Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/06/2020

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 10:59 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso i bawb i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae'r rhain wedi eu nodi ar yr agenda. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma.

Cyn dechrau'r trafodion heddiw, byddwn yn cynnal munud o dawelwch i gofio George Floyd ac i gyd-sefyll gyda'n cyfoedion yn y mudiad Black Lives Matter ymhob cwr o'r byd. Dwi'n galw arnoch chi bawb, felly, i ymuno mewn ennyd o dawelwch i gofio.

Cynhaliwyd munud o dawelwch. 

11:00
1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem gyntaf, felly, ar yr agenda yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny, Rebecca Evans.

Diolch, Lywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gwneud datganiad ar y coronafeirws. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi’i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, a gellir dod o hyd iddo ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Mae'n cynnwys datganiad yr wythnos nesaf gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ar adfer wedi COVID-19.

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd fy adroddiad i’r Senedd heddiw yn delio â’r datblygiadau mwyaf pwysig yn ein hymateb i'r coronafeirws. Fel arfer, byddaf yn crynhoi’r dystiolaeth ddiweddaraf am ledaeniad y feirws. Byddaf yn diweddaru ar y trefniadau profi ac olrhain sydd yn allweddol wrth i ni symud allan o’r cyfnod clo. Byddaf yn tynnu sylw’r Senedd at y rheoliadau sydd angen i ni eu gwneud er mwyn gweithredu rheolau ynysu i deithwyr wrth gyrraedd ffiniau’r Deyrnas Unedig. Byddaf yn trafod effaith y feirws ar blant a phobl ifanc yn Nghymru. Ac, yn olaf, byddaf yn cyfeirio at y digwyddiadau erchyll yn yr Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf.

Lywydd, fel yn yr wythnosau diwethaf, bydd fy adroddiad yn canolbwyntio ar faterion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y datganiadau i ddod gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Lywydd, mae nifer yr achosion newydd o'r feirws yng Nghymru yn parhau i ostwng, ynghyd â nifer y derbyniadau i ysbytai ac i ofal critigol. Nodwyd 42 o achosion newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe. Erbyn hyn, mae 40 o gleifion mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru yn dioddef o coronafeirws, i lawr o’r nifer uchaf o 164 ym mis Ebrill. Mae nifer y derbyniadau newydd ar gyfer coronafeirws wedi gostwng o dros 1,000 yr wythnos, ar ei uchaf, i 710 yr wythnos diwethaf. Mae'r tueddiadau hyn yn galonogol, ac unwaith eto rwy'n diolch i bobl yng Nghymru am eu hymrwymiad a’u hundod dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.

Er hynny, Lywydd, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddoe y bu cyfanswm o 2,240 o farwolaethau'n ymwneud â coronafeirws yng Nghymru ym mhob lleoliad hyd at 29 Mai. Nifer y marwolaethau a adroddwyd ddoe gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd naw, wrth i’r duedd barhau tuag at i lawr. Ond mae pob un o'r rheini'n unigolion â bywydau y gallent fod wedi’u byw. Bydd colled fawr ar ôl pob un ohonynt. Ac mae'n hanfodol o hyd fod pob un ohonom yn parhau i ddilyn y rheolau i ddiogelu ein hunain ac eraill.

Lywydd, adroddais yr wythnos diwethaf ar y penderfyniadau a wnaed fel rhan o'r adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau, i lacio rhai o'r cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Byddwn yn eu llacio ymhellach, cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny, ond dim ond pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

Rydym wedi cymryd y camau gofalus hyn a gefnogir gan ein system brofi, olrhain a diogelu, a roddwyd ar waith yr wythnos diwethaf. Fel rwyf wedi’i ddweud, mae nifer yr achosion o coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru'n parhau i ostwng. Yr wythnos diwethaf, y nifer uchaf ar unrhyw ddiwrnod unigol oedd 82, a’r isaf oedd 35. Arweiniodd yr achosion hyn at 651 o bobl ar gyfer gwaith dilynol gan y timau olrhain cysylltiadau, ac o’r 651 hynny, maent eisoes wedi llwyddo i gysylltu â 619 ohonynt a’u cynghori.

Mae ein system yng Nghymru yn bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol. Mae dros 600 o staff, sydd â phrofiad o weithio gyda'r cyhoedd, wedi'u recriwtio a'u hyfforddi gan awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Ni fydd pob un yn ymgymryd â gwaith olrhain cysylltiadau eto oherwydd y nifer isel o achosion newydd sydd wedi’u cadarnhau, ond mae'r capasiti yno i gynyddu’r gwaith os oes angen, ac mae trefniadau gofalus wedi’u gwneud yn ein system i ddiogelu data personol ac i warchod rhag twyll. Ac mae hynny oll yn bwysig gan fod hon yn system sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, sydd wedi'i galluogi gan dechnoleg ac wedi'i staffio gan bobl leol. Bydd yn darparu’r seilwaith hanfodol i’n helpu i atal trosglwyddiad y feirws a lleihau’n raddol y cyfyngiadau ar fywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru.

Lywydd, mae’n rhaid inni fod yn barod am gynnydd posibl mewn trosglwyddiad, oherwydd wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, bydd nifer y cysylltiadau personol yn cynyddu hefyd. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym wedi adolygu'r dystiolaeth ar rôl gorchuddion wyneb, ac adroddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyngor newydd ddoe, yn hybu’r defnydd o orchuddion wyneb anfeddygol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Darparodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ddoe hefyd a oedd yn nodi ein bod ar y trywydd iawn i gwblhau’r cam cyntaf mewn perthynas â phrofi’r holl breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos hon, a byddwn bellach yn profi pob gweithiwr mewn cartrefi gofal bob wythnos am gyfnod o bedair wythnos arall.

Lywydd, rhoddwyd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer gofynion cwarantin ar y ffin ar waith yr wythnos hon. Mae diogelwch ar y ffin yn fater a gedwir yn ôl, ond gan fod y trefniadau cwarantin yn cael eu gweithredu drwy ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd, roedd angen i Weinidogion Cymru bennu rheoliadau cyfatebol i Gymru. Pan fydd pobl yn nodi eu bod yn bwriadu gosod eu hunain dan gwarantin mewn cyfeiriad yng Nghymru, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu â hwy.

Lywydd, mewn datganiadau blaenorol, rwyf wedi ystyried effaith y feirws ar waith Llywodraeth Cymru, ar ei chyllideb ac ar feysydd eraill. Nid yw'r rhaglen ddeddfwriaethol yn eithriad, gyda gostyngiad sydyn yng ngallu'r Llywodraeth i gyflwyno ein cynigion, a heriau, yn wir, i'r ddeddfwrfa wrth gyflawni'r cyfrifoldeb i graffu ar y cynlluniau hynny o dan yr amgylchiadau presennol.

Ddoe, rhoddodd datganiad y Gweinidog Addysg wybod i’r Gweinidogion fod y Llywodraeth, yn gyndyn iawn, wedi dod i’r casgliad na fydd yn ymarferol bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd gyda’r Bil diwygio addysg drydyddol. Bellach, bydd yn cael ei gyhoeddi fel Bil drafft ar gyfer ymgynghoriad. Byddaf yn gwneud datganiad y mis nesaf ar gynlluniau deddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon.

Lywydd, cawsom dystiolaeth bwysig ddoe ar sut y mae coronafeirws yn effeithio ar fywydau plant yng Nghymru. Mae hwn wedi bod yn gyfnod anarferol i bob un ohonom, ond i blant, bydd argyfwng coronafeirws yn gyfran sylweddol o'u bywydau. Mae rhoi sylw i'w hanghenion a'u profiad yn rhan bwysig o’n hymateb i'r argyfwng.

Rhannodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc rhwng tair a 18 oed eu barn drwy arolwg 'Coronafeirws a Fi'. Mae'r arolwg hwn yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru a'r Senedd Ieuenctid. Tanlinellodd yr arolwg i ba raddau y mae pobl ifanc wedi bod yn colli eu teulu a'u ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn, ac i bobl ifanc yn arbennig, mae wedi tanlinellu eu gofid am eu haddysg a'u pryderon ynghylch bod ar ei hôl hi.

Fel y mae ein prif swyddog meddygol wedi egluro'n gyson, mae mwy nag un math o niwed o ganlyniad i coronafeirws. Mae’n rhaid i anghenion plant fod yn bryder gwirioneddol wrth inni geisio cydbwyso manteision diogelu rhag y feirws yn erbyn y niwed sy’n deillio o golli addysg a chyswllt cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth y bydd y niwed hwnnw’n effeithio fwyaf ar y rhai sydd eisoes dan anfantais. O'r cychwyn cyntaf,  rydym wedi mynd ati i liniaru'r niwed hwnnw drwy gadw ysgolion ar agor i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim, a phlant gweithwyr allweddol. Ond i lawer o blant, nid ydynt wedi cael unrhyw gyswllt â'r ysgol, ac efallai bod eu profiad o ddysgu o bell wedi bod yn gymysg.

Dyna pam y mae'r Gweinidog Addysg, wrth ystyried yr opsiynau ar gyfer gweddill y tymor hwn, wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau y bydd pob disgybl yn cyfarfod â'u hathro mewn grwpiau bach i'w cefnogi gyda'u dysgu a'u cynlluniau ar gyfer y cam nesaf. Cadarnhaodd datganiad y Gweinidog yr wythnos diwethaf mai dychweliad graddol i’r ysgol fydd hwn. Bydd yn cychwyn ar 29 Mehefin ac yn parhau tan ddiwedd mis Gorffennaf, gan sicrhau mis llawn o addysg ar ei ffurf newydd ar gyfer yr holl ddisgyblion cyn gwyliau'r haf.

Yn olaf, Lywydd, gofynnodd arweinydd Plaid Cymru gwestiwn i mi ynglŷn â protestiadau Black Lives Matter, ac roeddwn yn ddiolchgar iddo am wneud hynny. Mae'r dicter a deimlir yn sgil marwolaeth George Floyd wedi tynnu sylw, yn gwbl briodol, at brofiad ehangach pobl dduon yn ein cymdeithas. Mae llawn cymaint o angen i ni yma yng Nghymru ag unrhyw un arall wynebu ein hanes ein hunain, cydnabod rhan cymunedau duon ynddo, a mynd i’r afael â'r gwahaniaethu systematig a’r gwahaniaethu y mae pobl dduon yn dal i'w wynebu heddiw. Nid yw hanes unrhyw un ar hyn yn berffaith: unrhyw blaid wleidyddol; unrhyw sefydliad, cyhoeddus na phreifat; nac unrhyw Lywodraeth. Yr unig beth yr hoffwn ei ddweud wrth ddinasyddion duon yma yng Nghymru heddiw yw hyn: er bod yr hanes wedi bod yn amherffaith, mae Llywodraeth Cymru yma i sefyll gyda chi, i weithio gyda chi, i ddysgu oddi wrthych wrth inni ailymrwymo i wneud gwahaniaeth go iawn yn y dyfodol. Lywydd, diolch yn fawr.

11:10

Brif Weinidog, rwy'n croesawu'n fawr eich sylwadau ar ddiwedd eich datganiad a hoffwn i ddychwelyd at y cwestiwn o'r goblygiadau i ni yng Nghymru o'r digwyddiadau erchyll diweddar yn yr Unol Daleithiau. Mae pwy rydym ni'n coffáu o'r gorffennol yn adlewyrchu'n gwerthoedd ni heddiw fel cymdeithas. Fyddai fe'n briodol, felly, yn eich tyb chi, Brif Weinidog, i gynnal adolygiad drwy Gymru gyfan, fel sydd yn digwydd nawr ar draws Llundain, i sicrhau nad ŷm ni mewn unrhyw fodd yn cael ein gweld yn dathlu caethwasiaeth, trefedigaethedd neu hiliaeth yn ein cofebau cenedlaethol neu leol?

Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price unwaith eto am godi'r pwnc pwysig hwn. Dwi'n cytuno'n llwyr â beth ddywedodd ef. Mae'n bwysig i ni gofio ein gorffennol a'r rhan roedd Cymru wedi rhoi i mewn i'r pethau rŷm ni'n meddwl amdanynt heddiw, ond dydym ni ddim eisiau dathlu pethau. Rŷm ni eisiau cofio a dysgu, ond nid eu dathlu, a dyna pam rŷm ni yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a phobl eraill yng Nghymru i weld a oes pethau yn dal gyda ni ar hyn o bryd lle fyddai'r amgueddfa y lle gorau i roi y pethau hynny, i fod yn rhan o'n hanes ni ac i beidio anghofio'r hanes, ond nid i ddathlu pethau. Rŷm ni'n dal i weithio gyda phobl eraill ledled Cymru i feddwl am hwnna. 

Mae gan y ffordd rydym yn addysgu ein hanes allu naill ai i atgynhyrchu’r gorffennol neu newid y dyfodol. Felly, Brif Weinidog, yn ychwanegol at yr ymrwymiad cyffredinol a roesoch yn eich datganiad, sydd i’w groesawu’n fawr, tybed a fyddech yn barod i roi dau ymrwymiad penodol pellach heddiw.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu amgueddfeydd gwlân, morwrol, llechi a glo, hyd yn oed un ar gyfer y lleng Rufeinig, ac mae cynnig wedi'i wneud ar wahân hefyd ar gyfer amgueddfa feddygaeth filwrol yn yr hen Tiger Bay. Mae yna fwlch amlwg. Felly, a wnewch chi ymrwymo, Brif Weinidog, i archwilio’r posibilrwydd o sefydlu amgueddfa genedlaethol i adrodd hanes cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, ac a wnewch chi ymrwymo hefyd i ymgorffori gwrth-hiliaeth ac addysgu hanes pobl dduon a phobl groendywyll, gan gynnwys, fel y nodwyd gennych, rôl Cymru mewn gwladychiaeth a chaethwasiaeth, fel elfennau craidd o’r cwricwlwm addysgol ym mhob ysgol yng Nghymru?

11:15

Diolch i Adam Price unwaith eto. Mae'n iawn i dynnu sylw at yr ystod eang o amgueddfeydd sydd gennym yng Nghymru, gan gynnwys amgueddfa bêl-droed newydd o ganlyniad i gytundeb rhwng ei blaid a'r Llywodraeth yn gynharach yn nhymor y Senedd hon. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y math o amgueddfa y mae'n ei disgrifio. Byddwn yn awyddus iawn iddi fod yn amgueddfa fyw. Cefais y fraint, ar sawl achlysur yn ddiweddar, o helpu i roi cydnabyddiaeth i bobl ifanc o'r gymuned ddu fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon, a'r neges rwy’n ceisio'i chyfleu iddynt yn y digwyddiad hwnnw yw eu bod yn creu eu hanes heddiw. Nid yw'r hanes yn perthyn i'r gorffennol; mae hanes yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei greu, ac mae ganddynt ddylanwad fel pobl dduon hynod dalentog a gwerthfawr yma yng Nghymru. Felly rwy’n fwy na pharod i ymrwymo i edrych ar hynny, ond rwy'n awyddus iawn i hynny fod yn rhan o ddathlu’r Gymru gyfoes, y cyfraniad y mae cymunedau duon yn ei wneud, y ffordd y maent yn llunio Cymru at y dyfodol, yn ogystal ag edrych ar eu profiad yn llunio Cymru yn y gorffennol.

Ac o ran addysgu mewn ysgolion, bydd Adam Price yn ymwybodol iawn o sut y mae digwyddiadau diweddar wedi tynnu sylw at y pwnc hwn. Gwn y bydd fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn awyddus i weithio eto gyda'r rheini sydd wedi bod yn ein cynghori ar y cwricwlwm newydd, ar y ffordd y dylid ei ddatblygu a'i gyflwyno i sicrhau ein bod yn dysgu gwersi'r wythnosau diwethaf. Credaf fod hwn yn fater i bob ysgol yng Nghymru. Ni waeth beth yw cyfansoddiad y boblogaeth leol, mae'r un mor bwysig i blant lle mae cymunedau duon wedi bod yn llai presennol ddeall yr hanes hwnnw ag ydyw i bobl ifanc sy'n rhan o'r gymuned honno eu hunain.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yn gynharach yr wythnos hon, fe nodoch chi eich bod yn ystyried llacio rhai o'r cyfyngiadau symud yng Nghymru yn eich adolygiad nesaf. Bydd pobl Cymru yn chwilio am obaith yn y datganiad hwnnw—gobaith y gallant aduno eu teuluoedd, gobaith mewn perthynas â'u busnesau a gobaith, wrth i nifer yr achosion newydd ostwng, y bydd rhywfaint o'r rhyddid y maent wedi'i golli dros yr wythnosau diwethaf yn cael ei adfer. Rwy'n derbyn eich bod yn dal i weithio gyda swyddogion, ond rydych wedi nodi eisoes yn y gorffennol y dylai gweithwyr trin gwallt ac eraill ddechrau paratoi i ailagor. Fodd bynnag, ceir sectorau eraill sydd eto i glywed unrhyw beth gan Lywodraeth Cymru, megis y diwydiant eiddo, y diwydiant manwerthu moduron—ac mae'r rhestr yn parhau.

Felly, wrth baratoi ar gyfer eich cyhoeddiad nesaf, a allwch gadarnhau ar ba sail sylfaenol y gall Llywodraeth Cymru lacio'r cyfyngiadau ar gyfer rhai sectorau, a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod y meini prawf hynny'n cael eu profi'n deg yn erbyn pob sector, fel y gall economi Cymru ddechrau ailagor ychydig mwy dros yr wythnosau nesaf?

Wel, Lywydd, rwy'n rhannu'r gobaith hwnnw sydd gan bobl yng Nghymru y byddwn mewn sefyllfa erbyn diwedd yr wythnos nesaf i lacio mwy ar rai o'r cyfyngiadau y mae pob un ohonom wedi gorfod cadw atynt ers bron i dri mis bellach. Sut y byddwn yn gwybod a yw'n bosibl gwneud hynny? Wel, bydd yn dibynnu ar lefel cylchrediad y feirws yma yng Nghymru, a bydd ystod o arwyddion y gallwn eu defnyddio i ddweud wrthym a oes gennym le i allu llacio’r cyfyngiadau hynny ymhellach. Bydd y rhif R yn un arwydd, ond bydd rhai o'r pethau y cyfeiriais atynt yn fy natganiad yn berthnasol hefyd, Lywydd.

Felly, er mwyn rhoi math gwahanol o ffon fesur i chi, mewn ymateb i gwestiwn arweinydd yr wrthblaid, pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud tua diwedd mis Mawrth, roedd 400 o achosion newydd o'r coronafeirws wedi'u cadarnhau yng Nghymru ar unrhyw ddiwrnod penodol, ac roedd y nifer honno'n codi. Saith wythnos yn ôl, pan ddechreuasom godi rhai o'r cyfyngiadau am y tro cyntaf, roedd y nifer wedi gostwng i oddeutu 100 y dydd, ac yn parhau i ostwng, a bu hynny'n gymorth i greu lle i ddechrau'r broses. Wrth inni ddechrau'r wythnos hon, mae'r ffigur oddeutu 50 o achosion newydd wedi'u cadarnhau bob dydd, ac mae'r nifer yn parhau i ostwng. Felly, mae’r tebygolrwydd y byddwch yn cyfarfod â rhywun sy'n dioddef o'r coronafeirws wrth i chi adael eich cartref eich hun oddeutu un rhan o wyth o’r hyn ydoedd pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud. Ac mae honno’n ffordd o geisio esbonio i bobl pam ei bod yn bosibl cynnig mwy o ryddid i bobl.

Ond yr ail beth y byddwn yn parhau i orfod ei bwysleisio i bobl yw bod yn rhaid iddynt arfer y rhyddid hwnnw’n ofalus iawn, oherwydd hyd yn oed os mai dim ond 50 o achosion newydd sy’n cael eu cadarnhau bob dydd, nid oes gennych unrhyw ffordd o wybod wrth i chi adael eich cartref a fyddwch yn dod i gysylltiad ag un o'r 50 o bobl hynny. Felly, cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo, defnyddio gorchuddion wyneb, a gorchuddion wyneb anfeddygol ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'r holl bethau hynny'n bethau y mae'n rhaid inni eu gwneud o hyd, hyd yn oed wrth i ni lacio’r cyfyngiadau symud, er mwyn parhau i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â'r feirws, ein bod yn creu mwy o le i weithio, fel y bydd pethau eraill y gallwn eu gwneud ar ddiwedd cyfnod arall o dair wythnos i helpu i barhau â’n bywydau mewn ffordd debycach i'r hyn a fodolai cyn y feirws.

11:20

Wel, rwy’n gobeithio, Brif Weinidog, wrth i Lywodraeth Cymru ystyried y newidiadau mawr nesaf i’w pholisïau COVID-19, y bydd yn gweithio’n adeiladol gyda’r gwrthbleidiau. Ac efallai y byddai'n ddefnyddiol yn y dyfodol pe gallech ymgynghori â gwleidyddion y gwrthbleidiau cyn gwneud rhai o'r penderfyniadau hyn fel y gall pobl Cymru fod yn sicr ein bod ni, fel gwleidyddion, yn gweithio gyda'n gilydd lle gallwn er budd y cyhoedd.

Nawr, Brif Weinidog, y penwythnos diwethaf, fe ddywedoch chi'n glir y bydd Cymru’n parhau i fod ar gau i raddau helaeth dros yr haf, gydag ymwelwyr yn debygol o gael eu cyfyngu i aros mewn bythynnod a fflatiau hunanddarpar. Fel y gallwch ddychmygu, rwy'n siŵr, arweiniodd eich sylwadau at ymateb dig a rhwystredig gan rai gweithredwyr twristiaeth ledled y wlad, sydd, yn ddealladwy, yn ofni y gallai hyn arwain at gwymp sector twristiaeth Cymru. Nawr, rwy'n derbyn bod rhaid agor y sector mewn modd diogel a chynaliadwy, ond wrth i'n busnesau twristiaeth wylio eu cymheiriaid ledled y DU yn ystyried ffyrdd y gallant ailagor cyfleusterau twristiaeth yn rhannol, mae llawer o weithredwyr yn teimlo fel pe baent yn cael eu gadael ar ôl heb unrhyw obaith i'w busnesau yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi a'ch Llywodraeth achub ar y cyfle heddiw i nodi beth yn union yw cynlluniau cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru? Ac a allwch ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda chynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth i ddarganfod sut y gall eich Llywodraeth eu cefnogi'n well drwy gydol y pandemig hwn? Ac a wnewch chi ymrwymo i ddarparu cymorth pellach i weithredwyr twristiaeth ledled Cymru hyd nes y gallant ailagor, er mwyn sicrhau eu hyfywedd ar gyfer y dyfodol?

Wel, Lywydd, gadewch imi ddweud bod y diwydiant twristiaeth yn cael cryn dipyn o ystyriaeth gennyf ac yn y gwaith a wnawn o fewn Llywodraeth Cymru. Rwy'n llwyr sylweddoli'r effaith enfawr y mae'r feirws wedi'i chael ar y sector hwnnw yma yng Nghymru. Roeddwn am roi arwydd fod rhywfaint o obaith i’r sector hwnnw hefyd, a bod rhai ffyrdd y gallai rhywfaint o weithgarwch twristiaeth ailgychwyn yn ystod y tymor hwn, ond bydd yn rhaid gwneud hynny gan gadw diogelwch yn flaenllaw yn ein meddyliau, fel y dywedodd Paul Davies yn gwbl briodol. Rydym yn cael cyswllt rheolaidd iawn â sefydliadau a diddordebau twristiaeth yng Nghymru. Cefais gyfarfod ddoe ddiwethaf gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol, gydag uwch swyddogion yma, gan adrodd ar y sgyrsiau hynny a meddwl ymlaen at yr hyn y gallem ei gynnig o ran llacio’r cyfyngiadau symud. Os oes modd felly, ymddengys bod dechrau gyda llety hunangynhwysol, lle nad yw pobl yn rhannu ceginau a thoiledau a chawodydd ac ati, yn ffordd synhwyrol a diogel o feddwl sut y gallwn ailddechrau gweithgarwch yn y diwydiant twristiaeth.

Y ffactor allweddol arall—a gwn y bydd Mr Davies yn ymwybodol iawn o hyn o'i ardal leol—yw bod yn rhaid gwneud hynny gyda chaniatâd y gymuned. Fe fydd yn ymwybodol o lefel y pryderon a fu mewn rhannau o dde-orllewin a gogledd-orllewin Cymru yn ystod y pandemig, ynglŷn â phobl yn dod i'r ardaloedd hynny o fannau lle mae'r feirws wedi bod yn lledaenu'n fwy helaeth, ac o’r perygl y bydd y feirws yn dod i lefydd lle mae’r cylchrediad wedi bod yn isel a'r effaith y gallai hynny ei chael ar wasanaethau lleol a bywydau lleol. Felly, mae gwaith i'r diwydiant ei wneud hefyd, o ran cael y sgyrsiau hynny gyda phoblogaethau lleol—mae llawer o'r bobl hynny’n gweithio yn y sector twristiaeth eu hunain—er mwyn sicrhau, wrth inni ddechrau caniatáu i dwristiaeth ailddechrau yng Nghymru, os gallwn, y gall y bobl sy'n teithio i'r cymunedau hynny fod yn sicr y byddai croeso iddynt, ac y bydd y diwydiant unwaith eto'n dangos popeth sydd gan Gymru i'w gynnig i bobl.

11:25

Brif Weinidog, nid ydym yn cael cwestiynau i’r Prif Weinidog mwyach, ac yn lle hynny, rwy’n ymateb o bell i'ch datganiad unwaith eto. Mae Senedd San Steffan wedi dychwelyd, ond ni chaniateir i Aelodau etholedig fynychu’r Senedd, ac eto ddydd Sadwrn, caniatawyd i lu o brotestwyr ddod i brotestio yn y Senedd, o fewn golwg i'r man lle cafodd eich Gweinidog iechyd ei bicnic tecawê gyda’i deulu. Gofynnais i chi bryd hynny a oeddech chi wedi darllen Animal Farm, gan ei bod yn ymddangos bod rhai yn fwy cyfartal nag eraill. Yr wythnos hon, wrth i rai gael dirwyon am deithio ychydig dros 5 milltir i weld eu teuluoedd, ymunodd o leiaf un Aelod Llafur â'r brotest ym mharc Bute. Pam y dylai eraill gydymffurfio â'r cyfyngiadau symud os yw'r Aelodau Llafur sy'n eu gorfodi yn eu torri? Nododd Mandy Jones o fy ngrŵp, yn gwbl gywir, os aiff yr ail brotest yn ei blaen,

Mae hyn yn sarhad ar y rhai sydd wedi aberthu cymaint er mwyn trechu'r feirws.

Pan ofynnwyd i chi am eich barn ar y protestiadau, a wnaethoch chi achub ar y cyfle i gondemnio eu hanghyfreithlondeb? A wnaethoch chi rybuddio protestwyr y gallent gael dirwy, neu ddweud y byddech yn cefnogi'r heddlu i roi dirwyon o'r fath? Naddo. Yn lle hynny, fe ddewisoch gondemnio'r Aelod etholedig a geisiodd gynnal y gyfraith. Wrth gwrs, mae’r brotest dorfol—a drefnwyd, gyda llaw, Lywydd, gan grŵp sydd am chwalu cyfalafiaeth a dadariannu’r heddlu—yn sarhad ar lawer o bobl sydd wedi aberthu cymaint er mwyn trechu’r feirws.

Brif Weinidog, a wnewch chi ymddiheuro i Mandy Jones am eich sarhad gwarthus wrth geisio cysylltu’r ymadrodd 'slap in the face' â heddwas yn lladd dyn, yn ôl pob golwg, drwy benlinio ar ei wddf am wyth munud a hanner? Pam na wnewch chi orfodi eich rheolau yn ddiduedd? Ai oherwydd eich bod yn cefnogi'r protestiadau, neu ai oherwydd eich bod yn ofni y bydd y protestwyr yn eich 'canslo', fel a ddigwyddodd i Jenny Rathbone ac Ali Ahmed ddydd Sadwrn pan wnaethant siarad ar ran grwpiau lleiafrifol eraill gan ddweud, 'Mae pob bywyd yn bwysig'? Brif Weinidog, gan na wnewch chi orfodi eich deddfau'n deg, onid yw'n bryd inni eu diddymu?

Lywydd, nid mater i mi yw sut y mae'r Senedd hon yn dewis eistedd. Os bydd y Senedd hon yn penderfynu ei bod am ailddechrau cyfarfod yn y cnawd yn rhannol neu'n gyfan gwbl, yna byddaf yn ymddangos gerbron y Senedd i ateb cwestiynau. Mater i chi yw hynny'n llwyr, nid i mi.

O ran y pwynt a wnaeth yr Aelod am y rhai sy'n llunio deddfau, gadewch imi ddweud yn glir: fy marn i erioed yw na allwch wneud y gyfraith a thorri'r gyfraith, ac mae hynny'n wir i bob un ohonom, pob un Aelod, yn fy marn i. Mae gennym y fraint enfawr o wneud penderfyniadau ac yna gofyn i bobl eraill gadw atynt. Ni allwn wneud y penderfyniadau hynny, gofyn iddynt gadw atynt a pheidio â chadw atynt ein hunain, ac mae hynny'n wir am bob un ohonom.

Lywydd, rwy'n cefnogi'r heddlu'n fawr yn y ffordd y maent wedi ymateb i’r gwrthdystiadau. Nid fy lle i yw cyfarwyddo’r rheini sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau hynny ar y rheng flaen ynglŷn â sut y dylent ymateb i'r amgylchiadau sy'n datblygu o'u blaenau. Credaf fod yr heddlu yng Nghymru wedi ymateb mewn ffordd adeiladol i'r sefyllfa anodd y maent wedi'i hwynebu, a hoffwn eu cefnogi ar y camau y maent wedi'u cymryd.

O ran y gwrthdystwyr, dywedaf eto fy mod yn deall ac yn rhannu'r dicter y maent yn ei deimlo a'u hangen i fynegi eu barn, ond mae ffyrdd eraill a ffyrdd gwell o wneud hynny o dan yr amgylchiadau presennol. Ni ddylai pobl ymgynnull pan fyddant yn dod yn agos at ei gilydd ac yn mynd yn groes i'r rheolau rydym wedi'u gosod. Ceir sawl ffordd arall o fynegi barn, ac mae angen, ac fe ddylid mynegi'r farn honno, ac rwy’n annog pobl yng Nghymru sy'n teimlo’n gryf, fel finnau, i fynegi’r safbwyntiau hynny mewn ffyrdd nad ydynt yn peryglu eu hunain ac eraill.

11:30

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae'r Senedd hon yn eistedd. David Rees.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, rydym yn llythrennol newydd gael gwybod gan Albert Heaney yn y munudau diwethaf am y canllawiau a allai fod yn newid ar gyfer cartrefi gofal ac ymweliadau â chartrefi gofal. Rwyf wedi derbyn pryderon gan etholwyr ynghylch y gallu i ymweld â pherthnasau mewn cartrefi gofal a allai fod yn dioddef o ddementia. Mae rhai enghreifftiau rhagorol, mae Sŵn-y-Môr yn Aberafan yn defnyddio cyswllt fideo, fideo ar FaceTime. Byddant yn mynd o un preswylydd i’r llall i sicrhau bod pob aelod o'u teulu yn cael cyfle i'w gweld. Nid yw hynny'n bosibl ym mhob cartref gofal.

Nawr, mae'r llythyr sydd newydd ei ryddhau’n nodi eu bod yn awyddus i gael sylwadau gan y cyhoedd, a bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, ond mae eich adolygiad wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf. A allwch roi syniad inni a fydd cyfleoedd i gartrefi gofal heb achosion o COVID ganiatáu ymweliadau gan deuluoedd, yn enwedig ymweliadau â phreswylwyr â dementia, sy'n gweld wyneb cyfeillgar aelod o’r teulu fel rhywbeth hanfodol i'w lles meddyliol? A yw hynny'n rhan o'ch ystyriaethau ynglŷn â’r canllawiau hynny?

Lywydd, diolch i David Rees am hynny. Hoffwn ddweud unwaith eto, rwy’n llwyr sylweddoli’r gost bersonol i deuluoedd ac i breswylwyr o ganlyniad i fethu gweld ei gilydd ar adegau yn eu bywydau pan fo’r cyswllt personol hwnnw’n golygu cymaint iddynt.

Ond cyfeiriodd Mr Rees at gartrefi gofal yng Nghymru lle nad oes achosion o COVID, ac nid oes unrhyw achos wedi'i gadarnhau yn nhri chwarter yr holl gartrefi gofal yng Nghymru. Ond dim ond mewn dwy ffordd, mewn gwirionedd, y gall coronafeirws fynd i mewn i gartref lle nad oes coronafeirws ar hyn o bryd. Un yw ei fod yn cael ei gyflwyno gan aelod o staff, a'r ail yw bod ymwelydd yn ei gyflwyno. Felly, mae'r rheolau a roddwyd ar waith gennym yno'n bendant i ddiogelu preswylwyr cartrefi gofal rhag yr effaith ddinistriol y gall coronafeirws ei chael mewn cartref sydd â phobl oedrannus â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes yn byw yn agos at ei gilydd. Wythnos ar ôl wythnos, Lywydd, yn y sesiynau hyn, rydym wedi gorfod syllu ar y ffigurau difrifol iawn sy'n gysylltiedig â nifer y bobl sydd wedi marw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Felly, mae llythyr Mr Heaney, a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin, yn cynghori cartrefi gofal sut y gallant wneud mwy i ganiatáu ymweliadau gan deulu a ffrindiau â phreswylwyr cartrefi gofal mewn amgylchiadau sy'n lleihau'r risg honno. Gall cartrefi gofal wneud hynny o dan y rheoliadau cyfredol; nid oes angen newid rheoliadau i allu gwneud y pethau ychwanegol y mae Albert Heaney yn eu cynghori.

Fel y dywedodd David Rees, mae llawer iawn o gartrefi gofal yng Nghymru eisoes yn gwneud pethau hynod ddychmygus i geisio pontio'r bwlch rhwng yr hyn a oedd yn bosibl o'r blaen a'r hyn sydd wedi bod bosibl yn ystod y pandemig. Mae gennym grŵp yn gweithio ar y canllawiau pellach hynny. Mae'n cyfarfod eto yfory. Rydym yn awyddus i allu gwneud mwy i ganiatáu i deuluoedd gael cyswllt â phobl mewn cartrefi gofal, ond mae’n rhaid inni fesur hynny yn erbyn y risg wirioneddol, y risg rydym wedi’i gweld o'r nifer o farwolaethau a fu, o'r hyn y mae'r feirws yn ei wneud os yw'n mynd i mewn i gartref gofal lle mae'r holl ymdrechion hyd yma wedi llwyddo i'w gadw draw.

Brif Weinidog, yn amlwg mae'r galwadau i ddiogelu hawl pobl i anadlu aer glân wedi dwysáu dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr y byddwch yn rhannu fy mhryder fod safle tirlenwi Hafod ger Wrecsam wedi mynd ar dân bythefnos yn ôl. Pasiodd mwg du trwchus dros y cymunedau mawr cyfagos; cymunedau, gyda llaw, a ymladdodd ymgyrch egnïol rai blynyddoedd yn ôl i atal gwastraff rhag cael ei ddympio yno. Nawr, fel gyda'r tân diweddar cyfagos yn Kronospan, bu’n rhaid cludo offer monitro ansawdd aer symudol yno o Abertawe, a chymerodd ddyddiau i’r offer hwnnw gyrraedd. Gellir dadlau bod y difrod gwaethaf eisoes wedi'i wneud, ond ymhen dwy awr ar ôl iddo gyrraedd, roedd yr offer yn canfod gronynnau uwchlaw'r lefelau derbyniol, a dywedwyd wrth y preswylwyr am aros yn eu tai gyda’r ffenestri ar gau am dri diwrnod. Gwyddom, wrth gwrs, fod llosgi plastigion a gwastraff arall yn creu deuocsinau a ffwranau, cemegion sy'n gallu cronni yn y gadwyn fwyd, ac wrth gwrs, gallant achosi canser hefyd.

Nawr, mae cannoedd o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb i ddweud mai digon yw digon, ac maent am weld tomen wastraff Hafod yn cau. Felly, a wnewch chi, fel Prif Weinidog, sicrhau bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i achos y tân, a bod safle tirlenwi Hafod yn cau, neu o leiaf ar gau hyd nes y daw'r ymchwiliad i ben? Ac a wnaiff y Llywodraeth sicrhau hefyd fod gennym offer monitro ansawdd aer symudol yma yng ngogledd Cymru fel na fydd yn rhaid inni aros am ddyddiau bwy'i gilydd iddo gyrraedd ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol, gan fod y rhan fwyaf o'r difrod eisoes wedi'i wneud erbyn hynny wrth gwrs?

11:35

Wel, Lywydd, mae yna awdurdodau sydd â chyfrifoldebau yn y maes hwn—yr awdurdod lleol, yr awdurdod tân; byddant yn darparu adroddiadau ar y digwyddiadau y mae Llyr Gruffydd wedi cyfeirio atynt, a bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried yr adroddiadau hynny ac yna'n penderfynu pa gamau pellach y gallai fod eu hangen. Rwy’n derbyn y pwynt a wnaeth yn ei frawddeg olaf, ynghylch argaeledd offer ansawdd aer symudol, a byddaf yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i wella'r sefyllfa honno.

Sut rydych yn ymateb i’r datganiad ddoe gan Gymdeithas Deintyddiaeth Breifat Prydain yng Nghymru, sydd wedi tyfu yn ei haelodaeth o ddim i 400 aelod mewn llai nag wythnos, fod llawer o gleifion yn dioddef yn ddiangen, a bod angen gweithredu ar frys i ddarparu deintyddiaeth arferol o dan weithdrefnau gweithredu safonol dros dro ynghyd â chyfarpar diogelu personol i roi’r un gofal i boblogaeth Cymru â’r hyn a geir yn Lloegr, ond yn bwysicach fyth, ledled y byd, ac y bydd llawer o bractisau deintyddol yn methu goroesi fel arall?

A sut rydych yn ymateb i'r mater canlynol, y gofynnodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam i mi ei godi yma? Gyda niferoedd sylweddol o staff a myfyrwyr yn dod o ochr arall y ffin gyfagos â Lloegr, maent yn poeni am y gwahaniaethau presennol ar y cam cynnar hwn o godi’r cyfyngiadau symud, a'r dryswch y gallai hyn ei beri os bydd yn parhau ar gamau diweddarach. Sut y byddant yn gallu cyfathrebu'n glir â staff a myfyrwyr a allai fod yn bryderus ynglŷn â thorri rheolau?

Lywydd, rwy'n ymateb i'r grŵp cyntaf drwy eu cyfeirio at gyngor Prif Swyddog Deintyddol Cymru, sef yr unigolyn sydd yn y sefyllfa orau—sefyllfa well o lawer na'r Aelod—i roi cyngor arbenigol i bobl yn y maes deintyddol, a'r trafodaethau parhaus y bydd yn eu cael gyda'r proffesiwn yng Nghymru. Dyna sut y dylid gwneud penderfyniadau—drwy drafodaeth broffesiynol briodol ac arweinyddiaeth broffesiynol, ac fe’u cyfeiriaf at arweinydd eu proffesiwn yma yng Nghymru.

O ran y pwyntiau a wnaed gan staff ym mhrifysgol Glyndŵr, byddwn yn fwy na pharod i’w recriwtio a’u cyfethol i’r ymdrechion a wnawn fel Llywodraeth Cymru i egluro beth yw’r rheolau yma yng Nghymru, ac i egluro unrhyw ddryswch a achoswyd gan ei gyd-bleidwyr dros y ffin.

Brif Weinidog, yn yr adolygiad diwethaf o'r rheoliadau COVID, a gaf fi groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau y gall prentisiaid ddychwelyd i’r coleg i gwblhau eu hastudiaethau ymarferol, ac felly i gwblhau eu cymwysterau? Mae hynny'n newyddion gwych i'r bobl ifanc hynny, a gobeithiwn, wrth gwrs, y bydd o fudd i'r economi hefyd. Fodd bynnag, mae graddau'r problemau y gallai pobl ifanc eu hwynebu dros y misoedd i ddod yn fy nychryn. Yn fy etholaeth i, mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra ieuenctid oddeutu 11 y cant ar hyn o bryd. Felly, a ydych yn cytuno, wrth geisio mynd i'r afael â hyn yn y tymor hwy, y dylem adeiladu ar lwyddiannau blaenorol fel rhaglen Anelu'n Uchel yng ngholeg Merthyr Tudful, ac efallai edrych i weld a ellid defnyddio'r model prentisiaeth hwn mewn mwy o sectorau a thu hwnt i fyfyrwyr STEM, er budd pobl ifanc a chyflogwyr lleol mewn amrywiaeth ehangach o leoliadau?

Lywydd, diolch i Dawn Bowden am hynny, ac roeddem yn falch iawn o allu cefnogi'r sector addysg bellach yn eu hawydd i alluogi pobl ifanc i gwblhau arholiadau ymarferol fel nad oeddent dan anfantais o gymharu â phobl ifanc sy'n cael cymwysterau academaidd mwy confensiynol y darparwyd ar eu cyfer eisoes yma yng Nghymru.

