Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
20/10/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bôn nhw, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Hefyd, dwi angen atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i Aelodau sydd yn y Siambr â'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Cyn i fi alw ar y Prif Weinidog i ateb y cwestiynau, dwi'n siŵr y bydd pob Aelod yn ymuno â fi heddiw i estyn ein cydymdeimlad gyda'r Dirprwy Lywydd, Ann Jones, yn dilyn marwolaeth ei gŵr hi, Adrian. Mae Ann, Victoria a Vincent, a'u teuluoedd i gyd, yn ein meddyliau ni y prynhawn yma.
Yr eitem gyntaf felly ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Suzy Davies.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ariannol i brifysgolion? OQ55755
Llywydd, rydym ni wedi darparu mwy na £213 miliwn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae hynny'n cynnwys £27 miliwn ychwanegol i sefydlu cronfa buddsoddi ac adfer addysg uwch i gydnabod effaith y pandemig ar ein prifysgolion.
Diolch, Prif Weinidog. O'r ffigurau hynny, rwy'n credu y gallwn ni weld bod prifysgolion yn gweithredu yn erbyn cefndir lle nad ydyn nhw'n cael manteision llawn arian canlyniadol llawn Barnett ar gyfer ymchwil ac arloesi. Felly, byddwn yn ddiolchgar i gael gwybod faint o'r taliad ymateb COVID gwerth £27 miliwn yr ydych chi'n cyfeirio ato a ddefnyddiwyd i gynorthwyo a chadw myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig gan y bydd nifer y myfyrwyr tramor sy'n croes-gymorthdalu peth o'r gwaith hwnnw yn is eleni? Ac, yn arbennig, beth, yn ymarferol, y maen nhw'n ei gael tuag at gostau byw a chymorth iechyd meddwl o'r gronfa hon, ac a yw hyn yn cael ei ailadrodd ymhlith israddedigion, sydd yn amlwg i fod i gael cymorth o'r arian hwn hefyd?
Wel, Llywydd, mater i'r prifysgolion yw cyflogi ôl-raddedigion, nid i mi. O ran y pwynt iechyd meddwl y mae'r Aelod yn ei godi, wrth gwrs, mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r hyn y mae angen i ni roi sylw iddo wrth i bobl ifanc ddychwelyd i'w hastudiaethau, neu ddechrau eu hastudiaethau, yma yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu £10 miliwn, yn ychwanegol at y dyraniadau cychwynnol a roddwyd i CCAUC, yn benodol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant ymhlith myfyrwyr. Rwy'n ddiolchgar iawn i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am bopeth y maen nhw'n ei wneud gyda ni a chyda sefydliadau addysg uwch i wneud yn siŵr bod yr arian hwnnw yn cael ei wario yn y ffordd sy'n cael yr effaith fwyaf posibl ar lesiant a llesiant meddyliol y bobl ifanc hynny. Gwn fod CCAUC yn ychwanegu arian at y £10 miliwn yr ydym ni wedi ei ddarparu ac y bydd prifysgolion ym mhob cwr o Gymru yn elwa ar y gronfa honno.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol, ar gyfer dyfodol tymor canolig ein prifysgolion, eu bod nhw'n cael mynediad digonol at gyllid ar gyfer gwaith ymchwil. A yw'r Prif Weinidog, fel finnau, yn pryderu nad yw ein prifysgolion erioed wedi cael yr hyn a fyddai wedi bod yn gyfystyr â'u harian canlyniadol Barnett gan y cynghorau ymchwil ar unrhyw adeg yn ystod holl gyfnod datganoli, dros yr 20 mlynedd diwethaf? Ac a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y gallai fod yn bryd ystyried datganoli'r cyllid hwnnw a'r cyfrifoldeb hwnnw fel y gallwn ni fod yn gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru am ba ymchwil y dylem ni fod yn ei flaenoriaethu a sut y gallwn ni gynorthwyo ein prifysgolion i ddatblygu eu rhagoriaeth ymchwil ymhellach?
Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am hynna. Mae hi'n iawn, wrth gwrs, i ddweud nad yw prifysgolion Cymru wedi cael cyfran Barnett o incwm DU gyfan y cynghorau ymchwil, ac rydym ni mewn sgyrsiau parhaus gyda'r cynghorau ymchwil hynny i wneud yn siŵr bod ceisiadau gan sefydliadau Cymru yn cael eu hystyried yn briodol ac nad ydyn nhw'n cael eu hanwybyddu mewn patrymau hanesyddol o ariannu sefydliadau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr, hefyd, Llywydd, y bydd Helen Mary Jones yn cytuno â mi bod colli cyllid Horizon 2020 i brifysgolion Cymru yn fygythiad arbennig i'n sylfaen ymchwil yma. Mae prifysgolion Cymru, yn wahanol i'w gallu i gael gafael ar arian gan gynghorau ymchwil, wedi gwneud llawer mwy na'r hyn y gellid ei ddisgwyl ganddyn nhw o ran cael arian Horizon 2020 i Gymru. Rydym ni'n gwneud yn llawer gwell na'n cyfran o'r boblogaeth yn hynny o beth. Mae methiant Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y Deyrnas Unedig a sefydliadau Cymru yn gallu parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni olynol i Horizon, a gallu elwa arnyn nhw yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud, yn fygythiad arall i sylfaen ymchwil ein sefydliadau addysg uwch.
Prif Weinidog, rydych chi newydd ddewis maes yr oeddwn i'n mynd i'ch holi chi yn ei gylch—cyllid Ewropeaidd Cymru. Nawr, mae ein prifysgolion wedi elwa ar gyllid Ewropeaidd—nid Horizon 2020 yn unig, ond ffrydiau eraill o gyllid Ewropeaidd. Pa sicrwydd ydych chi wedi ei gael gan Lywodraeth y DU y bydd unrhyw ffrwd ariannu y byddai prifysgolion wedi elwa arni ar gyfer gwaith ymchwil—er enghraifft, y prosiectau ariannu ymchwil glo a dur—yn cael ei hail-ddyrannu i brifysgolion Cymru ac nid i gronfa ganolog a'i rannu gydag ardaloedd eraill, fel y gall ein prifysgolion barhau i elwa ar y cyllid a fyddai wedi bod ar gael o dan yr Undeb Ewropeaidd?
Does dim sicrwydd o unrhyw fath, Llywydd. Rwy'n gresynu yn arw at y ffaith fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhoi rhaglenni cydweithredu rhyng-diriogaethol ar y bwrdd ar gyfer cyllid ar ôl i aelodaeth o'r UE ddod i ben. Mae ein prifysgolion ym Mangor, Aberystwyth, Abertawe wedi elwa yn aruthrol ar gyllid cydweithredu rhyng-diriogaethol; dros €100 miliwn yn y rhaglen honno gyda de Iwerddon. Ac mae hynny wedi bod yn wir gatalydd i waith ymchwil gwirioneddol bwysig yn yr amgylchedd morol, mewn ynni adnewyddadwy—gwerth 20 mlynedd o fuddsoddiad rhwng ein sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg uwch mewn mannau eraill na fydd modd bwrw ymlaen â nhw bellach. Ac rydym ni wedi dadlau'r achos, Llywydd, dro ar ôl tro, a chyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, y dylem ni barhau i fod yn aelodau o'r rhaglenni cydweithredu hynny, ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl fyddar i'r holl ddadleuon a wnaed iddi.
Caroline Jones. Na, mae'n ddrwg gen i—
—cwestiwn 2, Russell George.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bractisau meddygon teulu yn ystod pandemig COVID-19? OQ55721
Llywydd, diolchaf i Russell George am y cwestiwn yna. Mae ein hymateb i bandemig COVID-19 wedi golygu gwneud newidiadau sylweddol i wasanaethau meddygol cyffredinol. Mae buddsoddiad pellach yn y contract Gwasanaethau Cyffredinol wedi helpu meddygon teulu i baratoi a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gwasanaeth ymgynghori fideo cenedlaethol ym mhob meddygfa deulu yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Gwn y byddwch chi'n cytuno â mi bod meddygon teulu wedi ymateb yn gyflym ac yn hyblyg yn ystod y pandemig, ac ydym ni i gyd yn diolch iddyn nhw am hynny. Nawr, er gwaethaf hynny, yr hyn y mae meddygon teulu yn fy etholaeth i yn ei ddweud wrthyf yw bod meddygon teulu, er gwaethaf nifer o geisiadau drwy'r sianeli priodol, wedi cael eu gadael ar eu pennau eu hunain—dyma maen nhw'n ei ddweud wrthyf i—o ran cynllunio a threfnu ymgyrch ffliw eleni. Ac maen nhw'n dweud wrthyf i bod Llywodraeth Cymru wedi codi'r disgwyliadau ymhlith cleifion drwy hyrwyddo'r brechiad rhag y ffliw eleni, heb unrhyw fanylion ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni. A allwch chi, Prif Weinidog, fy sicrhau heddiw y bydd gan feddygon teulu ddigon o arian i ymdopi â phwysau'r gaeaf, ac y byddan nhw'n cael profion a chanlyniadau cyflym i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu arnyn nhw a'u timau ar lawr gwlad, ac y bydd unrhyw feichiau gweinyddu diangen yn cael eu gohirio, fel y gallan nhw barhau i ddarparu'r gofal o ansawdd uchel y maen nhw, wrth gwrs, yn ei ddarparu i gleifion?
Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn y mae Russell George wedi ei ddweud am y ffordd y mae gofal sylfaenol—meddygon teulu, ond contractwyr eraill hefyd—wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig hwn. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynorthwyo yn hynny, er gwaethaf y ffaith nad oedd meddygfeydd teulu, yn ystod chwe mis cyntaf y pandemig, yn gallu darparu'r gwasanaethau estynedig y maen nhw'n cael eu talu amdanynt drwy'r contract, ond talodd Llywodraeth Cymru iddyn nhw fel pe byddai'r gwasanaethau estynedig hynny yn cael eu darparu. Ac roedd hynny er mwyn rhoi sefydlogrwydd ariannol i'r meddygfeydd hynny yn ystod y cyfnod anodd hwnnw. Ac rwyf i wir eisiau talu teyrnged i'r ffordd y mae ein meddygfeydd teulu wedi croesawu'r posibiliadau technolegol newydd sydd wedi dod gyda'r pandemig: y system Attend Anywhere, y gwasanaeth ymgynghori fideo—cynhaliwyd dros 10,000 o ymgynghoriadau fideo mewn meddygfeydd teulu ledled Cymru erbyn hyn, ac mae hynny yn cael ei gefnogi gan gyllid i feddygfeydd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cynnal y lefel honno o ddarpariaeth.
O ran brechu rhag y ffliw, Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n wych bod pobl eisiau dod ymlaen i gael eu brechu. Ond, mae brechlyn yn cael ei ryddhau o stoc pandemig y DU mewn cyfrannau, ac rydym ni wedi canolbwyntio, ar y camau cynnar, ar y rhai sydd dros 65 oed ac sy'n agored i niwed mewn ffyrdd eraill. Rydym ni wedi gwella'r taliad yr ydym ni'n ei roi i feddygon teulu—maen nhw'n cael £1.75 ychwanegol ar gyfer pob brechlyn ffliw y maen nhw'n ei roi. Rwy'n credu bod hynny bellach yn golygu eu bod nhw'n cael mwy na £12 am bob brechiad, ac mae Llywodraeth Cymru yn talu am gost y brechiad ei hun hefyd, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Cyhoeddwyd canllawiau pellach i feddygon teulu ar sut i gael gafael ar y stociau ychwanegol sy'n dod i'r DU ar 14 Hydref, a gobeithiaf y bydd hynny wedi bod o gymorth i'r rhai hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r Aelod.
Prif Weinidog, mae'r pandemig hwn wedi cael effaith ddifrifol ar ofal sylfaenol, gan gyflwyno rhwymedigaethau a beichiau ychwanegol ar weithlu a oedd eisoes mewn trafferthion. Rydym ni'n gwybod bod angen i ni recriwtio mwy o feddygon teulu i ymdopi â llwythi gwaith mewn cyfnod normal, ond, wrth i ni ddechrau'r tymor annwyd a ffliw gyda COVID-19 yn dal i fod yn rhemp, bydd y pwysau yn aruthrol. Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod y gall technoleg chwarae rhan, a'i bod yn chwarae rhan, o ran lleihau'r pwysau hyn, felly pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu faint y mae telefeddygaeth ar gael ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru? Diolch.
Wel, diolch, Caroline Jones. Mae hwnna'n gwestiwn pwysig iawn, ac rwy'n credu, mewn cyfnod anodd dros ben, bod y ffordd y mae meddygfeydd teulu wedi gallu addasu i ymgynghoriadau dros y ffôn, i ymgynghoriadau fideo, wedi bod yn nodwedd wirioneddol o'r ymateb hwnnw. Ac rwyf i wedi bod yn siarad â nifer o bobl yn ddiweddar sydd wedi dweud wrthyf i pa mor hawdd oedd y gwasanaethau hynny i'w defnyddio, a sut na fydden nhw eisiau dychwelyd i'r ffordd yr oedd pethau yn cael eu darparu o'r blaen, pan fyddai wedi bod yn rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi, gwneud teithiau anodd, cael trafferth i barcio, eistedd mewn ystafell aros gyda phobl eraill sy'n sâl, er mwyn gwneud rhywbeth y gallan nhw ei wneud yr un mor foddhaol o'u cartrefi eu hunain erbyn hyn.
Agwedd arall, Llywydd, ar y ffordd y mae technoleg yn cynorthwyo ein cymuned meddygon teulu yw drwy'r ffaith bod gwasanaeth Consultant Connect ar gael erbyn hyn, sy'n golygu y gall meddygon teulu gysylltu yn uniongyrchol â meddyg ymgynghorol mewn gofal eilaidd os oes ganddyn nhw glaf o'u blaenau lle mae angen yr arbenigedd ychwanegol hwnnw arnyn nhw, y gall meddyg ymgynghorol mewn arbenigedd ei gynnig. Mae hynny wedi bod yn bwysig iawn mewn nifer o'n meddygfeydd teulu a gwn fod y meddygon teulu hynny sydd â'r cymorth ychwanegol hwnnw i'r arbenigedd y gallan nhw eu hunain ei gynnig, yn ei werthfawrogi.
Prif Weinidog, a gaf i gofnodi fy llongyfarchiadau i wasanaethau meddygon teulu yn ardal Pontypridd a Thaf-Elái am y ffordd y maen nhw wedi bod yn gweinyddu'r gwasanaeth brechu rhag y ffliw? Cefais ddwy neges destun, cefais alwad ffôn, a bûm yng nghanolfan hamdden Tonyrefail ar gyfer fy mrechlyn ffliw, a ddarparwyd fel belt cludo bron. Cymerodd tua dau funud i'r holl broses gael ei gweithredu, gyda llif parhaus o bobl leol, yn enwedig y gyfres gyntaf o bobl dros 65 oed. Er hynny, a gaf i godi'r pwynt yr wyf i'n credu y bydd nifer o Aelodau'r Senedd wedi ei grybwyll sef y bu rhai problemau o ran cyflenwadau? Clywais eich ateb yn gynharach, ac rwy'n meddwl tybed pa sicrwydd y gellir ei roi y bydd cyflenwadau digonol o'r brechlyn i bawb a fyddai yn elwa mewn gwirionedd ar y brechlyn ffliw ar hyn o bryd, o gofio ei bwysigrwydd o ran y mater o gydafiachedd o ran COVID.
Wel, Llywydd, mae sylwadau agoriadol Mick Antoniw yn fy atgoffa i o sgwrs a gefais i ddoe ddiwethaf gyda pherson ifanc yng Nghaerdydd, a ddywedodd wrthyf ei bod wedi ffonio ei meddygfa deulu yn y bore, wedi cael ateb yn ôl gan y meddyg teulu cyn 9.30 a.m., anfonodd y meddyg teulu neges destun ati erbyn 9.45 a.m. ar gyfer ymgynghoriad fideo, cwblhawyd yr ymgynghoriad fideo erbyn 10 o'r gloch yn y bore, ac roedd popeth yr oedd ei angen ar y person ifanc yna gan ei gwasanaeth meddyg teulu wedi'i gwblhau o fewn 90 munud iddi wneud yr alwad ffôn wreiddiol. Rwy'n credu bod hynny yn wasanaeth rhyfeddol, ac roedd y person ifanc yna yn llawn canmoliaeth o'r ffordd yr oedd y cwbl wedi ei wneud ar ei ffôn, yn y ffordd y gall pobl ifanc ei wneud, ac yn sicr ni fyddai hi eisiau dychwelyd i'r ffordd yr oedd pethau o'r blaen.
O ran y stociau ychwanegol, bydd gennym ni dros 400,000 o frechlynnau ychwanegol yma yng Nghymru, o'u gymharu â'r cyflenwadau oedd gennym ni y llynedd. Nid ydyn nhw i gyd yn cyrraedd ar unwaith ac mae'n anochel bod rhywfaint o flaenoriaethu, lle mae'r cleifion hynny sydd mewn mwyaf o berygl yn ei gael yn gyntaf. Rydym ni'n lwcus iawn bod y ffliw mewn cylchrediad isel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd, yn gynnar iawn, wrth gwrs, yn nhymor y ffliw. Rydym ni'n cyhoeddi monitor data wythnosol o gylchrediad y ffliw drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn yr wythnos gyntaf, yr wyf i'n credu oedd bythefnos yn unig yn ôl, hysbyswyd am ddau achos o'r ffliw yng Nghymru gyfan. Felly, mae'r rhaglen flaenoriaethu yn gweithio, mae'n gweithio yn unol â risg glinigol, a thros y gaeaf hwn ac i mewn i fis Rhagfyr, bydd brechlynnau ychwanegol sylweddol ar gael—digon i frechu 40 i 50 y cant ychwanegol o oedolion yng Nghymru, sy'n gallu cael brechiad am ddim yn y GIG eleni, o'i gymharu â'r carfannau oedran hynny yr oeddem ni'n gallu darparu gwasanaeth o'r math hwnnw iddyn nhw y llynedd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Ni allai unrhyw Lywodraeth na gwrthblaid gyfrifol, Prif Weinidog, fethu â chefnogi gweithredu radical mewn ymateb i'r argyfwng cenedlaethol yr ydym ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae'n bwysig bod camgymeriadau y ddwy Lywodraeth sydd wedi ein harwain at y pwynt hwn yn cael eu cydnabod fel y gallwn ni ddysgu'r gwersi i atal tonnau olynol o haint. Ond fel y mae adroddiad y pwyllgor cynghori technegol yn ei ddweud, byddai gwneud dim byd newydd nawr yn golygu 2,500 o farwolaethau ychwanegol erbyn diwedd y flwyddyn. Byddai cyfnod atal byr o bythefnos yn achub bron i 1,000 o fywydau; cyfnod atal byr o dair wythnos, 300 arall.
Mae'n annealladwy, o dan yr amgylchiadau hynny, yn deilwng o gerydd hyd yn oed, mewn gwirionedd, bod y Canghellor wedi gwrthod cyflwyno'r cynllun cymorth swyddi neu ychwanegu at y ffyrlo i gyrraedd lefel y don gyntaf. Mae'n anodd credu y byddai llinynnau'r pwrs yn cael eu cau mor dynn pe byddai cyfnod atal lledaenu yn Surrey.
I ba raddau yr oedd anhyblygrwydd Llywodraeth y DU o ran cymorth ariannol yn ffactor wrth bennu hyd gorau posibl y cyfnod atal byr yng Nghymru? A yw polisi iechyd cyhoeddus blaengar yng Nghymru yn cael ei rwystro gan economeg Dorïaidd San Steffan?
Llywydd, gadewch i mi ddiolch i Adam Price am hynna ac am y gefnogaeth yr wyf i wedi ei glywed yn ei rhoi yn ystod y dyddiau diwethaf i'r syniad o gyfnod atal byr fel ffordd o ymdrin â'r sefyllfa ddifrifol dros ben a gyflwynwyd, fel y dywedodd, yn adroddiad y pwyllgor cynghori technegol.
Trefn y broses o wneud penderfyniadau, Llywydd, oedd bod y Cabinet yn gwneud ei benderfyniadau ar sail iechyd y cyhoedd, rydym ni'n cymryd ein cyngor gan y prif swyddog meddygol, ein prif gynghorydd gwyddonol ac eraill ac yn dod i'r casgliad mai'r camau yr ydym ni'n bwriadu eu cymryd yw'r rhai gorau i ymdrin â'r achosion cynyddol o coronafeirws. Rydym ni'n disgwyl wedyn i Lywodraeth y DU chwarae rhan i ymdrin â chanlyniadau'r camau iechyd cyhoeddus hynny ym mywydau unigolion. Dyna pam yr ysgrifennais at y Canghellor yn gofyn iddo symud dyddiad y cynllun cefnogi swyddi ymlaen i 23 Hydref. A, Llywydd, ni all fod yn wir mai rhesymau ariannol a'i rhwystrodd rhag cytuno i hynny, oherwydd cytunasom fel Llywodraeth Cymru i dalu'r £11 miliwn ychwanegol y byddai wedi ei gostio i'r Trysorlys o'n hadnoddau ein hunain, os mai dyna oedd y rhwystr. Felly, nid yw'n bosibl iddo fod wedi ei wrthod ar sail cost, ac mae'n anodd gweld pam nad oedd y Canghellor yn teimlo ei fod yn gallu chwarae ei ran.
Rwyf i wedi ysgrifennu ato unwaith eto heddiw yn cynnig gwahanol ateb iddo—ateb lle gellid sicrhau bod y telerau cymhwyso ar gyfer wythnos olaf y cynllun ffyrlo yn cyd-fynd â'r cynllun cefnogi swyddi a fydd yn dechrau o 1 Tachwedd, gan felly ei wneud fwy ar gael i fwy o ddinasyddion yma yng Nghymru. Rydym ni'n parhau i gynnig atebion; hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU yn dal i'w gwrthod. Rwy'n gobeithio y bydd y Canghellor yn dod o hyd i wahanol ateb yn ei repertoire mewn ymateb i'm llythyr heddiw.
Prif Weinidog, mater diffiniol arall lle mae pobl Cymru ar drugaredd San Steffan yw cynllunio ar gyfer diwedd cyfnod pontio Brexit a marchnad fewnol arfaethedig y DU. Rwy'n cytuno â'r Cwnsler Cyffredinol pan ddywedodd fod Llywodraeth y DU sy'n ceisio'r grym i wario mewn meysydd datganoledig ac i reoli'r gwario hwnnw yn un sy'n ceisio ysbaddu a negyddu'r setliad datganoli. Rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog, y bydd hyn yn cyflymu'r broses o chwalu'r Deyrnas Unedig. I Gymru, mae'r Bil yn niweidiol heb gynsail, gan ddod i'r amlwg yn llawn fel yr un ymosodiad parhaus mwyaf hyd yma i fygwth datganoli democrataidd. Mae'r Bil yn codi'r posibilrwydd o ddim cytundeb masnach a'r DU yn torri cyfraith ryngwladol, sydd wedi'i gondemnio gan bron pawb o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain i'r Eglwys Anglicanaidd. O ystyried pryderon priodol iawn y Cwnsler Cyffredinol a chithau am agwedd ac ymddygiad Llywodraeth San Steffan, pa gyngor cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael ar her bosibl i Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn y Goruchaf Lys?
Wel, Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei le i dynnu sylw at y bygythiadau y mae'r Bil hwn yn eu hachosi i fusnesau Cymru, i fywoliaeth pobl yng Nghymru ac, yn wir, i bwerau'r Senedd. Ac nid oes angen i Aelodau nad ydyn nhw'n cytuno â hynny wrando ar arweinydd Plaid Cymru nac, yn wir, arnaf i; gallen nhw gymryd sylw, fel y dywedodd Adam Price, o'r llythyr a gyhoeddwyd ddoe yn y Financial Times, a lofnodwyd gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies, sy'n tynnu sylw at y niwed i enw da y Deyrnas Unedig yn sgil y Bil hwnnw, y perygl moesol sy'n gysylltiedig â thorri cyfraith ryngwladol, a'r bygythiad y mae'n ei achosi i'r Deyrnas Unedig drwy'r ffordd y mae'n sathru ar y trefniadau datganoli sefydlog, a gymeradwywyd, yn achos Cymru, mewn dau refferendwm olynol. Ac os oes Aelodau nad ydyn nhw eisiau cymryd eu cyngor gan y rhai â chymwysterau ysbrydol, y cwbl y mae angen iddyn nhw ei wneud yw darllen adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, sydd unwaith eto yn annog y Llywodraeth i ddileu'r cymalau sy'n ymosodiad ar ddatganoli, i ddibynnu, fel yr ydym ni'n annog y Llywodraeth i ddibynnu, ar y gwaith a wnaed rhyngom i gyd i ddatblygu fframweithiau cyffredin. Rydym ni'n credu mewn datrys y problemau, rydym ni'n credu mewn chwarae teg, ond rydym ni'n credu y dylid cytuno ar y problemau hynny drwy eu hateb yn hytrach na'u gorfodi ar y gweddill ohonom ni.
Mae ein cyngor cyfreithiol, Llywydd, ar hyn o bryd, yn canolbwyntio ar lunio gwelliannau, yr ydym ni wedi eu cyhoeddi ac yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu gosod yn Nhŷ'r Arglwyddi, oherwydd rydym ni'n credu bod cyfleoedd seneddol o hyd i gywiro'r camweddau y mae'r Bil hwn yn eu creu, i'r setliad datganoli ac i'r ffordd y byddai statws y Deyrnas Unedig yn cael ei niweidio yn y byd.
Pa un a yw'n COVID neu'n Brexit, mae bod wedi'n glynu â San Steffan yn arwain at ganlyniadau trychinebus i Gymru. Mae'r Ysgrifennydd iechyd yn Lloegr yn goruchwylio system labordai goleudy trychinebus sy'n llesteirio ymateb Cymru i COVID, tra bod y Canghellor yn anwybyddu trafferthion busnesau, gweithwyr a phobl hunangyflogedig Cymru. Cymharwch ein sefyllfa â sefyllfa Seland Newydd. Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddwch chi eisiau ymuno â mi i longyfarch Jacinda Ardern ar ei buddugoliaeth syfrdanol. Dyma wleidydd Llafur, mewn gwlad nad yw'n llawer mwy na Chymru o ran poblogaeth, sydd wedi bod yn gyfrifol am un o'r ymatebion mwyaf llwyddiannus i COVID yn unman yn y byd. Nid yn unig y mae Seland Newydd yn rhydd o COVID, mae hefyd yn rhydd o'r wladwriaeth Brydeinig, ei Phrif Weinidog uchel ei gloch a'i Gabinet o aelodau trychinebus. Mae Prif Weinidog y DU yn gwbl ddi-drefn, y mae ei ddifaterwch at Gymru bron yn gyfystyr â dirmyg. Eich geiriau chi, Prif Weinidog, nid fy ngeiriau i, ond rwy'n cytuno â nhw serch hynny. Gan fod San Steffan yn achosi cymaint o helynt i Gymru, onid ydych chi'n cael eich temtio rhyw fymryn gan y syniad o Gymru yn ymuno â Seland Newydd fel cenedl annibynnol—bach, llwyddiannus a blaengar?
Llywydd, rwy'n llongyfarch arweinydd Plaid Lafur Seland Newydd ar ei buddugoliaeth wych yn eu hetholiad cyffredinol, wrth gwrs, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y diwrnod pan nad yw Prif Weinidog presennol y DU mewn grym mwyach. A yw hynny'n gyfystyr â chredu y byddai dyfodol Cymru yn well o gael ei rhwygo allan o'r Deyrnas Unedig? Nid wyf i'n credu ei fod. Mae gennym ni fantais ddwbl yma yng Nghymru: mae gennym ni ddatganoli cryf a phendant, gan ddefnyddio'r holl bwerau sydd gennym ni i amddiffyn pobl yma yng Nghymru, ond mae gan bobl sy'n gweithio yng Nghymru fuddiannau pwysig iawn yn gyffredin â phobl sy'n gweithio yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ac nid tynnu ein hunain o'r cynghreiriau hynny, tynnu ein hunain allan o'r polisi yswiriant y mae'r Deyrnas Unedig yn ei gynnig i bobl sy'n gweithio yma yng Nghymru yw'r ateb i wneud llwyddiant o'n dyfodol. Datganoli pendant mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus—dyna'r rysáit sy'n amddiffyn buddiannau pobl Cymru.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r cyhoeddiad ddoe o gyfnod o gyfyngiadau symud i Gymru gyfan wedi achosi rhwystredigaeth a siom i lawer o bobl ledled Cymru y byddant yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid, y bydd eu gallu i weld eu hanwyliaid yn cael ei gyfyngu ac y bydd eu busnesau yn cael eu gorchymyn i gau. Er bod gennyf feddwl agored o ran cyfyngiadau pellach, ni waeth beth y gallai pobl eraill ei ddweud, nid yw'r darlun llawn o ddata sydd ar gael i ni yn cyfiawnhau cyfyngiadau symud cenedlaethol, ac rwy'n credu y bydd cyfyngiadau symud cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn niweidio cymunedau a busnesau yn anghymesur lle mae achosion eisoes yn isel, fel y canolbarth a'r gorllewin cyfan.
Prif Weinidog, yn ôl data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn 20 o'r 22 ardal awdurdod lleol, mae achosion o COVID-19 fesul 100,000 wedi gostwng o wythnos 41 i wythnos 42. Sut gallwch chi gyfiawnhau cyfyngiadau symud cenedlaethol pan fo ffigurau ym mhob ardal heblaw am ddwy yn gostwng mewn gwirionedd?
Wel, mae'n hawdd iawn eu cyfiawnhau, Llywydd, oherwydd er bod yr ymdrechion a wnaed gan bobl yn yr ardaloedd cyfyngiadau symud lleol hynny yn llwyddo, ni allan nhw lwyddo yn ddigon pell a chyflym i droi llanw coronafeirws at yn ôl gan ei fod yn cyflymu ledled Cymru ar hyn o bryd. Felly, rwyf yn awyddus iawn i ddiolch i'r bobl hynny yn yr ardaloedd hynny am yr holl ymdrechion y maen nhw eisoes wedi eu gwneud, a bydd y cyfnod atal byr o bythefnos yr ydym ni'n ei gyflwyno yn adeiladu ar y llwyddiant y mae'r mesurau hynny wedi ei gael. Ond y gwir anffodus amdani, Llywydd, fel y mae adroddiad y pwyllgor cynghori technegol a gyhoeddwyd gennym ni ddoe yn ei ddweud, oni bai ein bod ni'n cymryd y camau hyn, bydd achosion a derbyniadau i'r ysbyty yn cynyddu ledled Cymru, bod tystiolaeth gymhellol ar gyfer ymyraethau pellach ac oni fyddwn ni'n eu gwneud, bydd 6,000 o farwolaethau ychwanegol oherwydd coronafeirws dros y gaeaf hwn. Pa ddata pellach sydd ei angen ar yr Aelod cyn iddo fod yn barod i wneud yr hyn y dylai ei ddyletswydd ddweud wrtho y dylai ei wneud a chefnogi'r camau sy'n cael eu cymryd i achub y GIG ac i achub bywydau yng Nghymru?
Wel, Prif Weinidog, rydych chi'n dweud bod tystiolaeth gymhellol, rydych chi'n dweud eich bod chi'n cyhoeddi'r holl ddata, ond nid yw gwybodaeth ar sail cymunedau unigol ar gael o hyd ym mhob rhan o Gymru, ac yn sicr nid oes data ar sail trosglwyddiad ac ar sail ddemograffig ar gael. Felly, byddwn yn eich annog i gyhoeddi'r lefel honno o wybodaeth fel mater o frys.
Nawr, Prif Weinidog, yn fy marn i ac ym marn miloedd o bobl sy'n byw ledled Cymru gyfan, ni ellir cyfiawnhau penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau symud ar draws y wlad gyfan mewn ymateb i'r ffigurau yr wyf i newydd eu crybwyll, a bydd yn cymryd mwy na dull un ateb sy'n addas i bawb o fynd i'r afael â'r feirws hwn yn ein cymunedau. Mae'n rhaid i ni weld dull lle mae ymyrraeth wedi'i thargedu mewn modd llawer gwell, ac eto, o ddydd Gwener ymlaen, bydd pawb sy'n byw yng Nghymru o dan yr un cyfyngiadau, pa un a yw'r data yn dangos bod angen ymyrraeth bellach ai peidio. Yn eich sesiwn friffio i'r wasg ddoe, fe'i gwnaed yn eglur gennych nad ydych chi'n disgwyl gweld unrhyw ganlyniadau ar ddiwedd y cyfnod o bythefnos ac y bydd hi ychydig yn ddiweddarach cyn y bydd nifer yr achosion yn gostwng. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa feini prawf yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i fesur llwyddiant cyfyngiadau symud cenedlaethol, ac, os na fydd y Llywodraeth yn cael y canlyniadau y mae hi eu heisiau ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol, yna a all pobl Cymru ddisgwyl cyfyngiadau symud pellach yn y dyfodol agos iawn?
Wel, Llywydd, y rheswm pam yr ydym ni'n gofyn i bobl ym mhob rhan o Gymru gymryd rhan yn y cyfnod atal byr o bythefnos yw oherwydd ein bod ni angen ymdrech genedlaethol—ymdrech genedlaethol a fyddai'n llawer gwell pe byddai ei blaid ef yn barod i'w chefnogi, yn hytrach na cheisio ei thanseilio drwy'r amser. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r bobl hynny o'i etholaeth ef ac o rannau eraill o'r gorllewin sydd wedi cysylltu â'm swyddfa i fynegi eu cefnogaeth i'r camau yr ydym ni'n eu cymryd. Maen nhw'n deall nad ydyn nhw'n ddiogel rhag y ffordd y mae coronafeirws yn lledaenu mewn mannau eraill yng Nghymru. Maen nhw'n deall, oni bai eu bod hwythau yn cael eu hamddiffyn hefyd, y bydd eu gwasanaethau lleol yn dioddef pwysau aruthrol. Yn wahanol i'r Aelod, maen nhw eisiau gwneud eu cyfraniad at achub bywydau ac achub y GIG yma yng Nghymru, a dyna fydd y cyfnod hwn yn ei wneud. Dyna mae pwyllgor SAGE yn ei ddweud wrthym ni, dyna mae'r prif swyddog meddygol yn ei ddweud wrthym ni, dyna mae ein grŵp cynghori technegol ein hunain yn ei ddweud wrthym ni. Nid wyf i'n gwybod beth mae'r Aelod yn credu sydd ei angen arno a fydd yn caniatáu iddo gredu y byddai ei allu ef i ddadansoddi yn rhagori ar allu ein gwyddonwyr neu glinigwyr i wneud yn union hynny.
Roedd yn iawn am un peth—ei bod hi'n amhosibl bod—[Torri ar draws.]
Nid wyf i'n gallu clywed y Prif Weinidog ar hyn o bryd, oherwydd mae dadl yn cael ei chynnal yn y Siambr. Os gallwn ni gael rhywfaint o dawelwch fel y gallaf o leiaf glywed y Prif Weinidog. Ewch ymlaen, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog.
Diolch, Llywydd. Roedd arweinydd yr wrthblaid yn iawn o ran un peth— na fyddwn ni'n gweld effaith y mesurau y mae'n rhaid i ni eu cymryd yn ystod yr amser y bydd y mesurau eu hunain ar waith. Bydd yn cymryd mwy o amser na hynny iddyn nhw fwydo drwodd i'r ffigurau allweddol, ac, os hoffai wybod beth yw'r ffigurau allweddol—i ddyn sydd â chymaint o ddiddordeb mewn data byddwn wedi meddwl y byddai wedi sylwi arnyn nhw drosto'i hun—lleihau R o ble mae heddiw, rhwng 1.2 ac 1.4, i lai nag 1; atal y llif o bobl i welyau ein hysbyty yn dioddef o coronafeirws; gweld gostyngiad i'r gyfradd canlyniadau positif ymhlith y bobl hynny sy'n cael eu profi yng Nghymru; a'r ystod o fesurau eraill sydd wedi'u cyflwyno i'r Aelod eu hastudio yn adroddiad cryno y pwyllgor cynghori technegol yr ydym ni wedi ei gyhoeddi.
Wel, Prif Weinidog, rwyf i eisoes wedi dweud wrthych chi pa ddata ddylai eich Llywodraeth fod yn eu cyhoeddi—dylech chi fod yn cyhoeddi data ar sail cymunedau unigol ym mhob rhan o Gymru, dylech chi fod yn cyhoeddi data ar sail trosglwyddiad, dylech chi fod yn cyhoeddi data ar sail ddemograffig. Nid yw'r wybodaeth honno ar gael—nid yw'n cael ei rhoi ar gael gan eich Llywodraeth, ac mae yn cael ei rhoi ar gael gan Lywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig.
O ran eich pwynt am etholwyr yn cysylltu â ni fel Aelodau, gallaf ddweud wrthych chi fy mod i wedi cael llawer o etholwyr yn cysylltu â mi yn bryderus iawn am y cyfyngiadau symud cenedlaethol dros dro yr ydych chi'n bwriadu eu gorfodi. Gallai ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol gael effaith enfawr ar gynaliadwyedd busnesau ar draws Cymru gyfan, a gallai fod yn ddinistriol i fusnesau yn y gorllewin, yn y canolbarth, a rhai rhannau o'r gogledd.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer rhai busnesau dros y 17 diwrnod o gyfyngiadau symud Cymru gyfan, ond mae gwir angen mwy o fanylion o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu cynaliadwyedd busnesau ar gyfer y dyfodol, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau symud eraill, fel yr awgrymwyd gennych chi ddoe mewn cyfweliad teledu. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi dweud, a dyfynnaf:
Bydd y cyfnod atal hwn sy'n gwasgu refeniw ohono'i hun yn rhoi miloedd o swyddi a channoedd o siopau mewn perygl—ond os bydd yn ymestyn i fis Tachwedd gallai fod yn drychineb i'r stryd fawr ledled Cymru.
Diwedd y dyfyniad. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni o ble y bydd y cymorth cadernid economaidd estynedig o £300 miliwn yn dod o fewn eich cyllidebau presennol? Ac a allwch chi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad economaidd o'r costau y bydd yn eu hysgwyddo, yn ogystal â nifer y swyddi a allai gael eu colli o ganlyniad i gyfyngiadau symud Cymru gyfan, a bod Llywodraeth Cymru, o ganlyniad, yn gwbl barod i wneud ad-daliad i fusnesau y mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw?
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu dros £294 miliwn ynghyd o amrywiaeth o ffynonellau yn ein cyllidebau presennol ein hunain, ac rydym ni wedi defnyddio rhai symiau canlyniadol ychwanegol sydd wedi dod drwy Lywodraeth y DU o ganlyniad i gymorth i fusnesau mewn ardaloedd cyfyngiadau symud lefel 3 yn Lloegr. Bydd hwnnw i gyd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r busnesau hynny sy'n cael eu heffeithio gan y cyfnod atal byr dros dro hwn.
Gadewch i ni fod yn eglur: nid yw'r dewis rhwng gwneud yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a dim ond parhau fel y mae pethau, oherwydd bydd gwneud hynny yn tanseilio busnesau mwy fyth—busnesau sy'n canfod na all gweithwyr ddod i'r gwaith, gan eu bod wedi'u heintio â'r clefyd hwn; pobl y mae'n ofynnol iddyn nhw hunanynysu oherwydd eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad â nifer gynyddol o bobl sydd wedi'u heintio gan y coronafeirws; busnesau sy'n canfod bod pobl yn ofni dod i mewn i'w hadeiladau oherwydd bod coronafeirws yn cynyddu y tu hwnt i'n gallu i'w reoli yma yng Nghymru. Felly, bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd o fudd i fusnesau y tu hwnt i'r cyfnod atal byr. Bydd yn sefydlogi'r niferoedd, bydd yn dod â phethau yn ôl dan reolaeth, bydd yn creu'r amodau lle gall busnesau barhau i fasnachu hyd at y Nadolig. Byddwn wedi meddwl y byddai'r Aelod wedi croesawu hynny. Nid wyf wedi clywed yr un gair ganddo y prynhawn yma sy'n awgrymu ei fod yn gwneud dim heblaw parhau i danseilio'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru i wneud y pethau sy'n angenrheidiol i ddiogelu ein gwasanaeth iechyd, i achub bywydau, i fuddsoddi yn y busnesau hynny sydd â dyfodol y tu hwnt i coronafeirws. Mae'n fater o esgeuluso cyfrifoldeb, Llywydd, i blaid yn y Senedd hon beidio â chefnogi'r mesurau sy'n angenrheidiol ar yr adeg dyngedfennol hon, yr adeg hon o argyfwng mewn pandemig, i wneud y peth iawn dros bobl Cymru.
3. Pa gamau a gymerir i atal Bil marchnad fewnol y DU rhag cyfyngu ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i drawsnewid llesiant pobl yng Nghymru? OQ55769
Llywydd, diolchaf i Jenny Rathbone am hynna. Rydym ni wedi cyhoeddi cyfres o welliannau enghreifftiol i ddangos sut i ddiogelu marchnad fewnol y DU heb y cyfyngiadau diangen ar gymhwysedd datganoledig y byddai'r Bil hwn yn eu cyflwyno. Byddwn yn gweithio'n ddiwyd i gael cefnogaeth drawsbleidiol yn Nhŷ'r Arglwyddi ac i berswadio Llywodraeth y DU i ailfeddwl.
Rwy'n cytuno a geiriau'r Farwnes Ilora Finlay, Aelod trawsbleidiol o Dŷ'r Arglwyddi a chlinigydd blaenllaw iawn, y byddai'r Bil marchnad fewnol yn caniatáu i'n gwlad gael ei llenwi â chyw iâr clorinedig a bwyd amhur arall wedi'i weithgynhyrchu yn yr Unol Daleithiau, ac mae hynny'n rysáit ar gyfer gordewdra a bywydau byrrach. Ond, ar ôl cael gwybod na fyddem ni'n cael ceiniog yn llai i Gymru pe byddem ni'n pleidleisio dros adael yr UE, a fyddai'r Bil hwn hefyd yn galluogi Llywodraeth y DU i ddargyfeirio'r arian yr oedd Cymru yn ei gael yn flaenorol o gronfeydd strwythurol yr UE ar gyfer prifysgolion, ar gyfer busnesau a chryfhau cymunedau drwy ein sector gwirfoddol, er mwyn ei wario ar rywbeth arall yn gyfan gwbl, gan amddifadu Cymru o gronfeydd buddsoddi hanfodol? Beth sydd i atal y gronfa ffyniant gyffredin fel y'i gelwir rhag dod yn haelioni pellach i Serco a'r Boston Consulting Group, yr athrylithoedd hynny sy'n rhedeg y system profi ac olrhain yn Lloegr?
Wel, Llywydd, mae gen i ofn mai'r ateb trist yw nad oes dim i atal hynny rhag digwydd. Yn wir, mae'r Bil hwn yn agor y drws i hynny yn union. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Farwnes Finlay—fel y dywedodd Jenny Rathbone, aelod trawsfeinciol wirioneddol nodedig yn Nhŷ'r Arglwyddi—am ei chymorth i ni i gael ein gwelliannau, gwelliannau a gefnogir gan arglwyddi Plaid Cymru, gan arglwyddi'r Democratiaid Rhyddfrydol, gan arglwyddi trawsfeinciol ac eraill yn Nhŷ'r Arglwyddi—i wneud yn siŵr bod y gwelliannau hynny yn cael eu gosod ar gyfer dadl. Y pwyntiau y mae'r Farwnes Finlay yn eu gwneud yw'r rhai y mae Jenny Rathbone wedi eu hadleisio yma. Mae hwn yn Fil sy'n golygu na allai'r Senedd hon atal bwyd rhag cael ei werthu yng Nghymru sy'n cael ei gynhyrchu i safon is na'r safonau y mae pobl yng Nghymru yn eu mwynhau heddiw; ni allai hyd yn oed ganiatáu i ni fynnu bod y bwyd hwnnw yn cael ei labelu fel y byddai dinasyddion Cymru yn gwybod beth sy'n cael ei gynnig iddyn nhw; ni allai atal y bwyd hwnnw rhag cael ei gynhyrchu i safonau iechyd anifeiliaid is; ni fyddai'n caniatáu i ni gyflawni ein cynllun i wahardd naw gwahanol fath o blastig untro; ni allai ganiatáu i ni ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgolion, fel yr ydym ni heddiw, feddu ar lefel cymwysterau proffesiynol yr ydym ni'n ei gwneud yn ofynnol ar hyn o bryd yng Nghymru. Ac yn ychwanegol at hynny i gyd, mae'n cael gwared ar allu'r Senedd hon a'n partneriaid yng Nghymru i wneud y penderfyniadau ynghylch ble mae arian ar gyfer datblygu economaidd, sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth—ni fydd y penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud yng Nghymru, lle dylen nhw gael eu gwneud, ond y tu ôl i ddesg yn Whitehall. Mae wir yn llanast o Fil. Rydym ni'n gweithio'n galed, ochr yn ochr ag eraill, i geisio datrys y problemau hynny, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym ni'n ei chael yn Nhŷ'r Arglwyddi, ar draws y sbectrwm cyfan yno, i wneud yn union hynny.
Prif Weinidog, yn amlwg, mewn llawer o ddadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin, nodwyd na fydd yr un grym yn cael ei gymryd oddi wrth y Cynulliad oherwydd y Bil hwn—neu Senedd Cymru ddylwn i ei ddweud. Dywedasoch mewn ymateb cynharach i gwestiwn arall y byddai pwerau yn cael eu diddymu. A allech chi restru'r pwerau yr ydych chi'n credu y bydd y Bil hwn yn eu diddymu?
