Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
06/10/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Mae'r Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar yr agenda. A dwi hefyd eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.
Yr eitem gyntaf, felly, ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle.
1. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i liniaru effaith pandemig COVID-19 ar bobl ifanc yng Nghymru? OQ55668
Llywydd, mae camau wedi eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru i liniaru effaith y coronafeirws ar bobl ifanc. Mae buddsoddiadau newydd mewn hyfforddiant, prentisiaethau, addysg bellach ac addysg uwch, a gwasanaethau iechyd meddwl ymhlith yr ymatebion a roddwyd ar waith i fynd i'r afael â'r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.
Prif Weinidog, diolch am hynna. Rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar blant a phobl ifanc, ac rwy'n croesawu yn fawr yr ymrwymiad yn y cynllun ailadeiladu yn sgil COVID a gyhoeddwyd gennych chi heddiw y byddwch chi'n gwneud yn siŵr nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd, ac y byddwch chi'n cynorthwyo ein holl bobl ifanc i aros mewn addysg.
Mae llawer o bobl ifanc sy'n teithio o Dorfaen i goleg Henffordd ar gyfer eu haddysg ôl-16 yn cael eu hatal gan Trafnidiaeth Cymru rhag teithio ar drenau, er gwaethaf y ffaith eu bod nhw'n meddu ar docynnau tymor i deithio, ac yn hytrach maen nhw'n cael eu gorfodi i deithio ar fysiau, heb gadw pellter cymdeithasol, tra bod teithwyr eraill yn cael blaenoriaeth ar gyfer seddi trên lle cedwir pellter cymdeithasol. Mae rhai pobl ifanc wedi eu gadael heb fedru symud neu mae nhw'n cyrraedd y coleg yn hwyr. A ydych chi'n rhannu fy mhryder i, Prif Weinidog, bod pobl ifanc yn cael eu trin yn wahanol i deithwyr eraill, a pha gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu rhoi o dan anfantais ar gludiant cyhoeddus?
Wel, Llywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â Lynne Neagle na ddylai pobl ifanc fod o dan anfantais oherwydd y ffaith eu bod nhw'n bobl ifanc. Ond gwn ei bod hi'n wir bod trenau y gall ymddangos bod lleoedd arnyn nhw, ond mae'r lleoedd hynny yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau y mae'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru gyd-fynd â nhw ar ddwy ochr y ffin. Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu 70 o wahanol wasanaethau bysiau i helpu'r bobl ifanc hynny na fydden nhw fel arall yn gallu mynd i'r coleg nac i'r ysgol yn y ffordd arferol. Ychwanegwyd cerbyd ychwanegol i drên sy'n cyrraedd Henffordd am 08:53 yn y bore ers yr wythnos diwethaf, i gynorthwyo rhai o'r bobl ifanc y mae Lynne Neagle wedi cyfeirio atyn nhw. Ond, wrth deithio ar fws, er nad yw'n aml mor gyfleus â thaith ar y trên, i bobl ifanc sydd mewn carfannau ac sydd gyda'i gilydd mewn swigen at ddibenion addysg, gall fod yn ffordd sy'n caniatáu i'r bobl ifanc hynny deithio yn ddiogel gyda'i gilydd.
Felly, rydym ni'n parhau i weithio ar y broblem, ac er fy mod i'n cytuno yn llwyr na ddylai pobl ifanc gael eu trin yn wahanol oherwydd y ffaith eu bod nhw'n bobl ifanc, mae Trafnidiaeth Cymru, mewn amgylchiadau heriol iawn, yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod gan etholwyr Lynne Neagle, a phobl ifanc ym mhob rhan o Gymru, y cludiant sydd ei angen arnyn nhw i allu cael mynediad at eu haddysg.
Prif Weinidog, tynnodd adroddiad gan Barnardo's yn gynharach eleni sylw at yr argyfwng sy'n wynebu maethu, gyda chynnydd o 45 y cant i nifer y plant sydd angen gofal maeth yng Nghymru, ac eto, i'r gwrthwyneb, gostyngiad o 51 y cant i'r gofalwyr maeth sydd ar gael oherwydd y pandemig. Yn amlwg, gallwn ni i gyd werthfawrogi'r problemau y mae hyn wedi eu codi o ran gallu dod o hyd i ofalwyr maeth i bobl ifanc sydd eu hangen yn ddybryd. A allwch chi amlinellu'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i ddod â mwy o gydraddoldeb yn ôl yn y sefyllfa hon, i gynyddu nifer y gofalwyr maeth sydd gennym ni, fel y gall y plant hyn gael y cymorth, o fewn amgylchedd teuluol, y maen nhw ei angen mor ddybryd?
Llywydd, diolchaf i Angela Burns am hynna. Rwy'n credu, yn gynharach yn yr haf, pan gyhoeddwyd adroddiad Barnardo's, ein bod ni wedi gallu cywiro rhywfaint o gam-adrodd y ffigurau hynny, oherwydd nid yw'r ffigurau hynny yn adlewyrchu sefyllfa gofal maeth yng Nghymru, lle'r ydym ni mewn gwirionedd wedi cael proses recriwtio gofalwyr maeth eithaf iach yn ystod y pandemig a lle'r ydym ni wedi gallu parhau i sicrhau bod lleoedd gofal maeth ar gael i'r bobl ifanc hynny sydd eu hangen nhw. Nawr, fel y bydd Angela Burns yn gwybod, mae'n ymdrech barhaus i wneud yn siŵr ein bod ni'n recriwtio'r bobl sydd eu hangen arnom ni i gynnig gofal maeth, weithiau i bobl ifanc sydd â rhai problemau sylweddol yn eu bywydau—weithiau anableddau corfforol yw'r rheini, weithiau maen nhw'n yn etifeddiaeth o'u hanesion nhw eu hunain. A byddwn yn parhau i greu rhwydwaith maethu cenedlaethol yma yng Nghymru, i wneud yn siŵr nad yw cyfleoedd i bobl sy'n dymuno bod yn ofalwyr maeth, a phobl ifanc sydd angen gofal maeth, yn dod i ben wrth ffiniau eu hawdurdodau lleol eu hunain, gan adlewyrchu rhywfaint o'r llwyddiant a gawsom ni yn y gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol. Felly, nid yw'r sefyllfa yng Nghymru yn union fel y gallai cynnwys adroddiad Barnardo's fod wedi peri i rai pobl ei gredu. Fe'i cynhaliwyd yn rhesymol yn y cyfnod anodd iawn hwn, ond mae mwy yr ydym ni eisiau ei wneud bob amser.
Mae'n fater o gonsýrn difrifol i fi, yr effaith y mae'r pandemig a'r cyfyngiadau yn ei chael ar lesiant pobl ifanc—a phobl o bob oed, o ran hynny. Dwi'n clywed tystiolaeth anecdotaidd gan bobl yn y maes meddygol a meysydd cysylltiedig am gynnydd yn nifer hunanladdiadau a phobl yn niweidio eu hunain. A wnaiff y Llywodraeth fel mater o frys gasglu a chyhoeddi data ar hynny fel ein bod ni'n gwybod beth sy'n mynd ymlaen, a llunio strategaeth ar sut i ddelio efo problemau llesiant, a rhoi eglurhad clir hefyd o sut maen nhw'n cydbwyso'r angen i ddelio efo COVID efo'r angen i sicrhau llesiant pobl wrth ystyried pa gyfyngiadau i'w cyflwyno a'u codi, ac yn y blaen?
Wrth gwrs, mae'r ddau beth yn mynd gyda'i gilydd. Dŷn ni yn gwybod bod cyfnod y coronafeirws wedi bod yn gyfnod anodd dros ben i nifer fawr o bobl ifanc yma yng Nghymru. Dyna pam dŷn ni wedi cryfhau'r gwasanaethau sydd gyda ni i helpu pobl ifanc—mwy o arian i addysg uwch, mwy o arian i addysg bellach, i gefnogi llesiant pobl ifanc pan fyddan nhw'n astudio, mwy o arian i'n hysgolion ni i roi mwy o bobl i helpu yn y gwasanaethau sydd gyda ni'n barod, a mwy o help drwy Meic hefyd. Dwi'n siŵr y bydd Rhun ap Iorwerth yn ymwybodol o Meic, sef llinell ar y teliffon ble mae pobl ifanc yn gallu siarad â rhywun, drwy'r dydd, lan at hanner nos. A hefyd, dŷn ni wedi rhoi mwy o arian i Meic. I fod yn glir, bydd y gwasanaeth yna ar gael drwy'r flwyddyn ariannol bresennol. Dŷn ni yn casglu data, wrth gwrs, yn y rhaglenni dŷn ni'n eu rhedeg, a dŷn ni yn cyhoeddi data hefyd. Os oes rhywbeth penodol y mae Rhun ap Iorwerth eisiau ei weld, wrth gwrs dwi'n hollol hapus i drafod hwnna gyda fe ac i roi'r wybodaeth iddo fe os yw hwnna ar gael.
Tynnwyd cwestiwn 2 [OQ55631] yn ôl, ac felly, cwestiwn 3, Caroline Jones.
3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cosbau i'r rhai sy'n torri rheolau COVID-19? OQ55666
Llywydd, rydym ni'n adolygu pob agwedd ar ein rheoliadau yn barhaus, gan gynnwys ein dull o ymdrin â hysbysiadau cosb benodedig. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ystyried pa un a oes angen addasu'r drefn i fynd i'r afael â phroblemau penodol, fel cynnal partïon stryd neu mewn tŷ.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n gwbl amlwg nad yw'r dull moron yn gweithio ac nad yw'r dirwyon sy'n cael eu gorfodi yn llawer o rwystr ychwaith. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y de yn destun cyfyngiadau symud llym unwaith eto a'r cwbl oherwydd gweithredoedd lleiafrif hunanol. Rydym ni wedi colli ein rhyddid oherwydd bod rhai pobl eisiau cael partïon yn y tŷ. Nid ydym ni'n cael ymweld â'n hanwyliaid oherwydd bod rhai pobl o'r farn nad oedd y rheolau yn berthnasol iddyn nhw neu fod £60 yn bris bach i'w dalu am ychydig o hwyl. Mae rheolau yn berthnasol i bawb, o Weinidogion y Llywodraeth i fyfyrwyr llywodraethu ac mae'n hen bryd i ni fynd i'r afael â'r rhai sy'n torri'r rheolau, ac rwyf i wedi cael llond bol o weld cyfryngau cymdeithasol yn llawn pobl yn torri'r rheolau yn amlwg ac yn ddigywilydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ein bod ni angen cosbau llawer mwy llym a gorfodi mwy llym os ydym ni'n mynd i osgoi mwy o gyfyngiadau symud lleol neu genedlaethol hyd yn oed? Diolch.
Wel, rwy'n cytuno ag agweddau ar gwestiwn atodol yr Aelod. Rwy'n cytuno â hi bod y mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru yn parhau i gadw at y rheolau ac i fod yn gydwybodol yn ei gylch, ac mai lleiafrif bach o bobl sy'n torri'r rheolau pan fo'r achosion hynny o dorri'r rheolau yn fwriadol, yn amlwg ac yn ailadroddus. Pan siaradais i â phrif gwnstabl Gwent yr wythnos diwethaf am y sefyllfa yng Ngwent, lle mae cyfyngiadau lleol wedi bod ar waith ers nifer o wythnosau, dywedodd wrthyf fod 95 y cant o'r boblogaeth yno yn cydymffurfio â'r rheolau ac yn gweithio'n galed i wneud hynny. Felly, nid wyf yn cytuno â rhai o'r pethau a ddywedodd yr Aelod, a oedd fel pe byddai'n awgrymu bod diffyg cydymffurfiad helaeth â'r cyfyngiadau y bu'n rhaid i ni eu rhoi ar waith.
Pan fo angen cynyddu cosbau, rydym ni wedi gwneud hynny. Yn ôl ym mis Mai, ychwanegwyd at y lluosydd o bobl sy'n torri'r rheolau dro ar ôl tro fel bod y gosb uchaf yng Nghymru yn mynd o £120 i £1,920, ac fe symudasom yn gyflym, cyn gŵyl y banc ym mis Awst, i wneud yn siŵr bod dirwyon o £10,000 ar gael yng Nghymru i bobl sy'n ceisio trefnu digwyddiadau cerddoriaeth anghyfreithlon. Nawr, rydym ni'n parhau i drafod gyda'r heddlu a fyddai'n ddefnyddiol iddyn nhw gael cosbau estynedig, fel y dywedais, mewn nifer o feysydd penodol, gan gynnwys i bobl sy'n trefnu partïon yn y tŷ a phobl sy'n amlwg yn gwrthod hunanynysu, ac os yw'r achos yno, yna byddwn yn gwneud hynny.
Yn y pen draw—hoffwn ddim ond gwneud y pwynt olaf hwn i'r Aelod, Llywydd—dim ond os oes gennym ni system sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth y mae hyn yn gweithio, os yw pobl yn fodlon chwarae eu rhan ac yn argyhoeddedig o'r angen i wneud hynny. Mae'n rhaid i orfodi fod y dewis olaf, nid y dewis cyntaf, ond pan fydd angen y dewis olaf hwnnw, ni fyddwn yn petruso cyn ei ddefnyddio yng Nghymru.
Rwyf i'n byw yn y boblogaeth fwyaf sy'n croesi ffin genedlaethol yn y DU, gyda pherthnasau agos gerllaw ar ddwy ochr ein ffin anweledig. Yn y cyd-destun hwn, pa gosbau am dorri rheolau COVID-19 ydych chi'n credu a ddylai fod yn berthnasol pe byddai meddyg iau anesthetig yn Ysbyty Glan Clwyd yn cyfarfod â'i ddyweddi, sy'n ymgymryd â chymrodoriaeth glinigol yn ysbyty Christie ym Manceinion, pan fo'n rhaid i'r ddau fyw yn lleol i'r ysbytai hyn, y mae'r ddau wedi bod ar reng flaen pandemig coronafeirws ers ei ddechrau yma, a arweiniodd at y ddau yn dal COVID-19 yn ystod eu gwaith, y mae'r ddau wedi gweithio oriau ychwanegol heb dâl ychwanegol, ac y mae'r ddau yn byw ar ei pennau eu hunain. Llwyddasant i ddyfalbarhau â blinder corfforol a meddyliol trwy gefnogi ei gilydd. Fodd bynnag, mae eich cyhoeddiad diweddaraf o gyfyngiadau symud yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn golygu bod eu prif gymorth bellach yn anghyfreithlon gan na chânt ymweld â'i gilydd.
Wel, nid oes gen i amheuaeth, Llywydd, y byddan nhw'n deall yn well na'r Aelod pam mae angen y cyfyngiadau hynny. Ar ein hochr ni o ffin gogledd-ddwyrain Cymru, mae cyfraddau coronafeirws yn dal i fod yn is na 100 o bob 100,000 o'r boblogaeth. Ym Manceinion, heddiw, maen nhw'n adrodd dros 500 o bob 100,000 o'r boblogaeth. A bydd pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn sicr o ddeall pam nad yw'n ddoeth i bobl o ardaloedd coronafeirws uchel iawn gael teithio at bobl sy'n byw mewn ardaloedd lle nad yw'r firws mewn cylchrediad mor fywiog a chymysgu â nhw. Bydd yr aelodau hynny o'r gwasanaeth iechyd hefyd yn gwybod, hyd yn oed os nad yw'r Aelod, bod effaith coronafeirws ar lefel gymunedol yn cael ei theimlo yn ein hysbytai hefyd erbyn hyn. Yn ystod yr wythnos diwethaf, roedd pobl ag achosion tybiedig neu a gadarnhawyd o coronafeirws mewn 453 o welyau yn ein GIG; 203 oedd y ffigur bythefnos yn ôl. Nawr, os nad yw'r Aelod yn deall yr angen i weithredu ac i weithredu nawr i atal yr effaith ar ein GIG rhag dychwelyd i'r sefyllfa yr oedd ynddi yn gynharach yn y flwyddyn, yna gallaf ei sicrhau bod pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn deall hynny yn dda iawn.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Ddydd Llun, Prif Weinidog, adroddwyd bod 596 o achosion COVID cadarnhaol newydd wedi'u nodi yng Nghymru yn dilyn prawf labordy—y ffigur uchaf, rwy'n credu, ers i'r pandemig ddechrau ac mae SAGE wedi dweud ei bod yn debygol bod achosion yn gyffredinol yng Nghymru yn cynyddu rhwng 1 y cant a 5 y cant bob dydd.
Dros y pythefnos diwethaf, rwyf i wedi codi gyda chi y gwiriondeb o bobl mewn ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau symud yn Lloegr yn cael teithio i Gymru i ardaloedd lle mae trosglwyddiad cymunedol yn isel. Ni ddylai diystyriaeth Prif Weinidog y DU o'r posibilrwydd o gyfyngiadau teithio o'r fath fod wedi bod yn llawer o syndod, efallai, o gofio'r dirmyg cyffredinol y mae ei Lywodraeth yn ei ddangos dro ar ôl tro tuag at Gymru. Rydym ni wedi galw am weithredu yn gyson ar y mater hwn ers yr haf. A allwch chi ddweud a ydych chi'n bwriadu gweithredu eich hunain yn annibynnol fel Llywodraeth a phryd, ac, yn ogystal ag ystyried cyflwyno cwarantin fel ateb, a oes ystyriaeth yn cael ei rhoi i wneud teithio nad yw'n hanfodol i Gymru o ardal sy'n destun cyfyngiadau symud yn anghyfreithlon ac yn destun camau gorfodi gan yr heddlu?
Wel, Llywydd, diolchaf i Adam Price am hynna. Rwy'n rhannu ei ymdeimlad o siom yng nghasgliad tybiedig Prif Weinidog y DU—a dywedaf 'tybiedig' oherwydd er iddo roi cyfweliad pryd y rhoddodd farn ar y mater hwn, nid yw eto wedi ymateb i'm llythyr ato ddydd Llun yr wythnos diwethaf, ac rwy'n credu bod hynny yn amharchus dros ben, nid i mi ond i'r Senedd ac i bobl yma yng Nghymru. Rwyf yn disgwyl gweld ateb i'r llythyr hwnnw a disgwyliaf weld rhesymeg wedi'i chyflwyno yn y llythyr hwnnw sy'n esbonio pam yr ymddengys bod Prif Weinidog y DU wedi dod i'w gasgliad.
Nid datrysiad ffiniol oedd yr hyn y gofynnais amdano yn fy llythyr, roedd yn ddatrysiad a fyddai wedi atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd â nifer fawr o achosion yn Lloegr rhag teithio i fannau eraill lle nad oedd y feirws yn yr un lle, boed hynny yn Lloegr, yn yr Alban neu yng Nghymru. Dyna'r ateb sydd gennym ni yng Nghymru: nid yw pobl sy'n byw mewn ardaloedd â nifer fawr o achosion coronafeirws yng Nghymru yn cael teithio i Loegr i fynd â'r feirws gyda nhw. Ac rwy'n dal i gredu mai dyna'r ateb cywir a phwysais hynny eto gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn mewn cyfarfod a gynhaliwyd gydag ef ddoe.
Yn y cyfamser, Llywydd, mae'n rhaid i ni baratoi yn erbyn y diwrnod pan fydd Prif Weinidog y DU yn parhau i wrthod cymryd y cam syml a doeth hwn, a cheir amrywiaeth o ffyrdd y gallem ni weithredu. Mae cwarantîn yn un ohonyn nhw, bydd yr Aelodau yn cofio'r rheol pum milltir a oedd gennym ni yng Nghymru, neu'r canllawiau pum milltir, o leiaf, yr oedd gennym ni yng Nghymru yn gynharach yn yr haf, ac mae'r posibilrwydd y mae Adam Price wedi ei gynnig yn bosibilrwydd arall y gallem ni ei ddefnyddio o fewn ein pwerau ein hunain. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd ail orau o wneud hynny. Rwyf i wedi cynnig y ffordd orau i Brif Weinidog y DU. Rwy'n disgwyl cael ateb iawn ganddo. Os bydd yn gwrthod gwneud hynny, yna, wrth gwrs, byddwn yn meddwl am yr hyn y gallwn ni ei wneud, ac rydym ni wrthi'n archwilio'r hyn y gallwn ni ei wneud, gyda'r pwerau sydd gennym ni ein hunain.
Mae Llywodraeth yr Alban, Prif Weinidog, wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno cyfyngiadau llawer tynnach yn y dyddiau nesaf. Rydych chi eich hunan wedi cael cyngor gan y gell gynghori dechnegol yn dweud mai'r cynharach y bydd mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno, y mwyaf effeithiol y byddan nhw. Gallai'r math o fesurau ychwanegol y gallem ni fod yn sôn amdanyn nhw yn ein cyd-destun ni, er enghraifft, gynnwys cau tafarndai dan do yn llwyr mewn ardaloedd lle ceir lefelau uchel o haint, fel y mae Paris wedi ei wneud am bythefnos gan ddechrau heddiw, gyda chefnogaeth, wrth gwrs, pecynnau cymorth addas a digonol i'r diwydiant. Pa ystyriaeth weithredol ydych chi'n ei rhoi i'r posibilrwydd o gyflwyno cyfnod byr o gyfyngiadau tynnach—'mesur torri cylched' fel y'i hadnabyddir erbyn hyn?
Wel, Llywydd, rydym ni yn rhoi ystyriaeth i hynny, wrth gwrs, a chefais gyfle i drafod hynny hefyd ddoe gyda Phrif Weinidog yr Alban. Llywydd, dydyn ni ddim yn trafod dwy gyfres o fesurau. Mae'r ffigurau yr wyf i wedi eu gweld, y rhai diweddaraf, a fydd, mae'n debyg, ar gael i'r cyhoedd yn ddiweddarach yn y dydd, yn dangos bod y mesurau lleol yr ydym ni wedi eu cymryd mewn rhannau o'r de yn cael rhywfaint o lwyddiant. Felly, rwyf i'n gweithio gyda swyddogion i weld a allai fod yn bosibl, ar yr amod bod y llwyddiant hwnnw yn cael ei gynnal, i allu codi rhai o'r cyfyngiadau yr ydym ni wedi eu gorfodi ar bobl yn y rhan honno o Gymru, cyn belled â bod y mesurau yr ydym ni'n eu cymryd hyd yma yn dangos y gallu i wneud hynny. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni baratoi, yn y ffordd y mae Adam Price wedi ei awgrymu, ar gyfer y ffaith y gallai pethau waethygu, nid gwella, dros y gaeaf hwn. Mae cyfres o fesurau wedi'u cyflwyno yn y cynllun a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Awst ar gyfer cyfyngiadau ardal i ddiogelu iechyd. Nid ydym ni wedi eu defnyddio nhw i gyd o bell ffordd, a phe byddai angen i ni eu defnyddio nhw ymhellach, yna byddai'n rhaid i ni wneud hynny—mae pa un a fyddai'n rhaid i ni wneud hynny am gyfnod byr braidd yn optimistaidd yn fy marn i. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddysgu o'r mesurau yr ydym ni eisoes wedi eu rhoi ar waith yw ei bod hi'n cymryd ychydig wythnosau i'r rheini allu newid cwrs y coronafeirws. Ond rydym ni'n gweithio ar y ddau bosibilrwydd—gallu codi cyfyngiadau pan fo'r data yn dangos ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny ac ar fesurau ychwanegol y gallai fod yn rhaid i ni eu cymryd os na fydd hynny yn digwydd.
Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog nad yw cyfres fyrdymor o bolisïau yn gallu cymryd lle strategaeth hirdymor, mewn gwirionedd. Ond mae adroddiad y gell gynghori dechnegol, sydd newydd gael ei gyhoeddi, a dweud y gwir, o fewn yr awr ddiwethaf, yn ddeunydd darllen difrifol iawn. Mae'r gyfradd R y mae'n ei dyfynnu nawr ar gyfer Cymru rhwng 1.3 ac 1.6, ac mae hynny'n gwrthgyferbynnu â dechrau mis Medi pan ddywedwyd ei bod rhwng 0.5 ac 1. Mae'n dweud bod nifer yr achosion yng Nghymru bellach yn tyfu—mae nifer yr achosion o heintio yn tyfu yn gyffredinol. Mae'n mynd ymlaen i ddweud:
Oni bai bod mesurau yn dod ag R yn ôl o dan 1, mae'n bosibl y gallai nifer yr achosion o heintiau a derbyniadau i'r ysbyty fod yn fwy na'r hyn a gynlluniwyd ar gyfer sefyllfaoedd.
Ac mae wedi dweud yn y gorffennol os na fydd y mesurau presennol yn dod ag R islaw 1, yna bydd angen cyfyngiadau pellach i reoli'r epidemig yng Nghymru. Ar ba bwynt ydych chi'n meddwl yr ydym ni nawr? A ydym ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn neu'r cyfeiriad anghywir, Prif Weinidog? Ac a fyddech chi'n derbyn fel pwynt cyffredinol bod pob Llywodraeth sy'n wynebu ail don yn gorfod dewis rhwng mynd yn gynnar ac yn galed o ran tynhau cyfyngiadau, neu'n ddiweddarach ac yn ysgafnach, ac yn hwy mae'n debyg, gan y byddai'r mesurau hynny yn llai effeithiol? Nid oes unrhyw ddewisiadau di-risg, ar un ystyr, i unrhyw Lywodraeth, ond onid y risg fwyaf oll yw petruso ac oedi?
Wel, Llywydd, diolchaf i Adam Price, heblaw am ran olaf ei frawddeg, oherwydd roeddwn i'n meddwl hyd at hynny, ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig iawn at y drafodaeth hon. Rwy'n credu bod dull gweithredu Llywodraeth Cymru wedi bod yn gynnar ac yn galed, felly mae ein trothwyon ar gyfer gweithredu yn is na dros ein ffin. Ein trothwy yw 50 achos o bob 100,000 cyn i ni weithredu. 75 yw'r trothwy dros ein ffin. Mae ein trothwyon cyfradd gadarnhaol yn is nag y maen nhw yn y Deyrnas Unedig. A bydd ef yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu yn fawr yr wythnos diwethaf gan Aelodau Seneddol Ceidwadol, ac rwy'n credu, yn warthus, Aelodau Ceidwadol y Senedd, pan gymerasom ni gamau yn y gogledd, gan nad oeddem ni wedi cyrraedd y trothwyon 50 hynny eto, er ei bod hi'n gwbl amlwg i unrhyw un a astudiodd y ffigurau bod gogledd Cymru ar ei ffordd i'r trothwy hwnnw—ac yn anffodus, heddiw, mae ymhell heibio iddo.
Felly, rydym ni wedi cymryd camau cynnar, a chamau sy'n anodd i bobl. Rwyf i wir yn deall ein bod ni'n gofyn i bobl sy'n wynebu'r cyfyngiadau lleol hyn wneud cyfraniad sy'n amharu ar eu bywydau bob dydd. Ond rydym ni wedi gwneud hynny gan ein bod ni'n credu, fel y dywedodd Adam Price, os byddwn ni'n gweithredu yn gynnar, yna mae'n debygol y bydd yn rhaid i'r camau hynny bara am gyfnod byrrach cyn y gallwn ni roi rhyddid yn ôl i bobl. Yr arwyddion cynnar o'r de yw ein bod ni'n cael rhywfaint o lwyddiant o ran gwneud yr union beth hwnnw. Ac er bod adroddiad TAC yn ddifrifol iawn yn yr hyn y mae'n ei ddweud, a dylai fod yn rhybudd gwirioneddol i unrhyw un sy'n credu bod Llywodraeth Cymru rywsut yn gweithredu yn frysiog neu'n cyflwyno cyfyngiadau lle nad oes eu hangen, mae'n sicr y byddai'r adroddiad TAC hwnnw yn bwysig iddyn nhw ei ddarllen. Ond yn gytbwys—. Ac yno yn adroddiad TAC hefyd y mae'r dystiolaeth bod y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth, a dyna, fel y dywedodd Adam Price, yw'r ymdrech gydbwyso anodd iawn sy'n wynebu unrhyw Lywodraeth sy'n ceisio ymateb, yn gymesur ond o ddifrif, i'r cynnydd diweddaraf i'r ffigurau.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, adroddwyd heddiw bod y rhestr o bobl sy'n aros am lawdriniaeth arferol yng Nghymru bron chwe gwaith yn hwy na blwyddyn yn ôl, ac mae un llawfeddyg orthopedig wedi rhybuddio y gallai amseroedd aros am bethau fel pen-glin a chluniau newydd fod yn dair blynedd. A yw e'n iawn, Prif Weinidog?
Wel, mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod coronafeirws yn cael ac wedi cael effaith ddifrifol iawn ar allu'r gwasanaeth iechyd i gyflawni gweithgareddau a fyddai, ar unrhyw adeg arall, wedi bod yn ganolog i waith y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae hynny, mae arnaf i ofn, yn anochel, ni ellir ei osgoi. Ac er bod y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed iawn i greu'r amodau lle gellir cyflawni cymaint o weithgarwch â phosibl tra bod yr argyfwng coronafeirws yn parhau, nid oes dianc rhag y ffaith y bydd amseroedd aros hwy am rai llawdriniaethau yng Nghymru nag yr ydym ni wedi ei weld ers cryn amser.
Wel, yn gwbl amlwg, Prif Weinidog, mae angen felly i Lywodraeth Cymru gynyddu ei hymdrechion, oherwydd mae nifer o sefydliadau proffesiynol wedi mynegi pryder gwirioneddol ynghylch ailddechrau gwasanaethau yn ystod y misoedd diwethaf. Dros yr haf, rhybuddiodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon y bydd oedi cyn llawdriniaeth eisoes wedi arwain at fwy o angen am lawdriniaeth gymhleth; rhybuddiodd Sefydliad Prydeinig y Galon, gan nad yw gwasanaethau ar gael o hyd, bod brys y llawdriniaethau hyn yn cynyddu, gan greu carfan sylweddol o gleifion sydd angen triniaeth frys; ac mae Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru wedi dweud eu bod yn pryderu am y posibilrwydd o reoli gofal rheolaidd ochr yn ochr ag ail don. Prif Weinidog, bydd yr oediadau hyn yn parhau roi pwysau ar gapasiti'r GIG, ac mae'r sefydliadau hyn wedi bod yn rhybuddio am hyn ers cryn amser. Nawr, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu datblygiad parthau gwyrdd neu fannau COVID isel fel y'u gelwir mewn ysbytai. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau a gymerodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r rhybuddion hyn i helpu i hwyluso triniaeth i'r bobl hynny sy'n aros ledled Cymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflymu'r gwaith o ddatblygu parthau gwyrdd yn ysbytai Cymru?
Wel, Llywydd, byddai'r Aelod yn dod o hyd i'r ateb i'w gwestiynau yn y cynlluniau chwarterol y mae'n ofynnol i'r GIG yng Nghymru eu cyhoeddi. Cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer chwarteri 3 a 4 dim ond yn ddiweddar; maen nhw'n dangos y camau sy'n cael eu cymryd gan fyrddau iechyd ledled Cymru i gyflymu'r dychweliad i'r math o weithgarwch y byddai'r gwasanaeth iechyd wedi bod yn ei gyflawni yr adeg hon y llynedd, cyn i'r argyfwng coronafeirws daro. Ac mae hynny'n cynnwys creu mwy o barthau gwyrdd—nid yw bob amser yn bosibl yng Nghymru i greu ysbytai cyfan fel parthau gwyrdd. Mae'n anochel, o ystyried ein daearyddiaeth a'n trefniad o wasanaethau y bydd yn rhaid rhannu ysbytai, mewn rhai mannau, yn barthau sy'n ymdrin â chleifion coronafeirws a pharthau gwyrdd sy'n rhydd o COVID. Ond mae'r gwaith hwnnw yn parhau, ac mae ein cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, sydd wedi cael cyfnod mor dorcalonnus dros y chwe mis diwethaf, yn gweithio mor galed ag y gallant er mwyn gallu ymdrin â'r nifer gynyddol o gleifion coronafeirws sy'n dod i mewn i'n hysbytai—dyfynnais y ffigur hwnnw i Mark Isherwood yn gynharach: dros 200 yn fwy o welyau wedi'u meddiannu gan achosion coronafeirws heddiw na phythefnos yn ôl—. Mae'r gwasanaeth iechyd yn gorfod ymdopi â hynny i gyd, ac ar yr un pryd a chyda'r un staff, mae'n gwneud ei orau glas i wneud cynnydd o ran yr oediadau a gafwyd yn anochel i driniaethau mwy arferol i gleifion eraill.
Prif Weinidog, ni allaf bwysleisio digon bod pobl go iawn sy'n aros yn daer am driniaethau a llawdriniaeth y tu ôl i ffigurau Llywodraeth Cymru. Hyd yn oed mewn ardaloedd nad ydynt yn destun cyfyngiadau symud, fel Sir Benfro, ceir enghreifftiau o arosiadau arbennig o hir am driniaeth; er enghraifft, yr wythnos diwethaf, tynnais sylw at arhosiad o 81 wythnos am driniaeth ddeintyddol i blentyn awtistig 11 oed yn fy etholaeth i. Mae pâr sy'n awyddus iawn i ailddechrau eu triniaethau ffrwythlondeb ac sy'n aros am newyddion ynghylch pryd y gall eu taith cynllunio teulu ailddechrau wedi cysylltu â mi hefyd. Mae pobl ledled Cymru, o'r gogledd i'r de, yn dal i aros am driniaethau a llawdriniaeth ar amrywiaeth o faterion. Mae'r bobl hynny angen eich cymorth, Prif Weinidog, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth fel mater o frys nawr.
Felly, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer mynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol Cymru? A wnewch chi gadarnhau hefyd y bydd cyllideb nesaf Llywodraeth Cymru yn darparu digon o adnoddau i fyrddau iechyd ledled Cymru i sicrhau na fydd yr amseroedd aros hyn yn parhau i godi? Pa sicrwydd allwch chi ei gynnig i bobl ledled Cymru sy'n aros am driniaeth y byddan nhw'n gallu cael triniaethau a gwasanaethau'r GIG, a bod gwaith ar y gweill mewn gwirionedd i gyflymu'r broses o ailddechrau llawdriniaethau a drefnwyd ledled Cymru?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod wedi gofyn tri chwestiwn i mi y prynhawn yma. Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn ddim ond crynodeb o'r anawsterau sy'n hysbys iawn ac yr wyf i'n hapus iawn i'w cydnabod. Nid yw wedi cynnig yr un awgrym—dim un—ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â'r problemau hynny. Ac mae'r problemau hynny yn gyffredin ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Lle mae ei blaid ef wrth y llyw, ym mis Mawrth eleni roedd 3,000 o bobl yn aros mwy na 52 wythnos; erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd yn 83,000 o bobl. Pe byddai atebion hawdd i'r cyfyng-gyngor gwirioneddol hwn, bydden nhw ar gael yma yng Nghymru, yn union fel y bydden nhw ar gael mewn mannau eraill. Nid oes atebion hawdd, ac nid yw cyfraniadau'r Aelod y prynhawn yma wedi cynnig yr un syniad—dim un—o ran sut y gellid mynd i'r afael â'r anawsterau gwirioneddol hyn yn well.
Pan ddaw'n fater o ddweud wrthyf i, 'A wnaf i sicrhau y bydd cyllideb y flwyddyn nesaf yn darparu arian?', gadewch i mi ei atgoffa nad ydym ni'n gwybod beth fydd cyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Unwaith eto, mae ei Lywodraeth ef, ar ôl addo cyllideb ddechrau'r hydref, wedi penderfynu na allan nhw lwyddo i wneud hynny. Ni fyddwn yn gwybod tan ddiwedd mis Tachwedd pa arian sydd gennym ni yma yng Nghymru ar gyfer unrhyw un o'n gwasanaethau cyhoeddus. Yn y sefyllfa honno, sut y mae e'n disgwyl—sut yn y byd gallai ef ddisgwyl—sicrwydd ynghylch sut y gallai ein harian gael ei ddefnyddio pan nad ydym ni'n gwybod faint o arian fydd gennym ni at unrhyw ddiben cyhoeddus? Byddai'n well iddo gyfeirio ei gwynion at y rhai a allai ddatrys hynny.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, a gaf i eich rhybuddio rhag dweud bod pobl yn warthus dim ond oherwydd bod ganddyn nhw—Aelodau Ceidwadol yn y gogledd yn yr achos hwn—wahanol safbwynt ar gyfyngiadau coronafeirws i'r un sydd gennych chi ac sy'n gofyn cwestiynau am hynny?
Mae gan eich Llywodraeth uchelgais hirdymor penodol o 30 y cant yn gweithio gartref yng Nghymru, hyd yn oed ar ôl y pandemig. Rydych chi'n dweud y byddech chi'n cyflawni hyn drwy ysgogi newidiadau i ddiwylliant gwaith Cymru. Prif Weinidog, mae eich dirprwy Weinidog trafnidiaeth yn dweud bod gennym ni gyfle i hyrwyddo gweithio gartref—efallai y byddai pobl eraill yn ei alw yn gamfanteisio ar y pandemig i hyrwyddo ei agenda wleidyddol flaenorol ei hun. Beth fydd effaith hyn ar ganol ein dinasoedd a'r siopau a'r swyddfeydd yno, yn enwedig ar fusnesau annibynnol nad ydyn nhw'n gallu gwasanaethu cymudwyr mwyach? Oni fydd eich targed ar gyfer gweithio gartref yr hoelen olaf yn yr arch i lawer ohonyn nhw? A pham ydych chi'n meddwl y gall Llywodraeth Cymru gynllunio ein cymdeithas o'r canol, fel pe byddech chi'n gweld ac yn gwybod popeth? Pam mai 30 y cant yw'r nifer iawn?
Wel, Llywydd, defnyddiais y term 'gwarthus' yn fwriadol, yn feddylgar, ac mae'n warthus am y rheswm hwn: bod y llythyr a gyhoeddwyd gan Aelodau Seneddol Ceidwadol, ac, fel y dywedais, Aelodau'r Senedd hon hefyd, yr wythnos diwethaf yn anogaeth i bobl yn y gogledd beidio â chadw at y gyfraith sy'n cael ei phasio yma yng Nghymru. Rwyf yn credu ei bod yn warthus i wneuthurwyr deddfau wneud hynny, oherwydd roedd yn eu hannog i feddwl bod y cyfyngiadau y bu'n rhaid i ni eu gorfodi ar bobl yn y gogledd yn ddiangen ac na ellid eu cyfiawnhau. Nid oedd dim o hynny'n wir, ac mae'n tanseilio parodrwydd pobl eraill sydd eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud eu cyfraniad rhag gwneud hynny hefyd, ac rwy'n credu bod hynny yn beth gwarthus i'w wneud ac rwy'n hapus iawn i sefyll wrth y disgrifiad hwnnw ohono.
Llywydd, mae'r argyfwng coronafeirws wedi bod yn brofiad ofnadwy i gynifer o'n cyd-ddinasyddion ac mae'n parhau i fod felly. Ond, hyn i gyd, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o feddwl am bethau y gallwn ni eu cymryd ohono ac i'n helpu ni i lunio ein dyfodol mewn ffordd wahanol. Mae'r ffaith ein bod ni i gyd wedi dysgu i weithio yn wahanol, heb orfod teithio mewn niferoedd mawr i swyddfeydd pan all pobl weithio yr un mor foddhaol a llwyddiannus o leoliadau o bell neu hyd yn oed o'u cartrefi, yn fy marn i, yn un o'r gwersi cadarnhaol y gallwn ni eu cymryd o'r chwe mis diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau manteisio ar y profiad cadarnhaol hwnnw a'i wneud yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n gweld Cymru yma yn y dyfodol, a bydd yn golygu y bydd yn rhaid i fusnesau ymateb i'r patrymau newidiol hynny. Nid yw'n fater o golli busnesau yn y crynswth, oherwydd bydd y busnesau hynny yn adleoli ac yn cael eu hail-greu mewn lleoedd yn ein trefi, yn nes at y man lle mae pobl yn byw, lle bydd pobl, gan ddefnyddio ein canolfannau gweithio o bell, yn gallu mynd erbyn hyn i wneud y pethau hynny na allwch chi eu gwneud gartref gan dreulio rhan o'r wythnos waith yn gweithio gartref hefyd. Bydd yn helpu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, bydd yn adfywio rhannau o'n trefi y tu allan i'n dinasoedd mawr, bydd yn cael effaith lesol ar ein hamgylchedd. Mae'n uchelgais dilys ac, rwy'n credu yn un sydd â llawer o gefnogaeth iddo o ran y ffordd yr ydym ni eisiau gwneud pethau yma yng Nghymru.
Felly, ar gyfer y busnesau annibynnol hynny sy'n gwasanaethu cymudwyr, 'Anlwcus.'
Prif Weinidog, pan fydd Llywodraeth y DU yn awgrymu y gallai dalu am ffordd liniaru'r M4, prosiect a addawyd gennych chi ond a ddywedasoch yn ddiweddarach na allech chi ei fforddio, rydych chi a'ch cyd-Aelodau yn ymateb fel pe byddai'n ymosodiad ar ddatganoli, ond prin yw'r arwyddion yr ydych chi'n eu dangos eich hun o barchu'r setliad datganoli. Rydych chi'n ceisio gorfodi ffin gyda Lloegr drwy atal pobl sy'n cael teithio yn gyfreithlon o fewn Lloegr rhag teithio i Gymru. Mae gennych chi Weinidog cysylltiadau tramor. Rydych chi'n dweud, 'Datganolwch gyfiawnder', y mae aelodau eich meinciau cefn yn dweud wrthym y gallai olygu caniatáu pardwn i bobl a gafwyd yn euog o ymosod ar yr heddlu. Fe wnaethoch dderbyn datganoli pwerau codi trethi incwm heb y refferendwm a addawyd. Dywedasoch hyd yn oed nad yw eich cefnogaeth i'r undeb yn ddiamod, y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ddisgrifio fel bod yn chwilfrydig ynghylch annibyniaeth. Nawr rydych chi'n ei ddilyn ar reoli ffiniau rhwng Cymru a Lloegr. A allech chi gymryd cam arall y flwyddyn nesaf ar y llethr llithrig hwnnw i annibyniaeth drwy bleidleisio dros Adam Price i fod yn Brif Weinidog i ni, neu a ydych chi'n diystyru hynny?
Llywydd, atgoffaf yr Aelod, fel y bu'n rhaid i mi ei wneud lawer gwaith, mai ef a bleidleisiodd i beidio â chynnal refferendwm ar bwerau treth incwm i'r Senedd, nid fi. Roedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol bryd hynny. Y Blaid Geidwadol a newidiodd ei meddwl am refferendwm, ac yn ddi-os fe wnaeth ef gyd-fynd â hynny ar y pryd. Mae ganddo wyneb yn ceisio cwyno am hynny nawr neu awgrymu mai rhywun arall sy'n gyfrifol.
Llywydd, ni fyddaf yn pleidleisio dros ymgeisydd o unrhyw blaid arall ac eithrio'r Blaid Lafur i fod yn Brif Weinidog yma yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at argyhoeddi cynifer o'n cyd-ddinasyddion â phosibl i fynd ar yr un daith.
4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau ym Mlaenau Gwent yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ55643
Diolchaf i Alun Davies am y cwestiwn yna. Hyd yma, dyfarnwyd cyllid i gyfanswm o 199 o ficro-fusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint ym Mlaenau Gwent drwy'r gronfa cadernid economaidd, yn dod i gyfanswm o £3 miliwn. Hefyd, rydym ni wedi dyfarnu 62 o grantiau cychwyn gwerth £155,000, a 1,420 o ddyfarniadau grant ardrethi busnes annomestig COVID-19, yn dod i gyfanswm o £15.8 miliwn ym Mlaenau Gwent yn unig.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, a gwn fod llawer o fusnesau ym Mlaenau Gwent hefyd yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei chael gan Lywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig hwn. Ond rydym ni hefyd yn gwybod—ac rwy'n croesawu cyhoeddiad y datganiad y bore yma ar sut y byddwn yn ailadeiladu yn sgil y pandemig hwn—rydym ni'n gwybod y bydd angen buddsoddiad parhaus a chynyddol ar ardaloedd fel Blaenau Gwent er mwyn cynnal hyfywedd busnesau yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd. Bydd angen i'r buddsoddiad hwnnw fod yn gyfannol ac yn gynhwysfawr, gan fuddsoddi mewn pobl a lleoedd. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn economi Blaenau'r Cymoedd, a Blaenau Gwent yn benodol, ond y bydd hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn meysydd fel band eang cyflym iawn a'r rhwydwaith rheilffyrdd i sicrhau bod gennym ni'r strategaeth ddiwydiannol gyfannol y bydd ei hangen ar leoedd fel Blaenau Gwent er mwyn cynnal bywiogrwydd busnesau a swyddi yn y dyfodol?
Llywydd, diolchaf i Alun Davies am hynna. Rwy'n cytuno yn llwyr ag ef ei bod yn rhaid i'n strategaeth fuddsoddi fod yn gyfuniad o fuddsoddi mewn pobl, i roi'r sgiliau iddyn nhw, yr hyfforddiant, y cyfleoedd sydd eu hangen arnyn nhw i lunio eu dyfodol eu hunain, a buddsoddi mewn lleoedd hefyd fel bod y lleoedd hynny yn hygyrch a bod y lleoedd hynny yn ffynnu. A thrwy ein pecyn gweddnewid trefi, er enghraifft, y gwn fod ganddo gynigion, cynigion ymarferol, ym Mlaenau Gwent, ym Mryn-mawr, yn Nhredegar, yn Nant-y-glo, mae'r rheini yn lleoedd y mae pobl eisiau byw ynddyn nhw ac yn eu cydnabod fel lleoedd a werthfawrogir.
Roedd gen i ddiddordeb mawr, Llywydd, yn yr hyn a ddywedodd Alun Davies tuag at ddiwedd ei gwestiwn am Lywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn band eang cyflym iawn ac yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Darllenais, dros y penwythnos, erthygl gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y fan yma, pryd y dywedodd, pe byddai yn arwain y Senedd, y byddai'n dod â gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfrifoldebau nad ydyn nhw wedi eu datganoli i ben. Wel, fe'i hatgoffaf, pan ddaw'n fater o fand eang cyflym iawn, o'r £200 miliwn a wariwyd arno gan y gwasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru, bod £67 miliwn wedi dod oddi wrth Lywodraeth y DU a bod dros £130 miliwn wedi dod oddi wrth Lywodraeth Cymru, ar gyfrifoldeb nad yw wedi ei ddatganoli, yn benodol er mwyn gwneud iawn am fethiannau'r farchnad a'r methiant y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i fuddsoddi. Felly, rwy'n hapus iawn i gadarnhau i Alun Davies y bydd y Llywodraeth hon yn buddsoddi yn y pethau hynny sy'n gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru, a, phan fo'n rhaid i ni wneud iawn am fethiannau Llywodraeth y DU, byddwn yn camu i mewn i wneud yn siŵr bod gan bobl yng Nghymru y cysylltedd sydd ei angen arnyn nhw, boed hynny drwy fand eang, boed hynny drwy gludiant cyhoeddus, a fyddai yn cael eu hesgeuluso mewn ffordd mor gywilyddus fel arall.
Prif Weinidog, gall busnesau ym Mlaenau Gwent a siroedd eraill sy'n dioddef effeithiau cyfyngiadau symud lleol hawlio cymorth gennych chi, o gronfa cadernid economaidd y Llywodraeth hon, ac mae hynny i'w groesawu yn fawr. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau symud lleol yn cael effaith ddifrifol a niweidiol ar fusnesau yn Sir Fynwy oherwydd diffyg pobl o ardaloedd cyfagos a fyddai fel rheol, ac yn amlwg na allant nawr, yn teithio yno i siopa, i weithio ac i fwyta allan. Dywedodd un masnachwr bach yr ymwelais ag ef ddoe eu bod nhw wedi mynd o 200 o gwsmeriaid y dydd i lai nag 20. Mae busnesau twristiaeth eisoes yn dweud bod pobl yn canslo. Oni bai bod y busnesau hyn yn cael cymorth, maen nhw'n annhebygol o oroesi, felly a gaf i gefnogi apêl Cyngor Sir Fynwy i chi a gofyn i chi, Prif Weinidog, ymestyn trydydd cam eich cronfa cadernid economaidd o £60 miliwn i fasnachwyr mewn ardaloedd fel Sir Fynwy sy'n cael eu heffeithio yn andwyol wrth gael eu hamgylchynu gan gyfyngiadau symud lleol?
Llywydd, diolchaf i Laura Anne Jones am y cwestiwn yna, sy'n gwestiwn priodol a difrifol y gwn fod fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn meddwl amdano ac y bydd wedi clywed y sylwadau o Sir Fynwy.
Pan siaradais ddiwethaf â Peter Fox, arweinydd Ceidwadol Sir Fynwy, roedd yn eglur nad oedd angen cyfyngiadau symud lleol yn y sir honno eto, a gobeithiaf y byddwn ni'n gallu eu hosgoi yn gyfan gwbl. Mae 80 miliwn o bunnoedd yng ngham 3 y gronfa cadernid economaidd—a diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd amdano—ar gael, wrth gwrs, i fusnesau yn Sir Fynwy, fel mewn mannau eraill, ond byddaf yn gwneud yn siŵr a byddaf yn gofyn i'm cyd-Weinidog Ken Skates ddarllen yr hyn y mae wedi ei ddweud y prynhawn yma am yr effeithiau ffin ar awdurdodau cyfagos lle mae angen cyfyngiadau symud lleol.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfyngiadau coronafeirws lleol fel y maent yn gymwys i Fwrdeistref Sirol Caerffili ar hyn o bryd? OQ55660
A gaf i ddiolch i Hefin David am hynna, Llywydd? Mae'n galonogol bod nifer yr achosion o coronafeirws wedi parhau i ostwng yn raddol ym mwrdeistref Caerffili dros y saith diwrnod diwethaf. Mae hyn yn adlewyrchiad o ymdrechion ymroddedig pobl sy'n byw yn yr ardal. Cyhyd â bod y gostyngiad hwnnw yn parhau, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i gynllunio ar gyfer codi'r cyfyngiadau hynny yn raddol.
Dros yr wythnosau diwethaf yma yng Nghaerffili, rydym ni wedi gwneud ein gorau glas i reoli lledaeniad cymunedol COVID-19, ac, fel y mae'r Prif Weinidog yn ei gydnabod, rydym ni wedi cyflawni hynny, ac rwy'n croesawu'r ffaith ei fod yn cydnabod hynny. Cynigiaf gyfle iddo hefyd, unwaith eto, longyfarch pobl Caerffili am lwyddo i wneud hynny.
A yw'n gallu rhoi amlinelliad i ni o sut y bydd y broses benderfynu yn cael ei gwneud yr wythnos hon a phob wythnos? Sut mae'r broses o wneud penderfyniad yn digwydd? Ai cyfarfod gyda'r cyngor bwrdeistref sirol ydyw? A yw'r Gweinidog iechyd yn cymryd rhan? Os gall egluro sut y mae hynny yn digwydd yr wythnos hon, ac, wedyn, pryd y bydd y datganiad cyhoeddus yn cael ei wneud, ar ba ffurf a sut? Ac efallai gyda'r cwestiwn olaf hwn fy mod i'n gwthio fy lwc, ond a fyddai'n gallu rhoi syniad i ni o'r hyn y gallai ein sefyllfa fod yr wythnos hon?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Hefin David am y cwestiynau priodol iawn yna? A, wyddoch chi, hoffwn ddweud eto ei fod yn iawn bod crynodeb y gell gynghori dechnegol, y cyfeiriodd Adam Price ati yn gynharach y prynhawn yma, yn dweud bod darlun sy'n gwella yng Nghaerffili, a briodolir i gyflwyno cyfyngiadau lleol a'r ymateb amlasiantaeth cyflym. Ac mae'r data symudedd ar gyfer Cymru—data caled—yn dangos bod gostyngiadau i symudedd yng Nghymru, yn enwedig o amgylch Caerffili, o'i gymharu ag wythnosau cynharach, sy'n dangos bod pobl, fel y dywed Hefin David, wrthi'n chwarae eu rhan yn weithredol iawn i geisio rheoli'r cynnydd i niferoedd coronafeirws yn y fwrdeistref honno.
