais. O blaid 10, tri yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 168 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 168: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 137 (Mark Isherwood).

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 137. Cau'r bleidlais. O blaid 12, tri yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae gwelliant 137 wedi'i wrthod.

20:15

Gwelliant 137: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 12: Ailstrwythuro awdurdodau lleol (Gwelliannau 138, 139, 140, 39, 141, 71, 40, 41, 42, 43, 44, 73, 78)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 12, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud ag ailstrwythuro awdurdodau lleol. Cant tri deg wyth yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno gwelliant 138 ac eraill. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 138 (Mark Isherwood).

Diolch. Wel, unwaith eto, mae hyn yn ceisio bwrw ymlaen â'r agenda lleoliaeth a chymuned, gan roi pobl yn gyntaf, felly mae gwelliannau 138, 139, 140 a 141 yn dileu darpariaethau'r Bil sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ailstrwythuro prif ardaloedd heb gael cais i wneud hynny. Diben y gwelliant hwn yw atal uno cynghorau yn erbyn dymuniadau'r cynghorau hynny. Ni allaf i ddychmygu pa fath o arweinyddiaeth wleidyddol a fyddai eisiau'i wneud fel arall. Mae'n rhaid ailstrwythuro cynghorau gyda chefnogaeth a chyfranogiad llawn y cynghorau dan sylw mewn modd cwbl dryloyw a democrataidd, neu fel arall ni fydd yn cyflawni. Felly, byddaf i'n symud ymlaen i argymell yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Rwy'n galw ar Aelodau i wrthod gwelliannau 138 i 141, sy'n golygu mai dim ond pan oedd y prif gyngor dan sylw wedi cyflwyno cais i ddiddymu y byddai modd ailstrwythuro awdurdod lleol. Mae'n rhaid bod lle i Weinidogion Cymru ymyrryd os oes tystiolaeth nad yw prif gyngor yn gynaliadwy ac efallai mai budd gorau trigolion lleol yw diddymu'r cyngor hwnnw ac ailstrwythuro'r ardal.

Er ei bod yn annhebygol iawn y bydd y mater hwn yn codi, o ystyried y cyfleoedd i gefnogi ac ymyrryd o dan Ran 6 o'r Bil, mae'n ddoeth darparu ar gyfer sefyllfa lle y gallai Gweinidogion wynebu'r angen i gymryd y cam terfynol a defnyddio'r pŵer ailstrwythuro. Nid oes ond angen i mi dynnu sylw'r Aelodau at amgylchiadau dros y ffin, lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU ar ganol diddymu Cyngor Sir Swydd Northampton, sydd â phroblemau mor ddwfn fel mai'r unig ateb yw diddymu'r cyngor sir i saith rhanbarth a dau gyngor unedol newydd yn eu lle.

Mae pŵer y Gweinidog wedi'i lunio'n ofalus fel mai dim ond mewn ffordd amserol ac ystyriol y mae modd ei ddefnyddio a lle bod tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau gwybodus nad yw'r cyngor dan sylw yn gynaliadwy. Mae'r pŵer yn un angenrheidiol, ac rwy'n ailadrodd fy nghais i Aelodau wrthod y gwelliannau hyn.

Mae gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn yn dechnegol. Mae gwelliant 44 yn dechnegol ac yn mewnosod diffiniad 'dogfennau' at ddibenion Rhan 7 o'r Bil. Mae gwelliannau 39 i 43 a 73 yn gysylltiedig â'r gwelliant hwn ac yn sicrhau y caiff Gweinidogion Cymru, wrth ystyried a ddylai swyddogaeth prif gyngor gael ei throsglwyddo, gyfarwyddo prif gyngor i ddarparu dogfennau ac, yn achos gwelliant 73, ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sy'n uno neu ailstrwythuro ddarparu unrhyw ddogfennau i bwyllgor pontio y gofynnir, yn rhesymol, amdanyn nhw.

Mân welliant technegol yw gwelliant 73 sy'n dileu rhag dod i rym gyfeiriad at derm nad yw'n ymddangos yn Rhan 7 o'r Bil.

Yn olaf, mae gwelliant 78 yn darparu na fydd geiriau penodol yn adran 140, sy'n ymwneud ag ailstrwythuro yn unig, yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Mae hyn yn gyson â gweddill y darpariaethau yn Rhan 7 sy'n ymwneud ag ailstrwythuro. Diolch.