Wel, rwyf i newydd wneud, Llywydd. Nid wyf i'n gwybod a oedd yr Aelod yn gwrando o gwbl. Rwyf i newydd esbonio iddo bod y pwerau sydd gennym ni heddiw i atal bwyd rhag cael ei werthu yng Nghymru ar safon sy'n is na'r hyn yr ydym ni, y Senedd, wedi ei benderfynu sy'n briodol i Gymru—mae'r grym hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Mae'r grym sydd gennym ni i fynnu bod bwyd yn cael ei labelu yn briodol—mae'r grym hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Y grym i gynnal safonau iechyd anifeiliaid yng Nghymru—mae'r grym hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Y grym i wahardd plastigau untro yng Nghymru—mae'r grym hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Y grym i bennu safonau cymwysterau proffesiynol ar gyfer athrawon yn ein hysgolion a phenaethiaid—mae hwnnw yn cael ei gymryd oddi arnom ni. Faint mwy o bwerau y mae ef eisiau i mi eu rhestru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn ddiweddar y bydd yn ymuno â Chynghrair yr Economi Llesiant—cam yr ydym ni wedi ei groesawu—a bwriedir i hyn wneud llesiant yn ganolog i benderfyniadau economaidd. Gyda hyn mewn golwg, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud os bydd penderfyniadau gwario a wneir gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r Bil hwn yn cael effaith andwyol ar ddangosyddion llesiant yng Nghymru, fel iechyd, yr amgylchedd a chynaliadwyedd? A yw bod yn rhan o Gynghrair yr Economi Llesiant yn cymryd cam yn ôl os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu nad ydyn nhw'n hoffi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud? Ac os yw hynny'n wir, Prif Weinidog, pa drafodaethau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda phartneriaid eraill yn y gynghrair i egluro y gall San Steffan sathru ar ein bwriadau da?
Diolchaf i Delyth Jewell am hynna, Llywydd. Mae Cymru yn aelod cymharol ddiweddar o Gynghrair yr Economi Llesiant. Rwy'n falch iawn o fod wedi cael gwahoddiad i wneud hynny. Wrth gwrs, mae Delyth Jewell yn iawn—mae'r Bil hwn yn cael effaith andwyol ar aelodau eraill o'r gynghrair hefyd. Mae ein hymdrechion ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar droi'r Bil yn ôl, yn hytrach nag ymdrin â'i ganlyniadau andwyol, oherwydd dyna'r ffordd well o ddatrys y broblem hon—i argyhoeddi Llywodraeth y DU, drwy'r camau y byddwn ni'n eu cymryd, gan weithio gydag eraill, i beidio â gorfodi'r niwed hwnnw arnom ni yn y lle cyntaf. Oherwydd bydd y niwed hwnnw yn cael ei deimlo nid yn unig yn uniongyrchol yng Nghymru o ran y pethau y byddem ni eisiau eu gwneud, ond bydd yn effeithio ar ein gallu i weithio gydag eraill i hyrwyddo'r achosion syml ond blaengar hynny sydd wedi gwneud cymaint i amddiffyn pobl yma yng Nghymru—i'w hamddiffyn rhag bwyd amhur, i ddiogelu safonau iechyd anifeiliaid, i hyrwyddo agenda wirioneddol amgylcheddol yma yng Nghymru. Nid ydym ni eisiau gweld hynny, nid yw pobl yng Nghymru eisiau gweld hynny, a byddwn yn gweithio gydag eraill, fel y dywedais, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y gynghrair hefyd, i barhau i ddadlau'r achos hwnnw.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol? OQ55740
Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am hynna. Rhwng mis Chwefror a mis Medi eleni, cafwyd cynnydd o dros 120,000 o hawlwyr credyd cynhwysol yng Nghymru, ac roedd hwnnw yn gynnydd o 80 y cant. 271,186 o bobl oedd nifer yr hawlwyr ym mis Medi, o'i gymharu â 150,527 yn ôl ym mis Chwefror.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Ym mis Ebrill, cynyddodd Llywodraeth y DU daliadau credyd cynhwysol gan £20 yr wythnos, ac yn wir roedd hynny yn achubiaeth i lawer o deuluoedd yn ystod y pandemig. Ond codiad dros dro yn unig yw hwn a disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ebrill 2021. Cafwyd llawer iawn o alwadau gan lawer iawn o elusennau ledled y DU i ofyn am barhad yr £20 ychwanegol hwnnw yr wythnos, ond er gwaethaf hynny, nid yw Llywodraeth y DU hyd yma wedi ymrwymo i wneud y codiad hwnnw yn barhaol, ac felly amcangyfrifir, os caiff y taliad ychwanegol ei ddirwyn i ben yn ôl y bwriad, y bydd dros 4 miliwn o deuluoedd yn colli incwm cyfatebol o £1,000 y flwyddyn dros nos, ac mae hynny yn rhoi miloedd o bobl mewn tlodi. Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch gwneud y codiad dros dro hwn yn barhaol?
Wel, Llywydd, hoffwn gytuno yn llwyr â Joyce Watson. Mae'r £20 yr wythnos hwnnw yn achubiaeth wirioneddol i gynifer o deuluoedd yma yng Nghymru, teuluoedd sy'n ddi-waith ac mewn gwaith, sy'n gweithio mewn galwedigaethau â chyflog isel. Roedd yn siomedig iawn bod y Canghellor, pan gafodd gyfle dim ond wythnos neu ddwy yn ôl wrth gyhoeddi cymorth parhaus arall, na wnaeth ymrwymo i barhau â'r achubiaeth honno o £20 yr wythnos i gynifer o deuluoedd ledled y Deyrnas Unedig. Gallaf sicrhau Joyce Watson y bydd hyn yn cael ei godi yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU pan gaf i gyfle; bydd ein Gweinidog cyllid yn cyfarfod unwaith eto â Gweinidogion y DU yr wythnos hon, mae ar yr agenda iddi hi ei godi gyda nhw hefyd.
Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gwybod i mi gael y fraint o rannu llwyfan gyda chyn Brif Weinidog y DU, Gordon Brown, dros y penwythnos, yn siarad ar ran y Gynghrair dros Gyflogaeth Lawn. Roeddwn i'n falch iawn o weld Archesgob Caergaint yn ysgrifennu at Gordon Brown ddoe, yn nodi ei gefnogaeth i'r gynghrair gan ganolbwyntio yn yr hyn a ddywedodd am dlodi plant ac am yr £20 sydd ar gael ar hyn o bryd i deuluoedd drwy'r swm ychwanegol hwnnw mewn credyd cynhwysol. Ac yn sicr, ni fyddai unrhyw lywodraeth sydd o ddifrif am gynnal teuluoedd drwy'r cyfnod anodd hwn yn petruso cyn gwneud yr £20 hwnnw yn ychwanegiad parhaol at incwm rhai o'r bobl dlotaf yn ein gwlad.
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymestyn ac ehangu'r cynllun cadw swyddi ar gyfer ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol? OQ55770
Llywydd, diolchaf i Alun Davies am hynna. Cafodd manteision a chyfyngiadau cymorth Llywodraeth y DU i weithwyr a gafodd eu heffeithio gan effaith coronafeirws eu trafod yn helaeth rhwng pedair gwlad y DU yng nghyfarfod diwethaf COBRA. Ers hynny, fel y mae'r Aelodau wedi clywed, rwyf i wedi llythyru â Changhellor y Trysorlys ar y mater hwn.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Wrth gwrs, mae'r cwestiwn yn rhagflaenu'r cyhoeddiad ddoe am y dull sy'n cael ei fabwysiadu dros yr wythnosau nesaf. Rwy'n siŵr eich bod chi, fel finnau, yn siomedig nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i'r adwy ac yn rhoi cymorth di-dor i bobl sy'n cael eu heffeithio gan hynny. Ond byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, Prif Weinidog, pe gallech chi amlinellu i ni y prynhawn yma sut yr ydych chi'n gweld y cymorth i weithwyr ac i fusnesau yn ystod y pythefnos o gyfyngiadau symud cenedlaethol, a sut ydych chi'n gweld y gwahanol gynlluniau yn asio â'i gilydd i sicrhau bod gennym ni gymorth di-dor i bobl drwy gydol y cyfnod hwn a sut ydych chi'n gweld unrhyw fylchau yn y cymorth hwnnw yn cael sylw wrth i ni symud ymlaen.
Llywydd, hoffwn ddiolch i Alun Davies am y cwestiwn yna. Ailadroddodd y gair 'di-dor' yn ei gwestiwn atodol, a dyna'r gair yr hoffwn ganolbwyntio arno yn yr ateb hwn. Felly, yn y cymorth y byddwn ni'n ei ddarparu drwy ein £294 miliwn, bydd rhan fawr o hynny yn cael ei ddarparu yn awtomatig i fusnesau yng Nghymru. Felly, ni fydd angen iddyn nhw wneud cais amdano; bydd yn dod drwy'r mecanweithiau a ddatblygwyd gennym ni gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn gynharach yn y pandemig: £1,000 i bob busnes â gwerth trethadwy o lai na £12,000; £5,000 i fusnesau â gwerth trethadwy dros £12,000 a byddan nhw'n cael hwnnw yn awtomatig—yn ddi-dor, i ddefnyddio'r term a ddefnyddiodd Alun Davies.
Fy mhroblem gydag ateb y Canghellor i'm llythyr yw fy mod i'n gofyn am rywbeth tebyg o ran y cymorth y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu, ac rwyf i wedi ceisio, pryd bynnag yr wyf i wedi cael y cyfle, cydnabod gwerth y cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi ei roi i weithwyr y mae coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw. Y cwbl yr oeddwn i ei eisiau oedd cael un cynllun cymorth yng Nghymru, yn hytrach na bod busnesau yn gorfod gwneud cais ddwywaith am gymorth: unwaith hyd at 30 Hydref, a gwahanol gynllun y tu hwnt i hynny. Ac fel y dywedais, cynigiais—roeddwn i'n meddwl—ffordd syml iawn i'r Canghellor helpu busnesau yng Nghymru fel bod y cymorth yr oedden nhw'n ei gael gan Lywodraeth y DU mor ddi-dor â'r cymorth yr ydym ni eisiau ei gynnig iddyn nhw drwy Lywodraeth Cymru. Mae'n siomedig na allai'r Canghellor ddod o hyd i ffordd syml o ganiatáu i'r cynllun y bydd yn ei gyflwyno ar 1 Tachwedd fod yn gymwys yma yng Nghymru wythnos yn gynharach na hynny. Rwyf i wedi cynnig gwahanol ateb iddo heddiw—nid cystal â hynny—ond byddai'n helpu i ddatrys rhai o'r anawsterau y bydd busnesau yn eu hwynebu fel arall a byddai'n mynd ran o'r ffordd o leiaf i ateb yr alwad y mae Alun Davies wedi ei gwneud am y cymorth di-dor y mae busnesau yng Nghymru ei angen.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth tai Llywodraeth Cymru i blant sy'n gadael gofal? OQ55749
Diolchaf i Dawn Bowden am hynna, Llywydd. Mae cymorth tai Llywodraeth Cymru i'r rhai sy'n gadael gofal yn cynnwys buddsoddiad mewn seilwaith ffisegol a'r gwasanaethau sydd eu hangen i helpu pobl ifanc i ymsefydlu yn llwyddiannus yn y cyfnod hwn o'u bywydau. Darperir cymorth uniongyrchol gan awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector ym mhob rhan o Gymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, a diolch am eich ymrwymiad personol i'r mater hwn. Tynnodd yr adroddiad diweddar gan End Youth Homelessness Cymru sylw at nifer o faterion tai i bobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sy'n gadael gofal, gan gynnwys effaith y rheolau cysylltiad lleol ar eu dewis o gartref. A wnaiff Llywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwn ac ystyried pa gamau pellach y gellir eu cymryd i gynorthwyo'r grŵp hwn o bobl ifanc sydd angen y cymorth mwyaf effeithiol y gallwn ni ei ddarparu ac sy'n ei haeddu?
Diolchaf i Dawn Bowden am y cwestiwn yna ac am dynnu sylw at yr adroddiad pwysig hwn. Arweinir cynghrair End Youth Homelessness, wrth gwrs, gan Llamau, sefydliad y cefais y fraint o fod yn un o'r tri aelod sylfaenydd cyntaf dros 30 mlynedd yn ôl erbyn hyn. Rwyf i wedi darllen yr adroddiad; roedd yn ddeunydd darllen diddorol iawn, oherwydd mae'n siarad yn llais y bobl ifanc hynny yng Nghymru sydd wedi canfod eu hunain mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sydd yn ddigartrefedd mewn gwirionedd. Rwy'n credu mai'r rheswm pam mae'r adroddiad hwn mor ddiddorol yw bod y safbwyntiau hynny yn cael eu troi gan awduron yr adroddiad yn rhai camau syml iawn, y credaf y gellir eu gwneud o hyd i wella'r system. Mae'r syniad syml, er enghraifft, os bydd person ifanc mewn perygl o fod yn ddigartrefedd—neu wedi bod yn ddigartref—sydd wedi bod yn derbyn gofal, yn cyflwyno ei hun i awdurdod lleol, y dylid trefnu cynhadledd achos amlddisgyblaethol, o dan gadeiryddiaeth lefel uwch, i wneud yn siŵr bod yr holl bethau sydd eu hangen ar gyfer y person ifanc hwnnw yn cael eu paratoi ar draws ffiniau gwasanaethau a sefydliadau cyn gynted â phosibl. Mae'r adroddiad yn dweud, os bydd awdurdod lleol yn lleoli person ifanc mewn gwahanol awdurdod lleol, pan fydd y person ifanc hwnnw yn cyrraedd 18 oed, na ddylai'r ail awdurdod lleol hwnnw wrthod cymorth iddo ar y sail nad oes ganddo gysylltiad lleol. Mater i'r person ifanc yw penderfynu pa un a yw'n teimlo yn fwyaf cysurus yn ei awdurdod lleol newydd neu yn ei awdurdod lleol gwreiddiol. Rwy'n credu mai'r lefel honno o droi profiadau yn gynigion polisi ymarferol sy'n gwneud yr adroddiad hwn mor werthfawr, a gwn y bydd fy nghyd-Weinidogion, yn y gwasanaethau cymdeithasol ac ym maes tai, yn ei astudio yn ofalus iawn i ddysgu'r gwersi hynny a'u rhoi ar waith ym mywydau'r bobl ifanc hynny.
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr yng Nghymru ar hyn o bryd? OQ55766
Llywydd, diolch yn fawr i Dr Lloyd am y cwestiwn. Mae gofalwyr yn wynebu pwysau ariannol sylweddol yn sgil y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru, felly, wedi creu cronfa galedi newydd gwerth £1 miliwn, fel a gynigiwyd gan sefydliadau gofalwyr cenedlaethol. Cafodd hyn ei gyhoeddi yn gynharach heddiw gyda'n hymgynghoriad ar gynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr.
A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? A, hefyd, dangosodd ymchwiliad gan Gymdeithas Alzheimer Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn—bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol—bod gofalwyr teuluol ledled Cymru wedi blino'n lân, ac mae Gofalwyr Cymru wedi dweud rhywbeth tebyg yr wythnos hon. Canfu'r arolwg rhanbarthol bod 95 y cant o ofalwyr teuluol a holwyd yn dweud bod oriau gofalu ychwanegol dros y cyfnod COVID hwn wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol neu feddyliol, gyda 69 y cant yn teimlo wedi blino'n lân drwy'r amser, 49 y cant yn teimlo'n isel a 50 y cant yn datblygu problemau methu cysgu. Nawr, rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y sefyllfa ariannol, a diolchaf i chi am hynny, Prif Weinidog. A gaf i ofyn i chi pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at fynd i'r afael â'r canfyddiadau hyn o ran llesiant corfforol a meddyliol gofalwyr anffurfiol, ac a ydych chi'n cytuno y bydd darparu cymorth cwnsela a seibiant ychwanegol yn hanfodol i ofalwyr dros fisoedd y gaeaf?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Dr Lloyd am y cwestiynau ychwanegol yna? Bydd hi'n flwyddyn y mis nesaf ers i'w bwyllgor gyhoeddi ei adroddiad 'Gofalu am ein dyfodol', ac mae'r adroddiad hwnnw yn parhau i fod yn ddylanwadol iawn ym meddwl Llywodraeth Cymru. Cefais gyfle yn gynharach yn y flwyddyn, ynghyd â Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i gyfarfod â grŵp o ofalwyr anffurfiol. Roedden nhw wedi blino bryd hynny, Llywydd; roedden nhw eisoes yn byw gyda'r heriau o ofalu am bobl eraill yn ystod y pandemig. Ac roedd yn emosiynol iawn clywed ganddyn nhw yn y cyfarfod hwnnw am yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu, ond hefyd am eu hymrwymiad syfrdanol i'r bobl hynny y mae ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu amdanynt, a'r boddhad y dywedasant y maen nhw'n ei gael, hyd yn oed yn y cyfnod mwyaf anodd hwn, yn deillio o gael y berthynas honno a chyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Roedd yn rhannol yn gydnabyddiaeth o bopeth a ddywedwyd wrthym ni bryd hynny bod fy nghyd-Weinidog Julie Morgan wedi llwyddo i gyhoeddi £50,000 yn gynharach yn yr haf i Gofalwyr Cymru, er mwyn iddyn nhw ddarparu cymorth seicolegol ychwanegol i ofalwyr di-dâl yma yng Nghymru. Mae'n mynd ran o'r ffordd i ateb y pwyntiau a gododd Dai Lloyd yn ei gwestiwn atodol am yr ôl traul parhaus a deimlir ym mywydau gofalwyr di-dâl ar yr adeg anodd iawn hon. Ac rwy'n gobeithio y bydd y gronfa £1 filiwn, yr ydym ni wedi gallu ei chyhoeddi heddiw, yn mynd ymhellach fyth i'w helpu gyda'r effaith ymarferol y mae gofalu am eraill yn ei chael arnyn nhw yn ystod cyfnod mor heriol.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ55738
Llywydd, diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn ein cymunedau yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel. Rydym ni'n parhau i weithio gyda'n pedwar heddlu, awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU yn ogystal ag asiantaethau eraill, i helpu i sicrhau bod ein pobl a'n cymunedau yn cael eu hamddiffyn rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ychydig o dan flwyddyn yn ôl, daeth Prif Weinidog y DU i'm hetholaeth, Alun a Glannau Dyfrdwy, ac addawodd lawer mwy o swyddogion heddlu a strydoedd mwy diogel. Nawr, mae'r addewid hwn wedi'i dorri. Gofynnais yn ddiweddar i'm trigolion am eu profiadau o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a dywedasant yn blaen wrthyf: mae llai o heddlu ar y strydoedd nag y gallan nhw ei gofio erioed. Rwyf i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i ofyn am esboniad ac ymddiheuriad, a, Phrif Weinidog, ni dderbyniwyd yr un ohonyn nhw. A wnewch chi ddod i siarad â'm trigolion, clywed eu dicter â Llywodraeth Geidwadol y DU a mynd â'r neges hon yn uniongyrchol at Boris Johnson ei fod wedi siomi trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi bod yn dilyn y sgyrsiau y mae Jack Sargeant wedi bod yn eu cael gyda'i gymunedau lleol ynghylch y mater hwn, ac rwy'n llwyr ganmol y gwaith y mae'n ei wneud i glywed yn uniongyrchol gan y trigolion lleol hynny ac i gyfleu'r straeon y maen nhw'n eu hadrodd am fethiant Prif Weinidog y DU i anrhydeddu'r addewidion yr oedd yn eu gwneud yr adeg hon y llynedd. Y llynedd, roedd yn ymddwyn fel pe na byddai'r gostyngiad i nifer swyddogion yr heddlu ar ein strydoedd yn ddim i'w wneud â'r 10 mlynedd o doriadau yr oedd ei gyd-Aelodau Ceidwadol wedi eu gwneud i gyllidebau'r heddlu. Roedd yn ymddwyn fel pe byddai'n cynnig rhyw faith o naid fawr ymlaen trwy adfer rhai o'r toriadau hynny, pan mai'r cyfan yr oedd yn ei wneud oedd unioni'r niwed yr oedd ei gyd-Aelodau eisoes wedi ei wneud. Flwyddyn yn ddiweddarach, nid ydyn nhw wedi unioni unrhyw niwed o gwbl. Gwn y bydd etholwyr Jack yn dal i werthfawrogi'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol y mae'r Llywodraeth Cymru hon yn eu hariannu o'n hadnoddau. Roedd arweinydd y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru yn dweud wrth bobl yng Nghymru, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, y byddai'n atal yr holl wariant gan Lywodraeth Geidwadol yma yn y Senedd ar gyfrifoldebau nad ydynt wedi'u datganoli. Tybed a oedd yn fodlon tynnu eu sylw at y ffaith y byddai hynny'n golygu diwedd y 500 o swyddogion ychwanegol y mae pobl yng Nghymru yn eu gweld ar eu strydoedd heddiw. Nid yn unig y mae addewidion i etholwyr Jack Sargeant yn cael eu torri, ond byddai Plaid Geidwadol yma yng Nghymru yn cael gwared ar y cymorth sy'n cael ei ddarparu drwy'r Senedd hon.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch goblygiadau cyfreithiol Bil marchnad fewnol y DU? OQ55726
Ceir ymgysylltu parhaus â Llywodraeth y DU i drafod ein pryderon ynghylch Bil y farchnad fewnol. Mae gan y Bil fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd oblygiadau cyfreithiol sylweddol i Gymru ac mae'n ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Rwyf yn ceisio cefnogaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi ar gyfer gwelliannau i'r Bil.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, sydd, wrth gwrs, yn adeiladu ar ateb cynharach gan y Prif Weinidog i Adam Price. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o'r adroddiad academaidd newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, a phartneriaid eraill, ar yr effaith ar reoliadau, yn enwedig ar ôl Brexit, a'r effaith bosibl ar gwmpas tiriogaethol deddfwriaeth ddatganoledig. Nawr, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sôn am welliannau posibl, a soniodd y Prif Weinidog am y rheini wrth Adam Price, ond onid yw'n wir, o ystyried maint mwyafrif y Ceidwadwyr, y gallai'r gwelliannau gael eu pasio yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond maen nhw'n debygol o fethu, onid ydynt, pan fyddan nhw'n dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin? Ac a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol: a wnaiff ef ystyried cynnal trafodaethau gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill am her gyfreithiol i'r darn niweidiol hwn o ddeddfwriaeth, os na fydd y broses gwelliannau yn llwyddiannus? Byddwn yn awgrymu iddo fod y rhain yn brosesau y mae angen iddyn nhw fynd ymlaen ochr yn ochr, oherwydd ar ôl i'r gwelliannau fethu, bydd llawer o amser wedi mynd heibio, ac efallai y bydd yn anos wedyn cynnal her gyfreithiol ffurfiol, os oes modd gwneud y fath beth.
Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei godi ynglŷn â maint mwyafrif Llywodraeth y DU yn Nhŷ'r Cyffredin. Er gwaethaf hynny, byddwn yn awgrymu y byddai'n Llywodraeth ddoeth yn San Steffan a fyddai'n gwrando ar bryderon mor eang am yr elfennau niweidiol yn y Bil hwn sy'n ymestyn yn llawer ehangach na phleidiau gwleidyddol, i gymdeithas ddinesig yn gyffredinol. Byddwn yn eu hannog i ymateb i unrhyw newidiadau a wneir yn Nhŷ'r Arglwyddi gyda meddwl agored.
Ynghylch ei phwynt am heriau eraill i'r Bil, byddaf yn tawelu ei meddwl, gobeithio, wrth ddweud ein bod wedi bod yn archwilio pob llwybr cyfreithiol posibl yng nghyswllt y ddeddfwriaeth hon, a gwn fod cyd-Aelodau mewn gweinyddiaethau datganoledig yn rhannu llawer o'r pwyntiau sy'n peri pryder i ni yma yng Nghymru. Bydd yn gyfarwydd iawn â'r heriau penodol o ran heriau cyfreithiol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n mynd drwy'r Senedd, ond hoffwn ei sicrhau bod cwmpas llawn ein hopsiynau cyfreithiol, fel Llywodraeth yng Nghymru, wedi cael eu hystyried, ac yn parhau i gael eu hystyried ar hyn o bryd.
Y rhan fwyaf sarhaus o'r Bil hwn, wrth gwrs, yw'r ffordd y mae'n sathru ein setliad cyfansoddiadol, ac yn gwneud hynny heb gydsyniad. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, wrth gwrs, o Statud San Steffan, a ddeddfwyd ym mis Rhagfyr 1931, a oedd yn rhoi annibyniaeth i'r hyn oedd y Dominiynau ar y pryd. A yw'n bryd, Cwnsler Cyffredinol, i ni gael statud San Steffan newydd, sy'n rhoi'r gwarantau cyfreithiol i ni na ellir diwygio ein cyfansoddiadau yn fympwyol nac fel y mynnir gan Lywodraeth nad yw'n poeni dim am ein democratiaeth na'n cyfansoddiad?
Diolch i'r Aelod am y cyfraniad pwysig iawn a newydd yna i'r ddadl ar y Bil hwn. Mae e'n iawn wrth ddweud bod y Bil hwn, yn ogystal â bod yn ymosodiad ar safonau y mae defnyddwyr a chynhyrchwyr yng Nghymru wedi gallu dibynnu arnyn nhw ers blynyddoedd lawer, mae hefyd mewn gwirionedd yn ddarn o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol gan ei fod yn ceisio gwrthdroi'r setliad datganoli mewn nifer o ffyrdd tyngedfennol. Rwy'n credu y gallwn ni weld hynny, yn rhinwedd y ffaith bod Llywodraeth y DU yn dymuno gwneud y Bil cyfan yn ddeddfiad gwarchodedig, sydd fel arfer yn gyfrwng sydd wedi ei gyfyngu i ddeddfwriaeth gyfansoddiadol. Rwy'n credu bod graddfa cyrhaeddiad y Bil hwn, felly, yn cael ei dangos hyd yn oed drwy'r ddarpariaeth honno yn unig.
O ran Statud San Steffan, rwy'n credu bod yr Aelod yn codi cwestiwn diddorol. Fe'n dysgir, fel cyfreithwyr cyfansoddiadol yn y DU, fod y Senedd yn sofran, ac felly ni all yr un Senedd rwymo ei holynydd. Ond mae'r statud hwnnw yn enghraifft pryd y byddai, mewn gwirionedd, yn annychmygol i'r Senedd geisio gweithredu'n groes iddo. Nawr, yn yr achosion hynny, y bwriad oedd sefydlu annibyniaeth y tiriogaethau hynny. Ond rydym ni wedi dadlau fel Llywodraeth am sail statudol ar gyfer rhai o'r diwygiadau yr ydym yn eu ceisio, a chredaf hefyd ein bod yn glir iawn ein bod wedi cyrraedd terfynau confensiwn Sewel, sy'n dweud nad yw Senedd y DU 'fel arfer' yn deddfu yn y maes hwn. Credaf fod achos i ni archwilio fformiwleiddio sy'n dweud mwy neu lai na fyddai byth yn deddfu yn groes i'r setliad datganoli. Byddai darpariaeth o'r fath yn golygu na fyddai'r darpariaethau cymorth ariannol ym Mil y farchnad fewnol, er enghraifft, yn dderbyniol wedyn. Rwy'n tybio bod cyfryngau fel Statud San Steffan yn gweithio orau pan fo'r setliad datganoledig ei hun yn ehangach na'n setliad ni, a chredaf fod hynny'n ychwanegu at yr achos dros gael cyfres lawnach o bwerau i'w harfer yma yng Nghymru.
Cwnsler Cyffredinol, cytunaf yn llwyr ag Alun Davies pan fynegodd ei bryderon am Fil y farchnad fewnol, fel y gwnaethoch chithau yn eich dehongliad yn eich atebion hefyd. Ond onid yw'n wir hefyd y bydd y Bil hwn yn chwalu materion megis y fframweithiau cyffredin, sydd wedi'u negodi a'u trafod, yr adolygiad o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd, ac o bosibl hyd yn oed y gronfa ffyniant a rennir, fel bod hyn, i bob pwrpas, yn dymchwel datganoli, ar un ystyr, nid ei wella?
Llywydd, mae'r Aelod yn iawn wrth ddweud bod hyn yn ymgais i ysbaddu datganoli mewn cysylltiad â'r meysydd hyn. Yn sicr o ran mecanwaith y fframweithiau cyffredin, byddai'r gwelliannau arfaethedig yr ydym ni wedi eu cyflwyno, y gobeithiwn eu gweld yn cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn rhoi fframweithiau cyffredin lle y dylent fod, sef wrth wraidd y farchnad fewnol, nid yn cael eu gwthio i'r ymylon, sef yr hyn y mae'r Bil hwn i bob pwrpas yn ei wneud. I bob pwrpas, mae'n dileu unrhyw gymhelliant ar ran Llywodraeth y DU i barhau i ymgysylltu â'r rheini. Rwy'n credu ei fod e'n iawn wrth ddweud bod y darpariaethau cymorth ariannol yn arbennig yn fwy na thebyg wedi'u cynllunio yn benodol i ddarparu cronfa ffyniant a rennir heb gyfeirio at Lywodraeth Cymru a'r ystod eang o randdeiliaid yng Nghymru sy'n cefnogi'r safbwynt y dylai'r penderfyniadau hynny barhau i gael eu gwneud gan Lywodraeth etholedig Cymru, sy'n atebol i Senedd etholedig Cymru.
Cwnsler Cyffredinol, mae cymal 47 o Fil y farchnad fewnol yn galluogi Llywodraeth y DU nid yn unig i wario mewn meysydd datganoledig ond wedyn i anfon y bil at Lywodraeth Cymru. Nawr, mae hyn yn ymddangos i mi yn gwbl groes i'r hyn a addawyd i ni o ran yr hyn y gallai'r gronfa ffyniant a rennir fod. Yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, a ydych chi wedi trafod beth yw eu dealltwriaeth o'r term 'rhannu' a'r term 'ffyniant'? A tybed a wnewch roi gwybod i ni beth yw eich dealltwriaeth chi o ddealltwriaeth Llywodraeth y DU o'r term hwnnw.
Llywydd, y pwynt yr wyf i wedi ei wneud yn fy nhrafodaethau â Gweinidogion Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â hyn yw; os mai bwriad y darpariaethau hynny yw galluogi'r Llywodraethau i gydweithio i sicrhau ffyniant Cymru, yna byddwn ni fel Llywodraeth bob amser yn dymuno cydweithio â Llywodraethau eraill, pan fo hynny er budd Cymru, a byddwn yn croesawu arian ychwanegol i Gymru. Ond ceir Llywodraeth eisoes sydd â'r pwerau sydd wedi'u nodi yn y cymal hwnnw yn y Bil, a Llywodraeth Cymru yw'r Llywodraeth honno—Llywodraeth Cymru. Ac felly os mai'r bwriad yw—a gobeithio'n fawr bod hynny'n wir—bod Llywodraeth y DU eisiau gweithio mewn partneriaeth â ni yng nghyswllt ffyniant Cymru yn y dyfodol, mae'n ffordd ryfedd o fynd ati i wneud hynny i geisio pwerau sydd gennym ni eisoes ac y mae'r gallu gennym ni i'w harfer yng Nghymru.
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill yn Llywodraeth y DU ynghylch gwneud newidiadau deddfwriaethol mewn perthynas â hawliau tramwy yng Nghymru? OQ55732
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn datblygu rhaglen i ddiwygio mynediad, fel y nodwyd yn natganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ym mis Ebrill 2019.
Byddwch yn ymwybodol, Gweinidog, bod dau gerddwr wedi eu lladd ar lwybrau tramwy cyhoeddus yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ôl dod i gysylltiad â da byw. Ers mis Mawrth 2000, mae 98 o bobl wedi colli eu bywydau yn yr un modd, ac mae llawer o rai eraill wedi eu hanafu wrth ddefnyddio'r llwybrau tramwy hyn. Nawr, mae pedwar grŵp—y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a'r Gynghrair Cefn Gwlad—wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Gardiner, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Bioddiogelwch, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw'r broses bresennol ar gyfer dargyfeirio llwybrau tramwy cyhoeddus yn barhaol yn rhoi digon o hyblygrwydd i ganiatáu newidiadau dros dro i lwybrau. Mae'r Gweinidog yn cael ei annog mewn gwirionedd i ddiwygio Deddf Priffyrdd 1980. Yn ôl y canllawiau i awdurdodau lleol ar lwybrau tramwy cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae nifer o ddarpariaethau yn y Ddeddf Priffyrdd yn dal i fod yn gymwys yma yng Nghymru. Felly, a fyddwch chi'n cysylltu â'r Arglwydd Gardiner, neu yn wir unrhyw swyddog cyfreithiol perthnasol arall yn Llywodraeth y DU, i weld a all Llywodraeth Cymru weithio i weithredu newidiadau i hwyluso'r broses ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr y mae angen iddyn nhw weithredu dargyfeiriadau dros dro yma yng Nghymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Fel y gŵyr, yn rhan o ffrwd waith y grŵp cynghori ar ddiwygio mynediad, y mae fy nghyd-Aelod wedi ei sefydlu, mae tri gweithgor arbenigol sy'n cynrychioli amrywiaeth o randdeiliaid mewn cysylltiad â rheoli tir, ac mae'r grwpiau hynny yn archwilio goblygiadau cyfreithiol ac ariannol rhai o'r cynigion yr ydym ni wedi bod yn eu hystyried a byddant yn parhau i wneud hynny. Y bwriad yw cael adroddiad gan y grŵp hwnnw, sy'n edrych ar y materion hyn yn eu cyfanrwydd, erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Ond mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn darparu ar gyfer cyflwyno mwy o hyblygrwydd, os hoffech chi, i dirfeddianwyr mewn cysylltiad â'r cwestiwn o ddargyfeirio neu, yn wir, o ddileu rhai llwybrau tramwy, ac rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn edrych ar gynigion tebyg ar gyfer diwygio yn rhan o'n ffrwd waith bresennol.
3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ynghylch digonolrwydd y gyfraith i reoli ail gartrefi? OQ55731
Mae mesurau eisoes ar waith yng Nghymru—mesurau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol—sy’n effeithio ar y defnydd o ail gartrefi. Byddai unrhyw gamau pellach yn golygu goblygiadau i gymunedau, y maes tai, twristiaeth, yr economi, Trysorlys Cymru a llywodraeth leol. Wrth edrych ar y materion yma, rhaid gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth o ran a oes angen cael deddfwriaeth bellach ai peidio.
Ar hyn o bryd, does yna ddim mecanwaith cyfreithiol i atal tai rhag cael eu gwerthu am grocbris a'u defnyddio fel ail gartrefi. Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu yn amlinellu'r newidiadau sydd eu hangen i'r gyfraith ym maes cynllunio ac ym maes cyllid i ddod â'r sefyllfa o dan reolaeth. Efallai byddwch chi wedi clywed am sefydlu ymgyrch Hawl i Fyw Adra gan griw o bobl ifanc yn Llŷn sydd yn methu prynu tai yn eu bro oherwydd y sefyllfa annheg. Gan chwarae ar eiriau Cynan am Aberdaron, y neges gafodd ei rhannu dros y penwythnos oedd, 'Cynan, does dim gobaith i brynu bwthyn unig nac unrhyw dŷ ger tonnau gwyllt y môr', gan gyfeirio'n reit glyfar, dwi'n credu, at gerdd enwog y bardd. Ydych chi'n credu, ac yn cytuno, fod angen newidiadau brys i'r gyfraith i roi'r hawl i bobl ifanc gael byw yn eu cymuned? Os felly, pa gynlluniau ydych chi'n gweithio arnyn nhw a phryd gawn ni eu gweld nhw?
Wel, a gaf i ddiolch i Siân Gwenllian? Does dim digon o gyfeiriadau at waith un o'n prifeirdd ni yma yn y Senedd, felly diolch iddi hi am ein hatgoffa ni o gerdd Cynan. Mae, wrth gwrs, cwestiynau ynglŷn â newid y system gynllunio yn y maes hwn yn gwestiynau cymhleth iawn; hynny yw, ar y cyfan, pwrpas cyfraith gynllunio yw rheoli defnydd yn hytrach na pherchnogaeth, felly mae hynny'n un o'r sialensau y mae'n rhaid edrych arnyn nhw. Fy marn i yw bod edrych ar y system gynllunio heb ddiwygiadau ehangach ddim yn debygol o allu cyrraedd y nod y mae'r Aelod yn sôn amdano.
O ran cyllid, wrth gwrs, mae mwy o bwerau cyllid ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru nag sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio. Rwy'n credu bod rhyw 25,000, fwy neu lai, o ail gartrefi yn dod o fewn regime y dreth gyngor yma yng Nghymru, a dim ond rhyw 14,000 o'r rheini sydd yn cael y premiwm uchaf yn cael ei godi arnyn nhw. Felly, mae mwy o sgôp o fewn y rheoliadau sydd gennym ni i ddefnyddio'r pwerau yna i allu rheoli hynny nag sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Felly, o edrych ar y sialensau cyfreithiol penodol, mae amryw o gamau y mae'n rhaid eu cymryd cyn edrych ar blatfform ehangach o newid deddfwriaeth, buaswn i'n awgrymu.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ymyrryd fel parti yn ymdrechion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i herio dyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn y cyngor hwnnw? OQ55730
Ar hyn o bryd, rydym ni'n dal wrthi'n ystyried sail fanwl y cais i ymyrryd. Mae diddordeb Llywodraeth Cymru yn yr achos yn ymwneud â sut y caiff testun Cymraeg a Saesneg y gyfraith ei ddehongli gan y llysoedd, sy’n fater pwysig dros ben i Weinidogion, gan fod gan y ddwy iaith statws cyfartal i bob pwrpas.
Fel rydych chi'n sôn, mae hwnnw'n un mater o bwys sy'n codi o ddyfarniad y llys gweinyddol, sef yr un ynglŷn â chyfartaledd testun Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth yng Nghymru, ond y llall, efallai, sydd o fwy o ddiddordeb eang, sef hawl pob dinesydd yng Nghymru i gael mynediad rhwydd at addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ôl y dyfarniad llys, 10 y cant yn unig o asesiad effaith iaith y penderfyniad i gau Ysgol Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd oedd yn canolbwyntio ar yr effaith ar y Gymraeg. Mae'r cyngor, wrth geisio herio sail 2(g) y dyfarniad, yn parhau i fethu'n lân â derbyn nad ydy cynyddu llefydd mewn addysg Gymraeg ar lefel sirol yn gwneud iawn am dynnu darpariaeth o un gymuned, gan olygu y byddai'r disgyblion hynny wedi cael eu colli am byth o addysg Gymraeg, a'r llys sydd yn dweud hynny. Dwi'n ategu eto ei bod hi'n gywilydd o beth i unrhyw awdurdod cyhoeddus fod yn herio'r dyfarniad ar y sail hon, a dwi'n eich gwahodd chi i gadarnhau'n ddiamwys na fyddwch chi, fel Llywodraeth, yn herio'r dyfarniad ar y sail yma.
O ran yr egwyddor y mae'r Aelod yn datgan yn y cwestiwn hwnnw—hynny yw, yr egwyddor o fynediad a chynyddu mynediad at addysg Gymraeg—mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i'r egwyddor honno, am resymau, rwy'n credu, y byddai'r Aelod yn derbyn ac yn cytuno â nhw. O safbwynt y maes polisi, gan ein bod ni ar hyn o bryd yn dal i edrych ar y dadansoddiad cyfreithiol, rwy'n mynd i osgoi manylu ar hynny yn y drafodaeth hon. Ond byddwn i'n hapus yn y dyfodol, pan fydd y drafodaeth honno wedi cyrraedd pen llanw, fel petai, yn fewnol, i ateb cwestiynau pellach, pan fydd y materion hynny wedi dod i gasgliad. Ond, mi wnaf i ddweud yn y cyfamser, yn rhinwedd fy swydd i fel swyddog y gyfraith yn y Llywodraeth, ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cymryd y cyfle i wneud dadl dros sut i ddehongli y Gymraeg mewn Deddfau a deddfwriaeth, a hefyd i sicrhau bod yr egwyddor hafal honno yn cael ei phwysleisio.
Hefyd, efallai'n ehangach—heb fynd i faes polisi ond jest i roi ychydig mwy o fanylion, efallai—mae'r cwestiwn o ddehongli a ydy cymal statudol yn dangos rhestr gyflawn ai peidio o'r amgylchiadau a'r meini prawf y mae'n rhaid eu cymryd i mewn i ystyriaeth yn gwestiwn pwysig, gydag impact ehangach, efallai, na'r cymal penodol hwn. Ond, fel roeddwn i'n ei ddweud, maes o law, pan fydd y penderfyniadau yma wedi cael eu cymryd yn fewnol, a'r cyngor cyfreithiol wedi cael ei gloriannu, byddwn i'n hapus i ateb cwestiynau pellach ar y manylion hynny mewn cwestiynau pellach.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch datganoli deddfwriaethol llawn i Gymru mewn perthynas â chyfiawnder? OQ55723
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, ac mae'n parhau i wneud hynny, ar faterion sy'n ymwneud â'r system gyfiawnder, gan gynnwys, yn bwysig iawn, datganoli cyfiawnder i Gymru.
Diolch. Roedd yr Arglwydd Ganghellor yn glir iawn yng nghynhadledd ddiweddar Cymru'r Gyfraith mai Cymru a Lloegr unedig sydd orau i'r gyfraith. Mae'r trefniadau presennol yn golygu y gallwn ni rannu adnoddau ac effeithlonrwydd ar draws y system gyfiawnder, gall llysoedd ddysgu oddi wrth ei gilydd, ac mae gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol y rhyddid i ymarfer o Gaerdydd i Gaerliwelydd, ac o Gaernarfon i Gaergaint. Dywedodd hyd yn oed y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylid parhau â'r system bresennol, lle gall ymarferwyr cyfreithiol ymarfer yng Nghymru a Lloegr, a bod y proffesiynau cyfreithiol yn cael eu rheoleiddio ar y cyd. Nawr, rwy'n credu eich bod wedi cynghori yr un gynhadledd Cymru'r Gyfraith y bydd Llywodraeth Cymru, serch hynny, yn mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder pan fydd mewn sefyllfa i wneud hynny. Felly, Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi ddweud wrth ein Senedd beth yw eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol cyfiawnder yng Nghymru? Beth sy'n eich dal yn ôl ar hyn o bryd? Ac, a ydych chi'n cydnabod manteision y trefniadau presennol, fel y'u nodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor?
Wel, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am roi'r cyfle i mi egluro fy ngweledigaeth ar gyfer datganoli cyfiawnder yng Nghymru—efallai y bydd yn cymryd peth amser. Ond, dim ond er mwyn rhoi crynodeb o'r sefyllfa, credaf fod gwaith comisiwn Thomas, a sefydlwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yn ddadansoddiad rhagorol. Mae'n anodd dychmygu cyfres o gyfraniadau mwy swmpus i'r ddadl na'r hyn y mae'r adroddiad hwnnw yn ei gynrychioli. Mae'n wirioneddol bwysig yn hanes datganoli yng Nghymru. Mae'n cyflwyno'r achos yn wych iawn ac mewn ffordd y bydd unrhyw un sy'n ystyriol o dystiolaeth yn ei gweld hi'n dipyn o her i ddadlau'n groes.
Rwy'n falch bod yr Arglwydd Ganghellor wedi pwysleisio, ar bob cyfle, mai'r hyn sy'n bwysig iddo ef yw canlyniadau ac nid proses. Felly, byddwn yn awyddus iawn i barhau â'r trafodaethau yr ydym wedi eu cychwyn gyda Llywodraeth y DU, a fydd yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl yng Nghymru, a gwn mai dyna yw ei phryder hi, fel fy un innau. Clywais sylwadau'r Arglwydd Ganghellor, a soniodd am rannu arbedion effeithlonrwydd. Wrth gwrs, yr hyn y mae hynny wedi ei olygu yng Nghymru yw dinistrio'r cyllid ar gyfer y system gyfiawnder. Dyna beth mae rhannu effeithlonrwydd wedi ei olygu yn ymarferol.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd, y mae'n garedig iawn yn ei roi i mi, i'w gwneud yn gwbl glir nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru yn fygythiad o gwbl i allu cyfreithwyr sydd â chymwysterau yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr fel y mae ar hyn o bryd i barhau i ymarfer yn y naill a'r llall yn y dyfodol. Nid oes rheswm o gwbl pam y dylid cyfyngu ar ymarferwyr yn y naill awdurdodaeth i weithredu'n llawn yn y llall. Yn sicr, dyna'r safbwynt y byddem ni yn ei gefnogi yma ac yr ydym wedi ei argymell i'r comisiwn ei hun. Yr unig bwynt yr oeddwn yn ei wneud ynglŷn â dod yn ôl at y pwnc hwn yn y dyfodol yw cydnabod y realiti, y gwn y bydd hi ei hun yn ei gydnabod, fod pwyslais y Llywodraeth yn San Steffan, fel yng Nghymru, yn amlwg wedi bod ar yr ymateb i COVID yn y misoedd diwethaf. A chyda'r ewyllys orau yn y byd, nid yw'r trafodaethau yr hoffem ni fod wedi eu cael mewn cysylltiad â hyrwyddo datganoli cyfiawnder yng Nghymru wedi cael eu datblygu ar y cyflymder yr hoffwn i, yn sicr, ei weld. Ond rwy'n gobeithio, yn fuan iawn, y byddwn ni'n gallu dychwelyd at y trafodaethau hynny mewn modd adeiladol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei esboniad clir o'r weledigaeth honno. Ni fydd yn synnu gwybod ei bod yn un yr wyf i yn ei rhannu. Rwy'n gobeithio, yn y sgyrsiau y mae'n eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyda'r Arglwydd Ganghellor, y byddan nhw'n pwysleisio y canlyniadau yr ydym wedi eu gweld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn y ffordd y mae'r coronafeirws wedi effeithio ar garchardai Cymru, sef nad ydym wedi gweld y gallu i ddarparu dull cyfannol o drin pobl, o ran eu hamser mewn sefydliadau diogel a hefyd o ran sut y caiff pobl eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned. Methiant y gwasanaethau prawf, wrth gwrs, yw'r enghraifft amlwg o hynny. Wrth ddod i'w gasgliadau, gobeithiaf y bydd yr Arglwydd Ganghellor yn cydnabod mai'r hyn sy'n bwysig yw'r hyn sy'n bwysig i bobl Cymru ac nid yr hyn sy'n bwysig i'r Arglwydd Ganghellor.