Mae'r broses o wneud penderfyniad yn digwydd fel hyn, Llywydd: yn rhan gyntaf yr wythnos, bydd ein harbenigwyr iechyd cyhoeddus a'n cynghorwyr gwyddonol yn craffu ar y data, y data ar rif mynychder treigl saith diwrnod, cyfradd y profion positif a gynhaliwyd yng Nghaerffili a data goruchwylio o'r ffynonellau data mwy cyffredinol eraill sydd gennym ni, drwy ap King's College, drwy'r trefniadau goruchwylio dŵr gwastraff sydd gennym ni. Bydd hynny wedyn yn cael ei adrodd ddydd Iau yr wythnos hon i gyfarfod a fydd yn cynnwys Llywodraeth Cymru—byddaf i yno, bydd y Gweinidog iechyd yn bresennol; arweinydd yr awdurdod lleol; awdurdodau iechyd cyhoeddus lleol; y bwrdd iechyd lleol a Heddlu Gwent. Bydd y cyfarfod hwnnw yn trafod pa un a oes gennym ni ostyngiad digon dibynadwy i'r ffigurau a nifer yr achosion yn ardal Caerffili i ddechrau'r broses o godi cyfyngiadau symud lleol. Ac, yn y pen draw, Gweinidogion sy'n gorfod penderfynu, felly trydedd ran a rhan olaf y broses honno, ar ôl cael cyngor gan yr holl chwaraewyr lleol hynny, yw y bydd Gweinidogion yn gwneud penderfyniad ac yna byddwn yn cyfleu'r penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y gallwn, yn enwedig i Aelodau lleol, ond, yn amlwg, i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Fy uchelgais i yw gallu dechrau'r broses o godi'r cyfyngiadau hynny cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Hoffwn fod yn eglur nad wyf i'n credu y bydd yn bosibl codi'r holl gyfyngiadau ar yr un pryd; byddwn yn dechrau gyda rhai mesurau ac yn eu cynyddu dros gyfnod o wythnosau. Pa un a fyddwn ni yn y sefyllfa honno ddydd Iau yr wythnos hon, mae gen i ofn na allwn i ddyfalu ar hyn o bryd, oherwydd mae'n rhaid i mi ganiatáu i'r broses, fel yr wyf wedi ei disgrifio, o gyngor arbenigol, gwybodaeth leol a phenderfyniad terfynol ddilyn ei llwybr ddydd Iau yr wythnos hon. Ac yna, byddwn yn gwneud hynny bob dydd Iau tra bydd unrhyw ardaloedd yng Nghymru yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau lleol hynny.
Prif Weinidog, diolch am yr ateb yna i'r cwestiwn. Soniasoch am ddata a'r defnydd o ddata, ac, yn amlwg, Caerffili oedd y sir gyntaf i fod yn destun cyfyngiadau symud lleol ar sail sir gyfan. Dros y pythefnos ddiwethaf, rwyf i wedi bod yn hyrwyddo'r defnydd o gymaint o ddata lleol i gael cyfyngiadau symud hyperleol â phosibl; defnyddiodd Llywodraeth Cymru rai o'r data hynny i gyflwyno cyfyngiadau symud yn Llanelli yn unig yn hytrach na Sir Gaerfyrddin gyfan. Sut yr ydych chi'n gweld, wrth symud ymlaen, y defnydd o'r data lleol hynny yn helpu i lywio eich penderfyniadau fel y gellir gwneud mwy o ddefnydd o gyfyngiadau symud hyperleol lle mae'r data yn cefnogi hynny, yn hytrach na chyfyngiadau symud ar draws sir neu ranbarth cyfan?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod hwnnw'n ddull synhwyrol iawn, a dyna'r un y byddwn ni'n ei fabwysiadu fel Llywodraeth Cymru. Os yw'n bosibl canolbwyntio cyfyngiadau yn yr ardaloedd lle mae'r broblem fwyaf, dyna'n union y byddem ni'n ceisio ei wneud. Weithiau mae daearyddiaeth ardal yn gwneud hynny yn fwy anodd. Weithiau, ceir lledaeniad syml ar lefel gymunedol ar draws ardal awdurdod lleol sy'n ein hatal rhag gallu defnyddio'r dulliau hyperleol hynny. Ond, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, roeddem ni'n gallu gwneud hynny yn Llanelli, a phan atebais Hefin David a dweud fy mod i'n gobeithio y byddem ni'n gallu cymryd y camau cyntaf allan o gyfyngiadau lleol pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, yna un o'r ffyrdd y gallai hynny fod yn bosibl fyddai gweld a yw'r broblem wedi'i chanoli, o fewn ardal bwrdeistref sirol, mewn un rhan o ardal cyngor ac i ail-lunio'r ffiniau cyfyngiadau o fewn ardal. Os caiff hynny ei gadarnhau gan y data ac y gellir ei gyflawni ar lawr gwlad, yna rwy'n credu yn sicr nad ydym ni wedi cau ein meddyliau i fynd ar drywydd codi rhai cyfyngiadau yn y ffordd honno.
6. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynghylch cyfyngiadau symud lleol? OQ55644
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mewn cyfres o gyfarfodydd yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i gyfarfod ag arweinyddion 20 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i drafod y materion hyn a rhai cysylltiedig. Bydd cyfarfodydd pellach yn cael eu cynnal yr wythnos hon.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n amlwg eich bod chi wedi ymdrin â chryn dipyn o hyn gyda chwestiynau blaenorol, felly mae croeso i chi fod yn gryno. Rydych chi wedi sôn am drafodaethau gydag arweinyddion awdurdodau lleol. Wrth ateb Laura Anne Jones yn gynharach, fe wnaethoch ailadrodd bod y trafodaethau hynny—. Siaradais â'r Cynghorydd Peter Fox y bore yma, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, sy'n awdurdod oren ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, am y posibilrwydd o ddefnyddio cyfyngiadau symud hyperleol yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw. Nawr, rwy'n deall yn iawn, mewn rhai achosion, y gallai fod yn haws cael cyfyngiadau symud ehangach ar draws ardal sir gyfan, ond a allech chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi'n mynd i sicrhau y gallwch chi edrych o ddifrif ar y cyfyngiadau symud hyperleol? Er enghraifft, os bydd ardal yn fy etholaeth i, fel y Fenni, yn cael ei heffeithio yn arbennig ond nad yw ardaloedd eraill mewn rhannau eraill o'r sir, yna mae'n gwneud llawer o synnwyr i gau ardal benodol o'r economi fel tref farchnad fel honno heb effeithio ar rannau eraill o ardal y sir. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Peter Fox a chydag arweinyddion cynghorau eraill am hynny.
Llywydd, rwyf i wedi cael trafodaethau, fel y dywedais wrth ateb cwestiwn cynharach, gyda'r Cynghorydd Peter Fox, ac mae Nick Ramsay newydd roi enghraifft ymarferol i ni, rwy'n credu, o'r pwynt a wnaeth Andrew R.T. Davies yn y cwestiwn diwethaf, a dywedais bryd hynny fy mod i'n credu bod honno'n ffordd synhwyrol o feddwl am y pethau hyn. Rwy'n hapus i ailadrodd hynny yng nghyswllt Sir Fynwy. Rwy'n astudio ffigurau Sir Fynwy bob dydd, a bydd Nick Ramsay yn ymwybodol bod y ffigurau yn Sir Fynwy wedi cynyddu rhyw fymryn dros y saith diwrnod diwethaf. Ond y bore yma astudiais hefyd yr adroddiad gan y tîm rheoli achosion lleol, sy'n dweud wrthyf i bod ymwybyddiaeth dda o'r achosion hynny, eu bod nhw wedi cael eu nodi gan y broses Profi Olrhain Diogelu, eu bod nhw'n cael eu cyfyngu yn y ffordd honno ac nad oes achos ar hyn o bryd dros gyflwyno cyfyngiadau lleol mewn unrhyw ran o Sir Fynwy. Pe byddai hynny yn newid ac y byddai crynodiad o achosion mewn unrhyw ran benodol o'r sir honno, yna ar yr amod y gellid gwahanu'r ardal honno yn ddaearyddol yn llwyddiannus, yna byddem ni'n sicr yn edrych ar hwnnw fel ymateb hyperleol.
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gydag awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol eraill ynghylch atal ymweliadau â chartrefi gofal? OQ55669
Llywydd, rydym ni'n cyfarfod gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, gan gynnwys Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn rheolaidd i drafod amrywiaeth o faterion gan gynnwys cartrefi gofal ac ymweliadau â chartrefi gofal.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yr ydych chi newydd ei grybwyll, wedi codi pryderon am yr effaith y gallai gwaharddiad cyffredinol ar ymweliadau, yn ei geiriau hi, ei chael ar iechyd a llesiant preswylwyr cartrefi gofal. Mae'r angen i atal heintiau mewn cartrefi gofal yn hollbwysig, wrth gwrs, ac rwy'n sylweddoli ei bod hi'n anodd cydbwyso hyn gydag anghenion emosiynol preswylwyr. Fodd bynnag, rwy'n ofni y gallai'r trawma o wahaniad estynedig oddi wrth aelodau teulu gael effaith echrydus ar bobl sy'n dibynnu ar weld aelodau o'u teulu. Gellid hwyluso ymweliadau trwy gyfuniad o fesurau diogelwch, gan gynnwys rhoi cyfarpar diogelu personol a hyfforddiant diogelwch COVID i deuluoedd sy'n ymweld, caniatáu ymweliadau awyr agored o bell pan fo hynny'n briodol, a chadarnhau canlyniadau prawf positif gydag ail brofion, fel mai dim ond pan ei bod yn sicr eu bod yn angenrheidiol y caiff cyfyngiadau symud cartrefi gofal 28 diwrnod eu gorfodi. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried, felly, rhinweddau cyhoeddi canllawiau newydd o'r math hwnnw er mwyn ailddechrau rhai ymweliadau teuluol?
Llywydd, mae'r Aelod yn codi un o'r materion mwyaf heriol sy'n wynebu'r sector cartrefi gofal, am yr holl resymau y mae hi wedi eu nodi: y niwed a wneir i breswylwyr pan nad ydyn nhw'n cael gweld eu perthnasau, ac wedi'i gydbwyso yn erbyn hynny, fel y dywedodd Delyth Jewell, yr angen i atal cyflwyno coronafeirws i gartrefi, pan ein bod ni'n gwybod o'n profiad yn gynharach yn y flwyddyn, pan fydd wedi cyrraedd yno, ceir poblogaeth agored iawn i niwed, a gall y niwed fod yn sylweddol iawn.
Rydym ni'n diweddaru ein canllawiau yn gyson. Dilynwyd y canllawiau diwethaf a gyhoeddwyd ar 28 Awst gan lythyr ar 23 Medi gan Albert Heaney, pennaeth y gwasanaethau cymdeithasol yma yn Llywodraeth Cymru, a Gillian Baranski, prif arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, ac unwaith eto ar 2 Hydref, gyda rhagor o fanylion mewn diweddariad pellach gan Mr Heaney. A wnaf i ddarllen, Llywydd, yn gryno, baragraff olaf y llythyr hwnnw, oherwydd mae'n dangos sut yr ydym ni'n ceisio ymateb i'r pwyntiau a wnaeth Delyth Jewell? Felly, mae ein cyngor i'r sector, yn y llythyr, yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau cydbwysedd rhwng amddiffyn pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal rhag y risgiau gwirioneddol a achosir gan coronafeirws a chynnal eu llesiant a'u cysylltiadau â theulu. Mae'n bwysig ein bod ni'n osgoi dull gweithredu cyffredinol sy'n cyfyngu'n ddiangen a bod ymweliadau â chartrefi gofal yn cael eu cefnogi pan eu bod yn ddiogel ac yn bosibl.
Byddaf yn cyfarfod yfory, Llywydd, yn bersonol, â Fforwm Gofal Cymru a nifer o gyrff eraill sy'n gyfrifol am y ffordd y caiff cartrefi gofal eu rhedeg. Byddwn yn trafod y mater hwn ynghyd â materion eraill sy'n ymwneud â rhedeg cartrefi gofal yn ddiogel yn ystod yr argyfwng coronafeirws, a bydd y mathau o bosibilrwydd y soniodd Delyth Jewell amdanyn nhw yn ei chwestiwn atodol yn rhan o'r drafodaeth honno, rwy'n siŵr.
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod Islwyn yn ailgodi’n gryfach yn dilyn pandemig COVID-19? OQ55665
Llywydd, diolchaf i Rhianon Passmore am hynna. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein cynllun adfer heddiw. Rydym ni wedi ymrwymo i ailadeiladu sy'n gweithio i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Islwyn, trwy fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i bobl: mynd i'r afael â diweithdra, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sefydledig, darparu tai fforddiadwy, adfywio canol ein trefi, a chefnogi'r economi sylfaenol.
Diolch, Prif Weinidog. Fel yr Aelod Senedd dros Islwyn, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o'i phapur polisi a strategaeth. Yn y papur 'Ail-greu ar ôl Covid 19: Heriau a Blaenoriaethau', dywed y Gweinidog
'Mae Llywodraeth Cymru am fod yn agored i syniadau newydd ac i her adeiladol, felly mae'n rhaid i ran o’r gwaith hwn fod yn sgwrs genedlaethol. Rydym am wybod beth sy’n bwysig i chi. I ddechrau’r sgwrs honno, fe wnaethom ofyn i bobl gysylltu drwy CymruEinDyfodol@llyw.cymru a dweud wrthym am eu gweledigaeth ar gyfer Cymru yn y dyfodol.'
Mae hon yn ddeialog gadarnhaol a gobeithiol i adeiladu yn ôl yn well. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi addo i bobl Islwyn mai blaenoriaeth gyntaf Llywodraeth Cymru fydd lleihau diweithdra a rhoi'r cyfle i bawb ddod o hyd i waith â rhagolygon hirdymor gwerth chweil, a'i gadw? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd â'r neges hon i bob cwr o Islwyn a Chymru ac yn rhoi'r cyfle i bobl Islwyn gael gwaith y maen nhw'n mynnu ei gael, a hynny'n briodol?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am hynna? Mae hi'n iawn: mae Llywodraeth Cymru yn gwbl agored i syniadau. Yn wir, cafwyd dros 2,000 o gyfraniadau i wahoddiad cyntaf fy nghyd-Weinidog Jeremy Miles i bobl roi eu barn i ni ynghylch sut y gallai gwahanol fath o Gymru gael ei chreu o'r argyfwng coronafeirws hwn. Rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i barhau â'r ddeialog honno, ac i gynnwys yn ein ystyriaethau y syniadau lu yr ydym ni'n eu derbyn, yn enwedig gan bobl sy'n gweithio ar reng flaen ein cymunedau—yn gwneud y swyddi, yn darparu'r gwasanaethau, yn estyn allan at bobl eraill sy'n agored i niwed yn y cymunedau hynny.
Llywydd, hoffwn roi sicrwydd llwyr i'r Aelod, y tu hwnt i'r gwasanaeth iechyd ac argyfwng coronafeirws, bod swyddi ar frig yr agenda yma yn Llywodraeth Cymru, oherwydd rydym ni ar ddechrau cyfnod pan fo effaith economaidd coronafeirws yn mynd i gael ei theimlo mewn llawer o deuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Wrth i ni ganiatáu i'r economi ei hun wella, byddwn yn gweithredu fel Llywodraeth Cymru, fel yr ydym ni wedi ei wneud trwy ein cronfa cadernid economaidd, i wneud yn siŵr bod cyfleoedd yno, yn enwedig i'n pobl ifanc, gan weithio ochr yn ochr â rhaglen Kickstart Llywodraeth y DU, i greu hyfforddeiaethau a phrentisiaethau i gynorthwyo cyflogwyr sy'n barod i gyflogi pobl ifanc yn rhan o'u busnesau. Bydd hynny yr un mor wir yn Islwyn ag y bydd mewn unrhyw ran arall o Gymru.
Ac yn olaf cwestiwn 9—Suzy Davies.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyngor COVID-19 a roddir i drigolion mewn tai amlfeddiannaeth? OQ55630
Llywydd, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau sy'n ymwneud â'r pandemig coronafeirws ar gyfer pobl sy'n byw mewn tai amlfeddiannaeth, gan gynnwys canllawiau sy'n benodol i fyfyrwyr. Cafodd ei gyhoeddi ddiwethaf ar 28 Medi.
Yn amlwg, cafodd ei gyhoeddi ar ôl i mi gyflwyno fy nghwestiwn. Ond rwy'n credu bod angen rhywfaint o eglurhad arnom ni, i fyfyrwyr yn benodol, ond nid yn unig, am y gwahaniaeth rhwng tai amlfeddiannaeth, sy'n dai â chyfleusterau a rennir ond tenantiaethau unigol, a thai a rennir— ffrindiau'n rhannu llety, os hoffech chi. Oherwydd, beth bynnag yw'r agweddau cyfreithiol, bydd y ddau grŵp hynny o bobl yn dueddol o drin eu cartrefi yn yr un ffordd yn union. Byddwn i'n ddiolchgar, Prif Weinidog, os gallech chi gadarnhau y byddwch chi'n ystyried hyn eto, er bod gennym ni ganllawiau gweddol newydd, er mwyn egluro, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydyn nhw o dan gyfyngiadau symud, sut y mae cysyniad y cartref estynedig a'r swigod yn gweithio i deuluoedd yr unigolion sy'n byw yn y tai hynny, oherwydd ar hyn o bryd, o dan drefniant cartref a rennir, bydd rhai o'r unigolion hynny'n cael eu heithrio rhag gweld eu teuluoedd. Diolch.
Llywydd, rwy'n diolch i Suzy Davies am hynny. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod y canllawiau wedi'u cyhoeddi ar ôl iddi hi gyflwyno ei chwestiwn. Ochr yn ochr â'r canllawiau, rydym wedi cyhoeddi cyfres o gwestiynau cyffredin i ymdrin â rhywfaint o'r cymhlethdod sydd yn y maes hwn. Ac mae'n faes gwirioneddol gymhleth, gyda'r rhyngblethu rhwng y gwahanol drefniadau byw sy'n dueddol o fod gan fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru—ond hefyd bobl eraill, nid myfyrwyr yn unig, sy'n byw mewn tai amlfeddiannaeth, neu sy'n byw mewn fflatiau yn y ffordd y mae Suzy Davies wedi'i ddisgrifio. Byddaf i, wrth gwrs, yn gofyn i fy swyddogion astudio cofnod trafodion heddiw, ac os nad ydym ni eisoes wedi gallu rhoi eglurhad gyda'n canllawiau ar y cwestiwn penodol y mae Suzy Davies wedi'i godi y prynhawn yma—byddwn ni'n ceisio gwneud hynny cyn gynted ag y gallwn ni ei sicrhau.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael yn y papurau sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
A gaf i ofyn i'r Trefnydd drefnu datganiad ar y mynediad i glybiau chwaraeon a hyfforddiant yng Nghymru, ar gyfer pobl ifanc, os gwelwch yn dda, ac, yn wir, i oedolion hefyd? Ers cyflwyno'r cyfyngiadau lleol yn ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych, mae llawer o rieni wedi cysylltu â mi i ddweud na allant fynd â'u plant i gyfleusterau hyfforddi sydd ychydig dros ffiniau'r siroedd cyfagos. Mae'n achosi rhywfaint o ofid i'r rhieni hynny na all y bobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd hyfforddi hynny.
Hefyd, mae pobl sydd yng nghynghrair pêl-droed Cymru wedi cysylltu â mi, ac maen nhw'n gofyn pam na allan nhw gymryd rhan mewn gemau'r ail gynghrair a gemau at ddibenion hyfforddi, yn yr un ffordd ag y mae athletwyr chwaraeon elît eraill. Tybed a oes modd inni gael rhywfaint o eglurder ynglŷn â'r pethau hyn wrth symud ymlaen, er mwyn i'r unigolion hynny allu cymryd rhan lawn mewn chwaraeon, sydd wrth gwrs yn rhan bwysig o'n diwylliant ni yma yng Nghymru.
Diolch i Darren Millar am godi'r materion hynny. Wrth gwrs, yr wythnos nesaf yn y Cyfarfod Llawn byddwn ni'n trafod y rheoliadau penodol y mae Darren yn cyfeirio atyn nhw, felly gallai hynny fod yn adeg amserol i godi'r pryderon hynny ynghylch yr unigolion sy'n ymwneud â chwaraeon a hyfforddiant yn yr ardal y mae ef yn ei chynrychioli. Ond wrth gwrs, bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon wedi bod yn clywed eich sylwadau. Ac os oes mwy y gallwn ni ei wneud o ran y canllawiau ar ddychwelyd i chwaraeon yn raddol, a'r canllawiau yr ydym yn eu cynnig i'r clybiau chwaraeon hynny, yna mae'n amlwg y byddem yn ceisio gwneud y canllawiau hynny'n gliriach. Felly, gofynnaf i i'r Gweinidog adolygu eich sylwadau, i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud yn y maes hwnnw.
A gawn ni ddatganiad yn amlinellu sut y gall y Llywodraeth helpu'r sector lletygarwch ymhellach? Mewn rhai cymunedau, mae'r dafarn, y clwb, y neuadd bingo yn cadw'r gymuned gyda'i gilydd. Maen nhw'n fwy na busnesau; maen nhw'n ganolfannau cymunedol. Oherwydd y cyfyngiadau, mae llawer yn ei chael hi'n anodd iawn. Felly, sut y gall y Llywodraeth helpu i sicrhau bod ganddyn nhw ddyfodol?
Hoffwn i hefyd gael datganiad ar brofi. Yr wythnos diwethaf, holais am brofi yn y Rhondda ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac ers hynny, mae pobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal wedi dweud wrthyf eu bod yn aros am ddyddiau am eu canlyniadau a bod yr amser yn ymestyn. Nawr, mae angen canlyniadau staff cartrefi gofal a staff y GIG yn ôl cyn gynted â phosibl er mwyn atal lledaeniad. Mae'n bosibl cyflawni hynny o fewn yr awr. Felly, a gawn ni ddatganiad ynghylch cynllun a strategaeth brofi'r Llywodraeth? Rwyf eisiau cael sicrwydd nad yw'n dibynnu ar system breifat Llywodraeth y DU sydd wedi ein siomi gynifer o weithiau hyd yn hyn.
Diolch i Leanne Wood am godi'r ddau fater hynny. O ran y cyntaf, wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn ddiweddar. Bydd y Gweinidog yn cadarnhau'n ddiweddarach heddiw y bydd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cam 3 ar gael ar wefan Busnes Cymru yn nes ymlaen heddiw. Felly, byddwn ni'n sicr yn annog busnesau yn y Rhondda, a thu hwnt, i edrych ar hynny, yn benodol rwy'n credu o ran lletygarwch, oherwydd gwn fod y Gweinidog wedi bod yn ofalus i sicrhau bod busnesau lletygarwch yn cael blaenoriaeth o fewn y cymorth hwnnw, gan gydnabod yr anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu.
Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am brofi yn rheolaidd iawn. Gwn fod y Gweinidog iechyd wedi cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch profi heddiw. Gwn y bydd yn awyddus i barhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf honno yn rheolaidd yn y cyfnod sydd i ddod.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddadl neu ddatganiad am y sefyllfa sy'n wynebu'r miloedd lawer o bobl a theuluoedd, nid yn unig ym Mlaenau Gwent ond ledled y wlad, sy'n wynebu anawsterau gwirioneddol ar hyn o bryd oherwydd bod cyfyngiadau symud lleol yn golygu nad ydyn nhw'n gallu cymryd gwyliau neu seibiannau neu deithiau hedfan y maen nhw eisoes wedi'u harchebu a thalu amdanynt? Mae agwedd rhai cwmnïau teithio, wedi bod yn warthus, a dweud y gwir, gan drin pobl yn wael iawn. Mae pobl sydd wedi ceisio dod o hyd i ffordd o gymryd seibiant teuluol yn ystod y misoedd hyn wedi dioddef drwy law y diwydiant teithio, nad yw'n ymddangos fel pe bai'n poeni llawer am y bobl y mae eu penderfyniadau'n effeithio arnynt. Gwn fod ASau wedi bod yn codi hyn yn San Steffan, ac mae angen cyfle i ni yma yng Nghaerdydd fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn hefyd.
Hoffwn i ofyn hefyd am ddadl gan y Llywodraeth ar y sefyllfa sy'n wynebu ein corau a'n cymdeithasau a'n sefydliadau cerddoriaeth gymunedol ledled y wlad. Rydym wedi trafod a thrafod sefyllfa canu mewn corau ac eglwysi ar sawl achlysur. Ond gyda misoedd y gaeaf o'n blaenau, ac yn enwedig gyda rhai o'r cyfyngiadau sydd ar waith mewn gwahanol ardaloedd ledled y wlad, mae llawer o gorau a llawer o sefydliadau a chymdeithasau a chlybiau cerddorol cymunedol yn wynebu anawsterau gwirioneddol. Mae Cymru'n wlad y gân ac yn wlad cerddoriaeth, ac mae'n bwysig y gallwn sicrhau bod modd i bobl barhau i allu cymryd rhan mewn cerddoriaeth a bod corau'n gallu parhau i ganu. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi yn rhai o'r cerddorion proffesiynol a'r gweithwyr llawrydd, ac mae angen inni hefyd ddod o hyd i ffordd o ddiogelu'r gwirfoddolwyr a'r bobl sy'n gwneud Cymru'n wlad y gân.
Diolch i Alun Davies am y ddau fater hynny. Bydd yn falch o nodi y bydd dadl ar y sectorau celfyddydol a diwylliant a threftadaeth yfory yn y Senedd. Felly byddai hynny'n gyfle gwych iddo arddangos y cymunedau cerddorol gwych sydd ganddo ym Mlaenau Gwent, y gwn ei fod yn gefnogwr mawr ohonynt.
O ran y mater cyntaf o effaith cyfyngiadau lleol ar allu pobl i gymryd gwyliau, byddwch chi'n cofio i'r Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn y Siambr, roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran yr ymateb a gafodd gan y sector yswiriant teithio a oedd, yn fy marn i, yn gadarnhaol ar y cyfan, yn sicr mewn geiriau. Ond yn amlwg nawr byddwn yn ceisio sicrhau bod y geiriau hynny'n cael eu gweithredu ac y byddant yn gallu ad-dalu'r bobl hynny sydd, yn anffodus, yn methu â chymryd eu gwyliau.
Dwi am ofyn am rywbeth syml iawn gan y Trefnydd, os gwelwch yn dda. Buaswn i'n hoffi cael galwad ffôn. Mi oeddwn i ar ddeall fod canolfan brofi newydd yn dod i Fangor, ond mae honno bythefnos i ffwrdd o hyd, a neb yn glir iawn am y manylion, gan gynnwys pwy fydd yn cael mynd yno i gael profion. Mae diffyg eglurder yn fy etholaeth i am ble mae hi'n bosib cael prawf os ydych yn dioddef o symptomau COVID, heblaw am deithio i Landudno neu tu hwnt. Ac wrth i nifer yr achosion gynyddu, mae fy etholwyr i angen yr wybodaeth yma ar frys. Felly, a wnewch chi drefnu i mi siarad ar y ffôn efo'r Gweinidog iechyd er mwyn i mi gael esboniad llawn, os gwelwch yn dda? Dwi wedi trio pob ffordd arall o geisio'r wybodaeth yma er mwyn cael ei rannu efo fy etholwyr.
Yn sicr, byddaf yn ceisio siarad â'r Gweinidog iechyd i gael yr wybodaeth honno i chi fel y gallwch roi i'ch etholwyr yr wybodaeth y maen nhw'n yn ei cheisio am y ganolfan brofi ym Mangor. Byddaf yn cyfleu hynny i chi cyn gynted ag y gallaf.
Trefnydd, wyth mis yn ôl, dywedwyd yn agored gan y Prif Weinidog, yn y Senedd, y byddai Llywodraeth y DU yn clustnodi'r arian sydd ei angen i atgyweirio'r seilwaith sydd wedi'i ddifrodi gan lifogydd yng Nghymru, ac, fel y gwyddoch, yr amcangyfrif yw bod hynny, yn fy etholaeth i yn Rhondda Cynon Taf, oddeutu £70 miliwn. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd wedi cadarnhau hynny. Mae llawer o addewidion o'r fath wedi bod. Mae'n ymddangos nawr y bydd Llywodraeth y DU yn cefnu ar ei hymrwymiad i ddarparu'r arian i alluogi'r gwaith atgyweirio seilwaith pwysig hwnnw. Tybed pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch hyn. Ond rwy'n credu ei fod yn fater mor bwysig fel ei fod yn haeddu datganiad brys yn y Siambr hon, felly gallwn ni drafod beth yw'r dyfodol, beth yw'r goblygiadau a sut y bydd yr atgyweiriadau seilwaith hynny'n cael eu hariannu yn y dyfodol.
Diolch i Mick Antoniw am roi'r cyfle hwn inni ystyried eto eiriau'r Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin, pan ddywedodd y byddai arian yn cael ei roi'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, er mwyn ariannu'r atgyweiriadau hynny i ddifrod y llifogydd. Nid ydym eto wedi gweld ceiniog o'r arian hwnnw, ond rydym yn dal i drafod â Llywodraeth y DU. Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn ymdrechu i dawelu meddwl yr awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnynt y dylai'r gwaith barhau ar sail diogelwch, ac na ddylai'r materion ariannu atal y gwaith hwnnw rhag dechrau.
Rwyf wedi gwrando'n ofalus, Trefnydd, ar gais Darren Millar a'ch ateb, ond os caf i ofyn hefyd am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch y sefyllfa sy'n wynebu'r rheini sy'n cymryd rhan yng nghynghrair pêl-droed genedlaethol Cymru. Rwy'n ymwybodol bod llawer o chwaraewyr clwb pêl-droed y Drenewydd yn gweithio'n llawn amser, yn chwarae pêl-droed yn rhan-amser, ond maen nhw'n dal i gael eu hystyried yn athletwyr elît, sy'n golygu, gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, y gallant deithio i chwarae pêl-droed. Yr wythnos diwethaf, roeddent wedi ymweld, er enghraifft, â Phen-y-bont ar Ogwr, sydd ar hyn o bryd mewn ardal dan gyfyngiadau symud lleol, rhywbeth yr oedd y rheolwyr a llawer o'r chwaraewyr yn amharod i'w wneud o ystyried y risg gynyddol o deithio dan yr amgylchiadau hynny. Os nad ydyn nhw eisiau teithio a mynd i'r gemau hyn, yna maen nhw'n wynebu cosb. Felly, rwy'n credu bod hwn yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno canllawiau yn ei gylch, yn hytrach na dim ond ei adael i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Yn ail, ac yn gysylltiedig â hynny, ni fydd llawer o glybiau'n goroesi'r gaeaf heb gymorth ariannol ychwanegol. Felly byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi a'ch cyd-Aelodau amlinellu a ydych chi'n bwriadu dilyn arweiniad Llywodraeth y DU o ran darparu cymorth ariannol ai peidio, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd y gynghrair genedlaethol yn cael pecyn achub gwerth £10 miliwn.
Diolch am godi hynny. Wrth gwrs, gofynnaf hefyd i'r Dirprwy Weinidog adolygu eich sylwadau penodol am y gynghrair bêl-droed genedlaethol, pan fydd hefyd yn ystyried y sylwadau a wnaeth Darren Millar y prynhawn yma, o ran a oes angen unrhyw ganllawiau ychwanegol. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cefnogaeth sylweddol i'r sector chwaraeon. Mae llawer o hynny'n mynd drwy Chwaraeon Cymru, felly byddwn i'n annog y timau dan sylw i ystyried Chwaraeon Cymru yn y lle cyntaf i weld a allai unrhyw gymorth fod ar gael.
Trefnydd, hoffwn i alw am ddau ddatganiad gan Weinidogion y Llywodraeth. Y cyntaf yw datganiad gan y Gweinidog iechyd ar ofal canser yng Nghymru yn ystod y pandemig. Er bod gofal canser brys yn parhau i raddau, mae sgrinio am ganser, fel llawer o'r GIG, wedi'i ohirio wrth i adnoddau ganolbwyntio ar achosion SARS-CoV-2—yn ddealladwy ar ddechrau'r achosion, ond nid bron naw mis yn ddiweddarach. Mae llawer o wasanaethau'n ail-ddechrau'n raddol, ond nid oes unrhyw sôn ynghylch sut i fynd i'r afael â'r rhai sy'n aros. Fel un sydd wedi goroesi canser y fron, roeddwn i'n siomedig o glywed bod 30,000 o fenywod o Gymru, yn ôl Tenovus, wedi colli allan ar sgrinio, ac mae hynny'n golygu y gallai cynifer â 300 o fenywod fod â chanser y fron heb yn wybod iddyn nhw. Fel un o'r cyflyrau sy'n lladd fwyaf yng Nghymru, mae'n hanfodol inni fynd i'r afael â'r mater hwn a bod y Llywodraeth yn amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd mewn datganiad brys.
Yr ail ddatganiad yr wyf yn galw amdano yw datganiad gan y Gweinidog Tai ar yr argyfwng digartrefedd yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru wedi ein sicrhau ni y byddai'r camau a gymerwyd yn ystod uchafbwynt y pandemig yn rhoi terfyn ar gysgu ar y stryd. Fodd bynnag, ychydig ddyddiau'n ôl, siaradais â chyn-filwr arall sy'n dal i gysgu ar y stryd, ac yn aros am gymorth. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol. Nid yw digartrefedd wedi diflannu yn ystod yr argyfwng hwn; mae'n mynd yn fwy cudd. Mae angen gweithredu ar frys, a galwaf ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad ynghylch sut y byddan nhw'n mynd i'r afael â digartrefedd, yn enwedig yng nghymuned y cyn-filwyr. Diolch yn fawr.
Diolch i Caroline Jones am godi'r ddau fater pwysig hynny. Rydym ni, wrth gwrs, wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau ers dechrau'r pandemig i sicrhau y gall cymaint o ofal canser barhau ag sy'n bosibl. Rwyf eisiau eich sicrhau chi bod sgrinio serfigol yng Nghymru wedi ailgychwyn anfon gwahoddiadau ym mis Mehefin at y menywod hynny yr oedd ail wahoddiad cynnar i gael eu sgrinio serfigol wedi ei ohirio. Hefyd mae Sgrinio Coluddion Cymru wedi ailgychwyn ei raglen sgrinio'r coluddyn gyda dull gweithredu fesul cam o fis Gorffennaf ymlaen. A dechreuodd Bron Brawf Cymru anfon gwahoddiadau sgrinio, o fis Gorffennaf ymlaen, i fenywod sydd mewn mwy o berygl. Felly, mae'r gwasanaethau sgrinio hynny'n ailddechrau erbyn hyn. Ac, yn amlwg, mae clinigwyr a rheolwyr ledled Cymru yn gweithio'n galed iawn ac, yn wir, yn gwneud popeth o fewn eu gallu i liniaru effaith y pandemig ar yr ardaloedd hynny. Ond, yn amlwg, mae COVID yn sicr wedi cael effaith.
Fe ofynnaf i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dai ysgrifennu atoch chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch digartrefedd, gan ganolbwyntio'n benodol ar y bobl sydd wedi gadael y lluoedd arfog, a sut y gallwn ni sicrhau nad yw pobl yn gadael y lluoedd arfog ac yn eu cael eu hunain ar y stryd, ond wedyn hefyd bod y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu'n flaenorol ac wedi cael eu hunain ar y stryd yn cael cymorth i gael cartref cyn gynted â phosibl.
Trefnydd, a gaf i uniaethu â sylwadau Alun Davies, yr Aelod dros Flaenau Gwent, ynghylch corau a'r gallu i gorau geisio dod yn ôl at ei gilydd ar ryw ffurf gyfyngedig, oherwydd maen nhw'n rhoi llawer iawn o fwynhad i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu ac maen nhw'n arwydd o Gymru fel gwlad? Ond a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gennych chi hefyd, os gwelwch yn dda, un ar atal teithiau hedfan Qatar Airways o Faes Awyr Caerdydd? Mewn rhannau eraill o'r DU, maen nhw'n dechrau ailsefydlu eu hunain, yn Belfast ac yn yr Alban—yng Nghaeredin, rwy'n credu—ond yn anffodus yma yng Nghymru maen nhw wedi dewis canslo amserlen y gaeaf yn gyfan gwbl. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno datganiad ynghylch pa gamau y mae'n ceisio eu cymryd, gan weithio gyda'r cwmni awyrennau, i sefydlu teithiau hedfan, yn sicr ar gyfer tymor yr haf nesaf, ac mae wedi bod yn fuddsoddiad mawr ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau'r cwmni awyrennau hwn i faes awyr Cymru Caerdydd. Felly, byddai dealltwriaeth o sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i ymgysylltu â'r maes awyr a'r cwmni awyrennau o fudd i bawb.
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â Chanolfan Ganser Felindre a datblygu'r ysbyty a'r cyfleusterau newydd ar y safle? Roedd y Gweinidog yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf ac, oherwydd ei fod yn penderfynu ar yr achos busnes, yn amlwg roedd yn rhaid iddo esgusodi ei hun rhag cyfrannu a chymryd rhan yn llawer o'r drafodaeth. Ond mae pryderon difrifol gan y gymuned y bydd y ganolfan hon yn ei gwasanaethu nad yw'r cynigion, fel y'u hamlinellwyd ar hyn o bryd, yn addas at y diben ac mai ymchwiliad, neu adolygiad, sy'n annibynnol ac wedi'i arwain, yn y pen draw, gan arbenigwr canser o'r tu allan i Gymru i ganfod y canlyniad gorau ar gyfer datblygu gwasanaethau canser yn ne-ddwyrain Cymru yw'r ffordd ymlaen, fel y gallwn ni fod yn siŵr mai'r buddsoddiad o £300 miliwn yw'r buddsoddiad cywir ar gyfer y 40 i 50 mlynedd nesaf. Byddai croeso mawr i ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch a fyddai'n barod i lunio adolygiad o'r fath, a phenodi unigolyn i'w gynnal.
Rwy'n ddiolchgar i Andrew R.T. Davies am godi'r materion hynny. O ran Canolfan Ganser Felindre, rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog iechyd wedi derbyn llythyr gan glinigwyr ynghylch y model clinigol ar gyfer y ganolfan ganser arfaethedig newydd, sef yr hyn y mae Andrew R.T. Davies yn cyfeirio ato, rwy'n credu. Gwn fod cyngor i fod ar gael gan swyddogion yn fuan ar y datblygiad arfaethedig, felly byddai'n anodd i minnau neu'r Gweinidog iechyd ddweud dim pellach ar hyn o bryd. Ond rydym yn disgwyl y bydd unrhyw gyngor gan swyddogion yn ystyried yn fanwl y materion a godwyd gan y clinigwyr, er bod y byrddau iechyd yn y de-ddwyrain sy'n comisiynu gwasanaethau canser trydyddol gan yr ymddiriedolaeth eisoes wedi cymeradwyo'r achos busnes dros y model canser newydd, ac roedd hynny'n cynnwys y model clinigol ar gyfer yr ysbyty newydd, sef, yn achos cleifion sy'n ddifrifol sâl, yr un model clinigol sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer y rhanbarth. Ond, wedi dweud hynny, gwn fod cyngor pellach ar ei ffordd i'r Gweinidog ynglŷn â'r datblygiad arfaethedig yno, a gwn y byddai'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd yn gallu gwneud hynny.FootnoteLink
Ac, o ran Qatar, byddaf yn sicrhau bod Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth yn ymwybodol o'ch cais o ran yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch goblygiadau'r penderfyniad ar Faes Awyr Caerdydd.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, Trefnydd. Y cyntaf yw datganiad gan Weinidog yr economi am gau ffatri rhannau ceir Stadco yn Llanfyllin. Mae 129 o weithwyr a'u teuluoedd eisiau gwybod ar frys pa gymorth a pha gefnogaeth fydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol agos. Ac yna, yn dilyn hynny, gwn y bydd diddordeb ehangach gan y cyhoedd yn yr hyn sy'n digwydd i'r safle hwnnw, o gofio mai dyma'r safle gweithgynhyrchu mwyaf yn y sir honno.
Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ei gael yn ymwneud â'r cyngor a gaiff ei roi i fenywod beichiog sydd mewn gwaith yng Nghymru. Mae yna offeryn asesu gweithlu COVID-19 Cymru gyfan, sy'n rhoi gwybod i fenywod os ydyn nhw dros 28 wythnos yn feichiog y dylen nhw weithio gartref neu mewn swydd nad yw'n golygu bod wynebu yn wyneb â'r cyhoedd mewn gweithle wedi'i ddiogelu rhag COVID. Ond weithiau gall hynny olygu bod menywod—ac mae etholwr sy'n wynebu'r cyfyng-gyngor hwn wedi cysylltu â mi—yn gwrthwynebu'r gweithle y maen nhw ynddo, ac mae'n rhaid iddynt herio eu cyflogwr i sicrhau bod eu gweithle'n lleoliad diogel iddynt. Felly, fy nghwestiwn i yw: yn hytrach na glynu at y rheol beichiogrwydd 28 wythnos a mwy, oni fyddai'n well ein bod yn gallu cynghori menywod sy'n feichiog i allu dewis, os yw'n well iddyn nhw, gael gweithio o'u cartref, ac anfon y cyngor hwnnw at y cyflogwr, yn hytrach nag ychwanegu straen ychwanegol ar fenywod sy'n feichiog ar hyn o bryd pan nad oes angen hynny o gwbl?
Diolch i chi am godi'r materion yna. Rwy'n gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am gau Stadco, o ran pa gymorth a allai fod ar gael i'r gweithwyr a'u teuluoedd, ac unrhyw ddefnydd posibl i'r safle yn y dyfodol. Felly, rwy'n gofyn iddo roi'r wybodaeth honno ichi'n uniongyrchol.
Ac, yn amlwg, roedd y Gweinidog Iechyd yn gwrando ar eich cyfraniad nawr ynglŷn â'r cyngor yr ydym ni'n ei roi i fenywod beichiog a'r ffordd y caiff hwnnw ei gyfleu i gyflogwyr, a gwn y bydd yn rhoi ystyriaeth ddyledus i'r awgrym hwnnw.FootnoteLink
Gweinidog, fe hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar adroddiad NRPB-M173. Mae hwn yn adroddiad a anfonais i at y Gweinidogion. Mae'n adroddiad sy'n profi—yn wir yn profi—bod plwtoniwm wedi bod yn gollwng i aber Afon Hafren ers degawdau. Rwyf wedi anfon yr adroddiad at Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid wyf wedi cael unrhyw fath o ymateb hyd yn hyn. Ond erys y ffaith bod plwtoniwm wedi gollwng i'r aber o orsaf bŵer niwclear Hinkley Point. Mae yno mewn du a gwyn mewn astudiaeth gan y Llywodraeth ym 1990, sydd ddim ar gael i'r cyhoedd mwyach. Felly, fe hoffwn i gael datganiad ynghylch pa bryd y bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar y mater hwn ac yn sicrhau bod asesiad annibynnol o'r effaith amgylcheddol yn cael ei wneud. Diolch yn fawr.
Wel, fe gawsom ni'r drafodaeth hon yn y datganiad busnes eisoes, ychydig o amser yn ôl, ac ar y pwynt hwnnw fe atebais i fod y Pwyllgor Deisebau yn edrych ar fater tebyg ac fe fyddai hwnnw'n gyfle i glywed gan y Gweinidog. Ac fe welwch chi nawr, yn y datganiad busnes, fod y ddadl honno gan y Pwyllgor Deisebau wedi cael ei chyflwyno, felly fe fydd yna gyfle i drafod hyn yn fanylach yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganid gan y Gweinidog Addysg ar adolygiad addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—yr OECD—a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am adroddiad newydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiadau Economaidd, yr OECD, sef 'Cyflawni Cwricwlwm Newydd Cymru', a gyhoeddwyd ddoe. Mae cyngor a her amserol gan yr OECD wedi bod yn elfen allweddol o agwedd y Llywodraeth hon a minnau tuag at ddiwygio addysg. Mae'r Aelodau yn gwybod ein bod ni wedi meithrin perthynas newydd a chadarn yn rhyngwladol dros y pedair blynedd diwethaf. Rydym yn cynnig cyfleoedd sy'n trawsnewid bywydau ym Mhrifysgol Yale, mae athrawon dan hyfforddiant o Sefydliad Technoleg Massachusetts yn dysgu gwyddoniaeth yn ein hysgolion ni, ac rydym yn gweithio gyda systemau eraill er mwyn dysgu a rhoi cyngor.
Mae'r OECD yn adnabod ac yn deall ein system ni, ac maen nhw'n gallu dangos darlun cywir iawn i ni yn y Llywodraeth, ond i'n system ni yn ei chyfanrwydd hefyd, ac maen nhw'n cydnabod bod gan Gymru, yn wahanol i bedair blynedd yn ôl, weledigaeth glir o ran ei system addysg a'i dysgwyr. Maen nhw'n cydnabod swyddogaeth y Llywodraeth o ran ymgorffori datblygu ar y cyd ar draws y system yn egwyddor ar gyfer datblygu'r cwricwlwm a llunio polisïau addysg yn fwy cyffredinol.
Roedden nhw'n arfer dweud bod Cymru yn anwybyddu arweinyddiaeth fel sbardun ar gyfer diwygio a llwyddiant. Nid yw hynny'n wir bellach. Ac maen nhw'n dweud bod cyfathrebu wedi bod yn eglur a chyson, gydag arweinyddiaeth gref o'r brig. Maen nhw'n gweld ein bod ni wedi ymateb i her adroddiadau blaenorol a'n bod ni wedi sefydlu cydlyniad i'r elfennau amrywiol o bolisi ac eglurder i'r weledigaeth, gan osod sylfaen gref i weithwyr addysg proffesiynol gymryd meddiant o'r genhadaeth genedlaethol.
Fe ŵyr yr OECD ein bod ni wedi adeiladu sylfeini cryf ar gyfer cam nesaf ein taith ni gyda'r cwricwlwm newydd. Sylfeini megis perfformio'n well na gwledydd eraill y DU yn ein canlyniadau Lefel-A gorau, lle'r oeddem ni ymhell ar ei hôl hi ar un adeg, yn ôl yn 2016; mae miloedd ar filoedd yn fwy o ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn ennill TGAU mewn pynciau fel gwyddoniaeth erbyn hyn, gan roi hwb uniongyrchol i'w cyfleoedd nhw mewn bywyd; ac mae perfformiad ein Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi gwella ym mhob maes am y tro cyntaf erioed, gan ein rhoi ni'n ôl ym mhrif ffrwd yr OECD.
Ystyr hyn i gyd yw ein bod ni'n gallu ac fe fyddwn ni'n parhau i edrych yn ofalus ar gyngor yr OECD. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn cynnig her sy'n ddefnyddiol ac yn dilysu'r cynnydd yr ydym yn ei wneud, ac rwy'n falch o ddweud nad oedd ynddo unrhyw beth annisgwyl. Yr wythnos nesaf fe fyddaf i'n cyhoeddi fersiwn wedi'i diwygio o 'Ein cenhadaeth genedlaethol'. Fe fydd hon yn ystyried argymhellion yr OECD, fe fydd yn adolygu ein hymdrechion ar y cyd hyd yma a'r hyn a gyflawnwyd, ac, yn hollbwysig, yn mynd ar drywydd cam nesaf y daith. Felly, Llywydd, rwy'n benderfynol, er gwaethaf COVID, na fyddwn ni'n gorffwys ar ein rhwyfau.
Rwyf am ganolbwyntio ar themâu allweddol yn yr adroddiad y prynhawn yma, sy'n cynnig mwy o her i ni. Mae'r OECD yn glir mai'r brif thema ar gyfer parhau â'n llwyddiant ni yw bod yn fwy dyfal wrth fabwysiadu safbwynt yr ysgol. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y cydbwysedd cywir rhwng cydlyniad y system a'r hyn y mae hynny'n ei olygu wrth i ysgolion wireddu'r cwricwlwm. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y sylwadau a ddaeth o fewn y system yn ogystal â'r sylwadau gan yr OECD ar fater cyfiawnder, ac wrth inni symud ymlaen gyda'r cwricwlwm, fe ddaw hynny'n bwysicach eto: cyfiawnder o ran cael gafael ar adnoddau, cyfiawnder o ran cyfleoedd i ddysgwyr a chyfiawnder o ran dysgu proffesiynol i athrawon.
Nawr, dros y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi dangos ein bod ni'n gallu ymgodymu â'r dyhead a'r bwlch cyrhaeddiad. Mae'r rhai sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig mewn pynciau craidd ym mlwyddyn 9 bellach 20 y cant yn uwch nag yr oedd ddegawd yn ôl; mae 30 y cant yn fwy o fyfyrwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ennill TGAU dda mewn gwyddoniaeth; ac rydym wedi gweld gwelliant o fod â 37 y cant yn unig o'n hysgolion ni â defnydd band eang cyflym iawn i wasanaeth o 100 y cant erbyn hyn.
Nid oes unrhyw ystyr i'r cwricwlwm newydd—unrhyw ystyr o gwbl—os nad yw'n sicrhau bod pob dysgwr unigol yn elwa ar yr addysg eang a chytbwys yr ydym ni'n ymgyrraedd ati, gan ddod â gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau ynghyd. Felly, beth ydym ni'n ei wneud, beth ydym ni am ei wneud a beth fyddwn ni'n parhau i'w wneud i gefnogi'r broses o wireddu hyn ym mhob ysgol? Wel, rydym yn diwygio ein rhwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr. Fe fydd y rhain yn cysylltu athrawon ac ysgolion, yn casglu gwybodaeth, yn nodi materion ac yn cydweithio i gynghori ar eu gweithredu. Ochr yn ochr â hyn, fe fydd yna adnoddau a deunyddiau newydd ar gael erbyn yr haf nesaf, a gaiff eu cynllunio yn benodol ar gyfer y cwricwlwm newydd. Nawr, fe allwn ni fod yn falch iawn o Hwb a'r miliynau sy'n mewngofnodi iddo bob wythnos, yn ogystal â'r berthynas addysgol gref a goleddwyd â Google, Microsoft a Adobe, sy'n golygu adnoddau rhad ac am ddim i deuluoedd ac athrawon ledled y wlad.
Yn ystod y pandemig, rydym wedi darparu offer yn rhad ac am ddim i ddysgwyr o gefndiroedd incwm isel, ond rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy—mwy gydag athrawon, ysgolion a rhieni ynghylch sut i wneud y mwyaf o'r adnoddau digidol ac addysg ddigidol. Fe fydd hon yn flaenoriaeth wrth i ni barhau i gyflwyno ein rhaglen dysgu proffesiynol uchelgeisiol a chyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y cwricwlwm. Ond fe wn i hefyd y gallwn ni fod yn fwy eglur byth o ran ein disgwyliadau a'n swyddogaethau cyffredin ar draws y system. Yn fuan iawn, fe fyddaf i'n cyhoeddi'r disgwyliadau cyffredin hynny i gefnogi ysgolion a'r camau sy'n rhaid iddyn nhw eu cymryd i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm.
Mae hwn yn gam mawr ymlaen i addysg Cymru, ac yn union fel yr ydym ni i gyd wedi cydweithio yn ystod y pandemig, mae'n golygu ymrwymiad o'r newydd gan bob partner i gydweithredu, i gydnabod swyddogaethau a chyfrifoldebau a chefnogi ein holl ysgolion gyda chynllunio a gweithredu'r cwricwlwm.
Mae'n amlwg o adroddiad yr OECD fod cefnogaeth yn gysyniad pwysig ar gyfer gweithredu'n llwyddiannus. Rwy'n falch bod Estyn yn parhau i esblygu ac y bydd yn arolygiaeth addysg a chanddi gylch gwaith eglur o ran sut y bydd yn gweithio gydag ysgolion, consortia ac awdurdodau addysg lleol unigol ac yn eu cefnogi nhw.
Gan symud ymlaen at yr athrawon. Ar hyn o bryd rydym yn gwario'r swm mwyaf erioed ar athrawon yn hanes addysg yng Nghymru. Mae hon wedi bod yn flaenoriaeth i mi ers tro byd, ac roedd cydnabod a chefnogi rhagoriaeth mewn addysgu yn un o'r polisïau yn y cytundeb a ddaeth â mi i mewn i'r Llywodraeth hon. Mae'r OECD yn gywir yn nodi bod angen inni wneud mwy i gefnogi athrawon i fod yn brif ysgogwyr i'r cwricwlwm mewn ysgolion a gwella eu sgiliau nhw. Byddwn yn canolbwyntio'n fawr ar hyn dros y misoedd nesaf, ac yn ei ystyried fel bod modd rhoi'r cymorth gorau posibl i'n holl weithwyr proffesiynol ni, boed hynny'n hyfforddiant cychwynnol i athrawon, hyd at gymorth sy'n ymestyn dros yrfa gyfan. Felly, rydym yn adolygu ac yn ail gynllunio cyfnod sefydlu athrawon a chymorth cynnar mewn gyrfa, ochr yn ochr â dull cenedlaethol o hyfforddi a mentora. Rwy'n teimlo'n arbennig o gyffrous am ein gradd Meistr mewn Addysg ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn canolbwyntio ar benaethiaid ac athrawon yn ystod eu gyrfaoedd cynnar. Rwy'n hyderus y daw hyn yn dod yn batrwm rhyngwladol o arfer gorau, ac rwyf wedi bod mor falch o weld ein holl brifysgolion yn cydweithio arno.
Llywydd, i gloi: fel y dywed yr OECD, diolch i 'Ein cenhadaeth genedlaethol', mae gan Gymru weledigaeth glir i'n system ni ac i'n dysgwyr ni. Mae gennym gydlyniad, eglurder, ac rydym ar drywydd trawsnewidiad a fydd o fudd i ddysgwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae eu cyngor nhw o ran esblygu safbwynt yr ysgol fel ei fod yn arddel ein gweledigaeth genedlaethol ni, a sicrhau'r ddealltwriaeth gyflawn honno a rennir, yn hynod werthfawr. Fe wn i hefyd y bydd systemau ledled y byd yn elwa ar yr adroddiad hwn hefyd a'r cyngor sydd ynddo ac y byddan nhw'n gweld bod Cymru yn wlad sy'n camu ymlaen yn hyderus. Ac fe wn i fod yr hyder hwn yn cael ei rannu ar draws y system, ac rwy'n edrych ymlaen, wrth gydweithio dros y cyfnod hwn, at gyflawni ein huchelgeisiau cyffredin ni ar gyfer pob dysgwr. Diolch yn fawr.
Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, am eich datganiad chi hefyd. Mae cryn dipyn ynddo, ac rwy'n siŵr na fyddaf i'n gallu ymdrin â phopeth yn llawn heddiw. A gaf i eich llongyfarch hefyd am allu rhoi'r datganiad hwn ar yr agenda o fewn oriau i'r adroddiad gael ei ryddhau o'r gwaharddiad? Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n defnyddio eich galluoedd dewiniol chi gyda Gweinidogion eraill er mwyn cael trafodaethau ar reoliadau yn gynt hefyd, oherwydd os ydych chi'n gallu gwneud hyn, rwy'n siŵr y bydden nhw'n gallu gwneud hynny hefyd.
Fel yr ydych chi'n dweud, nid oes unrhyw beth mawr annisgwyl yn yr adroddiad, ac mae rhywfaint o hynny yn rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano, yn fy marn i. Mae yna lawer ynddo am gynnydd, sydd i'w groesawu ac rydym yn gwerthfawrogi hynny, ac rwy'n diolch yn arbennig i chi hefyd am y sylwadau a wnaethoch am gefnogaeth i athrawon tua diwedd eich datganiad chi nawr. Ond, yn y pen draw, mae athrawon yn awyddus i gael gwybod sut i gyflawni'r cwricwlwm hwn, ac mae'r adroddiad yn eglur iawn bod llawer iawn i'w wneud eto ynglŷn â hyn a chaiff pryderon eu mynegi o hyd am gydlyniad—fe wn eich bod yn dweud bod canmoliaeth gref wedi bod i'r cydlyniad, ond fe geir cryn bryder yn ei gylch hefyd—yn sicr o ran cysondeb, o ran safonau, o ran y ddealltwriaeth o'r dull o gynnal asesiadau. Y dyfyniad a oedd yn peri gofid i mi yn hyn o beth oedd mai 'ychydig o dystiolaeth sy'n bodoli ar effaith syniadau mawr ar ganlyniadau dysgwyr.' Ac felly, fel y dywedais i, er bod llawer i'w groesawu yma, credaf fod rhywfaint o dystiolaeth yn peri pryder yn yr adroddiad hwn i gefnogi'r argymhellion ar gyfer eich cam nesaf chi.
Nid yw'r adroddiad, wrth gwrs, yn sôn dim am COVID ac rwy'n sylweddoli, Gweinidog, eich bod wedi dweud eich bod chi'n bwriadu symud ymlaen—nid gorffwys ar eich rhwyfau, rwy'n credu mai dyna a ddywedasoch chi—er gwaethaf COVID, ac nid wyf i'n credu y gallwn ni adael hyn fel 'er gwaethaf COVID'. Dyma'r drwg mawr yn y caws wrth gyflwyno'r cwricwlwm hwn. Fel y dywedodd pennaeth ysgol uwchradd Pencoed yn fy rhanbarth i fy hun pan wnaed y datganiad hwn, 'Fe aeth yn llwyr ar goll yn niwl COVID-19'.
Felly, sut wnaiff yr holl bartïon perthnasol yn hyn, y rhanddeiliaid, fynd i'r afael â'r argymhellion ar yr un pryd ag ymdopi â phwysau COVID, ac, wrth gwrs, yr ansicrwydd ynghylch a fydd gennym ni arholiadau ai peidio? Oherwydd rwyf i o'r farn os na allwch chi ateb y cwestiwn hwnnw, yna fe fydd yn rhaid inni ddechrau meddwl pa bryd y bydd yn realistig gweithredu hyn mewn gwirionedd.
Mae'r adroddiad yn gwbl eglur, fel y dywedwch, o ran mabwysiadu safbwynt yr ysgol, ac mae hyn yn ymwneud yn helaeth â sut mae ysgolion yn troi'r cwricwlwm o fod yn syniad gwych i fod yn rhywbeth gweithredol, oherwydd nid yw'r athrawon yn dymuno cyflwyno rhywbeth nad yw cystal ag y gallai fod, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei ddweud ers peth amser. Felly, ar wahân i'r cyfyngiad amser hwnnw, beth arall yn eich barn chi y mae'r athrawon yn nerfus yn ei gylch? A yw'r arweiniad yn yr adroddiad hwn, yr argymhellion yn yr adroddiad hwn, yn ddigon i leddfu'r pryderon ynghylch y gallu i gyflawni'r holl gamau nesaf hyn?
Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y strwythurau diwygiedig ar gyfer gwella ysgolion ar waith. Roeddech chi'n crybwyll hynny gyda pheth manylder, ond roedd yn parhau i bwysleisio'r angen, o hyd, i flaenoriaethu gwella ysgolion. Ac nid wyf i'n eich beio chi am dynnu sylw at rai o lwyddiannau'r ddwy flynedd ddiwethaf, ond nid yw'r darlun mor ddeniadol ag yr ydych chi'n ei honni, er gwaethaf yr ymdrech lew gan ein haddysgwyr ni, oherwydd rydyn ni'n cytuno â'r OECD bod angen parhau i flaenoriaethu hyn. Er bod £100 miliwn yn cael ei wario ar wella ysgolion yn y tymor Seneddol hwn, rydym ni'n dal i fod yn dweud mai llai na hanner ein hysgolion uwchradd ni sydd o safon dda neu well, ac mae chwarter ohonyn nhw naill ai mewn cyflwr o ymyrraeth statudol uniongyrchol neu'n cael eu hadolygu rhag ofn eu bod nhw ar fin mynd i'r cyflwr hwnnw. Efallai fod ein canlyniadau PISA ni ychydig yn uwch na chyfartaledd yr OECD, ond nid y rheswm lleiaf am hynny yw bod y cyfartaledd hwn wedi gostwng ei hunan. Mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU o ran y rhai sy'n cael prydau bwyd ysgol am ddim wedi lleihau ychydig, ond nid cymaint ag yr oeddech chi wedi gobeithio—rwy'n credu y byddech chi'n dweud hynny eich hun, Gweinidog—ac mae'r bwlch yn agor eto wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn, fel y gwyddom. Fe wyddom ni hefyd fod y bwlch cyrhaeddiad rhyngom ni a gwledydd eraill y DU o ran disgyblion nad ydyn nhw'n cael prydau ysgol am ddim, wrth gwrs, yn parhau i fod yn un enfawr. Felly, gan mai dim ond un rhan o'r rhaglen i ddiwygio addysg yw'r cwricwlwm, pa beth yn yr adroddiad hwn sy'n cyfeirio at fesurau a fydd yn datrys y mater hwn o wella ysgolion, sydd y tu hwnt i'ch cyrhaeddiad chi ar hyn o bryd, yn fy marn i?
Mae'r adroddiad yn sôn llawer am gydlyniad ac atgyfnerthu i gyflawni safonau cyson. Roeddech chi'n crybwyll fod yna rywfaint o dystiolaeth o hynny eisoes, ond mae llawer i'w wneud eto. Pa mor fawr yw'r perygl y bydd yr holl gydweithio amlbleidiol hwn yn rhy gymhleth yn y pen draw, yn arbennig felly gan y dylai, mewn gwirionedd, gynnwys mwy o athrawon, rhieni a'r gymuned? Ac os byddwn ni'n cadw at yr amserlen hon, a fyddwn ni mewn sefyllfa lle bydd raid i'r Llywodraeth, er gwaethaf ei dyheadau, fod yn fwy rhagnodol ynglŷn â'r dulliau o gyrraedd safonau cyson, er mwyn gyrru'r cwch i'r dŵr?
Ac yna'n olaf gennyf i—y mater o sut olwg fydd ar y cwricwlwm hwn i flynyddoedd 10 ac 11 a hyd yn oed y ddwy flynedd ddilynol, lle mae angen i'r cwricwlwm fod yn fwy nag eang a chytbwys yn unig, lle mae gofyn iddo fod yn ddigon dwfn i ddangos lefelau uchel o wybodaeth o leiaf mewn meysydd pwnc a sgiliau dadansoddi, nad yw'n rhywbeth sydd wedi cael llawer o sylw, yn ôl yr hyn a welais yn yr adroddiad hwn. Pwy sy'n cyd-ddatblygu'r rhan honno o'r cwricwlwm i rai rhwng 14 ac 16 oed, ac efallai hyd yn oed i rai rhwng 16 a 18 oed? Ble mae'r colegau Addysg Bellach yn sefyll yn hyn o beth, er enghraifft, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw gyflwyno rhywfaint o'r cwricwlwm hwn? Rwy'n credu ei bod hi'n drawiadol iawn na ddywedodd yr OECD ddim am addysgwyr y tu allan i'r system ysgolion, er gwaethaf y ffaith y bydd y cwricwlwm yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau ysgolion. Diolch. Neu os wnaethant hynny, mae'n rhaid fy mod i wedi ei fethu.
Diolch i Suzy Davies am ei sylwadau a'i chwestiynau. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n hollbwysig i mi, ac nid wyf i'n dymuno bod yn rhy feirniadol, ond rwyf wedi bod yn y Senedd yn ddigon hir i fod wedi gweld llawer iawn o ymdrech, amser, egni ac adnoddau sydd wedi rhoi pwyslais yn aml ar sefydlu datganiadau polisi a dogfennau polisi teilwng iawn—mae deddfwriaeth, yn wir, yn aml yn sail i bethau o'r fath—ac yna, efallai, awgrym neu deimlad, pan fydd hynny wedi digwydd, fod y gwaith wedi ei orffen. Er mwyn i'r cwricwlwm fod yn llwyddiant, mae angen inni ganolbwyntio'n ddi-baid ar weithredu, a dyna pam y cafodd yr OECD ei gwahodd i adolygu'r gwaith, i'n rhoi ni ar ben y ffordd i sicrhau bod y gweithredu nawr yn dilyn yr egni a'r ymdrech sydd wedi bod i ddiwygio'r cwricwlwm hyd yn hyn. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau a'r argymhellion gan yr OECD ynglŷn â'r dull o gael y cam nesaf hwn, sydd yn fy marn i wedi bod ar goll yn y gorffennol—yn iawn.
Gofyn y mae Suzy Davies pa gamau y byddwn ni'n eu cymryd. Wel, yn gyntaf, fel y dywedais i yn fy natganiad, fe fyddwn ni'n cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o 'Ein cenhadaeth genedlaethol'. Mae'r Aelod yn ymwybodol bod gennym ni, yn fersiwn gyntaf 'Ein cenhadaeth genedlaethol', gynllun clir iawn o ddisgwyliadau ynglŷn â'r hyn oedd i'w ddisgwyl ym mhob rhan o'r system, a pha bryd y byddai'r gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau. A bydd ein fersiwn newydd ni'n adeiladu ar hynny, gan ystyried argymhellion yr OECD, ac, fel y dywedais i, yn amlinellu'r camau y mae angen eu cymryd, gan ein symud ni ymlaen i weithredu'n llwyddiannus.
Mae Suzy yn iawn i ganolbwyntio ar fater cydlyniad. Rwy'n credu bod hyn yn arbennig o bwysig o ran haen ganol system addysg Cymru, a chael dealltwriaeth glir o swyddogaethau a chyfrifoldebau pob aelod o'r haen ganol honno wrth gefnogi ysgolion i wireddu'r cwricwlwm newydd. Felly, mae hynny'n cynnwys popeth o'n hawdurdodau addysg lleol unigol, ein gwasanaethau gwella ysgolion, yr Academi Genedlaethol dros Arweinyddiaeth Addysgol a'n Cyngor Gweithlu Addysg. Mae angen i ysgolion wybod pa gymorth fydd ar gael a chan bwy i geisio am y cymorth hwnnw wrth iddyn nhw ddechrau ar daith unigol eu sefydliadau nhw eu hunain a datblygu eu cwricwlwm newydd. Yr allwedd i hynny yw diwygiad parhaus ein harolygiaeth ysgolion Estyn, sy'n symud tuag at system o ganolbwyntio llawer mwy ar gefnogi ysgolion yn hytrach nag, efallai, fel yr ystyrid yr arolygiaeth yn y gorffennol, fel rhywun sy'n dod, yn ffurfio barn ac yna'n diflannu, ac nad yw'n bresennol, mewn gwirionedd, i gefnogi ysgolion i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon a nodir gan yr arolygiaeth gyda sefydliadau unigol.
Felly, fe fydd ein dogfen ni o ddisgwyliadau yn eglur iawn, ac fe gafodd ei datblygu drwy ddatblygu ar y cyd â'n grŵp addysg strategol ni. Rhan hanfodol o hynny fydd ein perthynas barhaus â'n sefydliadau addysg uwch, sy'n datblygu'n fawr iawn, yn enwedig y rhai sy'n darparu addysg gychwynnol athrawon; mae honno'n rhan hanfodol iawn o gefnogi ysgolion, gan symud ymlaen, a darparu cymorth unigol ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae'n rhaid cyflwyno'r rhaglen dysgu proffesiynol mewn ffordd wahanol oherwydd COVID-19, ond, hyd yn oed gyda'r holl bwysau a straen ar y system, mae ysgolion yn parhau i gymryd rhan yn y dysgu proffesiynol hwnnw, lle bynnag y bo modd.
Felly, mae hynny'n dod â mi at fater effaith COVID-19 ar ein hamserlen o ddiwygio'r cwricwlwm. Yn amlwg, ar hyn o bryd, rydym yn credu bod modd inni barhau ar y daith i ddiwygio gyda'r amserlen a gyhoeddwyd, er ein bod yn cymryd camau drwy'r amser i sicrhau bod yr wybodaeth a'r gefnogaeth, a'n disgwyliadau ni o ysgolion, yn cael eu profi yn erbyn yr heriau o redeg ysgolion o ddydd i ddydd ar hyn o bryd. Felly, nid ydym yn ceisio llethu'r ysgolion, ond mewn gwirionedd rydym eisiau cynnig gwybodaeth a chymorth ychwanegol iddyn nhw mewn da bryd.
Yn gwbl briodol, unwaith eto, mae Suzy yn sôn am faterion codi safonau. Un o'r rhesymau pendant dros gyflwyno cwricwlwm newydd, ochr yn ochr â'n diwygiadau addysgol eraill ni, yw er mwyn codi safonau—codi safonau i'n holl fyfyrwyr ni, ond, yn benodol, sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad sy'n bodoli. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd a chredaf ei bod yn iawn cydnabod hynny, ond mae llawer mwy eto o gynnydd y mae angen ei wneud. Dyna pam rwy'n awyddus i beidio ag oedi cyn dechrau'r cwricwlwm newydd, oherwydd rwy'n credu bod y cwricwlwm yn rhan bwysig o'r agenda hon i godi safonau.
O ran addysg bellach, yn amlwg, y cwricwlwm yr ydym ni'n sôn amdano yw'r cwricwlwm 3 i 16 oed, ond mae iddo oblygiadau ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae addysg bellach wedi bod yn rhan o'r broses ddatblygu ar y cyd, gyda chynrychiolwyr Addysg Bellach yn rhan o bob un o'r grwpiau meysydd dysgu a phrofiad a gynullwyd i ddatblygu'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' a datblygu'r dogfennau ategol ar gyfer y cwricwlwm. Felly, rwy'n fodlon bod hynny wedi bod yn rhan o'r ystyriaeth wrth lunio'r cwricwlwm sydd ger ein bron ni ar hyn o bryd. Diolch, Llywydd.
Mae'n wir dweud bod adroddiad yr OECD yn un defnyddiol ac yn tynnu sylw at faterion pwysig a chreiddiol; materion a phryderon sy'n cael eu trafod eisoes ymhlith rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae'n wir i ddweud 'no surprises', fel dywed y Gweinidog Addysg, ond mae'r adroddiad yn tanlinellu, fodd bynnag, fod yna lawer iawn o waith i'w wneud, fod y materion a'r pryderon yn rhai byw iawn a bod angen cyflymu'r broses o hoelio'r sylw ar y rheini er mwyn osgoi methiant, a does yna neb ohonom ni eisiau gweld y cwricwlwm yn methu, wrth gwrs, nac oes.
Mae'r adroddiad yn dweud bod Cymru wedi mapio allan ei chynllun polisi yn llwyddiannus a bod y weledigaeth yn glir, ac mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r weledigaeth honno, ond mi rydym ni wedi dadlau yn gyson fod angen i'r weledigaeth honno wreiddio yn iawn yn ein hysgolion ni, ac mae'r adroddiad yn ategu hynny ac yn dweud bod y camau nesaf angen egluro'r weledigaeth a beth mae amcanion y cwricwlwm yn ei olygu i fyfyrwyr yn dysgu yn yr ysgol, sef egluro beth rydym ni'n trio ei wneud efo'r cwricwlwm newydd, beth ydy'n disgwyliadau ni efo'r cwricwlwm newydd, a sut mae mynd ati i gyfleu hynny i fyfyrwyr ac i rieni ac i gyflogwyr ac i'r gymuned gyfan yng Nghymru. Y ffordd mae'r OECD yn ei ddweud o ydy:
I sicrhau bod bwriadau'r cwricwlwm newydd yn trosi i ymarfer, mae'n hanfodol i Gymru fynd i'r afael â sawl mater, gan gynnwys diffyg dealltwriaeth ddofn o'r hyn y byddai gwireddu'r cwricwlwm yn llwyddiannus yn ei olygu yn ymarferol.
Felly, yn amlwg, mae eisiau hoelio sylw ar hynny, ar y diffyg cysylltiad rhwng y weledigaeth a'r ymarfer fydd yn ddisgwyliedig yn yr ysgolion. Does yna ddim dwywaith fod honno'n her fawr yn wyneb cyllid annigonol. Fel mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi'i danlinellu, does yna ddim digon o gyllid yn cyrraedd yr ysgolion. Felly, mae'r her o wreiddio'r cwricwlwm yn un anodd mewn sefyllfa felly, a hefyd, wrth gwrs, fel rydych chi wedi'i drafod, mae sgil effeithiau'r COVID yn gorfod cael sylw wrth inni drafod yr adroddiad yma ac wrth inni symud ymlaen efo'r cwricwlwm. Wrth gwrs, dydy'r adroddiad ddim yn cyfeirio at yr argyfwng iechyd presennol, ond mae angen cymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, yr hyn sy'n tynnu sylw'n hathrawon ni a'n penaethiaid ni, sef sgil effeithiau’r COVID, a hynny'n ddyddiol.
Ac rydych chi wedi cyffwrdd ar hyn, ond a gaf i bwyso chi ymhellach? Ydych chi yn ystyried a oes angen gohirio amserlen gweithredu'r cwricwlwm newydd? Dwi wedi clywed rhyw led awgrym ei fod yna bosibilrwydd y byddech chi'n fodlon ystyried hynny, felly dwi jest yn pwyso dipyn bach mwy ynglŷn ag ydych chi'n asesu beth fyddai effaith hynny ac ydy hwnnw'n rhywbeth rydych chi'n ei drafod ar hyn o bryd.
Mae'r adroddiad yn nodi bod perig i ysgolion a myfyrwyr sydd dan anfantais yn sgil materion cydraddoldeb gael eu gadael ar ôl, a dwi'n falch iawn o'ch gweld chi yn eich datganiad yn cyfeirio'n glir at hyn. Mae'r adroddiad yn dweud hyn, onid ydyw:
Mae perygl y bydd anghydraddoldebau yn cynyddu oherwydd yr heriau y gall ysgolion difreintiedig eu gweld wrth roi'r cwricwlwm ar waith, sy'n pwysleisio'r angen i egluro'r adnoddau sydd ar gael i ysgolion.
Y broblem yma o ysgolion sydd mewn ardaloedd difreintiedig, ysgolion sydd ddim yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, y broblem a'r risg sydd iddyn nhw wrth iddyn nhw geisio rhoi cwricwlwm hollol newydd ar waith. Felly, dwi eisiau sicrhad gennych chi y bydd cydraddoldeb yn y polisi yn cael mwy o amlygrwydd yn y trafodaethau am y cwricwlwm o hyn ymlaen.
A'r trydydd pwynt, a'r pwynt olaf mewn ffordd, ydy'r diffyg eglurder sydd ynghlwm â'r fframwaith atebolrwydd a chymwysterau gadael yr ysgol. A dwi'n dyfynnu eto o'r adroddiad:
diffyg eglurder ynghylch y fframwaith atebolrwydd a'r cymwysterau gadael ysgol, sy'n creu perygl y gallai mesurau atebolrwydd ac asesu anghymwys danseilio'r cwricwlwm.
Mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni yn Plaid Cymru wedi bod yn tynnu sylw ato fo dros y Sul, fel mae'n digwydd. Mae rhan o'r adroddiad yn nodi bod risg mawr y bydd dysgu ac addysgu oedran 14 i 16 yn cael ei wyro at gynnwys y cymwysterau yn hytrach na helpu myfyrwyr i gyrraedd pedwar pwrpas y cwricwlwm. Ac mi ydym ni yn Plaid Cymru yn grediniol fod angen ail-lunio'n cymwysterau ni—cymhwyster Cymreig i gyd-fynd efo cwricwlwm Cymru, efo llai o bwyslais ar arholiadau a mwy ar asesu parhaol.
Ydych chi felly yn cytuno efo fi bod angen erbyn hyn ymestyn sgôp y gwaith mae Cymwysterau Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, gan ehangu'r drafodaeth o'r un bresennol, sydd ynglŷn â sut i newid TGAU, i un mwy eang o lawer sydd yn trafod sut orau i asesu'r cwricwlwm newydd? Fyddwch chi'n fodlon arwain y drafodaeth yna a threfnu fforwm arbennig i edrych ar y mater yma, sydd yn cael tipyn o sylw, yn enwedig ar y fforwm Trydar ar hyn o bryd, ond mi fyddai'n wych cael chi yn arwain y drafodaeth mewn fforwm cenedlaethol i edrych ar y materion yna? Gwnaf i orffen yn fanna. Diolch.
Diolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau a'i chwestiynau. Llywydd, nid wyf yn ceisio dianc na chuddio rhag yr heriau sy'n ein hwynebu ni wrth inni symud i'r cam gweithredu. Fel y crybwyllodd Suzy Davies, pe byddem wedi bod yn amddiffynnol o'r hyn yr oedd gan yr OECD i'w ddweud amdanom ni, fe fyddem wedi gohirio cyflwyno'r adroddiad i Aelodau'r Senedd gael craffu arno. Rydym yn croesawu'r arweiniad gan yr OECD i sicrhau bod yr hyn a wnawn ni'n llwyddo.
Rwyf i o'r farn fod Siân Gwenllian wedi holi nifer o gwestiynau pwysig. Yn gyntaf, ynglŷn â'r amserlen, fel y dywedais i wrth ymateb i Suzy Davies, ar hyn o bryd, rydym yn credu ei bod yn dal yn bosibl symud at ddyddiad gweithredu yn 2022 ond, fel y croesawyd gan adroddiad yr OECD, roedden nhw'n ein canmol ni am sefydlu system o ddatblygu ar y cyd yng Nghymru o ran addysg. Nid yw'r Llywodraeth hon yn ymyrryd yng ngwaith yr athrawon; mae'n gwneud pethau ar y cyd â'r athrawon. A bydd hynny'n dal i'n harwain wrth inni fwrw ymlaen â'r gweithredu.
Yn amlwg, fe ofynnodd hi'r cwestiwn, 'A ydych chi'n asesu effaith COVID yn barhaus?' Credwch chi fi, rydym ni'n asesu'r effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar ein system addysg ni bob dydd ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny.
O ran cyfiawnder, fel y dywedais i yn fy natganiad, ni fydd yna unrhyw ddiben i'r cwricwlwm os nad ydym ni'n sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, ble bynnag y bo, beth bynnag fo natur ei ysgol, a chyfrwng yr addysg a gaiff—ni fydd unrhyw ddiben i hynny oni bai bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fynd ar drywydd a chyrraedd ei uchelgeisiau yn llawn. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw y bydd angen mwy o gymorth ychwanegol ar rai ysgolion nag eraill. Efallai y bydd rhai ysgolion wedi cyrraedd ymhellach ar eu taith nhw i ddiwygio'r cwricwlwm. Efallai y bydd gan rai ysgolion lefelau uwch o ran y cynllunio ac arbenigedd cwricwlwm yn eu hysgolion nhw nag eraill. A dyna pam mae'n bwysig iawn, yn ein dogfen o ddisgwyliadau, ein bod ni'n glir ynghylch gwaith pwy yw hyn a chyfrifoldeb pwy yw darparu'r adnodd ychwanegol hwnnw i ysgolion, gan gydnabod bod gan ein hawdurdodau addysg lleol a'n gwasanaeth gwella ysgolion ac, yn wir, Estyn, swyddi penodol i'w gwneud i sicrhau bod pob ysgol yn barod, a chydnabod y bydd angen mwy o help ar rai ysgolion nag eraill wrth wneud hynny. Mae sut y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol yn un o amcanion y ddogfen disgwyliadau.
O ran 14 i 16 oed, yr un pryderon sydd gan yr OECD a minnau, yn y cyfnod diweddar mewn addysg—nid yw hyn yn rhywbeth penodol i system Cymru—mae asesu ar gyfer dysgu wedi bod ynghlwm wrth atebolrwydd y system yn rhy aml. Ac mae hynny wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol, lle mae mesurau atebolrwydd yn aml wedi sbarduno cyfres o ymddygiadau mewn ysgolion sydd, efallai, fel y dywedais, wedi cael canlyniadau anfwriadol. Gallai'r rheini fod yn rhwystredigaeth i'r plant rhag cyrraedd eu llawn botensial yn ôl natur y cymwysterau y'u cofrestrwyd ar eu cyfer neu gulhau'r cwricwlwm gan ganolbwyntio'n ddi-baid ar y craidd. Neu gallai olygu eithrio peth o'r creadigrwydd a rhai o'r pynciau eraill y mae plant yn eu gwerthfawrogi ac yn eu mwynhau ac yn cael boddhad o'u hastudio. Felly, yn gyntaf oll, mae angen inni ddychwelyd at system sy'n cydnabod asesu ar gyfer dysgu a sut y gall asesiad athrawon fel hyn hebrwng plant ymlaen ar eu teithiau dysgu. Ac mae hynny'n wahanol i atebolrwydd. Nid oes unman heb unrhyw atebolrwydd; rwyf i'n atebol, ac mae pob Aelod unigol sy'n eistedd yn y Senedd yn atebol. Mae'r rhain yn gysyniadau sy'n gyfarwydd i bob un ohonom ni. Mae angen atebolrwydd yn ein system ni, ond ni ddylid ei ddrysu ag asesu ar gyfer dysgu.
Fe ddywed Siân Gwenllian fod angen cymhwyster Cymreig arnom ar gyfer cwricwlwm Cymru. Wel, fe fyddwn i'n dadlau bod gennym ni gymwysterau Cymreig ar hyn o bryd. Mae rhai ohonyn nhw'n hollol unigryw i Gymru, fel ein Bagloriaeth Cymru ni neu ein TGAU rhifedd mathemateg ni, ac, yn wir, y ffordd yr ydym ni wedi cadw ein Lefelau-AS, lle mae gennym elfennau o waith cwrs yn parhau yn ein TGAU, ac mae plant yn parhau i gael profion llafar mewn Cymraeg iaith gyntaf, Cymraeg ail iaith a Saesneg—pob un o'r rhain wedi diflannu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Ac, yn amlwg, mae adolygiad Cymwysterau Cymru o ddyfodol cymwysterau, a ddaeth yn ofynnol oherwydd ein diwygiad ni o'r cwricwlwm, yn bwysig. Fe hoffwn i atgoffa'r Aelod y mynegwyd cefnogaeth gref i gadw TGAU yng ngham cyntaf eu hymgynghoriad nhw. Mae'n frand sy'n gyfarwydd iawn i ddisgyblion, i rieni, i ysgolion, i fusnesau a sefydliadau addysg uwch. Ac fe hoffwn i atgoffa Siân Gwenllian pa mor aml yr wyf i wedi ateb cwestiynau yn y Siambr, pan mae pobl wedi codi pryderon am gydnabyddiaeth i gymwysterau Cymreig, weithiau gan brifysgolion dros y ffin, a'r ffaith bod Cymwysterau Cymru wedi gorfod cyflogi aelod ychwanegol o staff sy'n gweithio gyda sefydliadau addysg uwch y tu hwnt i Gymru, fel nad yw myfyrwyr Cymru dan anfantais.
Mae'r hyn sy'n hanfodol i mi yn mynd y tu hwnt i enw cymhwyster yn unig. Yr hyn sy'n hanfodol i mi yw bod yna werth i gymhwyster, ei fod yn caniatáu i blant Cymru gyflawni eu huchelgeisiau, boed hynny'n fynychu colegau addysg bellach, ennill prentisiaeth, dechrau yn y byd gwaith, y tu draw i'n ffiniau ni efallai i astudio mewn sefydliadau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, mewn mannau eraill yn y byd yn wir. Ni fydd neb yng Nghymru yn diolch inni am greu system o gymwysterau sydd, mewn rhyw ffordd, yn lleihau'r gwerth hwnnw. Ac rwyf i o'r farn mai dyna sydd raid i ni ganolbwyntio arno.
Ond fe fyddwn i'n cytuno â'r Aelod, sut olwg bynnag fydd ar y cymwysterau hynny, na ddylen nhw bennu cynnwys y cwricwlwm. Cynnwys y cwricwlwm a ddylai bennu'r cymhwyster, ac weithiau—ac rwy'n credu y bydd hon yn un o'r trafodaethau y bydd yn rhaid inni barhau i'w chael gyda'r system—mae'n peri pryder i mi weithiau, y cwestiwn hwnnw ynghylch, 'Os dywedwch chi wrthyf beth fydd yn y fanyleb ar gyfer yr arholiad, yna fe wnaf innau gynllunio'r cwricwlwm.' Mae angen cynllunio ein cwricwlwm yn gyntaf, ac yna deall sut y byddwn ni'n ei asesu. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog. Fe fydd yna doriad byr nawr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:32.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:41, gyda David Melding yn y Gadair.
Gawn ni drefn, gawn ni drefn. Mae'r Senedd yn eistedd drachefn.
Symudwn at eitem 4, sy'n ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19—heriau a blaenoriaethau. Galwaf ar Jeremy Miles.
Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pob un ohonom ni mewn sawl ffordd. Mae wedi cael effaith ddwys ar ein heconomi, ar ein cymdeithas a'n cymunedau, a bydd hynny yn parhau. Mae'r feirws yn dal i gylchdroi ac rydym ni'n sylweddoli gymaint yw'r gofyn ar bobl Cymru o hyd, ac rydym yn ddiolchgar i bawb am eu hymdrechion parhaus i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.
Wrth inni barhau i reoli'r feirws, mae'n bwysig ein bod yn ymateb hefyd i'r effaith hir dymor sy'n debygol ac yn cynllunio at y dyfodol. Mae ein hymateb i'r pandemig wastad wedi bod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Dyna hefyd sut yr awn ati i ail-greu.
Rydym ni wedi dechrau sgwrs genedlaethol ynglŷn â sut y dylai Cymru edrych yn y dyfodol. Fe wnaethom ni ofyn i aelodau'r cyhoedd gysylltu â ni i ddweud wrthym ni beth sy'n bwysig iddyn nhw ar gyfer y dyfodol, a chawsom dros 2,000 o sylwadau gan unigolion, gan sefydliadau cymunedol, elusennau, busnesau a chyrff cynrychioliadol. Rwyf wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron gyda phobl o grwpiau cymunedol, y trydydd sector, awdurdodau lleol, undebau llafur, busnesau, academyddion, pobl ifanc, ynghyd â sefydliadau cynrychioliadol o Gymru, rhannau eraill o'r DU ac yn rhyngwladol.
Bydd aelodau'r Senedd hefyd yn ymwybodol fy mod wedi sefydlu grŵp cynghori o arbenigwyr, sydd â phedwar aelod sefydlog: Torsten Bell, o'r Resolution Foundation; Rebecca Heaton, sy'n cynrychioli Cymru ar Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ac sy'n arwain ar newid yn yr hinsawdd yn y Drax Group; Paul Johnson, sy'n bennaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; a Miatta Fahnbulleh, sy'n arwain y Sefydliad Economeg Newydd; a bu pumed aelod gwahanol yn bresennol ym mhob sesiwn, gan ddod â phrofiad a gwybodaeth o sector penodol neu o fath arall sy'n berthnasol i'r mater sy'n cael ei drafod.
Yn y cyfarfodydd bord gron fe ystyriwyd ystod eang o faterion i'n helpu i gloriannu ble fyddai orau i ni flaenoriaethu ein hymdrechion, o ystyried maint yr her sy'n ein hwynebu. Bu'r cyfarfodydd yn hynod ddefnyddiol ac mae'r safbwyntiau a gyflwynwyd yn y trafodaethau hyn wedi llywio datblygiad ein blaenoriaethau. Maen nhw hefyd wedi ailddatgan i ni fod ein pryderon presennol—yr argyfwng hinsawdd, effaith ddamniol tlodi, yr angen i addasu i newid economaidd cyflym a phwysigrwydd ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus i'w gwneud yn fwy ymatebol a hygyrch—a'n gwerthoedd a'n hamcanion o Gymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach yw'r rhai cywir i'n cenedl er mewn cyd-destun newydd. Drwy gydol y pandemig, rydym ni wedi cael ein harwain gan y weledigaeth honno ac, er gwaethaf heriau'r pandemig, rydym ni wedi parhau i flaenoriaethu cyflawni'r camau gweithredu yn ein rhaglen lywodraethu a fydd yn cael yr effaith ymarferol fwyaf.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad: 'Ailadeiladu ar ôl COVID-19—Heriau a Blaenoriaethau'. Mae'r adroddiad yn nodi meysydd allweddol lle byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion a'n hadnoddau ar gyfer ailadeiladu er mwyn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol i Gymru.
Gan gydnabod ein bod yn dechrau ar gyfnod heriol iawn i'r farchnad swyddi, sy'n debygol o fod yn arbennig o anodd i bobl ifanc, byddwn yn canolbwyntio ar gadw pobl mewn swyddi a chreu swyddi newydd. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau diweithdra a rhoi'r cyfle gorau i bawb ddod o hyd i waith teilwng gyda rhagolygon hirdymor ac i allu cadw'r gwaith hwnnw, gan ychwanegu gwerth at raglen Kickstart Llywodraeth y DU. Byddwn yn gweithio gydag undebau llafur, cyflogwyr, ysgolion a cholegau i roi cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau ac i feithrin rhai newydd. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal ein pobl ifanc rhag bod ar eu colled yn addysgol neu'n economaidd oherwydd effeithiau'r coronafeirws a dirywiad economaidd nad oes unrhyw fai arnyn nhw amdano. Byddwn yn cefnogi ein holl bobl ifanc i aros mewn addysg ac i ddal i fyny yn yr ysgol ac yn y coleg. Hefyd, byddwn yn sicrhau bod grwpiau arbennig o ddifreintiedig, gan gynnwys aelodau o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.
Byddwn yn bwrw iddi i adeiladu mwy o dai cyngor a thai cymdeithasol fel bod mwy o dai o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru, gan fuddsoddi yn enwedig mewn nifer sylweddol o dai carbon isel ac uwchraddio'r stoc dai, yn enwedig tai cymdeithasol, i'w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni ac i leihau tlodi tanwydd. Bydd hyn yn arwain at fanteision mewn tri maes: yn rhoi hwb economaidd; yn galluogi mwy o bobl i fyw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus; a chyfrannu at ddatgarboneiddio.
Byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad yng nghanol ein trefi lleol er mwyn helpu i adeiladu cymunedau cryf ac i fanteisio ar sut y mae'r coronafeirws wedi ail-ganolbwyntio bywydau pobl ar y cymunedau lle maen nhw'n byw, gan gynnwys darparu gwell mynediad i fannau agored, creu canolfannau gweithio o bell, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch. Gan gydnabod ein bod yn parhau i fynd i'r afael â heriau mawr eraill, byddwn yn parhau i ymateb yn egnïol i'r argyfwng yn yr hinsawdd drwy ddilyn agenda datgarboneiddio gref, rheoli ein tir er budd cymunedau gwledig a chenedlaethau'r dyfodol, a diogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.
Byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir drwy newid patrymau gweithio a theithio i adeiladu ar yr arbrofi a fu gyda thrafnidiaeth gyhoeddus sy'n ymateb i'r galw a rhoi pwyslais clir yn ein strategaeth drafnidiaeth newydd ar leihau'r angen i deithio, lledaenu'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfartal drwy'r dydd, a galluogi teithio llesol fel buddsoddiad mewn iechyd cyhoeddus. Byddwn yn canolbwyntio ar yr economi beunyddiol neu sylfaenol ac yn cefnogi twf ac annibyniaeth busnesau sydd â phencadlys yng Nghymru er mwyn meithrin cadernid economi Cymru yn wyneb y coronafeirws a diwedd cyfnod pontio'r UE. Byddwn yn cefnogi'r GIG i wneud iawn am yr oedi a fu o ran trin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â'r coronafeirws.
Ym mhob un o'r wyth blaenoriaeth hyn ac ym mhopeth a wnawn, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr argyfwng, gan gynnwys plant a phobl ifanc, menywod, y rhai mewn gwaith ansicr ac sy'n talu'n wael, pobl o gefndir du a lleiafrifol ethnig a phobl anabl. Mae'r pecyn hwn yn fodd o ailadeiladu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'i lywio gan brofiadau pobl Cymru ac yn un a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach.
Diolch, Gweinidog, am gopi o'ch datganiad cyn y sesiwn y prynhawn yma. Rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad 'Ailadeiladu ar ôl COVID-19—Heriau a Blaenoriaethau'. Rwy'n credu bod llawer i'w ddweud ynglŷn â faint o ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud er mwyn cynhyrchu'r ddogfen honno, ac rwy'n croesawu llawer iawn o'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi o ran pethau yr hoffai eu cyflawni wrth symud ymlaen. Ond wedi dweud hynny, rwy'n credu bod pethau yr hoffwn i ofyn rhai cwestiynau i chi amdanynt.
Sylwaf eich bod yn cyfeirio at yr angen i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion yng Nghymru ar gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan argyfwng COVID-19. Rhestrwyd pob math o unigolion—plant, pobl ifanc, menywod, y rhai mewn gwaith ansicr ac ar gyflog gwael, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl—ond yr un grŵp na wnaethoch chi amdano oedd pobl hŷn, ac, wrth gwrs, gwyddom i gyd fod effaith y pandemig ar bobl hŷn, yn anffodus, wedi bod yn llawer mwy difrifol nag ar grwpiau eraill mewn cymdeithas. A wnewch chi ddweud wrthyf a oes rheswm pam nad oes fawr ddim sôn am bobl hŷn—dim sôn o gwbl yn eich datganiad ac ychydig iawn yn y ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi heddiw?
Rydych chi hefyd wedi dweud yr hoffech chi sicrhau y caiff swyddi pobl eu diogelu lle bo'n bosib, ac y gall pobl ifanc yn arbennig gael gwaith, a byddwn yn adleisio'r sylwadau hynny'n fawr iawn. Ond mae pryder cynyddol ledled Cymru bod rhai o'r cyfyngiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith yn anghymesur â maint y risg yng nghymunedau pobl. Ydych chi'n derbyn bod perygl y bydd mwy o bobl ifanc yng Nghymru yn ddi-waith o ganlyniad i rai o fesurau Llywodraeth Cymru a'i bod hi'n anodd iawn, mewn gwirionedd, i aelodau'r cyhoedd benderfynu a yw'r hyn a wnaed hyd yma yn gymesur, oherwydd diffyg data manwl fesul cymuned sydd ar gael ac wedi eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill.
A gaf i hefyd ofyn am fynediad at welliannau o ran ein stoc dai? Rwy'n amlwg yn deall pam y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar geisio gwella'r stoc tai cymdeithasol. Mae'n hawdd cymell landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda grantiau i ôl-osod cyfarpar yn yr eiddo hynny, ond mae'n amlwg bod angen i ni hefyd annog pobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain i fynd ati i wella eu heiddo hefyd. Mae gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs, ei chynllun grant cartrefi gwyrdd, sy'n hael iawn, ac mae llawer o bobl yn manteisio ar y cyfle i fanteisio ar hynny ar hyn o bryd, ond nid oes gennym ni gynllun cyfatebol yma yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried ei safbwynt ar hynny ac a oes ffordd y gallwch chi hybu pobl i fuddsoddi yn eu cartrefi a'u heiddo eu hunain drwy eu cymell gyda chyfraniad o goffrau'r Llywodraeth yn y ffordd y mae'r grant cartrefi gwyrdd yn ei wneud yn Lloegr?
A gaf i hefyd godi pryderon gyda chi ynglŷn â faint y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi i wella canol trefi? Byddwch yn ymwybodol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gronfa adfer ar ôl COVID gwerth £250 miliwn, sydd, yn amlwg, yn fuddsoddiad llawer mwy na'r arian sydd wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer canol trefi hyd yma. A allwch chi roi syniad inni o faint y buddsoddiad yng nghanol trefi yn y dyfodol o ganlyniad i'ch cynllun?
Ac yn olaf—o, mae gennyf i ychydig mwy o amser nag yr oeddwn yn ei feddwl. Os caf i hefyd, felly, sôn am drafnidiaeth gyhoeddus. Sylwaf eich bod yn annog pobl i newid eu patrymau gwaith. Bydd hynny'n amlwg yn lleihau'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol mewn rhai rhannau o Gymru. Mae'r rheswm pam yr ydych chi wedi dewis targed o 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio gartref y tu hwnt i mi; nid wyf yn hollol siŵr pam yr ydych chi wedi penderfynu tynnu'r ffigur hwnnw o'r awyr neu ble mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny. Ond dyna'r targed yr ydych chi wedi'i osod. Yn amlwg, os bydd mwy o bobl yn gweithio gartref, bydd llai o alw am drafnidiaeth gyhoeddus, a fydd yn gwneud llawer o lwybrau'n llai hyfyw. Nawr, rydych chi wedi sôn am geisio lledaenu'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus drwy'r dydd. Gallaf ddeall hynny ar y llwybrau prysur hynny lle mae gennym ni rywfaint o orlenwi, yn enwedig ar ein gwasanaethau trên, ond beth fydd hyn yn ei olygu o ran llwybrau bysiau? Rwy'n bryderus iawn, oherwydd mae pobl hŷn, yn amlwg, yn defnyddio gwasanaethau bysiau lawer iawn mwy na phobl eraill, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru lle nad oes ganddyn nhw gludiant arall ac efallai nad oes ganddyn nhw gar. Felly, pa waith ydych chi'n ei wneud i nodi'r llwybrau hollbwysig hynny y mae pobl hŷn yn arbennig yn dibynnu arnynt yn y mathau hynny o gymunedau?
Fe wnaethoch chi sôn hefyd bod angen i'r gwasanaeth iechyd gwladol wneud iawn am y gohirio a fu ar drin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â'r coronafeirws, ac eto nid wyf wedi gweld un ateb yn y ddogfen o ran sut yr ydych yn mynd i ymdrin â'r ôl-groniad o apwyntiadau. Unwaith eto, pobl hŷn yn fwy na neb arall—
All hyn fod eich sylw olaf, Darren?
—y mae'r ôl-groniad hwnnw yn effeithio arnynt ac y mae eu hansawdd bywyd yn dioddef o ganlyniad iddo. Felly, a gaf i ofyn beth gaiff ei wneud yn benodol ac yn bwrpasol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad penodol hwnnw? Diolch ichi am eich goddefgarwch.
Diolch i Darren Millar am yr ystod bwysig yna o gwestiynau, a chroesawaf ei gefnogaeth i'r ymgysylltu a'r pwyslais y mae'r ddogfen yn ei ddisgrifio, a'r ymgysylltu â phobl yng Nghymru sydd wedi helpu'n fawr i lunio'r blaenoriaethau a'r pwyslais y mae'r ddogfen yn eu disgrifio. Mae'n gywir wrth ddweud yr effeithiwyd ar bobl hŷn yn anghymesur mewn sawl ffordd o ran y pandemig yma o'r coronafeirws. Rydym ni wedi trafod yr union broblem honno gyda'r comisiynydd pobl hŷn, er enghraifft, ac fel y mae'r ddogfen yn ei gwneud hi'n glir, bydd y rhai yr effeithiwyd fwyaf andwyol arnynt yn elwa o'r ymyriadau y mae'r Llywodraeth yn eu cyflwyno. Bydd pobl hŷn yn elwa ar yr ystod o ymyriadau, boed hynny'n gymorth i wasanaethau cyhoeddus, i'r trydydd sector ac ystod o ymyriadau eraill a ddisgrifir yn y ddogfen.
Mae'n codi pwynt pwysig iawn am bobl ifanc a'u rhagolygon cyflogaeth. Gobeithio y bydd yn cydnabod bod y ddogfen yn rhoi cryn bwyslais ar ba mor arwyddocaol yw hynny fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac adlewyrchir hynny yn yr ystod o ymrwymiadau yn y ddogfen o ran cefnogi pobl ifanc i wella eu sgiliau hyfforddiant, i'w cefnogi wrth eu gwaith, ac yn wir i'w cefnogi mewn prentisiaethau. Felly, mae amrywiaeth o ymyriadau penodol o ran pobl ifanc mewn cyflogaeth, i ychwanegu gwerth, mae'n debyg, at rai o'r ymyriadau sy'n digwydd ar lefel y DU gyfan, yn enwedig y cynllun Kickstart, ac i ategu rhywfaint o hynny mewn ffordd sy'n ychwanegu gwerth pellach i bobl ifanc, i sicrhau nad ydynt yn cario'r baich hwn gyda nhw drwy gydol eu hoes waith, sef rhywbeth y gallent ei wneud fel arall.
Mae Darren Millar yn codi pwynt pwysig am arwyddocâd ôl-osod ar gyfer y stoc dai. Nid wyf eisiau tresmasu ar gyhoeddiadau'r Gweinidog tai yn y maes hwn yn y dyfodol, ond yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed yn y trafodaethau a gawsom ni yw ei bod hi'n bwysig gallu gweithredu ar raddfa mewn ffordd sy'n ein galluogi i ysgogi rhannau o'r economi i gynhyrchu cyflenwad o wasanaethau yn y sector pwysig hwn. Ac mae hynny'n bwysig, oherwydd mae'r gyfres o ymyriadau ynghylch uwchraddio ynni a thai gwyrdd yn y ddogfen yn bodloni nifer o amcanion polisi, yn amlwg o ran effeithlonrwydd ynni, yn amlwg o ran tlodi tanwydd, ond hefyd ystod ehangach o effeithiau sy'n gysylltiedig ag ysgogiad economaidd a datblygu cadwyn gyflenwi a chadwyn cyflenwi sgiliau. Yr asesiad a wnaethom ni fel Llywodraeth yw mai'r ymyriad a ddisgrifir yn y ddogfen sydd â'r cyfle gorau i gyflawni'r ystod honno o amcanion.
O ran gwella canol trefi, fel y mae'n gweld, mae hynny'n flaenoriaeth sylweddol. Bydd y Gweinidog cyllid yn gwneud datganiad yn fuan ynghylch faint yw'r ymrwymiad ariannol o ran yr ymyriadau polisi yn y ddogfen hon yn fwy cyffredinol. O ran trafnidiaeth gyhoeddus, bydd wedi sylwi yn y ddogfen ar y symiau sylweddol o arian y mae'r Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi'u darparu i drafnidiaeth gyhoeddus eisoes, yn enwedig yng nghyswllt gwasanaethau bysiau, am y rheswm y mae Darren Millar yn ei roi yn ei ddatganiad. Credaf y bydd hefyd wedi sylwi bod y ddogfen yn sôn am bwysigrwydd trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw fel dewis ar gyfer y dyfodol, y gwn yn sicr y bydd llawer o bobl hŷn yn fy etholaeth fy hun, a chredaf yn ei etholaeth ef, yn ei groesawu fel ffordd o ddarparu trafnidiaeth hyblyg na fyddai ar gael fel arall.
Yn olaf, o ran y pwyntiau a wnaeth am y GIG, byddwn yn ei gyfeirio at y trafodaethau yn gynharach yn y Siambr gyda'r Prif Weinidog ynglŷn â hynny, a hefyd at gynllun diogelu'r gaeaf y mae'r ddogfen yn cyfeirio ato. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, yn hapus i ymhelaethu ar hynny pan fydd nesaf yn y Siambr.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am ddarparu copi o'r adroddiad ymlaen llaw. Dwi'n ddiolchgar hefyd iddo am gytuno i ryddhau popeth yn gyhoeddus.
Mae'r adroddiad yn un swmpus, sy'n cynnwys nifer o ymrwymiadau gwario y bydd angen i'n plaid ni eu dadansoddi yn ofalus, ond o ran y blaenoriaethau mae'r Llywodraeth wedi'u gosod, maen nhw'n cyd-fynd â'r hyn mae Plaid Cymru wedi bod yn eu harddel, a dwi'n croesawu nifer fawr iawn o'r argymhellion. Yn wir, mae nifer o'r camau yma yn rhai rydym eisoes wedi galw amdanynt, er enghraifft yr angen i wneud popeth er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn ddioddef sgil-effeithiau hirdymor o ran eu haddysg, eu hiechyd a'u sefyllfa economaidd oherwydd sefyllfa lle nad oes bai arnyn nhw o gwbl. Mae'r pandemig wedi effeithio ar bobl o bob oedran mewn ffyrdd creulon, ond mae'n bwysig nad yw pobl ifanc yn colli allan ar ran hynod bwysig o'u datblygiad cymdeithasol oherwydd y cyfyngiadau sy'n eu hatal rhag gallu cymdeithasu â chyfoedion a datblygu yn addysgiadol.
Mae'r adroddiad yn nodi'r angen hefyd i sicrhau bod pobl ifanc sydd eisoes dan anfantais oherwydd annhegwch strwythurol yn cael cymorth ychwanegol. A fyddai'r Gweinidog yn gallu rhoi manylion ynglŷn â sut bydd y gefnogaeth yna yn cael ei rhoi, a sut byddwch yn sicrhau ei bod yn cyrraedd y bobl iawn, os gwelwch yn dda? Hefyd, allai e ddweud sut bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynnig gobaith am y dyfodol i bobl ifanc a myfyrwyr, yn sgil y ffaith eu bod nhw wedi colli allan ar y profiadau yna roeddwn i'n eu gosod mas? Mae'r adroddiad yn nodi'r angen i geisio lleihau diswyddiadau gymaint â phosib, yn ogystal â chreu swyddi newydd. Wrth gwrs, mae'n amhosibl gwybod ar hyn o bryd beth fydd maint y broblem, ond mae'n hanfodol bod rhaglenni a chynlluniau yn cael eu sefydlu cyn gynted â phosib, a dwi'n siŵr bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny.
Rwy'n deall y rhesymeg o geisio ychwanegu at fenter Kickstart Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ond a all y Gweinidog gadarnhau ei fod yn bwriadu gwneud hyn mewn modd sy'n mynd i'r afael â gwendidau'r fenter honno? Er enghraifft, a fydd yn rhoi pwyslais ar ddarparu cyfleoedd hyfforddi, cefnogi busnesau bach a cheisio darparu gyrfa tymor hir i weithwyr, yn hytrach na dim ond ateb tymor byr fydd ddim yn arwain at ddatblygiad gyrfaol? A all y Gweinidog hefyd roi esboniad am y ffigurau sydd yn yr adroddiad yn hyn o beth? Mae'n nodi y bydd £2.4 biliwn i'r gronfa cadernid economaidd, ond dim ond £40 miliwn ar gyfer darparu swyddi. A all e gadarnhau faint o'r gronfa yna fydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cadw pobl mewn gwaith a hefyd sut bydd gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi, os gwelwch yn dda?
Un peth oedd ar goll yn natganiad y Gweinidog, ond rwy'n cydnabod ei fod yn cael ystyriaeth yn yr adroddiad, yw'r angen dirfawr i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd meddwl sydd yn siŵr o ddatblygu a gwaethygu fel y mae amser yn mynd yn ei flaen. Mae'r adroddiad yn sôn am raglen fawr o gymorth iechyd meddwl i blant, ac rwy'n croesawu hynny, ond a all y Gweinidog roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â sut bydd y Llywodraeth yn cyflawni hyn, o ystyried y methiannau enbyd o fewn y system gymorth iechyd meddwl oedd yn bodoli cyn y pandemig ei hunan? Sut fyddwch chi'n cynyddu'r ddarpariaeth sydd ar gael i'r lefel angenrheidiol mor gyflym?
Mater arall sydd angen ei flaenoriaethu ydy cymorth i'r celfyddydau. Roedd sylwadau'r Canghellor heddiw yn dweud wrth artistiaid i ganfod swyddi eraill yn warthus, a gyda chymhelliant gwleidyddol, yn fy marn i. Rwy'n croesawu, felly, y gronfa o £53 miliwn i gefnogi'r sector, a byddai'n ddefnyddiol clywed asesiad y Gweinidog ynghylch sut y bydd yn sicrhau bod yr arian yma yn cyrraedd y bobl a'r sefydliadau sydd ei angen mewn da bryd. Mae'r un peth yn wir am gefnogaeth i brifysgolion, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau parhaus â nhw er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol, oherwydd mae ein prifysgolion yn hanfodol bwysig o ran lles deallusol ein cenedl.