Yn fyr iawn, dim ond o ran y sylwadau a wnaeth y Gweinidog am ein gwelliannau. Diben y gwelliannau hyn yw peidio ag atal ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru pan fydd awdurdod lleol yn anghynaliadwy neu ddim yn gynaliadwy—i'r gwrthwyneb; byddem ni'n annog mwy o hynny pan fydd angen ymyrraeth a chefnogaeth ar gyngor, nid fel cosb, ond fel cyfle i fynd i'r afael â materion er budd y naill ochr a'r lle eto. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau na all Gweinidogion Cymru ymyrryd i ailstrwythuro prif ardaloedd heb gefnogaeth a chyfranogiad y cynghorau dan sylw mewn modd tryloyw a democrataidd. Rwy'n credu ein bod ni'n cyfuno dau fater sydd ar wahân. Nid dyna yw ein bwriad. Ein bwriad, fel yr wyf i wedi'i ddweud, yw hyrwyddo'r agenda lleoliaeth yn ysbryd tryloywder a phartneriaeth.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 138? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 138. Cau'r bleidlais. O blaid 12, ymatal 12, 27 yn erbyn. Gwelliant 138 wedi'i wrthod.

20:20

Gwelliant 138: O blaid: 12, Yn erbyn: 27, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 139 (Mark Isherwood).

Yn cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 139. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 15 yn ymatal, 27 yn erbyn, felly mae gwelliant 139 wedi ei wrthod.

Gwelliant 139: O blaid: 9, Yn erbyn: 27, Ymatal: 15

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 140 (Mark Isherwood).

Ydy, mae'n cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Ydy, mae'n cael ei wrthwynebu. Agor y bleidlais ar welliant 140. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 15 yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae 140 wedi'i wrthod.

Gwelliant 140: O blaid: 9, Yn erbyn: 27, Ymatal: 15

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 169 (Delyth Jewell).

Yn cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 169. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 169: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 170 (Delyth Jewell).

Yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar 170. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 170 wedi'i wrthod.

Gwelliant 170: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 39 (Julie James).

Yn cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad i welliant 39? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 39. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly mae gwelliant 39 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 39: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 141 (Mark Isherwood).

[Gwrthwynebiad.] Yn cael ei wrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 141. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 141 wedi'i wrthod.

Gwelliant 141: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 171 (Delyth Jewell).

Yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 171. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 171: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 71 (Julie James).

A oes gwrthwynebiad i welliant 71? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 71. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Felly mae gwelliant 71 wedi'i gymeradwyo.

20:25

Gwelliant 71: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Oherwydd eu natur, yn unol â Rheol Sefydlog 12.40, dwi'n cynnig bod gwelliannau 58 i 43, sy'n ymddangos yn olynol ar y rhestr o welliannau wedi'u didoli, yn cael eu gwaredu mewn un bleidlais. A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Nac oes. Felly, Gweinidog, ydych chi'n dymuno cynnig gwelliannau 58 i 43?

Cynigiwyd gwelliannau 58, 59, 60, 61, 40, 41, 42 a 43 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliannau 58 i 43? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliannau 58 i 43. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae'r gwelliannau o 58 i 43—y bloc yna—wedi'u cymeradwyo.

Gwelliannau 58, 59, 60, 61, 40, 41, 42, 43 (en bloc): O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliannau

Cynigiwyd gwelliant 172 (Delyth Jewell).

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 172. Cau'r bleidlais. O blaid 18, mae yna dri yn ymatal, a 30 yn erbyn. Felly, mae 172 wedi'i wrthod.

Gwelliant 172: O blaid: 18, Yn erbyn: 30, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 44 (Julie James).

Mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 44? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 44. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 44 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 44: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 13: Rhan 9—amrywiol (Gwelliannau 45, 46, 47, 54)

Grŵp 13 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp hwn yn ymwneud â Rhan 9 ond maen nhw'n amrywiol. Gwelliant 45 yw'r prif welliant, a dwi'n gofyn i'r Gweinidog i gyflwyno'r gwelliant hwnnw. Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 45 (Julie James).

Diolch, Llywydd. Byddaf i'n siarad am welliant 47 yn gyntaf. Yng Nghyfnod 2, cafodd gwelliant nad oedd yn un gan y Llywodraeth ei gyflwyno yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau

'wneud trefniadau i ddarparu gwasanaeth ymchwil a chyngor i'w aelodau'.

