Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

20/05/2020

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:32 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i Gyfarfod Llawn o'r Senedd. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy cynhadledd fideo yn unol â Reolau Sefydlog Senedd Cymru ac yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw a mae'r rhain wedi eu nodi ar yr agenda sydd wedi ei gyfleu eisoes i'r Aelodau. 

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad hynny.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae sawl newid i'r agenda heddiw. Mae datganiadau gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a minnau wedi cael eu torri’n fyr. Mae’r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cael ei dynnu’n ôl, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd cynnig yn cael ei gyflwyno i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi’r Senedd i drafod llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi—dal i drafod.

Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi’i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, a gellir dod o hyd iddo ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)
Y Llywydd / The Presiding Officer 13:33:29

Diolch i'r Prif Weinidog. Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar coronafeirws—Prif Weinidog.

Diolch, Llywydd. Wrth ymateb i'r argyfwng coronafeirws, bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn gyflymach ac yn ehangach nag erioed o’r blaen. Gan taw dyma’r sesiwn olaf o’r Senedd cyn y Sulgwyn, byddaf yn cynnig crynodeb o’r hyn rydym wedi ei wneud, ar draws pob adran o’r Llywodraeth.

Rydym wedi gweithredu er mwyn arafu lledaeniad y feirws, cefnogi’r gwasanaethau cyhoeddus, a helpu unigolion a busnesau sy’n wynebu amgylchiadau anodd iawn. Yn yr amser sydd gennym, dim ond crynodeb fydd yn bosibl, ond wrth edrych yn ôl, mae’n drawiadol cymaint sydd wedi digwydd mewn cyfnod o ddau fis yn unig. Bydd rhaid i ni ddal ati i weithio yr un mor galed yn yr wythnosau nesaf, wrth baratoi am y camau nesaf.

Lywydd, rwyf am ddechrau gydag effaith y feirws ar ein cyllid. Mewn ychydig fisoedd ers i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 gael ei phasio yn y Senedd, mae'r gyllideb wedi cynyddu mwy na 10 y cant. Rydym wedi symud yn gyflym i ddyrannu'r cronfeydd hynny, ynghyd ag addasu cyllidebau presennol at ddibenion gwahanol ac ailalinio cyllid Ewropeaidd. Rydym wedi darparu £40 miliwn—mae’n ddrwg gennyf—. Rydym wedi ailalinio cyllid Ewropeaidd i ateb y dibenion brys sy'n ein hwynebu.

Yn y gyllideb atodol, a gaiff ei chyhoeddi yr wythnos nesaf, byddwn yn dyrannu mwy na £2.4 biliwn i gefnogi ein hymdrechion COVID-19. A bydd hynny'n cynnwys: bron i £0.5 biliwn ychwanegol i'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod ganddynt y cyllid y maent ei angen i ddiogelu iechyd pobl Cymru; £1.3 biliwn ychwanegol i'r gyllideb ar gyfer yr economi a thrafnidiaeth, gan ddarparu lefel hollol ddigynsail o gymorth i'r economi a phecyn o fesurau sy'n fwy sylweddol nag unman arall yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys y gronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn, sydd ei hun yn cynnwys £400 miliwn mewn refeniw a £100 miliwn mewn cyllid cyfalaf wedi'i addasu at ddibenion gwahanol. Gyda llai nag wyth wythnos ers ei lansio, mae'r gronfa eisoes wedi darparu gwerth mwy na £87 miliwn o fenthyciadau o’r banc datblygu i fwy na 1,300 o fusnesau a grantiau gwerth mwy na £100 miliwn i fwy na 6,000 o fusnesau.

Mae'r gyllideb hefyd wedi darparu £0.5 biliwn ychwanegol i'r gyllideb tai a llywodraeth leol, gydag awdurdodau lleol yn cyflwyno elfennau allweddol o’r ymateb i COVID-19, megis parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim, mwy o gefnogaeth i gartrefi gofal a recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr. Lywydd, mae'r cyllid hwn hefyd yn cynnwys ein cefnogaeth i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden, ar ffurf rhyddhad ardrethi busnes, a'r grantiau £10,000 a £25,000 sy'n dilyn. Diolch i ymdrechion enfawr ein hawdurdodau lleol, mae bron i 51,000 o grantiau eisoes wedi'u talu, ar gost o £621 miliwn, ac mae'r cymorth hwn yn achubiaeth hanfodol i’r holl fusnesau cymwys ledled Cymru. Lle bynnag y bo modd, rydym wedi canolbwyntio’r gefnogaeth hon ar fusnesau sydd â phencadlys yng Nghymru, ac rydym wedi ei gwneud yn glir na fydd busnesau sydd wedi’u lleoli mewn hafanau treth yn gymwys i gael cymorth ariannol COVID-19 gan Lywodraeth Cymru.

Lywydd, mae effaith ein buddsoddiadau i'w theimlo ledled Cymru, ac yn enwedig ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed. Rydym wedi darparu £40 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim, gan gyrraedd oddeutu 60,000 o blant yng Nghymru. Rydym wedi darparu £24 miliwn i gefnogi gwirfoddoli a’r trydydd sector. Mae dros 17,500 o wirfoddolwyr newydd wedi'u recriwtio yng Nghymru yn ystod yr argyfwng hwn, mwy na dwbl y nifer flaenorol, ac oherwydd bod gennym system genedlaethol eisoes ar gyfer gwirfoddolwyr, rydym wedi gallu gwneud defnydd cyflym o'r parodrwydd enfawr hwnnw i helpu. A hyd yn hyn, mae 7,000 o wirfoddolwyr wedi'u defnyddio i helpu'n uniongyrchol yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.

Un o'r pethau y mae'r gwirfoddolwyr hyn wedi bod yn ei wneud yw helpu i ddarparu bwyd a meddyginiaethau i bobl yn y grŵp a warchodir. Erbyn hyn mae 130,000 o bobl ar y rhestr o bobl a warchodir, gyda bron i 13,000 wedi'u hychwanegu gan feddygon teulu ers i'r system ddechrau. Darparwyd £15 miliwn i sicrhau bod blychau bwyd ar gael i bobl yn y categori a warchodir a dosbarthwyd miloedd o flychau i'r unigolion hynny, ac mae archfarchnadoedd wedi sicrhau bod 77,000 o slotiau danfon i'r cartref ar gael ar gyfer y grŵp hwnnw.

Lywydd, mae miloedd o bobl yn gweithio yn ein system gofal cymdeithasol yng Nghymru; maent wedi bod ar flaen y gad yn yr ymdrech genedlaethol i achub bywydau. Rydym wedi neilltuo £32 miliwn i ddarparu taliad o £500 i'r 64,000 o bobl sy'n darparu gofal personol mewn gwasanaethau gofal preswyl a chartref.

I'r rhai tlotaf yn ein cymdeithas, mae'r gronfa cymorth dewisol wedi darparu help pan fetho popeth arall yma yng Nghymru, byth ers i Lywodraeth y DU ddiddymu’r gronfa gymdeithasol. Yn ystod yr argyfwng coronafeirws, mae'r gronfa wedi dod yn achubiaeth bwysicach fyth i lawer o deuluoedd. Hyd yma, mae 13, 679 o daliadau gwerth mwy na £850,000 wedi’u gwneud, ac mae £11 miliwn wedi’i ychwanegu at y gronfa yn yr wythnosau diwethaf fel y gallwn barhau i gynnig y cymorth hanfodol hwn.

Lywydd, mae capasiti ein gwasanaeth iechyd wedi trawsnewid dros yr wyth wythnos diwethaf: crëwyd 368 o welyau ychwanegol drwy ysbytai maes, gyda 4,666 arall ar gael os oes angen; ar 18 Mai, roedd 220 o welyau gofal critigol ychwanegol ar gael drwy ymdrechion enfawr ein staff; mae capasiti profi wedi cynyddu i dros 5,300 y dydd, ac mae 11,000 o brofion yn cael eu cynnal bob wythnos—bydd y capasiti’n cynyddu ymhellach yn yr wythnosau i ddod; ac mae 98.4 miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol wedi’u dosbarthu ers 9 Mawrth, ac mae ychydig llai na 30 miliwn ohonynt wedi mynd i staff mewn cartrefi gofal a gofal cartref.

Ein cysylltiadau tramor a'n gallu i wneud pethau yn y wlad hon sydd wedi ein galluogi i ddarparu cymaint o'r cyfarpar hwn. I grybwyll un enghraifft yn unig, mae cwmni gweithgynhyrchu Hardshell yn creu ffatri newydd yng Nghaerdydd i gynhyrchu hyd at filiwn o fasgiau wyneb sy'n gwrthsefyll hylif bob dydd ar gyfer gweithwyr rheng flaen yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Ac oherwydd yr ymdrech enfawr hon gan ein gwasanaethau cyhoeddus a'n pobl ledled Cymru, rydym wedi llwyddo i ddiogelu ein GIG ac achub bywydau.