Nawr, mae nifer o rannau eraill o'r adroddiad yr hoffwn i siarad amdanyn nhw mewn manylder, er enghraifft y cynlluniau i adeiladu tai, sefydlu hubs cymdeithasol i bobl weithio ynddynt, rheoli tir er budd cymunedol, trafnidiaeth gyhoeddus—rhai o'r pethau mae'r Gweinidog wedi ymateb yn eu cylch yn barod—a newid hinsawdd, ond does dim modd siarad mewn manylder am bopeth. Hoffwn argymell, felly, i'r Gweinidog ystyried perswadio ei gyd-aelodau Cabinet i roi datganiad ynghylch y cynlluniau ôl-COVID yma yn eu meysydd unigol, er mwyn galluogi Aelodau i graffu ar y cynlluniau eang yma mewn modd priodol.
Ac i gloi, mi wnaf i holi un cwestiwn arall: sut mae'r broses o wneud y gwaith yma wedi newid meddwl y Gweinidog ynghylch beth ddylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud? Ac a oes gwersi pwysig wedi eu dysgu ynghylch yr angen i greu cymdeithas ac economi ar seiliau mwy gwydn ar gyfer y dyfodol? Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am yr ystod eang o gwestiynau hynny sy'n cyffwrdd ar y ddogfen yn gyfan gwbl. Jest ar y pwynt y gwnaeth hi gloi arno fe, mae'r ddogfen hon yn disgrifio'r siwrnai dros y cyfnod nesaf, ond bydd datganiad wrth y Gweinidog cyllid nesaf ynglŷn â'r cyllid, ac wedyn bydd Gweinidogion yn gwneud datganiadau pwrpasol ynglŷn â phethau maes o law. Felly, bydd cyfle eto i ddatganiadau ac ati yn y meysydd hynny.
O ran yr hyn rŷn ni wedi ei ddysgu'n gyffredinol, wrth gwrs mae amryw o'r sialensiau yma yn sialensiau cyfarwydd. Yr hyn sydd wedi digwydd, rwy'n credu, yw bod brwdfrydedd ehangach a dealltwriaeth ddyfnach ymhlith y cyhoedd, efallai, ar lefel y sialensiau a'r parodrwydd, felly, i fynd i'r afael â nhw. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn newid eu cyd-destun nhw o'n safbwynt ni i gyd, am wn i. Fuaswn i yn dweud bod yr ymateb rŷn ni wedi ei gael i'r ymgynghoriad gan y cyhoedd a'r mudiadau ac ati wedi adlewyrchu—ar lefel fras, hynny yw—yr egwyddorion a'r blaenoriaethau efallai oedd gyda ni fel Llywodraeth cyn hynny. Rŷn ni wedi parhau trwy gyfnod y pandemig i allu blaenoriaethu yr elfennau hynny o'r rhaglen lywodraethu sydd yn cael yr impact fwyaf ar bobl yn y meysydd hyn, felly mae hyn yn adeiladu efallai ar hynny, gydag amryw o syniadau newydd, ond hefyd yn pwysleisio rhai o'r pethau yna rŷn ni wedi gallu eu gwneud.
O ran y pethau y gwnaeth hi sôn amdanyn nhw yn benodol, yn sicr mae angen cynnig gobaith i bobl ifanc ac i gydnabod bod plant a phobl ifanc wedi cario rhan sylweddol o'r baich yn y cyfnod diwethaf. Felly, mi wnaeth hi sylwi ar y buddsoddiad yn yr ysgolion a'r buddsoddiad mewn addysg bellach ac addysg uwch, ac mae hynny'n cynnwys—. Mi wnaeth hi sôn am iechyd meddwl. Mae hynny'n cynnwys cronfa i gefnogi pobl yn ein prifysgolion ni sy'n mynd trwy broblemau gydag iechyd meddwl ac ati i ddelio gyda'r sefyllfa sydd ohoni.
Mi wnaeth yr Aelod ofyn amryw o gwestiynau ynglŷn â lefel y gefnogaeth ac ati, a'r bwriad ar gyfer cefnogi pobl yn eu swyddi. Mae'r ffigwr o £2.4 biliwn yn lefel o'r buddsoddiad sydd wedi bod, hyd yn hyn, o ran cefnogaeth i gwmnïau ac ati. Rŷn ni'n credu bod y gefnogaeth wedi arbed rhyw 100,000 o swyddi, mwy neu lai, yn y cyfnod diwethaf, ond mae'r Aelod yn iawn i bwysleisio'r angen ar gyfer hyfforddi, ar gyfer swyddi cynaliadwy yn yr hirdymor, a hefyd i sicrhau bod dilyniant a chynnydd yn gallu digwydd i bobl yn eu swyddi dros y cyfnod hynny. Felly, mae hynny yn rhan o'r flaenoriaeth yn yr hyn sydd yn y ddogfen.
O ran iechyd meddwl yn ehangach, mae amryw o bethau sy'n cael eu crybwyll yn y ddogfen, hynny yw cefnogaeth i'r trydydd sector ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl—mae'r trydydd sector wedi bod o dan bwysau penodol yn y cyd-destun hwnnw—a hefyd ymyriadau yn yr ysgol, mewn addysg uwch a hefyd trwy'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i gefnogi pobl efallai sydd ddim wastad â phroblemau dirfawr meddyliol yn y cyd-destun hwn, ond mae'n sicr bod angen rhyw elfen o gefnogaeth ar bobl.
O ran y cwestiynau ar y sector llawrydd, dwi'n cytuno'n llwyr gyda hi pa mor gwbl annerbyniol oedd sylwadau'r Canghellor yn San Steffan, a bydd hi'n sicr wedi talu sylw i'r datganiad ddoe fod y cynllun i gefnogi gweithwyr llawrydd wedi agor, a bod ail gyfnod i hynny ar y gweill hefyd. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am y sector yn gwrando'n astud ar y drafodaeth, ac yn gwybod pa mor bwysig yw'r issue hyn iddo fe fel blaenoriaeth hefyd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Gweinidog, roeddwn yn darllen drwy'r ddogfen a gyhoeddwyd gennych chi yn gynharach heddiw, a rhaid imi ddweud fy mod yn croesawu natur y ddogfen, ysbryd y ddogfen a'r cynigion yr ydych chi yn eu gwneud yn y ddogfen. Ond rwyf eisiau sicrhau hefyd fod yr uchelgais a'r weledigaeth yr ydych chi wedi'u hegluro'n glir yn y ddogfen honno yn rhai y bydd y bobl rwy'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent hefyd yn eu rhannu.
Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn tri o'r pwyntiau a wnaethoch chi o ran eich blaenoriaethau—cyflogaeth, canol trefi a thrafnidiaeth gyhoeddus—oherwydd pan edrychaf ar y gymuned yr wyf yn ei chynrychioli nid wyf yn gwbl argyhoeddedig mai'r gwasanaeth arferol a oedd gennym ni flwyddyn yn ôl oedd y gwasanaeth arferol yr hoffem ni ei weld. Nid wyf yn hollol siŵr mai ein gwasanaeth arferol ni oedd y gwasanaeth yr hoffem ei weld ar gyfer llawer o'n cymunedau, ac rydych chi'n gwybod fy mod i wedi codi materion yn y fan yma droeon am economi Blaenau Gwent, yr angen i fuddsoddi yn nyfodol ein cymunedau a chysylltedd Blaenau Gwent.
Nawr, os ydym ni am wireddu'r uchelgais, nid y prawf i Lywodraeth Cymru yw llwyddo yng Nghaerdydd na Chas-gwent, gyda phob dyledus barch, ond llwyddo yn Nhredegar, Nant-y-glo neu hyd yn oed yn Swffryd. Dyna fydd y maen prawf. Nawr, hoffwn ddeall gennych chi, Gweinidog, sut y bwriadwch chi basio'r prawf hwnnw. Sut y byddwch yn sicrhau y bydd cymunedau ym Mlaenau Gwent yn teimlo mantais y rhaglen hon? Sut y byddwch yn sicrhau bod Blaenau Gwent yn gweld buddsoddi yn ein dyfodol economaidd, y buddsoddir yn nyfodol canol ein trefi ac y buddsoddir yn nyfodol ein pobl? Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y tri phwynt am swyddi, am ganol trefi ac am drafnidiaeth gyhoeddus. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Alun Davies am yr ystod yna o gwestiynau pwysig, oherwydd credaf mai'r hyn y mae ei gwestiwn yn ei wneud yw canolbwyntio ar effaith ei ymyriadau ar fywyd beunyddiol pobl mewn etholaethau sydd angen y gefnogaeth honno fwyaf. Gallaf ei sicrhau, fel rhywun sydd ei hun yn cynrychioli etholaeth sydd y tu allan i dde-ddwyrain Cymru, os mynnwch chi, fy mod yn rhannu ei flaenoriaeth i sicrhau bod yr ymyriadau'n dwyn ffrwyth ym mhob rhan o'n cymunedau ledled Cymru, oherwydd gwyddom fod yna rannau o Gymru sydd wedi dioddef o ganlyniad i COVID a, maes o law, a fydd yn dwyn baich effeithiau cyfunol COVID a gadael cyfnod pontio'r UE. Mae yna gymunedau ledled Cymru sydd wedi ysgwyddo'r baich hwnnw. Hoffwn adleisio'r sylw a wnaeth nad dychwelyd i normalrwydd yw'r amcan yr ydym yn ei osod i ni ein hunain. Mae normalrwydd yn fath o fywyd y mae'r rheini ohonom ni sydd â bywydau cymharol gyfforddus yn ei ystyried yn beth da, ond i lawer o'n pobl ledled Cymru, nid yw dychwelyd i normalrwydd mewn gwirionedd yn—. Nid oedd normalrwydd yn fan cychwyn da.
O ran y sylwadau a wnaiff, bydd wedi gweld, drwy gydol y ddogfen, yn ogystal â'r cymorth sgiliau a'r cymorth cyflogadwyedd i'r bobl hynny sy'n chwilio am waith ledled Cymru, mae nifer o ymyriadau sydd wedi'u cynllunio i ysgogi'r economi a chreu cyflogaeth newydd ac, mewn gwirionedd, yr ymyriadau ynghylch tai yn arbennig, yn cwmpasu Cymru gyfan, onid ydyn nhw? Rwy'n credu bod hynny'n rhan sylfaenol iawn o'r ymateb. Yn yr un modd, canol trefi. Gobeithio y bydd wedi gwerthfawrogi'r cyfeiriadau at ailgyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yng nghanol ein trefi, boed yn wasanaethau endosgopi neu'n wasanaethau iechyd a gofal integredig—y pethau hynny sy'n dod â phobl i mewn i'n trefi ac yn dod â bywiogrwydd yn ôl i ganol ein trefi, ochr yn ochr â'r buddsoddiad mewn mannau gwyrdd hefyd, y mae'r ddogfen yn sôn amdano. A gwn y bydd gan fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, fwy i'w ddweud am hynny maes o law.
Mae'r cwestiwn ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus wrth wraidd hyn yn llwyr, onid yw? A gwyddom beth fu effaith COVID ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond gwyddom hefyd nad oedd y system a oedd gennym ni pan darodd COVID yn adlewyrchu anghenion ei etholwyr mewn rhannau o'i etholaeth, ac yn sicr rhannau o'm hetholaeth i hefyd. Credaf mai dyna pam y credaf yn bersonol fod y cynlluniau y mae Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth wedi'u cyflwyno yng nghyswllt ail-lunio'r berthynas honno â chwmnïau bysiau mewn gwirionedd yn gyfle mor gyffrous inni allu darparu gwasanaethau bysiau i bobl yng Nghymru, ble bynnag y bônt, a darparu'r lefel honno o drafnidiaeth gyhoeddus y dylai pobl fod â hawl iddi. Rwy'n credu bod maint yr uchelgais honno yr ydym ni wedi'i gosod yn glir iawn fel Llywodraeth, ac, ochr yn ochr â hynny, cynnig sy'n ymateb i'r galw, a fydd yn newid byd i lawer o bobl rwy'n siŵr, hefyd yn ddatblygiad cyffrous iawn yn fy nhyb i, ac rwy'n siŵr y bydd yn croesawu hynny ar ran ei etholwyr hefyd.
Mae gennym ni yn y fan yma ddogfen drawiadol iawn arall gan Lywodraeth Cymru. Mae llawer ynddi y gellir ei gymeradwyo, ond, unwaith eto, rhaid imi ddweud, mae'n darllen fel pob dogfen arall gan y Llywodraeth. Gallai hynny fod o ganlyniad i feddwl a gweithio cyfunol. Efallai ddim. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Roeddwn yn meddwl bod cyfyngiadau symud caeth iawn yn rhesymol, o ystyried yr holl amgylchiadau, ond ni chydsyniais i, ac ni chydsyniodd llawer o'r bobl sy'n ysgrifennu ataf, erioed i gwtogi ein rhyddid am chwe mis neu fwy. Ac er bod rhywfaint o lacio ar y rheolau a'r rheoliadau, rydym ni i gyd yn ymwybodol y gellir ailgyflwyno y rheolau mwyaf caeth ar fyr rybudd. Erbyn hyn mae sôn am ddangosydd sbarduno cyfyngiadau symud llwyr. Mae'r penawdau, yn hytrach na sgrechian am nifer y marwolaethau, yn sgrechian am achosion nawr. Rydym ni'n gorchuddio ein hwynebau. Unwaith eto, ni allwn ni weld ein hanwyliaid. Mae pobl wedi dychryn, ac mae rhai yn dal i arswydo, ac nid yw negeseua'r Llywodraeth yn helpu nac yn meithrin yr hyder sydd ei angen arnom ni i gyd i wneud ein rhan i gael y wlad yn ôl ar ei thraed eto. Mae'r neges wedi newid o atal cynnydd yn nifer yr achosion i aros am frechlyn, ac ni thrafferthodd neb ddweud wrthym ni pryd y symudwyd y pyst eto. Rwy'n gwybod fy mod i wedi dweud hyn i gyd o'r blaen, ond rwy'n credu ei bod hi'n werth ei ddweud eto, oherwydd yn y cyd-destun hwn y darllenais y ddogfen hon. Felly, nawr, cafwyd sgwrs genedlaethol arall. Mae eich Llywodraeth yn ymateb yn egnïol drwy adeiladu cymunedau cryf, annog teithio llesol ac ymateb i argyfwng yr hinsawdd. Rwyf wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud heddiw fod ei Lywodraeth yn agored i drafodaeth a syniadau. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod yr un Llywodraeth honno eisiau trafod yr un pethau yn y Senedd, gan ffafrio siarad â'r wasg yn lle hynny. Nid yw'n argoeli'n dda, onid yw?
Rydych chi'n sôn am dai, ac, yn sgil y sylwadau yr wyf wedi'u gwneud dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â'r ddarpariaeth dai, gan fod tua 65,000 o deuluoedd yn aros am gartrefi yng Nghymru, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i fanteisio i'r graddau mwyaf posib ar dai cymdeithasol a thai cyngor, gyda chynnydd yn y grant tai cymdeithasol. Mae tai yn angen, ac yn wir mae eich Llywodraeth eich hun wedi ei ddisgrifio fel hawl. Nid oedd angen i'ch Llywodraeth aros nes i bandemig ddinistrio ein heconomi i wneud hyn yn unrhyw fath o flaenoriaeth.
Rydych chi'n sôn am gymunedau cryf a chanol ein trefi. Mae canol ein trefi'n cael eu dinistrio drwy gyfyngiadau symud ac yn fwy fyth felly gyda'r ergyd greulon a achosir gan gyrffyw o 10 yr hwyr, felly gadewch i ni gofio y gall noson allan hefyd gynnwys dillad newydd, gwallt, ewinedd, hylif ar ôl eillio ac ati, i ddod â chanol y dref yn ôl yn fyw. Felly, bydd mesurau pellach a pharhaus yn gwneud busnesau a allai fod wedi goroesi drwy ail-agor eu drysau yn anhyfyw.
Rwyf wedi bod yn llafar iawn wrth fynegi fy mhryderon am yr argyfwng iechyd arall yr ydym yn ei chreu o ran rhestrau aros ac iechyd meddwl, felly rwy'n falch o weld y rhoddwyd ystyriaeth ofalus i rai ymyriadau fel clinigau endosgopi yng nghanol ein trefi. Rwyf yn dal yn bryderus iawn am yr effaith ar ein hiechyd meddwl fel cymdeithas gyfan, a gwn fod y cyfraddau hunanladdiad wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y cyfnod hwn.
Clywn lawer am atebion Cymreig, heb fod eisiau dilyn Lloegr nac yn wir yr Alban na Gogledd Iwerddon, ond y gwir amdani yw bod Cymru wedi mynd ati mewn ffordd bur debyg i genhedloedd eraill y DU. Ymddengys ein bod ni i gyd yn yr un cwch ac na fydd yr un ohonom ni yn gweld diwedd hyn unrhyw adeg yn fuan. Rwyf wedi gweld llawer o academyddion, gwyddonwyr a meddygon uchel eu parch—yn anffodus neb sy'n cynghori'r Llywodraeth—yn dweud nawr fod angen inni ddysgu byw gyda'r feirws yma fel yr ydym ni'n byw gydag annwyd, ffliw a chanser. Mae'n ymddangos i mi fod llawer o'r cynnwys yn y ddogfen hon wedi bod ar gael i chi ac yn bethau y gallech fod wedi eu gwneud ers amser maith iawn. Yn fy marn i, nid oedd angen aros amdano. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna ac am y croeso y mae wedi'i roi i'r ddogfen a'r ymyriadau a ddisgrifir ynddi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwy'n credu y gellid crynhoi ei sylwadau mewn dau bwynt bras, ac rwy'n gobeithio nad wyf yn gwneud anghymwynas drwy wneud hynny. Yn gyntaf, ein hatgoffa bod angen ystyried cynnwys y ddogfen ochr yn ochr â'r her iechyd cyhoeddus y mae COVID yn amlwg yn ei chynrychioli bob dydd yn ein bywydau, ac mae cyd-destun hynny'n gyd-destun sy'n newid. Credaf iddi grybwyll y cyd-destun ei hun, a chredaf ei bod yn bwysig cadw hynny mewn cof, ac rwy'n cydnabod y sylw y mae hi'n ei wneud am y pryderon y mae pobl ledled Cymru'n eu teimlo ynghylch byw drwy'r cyfnod hwn a byw drwy gyfyngiadau symud ac ati.
Felly, credaf mai'r dasg y mae'r ddogfen yn ceisio'i chyflawni yw ymateb i'r hyn a wyddom ni eisoes yw effaith COVID, ochr yn ochr â'r dasg o ymateb yn fwy beunyddiol i rai o'r heriau hynny. Ond mae'n bwysig cynllunio ymlaen llaw hefyd. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld—ac nid ydym ni wedi dilyn y llwybr hwnnw yng Nghymru—yw math o ddull adweithiol, sydd efallai wedi bod yn nodwedd mewn mannau eraill. Rydym ni wedi ceisio ymateb i COVID yn ei amryfal ffurfiau mewn modd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi ei raglennu a'i gynllunio, a dyna ddyfodol y ddogfen hon hefyd: mae'n ymgais i edrych ymlaen yn ogystal â dechrau'r gwaith ailadeiladu nawr.
Mae hi'n gwneud sylw arall, a chredaf ei fod wedi'i fwriadu fel beirniadaeth. Dweud y mae hi fod rhai ymyriadau yma a allai, yn ei geiriau hi, fod wedi digwydd beth bynnag, a chredaf—y pwynt yr oeddwn yn ei wneud i Aelod yn gynharach yw y bu llawer o'r ymyriadau hyn ar waith eisoes. Os yw hi'n edrych ar y rhan o'r ddogfen sy'n sôn am yr ymyriadau yn y cyfnod yn union ar ôl COVID, bydd yn adnabod nifer o bolisïau cyfarwydd yno, a, thrwy gydol y pandemig, rydym ni wedi parhau i fynd i'r afael â llawer o'r heriau hyn y gwyddom ni sydd wedi bodoli ers peth amser drwy flaenoriaethu rhannau o'n rhaglen lywodraethu sy'n ymdrin yn fwyaf penodol â'r rheini.
Ond rwy'n credu—a gobeithio y bydd hi'n derbyn hyn—mai yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yw dealltwriaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd at ei gilydd o anferthedd y materion hyn a brwdfrydedd—mwy o frwdfrydedd efallai, os caf i ddweud hynny—i fynd i'r afael â nhw. Ac yn sicr mae COVID wedi dangos i ni ble mae'r anghydraddoldebau hynny wedi bodoli yng Nghymru, ond rwyf eisiau pwysleisio wrthi ein bod wedi ymafael â'r dasg hon drwy ofyn i bobl yng Nghymru beth sydd bwysicaf iddynt ond yng ngoleuni'r egwyddorion y buom yn eu harddel fel Llywodraeth drwyddi draw, sef cyfiawnder economaidd, cyfiawnder amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol, a dyna wedyn sy'n rhoi'r ystod o flaenoriaethau ac ymyriadau i chi a nodir yn y ddogfen.
Diolch am eich datganiad, ac mae'n dda iawn clywed eich bod wedi ymgynghori mor eang gan ein bod yn wynebu'r fath newidiadau digynsail, a achoswyd nid yn unig gan un pandemig, ond tri tswnami: y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb masnach, a'r argyfwng yn yr hinsawdd. Nid yw'r pethau hyn wedi diflannu ac mae'r syniad y dylem fynd yn ôl at ein hen ffyrdd drwg yn ymddangos i mi'n gwbl hurt, fel yr oedd Darren Millar yn awgrymu, rwy'n credu.
Rwy'n croesawu'n fawr eich cynnig i gael mwy o dai cymdeithasol carbon isel ac uwchraddio ein stoc dai bresennol i fod yn fwy effeithlon o ran ynni, ond rwyf eisiau holi pam nad ydych chi ychydig yn fwy radical ynglŷn â hyn. Roedd yr Arglwydd Deben, sy'n cadeirio pwyllgor newid yn yr hinsawdd y DU, yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor newid yn yr hinsawdd ynglŷn ag allyriadau carbon yr wythnos diwethaf, a mynegodd siom nad yw Cymru wedi arfer y pwerau sydd ganddi i newid y rheoliadau adeiladu i atal parhau i adeiladu yr hyn a alwodd yn 'dai gwael'. Felly, pam nad yw hi'n bosib i'r Senedd ddiwygio Rhan L o'r rheoliadau adeiladu i godi safonau tai preifat, a rhoi'r un safonau iddynt ag yr ydym yn adeiladu tai cymdeithasol iddynt? A hefyd pam nad ydym yn rhoi rhybudd i landlordiaid na fyddant bellach yn gallu gosod cartrefi y mae eu heffeithlonrwydd ynni yn llai na gradd E? Mae'n ymddangos i mi y byddai hynny'n ysgogiad enfawr i'r economi o ran creu llawer mwy o swyddi pe bai landlordiaid yn gwybod bod yn rhaid iddyn nhw uwchraddio eu heiddo erbyn dyddiad penodol, a byddai'n helpu mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n credu ei bod yn gwneud y pwynt pwysig iawn na ellir edrych ar yr un o'r cyfresi hyn o ymyriadau ar wahân ac, yn amlwg, mae angen ystyried effeithiau cyfunol newid yn yr hinsawdd, COVID a diwedd y cyfnod pontio gyda'i gilydd cyn belled ag y bo modd, ac felly mae ymyriadau wedi'u cynllunio, ar un ystyr, i allu ystyried y cyd-destun cyfan hwnnw a bydd hynny'n glir, rwy'n credu, i'r Aelod, fel y mae'r cwestiwn yn cydnabod, o'r ymyriadau y mae'r papur yn eu cyflwyno.
Rwy'n credu, o ran tai—gobeithio y bydd yn cydnabod, fel rwy'n credu y bydd hi, pa mor arwyddocaol yw swyddogaeth tai gwyrdd a thai wedi'u huwchraddio o ran ynni fel rhan o'r ymateb hwn. Nid wyf, mae arnaf ofn, yn ddigon cyfarwydd â manylion y rheoliadau adeiladu er mwyn gallu rhoi ateb iddi sy'n deilwng o'r cwestiwn, ond gwn y bydd y Gweinidog wedi clywed ei sylwadau ac y bydd yn amlwg yn gallu cadw hynny mewn cof, ond byddwn yn dweud bod yr hwb i'r rhaglen dai arloesol wedi'i gynllunio, ar un ystyr, er mwyn canfod atebion creadigol i'r dyfodol, onid yw, mewn gwirionedd, ar gyfer y mathau hynny o eiddo sy'n darparu tai ecogyfeillgar, gan ysgogi'r economi hefyd, a chredaf—ac rwy'n gwybod y bydd yn cytuno â mi—mae hynny'n gyfres bwysig o flaenoriaethau.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad—[Anghlywadwy.]—mae Llywodraeth Cymru—[Anghlywadwy.]—i'ch canmol am ehangder a dyfnder—[Anghlywadwy.] Mae llawer o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn amdano, ond, oherwydd cyfyngiadau amser, gofynnaf dri yn unig.
Yn gyntaf, trydydd cam y gronfa cadernid economaidd—sylwaf fod y ddogfen yn datgan y bydd arian wedi'i neilltuo ar gyfer busnesau sydd wedi gorfod cau oherwydd cyfyngiadau lleol. Byddwn yn croesawu rhagor o wybodaeth am hyn, oherwydd mae'n ddigon posib y byddai o gymorth uniongyrchol i fusnesau yn fy etholaeth.
Yn ail, sylwaf gyda diddordeb ar y cyfeiriad at y goedwig genedlaethol, a'r ffaith y byddwn yn bwrw ymlaen â chreu coedwig genedlaethol yma yng Nghymru. Croesawaf hyn a hoffwn ofyn i ystyriaeth arbennig gael ei rhoi i ehangu'r coedwigoedd yn yr ardaloedd hynny o Gymru sydd wedi dioddef cymaint o lifogydd, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwyddom y gall coedwigoedd gael effaith gadarnhaol sylweddol ar leihau dŵr ffo, gan ddiogelu cymunedau yn benodol sydd mewn cymoedd a dyffrynnoedd.
Yn drydydd, o ran y rhaglen dai arloesol, a gaf i eich annog, Gweinidog, i edrych yn benodol ar yr angen am dai hyblyg o fewn y cylch gwaith hwnnw? Gwn o'm gwaith achos fod prinder enfawr tai o'r fath, a chyda mwy o bobl angen dibynnu ar dai cymdeithasol wrth i effaith economaidd argyfwng y coronafeirws dirgrynu drwy Gymru benbaladr, rwy'n siŵr na fydd yr angen am dai hyblyg ond yn cynyddu.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. O ran y pwynt cyntaf ynghylch cam nesaf y gronfa cadernid economaidd, cyhoeddwyd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer hynny ddydd Llun yr wythnos hon, a dylent fod ar gael—. Rwy'n credu fy mod yn gywir wrth ddweud, o'r £140 miliwn, rwy'n credu mai £60 miliwn yw'r ffigwr sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cymorth gyda chyfyngiadau lleol, a bydd y cymhwysedd ar gyfer hynny, mi gredaf, ar gael ar-lein. Ond, os nad ydyw, yna gallaf sicrhau y caiff pa wybodaeth bynnag sydd ar gael ei darparu i'r Aelod a'r Aelodau yn gyffredinol.
O ran y goedwig genedlaethol, rwy'n datgan budd yn hynny oherwydd roedd yr ymgysylltu diwethaf a wneuthum, mi gredaf, cyn y cyfyngiadau symud am y tro cyntaf ym mis Mawrth ynglŷn â dechrau plannu'r goedwig genedlaethol ym Mharc y Gnoll yn fy etholaeth fy hun, ac roedd yn fraint fawr gallu gwahodd y Gweinidog i'r etholaeth i wneud hynny. Rwy'n sicr yn derbyn y pwynt y mae hi'n ei wneud, a byddaf yn gwneud yn siŵr y caiff ei sylw'n ei gyfleu i Weinidog yr amgylchedd yn yr ystyriaethau sydd ganddi dros gyflwyno hynny yn y dyfodol.
Ac yn olaf, o ran tai arloesol, gwn fod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn rhoi pwys mawr ar greadigrwydd yn ein hymateb i ddefnyddio tai i ddiwallu amrywiaeth o anghenion cymdeithasol ac amrywiaeth o gyfluniadau teuluol, os gallaf ei roi felly, ac mae'r hyblygrwydd a ddaw yn sgil hynny yn bwysig. Rwyf wedi siarad â hi droeon am werth tai sy'n gallu dilyn troeon bywyd y tenant neu'r perchenogion, os mynnwch chi, o wahanol gyfnodau a gwahanol anghenion o ran cartref. Felly, rwy'n gwbl siŵr y bydd hynny'n flaenaf yn ei meddwl o ran y cyhoeddiadau a wnaiff yn y dyfodol.
Y cwestiwn olaf gan Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn. Gweinidog, a gaf i gymeradwyo'r ymgysylltu yr ydych chi wedi'i wneud ynglŷn â hyn, ond hefyd yr elfen radical sy'n britho'r adroddiad hwn a'r datganiad hefyd? Y rheswm am hynny yw, wrth i mi eich cymell ar ddechrau hyn, nid aethoch chi at yr wynebau arferol, ac, wrth gwrs, rydym yn gweithio o fewn uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd, sy'n rhywbeth i'w groesawu.
Gadewch imi ofyn ychydig o gwestiynau ichi yn y fan yma. Un ohonyn nhw yw: o ran trafnidiaeth gyhoeddus, a ydym yn defnyddio'r cyfle hwn nawr i adfer rheolaeth, yn enwedig o ran bysiau yn ein Cymoedd, a gwneud i'r arian yr ydym ni yn ei fuddsoddi yn hyn fynd ymhellach? O ran datblygu canol trefi, a allwn ni fod yn glir nad canol y trefi craidd yn unig sydd o dan sylw yn y fan yma, ond Pontycymer yn ogystal â Phorthcawl, Glyn-nedd yn ogystal â Chastell-nedd—canol y trefi hynny i gyd, gan gynnwys parthau pellaf ein Cymoedd.
Yn olaf, o ran tai carbon isel, rwy'n croesawu'r pwyslais, yn amlwg, ar dai cymdeithasol, ond nid dyna'r cyfan, fel y mae'r adroddiad yn ei wneud yn glir. Dylem lunio ein fersiwn ein hunain o'r ffordd yr ydym yn ôl-osod cyfarpar ar raddfa sylweddol gyda pherchnogion tai preifat hefyd. A fydd hynny'n rhan o'r ffordd ymlaen? Diolch yn fawr iawn.
Mae cwestiynau Huw Irranca-Davies yn mynd at wraidd llawer o'r materion hyn mewn gwirionedd, felly diolch ichi am y sylw am ymgysylltu. Y peth da am ymgysylltu yw amrywiaeth o leisiau, a gyda hynny weithiau rydych chi'n clywed pethau mae arnoch chi eisiau eu clywed, weithiau pethau nad oes arnoch chi eisiau eu clywed, ond mae hynny'n rhan bwysig o'r broses. A hoffwn gydnabod pa mor bwysig fu deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol i'n meddylfryd yn hyn o beth, a diolch i'r comisiynydd am ei hymgysylltu o ran gwaith y Llywodraeth yn y maes hwn.
O ran rheoli'r ddarpariaeth bysiau yn y dyfodol, mae hynny wrth wraidd y cynigion y gwn fod Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth yn gweithio arnynt. Bydd Huw Irranca-Davies wedi clywed Ken Skates yn dweud—wyddoch chi, gyda'r swm enfawr o arian cyhoeddus a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau bysiau, dylem allu cael mwy o reolaeth dros y gwasanaethau nag y mae'r gyfres bresennol o drefniadau'n ei ddarparu, felly gwn fod ei gynlluniau wedi'u bwriadu i gyflawni'r amcan hwnnw.
Allwn i ddim cytuno mwy o ran canol trefi. Mae gennyf etholaeth, fel sydd ganddo yntau, gyda nifer o drefi—nid trefi mawr—y mae angen rhywfaint o gefnogaeth ar bob un ohonyn nhw, mi gredaf. O ran y pwynt olaf, o ran ôl-osod cyfarpar mewn tai i'w gwneud yn rhai carbon isel, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog wedi clywed y sylw yna; mae wedi'i wneud gan fwy nag un siaradwr heddiw. Yr ymyriad yn y ddogfen, yn ein hasesiad ni, yw'r ffordd orau o wneud cynnydd cyflym, os mynnwch chi, mewn cyfnod cymharol fyr, ond nid oes amheuaeth mai diben hynny yw creu rhywbeth y mae modd ei addasu mewn maint dros gyfnod hwy.
Diolch, Gweinidog.
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid yw eitem 5: Diweddariad ar effeithiau cyllidol COVID-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol. Galwaf ar Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd dros dro. Heddiw, rwyf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am effeithiau cyllidol pandemig COVID-19 a'r rhagolygon ar gyfer ein cyllideb yn y dyfodol. Mae ein hymdrechion yn canolbwyntio ar ymateb i effeithiau'r pandemig a gosod y sylfeini ar gyfer ailadeiladu gyda chymorth newydd ar gyfer swyddi, pobl ifanc, cymunedau a'n hamgylchedd.
Mae penderfyniad y Canghellor i ganslo cyllideb hydref y DU, yr ansicrwydd ynghylch adolygiad cynhwysfawr o wariant y DU a'r diffyg gwybodaeth am gyllido fydd yn disodli cronfeydd yr UE i gyd yn cyfrannu at wneud ein gwaith yn anoddach. Ynghyd â'm cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd hefyd yn gwneud datganiadau i'w deddfwrfeydd priodol heddiw, rydym yn cyflwyno ein ceisiadau ar y cyd i Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd ariannol, cyfle i gymryd rhan ystyrlon yn yr adolygiad o wariant a bargen deg o ran cronfeydd fydd yn disodli cronfeydd yr UE.
Rydym bellach wedi dyrannu bron i £4 biliwn mewn ymateb i effaith y pandemig. Tynnwyd hyn o symiau canlyniadol o Lywodraeth y DU yn ogystal â £0.5 biliwn o gronfa ymateb COVID-19 a grëwyd gennym ni drwy gyllidebau a addaswyd at ddibenion gwahanol. Ers y gyllideb atodol, rydym ni wedi dyrannu £260 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol a chyllideb sefydlogi ychwanegol o £800 miliwn ar gyfer y GIG, yn ogystal â chymorth ar gyfer blaenoriaethau ehangach yn amrywio o drafnidiaeth gyhoeddus i'r celfyddydau a diwylliant.
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi pecyn sylweddol arall o gyllid sy'n dod i gyfanswm o £320 miliwn i helpu pobl a busnesau i oroesi'r cyfnod heriol sydd o'n blaenau. Rydym yn buddsoddi yn y blaenoriaethau ailadeiladu a amlinellwyd gynnau gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gefnogi adferiad sy'n seiliedig ar werthoedd. Ynghyd â'r buddsoddiad mawr mewn busnesau a sgiliau o fewn y gronfa cadernid economaidd, mae'r mesurau hyn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein hymdrechion ailadeiladu.
Bydd fy nghyd-Weinidogion yn nodi rhagor o fanylion yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf, ond gallaf gadarnhau y bydd y camau y byddwn yn eu cymryd i gefnogi plant a phobl ifanc yn cynnwys £15 miliwn i helpu mwy o fyfyrwyr mewn addysg bellach gyda'r offer digidol sydd eu hangen arnyn nhw, ar yr un pryd â hybu capasiti cofrestru i gefnogi pobl ifanc drwy'r ergyd economaidd. Bydd £9.5 miliwn arall yn helpu'r rheini ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 gyda chymorth dal i fyny ychwanegol ar yr adeg dyngedfennol hon yn eu haddysg.
Caiff £60 miliwn arall ei neilltuo i gefnogi cynnydd yn y gwaith o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol. Bydd y cam gweithredu hwn yn helpu i hybu swyddi, gyda buddsoddiad mewn tai carbon isel, mwy o effeithlonrwydd ynni ac ymdrechion i leihau tlodi tanwydd. A bydd £14 miliwn yn cefnogi mesurau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd drwy ddilyn ein hagenda datgarboneiddio gref, rheoli ein tir er budd cymunedau gwledig a chenedlaethau'r dyfodol, a diogelu adnoddau naturiol. Mae'r buddsoddiad mawr hwn yn dangos sut y bydd ein hymagwedd at ailadeiladu yn cael ei lywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn arbennig, y pwysigrwydd a roddwn ar ymyrraeth gynnar i atal problemau yn y dyfodol.
Er bod y gweithredu hwn yn hanfodol i'n hadferiad, dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r cymhellion macro-economaidd sydd eu hangen i ailgynnau'r economi. Rwy'n dal yn bryderus iawn bod y cynllun cefnogi swyddi'n cynnwys diffiniad mympwyol o beth yw swydd hyfyw, ac y bydd dim ond yn gwaethygu'r anawsterau i'r rheini sy'n cael eu taro galetaf. Ynghyd â chymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, rwyf heddiw'n annog Llywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi'r busnesau a'r sectorau sy'n cael eu taro galetaf; gwneud mwy o ran sgiliau a mwy i greu swyddi i bobl ifanc; a pharhau â chredydau cyffredinol ychwanegol, sydd i ddod i ben ym mis Mawrth, sydd wedi helpu rhai o'r teuluoedd tlotaf i oroesi'r storm. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU hefyd wneud mwy i roi cymorth ychwanegol i unigolion a busnesau mewn ardaloedd dan gyfyngiadau symud lleol.
Mae ansicrwydd o hyd ynghylch faint o gyllid y gallwn ei ddisgwyl eleni. Er imi groesawu gwarant Llywodraeth y DU y gellais ei negodi ym mis Gorffennaf, ers hynny cafwyd nifer o gyhoeddiadau am gyllid pellach yn Lloegr heb eglurder ynglŷn â'r goblygiadau i ni yma yng Nghymru. Rydym yn disgwyl, yn gwbl briodol, ein cyfran deg o gyhoeddiadau cyllid newydd gan Lywodraeth y DU, ond nid oes gennym ni ffordd o farnu ar hyn o bryd a ydym yn ei gael ai peidio.
Mae'r cefndir hwn yn gwneud yr achos dros fwy o hyblygrwydd ariannol yn bwysicach o lawer. Mae tair enghraifft allweddol o hyblygrwydd newydd sydd eu hangen arnom: (1) y gallu, os oes ei angen arnom, i orwario eleni, hyd at derfyn y gallwn gytuno arno gyda Llywodraeth y DU; (2) y gallu i gario mwy ymlaen yng nghronfa wrth gefn Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol; a (3) gwell mynediad at yr adnoddau yng nghronfa wrth gefn Cymru yn 2021-22 ar gyfer refeniw a chyfalaf. Ynghyd â'm cymheiriaid, rydym gyda'n gilydd yn gofyn i Lywodraeth y DU heddiw ddarparu'r gyfres lawn o hyblygrwydd sydd ei hangen arnom ni i reoli'r heriau sy'n ein hwynebu.
Mae diddymu cyllideb hydref y DU a'r ansicrwydd ynghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn arwain at oblygiadau mawr i'n proses gyllidebol. Ar hyn o bryd, bwriadaf gyhoeddi ein cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft ar 8 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 2 Mawrth 2021. Fodd bynnag, mae'r amserlen hon yn dibynnu'n drwm ar bryd y cawn ni fanylion ein setliad ar gyfer y blynyddoedd i ddod a chasgliad yr adolygiad o wariant. Er fy mod yn parhau i fwrw ymlaen â'n paratoadau ar gyfer y gyllideb ddrafft, heb gyllideb gan Lywodraeth y DU, mae'n rhaid i mi wneud rhagdybiaethau ynghylch y grant bloc a defnyddio gwybodaeth dros dro am yr addasiadau i'r grant bloc. Felly, ynghyd â'm cymheiriaid, rydym ar y cyd yn gofyn i Lywodraeth y DU heddiw am eglurder brys ynghylch cwmpas ac amseriad yr adolygiad o wariant.
Rydym ni hefyd yn wynebu'r ansicrwydd parhaus ynghylch dull gweithredu Llywodraeth y DU o ran diwedd cyfnod pontio'r UE. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o eglurder ynghylch sut y bydd yn cyflawni addewidion na fydd Cymru'n waeth ei byd o ganlyniad i Brexit ac y caiff datganoli ei barchu'n llawn. Bydd cronfeydd newydd yn rhan annatod o'n hadferiad, felly rhaid datganoli eu darpariaeth yn llawn fel y gallwn eu targedu i ddiwallu anghenion penodol pobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru.
Mae Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn tanseilio hyn, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wrthsefyll yr ymgais hon i hawlio grym a'r ras i'r gwaelod y mae'n eu cynrychioli. Am y rheswm hwn, ynghyd â'm cymheiriaid, rydym ar y cyd yn gofyn i Lywodraeth y DU heddiw am sicrwydd y bydd yn darparu cyllid llawn a fydd yn disodli rhaglenni'r UE heb amharu ar y setliadau datganoli. Mae angen cyfran deg o'r cyllid arnom ni ar gyfer swyddogaethau newydd a fydd yn dod i Gymru a bydd hynny'n ein helpu i gefnogi cyfnod pontio llyfn wrth inni adael yr UE.
Felly, i gloi, mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithredu ar y galwadau cyfunol yr ydym yn eu gwneud heddiw i ddarparu'r hyblygrwydd a'r cyllid sydd eu hangen i'n galluogi i ymateb i'r heriau'n effeithiol. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n ddiflino i adeiladu dyfodol mwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach i Gymru, ac ategir hyn gan y buddsoddiad sylweddol yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw.
Diolch, Weinidog, am y datganiad.
Wel, ble i ddechrau? Rwy'n credu ein bod o leiaf yn unedig yn yr awydd i gefnogi swyddi, pobl ifanc, cymunedau a'n hamgylchedd, ac i 'dyfu'n ôl yn wyrddach', i ddefnyddio'r ymadrodd newydd sy'n cylchredeg. Ond, rhaid i mi ddweud, Gweinidog, rwy'n siomedig braidd â'r datganiad heddiw. Rydych yn tynnu sylw at y ffaith fod gan Lywodraeth y DU y cymhellion macro-economaidd sydd eu hangen i ailgynnau'r economi, ond wrth gwrs rhaid ichi gydnabod hefyd fod gennych chi ddulliau eithaf pwerus ar gael ichi yma hefyd. Credaf mewn gwirionedd fod angen inni beidio â rhygnu ar yr un hen dant mai 'Ar San Steffan y mae'r bai am hyn i gyd', sydd fel petai'n treiddio i gynifer o ddadleuon a datganiadau yn y Siambr hon.
Dywedwch yn eich datganiad fod £4 biliwn wedi'i ddyrannu i liniaru'r pandemig—mae hynny'n wir. Ond, fel y dywedwch chi hefyd, onid yw cyfran fawr o'r arian hwnnw'n dod o symiau canlyniadol gwariant Llywodraeth y DU beth bynnag, sy'n sicr yn enghraifft wych o gymorth macro-economaidd i Gymru? O ran ailflaenoriaethu'r gyllideb y sonioch chi amdani, byddai'n dda cael ychydig mwy o fanylion—gwn ichi sôn am rai prosiectau—ynghylch yr hyn y mae ailflaenoriaethu'r gyllideb honno'n ei gynnwys ac, yn wir, pa gyllidebau sy'n cael eu lleihau i ganiatáu i'r ailflaenoriaethu hwnnw ddigwydd.
Croesawaf yr hyn a ddywedasoch chi am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol a'r angen, wrth inni ailadeiladu'n well ac yn wyrddach, i sicrhau y cydymffurfir â'r ddeddfwriaeth honno, ond pa mor aml ydym ni'n sôn am hynny, ond wedyn, yn ymarferol, nid yw'n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd? Roedd ein diweddar gyd-Aelod Steffan Lewis bob amser yn codi hyn yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor. Mae'r syniadau hyn yn wych mewn egwyddor, ond a ydynt yn gweithio'n ymarferol mewn gwirionedd? Oherwydd os nad ydyn nhw, yna gall hynny fod yn gamarweiniol.
Rwy'n deall yn iawn eich galwadau am fwy o hyblygrwydd cyllidebol ac mae hynny'n beth da, fodd bynnag, nid yw'n ateb i bopeth, nac ydy? Rydym yn croesawu'r sicrwydd a roddodd Llywodraeth y DU ichi ynglŷn â chyllid, ond o ran eich pryderon ynghylch eglurder, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gellid darparu mwy o dryloywder i Lywodraeth Cymru yn awr ac yn y dyfodol pan wneir dyraniadau cyllid? Er hynny, rwy'n amau y gallai'r tryloywder hwnnw dynnu sylw at y ffaith bod y dyraniadau presennol wedi bod yn eithaf hael, mewn gwirionedd, felly nid wyf yn siŵr y byddem yn clywed gormod yn y Siambr hon amdanynt ar hyn o bryd.
Gan droi at gefnogi materion cynllunio a chyllid yr UE, wel, iawn, rydych yn gorfod gwneud rhagdybiaethau ynghylch y grant bloc—deallaf fod hwn yn gyfnod heriol i'ch swyddogion—ond onid oes yn rhaid i Lywodraethau ledled y byd wneud rhagdybiaethau ynghylch pob math o bethau ar hyn o bryd, yn y cyfnod digynsail hwn? Mae'r sefyllfa ledled y DU yn newid yn gyflym. Fel y dywedasoch chi, mae ganddynt gymhellion macro-economaidd ar gael iddynt, felly nid wyf yn credu ei bod hi'n gwbl deg taflu beirniadaeth at Lywodraeth y DU; rwy'n credu bod yn rhaid inni dderbyn bod hwn yn gyfnod digynsail.
O ran cyfnod pontio'r UE, ydym, rydym yn edrych ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw Cymru'n waeth ei byd o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE, ac mae'n bwysig parchu'r setliad datganoli. Mae gennych gefnogaeth i hynny.
I gloi, Cadeirydd, gadewch inni beidio ag anghofio mai Llywodraeth glymblaid y DU a gyflwynodd fwy o bwerau cyllidol i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon, gan gynnwys rhai pwerau trethu eithaf sylweddol. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fyfyrio ar hynny, ac, ydy, mae hyblygrwydd yn dda, ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am fwy o arian, mae ganddi lawer o arfau ar gael iddi yma eisoes i godi cyllid, benthyca ac ymgorffori hyblygrwydd yn y system. Felly, gadewch i ni gofio hynny yn y dyfodol. A Gweinidog, a allwn ni weithio gyda'n gilydd, bwrw ymlaen â thyfu economi Cymru, tyfu sylfaen drethi Cymru, ailadeiladu'n well, ailadeiladu'n wyrddach a sicrhau bod economi Cymru yn y dyfodol yn gryfach nag y bu yn y gorffennol?
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am y sylwadau yna y prynhawn yma. Rwyf yn ei sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl gymhellion sydd ar gael inni o ran ein hymateb i bandemig y coronafeirws, ac felly hefyd, y gwaith y mae Jeremy Miles wedi'i amlinellu y prynhawn yma o ran ein hymdrechion i ganolbwyntio ar yr ailadeiladu.
Rwy'n credu y gallwn ddangos hynny, yn enwedig yn y gwaith yr ydym wedi'i wneud i ailgyhoeddi cyllidebau ar draws y Llywodraeth. Felly, mae'r gronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn yn enghraifft dda iawn o sut y bu inni addasu cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd at ddibenion gwahanol er mwyn inni allu rhoi'r cymorth cyflym hwnnw ar waith i fusnesau. A gwyddom faint o fusnesau sydd wedi elwa ar hynny—mae dros 60,000 o fusnesau wedi elwa. A gwyddom ein bod wedi sicrhau dros 100,000 o swyddi a chredaf fod hynny'n gyflawniad anhygoel, ond rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y cyfnod anodd sy'n ein hwynebu o ran yr economi a'r angen i wneud mwy, a dyna pam mae trydydd cam y gronfa cadernid economaidd honno ar agor ar hyn o bryd.
Mae'n dda clywed Nick Ramsay yn siarad am y warant y gwnaethom lwyddo i'w negodi gyda Llywodraeth y DU. Deallwn nawr ein bod ar ben uchaf y warant honno. Roedd Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'n rhoi manylion cynhwysfawr inni am symiau canlyniadol Barnett y cyfeiriodd y warant honno atynt. Yn anffodus, nid ydym ni hyd yma wedi cael cysoniad manwl yr wybodaeth honno, felly mae'n ei gwneud hi'n anodd i ni ddeall i ba raddau y mae'r cyllid a gawsom yn ymwneud ag eitemau y mae Llywodraeth y DU wedi gwario arnynt. Er enghraifft, ni allwn weld lle y byddai arian ychwanegol a allai fod wedi'i wario ar ysbytai maes dros y ffin yn dod o fewn y warant honno ac ni allwn weld cyllid ychwanegol ar gyfer peiriannau anadlu, er enghraifft. Mae'n anodd iawn meddwl y gallai adran iechyd Llywodraeth y DU fod wedi ariannu'r rheini o gyllidebau presennol. Felly, mae llawer o waith i'w wneud, rwy'n credu, eto, o ran cael y tryloywder hwnnw ar draws y cyllidebau, y credaf y byddem ni'n cydnabod ei fod yn hanfodol.
O'm safbwynt i, rwyf eisiau bod mor dryloyw â'r Senedd ag y gallaf. Felly, rwyf wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr amser a dreuliodd gyda mi yn trafod sut y gallwn wneud cyllideb atodol dros dro dryloyw, os mynnwch chi, a chyflwyno hynny cyn diwedd y mis. Dylai hynny fod yn gyfle inni gau pen y mwdwl o ran y cyllid yr ydym ni eisoes wedi'i wario yn ymateb i COVID, er mwyn i'r gyllideb atodol, y byddwn i fel arfer yn ei chyflwyno ym mis Chwefror, ganolbwyntio mwy ar yr ymdrech ailadeiladu. Felly, rwy'n awyddus iawn i gael cymaint o wybodaeth â phosib i gyd-Aelodau, a bod mor dryloyw â phosib, oherwydd rwy'n cydnabod bod y symiau yr ydym yn sôn amdanynt yn sylweddol iawn, iawn.
Wrth gwrs, nid yw hyblygrwydd yn ateb i bopeth, ond bydd yn sicr yn helpu llawer, yn enwedig yn y cyd-destun hwnnw o beidio â deall ein cyllideb yn llwyr. Nid ydym yn gofyn am arian ychwanegol yn hyn o beth; rydym yn gofyn am y gallu i ddefnyddio ein cyllid sydd gennym ni eisoes mewn ffordd fwy ystwyth. Mae maint cronfa wrth gefn Cymru yn fach iawn beth bynnag, felly mae cael mynediad ychwanegol at hynny er mwyn rheoli ein cyllidebau dros flynyddoedd yn bwysig iawn. Mae Nick Ramsay a minnau wedi siarad o'r blaen am y ffaith nad yw COVID yn cydnabod blynyddoedd ariannol, felly mae'r angen i symud yn esmwyth ac yn ddi-dor o'r naill i'r llall, rwy'n credu, yn bwysig. Mae'r hyblygrwydd yr ydym yn galw amdano yn arf rheoli cyllideb synnwyr cyffredin, mewn gwirionedd.
Gofynnodd Nick Ramsay hefyd pa drafodaethau ydym ni wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU. Rwyf eisiau bod yn gwbl deg a dweud bod ymgysylltu â Llywodraeth y DU wedi gwella'n sylweddol ers dechrau'r argyfwng. Yr wythnos nesaf byddwn yn cael ein hwythfed neu nawfed cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid; rwy'n credu y bu'r rheini yn ddefnyddiol iawn drwy gydol yr argyfwng, ac mae angen inni barhau â'r lefel honno o ymgysylltu cynyddol nawr wrth inni symud drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant.
Hoffwn gloi drwy ddweud fy mod yn croesawu'n fawr yr hyn yr oedd Nick Ramsay wedi'i ddweud am bontio Ewropeaidd a'r angen i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewidion o ran sicrhau nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd ac nad yw hi'n colli pwerau o ganlyniad i hyn.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Ydyn, rydyn ni mewn cyfnod o bwysau digynsail ar gyllid, a dwi’n sicr yn cytuno bod diffyg eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymylu pethau ymhellach, a dwi’n gobeithio y byddai llefarydd y Ceidwadwyr yn cytuno bod angen yr eglurder yna. Mae’n rhaid i ni yng Nghymru fod yn gallu gwneud ein dadansoddiad ynglŷn ag a ydy’r arian sydd yn dod yn dilyn y rheolau presennol ar ddyrannu arian rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig, ac ar hyn o bryd, dydy hi ddim yn bosib gwneud hynny.
Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod innau wedi rhoi’r achos droeon am ragor o hyblygrwydd ffisgal wrth inni symud ymlaen. Mae’n gwestiwn dwi wedi ei ofyn droeon yma yn y Senedd. Dwi’n cyd-fynd hefyd bod angen, yn sicr, i lais Llywodraeth Cymru gael ei glywed yn glir fel rhan o adolygiad gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi ddywedodd y Gweinidog wrthym ni yn fanna bod natur y berthynas wedi gwella, bod y trafod yn digwydd ar lefel uwch nag y bu yn gynharach yn y pandemig, ond un peth ydy cynnal wyth neu naw o quadrilaterals; peth arall ydy cyrraedd at bwynt ar ôl y trafod hynny lle byddai penderfyniadau’n cael eu gwneud gan y Trysorlys heb roi ystyriaeth go iawn a heb roi llais go iawn i Lywodraeth Cymru. Ac, wrth gwrs, dwi a Phlaid Cymru wedi dadlau yn gyson am yr angen i ddod â chyllid cadarn iawn i gymryd lle cyllid Ewropeaidd. 'Fyddai Cymru’n cael dim ceiniog yn llai' oedd yr addewid, wrth gwrs, a dydyn ni ddim yn agos at sefyllfa lle mae hynny yn debyg o gael ei wireddu.
O ran yr arian sydd wedi cael ei wario yn ychwanegol, mi gafwyd cyfeiriad at y £4 biliwn yna a’r £320 miliwn yn ychwanegol. Dwi’n croesawu arian ychwanegol, wrth gwrs, i amrywiol feysydd. Rydw i'n siŵr y bydd fy nghyd Aelodau i yng Nghabinet yr wrthblaid Plaid Cymru yn eiddgar i fynd i'r afael â sawl elfen o'r hyn gafodd ei gyhoeddi a'i gyhoeddi'n gynharach gan y Cwnsler Cyffredinol hefyd, ond mae yna ambell i faes yma lle byddwn i'n licio mwy o wybodaeth. Er enghraifft, roedd llywodraeth leol yn un oedd ar goll yn y cyhoeddiad yma heddiw. Rydyn ni'n gwybod bod yna becynnau ychwanegol o arian wedi cael eu clustnodi ar gyfer llywodraeth leol, ond rydyn ni ar bwynt o hyd lle mae'r cynghorau sydd wedi bod mor allweddol yn y frwydr yn erbyn COVID, yn yr ymateb i COVID, yn dal yn wynebu pwysau ariannol difrifol, ac mi hoffwn i wybod yng nghyd-destun y cyhoeddiad heddiw pa fath o lefel o gymorth ychwanegol mae'r Llywodraeth yn debyg o allu ei gynnig. Yn hynny o beth hefyd, tybed fyddai'r Gweinidog yn gallu cadarnhau wrthym ni beth ydy'r bwriad o ran cyhoeddi cyllideb atodol arall. Mi roddwyd dyddiad inni yn fanna ar gyfer cyhoeddi'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond mae'n bosib ein bod ni mewn lle rŵan lle bydd angen cyllideb atodol arall, ac mi fyddai cadarnhad o hynny yn ddefnyddiol.
Yr un elfen arall yr hoffwn i eglurhad arno fo ydy o gwmpas ymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Rydyn ni'n agos iawn at adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn. Dydy'r rhagolygon ddim yn dda i lefydd fel Caergybi yn fy etholaeth i, porthladd Abergwaun, siroedd fel Ynys Môn a Cheredigion sydd ar y frontier Ewropeaidd a'r pwysau ychwanegol sy'n debyg o ddod yn sgil gadael yn ddi-drefn—cymaint o drefn ag sy'n bosib dychmygu ei chael ar y pwynt yma. Felly, pa gronfeydd sydd gan y Llywodraeth wrth gefn—ar ben, wrth gwrs, y gwasgu sydd yna oherwydd COVID—i ddelio â'r argyfwng hwnnw hefyd, sydd yn prysur agosáu tuag atom ni?
Gweinidog.
A gaf i, Llywydd?
Mae'n ddrwg gennyf Gweinidog, roeddwn i wedi'ch galw, ond mae'n amlwg ein bod yn brwydro gyda'r dechnoleg.
Ymddiheuriadau, Llywydd dros dro, ni chlywais chi.
Diolch yn fawr iawn i Rhun am y cwestiynau yna, ac, fel arfer, am gefnogaeth Plaid Cymru i alwadau Llywodraeth Cymru am hyblygrwydd ychwanegol. Cydnabyddir y gefnogaeth honno hefyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Canolfan Llywodraethiant Cymru a hyd yn oed, wrth gwrs, ein Pwyllgor Cyllid ein hunain, sy'n bwyllgor trawsbleidiol yma yn y Senedd. Felly, rwy'n credu bod cydnabyddiaeth eang mai yr hyn yr ydym yn galw amdano yw dim byd mwy na synnwyr cyffredin o ran caniatáu i ni reoli cyllidebau'n dda, ac rwy'n hapus iawn i gydweithio ag unrhyw un sy'n rhannu'r uchelgais hwnnw o ran cynyddu'r pwysau ar Lywodraeth y DU yn hynny o beth, a dyna pam y bu'n gymaint o bleser gweithio gyda'm cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y mater penodol hwn. Heddiw, mae'r tri ohonom ni yn gwneud datganiadau i'n deddfwrfeydd unigol ein hunain ar y mater penodol hwn, pob un yn atgyfnerthu'r un pwyntiau am bwysigrwydd hyblygrwydd, a chredaf fod cydweithio ar y materion hyn yn bwysig iawn hefyd.
O ran cyllideb atodol, byddech wedi fy nghlywed yn dweud wrth lefarydd y Ceidwadwyr mai fy mwriad yw cyflwyno cyllideb atodol dros dro ym mis Hydref, felly yn ddiweddarach y mis hwn, ac yna byddwn yn sicrhau ei bod yn bodloni holl ofynion y Rheolau Sefydlog ac, wrth gwrs, yn rhoi tair wythnos i'r Pwyllgor Cyllid eistedd i graffu arni hefyd. Mae hynny, rwy'n credu, yn bwysig iawn, oherwydd mae'n caniatáu'r lefel honno o dryloywder i'r Senedd ac mae hefyd yn dwyn ynghyd yr holl gamau yr ydym ni wedi'u cymryd i ymateb i agweddau mwy difrifol, os hoffech chi, pandemig y coronafeirws. Bydd yn amlinellu'r gefnogaeth yr ydym ni wedi'i darparu ar gyfer llywodraeth leol, y gwn fod gan Rhun ap Iorwerth ddiddordeb arbennig ynddi, ar ôl crybwyll hynny wrthyf o'r blaen.
Rydym ni wedi darparu bron i £500 miliwn o gyllid ychwanegol i lywodraeth leol drwy gronfa galedi ar gyfer awdurdodau lleol. Mae hynny'n cynnwys £292 miliwn i roi cymorth ariannol cyffredinol i awdurdodau lleol i'w helpu i dalu baich y costau ychwanegol y maent yn ei wynebu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws; £78 miliwn yn lle'r incwm a gollwyd gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r pandemig—mae llawer yn cynnal gwasanaethau megis arlwyo, meysydd parcio, canolfannau hamdden, gwasanaethau diwylliannol ac ati, sydd wedi cael eu taro'n galed, felly mae hynny i'w helpu gyda'r golled honno o ran incwm; £62 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol, oherwydd gwyddom am y pwysau ychwanegol y maent yn ei wynebu o ganlyniad, unwaith eto, i'r pandemig; £38 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim; a £10 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi pobl ddigartref gyda'r nod penodol o sicrhau nad oes neb yn cysgu ar y stryd yn ystod y pandemig.
Felly, rydym ni wedi sicrhau bod pecyn ariannu ychwanegol sylweddol ar gael i awdurdodau lleol, ac wedi gwrando ar awdurdodau lleol pan oeddent yn dymuno gweithio gyda ni i sicrhau ei bod hi'n symlach, yn gyflymach ac yn rhwyddach cael cymorth o'r gronfa honno drwy, er enghraifft, newid y ffordd yr ydym yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol i un sy'n darparu swm ychwanegol am bob person, os mynnwch chi, i'r bobl y maent yn eu cefnogi, yn hytrach na gorfod gwneud cais mwy beichus i'r gronfa. Felly, rydym yn cynnal trafodaethau cyson ag awdurdodau lleol ynglŷn â'r cymorth sydd ei angen arnynt, a'r gefnogaeth sydd ar gael, a'r nod yw i hynny eu diwallu hyd at ddiwedd y flwyddyn, ond wrth gwrs rydym yn trafod yn gyson a fyddai angen cymorth ychwanegol.
O ran y cyhoeddiad a wnaethpwyd heddiw am y £340 miliwn ychwanegol ar gyfer ailadeiladu, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy natganiad—ac mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio'n ôl at eitemau yn ei ddatganiad hefyd—am gyllid ychwanegol i gynyddu'r gwaith o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol yn ychwanegol at y cyllid a gyhoeddais pan wnes i fy mhenderfyniad ynghylch cyfraddau'r dreth trafodion tir ychydig wythnosau'n ôl, a chyllid ychwanegol i gefnogi pobl ifanc mewn addysg bellach yn benodol, a'r bobl ifanc hynny y gallai fod angen cymorth dal i fyny ychwanegol arnynt. Fodd bynnag, dyma'r prif ffigurau, os mynnwch chi, a bydd Gweinidogion unigol yn gwneud cyhoeddiadau am y materion penodol hynny sy'n rhan o'u portffolios yn y dyfodol agos. Wrth gwrs, sefyllfa gyffredinol y gyllideb o ran lle yr ydym ni arni ar hyn o bryd—. Felly, fel y soniais yn yr ymateb blaenorol, credwn ein bod ar ben uchaf y warant honno o £4 biliwn, ond rydym yn ceisio eglurder ychwanegol ar hynny gan Lywodraeth y DU.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Fe'm calonogwyd pan welais y teitl, 'Diweddariad ar effeithiau cyllidol COVID-19'. Rwyf wedi bod yn pwyso arni am rywbeth tebyg i hynny ers cryn amser. Rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig yn y cynnwys. Roeddwn wedi gobeithio y gallem roi amcangyfrifon neu ddiweddariadau am yr effaith, er enghraifft, ar dreth trafodion tir yn sgil y cyfyngiadau ar y farchnad dai a oedd yn llymach ac am gyfnod hwy yng Nghymru nag yn Lloegr, ond ni chafwyd dim o'r fath.
Tybed hefyd: a oes perygl bod Llywodraeth Cymru yn arfer pŵer heb gyfrifoldeb? A yw'r fframwaith cyllidol yn golygu y gall, fel y broliodd y Prif Weinidog yn gynharach, osod cyfyngiadau'n gynharach ac yn llymach ac yn hwy am a wn i nag y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar gyfer Lloegr, ar y sail bod yn rhaid i Lywodraeth y DU dalu wedyn am effaith economaidd hynny yng Nghymru? Ai dyna'r strategaeth? I ba raddau y byddwn yn teimlo unrhyw effeithiau drwy gyfraddau treth incwm Cymru, o gofio'r compact cyllidol a sut y mae hynny wedi'i negodi i liniaru newidiadau i hynny, o leiaf yn y tymor agos?
Credaf hefyd ei bod hi'n beryglus troi eto at ddweud mai dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r cymhellion macro. Dywedodd y Gweinidog hynny, ond cytunodd llefarydd y Ceidwadwyr hefyd, ac yna ymffrostiodd ynghylch datganoli pwerau codi trethi, ar ôl addo'n gyntaf i beidio â gwneud hynny heb refferendwm, na chafodd ei grybwyll. Ond dywedir wrthym nad yw Llywodraeth Cymru eisiau defnyddio'r pwerau hynny. A ydych yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddefnyddio'r pwerau hynny? Os felly, a fyddech yn credu y dylent godi trethi neu dorri trethi yn sgil yr hyn sy'n digwydd?
Gwnaethom fenthyg, fel gwlad—y Deyrnas Unedig—£36 biliwn ym mis Awst 2020. Rhoddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei rhagolygon—roedd hyn yn ôl ym mis Gorffennaf; gallai fod yn fwy nawr, wn i ddim—ond dywedasant eleni y byddem yn benthyca tua £322 biliwn. Dyna ddwywaith yr hyn a fenthycodd Gordon Brown ar waethaf y dirwasgiad diwethaf yn 2009-10. A yw hynny'n gynaliadwy? Rydych chi'n dweud bod gan Lywodraeth y DU y cymhellion, ond mewn gwirionedd benthyca'r arian yn unig y mae hi. Ar hyn o bryd, mae'n llwyddo i gael y Swyddfa Rheoli Dyledion i werthu'r giltiau hynny, ond yn bennaf ar y ddealltwriaeth y bydd Banc Lloegr yn argraffu swm tebyg o arian i'w prynu'n ôl gan fuddsoddwyr. Ar hyn o bryd, mae chwyddiant yn sefydlog ac yn gallu cynhyrchu'r goeden arian hud honno, fel petai, ond a fydd hynny'n parhau? Ac os bydd sefydlogrwydd chwyddiant yn dod i ben, beth sy'n mynd i ddigwydd? A ydych chi eisiau gweld Banc Lloegr annibynnol yn codi cyfraddau llog, neu'n rhoi'r gorau i argraffu'r arian hwnnw er mwyn atal chwyddiant rhag codi, neu a ydych chi eisiau gweld Llywodraeth y DU yn eu gorfodi—a chredaf y byddai angen Senedd y DU, nid Llywodraeth y DU yn unig i wneud hynny—i roi'r gorau i'r targed chwyddiant hwnnw neu o leiaf ei atal dros dro? Mae'r rhain yn gwestiynau gwirioneddol ddifrifol, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n ddigon da dweud, 'A wel, mae gan Lywodraeth y DU y cymhellion macro' ac i ni beidio â'u hystyried.
Un neu ddau o gwestiynau cyflym penodol iawn, os caf i. Fe wnaethoch chi sôn am swm canlyniadol o £4 biliwn o gymharu â £0.5 biliwn ar gyfer addasu at ddibenion gwahanol. Ai dyna'r cydbwysedd cywir a'r maint cywir yn llai na'r hyn yr ydym yn ei wneud yma, o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU? Ac fe sonioch chi am £320 miliwn ychwanegol, ond nid ydych chi wedyn yn rhoi manylion unrhyw raniad o ran pa un a yw hynny drwy addasu at ddibenion gwahanol neu'n gyllid ganlyniadol, neu'n gyfuniad ac, os felly, beth ydyw. Fe sonioch chi am £15 miliwn ar gyfer dysgu digidol. Mae hwnnw'n swm cymharol fach o ystyried maint addysg a'r hyn sydd wedi digwydd. Fe sonioch chi am £60 miliwn yn fwy ar gyfer adeiladu, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni. Credaf mai effeithlonrwydd ynni yw un o'r ffyrdd gorau o gyfyngu allyriadau carbon o ran yr effaith a gewch am y swm o arian a wariwch, ond aethoch ymlaen wedyn i ddweud eich bod yn gwario £14 miliwn ar ddatgarboneiddio. A yw hynny'n ychwanegol at yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am effeithlonrwydd ynni ac ar wahân iddo, ac oni ddylid rhoi sylw manylach i'r ddau beth yna yn eu holl agweddau?
Diolch i Mark Reckless am ei sylwadau. Nid yw byth yn mwynhau fy natganiadau, felly nid wyf yn synnu, heddiw, nad oedd unrhyw newid yn hynny o beth. Ond dywedaf ar fater treth trafodiadau tir, oherwydd gwn inni gael cyfle i ailadrodd y pwyntiau hyn adeg cwestiynau'r Gweinidog ychydig wythnosau'n ôl, ein dealltwriaeth ni yn y bôn, a chredaf ein bod yn gywir yn hyn o beth, yw y bydd lefel y newid y byddem yn disgwyl ei weld i'r grant bloc o ganlyniad i gau'r farchnad dai, os hoffech chi, am fwy o amser yma yng Nghymru yn un ymylol, ac nid ydym yn disgwyl gweld unrhyw newid mawr yng nghyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i hynny. Oherwydd, wrth gwrs, mae'r fframwaith cyllidol yn ein diogelu rhag ergydion economaidd cyffredinol, ac mae'r sefyllfa hon wedi bod mor anodd yn Lloegr ag y bu yng Nghymru, a byddem yn disgwyl i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol roi rhagolygon wedi'u diweddaru inni, y byddwn yn eu cyhoeddi ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni. Felly, bydd gennym ddarlun llawer cliriach bryd hynny. Ond nid wyf yn credu y bydd yr effaith ar dreth trafodion tir neu dreth gwarediadau tirlenwi yn sylweddol o ran ein cyllideb gyffredinol.
Ac yna aeth Mark Reckless ymlaen hefyd i siarad am gyfraddau treth incwm Cymru ac archwilio pam nad yw Llywodraeth Cymru yn codi treth incwm ar hyn o bryd. Gwnaethom ymrwymiad ar ddechrau'r Senedd hon na fyddem yn codi cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod tymor y Senedd hon ac, o ystyried ein bod mewn sefyllfa economaidd mor anodd, nid wyf yn credu mai nawr fyddai'r adeg priodol i wneud hynny. Rhaid inni gydnabod, rwy'n credu, faint y cyllid y gellid ei ddwyn i Drysorlys Cymru o ganlyniad i newidiadau, a dim ond £200 miliwn y byddai cynnydd o 1c ar y 10c sylfaenol yn ei gyflwyno. Felly, yn y blynyddoedd arferol, byddai £200 miliwn yn swm sylweddol o arian, ond rydym yn sôn y prynhawn yma am fod ar ben uchaf ein gwarant ychwanegol o £4 biliwn gan Lywodraeth y DU. Felly, credaf fod angen inni roi pethau yn eu cyd-destun hefyd.
Mae polisïau cyni cyllidol a weithredwyd gan Lywodraeth glymblaid y DU yn 2010 a'u parhau gan y Llywodraethau Ceidwadol dilynol wedi gohirio a niweidio adferiad economaidd, sef yr un gwannaf erioed. Ac, yn amlwg, gadawodd hynny wasanaethau cyhoeddus heb ddigon o adnoddau i ymdrin â'r galw arferol am wasanaethau arferol, heb sôn am ymdopi â'r achosion o'r coronafeirws. Ac, wrth gwrs, mae'r economi bellach yn dioddef un o'r dirwasgiadau llymaf o fewn cof, felly mae'n gwbl resymol, rwy'n credu, i ddiogelu incwm aelwydydd a busnesau o dan yr amgylchiadau hyn. A'n barn ni yw y dylai Llywodraeth y DU barhau i fenthyca tra bod cyfraddau llog yn is nag yr oeddent cyn yr argyfwng, a'u bod mewn gwirionedd yn is na chyfradd chwyddiant ar hyn o bryd. Dyma'r unig ffordd o ddiogelu gallu'r economi i gynhyrchu'r nwyddau a'r gwasanaethau y bydd eu hangen arnom i ddod allan o'r argyfwng. Felly, yn amlwg, byddai cyflwyno rhagor o gyni nawr yn broblem fawr, ac mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud na fyddai'n dychwelyd at gyni, felly, yn amlwg, byddem eisiau ei ddal at ei air.
Ac yna o ran ail-lunio'r gyllideb, y £500 miliwn y cyfeiriais ato'n gynharach yn fy ymateb i Nick Ramsay o ran y cyllid yr ydym wedi gallu ei ddarparu i gefnogi busnesau—roedd hwnnw'n gyllid a gafodd ei addasu at ddibenion gwahanol ar draws y Llywodraeth a chyllid yr UE a gafodd ei addasu at ddibenion gwahanol, ond nid yw hynny'n golygu nad yw Gweinidogion unigol yn gwneud penderfyniadau bron bob dydd mewn cysylltiad â'r cyllid sy'n mynd drwy eu hadran, sy'n canolbwyntio'n fanwl ar ein hymateb i'r pandemig. Credaf mai dim ond rhan o'r darlun y mae'r cyllid sydd wedi ei addasu at ddibenion gwahanol yn ei ddarparu ac, wrth gwrs, mae'r arian ychwanegol sydd wedi'i gyhoeddi heddiw yn ychwanegol at yr holl gyllid arall sydd wedi'i gyhoeddi yn y meysydd hyn.
Ac, yn olaf, cwestiwn gan Aelod sydd bob amser yn mwynhau datganiadau'r Gweinidog—Alun Davies. [Chwerthin.]
Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd dros dro, er efallai na fyddaf yn dangos y diolchgarwch hwnnw yn fy sylwadau. Gweinidog, mae un peth y byddwn ni bob amser yn cytuno arno, a hynny yw na allwch chi ymddiried yn y Torïaid. Allwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid gyda Chymru ac ni allwch ymddiried yn y Torïaid o ran buddiannau Cymru. Rwyf bob amser yn poeni pan fydd Gweinidogion yn dibynnu gormod ar haelioni Llywodraeth Geidwadol nad yw hi erioed i bob diben, yn hanesyddol na heddiw wedi, poeni botwm corn am y bobl yr ydym yn eu cynrychioli.
Ac fe hoffwn ofyn dau gwestiwn fwy neu lai i chi. Yn gyntaf oll, yn y fframwaith cyllidol rydych chi wedi sôn am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud gyda Gweinidogion cyllid eraill a'r Trysorlys ledled y Deyrnas Unedig. Mae gen i bryderon gwirioneddol am y ffordd y mae'r fframwaith cyllidol yn gweithio ar hyn o bryd. Rydych chi wedi sôn am hyblygrwydd ychwanegol y teimlwch fod ei angen arnoch, ac rwy'n cytuno â chi, rwy'n credu eu bod i gyd yn angenrheidiol, ond yn y bôn, yn ei hanfod, nid yw'r fframwaith cyllidol yn gweithio yn y ffordd y mae angen iddo weithio, a chredaf fod angen i ni feddwl yn galed ynghylch sut y mae strwythur cyllid y DU yn gweithio. Nid ydynt yn gweithio ar hyn o bryd, ac nid wyf yn credu, heb ddiwygio strwythurol, y byddant byth yn gweithio. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe baech yn dweud a ydych yn gweithio ar rywbeth i ddisodli'r fframwaith cyllidol a sut y byddech yn gweld unrhyw newid strwythurol yn cael ei ddatblygu, ac a ydych chi wedi dechrau cael unrhyw un o'r sgyrsiau hyn gyda'ch cydweithwyr mewn Llywodraethau eraill.
Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw hwn: mae pwerau ariannol sylweddol ar gael inni yn y fan yma. Roedd Nick Ramsay yn llygad ei le yn ei ddadansoddiad o'r sefyllfa yr ydym ni ynddi a'r pwerau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd. Ac mae hi'n iawn ac yn briodol ein bod yn ystyried y pwerau hynny ac yn archwilio'r defnydd o'r pwerau hynny. Rydych chi wedi cyfeirio at bwerau treth; rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn anghywir ynghylch trethiant, a dweud y gwir. Rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw o'r blaen a byddaf yn ei wneud eto: nid wyf yn credu y gallwn wireddu ein huchelgeisiau a'r weledigaeth a amlinellwyd yn dda iawn gan y Cwnsler Cyffredinol yn gynharach gyda lefelau trethiant y Torïaid, sef yr hyn sydd gennym ni yn y bôn. Ac felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl yn galed ynghylch sut yr ydym yn strwythuro hynny a sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny. Ond ym mha ffordd arall, Gweinidog, ydych chi wedi archwilio'r defnydd o bwerau cyllidol a'r dulliau ariannol sydd ar gael i chi i sicrhau bod gan ein cymunedau sy'n dioddef yn affwysol ar hyn o bryd, yr adnoddau, a bod gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i newid dyfodol ein gwlad yn sylfaenol? Diolch.
Diolch i Alun Davies am godi'r ddau fater yma, a chredaf mai'r broblem wirioneddol gyda'r fframwaith cyllidol yw nid y fframwaith ei hun ond yn hytrach y datganiad o bolisi ariannu sy'n sylfaen iddo. Dyna'r maes yr ydym ni'n fwyaf pryderus amdano, mewn gwirionedd, o ran y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ei gymhwyso. Bydd cyd-Aelodau wedi fy nghlywed yn siarad yn y Siambr o'r blaen am y pryderon a oedd gennym ni ynghylch y £1 biliwn ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon—heb warafun ceiniog i Ogledd Iwerddon ond gan gydnabod bod hynny'n torri'r datganiad o bolisi ariannu, pryd y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cael cyfran deg o hynny. A hefyd y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU mewn cysylltiad â phensiynau athrawon, a gafodd effeithiau canlyniadol unwaith eto ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond nid oedd cyllid ynghlwm wrth hynny. Unwaith eto, roedd hynny'n torri'r datganiad o bolisi ariannu. Felly, credaf fod hyn i gyd, yn rhannol, yn gysylltiedig â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar gysylltiadau rhynglywodraethol, o ran sut y gallwn ni wella'r strwythurau sy'n cyd-fynd â'r berthynas sydd gennym ni â Llywodraeth y DU.
Ond o ran y datganiad penodol o bolisi ariannu, rydym yn bwriadu gwneud—. Wel, hoffwn wneud rhai newidiadau i hynny fel rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Felly, dyna'r amser priodol i fanteisio ar y cyfleoedd hynny i adolygu'r datganiad o bolisi ariannu. Mae'r adolygiad hwnnw wedi dechrau ar lefel swyddogol, ond credaf fod y cynnydd yn arafach nag y byddem wedi'i hoffi. Ond, yn sicr, mae'r trafodaethau hynny wedi dechrau, a hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant.
A gwn fod Alun Davies wedi mynegi ei farn wahanol ar sut y dylem ni fod yn defnyddio ein dulliau treth ar hyn o bryd, ond hoffwn dynnu sylw at y cynllun gwaith polisi treth, a gyhoeddais yn ystod yr wythnosau diwethaf, sy'n nodi ein blaenoriaethau o ran archwilio trethi Cymru a sut y gallem eu defnyddio wrth nesáu at etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf. Yna, wrth gwrs, mater i bob un ohonom ni fydd nodi ein cynigion ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru yn dilyn hynny.
Diolch, Gweinidog.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y pedwar cynnig o dan eitemau 6, 7, 8 a 9—Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020—yn cael eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Nid wyf yn gweld wrthwynebiad.
Galwaf ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cynnig NDM7412 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2020.
Cynnig NDM7409 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020.
Cynnig NDM7411 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020.
Cynnig NDM7410 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2020.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Llywydd dros dro. Cynigiaf yn ffurfiol y pedair set o reoliadau ger ein bron heddiw, a gofynnaf i Aelodau'r Senedd eu cefnogi. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn unwaith eto o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, trwy weithdrefnau brys i gefnogi ein camau parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig coronafeirws sy'n parhau. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020—byddaf i'n cyfeirio atyn nhw yn awr fel y rheoliadau diwygio ac yna'r rhif, er mwyn osgoi llond ceg—yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, sef y prif reoliadau. Diwygiwyd y prif reoliadau o 22 Medi eleni i gyflwyno gofynion ar y rhan fwyaf o safleoedd trwyddedig mewn ardaloedd diogelu iechyd lleol i gau erbyn 11pm a pheidio ag agor cyn 6am. Mae'r darpariaethau hynny wedi'u disodli bellach gan ofynion newydd sy'n cwmpasu Cymru gyfan, sy'n darparu bod yn rhaid i eiddo sydd â thrwydded i werthu alcohol i'w yfed ar y safle roi'r gorau i werthu erbyn 10pm a chau erbyn 10.20pm a pheidio ag ailagor tan 6am. Mae'n ofynnol i safleoedd o'r fath ddarparu gwasanaeth eistedd yn unig, ac mae'n rhaid i safle sydd â thrwydded all-werthu ar gyfer alcohol roi'r gorau i werthu alcohol erbyn 10pm. Yn ogystal, mae'r rheoliadau hyn yn ymestyn y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb i gynnwys cwsmeriaid mewn lletygarwch dan do oni bai eu bod wrth fwrdd ac yn bwyta neu'n yfed, a staff pan fyddan nhw yn ardal gyhoeddus y safle. Gwnaed y rheoliadau a daethant i rym ar 24 Medi.
Gwnaed rheoliadau diogelu iechyd diwygio Rhif 13 ar 25 Medi, a daethant i rym ar 26 Medi. Diwygiwyd y prif reoliadau o 8 Medi 2020 i gyflwyno cyfyngiadau mewn cysylltiad ag ardal diogelu iechyd leol Caerffili. Mae rheoliadau diwygio Rhif 13 yn ymestyn y cyfyngiadau i ardal diogelu iechyd leol arall sy'n cynnwys 13 ward etholiadol yn ardal Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, ac maen nhw'n darparu na ellir trin unrhyw aelwyd o fewn yr ardal honno yn rhan o aelwyd estynedig, ac yn gwahardd ffurfio aelwyd estynedig. Mae'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno wedi eu gwahardd rhag gadael neu aros i ffwrdd o'r ardal honno heb esgus rhesymol, ac mae'n ofynnol i drigolion yr ardal honno weithio o gartref oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Mae pobl o'r tu allan i'r ardal honno wedi eu gwahardd rhag dod i mewn i'r ardal heb esgus rhesymol. Ar hyn o bryd mae gennym ni batrwm cyffredin ar gyfer cyfyngiadau lleol yng Nghymru, a bydd yr Aelodau yn gyfarwydd â'r hyn yr wyf wedi ei amlinellu.
Mae'r rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 12 o'r prif reoliadau, hynny yw, y rhwymedigaeth i gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws neu ei ledaenu. Fel y dywedais i, o 24 Medi, mae pob safle trwyddedig wedi ei wahardd rhag gwerthu alcohol ar ôl 10pm ac mae'n rhaid iddo gau erbyn 10.20pm fan pellaf. Mae'r darpariaethau hyn bellach wedi eu hymestyn er mwyn sicrhau bod safleoedd sydd, er nad ydynt wedi eu trwyddedu, yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain, yn ddarostyngedig i'r un gofynion â safleoedd sydd wedi eu hawdurdodi i werthu neu gyflenwi alcohol.
Gwnaed rheoliadau diwygio Rhif 14 ar 25 Medi a daethant i rym ar 27 Medi. Mae'r rheoliadau yn cyflwyno cyfyngiadau lleol tebyg ar gyfer dinas a sir Caerdydd a dinas a sir Abertawe.
Yn olaf, gwnaed rheoliadau diwygio Rhif 15 a daethant i rym ar 28 Medi. Cyflwynodd y rhain gyfyngiadau lleol tebyg ar gyfer ardaloedd sirol Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg fel ardaloedd diogelu iechyd lleol sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau a gofynion penodol. Yn unol â chynllun rheoli'r coronafeirws, rydym ni wedi nodi ein dull o fonitro achosion a rheoli achosion lleol. Mae'r cyfyngiadau yr ydym wedi eu cyflwyno wedi eu seilio ar egwyddorion bod yn ofalus, cymesuredd a sybsidiaredd.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio dull gofalus sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth o ymdrin â'r coronafeirws, gan gynnwys trwy'r gofyniad ffurfiol i adolygu'r angen am gyfyngiadau perthnasol a'u cymesuredd bob 21 diwrnod. Mae pob un o'r rheoliadau sy'n ymwneud ag ardaloedd diogelu iechyd lleol yn cael eu hadolygu bythefnos ar ôl eu cyflwyno, a phob wythnos wedi hynny os bydd y cyfyngiadau yn parhau yn hirach na hynny. Llywydd—neu yn hytrach Llywydd dros dro—mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran cadw Cymru yn ddiogel. Mae angen y rheoliadau hyn ar gyfer ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig hwn sy'n parhau. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd eu cefnogi nhw heddiw.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd dros dro. Bydd yr Aelodau yn gwybod, wrth gwrs, mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru. Mae rheoliadau diwygio Rhif 12—nid wyf i'n bwriadu ailadrodd y naratif y mae'r Gweinidog wedi ei roi, y cyfrif cywir o'r hyn y mae'r rheoliadau hynny yn cyfeirio ato yn benodol. Byddaf i'n mynd yn syth at ein hadroddiad ar reoliadau Rhif 12, a nododd dri phwynt teilyngdod. Nododd y cyntaf gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, a'r ail na fu unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau hyn, ac mae ein trydydd pwynt adrodd yn tynnu sylw at ddau fater pwysig yn ymwneud â'r prif reoliadau yn gyffredinol. Yn gyntaf, rydym yn tynnu sylw at y ffaith bod cadw ar flaen yr holl newidiadau yn mynd yn fwyfwy anodd a dryslyd i aelodau'r cyhoedd. Yn ail, rydym yn tynnu sylw at anghysondeb posibl yn y prif reoliadau y mae angen eu hegluro.
Rwy'n cyfeirio yn awr at reoliadau diwygio Rhif 13, Rhif 14 a Rhif 15. Unwaith eto, mae'r rhain wedi eu hamlinellu gan y Gweinidog o ran eu cynnwys a'r cyfyngiadau maen nhw'n eu dwyn i rym. Nid yw ein hadroddiadau ar y rheoliadau hyn—hynny yw, ar reoliadau Rhif 13, Rhif 14 a Rhif 15—yn codi unrhyw faterion newydd ynghylch cymhwyso cyfyngiadau i gymunedau yng Nghymru, ond rydym ni yn tynnu sylw'r Aelodau at yr adroddiadau i gynorthwyo'r ddadl heddiw.
Ac mae un mater arall yr hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau ato, hynny yw: yn y dyfodol, mae'r pwyllgor yn bwriadu ystyried i ba raddau y mae'r memoranda esboniadol yn cynnwys tystiolaeth o'r rheswm pam y rhoddir cyfyngiadau symud ar rai ardaloedd a'r rhesymau dros y brys hwnnw. Diolch, Llywydd dros dro.
Yn anffodus, mae hwn yn ddigwyddiad wythnosol bellach y mae'n rhaid i ni, yn amlwg, ymdrin â'r rheoliadau hyn, er fy mod i yn croesawu'r ffaith bod y rheoliadau yn cael eu cyflwyno mewn modd mwy amserol, er eu bod yn dal i lusgo, yn amlwg, ac rwy'n croesawu'n fawr ddadl a thrafodaeth amser real ar lawer o'r rheoliadau hyn, yn hytrach na'n bod yn eu trafod ryw bythefnos ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi ar waith mewn rhai ardaloedd.
Nid yw'r un gwleidydd o gwbl, o unrhyw blaid liw, nac yn annibynnol, hyd yn oed, yn y Siambr hon yn dymuno gwneud unrhyw beth sy'n rhoi dinesydd Cymru o dan anfantais neu'n achosi niwed iddo, ac rwy'n credu bod pawb yn cefnogi'r bwriad i sicrhau ein bod yn gwneud popeth er lles gorau i amddiffyn pobl Cymru rhag y feirws ac effeithiau'r feirws ar iechyd pobl.
Ond mae gennym ni y Ceidwadwyr Cymreig bryderon ynghylch rhai o'r rheoliadau hyn. Af i drwyddyn nhw: rheoliad 12, o ran cyfyngiadau cyrffyw ac yn enwedig lleoliadau gweithgareddau cymdeithasol—rydym ni yn llwyr gefnogi'r syniad o wasanaeth bwrdd yn unig ac yn gwisgo mygydau mewn lleoliad o'r fath, ond yr hyn yr ydym ni yn ei chael yn anodd yw nad ydym ni wedi gallu gweld y dystiolaeth sy'n dweud bod y cyrffyw am 10 o'r gloch—neu 10.20pm yng nghyd-destun Cymru—yn cael effaith sylweddol mewn gwirionedd o ran atal lledaeniad y feirws a pheidio ag atal pobl rhag symud eu gweithgareddau cymdeithasol i mewn i leoliad tŷ. Rwy'n gwybod ei fod yn weithgaredd anghyfreithlon, ond fe wnaethom ni glywed yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw gan un o'n cyd-Aelodau ei fod yn digwydd yng Nghymru a bod pobl yn parhau â'r sefyllfa gymdeithasol honno mewn partïon tŷ neu bartïon stryd. Ac felly byddwn ni yn ymatal ar y rheoliad hwnnw, oherwydd, fel y dywedais i, rydym ni'n llwyr gefnogi'r rheol bwrdd yn unig o fewn lleoliad cymdeithasol tafarn neu leoliad tebyg, ond mae gennym ni amheuon ynghylch a yw effeithiolrwydd y cyrffyw yn helpu mewn gwirionedd ac nid yn llesteirio sicrhau bod gweithgareddau cymdeithasol yn digwydd mewn amgylchedd rheoleiddiedig, fel tafarn neu fath tebyg o leoliad.
O ran gwelliant 13, sy'n ymdrin â'r cyfyngiadau a osodwyd yn Llanelli, rydym ni yn cefnogi'r rheoliadau hyn yn fawr iawn ar y sail mai dyma'r hyn yr ydym ni wedi bod yn galw amdano. Pan fo'r dystiolaeth leol yn dangos yn glir bod angen, yn hytrach na gorfodi cyfyngiadau ledled y sir neu'r rhanbarth cyfan, caiff ei wneud mor lleol â phosibl. Ac rydym yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn defnyddio'r wybodaeth honno, ond hoffem ni iddyn nhw rannu'r wybodaeth honno yn ehangach a defnyddio'r data lleol hynny pan fyddan nhw'n cyflwyno cyfyngiadau eraill.
Cyfyngiad Rhif 8 a chyfyngiad Rhif 9 ar bapur y gorchymyn, eitemau 14 a 15, sy'n ymwneud â Chaerdydd ac Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg—byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau hyn am y rheswm nad ydym yn credu bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r un meini prawf mewn gwirionedd ag y gwnaethon nhw eu defnyddio wrth bennu'r cyfyngiadau ar gyfer lleoliad tref Llanelli, yn hytrach na Sir Gaerfyrddin, a byddem ni'n croesawu'n fawr pe gallai'r Gweinidog roi hyder i ni y bydd, wrth iddo symud ymlaen, yn dechrau defnyddio'r data lleol hyn mewn ffordd fwy penodol, fel nad oes gennym ni gyfyngiadau symud ar draws sir gyfan na chyfyngiadau symud rhanbarthol.
A hoffwn i ofyn am eglurhad gan y Gweinidog: wrth edrych ar y ffigurau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, rydym ni'n sôn am Fro Morgannwg—. Rwy'n datgan buddiant fel un o drigolion Bro Morgannwg ac fel cynghorydd i'r awdurdod lleol yno, ond mae pobl wedi bod yn siarad—yn amlwg, rydym ni'n croesawu'r gwelliant yng Nghaerffili; wel, wrth edrych ar y ffigurau targed heddiw, mae Bro Morgannwg mewn gwell sefyllfa na Chaerffili, a hoffwn i ddeall pryd y bydd Bro Morgannwg, er enghraifft, yn cael ei hadolygu, er mwyn gallu codi rhai o'r cyfyngiadau hyn, gobeithio. Os mai dyna'r trywydd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w ddilyn yn ardal bwrdeistref sirol Caerffili, yna, siawns, ar sail y niferoedd, dylai Bro Morgannwg fod yn destun mesurau o'r fath hefyd.
A hoffwn i orffen ar y nodyn hwn, os caf i: rwyf i yn credu ei bod yn anffodus i'r Prif Weinidog ddwyn cyd-Weinidogion Ceidwadol i gyfrif, boed yn Aelodau o'r Senedd neu pa un a oedden nhw yn Aelodau Seneddol, pan fo ganddyn nhw etholwyr yn wirioneddol naill ai yn rhedeg busnesau neu'n breswylwyr yn yr ardal—. O edrych ar y niferoedd, wrth edrych ar Gonwy, er enghraifft, yr oedd cyfyngiadau sir gyfan wedi eu gorfodi arni—eu gosod arni, dylwn i ddweud—y diwrnod o'r blaen, ar y diwrnod adrodd diwethaf, 8.5 ym mhob 100,000; ar y cyfartaledd treigl saith diwrnod, 64 ym mhob 100,000; ac yn yr wythnos adrodd ddiwethaf, yr wythfed ar hugain i'r pedwerydd, 60.6 ym mhob 100,000 o achosion. Gwynedd, ychydig dros y ffin, lle nad oes unrhyw gyfyngiadau yn bodoli o gwbl—ar y diwrnod adrodd diwethaf, 16.9 achos ym mhob 100,000; cyfartaledd saith diwrnod, 73.1; a'r wythnos adrodd ddiwethaf, 72.3.
Nawr, nid wyf i'n dymuno gosod cyfyngiadau ar unrhyw ardal nad oes angen y cyfyngiadau hynny arni, ond, pan fyddwch chi'n gynrychiolydd cymuned, p'un a ydych yn aelod o'r sefydliad hwn neu yn San Steffan neu'n gynghorydd, nid ydych yn gwneud eich gwaith os nad ydych yn cyfleu barn yr etholwyr hynny. A phan fydd pobl yn gweld eu bywoliaeth yn mynd i'r wal oherwydd cyfyngiadau penodol sydd wedi eu gosod ar y busnesau hynny rhag gweithredu mewn amgylchedd maen nhw wedi ei greu sy'n ddiogel, nid ydyn nhw'n bod yn afresymol wrth ofyn i'w cynrychiolwyr gyfleu'r safbwyntiau hynny i'r Llywodraeth yn y fan yma neu'r Llywodraeth yn San Steffan neu'r awdurdod lleol, ac rwyf yn gofyn am eglurder gan y Gweinidog ynghylch sut y mae ef a'i swyddogion yn dehongli'r data pan fydd un sir, fel yr wyf i newydd ei nodi, yn destun cyfyngiadau, ac yna nid yw'r sir drws nesaf, sydd â chyfradd heintio uwch, o dan unrhyw gyfyngiadau.
Mae hi braidd yn anffodus—roeddwn i'n ceisio gwrando ar y siaradwr blaenorol ac roedd tarfu ar y cysylltiad drwy'r amser. Ond, er hynny, fy rheswm dros siarad yma yw i ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariad, ac ailadrodd bod llwyddiant y cyfyngiad cyhoeddus yn dibynnu ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn ei gilydd a'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau hynny. A dyna pam rwyf i'n credu bod ymddygiad Dominic Cummings a Margaret Ferrier AS mor beryglus, a hefyd ar yr un pryd yn digalonni'r bobl hynny. Ond mae'r gostyngiad yn nifer yr achosion yng Nghaerffili, sydd wedi ei nodi, a Chasnewydd, yn dangos bod y mwyafrif helaeth o'r cyhoedd yng Nghymru yn deall ac yn derbyn y rhesymau dros y cyfyngiadau hyn. Ac rwyf i'n credu bod gostyngiad yn nifer yr achosion yn Sir Gaerfyrddin hefyd. Felly, wrth gwrs, mae'n hanfodol, felly, ein bod yn ad-dalu'r ymddiriedaeth y mae pobl wedi ei rhoi yn y system honno. Rydych chi wedi dweud bod y cyfyngiadau lleol yn cael eu hadolygu'n gyson. A allai'r bwrdd iechyd neu Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi data amser real yn Llanelli ac ardaloedd eraill, fel y gall trigolion fonitro cynnydd a deall pa feini prawf y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gellid codi'r cyfyngiadau? Ond, ar ran yr ardal yr wyf i'n ei chynrychioli, a phopeth yr wyf i wedi ei glywed gan y gymuned honno, mae cefnogaeth ysgubol i gamau gweithredu'r Llywodraeth, ac rwyf i'n dymuno cofnodi hynny. Diolch.
Cyfres o reoliadau o'n blaenau ni eto heddiw. Mi fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 12, sef eitem agenda 6, oherwydd ein bod ni'n cyd-fynd yn gyffredinol â'r budd sydd yn dod o gau tafarndai ac ati yn gynnar, er ein bod ni'n credu y gellid mynd ymhellach na hynny. Mi fyddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliant 13, sydd yn ymwneud â Llanelli, lle dangosodd y Llywodraeth eu bod nhw'n gallu gweithredu ar lefel hyperleol.
Rydym ni'n dal i ystyried beth rydym ni am wneud efo gwelliannau 13 ac 15, yn dibynnu ar beth mae'r Gweinidog yn mynd i'w ddweud wrthym ni y prynhawn yma. Y rheswm am hynny ydy, yn unol â'r hyn dywedodd Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, dwi yn credu y byddai'n wirioneddol bwysig—rwy'n credu ei bod hi'n allweddol, mewn difrif—i'r pwyllgor deddfwriaeth, a thrwy hynny y Senedd, wrth gwrs, gael gweld y data sy'n dangos yn glir pam bod angen gweithredu ar lefel ardal awdurdod lleol cyfan. Mae'n bosib bod angen, mae'n bosib bod y data yn berffaith glir, ond mae angen, er mwyn gallu cefnogi'r rheoliadau, gallu gweld y data yna, ac roeddwn i'n falch o glywed Mick Antoniw yn gwneud y pwynt hwnnw. Mae'r cyfyngiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn rhai sylweddol—nid yr un mor sylweddol ag adeg y lockdown yn ôl ar ddiwedd Mawrth, Ebrill, Mai, ond yn sylweddol serch hynny. Mae angen inni fod yn siŵr dydy pobl ddim yn dioddef fwy nag sydd yn rhaid o ran eu llesiant ac, wrth gwrs, yn economaidd. Mae angen y data, dwi'n meddwl, er mwyn gallu penderfynu os ydy'r cyfyngiadau'n gymesur. Ac, yn achos gwelliant 13, Llanelli, mi wnaeth y Llywodraeth brofi eu bod nhw'n gallu gwneud hynny, ond nid felly efo 14 ac 15. Ac wrth gwrs, mi ddaw'r cyfyngiadau a gafodd eu cyflwyno yn y gogledd o'n blaenau ni ymhen wythnos, byddwn i'n gobeithio.
Yr elfen arall sy'n pryderu llawer ydy'r anomali lle mae yna waharddiad ar bobl o ardal cyfyngiadau uwch yng Nghymru rhag mynd i ardal risg isel, ond ddim gwaharddiad ar bobl o ardal risg uchel yn Lloegr rhag mynd i'r un ardal. Wel, mae yna ganlyniad i hynny mewn perthynas â'r rheoliadau yma. Mae hynny—yr anomali yna—yn gwneud i'r rheoliadau yma, yn eu tro, ymddangos i rai fel eu bod nhw yn annheg ac yn anghymesur—yn annheg â phobl yng Nghymru. Go iawn, yr anghysondeb sy'n annheg, felly pryd fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gael gwared ar yr anghysondeb hwnnw a sicrhau bod yr un gwaharddiadau yn berthnasol i'r bobl o'r tu allan i Gymru ag y sydd i drigolion a dinasyddion Cymru?
Dim ond un cwestiwn sydd gen i, ond dim ond i ddweud, gan fy mod i'n dod o ardal sydd wedi bod yn destun y mesurau lleol hyn ers cryn amser, gyda Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr, mae fy rôl i, a rôl pobl eraill yn yr ardal, i raddau helaeth wedi bod i egluro wrth bobl pam mae'r mesurau yn angenrheidiol a'u hannog i gadw atyn nhw, er mor anodd yw hynny i fusnesau ac unigolion. Yr oedd yn syfrdanol gweld llythyr gan gyd-Aelodau yn y gogledd a oedd yn ymddangos yn wirioneddol Johnsonaidd yn ei ymagwedd, a ddaeth yn agos at annog pobl i dorri'r rheolau a'r rheoliadau hynny. Byddwn i'n annog Andrew R.T. Davies i fyfyrio ar hynny.
Mae fy nghwestiwn yn syml iawn, er hynny: Gweinidog, mae gen i lawer o bobl sydd wedi eu dal yn y broblem o fod wedi trefnu teithio. Mae gan rai ohonyn nhw gyfrifoldebau gofalu; maen nhw wedi gohirio teithio ond maen nhw wedi ei aildrefnu ac roedden nhw'n bwriadu mynd ar wyliau, rhai ohonyn nhw o Faes Awyr Caerdydd. Ond, y teithiau hedfan hynny a'r gweithredwyr teithio hynny—nid yw rhai ohonyn nhw yn cynnig ad-daliadau, neu os ydyn nhw'n cynnig aildrefnu teithiau hedfan a llety, maen nhw'n gwneud hynny am gost uchel iawn. A oes gennym ni unrhyw eglurder erbyn hyn er mwyn i ni allu dweud wrth y gweithredwyr teithio hyn a'r gweithredwyr hedfan hyn, 'Dylech chi fod yn deg â'r cwsmeriaid hyn; rhowch ad-daliad iddyn nhw, cynigwch ad-drefnu hirdymor iddyn nhw neu peidiwch â chodi'n afresymol arnyn nhw i aildrefnu teithiau hedfan'?
Wel, Gweinidog, rydych chi'n sicr yn gwybod sut i ysgogi gwrthwynebiad, onid ydych chi? Rwy'n cofio'r gyfres gyntaf o brif reoliadau coronafeirws, a phleidleisio yn erbyn y rheini. Rwy'n credu mai dim ond tri neu bedwar ohonom ni oedd bryd hynny. Yr wythnos diwethaf, roedd saith neu wyth yn gwrthwynebu, a'r wythnos hon mae gennych chi'r brif wrthblaid yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau symud sylweddol yr ydych yn eu gorfodi ar siroedd cyfan yn y de-ddwyrain. Mae hyd yn oed Plaid yn dweud y byddan nhw'n ystyried eu safbwynt cyn penderfynu a ddylid eich cefnogi ai peidio.
Tybed a wnewch chi ystyried a yw hyn yn ymwneud o gwbl â'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli'r rheoliadau hyn. Rwyf i, fel y gwyddoch chi, o'r farn eu bod yn anghymesur ac yn wrthgynhyrchiol, ond maen nhw hefyd yn gaeth, maen nhw hefyd yn fympwyol ac rydych chi hefyd wedi bod yn amddiffynnol ac yn gaeedig yn y ffordd yr ydych wedi eu cyflwyno.
Pam ar y ddaear na allwn ni gael yr wybodaeth ar lefel ward y mae Andrew R.T. Davies yn gofyn mor fedrus amdano? Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei chyhoeddi i lawr i lefel unigol ar eu gwefan am bron i 24 awr. Pam na allwch chi roi'r data ward hynny i'r cyhoedd ac ymgysylltu yn wirioneddol â'r ddadl? Rydych chi'n gweld y lefel hon o wrthwynebiad erbyn hyn oherwydd nad ydych chi wedi gwneud hynny, ac rwyf i wedi siarad o'r blaen am flinder cyfyngiadau COVID. Bydd mwy ohono, oherwydd nid yw'n cael ei wneud yn drawsbleidiol mwyach; mae'n cael ei orfodi gan Lywodraeth Lafur Cymru yn erbyn gwrthwynebiad eang.
A gaf i ofyn i chi, yn benodol, am y trefniadau cau erbyn 10pm? Pa un a yw'n 10pm neu yn 10.20pm, siawns nad yw'n wrthgynhyrchiol gorfodi pawb i adael ar unwaith. Sut y mae hynny yn helpu i leihau lledaeniad? Beth am y busnesau lletygarwch hynny a fuddsoddodd gymaint i sicrhau eu bod yn ddiogel rhag COVID ac yn barod i ailagor, ac yna rydych chi'n gwneud hynny iddyn nhw?
Yn benodol, ac yn olaf, hoffwn i ofyn am y cyfyngiadau cyngor; y rheol dybiedig hon nad ydych yn cael croesi ffin cyngor yng Nghymru: nid peidio â mynd allan o'r rhanbarth, y rhanbarth eang yn y de sydd â heintiau, ond i beidio â mynd allan o ardal benodol eich cyngor; nid eich atal rhag mynd o fewn ardal y cyngor. Gweinidog, unwaith eto, rwy'n eich gweld yn mynd i'ch swyddfa ym Mharc Cathays ond ni fyddwch yn dod yma. Beth yw pwrpas hyn a beth ydych chi'n ei ofyn i Lywodraeth y DU o ran yr hyn y maen nhw yn ei wneud yn Lloegr?
Rydych chi yn sôn am barchu datganoli, ond a ydych yn dweud wrthyn nhw fod yn rhaid iddyn nhw wneud i ardaloedd sirol Lloegr yn union fel yr ydych chi yn ei wneud yng Nghymru, oherwydd ein bod ni yn dweud, 'Nid ydych yn cael gadael ardal y sir', felly dyna y mae'n rhaid iddyn nhw ei ddweud ar gyfer cyfyngiadau lleol yn Lloegr? Pa awdurdod sydd gennych chi i wneud hynny? Neu, a ydych chi'n dweud bod yn rhaid iddyn nhw ychwanegu, 'Gallwch chi fynd allan o'ch ardal leol, ond mae'n rhaid i chi beidio â chroesi'r ffin i Gymru'? Neu, a ydych chi yng Nghymru yn cynnig rheoli ffiniau lle'r ydych chi'n cyfyngu ar bobl o Loegr, sy'n gallu symud yn rhydd o fewn Lloegr, i ddweud wrthyn nhw nad ydyn nhw'n cael symud i Gymru? A yw datganoli wedi dod at hyn?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad. Nid oeddwn i wedi bwriadu gwneud heddiw, ond rwyf wedi cael llond bol ar y lol a'r rwtsh llwyr sy'n cael eu hyngan gan y Prif Weinidog yn y Siambr hon heddiw, ac yn wir Aelodau eraill o'r Blaid Lafur ynglŷn â'r datganiad a wnaed gan Aelodau Seneddol ac Aelodau'r Senedd hon ar feinciau'r Ceidwadwyr.