Nid oeddwn i'n gallu cefnogi'r gwelliant hwn, gan fod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 eisoes yn darparu bod swyddogaethau pennaeth y gwasanaethau democrataidd yn cynnwys darparu cyngor a chymorth i aelodau, a'r bwriad yw iddo gynnwys gwasanaeth ymchwil. O dan Fesur 2011, mae'n ofynnol i brif gyngor ddarparu staff, llety ac adnoddau eraill i'w bennaeth gwasanaethau democrataidd a fydd, ym marn y cyngor yn caniatáu i'r pennaeth gyflawni ei swyddogaethau. Yn ystod trafodion pwyllgorau, ymrwymais i archwilio potensial cyhoeddi canllawiau ynghylch y mater hwn, ac rwyf i wedi cyflwyno gwelliant 47 mewn ymateb i'r ymrwymiad hwnnw.

Bydd y gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau roi sylw i unrhyw ganllawiau y mae Gweinidogion Cymru yn eu cyhoeddi o ran darparu adnoddau i'w pennaeth gwasanaethau democrataidd. Rwy'n rhagweld y gallai'r canllawiau hyn fanylu ar fanteision gwasanaeth ymchwil sydd wedi'i gyllido'n dda ar gyfer aelodau, a nodi y dylai cynghorau ystyried sut y gallen nhw ddyrannu adnoddau er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth o'r fath.

Mae gwelliant 45 yn welliant technegol i ddarparu ar gyfer diffiniad 'dogfen' yn adran 158, a dileu diffiniad diangen 'gwybodaeth'. Mae hyn yn unol â diwygiadau technegol eraill mewn grwpiau blaenorol.

Mae gwelliant 46 hefyd yn welliant technegol sy'n ymwneud ag adran 158 o'r Bil, sy'n gwneud darpariaeth o ran rhannu gwybodaeth rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a rheoleiddwyr. Mae'r diwygiad yn mewnosod adran newydd sy'n sicrhau nad yw'r gwaharddiad ar ddatgelu gwybodaeth yn adran 54 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn atal yr archwilydd cyffredinol rhag datgelu gwybodaeth y mae wedi'i chael o dan adran 158 o'r Bil at y dibenion y mae wedi gofyn amdani, neu ddatgelu gwybodaeth i reoleiddwyr eraill os oes cais wedi'i wneud o dan adran 158.

Ac yn olaf, mae gwelliant 54 yn ganlyniadol i welliant 46, ac mae'n darparu bod y darpariaethau a fewnosodir gan y gwelliant hwnnw yn dod i rym yn unol â chychwyn adran 158. Diolch.

Mae gwelliant 47 Llywodraeth Cymru, fel yr ydym ni wedi'i glywed, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau wedi'i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru, a gall canllawiau gael eu cynhyrchu ynghylch dyletswydd awdurdod lleol i ddarparu i'w bennaeth gwasanaethau democrataidd unrhyw staff, llety ac adnoddau eraill y mae'r awdurdod lleol o'r farn eu bod yn ddigonol i ganiatáu i swyddogaethau pennaeth y gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni. Mae memorandwm esboniadol y Bil yn nodi mai un o ddyletswyddau pennaeth y gwasanaethau democrataidd yw rhoi cymorth a chyngor digonol i gynghorwyr y tu allan i'r weithrediaeth. Mae'r gwelliant hwn yn cyflwyno pŵer i wneud canllawiau i sicrhau bod y cyfle i fanteisio ar gyngor a chymorth yn gyson ledled awdurdodau lleol a bod cynghorwyr yn gallu cael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw. Wrth gwrs, gwyddom ni, fel Aelodau'r Senedd neu Senedd Cymru, ein bod ni'n dibynnu ar y cyngor annibynnol a gaiff ei ddarparu gan y Gwasanaeth Ymchwil yn Senedd Cymru ac na fyddem ni'n ceisio cyngor annibynnol gan weision sifil Llywodraeth Cymru oherwydd y gwrthdaro buddiannau anochel a fyddai'n codi lle mae pŵer yn cael ei wahanu'n ffurfiol rhwng y weithrediaeth a'r ddeddfwrfa. Felly, mae'n hanfodol bod cynghorwyr o bob plaid y tu allan i'r weithrediaeth, yn ogystal ag i mewn, yn gallu cael cyngor a chymorth annibynnol. Felly, yr ydym ni'n cefnogi bwriadau'r gwelliant hwn. Fodd bynnag, os ydy'r gwelliant hwn yn cael ei dderbyn, yn ôl y disgwyl, dylai Llywodraeth Cymru roi'r adnoddau angenrheidiol i gynghorau lleol i'w galluogi i sefydlu gwasanaeth ymchwil aelodau, gan sicrhau nad oes rhaid i gynghorau ddefnyddio eu hadnoddau presennol sydd eisoes dan bwysau i sefydlu gwasanaethau o'r fath. At hynny, dylai mesurau gael eu rhoi ar waith i sicrhau bod unrhyw wasanaeth ymchwil yn hygyrch i bob Aelod etholedig a'i fod yn rhydd o unrhyw duedd wleidyddol. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth dderbyn ein cefnogaeth, hefyd yn cydnabod y materion yr wyf i wedi tynnu sylw atyn nhw.