Mae nifer y marwolaethau, gyda’i holl dorcalon personol, yn parhau i godi, ond dangosodd nifer y marwolaethau a gofnodwyd yng nghyhoeddiad wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddoe fod y ffigur hwnnw wedi gostwng ym mhob un o’r tair wythnos flaenorol. Ac wrth inni symud i fyd lle mae cyfyngiadau symud yn cael eu codi'n ofalus ac yn raddol yma yng Nghymru, bydd angen inni addasu ein dull o weithredu. Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newidiadau i brofion mewn cartrefi gofal ac yn y gymuned ehangach. Rydym yn symud i system ehangach o wyliadwriaeth rhag lledaeniad y feirws, y tu hwnt i weithwyr allweddol a lleoliadau allweddol, drwy'r strategaeth 'Profi Olrhain Diogelu' a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Lywydd, rwyf wedi amlinellu ehangder a dyfnder gweithgarwch Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig. Mae ein dull wedi bod yn unigryw wrth adeiladu ar ein model partneriaeth gymdeithasol, ac wrth gynorthwyo'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar fesurau sy'n galw am ddull cyffredin, a byddwn yn cyhoeddi rheoliadau'n ymwneud â mesurau rheoli ffiniau yn fuan. Er nad yw ffiniau yn fater sydd wedi'i ddatganoli, mater i Weinidogion Cymru yw rheoliadau iechyd cyhoeddus sy'n ymwneud â gweithredu'r mesurau hyn yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried y trefniadau cywir ar gyfer gweithredu yma, o fewn y system ar gyfer y DU gyfan.

Lywydd, hoffwn orffen drwy grybwyll effaith y feirws ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, lansiwyd arolwg newydd yn gofyn i bobl rhwng saith a 18 oed am eu safbwyntiau yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae 'Coronafeirws a Fi' yn gofyn am eu hiechyd, eu haddysg, yr effaith ar agweddau cymdeithasol ar eu bywydau, ac anghenion grwpiau penodol. Bydd deall profiad pobl ifanc yn hanfodol i'n gwaith wrth inni ddechrau llacio’r cyfyngiadau symud, ac wrth inni gynllunio ar gyfer dyfodol ein heconomi a'n cymdeithas yng Nghymru ar ôl COVID-19. Mae dyfodol pob un ohonom wedi bod yn y fantol yn yr argyfwng hwn, ond mae hynny wedi bod yn arbennig o wir i’n plant a’n pobl ifanc. Byddwn yn parhau i adrodd i'r Senedd ar yr holl gamau rydym yn eu cymryd i'w cefnogi hwy a'r gymdeithas ehangach yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.

13:40

Brif Weinidog, ar 20 Mawrth, argymhellodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon y dylid ychwanegu anosmia, yr anallu i arogli, at y rhestr o symptomau COVID-19, a bu’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn trafod hynny ar 24 Mawrth. Cadarnhaodd papur ar gyfer y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ar 16 Ebrill fod colli arogl a blas yn rhagfynegydd cryf o'r haint. Pam y cymerodd hi tan ddydd Llun yr wythnos hon i chi newid y canllawiau i'r cyhoedd? Ac a ydych chi'n derbyn nad yw pobl a ddylai fod wedi hunanynysu wedi bod yn gwneud hynny oherwydd yr oedi hwn?

Lywydd, nid wyf o reidrwydd yn derbyn y pwynt olaf hwnnw. Amlinellodd Mr Price broses a fu'n mynd rhagddi o fis Mawrth ymlaen. Fe wnaethom newid y polisi yng Nghymru, gyda holl wledydd eraill y Deyrnas Unedig, yn dilyn datganiad gan bedwar prif swyddog meddygol y DU. Dyna oedd penllanw'r broses a ddechreuodd gyda datganiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ddiwedd mis Mawrth. Roedd yn iawn i'r pedwar prif swyddog meddygol ddod at ei gilydd, a gwneud y penderfyniad hwnnw, a symudodd y pedair Llywodraeth gyda'i gilydd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.

13:45

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofnodi bod clinigwyr wedi beirniadu hyd yr oedi—deufis ers i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon gyflwyno'r achos yn y lle cyntaf.

Heb os, bydd cyflymder gwneud penderfyniadau yn un o'r cwestiynau allweddol y bydd ymchwiliad ôl-weithredol eisiau edrych arno, fel y nododd y Gweinidog iechyd eisoes yr wythnos hon. Rydych wedi dweud o'r blaen nad ydych eisiau trafod hyn yn awr, er fy mod yn nodi bod Una O'Brien, cyn ysgrifennydd parhaol yr adran iechyd yn Lloegr, wedi dweud bod angen i chi ddechrau sefydlu ymchwiliad yn awr gan y gallai gymryd hyd at chwe mis. A allech chi wneud rhai ymrwymiadau cyffredinol heddiw i'r egwyddor o sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol maes o law i sicrhau, yn y cyfamser, fod yr holl ddogfennau, cofnodion, e-byst perthnasol, a hyd yn oed recordiadau Zoom, Brif Weinidog, yn cael eu cadw'n ddiogel, ac yn olaf, y bydd yr ymchwiliad yn dechrau derbyn tystiolaeth cyn diwedd y flwyddyn o leiaf, fel y gellir cyhoeddi canfyddiadau interim erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf fan bellaf?

Wel, Lywydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd angen ymchwiliad annibynnol ar y pwynt cywir yn y broses honno a chedwir y dogfennau a gedwir gan Lywodraeth Cymru yn ofalus ac rwy'n siŵr y byddant ar gael ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw pan ddaw’r amser. Ni allaf ragweld pryd y bydd hynny, ond o ran yr egwyddor y mae Mr Price wedi'i hamlinellu—rwy'n hapus iawn i gadarnhau fy nghefnogaeth i'r egwyddor honno.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer codi’r cyfyngiadau symud yng Nghymru. Yn ogystal ag amlinellu cynlluniau eich Llywodraeth, cawsoch gyfle i gynnig gobaith i bobl Cymru—gobaith y bydd yr argyfwng presennol yn dod i ben. Yn anffodus, nid oedd eich cynllun yn cynnig unrhyw amserlenni nac unrhyw gerrig milltir er mwyn olrhain ei gynnydd, gan gynnwys cerrig milltir mawr eu hangen mewn perthynas â chapasiti profi a chyfradd drosglwyddo’r feirws. Nid yw'r cynllun yn cynnig unrhyw ddyraniadau ariannol i gefnogi’r gwaith o gyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru ychwaith ac nid oes llawer ynddo i helpu busnesau ac unigolion i oroesi’r pandemig, ac yn hollbwysig, nid yw’n cynnig unrhyw arweinyddiaeth go iawn i bobl Cymru. Brif Weinidog, ai’r cynllun hwn yw’r gobaith gorau y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i bobl Cymru mewn gwirionedd a phryd y gallwn ddisgwyl gweld amserlenni ochr yn ochr â’ch strategaeth ymadael?

Wel, Lywydd, bydd dadl ar y cynllun yn ddiweddarach y prynhawn yma pan fydd y pwyntiau hyn yn cael eu hailadrodd eto, heb amheuaeth. Rwy'n gwrthod awgrym yr Aelod nad oes arweinyddiaeth ar y mater hwn yn llwyr; croesawyd y cynllun yn eang iawn yng Nghymru a thu hwnt i Gymru yn wir, fel datganiad clir o'r cyfeiriad teithio y mae Llywodraeth Cymru wedi'i bennu ar gyfer pobl ein gwlad.

Mewn perthynas ag amserlenni, gadewch imi ddweud, fel y dywedais o'r blaen pan ofynnwyd i mi, mae dadl go iawn i'w chael ynglŷn ag a yw amserlenni’n ffordd ddefnyddiol o nodi'r cyfeiriad yn y dyfodol. Yn y pen draw, daethom i'r casgliad fod hynny'n tynnu sylw oddi ar y ffocws ar y materion sy'n haeddu ein sylw mewn gwirionedd. Rydym yn gwneud yr un peth â llawer o wledydd eraill ledled y byd, o Seland Newydd i Ogledd Iwerddon. Nid yw amserlenni'n rhoi unrhyw sicrwydd, fel y bydd Mr Davies yn gwybod yn iawn. Edrychwch ar sut y mae amserlen 1 Mehefin ar gyfer agor ysgolion yn Lloegr yn disgyn yn ddarnau yn nwylo Llywodraeth Lloegr; sut y bu’n rhaid i Stryd Downing ddweud neithiwr mai dyhead oedd 1 Mehefin, nid dyddiad pendant, nid amserlen wedi’r cyfan. Felly, nid wyf yn siŵr fod amserlenni yn ateb i bopeth.