Ni wnaeth unrhyw aelod o'r Blaid Geidwadol mewn unrhyw ffordd o gwbl—gadewch i mi ei gwneud yn glir i bawb heddiw—mewn unrhyw ffordd o gwbl annog pobl i dorri'r gyfraith ac anwybyddu'r cyfyngiadau coronafeirws hynny. Mae'n fy ngwneud yn grac iawn i wrando ar bobl yn awgrymu bod hynny yn wir. Yr hyn yr oeddem ni yn ei godi oedd pryderon dilys ar ran y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli nad ydyn nhw wedi eu hargyhoeddi gan gymesuredd ymateb Llywodraeth Cymru o ran y cyfyngiadau lleol sydd wedi eu gosod ar nifer enfawr o bobl yn y gogledd erbyn hyn, gan gynnwys y rhai hynny yn fy etholaeth i fy hun.
Ac rwyf i'n gofyn i'r Prif Weinidog ddod i'r Siambr hon ac ymddiheuro rywbryd yn y dyfodol am ddechrau'r syniad hwnnw gyda sylw camarweiniol y mae wedi ei daflu yn fympwyol ar lawr y Siambr hon y prynhawn yma, ac rwyf i'n gofyn iddo ac yn ei annog i'w dynnu yn ôl a gwneud y peth iawn, oherwydd yr oedd yn ffugiad llwyr awgrymu ein bod ni wedi annog pobl i dorri'r gyfraith.
A'r Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd dros dro. Byddaf i'n ymdrin â'r sylwadau yn y drefn y maen nhw wedi eu gwneud yn y ddadl. Rwyf i'n nodi'r sylwadau y gwnaeth Cadeirydd y pwyllgor, Mick Antoniw. Rydym ni yn darparu cwestiynau cyffredin a chanllawiau i geisio cynorthwyo pobl â gofynion y rheoliadau a sut i helpu pobl i ddilyn y rheolau newydd.
Ac, wrth gwrs, mae'r gofynion oherwydd bod y coronafeirws yn parhau i ledaenu a'r holl niwed y bydd yn ei achosi ac y mae eisoes yn ei achosi. Ddoe, nodais fod derbyniadau i'r ysbyty wedi mwy na dyblu dros yr wythnos diwethaf. Rwy'n ofni fy mod i'n disgwyl gweld cyfanswm y marwolaethau yn cynyddu hefyd. Bwriad y camau yr ydym ni yn eu cymryd yw osgoi achosi niwed gwirioneddol iawn ledled y wlad, a bwriad y cwestiynau cyffredin yw helpu pobl i ddilyn y rheolau hynny i'w cadw eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau yn ddiogel.
Byddwn i'n croesawu ymgysylltu â'r pwyllgor ynghylch yr wybodaeth yn y memorandwm esboniadol. Mae i fod yn ddefnyddiol. Os oes ffordd o gael y sgwrs honno â'r pwyllgor byddwn i'n hapus iawn i wneud hynny. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod y pwyllgor, o bryd i'w gilydd, wedi ein helpu ni o ran cysondeb mewn darpariaethau deddfwriaethol. Mae hynny'n rhan o bwynt y craffu. Rydym ni'n gwneud y rheoliadau hyn mewn modd cyflym oherwydd y darlun sy'n newid yn gyflym o ran y coronafeirws, ac rwy'n credu bod gwerth i'r pwyllgor ymgymryd â'i swyddogaeth graffu cyn i'r ddeddfwrfa wedyn allu arfer ei swyddogaeth wrth benderfynu pa un a all y rheoliadau hyn barhau ai peidio. Ond, mae hynny'n ddewis ar gyfer sut y mae'r ddeddfwrfa yn dymuno mynd ati i weithredu.
Byddaf i'n ymdrin â Joyce Watson, Rhun ap Iorwerth ac yna Huw Irranca cyn i mi droi at y grŵp o sylwadau gan Andrew R.T. Davies, Darren Millar a Mark Reckless. Rwyf i'n credu bod Joyce Watson yn iawn: mae'r rheoliadau sydd gennym ni yn dibynnu ar ymddiriedaeth a chefnogaeth a ffydd y cyhoedd ein bod ni yn gwneud hyn am y rhesymau cywir, bod sail briodol dros wneud hynny. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r dystiolaeth sydd gennym ni ar ffurf data caled, mae hefyd yn ymwneud â'r wybodaeth gymunedol ehangach sydd gennym ni am ledaeniad ac ail-ymddangosiad didostur y coronafeirws. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn, yn yr holl dystiolaeth yn y pôl piniwn yr ydym ni'n ei gweld, fod cefnogaeth eang ymhlith y cyhoedd i'r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i gadw Cymru yn ddiogel.
O ran cyflwyno cyfyngiadau, mae cyfnod o 14 diwrnod i'w hadolygu wedyn, yna mae'n rhaid i ni eu hadolygu eto o leiaf pob saith diwrnod, ac mae hynny'n golygu bod cyfnod rheolaidd i adolygu'r sefyllfa ym mhob ardal sydd â chyfyngiadau lleol ar waith ac i ni ystyried y ffordd allan ohonyn nhw. Ac rwyf i yn awyddus i weld ardaloedd yn symud allan o gyfyngiadau. Nid yw'n beth hawdd na rhwydd i gyflwyno cyfyngiadau ar sut y mae pobl yn byw eu bywydau o gwbl.
O ran data'r bwrdd iechyd a'r wybodaeth am y lledaeniad sy'n cael eu casglu, ac mae hwn yn bwynt y mae siaradwyr eraill wedi ei godi hefyd, rwy'n awyddus ein bod ni yn darparu gwybodaeth reolaidd am yr hyn sy'n digwydd ar lefel fwy lleol. Rwy'n dymuno gallu gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n bosibl adnabod unigolion ohoni. Mewn rhai ardaloedd, bydd nifer yr achosion mor isel y gallai tynnu sylw at achos unigol ei gwneud yn bosibl adnabod y person hwnnw. Ond rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y dylem ni allu ei ddatrys ac rwy'n awyddus i wneud hynny. Rwy'n credu y byddai'n helpu i ymdrin â rhai o'r pryderon y mae Aelodau eraill wedi eu codi.
O ran pwynt Rhun ap Iorwerth am y data sy'n sail i'r camau y gwnaethom eu cymryd, yn benodol yng nghyswllt Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg, roedd gennym ni ddata bryd hynny a gwnaed achos clir iawn i ni gan bob awdurdod lleol a gan bob bwrdd iechyd perthnasol eu bod, yn yr ardaloedd hynny, yn hyderus, oherwydd y data yr oedden nhw'n eu gweld ynghylch y nifer cynyddol o achosion a'r wybodaeth gymunedol a oedd ganddyn nhw gan TTP, y bydden nhw mewn sefyllfa lle'r oedden nhw yn mynd i fynd uwchlaw'r pwynt data ffurfiol i ymyrryd. A rhoddwyd y pwynt fel a ganlyn: yr oedd gwreichion yr oedd pawb yn gallu eu gweld ac roedden nhw'n awyddus i allu gweithredu cyn bod tân coedwig gwirioneddol. Ac felly, dyna'r gyfatebiaeth a gafodd ei chyflwyno i ni mewn termau clir iawn gan dimau iechyd cyhoeddus yn ogystal â gan bob un o'r arweinwyr a'r prif weithredwyr hynny.
Yn fwy na hynny, fodd bynnag, bryd hynny, roedd gennym ni fwy o her o ran data labordy goleudy. Felly, roeddem ni'n gwybod bod y ffigurau yr oeddem ni yn eu gweld ychydig—wel, roedden nhw hyd yn oed yn hwyrach na'r data a fyddai gennym ni fel arfer. Ac mewn gwirionedd, fe wnaethom ni drafod hyn fwy nag unwaith gyda'r awdurdodau lleol hynny ac roeddem ni'n gallu gweld, gyda'r data'n cynyddu a'r gyfradd gadarnhaol a oedd gennym ni, mewn gwirionedd, ein bod ni yn bendant yn mynd i gyrraedd pwynt pan fyddem ni yn torri'r marc 50. Ac yna mae'r pwynt ynghylch pam y byddem ni yn aros pe byddai gennym ni'r lefel honno o hyder a barn unedig glir iawn gan ein timau iechyd cyhoeddus, ein hasiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol ac arweinwyr yr awdurdodau lleol dan sylw hefyd, gan gynnwys—ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig—arweinyddiaeth y swyddog proffesiynol, nid arweinyddiaeth yr aelodau etholedig yn unig.
Ac yn y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw, mae gan Gaerdydd gyfradd o 107.9 ym mhob 100,000; Abertawe 111.7; Castell-nedd Port Talbot 81.6; Torfaen 54.3; a Bro Morgannwg 43.4. Mae'r Fro wedi gweld gostyngiad ac mae hynny yn newyddion da. Rydym ni'n dymuno gweld y gostyngiad hwnnw yn parhau ac yna gallem ni fod mewn sefyllfa i godi'r cyfyngiadau hynny, ond roedd hynny wedi mynd yn uwch na 50 ar ôl i ni gymryd y mesurau hyn. Rwy'n credu ei fod yn dangos, os na fydd y Senedd yn pasio'r rheoliadau hyn heddiw, y byddem ni wedyn yn rhyddhau cyfyngiadau mewn ardaloedd lle'r ydym ni'n gwybod bod llawer iawn o achosion eisoes, ac rwy'n credu y byddai hynny'n gamgymeriad. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb ar y cyd—ni yn y ddeddfwrfa ac aelodau'r cyhoedd hefyd a'r rhai hynny sy'n aelodau o'r Llywodraeth—ond rwy'n credu bod y cam dilynol yn gwneud yr achos. Ac mae'r un peth yn wir am y gogledd hefyd. Nid ydym yn trafod rheoliadau'r gogledd heddiw, wrth gwrs, ond ym mhob un o'r awdurdodau hynny yn y gogledd y gwnaethom ni roi cyfyngiadau lleol arnyn nhw, mae pob un ohonyn nhw ymhell y tu hwnt i'r marc 50, ac rwy'n credu mai'r peth iawn i'w wneud oedd gweithredu pan wnaethom ni.
O ran y broses, rydym ni eisoes wedi ei disgrifio hi o'r blaen; mae gennym ni hefyd y prif swyddog meddygol a'r cyd-gadeiryddion celloedd cynghori technegol yn cymryd rhan. Ac mae gennym ni y cyngor hwnnw gan bob un o'r timau rheoli digwyddiadau sy'n dwyn ynghyd bartneriaid lleol. Mae gennym ni hefyd yr heddlu perthnasol ar gyfer yr ardal hefyd.
O ran cyfyngiadau teithio, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi nodi'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Rydym ni'n dymuno gweld yr ymateb ffurfiol i'r llythyr, ond rydym ni yn barod i weithredu i ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni o ran diogelu iechyd y cyhoedd. Pwrpas y mesurau cyfyngiadau teithio yw cyfyngu'r feirws mewn ardal lle mae nifer uwch o achosion a hefyd i ddiogelu ardaloedd lle mae nifer llai o achosion. Nawr, nid oes gennym ni ddiddordeb mewn dweud bod hyn yn ymwneud â Lloegr na'r Saeson; mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag unrhyw ardal lle mae problem o ran nifer uchel o achosion, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef ac ymdrin ag ef. Rwy'n credu y byddai o fudd i bob un ohonom ni mewn gwirionedd, gael dull mwy cyffredin o wneud hynny ledled y DU. Mae Llywodraeth yr Alban yn defnyddio dull gweithredu sy'n debyg ar y cyfan ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael y dull gweithredu ar y cyd hwnnw, ond os na allwn ni argyhoeddi Llywodraeth Lloegr i weithredu yn yr un ffordd, yna byddwn ni'n defnyddio ein pwerau, ond byddwn yn gweithredu ar ein cyfrifoldebau i wneud hynny o dan ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd.
Gofynnodd Huw Irranca-Davies am y diwydiant teithio ac mae gennym ni farn glir iawn ein bod ni'n siomedig iawn yn y ffordd y mae rhai rhannau o'r diwydiant teithio wedi ymddwyn. Mae'r rhain yn gyfyngiadau cyfreithiol ar yr hyn y gall pobl ei wneud, ac os bydd pobl yn mynd ar wyliau o un o'r ardaloedd hyn sydd dan gyfyngiadau ac yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd, Birmingham, Bryste neu unrhyw un arall, yna byddan nhw'n torri'r gyfraith, ac nid yw hynny'n sefyllfa y dylai cwmnïau teithio orfodi pobl iddi—i ddewis rhwng colli swm sylweddol o arian neu dorri'r gyfraith a chymryd y risg. Rwyf i hefyd yn meddwl nad yw'n dda i'r diwydiant teithio ei hun. Pe byddai rhywun yn gadael ardal yng Nghymru lle ceir llawer o achosion, i fynd ar daith hedfan ac o bosibl i achosi lledaeniad ar yr awyren honno neu mewn cyrchfan, nid wyf i'n credu y byddai'n ddiwrnod da i'r diwydiant teithio wrth esbonio pam yr oedd wedi gweithredu yn y fath ffordd a oedd, i bob pwrpas, yn annog pobl i dorri'r gyfraith.
Byddaf i'n ymdrin yn awr â'r pwyntiau mwy pendant gan y bobl sy'n anghytuno ac yn gwrthwynebu'r rheoliadau. O ran y gogledd, byddwn yn trafod y rheoliadau hynny yr wythnos nesaf, ond fel y dywedais i, mae'r pedwar awdurdod yn y gogledd sydd mewn ardaloedd lle ceir cyfyngiadau ychwanegol ymhell y tu hwnt i 50. Mae Gwynedd mewn sefyllfa wahanol i rai o'r awdurdodau hynny, oherwydd bod cyfradd Gwynedd wedi codi, ond rydym yn hyderus o'r data ychwanegol sydd gennym ni o'r broses profi, olrhain a diogelu ei fod yn gysylltiedig â chynnydd mewn grŵp penodol o neuaddau preswyl myfyrwyr. Nawr, mae nifer yr achosion yn gymharol fach, mewn gwirionedd, yn ôl y darlun cyffredinol, ond mewn sir fel Gwynedd, gyda'r boblogaeth sydd ganddi, mae'n cynyddu'r gyfradd ymhell y tu hwnt i 70 yn ôl ffigurau heddiw. Ond oherwydd ein bod yn hyderus ynghylch ble mae'r lledaeniad—nad yw wedi mynd yn drosglwyddo cymunedol ym Mangor—nid oes angen i ni gymryd y camau ehangach hyn. Felly, rydym ni yn gosod y bar yn uchel wrth ystyried pa un a ddylem ni ymyrryd yn rhyddid pobl. Dyna'r dull yr ydym ni wedi ei ddefnyddio. Mae'n helpu i lywio'r dull yr ydym ni wedi ei ddefnyddio yn Llanelli, lle mae cefnogaeth eang iddo. Felly, os yw'r data yn caniatáu i ni weithredu'r dull hwnnw, byddwn ni yn gwneud hynny, ac mae'n ystyriaeth reolaidd i'r mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith.
O ran y cyfleoedd ar gyfer dadl amser real, wel, mae hwnnw yn ddewis i'r ddeddfwrfa yn y fan yma. Caiff y rhain eu gwneud o dan weithdrefnau sydd ar waith; maen nhw'n weithdrefnau sy'n agored, gan ddarparu deddfwriaeth gadarnhaol, ond mae'n rhaid i'r ddeddfwrfa gytuno arnyn nhw er mwyn iddyn nhw barhau mewn grym. Ac, wrth gwrs, o fewn Senedd y DU, nid oes ganddyn nhw yr un weithdrefn; mae mwy o graffu yma nag ar draws y ffin, ac rwyf i'n credu bod hynny'n beth da. Mae'n ddewis i'r ddeddfwrfa yng ngweithrediad ei busnes a yw'n dymuno i adroddiad y pwyllgor fod yn rhan o'i hystyriaeth, oherwydd pe baen nhw'n dewis peidio â gwneud hynny, yna gallem ni, wrth gwrs, fod yn trafod y rheoliadau hyn yn gynharach. Rydym ni yn agored iawn i alluogi'r Aelodau i arfer eich swyddogaeth fel deddfwyr, cyn gynted â phosibl, i graffu ar yr hyn sy'n cael ei wneud.
O ran y cyrffyw 10 o'r gloch, unwaith eto, mae'n gyrffyw tebyg i'r un sydd wedi ei gyflwyno yn Lloegr. Mae gennym ni ychydig mwy o ryddid ar gyfer, os hoffech chi, amser 'gorffen eich diod', a rhan o'r rhesymeg dros hynny yw bod problem ynglŷn â chysondeb y neges. Pan ddywedodd Lloegr eu bod yn mynd i ddewis gweithredu'r dull 10 o'r gloch, bu'n rhaid i ni ddewis pa un a oeddem ni'n cadw at y dull 11 o'r gloch ai peidio; fe wnaethom ni ddewis peidio â gwneud hynny. Mae'n cynorthwyo cysondeb y neges ac yn cynorthwyo cydymffurfiaeth. Mae yna broblem ac rydym ni yn wirioneddol pryderu ynghylch pa un a ydym ni'n adleoli'r gweithgarwch ai peidio. Mae hynny'n helpu i ategu'r rhesymeg dros gadw eiddo trwyddedig ar agor, mewn gwirionedd, am rywfaint o'r amser. Ond mae pob un tîm iechyd cyhoeddus wedi dweud wrthym ni, o ran y cyfyngiadau, eu bod yn credu bod lledaeniad eilaidd o fewn safleoedd trwyddedig a bod angen cyfyngiad ffurfiol ar faint o amser y caiff pobl fod mewn safleoedd trwyddedig. Gan fod alcohol yn rhyddhau rhwystrau, ac rydym ni wedi gweld heriau penodol gyda phobl o ran digwyddiadau lledaenu wrth iddyn nhw yfed tan yn hwyr yn y nos ac o bosibl yn methu â chofio eu holl gysylltiadau hefyd. Felly, y mae wedi ei seilio ar wybodaeth leol ac y mae wedi ei seilio ar ddull gweithredu ledled y Deyrnas Unedig. Ac, mewn gwirionedd, fe ddaw o gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr i bennu'r mesur 10 o'r gloch yn gyntaf.
Rwyf i wedi siomi y bydd Aelodau Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau sydd ar waith ar gyfer Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg. Rwy'n credu bod hynny yn gam difrifol iawn i'w gymryd pan all pawb weld heddiw fod y ffigurau mor uchel yn yr ardaloedd hynny fel eu bod nhw yn peri risg i ddinasyddion yn yr ardaloedd awdurdodau lleol hynny ac i ddinasyddion mewn rhannau eraill o'r wlad. Rwy'n gofyn unwaith eto i'r Aelodau Ceidwadol ailystyried eu hymagwedd, oherwydd bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb, gan gynnwys fel deddfwyr. Nid wyf i'n cilio oddi wrth bobl sy'n gofyn cwestiynau anodd, ond rwyf i yn gofyn i bobl arfer eu cyfrifoldebau, oherwydd bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i helpu i gadw'r wlad yn ddiogel rhag y feirws hynod heintus a hynod niweidiol hwn. Nid wyf i'n dymuno dychwelyd i'r lle hwn a gorfod darllen y ffigurau marwolaeth cynyddol yr ydym ni i gyd yn eu cofio o fis Ebrill a mis Mai. Rwy'n gofyn i bobl ystyried eto ac yn gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw.
Diolch, Gweinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Clywaf wrthwynebiad, felly gohiriaf yr eitem honno hefyd.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf eto'r pleidleisio o dan yr eitem honno tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Byddwn yn oedi'r trafodion yn awr er mwyn caniatáu newid yn y Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:50.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:56, gyda Suzy Davies yn y Gadair.
Croeso nôl.
Byddwn ni'n parhau â gweddill yr agenda heddiw, a dechreuaf drwy alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7408 Lesley Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pysgodfeydd i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Cadeirydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer Bil Pysgodfeydd Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, am graffu'n fanwl ar y Mesur hwn yn ystod ei hynt drwy Senedd y DU. Rwyf wedi gosod nifer o Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar draws bywydau niferus y Bil hwn, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am eu hystyried. Rwy'n cydnabod bod yr amserlen ar gyfer craffu yn aml wedi bod yn dynn iawn, ond mae llawer o hyn wedi bod y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Mae heriau sylweddol i geisio cydlynu amserlenni Senedd y DU a'r Senedd. Lle bynnag y bo modd, rwyf wedi anelu at roi cymaint o wybodaeth â phosibl i bwyllgorau ac Aelodau.
Roeddwn i'n falch o allu cytuno i ran fwyaf o'r argymhellion yn adroddiadau'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gan y ddau bwyllgor, a gobeithio i mi roi eglurder a sicrwydd ynglŷn â'r pwyntiau a gafodd eu codi. Ysgrifennodd Mick Antoniw, cadeirydd y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ataf ddoe yn gofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion, a byddaf i'n rhoi i sylw i'r sylwadau hynny yn fy sylwadau agoriadol. Byddaf hefyd, wrth gwrs, yn ymateb yn ffurfiol i'r llythyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil hwn am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae'n ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn materion sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod ym mharth Cymru. Dyna oedd ein prif ofyniad, a llinell goch glir i mi. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflwyno Bil Pysgodfeydd Cymru yn y dyfodol ar gyfer holl ddyfroedd Cymru. Yn ail, rydym yn parhau i ymrwymo i weithredu dull cydweithredol ledled y DU o greu fframwaith pysgodfeydd, nid yw'n bosibl ei wneud yn effeithiol ond mewn Bil y DU. Yn drydydd, bydd yn darparu set gydlynol o bwerau ar gyfer rheoli ein pysgodfeydd fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol. Rwyf wedi bod yn glir nad fy mwriad i yw cadw'r pwerau nad ydyn nhw'n rhai fframwaith mewn Bil y DU am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol. Yn y cyfamser, rwyf wedi cytuno i argymhelliad y pwyllgor newid hinsawdd fod angen cyflwyno adroddiad bob dwy flynedd i'r Senedd ar weithredu'r Bil mewn cysylltiad â Chymru nes y caiff Bil Pysgodfeydd Cymru ei gyflwyno.
O ran Atodlen 3, rwy'n nodi pryderon y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a wnaeth godi ynghylch y pwerau yn Atodlen 3 ar gyfer awdurdodau trwyddedu pysgod môr. Mae'r pwerau trwyddedu pysgodfeydd yn rhan o'r pwerau fframwaith. O ran yr amgylchiadau lle y byddwn i o'r farn bod angen arfer pwerau Atodlen 3 a bod hynny'n gyfleus, yn fy marn i, mae'r pwerau hyn i wneud rheoliadau wedi'u drafftio'n briodol er mwyn i'n system trwyddedu pysgodfeydd weithredu'n effeithiol yn awr ac yn y dyfodol. Bydd rheoliadau a fydd yn cael eu gwneud o dan y pwerau hyn yn destun craffu i'r Senedd.
Mater arall a gafodd ei godi gan y ddau bwyllgor yn eu gwaith craffu oedd pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i benderfynu ar gyfleoedd pysgota a'r potensial i effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Mae datrys y mater hwn yn foddhaol wedi bod yn llinell goch i mi bob amser. Nodaf farn Cadeirydd y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad ar y mater hwn, ond rwy'n fodlon y caiff y mater hwn ei ddatrys drwy femorandwm cyd-ddealltwriaeth fframwaith pysgodfeydd y DU a chyfnewid llythyrau gyda Llywodraeth y DU, a rennais â'r pwyllgorau, ac mae hynny'n rhoi i mi'r lefel o sicrwydd sydd ei hangen.
Fel y dywedais wrth y pwyllgorau, roeddwn wedi gobeithio bod mewn sefyllfa i rannu'r gwaith o ddrafftio'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth cyn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, o ystyried natur eang y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mae'n dal i gael ei ddatblygu, a chyda'r amserlen ar gyfer y Bil hwn, roedd yn amhosibl ei rannu cyn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, ni fyddwn yn cyflwyno'r Bil hwn i gael cydsyniad os na fyddwn i'n fodlon bod y mater hwn wedi'i ddatrys yn foddhaol. Yn anffodus, mae cyflymder y Bil yn y camau olaf yn Senedd y DU wedi golygu na fu modd i'r Pwyllgor graffu fel sy'n arferol ar y cynigion cydsyniol deddfwriaethol atodol diweddaraf. Rwy'n falch felly ein bod ni'n cael dadl estynedig heddiw i roi cyfle i glywed barn yr Aelodau.
Ysgrifennais at y pwyllgorau yr wythnos diwethaf, gan nodi ein bod ni'n ceisio gwelliannau pellach yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin. Oherwydd oedi gan Lywodraeth y DU, nid oedd yn bosibl cwblhau rhai o'r gwelliannau angenrheidiol cyn y ddadl hon, ac nid yw hynny'n ddelfrydol. Gyda hynny mewn golwg, yn fy llythyr at y pwyllgorau fe wnes i gynnwys manylion ynghylch y gwelliannau yr ydym ni'n eu ceisio. Rydym wedi ceisio diwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i sicrhau bod y Ddeddf yn gymwys i is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud o ran parth Cymru ar ôl ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol yn y Bil. Rydym hefyd yn ceisio pwerau trefnu asiantaethau i alluogi Gweinidogion Cymru i ymrwymo i drefniadau gweinyddol gyda Gweinidogion yr Alban, adran Gogledd Iwerddon a'r Sefydliad Rheoli Morol ar arfer swyddogaethau pysgodfeydd—er enghraifft, o ran rheoli a gorfodi cydgysylltiedig neu at ddibenion gwyddoniaeth ac ymchwil. Nid ydym bellach yn ceisio'r gwelliannau i Atodlenni 3 ac 8 yr oeddwn wedi'u nodi yn fy llythyr diweddar.
Un pwynt ychwanegol yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef o lythyr y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad yw'r pryder a godwyd yn adroddiad y pwyllgor ynghylch argymhellion 6 a 7, sy'n ymwneud â newidiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir a swyddogaethau Cymru. Gallaf sicrhau'r Aelodau nad oes unrhyw bwerau'n cael eu colli, a nodais y dadansoddiad manwl yn fy llythyr at y pwyllgorau ar 3 Medi.
Wrth edrych tua'r dyfodol, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn ddiweddar sy'n nodi ein cynlluniau ar gyfer polisïau pysgodfeydd yng Nghymru yn y dyfodol. Fel y nodais yn y datganiad, rwyf wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gyfleoedd pysgota i'n diwydiant yng Nghymru, gan sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o unrhyw gyfleoedd newydd, ac yn ei thro yn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i'n cymunedau arfordirol ac yn caniatáu gweithgareddau newydd, fel prosesu a gweithgareddau a manteision economaidd eraill. Mae'r Bil yn adlewyrchu ein hymrwymiad cryf i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy yn nyfroedd Cymru ac i weithio gydag eraill yr ydym ni'n rhannu stociau â nhw. Yn ogystal â hynny, mae'r angen i gael system fodern a hyblyg o reoli domestig ar gyfer stociau nad ydyn nhw'n gwota hefyd yn ganolog i ddarparu pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru. Mae'r Bil hwn, gan gynnwys, yn bwysig iawn, ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol, yn darparu'r pwerau cyfreithiol priodol i gyflawni ein polisi a'n dyheadau yn y dyfodol. Felly, rwy'n cynnig y cynnig ac yn gofyn i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Diolch.
Diolch yn fawr. Galwaf nawr ar Jenny Rathbone i siarad ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Jenny Rathbone.
Diolch, Llywydd dros dro. Wrth siarad ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, sydd wedi cyhoeddi tri adroddiad ar bedwar cynnig cydsyniad deddfwriaethol ers i fersiwn gyntaf y Bil Pysgodfeydd fynd gerbron Senedd y DU ym mis Tachwedd 2018, hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil ym mis Chwefror 2019. Methodd y Bil hwn â chwblhau ei daith erbyn diwedd y sesiwn seneddol ddiwethaf, felly cafodd fersiwn newydd a rhywfaint gwell o'r Bil ei chyflwyno i Senedd y DU ym mis Ionawr eleni. Cyflwynwyd adroddiad gennym ar y Bil newydd ym mis Mai ac eto ym mis Medi ond, ers hynny, mae dau Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach wedi'u gosod heb amser i graffu gan y pwyllgorau cyn y ddadl heddiw. Mae'r drefn dameidiog hon wrth graffu yn dangos pa mor anfoddhaol yw'r broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wrth ystyried Biliau o'r math hwn.
Ar y cyfan, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hadroddiadau, gan dderbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion. Er nad yw hyn wedi arwain at welliannau i'r Bil yn y rhan fwyaf o achosion, rydym wedi llwyddo i sicrhau ymrwymiadau cadarn gan y Gweinidog ar sawl mater allweddol, ac mae'n amlwg y byddwn ni'n mynd ar drywydd y rhain gyda'r Gweinidog maes o law. Rydym yn fodlon ar y cyfan ag ymateb Llywodraeth Cymru, ond mae ambell fater yr wyf i eisiau tynnu sylw'r Senedd atyn nhw.
Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i amlinellu, prif ddiben y Bil yw sefydlu fframwaith ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn y DU ar ôl iddo adael y polisi pysgodfeydd cyffredin. Rydym yn derbyn bod angen fframwaith o'r fath, ac mae defnyddio Bil y DU i gyflawni hyn yn ddull synhwyrol; nid yw pysgod yn parchu ffiniau. Ond mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru sy'n mynd y tu hwnt i hynny i sefydlu fframwaith, ac mae'r rhain yn cynnwys pwerau rheoleiddio a gweithredol helaeth i Weinidogion Cymru. Nawr, mae'r Gweinidog wedi mynnu'n gyson fod angen y pwerau hyn i gefnogi pysgodfeydd Cymru i oddef cyfnod ansicr iawn. Mae'n anodd dadlau yn erbyn hynny gyda chytundeb masnach Brexit sydd eto i'w gyflawni, ac mae pandemig COVID yn parhau i adael ei ôl a dim gobaith o Fil Pysgodfeydd Cymru yn y tymor seneddol hwn.
Nawr, mae'r Gweinidog wedi honni bod y pwerau sy'n cael eu cymryd yn drosiannol, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Bil. Yn ein hail adroddiad, argymhellwyd terfyn amser statudol ar y pwerau hyn drwy gymal machlud, a chafodd yr un argymhelliad ei wneud gan y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad. Cafodd yr argymhelliad hwn ei wrthod ar y sail na allai Llywodraeth Cymru warantu y byddai Bil Pysgodfeydd Cymru yn cael ei gyflwyno cyn i unrhyw bwerau cyfyngu ar amser ddod i ben. Mae Lesley Griffiths wedi ymrwymo i gyflwyno Bil i Gymru yn y Senedd nesaf, ond nid oes sicrwydd y bydd Gweinidog gwahanol nac, yn wir, Lywodraeth wahanol yn rhoi'r un ymrwymiad. Heb gymal machlud, ni fydd fawr ddim ysgogiad, os o gwbl, i unrhyw Lywodraeth newydd gyflwyno ei Bil ei hun. Byddai'n gallu dibynnu am gyfnod amhenodol ar bwerau ym Mil Pysgodfeydd y DU, pwerau y mae'r Senedd wedi cydsynio iddyn nhw, yn rhannol o leiaf, ar y sail eu bod yn drosiannol. Gan fod y Gweinidog wedi diystyru cymal machlud, rhaid i'r Senedd gael cyfle i ailasesu rhinweddau'r pwerau sy'n cael eu rhoi gan Fil y DU. Fel yr argymhellwyd yn ein hadroddiad diweddaraf, rydym newydd glywed bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gyflwyno adroddiad i'r Senedd bob dwy flynedd ar arfer y pwerau hyn.
Ac yna, rwyf eisiau canolbwyntio ar y cymal 23 presennol—pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i benderfynu ar gyfleoedd pysgota yn y DU. Llinell goch i'r Gweinidog oedd hon i ddechrau. Roedd ei phryderon, a rannwyd gan y pwyllgor, yn ymwneud â graddau'r pwerau a'u heffaith ar faterion datganoledig. Mae'r Gweinidog wedi ceisio mynd i'r afael â'r pryderon hyn nid drwy fynd ar drywydd gwelliant i'r Bil, fel yr oeddem ni wedi'i argymell, ond drwy femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraethau. Er gwaethaf sicrwydd blaenorol, ni all y Gweinidog rannu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwnnw â'r Senedd. Ni all ychwaith rannu memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog wedi darparu copi o'i gohebiaeth ddiweddar â Llywodraeth y DU ar yr hyn a fyddai'n ddull rhesymol o ymgynghori cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer y pŵer o dan gymal 23.
Nid yw ein pwyllgor wedi cael cyfle i ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf hon, ond rwy'n gobeithio fy mod yn siarad ar ran y Pwyllgor wrth ddweud ei bod yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi gallu cytuno ar holl ofynion y Gweinidog. Nid yw'n glir o hyd a yw Llywodraeth y DU a'r Gweinidog wedi llwyddo i ddarparu'r lefel angenrheidiol o sicrwydd ar y mater hwn. Llywydd, mae pob un o adroddiadau'r Pwyllgor wedi argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil, yn amodol ar eu bod yn fodlon ag ymatebion Llywodraeth Cymru, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau ystyried y pwyntiau yr wyf i wedi'u codi cyn gwneud eu penderfyniad heno. Diolch.
Diolch yn fawr, a nesaf galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch i chi am hynny. Fe wnaethom ni ddechrau ystyried Bil Pysgodfeydd y DU mor bell yn ôl â mis Rhagfyr 2018, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod fersiwn gyntaf Bil Pysgodfeydd Llywodraeth y DU wedi methu oherwydd diddymu Senedd y DU ddiwedd y llynedd, a hynny ar ôl i Lywodraeth Cymru osod dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil hwnnw, yr adroddwyd arno ym mis Chwefror 2019. Cafodd Bil Pysgodfeydd newydd ei gyflwyno gan Lywodraeth bresennol y DU ym mis Ionawr eleni, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod pedwar cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rydym ni wedi adrodd ddwywaith, yn gyntaf ym mis Mai, ac wedyn bythefnos yn ôl. Cafodd Memorandwm Rhif 3 ei osod ond ychydig ddyddiau cyn ein dyddiad cau ar gyfer adrodd, a dim ond ddydd Iau diwethaf y cyrhaeddodd y pedwerydd memorandwm.
Felly, yn ein Pwyllgor ddoe buom yn trafod memorandwm Rhif 4, ynghyd â llythyr gan y Gweinidog a gafodd ei anfon atom ar 1 Hydref, ac, o ganlyniad, ysgrifennwyd at y Gweinidog ddoe yn gofyn am eglurhad pellach ar ei llythyr a'i memorandwm Rhif 4. Mae'r ohebiaeth hon wedi'i chyhoeddi, ac rwy'n ddiolchgar am ateb y Gweinidog. Mae'n bwysig nodi nad yw memorandwm Rhif 4 yn ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwelliannau pellach i'r Bil. Nawr, caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud ar ôl i'r Senedd hon bleidleisio ar y cynnig heddiw. Mae llythyr y Gweinidog yn rhoi rhai manylion am y gwelliannau hyn, a gallwch weld y llythyr hwnnw yn y papurau ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Nid ydym wedi cael amser i asesu effaith y gwelliannau hyn. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yn rhoi gwybod i Aelodau'r Senedd am unrhyw newidiadau a gaiff eu gwneud yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin yn dilyn y ddadl. Byddwn i'n awgrymu nad yw hyn yn foddhaol. Yn ein hadroddiad ym mis Chwefror 2019, amlygwyd ein pryder cynyddol ynghylch trosglwyddo pwerau o'r Senedd fel deddfwrfa i Lywodraeth Cymru fel y weithrediaeth. Mae'r pryder hwn yn cynyddu pan gaiff pwerau eu dirprwyo i Weinidogion Cymru drwy Fil y DU, nad yw Aelodau'r Senedd yn gallu dylanwadu arno'n uniongyrchol. I'r gwrthwyneb, byddai Aelodau'r Senedd, yn amlwg, yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad Bil Cymru.
Nawr, yn wreiddiol, dywedodd y Gweinidog wrthym mai ei bwriad oedd cyflwyno Bil Pysgodfeydd Cymru yn nhymor y Senedd hon. Gyda'r bwriad hwnnw wedi'i nodi, nid yw'n glir pam nad yw'r Gweinidog wedi ceisio cynnwys cymal machlud yn y Bil. Rhesymeg y Gweinidog oedd nad oedd gan Lywodraeth Cymru bysgodfeydd eto wedi'u cynnwys yn ei rhaglen ddeddfwriaethol. Codwyd y mater hwn gennym eto yn ein dau adroddiad ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil presennol. Yn ein hadroddiad a gafodd ei osod bythefnos yn ôl, cyflwynwyd cynnig wedi'i wella i'r Gweinidog. Nawr, er nad yw'n ddelfrydol, nid ydym yn gweld bod unrhyw reswm pam na fyddai modd cynnwys darpariaeth machlud ym Mil y DU, yn nodi dyddiad 2024, ynghyd â phŵer Harri VIII i Weinidogion Cymru a fyddai'n caniatáu ymestyn y dyddiad machlud o ddwy flynedd. Dylai pŵer gwneud rheoliadau o'r fath fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd ac, yn anffodus, cafodd y cynnig hwn ei wrthod.
Hoffwn i symud ymlaen nawr a thynnu sylw at fater arwyddocaol arall. Mae'n ffaith annymunol, gyda phob cynnig cydsyniad deddfwriaethol a ystyriwyd ar gyfer Biliau sy'n ymwneud â Brexit, mae anghydfodau amlwg wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch yr hyn sy'n cael ei ystyried yn fater sydd wedi'i ddatganoli. I ddechrau, roedd y pŵer yn y Bil i'r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu ar gyfleoedd pysgota yn y DU yn llinell goch i'r Gweinidog, oherwydd ymyrrodd y pŵer â mater datganoledig. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog yn ceisio datrys y mater hwn drwy femorandwm cyd-ddealltwriaeth, ac mae hynny wedi peri cryn bryder i ni, yn bennaf oherwydd nad yw cytundebau o'r fath yn rhwymo'r naill barti na'r llall. Nododd y Gweinidog fod datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn hanfodol i unrhyw argymhelliad y gall hi ei roi i gydsyniad y Senedd gael ei roi i'r Bil. Nawr, yr wythnos diwethaf, rhannodd y Gweinidog ei llythyr at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol â ni, lle nododd y Gweinidog ei hoff delerau o ran cytundeb ar ddefnyddio'r pwerau i bennu cyfleoedd pysgota. Mae'r cytundeb hwn yn lle'r ffaith bod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn dal i gael ei ddatblygu.
Nawr, fel y soniais i'n gynharach, nid oes amser wedi bod i ddadansoddi'n llawn yr ohebiaeth sydd wedi'i rhannu â ni. Fodd bynnag, nid yw'n glir inni ar unwaith fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo, na statws unrhyw ymrwymiad, i delerau'r cytundeb fel y'i cynigiwyd gan y Gweinidog. Hyd yn oed gyda'r cyfnewid gohebiaeth hwn, mae'r ffaith na fydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn barod cyn cwblhau taith y Bil drwy Senedd y DU yn annerbyniol. Mae'r Senedd dan anfantais ddifrifol oherwydd nad oes ganddi fanylion y memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n ymwneud ag arfer pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i benderfynu ar gyfleoedd pysgota.
Gan symud ymlaen, mae'r Bil yn rhoi pwerau rheoliadol a gweithredol helaeth i Weinidogion Cymru. Yn ein hadroddiad a osodwyd ym mis Mai eleni, dywedasom ei bod yn rhwystredig nad yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn nodi'n ddigonol y pwerau gwneud rheoliadau sy'n cael eu cymryd nac yn ceisio cyfiawnhau pam y maen nhw'n cael eu cymryd. Roeddem hefyd yn siomedig mai gwybodaeth gyfyngedig y mae'r Gweinidog wedi'i darparu o ran y rhesymeg a'r broses o Weinidogion Cymru yn rhoi caniatâd i Lywodraeth y DU wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig.
Nawr, cyn cloi, rydym ni'n cydnabod bod y Bil yn ymestyn cymhwysedd y Senedd o ran pysgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod i barth Cymru gyfan. Er ein bod ni'n croesawu'r estyniad cymhwysedd hwn, gallai hefyd fod wedi'i gyflawni drwy Orchymyn adran 109, a fyddai wedi bod yn destun craffu a chymeradwyaeth gan y Senedd. Nawr, fel sy'n dod yn amlwg ar Filiau'r DU yn gysylltiedig â Brexit, mae cyfyngiadau ar y broses cydsyniad deddfwriaethol, yn bennaf oherwydd bod y Senedd wedi'i hatal rhag craffu'n llawn ar gyfraith arfaethedig a fydd yn berthnasol yn y pen draw yng Nghymru ac yn benodol oherwydd yr angen i weithredu'n unol ag amserlennu yn Senedd y DU. Ceir llawer o enghreifftiau lle gallai Senedd y DU yn deddfu dros Gymru ar fater datganoledig fod yn bragmatig ac yn rhesymol. Fodd bynnag, ym marn y Pwyllgor, mae'n drueni na chafodd newid sylweddol i'r gyfraith yng Nghymru ar gyfer y sector pysgodfeydd ei wneud yng Nghymru. Diolch.
Fel cenedl sydd â thraddodiad morwrol balch, nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd y Bil Pysgodfeydd hwn. Mae ein perthynas â'r môr nid yn unig wedi helpu i lunio hanes ein cenedl ond ein diwylliant hefyd. Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn cydnabod bod angen dull gweithredu ledled y DU i greu'r fframwaith pysgodfeydd, y mae ond modd ei wneud drwy Fil y DU. Mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i weithredu'n bendant nes inni gyrraedd adeg pan fydd modd dod â Mesur pysgodfeydd cynhwysfawr i Gymru gerbron Senedd Cymru i graffu'n llawn ac yn briodol arno.
Mae'r Bil yn cyflwyno llawer o bethau cadarnhaol a sylweddol i Gymru, gan ailddiffinio cyfrifoldebau yn ymwneud â physgodfeydd neu Lywodraeth Cymru a'i his-adran forol a physgodfeydd, gan gynnwys datblygu rheoliadau newydd, cynlluniau rheoli pysgodfeydd newydd, trefniadau rhynglywodraethol newydd, gan gynnwys y cyd-ddatganiad pysgodfeydd, memorandwm cyd-ddealltwriaeth a threfniadau datrys anghydfodau, a mwy o gyfrifoldeb o ran rheoleiddio a gorfodi pysgodfeydd ym mharth Cymru. Mae'n cydnabod natur dechnegol a byd-eang y farchnad bysgota. Mae cymalau 12 a 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfle i fanteisio ar bysgodfeydd Prydain gan gychod pysgota o Brydain a thramor. Mae Atodlen 2 hefyd yn cynnwys gwelliannau i sicrhau y bydd unrhyw longau tramor sy'n mynd i mewn i'n dyfroedd yn ddarostyngedig i'r un rheoliadau â chychod pysgota Prydeinig. Yn y cyfamser, mae cymalau 19 i 22 ac Atodlen 4 yn darparu ar gyfer troseddau mynediad a thrwyddedu. Fodd bynnag, dim ond drwy is-adran forol a physgodfeydd wedi'i hariannu yn llawn y mae modd gorfodi'r cymalau hyn.
Mae adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi tynnu sylw o'r blaen at bryderon ynghylch gallu staff cyfreithiol a pholisi pysgodfeydd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r llwyth gwaith cynyddol sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth newydd hon. Gweinidog, mewn llythyr a anfonwyd gennych at y Pwyllgor ar 30 Mehefin, fe ddywedasoch:
'lle y gall costau ychwanegol godi'
mewn cysylltiad â'r is-adran forol a physgodfeydd,
'byddan nhw'n dod o gyllidebau rhaglenni presennol.'
Gyda phryder hefyd mai dim ond hanner y staff sy'n gweithio i'r tîm hwn ar hyn o bryd, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i egluro pa asesiad sydd wedi'i wneud i ganfod beth allai cyfanswm costau ychwanegol fod ac i ddweud yn bendant a all cyllidebau presennol dalu'r gost hon.
Mae cymal 23 yn galluogi Ysgrifennydd Gwladol y DU i bennu uchafswm y pysgod môr y gall cychod pysgota Prydeinig eu dal a'r nifer mwyaf o ddyddiau y gall cychod pysgota Prydeinig eu treulio ar y môr. O dan gymal 24, cyn i benderfyniad o'r fath gael ei wneud neu ei dynnu'n ôl, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn hyn o beth sydd, ar adeg y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn, yn parhau i aros. Nawr, rwy'n rhannu hyder y Gweinidog yn yr ymrwymiadau y mae Llywodraeth Prydain wedi'u gwneud hyd yma y bydd unrhyw Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cyflawni'r paramedrau a osodwyd rhwng y ddwy ochr.
Mae cymal 1 yn nodi amcanion pysgodfeydd y DU, a fydd yn berthnasol ledled y DU, ochr yn ochr ag amcan cynaliadwyedd wedi'i ailddrafftio. Mae'r Bil erbyn hyn yn cyflwyno amcan newydd o ran newid hinsawdd. Mae'r newidiadau hyn yn sylweddoli bod y Bil hwn yn cynnig cyfle digynsail i'r DU a Chymru ddangos uchelgais ac arweiniad amgylcheddol hyfyw i bolisi morol cynaliadwy, ond mae cynaliadwyedd hefyd yn golygu cefnogi swyddi arfordirol a'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod pysgodfeydd Cymru yn hyfyw yn economaidd ac yn gadarn i genedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n croesawu cyflwyno amcan newydd o dan gymal 1, wedi'i ddynodi'n 'fudd cenedlaethol'.
Mae gwybodaeth sy'n dyddio'n ôl i 1985 yn awgrymu mai diwydiant pysgota Cymru yw'r diwydiant cenedlaethol lleiaf yn y DU. Yn 2012, roedd tua 1,020 wedi'u cyflogi ym maes pysgota, 643 o weithwyr llawn amser rheolaidd a 347 o staff pysgota. Yn fwy cyffredinol, mae nifer y llongau pysgota yn fflyd y DU wedi gostwng 29 y cant ers 1996. Mae'r economegydd amgylcheddol Griffin Carpenter wedi nodi y bydd y pwerau cymorth ariannol sydd wedi'u cynnig o dan y cymal hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer amrywiaeth ehangach o ddibenion o'i gymharu â chronfa forol a physgodfeydd presennol Ewrop. Roedd hyn yn cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant, a awgrymodd Mr Carpenter y gallai helpu i gefnogi newydd-ddyfodiaid ifanc ac yn ei dro o bosibl adfywio'r diwydiant pysgota yng Nghymru.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid rhoi caniatâd, oherwydd mae gwneud hynny'n gam cadarnhaol ymlaen tuag at ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy i ddiwydiant pysgota Cymru. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar bryderon y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o ran ariannu a staffio'r is-adran forol a physgodfeydd, a'i bod yn ceisio cwblhau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyn gynted â phosibl. Diolch.
Mae rhaid i fi ddweud, mae yna deimlad o groundhog day o gwmpas y ddadl yma, oherwydd mae yna sawl tebygrwydd rhwng y dadl yma yr wythnos yma a'r ddadl gawson ni ar Fil Amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf. Mae yna rai elfennau positif, wrth gwrs, o'n blaenau ni heddiw. Mae estyn cymhwysedd y Senedd mewn perthynas â physgota a physgodfeydd a iechyd pysgod yng nghyd-destun y parth Cymreig—y Welsh zone—yn rywbeth wrth gwrs i'w groesawu. Ond dwi'n ofni bod yna lawer hefyd yn y Bil sy'n llawer llai positif. Dwi'n dal yn poeni does yna ddim eglurder ynglŷn â sut y bydd adnoddau yn cael eu rhannu ar draws gweinyddiaethau y Deyrnas Unedig, na chwaith sut y bydd datrys anghydweld rhwng y gweinyddiaethau hynny, nid yn unig o safbwynt adnoddau ond o safbwynt polisi hefyd.
O'r cychwyn cyntaf, wrth gwrs, mae Plaid Cymru a'r pwyllgorau dŷn ni wedi clywed oddi wrthyn nhw yn y ddadl yma wedi galw am gymal machlud. Rwy'n dal yn teimlo bod hynny yn angenrheidiol; dŷn ni'n dal, fel Aelodau o'r Senedd yma, dwi'n teimlo, angen sicrwydd y bydd yna Fil pysgodfeydd Cymreig fydd yn caniatáu inni ailsetio y pwerau a'r grymoedd sy'n cael ei rhoi i Weinidogion Cymru gan San Steffan mewn ffordd sydd yn 'bypass-io' ein rôl ni fel Aelodau o'r Senedd yma. Dwi'n synnu bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod hynny. Mi dderbynioch chi hynny yng nghyd-destun y ddadl ar y Bil amaeth yr wythnos diwethaf; mae'r egwyddor yn union yr un peth. Mae'r testun yn wahanol, a'r cynnwys yn wahanol, wrth gwrs, ond mae'r egwyddor yn union yr un peth, felly dwi ddim yn deall pam bod un rheol yn dderbyniol mewn un cyd-destun, a rheol arall, mae'n debyg, yn dderbyniol i chi yn y cyd-destun arall.
A nawr mae'r Gweinidog, yn hwyr, yn cynnig neu'n addo adroddiad bob dwy flynedd neu ryw fath o wybodaeth ddiweddaraf reolaidd. Nid yw hynny'n gwneud dim i fynd i'r afael â'r mater sylfaenol o beidio â chael y cymal machlud, sydd, wrth gwrs, yn un o ddiffyg democrataidd, o'n rhan ni fel Aelodau o'r Senedd hon.
Cefais fy ngogleisio gan y disgrifiad o Gymru gan y Gweinidog fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol wrth agor y ddadl. Rydych yn dweud cymaint â hyn ar y naill law, ac yna, ar y llaw arall, wrth gwrs, rydych chi'n derbyn sefyllfa lle bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu arfer pwerau i benderfynu ar gyfleoedd pysgota yn nyfroedd Cymru. Nawr, mae hyn yn dod â mi at y memorandwm cyd-ddealltwriaeth—neu'r diffyg memorandwm cyd-ddealltwriaeth—yr un yr oeddech chi wedi addo y byddem ni'n cael ei adolygu cyn y penderfyniad cydsyniad hwn heddiw. Nawr, wrth gwrs, rydych chi'n dweud wrthym nad oes memorandwm cyd-ddealltwriaeth, ei fod yn dal i gael ei ddatblygu, ond eich bod wedi cael rhyw fath o addewidion gan Lywodraeth y DU sy'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnoch i argymell ein bod yn cymeradwyo'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn. A ydych chi'n ymddiried mewn gwirionedd yn Llywodraeth y DU, Gweinidog? Ydych chi wir yn eu cymryd ar eu gair? Mae hon yn Llywodraeth sy'n hapus i dorri cyfreithiau rhyngwladol mewn ffordd amlwg, a chawsom ein hatgoffa gan gyd-Aelod Llafur o'r Senedd hon eiliad yn ôl na allwch chi ymddiried yn y Torïaid yn y Siambr hon—ei eiriau ef, nid fy ngeiriau i. Ond, yn ôl pob golwg, fe allwch chi. Nawr, ond ychydig wythnosau'n ôl, roeddech chi'n dweud wrthym fod hon yn llinell goch o'ch rhan chi, a nawr rydych chi'n disgwyl i ni gydsynio i'r ddeddfwriaeth yn seiliedig ar sicrwydd disylwedd yr ydych chi wedi'i gael gan Weinidogion Llywodraeth y DU na fyddan nhw'n diystyru Llywodraeth Cymru fel a phryd y mynnant. Rydych chi wedi'ch camarwain yn llwyr os ydych chi'n credu y gallwch chi seilio eich awdurdod ar ddealltwriaeth mor llipa gyda Llywodraeth y DU. Mae eich llinellau coch newydd ddiflannu, Gweinidog, ac o fy rhan i, mae'n ymddangos i mi eich bod yn plygu i Lywodraeth y DU. Mae Cymru'n haeddu gwell na hyn, ac rwy'n credu eich bod chi'n gwybod hynny, Gweinidog. Rwyf i wir yn credu eich bod chi'n gwybod hynny.
Nawr, rwy'n rhannu'r holl bryderon a fynegwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad yn y llythyr ac yn ei sylwadau cynharach. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n ein hatgoffa bod y Bil yn dal i newid. Ac mae'n adlewyrchu'n wael ar yr holl broses hon, rwy'n credu, bod y Llywodraeth wedi cyflwyno ei Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol ar 12 Chwefror, wedi cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar 8 Gorffennaf, Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol arall ar 16 Medi, ac un arall eto yr wythnos diwethaf ar 1 Hydref—mae'n siŵr y bydd un arall eto cyn inni gyrraedd y man lle mae'r Llywodraeth eisiau bod. Ac mae'r eironi yma, wrth gwrs, yr un fath â'r un y tynnais i sylw ato o ran Bil Amaethyddiaeth y DU yr wythnos diwethaf. Beth bynnag yr ydym ni'n ei benderfynu yma heddiw, bydd Llywodraeth y DU yn parhau yn ddi-hid, gan anwybyddu a ydym ni'n cydsynio iddyn nhw ddeddfu mewn meysydd datganoledig ai peidio. Rwy'n sylweddoli bod rhai pethau cadarnhaol yn y Bil hwn, ond, ar y cyfan, Gweinidog, ni allaf gefnogi'r Memorandwm hwn ger ein bron heddiw.
