Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

22/09/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi jest eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar yr agenda. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfodydd Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Ac, felly, dyma ni'n cyrraedd eitem gyntaf ein hagenda ni'r prynhawn yma, sef y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Angela Burns. 

Llety Dros Dro i Ffoaduriaid

1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r broses ar gyfer dewis safleoedd i roi llety dros dro i ffoaduriaid sy'n aros i'w hachosion lloches gael eu clywed? OQ55568

Llywydd, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfrifoldeb am y broses y mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Mae'r Swyddfa Gartref bresennol yn gwneud dewisiadau o'r fath heb gyfeirio at awdurdodau democrataidd lleol na datganoledig.

Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rydym ni i gyd yn gwybod bod llif y bobl sy'n ceisio lloches yn cynyddu, ac rwy'n deall y bu angen i'r Swyddfa Gartref, gan wynebu dilyw, weithredu yn gyflym. Ond, yn fy marn i, mae camgymeriadau wedi eu gwneud, ac roedd cyfathrebiad gan y Swyddfa Gartref yn hwyr iawn yn y dydd ac yn wael iawn. Rwyf i wedi mynegi fy mhryderon mewn llythyr manwl iawn at yr Ysgrifennydd Cartref ac at aelodau'r Swyddfa Gartref. Rwy'n pryderu nad yw gorllewin Cymru yn addas iawn i fod yn ganolfan dderbyn i geiswyr lloches gael eu prosesu, a hynny'n syml am nad oes gennym ni'r seilwaith, y capasiti na'r gallu mwyach, neu ddim ar hyn o bryd, i brosesu pobl mewn ffordd sy'n briodol, ac yn dangos urddas a pharch tuag atyn nhw. Ac rydym ni eisiau'r cymorth hwnnw. Rwyf i wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref am arian ar gyfer adnoddau dynol ychwanegol, ac rwy'n meddwl tybed, Prif Weinidog, beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud.

Yn anffodus, gwelsom olygfeydd brawychus neithiwr yng ngwersyll Penalun o elfennau yn dod i mewn o'r tu allan—nid pobl Sir Benfro; mae pobl Sir Benfro yn wresog a chroesawgar, ac rydym ni eisiau gwneud ein gorau i'r bobl hyn, sydd eisoes wedi bod trwy gyfnod trawmatig iawn. Ond os edrychwch chi ar y fideo, sydd i'w weld ar wefan Herald Sir Benfro, cafwyd golygfeydd hollol frawychus, gyda phobl yn dod i mewn ar fysiau o'r tu allan gydag agendâu gwleidyddol annymunol iawn. Prif Weinidog, beth allwch chi ei wneud fel Llywodraeth Cymru naill ai i helpu i roi pwysau ar y Swyddfa Gartref i roi'r adnoddau ariannol a dynol sydd eu hangen ar ein gwasanaethau lleol i ddarparu'r cymorth cywir i'r bobl hyn, ac i gynorthwyo ein heddlu—ein hunedau plismona lleol sydd dan bwysau—i sicrhau na cheir anhrefn ac nad yw pobl dan fygythiad, ni waeth pa ochr i'r gwersyll hwnnw y maen nhw ynddo?

Wel, Llywydd, diolchaf i Angela Burns am y cwestiynau pwysig yna. Rwy'n rhannu llawer o'i phryderon. Nid yw gwersyll milwrol yn lle addas i gartrefu pobl sydd wedi dianc o wrthdaro a rhyfel mewn rhannau eraill o'r byd. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Cartref ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Cefais ateb ddydd Llun, felly roedd yn ateb cyflym iawn. Ond nid oedd oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref; roedd oddi wrth Weinidog iau yn yr adran. Yn fy llythyr, gofynnais yn benodol iawn am oedi o bythefnos yn y cynllun i gartrefu ceiswyr lloches ym Mhenalun, er mwyn gallu cynllunio yn briodol a rhoi gwasanaethau priodol ar waith. Ac nid wyf i'n credu y gallai unrhyw un ddadlau bod hynny wedi ei wneud mewn ffordd foddhaol. Yn anffodus, gwrthododd yr ateb y cais hwnnw. Gofynnais yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref am sicrwydd penodol y byddai cyllid yn cael ei ddarparu i'r awdurdod lleol ac i'r bwrdd iechyd lleol. Rydym ni'n sôn am awdurdodau cymharol fach, gwledig nad yw'r capasiti ganddyn nhw i ymdopi, o'u hadnoddau eu hunain, â'r galwadau a fydd yn cael eu rhoi arnyn nhw nawr. Dyma'r ateb:

Ni fydd y Swyddfa Gartref yn darparu cyllid ychwanegol mewn cysylltiad ag unrhyw ran o'r llety a ddarperir ar gyfer ceiswyr lloches.

Felly, gwrthodiad cyffredinol llwyr i ddarparu unrhyw arian ychwanegol, naill ai i Gyngor Sir Penfro nac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ac aeth y llythyr ymlaen i ddweud bod gwaith ar gynllun cyfathrebu y cytunwyd arno ar y gweill. Wel, mewn gwirionedd, mae hynny'n nonsens, onid yw? 'Mae cynllun cyfathrebu ar y gweill', pan fo cannoedd o bobl eisoes yn protestio yn Ninbych-y-pysgod dros y penwythnos, a'r golygfeydd annymunol y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw ddoe. Ni roddodd y Swyddfa Gartref yr un llinell i dawelu meddyliau'r boblogaeth leol, i esbonio pam maen nhw'n gwneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud.

Nawr, hoffwn ategu yn llwyr yr hyn a ddywedodd Angela Burns—mae Cymru yn genedl noddfa. Pan fo pobl yn cyrraedd Cymru, nid trwy unrhyw benderfyniad ganddyn nhw eu hunain, yna rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n derbyn gofal da ac yn cael eu croesawu. Mae'r ffordd y mae'r Swyddfa Gartref wedi mynd ati i wneud ei phenderfyniad o ran Penalun yn gwneud hynny i gyd yn llawer anoddach nag yr oedd angen iddo fod. Ac er y byddwn ni'n cymryd rhan mewn unrhyw un o'r sgyrsiau ac unrhyw un o'r grwpiau a sefydlir i geisio gwella'r sefyllfa, mae angen gwella'r dull cyffredinol yn gyflym er mwyn osgoi ailadrodd y golygfeydd a welsom ni neithiwr, ac i wneud yn siŵr bod y bobl a fydd yn cael eu cartrefu yn y gwersyll hwnnw yn gallu derbyn gofal priodol, ac y gellir cyfleu pryderon—pryderon dilys—y gymuned leol honno sy'n haeddu cael sylw priodol, iddyn nhw, a'u tynnu i mewn i'r broses yn hytrach na gadael iddyn nhw ei gwylio o'r tu allan.

13:35

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Prif Weinidog, yn ei ymateb i Angela Burns, am ailadrodd y pwynt bod Cymru yn genedl noddfa a'n bod ni eisiau croesawu pobl a'n bod ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw?

Cefais fy syfrdanu, Llywydd, gan yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud am ymateb y Swyddfa Gartref, ac mae'n eithaf anarferol i mi gael fy syfrdanu gan y ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn San Steffan yn ymddwyn. Ond mae hyn yn arbennig o ddifrifol. Mae'r rhain yn bobl agored iawn i niwed sydd wedi gweld a byw profiadau erchyll, ac mae'r ffaith eu bod nhw wedyn yn canfod eu hunain yn dioddef ymddygiad annymunol pan eu bod nhw'n cyrraedd yma yn dorcalonnus. Rwyf yn cytuno ag Angela Burns, ac fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud eisoes—nid oedd y bobl hynny a oedd yn achosi trafferth ym Mhenalun neithiwr yn nodweddiadol o gymuned Sir Benfro. Roedd y bobl a oedd yn dathlu ac yn croesawu ceiswyr lloches ar y traeth yn Ninbych-y-pysgod dros y penwythnos yn llawer mwy nodweddiadol o gymuned Sir Benfro, ac roedd yn dda iawn eu gweld nhw yno.

Rwy'n llwyr sylweddoli nad cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw darparu ar gyfer ein cymdogion newydd ym Mhenalun, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi, ac mae wedi dweud ei hun, y bydd pwysau ar wasanaethau lleol. Yn wyneb yr hyn sy'n ymddangos yn safbwynt gwbl galongaled gan Lywodraeth y DU ar hyn, a oes unrhyw beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i drafod gyda darparwyr gwasanaethau lleol pa gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnyn nhw, gan dderbyn yn llwyr mai cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref ddylai fod ei ddarparu? Ond os nad yw hynny'n bosibl, a fydd y Prif Weinidog yn gallu gweithio gyda gwasanaethau lleol i geisio lleddfu rhai o'r ofnau a'r pryderon sydd gan bobl leol am bwysau ar wasanaethau, a gwneud yn siŵr bod croeso i'r ceiswyr lloches hyn yma yn ein gwlad ni?

Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am y pwyntiau yna. Bydd, wrth gwrs, y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â'r awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, a'r gwasanaeth heddlu lleol yn y gwaith anodd y mae angen iddyn nhw ei wneud nawr. A phan allwn ni fwstro cymorth ar eu rhan, pan allwn ni wneud achos ar eu rhan, yna wrth gwrs byddwn yn awyddus iawn i wneud hynny. Ein dealltwriaeth o gynllun y Swyddfa Gartref yw y bydd y bobl a fydd yn cael eu cartrefu yn y gwersyll yn cael eu gwasgaru, ymhen amser, i'r pedair prif ardal wasgaru ledled Cymru—y byddan nhw'n byw yng Nghaerdydd, yng Nghasnewydd, yn Abertawe ac yn Wrecsam. Felly, mae ein dymuniad i'w croesawu i Gymru yn ymrwymiad hirdymor er les a llesiant y bobl hynny, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y gellir cyflawni hynny yn briodol. Rwy'n credu mai un o nodweddion mwyaf annymunol yr holl ddigwyddiad yw bod y ffordd y mae'r Swyddfa Gartref wedi ymdrin ag ef wedi arwain at Ddinbych-y-pysgod yn dod yn darged i grwpiau adain dde eithafol o bob rhan o'r Deyrnas Unedig sydd wedi clywed am hyn ac sy'n credu bod hwn yn achos y gallan nhw ymgysylltu ag ef a chamfanteisio arno. Nid oes croeso i'r bobl hynny yng Nghymru, a gobeithiaf y byddwn ni mewn sefyllfa yn fuan i wneud yn siŵr bod yr heddlu yn cymryd y camau sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr na allan nhw gynhyrfu teimladau lleol a'u bod nhw'n deall nad yw eu presenoldeb yng Nghymru yn un a groesewir gennym ni.

13:40

Neil Hamilton. nid yw eich meicroffon ymlaen, Neil Hamilton; nid yw eich meicroffon ymlaen.

Diolch, Llywydd. Onid y gwir am y mater yw nad oes yr un o'r bobl sy'n mynd i gael eu cartrefu ym Mhenalun yn debygol o fod yn gymwys i gael lloches yn y wlad hon, gan eu bod nhw wedi dod o wlad ddiogel, yn Ffrainc, oherwydd eu bod nhw i gyd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi cyrraedd ar gychod bach ar lannau Caint? Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud nad oes gan 81 y cant o'r rhai sydd wedi cyrraedd yn 2020 ar lannau Caint, unrhyw hawl credadwy i loches, er mai dim ond 2 y cant sydd wedi cael eu symud mewn gwirionedd. Felly, onid achos y broblem sydd gennym ni heddiw, yn gyntaf oll, yw anallu ar ran Llywodraeth Prydain, gan eu bod nhw wedi colli rheolaeth dros ein ffiniau yn llwyr, ond, yn ail, anghyfrifoldeb ar ran Llywodraeth Cymru am ei darn o orbwysleisio rhinweddau drwy alw Cymru yn 'genedl noddfa'? Oherwydd, yn y pen draw, os yw cysylltiadau hiliol yn mynd i gael eu cynnal yn y wlad hon, mae'n rhaid i hynny fod ar sail ymfudo wedi'i reoli a cheisiadau dilys am loches, ac nid rhai ffug.

Wel, Llywydd, clywn adleisiau o hanes maith yr Aelod o gefnogi apartheid De Affrica yn y sylwadau y mae wedi eu gwneud y prynhawn yma. Mae dweud bod uchelgais Cymru i fod yn genedl noddfa yn anghyfrifol yn anghredadwy. Rwy'n synnu clywed hynny, hyd yn oed ganddo ef, ac nid oes ganddo unrhyw wybodaeth o gwbl o ble y mae pobl a fydd yn cael eu cartrefu yn y gwersyll hwn yn dod—nid oes gan yr un ohonom ni. Mae bron pob un ohonyn nhw heb gyrraedd eto. Felly, fel erioed, ei honiadau ffug, ei ymgais i fanteisio ar sefyllfa i gyfleu neges sy'n wleidyddol gyfleus iddo yr ydym ni wedi eu clywed y prynhawn yma. Mae hynny'n warthus.

Trafnidiaeth Gyhoeddus Drawsffiniol

2. Sut yr effeithiwyd ar drafnidiaeth gyhoeddus drawsffiniol yn ystod pandemig COVID-19? OQ55539

Llywydd, mae cludiant cyhoeddus mewn ardaloedd trawsffiniol wedi cael ei heffeithio yn yr un ffyrdd â gwasanaethau o'r fath yn fwy cyffredinol. Gwn y bydd Aelodau yn y Siambr eisiau talu teyrnged i'r gweithredwyr a'r gweithwyr cludiant cyhoeddus hynny sydd wedi gwneud cymaint i gynnal rhwydwaith craidd o wasanaethau yn ystod yr argyfwng hwn.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi dweud yn briodol na ddylai unrhyw blentyn gael ei adael ar ôl na gorfod newid patrwm ei ddychweliad pwysig i addysg. Ond mae gennym ni sefyllfa lle mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud nifer o newidiadau i'r gwasanaeth Aberystwyth i Amwythig, ac mae'r effeithiau wedi golygu y tarfwyd ar deithiau myfyrwyr yn Sir Drefaldwyn i Amwythig, at ddibenion addysg. Er tegwch i Trafnidiaeth Cymru, maen nhw wedi cynnig nifer o wasanaethau bysiau, ond yn aml nid yw'r rheini yn ymarferol gan fod amseroedd teithio estynedig ac yn aml mae'r bysiau yn cyrraedd ar ôl i'r cyrsiau ddechrau. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'n ymddangos bod y penderfyniad i ganslo yn ymwneud â phryder ynghylch diogelwch staff ar rai o'r gwasanaethau hynny.

Mae hyn yn parhau i beri cryn ofid i bobl iau, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei fod yn gyfnod pryderus i bobl ifanc wrth iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol a'r coleg. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi drafod y sefyllfa hon gyda'ch cyd-Weinidogion a gweld sut y gall Trafnidiaeth Cymru gael ei gynorthwyo mewn gwirionedd gan y Llywodraeth er mwyn ailgyflwyno rhai o'r gwasanaethau hyn i bobl iau, ar gyfer eu haddysg yn Amwythig.

Llywydd, diolchaf i Russell George am godi'r pwyntiau hyn, a gwn am ei bryderon blaenorol yn eu cylch. Rwy'n credu y bydd y ffaith fod Trafnidiaeth Cymru wedi ailgyflwyno'r gwasanaeth 06:29 yn y bore o Aberystwyth i Amwythig yn tawelu meddwl yr Aelodau. Cafodd ei ailgyflwyno ar 14 Medi. Bydd y Llywydd, wrth gwrs, yn ymwybodol o hynny. Dyna'r gwasanaeth trên allweddol i gludo pobl ifanc ar gyfer addysg i Amwythig.

Nawr, mae'n wir, fel y dywedodd Russell George, bod y gwasanaeth trenau hwnnw weithiau wedi ei lenwi i bwynt lle nad yw'n ddiogel caniatáu rhagor o deithwyr ar y llwybr. Ac o dan yr amgylchiadau hynny, mae gan Trafnidiaeth Cymru gapasiti bysiau ychwanegol wrth gefn pe byddai ei angen. Nawr, wrth gwrs mae Russell George yn iawn bod y daith bws honno, yn y man pellaf, yn cymryd 45 munud yn hwy nag y byddai'r daith trên. Mae'r amser ychwanegol yn lleihau yr agosaf y bydd pobl ifanc at Amwythig. Ond o dan yr amgylchiadau presennol, lle mae coronfeirws yn parhau, fel y clywsom ddoe a heddiw, ar gynnydd, mae gwneud yn siŵr nad yw'r trenau yn orlawn a bod pobl ifanc a theithwyr eraill yn cael eu rhoi mewn perygl yn bwysig iawn, ac rwy'n credu bod y capasiti bws ychwanegol hwnnw, sydd yno bob dydd pe byddai ei angen, ar hyn o bryd yn ffordd gymesur o wneud yn siŵr, fel y byddem ni i gyd yn dymuno ei weld, nad oes unrhyw berson ifanc nad yw'n gallu cael mynediad at yr addysg sydd mor bwysig iddyn nhw.

13:45

Prif Weinidog, cyn y bore yma, bu'n fisoedd lawer cyn hynny ers i Brif Weinidog y DU alw cyfarfod COBRA gyda'r arweinyddion datganoledig ar draws teulu gwledydd y Deyrnas Unedig. A fyddai materion trafnidiaeth drawsffiniol yn ystod pandemig COVID-19, yn ogystal â llawer o faterion eraill, yn cael sylw llawer gwell trwy gyfathrebu rheolaidd a mater o drefn rhwng y Llywodraethau perthnasol yng Nghymru a Lloegr? Sut gall Llywodraeth Cymru barhau i annog Llywodraeth y DU ei bod yn dda i siarad?

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Roeddwn i'n falch iawn y bu cyfarfod COBRA heddiw. Roeddwn i'n falch o gael galwad ffôn gyda Phrif Weinidog y DU ddoe. Y pwynt a wnes iddo bryd hynny, ac eto yn y cyfarfod COBRA heddiw, yw ein bod ni angen patrwm ymgysylltu rheolaidd a dibynadwy rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Nid yw cyfarfodydd ad hoc, munud olaf, di-bapur yn ddigon i ni allu ymateb i'r argyfwng wrth iddo barhau i ddatblygu. Fe'm sicrhawyd bod Prif Weinidog y DU wedi dweud yn y cyfarfod COBRA y bydden nhw'n cael eu hailgyflwyno yn iawn nawr. Bydd hynny yn rhoi cyfle i ni i gyd drafod pethau. Codwyd cludiant cyhoeddus yn gryno, fel yr awgrymodd Rhianon Passmore, yn ystod cyfarfod COBRA heddiw. Rwy'n credu bod rhythm rheolaidd, dibynadwy o gyfarfodydd, lle'r ydym ni i gyd yn gwybod pryd y byddwn yn cael cyfleoedd i rannu gwybodaeth, i edrych ar y dadansoddiad diweddaraf, i gyfuno syniadau ac yna i wneud penderfyniadau sy'n iawn i wahanol wledydd y Deyrnas Unedig, yn ganolog i'r ffordd y gallwn ni gael drwy hyn i gyd yn y ffordd orau bosibl gyda'n gilydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. 

Diolch, Llywydd. A allai'r Prif Weinidog gyflwyno cynigion y Llywodraeth i'r Senedd o ran y newidiadau i gyfyngiadau coronafeirws, fel y mae Prif Weinidog y DU newydd ei wneud o ran Lloegr yn yr awr ddiwethaf, ac y bydd Prif Weinidog yr Alban yn ei wneud cyn bo hir yn Senedd yr Alban? Ac wrth wneud hynny, a allai ddweud a yw'n cytuno â'r hyn y mae'r gwrthbleidiau yn San Steffan wedi bod yn ei ddweud—sef er bod Gweinidog iechyd y DU wedi pwysleisio diffyg cydymffurfiad y cyhoedd â'r rheolau wrth ddod â ni i'r pwynt hwn, ei bod hefyd yn wir y bu rhai camgymeriadau polisi, sydd wedi cyfrannu at gyrraedd y sefyllfa hon? Sy'n codi dau gwestiwn, mewn gwirionedd: beth sydd wedi mynd o'i le y mae angen ei gywiro? Beth yw'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu? A beth yw gweledigaeth a chynllun y Llywodraeth o ran y chwe mis nesaf? A yw'n olyniaeth o lacio cyfyngiadau ac yna eu hailgyflwyno, a gwneud hynny eto? Os felly, dylem fod yn onest am hynny. Os nad yw, yna sut gallwn ni ddefnyddio'r cyfnod hwn i gynyddu'r cydnerthedd fel nad ydym ni'n cael trydydd a phedwerydd cyfnod o gyfyngiadau symud?

Llywydd, diolchaf i Adam Price am hynna. Fe wnes i ddal rhywfaint o'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU yn Nhŷ'r Cyffredin ond nid y cwbl. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig atgoffa cyd-Aelodau ein bod ni'n dechrau mewn sefyllfa wahanol iawn yng Nghymru. Mae ein dull o lacio cyfyngiadau coronafeirws wedi bod ar wahanol gyflymder ac mewn gwahanol ffordd i'r hyn a wnaed dros ein ffin. Rydym ni eisoes wedi gwneud llawer o'r pethau y mae Prif Weinidog y DU yn sôn am eu gwneud heddiw yng Nghymru. Felly, yn y rhan o'i ddatganiad a glywais, roedd yn sôn am annog pobl unwaith eto i weithio gartref. Wel, nid ydym ni erioed wedi awgrymu dim byd arall yn hytrach na hynny yng Nghymru. Nid ydym ni erioed wedi mynd ar y trywydd o ddweud y dylai pobl fynd yn ôl ar y bws a mynd yn ôl i'r gwaith. Ein cyngor ni o'r cychwyn fu os gallwch chi weithio yn llwyddiannus gartref, yna dyna ddylech chi ei wneud. Byddwn yn atgyfnerthu'r neges honno heddiw, ond nid yw'r neges yng Nghymru erioed wedi newid.

Clywais Prif Weinidog y DU yn dweud y bydd materion sydd mewn canllawiau yn Lloegr yn cael eu rhoi mewn rheoliadau. Wel, rydym ni wedi gwneud mwy o ddefnydd o reoliadau yma o'r cychwyn. Yn gynnar iawn, rhoesom y pellter o 2 fedr yn y gweithle yn ein rheoliadau. Nid canllawiau oedden nhw yng Nghymru, ond rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth. Pan gyhoeddwyd canllawiau gennym ar gyfer y diwydiant lletygarwch, yna mae ein rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r sawl sy'n gyfrifol am leoliad o'r fath roi sylw dyledus i'r canllawiau hynny. Felly, rydym ni eisoes wedi gwneud hynny mewn modd gwahanol. Mae Prif Weinidog y DU yn mynd i dynhau y rheol chwech, wel, mae ein rheol chwech ni wedi bod yn dynnach o'r cychwyn. Caniateir i chi gyfarfod rhywun o'ch aelwyd estynedig yn unig, nid chwech o bobl o unrhyw hen aelwyd a allai gyfarfod dan do. Ac fe'i clywais yn dweud ei fod yn mynd i atal cynlluniau arbrofol ym myd y celfyddydau a chwaraeon. Wel, yn anfoddog, gohiriwyd ein cynlluniau arbrofol ni 10 diwrnod yn ôl. Cawsom dri chynllun arbrofol llwyddiannus ac roeddem ni'n gobeithio, yn y tair wythnos hon, y gallem ni fod wedi gwneud mwy. Penderfynwyd gennym 10 diwrnod yn ôl bod pethau yn rhy anodd i ni allu gwneud hynny. Felly, rydym ni'n dechrau mewn gwahanol sefyllfa. Ceir pethau y byddwn ni'n eu hystyried yn ystod y dydd. Byddwn yn siarad â'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, yn y gwasanaeth iechyd, ym maes iechyd y cyhoedd ac yn yr heddlu am y mesurau ychwanegol y gallem ni eu cymryd, ond byddwn yn gwneud hynny, fel bob amser, gyda'n partneriaid. Byddwn yn cynllunio ac yna byddwn yn gwneud cyhoeddiad.

Ledled Cymru, Llywydd, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn parhau i gadw at y rheolau yn ofalus iawn ac yn gydwybodol iawn. Maen nhw eisiau gwneud y peth iawn ac maen nhw eisiau gwybod beth yw'r peth iawn i'w wneud. Ceir lleiafrif bach o bobl a gymerodd y neges rywsut ar gyfer yr haf, pan oeddem ni'n lleihau cyfyngiadau, bod coronafeirws ar ben. Y rheini yw'r bobl y mae'n rhaid i ni eu hargyhoeddi bod angen iddyn nhw ailddechrau gwneud yr holl bethau yr oedden nhw'n eu gwneud yn gynharach yn yr haf, a bydd hynny'n golygu y bydd yr ymdrech ledled Cymru yn cael ei chryfhau unwaith eto. Dyna fydd fy neges i bobl yng Nghymru heddiw. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price: nid oes yn rhaid i hwn fod yn batrwm ar gyfer y dyfodol, ond os nad yw hynny am fod, mae hynny'n dibynnu yn hollbwysig nid yn unig ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ond ar yr hyn y mae pob dinesydd yn ei fywyd ei hun yn ei wneud er mwyn gwneud yr ymdrech gyfunol honno sydd, rwy'n credu, wedi bod yn nodweddiadol o'r ymateb yng Nghymru.

13:50

A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog, pan fydd y Llywodraeth wedi gwneud penderfyniad o ran unrhyw newidiadau y mae'n mynd i'w cyflwyno, ei bod yn dod â datganiad i'r Senedd hon yn ddiweddarach y prynhawn yma?

Rydym ni wedi cefnogi dull gweithredu mor ddatganoledig â phosibl erioed. Efallai, wrth gwrs, y gallwch chi gyrraedd pwynt lle nad yw hynny'n bosibl mwyach a bod angen i chi gyflwyno newidiadau ledled y wlad, ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog edrych ar egwyddor lleoleiddio oherwydd yr amrywiaeth o sefyllfaoedd yr ydym ni'n eu gweld ledled Cymru, ac o bosibl ystyried gwrthdroi'r rhesymeg, os mynnwch chi—cael polisi cenedlaethol cyffredin fel rhagosodiad, ond wedyn cael ardaloedd heb COVID ac ardaloedd o drosglwyddiad cymunedol isel a fyddai'n cael eu heithrio o'r newidiadau cenedlaethol hynny? Byddai hyn yn cyflawni dau ddiben: byddai'n cymell cydymffurfiad parhaus â'r rheolau mewn ardaloedd o drosglwyddiad isel ac yn cynyddu cydymffurfiad â'r rheolau mewn ardaloedd o drosglwyddiad uwch. Pa ystyriaeth ydych chi hefyd wedi ei rhoi i'r syniad o waharddiad y DU gyfan ar deithio rhyngwladol yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn, gwaharddiad ar deithio nad yw'n hanfodol o ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau symud yng ngweddill y DU i Gymru, a chau tafarndai dan do dros dro, wedi'u hategu yn hanfodol, wrth gwrs, gan gymorth ariannol penodol i sectorau?

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Adam Price yn rhoi ei fys ar un o'r penblethau canolog sy'n ein hwynebu yng Nghymru, oherwydd er bod gennym ni sefyllfa anodd iawn mewn nifer o awdurdodau lleol yng nghornel y de-ddwyrain, heddiw mewn rhannau eraill o Gymru, mewn 10 awdurdod lleol yng Nghymru heddiw, roedd cyfradd coronafeirws yn dal i ostwng. Hyd yma, nid wyf i wedi fy argyhoeddi y dylem ni drin Ceredigion fel pe byddai'n Gaerffili, oherwydd mae nifer yr achosion o goronfeirws yng Ngheredigion yn dal i fod yn isel dros ben, ac ni fyddai'n gymesur gosod yr un lefel o gyfyngiadau ar ddinasyddion yn y fan honno ag y bu'n rhaid i ni ofyn i bobl yng Nghaerffili eu dilyn. Felly, dull cyfunol lle mae gennym ni rai negeseuon cenedlaethol pwysig—mae'r neges gweithio gartref yn neges genedlaethol, mae cyfarfod chwech o bobl dan do o'ch aelwyd estynedig yn rheol genedlaethol yma yng Nghymru. Byddaf eisiau dweud rhywbeth yn ddiweddarach heddiw am geisio annog pobl yng Nghymru dim ond i wneud y teithiau hynny sy'n wirioneddol angenrheidiol. Yng Nghaerffili a'r awdurdodau lleol eraill lle mae mesurau cyfyngiadau symud lleol ar waith, ni chewch adael y fwrdeistref sirol heb reswm da dros wneud hynny, ond y tu hwnt i hynny rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni fod yn gofyn i ni ein hunain, 'A yw'r daith yna wir yn hanfodol?', oherwydd y lleiaf o bobl yr ydych chi'n cyfarfod â nhw a'r lleiaf o deithiau y byddwch chi'n eu gwneud, y lleiaf o berygl yr ydych chi'n ei achosi i chi eich hun ac i eraill. Felly, rwy'n credu bod honno, fel neges i bobl ym mhobman am sicrhau cyn lleied o deithio â phosibl ac aros yn agos i'ch cartref gymaint ag y gallwch, yn fric arall mewn wal genedlaethol y gallwn ni ei hadeiladu. Ar ôl hynny, rwy'n dal i fod o'r un meddwl ag yr awgrymodd Adam Price mai mesurau lleol ar gyfer amgylchiadau lleol ar y pwynt hwn yn y feirws yw'r ymateb cywir yng Nghymru o hyd.

13:55

Ie, a dyna fydd testun datganiad llawn yn ddiweddarach y prynhawn yma, Prif Weinidog—

Llywydd, nid wyf i eisiau addo y gellir gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma. Bydd y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad. Os na fydd y trafodaethau gyda'r awdurdodau y mae angen i ni ddod i gasgliad ar faterion yn dod i ben heddiw, byddwn yn cymryd y cyfle cyntaf y gallwn i wneud datganiad.

Yn gryno iawn ar gydnerthedd a phrofion—gwn ein bod ni wedi siarad am hyn o'r blaen—o ran y labordai goleudy, mae'n amlwg bod cynyddu ein capasiti ein hunain yn gwbl hanfodol. Ceir arbrawf diddorol yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, lle maen nhw i bob pwrpas wedi cymryd labordy goleudy i berchnogaeth gyhoeddus, mae'n debyg y byddech chi'n ei alw, a hefyd maen nhw'n ei dargedu at awdurdodau lleol a phrifysgolion, a'r sector preifat lleol yn cydweithio. Model diddorol; oni ellid defnyddio hwnnw yng Nghasnewydd ac yna ei gysylltu â'n system gynhenid ein hunain? Roedd peiriannau anadlu yn thema allweddol yn ystod cyfnod cynnar y coronafeirws; mae awyru yn dod yn hanfodol i'r genhadaeth hefyd. A ydym ni'n mynd i fod yn darparu cymorth i weithleoedd ac adeiladau cyhoeddus gael gwell systemau awyru yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn?

Llywydd, cawsom gyflwyniad yn COBRA y bore yma gan Dido Harding, y sawl sy'n gyfrifol am y drefn brofi yn Lloegr. Mae arnaf i ofn y bydd hi'n nifer o wythnosau, o'r hyn a glywais, cyn i'r system labordy goleudy fod yn ôl i lefel y perfformiad a welsom ychydig wythnosau yn unig yn ôl. Yn y cyfamser, mae rhai arbrofion lleol o'r math y cyfeiriodd Adam Price atyn nhw yn cael eu cynnal, a byddwn yn sicr yn edrych i weld a ellid defnyddio unrhyw agwedd ar yr hyblygrwydd hwnnw yng Nghymru. A bydd, bydd awyru yn thema gynyddol bwysig wrth i ni gyrraedd misoedd y gaeaf, pan fydd pobl o dan do yn amlach a phan fydd yr ymyraethau anfeddygol hynny a all helpu i atal y clefyd rhag lledaenu hyd yn oed yn bwysicach, a bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn pwysleisio hynny yn y canllawiau yr ydym ni'n parhau i'w darparu i awdurdodau cyhoeddus ac i fusnesau preifat.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dywedasoch dros y penwythnos bod angen i chi ennill ffydd pleidleiswyr unwaith eto cyn yr etholiad. Pam ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi colli ffydd pleidleiswyr?