Diolch i Alun Davies am y cwestiwn atodol yna ac am ei gefnogaeth hirsefydlog i achos datganoli cyfiawnder yng Nghymru. Fe wnaf ddweud fy mod i, yn ystod y misoedd diwethaf, yn credu bod dealltwriaeth pobl yng Nghymru o sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithredu a sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn deddfu, a sut y caiff y cyfreithiau hynny eu plismona gan heddlu neilltuedig, os hoffech chi—. Rwy'n credu bod pobl wedi magu dealltwriaeth ddyfnach ac ehangach o'r potensial i wneud penderfyniadau cyfiawnder yma yng Nghymru a chredaf fod hynny, mewn amgylchiadau tywyll iawn, wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol o ran dealltwriaeth pobl. Hoffwn ddweud hefyd, yng ngallu Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r heddlu, yn amlwg, ond hefyd y gwasanaeth carchardai, y gwasanaeth llysoedd a nifer o awdurdodau eraill neilltuedig o fewn y system gyfiawnder, y bu llawer iawn o gydweithio mewn ffordd gydgysylltiedig iawn yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ond mae hynny wedi digwydd er gwaethaf y trefniadau cyfiawnder sydd gennym ni, nid o'u herwydd. Mae wedi digwydd oherwydd yr ymdrechion y mae unigolion wedi'u gwneud i wneud i'r gyfres honno o berthnasoedd weithio, ac rwy'n credu bod hynny, ar un ystyr, yn arwydd i ni o faint yn fwy y gallem ni ei gyflawni o ran y meddylfryd cydgysylltiedig hwnnw pe byddai gennym setliad datganoli a fyddai yn ei gwneud yn haws, yn hytrach nag yn anos.
6. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Bil marchnad fewnol y DU? OQ55722
Ceir ymgysylltu parhaus â Llywodraeth y DU ar lefel weinidogol a swyddogol i drafod ein pryderon ynghylch y Bil. Rwyf hefyd wedi gwneud datganiad ysgrifenedig i'r Senedd, gan gyhoeddi gwelliannau a gynigir i'r Bil, i ddangos sut y gellid ymdrin â'n pryderon.
Diolch. Fe wnaeth adroddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ei gwneud yn glir y bydd Bil marchnad fewnol y DU yn gwanhau dulliau llunio polisi y Llywodraethau datganoledig am byth, yn blaenoriaethu dileu rhwystrau posibl i fasnach ar draul yr holl nodau polisi cyhoeddus eraill, gan danseilio yn angheuol y cydweithrediad rhwng gwledydd y DU, a hyd yn oed yn creu'r awgrym y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio pwerau gwario newydd yn erbyn ewyllys ein Llywodraeth a'n Senedd. Nid wyf i'n gweld beth sydd a wnelo hyn â Brexit. Pan soniodd Boris Johnson am gymryd rheolaeth yn ôl, nid oedd dileu pwerau Cymru a sicrhawyd drwy refferenda democrataidd ar yr agenda; ni soniwyd amdano. Mae'r Bil yn cipio pŵer, ac o ran pwerau Cymru ei hun dros nwyddau a gwasanaethau, nad oedden nhw erioed dan reolaeth yr UE mewn gwirionedd, bydd yn gwneud yr holl gyfreithiau a rheoliadau a wneir yng Nghymru—yn y dyfodol a'r gorffennol—o bosibl yn agored i gael eu dileu gan Lywodraeth y DU. Mae'r Bil yn annemocrataidd ac yn anwybyddu ewyllys sefydlog pobl Cymru. Gallai hyd yn oed ein harwain at dorri cyfraith ryngwladol yn anfoddog. Felly, yr hyn yr wyf i'n ei ofyn—. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny i gyd, mewn gwirionedd. Yr hyn yr wyf i'n ei ofyn yw pa gamau pendant y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau gwrthwynebiad cadarn ac unedig i'r ymgais warthus hon i gipio pŵer?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwyf yn cytuno â dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn yr adroddiad, y mae'r Aelod wedi'i ddisgrifio, ac rwy'n cytuno â'r ffordd y mae'r Aelod wedi ei ddisgrifio—fel cipio pŵer. Rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig, ymhlith nifer o sylwadau, fod graddau'r Bil hwn yn mynd y tu hwnt i gyfraith yr UE a gedwir, er enghraifft. Felly, mae'n ymestyn y tu hwnt i gwmpas y pwerau a arferir ar hyn o bryd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd, ac mae ganddo gyfres gulach o eithriadau o'i gymharu â'r hyn a fyddai wedi digwydd o dan ddeddfwriaeth yr UE. Felly, mae'n mynd yn sylweddol y tu hwnt i'r hyn y byddai hyd yn oed Llywodraeth y DU yn ei roi fel ei rhesymeg, sef disodli marchnad fewnol yr UE yn y DU.
O ran y camau pendant y gall y Llywodraeth eu cymryd, deddfwriaeth yw hon sy'n mynd drwy Senedd y DU, felly gallwn geisio, fel y gwnaethom gyda rhywfaint o lwyddiant, greu, gyda chefnogaeth pleidiau eraill, gynghrair o wrthwynebiad yn Senedd y DU. Rydym wedi cyflwyno gwelliannau drafft a all gyflawni'r canlyniadau yr hoffem eu gweld ar gyfer y Bil, sy'n ailwampio'r Bil yn sylfaenol, a byddem yn annog pleidiau yn Senedd y DU i gefnogi'r gwelliannau hynny fel y gellir gweddnewid y Bil.
Nawr, byddwch wedi clywed fy ymateb i gwestiynau yn gynharach am archwilio ystod lawn o lwybrau cyfreithiol. Cyn gynted ag y daw'r Bil yn gyfraith, os daw yn gyfraith, yna mae amrywiaeth o bwerau y mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn eu cymryd eu hunain, drwy reoleiddio, i weithredu gwahanol rannau o'r Bil. Mae'n ymddangos yn glir iawn i mi y bydd rhai o'r pwerau hynny yn cael eu herio a'u herio'n llym, a byddwn yn sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod rheoleiddio yng Nghymru a hawliau defnyddwyr a busnesau Cymru yn cael eu diogelu. Rydym hefyd wedi sicrhau bod y Senedd yn glir iawn yn y cyngor a gynigiwn ynglŷn â'r ffordd o ymdrin â chydsynio ar gyfer y Bil hwn. Nid ydym yn credu y gall nac y dylai'r Senedd gydsynio i'r Bil hwn fel y mae wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd.
Mae'n ddigon posibl y byddwch yn gofyn i mi beth fydd yn digwydd nesaf os bydd y Senedd yn mynd ymlaen i atal ei chydsyniad. Wel, byddai Llywodraeth y DU yn ei chael hi'n anodd cyfiawnhau bwrw ymlaen heb gydsyniad, o ystyried yr hyn y mae wedi ei ddweud o'r blaen am sut y dylai confensiwn Sewel weithredu. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn rhoi arwydd clir iawn i Lywodraeth y DU nad yw'n cydsynio i'r ymosodiad gwarthus hwn ar ddatganoli yng Nghymru.
Gweinidog, siawns nad amcan Bil y farchnad fewnol yw cynnal marchnad gydgysylltiedig y DU. Mae'n sicrhau nad yw pedair gwlad y DU yn cael eu cyfyngu gan reoliadau a bennir gan bob un Llywodraeth ddatganoledig, a fyddai, wrth gwrs, yn niweidiol iawn i fasnachu o fewn y DU. Mae hefyd yn ceisio gwarantu bod gan y gymuned ryngwladol fynediad i'r DU gyfan, gan wybod bod y safonau a'r rheolau yr un fath ledled y gwledydd datganoledig.
Mae'r Llywodraethau datganoledig yn ceisio portreadu'r Bil hwn fel ymgais i gipio pŵer sydd wedi ei gynllunio i sicrhau bod datganoli yn cymryd camau tuag at yn ôl. Nid oes tystiolaeth o gwbl y bydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio yn y modd yr ydych yn benderfynol o'i bortreadu. Yn hytrach na chipio pŵer, mae'n ddull pragmatig a synhwyrol y byddai'r rhan fwyaf o bobl y gwledydd datganoledig yn ei ystyried yn synhwyrol ac yn adeiladol. Byddwn yn gobeithio y byddech chi, fel unoliaethwr ymroddedig, Gweinidog, yn cytuno ei bod yn iawn cael polisïau a rheoliadau ar gyfer y DU gyfan pryd bynnag y bo modd.
Wel, rwy'n credu y dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn llwyddiant a dyfodol yr undeb fod wedi ei ddychryn yn fawr gan gynnwys y Bil hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod, gymaint ag y mae unrhyw beth, yn cryfhau achos annibyniaeth ym mhob rhan o'r DU, ac nid yw hynny'n ganlyniad yr wyf yn dymuno ei weld. Felly, rwy'n credu bod ei ddehongliad o'r Bil, a dweud yn blaen, yn sylfaenol naïf.
Rydym ni fel Llywodraeth yn credu yn y farchnad fewnol; rydym yn credu bod marchnad fewnol yn ffordd effeithiol o ddiogelu'r cyhoedd yng Nghymru, defnyddwyr Cymru, busnesau Cymru a'r economi. Felly, rydym yn credu bod hynny'n ymdrech y dylem ni i gyd ymgysylltu â hi, fel pedair Llywodraeth, i sicrhau nad oes rhwystrau diangen rhag masnachu yn y modd y mae cwestiwn yr Aelod yn ei awgrymu, ond mae gennym ni fecanwaith eisoes ar gyfer gwneud hynny, sef y mecanwaith fframweithiau cyffredin sy'n galluogi Llywodraethau i fod â gwahanol bolisïau mewn gwahanol rannau o'r DU, sy'n gyson â chyflawni'r farchnad fewnol. Mae wedi gweithio'n effeithiol iawn tan nawr. Nid oes rheswm dros ei dinistrio drwy greu ffordd ddeddfwriaethol drwsgl iawn o'i hosgoi.
Rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn gwneud mwy o ddifrod i'r DU a mwy o ddifrod i farchnad fewnol y DU na'r cynigion adeiladol, cymedrol, rhesymol, ac y gellir eu cyflawni y mae'r Llywodraethau datganoledig wedi eu cyflwyno yn ei le.
A'r cwestiwn olaf yw cwestiwn 7—Helen Mary Jones.
7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o beth fydd yr effaith ar gyfraith Cymru os na cheir cytundeb yn y trafodaethau ar Brexit? OQ55727
Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn cynllunio ar gyfer pob senario, gan gynnwys senario 'dim cytundeb masnach'. Fel rhan o'r cynlluniau hyn, mae gwaith wedi dwysáu ar y rhaglen is-ddeddfwriaeth, er enghraifft, i sicrhau bod yr holl ddiwygiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth Cymru yn cael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod pontio.
Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae'r cloc, wrth gwrs, yn tician, ac mae cynllun gweithredu'r Cwnsler Cyffredinol yn nodi nifer fawr o feysydd lle y bydd ansicrwydd cyfreithiol os na chaiff hyn ei ddatrys.
A allwch chi ddweud wrthym ni, Gwnsler Cyffredinol, pa mor hyderus yr ydych y bydd gan Gymru lyfr statud gweithredol os cyrhaeddwn ni'r pwynt o 'ddim cytundeb', gan ystyried yn llawn, wrth gwrs, y pwysau ar eich Llywodraeth chi yn deillio o'r argyfwng coronafeirws, y mae'n rhaid ei fod wedi tynnu egni a gwaith oddi wrth y maes hwn? A ydych chi'n hyderus y bydd gennym lyfr statud gweithredol os daw hi i'r gwaethaf?
Wel, mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, os caf i ddweud. Rwy'n credu bod dwy ran i'r ateb. Y rhan gyntaf yw dweud bod rhaglen waith eisoes ar y gweill, fel y mae hi'n gwybod, sy'n ymdrin â'r cywiriadau sydd eu hangen ac ati ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, ac mae hynny'n gorff sylweddol iawn o waith. Rwy'n credu ein bod yn disgwyl, rhwng nawr a diwedd y cyfnod pontio, 22 offeryn statudol arall a wnaed gan Lywodraeth y DU y bydd angen cysyniad arnynt yma yng Nghymru, a 10 arall o'r rheini yn y flwyddyn newydd. Ein hamcangyfrif presennol, er enghraifft, o ran Offerynnau Statudol a gaiff eu gwneud yng Nghymru, gan Weinidogion yma, fydd tua 22 arall o'r rheini. Efallai y bydd y niferoedd hynny'n cynyddu rhywfaint, ac mae corff sylweddol iawn o waith eisoes wedi digwydd, fel y gwn y bydd yr Aelod yn ei werthfawrogi. Bydd hi'n gwybod ein bod wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn rhai o'r meysydd hyn, felly mae Llywodraeth y DU wedi gwneud rhai o'r gwelliannau hyn, dim ond oherwydd maint yr ymdrech. Ond nid yw hynny erioed wedi bod mewn maes heblaw am feysydd sy'n dechnegol neu, yn sicr, heb ddadl wleidyddol, am resymau y bydd hi'n eu gwerthfawrogi.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, serch hynny, yw hyn: nid ydym yn gwybod eto sut olwg fydd ar ddiwedd y cyfnod pontio o ran canlyniad y trafodaethau hyn, a'r gwaith yr wyf i newydd ei ddisgrifio iddi—nid yw'n fwriad i ddim o hynny ymdrin â chanlyniad y trafodaethau am resymau amlwg. Felly, mae'n bosibl y bydd corff sylweddol o waith yn cael ei wneud o ganlyniad i beth bynnag yw canlyniad y trafodaethau hynny, ac mae'n ddigon posibl y bydd hynny'n digwydd o fewn amser byr iawn. Felly, o ran y gwaith sydd eisoes ar y gweill, rwy'n hyderus fod modd i'r gwaith barhau ac i'r gwaith hwnnw gael ei gyflawni'n brydlon, gan ddarparu ymrwymiadau presennol o ran amserlenni a chadw at amserlenni. Ond ar hyn o bryd, ni allaf roi sicrwydd mewn cysylltiad â chanlyniad y corff mwy hwnnw o waith, o bosibl, oherwydd ni wyddom eto beth yw canlyniad y trafodaethau.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf i nifer o newidiadau i'w cyflwyno i'r agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Llywodraeth yn cynnig cynnig i atal y Rheolau Sefydlog fel y gallwn ni drafod y cyfnod atal byr. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, bydd y datganiadau ar gyflwr presennol cysylltiadau rhynglywodraethol a'r cynllun drafft i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Diolch, Trefnydd. Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ynghylch y dystiolaeth y penderfynodd Llywodraeth Cymru arni o ran cau addoldai yn ystod y cyfnod atal byr a fydd yn digwydd cyn bo hir? Mae llawer o arweinwyr eglwysi wedi bod mewn cysylltiad â mi i fynegi pryderon y bydd yn ofynnol iddynt gau am gyfnod pellach o'r dydd Gwener yma, ac, wrth gwrs, mae hyn yn dilyn cyfnod lle bu eglwysi, capeli, mosgiau, temlau ar gau am gyfnod hir yn gynharach yn y flwyddyn, cyfnod a oedd, prysuraf i i'w ychwanegu, yn hwy nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. Mae gwaharddiad parhaus, wrth gwrs, ar ganu cynulleidfaol, gwaharddiad ar gorau eglwysi a chadeirlannau, yn wahanol i rannau eraill o'r DU, ac yn ddiweddar, wrth gwrs, gwelwyd adroddiadau yn y cyfryngau bod pobl yn cael eu ceryddu am adrodd gweddi'r Arglwydd mewn angladd.
Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod eglwysi a chapeli yng Nghymru yn peri bygythiad sylweddol o drosglwyddo'r coronafeirws, nid yw cau'n ymddangos yn weithred gymesur nac angenrheidiol. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, Trefnydd, fod iechyd ysbrydol yr un mor bwysig ag iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl, a dylai tai Duw fod yn llefydd lloches ar adegau o argyfwng ac, felly, mae achos da iawn dros eu cadw ar agor. A allwn ni gael datganiad ar y mater pwysig hwn cyn gynted â phosibl, os gwelwch yn dda?
Diolch i Darren Millar am godi'r mater hwn, a bydd Darren Millar yn gwybod fy mod yn gwerthfawrogi, cystal ag ef, bwysigrwydd eglwysi a mannau addoli eraill o ran cefnogi iechyd meddwl pobl, yn ogystal â'u gallu i gyrraedd rhannau o'u cymuned hefyd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae gennym ddatganiad ynghylch y cyfnod atal byr y prynhawn yma, sy'n gyfle i Darren nodi ei bryderon ymhellach, ond yr hyn a ddywedaf i yw bod y dystiolaeth wedi'i chyhoeddi. Byddwch chi wedi gweld y dystiolaeth a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth, a gafwyd gan y grŵp TAC, er enghraifft, ac mae hyn yn nodi pwysigrwydd lleihau'r cysylltiadau sydd gennym. Ni allwn roi ystyriaeth i bob math o leoliad, gan ein bod yn ystyried cysylltiadau pobl yn gyffredinol ac yn ceisio lleihau nifer y cysylltiadau sydd gennym. Rwy'n gwerthfawrogi'r anawsterau a achosir i bobl, ond, fel y dywedais, mae datganiad ehangach am y cyfnod atal byr a bydd yn gyfle i'w archwilio'n fanylach y prynhawn yma.
Leanne Wood. Dyna chi.
Diolch, Llywydd. Ar 22 Medi, dywedodd y Prif Weinidog y byddai taliad o £500 ar gael i'r bobl hynny ar incwm isel sy'n gorfod hunanynysu. Ers cyhoeddi'r cyfnod atal byr, mae llawer o bobl yn y Rhondda wedi gofyn i mi sut y gallan nhw hawlio'r taliad hwn ac a yw wedi'i ddarparu i'r bobl hynny a fydd yn colli incwm o ganlyniad i'r cyfnod atal byr yn ystod y pythefnos nesaf.
Mae angen yr arian hwnnw ar bobl nawr; ni allant fforddio aros fel y bu'n rhaid i'r gofalwyr aros am eu taliad nhw. A allwn ni gael datganiad yn amlinellu'r wybodaeth am gymhwysedd a hawliad y taliad hwn, yn ogystal â datganiad am ba gymorth brys y gellir ei ddarparu i'r busnesau llai hynny, pobl hunangyflogedig a llawer o rai eraill a fethodd cael cymorth ac a syrthiodd drwy'r bwlch y tro diwethaf? Mae llawer o bobl yn bryderus iawn ynghylch y cyfnod atal byr hwn, ac nad oes ganddyn nhw'r wybodaeth hon am eu hincwm. Mae angen yr wybodaeth hon arnyn nhw'n gyflym iawn. Felly a allwn ni gael datganiad ar gyfer y ddau fater hynny fel mater o frys, os gwelwch yn dda?
Byddaf yn gwneud yn siŵr, cyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i ddweud mwy am y taliad hunanynysu o £500, y gwnawn ni rannu'r manylion hynny am gymhwysedd a sut i fynd ati i hawlio a chael y cyllid hwnnw. Gallaf sicrhau cyd-Aelodau fod gwaith yn cael ei gwblhau'n gyflym ar hynny, a bydd gennym fwy o fanylion i'w rhannu am hynny'n fuan iawn. Byddwch wedi clywed fy nghyd-Aelod Ken Skates yn ystod y sesiwn friffio yn gynharach heddiw yn sôn am y cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu i fusnesau ac elfen ddewisol hynny er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol gefnogi'r busnesau pwysig hynny a allai fod yn syrthio y tu allan i'r categorïau, megis y busnesau bach sy'n cael rhyddhad ardrethi busnes, er enghraifft. Ond ar y ddau fater hynny, caiff rhagor o fanylion eu roi i gydweithwyr yn fuan iawn.
Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog eisiau ymuno â mi i groesawu'r newyddion bod tîm pêl-droed carchar Prescoed bellach wedi cael chwarae yng nghynghrair dydd Sul Cynghrair Canol Gwent. Roedd yn drasiedi yn wir pan gawsant wybod, ar ôl 20 mlynedd, nad oeddent yn gallu ailymuno â'r gynghrair ar gyfer y tymor sydd i ddod. Ond onid yw hyn yn adlewyrchu'n wael ar sut yr ydym ni'n rheoli adsefydlu yng Nghymru a sut yr ydym ni'n rheoli pobl sy'n gadael sefydliadau diogel yng Nghymru? Mae nifer o bobl sydd wedi chwarae i'r tîm pêl-droed hwn wedi siarad yn huawdl iawn am y ffordd y rhoddwyd cyfle iddyn nhw ddechrau ailadeiladu eu bywydau eto, ac mae'n bwysig y gallwn weithio tuag at adsefydlu a sicrhau bod pobl sydd wedi cwblhau dedfrydau yng Nghymru yn gallu cael eu cefnogi wrth iddynt adael yr ystad ddiogel. Felly, hoffwn i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddyfodol adsefydlu yng Nghymru, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater hwnnw.
Hoffwn i ofyn hefyd am ddatganiad neu ddadl ar ein Rheolau Sefydlog fel Senedd. Rydym wedi gweld eto yn ystod yr wythnos diwethaf fod ein prosesau, ein breintiau a'n hadnoddau yn cael eu cam-drin gan bobl nad oes ganddyn nhw fandad etholiadol o gwbl yn y lle hwn i chwarae newid cadeiriau gyda'u gwleidyddiaeth tra byddwn ni'n talu amdano fel trethdalwyr ac fel Aelodau o'r lle hwn. Mae'n dwyn anfri ar y lle hwn i weld y siarlataniaid a'r rhai eofn hyn yn symud ar draws ac o amgylch y Siambr yn ôl eu dymuniad. Mae gan bobl Cymru hawl i ddemocratiaeth, a rhaid i bob un ohonom ni yn y lle hwn barchu'r ddemocratiaeth honno. Mae'n amlwg nad oes gan rai Aelodau barch tuag at y ddemocratiaeth honno, a, hyd nes y caiff pobl Cymru gyfle i'w cicio allan fis Mai nesaf, mae'n bwysig bod ein Rheolau Sefydlog yn adlewyrchu hynny ac yn parchu'r ddemocratiaeth honno.
Diolch i Alun Davies am godi'r ddau fater hynny, ac rwy'n rhannu ei bryder o ran parch tuag at ddemocratiaeth a pharch at y bobl sy'n rhoi'r fraint i ni eu cynrychioli yma yn y Senedd. Mae'n debyg mai mater i'r Pwyllgor Busnes, yn hytrach na'r Llywodraeth, yw hwn. Ond rwyf eisiau rhoi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau mai'r bwriad yw y bydd y gwaith a oedd yn mynd rhagddo cyn COVID o ran ystyried ein Rheolau Sefydlog yn cael ei ailddechrau, ac rwy'n siŵr y bydd y Llywydd mewn cysylltiad â chydweithwyr sydd â rhagor o wybodaeth am hynny maes o law.
Ond, ar fater arall y tîm pêl-droed, rydym yn gefnogol iawn i ddefnyddio chwaraeon yng nghyd-destun adsefydlu, yn ogystal â phwysleisio'r sylw ar wella iechyd a lles dynion yn y carchar ac, wrth gwrs, ar ôl iddyn nhw adael y carchar hefyd. Mae gennym ni gytundeb partneriaeth ar gyfer iechyd mewn carchardai, ac mae hynny'n nodi ein blaenoriaethau cytûn rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y gwasanaeth carchardai yng Nghymru a'r byrddau iechyd. Mae'n cynnwys pwysleisio'n benodol ar ddefnyddio amgylchedd ehangach y carchardai i hybu iechyd a lles, gan ganolbwyntio ar ymarfer corff a chwaraeon a bod yn rhan o dimau ac yn y blaen. Gwn fod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn bwriadu darparu datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau yn ystod yr wythnosau nesaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni o ran materion cyfiawnder, ond yn amlwg, byddaf i'n sicrhau ei bod yn ymwybodol o'ch cais am y ddadl honno yn amser y Llywodraeth hefyd.
Cyn i mi alw'r siaradwr nesaf, dim ond i—. Er mwyn ei gofnodi, mae'r Aelodau sy'n newid grwpiau neu bleidiau gwleidyddol yn y Siambr hon—nid yw hynny'n gamddefnyddio'r Rheolau Sefydlog. Mae Aelodau wedi gwneud hynny drwy gydol tymor y Senedd hon, ac nid yn unig yr wythnos diwethaf. Mater i'r cofnod yn unig yw hynny. Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu lythyr yn sicr yn y lle cyntaf,—gan y Gweinidog iechyd—yn esbonio pam nad yw deintyddion yn cael eu hystyried yn weithwyr allweddol, ac a fyddai modd i'r Llywodraeth ailystyried hyn? Rwy'n ei chael yn rhyfeddol nad yw deintyddion yn cael eu dynodi'n weithwyr allweddol, ond efallai fod rheswm cwbl resymegol pam mae hynny'n wir. Ni allaf ddeall hynny ar hyn o bryd, ond rwyf wedi cael fy lobïo gan ddeintyddion yn lleol ynghylch yr anghysondeb hwn. Felly os caf i ofyn am lythyr neu ryw fath o esboniad o ran pam mae hyn yn wir, byddwn i'n dra diolchgar, a'r canlyniad gorau posibl fyddai eu hychwanegu at y rhestr o weithwyr allweddol, o gofio'r cyfnod o gyfyngiadau symud a fydd yn digwydd o ddydd Gwener ymlaen.
Yn ail, cyflwynwyd arian gan y Llywodraeth ar gyfer ymgyrch rhwyll y wain a mynd i'r afael â'r pryderon yr oedd llawer o bobl wedi'u cyflwyno i Aelodau'r Senedd a hefyd y Llywodraeth ynghylch eu profiadau gyda GIG Cymru yn y maes penodol hwn. Cafodd miliwn o bunnoedd ei ddyrannu yn 2018. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallem ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd i egluro beth yw canlyniadau'r arian hwnnw a gafodd ei ddyrannu i fynd i'r afael â'r pryderon difrifol iawn hyn a ddaeth gerbron y Senedd gan gleifion. Rwy'n gwybod bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r mater hwn. Ond hyd yma, yn fy nghyfarfodydd yn ystod yr wythnos diwethaf gydag ymgyrchwyr yn y maes penodol hwn, mae'n ymddangos eu bod yn ansicr beth yn union sydd wedi'i gyflawni gan yr arian hwn a gafodd ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2018, a byddai esboniad clir wedi'i osod mewn datganiad o fudd i lawer o bobl yn fy marn i. Diolch.
[Anhyglywadwy.]—am godi'r ddau fater hynny, ac yn sicr, byddaf i'n ymdrechu i gael esboniad ichi o ran dynodi deintyddion fel gweithwyr allweddol, wrth inni symud i'r cyfnod atal byr. Gwn fod deintyddiaeth wedi parhau drwy gydol y cyfyngiadau symud yn gynharach yn y flwyddyn, er eu bod yn canolbwyntio'n fawr ar achosion mwy brys. Ond, fel y dywedais, byddaf i'n cael yr esboniad hwnnw i'r Aelod.
Ac rwy'n gwybod y bydd gan nifer o Aelodau ddiddordeb hefyd yn yr wybodaeth ddiweddaraf am fater rhwyll y wain, felly byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn siarad â'r Gweinidog Iechyd i drosglwyddo'r cais penodol hwnnw.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar redeg safle'r Bryn yng Ngelligaer. Mae'r safle hwn yn cael ei redeg gan y Grŵp Bryn ac mae'n ymwneud, ymhlith pethau eraill, â rheoli gwastraff ac ailgylchu. Bu'n rhaid i'r grŵp ymddiheuro'n gyhoeddus yn ystod y dyddiau diwethaf oherwydd halogiad plastig yn y pridd. Rwyf wedi ei weld fy hun, ac mae'n ddinistriol iawn. Mae gwastraff plastig yn frith drwy'r compost a gaiff ei ddefnyddio ar y safle, gan halogi'r tir, gan gynnwys yn nhir pori a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer silwair. Trefnydd, rwy'n ofni bod perygl y bydd y plastig yn mynd i mewn i'n cadwyn fwyd ni.
Nawr, nid ydym ni'n sôn am ambell ddarn o blastig yma; mae hyn yn frith drwy'r holl fwnd. Mae'n halogiad ar raddfa ysgytwol. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn a allai alw am ymchwiliad i gwynion gan drigolion o ran y gwastraff hwn, yn ogystal â'r llwch a gaiff ei achosi gan y gwaith yn y chwarel ac arogleuon ymwthiol sy'n effeithio ar drigolion Gelligaer a Phenybryn. Mae trigolion yn pryderu am eu hiechyd eu hunain, yn ddealladwy, ond hefyd yr effaith y gallai'r llygredd diwydiannol hwn ei chael ar drigolion yr ardal am flynyddoedd i ddod. Nid wyf wedi cael ymateb i fy llythyr i eto, ac felly rwy'n gofyn am ddatganiad llafar gan y Gweinidog, cyn gynted â phosibl, i fynd i'r afael â'r mater hwn, sydd bellach wedi cael sylw yn y Western Mail. Ni ddylid caniatáu i hyn barhau. Codwyd pryderon gyda mi fod hadau glaswellt yn cael eu gwasgaru'n hael ledled y bwnd i geisio gorchuddio'r plastig sydd wedi'i amlygu yn y pridd, ac rwyf wedi gweld tystiolaeth sy'n gwrth-ddweud honiad y rheolwyr bod y plastig wedi'i symud oddi yno yr wythnos diwethaf. Mae'n amlwg bod angen yr ymchwiliad hwnnw, felly, Trefnydd, rwy'n erfyn ar eich Llywodraeth i wneud i hyn ddigwydd cyn gynted â phosibl.
Wel, mae Delyth Jewell wedi codi rhai pryderon difrifol iawn yna. Sylwaf ei bod wedi ysgrifennu at y Gweinidog, gan dynnu sylw'r Gweinidog at y pryderon hyn, a byddaf yn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael ymateb cyn gynted â phosibl.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad i'r Senedd—yn gyntaf, datganiad cynhwysfawr yn amlinellu'r mesurau cymorth a gafodd eu rhoi ar waith ledled Cymru yn ystod pandemig COVID-19 i gefnogi cerddorion, gweithwyr llawrydd ac fel arall, a'u bywoliaeth, a'r mesurau i gefnogi cerddoriaeth gymunedol—craidd cymunedau Cymru—megis corau, cymdeithasau corawl, bandiau pres a cherddorfeydd cymunedol.
Ac, yn ail, a gaf i alw ar Lywodraeth Cymru hefyd i ddarparu datganiad i weithredu ar frys y mesurau y mae grŵp trawsbleidiol y Senedd ar gerddoriaeth wedi galw amdanynt ac sy'n weddill o ohebiaeth Awst a Medi a fy nghyfarfod gweinidogol, sef (1) darparu canllawiau penodol ar gyfer addysgu cerddoriaeth offerynnol mewn ysgolion; (2) y canllawiau ymarfer addysgu preifat ledled Cymru; manyleb amlinellol ar gyfer gweithredu ensemblau, bandiau a cherddorfeydd yn y dyfodol a'r strategaeth ar gyfer perfformiadau cyhoeddus yn dychwelyd, sy'n gynsail hanfodol i'r sector; ac, yn olaf, o fewn hynny, adroddiad gyda'r wybodaeth ddiweddaraf i'r lle hwn ar ddyfodol gwasanaethau cefnogi cerddoriaeth a'r astudiaeth ddichonoldeb bendant a'r cynnydd o ran datblygu strategaeth gerddoriaeth genedlaethol i Gymru a chynllun addysg cerddoriaeth sylfaenol—nad yw erioed wedi bod yn bwysicach i Gymru greadigol?
Diolch i Rhianon am godi'r mater hwn, a gwn ei bod yn bencampwr enfawr o fewn y Senedd dros gerddoriaeth a phopeth y gall ei wneud i wella ein bywydau ar yr adeg anodd iawn hon. Byddwn i'n hapus i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am yr holl faterion hynny o ran sut yr ydym ni'n ceisio diweddaru ein canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a hefyd y canllawiau ar gyfer perfformiadau'n dychwelyd yn raddol mewn lleoliadau a chyrchfannau diwylliant a threftadaeth, a hefyd y pryderon sydd gan Rhianon Passmore o ran gwasanaethau cerddoriaeth a'r astudiaeth ddichonoldeb cerddoriaeth a chyllid ar gyfer addysg cerddoriaeth yn ehangach.
Y tu hwnt i ddarparu ymateb ysgrifenedig i'r Aelod, rwy'n gwybod bod yna ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith COVID-19 ar y diwydiannau creadigol. Mae hynny i fod i ddigwydd ar 11 Tachwedd, ac rwy'n credu y bydd hwnnw'n gyfle defnyddiol arall i glywed y diweddaraf gan y Gweinidog ar yr agwedd benodol hon.
Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â thrin pobl hŷn yn ystod y pandemig presennol. Ddoe, gofynnwyd imi fynd i gyfarfod gyda grŵp bach o breswylwyr byw â chymorth i drafod y materion yr oedden nhw'n eu hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf, dim ond iddynt gael gwybod gan Tai Arfordirol fod yn rhaid iddynt gyfarfod allan yn yr awyr agored. Roedd rhai o'r preswylwyr hyn yn agored i niwed, gydag amrywiaeth eang o broblemau iechyd. Roedd angen ocsigen ychwanegol ar rai ohonyn nhw, ac eto i gyd gofynnwyd iddynt eistedd y tu allan mewn tymheredd a oedd prin yn cyrraedd deg canran. Roedd Tai Arfordirol yn dehongli rheoliadau COVID yn orfrwdfrydig. Nid yw hanner dwsin o bobl sy'n eistedd metrau ar wahân ac yn gwisgo masgiau yn peri risg fawr o drosglwyddo’r haint, ac eto i gyd cawsant wybod nad oedd modd cynnal cyfarfod o'r fath dan do. Er bod rhybudd wedi bod ymlaen llaw o'r cyfarfod, dim ond pum munud cyn y cyfarfod y cafodd y preswylwyr wybod. Hefyd, mae'r preswylwyr yn pryderu nad yw preswylwyr newydd yn cael eu profi ar gyfer COVID-19 cyn iddynt ddod yno i fyw.
Hoffwn i i Lywodraeth Cymru sicrhau y dylai'r canllawiau sy'n cael eu rhoi i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yn ystyried y risgiau i iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn sy'n agored i niwed. Felly, mae angen i ganllawiau o'r fath gydbwyso niwed COVID-19 yn erbyn y niwed gan fesurau i fynd i'r afael â'r clefyd. Ac yn dilyn sgyrsiau gyda'r staff—yr oedd gennyf bob cydymdeimlad â nhw—ynglŷn â byw â chymorth, roedd gormod yn agored i ddehongliad, ac felly'n anghyson wrth gael ei gyflawni, ac mae angen canllawiau llawer cliriach er mwyn hyrwyddo perthynas iach i staff a phreswylwyr fel ei gilydd.
Fy ail bwynt yw—
Na, na, na, nid oes amser ar gyfer ail bwynt.
Roedd yn ymwneud â chyfraniad rhagrithiol Alun Davies ynghylch—
Rydych chi wedi mynd dros eich amser o gryn dipyn, Caroline Jones. Y Trefnydd i ymateb.
Diolch, Llywydd. Mater anodd iawn, onid e, yw cydbwyso'r anghenion a'r risgiau o ran iechyd a lles emosiynol a meddyliol a'r risgiau syn cael eu hachosi gan COVID. Rwy'n gobeithio y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r risgiau hynny mewn modd sensitif a synhwyrol, ond rwy'n gofyn i'r Aelod ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn y lle cyntaf, yn amlinellu'r pryderon hynny'n fanylach, fel y gallwn ni ystyried a yw'r canllawiau'n rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen ar y darparwyr yn llawn ai peidio er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir i ddiogelu iechyd a lles y bobl y maen nhw'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer.
Mark Isherwood.
Helo.
Rwy'n galw am ddatganiad llafar, neu ddadl os oes modd, yn amser Llywodraeth Cymru ar gynllun drafft Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, ar ôl i Lywodraeth Cymru heddiw dynnu ei datganiad llafar allweddol ar hyn yn ôl a rhoi datganiad ysgrifenedig yn ei le, nad oedd yn caniatáu cwestiynau.
Roedd cynllun Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru yn cynnwys targedau anstatudol newydd hyd at 2035 a dim cerrig milltir dros dro i gyrraedd yno, er gwaethaf Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000, a gafodd ei diwygio gan Ddeddf Ynni 2013, gan nodi'r gofyniad bod yn rhaid i strategaeth tlodi tanwydd yng Nghymru
'bennu amcanion interim i'w cyflawni a dyddiadau targed ar eu cyfer'.
Fe wnaeth y Gweinidog dderbyn y datganiad ym monitor tlodi tanwydd y DU gan National Energy Action y llynedd:
'Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi a darparu Cynllun Tywydd Oer i Gymru i fynd i'r afael â baich marwolaethau ychwanegol yn y gaeaf a salwch sy'n gysylltiedig ag oerfel.'
Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad yw ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei chynllun newydd yn cynnwys dim byd newydd nac ychwanegol nawr i fynd i'r afael ag anghenion brys aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd y gaeaf hwn, yn enwedig yng ngoleuni COVID-19. Felly, mae angen inni wybod pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd y gaeaf hwn. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cyfeirio at ffigurau sy'n dangos bod tua 67,000 o aelwydydd hŷn yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, er gwaethaf dyletswydd statudol i ddileu tlodi tanwydd. Felly, mae angen inni wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i alwad y Comisiynydd ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa grant ar frys i wneud gwelliannau i amgylcheddau cartrefi pobl hŷn i gefnogi'r rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef tlodi tanwydd y gaeaf hwn, ac i fuddsoddi—[Anghlywadwy.]—ymgyrchoedd a chymorth i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn.
Ac, yn olaf, mae angen inni wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i ymchwil Cartrefi Cymunedol Cymru, a oedd wedi amcangyfrif bod y gost o ddatgarboneiddio pob un o'r 230,000 uned yn sector tai cymdeithasol Cymru yn fwy na £4.2 biliwn. Ni fydd datganiad ysgrifenedig yn cyflawni'r gwaith. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru felly i ddod o hyd i'r amser i gyflwyno hyn gerbron y Siambr hon. Diolch.
Cyn i'r Trefnydd ymateb, rwy'n tybio bod y Trefnydd wedi clywed digon i allu ymateb, ond os gallaf ofyn i chi, Mark Isherwood, gael trafodaeth gyda rhai o'n technegwyr, dim ond i wneud yn siŵr bod ansawdd eich sain yn gwella. Os ydych eisiau cymryd rhan mewn unrhyw gyfraniad arall y prynhawn yma, rwy'n credu bod angen gwneud rhywfaint o waith i wella ansawdd eich sain. Ond mae modd gwneud hynny, rwy'n siŵr.
Rebecca Evans i ymateb.
Wel, nid ar chwarae bach y caiff eitemau eu tynnu’n ôl o'r agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn, ac, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth yr oeddem ni eisiau ei gyflwyno i gydweithwyr allu ei drafod a holi'r Gweinidog amdano heddiw. Ond, yn anffodus, rydym wedi gorfod ei newid i ddatganiad ysgrifenedig oherwydd y ddadl ychwanegol ar y cyfnod atal byr, a fydd yn digwydd yn ddiweddarach y prynhawn yma. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn deall bod hynny, o dan yr amgylchiadau, yn beth rhesymol i'w wneud.
Ond rwy'n credu bod Mark Isherwood wedi cael cyfle yn ystod y datganiad busnes i gofnodi'r cyfraniad y gallai fod wedi ceisio'i wneud yn ddiweddarach yn y dydd, o ran y cwestiynau a'r pryderon sydd ganddo am y cynllun drafft i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ac fe wn y byddai'r Gweinidog yn croesawu unrhyw ymholiadau neu gyfraniadau pellach yn ysgrifenedig wrth iddi barhau i roi'r cynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ar waith.
A gaf i ofyn hefyd, Trefnydd, am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r cyfnod atal byr? Ac efallai fod y ddadl yn ddiweddarach y prynhawn yma yn gyfle i'r Gweinidog ymateb. Mae perchnogion Canolfan Arddio Rhaglan wedi cysylltu â mi, ac maent yn pryderu'n fawr ynghylch canolfannau garddio yn gorfod cau yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, Laura Anne-Jones, hefyd wedi dweud wrthyf fod perchnogion canolfan arddio Brynbuga yn pryderu'n fawr am orfod cau'n fuan. Rwy'n sylweddoli y dylai caffis a bwytai mewn canolfannau garddio fod yn cau fel rhan o'r cyfyngiadau symud, os yw'n mynd rhagddo, ond mae canolfannau garddio yn lleoedd mawr; mae mannau eraill, mannau awyr agored yn bennaf; mae mannau ar gyfer prynu coed Nadolig, ar gyfer bwyd, ac yn y blaen. Os oes modd cynnal pellter cymdeithasol mewn lleoedd fel hyn, yna pam mae'n rhaid inni gau canolfannau garddio'n llwyr ar hyn o bryd? Fel y dywedais i, efallai y gall y Gweinidog ddod yn ôl at hyn yn y ddadl yn nes ymlaen.
Trefnydd.
Diolch, Llywydd. Felly, fel y dywedais wrth Darren Millar ar ddechrau'r datganiad busnes yn gynharach, mae gennym y datganiad ar y cyfnod atal byr, ychydig o eitemau i lawr yr agenda y prynhawn yma, ac efallai mai dyna fyddai'r cyfle gorau i godi'r mater hwn ymhellach.
Diolch i'r Trefnydd. Fe fyddwn ni nawr yn cymryd egwyl fer.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:34.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:40, gyda David Melding yn y Gadair.
Trefn, trefn. Mae cyfarfod y Senedd wedi ailddechrau.
Fe gaiff eitem 4 ei chyhoeddi'n ddatganiad ysgrifenedig.
Fe symudwn ni felly at eitem 5, sef datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â chyllid ar gyfer bysiau, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog, Lee Waters.
Diolch. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trefniadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod atal byr a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe yn ogystal ag ateb cwestiynau am y goblygiadau i'n dull cyffredinol ni o weithredu.
O ddydd Gwener ymlaen, rydym yn gofyn i bobl aros gartref. Fe fydd siopau manwerthu ar gau os nad ydyn nhw'n gwerthu nwyddau hanfodol, fe fydd disgwyl i bobl weithio o gartref lle bo hynny'n bosibl, ac fe fydd ymweliadau ag aelwydydd eraill yn cael eu gwahardd, ac eithrio mewn amgylchiadau prin. Oni bai fod gennym reswm hanfodol dros fynd allan, fe fydd angen i bob un ohonom chwarae ein rhan i dorri'r cadwyni sy'n trosglwyddo coronafeirws.
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod bysiau a threnau'n parhau i redeg yn ystod oriau brig i alluogi gweithwyr allweddol fynd i'w gwaith, ond y tu allan i'r prif amseroedd cymudo, rydym wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bysiau leihau gwasanaethau yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud. Nid yw hyn yn syml oherwydd mae angen dadgofrestru llwybrau, trefnu staffio a rhyng-gysylltu gwasanaethau. Dyna pam y briffiwyd y gweithredwyr ddydd Gwener diwethaf ein bod ni'n ystyried cyflwyno mesurau. Fe wnaethom hynny'n hollol ddidwyll, ac rwy'n siomedig i hynny gael ei dorri.
Yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud, bydd y gwasanaethau yn debyg i rai mis Awst. Mae angen i deithwyr wybod y bydd canslo hwyr a newidiadau i wasanaethau a amserlennwyd yn debygol, ac fe ddylai'r rhai sy'n gorfod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wneud ymholiadau gyda'r gweithredwyr yn uniongyrchol cyn teithio.
Ledled y byd, mae llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth dorfol. Yng Nghymru, rydym wedi gweld gostyngiad sydyn a difrifol na welwyd ei fath erioed o'r blaen o ran nifer y teithwyr ar fysiau, gan achosi colli bron pob refeniw o docynnau. Er bod y galw wedi dychwelyd yn raddol, bydd refeniw'n debygol o barhau i fod yn isel yn y dyfodol rhagweladwy o ganlyniad i ofynion cadw pellter cymdeithasol sy'n cyfyngu ar niferoedd y bobl sy'n gallu teithio. Mae'n amlwg y bydd hynny'n golygu goblygiadau sylweddol i hyfywedd cwmnïau bysiau, yn enwedig gan fod Llywodraeth y DU yn dod â'r cynllun ffyrlo i ben cyn ei amser.
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog am gyfnod atal byr, mae'r gronfa cadernid economaidd yn cael ei hatgyfnerthu. Fe fydd £300 miliwn ar gael i roi cymorth ariannol i fusnesau. Mae cwmnïau bysiau a cherbydau yn gymwys am y gronfa cadernid economaidd. Yn wir, mae llawer wedi elwa eisoes ar gamau blaenorol y gronfa. Rydym yn gweithio hefyd gyda nifer o weithredwyr ar ddatgarboneiddio a moderneiddio eu fflydoedd, ac rwy'n awyddus i weld mwy o bethau fel hyn yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i'r adwy i helpu gweithredwyr bysiau i ymateb i heriau coronafeirws. Yn ystod y don gyntaf o'r feirws, roeddem yn sybsideiddio pob teithiwr ar fws ar gyfradd o £30 y pen. Pe na fyddem wedi gwneud hynny, fe fyddai cwmnïau bysiau masnachol wedi mynd i'r wal a phobl wedi'u gadael heb unrhyw fodd o deithio. Mae ein cefnogaeth ni wedi bod yn hanfodol i sicrhau y gall gweithwyr allweddol deithio i'w gwaith, y gallai ysgolion ailagor, a bod pobl sy'n dibynnu ar ein rhwydweithiau bysiau wedi gallu mynd i siopa a chael gafael ar wasanaethau allweddol.
Mae arolygon Trafnidiaeth Cymru yn dangos nad oes gan 78 y cant o bobl sy'n teithio ar y bysiau ddefnydd o gar preifat. Mae hyn yn cynnwys niferoedd anghymesur o uchel o blith pobl iau, pobl hŷn, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig, menywod, a'r rhai sydd ar incwm isel. Mae ein cefnogaeth ni i fysiau yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.
Cyhoeddwyd pecyn cyllid o £84.6 miliwn yn ddiweddar i helpu i gynnal a datblygu lefelau gwasanaethau am weddill y flwyddyn ariannol hon. Eleni, fe fydd ein cymorth i wasanaethau bysiau yn gyfanswm o £140 miliwn. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol mewn adeg pan fo arian cyhoeddus dan bwysau na welwyd ei debyg o'r blaen. Fe fydd yn anodd cynnal hyn, ac felly mae'n rhaid inni ddiwygio'r drefn.