20:30

Diolch, Llywydd. I wanted to speak very briefly to this group of amendments and to welcome the Minister's commitment, given at Stage 2, to explore the potential for guidance to be issued that would strengthen the role of democratic services within local government, including the potential for a research service function, as has just been mentioned by Mark Isherwood. In that respect, amendment 47 is most welcome and can be used to strengthen the role and support that democratic services can offer councillors.

Gweinidog i ymateb? Na? Iawn.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 45? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, gan Gareth Bennett. Felly, agor y bleidlais ar welliant 45. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 45 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 45: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 46 (Julie James).

Felly, mae'r gwelliant wedi'i gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i welliant 46? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 46. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 12 yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, gwelliant 45 wedi'i gymeradwyo.

20:35

Gwelliant 46: O blaid: 36, Yn erbyn: 2, Ymatal: 12

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 47 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 47? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlias ar welliant 47. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal a dau yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 47 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 47: O blaid: 44, Yn erbyn: 2, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 14: Awdurdodau tân ac achub (Gwelliannau 142, 48, 49, 57)

Grŵp 14 yw'r grŵp nesaf ar awdurdodau tân ac achub. Gwelliant 142 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r gwelliant hwnnw a'r gwelliannau yn y grŵp. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 142 (Mark Isherwood).

Diolch. Mae gwelliant 142 yn dileu adran 164, 'Awdurdodau tân ac achub cyfunol: ymchwiliadau'. Mae adran 164 o'r Bil yn ymdrin ag ymchwiliadau i drefniadau cyllid a llywodraethu ar gyfer awdurdodau tân ac achub. Mae'r rhain wedi'u sefydlu drwy Orchmynion cyfunol o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Mae adran 164 yn diwygio Deddf 2004 i ddileu'r gofyniad i Weinidogion Cymru gynnal ymchwiliad wrth amrywio Gorchymyn cyfunol awdurdod, ac eithrio pan fo'r amrywiad yn newid yr ardal a wasanaethir gan yr awdurdod tân ac achub, neu y byddai'n dirymu'r Gorchymyn cyfunol gyda'r bwriad o greu trefn cwbl wahanol o awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau dystiolaeth unfrydol gan awdurdodau tân ac achub Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ynglŷn â'r ddarpariaeth hon. Nododd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru eu pryderon difrifol, gan esbonio bod y ddarpariaeth wedi'i rhoi ar waith am reswm, sef sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei roi i ddiogelwch diffoddwyr tân neu'r gymuned cyn i newidiadau gael eu gweithredu a allai gael effaith andwyol ar y rhain. Pwysleisiodd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru fod y newid hwn yn gam sy'n peri pryder mawr, gan y gallai arwain at wneud newidiadau anaddas neu ddifeddwl i rai o'r meysydd allweddol wedi'u nodi heb ddigon o ymchwil, dadl, craffu na her. 

Mynegodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ei bryderon yn gryf hefyd, gan nodi bod y syniad na fyddai newid, er enghraifft, trefniadau llywodraethu neu gyllido awdurdodau tân ac achub sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch y cyhoedd na diffoddwyr tân yn ddiffygiol. Byddai'n awgrymu, medden nhw, y byddai rhoi blaenoriaeth i gyfleustra ar draul y diogelu sydd wedi'i gynnig gan yr angen i gynnal ymchwiliad yng Nghymru yn ymddangos yn gam yn ôl, nid heb rywfaint o risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân. A dywedodd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod diffygion amlwg yn y cynigion a bod ymchwiliadau o'r fath yn gwella ac yn hwyluso penderfyniadau da, gan ychwanegu, os yw cynigion yn anymarferol neu'n ddifeddwl neu'n afresymol, y byddai ymchwiliad yn gweithredu fel brêc neu hidlydd agored ac effeithlon ar unrhyw gynigion o'r fath ac, o ganlyniad, ei fod wir er budd y cyhoedd.