Mae'n amlwg nad yw ffydd pleidleiswyr wedi ei cholli yng Nghymru. Pe byddai'r Aelod yn trafferthu i edrych ar unrhyw un o'r arolygon, maen nhw'n dangos bod lefelau ffydd yn Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig hwn ar lefelau eithriadol o uchel—75 y cant ac uwch yn Llywodraeth Cymru; 45 y cant yn y Llywodraeth y mae ei phlaid hi yn ei rhedeg yn San Steffan. Y pwynt a wnes i, Llywydd, yw hwn: mae'n rhaid i unrhyw blaid mewn Llywodraeth ennill ac adennill ffydd mewn unrhyw etholiad. Mewn pum etholiad yn olynol, mae'r Blaid Lafur wedi ennill ffydd pobl yng Nghymru, ac nid ydym ni'n cymryd dim o hynny yn ganiataol. Byddwn yn gweithio mor galed ag y gallwn ni i barhau i ennill y ffydd honno. Rwy'n tybio bod unrhyw blaid sy'n ceisio cael pleidleisiau etholwyr Cymru yn ceisio gwneud yn siŵr eu bod ganddyn nhw ffydd ynddi. Does dim byd anarferol yn yr hyn a ddywedais, ac rwy'n dychmygu ei fod yn cyfeirio at lawer o'i phlaid hi cymaint ag unrhyw blaid arall.

Mae'n drueni cael ymateb mor amddiffynnol i'r cwestiwn yna; efallai y byddai wedi rhoi cyfle i chi yn y Siambr heddiw ddweud rhai o'r pethau yr ydych chi'n honni sy'n lwyddiannau. Yn sicr, byddwn wedi gwerthfawrogi ateb a fyddai wedi cynnwys, efallai, wn i ddim, yr Aelod Llafur dros Ben-y-bont ar Ogwr yn cofio mynd â'i fasg i siop, yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru ei hun. Ond rwy'n credu bod rhai materion mwy difrifol y gallech chi fod wedi mynd i'r afael â nhw yn eich ateb heddiw, Gweinidog, oherwydd yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi bod bwlch o 11 diwrnod rhyngoch chi yn dod i wybod am ddatgeliad gwybodaeth anghyfreithlon mawr o 18,000 o ddarnau o wybodaeth bersonol a'r cyfnod pan oedd eich Gweinidog iechyd yn gwybod amdanyn nhw. Dyma'r trydydd tro y bu problemau gyda data personol yn ystod eich teyrnasiad chi yn ystod y pandemig hwn yr ydym ni'n gwybod amdanyn nhw. A ydych chi'n gweld—neu'n rhagweld, ddylwn i ddweud—anhawster yn cadw'r pandemig hwn dan reolaeth os nad yw pobl yn ymddiried ynoch chi gyda'u data personol?

14:00

Wel, Llywydd, mae pobl yn ymddiried yn y system sydd gennym ni yng Nghymru gyda'u data personol. Dyna pam mae'r system sydd gennym ni yng Nghymru gymaint yn fwy llwyddiannus na'r system dros ein ffin. Roedd y mynediad diawdurdod at ddata yn destun gofid. Ymdriniwyd ag ef gan y corff sy'n gyfrifol amdano, sef y rheolwr data yn yr achos hwnnw. Rwyf i wedi gofyn heddiw a chael gwybod mai nifer fach iawn o bobl a allai fod wedi cael eu heffeithio sydd wedi cysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru gydag unrhyw bryderon. Bydd y pryderon hynny yn cael sylw. Nid wyf i'n credu bod y mater mor bwysig fel bod angen ei ailadrodd yn y fforwm hwn ddwy wythnos yn olynol, a chredaf fod materion pwysicach efallai y byddai'r Blaid Geidwadol wedi dymuno eu trafod, ond mae'n debyg eu bod nhw ofn gwneud hynny.

Wel, Prif Weinidog, nid oedd hynna'n swnio i mi fel esboniad o beth oedd y rheswm am y bwlch hwnnw o 11 diwrnod, ac nid oes unrhyw ddiben dweud mai Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am hynny i gyd, pan rydym ni wedi cael problemau data deirgwaith yn olynol erbyn hyn. Unwaith, yn amlwg, byddai hynny yn anffawd. Byddai dwywaith yn ddiofal. Ond mae trydydd tro yn awgrymu i mi bod gennym ni Lywodraeth Cymru yn y fan yma nad yw mor awyddus â hynny i gymryd cyfrifoldeb am rywbeth sydd wir wedi dychryn llawer o bobl yn y fan yma. Rydym ni'n dibynnu ar y system tracio ac olrhain i fod yr ateb i gadw'r pandemig hwn dan reolaeth ac i osgoi'r math o gyfyngiadau symud cenedlaethol yr oedd Adam Price, gobeithio, yn ceisio eu hosgoi hefyd pan siaradodd yn gynharach.

O ran ffydd, fodd bynnag, mae rhywbeth eithaf difrifol, rwy'n meddwl, y mae angen i ni ei drafod yn y fan yma heddiw, gan eich bod chi wedi fy ngwahodd i wneud hynny. Ddoe, mewn cyfweliad ar raglen Sharp End ITV Wales, dywedodd y Gweinidog iechyd na fyddai'n diystyru ei gwneud yn orfodol i bobl gael brechlyn COVID-19, os a phan y bydd un ar gael. Nawr, brechlynnau gorfodol yw hynny, Prif Weinidog. A oeddech chi'n gwybod ei fod yn mynd i ddweud hyn, neu a oedd hwnnw'n ddarn arall o wybodaeth y mae'r Gweinidog iechyd wedi ei gadw oddi wrthych chi? A beth sydd mewn datganiad o'r fath? Mae'n ddatganiad cwbl Orwellaidd, yn ymosodiad gwirioneddol ar ryddid personol, sy'n gwneud i chi feddwl a ddylai unrhyw un fentro ymddiried mewn Llywodraeth Lafur yn y dyfodol.

Wel, Llywydd, o ran y mater o ffydd y mae'r Aelod wedi cynhyrfu gymaint yn ei gylch y prynhawn yma, o'r 440 o achosion cadarnhaol a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol yn y system profi, olrhain, diogelu yn y cyfnod diweddaraf, cyrhaeddwyd 96 y cant, a rhoddasant fanylion eu cysylltiadau diweddar. Mae hynny yn dweud wrthyf i bod llawer o ffydd yn ein system a'i bod yn uchel ei pharch, a chysylltwyd yn llwyddiannus gydag 89 y cant o'r holl gysylltiadau hynny hefyd a llwyddwyd i ddatrys eu hachosion. Mae gennym ni lefelau uchel iawn o ffydd yn system Cymru, ac nid yw unrhyw beth y mae hi'n ei ddweud i'r gwrthwyneb yn cael ei gadarnhau gan y ffeithiau.

Gofynnwyd cwestiwn damcaniaethol i'r Gweinidog iechyd: a fyddai'n diystyru rhywbeth? Dywedodd yn syml na fyddai'n gwneud hynny. Nid aeth ymhellach na hynny. Nid oes unrhyw oblygiad yn yr hyn a ddywedodd ei fod wedi gwneud penderfyniad o unrhyw fath. Ac yn y cyd-destun hwn, yng nghyd-destun coronafeirws, pan fo cymaint yn ddirgelwch i ni, a phan fo cymaint yn y fantol, nid wyf i'n credu y byddai diystyru rhywbeth ar hyn o bryd wedi bod yn rhywbeth cyfrifol i'w wneud, ac rwy'n credu ei fod yn hollol gywir yn yr ateb a roddodd.

Prif Weinidog, mae'r ateb yna yn ymwneud â'ch Gweinidog iechyd yn dweud ddoe bod gennych chi'r grym i orfodi brechiadau, gan awgrymu y gallai pobl yng Nghymru gael eu chwistrellu dan orfod gyda brechlyn COVID, yn fy syfrdanu. Ai dyna y mae datganoli wedi arwain ato? Oni fyddai rhaglen o'r fath o chwistrelliadau gorfodol yn torri cyfraith ryngwladol, neu a yw hynny'n bryder dim ond pan fyddwch chi eisiau rhwystro Brexit? Oni fyddai hefyd yn torri cyfraith ddomestig, sy'n nodi yn adran 45E Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Coronafeirws 2020, efallai

na fydd rheoliadau yn cynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson gael triniaeth feddygol.

Mae 'triniaeth feddygol' yn cynnwys brechiadau.

Prif Weinidog, yn yr un modd â Boris Johnson a Dominic Cummings, fe wnaethoch chi ryddhau eich Gweinidog iechyd o fai am fynd yn groes i ganllawiau pan gafodd ei bicnic teuluol ym Mae Caerdydd. A ydych wedi ei ryddhau o fai yn yr un modd nawr am gyhoeddi cyfeiriad a dyddiad geni pawb a brofodd yn bositif ar gyfer COVID yng Nghymru oherwydd nad oedd yn arwyddocaol, er bod y rheolau yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu mynediad diawdurdod at ddata o'r fath i'r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr? A wnaiff ef aros yn ei swydd nawr er iddo ddweud y gallai eich Llywodraeth orfodi brechiadau yn groes i gyfraith y DU a chyfraith ryngwladol?

14:05

Llywydd, nid oes rhaglen o'r fath; ni fu erioed raglen o'r fath; does dim cynnig i gael rhaglen o'r fath. Mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei ddychmygu. Mae'n gwybod hynny, ond mae eisiau apelio at fath penodol o berson yn y boblogaeth ac felly mae'n gwneud ffugio cyhuddiadau o'r fath ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol. Gadewch i mi ddweud wrtho eto, rhag ofn ei fod eisiau gofyn i mi eto: nid oes rhaglen o'r fath; ni fu erioed raglen o'r fath; nid oes cynnig ar gyfer rhaglen. Ac mae pobl sydd eisiau esgus bod rhaglen o'r fath yn gwneud hynny yn gyfan gwbl er eu mantais wleidyddol eu hunain a dim byd arall.

Prif Weinidog, gallwn ddweud yr un peth yn rhwydd wrthych chi ynglŷn â'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud am Fil y farchnad fewnol a'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud a fyddai'n torri'r gyfraith a chyfraith ryngwladol gan Brif Weinidog y DU. Dywedodd eich Gweinidog iechyd ddoe y dylai gadw'r dewis yn agored o frechu pobl â brechlyn COVID yng Nghymru dan orfodaeth. Dywedasoch nawr ei fod yn iawn i gadw'r dewis hwnnw yn agored, er gwaethaf y ffaith ei fod yn erbyn y gyfraith.

A allech chi egluro'r sefyllfa o ran amddiffyn? Dywedasoch wrth bobl hen ac agored i niwed yn y gorffennol am barhau i amddiffyn tan 16 Awst, er bod nifer yr achosion o'r feirws wedi bod yn isel ers rhai wythnosau erbyn hynny. Oni fydd yn fwy anodd iddyn nhw amddiffyn eto erbyn hyn, ar ôl dim ond dod allan o gyfnod mor faith o gaethiwed mor ddiweddar? Oni fyddai pobl hŷn ac agored i niwed mewn llai o berygl o COVID nawr, fel yn Sweden, pe byddai mwy o bobl iau eisoes wedi bod drwyddo yn hytrach na gohirio heintiau trwy gyfyngiadau symud?

Llywydd, rwy'n gweld y cwestiwn yn cael ei wyro i rywbeth hollol wahanol ar ei ddiwedd. Ni thorrwyd unrhyw gyfraith ryngwladol. Ni thorrwyd cyfraith o unrhyw fath, oherwydd nid oes cynnig o unrhyw fath a fyddai'n arwain at y canlyniad hwnnw. Pan fyddaf yn beirniadu Llywodraeth y DU am ei bwriad pendant o dorri cyfraith ryngwladol, nid wyf i'n gwneud hynny ar ben fy hun yn unig. Rwy'n argymell bod yr Aelod yn ddarllen araith Theresa May yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe, araith pryd y dywedodd bod Llywodraeth y DU yn peryglu uniondeb y Deyrnas Unedig—araith pryd y dywedodd mai Llywodraeth Geidwadol yw hon sy'n barod i fynd yn ôl ar ei gair, i dorri cytundeb rhyngwladol a lofnodwyd yn ddidwyll ac i dorri cyfraith ryngwladol. Nid fi sy'n dweud hynny—Prif Weinidog Ceidwadol blaenorol y wlad hon sy'n dweud hynny, gyda chefnogaeth y ddau Brif Weinidog Ceidwadol blaenorol yn eu tro. Nid rhyw farn idiosyncratig gan Lywodraeth Cymru yw hon; mae'n farn a rennir yn eang yn y blaid sydd wedi ei chynnig.

O ran y boblogaeth sy'n amddiffyn, nodaf eto yr hyn y mae'n ei ddweud am Sweden. Yn Sweden, mae 10 gwaith mwy o bobl wedi marw nag yn Norwy, ei chymydog agos. Dychmygwch—dychmygwch y sefyllfa yn y fan yma: dychmygwch yr hyn y byddai'r Aelod yn ei ddweud wrthyf i pe byddai Cymru wedi dilyn polisi a arweiniodd at 10 gwaith nifer y dinasyddion yng Nghymru yn marw o'i gymharu â'r nifer dros ein ffin. A fyddai'n sefyll yn y fan yma yn ei argymell yn yr achos hwnnw? Wrth gwrs na fyddai.

Ysbyty Athrofaol y Faenor

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am agor Ysbyty Athrofaol y Faenor? OQ55534

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r cyhoeddiad y bydd ysbyty'r Faenor yn agor ganol mis Tachwedd yn hytrach na'r dyddiad gwreiddiol a fwriadwyd ym mis Mawrth 2021 i'w groesawu'n fawr. Yng nghyd-destun coronafeirws, bydd yn darparu gofal critigol a gofal anadlol acíwt i 600,000 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i ddiolch i'r gweithwyr adeiladu sydd wedi helpu i gadw'r prosiect pwysig hwn ar amser a gan gyd-fynd â'r gyllideb dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar adeg pan fo'r pandemig wedi effeithio mor ofnadwy ar y sector, gydag oddeutu traean o'r ceisiadau i'r gronfa cadernid economaidd yn ficrofusnesau adeiladu. Rydych chi newydd sôn am swyddogaeth yr ysbytai yn ystod pandemig COVID-19. Pa drafodaethau—neu a allech chi ddweud ychydig mwy am unrhyw drafodaethau y mae eich swyddogion wedi eu cael gyda'r bwrdd iechyd lleol am strategaeth o ddefnyddio'r ysbyty ar gyfer achosion COVID, ac felly cael gwared ar y risg o haint o'r ysbytai cyffredinol eraill yn ardal Gwent? Ac a yw Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar gysylltiadau trafnidiaeth i'r ysbyty newydd? Rwyf i wedi codi hyn o'r blaen, gan fod pryderon ynghylch cysylltedd. Mae angen dybryd i uwchraddio'r A4042 drwy Sir Fynwy ac yn sicr hefyd mae angen cysylltiadau cludiant cyhoeddus gwell i gleifion ac i deuluoedd i'r ysbyty newydd ac oddi yno.

14:10

Llywydd, diolchaf i Nick Ramsay am y pwyntiau yna. Rwy'n cysylltu fy hun yn llwyr â'r hyn a ddywedodd am weithwyr adeiladu: dyma brosiect mawr, prosiect gwerth £360 miliwn, a gyflwynwyd yn unol â'r gyllideb ac yn gynnar, ac mae hynny wir yn deyrnged i'r rhai sydd wedi ei gynllunio ac yna sydd wedi gweithredu'r cynlluniau ar gyfer yr ysbyty, ac mae'n rhan bwysig iawn o gynllun Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer ymdrin â'r bobl hynny sy'n ddifrifol wael ac y bydd angen gofal anadlol brys arnyn nhw mewn ymateb i goronafeirws. Felly, bydd ysbyty'r Faenor yn hollbwysig dros y misoedd yn ystod y gaeaf pan allai'r mathau hynny o wasanaethau fod hyd yn oed yn fwy angenrheidiol nag y maen nhw wedi bod yn ystod y gwanwyn a'r haf.

Diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ofynnodd am gludiant cyhoeddus, a gwn ei fod wedi codi hyn mewn erthygl ddiweddar yn y South Wales Argus. Cadarnhaodd y bwrdd iechyd prifysgol wrthyf ddoe y bydd gwasanaeth bws cyhoeddus i'r safle pan fydd yr ysbyty ar agor ym mis Tachwedd—bydd bysiau'n gollwng ar bwynt penodol ar y safle. Ceir gwasanaethau bysiau a fydd yn cysylltu Casnewydd, Caerllion, Cwmbrân a'r safle ei hun, ac mae trafodaethau pellach yn parhau i gadarnhau'r holl wasanaethau hynny, ond mae'r bwrdd iechyd yn benderfynol y bydd cludiant cyhoeddus i'r safle yno o'r adeg y bydd yr ysbyty yn agor, ac y bydd ar gael i'r rhai sydd angen ei ddefnyddio.

Mae'r Aelod wedi fy holi o'r blaen am gyflwr yr A4042. Gwn y bydd yn ymwybodol o'r camau a gymerwyd i wella draenio ar hyd y ffordd yn ddiweddar, a cheir rhywfaint o dystiolaeth bod y buddsoddiadau hynny yn talu difidend ac y gallai rhai o'r ymyriadau ar y ffordd—yn enwedig drwy lifogydd yn y blynyddoedd diwethaf—fod wedi eu datrys nawr drwy'r cynlluniau a roddwyd ar waith a'r gwelliannau a wnaed ar dir trydydd parti cyfagos.

Adferiad Gwyrdd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu adferiad gwyrdd? OQ55576

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae adferiad gwyrdd wrth wraidd ein hymateb i bandemig y coronafeirws. Bydd yn gwella canlyniadau i Gymru, yn creu economi fwy cynaliadwy a chydnerth ar gyfer y dyfodol, yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn mynd i'r afael â dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Prif Weinidog, mae adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar wir yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n perfformio'n dda a datblygu sgiliau i fynd i'r afael â'r cynhyrchiant isel hanesyddol yr ydym ni wedi ei ddioddef yng Nghymru, o gofio'r lefel isel iawn o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU ers y diwydiannu yn y 1970au a'r 1980au. Mae'n siomedig iawn darllen bod Llywodraeth y DU yn ymddangos yn benderfynol o ddefnyddio Bil y farchnad fewnol i danseilio ymrwymiadau Llywodraethau datganoledig i leihau'r hinsawdd. Sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i ganolbwyntio ar y sgiliau manwl sydd eu hangen i gyflawni ei huchelgeisiau trafnidiaeth a thai glân a gwyrdd—sy'n hanfodol er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau lleihau carbon—pan fo'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o frigdorri'r arian y mae gan Gymru hawl iddo i adeiladu ffyrdd lliniaru diangen ac, mae arnaf ofn, gorchuddio cefn gwlad gyda datblygiadau adeiladu o ansawdd gwael i ddod yn hofelau'r dyfodol?

Llywydd, diolchaf i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol pwysig iawn yna. Roeddwn i'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu comisiynu adroddiad annibynnol gan yr OECD gan ddefnyddio'r dystiolaeth ryngwladol orau i'n helpu ni gyda'r gwaith pwysig o gynllunio polisïau'r dyfodol a strwythurau'r dyfodol ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol. Mae'r adroddiad, yn sicr, yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu buddsoddi yn y bobl sydd gennym ni yma yng Nghymru, fel eu bod nhw'n barod i allu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth pan fyddan nhw'n dod.

Mae'r Aelod, Llywydd, yn codi, rwy'n credu, posibilrwydd eithriadol. Pan welais i Fil y farchnad fewnol am y tro cyntaf, roedd hynny'n ddigon drwg pan roeddwn i'n meddwl mai'r hyn yr oedd Llywodraeth y DU yn bwriadu ei wneud oedd cymryd yr holl arian a oedd wedi dod i Gymru o ffynonellau Ewropeaidd a'i chadw iddi hi ei hun, ac ailddosbarthu rhywfaint yn ôl syniadau a allai fod ganddyn nhw, yn hytrach na'r syniadau a allai fod gan bobl yng Nghymru am yr hyn sy'n angenrheidiol yma. Ond mae'r syniad y bydden nhw'n ceisio brigdorri cyllidebau sydd ar gael i'r Senedd hon, i'w defnyddio yn y ffordd yr ydym ni'n ei ddewis, er mwyn rhedeg cynlluniau eu hunain, rwy'n credu, yn syniad hyd yn oed y tu hwnt i'r hyn yr oeddem ni'n credu yn wreiddiol y gallai fod ganddyn nhw mewn golwg. Byddai gwneud hynny yn gwneud y geiriau y mae Prif Weinidog y DU yn eu defnyddio am barchu datganoli, a bod yn ddatganolwr ei hun, yn chwerthinllyd. Gadewch i ni obeithio bod Gweinidog yn Llywodraeth y DU sy'n fodlon cofnodi'r ffaith nad ydyn nhw'n bwriadu gwneud unrhyw beth o'r fath.

14:15
Ymateb i COVID-19

5. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn addasu ei hymateb i COVID-19 o ystyried y profiad o'r feirws hyd yma? OQ55577

Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r cynllun rheoli coronafeirws, a gyhoeddwyd ym mis Awst, a chynllun diogelu'r gaeaf yr wythnos diwethaf ill dau wedi'u gwreiddio yn y gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu yn ystod argyfwng y coronafeirws. Gellir gweld ymatebion wedi'u haddasu, er enghraifft, mewn triniaethau mwy effeithiol ar gyfer y clefyd ac mewn mesurau adsefydlu penodol i COVID.

Prif Weinidog, o 6 o'r gloch heno ymlaen bydd cyfyngiadau pellach yng Nghasnewydd ac mewn awdurdodau lleol eraill. Bydd y cyfnod y mae hynny yn ei olygu yn dibynnu ar nifer yr achosion, ond a allwch chi ddweud unrhyw beth arall am ba mor hir y gallai'r mesurau hyn fod ar waith?

Mae nifer cynyddol o ddisgyblion ysgol yn hunanynysu, gan niweidio eu haddysg ymhellach ar ôl colli amser ysgol yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf. A allai Llywodraeth Cymru felly, Prif Weinidog, flaenoriaethu profion i ddisgyblion a staff er mwyn lleihau'r amser a gollir yn yr ysgol, a hefyd sicrhau bod dysgu gartref yn gyson ac o'r ansawdd gorau ar draws ein holl ysgolion?

Llywydd, diolchaf i John Griffiths am y cwestiynau yna. Bydd y cyfyngiadau coronafeirws yng Nghasnewydd yn cael eu hadolygu ymhen pythefnos. Fy uchelgais yw llacio'r cyfyngiadau hynny yn raddol cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i ni wneud hynny. Credaf fod y tîm olrhain cyswllt yng Nghasnewydd wedi bod yn gwbl rhagorol yn y ffordd y maen nhw wedi ymateb i'r niferoedd cynyddol yn y ddinas, a chyn belled â'u bod nhw'n parhau i gael cydweithrediad pobl leol, rwy'n credu bod gobaith realistig y bydd yr achosion hynny yn cael eu rheoli unwaith eto cyn gynted â phosibl, ac yna bydd modd diddymu rhai o'r mesurau y bu'n rhaid i ni eu rhoi ar waith.

O ran ysgolion, Llywydd, ers 1 Medi bu achosion o coronafeirws mewn 275 o ysgolion yng Nghymru, effeithiwyd ar 140 o fyfyrwyr ac effeithiwyd ar 135 o aelodau staff. Yng 198 o'r 275 o ysgolion hynny, adroddwyd un achos yn unig. Felly, mewn mwy na saith o bob 10 ysgol, un achos ynysig a adroddwyd hyd yma, er fy mod i'n cytuno ei bod hi'n ddyddiau cynnar. Mae'r achosion hynny wedi cael eu mewnforio i'r ysgol gan bobl sydd wedi ei ddal am resymau eraill, yn hytrach na'i fod yn cael ei ledaenu yn amgylchedd yr ysgol. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu profi myfyrwyr ac athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion, lle bo hynny'n angenrheidiol, fel y gallwn ni sicrhau bod y perygl o drosglwyddiad cyn lleied â phosibl ac i ymateb i'r pwynt olaf a wnaeth John Griffiths, am barhad dysgu i bobl ifanc y gallai fod yn rhaid iddyn nhw barhau i dreulio rhywfaint o'u hamser y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mewn rhai rhannau o Gymru, gwnaed hynny yn arbennig o dda yn gynharach yn yr haf. Mae'r dysgu hwnnw yn cael ei ddefnyddio nawr i sicrhau y gellir cyrraedd y safonau hynny ym mhob rhan o Gymru.

14:20
Adroddiad yr OECD ar Ddyfodol Datblygu Rhanbarthol a Buddsoddiad Cyhoeddus

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganfyddiadau adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, 'The Future of Regional Development and Public Investment in Wales'? OQ55579

Llywydd, mae model yr OECD o fodel mwy rhanbarthol ac yn seiliedig ar leoedd o dwf economaidd eisoes wrth wraidd ein cynllun gweithredu economaidd a'r nodau rydym ni wedi'u gosod ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol. Byddwn i'n ystyried argymhellion yr adroddiad gyda rhanddeiliaid yn ystod yr wythnosau nesaf.

Diolch am hynny. Un o ganfyddiadau'r adroddiad yw effaith y cyni parhaus a gafodd ei osod ar Gymru gan gynlluniau gwario Llywodraeth y DU. Roedd y cyni hwnnw'n lleihau buddsoddiad awdurdodau lleol mewn diwydiannau, a mathau eraill o gyllid y byddem wedi disgwyl iddo ddod i Gymru, a phenderfyniad gwleidyddol yn unig ydoedd.

Felly, pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â Changhellor y DU i dynnu sylw at yr effaith y mae eu mesurau cyni, sydd wedi'u gosod ar sail wleidyddol, yn ei chael, ac a gaiff, ar Gymru os ydyn nhw'n parhau ar hyd y trywydd hwnnw? Ac a wnewch chi ofyn i Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddechrau gweithredu er budd Cymru a pharchu'r setliad datganoli?

Wel, pwyntiau pwysig iawn, Llywydd, wedi'u gwneud gan Joyce Watson. Does dim dwywaith fod y Deyrnas Unedig yn llai abl i wrthsefyll ergydion coronafeirws a Brexit oherwydd degawd o gyni: incwm aelwydydd, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau preifat i gyd wedi cael eu tanseilio gan y polisïau diffygiol a ffôl a oedd yn cael eu dilyn bryd hynny. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru £4 biliwn yn is heddiw nag y byddai pe bai wedi aros lle'r oedd 10 mlynedd yn ôl. Nid mymryn o dwf. Pe baem ni wedi aros, mewn termau real, lle'r oeddem ni ddegawd yn ôl, byddai gennym £4 biliwn yn fwy i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'r holl anghenion brys eraill sydd gennym yma yng Nghymru. Rydym yn dal i fanteisio ar bob cyfle sydd gennym gyda'r Canghellor, drwy weithredoedd fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, i annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r cyfraddau llog isel hanesyddol sydd gennym ar gyfer rhoi hwb seilwaith i'r DU ac i economi Cymru yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Ar 30 Mehefin, Llywydd, cyhoeddodd y Prif Weinidog fargen newydd mewn gwariant ar seilwaith. O ran Cymru, nid oedd yn fargen, oherwydd ni ddaeth yr un geiniog atom eleni am unrhyw hwb seilwaith. Felly, byddai'n dda iawn pe bai gennym ni Swyddfa Cymru sy'n sefyll dros Gymru, a fyddai'n llais Cymru yn San Steffan, yn hytrach na pharot San Steffan yng Nghymru. Ac, yn y modd hwnnw, efallai y byddai modd i ni wneud rhywfaint o gynnydd o ran yr anawsterau a'r difrod sydd eisoes wedi'u hachosi i ni.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol')

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.

Menywod yr Effeithiwyd Arnynt gan Newid Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn dilyn colli'r apêl yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys gan fenywod a anwyd yn y 1950au yr effeithiwyd arnynt gan newid oedran pensiwn y wladwriaeth o 60 i 66? OQ55546

Member
Jeremy Miles 14:23:38
Counsel General and Minister for European Transition

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dwfn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ar ran menywod yng Nghymru sydd wedi wynebu'r anghyfiawnder o'u hoedran pensiwn y wladwriaeth yn cael ei godi heb rybudd effeithiol na digonol. Rwy'n ymwybodol o ddyfarniad y Llys Apêl, a byddaf, wrth gwrs, yn monitro unrhyw apêl os caiff ei chyflwyno i'r Goruchaf Lys.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Bydd ef yn gwybod fy mod wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag ymgyrchwyr ar draws fy rhanbarth i, yn enwedig yn Llanelli a Sir Benfro, ar y mater hwn. Roedd y canlyniad yn amlwg yn siomedig, ond nid oedd yn syndod llwyr.

Tybed a fydd y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ei bod yn ymddangos yn debygol bellach y daw'r ateb i hyn o benderfyniadau gwleidyddol yn hytrach nag o unrhyw ddyfarniad cyfreithiol. A fyddai hon yn adeg amserol i Lywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau unwaith eto i Lywodraeth y DU ar ran menywod Cymru a gafodd eu heffeithio gan hyn?

Mae'n ymddangos i mi, yn sgil argyfwng COVID, fod hyn yn arbennig o berthnasol. Wrth gwrs, mae gennym lawer o fenywod a fyddai wedi disgwyl gallu ymddeol ond sydd bellach yn gorfod aros yn y gwaith. Ac efallai y bydden nhw mewn sefyllfa, os byddai modd iddyn nhw ymddeol a chael yr hawl i'r pensiwn yr oedden nhw'n ei ddisgwyl, i allu ymddeol ychydig yn gynharach ac o bosibl ryddhau rhywfaint o waith i bobl iau, y bydd ei angen yn ddybryd.

Wel, rwy'n rhannu siom yr Aelod â chanlyniad yr apêl; fel y dywed hi, efallai'n fwy o siom nag o syndod o ystyried cynnydd yn y mater. Mae'r menywod hyn yn fenywod sydd wedi wynebu gwahaniaethu, yn aml iawn, drwy gydol eu bywydau gwaith. Felly, bydd yn arbennig o siomedig i fod wedi cael y canlyniad hwnnw.

Fel y bydd hi'n gwybod, rwyf wedi parhau i chwilio am gyfleoedd i allu ymyrryd, o bosibl, ac nid oes yr un ohonyn nhw, yn anffodus, wedi dod i'r amlwg. Ond yn ei chwestiwn, rwy'n credu ei bod hi'n iawn yn dweud, o ystyried nad yw'r strategaeth ymgyfreitha yn dwyn ffrwyth fel y gallem fod wedi ei obeithio efallai, fod yna rai cynigion ymarferol y mae llawer o'r grwpiau hyn wedi'u cyflwyno er mwyn pontio i gyfres fwy cyfiawn o ganlyniadau. Rydym wedi gohebu'n gyson â Llywodraeth y DU, fel y mae'r Aelod yn gwybod. Rwy'n credu, yn anffodus, na chafwyd ateb i'n llythyr diweddaraf hyd yn oed. Ond, byddwn ni'n parhau i gyflwyno'r sylwadau hynny fel bod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â'r menywod hyn, nid yn y llysoedd, ond wrth geisio datrys yr hyn sydd wedi bod ers peth amser, yn anghyfiawnder mawr.

14:25
Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

2. Beth yw dadansoddiad cyfreithiol y Cwnsler Cyffredinol o'r mesurau ym Mil Marchnad Fewnol y DU fel y maent yn berthnasol i Gymru? OQ55533

Mae Bil Marchnad Fewnol y DU Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd ymhell y tu hwnt i'r strwythur y gallai fod ei angen i sicrhau cydweithrediad economaidd a rheoleiddiol rhwng cenhedloedd y DU, ac mae'n ymosodiad difrifol ar y setliad datganoli a'n pwerau ni yng Nghymru.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac rwyf yn cytuno ag ef. Cwnsler Cyffredinol, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf i fod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gydag eraill yn Senedd y DU er mwyn diogelu democratiaeth Cymru rhag y cipio pŵer hwn sy'n rhan annatod o'r Bil Marchnad Fewnol, fel yr ydych chi newydd gyfeirio ato, ac rwy'n croesawu hynny. Bydd gweithio mewn ffordd draws-ddeddfwrfa yn hanfodol yn y cyfnod sydd i ddod, felly heddiw bydd ASau Plaid Cymru yn cyflwyno gwelliant a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid i'r Senedd hon roi ei chydsyniad cyn bod y darpariaethau yn y Bil, sydd â'r nod o drosglwyddo pwerau datganoledig yn ôl i San Steffan—cyn i hynny ddod i rym. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwnnw, ac os felly, a wnewch chi berswadio eich cyd-Aelodau Llafur Cymru yn San Steffan i'w gefnogi y prynhawn yma?

Wel, nid wyf i wedi gweld testun y gwelliant hwnnw. Ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw na ddylid trosglwyddo pwerau, doed a ddelo, o'r Senedd hon i San Steffan. Felly, mae'n gynnig syml iawn. Roeddwn i'n falch iawn o weld, ar y bleidlais ddechrau'r wythnos diwethaf, fod fy mhlaid i yn Senedd y DU a'i phlaid hi ac eraill yn y Siambr hon wedi gallu sefyll yn gadarn wrth ymwrthod â'r egwyddorion sydd wrth wraidd y Bil hwn. Fel y mae hi'n ymwybodol o'r trafodaethau a gafwyd o'r blaen, mae'r Bil hwn mewn llawer ffordd yn torri ar draws y setliad datganoli'n llwyr ac yn cloi'r newidiadau hynny mewn ffordd na fyddai'r Senedd hon yn gallu ei gwrthdroi. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i weithio ar sail drawsbleidiol yn y Senedd a mawr obeithio y bydd hynny'n parhau.