Diolch i Dawn Bowden am dynnu sylw at lwyddiant cynllun Anelu’n Uchel. Fel y gŵyr, mae'n enghraifft o gynllun rhannu prentisiaeth lle mae pobl ifanc yn cael cyfle i ennill profiad mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau, a lle mae cyflogwyr bach, yn enwedig, nad oes ganddynt y capasiti, o bosibl, i gyflogi prentis cyfan amser llawn, yn dal i allu elwa o brentis yn gweithio fel rhan o'u gweithlu. A Lywydd, awgrym Dawn oedd adeiladu ar lwyddiant a'i ledaenu ymhellach. Fe fydd yn ymwybodol fod cynllun Anelu’n Uchel wedi cychwyn ym Mlaenau Gwent, lle bu gennym 80 o bobl ifanc yn gweithio yno fel rhan o gynllun Anelu’n Uchel, ac yna fe’i symudwyd i weithredu ym Merthyr Tudful hefyd. A chredaf fod honno'n enghraifft ymarferol dda iawn o'r union bwynt roedd Dawn Bowden yn ei wneud; roedd yn llwyddiant, rydym yn gwneud mwy ohono, ac rydym wedi ymestyn y cyllid ar ei gyfer ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent am 12 mis arall.

Wrth inni agosáu at y dyddiau anodd o'n blaenau lle bydd diweithdra’n cynyddu, a'r effaith y gwyddom y mae hynny’n ei chael ar fywydau pobl ifanc, bydd adeiladu ar y pethau rydym wedi'u gwneud eisoes ac yn gwybod y gallant lwyddo yn arf eithriadol o bwysig.

11:40

Wythnos yn ôl, mi oeddwn i'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud argymhelliad i bobl wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai sefyllfaoedd, ac mi fuaswn i'n licio dweud i ddechrau fy mod i yn falch bod y Llywodraeth rŵan wedi gweithredu ar hynny. Ond eisiau mynd ar ôl materion deintyddiaeth a COVID-19 ydw i. Dwi wedi cael nifer o ddeintyddion yn cysylltu efo fi yn dilyn cyhoeddiad ynglŷn â sut mae gwasanaethau deintyddol yn mynd i fod yn cael eu hadfer yng Nghymru. Mi oedd un yn gefnogol iawn i'r ffaith bod yr adferiad hwnnw yn mynd i fod yn raddol iawn, yn pwysleisio'r risg gwirioneddol sydd yna o heintiad mewn sefyllfa ddeintyddol. Roedd yn dweud bod Lloegr yn eu cyhoeddiad diweddar nhw ar wasanaethau deintyddol wedi dal i fyny efo Cymru o ran ailgyflwyno rhai gwasanaethau a oedd eisoes yn cael eu gwneud yma. 

Ond mae'n rhaid dweud mai pryder oedd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw—pryder bod Cymru i'w weld yn dilyn trywydd llawer arafach i ailgyflwyno gwasanaethau na'r rhan fwyaf o wledydd, yn sicr yn edrych drwy Ewrop; pryder y byddai peidio â gallu gwneud rhai triniaethau mor sylfaenol â fillings, ac ati, yn golygu bod gwaith ataliol allweddol yn methu â digwydd, a'r effaith andwyol y gall hynny ei gael ar iechyd deintyddol y boblogaeth. Roedd eraill yn pwyntio allan bod deintyddiaeth fel proffesiwn wedi hen arfer gweithio efo risgiau cross-infection cymhleth. Maen nhw hefyd yn poeni bod y prif swyddog deintyddol—

Mi ddof i at gwestiwn yn syth, rŵan.

[Yn Parhau.]—wedi defnyddio'r cyfle yma i wneud newidiadau i gontractau deintyddol, a dwi ddim yn meddwl mai dyma'r amser i wneud hynny. Felly, gaf i ofyn i'r Prif Weinidog, ydy o'n clywed y pryderon hynny ac ydy o'n barod i weithio efo'r proffesiwn i chwilio am ffordd wahanol ymlaen? 

I ddweud i ddechrau, Llywydd, wrth gwrs rŷm ni'n awyddus fel Llywodraeth i weld mwy o wasanaethau yn y maes sylfaenol yn tyfu, ac mae hwnna'n wir am y maes deintyddiaeth, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i ni wneud e mewn ffordd sy'n gallu gofalu am bobl sy'n gweithio yn y maes, ac am gleifion hefyd. Bydd Rhun ap Iorwerth dwi'n siŵr yn ymwybodol ar ôl clywed oddi wrth bobl ei bod yn heriol yn y maes yna. 

Mae'n amhosibl ymarfer deintyddiaeth o bellter o 2m, ac mae defnyddio aerosolau, sy'n rhan annatod ​​o ymarfer deintyddol, yn peri risgiau penodol mewn perthynas â'r feirws hwn. Felly, rydym yn awyddus, wrth gwrs, i weld deintyddiaeth yn ailddechrau, yn yr un modd â gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ond mae'n rhaid i hynny ddigwydd mewn ffordd sy'n diogelu iechyd gweithwyr a chleifion. Dyna y cynlluniwyd cyngor y prif swyddog deintyddol i'w gyflawni wrth i ymarfer deintyddol ailgychwyn yn raddol. Mae hi'n dal i gael trafodaethau agos gyda'r proffesiwn. Os yw'n ddiogel gwneud hyn yn gyflymach, dyna'n union y byddem am ei weld. Ond mae'n rhaid i'r gair 'diogel' olygu rhywbeth, ac mae'n rhaid iddo olygu rhywbeth y gall pob un ohonom ddibynnu arno, neu fel arall, ni fydd y cleifion yn mynychu. Dyna pam y byddai’n talu i’r proffesiwn sicrhau eu bod yn gallu dweud yn hyderus wrth y cleifion fod y gwasanaethau y byddant yn eu cynnig wedi cael eu cymeradwyo gan arweinwyr eu proffesiwn fel rhai sydd bellach yn ddiogel i'w hailddechrau.

11:45

Mae cadeirydd Fforwm Gofal Cymru wedi beirniadu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyhoeddus am beidio ag ymgysylltu â gweithwyr gofal proffesiynol cyn gweithredu'r cyfyngiadau polisi rhydd rhag COVID 28 diwrnod newydd. Mae perygl y gallai hyn gau hanner y cartrefi gofal yng Nghymru oherwydd y goblygiadau ariannol a'r bylchau. A allwch egluro, Brif Weinidog, pam nad ymgynghorwyd â'r rheini yn ein sector gofal cyn cyhoeddi'r llythyr hwn? Hefyd, nid yw'r holl ganlyniadau profion COVID-19 yn cael eu dychwelyd o fewn y ffenestr 48 awr hanfodol; mae rhai ohonynt yn cymryd hyd at dri diwrnod. Pa effaith y bydd hyn yn ei chael ar y polisi newydd o gynnal profion wythnosol mewn cartrefi gofal? Ar 1 Mehefin, 22 yn unig o’r 68 cartref a oedd wedi cael profion torfol yn lleol. Felly, sut y gallwn fod yn hyderus y bydd pob cartref bellach yn cyrraedd y garreg filltir o gael profion torfol, ac yn bwysicach fyth, sut rydych yn mynd i ailbrofi’n wythnosol yn ein cartrefi gofal?

Ac yn olaf, a wnewch chi gynnal adolygiad brys o effaith rhyddhau 1,400 o bobl i gartrefi gofal ym mis Mawrth a mis Ebrill, ac effaith hynny ar ein cyfraddau heintio, o gofio na chafodd rhai o'r bobl hynny brawf cyn iddynt adael yr ysbyty? Diolch yn fawr.

Wel, Lywydd, mae’r ateb i gwestiwn cyntaf yr Aelod i'w ganfod yn ei chwestiwn olaf. Y rheswm pam ein bod yn argymell na ddylid rhyddhau rhywun sydd wedi profi'n bositif i gartref gofal am 28 diwrnod yw oherwydd y pryderon a fynegwyd gan y sector ynghylch pobl yn gynharach yn y pandemig yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartref gofal gyda’r risg eu bod yn dod â'r coronafeirws gyda hwy. Nod ein safbwynt diweddaraf yw sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Nawr, ni allwch ei chael hi’r ddwy ffordd yn hyn o beth. Naill ai nid ydych am i bobl â'r coronafeirws fod mewn cartrefi gofal neu fel arall. Os nad ydych eisiau hynny, mae’r rheol 28 diwrnod wedi’i llunio i gyflawni'r amcan hwnnw. Ac rydym yn parhau i sgwrsio'n agos â'r sector drwy'r amser.

Lywydd, rydym yn hyderus y byddwn wedi cwblhau ein gwaith o brofi preswylwyr cartrefi gofal a staff cartrefi gofal erbyn 12 Mehefin. Mae wedi bod yn ymdrech enfawr. Cafwyd achosion yng Nghymru lle bu'n rhaid i ni weithio'n galed iawn i ddarbwyllo cartrefi gofal ynghylch mantais y polisi hwn. Ac rwy'n deall y bydd rhai cartrefi gofal yn poeni am bobl o'r tu allan yn dod i'r cartref oherwydd y risg y bydd y feirws yn dod gyda hwy. Ond rydym wedi cael cryn dipyn o gartrefi gofal lle bu’n rhaid cael llawer o drafod er mwyn caniatáu i'r profion gael eu cynnal, ac mae hynny wedi gohirio’r profion mewn sawl achos. Rwy'n gweld yr Aelod yn ysgwyd ei phen. Dweud y ffeithiau, dyna rwy'n ei wneud. Nid wyf yn gwybod beth sydd ynddynt i anghytuno ag ef; dyna'n syml y mae byrddau iechyd a phrofwyr yn ei ddweud wrthym, nad yw pob cartref gofal yr un mor barod i dderbyn, ac nad yw pob preswylydd cartref gofal yn barod i gael eu profi. Ac mae hawl ganddynt i wrthod. Nid yw'n system orfodol. Mae'n gynnig. Ac nid yw pob preswylydd cartref gofal wedi bod yn awyddus i fanteisio ar y cynnig hwnnw, ac mae'n rhaid inni barchu hynny hefyd.

Rydym yn hyderus bellach y gallwn brofi pob gweithiwr cartref gofal yn wythnosol am bedair wythnos, a chawn weld beth a ddysgwn o hynny, ac yna byddwn yn gwneud penderfyniad ynglŷn â dull cymesur o brofi yn y sector hwn pan fydd y cyfnod hwnnw o bedair wythnos wedi dod i ben.

Bore da, Brif Weinidog. Neithiwr, roeddwn yn un o'r nifer o bobl a gymerodd ran mewn trafodaeth ledled y DU ar adroddiad newydd y Blaid Gydweithredol, 'Owning the Future', ynglŷn â sut y gallwn ailadeiladu’n gydweithredol ar ôl y coronafeirws. A chanfu’r adroddiad mai dim ond un o bob 10 o bobl sy’n teimlo bod yr economi ledled y DU cyn y coronafeirws wedi blaenoriaethu rhannu cyfoeth yn deg, a bod saith o bob 10 o bobl yn credu y dylai’r broses o adfer wedi’r coronafeirws roi mwy o lais i gymunedau o ran sut y caiff busnesau a’r economi eu rhedeg. Ac unwaith eto, mae saith o bob 10 am gadw’r ymdeimlad newydd o gymuned a welsom yn ystod yr argyfwng.

Nawr, yng Nghymru, rydym yn ffodus, rydym wedi cael Llywodraeth ers peth amser sy'n deall ac yn cefnogi egwyddorion cydweithredol, ac sydd wedi gweithredu arnynt, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond byddai pob un ohonom yn y grŵp Llafur Cymru a Chydweithredol o Aelodau o'r Senedd yn gofyn i chi, Brif Weinidog: a wnewch chi barhau i roi’r egwyddorion cydweithredol hynny ar waith, wrth i ni ailadeiladu wedi'r coronafeirws, er mwyn tyfu ein cyfran gyfunol yn ein perchnogaeth ar ein dyfodol ein hunain yng Nghymru, yn ogystal â ledled y DU?

11:50

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn a dynnai sylw at yr adroddiad pwysig, 'Owning the Future', y mwynheais ei ddarllen? Ac mae ganddo rinwedd ardderchog y mudiad cydweithredol, sef fod ganddo gyfres gyfan o gynigion ymarferol ar y diwedd—nid adroddiad sy'n dadansoddi'r broblem yn unig ydyw; mae'n adroddiad sydd wedyn yn nodi saith, fel mae'n digwydd yn yr achos hwn, o ffyrdd hynod ymarferol y gallwch helpu i lunio'r dyfodol, fel yr awgryma’r adroddiad. Ac nid yw'r canfyddiad hwnnw yn yr adroddiad yn peri unrhyw syndod i mi, gan fod pobl yng Nghymru wedi gwneud cymaint yn gydweithredol gyda'i gilydd dros y tri mis diwethaf fel nad oes unrhyw ryfedd eu bod yn dymuno cael ymagwedd fwy cyfunol a chydweithredol tuag at lunio’r dyfodol hwnnw. Ac mae'r pethau rydym wedi'u gwneud fel Llywodraeth dros y blynyddoedd bob amser wedi ymddangos i mi yn gydnaws â’r ffordd y mae pobl yng Nghymru yn meddwl am y materion hyn. Felly, rwy’n barod iawn i ailymrwymo i barhau i wneud hynny dros weddill tymor y Cynulliad hwn, wrth inni ddechrau symud allan o’r pandemig, a thu hwnt iddo, gobeithio. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yng nghynhadledd flynyddol Plaid Gydweithredol Cymru, a gynhelir yn rhithwir dros y penwythnos sydd i ddod, a chyfle i drafod y ffyrdd ymarferol y gallwn weithio gyda'n gilydd i lunio dyfodol y mae gan bob un ohonom gyfran ynddo, a lle caiff cyfraniadau holl ddinasyddion Cymru eu gwerthfawrogi a'u dathlu'n briodol.

Diolch yn fawr, Lywydd. Brif Weinidog, rwy’n rhannu eich pryderon, a fynegwyd yn eich datganiad, am effaith COVID ar blant a phobl ifanc. Ond gan mai munud yn unig sydd gennyf heddiw, roeddwn yn awyddus i ddefnyddio fy amser i ofyn am grŵp arall sy'n rhy aml yn ddi-lais. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos cynnydd syfrdanol o 83 y cant yn nifer y marwolaethau o ddementia, nid COVID, ym mis Ebrill. Ac mae Cymdeithas Alzheimer's wedi rhybuddio bod y pandemig yn cael effaith ddinistriol ar y rheini sy'n byw gyda dementia. Mae llawer ohonom yn y Cynulliad hwn yn falch o fod yn ffrindiau dementia, a gwyddom o hynny pa mor hanfodol yw cyswllt dynol i’r rheini sy’n byw gyda dementia, sy'n gorfod byw yn y foment lawer o'r amser.

Nawr, rydych wedi sôn sawl gwaith am yr angen i gydbwyso iechyd meddwl ag ystyriaethau iechyd corfforol—fe ddywedoch chi hynny eto mewn ymateb i David Rees. Ond a gaf fi ofyn sut yn benodol rydych chi wedi ystyried effaith ddinistriol unigedd a gwahanu oddi wrth anwyliaid ar y rheini sy'n byw gyda dementia yn y penderfyniadau rydych wedi eu gwneud? A hoffwn ofyn i chi hefyd am eich ymrwymiad cadarn heddiw i edrych ar frys ar nifer y marwolaethau ymhlith y rheini sy'n byw gyda dementia, a'r ymchwil gysylltiedig i glefyd Alzheimer, ac am eich ymrwymiad i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig pellach, gan fanylu ar ba gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith COVID ar y rheini sy'n byw gyda dementia. Diolch.

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am ei chwestiwn pwysig, mewn maes cymhleth a heriol iawn? Mae'r ymweliadau rydym wedi gallu sôn amdanynt mewn cartrefi gofal, ac a nodwyd yn llythyr Mr Heaney, yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol. Ac fel y gŵyr Lynne Neagle, gall hynny fod yn arbennig o anodd ei egluro i bobl sy'n byw yn y foment, fel y dywedodd, a lle mae cyswllt corfforol yn aml yn rhan o'r ffordd y cânt gysur gan y bobl a ddaw i’w gweld. Fodd bynnag, gwyddom y gallai’r cyswllt corfforol hwnnw beri risg sylweddol iddynt ac yna i’r bobl eraill sy'n byw yn yr un lleoliad.

Felly, mae'r rhain yn faterion cymhleth iawn. Mae ffigurau’r ONS yn peri cryn bryder, a byddwn yn sicr yn ceisio gwneud synnwyr ohonynt yma yng Nghymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn dibynnu, rwy'n siŵr, ar gyngor ein grŵp goruchwylio gweithrediad ac effaith ym maes dementia, sy'n cynnwys pobl sy'n gofalu am bobl â dementia—y profiad byw o wneud hynny—Cymdeithas Alzheimer's, a'n sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ein hunain. Mae i fod i gyfarfod yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Bydd yn edrych ar yr adroddiad hwnnw, ar yr hyn y mae Cymdeithas Alzheimer's eu hunain wedi'i ddweud, yn ogystal â'r ONS, a bydd yn rhoi cyngor pellach i ni. A chan ein bod yn gallu defnyddio’r cyngor hwnnw i gynghori pobl eraill, byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gyfleu’n briodol i Aelodau'r Cynulliad.

11:55

Dau fater, os caf, Brif Weinidog. Yn gyntaf, tybed a all Llywodraeth Cymru edrych eto ar y rheol i beidio â theithio mwy na 5 milltir a rhoi canllawiau ar hyn. Gwn eich bod wedi dweud yn flaenorol mai canllawiau yw’r rhain a bod angen i bobl ddefnyddio’u crebwyll ynglŷn â pha mor bell y maent yn teithio, ond mae gennyf lawer o etholwyr sy'n dal i fod yn ddryslyd ac yn bryderus iawn na allant deithio i weld teulu a ffrindiau. Felly, a gawn ni eglurder ar hynny?

Yn ail, gofynnais i'r Gweinidog cyllid yn ddiweddar a fu unrhyw drafodaethau ynglŷn â chodi trethi yng Nghymru yn y dyfodol i ymdrin â gwaith adfer wedi COVID. Gwn iddi ddweud nad oedd hynny'n beth deniadol i'w wneud, ond tybed a gafwyd unrhyw drafodaethau? Ac wrth inni ddod allan o’r cyfyngiadau symud, a allai Llywodraeth Cymru edrych dramor, o bosibl, ar enghreifftiau o wledydd eraill o ran ysgogi’r economi a defnyddio'r system dreth i wneud hynny? Yn Seland Newydd, er enghraifft, maent wedi cyflwyno cyfundrefn i gario colledion treth yn ôl i helpu busnesau i wneud iawn am golledion treth cyfredol yn erbyn y blynyddoedd blaenorol. Efallai fod hynny’n rhywbeth y gallech chi a Llywodraeth y DU ei drafod. Maent hefyd yn cyflwyno didyniadau yn ôl disgresiwn ar gyfer adeiladau annomestig i geisio cynorthwyo busnesau ac ysgogi’r economi. Felly, credaf fod gan Lywodraeth Cymru nifer o adnoddau at ei defnydd, fel rydych chi a'ch rhagflaenydd wedi'i ddweud eisoes. Felly, a allech edrych ar ffyrdd o ddefnyddio'r system dreth i ysgogi’r economi a cheisio cael Cymru i symud eto?

Lywydd, diolch i Nick Ramsay am y ddau gwestiwn. Gadewch i mi ddweud, unwaith eto, nad yw'n ddefnyddiol cyfeirio at y terfyn 5 milltir fel rheol—nid yw'n rheol. Pe bai’n rheol, byddai yn y rheoliadau—nid yw yn y rheoliadau. Canllaw ydyw i roi syniad i bobl o'r hyn y gallai'r rheoliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl aros yn lleol ei olygu yn eu hamgylchiadau hwy. A'r cyngor gorau yw dweud wrth bobl y dylent ddefnyddio'r terfyn 5 milltir fel rheol gyffredinol. Dylent ddehongli hynny’n synhwyrol ac yn gall yn eu hamgylchiadau eu hunain, ond mae llawer iawn o wahanol fathau o ddaearyddiaeth yng Nghymru, ac ar yr amod y gallant ddangos eu bod yn gweithredu mewn ffordd y gellir ei hamddiffyn, byddant wedi sicrhau eu bod yn cadw at y rheol i 'aros yn lleol'.

Nid oes unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth Cymru i ddileu trethi yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae gennyf ddiddordeb mewn clywed yr enghreifftiau y cyfeiriodd Nick Ramsay atynt. Rydym wedi tueddu i gasglu llawer o wybodaeth o fannau eraill ynglŷn â sut y maent yn codi’r cyfyngiadau symud a'r effaith y mae hynny'n ei chael ym maes iechyd. Mae’r Aelod yn gwneud pwynt defnyddiol ynghylch dysgu o leoedd eraill wrth iddynt ddefnyddio gwahanol ddulliau i gynorthwyo’r economi, wrth i’r economi ymadfer wedi effeithiau coronafeirws hefyd.

Credaf fod y rhan fwyaf o'r enghreifftiau y cyfeiriodd Nick Ramsay atynt yn bethau i Lywodraeth y DU eu rhoi ar waith. Ac ar hyn o bryd wrth gwrs, yng nghyd-destun ardrethi annomestig, mae llawer iawn o gymorth eisoes wedi'i ddarparu yn y flwyddyn ariannol gyfredol fel nad yw busnesau'n wynebu'r rhwymedigaethau hynny ar adeg pan fo'u gallu i godi refeniw’n gyfyngedig. Ond credaf mai’r pwynt cyffredinol, ac mae'n bwynt pwysig, yw hwn: wrth inni ddysgu o brofiad gwledydd eraill mewn perthynas ag agweddau iechyd ar yr argyfwng coronafeirws, mae'n bwysig ein bod yn dysgu oddi wrthynt mewn perthynas â’r adferiad economaidd yn ogystal, a byddwn yn sicr anelu at wneud hynny fel Llywodraeth yng Nghymru.

12:00

Neil Hamilton. Arhoswch eiliad i'ch meicroffon agor. A wnewch chi agor meicroffon Neil Hamilton? Iawn, rydym yn dal i gael trafferth gyda hynny. Fe fyddaf yn galw arnoch, Neil Hamilton, os llwyddwn i agor y meicroffon. Fe af at Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n ddiolchgar, Lywydd, i'r Prif Weinidog am eglurder ei ddatganiad y bore yma. Credaf fod ei eglurder wrth siarad yn cymharu’n dda â'r anhrefn parhaus a welwn dros y ffin yn Lloegr, lle rydym yn gweld addewidion yn cael eu rhoi, addewidion yn cael eu torri. Rydym yn gweld arweinyddiaeth wael a dirywiad yng nghefnogaeth y cyhoedd i’r polisïau sy'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, a'r cyfraddau marwolaethau erchyll rydym yn eu gweld dros y ffin yw'r prif reswm am hynny yn fy marn i, yn ogystal ag anallu Llywodraeth y DU i siarad yn glir ar anghenion eu poblogaeth.

Mae diddordeb gennyf, Brif Weinidog, yn eich ymagwedd tuag at bolisi yn y dyfodol a'r ymagwedd rydych yn ei mabwysiadu dros y misoedd nesaf. Rydych eisoes wedi sôn am y penderfyniadau y byddwch yn eu gwneud yn yr wythnos neu ddwy nesaf, yn yr adolygiad nesaf, ond yn yr un modd ag y siaradodd Nick Ramsay am enghreifftiau rhyngwladol, hoffwn ddeall y mathau o enghreifftiau rhyngwladol rydych yn edrych arnynt ac yn eu hystyried o ran eich ymagwedd at barhau cyfyngiadau symud.

Nawr, rydym wedi clywed ambell lais perswadiol a lleisiau croch weithiau gan y Ceidwadwyr ac o fannau eraill yn dweud y dylech ddilyn y trychineb yn Lloegr, ond nid oes unrhyw un eisiau hynny. Nid yw pobl ym Mlaenau Gwent eisiau hynny. Yr hyn y maent ei eisiau yw i chi ystyried eu hanghenion, rhoi pobl o flaen elw, ac maent am i chi ystyried eu teuluoedd a'u cymunedau. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Brif Weinidog, pe gallech amlinellu'r ymagwedd rydych yn ei mabwysiadu, sut rydych yn defnyddio enghreifftiau rhyngwladol i lywio'r ymagwedd honno, a'r hyn rydych yn disgwyl gallu ei wneud, wrth inni symud ymlaen drwy fisoedd yr haf.

Lywydd, diolch i Alun Davies. Ceisiaf gynnig ychydig o bethau, yn fyr iawn, ynglŷn â’r ffordd rydym yn ceisio gwneud yr hyn a ddywed. Ein hymagwedd yng Nghymru yw ceisio canfod sut y gellid gweithredu polisi ac yna cyhoeddi'r polisi, yn hytrach na chyhoeddi'r polisi yn gyntaf a phoeni wedyn sut y gallwch wneud iddo ddigwydd. Ac rydym wedi gweld, dros y ffin, lle mae hynny'n eich arwain gyda’u helyntion ym maes addysg yr wythnos hon.

Rydym yn benderfynol o geisio sicrhau ein bod yn ystyried y negeseuon rydym yn eu dysgu gan bobl yng Nghymru wrth inni wneud ein penderfyniadau. Dyna pam, ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos diwethaf, y gwnaethom ddefnyddio'r lle i droi a oedd gennym er mwyn mynd i'r afael â'r gofid o fethu cyfarfod â phobl o aelwyd arall sy'n bwysig i chi. Daeth hynny'n uniongyrchol o'r negeseuon roeddem yn eu clywed gan Aelodau o'r Senedd, ond hefyd yn uniongyrchol gan bobl eu hunain, ac mae sicrhau bod barn pobl a'u dymuniadau'n cael eu clywed yn rhan o'r ffordd y byddwn yn gwneud y penderfyniadau hynny.

Credaf—[Anghlywadwy.]—y penderfyniadau y mae'n rhaid inni eu gwneud ar unwaith a sut y gallwn gynllunio rhwng nawr a’r hydref, ac yna mae'r gwaith y mae Jeremy Miles yn ei arwain ar waith adfer mwy hirdymor. Yn y ddau beth, mae tystiolaeth o leoedd eraill yn y byd yn bwysig iawn i ni. Rydym yn dysgu llawer am y ffordd y mae cyfyngiadau symud yn cael eu codi mewn mannau eraill a'r risgiau anochel wedyn y bydd y rhif R yn codi a'r feirws yn lledaenu eto. A gwn y bydd Alun Davies wedi darllen am yr enghreifftiau hynny mewn rhannau eraill o'r byd, yn union fel y dysgwn o leoedd sydd wedi rhoi camau ar waith nad ydynt yn arwain at y canlyniad hwnnw. Ac yna, fel y dywedodd Nick Ramsay, mae angen inni hefyd ddysgu gwersi o fannau eraill ynglŷn ag adferiad economaidd, am ffyrdd y gallwn greu economi deg ar gyfer y dyfodol, lle rydym yn gwobrwyo'r bobl sy'n gwneud y gwaith rydym yn dibynnu arno'n wirioneddol, yn hytrach na'r bobl sydd, yn y ffordd a welsom dros y degawd diwethaf, wedi gallu defnyddio eu manteision i greu mwy fyth o fanteision, gan adael y gweddill ohonom ar ôl.

12:05

Mae aelodau’r grŵp trawsbleidiol ar rwystro plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol yn poeni am blant sy’n cael eu cam-drin yn rhywiol yn ystod y cyfyngiadau symud—dau bryder penodol ynghylch lle mae plentyn dan gyfyngiadau symud a chyda’r cyflawnwr, yn ogystal â chynnydd mewn cam-drin ar-lein wrth i blant dreulio mwy o amser ar-lein ac mae cyflawnwyr yn manteisio ar y cyfle hwn. Mae hyn oll yn cael ei gymhlethu gan y ffaith nad yw nifer y plant sydd ar gynlluniau amddiffyn plant am eu bod yn cael eu cam-drin yn rhywiol yn adlewyrchu gwir nifer y plant sy'n dioddef camdriniaeth o'r fath, felly roeddent yn fwy tebygol o fod yn anweledig cyn y pandemig.

A all Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn gwybod bod y gwasanaethau sydd yno i gefnogi plant a phobl ifanc yn dal i fod ar gael? Mae'r llinellau cymorth yn parhau i fod ar agor, gall gwasanaethau arbenigol gefnogi plant a phobl ifanc yn rhithwir lle mae hynny’n ddiogel ac yn briodol, ac mae'r canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol ar agor ac yn parhau i dderbyn hunan-atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau proffesiynol. A beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i daflu goleuni ar hyn yn awr ac wrth inni symud i wahanol gamau o’r cyfyngiadau symud yn y dyfodol?

Lywydd, a gaf fi gymeradwyo'r neges graidd a gafwyd gan Jayne Bryant, fod y gwasanaethau sydd yno i ddiogelu plant yn yr amgylchiadau hyn ar gael ac ar agor ac y gellir eu defnyddio? Efallai eu bod yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol i sicrhau bod pobl yn ddiogel, ond maent ar gael ac maent yn weithredol. Ac os oes gennych bryderon, ac os ydych angen mynegi'r pryderon hynny, peidiwch â meddwl nad oes ffyrdd i chi wneud hynny oherwydd y pandemig.

Y newyddion da yw bod atgyfeiriadau diogelu i'r gwasanaethau hynny, a gafodd eu hatal yng nghyfnod 'aros gartref' y cyfyngiadau symud, wedi gwella'n gyson dros yr wythnosau diwethaf, ac maent bellach fwy neu lai wedi dychwelyd i'r lefelau y byddech wedi'u disgwyl mewn cyfnodau pan nad oedd COVID-19 yn rhan o'n profiad. Felly, credaf ei bod yn galonogol fod parodrwydd a gallu'r cyhoedd i roi gwybod am bryderon wedi dychwelyd i'r lefelau y byddem wedi'u gweld o'r blaen.

Mae ailagor ysgolion i'r holl ddisgyblion gael cyfle i siarad ag oedolion y tu allan i'r cartref—unigolion y gellir ymddiried ynddynt, eu hathrawon—yn rhan bwysig arall o hyn oll, ac yn un o'r rhesymau pam roeddem yn awyddus i wneud y penderfyniad a wnaethom. Lle mae ysgolion wedi bod ar agor, gwyddom fod pobl ifanc agored i niwed wedi bod yn fwy tebygol o fynd i'r ysgol honno os mai’r ysgol honno yw eu hysgol hwy na phe bai gofyn iddynt fynd i ysgol nad ydynt yn gyfarwydd â hi—taith nad ydynt yn gyfarwydd â hi, athrawon nad ydynt wedi cyfarfod â hwy. Drwy ailagor pob ysgol, bydd y plant agored i niwed hynny’n gallu mynd i le y maent eisoes yn gyfarwydd ag ef, yn fwy tebygol o deimlo'n hyderus wrth siarad â phobl y maent yn gyfarwydd â hwy, ac os oes pryderon sydd angen sylw, mae'r gwasanaethau yno yn awr i sicrhau y gall hynny ddigwydd.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn rhagweld heddiw y bydd Prydain yn dioddef y difrod economaidd gwaethaf o unrhyw wlad yn y byd datblygedig o ganlyniad i’n cyfyngiadau symud llym iawn. Rhagwelir y bydd cwymp o 11.5 y cant yn ein hincwm cenedlaethol ar gyfer eleni. Mae hynny'n cymharu â 6.5 y cant yn Sweden, sydd wedi dilyn trywydd hollol wahanol. Rydym yn defnyddio gordd economaidd i dorri cneuen argyfwng iechyd, gan fod y gyfradd farwolaethau o'r coronafeirws yn y wlad hon yn 602 y filiwn, ond yn Sweden, mae’n ddwy ran o dair o hynny yn unig, sef 467 y filiwn. Felly, gwelwn ymateb cwbl anghymesur i'r argyfwng iechyd ym Mhrydain.

Yn y cyfamser, a yw'n deall—a yw’r Prif Weinidog yn deall—fod dinasyddion gweithgar sy'n ufuddhau i'r gyfraith yn pendroni pam eu bod yn cael eu cadw dan gyfyngiadau symud, yn methu mynd i'r eglwys hyd yn oed, i weddïo’n breifat hyd yn oed, am fod digwyddiadau o'r fath wedi’u gwahardd, ac yn y cyfamser, caniateir i hwliganiaid asgell chwith redeg yn wyllt ar y strydoedd, gan ddinistrio cofebion rhyfel, a difwyno a chwalu henebion cyhoeddus, ac ymddengys bod ymateb y Llywodraeth yn y ddau achos yn cyferbynnu'n aruthrol ac yn tanseilio'r neges y mae'r Llywodraeth am ei chyfleu?

Wel, Lywydd, rwy'n anghytuno â'r Aelod. Fel y gŵyr, roedd gennyf gyfrifoldeb digalon iawn yn fy natganiad agoriadol i gyfeirio at y 2,240 o bobl sydd wedi colli eu bywydau hyd yn hyn yng Nghymru. Nid wyf yn ystyried hynny'n 'gneuen'; credaf fod hynny'n ddilornus i'r bobl hynny ac i'r teuluoedd hynny ac i'r rheini sy'n dal i wynebu'r profiad hwnnw bob dydd a phob wythnos yng Nghymru. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am un eiliad am y camau a gymerwyd gennym i atal mwy fyth o farwolaethau o'r coronafeirws. Nid wyf yn diystyru am un eiliad y difrod economaidd sy'n cael ei wneud, a bydd angen i mi roi sylw priodol i hynny, ond nid wyf yn cytuno ag ef. Rwyf wedi ei glywed yn dweud o'r blaen—mae am greu rhyw fath o raniad rhwng yr hyn sy'n iawn i iechyd pobl a'r hyn sy'n iawn i'r economi. Yr hyn sy'n iawn i'r economi yw sicrhau ein bod yn goroesi’r coronafeirws mewn ffordd ofalus a gochelgar nad yw'n ein plymio'n ôl i mewn i ail don, gyda rhagor o gyfyngiadau symud llym a phopeth y byddai hynny'n ei olygu i'r economi. Ein ffordd o ymateb i'r argyfwng iechyd yw'r ffordd orau o ddiogelu ein heconomi rhag yr effaith enfawr y mae coronafeirws yn ei chael yma yng Nghymru, fel y mae'n ei chael ym mhob rhan o'r byd.

Gadewch imi ymateb i un pwynt arall, sef cymunedau ffydd. Codwyd y mater hwnnw gennym ar 29 Ebrill yn y fforwm cymunedau ffydd, gydag arweinwyr cymunedau ffydd yng Nghymru, ynghylch ailagor lleoliadau ar gyfer gweddïo’n breifat. Bryd hynny, y cyngor cadarn gan arweinwyr y cymunedau hynny oedd nad oedd yn ymarferol iddynt allu ailagor y lleoliadau hynny mewn ffordd ddiogel. Mynychais gyfarfod diwethaf y fforwm cymunedau ffydd yr wythnos diwethaf. Mae llawer iawn o waith wedi mynd rhagddo gan y cymunedau hynny i sicrhau eu bod mewn sefyllfa lle gallent bellach ailagor lleoliadau ar gyfer gweddïo’n breifat. Gwnaeth yr holl bethau ymarferol roeddent wedi meddwl amdanynt ac roeddent yn eu rhoi ar waith gryn argraff arnaf, a byddwn yn ystyried hynny o ddifrif wrth inni gyrraedd diwedd y cylch tair wythnos presennol.

12:10

Yn olaf, Jack Sargeant. I ble’r aeth Jack Sargeant? Roedd yno pan y'i gelwais, ac mae wedi diflannu oddi ar fy sgrin ac nid yw i’w glywed. Felly, galwaf ar Mick Antoniw fel y siaradwr olaf.

Brif Weinidog, ar draws yr holl bleidiau, gwnaethom groesawu’n fawr, rai wythnosau'n ôl bellach, y taliad ychwanegol o £500 i’w wneud i’n gweithwyr gofal ar y rheng flaen i gydnabod y cyfraniad ychwanegol a’r cyfraniad pwysig iawn y maent yn ei wneud yn ystod y pandemig coronafeirws. Rhoddwyd £32 miliwn o arian Llywodraeth Cymru i 64,000 o'r gweithwyr hynny.

Tybed, efallai, a allech roi diweddariad i ni yn awr ynglŷn â dau beth: yn gyntaf, pryd y gall y gweithwyr hynny ddisgwyl y taliadau hynny, ond yn ail, ar fater y dreth a'r yswiriant gwladol a fyddai'n daladwy arno. Gwn eich bod wedi dweud eisoes fod sylwadau wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU yn gofyn iddynt hepgor y dreth ac yswiriant gwladol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol. Ar draws yr holl bleidiau, credaf y byddai’n sarhaus pe bai Llywodraeth y DU yn cael tomen o arian annisgwyl ar draul ein gweithwyr gofal ar y rheng flaen. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ble mae'r sylwadau a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU arni o ran hepgor y didyniadau hyn o'r arian sy'n briodol ddyledus i’n gweithwyr gofal ar y rheng flaen?

Diolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn. Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf, Lywydd, o allu rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y bydd y cynllun yn gweithio ac i allu ei ymestyn i grwpiau pellach o weithwyr. Rydym yn disgwyl i'r taliadau cyntaf gael eu gwneud y mis hwn a pharhau i'r mis nesaf.

O ran y sefyllfa mewn perthynas â threth ac yswiriant gwladol, gadewch imi adleisio'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw, Lywydd: nid ydym yn gofyn i Lywodraeth y DU am geiniog tuag at y £32 miliwn rydym wedi gallu dod o hyd iddo at y diben hwn. Nid ydym yn gofyn iddynt dalu amdano. Yr unig beth rydym yn gofyn iddynt ei wneud yw peidio â chymryd arian oddi wrth y gweithwyr y bwriadwn iddynt elwa o'r cynllun. Felly, ni ddylai fod unrhyw arian annisgwyl i’r Trysorlys. Cawsom ein siomi gan y llythyr a gawsom ar 2 Mehefin gan Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, ond roedd y llythyr hwnnw’n cynnwys cynnig i swyddogion barhau i weithio gyda'i gilydd ar y cynnig, a ddydd Gwener diwethaf, yn dilyn yr hyn y dywedwyd wrthyf ei fod yn gyfarfod adeiladol, cyflwynodd ein swyddogion bapur technegol i Gyllid a Thollau EM yn nodi ein dadleuon pam na ddylai, a pham nad oes angen i'r taliadau hyn fod yn drethadwy. Felly, byddwn yn aros am eu hymateb, a gobeithiwn y daw hwnnw cyn gynted â phosibl. Nid ydym wedi cyrraedd diwedd y drafodaeth hon eto a byddwn yn parhau i ddadlau mor egnïol ag y gallwn na ddylai’r arian sy'n cael ei ddarparu gan bobl Cymru i’r bobl rydym wedi dibynnu arnynt am ymdrech mor enfawr yn ystod yr argyfwng coronafeirws arwain at arian annisgwyl i'r Trysorlys.

12:15

Gan ei fod yn ôl bellach, ac am mai ef yw ein Haelod ieuengaf, galwaf yn olaf ar Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Lywydd, ac ymddiheuriadau am y tarfu yn gynharach. Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn gweithio gyda nifer o fusnesau y gwrthodwyd taliadau yswiriant iddynt er eu bod wedi talu am yswiriant tarfu ar fusnes. Dywedir wrthynt na allant hawlio am nad oedd y coronafeirws yn glefyd penodedig eisoes. Byddai'r rhan fwyaf o bobl resymol, fel yr holl Aelodau o’r Senedd, rwy'n siŵr, yn nodi mai dim ond ers diwedd y llynedd y mae COVID-19 wedi bodoli, felly mae'n annhebygol iawn o fod yn glefyd penodedig. Nid wyf yn teimlo bod hyn yn ddigon da, Brif Weinidog. Mae cwmnïau yswiriant mawr sydd wedi bod yn derbyn taliadau gan fusnesau bach ers blynyddoedd lawer yn rhoi busnesau bach ym mhob un o'n cymunedau mewn perygl gwirioneddol. Brif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i achosion o'r fath ar frys?

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am y pwynt pwysig hwnnw? Ni fydd yn synnu clywed ein bod wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth ar y mater hwn gan gwmnïau a gredai eu bod, gyda phob ewyllys da, wedi talu am yswiriant a fyddai'n eu diogelu o dan yr amgylchiadau hyn, dim ond i gael gwybod bellach nad yw hynny'n wir, ac rydym wedi gohebu fel Gweinidogion gyda'r ABI—Cymdeithas Yswirwyr Prydain—ynghylch y mater hwn. Bydd Jack Sargeant yn gwybod bod y rheoleiddiwr wedi penderfynu dwyn achos prawf drwy'r llysoedd barn i ddatrys y pwynt penodol iawn a gododd. Sut y gallai polisïau yswiriant fod wedi’u cynllunio i gwmpasu digwyddiad nad oedd unrhyw un wedi'i ragweld, ac a ellir nodi hynny fel eithriad sy'n golygu na ellir gwneud y taliadau? Mae'n ornest rhwng y diwydiant a'r rhai ohonom sy'n credu y dylent fod wedi gweithredu fel arall, a mater i'r llysoedd barn fydd datrys y broblem yn awr.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf fyddai'r cwestiynau amserol, ond does dim cwestiynau amserol heddiw, ac felly rŷm ni'n torri nawr am gyfnod o awr, ac felly mi wnawn ni ailgychwyn am 13:20. Diolch i'r Aelodau.

Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 12:18 ac 13:20.

13:20

Ailymgynullodd y Senedd am 13:20, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19)

Wel, prynhawn da, bawb. Croeso nôl ar ôl yr egwyl. Symudwn at agenda'r Cyfarfod Llawn gydag eitem 4, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: ymateb i'r coronafeirws, COVID-19. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau ar draws y Siambr, yn ogystal â fy swyddogion, ein partneriaid cymdeithasol a'n cymheiriaid llywodraeth leol, yn ogystal â'n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, wrth gwrs, am y gwaith aruthrol y maent yn ei wneud bob dydd yn cefnogi ein hymateb cenedlaethol i'r pandemig COVID-19. Ac rwy'n falch o'r hyn rydym wedi'i wneud hyd yn hyn i helpu i liniaru effaith economaidd y clefyd ofnadwy hwn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith caled y mae pawb wedi'i gyflawni yn fawr.

Ddirprwy Lywydd, ar ein hymateb i'r coronafeirws, dylwn ddweud ein bod bellach wedi cael llawer iawn o fusnesau'n cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y gallant oroesi'r cyfnod sy'n ein hwynebu yn y tymor byr, a'n bod yn edrych ar yr adferiad mwy hirdymor o'r coronafeirws mewn ffordd sy'n ailadeiladu economi fwy teg, mwy gwyrdd a mwy gwydn.

Ers cyhoeddi ein cynllun ar gyfer yr adferiad ar 15 Mai, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynllunio camau nesaf ei gwaith ar lacio'r cyfyngiadau symud. Rydym wedi bod yn glir bob amser fod yn rhaid i'r gwaith hwnnw fod yn seiliedig ar y wyddoniaeth sydd ar gael inni, a bod diogelwch gweithwyr wrth wraidd pob un o'r penderfyniadau a wnawn. Rwyf wedi bod yn cyfarfod â phartneriaid drwy gyngor y bartneriaeth gymdeithasol yn rheolaidd a byddaf yn parhau i wneud hynny er mwyn trafod pa fesurau ar y cyd y gallwn eu rhoi ar waith i ailagor ein heconomi yn raddol mewn ffordd ddiogel, gynaliadwy a theg, gan barhau i gefnogi iechyd y cyhoedd a'n GIG. Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, rydym wedi defnyddio'r ddeialog gyda phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu a chyhoeddi canllawiau manwl, sy'n nodi'r hyn y mae angen i gyflogwyr a gweithwyr ei wneud i weithredu'n ddiogel, ac yn gyfreithlon wrth gwrs.

Mae'r canllawiau rydym wedi'u gosod ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer pob gweithle ac nid ydynt yn disodli deddfwriaeth neu ganllawiau ar gyfer diwydiannau penodol. Ddirprwy Lywydd, ni ddylid ei ystyried chwaith yn lle cyngor cyfreithiol, y dylai cyflogwyr a gweithwyr ystyried ei gael lle bo angen. Mae pob gweithle'n unigryw, ac mae angen i bob un wneud yr hyn sy'n iawn i'w gweithwyr a'u cwsmeriaid penodol eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau manwl i gefnogi'r gwaith o ailagor y sector gweithgynhyrchu'n ddiogel, a chyhoeddir canllawiau pellach ar gyfer sectorau allweddol eraill yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac rydym yn ymgynghori â busnesau ac undebau llafur yng Nghymru i sicrhau bod ein dull o weithredu yn gymesur ac yn deg i fusnesau ac i weithwyr. Rydym eisiau i weithleoedd a gweithwyr yng Nghymru fod yn ddiogel, felly byddwn yn gofyn i bob cyflogwr a chyflogai ddangos eu gofal drwy weithredu gyda thosturi a dealltwriaeth; cydymffurfio â chyfreithiau a luniwyd i'n cadw ni i gyd yn ddiogel; cynnwys pawb gan fod diogelwch yn ymdrech a rennir; addasu gweithleoedd ac ymddygiad; a chyfathrebu gydag eglurder a chysondeb.

Wrth i ni ddechrau ar y gwaith o adfer yr economi, rwyf wedi bod yn glir na ddylai Llywodraeth y DU ddiddymu'r ystod o gymorth pwysig y maent wedi'i rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf. Dyna pam y gwnaethom groesawu'r cyhoeddiad ar 12 Mai, gan Ganghellor y Trysorlys, i ymestyn y cynllun cynnal swyddi ar y sail bresennol tan ddiwedd mis Gorffennaf, ac ar sail ddiwygiedig tan ddiwedd mis Hydref. Mae'r cynllun cadw swyddi wedi bod yn hanfodol i alluogi rhannau helaeth o'r economi i gael seibiant drwy gyfyngiadau symud yr wythnosau diwethaf.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i gyflwyno'r dadleuon canlynol i Lywodraeth y DU: yn gyntaf, na ddylid lleihau'r cymorth i fusnesau na allant agor yn gyfreithlon; y byddai lleihau nifer yr aelodau o weithlu cyflogwr y gellid eu rhoi ar ffyrlo yn well na lleihad graddedig ym maint y cymorth yn gyffredinol; na ddylai unrhyw weithredu wthio cyflogwyr i beryglu gweithio diogel oherwydd pwysau ariannol; ac y dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod cymorth grant ar gael i fusnesau wneud addasiadau i adeiladu er mwyn sicrhau gweithio mwy diogel.

Yng Nghymru, mae gennym y pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw ran o'r DU i fusnesau—cyfanswm o £1.7 biliwn o gymorth. Ddoe, roedd yn bleser gennyf lansio'r gwiriwr cymhwysedd newydd ar gyfer cam nesaf y gronfa cadernid economaidd. Nod y gronfa yw llenwi'r bylchau yn y cynlluniau cymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig.

Roedd cam un y gronfa cadernid economaidd yn cwmpasu unrhyw fusnes cynaliadwy sy'n gweithredu yng Nghymru, o unrhyw oed neu fath, ac sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, sy'n cyflogi pobl drwy'r cynllun talu wrth ennill ac sydd wedi dioddef effaith sylweddol i'w drosiant. Bydd ail gam y gronfa yn gweithredu yn yr un modd yn fras â cham un, ond gyda diweddariad i gymhwysedd y cynllun micro i alluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW i allu gwneud cais i'r gronfa. Disgwylir y bydd y cyfnod ymgeisio llawn yn agor ar 29 Mehefin neu cyn hynny. Bydd ail gam y gronfa cadernid economaidd yn galluogi mynediad at y £100 miliwn sy'n weddill o'r £300 miliwn sydd eisoes wedi'i gymeradwyo a'i ddyrannu ar gyfer cefnogi microfusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr. Mae gwaith ar y gweill gyda rhanddeiliaid ar ddatblygu opsiynau cymorth pellach ar gyfer y rhai nad ydym wedi'u cyrraedd eto—er enghraifft, busnesau newydd—a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ar hynny yn yr wythnosau nesaf.

Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi dweud o'r blaen, wrth gynllunio ar gyfer adfer, fy mod eisiau i ni adeiladu nôl yn well: defnyddio coronafeirws fel cyfle i sicrhau newid sylfaenol yn ein heconomi, fel bod yr hyn a ddaw ar ei ôl yn decach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy na'r hyn a oedd gennym cynt. A dyna pam roeddwn yn hynod falch yr wythnos hon o fod yn bresennol yn is-grŵp economaidd-gymdeithasol y panel cynghori arbenigol ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'r is-grŵp, sy'n cael ei gadeirio gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, yn helpu Llywodraeth Cymru i nodi'r amrywiaeth o ffactorau sy'n dylanwadu ar ganlyniadau COVID-19 andwyol ymysg pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac i edrych ar anghydraddoldebau ehangach yn ein bywyd economaidd yng Nghymru. Mae gwaith yr is-grŵp wedi creu argraff fawr arnaf ac nid oes gennyf amheuaeth fod gennym, yng Nghymru, o hyd—er gwaethaf llawer iawn o gynnydd da—anghydraddoldebau strwythurol a sefydledig yn ein heconomi sy'n cyfrannu at yr annhegwch a'r gwahaniaethu sy'n dal i effeithio ar bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Felly, pan fyddwn yn sôn am adeiladu nôl yn well, credaf y dylem droi at waith yr is-grŵp am arweiniad a thystiolaeth wrth inni geisio sicrhau rhywbeth tecach, ac rwyf eisiau cofnodi fy nghefnogaeth i a fy adran heddiw i wneud y gwaith hwnnw dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Ddirprwy Lywydd, rwy'n hapus i ateb cwestiynau.

13:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a dweud cymaint rwy'n croesawu ei bwyslais ar ddiogelwch mewn perthynas ag agor yr economi. Rwy'n gobeithio y byddai pawb ohonom, ar draws y Siambr, yn cytuno â hynny.

Wrth gwrs, croesewir ailagor y meini prawf ar gyfer y gronfa cadernid economaidd, ac rwy'n arbennig o falch o ddweud ei fod bellach ar gael ar gyfer busnesau nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW. Ond fel y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ei hun, mae nifer fawr o fusnesau o hyd na ellir eu cynorthwyo, yn enwedig busnesau sy'n gweithredu gartref, ac rwyf wedi cael popeth o gludwyr nwyddau i siopau trin gwallt i letyau gwely a brecwast—cwmnïau sy'n fusnesau hyfyw, ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes. Mae'r Gweinidog yn sôn yn ei ddatganiad am ragor o gymorth iddynt. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw pryd y mae'n credu y bydd yn debygol o allu sicrhau'r cymorth ychwanegol hwnnw, er enghraifft, ar gyfer busnesau newydd—pa bryd y bydd yn debygol o allu cyhoeddi sut fath o gymorth fydd hwnnw.

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau? Rwy'n cytuno'n llwyr fod diogelwch yn gwbl hanfodol yn y gweithle, yn enwedig am mai dim ond drwy weithredu'n ddiogel y mae pobl yn magu'r hyder i adael eu cartrefi eu hunain ac i naill ai ddychwelyd i'r gwaith neu fynd i fannau cyflogaeth, busnesau ac atyniadau.

O ran y cwestiwn penodol iawn ynghylch y busnesau sy'n weddill y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ac yn enwedig busnesau newydd, fy ngobaith yw y byddwn yn gallu gweithredu pob cynllun cymorth ar yr un pryd o 29 Mehefin ymlaen o ran ceisiadau, ac yna, y byddwn yn gallu rhoi cymorth ariannol cyn gynted ag y bo modd, o fewn ychydig ddyddiau yn ôl pob tebyg, i fusnesau sy'n gwneud cais cyn gynted â phosibl.

13:30

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb i fy nghwestiynau. Mewn perthynas â dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel, a'r Gweinidog yn sôn am yr angen i fusnesau wneud hynny gyda thosturi a dealltwriaeth, a all y Gweinidog gadarnhau y prynhawn yma, o ran y rhai sy'n gwarchod gartref, nid oherwydd eu bod yn agored i niwed eu hunain ond oherwydd bod aelodau o'u teuluoedd yn agored i niwed, a all gadarnhau nad yw'n disgwyl i fusnesau yng Nghymru fod yn pwyso ar y bobl hynny i ddychwelyd i'r gwaith nes y bydd y rheolau gwarchod yn newid?

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am yr angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi'n barhaus yn economi Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod am yr adroddiad a oedd yn dangos, o'r 20 tref a oedd yn debygol o gael eu taro waethaf yng Nghymru a Lloegr, fod 10 o'r rheini yng Nghymru, ac wrth gwrs, nid yw hynny'n gymesur o gwbl â'n poblogaeth. A wnaiff y Gweinidog ystyried dweud wrth Lywodraeth y DU y dylai unrhyw gymorth busnes pellach fod ar sail maint yr angen yng Nghymru am y cymorth hwnnw, yn hytrach na'r hyn a ddaw o dan fformiwla draddodiadol Barnett?

Ac a wnaiff barhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU yn enwedig mewn perthynas â'r cynllun ffyrlo ar gyfer y rhai a adawyd ar ôl? Mae llawer o'r bobl a oedd yn newid swyddi pan ddechreuodd y cynllun ffyrlo wedi treulio 10 wythnos heb unrhyw incwm, ac i rai ohonynt, nid ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog heddiw gyflwyno sylwadau eto i Lywodraeth y DU ar eu rhan ac i ystyried ymhellach a oes unrhyw beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud drostynt, gan ddeall yn llwyr, wrth gwrs, y terfynau ar ei gyllideb?

Yn sicr, rwy'n gwarantu heddiw y byddaf yn gwneud y sylwadau hynny, ac o ran pa gymorth y gallwn ei gynnig, pe baem yn gallu cyflwyno bwrsari caledi ar gyfer unrhyw unigolion na allant elwa ar systemau cymorth presennol, yna byddwn yn gwneud hynny mewn partneriaeth â'n cymheiriaid llywodraeth leol.  

Mae nifer sylweddol o fusnesau yn dal i allu gwneud cais am gymorth drwy'r cynllun cadw swyddi, y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig, heb eu bod yn ymwybodol y gallant wneud hynny mewn gwirionedd. Felly, byddwn yn annog pob busnes i wirio gyda Busnes Cymru i weld a ydynt yn gymwys i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, oherwydd mae'r mwyafrif helaeth yn gallu cael cymorth ariannol yn awr.  

Ac mae Helen Mary Jones yn llygad ei lle fod angen i gyflogwyr weithredu gyda thosturi a dealltwriaeth. Yn amlwg, ni ddylid disgwyl i bobl a warchodir ddychwelyd i'r gwaith os gofynnir iddynt wneud hynny, a dylai fod llythyr ar gael iddynt allu ei gyflwyno i gyflogwr. I rai nad ydynt yn unigolion a warchodir ond sy'n cynnal unigolion a warchodir, byddwn yn dweud bod yn rhaid i fusnes cyfrifol ystyried hynny a dangos dealltwriaeth lwyr. A byddwn yn gobeithio y byddai busnesau undebol yn arbennig o benderfynol o sicrhau bod yr holl weithwyr yn dychwelyd mewn ffordd ddiogel ac mewn ffordd nad yw'n peryglu bywydau na lles unrhyw un.  

Ac rydych yn llygad eich lle, Helen Mary Jones, wrth ddweud, ar sail y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, fod disgwyl i gymunedau Cymru gael eu heffeithio'n waeth na chymunedau yn Lloegr oherwydd y ddibyniaeth uchel ar sectorau a fydd yn cael eu taro'n arbennig o galed ac am gyfnod hwy, ac oherwydd proffil oedran y gweithlu yng Nghymru, ac am resymau hanesyddol—rhesymau sy'n ymwneud â dad-ddiwydiannu, er enghraifft.  

O ganlyniad i hyn, rydym yn gwbl glir fod yn rhaid i fentrau megis strategaeth ddiwydiannol y DU gael eu llunio ar gyfer Cymru yn ogystal â rhanbarthau Lloegr, ac mae'r cyswllt a gefais â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi bod yn gynhyrchiol iawn ac rwy'n gobeithio y bydd iteriad nesaf strategaeth ddiwydiannol y DU o fudd sylweddol i economi Cymru, oherwydd, fel y mae'r Aelod eisoes wedi'i ddatgan, ni allwn gael cymorth o dan fformiwla Barnett nad yw'n cydnabod maint angen economi Cymru. Yn hytrach, mae'n rhaid inni gael cymorth sy'n adlewyrchu gofynion ychwanegol busnesau Cymru, a gweithwyr Cymru hefyd.

13:35

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Rwy'n credu fy mod wedi clywed llawer ohono yng nghyfarfod briffio Llywodraeth Cymru heddiw am 12:30, a arweiniwyd gennych.

Weinidog, bydd busnesau manwerthu yn Lloegr yn ailagor ddydd Llun, a bydd busnesau Cymru dan anfantais, yn enwedig y rhai ar y ffin, megis yn eich etholaeth chi a fy un i. Tybed beth y gallwch ei ddweud wrth y busnesau hyn o ran rhoi rhywfaint o obaith iddynt y byddant yn gallu agor cyn gynted ag sy'n bosibl, a sut y byddech yn ymdrin â'u pryderon ynglŷn â bod dan anfantais gyda chystadleuydd yn agor, o bosibl, ychydig filltiroedd oddi wrthynt?

Nid yn unig rwy'n pryderu am fusnesau ar draws y ffin, ond mae rhai busnesau manwerthu yng Nghymru sy'n agor yn erbyn canllawiau Llywodraeth Cymru, ac er y byddwn yn hoffi'n fawr iddynt agor, ac yn credu y dylent, mae'r gyfraith yn dweud na ddylent wneud hynny. Rhoddais un enghraifft i chi ddoe, pan gawsom gyfarfod preifat. Tybed beth y byddech yn ei ddweud o ran camau gorfodi yn erbyn busnesau o'r fath, a sicrhau bod awdurdodau lleol yn rhoi'r cyngor cywir i'r mathau hyn o fusnesau, oherwydd mae'n gwbl annheg i fusnesau manwerthu sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

O ran cam nesaf y gronfa cadernid economaidd, rwy'n falch iawn eich bod wedi pennu dyddiad cynt ar gyfer y meini prawf. Rwy'n falch iawn eich bod wedi ehangu'r meini prawf fel y gwnaethoch. Ond tybed a allech chi ymrwymo, Weinidog, i bennu dyddiad cynt i fusnesau allu dechrau derbyn taliadau o dan gam 2 y gronfa. Rwy'n credu y byddai'n hynod o siomedig a rhwystredig pe na bai busnesau'n gallu gwneud cais am gymorth tan ddiwedd y mis. Rwy'n credu, yn anffodus, y bydd hynny'n rhy hwyr mewn nifer o achosion. Ac mae pryder mawr hefyd, wrth gwrs, fel y nododd Helen Mary yn ogystal, fod rhai busnesau o hyd na fyddant yn gymwys i gael cymorth o gwbl—mae busnesau gwely a brecwast yn un enghraifft—a tybed a allwch ddweud mwy wrthym am y bwrsari. Beth allwn ni ei ddweud wrth ein hetholwyr pan fydd busnes yn cysylltu â ni a'n bod wedi dweud wrthynt am aros am gam 2, maent wedi rhoi eu holl obeithion ar hynny, maent wedi gwirio'r meini prawf a gweld nad ydynt yn gymwys i gael cymorth o hyd, ac nid ydynt wedi cael unrhyw gymorth o gwbl gan y Llywodraeth i fusnesau?

Diolch, Russell. Yn gyntaf oll, byddwn yn dweud, o ran busnesau yn yr ardaloedd ar y ffin, fod gennym fantais yng Nghymru o gael y pwyntiau adolygu rheolaidd, ac felly mae'r dyddiadau'n hysbys i fusnesau. Ar y pwynt adolygu diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog y gallai manwerthu nad yw'n hanfodol ddechrau proses dros y tair wythnos nesaf o edrych ar sut y gallent ailagor ar ôl y pwynt adolygu dilynol, os yw lefelau'r haint yn ddigon isel. Mae'r pwynt adolygu nesaf hwnnw ar 18 Mehefin—wythnos nesaf—felly, cyfnod bach iawn o rai dyddiau sydd rhwng yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr a'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Ond yn amlwg, byddai wedi bod yn ddymunol pe baem wedi gweld y ddwy ochr i'r ffin yn glynu at y pwyntiau adolygu rheolaidd hynny, ac yn ddelfrydol, pe bai'r pwyntiau adolygu wedi bod ar yr un adeg yn union. Nid yw hynny wedi digwydd, ond yma yng Nghymru rydym wedi glynu at yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i alw'n rhythm rheolaidd o bwyntiau adolygu bob tair wythnos, gan roi rhywfaint o sicrwydd ac eglurder i gymuned fusnes Cymru.

Mae ein hyder yn gwbl allweddol i gystadleurwydd busnesau. Mae tua 60 y cant o bobl Cymru yn dal i fod yn rhy nerfus i adael eu cartrefi. Felly, a bod yn onest, os yw busnes yn agor ond bod dwy ran o dair o bobl yn rhy ofnus i adael eu cartrefi, byddant yn cael trafferth i ddal dau ben llinyn ynghyd, byddant yn ei chael hi'n anodd bod yn hyfyw. Felly, yn ogystal ag agor busnesau, mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bobl hyder i fynd iddynt. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i'r rhif R ostwng digon i adfer hyder pobl, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod gweithleoedd yn ddiogel i bobl eu defnyddio. Dyna pam fod y canllawiau rydym yn eu cyhoeddi ar hynny mor eithriadol o bwysig.

Os gallwn gael dyddiad cynt ar gyfer gwneud cais, mae'n amlwg y byddwn yn gwneud hynny. Mae angen i ni gau unrhyw geisiadau sy'n bodoli eisoes am arian cylch 1 y gronfa cadernid economaidd er mwyn sicrhau nad yw ceisiadau'n cael eu dyblygu a'n bod wedi cwblhau'r holl waith prosesu sydd ei angen. Mae nifer fawr o fusnesau yn dweud nad ydynt yn gymwys ar gyfer gwahanol gynlluniau cymorth, ond gwelwn wedyn eu bod yn gymwys mewn gwirionedd, a dyma pam ei bod mor bwysig i fusnesau ymweld â gwefan Busnes Cymru, defnyddio'r gwiriwr cymhwysedd a chyflwyno manylion cywir hefyd, oherwydd mae busnesau fel—. Soniwyd am fusnesau gwely a brecwast a masnachwyr marchnad. Dylent fod yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig, neu os ydynt yn cyflogi, dylent fod yn gymwys i gael cymorth ffyrlo. Os nad ydynt yn gymwys ar gyfer y rheini, yna, yn amlwg, gallai'r gronfa cadernid economaidd fod ar agor iddynt. Ond wedi i ni weithio drwy'r broses o sefydlu'r bwrsari i fusnesau newydd, yn ogystal â cham 2 y gronfa cadernid economaidd, os oes unrhyw fusnesau ar ôl, byddem yn gallu ystyried eu cynorthwyo o bosibl drwy fwrsari caledi yn ôl disgresiwn y gallai awdurdodau lleol ei gweinyddu, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gydag awdurdodau lleol ar hynny.

Ac mewn perthynas â'r pwynt olaf ynglŷn â chwarae teg ar draws busnesau, byddwn yn cytuno â Russell George y dylai pob busnes lynu wrth y rheolau sydd wedi'u gosod yn glir. Lle nad ydynt yn gwneud hynny, byddwn yn ystyried camau gorfodi yn eu herbyn. Rydym i gyd yn yr ymdrech hon gyda'n gilydd, ac mae'n rhaid i bob un ohonom lynu wrth y rheolau a'r canllawiau os ydym am gynnal cydlyniad cymdeithasol ac os ydym am gadw'r rhagolygon gorau posibl i fusnesau allu goroesi'r feirws hwn.

13:40

Gan droi, os caf, Weinidog, at drafnidiaeth, pa waith sydd wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r prinder trenau yn ystod y cyfyngiadau symud fel y gellir sicrhau ymarferoldeb mesurau cadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus sydd â chapasiti is o lawer? A oes unrhyw gynlluniau i Trafnidiaeth Cymru ddefnyddio'r amser hwn, pan fo llai o wasanaethau ar gael, i wneud gwelliannau i'w trenau, ac os felly, beth yw'r targedau?

Sut y bwriadwch newid ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at yr economi o ganlyniad i'r ffordd y mae'r pandemig wedi newid ein heconomi? Rwy'n derbyn yr hyn rydych eisoes wedi'i ddweud heddiw, ac rwy'n meddwl tybed a allech ychwanegu amserlenni, efallai, at yr hyn rydych eisoes wedi'i ddatgan. Ac yn ail, pa asesiad cychwynnol a wnaethoch ynglŷn â'r modd y mae'r pandemig wedi effeithio ar berfformiad economaidd gwahanol ranbarthau yng Nghymru?

Mae Llywodraeth y DU wedi mynegi ei bwriad i fuddsoddi a chyflwyno prosiectau seilwaith sy'n barod i'w rhoi ar waith er mwyn sicrhau y gall economi'r DU ymadfer yn gyflym, ac os ydych yn cytuno â'r egwyddor honno—ac rwy'n gobeithio eich bod—pa brosiectau seilwaith yng Nghymru sy'n barod i'w rhoi ar waith?

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau pellach a dweud ein bod yn cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynlluniau y gellid eu cefnogi fel rhan o'r gwaith adfer? Un cynllun o'r fath yw'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth rheilffyrdd yn ne Cymru. Rydym mewn trafodaethau gyda Thrysorlys y DU, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Swyddfa Cymru mewn perthynas â'r cynllun hwnnw. Ceir cynlluniau eraill, megis y ganolfan ymchwil technoleg uwch arfaethedig yng Nglannau Dyfrdwy, a fyddai'n ategu'r ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch, ac wrth gwrs, mae trafodaethau'n cael eu cynnal, fel y gwyddoch mae'n siŵr, ar y potensial i wella cynlluniau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan adeiladu ar yr arbenigedd sydd gennym yn y maes hwnnw. Felly, o ran y gwaith adfer, mae trafodaethau'n mynd rhagddynt, cafwyd cyflwyniadau i Lywodraeth y DU am gymorth ariannol, ac rydym yn obeithiol y bydd y cyflwyniadau hynny'n cael eu cymeradwyo.

Ym mhob rhan o'r byd ar hyn o bryd, credaf fod yna ddiddordeb mawr mewn caffael trenau ychwanegol lle bynnag y bo modd. Fel y gallwch ddychmygu, mae pob cwmni trenau ledled Prydain, ar draws Ewrop a thu hwnt, yn ceisio dod o hyd i gerbydau trên ychwanegol y gellid eu defnyddio er mwyn hybu capasiti ar adeg pan fo'r capasiti yn sgil cadw pellter cymdeithasol wedi gostwng i tua 15 y cant. Felly, drwy Trafnidiaeth Cymru, rydym yn cystadlu i bob pwrpas â chwmnïau trenau, nid yn unig o fewn y DU, ond ymhellach i ffwrdd.

Rydym yn edrych ar sut y gallwn weithredu trefniadau cynnal a chadw gwell, ac achub ar y cyfle, nid yn unig o ran trenau, ond o ran seilwaith ffyrdd hefyd, i wella'r hyn sydd gennym a'r hyn y gallwn ei reoli. Rydym hefyd yn edrych ar arloesedd mewn perthynas â bysiau a threnau, er mwyn gallu cynyddu capasiti os oes modd gwneud hynny, gan lynu at y mesurau cadw pellter cymdeithasol a sicrhau hefyd nad yw diogelwch y cyhoedd yn cael ei beryglu, gan gydnabod bod cyswllt anorfod rhwng gweithredu'r economi a gweithredu systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel.  

13:45

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n credu bod llawer ynddo y byddai pawb ohonom yn y Siambr yn cytuno ag ef, a hefyd, rydym yn cydnabod y llu o ymyriadau a gafodd eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn diolch i chi am y rheini. Er gwaethaf y cymorth ariannol sylweddol y mae rhai busnesau wedi gallu ei gael, mae llawer o'r rheini yn fy etholaeth yn mynegi pryder mawr yn awr ynglŷn â'u gallu i barhau i fasnachu.

Yn amlwg, y rhai sydd ar flaen y cyfyngiadau presennol yw tafarnau, bwytai a busnesau gwasanaeth yn gyffredinol. Mae gennyf dystiolaeth na fydd rhai cadwyni arlwyo mewn tafarnau'n ailagor nifer o'u safleoedd ar ôl codi'r cyfyngiadau symud, a bydd hynny'n arwain at golli swyddi, wrth gwrs—swyddi sy'n aml ar ben isaf y farchnad sgiliau. Felly, er gwaethaf eich awydd i gadw pobl yn ddiogel rhag haint, ac rydym ni i gyd yn cytuno â hynny, a all y Gweinidog bwyso ar y Llywodraeth i lacio'r cyfyngiadau ar y busnesau hyn cyn gynted ag y bo modd? Oherwydd rwy'n credu bod niwed anadferadwy'n cael ei wneud i economi Cymru ar hyn o bryd—niwed na ellir ei ddadwneud.

A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gwestiwn? Rwy'n ailadrodd y pwynt a wneuthum i siaradwyr blaenorol—sef bod rhaid i chi allu cynhyrchu incwm er mwyn sicrhau bod eich busnes yn weithredol, ac os nad yw pobl yn ddigon hyderus i ddefnyddio gwasanaethau, ni fyddant yn gwneud hynny. Felly, er mwyn gwneud yn siŵr fod tafarnau a chaffis a bwytai, pan fyddant yn penderfynu ailagor eu drysau, yn gallu goroesi a gwneud elw, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan bobl hyder i fynd iddynt. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr eu bod yn gweithredu mewn ffordd ddiogel. Rhoesom rybudd i siopau nad ydynt yn hanfodol ar ein pwynt adolygu blaenorol y dylent baratoi ar gyfer ailagor yn ddiogel dros y tair wythnos nesaf, a bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y pwynt adolygu nesaf ynglŷn â'r gwaith sy'n digwydd, a'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar reoli'r feirws. Wedyn, bydd pwyntiau adolygu ar 9 Gorffennaf a hefyd ar 30 Gorffennaf. Ar y pwyntiau adolygu hynny, efallai y gallwn ddweud mwy am rannau eraill o'r economi a all ailagor yn ddiogel, ond yn y pen draw, rhaid inni sicrhau bod y cyhoedd gyda ni, oherwydd os oes gennych bobl yn gwrthod gadael eu cartrefi, ni fyddwn yn gallu cefnogi ailagor busnesau pwysig yn y sector lletygarwch, a nifer o sectorau eraill yn ogystal.

Rwy'n falch iawn o dderbyn eich datganiad, yn enwedig y pwynt rydych yn ei wneud sy'n dweud bod yn rhaid i'r gwaith a wnawn yn y dyfodol fod yn seiliedig ar y wyddoniaeth, a hefyd, fod yn rhaid i ddiogelwch pobl fod yn flaenllaw ym mhob penderfyniad a wnawn. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r canfyddiadau cychwynnol a'r ymchwil sy'n tynnu sylw at y cysylltiad posibl rhwng llygredd aer a lefelau uwch o drosglwyddiad COVID-19, er enghraifft yn ardal Bergamo yng ngogledd yr Eidal. Rwy'n falch iawn eich bod wedi ymgysylltu ag is-grŵp economaidd-gymdeithasol y panel cynghori arbenigol ar bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a gadeirir gan yr Athro Ogbonna, fel y gallwn ddeall y rhesymau pam fod pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi cael eu heffeithio i raddau mor anghymesur gan COVID-19.

Yng nghyd-destun diogelwch fy etholwyr, gwn fod Cyngor Caerdydd yn cynllunio mesurau i atal cymudwyr neu siopwyr rhag llethu canol ein dinas, fel na fydd gennym y tagfeydd traffig a welwyd cyn COVID-19 a oedd yn achosi lefelau peryglus o lygredd aer.

Y tu hwnt i'r mesurau uniongyrchol hyn felly, rwy'n awyddus i ddeall hyd a lled eich uchelgais i ailadeiladu Cymru sy'n well, yn lanach ac yn niwtral o ran carbon. Sut y gallwn ddefnyddio'r pwyntiau gwerthu unigryw sydd gan Gymru—ein daearyddiaeth, sy'n ein gwneud yn un o brif gynhyrchwyr ynni adnewyddadwy, ac fel arloeswyr ym maes cynhyrchu hydrogen o ffynonellau adnewyddadwy, a allai ein galluogi i ddod yn arweinydd yn Ewrop ar drafnidiaeth lanach a chreu Ewrop sy'n fwy niwtral o ran carbon. Felly, tybed a ydych wedi ystyried hyn.

13:50

Yn bendant, a Jenny, rwy’n cytuno’n llwyr. Mae gennym yr arc hydrogen yn y gogledd, gyda llawer iawn o gydweithredu'n digwydd rhwng busnesau a sefydliadau ymchwil yng ngogledd Cymru ac ar draws y ffin yn ardal Mersi a’r Ddyfrdwy. Wedyn, wrth gwrs, mae gennym fusnesau rhagorol yng nghanolbarth Cymru'n ymwneud â'r defnydd posibl o hydrogen mewn cerbydau ffordd, gyda Riversimple efallai'n arwain y ffordd yn hyn o beth. Felly mae cyfle enfawr yno o ran manteisio ar ymchwil a datblygu yn ymwneud â gyriant hydrogen a hydrogen fel math o ynni at ddefnydd arall hefyd, yn enwedig ym myd busnes, er enghraifft. 

Ar y cwestiwn mwy cyffredinol ynglŷn â sut y gallwn sicrhau ein bod yn adeiladu hynny'n well, wel, fe fydd yn ei gwneud hi'n ofynnol inni fuddsoddi mewn mwy o gynlluniau datgarboneiddio, mewn busnesau gwaith teg—busnesau sy'n cadw at egwyddorion gwaith teg ac yn eu croesawu. Bydd yn ei gwneud hi'n ofynnol inni fuddsoddi a chanolbwyntio ein buddsoddiad ar fusnesau sy'n blaenoriaethu gwella sgiliau eu gweithwyr ac ar les ac iechyd meddwl eu gweithwyr. Bydd hefyd yn galw am ffocws cryfach ar gefnogi twf busnes, nid yn unig twf busnesau unigol, ond twf o fewn y gadwyn gyflenwi y gallai'r busnes fod yn rhan ohoni neu y mae'r busnes hwnnw'n ei chynnal. 

Felly rydym yn datblygu ystod o egwyddorion y gellir eu cymhwyso i'n penderfyniadau buddsoddi yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Ond yn hanfodol, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn bachu ar y cyfle hwn i leihau anghydraddoldebau yng Nghymru, a bydd hynny'n galw am ymdrech gyfunol mewn perthynas â'n hymyriadau cyflogadwyedd—ymyriadau fel Twf Swyddi Cymru, y rhaglen brentisiaethau, a chynlluniau y gellir eu mowldio a'u haddasu i anghenion unigol fel ein bod yn rhoi cyfle gwell o lawer i gymunedau BAME a phobl sy'n wynebu ffactorau sy’n anablu mewn cymdeithas allu cyflawni eu huchelgais a'u dyheadau na’r hyn a oedd ganddynt cyn y coronafeirws. Bydd hynny'n brawf allweddol i ni. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Weinidog. Yn gyntaf oll, a gaf fi ymdrin â rhywbeth yn y fan hon, sef ymestyn y gefnogaeth i weithredwyr nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW. A yw hynny'n berthnasol i gwmnïau cyfyngedig yn unig, neu a yw'n berthnasol i fusnesau ac unig fasnachwyr hefyd? Rydym wedi bod yn siarad cryn dipyn am dwristiaeth heddiw, ac mae rhai wedi sôn am fusnesau gwely a brecwast ac wrth gwrs, nid yw busnesau gwely a brecwast bach iawn yn debygol o fod wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, ac maent y tu allan i'r system ardrethi busnes hefyd am eu bod yn rhy fach i gael caniatâd i gofrestru. Felly efallai y gallech chi roi sylw i hynny. 

Yn ail, fel y soniodd David Rowlands, rwy’n credu, mae gennym fusnesau o hyd sydd y tu allan i'r gronfa cadernid economaidd ar hyn o bryd. Rwyf wedi cael sylwadau gan bobl a fu’n llwyddiannus iawn mewn gwirionedd, ond ni allant gael unrhyw beth heb roi gwarantau personol, ac maent yn amharod i wneud hynny am nad ydynt yn siŵr ynglŷn â hyfywedd eu busnes os ydynt mewn a sector a fydd ymhlith yr olaf i agor. Felly tybed a allech chi roi ychydig bach mwy o fanylion inni ynglŷn â'r hyn rydych chi'n edrych arno o ran hynny. 

Iawn, diolch am eich cwestiynau, Suzy. Yn gyntaf oll, byddai'n rhaid i fusnes fod yn gyfyngedig os nad yw wedi'i gofrestru ar gyfer TAW er mwyn denu cefnogaeth o ail gam y gronfa cadernid economaidd. Fodd bynnag, mae unig fasnachwyr a phartneriaethau yn gymwys ac roeddent yn gymwys yn rownd gyntaf y gronfa cadernid economaidd, cyn belled ag y gallent fodloni maen prawf yn ymwneud â gostyngiad yn y trosiant, a’u bod wedi cofrestru ar gyfer TAW, ac yn cyflogi trwy'r cynllun Talu Wrth Ennill. Rwy'n credu y bu rhywfaint o ddryswch ynghylch rhai grwpiau, yn enwedig masnachwyr marchnad, sydd wedi teimlo nad ydynt yn gymwys i gael unrhyw gymorth, er bod masnachwyr marchnad yn gymwys i gael cymorth trwy'r cynllun cymorth i’r hunangyflogedig cyn belled â bod ganddynt gyfrifon neu oni bai eu bod yn ennill mwy na'r trothwy o £50,000. Felly, byddai masnachwyr marchnad yn gyffredinol, oni bai eu bod yn fasnachwyr hynod o lwyddiannus a chefnog, yn gallu cael cymorth trwy gynllun cymorth i’r hunangyflogedig Llywodraeth y DU. 

Credwn y bydd y mwyafrif llethol—y mwyafrif helaeth—o fusnesau’n cael eu cynnwys trwy ail gam y gronfa cadernid economaidd. Ond wrth gwrs, fel y dywedais wrth eraill, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar y posibilrwydd o ddatblygu bwrsari caledi, gan gydnabod y gallai amgylchiadau unigryw fod wedi atal busnesau ac unigolion rhag ceisio a denu a sicrhau cymorth Llywodraeth y DU, neu o Gymru. 

O ran cymorth y gronfa cadernid economaidd, nid ydym yn gofyn am warantau personol; wrth gwrs, rydym am sicrhau ein hunain fod busnesau'n hyfyw, ac mae hynny'n hollol briodol. O ran y cymorth a gynigiwyd trwy Fanc Datblygu Cymru, mae gwarantau personol wedi bod yn bwysig i sicrhau bod yna ymrwymiad personol, os mynnwch; fod ymroddiad llawn i ddatblygu busnes a thwf busnes. O ystyried bod cynllun benthyciadau COVID cyntaf Banc Datblygu Cymru mor llwyddiannus, nid wyf yn credu y byddai angen addasu'r meini prawf pe bai’r banc datblygu’n dychwelyd gyda chynigion ar gyfer ail rownd debyg o gymorth.   

13:55

Weinidog, wrth i ni weld y cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio i ganiatáu i bobl ddychwelyd i'r gwaith a rhai agweddau ar symud cymdeithasol hefyd, mae yna bryder gwirioneddol y bydd llawer o bobl o reidrwydd yn gwneud hynny mewn ceir preifat gydag unigolion yn gyrru, a dim teithwyr, a bod perygl wedyn y byddwn yn rhuthro’n ôl i’r math o gymdeithas a’r math o waith nad ydym am eu gweld. Yr hyn a welsom yn fwy diweddar yw bod allanolion rhyfedd yr argyfwng hwn wedi cynnwys strydoedd a ffyrdd cliriach, aer glanach, llai o lygredd aer a chymunedau gwell i fyw ynddynt hefyd, gyda gwell ansawdd bywyd i bobl sy'n cerdded neu'n beicio. 

Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond hefyd wrth i ni gefnu ar y coronafeirws, i archwilio pethau gyda chyflogwyr megis gweithio mwy hyblyg, naill ai gweithio gartref neu amseroedd gwaith a sifftiau gwahanol, neu fodelau hybrid i gyflogwyr, lle bydd modd i weithwyr amrywio rhwng gweithio gartref a mynd i mewn i’w gwaith? Rydym yn edrych ar gryfhau ein hymdrechion a'n buddsoddiad, nid yn unig mewn teithio llesol fel rydym yn gyfarwydd ag ef gyda cherdded a beicio, ond o ran adeiladu mwy o lonydd ar gyfer bysiau'n unig fel y gallwn ddefnyddio mwy ar y rheini wrth inni ddod allan o hyn, a llwybrau ar gyfer beiciau'n unig hefyd. 

A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiynau? Mae'n llygad ei le fod angen inni gadw rhai o'r manteision a gafwyd drwy fod pobl yn dewis peidio â defnyddio eu car, drwy bobl yn mynd ati i deithio'n llesol yn lle hynny. Gallaf ddweud wrth yr Aelod y byddwn yn buddsoddi miliynau ar filiynau o bunnoedd mewn cynlluniau ail-flaenoriaethu ffyrdd, yn bennaf ar gyfer cynlluniau dros dro a all brofi gallu awdurdodau lleol i allu cyflawni gwelliannau mwy hirdymor, ond hefyd i wneud yn siŵr fod y gwelliannau byrdymor o ran ymddygiad a welsom yn dod yn norm yn y tymor hir.

Rydym yn edrych hefyd, ac rydym wedi dechrau'r gwaith, ar raglen gweithio'n gallach a fydd, yn y bôn, yn annog y sector preifat, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus i addasu patrymau sifftiau gwaith er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu gweithio o bell, ac i sicrhau y gall pobl weithio mewn ffordd sy'n cysylltu eu diwrnod gwaith â'r ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus fel nad oes yn rhaid iddynt ddefnyddio eu car eu hunain. Ac rydym yn edrych ar sut y gall y rhaglen gweithio'n gallach arbennig hon gydblethu â'r gwaith y mae cydweithwyr ym maes llywodraeth leol a thai yn ei wneud ar y dull canol y dref yn gyntaf.