Felly, fel y dywedodd adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, roedd awdurdodau tân ac achub de Cymru a chanolbarth a gorllewin Cymru yn glir wrth ofyn bod y ddarpariaeth yn adran 164 yn cael ei dileu o'r Bil. Yn ystod Cyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog y bydd dileu'r gofyniad ychwanegol a diangen hwn yn symleiddio proses rhy gymhleth ac eang. Fodd bynnag, nid yw datganiad o'r fath yn ymateb i bryderon y gwasanaethau tân ac achub ac awdurdodau sydd wedi siarad yn wybodus ac awdurdodol yn erbyn bwriadau presennol Llywodraeth Cymru o ran ymchwiliadau cyhoeddus. Nid symleiddio yw hyn; dileu cadw cydbwysedd o fewn y system yw hyn, ac mae hynny'n gam peryglus iawn i'w gymryd.

Mae arnaf i ofn fy mod yn gwrthod gwelliant 142 ac yn galw ar yr Aelodau i wneud yr un peth. Mae cyfansoddiad Awdurdodau Tân ac Achub a threfniadau llywodraethu eraill wedi'u nodi yn eu Gorchmynion cyfunol. Ar y cyfan, mae'r Gorchmynion hyn yn ymdrin â materion yn ymwneud â strwythur a gweithdrefn fewnol. Nid oes ganddyn nhw unrhyw beth i'w wneud â diffodd tân na gweithrediadau rheng flaen eraill. Yn wir, byddai modd cymhwyso eu telerau bron air am air i gorff nad oedd yn darparu gwasanaethau tân ac achub o gwbl.

Er ei bod yn bosibl diwygio'r Gorchmynion cyfunol i wella trefniadau llywodraethu a chyllidol, rydym ni wedi cytuno â'r awdurdodau tân ac achub na fyddwn ni'n mynd ar drywydd y materion hyn yn ystod tymor hwn y Senedd. Er hynny, nid oes rheswm dros gynnal ymchwiliad cyhoeddus lleol i gynigion i ddiwygio Gorchmynion cyfunol lle'r oedd hynny'n ddymunol er budd llywodraethu da. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae'r Gorchmynion yn ei gwneud yn ofynnol i gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub ddal swydd am flwyddyn yn unig. Gallai rhai ddweud bod hynny'n gyfnod rhy fyr a'i fod yn arwain at arweinyddiaeth ansefydlog. Byddai caniatáu i gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub wasanaethu am ddwy flynedd, dyweder, yn gam bach yn amlwg na fyddai'n haeddu ymchwiliad cyhoeddus, ac eto dyna fyddai effaith y gyfraith fel y mae hi.

Mae diddordeb y cyhoedd yn y materion hyn yn aml yn isel iawn, ond bydd y gofyniad ar Weinidogion Cymru i ymgynghori'n llawn ar newidiadau arfaethedig i Orchmynion cyfunol yn parhau, yn ogystal â'r gofyniad i osod diwygiadau i'r Gorchmynion hynny gerbron y Senedd. Bydd dileu'r gofyniad ychwanegol a diangen hwn yn symleiddio proses sy'n rhy gymhleth a chostus. Nid oes gan unrhyw gorff cyhoeddus arall y pŵer i gydsynio i newidiadau yn eu trefniadau llywodraethu eu hunain, na gorfodi ymchwiliad os nad yw hwnnw ganddo. Nid wyf i wedi fy argyhoeddi y dylai Awdurdodau Tân ac Achub fod yn achos arbennig.

Mae Awdurdodau Tân ac Achub wedi dadlau bod darpariaethau presennol yr ymchwiliad cyhoeddus ar waith at ddibenion diogelwch y cyhoedd; nid wyf i'n cytuno. Diben Gorchymyn cyfunol, fel y dywedais i, yw ymdrin â materion strwythur a llywodraethu, nid darparu gwasanaethau. Yr unig eithriad posibl fyddai newidiadau i ffiniau Awdurdodau Tân ac Achub. Fodd bynnag, bydd y gofyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus yn parhau lle byddai newidiadau arfaethedig i'r Gorchmynion cyfunol yn effeithio ar ffiniau Awdurdodau Tân ac Achub. Nid oes gennym ni unrhyw ddiddordeb mewn cynigion o'r fath ar hyn o bryd, ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig cynnal y diogelu. Dyna oedd pwrpas y gofyniad erioed. Mae'n pennu dull ar gyfer sicrhau bod y cyhoedd yn cael cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Nid oedd yn rhoi pŵer i Awdurdodau Tân ac Achub rwystro newidiadau i'w trefniadau llywodraethu eu hunain.