Tybed a allai'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog amlinellu'r canlyniadau cyfreithiol a chyfansoddiadol pe bai'r Siambr hon yn peidio â rhoi ei chydsyniad i'r Bil hwn gael ei ruthro ymlaen gan Lywodraeth y DU. Ac, a allai hefyd egluro pam y dylai hyn fod o bwys mawr i'r busnesau, y ffermwyr, y cynhyrchwyr bwyd, y myfyrwyr a'r etholwyr mewn etholaeth fel fy un i yn Aberogwr?

Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. O ran y Senedd hon, nid wyf i'n disgwyl y bydd yn gwneud unrhyw beth arall, yn fy marn i, ond gwrthod caniatâd ar gyfer y darn hwn o ddeddfwriaeth. Dylai hynny fod yn ddiwedd ar y mater; felly, dylai Llywodraeth y DU beidio â bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth. Bydd Huw yn cofio, fel y bydd Aelodau eraill, pan wnaeth y Senedd hon wrthod ei chydsyniad y tro diwethaf, fod Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen er gwaethaf hynny, a chawsom sicrwydd clir gan Lywodraeth y DU ei bod yn ystyried yr amgylchiadau hynny'n unigryw ac yn rhyfeddol. Ac yng ngoleuni hynny, yn fy marn i, ni allai Llywodraeth y DU gyfiawnhau bwrw ymlaen heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig o ran y darn hwn o ddeddfwriaeth.

Mae e'n iawn i godi'r pwynt bod hwn yn Fil sy'n cael gwir effaith ar fywydau beunyddiol dinasyddion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru. Dylai unrhyw ddefnyddiwr nad yw eisiau gweld cig eidion sydd wedi'i chwistrellu gan hormonau ar ein silffoedd, sydd eisiau gweld uchelgais Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar ddefnydd plastig untro ac i gynnal safonau uchel o ran adeiladu a rheoleiddio landlordiaid, ac sydd eisiau sicrhau y dylai'r math o uchelgais y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosti barhau i fod ar gael, fod yn pryderu ynghylch ddarpariaethau'r Bil hwn. Dylai unrhyw fusnes yng Nghymru sydd eisiau cael cyfres o safonau ar gyfer mesur ei gynnyrch a'i gyflenwad fod yn bryderus. Dylai unrhyw fusnes sy'n ceisio cysoni Llywodraeth y DU yn ceisio pwerau cymorth gwladwriaethol drosto'i hun, ac ar yr un pryd yn meddu ar rwymedigaethau hefyd i fusnesau yn Lloegr fel Llywodraeth Lloegr, a'r gwrthdaro buddiannau y mae hynny'n amlwg yn ei gyflwyno, fod yn bryderus ynghylch cynnwys y Bil hwn.

14:30

Mae'n amlwg bod y DU yn dymuno bwrw ymlaen a thorri cytundebau rhyngwladol yn fwriadol, ynghyd â chuddio gwir fwriad y Bil ar yr un pryd, sef ceisio cymryd yn ôl reolaeth dros y lle democrataidd hwn, ond gyda gallu newydd i frigdorri cyllideb Cymru ar gyfer blaenoriaethau'r Torïaid. Beth fyddai hyn yn ei olygu i'r rhaglen lywodraethu y mae pobl Cymru wedi ethol y Llywodraeth hon yn ddemocrataidd i'w chyflawni ar eu rhan? A fyddai ef yn cytuno â mi fod hyn yn gofyn am bryder o'r newydd ynghylch dosbarthu'r gronfa ffyniant gyffredin, ac y mae, yn ei hanfod, yn ymosodiad ar y ddemocratiaeth hon, datganoli a, Llywydd, yn ymosodiad ar y lle hwn?

Wel, byddai'r Bil, pe bai'n cael ei basio'n gyfraith, yn cyfyngu ar weithredoedd nid yn unig y Llywodraeth hon, ond Llywodraethau olynol yng Nghymru ac, yn wir, effeithiolrwydd y Senedd hon i wneud y math o newidiadau uchelgeisiol yn y gyfraith a diwygio yng Nghymru yr hoffai eu gwneud. Soniais yn fy nghwestiwn cynharach am y ffyrdd ymarferol iawn y mae hyn yn effeithio ar ddefnyddwyr a dinasyddion ledled Cymru. Mae rhai o'r darpariaethau yn y Bil yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni fyddai rhai yn atal y Senedd rhag pasio cyfreithiau na Gweinidogion rhag gwneud rheoliadau, ond fe fydden nhw, i bob pwrpas, yn golygu na fyddai modd eu gorfodi ar lawr gwlad yng Nghymru.  Nawr, mae'r rhain yn newidiadau sy'n creu risg ddifrifol o gyfyngu ar weithredoedd y Llywodraeth hon a Llywodraethau'r dyfodol i gyflawni addewidion maniffesto ac i fod yn uchelgeisiol ar ran pobl Cymru. Mae hi'n nodi'n benodol yr effaith ar y gronfa ffyniant  gyffredinol. Rwy'n credu bod Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi bod yn eithaf agored ynglŷn â'r ffaith y byddai'r darpariaethau yn y Bil yn rhoi'r pwerau i Weinidogion Llywodraeth y DU gamu heibio'r pwerau sydd i bob pwrpas wedi bod yn eiddo i Weinidogion Cymru i reoli'r rhaglenni olynol i raglenni'r UE yng Nghymru—yn amlwg yn cefnu ar yr ymrwymiad a gafodd ei wneud i beidio â gwrthdroi'r setliad datganoli a phwerau Llywodraeth Cymru o ran y rhaglenni olynol hynny.

Mae cwestiynau 3 [OQ55549] a 4 [OQ55531] wedi'u tynnu yn ôl. Cwestiwn 5—Janet Finch-Saunders. 

Cynhyrchion Anifeiliaid

5. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyhoeddiad yr Undeb Ewropeaidd y byddai'n ei gwneud yn anghyfreithlon i gynhyrchion anifeiliaid gael eu gwerthu o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon a'r UE? OQ55547

Nid wyf yn ymwybodol bod yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad o'r fath. Fodd bynnag, mae'r mater o restru'r DU ar gyfer mewnforion bwyd yr UE yn dangos pwysigrwydd y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Mae Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn peryglu'r trafodaethau hynny, sy'n anghyfrifol dros ben ac yn peri risg wirioneddol i Gymru.

Mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid imi anghytuno â chi ar hynny. Mae'r posibilrwydd na fydd anifeiliaid a chynhyrchion Prydain yn cael eu hychwanegu at restrau glanweithdra a sicrhau iechyd planhigion yr UE ar gyfer gwledydd y tu allan i'r UE yn achosi pryder mawr. Er enghraifft, allforiwyd 37,400 tunnell o gig defaid i Ffrainc, a 40,600 tunnell o gig eidion i Iwerddon y llynedd. Nawr, yn ôl Nick von Westenholz o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, dylai rhestru fod yn fater technegol syml. Yn yr un modd, mae prif weithredwr Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain wedi dweud mai'r cwestiwn ehangach yw pryd fydd statws trydydd gwlad yn cael ei roi. Yn ffodus, bydd Llywodraeth y DU yn gosod is-ddeddfwriaeth fis nesaf i egluro'r gweithdrefnau rhestru hyn, ac maen nhw wedi dweud: 'Rydym yn gweithredu'r un rheolau a byddwn ar ddiwedd y cyfnod pontio. Serch hynny, mae'n fanteisiol cymryd camau o flaen llaw.' Felly a fu'n rhaid i chi ddiwygio'r paratoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio yng ngoleuni'r bygythiad hwn, a pha fanylion y gallwch chi eu darparu ynghylch y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd pe na bai Cymru yn gallu gwerthu cynnyrch anifeiliaid i'r UE?

Wel, mae Llywodraeth Cymru, yn anffodus, mewn sefyllfa o orfod paratoi ar gyfer amrywiaeth o fygythiadau o ganlyniad i gynnal trafodaethau rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Rwyf i wedi rhestru droeon y niwed y bydd y llwybr presennol yn ei achosi i allforwyr bwyd Cymru, ac rwy'n falch o'i chlywed yn rhestru yn ei chwestiwn y risgiau sy'n real iawn i'r ffermwyr a'r cynhyrchwyr bwyd hynny ledled Cymru. Dywedodd hefyd yn ei chwestiwn fod hwn yn fater technegol syml. A chytunaf â hynny. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddatganiad wedi bod ar ran yr UE na fydd hyn yn digwydd. Ond mae yna angen dealladwy i fod yn glir ynghylch pa safonau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu rhoi ar waith. Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth y DU yn awyddus i gyflwyno'r rheini, yn bennaf oherwydd, dan yr amgylchiadau presennol, siawns nad oes modd derbyn fel ffaith ei sicrwydd ynghylch safonau uchel yn y dyfodol.

14:35
Troseddau Gwledig

6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch gwella hygyrchedd cymorth cyfreithiol i breswylwyr sy'n dioddef troseddau gwledig? OQ55548

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar y system gyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys hygyrchedd cymorth cyfreithiol i breswylwyr ym mhob rhan o Gymru ac ym mhob maes cyfreithiol.

Diolch. Mae 86 y cant o'r rhai a gafodd eu harolygu yn y gogledd, 92 y cant yn Nyfed-Powys, a 97 y cant yng Ngwent yn credu bod trosedd sylweddol yn eu cymuned wledig. Canfyddiad astudiaeth a gynhaliwyd gan y Gynghrair Cefn Gwlad oedd nad oedd bron chwarter y troseddau wedi'u hysbysu i'r heddlu, ac roedd 56 y cant o'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi rhoi gwybod am drosedd yn anfodlon â'r ymateb. Fel y dywedodd y Gynghrair Cefn Gwlad,

Mae plismona gwledig da yn golygu llawer mwy na nifer y swyddogion heddlu ar lawr gwlad... rhaid inni ffurfio partneriaethau effeithiol.

Nawr, er fy mod i'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn ymwneud â grŵp bywyd gwyllt a throseddau gwledig Cymru, nid yw hyn yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol megis awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned llai yn ein hardaloedd gwledig. A wnewch chi gysylltu nawr â swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU, gyda'r nod o sefydlu tasglu troseddau gwledig cenedlaethol i Gymru, er mwyn cynnwys yr holl randdeiliaid a helpu i sicrhau bod angen dealltwriaeth well o anghenion ein cymunedau gwledig?

Cytunaf â'r Aelod ei fod yn bryder os nad yw pobl yn rhoi gwybod i'r heddlu am droseddau gwledig. Wrth gwrs, dylai aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid deimlo y gallan nhw wneud hynny, ac fe ddylen nhw wneud hynny, a byddem ni'n eu hannog, yn wir, i wneud hynny. Soniodd hi yn ei chwestiwn am swyddogaeth grŵp bywyd gwyllt, troseddu a materion gwledig Cymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gwaith y grŵp hwnnw wedi cael ei werthfawrogi a'i ganmol yn eang iawn fel enghraifft, boed hynny'n ymwneud â secondio swyddogion yr heddlu i Cyfoeth Naturiol Cymru neu sefydlu unedau troseddau gwledig o fewn ein gwasanaethau heddlu, ledled Cymru. Rwy'n deall bod y rheini'n cael eu hystyried mewn rhannau eraill o'r DU a thu hwnt fel enghreifftiau o arfer da iawn. Ond rwy'n rhannu'ch pryder ynghylch troseddu mewn unrhyw ran o Gymru, ac rwy'n falch o weld y gwaith partneriaeth sy'n digwydd rhwng y Llywodraeth yma yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu, a gwasanaethau brys eraill, i gefnogi cymunedau gwledig yn y mater hwn.

Achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

7. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ar ddyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf? OQ55555

Rwyf wedi trafod y dyfarniad gyda’r Gweinidog Addysg o ran y goblygiadau i gyfraith addysg. Rwy’n ystyried y goblygiadau ehangach mewn perthynas â dehongli testun deddfwriaeth Cymraeg, sydd â statws cyfartal â’r tesun Saesneg at bob diben.

Dros yr haf y daeth y dyfarniad yma, yndê, gan y Barnwr Fraser, a llwyddiant i grŵp sy'n brwydo i gadw ysgolion yn nalgylch Pontypridd, gan gynnwys Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd. Roedd penderfyniad diffygiol cyngor Rhondda Cynon Taf yn golygu y byddai peryg i gymuned ddifreintiedig gael ei heithrio o addysg Gymraeg, ac mae angen i'r cyngor rŵan weithio efo'r gymuned i ddod â chynnig amgen gerbron, ac mi fyddai hi'n warth o beth petai'r cyngor yn meddwl am apelio'r dyfarniad. Hoffwn i ofyn i chi am arwyddocâd ehangach y dyfarniad i addysg Gymraeg ac i statws yr iaith. Ydych chi'n cytuno efo fi bod dyfarniad cadarn y Barnwr Fraser yn ei gyfanrwydd yn gam mawr ymlaen o ran y disgwyliad gan lysoedd a'r awdurdodau cyhoeddus i roi sylw teilwng a phriodol i'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau, ac yn warchodaeth i gymunedau eraill?

Dydw i ddim mewn sefyllfa i wneud sylwadau ehangach ynglŷn â'r maes polisi hwn, gan nad fy mholisi i fel Cwnsler Cyffredinol sydd yma. Ond rwy'n synnu'n fawr i glywed brwdfrydedd yr Aelod dros y dyfarniad, o gymryd mewn i ystyriaeth y ffordd gwnaeth y barnwr edrych ar statws y Gymraeg yn y ddeddfwriaeth a'i chymharu â statws y Saesneg yn y ddeddfwriaeth. Mae cwestiynau pwysig iawn yn y dull hynny; mae'n codi cwestiynau pwysig am driniaeth hafal y Gymraeg yn ein llysoedd ni yma yng Nghymru. Felly, byddwn i'n argymell i'r Aelod edrych ar y cwestiwn hwnnw, ynghyd â'r cwestiynau eraill ehangach mae hi wedi'u codi heddiw.

14:40
Strategaeth Cymraeg 2050

8. Pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gydag awdurdodau cyhoeddus a'r sector gyfreithiol ynghylch cyfraniad y gyfraith at wireddu strategaeth 2050? OQ55556

Mae’r Llywodraeth hon a minnau yn gwbl ymroddedig yn ein hymdrechion i gyflawni strategaeth Cymraeg 2050. Dwi fy hun ddim wedi cael trafodaethau uniongyrchol â’r awdurdodau cyhoeddus na’r sector gyfreithiol, ond rwyf wedi cael trafodaethau gyda rheoleiddwyr sector y gyfraith ynglŷn ag addysg broffesiynol drwy'r Gymraeg, sydd wedi dwyn ffrwyth.  

Dwi wedi sôn eisoes am arwyddocâd dyfarniad arbennig y Barnwr Fraser yn achos ysgolion Pontypridd, ac mae'r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan gyfeillion y Gymraeg ym myd y gyfraith. Fe soniodd Michael Imperato, mewn trafodaeth yn ddiweddar am y dyfarniad, am ripple effect yr achos hwnnw. A allwch chi gadarnhau sut y byddwch chi fel Llywodraeth yn mynd ati i hysbysu cyrff cyhoeddus a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau am y cynseiliau sy'n codi i'r dyfodol o'r dyfarniad, fel na welwn ni ddim Ysgol Felindre arall ac fel na fydd rhieni Pont Sion Norton yn gorfod mynd i gyfraith i sicrhau eu hawl i addysg Gymraeg o fewn cyrraedd rhesymol i'w cymuned? 

Wel, mae'r cwestiwn hwn yn debyg iawn o ran sylwedd i'r cwestiwn cynt. Felly does gyda fi ddim lot fwy gallaf ei ddweud fel ymateb i hynny, ond rwy'n credu bod gwerth edrych yn fanwl ar sut gwnaeth y dyfarnwr edrych ar hafalrwydd y Gymraeg a'r Saesneg mewn deddfwriaeth. Mae cwestiwn pwysig yn codi yn y cyd-destun hwnnw i gyfreithwyr yn gyffredinol.   

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.  

Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad llafar—yr wybodaeth ddiweddaraf ar y coronafeirws. Mae'r ddadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Ac yn olaf, mae'r cynnig i gytuno ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 wedi'i dynnu'n ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad am gyngor ar gaffael yn y sector cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi? Mae eich ymateb i gwestiwn ysgrifenedig diweddar ar y mater hwn yn peri pryder mawr i mi gan eich bod wedi awgrymu y gallech chi fod yn rhoi hysbysiad cyngor ar gaffael newydd i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac yn yr ateb hwnnw a gafodd ei gyhoeddi gennych chi, gwnaethoch chi, yn benodol gyfeirio ato'n cael ei dargedu, o bosibl, at genedl Israel, oherwydd gwnaethoch chi gyfeirio ato fel rhywbeth oedd yn ymwneud â mannau lle mae anghydfodau tiriogaethol.

Nawr, wrth gwrs, o'r lleoedd di-rif ledled y byd lle mae anghydfodau tiriogaethol, soniodd yr ateb hwnnw, a gafodd ei gyhoeddi gennych chi, yn benodol am y wladwriaeth Iddewig. Nawr, byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn a mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth. Mae hynny'n cyfeirio at beidio â gwneud dim a allai arwain at osod safonau dwbl ar genedl Israel. Ond, wrth gyfeirio yn benodol at Israel yn eich ateb i gwestiwn ar gyngor ar gaffael, mae'n awgrymu y gallai hynny fod yn wir pe baech yn cyhoeddi'r darn penodol hwnnw o gyngor.

Felly, rwy'n bryderus iawn ynghylch y neges y mae hynny'n ei hanfon i'r gymuned Iddewig yng Nghymru. Gwn i nad yw Llywodraeth Cymru eisiau anfon negeseuon gelyniaethus i'r gymuned Iddewig a'i bod eisiau mynd i'r afael â'r gwrthsemitiaeth sy'n bodoli. Felly, byddwn i'n eich annog i ailedrych ar yr hysbysiad cyngor ar gaffael yr ydych chi'n ei baratoi, i sicrhau nad yw'ch cynigion yn amharu ar y gwaith da sydd wedi'i wneud yma yng Nghymru i ymdrin â'r cynnydd mewn gwrthsemitiaeth yn ein gwlad.

Hoffwn i sicrhau Darren Millar nad oes unrhyw fwriad o gwbl i nodi unrhyw genedl yn benodol ac roedd yr ymateb yn ymwneud â thiriogaethau wedi'u meddiannu mewn unrhyw le yn y byd. Fodd bynnag, deallaf i fod rhai pryderon sylweddol ynghylch hyn, felly rydym ni'n cymryd rhywfaint o gyngor cyfreithiol pellach cyn cymryd unrhyw gamau pellach ar y nodyn cyngor ar gaffael hwnnw, a gwn i fod y Prif Weinidog wedi cael cyfarfod da iawn gyda bwrdd y dirprwyon, lle cafodd hyn ei drafod eto. Ond er mwyn tawelu meddwl Darren Millar a phawb arall, nid oes bwriad i nodi unrhyw genedl yn benodol o ran y nodyn cyngor ar gaffael, ond rydym ni'n cymryd cyngor pellach, ac ni fydd dim byd yn cael ei gyhoeddi tan fod y cyngor hwnnw wedi dod i law ac wedi'i ystyried.

14:45

Mae llawer o bobl yn hunanynysu, neu byddan nhw yn ystod y misoedd nesaf, wrth i gyfraddau trosglwyddo COVID ymledu ledled y wlad. Rwyf i wedi cael llawer o negeseuon gan bobl yn y Rhondda, sydd eisoes wedi dioddef niwed ariannol sylweddol yn sgil y cyfyngiadau symud cyntaf. Gall rhai pobl weithio gartref, mae rhai pobl yn hunangyflogedig, mae gan rai pobl hawl i dâl salwch neu dâl salwch statudol, ac ni all eraill gael dim byd o gwbl. Nawr, rwyf i wedi cyflwyno sylwadau i San Steffan am hyn heb lwyddiant. Rhaid i ni ei gwneud hi'n hawdd i bobl gadw at y rheolau. Nawr, gan na allwn ni ddibynnu ar San Steffan, a gawn ni glywed gan Lywodraeth Cymru beth y mae wedi'i wneud i wella'r cymorth ariannol i bobl sy'n gorfod hunanynysu? Pa sylwadau neu gynlluniau ydych chi wedi'u gwneud?

Nawr, mae Plaid Cymru yn credu y gallech chi fod yn gweithredu incwm sylfaenol cyffredinol a fyddai'n helpu i atal lledaenu COVID ac yn helpu i liniaru tlodi. A ydych chi'n cytuno â ni ar hynny ac a wnewch chi hynny?

Diolch i Leanne Wood am godi'r mater hwn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn realistig o ran i ba raddau y gallwn ni ymestyn cyllideb Llywodraeth Cymru, ond, wedi dweud hynny, rydym ni wrthi'n cynnal trafodaethau gyda Thrysorlys EM a rhannau eraill o Lywodraeth y DU ynglŷn â'r cyhoeddiadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud o ran rhyw fath o gymorth incwm i'r unigolion hynny nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar fathau eraill o gymorth. Rydym ni'n ceisio, drwy gydol heddiw, ddeall ffynhonnell y cyllid hwnnw'n well, yr hyn y mae'n ei olygu o ran cyllid canlyniadol Barnett, ac os gallwn ni ddweud mwy am hynny cyn bo hir, fe wn i y byddwn ni'n gwneud hynny.

Yn ystod y cwestiynau, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n ceisio dod â datganiad i'r lle hwn am y rheoliadau coronafeirws newydd a ddaw o ganlyniad i gyfarfod COBRA y bore yma. Rwy'n deall, o'r cyfryngau cymdeithasol, y bydd yn gwneud datganiad cyhoeddus ar y mater hwn heno am 20:05. Felly, byddai'n llawer gwell, rwy'n credu, i Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hon pe bai'n gallu dod yn ôl i'r Siambr y prynhawn yma i wneud datganiad fel y gallwn ni gael cyfle i graffu ar Lywodraeth Cymru ar y materion hyn cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heno.

Yn ail, rwy'n deall o'r datganiad busnes fod datganiad yr wythnos nesaf ynghylch y cynllun cadernid economaidd, a bydd Gweinidog yr economi'n rhoi'r datganiad hwnnw. Mae yn ei le y prynhawn yma, a gwn ei fod yn gallu clywed fy nghwestiwn, felly rwy'n gobeithio y gallwch chi gadarnhau, rheolwr busnes, y bydd y datganiad hwnnw'n cynnwys yr holl sectorau hynny y mae rheoliadau'r coronafeirws yn effeithio arnyn nhw, gan eu bod yn cael eu diwygio yr wythnos hon, ac yn enwedig yr ardaloedd hynny o Gymru, megis Blaenau Gwent, lle mae cyfyngiadau newydd ar waith. Caiff hyn effaith sylweddol ar ein heconomi ac ar lawer o bobl a theuluoedd yn ein cymunedau, ac mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn rhoi rhywfaint o gefnogaeth a chymorth sylweddol i'r bobl hynny fel rhan o'i hymateb i'r argyfwng coronafeirws sy'n parhau. Gobeithio y bydd y datganiad am yr economi yr wythnos nesaf yn ddatganiad ehangach sy'n cynnwys yr holl feysydd gwahanol hynny.

Yn olaf—

Na, nid oes 'yn olaf', Alun Davies. Rydych chi wedi cael dau bwynt ac rydych chi dros amser, ond diolch. Y Trefnydd i ymateb.

Diolch. Felly, o ran y cyntaf o'r pwyntiau hynny, fe hoffwn eich cyfeirio chi at y sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, o ran yr angen i dreulio amser y prynhawn yma yn siarad â'n partneriaid mewn llywodraeth leol ac yn yr heddlu, ac eraill, er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen. Ond, yn amlwg, mae'r Prif Weinidog yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gydweithwyr, ac, wrth gwrs, mae'r datganiad gennym ni gan y Gweinidog iechyd o ran yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws yn ddiweddarach y prynhawn yma, a fydd yn gyfle i gydweithwyr holi'r Gweinidog iechyd am y materion hyn.

O ran y datganiad yr wythnos nesaf, gwn i mai bwriad Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth yw dweud mwy am y gronfa cadernid economaidd, ac yn enwedig cam 3. Nid wyf eisiau achub y blaen ar unrhyw beth y bydd y Gweinidog yn ei ddweud yr wythnos nesaf, ond gallaf i ddweud fy mod wedi cael trafodaethau da iawn gydag ef ac rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol iawn o ddimensiwn lleol yr heriau sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd.

14:50

Trefnydd, mae mater iechyd meddwl wedi symud i flaen ein holl feddyliau yn ddirfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig yn ystod y pandemig gyda'r materion iechyd meddwl cysylltiedig sydd wedi bod yn effeithio ar rai pobl. Efallai eich bod yn ymwybodol bod Mind Cymru wedi lansio eu hymgyrch Sefwch drosof i, yn galw ar bleidiau gwleidyddol Cymru, Aelodau presennol y Senedd ac ymgeiswyr yn y dyfodol i sefyll dros faterion iechyd meddwl. Tybed a gawn ni ddatganiad neu ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru am yr hyn sy'n cael ei wneud cyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf i gadw'r sylw ar iechyd meddwl, nawr ac ar ôl yr etholiad hwnnw.

Os gaf i, Llywydd, ar fater cysylltiedig, 10 Medi oedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Gwn iddo gael ei grybwyll yn y Siambr hon yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, o bosibl gan Jack Sargeant. Tybed a gawn ni ddatganiad—unwaith eto, gofynnodd Jack am hyn—gan Lywodraeth Cymru am yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau ein bod ni i gyd yn gwneud yr hyn a allwn i helpu i atal hunanladdiad, i weld yr arwyddion rhybudd cyn i'r diwedd ofnadwy ddod i rywun fel y gallwn ni wneud ychydig mwy i wrando a darparu'r Gymru garedicach honno yr ydym i gyd am ei rhoi i'n cydweithwyr a'n ffrindiau.

Diolch, Nick Ramsay, am hynna, ac yn bendant, byddaf yn trafod gyda'r Gweinidog iechyd o ran beth arall y gallwn ni fod yn ei wneud i hyrwyddo'r diwrnod hwnnw, ond hefyd i hyrwyddo'r neges ei bod yn hollol iawn i siarad â phobl. Mae'n iawn peidio â bod yn iawn, fel y dywedodd Jack Sargeant wrthym ni yn y Siambr yr wythnos diwethaf. Rwy'n gwybod y bydd pob cyd-Aelod wedi cael gohebiaeth gan Mind Cymru, yn nodi eu hymgyrch newydd, gan ein hannog fel Aelodau'r Senedd a holl Aelodau'r Senedd yn y dyfodol i wneud yr addewid hwnnw i sefyll dros iechyd meddwl, a gwn y byddwn ni i gyd yn awyddus iawn i ymgysylltu â hynny.

Wrth gwrs, rydym ni wedi cyhoeddi ein cynllun cyflawni tair blynedd newydd 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn ddiweddar. Mae hynny wedi bod yn gam pwysig ymlaen, ac yn enwedig, rwy'n credu, o ran gwella mynediad at therapïau seicolegol. Gallaf ddweud bod y Gweinidog iechyd hefyd wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd i ofyn am gynigion o ran cyllid ar gyfer y gronfa drawsnewid o 2021-22 ymlaen er mwyn rhoi'r olwg hwy honno a'r safbwynt hwy hwnnw ar fuddsoddi mewn trawsnewid iechyd meddwl.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, Trefnydd, un gan Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ynglŷn â'i gyhoeddiad diweddar ynghylch y cynnig llwybr coch sy'n ymwneud, wrth gwrs, â'r A55 ar hyd coridor Sir Fflint? Rwyf wedi cael lli o ymholiadau gan etholwyr sy'n bryderus iawn ac sy'n gweld tebygrwydd dilys a chlir rhyngddo a'r penderfyniad ynghylch ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd. Yn amlwg, mae pryderon ynghylch cost—mae'r gost ragamcanol o £210 miliwn yn 2016 bellach dros £300 miliwn. Rydym ni'n gwybod ein bod wedi datgan argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yma yng Nghymru. Wel, os yw hynny'n golygu rhywbeth, yna'n sicr mae'n golygu bod angen i'r Llywodraeth gamu'n ôl ac o leiaf ystyried dewisiadau eraill heblaw priffordd bedair lôn yn unig. Ac, wrth gwrs, mae pandemig COVID wedi newid telerau'r ddadl, gan y bydd mwy o bobl yn gweithio gartref, sy'n golygu y bydd llai o alw ar ein seilwaith ffyrdd yn y blynyddoedd i ddod. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am gael adferiad coronafeirws sy'n ,'Datblygu economi decach, wyrddach a mwy cadarn.' Wel, os nad yw hynny'n golygu ailedrych ar y cynnig hwn, yna mae'n amlwg ei fod yn fusnes fel arfer i Lywodraeth Cymru ac nid oes dim byd wedi newid o gwbl.

Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd—ac mae hyn yn ymwneud â'ch swydd yn Weinidog cyllid—yn tynnu'r cynllun grant ardrethi ar gyfer pob cynhyrchydd ynni dŵr masnachol yn ôl. Rwy'n credu bydd hynny'n effeithio ar tua 50. Rwy'n sylweddoli eich bod chi dal yn cefnogi saith cynllun dŵr cymunedol, ond, yn fwy cyffredinol, mae'r sector yn ddig iawn, mewn gwirionedd, nad yw wedi gallu cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon a allai fod wedi dylanwadu ar eich penderfyniad. Mae llawer o'r cynlluniau bellach—

Wel, yn y bôn, mae gennym ni ddatganiad gan y Gweinidog cyllid yn esbonio pam y mae hi'n credu bod tynnu'r cynllun grant ardrethi ar gyfer generaduron ynni dŵr yn ôl yn syniad da, o ystyried uchelgeisiau'r Llywodraeth o ran di-garbon-net.

Diolch i Llyr am y cwestiynau yna, ac, wrth gwrs, mae'r cynllun grant ardrethi annomestig ynni dŵr yn rhan o bortffolio Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ond rwy'n gwybod y bydd yn gallu clywed eich sylwadau ynghylch hynny y prynhawn yma.

O ran llwybr coch yr A55, y bwriad, yn ôl yr hyn yr wyf i yn ei ddeall yw parhau ac adolygu'r gweithgarwch ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod pawb sydd â diddordeb nawr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd wrth i'r cynllun symud ymlaen. Ond bydd hefyd yn cynnwys gwella cysylltiadau teithio llesol, cysylltiadau teithio ar fysiau a gwella cadernid y seilwaith presennol yn ogystal â lleihau tagfeydd. Ac fe wn y byddan nhw'n cynnal rhai ymchwiliadau amgylcheddol ar hyd y llwybr mwyaf ffafriol yn ddiweddarach eleni. Arolygon anymwthiol fydd y rhain yn bennaf gyda nifer fach o ecolegwyr yn ceisio nodi meysydd posibl i'w harolygu ymhellach. Mae hynny'n golygu y byddan nhw'n cysylltu â thirfeddianwyr lleol i drafod mynediad i dir. Felly, dyna'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf i, ond wrth gwrs byddaf yn sicrhau bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ymwybodol iawn o'r pryderon yr ydych chi wedi'u codi.

14:55

Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, y cyntaf gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar gadw pellter cymdeithasol a mesurau diogelwch eraill mewn archfarchnadoedd. Oherwydd y sefyllfa coronafeirws sy'n gwaethygu, mae rhai archfarchnadoedd eisoes wedi ailgyflwyno ciwiau, systemau un ffordd ac ati, ond mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn rhoi pa bynnag bwysau sydd eu hangen ar archfarchnadoedd i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl.

Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y cyfyngiadau sydd ar waith ar gyfer teuluoedd sy'n disgwyl babanod. Ar hyn o bryd, nid yw partneriaid yn cael bod yn bresennol yn ystod apwyntiadau sganio, a dim ond yn cael bod gyda'u partner adeg esgor. Nid mater bach yw hwn. Nid salwch yw beichiogrwydd, ac rwy'n credu y gallai rhai o'r cyfyngiadau hyn effeithio ar iechyd meddwl, wrth symud ymlaen. Diolch.