Bydd dyraniadau ariannol yn cael eu pennu’n fanwl yn y gyllideb atodol a fydd ar gael i’r Aelodau yr wythnos nesaf, ac eisoes y prynhawn yma, Lywydd, rwyf wedi nodi'r ​​gyfres fwyaf hael o gymorth i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ac mae’r manylion hynny ar gael i fusnesau yng Nghymru ac wedi cael croeso mawr ganddynt.

13:50

Wel, rwy'n dweud wrthych, Brif Weinidog, ei bod yn bwysig, mewn unrhyw gynllun, i bobl gael gobaith pan fydd y cyfyngiadau’n dechrau cael eu codi, ac nid wyf yn credu bod cynnig syniad o amserlen yn afresymol.

Nawr, gadewch imi droi at feysydd lle rydych wedi newid eich polisi, diolch byth. Rwy’n croesawu’r newyddion, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthdroi ei phenderfyniad o’r diwedd ac y bydd yn cymryd rhan mewn cynllun porth ledled y DU. Golyga hyn y bydd gweithwyr allweddol yng Nghymru yn cael eu trin yn yr un modd â'u cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r DU yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Mae hefyd yn dda clywed bod Llywodraeth Cymru wedi newid ei pholisi mewn perthynas â chynnal profion mewn cartrefi gofal, ac y bydd profion ar gael i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal yng Nghymru bellach. Ac rwy'n falch eich bod wedi gwrando ar alwadau fy mhlaid, a gobeithio y byddwch yn cyhoeddi'r dystiolaeth glinigol a gwyddonol benodol sydd wedi arwain at y newid polisi, fel y gall pobl Cymru gael hyder ym mhenderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Nawr, i symud ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod yn rhaid i'w rhaglen Profi Olrhain Diogelu ddod yn weithredol erbyn diwedd y mis er mwyn gallu dechrau codi'r cyfyngiadau symud. Brif Weinidog, o ystyried y byddai angen i'r Llywodraeth gynyddu ei chapasiti profi ar gyfer pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a gweithwyr allweddol i tua 20,000 erbyn diwedd y mis—a gadewch i ni fod yn glir, nid ydych wedi cyrraedd unrhyw darged profi a osodwyd gennych hyd yn hyn—pa mor hyderus ydych chi y byddwch yn cyrraedd y targed hwn mewn gwirionedd?

Lywydd, gadewch imi ddechrau drwy egluro eto pam ein bod bellach yn gallu bod yn rhan o'r cynllun porth ledled y DU—ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r porth hwnnw. Rydym yn gallu gwneud hynny oherwydd bod problem gyda'r porth bellach wedi'i datrys. Oherwydd roedd y porth, fel y'i lluniwyd yn wreiddiol, yn golygu na ellid cofnodi canlyniadau profion a gynhaliwyd ar drigolion Cymru gyda GIG Cymru nac yng nghofnodion y cleifion hynny. Ac yn yr ystyr honno, roedd y profion a gâi eu cynnal o werth cyfyngedig, oherwydd nid oeddem yn gwybod eu canlyniadau. Mae hynny wedi’i unioni; rydym yn awr yn hyderus y caiff profion a gynhelir drwy'r porth eu cynnwys yng nghofnodion y cleifion a'u hanfon at GIG Cymru, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu bod yn rhan o hynny.

Mae ein polisi profi mewn cartrefi gofal yn dilyn y cyngor a gawsom gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau. Ddydd Iau diwethaf, newidiodd y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ei gyngor. Ddydd Gwener, newidiodd Llywodraeth y DU ei pholisi. Ddydd Sadwrn, cyhoeddasom y byddem yn newid ein polisi yn unol â'r cyngor hwnnw, a ddydd Llun, cyhoeddodd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ei bod yn newid ei pholisi, unwaith eto yn unol â'r cyngor. Pan fydd y cyngor yn newid, mae'r polisi'n newid yma yng Nghymru, a gwn y bydd Paul Davies yn falch fod ein grŵp cynghori technegol ein hunain wedi cyhoeddi papur ar brofi am COVID-19 mewn cartrefi gofal ar 15 Mai i nodi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'r newid yn y cyngor, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi sicrhau ei fod ar gael i bob Aelod.

Rydym yn parhau i wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn gallu rhoi trefniadau’r rhaglen Profi Olrhain Diogelu ar waith. Rydym yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys gyda Llywodraeth y DU. Cymerodd Vaughan Gething ran mewn cyfarfod â Matt Hancock a Gweinidogion iechyd Gogledd Iwerddon a’r Alban neithiwr i rannu gwybodaeth ar sut y gellir rhoi’r trefniadau gwyliadwriaeth newydd hynny ar waith ledled y Deyrnas Unedig ac rydym yn parhau i weithio ar yr holl elfennau gwahanol y bydd eu hangen ar y dull newydd hwnnw ac yn gwneud hynny mewn cydweithrediad agos ag eraill.

Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf gofynnais gwestiwn i chi ynglŷn â’ch Llywodraeth yn diwygio'r rheoliadau coronafeirws i ddileu'r gofyniad fod cyfyngiadau yn angenrheidiol. Fe wnaethoch ymateb fel pe bawn wedi awgrymu nad oedd angen i'r cyfyngiadau fod yn gymesur. Mae'r cofnod yn dangos i mi eich beirniadu am ddileu'r gofyniad fod cyfyngiadau yn angenrheidiol. Deuthum i ben drwy nodi bod gofyniad San Steffan y dylai unrhyw gyfyngiadau fod yn rhesymol ac yn gymesur yn dal i fodoli, ac y dylid eich dwyn i gyfrif yn erbyn hynny. Wrth gwrs, bydd gennych chi a minnau farn wahanol ynglŷn ag a yw'r cyfyngiadau'n rhesymol ac yn gymesur, ac yn y pen draw, adolygiad barnwrol yn unig a allai benderfynu hynny. Fodd bynnag, pam y dylai pobl yng Nghymru orfod wynebu’r cyfyngiadau mwyaf eithriadol, ymwthiol a rhagnodol ar eu rhyddid os nad ydynt yn angenrheidiol? Nid oes llawer o'r bobl nad oeddent yn deall cwmpas y pwerau datganoledig o'r blaen yn hoffi'r ateb erbyn hyn: oherwydd datganoli, oherwydd eu bod yn byw yng Nghymru, ac oherwydd bod Llywodraeth Cymru, a'r Senedd yn ddiweddarach heddiw mae'n debyg, yn gwneud y deddfau hynny. Mae'n bosibl y bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystyried bod eich cyfyngiadau'n ddiangen. Efallai y bydd yn anghytuno'n llwyr â'ch profion cydraddoldeb Corbynaidd ar gyfer eu codi. Ond fel y mae llawer o bobl yn ei ddysgu erbyn hyn, mae ei air fel Prif Weinidog Prydain ar y mater hwn, fel ar gynifer o faterion, yn gymwys ar gyfer Lloegr yn unig. Yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU wedi cael ei hamddifadu o'r pwerau hynny.

Mae'r BBC wedi mynd i helynt yn yr Alban am awgrymu bod y Prif Weinidog yno wedi mwynhau arfer y pwerau, ac mae'r gohebydd wedi ymddiheuro'n briodol. Ni waeth faint rwy'n anghytuno â'ch penderfyniadau fel Prif Weinidog i barhau i weithredu cyfyngiadau yng Nghymru sydd wedi'u codi yn Lloegr, rwy'n derbyn mai cymhellion gwasanaeth cyhoeddus diffuant sy'n eich arwain i wneud hynny. Fodd bynnag, a ydych yn credu mai un o ganlyniadau'r argyfwng i ni yng Nghymru fydd bod pobl yn deall datganoli'n well, a pha mor bell y mae pwerau wedi symud oddi wrth Lywodraeth y DU a Senedd y DU i'ch Llywodraeth ac i'r Senedd? A ydych chi'n cytuno bod nifer sylweddol o bobl yng Nghymru nad ydynt wedi sylweddoli hyd a lled hyn tan yn awr, a sut ydych chi'n ymateb i'r nifer o bobl y byddai'n well ganddynt i Brif Weinidog Prydain wneud penderfyniadau allweddol yn hytrach na chi?  

