Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
15/09/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae'r Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfodydd Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i Aelodau sydd yn y Siambr â'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.
Felly, i gychwyn, dwi eisiau hysbysebu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020 wedi cael y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod pandemig COVID-19? OQ55524
Llywydd, rhoddwyd ymdrech enfawr ar waith ledled Cymru i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig. Yn ogystal â'n gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector, mae gwirfoddolwyr, ffrindiau a chymdogion dirifedi wedi rhoi cymorth i'r rhai â'r angen mwyaf. Mae ein cynllun diogelu'r gaeaf, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi ffyrdd y gellir parhau â'r ymdrech gyfunol enfawr hon.
Prif Weinidog, mae COVID-19 wedi dangos yn eglur yr annhegwch na ellir ei amddiffyn yn ein cymdeithas. Mae'r rhai sydd ar incwm is, mewn swyddi ansicr, yn byw mewn tai o ansawdd gwael ac yn dioddef anghydraddoldebau iechyd yn arbennig o agored i'r feirws, o ran eu hiechyd, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Mae ein cymunedau mwy difreintiedig, lleiafrifoedd du ac ethnig, a phobl anabl yn cael eu heffeithio yn anghymesur. Yng Nghasnewydd, mae gennym ni brofiad o hyn, a nawr mae gennym ni gynnydd i nifer yr achosion COVID-19 sy'n peri pryder. Prif Weinidog, a wnewch chi nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r achosion diweddar hyn, ac ymuno â mi i annog pobl a busnesau lleol i gynydddu eu hymdrechion i ddilyn rheoliadau a chyngor i gadw rheolaeth ar y feirws ac osgoi cyfyngiadau symud pellach?
Llywydd, a gaf i ddiolch i John Griffiths am y pwyntiau pwysig iawn yna? Mae'n tynnu sylw, a hynny'n gwbl briodol, at y cynnydd diweddar i nifer y bobl sy'n dioddef oherwydd coronafeirws yn ardal Casnewydd. Mae cryn ymdrech yn cael ei rhoi ar waith drwy'r tîm rheoli achosion lleol, yn gweithio yn agos iawn gyda'r awdurdod lleol—roeddwn i'n siarad ag arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, ddoe—ac mae ein tîm profi, olrhain, diogelu wedi bod yn gwbl ymroddedig wrth wneud gwaith dilynol ar yr holl achosion hynny sydd wedi dod i'n sylw, ac yna, yn eu tro, cysylltu â'r bobl y maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â nhw. O ganlyniad, mae'r ymdrechion hynny yn helpu i sefydlogi'r sefyllfa yng Nghasnewydd. Ac rydym ni'n gobeithio, wrth gwrs, na fydd angen cymryd camau pellach, ond os bydd angen, os na fydd y ffigurau hynny yn gwella a bod yn rhaid i gamau lleol gael eu hategu gan gamau cenedlaethol, yna dyna yn union fydd yn digwydd. Ac fel y dywedodd John Griffiths, Llywydd, mae hynny hyd yn oed yn bwysicach i'r grwpiau agored i niwed hynny mewn dinas fel Casnewydd—cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau, ac yn y blaen—y byddai'r risgiau iddyn nhw yn arbennig o ddifrifol pe byddai'r feirws yn mynd allan o reolaeth.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Gwrandewais ar eich ymateb i John Griffiths yn ofalus iawn, gan fy mod i'n cytuno bod llawer o niwed i'w wneud os bydd y feirws hwn yn mynd y tu hwnt i reolaeth. Ceir niwed sylweddol a fydd yn digwydd hefyd i bobl y gellid gofyn iddyn nhw warchod eto, i bobl sydd ag anableddau o'r fath, i bobl sydd ag anableddau dysgu efallai, nad ydyn nhw'n deall yn iawn beth sy'n digwydd. Felly, er enghraifft, mae grŵp eiriolaeth anabledd wedi cysylltu â mi, lle y dywedwyd wrth merch un fam, sydd mewn lleoliad preswyl a gefnogir gan y gwasanaethau cymdeithasol, ei bod yn debygol na fydd yn cael mynd adref tan fis Mehefin y flwyddyn nesaf—y flwyddyn nesaf. Rydym ni'n gofyn i rai pobl wneud aberth cwbl eithriadol. Os bydd yn rhaid i ni ddychwelyd i gyfyngiadau symud, bydd yn rhaid i'r rhai y mae'n rhaid iddyn nhw gael eu gwarchod ddychwelyd i wneud hynny. Prif Weinidog, pa sicrwydd allech chi ei roi i ni, neu beth all y Llywodraeth ei wneud, i wneud yn siŵr, y tro hwn, os byddwn ni'n wynebu'r sefyllfa honno, bod ffyrdd y gallwn fod yn fwy tosturiol ac yn fwy caredig ynglŷn â rhai o'r pethau yr ydym ni'n gofyn i rai o'r bobl agored iawn i niwed yn ein cymdeithas ymdopi â nhw, yn enwedig y rhai sydd efallai'n cael mwy o anhawster i ddeall yr angenrheidrwydd?
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y pwyntiau yna. Rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedodd—bod effaith ymateb i coronafeirws yn arbennig o anodd i'r bobl hynny sydd â'r lleiaf o allu i ddeall yr hyn sy'n digwydd o'u cwmpas ac yna ymateb iddo, boed hynny'n bobl oedrannus iawn sydd wedi dioddef o ddementia, boed nhw'n bobl ag anableddau dysgu, ac yn y blaen. Ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dysgu o brofiad y chwe mis diwethaf. Mae fy nghyd-Weinidog Jane Hutt wedi cadeirio pum cyfarfod o'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl dros y cyfnod hwnnw. Mae'r prif swyddog meddygol a'm cyd-Weinidog Julie James wedi bod yn bresennol ynddynt hefyd. A diben hynny i gyd yw ceisio dysgu o brofiad byw pobl sydd, fel yn achos cyswllt Angela Burns, wedi gorfod byw gyda'r baich syfrdanol y mae coronafeirws wedi ei osod ar rai aelodau o'n cymdeithas. Felly, rwy'n credu mai'r sicrwydd gorau y gallwn ni ei roi i'r bobl hynny yw gwrando'n ofalus arnyn nhw, a chlywed ganddyn nhw am y modd, pe byddem ni'n wynebu cyfnod pellach o'r math i ni ei wynebu yn ôl ym mis Mawrth a mis Ebrill, yr ydym ni wedi dysgu o'r ffyrdd y maen nhw wedi ymdopi â'r profiad hwn. A phan allwn ni wneud mwy i'w cynorthwyo ac y gallwn ddylunio ein gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sy'n gallu ymateb yn well i'w hanghenion, yna dyna'n union y byddwn ni'n ceisio ei wneud.
2. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r risgiau i gyllid cyhoeddus o ganlyniad i'r pandemig COVID-19? OQ55514
Llywydd, mae asesiad diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos cynnydd mawr iawn i'r diffyg ariannol ar gyfer y DU gyfan yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn diogelu cyllideb Cymru rhag effaith y sioc economaidd ar draws y DU ar refeniw datganoledig sy'n deillio o'r pandemig.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae eich Llywodraeth wedi annog awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn eiddo masnachol ledled y wlad. Rydych chi wedi rhoi benthyg arian trethdalwyr iddyn nhw wneud hynny, ac mae Banc Datblygu Cymru yn benthyca arian yn uniongyrchol i gwmnïau preifat sy'n datblygu eiddo masnachol. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, rhoddodd y banc fenthyciadau gwerth £34.1 miliwn o arian trethdalwyr i ddatblygwyr eiddo, ac eleni mae gan y banc ddwy gronfa ar gael i ddatblygwyr eiddo, sy'n dod i gyfanswm o £97 miliwn. Mae'r rhan fwyaf ohono yn y gronfa eiddo masnachol, a darperir yr holl arian gan Lywodraeth Cymru, hynny yw, y trethdalwr. O ganlyniad i'r cyfyngiadau symud, mae arbenigwyr eiddo yn rhagweld y gallai eiddo masnachol golli 50 y cant o'i werth ac y bydd enillion rhent yn mynd ar chwâl wrth i fusnesau gau a lleihau maint swyddfeydd gan fod mwy o staff yn gweithio gartref neu eu bod angen gwyliau rhent. Mae hyd yn oed y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cyfaddef i ostyngiad o 14 y cant o leiaf i werth yn ystod y flwyddyn nesaf. Os yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn iawn, gallai Banc Datblygu Cymru golli £7.7. miliwn mewn un flwyddyn os bydd yn buddsoddi ei gronfa eiddo masnachol gyfan o £55 miliwn. Gallai'r banc eisoes fod wedi colli £4.7 miliwn ar fuddsoddiadau y llynedd. Gallai'r darlun fod yr un mor wael i awdurdodau lleol. Mae Cyngor Sir y Fflint, er enghraifft, yn berchen ar 13 o ganolfannau busnes ac ystadau diwydiannol. Felly, faint o arian trethdalwyr a fuddsoddwyd mewn eiddo masnachol y gellid ei golli oherwydd y cyfyngiadau symud? Faint o arian ydych chi wedi ei neilltuo i achub cynghorau sy'n colli arian oherwydd lleihad i fuddsoddiadau mewn eiddo masnachol? Ac a yw Banc Datblygu Cymru wedi newid ei feini prawf benthyca ar gyfer datblygwyr eiddo masnachol ers i'r coronafeirws ymddangos a newid y ffordd y mae pobl yn gweithio ac yn cyflawni busnes?
Wel, Llywydd, rwy'n credu mai'r risg yng nghwestiwn yr Aelod yw cyfuno canlyniadau byrdymor a hirdymor y pandemig. Yn y byrdymor, nid oes amheuaeth o gwbl bod coronafeirws wedi effeithio ar werthoedd eiddo masnachol ac y byddan nhw'n parhau i gael eu heffeithio wrth i sioc economaidd y pandemig ddatblygu ar draws ein heconomi. Ond nid wyf i'n credu y dylem ni gymryd yn ganiataol bod yr effeithiau byrdymor hynny yn sicr o fod yn nodweddiadol o'r ffordd y bydd yr economi yn gwella. Nid wyf i'n credu ychwaith ei bod hi'n deg i feirniadu unrhyw sefydliad am wneud penderfyniadau benthyca mewn un cyfres o amgylchiadau pan fydd rhywbeth cwbl anrhagweladwy yn gwneud gwahaniaeth wedyn i'r ffordd y caiff y buddsoddiadau hynny eu prisio erbyn hyn. Yr hyn yr wyf i'n disgwyl ei weld yw fy mod i'n disgwyl i benderfyniadau benthyca gael eu calibradu nawr i'r gyfres bresennol o amgylchiadau a welwn, ac rwy'n disgwyl ein gweld ni'n cymryd golwg hirdymor ar rai o'r buddsoddiadau hynny a pheidio â gwneud penderfyniadau byrbwyll a fyddai'n ymateb i'r hyn yr ydym ni i gyd yn sicr yn gobeithio sy'n effaith dros dro cyfres fyd-eang o amgylchiadau ar ein heconomi ac y bydd yr economi yn gwella mewn ffyrdd a fydd yn diogelu'r buddsoddiadau hynny yn y tymor hwy.
Rwy'n credu bod Michelle Brown wedi rhoi sylw i bopeth yn y fan yna, do, Prif Weinidog? Ond hoffwn eich holi am y sefyllfa o ran treth. Ddoe, yn y Pwyllgor Cyllid, cawsom sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog cyllid, pryd y siaradodd am effaith y pandemig ar werthu tai ac ar dreth trafodiadau tir. Pa asesiad sydd wedi ei wneud o'r pandemig parhaus nid yn unig ar y dreth honno ond ar bob treth, gan gynnwys cyfradd treth incwm Cymru? Ac rydych chi newydd sôn mewn ymateb i Michelle Brown bod y fframwaith cyllidol yn cefnogi cyllideb Cymru yn erbyn ergydion fel pandemig ac ergydion annisgwyl yn y DU ac yn rhyngwladol. A ydych chi'n ffyddiog bod y fframwaith cyllidol yn gweithredu yn briodol ac y bydd yn amddiffyn cyllideb Cymru a refeniw treth Cymru yn llwyr rhag sioc y pandemig?
Wel, Llywydd, pe bawn i'n cymryd ymadrodd Nick Ramsay yn llythrennol, yn 'amddiffyn yn llwyr', yna nid wyf i'n tybio y gallwn i sicrhau hynny, gan y bydd effaith coronafeirws yn cael ei theimlo ar draws economi gyfan y DU yn ogystal ag economi Cymru, ac ar draws refeniw Llywodraeth y DU yn ogystal â'n refeniw ni. Rwy'n ffyddiog bod y fframwaith cyllidol yn ein hamddiffyn rhag ergydion a fyddai'n cael eu dioddef yng Nghymru pan fo'r ergydion hynny yn cael eu dioddef mewn mannau eraill. Bydd addasiad y grant bloc yn cymryd hynny i ystyriaeth a bydd yn golygu ein bod ni'n cael ein diogelu rhag yr effeithiau hynny.
Rwyf i hefyd yn falch o allu dweud wrth yr Aelod, gan fy mod i'n gwybod ei fod wedi cymryd diddordeb agos iawn yn y mater ar y pryd, bod y rheol cyllid canlyniadol o 105 y cant sydd gennym ni o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol eisoes wedi darparu £360 miliwn i Gymru na fyddai wedi dod i Gymru oni bai am y fframwaith cyllidol a'r rhan honno ohono a negodwyd gennym ni ar y pryd. Felly, rydym ni'n cael ein hamddiffyn gan y fframwaith cyllidol. Nid oes yr un ohonom ni'n cael ein hamddiffyn rhag yr effaith fyd-eang y mae coronafeirws yn ei chael ar economi gyfan y DU ac yn ehangach.
Prif Weinidog, rwy'n ffyddiog y byddwch chi'n cytuno â mi pan ddywedaf y gall defnydd arloesol o gymwyseddau treth gael effaith gadarnhaol ar ein cyllid cyhoeddus, yn ogystal â dod â manteision cymdeithasol cadarnhaol eraill. Fel y gwyddoch, rwy'n gefnogwr brwd o'r dreth ar dir gwag, a allai nid yn unig roi hwb i gyllid cyhoeddus ond, yn bwysicach, gweddnewid ein cymunedau hefyd. Felly, roeddwn i'n siomedig o ddarllen y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog cyllid yr wythnos diwethaf am y llusgo traed gan Weinidogion y DU ar y mater hwn. A wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i bwyso ar Weinidogion y DU i barchu'r setliad datganoli fel y gellir datblygu'r cynigion hyn a pheidio â gadael iddyn nhw ddefnyddio ymateb i'r pandemig fel esgus dros beidio â gweithredu neu fynd yn ôl ar eu gair?
Llywydd, diolchaf i Vikki Howells am hynna, ac rwy'n cydnabod yn llwyr y diddordeb y mae hi wedi ei gymryd yn y mater o dreth ar dir gwag. Rwy'n cofio'n dda y ddadl fer a gynhaliodd ar y pwnc hwn. Yn anffodus, mae hon yn agwedd llawer llai cadarnhaol ar ein trafodaethau gyda'r Trysorlys. Er i mi allu siarad yn gadarnhaol am y fframwaith cyllidol, mae hon yn stori llawer llai boddhaol.
Gadewch i ni gofio am eiliad, Llywydd, mai'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud yw defnyddio pŵer a roddwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2017 y Ceidwadwyr. Mae hwn yn bŵer a roddwyd ar y llyfr statud gan y Llywodraeth ar y pryd, ac mae'n caniatáu i Lywodraeth Cymru gynnig trethi newydd ar gyfer Cymru. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio i ni ddewis treth gul a phenodol yn fwriadol, treth ar dir wag, nad oedd yn dreth ddadleuol, mewn nifer o ffyrdd, mewn egwyddor, i roi prawf ar y peirianwaith hwnnw. Mae dros ddwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers i'r cynnig hwnnw gael ei gyflwyno am y tro cyntaf i'r Trysorlys. Ac, er gwaethaf yr hyn sydd, ar rai adegau, wedi bod yn berthynas weddol gynhyrchiol, cawsom lythyr siomedig iawn gan Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys ym mis Awst, yn ailagor cyfres gyfan o gwestiynau a dadleuon a oedd eisoes wedi eu hateb mewn trafodaethau blaenorol. Mae arnaf ofn mai'r hyn sy'n dod i'r amlwg yw nad yw'r peirianwaith yr aethom ni ati i roi prawf arno yn foddhaol; nid yw'n gymwys i ymdrin â'r mater y rhoddodd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol ei hun ar y llyfr statud i Gymru. Byddwn yn parhau i weithio yn ddyfal arno, fel y dywedodd Vikki Howells, ond mae arnaf ofn mai'r hyn yr ydym ni'n ei ddysgu yw bod y peirianwaith ei hun wedi torri y tu hwnt i allu ei drwsio.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, daeth i'r amlwg ddoe bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfaddef mynediad diawdurdod at ddata a arweiniodd at bostio manylion ychydig dros 18,000 o bobl, a oedd wedi profi'n bositif ar gyfer COVID-19, ar ei wefan am bron i ddiwrnod cyfan. Roedd y ffigur hwnnw yn cynnwys bron i 2,000 o bobl yn byw mewn lleoliadau cymunedol fel cartrefi nyrsio a'r rhai sy'n byw mewn tai â chymorth, a aeth mor bell â datgelu eu mannau preswylio. Prif Weinidog, o gofio nad dyma'r tro cyntaf y bu problem gyda data iechyd y cyhoedd, mae'n destun pryder mawr na ddatgelodd y Gweinidog iechyd hyn ar unwaith a chydag esboniad o ba gamau a fydd yn cael eu cymryd nawr i adennill ffydd y cyhoedd, oherwydd awgrymwyd bod y Llywodraeth wedi bod yn ymwybodol o hyn ers wythnosau. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y gwnewch chi achub ar y cyfle heddiw i ymddiheuro i'r bobl a gafodd eu heffeithio gan yr achos diweddaraf hwn o fynediad diawdurdod at ddata. A wnewch chi hefyd fanteisio ar y cyfle i ddweud wrthym ers pryd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r mynediad diawdurdod hwn a'r hyn yr ydych chi'n ei wneud i adennill ffydd y cyhoedd o ran rheoli eu data?
Wel, Llywydd, clywais am y mynediad diawdurdod at ddata hwn ddoe, a chlywais amdano o ganlyniad i ddatganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru, a dynnodd sylw, fel y dywedodd Paul Davies, at y mynediad diawdurdod at ddata. Mae'n fater difrifol pan nad yw rheoliadau data yn cael eu dilyn yn briodol, ac rwy'n credu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn iawn i ymddiheuro i'r bobl hynny y cyhoeddwyd eu data yn anfwriadol fel hyn. Diolch byth, fel y dywedodd Paul Davies, parhaodd y mynediad diawdurdod at ddata am lai na diwrnod ac mae'r ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu na wnaed unrhyw niwed o ganlyniad. Ond mater o lwc yw hynny yn hytrach na dim byd arall.
Mae'n iawn, felly, bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sefydlu ymchwiliad i'r hyn a aeth o'i le, wedi hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth, a byddwn yn disgwyl i'r ddwy swyddfa hynny wneud yn siŵr y gellir nodi'r rhesymau sydd y tu ôl i'r mynediad diawdurdod at ddata, ac os oes unrhyw systemau y mae angen eu trwsio, bod y camau hynny yn cael eu cymryd yn gyflym.
Wel, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddai'r bobl sydd wedi cael eu heffeithio yn gwerthfawrogi ymddiheuriad gennych chi fel Prif Weinidog, o gofio bod yr amgylchiadau hyn wedi codi. Ond, wrth gwrs, nid dyma'r mynediad diawdurdod at ddata personol cyntaf, yn dilyn y digwyddiad pan anfonwyd 13,000 o lythyrau gwarchod i'r cyfeiriadau anghywir yn gynharach eleni, nid unwaith, ond dwywaith, wrth gwrs. Gadewch i ni gofio hefyd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi, Prif Weinidog, wedi methu ag adrodd ffigurau marwolaethau coronafeirws dyddiol oherwydd ei fod wedi defnyddio gwahanol system adrodd i un a sefydlwyd ar gyfer GIG Cymru. Felly, gadewch i ni obeithio mai dyma'r tro olaf y bydd data personol pobl yn cael ei gamdrafod yn ystod y pandemig hwn, gan ei bod yn bosibl iawn y gallai hyn niweidio ffydd y cyhoedd, yn enwedig gan y gofynnir i bobl drosglwyddo manylion personol ar gyfer y system olrhain.
Prif Weinidog, ceir pryder dealladwy hefyd ynghylch cynlluniau i leihau profion COVID-19 o sail wythnosol i bob pythefnos mewn cartrefi gofal yn y gogledd. A allwch chi gadarnhau felly na fydd Llywodraeth Cymru yn lleihau'r profion wythnosol ar breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r rhai yn sector gofal Cymru am eu rhaglen brofi?
Wel, Llywydd, mae'n bwysig cywiro nifer o bwyntiau yn hynny o beth. Gadewch i ni fod yn eglur nad oedd defnydd Betsi Cadwaladr o wahanol system adrodd yn cynnwys unrhyw achosion o fynediad diawdurdod at ddata personol. Mae'r ddau beth yn hollol wahanol ac nid ydyn nhw wedi'u cysylltu yn y ffordd y ceisiodd yr Aelod eu cysylltu nhw yn ei gwestiwn dilynol, ac nid yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu profi ychwaith. Staff cartrefi gofal sy'n cael eu profi yn wythnosol neu bob pythefnos, nid preswylwyr. Felly, gadewch i ni fod yn eglur ynglŷn â hynny hefyd. Mae'n eithaf pwysig yn hyn o beth i fod yn fanwl gywir yn y ffordd yr ydym ni'n gofyn y cwestiynau hyn ac yn eu trafod.
Felly, rydym ni mewn trafodaethau, wrth gwrs, gyda'r holl gyrff iechyd lleol ynglŷn â'r gyfradd yr ydym ni'n profi staff, a phan fydd preswylwyr â symptomau bod preswylwyr yn cael eu profi hefyd. 0.12 y cant oedd cyfradd bositif staff a brofwyd yng nghartrefi gofal Cymru yn ystod yr haf hwn. Roedd yn fychan iawn, ac mae'n bwysig bod yn gymesur, fel yr wyf i'n credu bod eich Ysgrifennydd iechyd Matt Hancock wedi bod yn ei bregethu drwy'r bore, am y ffordd yr ydym ni'n defnyddio'r adnodd prin y mae profion yn ei gynrychioli.
Mae'r anawsterau sy'n ein hwynebu o ran profi cartrefi gofal yng Nghymru oherwydd i ni newid profion cartrefi gofal i'r labordai goleudy a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n ddrwg gen i bod rhai cartrefi gofal yn colli ffydd yn y system honno ac yn awgrymu na fydden nhw'n barod i gymryd rhan ynddi. Byddwn ni'n edrych i weld a oes angen i ni newid capasiti yn ôl i system Cymru yn ystod cyfnod yr wyf i'n obeithio fydd yn fyr tra bydd y labordai goleudy hynny yn dychwelyd i'r gwasanaeth da iawn yr oedden nhw'n ei ddarparu yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, dim ond tair wythnos yn ôl. Ond mae'r anawsterau dros dro o ran profi mewn cartrefi gofal, fel y maen nhw, o ganlyniad i'r anawsterau y mae'r system honno, y system DU honno, yn eu wynebu, nid oherwydd anawsterau yn system brofi Cymru.
Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud, Prif Weinidog, yw ei bod hi'n bwysig eich bod chi fel Llywodraeth yn ymgynghori â'r sector cartrefi gofal, gan ei bod hi'n gwbl hanfodol eich bod yn ymgynghori'n llawn â'r sector ar eich polisi profi, a gobeithiaf y byddwch chi'n myfyrio ar eich sylwadau.
Nawr, un agwedd ar bolisi profi a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran nodi bygythiadau posibl yw profi mewn meysydd awyr. Siawns y bydd profi pawb sy'n dychwelyd adref o dramor yn cadw pobl yn ddiogel. Nawr, galwodd Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, Nick Thomas-Symonds, am drefn brofi gadarn mewn meysydd awyr fel ffordd o sicrhau bod cyn lleied â phosibl o angen am y cyfnod ynysu o bythefnos ar ôl dychwelyd i'r DU, ac mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref, fe'i gwnaeth yn eglur bod cynyddu profion yn rhan bwysig o geisio ymateb i'r pandemig ac ailagor cymdeithas yn ddiogel. Dywedodd hefyd,
O gofio'r heriau enfawr sy'n wynebu'r sector teithio a maint y colledion swyddi, mae'n gwneud synnwyr i edrych ar y maes hwn yn rhan o becyn ehangach o welliannau i'r drefn brofi.
Mae Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid yn iawn; rwy'n cytuno ag ef. Ydych chi'n cytuno ag ef?
Wel, Llywydd, rydym ni'n cynnal trafodaethau gyda'r maes awyr yng Nghaerdydd i weld a allwn ni ddod o hyd i ffordd ymarferol o gynnal profion yn y maes awyr ei hun. Ceir rhai materion ymarferol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw yn hynny o beth, o ran yr amser y gallai fod yn rhaid i bobl aros mewn maes awyr, am ba hyd y byddai pobl yn barod i aros mewn maes awyr—ni allwch chi fynnu bod pobl yn gwneud y pethau hyn; mae'n fater o gymryd rhan yn wirfoddol. Felly, mae'n rhaid i chi dreulio ychydig o amser i wneud yn siŵr, os gallwch chi ddarparu profion mewn maes awyr, y gallwch chi wneud hynny mewn modd sy'n effeithiol, ac mae'r trafodaethau hynny gydag awdurdodau'r maes awyr yma yng Nghaerdydd yn parhau.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae BMA Cymru Wales wedi rhybuddio bod ail uchafbwynt COVID yn debygol iawn y gaeaf hwn, ac mai dyma'r prif bryder ymhlith y proffesiwn meddygol, fel sy'n wir, rwy'n siŵr, i bob un ohonom ni. A gaf i annog y Prif Weinidog i roi ystyriaeth ddifrifol i fabwysiadu elfennau o'r cynllun gaeaf 10 pwynt a gyhoeddwyd gennym ni heddiw, sydd â'r nod o osgoi ail don ac ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol? Yn benodol, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog archwilio'r achos dros gyflwyno, pryd bynnag y bo hynny'n bosibl, y dull wedi'i dargedu a fabwysiadwyd gan rai gwledydd yn seiliedig ar gyfyngiadau symud clyfar sy'n canolbwyntio ar niferoedd uchel o haint ar lefel gymunedol neu gymdogaeth, yn hytrach na chyfyngiadau symud ar draws ardal awdurdod lleol gyfan?
Diolchaf i Adam Price am y cwestiwn yna, Llywydd, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cyfle i edrych yn iawn ar y cynllun 10 pwynt. Mae croeso i unrhyw gyfraniadau adeiladol at ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r gaeaf yn well. Gwn y bydd wedi gweld y cynllun diogelu'r gaeaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi heddiw, a cheir llawer o orgyffwrdd rhwng y syniadau. Felly rwy'n awyddus iawn i edrych yn adeiladol ar y syniadau hynny.
Mewn sawl ffordd, gellir gweld y syniad o ddull gweithredu clyfar neu wedi'i dargedu yn y ffordd yr ymatebodd ein system profi, olrhain, diogelu, er enghraifft, i achosion Rowan Foods yn Wrecsam, pan nad oedd angen i ni gael cyfyngiadau ar ryddid pobl ar draws y fwrdeistref gyfan: roeddem ni'n gallu canolbwyntio ar y bobl a oedd yn gweithio yn y gwaith hwnnw a'u cysylltiadau uniongyrchol. Credaf y gellid ystyried y gofyniad i hunanynysu, y cyngor a roddwyd i'r grŵp penodol hwnnw yn y boblogaeth, fel enghraifft deg o gyfyngiadau symud clyfar, gan fod y bobl hynny wedi'u hynysu am 14 diwrnod. Y mwyaf y gallwn ni dargedu ein hymyraethau fel eu bod nhw'n ymateb i natur y broblem sydd gennym ni o'n blaenau, ac nad ydyn nhw'n cyfyngu felly ar fywydau pobl nad ydyn nhw'n rhan uniongyrchol o hynny, y gorau oll yr wyf i'n credu y byddwn ni'n ennyn hyder y cyhoedd pan fydd angen cymryd y mesurau hynny.
Mae'r tîm rhagolygon yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain yn adrodd ar hyn o bryd mai 1.43 yw eu hamcangyfrif o ffigur R Cymru, ar 11 Medi, a fyddai'n golygu mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o dwf yn y DU ar hyn o bryd ac amser dyblu o ychydig dros chwe diwrnod. A ydych chi'n cydnabod yr amcangyfrifon hynny, Prif Weinidog? Os nad ydych chi, beth yw amcangyfrifon diweddaraf Llywodraeth Cymru? O gofio brys cynyddol y sefyllfa a'r anawsterau y cyfeiriasoch chi atyn nhw'n gynharach o ran system labordy goleudy'r DU, a yw'n bosibl cyflwyno'r rhwydwaith newydd hwnnw o gyfleusterau labordy poeth sy'n cael eu cynllunio yng Nghymru yn gynharach na mis Tachwedd? Wrth i gapasiti dyfu, a allwn ni edrych ar brofi cysylltiadau asymptomatig fel y mae llawer o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, wedi dechrau ei wneud erbyn hyn?
Llywydd, diolchaf eto i Adam Price am y cwestiynau yna. Mae'r crynodeb y gell cyngor technegol a gyhoeddwyd heddiw, rwy'n credu, yn awgrymu bod y lefel R yng Nghymru yn uwch nag 1. Nid wyf i'n credu y byddem ni'n ymrwymo i ffigur mor fanwl ag 1.43. Y broblem gyda'r ffigur R ar gyfer Cymru gyfan yw ei bod hi'n anochel bod cornel de-ddwyrain Cymru yn effeithio arno, lle'r ydym ni wedi gweld cymaint o gynnydd i achosion yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae rhannau cyfan o Gymru, Llywydd, lle mae'r niferoedd yn dal i gael eu cadw'n isel yn effeithiol iawn, ac ni fyddai lefel R o 1.43 yn adlewyrchiad o gylchrediad y feirws yn y rhannau hynny o Gymru. Felly, mae'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yng Nghaerffili, yn Rhondda Cynon Taf ac yn fwy diweddar yng Nghasnewydd, yn effeithio'n arbennig ar y ffigur unigol ar gyfer Cymru ar hyn o bryd. Serch hynny, mae crynodeb y gell cyngor technegol yn awgrymu bod y gyfradd wedi codi yn ôl yn uwch nag 1 yng Nghymru, a dyna pam y cymerwyd y mesurau a gymerwyd gennym ni ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, i ymateb ar sail Cymru gyfan i'r darlun hwnnw a oedd yn dod i'r amlwg.
Bydd y buddsoddiad o £32 miliwn a gyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething ar 18 Awst, Llywydd, yn golygu gweithio 24 awr mewn labordai yn Abertawe, yng Nghaerdydd ac yn y Rhyl ym mis Hydref, a chapasiti labordy poeth yn ehangach yng Nghymru—ar hyn o bryd ym mis Tachwedd. Os gallwn ni, wrth gwrs, ei gyflwyno yn gynharach, byddwn yn dymuno gwneud hynny. Mae'r buddsoddiad yn fater o fuddsoddiad cyfalaf ond hefyd yn fater o gyflogi mwy o staff yn y labordai hynny. Cawsom 3,000 o geisiadau am y 160 o swyddi a fydd yn cael eu recriwtio, a dechreuodd cyfweliadau ar gyfer y swyddi hynny ddoe. Felly, gorau po gyntaf y gallwn ni gael y bobl hynny yn y swyddi, gorau po gyntaf y byddwn ni'n gallu cael y capasiti labordy hwnnw ar waith yma yng Nghymru. A phan fydd gennym ni fwy o gapasiti yn y modd hwnnw, byddwn yn gallu ystyried eto pwy yr ydym ni'n eu profi, pryd y byddwn ni'n eu profi, gan gynnwys—nid wyf i'n awgrymu ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad hwnnw o gwbl, ond bydd yn caniatáu i ni ystyried y mater o brofion asymptomatig mewn ffordd wahanol.
Ymhen chwe wythnos, bydd cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben, a bydd pen y dibyn sydd ar y gorwel yn gadael miloedd o weithwyr yn wynebu ansicrwydd andwyol diweithdra. Os bydd cynnydd pellach i achosion COVID yn golygu y bydd yn rhaid gorfodi cyfyngiadau symud lleol mewn ardaloedd eraill dros y misoedd nesaf, ac os na fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu, a oes gan Lywodraeth Cymru gynllun wrth gefn i gynnig ffyrlo lleol, i bob pwrpas, yn ogystal â chymorth ariannol i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus lleol yn yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio, yn ogystal â'r rhai nad ydyn nhw yn gallu ennill gan eu bod nhw'n hunanynysu? Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno y byddai'n gwbl anghywir i gosbi pobl dim ond am eu bod yn sâl.
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwynt yna, Llywydd, ac mae wedi cael ei wneud dro ar ôl tro gennyf i, gan Vaughan Gething, gan Brif Weinidog yr Alban mewn galwad pan ymunais â hi, ac, yn wir, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio â dod â'r cynllun ffyrlo i derfyn sydyn—i'w ail-grynhoi, ei ail-lunio a'i ychwanegu at allu i gefnogi cyflogau'r bobl hynny yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw hunanynysu am 14 diwrnod. Ar hyn o bryd, ceir cymhelliad gwrthnysig i'r bobl hynny sy'n gweithio ar gyflogau isel iawn fynd i'r gwaith pan nad ydych chi'n teimlo'n dda, oherwydd fel arall mae'n rhaid i chi ddibynnu ar werth £95 o dâl salwch bob wythnos. Byddai cynllun syml lle byddai Llywodraeth y DU ei hun yn sicrhau lefel cyflog arferol y bobl hynny, neu'n ei wneud mewn partneriaeth â chyflogwyr yn wir, yn cael gwared ar y cymhelliad gwrthnysig hwnnw. Rwy'n credu y byddai'n cynyddu cydymffurfiad â'r rheolau sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel ac yn fuddsoddiad doeth gan Lywodraeth y DU, oherwydd fe fyddwch, yn y modd yr ydym ni'n aml yn siarad amdano yn y Siambr hon, yn gweithredu'n ataliol yn hytrach na gorfod talu'r pris sy'n dilyn pan fydd y person hwnnw yn mynd i'r gwaith, yn heintio pobl eraill, yn arwain at fwy o alw am wasanaethau cyhoeddus a chwmnïau yn gorfod rhoi'r gorau i gynhyrchu, ac yn y blaen.
Mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wrthi'n gweithio ar hyn o bryd ar drydydd cam y gronfa cadernid economaidd yma yng Nghymru. Rhan o'r ystyriaeth honno yw'r cymorth y gallwn ni ei roi i gwmnïau sy'n canfod eu hunain yn destun cyfyngiadau symud lleol yma yng Nghymru yn y dyfodol. A fydd ein cyllideb yn ymestyn i gynnal incwm pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddiwedd y cynllun ffyrlo neu sydd angen hunanynysu? Rwy'n ofni nad yw'r adnoddau gennym ni i wneud hynny. Nid yw cynnal incwm yn swyddogaeth sydd wedi ei datganoli i Lywodraeth Cymru. Nid oes cyllid yn llifo i ni gan Lywodraeth y DU i gefnogi hynny, ac mae'n llawer anoddach gweld sut y byddem ni'n gallu llunio, mewn ffordd fforddiadwy, cynllun o'r math y mae Adam Price yn tynnu sylw ato'n briodol ond yn yr un modd, yn briodol, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw rhoi hynny ar waith.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, o ystyried y gofyniad cyfreithiol i hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr, a'i ganllawiau i hysbysu'r rhai yr effeithir arnynt heb oedi diangen, a wnaethoch chi a/neu Iechyd Cyhoeddus Cymru eistedd, rwy'n credu, am oddeutu pythefnos ar newyddion am y datgeliad data mawr hwn?
A gaf i ofyn i chi hefyd egluro eich fersiwn chi o'r rheol chwech, yr ydych chi'n mynnu ei bod yn rhaid iddi fod yn wahanol i un Lloegr? Pam ydych chi'n dweud bod yn rhaid i'r chwech hyn fod o'r un aelwyd estynedig, wedi'i ffurfio o hyd at bedair aelwyd, heb gynnwys plant, ond yna efallai na fydd y pedair aelwyd hyn, er eu bod yn ffurfio aelwyd estynedig, yn cael cyfarfod ar yr un pryd os oes mwy na chwech?
A gaf i eich atgoffa hefyd eich bod chi wedi dweud yn y gorffennol mai dim ond dadl iechyd cyhoeddus ymylol oedd dros ddefnyddio gorchuddion wyneb anfeddygol? Dywedodd eich Gweinidog iechyd bod Prif Swyddog Meddygol Cymru yn credu y dylai masgiau fod yn fater o ddewis personol. Pa dystiolaeth newydd ydych chi wedi ei gweld i gymryd y dewis personol hwnnw oddi wrth bobl?
Llywydd, nid wyf i'n credu ei bod hi'n anodd iawn dilyn y rheol chwech. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod coronafeirws yn cael ei drosglwyddo gan bobl sy'n cyfarfod y tu mewn i dai ei gilydd. Dyna sydd y tu ôl i'r trosglwyddiad yng Nghaerffili. Dyna sydd y tu ôl i'r trosglwyddiad mewn sawl rhan o Loegr. Ac er mwyn ceisio dod â'r sefyllfa yn ôl dan reolaeth, yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig yng Nghymru yw na ddylai mwy na chwech o bobl gyfarfod dan do ar unrhyw un adeg; mae'n cyfyngu ar y gadwyn drosglwyddo. Mae mor syml â hynny. A phan fo cadwyni trosglwyddo yn cynyddu ffigurau pobl sy'n dioddef o coronafeirws mewn rhannau helaeth o Gymru, ac yn gwneud hynny mewn ffordd eithaf brawychus, yna mae'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn gweithredu i ddod â hynny yn ôl dan reolaeth.
Mae gennym ni drefn fwy rhyddfrydol yma yng Nghymru nag mewn mannau eraill gan y gall pedair aelwyd ffurfio un aelwyd estynedig, ac mae hynny ynddo'i hun yn cynnig ymbarél sy'n helpu i darfu ar gadwyni trosglwyddo, ond ni ddylai mwy na chwech o'r bobl hynny gyfarfod ar unrhyw un adeg. Byddwn yn caniatáu i blant oedran ysgol gynradd fod yn rhan o'r aelwyd honno y tu hwnt i'r chwech oherwydd y dystiolaeth nad yw'r plant hynny yn dioddef o coronafeirws ac nad ydyn nhw'n trosglwyddo coronafeirws yn y ffordd y mae oedolion yn ei wneud. Mae'n ymgais gymesur i geisio peidio ag ymyrryd â rhyddid pobl yn fwy na'r hyn sy'n angenrheidiol, ond gwneud y lleiaf sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r cynnydd i'r coronafeirws yr ydym ni'n ei weld mewn gormod o rannau o Gymru.
O ran gorchuddion wyneb, yn ein cynllun cyfyngiadau symud lleol, a gyhoeddwyd hefyd yng nghanol mis Awst, Llywydd, dywedasom, pe byddai cylchrediad y feirws yng Nghymru yn symud y tu hwnt i drothwy penodol, y byddem ni'n ailystyried ein cyngor ar orchuddion wyneb. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, aeth y gyfradd yng Nghymru i 20 o bob 100,000 o'r boblogaeth, ac mae wedi aros yn uwch nag 20 byth ers hynny. Ugain yw'r ffigur yr ydym ni'n ei ddefnyddio i nodi gwledydd tramor lle os ydych chi wedi bod dramor a bod yn rhaid i chi ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i chi hunanynysu. Roedd hon yn ymddangos i mi unwaith eto yn ffordd gymesur o nodi'r trothwy anffodus hwnnw y dylem ni ofyn i bobl yng Nghymru wneud y peth ymylol hwnnw, oherwydd pan fyddwch chi'n cyrraedd cylchrediad y feirws ar y lefel honno, mae darnau ymylol o gymorth sy'n ein cynorthwyo ni i gyd i'w gadw dan reolaeth a'i yrru at i lawr yn dod yn werth chweil.
Yn Sweden, nid oedd unrhyw gyfyngiadau symud, fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, Prif Weinidog, ac ni fu unrhyw atgyfodiad sylweddol yn y feirws hyd yma; yn wir, rydym ni newydd godi cyfyngiadau teithio ar Sweden. Ac eto, yn Sbaen, lle cafwyd cyfyngiadau symud difrifol iawn, rydym ni'n gweld atgyfodiad mawr o'r feirws. Beth felly yw'r rhesymeg sy'n sail i strategaeth Llywodraeth Cymru o gadw pobl dan glo drwy'r haf pan fo systemau imiwnedd pobl ar eu cryfaf, a phan fo capasiti'r GIG ar ei fwyaf, dim ond i ohirio cynyddu heintiau tan i ni gyrraedd y gaeaf? Rydych chi wedi cyflwyno cyfyngiadau symud ar fy etholwyr i yn ardal cyngor Caerffili, a hyd yn oed wedi sôn am y posibilrwydd o gyrffyw a chyfyngiadau ar werthu alcohol fel mesurau posibl y gallech chi eu hystyried. Ar ôl cymryd haf pobl oddi arnynt dim ond i achosion gynyddu unwaith eto, a ydych chi'n derbyn bod blinder â chyfyngiadau symud wedi dod i'r amlwg ac na allwch chi gadw pobl dan glo am byth?Am faint yn hwy ydych chi'n disgwyl cadw'r pandemig hwn i fynd yng Nghymru drwy eich cyfyngiadau?
Wel, Llywydd, mae'n ymddangos bod yr Aelod yn aml yn byw mewn byd nad oes llawer o'r gweddill ohonom ni yn byw ynddo, ond mae'n ymddangos erbyn hyn bod ganddo wahanol dymhorau yn ei gloc hefyd. Nid oedd Cymru yn destun cyfyngiadau symud yn ystod yr haf. Mae ein diwydiant twristiaeth wedi ailddechrau, mae ein cyfyngiadau 'aros yn lleol' wedi eu codi, mae pobl wedi cael cyfarfod yn yr awyr agored, mae pobl wedi cael cyfarfod dan do. Mae'n gwbl hurt i ddweud y collwyd yr haf hwn yng Nghymru. Yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru mewn gwirionedd yw bod rhai pobl, lleiafrif o bobl yng Nghymru, wedi cymryd yr haf fel arwydd bod coronafeirws ar ben, ac maen nhw wedi cymryd y ffaith eu bod nhw wedi gallu gwneud cymaint mwy nag yr oedden nhw yn flaenorol fel rhyddid i wneud hyd yn oed mwy na'r hyn a ganiatawyd, ac rydym ni'n gweld y canlyniadau. Rydym ni'n gweld y canlyniadau ym mywydau pobl sy'n dioddef o'r clefyd hwn erbyn hyn, ac mae arnaf i ofn y byddwn ni'n gweld, dros yr wythnosau i ddod, effaith hynny wrth i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty ac yn galw ar welyau ein hunedau gofal dwys unwaith eto. Felly, ymhell iawn o Lywodraeth Cymru yn atal rhyddid y dylai pobl fod wedi ei fwynhau, rydym ni wedi gwneud ein gorau glas i adfer rhyddid pryd bynnag y bu'n ddiogel i wneud hynny, ac mae'r ffaith ein bod ni, ar hyn o bryd, yn wynebu sefyllfa lle mae profiad Cymru o coronafeirws, yn hytrach na gwella, yn gwaethygu yn fy nigalonni. Efallai y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni unwaith eto wneud yr ymdrechion hynny a wnaed gennym ni yn gynharach eleni oni bai y gallwn ni berswadio'r holl bobl hynny—yn etholaeth yr Aelod ac fel arall—i ymddwyn mewn ffordd sy'n diogelu eu hunain, yn diogelu pobl eraill ac yn ein helpu ni i gyd i gadw Cymru yn ddiogel.
3. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i bobl awtistig yn ystod y pandemig coronafeirws? OQ55500
Llywydd, mae argyfwng y coronafeirws wedi bod yn arbennig o anodd i bobl awtistig. Gan weithio gydag eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar gymorth ymarferol a chanllawiau penodol i'r rhai sy'n cael eu heffeithio. Y mis diwethaf, er enghraifft, ac ar y cyd â Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, cyhoeddwyd cyngor gennym ar orchuddion wyneb ar gyfer pobl awtistig ar gludiant cyhoeddus.