Mae gwelliant 48 yn ddiwygiad technegol i dynnu awdurdodau tân ac achub yng Nghymru o adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 93 o Ddeddf 2003 yn rhoi pŵer i awdurdodau perthnasol godi tâl am wasanaethau dewisol. Mae gan awdurdodau tân ac achub bŵer eisoes i godi tâl ar berson am unrhyw gamau wedi'u cymryd heblaw am at ddiben masnachol, o dan adran 18A o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ac felly nid oes angen y pŵer arnyn nhw o dan adran 93.

Mân welliant technegol yw gwelliant 49 a fydd yn hwyluso diddymu Mesur llywodraeth leol 2009 ac nid yw'n newid effaith berthnasol adran 166. Mae gwelliant 57 yn ganlyniadol i welliant 48 ac mae'n pennu bod y darpariaethau a fewnosodir gan y gwelliant hwnnw yn dod i rym ddeufis ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol. Diolch.

20:40

Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. A ydych yn dymuno gwneud hynny?

Diolch, Llywydd. Ailadroddodd y Gweinidog y datganiad a wnaed yng Nghyfnod 2, a ddarllenais i, y bydd dileu'r gofyniad ychwanegol a diangen hwn yn symleiddio proses sy'n rhy gymhleth a chostus, er i bob awdurdod tân ac achub yng Nghymru ddatgan i'r gwrthwyneb—na fyddai hyn heb risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân, bod diffygion amlwg yn y cynigion, a bod ymchwiliad fel brêc neu hidlydd i unrhyw gynnig o'r fath er budd y cyhoedd i raddau helaeth. Mae'n sefyllfa druenus iawn pan fydd unrhyw Lywodraeth yn credu ei bod yn gwybod yn well na llais unfrydol gwasanaeth brys rheng flaen yng Nghymru. Mae llywodraethu da yn golygu eich bod yn gwrando, rydych yn dysgu; nid ydych yn esgus eich bod yn gwybod yn well.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 142? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 142. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pump yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 142: O blaid: 19, Yn erbyn: 26, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 48 (Julie James).

Mae gwelliant 48 yn enw'r Gweinidog yn cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad i welliant 48? [Gwrthwynebiad.] Oes, gan Gareth Bennett. Agor y bleidlais ar welliant 48. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, gwelliant 48 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 48: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 49 (Julie James).

Mae wedi cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad i 49? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 49. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae gwelliant 49 yn cael ei gymeradwyo.

20:45

Gwelliant 49: O blaid: 44, Yn erbyn: 2, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 15: Iawndal i brif gynghorau (Gwelliant 143)

Grŵp 15 yw'r grŵp terfynol o welliannau, sy'n ymwneud â iawndal i brif gynghorau. Felly, dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno gwelliant 143, sef y prif welliant yn y grŵp yma. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 143 (Mark Isherwood).

Mae gwelliant 143 yn sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddigolledu awdurdodau lleol am unrhyw gostau a ysgwyddir o ganlyniad i ddarpariaethau yn y Bil. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi y bydd cyfanswm cost y Bil tua £17.17 miliwn, gan gynnwys costau trosiannol o tua £2.95 miliwn i lywodraeth leol. O ystyried y pwysau ar gyllid llywodraeth leol, ac yn enwedig yng ngoleuni pandemig COVID-19, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn darparu'r adnoddau angenrheidiol i ddeddfu'r Bil y mae'n ei basio ac i sicrhau bod y Bil yn cyflawni ei nodau yn y pen draw. Felly, mae ein gwelliant yn adlewyrchu sylwadau a wnaed gan randdeiliaid yn ystod trafodion Cyfnod 1, gan gynnwys sylwadau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a ddywedodd:

Dylai Llywodraeth Cymru fod yn ariannu unrhyw fentrau cenedlaethol newydd yn llawn, neu oblygiadau unrhyw ddeddfwriaeth genedlaethol ar awdurdodau lleol.