13:55

Wel, Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â rhywbeth a ddywedodd Mr Reckless, fod y pwerau rydym yn eu harfer yn eithriadol, eu bod yn lefel o ymyrraeth ym mywydau pobl na welwyd mo'i thebyg o'r blaen, ac mae'n rhaid i bopeth a wnawn gael ei brofi a'i brofi eto i wneud yn siŵr ei fod yn rhywbeth sydd ei angen i ddiogelu iechyd pobl yma yng Nghymru. Dyna lle mae'r bar i mi, ac rydym yn meddwl yn ofalus iawn am bob un o'r cyfyngiadau a rown ar waith, ac rydym wedi cael y ddadl hon ar lawr y Senedd, er enghraifft, mewn perthynas ag ail gartrefi—a ddylid cymryd camau mwy llym i atal pobl rhag meddiannu eiddo y maent yn berchen arno, ac ychydig fisoedd yn ôl ni fyddem wedi breuddwydio ystyried a ddylid eu hatal rhag gwneud hynny, ac rwyf wedi dod i'r casgliad bellach nad yw'n gymesur i wneud hynny. Felly, hoffwn roi sicrwydd iddo ein bod yn plismona'r llinell hon yn gwbl ymwybodol. Efallai y bydd ein barn yn wahanol yn y pen draw ynglŷn â lle i dynnu'r llinell, ond nid ydym yn ei wneud mewn ffordd fympwyol na difeddwl.

Rwy'n cytuno â'r hyn y mae Mr Reckless wedi'i ddweud am bobl yn dod i weld beth yw datganoli yn yr argyfwng hwn mewn ffordd nad ydynt wedi'i wneud dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nid wyf yn credu ei bod yn wir nad yw pobl yng Nghymru yn ymwybodol o ddatganoli. Mae'n sicr yn wir ei bod hi'n ymddangos bod pobl y tu allan i Gymru ac yn Llundain wedi dihuno i'r agenda ddatganoli ar ôl 20 mlynedd o gwsg. Rwy'n credu bod barn pobl yng Nghymru yn glir iawn. Mae pobl Cymru yn cefnogi'r ffordd ofalus a phwyllog rydym yn codi'r cyfyngiadau symud. Byddai'n well ganddynt fod yma gyda Llywodraeth sy'n rhoi eu hiechyd, eu llesiant, ar flaen yr hyn rydym yn ei wneud, ac nid ydynt yn edrych yn eiddigeddus ar y ffordd y mae'r pethau hyn yn cael eu gwneud dros y ffin.

Mae'r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, yn dweud ei fod yn credu ei bod hi'n iawn codi tâl ar weithwyr gofal iechyd rheng flaen ar gyflog isel sy'n dod o dramor i weithio yn y GIG, y gordal iechyd mewnfudo, sy'n gannoedd o bunnoedd neu fwy y flwyddyn. Nawr, dyfynnodd Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur ac arweinydd yr wrthblaid yn Senedd y DU, lythyr gan feddygon a sefydliadau meddygol, a oedd yn dweud:

Ar adeg pan ydym yn galaru am gydweithwyr, mae eich penderfyniad diwyro i wrthod ailystyried y gordal iechyd mewnfudo hynod annheg yn sarhad mawr i bawb... yn y wlad ar yr adeg hon o angen dirfawr.

Nawr, dywedodd y bydd gwelliant yn cael ei gynnig gan y gwrthbleidiau i'w ddiddymu. Tybed a ydych yn cytuno, Brif Weinidog, fod y gordal ychwanegol hwn yn sarhau llawer o weithwyr gofal iechyd rheng flaen.

Wel, Lywydd, ni chefais gyfle i glywed cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, er bod Mick Antoniw wedi rhoi cofnod pwerus iawn o'r ddadl yno. A gaf fi roi ei bwyntiau yn y cyd-destun ehangach? Unwaith eto yr wythnos hon, rydym wedi gweld cynigion mewnfudo gan Lywodraeth y DU sy'n ceisio gwahaniaethu rhwng pobl fedrus a phobl heb lawer o sgiliau sy'n dod i mewn i'n gwlad, ac sy'n ceisio cael capiau cyflog mympwyol i atal rhai pobl rhag cael eu recriwtio i wneud gwaith hanfodol. Hoffwn ailadrodd, fel y mae Mick Antoniw wedi dweud yn yr enghraifft honno, ac yn gyffredinol hefyd, fod Llywodraeth Cymru'n gwrthod yr olwg honno ar y byd. Os oes gennych sgìl sy'n angenrheidiol i fod yn weithiwr gofal, chi yw'r person i wneud y swydd honno. Mae ystyried eich bod yn brin o sgiliau ac felly, nad ydych yn deilwng o gael eich recriwtio i'n gwasanaethau cyhoeddus, yn ffiaidd yn fy marn i. Mae'r mater y cyfeiriodd Mick Antoniw ato, ac a drafodwyd yn gynharach heddiw mewn man arall, fel y dywedodd, yn rhan o batrwm ehangach lle mae Llywodraeth y DU yn gwrthod cydnabod gwerth y bobl sy'n cyflawni'r gwasanaethau rheng flaen hanfodol bwysig hyn, ac yn amlwg, nid yw honno'n farn a rennir yma yng Nghymru mewn unrhyw fodd.

14:00

Brif Weinidog, mae'r argyfwng hwn wedi profi gwerth datganoli, ond hefyd wedi amlygu nifer o broblemau strwythurol yn y tirlun gwleidyddol Cymreig. Un o'r problemau hynny ydy gwendid difrifol y wasg. Yr wythnos diwethaf, roedd papurau a oedd yn cael eu gwerthu yng Nghymru â hysbyseb ar y dudalen flaen wedi'i thalu amdani gan Lywodraeth Prydain gyda'r neges 'Stay alert' oedd ddim yn weithredol yng Nghymru. Mae'r papurau Llundeinig yn llawn straeon sydd ddim yn berthnasol i Gymru heb fod hynny'n cael ei egluro, ac mae hynny'n achosi dryswch.

Dydy'r un sefyllfa ddim yn bodoli yn yr Alban, lle mae fersiynau Albanaidd o bapurau Seisnig a llwyth o bapurau Albanaidd. Fe wnaeth arolwg YouGov yn ddiweddar adlewyrchu hyn, gan ganfod bod 40 y cant o bobl Cymru ddim yn gwybod digon amdanoch chi i roi barn ar eich perfformiad. Y ffigur cyfatebol ar gyfer Sturgeon yn yr Alban oedd 6 y cant.

Brif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid y sefyllfa hon, nawr ei bod yn fater o ddiogelu iechyd y cyhoedd? A allwch chi ddweud wrthyf fi a ydy'r wythnosau diwethaf wedi eich darbwyllo bod angen datganoli darlledu?

Wel, Llywydd, dwi'n cytuno: mae'r sefyllfa bresennol wedi cryfhau datganoli ac wedi cryfhau datganoli ym meddyliau pobl yma yng Nghymru. Roeddem ni wedi gweithio'n galed gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a, jest i fod yn deg, maen nhw wedi tynnu nôl lot o'r hysbysebion yr oeddent eisiau eu gwneud yng Nghymru gyda'r 'Stay alert' ac yn y blaen, ond, ar ddiwedd y dydd, doedden nhw ddim yn gallu tynnu nôl y pethau a oedd wedi dod i mewn i Gymru o'r papurau sy'n cael eu hargraffu yn Llundain.

Dwi'n cytuno â beth mae Delyth Jewell yn ei ddweud, ei bod yn angenrheidiol inni drio cryfhau'r pethau mae pobl yng Nghymru yn gallu'u cael oddi wrth bobl sy'n gweithio yng Nghymru yn y wasg, a drwy ddarlledu hefyd. Mae'n anodd i Lywodraeth sefyll mewn i'r bwlch yna, onid yw e, achos mae arian o'r Llywodraeth yn codi pryderon gyda phobl a fydd effaith hynny yn rhoi pwysau ar bobl sy'n rhoi'r newyddion i bobl i'w wneud e mewn ffordd y mae'r Llywodraeth eisiau ei gweld.

Rŷm ni wedi gweithio—rŷm ni wedi bod yn gweithio gyda'r pwyllgor y mae Bethan Sayed wedi'i gadeirio—i feddwl am bethau rŷm ni'n gallu eu gwneud i gryfhau'r sefyllfa yma yng Nghymru. Ond, i'r Llywodraeth wneud gormod, byddai hynny'n creu problemau. Byddai'n ein helpu ni gyda rhai problemau, ond byddai'n codi problemau eraill.