Mae'r adroddiad 'Left stranded', a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a'i phartneriaid, yn dangos bod pandemig y coronfeirws, yn ogystal â gwaethygu yn sylweddol heriau hirsefydlog sy'n wynebu pobl awtistig o ran cael gofal cymdeithasol a chymorth addysgol addas, wedi cael effaith niweidiol iawn ar iechyd meddwl pobl awtistig a'u teuluoedd. Sut, felly, y gwnewch chi ymateb i alwad yr adroddiad ar Lywodraeth Cymru i: greu cynllun gweithredu i amddiffyn pobl awtistig a'u teuluoedd os bydd ail don; blaenoriaethu datblygiad y cod ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth; cryfhau hawliau cyfreithiol pobl awtistig a'u teuluoedd yng Nghymru yn unol â hynny; cyhoeddi'r cod anghenion dysgu ychwanegol cyn symud i'r system gymorth newydd y flwyddyn nesaf; a gweithredu'r ymrwymiad bod pob athro ac athrawes yn cael hyfforddiant awtistiaeth gorfodol yn rhan o'u haddysg gychwynnol i athrawon, ochr yn ochr â chyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar awtistiaeth, fel sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y DU?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Mark Isherwood am dynnu sylw at yr adroddiad 'Left stranded', sy'n adroddiad pwysig? Gwn fod yr Aelod wedi ysgrifennu ddoe at y Gweinidogion iechyd ac addysg yn tynnu eu sylw ato.
Fel y mae Mark Isherwood wedi ei ddweud, ceir tri argymhelliad penodol yn yr adroddiad i Lywodraeth Cymru. Y cyntaf yw datblygu cod ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth, a bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn fuan, cyn diwedd y mis hwn, yn nodi'r amserlenni ar gyfer ymgynghori a chyhoeddi'r cod.
Yr ail argymhelliad oedd cyhoeddi'r cod anghenion dysgu ychwanegol a'i roi ar waith yn 2021, ac ar 3 Medi cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y bydd y cod a'r rheoliadau yn cael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, ac y bydd hynny, yn wir, yn caniatáu cychwyn y Ddeddf a'i chyflwyno yn raddol o fis Medi 2021.
Mae'r trydydd argymhelliad yn ymwneud â'r ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol y tynnodd yr Aelod sylw ati, ac mae ein tîm awtistiaeth cenedlaethol ac eraill—gan gynnwys y rhai sy'n gweithio ym maes hyfforddiant cychwynnol i athrawon—yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o awtistiaeth yn y gymuned fel thema allweddol yn ein cynlluniau gweithredu.
Prif Weinidog, soniasoch yn eich ymateb i Mark Isherwood am y cod ymarfer yn ymwneud â gorchuddion wyneb ar gyfer pobl awtistig, a byddwch yn ymwybodol iawn, mi wn, y gall pobl awtistig hefyd ei chael hi'n anodd cyfathrebu â rhywun sy'n gwisgo masg wyneb, yn ogystal â'i chael hi'n anodd weithiau gwisgo masg wyneb, a byddai'r un peth yn wir, er enghraifft, am bobl fyddar y gallai fod angen iddyn nhw ddarllen gwefusau. A allwch chi gadarnhau y prynhawn yma, Prif Weinidog—ac rwy'n gofyn y cwestiwn hwn i chi yng nghyd-destun etholwr a gafodd broblem gyda hyn—pe byddai aelod o'r cyhoedd, person awtistig neu berson â phroblemau byddardod, yn gofyn i aelod o staff mewn siop dynnu ei orchudd wyneb fel y gall y person byddar neu'r person awtistig hwnnw gyfathrebu yn fwy effeithiol ag ef, ei bod hi'n dderbyniol i'r aelod o staff wneud hynny, cyn belled â'i bod yn bosibl cynnal y pellter ymbellhau cymdeithasol o 2 fetr? Mae profiad fy etholwr yn awgrymu y gallai fod rhywfaint o ddryswch ar ran staff siopau yn hyn o beth.
Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am hynna. Cadarnhaf y byddai'n dderbyniol o dan yr amgylchiadau y mae wedi eu disgrifio, ond rydym ni'n gwybod bod cryn dipyn o ddysgu y mae'n rhaid i'r system ei gymryd i mewn. Roedd yn un o'r pryderon y mae'r prif swyddog meddygol wedi eu mynegi erioed am ddefnydd gorfodol o orchuddion wyneb, bod yn rhaid cael eithriadau a bod yn rhaid i ni fod yn sensitif i'r bobl hynny nad ydyn nhw, am wahanol resymau, yn ei chael hi'n bosibl gwisgo gorchudd wyneb eu hunain neu sy'n ei chael hi'n anodd pan fydd pobl eraill yn eu gwisgo. Byddwn yn defnyddio'r holl eithriadau a roddwyd ar waith gennym ni pan wnaed gorchuddion wyneb yn orfodol ar gludiant cyhoeddus yn yr ardaloedd newydd yr ydym ni wedi eu gwneud nhw'n orfodol ynddynt o ddydd Llun yr wythnos hon, a bydd cyfnod byr, mae arnaf i ofn, pan fydd yn rhaid i sensitifrwydd i rai o'r materion hyn gael ei ddatblygu ymhlith pobl na fu'n rhaid iddyn nhw weithredu yn y modd hwn tan nawr.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y strategaeth profi, olrhain a diogelu ar gyfer coronafeirws? OQ55520
Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae perfformiad ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu yn glod i'n byrddau iechyd ac i'n hawdurdodau lleol ac mae wedi cael cefnogaeth gref gan bobl o bob cwr o Gymru. Ers 21 Mehefin, cysylltwyd yn llwyddiannus â 98 y cant o achosion positif a 94 y cant o'u cysylltiadau agos, a rhoddwyd cyngor iddyn nhw.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Cafwyd rhai enghreifftiau o bobl yn aros am ganlyniadau, wrth gwrs, pan eu bod nhw wedi gofyn am brofion. Nawr, a wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i wneud yn siŵr, fel y mae wedi ei wneud gyda phrofi, olrhain a diogelu, ei bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod canlyniadau ar gael mewn da bryd i'r rhai sydd angen y canlyniadau?
Unwaith eto, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, am bwysigrwydd ymatebion prydlon i brofion a gynhaliwyd. Fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn cynharach, Llywydd, mae'r anawsterau sy'n cael eu dioddef yng Nghymru ar hyn o bryd yn ganlyniad i'r anawsterau a nodwyd yn glir yn y system labordy goleudy, system a oedd yn gweithio yn llwyddiannus iawn dair wythnos yn unig yn ôl ac rydym ni'n awyddus iawn i'w gweld yn llwyddiannus unwaith eto cyn gynted ag y bydd hynny'n bosibl. Mae Gweinidog y DU sy'n gyfrifol yn dweud wrthym ni y bydd y system honno yn ôl ar y trywydd iawn o fewn tair wythnos ac yn darparu canlyniadau prydlon i bobl yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y cyfamser, mae ein labordai ein hunain yn parhau, rwy'n credu, i ddarparu canlyniadau prydlon: dychwelir 91 y cant, er enghraifft, o brofion ysbyty a gynhelir yn labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru o fewn 24 awr. A'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'n capasiti ein hunain yw defnyddio'r canlyniadau cyflymaf pan fo angen y canlyniadau hynny yn y modd hwnnw. Felly, rwy'n credu fy mod i wedi dweud eisoes, Llywydd—ymddiheuriadau os gwnes i—bod tua 99 y cant o'r profion a gynhelir yn y gymuned yng Nghaerffili yn cael eu dychwelyd o fewn 24 awr. Rydym ni angen i'r labordai goleudy fod yn ôl yn gweithredu fel yr oedden nhw dim ond ychydig wythnosau yn ôl er mwyn darparu'r un gwasanaeth i'r rhannau hynny o'r system yng Nghymru sy'n dibynnu ar y labordai hynny yn ogystal â'n rhai ein hunain.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod unrhyw system brofi ac olrhain angen ffydd wrth rannu gwybodaeth. Gofynnwyd i chi ddwywaith y prynhawn yma am y mynediad diawdurdod at ddata a ddigwyddodd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru—mynediad diawdurdod sylweddol at ddata. O ran yr un cwestiwn a ofynnwyd i chi, gofynnwyd i chi, 'Pryd cafodd y Llywodraeth ei hysbysu am y ffaith bod y data hyn wedi cael eu cyhoeddi?' Fe wnaethoch chi fethu ag ateb y cwestiwn hwnnw, felly a allech chi ymateb i fy nghwestiwn i, os gwelwch yn dda, trwy roi ateb: pryd hysbyswyd Llywodraeth Cymru—nid chi, Llywodraeth Cymru—am y mynediad diawdurdod hwn at ddata a phwy yn Llywodraeth Cymru oedd y pwynt cyswllt cyntaf yn rhengoedd y Gweinidogion i gael gwybod am y ffaith bod 18,000 o enwau wedi eu cyhoeddi?
Wel, Llywydd, rhoddais ateb a oedd o fewn fy ngwybodaeth. Rwy'n gwybod pryd y cefais i fy hysbysu. Nid wyf i'n gwybod yr ateb i'r cwestiynau eraill hynny, ac ni fyddwn ychwaith yn disgwyl eu gwybod yn sefyll yma yn y Siambr. Byddwn yn darganfod yr atebion hynny, wrth gwrs, ac rwy'n hapus iawn i'w mynegi i'r Aelod.
Mae'n amlwg i mi fod yna rywbeth catastroffig wedi mynd o'i le efo'r system brofi yn y pythefnos diwethaf; nid dim ond arafwch canlyniadau yn dod yn ôl ydy hyn. Mae etholwyr i fi ac mewn rhannau eraill o Gymru yn methu cael prawf cartref o gwbl, yn cael trafferth ffonio 119, yn methu cael slot yn eu canolfan drive-through leol—sy'n llawer rhy bell beth bynnag i lawer o bobl. Dwi'n cytuno'n llwyr efo gwyddonwyr independent SAGE sydd wedi dweud ers misoedd fod yna beryg go iawn yn Llywodraeth Cymru yn penderfynu rhoi ei ffydd mewn system oedd yn cael ei rhedeg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mai beth oedd ei angen oedd datblygu cyfundrefn Gymreig ar gyfer profi. Ydych chi'n gweld rŵan mai camgymeriad oedd rhoi ffydd yn y system Brydeinig, a beth sydd angen ar frys rŵan ydy cynyddu'r capasiti yma yng Nghymru, capasiti y mae gennych chi fel Llywodraeth reolaeth drosto fo?
Dwi'n cytuno gyda'r Aelod. Mae'r problemau yn y lighthouse labs yn ddifrifol, ac mae'n bwysig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddelio gyda'r problemau yna mor gyflym â phosib. Dwi ddim yn cytuno o gwbl ag ef pan ddywedodd, fel rhan o’r annibyniaeth mae Plaid Cymru bob tro yn trial ei awgrymu, mai'r ffordd orau oedd bod yn hollol annibynnol yn y maes yma a pheidio â defnyddio'r capasiti oedd yna i'w ddefnyddio ledled y Deyrnas Unedig. Dydy Llywodraeth yr Alban ddim wedi gwneud hynny o gwbl, a doedd hi ddim yn gwneud synnwyr i ni ei wneud chwaith. Ac â dweud y gwir, yma ar lawr y Senedd, dwi'n cofio pobl yn dweud wrthyf i, 'Pam ydych chi ddim yn defnyddio'r capasiti sydd i'w gael mewn systemau eraill?' So, rŷn ni wedi defnyddio'r capasiti yna, a than dair wythnos yn ôl, roedd y system yna'n gweithio yn dda. Y sialens nawr yw gwneud y gwaith ar lefel y Deyrnas Unedig i roi'r lighthouse labs yn ôl yn y lle roedden nhw ym mis Awst, a dyna beth rydyn ni eisiau ei gefnogi.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfyngiadau symud lleol a gyflwynwyd yng Nghaerffili? OQ55522
Llywydd, cafwyd cynnydd sylweddol i nifer yr achosion o coronafeirws yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddechrau'r wythnos diwethaf, mewn termau absoliwt ac fel cyfran o'r bobl a brofwyd. Ar 8 Medi, yn dilyn cais gan awdurdodau cyhoeddus, cyflwynodd Gweinidogion fesurau i reoli'r feirws ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Pan gyhoeddwyd y cyfyngiadau symud yr wythnos diwethaf, fe greodd ddryswch ymhlith llawer o drigolion Caerffili, a chefais fy moddi mewn negeseuon gan bobl sy'n awyddus i gael gwybod pa effaith y byddai'n ei chael ar eu hamgylchiadau. Cymerodd bron i 24 awr cyn i ganllawiau gael eu cyhoeddi yn egluro ble y gallai'r rhai a oedd yn rhannu gwarchodaeth dros eu plant ac sy'n byw ar y naill ochr a'r llall i'r ffin sirol weld eu plant, pa un a fyddai aelodau teulu mewn profedigaeth yn cael mynd i angladdau, a pha un a fyddai gofyn i bobl a oedd yn gwarchod yn gynharach yn y flwyddyn wneud hynny unwaith eto. Roedd hynny yn 24 awr o bryder ac ing diangen y gellid bod wedi eu hosgoi pe byddai'r canllawiau wedi cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â'r cyhoeddiad. Nawr bod ardaloedd fel Casnewydd a Merthyr hefyd yn wynebu cyfyngiadau symud erbyn hyn, a fyddech chi cystal, Prif Weinidog, â rhoi sicrwydd y bydd canllawiau manwl yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y cyhoeddir unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol, a bod unrhyw newidiadau i ganllawiau yn cael eu mynegi cyn eu gweithredu, fel bod pobl yn cael amser i baratoi?
Llywydd, rwy'n credu bod y cwestiwn yn methu'n llwyr â deall y cyd-destun y mae penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud ynddo. Dydyn nhw ddim yn cael eu gwneud mewn modd hamddenol. Dydyn nhw ddim yn cael eu gwneud gyda chyfle i roi pob dot ac atalnod yn ei le cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Rydych chi'n ymdrin ag argyfwng iechyd cyhoeddus. Rydych chi'n ymdrin â sefyllfa lle gall diwrnod o oedi beryglu bywydau mwy o bobl. A dywedaf wrth yr Aelod bod ei hetholwyr a'r rhai y gwn eu bod wedi cysylltu â'r Aelod dros Gaerffili, Hefin David, yn dangos llawer mwy o ddealltwriaeth nag y mae'n ymddangos sydd ganddi hi o'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar unwaith pan ofynnwyd i ni wneud hynny gan yr awdurdodau cyhoeddus hynny, ac o fewn 24 awr roedd pob darn o gyfarwyddyd a oedd yn angenrheidiol i helpu pobl i ymdopi â'r amgylchiadau newydd ar gael iddyn nhw. Nawr, rydym ni eisiau cael y canllawiau hynny i bobl mor gyflym ag y gallwn ni, ond ni ellir cael trefn digwyddiadau pryd y darperir canllawiau ac yna cyhoeddi pan eich bod chi'n wynebu argyfwng, a chithau yn wynebu cyngor gan bobl ar lawr gwlad bod angen cymryd camau cyn gynted â phosibl i ddiogelu bywydau pobl—rydych chi'n cymryd y camau yn gyntaf ac yna cyn gynted ag y gallwch chi, rydych chi'n darparu'r canllawiau i fynd law yn llaw â nhw. Dyna'r hyn a wnaethom ni yng Nghaerffili, a dyna, wrth gwrs, y byddwn ni'n bwriadu ei wneud os bydd unrhyw sefyllfaoedd tebyg yn codi mewn unrhyw rannau eraill o Gymru. Ac mae pobl Caerffili, sydd wedi cydweithredu yn wych â'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith ers hynny, yn dangos llawer iawn mwy o synnwyr nag y mae'r Aelod yn ei gredu sydd gandddyn nhw, yn fy marn i.
Fel un o drigolion etholaeth Caerffili, rwyf i wedi gweld yn bersonol yr aberth y mae pobl yn ei wneud i gydymffurfio â'r cyfyngiadau yr ydym ni'n byw oddi tanynt, a oedd yn eglur iawn o'r cychwyn, ond sydd wedi arwain at rai cwestiynau gan drigolion mewn sefyllfaoedd penodol. Un yr wyf i wedi bod yn ymdrin ag ef yw pobl y bu'n ofynnol iddyn nhw ganslo gwyliau, gwyliau a drefnwyd ymlaen llaw, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad yw'r diwydiant teithio wedi ymateb yn dda, yn enwedig o ran ad-daliadau, er bu rhywfaint o le i aildrefnu. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod EasyJet a Ryanair wedi bod yn enghreifftiau arbennig o amlwg o gwmnïau y mae'n ymddangos nad ydyn nhw'n poeni fawr ddim am iechyd a llesiant ac, yn wir, rhwymedigaethau cyfreithiol eu teithwyr, ac mae hynny wedi bod yn siomedig iawn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y peth iawn drwy ysgrifennu at y diwydiant teithio a'r diwydiant yswiriant gyda chyfarwyddiadau eglur iawn ar eu cyfer, a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i ymateb i bobl i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae angen i Lywodraeth y DU hefyd gamu ymlaen nawr a rhoi cymorth i bobl y mae'r amgylchiadau hyn wedi effeithio arnyn nhw—i'r teithwyr hynny sydd wedi eu heffeithio. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a yw wedi cael ymateb gan y diwydiant teithio a'r diwydiant yswiriant; pryd y mae e'n disgwyl cael yr ymateb hwnnw os nad yw wedi ei gael hyd yma; ac a wnaiff ef hefyd alw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith ar ran y teithwyr hynny sydd wedi eu heffeithio?
Llywydd, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod a'i staff am yr ymdrechion enfawr y gwn eu bod nhw wedi eu gwneud dros yr wythnos ddiwethaf i ymateb i filoedd o ymholiadau, yn llythrennol, gan drigolion Caerffili ac am y ffordd y mae ef wedi codi materion o'r math hwn ar eu rhan? Mae e'n iawn, wrth gwrs, bod Vaughan Gething a Lee Waters wedi ysgrifennu yn weinidogol at gymdeithas asiantau teithio Prydain ac yswirwyr Prydain yn ôl ar 10 Medi; dywedasant yn y llythyr ei bod yn ddyletswydd ar y diwydiannau teithio ac yswiriant i gymryd y camau angenrheidiol i liniaru effaith ariannol cyfyngiadau ar aelodau o'r cyhoedd sy'n teithio y tarfwyd ar eu cynlluniau teithio. Nid ydym ni wedi cael ateb i'r llythyr hwnnw eto. Bydd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn cadeirio cyfarfod pedairochrog yn ddiweddarach yr wythnos hon rhwng Gweinidogion sydd â chyfrifoldebau yn y meysydd hyn, a bydd yn sicr yn codi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU hefyd, gan nad yw'r effeithiau hyn wedi eu cyfyngu i Gymru, Llywydd. Mae pobl mewn sawl rhan arall o'r Deyrnas Unedig sy'n gweld cyfyngiadau yn cael eu gorfodi yn lleol sy'n effeithio ar eu gallu i gyflawni cynlluniau teithio, ond nid eu bai nhw o gwbl yw eu bod nhw yn y sefyllfa honno, ac mae angen i'r diwydiant ymateb yn unol â hynny.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailfandio'r dreth gyngor yng Nghymru? OQ55528
Diolch yn fawr iawn, Dai Lloyd. Mae sylfaen y dreth gyngor ar gyfer Cymru yn fwy cyfredol a chywir nag yw yn Lloegr ac yn yr Alban. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dogfen yn hwyrach yn yr hydref yn trafod ffyrdd eraill o weithredu yng Nghymru, gan gynnwys diwygiadau ac ailfandio.
Diolch yn fawr am hwnna.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol, os yw eiddo wedi ei wella neu ei ymestyn ers ei roi mewn band treth gyngor, bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu'r bandiau i gymryd y newidiadau i ystyriaeth pan gaiff ei werthu. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod problemau gyda'r system, gydag oedi o ran hysbysu preswylwyr am newidiadau. Nawr, canfu rhai o'm hetholwyr i fis diwethaf bod eu band treth gyngor wedi neidio dau fand, a gofynnir nawr iddyn nhw dalu'r dreth gyngor ychwanegol—tua £1,000—wedi'i hôl-ddyddio i'r adeg y prynwyd yr eiddo, ym mis Tachwedd 2018. Nawr, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn annheg ac a wnewch chi gytuno i ystyried newid y canllawiau ar ôl-ddyddio taliadau treth gyngor o dan yr amgylchiadau hyn?
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Dr Lloyd am godi'r mater hwn sy'n peri pryder? Rwyf i wedi gweld, fel y mae'n digwydd, y llythyr a ysgrifennodd ar 7 Medi at Julie James, ac rwyf i wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru gysylltu ag ef yn uniongyrchol, os yw e'n hapus i hynny ddigwydd, dim ond i gael gwybod ychydig mwy o fanylion am yr achosion sy'n sail i'r llythyr, fel y gallwn ni fynd ar eu trywydd yn briodol. Yr wybodaeth sydd gen i yw bod llai o ddisgresiwn nag mewn meysydd eraill o atebolrwydd yn y gyfraith yn ymwneud â'r dreth gyngor o ran y math o ailfandio y mae llythyr Dr Lloyd yn cyfeirio ato. Mae proses apelio rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n teimlo nad yw'r system wedi cael ei gweithredu'n deg, ac mae honno i'r tribiwnlys prisio. Ond mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn rhai sy'n peri pryder, a chyda'i ganiatâd, byddwn yn mynd ar eu trywydd yn fwy manwl gydag ef yn uniongyrchol, er mwyn i ni allu gweld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i gynorthwyo.
Yn olaf, Janet Finch-Saunders. Nad wyf i'n gallu ei gweld—
Caroline Jones sydd nesaf.
Ie. Roeddwn i'n galw cwestiwn atodol—cadwch chi at eich swydd chi; mi wnaf innau gadw at fy un i. [Chwerthin.] Bwriadwyd i hynny fod yn garedig iawn, a dyna'ch cwestiynau ar gyfer y prynhawn yma wedi eu cwblhau, Prif Weinidog. Mae'n ddrwg gen i ddweud y drefn wrthych chi ar y diwedd.
Cwestiynau nesaf i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf yna gan Darren Millar.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ryddid i addoli yng Nghymru? OQ55484
Rwy'n cydnabod ac yn cefnogi'r rhyddid i fod â chred ac i'w harfer yng Nghymru. Rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda fforwm cymunedau ffydd Cymru a'r grŵp gorchwyl a gorffen ar ailagor mannau addoli i gefnogi ailagor mannau addoli yn raddol ac yn ddiogel.
Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog. Un o'r materion a godwyd gyda mi gan aelodau o wahanol gymunedau ffydd, ond yn enwedig y gymuned Gristnogol, yw effaith y cyfyngiadau ar y gallu i addoli drwy gân yn ein heglwysi ar hyn o bryd, ar gyfer canu cynulleidfaol. Wn i ddim a ydych chi'n gyfarwydd a gwaith ymchwil diweddar, a gyhoeddwyd gan Brifysgol Bryste, y mae'n ymddangos ei fod yn awgrymu nad yw canu yn cynhyrchu llawer iawn mwy o ronynnau anadlol na siarad ar uchder tebyg. Felly, a wnewch chi edrych eto ar y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng nghyswllt addoli mewn eglwysi, a gallu cynulleidfaoedd i ganu yn rhan o'u haddoliad, ac ystyried y darn hwnnw o waith ymchwil i gynorthwyo eich penderfyniad?
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar, am y cwestiwn atodol yna. Byddwn i'n dweud i gychwyn bod Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i'n fforwm cymunedau ffydd yng Nghymru, ac rydych chi'n ymwybodol iawn o aelodaeth lawn ac amrywiol hwnnw, a'r cyngor a'r cyfarwyddyd y maen nhw wedi eu rhoi i ni—mae ganddyn nhw grŵp gorchwyl a gorffen—cyngor a chyfarwyddyd y maen nhw wedi eu rhoi i ni ar ailagor mannau addoli. Ac maen nhw wedi ailagor yn ddiogel, ar sail eu cyngor, eu cyfarwyddyd a'r wyddoniaeth. Ond rwy'n ymwybodol iawn bod cerddoriaeth a chanu yn rhan bwysig o wasanaethau a seremonïau. Mae hiraeth mawr ar ei ôl, ac rydym ni wrthi'n edrych ar hyn, yn seiliedig ar gyngor gwyddonol unwaith eto, a'r cyfarwyddyd gan y grŵp gorchwyl a gorffen a seremonïau. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud cyhoeddiadau pellach.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl? OQ55510
Trwy weithio gyda sefydliadau partner ledled y DU, ein gwaith o godi ymwybyddiaeth, hyfforddiant achrededig, a thrwy gasglu gwybodaeth yn well i gefnogi ymchwiliadau troseddol a chymorth i ddioddefwyr, mae Llywodraeth Cymru ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y troseddau gwarthus hyn.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae'r elusen gwrth-gaethwasiaeth, Unseen UK, wedi rhybuddio ein bod ni'n debygol, oherwydd y dirywiad economaidd oherwydd yr argyfwng presennol, o weld cynnydd i fasnachu pobl—gan fod y ddau beth yn mynd law yn llaw fel rheol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog fy sicrhau y bydd hi'n cymryd camau i geisio atal hyn, i godi ymwybyddiaeth o arwyddion caethwasiaeth fodern ac adnabyddiaeth ohonyn nhw?
Hoffwn ddiolch eto i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna, oherwydd mae'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod y gall hyn fod yn broblem o ran effaith niweidiol COVID-19, a allai arwain at gynnydd mewn masnachu pobl. Yr hyn sy'n bwysig iawn—. Fel yr wyf i wedi ei ddweud, mae'n golygu gweithredu cydgysylltiedig. Atgyfnerthwyd yr ymateb i gaethwasiaeth yng Nghymru, fel y gwyddom, wrth gwrs, gan benodiad cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru, sy'n gweithio yn ymarferol gydag asiantaethau allweddol i bennu graddfa, mathau a lleoliad caethwasiaeth yng Nghymru, ond sydd hefyd yn gwella'r wybodaeth honno a'r broses o gofnodi digwyddiadau yng Nghymru, gan weithio yn helaeth iawn gyda Llywodraeth y DU gan ddefnyddio'r dull atgyfeirio cenedlaethol ac edrych ar hynny yng nghyd-destun effaith COVID-19.
Yn dilyn y cwestiwn blaenorol, rydym ni'n gweld data a gyhoeddwyd ym mis Mehefin sy'n dangos, am y tro cyntaf ers 2016, Gweinidog, bod yr adroddiadau o gaethwasiaeth fodern dybiedig yn y DU wedi gostwng gan 14 y cant, ac mae hyn yn codi'r pryder mai'r ffaith mewn gwirionedd yw bod dioddefwyr yn cael eu gwthio ymhellach allan o'r golwg ac oddi wrth gofyn am gymorth. Felly, a gaf i ofyn i'n Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau ffurfiol i Weinidogion y DU, i roi'r adnoddau i'r Awdurod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur wneud eu gwaith yn gyntaf oll, gan eu bod wedi'u hymestyn i'r eithaf eisoes, a hefyd i annog Gweinidogion y DU i gyflymu'r dulliau atgyfeirio cenedlaethol i ddioddefwyr allu cael gofal yn amrywio o dai a gofal iechyd i gymorth cyfreithiol, oherwydd mae hon yn broses a all gymryd ar hyn o bryd o chwe wythnos i sawl blwyddyn, yn wir? Diolch, Gweinidog.
Diolch i Huw Irranca-Davies. Yn dilyn y pwynt pwysig yna am effaith y pandemig, a dim ond i ychwanegu at y pwyntiau a wnes i yn gynharach, rydym ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu, yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur, ond hefyd yn cynnwys yr holl sefydliadau ac elusennau anllywodraethol hynny, fel BAWSO, Llwybrau Newydd a Barnardo's yng Nghymru, gan godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth, ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau sy'n cael eu hadrodd, gan achub a chynorthwyo dioddefwyr pan fo hynny'n bosibl. A chredaf mai'r elfen ddiddorol yw bod adroddiadau ledled Cymru wedi aros yn gyson. Rydym ni mewn cysylltiad rheolaidd ag uned caethwasiaeth fodern y Swyddfa Gartref, ac maen nhw bellach yn adolygu proses y dull atgyfeirio cenedlaethol. Ac rwy'n credu bod eich pwynt am allu cael gafael ar gymorth cyfreithiol yn hollbwysig. Ac mae'n rhaid i ni gydnabod, wrth gwrs, bod caethwasiaeth fodern yn fater a gadwyd yn ôl, a bydd y Swyddfa Gartref, yn amlwg, yn hollbwysig i fynd â'r negeseuon hyn yn ôl o ran effaith y pandemig, fel y gallwn ni fod yn ymwybodol o fasnachu pobl a mynd i'r afael ag ef.
Fel y bydd y Siambr yn gwybod, rwyf i wedi codi'r materion hyn droeon ers cael fy ethol i'r Senedd. Ac eto, er gwaethaf y galwadau niferus o bob rhan o'r Siambr i ymchwilio i'r arferion a ddefnyddir mewn busnesau golchi ceir yn arbennig, mae'n ymddangos nad oes unrhyw gamau yn cael eu cymryd o gwbl o ran y sefydliadau hyn. Mae hyn yn arbennig o siomedig o gofio bod nifer o broblemau yn bodoli o ran eu gweithrediad—yr oriau maith y mae gweithwyr yn eu gweithio, 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn aml; y cyflog isel, y dywedir ei fod tua £3 yr awr; y llety is-safonol ar gyfer y gweithwyr hyn; y duedd i wyngalchu arian, o gofio ei bod yn ymddangos bod yr holl drafodion yn rhai arian parod, yn aml hyd at filoedd lawer o bunnoedd yr wythnos; y cyflog isel, y dywedir ei fod tua—mae'n ddrwg gen i, i'r materion amgylcheddol, gyda'r cyfanswm sylweddol o elifion a gynhyrchir yn y safleoedd hyn yn mynd yn syth i systemau draenio dŵr ac felly i'r afonydd; ond, wrth gwrs, yn waeth na dim, y camfanteisio eglur ar bobl sy'n gweithio ar y safleoedd hyn. Mae'n rhaid gofyn, Dirprwy Weinidog, pam nad oes unrhyw beth wedi ei wneud i ymchwilio neu hyd yn oed gau'r busnesau hyn, er eu bod nhw wedi bodoli ers dros ddegawd.
Wel, rwy'n cydnabod bod David Rowlands wedi sôn am hyn fwy nag unwaith yn y Siambr hon. Hoffwn gyfeirio yn gryno, o ran cyflogaeth, at god ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, a lansiwyd yn 2017, gyda'r nod o wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw, ond hefyd atal camfanteisio ar weithwyr. Ac roedd yn rhywbeth newydd i Gymru a'r DU mewn gwirionedd, ac mae dros 200 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r cod ymarfer, gyda'r rhan fwyaf o gyrff sector cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo hefyd. Ond hoffwn dalu teyrnged hefyd i Joyce Watson â'i grŵp trawsbleidiol ar fasnachu pobl, os na chaf i'r cyfle i wneud hynny eto y prynhawn yma.
Gweinidog, mae gweithredoedd o gaethwasiaeth fodern yn dod yn realiti brawychus i lawer ac mae'r drosedd hon yn aml yn anodd iawn ei hadnabod. Un cwestiwn syml sydd gen i: mae gan y Swyddfa Gartref ran wirioneddol i'w chwarae yn hyn, ond beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i atal hyn rhag bod yn drosedd gudd?
Wel, tan yn ddiweddar, byddwn i'n dweud bod caethwasiaeth yn drosedd gudd. Nid yw'n cael ei adrodd yn ddigonol o hyd a chodwyd y cwestiynau a'r pryderon hyn y prynhawn yma. A dyna pam y cyflwynwyd systemau casglu data newydd gennym ni yng Nghymru ac rydym ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu'r sail dystiolaeth well honno—cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at hynny hefyd—sy'n adlewyrchu yn fwy cywir lefel caethwasiaeth yng Nghymru fel y gallwn ni fynd i'r afael ag ef.
3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010? OQ55519
Bydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn dod i rym ar 31 Mawrth 2021. Rydym ni'n gweithio yn agos gyda chyrff cyhoeddus i baratoi ar gyfer y ddyletswydd ac, yn gynharach eleni, cyd-luniwyd canllawiau gennym, a bydd adnoddau pellach i roi arweiniad i gyrff cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Dirprwy Weinidog, diolch yn fawr iawn am yr ateb yna a'r cam blaengar iawn hwnnw sy'n cael ei gymryd. Byddwch yn gwybod bod merched a menywod, yn hanesyddol, wedi bod yn llai tebygol yn draddodiadol mewn ysgolion a sefydliadau addysg o ymgymryd â'r pynciau STEM—y wyddoniaeth, y dechnoleg, peirianneg a mathemateg. Ac rydych chi eich hun wedi bod yn eiriolwr brwd dros gau'r bwlch anghydraddoldeb hwnnw sydd wedi bodoli. Nawr, yn ystod argyfwng COVID, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw'r nifer anhygoel o wyddonwyr benywaidd sydd wir wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi. Rwy'n meddwl tybed pa syniadau y gallai fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru eu defnyddio fel enghraifft ar gyfer ysgogi a hyrwyddo'r nifer gynyddol o ferched a menywod sy'n astudio'r pynciau STEM yn y dyfodol.
Wel, diolchaf i Mick Antoniw am godi hynna ac am dynnu ein sylw—oherwydd rydym ni i gyd wedi ei weld—at y cyfraniad anhygoel a wneir gan y gwyddonwyr benywaidd hynny. Wrth gwrs, mae'r pandemig byd-eang wedi tynnu sylw at y rhan hanfodol y mae STEM yn ei chwarae yn y byd heddiw. Ni fu gennym ni erioed fwy o weithwyr proffesiynol STEM, gwyddonwyr, yn amlwg i'r cyhoedd fel y bu gennym ni yn y misoedd diwethaf.
Ond rwy'n falch iawn o gadeirio'r bwrdd menywod mewn STEM. Rydym ni'n cyfarfod ar 15 Hydref. Bydd effaith y pandemig yn sicr yn cael ei thrafod ac, a dweud y gwir, byddwn yn edrych ar hynny o ran y proffil uwch gwyddonwyr benywaidd hwnnw o ran apêl a pherthnasedd pynciau STEM. A bydd hynny'n bwysig iawn, rwy'n credu, o ran effaith ein Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) newydd sy'n mynd drwy Senedd Cymru nawr, ond gan ystyried sut y gall hynny gyrraedd mwy o ferched a myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ac, wrth gwrs, gweld hwn fel mater rhyngadrannol yn ogystal â'r amrywiaeth yr ydym ni eisiau ei sicrhau yn y ddarpariaeth o wyddoniaeth STEM a'r ddarpariaeth o broffesiynoldeb ac arbenigedd STEM.
4. Sut y bydd polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fwy cyfartal yn esblygu yn dilyn y profiad COVID-19? OQ55525
Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn eglur y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i'r ymateb i'r pandemig a'r adferiad yng Nghymru. Dyma fydd yr egwyddor arweiniol wrth i ni fwrw ymlaen â datblygiadau polisi allweddol dros y misoedd nesaf.
Gweinidog, mae'r rhai sy'n byw yn ein cymunedau mwy difreintiedig wedi dioddef yn anghymesur yn ystod y pandemig o ran eu hiechyd, yn economaidd ac yn gymdeithasol, ac un agwedd ar hyn yw cyfraddau ysmygu uwch yn y cymunedau hyn—mae'r rheini yn arwyddocaol o ran bod yn agored i'r feirws ond hefyd o ran disgwyliad oes is yn gyffredinol. Diolch byth, mae ysmygu yn dirywio, gyda chyfyngiadau mewn mannau cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig i helpu i gyflawni hynny. Ond, serch hynny, mae'r effaith ofnadwy ar iechyd yng Nghymru yn parhau. Felly, Gweinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymestyn y cyfyngiadau presennol, gan gynnwys mannau awyr agored caffis a bwytai, sydd yn arbennig o arwyddocaol nawr yn ystod y pandemig rwy'n credu, gan fod y mannau awyr agored hynny yn ehangu ac yn tyfu, a hefyd o ran digwyddiadau, digwyddiadau chwaraeon ieuenctid, fel y gall fod cyfyngiadau ar ysmygu yn y rheini ac yn agos atyn nhw?
Wel, diolch, John Griffiths, am dynnu sylw at ran ysmygu mewn anghydraddoldebau iechyd. Hoffwn ddweud bod sicrhau bod yr annhegwch iechyd a achosir gan ysmygu yn cael ei leihau—bod hynny'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth Cymru hon. Rydych chi wedi cyfeirio at feysydd lle gallem ni ehangu'r gwaharddiad ar ysmygu. Yn amlwg, ein bwriad uniongyrchol yw cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu, fel y mae pob Aelod yn ei wybod, mewn meysydd chwarae cyhoeddus, tir ysgolion ac ar dir ysbytai. Ond, rydym ni wedi ymrwymo i'n nod hirdymor o wneud mwy o fannau cyhoeddus Cymru yn ddi-fwg a helpu pobl i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a'u llesiant, ac rydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen â gwaith yn nhymor nesaf y Senedd i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i fannau awyr agored caffis a bwytai a chanol dinasoedd a threfi.
Dylid gweithredu polisïau i greu Cymru fwy cyfartal mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol a chymunedau lleol, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn cynlluniau i Gymru chwarae ei rhan mewn ymdrechion byd-eang i gynorthwyo ffoaduriaid. Fodd bynnag, mae adroddiadau y bydd gwersyll hyfforddi milwrol yn Sir Benfro yn cael ei ddefnyddio i gartrefu 250 o ffoaduriaid, heb fawr ddim ymgynghori â'r awdurdod lleol, os o gwbl, cyn cyhoeddi penderfyniad Swyddfa Gartref y DU, yn amlwg yn peri pryder mawr. A all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa un a ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru, ac a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y dylai pobl sy'n ceisio lloches gael eu cartrefu yn ddiogel a'u cynorthwyo mewn cymunedau, ac nid cael eu cadw mewn gwersyll milwrol?
Wel, diolchaf yn fawr iawn i Leanne Wood am godi'r cwestiwn yna y prynhawn yma yn y Senedd. Dim ond ddydd Gwener y cawsom ni wybod am gynigion y Swyddfa Gartref. Nid ydym ni wedi cael yr esboniad llawn yr ydym ni wedi gofyn amdano eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn genedl o noddfa. Rydym ni wedi ymrwymo i hynny, ond mae angen i ni sicrhau bod anghenion ceiswyr lloches sy'n dod atom ni—ac mae hynny, wrth gwrs, drwy ein cynghrair ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yr wyf i'n ei gadeirio—bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu, ac yn cael eu diwallu a'u deall yn llwyr o ran cyfleoedd i bobl integreiddio a setlo. Rydym ni'n gweithio gyda'r holl bartneriaid perthnasol nawr i sicrhau bod y pryderon hyn yn cael sylw, o ran y cynnig hwn a wnaed ddydd Gwener. Yn amlwg, mae'n rhaid i hynny gynnwys awdurdodau lleol a'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio, ond yr hyn sy'n hollbwysig yw bod materion iechyd y cyhoedd yn cael ystyriaeth flaenllaw o ran effaith y pandemig.
Cwestiwn 5, Rhianon Passmore.
Allwch chi ddad-dawelu eich hun, Rhianon Passmore?
Tynnwyd y cwestiwn yna yn ôl, Llywydd.
Iawn, dydych chi ddim yn dewis gofyn y cwestiwn sydd ar y papur trefn.
Ni ofynnwyd cwestiwn 5 [OQ55527].
Cwestiwn 6, felly, Mike Hedges.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth i grwpiau gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r gymuned fyddar? OQ55482
Mae gwirfoddolwyr ledled Cymru yn parhau i chwarae rhan hanfodol o ran galluogi pobl i gadw'n ddiogel trwy bandemig COVID-19. Er mwyn cynorthwyo grwpiau gwirfoddol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio gyda'r gymuned pobl fyddar, rhoddwyd £11 miliwn ar gael drwy ein cronfa cydnerthedd y trydydd sector.
Diolchaf i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Er mwyn ei roi ar y cofnod, mae fy chwaer yn hollol fyddar, ac rwyf i hefyd yn llywydd Grŵp Trwm eu Clyw Abertawe. Mae COVID wedi cael effaith ddifrifol ar y gymuned pobl fyddar, gan fod masgiau yn atal gallu pobl fyddar i ddarllen gwefusau, neu hyd yn oed gwybod bod rhywun yn siarad â nhw. Beth sy'n cael ei wneud i hyrwyddo iaith arwyddion a dehonglwyr iaith arwyddion i gynorthwyo'r gymuned pobl fyddar?
Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn pwysig yna. Dim ond i roi enghreifftiau o sut yr ydym ni wedi targedu ein cyllid: rhoddwyd £1.1 miliwn o gymorth i sefydliadau anabledd, gan gynnwys Canolfan Pobl Fyddar Caerdydd. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi sicrhau presenoldeb dehongli Iaith Arwyddion Prydain yn ein cynadleddau newyddion COVID-19, ochr yn ochr ag amrywiaeth o fformatau hygyrch ar ohebiaeth allweddol drwy'r pandemig, fel fideos Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer ein hymgyrch Cadwch Gymru'n Ddiogel.
Ond, rydym ni hefyd wedi sefydlu grŵp cyfathrebu hygyrch, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru. Soniodd y Prif Weinidog am y ffaith ein bod ni wedi cael llawer o gyfarfodydd y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl. Rydym ni hefyd wedi edrych ar effaith gorchuddion wyneb, ac, wrth gwrs, soniwyd am hynny yn gynharach o ran yr effaith ar bobl awtistig.
Felly, mae'n hanfodol ein bod ni'n gwrando ar y bobl sy'n cael eu heffeithio o ran COVID-19 a sicrhau ein bod ni'n cael yr adborth hwnnw, ac yna'n gweithredu yn unol â hynny ac yn codi ymwybyddiaeth, fel y dywedodd y Prif Weinidog, oherwydd mae hynny'n hollbwysig i'r rhai sydd mewn cysylltiad â phobl fyddar ac yn ymgysylltu ac yn cynorthwyo ac yn galluogi pobl fyddar i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas, yn y gymuned ac yn y gweithle.
7. Faint o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru sydd â digon o fand eang er mwyn darparu modd o ddysgu yn y cartref i blant pe bai rhagor o gyfyngiadau symud yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol? OQ55501
Mae gan bron i hanner safleoedd awdurdodau lleol o leiaf ryw fath o fynediad i'r rhyngrwyd. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi safleoedd heb seilwaith band eang digonol a chytuno ar gyllid ar gyfer prosiectau sy'n galluogi cysylltedd rhyngrwyd ar safleoedd, hyd at 100 y cant o'r costau cymwys.
Felly, o'r hyn rydych chi'n ei ddweud, Gweinidog, rwy'n deall nad oes gan hanner y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr fand eang i alluogi disgyblion i fynd at y cwricwlwm os na allan nhw fynychu'r ysgol oherwydd cyfyngiadau symud pellach. Pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael â'r Gweinidog llywodraeth leol, ac yn wir y Gweinidog addysg, i sicrhau bod hyn yn brif flaenoriaeth i awdurdodau lleol, o gofio bod eich adran wedi sicrhau bod arian ar gael yn benodol at y diben hwn? Mae'n siomedig nad yw'r gwaith hwn wedi'i wneud yn ystod yr haf ar ôl i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn os byddai'n bosibl cyhoeddi'r safleoedd nad oes ganddyn nhw fand eang o gwbl o hyd.
Diolch i Jenny Rathbone, ac rwy'n cydnabod hefyd fod Jenny Rathbone yn cadeirio grŵp trawsbleidiol Sipsiwn/Teithwyr/Roma, sydd â dylanwad pwysig ar wrando ar y rhai hynny yr effeithir arnyn nhw, yn ogystal â gweithio gyda nhw. Yn wir, rydym ni'n cyfarfod â'r rhai sy'n cefnogi ac yn cynrychioli Sipsiwn/Roma/Teithwyr yn fforwm hil Cymru ac, yn dilyn cyngor ac arweiniad ganddyn nhw o ran rhwystrau i ddefnyddio'r rhyngrwyd, ysgrifennais i at y Gweinidog Addysg i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu herio a'u cefnogi yn gyllidol hefyd i wella'r canlyniadau i Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yn enwedig i'r plant a'r bobl ifanc o ran gallu defnyddio'r dysgu cyfunol hwnnw.
Felly, rwy'n credu mai'r materion yr ydym ni'n gweithio arnyn nhw yn awr—a byddaf i'n adrodd yn ôl, yn amlwg, i'r Senedd ar hyn—yw ein bod ni'n gofyn i awdurdodau lleol—. Mae ganddyn nhw'r arian, 100 y cant o gyllid. Rydym ni'n gofyn iddyn nhw gamu ymlaen. Rydym ni eisiau gwybod am bob math o angen o ran mynediad i'r rhyngrwyd, gan gynnwys data symudol cyflym, Wi-Fi ar draws y safle, a'r holl fylchau hynny a all fodoli, fel y gallwn ni sicrhau bod dysgu ar gael i'r plant a'r bobl ifanc hynny, ac yn wir oedolion hefyd o ran eu cyfleoedd bywyd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Felly, y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw: bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd yn gwneud datganiad am Fil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gan ein bod yn dechrau craffu ar Fil y cwricwlwm, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol os gallem ni gael rhywfaint o eglurder ynghylch diogelu bodolaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg, mewn trafodaethau diweddar ynghylch y gofyniad i beidio a bod yn rhan o'r cyfrwng Saesneg, wedi dweud nad yw hyn yn ymwneud â chyfrwng addysgu, mae'n ymwneud â phynciau, ond credaf i fod hynny'n codi'r cwestiwn ynglŷn â sut mae ysgolion yn cael eu categoreiddio ar hyn o bryd a pha ddiogelu sydd ar waith ar hyn o bryd. Tybed a allai'r Gweinidog addysg, neu'r Gweinidog dros y Gymraeg—oherwydd nid wyf i'n hollol siŵr pa un ydyw—roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd drwy ddatganiad ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud ar gategoreiddio iaith ysgolion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, dyweder, efallai, o ystyried y strategaeth ar gyfer 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ac wrth gwrs y Bil cwricwlwm, i weld a oes unrhyw wrthdaro posibl yn hynny. Diolch.