Mae gennyf bryderon sylweddol ynghylch y trefniant hwn: un ohonyn nhw yw nad wyf i'n ymddiried yn y Torïaid, a dyna fy llinell goch i mi fy hun. Byddaf i yn ei gefnogi, ond rwy'n mynd i'w gefnogi gydag amheuon enfawr, ac rwyf eisiau eu hamlinellu. Nid wyf yn credu bod adrodd bob dwy flynedd yn cyfateb â chymal machlud, ac mae hynny'n peri pryder imi. Ond yr hyn sydd wir yn peri pryder yma yw bod 90 y cant o fflyd bysgota Cymru yn cynnwys llongau bach, a'u bod yn dal pysgod cregyn yn bennaf, ac mae'r rhan fwyaf o hynny'n cael ei allforio i'r UE, ac nid oes cytundeb masnachu ar waith hyd yn oed. Gan ddod yn ôl at fy man cychwyn, nid wyf yn ymddiried yn y Torïaid: mae'n debyg mai ni oedd â'r cytundeb masnachu gorau erioed, a nawr mae'n amlwg nad oes gennym hyd yn oed gytundeb masnachu o unrhyw ddisgrifiad o gwbl. Os ydym ni'n ychwanegu at hynny y ffaith bod COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar y diwydiant, ac mae pris pysgod wedi gostwng yn ddramatig, hyd at 85 y cant mewn rhai achosion—ac, wrth gwrs, mae cau busnesau lletygarwch yn anorfod wedi gwneud y galw am bysgod cregyn yn llawer llai.
Felly, er fy mod i'n mynd i'w gefnogi, rwy'n rhannu'r holl bryderon y mae pobl eisoes wedi'u hamlinellu. Hoffwn i glywed esboniad, mewn gwirionedd, pam yr ydych chi mor hyderus, o fewn y fframwaith—. Ac rwy'n cydnabod, wrth gwrs, y pethau cadarnhaol y mae eraill wedi'u hamlinellu—nid wyf eisiau cymryd amser i ailadrodd y rheini—ond hoffwn i gael yr ateb i sut yr ydych chi'n teimlo'n hyderus y gallwch chi symud ymlaen, o dan y cytundeb fframwaith, i gael cytundeb a fydd yn diogelu, fel yr wyf i wedi'i ddweud o'r cychwyn cyntaf, fuddiannau'r diwydiant pysgota, er yn fach, sy'n bodoli yng Nghymru.
Diolch yn fawr i bawb. Galwaf nesaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Cadeirydd. Rwy'n cydnabod yn llwyr lawer o'r pryderon y mae llawer o'r Aelodau wedi eu codi heddiw ynghylch craffu ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol a'r amserlenni byr yr ydym ni wedi eu cael i ni wneud hyn. Dywedais yn fy sylwadau agoriadol nad yw hyn yn ddelfrydol.
Rydym ni wedi cymryd cam cyfansoddiadol sylweddol ymlaen drwy'r Bil hwn i ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd o ran parth Cymru, ac roedd sawl un o'r Aelodau yn cydnabod hynny heddiw. Ynghyd â'r pwerau ehangach sydd wedi eu cynnwys yn y Bil, bydd hyn yn ein galluogi i reoli ein pysgodfeydd yng Nghymru yn well ac i gyflawni ein polisi pysgodfeydd yn y dyfodol, ac rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i ddarparu Bil pysgodfeydd pwrpasol i Gymru. Mae'n ddrwg gen i nad ydym ni wedi gallu gwneud hynny yn y tymor hwn oherwydd cyfyngiadau diweddar y rhaglen ddeddfwriaethol, ac yn amlwg yn sgil COVID-19 hefyd, mae hynny wedi cael effaith sylweddol.
O ran holi pam rwy'n derbyn yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud, rwy'n credu mai un maes sy'n wahanol, yn wahanol iawn, o ran pysgodfeydd o'i gymharu ag amaethyddiaeth, y gwnaeth Llyr Huws Gruffydd ei godi, yw bod perthynas mor hirsefydlog o ran pysgodfeydd â Llywodraeth y DU. Felly, bob mis Rhagfyr, mae pob Gweinidog—Llywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon, y DU a minnau—yn mynychu'r cyngor mis Rhagfyr ym Mrwsel. Felly, bu'r cytundeb hwnnw a'r berthynas hirsefydlog honno ers blynyddoedd lawer. Felly, rwyf wedi rhannu'r holl ohebiaeth â phwyllgorau a byddaf i'n parhau i wneud hynny i roi'r sicrwydd hwnnw.
Os caf i droi at rai o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, mae'n ddiddorol i mi pam mae gan Janet Finch-Saunders gymaint o obsesiwn â lefel y staffio yn fy adran i. Fel y dywedais wrthych, rwy'n credu, yn ddiweddar mewn cwestiwn ysgrifenedig y gwnaethoch ei ofyn i mi, mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw hynny ac rwyf i wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ysgrifennu atoch ynglŷn â staffio.
Siaradodd Jenny Rathbone ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a Mick Antoniw fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y cymal machlud. Fe wnes i ymrwymo i gyflwyno fy adroddiad fy hun i'r Senedd ar weithredu'r darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â Chymru yn unig hyd nes y cyflwynir Bil pysgodfeydd Cymru, ac fe wnes i hynny yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Ac fel yr wyf i wedi ei ddweud, nid wyf i'n bwriadu cael y pwerau hyn mewn Bil y DU am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol. Mae angen i ni sicrhau bod gennym ni'r pecyn cymorth angenrheidiol ar waith i reoli'r her y mae Brexit yn ei chyflwyno, a COVID-19 erbyn hyn, i'n diwydiant pysgodfeydd, felly mae angen i ni gadw'r pwerau hynny yn y Bil y DU hwn.
Ac wrth sôn am yr her ddwbl honno, cododd Joyce Watson bryderon ynghylch buddiannau pysgodfeydd bach ac a fyddan nhw'n cael eu diogelu. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch effaith Brexit 'heb gytundeb', sy'n dod yn fwyfwy tebygol wrth i'r misoedd fynd yn eu blaen, nad oes gennym ni'r fargen fasnach honno sydd ei hangen arnom. Rydym ni'n gwybod am ddibyniaeth ein fflyd ar fynediad i farchnadoedd yr UE—ein cymdogion agosaf; 0.5 biliwn o bobl—ac rydym ni hefyd yn cydnabod yr effaith y mae cau marchnadoedd yr UE oherwydd COVID-19 wedi ei chael ar y diwydiant, ac rydym ni wedi darparu £0.5 miliwn o gymorth pwrpasol i'r sector.
Ond, i ailadrodd, bydd y Bil hwn yn rhoi'r pwerau i ni baratoi a rheoli ein pysgodfeydd yn well yn y dyfodol, ni waeth beth sy'n digwydd gyda'r trafodaethau hynny.
Gweinidog, a gaf i ofyn i chi ddod â'ch sylwadau i ben? Rydym ni ychydig dros amser. Diolch.
Diolch, Cadeirydd. O ran y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, nid wyf i'n credu y gwnes i addo ei gyflwyno; dywedais i y byddwn i pe gallwn i. Mae hynny'n dal i gael ei ddrafftio, ond cyn gynted ag y gallaf i ei rannu, fe wnaf i hynny. Diolch, Cadeirydd.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf yw eitem 11, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.
Cynnig NDM7407 Hannah Blythyn
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Tân i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n falch o gynnig y cynnig hwn heddiw ac amlinellu pam y dylai dderbyn cefnogaeth gan Aelodau'r Senedd. Rydym ni i gyd yn cofio, fel y dylem ni ei wneud, y tân a'r marwolaethau trychinebus yn Nhŵr Grenfell dros dair blynedd yn ôl. Rydym ni'n gwybod o'r ymchwiliad cyhoeddus mai diffygion yn y ffenestri allanol a'r cladin ar y tŵr oedd y prif resymau dros ledaeniad cyflym y tân a'r marwolaethau o ganlyniad. Fe wnaeth strwythurau mewnol fel drysau tân fethu ag atal lledaeniad y tân hefyd.
Mae'n wrthun nad yw cyfraith diogelwch tân fel y mae ar hyn o bryd yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r risgiau hyn. Lluniwyd Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ar gyfer gweithleoedd, nid blociau o fflatiau. Mae'r ffordd y mae wedi ei ddrafftio yn golygu nad yw'n berthnasol i waliau allanol ar gyfer blociau o'r fath o gwbl; nid yw hyd yn oed yn ymdrin yn glir â drysau tân mewnol sy'n gwahanu fflatiau unigol ac ardaloedd cyffredin. Mae hynny'n golygu nad oedd dyletswydd ar landlordiaid na phersonau cyfrifol eraill i gynnal y nodweddion hyn er mwyn lleihau'r risg o dân. Mae hefyd yn golygu nad oes gan y gwasanaethau tân ac achub unrhyw bwerau i'w harchwilio na gorfodi cydymffurfiaeth. Bydd y Bil Diogelwch Tân byr hwn yn cywiro'r diffygion sylweddol hyn. Bydd yn darparu bod y Gorchymyn yn cwmpasu bloc cyfan, ac eithrio y tu mewn i fflatiau unigol yn unig. Mae'r rhain yn newidiadau pwysig a dylen nhw fod yn annadleuol.
Am resymau hanesyddol, dim ond drwy ddeddfwriaeth sylfaenol y gellir diwygio'r Gorchymyn. Er fy mod i'n glir y byddai deddfwriaeth o'r fath o fewn cymhwysedd y Senedd, nid oes lle yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer Bil o'r fath yn y fan yma cyn etholiadau'r flwyddyn nesaf. Felly, o ystyried difrifoldeb y materion y mae'n mynd i'r afael â nhw, mae'n ymarferol ac yn briodol i'r Bil gwmpasu Cymru hefyd. Mae'r Bil yn berthnasol i safleoedd yng Nghymru a Lloegr yn union fel ei gilydd ac yn rhoi pwerau unfath i Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol.
Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am graffu ar y Bil a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n cytuno â'r hyn yr oedd ganddyn nhw i'w ddweud. Yn benodol, rwyf i'n derbyn yn llwyr fod llawer mwy i'w wneud i ddysgu a chymhwyso gwersi Tŵr Grenfell. Nododd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ein bwriadau mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Mehefin a byddwn yn mynd ar drywydd hynny gyda Phapur Gwyn cynhwysfawr yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Ond mae'r Bil sydd ger ein bron heddiw yn gam cyntaf pwysig ac rwy'n annog y Senedd i gytuno â'i berthnasedd i Gymru.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.
Diolch yn fawr. Rwy'n fodlon iawn â dull y Llywodraeth o ymdrin â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Roeddem ni'n gallu gweld bod rhywfaint o bosibilrwydd o ddryswch, ond fe wnaethom ni nodi yr hyn yr oedd gan y pwyllgor deddfwriaeth i'w ddweud ac roeddem yn eithaf bodlon cefnogi hynny.
Mae'n amlwg yn fesur eithriadol o bwysig, ac fel pwyllgor, rydym ni wedi ymddiddori'n fawr iawn yn nhrasiedi tân Tŵr Grenfell, ac fe wnaethom ni rywfaint o waith ar hynny, gan ddilyn hynny â rhagor o waith. Rydym ni wedi ceisio cadw llygad barcud ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud hefyd. Roeddem ni o'r farn, ar brydiau, bod diffyg eglurder, ond mae'n ymddangos bod llawer o'r problemau wedi eu goresgyn ac, fel y dywedais i, rydym ni'n fodlon fel pwyllgor â dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â hyn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol o ran y Bil Diogelwch Tân yn ein cyfarfod ar 8 Mehefin ac fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad gerbron y Senedd ar 17 Mehefin. Roedd ein hadroddiad yn cydnabod bod y Bil yn un rhan o'r ymateb i wella diogelwch adeiladau yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017. Fe wnaethom ni nodi asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad y Senedd arnyn nhw. Fe wnaethom ni nodi hefyd y rhesymau pam, ym marn Llywodraeth Cymru, y mae gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil yn briodol.
Yn olaf, nododd ein hadroddiad fod cymal 2 o'r Bil yn rhoi pwerau i'r awdurdod perthnasol, sef Gweinidogion Cymru yng Nghymru, i wneud rheoliadau i ddiwygio'r Gorchymyn diogelwch tân er mwyn newid neu egluro'r eiddo y mae'n berthnasol iddo. Rydym ni'n croesawu'r defnydd o'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer y pŵer hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw'r Bil Diogelwch Tân, ac felly, hoffwn i gofnodi fy siom mai dim ond 15 munud sydd wedi ei ddyrannu i'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn ar yr agenda heddiw. Mae mater mor bwysig â diogelwch tân yn haeddu mwy o amser a thrafod yn y Senedd hon mewn gwirionedd—mesur a fyddai yn sicr wedi adlewyrchu diddordeb brwd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn dilyn y tân erchyll yn Nhŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017.
Nawr, ym mis Mai 2018, nodwyd 143 o adeiladau preswyl uchel iawn o 18m neu fwy yng Nghymru: 38 yn y sector cymdeithasol, 105 yn y sector preifat. Ni allaf i ddim ond dechrau dychmygu'r ofn y mae trigolion wedi bod yn byw gydag ef ers trychineb Grenfell, ac felly, nid wyf i'n gwybod pam na wnaeth y Llywodraeth hon flaenoriaethu unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer diogelwch tân. Yn ei adroddiad ar adeiladau yn y sector preifat, fe wnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ddisodli'r Gorchymyn diogelwch tân yn nhymor seneddol presennol Cymru ac i'r ddeddfwriaeth honno gynnwys:
'Safonau ar gyfer pobl sy’n cynnal asesiadau risgiau tân;
'Gofyniad i gynnal asesiadau risgiau tân yn flynyddol man lleiaf ar gyfer adeiladau preswyl uchel iawn;
'Eglurhad bod drysau tân sy’n ddrysau ffrynt fflatiau yn cael eu hystyried yn rhan o’r ardaloedd cymunol ac felly’n cael eu cwmpasu gan y ddeddfwriaeth sy’n disodli Gorchymyn Diogelwch Tân 2005.'
Rwy'n cytuno â'r pwyllgor hwn fod y mater mor sylfaenol bwysig y dylai fod wedi cael y flaenoriaeth uchaf. A byddaf i'n rhoi ar gofnod unwaith eto fy marn bod Llywodraeth Cymru wedi methu drwy beidio â chyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Nid wyf i'n cytuno o gwbl â'r awgrym nad oes lle, neu nad oedd lle, yn rhaglen ddeddfwriaethol bresennol Llywodraeth Cymru.
Serch hynny, fel y mae'r pwyllgor wedi ei nodi, mae yn ddull synhwyrol i ddefnyddio deddfwriaeth Llywodraeth y DU i wneud y newidiadau angenrheidiol na fydden nhw'n digwydd fel arall tan etholiad nesaf y Senedd. Ond un cwestiwn sylfaenol iawn i chi sydd gen i yw: pam nad yw'r gwaith hwn ar ddiogelwch tân wedi cael blaenoriaeth? Mae ateb i'r cwestiwn hwnnw yn arbennig o bwysig pan fo angen pendant, yn ôl 'Map tuag at adeiladau mwy diogel yng Nghymru', am ddeddfwriaeth newydd sylweddol i gyflawni system reoleiddio newydd a chyflwyno llawer o newidiadau. Mae'r map yn cynnwys argymhellion clir, fel, o ran systemau chwistrellu, larymau tân, synwyryddion mwg, cynllunio, asesiadau risg a staffio. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am ble yr ydych o ran yr holl argymhellion neu o ran unrhyw rai o'r argymhellion sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru.
Mae cymalau 1 i 3 o'r Bil yn ymwneud â diogelwch tân adeiladau yng Nghymru. Mae cymal 1 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn diwygio rheoleiddio diogelwch tân 2005 i egluro ei fod yn berthnasol pan fo'r eiddo yn adeilad sy'n cynnwys dwy set neu fwy o eiddo domestig, i (a) strwythur a waliau allanol yr adeilad, sy'n cynnwys drysau, ffenestri ac unrhyw beth sydd wedi ei gysylltu i'r waliau allanol, fel cladin, defnydd inswleiddio, ffitiadau a balconïau, ac unrhyw rannau cyffredin; a (b) drysau rhwng eiddo domestig a rhannau cyffredin. Rwy'n croesawu'r gwelliannau a'r ffaith eu bod yn cadarnhau y caiff awdurdodau tân ac achub gymryd camau gorfodi yn erbyn personau cyfrifol os ydyn nhw wedi methu â chydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.
Dirprwy Weinidog, yn gynharach eleni, fe wnaethoch chi honni'n falch mai Cymru oedd â'r rhaglen fwyaf helaeth o ymweliadau diogelwch tân â'r cartref ym Mhrydain. Fe wnaethoch chi ddweud bod Llywodraeth Cymru yn darparu £660,000 o gyllid i'r gwasanaeth i sicrhau bod yr ymweliadau hyn a'r dyfeisiau diogelwch, a gyflenwir yn rhan ohonyn nhw, am ddim i'n deiliaid tai. Nodir yn y cynnig y bydd awdurdodau tân ac achub Cymru yn ysgwyddo costau o ganlyniad i'r Bil hwn, a fydd yn cynnal archwiliadau ehangach o flociau fflatiau bellach, gan gynnwys archwilio nodweddion pob adeilad a nodir. Mae'n rhaid rhoi eglurhad brys erbyn hyn i'n hawdurdodau tân ynghylch sut y caiff y gwaith ychwanegol hwn ei ariannu.
I gloi, nid yw'r Bil hwn yn edrych fel dim mwy na phont ddeddfwriaethol dros dro—plastr i Gymru hyd nes y gellir cyflwyno deddfwriaeth fwy eang ac ystyriol yn y fan yma. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid, ond rydym ni yn dal wedi ein siomi ynghylch diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru, ac mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddeddfwriaeth frys ar ddechrau'r Senedd nesaf. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl hon heddiw. Rwy'n ddiolchgar am sylwadau John Griffiths, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd, a Mick Antoniw, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd, yn arbennig am y gefnogaeth a'r gwaith pwysig gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ddatblygu'r gwaith yr ydym yn ei wneud a hefyd y gwaith ar argymhellion y grŵp arbenigol. Rwyf i'n edrych ymlaen at ymgysylltu â'r pwyllgorau wrth i ni ddatblygu'r gwaith ar ein Papur Gwyn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Rwyf i'n nodi llawer o sylwadau Janet Finch-Saunders ac yn croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r Bil pwysig hwn. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, mae hwn yn amlwg yn gam cyntaf, ac rwy'n cydnabod bod mwy o waith i'w wneud mewn maes a chyd-destun sy'n aml yn fawr, yn bellgyrhaeddol a chymhleth. Mae'n bwysig ein bod ni'n neilltuo'r amser i fynd i'r afael â phob mater yn briodol ac, yn bwysicach, ein bod ni'n cymryd y camau gweithredu cywir. Rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar eu Bil diogelwch adeiladau a hefyd—byddwn ni yn gweithio gyda nhw pan fo hynny'n briodol.
Llywydd Dros Dro, yn gyflym, mae hwn yn ddarn bach ond pwysig o ddeddfwriaeth i wella diogelwch tân mewn blociau o fflatiau, ond, fel y dywedais i, mae gennym ni lawer mwy i'w wneud. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd ein cefnogi i gymryd y camau cynnar a phwysig hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw eitem 12, cynnig cydsyniad offeryn statudol ar Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Cynnig NDM7413 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch eto, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch am y cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad offeryn statudol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio). Hoffwn i ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a chydnabod casgliad y pwyllgor ei fod yn fodlon.
Roedd y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a osodwyd gerbron y Senedd ar 1 Medi yn crynhoi darpariaethau'r rheoliadau ac yn nodi'r newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol y ceisir cydsyniad ar eu cyfer. Bwriad y rheoliadau yw trosi pecyn economi gylchol yr UE. Mae'r newidiadau sydd eu hangen yn cynnwys elfennau a gaiff eu cyflawni ar sail y DU a Phrydain Fawr ac elfennau a gaiff eu cyflawni ar sail Cymru a Lloegr, sy'n adlewyrchu natur y ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith ar hyn o bryd. Ochr yn ochr â hyn, mae rheoliadau ychwanegol yn cael eu paratoi ar hyn o bryd i wneud y newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth Cymru yn unig o dan y weithdrefn negyddol. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu gosod gerbron y Senedd yn fuan.
Penderfynwyd cyhoeddi datganiad polisi ar y cyd rhwng y DU ar y newidiadau hyn, yn hytrach nag ymgynghoriad llawn, gan ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r pwysau ar ddiwydiant o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Felly, byddai wedi bod yn anodd i randdeiliaid ymgysylltu ag ymgynghoriad llawn ac ymateb iddo, a chafwyd sylwadau gan ddiwydiant na fyddai ymgynghoriad i'w groesawu ar hyn o bryd. Mae'r rhan fwyaf o'r mesurau hefyd yn newidiadau cymharol fach, technegol, ac yn gweithredu deddfwriaeth sy'n mabwysiadu'r un geiriad â'r gyfarwyddeb.
Mae'r newidiadau o ran cyfyngiadau tirlenwi a llosgi gwastraff a gesglir ar wahân ychydig yn fwy eang. Felly, ymgynghorwyd â chynrychiolwyr allweddol o'r sectorau hyn ar y cyfyngiadau tirlenwi a llosgi. Ar y cyfan maen nhw'n croesawu'r mesurau, gan fod y rhain yn cael eu hystyried yn ysgogydd i annog trin deunydd ymhellach i fyny'r hierarchaeth wastraff trwy ddangos lefelau uwch o echdynnu deunyddiau y gellir eu hailgylchu o'r ffrwd wastraff. Mae hyn, wrth gwrs, yn cyd-fynd â'n polisi hirdymor. Yng Nghymru, ychydig o effaith a ddisgwylir ar weithredwyr Cymru gan nad yw llosgyddion wedi eu hawdurdodi ar hyn o bryd i dderbyn deunydd eildro a gesglir ar wahân oni ellir dangos ei fod yn anaddas i'w ailgylchu, ac yn gyffredinol nid yw safleoedd tirlenwi yn cael deunydd eildro a gesglir ar wahân.
Cyhoeddwyd datganiad ar y cyd y DU ym mis Gorffennaf ac mae'n nodi'r newidiadau allweddol a wnaed gan becyn economi gylchol yr UE a'r dull y mae'r DU yn ei ddefnyddio i drosi mesurau 2020. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, cyhoeddais i ddatganiad ysgrifenedig hefyd ar 6 Awst i sicrhau bod Aelodau'r Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Fodd bynnag, mae'r gwelliannau i'r pum Deddf berthnasol yn fach, gan mai dim ond diweddaru dyddiadau a diffiniadau i adlewyrchu'r gwelliannau diweddaraf i'r gyfarwyddeb fframwaith gwastraff y maen nhw'n ei wneud. Mae caniatáu i'r newidiadau gael eu gwneud drwy Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020 yn osgoi'r angen i ddyblygu gwelliannau ac yn caniatáu dull mwy effeithlon nag a fyddai wedi digwydd pe byddai pob gweinyddiaeth yn gwneud yr un gwelliannau. Mae hefyd yn adlewyrchu cwmpas y ddeddfwriaeth bresennol sy'n cael ei diwygio. Ar y sail hon y gosodir y cynnig cydsyniad offeryn statudol ger eich bron i'w gymeradwyo. Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf eto ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd dros dro. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn ein cyfarfod ar 21 Medi, ac wedyn fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ar y memorandwm ddydd Llun diwethaf, 28 Medi. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, mae'r Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020 y mae'r memorandwm yn ymwneud â nhw yn trosi cyfres o gyfarwyddebau'r UE ym maes gwastraff. Rydym ni'n gwerthfawrogi'r llythyr a anfonodd y Dirprwy Weinidog at y pwyllgor, a wnaeth ein cynorthwyo wrth i ni ystyried y memorandwm. Rydym ni hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i gyflwyno cynnig i drafod y memorandwm. Gallaf i gadarnhau ein bod ni yn fodlon â'r memorandwm.
Diolch. Galwaf eto ar Janet Finch-Saunders.
Diolch. Mae'r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i symud tuag at economi fwy cylchol, a fydd yn caniatáu i ni barhau i ddefnyddio adnoddau cyhyd ag y bo modd, gan gael y gwerth mwyaf posibl ohonyn nhw, lleihau gwastraff, a hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau. Yn wir, mae'r DU eisoes yn arweinydd byd-eang, gyda strategaeth adnoddau a gwastraff yn nodi cynllun cynhwysfawr ac uchelgeisiol i weddnewid y diwydiant gwastraff a llunio economi fwy cylchol. Mae ein Llywodraeth yn gwneud yr holl newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen i drosi mesurau pecyn economi gylchol 2020 ar ran Cymru a Lloegr, ar wahân i rai diwygiadau sy'n ymwneud â gwastraff peryglus.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yn ôl y memorandwm esboniadol, ymgysylltodd DEFRA â chynrychiolwyr y sector tirlenwi, llosgi ac ailgylchu, a chroesawyd y mesurau ar y cyfan. Yn bwysig, fel y nodwyd yn y memorandwm cydsyniad offeryn statudol, mae'n briodol i'r offeryn statudol wneud y darpariaethau, oherwydd bod angen diwygio hen gyfeiriadau at gyfraith Ewrop. Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 yn trosi'r gyfarwyddeb fframwaith gwastraff ddiwygiedig yng Nghymru a Lloegr ar sail gyfansawdd. Fodd bynnag, nid oedd yn bosibl gweithredu'n gyfansawdd y tro hwn gan fod rhai o'r diwygiadau gofynnol yn berthnasol i ddeddfwriaeth y DU gyfan neu Brydain Fawr i gyd.
Mae'r newidiadau a wneir yn gwbl dechnegol ac annadleuol, ac nid oes unrhyw newid i bolisi. Mae'r memorandwm yn gywir—mae'r newidiadau yn dechnegol. Mae rheoliad 2 yn diweddaru cyfeiriadau, a rheoliadau 3, 4, 5 a 6 yn yr un modd. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi ystyried y memorandwm hefyd, ac rwy'n nodi eu casgliad,
'ein bod ni yn fodlon â'r Memorandwm'.
Rwy'n cytuno, ond yn nodi eich bod chi wedi dweud yn y llythyr i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad dyddiedig 2 Medi 2020,
'Bydd y Gweinyddiaethau Datganoledig yn gwneud eu rheoliadau eu hunain ar gyfer newidiadau eraill sydd eu hangen i ddeddfwriaeth y tu allan i hwn'
Felly, a wnewch chi roi rhywfaint o eglurder, Dirprwy Weinidog, ynghylch pa welliannau yr ydych chi'n bwriadu eu cyflwyno? Pa gamau sy'n cael eu cymryd i gyhoeddi canllawiau wedi eu diweddaru i ddiwydiant a'r cyhoedd ynglŷn â'r newidiadau sy'n cael eu trafod yn yr offeryn statudol hwn? Yn ôl Clyde & Co LLP, mae'r rheoliadau a'r pwyslais ar yr economi gylchol yn darparu cyfle allweddol i fusnesau fanteisio ar arloesedd a syniadau newydd. Eich uchelgais yw bod Cymru yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Yn ôl y strategaeth 'Mwy Nag Ailgylchu', thema graidd yw cynorthwyo busnesau i gynilo a gwneud arian a bod yn gydnerth.
Yn yr un modd, dywedir bod potensial yn sgil symud i economi gylchol i greu swyddi gwyrdd. Yn sicr, yn sgil COVID-19 a'r argyfwng hinsawdd, mae creu swyddi gwyrdd yn fwy hanfodol nag erioed. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau y gall busnesau fynd ar drywydd syniadau arloesol a chreu swyddi? Mae angen i ni eich gweld chi yn adlewyrchu uchelgais ein Prif Weinidog, sy'n bwrw ymlaen heddiw â chwyldro diwydiannol gwyrdd, gan addo £160 miliwn i wella porthladdoedd a ffatrïoedd i adeiladu tyrbinau.
Yn olaf, mae Rhan 4 o'r Offeryn Statudol yn ymwneud â gwastraff a gaiff ei gasglu ar wahân i'w ailddefnyddio a'i ailgylchu ac nid ei losgi. Yn ôl adroddiad gan y Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, WRAP Cymru, mae 75 y cant o wastraff masnachol a diwydiannol yn dal i gael ei anfon i'w losgi neu i safleoedd tirlenwi yng Nghymru, ac fe ellir ei ailgylchu mewn gwirionedd. Mae'n hanfodol bod cynigion ar gyfer llosgyddion newydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus priodol. Fodd bynnag, mae pryderon—ac rwyf i wedi eu gwneud yn glir mewn llythyrau at y Gweinidog—fod y pandemig yn cael effaith negyddol ar ymgynghoriadau cynllunio. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid cael moratoriwm ar ymgynghoriadau cynllunio ar gyfer llosgyddion yn ystod y pandemig hwn?
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid y memorandwm heddiw, ond byddwn i'n ddiolchgar iawn pe baech yn amlinellu pa gamau uniongyrchol sy'n cael eu cymryd i helpu ein busnesau i groesawi'r economi gylchol ac i fynd ar drywydd arloesedd gwyrdd, gyda'r gobaith o greu gwell hinsawdd a gyrfaoedd gwyrdd i'n cenedl. Diolch.
Galw ar y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl—Hannah Blythyn.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r ddau Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl hon, ac a gaf i ddiolch i Mick yn rhinwedd ei swydd o fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad am eu cefnogaeth i'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth? Rwyf hefyd yn croesawu cefnogaeth Janet Finch-Saunders i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond mae'r Aelod yn codi nifer o faterion sydd y tu hwnt i gylch gwaith y ddadl bresennol hon. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i'w trafod ymhellach pan fyddwn yn dod â'r strategaeth 'Y Tu Hwnt i Ailgylchu' i lawr y Senedd. Rydym wedi ymrwymo nid yn unig i eiriau cynnes ond gweithredu gwirioneddol ac arwain y ffordd i fynd y tu hwnt i ailgylchu a thuag at economi wirioneddol gylchol yng Nghymru, gan weithio gyda'n cymunedau a'n busnesau drwy ein cronfa economi gylchol, sy'n galluogi busnesau i arloesi a chymunedau i weithredu yn eu hardaloedd eu hunain. Fel yr amlinellais yn fy sylwadau agoriadol, mae'r newidiadau sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol penodol hwn sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn rhai cwbl dechnegol ac nid oes unrhyw newid mewn polisi. Mae eu hangen dim ond i adlewyrchu'r newidiadau diweddaraf i'r gyfarwyddeb fframwaith gwastraff. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud y cynnig—Jane Hutt.
Cynnig NDM7414 Rebecca Evans, Siân Gwenllian, Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi yn llwyr
a) y frwydr fyd-eang i gael gwared â hiliaeth ac ideoleg hiliol ac ymdrechu tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol; a
b) egwyddorion Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).
2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar ddatblygiad datganiad trawsbleidiol ar gyfer Cymru sy’n ymgorffori egwyddorion CERD.
3. Yn croesawu gwaith diwyd y Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19, a gydgadeirir gan y Barnwr Ray Singh a’r Dr Heather Payne, yr Is-grŵp Asesu Risg a gadeirir gan yr Athro Keshav Singhal a’r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol a gadeirir gan yr Athro Emmanuel Ogbonna ac yn galw am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod argymhellion Adroddiad yr Athro Ogbonna yn cael eu gweithredu’n llawn ac ar gyflymder.
4. Yn cydnabod yr angen am Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae 2020 wedi bod yn un o'r blynyddoedd mwyaf heriol ac anoddaf o fewn cof, yn enwedig i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae COVID-19 wedi amlygu anghydraddoldebau dwfn yn ein cymdeithas. Mae ailymddangosiad y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, yn dilyn marwolaeth dreisgar George Floyd, yn dangos pam mae'r ddadl flynyddol hon ar fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol yn bwysicach nag erioed. Mae'r cynnig hwn yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau eleni, ond mae hefyd yn ailddatgan yr ymrwymiadau a wnaethom y llynedd yn ein dadl ar hil—ymrwymiadau trawsbleidiol. Yn y ddadl honno, fe wnaethom gefnogi, fel y gwnawn ni heddiw yn ein cynnig, bwysigrwydd sylfaenol y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol.
Llywydd, wrth i'r coronafeirws ennill tir yn gynharach eleni, fe wnaethom ni ddechrau dysgu am ei effaith ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Sefydlodd y Prif Weinidog grŵp cynghori BAME COVID-19 ar unwaith, o dan arweinyddiaeth y Barnwr Ray Singh. Sefydlwyd dau is-grŵp, dan arweiniad yr Athro Keshav Singhal a'r Athro Emmanuel Ogbonna. Fe wnaeth y grwpiau hyn gyflawni yn hynod o gyflym, gan ddarparu cyngor a dulliau diriaethol ac ymarferol a roddodd Cymru ar y blaen o ran ein hymateb. Mae datblygiad yr offeryn asesu risg gweithlu Cymru, y cyntaf o'i fath yn y DU, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n eang yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond a gaiff ei gyflwyno mewn gweithleoedd eraill, yn helpu i ddiogelu iechyd a lles pobl.
Dewisodd Llywodraeth Cymru hefyd fynd i'r afael â chyfraniad y ffactorau economaidd-gymdeithasol i'r feirws yn uniongyrchol, gan ymateb i adroddiad Emmanuel Ogbonna a'i grŵp—cydnabyddiaeth na allai data meddygol esbonio'r effaith anghymesur ar bobl BAME ar ei ben ei hun. Fe wnaeth adroddiad gan y grŵp economaidd-gymdeithasol nodi'r anghydraddoldebau sefydledig a brofir gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, y mae COVID-19 wedi tynnu sylw atyn nhw yn y modd mwyaf trasig. Dylai hyn ein hatgoffa nad yw'r hawliau sydd wedi'u hymgorffori dros 50 mlynedd yn ôl yn erthygl 5 y confensiwn ar ddileu pob math o wahaniaethu hiliol wedi eu gwreiddio'n llawn eto mewn cymdeithas. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r grwpiau cynghori am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud, am eu harweinyddiaeth barhaus, ynghyd â rhannu mewnwelediad ac arbenigedd, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i bob un ohonom ni.
Nid yw hwn yn waith sy'n gallu aros. Cyhoeddodd y Prif Weinidog ein hymateb i'r adroddiad economaidd-gymdeithasol ar 24 Medi. Roeddem ni eisoes wedi gweithredu nifer o argymhellion, ac mae mwy ar y gweill. Yn ystod y pandemig, fe wnaethom ni gynhyrchu gohebiaeth 'Diogelu Cymru' mewn 36 o ieithoedd gwahanol, er mwyn sicrhau bod negeseuon iechyd ar gael i bawb sy'n byw yng Nghymru. Ehangwyd gwasanaethau profi, olrhain a diogelu i sefydlu gweithwyr allgymorth duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn cymunedau. Ac mae'r rhai hynny sydd mewn cyflogaeth hefyd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau symud. Fe wnaethom ariannu'r tîm cymorth lleiafrifoedd ethnig ac ieuenctid, gyda phartneriaid, i ddarparu llinell gymorth amlieithog BAME i bobl gael cyngor a chymorth ar lawer o faterion, gan gynnwys cyflogaeth ac incwm. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod rhaglenni hyfforddi gwrth-hiliaeth yn cael eu cynnal ar draws y sector cyhoeddus. Llywydd, ym mis Chwefror fe wnaethom ni lansio strategaeth penodiadau cyhoeddus i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth pobl BAME a phobl anabl mewn penodiadau cyhoeddus. Mae hyn wedi cychwyn, gan ddatblygu rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac anabl, fel yr argymhellwyd yn adroddiad Ogbonna.
Mae adnewyddu ein hymrwymiad i ddileu hiliaeth a gwahaniaethu ledled ein cenedl yn cynnwys addysg, ac mae'r Gweithgor cymunedau, cyfraniadau a chynefin: Profiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r cwricwlwm newydd, dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams, wedi ei sefydlu. Ein nod yw ymgorffori addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws pob rhan o'r cwricwlwm ysgol.
Rwyf wedi bod yn ymgysylltu â fforymau a digwyddiadau BAME ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiadau Mae Bywydau Du o Bwys, yn ogystal â thrwy ein Fforwm Hil Cymru, a phan oedd y pandemig ar ei waethaf, roeddwn i'n ddiolchgar am y cyngor a'r ymgynghoriad rheolaidd. Cyfarfuom yn aml iawn i ddysgu a rhannu gwybodaeth, i weithredu gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag anghenion sy'n dod i'r amlwg, ac mae'r deialog hwn yn hanfodol wrth i ni ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i'w gyflawni erbyn diwedd tymor hwn y Senedd. A bydd ein cynllun yn cael ei gyflawni drwy ymgysylltu helaeth a chaiff ei gyd-lunio â chymunedau, grwpiau cymunedol a sefydliadau BAME, gyda'r Athro Ogbonna yn cyd-gadeirio'r grŵp llywio gyda'r Ysgrifennydd Parhaol. Mae'n rhaid i'r cynllun hwn ddarparu'r sylfaen ar gyfer sicrhau newid systemig a chynaliadwy i Gymru.
Gwyddom fod llawer o faterion i fynd i'r afael â nhw ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd, cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc, addysg, mynediad at dai, profiad bob dydd o hiliaeth, hiliaeth strwythurol a systemig, cynrychiolaeth a gwelededd. Rydym ni'n cydnabod yr angen am newid sylfaenol yn ein cymdeithas. Ni allwn ac ni fyddwn ni'n gwneud hyn ar ein pennau ein hunain. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, clywed eu tystiolaeth a gweithredu ar y dystiolaeth honno. Byddwn ni'n mynd i'r afael â buddiannau cymunedau penodol a materion a godir gan ryngblethedd. Caiff ei lywio gan ymchwil a data, ymchwiliadau swyddogol ac adroddiadau sydd eisoes wedi digwydd. Fe'i hategir gan gamau gweithredu ac argymhellion clir a chryno, gan gynnwys datblygu uned gwahaniaethau ar sail hil yn Llywodraeth Cymru.
Ond rwyf eisiau gwneud hyn yn glir: nid fy nghynllun i yw hwn; mae'n eiddo i Lywodraeth Cymru gyfan, ac rydym ni eisiau gweld newid diwylliannol ar draws y Senedd, mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yng nghymdeithas Cymru, oherwydd mae Cymru yn genedl amlddiwylliannol sydd â hanes a rennir a chyfraniad a rennir i'w llwyddiant. Roedd ymfudwyr i Gymru yn rhan bwysig o'r wlad hon yn datblygu i fod yn rym economaidd cryf cyn y rhyfel byd cyntaf, ac mae ymfudwyr wedi parhau i fod yn rhan annatod o'n cenedl sydd wedi datblygu fel cenedl noddfa, sef yr hyn yr ydym ni'n ymdrechu i fod. Rydym ni'n clodfori ein cymunedau BAME ac yn cydnabod bod yn rhaid i bob un ohonom ni fyfyrio ar ein safbwyntiau i sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn gallu cyrraedd eu potensial.
Heddiw, rwy'n galw ar arweinyddion yng Nghymru ar bob lefel i ddileu hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol o'n gwlad. Gofynnaf i bawb sefyll yn erbyn anghydraddoldeb pa le bynnag a phryd bynnag y byddan nhw'n ei weld neu'n ei brofi, i chwilio am anghydraddoldebau hiliol, gwahaniaethau hiliol ac ar sail hil a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw. Mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ac yn onest ar y strwythurau a'r systemau mewn cymdeithas, ac ystyried ble a sut y gallwn ni sicrhau newid gwirioneddol i fywydau pobl groenliw yng Nghymru. Mae gennym ni gyfle, cyfrifoldeb a modd i wneud hyn. Beth am ddangos yr undod mewn diben hwnnw yma yn y Senedd heddiw. Diolch yn fawr.
Pan fyddwn ni'n cymryd eiliad i feddwl am yr hyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw, pan fyddwn ni'n aros ac yn meddwl mewn gwirionedd ein bod, yn 2020, yn dal i orfod siarad am fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol a hiliaeth yn ein cymdeithas, yn ein gwlad ni, mae'n gwbl anhygoel, ac mae'n anghredadwy bod pobl yn dal i gael eu barnu, eu cam-drin a'u bwrw o'r neilltu dim ond oherwydd lliw eu croen.
Neithiwr, yn rhan o'r sgwrs yr wyf yn ei chael gyda fy mab 10 oed bob nos wrth i mi ei roi yn y gwely, gofynnodd i mi beth yr oeddwn i'n ei wneud yfory, a dywedais i, 'Y pethau arferol, mewn gwirionedd, ac rydym ni'n trafod mynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol.' Cymerodd anadl ddofn, oedi am funud, a chrychu ei wyneb mewn dryswch. 'Felly, mam?' 'Ie, Henry?' 'Pam mae angen i chi drafod hynny; a yw mor wael â hynny mewn gwirionedd? Pam? Ai dyna pam mae Manchester United a thimau eraill, a Lewis Hamilton a F1 yn dal i fynd ar eu gliniau ac yn gwisgo crysau-t du? Dydw i ddim yn deall pam nad yw pobl yn hoffi rhywun oherwydd lliw ei groen. Nid oes yr un o'm ffrindiau i yn meddwl felly. Ingol ond hefyd yn rhoi tawelwch meddwl. Sgwrs a geir, mae'n siŵr, rhwng plant a rhieni ar hyd a lled ein gwlad, wrth drafod yr hyn y maen nhw'n ei weld ar eu setiau teledu ar hyn o bryd. A gwn ei fod yn cael ei drafod yn ein hysgolion, sydd i'w groesawu, gan mai addysg, fel y mae Jane Hutt newydd ei nodi, yw'r allwedd i newid. Mae'n anodd ymateb i fy mab ac eraill ynghylch pam mae cenedlaethau uwch ei ben ef wedi methu â dileu hiliaeth. Ond nid ydym ni wedi gwneud hynny. Mae'n dal i ddigwydd. Mae rhywfaint ohono allan o'n rheolaeth ni, ond mae casineb hiliol a gwahaniaethu hiliol yn dal i ddigwydd yn rhywle ar hyn o bryd. Ac mae'n rhaid i hyn, i ryw raddau, ddisgyn ar ein hysgwyddau ni fel deddfwrfeydd, fel gwneuthurwyr y gyfraith, gan fod gennym ni y pwerau i newid pethau mewn gwirionedd.
Yn fy marn i, nid oes dim i'w drafod heddiw a dweud y gwir, oherwydd, siawns ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen newid cyfreithiau yn gyflym, er mwyn sicrhau, ym mhob ffordd bosibl, o fewn ein pwerau, y gallwn ni ddileu'r anghyfiawnder hwn i ddynoliaeth. Cefais i fy magu i garu dy gymydog, i drin eraill yn y modd yr hoffech chi gael eich trin eich hun. Felly, rwyf i yn ei chael hi'n anodd deall peidio â rhoi swydd i rywun a thrin rhywun yn wahanol dim ond oherwydd lliw ei groen. Rydym ni i gyd yn gyfartal, ac rwy'n cael fy nghysuro gan y rhan fwyaf o'n pobl ifanc sy'n rhannu'r farn honno.
Rwyf wir yn teimlo dros y rhai sydd, ar ôl 20 mlynedd o Gynulliad a Senedd, yn dal i gredu nad yw Llywodraethau Cymru wedi gwneud digon hyd yn hyn i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb ar bob ffurf, pan fo cymaint y gallwn ni ei wneud, yn ymarferol, a bod pobl yn dal i ddioddef anghyfiawnder bob dydd. Yn dilyn marwolaeth George Floyd, er ei fod filltiroedd i ffwrdd, gwelwyd dicter ac anghrediniaeth eang, ac ymdeimlad o anghyfiawnder ledled ein gwlad, ac roedd yn atseinio'n gryf yma. Mae'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, beth bynnag yw eich barn amdano fel mudiad, yn enwedig drwy chwaraeon, wedi llwyddo i gyfleu'r neges wirioneddol bwysig hon i gartrefi ledled ein gwlad—bod anghydraddoldeb yn dal i fodoli mewn sawl ffordd yng nghymdeithas heddiw. Mae'n rhan o faterion cyfoes erbyn hyn. Mae ar ein setiau teledu bob dydd erbyn hyn. Felly, dyma'r amser i ni weithredu. Gan ein bod yn gyd-gyflwynwyr y cynnig hwn, rydym ni yn amlwg yn cefnogi pob agwedd a amlinellir, ac yn amlwg yn cymeradwyo'r gwaith sy'n cael ei wneud yn awr gan y Llywodraeth yn y Senedd hon, a'r grŵp cynghori BAME COVID-19, grŵp asesu risg, ac is-grŵp economaidd-gymdeithasol, dan arweiniad rhai pobl rhyfeddol, a amlinellir yn y cynnig.
Yn anffodus, yn 2020, mae gwir angen am gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac mae angen i ni hybu cyfleoedd i bobl dduon, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Rydym ni'n llwyr gefnogi hynny. Mae llawer sy'n cael ei wneud ar lefel y DU, ac yma, a diolchaf i Jane Hutt a Llywodraeth Cymru am bopeth yr ydych chi'n ei wneud yn awr, yn enwedig yn ystod y pandemig hwn, gan fod y pandemig hwn wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau enfawr, fel yr ydych chi wedi ei hamlinellu.
Mae'n dda gweld hefyd bod pobl BAME bellach yn y swyddi gwladol allweddol hynny yn awr mewn llywodraethau, yn enwedig yn Llywodraeth y DU, ac yma yn Llywodraeth Cymru. Yma, rydym ni'n gallu gweld cynnydd gwirioneddol, ond mae'n rhaid adlewyrchu hyn ym mhob rhan o'n cymdeithas. Mae Erthygl 2 o'r confensiwn rhyngwladol, a ysgrifennwyd yn ôl yn 1965, yn galw ar bob plaid wladol i gondemnio gwahaniaethu ar sail hil ac ymrwymo i fynd ar drywydd, drwy bob dull priodol ac yn ddi-oed, polisi o ddileu gwahaniaethu ar sail hil yn ei holl ffurfiau a hybu dealltwriaeth ymhlith pob hil—1965, ac mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd. Ni allwn ni ddibynnu mwyach ar y syniad mai peth i'r cenedlaethau hŷn yw hyn ac y bydd yn dirwyn i ben. Mae angen i ni weithredu yn awr ac mae angen i ni weithredu yn gyflym. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn benderfynol o chwarae ein rhan i greu Cymru fwy cyfartal a theg. Rydym ni'n cefnogi'r cynnig hwn.
Nid oes amheuaeth nad yw hiliaeth, o bob math, yn real ac yn gyffredin i gynifer o bobl yng Nghymru. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dangos i ni sut y mae cyfraddau carcharu pobl sy'n dod o grwpiau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn llawer uwch yma, a hyd dedfrydau cyfartalog yn fwy hefyd. Canfu adroddiad 2018 gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n Decach?', bod hil yn ffactor ysgogol mewn 68 y cant o'r 2,676 o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru. Ac mae troseddau casineb yng Nghymru wedi cynyddu gan 16 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rydym ni'n gwybod o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod pobl groenliw yn fwy tebygol o fod wedi'u cyflogi mewn sectorau sydd wedi eu cau, ac felly'n fwy tebygol o gael eu gwneud yn ddi-waith. Felly, nid oes unrhyw amheuaeth nad yw hiliaeth yn bodoli—mae mor gyffredin yng Nghymru ag y mae mewn mannau eraill, ac mewn rhai achosion mae'n waeth yma.
Daethpwyd â chwestiynau ynglŷn â hiliaeth i'r amlwg dros yr haf yn dilyn llofruddiaeth greulon George Floyd a'r protestiadau a ddilynodd. Gadewch i ni beidio â chael ein twyllo bod y materion hyn wedi'u cyfyngu i'r Unol Daleithiau, oherwydd mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod â'n llygaid yn llydan ar agor yma hefyd. Rwyf wedi gwneud y pwynt droeon o'r blaen bod gwleidyddiaeth a sut yr ydym ni'n trafod gwleidyddiaeth yn cael effaith ar hiliaeth a sut y mae hiliaeth yn amlygu ei hun ar y strydoedd. Sut yr ydym ni'n sôn am geiswyr lloches a mewnfudo, sut y mae materion fel penderfyniad diweddar y Swyddfa Gartref i gartrefu pobl mewn gwersylloedd y fyddin ym Mhenalun, a sut y mae'r Ysgrifennydd Cartref yn sôn am y materion hyn, a sut y mae rhai wedi ceisio manteisio ar benderfyniadau o'r fath, yn cyfrannu'n uniongyrchol at ddrwgdeimlad tuag at leiafrifoedd ac yn tanio fflamau hiliaeth.
Mae'r iaith awgrymog yr ydym ni wedi'i chlywed gan wleidyddion yr adain dde eithafol wedi bod yn warthus. Maen nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud, ac maen nhw'n haeddu cael eu condemnio gan bob un ohonom ni sy'n gallu ei weld. Oherwydd mae effaith i'r gweithredoedd a'r geiriau hyn, a gallai hynny olygu bod plentyn du yn cael ei fwlio ar yr iard chwarae, neu bobl dduon yn eu harddegau yn cael eu curo, neu fenywod yn cael sgarffiau wedi'u rhwygo oddi ar eu pennau. Dyma ganlyniadau bob dydd iaith awgrymog, ac mae'n rhaid i bob un ohonom ni uno yn ei erbyn cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Mae hiliaeth yn gwaethygu. Mae llawer o siarad; gadewch i ni yn awr weld rhywfaint o weithredu sy'n gwrthdroi'r tueddiadau hyn yn y pen draw.
Ar yr wyneb, nid wyf yn ei chael yn anodd cymeradwyo a chroesawu pwynt 1a) o'r cynnig hwn—pam fyddwn i, pam y byddai unrhyw un? Fodd bynnag, rwy'n credu bod gweddill pwynt 1, a phwynt 2, yn werth eu cwestiynu. Pam mae'r cynnig hwn yn cyfeirio at gonfensiwn rhyngwladol a wnaed yn 1969 pan wnaeth Llywodraeth y DU basio ei Deddf cysylltiadau hiliol ei hun yn 1968, sydd wedi'i hadolygu dros amser? A'r confensiwn ei hun? Fe'i gweinyddir, ac mae'n debyg ei fod yn dal i gael ei weinyddu gan y Cenhedloedd Unedig—yr un Cenhedloedd Unedig sydd wedi'i staenio gan gam-drin rhywiol y rhai y mae'n ymddangos y mae'n ceisio eu diogelu. Felly, byddwn i, mewn gwirionedd, yn dymuno ymbellhau Cymru oddi wrth hyn; mae'n teimlo'n llygredig iawn.
A gadewch i ni edrych ar y blaid sy'n symud hyn yn ei flaen. Y Llywodraeth yng Nghymru, ac wedi bod ers 1999 ar ryw ffurf, yw Llafur Cymru. A'r blaid honno—y Blaid Lafur—sydd wedi bod yn destun ymchwiliad diweddar iawn gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i wrthsemitiaeth, a'r blaid sydd wedi cael 20 mlynedd i ymdrin â llawer o'r materion hyn, er fy mod i'n derbyn nad oes yr un o'r ysgogiadau hynny yn bodoli yng Nghymru. Ond hefyd, mae arweinydd Plaid Cymru wedi aros yn gwbl dawel ar y trydariad gwrthsemitig a wnaed gan ddarpar ymgeisydd—yr un person y rhoddwyd llwyfan llythrennol iddo yn y Senedd fwy nag unwaith yn y fan yma, ac mae yn y penawdau eto heddiw. Yn wir, mae Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain wedi dweud hyn:
'Mae Iddewon a gwrthsemitiaid fel ei gilydd yn debygol o ddod i'r casgliad fod Plaid yn barod i oddef gwrthsemitiaeth yn ei rhengoedd'.
Felly, mae'n amlwg bod angen rhai ymrwymiadau pendant arnom i wrth-hiliaeth yn y fan hon yn awr.
A gadewch i mi dynnu sylw hefyd at y defnydd o'r ymadrodd 'BAME'. Rwyf i o'r farn ei fod yn annynol ac yn ddiog iawn. Mae pobl yn unigolion, ac mae byd o wahaniaeth rhwng rhywun o dras Japaneaidd a rhywun o'r gymuned Sipsiwn/Teithwyr. Fodd bynnag, er mwyn bod yn gryno, fe'i defnyddiaf ar gyfer y ddadl heddiw.
Rwyf wedi darllen yr adroddiad a luniwyd gan grŵp cynghori COVID-19 gyda rhywfaint o bryder. Rwy'n poeni'n fawr iawn am y cyfeiriad bod marwolaethau mamau sy'n fenywod du bum gwaith yn fwy na menywod gwyn. Ac mae hyn yn wybodaeth gyffredin—unwaith eto, cylch gwaith Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Os yw hwn bellach yn ystadegyn a dderbynnir, am ba hyd y bu hyn yn wir a beth ydych chi'n ei wneud yn ei gylch?