Mae'r ecosystem bresennol lle mae gwasanaethau bysiau yn cael eu hariannu, eu darparu, a'u rheoli yn cael ei chymhlethu gan farchnad sydd wedi cael ei dadreoleiddio a'i darnio, a chymhelliant masnachol sydd iddi hi. Mae ein cyllid ni yn cael ei dalu i tua 80 o gwmnïau bysiau mewn 22 o awdurdodau lleol drwy nifer o ffrydiau ariannu a mecanweithiau contractio, sydd wedi cynyddu o ran eu maint a'u cymhlethdod dros y 30 mlynedd diwethaf. Er bod y rhan fwyaf o'u hincwm nhw'n tarddu o'r sector cyhoeddus, gweithredwyr unigol sy'n pennu'r llwybrau, amlder teithiau a thocynnau, ac mae'r cwsmeriaid yn ymgodymu'n aml â gwasanaethau nad ydynt yn integreiddio â dulliau eraill, amserlenni nad ydynt yn cysylltu â llwybrau eraill, a thocynnau nad ydynt yn gweithio gyda chwmnïau eraill. Ni all pethau barhau fel hyn.
Yn gyfnewid am y cyllid hwn, rydym yn awyddus i daro bargen newydd i deithwyr. Fe hoffem wneud hynny mewn cydweithrediad â'r cwmnïau ac rydym yn gweithio gyda nhw i adeiladu partneriaeth sy'n cyflawni ein hamcanion ehangach ni—un sy'n rhoi mwy o ddylanwad i drethdalwyr dros lwybrau a safonau, ac sy'n caniatáu rheoli ac integreiddio gyda moddau amrywiol o drafnidiaeth, gan gynnwys tocynnau clyfar, llwybrau cydgysylltiedig, ac amserlennu integredig. Mae angen iddi fod yn fargen sy'n deg i deithwyr. Am ein buddsoddiad ni, rydym eisiau gallu sicrhau rhwydwaith amlddull sy'n cyflawni gwell cysondeb rhwng y cyflenwad â'r galw. Rydym eisiau sicrhau gwasanaethau hyblyg sy'n seiliedig ar angen y teithwyr ac wedi'u hysgogi gan ddata. Rydym eisiau i hyn gael ei gyflawni'n rhanbarthol, a'i lywio gan ein blaenoriaethau datgarboneiddio a chydraddoldeb.
Dyma'r ymyriad mwyaf radical yn y rhwydwaith bysiau ers y dadreoleiddio dros 30 mlynedd yn ôl. Rydym yn dal i fyw gyda gwaddol y prosiect preifateiddio cyfeiliornus hwn. Mae'r fframwaith deddfwriaethol sy'n aros yn parhau i fod yn rhwystr i sicrhau system drafnidiaeth gydgysylltiedig. Fel y mae'r Aelodau yn gwybod, roeddem wedi bwriadu cyflwyno Bil i'r Senedd i foderneiddio hyn, ond mae effaith coronafeirws yn golygu nad yw hynny'n bosibl mwyach. Rydym yn gobeithio y gall Llywodraeth nesaf Cymru ddatblygu hynny, ac yn y cyfamser, rydym yn ceisio manteisio i'r eithaf ar ein dulliau eraill ni o gyflawni ein hamcanion. Mae'r Aelodau ar draws y Senedd wedi ymrwymo i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae bysiau'n rhan allweddol o gyflawni'r nodau hyn, ac fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith a wnawn i roi system drafnidiaeth gyhoeddus deilwng i'n hetholwyr ni. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ac am y copi o'r datganiad a gefais i ganddo ymlaen llaw hefyd, yr wyf i'n ddiolchgar amdano? Dirprwy Weinidog, mae'n rhaid imi ddweud, rwyf i wedi fy siomi gan y datganiad y prynhawn yma, a hynny'n unig am fy mod i'n disgwyl cael mwy o fanylion. Nid oes llawer o fanylion pendant yn yr hyn yr amlinellwyd gennych y prynhawn yma. Maes yw hwn yr ydych chi wedi bod yn siarad amdano ers yr haf. Mae'n ymddangos bod y datganiad y prynhawn yma—mae'n sôn am ddyheadau, ac rydych wedi ailadrodd beth ydyn nhw a da o beth yw hynny, ond nid oes unrhyw gnawd pendant ar esgyrn yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl y prynhawn yma. Felly, a gaf i ofyn pryd rydych chi'n disgwyl cyhoeddi'r math o fanylion y byddem ni'n eu disgwyl mewn datganiad fel hwn, fel y gellir craffu'n briodol ar hynny? Y math o fanylion yr hoffwn i fod wedi eu gweld y prynhawn yma—ac rwyf am eich holi am hynny nawr—yw pryd y cawn ni wybod beth yw'r dull newydd y byddwch chi'n ei ddefnyddio, sut y caiff ei weinyddu, a manylion am y strwythurau a'r dulliau o gynllunio ac ariannu gwasanaethau bysiau.
Roeddech chi'n sôn am gyllid y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ac yn sôn am y cyllid sydd ar gael drwy'r gronfa cadernid economaidd, ond a wnewch chi fanylu ar unrhyw gyllid penodol sy'n mynd i'r diwydiant bysiau yn benodol yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol am bythefnos yng Nghymru? Ac yn ogystal â hynny, ar ba lefel y bydd taliadau i weithredwyr yn cael eu cynnal ar gyfer contractau ysgol yn arbennig? Hefyd, efallai y gallaf ychwanegu at hyn y dyhead arall hwn y gwn i eich bod chi wedi sôn amdano o'r blaen, o ran 30 y cant o bobl yn gweithio o gartref. Tybed a wnewch chi sôn, Dirprwy Weinidog, y prynhawn yma, am ganlyniadau'r dyhead hwnnw ar y diwydiant bysiau o ran sut y bydd hynny'n dylanwadu ar ddatblygiad a'r dull newydd o gynllunio ac ariannu gwasanaethau bysiau. A sut fydd y trefniadau newydd hynny yn sgil y dyhead o 30 y cant yn gweithio o gartref—sut y caiff y diwydiant gwasanaethau bysiau ei gefnogi, naill ai drwy golled ddichonol neu newid yn y galw, pa un bynnag sy'n berthnasol, yn eich barn chi. Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, a gaf i ofyn sut yr effeithiodd yr argyfwng ar ddatgarboneiddio gwasanaethau bysiau, a'r targed o bob bws i fod heb unrhyw allyriadau erbyn 2028. A oes arian ar gael gan y cwmnïau i fuddsoddi mewn bysiau newydd? Sut mae dull Llywodraeth Cymru o ariannu bysiau a datgarboneiddio trafnidiaeth yn ystyried y maes hwnnw'n benodol?
Diolch i chi. Nid wyf yn hollol siŵr pa fanylder ychwanegol y mae Russell George yn teimlo fy mod i'n ei gelu oddi wrth y Senedd. Mae gennyf sesiwn ddwy awr gerbron pwyllgor yr economi yn fuan, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny, felly fe fydd yna ddigon o gyfle i fynd drwy unrhyw gwestiynau manwl sydd ganddo ef bryd hynny. Yn sicr, nid oes unrhyw ymgais wedi bod, ar fy rhan i, i guddio unrhyw beth. Rydym wrthi'n gweithio drwy rywfaint o hyn, trwy ddiffiniad, mewn partneriaeth â'r diwydiant bysiau. Felly, nid ymgais yw hon i guddio unrhyw beth, dim ond ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth, fel y dywedais i, a'n bod ni'n dymuno dod at y manylion. Ond rydym wedi rhoi amlinelliad eglur iawn, ac rydym wedi egluro'r cyllid y gwnaethom ei roi hefyd, sef £140 miliwn eleni i wneud hynny, ac rydym yn awyddus i gyflawni hyn drwy gyfrwng Trafnidiaeth Cymru ar sail ranbarthol. Ac rwyf i o'r farn fy mod wedi nodi yn y datganiad, y soniodd Russell George ei fod ef wedi cael golwg arno ymlaen llaw, yr egwyddorion a fyddai'n llywio'r dull hwnnw. Felly, efallai y cawn ni barhau â'r drafodaeth hon yn y pwyllgor, neu os hoffech chi ysgrifennu—fe fyddwn i'n hapus i geisio helpu cyn belled ag y gallaf.
O ran y cyllid i weithredwyr yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym yn parhau â'r cyllid sydd gennym yn ei le. Er ein bod yn disgwyl ac yn gofyn i'r gwasanaethau dorri i lawr ar eu gweithrediadau, ni fyddwn ni'n lleihau'r cyllid yr ydym ni'n ei ddarparu ar eu cyfer. Rydym yn credu y byddai neges gwbl anghywir yn cael ei chyfleu os ydym yn gofyn i bobl aros gartref, a'r bysiau'n parhau i redeg yr un mor aml ag o'r blaen. Roeddem ni'n gwybod o'r cyfyngiadau symud cyntaf bod gweld bysiau gwag yn symud o gwmpas y strydoedd yn anfon neges anghyson, ac nid oeddem eisiau gweld hynny'n ailddigwydd.
Fe holodd am ganlyniadau gweithio gartref, a'r targed uchelgeisiol a osodwyd o 30 y cant yn gwneud hynny'n barhaol. Fel y crybwyllais i yn y datganiad, ledled y byd mae teithwyr yn pleidleisio gyda'u traed drwy ymwrthod â thrafnidiaeth dorfol oherwydd pryderon am y feirws. Nid yw hynny o ganlyniad i unrhyw benderfyniad gan Lywodraethau, ond, yn amlwg, mae gofynion Llywodraethau ynghylch cadw pellter cymdeithasol ac yn wir y cyfyngiadau symud yn ychwanegu at hynny. Fe fyddem ni'n disgwyl, o dan y drefn gweithio o gartref y soniwyd amdani, mai hyblygrwydd fydd y normal newydd. Ac fe fydd hyblygrwydd, mewn rhai achosion, yn golygu gweithio o gartref, ac mewn achosion eraill, weithio o ganolfannau gweithio ar y cyd yng nghanol trefi cyfagos. Felly, mae'n ddigon posibl y bydd yn ofynnol i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o hyd i gyrraedd canol y trefi hynny, yn hytrach na mynd ar daith hir i gymudo i Gaerdydd neu Abertawe neu ddinasoedd cyfagos.
Felly, rydym yn dal i gredu bod swyddogaeth i system drafnidiaeth gyhoeddus gref, ac yn sicr ein bwriad ni yw parhau i ddatblygu'r metro a pharhau gyda buddsoddiadau eraill a nodwyd gennym. Ond, yn yr ysbryd hwn o hyblygrwydd, mae angen newid y ffordd y mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio. Mae ein rhaglen fysiau ni sy'n ymateb i'r galw drwy fenter Fflecsi, sy'n cael ei threialu mewn sawl rhan o Gymru erbyn hyn, gan gynnwys ar raddfa gynyddol, yng Nghasnewydd, yn argoeli'n addawol iawn bod gwasanaeth bysiau sy'n fwy ystwyth ac sy'n gallu ymateb i alw mwy gronynnol, yn hytrach na dim ond y gwasanaeth ar yr amserlen, yn diwallu anghenion yr oes.
Rwy'n credu mai ei gwestiwn olaf oedd a fydd y diwydiant bysiau yn cael ei gefnogi drwy'r newid hwn yn y galw. Wel, yn wir, dyma un o'r paradocsau y cyfeiriais i ato yn fy natganiad i. Rydym yn clywed yn aml gan y diwydiant bysiau mai gweithredwyr masnachol ydynt, ond nawr rydym yn clywed y galwadau hyn am ragor o arian cyhoeddus, ac mae'n anodd setlo'r ddau beth. Maent yn fasnachol pan fydd hynny'n eu siwtio nhw, ac maen nhw'n barod iawn i gymryd mwy o'n harian ni pan fydd hynny'n eu siwtio nhw hefyd. Rwy'n credu bod angen y fargen newydd y siaradais amdani, sy'n cydnabod eu bod nhw'n darparu gwasanaeth cyhoeddus allweddol ac y bydd angen cymhorthdal parhaus am hynny, ond yn gyfnewid am y cymhorthdal parhaus hwnnw, mae angen i ni gael mwy o bartneriaeth strategol gyda nhw, i sicrhau bod ein blaenoriaethau allweddol ni'n cael eu cyflawni. A dyna'r sgwrs yr ydym ni'n ei chael gyda nhw ar hyn o bryd. Felly, fe fydd yna gefnogaeth barhaus, ond mae pris i'w dalu am hynny.
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad. Rwyf i am ddechrau drwy ddweud ein bod ni, yn y rhan hon o'r Siambr, yn credu bod yr ymateb i'r cyfnod atal byr o bythefnos yn gwbl briodol; mae'n ymddangos mai dyma'r peth cywir i'w wneud ac rydym ni'n hapus iawn i gynnig ein cefnogaeth ni i'r Gweinidog yn hynny o beth. Yn y cyd-destun hwn—ac nid ydym yn gwybod, wrth gwrs, a fydd angen camau o'r fath yn y dyfodol—a all y Dirprwy Weinidog gadarnhau y bydd darparwyr bysiau yn gymwys i wneud cais am y rownd newydd o'r Gronfa Cadernid Economaidd, hyd yn oed os ydyn nhw wedi derbyn taliadau eisoes o rowndiau blaenorol? Rwy'n cymryd o'i ddatganiad bod hynny'n wir, ond mae'n ymddangos fod yna rywfaint o ddryswch yn y sector.
Roeddwn i'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at y gwaith ar ddatgarboneiddio. I ddilyn ychydig, efallai, ar gwestiwn Russell George, a wnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym am natur y gwaith hwn, sut mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi'n benodol? Yn amlwg, mae camau fel prynu fflydoedd cwbl newydd yn ddrud iawn, ac fe fyddwn i'n falch o gael gwybod pa gymorth a allai fod ar gael i'r sector, gan ystyried y pwynt y mae'r Gweinidog yn ei wneud yn llawn, wrth gwrs, am wneud 'rhywbeth yn gyfnewid' yn yr achos hwn, ac os yw'r Llywodraeth yn cefnogi'r sector, mae angen i'r sector wneud ei ddyletswydd i'r cyhoedd.
Rwyf eisiau cytuno'n llwyr â sylwadau'r Dirprwy Weinidog mai mater o gyfiawnder cymdeithasol yw'r gefnogaeth i wasanaethau bysiau; yn aml y bobl nad ydyn nhw'n gallu fforddio mathau eraill o drafnidiaeth sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau bysiau ni. Fe fyddwn i'n cytuno hefyd nad yw'r dull presennol yn gynaliadwy, nad yw'r system bresennol yn ateb y diben ac na allwn ni barhau â'r sefyllfa o weithredwyr unigol yn pennu llwybrau yn seiliedig ar yr hyn sy'n addas iddyn nhw, yn hytrach na'r hyn sy'n addas i'r cyhoedd. Rwy'n siŵr y bydd gennym ni lawer o enghreifftiau o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ni ein hunain. Yr wythnos hon, rwyf i wedi derbyn gohebiaeth, yr wyf yn credu y bydd y Dirprwy Weinidog yn gyfarwydd iawn â hi, ynghylch dileu'r bws uniongyrchol o Drimsaran i Gydweli, er enghraifft, sy'n gwneud pethau'n anodd iawn i bobl sy'n cael eu gofal meddygol yn y gymuned honno. Pethau fel llawer o gymunedau nad oes ganddyn nhw wasanaethau bysiau o gwbl ar ddydd Sul—mae Llangennech yn un o'r rhain, a gallaf roi nifer o enghreifftiau sydd wedi dod i fy mewnflwch i o Bowys a Sir Benfro dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Felly, mae'n amlwg y byddwn ni'n cefnogi dyhead y Gweinidog i newid hyn. Rwy'n gefnogol iawn, yn amlwg, i'r Dirprwy Weinidog yn gweithio ar hyn gyda darparwyr mewn dull cydweithredol. Ond, tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni heddiw, os nad yw'r dull cydweithredol hwnnw'n llwyddiannus, ac o ystyried yr hyn a ddywedodd eisoes, sef ein bod ni'n byw gyda gwaddol preifateiddio cyfeiliornus difrifol, ac fe fyddwn innau'n cytuno â'i sylwadau ef yn hynny o beth—a wnaiff ystyried modelau amgen fel cydberchnogaeth, cwmnïau di-elw, gan edrych ar ble mae llywodraeth leol wedi gallu cynnal gwasanaethau bysiau y maen nhw'n berchen arnynt neu'n rhannol berchen arnynt? A wnaiff ef, o bosibl, ystyried ail-wladoli, os profir bod hynny'n angenrheidiol, gan geisio unrhyw bwerau ychwanegol gan Lywodraeth y DU pe byddai angen hynny?
Diolch yn fawr iawn i chi. Yn amlwg, mae llawer iawn o ddiddordeb ar y cyd a chytundeb yn y sylwadau hynny gan Helen Mary, ac rwy'n croesawu hynny. O ran ei chwestiynau, bydd, fe fydd y rownd newydd o'r Gronfa Cadernid Economaidd ar gael, fel mewn rowndiau blaenorol, a oedd yn helpu cwmnïau bysiau a cherbydau, yn amodol, wrth gwrs, ar feini prawf cymhwysedd. Ond, mewn egwyddor, dyna yw ein disgwyliad ni: y gall ac y bydd cwmnïau bysiau yn derbyn cymorth drwy honno.
O ran y datgarboneiddio, rydym yn gweithio gyda gweithredwyr sydd wedi cael grantiau bysiau trydan gan yr Adran Drafnidiaeth, ac rydym yn sicr wedi helpu awdurdodau lleol gyda'r ceisiadau hynny, ac rydym wedi bod yn rhoi rhywfaint o gymorth, rwy'n credu, i Fws Caerdydd ar gyfer bysiau trydan. Credaf mai dyna un o'r meysydd lle'r ydym ni'n awyddus i wneud mwy, gan gydnabod mai un o'r heriau sydd gennym o fewn y Llywodraeth o ran cefnogi'r diwydiant bysiau yw iddi fod yn haws cael gafael, yn hanesyddol, ar gyllid cyfalaf gan yr Adran Drafnidiaeth nag ar gyllid refeniw. Felly, yn amlwg, o ran y ffordd y gallwn ni helpu i wella'r drafnidiaeth a gynigir drwy gyfalaf—helpu i brynu bysiau, yn hytrach na chyllid i redeg gwasanaethau—mae hynny'n haws.
Mae'r Aelod yn sôn am rai gwasanaethau yn fy etholaeth i fy hun—Llangennech a Thrimsaran. Mae hwn yn hanes cyfarwydd i'r Aelodau ledled y wlad: bod y gwaith o gynyddu gwasanaethau bysiau wedi bod yn broblem, yn amlwg, gyda gyrwyr bysiau yn dal i fod ar ffyrlo, gyda'r effaith y mae'r gofyniad o gadw pellter cymdeithasol yn ei chael ar hyfywedd gwasanaethau, a'r holl ystod o rwystrau ymarferol a roddwyd ar waith sydd gan awdurdodau lleol, o ran amser eu swyddogion nhw eu hunain, i wneud y newidiadau angenrheidiol. Felly, mae hwnnw'n ddarlun cyfarwydd, yn amlwg. Pan oeddem ni mewn hanner mesurau dros yr haf, ni fu'n bosibl—nac, yn wir, yn hyfyw—oherwydd y cwymp mewn refeniw tocynnau, i ddychwelyd i wasanaethau llawn. Yn amlwg, fel y byddwn yn symud o'r gaeaf at y gwanwyn a'r haf, byddem yn gobeithio cynyddu'r gwasanaethau hynny, fel y bydd cymaint o wasanaethau â phosibl yn dychwelyd eto.
Fe ofynnodd am wahanol fodelau o berchnogaeth—cydberchnogaeth a di-elw. Yn sicr, un o'r pethau yr oeddem wedi gobeithio ei gyflwyno yn y Bil ac y bu'n rhaid inni ei ohirio oedd caniatáu i awdurdodau lleol redeg eu cwmnïau bysiau nhw eu hunain, sy'n rhywbeth yr oeddem yn frwd iawn yn ei gylch. Felly, fel y dywedais, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn gallu parhau â hynny unwaith eto, oherwydd mae hwnnw, yn fy marn i, yn ddyhead cyffredin i ni.
Yn y cyfamser, rydym yn ystyried swyddogaeth bosibl Trafnidiaeth Cymru fel darparwr uniongyrchol. Nid oes unrhyw reswm pam, mewn egwyddor—. Mae gennym ni fodel, sef corff hyd braich, a allai redeg gwasanaethau yn uniongyrchol pe bai angen hynny, ac mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n rhoi ystyriaeth iddo mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar sail ranbarthol. Felly, rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â'r cwestiynau a ofynnwyd gennych yna.
Rwyf innau'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog hefyd am y datganiad a wnaeth ef y prynhawn yma. Roeddwn i'n arbennig o ddiolchgar o'i glywed yn datgan mor glir bod cefnogaeth i fysiau yn fater o gyfiawnder cymdeithasol i'r Llywodraeth hon, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n gwbl hanfodol, yn enwedig pan fyddwch chi'n ystyried rhai o'r cymunedau y mae llawer ohonom ni'n eu cynrychioli. Mae llawer o'r cymunedau yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, am rannau o'r dydd o leiaf, yn cael eu datgysylltu oddi wrth wasanaethau—oddi wrth wasanaethau cyhoeddus, oddi wrth gyfleoedd i siopa, er enghraifft. Mae angen inni sicrhau bod gennym system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gadarn, ac wrth hanfod hynny fod bysiau ar gael i bawb, ac sy'n gallu cysylltu pobl, eu cymunedau a'u gwasanaethau cyhoeddus a'r siopau a phopeth arall.
Mae'r Gweinidog yn ymwybodol y bydd ysbyty Grange yng Ngwent y mis nesaf. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei groesawu'n fawr, ond mae angen sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i bobl allu cyrraedd y Grange, a hynny nid yn unig yn ystod y dydd, ond ar adegau ymweld gyda'r nos hefyd.
A gaf i ddweud hyn wrth y Gweinidog? Wrth fwrw ymlaen â'r materion hyn, rwy'n croesawu'r arian a gafodd ei wario—rwy'n credu mai £140 miliwn sy'n cael ei wario i gefnogi gwasanaethau. Rwy'n cytuno â'ch dadansoddiad chi bod 80 o weithredwyr mewn 22 o ardaloedd awdurdodau lleol yn amgylchedd polisi sy'n rhy gymhleth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae angen inni weld diwygiad hanfodol o hynny—diwygio o ran llywodraeth leol ac o ran sut yr ydym ni'n sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau bysiau angenrheidiol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd y Gweinidog am hynny.
Ond hefyd, a gawn ni sicrhau bod gennym ni rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gwasanaethu ein holl gymunedau ni, yn cynnwys bysiau ond tacsis hefyd? Mewn rhai ardaloedd, nid yw'r niferoedd yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw'n fawr iawn, ond mae angen i ni gael gwasanaethau sy'n rhedeg yn aml hefyd. Felly, rwy'n credu fod yna ystod eang o faterion ynglŷn â hyn sy'n effeithio ar leoedd fel Blaenau Gwent, ond fe fydd ef yn eu cydnabod nhw yn Llanelli, ac fe fydd Aelodau yn cydnabod hyn yng Nglannau Dyfrdwy ac mewn mannau eraill hefyd.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd y dull y mae'n ei gymryd drwy reoli'r materion hyn yn ystod y misoedd nesaf, wrth inni nesáu at etholiad, yn sicrhau y gallwn ddweud wrth bobl fod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn ystyried yr hawl i gael defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yr hawl i gysylltedd, yr hawl i gysylltiad â gwasanaethau a manwerthu fel pethau y byddwn ni nid yn unig yn buddsoddi ynddynt, ond y byddwn ni'n sicrhau eu bod yn gweithio i bawb.
Rwy'n credu bod bysiau wedi cael eu hesgeuluso fel rhan o'n system drafnidiaeth ni, ac maen nhw wir yn gwneud llawer iawn o waith cario. Y ffigur a grybwyllais i, i ailadrodd y pwynt am gyfiawnder cymdeithasol, yr wyf i'n credu ei bod hi'n werth ei ailadrodd—. Mae arolygon Trafnidiaeth Cymru o ddefnyddwyr bysiau'n dangos nad oes car preifat ar gael i 78 y cant o bobl sy'n teithio ar fws. Rwy'n credu bod hwnnw'n ffigur syfrdanol, sy'n dangos pa mor bwysig yw'r rhwydwaith bysiau i bobl nad oes ganddyn nhw ddewis arall. Yn rhy aml rydym yn gwneud rhagdybiaethau pan fyddwn ni'n cynllunio gwasanaethau—ac fe soniodd Alun Davies am yr ysbyty newydd, y Grange, gynne—y bydd pobl yn neidio i'r car i fynd yno, ond fe wyddom fod yna rannau sylweddol o'n cymunedau ni nad yw hwnnw'n ddewis realistig iddyn nhw. Mae angen sicrhau bod dewis arall o safon ar gael i bobl, dewis sy'n ddymunol ac yn denu pobl allan o'u ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw hwn yn rhywbeth sy'n unig ar gyfer pobl nad oes ganddynt ddewis arall, ond yn rhywbeth sy'n dod yn ffordd ddewisol i bobl ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau. Mae hynny'n gwbl normal mewn rhannau eraill o Ewrop ac mae angen iddo fod yn normal yn ein gwlad ni, ond rydym yn bell ohoni ar hyn o bryd.
Ar fater y Grange yn benodol, mae Alun Davies wedi crybwyll hyn wrthyf i o'r blaen: rwy'n falch o allu cadarnhau bod y bwrdd iechyd wedi cadarnhau erbyn hyn y bydd gwasanaeth bws cyhoeddus i'r safle pan fydd yr ysbyty'n agor ym mis Tachwedd. Fe fydd bysiau'n gollwng ar arhosfa benodol yn yr ysbyty newydd. Fe fydd gwasanaeth bws rhwng Casnewydd drwy Gaerllion, Ponthir a Chwmbrân, a fydd yn aros yng Nghasnewydd a Chwmbrân hefyd. Ac yn ogystal â hynny, fel y soniais yn gynharach am y gwasanaeth sy'n ymateb i'r galw, y Fflecsi, rydym yn bwriadu cychwyn arni gyda hyn ym Mlaenau Gwent, gyda dwy ardal o wasanaeth yng Nglynebwy Fawr a Glynebwy Fach yn gyntaf—a fydd yn gallu ymateb hefyd i alwadau hyblyg pobl ar gyfer mynd i'r ysbyty. Felly, rwy'n credu bod mwy i'w wneud eto yn y fan honno, ond rwy'n credu ei fod o leiaf yn rhoi esgyrn gwasanaeth i sicrhau, pan fydd yr ysbyty'n agor ym mis Tachwedd, y bydd yno lwybr bws.
Yn olaf, mae'r pwynt am dacsis yn un pwysig, oherwydd rwy'n credu imi grybwyll yn y datganiad mai un o'r pethau yr ydym yn dymuno ei gyflawni yw rhwydwaith amlddull, strategol, wedi ei gynllunio. Yn amlwg, mae tacsis yn un o'r dulliau hyn—dewis o drafnidiaeth gyhoeddus y mae angen inni ei weld ochr yn ochr â bysiau, trenau a theithio llesol, i sicrhau eu bod nhw'n cysylltu â'i gilydd. Mae hwnnw'n rhywbeth sydd wedi bod yn anodd ei wneud, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni'n dymuno gwneud yn siŵr ei fod yn amlwg iawn ar restr gorchwylion Trafnidiaeth Cymru. Yn amlwg, unwaith eto, fe fu'n rhaid gohirio'r dyhead i gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio tacsis oherwydd COVID, ond mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n parhau i weithio arno hefyd, pe byddai Llywodraeth nesaf Cymru yn dewis cyflwyno hynny.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn rhoi hen ddigon o arian i gwmnïau bysiau mewn amseroedd normal. Efallai y bydd angen cyllid ychwanegol oherwydd COVID, wrth gwrs, mewn sefyllfaoedd a dargedwyd. Er hynny, rwy'n teimlo bod gwastraff sylweddol yn yr adnoddau a ddyrennir i'r diwydiant bysiau, lle gwelwn ni nifer o fysiau, efallai dim ond munudau rhyngddyn nhw, ar yr un llwybrau'n union neu lwybrau ddigon tebyg, a phob un ohonyn nhw'n cludo nifer fach iawn o deithwyr. Efallai y dylem fynd ymhellach nag y mae'r datganiad hwn yn ei ragdybio.
Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog yn wir yn cadw meddwl agored o ran sut y caiff yr holl ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ei darparu, ac rwyf innau'n rhannu'r un pryderon mawr ynglŷn â holl fater dadreoleiddio, ac fe fyddwn i'n llwyr gefnogi cael rhwydwaith bysiau a gaiff ei redeg gan awdurdod lleol neu gan gorff cyhoeddus arall, ond rwy'n credu hefyd y dylem o ddifrif ystyried y posibilrwydd o system ddeialu am drafnidiaeth gyhoeddus. Yn rhy aml o lawer, hyd yn oed mewn amseroedd normal, rydym yn gweld bysiau â 50 i 60 sedd ar y ffordd gyda dim ond un neu ddau o deithwyr. Oni fyddai'n llawer mwy darbodus cyflwyno fflydoedd o fysiau mini a addaswyd yn arbennig, yn cludo pedwar i chwech o deithwyr, ar system ddeialu? Fe allai'r bysiau i gyd fod yn rhai trydanol, o ystyried eu maint a'r pellteroedd teithio cymharol fyr. Fe allai'r busnes bws cymunedol fod yn lasbrint ar gyfer y system drafnidiaeth arloesol hon.
Oni fyddai'r Gweinidog, ac yn wir y Dirprwy Weinidog, yn cytuno â mi na allwn ni barhau i ariannu'r drefn bresennol ar y bysiau, sy'n aneconomaidd, yn gostus ac yn niweidiol i'r amgylchedd? Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo'n llwyr i ddenu pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus—neu, mae'n debyg y dywedai ef, ar feiciau, yn well byth. Eto i gyd, o ystyried y ffaith nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn rhannu ei frwdfrydedd llwyr ef dros y dull arbennig hwnnw o deithio, rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom ni'n ffafrio system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n seiliedig ar gerbydau trydan. Felly, a wnaiff y Gweinidog ac, wrth gwrs, y Dirprwy Weinidog, archwilio'r dewis gwyrdd, rhad ac ymarferol hwn i'r system drafnidiaeth gyhoeddus yr ydym ni'n ei rhedeg heddiw?
Fe glywais i David Rowlands yn sôn am sawl bws yn dod yn fuan ar ôl ei gilydd ac yn cludo nifer fach o deithwyr. Mae hynny'n gwneud imi feddwl am yr holl bleidiau bach y mae ef wedi bod yn aelod ohonynt. Ond mae yna, wrth gwrs—. Mae'r sefyllfa y sonia amdani yn symptom o'r broblem sydd gennym gyda'n system trafnidiaeth gyhoeddus. Mewn amgylchedd nad yw'n cael ei reoleiddio, wrth gwrs, fe all unrhyw un sefydlu cwmni bysiau ac fe allan nhw redeg y llwybrau sydd fwyaf proffidiol yn eu barn nhw. Felly, rydych chi'n tueddu i gael, ar nifer fechan o lwybrau, lawer o gystadleuaeth ar lawer o wasanaethau oherwydd bod elw i'w wneud, ond heb allu traws-sybsideiddio llwybrau eraill i lunio rhwydwaith cydlynol. A dyna'n union pam roeddem ni'n awyddus i gyflwyno'r ddeddfwriaeth, a dyna'n union pam rydym ni'n defnyddio'r cyfle a gyflwynir inni nawr i geisio defnyddio ein cyllid i gael y trosoledd gorau posibl i geisio cyflawni'r amcan hwnnw drwy ddulliau eraill. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef yn hynny o beth.
Yn yr un modd, o ran y system ddeialu ar gyfer bysiau, fel y sonia, fe all y termau amrywio, ond yr un peth sydd yma. Rydym yn sôn am drafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw, sydd yr un peth. Ac rydym wrthi'n treialu hyn nawr, ar draws pum ardal, yng Nghasnewydd, Caerdydd, y Rhondda, Prestatyn a Dinbych, sef ein gwasanaeth Fflecsi ni, sy'n cael ei redeg drwy Drafnidiaeth Cymru gyda gweithredwyr lleol. Fe'i cefnogir gan wefan, ap a llinell ffôn, ac yn lle rhai gwasanaethau bysiau lleol a drefnwyd, cynigir gwasanaethau mwy hyblyg a all godi a gollwng mewn ardal yn ôl y galw, yn hytrach nag mewn arosfannau bysiau sefydlog ar adegau penodol, ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn lle cafodd hyn ei dreialu. Fel y dywedais, yng Nghasnewydd rydym yn ystyried ehangu hynny nawr, ac ym Mlaenau Gwent hefyd. Ac mae hwnnw'n rhoi rhywfaint o flas inni o'r model arbennig hwnnw y mae David Rowlands yn sôn amdano. Rwyf i o'r farn mai'r dyhead i gael rhwydwaith o fysiau mini trydan bach ac effeithiol, sy'n gwibio o gwmpas yn cludo pobl ar amseroedd sy'n addas iddyn nhw i leoedd y maen nhw'n awyddus i fynd iddynt, yw'r union beth yr ydym ni'n gweithio tuag ato. Felly, rwy'n gobeithio y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd iddo ef ein bod ni o leiaf yn cytuno ar hynny.
A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, a mynegi fy ngwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf i gynnal rhwydwaith hanfodol o wasanaethau bysiau yn ein cymunedau ni?
Y penderfyniad i osod cyfnod atal byr—rydym i gyd yn gwybod y bydd yr heriau hyn yn parhau am fisoedd lawer i ddod, ac, wrth gwrs, fel yr amlinellwyd gennych, yn y tymor byr, fe fyddwn ni'n mynd yn ôl at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gweithwyr a theithiau hanfodol yn unig. Ond hyd yn oed cyn y cyfnod atal byr hwn, roedd y pandemig eisoes wedi effeithio, fel y sonioch chi, ar sawl agwedd ar y rhwydwaith bysiau, gan gynnwys lleihad yn nifer y gwasanaethau. Ac fel eraill, rwyf i wedi gweld sefyllfaoedd tebyg yn fy etholaeth i yn Abercanaid ac Aberfan, a'r ffaith y gallwch gael bws i Ysbyty'r Tywysog Siarl ar ddechrau amser ymweld, ond 'does dim bws ar ddiwedd amser ymweld—pethau felly; ffrydiau refeniw a thybiaethau ariannol awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau, gan gynnwys taliadau am ymadael o orsafoedd bysiau, er enghraifft. Yn y darlun ehangach, ar ôl y cyfnod atal byr hwn, ni ddylem golli golwg, ychwaith, ar yr hyn y mae hynny'n ei olygu i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni, yn enwedig y bobl hŷn, y gwn fod bysiau yn hanfodol bwysig iddyn nhw, ac fe wn i eich bod chi'n ymwybodol iawn o hynny. Y sefyllfa wirioneddol, serch hynny, yw nad oes gwahaniaeth pa mor fawr yw'r cymhorthdal gan y Llywodraeth i'r cwmnïau bysiau—rydych chi wedi cyfeirio at hyn yn eich datganiad—cwmnïau preifat sy'n gweithredu er elw ydyn nhw yn y bôn, ac os nad oes elw i'w wneud, fe fyddan nhw'n troi eu cefnau gan adael y rhai sydd angen y gwasanaethau hynny arnynt yn ddiymgeledd, a dyna yw gwaddol preifateiddio'r 1980au i ni heddiw.
Felly, er fy mod i'n croesawu'r hyn a gyhoeddwyd gennych heddiw yn fawr iawn, a ydych chi'n hyderus y bydd y mesurau a gaiff eu hamlinellu yn ddigon i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn ac y bydd cwmnïau bysiau, yn fwy perthnasol, yn cydweithredu? Ac rwy'n dyfalu, yn unol â'r cwestiwn a ofynnodd Helen Mary Jones yn gynharach, os na wnân nhw gydweithredu, beth yw'r dewis arall i sicrhau y bydd gwasanaethau bysiau yn cael eu cynnal yn wasanaethau cyhoeddus er budd y gymuned ac nid er elw i gwmni preifat?
Roeddwn i'n mynd i ofyn ichi a oedd unrhyw gyfle, er enghraifft, i Drafnidiaeth Cymru ddarparu dyfodol mwy cynaliadwy o'r ansicrwydd presennol, ond rwy'n credu—
Dawn—
—y gwnaethoch chi ateb hynny yn eich ateb i Helen Mary. Diolch.
Cyn imi alw ar y Gweinidog i ymateb, rwy'n ceisio bod mor garedig â phosibl gyda'r Aelodau Llafur, oherwydd ei bod yn bwysig i feincwyr cefn gael eu galw, ond mae'r cwestiynau hyn yn troi'n sgyrsiau cil pentan, yn hytrach na bod yn gwestiynau penodol, ac nid oes angen inni glywed yr holl hanes am sut y ffurfiwyd eich barn—dewch yn syth at eich cwestiwn. Gweinidog.
Wel, yn yr ysbryd hwnnw, Mr Melding, fe roddaf i'r bibell fygu o'r neilltu; ni fydd yna unrhyw sgyrsiau cil pentan yn y fan hon byth eto.
Dim ond i ateb hanfod pwynt Dawn Bowden—. Mae'n rhaid i mi dalu teyrnged iddi am ei gwaith yn aelod o dasglu'r Cymoedd, gan gadeirio is-grŵp trafnidiaeth y tasglu, yn ein helpu ni i ddatblygu'r model sy'n ateb y galw, ac mae'r her a gyflwynodd i'r Llywodraeth yn y swydd honno wedi bod yn allweddol i'n galluogi ni i ddatblygu hynny. Ond mae hi'n iawn o ran bod y system bresennol wedi methu yn ei hamcanion. Mae'r system honno'n gofyn am fuddsoddiad cyhoeddus sylweddol heb elw llawn ar fuddsoddiad y byddem ni'n ei ddisgwyl gan ein gwerthoedd cyhoeddus ni ac am wasanaethu ein cymunedau ni, a dyna pam rydym ni'n benderfynol o greu newid. Fel y dywedais, fe wrthodwyd ein llwybr cyntaf, ond mae yna ffyrdd eraill. Ac rwyf i o'r farn, os nad yw hynny'n gweithio, fod y dewis o roi mwy o swyddogaeth i Drafnidiaeth Gymru fel darparwr uniongyrchol bysiau, fel cwmni bysiau cenedlaethol embryonig i Gymru, ar gael yno'n sicr. Ond fe roddwn ni gynnig arni gyda'r llwybr partneriaeth yn gyntaf ac fe welwn ni ble'r aiff hynny â ni.
Diolch, Llywydd dros dro. Rhai cwestiynau cryno, Gweinidog, yng ngoleuni sylwadau'r Llywydd dros dro am yr amser. Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r cyfle hwn nawr am fwy o reoleiddio a chynllunio ar gyfer y gwasanaeth bysiau, ac rydym yn dymuno hynny'n fawr. Ni allaf i, er enghraifft, deithio o Donyrefail i Bontypridd heb orfod newid bysiau. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Os wyf eisiau mynd i Gaerdydd, mae'n rhaid imi fynd ar fws sy'n cymryd awr a hanner i gyrraedd yno—felly, ar adegau prysur, mae angen cael bysiau uniongyrchol, bysiau cyflym nad ydynt yn mynd o amgylch pob un arhosfan bosibl, i'ch cael chi i'r gwaith yn brydlon ac mor effeithlon ag sy'n bosibl.
A'r mater arall, wrth gwrs, fel y cafodd llawer o Aelodau'r Senedd, mae'n siŵr, yw'r sylwadau gan bobl ar eu ffordd i'r gwaith sy'n cael anawsterau i gael bysiau ar yr amseroedd iawn, sy'n mynd yn ddigon cynnar, ac yn gallu eu cludo nhw adref, i gyd-fynd â natur eu gwaith—llawer o waith lletygarwch, er enghraifft—sy'n gweithio ar oriau lletchwith iawn. Tybed beth fydd y mecanwaith ar gyfer ymdrin â'r enghreifftiau a'r sylwadau hynny gan gymunedau lle gwyddom y gellid cael gwasanaeth bws integredig gwell na'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd. Beth fyddai'r mecanwaith ar gyfer sicrhau bod gan gymunedau lais gwirioneddol yn y mathau o wasanaethau bysiau y maen nhw'n dymuno eu cael?
Wel, o ran y pwynt olaf hwnnw, rydym yn datblygu modelu soffistigedig o'r rhagolygon ac ar gyfer profi senarios i ganiatáu i ddyfarniadau sy'n seiliedig ar ddata gael eu rhoi o ran lle i gyfeirio buddsoddiadau a lle mae bylchau yn y ddarpariaeth. Mae hwnnw'n rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio arno, a dyna pam rydym yn awyddus i symud ymlaen at ddarparu'r gwasanaethau hyn ar sylfaen ranbarthol, oherwydd mae hynny'n rhoi'r cyfle gorau am ddull gweithredu cydgysylltiedig ac i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Yn amlwg, mae cynnwys cymunedau yn hynny yn bwysig ac mae gan Trafnidiaeth Cymru gnewyllyn o weithwyr allgymorth cymunedol proffesiynol sy'n gyfrifol am wneud y cysylltiadau hynny. Ac mae hwnnw'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei glywed, drwy dasglu'r Cymoedd—yr angen i bobl deimlo bod y system yn gweithio er eu mwyn nhw. Ac, mewn llawer gormod o achosion, nid yw'n gwneud hynny.
Rwy'n credu fod yna—. Mae yna gwestiwn i bob Aelod yma, oherwydd rwy'n credu bod pob un ohonom yn dymuno cael mwy—mwy o bopeth—ac mae'r sefyllfa a wynebwn o ran cyllid cyhoeddus yn un ddifrifol ac nid yw'n debygol o wella'n fuan iawn. Rydym yn gweithio ar strategaeth drafnidiaeth i Gymru, rydym yn gobeithio ei chyhoeddi o fewn y chwe mis nesaf, ac mae angen i honno gyflawni'r agenda datgarboneiddio a nodwyd gennym. Ond mae hwn hefyd yn gwestiwn i bob un ohonom ni o ran ble rydym ni am rannu'r adnoddau sydd gennym rhwng y ffyrdd, y rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol. Beth yw rhaniad priodol y gwariant, ar sail y modd sydd gennym ni? Nawr, ar hyn o bryd, mae'r swm yr ydym ni'n ei wario ar fysiau yn llai na'r gyfran foddol. Hynny yw, pe byddech chi'n rhannu'r deisen yn dameidiau yn ôl niferoedd y teithwyr sy'n defnyddio darnau arbennig, ac yna pa ganran o'r deisen honno a roddir i bob dull, mae'r bysiau yn cael eu tanwasanaethu ar hyn o bryd ond mae'r rheilffyrdd yn cael eu gorwasanaethu, a hynny'n ddramatig. Wyddoch chi, mae'r rheilffyrdd yn rhywbeth—rydym ni i gyd yn frwd am gael system reilffyrdd sy'n fodern. Mae'r rheilffyrdd yn ddrud iawn ac yn cario nifer gymharol fechan o deithwyr, o'i gymharu â'r swm o arian a roddwn iddo. Yn yr un modd, rydym wedi bod yn gwario'n helaeth ar y ffyrdd ers blynyddoedd lawer, sydd wedi amddifadu mathau eraill o drafnidiaeth o'r buddsoddiad sydd ei angen arnynt ar gyfer rhoi dewis amgen i hynny sy'n realistig.
Felly, rwy'n credu bod angen i bob un ohonom, wrth inni wynebu datblygu'r strategaeth drafnidiaeth honno a gwneud penderfyniadau cyllidebol yn seiliedig arni wedyn, wynebu'r ffaith, os ydym ni'n dymuno gweld y math o system drafnidiaeth gyhoeddus y mae Mick Antoniw yn sôn amdani, yna mae angen inni baratoi i wneud y dewisiadau ynghylch ble y dylai'r adnoddau fynd.
Ac yn olaf, Jack Sargeant.
Diolch, Llywydd dros dro, a diolch, Gweinidog. Gweinidog, fel y gwyddoch, rwy'n angerddol iawn dros Lywodraeth Cymru yn cyflawni metro'r gogledd-ddwyrain, ac mae bysiau'n mynd i chwarae rhan annatod yn hynny. Mae fy nghymunedau eisiau cael bysiau er mwyn pobl, nid er mwyn gwneud elw. Felly, Gweinidog, sut y bydd eich rheolau newydd yn gwrthdroi'r rheini a osodwyd gan y Torïaid, a ddinistriodd ein cymunedau gwledig, ac yn sicrhau bod lleoedd fel Treuddyn a Phen-y-ffordd a Chaergwrle yn cael y bysiau a'r llwybrau bysiau y mae trigolion eu hangen i fyw eu bywydau bob dydd?
Wel, yn gryno, dyma'r trafodaethau yr ydym yn eu cael gyda'r diwydiant nawr. Rwy'n credu, o naws y datganiad y prynhawn yma, ein bod yn anfon neges gref atynt nad yw'n ddigon da bellach i ofyn am fwy o arian a bob tro yr ydym yn gofyn am rywbeth yn gyfnewid am hynny, i ddweud wrthym i neidio i mewn i lyn, sydd wedi digwydd yn ystod rhai o'r sgyrsiau yr ydym wedi'u cael gyda rhai o'r gweithredwyr. Mae honno'n berthynas sydd wedi newid ac y mae angen iddi barhau i newid. Disgwyliwn i'n hamcanion gael eu cyflawni ar gyfer yr adnoddau a roddwn i mewn. Erys cymhlethdodau deddfwriaethol, oherwydd materion masnachol a yrrir gan y farchnad yw'r rhain o hyd, yn ôl y gyfraith, ac, er bod hynny'n dal i fod ar y llyfr statud, mae'n cyfyngu ar ein gallu i gyflawni popeth yr ydym eisiau ei gyflawni. Ond rydym yn benderfynol o ddefnyddio'r dulliau o ddylanwadu sydd gennym i gael y canlyniad gorau posibl ar gyfer yr amcanion a rannwn.