Diolch i Suzy Davies am godi hynny y prynhawn yma. Yn y lle cyntaf, byddaf i'n cael sgwrs gyda'r ddau Weinidog i ddeall yn well beth allai fod y ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch y mater penodol hwnnw. Ond, fodd bynnag, byddaf i'n sicrhau eich bod chi'n cael ymateb ysgrifenedig i hynny.FootnoteLink
Mae rhai pobl sydd wedi'u heithrio rhag gwisgo masgiau wyneb yn cael eu herio neu'n cael gwrthod mynediad i siopau, ac mae llawer o berchnogion busnesau bach yn arbennig yn dweud wrthyf i am yr anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu yn plismona gwisgo masgiau wyneb. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ystyried darparu rhyw fath o brawf swyddogol i bobl ei ddangos os ydyn nhw wedi'u heithrio rhag gwisgo masg wyneb?
Roeddwn i hefyd eisiau dweud 'diolch a da iawn' i'r holl staff a gamodd i mewn ar y funud olaf yn y Rhondda ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu lleihau nifer y profion y dydd i ddim ond 60. Rwy'n dal i gael pobl yn dweud bod ganddyn nhw symptomau COVID-19 ond nad ydyn nhw'n gallu cael prawf. Nawr, sut gall hyn ddigwydd yn y Rhondda pan ddywedwyd wrthym ni ein bod ni ar fin gweld cyfyngiadau symud lleol? Gallai'r methiant hwn beryglu bywydau, gallai helpu ail don. Felly, a allem ni gael datganiad yn amlinellu pa gynlluniau eraill sydd gan y Llywodraeth fel nad ydym ni ar drugaredd San Steffan ar gyfer y broses brofi hollbwysig hon?
Diolch i Leanne Wood am godi'r materion hynny. O ran yr ail, sy'n ymwneud â chael gafael ar brofion COVID-19, byddwn yn cyfeirio'r Aelod yn barchus at y sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, oherwydd rwy'n credu eu fod wedi rhoi sylw manwl i'r mater penodol hwnnw.
O ran masgiau wyneb, rwy'n cytuno ei bod yn sicr yn bwysig bod mwy o ddealltwriaeth o lawer na fydd pawb yn gallu gwisgo masg wyneb am nifer fawr o resymau, a byddaf yn sicrhau fy mod i'n cael sgwrs gyda'r Gweinidog iechyd i archwilio beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni'n meithrin yr awyrgylch hwnnw lle mae pobl yn teimlo'n gyfforddus yn peidio â gwisgo masg os na allan nhw wneud hynny oherwydd rheswm meddyliol neu gorfforol, a bod gan bobl fwy o ddealltwriaeth bod pobl allan yno a allai fod â rheswm da iawn dros beidio â gwisgo masg wyneb.
Gweinidog, byddwch chi wedi clywed y drafodaeth yn gynharach rhwng Darren Millar a'r Dirprwy Weinidog ar fater canu ac addoli mewn eglwysi a chapeli ac mewn mannau eraill. Mae'n fater sy'n achosi cryn ofid mawr ymhlith pobl yn y gymuned. Efallai eich bod chi hefyd wedi gweld BBC Wales Today yr wythnos diwethaf, pan roedd côr meibion Beaufort yn ymarfer yng nghlwb rygbi Glynebwy i osgoi rhai o'r anawsterau a wynebir o ymarfer dan do. Mae'n bwysig, wrth i ni symud drwy'r misoedd anodd dros ben hyn, bod pwyntiau o normalrwydd ym mywydau pobl sy'n caniatáu iddyn nhw dderbyn a chydymffurfio â'r holl reoliadau eraill y mae angen i ni eu gorfodi ar wahanol adegau. A fyddai'n bosibl i'r Llywodraeth edrych yn ofalus eto ar rywfaint o'r dystiolaeth sy'n cael ei chynhyrchu i alluogi corau i ymarfer ac i ganu ddigwydd mewn mannau addoli, a hefyd sefyllfa bandiau pres ac eraill hefyd, i ganiatáu i bobl sicrhau, yn ystod misoedd hir y gaeaf, bod elfennau o normalrwydd yn eu bywydau?
Yr ail fater yr hoffwn i ofyn am amser y Llywodraeth ar ei gyfer, o ran datganiad neu ddadl, yw hwnnw sy'n ymwneud â gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ar ôl i ysgolion a cholegau ddychwelyd dros yr wythnosau diwethaf, rydym ni wedi cydnabod bod rhai anawsterau sylweddol gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig, efallai, mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent, lle nad yw pobl wedi gallu cyrraedd colegau lleol yn hawdd a lle nad yw pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus yn hawdd oherwydd yr anawsterau gyda gwasanaethau bysiau yn bennaf.
Bydd Ysbyty Athrofaol y Faenor yn agor ym mis Tachwedd ac rydym ni i gyd yn croesawu'n fawr y buddsoddiad enfawr hwn yn ein gwasanaeth iechyd lleol, ond mae angen i ni sicrhau bod llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn galluogi pobl i gyrraedd yr ysbyty hwnnw, boed hynny ar gyfer triniaeth neu i ymweld, pan fydd hynny'n bosibl. Felly, mae mynediad at wasanaethau trwy drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn fater pwysig iawn a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Llywodraeth wneud datganiad ar hynny.
Diolch i Alun Davies am godi'r materion hyn. Gwn ei fod yn gefnogwr brwd—llywydd hyd yn oed, efallai, rwy'n credu—o gôr meibion Beaufort. Ac rwy'n amlwg yn datgan buddiant, fel yr Aelod dros Benrhyn Gŵyr, o gofio bod gennym ninnau hefyd rai o'r corau meibion a'r bandiau pres gorau yn y byd yn yr etholaeth honno hefyd. Felly, ydw, rwy'n gwneud yr ymrwymiad hwnnw y byddwn ni'n parhau i adolygu'r dystiolaeth honno, oherwydd rydym ni'n cydnabod gwir werth bod yn aelod o fand pres neu gôr. Ac, wrth gwrs, rwy'n gweld Mick Antoniw, cefnogwr enwog Band Cory, yn y Siambr y prynhawn yma hefyd. Felly, mae gennym ni lawer o gystadleuaeth ymhlith ein bandiau pres lleol ac mae'n dangos pa mor angerddol ydym ni amdanyn nhw. Felly, yn sicr, byddwn yn parhau i adolygu'r cyngor hwnnw wrth i'r dystiolaeth barhau i ddatblygu.
A gwn fod Gweinidog yr economi yn bwriadu cyflwyno datganiad ar fysiau yn fuan iawn, a byddwch yn gweld hynny yn cael ei ychwanegu at y datganiad busnes cyn bo hir.
Troi'r sain ymlaen, iawn. Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gymeradwyo a dosbarthu masgiau wyneb clir yng Nghymru. Mae Action on Hearing Loss Cymru wedi tynnu sylw at yr effaith anghymesur ar bobl fyddar neu sydd â cholled clyw yn ystod pandemig y coronafeirws, lle gall cyfathrebu anhygyrch fod yn risg o ran diogelwch hefyd. Mae ciwiau gweledol, fel mynegiant yr wyneb a darllen gwefusau, yn hanfodol ar gyfer cyfathrebu, ond mae cyfarpar diogelu personol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn cuddio'r ciwiau gweledol hyn.
Ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi cymeradwyaeth a dosbarthiad masg clir i'w ddefnyddio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU, mae Action on Hearing Loss yn gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar: beth fydd y dyraniad cyntaf o fasgiau clir i Gymru; a fydd y dyraniad yn cynnwys lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi gofal; sut bydd sefydliadau trydydd sector perthnasol, fel nhw eu hunain, yn gallu cael gafael ar gyflenwad; a sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflenwad parhaus i fodloni'r galw? Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny.
Diolch i Mark Isherwood am godi hynna, ac rwy'n credu mai dyma'r trydydd tro yn sesiwn y prynhawn yma yr ydym ni wedi archwilio'r anawsterau y mae pobl sy'n fyddar, sydd â cholled clyw, yn eu cael ar hyn o bryd o ganlyniad i'r defnydd o fasgiau wyneb. Felly, mae'n fater pwysig iawn a byddaf yn sicrhau bod Action on Hearing Loss yn cael ateb i'w cwestiynau penodol am sut y bydd y masgiau hynny sydd wedi'u haddasu yn arbennig yn cael eu dosbarthu i sicrhau eu bod nhw'n cael eu dosbarthu i bobl sydd eu hangen fwyaf ac a fydd yn elwa fwyaf ohonyn nhw.FootnoteLink
Gweinidog, gawn ni ddatganiad am y camau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymateb yn rhagweithiol i'r argyfwng tai dŷn ni'n ei weld mewn nifer o gymunedau ar draws Cymru? Mae yn argyfwng, wrth gwrs, sy'n cael ei yrru yn bennaf, ond nid yn unig, gan y ffaith bod nifer cynyddol o gartrefi nawr yn cael eu prynu fel ail gartrefi neu dai gwyliau. Mae'n cael ei ddwysáu hefyd, wrth gwrs, gan y ffaith bod mwy o bobl nawr yn symud o'r dinasoedd a'r ardaloedd poblog i gefn gwlad Cymru mewn ymateb, wrth gwrs, i'r pandemig.
Nawr, fe glywoch chi yn y Pwyllgor Cyllid ddoe fod nifer o Aelodau'n teimlo y dylai'r Llywodraeth fod yn gwneud gwell defnydd o'i phwerau trethiannol i geisio mynd i'r afael â'r mater yma. Byddwn i'n licio clywed pa gamau o'r newydd y mae'r Llywodraeth yn edrych arnyn nhw i'r perwyl hwnnw. Ond yn bennaf oll, wrth gwrs, mae angen edrych ar gamau pendant o fewn y gyfundrefn gynllunio, ac yn sicr mae angen rheoli y gallu i newid defnydd tŷ annedd o fod yn gartref cyntaf i fod yn ail gartref, man lleiaf. Mae yna enghreifftiau o gamau sydd wedi cael eu cymryd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yng Nghernyw, yn benodol, o safbwynt ail gartrefi. Yn Guernsey, wrth gwrs, o safbwynt y farchnad dai, mae yna farchnad agored a marchnad gaeedig, ac mae yna enghreifftiau ar draws Ewrop a thu hwnt hefyd o'r mathau o bethau dylai'r Llywodraeth nawr fod yn eu hystyried.
Felly, dwi eisiau gwybod pa gynlluniau sydd ar droed gan y Llywodraeth i ymateb i'r argyfwng yma. Oherwydd rŷn ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, ac yn cofio beth ddigwyddodd yn y 1980au, ac roedd hynny'n uniongyrchol yn ganlyniad i fethiant gan wleidyddion i fynd i'r afael â'r broblem. Nawr, does neb eisiau gweld eu hunain nôl yn y sefyllfa yna, wrth gwrs, oherwydd petai hynny'n digwydd, yna mi fyddai hynny yn cynrychioli methiant difrifol o safbwynt Llywodraeth Cymru, methiant difrifol o safbwynt y Senedd honno, ac mi fyddai hynny yn sen ar ddatganoli.
Wel, wrth gwrs, rydym ni wedi cael llwyddiant rhagorol yn ystod y Senedd hon o ran cyflawni ein hymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i bobl Cymru, y byddem ni'n adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn ystod y Senedd hon. Ac rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod ni'n sicr ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed hwnnw erbyn diwedd tymor y Senedd.
Rwy'n cydnabod yr holl faterion y mae Llyr wedi'u disgrifio o ran y pwysau ar y farchnad dai, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru, a gwn fod y Gweinidog tai yn cymryd rhan o bell y prynhawn yma, ond bydd wedi clywed y cais hwnnw am ddatganiad neu ddadl er mwyn ymchwilio ymhellach i'r materion hynny. FootnoteLink
Trefnydd, mae twristiaeth wedi bod yn un o'r sectorau y mae'r pandemig wir wedi cael effaith wael arno, ond eto gall twristiaeth hefyd fod yn un o'r sectorau a all sbarduno ein hadfywiad o'r economi wrth i ni symud ymlaen. Nawr, gyda hynny mewn golwg, yn amlwg, rydym ni eisiau ceisio hyrwyddo twristiaeth a hyrwyddo prosiectau sy'n datblygu twristiaeth cymaint â phosibl. I'r perwyl hwnnw, mae twnnel y Rhondda wedi bod yn un o'r prosiectau hynny a allai wireddu'r syniad o dwristiaeth erioed. Rwyf i wedi codi hyn o'r blaen yn y Siambr hon, mai perchnogaeth y twnnel fu bod yn un o'r rhwystrau mawr i ddatblygiad y gwaith yno. A allaf i gael datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch pa gynnydd a wnaed o ran trosglwyddo'r perchnogaeth o Highways England i Lywodraeth Cymru neu i lywodraethau yng Nghymru fel y gallwn ni fwrw ymlaen â'r prosiect, fel y gallai'r prosiect, erbyn yr adeg y byddwn ni'n edrych ar sefyllfa lle'r ydym ni wir eisiau adfywio ein heconomi yn ein Cymoedd, wir fod yn mynd rhagddo ac y gallai'r twnnel hwnnw fod yn un o'r pethau sy'n denu pobl yma?
Diolch i David Rees am godi hynna, ac mae'n gwybod fy mod i'n rhannu ei frwdfrydedd at y prosiect penodol hwnnw. Mae swyddogion trafnidiaeth wrthi'n trafod telerau unrhyw drosglwyddiad posibl o'r twnnel gyda'r Adran Drafnidiaeth, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar ddatblygu achos busnes dros ei ddefnydd yn y dyfodol. Rwy'n credu, yn ôl yr wyf i'n ei ddeall, bod un o'r problemau mawr sydd heb eu datrys, wrth gwrs, yn ymwneud â chymryd cyfrifoldeb am ased a chymryd cyfrifoldeb am risg a pha gyllid ddylai gyd-fynd â hynny, ond mae hynny yn rhywbeth sy'n parhau i gael ei drafod ar hyn o bryd, rwy'n deall. Cafodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod gyda'r cyngor a Chymdeithas Twnnel y Rhondda ddechrau'r mis hwn, a gwn fod cyfarfodydd yn cael eu trefnu eto ar gyfer y dyfodol i drafod rheolaeth y twnnel yn y dyfodol a'r mater hwnnw o berchnogaeth y twnnel. Felly, yn sicr mae gwaith parhaus yn cael ei wneud yn y gofod hwn, er ein bod ni wedi bod yn wynebu pandemig.
Prynodd trigolion Victoria Wharf yng Nghaerdydd yr hyn yr oedden nhw'n eu hystyried yn gartrefi eu breuddwydion, ond y gwir amdani yw mai prynu hunllef a wnaethon nhw. Mae'r eiddo yn ddiwerth erbyn hyn, dydyn nhw ddim yn gallu benthyg ar eu sail, dydyn nhw ddim yn gallu eu gwerthu a cheir pryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch tân. Nid yw'r trigolion hyn yn cysgu'n dawel yn eu gwelyau liw nos erbyn hyn, a chadarnhawyd y blociau gan gyngor Caerdydd a'r datblygwyr. Felly, y datganiad yr hoffwn i ei gael gan y Llywodraeth yw: beth maen nhw'n bwriadu ei wneud i helpu'r trigolion hyn yng Nghaerdydd, ac nid yng Nghaerdydd yn unig, ond ym mhob cwr o Gymru? Mae pobl mewn sefyllfaoedd ofnadwy, lle mae'n ymddangos yn syml nad yw'r adeiladau hyn yn ddiogel. Beth fydd yn cael ei wneud?
Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi ei gwneud hi'n eglur dro ar ôl tro y dylai perchnogion a datblygwyr adeiladau wynebu'r hyn sydd, yn ei hanfod, yn gyfrifoldeb moesol cryf iawn a chywiro'r diffygion hyn ar draul eu hunain, neu maen nhw'n peryglu eu henw da proffesiynol, oherwydd mae'n gwbl hanfodol bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac rydym ni wedi ymrwymo i wella diogelwch adeiladau yma yng Nghymru. Gwn, unwaith eto, mai bwriad y Gweinidog yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn y dyfodol agos ynghylch y gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud o ran y rhaglen diogelwch adeiladau honno er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon a ddaeth i'r amlwg yn dilyn tân trasig Grenfell.
Trefnydd, un o ganlyniadau COVID yw bod llawer ohonom ni wedi bod yn gwneud mwy o ymarfer corff. Rydym ni wedi bod yn mynd am dro yn rhai o'r ardaloedd cefn gwlad anhygoel a hardd sydd gennym ni o'n cwmpas. Rwy'n cerdded yn rheolaidd erbyn hyn trwy goedwig Coedelái, drwy'r Smaelog, ac mae'r ailgysylltu â natur wir yn rhywbeth sydd efallai yn un o'r agweddau cadarnhaol sydd wedi dod o'r pandemig hwn.
Ond ochr yn ochr â hynny y mae ymddygiad gwarthus lleiafrif o bobl a lefel y tipio anghyfreithlon, faint o sbwriel sy'n cael ei adael. Rwyf i wedi bod yn tynnu lluniau o hyn. Ar un adeg, nid oeddwn i'n gallu cerdded mwy nag ychydig fetrau heb weld tipio anghyfreithlon. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn wych, nid yn unig o ran monitro cyfryngau cymdeithasol, ond yna mynd ati a chlirio hyn, ond yn arwain, wrth gwrs, at gost i'r holl aelodau hynny o'r cyhoedd nad ydyn nhw'n ymgymryd â'r math hwnnw o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Y pwynt yr wyf i'n ei wneud yw hwn: mae Rhondda Cynon Taf wedi bod yn egnïol iawn yn erlyn, cafwyd nifer o erlyniadau, ond nid yw'r dirwyon yn atal pobl. Maen nhw'n llai o lawer na'r budd y mae'r unigolyn yn ei gael, ac nid ydyn nhw'n adlewyrchu'r gost i'r cyngor o orfod clirio'r safleoedd hyn mewn unrhyw ffordd. Nawr, rwyf i wedi ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â'r pwynt hwn, ond mae'n ymddangos i mi y byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai dadl yn amser y Llywodraeth yma pan fyddem ni'n trafod y ddeddfwriaeth sy'n bodoli, y cosbau sy'n bodoli, sut y mae'n rhaid i'r cosbau fod yn gysylltiedig â chost clirio tipio anghyfreithlon bellach, a sut y mae'n rhaid i ni ymgyrchu yn erbyn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn. A ydych chi'n cytuno â mi y byddai nawr yn amser da i ddechrau trafod hyn, ac i edrych o ddifrif ar y ddeddfwriaeth i wella ein gallu i atal ac erlyn y rhai sy'n ymgymryd â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol ofnadwy hwn?
Hoffwn ymuno â Mick Antoniw i longyfarch Rhondda Cynon Taf ar y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud ar y mater penodol hwn, ac ar fod yn rhagweithiol iawn yn eu hymateb iddo, oherwydd nid ellir cyfiawnhau tipio anghyfreithlon byth o dan unrhyw amgylchiadau, ac yn amlwg yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19 buom ni'n gweithio yn arbennig o agos gydag awdurdodau lleol a busnesau i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb i storio eu gwastraff yn ddiogel tan i'r safleoedd ailagor. Rydym ni'n gwybod na wnaeth pawb hynny, ac rydym ni wedi gweld canlyniadau hynny.
Rydym ni wrthi'n archwilio opsiynau ynghylch y ffordd orau o gynorthwyo'r awdurdodau lleol hynny a Cyfoeth Naturiol Cymru ymhellach yn eu gwaith gorfodi. Yn amlwg, mae'r maes hwn yn cynnwys y ddwy eitem sydd wedi'u datganoli i ni yma yng Nghymru—felly, y materion amgylcheddol hynny, er enghraifft—ond ceir rhai materion hefyd sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder a gadwyd yn ôl. Gallaf gadarnhau y byddwn ni'n mynd ar drywydd hyn gyda Llywodraeth y DU yn y lle cyntaf, a byddaf yn falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny.
Diolch i'r Trefnydd.
Byddwn ni nawr yn cynnal egwyl fer ac yn oedi'r darllediad dros dro.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:12.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:25, gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
[Anghlywadwy.]—yr egwyl fer honno, a chydag eitem 3 ar ein hagenda ni'r prynhawn yma, sef datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ailagor ysgolion. Rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae cydweithwyr a dysgwyr yng Nghymru wedi dychwelyd i'r meithrinfeydd, ysgolion a cholegau dros y pythefnos diwethaf, ac rwy'n awyddus i ddiolch iddyn nhw, i'r athrawon, y tiwtoriaid a'r holl staff addysgol am y ffordd y maen nhw wedi ymdrin ac, yn wir, yn parhau i ymdrin â COVID-19. Fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled, eu cydnerthedd a'u cydweithrediad wrth inni ymlwybro drwy'r cyfnod mwyaf dyrys hwn.
Wrth gwrs, rwy'n cydnabod nad oes modd, mewn unrhyw sefyllfa fel hon, peidio â chael unrhyw risg o gwbl. Er hynny, y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf sy'n fy nhywys i wrth wneud unrhyw benderfyniad am ddysgwyr yn dychwelyd i'w haddysg yn ddiogel. Fy mlaenoriaethau i drwy gydol y pandemig hwn fu diogelwch a lles staff a dysgwyr, gan ddarparu'r addysg orau bosibl gyda chyn lleied â phosibl o amharu yn digwydd i'n pobl ifanc ni.
Rwyf i o'r farn fod mynd yn ôl i'r ysgol yn hanfodol i ddatblygiad plant ac i'w hiechyd a'u lles nhw, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymdrech a wnaeth ysgolion, colegau, awdurdodau lleol ac undebau llafur i sicrhau bod yr amgylchedd mewn ysgolion a cholegau mor ddiogel ag sy'n bosibl i bob dysgwr. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys mwy o lanhau, gorsafoedd hylendid i staff a dysgwyr, a llai o symud a chyswllt rhwng grwpiau.
Roedd grŵp cynghori technegol Cymru yn eglur hefyd fod yn rhaid inni sefydlu strategaeth gadarn o olrhain a diogelu fel un o'r rhagofynion ar gyfer ailagor ysgolion yn ehangach. Ac fel y mynegwyd yn gynharach yn y Siambr, mae hyn wedi bod yn llwyddiant mawr yma yng Nghymru. Mae nifer fawr o gysylltiadau yn cael eu holrhain o fewn 24 awr, ond hefyd gwelwyd dull clir o reoli achosion, a fydd yn help i gefnogi ysgolion i symud ymlaen.
Wrth gwrs, efallai fod ein lleoliadau addysg a meithrin ar agor yn llawn, ond nid yw hyn yn golygu normalrwydd. I staff a dysgwyr fel ei gilydd mae'n her barhaus ar ôl misoedd lawer o ddysgu o bell, a'r posibilrwydd o achosion pellach a'r tarfu a achosir gan hynny. Cyfnod anodd iawn yw hwn gan fod lleoliadau addysg yn dal i orfod cynllunio ar gyfer gwahanol fodelau dysgu yn ogystal â rheoli cyswllt a chadw pellter cymdeithasol o fewn amgylchedd eu hysgolion. Felly, ynghyd â'r rhanbarthau, rydym wedi darparu canllawiau i sicrhau bod dysgu a dilyniant yn parhau ac yn aros yn ddiogel.
Mae'n debygol iawn bod amser i ffwrdd o'r ysgol wedi cael effaith negyddol ar lawer o'n pobl ifanc ni. Efallai y bydd angen cymorth arnyn nhw i fod yn barod i ddysgu unwaith eto ac ailintegreiddio i amgylchedd yr ysgol. Efallai y gwelwn ni heriau sylweddol o ran llesiant, yn ychwanegol at yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl fel arfer ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd. Efallai fod meysydd dysgu allweddol wedi mynd ar goll yn ystod yr amser i ffwrdd o'r ysgol a bydd angen hyblygrwydd ar ysgolion i fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwy'n awyddus i ysgolion a lleoliadau eraill allu ymateb i hynny a buddsoddi amser er mwyn cefnogi llesiant y dysgwyr. Ni allwn ddisgwyl i ysgolion gyflawni eu holl ddyletswyddau mewn cysylltiad â'r cwricwlwm i bob dysgwr mewn pob amgylchiad, o ystyried yr amgylchiadau yr ydym i gyd yn eu hwynebu. Felly, rwyf wedi penderfynu addasu'r cwricwlwm sylfaenol a'r gofynion asesu cysylltiedig ar sail 'ymdrech resymol' ar gyfer 30 diwrnod cyntaf mis Medi. Wrth wneud hyn rwy'n awyddus i roi hyblygrwydd i ysgolion wrth ailintegreiddio myfyrwyr a datblygu cynlluniau addysg sy'n gadarn ac yn berthnasol. Mae hyn yn golygu helpu ysgolion wrth iddyn nhw ailddechrau addysg amser llawn yn eu hadeiladau.
Ond fe wyddom fod yna lawer o ddysgwyr nad ydyn nhw wedi datblygu cymaint ag y byddent wedi ei wneud fel arfer, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny. Wrth i athrawon a phenaethiaid barhau i groesawu disgyblion yn ôl, gwn y byddant yn asesu anghenion a datblygiad dysgwyr, gan adeiladu ar y cyfnod ailgydio i bawb cyn toriad yr haf. Fy neges glir i iddyn nhw yw bod yr arian ar gael yng nghyllidebau'r cynghorau ac ysgolion i recriwtio staff a chynorthwywyr addysgu ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Gan adeiladu ar eu dealltwriaeth nhw o sefyllfa addysgol eu dysgwyr nhw, mae ein buddsoddiad ni o dros £29 miliwn wedi ei dargedu i sicrhau bod athrawon a chymorth ychwanegol yno ar gyfer blynyddoedd 11, 12 ac 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oedran.
Gwn fod athrawon, yn ogystal â rhieni, yn pryderu fel minnau am y dysgu a gollwyd a'r bwlch cyrhaeddiad. Fe fydd y mis hwn yn helpu penaethiaid ac athrawon i ddeall yn well sut y gallan nhw ddefnyddio'r arian a ddarperir i gefnogi hyfforddiant ychwanegol, rhaglenni addysg bersonol ac amser ac adnoddau ychwanegol i'r disgyblion hynny sy'n wynebu arholiadau.
Rydym wedi bod yn gweithio hefyd gyda chyfarwyddwyr addysg ac undebau llafur addysg i ddatblygu canllawiau i gefnogi darpariaeth gyfredol mewn ysgolion, ac mae hyn yn cynnwys cyngor clir ar gadw pellter cymdeithasol. Rydym wedi darparu cyngor i ysgolion ac undebau'r gweithlu addysg ar COVID-19 yn fwy cyffredinol, a thrwy Dysg, ac fe fyddwn ni'n parhau i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad wrth i'r anghenion godi.
Rydym wedi bod yn cydweithio hefyd ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chludiant i'r ysgol, a dyranwyd £10 miliwn o arian ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol. Mae'r arian hwn wedi eu helpu i ddarparu capasiti ychwanegol i fodloni gofynion statudol yn dilyn y canllawiau diweddaraf a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y comisiynydd traffig.
Fel yr ydym ni i gyd yn deall, fe all sefyllfaoedd newid yn gyflym iawn mewn cyfnod o bandemig. Gallaf eich sicrhau chi, er hynny, y byddwn ni'n parhau i weithio o fewn ac ar draws y Llywodraeth, a chyda'n partneriaid eraill ni, i roi arweiniad a chyngor i sicrhau diogelwch i'n staff a'n pobl ifanc ni. A chyda'n gilydd, hyd yn oed yn y cyfnod ansicr hwn, fe fyddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar godi safonau i bawb, a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, ac yn sicrhau bod gennym system sy'n destun balchder ac y mae'r cyhoedd yn ymddiried ynddi.
Diolch, Gweinidog. Fe hoffwn innau ategu eich sylwadau agoriadol chi ynglŷn ag athrawon a staff, ac a gaf i gynnwys llywodraethwyr gyda'r rhain? Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, gan eich cynnwys chi, ond yn bwysicaf oll, i'n hetholwyr.
Diolch yn fawr ichi am eich datganiad. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddechrau gyda'r peth pwysicaf o ran fy safbwynt i, sef mae'n rhaid i ysgolion aros ar agor onid oes rheidrwydd gwirioneddol—gwirioneddol—iddyn nhw gau. Ac er bod y sefyllfa gydag arholiadau, wrth gwrs, yn anodd, ac efallai ar gyfer rhyw ddiwrnod eto, rwy'n credu bod angen inni edrych ychydig ar yr hanes o ran agor a chau ysgolion oherwydd, yn amlwg, yn ôl ym mis Mawrth, roedd pawb yn deall pwysigrwydd cyfyngu ar gyswllt o bob math ar fyrder. Roedd yna elyn peryglus nad oeddem ni'n deall fawr ddim amdano mewn gwirionedd, ond roeddem hefyd yn deall y byddai'n ergyd anochel i addysg ein plan. Ac er i arweinwyr ysgolion wneud eu gorau glas wrth geisio darparu'r cyfan y gallen nhw i'n dysgwyr ni, rwy'n credu y gwyddom bellach fod yna anghysondeb mawr wedi bod o ran cyswllt â disgyblion, o ran hygyrchedd cynnwys ar-lein, gallu teuluoedd i ymgysylltu'n wirioneddol â'r cynnwys hwnnw ar-lein, a pharodrwydd plant i ddal ati, i fod yn barod i ddal ati gyda'r addysg honno. Mae COVID wedi peri blinder mawr inni, fe gredaf.
A dyna pam y buom ni'n gefnogol iawn, mewn gwirionedd, i'ch cynlluniau chi i agor ysgolion am bedair wythnos yn nhymor yr haf er mwyn ailgydio a dal i fyny, fel yr oeddech chi'n dweud, fel y gallai athrawon a dysgwyr werthuso'r hyn yr oedd angen ei wneud nesaf. Ac rwy'n credu efallai mai dyna lle y dechreuodd pethau fynd ar chwâl i'r Llywodraeth. Gan adael i'r wlad feddwl un peth, pan nad oeddech chi, mewn gwirionedd, wedi llwyddo o ran darpariaeth y bedwaredd wythnos honno, pan roedd y pwerau gennych chi y gallech fod wedi eu defnyddio i atal y cynghorau rhag dweud Na wrth ysgolion, dyna lle roeddwn i'n dechrau anghytuno â'r hyn a oedd, yn fy marn i, yn ddechrau da, a bod yn onest. Ers hynny, yn sicr yn ddiweddar, mae rhyw deimlad o 'fel y mynnoch chi, ysgolion' wedi bod yn digwydd. Wrth gwrs, dim ond yr ysgolion a all wneud rhai o'r penderfyniadau gweithredol, ac mae eich canllawiau chi wedi bod o gymorth mawr gyda hynny, ond mae yna adegau pan fydd angen mandadau; mae yna adegau pan fydd angen rheolau. Nid yw ysgolion yn deall yr wyddoniaeth, ond rydych chi, fel yr oeddech chi'n dweud heddiw, wedi parhau i gael eich tywys gan y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf wrth wneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â chael y dysgwyr yn ôl yn ddiogel. Mae'r wybodaeth honno gennych chi; ond nid yw gan arweinwyr ysgolion o reidrwydd. Ac maen nhw'n sicr yn ei chael hi'n anodd gweinyddu'r syniadau hyn pan nad oes yno'r sicrwydd a ddaw o gael Gweinidog yn dweud, 'Fel hyn y dywed y gyfraith, ac fe allwch chi ddibynnu ar hynny.'
Pan ddywedwch nad yw bod ar agor yn llawnamser yn golygu normalrwydd, yn amlwg mae hynny'n wir o ran cynllun adeiladau ein hysgolion ni, ond rwy'n credu bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom fod angen i lefel a safon caffaeliad addysg fod yn nes at yr hyn sydd yn normal. Nid oes gennyf hyder yn eich datganiad sy'n dweud na allwn ddisgwyl i ysgolion gyflawni eu holl ddyletswyddau o ran y cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr ym mhob amgylchiad yn ystod y cyfnod hwn. Ac rydym yn gwybod eu bod wedi cael yr amser. Roeddem ni wedi cytuno â chi fod pythefnos yn ddigon da i ganiatáu i ysgolion ddod o hyd i'r hyn oedd ei angen ar eu dysgwyr. Ac rwy'n awyddus i wybod a yw'r estyniad hwn i 30 diwrnod cyntaf mis Medi yn rhywbeth yr ydych chi wedi ymgynghori arno, oherwydd nid wyf i'n credu hynny. Ac a ydym ni mewn sefyllfa eto lle'r ydym ni'n gohirio'r angen i gadw at y cwricwlwm.
A ydych chi wedi llwyddo i berswadio eich cyd-Aelodau o'r hyn a ddywedais i yn fy natganiad agoriadol, mai ysgolion ddylai fod y rhai olaf i gau, yn enwedig os bydd yna gyfnod clo arall? Rwy'n nodi eich bod wedi mynegi hyder mawr yn y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, felly rwy'n gobeithio mai dyna'r arf yr ydych wedi ei ddefnyddio i ddadlau â'ch cydweithwyr yn y Cabinet y dylai'r ysgolion aros ar agor. Ond os nad oeddech chi'n llwyddiannus yn hynny o beth, a ydych eisoes wedi penderfynu beth fyddwch chi'n ei fandadu os daw'n gyfnod clo cenedlaethol, i wneud yn siŵr nad yw dysgu'n cael ei lesteirio yn yr un modd â'r tro diwethaf? A ydych chi'n ystyried mandadu ffrydio gwersi'n fyw, er enghraifft? A ydych chi wedi cael asesiad o'r offer TG a ddosbarthwyd—rhywbeth yr oeddem ni'n ei gefnogi—i sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud yn fawr ohono? Neu, mewn sefyllfa fwy tebygol o gyfnodau clo lleol, a fydd, gobeithio, yn golygu bod myfyrwyr yn colli dysgu wyneb yn wyneb am bythefnos ar y tro ar y mwyaf, a fyddwch chi'n mynnu y dylai ysgolion wneud presenoldeb yn orfodol ar gyfer gwersi rhithwir, y dylid eu darparu yn y mwyafrif o achosion bron yn union fel y'u hamserlennwyd?
Fe hoffwn i gael ychydig o fanylder am yr arian y daethoch o hyd iddo ar gyfer athrawon newydd ac ar gyfer dal i fyny, sut y bydd yn cael ei ddefnyddio, a sut y caiff ei ddefnyddio mewn colegau addysg bellach. Ac rwy'n awyddus i gael gwybod sut mae'r gwaith monitro a gwerthuso hwyr o'r hyn a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf wedi effeithio ar benderfyniadau yr ydych chi'n debygol o'u gwneud. Ac rwy'n awyddus i glywed yr hyn yr ydych chi am ei ddweud wrthym ni'n awr ynghylch sut y byddai unrhyw gyfnod clo pellach yn debygol o effeithio ar y maes llafur a gwtogwyd yr ydych chi wedi sôn amdano eisoes, yn enwedig i'r rhai sy'n ymgeisio am gymwysterau cyffredinol yn ddiweddarach—ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, mae'n ddrwg gennyf i.
Nid oedd gennych lawer i'w ddweud am brofion mewn ysgolion. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym a ydych chi neu Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud unrhyw beth ynglŷn â phrofion tymheredd mewn ysgolion o gwbl. Os felly—cwestiwn agored yw hwn; rwy'n wirioneddol awyddus i glywed rhywbeth am hynny. Ac yna mae'n debyg fy mod i am ailadrodd fy nghwestiynau i yn yr un cyd-destun o ran addysg bellach, lle mae'r proffiliau oedran amrywiol yn gwneud dysgu wyneb yn wyneb yn fwy heriol, oherwydd mae yna reoliadau ar gadw pellter cymdeithasol sy'n amrywio yn ôl gwahanol grwpiau oedran. Tybed a wnewch chi egluro i mi i ba raddau y gallwch chi orfodi rhai camau gweithredu mewn coleg o'u cymharu â rhai mewn ysgolion, ac a oes gennych chi unrhyw bwerau penodol y gallwch chi eu defnyddio i fodloni eich hun ynghylch y cwestiwn hwn o ansawdd y dysgu yn ystod cyfnod clo mewn sefydliadau addysg bellach yn ogystal ag ysgolion? Diolch.
Mae hon yn rhestr faith iawn o gwestiynau—fe geisiaf i fwrw ymlaen drwyddyn nhw cyn gynted â phosibl. A gaf i ddechrau, serch hynny, drwy ddiolch i Suzy Davies am ei chydnabyddiaeth hi o'r ymdrechion enfawr sydd wedi cael eu gwneud yn y gweithlu addysg cyfan yn ystod y cyfnod hwn? Rwy'n ddiolchgar iawn iddi am gydnabod hynny.
A gaf i ei sicrhau hi bod cadw addysg ar agor yn flaenoriaeth ledled y Llywodraeth, ac fe fyddwn ni'n cymryd yr holl gamau sy'n angenrheidiol yn y Llywodraeth i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o amharu ar ddysgu i blant? Yn wir, rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd yn siarad eisoes am rai o'r materion sy'n ymwneud â mwy o gymysgu rhwng aelwydydd, nad ydym ni wedi bwrw ymlaen â nhw, i roi'r hyblygrwydd i ni ganiatáu i ysgolion agor. Felly, mae penderfyniadau anodd wedi eu gwneud gan y Llywodraeth hon yn barod, sydd wedi ein galluogi ni i flaenoriaethu agor ysgolion. Ac fe ddylwn i ddweud wrth yr Aelod—roedd hi'n cyfeirio at blant yn colli allan ar addysg oherwydd cyfnod clo lleol. Wel, yn amlwg, mae gennym ni'r cyfnod clo lleol cyntaf yng Nghymru ar hyn o bryd, yng Nghaerffili, ac mae ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor. Ac rydym ni wedi bod yn eglur iawn mai ein disgwyliad ni yw y dylai ysgolion a cholegau, yng Nghaerffili, aros ar agor, ac o ran y rhai sy'n teithio i mewn ac allan o Gaerffili am eu bod nhw'n athrawon ac yn gweithio yn y sefydliadau hynny—mae hwnnw'n rheswm digonol ar gyfer teithio. Ac er bod yna broblemau gyda Chaerffili, ac mae'r achosion yn y gymuned honno'n uchel iawn—roedd dros 70 y cant o blant Caerffili wedi mynd i'r ysgol ddoe. Dyma un o'r ffigurau isaf yng Nghymru ar hyn o bryd, ond o ystyried eu bod nhw'n cael cyfnod clo yno, mae'n dda gweld hyn.
O ran y cwricwlwm, gadewch inni fod yn gwbl glir am y normal newydd. Mae Suzy Davies yn iawn—mae golwg a naws yr ysgolion ychydig yn wahanol. Ond mae'n bwysig, ar ôl cysylltu â'r proffesiwn addysgu, fod rhywfaint o hyblygrwydd ar gael i ni am y mis cyntaf hwn o weithredu, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw gael profi eu gweithdrefnau, gweld sut mae pethau'n gweithio, ac, yn hollbwysig, ganiatáu iddyn nhw gael yr amser ychwanegol y gallai fod ei angen ar gyfer ymdrin â llesiant plant, a deall eu sefyllfa o ran eu dysgu. Ac yn wir, gyda rhai agweddau ar y cwricwlwm, mae yna resymau o ran iechyd y cyhoedd pam na fyddem ni'n dymuno iddynt gynnal rhai gweithgareddau. Rydym ni'n parhau i fod yn bryderus ynglŷn â rhai gweithgareddau cerddorol mewn ysgolion, yn enwedig mewn grwpiau; a materion sy'n ymwneud â gwibdeithiau sy'n golygu aros dros nos—nid ydym ni'n argymell y rhain ar hyn o bryd, lle byddent yn rhan arferol o ddiwrnod ysgol. Felly, mae yna rai cyfyngiadau arnom ni. Ond os siaradwch â'r rhan fwyaf o ysgolion, maent yn bwrw ymlaen, fel y dywedais i, gan nodi'r anghenion dysgu, rhoi ystyriaeth i brofiad y plentyn o'r cyfnod clo, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
O ran allgáu digidol, fe hoffwn i atgoffa'r Aelod ein bod ni wedi dosbarthu 10,848 o ddyfeisiau MiFi cyn gwyliau'r haf, ac fe wnaethom ni ddosbarthu bron 10,000 o drwyddedau i awdurdodau lleol hefyd er mwyn iddynt addasu pob dyfais ac mae'r rhain wedi cael eu rhannu allan i'r plant. Rydym ni wedi gweld y niferoedd mwyaf erioed yn mewngofnodi i Hwb, sef ein llwyfan dysgu digidol ni. Ond mae'r Aelod yn llygad ei lle, Dirprwy Lywydd: roedd yna ormod o amrywiaeth yng ngallu'r ysgolion i ddarparu dysgu o bell. Rydym wedi dysgu gwersi; ac rydym yn dysgu'r gwersi o ran yr hyn a oedd yn gweithio'n dda, a'r hyn a oedd yn rhwystr i hynny.
Ac wrth imi siarad nawr, er nad yw rhai o'r awdurdodau lleol yn arbennig o hoff ohono, mae Estyn yn ymweld â phob awdurdod lleol unigol i'w sicrhau eu hunain bod yr awdurdod lleol yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod cynlluniau cadarn ganddynt sy'n caniatáu iddynt ystwytho eu darpariaeth, pe byddai'r feirws yn effeithio ar ddosbarthiadau unigol neu ysgolion unigol. Ac fel y dywedais i, mae'r arolygwyr allan yno ar hyn o bryd, ac fe fyddan nhw'n adrodd yn ôl i mi. Rydym ni wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny. Rydym ni o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael y lefel honno o sicrwydd.
O ran dysgu cydamserol ac anghydamserol, cyhoeddwyd cyngor yn ôl ym mis Ebrill ynghylch sut y gall ysgolion wneud hynny'n ddiogel ac effeithiol. O ran profion tymheredd, ar hyn o bryd, nid yw'r Prif Swyddog Meddygol yn cynghori bod tymheredd yn cael ei wirio mewn ysgolion, er bod rhai ysgolion yn gwneud hynny. Ni ddylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn dymheredd uchel fod yn anfon eu plentyn i'r ysgol. Mae tymheredd uchel yn symptom o goronafeirws. Os ydych chi'n amau bod tymheredd uchel gan eich plentyn, mae angen i'r plentyn hwnnw gael ei brofi ac ni ddylai'r plentyn hwnnw fod yn mynd i'r ysgol. Fe fyddwn ni'n parhau i ddarparu gwybodaeth a chyfleoedd ychwanegol drwy gydol y cyfnod hwn i drafod gyda phenaethiaid a'u cynrychiolwyr sut y gallwn sicrhau eglurder ynghylch yr hyn y mae angen i ysgol ei wneud pe byddai plentyn yn cael ei daro'n wael. Ond yr hyn a welsom ni hyd yma yw bod ysgolion, lle mae hynny wedi digwydd, wedi cymryd camau ar unwaith i amddiffyn plant a staff.
O ran Addysg Bellach, wel, mae'n amlwg bod ein colegau ni'n atebol hefyd i bwerau arolygu sydd gan Estyn, ac fe fyddem ni'n disgwyl i Estyn barhau i weithio law yn llaw â'n colegau addysg bellach i fodloni ein hunain bod y ddarpariaeth yn y colegau hynny cystal ag y gallai fod. Fel y gwyddoch, mae Addysg Bellach yn rhan gadarn o'n system addysg ni yng Nghymru sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cyflawni canlyniadau rhagorol, ac mae colegau wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r Llywodraeth i sicrhau y gall eu dysgwyr nhw ddychwelyd yn ddiogel.
O ran arian ar gyfer dal i fyny, fe ddarparwyd £29 miliwn. Mae pob awdurdod lleol wedi cael dyraniad ar gyfer ysgolion unigol. Rhoddwyd swm o arian i bob partneriaeth ranbarthol hefyd i gynorthwyo ysgolion i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn dull sydd â sail tystiolaeth iddo, ac felly bydd pob ysgol wedi cael dyraniad. Mae'r arian hwnnw ar gael, ac fe fyddwn i'n disgwyl y bydd penaethiaid a'r awdurdodau addysg lleol yn cynllunio'r tymor hwn, ar sail yr wythnosau cyntaf hyn yn ôl yn yr ysgol, o amgylch sut y gellir defnyddio'r arian hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol. Roeddwn i mewn ysgol gynradd yn y Gelli Gandryll yr wythnos diwethaf, ac roedd gan Mrs B, pennaeth gwydn yr ysgol gynradd honno, gynllun cadarn yn ei le eisoes ynglŷn â sut yr oedd yn bwriadu defnyddio'r dyraniad i'w hysgol hi.