Yr adroddiad yw'r adroddiad ac rwy'n derbyn ei ganfyddiadau ac yn deall pam mae'r cwmpas wedi ehangu i ystyried materion economaidd-gymdeithasol. A bod yn gwbl onest, gallai rhai o'r canfyddiadau hynny am unigrwydd, diffyg cyfle, mynediad at dai ac yn y blaen gyfeirio at y Gymru wledig neu at y bobl sy'n byw yn y Cymoedd, felly nid wyf i'n credu bod llawer o'r materion hyn wedi'u cyfyngu i'r gymuned BAME yn unig. Nid oeddem yn gwybod beth yr oeddem ni'n ei wynebu pan ddechreuodd y pandemig. Rydym ni'n gwybod mwy nawr a gallwn ni ddefnyddio'r corff cynyddol hwn o wybodaeth a phrofiad i lywio gwell penderfyniadau wrth symud ymlaen. Rwy'n croesawu yn arbennig yr argymhellion a wnaed gan yr adroddiad, yn enwedig y broses asesu risg ar gyfer yr holl staff.
Fe'm denwyd at agweddau ar y gwelliannau a gyflwynwyd gan Neil Hamilton a Neil McEvoy, a hoffwn gael esboniad ynghylch pam y cawsant eu dad-ddethol. Fy argraff i o'r DU yn ei chyfanrwydd yw ei bod yn ei hanfod yn wlad oddefgar a pharchus. Os nad yw hi, pam y byddai cynifer o bobl yn ymdrechu mor galed i ddod yma a gwneud eu bywydau yma? Mewn gwirionedd, cymerodd beth amser i mi gael fy derbyn yn fy nghymuned wledig fy hun yng Nghymru, gan fy mod i yn Saesnes, a dim ond drwy fy mhrofiad o wyna a gweithio ar ffermydd y cefais fy nerbyn gan bobl yma yng Nghymru ac ennill eu parch. Ac rwy'n cytuno'n llwyr y dylid gwneud iawn am gamweddau llawer o Lywodraethau dros ddegawdau lawer ar unwaith, mewn cysylltiad â Windrush.
Er fy mod i'n sylweddoli bod yr adroddiad hwn wedi ei ysgrifennu ar adeg benodol, mae'n destun gofid mawr i mi ei fod yn cyfeirio at farwolaeth troseddwr rheolaidd ar ochr arall y byd. Fel y gwyddom ni yn awr, cafodd hyn ei gymryd gan grŵp Marcsaidd y mae ei aelodau yn dymuno datgymalu'r wladwriaeth, yr heddlu a'r teulu. Ac rwy'n amau y byddai unrhyw un o'r nodau hyn yn cynorthwyo unrhyw un ohonom ni, heb sôn am aelodau o gymunedau BAME.
Felly, i gloi, ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r ymrwymiad i fynd i'r afael â hiliaeth o bob math ac anghydraddoldebau o bob math hefyd. Nid wyf i'n credu bod angen i chi wneud datganiad arbennig na chymeradwyo cyfres arbennig o addewidion a wnaed amser maith yn ôl, er mwyn gwneud hyn, ond rwyf i o'r farn bod angen i rai yn y Siambr hon edrych yn ofalus iawn arnyn nhw eu hunain cyn disgwyl i eraill fyw y gwerthoedd hyn. Diolch.
Yn gynnar yn y pandemig, daeth yn eithaf amlwg bod cymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu heffeithio'n arbennig o wael. Ac ar y pryd, yn lleol, roedd gennym rai problemau yn ein cymunedau, lle'r oedd llawer iawn o bryder a phoeni, yn ddealladwy. Yna fe wnaethom ni drefnu cyfarfodydd gyda'r bwrdd iechyd lleol, a oedd yn ddefnyddiol ac yn gynhyrchiol iawn, ac yna, wrth gwrs, roedd Llywodraeth Cymru yn gyflym iawn i weithredu.
Hoffwn dalu teyrnged i Jane a'r Prif Weinidog, a'r Llywodraeth gyfan, am sefydlu'r gweithgor a ystyriodd y materion hynny ac, yn wir, a gynhyrchodd becyn cymorth ar gyfer asesu risg i weithwyr rheng flaen ac eraill yn y cymunedau hynny o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, oherwydd roedd hynny yn bwysig iawn. Aeth y grŵp hwnnw ymlaen wedyn i wneud gwaith ehangach ar yr economi ac amgylchiadau cymdeithasol a chynhyrchu argymhellion, sy'n bwysig iawn.
Fe wnaeth y pwyllgor yr wyf i'n gadeirydd arno hefyd, Llywydd, rywfaint o waith a wnaeth ganfyddiadau tebyg. Ac rwy'n credu mai'r hyn a ddarganfuom ni, mewn gwirionedd, oedd bod y ffactorau yr oeddem ni'n gwybod amdanyn nhw ers amser maith o ran y gwahaniaethu a'r anfantais y mae ein lleiafrifoedd ethnig yn ei wynebu yn amlygu eu hunain o ran COVID: problemau yn ymwneud â swyddi o ansawdd gwael, diogelwch annigonol yn y gwaith, gwaith ansicr a chyflog isel, tai gorlawn ac o ansawdd gwael, ac, wrth gwrs, y swyddi rheng flaen yr oedd pobl o'n cymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn eu gwneud, weithiau, yn anffodus, gyda dealltwriaeth annigonol o ba mor agored i niwed yr oedden nhw ac nad oedd digon o ddiogelwch.
Felly, gyda'r gyfres honno o broblemau—y problemau hirsefydlog, ond yr argyfwng a'r sefyllfa wirioneddol frys ynghylch COVID—roedd yn gwbl angenrheidiol gweithredu'n gyflym iawn yn genedlaethol yng Nghymru ac yn lleol, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru a'n hawdurdod lleol yng Nghasnewydd, ac rwy'n siŵr bod eraill ledled Cymru, bod camau wedi'u cymryd yn gyflym ac yn effeithiol. Rwy'n credu mai ein her ni yn awr yw adeiladu ar y camau gweithredu tymor byr hynny a'r argymhellion sydd wedi eu cyflwyno a sicrhau ein bod yn effeithiol yn y tymor canolig a'r tymor hwy hefyd. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn ystyried rhai o'i strategaethau: mae yna ddiweddariad tymor byr ar y strategaeth gydlyniant a'r fframwaith mynd i'r afael â throseddau casineb a hefyd ymrwymiad i strategaeth integreiddio tymor hwy, ac fe wyddom am y cynllun gweithredu a'r strategaeth cydraddoldeb hiliol. Felly, mae llawer o bethau yn digwydd.
Rwy'n credu, yng ngoleuni hynny i gyd, ein bod yn myfyrio hefyd ar yr hyn a ddywedwyd droeon gan ein cymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig—y bu llawer o waith, llawer o argymhellion, llawer o adroddiadau a strategaethau dros gyfnod o flynyddoedd, ond, yn amlwg, o gofio bod y problemau sefydledig hyn gennym ni o hyd, ni fu digon o gamau effeithiol gwirioneddol, ar lawr gwlad i ymdrin â'r materion hyn. Ac rwy'n credu, yn aml iawn, ei fod yn dod i'r amlwg yn gryf iawn o'r cymunedau hyn eu bod, yn ddealladwy ac yn briodol, o'r farn ei bod yn bryd i gymryd camau effeithiol ar y cyd i ymdrin â'r problemau hirsefydlog hyn. Tynnwyd sylw at y broblem cymaint o weithiau ac eto, i raddau helaeth iawn, maen nhw'n dal i fod gyda ni. Felly, pan fyddan nhw'n gwneud yr erfyniadau hynny, rwy'n credu, yn amlwg, bod yn rhaid i ni wrando ac mae'n rhaid i ni weithredu yn fwy effeithiol fyth.
Rwy'n gwybod ei bod wedi bod yn dda iawn yn lleol yng Nghasnewydd i weld gweithredwyr ifanc ac eraill yn dod i'r amlwg. Cawsom orymdaith effeithiol iawn gan Mae Bywydau Du o Bwys drwy Gasnewydd, a oedd yn parchu ymbellhau cymdeithasol, ac a oedd wedi'i threfnu yn gyfrifol iawn ac yn effeithiol iawn o ran y negeseuon a gafodd eu cyfleu. Rydym ni wedi gweld cynghorwyr Asiaidd lleol yn cymryd rhan yng ngweithgor Llywodraeth Cymru ac yn bwydo gwybodaeth yn ôl yn lleol, ac mae hynny wedi bod yn effeithiol iawn hefyd. Rydym ni'n gweld llawer o gynnydd, ond rwy'n credu ei bod yn gwbl glir, nawr, onid ydyw, yn sgil amlygu'r sefyllfa agored i niwed sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig hwn, bod y problemau hyn mor hwyr yn cael sylw, o ran ymdrin â hwy yn effeithiol, fel na ellir cael rhagor o oedi. Mae angen camau effeithiol ac eang arnom ar y gwahanol argymhellion a gyflwynwyd, ac mae eu hangen arnom yn gyflym iawn.
Felly, rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi deall y brys hwnnw, wedi cael grwpiau at ei gilydd, wedi gwneud gwaith pwysig, ac mae bellach wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu tymor byr, tymor canolig a hirdymor ar y problemau hyn y mae gan, yn fy marn i, ledled Cymru, gymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig bob hawl i ddweud bod yn rhaid mynd i'r afael â nhw yn effeithiol unwaith ac am byth.
Rwyf bellach wedi galw ar gynrychiolwyr o bob grŵp gwleidyddol i siarad, ac rwy'n gobeithio gallu galw ar bob Aelod sydd wedi dweud eu bod eisiau siarad yn ystod y ddadl, ond mae un Aelod wedi cerdded i mewn i'r Siambr—ac mae hyn at ddibenion y rhai hynny ohonoch chi sydd ar Zoom—ac wedi gagio ei hun, ac mae'n dal prop i fyny ac wedi bod yn tynnu lluniau ohono'i hun yn ystod y ddadl ac yn rhoi'r ffotograffau hynny ar Twitter. Mae hynny yn torri wn i ddim faint o Reolau Sefydlog. Ond fe wnaf roi hynny i gyd o'r neilltu, a byddwch yn cael eich galw i siarad, Neil McEvoy. Ond, i wneud hynny, bydd angen i chi ddad-gagio eich hun a rhoi eich prop i lawr. Os gwnewch chi hynny yn yr ychydig funudau nesaf, cewch eich galw yn ddiweddarach yn y ddadl. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Dwi am ganolbwyntio ar un agwedd benodol ar y cynnig sy'n ymwneud â'r is-grwp economaidd cymdeithasol a sefydlwyd gan y Prif Weinidog ar frig y pandemig i edrych ar effeithiau anghymesur y pandemig ar bobl ddu a phobl o liw. Mae hwn yn adroddiad trylwyr a chynhwysfawr ac yn cynnig y ffordd ymlaen ar gyfer gweithredu, a dyna sydd ei angen: gweithredu. Ac mae'r cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw yn rhwymo Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion hynny'n llawn a gweithredu ar fyrder i'w rhoi ar waith.
Dwi'n croesawu adroddiad yr is-grŵp yma fel ychwanegiad at y dystiolaeth a'r consensws cynyddol o'r angen i wneud hanes pobl ddu a phobl o liw yn orfodol fel rhan greiddiol o hanes Cymru yn ein hysgolion ni. Mae gwreiddio gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm yn un cam bychan ond sylweddol yn y darlun mawr tuag at waredu hiliaeth strwythurol a systemig yng Nghymru, ac mae yna gyfle gan y ddeddfwrfa yma rŵan, drwy Fil y cwricwlwm, i sicrhau bod hynny yn cael ei warantu mewn cyfraith.
Dwi wedi sôn o'r blaen yn y Siambr yma am sylwadau y Barnwr Ray Singh, un arall sydd wedi datgan nad yw trefn wirfoddol o addysgu am y materion yma yn gweithio ac, o ganlyniad, bod hanes pobl ddu a phobl o liw yn absennol bron o wersi ysgol. Ond, er gwaethaf argymhelliad clir y dylid gweithredu yn ddi-oed i gynnwys hanes ac addysg BAME yng nghwricwlwm cenedlaethol 2022, mae ymateb y Llywodraeth yn bryderus. Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw'n cydnabod bod datblygu rhai agweddau ar y cwricwlwm newydd yn fater sensitif, ac wedyn yn cyfeirio at weithgor arall y mae hi wedi'i sefydlu, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams, i ganolbwyntio ar ddeunyddiau dysgu yn bennaf.
Rŵan, dwi ddim yn gwrthwynebu, wrth gwrs, sefydlu gweithgor Charlotte Williams—i'r gwrthwyneb—ond mae'n fy mhryderu fi bod yna lastwreiddia i'w weld yn ymateb y Llywodraeth i argymhelliad clir yr is-grŵp. Dydy'r gweithgor diweddaraf o dan gadeiryddiaeth Charlotte Williams, hyd y gwelaf i, ddim wedi cael cais i ystyried gwneud hanes ac addysg BAME yn orfodol fel rhan o'r cwricwlwm newydd drwy'r Bil, a does yna ddim disgwyl i'r gweithgor yma adrodd tan y gwanwyn, ac erbyn hynny mae'n bur debygol y bydd Bil y cwricwlwm yn Ddeddf. Felly, mi fyddwn i'n hoffi cael addewid gan y Dirprwy Weinidog heddiw na fydd cylch gorchwyl ac amserlen y gweithgor yma o dan gadeiryddiaeth Charlotte Williams yn llesteirio ar y posibilrwydd y bydd y Llywodraeth yn derbyn gwelliant yng Nghyfnod 2 a 3 y Bil cwricwlwm ac asesu i wneud hanes pobl ddu a phobl o liw yn elfen fandadol.
Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gadewch i mi weld a allaf i wella'r sain. Mae'n ddrwg gen i am hynna. Diolch yn fawr am fy ngalw. Fe wnaeth adroddiad Ogbonna argraff fawr arnaf i ac yn enwedig wrth amlygu'r anawsterau sydd gan geiswyr lloches a ffoaduriaid o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl. Mae hwn yn fater pwysig iawn. Rai blynyddoedd yn ôl, fe ddes i'n ffrindiau gyda bachgen a oedd yn geisiwr lloches a oedd wedi gweld llofruddiaeth ei dad gan wrthwynebwyr gwleidyddol yn y wlad yr oedd yn dianc ohoni, ac roedd ei fam yn aml yn gofyn yn yr ysgol iddo gael cwnsela a chael cymorth. Ond, wrth iddo symud ymlaen drwy'r ysgol a thrwy'r coleg, ni lwyddodd erioed i gael y cwnsela yr oedd ei angen er mwyn goresgyn y profiad niweidiol yn ystod plentyndod yr oedd wedi'i ddioddef. Yn anffodus, mae ef erbyn hyn, yn drasig, yn gaeth i gyffuriau ac wedi cael ei daflu allan gan ei deulu. Mae bellach yn ddigartref, ac mae'n mynd i gostio llawer iawn mwy o arian i unioni pethau, os bydd yn llwyddo i oroesi. Mae'n stori drist iawn, ac rwy'n siŵr nad yw fy ffrind i ar ei ben ei hun yn hyn i gyd. Mae'n tynnu sylw mewn gwirioneddol at ba mor bwysig yw hi bod athrawon yn deall pan fydd plant yn dioddef a'r angen i'w cyfeirio at wasanaethau lle gallan nhw helpu i wella'r clwyfau y mae plant yn aml yn eu cario gyda nhw.
Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig y tynnir sylw ato yn yr adroddiad yw bod y cynnydd y mae plant BAME yn ei wneud—mae gan ddisgyblion du gyrhaeddiad is na disgyblion gwyn mewn addysg blynyddoedd cynnar, ond erbyn diwedd cyfnod allweddol 4, pan eu bod yn sefyll eu harholiadau TGAU, maen nhw'n perfformio ychydig yn well na disgyblion gwyn, sy'n glod i'w teuluoedd ac i'w hathrawon. Mae angen i ni wneud mwy, serch hynny, oherwydd rydym ni'n gwybod bod gan y gymuned Sipsiwn a Theithwyr lefelau cyrhaeddiad echrydus o isel o'i gymharu â grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig eraill, ac o drafodaethau a gawsom yn y Senedd heb fod mor bell yn ôl â hynny, rydym yn gwybod mai dim ond hanner y safleoedd i deithwyr yng Nghymru sydd ag unrhyw fath o gysylltiad â'r rhyngrwyd, ac mae hynny'n golygu ei bod yn anodd iawn i ddisgyblion gael gafael ar ddysgu ar-lein os bydd cyfyngiadau symud eto, ond hefyd i bobl eraill sy'n byw yno gael gafael ar yr holl wasanaethau cyhoeddus eraill sydd bellach ar gael yn haws ar-lein.
Rwy'n credu bod yn rhaid i mi dynnu sylw at y ffaith bod pandemig y COVID yn effeithio'n anghymesur ar lawer o'm hetholwyr BAME oherwydd eu bod yn gweithio mewn rhannau o'r economi lle nad oes ganddyn nhw hawl i absenoldeb salwch a'u bod yn bobl, er enghraifft, sy'n gweithio ym maes lletygarwch ac fel gyrwyr tacsi, sy'n cael eu heffeithio yn ddifrifol iawn gan nad oes ganddyn nhw hawl i unrhyw gymorth, ac fel gweithwyr llawrydd, mae'n anodd iawn iddyn nhw gael cefnogaeth gyhoeddus.
Rwyf i eisiau cydnabod trafferthion ofnadwy pobl sy'n dod o dramor ac sy'n cael trwyddedau gwaith i ddod yma, a'r gwahaniaethu a'r caledi economaidd y maen nhw'n ei ddioddef er mwyn aros yma a'r gost enfawr o adnewyddu eu trwyddedau gwaith. Rwy'n credu bod hwn yn un o'r pethau y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef a ninnau eisiau dod yn genedl noddfa. Mae cynifer o bethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud o hyd. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod llygredd aer yn lladd a bod y cymunedau BAME yn fy etholaeth i yn byw yn anghymesur yn yr ardaloedd lle mae'r llygredd aer uchaf. Yn yr un modd, tai: mae'n amlwg eu bod nhw'n aml mewn cartrefi gwael.
Felly, rwyf i eisiau deall, o'r argymhellion—rwy'n credu bod yna 25—yn adroddiad Ogbonna yr ystyriwyd eu bod yn rhai yr oedden nhw eisiau mynd i'r afael â nhw ar unwaith, sut ydym ni'n mynd i sicrhau ein bod yn mynd i fwrw ymlaen â'r rhain i gyd pan ein bod ni'n cael trafferthion oherwydd y pandemig? Yn amlwg, y rhai y mae angen iddyn nhw fod â'r brif flaenoriaeth yw'r rhai sy'n effeithio ar y nifer anghymesur o bobl sydd wedi bod yn ddifrifol wael gyda COVID, neu mewn llawer o achosion sydd wedi marw, ond mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni fynd i'r afael ag ef, yn enwedig drwy ddiwygio'r cwricwlwm. Mae angen i ni ddysgu am ein gorffennol ein hunain a'r pethau ofnadwy a wnaethom ni i bobl mewn gwledydd eraill a rhai o'r anghyfiawnderau nad ydym ni wedi eu hunioni o hyd o ganlyniad i hynny.
Neil Hamilton. Mae'n rhaid i chi ddad-dawelu eich hun, Neil Hamilton. Dyna chi.
Mae'n wir ddrwg gennyf i.
Popeth yn iawn. Ewch ymlaen.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch yn fawr am fy ngalw i. Mae ychydig o bethau, mi gredaf, yn dangos y gagendor rhwng obsesiynau'r dosbarth gwleidyddol ar y naill law a gwir bryderon pobl gyffredin ar y llaw arall yn eu bywydau bob dydd. Mae'r datgysylltiad hwn wedi tyfu, mi gredaf, yn ystod fy oes i. Mae'r cyfeiriadau at hiliaeth systemig a strwythurol yng Nghymru yn y cynnig hwn ac yn rhai o'r areithiau a glywsom heddiw yn fy mhryderu'n fawr. Rwy'n credu bod hwn yn bwrw sen ac yn sarhad ofnadwy ar ein hetholwyr ein hunain.
Adroddodd Laura Anne Jones stori hyfryd am ei mab 10 oed: nid yw e'n adnabod unrhyw bobl a gredai y dylid meddwl llai o bobl oherwydd lliw eu hwyneb. Wel, rwy'n credu pe byddai hi wedi gofyn yr un cwestiwn i rieni eraill, am farn eu ffrindiau, byddai hi wedi cael yr un ateb yn union. Nid wyf yn adnabod neb sy'n meddwl llai o rywun oherwydd lliw ei groen neu ei chroen, ac rwy'n credu mai dyna fyddai profiad pob un ohonom ni. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hyn, yn fy marn i, fod hiliaeth systemig neu hiliaeth sefydliadol yng Nghymru, neu yn wir yn y Deyrnas Unedig.
Roedd hynny'n wir ar un adeg wrth gwrs: pan gefais i fy ngeni ym 1949, fe'm dygwyd i'r byd gan yr unig feddyg du yng Nghymru, mae'n debyg. Roedd ef o Nigeria ac fe'm ganwyd i mewn pentref glofaol yn nyffryn Sirhywi o'r enw Trelyn, ac fe helpodd fy nhad ef i oresgyn rhagfarn hiliol ac agweddau negyddol y cyfnod ac adeiladu practis. Roedd yn ei chael hi'n anodd iawn i ddechrau, felly neilltuodd amser i ofalu am fy mam yn ystod sawl beichiogrwydd anodd yn y blynyddoedd i ddod. Ac mae gwelliant Neil McEvoy sy'n cyfeirio at y genhedlaeth Windrush, yn fy marn i, yn ingol iawn hefyd, a phe byddai wedi cael ei ddewis, fe fyddwn i'n sicr wedi pleidleisio drosto. Roedd hiliaeth wirioneddol yn y 1940au a'r 1950au, ac fel y dywedodd fy ngwelliant arfaethedig, yn ystod y pum degawd diwethaf hefyd, rydym ni wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran newid agweddau cymdeithasol ac felly gwella cyfleoedd bywyd pobl o wahanol grwpiau ethnig.
Mae'r diwydiant cysylltiadau hiliol, wrth gwrs, yn gweithio'n galed iawn i greu drwgdeimlad, oherwydd bod hynny'n creu swyddi iddyn nhw ac yn eu cadw mewn swyddi. Maen nhw'n chwilio am falais, felly byddan nhw'n dod o hyd i falais. Rwy'n gweld y cyfeiriadau at Mae Bywydau Du o Bwys yn eithaf rhyfeddol, oherwydd nid rhyw fath o sefydliad cymdeithasol diniwed yw hwn; mae hwn yn sefydliad propaganda gwleidyddol yr asgell chwith eithafol sy'n credu mewn dadariannu'r heddlu a rhoi diwedd ar gyfalafiaeth. Mae wedi ymrwymo'n benodol i hynny. Mae ei sylfaenydd, Patrisse Cullors, sydd yn Americanwr, yn credu y dylem ni ddileu'r heddlu, dileu carchardai a dileu'r fyddin. Ac wrth gwrs, arweiniodd protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys at rai o'r golygfeydd mwyaf gwarthus o drais ac anhrefn yr ydym wedi eu gweld yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda'r Senotaff yn Llundain yn cael ei difwyno a chofebau rhyfel eraill mewn rhannau eraill o'r wlad, a cherfluniau i bobl enwog Prydain yn cael eu tynnu i lawr.
Wrth gwrs, nid yw'r hyn sy'n cael ei ystyried yn hiliaeth heddiw mewn hanes yn ystyried agweddau'r cyfnod o gwbl: mae Mr Gladstone bellach yn hiliol, wrth gwrs, hefyd. Fe wnaeth ei deulu arian o'r fasnach mewn caethweision, ond neilltuodd ei fywyd gwleidyddol, wrth gwrs, i ddileu caethwasiaeth a gwella cyflwr pobl gyffredin yn y wlad hon. Mae'r syniad y dylid ei ystyried yn hiliol ac, felly, y dylid cael gwared ar gerfluniau iddo yn hurt. Wrth gwrs, mae yna athro o Gaergrawnt drydarodd, yn sgil Mae Bywydau Du o Bwys, nad yw bywydau gwyn yn bwysig, ond wrth gwrs, cafodd hi ei dyrchafu'n athro llawn yng Nghaergrawnt, felly mae'r math hwnnw o hiliaeth i'r gwrthwyneb yn cael ei wobrwyo, tra bod hiliaeth ddychmygol ein ffigyrau hanesyddol yn destun casineb ymhlith y rhai sy'n dilyn y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys.
Felly, mae tactegau ymosodol Mae Bywydau Du o Bwys, yn fy marn i, yn niweidiol iawn i gysylltiadau hiliol. Mae'n creu drwgdeimlad ac mae pobl gyffredin yn gwybod beth sy'n mynd ymlaen yn y fan yma. Dywedir wrth bobl nad oes ganddyn nhw fawr ddim mewn bywyd bod ganddyn nhw freintiau pobl wyn. Wel, dydyn nhw ddim yn cydnabod braint yn y bywydau sydd ganddyn nhw mewn lleoedd fel Blaenau Gwent, er enghraifft, un o'r trefi tlotaf yng ngorllewin Ewrop. Mae gan Llafur a Phlaid Cymry rhyngddynt bellach obsesiwn llwyr â gwleidyddiaeth hunaniaeth, sy'n troi grwpiau yn erbyn ei gilydd yn seiliedig ar hil neu ryw neu rywioldeb. Mae Llafur, yn arbennig, bellach yn garcharor meddylfryd amlddiwylliannol metropolitanaidd, a dyna pam, wrth gwrs, y gwnaethon nhw golli yr holl seddi hynny mewn etholaethau 'wal goch' fel y'u gelwir yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Ac rwy'n rhyfeddu at y brwdfrydedd a fynegwyd gan y Blaid Geidwadol dros y cynnig hwn a'r agweddau sydd y tu ôl iddo. Nid wyf yn gwybod beth yw barn yr aelodau Ceidwadol cyffredin am yr ymagwedd honno; dydw i ddim yn meddwl y byddai'n gwneud argraff fawr arnyn nhw.
Nid yw'r mwyafrif llethol o bobl yn y wlad hon yn meddwl mewn termau hiliol ac maen nhw'n barnu pobl yn ôl eu cymeriad. Mae'r DU mewn gwirionedd yn un o'r gwledydd mwyaf goddefgar yn y byd, sy'n credu yn rheolaeth y gyfraith, rhyddid barn a democratiaeth. Ond mae hiliaeth yn rhemp mewn sawl rhan o Affrica ac Asia. Dim ond enghraifft o ragrith a dangos arwyddion o rinweddau gan lawer o'i lofnodwyr yw'r confensiwn y Cenhedloedd Unedig hwn a grybwyllir yn y cynnig heddiw. Mae Tsieina, Twrci a Brasil ar y pwyllgor monitro sy'n edrych ar y ffordd y cedwir at y confensiwn hwn. Wel, edrychwch ar y ffordd y mae Llywodraeth Tsieina yn trin yr Uighurs, neu'r ffordd y mae Llywodraeth Twrci yn trin y Cwrdiaid, neu agwedd Brasil tuag at bobloedd cynhenid yr Amazon.
Mae eich amser ar ben bellach, Neil Hamilton, felly os gwnewch chi ddod â'ch cyfraniad i ben.
Iawn. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Felly, fy marn gyffredinol i yw, er bod hiliaeth, wrth gwrs, yn ddrwg ac mae angen ei gwrthwynebu, a dylem i gyd weithio tuag at ei lleihau, ac yn y pen draw, o bosibl, ei dileu, ni chyflawnir hyn drwy'r math o ddadl yr ydym ni'n ei chael heddiw.
Rwyf eisiau datgysylltu fy hun oddi wrth lawer iawn o'r hyn a ddywedwyd o'r blaen. Rwy'n mynd i groesawu'r ddadl hon, yn enwedig wrth i ni ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon a chydnabod ei fod yn rhan annatod o hanes pob un ohonom yn y fan yma. Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn rhoi cyfle i ni ddathlu'r cyflawniadau a'r cyfraniadau a wnaed gan unigolion sydd â threftadaeth Garibïaidd Affricanaidd ac Affricanaidd. Yng Nghymru, mae'n rhoi cyfle i ni feddwl am y rhan y mae pobl dduon wedi ei chwarae wrth lunio ein hanes a'n diwylliant. Mae Comisiwn y Senedd yn falch mai'r gweithgareddau eleni, i nodi'r mudiad pwysig hwn, yw'r rhai mwyaf uchelgeisiol erioed. Fe'u lansiwyd yr wythnos diwethaf drwy ddarlith gan yr academydd Abu-Bakr Madden Al-Shabazz. Byddwn yn edrych ar sut y mae'r genhedlaeth Windrush wedi llunio ein dyfodol ni i gyd yma yng Nghymru.
Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod y negeseuon pwysig o gydraddoldeb, a gofiwn yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, yn dod yn rhan o wead ein bywyd bob dydd, bob un diwrnod o'r flwyddyn. Fel Comisiwn, rydym ni'n falch o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer cydweithwyr duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond gwyddom fod gennym ffordd bell i fynd. Er enghraifft, y llynedd, roedd y gwahaniaeth mewn cyflog rhwng staff BAME a staff nad ydynt yn staff BAME bron yn 40 y cant. Cafodd hynny ei haneru bron eleni, ond mae'r cwbl yn dal yn ormod o lawer. Rydym yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Mae'r gwahaniaeth mewn cyflog o ganlyniad i ddiffyg staff uwch o fewn y Comisiwn ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn cymryd camau i fynd i'r afael ag ef. Ein nod yw cynyddu nifer y ceisiadau allanol gan ymgeiswyr o gefndiroedd BAME dros y tair blynedd nesaf. Rydym eisoes wedi cymryd camau i gynyddu nifer y prentisiaid yr ydym yn eu derbyn o gefndir BAME, drwy weithio gyda sefydliadau ar waith allgymorth, gydag ysgolion, cymunedau a rhwydweithiau perthnasol. Enwyd un o'r ymgeiswyr llwyddiannus y llynedd gan y Gynghrair Sgiliau Ansawdd yn brentis y flwyddyn, ac ers hynny mae wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr prentisiaid y gwasanaeth cyhoeddus yng Ngwobrau Prentisiaeth BAME y DU.
Fel Aelodau o'r Senedd, gwyddom fod cefnogaeth gytûn ar y cyd i egwyddorion Y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol, sy'n golygu bod yn rhaid i ni gymryd camau pellach wrth i ni ddeddfu a chraffu ar ran pobl Cymru. Mae'r Comisiwn yn ymgymryd â'r cais i hwyluso'r gwaith o ddatblygu datganiad trawsbleidiol i Gymru, ar ran y Senedd, i adlewyrchu'r angen i wneud i ymrwymiad y Senedd weithio'n effeithiol a mynd i'r afael â phob math o wahaniaethu hiliol a chydraddoldeb yma yng Nghymru. Mae'r Comisiwn wrthi'n ymgynghori â'r grŵp trawsbleidiol ar gydraddoldeb hiliol ar hyn o bryd. Nodaf hefyd waith is-grŵp economaidd-gymdeithasol COVID-19 BAME, a chefnogaf y cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod argymhellion adroddiad yr Athro Ogbonna yn cael eu gweithredu. Fel Comisiwn y Senedd, rydym yn cydnabod y rhan ychwanegol a chwaraewn yn y ffordd y caiff ein Senedd ei chefnogi, er enghraifft, drwy ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant i Aelodau. Gyda chychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus, byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhoi i Aelodau i gefnogi'r gwaith o graffu ar y cyfrifoldeb hwn.
Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i wahodd pawb sydd yma heddiw i ymuno â mi i gydnabod gwaith ysbrydoledig Patti Flynn o Tiger Bay, a fu farw y mis diwethaf gwaetha'r modd. Patti oedd un o sefydlwyr y mudiad Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru ac, yn arwyddocaol ar gyfer y ddadl hon, caiff ei chofio fel eiriolwr ac ymgyrchydd dros gynnwys hanes du mewn addysg. Dylai'r rhai sy'n dymuno gwybod mwy am hanes yr ardal lle saif adeilad ein Senedd edrych yn yr oriel wych o ddelweddau a geir ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol adeilad y Pierhead. Maen nhw wedi gweithio gyda haneswyr lleol Butetown i adrodd stori go iawn Tiger Bay. Diolch.
Diolch, Gweinidog, ac i Lywodraeth Cymru, am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon i Siambr y Senedd. Llywydd, mae bywydau du o bwys. Bydd 2020 yn flwyddyn a fydd wedi treiddio i'r ymwybyddiaeth gyfunol gyda phandemig COVID-19; fodd bynnag, gallwn ni yma yn y lle hwn sicrhau bod 2020 hefyd yn cael ei chofio fel y flwyddyn pryd y gwnaethom ddweud gyda'n gilydd, pob un ohonom, mai digon yw digon o ran hiliaeth. Mae bywydau du o bwys gwirioneddol, ond mae geiriau'n rhad ac nid felly gweithredoedd.
Yng nghymunedau Islwyn a ledled Cymru rydym wedi gweld y pryderon yn amlygu bod grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn dal ac yn marw o COVID-19 yn anghymesur. Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi arwain yn bendant wrth ffurfio ei grŵp cynghori COVID-19 Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae adroddiad yr is-grŵp economaidd-gymdeithasol, a gadeirir gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, yn gorff pwysig o waith sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n canolbwyntio ar y ffaith fod yr ystadegau sydd ar gael yn awgrymu bod grwpiau BAME Prydeinig hyd at ddwywaith yn fwy tebygol o farw o'r clefyd na'u cymheiriaid gwyn. Mae'n iawn i ni wneud hyn fel gwlad a'n bod yn derbyn y ffeithiau a ganfyddwn.
Nid yw canfyddiad yr adroddiad bod anghydraddoldebau hiliol yn bodoli yng Nghymru yn fy synnu i na llawer arall yn y lle hwn, ond mae'n ystyriaeth ddifrifol i bawb, yn enwedig y rhai sy'n gwadu hynny, fel yr ydym newydd ei glywed, yn y carfanau o weddillion Brexit ac UKIP gyferbyn. Ni allwn ac ni allaf gredu eu bod yn gwadu'r ffeithiau, y dystiolaeth, ac rwyf mewn gwirionedd wedi fy arswydo gan yr iaith a ddefnyddir a'r farn fyd-eang a ddangosir yn falch yn y gwelliannau i'r ddadl hon. Fy nghyngor i yw i bobl sy'n gwylio'r ddadl hon ddarllen y gwelliannau a nodwyd. Ond, os ydych chi'n gwadu newid yn yr hinsawdd ac os ydych chi'n gwadu tystiolaeth iechyd a gwyddoniaeth arbenigol, gwn y byddech yn gwadu hiliaeth yng Nghymru.
Yn 2020 yng Nghymru, ein gwlad falch, mae eu proffil hiliol yn parhau i effeithio ar brofiadau ein dinasyddion. Mae hynny'n ffaith. Mae'n rhaid i ni wneud yn well, a byddwn yn gwneud yn well. Sylwaf fod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2018, 'A yw Cymru'n Decach?', wedi tynnu sylw at y ffaith fod anghydraddoldeb hiliol yn parhau yng Nghymru, gyda throseddau casineb hiliol yn dal yn rhy gyffredin. Mewn addysg, mae bylchau cyrhaeddiad, mae'r adroddiad yn nodi, hefyd yn amlwg yn anffodus. Mae grwpiau BAME hefyd yn cael eu tangynrychioli mewn prentisiaethau. A'r cwestiwn yw, pam?
Felly, cymeradwyaf ymchwiliad y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, sydd wedi ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cydraddoldeb hiliol i Gymru. Diolch. Mae arnom ni angen yr atebion hynny. Mae angen yr atebion hynny ar Gymru. Mae'r adroddiad yn argymell, ac rwyf hefyd yn ei groesawu, cynnig Llywodraeth Cymru i gael hyrwyddwr cydraddoldeb hiliol annibynnol i Gymru, creu strategaeth cydraddoldeb hiliol i Gymru, a sefydlu'r uned anghyfartaledd hiliol o fewn Llywodraeth Cymru.
Rwyf wedi ymgyrchu drwy gydol fy oes dros gydraddoldeb hiliol, fel y mae llawer o bobl eraill yn y lle hwn, ac mae'r bygythiadau o farwolaeth yr wyf wedi'u cael gan grwpiau asgell dde eithafol, a'r gamdriniaeth ar y cyfryngau, wedi bod, ar adegau, yn rhan o fywyd. Felly, mae casineb hiliol yn fyw iawn ac wedi'i wreiddio'n ddwfn ac mae'n cael ei feithrin yn weithredol gan grwpiau asgell dde eithafol ledled y DU, Ewrop ac yng Nghymru. Felly, nawr yw'r amser i weithredu.
Ond, wrth i ni nesáu at etholiadau'r Senedd nawr, mae'n bryd i bleidiau gwleidyddol a rhai papurau newydd a chyfryngau eraill y wasg atal iaith hiliol ac ymyrraeth a ddefnyddir wrth ymgyrchu gan y pleidiau, fel y gwelwyd yn ystod ymgyrch Brexit. Pwy all fyth anghofio Nigel Farage yn sefyll o flaen llun du a gwyn o res o ffoaduriaid o'r 1940au?
Felly, dyma'r amser i weithredu, a gwn fod fy mhlaid i a Jane Hutt sy'n arwain y ddadl hon a Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau cydraddoldeb hiliol, Cymru decach, a gwireddu'r geiriau, mae bywydau du o bwys, yn ein gwlad. Nid geiriau yw'r rhain, gweithredoedd yw'r rhain. Diolch, Llywydd.
Cyn i mi alw ar y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl, hoffwn ddweud fy mod i wedi cynnig cyfle i chi, Neil McEvoy, i siarad pe byddech yn tynnu eich gag a rhoi eich prop atgas i lawr. Dewisoch beidio â gwneud hynny, ac felly rwy'n tybio nad ydych chi wedi cytuno i gydymffurfio â'm—[Torri ar draws.]—ddim wedi cytuno i gydymffurfio â'm cais yn gynharach, a'ch bod allan o drefn i wneud hynny. Rwyf bellach wedi penderfynu symud ymlaen at y Dirprwy Weinidog—[Torri ar draws.] Iawn. Siaradwch felly, Neil McEvoy.
Diolch, Llywydd. Rwyf i—
Na, na. Jane Hutt, mae rhywfaint o garedigrwydd wedi dod drosof i ac rwyf wedi cynnig yr hawl i Neil McEvoy siarad, er ei fod wedi torri o leiaf tair Rheol Sefydlog yn ystod y ddadl hon. Ond er budd ewyllys da, gofynnaf i Neil McEvoy wneud ei gyfraniad.
Iawn. Diolch yn fawr. Rwy'n sefyll yma fel yr Aelod etholedig cyntaf erioed a aned yng Nghymru o'r Senedd hon. Mae'n debyg na fyddai llawer o bobl yn gwybod hynny oherwydd nid yw erioed wedi cael ei adrodd. Rwyf i'n byw hiliaeth bob dydd o'm bywyd. Mae llawer ohonom—cymaint ohonom ni yma—yn rhannu profiadau cyffredin, nid yn y Siambr hon, pobl groenliw ledled Cymru.
Cynigiais rai gwelliannau difrifol—gwelliannau cadarnhaol—i geisio symud pethau ymlaen. Derbyniwyd y gwelliannau gan swyddogion ond cawsant eu tynnu'n ôl gan y Llywydd ar y funud olaf un. Felly, maddeuwch i mi yma yn awr am sôn am eironi hyn—ein bod yn cael trafodaeth ar hil a hiliaeth a sut i fynd i'r afael â hynny a gwelliannau'r unig AS croenliw yma a oedd yn gallu cynnig gwelliant wedi'u dileu.
Roedd y gwelliant cyntaf gan Camilla Mngaza. Rwy'n ddiolchgar iawn i Camilla. Cyflwynodd ei merch Siyanda adroddiad am drosedd casineb, ond ni ymchwiliwyd hynny erioed. Yr hyn yr oedd Camilla eisiau oedd gwelliant—diweddariadau i asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb hiliol, yn bennaf er mwyn bod gwneuthurwyr penderfyniadau mwy amrywiol, a byddai'n wych pe byddai gennym wneuthurwyr penderfyniadau mwy amrywiol yn yr adeilad hwn.
Roedd y gwelliant arall yn annog Llywodraeth y DU i ychwanegu modiwl ar hil a dosbarth at ymchwiliad Grenfell. Soniodd gwelliant arall am ddioddefwyr sgandal Windrush sy'n byw yng Nghymru. Effeithiwyd ar dad y bocsiwr chwedlonol Steve Robinson, gan sgandal Windrush. Yr hyn yr oeddem ni eisiau i'r Llywodraeth ei wneud drwy'r gwelliant oedd annog Llywodraeth y DU i gyflymu ei chynnydd o ran iawndal. Yr hyn yr oeddem ni eisiau hefyd oedd adolygiad o weithredu adolygiad Lammy yng ngharchardai Cymru ac yng Nghymru yn y system cyfiawnder troseddol.
Ond heddiw, yn y Senedd hon, os gallaf ei galw'n hynny, yr unig Aelod croenliw sy'n gallu cyflwyno gwelliant, sef fi, tynnwyd fy llais oddi wrthyf. I mi—
Er eglurder, Mr McEvoy, rydych chi yn siarad; nid yw eich llais wedi'i dynnu ymaith. Rwyf wedi caniatáu i chi wneud yr holl bwyntiau hyn yn ystod y ddadl hon, pa un a ddewiswyd gwelliannau—ac er gwybodaeth yr holl Aelodau, ni ddewiswyd yr holl welliannau a gyflwynwyd heddiw, nid yn unig rhai Neil McEvoy ond y rhai a gynigiwyd gan eraill hefyd. Fel y gŵyr y Pwyllgor Busnes ac fel y gŵyr yr Aelodau, rydym mewn cyfnod eithriadol gyda Senedd hybrid, ac rwyf wedi dweud droeon y byddaf yn mynd ati yn rhagweithiol yn awr i geisio dethol neu beidio â dethol gwelliannau ar gyfer cynnal Senedd hybrid yn briodol ynghyd â'i phleidleisio. Mae gennych berffaith hawl i wneud yr holl gyfraniadau sy'n ymwneud â'r gwelliannau hynny, fel yr ydych yn ei wneud, ond yr oedd yn gwbl briodol i mi beidio â dethol unrhyw welliant at ddibenion y ddadl hon. Nid mater o'u cynnwys hwy ydyw; ar gyfer cynnal Senedd hybrid a'i phroses bleidleisio yn briodol ni fydd y gwelliannau hyn heddiw, gwelliannau yn y gorffennol a gwelliannau yn y dyfodol yn cael eu dethol. Mae croeso i chi barhau â'ch sylwadau; mae gennych chi bob hawl i wneud hynny.
Maddeuwch i mi, Llywydd, mae'n rhaid imi anghytuno, oherwydd fy mod yn wleidydd a etholwyd yn ddemocrataidd, ac roeddwn i wedi cyflwyno rhai gwelliannau synhwyrol iawn, cadarnhaol iawn ar gyfer y bleidlais. Rydych wedi gwrthod y cyfle i mi—efallai eich bod chi wedi rhoi fy llais i mi nawr, ond rydych chi wedi gwrthod yr hawl i mi, fy hawl ddemocrataidd, i gyflwyno'r gwelliannau hynny a chael pleidlais arnynt. Ac os ydych chi eisiau fy marn bersonol, barn llawer o bobl, mae hynny yn hiliaeth ar waith a dyna'r—
Mae hon yn ddadl bwysig ar hiliaeth. Rydych chi wedi arfer eich hawl ddemocrataidd fel Aelod i gyflwyno gwelliannau, mae gennyf innau swyddogaeth hefyd yn y Senedd hon fel y Llywydd i ddethol gwelliannau, ac rwyf wedi dewis heddiw i beidio â dethol unrhyw un o'r gwelliannau ar gyfer y ddadl. Roedd rhai yn perthyn i chi ac roedd rhai yn perthyn i Aelod annibynnol arall hefyd. A fyddech chi cystal â dod i ben gyda chynnwys eich dadl.
Diolch. Rwyf am gloi drwy ddweud bod gennym ni broblemau gwirioneddol yn y Senedd hon. Nid wyf i'n cael fy nerbyn. Petawn i'n gweithio yn yr adran ddiogelwch, petawn i'n gweithio yn yr adran lanhau, neu efallai arlwyo, byddwn yn cael fy nerbyn, ond fel y mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd, nid oes llawer o bobl yn yr adeilad hwn yn croesawu dyn brown a chanddo lais a barn. A gofynnaf i bobl ystyried hyn: a oes unrhyw Senedd arall yn y byd lle byddai gwleidydd wedi cael ei ddisgrifio fel rhywogaeth anifail gan swyddog ac yna cael ei orfodi i ymdrin a rhyngweithio â'r swyddog hwnnw?
A byddaf yn gorffen gyda hyn: a oes unrhyw le arall yn y byd lle y byddai'n rhaid cyhuddo person croenliw o rywbeth gerbron pwyllgor heb gael yr hawl i gael unrhyw dystion, gyda thystiolaeth teledu cylch cyfyng yn profi bod datganiadau yn ffug ac eto ni chaniatawyd cyflwyno tystiolaeth teledu cylch cyfyng i brofi dieuogrwydd a gorliwio dybryd? Hon yw'r Senedd yr ydym yn sôn amdani. Dyma'r hiliaeth yr wyf i'n ymdrin â hi yn yr adeilad hwn. Rwy'n credu y byddaf yn gorffen fy sylwadau yn y fan yna. Fe ddywedaf hyn wrthych, rwy'n siarad ar ran llawer o bobl allan yna—llawer iawn o bobl. Diolch yn fawr.
Byddwn yn gofyn y cwestiwn a oes unrhyw Senedd yn y byd a fyddai wedi caniatáu i chi ddweud eich dweud ar ôl eich ymddygiad anhrefnus drwy gydol y ddadl hon. Fe wnaeth y Senedd hon, y Llywydd hwn, ganiatáu i chi siarad a dweud eich dweud heddiw—[Torri ar draws.]
Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl. Mae angen ichi ddad-dawelu eich hun, Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Hon fu'r ddadl fwyaf arwyddocaol ar hil a gynhaliwyd yn y Senedd hon, mewn blwyddyn pan ein bod wedi gweld effaith anghymesur coronafeirws ar bobl groenliw yng Nghymru, y DU a ledled y byd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu mewn modd cadarnhaol ac adeiladol at y ddadl hon. Fel y mae siaradwyr wedi ei ddweud, dyma'r amser i weithredu os ydym ni am alw ein hunain yn gymdeithas drugarog, yn wlad sy'n ceisio bod yn genedl o noddfa, chwarae teg a chydraddoldeb. Mae'n rhaid i ni ddwyn ein holl ymdrechion ynghyd ar draws y Llywodraeth hon yng Nghymru a chyda'n partneriaid i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldebau hiliol sydd wedi eu hamlygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ond yr allwedd i hyn yw cydnabod bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â hiliaeth ynom ni ein hunain, yn ein cymunedau a'n sefydliadau os ydym ni am sefyll a chael ein cyfrif wrth gefnogi'r cynnig hwn. Mewn cyfarfod o Mae Bywydau Du o Bwys, yr oeddwn yn bresennol ynddo yn gynharach eleni, ar ôl lladd George Floyd, tynnais sylw at eiriau'r Farwnes Valerie Amos, a ddywedodd:
Rydym ni wedi cael adroddiad ar ôl adroddiad, sy'n dangos y dyfnder...o hiliaeth ym Mhrydain.... Mae angen i ni roi'r gorau i ysgrifennu adroddiadau a dechrau mynd i'r afael ag ef wrth ei wraidd.
Felly, dyma neges y cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru yr wyf wedi ei gynnig heddiw, ac rwy'n falch ei fod yn cael ei gefnogi gan Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig. Mae'n anfon neges gref i'n cymunedau amrywiol y byddwn yn cymryd cyfrifoldeb, o dan arweiniad y Llywodraeth hon.
Mae'n briodol trafod hyn heddiw, fel y dywedodd Joyce Watson, ein Comisiynydd cydraddoldebau, wrth i ni ddechrau Mis Hanes Pobl Dduon 2020. Yn y lansiad yr wythnos diwethaf, roeddwn yn gallu croesawu'r symud o Fis Hanes Pobl Dduon i Hanes Du Cymru 365, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r tîm yn Race Council Cymru i weithio drwy gydol y flwyddyn a chlywed lleisiau pobl hŷn Windrush, noddwyr Hanes Pobl Dduon Cymru, ac, fel y clywsom yr wythnos diwethaf, yr Athro Charlotte Williams a Gaynor Legall, sy'n arwain y gwaith ar ein cwricwlwm a'n harchwiliad o henebion ac enwau lleoedd. Gallaf gadarnhau y bydd yr Athro Williams yn adrodd ar ei hargymhellion interim yn ddiweddarach eleni.
Ond, fel Joyce, rwyf hefyd eisiau cyflwyno'r cynnig heddiw, a'r ddadl hon, er cof am Patti Flynn, y gantores jazz enwog a fu farw'n ddiweddar ar ôl brwydr yn erbyn canser, ac a oedd yn adnabyddus i lawer ohonom ni yma yn y Senedd. Rhoddwyd teyrngedau yn lansiad Mis Hanes Pobl Dduon yr wythnos diwethaf, ac fe'u harweiniwyd gan Humie Webb. Roedd hi'n cofio bod Patti yn byw i weld ei hymgyrch yn cael ei chyflawni yn ystod ei hoes ar ôl ymdrech hir i gael cydnabyddiaeth, a bod yr ymgyrch honno wedi arwain, fis Tachwedd diwethaf, at ddadorchuddio plac i anrhydeddu milwyr BAME o'r diwedd yng Nghofeb Rhyfel Genedlaethol Cymru, er cof am filwyr BAME a wasanaethodd ac a roddodd eu bywydau mewn gwrthdaro a rhyfel. Collodd Patti ei hun ei thad a dau frawd yn yr ail ryfel byd.
Yr wythnos diwethaf, cymerodd llawer ohonom ni ran hefyd yn lansiad maniffesto Cynghrair Hil Cymru. Cawsom siaradwyr o bob prif blaid yn croesawu'r alwad i 'symud o rethreg i realiti ar gyfer Cymru wrth-hiliol', ac mae hynny'n crynhoi i ble yr ydym ni eisiau mynd ac i ble mae'r bobl sydd wedi siarad heddiw, i gefnogi'r cynnig hwn, eisiau mynd. Roedd negeseuon y grŵp llywio o Gynghrair Hil Cymru yn bwerus iawn, yn glir iawn, fel mae Mymuna Soleman wedi ein hatgoffa mor aml yn ystod y misoedd hyn, pan ddysgwn fwy o'i chaffi ar-lein, Privilege Cafe ac o fudiad Mae Bywydau Du o Bwys y dylem ddefnyddio ein breintiau er daioni. Bydd panel cydraddoldeb hiliol Cymru yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad hwn.
Ac i'r Aelodau hynny sydd wedi siarad yn erbyn y cynnig hwn, byddwn yn eich annog i fynd i Privilege Cafe. Byddwn yn eich annog i wrando ar y bobl ifanc, yn ddu ac yn wyn, yn Mae Bywydau Du o Bwys ledled Cymru—o'r gogledd i'r de, o'r dwyrain i'r gorllewin, mae gennym grwpiau o bobl, yn enwedig pobl ifanc, sydd wedi ymrwymo i fudiad Mae Bywydau Du o Bwys ac sydd wedi ymrwymo i wneud ac annog pobl i ysgogi newid. Ond byddwn hefyd yn dweud wrth y bobl hynny sy'n siarad yn erbyn y cynnig hwn: parchwch farn y rhai sydd â'r profiad byw o fod yn bobl dduon, Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, a dyna lle y byddwn yn dysgu a lle y byddwn yn cymryd ein hymrwymiad.
Felly, heddiw, yn olaf, rydym yn ailymrwymo'r Llywodraeth hon yng Nghymru a'r Senedd hon i sefyll yn erbyn hiliaeth yng Nghymru. Ac fel y dywedodd yr Athro Raj Bhopal, arweinydd Mae Bywydau Duon o Bwys:
Digon yw digon. Byddwch yn arweinyddion y mae'r wlad hon, y byd hwn eu hangen.
Ac mae'n rhaid i hynny fod yn benderfyniad i ni heddiw. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
A welais i—? O, gwrthwynebiad. Ydw, rwyf wedi gweld gwrthwynebiad.
Felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio, ac felly fe fydd yna egwyl fer nawr wrth inni symud tuag at y pleidleisio o bell.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 20:03.
Ailymgynullodd y Senedd am 20:07, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Felly, dyma ni yn cychwyn ar y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais, felly. O blaid 37, naw yn ymatal, chwech yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Eitem 6 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020: O blaid: 37, Yn erbyn: 6, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, chwech yn erbyn, ac felly mae'r rheoliadau yna wedi'u cymeradwyo.
Eitem 7 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020: O blaid: 46, Yn erbyn: 6, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Y bleidlais nesaf yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, naw yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Eitem 8 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020: O blaid: 28, Yn erbyn: 15, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020 sydd nesaf. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, naw yn ymatal, 15 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 9 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020: O blaid: 28, Yn erbyn: 15, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar y cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd: O blaid: 42, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf, y bleidlais olaf, ar y ddadl ar fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, un yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Dadl: Mynd i'r Afael Ô Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol - Cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 48, Yn erbyn: 3, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ddod â ni at ddiwedd ein gwaith am y diwrnod. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 20:12.