Brif Weinidog, yn eich datganiad heddiw fe sonioch chi am ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Pan fydd pobl yn clywed yr hyn sy'n ymddangos yn ddata anghyson o ran achosion, neu nifer y marwolaethau, mae'n achosi peth pryder. Byddai pobl ym Mhowys, er enghraifft, wedi clywed adroddiadau newyddion ddoe yn dweud, yn anffodus, fod 12 wedi marw ym Mhowys, tra bo ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi 75 o farwolaethau. Wrth gwrs, deillia hyn o'r gwahaniaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol o ran y modd y maent yn adrodd ar ddata, a'r ffaith nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth ac wrth gwrs, oherwydd y natur drawsffiniol. Beth allwch chi ei ddweud wrth bobl sydd â'r pryder hwn, a all achosi peth gofid i bobl, yn ogystal â drwgdybiaeth, mae'n debyg? Beth ellir ei wneud i wneud data'n haws i'w ddeall i'r cyhoedd?

A hefyd, yn ail ac yn gysylltiedig â hyn, pa bryd y bydd y data ar brofion gofal ac yn anffodus, marwolaethau cleifion o Gymru mewn ysbytai yn Lloegr yn ymddangos yn ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru?

14:05

Diolch i Russell George am hynny. Rwy'n credu ei fod wedi rhoi esboniad da iawn o'r rheswm pam fod gwahaniaeth rhwng ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru a ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Os nad ydych yn agos at y pethau hyn, rwy'n deall ei bod yn anodd i bobl ddeall y gwahaniaethau.

Fe fydd yn cofio, yn gynnar yn yr argyfwng coronafeirws, y bu cryn alw gan Aelodau'r Senedd a thu hwnt—a hynny'n ddealladwy hefyd—am gyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bo modd, a dyna pam y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi'r ffigurau dyddiol y maent yn eu cyhoeddi, ac fel y dywedodd Russell George, marwolaethau yn yr ysbyty ydynt, ac mae'n bosibl casglu'r niferoedd hynny'n ddyddiol. Ond nid dyna yw'r darlun llawn oherwydd nid yw'n cynnwys pobl sydd wedi marw y tu allan i'r ysbyty ac yn y gymuned. Mae'n anos casglu'r wybodaeth honno'n gyflym oherwydd ei bod yn ddibynnol ar gael tystysgrif marwolaeth. Ceir oedi yn hynny o beth. Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n fwy cynhwysfawr ond ychydig wythnosau'n hwyr, yn rhoi'r darlun cyfan.

Felly, mae'n debyg mai'r unig gyngor y gallaf ei roi i bobl sydd eisiau sicrhau eu bod yn deall cymaint ag y bo modd o hyn yw bod yn rhaid iddynt edrych ar y ddwy set o ddata. Maent yn cwmpasu pethau ychydig yn wahanol. Rwy'n credu y gallai fod yn gysur i bobl, er bod y manylion penodol o ran niferoedd yn wahanol, fod y tueddiadau yn weddol debyg. Felly, nid ydych yn edrych ar ddealltwriaeth hollol wahanol o'r darlun; rydych yn gweld y darlun ar adeg wahanol mewn amser ac ar sail wahanol, ond mae'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym am dueddiadau coronafeirws yn gyson ar y cyfan.

Rwyf am wneud ymholiad ynglŷn â'i ail bwynt oherwydd nad oes gennyf y wybodaeth honno wrth law ac fe wnaf yn siŵr ein bod yn ysgrifennu ato i roi'r ateb iddo.

Lywydd, rwy'n ddiolchgar am y datganiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu bod y mwyafrif helaeth o bobl Blaenau Gwent yn llwyr gefnogi'r dull o weithredu a fabwysiadwyd ganddo ef a Llywodraeth Cymru dros y ddeufis diwethaf. Maent yn cytuno'n gryf iawn mai ei ddull digyffro a gochelgar ef, dull sy'n rhoi bywydau pobl yn gyntaf, yw'r un sy'n gweddu orau i'n hanghenion. Rwy'n gobeithio y gall roi sicrwydd i ni i gyd y bydd yn parhau i wrthsefyll y lleisiau hynny, a lleisiau croch iawn weithiau, sy'n dweud wrthym y dylem ailadrodd, yn wasaidd, yr holl benderfyniadau cyfeiliornus a'r camgymeriadau trychinebus y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'u gwneud dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Ac wrth symud ymlaen, roeddwn yn falch iawn o weld ei gynllun, ei fframwaith ar gyfer camu ymlaen, yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener diwethaf. Yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthyf yw y byddent yn hoffi deall mwy am yr hyn y mae hynny'n ei olygu iddynt hwy: sut y byddwn yn gweld y system oleuadau traffig yn cael ei hadlewyrchu yn eu bywydau bob dydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae wedi bod yn glir iawn ynglŷn â pheidio â chyhoeddi amserlenni, ac rwy'n cytuno â hynny i raddau helaeth, ond rwy'n credu y byddai pobl yn hoffi teimlo bod ganddynt syniad gwell o'n cyfeiriad teithio dros y misoedd nesaf—

Mae angen i chi ddod at eich cwestiwn yn awr, Alun Davies.

Wel, mae hynny'n iawn, felly. Gall y Prif Weinidog ymateb. Brif Weinidog.

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Alun Davies am y cymorth y mae wedi'i roi, ynghyd â'i gyd-Aelodau, wrth adlewyrchu barn y bobl y mae'n eu cynrychioli? Oherwydd un o'r rhesymau craidd pam ein bod yn mabwysiadu'r dull hwn yw oherwydd yr arwyddion cadarn iawn roeddem yn eu cael gan bobl Blaenau Gwent a chymunedau eraill eu bod yn ofni gweld y cyfyngiadau symud yn cael eu codi ac y byddem yn dychwelyd yn rhy gyflym at sut roedd pethau o'r blaen. Rydym wedi gwrando'n astud iawn ar y safbwyntiau hynny a nodwyd yn gywir gan Alun Davies ac eraill, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n meddylfryd. Gallaf roi sicrwydd llwyr iddo y byddwn yn parhau i arfer ein barn ein hunain ynglŷn â'r mesurau cywir a'r amserlen gywir ar gyfer eu rhoi ar waith yma yng Nghymru.

A'r hyn yr hoffwn ei ddweud wrth y bobl sydd eisiau syniad mwy pendant o'r ffordd y byddwn yn symud drwy'r system oleuadau traffig yw y bydd yn rhaid inni adrodd bob tair wythnos ar gyflwr y rheoliadau; bob tair wythnos gallwn wneud addasiadau iddynt. Bydd hynny'n digwydd ddydd Gwener yr wythnos nesaf yn awr—rydym hanner ffordd, ychydig dros hanner ffordd drwy'r cylch tair wythnos presennol—ac erbyn dydd Gwener yr wythnos nesaf, byddwn wedi gorfod gwneud penderfyniadau newydd, a fydd, rwy'n credu, yn mynd â ni gam ymhellach i mewn i'r system oleuadau traffig. Rwy'n credu y bydd pobl sydd eisiau gwybod rhagor yn gallu gweld—bob tair wythnos fan lleiaf—sut rydym yn bwriadu symud Cymru ar hyd y llwybr a bennwyd gennym.

14:10

Roeddwn yn falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn cyfeirio unwaith eto yn ei ddatganiad at blant a phobl ifanc. Mae effaith y pandemig hwn ar blant a phobl ifanc yn aruthrol, ac rwy'n credu y bydd para'n hir iawn.

Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad ddydd Llun am y £3.75 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl plant, ac yn enwedig y gydnabyddiaeth gan y Gweinidog addysg nad yw cwnsela traddodiadol ar gyfer plant iau yn ddull priodol o reidrwydd, ac y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda darparwyr i ddarparu gwasanaethau yn unol â'r diwygiadau sydd eisoes ar y gweill.

A gaf fi ofyn a yw'r Prif Weinidog yn cytuno, wrth wario'r arian hwnnw, ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn adeiladu ar y diwygiadau i'r dull ysgol gyfan a'r diwygiadau ehangach i'r system gyfan a nodir yn adroddiad 'Cadernid Meddwl' y pwyllgor? Ac a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno y bydd ein hargymhellion 'Cadernid Meddwl' ar draws y Llywodraeth yn bwysicach nag erioed o'r blaen wrth inni gefnu ar y pandemig hwn? Diolch.

Diolch ichi, Lywydd. Diolch i Lynne Neagle am hynny. Mae ein prif swyddog meddygol ein hunain wedi pwysleisio, drwy'r argyfwng coronafeirws, ei fod yn fwy na salwch corfforol yn unig. Ac er y gallwn gyfrif, yn anffodus, nifer y bobl sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty neu wedi mynd i ofal critigol, neu'n wir, wedi marw o'r feirws, mae'n anos cyfrif yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant pobl, ond mae'r niwed hwnnw'n real iawn hefyd.