Fodd bynnag, dadleuodd y Gweinidog yn erbyn sylwadau o'r fath yn ystod Cyfnod 2. Dywedodd:

Mae prif gynghorau yn cael arian gan Lywodraeth Cymru drwy'r setliad llywodraeth leol,

tra bo cynghorau:

hefyd yn derbyn grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill ar gyfer prosiectau a rhaglenni penodol.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £500,000 wedi ei ddarparu i gynghorau mewn cymorth paratoadol, gan gynnwys cefnogi democratiaeth ddigidol, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datgan ei bod yn aros am fanylion ynghylch sut y byddai hyn yn cael ei ddosbarthu. At hynny, mae'r cyllid hwn yn sylweddol is na'r £2.95 miliwn o gostau trosiannol i lywodraeth leol a amlinellwyd yn y memorandwm esboniadol. Fel y nodwyd, ac mae ei holl aelodau yn gwybod a dylai pob un ohonyn nhw dderbyn, mai bwriad y setliad llywodraeth leol a gafodd prif gynghorau gan Lywodraeth Cymru yw ariannu'r gwasanaethau statudol y maen nhw'n eu darparu, nid costau gorfodol ychwanegol a orfodwyd gan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn codi pryder ers blynyddoedd lawer am y baich costau cosbol o orfod ysgwyddo canlyniadau penderfyniadau Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw wedi eu hariannu neu nad ydyn nhw wedi eu hariannu'n ddigonol.

Fel y nodwyd, dywedodd y Gweinidog fod cynghorau:

hefyd yn derbyn grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill ar gyfer prosiectau a rhaglenni penodol.

Gan adlewyrchu pryderon y cynghorau, dyma yn union beth y mae ein gwelliant yn ceisio ei sicrhau yn yr achos hwn.

Er fy mod i'n deall pam y mae'r Aelod wedi cyflwyno gwelliant 143, ni allaf ei gefnogi a galwaf ar yr Aelodau i'w wrthod. Mae'r gwelliant yn cynnig gosod gofyniad mewn deddfwriaeth i ad-dalu costau heb unrhyw gydnabyddiaeth o'r buddion, ariannol neu fel arall. Nid yw'n gwahaniaethu rhwng costau sefydlu a'r costau a'r cyfleoedd sy'n deillio o ffordd newydd ond parhaus o weithio. Mae hefyd yn awgrymu y byddai'n rhaid i gynghorau a Llywodraeth Cymru nodi'r costau hynny sy'n uniongyrchol berthnasol i'r ddeddfwriaeth hon byth a beunydd, ni waeth pa mor fach nac amhendant y gallen nhw fod, gan greu angen felly am system newydd a biwrocrataidd i gofnodi ac olrhain costau drwy sefydlu trefn ariannu benodol wedi'i neilltuo. Nid wyf i'n credu mai dyna yw bwriad yr Aelod, ond byddai'n ganlyniad anochel i osod darpariaeth o'r fath yn y ddeddfwriaeth.

Fodd bynnag, gadewch i mi fod yn glir ein bod ni yn cydnabod y bydd angen buddsoddi mewn gweithredu rhai agweddau ar y Bil hwn. Er enghraifft, rydym ni eisoes wedi darparu cyllid ychwanegol i gydnabod effeithiau diwygio etholiadol sydd â chyfanswm o tua £2.2 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf. Byddwn yn parhau i drafod gyda llywodraeth leol drwy CLlLC pa gymorth ychwanegol sydd ei angen i weithredu newidiadau eraill.

Mae egwyddor bwysig yma hefyd ynglŷn ag ariannu llywodraeth leol na ddylem ei cholli. Nid yw'r rhan fwyaf o'n cyllid ar gyfer llywodraeth leol wedi'i neilltuo. Yn wahanol i grantiau, lle gallwn ni ac yn aml yr ydym ni, yn ei gwneud yn ofynnol i rai gweithgareddau gael eu blaenoriaethu a'u gwneud mewn ffordd benodol, mae cyllid drwy'r setliad llywodraeth leol yno i gynghorau wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cyflawni dyletswyddau statudol a darparu gwasanaethau anstatudol. Mae gennym ni drefniant y cytunwyd arno eisoes ac wedi ei brofi, gyda llywodraeth leol, sy'n ystyried pob agwedd ar gyllid prif gyngor yn ei gyfanrwydd. Mae hyn yn cynnwys nodi ac ystyried unrhyw gostau parhaus newydd sylweddol a wynebir gan brif gynghorau, boed hynny yn sgil chwyddiant cyflogau neu sy'n deillio o ddeddfwriaeth. Mae is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth yn bodoli i sicrhau yr ystyrir yn briodol y materion hyn, ac felly ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn. Diolch, Llywydd.