Diolch, Gweinidog.
Cyhoeddir eitem 6 fel datganiad ysgrifenedig.
Symudwn at eitemau 7 ac 8, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan yr eitemau hyn, rheoliadau diogelu iechyd 2020, yn cael eu grwpio ar gyfer dadl ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Gallaf weld nad oes gwrthwynebiad, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Cynnig NDM7435 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2020.
Cynnig NDM7434 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2020.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n cynnig y ddwy set o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol a gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi. Unwaith eto, cyflwynwyd y rheoliadau hyn o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein camau parhaus i fynd i'r afael â'r bygythiad gwirioneddol a pharhaus a achosir gan y coronafeirws.
Gwnaed Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 ar 9 Hydref a daethant i rym ar 12 Hydref. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020. Maen nhw'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gau mangreoedd, gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â defnyddio'r fangre, mynd i'r fangre neu nifer y bobl yn y fangre, neu i wahardd digwyddiadau neu fathau penodol o ddigwyddiadau rhag digwydd, neu i osod cyfyngiadau neu ofynion o ran cynnal y digwyddiadau, mynediad at y digwyddiadau, neu nifer y bobl sy'n mynychu'r digwyddiadau, a chyfyngu ar fynediad i fannau awyr agored cyhoeddus neu eu cau drwy gyhoeddi cyfarwyddiadau mannau cyhoeddus.
Wrth wneud y rheoliadau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i bryderon a fynegwyd gan amrywiaeth o awdurdodau lleol ynghylch y pwerau sydd ar gael iddynt. Mae'r rheoliadau'n ehangu pwerau awdurdodau lleol i wneud cyfarwyddiadau mannau cyhoeddus i'w galluogi i osod gwaharddiadau, gofynion neu gyfyngiadau o ran gweithgareddau a gynhelir mewn man cyhoeddus, gan gynnwys yfed alcohol. Mae'r pŵer cyfarwyddiadau mannau cyhoeddus ehangach hwn yn ategu'r cyfyngiadau ar werthu alcohol a gyflwynwyd yng Nghymru ar 24 Medi. Bydd yn helpu awdurdodau lleol i atal pobl sy'n yfed alcohol rhag casglu mewn ardaloedd dynodedig o ganlyniad i gau safleoedd trwyddedig yn gynharach. Gwyddom fod ymddygiadau o'r fath yn cynyddu'r risg o drosglwyddo'r coronafeirws, gan fod yfed alcohol yn arwain at lai o gadw pellter cymdeithasol ac yn gwneud gorfodi'n fwy anodd.
Bydd Aelodau'n ymwybodol, pan fydd awdurdod lleol yn cyhoeddi cyfarwyddyd, ei bod yn ofynnol iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted â phosibl. Rhaid i hyn gynnwys copi o'r cyfarwyddyd, y rheswm dros gyhoeddi'r cyfarwyddyd, y lleoliad neu'r ardal y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi, y sefydliadau a'r grwpiau o bobl y disgwylir i'r cyfarwyddyd hwnnw effeithio'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol arnynt, y rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy ar y penderfyniad ynghylch y cyfarwyddyd, y dyddiad a'r amser y daw'r cyfyngiad i rym, a'r dyddiad a'r amser y daw'r cyfyngiad i ben.
Gwnaed Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 ar 9 Hydref, a daethant i rym ar 10 Hydref. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r prif reoliadau, sydd bellach yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Diwygiwyd y prif reoliadau a ddaeth i rym ar 8 Medi 2020 i gyflwyno cyfyngiadau ynglŷn ag ardal diogelu iechyd leol. Erbyn hyn mae 16 o ardaloedd diogelu iechyd lleol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau hyn yn ymestyn cyfyngiadau i ardal diogelu iechyd leol arall, sy'n cynnwys wyth ward etholiadol yn ardal Bangor yng Ngwynedd. Mae'r cyfyngiadau a gyflwynir yr un fath â'r rhai sy'n berthnasol mewn ardaloedd diogelu iechyd eraill. Yn benodol, mae'r rheoliadau'n darparu na ellir trin unrhyw aelwyd o fewn yr ardal honno fel rhan o aelwyd estynedig, ac mae'n gwahardd ffurfio aelwyd estynedig gan aelwyd o'r fath; maen nhw'n gwahardd bobl sy'n byw yn yr ardal honno rhag gadael neu aros i ffwrdd o'r ardal honno heb esgus rhesymol; maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i drigolion yr ardal honno weithio gartref os yw'n rhesymol ymarferol iddynt wneud hynny; ac maen nhw'n gwahardd pobl o'r tu allan i'r ardal honno rhag dod i mewn i'r ardal heb esgus rhesymol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ymagwedd ofalus sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ymdrin â chlefyd y coronafeirws, gan gynnwys ein gofyniad ffurfiol i adolygu'r angen am gyfyngiadau perthnasol a'u cymesuredd bob 21 diwrnod. Mae pob un o'r rheoliadau sy'n ymwneud ag ardaloedd diogelu iechyd lleol yn cael eu hadolygu bythefnos ar ôl eu cyflwyno, a phob wythnos wedi hynny os bydd y cyfyngiadau'n parhau am gyfnod hwy na hynny.
Ddoe roedd hi'n amlwg pa mor ddifrifol yw pandemig y coronafeirws pan gyhoeddodd y Prif Weinidog ein penderfyniad ddoe i gyflwyno cyfnod atal byr o bythefnos i ddechrau am 6 p.m. ddydd Gwener yma gan ddod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd. Gobeithio y cawn gyfle i drafod hynny'n fanylach yn ddiweddarach heddiw. Er hynny, gofynnaf i Aelodau, at ddibenion y rheoliadau sydd ger ein bron heddiw, wneud ein rhan i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Credaf fod angen y rheoliadau hyn yn ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig. Gofynnaf nawr i'r Senedd eu cefnogi.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd dros dro. O ran eitem 7 ac eitem 8 gyda'i gilydd, fe wnaethom ystyried y ddwy set o reoliadau yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiadau wedi'u gosod gerbron y Senedd i gynorthwyo'r ddadl heddiw.
Os caf, fe wnaf ymdrin â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 yn gyntaf. Roedd ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys un pwynt adrodd technegol a phum pwynt adrodd ar sail rhagoriaeth. Mae'r pwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at broblem bosibl o ran eglurder y gyfraith. Mae rheoliad 2(2) yn cyfeirio at adran etholiadol 'Menai'. Mae Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002 yn nodi bod mewn gwirionedd dwy adran etholiadol ym Menai, Menai Bangor a Menai Caernarfon, ac er y gallai ymddangos yn amlwg o ddarllen y rheoliadau diwygio annibynnol mai Menai Bangor yw'r adran etholiadol sydd i'w hystyried yma, gan fod yr enw Bangor wedi'i gynnwys yn enw'r rheoliadau diwygio, gall fod yn llai amlwg wrth ystyried y prif reoliadau ar eu pen eu hunain. Mae potensial hefyd ar gyfer dryswch a dyblygu yn y dyfodol pe bai adran etholiadol Menai Caernarfon yn destun cyfyngiadau yn y dyfodol. Mae'r un mater yn codi yn fersiwn Gymraeg y rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ein pryderon, ac mae'r afreoleidd-dra wedi'i gywiro yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020, a wnaed ar 16 Hydref 2020.
Mae ein pwynt rhagoriaeth cyntaf yn ymwneud â chyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Rydym wedi adrodd am gamgymeriad yn y disgrifiad o erthygl 11 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn y memorandwm esboniadol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn nodi y bydd y camgymeriad yn cael ei gywiro. Fel gyda nifer o reoliadau y mae'r Senedd wedi'u hystyried yn ystod y misoedd diwethaf, mae ein hail bwynt rhagoriaeth yn nodi na fu ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau hyn. At hynny, nododd ein trydydd pwynt rhagoriaeth nad oes asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau hyn. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn unol â rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Nodwn fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi asesiad effaith integredig o gyfyngiadau cynulliad cymdeithasol maes o law. Yn ein pedwerydd pwynt rhagoriaeth, gwnaethom ailadrodd ein barn, lle mae cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu tynhau mewn unrhyw ffordd arwyddocaol, y dylai memoranda esboniadol nodi'r dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arni wrth benderfynu bod tynhau o'r fath yn angenrheidiol ac yn gymesur.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn nodi mwy o dystiolaeth, ac rydym yn croesawu hynny. Mae'n dweud, pan sefydlwyd ardal diogelu iechyd leol ardal Bangor, fod tuedd gynyddol o ran cyfraddau saith diwrnod treigl o achosion o COVID-19 yng Ngwynedd; roedd Gwynedd yn parhau i fod â mwy na 50 achos i bob 100,000; fodd bynnag, nododd ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y gyfradd o achosion ym Mangor yn uwch o lawer, ar 318 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bryder mwyaf y tîm rheoli achos lluosog sef bod cyfradd achosion o tua 390 o achosion i bob 100,000 mewn cymunedau myfyrwyr ym Mangor. Argymhelliad clir y tîm rheoli achos lluosog oedd sefydlu parth diogelu iechyd lleol ar gyfer Bangor yn unig. Credwn y bydd darparu'r dystiolaeth hon yn helpu tryloywder ac yn helpu'r Senedd i graffu ar reoliadau coronafeirws.
Mae ein pwynt rhagoriaeth terfynol yn tynnu sylw'r Senedd at y ffaith bod y rheoliadau hyn wedi dod i rym cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rydym wedi nodi, yn unol â gofynion Deddf Offerynnau Statudol 1946, fod llythyr y Prif Weinidog at y Llywydd, dyddiedig 9 Hydref 2020, wedi cadarnhau'r ffaith hon ac yn cynnwys esboniad bod hyn yn angenrheidiol ac yn gyfiawn o ystyried y dystiolaeth newidiol ar risg o ran clefyd y coronafeirws. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru ddarparu rhagor o fanylion am y dystiolaeth hon yn ei hymateb i'n hadroddiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod o'r farn bod y cynnydd yn yr achosion a ddisgrifir yn ei hymateb i'n pedwerydd pwynt adrodd yn dangos ac yn cyfiawnhau'r angen i'r rheoliadau ddod i rym cyn gynted â phosibl.
Gan droi nawr at y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020, mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys dau bwynt rhagoriaeth. Nododd y pwynt cyntaf gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol ac mae'n tynnu sylw at baragraffau perthnasol yn y memorandwm esboniadol cysylltiedig. Mae ein hail bwynt adrodd unwaith eto'n tynnu sylw at y ffaith na fu ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau hyn. Diolch, Llywydd dros dro.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddwy set o reoliadau y prynhawn yma. Mae eitem Rhif 7 ar yr Agenda yn gamau synhwyrol, os ydych yn rhoi'r awdurdod hwn i awdurdodau lleol gau lleoedd ond hefyd yn cynnig y gallu i bobl sy'n dod o dan y rheoliadau hyn apelio i lys ynadon, fel y deallaf, a hefyd os oes angen i'r rheolau a rheoliadau ddod i ben ar ôl saith diwrnod, yna mae'r ddarpariaeth ar gyfer tynnu'r rheoliadau hynny ymaith yn ymddangos yn gamau synhwyrol.
Mae'r ail bwynt am Fangor, yr ail reoliad y byddwn yn pleidleisio arno'r prynhawn yma, yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w wneud. Maen nhw wedi'i ddefnyddio yn Llanelli a chredwn ei fod yn gam gweithredu synhwyrol o ran Bangor, o ystyried nifer yr achosion o'r haint ym Mangor. Ac felly, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddwy set o reoliadau sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.
Mi fydd Plaid Cymru yn atal pleidlais ar y rheoliadau yn ymwneud â Bangor, yn fy etholaeth i. Doedden ni ddim yn gwrthwynebu eu cyflwyno nhw, ond mi oedden ni'n anfodlon efo'r materion cyfathrebu a'r diffyg cyfathrebu lleol o gwmpas y broses o'u cyflwyno nhw. Mae angen cyfathrebu llawer cliriach efo cymunedau lleol, fel y rhai ym Mangor, os bydd angen cyfnodau clo lleol eto i'r dyfodol. Mae amgylchiadau wedi newid erbyn hyn, ond mae yna wersi pwysig i'w dysgu, dwi'n credu.
Hoffwn i dynnu sylw at bwynt 5 yn y memorandwm esboniadol, sydd yn sôn am ymgynghori ac yn dweud na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau ar gyfer wyth ward Bangor. Rŵan, dwi'n derbyn nad oes amser i ymgynghori'n ffurfiol mewn argyfwng, ond dwi yn meddwl bod gwersi i'w dysgu yn sgil y ffordd y cafodd y cyfyngiadau a'r angen am gyfyngiadau eu cyfathrebu i'r boblogaeth leol. A dwi yn credu bod angen cyflwyno protocolau arbennig er mwyn sicrhau gwell cyfathrebu efo arweinwyr cymunedol lleol.
Yn achos Bangor, ni chafwyd dim cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorwyr sir yr wyth ward, na'r cynghorwyr dinas, a'r unig beth gefais i fel yr Aelod o'r Senedd, a'r Aelod yn San Steffan, oedd galwad ffôn chwarter awr cyn i Weinidog o'r Llywodraeth ddatgan ar y teledu fod y cyfyngiadau i ddod i rym, a hynny mewn llai na 24 awr. Roedd hynny'n arwain at bob math o broblemau i etholwyr a oedd yn naturiol yn troi at eu harweinwyr cymunedol am wybodaeth, ond doedd y wybodaeth honno ddim gennym ni. Petaem ni wedi cael ein briffio ymlaen llaw, hyd yn oed wyth awr ymlaen llaw, fe fyddem ni wedi gallu helpu i osgoi llawer o'r dryswch a'r penbleth.
Yn achos Bangor, roedd llawer iawn yn cwestiynu pam gadael un ward gyfan, sy'n cynnwys talp o'r ddinas, allan o'r ardal diogelu iechyd. Dwi'n cymryd bod yna resymeg i hynny, ond chefais i ddim esboniad, a dwi ddim wedi cael esboniad hyd heddiw ynglŷn â hynny. Mi fyddai cynnwys ward Pentir wedi gwneud synnwyr, oherwydd byddai wedi cynnwys y ddinas gyfan o fewn yr ardal diogelu iechyd a hefyd wedi cynnwys rhan wledig, sydd yn cynnwys darn o lwybr yr arfordir yn ogystal â mannau gwledig, a fyddai wedi bod ar gael i etholwyr y ddinas sydd wedi gorfod cael eu cyfyngu i ardal ddaearyddol drefol heb fawr ddim o ardaloedd gwyrdd ynddi hi. Dwi'n cymryd bod yna esboniad gwyddonol pam ddim cynnwys ward Pentir, ond heb wybod yr esboniad, sut mae modd i arweinwyr lleol drosglwyddo'r wybodaeth honno? A heb y wybodaeth, dryswch sydd yn digwydd ac amheuaeth, ac yn y pen draw mae hynny'n arwain at lai o gydymffurfiaeth, a chydymffurfiaeth ydy yr hyn rydym ni yn chwilio amdano fo, wrth gwrs.
Felly, dwi'n tynnu sylw Llywodraeth Cymru at hyn ar lawr y Senedd heddiw er mwyn ichi fedru gweithredu, er mwyn cael gwell cyfathrebu a chyfathrebu clir wrth inni symud ymlaen. Gobeithio eich bod chi'n talu sylw i'r sylwadau hyn. Y pwrpas ydy cynorthwyo'r Llywodraeth i wella protocolau cyfathrebu wrth inni symud i'r cyfnod nesaf, a hynny er mwyn cael gwell cydymffurfiaeth yn y pen draw.
A'r Gweinidog i ymateb.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau. Rwy'n falch o nodi sylwadau Cadeirydd y pwyllgor craffu am welliannau o ran darparu gwybodaeth a data sy'n sail i'r dewisiadau y mae Gweinidogion yn eu gwneud.
Rwy'n falch o weld y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddwy set o reoliadau. Ac mewn ffordd gwbl adeiladol i ateb y pwyntiau a godwyd gan Siân Gwenllian, ac yn arbennig y pwynt am gyfathrebu lleol, oherwydd yr ydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella'r ffordd yr ydym nid yn unig yn gwneud penderfyniadau, ond wedyn yn eu cyfleu hefyd. Wrth ddod i'r penderfyniadau hyn, ym mhob un dewis yr ydym wedi'i wneud, rydym wedi siarad ag arweinydd yr awdurdod lleol a'i brif weithredwr. Gwnaethom yr un peth ym mhob un o'r ardaloedd yn y de, gwnaethom yr un peth ym mhob un yn y gogledd, ac yn wir yn sir Gaerfyrddin hefyd. Felly, mae Gweinidogion yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag arweinydd yr awdurdod lleol, ac mae'n deg dweud bod gan bob awdurdod lleol, gan gynnwys Gwynedd, uwch swyddog—yn achos Gwynedd, y cyfarwyddwr corfforaethol, rwy'n deall—sy'n cymryd rhan yn y tîm rheoli achos lluosog, ac maen nhw'n gwneud argymhellion ynghylch pa un a ddylid gweithredu ynghyd â lledaeniad a natur y camau gweithredu hynny hefyd. Felly, roedd y cyngor, mewn gwirionedd, yn rhan o'r broses cyn gwneud penderfyniadau.
Nawr, dydw i ddim yn meddwl mai mater i Weinidogion Cymru wedyn yw ceisio cyfarwyddo'r ymgysylltu â chyngor y dref nac ag aelodau unigol o'r cyngor, ond mae a wnelo â sut yr ydym yn gweithio gyda phob un o'n hawdurdodau lleol i ddeall sut mae angen i'r cyfathrebu hwnnw ddigwydd, a sut y caiff gwybodaeth ei chasglu ac yna ei lledaenu. Rydym wedi mynd ati ein hunain i geisio sicrhau bod Gweinidogion a swyddogion wedyn yn siarad â chynrychiolwyr etholaethau cyn i benderfyniadau gael eu gwneud fel nad yw pobl yn cael gwybod yn uniongyrchol gan y cyfryngau am y dewisiadau sy'n cael eu gwneud.
Derbyniaf pam y byddai'n ddefnyddiol i'r Aelod lleol fod wedi cael sesiwn friffio—credaf mai wyth awr ymlaen llaw oedd yr awgrym—ond mae arnaf ofn nad yw'n adlewyrchu realiti cyflymder yr argymhelliad na'r angen i wneud penderfyniadau. Ac mae'n wir hefyd bod yn rhaid i ni brofi bob un o'r argymhellion, yna deall a fydd Gweinidogion yn gweithredu ar argymhellion ai peidio, neu a ydym yn teimlo bod angen i ni eu profi a'u hanfon yn ôl. Mae hynny'n cynnwys maint ac arwynebedd y lle i gyflwyno cyfyngiadau ai peidio. Felly, mae arnaf ofn, yng nghanol yr holl ansicrwydd yr ydym yn byw ynddo, dydw i ddim yn credu y byddwn ni'n gallu darparu'r math o sesiwn friffio ymlaen llaw y mae'r Aelod yn gofyn amdano gyda'r amserlen sydd ar gael. Petaem yn gallu gwneud penderfyniadau'n gynharach bob dydd, byddai'n rhoi mwy o amser i ni siarad â chynrychiolwyr lleol, oherwydd, fel y dywedais, rydym eisiau dod o hyd i ffyrdd o wella'r modd yr ydym yn gwneud penderfyniadau a'r ffordd yr ydym wedyn yn eu cyfleu.
Rydym yn mynd i gyfnod nawr lle bydd gennym set wahanol o reoliadau cenedlaethol gyda'r cyfnod atal byr. Er ei fod yn gwbl bosibl, wrth gwrs, yn y dyfodol, yn y byd y tu hwnt i'r cyfnod atal byr, y bydd angen i ni gael cyfyngiadau lleol penodol. Mae'n gwbl bosibl; gallai fod achosion hyperleol a fyddai'n gofyn am y gweithredu lleol penodol hwnnw. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y bydd angen i ni ddychwelyd ato ac rwy'n cydnabod bod ei sylwadau'n cael eu rhoi mewn ysbryd adeiladol a bwriedir i'm hymateb i fod felly hefyd.
Fel ag erioed, mae ein dull gweithredu yn parhau i gael ei lywio gan gyngor y prif swyddog meddygol, ein swyddogion gwyddonol, ein cell cyngor technegol, y grŵp cyngor technegol, a'r astudiaeth a wnânt o dystiolaeth yng Nghymru, ledled y DU a gweddill y byd. Credwn eto fod y rheoliadau hyn yn gamau penodol a chymesur i'w cymryd mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr achosion a welwn mewn rhannau penodol o'n gwlad.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud dewisiadau, i ddilyn y mesurau, y gyfraith a'r canllawiau i helpu i'n cadw ni, ein hanwyliaid a'n cymunedau yn ddiogel rhag y feirws heintus a niweidiol hwn. Nodyn atgoffa terfynol i gadw pellter oddi wrth ein gilydd pan fyddwn allan ac yn sicr i osgoi cyswllt yn ein cartrefi ein hunain, i ddilyn y rheolau ynghylch pwy sy'n cael ei wahardd o'ch cartref eich hun, i olchi ein dwylo'n aml, i weithio gartref os gallwn, i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ac mae angen i ni aros gartref os oes gennym symptomau ac aros am ganlyniad, ac, fel y dywedais, i ddilyn y cyfyngiadau sydd ar waith yn lleol. Gofynnaf i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron y prynhawn yma.
Diolch, Gweinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf Aelod yn gwrthwynebu, ac felly gohiriaf bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Unwaith eto, gwelaf Aelodau'n gwrthwynebu, a gohiriaf bleidleisio o dan yr eitem hon hefyd tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 9 yw Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM7436 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro. Bydd Aelodau wedi clywed Gweinidogion y Llywodraeth yn dweud yn y Senedd y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gellir cynnal etholiadau'r Senedd ym mis Mai y flwyddyn nesaf er gwaethaf yr heriau a allai godi o'r pandemig. Heddiw, o flaen y Senedd, mae deddfwriaeth alluogi i ganiatáu i'r etholiadau gael eu cynnal. Diben Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 yw rhestru swyddi a fyddai, pe bai unigolyn yn eu dal, yn anghymhwyso'r unigolyn hwnnw rhag dod yn Aelod o'r Senedd.
Daw'r cynigion o flaen yr Aelodau o ganlyniad i ymgynghori, a gynhaliwyd am 10 wythnos ac a ddaeth i ben ar 1 Medi. Roedd yr ymgynghoriad hwnnw wedi'i wreiddio yn y gwaith ar y mater hwn gan y pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y pryd, a gynhaliodd ymchwiliad i'r maes anghymhwyso hwn yn 2014, ac mae'r pwyllgor presennol yn tynnu sylw at y gwaith hwnnw, a hynny'n gwbl briodol. Mae'r Gorchymyn anghymhwyso yn parhau i adeiladu ar yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwnnw yn 2014 ac mae'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer penderfynu ar swyddi ac aelodaeth cyrff i'w cynnwys yn y Gorchymyn yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yn argymhelliad cyntaf yr adroddiad hwnnw. O ganlyniad i'r ymgynghoriad, mae nifer o swyddi wedi'u hychwanegu at y rhestr Gorchmynion anghymhwyso. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau ar ran y cyrff hynny i'w cynnwys. Mae un corff, nad yw'n bodoli bellach, wedi'i dynnu oddi ar y Gorchymyn.
Felly, mae sail y cynnig o flaen y Senedd y prynhawn yma yn caniatáu cynnal etholiadau mis Mai yn y maes hwn. Mae'r meini prawf yn cadarnhau egwyddorion cyfranogiad democrataidd a'r hawl i sefyll fel Aelod o'r Senedd. Dim ond swyddi o'r fath natur y mae angen iddynt fod yn wleidyddol ddiduedd neu a fyddai'n arwain at wrthdaro buddiannau sylweddol sydd wedi'u rhestru yn y Gorchymyn anghymhwyso gerbron Aelodau y prynhawn yma. Gwahoddaf y Senedd i gymeradwyo'r cynigion.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd dros dro. Gwnaethom ystyried y Gorchymyn drafft yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf. Fel bob amser, mae ein hadroddiad ar gael i Aelodau drwy'r agenda heddiw, a bydd aelodau'n gweld bod ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt rhagoriaeth. Mae'r pwynt rhagoriaeth cyntaf yn tynnu sylw at waith y pwyllgor blaenorol, fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi sôn—ffaith a gydnabyddir hefyd yn y memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r Gorchymyn drafft. Mae'r memorandwm yn tynnu sylw at y ffaith bod Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad wedi cynnal ymchwiliad yn 2014 i'r rheolau ynghylch anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Senedd. Gwnaeth yr adroddiad hwnnw 21 o argymhellion i Lywodraeth Cymru a chynnig ailwampio'r fframwaith deddfwriaethol sy'n ymwneud ag anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Senedd. Mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015, a thrwy ymgynghori ar y Gorchymyn drafft hwn, 2020, nodwyd ei bod yn parhau i anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw. Roedd y meini prawf ar gyfer penderfynu pa swyddi a oedd i'w cynnwys yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodwyd yn adroddiad Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad, gyda rhai ystyriaethau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi nodi bod yr un meini prawf wedi parhau i gael eu defnyddio ar gyfer y Gorchymyn drafft. Mae ein hail bwynt rhagoriaeth yn nodi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a gynhaliwyd ar y Gorchymyn drafft yn ystod yr haf ac mae'r swyddi newydd dilynol sydd wedi'u hychwanegu at y Gorchymyn drafft fel swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso. Mae'r swyddi newydd hyn sydd wedi'u hanghymhwyso yn cynnwys ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, y Comisiynydd Gwybodaeth, comisiynwyr ac aelodau bwrdd anweithredol Comisiwn y Gyfraith, comisiynwyr y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, a'r Ombwdsmon Penodiadau ac Ymddygiad Barnwrol. Diolch, Llywydd dros dro.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau'n nodi eu bod yn dymuno siarad. Prif Weinidog, wn i ddim a oes gennych unrhyw beth arall i'w ychwanegu, o ystyried yr hyn y mae Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adrodd arno.
Yn syml hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor a phawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad, ac i hysbysu'r Senedd, os derbynnir y cynnig heddiw, y gellir cyflwyno'r Gorchymyn i'w wneud yn ddwyieithog yng nghyfarfod y Cyfrin Gyngor ym mis Tachwedd, gyda'r bwriad iddo ddod i rym ar 12 Tachwedd.
Diolch, Prif Weinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 yw Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i gynnig y cynnig—Eluned Morgan.
Cynnig NDM7437 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig yn ffurfiol y rheoliadau sydd ger ein bron ni heddiw. Dwi'n argymell bod y Senedd yn cefnogi Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020, ac rwy'n gofyn yn ffurfiol i Aelodau gefnogi'r rheoliadau ger eu bron.
Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn gosod cyfyngiadau ar ysmygu ar dir ysgolion, ar dir ysbytai, mewn meysydd chwarae cyhoeddus, ac mewn lleoliadau gofal awyr agored i blant. Bydd y rheoliadau hyn yn ategu'r darpariaethau hynny fel y'i nodir ym Mhennod 1 o Ran 3 y Ddeddf, ac hefyd yn disodli Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007. Gyda'i gilydd, bydd darpariaethau Deddf 2017 a rheoliadau 2020 yn cyflwyno trefn ddi-fwg newydd yng Nghymru gyda'r nod o ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag mwg ail-law, a fydd, gobeithio, yn helpu i ddadnormaleiddio ysmygu ymhellach. Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymrwymo i gymryd camau yn erbyn ysmygu a gwneud newidiadau parhaol a chadarnhaol gyda'r nod o wella iechyd pobl Cymru. Mae rheoliadau 2017 wedi dangos effeithiolrwydd polisïau di-fwg wrth ddadnormaleiddio ysmygu.
Nod y ddeddfwriaeth yma yw adeiladu ar ein mesurau rheoli tybaco presennol, gan wneud rhagor o fannau cyhoeddus yn rhai di-fwg, a lleihau cyffredinrwydd ysmygu yng Nghymru ymhellach. Diben y gofyniad o dan y rheoliadau hyn am dir ysbyty di-fwg yw hybu newid mewn ymddygiad, a helpu ysmygwyr sy'n defnyddio ein gwasanaethau ysbyty i roi'r gorau iddi. Mae cyfyngu ar ysmygu yn yr ardaloedd hyn a lleihau ysmygu yn cael eu gweld yn gosod esiampl bositif, ac mae'n hanfodol er mwyn atal mwy o bobl rhag dechrau ysmygu. Felly, mae'r rheoliadau hyn yn cynorthwyo gyda'n huchelgais i gyflawni Cymru ddi-fwg.
Ers gosod y rheoliadau, rŷn ni wedi cael gwybod am ddau gywiriad bychan, anweithredol sydd angen eu gwneud i'r rheoliadau drafft. Gan dybio bod y rheoliadau'n cael eu pasio, gwneir y mân newidiadau hyn cyn gwneud y rheoliadau. Diolch, Llywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd dros dro. Ystyriwyd y rheoliadau hyn gennym yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf, ac ystyriwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'n pwyntiau adrodd yn ystod ein cyfarfod fore ddoe. Mae ein hadroddiad yn cynnwys tri phwynt adrodd ar ragoriaeth.
Mae'r pwynt rhagoriaeth cyntaf yn nodi pryder nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chyfiawnhad dros ymyrryd ag erthygl 8 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Credwn fod y rheoliadau'n cynnwys erthygl 8 o'r confensiwn, sef yr hawl i fywyd preifat. Mae hon yn hawl gymwysedig, a dylai Llywodraeth Cymru nodi ei chyfiawnhad dros unrhyw ymyrraeth bosibl â'r hawl honno. Mae Adran 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn darparu bod mangreoedd yng Nghymru yn ddi-fwg os ydynt yn weithleoedd, sy'n cynnwys anheddau penodol. Mae'r rheoliadau'n dileu eithriadau ar gyfer mathau penodol o weithgareddau gwaith o'r asesiad pa un a yw annedd yn weithle at ddibenion adran 7. Effaith dileu'r eithriadau hyn yw y bydd pob math o weithgareddau gwaith yn cael eu cynnwys wrth asesu a yw annedd yn weithle, ac felly bydd yn ofynnol i fwy o'r anheddau hyn fod yn ddi-fwg.
Yn yr un modd, mae'r rheoliadau hefyd yn darparu y bydd cerbydau preifat yn ddi-fwg pan fydd plentyn yn y cerbyd, ac yn y ddwy sefyllfa hyn, mae'r rheoliadau'n effeithio ar sut mae pobl yn ymddwyn yn eu heiddo preifat. Mae ein hadroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi sut y mae o'r farn bod y rheoliadau hyn yn cydymffurfio ag erthygl 8 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mewn ymateb, mae'r memorandwm esboniadol wedi'i ddiwygio i ddweud bod asesiad trylwyr iawn o'r darpariaethau yn y rheoliadau hyn wedi'i gynnal i sicrhau eu bod yn gydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Fodd bynnag, rydym yn gwneud y pwynt y byddai'n fwy defnyddiol pe bai'r memorandwm esboniadol wedi'i ddiweddaru i gynnwys gwir fanylion yr asesiad trylwyr hwn.
Mae ein hail bwynt rhagoriaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod croesgyfeiriadau yn y rheoliadau at ddarpariaethau Deddf 2017 nad ydynt mewn grym eto. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i ni yn nodi, yn amodol ar ganlyniad y ddadl heddiw, y bydd ail Orchymyn cychwyn yn cael ei wneud a fydd yn cychwyn y darpariaethau sy'n weddill ym Mhennod 1 a Rhan 3, ac Atodlenni cysylltiedig o Ddeddf 2017, ar 1 Mawrth 2021. Byddai hyn yn golygu y gallai'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r drefn ddi-fwg newydd o fewn Deddf 2017 weithredu'n sylweddol o 1 Mawrth 2021 ochr yn ochr â'r rheoliadau.
Nododd ein trydydd pwynt adrodd fod angen hysbysu'r UE ynghylch y rheoliadau yn unol â gofyniad cyfarwyddeb safonau a rheoliadau technegol 2015/1535/EC, ac na wnaed unrhyw wrthwynebiadau gan aelod-wladwriaethau i reoliadau drafft 2020. Diolch, Llywydd dros dro.
Pe gallwn ofyn am bwynt o eglurder gan y Gweinidog pan fydd yn ymateb i'r ddadl hon. O ran meinciau Ceidwadwyr Cymru, mae gennym bleidlais rydd ar y mater hwn. Fel rhywun sydd wedi colli dau unigolyn i ganser yr ysgyfaint—dau unigolyn annwyl iawn i ganser yr ysgyfaint—ni allaf weld dadl gydlynol o ran ysmygu, ond derbyniaf fod canran benodol o bobl mewn cymdeithas yn dewis ysmygu, ac os ydyn nhw'n dewis ysmygu yn eu lle eu hunain yn eu hardaloedd preifat neu eu lle preifat, heb effeithio ar rywun arall, yna rwy'n credu bod ganddynt yr hawl i wneud hynny. A dyma'r anhawster sydd gennyf gyda'r rheoliadau hyn. Byddwn yn ddiolchgar am esboniad—ac rwy'n siŵr y byddai Aelodau eraill ar feinciau'r Ceidwadwyr a gobeithio y byddai Aelodau eraill o'r Senedd yn ddiolchgar am esboniad—ynghylch i ba raddau y mae'r rheoliadau hyn yn treiddio i mewn i'r mannau preifat hynny. Clywsom Gadeirydd y pwyllgor materion cyfansoddiadol a chyfreithiol yn crybwyll anheddau a gweithleoedd yn ei sylwadau, yn enwedig yr effaith ar hawliau dynol. Felly, nid wyf yn sôn am hyn fel rhywun sy'n gwadu effeithiau ysmygu, oherwydd credaf yn angerddol fod angen i ni ddileu ysmygu, ond rwy'n credu'n angerddol yn hawl unigolion i arfer eu disgresiwn eu hunain yn eu lle eu hunain—eu mannau preifat. Sylwais nad oedd y Gweinidog yn cyfeirio at hynny yn ei sylwadau agoriadol. Cyfeiriodd yn bennaf at ysbytai a mannau cyhoeddus eraill lle yr ydym i gyd yn cefnogi ceisio gwahardd ysmygu yn y mannau cyhoeddus hynny. Felly, pe gallem gael yr eglurder hwnnw gan y Gweinidog yn ei sylwadau ymateb, fe fyddwn yn ddiolchgar iawn.
Cyn i mi alw ar John Griffiths, a wnaiff fy sicrhau ei fod wedi bod yn bresennol drwy gydol y ddadl hon, os yw eisiau cael ei alw? Oherwydd nid oedd eich fideo ymlaen.
Dirprwy Lywydd, oeddwn.
Felly, cewch siarad. Galwaf ar John Griffiths.
Diolch yn fawr iawn. Mae cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwahardd ysmygu ar dir ysbytai yng Nghymru â'r potensial i chwarae rhan bwysig o ran lleihau cyffredinrwydd ysmygu drwy ddadnormaleiddio ysmygu ac annog ysmygwyr i roi'r gorau iddi, a chredaf fod yr un peth yn wir am y posibiliadau o wahardd ysmygu ar dir ysgolion a meysydd chwarae mewn parciau, ac, yn wir, llawer o leoedd eraill. Gobeithio y byddwn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma.
Ond, rwy'n credu, os ydym ni, fel gwlad, am fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn, mae'n bwysig iawn sicrhau bod cymorth i roi'r gorau i ysmygu ar gael yn rhwydd yn yr ysbytai hynny i gleifion sydd eisiau rhoi'r gorau iddi. Gwyddom fod miloedd o bobl yn marw o glefyd sy'n gysylltiedig ag ysmygu yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae'n achosi tua un o bob chwech o'r holl farwolaethau ymhlith pobl 35 oed a throsodd. Felly, mae'n un o brif achosion afiechyd, ac mae angen i ni atal hyn a helpu ein GIG sydd dan bwysau. Wrth gwrs, nawr mae gennym COVID-19, a gwyddom fod ysmygu'n ffactor risg arall i bobl os cânt y cyflwr hwnnw.
Felly, mae angen mawr eisoes i ddarparu cymorth i roi'r gorau i ysmygu i ysmygwyr sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, gan roi cyfle euraidd i weithwyr meddygol proffesiynol dargedu'r ysmygwyr hynny sydd angen y cymorth i roi'r gorau i ysmygu fwyaf. Gwn fod yr ymchwil gan ASH Cymru wedi dangos bod cefnogaeth gyhoeddus ysgubol i fesur o'r fath, gyda, fe gredaf, tua 75 y cant o oedolion yng Nghymru yn cefnogi cynnig cymorth i ysmygwyr sy'n aros yn yr ysbyty i roi'r gorau i ysmygu. Mewn lleoedd fel Manceinion, mae wedi gweithio'n dda iawn, wrth gwrs—dyna ichi brosiect CURE mewn triniaeth gofal eilaidd yng Nghanada, a adnabyddir fel model Ottawa ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu—o dan y prosiect hwnnw, cynigir gwasanaethau disodli nicotin a gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu eraill ar unwaith ochr yn ochr â'r driniaeth y mae arnynt ei hangen, a hefyd, ar ôl eu rhyddhau.
Felly, rwy'n credu, fel rhan o'r mesurau hyn yr ydym yn bwrw ymlaen â hwy, a gobeithio, y cynnydd y byddwn yn ei wneud, mae'n bwysig ystyried y posibiliadau hyn, y dulliau hyn, oherwydd profwyd eu bod yn gweithio mewn mannau eraill. Pan fydd pobl yn yr ysbyty, rydych chi'n gwybod, mae'n amlwg eu bod ar gael yn rhwydd; mae'n rhoi cyfle a, gobeithio, eu bod yn barod i wrando ar y negeseuon pwysig iawn hyn.
Diolch. Rwy'n atgoffa'r Aelodau ar Zoom bod yn rhaid i chi droi eich fideo ymlaen os ydych eisiau sicrhau y cewch eich galw; ni allwch ragdybio caredigrwydd y Cadeirydd yn unig, er y caiff ei arfer, mae'n siŵr, pan fo'n briodol. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb.
Diolch yn fawr. Dwi eisiau jest ymateb yn glou i'r bobl sydd wedi cyfrannu. Diolch yn gyntaf i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaethol, a diolch am gydnabod ein bod ni wedi dangos yn ein hesboniad ni ein bod ni yn cydymffurfio â deddfwriaeth ryngwladol. Mae'n bwysig tanlinellu nad yw ysmygu yn hawl ddynol, ac, wrth gwrs, mae'n bwysig bod pobl yn deall hynny. Rŷn ni yn gwybod bod ysmygu yn niweidiol iawn i iechyd pobl. Mae ysmygu yn un o brif achosion salwch a marwolaeth gynnar, ac yn achos sylweddol o anghydraddoldebau iechyd yn ein cymunedau ni.
Jest i ymateb yn gyflym i Mr Davies: jest i fod yn glir, nid yw'r mesurau rŷn ni'n dod ger eich bron chi heddiw yn effeithio ar fannau preifat. Beth rŷn ni'n sôn amdanynt fan hyn yw ysbytai, llefydd cyhoeddus—meysydd chwarae cyhoeddus, er enghraifft—a dyw hyn ddim yn amharu ar fannau preifat pobl. Jest i ategu'r hyn yr oedd Mr Griffiths yn ei ddweud ynglŷn â'r help y mae angen ei roi i bobl sydd eisiau stopio ysmygu, mae eisiau canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r ffaith bod gwasanaeth gyda ni, Help Me Quit, sydd wedi bod yn gweithredu drwy gydol y pandemig. Rŷn ni'n ymwybodol bod lot o bobl eisiau rhoi'r gorau i ysmygu yn ystod y pandemig yma.
Rŷn ni wedi gweld lleihad yng nghyffredinrwydd ysmygu yng Nghymru, ond rŷn ni'n ymwybodol bod rhagor i'w wneud. Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o'n camau parhaus ni i wneud Cymru yn ardal ddi-fwg, lle nad yw ysmygu yn cael ei wneud fel gweithgaredd arferol bellach, a lle bydd pobl yn cael eu cefnogi i wneud y dewisiadau cadarnhaol yna er eu lles a'u hiechyd nhw. Felly, dwi'n gofyn i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn, a dwi'n cytuno ei bod hi'n angenrheidiol i wella iechyd y cyhoedd a bywydau pobl Cymru. Diolch yn fawr.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A gawsom—? [Gwrthwynebiad.] Rwyf wedi gweld gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae cynnig nawr i atal y Rheolau Sefydlog, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NNDM7442 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM7441 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 20 Hydref 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigwyd yn ffurfiol.
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Felly, y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, bydd y Rheolau Sefydlog yn cael eu hatal i alluogi'r ddadl, a fydd yn digwydd ar ôl seibiant byr i ganiatáu newid yn y Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:02.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:07, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 3 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 4, 5 ac 8 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 2, 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r ddadl ar y coronafeirws. Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NNDM7441 Rebecca Evans, Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd
1. Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;
2. Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;
3. Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am bleidleisio i ganiatáu i'r ddadl heddiw gael ei chynnal, ac i Blaid Cymru am y trafodaethau a arweiniodd at destun cynnig y Llywodraeth sydd ger ein bron.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe y bydd cyfnod atal byr yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o 6.00 p.m. y dydd Gwener hwn. Rydym ni'n wynebu sefyllfa eithriadol o ddifrifol. Mae'r feirws yn lledaenu'n gyflym ym mhob rhan o Gymru. Mae graddfa dreigl saith diwrnod nifer yr achosion ar gyfer Cymru bellach yn fwy na 130 o achosion wedi'u cadarnhau fesul 100,000 o bobl. Mae cyfradd ein profion cadarnhaol bron yn 12 y cant ledled Cymru, ac yn anffodus mae ffydd uchel bod y feirws wedi sefydlu ledled y wlad yn y Gymru drefol a gwledig. Mae angen yr ymyriad ar ffurf y cyfnod atal byr hwn er mwyn helpu i ddod â'r coronafeirws yn ôl dan reolaeth. Os na weithredwn ni, mae perygl gwirioneddol y bydd ein GIG yn cael ei lethu. Mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty, sydd â symptomau coronafeirws, yn cynyddu bob dydd. Mae ein hunedau gofal critigol eisoes â mwy o gleifion ynddyn nhw na'u capasiti arferol. Capasiti arferol yng Nghymru yw 152 o welyau gofal critigol. Ddoe, roedd gennym ni 167 o welyau gofal critigol yn cael eu defnyddio. Roedd mwy nag un o bob pedwar o'r gwelyau hynny yn gofalu am gleifion COVID. Heb weithredu, ni fydd ein GIG yn gallu gofalu am y nifer gynyddol o bobl sy'n mynd yn ddifrifol wael. Bydd llawer mwy o bobl yng Nghymru yn marw o'r clefyd hwn.
Mae adroddiad y gell cyngor technegol a gyhoeddwyd ddoe yn nodi ein bod ar hyn o bryd yn tracio'r achos gwaethaf rhesymol, gan dybio y bydd 18,000 o bobl yn yr ysbyty a 6,000 o farwolaethau oherwydd COVID yn ystod y gaeaf hwn. Mae'r cyngor gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn rymus, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen eu hadroddiad. Nid yw'r dystiolaeth sy'n cefnogi'r adroddiad hwnnw yn wan, fel y mae rhai wedi ei honni. Mae'r dystiolaeth yn glir, ac mae Gweinidogion wedi gweithredu yn wyneb y niwed cynyddol gan y coronafeirws i helpu i gadw Cymru yn ddiogel. Bydd y cyfnod atal byr yn darparu ergyd fer a sydyn, i helpu i droi'r cloc yn ôl, arafu'r feirws, ac i roi mwy o amser i ni. Bydd yn gyfle amhrisiadwy i atgyfnerthu ein system brofi, olrhain a diogelu sydd eisoes yn effeithiol. Felly, rydym ni'n gweithredu nawr, drwy'r gwyliau hanner tymor, i leihau'r effaith ar addysg, gyda chyfyngiadau symud yn cael eu gweithredu dros ddwy wythnos waith a thri phenwythnos.
Rydym ni wedi penderfynu mai cyfnod atal byr a llym yw'r dewis gorau ar gyfer lleihau niwed. Po hwyaf y mae'r cyfyngiadau ar waith, y mwyaf yw'r effeithiau economaidd, cymdeithasol ac ar lesiant. Mae'r cyfyngiadau mor llym â phosibl er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar iechyd y cyhoedd. Rhwng dydd Gwener, 23 Hydref a 9 Tachwedd, bydd yn ofynnol i bawb yng Nghymru aros gartref. Mae hyn yn golygu gweithio gartref pryd bynnag y bo modd. Yr unig eithriadau fydd gweithwyr allweddol a swyddi pan nad yw gweithio o gartref yn bosibl. Bydd pob busnes manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth nad yw'n hanfodol yn cau. Bydd canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu hefyd yn cau. Bydd addoldai ar gau heblaw am ar gyfer angladdau neu seremonïau priodas.
Rydym wedi blaenoriaethu plant a phobl ifanc yn ein dewisiadau. Wrth wneud hynny, rydym wedi rhoi ystyriaeth i gyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y bydd cadw ysgolion ar agor yn lleihau niwed tymor byr a hirdymor. Fodd bynnag, mae hynny'n golygu bod Gweinidogion wedi gorfod gweithredu i gau'r rhan fwyaf o weithleoedd eraill a chyfyngu ar ymweliadau cymdeithasol er mwyn lleihau cyswllt a thorri'r cadwyni trosglwyddo. Rydym wedi ceisio lleihau'r tarfu ar addysg plant a phobl ifanc. Felly, bydd ysgolion cynradd ac arbennig yn dychwelyd fel arfer ar ôl wythnos gyntaf hanner tymor a bydd gofal plant yn aros ar agor drwyddi draw. Bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl hanner tymor i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 a'r rhai y mae angen iddyn nhw sefyll arholiadau. Bydd disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac uwch yn parhau i ddysgu o'u cartrefi am wythnos ychwanegol, yn yr un modd â myfyrwyr mewn colegau addysg bellach. Bydd prifysgolion yn parhau i ddarparu cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Fel pawb arall yng Nghymru, er hynny, bydd angen i fyfyrwyr aros gartref yn eu llety prifysgol.