Felly, rydym yn awyddus i ddefnyddio adeiladau segur yng nghanol y dref ac ar y stryd fawr fel mannau a rennir, lleoedd gweithio o bell, nid yn unig ar gyfer y sector cyhoeddus, ond ar gyfer y sector preifat a'r trydydd sector hefyd. Mae'n sbarduno arloesedd, mae'n gwella creadigrwydd, mae'n dda i'r economi, mae'n dda i'r amgylchedd, mae'n dda i gymunedau.

Diolch. Mark Isherwood. Mae angen i chi agor eich meic. Mae angen i chi symud eich meic, Mark.

O'r gorau. Mae busnesau gwely a brecwast bach, y cyfeiriwyd atynt eisoes, yn rhan annatod o lawer o economïau lleol ar draws gogledd Cymru—busnesau bach go iawn sy'n darparu incwm hanfodol i'w perchnogion. Maent yn gymwys i gael grant busnes yn Lloegr. Ar ôl i mi eich holi dair wythnos yn ôl am gymorth Llywodraeth Cymru iddynt, dywedasant wrthyf eu bod yn ystyried bod eich sylwadau yn nawddoglyd ac yn sarhaus. Ysgrifennais atoch wedyn, i ddweud eu bod hwy a'r economïau lleol y maent yn helpu i'w cefnogi yn gofyn am eich help cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Yn eich ateb, fe ddywedoch chi y bydd y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer ail gam y gronfa cadernid economaidd i geisiadau newydd yn agor ganol mis Mehefin. Eu hymateb oedd, 'Rwy'n deall efallai fod llygedyn o obaith gyda'r gronfa cadernid economaidd newydd. Felly, croeswn ein bysedd y bydd yna opsiwn newydd i bawb ohonom bryd hynny.' Beth sydd gennych i'w ddweud wrthynt a hwythau wedi dweud wrthyf yn awr, ac rwy'n dyfynnu, 'Yn ôl y gwiriwr, mae ein busnes yn dal i fod yn anghymwys'?

14:00

A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am y cwestiwn hwnnw? Yn gyntaf, byddai'n rhaid i mi ddeall pam nad oeddent yn gymwys i gael cymorth drwy gam 2 y gronfa, ond fe ddywedaf hefyd fod gennym y pecyn cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Os nad ydynt yn gymwys i gael cymorth drwy grant y gronfa cadernid economaidd, byddwn yn awyddus iawn i wybod a ydynt wedi llwyddo i sicrhau cymorth hyd yma drwy'r cynllun cadw swyddi, drwy'r cynllun cymorth i'r hunangyflogedig, neu unrhyw gynllun arall. Ac os nad ydynt, os nad ydynt yn gallu cael unrhyw gymorth o gwbl, ac os bu gostyngiad enfawr yn eu trosiant o ganlyniad i'r coronafeirws, ac os ydynt yn dibynnu ar y gweithrediadau busnes hynny am eu bywoliaeth, ac os ydynt yn bodloni'r holl feini prawf hynny, yna, wrth gwrs—wrth gwrs—maent yn fusnes rydym am ei gefnogi, a dyna pam rydym yn gwneud gwaith gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol ar y posibilrwydd o gyflwyno bwrsari caledi a fydd yn cydredeg â cham 2 y gronfa cadernid economaidd.  

Ond yn gyntaf oll, byddai angen i mi ddeall amgylchiadau'r busnesau hynny, oherwydd fel y dywedais, mae camddealltwriaeth mewn rhai mannau ynglŷn â'r hyn sydd ar gael mewn gwirionedd ar lefel Llywodraeth y DU, ac mae rhai busnesau—dim ond rhai, ond rhai busnesau—wedi bod yn aros i weld a ydynt yn gymwys i gael mwy o gymorth gan gynlluniau Llywodraeth Cymru cyn gwneud cais am gymorth gan gynlluniau Llywodraeth y DU. O ystyried y pot cyfyngedig o arian sydd gennym, os yw busnes yn gallu cael cymorth drwy'r cynllun cadw swyddi neu drwy'r cynllun cymorth i'r hunangyflogedig, mae'n gwbl hanfodol eu bod yn troi at y cynlluniau hynny yn gyntaf, oherwydd mae ein hadnodd cyfyngedig, y gronfa cadernid economaidd, wedi'i gynllunio i lenwi'r bylchau. Nawr, os yw'r busnesau rydych chi'n cyfeirio atynt, Mark, yn disgyn drwy'r bylchau mewn gwirionedd, rydym yn awyddus i'w helpu.

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cynnydd yn y cymorth i'r sector hedfan gan Lywodraeth y DU? Fel y gŵyr, mae British Airways yn argymell colli swyddi drwy Gymru gyfan, a'r posibilrwydd o uno swyddi yn y Coed-duon yn fy etholaeth i â rhai yn ninas Caerdydd, a fyddai'n arwain at gau eu safle yn y Coed-duon ac at golli swyddi sgiliau uchel ar gyflogau da o'r Cymoedd. Beth yw ei ddealltwriaeth o'r defnydd o arian a delir o bwrs y wlad ar gynlluniau ffyrlo er mwyn cadw swyddi pan fo BA yn nodi na fydd yn cadw'r staff hyn ond yn eu diswyddo, er ei fod yn amlwg yn arweinydd yn y farchnad sy'n meddu ar gronfeydd mawr wrth gefn a newydd brynu is-gwmni awyr Sbaenaidd? A wnaiff amlinellu wedyn sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo a chefnogi'r gweithlu gwerthfawr hwn ymhellach wrth ymdrin â'r cyflogwr hwn nad yw'n gallu ymgynghori â'i weithlu o gwbl fel sy'n ofynnol yn ystod y cyfnod hwn? Ac a fyddai'n cytuno â mi fod yn rhaid i British Airways oedi yn awr a thynnu eu hysbysiad adran 188 yn ôl tra bod penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch cymorth i'r sector hedfan?

Wel, a gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore, a dweud fy mod yn credu, yn gyffredinol, fod Aelodau ar draws y Siambr ac Aelodau o Senedd y DU yn siarad ag un llais mewn perthynas â chyhoeddiad BA? Ac rwy'n credu bod beirniadaeth Kelly Tolhurst yn Nhŷ'r Cyffredin yn briodol ac yn gywir, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol i British Airways gael eu dwyn i gyfrif am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, nad ydynt yn ceisio ymelwa ar y cynllun cadw swyddi yn y ffordd yr ymddengys eu bod wedi gwneud, a bod cyn lleied o swyddi â phosibl, os o gwbl, yn cael eu colli.

Nawr, os edrychwn ar ba gymorth sy'n cael ei gynnig i sector hedfan y DU, o'i gymharu â'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill ledled y byd, rwy'n ofni y dylai ein gwneud yn bryderus iawn ynglŷn â hyfywedd y sector yn y dyfodol. Ddoe ddiwethaf, gwelsom gyhoeddi pecyn cymorth anferth—enfawr—ar gyfer y diwydiant awyrofod yn Ffrainc. Mae'n werth £12 biliwn mewn grantiau. Cafodd Cathay Pacific £4 biliwn o gymorth i'w achub gan Lywodraeth Hong Kong, ac mewn cyferbyniad, hyd yma, nid ydym wedi gweld cymorth hanfodol bwysig yn cael ei roi i fusnesau hedfan y DU. Mae amser yn brin iawn i lawer o feysydd awyr rhanbarthol, i lawer o gwmnïau hedfan, ac i nifer enfawr o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector hynod bwysig hwn. Felly, rwy'n annog Llywodraeth y DU i gyflwyno strategaeth uchelgeisiol ar gyfer y sector hedfan, ac un wedi'i chefnogi gan fuddsoddiad.

14:05

Weinidog, hoffwn gyfeirio at eich sylwadau diwethaf, mewn gwirionedd, am y gefnogaeth i'r sector hedfan yng Nghymru. Fel roeddech chi'n gywir i ddweud, mae Llywodraeth Ffrainc wedi darparu pecyn cymorth enfawr i'r diwydiant, rhywbeth nad yw Llywodraeth y DU wedi'i wneud. A wnewch chi ymuno â mi i annog Llywodraeth y DU i ddod o amgylch y bwrdd—oherwydd mae'n bryd iddynt ddod o amgylch y bwrdd—gyda'ch cyd-Weinidogion, gyda'r undebau llafur, a chydag arweinwyr y diwydiant, i greu pecyn cymorth a rhoi'r mesurau hynny ar waith ar gyfer y diwydiant pwysig hwn?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r datganiad hwnnw, Jack Sargeant. Ac rwy'n siŵr y byddai llawer o wleidyddion eraill ar draws y Deyrnas Unedig, mewn gweinyddiaethau datganoledig eraill, yn cytuno hefyd. Rwyf wedi siarad â chymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft, sy'n bryderus iawn am gyflwr y sector hedfan yno. Ac mae pryderon yn yr Alban hefyd, mewn sawl rhanbarth o Loegr, ac yn enwedig yn y rhannau hynny o'r DU sy'n fregus iawn ar hyn o bryd o ran statws economaidd eu hardaloedd. Ac mae'n hanfodol bwysig felly fod Llywodraeth y DU yn dangos arweiniad cryf, ei bod yn defnyddio'r pŵer sydd ganddi hi, a hi'n unig, i gefnogi'r sector, a'i bod yn gwneud hynny'n ddi-oed. Ac mae cynlluniau penodol yng Nghymru y gellid eu cefnogi a fyddai'n gwella rhagolygon y sector hedfan. Gallwn nodi eto y ganolfan ymchwil technoleg uwch arfaethedig ar gyfer Glannau Dyfrdwy, y gwaith y gallai Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi'r ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch mewn perthynas â phenderfyniad Airbus ym Mrychdyn i roi gwynt dan adain y dyfodol. Bydd y prosiectau hyn yn aruthrol o bwysig os yw sectorau hedfan ac awyrofod y DU yn mynd i oroesi'r cyfnod cythryblus hwn.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod twristiaeth fel arfer yn cynhyrchu dros £3.2 biliwn o refeniw bob blwyddyn, gyda 40,000 o swyddi lletygarwch ledled Cymru. Mae'r budd economaidd i Gonwy yn £900 miliwn. Mae'r sector mewn cyflwr enbydus. Rydym eisoes wedi colli nifer o westai yn Aberconwy, ac mae llawer o rai eraill wedi rhybuddio y byddai methu agor ym mis Awst yn drychinebus. Beth yw eich bwriad o ran ailagor busnesau llety nad yw'n hunangynhwysol? A wnewch chi ddarparu llinell amser fel y gallant baratoi ymlaen llaw? A wnewch chi weithio gyda rhanddeiliaid yn y sector, megis Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain, i gytuno ar gynllun ar gyfer sut y gellir rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith wrth ailagor ein busnesau llety hanfodol ar gyfer twristiaid? A wnewch chi ganiatáu i fwytai, tafarndai a bariau ailagor ar 4 Gorffennaf, fel sy'n cael ei ystyried yn Lloegr? Ac yn olaf, a wnewch chi agor Sw Mynydd Cymru os gwelwch yn dda? Gall mesurau cadw pellter cymdeithasol ddigwydd yno, gan ei fod yn weithgaredd awyr agored? Mae'n rhaid ei wneud; gwnewch hynny, Weinidog.

A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiynau, ac i roi sicrwydd iddi yn gyntaf fod cymorth enfawr wedi'i gynnig i Sw Mynydd Cymru? Ac ni fu'n ofynnol i Sw Mynydd Cymru, yn wahanol i sŵau yn Lloegr, aros ar gau; deddfwriaeth a gyflwynwyd yn Lloegr yn ystod yr wythnos ddiwethaf i gadw sŵau ar gau sydd wedi rhwystro sŵau rhag ailagor. Yma yng Nghymru, nid yw'r ddeddfwriaeth honno'n berthnasol. Y rheswm pam nad yw sŵau yng Nghymru yn gallu agor ar hyn o bryd yw am na fyddent yn gallu cynhyrchu'r nifer o ymwelwyr a chynhyrchu'r incwm yn sgil hynny i'w gwneud yn hyfyw yn ariannol iddynt agor ar hyn o bryd. Pam? Wel, oherwydd, fel y dywedais eisoes, mae mwy na 60 y cant o bobl yng Nghymru—a dyna ffigur a adlewyrchir mewn llawer o rannau o'r DU—yn rhy nerfus i adael eu cartrefi eu hunain, heb sôn am ymweld â busnesau, ac atyniadau i ymwelwyr. Ond y gwir amdani yw y bydd busnesau sy'n dibynnu ar ymwelwyr—yr atyniadau i ymwelwyr—yn ei gwneud yn ofynnol i bobl fod â hyder i fynd iddynt. Ni fydd gan bobl hyder oni chaiff y rhif R ei ostwng ddigon iddynt deimlo'n hyderus, oni bai ein bod yn gwneud yn siŵr fod y feirws dan reolaeth yn llwyr.

Nawr, yn y cyfamser, rwy'n credu bod y math o gymorth sy'n cael ei gynnig i sŵau yng Nghymru wedi bod yn rhyfeddol, o gofio na chawsom yr un geiniog o symiau canlyniadol yn seiliedig ar gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y gronfa sŵau. Nawr, rydym wedi agor y gronfa cadernid economaidd i sŵau yng Nghymru. Ceir 30 o sŵau cofrestredig a thrwyddedig yng Nghymru. Rydym wedi ysgrifennu at bob un ohonynt i sicrhau ein bod yn llwyr ddeall goblygiadau coronafeirws ac er mwyn inni ddeall lle gallem fod o gymorth. Ac o ganlyniad i'r gronfa cadernid economaidd, rydym wedi gallu gwneud wyth cynnig o gymorth i sŵau yng Nghymru. Mae Sw Mynydd Cymru yn un o'r rhai sydd wedi elwa o'r gronfa cadernid economaidd. Mae hefyd wedi cael budd o gynllun benthyciadau Banc Datblygu Cymru yn sgil y COVID—dau gynllun sy'n unigryw i Gymru, ac mae'r cymorth hwnnw'n £335,000. Cyferbynnwch hynny—pe baem wedi cael swm canlyniadol o dan fformiwla Barnett o gronfa sŵau Llywodraeth y DU, byddai'n ddim ond £700,000, sef bron ddwywaith yr hyn a wariwyd ar un sw yn unig yng Nghymru. Mae hynny'n dangos pam y gallwn ddweud yn hyderus fod sŵau yng Nghymru wedi cael eu gwarchod yn well drwy'r pandemig hwn nag mewn mannau eraill.

Rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi ailagor sŵau'n ddiogel pan fyddant yn dewis ailagor, ond—rhaid i mi bwysleisio eto—yr hyn sy'n mynd i fod yn hanfodol bwysig yw bod hyder gan y cyhoedd i adael eu cartrefi a mynd i ymweld ag atyniadau o'r fath. Oherwydd os nad oes hyder gan bobl, ni fyddant yn mynd iddynt—ni fyddant yn talu arian am docynnau, ni fydd incwm yn cael ei gynhyrchu, a beth fydd yn digwydd wedyn? Dim ond un cyfle a gawn i ailagor busnesau ac ailagor atyniadau.

Fe fydd hi'n anhraethol o anodd i Sw Mynydd Cymru, neu unrhyw sw arall o ran hynny, allu rhoi eu gweithlu'n ôl ar ffyrlo heb i Lywodraeth y DU roi unrhyw arwydd y byddai hynny'n bosibl. Bydd yn anhraethol o anodd hefyd, pan fydd sw ar agor ac yna'n dewis cau, i roi digon o hyder yn y tymor wedyn i warantu y byddant yn gallu ailagor ac aros ar agor. Felly, rydym wedi cynnig sicrwydd y pwyntiau adolygu, ac mae'r pwynt adolygu nesaf ar 9 Gorffennaf ac yna ar 30 Gorffennaf. Ac rydym wedi dweud wrth bobl, gyda sicrwydd y pwyntiau adolygu hynny, 'Byddwch yn gallu cynllunio ar gyfer ailagor, lle credwn y gellir ei wneud yn ddiogel, a bod modd gweithredu'r addasiadau ffisegol sydd eu hangen er mwyn i fusnes ailagor, neu i atyniad ailagor, mewn modd amserol.'

14:10

Weinidog, rydym wedi gweld buddsoddiad mawr yn y diwydiant ceir trydan ar draws y byd, ac wrth inni chwilio am gyfleoedd economaidd wrth gefnu ar COVID-19, hoffwn awgrymu y dylai'r DU ddatblygu capasiti gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf ar gyfer ceir trydan a phopeth sydd ei angen mewn perthynas â hynny. Ac yng Nghasnewydd, wrth gwrs, mae gennym waith Orb, a allai weithgynhyrchu'r duroedd trydanol sydd eu hangen ar gyfer diwydiant o'r fath. A wnewch chi barhau i siarad â Llywodraeth y DU, yr undebau llafur a'r byd busnes, Weinidog, i bwysleisio'r cyfle enfawr hwn a gwneud yn siŵr nad yw gweithfeydd y DU, Cymru ac Orb yng Nghasnewydd ar eu colled?

Wel, diolch, John Griffiths, ac rwy'n cytuno y bydd y defnydd o gerbydau allyriadau isel iawn yn dwysáu ac yn cyflymu yn y dyfodol, ond wrth inni gefnu ar y coronafeirws, rwy'n gobeithio hefyd y byddwn yn gweld y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn cynyddu hefyd, a'n bod yn gweld cynnydd sylweddol mewn teithio llesol. Felly, rydym yn awyddus i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei wneud yn y seilwaith a all gynnal teithio llesol, yn y seilwaith ac yn y gwasanaethau sy'n cynnal trafnidiaeth gyhoeddus, a'n bod ni a Llywodraeth y DU, drwy strategaeth ddiwydiannol y DU, yn gallu buddsoddi'n strategol i gefnogi datblygiad cerbydau allyriadau isel iawn o'r radd flaenaf a hefyd ein bod yn defnyddio ein technolegau newydd, megis y rhai sy'n ymwneud â hydrogen. A John, rydych chi wedi cyflwyno achos grymus iawn ar sawl achlysur i waith Orb gael ei ystyried fel rhan o'r rhaglen waith gyffrous hon, a gallaf warantu y byddwn yn parhau i dynnu sylw Llywodraeth y DU at bresenoldeb y safle hwnnw a photensial y safle hwnnw yn yr agenda bwysig hon.

14:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich diweddariad, Weinidog. Fel y gwyddom i gyd, mae Cymru'n dibynnu ar dwristiaeth, ac yn arbennig felly yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli a'r un y mae gennych gyfrifoldeb gweinidogol drosto. Mae twristiaeth yn fusnes mawr. Rydym yn ei wneud yn dda yng Nghymru. Mae pobl wrth eu boddau'n dod yma ar wyliau. Maent yn gwario eu harian gan wella ein heconomi. Ond mae'r sector parciau carafannau yn arbennig yn dweud wrthyf fod busnes yn llifo i ffwrdd i Loegr a bod sefyllfa wael yn cael ei gwaethygu gan fod ffioedd safleoedd yn dibynnu ar hygyrchedd parciau. Felly, mae pobl am gael ad-daliadau ac os yw safonau'n mynd i barhau i fod yn uchel, bydd costau cynnal a chadw yno o hyd. Mae busnesau'n digalonni.

Dyma fy nghwestiynau: pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch ailagor parciau carafannau yn arbennig, sydd â phellter rhyngddynt gan amlaf? Os bydd Cymru'n parhau â chyfyngiadau sy'n wahanol i weddill y DU, pa gymorth pellach y byddwch yn ei gynnig i'r busnesau hyn er mwyn sicrhau bod diwydiant twristiaeth Cymru yn agored i bawb? Mae Graham Evans, o Parkdean Resorts, wedi gofyn a ydych yn barod i gael cyfarfod Zoom gydag ef. A fyddech chi'n barod i wneud hynny? Ac yn olaf, os mai pwynt y cyfyngiadau symud oedd gwastatáu'r gromlin, rwy'n llongyfarch eich Llywodraeth ar eich llwyddiant. Felly, a wnewch chi—? A wyddoch chi pryd y bydd Cymru ar agor i fusnes? Diolch.

Wel, a gaf fi ddiolch i Mandy Jones, nid yn unig am ei chwestiynau, ond hefyd am ei sylwadau defnyddiol a chais am gyfarfod Zoom ag etholwr? Byddaf yn sicr yn cysylltu â fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ynglŷn â phwy yw'r mwyaf priodol i gael y cyfarfod hwnnw, ond rydym yn awyddus i ymgysylltu â chynifer o fusnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch ag sy'n bosibl wrth inni fynd ati i gynllunio'r cyfnod adfer ac ailagor busnesau'n ddiogel.

Fel y dywedais wrth eraill, mae gennym gyfnodau adolygu rheolaidd, ac yn ystod y cyfnod adolygu diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog y dylai siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol fanteisio ar dair wythnos o gynllunio ar gyfer ailagor. Bydd y cyfnod adolygu nesaf ddydd Iau nesaf, ac yn dilyn hynny, ceir cyfnod adolygu a fydd yn para tan 9 Gorffennaf.

Mewn mannau eraill yn y DU, rydym eto i gael dyddiad ar gyfer pryd y gall twristiaeth a lletygarwch ailddechrau. Yr Alban a Gogledd Iwerddon—ar hyn o bryd maent yn edrych ar 20 Gorffennaf, ac yn Lloegr, efallai, 4 Gorffennaf ar y cynharaf—ac roeddwn yn teimlo bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn awyddus i bwysleisio 'ar y cynharaf' ddoe—ac roedd cafeat cadarn iawn hefyd fod hynny'n dibynnu ar sicrhau bod y cyfraddau heintio yn ddigon isel.

Yr hyn nad wyf am ei wneud—yr hyn nad oes neb o fy nghyd-Aelodau am ei wneud—yw codi gobeithion ffug, a dweud, 'Ar y dyddiad penodol hwn gallwch baratoi i ailagor'. Yn lle hynny, pan fyddwn yn gwneud cyhoeddiadau, rydym am allu eu cyflawni. Rydym eisiau i fusnesau gael sicrwydd o wybod y byddant yn gallu ailagor. Rwy'n credu mai'r peth olaf y mae busnesau mewn unrhyw sector ei eisiau yw cael gwybod y dylent gynllunio ar gyfer dyddiad penodol ac yna, ychydig bach cyn y dyddiad hwnnw, ein bod yn dweud wrthynt, 'Mewn gwirionedd, rydym yn gwneud tro pedol ac nid ydym yn mynd i ganiatáu i chi ailagor'. Oherwydd, pan fyddwch wedi dechrau'r broses o dynnu eich gweithwyr allan o ffyrlo, mae'n anhygoel o anodd gwrthdroi hynny. Ni allwch roi eich gweithlu yn ôl ar ffyrlo. Rhaid i'r busnes dalu'r costau sefydlog sy'n dod yn sgil ailagor, ac felly rhaid inni gael sicrwydd y gallwn wireddu cyhoeddiadau. A dyna pam fod gennym gyfnodau adolygu tair wythnos o hyd, dyna pam fod gennym bwyntiau adolygu bob tair wythnos, a gallaf ddweud unwaith eto, fod y pwyntiau adolygu nesaf yn dod ar 18 Mehefin a 9 Gorffennaf.

Rydym ni, ar draws y Llywodraeth, yn cael trafodaethau helaeth am barciau carafannau a rhannau eraill o'r sector twristiaeth a lletygarwch o ran sut y gallent ailagor yn ddiogel. A chynhaliwyd y drafodaeth ddiweddaraf o'r rheini ddeuddydd yn ôl. Roedd yn cynnwys y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, roedd yn cynnwys Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, roedd yn fy nghynnwys i, ac roedd hefyd yn cynnwys y Prif Weinidog. Rwy'n credu bod hynny'n dangos ein bod o ddifrif ynghylch y mater hwn, a'n hawydd cryf i wneud yn siŵr y gall busnesau ailagor cyn gynted â phosibl, ond rydym am sicrhau y gallwn gadw at unrhyw ddyddiad a gyhoeddwn, oherwydd rydym wedi gweld gormod o enghreifftiau mewn mannau eraill lle mae dyddiadau wedi cael eu cyhoeddi, ond heb eu gwireddu mewn gwirionedd.

14:20

Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu llawer o fusnesau—yn eich datganiad i'r wasg yn gynharach heddiw, rwy'n credu eich bod wedi dweud bod dros 8,000 o fusnesau wedi elwa o'r gronfa cadernid economaidd. Nawr, mae'r gronfa honno'n cynnwys oddeutu £400 miliwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint, ac rwy'n siŵr eich bod chi a minnau'n sylweddoli y byddai rhai o'n busnesau angori, megis y diwydiannau awyr, yn y gogledd yn bennaf, a'r diwydiannau dur, yn y de yn bennaf, yn llyncu'r arian hwnnw ar unwaith, ac felly byddai un busnes yn cael hwnnw. Felly, nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd sydd â'r cyllid a'r adnoddau ond yn hytrach, Llywodraeth y DU. Ac rydym wedi clywed llawer iawn am Project Birch a sut y mae i fod i helpu'r mathau hyn o ddiwydiannau. Hyd yn hyn, nid ydym wedi gweld unrhyw beth yn digwydd a gwyddom fod y diwydiannau'n mynd i wynebu cyfnod tyngedfennol wrth i wledydd eraill yn Ewrop helpu eu sectorau dur, ac mae Tsieina hefyd yn dod allan o hyn. A ydych yn curo ar ddrysau San Steffan a hyd yn oed 10 Downing Street i fynnu bod Llywodraeth y DU bellach yn gweithredu Project Birch ac yn cefnogi'r busnesau mawr hyn, gan eu bod yn gonglfaen i lawer o'n heconomïau, yng gogledd a de Cymru?

Wel, a gaf fi ddiolch i David Rees am ei gwestiwn? Mae'n hollol gywir mai dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r adnoddau ariannol i allu cefnogi'r sectorau gyda'r math o ymyrraeth sydd ei angen, yn enwedig awyrofod a dur. Maent yn ddau sector sydd bellach yn eitemau sefydlog yn y galwadau pedairochrog a gynhelir rhyngof fi a Gweinidogion yr economi yn y gweinyddiaethau datganoledig a BEIS.

Dylid defnyddio Project Birch, wrth gwrs, i gefnogi sectorau a busnesau ledled y DU, ond mewn ffordd sy'n cydnabod yr anghenion—fel y crybwyllodd Helen Mary Jones ychydig yn gynharach—yn hytrach na'r hyn y gellid ei ystyried yn rhaniad teg a chyfartal drwy gymorth o dan fformiwla Barnett. Rhaid inni sicrhau bod cymorth ar gyfer dur ac awyrofod drwy Project Birch—ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth y DU yn gwrando ar ein galwadau am gymorth drwy'r ymyrraeth benodol honno—fod y cymorth a ddaw i'n rhan yn cydnabod bod gennym, yn y ddau sector hollbwysig hynny, nifer anghymesur o uchel o bobl wedi'u cyflogi yng Nghymru, ac felly, drwy Project Birch, ac yn y tymor hwy drwy'r strategaeth ddiwydiannol, byddwn yn disgwyl i'r fersiwn newydd o'r strategaeth ddiwydiannol gael cyfran fwy o'r adnoddau ariannol o'r ymyriadau penodol hynny.

Yn olaf, dylwn ddweud mai'r trydydd sector sydd bob amser, bob amser yn cael ei drafod yn ystod y galwadau pedairochrog hynny yw twristiaeth, ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn i bwysleisio rôl Llywodraeth y DU yn datblygu cynllun cymorth sy'n cydnabod, hyd yn oed os yw busnesau o fewn y sector twristiaeth yn ailagor yn ystod y mis neu fwy nesaf, y byddant yn dal i wynebu heriau o ran cynhyrchu digon o refeniw. Nid ydynt yn mynd i weld y math o refeniw a oedd i'w weld yn 2019, oherwydd nid yw hyder y cyhoedd yn mynd i ddychwelyd i'r hyn ydoedd cyn y coronafeirws, ac felly bydd angen cynllun cymorth, pa un a fydd busnesau'n ailagor o fewn y sector twristiaeth ai peidio. Ac unwaith eto, dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r pŵer ariannol i allu darparu cynllun o'r fath ar gyfer y sector twristiaeth.

Diolch yn fawr, Weinidog.

Rwyf wedi cael rhybudd o bwynt o drefn gan Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders.

Rwy'n siomedig iawn—diolch—pan ofynnais fy nghwestiwn i chi, a soniais am Sw Mynydd Cymru, fe ateboch chi—

Na, na—mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ddrwg gennyf, mae eich pwynt o drefn i mi yn ymwneud ag ymddygiad yn y Siambr. Felly, cyfeiriwch eich pwynt o drefn ataf fi, ac fe wnaf benderfyniad yn ei gylch. Diolch.

O'r gorau. Diolch. Pan ofynnais fy nghwestiwn i'r Gweinidog am Sw Mynydd Cymru, yn ei ymateb fe ddywedodd na fu swm canlyniadol o dan fformiwla Barnett i Gymru ar gyfer y sŵau. Rwyf wedi cael deall o le sicr, yn ysgrifenedig, fod swm canlyniadol o dan fformiwla Barnett wedi'i drosglwyddo. Felly, hoffwn i'r Gweinidog gywiro'r datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda.

14:25

O'r gorau. Fe adolygaf beth yn union a ddywedwyd ac fe ddown yn ôl i ymdrin â hyn ar ddiwedd y sesiwn.

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Coronafeirws (COVID-19)

Symudwn yn awr at eitem 5, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y coronafeirws, COVID-19, a galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.

Member
Eluned Morgan 14:25:40
Minister for International Relations and the Welsh Language

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae COVID-19 yn dal i gael effaith mawr ar fy mhortffolio i ac ar yr adran, ac mae digwyddiadau tramor hefyd yn cael effaith mawr arnom ni yma yng Nghymru. Tra'n bod ni yma yng Nghymru'n gweld lleihad yn nifer yr achosion o COVID, mae'n werth nodi bod swyddogion o Fudiad Iechyd y Byd—y World Health Organization—wedi'i gwneud hi'n glir bod y sefyllfa fyd-eang yn gwaethygu. Mae dros 7 miliwn o achosion wedi cael eu cadarnhau ledled y byd; 400,000 o bobl wedi marw. So, mae ffordd bell gyda ni i fynd, ond, i nifer o wledydd, mae'n bosibl fod y gwaethaf eto i ddod, ac mae'n hymrwymiad ni i wledydd sy'n datblygu wedi parhau yn ystod y pandemig, ynghyd â'n ymrwymiad ni i fasnach deg, sydd wedi cael sylw arbennig y mis yma gan ein bod ni'n dathlu'n deuddegfed flwyddyn fel Gwlad Masnach Deg.

Rwyf am danlinellu'r sioc a'r dicter y mae Llywodraeth Cymru a chynifer o bobl ledled Cymru a'r byd yn ei deimlo ynghylch lladd George Floyd gan swyddog heddlu, a'r ymateb llym a gafwyd wedyn gan Arlywydd yr Unol Daleithiau. Mae dinasyddion yr Unol Daleithiau yn protestio'n gyfiawn yn erbyn hiliaeth amlwg a wynebir gan bobl ddu, sydd fel pe bai wedi ymwreiddio mewn rhai sefydliadau. Mae'n amlwg efallai nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau datganoledig i herio gweithredoedd Llywodraeth gwlad arall yn uniongyrchol, ond rwy'n credu bod dyletswydd foesol arnom i godi llais. Fel y dywedodd ein Gweinidog iechyd, Vaughan Gething:

Rhaid inni herio hiliaeth, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder ble bynnag y down o hyd iddo, gan gynnwys yma yn y wlad hon.

Nawr, rydym yn gwybod heb amheuaeth nad yw hiliaeth sefydliadol yn broblem sydd ond yn digwydd yn yr Unol Daleithiau. Mae gennym ffordd bell i fynd yn ein gwlad ein hunain i fynd i'r afael â'r mater hwn, ond rydym wedi datgan yn glir ein hundod â phawb sy'n protestio. Ond nid yw undod yn ddigon. Rhaid inni fod yn barod i herio gwledydd eraill, yn enwedig pan fydd y gweithredoedd hynny'n creu ymateb yma yng Nghymru. I'r perwyl hwnnw, rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ac yn gofyn iddynt atgoffa Arlywydd yr Unol Daleithiau am ei rwymedigaethau i barchu hawliau dynol ac i ofyn iddo gydnabod yn ddiamod fod bywydau pobl dduon yn bwysig.

Rwyf hefyd wedi gofyn i'n tîm cysylltiadau rhyngwladol fonitro'r sefyllfa bryderus yn Hong Kong a phwysleisio ein hymrwymiad yn Llywodraeth Cymru i egwyddorion democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol.  

Nawr, rydym wedi defnyddio'r wybodaeth amhrisiadwy a ddarparwyd gan ein swyddfeydd rhyngwladol ynglŷn â sut y mae Llywodraethau tramor eraill yn llacio cyfyngiadau symud er mwyn helpu i roi siâp i'n cynlluniau a'n hymateb yma yng Nghymru.

Mae'r cloc yn tician mewn perthynas â datblygu perthynas newydd â'r UE, a phan ddaw'r cyfnod pontio i ben, bydd ein perthynas fasnachu bresennol â llawer o wledydd eraill y byd hefyd yn dod i ben. Rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ynglŷn â thrafodaethau masnach yr Unol Daleithiau, ac yn enwedig y pryder cynyddol ynghylch gostwng safonau bwyd a lles anifeiliaid y DU, ac mae'r posibilrwydd y bydd cyw iâr wedi'i glorineiddio'n cael ei fewnforio yn destun pryder mawr. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd i ni na fyddant yn cytuno i ostwng safonau mewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol, ac mae hynny'n rhywbeth a addawyd ganddynt yn eu maniffesto a byddwn yn eu dwyn i gyfrif yn ei gylch.

Hoffwn droi yn awr at dwristiaeth. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn hynny y prynhawn yma. O'r Prif Weinidog i lawr, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o faint yr her sy'n wynebu'r sector twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau, ac ers i'r argyfwng ddechrau, mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr y diwydiant. Rydym yn gwybod na ddaw tymor yr haf yn ei ôl wedi iddo fynd heibio. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda'r diwydiant a chymunedau lleol i sicrhau ei bod yn ddiogel i ddychwelyd at dwristiaeth cyn gynted ag y bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu. Rydym yn gwybod y byddai'r diwydiant yn hoffi i ni ddarparu dyddiad ar gyfer pryd y gall y diwydiant ailddechrau, ond rydym wedi dweud yn gyson y cawn ein llywio gan y wyddoniaeth, ac nid gan ddyddiadau, ac ni fyddwn yn llacio'r cyfyngiadau hyd oni fydd y cyngor meddygol yn dweud ei bod yn ddiogel i ni wneud hynny.

Rydym wedi addo y byddwn yn rhoi o leiaf dair wythnos o rybudd i'r diwydiant er mwyn paratoi ar gyfer ailagor ac rydym yn rhoi ystyriaeth fanwl i ba bryd y gallwn ddangos ein bod yn agosáu at yr amser cywir i ailagor darpariaeth llety a rennir heb gyfleusterau, a nodir yn y parth oren yn rhaglen y Prif Weinidog. Rydym yn ymwybodol y bydd y diwydiant yn gwylio datganiad 21 diwrnod yr wythnos nesaf yn ofalus iawn, a byddwn yn edrych am arwydd gan y Prif Weinidog mewn perthynas â'r sector twristiaeth.

Rydym yn ymwybodol iawn, wrth i fusnesau nesáu at fis Awst, y bydd gofyn iddynt gyfrannu'n ariannol at gynllun ffyrlo, ac rydym yn deall pwysigrwydd y dyddiadau hyn i fusnesau. Felly, rydym yn paratoi—ac yn paratoi'n fanwl—ac mae hynny wedi cynnwys datblygu canllawiau a phrotocolau manwl i gefnogi'r sector a diogelu'r gymuned a staff ac ymwelwyr.

Ein pecyn cymorth ni i'r diwydiant yw'r mwyaf hael yn y DU, yn enwedig drwy ein cronfa cadernid economaidd bwrpasol, lle rydym wedi dyfarnu dros £10 miliwn i fusnesau twristiaeth, o 5 Mehefin ymlaen, gan ddiogelu dros 4,500 o weithwyr. Ac fel y clywsoch, bydd cam 2 y gronfa yn paratoi'r ffordd i ragor o fusnesau twristiaeth gael mynediad at y cronfeydd hyn. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun ffyrlo neu i greu pecyn pwrpasol ar gyfer y sector.

Yn anffodus, mae'n debyg mai'r diwydiant digwyddiadau fydd yr olaf i ymadfer, ac rydym yn gobeithio gweithio'n agosach byth gyda threfnwyr ledled Cymru i ystyried y ffordd ymlaen. Mae'r sector diwylliant a'r celfyddydau hefyd o dan bwysau aruthrol. Y sefydliadau hyn yn aml yw calon ein cymunedau, a byddant hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol.

Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n holl randdeiliaid allweddol i gynnig cyngor ac arweiniad ac rydym wedi blaenoriaethu ein hymatebion ar gyfer y gweithgareddau mwyaf hanfodol yn y tymor byr, a chefnogi sefydliadau sydd â phroblemau llif arian a chaledi cyffredinol. Ac rydym hefyd yn darparu canllawiau ar sicrhau bod chwaraeon yn dychwelyd yn ddiogel ac ar ailagor cyfleusterau pan fo'r amodau'n iawn.

14:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

O ran y Gymraeg, dwi wrth fy modd bod dysgu Cymraeg wedi dod mor boblogaidd yn ystod y cyfnod cloi yma. Lai na phythefnos ar ôl cloi lawr yng Nghymru, lansiodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddosbarthiadau Cymraeg newydd gyda 8,300 o bobl newydd yn ymuno.

A gaf i estyn llongyfarchiadau hefyd i'r Urdd ar gynnal Eisteddfod T? Gwnaeth dros 6,000 gystadlu, gyda nifer o'r rhain yn gynulleidfaoedd newydd. Roedd hwn yn ddigwyddiad arloesol i S4C ac i'r Urdd, ac roedd hwn wedi cael ei ddarlledu'n fyw, a dyma'r peth digidol mwyaf i blant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig yn ystod COVID-19.

Darlledwyd neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd ar 18 Mai. Gofynnodd pobl ifanc Cymru i ni stopio'r cloc mewn ymateb i COVID-19 a meddwl sut ydyn ni am weld y byd yn y dyfodol. Fe wnaeth y neges yna gyrraedd 37 miliwn o bobl ledled y byd, a hynny mewn 57 iaith, gan gynnwys yr holl ieithoedd mae'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn eu cynrychioli.

Mae'r sialensau sydd ynghlwm â'r firws yn mynd i barhau am sbel i ddod, ond dwi'n hyderus y byddwn ni'n dod drwy hyn fel gwlad ymhen amser, a fan hyn mae'n werth dyfynnu Waldo Williams:

'Gobaith fo’n meistr: rhoed Amser i ni’n was'.

Diolch.

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad.

Os caf ddechrau drwy gysylltu fy hun a fy mhlaid yn llwyr â sylwadau'r Gweinidog am y sefyllfa yn Unol Daleithiau America, a mynegi pa mor falch wyf fi ei bod wedi teimlo y gall ysgrifennu ar ran Cymru fel cenedl a mynegi ein pryderon. Mae'r Gweinidog yn gywir, wrth gwrs, pan ddywed nad oes yr un genedl, ysywaeth, yn rhydd o'r math hwn o ragfarn a gwahaniaethu. I ategu cwestiwn Adam Price i'r Prif Weinidog yn gynharach, a fydd hi'n cael trafodaethau pellach gyda'i chyd-Weinidogion i drafod y cyfle i agor amgueddfa benodol sy'n amlygu hanes a chyfraniad cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i ni yma yng Nghymru? Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi mai un o'r ffyrdd gorau o atal rhagfarn a gwahaniaethu yw i'n pobl ifanc yn enwedig ddeall yr hanes yn well.

Ar dwristiaeth, rwy'n deall yn llwyr yr hyn y mae'n ei ddweud am beidio â bod eisiau ceisio rhoi dyddiadau; mae'n amlwg yn amhosibl gwneud hynny. Ond mae'n sôn yn ei datganiad y bydd canllawiau sectoraidd pellach i fusnesau ynglŷn â sut y gallant agor yn ddiogel. Croesewir hyn yn fawr, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn deall bod angen i'r canllawiau hynny fod ar gael cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau, er enghraifft, os oes angen i fusnesau wneud addasiadau i adeilad, boed yn addasiadau i far neu i gwch, fod ganddynt amser i roi hynny ar waith, a hefyd eu bod yn gallu ailhyfforddi eu staff os bydd angen.

Tybed a all ddweud wrthym heddiw pryd y mae'n disgwyl cael canlyniad y trafodaethau y mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU, trafodaethau rwy'n eu croesawu'n fawr. Oherwydd, unwaith eto, gallai busnesau—. Bydd yn helpu busnesau'n fawr os ydynt yn gwybod pa fath o gymorth a allai fod ar gael pan ddaw'r pecynnau presennol i ben, a sut beth fydd y cymorth hwnnw.