20:50

Yn fyr, diolch. Mae'r sector llywodraeth leol yr wyf i'n ymgysylltu ag ef yng Nghymru wedi bod yn dweud wrthyf ers tro byd am y gost ychwanegol gronnol y bu'n rhaid iddyn nhw ei hysgwyddo o ganlyniad i bolisïau neu ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru heb eu hariannu neu heb eu hariannu'n ddigonol. Nid sylw ynghylch rhinwedd neu ddiffyg rhinwedd y ddeddfwriaeth yw hynny; mae'n ymwneud â'u gallu i gyflawni hynny heb beryglu gwasanaethau eraill. Cyfeiriodd y Gweinidog, yng Nghyfnod 2, fel y dywedais i, wrth iddi wrthod gwelliant cyfatebol, at y cyllid y mae awdurdodau lleol eisoes yn ei gael neu'n ei gael mewn grantiau penodol. Pe byddai hi wedi dweud wedyn y byddem yn archwilio methodoleg i sicrhau bod cynghorau yn cael iawndal llawn am gost net wirioneddol gweithredu'r mesurau hyn, ni fyddem wedi cyflwyno'r gwelliant hwn. Ond nid dyna sut yr ydym ni'n cofio hyn yn datblygu. Mae hwn yn ddarn mawr o ddeddfwriaeth llywodraeth leol a fydd â chostau cychwynnol sylweddol ac o bosibl costau tymor hwy i'r teulu llywodraeth leol ledled Cymru, a dylai ein gwelliannau sefyll yn unol â hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 143? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, dyma ni yn agor y bleidlais ar welliant 143. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, tri yn ymatal, 29 yn erbyn. Mae gwelliant 143 wedi'i wrthod.

Gwelliant 143: O blaid: 18, Yn erbyn: 29, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, y gwelliant nesaf yw gwelliant 173, Delyth Jewell. 

Cynigiwyd gwelliant 173 (Delyth Jewell).

Mae'r gwelliant wedi'i symud. [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 173. Cau'r bleidlais. O blaid 17, tri yn ymatal, 30 yn erbyn. Mae gwelliant 173 wedi'i wrthod.

Gwelliant 173: O blaid: 17, Yn erbyn: 30, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 50 (Julie James).

A oes gwrthwynebiad i welliant 50? [Gwrthwynebiad.] Oes, gan Gareth Bennett. Agor y bleidlais ar welliant 50. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae gwelliant 50 wedi'i gymeradwyo. 

Gwelliant 50: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 51 (Julie James).

A oes gwrthwynebiad i 51? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 51. Cau'r bleidlais. O blaid 44, mae yna chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 51 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 51: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 52 (Julie James).

Mae wedi'i gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i 52? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 52. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 52 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 52: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 174 (Delyth Jewell).

Mae'n cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu. Agor y bleidlais ar welliant 174. Cau'r bleidlais. O blaid 10, pump yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 174 wedi ei wrthod.

20:55

Gwelliant 174: O blaid: 10, Yn erbyn: 35, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 175 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i 175? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 175. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pump yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 175 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 175: O blaid: 17, Yn erbyn: 28, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 72 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 72? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 72. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 72 yn cael ei gymeradwyo.

Gwelliant 72: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 53 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 53? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly agor y bleidlais ar welliant 53. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 53 wedi cael ei gymeradwyo.

Gwelliant 53: O blaid: 44, Yn erbyn: 2, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 54 (Julie James).

Mae wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i 54? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 54. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 12 yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 54 yn cael ei gymeradwyo.

Gwelliant 54: O blaid: 36, Yn erbyn: 2, Ymatal: 12

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 73 (Julie James).

Mae wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i 73? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 73. Cau'r bleidlais. O blaid 44, mae yna chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 73 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 73: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 78 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 78? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 78. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 78 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 78: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 79 (Julie James).

Mae wedi ei gynnig. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, i welliant 79. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 79. Cau'r belidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 79 wedi ei dderbyn. 

Gwelliant 79: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 55 (Julie James).

Mae wedi ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 55. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 55 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 55: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 56 (Julie James).

Mae wedi cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad i 56? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 56. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 56 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 56: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 57 (Julie James).

Mae wedi cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i 57? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 57. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn.

21:00

Gwelliant 57: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 144 (Mark Isherwood).

Yn cael ei gyflwyno. Oes gwrthwynebiad i 144? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 144. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pump yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 144 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 144: O blaid: 19, Yn erbyn: 26, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Ac felly, dyna ni, dyna ddiwedd y gwelliannau. Mae'n 9 o'r gloch ar ei ben, fwy neu lai, ac rŷn ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi'u derbyn.  

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o'r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 21:01.