Fel y gwyddom, mae'r coronafeirws yn lledaenu pan fydd pobl mewn cysylltiad agos â'i gilydd, yn enwedig o dan do. Oherwydd hyn, ni chaniateir i ni gwrdd â phobl dan do nad ydym yn byw gyda nhw yn ystod y cyfnod o bythefnos. Bydd oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain a rhieni sengl yn dal i gael ymuno ag un aelwyd arall o unrhyw ran o Gymru i gael cymorth. Ni chaniateir ymgasglu yn yr awyr agored; mae hyn, yn anffodus, hefyd yn berthnasol i ymgasglu ar gyfer noson tân gwyllt a Chalan Gaeaf. Gall digwyddiadau sydd eisoes wedi eu trefnu i goffáu'r cadoediad fynd yn eu blaenau gan ddilyn y cynlluniau cadw pellter cymdeithasol sydd eisoes ar waith.
Fel y byddwch wedi ei glywed mewn modd mwy manwl heddiw gan Weinidog yr economi, Ken Skates, rydym yn darparu pecyn newydd o gymorth ariannol o bron i £300 miliwn i helpu busnesau drwy'r cyfnod heriol iawn hwn. Bydd yr arian ar gael yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod atal byr a byddwn yn gweithio i ddyrannu'r arian cyn gynted ag y gallwn ni. Dylai pob busnes y mae'n ofynnol iddyn nhw gau hefyd allu cael gafael ar y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, drwy'r cynllun cadw swyddi presennol a'r cynllun cymorth swyddi newydd. Rydym ni'n cydnabod na fydd yn hawdd i fusnesau yng Nghymru gydbwyso'r ddau gynllun hynny, ac fel y clywsom ni yn gynharach heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at y Canghellor i ofyn iddo roi mynediad cynnar i fusnesau Cymru at y cynllun cymorth swyddi newydd ac estynedig o ddydd Gwener ymlaen, ac rydym wedi cynnig darparu cyllid i wneud hynny'n bosibl.
Gallaf, serch hynny, sicrhau'r Aelodau y bydd ein gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol yn parhau i drin a gofalu am bobl â chyflyrau ac anghenion eraill yn ystod cyfnod y cyfnod atal byr. Cyngor ein prif swyddog meddygol yw nad oes angen i'r rhai hynny sy'n glinigol agored i niwed fabwysiadu mesurau gwarchod llym unwaith eto yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r rheoliadau eu hunain yn gweithredu i leihau cylchrediad y feirws, a thrwy gadw at y rheolau yn llym, bydd pobl sy'n agored i niwed yn lleihau eu risg o ddod i gysylltiad ag ef. Rwy'n ymwybodol bod rhai yn dadlau y gallem ni ailgyflwyno gwarchod yn rhan o becyn i amddiffyn pobl rhag niwed ac osgoi mesurau ar gyfer y gymuned gyfan. Nid yw hynny'n adlewyrchu realiti'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, sut y mae'r firws yn lledaenu, na sut yr ydym ni'n tarfu ar y cadwyni trosglwyddo. Fel y mae adroddiad y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ddoe yn ei wneud yn glir, nid oes yr un wlad wedi llwyddo i gyfyngu eu hepidemig i grwpiau oedran risg is; nid ydym yn credu y byddai dull gwarchod yn gyntaf mor effeithiol â chyfnod atal byr a diwallu'r anghenion sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.
Bydd y cyfnod atal byr yn dod i ben ar 9 Tachwedd. Mae'n bwysig bod yn glir nad yw'r effaith gadarnhaol o ran lleihau trosglwyddo yn debygol o gael ei gweld ar unwaith ar ddiwedd y cyfnod atal byr. Disgwylir i'r gostyngiad yn y trosglwyddiad y bydd y cyfnod atal byr hwn yn ei gyflawni ddod i'r amlwg ddwy i dair wythnos yn ddiweddarach. Rwy'n gwybod ein bod eisoes wedi gofyn llawer iawn gan bobl Cymru. Cadarnhaodd adroddiad y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a gyhoeddwyd ddoe fod y cyfyngiadau lleol sydd ar waith wedi arwain at arafu sylweddol yn y don bresennol o'r pandemig, ond mae angen i ni wneud mwy o hyd. Er hynny, pe na byddai pobl wedi gwneud y cyfraniad y maen nhw eisoes wedi ei wneud, byddem ni mewn sefyllfa lawer gwaeth erbyn hyn. Ac rwyf eisiau diolch i bob person ledled Cymru sydd wedi dilyn y mesurau lleol sydd ar waith i amddiffyn ffrindiau, teuluoedd, anwyliaid a'u cymuned.
Ar draws y Llywodraeth rydym ni nawr yn bwriadu gweithio i gytuno ar drefniadau y bydd eu hangen yn y dyfodol i sicrhau'r enillion yn sgil y cyfnod atal byr, a byddwn ni'n nodi y rheini yn y dyddiau nesaf. Y cyfnod atal byr hwn yw ein cyfle gorau i adennill rheolaeth dros y feirws ac osgoi cyfyngiadau cenedlaethol llawer hwy a mwy niweidiol. Mae'n rhaid i bob un ohonom ni chwarae ein rhan yn awr i gadw Cymru yn ddiogel. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron ni heddiw.
Rwyf wedi dethol pedwar o'r wyth gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), dwi ddim wedi dethol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones, gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton, na gwelliannau 6 a 7, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Galw nawr ar Paul Davies i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Paul Davies.
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y tueddiadau diweddar yn nifer yr achosion o ganlyniad positif mewn profion COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda COVID-19.
2. Yn mynegi siom ynghylch methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod cyfnod atal byr ar gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n angenrheidiol.
3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr effeithir yn andwyol arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles.
4. Yn croesawu'r cymorth ariannol digynsail gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4 biliwn i helpu i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull mwy penodol o ymyrryd.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. A gaf i ddweud, o'r cychwyn cyntaf, ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn dal i fod yn agored ein meddyliau am unrhyw gyfyngiadau symud ychwanegol? Ond, cyn gweithredu cyfyngiadau symud cenedlaethol, mae angen arfarniad gonest o'r mesurau presennol, darlun llawn o'r holl ddata sy'n cyfiawnhau pam mae angen y cyfyngiadau symud, ac mae angen pecynnau cymorth cryfach ar waith ar gyfer busnesau, sefydliadau ac unigolion.
Nawr, fe wnaethom ni gefnogi'r cyfyngiadau symud cenedlaethol blaenorol, a, phan rydym ni wedi bod o'r farn bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gymesur a bod ganddi achos cyfiawn, rydym ni wedi cefnogi ei rheoliadau coronafeirws. Byddem ni'n gwneud hynny unwaith eto pe byddai'r dystiolaeth ar gael a bod angen gwneud hynny. Nawr, fel y dywedais yn gynharach yn y Siambr hon wrth y Prif Weinidog, mewn llawer o'r 22 o ardaloedd awdurdod lleol mae nifer yr achosion fesul 100,000 yn gostwng. Am y rheswm hwnnw, ac oherwydd nad oes gennym ni y darlun llawn o ddata ar gael o hyd, rwy'n credu bod angen mwy na dull un trefniant ar gyfer pawb arnom ni i fynd i'r afael â'r feirws hwn yn ein cymunedau. Mae angen dull ac ymyrraeth wedi eu targedu yn well o lawer arnom ni. Nawr, rwy'n deall bod Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r diwedd wedi penderfynu cyhoeddi data cymunedol ar gyfer pob rhan o Gymru y prynhawn yma, ac rwy'n croesawu hynny yn fawr. Fel y dywedais yn gynharach heddiw hefyd, dylid cyhoeddi data demograffig a data trosglwyddo penodol hefyd, a mawr obeithiaf y bydd yr wybodaeth honno'n cael ei chyhoeddi hefyd.
Nawr, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at y papur modelu a ysgrifennwyd gan yr Athro Graham Medley a chydweithwyr, sy'n nodi'r sefyllfa waethaf y gellid ei disgwyl, ond efallai nad yw'r papur yn ystyried ffactorau hollbwysig fel lefelau cefnogaeth y cyhoedd, ac mae'n dweud mewn gwirionedd am gyfnod clo llym, ac rwy'n dyfynnu,
'nid yw'n fesur rheoli parhaol, ond mae'n rhoi mwy o amser i roi rheolaethau eraill ar waith i bob pwrpas; mae'n mynd â ni "yn ôl i adeg pan oedd nifer yr achosion yn is"'.
Dyna ddiwedd y dyfyniad. Felly, mae'n hanfodol, os yw'r cyfyngiadau symud hyn i fod yn effeithiol, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mesurau difrifol ar waith yn ystod y cyfnod cloi a dweud wrthym ni beth fydd y mesurau hynny. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfnod cloi hwn i gryfhau'r system olrhain cysylltiadau, er nad ydym ni eto wedi clywed unrhyw fanylion pellach am ba gamau pellach a gaiff eu cymryd yn ystod y cyfnod clo i arwain at unrhyw newid ystyrlon. Dengys ystadegau diweddar fod gwerth llai nag un diwrnod a hanner o gapasiti GIG Cymru wedi ei ddefnyddio mewn wythnos gyfan, gydag ychydig dros 20,000 o brofion yn cael eu cynnal, ac mae'r Aelodau eisoes yn ymwybodol bod profion Cymru yn dibynnu'n ormodol ar Lighthouse Labs y DU, a dim ond 31 y cant o brofion sy'n cael eu dadansoddi mewn labordai yng Nghymru. Felly, mae'n gwbl glir nad oes digon o brofion yn cael eu cynnal ar gyfer system effeithiol o dracio ac olrhain, ac mae'r ffigurau yn awgrymu y byddai angen i Gymru gynyddu'r profion i 36,000 y dydd i olrhain heintiau. Bu sôn hefyd am recriwtio mwy o staff a chyflymu'r broses o weithredu ysbytai maes, ond, unwaith eto, heb fawr o fanylion. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, yn ei ymateb, yn darparu rhai o'r manylion hynny y prynhawn yma. Efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym ni hefyd pa asesiad sydd wedi ei wneud o effaith rhai ymyraethau wedi'u targedu sydd wedi eu cynnal hyd yma yng Nghymru.
Llywydd, mae'r Aelodau i gyd yn ymwybodol o'r effaith sylweddol y bydd cyfnod clo Llywodraeth Cymru yn ei chael ar bob rhan o gymdeithas. Mae effaith y cyfyngiadau symud cyntaf yn dal i gael eu teimlo gan lawer, ac mae Aelodau o bob plaid wleidyddol yn y Siambr hon wedi sôn am effaith cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl a lles pobl, ac mae'n bwysig bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, y gwnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa fesurau cymorth newydd a fydd yn cael eu rhoi ar waith o ddydd Gwener ymlaen i sicrhau y gall unrhyw un sydd angen cymorth gael gafael ar y cymorth hwnnw.
Wrth gwrs, byddai cyfnod clo ar draws Cymru gyfan yn cael effaith andwyol benodol ar fywoliaeth a swyddi ledled Cymru. Gydag oddeutu 250,000 o weithwyr, mae gan Gymru a'r Alban gyfran uwch o weithwyr a gyflogir mewn diwydiannau yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan gyfyngiadau symud, o'i gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, pe byddai dim ond un o bob pedwar o'r gweithwyr hyn yn colli eu swyddi, byddai'n golygu y gallai diweithdra yng Nghymru gynyddu i lefel uwch nag a welwyd yn y dirwasgiad diwethaf.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi taliad untro o £1,000 i bob busnes sy'n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, ac y bydd cwmnïau manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig eu maint sy'n cael eu gorfodi i gau yn cael taliad untro o hyd at £5,000, nid yw hynny'n mynd i fod yn ddigon i helpu i ddiogelu cynaliadwyedd cynifer o fusnesau ledled Cymru ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi sicrwydd i fusnesau ledled Cymru y bydd yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ddiogelu eu cynaliadwyedd wrth symud ymlaen.
Llywydd, rwyf wedi ceisio bod mor adeiladol ag y gallaf yn fy nghyfraniad y prynhawn yma. Fel y dywedais ar y dechrau, er ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn dal i fod â meddwl agored am y syniad o gyfnod o gyfyngiadau symud, ni allwn ni gefnogi hwn, o leiaf nid tan y byddwn wedi gweld y darlun llawn o ddata ac y gallwn ni argyhoeddi'r bobl ei fod nid yn unig yn gyfiawn, ond yn gymesur hefyd. Ond rwyf hefyd eisiau ei gwneud yn glir heddiw, o dderbyn mai dyma safbwynt Llywodraeth Cymru, ddydd Gwener, bydd y cyfyngiadau symud hyn yn cael eu cyflwyno dros dro ac, felly, er ein bod yn anghytuno â nhw, byddwn ni yn naturiol yn cydymffurfio â'r gyfraith a byddwn ni'n sicrhau bod pobl Cymru yn gwneud hynny hefyd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.
Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 4, 5 ac 8, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—Adam Price.
Gwelliant 4—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal prawf.
Gwelliant 5—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.
Gwelliant 8—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.
Cynigiwyd gwelliannau 4, 5 ac 8.
Diolch, Llywydd. Rydym ni, yn amlwg, o'r farn, o ystyried difrifoldeb difrifol y sefyllfa sy'n ein hwynebu ni yn awr, nad oes gan y Llywodraeth unrhyw ddewis heblaw cyflwyno'r mesurau a gyhoeddwyd ddoe. Nid oes gennym ni amser i'w wastraffu, a dweud y gwir, oherwydd mae'r adroddiad gan y gell cyngor technegol mor ddiamwys ag y mae'n—. Wel, rwyf eto i fyth—. Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn ysgwyd ei ben, ond ni allaf i, mewn 20 mlynedd o fywyd cyhoeddus, gofio adroddiad cynghorol i'r Llywodraeth sydd wedi bod mor glir a diamwys â hyn. Gadewch i mi ddarllen y paragraff olaf:
'Mae'r gell cyngor technegol yn argymell ystyried a gweithredu cyfnod atal cenedlaethol caled ar frys er mwyn lleihau'r trosglwyddo yn aruthrol am gyfnod o wythnosau'.
Ac yn yr adroddiad—. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch yr hyn y mae'n ei ddweud: pe na byddai'r Llywodraeth yn gwneud yr hyn y mae wedi ei gyhoeddi, yna byddai rhwng 960 a 1,300 o bobl yn marw yng Nghymru, yn ôl yr amcangyfrifon, erbyn diwedd y flwyddyn. Dyna'r pris, o bosibl, o ohirio unrhyw gamau gweithredu; byddem ni wedi hoffi eu gweld yn cael eu cymryd yn gynharach.
Wrth gwrs, mae'n wir nad oes gennym ni wybodaeth berffaith. Nid oes gennym ni dreialon rheoli ar hap ynghylch yr ymyraethau manwl, ond beth mae y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn ei ddweud? Rwyf i wedi gweld dyfyniad. Beth am i ni ddarllen yr hyn y mae y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn ei ddweud am y dystiolaeth yn llawn:
'Mae'r sylfaen dystiolaeth i effeithiolrwydd a niwed yr ymyraethau hyn yn wan ar y cyfan. Fodd bynnag, mae brys y sefyllfa yn golygu na allwn ni aros am dystiolaeth o ansawdd gwell cyn gwneud penderfyniadau.'
Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd o'n blaenau, ac mae'r gell cyngor technegol yn gwbl glir—mae gennym ni gynnydd esbonyddol mewn achosion, cyfartaledd o 4 y cant, yn ôl adroddiad y gell cyngor technegol, ac mae hynny'n parhau ac mae'n arwain at ymledu ledled Cymru, a dyna pam y maen nhw wedi dod i'r casgliad ei bod yn angenrheidiol, fel mesur o frys, i gyflwyno'r cyfnod atal byr.
Nawr, nid cyfyngiadau symud parhaus yw'r ateb. Mae'n rhaid i ni felly ailosod y strategaeth a'r polisïau, a dyna sydd wrth wraidd ein gwelliant, ac mae'n gyson â'r hyn yr ydym ni wedi ei ddweud drwyddi draw. Ni ddylem ni fod yn y sefyllfa hon. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r cyfnod hwn a myfyrio ar yr hyn sydd wedi mynd o'i le a'r hyn y gellir ei unioni.
A phan edrychwn ni ar draws y byd, wrth gwrs—a gwelsom yn yr astudiaeth yn The Lancet fis yn ôl—mae gennym ni wersi o bob cwr o'r byd y gallwn ni eu rhoi ar waith er mwyn ein hatal rhag bod yn y sefyllfa hon eto, ac, yn enwedig, gan fod un o'r gwelliannau eraill yn pwysleisio, wrth gwrs, pwysigrwydd, pwysigrwydd canolog, fel y dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd o'r dechrau, system brofi, olrhain ac ynysu a chefnogi. Mae'n rhaid i ni unioni hynny, ac mae gwersi o bob cwr o'r byd o ran sut y gallwn ni gryfhau'r system honno a sicrhau bod ganddi adnoddau digonol.
Mae angen i ni fabwysiadu strategaeth dim-COVID neu strategaeth ddileu, oherwydd, pan edrychwn ni ar draws y byd, wrth gwrs—. Edrychwch ar y sefyllfa mewn llawer o wledydd ledled y byd—Fietnam, 97 miliwn o bobl. Faint o farwolaethau yn Fietnam? Hyd yma, 35. Taiwan, 23 miliwn o bobl. Faint o farwolaethau hyd yma? Saith. Seland Newydd, sy'n gyfarwydd iawn i ni—33 o farwolaethau mewn poblogaeth o 5 miliwn. Cymharwch hynny—125 miliwn yn y tair gwlad hynny gyda'i gilydd, 75 o farwolaethau i gyd—cymharwch hynny â'r 1,700 o farwolaethau yng Nghymru. Mae gwledydd y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw, ac mae angen i ni ddefnyddio'r cyfnod hwn dros yr wythnosau nesaf i gael dadl, ie, a sefydlu system wahanol, polisi gwahanol, fframwaith gwahanol, sy'n golygu nad ydym ni'n gorfod ystyried cyfnod o gyfyngiadau symud dro ar ôl tro.
Ni ddylem ni fod yn y sefyllfa hon, ond mae'n rhaid i ni weithredu nawr, neu fel arall bydd pobl yn marw yn ddiangen. Ond gadewch i ni, yn sicr, edrych ar draws y byd ar yr hyn y mae'r Almaen yn ei wneud ar awyru, ar y polisi masgiau sydd wedi'i gyflwyno mewn llawer o wledydd, gan ymestyn ei ddefnydd, ar yr olrhain cyswllt tair haen y mae Fietnam yn ei ddefnyddio, ar bwysigrwydd cymorth ariannol ac ymarferol i helpu pobl i ynysu, ar atal digwyddiadau ymledu mawr, ar brofi cysylltiadau asymptomatig—mae llu o wersi ar gael, ac mae cyfathrebu clir a chyson yn gwbl ganolog. Gadewch i ni ddysgu'r gwersi hynny yn awr, fel y gallwn ni ddefnyddio'r wythnosau nesaf a chael ymdeimlad o genhadaeth genedlaethol, fel y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd, y Llywodraeth a'r gwrthbleidiau yn gweithio'n adeiladol, gan weithio gyda chymunedau ledled Cymru, fel y gallwn ni achub bywydau nid dim ond yn ystod y tri mis nesaf, ond ein hatal rhag bod yn y sefyllfa hon eto.
Llywydd, pan aethom ni i'r cyfnod o gyfyngiadau symud am y tro cyntaf ym mis Mawrth a phasio deddfwriaeth frys yn groes i gymaint o'n greddfau naturiol, democrataidd, dywedais bryd hynny—ac fe'i dywedaf eto nawr—wnes i ddim dod i'r lle hwn i wneud penderfyniadau felly, ond, ar adegau o argyfwng, mae'n rhaid gwneud y penderfyniadau anoddaf. Dyna yw ein dyletswydd. Mae hynny'n golygu na allwn ni guddio nac osgoi'r penderfyniadau anodd hynny. Allwn ni ddim dilyn y llif poblyddol a fyddai o bosibl yn rhoi rhywfaint o boblogrwydd tymor byr i ni gyda phobl sy'n gwrthod gwrando ar yr wyddoniaeth na chael eu harwain ganddi. Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er lles gorau pawb—dyna beth sy'n iawn ac yn briodol i'w wneud. Dyna y cawsom ni ein hethol i'w wneud, a dyna y mae ein Llywodraeth yng Nghymru wedi bod yn ei wneud.
Mae ein Prif Weinidog wedi dangos agwedd ddigyffro, pwyllog a deallus wrth ymdrin â'r argyfwng hwn. Mae'n deall y problemau, mae'n deall yr effaith ar bob un ohonom ni, ac mae wedi dangos gwerth datganoli a llywodraethu da i bawb sy'n barod i wrando. Cymharwch hynny, os gwnewch chi, â'r cawlio a'r diffyg manylion a dealltwriaeth Trumpaidd o'r argyfwng a ddangoswyd gan Brif Weinidog y DU, ac rwyf yn diolch byth ein bod ni yng Nghymru.
Felly, ar ôl bod drwy'r cyfnod anoddaf y gall unrhyw un ohonom ni ei gofio, ar yr adeg hon rwy'n gofyn i mi fy hun: beth sydd fwyaf pwysig? Ac mae'n rhaid mai'r ateb yw cefnogi'r camau hynny sy'n helpu i leihau cyfraddau heintio a helpu i achub bywydau yn fy etholaeth i a ledled Cymru, ac i wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau y gall ein GIG nid yn unig reoli'r cynnydd mewn achosion o COVID, ond y gall hefyd gynnal y cynnydd mewn gweithgarwch nad yw'n COVID sydd wedi ei ailddechrau yn y misoedd diwethaf.
Ar ôl darllen y cyngor cefndirol i'r penderfyniad hwn, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth heddiw yn ei phenderfyniad i gyflwyno cyfnod atal byr. Mae'n seiliedig ar wyddoniaeth, mae'n seiliedig ar gyngor meddygol, mae'n seiliedig ar wybodaeth o'r gell cyngor technegol. Nid yw'n osgoi yr hyn y mae'n rhaid ei wneud—mae'n gwneud y peth iawn. A dylai gwrthwynebwyr poblyddol y Llywodraeth yn rhengoedd y Torïaid Cymreig, UKIP, Brexit, Diddymu Cynulliad Cymru, y grŵp diwygio annibynnol, neu unrhyw fersiwn arall gan y rheini sy'n credu bod y byd yn wastad ac sy'n gwadu bod COVID yn bodoli, fyfyrio ar hynny.
Ond bydd Gweinidogion hefyd yn gwybod—ac rwyf i wedi bod yn glir iawn yn fy marn—bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau iechyd gyd-fynd â chymorth economaidd. Felly, rwy'n falch iawn o weld bod mesurau wedi'u cyhoeddi a fydd yn helpu i gefnogi'r busnesau hynny y bydd yn ofynnol iddyn nhw gau unwaith eto am y pythefnos nesaf. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu yn y fan yma o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddi. Maen nhw'n cymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau, ond mae angen i ni hefyd weld Llywodraeth y DU a'r Canghellor yn gwneud yr un peth. Maen ganddynt hwythau hefyd gyfrifoldeb mawr, ac mae'n rhaid iddyn nhw gynnig cymorth ychwanegol i'r gweithwyr hynny sy'n canfod eu hunain yn cael eu diswyddo am gyfnod byr neu'n cael eu diswyddo'n barhaol wrth i ni geisio cael rheolaeth dros ledaeniad y feirws hwn.
Mewn gwirionedd, nid haf o pizzas hanner pris oedd yr ymateb gorau i'r pandemig hwn. Cymorth economaidd parhaus yw'r unig bont y gallwn ni ei darparu rhwng nawr a dyfodol anhysbys. Ond mae'n amlwg bod model economaidd y degawdau diwethaf yn wynebu her ddofn yn wyneb y pandemig hwn. Ni all yr argyfwng iechyd cyhoeddus lithro i argyfwng economaidd a chymdeithasol hir, ac rwy'n credu mai dyna yw'r gwir linell sy'n ein gwahanu mewn gwleidyddiaeth gyfoes erbyn hyn. Fel Aelodau o'r Senedd, mae'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu iechyd ein hetholwyr, ond rwy'n disgwyl i'n system wleidyddol ddiogelu buddiannau cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau hefyd. Efallai ein bod ni yn ei chael hi'n anodd i ymdrin â'r feirws hwn, ond gallwn ni roi'r cymorth i bobl y mae ei angen arnynt.
I fod yn gwbl eglur: mae Plaid Cymru'n cefnogi cael y cyfnod clo dros dro yma, achos mae'n amlwg ers tro, dwi'n meddwl, fod y trywydd sydd wedi bod yn cael ei ddilyn ddim yn gweithio. Rydym ni wedi bod yn gofyn am gael pwyso reset, ac mae'r data mae'r Llywodraeth wedi'i rannu efo ni yn y dyddiau diwethaf yn cadarnhau ein bod ni'n iawn i ddweud hynny, a dwi'n ddiolchgar am y data yna sydd wedi cael ei rannu efo ni. Ond hyd yn oed wedyn, mae'n cefnogaeth ni i gymryd y cam yma, un fydd yn cael impact pellgyrhaeddol ar bobl, yn dibynnu ar nifer o elfennau.
Mi fydd Helen Mary Jones yn siarad am yr amodau economaidd, bod yn rhaid cael cefnogaeth sylweddol a chyflym i'r busnesau a'r unigolion sy'n mynd i deimlo effaith hyn—y sector dwristiaeth a lletygarwch yn un amlwg yn fy etholaeth i a llefydd eraill, ond mae yna lawr iawn o fusnesau eraill sy'n dioddef, felly mi barhawn ni i wthio am hynny.
A gaf i apelio yn arbennig yn fan hyn, plis, plis cyhoeddwch ar frys y rhestr o fusnesau a sectorau bydd disgwyl iddyn nhw gau yn llwyr? Mae M&G Windows yng Nghaergybi yn un o'r busnesau sydd wedi cysylltu heddiw i ddweud eu bod nhw wedi darllen a darllen y nodiadau esboniadol, ond dydyn nhw ddim callach eto. Felly, mae busnesau angen gwybod, ond maen nhw hefyd angen gwybod, mor fuan â phosib, nid yn unig beth fydd yn digwydd o nos Wener yma, ond beth sy'n mynd i fod yn digwydd ar ôl y cyfnod clo yma, sy'n dod â fi at brif thema fy nghyfraniad i'r prynhawn yma.
Nid ydym yn gallu ystyried y cyfyngiadau hyn ar eu pennau eu hunain. Ac fe alwodd Plaid Cymru am gyfnod atal byr cenedlaethol oherwydd ein bod ni'n gallu gweld bod angen i ni ailosod, ond ni all fod yn ailosod cylched lle'r ydych chi wedyn yn mynd yn ôl i'r un lle dro ar ôl tro yn y pen draw. Nid ydym yn gallu ymrwymo i broses gylchol, sy'n arwain at gyfnodau clo tebyg anochel yn y dyfodol, a dyna'r sail ar gyfer ein gwelliant 4. Mae'r hyn sy'n digwydd ar ôl 9 Tachwedd yr un mor bwysig, neu gellid dadlau ei fod yn bwysicach, na'r hyn sy'n digwydd yn y 17 diwrnod hynny o gyfyngiadau symud newydd.
Rydym ni wedi cyflwyno nifer o syniadau yr wythnos hon. Fe wnaethom ni ei alw yn '14 syniad ar gyfer 14 diwrnod', ond gallaf eich sicrhau, os yw cyfathrebu taclus yn bwysig, y gallwn ei wneud yn '17 syniad ar gyfer 17 diwrnod' o gyfyngiadau symud, os hoffech chi. Y pwynt yw bod angen i ni edrych ar frys ar yr holl syniadau, gan ein plaid ni ac eraill, ac o'r tu mewn i'r Llywodraeth, a all helpu i roi fframwaith cenedlaethol newydd ar waith ar gyfer y cam nesaf—cam mwy cynaliadwy, gobeithio, yn y frwydr yn erbyn y feirws hwn.
Felly, mae'n rhaid i ni gael trefn ar y drefn brofi; mae hynny'n hollbwysig. Fe wyddoch beth yw fy marn ar yr orddibyniaeth ar Labordai Goleudy. Dylem ni fod wedi meithrin ein capasiti ein hunain—capasiti y gallem ni ei reoli. Er gwaethaf addewidion, mae'r problemau hynny yn parhau: pobl yn aros pum diwrnod am ganlyniadau; pobl yn cael gwybod, yn rhan o'r broses mewn gwirionedd, y dylen nhw ddisgwyl eu canlyniadau o fewn 72 awr, ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni systemau cadarn ac mae hynny'n golygu cael canlyniadau yn ôl o fewn 24 awr, fel y gall timau olrhain ddechrau ar eu gwaith. Mae angen i ni brofi cysylltiadau asymptomatig. Mae gen i ddigon o bobl rwy'n eu hadnabod sy'n mynd ati i wneud hynny eu hunain, ac yn mynd am brawf ar ôl bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif, ond mae'n rhaid i hynny fod y norm, ac mae'n rhaid profi ymwelwyr rhyngwladol â Chymru hefyd.
Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r rhai sydd yn bositif, a'r rhai y mae'n rhaid iddyn nhw hunanynysu, wybod y byddan nhw'n cael eu cefnogi i wneud hynny. Nid ydym yn gallu bod mewn sefyllfa lle mae gan bobl gymhelliant i dorri'r rheolau i fynd i'r gwaith gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio rhoi bwyd ar y bwrdd fel arall. I wneud hyn—a dyma'r hyn yr ydym ni'n cyfeirio ato yng ngwelliant 4—mae'n rhaid i ni allu defnyddio'r capasiti sydd gennym ni yng Nghymru yn ein labordai ein hunain. Rydym ni wedi clywed Gweinidogion yn sôn am beth yw ein gallu damcaniaethol, ond nid yw profion damcaniaethol o unrhyw ddefnydd o gwbl; mae angen cynnal profion gwirioneddol ac adrodd yn ôl yn gyflym.
Beth arall? Beth am gael cynllun awyru ar waith. Mae agor ffenestr yn swnio mor, mor hawdd. Mae awyr iach yn ei gwneud yn llai tebygol o heintio. Ond mae'n rhaid cyfleu hynny yn helaeth yn rhan o strategaeth. Ac mae'n rhaid gwella cyfathrebu yn gyffredinol. Mae'n rhaid iddo fod y math o gyfathrebu y mae pobl yn ei ddefnyddio ac yn ei ddeall, sy'n torri ar draws gwirioneddau ymddygiad dynol. Fe wnes i'r achos i'r Gweinidog iechyd y bore yma: i egluro beth yw'r cyfnod atal byr; beth mae'r data yn ei ddweud wrthym; beth yw'r sefyllfaoedd yr ydym ni'n ceisio eu hosgoi; ac, yn hollbwysig, yr hyn y gall pobl ei wneud i helpu eu hunain ac i osgoi dod yn ôl i'r fan yma dro ar ôl tro.
Gadewch i ni ymestyn y canllawiau ar orchuddio'r wyneb. Ceir lleoliadau gweithle, er enghraifft, lle gellid tynhau pethau. Mae gen i ffigurau sy'n dangos bod lleoliadau gweithle, ledled y DU, yn gyfrifol am un rhan o bump neu fwy o'r trosglwyddo o hyd, felly gadewch i ni weld a allwn ni leihau'r niferoedd hynny. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos, yn anffodus, bod cartrefi gofal yn dal i fod yn agored i niwed. Mae angen tynhau pellach yn y fan yna. Ac fel yr ydym yn cyfeirio ato yng ngwelliant 8, mae'n rhaid cael dull newydd o reoli heintiau mewn ysbytai. Mae argyfwng nad yw'n ymwneud â COVID yn digwydd erbyn hyn o ran afiechydon nad ydyn nhw wedi eu trin ac mae'n rhaid datrys hyn.
Felly, i gloi, mae'r cam cywir yn cael ei gymryd i gyflwyno'r cyfnod atal byr hwn, ond bydd y feirws hwn yn dal i fudlosgi ar ôl y cyfnod hwnnw. Bydd hwn yn firws a fydd yn barod i losgi eto, felly gadewch i ni beidio â gwastraffu'r cyfle hwn.
Rwy'n siarad yn fyr i gefnogi'r prif gynnig a gyflwynwyd yn enwau Rebecca Evans a Siân Gwenllian. Mae hon yn adeg pan fo arweinyddiaeth bendant yn wirioneddol bwysig: arweinyddiaeth ar frig y Llywodraeth, arweinyddiaeth mewn pleidiau gwleidyddol, ac arweinyddiaeth gennym ni yn y cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli. Ac rwy'n cymeradwyo'r arweinyddiaeth sy'n cael ei dangos gan y Prif Weinidog a gan Lywodraeth Cymru, a gynrychiolir gan fy mhlaid i fy hun, Llafur Cymru, wrth gwrs, ond hefyd gyda chynrychiolaeth gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ac aelod annibynnol o'r Llywodraeth, sydd wedi dod i benderfyniad anodd ond ar y cyd ar y ffordd orau ymlaen i Gymru a phobl Cymru, ar sail y dystiolaeth a'r data sy'n dangos y cynnydd yn y feirws. Rwyf i'n cymeradwyo hefyd yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan gefnogaeth Plaid Cymru, wrth i'r cynnig hwn gael ei osod ar y cyd yn eu henw hwythau hefyd, gan gydnabod, fel yr ydym ni newydd ei glywed, argyfwng y sefyllfa.
At hynny, rwy'n cymeradwyo arweinyddiaeth nyrsys a meddygon ar y rheng flaen, a gweithwyr proffesiynol ac undebau cysylltiedig, sydd wedi cefnogi'r mesurau a gynigiwyd oherwydd eu bod nhw'n gwybod yn uniongyrchol am y bygythiad cynyddol i'n GIG oni bai ein bod ni'n gwyrdroi cyfeiriad y feirws hwn. Rwy'n cymeradwyo hefyd yr arweinyddiaeth unigol yng nghartrefi a gweithleoedd, teuluoedd a chymunedau mwyafrif helaeth pobl Cymru—yn fy ardal i yn Ogwr, ond ledled Cymru—sydd wedi arwain drwy esiampl. Trwy gydymffurfio â'r rheolau a'r canllawiau hyd yn hyn, maen nhw wedi helpu i arafu cynnydd a lledaeniad y feirws yn is na'r hyn yr ydym yn ei weld mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Felly, Prif Weinidog, Gweinidog iechyd ac eraill, rwy'n cefnogi'r mesurau a gynigir a'r cyfnod atal byr sydd wedi ei gwmpasu yn y cynnig sydd ger ein bron heddiw, ond wrth wneud hynny, gofynnaf i chi hefyd ystyried rhai cwestiynau pwysig. Mae'r mesurau economaidd a mesurau ariannol ychwanegol i'w croesawu'n fawr, ond tybed a wnewch chi amlinellu sut y bydd y gronfa cymorth dewisol sydd ar gael i awdurdodau lleol yn gweithio. A fydd hi ar gael yn arbennig i'r busnesau hunangyflogedig llai hynny nad ydyn nhw yn gymwys ar gyfer cymorth yn ôl y meini prawf ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes a chymorth cysylltiedig gan nad oes ganddyn nhw safle neu oherwydd eu bod yn is na'r trothwy trosiant ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd, a bennwyd ar £50,000, neu nad ydyn nhw wedi eu cofrestru ar gyfer TAW, neu eu bod yn fusnesau newydd wedi cychwyn yn gymharol ddiweddar sydd, dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, wedi gwario eu costau ar y busnes newydd ac felly nid ydyn nhw'n gallu dangos elw na throsiant uchel? Felly, a fydd y gronfa cymorth dewisol hon, yr wyf i'n ei chroesawu'n fawr, yn gallu ystyried unrhyw rai o'r entrepreneuriaid bach hyn sydd wedi llithro trwy'r rhwyd bresennol o ran cymorth busnes a swyddi? Ac os felly, beth maen nhw i fod i'w wneud a pha mor hawdd yw hi i wneud cais?
A hefyd, o ran cymorth busnes a swyddi, a yw e'n gallu parhau, yn ei swydd Prif Weinidog, i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i weithio gyda ni yng Nghymru trwy sicrhau bod cymorth swyddi ar gael mewn pryd ar gyfer ein mesurau cyfnod atal amserol? Nid ein bai ni yw hi, wedi'r cyfan, bod Prif Weinidog y DU yn gohirio ac yn petruso o ran mesurau ehangach yn Lloegr. Ond a gaf i hefyd ei annog i bwyso arnyn nhw i ailystyried lefel y cymorth i gadw swyddi, a fydd yn gostwng, fel y gwyddom, o'r lefel ffyrlo o 80 y cant i ychydig dros 67 y cant? Mae'n ymddangos nad yw Gweinidogion y Cabinet yn Llywodraeth y DU yn deall na fydd landlord yn cael 67 y cant o'r rhent, na fydd yr archfarchnad yn cael 67 y cant o'r bil cart bwyd, na fydd y cyflenwr trydan a nwy yn cael 67 y cant o'r bil ynni, na'r cwmni morgeisi yn cael 67 y cant o daliad y mis hwnnw.
Ac yn olaf ac yn hollbwysig, a wnaiff ef nodi, yn syml, yn onest, yn glir heddiw i bobl Cymru faint o ffydd sydd ganddo ef a'r Llywodraeth, os byddwn ni i gyd yn gwneud ein rhan, os byddwn ni i gyd yn cydymffurfio â'r rheolau am 17 diwrnod o'r dydd Gwener hwn am 6.00pm, y bydd hyn wir yn atal lledaeniad y feirws unwaith eto, yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y Nadolig ac o fewn golwg y flwyddyn newydd, a beth arall y gallai fod angen i ni ei wneud wedyn i fynd â ni at y Pasg ac i'r haf, a'r gobaith realistig o ymyraethau meddygol, gan gynnwys brechlynnau, a allai ein helpu i fyw gyda COVID-19 yn y dyfodol? Diolch, Llywydd.
Rwy'n codi yn bennaf i siarad ynglŷn â phwynt tri y cynnig, ac i wneud rhai pwyntiau ychwanegol ynglŷn â'r effaith ar yr economi. Ond cyn i mi wneud hynny, rwyf i'n awyddus i bwysleisio nad oes neb yn credu bod hyn yn hawdd, ac nad oes neb yn dymuno i ni fod yn y sefyllfa hon. Byddwn ni i gyd yn meddwl heddiw am bobl y byddwn yn gweld eu heisiau yn ystod y 17 diwrnod nesaf, ac i rai o'n cyd-ddinasyddion, mae hynny yn llawer iawn mwy difrifol. Ond o ran y pwyntiau y mae Adam Price ac eraill wedi eu gwneud ynglŷn â beth yw'r canlyniad i rai o'n cyd-ddinasyddion mwyaf agored i niwed os nad ydym yn gwneud hyn: a ydym ni'n barod i ddweud ein bod yn barod i aberthu bywydau y bobl hynny, eu bywydau mewn gwirionedd? Wel, nid wyf i'n gwybod am yr Aelodau eraill yn y lle hwn, ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sydd wedi ysgrifennu llawer o lythyrau yn ystod y misoedd diwethaf na fyddwn i erioed wedi dymuno eu hysgrifennu, i bobl yn fy rhanbarth i sydd wedi colli eu hanwyliaid, a dyna'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano heddiw. Rydym yn sôn am wneud penderfyniadau anodd am resymau y mae'n rhaid eu gwneud i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed hynny.
Felly, fel y dywedais i, hoffwn i siarad ynglŷn â phwynt tri, sy'n ymwneud â chymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau ac unigolion ar yr adeg hon. Wrth gwrs, hoffwn i groesawu'n fawr iawn y cyllid ychwanegol ar gyfer y gronfa cadernid economaidd—mae hynny'n bwysig iawn—ac rwy'n falch iawn o weld bod y Gweinidog wedi cytuno, mewn ymateb i sylwadau gan y ddwy brif wrthblaid, i newid defnydd y gronfa i ganolbwyntio yn fwy ar gymorth brys ac yn llai ar ddatblygu. Rydym yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd ein busnesau yn gallu datblygu, ond mae llawer ohonyn nhw yn mewn sefyllfa enbyd ar hyn o bryd—nid ydyn nhw'n gallu gwneud hynny. Ac rydym ni'n croesawu'n fawr iawn y cymorth brys sydd ar gael i fusnesau yn ystod y 17 diwrnod y mae'n rhaid i lawer ohonyn nhw fod ar gau.
Mae'n rhaid i ni, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, sicrhau bod y cymorth hwnnw yn cyrraedd pob math o fusnesau, gan gynnwys microfusnesau a gan gynnwys y rhai na chawsant eu cynnwys o'r blaen. Gobeithio mai dyna fydd diben y gronfa cymorth dewisol pan fyddwn ni'n gweld y manylion. Yn y tymor hwy, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni weld cymorth tymor hwy i sectorau penodol, fel lletygarwch, fel busnesau diwylliannol, na fyddan nhw'n gallu gwneud elw am fisoedd lawer i ddod.
Bydd pobl yn ei chael hi'n anodd iawn cydymffurfio â'r cyfyngiadau symud hyn os ydyn nhw'n dewis rhwng rhoi bwyd ar eu bwrdd a chadw eu cymuned yn ddiogel. Rwyf i eisoes wedi cael sylwadau gan unigolion y mae eu cwmnïau yn gofyn i staff deithio o Gymru i Loegr i wneud gwaith yng nghartrefi pobl. A bydd yn rhaid iddyn nhw fynd os nad oes cymorth. Bydd yn rhaid iddyn nhw fynd, oherwydd, fel y dywed Huw Irranca-Davies, mae'n rhaid iddyn nhw fynd â'u cyflog adref.
Nid wyf i'n deall pam nad yw'r Canghellor yn fodlon cyflwyno ei gynllun cymorth swyddi ar gyfer cyfyngiadau symud lleol wyth diwrnod yn gynharach—dim ond wyth diwrnod—i alluogi busnesau Cymru i ddechrau cael cymorth ar gyfer costau staff cyn gynted ag y bydd angen i ni ddechrau ar y cyfnod caeedig hwn. Wel, mae'n dangos lle mae Cymru ar restr blaenoriaethau Llywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr pe byddai'r rhain yn gyfyngiadau symud lleol yn Berkshire neu yn Surrey, y byddai'n dod o hyd i'r allwedd i'r cabinet.
Mae problemau gwirioneddol hefyd, wrth gwrs, ynglŷn â lefel y cymorth. Nid yw dwy ran o dair o'r isafswm cyflog yn ddigon i fyw arno, dim hyd yn oed am wythnos neu ddwy, a byddwn i'n gwahodd unrhyw Aelod ar y meinciau gyferbyn sy'n credu ei fod yn ddigon i roi cynnig arni. Mae'n rhaid i'r Canghellor godi yn ôl i'r 80 y cant a ddarparwyd o dan y cynllun ffyrlo blaenorol. I rai, nid oedd hynny'n ddigon. Ac os na fydd y Canghellor yn gweithredu, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gallan nhw gefnogi incwm pobl, yn enwedig ar y lefel isaf.
Ac fy mhwynt olaf, Llywydd—ac mae'n bwynt yr wyf i'n ei wneud yn wastadol—yw nad wyf yn gwybod faint mwy o dystiolaeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei dangos nad ydym ni'n gallu dibynnu ar San Steffan i flaenoriaethu anghenion Cymru. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy llafar wrth fynnu pwerau benthyca i'n galluogi ni yn y fan yma i bennu ein blaenoriaethau i roi'r cymorth i'n pobl a'n busnesau sydd ei angen fwyaf. Nid oes diben cwyno nad oes gan Lywodraeth Cymru y grym heb fynnu'r grym. Bydd yn ddiddorol gweld, wrth edrych yn ôl, am ba hyd y bydd Aelodau Llafur yn glynu wrth y chwedl o undod ledled y DU er gwaethaf y dystiolaeth ysgubol sy'n awgrymu mai'r gwrthwyneb sy'n wir.
Ond wedi dweud hynny, rwyf i yn dymuno rhoi ar gofnod unwaith eto fy niolch i Weinidog yr economi am y ffordd y mae wedi gweithio gyda mi a llefarwyr eraill yr wrthblaid yn ystod yr argyfwng hwn ac yn y cyfnod cyn y penderfyniad y bu'n rhaid i ni ei wneud heddiw. Rwyf i'n cymeradwyo y cynnig hwn a gwelliannau 4, 5 ac 8 i'r Senedd hon.
Mae'r syniad y bydd y pythefnos hwn o gyfyngiadau symud yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i gyfraddau heintiau a marwolaethau hirdymor y clefyd hwn yn amlwg yn hurt. Nid oes dim yn yr hyn yr ydym ni'n ei wybod am epidemioleg y clefyd hwn yn ystod y chwe mis diwethaf a allai gyfiawnhau y rhagfynegiadau hurt ynghylch diwedd y byd gan y modelwyr mathemategol—nid gwyddonwyr, modelwyr mathemategol—sy'n cynghori'r Llywodraeth i gyflwyno'r mesurau llym iawn hyn.
Rwy'n falch o ddweud fy mod i, drwy gydol yr argyfwng cyfan hwn, wedi bod yn gyson, o'r cychwyn cyntaf, pan ddyfynnais Dr Johan Giesecke, epidemiolegydd hynod nodedig o'r radd flaenaf a ysgrifennodd yn The Lancet ar 5 Mai fod y clefyd hwn:
bron bob amser yn ymledu oddi wrth bobl iau heb unrhyw symptomau neu symptomau gwan i bobl eraill a fydd hefyd â symptomau ysgafn... Ychydig iawn y gallwn ni ei wneud i atal y lledaeniad hwn: efallai y bydd cyfyngiadau symud yn gohirio achosion difrifol am gyfnod, ond ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio, bydd yr achosion yn ailymddangos. Rwy'n amau, pan fyddwn ni'n cyfrif nifer y marwolaethau o COVID-19 ym mhob gwlad flwyddyn i nawr, y bydd y ffigurau yn debyg, ni waeth pa fesurau a gymerwyd.