Diolch i chi i Lynne Neagle am godi'r ddau fater pwysig yna, ac fe wn i ei bod hi wir wedi bod yn llais cryf, o ran sicrhau bod archfarchnadoedd yn chwarae eu rhan bwysig yn helpu i gadw pobl yn ddiogel. Rwy'n gallu rhoi sicrwydd, yn ystod y cyfarfodydd rheolaidd y mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn eu cael gyda'r diwydiant bwyd a'r archfarchnadoedd, ei bod hi'n dal i bwysleisio pa mor bwysig ydyw. Rwy'n credu bod llawer mwy o ymdrech wedi bod yn ddiweddar a llawer mwy o sylw ar orfodi, a bydd awdurdodau lleol yn cyflwyno hysbysiadau gwella i siopau unigol ac adeiladau eraill nad ydyn nhw'n cyrraedd y safon ofynnol. Gwn i fod eu hetholwyr yn aml yn gofyn i Aelodau'r Senedd dynnu sylw'r awdurdodau lleol at siopau sydd wedi peri pryderon iddyn nhw, a bydd yr awdurdodau lleol yn cynnal arolygiadau a chamau gweithredu lle mae'r diffygion hynny wedi'u nodi. Ond rwy'n awyddus i roi'r sicrwydd hwnnw bod hwn yn destun sgwrs gref rhwng Llywodraeth Cymru a'r archfarchnadoedd.

Mae'r ail fater eto'n bwysig iawn, o ran cymorth i famau cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth, ac rwy'n gwybod bod y trefniadau'n cael eu hadolygu'n gyson oherwydd ein bod yn cydnabod rhan bwysig y partner yno o ran cefnogi'r unigolion. Ond os ydyn nhw'n teimlo'n bryderus am unrhyw beth, y cyngor cyntaf yw siarad â'r fydwraig, oherwydd bydd y byrddau iechyd bob amser yn ystyried amgylchiadau unigol, yn enwedig lle y gallai fod anghenion iechyd meddwl neu anabledd dysgu neu fathau eraill o gymorth y gallai fod eu hangen ar yr unigolyn. Ond, fel y dywedais, rydym ni'n parhau i adolygu hyn yn gyson.

Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar adroddiad Llywodraeth San Steffan NRPB-M173. Rwy'n deall nad yw bellach ar gael i'r cyhoedd, ond mae'n dangos yn gwbl glir bod plwtoniwm wedi bod yn gollwng o Hinkley Point i'r aber ers degawdau. Yr hyn sy'n peri pryder arbennig yw bod adroddiad a phrofion Llywodraeth y DU, ym 1982, wedi dangos bod hynny'n gynnydd enfawr mewn gollyngiad plwtoniwm drwy'r bibell wastraff. Felly, aeth lefel uchel iawn o blwtoniwm i mewn i'r aber yn ôl gwyddonwyr, ac maen nhw, fel y dywedais i, wedi cyflwyno'r dystiolaeth. Y broblem i mi yw bod y Llywodraeth wedi caniatáu i'r mwd gael ei ollwng yn 2018 oherwydd dywedon nhw nad oedd angen profi am blwtoniwm neu allyrwyr alffa, pelydriad alffa, oherwydd nad oedd unrhyw gynnydd cyfatebol mewn gama. Nawr, yr hyn y mae adroddiad NRPB-M173 yn ei ddangos yw nad oes angen uchafbwynt mewn pelydriad gama pan fo uchafbwynt mewn plwtoniwm. Felly, mae gennych chi uchafbwynt enfawr o blwtoniwm yn gollwng i'r aber, ac rwy'n credu ei bod yn rhesymol, felly, tybio ei fod yn y mwd.

15:00

A wnewch chi ofyn eich cwestiwn os gwelwch yn dda, Neil McEvoy?

Gwnaf. Yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw: beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ynghylch hyn?

Wel, gyda pharch, Llywydd, hwn yw'r datganiad busnes, ac nid yw Neil McEvoy na minnau'n wyddonwyr. Felly, byddwn i'n awgrymu'n barchus ei fod yn ysgrifennu at y Gweinidog ar y mater penodol hwnnw, er fy mod yn deall bod y Pwyllgor Deisebau hefyd â diddordeb ac, maes o law, bydd cyfle i'r Gweinidog ymateb i adroddiad pwyllgor ar hyn.

Os gallaf i ddechrau drwy gofnodi fy nghefnogaeth i gyfraniad fy nghyd-Aelod Nick Ramsay, o ran atal hunanladdiad ac iechyd meddwl.

Yn ail, Gweinidog, mae'r adferiad economaidd o goronafeirws yn rhywbeth y mae angen i ni ddechrau cynllunio ar ei gyfer a mynd i'r afael ag ef nawr. Efallai bod Aelodau'n ymwybodol i mi ysgrifennu darn ar wefan Labourlist ddechrau'r haf er mwyn i hynny fod yn adferiad gwyrdd, a galwais am fargen newydd werdd i Gymru. Dim ond ddoe, roedd adroddiad bod Airbus wedi datgelu'r awyren deithwyr ddi-allyriadau a hinsawdd-niwtral gyntaf. Os ydym ni eisiau bod o ddifrif ynghylch adferiad gwyrdd, mae angen gwneud adenydd yr awyren honno yng Nglannau Dyfrdwy. Nawr, er mwyn i hynny ddigwydd, Gweinidog, mae angen i Lywodraeth y DU gefnogi'r diwydiant awyrofod gyda bargen sy'n benodol i'r sector i ddiogelu swyddi a diogelu sgiliau. Gweinidog, a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth ynghylch beth y dylai natur adferiad gwyrdd fod yng Nghymru a pha gymorth sydd ei angen?

Diolch i Jack Sargeant am godi hynna a'r newyddion a allai fod yn gyffrous iawn o ran dyfodol hedfan, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef bod yn rhaid i Gymru chwarae ei rhan mewn unrhyw ddyfodol. Mae'n iawn wrth ddweud bod angen i Lywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru o ran rhoi cymorth i'r sectorau strategol bwysig hyn—y diwydiannau awyrofod, dur a modurol, dim ond i enwi rhai ohonyn nhw. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn barod i chwarae ei rhan. Rwy'n gwybod bod datganiad ar yr agenda yn yr wythnosau nesaf sy'n ymdrin yn rhannol â'r adferiad gwyrdd, ond efallai na fydd yn canolbwyntio'n benodol ar y sylw penodol y mae Jack Sargeant yn chwilio amdano. Ond rwy'n siŵr y bydd yn dod o hyd i ffordd greadigol o wneud ei ymyriadau yn y ddadl honno.

Diolch i'r Trefnydd. Mi fydd yna egwyl nawr ac fe fyddwn yn ôl ymhen ychydig. 

15:10

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:03.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:14, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws (COVID-19)

Fe wnawn ni ailgychwyn gydag eitem 4 ar ein hagenda ni'r prynhawn yma, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: yr wybodaeth ddiweddaraf ar Coronafeirws (COVID-19). Rwy'n galw ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wythnos yn ôl, fe wnes i ddatganiad i'r Senedd i roi gwybod i'r Aelodau am y sefyllfa sy'n datblygu yn Rhondda Cynon Taf a'r angen i gyflwyno cyfyngiadau lleol i reoli lledaeniad coronafeirws a diogelu iechyd pobl. Heddiw, rwy'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y camau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus. Byddwn yn cyflwyno cyfyngiadau lleol mewn pedair ardal arall yn y de oherwydd y cynnydd cyflym a fu yn nifer yr achosion o goronafeirws.

O 6 o'r gloch ymlaen heno, daw cyfyngiadau newydd i reoli lledaeniad y feirws i rym ar gyfer pawb sy'n byw yn  awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Fe fydd hyn yn golygu na chaniateir i bobl fynd i mewn i'r pedair ardal awdurdod lleol hyn na'u gadael heb reswm digonol, megis teithio i'r gwaith neu ar gyfer addysg. Dim ond yn yr awyr agored y gall pobl gwrdd â phobl sy'n byw ar aelwydydd eraill. Ni fyddan nhw'n gallu ffurfio cartrefi estynedig am y tro. Fe fydd yn rhaid i bob safle trwyddedig yn yr ardaloedd hyn gau am 11 p.m. Fe fydd yn rhaid i bawb dros 11 oed barhau i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, fel sy'n wir ledled Cymru. Rydym hefyd yn ymestyn y cyfyngiad trwyddedu 11 p.m. i ardal bwrdeistref sirol Caerffili.

Mae'r cyfyngiadau hyn yr un peth â'r rhai a gyflwynwyd yn Rhondda Cynon Taf yr wythnos diwethaf: o 6 o'r gloch heno, fe fydd yr un cyfyngiadau lleol yn weithredol ym mhob un o'r chwe ardal awdurdod lleol yn y de. Fe fydd hyn yn golygu y bydd cyfran fawr o boblogaeth y de yn byw dan gyfyngiadau lleol er mwyn helpu i reoli lledaeniad coronafeirws. Fe fyddwn ni'n cynnal cyfarfod yn ddiweddarach heddiw gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r heddlu ledled rhanbarth ehangach y de i drafod y sefyllfa sy'n datblygu o ran coronafeirws, yn enwedig ar gyfer yr ardaloedd hynny lle mae'r cyfraddau'n is. Fe fyddwn ni'n trafod a oes angen mesurau pellach i ddiogelu'r boblogaeth ehangach wrth inni baratoi i weld myfyrwyr yn dechrau mewn prifysgolion neu'n dychwelyd iddyn nhw. Fe gynhelir cyfarfod tebyg yn y gogledd i ddwyn ynghyd arweinwyr yr awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd a'r heddlu i drafod y sefyllfa os gwelwn y cyfraddau'n codi'n gyflym drwy'r rhanbarth.

Bu'n rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i gyflwyno'r cyfyngiadau hyn oherwydd ein bod wedi gweld cynnydd sydyn a chyflym mewn achosion yn yr ardaloedd hyn ers diwedd mis Awst. Mae llawer o debygrwydd rhwng yr achosion ym mhob un o'r chwe ardal hyn. Rydym wedi gweld cynnydd a lledaeniad yn yr achosion o goronafeirws sy'n gysylltiedig â phobl yn cymdeithasu heb gadw pellter cymdeithasol, yn cyfarfod dan do ar aelwydydd pobl eraill, a phobl yn dychwelyd adref wedi gwyliau dramor.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae nifer yr achosion cadarnhaol a'u hamlder wedi parhau i gynyddu. Mae hyn i'w ddisgwyl ac mae'n dilyn y patrwm a welsom ym mwrdeistref Caerffili yn y dyddiau yn union ar ôl i gyfyngiadau gael eu cyflwyno. Rydym yn gweld llawer o glystyrau bach ledled ardal yr awdurdod lleol sydd, oherwydd diffyg cadw pellter cymdeithasol, wedi arwain at drosglwyddo'r feirws yn gymunedol. I ddechrau, roedd y rhan fwyaf o'r achosion mewn grwpiau oedran iau, ond bellach rydym yn gweld heintio ym mhob grŵp oedran, ac mae'n achos pryder arbennig fod gennym 34 o achosion o glefyd coronafeirws mewn pobl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn bryder cynyddol i ni oherwydd y cynnydd sydyn mewn achosion mewn cyfnod byr iawn. Rydym wedi nodi nifer fach o glystyrau yn y fwrdeistref, ond rydym yn gofidio bod y patrwm hwn yn debyg i'r hyn a welsom eisoes yn Rhondda Cynon Taf. Fe fydd unedau profi symudol yn cael eu cyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos hon.

Ym Mlaenau Gwent, rydym wedi gweld achosion sy'n gysylltiedig â thafarndai a diffyg cadw pellter cymdeithasol, ond cafwyd achosion ymhlith staff cartrefi gofal hefyd yn ogystal ag yn ysgolion uwchradd yn yr ardal. Yng Nghasnewydd, mae'n ymddangos bod y cynnydd mewn achosion wedi yn gweld nifer fawr o achosion ar draws y ddinas sydd heb fod yn gysylltiedig â chlwstwr penodol nac yn dangos cysylltiadau ag achosion sy'n bodoli eisoes.

Ond mae yna rai gwahaniaethau hefyd. Ym Merthyr Tudful, mae cyfradd yr amlder yn uchel iawn ond ymddengys bod yr achosion yn canolbwyntio'n bennaf ar ddau glwstwr penodol. Mae un yn gysylltiedig â chyflogwr mawr a'r llall â thŷ tafarn. Fe nodwyd dau glwstwr newydd llai o faint hefyd. Fe fydd y cyfyngiadau'n cael eu hadolygu'n fanwl ym mhob un o'r ardaloedd hyn ac yn cael eu hadolygu'n ffurfiol ymhen pythefnos.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, fe fyddwn ni'n cynnal yr adolygiad ffurfiol cyntaf o'r cyfyngiadau ym mwrdeistref Caerffili. Rwy'n dawel obeithiol eu bod nhw'n cael effaith gadarnhaol ar yr achosion o goronafeirws yn yr ardal. Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol dros ychydig ddyddiau yn y gyfradd o achosion. O fod â'r gyfradd uchaf yng Nghymru, gyda 119 achos fesul 100,000 o bobl yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd hon wedi gostwng i 77.9 achos fesul pob 100,000 o bobl. Mae'n parhau i fod yn uchel, ond unwaith eto, mae'n dangos tystiolaeth sy'n dawel obeithiol bod y cyfyngiadau'n helpu i reoli lledaeniad y feirws.

Fe hoffwn i ddiolch i drigolion a busnesau ym mwrdeistref Caerffili am eu cymorth, eu cydweithrediad a'u hamynedd. Mae'n dangos yr hyn y gallwn ni ei wneud trwy gydweithio â'n gilydd. Rwy'n gobeithio y gwelwn ni ostyngiadau tebyg yn y pum ardal awdurdod lleol arall yn y de sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau lleol, a thrwy weithio gyda'n gilydd, fe allwn ni gadw Cymru'n ddiogel.

15:20

Diolch. Andrew R.T. Davies. Mae angen i chi ddiffodd y mudydd, Mr Davies, os gwelwch chi'n dda. Dyna chi.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma, er nad yw'n dweud mwy wrthym na wnaeth y wasg eisoes, rwy'n ofni.

A wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, beth yw nod terfynol y mesurau hyn? Rwy'n tybio mai trechu'r feirws yw hyn ac, yn y pen draw, rwystro ein gwasanaeth iechyd a gweithrediadau cyhoeddus eraill rhag cael eu gorlethu. Ond, i lawer o bobl, o edrych ar y mesurau newydd, onid hyn yw'r normal newydd nawr, ac y byddwn ni, bob hyn a hyn, yn gorfod rhyngweithio â rhyw fath o gyfnod clo nes y bydd brechlyn ar gael? Oherwydd bydd llawer o bobl yn ceisio deall sut y bydd pethau arnom ni drwy fisoedd nesaf y gaeaf o'n blaenau. A wnewch chi hefyd gadarnhau bod y mesurau lleol hyn a roddwch ar waith yno er mwyn osgoi cyfnod clo cenedlaethol, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno bod rhaid osgoi hynny ar bob cyfrif, o gofio'r costau economaidd a chymdeithasol a fyddai'n effeithio ar gymunedau ledled Cymru?

Yn eich datganiad rydych yn sôn am fesurau ychwanegol—ac rwy'n credu mai'r geiriau a ddefnyddir gennych yw—wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i'r brifysgol, diogelu poblogaethau lleol. Fe fyddwn i'n falch o gael deall pa fesurau yr ydych chi'n ystyried eu rhoi ar waith i ddiogelu, yn eich geiriau chi, boblogaethau lleol rhag myfyrwyr yn dychwelyd i gymunedau sy'n croesawu poblogaethau mawr o fyfyrwyr.

A wnewch chi gadarnhau hefyd bod y GIG, er gwaethaf y mesurau lleol hyn, yn agored i fusnes i raddau helaeth iawn? Fe dynnais i sylw ddoe at y ffaith y gwelwyd gostyngiad o 60 y cant yn nhriniaethau'r GIG ers y cyfnod clo ym mis Mawrth, ac er ein bod ni, diolch am hynny, wedi gweld cynnydd araf iawn i'r gweithdrefnau drwy fisoedd yr haf, er gwaethaf y mesurau lleol hyn, rwy'n cymryd y bydd y GIG yn parhau i fod ar agor i fusnes, i raddau helaeth iawn.

Ac yn olaf, o ystyried eich sylwadau chi neithiwr, a sylwadau'r Prif Weinidog yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, a wnewch chi ddatgan yn bendant na fyddwch chi'n cefnogi brechu gorfodol mewn unrhyw amgylchiadau? Mae'n rhaid i mi ddweud, pan welais i eich cyfweliad chi neithiwr, ei bod wedi anfon ias i lawr asgwrn fy nghefn, i feddwl y gallai Gweinidog a etholwyd yn ddemocrataidd, mewn gwlad ddemocrataidd, wneud datganiad o'r math hwn na fyddai'n diystyru mesur o'r fath. Fe fyddaf i, fel rhywun sy'n credu'n gryf yng ngallu brechu i reoli afiechydon a dileu salwch yn ein cymuned ni, yn hyrwyddo brechu i'r eithaf. Ond nid wyf i o'r farn mai swyddogaeth y wladwriaeth yw rhoi deddfwriaeth ar waith a fyddai, yn y pen draw, yn rhoi sêl bendith ar frechu gorfodol mewn unrhyw lun neu fodd. Ac rwy'n nodi eich bod wedi rhoi rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol y prynhawn yma. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Ie, diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Y nod terfynol, o ran y cyfyngiadau a gyflwynwyd, yw lleihau a rhwystro'r feirws ac osgoi niwed. Ac fe fyddwch wedi gweld prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU a Phrif Swyddog Meddygol Lloegr yn nodi ddoe, oni fydd mesurau yn cael eu cymryd i atal lledaeniad y feirws, y gallwn ddisgwyl gweld, erbyn canol mis Hydref, ar gyfraddau twf cyfredol ledled y DU, 50,000 o achosion y dydd, gyda chynnydd cysylltiedig yn nifer yr achosion mewn ysbytai y byddai hynny'n ei achosi, yn ogystal, yn anffodus, â'r cynnydd yn nifer y marwolaethau.

Felly, diben y mesurau yr ydym ni'n eu cyflwyno nawr yw ceisio osgoi'r niwed hwnnw. Cyfrifoldeb Llywodraethau ledled y DU, ein gwasanaeth iechyd, yw paratoi ar gyfer y cynnydd posibl mewn achosion, ond, yn yr un modd, mae'r cyfrifoldeb personol a rannwn ni i gyd a'n swyddogaeth ni fel arweinwyr, nid yn unig o fewn ein pleidiau gwleidyddol penodol ni, ond yn ein cymunedau ni, am y math o ymddygiad y mae angen i bob un ohonom ei ailystyried o ran sut i gyfyngu ar ein cysylltiadau, sut rydym yn deall ac yn dilyn y rheolau, ac, yn benodol, y rheolau sy'n ymwneud â chyswllt aelwydydd.

Rwy'n credu mai un o'r pethau anoddaf y bu'n rhaid i ni eu gwneud yw newid y trefniadau ynglŷn ag aelwydydd estynedig a symud tuag at aelwydydd unigol yn yr ardaloedd hynny sydd â chyfyngiadau lleol. Y rheswm am hynny yw mai cyswllt rhwng aelwydydd yw'r prif ysgogiad. Ac felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall y dylech gael grŵp wedi'i gyfyngu i bedair aelwyd, a'r un bedair aelwyd. Nid yw'n golygu eich bod i gyd yn dewis pedair aelwyd arall. Pedair aelwyd, mewn rhannau eraill o Gymru, i gael cyswllt dan do, gan gynnwys pan ydych yn mynd allan i dafarn neu fwyty gyda'ch gilydd—i fod gyda'r bobl hynny'n unig wrth archebu eich lle. Os na fydd hynny'n digwydd, yna fe fyddwn ni'n debygol iawn o weld cynnydd pellach yn lledaeniad y feirws, gyda'r holl niwed a ddaw yn sgil hynny.

Ac rydym yn gwneud hyn i osgoi niwed ac osgoi cyfnod clo cenedlaethol. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi mai ymadrodd yw hwn, ond mae'r ymadrodd 'i osgoi cyfnod clo cenedlaethol ar bob cyfrif', wel, ni all fod yn addas, oherwydd, o bosibl, 'pob cyfrif' yw'r cynnydd cyflym a sylweddol mewn achosion a niwed yr ydym ni'n ceisio ei osgoi. Rydym wedi bod yn glir iawn, serch hynny, mai cyfnod clo cenedlaethol yw'r dewis olaf ar gyfer osgoi'r raddfa sylweddol honno o niwed. Dyna fel y mae hi o hyd yn y Llywodraeth hon, ac, yn wir, mewn llywodraethau eraill ledled y DU. Ac rydym ni eisoes wedi codi ein stondin: fe fyddwn ni'n cymryd camau eraill, a chau ysgolion yw'r pwynt olaf, cyn i ni gymryd unrhyw gamau eraill. Y peth olaf un yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw cau ysgolion, am resymau y mae'r Aelodau'n eu deall.

Fe fydd y normal newydd yn dibynnu ar ba mor llwyddiannus yr ydym ni'n dilyn y canllawiau hynny ar gadw pellter cymdeithasol ac wrth leihau ein cysylltiadau ni, a pheidio â bod â llawer iawn o gyswllt â grwpiau sylweddol o bobl amrywiol dan do. Dyna pam mae gennym ni reolau ynglŷn ag aelwydydd estynedig ar waith. Os gwnawn ni hynny, yna mae'n bosibl y gallwn ni ddal trwy'r gaeaf heb orfod cymryd camau mwy sylweddol eto. Rydych chi wedi gweld y Prif Weinidog yn cyhoeddi, drwy'r cyfryngau ac yna yn ei ddatganiad heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, fesurau cenedlaethol sylweddol sy'n cael eu cymryd ledled Lloegr. Rydym ninnau'n cyfarfod i drafod yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yng Nghymru, a chyn gynted ag y gallwn ni, fel y nododd Prif Weinidog Cymru'n gynharach, fe fyddwn yn dod i'r fan hon. Ac mae hynny'n wir yn dibynnu ar yr hyn a benderfynir yn y trafodaethau sy'n dal i ddigwydd tra rwyf i yn y Siambr, a phan fyddaf y gadael yn nes ymlaen i ymuno â'r trafodaethau hynny.

O ran y prifysgolion, rwy'n falch iawn o ddweud bod yr heriau sy'n gysylltiedig â'r maint sylweddol o gymysgu sy'n digwydd fel arfer ar ddechrau blwyddyn prifysgol—wel, hoffwn ganmol prifysgolion ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru a'u haelodau nhw am y dull cyfrifol iawn y maen nhw'n ei ddefnyddio ar lefel arweinyddiaeth. Fe fydd gan y Gweinidog Addysg fwy i'w ddweud yr wythnos hon am y mesurau sy'n cael eu cymryd mewn trefi a dinasoedd prifysgol.

O ran lleihau gofal dewisol, rwyf wedi bod yn agored iawn ynglŷn â'r ffaith fod yna ostyngiad wedi bod mewn gofal dewisol drwy gydol y pandemig—a ysgogwyd yn rhannol gan y mesurau y bu angen i ni eu cymryd i roi terfyn ar weithgarwch dewisol ar un pwynt yn bennaf, ac a ysgogwyd yn rhannol gan amharodrwydd pobl i ddod i mewn i ysbyty ar gyfer eu triniaethau, ac a ysgogwyd yn rhannol erbyn hyn gan y sefyllfa wirioneddol, gyda mwy o bobl mewn angen oherwydd bod ein gallu ni i brosesu yn arafu. Mae hyn yn gorfod wynebu gwasanaeth na all weld yr un nifer o bobl ar yr un pryd ag y gwnaethai o'r blaen oherwydd gofynion diogelwch COVID, gan gynnwys gofynion cyfarpar amddiffynnol personol sylweddol ar gyfer ein staff ni. Felly, fe fydd honno'n her wirioneddol yma yng Nghymru a ledled gweddill y DU.

Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar gyfer brechu gorfodol; nid ydym yn bwriadu ceisio pwerau deddfu sylfaenol i wneud hynny. Bob blwyddyn, rydym yn cael trafodaeth am y brechlyn ffliw, ac arferai eich rhagflaenydd chi fel llefarydd iechyd yr wrthblaid, bob blwyddyn, ofyn i mi a fyddem ni'n mandadu bod staff yn ein gwasanaeth iechyd ni'n cael y brechlyn ffliw. Bob blwyddyn, fe fyddem ni'n penderfynu peidio gwneud hynny, a dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd hefyd. Ac fe ddywedais i neithiwr mai gorfodaeth fyddai'r cam mwyaf eithafol a mwyaf annhebygol, ac nid ydym ni'n bwriadu gwneud hynny. Nid dyna yw ein bwriadu ni.

Felly, ein cynllun ar gyfer brechu, os a phan gawn ni frechlyn COVID, yw gwneud hynny gan esbonio'r manteision a'u deall, ac rwy'n credu y bydd llawer iawn o'r cyhoedd yn cydsynio i gael y brechlyn. Ac nid wyf i o'r farn i mi beidio â bod yn eglur nad yw hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud. A dyna safbwynt clir a diamwys y Llywodraeth yn hyn o beth, yn fy marn i.

15:25

Diolch, Weinidog, am y datganiad yna. Cyn imi ofyn cwpwl o gwestiynau am y datganiad ei hun, mae gen i gwpwl o sylwadau am yr atebion y clywsom ni yn y fan yna. Mi fydd pobl wedi dychryn yn clywed y gallai ysgolion gau eto—fel cam olaf, fel y dywedoch chi. Dwi'n sicr, fel un, yn edrych ymlaen am ddatganiad clir iawn gan y Llywodraeth—y Gweinidog Addysg, nid y chi—y bydd addysg yn parhau y tro yma yn ddiamwys os ydy ysgolion yn gorfod cau, a dyna beth fydd rhieni, dwi'n meddwl, yn disgwyl ei glywed. 

Dwi'n croesawu hefyd eich eglurhad chi ynglŷn â brechiadau gorfodol—dydy o ddim yn gynllun, meddai chi. Dyma pam fod dewis geiriau mor ofalus gan ein harweinwyr ni ar yr adeg hon—. Rydych chi'n dal i ddweud, 'Dydyn ni ddim yn cynllunio gwneud hyn.' Mae eisiau bod yn glir iawn na fydd y Llywodraeth yn gwneud hyn, oherwydd dyma'r math o beth sydd yn mynd i godi amheuon mawr ym meddyliau etholwyr ledled Cymru, yn hytrach na'u cael nhw i ddilyn a bod yn dymuno dilyn cyngor a chyfarwyddyd y Llywodraeth. 

Ychydig o gwestiynau. Dwi'n croesawu ehangiad y cyfyngiadau—mae'n amlwg bod y patrwm yng Nghymru yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Rydym ni'n sicr yn croesawu dilyn y patrwm yma o gyfyngiadau lleol. Un peth rydych chi'n ei wneud, wrth gwrs, ydy gofyn i bobl aros o fewn eu hardaloedd eu hunain. Mae yna anomali yn fan hyn ar draws Prydain. A gaf ofyn i chi: ydy o'n fwriad i siarad efo'r Llywodraeth yn Lloegr, awdurdodau lleol yn Lloegr, i ofyn iddyn nhw wneud yr un fath? Achos, ar hyn o bryd, er bod pobl yng Nghymru yn gorfod aros yn eu ardaloedd eu hunain, os ydyn nhw'n ardaloedd o risg, ardaloedd o dan gyfyngiadau, does dim byd i atal pobl rhag teithio i Gymru o ardaloedd eraill. Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth sydd angen ei drafod ar y lefel uchaf rhwng Llywodraethau.

Ydy'r Gweinidog yn credu bod angen y plan B yn barod? Er enghraifft, mae yna, i fi, lefydd amlwg lle dydych chi ddim yn mynd yn ddigon pell. Does yna ddim cyfyngiad, ar wahân i gau am 11 y nos, ar dafarndai, gymaint ag a fyddai pobl, dwi'n meddwl, yn dymuno ei weld. Rydym ni y tu ôl i Loegr yn sicr ar hyn erbyn hyn. Ydych chi yn ystyried mynd gam ymhellach a gofyn i bobl gau yn gynharach fel cam lleiaf, dim ond agor y tu allan, cau tafarndai a bwytai hyd yn oed, os, a dim ond os, yr ydych chi'n gallu rhoi cefnogaeth ychwanegol iddyn nhw?

I gloi, dwi angen, unwaith eto, tynnu sylw at y broblem yn fan hyn. Rydym ni'n cefnogi'r cyfyngiadau ychwanegol, yn gofyn os ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell, ond mae'n rhaid mynd i'r afael â'r broblem efo profi. Rydych chi wedi rhoi datganiad allan heddiw yn dweud y bydd hi'n wythnosau nes y bydd lighthouse labs wedi cael ei ddatrys. Dydy hynny ddim yn digon da. Rydych chi'n dweud bod yna 28,000 o brofion ychwanegol yr wythnos yng Nghymru rŵan, yn cyfeirio at Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â hynny. Fedrwch chi egluro o ble yn union mae'r 28,000 o brofion yr wythnos yma yn dod, a phryd byddwn ni'n gweld eu heffaith nhw yng Nghymru?

Ac o ran y datganiad gan y Prif Weinidog heno, plis a wnewch chi dynnu fo ymlaen fel ein bod ni'n gallu cael hwn yn y Senedd y prynhawn yma? Diolch yn fawr.

15:30

Diolch i chi am y sylwadau. Nid wyf yn credu fy mod i wedi newid safbwynt y Llywodraeth ar gau ysgolion o gwbl. Rwyf wedi bod yn eglur iawn mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw cadw ysgolion ar agor cyn belled ag y bo modd, ac fe fyddwn ni'n blaenoriaethu ysgolion uwchlaw sectorau eraill. Felly, fe wnawn ni gau rhannau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus, neu'n wir yr economi, er mwyn diogelu'r gallu ar gyfer ein hysgolion ni. Mae yna effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Ceir tystiolaeth eu bod nhw'n llai agored i niwed, ac yn llai tebygol o fod yn heintus i oedolion, ac, yn yr un modd, ceir tystiolaeth dda nad yw pob plentyn wedi ffynnu o gael eu haddysgu o bell. Dyma wirionedd sy'n cael effaith yn y tymor hwy ar ragolygon plant a phobl ifanc. Felly, nid yw safbwynt y Llywodraeth wedi newid o gwbl yn hyn o beth.

Ac ni allaf fod yn gliriach na hynny: nid oes cynllun o gwbl ar gyfer brechu gorfodol. Nid wyf yn dymuno codi sgwarnog fel hyn. Mae gennym waith sylweddol i'w wneud eleni yn cynllunio ar gyfer yr ymgyrch brechu rhag y ffliw. Mae angen inni berswadio pobl i fanteisio ar eu hawl i gael pigiad rhag y ffliw, i'w hamddiffyn nhw eu hunain a'r bobl o'u cwmpas, a bydd hyn yn digwydd hefyd pryd bynnag y cawn ni frechlyn COVID. Rydym eisoes yn cynllunio sut i gyflawni hynny, ac nid yw gorfodaeth yn rhan o gynlluniau'r Llywodraeth hon.

O ran teithio lleol, gyda'r cyfyngiadau a gyflwynwyd eisoes mewn chwe ardal yn y de, mae gennym ni, wrth gwrs, gyfyngiadau eisoes sy'n atal teithio i'r ardaloedd hynny. Felly, os ewch chi'n ôl i'r sefyllfa a gawsom o'r blaen yn ystod y cyfnod pan gafwyd yr achosion cyntaf gyda'r neges i aros yn lleol, gwyddom fod hysbysiadau cosb wedi cael eu rhoi i bobl a oedd yn teithio o'r tu allan i'r ardal. Ac efallai y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw eto, ond nid cyn belled. Ac, mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni ganolbwyntio'n bennaf ar gael pob un ohonom i gyfyngu ar ein cysylltiadau, a bod yn eglur ynghylch yr hyn a ddywed y rheolau am y ffordd yr ydym ni'n cadw pellter cymdeithasol, a'r ffordd yr ydym ni'n dilyn y rheolau penodol ar gymysgu â phobl eraill dan do.

Gyda llawer iawn o symud o gwmpas yn digwydd yn y DU wrth i'r prifysgolion ailagor, rhan o'r her yw y bydd pobl yn symud o un rhan o'r wlad i'r llall, o ardal lle ceir mwy o achosion i ardal lle ceir llai, ac i'r gwrthwyneb hefyd. Fe wyddom ni, fel y gwelsom yn Rhondda Cynon Taf, mewn lleoliadau cymunedol, nad yw'r feirws yn aros o fewn un grŵp oedran arbennig, ac felly ceir pryder ynghylch sicrhau nad yw ein prifysgolion yn gweld niwed yn digwydd, mewn lefelau cymharol is, i boblogaeth y myfyrwyr, ond ni ddylem ddisgwyl y bydd hynny'n aros yn gyfan gwbl o fewn un bloc yn y boblogaeth.