Ar y sector diwylliannol a'r celfyddydau, mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn hollol iawn i ddweud pa mor bwysig yw'r sefydliadau hyn, a hoffwn gymeradwyo Cyngor Celfyddydau Cymru, er enghraifft, ar y ffordd y maent wedi ymateb i'r sector ac wedi gweithio gydag ef. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y gallai fod yn bosibl inni agor rhai o'n sefydliadau allweddol—rwy'n meddwl am yr amgueddfa werin yn Sain Ffagan, er enghraifft—yn gynt nag eraill? Ac os gwnawn hynny, efallai y byddwn am sefydlu rhyw fath o system flaenoriaethu, fel bod pobl ifanc yn arbennig yn cael mynediad at yr hanes hynod bwysig hwn. Ac a all y Gweinidog ddweud rhagor wrthym am y cymorth a ddarparwyd drwy gyngor y celfyddydau ar gyfer gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r cynllun hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond bod mwy na'r disgwyl o bobl wedi ymgeisio amdano o bosibl.

14:35

Bydd angen i chi ddod i ben yn awr, ac fe ddychwelaf atoch ymhen munud neu ddau ar ôl i'r Gweinidog ymateb i'r gyfres gyntaf o gwestiynau.

Rwy'n ymddiheuro. Fe roddaf y gorau iddi yn y fan honno a dod yn ôl.

Diolch yn fawr. Diolch yn fawr, Helen Mary, a diolch am y gefnogaeth ynglŷn â'n safbwynt ni a'n hymateb ni i Black Lives Matter yma yng Nghymru, a hefyd am y neges rŷn ni'n glir eisiau ei rhoi i'r Unol Daleithiau.

O ran yr amgueddfa, a gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o glywed ymateb y Prif Weinidog yn gynharach mewn perthynas â'r syniad o ddatblygu rhyw fath o amgueddfa? Byddwn yn sicr yn ymchwilio i hynny fel adran ac yn edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni gydnabod y dylanwad a'r effaith a'r ffordd y mae pobl dduon wedi cyfrannu at fywyd Cymru dros y blynyddoedd, ac y dylid cydnabod hynny. Mae'n hollol anghredadwy i mi fod pobl wedi bod yn mynychu ysgol Syr Thomas Picton yn Hwlffordd, er enghraifft, heb unrhyw syniad pwy ydoedd na beth a wnaeth, a chredaf fod hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef.  

Mewn perthynas â'r canllawiau sectoraidd y sonioch chi amdanynt, rwy'n meddwl ein bod yn ar fin eu cwblhau a byddant ar gael i westai, i gyfleusterau, i gyfleusterau chwaraeon, i atyniadau twristiaeth. Mae'r holl waith hwnnw wedi'i wneud yn drylwyr dros nifer o wythnosau drwy gydgysylltu ac ymgynghori â chynrychiolwyr o'r sector. Felly, mae'r cyfan ar gael, a bydd ar gael yn ystod yr wythnos nesaf, ac felly, wrth gwrs, bydd hynny'n helpu pobl i roi camau ar waith.

Pan fyddwn yn sôn am y pecynnau a all fod ar gael gan Lywodraeth y DU, yn amlwg rwy'n gwybod eisoes fod y Gweinidog cyllid wedi ysgrifennu at y Trysorlys i ofyn am estyniad i'r cynllun ffyrlo, a hyd yn oed i ystyried y bydd angen sylw arbennig ar sectorau penodol fel y sector twristiaeth. Ond rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth fod hyn y tu hwnt i'n gallu i ariannu o'r fan hon yng Nghymru. 

Ar fater yr amgueddfa werin, roeddem eisoes wedi dweud yn yr adolygiad 21 diwrnod diwethaf y byddai amgueddfeydd awyr agored yn gallu agor yn y dyfodol agos, felly rydym wedi rhoi amser iddynt baratoi. Gwn fod Sain Ffagan eisoes wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith i baratoi a bod yn barod ar gyfer hynny, ac i wneud yn siŵr fod y canllawiau y maent wedi'u datblygu yn cael eu dilyn yn fanwl, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi hyder i'r cyhoedd pan fydd yn agor y bydd yn ddiogel iddynt fynd i mewn i'r amgueddfa.

Ac yn olaf, ar becyn cyngor y celfyddydau, fe fyddwch yn ymwybodol fod cronfa o £17 miliwn wedi'i hailgyfeirio o gyllidebau presennol. Rhywfaint o'r gronfa honno—. Roedd cronfa gydnerthedd gwerth £7 miliwn ar gyfer y celfyddydau, ac roedd cyfle, fel y dywedwch, i weithwyr llawrydd allu wneud cais ar gyfer honno. Gwn fod llawer o'r arian hwnnw eisoes wedi'i glustnodi, ond yn sicr mae cyfle i weithwyr llawrydd ofyn am gymorth o'r cyllid hwnnw.

14:40

Diolch, Lywydd, ac fe fyddaf yn gryno. Rhaid cyfaddef fy mod wedi anghofio bod gennyf ail swp o gwestiynau. Rwy'n ymddiheuro.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog—? Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd am y ffaith eu bod wedi addasu'n wych. Ond dywedir wrthyf ein bod wedi cael cynnydd mawr yn nifer y bobl sydd eisiau dysgu Cymraeg ar-lein, rhywbeth sy'n amlwg yn galonogol iawn. Gwn ei bod wedi gorfod ailbroffilio ei chyllideb, ond a yw'r Gweinidog yn hyderus fod digon o adnoddau ar gael i'r rhai sy'n dymuno dysgu Cymraeg ar yr adeg anodd hon i allu gwneud hynny?

O ran ymgyrch Black Lives Matter, a wnaiff ystyried siarad â'r Gweinidog addysg ynglŷn â sut y gallem adlewyrchu hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn well yng Nghymru yn ein cwricwlwm wrth inni symud ymlaen? Rwy'n derbyn ei phwynt ynglŷn â'r modd nad yw hi'n debygol fod pobl ifanc sy'n astudio yn ysgol Thomas Picton yn gwybod pwy ydyw. Yn y cyd-destun hwnnw hefyd felly, a wnaiff hi ystyried edrych yn y tymor canolig—nid yw hyn yn rhywbeth a all ddigwydd ar unwaith—ar yr henebion hanesyddol hynny, yr adeiladau cyhoeddus hynny, a'r bobl y maent wedi eu henwi ar eu holau, i weld a yw'n bryd inni gynnal adolygiad tebyg i'r un sy'n cael ei wneud yn Llundain, i sicrhau nad ydym yn coffáu pobl nad ydym am adlewyrchu eu hanes.

Diolch. O ran y gefnogaeth a roddir i ddysgu Cymraeg ar-lein, credaf fod hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn. Yn amlwg, mae'n llawer rhatach na gwneud pethau wyneb yn wyneb. Felly, mae'r holl gyllid a oedd yn cael ei roi tuag at gyswllt wyneb yn wyneb yn cael ei wneud ar-lein erbyn hyn. Yr hyn sy'n ddiddorol, mewn gwirionedd, yw bod mwy o bobl yn dod i'r dosbarthiadau ar-lein nag a ddeuai i'r ystafell ddosbarth go iawn, felly credaf fod cyfle gwirioneddol inni ailfeddwl ynglŷn â'r ffordd rydym yn darparu addysg Gymraeg i oedolion yng Nghymru. Felly, rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae pethau'n symud. Yn amlwg, mae gan rai pobl ychydig o amser sbâr ar hyn o bryd i allu datblygu eu sgiliau iaith, ac rydym yn falch iawn o weld hynny'n digwydd.

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg yn hynod ymwybodol o bwysigrwydd adrodd hanesion Cymru, ac mae'n fater o sôn am hanesion lluosog Cymru. Mae'n rhaid i hynny gynnwys bywydau pobl dduon. Gwn fod y Prif Weinidog yn awyddus iawn ac yn deall y dylai fod yn fater ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod yr Ysgrifennydd addysg yn edrych arno o ran y cwricwlwm newydd a sut y gellir cynnwys hynny. Yn amlwg, byddai'n gwneud synnwyr i wahanol ysgolion o amgylch y wlad ymateb i'r hyn a ddigwyddodd iddynt yn lleol. Felly, mae angen i chi roi hyblygrwydd, a chredaf mai dyna yw holl bwrpas y cwricwlwm newydd—fod pobl yn gallu ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn lleol hefyd.

Ar y sefyllfa mewn perthynas â henebion yng Nghymru, mae'n amlwg na ddylem ddathlu gweithredoedd pobl yn y gorffennol lle mae gennym bryderon gwirioneddol am yr hyn y mae hynny'n ei gynrychioli i ni, yn foesegol. Credaf ein bod eisoes wedi gweld yng nghyngor dinas Caerdydd fod y ddadl honno wedi dechrau, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gweld y ddadl honno'n digwydd ledled Cymru yn awr—mewn awdurdodau lleol ar draws Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn edrych ar rai o'r cerfluniau a'r henebion eraill sy'n bodoli yng Nghymru o bobl na ddylem fod yn eu dathlu o bosibl, ac mae cyfle, gobeithio, i ni ganolbwyntio ar hynny.

Ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog cydraddoldebau yn awyddus iawn i edrych ar sut rydym yn datblygu yn hyn o beth. Mae'n rhywbeth roedd hi'n edrych arno ymhell cyn i'r lladd ddigwydd yn yr Unol Daleithiau. Mae'r cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol eisoes yn cael ei ddatblygu. Felly, rwy'n hyderus iawn o'r ffaith ein bod yn hynod ymwybodol mewn gwirionedd fod yna anfanteision gwirioneddol o hyd i bobl dduon yn ein cymunedau, a bod angen inni ganolbwyntio ar hynny, yn enwedig yn awr yng nghyfnod y coronafeirws.

A gaf fi ddechrau, Weinidog, drwy gadarnhau ar ran Plaid Geidwadol Cymru fod bywydau pobl dduon yn bwysig? Rwy'n gobeithio y gwelir marwolaeth greulon   George Floyd yn y dyfodol fel moment dyngedfennol, pan ddigwyddodd rhywbeth, nid yn unig yn yr Unol Daleithiau ond ym mhob cwr o'r byd, yn enwedig yn ein hachos ni yng Nghymru ac yn y DU, pan wnaethom archwilio ein hanes ein hunain ac yn arbennig ein hagweddau a'n hymrwymiad i sicrhau mwy o gydraddoldeb, ond y modd y mae hynny'n fyr o'r nod yn enwedig mewn perthynas â chydraddoldeb hiliol.  

Caf fy atgoffa o waith y cynorthwyodd Helen Mary a minnau i'w wneud 20 mlynedd yn ôl, pan oedd y pwyllgor cydraddoldeb cyntaf ar y pryd—credid ei fod yn arloesol iawn ar y pryd gyda llaw, pan gawsom ddatganoli gyntaf—yn edrych ar adroddiad Lawrence ac fe wnaethom argymell bod y cwricwlwm yn archwilio rôl môr Hafren yn y fasnach gaethweision, a oedd, er yn seiliedig ym Mryste, yn cynnwys porthladdoedd de Cymru hefyd. Mae'n sobreiddiol meddwl, 20 mlynedd yn ddiweddarach, fod llawer iawn i'w wneud eto, er ein bod wedi gwneud cynnydd hefyd.  

A gaf fi ddweud fy mod yn credu mai mater i bob cenhedlaeth yw penderfynu sut y defnyddir eu mannau cyhoeddus mwyaf amlwg a sut y cânt eu defnyddio i goffáu neu ddathlu personoliaethau penodol neu achosion ehangach ar y cyd? Rwy'n credu y dylid ei wneud drwy fyfyrio dwfn ac yn ystyrlon, oherwydd mae angen iddo fod yn brofiad dysgu i bawb, i'r gymdeithas ehangach. Felly, nid wyf yn hoffi'r syniad fod y materion hyn yn cael eu setlo ar fympwy, ni waeth pa mor gryf a diffuant yw hynny, a heb broses briodol. Rwy'n gobeithio y bydd cyfarfod y pwyllgor diwylliant yfory yn dechrau edrych ar yr agwedd dreftadaeth hon ar bwy sy'n cael eu dathlu a ble a sut y cawn ffordd briodol o ymdrin â'r materion hyn sy'n ddadleuol iawn weithiau.  

Yn fy set gyntaf o gwestiynau, hoffwn ofyn un penodol am dwristiaeth. Rwy'n credu bod consensws yn awr yn y Siambr y gellir agor busnesau llety hunanarlwyo, ac mae angen i hynny fynd rhagddo'n gyflym. Ceir cwestiwn ynglŷn â llawer o barciau carafannau a chartrefi modur sydd â chyfleusterau a rennir, ond gallent eu cau a chaniatáu carafannau a chartrefi modur i mewn wedyn, a chan eu bod yn meddu ar eu cyfleusterau eu hunain, gallent ddefnyddio lleiniau, gan ganiatáu rhyw lefel o fusnes yn y parciau hynny. Rwyf wedi mynd ar drywydd y mater hwn eisoes mewn cwestiwn ysgrifenedig, ac rwy'n gobeithio y cawn ateb llawnach a pholisi llawnach er mwyn inni gael hyblygrwydd i'r rhai sy'n gallu dangos eu bod wedi cau'r cyfleusterau a rennir sydd ganddynt ar y safle, fel y gallant agor wedyn ar gyfer yr unedau hunanddarpar sydd yno. Ond rwy'n gofyn i chi edrych ar y cwestiwn penodol hwnnw pan fydd yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau symud yn digwydd ymhen wythnos.

14:45

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, diolch i'r Blaid Geidwadol am gadarnhau eu cefnogaeth i Black Lives Matter, fel y byddwn yn ei ddisgwyl. Felly, mae'n dda iawn fod gennym gonsensws pendant o ran ein hymagwedd yma yng Nghymru.

Mewn perthynas â'r cwricwlwm, ceir agweddau craidd ar y meysydd dysgu a phrofiad o fewn y cwricwlwm newydd a fydd yn tanlinellu pwysigrwydd edrych ar hyn fel mater sy'n codi o fewn y cwricwlwm. Ond unwaith eto, mater i'r bobl hynny'n lleol fydd penderfynu sut y byddant yn datblygu hynny ac yn mynd ati i'w wneud.

Ar fater twristiaeth, gallaf eich sicrhau ein bod yn gwneud llawer o waith manwl iawn ar beth fydd yn gallu agor yn ystod y cyfnod oren. Rydym yn edrych ar yr hyn y mae llety a rennir neu gyfleusterau a rennir yn ei olygu, ac rydym yn sicr yn edrych ar feysydd carafannau ac a fyddent yn gallu agor pe baent yn cau cyfleusterau a rennir. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym eisoes yn ei wneud.

Hoffwn danlinellu ein bod ni i gyd, wrth gwrs, yn awyddus i weld pethau'n mynd yn ôl i'r arfer yn rhai o'n hardaloedd twristiaeth allweddol yn arbennig, ond er mwyn tanlinellu hynny, beth bynnag a wnawn, mae'n rhaid inni ddod â'r gymuned gyda ni. Rwy'n credu bod llawer o nerfusrwydd yn dal i fodoli mewn rhai mannau ac mae angen inni ddatblygu hyder pobl. Rwy'n gobeithio y bydd y canllawiau hyn y buom yn eu gosod, ac y buom yn eu datblygu yn rhoi sicrwydd i'r cymunedau y bydd yn ddiogel i agor pan fydd y gyfradd R mewn man lle rydym yn hyderus y bydd yn ddiogel i wneud hynny.

14:50

Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod strategaeth dwristiaeth gydlynol ac uchelgeisiol yn galw hefyd am weithredu mewn partneriaeth â gweddill y DU? Ac er bod yr hyn y gallwn ni ei wneud yng Nghymru yn bwysig iawn, mae angen iddo fod yn gysylltiedig â materion ehangach hefyd—rydych chi eisoes wedi sôn am y cynllun ffyrlo. Rwy'n gobeithio y bydd y gronfa ffyniant gyffredin, pan fydd yn weithredol, yn gallu buddsoddi'n sylweddol mewn twristiaeth. Mae'n sector mor allweddol yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU, ac mae'n mynd i alw am gefnogaeth barhaus dros y 18 mis nesaf yn ôl pob tebyg. Oherwydd hyd yn oed pan fyddwn yn cyrraedd yr hyn a fydd, gobeithio, yn dymor twristiaeth llawnach o lawer y gwanwyn nesaf, bydd llawer o ailadeiladu i'w wneud. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn yng Nghymru gyda rhyddhad ardrethi busnes, er enghraifft, ond mae angen inni fod yn rhan o ddull partneriaeth ehangach yn y DU yn ogystal, yn enwedig ar rai o'r ffynonellau ariannu mawr posibl hynny.

Ac yma, rwy'n credu y gall ein strategaeth farchnata fwydo i mewn i un y DU hefyd, ond credaf nad ydym wedi gwneud cymaint ag y gallem ei wneud yn y gorffennol, ers dyddiau Awdurdod Datblygu Cymru yn ôl pob tebyg. Nid wyf yn meddwl ein bod wedi cael strategaeth farchnata o'r radd flaenaf i Gymru. Credaf mai dyna'r hyn y dylem anelu ato eto, oherwydd mae'r Llywodraeth mewn sefyllfa wych i gyflwyno strategaeth farchnata, yn enwedig ar gyfer twristiaeth, oherwydd mai methiant y farchnad yn unig sydd yno, gyda chymaint mwy o ddarparwyr bach nad ydynt yn gallu ymuno â'i gilydd i ariannu strategaeth farchnata, ond gall y Llywodraeth wneud hynny. Ond mae angen inni hefyd fwydo i mewn i seilwaith y DU. Mae llysgenadaethau tramor, er enghraifft, a theithiau masnach yn allweddol i gael ein hatgoffa yn eu cylch, oherwydd os ydym yn hyrwyddo Cymru ar gyfer twristiaeth, rydym yn ei hyrwyddo ar gyfer busnes ehangach hefyd.

Diolch, David. Yn sicr—byddwn yn dweud bod cysylltiad hynod o agos rhyngom a diwydiant twristiaeth y DU. Gwn fod y Dirprwy Weinidog yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â'i gymheiriaid ledled y Deyrnas Unedig, ac mae llawer o'r canllawiau sy'n cael eu datblygu, yn cael eu datblygu ar y cyd â gweddill y DU lle bo'n bosibl. Oherwydd efallai nad yw'n gwneud synnwyr inni gael protocol ar wahân ar gyfer sut rydych chi'n defnyddio bwffe yng Nghymru i sut y byddech chi'n defnyddio bwffe yn yr Alban. Felly, mae'r pethau hynny i gyd yn cael eu trafod yn fanwl.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr—nid ar ochr y Llywodraeth yn unig, ond ar ochr y diwydiant hefyd—. Felly, mae gennym gynrychiolwyr o Gymru ar fwrdd VisitBritain. Mae Cyngor Diwydiant Twristiaeth y DU, wrth gwrs, yn bobl sy'n rhan o'r trafodaethau wythnosol y mae Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog, yn eu cael gyda'r diwydiant. Felly, rwy'n credu bod y cysylltiad â'r DU yn gryf iawn mewn gwirionedd.

Pan fyddwch chi'n sôn am strategaeth farchnata, ein strategaeth farchnata ar hyn o bryd wrth gwrs yw 'Croeso i Gymru, yn nes ymlaen', ac wrth gwrs, ar ryw adeg, byddwn yn newid hynny pan fyddwn yn teimlo ei bod yn ddiogel i wneud hynny. Ond rwy'n credu bod llawer iawn o waith eisoes wedi'i wneud ar hyn. Mae gennym oddeutu 1 filiwn o ddilynwyr ar Twitter mewn perthynas â Wales.com. Rwy'n credu bod llawer iawn o waith wedi'i wneud eisoes ar frandio Cymru. Rwy'n credu bod hynny mewn lle da iawn yn awr. Felly, dyna sut rydym yn hyrwyddo'r platfformau hynny i gynulleidfa ehangach ac yn cael Llywodraeth y DU i hyrwyddo ar ein rhan. Yn sicr, un o'r pethau rydym wedi bod yn ceisio eu pwysleisio o fewn y strategaeth ryngwladol newydd honno yw rhoi'r wybodaeth glir i Lywodraeth y DU ynglŷn â beth rydym am iddynt ei ddweud ar ein rhan, ac rwy'n credu ein bod ni mewn lle gwell o lawer gyda hynny yn awr.

Diolch am eich datganiad, Weinidog, ac am y gwaith rydych yn parhau i'w wneud, ac fe wnawn ni i gyd weddïo am heddwch ar draws y byd.

Mae economi fy rhanbarth, fel sawl rhan o Gymru, yn dibynnu'n drwm ar y sector twristiaeth, sector sydd wedi'i ddifetha gan y pandemig coronafeirws. Microfusnesau yw'r rhan fwyaf o'r gweithredwyr yn fy rhanbarth, ac mae'r enillion a gollwyd wedi bod yn drychinebus. Oni weithredwn i ganiatáu i'r sector weithredu'n fuan, bydd llawer o'r busnesau hyn yn methu goroesi. Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grantiau tan ddiwedd Mehefin, ac ynglŷn â'r grantiau hyn o £10,000 neu £25,000, a fyddant yn daliad untro neu a gynigir mwy o gymorth os na fydd y sector yn gallu gweithredu ym mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Awst?

Er fy mod yn derbyn bod yn rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod o'r pwys mwyaf ac na fydd y sector twristiaeth yn gallu gweithredu fel y gwnâi cyn y coronafeirws, mae sawl ffordd o liniaru'r clefyd a dal i gael tymor twristiaeth, cyn belled ag y glynir at fesurau cadw pellter cymdeithasol. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r gell gyngor technegol ynglŷn â sut y gall twristiaeth a hamdden weithredu'n ddiogel yn ystod y pandemig hwn?

Mae llawer o barciau gwyliau yn fy rhanbarth yn cynnwys carafannau sefydlog, sydd yn ôl y gyfraith yn gorfod bod 5m oddi wrth ei gilydd. Mae'r rhain yn hunangynhwysol, gyda'u ceginau a'u hystafelloedd ymolchi eu hunain. Weinidog, a wnewch chi ystyried caniatáu i'r parciau hyn agor yn yr wythnos neu ddwy nesaf? Gellir cymryd camau i leihau risg i'r eithaf, o gofio bod y sector yn gwneud 70 y cant o'i refeniw yn ystod mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Awst. Weinidog, a ydych yn cytuno y dylid caniatáu i barciau gwyliau agor cyn gynted ag y bo modd?

Ac yn olaf, Weinidog, gyda mesurau cwarantin ar waith ar gyfer pawb sy'n teithio i'r DU, mae'n annhebygol y byddwn yn gweld llawer o dwristiaid tramor eleni. Ond ar yr ochr arall i'r geiniog, mae'n annhebygol y bydd trigolion y DU yn mwynhau gwyliau tramor chwaith. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau, pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, y bydd fy rhanbarth i, a Chymru gyfan, yn elwa o'r cynnydd anorfod mewn gwyliau yn y wlad hon? Diolch.

14:55

Diolch. Yn gyntaf oll, byddwn yn dweud y bydd y microfusnesau hynny, gobeithio, yn cael cyfle i wneud cais i'r gronfa cadernid economaidd nesaf, ac mae'n cael ei thargedu'n benodol at y rheini yng ngham nesaf y gronfa cadernid economaidd. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn annog y bobl sydd wedi cysylltu â chi i edrych ar hynny, ac maent eisoes yn gallu asesu a fyddant yn gymwys, er nad yw'r gronfa wedi'i hagor yn ffurfiol eto.

Hefyd, o ran canllawiau, fel y dywedais, rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i roi canllawiau ar waith fel ei bod yn gwbl ddiogel i leoedd fel parciau carafannau agor pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliad y gell gyngor technegol er mwyn edrych i weld a yw'r feirws yn cael ei gyfyngu ddigon iddi fod yn ddiogel i agor yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r canllawiau hynny'n cael eu datblygu. Byddem yn annog y bobl sy'n gweithio ar safleoedd carafannau neu lety hunanarlwyo i edrych ar hynny, ond mae'n rhaid i mi danlinellu bod hyn i gyd yn amodol ar sicrhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny a bod y gyfradd R yn gostwng.

O ran gwyliau tramor, rydych chi'n hollol iawn. Mae'r mwyafrif helaeth—rwy'n credu ei fod tua 80 y cant neu 90 y cant—o'r bobl sy'n dod i Gymru yn ymwelwyr o'r Deyrnas Unedig mewn gwirionedd. Felly, wrth gwrs, byddem bob amser yn croesawu twristiaid o dramor pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, ond mae'n amlwg fod yr ymwelwyr hynny'n llai tebygol o ddod eleni. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn i danlinellu'r gobaith o gael mwy o bobl a fyddai'n awyddus i gael gwyliau yn y wlad hon.

Rwy'n credu mai'r pethau eraill sy'n rhaid i ni eu hystyried wedyn, wrth gwrs, yw cyfleoedd a bod yn greadigol wrth ymestyn y tymor i'r gweithredwyr twristiaeth hynny, a sut y gallwn ymestyn y tymor fel nad ydym yn cael torfeydd enfawr ar draethau a lleoedd fel a welsom yn Lloegr, rhywbeth na fyddai'n sefyllfa dda chwaith wrth gwrs. Felly, rhaid i hyn i gyd gael ei wneud yn ofalus tu hwnt a chyda chryn bwyll.

15:00

Weinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Mae gennyf rai cwestiynau sy'n ymwneud ag elfen iaith Gymraeg eich portffolio. Yn gyntaf, ar addysg Gymraeg, tybed pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog addysg ynghylch ailagor mwy o ddarpariaeth i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, a hefyd yr ymdrechion i fynd i'r afael ag allgáu digidol yno. Mae'n amlwg, rwy'n credu, fod yna broblemau cyffredinol, ond yn enwedig i ddisgyblion sy'n dod o deuluoedd Saesneg eu hiaith, ceir y rhwystr ychwanegol hwnnw. Felly byddwn yn awyddus i wybod pa waith a wnaethoch i geisio goresgyn hynny.

Mae fy ail gwestiwn, a'r olaf, yn ymwneud â'r cyhoeddiad gan y Coleg Cymraeg ei fod yn ymestyn ei gynllun ysgoloriaethau cymhelliant gwerth £1,500 dros dair blynedd i gynnwys pob myfyriwr sy'n dechrau yn y brifysgol ym mis Medi 2020 ac sy'n dewis astudio o leiaf 40 o gredydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hon yn fenter wirioneddol wych. Pa waith sy'n cael ei wneud gydag ysgolion, gyda cholegau a chyda ein sefydliadau addysg uwch i godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen hon?

Diolch yn fawr, Vikki. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gyda'r Gweinidog addysg, ac yn amlwg, rwyf wedi bod yn ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau bod cyfleoedd, yn enwedig ar gyfer disgyblion sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg i allu ymarfer eu Cymraeg, i allu cael gafael ar adnoddau a fyddai'n fuddiol iddynt o ran cael mynediad at ddeunyddiau a allai fod o ddefnydd iddynt. Mae cefnogaeth Hwb yn helaeth iawn—beth sydd ar gael o ran adnoddau i helpu pobl. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n ddefnyddiol, fel y dywedwch, os oes elfen o allgáu digidol, a dyna pam rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg wedi rhoi adnoddau ychwanegol yn benodol er mwyn targedu'r plant nad oedd yn gallu gwneud defnydd o adnoddau ar-lein cyn hynny o bosibl. Ond rwy'n falch o weld bod hynny wedi digwydd.

Yn sicr, o ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ydw, rwy'n credu bod honno'n ffordd adeiladol iawn o gymell pobl, gobeithio, i wneud rhagor o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg—nid y cyfan o'u cwrs o reidrwydd, ond rydym yn sicr yn gobeithio y bydd hyn yn helpu, yn enwedig mewn meysydd hyfforddiant galwedigaethol. Cafwyd rhywfaint o gyhoeddusrwydd am hyn yr wythnos hon, er mwyn codi ymwybyddiaeth, gobeithio, ond mae angen ymdrech yn awr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i dargedu hynny at y myfyrwyr a fyddai'n fwyaf tebygol o elwa. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn anos o lawer o dan y cyfyngiadau symud—nodi pobl—ond credaf y gellir gwneud llawer o'r gwaith hwn ar-lein, ac yn sicr mae'r rhan fwyaf o'r bobl a fyddai'n elwa o hynny yn bobl sy'n treulio hanner eu bywydau, rwy'n credu, ar eu ffonau symudol. Felly mae yna ffordd amlwg iawn o allu eu cyrraedd a lledaenu'r newyddion.

Diolch, Llywydd. Heddiw, dwi wedi cyd-arwyddo llythyr i'r Prif Weinidog efo Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn a Chyngor Sir Ynys Môn yn amlinellu ein pryderon ni o ran y sector twristiaeth. Mae yna lawer iawn o fusnesau ar eu gliniau rŵan, ac rydyn ni'n gofyn, yn syml iawn, am lawer gwell eglurder gan y Llywodraeth ynglŷn â'i chynlluniau i'r sector dros yr wythnosau a misoedd nesaf.

Y ffordd  yma dwi wedi'i gweld hi: mi allwch chi un ai penderfynu bod angen cadw cyfyngiadau yn dynn, ac os felly, ymestyn cefnogaeth ariannol i'r sector, neu mi fydd eich cyngor gwyddonol chi yn awgrymu bod modd caniatáu rhywfaint o dwristiaeth, ac felly mi allwn ni ddechrau trafod amserlen ar gyfer lleihau'r gefnogaeth ariannol. Er, bydd dal angen cefnogaeth hirdymor oherwydd faint o'r tymor sydd wedi cael ei golli yn barod. Ond beth fedrwch chi ddim ei wneud ydy cadw'r cyfyngiadau'n dynn a pheidio cynnig cefnogaeth. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo hynny, ac a wnaiff hi sylweddoli bod yn rhaid i'r sector a'r busnesau sy'n barod yn teimlo bod yr unfed awr ar ddeg arnyn nhw—ydy hi'n teimlo bod yn rhaid cael mwy o eglurder gan y Llywodraeth? Beth ydy'r cynllun? Achos mae busnesau a'r darpar dwristiaid, wedi'r cyfan, angen hynny, rŵan.

15:05

Diolch yn fawr, Rhun. Rŷn ni wedi ei gwneud hi'n glir y byddwn ni'n rhoi tair wythnos o rybudd i'r rheini sy'n gweithio yn y sector yma fel eu bod nhw'n cael cyfle i baratoi. Wrth gwrs, cawn ni weld nawr, wythnos nesaf, os bydd yr R rate mewn sefyllfa lle y gallwn ni roi mwy o eglurder iddyn nhw ynglŷn â'r posibiliadau am agor yn y dyfodol. 

Rŷn ni'n ymwybodol iawn, wrth gwrs, bod furlough, bod y tapering yna yn mynd i ddechrau ym mis Awst, ac os nad oes modd i bobl gael unrhyw fath o gyflog yn dod i mewn, wrth gwrs bydd hi'n amhosibl iddyn nhw dalu pobl. Felly, rŷn ni'n ymwybodol o'r dyddiad yna fel diwedd y sefyllfa, lle mae'n bosibl y bydd lot o bobl yn mynd i'r wal os na fyddwn ni yn y sefyllfa yna. Felly, rŷn ni'n ymwybodol dros ben o'r sefyllfa ac, wrth gwrs, rwy'n gobeithio y cawn ni weld nawr os byddwn ni mewn sefyllfa erbyn wythnos nesaf i roi mwy o eglurhad i'r diwydiant. 

Prynhawn da, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Ni allwn siarad am ddim byd ar wahân i dwristiaeth, o ystyried yr ardal rwy'n ei chynrychioli. Fel y gwyddom i gyd, mae'n debyg mai'r diwydiant lletygarwch oedd y cyntaf i gael ei daro; dyna'r diwydiant a gafodd ei daro galetaf ac y bydd angen ei daro am fwyaf o amser. Fy mhle i chi yw y dylech fabwysiadu strategaeth nad yw'n un-maint-i-bawb.

Rwyf eisoes wedi clywed rhai arwyddion calonogol iawn eich bod chi'n mynd i edrych ar rai sectorau, ond hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn defnyddio dychymyg go iawn dros hyn, oherwydd mae gennyf gymaint o wahanol fathau o fusnesau—busnes sydd â thri iwrt, a fydd, gyda'i gilydd, yn cynnwys chwech o ymwelwyr, ac maent yn dweud wrthyf, 'Iawn, maent i gyd yn rhannu'r un cyfleusterau ystafell ymolchi. Fodd bynnag, beth yw'r gwahaniaeth rhwng chwech o bobl yn defnyddio'r ystafell ymolchi honno a chriw o weithwyr yn y Tesco lleol i gyd yn defnyddio'r un ystafell ymolchi yn ystod y dydd?' Felly, mae'n ymwneud â bod yn ddychmygus a meddwl drwy bethau mewn gwirionedd, nid mabwysiadu pwynt terfyn cyffredin yn unig. Rwy'n llwyr gydnabod bod yn rhaid inni wneud yn siŵr nad ydym yn colli rheolaeth ar y rhif R, ond os ydym yn mynd i gefnogi'r busnesau hyn yn y dyfodol, mae angen inni gael yr hyblygrwydd hwnnw.  

Fe sonioch chi hefyd—un pwynt olaf—am gydsyniad y gymuned. Nawr, mae hwn yn faes sy'n destun pryder i lawer iawn o bobl sydd wedi cysylltu â mi, gan nad oes unrhyw beth allan yno yn ei gylch ac unwaith eto, maent yn teimlo eu bod yn cael eu rhoi yn nwylo pobl eraill nad ydynt mor wybodus o bosibl, pobl a allai fod yn blwyfol iawn ynglŷn â'u hardal benodol a gall fod sawl agenda wahanol ar waith. Sut ydych chi'n mynd i ddiffinio 'cydsyniad y gymuned'? A fydd y busnesau hynny'n rhan o hynny, oherwydd nid yw'r busnesau yn fy ardal i, o'r rhai mawr iawn i'r rhai lleiaf, yn teimlo'u bod yn rhan o unrhyw beth. Teimlant nad oes neb yn cyfathrebu â hwy, ac nid ydynt am gael eu cau allan gan bobl sy'n gallu rhoi bloc cyffredinol arnynt o ryw fath o elfen gymunedol a fyddai'n annheg. Cyn belled â'i fod yn deg ac yn dryloyw, gall pobl fyw gydag ef. Ar hyn o bryd, nid ydynt yn gweld hynny.  

Diolch, Angela. Yn gyntaf, o ran cydsyniad y gymuned, credaf mai un peth y mae angen inni ei osgoi yw agor, a chanfod bod y cymunedau, yn lleol, yn elyniaethus tuag at y bobl sy'n dod i mewn. Dyna'r lle gwaethaf i fod, ac felly, mae angen inni ddatblygu cydsyniad yn y gymuned. Rydym yn siarad yn rheolaidd ag awdurdodau lleol am y teimladau yn eu cymunedau ac wrth gwrs, mae ganddynt gynrychiolwyr o fewn eu cymunedau. Rwy'n credu mai'r peth arall i'w danlinellu yw nad yw'r busnesau hyn yn gweithio ar wahân i'w cymunedau; maent yn rhan o'r gymuned, ac mae'n wirioneddol bwysig iddynt gael eu gweld, a lleisio eu barn, oherwydd maent hwy'n rhan o'r gymuned yn ogystal, ac mae llawer iawn o bobl sy'n gweithio yn y busnesau hyn yn rhan o'r gymuned. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn i beidio â dweud 'ni a nhw', a'r diwydiant yn erbyn y gymuned; maent yn perthyn i'w gilydd ac maent yn symbiotig. Maent yn ddibynnol ar ei gilydd hefyd.

O ran y llety, mae'n wirioneddol anodd ac fe fydd yn wirioneddol anodd plismona pethau oni bai ei fod yn syml. Felly, er fy mod yn clywed eich ple am fod yn greadigol ac yn ddychmygus, mae'n rhaid inni hefyd feddwl sut y gallwn blismona'r system a gadael iddi weithredu, ac felly os symudwn oddi wrth gyfleusterau a rennir, mae'n anodd iawn gweld ble fyddai'r llinellau'n cael eu tynnu. Felly, er fy mod yn eich clywed, credaf fod yn rhaid inni gael rhywbeth y gellir ei roi ar waith ac y gallwn ei blismona, mewn ffordd.

15:10

Rwyf innau hefyd am sôn am dwristiaeth ond yn gyntaf oll, rwyf am sôn am ysgol Syr Thomas Picton. Aeth dau o fy mhlant i ysgol Thomas Picton, ac ni ddywedwyd wrthynt erioed, ni ddaeth dim adref erioed a oedd yn dweud am yr enw, y person y tu ôl i'r enw, ac yn sicr ni chafwyd unrhyw addysg a oedd yn hysbysu'r disgyblion, y rhieni na'r gymuned ynglŷn â'r person a roddodd ei enw i'r ysgol honno. Nid dyna'r enw sydd arni mwyach, diolch byth.

Ond rwyf am symud ymlaen at dwristiaeth, fel y dywedais, a chafwyd llawer o sôn yma ynglŷn â sut y gellir agor twristiaeth pan fydd y gyfradd R yn iawn, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr. Rwy'n llwyr gefnogi'r holl fesurau y mae'r Llywodraeth yma ac yn San Steffan wedi'u rhoi ar waith i helpu'r busnesau hynny i aros yn fyw. Ond yr un peth sydd heb ei grybwyll yma heddiw yw os ydych yn agor twristiaeth ac yn caniatáu pobl i mewn i gymuned, yna, ni allwch beidio â chaniatáu i bobl adael y gymuned honno. Felly, ar ôl i chi agor twristiaeth, rydych chi wedyn, de facto, wedi cael gwared ar aros yn lleol. Nid oes amheuaeth am hynny; bydd yn rhaid i'r ddau beth weithio gyda'i gilydd.

Ac mae'n debyg mai fy nghwestiwn ynglŷn â chyfradd R—ac mae'n ofn, felly gorau oll os caiff ei leisio—yw nad ydym yn gwybod o ble y daw pobl, nid ydym yn gwybod beth yw'r gyfradd R yn yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt ar hyn o bryd. Felly, pa fath o archwiliadau a gwiriadau a wnawn i sicrhau bod pobl—? Oherwydd rwyf am i'r gymuned ddod gyda ni yma; rwyf am i bobl deimlo eu bod yn ddiogel, ac mae'n rhaid cael rhyw ddull o dawelu meddyliau pobl fod hynny'n wir. Ond yn fwy allweddol, bydd yn ddiwedd ar y mesurau aros yn lleol y mae pobl yn cydymffurfio â hwy—nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am hynny yn fy meddwl i—a sut y gallwn gyfleu hynny i'r cyhoedd yn ehangach?

Diolch, Joyce. Credaf ei bod yn debygol ein bod yn cydnabod, pe baem yn agor y sector twristiaeth, y byddai'n anodd iawn peidio â symud oddi wrth y rheol i aros yn lleol. Wrth gwrs, bydd pobl yn teithio yno neu'n mynd oddi yno, byddai'n anodd iawn gofyn i bobl deithio i rywle ac i beidio â symud wedyn. Byddai'n anodd iawn ei blismona. Felly, rwy'n credu ein bod yn cydnabod hynny, a dyna pam y mae angen inni fod yn ofalus iawn ynglŷn â hyn a deall mai dyna y byddai'n ei olygu. Wrth gwrs, mae angen inni fod yn ymwybodol felly fod yr hyblygrwydd mewn perthynas â'r rhif R, ar ôl inni agor hwnnw, yn golygu y byddem mewn sefyllfa wahanol iawn o ran agor ein cymunedau'n ehangach. Nid yw hyn yn hawdd ac mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn, a'r hyn sy'n glir i mi yw bod angen inni gael cefnogaeth y gymuned leol, fel rwy'n dweud.

Weinidog, yn y Cyfarfod Llawn fis yn ôl mewn ymateb i Siân Gwenllian, fe wnaethoch chi gadarnhau eich bod yn ymwybodol o bryder y gallai cymal arfaethedig o fewn y Bil cwricwlwm ac asesu gael effaith andwyol ar yr enillion sydd wedi bod ym maes addysg Gymraeg, ac y byddech chi'n craffu'n fanwl ar y sefyllfa. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw newid wedi bod yng nghynlluniau'r Llywodraeth, a ddoe, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion ddatganiad cyhoeddus yn pwyso o'r newydd ar y Llywodraeth i sicrhau newid i'r Bil cyn ei gyhoeddi, er lles datblygu Cymru'n wlad ddwyieithog yn unol â'n dyheadau ni oll. 

Weinidog, sut mae rhoi'r Saesneg ar wyneb y Bil, a gorfodi plant sydd am gael addysg Gymraeg i optio allan, yn gyson gyda gweledigaeth y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg? I'r gwrthwyneb, onid yw'n hollol groes i eiriad ac ysbryd polisi'r Llywodraeth, sy'n datgan yn gwbl glir mai addysg Gymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau dwyieithrwydd cyflawn? A wnewch chi felly ymrwymo i wneud popeth o fewn eich gallu o fewn y Cabinet i fynnu bod yr adran addysg yn cefnogi, nid yn tanseilio, eich strategaeth iaith? 