Wel, nid ydym ni flwyddyn yn ddiweddarach eto; dim ond chwe mis ydym ni, ond hyd yn hyn, y mae wedi ei brofi yn hollol gywir. Rwy'n credu bod y neges hon wedi cyrraedd rhai rhannau o'r blaid Lafur, os nad yng Nghymru, oherwydd dywedodd Syr Richard Leese, arweinydd y Blaid Lafur ar gyngor dinas Manceinion fwyaf ddoe,
Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n profi'n bositif ar gyfer y feirws yn mynd yn arbennig o sâl. Nid nhw yw'r broblem.
Felly, nid nifer yr heintiau yw'r ystadegyn cywir i ganolbwyntio arno os ydym ni'n bwriadu lleihau effaith y clefyd hwn ar y wlad. Dywedodd Syr Richard Leese ddoe:
Pe byddai'r Llywodraeth yn gwario £14 miliwn y mis yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed gallai hynny osgoi'r angen am gyfyngiadau symud Haen 3,
a honnodd y byddai hyn yn llai nag un rhan o bump o gost cau busnesau, gan eu galluogi i aros ar agor ac i'r rhan fwyaf o bobl osgoi cyfyngiadau llymach. Dyna'r agwedd aeddfed a synhwyrol sydd wedi ei seilio ar realiti, nid ar ragfynegiadau hurt sefyllfa waethaf nad ydyn nhw erioed wedi eu gweld yn unman yn y byd, hyd y gwelaf i. Mae'n un o weddillion y dyddiau pan oedd y mawreddog Athro Ferguson o goleg Imperial yn rhagweld hanner miliwn o farwolaethau o COVID yn y Deyrnas Unedig, rhagfynegiad a gafodd ei chwalu yn gyflym iawn o dan amgylchiadau braidd yn annifyr iddo ef, fel efallai y byddwn ni i gyd yn cofio.
Nid cyfnod atal byr yw'r gyfres hon o fesurau; mewn gwirionedd, llosgydd ydynt i'r busnesau a'r swyddi a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i'r newidiadau llym iawn hyn. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, dim ond 20 o achosion newydd sydd wedi digwydd. Yn ystod gwyliau'r haf pan gawsom ni dorfeydd o bobl ar eu gwyliau o rannau eraill o'r wlad, ni fu unrhyw gynnydd sydyn yn nifer yr achosion o'r clefyd. Cafwyd 600 o achosion newydd yng Nghymru ddoe ac un farwolaeth. Ar y sail honno yr ydym ni'n cyflwyno'r mesurau eithriadol hyn, nad ydyn nhw wedi eu gweld erioed o'r blaen yn ystod cyfnod o heddwch.
Cefais i gyfarfod, ynghyd ag Aelodau eraill, â bwrdd iechyd Hywel Dda ddydd Gwener diwethaf, ac yn siroedd Ceredigion, Sir Benfro a Chaerfyrddin, roedd chwe unigolyn yn yr ysbyty gyda COVID: tri yn Llanelli, tri ym Mronglais yn Aberystwyth, ac roedd un o'r tri yn Aberystwyth wedi ei drosglwyddo yno mewn gwirionedd o Abertawe. Ac mae 16 o bobl yr amheuir bod ganddyn nhw COVID. Nid yw hynny'n ymddangos i mi yn argyfwng iechyd ar y lefel yr oedd y Gweinidog iechyd yn ei nodi ar ddechrau ei araith heddiw. Yn y cyfamser, yn Hywel Dda, mae 15,800 o bobl wedi bod yn aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau difrifol, ac mae'r bwrdd iechyd 650 o nyrsys cofrestredig yn brin o'i gymharu â faint sydd eu hangen arno i ofalu am bobl yn yr ysbyty. Rydym ni'n dinistrio'r union sylfaen creu cyfoeth yn yr economi y mae'r gwasanaeth iechyd yn cael ei hariannu arni, ac os oes cymaint o frys, pam mae'n rhaid i ni aros tan ddydd Gwener cyn i'r mesurau hyn gael eu cyflwyno?
Y broblem sydd gennym ni yw mai ymarfer enfawr yw hwn lle mae Llywodraethau a chynghorwyr iechyd yn diogelu eu hunain trwy gyflwyno'r sefyllfa waethaf bosibl, ni waeth pa mor annhebygol ydyw o ddigwydd, fel na allan nhw ddweud, 'Roeddem ni'n gyfrifol am x o farwolaethau ar ddiwedd hyn i gyd.' Ond yr hyn sydd ei angen arnom ni, mewn gwirionedd, yw synnwyr o gymesuredd yn hyn i gyd, a dyna'r un peth nad oes gan Lywodraeth Cymru mohono.
O, wel, Neil, ni fydd o bwys i chi; nid ydym ni yn Wiltshire beth bynnag. Mae hwn yn fater i ni sydd, mewn gwirionedd, yn ceisio cynrychioli'r bobl a oedd yn meddwl eu bod nhw'n ein hethol ni.
Gadewch i mi ddweud hyn: pan edrychais i ar y cynnig hwn gan y Prif Weinidog, roeddwn i'n ansicr a bod yn gwbl onest. Gofynnais dri chwestiwn i mi fy hun. Y cwestiwn cyntaf oedd, 'A oes unrhyw ddewis arall?', yn ail, 'A yw'n gymesur?' ac yn olaf, 'Beth sy'n digwydd nesaf?' Darllenais y dystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Darllenais a gwrandewais ar y dystiolaeth gan y cynghorwyr arbenigol. Gwrandewais ar yr hyn yr oedd gan y prif swyddog meddygol i'w ddweud. Darllenais yr adroddiad cyngor technegol cyfan, ac fe ddes i i'r un casgliad nid yn unig â'r Prif Weinidog, ond ag Adam Price hefyd. Fel Gweinidog, rwyf i wedi darllen nifer o ffolderi penderfyniadau a ddarparwyd gan gynghorwyr, a byddwn wedi bod yn falch iawn pe byddai gennym y cyngor clir sydd wedi ei ddarparu yn y ddogfen hon. Rwyf i wedi bod eisiau cael llai o amwysedd yn aml, rwyf i wedi bod eisiau cael mwy o gyfeiriad yn aml, a phan ddarllenais y ddogfen hon, roeddwn i'n glir, yn gwbl berffaith glir yn fy meddwl, mai'r peth cyfrifol y mae'n rhaid i mi ei wneud yw cefnogi'r Llywodraeth yn yr hyn y mae'n ei wneud.
Rwyf i'n dweud hynny fel rhywun a fyddai hefyd yn siarad pe byddwn i'n meddwl ei bod yn anghywir, ac rwyf i'n dweud hynny oherwydd fy mod i'n cynrychioli'r bobl yn y gymuned hon ym Mlaenau Gwent. Mae'n rhaid i mi wneud yr hyn sy'n iawn ac yn briodol i'r bobl yn y gymuned hon ym Mlaenau Gwent. A phan fyddaf i'n cerdded i fyny ac i lawr y strydoedd yn y fan yma, mae'n rhaid i mi edrych ym myw llygaid y bobl; nid diflannu ar ôl i etholiad gael ei hymladd, anfon neges atyn nhw ar Facebook ac anghofio amdanyn nhw, ond edrych ym myw eu llygaid—edrych ym myw eu llygaid yn yr archfarchnad, yn y siopau, a siarad â phobl, a siarad ag aelodau o fy nheulu fy hun, a siarad â phobl yr oeddwn i yn yr ysgol gyda nhw, ynghylch yr effaith y mae'n mynd i'w chael ar eu bywydau. Y peth anghywir i'w wneud fyddai gwneud y peth haws a dweud, 'Rwy'n llai sicr, nid wyf i'n sicr.' Oherwydd fy mod i'n gwybod fy mod i'n siŵr bod yn rhaid i ni wneud y peth iawn a symud i'r cyfeiriad hwn.
Yn rhy aml o lawer, Llywydd, yn y ddadl hon, rydym ni wedi gweld pobl sy'n galw eu hunain yn gynrychiolwyr y cyhoedd—er na fyddai'r cyhoedd yn eu hadnabod—yn chwarae gyda gwybodaeth ffug, yn chwarae gyda newyddion ffug, yn rhoi pethau ar gyfryngau cymdeithasol, nid yn unig heb wybod a yw'n wir, ond yn gallu bod yn eithaf sicr nad yw'n wir. Heddiw, fe wnaeth dwy fil a hanner o bobl ar Twitter ailadrodd celwydd ynghylch Ysbyty Nevill Hall, gan ddweud ei fod yn wag, a bod meddygon yn chwarae golff. Mae'r math o wybodaeth sy'n mynd o amgylch ein cymunedau a'n cymdeithasau ar hyn o bryd yn beryglus iawn ac mae pobl yn mynd i farw o'r herwydd. Felly, nid oedd unrhyw ddewis arall, ac rwyf i'n gwahodd yr holl Aelodau yn y lle hwn heddiw i gefnogi Llywodraeth Cymru yn yr hyn y mae'n ei wneud.
A yw'n gymesur? Rwyf i wedi siarad â'r Prif Weinidog am rai o fy mhryderon ynghylch yr effaith ar iechyd meddwl, ynghylch yr effaith ar iechyd corfforol, cau campfeydd, ac ynghylch cau canolfannau hamdden, oherwydd bod gen i bryderon ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bobl. Mae gen i bryderon ynghylch yr effaith y bydd yn ei chael ar ddynion ifanc, na fyddan nhw'n ffonio llinellau cymorth, na fyddan nhw'n siarad â phobl am yr effaith y mae'n ei chael ar eu hiechyd meddwl. Rwy'n cydnabod grym ei ddadl mai cyfyngiadau symud byrrach, llymach yw'r ffordd orau o weithredu, ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog hefyd yn cydnabod grym fy mhwynt i ynghylch materion sy'n ymwneud ag iechyd corfforol a iechyd meddwl y bydd angen i ni fynd i'r afael â nhw wrth i ni fynd drwy'r cyfnod hwn.
Ac yn olaf, beth sy'n digwydd nesaf? Nid wyf i'n credu y gallwn ni barhau i orfodi cyfyngiadau symud, wedyn llacio, gorfodi cyfyngiadau wedyn llacio ymlaen i'r dyfodol pell, heb roi unrhyw ymdeimlad i bobl o ble yr ydym ni'n mynd. Rwy'n credu bod angen i ni ddefnyddio'r offer sydd ar gael i ni. Gallwn ni, yng Nghymru, yn fy marn i, ymfalchïo yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu'r pandemig hwn a'r argyfwng enfawr hwn. Nid ydym ni wedi cael y contractau llwgr y maen nhw wedi eu cael yn Llundain. Nid ydym ni wedi cael y methiannau pan fyddan nhw wedi rhoi swyddi i'w ffrindiau yn hytrach na rhywun sy'n gwybod sut i wneud y gwaith. Mae gennym ni drefn brofi sy'n gweithio. Mae gennym ni broses olrhain a thracio sy'n gweithio, ac mae gennym ni'r gallu i ddiogelu ein poblogaeth. Ac rydym ni'n gwneud hynny oherwydd ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd, ac rydym ni'n trefnu ac yn gweithio'r sector cyhoeddus cyfan gyda'n gilydd—llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd gwladol yn cydweithio i wasanaethu'r bobl, nid i wasanaethu eu hunain ac nid i lenwi eu pocedi. Mae'r gwahaniaeth moesol hwnnw mewn gwerthoedd, yn fy marn i, hefyd yn rhoi llwyfan i ni symud ymlaen ac edrych ymlaen, gan ddefnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael i ni, gan ddefnyddio'r dulliau a'r strwythurau yr ydym ni wedi eu creu yn ystod y misoedd diwethaf hyn, i lunio dyfodol gwahanol wrth i ni symud ymlaen, er mwyn i ni allu dweud wrth bobl, 'Ie, nid yn unig y cewch chi Nadolig, ond cewch chi fwy o obaith yn y flwyddyn newydd hefyd', bod gennym ni fodd o olrhain a thracio y feirws, gan sicrhau bod gennym ni ddull gorfodi i sicrhau ein bod ni wedyn, yn gallu cael dyfodol gwahanol iawn.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn. Ac rwy'n gwybod ei bod yn anodd, hefyd, i Aelodau'r gwrthbleidiau wneud hynny weithiau, ond rydym ni wedi gweld enghreifftiau yn y dyddiau diwethaf hyn o wrthwynebiad cyfrifol, ac rwy'n talu teyrnged i Adam Price yn y ffordd y mae wedi ymdrin â hynny. Ac yna rydym ni wedi gweld enghreifftiau o boblyddiaeth anghyfrifol a gwrthwynebiad anghyfrifol, ac rydym ni i gyd yn gwybod yr hyn a olygir wrth hynny. Pobl Cymru yw'r flaenoriaeth. Y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent yw'r flaenoriaeth, a dylem ni i gyd roi popeth arall o'r neilltu.
Rwy'n cefnogi'r mesur hwn am nifer o resymau sydd wedi cael eu hamlygu eisoes. Mae'n siom, wrth gwrs, ein bod ni'n gorfod gwneud hyn, ond mae hyn yn fesur angenrheidiol, mae'n rhywbeth brys, a dwi wir yn meddwl y dylai'r bobl sydd yn bwriadu peidio â chefnogi'r mesur yma ailystyried eu blaenoriaethau. Ddylen ni fyth bod yn ystyried unrhyw farwolaeth o COVID-19 fel rhywbeth sydd yn anochel, a dwi'n meddwl ei fod e'n eithaf sarhaus bod pobl wedi bod yn dweud rhywbeth o'r fath yma heno.
Yn fy nghyfraniad heno, dwi eisiau codi rhai materion lles, fel eu bod nhw'n flaenllaw ym meddwl y Llywodraeth. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y cynnig yn sôn am lesiant, ond byddai'n dda gosod mas rhai pethau penodol sydd eu hangen. Yr egwyddor bwysig yma ydy allwn ni ddim disgwyl i iechyd meddwl a lles pobl ymdopi yn y cyfnod clo dros dro hwn, ac i gefnogaeth fod ar gael dim ond ar ddiwedd y cyfnod. Byddai hynny ddim yn unig yn creu backlog, byddai hefyd yn esgeuluso pobl ar yr union bwynt pan maen nhw angen cefnogaeth fwyaf.
Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn gallu parhau â'u swigod cymorth yn ystod y clo yma, ac rwy'n falch y bydd yr opsiwn yma hefyd ar gael ar gyfer cartrefi un rhiant, ond gallwn ni ddim, chwaith, anwybyddu'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar les pobl, ac mae'n rhaid inni roi cefnogaeth ar waith i bobl ar frys. Bydd hyn yn cynnwys adnoddau i helpu pobl â'u hiechyd meddwl. Dylai hyn gynnwys, er enghraifft, llinell gymorth pwrpasol ac adnoddau ar gael ar-lein, gan gymryd mewn i ystyriaeth beth roedd Alun Davies yn ei ddweud ynglŷn ag efallai'r ffaith bod rhai pobl yn mynd i fod yn llai parod nag eraill i edrych mas am y cymorth yna sydd ar gael.
Dylai adnoddau hefyd fod ar gael i helpu pobl sy'n rhieni i blant ifanc ac a fydd yn gweithio o gartref yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhieni o dan gymaint o straen oherwydd maen nhw naill ai yn gorfod jyglo'r cyfrifoldebau sydd gyda nhw fel rhiant, a ddim, efallai, yn gallu gweithio cymaint ag y maen nhw eisiau, neu maen nhw'n gorfod dewis gweithio ac wedyn teimlo'n euog am y ffaith nad ydyn nhw'n treulio'r amser yna gyda'u plant. Mae hyn yn cael effaith anochel ar hwyliau pobl a'u gallu i ymdopi. Dylem ni fod yn targedu adnoddau i helpu'r grŵp hwn o bobl, oherwydd rŷm ni'n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth sydd wir, efallai, yn ymddangos yn amhosibl, a dylem hefyd fod yn gofyn i fusnesau ddatblygu canllawiau fel bod aelodau staff sydd heb gyfrifoldebau gofalu yn gallu deall y pwysau ychwanegol y mae eu cydweithwyr yn ei wynebu.
Daw hynny â mi at y bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu; pobl sy'n ofalwyr i aelodau'r teulu ac yn byw gyda'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt. Mae'r grŵp hwn o bobl eisoes wedi mynd am fisoedd heb seibiant ac mae'n cael effaith ar eu llesiant. Cyhyd ag y bo cyfleusterau canolfannau dydd ar gau, dylid sicrhau bod cefnogaeth unigol ar gael i'r teuluoedd hynny, a dylai hyn yn sicr barhau yn ystod y cyfnod clo. Mae'r adroddiad, 'Caring Behind Closed Doors', sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, yn amlygu'r effaith ddifrifol y mae'r misoedd diwethaf wedi'i chael ar ofalwyr. Mi oedd fy nghyfaill Dr Dai Lloyd wedi dweud yn gynharach heddiw fod 95 y cant o bobl yn dweud bod y misoedd diwethaf wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd, boed yn feddyliol neu'n gorfforol—dylwn i ddweud 95 y cant o'r gofalwyr. Dywedodd 66 y cant eu bod nhw'n blino'n ddi-baid. Mae angen cymorth respite ychwanegol a chymorth cynghori ar frys.
Llywydd, bydd y cyfnod hwn yn anodd i bawb, ond i rai grwpiau o bobl bydd y cyfnod hyd yn oed yn fwy heriol. Mae'n rhaid i ni adeiladu contract ymddiriedaeth gyda'r cyhoedd er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo y bydd yr aberth rŷm ni'n gofyn i bobl ei wneud—ac rwy'n cefnogi'r ffaith ein bod ni yn gwneud hyn a dwi'n meddwl ei fod yn angenrheidiol—eu bod nhw'n gallu gweld ei fod yn cyflawni rhywbeth a'u bod nhw'n teimlo'n rhan o'r penderfyniad hwnnw. Bydd cyfathrebu clir yn hanfodol er mwyn i hyn ddigwydd. Rhaid cyfathrebu ar frys ynghylch pa gymorth ariannol fydd ar gael, fel y mae Helen Mary Jones wedi gosod allan, a phryd, fel bod y rhai sy'n gorfod hunanynysu neu'r rhai sydd wedi gorfod cau eu busnesau yn teimlo bod y cymorth yna'n wastad ar gael iddyn nhw. Diolch.
Roeddwn i eisiau ymdrin yn gyflym â gwelliant 5, oherwydd rwy'n credu ei bod yn uchelgeisiol iawn i fod eisiau dileu COVID yng nghyd-destun bod yn rhan o ynys Prydain. Nid ydym ni'n debyg i Seland Newydd, sy'n ynys ar ei phen ei hun. Mae gennym ffin gwbl agored â Lloegr, ac, ar hyn o bryd, mae gennym Lywodraeth yn Lloegr nad yw'n rheoli'r sefyllfa o gwbl. Yn wahanol i Neil Hamilton a rhai o Aelodau'r Blaid Geidwadol, rwy'n llwyr gydnabod yr angen inni gael y cyfnod atal byr hwn er mwyn atal achosion o COVID rhag llethu ein hysbytai. Mae gennyf nifer o etholwyr sydd i fod i gael llawdriniaethau nad ydyn nhw'n rhai COVID yr wythnos hon; nid oes COVID arnyn nhw, ond mae ganddyn nhw gyflyrau difrifol sy'n gofyn am ymyriadau meddygol ac mae angen iddyn nhw fod mewn ysbyty. Felly, a fyddan nhw'n cael eu gyrru ymaith, ym myd Neil Hamilton, neu ai'r rheswm yw nad yw Neil Hamilton yn cydnabod bod ein holl welyau gofal critigol yn llawn nawr ac mae rhai llawdriniaethau mor ddifrifol, nad yw'n bosibl rhoi llawdriniaeth i'r unigolyn hwnnw oni bai fod gwely gofal critigol ar gael iddo pan ddaw allan o'r theatr? Rwyf eisiau gweld gwasanaeth iechyd sy'n gallu ymdopi â COVID ond sydd hefyd yn gallu parhau â gwasanaethau meddygol eraill y mae ar bobl eu hangen. Nid yw pobl yn mynd i'r ysbyty oherwydd na allan nhw feddwl am unrhyw beth gwell i'w wneud; maen nhw yn mynd i'r ysbyty oherwydd bod angen ymdrin â rhywbeth difrifol i'w galluogi i barhau i gael bywyd o ansawdd da.
Rwyf nawr eisiau ymdrin â rhan benodol o'm hetholaeth, sef myfyrwyr, oherwydd mae mwy o fyfyrwyr yn byw yng Nghanol Caerdydd nag mewn unrhyw etholaeth arall yn y Deyrnas Unedig. Mae'n wir nad yw myfyrwyr yn debygol o fod yn sâl gyda COVID oherwydd eu hoedran, ond mae'n bwysig iawn nad ydyn nhw'n ei ledaenu i'r cymunedau y mae eu prifysgolion wedi'u lleoli ynddyn nhw, ac mae'n bwysicach fyth nad ydyn nhw'n mynd ag ef adref gyda nhw i'w teuluoedd oherwydd, yn anochel, bydd eu rhieni'n llawer hŷn na nhw a byddan nhw'n llawer mwy agored i ganlyniadau difrifol COVID. Felly, mae gwir angen i fyfyrwyr feddwl am bwysigrwydd gwybod a oes COVID arnyn nhw ac yna hunanynysu hyd nes daw'r amser pan na fyddan nhw bellach yn peryglu neb arall.
Heddiw, fe es i i gampws Cyncoed Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac roeddwn i wrth fy modd o weld y gwasanaeth profi sydd wedi'i sefydlu yno, sydd wedi symud o gampws Tal-y-bont ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hwnnw'n wasanaeth pwysig iawn i'w gael, er mwyn sicrhau y bydd yr holl fyfyrwyr hynny'n cael eu profi, er mwyn sicrhau, pan fyddan nhw'n mynd o le i le na fyddan nhw'n lledaenu'r clefyd. Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n teimlo'n sâl, gallen nhw barhau i gario'r clefyd heb symptomau.
I mi, y myfyrwyr pwysicaf i boeni amdanyn nhw yw'r myfyrwyr blwyddyn gyntaf hynny sydd newydd gyrraedd yma ac ar y cyfan, heb sefydlu cylch o gyfeillion. Byddan nhw wedi cael eu dwyn ynghyd gyda myfyrwyr blwyddyn gyntaf eraill sydd wedi eu dewis ar hap, yn wahanol i fyfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn, sydd i gyd yn byw gyda phobl o'u dewis nhw ac, felly, maen nhw eisoes mewn swigen o gefnogaeth sy'n eu galluogi i ddod drwy'r unigrwydd y gallai'r myfyrwyr blwyddyn gyntaf fod yn ei ddioddef. Ond mae'r dulliau o gynnig cymorth y mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd wedi'u sefydlu i sicrhau bod bwyd yn cael ei ddarparu i'r myfyrwyr—naill ai gan wasanaeth arlwyo, yn achos Met Caerdydd, neu drwy'r archfarchnadoedd, yn achos Prifysgol Caerdydd wedi cael argraff fawr arnaf. Nid ydym ni'n gweld y problemau a gafodd myfyrwyr prifysgol eraill yn cael eu hailadrodd, pryd yr oedden nhw'n cael eu twyllo'n llwyr, yn cael eu gorfodi i dalu prisiau uchel am fwyd gwael ofnadwy. Felly, nid yw hynny'n digwydd o gwbl yn fy mhrifysgolion i, ac ym Mhrifysgol Caerdydd maen nhw mewn gwirionedd yn cael credyd o £20 os cânt eu gorfodi i hunanynysu. Yna, beth bynnag y maen nhw'n dewis ei archebu y tu hwnt i hynny, mae ganddyn nhw ddull diogel ar gyfer talu amdano heb iddyn nhw fod ar eu colled drwy dwyll ariannol.
Felly, roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn sylweddoli nad nhw yw'r grŵp mwyaf agored i niwed. Os ydyn nhw mewn sefyllfa dda, ac os gallan nhw helpu eraill sy'n llawer mwy agored i niwed yn ein cymuned—y bobl hunangyflogedig, bobl yr economi gìg, y bydd angen ein cymorth i ddarparu bwyd iddyn nhw, oherwydd nad ydyn nhw'n mynd i gael eu talu yn ystod y cyfnod hwn o bythefnos gan nad yw credyd cynhwysol yn dechrau am bum wythnos arall—os yw myfyrwyr mewn sefyllfa i wirfoddoli, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n dod ac yn ymuno â rhai o'r grwpiau gwirfoddol sy'n cefnogi pobl.
Mae obsesiwn Llywodraeth Cymru gyda'r ymgais i'n gwneud ni'n wahanol i Loegr yn ymestyn i'r hyn y mae'n ei alw y cyfyngiadau symud diweddaraf hyd yn oed. Ar ôl wythnosau o drafod ynghylch rhinweddau neu ddiffygion cyfnod clo llym i atal lledaenu, mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ei bod yn cefnogi'r fath gyfnod o gyfyngiadau, ond oherwydd ein bod ni yng Nghymru, mae'n rhaid i ni ei alw'n rhywbeth gwahanol. Felly, yn hytrach na chyfnod clo'r 'circuit-breaker', mae gennym ni gyfnod clo'r 'firebreak'. Wrth gwrs, efallai y byddai wedi bod yn fwy naturiol ei alw'n wal dân, ond gallai hynny fod wedi atgoffa pobl o bolisi ffin Llywodraeth Cymru.
Beth yw diben y cyfyngiadau symud hyn? Yng ngeiriau'r Prif Weinidog ei hun, i'n cynnal ni drwodd i'r Nadolig. Ble mae'r strategaeth yn hynny? Ar ôl gosod cyfyngiadau symud ar Gymru am gost economaidd a chymdeithasol enfawr drwy'r gwanwyn a dechrau'r haf, dim ond er mwyn gohirio heintiau tan yr hydref, bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gosod cyfyngiadau symud eto, er mwyn gohirio heintiau tan y gaeaf, pan fydd gan y GIG y capasiti lleiaf. A phwy sy'n mynd i dalu am hyn? Fel sy'n digwydd mor aml yn sgil datganoli, dywedir wrthym mai Llywodraeth y DU ddylai dalu'r bil wrth i ni arfer grym heb gyfrifoldeb. Mae yna gyfnewidiadau anodd eu gwneud yn y pandemig coronafeirws hwn, un ohonyn nhw yw cost economaidd cyfyngiadau symud o'i chymharu ag unrhyw fudd o ran iechyd. Ni ellir gwneud y cyfnewid hwnnw'n rhesymegol nac yn effeithiol pan fydd un Llywodraeth yn rheoli'r dull cyflawni economaidd a'r un arall yn rheoli'r dull cyflawni o ran iechyd, ond dyna'r hyn yr ydym ni'n ei ddioddef yn sgil datganoli. Dywedodd y Prif Weinidog ddoe,
'Dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r grym ariannol i warantu'r lefel o gymorth incwm sydd ei hangen ar weithwyr. Mae angen taliadau mwy hael arnom i helpu gweithwyr drwy'r argyfwng hwn.'
Un o ganlyniadau rhesymegol hynny yw mai Llywodraeth y DU a ddylai benderfynu a ddylid gosod cyfyngiadau ar ein heconomi ai peidio. Ond na, rhaid inni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru: gosod cyfyngiadau symud ar hyd yn oed ardaloedd â lefelau isel o heintiau, gorfodi ffin rhyngom ni â Lloegr, ac yna, yn anhygoel, mynnu bod Llywodraeth y DU yn talu amdano. Efallai y byddan nhw'n ein hatgoffa ni yn hytrach fod dull cyflawni economaidd allweddol newydd gael ei ddatganoli: y pŵer i godi cyfraddau treth incwm gymaint ag y mae Llywodraeth Cymru a'r sefydliad hwn yn ei ddymuno. Yr wythnos nesaf, bydd gennym gyfnod o gyfyngiadau symud ar gyfer Cymru'n unig; y flwyddyn nesaf, cynnydd mewn treth ar gyfer Cymru'n unig i dalu amdano. Diolch.
Yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n llwm. Mewn dim ond chwe wythnos fer iawn, rydym wedi symud o fod â lefelau isel iawn o'r coronafeirws i lefelau uchel o haint yn lledaenu'n gyflym yn ein gwlad, ac mae hyn er gwaethaf yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth y byddai'r sefyllfa a nifer yr achosion o feirysau wedi bod hyd yn oed yn waeth heb ardaloedd diogelu iechyd lleol, a mwy o farwolaethau, ac nid dim ond ymhlith yr henoed.
Fel yr Aelod o'r Senedd hon sy'n cynrychioli cymunedau Islwyn, rwy’n llwyr gefnogi cyfnod atal byr am amser penodol Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwybod bod y pandemig hwn yn dechrau cyfnod difrifol arall, a chyd-Aelodau, mae'n fwy na gwleidyddiaeth pleidiol, ond nid yw hynny'n golygu, pan fydd Llywodraeth y DU yn methu, na fyddaf i'n tynnu sylw at hynny, oherwydd mae polisïau yn bwysig ac yn gallu un ai achub bywydau neu ddod â nhw i ben. Wrth edrych o amgylch y byd gwelwn gynnydd cyflym, fel y cydnabuwyd, mewn achosion, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau ledled y byd. Mae achosion yn cynyddu unwaith eto, ac mae'r ffordd y mae Llywodraethau ac asiantaethau iechyd cyhoeddus yn ymateb yn pennu cyfraddau marwolaeth. Nid yw gwneud dim yn opsiwn.
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru yn egluro'n fanwl pam y mae Llywodraeth Cymru yn dilyn y gweithwyr proffesiynol ym meysydd gwyddoniaeth a meddygaeth, y Gell Cyngor Technegol, a SAGE—grŵp cynghori technegol Llywodraeth y DU ei hun. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae cyfradd twf achosion cadarnhaol tua 4 y cant y dydd yng Nghymru, ac mae amcanestyniadau'r sefyllfa waethaf gan y Gell Cyngor Technegol yn rhagweld 18,000 o dderbyniadau i ysbytai a 6,000 o farwolaethau oherwydd COVID-19 dros gyfnod y gaeaf. Felly, y cwestiwn mewn gwirionedd yw: a ydych chi am aros am y sefyllfa honno? Ac fel y dywedodd y meddyg o Gymru, Matt Morgan, yn gyhoeddus, rwy'n annog pobl Islwyn a Chymru i,
Ddilyn y cyngor nawr fel na fydd neb ar goll pan fyddwn ni'n cyfarfod eto.
Mae'r rheini'n eiriau difrifol iawn. Bydd y cyfnod atal byr hwn yn achub nifer sylweddol o fywydau—COVID ac eraill. Ond ar ben hynny, mae arbenigwyr yn dweud bod yn rhaid i ni fod yn barod i'r gyfradd godi ar ôl y cyfnod atal byr, oherwydd natur cyfnod magu'r clefyd, hyd yr arhosiad mewn gwelyau gofal critigol, a natur wirioneddol y feirws hwn. Ond bydd yn helpu i atal y GIG rhag cael ei lethu, ac felly bydd y cyfnod atal byr yn gwella'r capasiti ar gyfer gofal cardiaidd, strôc ac eraill nad ydynt yn gysylltiedig â COVID. Mae'n bwysig dweud nad yw'r cyfnod atal byr hwn yn ymwneud â COVID yn unig; mae'n ymwneud â'r GIG sydd ar gael i'r nifer o bobl o bob oed a chyflyrau. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'm hetholwyr yn Islwyn sydd wedi gwneud aberthau mawr a phenderfynol yn barhaus, ac wedi dilyn y rheolau lleol diweddar yn ardal bwrdeistref sirol Caerffili. Diolch yn fawr, bawb, oherwydd rydych chi'n achub bywydau, ac fel y dywed adroddiad y Gell Cyngor Technegol,
mae cyfyngiadau lleol sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi arwain at arafu ton bresennol y pandemig yn sylweddol.
Rydym wedi arafu'r lledaeniad hwnnw ar y cyd, ond mae angen inni arafu'r lledaeniad hwnnw hyd yn oed yn gyflymach, oherwydd nid arbenigwyr iechyd a meddygol yn unig sy'n dweud hyn, na'r rhai sydd wedi dod drwy'r clefyd. Yn wir, siaradodd y Prif Weinidog dros bob un ohonom, yn drawsbleidiol, mi gredaf, pan ddywedodd:
Rydym i gyd eisiau gweld diwedd ar y pandemig hwn a chael ein bywydau yn ôl.
Fodd bynnag, tan y diwrnod hwnnw, rwy'n croesawu'n fawr y broses o greu cronfa cadernid economaidd ychwanegol gwerth £300 miliwn gan Lywodraeth Lafur Cymru heddiw, ac mae'n ychwanegu £150 miliwn yn fwy at ei chronfa cadernid economaidd bresennol. Yn Islwyn bydd pob busnes sy'n gymwys ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach bellach yn cael taliad o £1,000 a bydd unrhyw fusnes manwerthu, lletygarwch a hamdden bach yn cael un taliad o hyd at £5,000. Ond dim ond Llywodraeth y DU, fel y dywedwyd, sydd â'r pŵer ariannol i warantu'r cymhorthdal incwm sydd ei angen ar weithwyr. Llywydd, mae hyn, mewn un ffordd, yn syml. Mae'n ymwneud â'r Deyrnas Unedig yn gweithio fel y dylai, bod Boris Johnson a Rishi Sunak yn gweithredu'n bendant, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, i achub gweithwyr Cymru ac economi Cymru, ac yn y pen draw gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn dinasyddion—prif ddyletswydd sylfaenol unrhyw Lywodraeth.
Dai Lloyd. Dai Lloyd, a ydych chi'n gallu dad-dawelu eich hun? Ie—Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae wastad yn werth aros, yn amlwg, cyn dechrau fy nghyfraniad.
Mae'n amser tyngedfennol, fel y mae sawl un wedi'i ddweud. Allaf i ddechrau ar y cychwyn fan hyn drwy longyfarch rhai areithiau arbennig dwi wedi'u clywed yn y ddadl yma mor belled? Wrth gwrs, Vaughan Gething, i fod yn deg—agoriad bendigedig. A hefyd Adam Price, Helen Mary Jones, Rhun, Delyth ac Alun Davies—cyfraniadau bendigedig. Buaswn i'n licio sôn am gyfraniadau rhai o'r Torïaid hefyd, ond dwi ddim yn gwybod a oes rhywun wedi siarad o'u rhengoedd nhw eto, oni bai am eu harweinydd.
Ond yn y bôn, mae hwn yn amser tyngedfennol ac rydyn ni'n wynebu argyfwng cenedlaethol, ac mae yna angen i bawb dynnu efo'i gilydd—mae hwn uwchben pleidiau gwahanol. Ac o edrych ar y cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o COVID heddiw—rydyn ni wedi clywed mai rhyw 600 o achosion COVID oedd yng Nghymru ddoe; heddiw, 1,148 o achosion newydd yn ein gwlad. Gyda'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu hanfon i'n hysbytai achos COVID, achos eu bod nhw mor sâl, a'r cynnydd diweddar yn nifer y cleifion mewn unedau gofal dwys, rydyn ni'n llawn yn barod. Dyna pam dwi'n cefnogi'r cyfnod clo dwys yma dros y pythefnos nesaf.
Dwi ddim yn gwybod a ydw i wedi crybwyll o'r blaen fy mod i wedi bod yn feddyg ac wedi cael rhyw fath o ddiddordeb yn y pethau hyn. Ond mae angen defnyddio'r amser clo yma i arfogi ac i gryfhau ein systemau. Fel rydyn ni wedi clywed, rhaid gwella profi, olrhain ac ynysu—rhaid cael canlyniadau y profi nôl o fewn 24 awr. Mae ein system gyhoeddus ni o brofi ac olrhain yn gweithio yn fendigedig—rhaid cael mwy ohono fo. Gan ddefnyddio ein gwasanaeth iechyd, labordai ein prifysgolion a'n hysbytai ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r system gyhoeddus yna'n cyflawni campweithiau dyddiol. Mae angen arallgyfeirio adnoddau ychwanegol atynt hwy yn ein gwasanaeth iechyd ac yn ein hawdurdodau lleol er mwyn mynd i'r afael efo'r olrhain, sydd yn arwain, wedyn, at yr ynysu. Mae hyn i gyd i leihau ein dibyniaeth yn y pen draw ar y system breifat Brydeinig o lighthouse labs, Serco ac ati, sydd wedi bod yn tanberfformio yn ddiweddar, a hefyd sydd ddim yn cydfynd efo'n system gyhoeddus ni pan mae'n dod i ddarganfod beth yw'r canlyniadau.
Ar ddiwedd y dydd, mae diogelu, sef hunanynysu, yn allweddol i lwyddiant hyn i gyd ac mae e'n dibynnu arnon ni i gyd. Ond hefyd, mae hunanynysu yn anodd iawn mewn tlodi—amhosib buaswn i'n ei ddweud, ac fel mae eraill wedi'i ddweud. Rhaid cael y £500 yna i'n pobl ni sydd yn gymwys i'w dderbyn o ac sydd wedi cael ei gyhoeddi eisoes.
Yn ôl at y profi—mae angen ymestyn y profi i holl staff y gwasanaeth iechyd a chysidro profi staff heb symptomau yn rheolaidd, fel y mae'r BMA yn gofyn, ac ymestyn y profi i bobl eraill, fel gyrwyr angenrheidiol ac i swyddogion diogelwch. Nid jest mater i iechyd a gofal ydy hyn yn unig. Yn ogystal, mae angen mynd i'r afael â lledaeniad y coronafeirws y tu mewn i'n hysbytai ni hefyd. Mae angen gwneud mwy i ddiogelu safleoedd gwaith wrth gynyddu profi ac olrhain, ddim dim ond yn ein hysbytai, ond mewn cartrefi gofal, prifysgolion, ffatrïoedd cig, ein carchardai ni, ac yn y blaen. Rhaid inni wneud ein gweithleoedd yn ddiogel.
Ac mae angen sicrhau bod gwaith COVID yn ein hysbytai yn cynyddu, wrth gwrs, ond nid ar draul y gwaith non-COVID. Ni allwn gau popeth lawr a jest rhedeg ar achosion brys fel o'r blaen.
Felly, i gloi, mae angen, yn y pythefnos cloëdig yma, sicrhau gwytnwch ein stoc PPE, mygydau ac yn y blaen. Dwi'n dal i dderbyn adroddiadau am bryderon diffyg PPE—nawr ydy'r amser i ddatrys hyn.
Mae staff ein gwasanaeth iechyd—a dwi'n adnabod llawer ohonyn nhw; dwi'n perthyn i rai ohonyn nhw—maen nhw wedi cyflawni llawer. Mae ein nyrsys a'n meddygon ni wedi dioddef llawer. Maent yn barod am frwydr, ond maent yn disgwyl cefnogaeth bod eu safleoedd gwaith yn ddiogel a'r cyfarpar diogelwch yn ei le, ac mae'r gwasanaeth iechyd ar agor i achosion eraill sydd ddim yn ymwneud â coronafeirws o gwbl, fel mae'r Gweinidog eisoes wedi'i ddweud.
Ar ôl y cyfnod clo hwn, mae angen i bawb barhau i ymbellhau yn gymdeithasol, golchi dwylo yn rheolaidd, gwisgo mygydau a lleihau nifer y cysylltiadau efo pobl eraill. Nid yw'r cyngor sylfaenol yn newid, ac o gadw ato, fe fyddwn yn dod drwy hyn i gyd.
Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Llywydd. Ac rwy'n mynd i siarad i gefnogi y cyfnod atal byr hwn a fydd yn cael ei gyflwyno ddydd Gwener. Rwy'n cydnabod ei fod yn gwbl angenrheidiol. Rwyf wedi gwrando ar y ddadl a chafwyd rhai datganiadau rhagorol, ac, yn anffodus, datganiadau nad oedden nhw mor rhagorol.
Rwyf hefyd eisiau ei gwneud yn glir iawn nad y Blaid Lafur yn unig sy'n cefnogi hwn, ond rwyf hefyd eisiau sicrhau bod eraill yn deall y bydd Plaid Cymru ac Aelodau eraill o'r Cabinet nad ydyn nhw'n perthyn i Lafur—yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Kirsty Williams—hefyd yn ei gefnogi, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Ond yr hyn sy'n bwysig yma hefyd yw ei bod yn glir iawn bod angen i ni weithredu'n gyflym i amddiffyn pobl ac i ddiogelu gwasanaethau.
Rwy'n ymdrin â'r Gymru wledig—rwy'n eistedd yma yn Sir Benfro heddiw—ac rwyf wedi clywed Paul Davies, sydd hefyd yn cynrychioli Sir Benfro, ac rwyf wedi clywed Russell George, sy'n cynrychioli Powys, yn honni mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd mewn ardaloedd lle mae nifer yr achosion o'r haint yn isel ar gyfer y math hwn o weithredu. Wel, gallaf ddweud wrth y rheini fod y bobl—. Nid wyf hyd yn oed wedi gorfod siarad â phobl—maen nhw wedi dod ataf ac wedi gofyn am weithredu, oherwydd maen nhw'n cydnabod, a hynny'n gwbl briodol, y gall y gwasanaethau fynd o sefyllfa o allu ymdopi i fod dan fygythiad mewn cyfnod byr iawn. Nid oes gennym ysbytai mawr iawn, felly nid oes angen achosion ar raddfa fawr iawn i orlethu'r gwasanaethau hynny.
Rwyf hefyd wedi gwrando, a hynny'n gwbl briodol, ar yr un unigolion yn gofyn i ni ailagor y sector gofal iechyd i achosion nad ydyn nhw'n rhai COVID. Dyna'n union sydd wedi dechrau digwydd. Maen nhw wedi bod mewn cyfarfodydd, gyda mi a Neil Hamilton, pryd dywedwyd hynny. Ni allwn wneud dau beth gyda'r system mewn ardaloedd gwledig, sef caniatáu i gyfradd heintio COVID godi ac, ar yr un pryd, cadw'r gwasanaethau nad ydyn nhw'n rhai COVID ar agor. Rwyf hefyd yn anghytuno â'r hyn ddigwyddodd pan ofynnodd y Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn gwbl briodol i Lywodraeth y DU weithredu i atal pobl, lle bynnag yr oedden nhw'n byw, ac, wrth gwrs, Lloegr, am eu bod nhw'n gyfrifol am Loegr—fe'i gwnaethant yn fater o Gymru-Lloegr. Rwy'n credu bod hynny'n amhriodol iawn. A'r hyn sy'n amhriodol yma yn fy marn i yw eu bod yn ceisio ei wneud yn fater gwledig/trefol heddiw, ac nid yw hynny, unwaith eto, yn symud yr hyn yr ydym ni i gyd yn ceisio'i wneud yma ymlaen, sef gofyn i bawb sydd eisoes wedi gweithredu'n gyfrifol barhau i weithredu'n gyfrifol, ei fod yn ddull gweithredu un wlad. Rwy'n siŵr ein bod wedi clywed 'dull un wlad' yn rhywle arall o'r blaen. Wel, fe fyddai'n braf iawn pe bai gennym ddull un wlad nawr. Dyna'r hyn yr wyf yn gofyn i'm cyd-Aelodau ei wneud yma heddiw.
Rwyf hefyd yn cydnabod y bydd gan y bobl hynny a fydd yn teimlo'r unigedd yn fwy nag eraill anghenion, ac rwy'n falch iawn o glywed y bydd aelwydydd sengl yn cael y gefnogaeth y mae ei angen arnyn nhw, ac roedd hynny'n cydnabod yr hyn a ddigwyddodd o'r blaen. Felly, rydym wedi dysgu rhai gwersi o'r hyn a roddwyd ar waith o'r blaen.
Rwy'n falch iawn hefyd y bydd gwasanaethau coffa Diwrnod y Cadoediad yn gallu digwydd, er y byddan nhw ar ffurf gyfyngedig. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n amlwg yn mynd i ddigwydd yw bod y busnesau hynny sy'n aros ar agored, ac yn enwedig archfarchnadoedd—yr hyn yr wyf yn gofyn amdano yw bod pobl yn trin y staff â'r urddas a'r parch y maen nhw'n eu haeddu, oherwydd mae llawer iawn o dystiolaeth sydd eisoes wedi dod i'r amlwg yn dangos nad yw hynny wedi digwydd. Felly, dywedaf hynny nawr.
Ond rwy'n credu ei bod yn bryd cydnabod bod gweithio mewn Llywodraeth yn golygu cymryd y camau cywir. Mae'n golygu eu cymryd ar yr adeg iawn, a gofynnaf yn barchus i'r Torïaid gydnabod mai dyma'r adeg iawn, fod gennym eglurder nid trychineb yng Nghymru, ein bod yn rhoi iechyd y cyhoedd uwchben popeth, nid gwleidyddiaeth. Clywais yr wythnos diwethaf gyda rhywfaint o siom David Rowlands yn dweud, ac mae eraill wedi ei ailadrodd yma eto heddiw, mai ychydig iawn o bobl fydd yn dioddef y canlyniadau pe baen nhw'n dal neu'n ddigon anffodus i ddal COVID a nhw yw'r rhai sy'n agored i niwed a'r henoed, a rhywsut, pe baem yn ynysu'r ddau grŵp hynny, gallai'r gweddill barhau. Rwy'n credu bod hwnnw—
Mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws—
—yn ddatganiad ffôl. Rwyf am orffen, diolch, Llywydd, ond hoffwn ddiolch i'r bobl—
Nid oes angen i chi—
—sydd wedi gweithredu. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Derbynnir a gwerthfawrogir y diolchiadau i gyd.
Mark Drakeford, y Prif Weinidog, i ymateb i'r ddadl.
Llywydd, diolch yn fawr. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Hoffwn fynd yn ôl i'r fan lle dechreuodd y ddadl hon. Nid yw'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma y prynhawn yma yn ddim llai nag argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru, ac rydym yn sôn am y ffordd fwyaf effeithiol y gallwn ni ymateb iddo. Wrth agor y ddadl, nododd y Gweinidog iechyd ddifrifoldeb y sefyllfa, yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau nifer yr achosion newydd, lefelau canlyniadau positif a derbyniadau i'r ysbyty, ac ailadroddodd hefyd y cyngor y mae Gweinidogion wedi'i gael gan y prif gynghorwyr clinigol a gwyddonol a'r uchaf sydd ar gael inni.