Diolch i Lynne Neagle am yr hyn a ddywedodd wrth groesawu'r £3.75 miliwn. Fel y gŵyr, mae'n estyn cymorth yn is i lawr yr ystod oedran. Mae bod yn chwe mlwydd oed a byw drwy dri mis o goronafeirws yn gyfran enfawr o'ch oes, ac rwy'n credu y bydd yr effaith ar y person ifanc, ar fywyd y plentyn yn para ymhell y tu hwnt i'r argyfwng presennol. Felly, dyna pam ein bod yn awyddus i wneud y buddsoddiad hwnnw yn awr a'i wneud yn union fel y dywedodd Lynne Neagle: mewn ffordd sy'n gyson â'r holl fesurau eraill a roddwyd ar waith gennym yn ystod y blynyddoedd diwethaf i greu'r dull ysgol gyfan, i roi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc wrth wraidd y ffordd rydym yn meddwl am wasanaethau cyhoeddus a'u hanghenion ar gyfer y dyfodol, a dyna'n union rydym yn bwriadu ei wneud.

Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw. Brif Weinidog, yn y gorffennol, rydych wedi sôn am yr angen am ddull cyffredin o weithredu gan y pedair gwlad yn ystod yr argyfwng hwn, ac rydych wedi cyfeirio at hynny eto heddiw. Nawr, yn amlwg, Brif Weinidog, pan ddown at ddiwedd yr argyfwng hwn, bydd angen dysgu gwersi ohono. A gaf fi ofyn a ydych chi'n teimlo fod yna unrhyw amgylchiadau mewn argyfwng cenedlaethol pan fydd yn briodol i Lywodraeth Cymru ildio pwerau'n wirfoddol yn ôl i Lywodraeth y DU?

Wel, Lywydd, nid dyna fyddai fy null i o fynd ati. Lle rydym yn cytuno â'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, fel rydym wedi'i wneud mewn llawer iawn o'r hyn a ddigwyddodd dros y misoedd diwethaf, gallwn arfer ein pwerau mewn ffordd sy'n gyson â'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill. Yn sicr, nid oes angen ildio pwerau; mater o sut ydych chi'n dewis eu harfer yn unig ydyw.

14:15

Diolch yn fawr iawn. Lywydd, fe fyddwch yn falch iawn o wybod nad wyf yn bwriadu trethu eich amynedd yr wythnos hon gyda chwestiwn hir iawn, os mai dyna ydoedd yr wythnos diwethaf, felly fe fyddaf yn gryno. Ond yn gyflym iawn, hoffwn atgoffa arweinydd Plaid Brexit, yn hytrach na bod Prif Weinidog Prydain yn cael ei amddifadu o bwerau, fod pobl Cymru wedi penderfynu yn 1997 a 2011 mewn refferenda mai Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru a ddylai arfer pwerau ym maes iechyd mewn gwirionedd.

Yn ail, rwy'n gresynu bod rhai'n credu mai San Steffan sy'n iawn bob tro. Mae'n arwydd o gymhleth israddoldeb sydd gennym yng Nghymru yn fy marn i, os bydd Lloegr yn penderfynu gwneud rhywbeth gwahanol—Lloegr a dorrodd y rhengoedd, neb arall—felly, mae'n rhaid eu bod yn iawn a rhaid bod pawb arall yn anghywir. Mae'n bryd diosg y cadwyni hynny.

Fy nghwestiwn i yw hwn, Brif Weinidog—gwyddom fod pobl yn gallu chwarae chwaraeon penodol a chymryd rhan mewn rhai gweithgareddau, cyn belled â bod pobl yn parchu'r angen i gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs. Fy nghwestiwn i yw hwn, felly: soniwyd am glybiau golff a chlybiau tenis, a bydd yna chwaraeon eraill hefyd, ond lle mae angen i bobl yrru i gyrraedd cyfleuster, cyn belled â bod y cyfleuster hwnnw yn yr awyr agored, a chyn belled â mai hwnnw yw eu cyfleuster cyhoeddus agosaf, neu'r cyfleuster agosaf lle maent yn aelodau, sy'n wir yn achos clybiau, a fyddai'n bosibl ystyried cael canllawiau pellach er mwyn helpu pobl yn yr amgylchiadau hynny? Yn amlwg, nid ydym eisiau i bobl yrru'n bell iawn, ond bydd rhai gweithgareddau, yn anorfod, lle bydd angen i bobl yrru i'w cyrraedd. Mae'n amhosibl gwneud rheolau ar gyfer pob amgylchiad posibl, rwy'n deall hynny, ond Brif Weinidog, os nad y prynhawn yma, efallai y gellir ystyried gwneud y sefyllfa fymryn yn gliriach i'r bobl hynny.

Lywydd, hoffwn ddiolch i Carwyn Jones am hynny. Rwy'n cytuno ag ef na allwch gael rheol ar gyfer pob achlysur, ac mae'n rhaid i bob un ohonom fel dinasyddion wneud penderfyniadau ynglŷn â'n hymddygiad ein hunain, a gwneud penderfyniadau o fewn cwmpas y rheolau fel y'u gosodwyd. Felly, canllawiau pellach—gallwn edrych ar hynny yn sicr, ond y prynhawn yma, rwy'n hapus iawn i ddweud wrth bobl yng Nghymru mai dim ond tri chwestiwn sydd angen iddynt ofyn i'w hunain: a ydynt yn mynd allan i wneud ymarfer corff? Os yw'n ymarfer corff, maent wedi mynd heibio i'r rhwystr cyntaf. A yw'n lleol? Ac os yw'n lleol, maent wedi mynd heibio i'r ail rwystr. Ac a oes modd gwneud yr ymarfer corff hwnnw mewn ffordd sy'n cadw pellter cymdeithasol? Ac os gallant roi ateb cadarnhaol i'r tri chwestiwn, maent wedi mynd yn bell, rwy'n credu, i wneud y math o benderfyniad sydd angen iddynt ei wneud ynglŷn ag a yw'r hyn y maent yn gofyn yn ei gylch o fewn y rheolau fel y cytunwyd arnynt yma yng Nghymru ai peidio.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw i'w ofyn i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn hwnnw gan Helen Mary Jones.

Dydw i ddim yn clywed Helen Mary Jones ar hyn o bryd; gwnawn ni aros i weld a all Helen Mary Jones gael ei chlywed.

Mae angen i'r meicroffon fod yn is, Helen Mary.

COVID-19: Effaith ar Brifysgolion yng Nghymru

Rwy'n ymddiheuro, Lywydd, roeddwn mor brysur yn canolbwyntio ar yr hyn a oedd yn digwydd ar y sgrin ac yn gwneud yn siŵr fy mod wedi agor y meic, fe anghofiais symud y meicroffon, mae'n ddrwg iawn gennyf.

Ac nid oeddwn yn gallu gweld y meicroffon yn iawn, am ei fod yn eich gwallt, felly—.

Gwallt 'aros gartref'. [Chwerthin.] Rwyf am ddechrau eto. Mae'n ddrwg gennyf.

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y sector addysg uwch, yn dilyn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru am effaith ariannol COVID-19 ar brifysgolion yng Nghymru? TQ429

Diolch i chi am y cwestiwn, Helen Mary Jones. Rwy'n falch iawn fod ein prifysgolion i gyd wedi camu i'r adwy yn y frwydr yn erbyn COVID-19, a bydd eu cyfraniad at ymchwil, arloesedd, sgiliau a chyflogaeth yn hanfodol i'n hadferiad economaidd fel cenedl. Rydym wedi cymryd camau i ddarparu cymorth ymarferol i'r sector, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb ac am y cadarnhad y mae'n ei roi, wrth gwrs, ei bod yn llawn ddeall pwysigrwydd y sector. Ond tybed a all hi ddweud ychydig mwy wrthym am natur y gefnogaeth a ddarparwyd. Mae Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, fel y gwyddom, wedi darparu £75 miliwn o gyllid ymchwil i'w phrifysgolion. Nawr, yn amlwg, mae ei model ariannu prifysgolion yn wahanol i'n model ni, ac ni fyddwn o reidrwydd yn disgwyl i'n Gweinidog ymateb yn yr un ffordd yn union, ond mae wedi cydnabod y pwysigrwydd enfawr ei hun—mae 5 y cant o werth ychwanegol gros Cymru, 17,000 o swyddi uniongyrchol, 50,000 o swyddi yn yr economi ehangach yn dibynnu ar ein sefydliadau academaidd. Felly, a all ddweud ychydig mwy wrthym am yr ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ac yn bwriadu eu gwneud, i sicrhau cynaliadwyedd y prifysgolion yn fwy hirdymor? Oherwydd rwy'n siŵr y bydd yn cytuno bod adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn sobreiddiol—ond rwy'n siŵr nad oedd yn syndod iddi—a'i bod yn hanfodol ein bod yn diogelu'r sector allweddol hwn yn ein strwythur economaidd yn ogystal â'n strwythur academaidd yma yng Nghymru.