15:15

Diolch yn fawr. Jest i ddweud fy mod i wedi cael sawl trafodaeth gyda'r Gweinidog Addysg ar y mater yma. Ac i'w wneud yn glir, dwi'n meddwl, gan ein bod ni'n wlad ddwyieithog, dwi'n meddwl ei bod hi'n gwneud lot o synnwyr ein bod ni'n rhoi Cymraeg a Saesneg yn y Bil. Dyna beth y byddech chi'n disgwyl o wlad ddwyieithog. Beth sydd yn bwysig yw bod yna gyfle a'i bod hi'n bosibl inni sicrhau bod pobl yn cael eu trwytho yn y Gymraeg, fel sydd wedi digwydd yn draddodiadol yng Nghymru, yn arbennig tan yn saith oed. Mi fydd hynny'n bosibl yn y Bil a dwi'n hyderus y byddwn ni yn y sefyllfa yna. 

A gaf fi ofyn i chi am Sw Mynydd Cymru? Clywsom yn gynharach mewn ateb gan eich cyd-Weinidog, Ken Skates, na fu unrhyw alw ar sŵau i gau yma yng Nghymru a'u bod yn cael caniatâd i agor, ond yn amlwg, gyda chyfyngiad teithio o 5 milltir, nid yw hynny'n mynd i fod yn ymarferol ar hyn o bryd, hyd nes y caiff y cyfyngiad hwnnw ei godi. Clywais yr hyn a ddywedoch chi wrth ymateb i Joyce Watson, am ailagor y diwydiant twristiaeth, a byddwn yn eich annog i ystyried caniatáu, fel cam hanner ffordd hyd yn oed, i bobl deithio o fewn siroedd cyfagos, fel ffordd o agor rhai o'r atyniadau awyr agored hyn, y gellid eu hagor mewn ffordd ddiogel tra'n cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer ymwelwyr lleol hyd yn oed.

A gaf fi ofyn hefyd am y cyllid a'r adnoddau sydd ar gael i'r sw honno? Hon yw sw genedlaethol Cymru. Mae gennym lyfrgell genedlaethol, mae gennym theatr genedlaethol, mae gennym amgueddfeydd cenedlaethol, ac mae pob un ohonynt yn cael cymorth blynyddol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, ond nid yw ein sw genedlaethol yn cael hynny. A yw hynny'n rhywbeth y gallwch ei ystyried, gan ddarparu rhywfaint o gymorth yn fwy aml ac yn fwy blynyddol yn y dyfodol, yn enwedig o gofio ei bod yn ased cenedlaethol annwyl iawn sy'n bwysig iawn i economi twristiaeth gogledd Cymru?

Diolch yn fawr iawn, Darren, a diolch ichi am ddadlau achos Sw Mynydd Cymru unwaith eto. Dim ond i gadarnhau ei bod yn gywir nad yw sŵau wedi gorfod cau yng Nghymru, ond fel y dywedoch chi, mae'n debyg nad yw'n fasnachol hyfyw iddynt wneud hynny tra bod mesurau aros yn lleol a'r dull lleol o ymladd coronafeirws ar waith. Felly, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol agos o ran y cyfleoedd i bobl deithio ymhellach, a bydd hynny i gyd yn dibynnu ar ble mae'r gyfradd R. Ond dim ond i gadarnhau bod Sw Mynydd Cymru wedi cael cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru a bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer mwy hael yn ei chefnogaeth i sŵau nag y maent wedi bod yn Lloegr. Rwy'n credu ei bod yn werth tanlinellu hynny mae'n debyg.

Mae'r rhain yn adnoddau gwych i ni. Mae'n atyniad gwych i ymwelwyr yng ngogledd Cymru, ac yn sicr rydym wedi sefyll gyda hwy yn ystod y cyfnod hwn, ond yn amlwg rydym yn deall y pwysau sydd arnynt a'r swm anhygoel o arian sydd ei angen i fwydo anifeiliaid. Nid yw'r gost honno'n diflannu, ac un o'r rhesymau pam ein bod wedi bod mor awyddus i'w cefnogi, wrth gwrs, yw oherwydd y materion lles anifeiliaid rydym yn pryderu'n fawr yn eu cylch.

Weinidog, rwyf wedi bod yn cynnal cystadleuaeth traethawd i blant yn yr etholaeth yn ystod y cyfyngiadau, gyda'r pennawd, 'Fy arwr COVID yw...'. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn fodd o godi calon, ond mae hefyd wedi bod yn ffordd bwerus iawn i mi glywed lleisiau plant yn fy etholaeth. Mae wedi cael cefnogaeth dda iawn gan Ysgol Gyfun Gwynllyw, ac rwy'n eu cefnogi am hynny, ond hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth Vikki Howells am yr anawsterau a wynebir gan deuluoedd pan fo unigolyn ifanc mewn addysg Gymraeg lle nad yw'r rhieni'n deall Cymraeg. Mae un o'r bobl ifanc hynny wedi enwebu ei thad fel ei harwr, oherwydd ei fod wedi bod yn ei helpu gyda'i Chymraeg, ac mae hi'n dweud wrthyf ei bod wedi bod yn anodd iddo—ei henw yw Nina—'oherwydd mae'n rhaid iddo gyfieithu fy ngwaith i weld beth i'w wneud i fy helpu, a rhaid i mi ei helpu i wneud yn siŵr ei fod yn gywir wrth iddo ei gyfieithu.' Nawr, mae pob un ohonom sy'n addysgu ein plant gartref yn wynebu heriau enfawr, ond mae yna heriau real iawn os nad oes gennych ddealltwriaeth o'r iaith rydych chi'n ceisio helpu eich plentyn ynddi. Weinidog, beth yn rhagor y gallwch ei wneud, ar y cyd â'r Gweinidog addysg, i sicrhau bod y cymorth ar gael, er mwyn i'n holl bobl ifanc allu mwynhau'r cyfleoedd addysgol rydym am iddynt eu cael? Diolch.

15:20

Diolch yn fawr, Lynne. Rwy'n credu bod honno'n fenter wych—cynnal gêm neu her arwyr yn ystod y cyfnod hwn, ac mae'n wych clywed hynny. Ac mae'n hollol iawn fod yna bobl o gartrefi di-Gymraeg sy'n wirioneddol awyddus i wneud yn siŵr eu bod yn cynnal eu Cymraeg dros y cyfnod hwn. Ac yn sicr, pan wnaeth y Gweinidog addysg ei datganiad ar 'cadw'n ddiogel, dal ati i ddysgu', gwnaeth ymrwymiad pendant bryd hynny i sicrhau bod plant o gartrefi Saesneg eu hiaith a oedd yn mynychu ysgolion Cymraeg yn cael yr un hawl i gymorth. Ac rydym wedi gwneud yn siŵr fod cyngor a dolenni a chymorth ar gael, ar Hwb yn arbennig, ond hefyd rydym wedi gofyn i'r penaethiaid yn yr ysgolion hynny—yr ysgolion Cymraeg—i wneud yn siŵr eu bod yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer penaethiaid ac addysgwyr. A gwn fod hynny wedi digwydd am fod fy mhlant fy hun wedi cael peth o'r arweiniad hwnnw. Felly, mae'r canllawiau hynny eisoes ar waith yn cyfeirio at adnoddau. Ond byddwn hefyd yn eu hannog i fynd y tu hwnt i'r llwybrau academaidd traddodiadol yn unig, i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel yr Urdd. Mae llawer o'u gwaith yn cael ei wneud ar-lein nawr; rydych wedi clywed eu bod wedi cael yr Eisteddfod ar-lein, yr Eisteddfod T, lle roedd miloedd—7,000 o blant—wedi cymryd rhan. Ac mae adnoddau eraill ar gael ar S4C ac mewn mannau eraill. Felly, mae'r adnoddau ar gael, ond rwyf am ofyn iddynt gysylltu â'u penaethiaid, sydd wedi cael cyngor clir iawn ynglŷn â ble y gallant gael y cymorth hwnnw.

Diolch am y datganiad a roddwyd gennych yn gynharach, Weinidog, ac rwy'n falch iawn ynglŷn â'r materion yn ymwneud â George Floyd yn America—trist iawn. Byddai'n well gennyf ddweud bod pob bywyd yn bwysig—nid oes neb yn well na neb arall, unrhyw fod dynol, oherwydd hil neu ddosbarth neu ethnigrwydd. Rwy'n edmygu eich teimlad ar hynny, ac rydych wedi ysgrifennu at yr Americanwyr—gwych. Rwy'n credu y bydd y byd i gyd yn dysgu'r wers hon ac yn gwneud yn siŵr fod pawb yn gyfartal a bod gan bawb hawliau cyfartal fel dinasyddion ym mhob rhan o'r byd.

Weinidog, fy nghwestiwn i chi—un neu ddau: pa sicrwydd y gallwch ei roi i weithredwyr twristiaeth yng Nghymru y bydd eu busnesau'n ailagor yn y dyfodol agos iawn, i ganiatáu iddynt elwa o'r hyn sy'n weddill o dymor yr haf, sef 2020? A'r ail gwestiwn yw: yr holl ddigwyddiadau chwaraeon hyn, boed yn griced, rygbi, pêl-droed, neu'r Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf, mae angen i'n mabolgampwyr gael hyfforddiant, a hyfforddiant egnïol, i sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau penodol. Felly, beth rydych chi'n ei wneud gydag ochr chwaraeon ein harwyr cenedlaethol i wneud yn siŵr nad ydynt ar eu colled pan ddaw'r digwyddiadau, a heb fod ar eu colled oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 yn eu tai? Felly, a oes unrhyw gynllun ar eu cyfer, i wneud yn siŵr eu bod yn ymroi'n barhaus i'w gweithgareddau proffesiynol yng Nghymru? Diolch.

Diolch, Mohammad. A dim ond i danlinellu'r pwynt y byddwn yn ailagor ein sector twristiaeth pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Rydym wedi egluro ein system goleuadau traffig, lle byddwn yn edrych yn gyntaf am yr arwydd mai darpariaethau llety heb gyfleusterau a rennir fydd y rhai cyntaf i agor. Ac rydym yn braenaru'r tir er mwyn i hynny fod yn bosibl yn awr. Ond ni fyddwn yn symud hyd nes y bydd y cymunedau'n hapus i ni wneud hynny, a hefyd pan fydd y sefyllfa iechyd yn y lle iawn i ni ei wneud.

Ar y digwyddiadau chwaraeon, hoffwn ddweud yn glir fod yna lawer o chwaraeon awyr agored y gellir eu cynnal yn barod. Ond yn sicr, mae mabolgampwyr proffesiynol wedi gallu dechrau'n ôl—pobl fel pêl-droedwyr; maent wedi gallu gwneud hynny oherwydd mai dyna yw eu gwaith. Ond yn yr adolygiad nesaf, byddwn yn ystyried a fydd hi'n bosibl i athletwyr chwaraeon elît allu ymgymryd â hyfforddiant. Ac felly mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno, i weld a fydd hi'n bosibl adolygu hynny yn y cyfnod nesaf.

15:25

Weinidog, un peth a welsom drwy COVID-19 yw bod llawer o bobl yn dod i wneud mwy o ymarfer corff. Rwy'n meddwl ein bod ni i gyd wedi eu gweld yn cerdded ac yn loncian ac yn beicio o gwmpas lle rydym yn byw. Ond mae rhai pobl yn dod yn llai egnïol yn gorfforol, efallai oherwydd nad yw'r seilwaith arferol sy'n hwyluso eu hymarfer corff, fel campfeydd, ar gael. Mae hyn i'w weld yn adlewyrchu anghydraddoldebau iechyd—mae pobl sydd â gwell iechyd a gwell amgylchiadau'n tueddu i wneud mwy o ymarfer corff ac i'r gwrthwyneb yn achos y rheini sydd mewn amgylchiadau mwy difreintiedig. Ac roeddwn yn meddwl, wrth i ni adeiladu nôl yn well, fel rydym yn ei ddweud, tybed a fyddwch chi'n edrych ar agweddau iechyd y cyhoedd chwaraeon ac ymarfer corff i greu cysylltiadau llawer agosach nag a welsom hyd yn hyn, gan gydnabod pwysigrwydd iechyd corfforol a meddyliol gweithgarwch corfforol a chwaraeon.

Diolch yn fawr, John. Yn sicr, rydym yn ymwybodol iawn fod llawer o bobl fel pe baent yn treulio llawer mwy o amser yn yr awyr agored, yn enwedig yn y tywydd braf a gawsom. Ond rydych chi'n llygad eich lle i danlinellu'r ffaith mai'r hyn sydd gennym i'w wneud yw annog y bobl hynny, yn enwedig o ardaloedd difreintiedig, nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, i ddechrau gwneud hynny o ddifrif. Ac rydym bob amser wedi bod yn awyddus iawn i annog hynny wrth gwrs. Ac un o'r pethau rydym wedi'u gwneud, wrth gwrs, yw addasu'r gronfa chwaraeon er mwyn sicrhau bod cronfa £8 miliwn ar gael fel y bydd y cyfleusterau chwaraeon hynny a fyddai wedi mynd i'r wal pe na baem ni wedi camu i mewn, yn dal i fod yno ar ben arall yr argyfwng hwn. Felly, o ran adeiladu nôl yn well, rwy'n credu ei bod hi'n sicr yn bwysig inni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau hynny ar gael er mwyn i'r cyfle i adeiladu nôl yn well fod yno, oherwydd heb y cyfleusterau chwaraeon hynny, byddai'n llawer mwy anodd i ni gyflawni hynny.

6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol

Yr eitem nesaf yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyflwyno'r cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7330 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i esbonio'r cefndir i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Fil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol Llywodraeth y DU ar 20 Mai 2020. Mae diben y Bil yn ddeublyg: mae rhai darpariaethau wedi'u hanelu'n benodol at sefydlu mesurau brys dros dro i helpu cwmnïau i ymdrin â'r pandemig COVID-19 drwy ddiwygio cyfraith cwmnïau ac ansolfedd, gan gyflwyno darpariaethau, er enghraifft, i ganiatáu hyblygrwydd dros dro i gwmnïau a chyrff tebyg allu cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol a chyfarfodydd cyffredinol eraill yn electronig, dros y ffôn neu'n rhithwir, ar gyfer y cyfnod rhwng 26 Mawrth 2020 a 30 Medi 2020.

Mae'r darpariaethau sy'n weddill yn cyflwyno diwygiadau i gyfraith ansolfedd, y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn eu datblygu ac yn ymgynghori yn eu cylch dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Unwaith eto, mae'r mesurau hyn yn cael eu hystyried yn arbennig o ddefnyddiol i fynd i'r afael â'r materion a gododd yn sgil y pandemig COVID-19. Yn benodol, mae'r Bil yn cyflwyno moratoriwm newydd i Ddeddf Ansolfedd 1986, a fydd yn berthnasol i bob cwmni. Mewn rhai amgylchiadau, bydd cwmni'n gallu gwneud cais am foratoriwm, gyda'r bwriad o ganiatáu i gwmni sydd mewn trafferth ariannol gael cyfle i archwilio ei opsiynau o ran achub ac ailstrwythuro heb i gredydwyr ddwyn camau cyfreithiol yn ei erbyn.

Yn ystod y cyfnod moratoriwm, bydd rhai manteision a chyfyngiadau penodol yn berthnasol. Er enghraifft, ni fydd modd rhoi unrhyw gamau cyfreithiol ar waith yn erbyn cwmni heb ganiatâd y llys. Bydd cwmnïau sy'n destun moratoriwm yn parhau o dan reolaeth eu cyfarwyddwyr, ond byddant hefyd yn cael eu goruchwylio gan fonitor, ymarferydd ansolfedd trwyddedig, sy'n un o swyddogion y llys.

Fel y soniais, bydd y Bil yn berthnasol i bob cwmni yn y DU. Mae ansolfedd yn fater a gadwyd yn ôl fel arfer ac felly byddai'r darpariaethau'n berthnasol ledled y DU. Ac yn ddealladwy efallai, o ystyried sefyllfa COVID-19, defnyddiwyd gweithdrefn garlam i gael y Bil drwy Senedd y DU. Disgwylir y bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol erbyn diwedd mis Mehefin.

Ar 5 Mai cysylltodd swyddogion o'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol â fy swyddogion, oherwydd daeth yn amlwg fod darpariaethau'r Bil yn effeithio ar ddarpariaethau ansolfedd presennol y ddeddfwriaeth tai, sydd wedi'u cynllunio i helpu pe bai landlord cymdeithasol cofrestredig yn wynebu trafferthion ariannol. Mae'r darpariaethau hyn, sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Tai 1996, hefyd yn cynnwys cyfnod moratoriwm, sy'n darparu amser i Weinidogion Cymru, fel rheoleiddiwr tai cymdeithasol, i weithio gyda'r landlord cymdeithasol cofrestredig i ddatrys problemau, yn bennaf er mwyn dod o hyd i ateb sy'n galluogi'r asedau tai cymdeithasol i gael eu cadw yn y sector tai cymdeithasol rheoledig, gan ddiogelu tenantiaid yn eu tro. Yn anffodus, mae'r weithdrefn garlam ar gyfer y Bil wedi golygu na fu modd i'r pwyllgor graffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn ôl yr arfer, ac felly mae'r ddadl hon wedi'i chyflwyno i roi cyfle i'r Aelodau leisio'u barn.

Mae nifer fach iawn o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn gwmnïau cofrestredig, ac felly bydd darpariaethau moratoriwm y Bil yn berthnasol iddynt. Fodd bynnag, ni fydd darpariaethau'r moratoriwm yn berthnasol i fathau eraill o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, megis cymdeithasau cofrestredig neu sefydliadau elusennol corfforedig. Mae hyn yn arwain at ddarpariaethau ansolfedd gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru a photensial clir i'r moratoriwm ansolfedd newydd arfaethedig wrthdaro yn erbyn y trefniadau presennol, sy'n berthnasol i bob math o landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

Yn yr amser sydd wedi bod ar gael, ni fu'n bosibl asesu goblygiadau'r darpariaethau newydd yn llawn, o ystyried y pwerau ansolfedd helaeth sydd eisoes yn bodoli. Am y rheswm hwnnw, rwy'n cytuno y dylai swyddogion geisio darpariaethau yn y Bil i alluogi Gweinidogion Cymru i gymhwyso, datgymhwyso neu addasu'r darpariaethau drwy is-ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau bod y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â'r moratoriwm yn gweithredu mewn ffordd sy'n ategu darpariaethau ansolfedd presennol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, a chadw pwerau a swyddogaethau presennol Gweinidogion Cymru i ymdrin ag ansolfedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, fel y nodir yn Neddf Tai 1996, i sicrhau canlyniadau dymunol y gyfundrefn ansolfedd honno—y prif un yw diogelu stoc ac asedau tai cymdeithasol a diogelu tenantiaid—a sicrhau bod y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â'r moratoriwm yn gweithredu, cyn belled ag y gallant, mewn ffordd sy'n gyson ar gyfer pob math o landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

Felly, mae'r Bil, fel y'i cyflwynwyd, wedi'i ddrafftio i ystyried y bwriadau polisi, lle bo'n bosibl, ac mae bellach yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer Gweinidogion Cymru. Ceir dadleuon cyfreithiol rhesymol fod y darpariaethau ar gyfer Gweinidogion Cymru o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ac rwyf o'r farn felly y dylid ceisio cydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Fodd bynnag, er fy mod yn credu bod y darpariaethau yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, rwy'n fodlon y dylid eu gwneud ym Mil Llywodraeth y DU er hwylustod o ystyried y pwnc dan sylw.

Felly, rwy'n cyflwyno'r cynnig a gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Diolch.

15:30

Rwy'n credu bod hon yn ffordd resymol o fynd ati. Mae'n bwysig fod hyblygrwydd yn cael ei gynnal drwy gyfnod moratoriwm, fod modd ei roi i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sydd mewn trafferthion ariannol—yn amlwg, fel y mae'r Gweinidog newydd egluro, roedd hynny'n rhywbeth a oedd ar gael, ac sydd ar gael, yn wir, o dan y ddeddfwriaeth tai gyfredol—ac er mwyn i Weinidogion Cymru ennill pwerau i sicrhau ei fod yn briodol ac nad oes anghysondeb cyfreithiol yn cael ei greu, credwn fod y dull a amlinellwyd gan y Gweinidog yn un rhesymol. Yn anad dim, mae angen inni ddiogelu'r ased tai cymdeithasol yng Nghymru, a diogelu buddiannau tenantiaid drwy hynny, fel y dywedodd y Gweinidog. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw. Arhoswch i'r meicroffon gael ei agor. Rhowch gynnig arall arni, Mick. Na, mae gennym broblem gyda'ch sain. A gawn ni oedi am eiliad tra bod rhywun yn rhoi rhywfaint o gyngor?

Diolch. Lywydd, fel y mae'r Gweinidog wedi egluro, nid yw'r pwyllgor wedi cael cyfle i graffu ar y memorandwm penodol hwn wrth gwrs. Ond fel Cadeirydd y pwyllgor, mae yna nifer o sylwadau y credaf ei bod yn bwysig i mi eu gwneud, oherwydd mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig sy'n effeithio ar hawliau, er mai hawliau corfforaethol ydynt yn bennaf, ond hawliau unigolion hefyd i ryw raddau.

Felly, daw'r ddeddfwriaeth yng nghyd-destun y pwysau economaidd ac ariannol sy'n unigryw iawn o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn. Felly, gallai'r rheolau a'r rhwymedigaethau cyllidol arferol, os cânt eu cymhwyso'n llym, beri i lawer o gwmnïau fethu. Felly, diben y Bil yw creu lle i unrhyw gwmni sydd mewn trafferthion ariannol—lle i anadlu, fel y mae'n cael ei ddisgrifio—drwy ddileu effaith camau cyfreithiol gan gredydwyr, hynny yw, camau y gall cwmni neu unigolyn eu cymryd i'w orfodi i dalu dyledion a chyflawni rhwymedigaethau ariannol.

Felly, mae'r Bil yn caniatáu moratoriwm pwysig o hyd at 40 diwrnod i gwmni. Ac yn ogystal, mae'n cyfyngu ar y gallu i roi camau cyfreithiol ar waith—hynny yw, gorfodaeth, yn y bôn. Mae materion wedi'u nodi'n briodol ynglŷn â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn y Bil sy'n gwrthdaro ag agweddau ar bolisi Llywodraeth Cymru. Un o'r amcanion allweddol a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru yw cynnal y pwerau a'r cyfrifoldebau presennol fel y'u nodir yn Neddf Tai 1996, y cyfeiriodd y Gweinidog atynt, a sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau negyddol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth foratoriwm ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn anhawster gan ddefnyddio gweithdrefn ddrafft gadarnhaol, ond gweithdrefn benderfynu negyddol ar gyfer y chwe mis cyntaf. Yn ogystal, ni fydd y ddyletswydd yn y Bil i ymgynghori ar unrhyw reoliadau yn ystod y chwe wythnos gyntaf yn gymwys chwaith.

Nawr, fel pwyllgor, byddwn am adolygu maes o law sut y mae'r Bil hwn yn gweithredu a'r ffordd y bydd y pwerau y mae'n eu darparu wedi cael eu defnyddio. Diolch, Lywydd.

15:35

Dim ond i ddiolch i'r ddau Aelod am eu sylwadau, ac rydym wedi eu hystyried, ac i annog pobl i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Diolch, Lywydd.

Y cwestiwn felly yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig ac felly mae wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i ddirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020. Galwaf ar Suzy Davies i gyflwyno'r cynnig hwn. Suzy.

Cynnig NDM7329 Suzy Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 29 Ebrill 2020, yn cael eu dirymu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, a chyflwynaf y cynnig. Diolch, bawb, am aros i wrando ar hyn. Rwyf am ddechrau drwy wneud dau beth yn glir. Y cyntaf yw bod y rheoliadau hyn yn diogelu swyddogion amrywiol rhag atebolrwydd am beidio â chydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol arferol sy'n llywodraethu galw isetholiadau a'u cynnal. Gohiriwyd y gofynion arferol hynny gan Ddeddf Coronafeirws 2020. Mae'r rheoliadau hyn yn awr yn ceisio ymestyn y cyfnod hwnnw o ohirio a diogelu, ac felly maent yn bwysig.

Yr ail bwynt rwyf am ei wneud yw bod rheoliadau tebyg ar waith yn Lloegr sy'n ymestyn y cyfnod gohiriedig hyd yn oed ymhellach. Nid yw hynny'n bwysig, yn rhannol oherwydd nad yw fy etholwyr yng nghwm Ogwr a chanol Abertawe yn byw yn Lloegr, ac yn rhannol am nad oes etholiad Senedd yn Lloegr ym mis Mai.

Nawr, bydd yna feirniadaeth gyffredinol sy'n berthnasol i'r ddwy set hyn o reoliadau, ond mater i Aelodau Seneddol San Steffan yw herio'r rhai a wnaed ar gyfer Lloegr. Hoffwn i'r Senedd hon yng Nghymru ddeall yn llawn y rheoliadau hyn ar gyfer Cymru, diben gohirio isetholiadau am flwyddyn neu fwy, a gofyn wedyn a ydym ni fel y ddeddfwrfa yn credu bod honno'n ffordd addas o ymdrin â gohirio democratiaeth leol.

Nawr, yn fy rhanbarth i, mae dwy sedd wedi digwydd dod yn wag: un yn ward y Castell, oherwydd marwolaeth anffodus y cynghorydd uchel ei pharch, Sybil Crouch; ac un yn Nant-y-moel, o ganlyniad i garcharu cynghorydd nad oedd mor uchel ei barch, David Owen, ar ddechrau mis Mawrth. Daeth darpariaethau Deddf Coronafeirws 2020 i rym, gan ddatgymhwyso adrannau 39 a 63 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ar gyfer y cyfnod rhwng 15 Mawrth a 24 Ebrill 2020. Felly, gohiriwyd cynnydd ar y ddau isetholiad hynny.

Mae'r darpariaethau hynny fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog canlyniadau orchymyn etholiad, pennu dyddiad a chyhoeddi'r hysbysiadau angenrheidiol, ac maent yn golygu bod amryw o swyddogion yn agored i gollfarn ddiannod am beidio â chydymffurfio â'r gofynion hynny. Felly, roedd angen atgyweirio'r amddiffyniad i'r swyddogion hynny yn erbyn atebolrwydd am beidio â chydymffurfio, a ddaeth i ben ar 24 Ebrill, ac mae'n gwbl briodol fod swyddogion Llywodraeth Cymru am gyflwyno rheoliadau newydd yn gyflym. Felly, roeddent yn dal i adael swyddogion yn agored am 10 diwrnod da, ac yn llwyddo i dorri'r rheol 21 diwrnod ar gyfer gosod offerynnau statudol unwaith eto yn y broses o wneud hynny, ond gadewch inni fod yn hael, roedd yn adeg brysur iawn; ni chafodd neb niwed.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod yr offeryn yn llawn camgymeriadau: mae camgyfeiriadau at Orchymyn, nid rheoliadau; mae dyddiadau anghywir ynddo; cyfeirir at adrannau anghywir; ceir cyfeiriadau sy'n datgan bod darpariaethau'r Ddeddf corona wedi'u cyfyngu i ddwy flynedd, heb nodi bod y pwerau galluogi hyn—mae'n ddrwg gennyf, y pwerau ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn—yn eithriad i'r rheol honno; ceir cyfeiriad at Gydsyniad Brenhinol, sy'n gwbl ddiystyr yn y cyd-destun arbennig hwn. Felly, fel darn o gyfraith, beth bynnag fo'r bwriad, mae'n llanast, ac ar y sail hon yn unig, efallai y dylem fod yn dadlau y dylid eu dirymu ac y dylid gosod set newydd ar unwaith—rhai sy'n gwneud synnwyr.

Ond y prif reswm pam rwy'n gofyn i chi ystyried dirymu'r rheoliadau hyn yw nad ydynt yn gymesur. Dylai'r gyfraith fod yn gymesur bob amser, ond cadarnhawyd yr egwyddor honno, er nad oedd angen unrhyw gadarnhad, mewn rheoliadau corona eraill a wnaed ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Felly, roedd yr egwyddor honno yn bendant ym meddwl deddfwriaethol y Llywodraeth. Felly, hoffwn glywed gan y Llywodraeth beth sy'n gymesur am ohirio unrhyw isetholiadau i bob pwrpas o fis Mawrth eleni hyd nes rhwng mis Chwefror a mis Ebrill y flwyddyn nesaf—beth sy'n gymesur ynghylch gwrthod cyfle i fy etholwyr gael cynrychiolaeth leol am bron i flwyddyn, neu'n hwy hyd yn oed, heb ymgynghori â'r cyhoedd? Ac a gawn ni gofio nad yw pob ward yn ward ag ynddi fwy nag un aelod? Sut y cytunwyd ar y dyddiadau hyn, pan na siaradodd Llywodraeth Cymru â mwy nag ychydig o bobl a oedd yn ymwneud â chyfraith a chydlyniad etholiadol? Oherwydd nid yw eu cyfleustra'n bwysicach na safbwyntiau'r Senedd hon a'r bobl rydym yn eu cynrychioli. Ac nid wyf yn credu mai'r ateb yw dweud:

'Ceisir safbwyntiau rhanddeiliaid yn adolygol fel rhan o ymgynghoriad yn y dyfodol ar ddarpariaethau atodol angenrheidiol'

heb ddweud pwy neu beth sydd gennych mewn golwg.

Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd hon feddwl yn ofalus iawn am ei hetholwyr a'r ddemocratiaeth y maent yn cael eu hamddifadu ohoni gan y rheoliadau hyn heb reswm cyfiawn ac i ddirymu'r rheoliadau hyn, sydd wedi'u drafftio'n wael ac sy'n ddiangen o ormesol. Gadewch inni ofyn i'r Llywodraeth osod rhai newydd heb y camgymeriadau, gyda chyfnodau gohiriedig byrrach, a chael memorandwm esboniadol i gyd-fynd â hynny sy'n esbonio pam y mae angen gohirio am gyfnod mor hir, ac os oes angen, i ddod yn ôl gyda set arall yn nes ymlaen, a set arall wedyn hyd yn oed o bosibl. Ond rwy'n gofyn i chi fod yn siŵr eich bod yn fodlon gadael eich etholwyr heb gynrychiolaeth am gymaint o amser. Diolch.

15:40

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Lywydd. Bu'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystyried y rheoliadau hyn ar 18 Mai. Yn ein hadroddiad a osodwyd gerbron y Senedd, a hynny ar yr un diwrnod, codwyd un pwynt adrodd technegol a thri phwynt ar sail rhagoriaeth, ac rydym yn tynnu sylw'r Senedd atynt.

Roedd y pwynt adrodd technegol yn ymwneud ag eglurder effaith y rheoliadau. Gwneir y rheoliadau gan ddefnyddio pwerau o dan adrannau 67 a 68 o Ddeddf Coronafeirws 2020. O dan y rheoliadau, mae 'etholiad perthnasol' yn golygu:

'etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru'.

Y cyfnod perthnasol yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy'n dod i ben ar 31 Ionawr 2021. Nawr, nid oedd yn glir ar unwaith a fyddai etholiad perthnasol yn destun darpariaethau gohirio yn yr amgylchiadau lle byddai'r amserlen statudol gyffredin ar gyfer cynnal etholiad o'r fath yn rhannol o fewn y cyfnod perthnasol ac yn rhannol ar ei ôl. Yn ein cyfarfod, ystyriwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwynt hwn ac roeddem yn fodlon â'r esboniad a roddwyd i ni, sef, os yw dyddiad a bennir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad yn dod o fewn y cyfnod perthnasol, caiff y bleidlais ei gohirio, ac os yw dyddiad yr etholiad y tu allan i'r cyfnod perthnasol, ni fydd yn cael ei ohirio.

Nodasom hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes angen gwneud unrhyw ddarpariaeth atodol bellach o dan adran 68 o Ddeddf 2020 mewn perthynas â'r rheoliadau. Fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mynegodd Suzy Davies bryderon am y rheoliadau yn ystod ein cyfarfod ar 18 Mai, a chawsant eu nodi yn y cofnod cyhoeddus.

Ni fydd fy ngrŵp yn cefnogi'r cynnig i ddirymu a gyflwynwyd gan Suzy Davies heddiw. Er bod democratiaeth yn agos at galon pob un ohonom ac er ein bod yn gwneud popeth a allwn i gynnal egwyddorion democrataidd, rhaid inni ystyried y cyd-destun ehangach. Mae miliynau o bobl yn fyd-eang wedi cael eu heintio â feirws sydd wedi costio llawer o fywydau ac sy'n cael ei ledaenu drwy gyswllt wyneb yn wyneb. Mae cyfyngiadau symud ar waith drwy'r wlad. Mae bywydau ar stop ac mae llawer o bobl wedi colli eu swyddi a busnesau wedi mynd i'r wal, ac i lawer o bobl yng Nghymru, mae'r dyfodol yn ansicr. Bu'n rhaid rhoi mesurau ar waith i atal lledaeniad cynyddol coronafeirws. Sut, felly, y gallwn gynnal isetholiadau? A'r ateb yw na allwn wneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel ac yn ystyrlon. Mewn llawer o achosion mae etholiadau'n galw am gynnal trafodaethau wyneb yn wyneb, cyfarfodydd cyhoeddus, sy'n aml yn angenrheidiol i wneud dewisiadau gwybodus. Mae pleidleisio electronig yn dieithrio canran o'r cyhoedd sy'n byw mewn tlodi ac na allant fforddio cyfrifiaduron, yn ogystal â'r rheini nad ydynt yn gallu defnyddio'r offer. Felly, yn y ddwy enghraifft hon yn unig, nid yw pobl yn cael eu trin yn gyfartal ac efallai na fyddant yn gallu pleidleisio oherwydd yr anghydraddoldeb hwn. Felly, yn anffodus, mae fy ngrŵp yn credu y dylid gohirio etholiadau ar hyn o bryd, a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn.

15:45

Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Diolch, Lywydd. Mae etholiadau'n hanfodol i'n democratiaeth a dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw beth sy'n effeithio arnynt, ac felly rwy'n hapus iawn fy mod wedi gallu clywed barn fy nghyd-Aelodau yn y Siambr heddiw. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud dau beth pwysig iawn: maent yn gohirio unrhyw isetholiadau a fyddai wedi'u cynnal rhwng mis Mawrth eleni a mis Ionawr y flwyddyn nesaf, ac maent yn gwarchod y rhai sy'n trefnu ein hetholiadau rhag erlyniad troseddol o ganlyniad i'r camau angenrheidiol y bu angen iddynt eu cymryd i ddiogelu'r cyhoedd a'u staff. Golyga hyn y bydd unrhyw isetholiadau sy'n codi rhwng 16 Mawrth 2020 a 31 Ionawr 2021 ar gyfer sedd sy'n digwydd dod yn wag yn cael eu cynnal rhwng 1 Chwefror 2021 a 16 Ebrill 2021. Y swyddog canlyniadau priodol fydd yn penderfynu ar union ddyddiad yr etholiad. Drwy ddatgymhwyso adrannau 39 a 63 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, rydym hefyd wedi sicrhau na fydd gweithred neu anwaith ar ran swyddogion canlyniadau mewn perthynas ag etholiad a oedd i fod i gael ei gynnal ond a gafodd ei ohirio yn arwain at erlyniad troseddol.

Gwnaed y rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol, gan mai dyna sy'n ofynnol o dan Ddeddf Coronafeirws 2020. Mae adran 67 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud y rheoliadau ac mae adran 67(7) yn pennu'r weithdrefn sy'n gymwys. Roedd angen datgymhwyso'r confensiwn 21 diwrnod hefyd, gan nad oedd y Ddeddf ond yn rhoi indemniad i swyddogion canlyniadau am y cyfnod rhwng 15 Mawrth a 24 Ebrill. Drwy ddatgymhwyso'r confensiwn 21 diwrnod, mae'n caniatáu inni ddwyn y rheoliadau i rym erbyn 5 Mai, gan osgoi unrhyw fwlch dianghenraid lle gallai swyddogion canlyniadau fod yn atebol am weithredu er lles y cyhoedd.

Ar adeg llunio'r rheoliadau hyn, roedd llawer iawn o bryder o fewn y gymuned etholiadol ynghylch diogelwch cynnal etholiadau. Ar 18 Mawrth, ysgrifennodd fy swyddog cyfatebol yn y DU a minnau at y gymuned etholiadol i roi ein cefnogaeth lawn i swyddogion canlyniadau a fyddai angen gohirio etholiadau cyn i Ddeddf Coronafeirws 2020 ddod i rym.

Rwy'n ystyried bod gohirio etholiadau'n fater difrifol; mae'r rheoliadau hyn wedi bod yn angenrheidiol oherwydd yr argyfwng iechyd digynsail sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Byddai'n amhosibl cynnal isetholiadau teg ac agored a cheir risgiau sylweddol i iechyd y boblogaeth. Byddem mewn perygl o ddifreinio pobl yn y grwpiau risg ac o beryglu iechyd pleidleiswyr, ymgeiswyr, ymgyrchwyr a staff etholiadol. Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i swyddogion canlyniadau ddewis y dyddiad mwyaf priodol i gynnal etholiad a ohiriwyd rhwng 1 Chwefror 2021 ac 16 Ebrill 2021. Mae'r cyfnod hwn yn caniatáu digon o amser inni gael gwell dealltwriaeth o'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol, ac i gynllunio'n unol â hynny gyda'r gymuned etholiadol ac o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol.

Mae hyn yn digwydd cyn 6 Mai 2021, pan fydd yr etholiadau cyfredol ar gyfer ethol comisiynwyr heddlu a throseddu ac etholiadau'r Senedd i fod i gael eu cynnal. Mae cynnal etholiadau'r Senedd a'r comisiynwyr heddlu a throseddu ar yr un diwrnod yn gwneud y trefniadau'n gymhleth iawn, gan y byddant yn ymwneud â dwy system bleidleisio a dwy etholfraint wahanol. Ni fyddai'n ddymunol ychwanegu isetholiadau lleol wedi'u gohirio drwy'r trefniadau cymhleth hynny, ac felly mae angen ychwanegu dyddiadau Chwefror i 16 Ebrill pan fydd yn rhaid cynnal isetholiad.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod isetholiadau a ohiriwyd yn cael eu cynnal ar y dyddiad hwn, ond oherwydd y cymhlethdodau rwyf newydd eu nodi, nid oedd hynny'n briodol ar gyfer Cymru, ac felly cynhelir ein hisetholiadau yn gynharach. Mae caniatáu i swyddogion canlyniadau bennu'r dyddiad yn caniatáu iddynt ddefnyddio eu harbenigedd i ystyried ffactorau lleol i drefnu'r dyddiad mwyaf priodol, ac oherwydd bod angen y rheoliadau hyn ar frys, mae rhai o'r manylion technegol ynghylch sut y caiff yr oedi hwn ei reoli wedi'u neilltuo ar gyfer cyfres ddiweddarach o reoliadau.

Ysgrifennais at y gymuned etholiadol ar 5 Mai yn nodi'r rhesymeg sy'n sail i'r rheoliadau cyfredol a beth fyddai'n cael ei gynnwys yn yr ail gyfres. Bydd y rhain yn cynnwys nifer o faterion, megis pleidleisiau post a fwriwyd yn flaenorol, treuliau ac iawndal am etholiadau gohiriedig.

Rwy'n parhau i weithio'n agos iawn â'r gymuned etholiadol a gweinyddiaethau eraill yn y DU ar reoli'r etholiadau gohiriedig hyn a sicrhau y gellir cynnal etholiadau'n ddiogel ac yn deg. Diolch, Lywydd.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Caroline Jones a'r Gweinidog am ymateb i hynny, ac yn arbennig i'r Gweinidog am y rhesymau pam na fydd etholiadau'n cael eu gohirio tan fis Mai? Ond mewn gwirionedd nid yw hynny'n rhan o'r hyn rwy'n dadlau drosto beth bynnag, ond rwy'n ddiolchgar am y diweddariad.

Yn anffodus, fodd bynnag, mae'r ddau ohonoch wedi methu'r pwynt roeddwn yn ceisio'i wneud, ac nid yw'n ymwneud â chyflwyno isetholiadau'n fuan nac yn ddim cynt. Rwy'n gofyn i'r ddeddfwrfa hon fod yn siŵr fod y Llywodraeth yn ei gwneud hi'n glir i ni pam ei bod yn eu gohirio'n fympwyol, mae'n ymddangos i mi, tan fis Chwefror. Nid oes cyfle i gyflwyno isetholiadau'n gynt na hynny, hyd yn oed pe bai coronafeirws yn dod i ben yfory, ac mae'n amlwg nad yw'n mynd i wneud hynny. Ond rydym yn gohirio rhywbeth yma am y rhan helaethaf o flwyddyn heb fod unrhyw broses ar gael i ni o gwbl i fyrhau'r cyfnod hwnnw, pe bai'r sefyllfa'n golygu y byddai isetholiadau cynharach yn bosibl. Felly, i atgyfnerthu'r pwynt hwnnw: nid wyf yn gofyn am rai cynharach, rwy'n gofyn am esboniadau gan y Llywodraeth ynglŷn â pham y mae'n rhaid inni aros am flwyddyn o nawr, pan nad ydym wedi cael unrhyw ymgynghori nac eglurhad ynglŷn â sut y cytunwyd ar y cyfnod penodol hwnnw. Ond diolch, bawb.

15:50

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gallaf weld gwrthwynebiadau ac felly gohiriwn y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Yr Economi a COVID-19

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Darren Millar, a gwelliant 6 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Felly, dyma ni'n cyrraedd yr eitem nesaf, a'r eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar yr economi a COVID-19, a dwi'n galw ar Helen Mary Jones i gyflwyno'r cynnig. Helen Mary Jones.