Diolch am y datganiad. Hoffwn innau hefyd ddiolch yn fawr iawn i bawb sy'n ceisio sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc ni yn gallu dychwelyd at eu haddysg mewn ffordd ddiogel, sydd yn her enfawr, wrth gwrs, yn enwedig wrth inni weld achosion positif o'r COVID ar gynnydd ymhlith ein plant a'n pobl ifanc ni, efo dwsinau o ysgolion wedi cael eu heffeithio yn barod gan yr argyfwng coronafeirws.
Mae'n rhaid i fi ddweud, dwi'n methu credu eich bod chi'n meddwl bod y strategaeth olrhain, profi ac amddiffyn yn 'llwyddiannus'. Dyna'r gair rydych chi'n ei ddefnyddio. Hwn ydy'r gair lleiaf addas i ddisgrifio'r sefyllfa sy'n datblygu efo profion yn ein hysgolion ni. Ar hyn o bryd, mae yna wendid mawr efo rhan o'r strategaeth, sef y cam cyntaf: y profi. Ac mae gweithredu'r rhan honno o'r strategaeth yn simsan iawn ar hyn o bryd. Dwi yn gwybod mai mater i'r Gweinidog iechyd ydy'r profion COVID, ond mae o'n gyfrifoldeb arnoch chi fel Gweinidog Addysg pan fo'r diffyg profi a'r oedi gyda chael prawf yn golygu bod llawer gormod o ddisgyblion yn absennol o'r ysgol yn ddianghenraid ac felly'n colli allan ar eu haddysg unwaith eto. Yn anffodus, mae fy inbox i'n llawn o e-byst gan rieni o bob rhan o Gymru—nid Arfon yn unig, ond o bob cwr o Gymru—sydd yn dweud bod eu hysgol wedi anfon eu plentyn adref o'r ysgol efo symptomau, sef y peth iawn i'w wneud, fel rydych chi newydd sôn, ond wedyn bod disgwyl gan yr ysgol bod y plentyn yn cael prawf cyn dychwelyd i'r ysgol ond mae'r rhieni'n methu'n lân â chael prawf innau drwy'r post neu mewn canolfan dreifio drwodd.
Felly, byddwn i'n hoffi gwybod pa drafodaethau rydych chi'n eu cael ar ran plant a phobl ifanc Cymru sydd ddim eisiau colli mwy o'u haddysg am y sefyllfa gwbl annerbyniol yma efo profion a pham na all adran addysg Llywodraeth Cymru greu mecanwaith penodol ar gyfer rhieni, disgyblion a staff ysgolion fel bod modd i ysgolion gael mynediad rhwydd at brofion. Beth, er enghraifft, am greu un pwynt cyswllt i ysgolion ynglŷn â'r sefyllfa profion er mwyn iddyn nhw gael gafael arnyn nhw yn llawer iawn cynt na maen nhw ar hyn o bryd? Mae'n rhaid inni ddatrys hyn, a buaswn i'n leicio clywed beth rydych chi wedi bod yn ei wneud am y sefyllfa.
Mater arall sy'n peri pryder i rieni a disgyblion ydy'r sefyllfa efo mygydau ar fysiau ysgol. Dwi'n credu bod yna ddiffyg eglurder, felly hoffwn i wybod yn union pwy sydd efo'r cyfrifoldeb am orfodaeth ynglŷn â mygydau ar fysiau ysgol. Eto, mae fy inbox i'n llawn o bobl sydd yn poeni wrth weld problemau'n codi ar y daith ar y bws i'r ysgol. Rydych chi wedi rhoi mwy o arian tuag at drafnidiaeth ysgol, ond dydy hynny ar ben ei hun ddim yn mynd i wella sefyllfa lle nad oes yna ganllawiau clir ac eglurder i rieni a disgyblion ynglŷn â'r orfodaeth ar yr agwedd yma efo'r mygydau.
Ac i gloi, mae'r cwestiwn mawr yn parhau ynglŷn ag arholiadau a beth sydd i ddigwydd yr haf nesaf. Mae'r cynnydd mewn achosion a'r sefyllfa annerbyniol efo'r profion yn golygu bod addysg rhai o'n disgyblion ni'n cael ei amharu arno fo'n barod a dim ond newydd ddechrau ailgychwyn mae pethau. Pam na wnewch chi gyhoeddi na fydd arholiadau'n cael eu cynnal flwyddyn nesaf ac y byddwch chi'n canolbwyntio'n hytrach ar greu system gadarn o ddefnyddio asesiadau sydd ddim yn cynnwys gorfod bod yn yr ysgol yn gorfforol i eistedd arholiad? Does yna ddim sôn am hynny yn eich datganiad chi, ac mi fyddai cyhoeddiad cynnar am hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn.
A gaf i ei gwneud yn hollol glir bod yr wybodaeth sydd gennyf i am achosion cadarnhaol o COVID mewn ysgolion ar hyn o bryd yn ymwneud â heintio yn digwydd y tu allan i safle'r ysgol? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi hynny. Pan mae plant yn cael prawf cadarnhaol am COVID, mae hynny fel arfer yn rhan o grŵp teuluol, a phan mae oedolion yn cael prawf cadarnhaol am COVID ar hyn o bryd, mae'r data sydd gennyf i'n awgrymu bod y feirws, unwaith eto, wedi ei gael y tu allan i'r ysgol. A dyna pam mae hi'n wirioneddol bwysig—os ydym yn awyddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei ddymuno yn y Siambr hon, sef cadw ein hysgolion ni ar agor, felly mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i wneud yr hyn a allwn i gadw cyfraddau trosglwyddo cymunedol y feirws yn isel iawn. Mae'r mannau lle'r ydym ni'n gweld yr amharu mwyaf ar addysg ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r mannau hynny lle mae'r feirws yn y gymuned, yng Nghaerffili, yn Rhondda Cynon Taf, yng Nghasnewydd—nid yn unig y mannau hyn, wrth gwrs, oherwydd mae yna ysgolion wedi'u heffeithio mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, ond mae'n rhaid inni gadw cyfraddau trosglwyddo i lawr ac mae hynny'n wirioneddol bwysig.
Rwyf wedi clywed adroddiadau, er enghraifft, am rieni'n ymgynnull yn agos at ei gilydd heb gadw pellter cymdeithasol wrth fynedfa'r ysgol. Mae hyn yn beth syml y gallwn ni ei osgoi—gallwn ni osgoi gwneud hynny. Mae'n arbennig o bwysig bod staff yn ein hysgolion yn cofio cadw pellter cymdeithasol oddi wrth aelodau eraill o staff. Mae achos gennym ni o uwch reolwyr ysgol yn hunan-ynysu ar hyn o bryd oherwydd achos o COVID ac oherwydd bod y grŵp hwnnw o staff wedi bod yn cyfarfod â'i gilydd mewn ystafell staff a heb wneud hynny gan gadw pellter cymdeithasol—ac felly roedd yn rhaid i aelodau eraill o'r staff fynd adref i ynysu. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'r negeseuon hyn mewn cof.
O ran profi, mae materion sy'n ymwneud â chapasiti labordy goleudy wedi cael eu trafod yn eang yma yn y Siambr eto heddiw, a'r Gweinidog Iechyd yw'r nesaf i siarad. Ond fe allaf eich sicrhau chi, Siân, fy mod i'n cael sgyrsiau gyda'r Gweinidog Iechyd fwy nag unwaith y dydd am yr angen i sicrhau bod Profi, Olrhain, Diogelu gystal ag y gall fod er mwyn gallu cynnal yr addysg yn rhwydd. Ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i wneud hynny, i sicrhau bod capasiti uwchlaw a thu hwnt i hynny ar gael yn y labordai goleudy, gan ganolbwyntio ar y cymunedau hynny'n benodol lle gwyddom fod haint yn y gymuned yn her ar hyn o bryd, ac mae cynlluniau pellach i gynyddu cyfleusterau galw i mewn lleol, a fydd yn bwysig wrth i'r hydref fynd yn ei flaen.
A gaf i ddweud fod yna becynnau profi wedi cael eu dosbarthu i bob ysgol a choleg, y gellid eu defnyddio nhw mewn argyfwng os nad oes ffordd arall i blentyn allu cael prawf? Felly, fe fydd 10 pecyn yn cael eu cyflwyno i ysgolion, ac, fel y dywedais i, maen nhw ar gael mewn sefyllfaoedd cwbl argyfyngus. Rhoddwyd pecynnau i golegau Addysg Bellach hefyd. Ond rwyf i yn cydnabod—a dyna pam mae'r Llywodraeth yn gweithio mor galed â phosibl i sicrhau bod profion ar gael mewn da bryd, oherwydd mae hynny'n ein galluogi ni i gyfyngu ar amhariadau.
O ran mygydau, mae'r canllawiau ar fygydau yn gwbl glir. Ein disgwyliadau ni o ran ysgolion, a'n canllawiau gweithredu ni yw, y byddan nhw'n cymryd camau i gyfyngu ar gyswllt rhwng grwpiau o ddisgyblion. Ac mae ysgolion yn gwneud hyn mewn ffyrdd amrywiol: er enghraifft, parthau; systemau un ffordd; dechrau'r diwrnod fesul cam; amseroedd egwyl fesul cam, amseroedd cinio a threfniadau ar ddiwedd diwrnod ysgol. Pan fydd yr holl bethau hyn wedi eu gwneud—oherwydd mae'n rhaid gwneud y pethau hynny'n gyntaf—pan fydd yr holl bethau hynny wedi eu gwneud a'i bod hi'n amhosibl wedyn gadw swigod o ddisgyblion ar wahân mewn mannau cymunedol, dyna pryd y dylid gwisgo mygydau. Ac mae'n well gwneud hynny ar sail asesu risg unigol mewn ysgol unigol, oherwydd mae ein hysgolion ni'n amrywio'n fawr o ran maint a chynllun. Mae yna ysgolion uwchradd yn fy etholaeth i a fyddai'n edrych fel ysgolion cynradd bach yng nghyd-destun Caerdydd. Mae rhai o'n hysgolion mewn adeiladau ysgol gwych yr unfed ganrif ar hugain, ac yna mae rhai o'n hysgolion yn dal i fod, pe byddwn i'n onest, mewn adeiladau o oes Fictoria, ac felly fe fydd eich gallu chi i gyflawni'r pethau hyn yn eich ysgol chi'n amrywio o ysgol i ysgol. Os na allwch gadw grwpiau o ddisgyblion 2m oddi wrth ei gilydd mewn mannau cymunedol, yna fe ddylen nhw wisgo mygydau, ac rwy'n siŵr fod trefnu hynny o fewn gallu'r penaethiaid sy'n rhedeg ein hysgolion ni. Maent yn ymdrin yn feunyddiol â phroblemau sy'n llawer mwy cymhleth na gweithio allan sut i gadw plant 2m ar wahân mewn coridor.
O ran bysiau a chludiant rhwng y cartref a'r ysgol, mae 17 o'n 22 awdurdod lleol ni wedi mandadu neu argymell yn gryf eisoes y dylid defnyddio mygydau ar gludiant o'r cartref i'r ysgol. Ac unwaith eto, Dirprwy Lywydd, mae'r cyngor yn glir: os nad oes digon o le ar y bws i gadw'r plant ar wahân—a gadwech inni fod yn onest, mae hynny'n wir am y rhan fwyaf o fysiau—yna, unwaith eto, mae mwgwd yn briodol. Ac o ran pwy sy'n gyfrifol am hynny, yna mae'n rhaid i rieni a gofalwyr a'r plant eu hunain gael y sgyrsiau hynny am yr hyn y gallan nhw ei wneud i sicrhau eu bod nhw'n lleihau'r perygl o amharu ar eu haddysg nhw drwy wisgo mwgwd. Ac rwy'n credu mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle mae'r Llywodraeth wedi darparu adnoddau ariannol i ganiatáu i awdurdodau lleol brynu, ac i ysgolion brynu, mygydau i'w disgyblion nhw, fel nad oes yna unrhyw blentyn mewn sefyllfa lle nad oes ganddo'r mwgwd priodol os oes ei angen. Ac, unwaith eto, fel y dywedais, rwy'n credu mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig i wneud hynny'n bosibl.
Diolch yn fawr am eich datganiad a'r sylwadau a wnaethoch chi i'r Aelodau eraill.
Rwy'n cytuno â chi mai llesiant emosiynol ddylai fod yn brif flaenoriaeth, oherwydd nid yw plentyn sy'n bryderus yn mynd i allu dysgu'n effeithiol. Felly, mae'n rhaid i hynny fod yn brif flaenoriaeth. A hyfryd o beth yw clywed sŵn plant yn chwarae ar yr iard, oherwydd yna rydym yn gwybod eu bod nhw'n ôl yn mwynhau bywyd.
Rwyf i o'r farn, gan nodi'n syml rai o'r sylwadau a wnaethoch chi am ddefnyddio mygydau pan nad oes modd cadw pobl ifanc ar wahân, ac mae hynny'n cynnwys pan fyddan nhw'n teithio ar y bysiau hyn i fynd yn ôl i ble bynnag, nad yw'n bosibl darparu bysiau ysgol yn ôl grwpiau blwyddyn—nid yw hynny'n mynd i ddigwydd; nid oes gennym y lefel honno o fysiau. Ond rwy'n credu—pan fydd rhieni'n mynegi pryder yn hyn o beth, tybed a allem ni eu hannog nhw i feddwl y tu hwnt i hynny a meddwl, 'A allai fy mhlentyn i fynd ar y beic i'r ysgol, neu gerdded?', gan ddibynnu ar ba mor bell i ffwrdd y mae'n rhaid iddyn nhw deithio. Oherwydd, yn fy mhrofiad i, nid yw'r trawsnewid hwnnw wedi digwydd ym mhennau pobl—y rhieni—eto.
Fe hoffwn i dalu teyrnged i'r ddwy ysgol lle cafwyd achosion cyfyngedig iawn o'r coronafeirws ar ddechrau'r tymor. Yn amlwg, mae'n rhaid mai yn y gymuned y daliwyd y feirws; nid oeddent wedi bod yn yr ysgol yn ddigon hir i'w gael yno. Felly, rwy'n llwyr atgyfnerthu'r negeseuon yr ydych chi'n eu datgan ynglŷn â sut mae angen i bob un ohonom ni gadw'r gymuned gyfan rhag lledu'r clefyd fel y gallwn ni gadw ein hysgolion ar agor.
Fodd bynnag, fe hoffwn i ddod yn ôl at y pwynt am allgau digidol, oherwydd nid oeddech chi yn y Siambr pan gefais ddeialog â'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â nifer y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sydd â chysylltiad digidol, ac fe ddywedodd hi fod gan eu hanner nhw rywfaint o gysylltiad. Wel, gwn o brofiad personol yr hyn y mae hynny'n ei olygu—nid yw 1Mb yr eiliad yn caniatáu ichi gael unrhyw ddysgu o bell, yn anffodus. Ac rwy'n bryderus am yr holl safleoedd eraill lle mae'n amlwg nad oes unrhyw ddysgu digidol. Felly, waeth faint o lechi neu liniaduron sy'n cael eu dosbarthu, ni fydd y plant hynny'n gallu cael mynediad i'r cwricwlwm oni bai ein bod yn darparu'r band eang i allu gwneud defnydd ohonynt. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi siarad â'r Gweinidog Llywodraeth Leol am sut y gallwn ni gael yr awdurdodau lleol i wneud hyn yn brif flaenoriaeth. Mae'r arian ar gael ar gyfer gwneud y cysylltiadau hyn, ond nid yw awdurdodau lleol wedi manteisio ar hynny dros yr haf pan oedd cyfle i wneud hynny. Felly, mae hon yn ymddangos yn brif flaenoriaeth i mi, a diolch am yr holl waith yr ydych chi'n ei wneud.
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi yn llygad eich lle: mae llesiant yn allweddol. Nid yw dysgu'n gweddu i blentyn sy'n ofidus, a'r hyn a wyddom ni yw y bydd y cyfnod clo wedi cael effaith ar bob un o'n plant ni, ond fe fydd effaith hynny'n amrywio o blentyn i blentyn. Fe fu'r cyfnod clo yn gyfnod anhapus iawn i rai o'r plant, ac fe fydd angen mynd i'r afael â hynny. Gwyddom fod hyn yn wir am rai o'n dysgwyr, mewn gwirionedd—ac fe gafwyd rhai arolygon diweddar yn dangos bod pobl ifanc yn eu harddegau wedi teimlo llai o straen y tu allan i'r ysgol, felly rhaid rheoli ailintegreiddio i'r ysgol yn briodol. Ac, o leiaf, mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd y dull ysgol gyfan, onid yw e, am wneud yr ysgol yn lle hapus i'n dysgwyr ni i gyd. A dyna pam mae angen inni gymryd yr amser hwn ar ddechrau'r tymor i roi cyfle i ysgolion allu mynd i'r afael â hynny, fel y gall gweddill y flwyddyn academaidd fynd yn ei blaen gystal ag y gall. A dyna pam yr ydym ni, y Gweinidog Iechyd a minnau, wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i gynnal sesiynau cwnsela ychwanegol i'r plant hynny lle mae cwnsela'n briodol. Ac o ran plant ysgol gynradd, lle nad yw cwnsela traddodiadol yn ddull priodol i gyfryngu â phlant, fe geir gwaith teuluol a gwaith grŵp, sy'n llawer mwy priodol.
Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn iawn: yn ein canllawiau ni, rydym yn dweud yn eglur iawn mai teithio llesol ddylai fod y dewis cyntaf i rieni lle bo'n ymarferol gwneud felly, ac os nad am unrhyw reswm arall mae'n ddechrau perffaith i'r diwrnod i blentyn—gan losgi ychydig o'r egni hwnnw sydd dros ben, a chael rhywfaint o awyr iach ac ymarfer corff cyn dechrau'r diwrnod ysgol. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda chydweithwyr yn yr adran drafnidiaeth i gyfleu'r negeseuon hynny a sicrhau bod ysgolion mewn sefyllfa dda i wneud hynny. Ar draws y ffordd yn y fan hon, yn Ysgol Hamadryad, mae gennym ein hysgol teithio llesol gyntaf, lle ni chaniateir i geir deithio i'r ysgol. Felly, mewn rhai amgylchiadau, mewn rhai cymunedau, gellir gwneud hynny'n llwyddiannus ac mae angen inni barhau i weithio ar greu'r amodau—nid yn unig dros dro, ond i'r dyfodol—i annog teithio llesol.
O ran allgau digidol, fe fyddaf i'n sicr yn codi'r pwynt gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol ynglŷn â chysylltiadau parhaol i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Ond, fel y dywedais pan atebais Suzy Davies, nid yn unig fe wnaethom roi gliniaduron a dyfeisiau i blant, dosbarthwyd 10,848 o ddyfeisiau MiFi gennym hefyd. Weithiau, nid diffyg dyfais yn unig yw'r broblem, ond y cysylltedd. Efallai eich bod chi mewn safle Sipsiwn a Theithwyr, neu efallai eich bod chi yng nghefn gwlad, lle nad yw'r cysylltiad hwnnw ar gael. Felly, roeddem ni'n gallu cynorthwyo, fel y dywedais i, bron 11,000 o blant drwy ddarparu cysylltedd iddyn nhw yn ystod y cyfnod hwn.
Beth yw eich ymateb chi i bryderon a godwyd gyda mi gan staff mewn ysgolion bod cadw pellter cymdeithasol yn cael ei anwybyddu neu ei fod yn amhosibl i ddisgyblion mewn ysgol lle mae gofyn iddyn nhw symud o un ystafell ddosbarth i'r llall; bod cysondeb a safon yr addysg ar-lein wedi amrywio'n fawr, gan holi a yw Cymru wedi buddsoddi ymhellach mewn datblygu addysg ac adnoddau ar-lein i baratoi ar gyfer ail don bosibl; bod athrawes sector cynradd wedi cael ei dwrdio am ddefnyddio gormod o bapur yn ei hystafell ddosbarth yn ystod sesiynau golchi dwylo, a dywedwyd wrthi am annog disgyblion i sychu eu dwylo nhw yn yr aer—ac fe wyddom ni i gyd pa mor beryglus yw hynny; bod y staff addysgu mewn rhai awdurdodau yn gorfod glanhau eu hystafelloedd dosbarth nhw eu hunain, gyda glanhawyr yn dod i mewn i lanhau'n ddwfn yn wythnosol yn unig, gan greu risgiau iechyd ychwanegol a chynyddu'r pwysau sydd arnynt; a bod Kirsty Williams yn dweud mai'r pennaeth sydd yn y sefyllfa orau i gynghori, ond nid ymarferwyr meddygol na gwyddonwyr mohonynt, ac mae'r rheini, hyd yn oed, wedi gwneud camgymeriadau, a bod angen cyngor cadarn arnom y gellir ei orfodi trwy Gymru gyfan?
Yn gyntaf oll, o ran dysgu digidol, fel y dywedais i wrth ateb Jenny Rathbone a Suzy Davies, rydym wedi buddsoddi llawer i sicrhau bod dysgwyr sydd wedi eu hallgau'n ddigidol yn cael dyfeisiau a chysylltiadau MiFi. Fe fydd dyfeisiau newydd yn cael eu rhoi i blant yn yr ysgolion hynny a roddodd dyfeisiau i blant yn rhan o'n cynllun Technoleg Addysg.
O ran pa fuddsoddiad pellach a roddwyd, Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd â bargen gyda Microsoft. Felly, mae pob plentyn a phob athro yn cael defnyddio'r gyfres lawn o raglenni Microsoft ar gyfer addysg—Office a'r holl bethau hynny y byddai eu hangen ar ysgol ac ar blentyn i gymryd rhan mewn dysgu ar-lein. Mae ein platfform digidol ni, Hwb, wedi bod yn fendithiol tu hwnt yn ystod y cyfnod hwn. Yn ystod y cyfnod clo, roeddem ni'n gallu sicrhau bod meddalwedd Adobe Spark ar gael hefyd i bob plentyn ac athro unigol. Unwaith eto, mae'r rhain yn adnoddau unigryw nad ydyn nhw ar gael ar y raddfa hon, yn rhad ac am ddim, yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.
O ran glanhau, mae'r canllawiau gweithredol yn eglur iawn ynghylch glanhau. Cyn tymor yr haf, o'r gyllideb addysg, rhoddwyd dros £1 miliwn, ymlaen llaw, i awdurdodau lleol brynu deunyddiau glanhau ychwanegol. Mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Llywodraeth Leol, wedi darparu £29 miliwn, rwy'n credu, y gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i dalu am y costau ychwanegol o lanhau eu hysgolion. Mae hwnnw'n swm sylweddol o arian y cytunwyd arno gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, felly nid oes unrhyw reswm dros ddiffyg glanhau. Roedd yr adnoddau ariannol ar gael cyn mis Medi, ac maen nhw ar gael i awdurdodau lleol wrth inni symud ymlaen.
O ran gorfodi, mae'r HSE, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch—er dicter i rai undebau, yn wir—wedi bod yn ffonio ysgolion yn ystod yr wythnos gyntaf yn ôl a'r wythnos ddiwethaf yn ôl, gan sicrhau bod yr ysgolion yn cadw at y ddeddfwriaeth a roddwyd ar waith gennym ni ar gyfer gweithleoedd diogel. Nid yn unig maen nhw'n safleoedd addysg, maen nhw'n weithleoedd, ac mae angen iddyn nhw gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a roddwyd ar waith. Mae'r HSE wedi bod wrthi'n ffonio ysgolion i sicrhau eu bod nhw'n cymryd yr holl gamau angenrheidiol.
O ran symud plant o amgylch ysgolion, mae llawer o ysgolion yn dewis cyfyngu ar symudiadau o amgylch ysgolion, Mark. Felly, er enghraifft, fe fydd plant yn aros mewn ystafell ddosbarth benodol am y rhan fwyaf o'r diwrnod, gan gynnwys yn yr ysgol uwchradd, a dim ond yn symud pan fydd angen iddyn nhw symud i labordy i wneud gwaith labordy, efallai. Neu, mae llawer o ysgolion yn dewis symud y staff o amgylch yr ysgolion. Ac os yw'r athro hwnnw'n dweud na roddwyd y darpariaethau hynny ar waith yn ei ysgol ef, yna mae angen cael y sgwrs honno gyda'r pennaeth, onid oes, am y trefniadau yn yr ysgol benodol honno? Oherwydd yn yr ysgolion yr wyf i wedi ymweld â nhw, ac yn y trafodaethau a gefais i gyda phenaethiaid, maen nhw'n ystyried parthau ac yn ystyried lleihau'r symudiadau gan ddisgyblion o amgylch ysgol gan ddewis yn hytrach, os oes modd, symud y staff o gwmpas.
A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, a hoffwn roi ar gofnod fy niolch nid yn unig i staff yr ysgolion, ond staff mewn AALlau hefyd sydd wedi gweithio'n galed iawn i gael y plant yn ôl yn yr ysgolion? Mae'n hyfryd iawn eu gweld nhw'n ôl yno.
Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ein sicrhau eich bod yn cael trafodaethau rheolaidd iawn gyda'r Gweinidog Iechyd ynglŷn â mater profion. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, cafwyd rhai pryderon yn lleol ynglŷn â'r gallu i gynnal profion ar blant a phobl ifanc drwy labordai goleudy Llywodraeth y DU, felly fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi sicrwydd i mi y byddwch chi'n parhau i drafod hynny gyda'r Gweinidog Iechyd ac y bydd y ddau ohonoch chi'n parhau i bwysleisio gerbron Llywodraeth y DU pa mor hanfodol yw hi fod y system brofi ar waith i ymateb yn gyflym i'r problemau hyn.
Roeddwn i'n falch o weld y pwyslais ar lesiant yn eich datganiad a'ch canllawiau ailagor, ac yn amlwg fe glywais eich ateb i Jenny Rathbone. Fe hoffwn i ofyn i chi, serch hynny, sut ydych chi'n bwriadu gwneud yn siŵr fod pob ysgol yn croesawu'r angen am flaenoriaethu llesiant? A hefyd sut rydych chi am sicrhau bod yr arian, ac mae'r arian a ddyrannwyd yn swm sylweddol, yn cael ei wario mewn ffordd sy'n briodol i gefnogi plant a phobl ifanc, yn enwedig mewn cysylltiad â'r pryderon yr ydych wedi tynnu sylw atynt, ac fe wyddoch fod y pwyllgor yn eu rhannu, am yr angen i gael ymyriadau priodol ar gyfer plant ifanc yn arbennig.
Ac yn olaf, fe hoffwn i ddweud mai un o brif bryderon y pwyllgor yn ystod y cyfnod clo oedd yr effaith ar blant yn y dirgel a phlant a oedd o bosibl yn dioddef camdriniaeth ac esgeulustod yn y cartref ond nad oedd hynny'n hysbys i'r gwasanaethau. Rwy'n croesawu taflen ddiweddar Llywodraeth Cymru—
A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda?
—a gynhyrchwyd gyda Childline, sy'n ddefnyddiol iawn: mae gennych chi'r hawl i fod yn ddiogel. A gaf i ofyn ichi beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau y bydd pob plentyn ac unigolyn ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y daflen ddefnyddiol iawn hon? Diolch.
A gaf i ddiolch i Lynne Neagle am ei sylwadau a'i chydnabyddiaeth hi o waith awdurdodau addysg lleol yn ystod y cyfnod hwn, sydd, fel yr oeddech chi'n dweud, wedi bod yn gweithio'n ddiflino ochr yn ochr â'u penaethiaid i roi darpariaeth ar waith sydd wedi arwain at agor ein holl ysgolion ni ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd hon? Bu'n her enfawr ac maen nhw wedi ymateb yn dda iawn iddi. Rwy'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth y rhai yn CLlLC sy'n arbenigo mewn addysg. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd, yn wythnosol—bron bob wythnos drwy'r haf hefyd, rwy'n credu—gyda nhw fel y gallwn ddeall yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu ar lawr gwlad gan wireddu ein canllawiau gweithredol ni yn y Llywodraeth.
Fel y dywedais i, heb unrhyw amheuaeth, mae heriau o ran capasiti profion ar hyn o bryd. Rwy'n trafod hyn gyda'm cyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, yn aml. Roeddwn i'n trafod hyn ddoe gyda Gavin Williamson, y Gweinidog yn San Steffan, sydd â heriau tebyg ganddo o ran sicrhau bod y capasiti i brofi'n ateb y galwadau sydd arno ar hyn o bryd. Mae gennym ymdrech ar y cyd i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd mewn labordai goleudy, ond nid dyna'r unig gyfleusterau yr ydym ni'n dibynnu arnynt. Mae pawb yn gweithio'n galed i greu canolfannau profi lleol ychwanegol yn ogystal â'r cyfleusterau eraill a gyhoeddwyd eisoes gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd.
O ran llesiant, mae'r Gweinidog Plant, Julie Morgan, a minnau'n parhau i gydweithio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymateb mewn dull cyfannol ar draws y gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant i ddiwallu anghenion plant. Unwaith eto, fe fydd yn rhaid inni ragweld cynnydd mewn atgyfeiriadau ar hyn o bryd, wrth i blant ddod yn ôl i'r ysgol a dechrau cael y sgyrsiau hynny gydag oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw am brofiadau'r cyfnod clo. Ac, fel chithau, rwy'n credu, i'r rhan fwyaf o weithwyr addysgu proffesiynol, mae'r plant hynny ar yr ymylon—ac nid ydynt yn hysbys yn ffurfiol i'r gwasanaethau cymdeithasol; fe gysylltwyd â'r plant hynny drwy gydol y cyfnod hwn—ond y plant hynny y mae bywyd yn y cartref yn gallu bod yn heriol weithiau iddynt, dyna'r plant fu'n ganolbwynt penodol ac sydd wedi peri pryder i athrawon. Ac rydym ni'n gweithio gydag AALlau i sicrhau y gall y maes addysg wneud atgyfeiriadau yn ôl yr angen a chael y cymorth angenrheidiol i blant a theuluoedd ar hyn o bryd os daw eu hangen nhw i'r amlwg.
Ac rydych chi'n iawn: i blant iau, bydd yn rhaid canolbwyntio ar therapi teulu a sesiynau grŵp yn hytrach na'r model cwnsela traddodiadol. Mae'r model cwnsela yn eich galluogi i gymryd rheolaeth dros eich bywyd chi eich hun a gwneud penderfyniadau a chymryd camau. Wel, mae'r gallu sydd gan blentyn chwech oed i wneud hynny dan yr amgylchiadau hyn yn gyfyngedig iawn os yw'n bodoli o gwbl, ac felly fe geir gwahanol fathau o therapi iddyn nhw. Fe fyddwn ni'n monitro sut mae byrddau iechyd unigol ac awdurdodau lleol yn defnyddio'r adnoddau a ddarparwyd ar eu cyfer. Ac fe fyddaf i'n trafod gyda chydweithwyr sut y gallwn ni sicrhau bod yr wybodaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati ar gael yn fwy eang i bob plentyn fel eu bod yn fwy ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hefyd i groesawu eich sylwadau a'ch sylwadau agoriadol chi am eich dyhead i gadw ein hysgolion ni'n agored yn ystod y cyfnod dyrys hwn.
Roedd clywed yr wythnos hon bod nifer o blant wedi cael eu hanfon adref gan fod eu trwynau'n rhedeg yn destun rhywfaint o bryder, ac yn amlwg, oherwydd yr oedi gyda phrofion, roedd hynny'n golygu eu bod nhw wedi colli tri diwrnod o'u haddysg, yn fras. Nid oes neb ohonom yn dymuno eu gweld yn colli rhagor o'u haddysg, rwyf i'n siŵr, ac felly rwy'n croesawu eich sylwadau am eich bwriad i weithio gyda'r Gweinidog Iechyd i sicrhau y caiff y profion eu cyflymu. Ond hefyd, tybed pa ganllawiau y gallem eu cyhoeddi eto o bosibl i'n hysgolion ni i wahaniaethu rhwng symptomau COVID ac annwyd cyffredin—tisian a pheswch—ac efallai, fel yr awgrymwyd yn gynharach yn y Siambr, fe fyddai'n syniad da edrych ar bosibilrwydd cynnal profion tymheredd ym mhob ysgol cyn anfon unrhyw blentyn adref, fel bod ganddyn nhw un o symptomau COVID o leiaf. Oherwydd rwy'n siŵr nad oes neb ohonom ni, Gweinidog, yn dymuno gweld unrhyw un o'n plant ni'n colli addysg a hynny'n ddiangen. Diolch.
Mae Laura Anne yn gwneud pwynt perthnasol iawn. Yr adeg hon o'r flwyddyn, ar ddechrau blwyddyn academaidd, a chithau'n fam Laura, rydych chi'n gwybod yn iawn fod annwyd yn gwbl anochel; ni ellir osgoi cael annwyd, gwir y gair. Ond oherwydd yr ymwybyddiaeth gynyddol, yn ddealladwy, mae pobl yn bryderus iawn, ac mae'n ddealladwy pam, felly, y gallai aelod o staff ddweud, 'Mae'n rhaid i'r plentyn hwn fynd adref.'
Rwyf am eich cyfeirio at fideo yr ydym ni wedi bod yn ei roi ar led a gynhyrchwyd gan Dr Heather Payne, prif gynghorydd iechyd plant i'r Llywodraeth, yn egluro'r union beth hwn, ynglŷn â phryd y mae'n briodol i blentyn gael ei brofi a bod symptomau annwyd syml yn wahanol. Rydym ni'n ceisio gweithio ar draws y maes addysg ac iechyd i gael gweminarau ychwanegol i athrawon a phenaethiaid, lle gallan nhw glywed yn uniongyrchol gan weithwyr iechyd proffesiynol er mwyn rhoi'r hyder ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw i'w helpu i wneud y penderfyniadau hyn, ac mae hynny'n cael ei drefnu wrth i ni siarad yma. Rydym ni'n ceisio lledaenu'r negeseuon hynny.
Ond, yn amlwg, mae angen sicrhau bod y profion hyn ar gael yn ehangach er mwyn creu cyn lleied o darfu â phosibl lle gallai plentyn fod ag annwyd cas sy'n digwydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ond nid COVID mohono, ac felly, os yw'n teimlo'n ddigon da, gallai fod yn yr ysgol. Ond dyna un o'r problemau dyrys sy'n ein hwynebu ni wrth ddychwelyd i'r ysgol ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn; dyma un o'r heriau y bydd yn rhaid ei goresgyn. Diolch.
Ac yn olaf, Mick Antoniw.
Gweinidog, mae pawb am weld y gorau i'n plant ysgol. Fe fydd Rhondda Cynon Taf, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi buddsoddi oddeutu £0.75 biliwn dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer adnewyddu'r ysgolion hynny. Ac yn yr ysgolion hynny, wrth gwrs, rydym ni'n awyddus i gael yr athrawon gorau, ac felly rwy'n croesawu'r cynnig yn fawr gan Lywodraeth Cymru i gyflogi 600 o athrawon eraill. Ond un o'r materion sydd wedi codi, wrth gwrs, yw bod gennym nifer helaeth o athrawon sydd â chymwysterau uchel yn byw yng Nghymru sydd wedi eu cymhwyso dramor ond sy'n wynebu rhwystrau i oresgyn y cyfyngiadau sydd ar gydnabod eu cymwysterau nhw. Mae gennyf i un etholwr yn benodol—fe wn i fy mod i wedi ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd yr ydych chi wedi rhoi ystyriaeth i'r mater penodol hwnnw—athro cymwysedig iawn o'r Unol Daleithiau sydd wedi bod yn ceisio goresgyn y rhwystrau hynny. O gofio'r galw sydd gennym ni nawr am athrawon a'r heriau sy'n ein hwynebu ni oherwydd COVID, a oes unrhyw beth y gallech chi ei wneud fel Gweinidog Addysg efallai i edrych ar y cyfyngiadau hynny, i oresgyn y cyfyngiadau hynny, i sicrhau ein bod ni'n gwneud y defnydd gorau o'r cyfoeth o dalent ar gael ymhlith dinasyddion sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac a allai gyfrannu cymaint at ein system addysg ni?
Diolch, Mick. Yn gyntaf, o ran rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a gaf i sicrhau'r Aelodau bod gwaith ar y safle'n parhau, ac wedi parhau, cyn gynted ag yr oedd rheoliadau'n caniatáu hynny? Ac er gwaethaf y straen sylweddol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru, rwy'n falch iawn nad yw'r cyfalaf sydd ar gael i mi i barhau i gefnogi band B y rhaglen honno wedi newid. Hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau symud rydym ni wedi gallu gwneud cyhoeddiadau ynghylch rhai adeiladau newydd gwirioneddol arwyddocaol. Mae hynny'n bwysig iawn, wrth gwrs, ar gyfer dyfodol addysg, ond mae hefyd yn bwysig iawn i'n hadferiad economaidd, gan sicrhau bod y Llywodraeth hon yn gwario arian Cymru i ddarparu cyfleusterau gwych, ond hefyd gwaith i bobl yma yng Nghymru.
A gaf i sicrhau'r Aelod bod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i roi pwerau i Gyngor y Gweithlu Addysg i allu gwneud penderfyniadau ynghylch addaster a pherthnasedd cymwysterau addysgu o ardaloedd o'r byd nad ydynt ar hyn o bryd yn rhoi'r hawl i chi weithio fel athro yma yn awtomatig? Rydym yn gwarchod mynediad i'n proffesiwn yng Nghymru, a hynny'n gwbl briodol, yn ofalus iawn. Rydym eisiau'r bobl orau yn sefyll o flaen ein dosbarthiadau. Ni all yr un system addysg fod yn fwy nag ansawdd y bobl sy'n gweithio gyda'n plant o ddydd i ddydd. Ond rydym yn y broses o roi pwerau ychwanegol i Gyngor y Gweithlu Addysg a fydd yn caniatáu i gymhwyster addysgu unigolyn sydd o wlad y tu allan, yn draddodiadol, i'r DU neu'r Undeb Ewropeaidd fod yn destun craffu gan Gyngor y Gweithlu Addysg, gyda'r bwriad o'i roi ar y rhestr fel athro cymwysedig sy'n cael gweithio yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Felly, ni ddylai fod yn llawer hwy Mick. Ddim yn llawer hwy.
Diolch, Gweinidog.
Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gynllun diogelu'r gaeaf. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol imi gyhoeddi ein bwriad i ddatblygu cynllun diogelu'r gaeaf ar gyfer Cymru dros yr haf. Rwy'n falch o gadarnhau ein bod bellach wedi cyhoeddi'r cynllun hwnnw, yn dilyn ein gwaith gyda rhanddeiliaid. Mae digwyddiadau'r wythnos diwethaf wedi atgyfnerthu pam y mae angen hwn. Er gwaethaf yr holl gynnydd da a wnaed dros yr haf, mae'r sefyllfa'n parhau'n ansicr. Nid yw pandemig COVID-19 ar ben, ac fel y cawsom ein hatgoffa unwaith eto, gall y feirws ledaenu'n gyflym gydag achosion lleol sylweddol.
Rydym i gyd yn gwybod bod y gaeaf wastad yn adeg heriol o'r flwyddyn i'n staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Gadewch imi fod yn glir: bydd yr heriau y gaeaf hwn yn wirioneddol ryfeddol. Yn ogystal â phwysau arferol y gaeaf, bydd angen inni ymateb i'r pandemig COVID sydd heb ddod i ben. Nid ymchwydd diweddar y feirws yn yr wythnosau diwethaf fydd diwedd ein heriau. Bydd y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn penderfynu a oes angen i ni gyflwyno mesurau mwy sylweddol fyth i reoli'r feirws. Felly, mae'n rhaid inni fod yn barod am y gwaethaf. Bwriad cynllun diogelu'r gaeaf yw dwyn ynghyd prif gyfraniadau y maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n diogelu'r cyhoedd, helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni ac ymgysylltu â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid allweddol, a byddwn yn cydweithio i gadw Cymru'n ddiogel.
Rydym wedi clywed gan gynghorau iechyd cymuned am y pethau a fydd bwysicaf i unigolion a chymunedau. Mae ymgysylltu â grwpiau proffesiynol a phartneriaid ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn ddefnyddiol i sicrhau bod cyd-destun cynllun diogelu'r gaeaf yn glir. Bydd ein disgwyliadau o ran y GIG a'r sector gofal yn cael eu nodi'n fwy penodol yn fframwaith gweithredol y GIG ar gyfer chwarteri 3 a 4, a gyhoeddir yr wythnos nesaf. Cefnogir cynllun diogelu'r gaeaf gan becyn sefydlogi'r GIG gwerth £800 miliwn a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar, ynghyd â'r arian ychwanegol a ddarperir i awdurdodau lleol a'r sector gofal.
Mae'r cynllun yn tynnu sylw at nifer o feysydd sydd bellach yn gyfarwydd, ond rhai sy'n hanfodol i reoli'r feirws, gan gadw cymunedau'n ddiogel ac yn iach a lleihau'r galw ar ein GIG a'n gwasanaethau gofal. Er enghraifft, elfen allweddol o'r cynlluniau atal ac ymateb lleol yw'r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu. Mae hyn yn amddiffyniad allweddol rhag trosglwyddo eang sy'n dibynnu'n helaeth ar gydweithrediad cyhoeddus, gonestrwydd a chydymffurfiaeth â'r cyngor hwnnw. Mae'r cynllun yn nodi'r angen i'r cyhoedd gefnogi ymgyrch ehangach a chynhwysfawr i frechu rhag y ffliw yr hydref hwn. Dylai hyn helpu i leihau'r pwysau tymhorol y mae'r ffliw yn ei roi ar ein GIG. Nid oes ffordd hawdd o fynd i'r afael â COVID-19, mae angen i bawb wneud ei ran i gefnogi'r ymdrech genedlaethol hon.
Mae tystiolaeth wyddonol yn llywio ein penderfyniadau a bydd yn parhau i wneud hynny. Rwy'n cydnabod y bu hi'n anodd ac yn heriol iawn i ni fel unigolion a chymunedau. Mae cydweithio fel cenedl wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru yn gwneud eu rhan i helpu i gyfyngu effaith y feirws. Parodd y gostyngiad dros yr haf i rai pobl ymlacio a bod yn hunanfodlon ynglŷn â'r bygythiad parhaus. Bu lleiafrif o bobl hefyd na wnaethant ddilyn y rheolau'n fwriadol ac efallai eu bod yn credu bod COVID-19 wedi diflannu. Nid yw wedi gwneud hynny ac mae nifer yr achosion yn cynyddu.
Er gwaethaf ymdrechion enfawr y rhan fwyaf o bobl, mae rhai ardaloedd yn profi niferoedd llawer uwch o achosion sy'n debygol o arwain at bobl agored i niwed yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn ystod yr wythnosau nesaf. Felly, gadewch imi fod yn gwbl glir: os ydym ni eisiau osgoi rhagor o gyfyngiadau symud lleol neu genedlaethol, rhaid i'n hymddygiad newid a newid yn gyflym. Rydym ni mewn sefyllfa debyg nawr i ddechrau mis Chwefror eleni—ychydig wythnosau cyn y dewis i gyflwyno cyfyngiadau symud cenedlaethol a wnaethpwyd ym mis Mawrth gan bob gwlad yn y DU.
Rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion yn ardal bwrdeistref Caerffili, Merthyr Tudful, y Rhondda ac yng Nghasnewydd. Bydd Aelodau'n gwybod y bu'n rhaid gweithredu camau lleol a'u bod yn cael eu hadolygu'n gyson. Nid yw cyfyngu ar symudiadau pobl a gosod cyfyngiadau ar fywyd bob dydd erioed wedi bod yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gymryd yn ysgafn. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny i helpu i achub bywydau a lleihau'r risgiau i'n pobl fwyaf agored i niwed.
Mae arwyddocâd y cynnydd mewn achosion yn ystod yr wythnos diwethaf yn golygu bod gennym ni gyfle cyfyng iawn o ran amser i weithredu ac osgoi ymyrraeth fwy radical. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld mwy o gyfyngiadau, ond ni allaf bwysleisio digon, os na fyddwn yn dechrau gweld gostyngiad mewn achosion, ac mai dim ond drwy newidiadau yn ein hymddygiad y gallwn ni gyflawni hynny, yna bydd bywydau yn cael eu colli. Nid wyf eisiau gweld cyfyngiadau symud cenedlaethol, ond os yw'r dewis rhwng hynny a mwy o niwed, gan gynnwys marwolaethau, yna byddwn yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i gadw Cymru'n ddiogel.
Mae staff iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â gweithwyr a chydweithwyr allweddol eraill yn y trydydd sector, yn gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau a gofal i ni a'n hanwyliaid. Mae'n rhaid i bob un ohonom ni yn ein tro wneud ein rhan i ymladd y feirws a helpu i gadw Cymru'n ddiogel, pa un ai glynu wrth y rheolau, cadw pellter cymdeithasol neu ymarfer hylendid dwylo da yw hynny. Byddwn yn parhau i fyw gyda'r feirws mewn sawl agwedd ar ein bywydau bob dydd am beth amser i ddod. Mae'n rhaid inni barhau i fod yn wyliadwrus drosom ein hunain, ein teuluoedd a'n cymunedau.