O ran yr heriau sy'n ymwneud ag adeiladau trwyddedig, rydym eisoes yn ystyried beth y dylid ei wneud; mae'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn fwriadol. Rydym eisoes wedi cael dadl ynglŷn ag oriau cau cynharach a'r cyfyngiadau sydd gennym ni am 11 o'r gloch, ac rydym yn ystyried a ddylid symud i 10 o'r gloch. Mae rhywbeth i'w ddweud am gysondeb yn hyn o beth a allai helpu gyda'r neges, a rhan o'r cyfarfod a oedd i'w groesawu yn COBRA heddiw oedd y gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU y byddai o gymorth cael trafodaeth rhwng pedair Llywodraeth y DU, o ran trafod a chytuno ar benderfyniadau lle bynnag y bo modd gwneud hynny, ond fe fyddai hefyd o gymorth o ran cyfathrebu. Roedd yna gydnabyddiaeth rannol, o leiaf, nad oedd peidio â chael cyfarfodydd pedair gwlad wedi bod o gymorth o ran eglurder yn y cyfathrebu. Mae hynny'n bwysig i bobl sy'n awyddus i ddilyn y rheolau a chydnabod ei bod yn bwysig ymddwyn yn unol â'r canllawiau. Felly, nid dim ond ystyried mater 10 o'r gloch a wnawn, rydym hefyd yn ystyried a ddylai hynny ddigwydd o ran gweini wrth fyrddau. Mae cyfyngiadau eraill yn bosibl cyn inni orfod cau i lawr. Fel y soniais o'r blaen, mae'n bosibilrwydd, ond nid yn gynllun, y gellid gwneud yr hyn a wnaeth Iwerddon, lle maen nhw wedi cadw'r tafarndai ar agor, ond dim ond os ydyn nhw'n cynnig bwyd hefyd. Felly mae yna sawl ffordd wahanol i'w throedio cyn cyrraedd y pwynt o gau'r tafarndai yn llwyr, oherwydd pe byddem yn gwneud hynny gallwn fod yn siŵr iawn y bydd rhywfaint o'r yfed yn symud i aelwydydd pobl, sef lle mae'r fectorau mwyaf arwyddocaol o ledaenu'r feirws wedi digwydd.

Fe godwyd materion yn ymwneud â phrofi yng nghyfarfod COBRA y bore yma. Yn y cyflwyniad gyda Dido Harding, y cyfeiriodd Prif Weinidog Cymru ato, roedd yna gydnabyddiaeth unwaith eto fod angen gwella'r sefyllfa, gyda'r heriau hysbys iawn nid yn unig o ran niferoedd y profion, ond o ran cyflymder cwblhau'r profion hynny hefyd. Mae gennym ni yma yng Nghymru wasanaeth olrhain cyswllt da iawn—sy'n hynod effeithiol, yn sylweddol well na'r gwasanaeth yn Lloegr. Ond os yw pobl, yn rheolaidd, yn gorfod aros am dri diwrnod am eu profion, yna ceir her o ran a yw'r bobl hynny, a'u cysylltiadau nhw, eisoes yn cymysgu o fewn y gymuned. Felly mae honno'n rhan o'r her yr ydym ni'n awyddus i ymdrin â hi.

Ac o ran defnyddio'r capasiti ychwanegol yr ydym ni'n ei ryddhau i'r system, rydym yn mynd i gael lonydd ychwanegol a mwy o brofion ym mhob canolfan profi trwy ffenest y car. Rydym yn creu nifer ychwanegol o unedau profi symudol hefyd. Ar hyn o bryd, fe fyddan nhw'n cael eu rhoi yn yr ardaloedd lle mae'r nifer fwyaf o achosion—ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ond fe fyddwn ni'n parhau i geisio deall pa mor hir y mae disgwyl inni orfod aros i'r rhaglen labordai goleudy fod yn ei hôl ar y trywydd iawn. Ac efallai y bydd angen inni gymryd camau pellach i newid mwy o'n profion ni, i sicrhau eu bod yn fwy dibynadwy a chadarn, i'r capasiti yr ydym ni wedi cymryd yr amser a'r adnoddau i'w adeiladu yma yng Nghymru, yn ogystal â'r £32 miliwn a gyhoeddais i o'r blaen i atgyfnerthu ein seilwaith profi ni yma yng Nghymru drwy'r hydref a'r gaeaf.

15:35

Diolch. Cyn inni fynd ymhellach, rydym hanner ffordd drwy'r amser a neilltuwyd ar gyfer y datganiad hwn ac rydym wedi cael dwy gyfres o gwestiynau. Mae gennyf tua 10 siaradwr, felly os cawn ni gyfraniadau sy'n fwy cryno, fe fyddai hynny o ddefnydd mawr. David Rowlands.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Gweinidog, rhaid i bob un ohonom gydnabod bod angen dilyn, i ryw raddau, yr hyn y mae Llywodraeth y DU ac, yn wir, lawer trwy'r byd yn ei wneud o ran COVID-19. Ond mae'n ddyletswydd arnom ni'r gwleidyddion i holi ynglŷn â'r camau llym hyn, ac maen nhw'n llym iawn, oherwydd fe fydd yna ganlyniadau pellgyrhaeddol i bron pob unigolyn sy'n byw yng Nghymru. Mae'n rhaid inni ofyn a yw'r ffigurau'n cyfiawnhau'r camau hyn.

Ar hyn o bryd, mae COVID-19 yn gyfrifol am, ar gyfartaledd, 11 o'r 1,687 o farwolaethau sy'n digwydd ym Mhrydain bob dydd. Gellir cymharu hyn â'r ffaith, yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 4 Medi, fod 124 o bobl wedi marw bob dydd o achos ffliw endemig a niwmonia. Clefyd y galon, sef y clefyd sy'n lladd y mwyaf o bobl ym Mhrydain, oedd achos 460 marwolaeth bob dydd y llynedd, tra bod canser yn lladd 450 o bobl bob dydd ar gyfartaledd. Rydym i gyd wedi cael gwybod nad yw pobl yn ceisio triniaeth ar gyfer y clefydau hyn gan fod arnyn nhw ofn dal y feirws yn ein hysbytai. Ac o ystyried y dystiolaeth gynyddol bod yr ystadegau ar farwolaethau o ganlyniad uniongyrchol i glefyd coronafeirws yn ddiffygiol iawn, a yw'r Llywodraeth yn gallu cyfiawnhau cyfnod clo i'r boblogaeth gyfan oherwydd ymddygiad nifer fach iawn o bobl, fel y mynegodd y Prif Weinidog ei hun yn gynharach yn y Cyfarfod Llawn hwn? Onid y camau cywir, Gweinidog, fyddai cosbi'r rhai sy'n torri'r rheoliadau, ac nid ceisio carcharu'r rheini ohonom sy'n ufuddhau i'r gyfraith?

Roeddwn i'n awyddus i dynnu sylw hefyd at rai o'r anghysonderau sy'n rhan annatod o'r camau gweithredu presennol. Rydym yn gweld caniatâd yn cael ei roi i ffeiriau teithiol, ond mae digwyddiadau marchogaeth sydd wedi'u trefnu'n briodol yn cael eu hatal, ac ni all pobl deithio allan o ardaloedd dan glo ond caniateir i lawer iawn o bobl wneud hynny ar gyfer prosesau gwaith, fel y'u gelwir. Siawns nad yw strategaethau clo o'r fath, nad ydynt yn dal dŵr o bell ffordd, ddim ond yn achosi dryswch i'r rheini ohonom sy'n cadw at y rheoliadau, pan welir effeithiolrwydd cyfyngedig o ran rheoli'r feirws.

Diolch am y gyfres o sylwadau, ac fe geisiaf i ymateb i'r pwyntiau sydd â chwestiynau ynghlwm wrthyn nhw. Mae'r Senedd, wrth gwrs, yn pleidleisio ar y rheoliadau a'r cyfyngiadau sylweddol a gyflwynwyd a'r ymyriadau ar ryddid pobl, ac rwy'n cydnabod hynny; nid yw'n benderfyniad hawdd na syml. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud serch hynny yw osgoi niwed, nid aros nes y bydd niwed sylweddol wedi cael ei achosi. Yn y don gyntaf, o'n cymharu ni â Lloegr, rydym ni wedi gweld llawer llai o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru. Felly, mae hynny'n gadarnhaol, ac eto i gyd rydym ni'n parhau i weld fod yna fwy na 2,500 o bobl wedi colli eu bywydau i goronafeirws. Mae hynny er gwaethaf y mesurau sylweddol a wnaed gennym. Gallwn fod yn hyderus y buasai llawer iawn mwy o farwolaethau, mae arnaf ofn, oni bai am y mesurau hyn, a dyna pam mae angen inni weithredu.

O ran yr her ynghylch a ddylem ni ddefnyddio'r wialen fedw ar gyfer y bobl hynny nad ydyn nhw'n dilyn y rheolau, mewn gwirionedd, angen dwyn perswâd sydd arnom ni, i annog a chefnogi pobl i ddilyn y rheolau. Ac, yn arbennig felly, dyna pam mae'r mesurau ariannol i gefnogi hunanynysu mor bwysig. Fe fyddai cael eglurder cyflym ynghylch y symiau canlyniadol ar gyfer hynny i'w groesawu'n fawr ym mhob un o'r pedair gwlad, ac roedd yn bwynt a godwyd yng nghyfarfod COBRA heddiw, sef bod angen eglurder ar gyfer Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru ynglŷn â'r arian a fydd ar gael i helpu pobl sy'n hunanynysu. Oherwydd os ydych yn cael tâl salwch statudol, a bod angen ichi hunanynysu am 14 diwrnod, efallai y byddwch chi'n gweld na allwch fwydo eich teulu na thalu eich biliau. Nid yw honno'n sefyllfa y dymunwn roi pobl ynddi, felly fe allai achosi i bobl beidio â mynd am y prawf yn y lle cyntaf. Felly, cyn gynted ag y cawn ni eglurder am y cyllid, fe fyddwn ni'n hapus i ddod yn ôl gyda chynllun i sicrhau bod hynny ar waith.

15:40

Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am y datganiad a chroesawu'n fawr y ffaith bod y trafodaethau pedair gwlad wedi dechrau, ond hoffwn ofyn iddo a yw'n siŵr ac yn hyderus y bydd yna gyfarfodydd rheolaidd a dibynadwy yn digwydd nawr, ac nid unwaith yn unig? Ac a gaf i ddiolch iddo hefyd am yr ymgysylltu hynod ddwys a gafodd, nid yn unig ag Aelodau'r Senedd, ond ag arweinwyr yr awdurdodau lleol ledled y de hefyd? Pe bai pobl ond yn gwybod hanner yr hyn oedd yn digwydd ar lefel yr ymgysylltu a'r cynllunio a'r cydgysylltu, rwy'n credu y bydden nhw'n rhyfeddu, ac rwy'n amau'n fawr a yw hyn yn digwydd i'r un graddau, mae'n rhaid imi ddweud, yn Lloegr.

A gaf i ofyn iddo ddweud wrthym ni—? Fe soniodd y bydd uned brofi symudol yn cael ei chyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr nawr, ryw bryd yn ystod yr wythnos hon o bosibl. A wnaiff roi ychydig mwy o fanylion i ni am hynny? A diolch i chi am hynny, oherwydd rydych yn gwybod fod hwnnw'n fater a gododd arweinydd yr awdurdod lleol, Huw David, a minnau gyda chi. Felly, dyna waith cyflym iawn ar hynny. Ac a gaf i ofyn ichi gadw meddwl agored yn y trafodaethau gydag arweinwyr cynghorau ynghylch mynd ymhellach gyda'r tafarndai, fel yr ydych chi newydd ei ddweud—mewn tafarndai a chlybiau? Rwy'n credu bod yna ffyrdd sy'n werth ymchwilio iddyn nhw, nid dim ond lleihau oriau gweithredol tafarndai, ond mewn gwirionedd wrth eistedd i lawr am wasanaeth a'r gorchuddion wyneb. Ac fe welwn ni yn yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'r rhain wedi bod yn gweithio, ac mae'n golygu rhywfaint o ddisgyblaeth. Oherwydd, Gweinidog, y ddau beth nad ydyn nhw'n mynd gyda'i gilydd yw meddwdod ac oriau hwyr, a chadw pellter cymdeithasol.

Rwy'n croesawu'r sylw. Rwy'n diolch i'r Aelod am ei ymgysylltiad adeiladol ef, nid yn unig yn y lle hwn, ond y tu allan hefyd. Rwyf wedi treulio llawer o amser yn siarad ag arweinwyr yr awdurdodau lleol ac rwy'n disgwyl ymuno mewn galwad gyda 10 o arweinyddion gwahanol awdurdodau lleol ar ôl i'r sesiwn hwn ddod i ben. 

O ran yr ymgysylltu rhwng y pedair gwlad, rydym wedi gwneud y pwynt unwaith eto'r bore yma bod cael trefn reolaidd a dibynadwy i'n hymgysylltiad ni er budd pawb. Gan ein bod ni'n nesáu at gyfnod arall, lle mae coronafeirws yn cynyddu, fe ddaw gwerth cysondeb ein neges ni'n fwy amlwg byth. Rydym ni o'r farn y byddai hyn wedi bod o gymorth drwy'r haf hefyd. Ond rydym mewn gwell sefyllfa nawr, rydym yn croesawu'r ffaith i gyfarfod COBRA gael ei gynnal ac rwy'n awyddus i weld mwy o gyfarfodydd rheolaidd, ac felly nid oes angen inni bendroni tybed beth fydd yn digwydd na chlywed pethau'n cael eu briffio i'r papurau newydd cyn i ni gael trafodaethau yn eu cylch. Mae er ein lles ni i gyd i sicrhau bod hynny'n digwydd yn rheolaidd.

Fe ddof i'n ôl atoch yn ddiweddarach yr wythnos hon gyda'r manylion a gadarnhawyd. Rwy'n aros nid yn unig i'r safle fod yn barod ond i'r holl drefniadau fod ar waith, ac fe fyddaf i'n sicrhau bod Aelodau'r etholaeth a'r rhanbarth yn ymwybodol pryd y bydd safle profi Pen-y-bont ar Ogwr ar gael ac ymhle y bydd hynny. Mae'n ymwneud â chael profion lleol ar gyfer pobl leol. Rhan o'r her rhaglen y DU y bore yma oedd eu bod nhw wedi ceisio cyflwyno datrysiad i sicrhau na allwch archebu prawf sy'n fwy na 50 milltir i ffwrdd o'ch cartref. Mae angen inni wneud yn siŵr bod hynny'n golygu 50 milltir o daith, ac nid fel yr hed y frân, oherwydd, fel y gwelsom ni, mae pobl sy'n byw yn Weston-super-Mare wedi cael eu cyfeirio at ganolfannau profi yn ne Cymru ac nid yw hynny'n fuddiol o gwbl.

O ran cyfyngiadau ar dafarndai, rwy'n ystyried y pwynt yr ydych chi'n ei godi, ac fe soniais i'n gynharach am weini wrth y bwrdd ac amser cau o 10 o'r gloch, ac rydym ni'n adolygu'r dystiolaeth ar orchuddion wyneb hefyd. Ond dim ond rhybudd ynglŷn â hynny: mae'n amlwg na allwch yfed na bwyta pan fyddwch yn gwisgo mwgwd, ac mae'r her o dynnu'r gorchudd wyneb a'i roi yn ôl ymlaen yn rhan o'r pryder.  Mae'r weithred hon yn digwydd ar yr adegau pan allwch chi fod yn rhyddhau peth o'r feirws mewn gwirionedd, felly mae angen ystyried a yw'r dystiolaeth yn cefnogi bod hynny'n fwy tebygol o ledaenu coronafeirws yn hytrach na bod o fudd. Ond mae'r adolygiad hwnnw wrthi'n cael ei gynnal.

15:45

Diolch am eich ymateb i Huw Irranca-Davies ynglŷn â chanolfan brofi symudol i Ben-y-bont ar Ogwr. Rwyf i am ofyn dim ond hyn i chi, o gofio bod y rheoliadau hyn yn debygol o ddod ger ein bron yr wythnos nesaf ac na fyddan nhw'n cael eu hadolygu wedyn am dair wythnos arall o'r wythnos hon ymlaen, am ba hyd yr ydych chi'n disgwyl i'r cyfnodau clo barhau? A oes gennych amserlen mewn golwg, neu a yw hyn yn seiliedig i raddau helaeth iawn, wel, ar y rhif R i bob pwrpas? Diolch.

Yn y cynllun i reoli coronafeirws, rydym wedi nodi—ac rwy'n credu mai hwn yw'r gofyniad cyfreithiol hefyd—y byddwn ni'n adolygu'r cyfyngiadau unigol hyn bob 14 diwrnod i ddechrau, ond yn eu hadolygu nhw bob wythnos wedyn. Mewn gwirionedd, rydym yn edrych ar y darlun dyddiol o'r hyn sy'n digwydd. Felly, fe edrychwn ni ar y cyfraddau bob dydd a'r hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthym am y tueddiadau. Ac, oherwydd yr heriau o gael canlyniadau profion yn mynd drwodd, mae hynny'n golygu bod ein ffigurau ni'n newid wrth inni fwrw golwg yn ôl i ddeall faint o achosion cadarnhaol sydd wedi digwydd ar unrhyw ddiwrnod.

Felly, er enghraifft, yn ôl y ffigurau sydd gennym dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, gwyddom y byddwn yn cael rhagor o'r rhain wedi'u llenwi yn ystod y dyddiau nesaf. Mae bwlch o hyd at dri i bedwar diwrnod, fel arfer, yn y profion labordy goleudy ar y foment. Nawr, dyna ran o fan dall sydd gennym yng nghanol yr hyn y gallwn ni ei wneud. Mae gennym lawer mwy o wybodaeth na'r hyn oedd gennym ym mis Chwefror neu fis Mawrth neu fis Ebrill, gyda rhaglen brofi sy'n llawer mwy, ond mae'r bwlch amser yn peri rhywfaint o anhawster o ran ba mor ddibynadwy yw'r tueddiadau. Dyna pam mae'r duedd dros saith diwrnod yn bwysig i ni, a'r data dros y 48 i 72 awr ddiwethaf hefyd.

Felly, rydym yn edrych ar hynny'n rheolaidd, a'm huchelgais i yw, pan fyddwn yn deall ein bod wedi llwyddo i reoli coronafeirws yn yr ardaloedd hynny unwaith eto, mae angen inni feddwl drachefn am lacio rhai o'r cyfyngiadau, ond gwneud hynny mewn ffordd y gellir ei rheoli ac mewn ffordd y gallwn ni gadw ati drwy'r hydref a'r gaeaf. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn flaenorol, mae'r rhain yn gyfyngiadau sylweddol ar ryddid pobl sydd, ar unrhyw adeg arall—a hyd yn oed ar yr adeg hon—ymhell y tu hwnt i'r cyffredin. Nid wyf yn dymuno eu gweld ar waith am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wn i fod Caroline a minnau wedi cael yr un broblem adeg yr etholiad diwethaf, pan oedd pobl yn ein drysu â'n gilydd, yn sicr ar bapur.

Tri pheth sydd gennyf i, Gweinidog. Yn gyntaf, fe wnaethoch chi sôn eisoes am yr arwyddbyst—pwyntiau'r adolygiad, fel petae—yn y broses. A wnewch chi roi ryw syniad inni o'r hyn y byddwch chi'n chwilio amdano mewn 14 diwrnod, pan fyddwch chi'n penderfynu a ddylid ymestyn y cyfyngiadau hyn yn y dull hwn ai peidio, er mwyn cael syniad o ba arwyddion yr ydych chi'n chwilio amdanyn nhw i benderfynu a ddylid cadw'r cyfyngiadau, neu a ddylid eu tynhau nhw neu, yn wir, eu llacio nhw?

Yn ail, rwy'n pryderu, wrth i dafarndai a bariau gau ar ôl 11 p.m., y bydd yn demtasiwn i rai pobl, yn enwedig pobl ifanc, fynd ymlaen i bartïon mewn tai. Nawr, fe wyddom ni, wrth gwrs, fod partïon mewn tai yn risg arbennig gan ein bod ni'n gweld pobl yn cymysgu'n agos iawn at ei gilydd. Mae alcohol yn rhan o hyn, ac felly fe wyddom fod cadw pellter cymdeithasol yn tueddu i fynd ar chwâl. Pa negeseuon yr ydych chi'n eu paratoi i'w rhoi ynglŷn â pheryglon partïon mewn tai yn disodli tafarndai yn hyn o beth?

Yn drydydd, dim ond apêl i sicrhau, pan gaiff cyhoeddiad ei wneud, bod y canllawiau ar gael cyn gynted â phosibl. Roedd fy nghyd-Aelod i, yr Aelod dros Ogwr, a minnau yn ffodus yn yr ystyr ein bod ni, pan wnaeth etholwyr ymholiadau, yn gallu eu cyfeirio nhw at ganllawiau Rhondda Cynon Taf. Ond, dim ond apêl i sicrhau bod y canllawiau ar gael cyn gynted â phosibl, fel bod y rhai ohonom ni yr effeithir arnyn nhw fel Aelodau yn gallu darparu'r lefel briodol o gyngor i'r etholwyr.

Diolch i chi am y cwestiynau. Ynglŷn â'ch pwynt olaf, rwy'n cydnabod bod angen darparu eglurder, a hynny cyn gynted ag sy'n bosibl, ynglŷn ag ystyr y cyfyngiadau i bobl. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn awyddus i ddilyn y rheolau, ac felly mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym ni'n eu helpu nhw i wneud felly. Mae'n rhaid cydbwyso hynny â chyflymder y broses o wneud penderfyniadau sy'n angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel. Ond, pwynt da yw hwn, ac yn yr achos hwn, mae wedi bod o gymorth mai'r un cyfyngiadau yn y bôn sydd eisoes ar waith yn Rhondda Cynon Taf sydd ar draws y chwe awdurdod lleol perthnasol yn y de erbyn hyn.

O ran yr her o safbwynt partïon mewn tai, mae hwn yn berygl gwirioneddol ac yn bryder gwirioneddol. Dyma ran o'r rhesymeg dros gadw tafarndai a'r fasnach letygarwch ar agor. Mae'n amgylchedd lle gall pobl yfed gyda'i gilydd, lle maen nhw'n mwynhau gwneud hynny gyda'i gilydd, ond hefyd, mae'n amgylchedd a gaiff ei reoleiddio ac mae'n bosibl cadw golwg arno. Rydyn ni'n pryderu mwy am y cyswllt dan do yng nghartrefi preifat pobl. Hwnnw fu'r maes pennaf o ran lledaeniad a chyfraddau heintio yn codi. Felly, yr hyn nad ydym yn bendant yn dymuno ei weld yw cynnydd mewn partïon mewn tai. Os ydych chi'n credu eich bod yn fwy diogel yn yfed yn eich cartref gyda chwech neu saith o ffrindiau sydd ddim yn byw gyda chi, mewn gwirionedd, rydych chi mewn llawer mwy o berygl na'ch bod chi mewn tafarn lle mae'n rhaid cadw pellter cymdeithasol. Felly, ceir her wirioneddol yn yr hyn a wnawn a'r negeseuon ynghylch lletygarwch, pam mae'n cael ei gadw ar agor, a'r her o gyfnewid hwnnw'n syml am yfed a phrynu alcohol o siop. Rydym yn edrych ar siopau sy'n gwerthu alcohol yn faes posibl ar gyfer cyfyngiadau, ynghyd â Llywodraethau eraill yn y DU.

O ran yr hyn sydd angen ei weld ar gyfer dileu'r cyfyngiadau lleol presennol, fe fyddwn ni'n edrych yn benodol ar ostyngiad yng nghyfradd yn achosion ac ar dueddiadau yn mynd i'r cyfeiriad iawn, gan weld gostyngiad cyson yn y rhain er mwyn iddynt fod yn is na'n lefelau gweithredu ni. Rydym hefyd yn mynd i fod yn edrych ar y cyfraddau cadarnhaol, a nifer y bobl ym mhob cant sy'n cael prawf cadarnhaol. Fe fydd hynny'n dweud llawer wrthym am gyflwr trosglwyddiad cymunedol. Ac fe fyddwn ni hefyd yn edrych ar yr wybodaeth a gawn gan ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu am glystyrau newydd, a oes gennym ni glystyrau heb esboniad—mae hwnnw'n arwydd arall bod trosglwyddiad cymunedol yn digwydd—ond tystiolaeth hefyd o gymysgu a sut mae pobl yn cael coronafeirws yn y lle cyntaf. Felly, bydd amrywiaeth o fesurau a fydd yn cynnwys mesurau data mwy caled a gwybodaeth fwy meddal ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd o ran ymddygiad yn y gymuned.

Ond os byddwn yn gwneud unrhyw ddewisiadau ynghylch gostwng lefel yn is, fe fydd yn rhaid inni egluro pam rydym yn gwneud hynny a beth mae hynny'n ei olygu wedyn. Yr hyn nad wyf i'n dymuno ei weld yw pobl yn colli golwg ar y ddisgyblaeth gyffredin y mae angen inni ei hailddarganfod o ran parchu ac ymarfer cadw pellter cymdeithasol yn arbennig.

15:50

Gweinidog, mae trigolion yn fy rhanbarth i ym Mlaenau Gwent, yng Nghaerffili, ym Merthyr ac yng Nghasnewydd yn wynebu cyfyngiadau erbyn hyn. Rwy'n nodi eich ateb ychydig funudau yn ôl ynglŷn â sut y byddwch chi'n adolygu'r cyfyngiadau yn ddyddiol, ac rwy'n croesawu hynny. Gan fod cynifer o awdurdodau cyfagos yn wynebu cyfyngiadau erbyn hyn, fe hoffwn i ofyn a fyddai'n gwneud mwy o synnwyr i ystyried ailgyflwyno'r rheol pum milltir, dywedwch, yn hytrach na disgwyl i bobl sy'n byw ar y ffin rhwng ardaloedd yr awdurdodau allu teithio ar hyd a lled ardal eu hawdurdod eu hunain ond nid, er enghraifft, ymweld ag aelodau o'r teulu yn yr awyr agored sy'n byw dwy filltir i ffwrdd oherwydd eu bod y tu hwnt i'r ffin rhwng awdurdodau.

Ac yn olaf, fe hoffwn i ofyn am gyfathrebiadau eich Llywodraeth chi—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod gan y Prif Weinidog blaenorol—. Mae'r cwestiwn olaf yr hoffwn ei ofyn yn ymwneud â'r ffaith bod eich Llywodraeth chi wedi cyfathrebu'r rheolau y mae angen i bobl eu dilyn nhw. O gofio bod cynifer o bobl yng Nghymru, yn anffodus, yn cael eu newyddion gan ddarlledwyr o Loegr, neu ddarlledwyr a leolir yn y DU, sut ydych chi'n awgrymu eu bod nhw'n cael gwybod am y rheolau sy'n weithredol yn eu hardal benodol nhw eu hunain? A fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw ddarganfod hynny drostyn nhw eu hunain, neu a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried eu hysbysu nhw drwy ryw fath o gyfathrebu uniongyrchol?

[Anhyglyw.]—her ynghylch cyfyngiadau teithio. Fe gawsom ni drafodaeth hir a bywiog, fe gofiwch chi, yn y Siambr hon pan oeddem ni'n cyfarfod o bellter am y canllawiau pum milltir o ran teithio lleol. Nawr, fe groesawyd y neges 'aros yn lleol' honno'n gyffredin mewn sawl man, gan gynnwys mewn ardaloedd lle ceir llawer llai o achosion o goronafeirws. Ceir yr un gyfradd o bryder ynghylch rhwystro coronafeirws rhag dod i mewn i ardal na chafodd ei heffeithio i raddau helaeth.

Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'n cyfyngiadau presennol, oherwydd ein bod ni'n cydnabod bod trosglwyddo cymunedol yn digwydd yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hynny, yw ceisio ynysu'r feirws unwaith eto yn yr ardal honno, er mwyn diogelu ardaloedd o'i hamgylch hi hefyd. Ond mae hyn yn cyd-fynd â'r neges hollbwysig, ac mewn sawl ffordd y neges bwysicach o lawer, bod angen i bobl edrych eto ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud i leihau nifer y cysylltiadau y maen nhw'n eu cael, i ddeall pwy sy'n cael bod ar eu haelwydydd nhw, a chofio'r rheolau ynglŷn ag aelwydydd estynedig.

Fe ddylai hyn ganiatáu cyswllt â phobl eraill, ond fe ddylai fod ar sail yr un pedair aelwyd â'i gilydd, nid un aelwyd yn dewis tair arall, ac yna un o'r tair aelwyd hynny yn dewis grŵp arall o bobl hefyd. Fe fyddai hynny'n arwain at newid llawer mwy sylweddol yn y trosglwyddo ac nid yn darparu'r amddiffyniad yr ydym ni'n ei geisio—ond hefyd y gwmnïaeth a'r cyswllt y gwyddom ni sy'n heriol yn yr ardaloedd lle bu'n rhaid inni ddad-wneud y trefniadau hynny ynglŷn ag aelwydydd estynedig. Felly, mae'n bwysig iawn bod pobl yn edrych unwaith eto ar y ffordd iawn i ddilyn y rheolau ac aros o fewn eu terfynau nhw, oherwydd mae hyn mewn yn ymwneud â'n cadw ni'n ddiogel ac atal niwed.

Rwyf i o'r farn, o ran y cyfyngiadau teithio, ein bod ni eisoes yn gweld rhywfaint o dystiolaeth o Gaerffili bod pobl yn dilyn y rhain. Mae niferoedd yr heintus yn gostwng. Ac o ran y negeseuon yn lleol, rwy'n credu bod y cyngor yng Nghaerffili, ac yn enwedig yr arweinydd, sef Philippa Marsden, wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r hyn sy'n angenrheidiol. O ran yr heriau yn yr hyn sy'n digwydd, mewn gwirionedd, fe fu ein cyfryngau lleol ni'n gyfrifol iawn ac yn gyson iawn wrth adrodd yn onest am y cyfyngiadau newydd sydd ar waith. Mae hynny'n wir ym mhob un o'r cyfryngau lleol iawn, nid yng Nghaerffili yn unig, ond ym mhob un o'r chwe ardal lle bu'n rhaid inni weithredu.

Er hynny, pe byddem yn cyrraedd y pwynt o orfod cael cyfyngiadau ehangach, credaf y byddai'n bosibl, wrth gwrs, cael neges gan y Llywodraeth i'r boblogaeth yn uniongyrchol, ond rhywbeth yw hwnnw, unwaith eto, i'w gadw wrth gefn; nid dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, ond eto i gyd, ni ddylem ddiystyru'r dewisiadau sydd ar gael inni, oherwydd ni allwn fod yn hyderus am gwrs coronafeirws yn y dyfodol a'r hyn y bydd angen inni ei wneud i gadw pobl Cymru yn ddiogel. 

15:55

Nid oedd yr ymyriad yna i fod, felly a gaf i atgoffa pobl na ddylai eu ffonau symudol fod ymlaen? Ac mae hynny yn wir os ydych chi'n ymuno â ni yn rhithwir, hefyd. Ac os ydych yn mynd i dderbyn galwad, a wnewch chi wneud yn siŵr bod eich meicroffon wedi ei dawelu os gwelwch yn dda? Mi daflodd hynny fi, mewn gwirionedd. Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wrth fynd i'r afael â'r materion ym Mlaenau Gwent, soniodd y Gweinidog yn benodol am dafarndai a chartrefi gofal fel rhan o achos cynnydd yr haint yn y fwrdeistref. Tybed a allai wneud unrhyw sylwadau pellach ar hynny a disgrifio pam neu sut y mae'r data'n esbonio bod cartrefi gofal a thafarndai wedi arwain at y problemau yr ydym ni yn eu profi ym Mlaenau Gwent, ac a yw'n bwriadu cymryd unrhyw gamau penodol i ymdrin â phroblemau yn ymwneud â thafarndai a chartrefi gofal oherwydd hynny. Mae rhywfaint o bryder yn y fwrdeistref bod gennym ni y cyfyngiadau ychwanegol yma, tra bod tafarndai'n parhau ar agor. A yw'r Gweinidog yn credu bod angen cael pwerau ychwanegol neu eu darparu i lywodraeth leol i alluogi rheoleiddio pellach a llymach ar y tafarndai os ydyn nhw i barhau ar agor?

Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu pam y mae'n credu nad oes angen rhestrau gwarchod yn yr ardaloedd hyn. Mae nifer o bobl a fu ar restr warchod ers rhai misoedd eleni eisoes yn teimlo braidd yn agored i niwed gan ein bod ni bellach o dan reoliadau ychwanegol, ond nid yw'n ofynnol iddyn nhw warchod eu hunain ar hyn o bryd. Byddai gennyf ddiddordeb deall meddylfryd y Llywodraeth ynglŷn â hynny.