14:20

Yn wir, ac mae Helen Mary yn gywir i ddweud y bydd angen i brifysgolion fod yno i'n helpu i ddringo allan o'r argyfwng economaidd hwn. Fel rydym wedi'i ddweud o'r blaen, mae hwn yn argyfwng economaidd yn ogystal ag argyfwng iechyd cyhoeddus.

Rydym wedi cyhoeddi datganiad polisi sy'n amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i wrthsefyll pwysau ariannol. Rydym wedi darparu grant blynyddol dangosol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy'n gynnydd ar grant y llynedd. Rydym yn cyflwyno taliadau ffioedd dysgu y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i sefydliadau yn gynt fel y bydd cyfran fwy na'r arfer o'r cyllid hwnnw ar gael iddynt yn yr hydref. Rydym wedi ceisio cyflwyno mesurau i gyfyngu ar dderbyniadau sy'n gweithio o blaid y sector yng Nghymru ac y gellir eu rheoleiddio gan CCAUC er mwyn darparu sefydlogrwydd mawr ei angen i'n sefydliadau. Ac rydym yn gweithio gyda Gweinidogion o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ar y tasglu ymchwil ac arloesi i fynd i'r afael ag effaith COVID-19. Yn nes at adref efallai, rydym mewn cysylltiad parhaus â CCAUC a Prifysgolion Cymru er mwyn archwilio'r opsiynau ar gyfer unrhyw gymorth ariannol ychwanegol posibl y gallai Llywodraeth Cymru fod mewn sefyllfa i'w ddarparu i helpu i sefydlogi'r sector cyn y flwyddyn academaidd nesaf. Rydym eisiau gwneud hynny mewn ffordd sy'n wirioneddol feddylgar, nad yw'n dewis ffefrynnau, ac sy'n dryloyw ac yn sicrhau ein bod yn cynnal y seilwaith a fydd yn bwysig i'r wlad hon wrth symud ymlaen, fel y nododd Helen Mary'n gywir, o ran rhagoriaeth academaidd, ond hefyd o ran yr economi.

Weinidog, mae yna elfen arbennig o greulon yn perthyn i'r rhan hon o'r canlyniadau COVID-19, sef mai'r prifysgolion mwyaf llwyddiannus a seiliedig ar ymchwil yw'r rhai mwyaf agored i niwed am eu bod yn dibynnu cymaint ar batrymau economaidd rhyngwladol sy'n sail i lawer o'u hymchwil, a'u cyfleoedd allan yno gyda phartneriaid byd-eang. Ond maent hefyd yn denu llawer o fyfyrwyr tramor. Mae'r model hwnnw bellach wedi'i ddileu'n llwyr, am flwyddyn neu ddwy fan lleiaf, ac mae hynny wedi digwydd ar unwaith. Pa fesurau ymateb cyflym y bwriadwch eu mabwysiadu yn awr, neu rydych yn eu hystyried, ar gyfer cynnal ein prifysgolion gwych, Caerdydd, Abertawe, Bangor—y rhai sydd â'r capasiti ymchwil? Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn ac yn symud yn gyflym.

David, rydych yn llygad eich lle: mae'n rhaid i ni feddwl yn arbennig am yr effaith ar ymchwil. Gwyddom fod ffioedd gan fyfyrwyr rhyngwladol yn aml wedi mynd yn bell i ddarparu cymorth ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn ein prifysgolion.

Yn gynharach heddiw, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi dros £1 filiwn i roi cefnogaeth bellach i raglen Sêr Cymru sy'n cefnogi ymchwil mewn ymateb uniongyrchol i argyfwng COVID-19. Fel y dywedais yn fy ateb i Helen Mary, rydym yn parhau i gael trafodaethau gyda CCAUC, ond rwy'n siŵr y byddai David yn cydnabod bod maint y cymorth ariannol sydd ei angen i fynd i'r afael â'r diffygion posibl yn sgil gostyngiad posibl yn nifer y myfyrwyr tramor yn mynd y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael yng nghyllidebau'r Llywodraethau datganoledig, a dyna pam rwy'n falch iawn o weithio ochr yn ochr â Gweinidogion o Lywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ar y tasglu ymchwil ac arloesi. Mae fy neges iddynt yn glir iawn: bydd prifysgolion yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'u capasiti ymchwil, nid yn yr hydref, pan ddaw'r sefyllfa recriwtio myfyrwyr yn gliriach; rhaid inni allu gwneud hynny yn awr. Mae mecanweithiau wedi'u sefydlu inni allu gwneud prifysgolion yn atebol am arian ymchwil, ymchwil o ansawdd da, a wariant ac rydym yn parhau i geisio gweithio gyda'n gilydd i allu ymateb yn gadarnhaol mewn modd amserol a mynd i'r afael â'r penderfyniadau hyn y bydd sefydliadau'n eu gwneud dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn nesaf, felly, yw'r cwestiwn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Delyth Jewell. 

14:25
COVID-19: Olrhain Cysylltiadau

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a'r adnoddau fydd ar gael i awdurdodau lleol wrth ddatblygu'r capasiti i olrhain cysylltiadau yn dilyn cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer codi'r cyfyngiadau presennol? TQ434

Diolch am y cwestiwn, Delyth. Rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ddatblygu a thyfu capasiti i olrhain cysylltiadau lleol. Maent yn ganolog i atal trosglwyddiad y feirws. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt i nodi eu hanghenion o ran adnoddau, a bydd y gwersi a ddysgir o'r treialon yn amhrisiadwy wrth helpu i lunio cam nesaf ein hymateb.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Derbynnir yn eang mai'r rhan bwysicaf o unrhyw strategaeth sy'n ceisio mynd i'r afael â COVID-19 yw'r elfen brofi, tracio ac olrhain. O'i roi'n syml, mae'n rhaid inni gael y math hwnnw o gyfundrefn brofi a thracio ar waith cyn y gallwn ystyried unrhyw gamau sylweddol i godi'r cyfyngiadau presennol. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ar hynny.  

Nawr, ddydd Llun, roeddwn yn falch iawn o weld cyngor Ceredigion yn cyhoeddi ei gynllun addasu ei hun ar gyfer y sir yn sgil y coronafeirws, sy'n edrych ar y cam nesaf. Nawr, mae'r cynllun hwnnw'n cynnwys manylion am eu system olrhain cysylltiadau sydd eisoes yn weithredol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i longyfarch Ceredigion am fod yn flaenllaw yn yr ymdrechion hyn, a hoffwn eich gwahodd chi, Weinidog, i wneud yr un peth ac ystyried sut y gellid defnyddio model Ceredigion fel enghraifft i hybu arferion gorau mewn ardaloedd eraill.  

Nawr, Weinidog, nodwyd bod gan awdurdodau lleol rôl allweddol yn cyflawni cynllun profi olrhain a diogelu eich Llywodraeth yn llwyddiannus, ond maent yn dal i aros am fanylion ar lefel genedlaethol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y bydd olrhain cysylltiadau'n gweithio ar lawr gwlad ledled Cymru ac yn hollbwysig, pa adnoddau a chymorth—yn enwedig cymorth ariannol—a fydd ar gael i awdurdodau lleol. Mae'n bosibl fod llawer o arbenigedd ym maes diogelu'r cyhoedd, sy'n amhrisiadwy erbyn hyn, wedi'i golli o fewn yr awdurdodau lleol o ganlyniad i'r cyni ariannol, felly byddwn yn croesawu eich syniadau ynglŷn â sut y gallwn sicrhau ein bod yn adfer unrhyw beth a gollwyd yn y cyswllt hwnnw.

Yn olaf, rhai cwestiynau penodol i chi, Weinidog. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â faint o bobl rydych yn rhagweld y bydd angen iddynt ymgymryd â gwaith olrhain cysylltiadau ledled Cymru? Faint o bobl y dyrannwyd y rolau hyn iddynt eisoes, a fyddant yn dod o weithlu presennol yr awdurdod lleol neu a oes proses recriwtio allanol ar y gweill i ychwanegu at hynny? Byddai'n dda gwybod hefyd pa amserlenni fydd ynghlwm wrth hyn. Ac o ran yr adnoddau technegol i gefnogi gwaith swyddogion olrhain cysylltiadau ar lawr gwlad, a yw Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai awdurdodau lleol ac eraill ddefnyddio un ap penodol, ac a allech chi roi manylion hynny i ni, os gwelwch yn dda? Diolch.  