Nid yw cynllun diogelu'r gaeaf yn ateb i bopeth, a bydd yn cymryd amser i ni i gyd ail godi ar ein traed yn dilyn y pandemig hwn. Fodd bynnag, mae'r cynllun yn dangos ein hymrwymiad parhaus i bobl Cymru drwy gydol yr argyfwng eithriadol hwn ym maes iechyd y cyhoedd. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i wneud y peth priodol. Gallwn i gyd wneud dewisiadau i helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. A gaf i ddiolch ar goedd yn ddiffuant i'r holl staff sy'n rhan o'r teulu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am yr hyn y maen nhw wedi'i wneud hyd yma ers i'r achosion o COVID gael eu cyhoeddi'n swyddogol ym mis Mawrth, ac, yn wir, i chi fel Gweinidog, a'r Llywodraeth hefyd? Oherwydd, rwy'n siŵr y bu'r pwysau ar bob un ohonoch chi fel unigolion yn gymaint o her ag unrhyw beth yr ydych chi wedi'i wynebu yn eich bywydau gwleidyddol os nad yn eich bywydau cyfan. Ond hoffwn ofyn cyfres o gwestiynau am y cynllun yr ydych chi wedi'i gyflwyno gerbron y Cynulliad heddiw.
Mae'n bwysig bod cynlluniau o'r fath yn cynnal hyder, ac mae hyder yn elfen hollbwysig, nid yn unig ymhlith y staff a fydd yn cyflawni'r cynllun hwn, ond yn amlwg y cyhoedd y mae'n rhaid iddynt ei gefnogi. Ddoe, cawsom y tor diogelwch data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y profion a'r data a gafodd ei arddangos yn gyhoeddus. Y prynhawn yma clywsom gan y Prif Weinidog nad oedd yn gwybod dim am y tor diogelwch data hwnnw tan 2 o'r gloch brynhawn ddoe, pan gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hynny i'r cyhoedd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf roedd Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod ar 2 Medi am y data hwn a ryddhawyd, a'ch bod chi fel Gweinidog wedi cael gwybod ar 3 Medi. A wnewch chi roi gwybod i'r Cynulliad heddiw am yr amserlen pan oedd yr wybodaeth hon ar gael ichi, a pham y cadwoch yr wybodaeth honno yn hytrach na'i rhannu â chyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth? Neu a fu i chi ei rannu â chydweithwyr eraill yn y Llywodraeth, ond nid â'r Prif Weinidog? Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio pan fydd anghysondeb o'r fath—ac mae'n anghysondeb, rwy'n derbyn, y toriad data, ond mae'n anghysondeb difrifol o 18,000 o enwau'n ymddangos ar wefan gyhoeddus, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau'n ffyddiog.
Yn ail, a wnewch chi amlygu sut y bydd y cynllun hwn yn dechrau mynd i'r afael â'r broblem o ymdrin â'r rhestrau aros sydd wedi cronni dros fisoedd yr haf? Oherwydd mae'n hollbwysig i ni wneud cynnydd yn y maes penodol hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi pan ddywedwch ei fod yn gyfnod cythryblus iawn pan fo gennych chi COVID ac amseroedd aros a phwysau arferol y gaeaf, ond mae'n bwysig y gall y cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd rhai o'r amseroedd aros hyn yn lleihau.
Yn drydydd, o ran y rhaglen brechu rhag y ffliw, a allwch chi ddweud a oes digon o ddosau ar gael i fodloni gofynion y rhaglen brechu rhag y ffliw yr ydych chi wedi'i rhoi ger ein bron? Gan fod carfan newydd o unigolion wedi'i chyflwyno i'r cynllun, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae trafodaethau eto i'w cynnal gyda'r cwmnïau fferyllol i sicrhau digon o ddosau i sicrhau bod digon o frechlyn ffliw ar gael yn y wlad.
Yn bedwerydd, mae'n hanfodol ein bod yn deall y cymorth sydd ei angen ar y staff, mewn lleoliadau cymdeithasol ac mewn lleoliadau iechyd. A ydych yn ffyddiog y bydd y cynllun hwn yr ydych chi wedi'i roi ger ein bron heddiw i ymateb i bwysau'r gaeaf yn diwallu anghenion staff mewn lleoliadau gofal cymdeithasol a gofal iechyd, fel y gallan nhw deimlo eu bod yn y pendraw yn cael eu cefnogi, boed hynny o ran cyfarpar diogelu personol neu o ran sicrhau y gallan nhw wneud y penderfyniadau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r amgylchiadau sy'n eu hwynebu yn eu hardaloedd eu hunain?
Yn olaf, a wnewch chi amlygu i mi'n benodol—oherwydd y mae'n bryder a gyflwynwyd i mi ynghylch gwasanaethau deintyddol—sut y bydd y cynllun hwn yn mynd i'r afael â'r problemau cronig y mae'r gwasanaeth deintyddol yn y wlad hon yn eu hwynebu ar hyn o bryd, wrth ddychwelyd mor agos at y drefn arferol ag sy'n bosibl, er mai trefn arferol newydd fydd yn ein hwynebu oherwydd rheoliadau COVID?
Diolch am y gyfres yna o gwestiynau, a cheisiaf roi sylw iddyn nhw mor gyflym ag y bydd amser yn caniatáu.
Rydych chi'n gywir; yn ôl yr hyn a ddeallaf, hysbyswyd swyddogion ar 2 Medi, a chefais wybod am rybudd o ddigwyddiad difrifol ar 3 Medi. Mae hynny'n gwbl normal. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes wedi hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth, fel y dylent wneud, o'r tor diogelwch. Roeddent wedi canfod yr hyn a ddigwyddodd, ac fel y dywedais, nid ydym yn credu bod neb wedi cael niwed, ond mae'n dor diogelwch difrifol ac mae angen ei drin o ddifrif. Dyna pam y ceir ymchwiliad annibynnol. Bydd yr ymchwiliad hwnnw'n cael ei gynnal drwy brosesau atebolrwydd a llywodraethu'r bwrdd, felly gallwch ddisgwyl cael adroddiad cyhoeddedig ar yr ymchwiliad hwnnw pan fydd wedi dod i law. Ac fel y gwyddoch chi, cyhoeddodd prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatganiad rhagweithiol i'r wasg a rhoddodd gyfres o gyfweliadau ddoe yn nodi'r hyn a ddigwyddodd, ac yn wir, ymddiheurodd am y tor diogelwch difrifol. Nid oes ymgais i guddio'r ffaith fod hwn yn dor diogelwch difrifol a ddigwyddodd, ac adroddwyd ei fod yn ddigwyddiad difrifol, fel yn wir y caiff pob digwyddiad difrifol rhwng y gwasanaeth iechyd a'r Llywodraeth.
O ran mynd i'r afael â rhestrau aros, mae arnaf ofn nad wyf yn rhannu optimistiaeth yr Aelod ynglŷn â'r gallu i leihau rhestrau aros dros gyfnod y gaeaf. Mae'n realiti ym mhob gwlad yn y DU bod y cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch sydd wedi cronni yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud pan fu inni derfynnu gwasanaethau'r GIG—. Byddwch yn cofio mai fi, ar 13 Mawrth, oedd y Gweinidog iechyd cyntaf yn y DU i wneud y penderfyniad i ohirio'r rhan fwyaf o weithgarwch dewisol. Rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol o ganlyniad i hynny, ac yna, hyd yn oed wrth i wasanaethau ailgychwyn, bu rhywfaint o amharodrwydd ymhlith y cyhoedd i geisio gwasanaethau sydd bellach ar gael. Yn gyffredin â phob Gweinidog arall ym mhob un o'r pedair gwlad, byddwn yn dweud y bydd angen y rhan fwyaf o'r tymor nesaf, tymor llawn y Senedd, i ddal i fyny â'r gweithgarwch yr ydym yn ei weld, yn rhannol oherwydd y gweithgarwch sydd wedi cronni, ond hefyd am nad ydym yn gallu gweld pobl yn y niferoedd y byddem yn eu gweld fel arall. Mae hynny'n ymwneud â'r angen i sgrinio pobl, rhwng y rhai sy'n ddiogel o ran COVID a'r rhai dan amheuaeth neu'r rhai sy'n bositif o ran COVID. Y gwir amdani hefyd yw na all ein staff ymgymryd â chymaint o weithdrefnau oherwydd gofynion cyfarpar diogelwch personol. Felly, nid yw'n realistig i ni ddisgwyl gweld lleihad sylweddol yn y rhestrau aros drwy'r cyfnod hwn. Bydd angen blaenoriaethu pobl sydd â'r angen mwyaf, ac mae hynny'n golygu y bydd yn anodd oherwydd bydd angen i rai pobl aros yn hwy. Ond, fel y dywedais, nid yw honno'n sefyllfa sy'n unigryw i Gymru. Efallai eich bod wedi gweld y sylw gan Gronfa'r Brenin ac eraill am faint yr her y byddwn yn ei hwynebu ar draws ein gwasanaeth iechyd gwladol, a byddwn yn siarad fwy a mwy am y rhesymau dros hynny, gan gynnwys ein staff. Ac roeddwn yn falch o'ch clywed yn sôn am ein staff, oherwydd nid yw ein staff wedi cael seibiant mewn gwirionedd, yn unrhyw ran o'n system iechyd a gofal cymdeithasol, ers dechrau'r pandemig, ac mae hynny'n peri pryder mawr i mi nid yn unig oherwydd y posibilrwydd o ail don, ond y dyfodol tymor hwy.
Rydym ni wedi cyflwyno mwy o gymorth—cymorth iechyd galwedigaethol, cymorth iechyd a lles—ac rwyf wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda chynrychiolwyr cyflogwyr ac undebau llafur. Bu hyd yn oed mwy o sgwrsio rhwng y rhannau hynny o'r berthynas weithle nag y byddem wedi'i gael yn y cyfnod arferol hyd yn oed. Y rheswm am hynny yw y bydd yr hyn y bu'n rhaid i'n staff ei wneud yn cael effaith arnynt, am fwy o gymorth, yn ymarferol, i'w cadw yn y gweithle, ond gwyddom hefyd fod yna effaith sy'n cymryd peth amser i'w hamlygu ei hun pan fydd pobl wedi bod drwy ddigwyddiadau arbennig o anodd neu drawmatig. Felly, dros y tymor nesaf, bydd angen i ni ymdrin â'r realiti y bydd angen mwy o gymorth ar staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd angen i rai staff adael y gweithle i wella ac efallai y bydd rhai staff yn gadael cyn pryd.
Felly, mewn gwirionedd bu her fawr iawn yn cynyddu gyda mwy o weithgarwch nag y gallwn ni ymgymryd ag ef nawr a byddwn yn wynebu her ymysg ein staff. Ond gallaf ddweud, serch hynny, ar yr ochr gadarnhaol: fe wnaethoch chi sôn am heriau ynghylch cyfarpar diogelu personol i gefnogi staff; rydym ni mewn sefyllfa well o lawer nag ar ddechrau'r pandemig, pryd gwelsom ni fod gennym ni storfeydd a oeddem yn eu defnyddio, ac ar ôl i ni ddefnyddio'r storfeydd pandemig, ein cynlluniau arferol fyddai cael contractau ar waith, ond nid oedd gwledydd eraill yn eu hanrhydeddu am fod ganddynt eu heriau eu hunain ac, fel yr ydym ni wedi ailadrodd droeon, crebachodd marchnad y byd o ran cyfarpar diogelu personol yn sylweddol. Rydym ni wedi ailadeiladu a stocio ein storfeydd, rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn o fewn teulu gwledydd y DU wrth wneud hynny, ac rydym ni wedi helpu gwledydd eraill y DU drwy gymorth ar y cyd o ran anghenion cyfarpar diogelu personol. Rydym ni hefyd wedi llwyddo i barhau i gyflenwi cyfarpar diogelu personol i'n sector gofal cymdeithasol hefyd. Felly, rydym ni mewn sefyllfa well o lawer o ran stoc na'r sefyllfa yr oeddwn yn ei hwynebu wrth fynd drwy'r pandemig ym mis Ebrill a mis Mai eleni.
O ran y brechlyn ffliw, mae Llywodraeth y DU yn caffael ar gyfer pob un o'r pedair gwlad. Mae honno'n broses y cytunwyd arni. Felly, rydym yn obeithiol y bydd gennym ni fwy o frechlyn ffliw ar gael ar gyfer pob gwlad yn y DU, gan gynnwys, wrth gwrs, Cymru. Rydym yn ceisio blaenoriaethu'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae adran yng nghynllun diogelu'r gaeaf ar yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i gael cyfradd uwch o bobl sydd fwyaf agored i niwed i gael y brechlyn a hefyd os oes gennym ni ddigon o frechlyn yn weddill, i sicrhau bod pobl dros 50 oed yn cael y brechlyn ffliw hefyd, yn ogystal â'n cynllun beth bynnag a ddaw i gael mwy o blant cyn oed ysgol ac oedran ysgol gynradd i gael y brechlyn hefyd.
O ran deintyddiaeth, disgwyliwn i fwy o ddata gael ei ddarparu yn fframwaith gweithredol y GIG y soniais amdano. Mae hyn wedi bod yn her wirioneddol oherwydd, wrth gwrs, mae deintyddiaeth yn broffesiwn risg uchel—mae'n eithaf amhosibl ymgymryd â gwaith deintyddiaeth a chadw pellter cymdeithasol, mae'r agosrwydd yna y mae ei angen yn aml er mwyn ichi wneud y gwaith ac, yn wir, y gweithdrefnau sy'n cynhyrchu aerosol. Gallwn ddisgwyl y ceir mwy o fanylion drwy'r fframwaith gweithredol a'r cyngor gan ein prif swyddog deintyddol.
Diolch ichi am y datganiad, Gweinidog. Dechreuaf gyda'ch honiad ein bod mewn sefyllfa debyg iawn i'r un yr oeddem ni ynddi ym mis Chwefror. Fe wn i pam yr ydych yn dweud hynny, oherwydd dyma'r un feirws, mae mor beryglus ag yr oedd bryd hynny ac rwy'n cytuno'n llwyr â'ch barn mai ein cyfrifoldeb ni i gyd yw wynebu ein cyfrifoldebau ein hunain o ran glynu wrth ganllawiau ac ati, ond dylem ni, wrth gwrs, fod mewn sefyllfa llawer gwell nag yr oeddem ni ynddi ym mis Chwefror. Rydym ni bellach yn tracio ac yn olrhain, gwyddom ychydig mwy am driniaethau—llawer mwy am driniaethau—o'r diwedd, nawr, mae gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio, yn cadw pobl yn ddiogel, ac ati. Yr hyn y mae angen inni ei wybod nawr, wrth i'r gaeaf ddynesu, yw bod gwersi wedi'u dysgu a rhai o'r penderfyniadau gwael a wnaed yn gynharach efallai—yn ddealladwy, gan fod hyn yn newydd, os nad yn gwbl faddeuadwy, ond yn ddealladwy—mae angen inni sicrhau nad ydynt yn digwydd eto. Ac er i chi dreulio llawer o'r datganiad hwnnw'n dweud pa mor bwysig yw hi i bobl gymryd cyfrifoldeb dros eu hunain, mae'n ymwneud â'r hyn y gall y Llywodraeth ei wneud ac, o ran profi ac olrhain, nid y bobl sy'n diystyru rheolau sy'n ei chael hi'n anodd cael profion yn fy etholaeth i a ledled Cymru ar hyn o bryd—ond pobl na allant gael profion am nad ydynt ar gael nawr. A wnewch chi egluro wrthym ni beth fydd yn cael ei wneud cyn y gaeaf hwn i sicrhau na fydd yr orddibyniaeth y penderfynoch ei rhoi ar y labordai goleudy yn achosi problem yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf? Mae hyn yn rhywbeth y rhybuddiodd y SAGE annibynnol amdano; rwy'n pryderu amdano hefyd. Rydym yn chwilio am sicrwydd gennych chi.
Ysgrifennais atoch ynghylch y problemau o ran cael profion yr wythnos diwethaf. Gofynnais hefyd yn y llythyr hwnnw: a allwn ni ddechrau profi gweithwyr gofal cartref a nyrsys cymunedol nad oes symptomau ganddyn nhw, ac eraill sy'n gorfod ymweld â chartrefi pobl? Oherwydd mae ofnau nad yw'r profion hynny sydd wedi'u darparu mewn cartrefi preswyl ar gael o hyd i'r bobl hynny sydd hefyd eu hangen oherwydd bod y bobl y maent yn dod ar eu traws o bosib yn agored i niwed. A wnewch chi ein sicrhau bod hynny'n rhywbeth y byddwch yn ystyried ei gyflwyno wrth inni nesáu at y gaeaf, neu wneud hynny ar unwaith?
Rwy'n pryderu nad oes sôn, wrth i chi ganolbwyntio ar y ffliw, am gyflyrau iechyd cronig eraill. Yn benodol, rwy'n meddwl am ganser. Does dim cyfeiriad at hynny yn eich datganiad. Mae'n hanfodol eich bod yn cadw'r GIG ar waith, wrth gwrs, ar gyfer cyflyrau iechyd eraill gymaint â phosib, ac mae'n gas gennyf feddwl beth fydd y cyfraddau goroesi ar gyfer canser y flwyddyn nesaf os cawn aeaf heb sgrinio na phrofi. Felly, mae'n ymwneud â'r hyn y gall y Llywodraeth ei ddangos i ni ar ddechrau'r gaeaf o ran yr hyn y maent wedi'i ddysgu sy'n gwneud heddiw yn wahanol iawn i fis Chwefror o ran ein potensial i gael gwell canlyniad yn sicr nag a gawsom ni yn nyddiau cynnar y pandemig yma yng Nghymru.
Diolch am y gyfres yna o gwestiynau imi ymdrin â nhw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod yr hyn rwy'n ei ddweud am y gymhariaeth â mis Chwefror. Wrth gwrs, rydym ni mewn gwell sefyllfa o ran ein paratoi a'n dealltwriaeth, gyda'r profiad ymarferol a'r dysgu o'r chwe mis diwethaf. Nid dyna'r pwynt yr wyf yn ei wneud; rwy'n credu bod yr Aelod yn gwybod nad dyna'r pwynt yr wyf yn ei wneud, ond o ran y sefyllfa ym mis Chwefror ynghylch y proffil a'r cynnydd mewn achosion, felly heb weithredu, dyna'r sefyllfa y gallem weld ein hunain ynddi yn y pen draw. O ran dysgu o le'r oeddem ni, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, gyda'r wybodaeth sydd gennym ni nawr a'r un ffeithiau, y byddem yn gweithredu'n wahanol. Felly, dyna pam yr wyf yn dweud ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn ystyried eu dewisiadau eu hunain, oherwydd fel arall efallai y bydd gan y Llywodraeth ddewisiadau gwahanol i'w gwneud lle y gall fod angen i ni wneud dewisiadau'n gynharach nag a wnaethom ni yng nghyfnod y don gyntaf. A dyna'r wers a ddysgwyd y credaf fod Aelodau'n ein hannog i'w hystyried. Bydd y Llywodraeth yn cyflawni ei chyfrifoldebau, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad yw pobl yn anghofio eu cyfrifoldeb personol eu hunain hefyd. Dyna pam y daethom ni allan o'r cyfyngiadau symud dros yr haf ac atal y feirws, a dyma'r ffactor mwyaf arwyddocaol o ran gweld cynnydd yn nifer yr achosion hefyd.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn nodi eto yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r labordai goleudy, rhaglen brofi'r DU. Byddwch yn cofio mai'r rhan fwyaf o'r feirniadaeth yn y cyfnod cynnar oedd na fu i Gymru'n cymryd rhan yn ddigon cynnar yn rhaglen brofi labordai goleudy, a'r rheswm am hynny oedd nad oeddem yn gallu gweld a deall y data a oedd yn rhan o hynny. Cymerodd yr Alban a Gogledd Iwerddon ran yn gynharach; buom yn aros nes inni ddeall y data, ac mae hynny bellach yn cyrraedd ein timau profi, olrhain a diogelu yn rheolaidd. Maen nhw wastad wedi gallu gweld data o labordai goleudy a labordai GIG Cymru, ac mae hynny wedi rhoi ein gwasanaeth olrhain cyswllt hynod lwyddiannus mewn sefyllfa dda iawn.
Yr heriau a welsom ni yw bod proses y labordai goleudy yn gweithio'n dda hyd at oddeutu tair wythnos yn ôl, a bod yn deg. Rydym ni i gyd wedi gweld yr heriau a amlygwyd yn eang, a hynny mewn gwirionedd nid oherwydd na allant ymgymryd â'r samplu, ond oherwydd na allant gyflawni'r gwaith o brofi'r samplau hynny er mwyn cael y canlyniadau'n ôl i bobl, a dyna'r broblem a welwn ni. Ac mae Matt Hancock heddiw wedi cydnabod yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd yn cymryd ychydig wythnosau i ddatrys hynny. Roedd honno'n drafodaeth a gawsom ni yng nghyfarfodydd Gweinidogion iechyd y pedair gwlad ddydd Gwener. Yna gwelsom yr heriau yn y rhaglen brofi gyda gostyngiadau dros y penwythnos. Ac eto, a bod yn deg â Matt Hancock, ar ôl i mi a Gweinidogion iechyd eraill gysylltu ag ef, bu gwelliant dros y penwythnos, ac yna rhoddwyd rhai o'n hadnoddau ein hunain ar waith hefyd.
Yn ogystal ag ystyried sut yr ydym yn adleoli adnoddau GIG Cymru, y byddwn yn ei wneud, a bydd gennyf fwy i'w ddweud dros yr wythnos nesaf am yr hyn yr ydym yn ei wneud, yn enwedig o ran unedau profi symudol, mae angen i raglen y DU hefyd ddod yn ôl ar ei thraed gan ei bod yn rhaglen brofi a ariennir ac a ddarperir gan y DU ym mhob un o'r pedair gwlad. Nid oes cyllid canlyniadol ychwanegol na staff ychwanegol yn aros i gael eu canfod i gyflwyno profion ychwanegol ar wahân i hyn. A byddai dychwelyd yn llwyddiannus i'r niferoedd rhagweladwy ac i lefel y profion a welsom ni drwy'r rhan fwyaf o'r haf o fudd i bob un o'r pedair gwlad. Dyna'r hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn digwydd.
O ran defnyddio adnoddau GIG Cymru, fe'u cryfhawyd i allu ymdrin â phwysau ychwanegol y gwyddom y byddwn yn ei hwynebu drwy'r hydref a'r gaeaf. Felly, mae'n ymdrech gydweithredol ar ran y rhaglen Gymreig yr ydym ni wedi defnyddio adnoddau Llywodraeth Cymru i'w hariannu, ac yn wir y rhaglen oleudy hefyd, a gweld hynny'n dychwelyd at y lefelau perfformio a welsom hyd at oddeutu tair wythnos yn ôl.
O ran yr her yngylch profion COVID mewn poblogaethau asymptomatig ym maes gofal cartref a gofal preswyl, rydym ni wedi parhau â rhaglen brofi reolaidd o'r rhaglen wythnosol gyntaf i bob pythefnos. Fel arfer i staff maes gofal preswyl, rydym wedi cynyddu'r amlder yng Nghaerffili, ac rydym yn bwriadu gwneud hynny eto yn Rhondda Cynon Taf oherwydd yr heriau yno ynglŷn â chynnydd mewn trosglwyddo cymunedol.
Felly, rydym yn bwriadu darparu rhaglen reolaidd, ac, unwaith eto, mae'r heriau yr ydych yn cyfeirio atynt o ran y rhaglen brofi honno i'n staff unwaith eto'n rhan o'r heriau i labordai goleudy, ac mae hynny eto'n ymwneud â'r broses brofi a rhoi canlyniadau ac, unwaith eto, mae llawer o sylwadau wedi eu mynegi ledled y DU am hynny. Unwaith eto, rydym yn ystyried a allwn ddefnyddio adnoddau GIG Cymru mewn ardaloedd lle mae'r trosglwyddiad uchaf ac i geisio—[Anghlywadwy.]—proses brofi a rhoi canlyniad cyflymach a mwy ffafriol am gyfnod cyfyngedig.
O ran gofal cartref a phreswyl, maent unwaith eto'n flaenoriaeth—y staff hynny—ar gyfer y rhaglen brechu rhag y ffliw, oherwydd maent, drwy ddiffiniad, yn gweithio gyda grwpiau o bobl sy'n agored i niwed. A phan ddaw'n fater o driniaeth a niwed nad yw'n ymwneud â COVID, mae'n un o'r pedwar niwed a gydnabyddwn yn ein dull gweithredu cenedlaethol, ac unwaith eto mae wedi'i nodi'n glir iawn yng nghynlluniau diogelu'r gaeaf. Felly, unwaith eto, rydym wedi nodi yn y cynllun yr hyn yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod hynny'n parhau gymaint â phosibl drwy gydol cyfnod y gaeaf ac, yn wir, y neges yr wyf fi a phrif weithredwr y GIG wedi'i rhoi ynghylch yr angen nid yn unig i ailgychwyn y rheini, ond i weld cynlluniau pellach ar gyfer y rheini yn fframwaith chwarter 3 a chwarter 4. Gan fy mod yn cydnabod bod y niwed sy'n deillio o gyfyngiadau symud cenedlaethol—nid y niwed economaidd yn unig, sydd bron bob amser yn arwain at ganlyniad iechyd hefyd, ond y niwed posib i'r mathau eraill hynny o driniaeth nad ydynt yn ymwneud â COVID, y rheini na fyddant yn mynd yn ei blaenau ac yn digwydd, naill ai oherwydd bod yn rhaid inni ohirio'r rheini, oherwydd ein bod yn gweld mwy o bobl yn dod i ysbytai gyda COVID, neu, yn wir, oherwydd bod y cyhoedd, fel y gwnaethant yn ystod y don gyntaf, yn dewis peidio â chael triniaeth am eu bod yn poeni mwy am ddal coronafeirws.
Felly, does dim atebion syml a rhwydd yma. Mae'r cynllun a nodwyd gennym ni heddiw yn sôn am sut y byddwn yn cydbwyso'r blaenoriaethau hynny ac, unwaith eto, yn ceisio gwneud a sicrhau gwelliant pellach. A gallwch ddisgwyl clywed mwy gan y Llywodraeth dros y gaeaf am yr hyn yr ydym ni wedi llwyddo a heb lwyddo i'w wneud yn llwyddiannus yn ein brwydr anorffenedig yn erbyn y coronafeirws.
Diolch. Rydym ni dwy ran o dair o'r ffordd drwy hyn o ran amser, ac mae gennyf nifer o siaradwyr o hyd, felly mae'n rhaid i mi ofyn ichi fod yn gryno gyda'r cwestiynau a'r atebion. Mandy Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad heddiw a'r cyfle imi gyfrannu. Yr ymdeimlad o ofn ar ôl popeth y mae'r gwasanaeth iechyd a'r cyhoedd wedi bod drwyddo eleni, anfonaf fy nymuniadau gorau a—[Anghlywadwy.]—yr holl heriau a'r peryglon sy'n dod yn sgil hynny, yn enwedig i'r rhai sy'n agored i niwed. Rwyf wedi clywed manylion eich cynllun diogelu'r gaeaf ac rwy'n pryderu'n fawr yr ymddengys ei fod yn canolbwyntio fwyaf ar edrych yn ôl ar y cyfyngiadau symud, ymateb i ail don o COVID yn y gaeaf. Wrth inni nesáu at y gaeaf a'r nifer rhagweladwy o afiechydon ac, yn anffodus, marwolaethau—llawer o'r rhain yn afiechydon y system anadlu—cwestiwn 1: sut y bydd y cyhoedd a'r gweithwyr meddygol proffesiynol yn gwahaniaethu rhwng yr afiechydon arferol a geir yn y gaeaf a COVID-19, pan fydd y symptomau'n debyg iawn i'w gilydd?
Gweinidog, cawsom drafodaeth ym mis Gorffennaf pan gyfeiriais at effeithiau cyfyngiadau symud ar afiechydon nad ydynt yn gysylltiedig â COVID, a sonioch chi am yr angen i gydbwyso gwahanol niweidiau fel y gwnaethoch eto heddiw. Un o'r pryderon mwyaf heb os yw achosion posib o ganser. Gweinidog—[Anghlywadwy.]—mae modelu'n dangos, ledled y DU, y gallai fod tua 35,000 o farwolaethau ychwanegol oherwydd canser o ganlyniad i COVID-19. Yng Nghymru, rhwng mis Mawrth a mis Mehefin, roedd tua 1,600 yn llai o atgyfeiriadau canser brys. Mae'n amlwg bod ôl-groniad enfawr o gleifion, fel yr ydych wedi sôn, y bydd angen profion diagnostig arnynt ar gyfer achosion posib o ganser nad ydynt yn y system o gwbl hyd yn hyn. Pan fydd y cleifion hyn yn dod i'n hysbytai, mae'n siŵr y bydd hyn yn achosi cyfyngiad ar gapasiti mewn gwasanaethau diagnostig, ac rydym i gyd yn ymwybodol iawn y gallai oedi achosi diagnosis hwyr o ganser, llai o opsiynau triniaeth a llai o siawns o oroesi. Gwelaf eich bod yn ystyried hyn yn eich cynllun, felly a wnewch chi ddweud wrth y Siambr beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau diagnostig yn gwbl barod a pha drefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer triniaeth ddilynol a llawdriniaethau, hyn i gyd yng nghyd-destun pwysau'r gaeaf? Er nad oeddem yn gallu rhagweld y gofynion ar GIG Cymru yn sgil COVID-19 yn y dyddiau cynnar, cafodd y gromlin ei llyfnhau ac, wrth gwrs, rydych yn cadw llygad barcud ar nifer yr achosion nawr ac yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael i wrthsefyll unrhyw gynnydd yn y niferoedd. Fodd bynnag, siawns eich bod yn cytuno â mi na all y GIG yng Nghymru barhau mewn marwgwsg, fel y mae'n ymddangos ar hyn o bryd, ac mae angen dechrau ymdrin â rhestrau aros am lawdriniaeth ddewisol unwaith eto. A allwch chi hysbysu'r Siambr sut y mae'r cyfyngiadau symud wedi amharu ar restrau aros—mae'n ddrwg gennyf, wedi effeithio ar restrau aros—a beth yw eich cynllun ar gyfer mynd i'r afael â hyn? Mae clun newydd neu dynnu cataract yn argyfwng pan fydd y cyntaf yn achosi cwymp a'r ail yn achosi dallineb.
Yn olaf, mae gan gyfyngiadau symud, colli swyddi, gweithio gartref a realiti gwahanol i ymgynefino ag ef y potensial i effeithio ar iechyd meddwl y genedl, fel y dywedsom ni o'r blaen—pa gapasiti sydd gan GIG Cymru i ymdrin â hyn?
Ac wrth gloi, Gweinidog, a gaf i ddweud wrthych, er gwaethaf yr hyn a ddywedwch fod y GIG yn gweithredu yn ôl yr arfer, ei bod yn ymddangos bod diffyg cysylltiad gwirioneddol rhwng yr hyn a ddywedwch a'r hyn y mae etholwyr yn ei brofi, sef nad yw gweithdrefnau syml ac angenrheidiol yn digwydd? Mae'n amhosibl cael apwyntiadau. Gyda phwysau'r gaeaf yn dod, ofnaf na fydd dim byd yn newid yn y dyfodol agos ac rwy'n gobeithio y byddwch—[Anghlywadwy.]
Diolch i'r Aelod am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu imi fynd i'r afael i raddau helaeth â heriau ynghylch gofal dewisol a rhestrau aros mewn ymateb i gyfres gyntaf o gwestiynau Andrew R.T. Davies, wrth gydnabod bod gennym ni her sylweddol i ymdrin â hi dros gyfnod sylweddol o amser, a'r ffaith bod y GIG wedi agor yn raddol ar gyfer mwy o waith; mae gofal dewisol yn digwydd ym mhob un bwrdd iechyd. Ein her yw'r ffaith, wrth gael trefniadau diogelu rhag COVID ar gyfer pobl sy'n dod i mewn am ofal dewisol, bod hynny'n golygu na allwn ni wneud cymaint o weithgarwch ag y byddem wedi'i wneud yn y gorffennol, ac, unwaith eto, mae angen blaenoriaethu. Mae hynny'n wir am ystod eang o wasanaethau, nid canser yn unig, ond diagnosteg ehangach. Gallwch weld mwy o fanylion yn ein fframwaith gweithredol, ond, wrth gwrs, o ran canser, rydym eisoes wedi gweld amrywiaeth o raglenni sgrinio canser yn ailgychwyn, felly rydym yn gwneud y gwaith hwnnw a gwyddom fod lle i wella. Yn sicr, nid wyf yn ffyddiog nac yn ddi-bryder ynghylch yr ôl-groniad nid yn unig mewn gofal dewisol ond o ran cyflyrau eraill lle gall achosi niwed sylweddol i iechyd, gan gynnwys, wrth gwrs, rhai cyflyrau a allai, heb eu trin, fod yn angheuol.
O ran yr heriau sy'n gysylltiedig â thymor y ffliw yn benodol, rwy'n credu ei bod hi'n werth crybwyll bod tymor ffliw cyfartalog ledled y DU yn achosi 8,000 i 10,000 o farwolaethau, felly mae'n rhywbeth yr ydym yn dod i arfer ag ef, ond, mewn gwirionedd, mae'r ffliw yn cymryd bywydau llawer o bobl bob blwyddyn: mae'n ategu pam y mae'r rhaglen brechu rhag y ffliw mor bwysig. O ran pobl a allai ddioddef o'r ffliw, wrth gwrs, efallai eu bod nhw yn fwy agored i COVID hefyd, felly mae'n atgyfnerthu'r angen i gael eich profi a'ch amddiffyn rhag y ffliw, cael y pigiad, ond hefyd dyna pam y mae rhai o'r profion pwynt gofal cyflym yn ddefnyddiol iawn i ni, oherwydd bydd amrywiaeth o'r rheini'n gallu profi pobl am fathau o ffliw yn ogystal â COVID. Felly, mae amrywiaeth o bethau yn y cynllun yr ydym eisoes wedi'u cyhoeddi heddiw yn ogystal â mwy o fanylion i ddod yn y datganiadau yr wyf yn disgwyl parhau i'w gwneud i'r Senedd drwy'r gaeaf ac yn wir yn y fframwaith gweithredol rwyf wedi cyfeirio ato yn fy natganiad agoriadol.
Diolch. Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i chi am y datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Rwy'n credu y bydd llawer ohonom yn croesawu dull mwy lleol o ymdrin â'r materion hyn. Mae'r dull lleol sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghaerffili a'r dull gwirfoddol sy'n cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn rhai y credaf y bydd llawer ohonom yn eu gwylio gyda llawer iawn o ddiddordeb. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn parhau i fod yn hyblyg a'i bod yn gallu ymateb i rai materion gwahanol iawn mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Ond un maes a welais, yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn dod yn fwy amlwg fu profion. Gofynnwyd i chi dro ar ôl tro ynghylch hyn y prynhawn yma, Gweinidog, ac i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw hefyd, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu faint o bryder a deimlir ar bob ochr i'r Siambr ac ym mhob rhan o'r wlad ar hyn o bryd. Byddwch yn ymwybodol nad wyf erioed wedi teimlo bod gennyf ffydd yn Llywodraeth y DU i wneud y peth iawn—i wneud y peth iawn dros y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli, ac i wneud y peth iawn i Gymru yn sicr—a, dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld systemau'r DU yn chwalu eto. Mae systemau'r DU wedi methu wythnos ar ôl wythnos a mis ar ôl mis wrth i'r argyfwng hwn ddatblygu dros y flwyddyn, a theimlaf ei bod yn bryd i ni a chithau fel Llywodraeth Cymru, sefydlu ein systemau ein hunain yma yng Nghymru, gan weithio gyda llywodraeth leol, gweithio gyda'r bwrdd iechyd, gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod gennym ni brosesau profi cadarn ar waith. Rydym wedi gweld methiant olrhain cyswllt dros y ffin yn Lloegr ac rydym wedi gweld yr effaith a gafodd hyn. Rydym wedi gweld yng Nghymru sut y bu olrhain cyswllt—gwnaethoch ddatganiad yn ei gylch yr wythnos diwethaf, Gweinidog—yn llwyddiant mawr, a chredaf ei fod yn un o'r ffyrdd allweddol yr ydym yn parhau i ymdrin â'r coronafeirws dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac y cawn ni'r broses brofi i'r un lefel â'r strategaeth olrhain cyswllt ehangach, ac mae hynny'n golygu system Gymreig, sydd wedi'i gwreiddio yn ein cymunedau, lle gall pobl gerdded i mewn, cael y prawf a chael y canlyniadau, oherwydd nid wyf wedi fy argyhoeddi bod systemau'r DU yn cyflawni ar ein cyfer.
Diolch i'r Aelod, ac, wrth gwrs, rydym yn nodi rhai o'r heriau y mae'n eu crybwyll ar y dechrau, o ran gweithredu lleol yn hytrach na gweithredu cenedlaethol, yn ein cynllun rheoli coronafeirws ac, fel y mae'r Prif Weinidog wedi atgoffa'r Aelodau heddiw, mae ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu yn gweithio fel cyfyngiadau symud clyfar i bob pwrpas. Os yw pobl yn onest ac yn agored ynghylch eu cysylltiadau, byddwn yn cyrraedd pobl yn gyflym, oherwydd mae ein gwasanaeth olrhain cyswllt nid yn unig yn effeithiol iawn o ran cyrraedd cysylltiadau'n gyffredinol, mae hefyd mewn gwirionedd yn cyrraedd pobl yn gyflym iawn, dyna'r wybodaeth a gyhoeddwyd gennym ni yn ystod yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n caniatáu i bobl ddilyn y cyngor hwnnw ar hunanynysu ac osgoi mesurau cymunedol ehangach, a chredaf fod hynny'n werthfawr ac yn bwysig iawn i bob un ohonom ni.
Mae'n anochel bod yr heriau o ran y profi yn y labordai goleudy yn siomedig, ac nid fi yn unig sy'n dweud hynny—bydd bob Gweinidog iechyd yn y DU a gaiff gwestiynau am hyn yn sôn am yr un problemau ac, fel y dywedais, mae Matt Hancock heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin wedi cydnabod y bydd yn cymryd ychydig wythnosau i ddatrys y problemau hynny. Ond mae o fudd i bob un ohonom ni fod y problemau hynny'n cael eu datrys, oherwydd, hyd at ychydig wythnosau'n ôl, roedd y labordai goleudy mewn gwirionedd yn perfformio'n eithaf da, ac nid yw hynny'n feirniadaeth; dyna oedd yn digwydd. Yr hyn y mae angen inni ei wneud, serch hynny, yw gallu gweld sut y gallwn newid ein hadnoddau yng Nghymru i ymdrin â'r her sydd gennym ni dros yr wythnosau nesaf, oherwydd y mae'r her y mae'r labordai goleudy yn ei hwynebu yn dod mewn cyfnod anodd iawn. Mae ysgolion wedi ailagor, bydd prifysgolion yn agor o fewn tair wythnos, ac felly gwyddom ein bod yn debygol o weld mwy o bwysau ar y system, ac rwy'n cydnabod rhwystredigaeth fawr nid yn unig etholwyr yr Aelodau, ond ledled y wlad, os na all pobl gael profion yn ddi-drafferth fel yn yr haf. Felly, hoffwn eich sicrhau nad dim ond y cyswllt yr wyf yn ei gael ar y dydd Gwener a'r bore Sadwrn gyda Gweinidogion iechyd eraill yw hyn; mae'n bryder rheolaidd. Dyna pam yr ysgrifennais ar y cyd, gyda Gweinidog iechyd yr Alban, at Matt Hancock ddoe, i geisio deall mwy am yr heriau, fel y gallwn sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau ein hunain gan fod angen i ni ddarparu'r math o system brofi y mae pob un ohonom eisiau ei gweld ar gyfer ein holl gymunedau.
Diolch. Rydym ni wedi cael un siaradwr o bob un o'r pleidiau, ac a gaf i wneud apêl eto? Mae gennyf bedwar siaradwr ac mae'n fater i'r tri siaradwr cyn y siaradwr olaf yn llwyr i gadw at funud—gan gynnwys y Gweinidog gyda'i atebion—ac yna caiff y pedwerydd person ei alw ac, os na ellir galw'r pedwerydd person, yna mae'n ddrwg gennyf; bydd rhaid i'r pedwerydd person drafod hynny gyda'r rheini ohonoch chi a oedd o'i flaen. Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw, ac rwyf wedi'i ddarllen gyda diddordeb mawr. Un rhan allweddol o sicrhau bod ein hysbytai'n gallu ymdopi â'r galw drwy aeafau arferol, heb sôn am yr un sy'n dod, yw'r gallu i ryddhau cleifion mewn modd diogel ac amserol er mwyn osgoi llenwi gwelyau yn ddiangen. Gwn fod cyngor Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi gweithio'n agos gyda chronfa gofal integredig Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu mentrau arloesol yn y gymuned, sydd wedi helpu llawer iawn o gleifion i adael yr ysbyty yn ddiogel ac yn amserol, gan ryddhau'r gwelyau hynny i'r rheini sydd eu hangen fwyaf. Felly, croesawaf y ffaith ichi gyhoeddi estyniad o 12 mis i'r gronfa gofal integredig ar 24 Awst. Mae'n amlwg yn un o golofnau canolog ein hymateb i bwysau'r gaeaf, felly pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd yn gwbl ymwybodol o fanteision y gronfa gofal integredig a bod ganddynt yr adnoddau i fanteisio i'r eithaf ar bosibiliadau'r gronfa y gaeaf nesaf?
Diolch. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig iawn, oherwydd mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn achosi drwg gwirioneddol yn ein system. Mae pobl nad oes angen iddynt fod yn yr ysbyty bron bob tro yn dioddef. Os ydych chi'n methu symud ac mewn gwely, yn hytrach na bod ar eich traed, mae hynny'n her ac yn broblem i'r person hwnnw. Mae llawer o'r bobl yr ydym yn sôn amdanynt yn agored i niwed ac, yn arbennig, pobl hŷn sydd yn yr ysbyty, ac nid dyma'r lle iawn iddyn nhw fod. Yn ogystal â'r gronfa gofal integredig, y lobïodd awdurdodau lleol a byrddau partneriaeth rhanbarthol i gyd am ei pharhad, oherwydd eu bod yn cydnabod y gwerth y mae wedi'i ddarparu, mae gennym ni hefyd her ddwbl sef sicrhau nad ydym yn gweld gwerth hynny'n unig, ond ein bod yn deall sut y mae hynny'n cael ei ledaenu i awdurdodau eraill hefyd. Ac mae'r cyd-ddysgu bwriadol hynny yn rhywbeth na allwn ni golli golwg arno drwy'r pandemig COVID. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys rhywfaint o'r gwaith yr ydym ni wedi'i ariannu gyda'r gronfa drawsnewid a oedd yn cyd-fynd â 'Cymru Iachach'. Bydd yr Aelod yn cofio inni, yn Ynysybwl, pan lansiwyd hynny, ystyried y gwaith yr oedd y bwrdd iechyd wedi'i wneud yn llwyddiannus gyda'r cyngor i helpu pobl i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain, eu cefnogi yno—roedd hynny o fudd i'r unigolion hynny ac yn fudd i'r gwasanaeth iechyd a'r cyngor o ran cael eu gofal a'u triniaeth barhaus mewn lle priodol. Felly, rwy'n hapus iawn i barhau i ddadlau dros gydweithio rhwng iechyd a llywodraeth leol; mae o fudd i'r dinesydd ac mae o fudd i'r holl wasanaeth.