Mae gofyniad—

—ar gyfer profion ychwanegol ym Mlaenau Gwent hefyd. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol mai ychydig iawn o ffydd sydd gennyf yn systemau'r DU ac yn yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud dros rai misoedd, a gwn fod Llywodraeth Cymru wedi darparu ar gyfer unedau profi symudol ac adnoddau profi ychwanegol mewn rhannau eraill o'r de. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn ymrwymo i ddarparu adnoddau ychwanegol i alluogi cynnal profion ychwanegol ym Mlaenau Gwent.

Diolch am y cwestiynau. O ran cartrefi gofal, rydym ni mewn gwirionedd wedi canfod nifer o achosion cadarnhaol o'n rhaglen reolaidd o brofi staff cartrefi gofal, ac mae hynny wedi ein galluogi i ddeall beth sy'n digwydd yn y fan yna ac ynysu nid yn unig y staff, ond wedyn cael rhywfaint o amddiffyniad a phrofion ychwanegol yn y cartrefi gofal yr effeithir arnynt. Mae'n llythrennol yn ddyrnaid—llai na dyrnaid—ar hyn o bryd, ond rydym yn cymryd hynny o ddifrif oherwydd gwyddom am y niwed sylweddol y gellir ei achosi os bydd yr haint yn lledu mewn cartref gofal—nid amgylchedd caeedig yn unig, ond amgylchedd caeedig gyda phobl agored iawn i niwed, sy'n agored i niwed llawer mwy sylweddol o'r feirws hwn.

Mae hefyd yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned ehangach, ac felly mae her ynglŷn â sut yr ydym yn amddiffyn pobl. Ac eto, mae'n deillio'n ôl i—mae'n dal i ddechrau gyda chyswllt yn y cartref ac os yw pobl yn cymysgu yn y cartref mewn niferoedd mwy, mae'n debygol o ymddangos, fel y mae wedi gwneud, mewn amrywiaeth o dafarndai a phobl sy'n mynd i'r tafarndai hynny ac os nad ydynt yn parchu'r canllawiau ymbellhau cymdeithasol a'r rheolau yn y tafarndai hynny hefyd, wel, ni ddylai fod yn syndod y bydd staff a phobl sy'n yfed yno wedyn yn cerdded ymaith gyda'r coronafeirws arnyn nhw hefyd. Felly, mae angen i fusnesau wneud eu rhan i ddilyn y rheolau gyda'u staff i amddiffyn eu staff a'u cwsmeriaid, ond mae angen i gwsmeriaid sydd eisiau parhau i fwynhau'r gallu i fynd i gael diod neu fynd allan am bryd o fwyd ddilyn y rheolau hefyd, oherwydd fel arall, bydd angen i ni weithredu mesurau mwy sylweddol nag yr wyf wedi eu hamlinellu eisoes. Mae hi hefyd yn wir fod pob awdurdod lleol yn ystyried gorfodi a'r nifer y gwiriadau ar hap sy'n digwydd, ac mae hynny'n ennyn ymateb gan rannau mwy cyfrifol y byd busnes ac rydym ni hefyd yn canfod materion y mae angen gwella arnynt hefyd.

O ran y rhestrau gwarchod, y man cychwyn yw y dylai pobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod o'r blaen ddilyn y cyngor a bod yn arbennig o gaeth ynghylch gwneud hynny, yn enwedig yr elfen yna ynglŷn â phwy sy'n dod i'ch cartref, ynghylch dilyn y cyngor ar gadw pellter cymdeithasol. Mae ein prif swyddogion meddygol ledled y DU yn edrych eto ar lunio rhestrau gwarchod. Mae'n fodel meddygol arbennig sydd wedi'i fabwysiadu yn y gorffennol. Nawr, nid yw hynny'n golygu nad oedd gwerth iddo, ond ar gyfer y cam nesaf, mae'n rhaid i ni ystyried ai dyna'r dull cywir, oherwydd rydym ni'n deall nawr nad yw pobl sydd fwyaf tebygol o gael niwed i gyd wedi'u pecynnu'n daclus yn y rhestr o gyflyrau meddygol. Gwyddom os ydych chi o rai cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, os ydych chi o dras du Affricanaidd neu Garibïaidd, os ydych chi o darddiad de Asiaidd neu os ydych chi dros eich pwysau hefyd, eich bod mewn categori risg uwch, ond ni fydd hynny wedi ei gynnwys mewn rhestr feddygol, o reidrwydd, o ran ei hun, oni bai eich bod wedi cael diagnosis o gyflwr. Mae'r un peth yn wir ar gyfer ardaloedd lle mae mwy o anfantais economaidd-gymdeithasol—llawer mwy o berygl o niwed, ond heb ei nodi yn ein cyngor gwarchod. Rydym yn chwilio am fath mwy penodol o gyngor a fydd yn dal i helpu pobl i ddeall sut y gallan nhw reoli eu risgiau.

Ac ynglŷn â phrofion, rwy'n hapus i gadarnhau fy mod yn disgwyl cael mwy o adnoddau profi gan Lywodraeth Cymru a darpariaeth gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Yn benodol, dylai'r ganolfan brofi yn y Cwm elwa ar lôn ychwanegol, lle caiff y profion hynny eu hanfon i labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru i ategu'r heriau yr ydym ni yn eu gweld o hyd yn rhaglen brofi Labordai Goleudy y mae'r DU yn arwain arni. 

16:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ymddiheuriadau am fod yn rhy awyddus i ddweud fy mhwt y tro diwethaf—i chi ac i Carwyn.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effeithiolrwydd cyfyngiadau symud lleol wrth ostwng cyfraddau heintio? Oes gennych chi unrhyw ddata ynglŷn â chyfraddau glynu wrth fesurau i fynd i'r afael â COVID-19 a faint o bobl sydd wedi cael dirwy am dorri'r rheolau? Pa gymorth sy'n cael ei gynnig i fusnesau twristiaeth yn fy rhanbarth i, lle mae llawer yn dibynnu ar fasnach dymhorol, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw bellach ganslo archebion o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud hyn?

Ac yn olaf, Gweinidog, sut ydych chi'n ymateb i'r feirniadaeth eang o'r mesurau newydd? Mae llawer o bobl yn tybio pam y mae hi'n iawn cymysgu â phobl mewn tafarn, clwb neu gampfa ond nad yw hi'n iawn ymweld â'u hanwyliaid. Felly, a allwch chi egluro'r rhesymeg dros hyn fel y gallwn ni, yn ein tro, esbonio i'n hetholwyr a'u cael i gefnogi'r mesurau? Oherwydd heb gefnogaeth gyhoeddus eang, mae'r mesurau hyn yn ofer.

O ran yr her ynghylch pryd y byddwn yn deall effeithiolrwydd y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith, rydym ni wedi dweud y bydd hi yn bythefnos o leiaf cyn i ni ddeall y patrwm yn fwy pendant. Rydym yn gweld tystiolaeth bwyllog, ychydig cyn y cyfnod adolygu o bythefnos yng Nghaerffili, ond bydd angen i ni ddeall hynny ac yna gweld gostyngiad cyson. Mae'r cyfyngiadau lleol sydd wedi'u cyflwyno yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr yn dal i fod ar waith i raddau helaeth. Yn yr Alban maen nhw'n gweld bod y twf yn arafu, ond bod twf o hyd, mewn rhannau helaeth o orllewin yr Alban, ac, fel y gwyddoch chi, mae Lloegr wedi cynyddu'n sylweddol—mae tua 12 miliwn o bobl, mi gredaf, yn Lloegr sydd o dan ryw fath o gyfyngiad lleol. Felly, mae angen i ni weld y dystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd ym mhob un o'r ardaloedd hynny er mwyn deall patrwm yr haint ym mhob achos unigol. O ran y dystiolaeth amdanynt, fel y dywedais, mae gennym ni dystiolaeth o gefnogaeth i'r mesurau, a newid mewn ymddygiad yng Nghaerffili, yn enwedig o ran teithio, a chredaf fod hynny'n bwysig. Byddwn yn gweld mwy o dystiolaeth ynglŷn â gostyngiad yn nifer y cysylltiadau wrth i ni barhau i weld beth sy'n digwydd gyda'r gyfradd achosion dros yr wythnos nesaf.

O ran cymorth i fusnesau, roedd hwn, unwaith eto, yn fater a godwyd gennym ni, gan yr Alban a Gogledd Iwerddon, yng nghyfarfod COBRA heddiw, am yr angen hanfodol i edrych eto ar gymorth busnes. Bu croeso eang i'r cynllun ffyrlo, ac mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn glir ei bod yn fenter gadarnhaol gan Lywodraeth y DU. Ein pryder ni yw, wrth i gyfnod gwahanol ddod ar ein gwarthaf, gyda mwy o gyfyngiadau'n debygol o gael eu gweithredu, nid yn lleiaf, drwy'r gaeaf, y gallai peidio â chael dilyniant ar gyfer cymorth busnes arwain at fusnesau'n gwneud dewisiadau ynghylch rhoi terfyn ar gyflogaeth a dileu swyddi. Mae pwynt cyffredinol yn y fan yna, yn ogystal â'r heriau os ydym yn cyflwyno cyfyngiadau lleol, neu gyfyngiadau cenedlaethol, ynghylch cymorth busnes pellach sydd ei angen, ac mae honno'n sgwrs y mae angen i ni barhau i'w chael gyda Llywodraeth y DU i ddeall yr hyn y mae'r Trysorlys yn barod i'w wneud ar lefel y DU i ddiogelu swyddi a chyflogaeth.

Ac o ran yfed a chymdeithasu yn eich cartref eich hun, neu mewn grwpiau eraill, yr her yw, fel yr ydym wedi dweud, ac fel yr ydym ni wedi cydnabod, pobl nad ydynt yn parchu cadw pellter cymdeithasol yn eu cartref eu hunain, a dyna yw'r achos mwyaf o ran lledaeniad y coronafeirws. Os ydych yn mynd allan mewn amgylchedd sy'n cael ei reoli, boed yn gampfa, yn fwyty neu'n dafarn, dylai fod cyfyngiadau ychwanegol ar waith i osgoi cyswllt â phobl eraill. Bydd pobl, yn naturiol, os ydynt yng nghartrefi ei gilydd, gydag anwyliaid, yn dod i gysylltiad â nhw, ac mae hynny'n anodd iawn. Ac os nad yw pobl yn dilyn y rheolau ynglŷn â chael aelwyd estynedig benodol, yna mae hynny'n golygu ein bod yn debygol o weld mwy o ledaenu ar yr aelwyd honno. Dyma'r hyn yr ydym ni eisoes wedi'i weld mewn nifer o'r ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol bellach ar waith. Felly, dyna'r broblem y mae angen inni ymdrin â hi os ydym ni eisiau troi llanw'r coronafeirws yn ei ôl yma yng Nghymru.

Gweinidog, mae Llywodraeth y DU yn sôn am gyfnod o chwe mis nawr, ac rwy'n tybio mai dyna un dull amgen, yn hytrach na chael cyfyngiadau lleol, lleddfu'r cyfyngiadau ac yna eu hailosod, efallai y gallai fod cyfyngiad mwy cyson dros gyfnod hwy, a fyddai, rwy'n credu, yn rhoi mwy o ddealltwriaeth a sicrwydd i gymunedau, ac yn arwain mae'n siŵr at fwy o gydymffurfiaeth. Felly, tybed a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried y math hwnnw o ddull ar gyfer Cymru.

O ran ysgolion, tybed a allech chi ddweud unrhyw beth ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried hwyluso system lle gallai ysgolion, disgyblion a staff gael eu profi'n gyflymach, ac yna gellid cwtogi ar yr hunanynysu sydd ei angen pe bai prawf yn negyddol. Byddai hynny'n arbed colli amser o'r ysgol, sydd mor hanfodol bwysig.

Hefyd, tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth am dafarndai. Gwn eu bod yn arwyddocaol yn nifer yr achosion yng Nghasnewydd, fel y buon nhw mewn mannau eraill. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru o bosib ystyried newid yr amser cau o 11 o'r gloch i 10 o'r gloch neu 9 o'r gloch efallai, ac a fyddai unrhyw gyfyngiadau ar siopau diodydd trwyddedig i wneud yn siŵr bod chwarae teg?

16:05

O ran y pwynt olaf, rwy'n credu fy mod wedi mynd i'r afael â hwnnw o'r blaen, ac rydym ni yn ystyried y posibilrwydd ar gyfer gwasanaeth bwrdd a chau am 10 o'r gloch ar safleoedd trwyddedig. Rydym hefyd yn ystyried gwerthu mewn siopau diod trwyddedig hefyd.

O ran yr awgrym o chwe mis y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi i Loegr, wel, yr her yw, rwy'n tybio, o ran cynllunio, pe gallem ni ragweld y byddai'n cymryd chwe mis i gyrraedd pwynt gwahanol, y byddai hynny'n ddefnyddiol i bobl gynllunio ar ei gyfer. Yr her yw na allwn fod yn sicr ynglŷn â chwrs y pandemig. Yr hyn y gallwn fod yn glir yn ei gylch yw y bydd yr hydref a'r gaeaf yn arbennig o anodd, a hyd nes y byddwn yn cyrraedd sefyllfa o gael triniaeth wrthfeirysol fwy effeithiol neu frechlyn, yna mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni fyw gyda her wirioneddol a maint yr ymyriadau y bydd angen i ni eu cymryd i'n cadw ni i gyd yn ddiogel ac yn iach. Felly, byddwn yn parhau i siarad drwy'r cyfnod hwn, drwy'r hydref a'r gaeaf, ond ni allaf roi sicrwydd pendant am yr amser y gallai fod angen mesurau eraill. Ond rydym yn ystyried a oes angen nid yn unig negeseuon arnom ar gyfer Cymru gyfan, ond gweithredu ar gyfer Cymru gyfan, a byddwn yn parhau i adolygu'r achos ac adrodd yn agored cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny.

O ran profion ysgol, mae hyn yn ymwneud yn rhannol â'r her o ran capasiti Labordai Goleudy, ac mae'n un o'r ffactorau sydd wedi golygu nad yw Labordai Goleudy yn gallu ymdopi â niferoedd y profion a pham mae profion wedi'u cyfyngu. Fel y gwelsom ni yn yr Alban, mae'r gofynion ar gyfer profion yn sylweddol—pobl yn mynd am brawf pan fydd y flwyddyn ysgol yn dechrau. Mae hynny wedi digwydd gyda disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yng Nghymru a Lloegr; dyna un o'r ffactorau sydd wedi achosi'r broblem sy'n golygu nad yw Labordai Goleudy yn gallu ymdopi â'r un nifer o brofion ar hyn o bryd.

Yr her wedyn, serch hynny, yw, os a phryd y caiff y materion hynny eu datrys, a ydym ni eisiau blaenoriaethu grwpiau ysgol i'w profi, ac mae arnaf ofn nad yw'r cyngor a roddwyd i ni gan ein grŵp cynghori technegol yn cefnogi profi grwpiau blwyddyn ysgol gyfan na dosbarthiadau ysgol gyfan sydd y tu allan i ystafell ddosbarth yr ysgol. Mae hynny'n rhannol oherwydd yr amser y mae'n ei gymryd i'r coronafeirws ddatblygu—nid yw 'Os ydych chi yn ddigon agos byddwch yn ei ddal' mor daclus ac mor syml â, 'Cymerwch brawf, rydych chi'n iawn i ddychwelyd.' Dyna pam mae cyfnod ynysu o 14 diwrnod. Dyna pam yr oedd angen i ni brofi pobl sydd wedi dychwelyd o fannau lle ceir problemau dramor ddwywaith hefyd. Felly, er y gallai'r syniad swnio'n ddeniadol, mewn gwirionedd nid yw'r wyddoniaeth yn cefnogi hynny fel y math priodol o ymyriad ar hyn o bryd, ond, fel arfer, byddwn yn dysgu mwy am y wyddoniaeth a'r dystiolaeth, ac mae'n ddigon posib y bydd hynny'n newid y dewisiadau a wnawn i helpu i gadw Cymru'n ddiogel.

Gweinidog, diolch am eich datganiad. Adroddwyd yn y cyfryngau fod Dr Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi awgrymu bod nifer o awdurdodau lleol yn cael eu monitro ar hyn o bryd ac y gallent wynebu cyfyngiadau lleol. Mae'r awdurdodau lleol hynny'n cynnwys Conwy a Sir Ddinbych, y mae'r ddau ohonynt yn pontio fy etholaeth. Rwyf newydd fod yn edrych ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n awgrymu mai dim ond 16.8 o achosion cadarnhaol sydd yna fesul 100,000 yng Nghonwy ac 18.4 yn Sir Ddinbych. Nawr, mae hynny'n amlwg yn sylweddol is na'r trothwy o 25 fesul 100,000 sy'n gyffredinol yn sbarduno camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru. A wnewch chi ddweud wrthym ni ar ba sail y mae'r awdurdodau lleol hynny o dan drefniadau monitro arbennig ac a allwch chi egluro hefyd pam y mae'n ymddangos bod dwy gyfres wahanol o ddata ar gael i Lywodraeth Cymru farnu yn eu cylch?

Felly, deallaf fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dosbarthu rhywfaint o wybodaeth dros y 24 awr ddiwethaf a oedd yn cynnig cipolwg ar y sefyllfa ar 19 Medi a awgrymodd yng Nghonwy mai'r gyfradd oedd 26.4 fesul 100,000, sydd yn amlwg dros y trothwy o 25 fesul 100,000, a bod sir Ddinbych yn 25.1. Ac eto, ar yr un diwrnod, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ffigurau o ddim ond 19.6 yng Nghonwy ac 16.7 yn sir Ddinbych. Pam mae anghysondeb mor sylweddol, ac ar ba sail y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau o ran ymyrryd a monitro pellach?

16:10

Daw hynny'n ôl at fy ymateb i Suzy Davies, mi gredaf, yn gynharach, am yr her o gael canlyniadau gohiriedig. Felly, mae gennych y brif gyfradd ar y diwrnod y cewch y profion eu hunain, y 24 awr nesaf, ac yna cewch fwy o brofion, sy'n dod drwy broses Labordai Goleudy fel arfer, mewn niferoedd sylweddol, ac mae angen iddyn nhw roi'r rheini'n ôl i mewn ar y diwrnod y cymerwyd y profion mewn gwirionedd er mwyn deall, bryd hynny, beth oedd y ffigurau. Dyna fy nealltwriaeth i o'r her gyda rhai o'r ffigurau, a dyna pam y bu cymaint o bwyslais nid yn unig ar faint o brofion a wneir, nid capasiti'r labordy, ond faint o brofion a gyflwynir, a pha mor gyflym y darperir y canlyniadau.

O ran y rhestr wylio, mae'n rhestr wylio o'r hyn sy'n digwydd gyda darlun sy'n symud, felly rydym ni nid yn unig yn edrych ac yn aros nes bod pobl yn cyrraedd adeg mewn amser penodol, rydym yn edrych ar newid yn y cyfraddau o fewn awdurdodau lleol hefyd. Felly, gwyddom fod Conwy a Sir Ddinbych yn gweld peth cynnydd, ac felly yn hytrach na dweud na wnawn ni ddim nes iddyn nhw gyrraedd rhyw nifer benodol, rydym yn dweud bod hynny'n rhywbeth i gadw llygad arno yn hytrach na bod angen i ni ymyrryd nawr. Byddwn wedyn, os bydd achosion yn parhau i gynyddu, yn ystyried pa gamau pellach y mae angen inni eu cymryd.

A bod yn deg, mae yna bwynt yma i awdurdodau lleol ar draws y sbectrwm gwleidyddol, oherwydd gallaf ddweud yn onest ein bod, yn ystod yr argyfwng hwn a nawr, wedi cael sgyrsiau adeiladol iawn gydag arweinwyr o bob plaid, gan gynnwys arweinwyr annibynnol, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac arweinyddiaeth Llafur Cymru. Mae teimlad gwirioneddol ymysg arweinwyr awdurdodau lleol am yr ymdeimlad o genhadaeth genedlaethol sydd gennym ni, a'u cyfrifoldeb yn eu cymunedau lleol, a dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn parhau yn y dyfodol. Felly, byddwn yn rhannu data'n agored ac yn dryloyw gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Mae ein timau profi, olrhain, diogelu wedi'u lleoli mewn awdurdodau lleol. Mae ganddyn nhw fynediad parod at yr wybodaeth am newidiadau o fewn patrwm y coronafeirws yn eu cymunedau, a bydd angen yr undod hwnnw o fwriad arnom ni wrth inni i gyd ymdrechu i gadw Cymru'n ddiogel drwy hydref a gaeaf anodd iawn.

Iawn, mae'n ddrwg gennyf am hynny. Tri phwynt cyflym gennyf fi. Mae gennym ni gyfyngiadau ychwanegol nawr o ran ymweld â chartrefi pobl, ond i rai pobl eu cartrefi, wrth gwrs, yw eu gweithleoedd hefyd. Felly, rwy'n meddwl am bobl fel hyfforddwyr cerddoriaeth ac ati—mae pobl yn dod i'w cartrefi i gael eu hyfforddi. Ac mae cartrefi pobl eraill hefyd yn weithleoedd rhai pobl—rwy'n meddwl am bobl fel trinwyr gwallt symudol. Felly, byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurder ynghylch gallu'r busnesau hyn i barhau i weithredu ar yr amod y rhoddir mesurau diogelu ar waith.

Dygwyd rhai pryderon i fy sylw hefyd ynghylch achosion o ddiffyg cydweithredu ag olrheinwyr cyswllt y rhaglen profi, olrhain, diogelu, ac adroddiadau am rai pobl sydd wedi profi'n gadarnhaol nad ydyn nhw yn barod i ddatgelu eu cysylltiadau. Nawr, o ystyried difrifoldeb posibl hyn o ran tanseilio ymdrechion i atal lledaeniad y feirws, a oes angen inni ystyried gorfodi'r gofynion i ddatgelu cysylltiadau?

A'm sylw olaf, Dirprwy Lywydd, yw fy mod yn ymwybodol iawn o'r pwysau ar awdurdodau lleol, sy'n gweithio i'r eithaf nawr i ymdrin â'r cyfyngiadau newydd hyn. Felly, a allwn ni weld rhywfaint o hyblygrwydd ar gyrff fel Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru o ran pryd y mae angen cynnal arolygiadau a drefnwyd, a chael cytundeb i oedi lle bo angen am ychydig wythnosau er mwyn sicrhau y gall pawb yn y sectorau hynny ganolbwyntio ar ymdrin â'r materion sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau newydd, yn hytrach na pharatoi ar gyfer arolygiadau nad ydyn nhw, waeth pa mor bwysig, yn hanfodol ar hyn o bryd?

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Credaf fod y Gweinidog addysg wedi dweud bod diben arolygiadau Estyn yn rhannol mewn gwirionedd yn ymwneud â mynd i'r afael â chynlluniau awdurdodau lleol i ddiogelu buddiannau dysgwyr yn ystod y cyfnod penodol hwn yn y pandemig. Ond rwyf wrth gwrs yn derbyn y sylw y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch a yw'r cydbwysedd yn un cywir, gan ein bod yn symud i gyfnod gwahanol, felly byddaf yn hapus i drafod hynny gyda'r Dirprwy Weinidog, a fydd yn siarad nesaf, am Arolygiaeth Gofal Cymru, ond hefyd gyda'r Gweinidog addysg am y patrwm ar gyfer arolygiadau sy'n digwydd, a nod a diben y rheini, oherwydd mae peidio â chael trefn arolygu yn sicr o esgor ar ganlyniadau. Mae'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i helpu i gadw pobl yn ddiogel ym mhob un o'r sefydliadau hynny, ond rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud sylw teg am y cydbwysedd presennol.

O ran ymweliadau cartref lle mae hynny'n weithle rhywun, naill ai ei gartref ei hun neu os yw'n ymweld â chartref rhywun arall ar gyfer gwaith, ar hyn o bryd caniateir hynny, hyd yn oed o fewn y cyfyngiadau lleol, ond rhaid cymryd camau rhesymol, ac felly bydd yn wahanol i bobl yn dibynnu ar y dasg y maen nhw'n ymgymryd â hi. Gall y mesurau fod yn wahanol, er enghraifft, i athro cerdd, lle dylai ymbellhau cymdeithasol fod yn bosib, fel arfer, o gymharu â rhywun sy'n trin gwallt o dŷ i dŷ. Ac rydym ni yn cydnabod, os bydd angen inni symud i gyfnod lle na all hynny ddigwydd mwyach, y byddai hynny'n arwain at ganlyniad economaidd sylweddol i'r bobl hynny ac efallai na fyddant yn gallu troi'n hawdd at ffynonellau incwm amgen eu hunain. Felly, rydym yn cydnabod bod effaith wirioneddol i bob dewis a wnawn.

O ran y diffyg cydweithredu â'r gwasanaeth olrhain cyswllt, er ei bod hi'n siomedig, yn amlwg, nad yw pobl yn cydweithredu, rwy'n deall rhwystredigaeth pobl. Rhaid inni ystyried her y ddau, mi gredaf, y cymhelliant, a chredaf y gallu, sydd i'w groesawu, i roi cymorth ariannol i bobl, os yw Trysorlys y DU yn glir ac yn gyflym wrth gadarnhau bod arian ar gael nid yn unig i Gymru, ond i'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, i gyflwyno cynllun cymorth. Dylai hynny helpu gyda chydweithrediad, ond hefyd y neges mai prif ddiben hyn yw cadw pobl yn ddiogel.

Nid ydym yn ceisio dal pobl fel y gallwn ni eu dirwyo, rydym yn ceisio deall gwybodaeth i'w cadw nhw, eu teulu a'u cymuned yn ddiogel. A byddwch yn gwybod, o glystyrau sy'n digwydd yn eich etholaeth eich hun, fod y cymysgu, lle nad yw hynny wedi'i ddatgelu'n briodol, wedi ymdreiddio i'r grŵp teulu ehangach hwnnw, gyda phartneriaid, rhieni ac eraill wedyn mewn perygl o gael y coronafeirws, ac mae'r proffil risg yn newid wrth i'r proffil oedran newid hefyd. Felly, ein dewis ni yw cael y math priodol o gydweithredu â phobl ledled Cymru, ond, os na chawn ni hynny, rydym yn ystyried dewisiadau ynghylch a yw gorfodi a newid y rheolau ynghylch hynny yn rhywbeth y gallem ac y dylem ni ei wneud. Ond rhaid i hyn i gyd fod yn gysylltiedig â'r prif ddiben: beth sydd angen i bob un ohonom ni ei wneud i helpu i gadw Cymru'n ddiogel?

16:15
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynnig Gofal Plant a Chymorth i'r Sector Gofal Plant

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma: y cynnig gofal plant a'r gefnogaeth i'r sector gofal plant. Galwaf ar Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am sefyllfa sector gofal plant a chwarae Cymru a'n cynnig gofal plant i Gymru. Hoffwn ddechrau'r datganiad hwn drwy ddweud 'diolch' mawr a chydnabod y ffordd eithriadol y mae darparwyr gofal plant a chwarae ledled Cymru wedi ymateb i ddigwyddiadau'r misoedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau'n cytuno eu bod yn haeddu ein diolch diffuant am y cyfraniad amhrisiadwy y maen nhw wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud.

Mae'r cyfnod ers mis Mawrth wedi bod yn heriol i'r sector. Hyd yn oed adeg y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn gynharach eleni, nid oedd angen cau lleoliadau gofal plant. Fodd bynnag, roedd angen cyfyngu ar nifer y plant ar y safle. Roedd y lleoliadau hynny a oedd yn parhau'n agored yn cyflawni swyddogaeth hanfodol, gan alluogi ein gweithwyr allweddol i ymgymryd â'u swyddogaethau hanfodol. Fe'm trawyd gan benderfyniad a hyblygrwydd cynifer o'n darparwyr, gan wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau eu bod yn aros ar agor. Fodd bynnag, nid oedd aros ar agor yn ddewis i bob lleoliad, a, phan oedd pethau ar eu gwaethaf, caeodd tua 1,940 o ddarparwyr eu drysau. Mae hyn yn cynrychioli dros hanner yr holl ddarpariaeth gofal plant gofrestredig yng Nghymru. Fodd bynnag, heddiw, mae pethau'n edrych yn fwy addawol, gyda dim ond tua 428 o leoliadau ar gau. A'r hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio yw, hyd yn oed heb bandemig, y byddem fel arfer yn gweld rhai lleoliadau'n cau am amrywiaeth o resymau.

Yn ffodus, roeddem yn gallu rhyddhau'r cyfyngiadau ar ofal plant o 22 Mehefin ymlaen. Fel y mae hi'r wythnos hon, mae tua 1,527 o'r lleoliadau hynny a gaeodd wedi ailagor, sy'n golygu bod 88 y cant o ddarparwyr cofrestredig ar y cyfan bellach ar agor ledled Cymru. Fodd bynnag, ym mis Awst fe wnaethom ni gynnal arolwg byr o leoliadau a oedd ar agor, ac roedd hynny'n dangos bod y rhan fwyaf o leoliadau'n disgwyl gostyngiad o 30 y cant mewn presenoldeb. Ar gyfer lleoliadau bach yn benodol, mae hynny'n ostyngiad sylweddol yn y galw. Mae angen i ni ganolbwyntio bellach ar gefnogi ac adeiladu sector cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn mynd ati dros y misoedd nesaf mewn ffyrdd amrywiol, gan gynnwys rhoi cymorth i leoliadau, cymorth i'r gweithlu a chymorth i rieni, gan roi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i ailddechrau defnyddio lleoliadau gofal plant a'r manteision niferus y mae hynny'n ei gynnig i'w plant.

Ym mis Ebrill, gwnes y penderfyniad anodd i atal y cynnig gofal plant i geisiadau newydd. Bryd hynny, dyna oedd y peth iawn i'w wneud a chaniataodd inni ailgyfeirio rhywfaint o'r cyllid ar gyfer y cynnig i helpu i gefnogi'r frwydr yn erbyn y feirws mewn ffordd fwy uniongyrchol ac ystyrlon. A thrwy ein cynllun cymorth gofal plant coronafeirws, fe wnaethom ni gefnogi dros 9,600 o blant gweithwyr allweddol, gan ganiatáu i'w rhieni barhau â'u gwaith hanfodol, a gofalu am dros 900 o blant sy'n agored i niwed. Er bod y cynllun cymorth gofal plant coronafeirws yn ymyriad angenrheidiol a hanfodol a helpodd i ymateb i'r argyfwng uniongyrchol, roedd bob amser yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth adfer y cynnig gofal plant cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Rwy'n hynod falch ein bod ni, ers mis Awst, wedi gallu ailagor y cynnig.

Buom yn gweithio'n agos iawn ag awdurdodau lleol i sicrhau bod ceisiadau gan rieni'n cael eu rheoli'n raddol. Mae hyn wedi golygu bod ceisiadau rhieni a gollodd y cynnig yn nhymor yr haf wedi cael eu hasesu'n gyntaf, gydag awdurdodau lleol yn symud ymlaen yn gyflym i ymdrin â cheisiadau gan rieni newydd. Ac fe hoffwn i ddiolch i awdurdodau lleol am y ffordd y buont yn gweithio'n ddiflino i gefnogi'r cynllun cymorth gofal plant coronafeirws, ac am weithio gyda ni i ddod â'r cynnig yn ei ôl. Ni allem fod wedi gwneud dim o hyn hebddynt.

Mae adfer y cynnig yn rhan allweddol o'n cynllun adfer. Nid yn unig y mae'r cynnig yn darparu sicrwydd cyllid y mae mawr ei angen i ddarparwyr, ond mae'n helpu miloedd o rieni, yn enwedig mamau, yr ymddengys bod y misoedd diwethaf wedi cael effaith arbennig o negyddol arnyn nhw. Elwodd oddeutu 14,600 o blant ar y cynnig ym mis Ionawr a rhagwelir y bydd tua 8,000 i 9,000 o blant yn manteisio ar y cynnig yn nhymor yr hydref, sydd tua 75 y cant i 85 y cant o'r nifer arferol sy'n manteisio arno yn ystod yr hydref. Mae ein gwasanaethau Dechrau'n Deg hefyd wedi ailgychwyn ledled Cymru, ac rwyf wedi ymrwymo i gwblhau'r adolygiad o ymestyn y cynnig i rieni mewn addysg a hyfforddiant.