Rydym wedi clywed, Llywydd, fod Aelodau yma sydd â barn wahanol. Wel, rwyf yn anghytuno'n llwyr â nhw. Ond mae o leiaf rai Aelodau yma yn ddiamwys wrth amlygu eu gwrthwynebiad. Diystyrodd Neil Hamilton ddifrifoldeb y coronafeirws—salwch ysgafn, meddai. Honnodd nad yw gwyddonwyr—nad yw mathemategwyr yn wyddonwyr. Wfftiodd y 2,500 o bobl sydd wedi marw yng Nghymru o'r coronafeirws, gan annog y Llywodraeth i gael amcan am gymesuredd. Dywedodd Alun Davies fod llawer o nonsens yn cael ei siarad gan rai am y coronafeirws, ond nid nonsens yn unig ydyw—mae'n nonsens peryglus. Clywsom hynny eto, yn anffodus, yma yn y Senedd y prynhawn yma.
Mae eraill, Llywydd, yn llai didwyll ond nid yn llai annoeth.
Fel y dywedodd Dr Dai Lloyd, dim ond un llais ar ochr y Ceidwadwyr rŷn ni wedi'i glywed yn y ddadl y prynhawn yma.
Mae'n enghraifft o esgeulustod, ar adeg pan ydym ni'n trafod y materion hynod ddifrifol hyn, pan gawn ni dim ond un cyfraniad gan y Blaid Geidwadol i hyn, y penderfyniad mwyaf difrifol yr ydym ni'n ei wynebu fel cenedl. Dywedodd arweinydd yr wrthblaid y dylem ni fod yn cymryd camau lleol. Fel y dywedodd Joyce Watson, heddiw mae'n ymgais i greu rhaniad rhwng Cymru wledig a Chymru drefol—ychydig wythnosau'n ôl, pan oedd ei Aelodau Seneddol yn San Steffan yn ysgrifennu ataf gyda'i Aelodau o'r Senedd yn gwrthwynebu mesurau lleol, roedd yn ymgais i greu rhaniad rhwng y gogledd a'r de.
Nawr, rwy'n hynod ddiolchgar i'r bobl hynny sydd wedi ein helpu gyda'r cyfyngiadau lleol y bu'n rhaid i ni eu gosod, ac oni bai amdanyn nhw, byddai pethau'n waeth o lawer nag y maen nhw yng Nghymru heddiw, ond pan ddywed arweinydd yr wrthblaid y dylem ni barhau â'r mesurau lleol hynny yn unig, beth yn union y mae'n ei olygu? Mae'n ddyn sydd wedi ymffrostio llawer dros sawl diwrnod bellach ei fod yn deall y data. Beth yw ei ddadansoddiad o'r data, felly, yn ardal leol Abertawe, lle mae'r niferoedd, fel y dywedodd wrthym, wedi gostwng heddiw—i lawr i 155 o bobl fesul 100,000 a chyfradd profion positif o 15 y cant? Beth yw ei farn ynghylch Wrecsam, ardal arall lle mae ffigurau wedi gostwng heddiw, i lawr i 201 gyda chyfradd profion positif o 12 y cant? A Rhondda Cynon Taf, i lawr eto heddiw, i dros 200 fesul 100,000 yn y boblogaeth a chyfradd profion positif o 17 y cant. Parhau â'r mesurau lleol yn unig—dyna'r presgripsiwn Ceidwadol a gynigir yn y Senedd y prynhawn yma. Ac er bod y mesurau hynny wedi llwyddo i helpu i atal llif y coronafeirws, nid ydyn nhw'n ddigon. Mae'n amlwg ac yn glir nad ydyn nhw'n ddigon.
Nawr, y piler arall yn nadl arweinydd y Blaid Geidwadol oedd nad yw wedi gweld digon o ddata. Llywydd, edrychais eto, yn dilyn cwestiynau yn gynharach heddiw, ar adroddiad y Gell Cyngor Technegol a gyhoeddwyd gennym ddoe. Mae'n darparu data ar gyfartaledd treigl saith diwrnod yr achosion a gadarnhawyd bob dydd, a'r swm treigl saith diwrnod o farwolaethau yng Nghymru, cyfartaledd achosion y coronafeirws a gadarnhawyd fesul 100,000 o'r boblogaeth, cyfradd yr achosion a gadarnhawyd, yr amser dyblu, rhif atgynhyrchu, nifer y cleifion yn yr ysbyty, nifer y cleifion mewn gwelyau unedau gofal dwys. Mae'n rhoi dadansoddiad o broffil oedran, o nifer yr achosion yn ôl lleoliadau ac yn ôl daearyddiaeth. Mae'n darparu data a dadansoddiadau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o Brifysgol Bangor, o Brifysgol Abertawe a Choleg Imperial Llundain. Mae'n cyfeirio at saith ffynhonnell ddata wahanol ar symudedd y boblogaeth ar draws Cymru. Llywydd, beth yn union y mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn credu sydd ei angen arni? Faint fwy o ddata sydd eu hangen arni nad ydyn nhw eisoes wedi bod yn ddigonol i argyhoeddi'r prif swyddog meddygol, y grŵp cynghori gwyddonol a'n grŵp cynghori technegol ein hunain? Nid esgus i'r Blaid Geidwadol yn unig, Llywydd, yw data, mae'n fodd o osgoi, a dydy hynny ddim yn derbyniol.
Daeth arweinydd y Blaid Geidwadol i ben yn y ddadl y prynhawn yma drwy ein sicrhau y byddai ei Aelodau'n ufuddhau i'r gyfraith. Roedd yn foment syfrdanol, Llywydd; dywedodd hyn wrthym fel petai'n disgwyl cael ei longyfarch. Mae'n sefyllfa ryfedd iawn pan fydd plaid fawr fel y Blaid Geidwadol yn credu bod angen iddi sicrhau'r gweddill ohonom y bydd ei haelodau'n ufuddhau i'r gyfraith yma yng Nghymru.
Llywydd, os na fydd y Blaid Geidwadol yn pleidleisio o blaid y cynnig o flaen y Senedd heddiw, byddan nhw'n gwrthwynebu'r holl gyngor arbenigol sydd ar gael inni. Byddan nhw'n siomi'r holl bobl hynny sy'n gweithio yn rheng flaen ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Ac, yn bwysicaf oll, byddan nhw'n siomi'r holl bobl hynny ledled Cymru sy'n gwneud popeth o fewn eu gallu bob dydd i'n helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Llywydd, mewn cyferbyniad, a gaf i ddiolch i Blaid Cymru am eu cefnogaeth wrth ddod â'r cynnig hwn i'r llawr y prynhawn yma?
Does dim rhaid i fi enwi pob un o Aelodau Plaid Cymru sydd wedi cyfrannu at y ddadl achos roedd Dr Lloyd wedi gwneud hynny ar fy rhan i. A dwi'n cytuno gyda fe ar beth ddywedodd e am safon y cyfraniadau gan Aelodau Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yma yn y ddadl y prynhawn yma.
Llywydd, ni fydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu gwelliannau Plaid Cymru a osodwyd ar gyfer y ddadl, ond, oherwydd bod pob un o'r tri gwelliant hynny'n cynnwys cymysgedd o fesurau, rhai ohonyn nhw yr ydym ni'n eu cefnogi'n gadarnhaol a rhai eraill yr ydym yn petruso ychydig yn eu cylch, byddwn yn ymatal y prynhawn yma. O ran y prif fater, fodd bynnag, mae'n amlwg ein bod ni wedi cytuno. Dangosodd Adam Price, gan ddyfynnu adroddiad y Gell Cyngor Technegol, y cyngor cwbl ddiamwys yr ydym wedi'i gael. A'r pwyntiau y mae Aelodau Plaid Cymru wedi'u gwneud yn y ddadl—dysgu o fannau eraill, defnyddio'r cyfnod atal byr yn bwrpasol, cyfathrebu mor glir ag y gallwn, diogelu ein busnesau, adeiladu ymdrech genedlaethol—mae'r holl bethau hynny'n dir cyffredin rhyngom.
Llywydd, rwy'n diolch i'm cyd-Aelodau Llafur nid yn unig am eu cefnogaeth yn ystod y ddadl hon, ond am eu cefnogaeth yn ystod y dyddiau anodd a'r penderfyniadau heriol yr ydym ni wedi gorfod eu gwneud yn ystod y dyddiau hynny—Dawn Bowden yn sôn am staff rheng flaen ac am gynrychiolaeth gymunedol; Huw Irranca-Davies ar adeiladu'r ymdrech genedlaethol honno, o ddefnyddio ein cronfeydd dewisol, fel yr ydym wedi'i wneud drwy gydol argyfwng y coronafeirws, i helpu i lenwi'r bylchau sydd yn y ddarpariaeth arall i fusnesau, gan annog Llywodraeth y DU i weithio gyda ni, nid i geisio tanseilio'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru bob amser. Erfyniodd Steve Rotheram, maer Lerpwl, ar y Canghellor yr wythnos diwethaf i roi mwy o gymorth i'r bobl hynny y bydd eu cyflogau'n cael eu gostwng o ganlyniad i fesurau ledled y Deyrnas Unedig i ymdrin â'r feirws, ond ni chymerwyd unrhyw sylw o hynny. Ac roeddwn yn cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Alun Davies am effaith corfforol ac iechyd meddwl cyfnod pellach o gyfyngiadau. Dyna pam yr ydym wedi dewis y cyfnod byrraf posibl ar gyfer cyfnod atal byr ychwanegol.
Roeddwn i eisiau diolch i Jenny Rathbone am ei chydnabyddiaeth o'r datblygiadau cyflym a wnaed wrth brofi ein poblogaeth o fyfyrwyr ac am y mesurau sy'n cael eu cymryd gan sefydliadau addysg uwch Cymru i ddarparu addysg i'r bobl ifanc hynny, i ddiogelu eu lles a'u hiechyd meddwl ac i'w hystyried, fel y gwnawn yma yng Nghymru, fel aelodau llawn o'n cymuned, gyda'r un hawliau ond yr un cyfrifoldebau yn ogystal â phob un ohonom i weithredu i gydnabod difrifoldeb y sefyllfa a wynebwn.
Cyfeiriodd Rhianon Passmore at y ffordd y gofynnir i bobl yng Nghymru wneud aberth arall, i ymdopi ar incwm a fydd yn gostwng, i feddwl am y busnesau a fydd yn cael trafferth drwy'r cyfnod hwn ac, wrth gwrs, roedd hynny i gyd ym meddyliau Aelodau'r Cabinet wrth inni fynd i'r afael â'r materion hyn.
Llywydd, gadewch imi gloi drwy ddweud hyn: wrth gwrs rydym ni i gyd wedi blino ac wedi cael digon o'r coronafeirws. Byddai'n dda gennym i gyd pe gallem ni fynd â'n bywydau yn ôl i ble yr oedden nhw cyn dechrau'r pandemig. Ond roedd Helen Mary Jones yn gywir pan ddywedodd, er nad yw dim o hyn yn hawdd, ni all yr un ohonom ni osgoi'r her y mae'n ei gosod i ni. Dywedodd Rhianon Passmore:
'Nid yw gwneud dim yn opsiwn.'
Dyna pam yr ydym ni wedi gwneud y penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud. Dyna pam yr ydym ni'n chwilio am gefnogaeth y Senedd i weithredu ar yr adeg heriol hon.
Mae'r coronafeirws yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru. Mae cyflymder y cylchrediad yn cynyddu'n ddyddiol. Mae 800 o bobl yn yr ysbyty eisoes yn dioddef ohono. Ni ellir ac ni ddylid gwadu difrifoldeb y sefyllfa. Bydd cyfnod atal byr ond llym yn ein helpu i droi'r llanw yn ôl. Ni fydd yn dileu'r coronafeirws. Ni fydd yn arwain at driniaeth i'w wella. Ond bydd yn rhoi yr amser sydd ei angen arnom i ganiatáu i'r gwasanaeth iechyd fynd ati i ddarparu'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig fel arfer, nid yn unig o ran y coronafeirws, ond ym mhob agwedd arall sy'n bwysig i bobl yma yng Nghymru. Bydd yn rhoi llwybr inni ymlaen i'r dyddiau anodd sydd dal o'n blaenau yr hydref hwn a'r gaeaf hwn, a bydd yn tynnu ar beth wmbreth o benderfyniad, undod a pharodrwydd i weithredu gyda'i gilydd sydd wedi bod yn gymaint o nodwedd o ymateb y genedl Gymreig i'r argyfwng hwn. Gadewch i ni weld yr un penderfyniad, gadewch i ni weld yr un ymdeimlad o undod ymysg Aelodau'r Senedd yma y prynhawn yma: cefnogwch gynnig y Llywodraeth.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae gwelliant 3 yn cael ei wrthynebu ac felly'n cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio, ac mae pob gwelliant felly, a'r cynnig, yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Sy'n dod â ni nawr at y ddadl olaf y prynhawn yma, y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru. A dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig. Julie Morgan.
Mae angen dad-dawelu Julie Morgan. Ie, dyna ni.
Cynnig NDM7433 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Fel Llywodraeth, rydym ni eisiau i bob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau mewn bywyd, cyflawni eu potensial a gwireddu eu hawliau. Ac mae mor bwysig yn y cyd-destun presennol, yn y sefyllfa yr ydym ni newydd ei thrafod, ein bod yn cadw at yr uchelgais hwnnw. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cynnal y ddadl ystyrlon hon bob blwyddyn i ganolbwyntio ar ein cyflawniadau hyd yma yng Nghymru o ran hawliau plant, ac i ystyried galwad y comisiynydd plant arnom ni i wneud mwy.
Felly, heddiw, rydym ni'n trafod adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2019-20, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach y mis hwn. Cafodd yr adroddiad hwn ei ysgrifennu gan edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, ond yng nghyd-destun y pandemig. Rwyf i'n gwerthfawrogi cael llais annibynnol a diduedd dros blant a phobl ifanc yng Nghymru—un sy'n herio gwaith y Llywodraeth ac eraill o safbwynt hawliau plant, un sy'n ceisio hyrwyddo a diogelu eu buddiannau.
Yn ei hadroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd wedi tynnu sylw at lawer o'i chyflawniadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys ymgysylltu â dros 15,500 o blant a phobl ifanc ledled Cymru drwy ddigwyddiadau amrywiol, darparu hyfforddiant i 200 o weithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar, a rheoli 627 o achosion drwy ei hymchwiliadau a'i gwasanaeth cynghori.
Er bod gweddill y sesiwn hon yn debygol o ganolbwyntio ar ei 18 argymhelliad ar gyfer y Llywodraeth, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod pwysigrwydd gwaith swyddfa'r comisiynydd, ac i ddiolch iddi hi a'i thîm am y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu i blant a phobl ifanc y mae angen cymorth a chyngor arnyn nhw. A hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r comisiynydd a'i swyddfa am weithio gyda Llywodraeth Cymru, Plant yng Nghymru, a'r Senedd Ieuenctid ar yr arolwg 'Coronafeirws a Fi'. Roedd hwn yn gyfle i blant a phobl ifanc ledled Cymru ddweud wrthym ni ynghylch eu profiad nhw o'r coronafeirws, y cyfyngiadau symud a oedd ar waith ar y pryd, a'r effaith yr oedd yn ei chael ar eu bywydau. Ni yw'r unig Lywodraeth yn y DU sydd wedi holi yn uniongyrchol ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc fel hyn. Ymatebodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc rhwng tair a 18 oed; yr oedd yn ymateb rhyfeddol. Mae eu hymatebion yn cael eu clywed gan wleidyddion a llunwyr polisi fel ei gilydd, ac rwy'n diolch i bawb a gymerodd ran.
Daeth David Melding i’r Gadair.
Cyn i mi droi at yr argymhellion, mae'n bwysig atgoffa ein hunain bod gan y comisiynydd statws corfforaeth undyn, a'i fod yn sefydliad hawliau dynol annibynnol, sy'n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy nifer o lwybrau. Mae ganddi bwerau i adolygu effaith arfer ar blant—neu arfer arfaethedig—unrhyw swyddogaeth Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth y maen nhw'n ei gwneud neu'n bwriadu ei gwneud. A byddwch chi'n ymwybodol bod y comisiynydd wedi penderfynu defnyddio ei phwerau ffurfiol o ran addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r adolygiad hwnnw pan fydd angen, trwy'r broses ffurfiol, ac ni fyddaf yn trafod yr adolygiad wrth iddo barhau.
Yn yr adroddiad blynyddol eleni, mae'r comisiynydd wedi nodi 18 o argymhellion: mae pump yn ymwneud â phlant sydd wedi bod mewn gofal, gan gynnwys diwygio rhianta corfforaethol, troseddoli plant mewn gofal, llety diogel i blant ag anghenion cymhleth, cyfle i ddefnyddio cynghorwyr personol, a byw yn lled-annibynnol gyda chymorth i'r rhai sy'n gadael gofal. Mae argymhellion eraill yn canolbwyntio ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, eiriolaeth iechyd a phontio iechyd ac iechyd meddwl, yn ogystal â chanllawiau statudol ar gamfanteisio'n rhywiol ar blant i blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed, a chyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad tlodi plant.
Mae'r comisiynydd wedi gwneud tri argymhelliad yn ymwneud ag ysgolion, gan gynnwys ymchwiliadau i honiadau o gam-drin plant yn erbyn staff addysgu, canllawiau i gyrff llywodraethu ar weithdrefnau disgyblu a diswyddo, ac ysgolion annibynnol sy'n cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ogystal ag argymhelliad yn ymwneud â gosod y cod ymarfer anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'n bwysig nodi, ac rwy'n gwybod bod y comisiynydd plant yn deall, fod nifer o'r argymhellion y mae wedi eu cyflwyno yn gysylltiedig â gwaith sydd wedi ei oedi neu ei ailflaenoriaethu o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Mae adleoli swyddogion Llywodraeth Cymru, neu ailflaenoriaethu rhai meysydd gwaith, wedi bod yn ganlyniadau angenrheidiol i'r pandemig, ac yn anffodus ond yn anochel mae hynny wedi golygu nad yw rhywfaint o'r gweithgarwch wedi mynd yn ei flaen yn unol â'r amserlenni gwreiddiol.
Rydym ni yn rhannu llawer o dir cyffredin â'r comisiynydd. Rydym ni wedi gweithio a byddwn yn parhau i weithio gyda hi ac eraill i alluogi plant a phobl ifanc i wireddu eu hawliau. A hoffwn i ddiolch i David Melding am gadeirio'r grŵp gorchwyl a gorffen rhianta corfforaethol, sy'n datblygu siarter wirfoddol y gall sefydliadau ymrwymo iddi, gan nodi eu cynnig unigryw ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r gwaith y mae David wedi ei wneud dros blant, ac yn enwedig dros blant sy'n derbyn gofal.
Ac wrth gwrs, mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Gan ategu gwaith adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl', rydym ni wedi bod yn benderfynol o fwrw ymlaen ag ymagwedd ysgol gyfan at y fframwaith llesiant. Mae'r coronafeirws wedi gohirio'r ymgynghoriad am ychydig o fisoedd. Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau cychwynnol yn cael eu hystyried gan y grŵp gorchwyl a gorffen, cyn eu cyhoeddi'n derfynol.
Cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad 'Dim Drws Anghywir' ym mis Mawrth eleni, a oedd yn canolbwyntio ar ddod â gwasanaethau at ei gilydd i ddiwallu anghenion plant ac atal sefyllfaoedd lle na all gwahanol weithwyr proffesiynol gytuno ar bwy sy'n gyfrifol am ofal plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. Mae'r comisiynydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion sydd wedi eu hamlinellu yn ei hadroddiad, ac rydym ni'n awyddus i wneud cynnydd ar y mater hwn.
Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd, gan ystyried yr hyn y mae'r Aelodau yn ei ddweud yn y ddadl hon. Dull gweithredu'r comisiynydd erioed, fel sydd wedi ei nodi ei hadroddiad, yw ymateb i Lywodraeth Cymru fel cyfaill beirniadol, herio'n gadarn pan fo angen, ond croesawu a chydnabod datblygiadau cadarnhaol. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r comisiynydd plant am ei swyddogaeth o fod yn ffrind beirniadol i Lywodraeth Cymru. Ac mae hyn wedi bod o werth arbennig yn ystod yr wyth mis diwethaf wrth i ni ymateb i'r pandemig yng Nghymru a lle yr ydym ni wedi ymdrechu i gydnabod a lliniaru effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae'r comisiynydd wedi bod yn gefnogol iawn yn herio a chynghori Llywodraeth Cymru ar ein hymatebion i'r pandemig a sut yr ydym ni wedi gorfod cydbwyso cadw plant yn ddiogel â pharchu a diogelu eu hawliau. Er nad yw rhai o'r penderfyniadau hynny wedi bod yn hawdd, rwy'n falch o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi dod at ei gilydd i gadw plant a phobl ifanc a'u hawliau yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau, ac yn enwedig y pwyslais sydd wedi ei roi ar blant sy'n agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.
Gyda'r cyfan sydd wedi digwydd yn ystod 2020, dylem ni gofio mai dim ond blwyddyn yn ôl yr oeddem ni'n dathlu pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn drideg—carreg filltir bwysig ar gyfer hawliau plant. Ac yn olaf, hoffwn i ailddatgan bod CCUHP yn parhau i fod yn sail i'n holl bolisïau ar gyfer plant: mae'n ganolog i'n gwaith i wella canlyniadau plant drwy eu helpu a'u cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydym ni'n awyddus i adeiladu ar ein cyflawniadau hyd yma er mwyn sicrhau bod Cymru yn rhywle lle mae hawliau plant yn cael eu parchu, eu hamddiffyn a'u cyflawni. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, a diolch am eich geiriau caredig amdanaf i, a oedd yn braf eu clywed gan y cadeirydd, er na allaf i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, fel arall byddwn i yn sicr wedi dymuno'n dda iddi hi hefyd.
A gaf i ddweud mai dim ond dau siaradwr sydd gen i ar gyfer y ddadl, felly os bydd unrhyw un yn ceisio dal fy sylw, efallai y byddwch chi'n lwcus? Laura Anne Jones.
Diolch, Llywydd dros dro, a hoffwn innau hefyd ddechrau trwy ddiolch i chi am yr holl waith yr ydych chi a'ch grŵp gorchwyl wedi ei wneud i helpu plant. Bydd y math hwnnw o bwyslais arnyn nhw a'u materion yn gwneud byd o les iddyn nhw ac rwy'n siŵr eu bod yn ddiolchgar iawn am yr holl waith yr ydych chi wedi ei wneud.
Fe wnes innau hefyd groesawu cyhoeddiad yr adroddiad hwn a hoffwn i ddiolch i Sally Holland a'i thîm am yr holl waith maen nhw wedi ei wneud i newid bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gyda hi hyd yma, ers cyrraedd y Senedd ychydig fisoedd yn ôl, wedi bod yn agored, yn onest ac yn galonogol. Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod yr effeithiau y mae'r pandemig presennol yn eu cael ar waith y comisiynydd plant a'r angen i ymateb i faterion hollbwysig sy'n effeithio ar fywydau ein plant dan gyfyngiadau symud. Ni fu eu gwaith erioed mor hanfodol a bydd yn hollbwysig wrth symud ymlaen yn awr, oherwydd effaith yr argyfwng hwn.
Mae'r adroddiad yn cydnabod y bydd yn rhaid cyflawni darnau newydd allweddol o waith yn y rhaglen nesaf o ganlyniad i'r newidiadau i fywydau y plant a'r effeithiau a fydd yn cael eu teimlo am flynyddoedd i ddod. Rhai o'r materion hyn yr hoffwn i ymdrin â nhw yn fy sylwadau y prynhawn yma.
Mae'r adroddiad yn datgan bod ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i beidio â diwallu anghenion ein plant a'n pobl ifanc yn effeithiol. Mae'n rhaid i blant a'u teuluoedd lywio systemau cymhleth ac nid ydyn nhw'n cael cymorth yn aml oherwydd nad ydyn nhw'n perthyn i gategorïau taclus neu nid ydyn nhw'n cael cymorth o gwbl er eu bod mewn argyfwng. Mae hon yn broblem benodol yn ein gwasanaethau iechyd meddwl a'n gwasanaethau plant anabl. Roedd hyn cyn i'r pwyllgor plant ddweud bod iechyd meddwl plant wedi dioddef yn sgil COVID-19.
Dros ddwy flynedd yn ôl, galwodd ymchwiliad am roi blaenoriaeth genedlaethol i ymdrin â materion iechyd emosiynol a meddwl plant. Mae gwelliannau wedi eu gweld mewn gwasanaethau ers hynny, ond maen nhw'n digwydd yn rhy araf ac mae rhai pobl ifanc yn dal yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Daeth y pwyllgor plant i'r casgliad bod sicrwydd Llywodraeth Cymru ynghylch gofal y tu allan i oriau a gofal argyfwng yn siomedig o denau. Mae gormod o adroddiadau am brinder opsiynau i blant y mae angen cymorth arnyn nhw, ond nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol. Er bod cynnydd i'w weld ym maes addysg, roedd llawer llai o hyder bod cyflymder y newid ym maes iechyd a llywodraeth leol, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, yn ddigonol.
Gwn mai iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yw blaenoriaeth allweddol ein comisiynydd ac rwyf i wedi cael llawer o sgyrsiau gyda hi ynghylch hynny. Mae'r pandemig wedi dangos hyn yn glir i bawb. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn trwy benodi Gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros iechyd meddwl ac rydym ni'n croesawu hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau cadarnhaol o ran datblygu system sy'n ymateb i anghenion y plentyn yn hytrach na cheisio eu cynnwys yn y gwasanaethau presennol.
Hyd yn oed cyn achosion y coronafeirws, yr oedd gofalwyr ifanc yn rhy aml o lawer yn treulio cryn dipyn o amser yn gofalu am berthynas—a hyn, yn ogystal â'r amser y mae angen iddyn nhw ei dreulio ar waith, addysg ac ymlacio—ond mae'r coronafeirws wedi cynyddu'r pwysau hynny yn sylweddol. Cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr arolwg yn ddiweddar a ganfu fod 58 y cant o ofalwyr ifanc sy'n gofalu am fwy o amser ers y coronafeirws, yn treulio 10 awr yr wythnos yn fwy ar gyfartaledd ar eu cyfrifoldebau gofalu. Mae'r arolwg yn dangos sut y mae pryderon sy'n ymwneud â'r coronafeirws a mwy o unigedd yn sgil y cyfyngiadau symud wedi effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Mae gofalwyr ifanc yn rhoi llawer iawn o gymorth i bobl sy'n agored i niwed yng Nghymru. Mae'r comisiynydd plant yn galw am roi mwy o flaenoriaeth i gymorth iechyd meddwl i ofalwyr ifanc a mwy o gymorth gan ddarparwyr addysg a chyflogwyr i helpu gofalwyr i ymdopi â'u swyddogaethau gofalu ochr yn ochr â'r ysgol, coleg, prifysgol neu waith. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynnydd sy'n cael ei wneud i leihau'r pwysau annerbyniol sydd ar ofalwyr ifanc ac i wella eu lles a'u cyfleoedd mewn bywyd. Mae angen i ni weithio gyda'n gofalwyr ifanc, gan weithio gyda nhw a'u cynnwys wrth lunio polisi. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno hefyd y dylai gofalwyr ifanc gael anogaeth a chymorth i fynd i addysg uwch neu ddod o hyd i brentisiaethau, os mai dyma y maen nhw'n dymuno ei wneud.
A hoffwn i'r comisiynydd a'r Llywodraeth nodi bod Cyngor Sir Fynwy yn mynd ati i annog prentisiaethau i ofalwyr ifanc sy'n gadael yr ysgol o fewn ei sefydliad ei hun a bod y gofalwyr hynny yn cael eu cynnwys mewn unrhyw wybodaeth sy'n mynd allan am swyddi gwag, pan fo hynny'n briodol. Maen nhw hefyd yn eu cynnwys ar eu panel rhianta corfforaethol. Mae Cyngor Sir Fynwy bob amser yn gosod safon uchel o ran arferion awdurdodau lleol a chyflogwr, ac mae angen cyflwyno'r math hwn o arfer da ledled Cymru ym mhob awdurdod.
Mae'r pandemig hwn wedi tynnu sylw at ba mor bwysig y mae cefnogi ac amddiffyn ein pobl ifanc rhag yr heriau aruthrol y maen nhw wedi eu hwynebu ac yn parhau i'w hwynebu. Fel y mae'r adroddiad hwn yn ei ddweud, rydym ni'n gwybod beth yw'r heriau; mae'n amser cymryd camau pendant a dewr.
Cyn i mi alw ar Siân Gwenllian, rwyf i yn ymddiheuro, dylwn i fod wedi hysbysu'r Aelodau nad oedd y gwelliant wedi ei ddewis yn unol â Rheol Sefydlog 12.23. Siân Gwenllian.
Diolch, Cadeirydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i drafod yr adroddiad yma ac am y gwaith mae'r comisiynydd plant yn ei wneud i geisio gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Does dim dwywaith fod argyfwng COVID-19 wedi newid bywydau plant Cymru mewn ffordd hollol ddramatig, gydag ysgolion a lleoliadau gofal plant ar gau am gyfnodau hir, darlithoedd a gwersi yn cael eu haddysgu ar-lein, meysydd chwarae ar gau a chyfyngiadau mawr ar gyfleon i gymdeithasu. A dydy o ddim syndod y bu mwy o alw nag erioed o'r blaen am y gwasanaeth Childline, ac mae pryderon mawr ynghylch sut mae'r pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y presennol ac yn y tymor hir.
Er efallai bod COVID-19 wedi newid bywydau plant Cymru am byth, fe ellir dadlau bod llawer o'r materion yn yr adroddiad yma—yr adroddiad diweddaraf—yn dweud yr un hen straeon wrthym ni, yn anffodus. Mae'r adroddiad yn cynnwys ystod eang o bryderon hir sefydlog ynghylch ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl i blant, plant yn parhau i fyw mewn tlodi a phlant mewn gofal nad ydyn nhw'n cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnyn nhw. Dyma rai o'r problemau cymhleth sy'n effeithio'n fawr ar fywydau plant a phobl ifanc ac sy'n debygol o gael eu gwaethygu gan COVID-19.
Ac fe ellir dadlau bod yr angen i sicrhau bod dulliau polisi Llywodraeth Cymru yn llwyddo yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Mae angen felly bwrw ati i weithredu y 18 o argymhellion manwl a synhwyrol mae'r comisiynydd wedi'u cyflwyno ar draws sawl maes penodol: o ran gofal preswyl plant gydag anghenion cymhleth, o ran cynghorwyr personol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal, diwygio rhianta corfforaethol, cefnogaeth i droseddwyr ifanc a chryfhau mesurau diogelu plant. Dim ond rhai enghreifftiau ydy'r rheini. Mae yna lawer o argymhellion cwbl ymarferol allai wneud gwahaniaeth mawr i grwpiau penodol o blant a phobl ifanc.
Mae yna un maes yn codi pryder penodol, sef addysg ddewisol yn y cartref, mater y mae'r comisiynydd wedi gwneud argymhellion yn ei gylch yn ei phedwar adroddiad blynyddol diwethaf—pedwar adroddiad. Mae hi wedi galw am newidiadau cyfreithiol ynghylch hyn. Cyn COVID-19, mi oedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft, a rheoliadau i fynd i'r afael â phryderon y comisiynydd, ond ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg nad oedd modd cwblhau'r gwaith a oedd wedi'i gynllunio o fewn tymor y Senedd yma. Ym mis Medi mi wnaeth y comisiynydd ddweud ei bod hi'n bwriadu defnyddio ei phwerau statudol am y tro cyntaf i adolygu camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes yma. Dwi'n cefnogi hyn ac yn credu bod y comisiynydd wedi bod yn amyneddgar iawn, iawn efo hyn oll—yn rhy amyneddgar, efallai—ac y byddai gweithredu cynt ac adolygiad cynt gan y comisiynydd wedi arwain at y gwelliant sydd ei angen.
Yn anffodus, maes arall y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â gweithredu yn ei gylch ydy'r angen i athrawon mewn ysgolion annibynnol gofrestru efo Cyngor y Gweithlu Addysg. Mi fyddwn ni i gyd yn cofio am y pennaeth mewn ysgol yn Rhuthun a gafodd ei ddiarddel o'i swydd ar ôl i adroddiad ganfod bod y disgyblion yno mewn peryg o niwed oherwydd methiannau mewn diogelu plant. Mae ymestyn y gyfraith sydd yn rhoi dyletswydd ar ysgolion preifat yn ogystal ag ysgolion y wladwriaeth i gofrestru eu hathrawon yn un ffordd o geisio osgoi methiannau difrifol fel hyn i'r dyfodol, ond mae'r gweithredu ar hyn hefyd wedi'i wthio ymlaen i'r Senedd nesaf, ac unwaith eto, mae'r comisiynydd wedi cyhoeddi y bydd hi'n defnyddio ei hawliau statudol er mwyn adolygu gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Dwi'n gwybod bod yr argyfwng iechyd yn golygu bod yn rhaid rhoi heibio rhai materion deddfwriaethol, ond materion syml fyddai'r rhain, ac mae'n rhaid cwestiynu doethineb gadael y ddau fater yma ar y bwrdd pan fod lles plant Cymru yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Senedd hon. Mae'r comisiynydd yn mynd i ddefnyddio ei phwerau statudol efo dau fater, sy'n ddau fater o bryder i bawb yn y Senedd, ac mae'n fater o bryder ei bod hi'n gorfod mynd i'r pen draw i ddefnyddio ei phwerau statudol.
Cyn cloi, hoffwn i jest dynnu sylw at adroddiad y comisiynydd o'r enw 'Dim Drws Anghywir', a'r angen i fyrddau partneriaethol rhanbarthol sicrhau na fydd unrhyw blentyn neu deulu yn cwympo rhwng dwy stôl wrth chwilio am gymorth ar gyfer iechyd meddwl a materion ymddygiad. Mae hwn yn adroddiad pwysig, ac mae angen cadw'r ffocws ar y gwaith yma. Mae'r maniffesto, 'Hapus, iach a diogel', o ddiddordeb hefyd, efo rhai o'r syniadau'n sicr yn cyd-fynd efo blaenoriaethau Plaid Cymru. Bydd yna gyfle i drafod rhai o'r materion sydd ym maniffesto'r comisiynydd plant yn ystod ein dadl ar addysg yn y Senedd yfory, felly wna i ddim ymhelaethu ar hynny.
Mae'r adroddiad sydd ger ein bron ni heddiw yn cwmpasu cyfnod oedd cyn yr argyfwng COVID i bob pwrpas, sef o 1 Ebrill 2019 tan ddiwedd Mawrth 2020. Mi fydd yr adroddiad nesaf yn cwmpasu cyfnod anodd iawn y COVID, ac mae'n debyg y bydd o o naws gwahanol ac yn canolbwyntio ar faterion fydd wedi dod i'n sylw o'r newydd yn ystod yr argyfwng COVID, neu yn cael eu tanlinellu o'r newydd fel materion o bwys. Ond mae'n bwysig cadw sylw a chadw pwyslais ar y materion sydd yn yr adroddiad yma hefyd. Hoffwn i ddiolch i'r comisiynydd a'i thîm am y cydweithio sydd wedi bod rhyngom ni, a dwi'n edrych ymlaen am gyfnod o gydweithio pellach yn ystod gweddill tymor y Senedd yma.
A'r Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Allwn ni ddad-dawelu'r Gweinidog, os gwelwch yn dda? Dyna ni. Gweinidog.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro a diolch yn fawr am y cyfraniadau i'r ddadl heddiw a'r gefnogaeth sydd wedi ei dangos i hawliau plant. Fel y gwyddom ni, mae gan blant hawliau—hawliau y dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru wybod amdanyn nhw a chael cefnogaeth i'w gwireddu.
Diolch i Laura Anne Jones ac i Siân Gwenllian am siarad mewn ffordd mor bwerus a sensitif ynghylch anghenion plant a phobl ifanc yng Nghymru. Tynnodd Laura Anne Jones sylw yn arbennig at ofalwyr ifanc, ac rwyf i wir yn credu bod hwn yn faes sy'n peri pryder mawr i bob un ohonom ni. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyhoeddi £1 miliwn ychwanegol heddiw i helpu gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, gyda rhai o'r eitemau bach y gallai fod eu hangen arnyn nhw i'w helpu i ymdopi, oherwydd fel y dywedodd Laura Anne Jones, rydym ni'n gwybod bod y pandemig hwn, y cyfnod hwn, wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ofalwyr ac yn arbennig i ofalwyr ifanc, ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi cyfeirio at yr arolwg a oedd wedi ei gyflawni yn ddiweddar. Roeddwn i hefyd yn falch o allu rhoi £55,000 ar gyfer cymorth seicolegol i ofalwyr yn gynharach yn y pandemig gan fy mod i'n gwybod bod y straen ar eu hiechyd meddwl wedi bod yn eithafol iawn yn ystod y cyfnod hwn.
Rwyf i hefyd yn falch ein bod ni'n mynd ar drywydd cardiau adnabod i ofalwyr ifanc. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fydd yn helpu'n aruthrol ac mae gennym ni nifer o awdurdodau lleol erbyn hyn sy'n defnyddio cardiau adnabod er mwyn gwneud bywyd yn haws i ofalwyr ifanc. Oherwydd un o'r pethau y mae gofalwyr ifanc wedi ei ddweud wrthym ni yw eu bod yn teimlo'n gryf iawn nad ydyn nhw eisiau dweud wrth bob person newydd holl hanes yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw bob tro y byddan nhw'n cwrdd â rhywun, ac yn yr ysgol mae angen iddyn nhw allu bod â cherdyn a fydd yn eu helpu. Bydd yn eu helpu pan fyddan nhw'n mynd at y fferyllydd, pan fyddan nhw'n mynd i gael meddyginiaeth ar gyfer y bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, ac, mewn gwirionedd, mae cymaint o ffyrdd y gall cerdyn helpu, fy mod i o'r farn bod hynny yn ffordd arall y byddwn ni'n gallu helpu gofalwyr ifanc.
Rwyf i wedi cyfarfod â llawer o grwpiau o ofalwyr ifanc, wrth i mi wneud y gwaith hwn ac yn flaenorol, ac roedd yn rhaid i chi dalu teyrnged enfawr iddyn nhw o ran yr hyn maen nhw'n ei wneud er mwyn cadw teuluoedd i fynd, yn aml. Felly, diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones, am dynnu sylw at hynny yn eich cyfraniad a hefyd am dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn faes y mae'r comisiynydd plant yn teimlo'n gryf iawn yn ei gylch hefyd. Mae'n drawiadol iawn bod Sir Fynwy yn annog gofalwyr ifanc penodol i wneud cais am brentisiaethau.
Yn ogystal â gofalwyr ifanc, rwy'n gwybod bod Laura Anne Jones wedi sôn am iechyd meddwl ac iechyd meddwl plant yn ystod y cyfnod hwn, ac mae hynny wedi ei grybwyll dipyn yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r ffordd y mae iechyd meddwl yn un o'r meysydd gwirioneddol y mae gennym ni bryder enfawr yn ei gylch, ac yn sicr, rydym ni i gyd yn croesawu penodiad Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl bellach, sy'n dangos y flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i'r maes hwnnw.
Disgrifiodd Siân Gwenllian yn glir iawn sut y mae'r coronafeirws wedi newid bywydau plant yn ddramatig. Disgrifiodd hi bopeth sydd wedi ei golli, ac rydym ni'n gwybod, i lawer o blant sy'n agored i niwed y mae eu bywydau yn cael eu cynnal gan yr ysgol, gan weithgareddau allanol, gan y cymorth maen nhw'n ei gael gan glybiau ieuenctid, gan weithwyr ieuenctid a gan lawer o wasanaethau eraill—fod yr holl strwythur hynny wedi mynd a bod hyn, yn fy marn i, wedi bod yn brofiad anodd iawn. Felly, diolch, Siân, am ddisgrifio hynny mor glir o ran profiad y plant ac am ein hatgoffa ni ynghylch yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud a'r hyn y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno i geisio lliniaru hyn gymaint ag y gallwn ni. Yn sicr, mae hawliau plant wedi bod yn uchel ar frig agenda'r Llywodraeth, ac rwy'n credu y byddwch chi wedi gweld yn y camau yr ydym ni wedi eu cymryd ac y mae'r Prif Weinidog wedi eu rhoi ger eich bron heddiw—rydych chi wedi gweld bod plant wedi bod yn flaenoriaeth lwyr o ran cadw cynifer o blant yn yr ysgol ag y gallwn ni, cadw gofal plant ar agor, cadw meysydd chwarae ar agor, cydnabod pwysigrwydd chwarae. Mae'r holl bethau hynny yno i blant ac maen nhw wedi bod ar frig ein hagenda.
Cyfeiriodd Siân Gwenllian at y 18 argymhelliad y mae'r comisiynydd plant wedi eu cyflwyno, a bydd y Prif Weinidog yn ymateb iddyn nhw erbyn 30 Tachwedd, ond fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, roeddem ni'n awyddus i glywed yr hyn yr oedd gan yr Aelodau i'w ddweud yn y ddadl hon, er mwyn i ni allu ymateb wedyn yn llawn, gan ystyried yr hyn y mae'r Aelodau wedi ei ddweud. Cyfeiriodd Siân Gwenllian at addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol, ac fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, oherwydd bod y Comisiynydd yn defnyddio ei phwerau statudol i adolygu'r meysydd hyn, ni fyddaf i'n gwneud sylwadau arnyn nhw nes y bydd y Llywodraeth yn ymateb i'w hadolygiad. Ond mae Siân Gwenllian wedi tynnu sylw at y materion yn bwerus iawn, yn fy marn i, yn ei hymateb. Felly, diolch yn fawr am y cyfraniadau hynny.
I gloi, er fy mod i'n falch o'r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ac yn ei wneud i hawliau plant, rwyf i yn gwybod y gallwn ni, a bod yn rhaid i ni, wneud mwy i sicrhau bod pob plentyn yn ymwybodol o'i hawliau, sut i weithredu ar yr hawliau hynny, a sut i herio pan nad ydyn nhw'n cael yr hawliau hynny. Felly, mae gennym ni waith mawr i godi ymwybyddiaeth ac i estyn allan i blant. Mae'r comisiynydd plant yn bartner cwbl hanfodol yn yr ymdrech hon, ac mae ganddi swyddogaeth bwysig iawn o ran dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud, mae eleni wedi bod yn her i gynifer o blant a phobl ifanc, ac wrth gwrs, gall hyn barhau am gryn amser. Dyna pam mae'n rhaid i ni gadw hawliau plant yn flaenoriaeth ym mhob dim yr ydym ni'n ei wneud. Mae hawliau plant a gwella profiadau i'n plant a'n pobl ifanc wedi bod yn ganolog i'n hymatebion i'r pandemig, a hoffwn i atgoffa'r Aelodau am y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yr ydym ni'n ei darparu dros gyfnod y gwyliau, y gwelliannau i'r gwasanaethau iechyd meddwl yr ydym ni wedi eu cyflawni, a gweithio gyda'r comisiynydd i wrando ar leisiau plant yn uniongyrchol. Felly, diolch yn fawr iawn i chi unwaith eto am eich cyfraniadau i'r ddadl hon. Mae'n ddadl bwysig iawn. Daeth ar ôl dadl bwysig iawn arall, ond rwyf i'n credu bod cysylltiad agos iawn rhwng y ddwy ddadl, oherwydd bod yn rhaid i hawliau plant fod yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n ymateb i'r pandemig hwn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Gweinidog. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf i yn gweld Aelod yn gwrthwynebu, felly gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd toriad o bum munud neu fwy cyn i'r cyfnod pleidleisio ddechrau. Bydd cymorth TG wrth law i helpu gydag unrhyw broblemau yn ystod y cyfnod hwn.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:13.
Ailymgynullodd y Senedd am 19:19, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio heno. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, dau yn ymatal, pedwar yn erbyn. Ac, felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Eitem 7 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020: O blaid: 45, Yn erbyn: 4, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. O blaid 37, naw yn ymatal, chwech yn erbyn. Ac, felly, mae'r rheoliadau wedi eu cymeradwyo.
Eitem 8 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020: O blaid: 37, Yn erbyn: 6, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar y Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn. O blaid 46—mae'n ddrwg gen i—tri yn ymatal, tri yn erbyn. Ac, felly, mae'r rheoliadau wedi eu cymeradwyo.
Eitem 10 - Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020: O blaid: 46, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar y coronafeirws, ac fe fyddwn ni'n pleidleisio ar welliannau yn gyntaf. Gwelliant 3 yw'r gwelliant cyntaf i bleidleisio arno, ac mae'r gwelliant hynny wedi'i gyflwyno yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, un yn ymatal, 37 yn erbyn. Ac, felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Dadl: Coronafeirws - Gwelliant 3 - cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf, ac mae'r gwelliant hynny wedi'i gyflwyno yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, 30 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Ac, felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
Dadl: Coronafeirws - Gwelliant 4 - cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 18, Yn erbyn: 4, Ymatal: 30
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 5 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hynny wedi ei gyflwyno yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, 36 yn ymatal, saith yn erbyn. Ac, felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.
Dadl: Coronafeirws - Gwelliant 5 - cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 10, Yn erbyn: 7, Ymatal: 36
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 8 yw'r gwelliant nesaf. Mae'r gwelliant hynny yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, 29 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Mae gwelliant 8 wedi ei gymeradwyo.
Dadl: Coronafeirws - Gwelliant 8 - cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 20, Yn erbyn: 4, Ymatal: 29
Derbyniwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans a Siân Gwenllian.
Cynnig NNDM7441 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd
1. Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;
2. Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;
3. Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr.
4. Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal prawf.
5. Yn cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac, felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Dadl: Coronafeirws - Cynnig fel y’i diwygiwyd - O blaid: 37, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r bleidlais olaf ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, tri yn ymatal, un yn erbyn. Ac, felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20: O blaid: 49, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni. Dyna orffen y pleidleisiau, a dyna orffen ein gwaith am y dydd heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:30.