Gweinidog, yn gyntaf hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn ichi am y gwaith a wnaethoch chi ac arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar pan gawsom ein siomi gan Lywodraeth y DU o ran y capasiti profi. Nid wyf yn credu y bydd pobl yn sylweddoli, yn ôl a ddeallaf, fod y ddau ohonoch wedi gweithio fwy neu lai ddydd a nos, er mwyn ceisio lleddfu a chynyddu'r capasiti hwnnw, a chredaf fod y rhai a oedd wedyn yn gallu cael eu profi yn gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn. Ond a gaf i ofyn ynghylch llawdriniaeth ddewisol, cluniau a phengliniau? Gan fod y pethau hyn yn effeithio ar fywydau pobl yn sylweddol iawn, a chredaf ein bod i gyd yn deall yr effaith y mae COVID wedi'i chael ar y capasiti o fewn ein hasedau iechyd, a tybed i ba raddau y gallwn ni mewn gwirionedd hysbysu bobl, egluro iddyn nhw beth yw'r sefyllfa, a rhoi rhyw syniad o'r hyn sy'n digwydd, gyda'r bwriad, mae'n debyg, o gael amserlen i geisio adfer a chynyddu faint o lawdriniaeth ddewisol a all ddigwydd mewn gwirionedd. Mae pobl yn rhesymol, mae pobl yn deall, ac weithiau'r bobl fwyaf rhesymol yw'r rhai sy'n dioddef yn dawel, a chredaf fod gennym ni rwymedigaeth i fod o leiaf mor dryloyw â phosibl ynghylch yr heriau a wynebwn.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt hollol deg, ac mae eraill wedi cyfeirio ato hefyd mewn cwestiynau cynharach, ynghylch gofal dewisol a gwneud cymaint ag y gallwn ei wneud, a sut yr ydym yn nodi hynny'n dryloyw. Byddwch yn gweld cynlluniau, pan fyddwn yn cyhoeddi'r fframwaith gweithredol a chynlluniau chwarter 3 a chwarter 4 y disgwyliaf iddynt ddod i law er mwyn i ni allu eu cyhoeddi drwy fis Hydref, ar gyfer sut yr ydym eisiau cynnal gweithgarwch dewisol, y math o weithgarwch dewisol y byddwn yn gallu ei wneud, ac yna byrddau iechyd yn gweithio'n dryloyw gyda'u staff a'r cleifion y maent yn eu gwasanaethu i geisio egluro sut y maent yn gweithio drwy hynny. Ond, fel y dywedais, mae'n bwysig cydnabod nad wyf yn credu ein bod yn mynd i allu ymdopi â'r galw. Mewn cyfnod arferol, byddem yn gweld sefyllfa wahanol. Ac, mewn gwirionedd, drwy dair, pedair blynedd gyntaf y tymor hwn, fe wnaethom ni gamau sylweddol a pherthnasol ymlaen bob blwyddyn o ran yr amser yr oedd pobl yn aros, wrth wneud mwy o weithgarwch dewisol a thrawsnewid hynny. Rydym yn mynd i gamu'n ôl yn sylweddol oherwydd y ffordd y mae'r pandemig wedi torri ar draws nid yn unig cyfnod pryd na ddigwyddodd gweithgarwch dewisol, ond y ffordd y mae ein gwasanaeth yn gweithredu.
Ac, yn olaf, i ddweud diolch am gydnabod y gwaith a wnaethpwyd, nid yn unig gennyf fi fy hun, ond Andrew Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf, sydd, rwy'n credu, wedi creu argraff fawr iawn drwy'r pandemig, ac wrth ymdrin â'r sefyllfa benodol hon dros y penwythnos, ond, yn enwedig, y tîm yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cwm Taf Morgannwg a gwasanaeth ambiwlans Cymru, a oedd, ers yr her yr oeddem yn gwybod amdani'n hwyr nos Wener, erbyn 10 o'r gloch y diwrnod canlynol ag ateb Cymreig ar waith i sicrhau bod profion yn cael eu diogelu. Roedd yn golygu gweithio'n hwyr yn y nos a thrwy ddydd Sadwrn—nid bob amser yn boblogaidd ymhlith teuluoedd, fel y gallaf dystio fy hun—ond roedd yn golygu bod gan y cyhoedd wasanaeth y gallent ddibynnu arno y diwrnod canlynol.
Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad, a hoffwn ddiolch ar goedd i'r holl weithwyr cymdeithasol iechyd a gofal hynny sydd wedi gweithio y tu hwnt i bob disgwyl yn y chwe mis diwethaf, ac a fydd yn gweithio y tu hwnt i bob disgwyl yn y chwe mis nesaf hefyd. Cytunaf â'm cyd-Aelod Alun Davies o Flaenau Gwent o ran profi, ond rydych wedi ateb hynny, felly ni fyddaf yn gwthio'r agenda honno ar hyn o bryd.
Ond fe sonioch chi gynnau am y gwasanaeth ambiwlans, ac un o'r materion rwy'n pryderu yn ei gylch, ac rwy'n cael negeseuon gan fy etholwyr, yw ei fod bellach yn wynebu mwy o bwysau unwaith eto, ac rydym yn gweld cyfnodau aros o bum awr, chwe awr i ambiwlansys gyrraedd lle mae'r angen. Mae dweud wrth rywun sydd wedi cwympo, person hŷn sydd wedi cwympo ar lwybr yn yr haf, 'Peidiwch â'i symud'—ar ddiwrnod braf fel hwn, gallai hynny fod yn dderbyniol; ond yn y gaeaf, nid yw hynny'n dderbyniol. Mae angen inni fynd i'r afael â'r mater o ran y gwasanaethau ambiwlans brys a rhyddhau pobl. Rwyf wedi gweld ambiwlansys yn aros yn Nhreforys, unwaith eto, am oriau. A wnewch chi edrych ar hyn i sicrhau bod gan y gwasanaeth ambiwlans ddigon o adnoddau i allu ymdrin â'r achosion brys hyn, er mwyn sicrhau nad oes rhaid i bobl aros am gyfnodau hir fel hyn i gael gofal? A, pwynt arall, rydym ni hefyd wedi holi ynghylch mater ymwelwyr iechyd a diogelu plant; nid yw rhai ymwelwyr iechyd, yn ystod pandemig y coronafeirws, wedi gallu sicrhau bod y plant yn cael eu diogelu. Mae hwnnw'n gwestiwn difrifol iawn y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yn ystod misoedd nesaf y gaeaf hefyd. Rwy'n ymwybodol o'r amser, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Gweinidog.
Diolch. O ran profi, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud. A bod yn deg, yn ogystal ag yn y Siambr, mae nifer o Aelodau wedi cysylltu â mi'n uniongyrchol, yn rhinwedd eu swydd o gynrychioli eu hetholaethau a'u rhanbarthau, ynglŷn â'r mater.
O ran amseroedd ymateb ambiwlansys Cymru, rydym yn gweld gweithgarwch mwy arferol yn dychwelyd, yn ogystal â'r ôl-groniad o weithgarwch a oedd yn cronni mewn argyfwng, lle byddai pobl fel arall wedi galw a cheisio cymorth, boed hynny o'r gwasanaeth y tu allan i oriau neu'r gwasanaeth ambiwlans, ac maent bellach yn dychwelyd mewn niferoedd llawer mwy, gan ddod â llawer iawn o weithgarwch. Mae'n rhoi pwysau ar y gwasanaeth wrth i ni hefyd, mewn rhai ardaloedd, weld cynnydd mewn achosion o COVID. Felly, mae'n gyfnod anghyfforddus iawn. Felly, unwaith eto, lle nad oes angen ambiwlans brys ar bobl, dylent chwilio am ddewisiadau eraill.
Ond, byddwn hefyd yn ailadrodd, rwy'n credu, yr angen i drawsnewid gofal brys. Rwyf wedi gwneud cyhoeddiadau'n ddiweddar, a bydd mwy i ddod yn yr wythnos neu ddwy nesaf, am yr arian yr ydym yn ei roi i drawsnewid gofal brys, yr adnoddau sy'n dod gydag ef, a hefyd rhai o'r dulliau ffonio yn gyntaf a brysbennu sy'n cael eu defnyddio nid yn unig yng Nghaerdydd a'r Fro, ond hefyd yn Aneurin Bevan, sy'n bwriadu arbrofi gyda rhai o'r dulliau hynny hefyd, i ddarparu gwasanaeth priodol i bobl i sicrhau bod pobl yn cael eu hanghenion gofal wedi eu diwallu yn y man a'r modd priodol.
Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am ymwelwyr iechyd hefyd. Un o'n pryderon yw bod heriau ynghylch staff yn mynd i nifer o wahanol dai pan fydd COVID yn cael ei drosglwyddo'n gymunedol, ond hefyd y teuluoedd hynny nad ydynt eisiau gweld rhywun sydd efallai wedi bod mewn tri neu bedwar tŷ gwahanol yr un diwrnod. Felly, mae rhai heriau yma.
Hefyd, i mi, mae'n ategu pwysigrwydd cadw ysgolion ar agor. Pan fydd gennych chi gymuned gyfan o blant yn mynd i'r lle hwnnw, mae'n amgylchedd amddiffynnol, ac rydym yn gallu deall a chefnogi plant a'u teuluoedd mewn modd nad ydym wedi gallu ei wneud yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud llawn. Felly, rwy'n cydnabod y mater y mae'r Aelod yn ei godi, ac rwy'n siŵr y byddaf yn parhau â'r sgyrsiau yr wyf wedi'u cael nid yn unig gydag ef, ond hefyd gyda'm Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog addysg hefyd.
Diolch. Yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i droi'n syth at ap COVID-19 y GIG? A gaf i ofyn yn gyntaf oll: a yw'n debyg i'r system sy'n cael ei defnyddio yn yr Alban, lle mae'r codau QR, er enghraifft, ar bob bwrdd a phob cownter a phob bar ym mhob bwyty? Mae'n hawdd iawn, yn gyfleus iawn i'w ddefnyddio, a rhaid imi ddweud bod pawb a welais pan oeddwn yno'n ddiweddar yn ei ddefnyddio.
Pa gyfran o'r boblogaeth sydd angen diweddaru hwn a'i ddefnyddio er mwyn iddo fod yn effeithiol, a sut y gallwch chi hyrwyddo'r defnydd hwnnw, yn enwedig ymhlith yr ifanc a'r rhai sy'n amheus iawn o ddata? Ac, a allwch chi gadarnhau bod hyn yn ychwanegol at—nid yn disodli—y profi, olrhain a diogelu lleol traddodiadol sydd wedi ennill ei blwyf yng Nghymru? Yn olaf, beth yw eich neges syml iawn i bobl Cymru ynghylch pam y dylent ddefnyddio'r ap hwn? Os na allwch chi ateb y rhain i gyd yn fanwl nawr, ysgrifennwch at yr Aelodau a byddwn yn ei drosglwyddo i'n hetholwyr. Diolch, Gweinidog.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Rwy'n fodlon cadarnhau bod ap COVID y GIG bellach yn cael ei weithredu'n lleol, nid yn ganolog. Dyna oedd un o'r pryderon ynghylch preifatrwydd, felly dylai fod wedi ei ddatrys i raddau helaeth.
Felly, dyma'r ail rownd o redeg yr ap. Er bod gan yr Alban a Gogledd Iwerddon ap agosrwydd sy'n dweud wrthych pa mor agos ydych chi wedi bod at bobl eraill, mae'r ap y mae Cymru a Lloegr yn mynd i'w lansio a'i ddefnyddio gyda'i gilydd mewn gwirionedd yn rhoi ychydig mwy o ymarferoldeb na hynny. Mewn gwirionedd, roedd yn gwneud mwy o synnwyr, os oedd yr ap yn gweithio yn Lloegr, i ni gael yr un system, oherwydd y trosglwyddiadau rhwng Cymru a Lloegr a'r ffin hydraidd iawn, felly mae manteision ymarferol gwirioneddol i gael system debyg hefyd.
Yn ddiddorol, yn ogystal â bod yn ap agosrwydd, mae ganddo swyddogaeth ddyddiadur hefyd. Felly, os ydych wedi lawrlwytho'r ap ac y buoch yn ei ddefnyddio i gofrestru mewn lleoedd, nid oes angen i chi gofio beth wnaethoch chi oherwydd bydd swyddogaeth ar eich ffôn yn caniatáu i chi wneud hynny. Felly, mae manteision gwirioneddol ac rydym wedi annog busnesau i lawrlwytho darllenwyr QR i sicrhau bod pobl yn gallu cofrestru wrth gyrraedd a gadael wrth iddynt fynd o amgylch lleoliadau a gwahanol fusnesau.
Mae'n arbennig o bwysig y caiff ei lansio ar 24 Medi—dyna'r cynllun—oherwydd rydym am sefydlu hyn, yn ddelfrydol, cyn i fyfyrwyr prifysgol ddychwelyd. Maent yn un o'r grwpiau targed allweddol sy'n debygol o ddefnyddio a lawrlwytho'r ap, ac yn rhywle lle, mewn gwirionedd, mae heriau ynglŷn â phobl yn symud—. Bydd yn llawer haws gwneud hynny, yn enwedig pan fydd pobl yn symud i amgylchedd a allai fod yn newydd.
O ran eich cwestiwn ynghylch a yw hwn yn ychwanegiad, mae'n ychwanegiad. Felly, mae olrhain cyswllt yn dal yn effeithiol yng Nghymru—yn effeithiol iawn. Mewn 98 y cant o'n hachosion mynegai, cysylltir yn llwyddiannus â phobl ag achos COVID newydd. Yn gyffredinol, ers 21 Mehefin, cysylltwyd â 94 y cant o'u cysylltiadau agos hefyd. Felly, cyfradd lwyddiant uchel iawn, a phob clod i'n staff. Felly, mae'n ychwanegiad at hynny, ond bydd yn ychwanegiad defnyddiol, a byddwn yn annog pobl i lawrlwytho'r ap. Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i Aelodau a'r cyhoedd wrth inni symud ymlaen i'r cam o weithredu hwn o'r diwedd ledled Cymru a Lloegr.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Bydd seibiant byr nawr, dim ond er mwyn i bobl allu ail-lanhau'r seddi ar gyfer y trosglwyddiad. Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:05.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:11, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Yr eitem nesaf o fusnes yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar dai, tlodi a chymunedau a dwi'n galw ar y Gweinidog hynny i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i gael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd. Fel y gwelsom ni yn ddiweddar, mae'n dal i achosi heriau mawr i bob un ohonom ni ac yn arbennig i'n hawdurdodau lleol.
Hoffwn ddiolch iddyn nhw ac i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sydd wedi gweithio mor galed ac wedi bod mor ymatebol wrth dorchi llewys i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Rydym ni wedi gweld ymgysylltu a chyd-gynhyrchu fel na welsom ni erioed o'r blaen; y llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yn gweithio law yn llaw i gefnogi ein dinasyddion a'n cymunedau, yn enwedig y rhai a oedd fwyaf agored i niwed—dull unigryw Gymreig lle gallai arweinwyr llywodraeth leol fynd at y Gweinidogion ynghylch y materion a oedd o bwys gwirioneddol, pan roedd hynny'n bwysig. Rydym ni wedi ymrwymo cyllid sylweddol i lywodraeth leol. Mae cronfa galedi llywodraeth leol yn darparu bron iawn £0.5 biliwn i gefnogi awdurdodau i ymateb i effeithiau'r pandemig. Hoffwn ddiolch i CLlLC, y cyngor partneriaeth a Chymdeithas Trysoryddion Cymru am eu gwaith parhaus gyda ni i alluogi gwasanaethau i barhau i redeg, addasu a diwallu anghenion poblogaethau lleol.
Ar gyfer y dyfodol, bwriadwn roi ein system a'n strwythurau partneriaeth gymdeithasol sefydledig ar sail statudol, cryfhau trefniadau ymhellach a chefnogi trafodaethau adeiladol gyda'n partneriaid cymdeithasol ar gyfer y dyfodol y mae ar Gymru ei eisiau ar ôl COVID-19. Un o flaenoriaethau'r dyfodol hwnnw yw atal digartrefedd a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math. Ar ddechrau'r pandemig, aethom ati ar unwaith i amddiffyn y rhai a oedd yn ddigartref, gan ddarparu £10 miliwn o gyllid ychwanegol, i sicrhau na adawyd neb heb lety. Rhoddwyd cymorth i dros 2,200 o bobl gael llety dros dro neu mewn argyfwng—cyflawniad enfawr. Ond mae heriau o'n blaenau. Rwyf wedi'i gwneud hi'n gwbl glir nad wyf eisiau gweld neb yn cael ei orfodi'n ôl ar y strydoedd.
I'r perwyl hwn, ym mis Mai, cyhoeddais gam nesaf ein hymateb i ddigartrefedd. Cyflwynodd pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru geisiadau, yn nodi sut y byddant yn sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i'r strydoedd, gan ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu, i drawsnewid y llety a gynigir ledled Cymru. Roedd gor-alw sylweddol am gymorth o'r gronfa arian cyfalaf wreiddiol yn adlewyrchu maint yr uchelgais i sicrhau newid hirdymor, cynaliadwy a sylfaenol i wasanaethau digartrefedd yng Nghymru. Dangosodd yn eithaf amlwg hefyd nad oedd y gronfa gychwynnol o £10.5 miliwn o gyfalaf yn cyd-fynd â'r uchelgais yr ydym ni i gyd yn ei rhannu. Felly, cynyddais yn sylweddol yr arian cyfalaf cyffredinol sydd ar gael i £50 miliwn, gan ddangos ein hymrwymiad i wneud newid sylweddol a gwirioneddol drawsffurfiol o ran cyflawni ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rydym ni wedi dyrannu cyllid dros dro i 70 o brosiectau cyfalaf, gan gefnogi pobl i gael llety sefydlog neu drawsnewid gwasanaethau ar gyfer y tymor hir.
Eto o ran tai, rwy'n croesawu atal troi pobl allan tan 20 Medi, ac rwy'n hapus iawn fod y llys wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod effeithiau'r pandemig yn cael eu hystyried. Gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael imi dan Ddeddf Coronafeirws 2020, rwyf wedi gweithredu i roi amddiffyniad ychwanegol i bobl sy'n rhentu drwy gynyddu cyfnodau rhybudd ar gyfer troi allan i chwe mis, ac eithrio o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau tebyg ers hynny. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i amddiffyn rhentwyr gan liniaru effeithiau ar landlordiaid ar yr un pryd. Felly, bwriadaf wneud rheoliadau sy'n ymestyn yr amddiffyniadau presennol tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Ar yr un pryd, ac i gydnabod yr angen i fynd i'r afael ag effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gymunedau ac ymddygiad negyddol arall mewn modd amserol, bwriadaf leihau'r cyfnodau rhybudd lle mae sail i feddiannu eiddo oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a cham-drin domestig i'r sefyllfa oedd yn bodoli cyn COVID. Lle mae ôl-ddyledion rhent wedi cronni oherwydd COVID-19, bydd tenantiaid y sector rhentu preifat yn gallu gwneud cais am fenthyciad drwy'r cynllun benthyciadau arbed tenantiaeth cyn bo hir pan fydd yn agor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach y mis hwn. Rydym ni hefyd wedi darparu £1.4 miliwn ychwanegol i hybu gwasanaethau sy'n helpu pobl yng Nghymru i reoli dyledion problemus a gwella incwm eu haelwydydd.
Gan edrych y tu hwnt i'r pandemig, rydym yn parhau â'n Bil i ddiwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i gynyddu sicrwydd deiliadaeth. Mae'r Bil yn ymestyn y cyfnod rhybudd dim bai o ddau i chwe mis, a bydd landlordiaid yn cael eu hatal rhag cyflwyno hysbysiad dim bai tan o leiaf chwe mis o'r dyddiad meddiannaeth. Mae hyn yn golygu y bydd gan y rhai sy'n rhentu eu cartrefi o leiaf 12 mis o sicrwydd deiliadaeth o ddechrau eu contract, sy'n golygu y bydd sicrwydd deiliadaeth yng Nghymru yn fwy nag mewn rhannau eraill o'r DU.
Mae canlyniadau'r pandemig yn bellgyrhaeddol, ac, yn anffodus, bydd effaith economaidd COVID-19 yn golygu cynnydd sylweddol mewn tlodi. Cyn argyfwng COVID-19, comisiynais adolygiad tlodi plant, a oedd yn ceisio archwilio beth arall y gellid ei wneud i wella amgylchiadau i blant a phobl ifanc. Mae'r pandemig wedi cael effeithiau mor bellgyrhaeddol ar fywydau pobl yng Nghymru a'n heconomi, credwn nad yw canfyddiadau'r adolygiad hwnnw bellach yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol yn llawn. Mae camau ymarferol i helpu i liniaru effaith yr argyfwng ar deuluoedd sy'n byw mewn tlodi yn fater brys ac angenrheidiol ar hyn o bryd. Rydym yn canolbwyntio ar weithredu i sicrhau'r incwm mwyaf posibl a rhoi cymorth i deuluoedd i feithrin cydnerthedd ariannol. Rydym yn cydweithio â'n rhanddeiliaid i ddatblygu'r gwaith hwn dros y misoedd nesaf.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod rhai o'r buddion y mae awdurdodau lleol yn eu cynnig megis prydau ysgol am ddim a gostyngiad yn y dreth gyngor yn fwy hygyrch, yn ogystal â helpu i wneud y weinyddiaeth yn symlach ac yn llai dwys o ran adnoddau i awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn datblygu dull 'dim ffordd anghywir' drwy system gymorth fwy integredig, gan gyfyngu ar sawl gwaith y mae'n rhaid i deuluoedd ac unigolion gysylltu a sawl gwaith y mae'n rhaid iddyn nhw ddweud eu stori er mwyn cael cymorth. A byddwn yn sicrhau bod gan y trydydd sector a gweithwyr rheng flaen eraill yr hyfforddiant, yr offer a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gefnogi unigolion a theuluoedd i gynyddu eu hincwm i'r eithaf.
Hoffwn orffen, Llywydd, drwy sôn am rai meysydd eraill a oedd yn sail i'n hymateb i'r pandemig ac a fydd yn parhau i fod yn flaenoriaethau wrth inni symud ymlaen. Diolch i awdurdodau lleol yn cynnal gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym ni wedi gallu parhau i gyflawni amcanion ailgylchu a chamau gweithredu ar ddatgarboneiddio. Rydym yn parhau i gefnogi cymunedau ac eisiau adfywio canol trefi ac ehangu ar y twf mewn caffis trwsio a siopau diwastraff. I'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi dyfarnu cyllid i Gaffi Trwsio Cymru ac wedi darparu cyllid ychwanegol i FareShare Cymru ehangu eu darpariaeth ailddosbarthu bwyd dros ben. Ac yn olaf, rydym ni wedi ehangu'r gronfa economi gylchol fel y gall gefnogi'r ymateb i'r amgylchiadau ar ôl COVID, a chyfrannu at adferiad gwyrdd. Mae hwn yn gyfnod anodd iawn, ond rydym ni wedi gweithio'n dda gyda'n gilydd. Bydd y cydweithio hwn yn darparu gwersi clir a llawer iawn o arferion da y gallwn ni ac y dylem ni eu mabwysiadu wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio at bobl a gafodd gymorth i gael llety dros dro neu mewn argyfwng. Sut ydych chi felly'n ymateb i'r adroddiad a ryddhawyd gan Archwilio Cymru ar 23 Gorffennaf ynglŷn ag osgoi sefyllfa lle mae pobl yn dychwelyd i gysgu ar y stryd ar ôl y pandemig, a ganfu fod hyd at £209 miliwn yn cael ei wastraffu'n flynyddol gan y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ymateb i gysgu ar y stryd, ond nid yn ei ddatrys, ac a oedd yn cyfeirio at enghreifftiau o gylch dieflig i ddefnyddwyr gwasanaeth a gynorthwyir oddi ar y strydoedd i mewn i lety dros dro ond heb y cymorth angenrheidiol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol eu digartrefedd ac a oedd yn aml iawn yn dychwelyd i'r sefyllfa yr oedden nhw ynddi yn wreiddiol.
Rydych yn cyfeirio at y cynnydd yn y cyfnod rhybudd ar gyfer troi allan i chwe mis, ac eithrio oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. A ydych chi felly—ac rydych chi wedi mynd i'r afael â hyn yn rhannol—yn cydnabod yr angen i amddiffyn tenantiaid a landlordiaid, yn enwedig yng ngoleuni dibyniaeth gynyddol pobl ar y sector rhentu preifat ar gyfer tai a'r effaith niweidiol y mae'r pandemig wedi'i chael ar y sector? Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yn gosod un neu ddau eiddo. Mae llawer yn dibynnu ar yr incwm hwnnw ar gyfer eu costau byw beunyddiol, er enghraifft landlord a ddywedodd wrthyf, 'Y tŷ yr wyf fi'n berchen arno yw fy unig eiddo. Rwy'n dibynnu ar y rhent fel fy unig incwm ar gyfer costau byw wrth i mi nesáu at oedran pensiwn y wladwriaeth. Fe'i rhentiais ar denantiaeth chwe mis. Mae'r cyfnod hwnnw bellach ar ben ac mae'r tenantiaid bedwar mis ar ôl ei hôl hi ar hyn o bryd, wedi rhoi'r gorau i gyfathrebu â mi neu fy asiantau, ac wedi fy ngadael gyda'r sefyllfa enbyd o beidio â chael incwm ond â biliau i'w talu o hyd. Bydd hyn yn parhau am gyfnod hir nawr. Rwy'n 63 oed, nid oes gennyf bensiwn, dim gwaith, rwy'n byw mewn cwch cul ar hyn o bryd, ac mae fy sefyllfa ariannol yn mynd yn annioddefol, ac rwy'n ofni am fy iechyd meddwl.'
Sut ydych chi'n ymateb i awgrymiadau, felly, gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl nid yn unig i fabwysiadu cynllun benthyciadau tenantiaid cost isel neu ddi-log ar gyfer ôl-ddyledion sy'n gysylltiedig â COVID-19, y cyfeirioch chi ato, ond i dalu'r landlord—neu a all fod—a mecanwaith i landlordiaid gael grantiau pryd nad yw rhentwyr yn fodlon cyfathrebu neu wneud cais eu hunain? Mae hyn yn arbennig o berthnasol i landlordiaid pryd dechreuodd achosion meddiant cyn yr arhosiad ac i'r rhai lle mae ôl-ddyledion wedi cronni nad ydynt yn gysylltiedig â COVID.
Sut ydych chi'n ymateb i'r alwad gan Gymdeithas Seicolegol Prydain i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddatblygu strategaeth wrthdlodi drawsadrannol gynhwysfawr sy'n rhoi seicoleg wrth wraidd ei dull gweithredu a theuluoedd a chymunedau wrth wraidd ei chynlluniau o ran adfer o'r coronaferiws?
Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, yr elusen Gymreig sy'n rhedeg y rhaglen Buddsoddi Lleol a ariennir gan y loteri, menter datblygu cymunedol fwyaf Cymru sy'n seiliedig ar asedau, bod diwylliant sector cyhoeddus o weithredu, nid cydweithredu, wedi erydu gallu ac ymddiriedaeth cymunedau, ac wedi lleihau seilwaith cymdeithasol, ac y gall gwella'r gefnogaeth i bobl leol wneud y pethau sy'n bwysig iddynt helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi, datblygu sgiliau lleol a hybu iechyd a lles?
Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Hafod, y darparwr tai, gofal a chymorth di-elw bod angen i fynd i'r afael ag achosion, nid symptomau, ac, felly, canolbwyntio ar gryfderau cymunedol a dinasyddion i helpu pobl i gymryd perchnogaeth i gyflawni eu huchelgeisiau personol a chyfunol?
Sut ydych chi'n ymateb i alwad Sefydliad Nationwide am ymrwymiad i gefnogi cynlluniau tai yng Nghymru y mae cymunedau yn arwain arnynt fel rhan annatod o ddarparu tai fforddiadwy?
Sut ydych chi'n ymateb i alwadau Tai Pawb am hawl ddynol i dai digonol yng Nghymru, tai hygyrch, i sicrhau bod pobl anabl yn gallu byw'n annibynnol gyda hyder, a llety i ffoaduriaid? Mae ffoaduriaid yng Nghymru yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran dod o hyd i lety a chymorth priodol unwaith y rhoddir caniatâd i aros, gan lesteirio eu gallu i integreiddio ac osgoi tlodi.
Sut ydych chi'n ymateb i alwad Sefydliad Bevan i Lywodraeth Cymru annog awdurdodau lleol i sefydlu un man canolog i wneud cais am brydau ysgol am ddim, ar gyfer grant datblygu disgyblion a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, gan ei gwneud hi'n haws i deuluoedd mewn tlodi elwa ar y rhain?
A sut, yn olaf, ydych chi'n ymateb i alwad NEA Cymru am strategaeth tlodi tanwydd newydd ddisgwyliedig Llywodraeth Cymru i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, gan ddechrau gyda'r gwaethaf yn gyntaf, gwella effeithlonrwydd ynni cartref, helpu i leihau biliau ynni a hybu incwm aelwydydd? Rwy'n gwybod bod a wnelo hyn i gyd ag amrywiol addrannau, ond mae'n allweddol i bob un ohonom ni. Diolch.
Diolch, Mark, am y gyfres yna o gwestiynau a sylwadau.
Gan ddechrau gydag adroddiad Archwilio Cymru, cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ychydig cyn y pandemig, ac fel y dywedais pan oeddwn yn sôn am y strategaeth wrthdlodi yn fy natganiad, mae bywyd wedi newid ers hynny. Mae fel rhyw drobwynt anrhagweladwy, onid yw? Newidiodd bywyd y tu hwnt i bob argoel, ac mae'r hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yn ystod y pandemig wedi bod yn anhygoel. Hoffwn fanteisio ar y cyfle, unwaith eto, i dalu teyrnged i'r nifer enfawr o bobl yn y sector awdurdodau lleol, y trydydd sector, y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y landlordiaid preifat a phawb arall sydd wedi dod at ei gilydd i'w gwneud hi'n bosib inni sicrhau llety dros dro neu mewn argyfwng i 2,200 o bobl a sicrhau y gallant gael darpariaeth a fyddai'n caniatáu iddyn nhw hunanynysu a chael y cyfleusterau hylendid cywir ac ati.
Yr hyn y mae hynny wedi ein galluogi ni i'w wneud hefyd yw ei fod wedi ein galluogi i fynd ati yn y modd a ddywedais erioed a ddylai fod yn ddull gwasanaeth cyhoeddus llawn o ymdrin â thai, pryd yr ydym yn rhoi cymorth priodol i bobl, oherwydd nid yw ac ni fu erioed ynglŷn â phedair wal a tho. Mae wastad wedi ymwneud â sicrhau y gall rhywun gynnal ei gartref, bod ganddynt y cymorth priodol, eu bod mewn cymunedau cefnogol, bod ganddynt gymorth iechyd meddwl da neu gymorth camddefnyddio sylweddau neu gymorth os yw perthynas yn chwalu, neu beth bynnag ydyw—cymorth cam-drin domestig—y mae arnynt ei angen er mwyn gallu cynnal y denantiaeth honno.
Hefyd, roeddwn yn bersonol yn gadarn iawn, iawn, iawn o ran darparwyr dewisiadau tai awdurdodau lleol, gan ddweud, 'Gwnewch y peth iawn. Rhowch gymorth i'r person sydd o'ch blaen. Peidiwch â phoeni am o ble maen nhw'n dod ac fe drefnwn ni y glo mân wedyn.' Ymdrechodd bobl i wneud hynny mewn gwirionedd. Rwy'n falch iawn ohonyn nhw, ac rwy'n falch iawn ohonom ni. Mae Cymru'n olau disglair o ran ei darpariaeth tai dros y pandemig hwn, a dylem i gyd fod yn falch iawn o hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn i'n partneriaid am wneud hynny.
Yn anffodus, roedd adroddiad Archwilio Cymru yn adroddiad oedd yn bwrw golwg yn ôl i raddau helaeth iawn. Rwyf wedi cael cyfarfodydd da gyda'r archwilydd cyffredinol am yr hyn y gallwn ei wneud i edrych ar y ddarpariaeth yn y dyfodol a sut y gallwn ni ddysgu o'r gwersi ar y cyd a'r ffordd wahanol yr aethom ni ati yn ystod y pandemig. Felly, rwy'n hapus iawn y byddant yn gweithio'n dda gyda ni o ran bwrw ymlaen â'r gwersi hynny a ddysgwyd.
O ran landlordiaid a thenantiaid, mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n cael trafferth yn y sector rhentu preifat yn denantiaid sydd, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, wedi gweld eu hincwm yn lleihau oherwydd COVID, a nawr ni allan nhw dalu eu rhent mwyach, pan fyddant bob amser wedi gallu gwneud hynny pryd bynnag y byddant mewn unrhyw anhawster. Felly, fe wnaethom ni gyhoeddi cyfres o bethau i wneud hynny—rwyf fi a Jane Hutt gyda'n gilydd wedi cyhoeddi cyfres o ddarpariaethau ynghylch cyngor ar ddyledion a chwnsela dyledion a gwasanaethau cymorth a chyngor ledled Cymru i helpu pobl sydd yn y sefyllfa honno. Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi'r cynllun benthyciadau arbed tenantiaeth. Telir y benthyciadau arbed tenantiaeth, Mark, i'r landlord, felly mae'r tenant yn gofyn am y benthyciad, rydym ni wedi gallu ei roi ar log o 1 y cant drwy ein hundebau credyd—unwaith eto, rhywbeth y dylai Cymru fod yn haeddiannol falch ohono. Felly nid oes fawr ddim cost i'r tenant, gan ganiatáu iddo ledaenu'r gost o ad-dalu'r ôl-ddyledion dros bum mlynedd mewn ffordd fforddiadwy ochr yn ochr â chymorth a chefnogaeth. Ond fe'u telir i'r landlord fel bod y landlord yn cael yr incwm ar y rhent a bod y tenant yn cael sicrwydd o gadw ei gartref.
Y peth am landlordiaid y sector preifat wrth gwrs yw ei fod yn incwm iddynt, ond cartref rhywun yw'r tŷ. At hynny maen nhw'n cyfeirio wrth ddweud, 'rwy'n mynd adref', ac maent yn golygu cynnig busnes y person hwnnw, ond iddyn nhw mae'n gartref, a dyna'r peth pwysicaf—ein bod yn sicrhau y gallan nhw gynnal y cartref hwnnw, ac nad oes gennym ni lif o bobl sy'n cael eu rhoi mewn amgylchiadau ofnadwy lle nad ydynt yn gallu talu eu rhent, ac na allant godi o'r sefyllfa honno. Felly, ar y sail honno, galwaf ar y Llywodraeth Geidwadol unwaith eto i sicrhau bod y lwfans tai lleol yn aros ar o leiaf y marc o 30 y cant lle y mae ar hyn o bryd, eu bod yn ystyried ei roi yn ôl i'r marc o 50 y cant, sef lle y dylai fod—a phan gafodd ei lunio gyntaf gan Lywodraeth Lafur, dyna lle yr oedd—ac yn sicr nad ydyn nhw yn ei leihau'n ôl i'r lefelau a welsom ni cyn y pandemig pan oedd—a dywedais hyn mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn gyda chi, Mark, o'r blaen—yn is nag yng nghyfreithiau'r tlodion yn oes Elisabeth. Oherwydd mae hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod â chywilydd ohono. Felly, galwaf mewn gwirionedd ar y Llywodraeth i wneud hynny, a gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru yn ein cynorthwyo gyda'r alwad honno, oherwydd os caiff lwfans tai lleol pobl ei leihau, yna bydd gennym ni broblem fawr gyda'r sector rhentu preifat.
Bydd y landlord sydd yn y sefyllfa y sonioch chi amdani, gydag anawsterau â'i incwm ac ati, hefyd, wrth gwrs, yn gallu cael y cyngor ar ddyledion yr wyf newydd ei grybwyll, oherwydd mae hynny ar gael i holl ddinasyddion Cymru, a byddwn yn argymell hynny. Os ydych chi eisiau rhoi manylion imi, gallaf drosglwyddo hynny i chi.
Mae'r Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr wedi cyhoeddi y caiff achosion o feddiannaeth eu gohirio oherwydd fe allan nhw hefyd weld bod problem fawr gyda phobl na allant, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, dalu eu rhent mwyach, ac rwy'n hapus iawn i groesawu hynny, a sut mae'r llysoedd yn mynd ati i sicrhau, cyn y gall unrhyw un gyflwyno achos o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, rhaid iddyn nhw fynd drwy brotocol gyda'u tenant i sicrhau eu bod yn deall natur hynny, ac nad yw'n bosib gwneud trefniant hirdymor ar gyfer ad-dalu'r ôl-ddyledion hynny. Croesawaf hynny'n fawr. Mae'n cyd-fynd i raddau helaeth â'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati.
Yna, o ran y materion tlodi y sonioch chi amdanyn nhw, Mark, dim ond i ddweud mai dyna'n union yr oeddwn i yn ei ddweud yn fy natganiad—mai'r hyn y mae angen inni ei wneud yw adeiladu ar gryfder cymunedol, cynyddu incwm pobl i'r eithaf a sicrhau ein bod yn eu rhoi yn y sefyllfa orau bosib. Felly, ni allwn gytuno mwy â chi fod angen i ni weithio gyda'n cymunedau i sicrhau bod gan bobl ffordd symlach o allu cael y cyngor cywir. Cefais gyfarfod da iawn yn ddiweddar gyda Sefydliad Bevan lle bu inni gytuno i gydweithio ar gynllun gweithredu i allu cyflwyno hynny, ac edrychaf ymlaen at allu gwneud hynny'n fuan iawn.
Yna, o ran y strategaeth tlodi tanwydd, mae'n bleser gennyf ddweud, yn wahanol i'r dull gweithredu yn Lloegr, lle mae gennym ni un dull gweithredu cyffredinol, rydym ni wedi cyhoeddi'n ddiweddar y rhaglen ôl-osod orau, lle rydym ni'n gofyn i gyfres o landlordiaid ledled Cymru gyflwyno amrywiaeth o wahanol fathau o dai fel y gallwn ni weld sut orau y gellir ôl-osod deunydd ynysu yn y tai hynny i wneud yn siŵr eu bod wedi'u hynysu'n well. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. Nid yw'r hyn sy'n gweithio i dŷ teras Fictoraidd yn y Rhondda yn gweithio i dŷ wal ceudod a adeiladwyd yn y 1970au yn etholaeth Rebecca, er enghraifft. Maen nhw'n gynigion gwahanol iawn, ac nid yw'r syniad y byddai un dull yn gweithio i bob un ohonyn nhw yn gweithio. Felly, bydd ein rhaglen yn cyflwyno cyfres—yn y ffordd y gwnaeth ein rhaglen dai arloesol, bydd yn cyflwyno cyfres o atebion posib i hynny, ac yna byddwn yn gallu cyflwyno hynny fel rhan o'n menter tlodi tanwydd a'n menter Cartrefi Cynnes, a byddwn yn mynd i'r afael â hynny yn briodol. Ac, wrth wneud hynny, nid yn unig y byddwn yn lleihau tlodi tanwydd, ond byddwn wrth gwrs yn datgarboneiddio'r stoc dai yng Nghymru ac yn meithrin yma yn ein gwlad ein hun ddiwydiant o bobl fedrus a all wneud hynny ar draws ein sector tai. Diolch.
Diolch, Weinidog, am y datganiad, a dwi yn cydnabod y gwaith helaeth rydych chi a'ch tîm wedi ei wneud ar hyn dros y misoedd diwethaf. Rwy'n credu bod y pandemig wedi gwneud i nifer o bobl sylweddoli bod angen uwchraddio'r hawl i gartref fod yn fater o hawl ddynol a bod digartrefedd yn rhywbeth sy'n niweidio pawb o fewn cymdeithas. Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i geisio atal unrhyw un rhag dychwelyd i'r strydoedd, ond mae'ch datganiad yn cyfeirio at roi pobl mewn llety dros dro mewn rhai llefydd er mwyn cyflawni hyn, pan mae'n glir bod angen datrysiad tymor hir. Dwi'n gwybod eich bod chi eisiau cael datrysiad tymor hir i hyn, ond mae gen i rywfaint o bryder bod brys o ran symud rhai pobl oddi ar y strydoedd wedi arwain at ddefnyddio cyfleusterau amhriodol mewn rhai achosion. Er enghraifft, rwyf wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd o bobl, yn dilyn perthynas niweidiol, yn cael eu rhoi mewn llety brys gyda phobl oedd â phroblemau o ran cam-drin cyffuriau. Yn amlwg, doedd hynny ddim yn sefyllfa dda i neb, felly byddwn yn gofyn ichi edrych eto ar yr opsiynau sydd gan gynghorau er mwyn sicrhau bod llety priodol ar gael i bawb. Dwi yn gweld bod nifer o gynghorwyr wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hyn dros y misoedd diwethaf. Yn ogystal, buaswn i'n hoffi gweld llwybr i sicrhau bod llety brys ond yn cael ei ddefnyddio dros dro a bod gennym atebion tymor hir ar gyfer pobl sy'n canfod eu hunain yn ddigartref.
Nawr, i droi at y manylion o ran ehangu'r mesurau 'no evictions' sydd yn y datganiad, rŷn ni'n croesawu ehangu hyn, ond mae gen i bryder o ran y cynnig i leihau'r cyfnod hysbysu ar gyfer ymddygiad sydd yn wrthgymdeithasol a cham-drin domestig. A allwch chi roi sicrwydd inni, plis, mai'r flaenoriaeth yn yr achos hwn fydd gwneud yn siŵr bod pobl sy'n cael eu troi allan yn cael llety arall a'u bod nhw'n cael help gyda'r problemau sydd ganddyn nhw? Wrth gwrs, mae hyn yn fater cymhleth, dwi'n gweld hynna, ac mae nifer o asiantaethau yn mynd i fod yn ymwneud ag ef, ond dyma'r achosion mwyaf cymhleth sydd angen y mwyaf o gymorth hefyd.
Rwyf eisiau hefyd sicrwydd o ran y fenter arbed benthyciadau i denantiaid, os taw dyna'r cyfieithiad cywir. Dwi ddim yn siŵr y bydd cynyddu dyledion pobl sy'n debygol o ffeindio eu hunain mewn sefyllfa letchwith, efallai, yn ariannol, am flynyddoedd efallai, wir yn datrys y broblem. Onid yw'n annheg bod landlordiaid nawr yn cael bail-outs, mewn ffordd, gan y Llywodraeth, pan dyw llawer o sectorau ddim? Felly, hoffwn i wybod pa fesurau diogelwch sydd mewn lle i sicrhau nad ydy rhai landlordiaid yn cymryd mantais o'r fenter hon, dim ond i daflu tenantiaid mas unwaith mae'r cyfyngiadau yn cael eu codi.
I gloi, hoffwn nodi mater sydd ddim yn cael ei drin yma y buaswn i wedi hoffi ei weld yn y datganiad, sef y diffyg tai cymdeithasol a diffyg tai fforddiadwy. Ydyn, mae'r niferoedd craidd yn cynyddu, ond maen nhw'n disgyn yn fyr iawn o beth sydd ei angen. Yr eliffant yn yr ystafell, os dwi'n gallu dweud hynny yn Gymraeg, yw'r ffaith bod gennym system gynllunio sydd â sicrwydd o elw wedi ei adeiladu i mewn iddi. Hynny yw, gall ddatblygwyr ddefnyddio'r Arolygiaeth Gynllunio i atal awdurdodau lleol rhag cael eu siâr haeddiannol o dai fforddiadwy mewn datblygiadau. Nid yw eich Llywodraeth wedi mynd i'r afael â hyn. Felly, a allwch chi ddweud pryd y byddwch chi'n yn gwneud i ffwrdd gyda'r gallu sydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio i ganiatáu datblygiadau sydd heb gyfran ddigonol o dai fforddiadwy? Pryd fyddwch yn gwneud i ffwrdd gyda'r hawl iddo fe wneud hynny? Diolch.
Diolch, Delyth. Diolch yn fawr am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. O ran yr hawl ddynol i dai, rydym yn gweithio'n galed iawn ochr yn ochr â nifer o sefydliadau sy'n edrych ar sut y gallai hynny weithio. Hoffwn atgoffa'r Aelodau unwaith eto, fel yr atgoffaf fy hun yn gyson, fod y Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, wedi pasio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac am ddarn arloesol o ddeddfwriaeth yw hwnnw. Ac mae hynny'n gwneud cryn dipyn i gyflawni rhai o'r pethau y sonioch chi amdanyn nhw yn y fan yna. Ond mae gennym ni rai pethau eraill y mae angen i ni eu gwneud. Er enghraifft, mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn golygu bod yn rhaid i unrhyw un sy'n rhentu cartref, gan gynnwys landlordiaid cymdeithasol, gael tŷ sy'n addas i bobl fyw ynddo. A hoffwn atgoffa'r Siambr fod y Torïaid ar lefel San Steffan, wrth gwrs, wedi gwrthod rhoi 'yn addas i bobl fyw yno' yn eu deddfwriaeth, felly mae hynny'n dangos i chi pa mor isel yw'r meincnod. Felly, rydym wedi gwneud hynny—rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd gyda hynny.
Y cam nesaf yw sicrhau bod gennym ni y tai digonol sydd eu hangen i alluogi pobl i orfodi'r hawl i dai digonol. Does dim diben rhoi'r hawl i bobl gael tai digonol os nad oes digon o dai digonol yn y pen draw. Felly, gan neidio at y darn lle roeddech chi'n sôn am dai cymdeithasol, rhan fawr o'n cynllun digartrefedd rhan 2 yw symud pobl o'r llety dros dro ac argyfwng i dai cymdeithasol parhaol o ansawdd da, a rhan fawr iawn o'r ceisiadau cyfalaf a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol a phartneriaid ac yr ydym ni wedi gallu eu cymeradwyo, yw adeiladu tai cymdeithasol, yn enwedig dulliau modern o adeiladu tai cymdeithasol, sy'n niwtral o ran carbon neu yn garbon oddefol—nifer o bethau.