Ochr yn ochr â hyn, rydym ni wedi cyflwyno'r grant darparwyr gofal plant. Er y byddai'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant wedi gallu cael rhyw fath o gymorth gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig, sefydlwyd y grant darparwyr gennym ni, sy'n caniatáu i leoliadau hawlio hyd at £5,000 tuag at eu costau, i helpu unrhyw rai nad oeddent yn gallu manteisio ar y cynlluniau cymorth busnes ehangach. Mae wythnosau cychwynnol y grant darparwyr bellach wedi dechrau ac mae'r nifer sy'n manteisio arno wedi bod yn llai nag yr oeddem wedi gobeithio, ond mae cryn amser i fynd o hyd ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Cwlwm a Chwarae Cymru i hyrwyddo'r grant ymhellach a chynnig cymorth i gwblhau'r cais, lle bo angen. Mae pob darparwr gofal dydd llawn cofrestredig hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant tan fis Mawrth 2022.

Mae cynllun y gweithlu a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017 yn amlinellu ein gweledigaeth i ddatblygu gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar medrus iawn yma yng Nghymru, gan ei wneud yn broffesiwn ac yn ddewis gyrfa. Mae hyn yn bwysicach nag erioed, o ystyried digwyddiadau diweddar, a byddwn yn parhau i weithio i weld ei nodau'n cael eu gweithredu a'u cryfhau, gyda rhaglenni hyfforddi ac uwchsgilio yn ailgychwyn. Mae'r sector gofal plant yng Nghymru yn glytwaith toreithiog o wahanol fathau o sefydliadau, pob un â modelau gweithredu penodol a heriau penodol. Rhaid inni gefnogi'r holl sector os ydym ni eisiau sicrhau bod dewis i deuluoedd a chymorth priodol i'n holl blant, ac, i'r perwyl hwnnw, rwyf hefyd yn bwriadu cwblhau ein hadolygiad gweinidogol o chwarae i gefnogi ein syniadau wrth i ni symud ymlaen.

Dirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith, i helpu rhieni i gael gwaith drwy gael gwared ar ofal plant fel rhwystr i waith, ac i sicrhau bod gwaith gofal plant a chwarae yn dod yn broffesiwn a werthfawrogir yma yng Nghymru am y cyfraniad enfawr y mae'n ei wneud tuag at feithrin a datblygu dinasyddion Cymru fydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

16:20

Diolch am y datganiad, Gweinidog. Bu pryder dealladwy gan rieni, felly croesawaf hyn heddiw. Hoffwn innau ddiolch ar ran yr wrthblaid swyddogol i'n holl ofalwyr meithrin a phlant, sy'n gwneud gwaith gwych nid yn unig yn gofalu am ein plant, ond yn helpu i'w meithrin a'u helpu i dyfu fel unigolion. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y system bellach yn cael ei hadfer, ar ôl cael ei hatal yn ystod y cyfyngiadau symud, ar gyfer rhieni sy'n gweithio ac y mae ganddynt blant tair a phedair oed, oherwydd mae'n achubiaeth hanfodol i deuluoedd, gan alluogi'r rhieni i ennill bywoliaeth mewn gwirionedd.

Ond mae llawer o feithrinfeydd wedi bod yn gweithredu ar golled oherwydd y gostyngiad yn y nifer sy'n mynychu yr ydych chi newydd gyfeirio ato, yn ôl pob tebyg oherwydd yr ansicrwydd parhaus a rhai gweithwyr yn dal i fod ar ffyrlo. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i feithrinfeydd sy'n wynebu caledi ariannol difrifol oherwydd eu bod wedi'u gorfodi i gau, llai o blant yn mynychu a chostau uwch i ymdrin â rheoliadau COVID? A pha ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i sefydlu cronfa drawsnewid i allu cefnogi'r sector nes bod niferoedd yn codi ymhellach nag yr ydych chi wedi dweud, ac i adolygu'r gyfradd fesul awr mewn gwirionedd i adlewyrchu'r costau ychwanegol y bu'n rhaid iddyn nhw eu hysgwyddo, fel y galwyd amdano gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd? 

Mae'r sefydliad Cwlwm, yr ydych chi wedi cyfeirio ato, wedi dweud nad oedd y rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant yn gymwys i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru, ac yr anwybyddwyd y sector yn ystod y pandemig. Mae Cwlwm, corff ymbarél sy'n cynrychioli 4,000 o ddarparwyr gofal plant, yn amcangyfrif bod 90 y cant o feithrinfeydd, canolfannau gofal dydd, clybiau a gwasanaethau gwarchod plant wedi cau yn ystod y mis diwethaf, ond yn dal i orfod talu biliau a rhent. Nid yw cynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig grantiau hyd at £10,000 i fusnesau ar gael o hyd i'r rhan fwyaf o feithrinfeydd, dywedant, oherwydd bod angen iddyn nhw gofrestru ar gyfer treth ar werth, ac mae'r rhan fwyaf o fusnesau gofal plant wedi'u heithrio. Dywedodd cadeirydd Cwlwm, Dr Gwenllian Lansdown Davies, fod angen eglurder fel y gallai darparwyr dalu eu staff, ac roedd angen codi'r eithriad TAW neu ni fyddai busnesau gofal plant yn goroesi'r pandemig. Byddwn wrth fy modd yn clywed yr hyn y gallech ei ddweud am hynny, Gweinidog, os gwelwch yn dda.

Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am beidio â mynnu bod darparwyr gofal plant yn cau yn ystod y pandemig, ond y gwir amdani yw bod llawer wedi cau am nad oedd y niferoedd yn hyfyw. Ac o ran ein hadferiad economaidd, mae angen i ni weld lleoliadau gofal plant yn goroesi a ffynnu. Yn wir, ar ôl cyflwyno'r cynnig gofal plant, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i gynyddu nifer y lleoedd gofal plant drwy weithio gydag awdurdodau lleol i greu capasiti ychwanegol. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch pa un a oes angen diwygio'r cynlluniau hyn oherwydd y pandemig, os gwelwch yn dda? Diolch.

16:25

Diolch yn fawr am y cwestiynau perthnasol iawn yna. Yn sicr, nid oes gennyf—. Nid wyf yn ceisio dweud, mewn unrhyw ffordd, nad oedd y sector wedi dioddef yn ystod y cyfnod hwn, a chredaf, yn ôl y ffigurau a roddais yn fy natganiad, fy mod wedi egluro'r niferoedd a oedd wedi cau. Ond hefyd mae'n galonogol iawn, y niferoedd sydd wedi ailagor mewn gwirionedd. Ac er bod ganddyn nhw niferoedd llai yn mynychu ar hyn o bryd, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog rhieni i gael yr hyder i anfon eu plant yn ôl, oherwydd mae rhywfaint o nerfusrwydd, a hefyd i bwysleisio sut y bydd yn galluogi'r rhieni i barhau i fynd yn ôl i'r gwaith, os nad ydyn nhw yn gallu gweithio. A hefyd, rwy'n credu, fel y sonioch chi, efallai y bydd llawer o rieni'n dal i fod ar ffyrlo, felly mae hynny'n golygu nad ydyn nhw eisiau i'w plant ddychwelyd. Felly, rwy'n credu bod llawer o resymau pam nad ydyn nhw'n mynychu ar hyn o bryd.

Yn sicr, mae llawer o grantiau ar gael nad oedd y sector gofal plant yn cyd-daro â nhw'n hawdd iawn. Roeddent yn sicr yn gallu manteisio ar y cynllun ffyrlo, ac fe wnaeth llawer ohonyn nhw—cynllun Llywodraeth y DU—ac maen nhw wedi gallu manteisio ar rai cynlluniau eraill. Ond roeddem yn ymwybodol bod yna fwlch, a dyna pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r grant i ddarparwyr. Nawr, mae hynny'n newydd iawn—dim ond ers rhai wythnosau y mae mewn bodolaeth—ond mae hynny wedi'i fwriadu'n arbennig ar gyfer y gwahanol leoliadau sydd wedi syrthio rhwng dwy stôl, fel petai. 

Felly, rwyf yn ffyddiog y bydd y cynllun gofal plant yn adfywio; mae'n adfywio'n barod. Credaf ein bod i gyd yn gwybod pa mor gwbl hanfodol ydyw. Mae'n hanfodol i rieni sy'n gweithio, mae'n hanfodol i'r economi, ac mae'n hanfodol i'r plant. A gwn ichi gyfeirio at Cwlwm heddiw, ac roeddwn yn falch iawn bod neges yma heddiw i ddweud mai'r sefyllfa heddiw yw bod 99 y cant o gylchoedd meithrin ar agor mewn gwirionedd, ac rydym ni wedi bod yn poeni'n fawr yn benodol am y ddarpariaeth Gymraeg, gan fod y ddarpariaeth Gymraeg wedi dioddef yn anghymesur. Felly, credaf fod gobaith pendant, ac rydym ni'n cynnig cymaint o gymorth ag y gallwn ni.

Hoffwn innau hefyd ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector pwysig yma am eu cyfraniad dros y misoedd diwethaf yn gofalu am blant, gan gynnwys, wrth gwrs, plant o deuluoedd rhai o'n gweithwyr allweddol, er mwyn iddyn nhw fedru parhau i gynnal gwasanaethau rheng flaen.

Yn anffodus, bu'n rhaid i hanner y darparwyr gau eu drysau, ond, erbyn heddiw, mae llawer wedi ailagor, fel y sonioch chi. Ond mae 12 y cant o leoliadau yn parhau ar gau. Mi fuaswn i'n licio ymchwilio'r ffaith yma rhyw ychydig, a gofyn i chi ydych chi'n credu y bydd y lleoliadau yma yn ailagor, yntau a ydy rhai o'r rhain wedi cau eu drysau am byth. Rydych chi'n mynd ymlaen i ddweud yn eich datganiad chi fod y rhan fwyaf o leoliadau yn disgwyl gostyngiad o 30 y cant yn y nifer o blant fydd yn mynychu i'r dyfodol agos. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol ac yn mynd i wneud rhai lleoliadau yn anghynaladwy yn ariannol, ac yn anffodus, wrth i'r cyfyngiadau ddwysáu eto, does dim arwydd bod y sefyllfa am wella. Yn ogystal â'r effaith andwyol ar y busnesau eu hunain, a ydych chi'n credu bod goblygiadau eraill i'r gostyngiad yma? Dwi'n meddwl yn benodol am yr effaith ar blant, ar ddatblygiad cymdeithasol plant ac yn enwedig datblygiad plant o gefndiroedd difreintiedig. Rydym ni’n gwybod—ac mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos—pa mor bwysig ydy gofal ac addysg blynyddoedd cynnar i ddatblygiad plentyn yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn addysgiadol. Felly pa mor bryderus ydych chi am y gostyngiad yma yn y tymor byr a’r tymor hir, a hynny o safbwynt y plentyn?

Mae gostyngiad hefyd, fel roeddech chi’n sôn, yn y rhai sydd wedi gwneud cais am y cynnig gofal plant. Mae dipyn llai na’r arfer ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn, ac un canlyniad o hynny, wrth gwrs, ydy fod yna fwy o arian yn y gyllideb benodol honno. Felly, gaf i ofyn i chi a ydych chi wedi ystyried ymestyn y cynnig i blant o deuluoedd lle nad ydy’r rhieni neu riant yn gweithio, fel eu bod nhw’n gallu elwa o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar, sef rhywbeth mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo o’r cychwyn cyntaf, fel y gwyddoch chi? Rydw i’n eich clywed chi’n sôn am adolygiad. Pryd fydd hwnnw’n cael ei gwblhau ac onid ydy’n briodol i symud peth o’r arian yn y gyllideb tuag at deuluoedd lle nad ydy rhieni’n gweithio er mwyn i’r plant yna gael elwa?

Ac yn olaf, sôn am y grantiau sydd ar gael. Rydych chi wedi cyhoeddi’r gronfa grantiau bach ar gyfer y sector yn ddiweddar. Mae fel roeddech chi’n ddweud, sef cronfa gwerth £4 miliwn, ond dwi'n deall ar hyn o bryd fod nifer y ceisiadau i’r gronfa yma’n fychan. Fedrwch chi ymhelaethu ar hyn? Yn ôl rhai o’r darparwyr rydw i wedi bod yn siarad â nhw, mae yna lot o waith ynghlwm â gwneud cais am grant o’r gronfa benodol yma am beth sydd yn arian gymharol fach a bod angen casglu llawer iawn o dystiolaeth. Felly, buaswn i’n gofyn yn garedig i chi edrych eto ar feini prawf y gronfa yma er mwyn denu mwy o geisiadau. Mi fyddai’n drueni pe na bai'r cyfan o’r £4 miliwn yn cael ei wario. Rydw i’n siŵr eich bod chi’n cytuno â hynny. Diolch.

16:30

Hoffwn ddiolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau yna. Rwy'n falch ei bod yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae'r sector gofal plant yn ei wneud a'i bod wedi diolch i'r sector am roi'r cyfle i weithwyr gofal allu parhau i weithio yn y pandemig hwn. Chwaraeodd y sector gofal plant ran gwbl hanfodol.

Yr adeg hon o'r flwyddyn, mae ceisiadau am y cynnig gofal plant bob amser yn is nag yn ystod gweddill y flwyddyn, ac yn fy natganiad dywedais ei fod rhwng 75 ac 85 y cant o'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl fel arfer yr adeg hon o'r flwyddyn. O gofio, am y rhesymau a ddefnyddiais yn fy atebion blaenorol, y gallai llawer o rieni fod yn amharod o hyd i'w plant fynd i ofal plant, efallai y bydd llawer yn dal i weithio gartref ac yn ceisio gofalu am y plant ar yr un pryd, ac efallai fod llawer ar ffyrlo o hyd, credaf fod rhesymau pam mae'r nifer hwnnw'n isel a rhagwelwn y bydd yn codi'n raddol wrth i ffydd gynyddu o ran anfon plant yn ôl i'r sector gofal plant.

Gwnaethom yr arolwg hwn ym mis Awst i weld pa gymorth a oedd ar gael i'r sector ac, mewn gwirionedd, dywedodd 90 y cant o'r bobl a atebodd y cawson nhw ryw fath o grant gan y Llywodraeth o ryw le neu'i gilydd. Felly, credaf fod 90 y cant wedi cael grantiau, ond serch hynny derbyniaf yn llwyr yr hyn y mae Siân Gwenllian yn ei ddweud oherwydd ei fod yn sector bregus cyn i hyn i gyd ddigwydd ac mae'n amlwg ein bod ni eisiau rhoi cymaint o gymorth ag y gallwn ni, a dyna pam y gwnaethom ni greu grant y gronfa ddarparwyr. Dim ond ers ychydig wythnosau y bu ar gael, ond fel y dywedwch chi, mae'r ceisiadau'n araf ar hyn o bryd, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu â'r darparwyr—gyda Cwlwm yn benodol—i weld pa gymorth y gellir ei roi ac i annog y grwpiau i wneud cais, oherwydd mae'n amlwg bod llawer o'r grwpiau hyn yn cael eu rhedeg gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol sy'n gwneud hynny yn eu hamser eu hunain, ac rydym ni eisiau rhoi cymaint o gymorth â phosib iddyn nhw, oherwydd yn sicr nid ydym ni eisiau i'r £4.5 miliwn hwnnw fynd i wastraff, oherwydd ei amcan yn benodol oedd ceisio llenwi'r bylchau yn y sector gofal plant.

O ran yr adolygiad, rydym ni wedi bod yn ystyried a allwn ni ymestyn y cynnig i bobl mewn addysg a hyfforddiant, a phobl sydd ar fin gweithio. Mae'r adolygiad hwnnw ar y gweill. Byddaf yn cael yr adroddiad yn yr hydref, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu dweud rhywbeth pendant wrth y Siambr tua diwedd y tymor hwn neu ddechrau'r tymor nesaf.

O ran yr effaith ar blant, credaf fod Siân Gwenllian yn llygad ei lle: mae cynifer o blant wedi dioddef cymaint yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig plant difreintiedig. Rwy'n falch ein bod wedi gallu darparu rhywfaint o gymorth i blant difreintiedig a hefyd drwy wyliau'r haf, pan oeddem yn gallu rhoi rhywfaint o arian i awdurdodau lleol i geisio darparu rhywfaint o ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r haf. Ond oherwydd y gwyddom ni fod hyn mor gwbl hanfodol i'r blynyddoedd cynnar, i blant gael cymaint o gymorth a chefnogaeth ag y gallan nhw, rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r plant i ddal i fyny a helpu i gefnogi'r ysgolion a'r lleoliadau gofal plant i wneud popeth o fewn eu gallu i'r plant difreintiedig yn arbennig.

16:35

Gweinidog, fe wnaethoch chi ddiolch i ddarparwyr gofal plant a'u staff am bopeth y buon nhw yn ei wneud. A gaf i hefyd ddiolch i chi a Llywodraeth Cymru am yr hyn y buoch chi yn ei wneud yn y maes hwn? Mae'r cynnig gofal plant wedi creu argraff arnaf yn y ffordd y cafodd ei ddarparu. Mae'n elfen yn eich maniffesto, ond rydych chi wedi bwrw iddi a'i weithredu, gwnaed hynny cyn yr amserlen, ac rwy'n arbennig o falch eich bod o leiaf mor gefnogol o'r sector preifat gyda'r cynnig ag yr ydych chi o'r sector cyhoeddus.

Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad fod y cynnig gofal plant yn rhan allweddol o'r cynllun adfer, ac rwy'n sicr yn cytuno â hynny. Fe ddywedoch chi, serch hynny, mai dim ond 75 i 85 y cant o blant y gallech eu disgwyl mewn tymor arferol a oedd wedi dychwelyd, a tybed ai rheswm arall dros hynny efallai yw'r rhyngweithio â gofal cyn ac ar ôl ysgol. Er bod dychwelyd i'r ysgol wedi gweithio'n dda ar y cyfan, mae nifer o etholwyr wedi codi pryderon ynghylch pa mor aml y mae gofal cyn ac ar ôl ysgol, a oedd ar gael o'r blaen, ar gael nawr, a phryder y gallai'r ffaith nad yw ar gael eu hatal rhag dychwelyd i'r gwaith. Ai rhyngweithio rhwng hynny a brodyr a chwiorydd iau sy'n cadw nifer sylweddol rhag manteisio ar y cynnig gofal plant eto?

A dim ond er mwyn egluro'r grant darparwyr gofal plant ychydig hefyd, credaf ichi ddweud mai dim ond pan nad oedd cynlluniau eraill ar gael yr oedd hwn ar gael, ond yna fe wnaethoch chi sôn, rwy'n credu, yn ddiweddarach, eu bod hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes. A gaf i sicrwydd mai'r naill beth neu'r llall yw hi, neu a yw rhai darparwyr yn gymwys i gael y ddau? Ac a oeddech hefyd yn arbennig o bryderus ynghylch roi cymorth i warchodwyr plant a allai fod yn cynnig hyn gartref, nid o safleoedd sy'n cael eu trin fel busnesau, neu a yw hynny'n amherthnasol yn y fan yma? Diolch.

Diolch i Mark Reckless am y cwestiwn yna. A do, fe wnaethom ni ddarparu'r cynnig gofal plant flwyddyn ynghynt na'r bwriad ac rwy'n gwybod y bu croeso cynnes iawn i hynny.

Credaf ei fod yn gwneud sylw pwysig iawn am y rhyngweithio rhwng gofal cyn ac ar ôl ysgol yn yr ysgolion oherwydd, yn sicr, nid yw llawer o'r ysgolion wedi cyflwyno'r clybiau brecwast a'r clybiau ar ôl ysgol eto. Mae'n ddyletswydd lwyr, fel y mae'r Gweinidog addysg wedi'i gwneud yn glir, fod y clybiau brecwast, sy'n rhad ac am ddim ac a ddarperir gan arian Llywodraeth Cymru yn y pen draw, yn ailgychwyn. Ond gyda'r clybiau ar ôl ysgol, gwn fod rhywfaint o bryder gan y penaethiaid ynghylch cael grŵp arall, o bosib, yn yr ysgol nad yw'n cael ei reoli gan yr ysgol ar hyn o bryd. Ac rwy'n deall hynny'n llwyr, oherwydd rwy'n credu y bu penaethiaid yn bryderus a'u bod wedi paratoi'n ofalus iawn i'r plant ddod yn ôl i'r ysgol, ac, fel y dywedwch chi, mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ond, yn sicr, rwy'n gwybod am benaethiaid sydd wedi dweud eu bod yn amharod i gael y clybiau ar ôl ysgol yn ôl eto, ond gobeithiwn y cânt eu cyflwyno'n fuan. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni edrych arno'n ofalus iawn. Rydym ni mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol, yn gofyn iddyn nhw annog penaethiaid i ailgyflwyno clybiau ar ôl ysgol, ond mae'n amlwg bod hynny'n ymwneud â brodyr a chwiorydd iau a phresenoldeb. Felly, unwaith eto, mae'n rhywbeth rwy'n credu ei fod yn gywir yn ei gylch, y gallai hynny gyfrannu at yr achos.

O ran y grant i ddarparwyr, credaf ein bod yn ceisio llenwi bylchau lle nad oedd grwpiau mewn gwirionedd yn gymwys i gael rhai o'r grantiau a oedd ar gael, gan nad oedd eu hadeiladau'n gymwys ac nad oedden nhw yn gymwys. Yn sicr, mae'n bosib iddyn nhw gael dau grant ar wahân gan y Llywodraeth ar yr amod nad yw ar gyfer yr un peth. Felly, ni allwch chi wneud cais o ddwy gronfa wahanol o arian ar gyfer, er enghraifft, cyflog un person, ond mae'n bosib cwmpasu gwahanol feysydd. Felly, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i chwilio am ffyrdd o gefnogi'r sector gofal plant, oherwydd, fel y dywedwch chi, mae'n gwbl hanfodol i'r adferiad.

16:40

Diolch yn fawr iawn. Mae'n sicr yn wir fod COVID-19 wedi cael effaith ofnadwy ar sefyllfa menywod yn y gweithle, oherwydd maen nhw wedi cael eu targedu gan gyflogwyr fel y cyntaf drwy'r drws os oes angen iddyn nhw ddileu swyddi. Felly, mae gennym ni rywfaint o waith dod i drefn o ran sicrhau bod gennym ni weithlu cynhwysol, ond hefyd o ran sicrhau y caiff pob plentyn y cyfle i gael darpariaeth addysg a chwarae blynyddoedd cynnar o safon. Felly, mae'n bosib bod eich ffigurau o ostyngiad o 30 y cant yn cyfeirio at bobl sydd wedi colli eu swyddi ac felly'n methu fforddio gofal plant mwyach, ond hefyd, yn amlwg, y pryder y gallai rhai rhieni ei deimlo ynghylch rhoi eu plant mewn addysg blynyddoedd cynnar.

Rwy'n cydnabod yn llwyr y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan ddarparwyr gofal plant, yn sicr ar draws fy etholaeth—yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol—ond mae'r sector yn fregus, fel y dywedwch chi, a gwyddom o astudiaeth ar ôl astudiaeth mai'r strategaeth fwyaf effeithiol ar gyfer cau'r bwlch cyrhaeddiad yw'r ddarpariaeth addysg a chwarae cynhwysfawr o ansawdd uchel iawn y gallwch eu cael. Rydym ni ymhell ar ôl gwledydd fel Ffrainc a'r Almaen. Mae Dechrau'n Deg i blant dwy flwydd oed wedi bod yn fenter ragorol, ond sut y cawn ni fwy o feithrinfeydd mewn ardaloedd difreintiedig lle mae'r sector preifat yn annhebygol iawn o ymsefydlu ynddynt? Maen nhw yn llawer mwy tebygol o ddewis a dethol ardaloedd yn ein cymunedau lle mae llawer mwy o bobl yn gallu talu. Rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith yr ydych chi'n ei wneud, ond mae'n ymddangos i mi fod gennym ni her sylweddol iawn o hyd i gyrraedd y fan lle yr hoffem ni fod. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi'n mynd i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i sicrhau gofal plant ac addysg o safon i'w plentyn, nid dim ond y rhai sydd â'r modd i dalu am hynny. 

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna ac am ei chyfraniad. Ac, wrth gwrs, mae hi'n hollol gywir, mae'n hanfodol, i fenywod yn arbennig, ein bod yn cynnig y cyfleoedd fel eu bod yn gallu gweithio a chyflawni eu potensial, yn ogystal â photensial y plant.

Credaf y bu Dechrau'n Deg yn un o'n prif raglenni, ac mae wedi bod, o'r dystiolaeth a welsom ni hyd yma, yn hynod lwyddiannus. Gwn ein bod i gyd wedi clywed penaethiaid yn dweud, 'O fe wyddoch chi os yw plant wedi dod o gefndir Dechrau'n Deg.' Mae'r ddarpariaeth lleferydd ac iaith yn Dechrau'n Deg wedi bod yn gwbl eithriadol. Felly, credaf ein bod yn gwybod beth y gallwn ni ei wneud, a'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw ceisio ymestyn yr hyn a ddarperir yn Dechrau'n Deg yn llawer ehangach. Mae'n amlwg ar sail ddaearyddol ac rydym yn fwy hyblyg nawr o ran ceisio cael allgymorth fel ei fod ar gael i bobl y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, ond dyna, fel y gwelaf i, yw allwedd darpariaeth o safon.

Felly, credaf ein bod yn ystyried ffyrdd o ymestyn Dechrau'n Deg, a chredaf mai hynny yw—. Cytunaf yn llwyr â Jenny Rathbone ein bod ymhell y tu ôl i wledydd Llychlyn, ond rydym yn gwneud cynnydd, a chredaf fod darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel yn gwbl hanfodol, fel y gall plant o gymunedau difreintiedig ddechrau yn yr ysgol yn gyfartal, a'r dystiolaeth gan Dechrau'n Deg yw eu bod yn gwneud hynny. Felly, mae gennym ni yr allwedd i hynny, a dyna y mae angen inni ei ddilyn.

16:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog.

Yr eitem nesaf, felly, yw'r rheoliadau coronafeirws. Mae eitem 8 wedi'i gohirio, ac eitem 10 wedi'i thynnu yn ôl. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y tri chynnig o dan eitemau 6, 7 a 9 yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi'n cymryd nad oes neb yn gwrthwynebu y grwpio hynny.

6., 7. & 9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020

Gan fod yna ddim gwrthwynebiad, dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Vaughan Gething

Cynnig NDM7381 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2020.

Cynnig NDM7382 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Awst 2020.

Cynnig NDM7380 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2020.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y tair cyfres o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn i gyd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein dull o fynd i'r afael â'r coronafeirws. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati mewn modd gofalus sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gynnal ein hadolygiad parhaus o'r cyfyngiadau symud, gan gynnwys y gofyniad ffurfiol i adolygu'r angen am y gofynion a'u cymesuredd bob 21 diwrnod.

Cyflwynwyd y rheoliadau hyn dros gyfnod rhwng 21 Awst ac 11 Medi. Yn ogystal â darparu ar gyfer lliniaru'r cyfyngiadau pan fo'r amgylchiadau'n caniatáu, maent yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n gyflym i ymateb i'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion mewn rhai rhannau o Gymru. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, fel yr ydym ni newydd drafod, o sut yr ydym ni wedi gweithredu gyda chyfyngiadau lleol ledled Caerffili a Rhondda Cynon Taf, 8 a 17 Medi, yn y drefn honno; ac, wrth gwrs, o 6 o'r gloch heddiw, bydd cyfyngiadau lleol hefyd yn berthnasol i Gasnewydd, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Mae'r mesurau hyn yn ceisio rheoli'r feirws a diogelu iechyd y cyhoedd ar draws pob un o'r ardaloedd awdurdodau lleol hyn. Ym mhob ardal, ni chaniateir i bobl gyfarfod dan do, gan gynnwys o fewn aelwydydd estynedig, ac ni ellir eu cynnal ar hyn o bryd. Gwaherddir pobl rhag mynd i mewn ac allan o bob ardal cyngor bwrdeistref sirol heb esgus rhesymol. Yn olaf, fel yr ydym ni eisoes wedi trafod heddiw, ym mhob un o'r chwe awdurdod lleol hyn bydd angen i leoedd sydd â thrwydded i werthu diodydd gau erbyn 11 p.m.

Fel y nodir yn y cynllun rheoli coronafeirws, sy'n amlinellu sut rydym ni'n monitro achosion a rheoli achosion lleol, mae'r cyfyngiadau'n seiliedig ar egwyddorion pwyll, cymesuredd a sybsidiaredd. Caiff y mesurau hyn eu hadolygu'n gyson ac fe'u hadolygir yn ffurfiol bob pythefnos. Darparodd gwelliant rhif 8 ar gyfer y cyfyngiadau yng Nghaerffili a bwriadwyd ei drafod yn wreiddiol heddiw, ond caiff ei drafod nawr ar 29 Medi, ochr yn ochr â'r gwelliannau a oedd yn darparu ar gyfer cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Prif Weinidog y DU wedi nodi cyfyngiadau newydd y mae'n bwriadu eu cyflwyno yn Lloegr, gan gynnwys y bydd yn ofynnol i bob tafarn, bar a bwyty gau am 10 p.m. Yn dilyn y cyfarfod a gafodd y Prif Weinidog a minnau gyda Boris Johnson a Gweinidogion eraill ledled y DU ym mhroses COBRA y bore yma, rydym ar frys yn ystyried cyfyngiadau cenedlaethol pellach yng Nghymru, gan gynnwys pa un a fyddent yn cyd-fynd â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr ai peidio.

Ymdriniaf â phob un o'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw yn eu tro. Mae gwelliant rheoliadau Rhif 6 yn gyntaf yn cynyddu nifer yr aelwydydd sy'n cael ymuno â'i gilydd ar aelwyd estynedig o ddwy i bedair. Yn ail, mae hefyd yn caniatáu dathliadau dan do yn dilyn priodas, partneriaeth sifil neu angladd i hyd at 30 o bobl. Mae'r rhain yn gyfyngedig o ran cwmpas, megis pryd bwyd wedi'i drefnu mewn gwesty neu fwyty, a rhaid iddynt ddigwydd mewn lleoliad a reoleiddir. Yn olaf, roedd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion awdurdodi a gosod amodau ar gyfer treialu cyfres o dri digwyddiad awyr agored ar gyfer hyd at 100 o bobl.

Mae rheoliadau Rhif 7 yn caniatáu ymweliadau â phreswylwyr cartrefi gofal, hosbisau a gwasanaethau llety diogel i blant. Paratowyd canllawiau gyda'r sector, a bydd pob lle yn rhoi ei drefniadau ei hun ar waith fel bod modd ymweld yn ddiogel. Hefyd, roedd gwelliant rheoliadau Rhif 7 yn gwahardd trefnu digwyddiadau cerddorol didrwydded i fwy na 30 o bobl. Gellir cosbi'r rhain drwy gosb benodedig o £10,000, ac rydym ni wedi gweld hyn ar waith yn dilyn y digwyddiadau ym Manwen a mannau eraill. Roedden nhw hefyd yn darparu ar gyfer ailagor casinos.

O ran gwelliant rheoliadau Rhif 9, ers 14 Medi, bu'n ofynnol i holl drigolion Cymru dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do megis siopau. Mae hyn yn dilyn cynnydd parhaus yn nifer yr achosion ar draws rhai rhannau o Gymru, mewn termau absoliwt ac fel cyfran o nifer y bobl sy'n cael eu profi. Roedd y rheoliadau hyn hefyd yn diwygio ymhellach y ddarpariaeth ar gyfer aelwydydd estynedig. Gall uchafswm o chwech o bobl gyfarfod dan do ar unrhyw un adeg, a rhaid i'r rhain fod o'r un aelwyd estynedig. Er hynny, nid yw plant o dan 11 oed wedi'u cynnwys yn y rheol  hon o chwech. Y bwriad hefyd oedd y byddai'r ddadl heddiw yn ystyried gwelliannau sy'n ymwneud â swyddogaeth annibynnol awdurdodau lleol. Mae'r rhain nawr wedi'u dirymu a'u hail-wneud; byddant yn cael eu trafod ar 29 Medi.

Mae'r dystiolaeth o'r wythnosau diwethaf yn glir, rydym yn gweld cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo; mae'r rhain yn deillio'n bennaf o bobl nad ydynt yn cadw pellter cymdeithasol ac nad ydynt yn dilyn y cyfyngiadau. Byddwn unwaith eto'n pwysleisio na chaniateir inni gwrdd â phobl eraill dan do, naill ai yn eu cartrefi nac mewn tafarndai, caffis na bwytai, oni bai ein bod i gyd yn rhan o'r un aelwyd estynedig.

Llywydd, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran cadw Cymru'n ddiogel. Mae'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodir yn y rheoliadau hyn yn dal yn angenrheidiol i barhau i fynd i'r afael â'r pandemig hwn, a gofynnaf i'r Senedd eu cefnogi.

16:50

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Chyfansoddiad, Mick Antoniw. 