Cynnig NDM7331 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu cynllun gwarantu cyflogaeth i bobl ifanc sy’n dioddef diweithdra o ganlyniad i Covid-19;

b) sefydlu cynllun ailhyfforddiant ac ailsgilio swyddi wedi’i gynllunio i genfogi’r rhai sydd angen canfod cyflogaeth amgen yn dilyn yr argyfwng;

c) cynnull cynulliad dinasyddion i drafod sut y dylai Cymru 'Adeiladu Nôl yn Well' yn dilyn profiad o’r argyfwng; a

d) sefydlu 'Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan' gwerth biliynnau o bunnoedd i ariannu’r gwaith o ailadeiladu ein gwlad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o allu cyflwyno'r cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian, a'i gymeradwyo i'r Senedd.

Mae wedi dod yn ystrydeb bron i ddweud ein bod yn byw mewn cyfnod digynsail, ac mae'n wir ein bod. Gwneir y gymhariaeth weithiau â'r ail ryfel byd, ond pan oedd ein rhieni a'n teidiau a'n neiniau yn ymladd y rhyfel hwnnw gallent weld eu gelyn, gwyddent pwy ydoedd, gwyddent pam oedd y brwydro'n digwydd, a gallent fod gyda'i gilydd. Ni allwn ni wneud hynny, wrth gwrs.

Rydym wedi gwybod o'r dechrau bod COVID-19 yn peri risg difrifol i fywydau, ond hefyd i fywoliaeth pobl. Ac wrth i'r perygl uniongyrchol i iechyd gilio rhywfaint, er bod gennym lawer i'w wneud a ffordd bell i fynd, mae'r ffocws yn gynyddol bellach ar bryderon pobl ynglŷn â'n heconomi ac am ein bywoliaeth. Clywsom lawer o sôn hefyd am adeiladu nôl yn well, ond ceir llai o eglurder ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu. I lawer yng Nghymru ac ar draws y byd yn wir, gwyddom nad oedd ein heconomi cyn COVID yn cyflawni fel y dylai. A'r cyd-ddinasyddion hyn yn aml, wrth gwrs, yw'r rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan yr argyfwng: pobl o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig; menywod; rhieni sengl a phobl anabl. Roedd traean o'n plant yng Nghymru cyn yr argyfwng yn byw mewn tlodi, a rhaid inni beidio â mynd yn ôl i'r normal hwnnw. Dyma gyfle i ailosod; i adeiladu economi sy'n gweithio i bawb; sy'n creu cyfoeth i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf sydd eu hangen ar ein cenedl; sy'n cyflymu ein ffordd tuag at ddatgarboneiddio, ac sy'n gadael byd gwell i genedlaethau'r dyfodol. Credwn fod arnom angen dadl eang ynglŷn â sut y cyflawnir hynny, a bydd fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, yn dweud mwy am yr angen i gynulliad dinasyddion yrru'r gwaith hwnnw yn ei flaen a'n helpu i lunio'r ffordd ymlaen. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rhaid inni wrthod gwelliant 4 y Ceidwadwyr. Er ein bod yn croesawu cyfle i gael mwy o weithio trawsbleidiol, ac yn wir mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i wneud hynny, mae angen inni fynd ymhellach na hynny. Nid yw'r atebion i'n hargyfwng i gyd yn y Siambr hon yn nwylo un blaid neu fwy.

Nawr, ochr yn ochr â'r ddadl fwy hirdymor honno, bydd angen ymateb ar unwaith, ac mae'r rhan fwyaf o'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn awgrymu ffordd ymlaen. Rydym yn galw am gynllun gwarantu cyflogaeth i bob person ifanc. Gwyddom mor galed y cawsant eu taro eisoes yn yr argyfwng hwn o ran colli swyddi, a gwyddom hefyd, os yw pobl ifanc yn ddi-waith am fwy na chwe mis ar yr adeg hon yn eu bywydau, fod hynny'n debygol o gael effaith hirdymor ar eu gyrfaoedd. Bydd nifer yn ei chael hi'n amhosibl dal i fyny ac yn dlotach hyd yn oed fel pensiynwyr o ganlyniad i fod heb waith ar yr adeg dyngedfennol hon. Wrth gwrs, gallwn adeiladu ar gynlluniau cyfredol gan Lywodraeth Cymru, ond mae angen inni fod yn llawer mwy uchelgeisiol, ac mae arnom angen cynllun cynhwysfawr, ac mae ei angen yn gyflym. Yn hytrach na gadael ein pobl ifanc i bydru ar y dôl, gadewch i ni ddefnyddio eu hegni, eu hangerdd a'u hymrwymiad i gefnogi'r pethau sydd eu hangen er mwyn y gwaith adfer cyntaf. Er enghraifft, gallem anfon graddedigion i'n hysgolion i gynorthwyo athrawon i helpu ein plant i ddal i fyny â'r dysgu y maent wedi'i golli. Gallem alluogi ein pobl ifanc i gefnogi ein sector gofal, a fydd dan bwysau difrifol am amser maith i ddod, a gallem eu talu'n briodol i wneud hynny. A gallem greu byddin o bobl ifanc fedrus i ôl-osod ein cartrefi, gan ddechrau gyda thai cymdeithasol, gydag inswleiddio a chynlluniau adnewyddadwy bach, gan fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a thlodi ar yr un pryd. A bydd arnom angen rhaglen genedlaethol enfawr i alluogi gweithwyr i hyfforddi ac ailsgilio.

Clywsom dystiolaeth ym mhwyllgor yr economi ychydig ddyddiau'n ôl na fydd ein heconomi byth yr un fath. Ni fydd rhai swyddi byth yn dychwelyd, ac ni fydd rhai swyddi'n dychwelyd yn yr un ffordd. Gallwn ddefnyddio hyn fel cyfle cadarnhaol i ailffocysu. Gallem edrych ar y busnesau sydd gennym y gellir eu hailsgilio a'u haddasu at ddibenion newydd. Os na fydd ein diwydiant awyrofod yn gwella'n ddigon cyflym, a allem ddefnyddio rhai o'r sgiliau hynny a rhai o'r technolegau hynny i adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy, er enghraifft?

Ac wrth gwrs, mae yna raglenni gan Lywodraeth Cymru y gallwn adeiladu arnynt. Ond unwaith eto, bydd angen inni fod yn fwy uchelgeisiol, a bydd angen gweithredu'n ehangach ac yn fwy radical. Efallai, er enghraifft, y gallem roi swm o £5,000 o arian parod i ddinasyddion unigol a'u galluogi i ddewis, gyda'r cyllid hwnnw, sut y maent yn dewis ailsgilio ar gyfer economi newydd sy'n amhosibl ei mapio ar hyn o bryd.

Wrth gwrs, nid oes dim o hyn yn gwbl newydd, ac mae'n cyd-fynd â llawer o'r hyn y mae eraill yn ei ddweud. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi bod yn dweud yr un pethau. Gwelsom y corff newydd, Restart Wales, yn cyflwyno cynigion tebyg ddoe. Ac wrth gwrs, mae Cyngres yr Undebau Llafur ar lefel y DU ac yn yr Alban ac yma yng Nghymru yn dweud pethau tebyg.

Nawr, Lywydd, bydd yn rhaid talu am hyn wrth gwrs. Fel y dywedwn, diwedd y gân yw'r geiniog. Ceir tri maes yr hoffwn sôn amdanynt yn fyr yma. Y cyntaf yw dychwelyd at gwestiwn Barnett, a gallais sôn am hyn mewn cwestiynau i Weinidog yr economi yn gynharach. Mae ymchwil gan Centre for Towns yn dangos, o'r 20 cymuned yr effeithiwyd arnynt waethaf yng Nghymru a Lloegr, fod 10 o'r cymunedau hynny'n mynd i fod yng Nghymru. Byddwn yn awgrymu i'r Siambr rithwir hon nad yw hynny'n dweud llawer am yr undod ledled y DU y mae ein Prif Weinidog yn aml yn siarad amdano. Nid yw'n ymddangos ei fod wedi ein gwasanaethu'n dda iawn hyd yma, a gallwn ddweud hynny wrth fy etholwyr yn Llanelli ac wrth bobl ar draws de- a gogledd-ddwyrain Cymru.

Ond boed hynny fel y bo, gwyddom nad oedd y fformiwla erioed yn deg. Rydym yn gwybod nad yw erioed wedi ein gwasanaethu'n dda. Ac o ran dod ag adnoddau gan Lywodraeth y DU i mewn i'n hymateb i'r argyfwng hwn, mae'n hanfodol fod y fformiwla a fydd yn rhyddhau'r adnoddau hynny yn seiliedig yn awr ar angen ac nid ar niferoedd hanesyddol ac nid ar fformiwla syml. Mae gwir angen inni ddadlau'r achos hwnnw eto, ac yn y cyd-destun hwn—yr 20 o drefi, gyda 10 o'r rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf yng Nghymru, a llawer o dystiolaeth arall sy'n dangos pa mor anodd fydd hi i'n heconomi ymadfer neu, fel y byddwn i'n dadlau, i drawsnewid—bydd angen yr adnoddau hynny.

Ond nid wyf yn hyderus, Lywydd. Rydym wedi gofyn hyn i Lywodraethau'r DU o sawl lliw dros lawer o flynyddoedd, a'r un ateb a gawn bob tro. Felly, beth yw'r dewisiadau eraill? Wel, yn y papur rydym wedi'i gynhyrchu i gefnogi'r ddadl hon, rydym yn dadlau'n gryf unwaith eto fod angen benthyca, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi. Ni fu erioed yn rhatach i fenthyca ar gyfer buddsoddi. Byddai pob economegydd yn dweud wrthym y bydd hyn yn digwydd am flynyddoedd lawer i ddod.

Felly, rydym yn dadlau o blaid ad-dalu bond o £20 biliwn dros 30 mlynedd, ac mae ad-dalu hwnnw'n fforddiadwy. Nid wyf am gadw'r Senedd y prynhawn yma, ond mae'r papur wedi ei gyhoeddi—gall pobl edrych ar y dystiolaeth yn y fan honno. Mae'n fforddiadwy, a dyna faint o fuddsoddiad y bydd ei angen arnom oherwydd mae maint yr her rydym yn ei hwynebu mor enfawr. Efallai y gallwn ofyn i gyd-Aelodau Ceidwadol yn y Siambr hon ddefnyddio unrhyw ddylanwad sydd ganddynt gyda Llywodraeth y DU i ganiatáu i Lywodraeth Cymru fenthyca ar y raddfa hon. Mae'n hanfodol. Llwyddasom i  ymadfer o'r argyfwng diwethaf ar y raddfa hon ar ôl yr ail ryfel byd drwy fenthyca a buddsoddi.

Nawr, mae cwestiwn arall i'w ofyn, sef: a yw hi'n bryd cael sgwrs aeddfed am drethi? Yn sicr, mae'n wir dweud na allwn obeithio cael gwasanaethau cyhoeddus Sgandinafaidd eu hansawdd a system drethu debyg i un Unol Daleithiau America. Nid wyf o reidrwydd yn sôn yma am dreth incwm, er enghraifft. Efallai y gallwn edrych ar drethi cyfoeth. Efallai y gallwn edrych ar drethi eiddo. Mae hynny, wrth gwrs, ar gyfer y tymor hwy. Ond rwy'n credu, Lywydd, ein bod drwy'r argyfwng hwn wedi goresgyn y syniad Thatcheraidd ers degawdau fod gwariant cyhoeddus yn beth drwg. Ni welwch lawer o bobl ledled y DU, rwy'n siŵr, nad ydynt yn falch o faint y buddsoddiad sydd wedi'i roi tuag at ddiogelu ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, ac efallai mai dyma'r amser yn awr i gael y trafodaethau hynny.  

Cyfeiriaf yn fyr yn awr, os caf, Lywydd, at y gwelliannau. Ni allwn dderbyn gwelliant y Llywodraeth. Mae'n teimlo braidd fel, 'Mae hyn yn iawn, mae gennym reolaeth ar y sefyllfa, mae'n iawn.' Wel, nid yw hynny'n bosibl. Nid oes neb wedi cael rheolaeth ar y sefyllfa. Mae angen mwy o syniadau arnom. Mae angen inni feddwl yn wahanol. Rydym yn croesawu llawer o'r hyn a nodir yng ngwelliant y Llywodraeth wrth gwrs. Rydym yn croesawu'r gwaith y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud. Nid wyf yn hollol siŵr pam ei fod yn ceisio cyngor Gordon Brown, a wrthododd ddiwygio fformiwla Barnett am y rhan orau o ddegawd fel Canghellor ac yna fel Prif Weinidog, rhywbeth a fyddai wedi bod o gymorth mawr i ni. Ond boed hynny fel y bo, nid dyma'r adeg i sgorio pwyntiau gwleidyddol pleidiol. Rydym yn croesawu'r ymgynghoriad drwy'r bartneriaeth gymdeithasol, ond nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun, ac unwaith eto dyna pam ein bod yn dadlau dros gael cynulliad dinasyddion, ac rwyf ychydig yn siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi cytuno i wneud hynny. Mae arnom angen mwy o frys ac uchelgais.

Yn fyr iawn, ar welliannau'r Ceidwadwyr, ni allwn dderbyn gwelliant 2. Er y bydd prentisiaethau'n bwysig, ni fyddant yn ddigon. Rydym yn fodlon derbyn gwelliant 3 fel ychwanegiad defnyddiol, ac rwyf wedi egluro ein safbwynt, wrth gwrs, ar welliant 4. Mae gwelliant 5, i ni, yn dangos diffyg uchelgais a chyrhaeddiad. Nawr, ar welliant 6, rydym yn gallu cefnogi rhai elfennau o'r hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu, ond rwy'n credu y byddai'n rhy optimistaidd i feddwl, er enghraifft, y bydd y diwydiant bwyd a diod ar ei ben ei hun yn gallu ein harwain allan o'r llanast hwn. Felly, byddwn yn ymatal ar y gwelliant hwnnw.

I ddod â fy sylwadau i ben, Lywydd, mae hon yn adeg i weithio gyda'n gilydd. Mae hon yn adeg ar gyfer uchelgais. Mae hwn yn gyfle, fel y clywais y Gweinidog yn dweud, i adeiladu economi sydd nid yn unig yn fwy teg ac yn fwy gwyrdd, ond economi deg a gwyrdd, ac er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen inni weithredu yn awr wrth inni edrych am y ffordd hwy ymlaen. Rwy'n cymeradwyo ein cynnig gyda'r un gwelliant i'r Senedd.

16:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch. Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig hwn. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. A gaf fi alw ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd.

2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol. 

3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer.

4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y Coronafeirws.

5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y dyfodol.

6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron £2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a theg.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch. Galwaf yn awr ar Mohammad Asghar i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mohammad.

Gwelliant 2—Darren Millar

Yn is-bwynt (a), dileu 'cyflogaeth' a rhoi yn ei le 'prentisiaeth'.

Gwelliant 3—Darren Millar

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt (b):

'a chyflwyno rhaglenni cadw a datblygu sgiliau cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn y sectorau sy'n wynebu'r risg fwyaf er mwyn sicrhau na chollir y gallu na'r cyfle i uwchsgilio'r gweithlu lleol yn ystod y cyfnod hwn o lai o weithgarwch.'

Gwelliant 4—Darren Millar

Yn is-bwynt (c), dileu 'cynulliad dinasyddion' a rhoi yn ei le 'tasglu trawsbleidiol'.

Gwelliant 5—Darren Millar

Dileu is-bwynt (d) a rhoi yn ei le:

'sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i gefnogi'r trefi a'r cymunedau hynny y mae eu heconomïau wedi'u taro galetaf gan y pandemig.'

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.  

Mae cael gweithlu medrus yng Nghymru yn allweddol ar gyfer adferiad economaidd, yn enwedig gan fod gan Gymru fwlch sgiliau sylweddol eisoes. Fe gostiodd prinder sgiliau oddeutu £350 miliwn i fusnesau Cymru ym 2018 yn ôl adroddiad gan y Brifysgol Agored. Yn ogystal â'r gost economaidd, gorfodir llawer o bobl yng Nghymru i ymdopi â'r gost bersonol o gael eu caethiwo gan sgiliau isel a chylch digalon o sgiliau isel, cyflogau isel a chynhyrchiant isel.

Effeithiwyd yn ddifrifol ar brentisiaethau a darpariaeth sgiliau gan yr argyfwng coronafeirws yn ein rhan ni o'r byd. Er bod prentisiaethau sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn brysur ar y rheng flaen wrth ymateb i'r pandemig, mae rhannau mawr o'r economi wedi'u rhewi ac mae llawer o bobl heb fod yn gweithio. Oherwydd y gorchymyn i aros gartref, mae'r dysgu wedi symud ar-lein. Yn ogystal â chael effaith ar brentisiaid, mae hyn hefyd wedi cael effaith ar ddarparwyr hyfforddiant a'u his-gontractwyr.  

Rydym i gyd yn cydnabod y gallai effaith coronafeirws ar economi Cymru a'i gweithlu fod yn ddinistriol. Mae gan Gymru gyfran uwch o weithwyr a gyflogir yn y diwydiannau yr effeithir arnynt fwyaf gan gyfyngiadau symud o gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn rhagweld pe bai ond un o bob pedwar o'r gweithwyr hyn yn colli eu swydd y byddai diweithdra yng Nghymru yn cynyddu i lefel uwch nag a welwyd yn ystod y dirwasgiad diwethaf. Pobl ifanc, menywod a'r rhai sydd â'r lefelau isaf o gymwysterau sy'n fwyaf tebygol o wynebu colli eu swyddi.

Lywydd, gwelodd Sefydliad Bevan fod cefn gwlad Cymru a Chymoedd de Cymru yn wynebu cyfran uwch o lawer o fusnesau'n cau na'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Soniodd Helen Mary yn gynharach fod 10 o'r rhannau gwaethaf yn economaidd o'r Deyrnas Unedig yn ne Cymru, ac mae pedwar ohonynt yn fy Nghymoedd i yn y de-ddwyrain. Mae effaith coronafeirws ar gymunedau Cymru wedi cael ei waethygu gan anghydraddoldebau strwythurol sy'n bodoli'n barod. Mae adroddiad diweddar gan Centre for Towns yn tynnu sylw at y ffaith bod cymunedau'r Cymoedd a threfi glan môr fel Glynebwy, Maesteg a'r Rhyl ymhlith y rhai sy'n fwyaf agored i ddirywiad economaidd wedi'i achosi gan y feirws.

Nid yw cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ond yn canolbwyntio ar oblygiadau economaidd tymor byr y pandemig yn hytrach nag ystyried adferiad economaidd hirdymor Cymru. Mae arian yn cael ei ailddyrannu o brentisiaethau, dysgu seiliedig ar waith a phrosiectau eraill, gan arwain at effeithiau niweidiol hirdymor. Bydd yn arwain at ddarparu ychydig iawn o brentisiaethau a lleihau'r gweithlu medrus ar adeg pan fydd angen mwy arnom. Mae ein gwelliannau 2 a 3 yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu sylfaen sgiliau Cymru er mwyn helpu i rymuso pobl i wella eu bywydau drwy eu galluogi i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth newydd i ddiwallu anghenion economi sy'n newid yn barhaus ym mhob cwr o'r byd. Bydd prentisiaethau yn hanfodol ac yn allweddol i adferiad economaidd Cymru. Bydd rhaglenni cynnal a datblygu sgiliau yn helpu i wneud y sectorau mwyaf bregus yn yr economi yn fwy cydnerth tra'n darparu cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a chynnal sgiliau.

Mae gwelliant 5 yn galw am sefydlu cronfeydd adfer hirdymor yn sgil COVID i gefnogi'r trefi a'r cymunedau y mae eu heconomïau wedi'u taro galetaf gan y pandemig. Effeithiodd y cyfyngiadau'n anghymesur ar gymunedau arfordirol, gyda chau'r diwydiannau twristiaeth a llety. Mae'n bwysig fod y cymunedau hyn yn cael cymorth teg, effeithiol ac wedi'i dargedu i'w tywys drwy'r argyfwng hwn.

Ddirprwy Lywydd, os gweithredwn y camau sy'n cael eu cynnig heddiw, credaf y gallwn sicrhau nid yn unig fod economi Cymru'n ymadfer yn gyflymach, ond y daw allan ohoni'n gryfach ac yn fwy deinamig nag o'r blaen. Gallwn osod y sylfeini ar gyfer economi ddeinamig a modern gyda gweithlu medrus iawn a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol yn ogystal â'r genhedlaeth hon. Diolch.

16:05

Diolch. Galwaf yn awr ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 6, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil.

Gwelliant 6—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Er mwyn ailadeiladu Cymru yn economaidd o ganlyniad i argyfwng Covid-19, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod y cynllun rhyddhad ardrethi busnes Covid-19 yn cefnogi busnesau sy'n meddiannu eiddo ac nid landlordiaid sy'n berchen ar yr eiddo hwnnw;

b) rhoi cymorth i'r rhai yn y diwydiant lletygarwch sy'n talu rhent llawn i gwmnïau tafarndai yn ystod yr argyfwng;

c) deddfu i alluogi cwmnïau o Gymru i wneud cais llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus Cymru; a

d) cyfeirio'i pholisi economaidd tuag at adferiad a gaiff ei arwain gan allforio bwyd a diod drwy greu diwydiant chwisgi cyflawn.

Cynigiwyd gwelliant 6.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cefnogi egwyddor y cynnig. Felly, dof at fy ngwelliant. Yn gyntaf, rwy'n credu efallai ei bod yn well gwrando ar yr hyn sydd gennyf i'w ddweud cyn dweud nad ydych chi'n mynd i gefnogi fy ngwelliant.

Mae syniad gwelliant 6(d), sef edrych ar fwyd a diod a chreu diwydiant wisgi cyflawn, yn gwbl ymarferol a gellir ei wneud yn rhad iawn. Mae'n rhaid mai Cymru yw un o'r unig wledydd Celtaidd heb ddiwydiant wisgi, ac os ydych chi'n frwdfrydig iawn ynghylch wisgi fel fi, mae hynny'n siomedig iawn. Ond yr hyn sy'n wirioneddol ddiddorol yw bod y farchnad fyd-eang mor broffidiol. Felly, o fewn pum mlynedd i sefydlu 20 o ddistyllfeydd, gadewch inni ddweud, gallech gael diwydiant allforio gwerth £100 miliwn, ac ym mlwyddyn 10, blwyddyn 15, blwyddyn 20, byddai'r twf yn enfawr.

O ran ansawdd bwyd hefyd, rwy'n credu y dylem fod yn edrych o ddifrif ar gynhyrchion ym mhen uchaf y farchnad—gwneud cynnyrch Cymreig yn ddrud iawn yn y byd oherwydd bydd pobl yn talu am ansawdd canfyddedig.

Ar welliant 6(c), bydd cyfleoedd gyda Brexit, a'r hyn y mae angen i ni ei ystyried gyda chontractau sector cyhoeddus Cymru, yr arian cyhoeddus a wariwn, rhaid i'r contractau hyn fynd i gwmnïau o Gymru. Felly, am bob—. Pe baem yn ailgyfeirio canran fawr iawn o gontractau'r sector cyhoeddus i gwmnïau yng Nghymru, gallem greu oddeutu 80,000 o swyddi, rhywbeth a fyddai'n sylweddol iawn. Ac rwy'n credu os nad yw cwmni o Gymru yn cael contract gan y Llywodraeth yn y dyfodol, mae'n rhaid cael rheswm gwirioneddol dda dros fethu gwneud hynny. Ni fyddwn wedi ein rhwymo gan reoliadau'r UE mwyach, felly mae hynny'n gwbl ymarferol.

Wrth inni edrych ar y diwydiant lletygarwch, rwy'n bryderus iawn fod llawer o bobl sy'n rhan ohono—tafarndai, er enghraifft—yn dal i dalu rhent. Mae'n gwbl warthus eu bod yn cael eu blingo gan y cwmnïau tafarnau ar hyn o bryd. Pa un a yw'r cynnig hwn yn llwyddo ai peidio, neu pa un a yw'r gwelliant yn pasio—pa un a yw'n digwydd ai peidio—hoffwn yn fawr i'r Llywodraeth gamu i'r adwy a chefnogi'r diwydiant lletygarwch yng Nghymru drwy barhau'r cynllun ffyrlo tan 2021. Mae'n rhaid inni geisio dylanwadu ar y cwmnïau hynny i roi'r gorau i'w gwneud hi mor anodd i dafarndai Cymru allu goroesi.

Mae gwelliant 6(a), mewn gwirionedd, yn—. Mae'n rhaid inni atal busnesau rhag cael eu trin yn wael gan landlordiaid. Mae'n digwydd yn rhy aml o lawer. Ceir achos yng Ngorllewin Caerdydd lle mae stiwdio ddawns yn darparu ar gyfer 120 o blant—120 o blant—gydag athrawes ddawns ysbrydoledig. Mae'r arian yn dal i fod heb ei drosglwyddo gan y landlord. Mae'n ymddygiad gwirioneddol wael, ac rwy'n teimlo dros Vickie—hi sy'n rhedeg Rubylicious—oherwydd mae wedi dweud wrth bobl beth sy'n digwydd, nid yw wedi cael yr arian. Nid yw hi erioed wedi honni bod hynny'n drosedd, nid yw erioed wedi honni ei fod yn dwyll, dim ond honni ei fod yn ymddygiad gwael, ac yn awr mae hi mewn sefyllfa lle gallai gael ei herlyn. Mae wedi derbyn llythyr cyfreithiwr cas ac ymosodol iawn gan gyflogai i'r Prif Weinidog, neb llai. Felly, hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i annog, yn y cyd-destun hwn, yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd i gael gair gyda'u haelod staff efallai a dweud wrtho am roi'r gorau i drin athrawes ysbrydoledig yr ysgol ddawns honno mewn ffordd mor ymosodol a bwlïaidd. Rwy'n credu ei fod yn dwyn anfri ar ei gyflogwr, bron. Mae'n sicr yn peri embaras iddo, ac mae hwnnw'n fater cod ymddygiad, felly hoffwn ofyn i'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd edrych ar hynny. I fynd yn ôl at y pwynt perthnasol yma, nid yw'n iawn fod yr arian a anelir at fusnesau yn cael ei gymryd gan landlordiaid.

Felly, yr hyn sydd gennych yno yw pecyn bach, rhai syniadau. Mae'n edrych ar godi arian ar gyfer y diwydiant wisgi. Gallem hefyd gael cyfnewidfa stoc yng Nghaerdydd, er enghraifft. Mae angen inni ddechrau cyflwyno'r syniadau hyn. Mae'n mynd i fod yn her fawr i ddod dros yr argyfwng hwn, ac mae'n rhaid inni gael syniadau pendant.

O ran y gwelliannau—

16:10

Gwnaf. Diolch. O ran y gwelliant, mae'n amlwg nad dyna fyddai'r unig beth, ond mae'n ffordd hawdd, felly dylem ei dilyn. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am alw arnaf i gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n mynd i edrych ar economi Cymru. Gellir ei rhannu'n bum rhan: yr economi hanfodol, yr economi adfer, meysydd sy'n gallu ffynnu gyda chefnogaeth, meysydd sy'n galw am hyder defnyddwyr, a meysydd y bydd yn anodd iawn eu hadfer yn y tymor byr iawn.

Rydym yn gwybod am yr economi hanfodol; mae wedi bod yn weithredol dros y tri mis diwethaf. Gwyddom hynny. Peidiwch â drysu rhyngddi a'r economi sylfaenol; nd ydynt yr un peth. Yr economi hanfodol yw pethau fel iechyd, gofal cymdeithasol, y cyfleustodau, gwasanaethau awdurdodau lleol, gan gynnwys iechyd yr amgylchedd a chasglu sbwriel, gwasanaethau Llywodraeth, plismona, tân, amddiffyn, gwaith cynnal a chadw hanfodol, trefnwyr angladdau, TGCh, bwyd a diod, gan gynnwys eu cynhyrchu, eu gwerthu a'u cludo, gwyddorau bywyd, y cyfryngau, gwasanaethau post, yswiriant ariannol a rhai mathau o weithgynhyrchu. Dyna yw'r economi hanfodol—maent wedi bod gyda ni dros y tri mis diwethaf, oherwydd maent yn hanfodol.

Mae gennym sectorau economaidd fel trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i weithio, ond ar gapasiti llawer llai. Rydym wedi gweld y sectorau gwirfoddol a'r trydydd sector yn darparu gwasanaethau mawr eu hangen, gan ddangos bod llawer ohonynt yn hanfodol, nid dim ond ychwanegion braf i'w cael.

Yna mae gennym yr economi adfer. Meysydd o'r economi yw'r rhain a fydd yn dychwelyd i'r lefelau galw blaenorol ar ôl rhuthr cychwynnol. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd fel yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, siopau trin gwallt, salonau harddwch, bariau ewinedd, twristiaid, campfeydd, cyfresi teledu, amgueddfeydd, orielau celf, gwaith adeiladu, cynnal a chadw a gwasanaeth i geir, a siopau coffi lleol a siopau cludfwyd. Mae pobl wedi bod yn aros ers misoedd iddynt agor ac yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl agor, bydd ciwiau hir ac oedi hir hyd nes y byddwn yn dychwelyd at y normal newydd. Rydym eisoes yn gweld ciwiau y tu allan i siopau cludfwyd adnabyddus. Hwn fydd yr adferiad siâp V y mae economegwyr yn sôn amdano a byddant i gyd yn gwneud i bob un ohonom deimlo'n well. O fewn y grŵp hwn mae proffesiynau fel milfeddygon a deintyddion, ac optegwyr hefyd, byddwn wedi dweud, ond gwyddom yn awr mai cyngor Llywodraeth San Steffan, mae'n debyg, yw: os oes gennych broblem gyda'ch llygaid, ewch am dro yn y car i'w profi.

Mae'r trydydd sector allweddol yn un y mae gwir angen i ni ei gefnogi, ac mae'n cynnwys prifysgolion, theatrau, lleoliadau celfyddydau perfformio eraill, gweithgynhyrchu, chwaraeon proffesiynol a gwasanaethau proffesiynol. Mae'r rhain yn rhannau allweddol o'r economi leol, ac mae angen cymorth arnynt i ymadfer. Dyma'r meysydd y mae angen i'r Llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd ganolbwyntio arnynt ar ôl codi'r cyfyngiadau symud, naill ai drwy ddefnyddio cyfalaf trafodion i ddarparu benthyciadau di-log neu drwy ddarparu gwarant incwm. Bydd hyn hefyd yn cynnwys pobl hunangyflogedig y bydd angen iddynt ailadeiladu eu busnesau, ar ôl bod dan gyfyngiadau symud ers mis Mawrth. Mae'r rhain yn sectorau allweddol yn yr economi. Mae'r rhain yn sectorau twf posibl yn yr economi ac yn y tymor byr, bydd angen cymorth arnynt.

Yn bedwerydd, mae gennym—[Anghlywadwy.]—a fydd yn galw am hyder defnyddwyr, yn ariannol ac o ran diogelwch personol. Y tafarndai, y bwytai a'r atyniadau twristaidd lleol, y gwestai a'r clybiau yw'r rhain. Byddant yn galw am hyder eu bod yn ddiogel, a bod gan bobl incwm dros ben i allu fforddio'r eitemau moethus hyn. Bydd hyder eich bod yn ddiogel i fynd i mewn yno yn bwysig tu hwnt, ac yn llawer pwysicach, mae'n debyg, na'r dyddiad y mae rhywun yn penderfynu y gallant agor, os nad yw pobl eisiau mynd i beryglu eu bywydau drwy gael diod.

Mae'r lleill yn feysydd sy'n dibynnu ar ffydd defnyddwyr yn eu lles economaidd, pan fyddant yn prynu tai newydd, ceir newydd neu'n buddsoddi mewn estyniadau tai a gwaith gardd sylweddol. Mae'r rhain yn galw am hyder yn yr economi a phobl i fod yn barod i ysgwyddo dyled yn y tymor canolig a'r tymor hir. Mae'n rhaid bod gennych hyder y bydd gennych incwm yn y tymor canolig i'r tymor hir cyn y byddwch yn barod i ysgwyddo dyled yn y tymor canolig i'r tymor hir.

Yn bumed, ceir y sectorau lle bydd adferiad yn anodd. A fydd pobl a chwmnïau wedi newid y ffordd y maent yn gweithio? Rydym wedi gweld llawer o bobl yn gweithio gartref, heb wneud unrhyw ddrwg i gynhyrchiant, ac mae'n well weithiau na phan fyddant yn gweithio mewn swyddfeydd. A fydd hyn yn parhau? Oherwydd os yw'n parhau, bydd y ffyrdd yn dawelach, fel y bydd trafnidiaeth gyhoeddus, siopau coffi a brechdanau canol y ddinas, y galw am ddodrefn swyddfa, gofod swyddfa, ynghyd ag incwm meysydd parcio. Fy nghred i yw y bydd rywle yn y canol. Ni fydd pawb yn mynd yn ôl i weithio yn y swyddfa fel yr arferent ei wneud. Bydd rhywfaint ohono'n digwydd, ond bydd rhai'n gweithio gartref, a bydd hynny'n cael effaith enfawr ar yr economi.

A yw pobl wedi newid eu harferion manwerthu yn barhaol, gyda mwy o eitemau'n cael eu prynu ar-lein? Os ydynt, beth yw dyfodol y stryd fawr? Mae pobl wedi arfer gyda chlicio a chasglu a phrynu ar-lein bellach dros y tri mis diwethaf. Dyma'r normal newydd.

Wedyn, ceir teithio tramor, a fydd yn effeithio nid yn unig ar gwmnïau teithio ond ar weithgynhyrchwyr awyrennau, meysydd awyr a gwasanaethau ategol. Mae angen cymorth gan y Llywodraeth ar y maes hwn yn y tymor byr a chanolig er mwyn sicrhau y gall ffynnu unwaith eto. Er na all yr un ohonom weld y dyfodol, bydd y normal newydd yn wahanol iawn i'r normal cyn y pandemig. Byddai gennyf fwy o barch at y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru pe baent yn gallu cynhyrchu eu cyllidebau eu hunain mewn gwirionedd yn hytrach na rhestr wariant. Fe'u heriais ar y gyllideb, ac ni wnaethant hynny. A dweud y gwir, fi oedd yr unig un i gynhyrchu awgrym ar gyfer sut y gellid newid y gyllideb. Roeddwn eisiau rhoi mwy o arian i mewn i addysg a llai o arian i'r economi.

Rwy'n cefnogi'r syniad o gynulliad dinasyddion, ond mae angen inni drafod ei faint, ei gyfansoddiad, a sut a phryd y mae'n cyfarfod. Ni all fod yn enw newydd ar y dinasyddion gweithgar sy'n aml â diddordeb gwleidyddol, ac sydd eisoes yn cymryd rhan.

16:15

Unrhyw benderfyniadau a wnawn yn awr, rhaid inni wneud yn siŵr fod cyfleoedd i bawb gael eu llais wedi'i glywed, i gymryd rhan a chael dweud eu barn yn ystyrlon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Dwi'n meddwl sut bynnag dŷn ni'n edrych arno fo, mae'r profiad rydyn ni'n byw trwyddo fo ar hyn o bryd yn drobwynt yn ein hanes ni. Mae yna fywydau fydd byth yr un fath eto, teuluoedd sy'n galaru, pobl sy'n wynebu heriau iechyd hirdymor. Mae'r newid wedi cyffwrdd ar bopeth, wrth gwrs—y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu delifro a sut mae'r Llywodraeth yn gweithio, hyd yn oed. Wrth gwrs, mae'r impact economaidd yn enfawr, a llawer o'r impact yn gwbl negyddol—cwmnïau yn mynd i'r wal, unigolion yn colli swyddi, teuluoedd yn colli incwm. Ond rhywsut, allan o hyn, mae'n rhaid i ni chwilio am yr elfennau a allai dyfu yn bositif allan o'r hafn ddofn yma rydyn ni wedi canfod ein hunain ynddi hi. Rydyn ni'n gwybod beth ydy rhai ohonyn nhw; rydyn ni wedi clywed rhai y prynhawn yma: chwyldro mewn gweithio o gartref, meddygon yn cynnal surgeries o bell, a sylweddoli bod dim angen neidio i'r car gymaint, a'r chwilfrydedd mae hynny wedi'i greu mewn bod yn fwy gwyrdd. Ond mae yna gyfle yma i edrych yn wirioneddol ar ein holl ddyfodol economaidd, a dwi ddim jest yn sôn am ailadeiladu, ailgreu beth oedd gennym ni; dwi'n sôn am ddod yn ôl yn gryfach. A beth sydd gan Blaid Cymru heddiw ydy cynnig am gynllun i ddechrau'r gwaith hwnnw. 

Mae dau gymal cyntaf y cynnig yn sôn am gamau ymarferol i helpu rhai o'r rheini sydd wedi cael eu taro'n galetaf, yn cynnwys pobl ifanc—mae Helen Mary Jones wedi sôn am y rheini. Mae'r trydydd cymal, ac fe glywn ni Delyth Jewell yn sôn amdano fe, yn gyfeiriad at ein cred ni y byddai sefydlu cynulliad dinasyddion yn galluogi pobl Cymru i gyfrannu go iawn at y gwaith yma sydd o'n blaenau ni. 

Dwi am ganolbwyntio ar y cymal olaf a'r galw yma am sefydlu cronfa adnewyddu Cymru-gyfan, gwerth biliynau o bunnau. Mae Helen wedi sôn am y gwahanol elfennau o'r hyn y buasem ni eisiau ei wneud efo fo, ond cofiwch mai dim ond dechrau'r buddsoddiad hirdymor sydd ei angen ydy hyn, a bydd y rhai mwy sylwgar yn eich plith chi yn gwybod bod Plaid Cymru wedi galw yn gyson ers blynyddoedd am fuddsoddi yn sylweddol rŵan yn nyfodol ein gwlad ni. Mi oedd polisïau llymder Llywodraeth Prydain yn gwneud yn gwbl groes i beth oedd ei angen. Buddsoddiad oedd ei angen; buddsoddiad sydd ei angen, yn fwy nag erioed rŵan, yn dilyn y pandemig yma—buddsoddi yn ein seilwaith ni, mewn cartrefi iach a gwyrdd, buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, cysylltedd digidol, mewn prosiectau ynni arloesol, mewn addysg uwch ac ymchwil, ac isadeiledd cymdeithasol hefyd. Rydym ni'n sôn am raglen i drawsnewid ein gwlad a fydd yn creu returnsreturns ariannol i dalu'r benthyciadau yma yn ôl, a returns hefyd mwy cymdeithasol y gallwn ni a'n plant ni, a'u plant nhwythau elwa ohonyn nhw. 

A dyma'r amser i wneud. Mae modd benthyg yn rhyfeddol o rad, mae modd edrych ar ddulliau amgen o gyllido prosiectau hefyd—bondiau ac ati. Ond mi fydd angen pwerau ffisgal newydd a hyblygrwydd newydd er mwyn galluogi hyn: codi'r cap benthyg presennol, er enghraifft, o'r £1 biliwn presennol i, buaswn i'n dweud, o gwmpas £5 biliwn i ganiatáu 'front loadi-o' hwnnw, er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o ddifrif. Dwi'n credu bod y Gweinidog Cyllid yn cytuno bod angen hyblygrwydd mewn ffyrdd eraill o ran y gallu i dynnu arian wrth gefn i lawr, ac, wrth gwrs, mae angen i fformiwla Barnett ddod i ben ac i gyllido digwydd ar sail angen. 

Mi wnaf i gwblhau fy sylwadau i drwy ddweud hyn: mae'n rhaid hefyd inni gael, fel y clywson ni gan Helen, drafodaeth aeddfed ynglŷn â sut dŷn ni'n talu am ein buddsoddiadau ac am y math o wasanaethau cyhoeddus dŷn ni eisiau. O ailedrych ar y flaenoriaethau—mae Mike Hedges wedi sôn am rai o'i rai fo—dwi'n hyderus iawn y gallwn ni, o fewn cyllidebau presennol, ad-dalu benthyciadau, fel dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, a hynny oherwydd bod cost benthyg yn isel ar hyn o bryd. Ond, dŷn ni wedi cofio rŵan, yn ystod y cyfnod yma, pa mor werthfawr ydy gwasanaethau fel iechyd a gofal. Ond, tra ein bod ni eisiau'r gwasanaethau gofal gorau posib, dyn ni, am yn rhy hir, wedi bod eisiau talu llai a llai amdanyn nhw, a does dim modd sgwario hynny am byth. 

Mewn cynhadledd rithiol tua dechrau'r pandemig yma—mae'n teimlo fel oes yn ôl—cynhadledd wedi ei threfnu gan y Sefydliad Materion Cymreig: 'Rethinking Wales' oedd y testun, a dyna yn union sydd angen ei wneud—ailfeddwl sut dŷn ni'n gwneud pethau, beth ydyn ni'n trio ei gyflawni ac, ie, sut dŷn ni'n talu amdanyn nhw. Dwi'n cael y teimlad bod lot ohonom ni, llawer ohonom ni yn y Senedd yma, gobeithio, sydd eisiau pwyso 'reboot', fel y mae papur newydd Plaid Cymru yn ei ddweud, neu 'reset', fel mae grŵp newydd amhleidiol dwi wedi ei weld yn cael ei lansio yr wythnos yma yn ei ddweud.