Felly, rwy'n falch iawn o hynny. Gallwn gynyddu ein stoc gymdeithasol ar unwaith o ganlyniad i hynny. Rydym ni hefyd yn ystyried cynlluniau i alluogi cynghorau a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i brynu tir oddi wrth y sector preifat—rydym yn dal i edrych ar hynny—oherwydd drwy wneud hynny, gallwn annog ein hadeiladwyr yn y sector preifat, yn enwedig ein busnesau bach a chanolig eu maint, i adeiladu yn unol â safonau tai cymdeithasol, fel y gallwn ni barhau i adeiladu'r stoc tai cymdeithasol honno os bydd dirwasgiad. Ac, wrth gwrs, mae gennym y cynllun sector preifat ar waith lle gall landlord sector preifat sy'n poeni am allu parhau i dderbyn incwm mewn cyfnod ansicr, a'r holl oblygiadau ynghlwm â hynny, drosglwyddo ei dŷ i landlord cymdeithasol am bum mlynedd a chael y lwfans tai lleol gwarantedig, a gwarant hefyd y bydd ei dŷ'n cael ei ddychwelyd ato yn unol â safon tai cymdeithasol. Felly, bargen dda iawn a byddwn yn annog holl landlordiaid y sector preifat i ymchwilio iddi, oherwydd mae hynny'n ffordd o sicrhau eich bod yn cael yr incwm hwnnw ac nad oes gennych y pryder o orfod ymdrin â hynny eich hun. Mae'n golygu y gallwn ni roi tenantiaethau diogel i bobl, sy'n amlwg yn llawer gwell. Ac yna mae gennym ni, wrth gwrs, gynlluniau uchelgeisiol iawn. Rydym yn bur ffyddiog y byddwn yn gallu cynyddu nifer y tai cymdeithasol yn sylweddol, hyd yn oed yn yr hyn sydd ar ôl o'r Senedd Gymreig hon ac yna'n sicr yn y tymor seneddol canlynol. Ac rwy'n siŵr y bydd pa Lywodraeth bynnag sydd mewn grym eisiau gwneud hynny; mae'n ymddangos bod consensws eang ar draws y Siambr y dylid gwneud hynny. Felly, rwy'n falch iawn o hynny, ac mae cryn dipyn o hyder y byddwn yn gallu cynyddu hynny mewn gwirionedd. Rydych chi wedi fy nghlywed yn siarad am gynyddu hynny yn fwy ac ynghynt. Rydym ni mewn lle da i ddweud ein bod yn gwneud hynny.
O ran y benthyciadau arbed tenantiaeth, dim ond i ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi nad dyma'r amser i gynyddu dyled pobl. Felly, dyna pam yr ydym ni wedi llwyddo i negodi'r gyfradd ganrannol flynyddol hon o 1 y cant. Doedd hi ddim yn bosib cael cyfradd o ddim, am amryw o resymau nad oes gen i amser i ymhelaethu arnynt yn y fan yma, neu bydd y Llywydd yn colli amynedd gyda mi, ond mae 1 y cant yn elw bach iawn i bobl ei ystyried. A dim ond i ddweud, wrth gwrs, nad ydym yn cynyddu eu dyled heblaw am un sy'n unol â'r ganran fechan honno. Mae hon yn ddyled a ddaeth i fodolaeth am nad ydyn nhw wedi gallu talu eu rhent heb fod unrhyw fai arnyn nhw ac ati, drwy amgylchiadau anodd. Rwy'n mynd i fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud ein bod yn annog pobl i dalu eu rhent lle gallan nhw, oherwydd gall yr ôl-ddyledion fod yn anodd iawn. Ond yna telir y benthyciad i'r landlord oherwydd felly caiff y rhent ei dalu, fel na ellir troi'r person hwnnw allan am beidio â thalu ei rent oherwydd bydd wedi talu ei rent. Felly, dyna holl ddiben hynny. Mae'n osgoi hynny. Ac felly, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, mae'n beth da iawn hefyd, oherwydd yr hyn yr ydym ni eisiau yw ein bod eisiau i bobl aros yn eu cartrefi—eu cartrefi nhw yw'r rhain. Nid ydym ni eisiau iddyn nhw fod yn ansicr a gorfod gadael yn y pen draw, ac yna mynd ar ofyn dewisiadau tai'r awdurdod lleol gan ddweud, 'Dewch o hyd i rywle arall i mi fynd.' Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig iawn gan y Llywodraeth i sicrhau y gall pobl wneud hynny ac, yn amlwg, bu'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar yr hyn y credwn ni fydd cyfradd yr ad-dalu ac yn y blaen. Ond mae'r Llywodraeth wedi penderfynu bod hynny'n fuddsoddiad da i'w wneud yn y bobl hynny. Mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau talu eu rhent, maen nhw eisiau aros yn eu tŷ, felly rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud hynny, ond roeddwn i eisiau ei gwneud hi'n glir mai dyna yr ydym ni yn ei wneud, oherwydd rwy'n cytuno â chi ynghylch peidio â chynyddu rhenti pobl. Yn sicr, nid yw'n achub croen y landlord oherwydd, wrth gwrs, mae gan y landlord hawl i'w rent. Felly, dyna'r drefn.
Ymhellach i'r dyfodol, rwyf eisiau ystyried achub morgeisi. Nid wyf mewn sefyllfa i siarad am hynny eto, ond os bydd y dirwasgiad yn dwysáu fel y disgwyliwn, yna bydd nifer o bobl a fydd yn mynd i drafferthion o ran ad-dalu morgeisi. A byddwn yn ystyried beth y gallwn ni ei wneud i'w helpu drwy ganiatáu iddyn nhw droi eu morgais yn daliadau rhent, a mynd â'r cartrefi hynny i berchnogaeth gymdeithasol. Gwnaethpwyd hynny yn y dirwasgiad diwethaf hefyd. Nid wyf wedi cyrraedd y cam yna eto, ond rwy'n sicr yn ceisio ymchwilio i bethau fel hynny. A'r rheswm yr wyf yn sôn am hynny, Llywydd, yw os oes gan unrhyw Aelodau unrhyw syniadau gwych eraill o'r math hwnnw, byddwn yn falch iawn o'u clywed, oherwydd nid ni yw ffynhonnell yr holl wybodaeth, ac mae pobl ar draws y Siambr wedi cael syniadau da yn y fan yma, felly hoffwn i bobl ddod ymlaen a'u rhannu â ni, os yw hynny'n bosib.
Ac yna mae'r peth olaf ynglŷn â'r system gynllunio. Byddwch yn gwybod ein bod ni wedi newid y polisi ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru fel bod gennym ni 50 y cant o dai fforddiadwy ar bob cynllun ar dir Llywodraeth Cymru. Rydym ni yn annog hynny ar gyfer darnau eraill o dir yn y sector cyhoeddus ledled Cymru. Rydym yn sgwrsio ag awdurdodau lleol ynglŷn ag elwa i'r eithaf ar hynny. Ac yna, wrth gwrs, awdurdodau lleol—mater i awdurdodau lleol yw hynny, nid yr arolygwyr cynllunio. Mater i awdurdodau lleol yw sicrhau bod eu cynllun datblygu lleol yn pennu llawer iawn o dai cymdeithasol ar gyfer eu tir. Felly, dyna'r ffordd ymlaen, ac rwy'n falch iawn o'r system hon sydd gan Gymru sy'n seiliedig ar gynlluniau. Yn fuan, Llywydd, byddwn yn cyflwyno'r fframwaith datblygu cenedlaethol ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru. Mae'n sicr yn un o'r fframweithiau mwyaf blaengar yn unman yn y Deyrnas Unedig ac, mewn gwirionedd, yn eithaf da hyd yn oed i orllewin Ewrop. Felly, rydym yn falch iawn ohono. Ond dim ond yr hyn sydd o'i flaen y gall yr arolygydd cynllunio ei wneud. Felly, os nad yw'r CDLl yn nodi hynny, ni all wneud dim yn ei gylch. Felly, mae angen inni sicrhau bod y cynllun yn rhan o hynny a bod gan bobl leol lais mawr o ran ffurf y cynllun hwnnw wrth adeiladu'r tai hynny. Diolch, Llywydd.
A gaf i yn gyntaf groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Mae'n fy synnu cyn lleied o arian oedd ei angen i amddiffyn y rhai a oedd yn ddigartref ar ddechrau'r pandemig, a chredaf mai un peth da sy'n deillio o'r pandemig yw'r syniad o geisio mynd i'r afael â digartrefedd. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog yn credu bod atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n cymryd yr awenau oddi wrth y Gweinidog drwy gydol gweddill yr amser y mae'r Senedd hon yn bodoli yn ystyried hynny'n flaenoriaeth.
Rwyf hefyd yn falch nad yw'r Gweinidog eisiau gweld unrhyw un yn dychwelyd i gysgu ar y stryd nac yn cerdded y strydoedd yn y nos ac yn cysgu mewn parciau yn ystod y dydd, sydd, yn ôl a ddeallaf, yn rhywbeth y mae pobl iau a menywod yn fwy tebygol o'i wneud gan nad ydyn nhw eisiau bod yn cysgu mewn drysau yn ystod y nos. Ond beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r niferoedd sy'n cysgu o soffa i soffa ac sydd dim ond un cam i ffwrdd o gysgu ar y stryd, a pha gymorth y gellir ei roi i'r grŵp hwn o bobl i'w hatal rhag cyrraedd y sefyllfa honno?
A gaf i ddweud, croesawaf ddarparu prydau ysgol am ddim drwy wyliau'r haf eleni? Rwyf wedi gofyn am hynny ers amser maith; rwy'n falch iawn ei fod wedi digwydd. Ac rwy'n gofyn ar ran teuluoedd plant sy'n cael prydau ysgol am ddim: pam na all barhau dros gyfnod pob gwyliau? A hefyd, a ellir darparu cymorth ariannol i'r plant pan fyddant yn absennol o'r ysgol, o bosib oherwydd bod ganddyn nhw 14 diwrnod pan fydd yn rhaid iddyn nhw hunanynysu? Yna mae 14 diwrnod yn mynd heibio heb iddyn nhw gael y prydau ysgol am ddim y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw. Felly, a ellir rhoi rhywfaint o gefnogaeth iddynt?
Mae gennyf farn sydd, mi gredaf, yn unigryw yn y fan yma—ni welaf unrhyw swyddogaeth i arolygydd cynllunio. Pan gaiff arolygwyr cynllunio eu diddymu, sy'n anochel, bydd yn debyg i'r adeg pan ddaethom ni oddi ar y safon aur, pan ddywedai pawb, 'Wel, pam na wnaethom ni hynny o'r blaen?' Nid oes rheswm, yn fy marn i, dros arolygydd cynllunio—os nad ydych chi'n hoffi'r penderfyniad, gallwch ofyn am adolygiad barnwrol. Mae cael y bobl hyn, nad ydynt yn gwybod dim am yr ardal, yn ymyrryd, yn gwneud penderfyniadau sy'n aml yn achosi problemau difrifol mewn ardal, yn rhywbeth rwy'n credu a ddaw i ben, a, Gweinidog, rwy'n gobeithio mai chi yw'r person i wneud hynny.
Wel, hyd at y rhan olaf yna, Mike, roeddem yn cytuno â'n gilydd, felly mae'n debyg ei bod hi wastad yn beth da peidio â chytuno'n llwyr bob cam o'r ffordd.
Felly, o ran y swm bach o arian, mae'n ymddangos fel swm bach o arian, ond, wrth gwrs, arian ychwanegol ydoedd. Roedd yr holl arian arferol ar gyfer digartrefedd yn dal yn y system. Nid cymryd £10 miliwn a wnaethom ni a datrys digartrefedd—mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y system ddigartrefedd. Yr hyn a wnaethom ni oedd ad-drefnu hynny'n gyflym iawn, a dyna pam yr wyf i mor ddiolchgar i bartneriaid, oherwydd fe aethon nhw ati i'w ad-drefnu'n gyflym iawn, ac mae'n rhyfeddol pa mor gyflym y gwnaethom ni hynny.
Wrth gwrs, fe gawsom ni gyfle unigryw—hoffwn atgoffa'r Aelodau o hynny—oherwydd, yn sydyn iawn, cawsom nifer fawr o westai a lleoliadau gwely a brecwast a llety prifysgol ac ati heb neb ynddyn nhw. Roedd hynny'n unigryw iawn—ni chawsom ni erioed y sefyllfa honno o'r blaen. Felly, mewn sefyllfa dywyll iawn, fe gawsom ni belydr o oleuni y cawsom gyfle i fanteisio arno, ac fe allon ni fanteisio ar hynny. Felly, rwy'n falch iawn o hynny. Ond mae hi yn demtasiwn meddwl y gwnaed hynny am £10 miliwn—nid yw hynny'n wir.
Felly, bu inni gartrefu 2,200 o bobl a oedd fel arall mewn llety anaddas neu ddim mewn llety yn ystod y pandemig, Mike, ac mae hynny'n dangos ichi ein bod—. Dyna oedd nifer y bobl a âi o un soffa i'r llall ac na allent wneud hynny mwyach gan nad oedd pobl a oedd yn barod i gynnig soffa iddyn nhw yn fodlon gwneud hynny bellach oherwydd bod arnyn nhw eisiau bod yn ddiogel rhag COVID ac ati. Ac mae'r hyn y mae'n ei ddangos i ni yn rhywbeth yr oeddem bob amser yn ei wybod: roeddem bob amser yn gwybod bod y brasamcan o bobl sy'n cysgu allan yn annigonol. Gwyddem bob tro mai ciplun ydoedd. Gwyddem bob tro nad oedd yn cynnwys pawb—pobl a oedd, fel y dywedwch chi, yn cerdded drwy'r nos ac yn cysgu yn y dydd, menywod yn arbennig ac ati. Felly, mae wedi rhoi syniad llawer gwell i ni o nifer y bobl yr oeddem yn gwybod eu bod yn y sefyllfa honno. Felly, yr ateb i hynny yw bod 2,200 o bobl yn y sefyllfa honno ac rydym ni wedi gallu cartrefu pob un ohonyn nhw mewn llety brys neu dros dro, a nawr ail gam y broses hon yw cael y bobl hynny a'r bobl a oedd eisoes mewn llety dros dro neu lety brys i lety parhaol, ac, fel y dywedais wrth ateb Delyth, rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn symud ymlaen.
A'r peth pwysig arall yw, pan gewch chi eich symud o'ch llety brys neu dros dro, nad ydych yn cael eich symud sawl gwaith. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi'i ddweud yw mai'r sefyllfa ddelfrydol yw eich bod yn cael eich symud ar unwaith i lety parhaol, ond fel arall ni ddylai fod yn fwy nag unwaith. Felly, os ydych chi mewn llety brys, byddwch yn symud i rywle sy'n fwy addas cyn i chi gyrraedd eich cartref parhaol, ond yn ddelfrydol mae pobl yn mynd yn syth i'w cartref parhaol, ac mae hynny'n llawer gwell, oherwydd wedyn gallwn gynnig yr holl wasanaethau iddyn nhw sy'n golygu bod hwnnw'n lleoliad cynaliadwy ac mae hynny yr un mor bwysig. Rwyf bob amser yn dweud, os rhowch fi mewn fflat wag yng nghanol Manceinion, ni fyddai unrhyw siawns imi gynnal y denantiaeth honno. Ac mae hynny'n wir am bob person dan haul: os rhowch chi nhw mewn fflat wag yng nghanol rhywle nad ydynt yn ei adnabod, ni fyddant yn gallu cynnal honno fel cartref, felly mae angen i ni sicrhau bod ganddyn nhw yr holl bethau angenrheidiol i wneud y lle hwnnw'n gartref, gan gynnwys y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.
Ac yna, o ran y ddau sylw olaf, ar brydau ysgol am ddim, mae'n amlwg mai portffolio Kirsty yw hwnnw'n gyffredinol, ond rydym yn gweithio'n galed iawn ar raglen i gynnal prydau ysgol am ddim drwy'r gwyliau ac mewn gwirionedd mae grŵp yn edrych ar beth i'w wneud ynglŷn â phlant sydd ar eu colled am eu bod yn hunanynysu neu fel arall yn absennol o'r ysgol a fyddai fel arall â hawl i gael prydau ysgol am ddim. Felly, mae grŵp yn ystyried hynny, Mike, ond Kirsty sy'n arwain ar hynny, nid fi. Ond mae'n sicr yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried.
Ac yna'r sylw olaf am yr arolygiaeth gynllunio—rydych chi a mi wedi cael aml i sgwrs am hyn. Rydym ni'n anghytuno, gadewch i ni ei roi felly. Ond rydym ni wedi gorfod gohirio'r broses o wahanu Arolygiaeth Gynllunio Cymru oddi wrth Arolygiaeth Gynllunio Lloegr, a hoffwn weld hynny'n mynd yn ei flaen, oherwydd credaf y byddai gennym ni well siawns bryd hynny o sicrhau y cai ein nodau polisi eu dilyn.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad chi. Roeddwn i'n nodi'r hyn roeddech chi'n ei ddweud ynglŷn â'r gwaith i daclo digartrefedd ac, wrth gwrs, i gynyddu nifer y tai cymdeithasol. Roeddwn i wedi gobeithio efallai clywed mwy gennych chi yn y datganiad ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth am ddefnyddio'r system gynllunio i fynd i'r afael â'r anghyfartaledd a'r anghynaliadwyedd cynyddol rydym ni'n ei weld yn y marchnadoedd tai mewn nifer o gymunedau ar draws Cymru, sy'n cael ei yrru'n bennaf, fel roeddwn i'n cyfeirio'n gynharach y prynhawn yma, gan y cynydd yn nifer yr ail gartrefi rydym ni'n eu gweld mewn nifer o gymunedau ar draws Cymru, ac mae'n dueddiad hefyd, wrth gwrs, sy'n cael ei yrru gan y ffaith nawr ein bod ni'n gweld mwy o bobl yn symud o ddinasoedd ac ardaloedd poblog i ardaloedd gwledig yng Nghymru yn sgil COVID-19 hefyd.
Rydym ni'n wynebu sefyllfa gynyddol anghynaliadwy: nid yw mwyafrif pobl mewn siroedd fel Gwynedd nawr yn gallu fforddio prynu tai yn y sir maen nhw wedi'i geni a'i magu ac yn byw ac yn gweithio ynddi hi. Gwelais i ystadegyn oedd yn awgrymu bod 40 y cant o'r holl dai a gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd llynedd wedi cael eu prynu i fod yn ail gartrefi. Felly, dwi eisiau clywed gennych chi fel Gweinidog beth yw eich bwriad chi o safbwynt defnyddio'r system gynllunio i fynd i'r afael â'r anghyfartaledd a'r anghynaliadwyedd yna fel y mae ardaloedd eraill o fewn y Deyrnas Unedig wedi gwneud ac fel y mae gwledydd eraill yn Ewrop a thu hwnt wedi gwneud hefyd.
Diolch, Llyr. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Mae nifer o faterion yn y fan yna, onid oes? Nid ail gartrefi yw'r unig agwedd; mae'n ymwneud â chael tai fforddiadwy ar draws holl gymunedau Cymru fel y gall ein pobl ifanc aros yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt ac y gallant gyfrannu at Gymru o'r cymunedau hynny. Yn sicr, nid ydym am ddisbyddu Cymru wledig i'n dinasoedd o ganlyniad i bobl yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai.
Felly, rydym wrthi'n ymchwilio i nifer o bethau. Un ohonynt yn sicr yw cynyddu nifer y cartrefi cymdeithasol yr ydym yn eu hadeiladu ar draws cymunedau Cymru a sicrhau bod y cartrefi hynny'n hygyrch i bobl leol yn y ffordd briodol. Felly, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud hynny. Y peth arall yw cyflwyno datgymhellion ar gyfer ail gartrefi a dysgu'r gwersi o hynny. Felly, rydym ni wedi bod yn edrych yn fanwl ar rai o'r pethau sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae rhai cynlluniau wedi bod yn llai llwyddiannus nag y gobeithid y byddent. Mae'r un yng Nghernyw wedi bod yn aflwyddiannus mewn rhai ffyrdd, felly byddwn yn dysgu'r gwersi o hynny. Yr hyn yr hoffwn i ei wneud, serch hynny, Llyr, yw gwahodd nifer o Aelodau y gwn fod ganddyn nhw ddiddordeb yn hyn i ddod i drafodaeth gyda mi i drafod nifer o syniadau. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i rywun arall—rwy'n credu mai Delyth ydoedd—nid gennyf i mai'r holl syniadau da yng Nghymru, felly byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai nifer o bobl sydd â diddordeb yn hynny'n ddigon caredig i ddod i gael trafodaeth gyda ni am yr holl syniadau yr hoffem eu datblygu.
Ac yna'r peth olaf yw fy mod yn trafod—nid fy mhortffolio i ydyw, ond rwyf yn trafod gyda Rebecca Evans ynghylch y trothwy pryd gallwch newid i renti busnes. Byddwch yn gwybod inni newid yr amodau lefel grant drwy'r pandemig a hoffwn edrych yn fanylach ar yr hyn a fyddai'n digwydd pe baem yn codi'r lefelau'n llwyr ar gyfer hynny, a gwn fod hynny'n rhywbeth yr ydych chi a Siân Gwenllian a nifer o rai eraill wedi'i godi droeon, ac mae'n siŵr bod sawl un ohonoch chi yn dweud nawr, 'Rwyf wedi'i godi hefyd,' ond mae nifer o bobl wedi'i godi gyda mi yn y Siambr, felly byddwn yn hapus iawn gwneud hynny. Felly, Llyr, os hoffech chi anfon e-bost ataf, efallai y gallem ni drefnu'r cyfarfod hwnnw.
Fel eraill, a gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog a'r wybodaeth ddiweddaraf yr ydych wedi'i rhoi inni heddiw? A diolch hefyd am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol wedi ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf i ofalu am y digartref a rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn wyneb y pandemig hwn. Dyna oedd y polisi gwirioneddol gywir ar yr adeg briodol. Fodd bynnag, yr hyn y byddwch hefyd yn ymwybodol ohono, Gweinidog, yw bod hyd yn oed y polisïau gorau, ar brydiau, wedi creu rhai canlyniadau anfwriadol, ac, er enghraifft, ym Merthyr Tudful ac mewn rhannau o Gwm Rhymni Uchaf hefyd, mae trefniadau brys COVID-19 wedi creu crynodiadau o bobl agored iawn i niwed mewn ardaloedd bach yng nghanol y dref—felly, mae'r gwestai, sydd i gyd wedi'u crynhoi yng nghanol y dref—ac mae hynny wedi golygu bod hynny wedi dylifo i ganol y dref ac mae wedi cael effaith eithaf sylweddol ar drigolion a busnesau lleol yng nghanol y dref, gan arwain at rai materion eithaf arwyddocaol yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Nawr, er ei bod hi'n amlwg bod yr heddlu yn ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol i sicrhau bod trigolion a busnesau'n teimlo'n ddiogel, mae angen strategaeth gyfochrog hefyd i ddarparu cymorth mewn modd mwy priodol a gwasgaredig, fel bod pobl yn cael y cymorth y mae arnyn nhw ei angen, ond nid i gyd yn yr un ardal ddwys honno. A dyna'r pryder sydd gen i. Mewn trefi bach, mae'n anodd iawn dod o hyd i lety nad yw wedi'i ganoli mewn un ardal, ac mae'r holl bobl hyn ag anghenion mor gymhleth sy'n cael eu lletya mewn llety bach mewn cymuned glos iawn yn achosi llawer o broblemau.
Nawr, yr hyn yr wyf yn ei ofyn, Gweinidog, yw a yw'r agwedd benodol honno'n rhywbeth y byddwch yn ei hystyried yn ail gam y strategaeth. Gwn eich bod wedi siarad llawer am yr angen am y gefnogaeth gofleidiol honno i bobl yn ail gam y strategaeth honno, ac rydych yn cyfrannu swm sylweddol o arian i wneud hynny, ond y mater yr wyf yn gofyn ichi ei ystyried yw'r mater o grynhoi llawer o bobl mewn ardaloedd a lletyau bach lle maent yn dylifo i mewn i'r dref, ac a allwn ni gael strategaeth sy'n cynnwys gwasgaru lletyau, fel bod y cymorth hwnnw'n fwy effeithiol, yn hytrach na chael pobl yn yr ardal glos honno.
Diolch, Dawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r mater yr ydych chi'n ei grybwyll. Mae'n broblem mewn nifer o leoedd ac oherwydd, wrth gwrs—wyddoch chi, roeddem yn gallu cartrefu nifer fawr o bobl, ond fe wnaethom ni hynny'n bur gyflym ac, fel y dywedais mewn ateb i Mike Hedges, roedd hi'n bosib oherwydd bod nifer o leoedd a oedd yn lleoliadau gwely a brecwast a gwestai ac ati ar gael ac na fyddent wedi bod ar gael fel arall. Felly, yn amlwg, yn y dull cam 2, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw cael pobl allan o'r lletyau hynny ac i gartrefi diogel a pharhaol. Felly, bydd pob awdurdod wedi cyflwyno cynllun, a byddwn wedi cytuno â'r awdurdod hwnnw—rwy'n gwybod ein bod ni wedi cytuno ar gynlluniau ym mhob awdurdod yng Nghymru—gyda'r awdurdod hwnnw beth yw'r dull gorau o ymdrin â'r cam gorau a beth yw'r dull gorau o symud y bobl hynny sy'n cael eu cartrefu yn y mathau hynny o lety i'w cartref parhaol, neu, mewn rhai achosion, i gartref dros dro arall, ond lle gallant gael gwell ystod o wasanaethau cymorth, felly efallai i ganolfan, lle mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth o'u cwmpas.
Mae arnaf ofn na alla i feddwl am un yn fyrfyfyr ym Merthyr, ond ymwelais â chynllun gwych yng Nghasnewydd ychydig wythnosau'n ôl, lle yr oeddem ni wedi rhoi amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar y llawr gwaelod ar y cyd â phartner trydydd sector, ystafell ar yr ail lawr ar gyfer gwasanaethau cymorth unigol ac yna saith fflat â chymorth ar y llawr uchaf. Nawr, ni fwriedir i bobl aros yn y fflatiau hynny am weddill eu hoes, ond bwriedir iddyn nhw aros yn y fflatiau hynny am ddwy neu dair blynedd tra bod eu problemau'n cael sylw ac y cânt eu traed oddi tanynt ac yna eu helpu i ddod o hyd i'w cartref terfynol parhaol. Felly, dyna'r un cam yr oeddwn yn siarad â Delyth amdano, onid e: o'r llety brys i'r llety â chymorth ac yna ymlaen i'ch cartref parhaol.
Felly, unwaith y byddaf—. Dawn, os hoffech chi ysgrifennu ataf, rwy'n siŵr y gallaf ddweud wrthych chi beth yw'r cynllun ym Merthyr; rwy'n siŵr y byddai swyddogion yn hapus i'm hatgoffa o beth yw hwnnw. Ond rydym ni wedi gofyn yn benodol i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r mathau o faterion yr ydych chi'n sôn amdanynt, oherwydd mae angen diwallu anghenion cymhleth pobl, ac mae angen diwallu'r anghenion hynny mewn lle sy'n gynaliadwy ac yn ddiogel, ac nid yw hynny'n debygol o fod mewn canol tref wedi eich amgylchynu gan bobl ag anghenion cymhleth tebyg. Felly, mae'n rhan bwysig iawn o'n hail gam.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Diolch.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd—Bil marchnad fewnol y DU—a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dydd Mercher diweddaf, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei Bil ar y farchnad fewnol, dim ond wyth wythnos ar ôl cyhoeddi Papur Gwyn a oedd yn honni y byddai'n ymgynghori ar gynigion y Bil. Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac mae ei dadansoddiad ohonyn nhw yn simsan, a dweud y lleiaf. Ond rydyn ni'n gwybod nad y Llywodraethau datganoledig yn unig a gwestiynodd yr angen am ddeddfwriaeth, a chwestiynu rhagdybiaethau'r Papur Gwyn. Roedd sefydliadau fel NFU Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg ymysg y rhai o Gymru a ymatebodd yn feirniadol. Byddai Llywodraeth sydd â hyder yn ei seiliau ar gyfer deddfwriaeth mor bellgyrhaeddol a dadleuol â hyn, does bosib, yn cyhoeddi'r ymatebion y mae wedi'u cael.
Bydd dadl gwrthblaid ar Fil y farchnad fewnol yn cael ei chynnal yfory, felly heddiw byddaf yn amlinellu'r ffeithiau sy'n sail i'r pryderon difrifol sydd gennym. O'r dechrau, hoffwn i bwysleisio nad ydyn ni'n gwrthwynebu'r nod o sicrhau y gall marchnad fewnol y Deyrnas Gyfunol weithio'n esmwyth ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Yn wir, roedden ni ymysg y cyntaf i dynnu sylw at y ffaith y byddai angen inni ddatblygu ffordd newydd o lywodraethu ar y cyd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn rheoli'r berthynas rhwng cymwyseddau datganoledig a'r farchnad fewnol.
Am dair blynedd, rŷn ni wedi gweithio'n ddiflino ar fframweithiau cyffredin ym mhob un o'r meysydd a nodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel rhai a allai gynnwys rhwystrau diangen i greu'r farchnad fewnol. Bellach, mae'r gwaith hwn yn dod tua'i derfyn, ac nid oes yr un enghraifft wedi bod o fethiant llwyr, nac o un Llywodraeth yn atal cynnydd, yn unrhyw un o'r 28 o fframweithiau y mae Cymru'n ymwneud â nhw. Ac eto, mae'r Bil, i bob pwrpas, yn tanseilio'r gwaith hwn drwy ddarparu, i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ffordd o erydu hawl y Senedd hon i reoleiddio o fewn y meysydd hynny o gymhwysedd datganoledig fel y gwêl orau.
Byddai Rhannau 1 a 2 o'r Bil yn gorfodi egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a dim gwahaniaethu yn achos bron yr holl nwyddau a gwasanaethau sy'n tarddu o, neu sy'n cael eu mewnforio'n gyfreithlon i, unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol, sy'n cael eu diffinio'n achos dim gwahaniaethu fel nwyddau hyd yn oed sy'n 'pasio drwodd'. I roi enghraifft i chi, er y gallwn ni barhau â'n bwriad i wahardd naw math o blastig untro yng Nghymru os cafodd ei gynhyrchu yng Nghymru neu ei fewnforio i Gymru, ni fydden ni'n gallu atal nwyddau o'r fath a gafodd eu cynhyrchu neu eu mewnforio i Loegr neu'r Alban rhag cael eu gwerthu yng Nghymru os oedd modd eu gwerthu'n gyfreithlon yno. Mae'n ymddangos, hefyd, y byddai'n anghyfreithlon mynnu i labeli dynnu ein sylw ni at eu heffaith niweidiol ar yr amgylchedd. Er nad yw hyn yn atal y Senedd yn benodol rhag arfer ei phwerau, mae'n eu gwneud yn ddiystyr, o gofio bod y mwyafrif helaeth o nwyddau sy'n cael eu gwerthu yng Nghymru yn dod o rannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, neu'n pasio drwyddyn nhw.
Er nad yw'r rhan hon o'r Bil i fod yn gwneud dim mwy na disodli cymhwysiad yr un egwyddorion yng nghyfraith yr UE, nid yw'r cynigion crai yn y Bil yn cynnwys dim o'r amddiffyniadau—o sybsidiaredd, cymesuredd ac eithriadau polisi cyhoeddus sylweddol—sy'n berthnasol yn y dull y mae'n ceisio ei efelychu. Yn hollbwysig, nid yw'n darparu terfyn safonau, a fu'n sylfaen i'r ymwahanu ledled y DU yn ystod cyfnod datganoli. Mae Rhan 3 yn ceisio gosod yr un dull o ymdrin â chymwysterau proffesiynol, er, o ddatgan fy muddiant fel cyfreithiwr, fy mod i'n sylweddoli bod y proffesiwn cyfreithiol ei hun wedi'i eithrio. Ond, fel cyfreithiwr eto, gallaf dynnu sylw hefyd at y ffaith bod hwn yn ddarn cymhleth o ddrafftio a fydd hefyd yn rhoi llawenydd i gyfreithwyr ledled y wlad. Nid ydym yn glir eto a fyddai hyn mewn gwirionedd yn ei gwneud yn amhosibl atal athrawon o rannau eraill o'r DU nad oes ganddynt y cymwysterau a'r profiad sy'n ofynnol gan ein deddfwriaeth ni rhag cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i addysgu yng Nghymru, ond gallai glymu'r cyngor hwnnw yn glymau cyfreithiol am flynyddoedd i ddod.
Mae Rhan 4 o'r Bil yn rhoi swyddogaeth newydd i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o ran darparu Swyddfa'r Farchnad Fewnol. Mae'r swyddogaethau a gynigir ar gyfer y swyddfa hon yn rhai y gallem eu cymeradwyo'n gyffredinol, ond mae'n gwbl amhriodol mai adran anweinidogol o Lywodraeth y DU, y mae ei phrif swyddogaethau'n ymwneud â materion a gadwyd yn ôl yn llwyr, sy'n cael y swyddogaeth hon heb ddiwygio ei threfniadau llywodraethu'n helaeth.
Mae Rhan 5 o'r Bil yn ymwneud â phrotocol Gogledd Iwerddon. Mae braidd yn rhyfedd, yn ddigynsail mae'n debyg, fy ngweld fy hun ar yr un ochr i unrhyw ddadl ag Arglwyddi Howard a Lamont, ond bydd hynny'n dweud wrthych mor eang yw'r ystod o leisiau y mae'r rhan hon o'r Bil yn gwbl wrthun iddyn nhw. Bydd unrhyw un sy'n credu ym mhwysigrwydd rheolaeth y gyfraith, a phwysigrwydd cadw at gytundebau cyfreithiol yr ydych wedi ymrwymo iddynt yn rhwydd, hyd yn oed yn syml i sicrhau y bydd pleidiau eraill yn y dyfodol yn barod i wneud cytundebau â chi, yn arswydo y gallai Llywodraeth gynnig pwerau gweinidogol sy'n diystyru cyfraith ddomestig a chytundebau rhyngwladol mewn modd mor uniongyrchol. Mae'r darpariaethau yn y Rhan hon hefyd yn gwaethygu bygythiad posibl i borthladdoedd Cymru drwy gymell trefniadau cludo nwyddau o ynys Iwerddon i ddefnyddio llwybrau fferi o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr.
Mae Rhan 6 o'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU, am y tro cyntaf yn yr 21 mlynedd ers datganoli, ariannu gweithgareddau mewn meysydd polisi sydd wedi'u datganoli i Gymru—nid ym maes datblygu economaidd yn unig, ond ym maes iechyd, tai, seilwaith addysgol, chwaraeon a diwylliant. Gadewch i ni fod yn glir ynghylch un peth: mae Llywodraeth yn San Steffan sy'n ceisio'r pŵer i wario mewn meysydd datganoledig a'r pŵer i reoli'r cyllid sydd ar gael, yn Llywodraeth sy'n ceisio torri ar ddatganoli. Ac mae'n amlwg bod Llywodraeth sydd wedi methu mor helaeth â buddsoddi yng Nghymru mewn cysylltiad â'r pethau y mae'n gyfrifol amdanyn nhw eisoes—rheilffyrdd, band eang, y morlyn llanw, ynni ar raddfa fawr—yn amlwg yn bwriadu ariannu ei blaenoriaethau ei hun drwy frigdorri'r gyllideb y mae'r Senedd hon yn ei rheoli ar hyn o bryd, a'n gadael â hyd yn oed llai o gyfle a hyblygrwydd i ddiwallu anghenion pobl Cymru yr ydym wedi ein hethol i'w gwasanaethu.
Mae Rhan 7 o'r Bil yn newid yn glir y setliad datganoli yn benodol drwy ychwanegu cymorth gwladwriaethol at y rhestr o faterion a gadwyd yn ôl. Dirprwy Lywydd, mae diddordeb y Llywodraeth Geidwadol hon mewn cymorth gwladwriaethol yn ei harwain at fentro aberthu cytundeb masnach rydd â'r UE a heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Ond, yn amlwg, y bwriad yma yw ein cau ni allan rhag cyd-greu cyfundrefn cymorth gwladwriaethol gadarn ar gyfer y DU gyfan, ac mae'n fygythiad sylweddol i fusnesau Cymru.
Yn olaf, mae Rhan 8 o'r Bil yn cynnwys y cynnig i wneud y Bil cyfan yn ddeddfiad gwarchodedig, na all y Senedd hon ei ddiwygio hyd yn oed pan fydd yn effeithio, fel y mae'n sicr o wneud, ar faterion datganoledig—pŵer y dylid ei ddefnyddio'n gynnil siawns ond sydd wedi'i ddefnyddio mwy o weithiau yn y tair blynedd diwethaf nag yn y 18 mlynedd flaenorol.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi'i ystyried yn wael ac sy'n niweidiol iawn. Byddwn yn gweithio gyda gwleidyddion o bob plaid a heb blaid yn y Senedd i sicrhau, oni chaiff ei ailwampio drwy welliant, nad yw'r Bil hwn yn mynd ar y llyfr statud. Rydym wedi cynnig cynigion amgen adeiladol. Byddai Llywodraeth ddoeth yn San Steffan yn edrych arnyn nhw o'r newydd.
Diolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'i ddatganiad, er bod ei glywed o'i wefusau cynddrwg ag yr oedd pan groesodd fy nesg yn gynharach heddiw. Ni ddylai fod yn syndod i Aelodau Senedd Cymru na phobl Cymru bod Llywodraeth Cymru yn ceisio tanseilio ymdrechion Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid i bobl y Deyrnas Unedig y byddai'n cynnal ac yn cryfhau uniondeb a gweithrediad llyfn marchnad fewnol y DU.
Fel y gwyddoch, Gweinidog, mae'r Bil hwn yn darparu fframwaith ar gyfer trosglwyddo pwerau'r Undeb Ewropeaidd yn drefnus yn ôl o Frwsel i'r Deyrnas Unedig. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu ac mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ei groesawu. Rydych chi wedi brandio'r Bil hwn droeon fel ymgais i gipio pŵer, ac mae nifer o bobl eraill wedi ceisio cyflwyno hyn fel cipio pŵer. Efallai y gallwch chi fod yn benodol, Gweinidog, heddiw, a dweud wrthyf pa bwerau y bydd y Bil hwn yn eu trosglwyddo o Senedd Cymru, oherwydd y realiti amdani yw nad oes unrhyw rai'n cael eu trosglwyddo i ffwrdd o Senedd Cymru. Mae'r realiti ymhell o fod yn wir. Onid yw'r Bil hwn, ymhell o fod yn ymgais i gipio pŵer, yn darparu ar gyfer trosglwyddo'r pwerau hynny'n drefnus o'r UE i'r Deyrnas Unedig? Ac, mewn gwirionedd, mae ugeiniau o bwerau newydd a fydd yn cael eu rhoi i'r Senedd hon, wedi'u trosglwyddo'n uniongyrchol o Frwsel i Senedd Cymru ac, yn wir, i'r deddfwrfeydd datganoledig eraill. A bydd y pwerau nad ydyn nhw'n cael eu trosglwyddo i'r lle hwn yn cael eu trosglwyddo, a hynny'n gwbl briodol, i Lywodraeth y DU a Senedd y DU yn unol â dymuniadau pobl Prydain a phobl Cymru yn refferendwm Brexit. Nawr, a wnewch chi ddweud wrth bobl Cymru pam yr ydych yn gwrthwynebu bod Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn dal y pwerau hyn pan na wnaethoch wrthwynebu bod Senedd Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd a'r bobl ym Mrwsel yn dal y pwerau hyn? Pam mae Llywodraeth Cymru mor bryderus ynghylch Llywodraeth a Senedd y DU yn gosod rheolau o ran cymorth gwladwriaethol, ond nid oedd yn ymddangos bod gennych unrhyw broblem ynghylch y rheolau hynny'n cael eu gosod ym Mrwsel?
Yn yr un modd, pam mae gan Lywodraeth Cymru broblem gyda Rhan 6 o'r Bil? Rydych chi wedi awgrymu bod hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhyw fath o frigdorri grant bloc Cymru er mwyn cefnogi blaenoriaethau gwario Llywodraeth y DU, ond wrth gwrs rydych chi'n gwybod bod hyn yn nonsens llwyr. Nid oes dim tystiolaeth i gefnogi eich honiad. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl glir y bydd unrhyw wariant yn ychwanegol at symiau canlyniadol Barnett a gawn yma yng Nghymru nid yn cael ei dynnu ohonyn nhw—yn ychwanegol. Nawr, nid wyf i'n gwybod amdanoch chi ond byddwn i'n croesawu unrhyw beth sy'n ychwanegol at Barnett, ac rwy'n credu y dylech chi fod yn ei groesawu hefyd. Ni allaf gredu eich bod yn gwrthod cynnig a allai ddod ag adnoddau ychwanegol sylweddol i Gymru o ganlyniad i'r darn hwn o ddeddfwriaeth.
Ac, wrth gwrs, nid yw'r Bil mewn gwirionedd yn torri cyfraith ryngwladol na domestig. Mewn gwirionedd, mae'n darparu rhwyd ddiogelwch—rhwyd ddiogelwch—y gall y DU syrthio'n ôl arni pe byddai'r UE yn parhau i geisio rhannu'r Deyrnas Unedig drwy greu ffin tariff rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, rhywbeth sydd wrth gwrs yn gwbl annerbyniol ac yn mynd yn groes i'r ymrwymiad y mae'r UE eisoes wedi'i roi yn erthygl 4 o brotocol Gogledd Iwerddon, sy'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Mae Gogledd Iwerddon yn rhan o diriogaeth tollau'r Deyrnas Unedig.
A ydych yn derbyn mai dyna y mae erthygl 4 o brotocol Gogledd Iwerddon yn ei ddweud mewn gwirionedd? Ac os felly, oni fyddwch yn cydnabod bod y Bil hwn wedi'i gynllunio i sicrhau bod hynny'n parhau i fod yn wir y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod pontio?
Wel, roedd honna'n araith eithaf neilltuol, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi clywed cyfres o ffuglen wedi'i phwytho at ei gilydd gan oportiwnistiaeth wleidyddol lwyr. Rwy'n cytuno â David Melding ar hyn—ni fyddai'r blaid y mae'r Ceidwadwyr yn honni ei bod, sy'n credu yn yr undeb, hyd yn oed yn dechrau cyflwyno deddfwriaeth fel hon yn y Senedd—ac rwy'n ei edmygu am ei safbwynt ar egwyddor y mae wedi'i gyflwyno yn y lle hwn mewn ymateb i'r gyfres warthus hon o gynigion.
Y ffuglen gyntaf yw bod gennym ni bwerau newydd yn y Senedd o ganlyniad i'r Bil hwn. Rwyf wedi gofyn i'r Aelodau fy nghyfeirio i'r rhan o'r Bil sy'n rhoi'r pwerau hynny i ni. Nid yw'n bodoli. Rydym ni'n gwybod, Dirprwy Lywydd, mai'r setliad datganoli, y ddeddfwriaeth ddatganoli, yw'r hyn sy'n gwella pwerau'r Senedd hon o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd; nid y Bil hwn.
Y rheswm y mae'r Bil hwn yn bodoli, fel yr wyf i'n credu ein bod ni ar ddeall o'r araith a roddodd Alun Cairns yn y Senedd neithiwr, yw nad yw'r Ceidwadwyr, i bob pwrpas, meddai, yn hoffi'r Llywodraeth y mae pobl Cymru wedi pleidleisio amdani. Dyna sydd wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon. Nid ydyn nhw'n hoffi sut y mae pethau yn cael eu gwneud yng Nghymru. Felly, mae unrhyw ffuglen sy'n dweud bod hwn yn ymarfer democrataidd wedi ei chwalu, yn fy marn i, gan y sylw hwnnw.
Ac rwy'n credu bod y syniad hwn bod y rhain yn bwerau a gafodd eu harfer gan fiwrocratiaid ym Mrwsel yn flaenorol—. Rwy'n deall bod honno'n llinell gyfleus i gefnogwr Brexit, ond, mewn gwirionedd, mae adran 46 yn deddfu i gymryd pwerau sy'n bodoli eisoes. Mae'r pwerau hyn i wario yng Nghymru yn bodoli eisoes; maen nhw'n bwerau Llywodraeth Cymru, a'r rheswm y maen nhw wedi eu cynnwys yn y Bil hwnnw yw galluogi Llywodraeth y DU i gipio rheolaeth dros y gyllideb, gwariant a seilwaith yng Nghymru. Ac mae'r syniad y dylem ni dderbyn gair y Llywodraeth hon mewn cysylltiad â chyllidebau yn y dyfodol, pan fo'n deddfu i dorri cytundeb rhyngwladol, yn gwbl chwerthinllyd yn fy marn i.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Allaf i ddechrau drwy hefyd ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Nawr, wrth gwrs, mae mater Mesur y farchnad fewnol yn hynod, hynod ddyrys ac, yn wir, yn peryglu holl fodolaeth Cymru. Mae'n siom enbyd bod y fath Fesur yn gweld wyneb dydd. Y pictiwr mawr, wrth gwrs, ydy ei bod hi'n anghyfrifol tu hwnt i unrhyw Lywodraeth yrru ymlaen efo'r agenda Brexit tra bod pandemig COVID yn dal i fod yn gymaint o fygythiad i'n gwlad ac i'n pobl, ond dwi'n deall mai dadl arall ydy honno, sbo, ac a gaf i fanylu ar y Mesur yma sydd gerbron?