Diolch, Llywydd. O ran eitemau 6, 7 a 9, sy'n cael eu cynnwys gyda'i gilydd, bydd yr Aelodau'n gwybod mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru. Cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hyn ar 5 Awst 2020. Adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 6 a Rhif 7 ar 14 Medi, a ddoe adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 9. Nawr, rydym yn cydnabod, wrth inni drafod y rheoliadau hyn heddiw, fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud rheoliadau diwygio pellach, sy'n dangos pa mor gyflym mae'r Llywodraeth yn gweithredu yn y materion hyn.

Daeth rheoliadau Rhif 6 i rym ar 22 Awst a chaniataodd i hyd at bedair aelwyd ymuno â'i gilydd ar aelwyd estynedig, a phobl i ymgynnull dan do mewn grŵp o hyd at 30 o bobl ar gyfer digwyddiadau penodol. Daeth rheoliadau Rhif 7 i rym ar 28 Awst ac maent yn gwneud diwygiadau pellach i'r prif reoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys y rheoliad na chaiff neb, heb esgus rhesymol, fod yn rhan o'r gwaith o drefnu rhai digwyddiadau cerddorol didrwydded, a bod rhywun sy'n methu â chydymffurfio â'r cyfyngiad yn troseddu ac y gellir rhoi hysbysiad cosb benodedig o £10,000 iddo. Maent hefyd yn cynnwys bod yn rhaid i bobl gael esgus rhesymol i ymgynnull dan do, i ymweld â phreswylydd mewn cartref gofal, hosbis neu lety diogel i blant, gan egluro bod gan bobl esgus rhesymol i ymgynnull er mwyn cael gwasanaethau addysgol.

Ar gyfer rheoliadau Rhif 6 a Rhif 7, gwnaethom yr un pwynt adrodd rhinweddau, sef nad oedd y rheoliadau'n destun ymgynghoriad cyhoeddus nac asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, nodwyd esboniad Llywodraeth Cymru mai'r pandemig oedd yn gyfrifol am hyn a'r angen am ymateb brys er mwyn iechyd y cyhoedd, a bod y newidiadau'n cael eu cyfleu i'r cyhoedd a busnesau drwy ddarllediadau gwybodaeth gyhoeddus parhaus a chynadleddau i'r wasg. O ran rheoliadau Rhif 7, nodwyd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau parhaus gyda'r heddluoedd yng Nghymru ynghylch cyflwyno trosedd newydd.

Gwnaeth rheoliadau Rhif 9 newidiadau pellach i'r prif reoliadau, a ddaeth i rym ar 14 Medi. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys cyfyngu ar gynulliadau dan do o aelodau o aelwyd estynedig i chwech o bobl, heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed, a'i gwneud yn ofynnol i orchuddion wyneb gael eu gwisgo yn ardaloedd cyhoeddus dan do safleoedd agored a chanolfannau trafnidiaeth, oni bai bod eithriad yn berthnasol neu fod gan y person esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb.

Nododd ein hadroddiad ddau bwynt adrodd ar rinweddau. Mae'r cyntaf yn ymwneud â rheoliadau Rhif 6 a Rhif 7. Nodwyd na chafodd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus nac asesiad effaith rheoleiddiol eu paratoi mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn am yr un rhesymau. Fodd bynnag, nodwyd bod asesiad effaith integredig yn cael ei ddatblygu ac y caiff ei gyhoeddi'n fuan, ac rydym yn croesawu hynny. Nodwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i'r newidiadau. Yn ail, nodwyd bod y rheoliadau hyn yn cyflwyno mesurau tynhau cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws. Fel y cyfryw, mae'r rheoliadau hyn yn dod o fewn cwmpas ystyriaethau hawliau dynol ar gyfer hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a siarter hawliau sylfaenol Ewrop. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau fod yn gymesur â chyflawni nod cyfreithlon.

Nawr, o ran y materion penodol yr wyf wedi cyfeirio atynt yn y rheoliadau hyn ynghylch cyfarfod dan do a gwisgo gorchuddion wyneb, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi y bydd neu y gallai'r cyfyngiadau a gofynion fod yn berthnasol i hawliau o dan erthygl 8, sef yr hawl i barchu bywyd teuluol a phreifat; erthygl 9, rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd; erthygl 11, rhyddid i gynulliad a chymdeithas; ac erthygl 14, gwahardd gwahaniaethu. Mae Gweinidogion Cymru o'r farn, ac rydym yn cytuno, i'r graddau bod gofynion a osodir gan y rheoliadau yn ymwneud â'r hawliau hynny neu'n ymyrryd â nhw, y gellir cyfiawnhau'r ymyrraeth oherwydd mai ei amcan dilys yw darparu ymateb iechyd cyhoeddus i'r bygythiad a achosir gan ddigwyddiadau cynyddol a lledaeniad y coronafeirws ledled Cymru ac sy'n gymesur â'r nod hwnnw. Diolch, Llywydd.

16:55

Hoffwn ddweud ar goedd fy mod yn credu bod angen i ni roi'r gorau i bleidleisio ar y rheoliadau hyn wythnosau ar ôl iddyn nhw gael eu gosod. Nid yw hon bellach yn sefyllfa foddhaol gyda'r system Cyfarfod Llawn hybrid sydd gennym ni nawr. Cyfeiriodd y Gweinidog ei hun at rai o'r pethau yr ydym yn pleidleisio arnynt heddiw yng nghyswllt rêfs, cynlluniau treialu ar feysydd chwaraeon, gorchuddion wyneb—cyflwynwyd y rhain i gyd dros fis yn ôl, a dyma ni heddiw yn aros am gyfres arall o reoliadau nad yw'r Prif Weinidog yn barod i wneud datganiad arnynt.

O ystyried yr effaith y bydd y rheoliadau hyn yn ei chael ar bob agwedd ar fywyd, o'r economi i farwolaethau cynyddol posib oherwydd canser ac yn gysylltiedig â chaledi economaidd, mae'n hanfodol ein bod yn cael dadl fwy amserol ar y rheoliadau hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cefnogi hyn. Mae'r rhain eisoes wedi'u newid a'u diwygio mewn rhai meysydd, y rheoliadau sydd ger ein bron. Mae gennym ni sefyllfa sydd bron yn ymdebygu i gyfyngiadau symud mewn rhannau o'r de, ac eto, heddiw, rydym yn pleidleisio ar reoliadau a gyflwynwyd dros fis yn ôl. Felly, o gofio hynny, rwyf eisiau hysbysu'r Llywodraeth a'r Gweinidog yr hoffem ni, y Ceidwadwyr Cymreig, weld mwy o ddadlau a mwy o herio pan gaiff y rheoliadau hyn eu cyflwyno a bod yn rhaid i'r oedi hwn ddod i ben. Mae angen inni gael mwy o graffu ar y rheoliadau. Diolch, Llywydd.

Mi gefnogwn ni'r rheoliadau yma heddiw yma, achos, yn gyffredinol, mi rydyn ni'n cytuno efo'r angen i gyflwyno, yn gyffredinol, y cyfyngiadau, neu lacio'r cyfyngiadau, sydd ynddyn nhw. Ond, mi wnaf innau ychydig o bwyntiau, y cyntaf o'r rheini hefyd am y broses sgrwtini a'r ffaith bod wythnosau lawer wedi pasio yn fan hyn rhwng cyflwyno rhai o'r newidiadau yma—hyd at fis ers cyflwyno rhai o'r newidiadau yma yn achos Rhif 6. Wrth gwrs bod yr amgylchiadau presennol yn ddigynsail, ond nid yn unig mae'r sefyllfa rydyn ni ynddi rŵan o ran yr oedi yma yn hynod anarferol, mae o yn anfoddhaol iawn yn ddemocrataidd. Mae o'n creu dryswch democrataidd, dwi'n meddwl, ond mae o hefyd yn creu dryswch ymarferol. Er enghraifft, efo gwelliannau Rhif 6, mae'n sôn am ganiatáu peilota cyfarfodydd awyr agored hyd at 100 o bobl mewn chwaraeon ac ati; mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau heddiw bod y peilota wedi cael ei ddyfarnu i fod yn rhy beryglus i barhau ac wedi dod i ben 10 diwrnod yn ôl, a dyma ni'n cael ein gofyn i gymeradwyo'r gwelliannau hynny. Felly, mae o'n creu dryswch.

Mae'n rhaid, yn y pandemig yma yn gyffredinol, i negeseuon fod yn glir. Dwi'n meddwl bod angen i'r Llywodraeth yn gyffredinol edrych ar sut mae eu negeseuon nhw'n cael eu clywed a sut mae eu negeseuon nhw'n cael eu deall. Rydyn ni'n gwybod yn iawn, o engreifftiau o gyfweliadau ar y cyfryngau gan bobl yn ein cymunedau ni, bod pobl yn dal wedi'u drysu gan yr hyn y mae gofyn iddyn nhw ei wneud o ran eu hymddygiad mewn llawer o achosion. Felly, dwi'n apelio am negeseuon cliriach, ac mae hynny, i fi, ynghlwm â'r angen i'r broses sgrwtini fod yn agosach at amserlennu y rheoliadau eu hunain. Os oes yna ddryswch yn fan hyn, yn ein Senedd genedlaethol ni, does yna ddim rhyfedd bod yna ddryswch ar lawr gwlad.

17:00

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd am hurtrwydd cynyddol trafod pethau dros fis ar ôl iddyn nhw ddigwydd, tra yn y byd go iawn, mae pethau newydd yn mynd rhagddynt, yn aml yn mynd i gyfeiriad gwahanol, ar yr un pryd ag yr ydym ni'n siarad am yr hen bethau.

Rwy'n ddiolchgar, serch hynny, i'r Gweinidog iechyd am gynnwys yn ei gyfraniad, yr hyn yr oeddwn i'n credu oedd rhai cyfeiriadau at y cyfyngiadau symud lleol gan gynghorau lleol yr ydym ni wedi'u gweld yn ddiweddar. A gaf i eglurhad pa un ai bwriad y sylwadau hynny oedd bod yn ddefnyddiol gan sôn am rywbeth a oedd yn gyfredol, neu a yw'r pethau penodol yr oedd yn eu dweud ynghylch hynny yn berthnasol i'r gwelliannau penodol yr ydym yn pleidleisio arnyn nhw heddiw?

Yn gyffredinol, ein ffordd ni o weithredu fu pleidleisio yn erbyn yr holl gyfyngiadau deddfwriaethol ynglŷn â'r coronafeirws. Rydym o'r farn eu bod yn anghymesur ac yn wrthgynhyrchiol, a byddai'n llawer gwell gennym y math o ddull y mae Sweden wedi'i fabwysiadu yn esiampl lwyddiannus. Mae gennym ni rai rheoliadau lliniarol yn y fan yma, ond mae gennym ni, ac ni wn ai dyma faes y Gweinidog iechyd—. Fe ddywedsoch chi ein bod wedi gweld llawdriniaethau'n gostwng 62 y cant yn GIG Cymru; ein bod wedi gweld 16,000 yn llai o atgyfeiriadau canser. Credaf, rhwng Cymru a Lloegr yr wythnos diwethaf, inni weld 70 o farwolaethau yn sgil COVID ond 125 yn sgil hunanladdiad. A yw'r rhain yn gymesur?

Rheoliadau Rhif 6—rydym yn mynd o ddwy i bedair aelwyd estynedig, sy'n rhoi mwy o ryddid, a hefyd yn caniatáu dathliadau digwyddiad bywyd, sydd, mi dybiaf, yn cyfeirio at briodasau; maent hefyd yn berthnasol i angladdau, felly rydym yn cefnogi'r lliniaru cyfyngedig hwnnw. O ran rheoliadau Rhif 7, unwaith eto, rydym yn cefnogi ailagor casinos, i'r graddau y gellir gwneud hynny, a hefyd y lliniaru o ran ymweliadau â chartrefi gofal. Mae cyfyngiadau ar rai digwyddiadau cerddorol didrwydded y tybiaf ei fod yn golygu rêfs torfol awyr agored, o ystyried bod y rhain mewn cyfres gyfansawdd o gyfyngiadau, a chredaf, hyd yn oed yn Sweden, fod cyfyngiadau ar y mathau hynny o ddigwyddiadau. Byddwn yn cefnogi rheoliadau Rhif 7.

Nid ydym yn cefnogi Rheoliadau Rhif 9. Mae gennych y drefn hon o aelwydydd estynedig—maent yn cyfarfod beth bynnag, felly, fel aelwydydd, mae'n debyg, o bosibl, yn trosglwyddo'r feirws, os yw hwnnw'n bresennol—pam wedyn cyfyngu i chwech mewn grwpiau o aelwydydd a ganiateir fel arall i gyfarfod mewn gwahanol grwpiau o chwech? Mae'r gwahaniaeth yn y trefniadau ar gyfer plant o'u cymharu â Lloegr yn drafferthus. A hefyd, mae gorfodi gwisgo gorchudd wyneb wedi ei ehangu, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud cyn hyn bod y dystiolaeth dros eu gwisgo yn wan. Rydych yn dweud eich bod yn gwneud gwaith ymchwil o ran pobl yn eu gwisgo a'u tynnu wrth fynd i mewn ac allan o fwytai—ac y gallai hynny fod yn wrthgynhyrchiol—ac eto rydych wedi'i gynnwys yn rhywbeth gorfodol ar gyfer siopau ar sail sylfaen dystiolaeth wan iawn, ar y gorau. Felly, byddwn yn cefnogi rheoliadau 6 a 7 ond yn pleidleisio yn erbyn Rhif 9. Diolch.

Rwyf wedi cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig hwn, oherwydd roedd angen y mesurau hyn i osgoi miloedd o farwolaethau diangen, felly wrth gwrs fy mod i yn eu cefnogi. Byddaf yn parhau i gefnogi'r holl fesurau angenrheidiol ac felly byddaf yn pleidleisio dros yr holl ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw.

Fodd bynnag, mae gennyf broblemau gyda'r ffordd yr ymdrinnir â'r ddeddfwriaeth. Gofynnir i ni bleidleisio ar fesurau a roddwyd ar waith, fel y dywedwyd eisoes, ond rwy'n ei bwysleisio, rai wythnosau'n ôl. Er fy mod yn derbyn bod hyn yn angenrheidiol yn gynnar yn y pandemig, nid oes rheswm y gallaf i ei weld dros beidio â phleidleisio ar fesurau cyn eu gweithredu. Dylem fod yn trafod yr angen am y mesurau hyn yn gynnar er mwyn inni allu argyhoeddi'r cyhoedd yn ehangach o'u hangen. Nid oes rhaid i Lywodraeth Cymru fy argyhoeddi i bod angen y mesurau a roddwyd ar waith gan y rheoliadau coronafeirws; mae'n rhaid iddynt argyhoeddi'r cyhoedd yng Nghymru.

Rhaid i aelodau o'r cyhoedd gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd, felly mae'r rheoliadau hyn—pe bai pawb wedi cadw at y rheoliadau hyn, ni fyddem ni nawr yn ystyried gosod rhagor o gyfyngiadau, ond mae llawer o ddryswch o hyd ynghylch yr hyn sy'n angenrheidiol a'r hyn nad yw'n angenrheidiol. Yr unig ffordd y byddwn yn osgoi cyfyngiadau symud lleol neu hyd yn oed rhai cenedlaethol yw drwy argyhoeddi pobl i gadw at y rheolau, drwy argyhoeddi pobl bod angen y rheolau. Mae pob cyfres o reoliadau diwygio hyd yma wedi'i hategu gan adroddiad gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd yn tynnu sylw at y diffyg ymgynghori cyhoeddus ar y rheoliadau. Felly, rwy'n derbyn nad yw hyn wedi bod yn bosibl hyd yma, ond mae ei angen yn ddirfawr. Gweinidog, a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar fesurau i reoli'r coronafeirws ac a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno ei deddfwriaeth gerbron y Senedd hon cyn iddi ddod i rym?

Os ydym ni eisiau osgoi sefyllfa o gyfyngiadau symud cenedlaethol arall yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, yna mae arnom ni angen pobl Cymru ar ein hochr ni, yn cefnogi mesurau, yn hytrach na bod rhai yn dewis eu hanwybyddu. Fel arall, mae'r hyn sy'n digwydd yn ne-ddwyrain Cymru yn arwydd o bethau i ddod i weddill y wlad. Diolch yn fawr.

17:05

Rwyf wedi gwrthwynebu'r rheoliadau hyn yn gyson, oherwydd credaf eu bod yn gwbl anghymesur â'r bygythiad a ddaw yn sgil y coronafeirws. Ond hoffwn ddweud yn gyntaf faint yr oeddwn yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies a Rhun ap Iorwerth yn gynharach am y modd y caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo, wythnosau ar ôl iddynt gael eu gweithredu gan y Llywodraeth. Credaf fod hynny'n warth democrataidd, a chredaf hefyd fod 30 munud yn eithaf annigonol i drafod mesurau mor llym. Wrth gwrs, mae lliniaru i'w groesawu bob amser, ond mae swm a sylwedd y cyfyngiadau at ei gilydd yr un fath. Rydym ni wedi troi ein gwlad, i bob pwrpas, yn garchar agored, fel yr wyf wedi'i ddweud unwaith o'r blaen, ac rydym ni bellach yn gwneud hynny ar sail fwy llym fyth yn lleol.

Pan edrychwch chi ar fygythiad y coronafeirws o ran niferoedd, mae'n rhaid ichi ystyried tybed a oes gan y Llywodraeth, boed ar lefel y DU neu yn y weinyddiaeth ddatganoledig, unrhyw synnwyr o gymesuredd o gwbl. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y DU yn dangos mai dim ond 22 yw'r cyfartaledd symudol saith diwrnod y marwolaethau o'r coronafeirws, neu, mewn gwirionedd, yn ymwneud â choronafeirws—dyna sy'n ymddangos ar y dystysgrif marwolaeth fel achos bosib y farwolaeth—sef yr union fan lle'r oedd yng nghanol mis Gorffennaf. Dim ond 138 o bobl yn y Deyrnas Unedig gyfan sydd mewn cyflwr difrifol neu gritigol gyda'r coronafeirws, a'r marwolaethau fesul miliwn yw 615. Hyd yn oed os cymerwch chi hynny fel arwydd o nifer y marwolaethau oherwydd coronafeirws, yn hytrach na phobl sy'n marw gyda'r coronafeirws arnyn nhw, nid wyf yn credu bod hynny fel cyfran o'r holl boblogaeth, yn cyfiawnhau'r datgymaliad economaidd enfawr a hefyd y dinistr yn ein bywyd cymdeithasol, gyda holl oblygiadau hynny. Mae'n rhaid i ni adennill synnwyr cymesuredd.

Dyfynnwyd Sweden gan Mark Reckless ac mae hwn yn achos addysgiadol iawn. Dim ond 15 o bobl sydd yn Sweden gyfan mewn cyflwr difrifol neu gritigol gyda COVID. Mae ganddynt 60,000 o achosion o COVID, 15 o bobl mewn cyflwr difrifol neu gritigol, ac mae eu cyfartaledd symudol saith diwrnod ers diwedd mis Gorffennaf wedi bod rhwng un a thair marwolaeth. Nid yw Sweden wedi cael unrhyw gyfyngiadau symud gorfodol, er eu bod wedi cael mesurau cadw pellter cymdeithasol gwirfoddol ac ati.

Ni allwch chi wneud cymariaethau uniongyrchol rhwng profiadau gwahanol wledydd. Weithiau, bydd ystyriaethau lleol yn creu gwahaniaethau sylweddol. Ond pan ystyriwch y costau enfawr yr ydym ni wedi'u hysgwyddo, o'u cymharu â'r hyn sydd wedi digwydd yn Sweden, am ganlyniad sydd ychydig bach yn wahanol, credaf fod hynny'n gondemniad o bolisi swyddogol, felly pleidleisiaf yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw.

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau a diolchaf i'r pwyllgor am eu gwaith craffu. Ac o ran y pwyntiau ehangach a godwyd gan Andrew R.T. Davies a Rhun ap Iorwerth ynghylch y broses, caiff y rhain eu gwneud wrth ystyried y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ y mae'r Senedd hon wedi ei darparu ar ei chyfer. Mae'r Llywodraeth bob amser yn agored i sgyrsiau am y modd y caiff busnes ei drafod, ac, wrth gwrs, mae gan y Llywydd a'r Pwyllgor Busnes swyddogaeth bwysig o ran sicrhau y gwneir hyn yn unol â'n gweithdrefnau ein hunain. Galwyd y Senedd hon yn ôl, wrth gwrs, yn ystod yr haf i basio rheoliadau cadarnhaol 'gwnaed' hefyd. Clo pwysig ar allu'r Llywodraeth i wneud y rheoliadau hyn yw'r ffaith bod yn rhaid i'r Senedd gytuno arnynt er mwyn iddynt barhau.

Rydym mewn amgylchiadau digynsail, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi'i nodi, a rhan o'n her yw pa mor gyflym y mae angen inni weithredu, ond hefyd pa mor gyflym y mae cwrs y pandemig yn newid. Mae dechrau'r rheoliadau hyn sy'n cael eu trafod heddiw yn ymwneud â lliniaru pellach, ac eto rydym ni nawr yn trafod cyfyngiadau pellach sy'n digwydd ledled y Deyrnas Unedig gyda rhybudd sylweddol am y niwed a fydd yn digwydd yn y wlad hon, fel mewn rhannau eraill o'r DU, oni bai y gweithredir mesurau pellach. Rwy'n credu bod pwynt Rhun ap Iorwerth am eglurder a chyflwyno neges yn bwysig. Mae bob amser yn bwysig ystyried sut mae ein negeseuon yn cael eu derbyn a'u deall gan y cyhoedd, ac rwyf yn credu y bydd yr ymgysylltu gydag arweinwyr y pedair gwlad yn helpu gyda hynny ym mhob rhan o'r DU. 

O ran pwynt Mark Reckless, byddwn yn trafod rheoliadau Caerffili a Rhondda Cynon Taf yr wythnos nesaf, fel y nodwyd gan y Trefnydd a hefyd yn fy sylwadau agoriadol. Roedd Neil Hamilton a Mark Reckless yn awyddus i nodi eu bod yn ffafrio dull Sweden, ac fel y nododd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, mae'r gyfradd marwolaethau, mi gredaf, yn Norwy dros 200 o farwolaethau, a mwy na 5,000 o farwolaethau yn Sweden. Nid yw cymharu y niwed a fu yn y gwahanol wledydd Nordig yn fanteisiol iawn i'r sefyllfa yn Sweden, nac yn wir yn ei chymeradwyo fel y dull y dylem ei fabwysiadu yma.

Byddwch yn cofio, rwy'n credu, yfory ac yn yr wythnosau i ddod, y byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gam cyntaf yr ymateb. Yn hytrach nag awgrymu y dylem fod wedi mynd ati mewn modd llai caeth, y pryder yn y fan yna yw: a wnaethom ni ddigon ar yr adeg iawn gyda'r wybodaeth a oedd gennym ni? Nid yw'r Llywodraeth yn mynd i newid ei safbwynt yn llwyr a mabwysiadu ymagwedd fwy laissez-faire Sweden o ran rheoli'r risg wirioneddol i bob un ohonom ni yn sgil y coronafeirws. Credwn fod y rhain yn fesurau cymesur sy'n cael eu gweithredu nawr i osgoi niwed sylweddol, ond nid oes dewis perffaith i'w wneud. Rydym yn cydnabod bod anfanteision i'r cyfyngiadau symud hefyd.

Mae'r holl reoliadau heddiw yn adlewyrchu ystyriaeth ofalus o sut i gydbwyso'r rhyddid a fwynhawn wrth reoli bygythiad sylweddol parhaus y coronafeirws. Mae ein dull gweithredu wedi'i lywio, fel arfer, gan adran y prif swyddog meddygol, cyngor iechyd cyhoeddus, swyddogion gwyddonol a'n grŵp cynghori technegol, ac rydym yn cyhoeddi crynodeb o'u cyngor a'r astudiaeth a wnânt o'r dystiolaeth yng Nghymru, y DU a thu hwnt yn rheolaidd ac yn agored. Fel y nodais, rydym yn cymryd camau penodol a chymesur, fel yr ydym yn ei wneud mewn ymateb i'r cynnydd mewn achosion yn y de-ddwyrain.

Y prif bwynt, serch hynny, yw bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i wneud dewisiadau a dilyn y mesurau sydd ar waith, i'n cadw ni, ein hanwyliaid a'n cymuned yn ddiogel rhag y feirws heintus a niweidiol hwn. Yn benodol, mae angen i bob un ohonom ni gadw pellter oddi wrth ein gilydd pan fyddwn ni allan, mae angen i ni olchi ein dwylo'n aml, mae angen i ni weithio gartref lle bynnag y bo modd gwneud hynny, mae angen i ni wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ac mae angen i ni aros gartref os oes gennym ni symptomau ac wrth i ni aros am ganlyniad prawf. Ac mae angen i ni ddilyn unrhyw gyfyngiadau eraill sydd ar waith yn lleol. Mae'r rheoliadau i bawb eu dilyn er budd pawb. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel, a gofynnaf i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn.

17:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly rŷn ni'n gohirio'r eitem yna tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7?  A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gweld gwrthwynebiad unwaith eto, felly rŷn ni'n gohirio ar yr eitem yna.

Y cynnig nesaf, felly, o dan eitem 9: a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n clywed gwrthwynebiad i'r cynnig yna hefyd, ac rŷn ni yn gohirio y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020

Rŷn ni'n symud ymlaen nawr at eitem 11, sef Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y cynnig yna—Vaughan Gething. 

17:15

Cynnig NDM7378 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Awst 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae'r rheoliadau hyn heddiw, fel y noda'r memorandwm esboniadol, wedi'u cyflwyno gerbron y Senedd ddwywaith o'r blaen, ac mae'n bleser gennyf gynnig y rheoliadau heddiw. Fe'u cyflwynwyd gyntaf ar 17 Mawrth eleni, ac yna fe'u tynnwyd yn ôl o ganlyniad i'r pandemig COVID-19, ac yna fe'u cyflwynwyd eto ar 8 Gorffennaf, ond fe'u tynnwyd yn ôl er mwyn cywiro mân bwynt craffu technegol a wnaed yn yr adroddiad craffu olaf bryd hynny. 

Caiff y rheoliadau eu cyflwyno o dan bwerau a fewnosodwyd yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Y newid polisi mawr y mae'r rheoliadau hyn yn effeithio arno yw y bydd yn ofynnol i fyrddau iechyd gynnal a chyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol ar gyfer eu hardaloedd a phenderfynu ar geisiadau i ddarparu gwasanaethau fferyllol y GIG oyn unol â'r asesiad hwnnw. Mae'r rheoliadau hefyd yn cyflwyno ffordd o ymdrin ag achosion o dorri telerau gwasanaethu fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf i symud gwasanaethau iechyd, a ddarparwyd yn draddodiadol mewn ysbytai, i'r gymuned, yn nes at ble'r ydym yn byw. Rydym ni wedi gwneud ymdrech sylweddol i drawsnewid fferylliaeth gymunedol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau sydd wedi'u darparu'n draddodiadol gan feddygon teulu, a chroesawaf y gefnogaeth drawsbleidiol eang wrth wneud hynny. Gall pob fferyllfa bellach ddarparu'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, mae llawer yn cynnal adolygiadau meddyginiaethau pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty, yn cynnig brechiadau rhag y ffliw, yn rhoi cyngor a chymorth ar roi'r gorau i ysmygu ac yn cynnig gwasanaeth atal cenhedlu brys. Fodd bynnag, mae'r drefn reoleiddio a'r dull gweithredu presennol wedi bod ar waith ers dros 27 mlynedd ac nid yw bellach yn adlewyrchu'n ddigonol y ffyrdd y mae swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol wedi datblygu yn y cyfnod hwnnw.

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar swyddogaeth fferylliaeth gymunedol ym maes iechyd cyhoeddus, swyddogaeth sydd wedi'i hamlygu'n glir yn ystod pandemig COVID-19, mae cyflwyno asesiadau o anghenion fferyllol yn gwneud newid sylfaenol i'r ffordd y mae byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau fferyllol yng Nghymru. Er ei fod yn seiliedig ar fodel Lloegr o asesiadau anghenion fferyllol, mae ein hymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid wedi arwain at bolisi sydd wedi'i lunio yng Nghymru ac sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddarparu fferylliaeth gymunedol yng Nghymru. Mae ein model asesu anghenion fferyllol yn ategu'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gweithredu ers 2017 i drawsnewid y gwaith o gyflawni fframwaith contractiol fferylliaeth gymunedol. Ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym, bydd ceisiadau'n symud o'r broses o gael eu gyrru gan gontractwyr lle mae pwyslais mawr ar ddosbarthu presgripsiynau i broses sy'n effro ac yn ymateb i anghenion fferyllol ehangach eu poblogaeth leol.

Bydd y newidiadau hyn i'r ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio yn galluogi'r GIG ac yn benodol byrddau iechyd i ddiwallu anghenion cymunedau lleol yn well ac adlewyrchu swyddogaeth hollbwysig fferyllfeydd cymunedol ym maes iechyd cyhoeddus yn well. Gofynnaf i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron.

Andrew R.T. Davies. Andrew R.T. Davies. Na, dydych chi ddim yn dymuno siarad. Dyna'r rheswm nad ydych chi'n troi eich meicroffon yma. Iawn. Rwy'n tybio nad oes angen i'r Gweinidog ymateb i neb, felly gofynnaf a yw pawb yn fodlon cytuno ar y cynnig o dan eitem 11. Unrhyw wrthwynebiad? Na. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn. [Torri ar draws.] O.

Oedd, fe gollais i hynny, Gareth Bennett. Derbyniaf hynny. Diolch i'r Gweinidog am dynnu fy sylw—diolch i'r Gweinidog am dynnu fy sylw at hynny, a derbyniaf hynny fel gwrthwynebiad, a byddaf yn gohirio'r bleidlais honno tan y cyfnod pleidleisio. Iawn.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Sydd yn dod â ni at y cyfnod pleidleisio, ond mae Rheol Sefydlog 34.14D yn golygu y bydd yna egwyl nawr o bum munud tan fod y cyfnod pleidleisio yn cychwyn. Felly yr egwyl i gychwyn nawr. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:19.

17:25

Ailymgynullodd y Senedd am 17:27, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

12. Cyfnod Pleidleisio

Iawn, felly dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Dwi'n cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

Eitem 6 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020: O blaid: 49, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, dau yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo. 

Eitem 7 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020: O blaid: 49, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

17:30

Mae'r bleidlais nesaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn, felly mae'r cynnig yna wedi cael ei gymeradwyo.

Eitem 9 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020: O blaid: 47, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rebecca Evans. Cau'r bleidlais. O blaid 47, pedwar yn ymatal, felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 11 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig

Pwynt o Drefn

Diolch, Llywydd. Yn ystod ein trafodion ni heddiw, roedd nifer o Aelodau o ran y gwrthbleidiau ac hefyd ar ochr y Llywodraeth wedi gofyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog i'r Senedd os oes yna unrhyw fwriad i gyflwyno unrhyw newidiadau polisi ynglŷn â choronafeirws a'r cyfyngiadau heddiw. Rŷn ni’n cael ar ddeall bod yna'n dal cyhoeddiad yn mynd i fod. Ydych chi wedi cael cyfathrebiad gan y Prif Weinidog neu gan y Llywodraeth o ran y bwriad i gyflwyno datganiad i’r Siambr oherwydd mae’n hollbwysig ein bod ni’n cael y cyfle i graffu’n effeithiol?

Diolch am y pwynt o drefn yna. Mae nifer o Aelodau wedi codi'r pwyntiau yna yn ystod y prynhawn. Mae yna drafodaeth wedi bod rhyngof i, rhwng fy swyddfa i a swyddfa'r Llywodraeth ynglŷn â gwneud datganiad o'r fath neu ymateb i gwestiwn brys a gafodd ei gyflwyno hefyd cyn diwedd y cyfarfod yma'r prynhawn yma. Dwi ar ddeall oddi wrth y Llywodraeth fod yr union benderfyniadau terfynol heb gael eu gwneud eto ac felly ddim yn debygol o gael eu gwneud cyn ychydig cyn 8 o'r gloch heno, pan fydd yna ddatganiad gan y Prif Weinidog i'r genedl ar y cyfryngau, felly dwi—. Gan fod y datganiad ei hunan ddim yn barod a'r penderfyniadau perthnasol heb eu gwneud, fyddan nhw ddim ar gael i gael eu gwneud heno i'r Senedd achos fe fydden ni wedi gallu gohirio'r cyfarfod yma am ychydig ond ddim tan 8 o'r gloch, felly fe fydd yna ddatganiad gan y Llywodraeth fory i'r Senedd yma er bydd y cyhoeddiad wedi digwydd heno, tua 8 o'r gloch. Felly, diolch am y pwynt o drefn a'r cyfle i esbonio'r sefyllfa yna fel dwi'n ei deall hi i'r Senedd. Diolch yn fawr iawn i chi. Prynhawn da.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:33.