16:20

Gyda'r ychydig eiriau hyn.

Mae'r amser wedi dod i fod yn feiddgar ac i osod gorwelion newydd ar gyfer ein gwlad ni. 

Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog wedi gallu gwirio'r ffeithiau—

Na, na; mae'n ddrwg gennyf. A wnewch chi siarad ar y cynnig hwn, os gwelwch yn dda, neu fe alwaf ar siaradwr arall? Y cynnig hwn, os gwelwch yn dda.

Mae bron i un o bob pum swydd yng Nghymru mewn sectorau sydd wedi'u cau, yn ôl y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Pe bai un yn unig o'r pedwar gweithiwr hyn yn colli eu swyddi, gallai diweithdra fod yn uwch na'r lefelau a welwyd yn ystod y dirwasgiad diwethaf. Mae'r risg o fwy o ddiweithdra'n amlwg, gan fod Cymru wedi mynd o'r gyfradd ddiweithdra isaf erioed, sef 2.9, ym mis Tachwedd i weld nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â diweithdra bron yn dyblu ers mis Mawrth i 103,869 ym mis Ebrill. Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn gwerth £2.6 miliwn o hawliadau drwy'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig, ac mae'n helpu 8.9 miliwn o weithwyr ac 1.1 miliwn o gyflogwyr drwy'r cynllun cadw swyddi yn sgil y coronafeirws. Mae'r rhaglenni hyn gan y gwir anrhydeddus Rishi Sunak AS, Canghellor y Trysorlys, wedi gweld camau beiddgar, digynsail i helpu ein hetholwyr i oresgyn y cynnwrf economaidd a achosir gan COVID-19.

Mae'r cynllun cadw swyddi bellach yn cynnig cyfle gwych i ddod â gweithwyr ar ffyrlo a'r economi yn ôl i fusnes. Fodd bynnag, er mwyn i hyn lwyddo yng Nghymru, mae angen inni weld marwor economi Cymru'n ailgynnau. Ni all ein draig economaidd ruo eto heb i Lywodraeth Cymru weithredu. Mae'n bryd ailagor ein marchnad dai, ystyried ailagor siopau, bariau, bwytai a thafarndai nad ydynt yn hanfodol, a sicrhau nad yw Cymru ar gau i dwristiaid yr haf hwn. Conwy yw'r ardal uchaf yng Nghymru ac un o'r 20 ardal uchaf yn y DU lle mae'r ganran uchaf o swyddi mewn perygl. Yn wir, ar gyfartaledd, mae dros chwarter yr holl bobl a gyflogir mewn trefi arfordirol yng Nghymru mewn sector sydd wedi'u cau, megis llety, celf, hamdden a bwytai.  

Rwyf wrth fy modd ein bod yn argymell sefydlu cronfa adfer cymunedau yn sgil COVID i gefnogi trefi a chymunedau y mae eu heconomïau wedi'u taro galetaf gan y pandemig hwn. Wrth ystyried y warant gyflogaeth, darllenais gynllun newydd Cyngres yr Undebau Llafur ar gyfer swyddi. Mae'n wir y bydd yn cael ei gyflawni ar lefel ranbarthol neu leol, ond mae ynddo wendid mawr. Er mwyn profi y bydd yn gweithio, cyfeiriwyd at gronfa swyddi'r dyfodol. Ni fu honno'n llwyddiant. O'r ddwy flynedd ar ôl dechrau cymryd rhan, effaith net cronfa swyddi'r dyfodol ar y cyfranogwyr oedd torri wyth diwrnod yn unig oddi ar nifer y dyddiau a dreuliwyd yn cael cymorth lles, a chynnydd o lai na phythefnos yn nifer y dyddiau mewn gwaith heb gymhorthdal.  

Felly, nid cynnig Plaid Cymru yw'r ateb. Yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Athro Ewart Keep fod llwythi o bobl, erbyn diwedd mis Gorffennaf, yn gadael eu cyrsiau ysgol, coleg a phrifysgol ac y bydd llawer ohonynt yn methu dod o hyd i swyddi. Mae wedi nodi bod profiad gwaith yn gwbl hanfodol. Rwy'n cytuno ac yn credu y gallai pobl ifanc elwa o gynllun gwarantu prentisiaeth. Byddai'r argyfwng gwaith sydd ar y gorwel hefyd yn cael ei liniaru drwy sefydlu cynllun ailsgilio ac ailhyfforddi ar gyfer swyddi, a gynlluniwyd i gynorthwyo'r rhai y mae angen iddynt ddod o hyd i waith arall yn dilyn yr argyfwng hwn.  

Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar rai o'r cynigion a drafodwyd heddiw, mae gwir berygl y bydd ein draig economaidd Gymreig a dyfodol pobl ifanc yn cael eu niweidio cyn inni weld unrhyw adferiad economaidd. A diolch i Drysorlys y DU am y £2.1 miliwn y maent yn ei ddarparu ar gyfer cronfa sŵau drwy swm canlyniadol o dan fformiwla Barnett yma i Gymru, er gwaethaf yr hyn y mae'r Gweinidog, yn anfwriadol efallai, wedi'i ddweud yn ei ymateb. Diolch.  

16:25

Rwyf wedi blino aros,
Onid ydych chi,
I'r byd ddod yn dda
A hardd a charedig?

Gwelais y geiriau hynny gan Langston Hughes ar Twitter ychydig ddyddiau'n ôl. Roedd rhywun yn eu dyfynnu mewn anobaith ynglŷn â pha mor llwm yw ein byd, oherwydd rydym yn wynebu nifer o argyfyngau. Ar wahân i felltith hiliaeth, mae COVID-19 yn bygwth dyfodol ein pobl fwyaf bregus. Hyd yn hyn, mae effeithiau'r feirws wedi'u teimlo yn y boen o golli anwyliaid a cholli amser, oherwydd ein bod yn aros yn ein cartrefi, ond mae argyfwng arall ar y gorwel—trychineb economaidd sy'n ein hwynebu i gyd oni bai ein bod yn ymyrryd yn helaeth.  

Rydym yn clywed y gair 'digynsail' o hyd. Wel, bydd yr her economaidd yn ddigynsail, felly mae'n rhaid i raddfa ymyrraeth y Llywodraeth fod yn ddigynsail. Felly, rwy'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi dewis dileu ein cynnig heddiw, yn hytrach na mynd i' afael â'r awgrymiadau rydym wedi'u gwneud i helpu'r economi. Yn eu lle, maent wedi gosod rhestr dila o'r hyn y maent yn ei wneud eisoes. Ni fydd busnes fel arfer yn gwneud y tro.  

Mae Helen Mary Jones wedi nodi'n fedrus yr hyn a fyddai'n bosibl pe baem yn feiddgar: ehangu pwerau benthyca i £5 biliwn ac atal terfynau blynyddol ar arian a dynnir i lawr. Mae'r rhain yn gamau radical ac angenrheidiol os ydym am achub ein cymunedau rhag adfyd.

Fel yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, tynnaf sylw hefyd at yr adroddiad gan y Centre for Towns sy'n nodi tair tref yn fy rhanbarth sy'n wynebu'r perygl mwyaf—Merthyr, Glynebwy a Thredegar, yr un trefi ag a grybwyllais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ym mis Mawrth. Dywedais bryd hynny fod angen cymorth difrifol arnynt ar ôl brwydro yn eu blaenau, er gwaethaf esgeulustod a thanariannu hirdymor. Mae angen inni flaenoriaethu ardaloedd fel hyn ar gyfer ailfuddsoddi, a rhoi'r arfau i bobl ailadeiladu eu gyrfaoedd a'u cymunedau. Gadewch inni fod yn feiddgar, gadewch i ni siarad mwy ynglŷn â sut y gallwn droi ein geiriau'n weithredoedd.

Mae sôn wedi bod am fargen newydd werdd. Gadewch inni wireddu hynny yng Nghymru. Gadewch inni sefydlu cronfa ailsgilio Cymru, sy'n arbenigo mewn technoleg werdd i adeiladu diwydiant sy'n diogelu ar gyfer y dyfodol yn unol ag ymrwymiad y Senedd hon i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Roedd hi'n 30 gradd ddoe yn y cylch Arctig. Mae'r argyfwng hwnnw hefyd yn dyfnhau. Gadewch inni fuddsoddi mewn trafnidiaeth werdd a thai wedi'u datgarboneiddio, gan ddechrau gyda'r ardaloedd lle mae'r tlodi tanwydd mwyaf. Gadewch i ni ailfywiogi sylfeini'r economi drwy gysylltu cymunedau a thrwy wella seilwaith mewn trefi sydd wedi cael eu gadael ar ôl—symud swyddi'r Llywodraeth yno a chaniatáu i bobl weithio o'u cartrefi.

A gadewch i ni adeiladu'r economi newydd hon ar sylfeini tecach drwy roi blaenoriaeth i lesiant. Rhaid inni sicrhau cyflog teg i ofalwyr, mynd i'r afael ag anfanteision a wynebir gan bobl heb eu grymuso a gwarantu mynediad at gymorth iechyd meddwl i bawb sydd ei angen. Mae Chwarae Teg wedi dweud y dylem adeiladu economi ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar werthoedd bod yn fodau dynol gofalgar, a rhoi pobl a'r blaned wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae'r gerdd honno gan Langston Hughes a ddyfynnais wedi'i rhannu gan nifer mewn ymateb i'r hiliaeth a'r anghydraddoldebau strwythurol a gwreiddiedig yn ein cymdeithas. Bydd yn rhaid i beth bynnag a adeiladwn ar ôl y feirws ddileu'r plâu hynny hefyd.

Rydym wedi nodi rhai o syniadau Plaid Cymru, ond rydym am glywed barn dinasyddion Cymru, a dyna pam ein bod yn galw am sefydlu cynulliad dinasyddion, er mwyn gallu clywed lleisiau'r bobl sy'n aml yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso gan y system wleidyddol. Roeddwn yn synnu braidd fod Llywodraeth Cymru wedi dileu'r cyfeiriad at gynulliad dinasyddion yn eu gwelliant. Byddwn yn eu hannog ar frys i ailystyried y penderfyniad hwnnw. Gadewch inni roi mwy o lais i'r Cymry yn y dyfodol a rannwn. Mae cynulliadau dinasyddion wedi bod yn allweddol ledled y byd yn y broses o gyflwyno newid radical.

Rydym yn wynebu her ein hoes, ond mae gennym gyfle yma hefyd i adeiladu byd sy'n dda ac yn hardd a charedig. Os ydym am lwyddo, ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau gwrando. Dechreuwch heddiw drwy roi ystyriaeth ddifrifol i'r syniadau a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau a minnau, a byddwch yn feiddgar: sefydlwch gynulliad dinasyddion fel y gall Cymru symud ymlaen gyda'n gilydd fel cenedl barod. Rwyf wedi blino cymaint ar aros. Onid ydych chi? Gadewch inni adeiladu'r byd gwell hwnnw.

16:30

Er y gallwn gytuno â llawer o'r mentrau y soniodd Helen Mary amdanynt yn ei chyflwyniad i'r ddadl, credwn fod gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau cynllun gwarantu swyddi i'r bobl ifanc sy'n dioddef diweithdra o ganlyniad i argyfwng coronafeirws yn gysyniad byrbwyll. Yn gyntaf, gallai fod iddo oblygiadau ariannol sylweddol, sydd bron yn sicr o fod yn anymarferol o ystyried adnoddau'r Llywodraeth sydd eisoes yn brin oherwydd eu rhaglenni ymyrraeth niferus mewn perthynas â'r coronafeirws. Yn ail, mae'n codi'r cwestiwn: pam mai dim ond yr ifanc ddylai gael eu cynnwys yn y cynnig hwn? Mae miloedd lawer o bobl nad ystyrir eu bod yn ifanc yn yr ystyr hon, ond sydd â theuluoedd i'w cynnal yn ogystal â morgeisi a galwadau ariannol eraill, galwadau nad ydynt yn berthnasol fel y cyfryw i lawer o'n pobl ifanc. Rydym yn cytuno—yn wir, byddem yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynifer o gynlluniau ailhyfforddi â phosibl, ond dylai'r rhain fod yn agored i bawb sy'n colli swyddi oherwydd yr argyfwng hwn, nid pobl ifanc yn unig.

Ni allwn gefnogi'r alwad chwaith am gynulliad dinasyddion i sefydlu sut y dylem adeiladu'r economi ar ôl y coronafeirws. Ni, fel seneddwyr, a ddylai benderfynu sut i symud ymlaen. Ni yw cynrychiolwyr etholedig y bobl. Maent yn ymddiried ynom i roi'r strategaethau a'r polisïau ar waith i fywiogi'r economi, nid yn unig ar ôl argyfyngau o'r fath ond ar bob adeg tra byddwn yn arfer y pŵer, boed hynny'n uniongyrchol, os mai ni yw Llywodraeth y dydd, neu drwy graffu a dylanwadu fel gwrthblaid. Bydd sefydlu cynulliad dinasyddion, wrth gwrs, yn ymarfer drud, ac ni ellir cyfiawnhau gwariant o'r fath yn ystod y cyfnod hwn o bwysau ariannol eithafol.

Mae'r cynnig olaf yn y ddadl hon yn edrych fel rhan o restr ddymuniadau Gymreig sy'n anghyraeddadwy. O ble y daw'r biliynau—codi trethi, benthyca, neu fel yr awgrymodd Helen Mary, drwy fondiau'r Llywodraeth? Rydym i gyd yn cydnabod y bydd pobl ifanc y wlad hon yn wynebu codiadau treth am flynyddoedd, efallai degawdau, i ddod o ganlyniad i strategaeth cyfyngiadau symud y coronafeirws. Felly, er gwaethaf y sicrwydd a amlinellwyd gan Delyth Jewell a Rhun ap Iorwerth, ni allwn eu llethu â mwy fyth o ddyled er mwyn ailadeiladu'r economi. Rwy'n cytuno â galwad Rhun i wthio'r botwm ailgychwyn, ond yn anffodus, yn llawer rhy aml, nid yw'r biliynau a wariwyd gan y Llywodraeth wedi arwain at lawer o werth am arian. Rhaid i'r economi gael ei hadeiladu drwy waith caled o'r gwaelod i fyny, nid drwy haelioni arian Llywodraeth.

16:35

Mae'r elfennau, wrth gwrs, yn y cynnig yma yn rhoi rhai o'r sylfeini i ni ar gyfer beth sydd, yn ei hanfod, yn weithredu bargen werdd newydd i Gymru. Rŷn ni wedi clywed yr enghraifft yn gyson yn ystod y ddadl hyd yma ynglŷn â retroffitio tai, ac, wrth gwrs, mae'n enghraifft berffaith, onid yw hi, o'r llinell waelod driphlyg yna—y tripple bottom line yna—sydd angen inni ffocysu arni wrth inni adfer ein bywydau yn y cyfnod ôl-COVID-19? Mae'n rhoi manteision ac enillion a buddiannau amgylcheddol inni wrth leihau ôl troed carbon ein cartrefi ni ar draws Cymru, mae'n dod â buddion economaidd hefyd, wrth gwrs, drwy greu swyddi newydd a busnesau newydd ymhob rhan o'r wlad, a buddion cymdeithasol hefyd, sy'n helpu i daclo tlodi tanwydd, gwella iechyd pobl na fydd bellach, wrth gwrs, yn byw mewn tai tamp ac oer, a gobeithio hefyd yn achub bywydau wrth leihau marwolaethau ychwanegol y gaeaf—y winter excess deaths rŷn ni'n clywed amdanyn nhw bob gaeaf.

Nawr, mae'r term 'bargen newydd werdd', wrth gwrs, yn deillio o Fargen Newydd Roosevelt yn America y 1930au. A phan oedd y Dirwasgiad Mawr ar ei waethaf, roedd tri nod i'w fargen newydd: darparu rhyddhad i'r tlodion, darparu adferiad economaidd, ac wrth gwrs, diwygio systemau ariannol fel na fyddai dirwasgiad economaidd yn digwydd eto. Felly, rhyddhad, adferiad, diwygiad. Ac yn sgil hynny buddsoddodd y Gyngres wedyn mewn rhaglenni a roddodd waith i'r di-waith, a gwaith a oedd yn cyflawni diben yn y gymdeithas, megis adeiladu ffyrdd, adeiladu ysgolion, ysbytai ac ati. Ac mae'r syniadau sylfaenol hyn yr un mor ddilys heddiw. Ond yn gyntaf, mae'n rhaid inni ymwrthod â'r ysfa i dorri gwariant—ni all hyn fod yn ddechrau ar ail gyni ariannol, oherwydd gwyddom yn union beth y mae hynny'n ei olygu, a beth yw'r pris y mae'n rhaid i bobl ei dalu am ddull o'r fath o fynd ati. Mae'n rhaid i'r fargen newydd werdd arwain at fuddsoddi, a buddsoddi'n benodol, wrth gwrs, mewn prosiectau sy'n helpu i fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd a natur.

A hoffwn dynnu sylw pobl at astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Rhydychen a oedd yn cymharu prosiectau ysgogi gwyrdd â chynlluniau ysgogi traddodiadol, megis rhai o'r camau a gymerwyd ar ôl argyfwng ariannol byd-eang 2008. Canfu'r ymchwil honno fod prosiectau gwyrdd mewn gwirionedd yn creu mwy o swyddi, eu bod yn darparu enillion tymor byr uwch am bob punt a werir gan y Llywodraeth, a'u bod yn arwain at arbedion cost cynyddol yn y tymor hir. Ac wrth gwrs, nid oes rhaid i ddim o hyn aros. Mae gennym gynlluniau parod allan yno yn awr yng Nghymru, boed yn rhaglenni effeithlonrwydd ynni a grybwyllwyd gennym eisoes, prosiectau ynni adnewyddadwy—mae morlyn llanw bae Abertawe yn enghraifft amlwg, gyda phrosiectau dilynol posibl o amgylch rhannau eraill o arfordir Cymru yn ogystal—gan sefydlu, o'r diwedd, y rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan sydd eu hangen arnom ledled Cymru, ailgynllunio ffyrdd ar gyfer mwy o deithio llesol, amddiffyn rhag llifogydd, plannu coed. Mae Cymru'n barod ar gyfer y math hwnnw o fuddsoddiad.

Nawr, hoffwn ddweud ychydig eiriau yn ogystal am y sector bwyd a diod yng Nghymru, nid wisgi'n unig, gyda llaw, ond y sector cyfan yma. Oherwydd rwy'n credu mai nawr yw'r amser i ni ailfeddwl, ailosod ac ailadeiladu ein system cyflenwi bwyd yng Nghymru, o'r gwaelod i fyny. Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi caniatáu i'n diwydiant manwerthu bwyd ddod yn fwy canoledig, i bwynt lle rydym yn gweld pedwar cwmni'n unig bellach yn rheoli 70 y cant o farchnad fanwerthu bwyd y DU. Ac mae canoli pŵer ymysg ychydig o fanwerthwyr bwyd mawr yn y fath fodd wedi rhoi pŵer digynsail iddynt i bennu prisiau is i ffermwyr, a gwanhau iechyd ariannol amaethyddiaeth ddomestig a'r economi wledig ehangach yn barhaus. Ac o ganlyniad i hyn, mae diogelwch ein cyflenwad bwyd wedi gwaethygu mewn gwirionedd, gyda'r DU bellach yn mewnforio bron i 40 y cant o'r holl fwyd a ddefnyddiwn. Ac mae'r model hwnnw'n wallus. Ac roedd eisoes ar drywydd peryglus, hyd yn oed cyn COVID-19. Ac nid wyf wedi sôn am Brexit hyd yn oed, sy'n rhoi rheswm arall pam fod rhaid gyrru'r gwaith o ail-lunio ein system fwyd a chreu mwy o gydnerthedd yn wyneb ansicrwydd pellach.

Felly, mae angen inni ganolbwyntio o'r newydd ar ddatblygu galluoedd prosesu i ychwanegu gwerth at gynnyrch crai. Rydym wedi gweld colli lladd-dai a ffatrïoedd prosesu llaeth, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n golygu, wrth gwrs, fod cannoedd o swyddi wedi'u colli, fod miloedd o filltiroedd bwyd wedi'u hychwanegu, a bod cynhyrchwyr bwyd sylfaenol wedi dod yn fwy agored byth i effaith marchnadoedd byd-eang.

Felly, mae angen inni symud oddi wrth system 'mewn union bryd' at system 'rhag ofn', a thrwy gefnogi datblygiad galluoedd prosesu lleol, mae angen inni ddechrau datganoli cynhyrchiant bwyd. Mae angen inni ei wneud yn decach, mae angen inni ei wneud yn fwy cynaliadwy, ac wedi hynny, wrth gwrs, helpu i adeiladu economi leol gryfach. Ond mae angen i'r Llywodraeth wneud iddo ddigwydd, ac os dysgwn un wers o'r pandemig hwn, rhaid inni weld y gall Llywodraethau gael effaith drawsnewidiol mewn gwirionedd, ond dim ond pan fyddant yn ewyllysio hynny. Ac nid yw'r trawsnewid hwnnw, wrth gwrs, yn ymwneud â thwf economaidd yn unig, mae'n ymwneud â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae'n ymwneud â chydraddoldeb, diogelu bywoliaeth pobl, rhoi diwedd ar fanciau bwyd, atal hunanladdiad, bod yn gyfrifol yn fyd-eang—mae'n ymwneud â hynny i gyd—a dyma'r foment i'w wneud.

16:40

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates?

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, ac rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle hwn i ymateb iddynt. Ers cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer y modd y bwriadwn ddychwelyd i'r drefn arferol, neu mor normal â phosibl, yma yng Nghymru, ar 15 Mai, rydym wedi bod yn cynllunio'r camau nesaf, ac mae'n bwysig ein bod yn paratoi ar gyfer y dyfodol sydd o'n blaenau. Rwy'n credu bod pob Aelod yn y Siambr rithwir heddiw yn gytûn ar hyn.

Rydym bob amser wedi bod yn glir fod yn rhaid i'n dull o lacio cyfyngiadau fod yn seiliedig ar wyddoniaeth a hefyd, fod yn rhaid i ddiogelwch gweithwyr fod ar flaen y penderfyniadau a wnawn. Rwyf wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â chyngor partneriaeth gymdeithasol y gwrthbleidiau, a byddaf yn parhau i wneud hynny, er mwyn trafod y materion rydym yn eu rhannu a'r mesurau y gallwn eu cyflwyno er mwyn parhau â'n hymateb i'r ffordd rydym yn ymdrin â COVID-19. A fy ngorchwyl i, wrth gwrs, yw sicrhau, pan fydd yr amser yn iawn, fod ein busnesau, ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n system sgiliau yn barod, nid yn unig i addasu a phontio ar gyfer bywyd wedi'r coronafeirws, ond yn hollbwysig, ein bod yn barod ac yn abl ac yn awyddus i adeiladu nôl yn well er mwyn y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.

Nawr, fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro, rydym wedi rhoi'r pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU ar waith i fusnesau yng Nghymru—gwerth £1.7 biliwn o gymorth i gyd. Ond nid oes modd osgoi dirwasgiad, ac felly mae'n rhaid sicrhau cymorth digynsail i bobl yr effeithir arnynt yn y tymor hwy yn sgil y coronafeirws.

Ar hyn o bryd, gwyddom fod tua thraean o'r gweithlu yn ddi-waith neu ar ffyrlo yma yng Nghymru, gyda mwy o swyddi mewn perygl, yn dibynnu, wrth gwrs, ar y math o siâp fydd i'r adferiad yn y pen draw. Ac fel mewn dirwasgiadau blaenorol, fel y nododd Helen Mary Jones ar y dechrau, y bobl fwyaf agored i niwed yn y farchnad lafur fydd yn cael eu taro galetaf, a phobl ifanc yw un o'r grwpiau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n anghymesur.  

Nawr, mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, ac felly ein gweledigaeth yw cefnogi dychweliad y gweithlu presennol, ailgychwyn taith gwaith yr unigolyn ac ailsgilio unigolion i ddychwelyd i sectorau newydd, tra'n paratoi gweithlu'r dyfodol. Byddwn yn blaenoriaethu cymorth i bobl ifanc er mwyn lleihau'r cynnydd mewn diweithdra ymysg ieuenctid ac i ddiogelu pobl ifanc rhag yr effeithiau niweidiol hirdymor y gall cyfnod hir o ddiweithdra eu cael.

Drwy Twf Swyddi Cymru, rwy'n credu ein bod wedi dangos yn deg ac yn ddigonol ac yn falch iawn ein parodrwydd a'n gallu i helpu pobl ifanc i osgoi diweithdra hirdymor. Mewn rhai rhannau o Loegr, rhwng 2010 a 2015, gwelsom ddiweithdra hirdymor ymysg pobl ifanc yn cynyddu filoedd y cant, ond yma yng Nghymru, oherwydd Twf Swyddi Cymru, mewn rhai rhannau o'n gwlad, gwelsom gwymp dros y cyfnod hwnnw mewn diweithdra hirdymor ymysg pobl ifanc. Felly, byddwn yn defnyddio'r cynllun hwnnw a chynlluniau eraill i gefnogi'r genhedlaeth hon o bobl ifanc.

Byddwn hefyd yn defnyddio ein hymyriadau ail-gyflogi yn awr. Byddwn yn defnyddio ReAct, Cymorth Gwaith Cymru a'r rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd i helpu pobl yn ôl i waith yn gyflym, tra bydd ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol yn darparu cymorth dwys i'r rhai sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur.  

Byddwn hefyd yn tyfu ac yn cefnogi swyddi ar gyfer y dyfodol drwy uwchsgilio ac ailsgilio i gynorthwyo cyflogwyr i addasu a thrawsnewid eu sylfaen sgiliau er mwyn cynnal a thyfu cyflogaeth. Ac un flwyddyn yn unig ers ei lansio'n swyddogol, mae Cymru'n Gweithio wedi cynorthwyo mwy na 31,500 o bobl yn uniongyrchol, a thros 6,000 o bobl ifanc a oedd yn chwilio am gymorth cyflogadwyedd. Mae'r gwasanaeth hwnnw, wrth gwrs, wedi newid o ganlyniad i'r coronafeirws, ond nid dyna'r unig newid rydym yn ei wneud.  

Ar 20 Mai, amlinellodd y Gweinidog Addysg gynllun gwytnwch i'r sector ôl-16 er mwyn rhoi fframwaith clir i ddarparwyr addysg ar gyfer cynllunio a chyflawni ein hymateb cyflogadwyedd a sgiliau. Ar gyfer prentisiaid, rydym wedi datblygu modiwlau dysgu ar-lein i sicrhau eu bod yn gallu parhau i symud ymlaen drwy eu dysgu. Ac ar gyfer ein dysgwyr hyfforddeiaeth, rydym wedi datblygu pecynnau dysgu digidol ac wedi cynnal eu lwfansau hyfforddi.

Mae ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol yn addasu hefyd wrth gwrs. O ran eu cyflawniad, maent yn newid er mwyn darparu allgymorth i'n cymunedau mwyaf bregus, gan gefnogi'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, yn cynnwys pobl anabl, pobl heb lawer o sgiliau, ac unigolion o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. A hyd yn hyn, maent wedi cefnogi 47,600 o bobl; mae 17,900 o'r rheini wedi cael gwaith cyflogedig. Ac i'r rhai sydd mewn gwaith, mae Cronfa Ddysgu'r Undebau, gyda chymorth Cyngres Undebau Llafur Cymru, yn darparu—[Anghlywadwy.]—a chymorth uniongyrchol i weithwyr yn ystod ac ar ôl yr argyfwng coronafeirws.

Rwyf am sôn am rai pwyntiau penodol a wnaethpwyd gan Aelodau: yn gyntaf oll, y cwestiwn o rôl i gynulliad dinasyddion. Nawr, yma yng Nghymru, mae gennym fodelau unigryw iawn o bartneriaeth gymdeithasol ac mae'n rhaid inni ddiogelu'r cyfraniad y mae ein partneriaid cymdeithasol yn ei wneud yn helpu i lywio a llunio polisi. Ni ddylem danseilio ein model partneriaeth gymdeithasol yn anfwriadol. Mae gennym gomisiynwyr hefyd. A thrwy'r gwaith y mae Jeremy Miles yn ei arwain, rydym yn galw am syniadau, arloesedd a chreadigrwydd gan bawb—pawb—o'n dinasyddion a'n sefydliadau. Ac felly, er nad ydym yn diystyru'r rôl bosibl i gynulliad dinasyddion, ni ddylai danseilio na dyblygu'r model cymdeithasol o bartneriaeth rydym wedi gallu ei ddatblygu yma yng Nghymru.  

O ran y sector tafarndai, rwy'n cytuno'n llwyr fod tafarnau yn gwbl greiddiol i lawer o'n cymunedau. Ac rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn cefnogi tafarnau annibynnol, bragdai annibynnol a'r sefydliadau sy'n dod â phobl at ei gilydd. Rydym yr un mor benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn cefnogi'r sector bwyd a diod; mae nifer o'r Aelodau wedi nodi hynny. Bu twf aruthrol mewn allforion yn ddiweddar o fewn busnesau bwyd a diod Cymru, ac rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr fod y llwyddiant hwnnw'n parhau, oherwydd mae llawer o'r busnesau hynny ymhlith ein brandiau mawr eu bri ac yn chwifio baner Cymru.  

Nawr, nododd Mike Hedges yn gywir y rôl y bydd seilwaith cymdeithasol yn ei chwarae yn y gwaith adfer a nododd, yn enwedig theatrau. Nawr, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r adferiad i uno pobl, i wella cydlyniant cymdeithasol, ac felly ar ddechrau cyfnod y coronafeirws roeddem wedi ymrwymo i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i ganolfannau iechyd newydd, i wella sefydliadau diwylliannol, megis adnewyddu Theatr Clwyd ac eraill, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i'n rhaglen hynod uchelgeisiol o adfer, adnewyddu a chreu seilwaith cymdeithasol newydd.  

Hoffwn gyffwrdd â phwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders ynglŷn â'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth i'r hunangyflogedig. Rwy'n croesawu—gadewch i mi fod yn gwbl glir; rwy'n croesawu—y ddau gynllun. Maent wedi bod yn hanfodol bwysig wrth gefnogi pobl a busnesau yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Ond ni ellir eu tynnu'n ôl yn gynamserol. Ni allwn ganiatáu i bobl a busnesau wynebu ymyl clogwyn o ran y cymorth a gynigir drwy'r cynlluniau hyn.  

Mewn ymateb i David Rowlands, bydd cymorth ar gael i bobl o bob oed, nid yn unig i bobl ifanc, ond i bobl o bob oed. Ac yn benodol y tro hwn—ac nid oedd ar gael yn ôl yn y cyfnod ar ôl 2008—mae gennym Cymru'n Gweithio, un pwynt cyswllt a fydd yn cynnig cymorth pwrpasol wedi'i deilwra ar gyfer pob unigolyn yr effeithir arnynt gan ddiweithdra neu gan y bygythiad o ddiweithdra. 

Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym yn awyddus i wneud mwy nag ymadfer o'r pandemig hwn; rydym am adeiladu nôl yn well drwy greu economi genedlaethol sy'n gweld cyflogaeth, cyfoeth a ffyniant yn lledaenu'n fwy cyfartal, yn decach, ledled Cymru, ac ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein partneriaid cymdeithasol yn y gwaith a wnawn. Mae egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol yn llywio penderfyniadau'r Llywodraeth hon. Bydd COVID-19 yn ailffurfio'r economi yn sylfaenol, ac felly mae'n golygu nad oes modd mynd yn ôl—ac ni ddylem fynd yn ôl. Mae camgymeriadau polisi y gorffennol—cyni a phreifateiddio yn anad dim—a orfodwyd ar Gymru yn y blynyddoedd cyn datganoli, ac ers hynny yn wir, wedi ein gadael yn fwy agored i ergydion fel coronafeirws.

Tra'n bod yn sicrhau ein bod yn cefnogi busnesau ac incwm aelwydydd yn ystod yr argyfwng hwn, bwriadwn fachu ar y foment hon fel ffenestr unigryw o gyfle i ailadeiladu ein cymdeithas a'n heconomi fel y dymunwn eu gweld. Felly, wrth adeiladu nôl yn well, ein nod yn y tymor hir yw economi wydn sydd â lles pobl a'r amgylchedd yn ganolog iddi.

Rwy'n croesawu'n fawr y syniadau sydd wedi'u cynnig heddiw. Dim ond dechrau yw hyn, gobeithio, ar ddeialog adeiladol ar draws y pleidiau a chyda llu o gyrff, sefydliadau a dinasyddion ledled Cymru.

16:50

Diolch. Ni chafwyd unrhyw geisiadau am ymyriadau, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl. Helen Mary Jones.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Yn yr ychydig funudau sydd ar gael i mi gloi'r ddadl hon, ni allaf ymateb iddynt i gyd, ond rwyf am ymateb i rai pwyntiau.

I'r Aelodau Ceidwadol yma, rwyf am ddweud hyn wrthych: y peth mwyaf defnyddiol y gallwch ei wneud i'ch etholwyr yn awr yw mynd at eich Llywodraeth yn San Steffan a dadlau dros y Senedd hon—ein Llywodraeth—er mwyn iddi allu benthyg arian fel unrhyw sefydliad cenedlaethol synhwyrol arall ar yr adeg hon, er mwyn inni allu ailadeiladu. Nid oes a wnelo hyn â llethu cenedlaethau'r dyfodol â dyledion; mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn ailadeiladu ein heconomi yn y fath fodd fel bod yr economi honno'n cynhyrchu digon o gyfoeth er mwyn inni allu talu'r dyledion sydd gennym, a dyna'n union y mae pob gwlad normal yn ei wneud.

Cefais fy nghyffwrdd braidd gan yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am y ddraig yn rhuo, ac rwyf wedi cyrraedd y pwynt lle nad wyf eisiau i'r ddraig ruo cymaint—rwyf am i'r ddraig lapio o amgylch ei hwyau, a meithrin ei nythaid, gan ddatblygu a chadw cenedlaethau'r dyfodol yn ddiogel, a dyna, wrth gwrs, yw'r hyn y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu ein bod ni yn ei wneud.

Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd y Gweinidog. Byddai'n anodd iawn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd y Gweinidog. Ond yr hyn nad wyf yn ei synhwyro yw'r ymdeimlad o frys, ac mae hynny'n fy mhoeni. Ond fe gymeraf yr hyn a ddywedodd fel y cafodd ei ddweud, a byddwn yn cyfrannu ein syniadau. Bydd angen adnoddau ar gyfer hyn. Bydd angen pwerau benthyca arnom, a bydd angen inni edrych eto ar y fformiwla ariannu, oherwydd nid yw'n gweithio.

Hoffwn ymateb ychydig hefyd, os caf, Ddirprwy Lywydd, i rai o'r pwyntiau am gynulliad dinasyddion. Nawr, dywedodd Mike Hedges yn ei gyfraniad, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn ddilys iawn, nad oeddem eisiau siop siarad arall—nid dyna'r geiriau a ddywedodd yn hollol, ond siop siarad arall er mwyn i'r bobl sydd bob amser yn cymryd rhan allu siarad. Ac yna aeth y Gweinidog yn ei flaen i ddweud bod yn rhaid inni beidio â thanseilio partneriaethau cymdeithasol. Wel, mae'r bobl sydd yn y partneriaethau cymdeithasol, yn y cyfarfodydd hynny, yn gallu mynegi eu pryderon eisoes, a phwynt cynulliad dinasyddion yw ychwanegu at hynny. Ceir modelau, ceir modelau effeithiol—mae gan Extinction Rebellion Cymru un, er enghraifft, glasbrint—sy'n seiliedig ar enghreifftiau rhyngwladol a fydd yn sicrhau nad y lleisiau arferol yn unig, nad y bobl sy'n gallu lleisio'u barn eisoes yn unig fydd yn cymryd rhan. Ac mae'r Aelodau hefyd wedi dweud mai mater i ni fel Senedd ac i'n Llywodraeth yw hwn. Wel, wrth gwrs, ond nid wyf yn meddwl bod yr un ohonom yma yn yr ystafell yn meddwl bod gan unrhyw un ohonom yr atebion i gyd. Nid yw hynny'n bosibl, gan na wyddom yn iawn eto beth yw'r cwestiynau hyd yn oed.

Ddirprwy Lywydd, yr hyn rydym yn ei gynnig heddiw yw rhai mesurau brys i ddechrau cael pethau i symud eto. Mae angen inni sicrhau bod ein pobl ifanc yn gweithio. 'Pam pobl ifanc?' meddai pobl—wel, am mai hwy sydd fwyaf tebygol o gael eu gwneud yn ddi-waith ar adegau fel hyn, ac os nad ydym yn eu helpu yn ôl i'r gwaith, mae yna effaith ar eu rhagolygon ar hyd eu hoes os ydynt allan o waith am fwy na chwe mis.

Mae angen inni ailsgilio'r economi, mae arnom angen buddsoddiad priodol i wneud hynny, ac mae arnom angen ffyrdd newydd ac arloesol o ymgynghori â'n cyd-ddinasyddion ynglŷn â'r ffordd orau o wneud hynny. Fel y dywedodd y Gweinidog, Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr mai dim ond dechrau sgwrs yw hyn, ond rwy'n credu bod ar bobl Cymru angen mwy na sgwrs gennym; rwy'n credu bod angen gweithredu. Maent angen i ni weithio nawr. Mae angen cymryd y camau cyntaf wrth inni edrych i weld beth ddylai'r camau fod yn y tymor hir. Felly, gyda'r ychydig eiriau hynny, sef y cyfan y mae'r amser yn gadael i mi ei wneud, a chan ddiolch eto i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu—cafwyd llawer o gyfraniadau gwerthfawr a diddorol heddiw—rwyf am ddweud fy mod yn cymeradwyo'r cynnig hwn, gyda gwelliant 3, i'r Senedd. Nid yw'n ddigon i'r Llywodraeth restru'r hyn y mae eisoes yn ei wneud. Rydym angen mwy. Mae pobl Cymru'n disgwyl mwy. Diolch yn fawr.

16:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad. Diolch. Dwi'n gweld ac yn clywed y gwrthwynebiad, felly fe ohiriwn ni'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fel y nodir ar agenda'r Aelodau, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un aelod o'r grŵp i fod â'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp wleidyddol sydd â rôl Weithredol, bydd gan yr enwebai yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw, ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain. Byddaf yn cynnal y pleidleisiau drwy alw cofrestr.

Y bleidlais gyntaf, felly, yw ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, David Rees, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?

Ar ran plaid y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'r 11 pleidlais?

Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'r naw pleidlais?

Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'r pedair pleidlais?

Y canlyniad, felly, yw bod 13 o blaid, un yn ymatal, a 43 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7329 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

David Rees ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Ymatal

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid 

Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid

Gwrthodwyd y cynnig.

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar yr economi a COVID-19. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Siân Gwenllian. Ac ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, David Rees, sut ydych chi'n bwrw'r 30 o bleidleisiau?

A ran plaid y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'r 11 pleidlais? 

Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'r naw pleidlais?

Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw pedair pleidlais? 

Y canlyniad, felly, i'r bleidlais yw bod 10 Aelod o blaid, neb yn ymatal, 47 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi'i wrthod. 

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7331 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

David Rees ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid

Gwrthodwyd y cynnig.

Rydym ni'n symud nawr, felly, i'r gwelliannau. Ar welliant 1, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, David Rees, sut ydych chi'n bwrw'r 30 o bleidleisiau?

Plaid y Ceidwadwyr Cymreig—Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'r 11 pleidlais? 

Plaid Cymru—Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'r naw pleidlais?

Plaid Brexit—Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'r pedair pleidlais?

Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 30 o blaid, pedwar yn ymatal, 23 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i dderbyn, sydd yn golygu bod gwelliannau 2, 3, 4 a 5 wedi eu gwaredu.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 1 i NDM7331 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

David Rees ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn 

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy – Annibynnol: Yn erbyn 

Derbyniwyd y gwelliant.

Cafodd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Sydd yn gadael gwelliant 6, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Pleidlais, felly, y grŵp Llafur a'r Llywodraeth—David Rees, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?

17:00

Ocê. Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'r 11 pleidlais? 

Canlyniad y bleidlais yw bod—. Ymddiheuriadau; mae'n cymryd tipyn bach o amser i'r canlyniadau gyrraedd Aberaeron. [Chwerthin.] Canlyniad y bleidlais yw bod dwy bleidlais o blaid, 24 yn ymatal, a 31 yn erbyn. Ac felly, dyw'r gwelliant ddim yn cael ei gymeradwyo.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 6 i NDM7331 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

David Rees ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Ymatal (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Ymatal (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid

Gwrthodwyd y gwelliant.

Cynnig NDM7331 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd.

2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol.

3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer.

4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y Coronafeirws.

5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y dyfodol.

6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron £2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a theg.

A dwi'n galw ar y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, David Rees, i fwrw 30 o bleidleisiau.

Diolch. Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 30 o blaid, fod pedwar yn ymatal a 23 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7331 wedi'i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

David Rees ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy - Annibynnol: Yn erbyn

Derbyniwyd y cynnig.

A daw hynny, felly, â'n trafodaethau a'n pleidleisiau am y diwrnod i ben. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:02.