Nawr, yn nhermau cydadnabyddiaeth, fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod yna beryg bod ein pwerau i ddeddfu yma yn y Senedd yn cael eu cyfyngu os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno efo'n bwriad ni? Dywedasoch chi fod pethau'n bellgyrhaeddol. Dwi'n ddigon hen i gofio'r dadleuon i newid y Ddeddf i wahardd ysmygu yn dechrau yma yng Nghymru, yn y Cynulliad fel yr oedd e, yn y flwyddyn 2000, yng ngwyneb gwrthwynebiad clir Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y pryd. Heb ddatganoli, gellid dadlau na fyddai'r gwaharddiad ar ysmygu erioed wedi digwydd, felly hefyd mesurau fel presgripsiynau am ddim a newid y system rhoi organau—newid cyfraith yn fan hyn yng Nghymru yng ngwyneb gwrthwynebiad llwyr ar y pryd o ochr Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, allaf i ofyn: pa obaith i Gymru allu deddfu o'r newydd i Gymru yn y dyfodol os nad ydy San Steffan yn cytuno? Ac a fydd yn rhaid inni dderbyn safonau is i'n bwydydd—cyw iâr clorinedig, unrhyw un? Ac a oes yna amddiffyniad yn erbyn preifateiddio ein gwasanaeth iechyd gwladol? Dyna beth mae'r ddadl yma ynglŷn ag e—nid rhywbeth sych ynglŷn â'r cyfansoddiad a phwerau, ond rhywbeth fyddai'n effeithio ar bobl bob dydd.
Nawr, yn nhermau Rhan 6 o'r Bil, y pwerau cymorth cyllidol, dwi'n clywed beth y dywedasoch chi, a hefyd ro'n i'n gwrando—roedd yn rhaid imi wrando—ar eiriau Darren Millar. Yn nhermau Rhan 6, mae'n edrych fel bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael rhwydd hynt i wario ar brosiectau mewn meysydd datganoledig, fel dŷch chi wedi'i ddweud, ac o gofio bod isadeiledd dŵr wedi ei gynnwys yn y Rhan yma, dyna gynyddu pŵer San Steffan a lleihau pwerau'r Senedd yma a gwneud y posibilrwydd real o Dryweryn arall—boddi cwm arall yn erbyn dymuniadau pobl Cymru. Cofiwch Dryweryn, yn wir. Allaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol: fyddwch chi'n cytuno na ddylid colli pwerau o fan hyn heb gydsyniad y Senedd hon?
Ac i gloi—dwi'n sylweddoli'r amser, Dirprwy Lywydd—a ydych chi'n cytuno, Cwnsler Cyffredinol, taw annibyniaeth i Gymru ydy'r unig ffordd nawr i ddiogelu Cymru fel endid gwleidyddol, neu ynteu ysgrifennu llythyr arall i gwyno a pharhau i ddioddef cael ein sathru fel cenedl?
Diolch i Dai Lloyd am y cwestiynau hynny. Mae'r pwerau sydd gyda ni ar hyn o bryd, yn sgil y newidiadau sydd yn arfaethedig yn y Mesur hwn, ddim yn bwerau gallwn ni eu gweithredu yn y dyfodol, ac fel mae Dai Lloyd ei hun yn dweud, nid cwestiwn cyfansoddiadol yn unig yw hwn; mae’n gwestiwn sy’n effeithio ar fywyd pob dydd pobl yng Nghymru. Felly, plastigau, safonau adeiladu, isafswm alcohol, cig eidion gyda hormones, pob mathau o bethau sydd yn effeithio ar fywyd pob dydd, naill ai drwy nwyddau, bwydydd ac ati, mae peryg i’r rheini i gyd mewn gwahanol ffyrdd.
Mae cyfeiriad yn y Bil, yn un o’r rhannau yn y Bil, nad yw’r gwasanaeth iechyd o fewn sgôp y Bil, ond gall hynny gael ei newid gan Weinidog yn San Steffan heb unrhyw rwystredigaeth wrth y Senedd hon. Felly, mae risg yn perthyn i hynny hefyd i’r gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus. Mae pwerau gallwn ni barhau i'w defnyddio ond gallwn ni ddim eu gorfodi, ac mae pwerau gallwn ni barhau i'w defnyddio ond gall y Llywodraeth yn San Steffan fynd o’u hamgylch nhw. Mae enghreifftiau o’r holl bethau hynny yn y Bil, a dyna pam rŷn ni’n ei wrthwynebu fe mor ffyrnig.
Dwi’n anghytuno ar ben y daith mae Dai Lloyd yn disgrifio ar ddiwedd ei araith, ond mae’n sicr ddigon yn sgil hyn fod angen diwygio sylfaenol ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, a’r setliad cyfansoddiadol yn gyffredinol, er mwyn ein bod ni’n gallu sicrhau ein bod ni’n cynnal y safonau mae pobl yng Nghymru wedi disgwyl ac wedi mwynhau dros y ddau ddegawd diwethaf.
Cwnsler Cyffredinol, unwaith eto, mae'n ymddangos eich bod eisiau rhwystro Brexit. Pleidleisiodd eich plaid yn erbyn pob cytundeb tynnu'n ôl, gan ddeddfu i'n hatal rhag gadael yr UE heb gytundeb, i geisio aros yn yr UE er bod Cymru a'r DU wedi pleidleisio i adael. Fel y dywedodd Darren Millar yn ei gyfraniad rhagorol, er nad oeddech chi'n gwrthwynebu bod yr UE yn arfer pwerau, wnewch chi ddim ymestyn yr un cwrteisi i Lywodraeth y DU. Yn wir, yn eich ymateb i Bapur Gwyn y farchnad fewnol, mae'n ymddangos eich bod yn cwestiynu dilysrwydd Llywodraeth y DU i arfer pŵer ledled y DU. Fe ddyfynnaf yr hyn a ddywedwyd gennych:
'mae cyd-destun y DU yn allweddol. Drwy ddeddfu fel hyn, byddai Llywodraeth y DU yn gorfodi model o gyd-gydnabyddiaeth, a hynny heb wahaniaethu, ar dair gwlad arall y DU'.
Ond nid yw Llywodraeth y DU yn gorfodi dim ar wledydd eraill, gan ei bod yn cynrychioli pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae'n atebol i Senedd lle mae pobl Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn cael eu cynrychioli, ac eto rydych chi'n honni y bydd Gweinidogion y DU yn diystyru cyfraith ddomestig, er bod Senedd San Steffan yn deddfu i gyfreithloni'r hyn a wnânt.
Gweinidog, onid y rheswm yr ydych chi'n anghytuno â Bil marchnad fewnol y Senedd honno yw oherwydd nad ydych chi'n cytuno â'i nod o gadw ein hundeb at ei gilydd, cyd-gydnabyddiaeth a diffyg gwahaniaethu rhwng pedair gwlad, ac atal rhwystrau rhwng ein gwledydd, gan gynnwys y rhai y byddai'r UE yn eu gosod ar Fôr Iwerddon i rannu Cymru a Gogledd Iwerddon? Gweinidog, rydych chi eisiau i ni barhau i fod wedi'n clymu i'r UE ac rydych chi eisiau i ddatganoli wahaniaethu a rhannu ein Teyrnas Unedig. Ond nid yw pobl y Deyrnas Unedig eisiau hynny. Onid yw'n iawn bod Senedd San Steffan yn eu cynrychioli nhw drwy'r Bil hwn?
Dirprwy Lywydd, nid y rheswm y mae'r Aelod yn ei roi yw'r rheswm yr wyf i wedi herio'r Bil hwn o gwbl; mae'n union oherwydd fy mod i'n deall, os bydd Llywodraeth y DU yn mynd ymlaen fel hyn, bod hynny'n fygythiad i'r undeb, mewn gwirionedd, ac nid wyf i eisiau gweld hynny'n digwydd. Ac rwy'n gwybod nad yw datganoli a safonau uchel yn agos o gwbl at frig rhestr blaenoriaethau'r Aelod, ond maen nhw yn y lle hwn, ac rwy'n parhau i gredu yn y sylwadau a wnes i yn y llythyr hwnnw.
Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol i unrhyw ddealltwriaeth o ddatganoli y dylai Llywodraeth y DU weithredu ar sail gytunedig gyda Llywodraethau eraill yn y DU o ran materion datganoledig. Ac rydym ni wedi cyflwyno, fel Llywodraeth, dull amgen ar gyfer cyflawni hynny, sy'n adeiladol, a fyddai'n gallu gweithio, a gyda llaw mae'n un y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cymryd rhan ynddo. Felly, nid ydym ni'n gwrthwynebu'r syniad o farchnad fewnol. Rydym ni hefyd wedi dweud, gyda llaw, nad ydym ni'n gwrthwynebu elfennau o ddeddfwriaeth i gefnogi'r fframweithiau cyffredin, ond mae ffordd well o lawer ymlaen na'r ffordd y mae'r Bil hwn yn ei gynrychioli. Bydd yn parhau â gwaith fframweithiau cyffredin a chyflawni'r gyfres hon o ganlyniadau ar sail gytunedig ledled y DU, nid ar sail orfodol, sef yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei gynrychioli.
Mick Antoniw fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Dirprwy Lywydd, nid yw'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi cael cyfle hyd yma i archwilio'r Bil hwn yn fanwl. Fe'i cynhyrchwyd yn hwyr iawn yn y dydd, gydag ychydig iawn o rybudd ymlaen llaw, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor ddydd Llun, pryd y byddwn yn archwilio'r holl faterion penodol hyn.
Ond mae gan y pwyllgor gyfrifoldeb penodol ynglŷn â chyfansoddiad y lle hwn, ac ynglŷn â materion sy'n ymwneud â moeseg democratiaeth seneddol a rheol y gyfraith fe ddywedwn i. Mae un o egwyddorion sylfaenol y Cenhedloedd Unedig yn ymwneud â rheol y gyfraith, ac rwyf yn rhoi llawer o bwyslais ar hyn oherwydd eich bod chi wedi cyfeirio at lawer o ganlyniadau'r ddeddfwriaeth hon, ond credaf ei bod yn bwysig nad ydym ni'n colli golwg ar rai o'r egwyddorion democrataidd sylfaenol yr ydym yn gweithredu arnynt. Mae egwyddorion llywodraethu'r Cenhedloedd Unedig yn nodi
bod rheol y gyfraith yn hanfodol i heddwch a diogelwch rhyngwladol a sefydlogrwydd gwleidyddol; i sicrhau cynnydd a datblygiad economaidd a chymdeithasol; a diogelu hawliau pobl a rhyddid sylfaenol. Mae'n sylfaenol i fynediad pobl at wasanaethau cyhoeddus, i atal llygredd, i atal camddefnyddio pŵer, ac i sefydlu'r contract cymdeithasol rhwng pobl a'r wladwriaeth.
Mae'r ddeddfwriaeth hon, fel y'i drafftiwyd, yn diystyru rheolaeth y gyfraith yn llwyr. Rwyf eisiau cyfeirio at bedair agwedd. Un, yr anghyfreithlondeb, sydd eisoes wedi'i gyfaddef. Nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd i Lywodraeth ddeddfu mewn modd anghyfreithlon ac i ddadlau bod yr anghyfreithlondeb yn iawn oherwydd efallai nad yw ond mewn modd penodol a chyfyngedig. Mae hynny'n annerbyniol mewn unrhyw ddemocratiaeth fodern. Pe byddwn i yn eich mygio chi y tu allan i'r Siambr hon, Cwnsler Cyffredinol, er na fyddwn i byth, byth yn gwneud hynny, ni fyddai'n dderbyniol i mi ddweud yn y llys, 'Wel, fy arglwydd, ie, ond dim ond mygio penodol a chyfyngedig iawn oedd hwn, onid e?' Mae'n gwbl chwerthinllyd.
Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried yr awgrym pan ddaw cydsyniad deddfwriaethol i'r Siambr hon o ran moeseg cydsynio i ddeddfwriaeth sy'n diystyru rheolaeth y gyfraith yn llwyr ac yn cynnal anghyfreithlondeb, a chredaf fod hwnnw'n faes efallai y gallech chi fod eisiau ei archwilio. Mae hefyd yn gagio'r llysoedd a barnwyr rhag amddiffyn rheolaeth y gyfraith.
Ac, yn bedwerydd, mae'n rhoi pŵer dilyffethair yn nwylo Gweinidogion y Llywodraeth na fyddan nhw'n atebol i'r Senedd, na San Steffan, na Chymru wrth arfer y pwerau hynny. Nawr, mewn iaith llafar gwlad, pe byddem ni'n edrych ar Rwsia neu Belarws neu rai o'r gwledydd hynny, byddem ni'n dweud ei fod yn gyfystyr ag unbennaeth etholedig. Roosevelt, rwy'n credu—gobeithio fy mod i'n iawn—a ddywedodd mewn gwirionedd mai'r ffordd orau o esbonio rheolaeth y gyfraith yw edrych ar y gwledydd nad oes ganddyn nhw reolaeth y gyfraith.
Yn rhan o'r ymarfer hwn, fe wnes i ychydig o ymchwil gyfreithiol, ac roeddwn yn ceisio dod o hyd i enghraifft pan fo gwlad ddemocrataidd yn Ewrop erioed wedi ceisio defnyddio'r math hwn o anghyfreithlondeb, ac fe wnes i ddod o hyd i un. Fe wnes i ddod o hyd i wladwriaeth Ewropeaidd a fu'n binacl rheolaeth y gyfraith, gydag un o'r Seneddau pwysicaf, gyda chyfansoddiad a oedd yn cael ei barchu ledled y byd, lle y cyflwynwyd deddfwriaeth i ddileu ymreolaeth gwladwriaethau datganoledig, i rymuso'r Llywodraeth i ddeddfu i dorri'r cyfansoddiad ac i ddadrymuso'r farnwriaeth. Y ddeddf honno oedd Deddf galluogi gweriniaeth Weimar yn 1933 a ddaeth â Hitler i rym.
Nawr, nid wyf i eisiau bod yn felodramatig am hyn, ond mae democratiaeth yn fregus, mae rheolaeth y gyfraith yn fregus, ac mae'r ddeddfwriaeth hon, fel yr ydych chi wedi ei disgrifio mor briodol, yn gwbl atgas, ac rwyf am ofyn un cwestiwn i chi: a ydych chi'n cytuno â mi fod ein democratiaeth yn rhy bwysig i gael ei thanseilio gan y math hwn o ddeddfwriaeth?
Diolch i Mick Antoniw am y sylwadau yna, ac mae ei sylwadau yn cario pwys arbennig o ystyried ei swyddogaeth fel Cwnsler Cyffredinol blaenorol hefyd. Ond fe dywedaf y pwynt hwn: mae'n gywir i ddweud bod rhannau o'r Bil hwn yn deddfu i, fwy neu lai, roi gweithrediadau gweinidogol uwchlaw y gyfraith. Mae darpariaethau datganedig sy'n nodi y ceir gwneud rheoliadau pa un a ydyn nhw'n cydymffurfio â chyfraith ddomestig neu gytundebau rhyngwladol ai peidio. Nawr, mae hynny'n ddeifiol, yn fy marn i, o enw da Llywodraeth Prydain. Mae Llywodraethau Prydeinig olynol wedi dweud eu bod yn ymrwymo i reolaeth y gyfraith a'i fod yn hanfodol i synnwyr Prydain ohono'i hun yn y byd, a chredaf fod darpariaethau o'r math hwnnw mewn deddfwriaeth yn ddeifiol i'r enw da hwnnw. Maen nhw'n llygru'r enw da rhyngwladol hwnnw, ond hefyd maen nhw'n rhoi rhwystrau ychwanegol o fewn y DU ar y berthynas rhwng y Llywodraethau, sy'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar ymrwymiadau a wnaed rhwng y naill Lywodraeth a'r llall, a chredaf, ar yr adeg benodol hon, na ddylai Llywodraeth y DU fod yn chwilio am resymau dros wneud hynny. Credaf fod amrywiaeth o safbwyntiau yn y Siambr hon ynglŷn â'r Bil hwn, yn sicr mae amrywiaeth o safbwyntiau yn y Siambr hon ynglŷn â'r cefndir y mae gadael yr UE yn ei roi iddo, ond rwy'n gobeithio y gallem sicrhau clymblaid ehangach o lawer o ran cefnogaeth yn y Siambr hon ar fater rheolaeth y gyfraith a'r perygl y mae'r Bil hwn yn ei achosi i reolaeth y gyfraith.
Cwnsler Cyffredinol, yr oedd ymddygiad rhai ASau Ceidwadol yn nadl y Bil marchnad fewnol neithiwr yn warthus. Fe wnaethon nhw gamliwio'r ffeithiau yn barhaus drwy wrth-ddweud sinigaidd, gan honni bod y Bil wedi rhoi pwerau datganoledig newydd wrth lawenhau ynghylch y ffaith ei fod yn mynd â hwy i ffwrdd. Roedd yn arbennig o sarhaus, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi, i glywed y cyn Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, yn croesawu cymal 46, sy'n trosglwyddo pwerau gwario eang o Gymru i San Steffan, ar ôl iddo ddweud wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ym mis Tachwedd 2017
nad oedd agenda o ran tynnu pwerau'n ôl oddi wrth Llywodraeth Cymru.
Roedd agenda, ac yr oedd ef yn ei chefnogi. Mae'r Torïaid wedi ein camarwain bob cam o'r ffordd ac wedi codi cywilydd ar eu hunain drwy eu hymddygiad gwarthus. Felly, Cwnsler Cyffredinol, a allwch chi ddweud wrthyf i beth yw statws presennol y cytundeb rhynglywodraethol gan fod y Torïaid bellach wedi torri pob cymal allweddol, gan gynnwys cymal 6, sy'n datgan bod
Llywodraeth y DU yn ymrwymo i wneud rheoliadau drwy broses gydweithredol ac yn unol â'r cytundeb hwn?
Ac a allwch fy sicrhau i y byddwch yn gwneud beth bynnag sydd ei hangen i ddiogelu pwerau ein Senedd, gan gynnwys ystyried cyflwyno achos i'r Goruchaf Lys, efallai ar y cyd â Llywodraeth yr Alban?
Dirprwy Lywydd, diolchaf i Delyth Jewell am y gyfres yna o gwestiynau. Credaf fod y pwynt am yr araith a roddodd y cyn Ysgrifennydd Gwladol neithiwr yn y Senedd yn pwysleisio'r ffaith fod y gwrthwynebiad mewn gwirionedd yn ymwneud â'r hyn a wnawn gyda'n pwerau yn y fan yma, nid y pwerau eu hunain. Felly mae'n wrthwynebiad i'r math o ddull y mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi'i ddefnyddio o ran buddsoddi, safonau ac yn y blaen—pethau sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl yng Nghymru. Gallaf ei sicrhau hi y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel Llywodraeth i ddiogelu hawliau'r lle hwn. Mae nifer o drafodaethau yn mynd rhagddynt yn fewnol am gwmpas ein gallu i weithredu. Yn sicr, fel yr ydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud eisoes, byddwn eisiau gweithio gyda phleidiau yn y Senedd i ddiwygio'r ddeddfwriaeth hon, ond byddwn yn edrych arno o safbwynt cyfreithiol hefyd.
O ran y cytundeb rhynglywodraethol, fe wnaf i ddweud, yng ngoleuni'r dyfalu yn y wasg, nad oeddwn i'n teimlo ei fod o gymorth o gwbl, mewn gwirionedd, yn ystod y dyddiau diwethaf o ran diddymu'r Ddeddf parhad a'r cytundeb rhynglywodraethol, rwyf yn glynu wrth weithredoedd y Llywodraeth hon wrth geisio dod i'r cytundeb hwnnw gyda Llywodraeth y DU. Cydymffurfiwyd ag ef, yn gyffredinol, a bu'n sylfaen i'r rhaglen fframweithiau cyffredin, sef y ffordd iawn, yn ein barn ni, i ddatblygu datrysiad i'r cwestiynau hyn. Byddwn yn annog Llywodraeth y DU i edrych eto ar allu'r rhaglen fframweithiau cyffredin i ddisodli'r hyn y maen nhw wedi darparu ar ei gyfer yn y Bil hwn. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd ymlaen lawer mwy adeiladol a chydweithredol.
Mae'r Bil hwn yn mynd â ni yn ôl o leiaf 100 mlynedd i'r adeg pan ddywedodd yr Encyclopaedia Britannica 'For Wales, see England'. Yn hytrach na bod yn arweinyddion ar amddiffyniadau amgylcheddol, byddwn yn segurwyr, yn dibynnu ar frwdfrydedd Llywodraeth y DU, neu beidio, dros ddiogelu ein moroedd rhag llygredd plastig. Rydych chi eisoes wedi dweud wrthym y byddai ein hymgais i wahardd yr holl blastig untro yn y wlad hon yn cael ei danseilio'n llwyr drwy ein gorfodi i gymryd plastigau untro a gynhyrchwyd mewn rhannau eraill o'r DU, a fyddai'n ei gwneud ein hymgais yn ddi-werth, a dweud y gwir.
Fe wnaethoch chi sôn am fframweithiau cyffredin. Rydym ni i gyd o blaid fframweithiau cyffredin, ond mae'r gair 'cyffredin' yn allweddol, onid yw? Nid fframweithiau a gafodd eu gorfodi, fframweithiau cyffredin a gytunwyd rhwng pedwar parti gwahanol. Felly, mae hwn yn ymddangos i mi yn ddiwrnod trist iawn a fyddai'n cyflymu'r broses o chwalu'r Deyrnas Unedig, oherwydd mae'n sicr y byddai Gogledd Iwerddon yn dewis masnachu gyda'i chymydog agosaf er mwyn atal chwalu cytundeb Gwener y Groglith. Pam na fyddech chi? Byddai hyn yn gwbl warthus.
Felly, os daw'r Bil hwn yn gyfraith, mae'n debyg na allem ni atal bwyd amhur a fyddai'n dod o fargen wael gyda'r Unol Daleithiau rhag cael ei orfodi ar ein dinasyddion, ac ni fyddai pobl yn gwybod pa un a oedden nhw'n bwyta bwyd a addaswyd yn enetig ai peidio, oherwydd ni fyddai angen ei labelu yn y modd hwnnw. Ni fyddem ychwaith yn gallu amddiffyn ein dinasyddion rhag y rhaglen adeiladu is-safonol—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—y mae'n ymddangos sydd gan Lywodraeth y DU mewn golwg, i ddiddymu'r holl gyfreithiau cynllunio a chaniatáu i ddatblygwyr adeiladu pa bynnag hofelau cyflym sydd ganddyn nhw mewn golwg, yn hytrach na'r tai am oes o ansawdd da yr hoffem ni eu cynhyrchu. Maen debyg y byddem yn cael ein hatal rhag diwygio ein rheoliadau Rhan L fel eu bod yn addas i'w diben o ran ein rhwymedigaethau argyfwng hinsawdd.
Mae Jenny Rathbone yn iawn i dynnu sylw at y datblygiadau arloesol yr ydym ni wedi'u cyflawni yn y Senedd hon mewn llawer o'r enghreifftiau a roddodd. Rydym ni'n falch o'r safonau hynny yma yng Nghymru, ac mae pobl yng Nghymru yn falch o allu dibynnu arnyn nhw. Boed yn isafswm pris alcohol, hormonau cig eidion a labelu ar gyfer hynny, boed yn blastigau untro, safonau tai, rheoleiddio landlordiaid, mae'r holl feysydd polisi hyn lle'r ydym yn uchelgeisiol o ran ein cyrhaeddiad fel Senedd yn y fantol o ganlyniad i agweddau ar y Bil hwn. Ac rydym ni'n gweithio drwy bob cymal o'r Bil i ganfod yn union faint o her y mae rhai o'i ddarpariaethau yn ei achosi i'n huchelgeisiau.
Rwyf eisiau dweud yr un peth hwn: rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth allu ymwahanu mewn gwahanol rannau o'r DU mewn meysydd lle'r ydym ni eisiau gwneud hynny i adlewyrchu blaenoriaethau ein gwahanol wledydd. Rydym wedi gwneud hynny'n llwyddiannus iawn mewn ffordd sy'n rhoi balchder i bobl yn y safonau hynny mewn gwahanol rannau o'r DU, ac sydd hefyd yn galluogi'r gymuned fusnes, cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr i ddeall y safonau y mae'r pethau hyn yn cael eu hadeiladu arnynt. Mae'r cynigion yr ydym wedi'u cyflwyno fel dewis amgen i'r Bil hwn yn adeiladu ar yr hanes hwnnw o 20 mlynedd o ymwahanu a sicrwydd, ac nid yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU edrych eto ar y gyfres honno o gynigion ac ailwampio'r Bil hwn, mewn gwirionedd, i roi'r mecanweithiau cytunedig hynny, y broses honno o gytuno, wrth wraidd y farchnad fewnol.
Neil Hamilton. Na, allwn ni ddim eich clywed chi, Mr Hamilton. Mae angen i chi droi eich meicroffon ymlaen, neu mae angen i rywun ei droi ymlaen. Dyna chi.
Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, a diolch am fy ngalw.
Nid wyf wedi fy synnu gan ddatganiad y Cwnsler Cyffredinol, oherwydd mae'n benderfynol o farw yn ffos olaf y gwrthwynebiad sydd ar ôl o ran y rhai a oedd eisiau aros yn yr UE i weithredu ewyllys y bobl, a phobl Cymru ar hynny, yn refferendwm Brexit bedair blynedd yn ôl. Ond mae'n haeru'n eiddgar ei ddatganiad bod y pwerau yn y Bil hwn yn diystyru cyfraith ddomestig a chytundebau rhyngwladol yn uniongyrchol, ond mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020, adran 38, yn nodi y bydd Senedd y DU yn sofran, ac i ddyfynnu
nid oes unrhyw beth yn y Ddeddf hon sydd yn amharu ar sofraniaeth...y Senedd.
Felly, beth bynnag a gynigir yn y Bil hwn, os caiff ei bleidleisio drwy ddau Dŷ'r Senedd, fydd cyfraith y wlad ac ni ellir ei beirniadu o fod yn torri cyfraith y DU, oherwydd dyna fydd y gyfraith.
Yn ail, o ran cytundebau rhyngwladol, mae'n un o egwyddorion craidd cytundeb Gwener y Groglith na ellir newid statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon heb gydsyniad pobl Gogledd Iwerddon. Mae Deddf Uno 1801, sy'n sefydlu'r statws cyfansoddiadol hwnnw, yn dweud bod dinasyddion y DU i gyd ar yr un sylfaen o ran masnach a mordwyo ac ym mhob cytuniad â phwerau tramor. Wrth gwrs, mae gosod rhwystr tariff ym môr Iwerddon, sef yr hyn y mae'r UE wedi gorfodi'r Llywodraeth Geidwadol i'w dderbyn yn eu ffolineb yn y cytundeb ymadael a phrotocol Gogledd Iwerddon, ynddo'i hun yn torri cytundeb Gwener y Groglith yn amlwg. Nawr, mae Llywodraeth Iwerddon a Llywodraeth y DU ill dau wedi dweud na fyddan nhw'n gosod mannau gwirio ar y ffin. Dim ond yr UE sydd wedi gadael yn agored y posibilrwydd y gallai hyn ddigwydd er mwyn diogelu marchnad sengl gysegredig yr UE.
Nid yw'r UE, dros y pedair blynedd neu ddwy flynedd neu beth bynnag ydyw o drafodaethau, wedi negodi'n ddidwyll yn fy marn i, oherwydd eu bod wastad wedi bod â'r amcan terfynol o fod eisiau cynnal cyrhaeddiad tiriogaethol ychwanegol cyfreithiau marchnad fewnol yr UE, nid yn unig yn awr ond yn y dyfodol hefyd. Yr hyn y maen nhw eisiau i ni ei wneud yw derbyn newidiadau mewn rheoliadau y byddan nhw yn pleidleisio arnynt, ac na fydd gennym ni lais ac na fydd gennym ni bleidlais arnynt. Ni fyddai unrhyw wladwriaeth sofran â chanddi hunan-barch byth yn derbyn gwaradwydd o'i fath. Ac yn ail, maen nhw eisiau cynnal cyrhaeddiad tiriogaethol ychwanegol Llys Cyfiawnder Ewrop fel dehonglydd y gyfraith. Unwaith eto, ni allai unrhyw wladwriaeth sofran â chanddi hunan-barch dderbyn hynny o gwbl. Felly, os nad yw'r UE wedi bod yn negodi'n ddidwyll o dan Gonfensiwn Fienna 1969 ar y Gyfraith Cytuniadau, yna byddai cyfiawnhad perffaith i Lywodraeth y DU basio'r Bil hwn drwy'r Senedd.
Wel, rwy'n credu y byddwn i'n dweud yn syml, o ran barn yr Aelod am gyfreithlondeb rhai o'r darpariaethau hyn, fy mod i'n credu bod pwysau llethol y farn gyfreithiol yn groes i'w farn ef. Ond roeddwn i'n ei chael hi'n anodd clywed cwestiwn yr oeddwn yn cael fy ngwahodd i'w ateb, Dirprwy Lywydd.
Gweinidog, mae'r Bil hwn yn sarhad ar ein democratiaeth. Daeth Llywodraeth y DU i gytuniad gyda'r Undeb Ewropeaidd. Yna, fe wnaethon nhw ofyn am fandad gan y bobl ar gyfer y cytuniad hwnnw. Fe wnaethon nhw ymgorffori'r cytuniad hwnnw mewn deddfwriaeth, a llai na blwyddyn yn ddiweddarach maen nhw'n ymwrthod â'r mandad hwnnw, yr ymrwymiad hwnnw a'r ddeddfwriaeth honno. A dywedir wrthym ni yn y fan yma nad oes gennym ni gyfle, dim cyfle o gwbl i wneud sylwadau hyd yn oed ac na fydd ymgynghori â ni ynghylch cyfyngu pwerau'r Senedd hon, pan all strwythurau llywodraethu'r DU—Senedd y DU a Llywodraeth y DU gyda'i gilydd—ddisodli'r Senedd hon, ein hatal rhag arfer y pwerau y mae'r bobl wedi ein hethol i'w wneud. Mae dau refferendwm wedi rhoi pwerau i ni yn y lle hwn, a gall Llywodraeth y DU roi hynny o'r neilltu yn rhwydd heb ymgynghori hyd yn oed â'r Senedd hon a'i Haelodau a'i Llywodraeth. Mae hynny'n annerbyniol.
Dirprwy Lywydd, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro wrthym ni sut y bydd y Bil hwn yn effeithio ar rai o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Llywodraeth hon, sut y gallwn ni ymateb i'r galwadau arnom sydd gan y bobl sydd wedi ein hanfon ni yma, a sut y gallwn ni wedyn greu strwythur o fewn y Deyrnas Unedig lle na all Senedd y DU a Llywodraeth y DU amddifadu'r lle hwn o bwerau sydd wedi'u rhoi gan y bobl. O'm rhan i, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni fynd yn ôl. Siaradodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd am weithredoedd canrif yn ôl; efallai ei bod hi'n bryd nawr i ni gofio'r hyn yr etholwyd Keir Hardie am y tro cyntaf ym Merthyr Tudful i'w gyflawni—hunanlywodraeth, Teyrnas Unedig ffederal, lle mae pwerau sydd yn y lle hwn yn cael eu diogelu yn y lle hwn ac na ellir eu tynnu o'r lle hwn heb i'r bobl gael dweud eu dweud.
Diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. O ran y cwestiwn cyntaf, gofynnodd beth y mae hyn yn ei wneud o ran yr effaith ar ein pwerau ni yma yn y Senedd, mae nifer o ddarpariaethau yn y Bil sydd naill ai'n cyfyngu ar y pwerau hynny, boed hynny wrth reoleiddio bwyd neu reoleiddio amgylcheddol. Mae'n golygu y gellir arfer pwerau ond, i bob pwrpas, nid eu gorfodi, neu mae'n golygu y gellir osgoi pwerau, i bob pwrpas. Felly, mae amrywiaeth o ffyrdd y mae'r Bil hwn yn ymosod ar gymhwysedd y Senedd hon a Gweinidogion Cymru. Mae darpariaethau yn y Bil sy'n galluogi yn uniongyrchol ariannu agweddau ar dai neu seilwaith iechyd. Mae setliad eisoes sy'n darparu bod y pwerau hynny'n cael eu harfer gan y Senedd hon a Gweinidogion Cymru ar ran pobl Cymru, ac os oes rhagor o fuddsoddiad i'w roi ar gael i gynorthwyo seilwaith yng Nghymru, rydym ni'n hapus iawn â hynny, ond mae Llywodraeth sydd eisoes â'r pwerau i wneud hynny, a'r Llywodraeth hon yw honno.
Rwy'n credu bod y pwynt olaf y mae'n ei wneud yn bwysig iawn. Mae'n ymddangos i mi, wrth ystyried deddfwriaeth o'r math hwn, sy'n amlwg, mewn un cymal, yn ychwanegu'n benodol at nifer y materion a gedwir yn ôl yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, mae cychwyn ar y math hwnnw o ddeddfwriaeth heb geisio gwneud hynny mewn ffordd mor gydweithredol, ac mor agored â Llywodraethau datganoledig â phosibl—rwy'n credu bod hynny yn dangos cyfyngiadau'r trefniadau cyfansoddiadol sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa pan fo angen i ni edrych ar ddiwygio sylfaenol rhai o'r trefniadau hynny. A'r ffordd yr oedd yn sôn am Keir Hardie a'r ymgyrch hunanlywodraeth, sef un lle mae Llywodraethau'r DU yn gweithredu fel pedair Llywodraeth, dull pedair gwlad—rydym ni wedi bod yn sôn am hynny, onid ydym ni, yn ystod y misoedd diwethaf—un sydd wir yn ymwreiddio pwerau gwahanol Lywodraethau ledled y DU mewn modd sylweddol iawn. Ac nid am resymau cyfansoddiadol yn unig, ond oherwydd y ffordd y maen nhw'n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru, a'n hatebolrwydd ni fel Llywodraeth i'r bobl hynny am y dewisiadau a wnawn, ac mae'n rhaid i hynny fod wrth wraidd ein hymateb i hyn.
Rhianon Passmore. Rhianon Passmore. A all rhywun droi meicroffon Rhianon ymlaen i ni os gwelwch yn dda? Dyna ni.
Rwy'n colli fy sgrin o hyd. Mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd. Allwch chi ddod yn ôl ataf i?
Iawn. Iawn. David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod ni wedi archwilio'n fawr iawn gyda chydweithwyr y sefyllfa y mae'r Bil hwn, yn gyfansoddiadol, yn ei rhoi ni ynddi, ac ni wnaf archwilio hynny cymaint â hynny ymhellach. Ond rwy'n credu bod arnom ni angen—. Rydym ni wedi clywed y rhethreg yn amlwg iawn gan gefnogwyr Brexit dros y blynyddoedd diwethaf y bydd gennym ni bwerau drwy i'r UE eu rhoi yn ôl i ni. A yw'n wir bod y Bil hwn mewn gwirionedd yn tanseilio ein gallu i gyflawni unrhyw benderfyniadau sy'n seiliedig ar y pwerau hynny? Oherwydd, mae'n rhoi'r hawl i Weinidogion y DU wneud penderfyniadau sy'n tanseilio ein penderfyniadau ni. Ac felly, pan fydd pobl yn fy etholaeth i yn disgwyl i ni gyflawni amodau neu bolisïau penodol, gallwn ni wneud hynny yn y fan yma, ond gallai Gweinidogion Llywodraeth y DU gyflawni rhywbeth gwahanol o ganlyniad i hynny. Dyna y mae pobl eisiau ei wybod. Maen nhw eisiau deall beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw. A'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw mewn gwirionedd yw y gallwn ni wneud penderfyniad, ond y gall Gweinidogion y DU ei newid heb ymgynghori â ni na'r bobl hyd yn oed. Mae hynny'n gywir.
A ydych chi hefyd yn cytuno â mi efallai fod hyn yn ddiwedd ar fframweithiau cyffredin mewn gwirionedd? Oherwydd, roedd y fframweithiau cyffredin yn rhywbeth y gwnaethom ni gytuno arnyn nhw, rhywbeth a gyflwynwyd gennym fel ffordd bosibl o gydweithio i ddod i'r sefyllfaoedd hyn. Ond mae hon yn sefyllfa lle mae'n ymddangos bod hynny wedi'i daflu allan drwy'r ffenestr, lle mae Llywodraeth y DU yn mynd i orfodi penderfyniadau. Felly, a yw hyn yn diwedd y fframweithiau cyffredin?
Ac, yn olaf, y gronfa ffyniant gyffredin. Rydym ni wedi bod yn gofyn cwestiynau am flynyddoedd am y gronfa ffyniant a rennir, ac mae'n ymddangos yn awr, mewn gwirionedd, pan addawodd cefnogwyr Brexit i ni na fyddai Cymru yn colli ceiniog y byddem ni wedi ei chael gan Ewrop—mae'n ymddangos yn awr nad ydym ni am gael unrhyw beth. Pan allem ni wneud penderfyniad, fel y gallem ni o'r blaen, bydd yn cael ei benderfynu yn Llundain, ac felly mae'r gronfa ffyniant gyffredin, o'm rhan i, wedi'i dileu yn llwyr.
Diolch i David Rees am y cwestiynau yna. O ran y pwynt cyntaf, mae e'n iawn i ddweud, fel yr oedd Jenny Rathbone yn ei ddweud yn ei chwestiwn hi yn gynharach, ein bod ni yn gosod safonau bwyd, ac rydym ni'n falch o hynny yma yng Nghymru, ond os bydd rhan arall o'r DU yn dewis mabwysiadu safonau is ar sail benodol, ni fyddem ni'n gallu atal y nwyddau a'r bwydydd hynny rhag cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd a siopau yng Nghymru. Felly, byddai hynny yn enghraifft uniongyrchol i chi o'r math o ffordd na fyddai'n bosibl gorfodi'r safonau y byddem ni'n eu gosod a'u deddfu yma yn y Senedd, mewn gwirionedd
Byddai gennym ni ddull mwy uchelgeisiol o reoli plastigau untro, mae'n debyg, na Llywodraeth y DU ar ran Lloegr, ond byddai gennym ni her wrth orfodi hynny pe byddai'r rheolau'n is yn Lloegr, ac y bydden nhw'n galluogi plastigau i fod ar y farchnad yng Nghymru mewn ffordd na allem ni ei gorfodi'n effeithiol. Felly, mae nifer o enghreifftiau ymarferol iawn am y cyfyngiadau ymarferol y byddem ni'n eu hwynebu wrth weithredu ein blaenoriaethau fel Llywodraeth ar ran pobl Cymru. Felly, nid dadl gyfansoddiadol yn unig yw hon; mae hyn yn ymwneud ag agweddau ymarferol siopa wythnosol pobl, i bob pwrpas.
O ran y fframweithiau cyffredin, rwy'n gofyn i Lywodraeth y DU ddwysáu ei hymrwymiad i'r fframweithiau cyffredin, oherwydd rwy'n credu mai yn y fframweithiau cyffredin y ceir y modd o reoleiddio'r cyfresi hyn o gwestiynau. Felly, rydym ni wedi gallu ymwahanu ers 20 mlynedd rhwng y pedair Llywodraeth yn y DU o ran rhai o'r materion hyn, ac rydym ni eisiau gallu parhau i wneud hynny. A'r ffordd o wneud hynny yw ei wneud ar sail gytunedig a'i reoli. Ni fyddwn bob amser yn gallu dod i gytundeb, yn amlwg, ond bydd proses ar gyfer datrys hynny mewn ffordd sy'n parchu'r ffaith bod pŵer wedi'i ddatganoli yn y DU mewn ffordd nad yw'r Bil hwn yn ei wneud.
Ac yn olaf, o ran eich pwynt am y gronfa ffyniant gyffredin. I bob pwrpas, bydd y pwerau gwario yn y Bil, y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd iddi ei hun o feysydd datganoledig, yn eu galluogi, i bob pwrpas, i weithredu rhai agweddau ar y gronfa ffyniant gyffredin yn uniongyrchol yng Nghymru. Rydym ni bob amser wedi gwybod, onid ydym ni, fod y pwerau hynny wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, ac y bu ymrwymiadau, mewn gwirionedd, na ddangoswyd erioed, gan Lywodraeth y DU, na fyddai'r pwerau hynny'n cael eu tynnu ymaith? Wel, mae pwerau yn y Bil hwn a fyddai'n galluogi torri'r addewid hwnnw.
Diolch. Fe rown gynnig arall i Rhianon Passmore. Rhianon Passmore.
Diolch. ydych chi'n gallu fy nghlywed i, Dirprwy Lywydd?
Gallaf, mae hynna'n iawn.
Diolch yn fawr iawn. Diolch am fy ngalw yn ôl. Gadewch i ni fod yn onest—Bil marchnad fewnol Llywodraeth Dorïaidd y DU yw'r diweddaraf mewn rhes hir o gamau cwbl annealladwy gan Boris Johnson a'i Lywodraeth. Ac rwyf i'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan Gwnsler Cyffredinol Cymru a'r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd. Bydd ar bobl Cymru nawr, yn fwy nag erioed, angen cyfrifoldeb a chynrychiolaeth swyddogaethol llawn Llywodraeth Lafur Cymru i ddadlau dros ein dyfodol yn wyneb esgeulustod ac anallu parhaus Torïaid y DU. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ailddatgan i'm hetholwyr yn Islwyn y bydd Llywodraeth Lafur Cymru bob amser yn amddiffyn un o egwyddorion pwysicaf cyfraith ryngwladol, ac yn diogelu hawliau pobl Cymru, o dan ddatganoli a enillwyd drwy ymdrech galed, i barhau i bennu ein blaenoriaethau, heb iddynt gael eu glastwreiddio gan San Steffan? Heb barch at reolaeth cyfraith ryngwladol, bydd safle a dylanwad Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn llawer llai yng ngolwg y byd.
Neithiwr, trosglwyddodd Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i'r cam nesaf. Ac eto, yn wrthnysig, byddai Bil Marchnad Fewnol y DU yn atal yr UE rhag blocio bwyd, fel y'i gelwir. Dywedodd cadeirydd Ceidwadol y Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder, Syr Bob Neill, yn gryf fod y Bil yn cynnwys cymal dybryd, diangen a allai fod yn niweidiol, a fyddai'n torri rhwymedigaethau rhyngwladol y DU. Ac ar gyfer Darren Millar, cadeirydd y Ceidwadwyr sydd wedi cyflwyno'r gwelliant hwnnw. Mae e'n cynnig dileu'r cymal a fyddai'n torri cyfraith ryngwladol. Ond y tu allan i hyn, erys diffygion difrifol, sylfaenol i'r Bil hwn o niwed democrataidd, economaidd a chymdeithasol i Gymru. Mae hwn, Dirprwy Lywydd, yn Fil gwael, ac yn Fil gwael i Gymru. Mae colli swyddogaethau yn y Bil yn amlwg. Mae colli ein gallu presennol i arwain y ffordd wrth wahardd plastigau penodol a'r awdurdod newydd yn y DU sy'n cynnig lleihau safonau ansawdd bwyd uchel Cymru, er enghraifft, drwy bennu blaenoriaethau y DU yn bresennol drwy gydol y Bil hwn. Ond ar ben hyn i gyd—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Nid yw'r bonws o Lywodraeth y DU yn gallu cymryd rhan o'n hincwm yng Nghymru yn dderbyniol. Cwnsler Cyffredinol, pa sylwadau a chamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, gan weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, i frwydro yn erbyn yr ymosodiad difrifol hwn ar Gymru ac enw da Prydain? A pha flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi i'r bwriad i leihau pwerau Cymru sydd wedi'u cynnwys yn y Bil hwn?
Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiynau yna. Gallaf roi sicrwydd pendant iddi y bydd y Llywodraeth hon yn sefyll o blaid buddiannau pobl yng Nghymru mewn cysylltiad â'r Bil hwn. A byddwn yn gweithio gydag unrhyw un sy'n rhannu'r safbwyntiau hynny ac sy'n rhannu'r blaenoriaethau hynny. Hoffwn dalu teyrnged i gyd-Aelodau seneddol yn fy mhlaid i, ac mewn pleidiau eraill yn y Siambr hon, a wnaeth sefyll dros yr egwyddorion hynny ddoe yn Senedd y DU yn y modd y mae hi'n ei ddisgrifio. Ond nid wyf i'n ddigon diniwed i feddwl bod y Prif Weinidog yn debygol o gredu bod gair Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd i fod yn hynod argyhoeddiadol. Ond byddwn yn ei annog i wrando ar eiriau tri chyn Brif Weinidog Ceidwadol, yn ogystal ag ystod o gyn-swyddogion y gyfraith ac Arglwydd Gangellorion mewn Llywodraethau Ceidwadol blaenorol. Mae hon yn gynghrair eang o bryder. Nid yw'n fater pleidiol wleidyddol yn unig. Mae amrywiaeth o bobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol sydd, am wahanol resymau, yn gofidio'n fawr iawn am y Bil hwn. A byddwn yn dweud wrtho nad yw'n rhy hwyr i wrando ar y geiriau hynny ac i wrthdroi ei safbwynt ar y Bil hwn.
Diolch yn fawr iawn. Ac mae hynny'n dod â ni i ddiwedd y siaradwyr ar gyfer yr eitem yna. Felly, nid oes rhagor o fusnes, felly daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:50.