Diolch am y gyfres honno o gwestiynau, Delyth. Rwyf am wneud fy ngorau i'w hateb. Rwy'n ymwybodol o sefyllfa Ceredigion wrth gwrs, ac mae Ceredigion wedi gweithio'n galed iawn i roi'r cynllun hwnnw ar waith. Maent ymysg y nifer o awdurdodau sy'n mynd ati'n gyflym i dyfu ac adeiladu ar yr arbenigedd olrhain cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli yn ein hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd ac mae'n ganolog i'n strategaeth profi, olrhain a diogelu.  

Y gwir amdani yw na fydd y cynllun cenedlaethol yn gweithio oni bai ein bod yn defnyddio gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd lleol sy'n bodoli eisoes yn llawn, ac mae hynny, fel y dywedwch yn gywir, wedi cael ei ddatblygu dros flynyddoedd lawer o fewn timau diogelu iechyd ein hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd, ar ffurf trefniadau iechyd yr amgylchedd yn benodol. Dyna'r union ddull rydym yn ei ddilyn yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o'n hawdurdodau lleol a'u harbenigedd lleol. Rwy'n hynod ymwybodol y bydd angen ein cefnogaeth lawn arnynt a bod y goblygiadau o ran adnoddau yn debygol o fod yn uchel. Rydym wedi ymrwymo'n fawr i ddarparu'r adnoddau y maent eu hangen i wneud hynny.  

Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth agos i nodi'r goblygiadau llawn o ran cost, a bydd cyngor a chanllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi pan fyddwn wedi cwblhau'r gwaith hwnnw. Mae pob un o'n partneriaid ymhlith y byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol wedi ymateb gyda phenderfyniad ac ymrwymiad i roi'r cynllun olrhain ar waith, fel y nodir yn y cynllun profi, olrhain a diogelu.

Bydd Delyth yn gwybod—rwy'n gwybod am fy mod wedi cael sgwrs gyda hi am y peth—fy mod yn cael galwad ffôn reolaidd gyda'r holl arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn siarad â hwy eto. Rwy'n ymwybodol, yn yr alwad y bore yma—nad oeddwn yn rhan ohoni, ond rwy'n ymwybodol, yn yr alwad y bore yma, fod pawb wedi mynegi boddhad gyda'r sefyllfa hyd yn hyn ac yn parhau'n ymrwymedig i'r ymgysylltiad rhyngom wrth gyflwyno'r treialon olrhain cysylltiadau ar raddfa fach sydd ar y gweill mewn pedwar o'n byrddau iechyd.

Nid wyf mewn sefyllfa i ateb y cwestiwn am yr ap gan fod hynny'n perthyn i bortffolio Vaughan Gething, ond rwy'n siŵr y gallwn gael ateb i'r cwestiwn hwnnw. Fodd bynnag, gallaf ddweud hyn amdano: rydym yn benderfynol iawn o wreiddio hyn yn ein cymunedau lleol ac yn eu gwybodaeth a'u harbenigedd lleol. Bydd yr ap, rwy'n siŵr, yn cynorthwyo yn hynny o beth, ond yn sicr nid dyna fydd yr unig ateb.    

14:30

Dyna ni. Iawn, diolch. Gan atgyfnerthu'r datganiad gan arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod tracio ac olrhain achosion o'r coronafeirws yng Nghymru yn dasg anferthol, ac y byddai angen adnoddau ychwanegol sylweddol ar gynghorau ar gyfer y gwaith hanfodol, dywedodd arweinwyr awdurdodau lleol y Ceidwadwyr Cymreig wrthyf ddoe eu bod yn gofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ar ei rhaglen 'Profi Olrhain Diogelu' a'r ymrwymiad i roi adnoddau llawn i hyn. Wrth ddatgan ei bod am i'r rhaglen fod yn weithredol erbyn diwedd mis Mai, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y byddai hyn yn galw am adnoddau sylweddol a dywedodd y byddai angen tua 1,000 o staff ar y cychwyn, gan gynnwys pobl sy'n gweithio i awdurdodau lleol. Ar y cyd â swyddogion diogelu'r cyhoedd y cyngor a fydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, a phartneriaid ym maes iechyd, bydd angen naill ai recriwtio neu adleoli aelodau eraill o staff nad ydynt yn staff clinigol. Sut ydych chi'n ymateb felly i'r datganiad gan arweinwyr awdurdodau lleol yn dweud y bydd rhai awdurdodau lleol yn cael eu llethu os nad yw Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'n llwyr i ariannu ei strategaeth 'Profi Olrhain Diogelu'?

Diolch ichi am hynny, Mark. Fel y dywedais, rydym yn gweithio'n agos iawn â holl arweinwyr yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae pob un ohonynt yn cefnogi'r alwad arnaf i yn ymuno â hwy o leiaf unwaith yr wythnos, a llawer mwy o weithiau na hynny ar adegau. Fel y dywedais, rydym yn datblygu cyfres o gynlluniau peilot a fydd yn archwilio agweddau allweddol ar y cynllun penodol hwn: agweddau allweddol ar olrhain â llaw, sgriptiau, niferoedd, rolau'r gweithlu, gofynion hyfforddi, casglu data, llif gwybodaeth, materion cyfreithiol posibl, gan gynnwys cynllunio senarios a gofynion cyswllt risg uchel. Felly, rydym yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i ddeall holl oblygiadau hynny, ac i ddeall beth yw eu gofynion o ran adnoddau. Ac fel y dywedais wrth ymateb i Delyth yn gynharach, rydym yn gwbl ymwybodol fod angen iddynt gael cefnogaeth lawn yn hynny, ac rwyf wedi dweud hynny'n glir iawn wrth yr arweinwyr.

Mae Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn llygad ei le—mae'n dasg enfawr—ond rwy'n falch iawn o ddweud bod ein hawdurdodau lleol i gyd wedi camu i'r adwy ac yn gweithio'n galed iawn gyda ni a chyda'r awdurdodau peilot i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i gyflawni'r cynllun hynod bwysig hwn i Gymru.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd ar yr ymateb i coronafeirws. Ac fe fydd y Dirprwy Lywydd yn cymryd y gadair ar gyfer yr eitem yma. Y Gweinidog, Ken Skates. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, gosododd y Prif Weinidog y fframwaith a fydd yn arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws. Mae'r ddogfen a gyhoeddwyd gennym yn nodi sut a phryd y bydd penderfyniadau ar lacio'r cyfyngiadau yn cael eu gwneud yn ein heconomi, yn ein cymunedau ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ac fel Gweinidogion, rydym yn cefnogi'r gwaith hwnnw. Fy nhasg i yw sicrhau, pan fydd yr amser yn iawn, fod ein busnesau, ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n system sgiliau yn barod nid yn unig i addasu a newid i'r byd ar ôl y coronafeirws ond yn hollbwysig, ein bod yn barod ac yn abl i ailadeiladu'n well er mwyn y genhedlaeth hon a'r cenedlaethau i ddod.

Un o brif elfennau'r gwaith hwn yw sicrhau nad ydym yn cael gwared ar sylfaen economaidd allweddol y cyfyngiadau—y cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyflwyno drwy'r cynllun cadw swyddi—yn rhy sydyn. Mae'r cynllun cadw swyddi wedi bod yn hanfodol i alluogi rhannau helaeth o'r economi i gael cyfnod o seibiant drwy gydol yr argyfwng hwn. Nid oedd gan yr un o'r Llywodraethau datganoledig yn gweithredu ar eu pen eu hunain rym ariannol i sicrhau incwm a bywoliaeth yn y ffordd y mae'r cynllun cadw swyddi wedi ei wneud. Ac felly mae'n hanfodol nad yw'r cynllun cadw swyddi yn cael ei ddileu neu ei leihau cyn bod busnesau wedi gallu ailgychwyn eu gweithrediadau'n iawn.

Dyma'r neges a roddais i a'r Gweinidog cyllid i Ganghellor y Trysorlys mewn llythyr ar y cyd yr wythnos diwethaf, ac rwy'n croesawu'r camau dilynol a gymerodd wedyn i ymestyn y cynllun tan fis Hydref. Er ei fod yn darparu cyfle pwysig i ni i gyd feddwl am y dyfodol, pwysaf ar Lywodraeth y DU i'n cynnwys ni yn y trafodaethau hynny mewn modd ystyrlon.

Mae pawb ohonom yn ymwybodol iawn fod rhai sectorau wedi cael eu taro'n galetach nag eraill—i rai ohonynt, dechreuodd y cyfyngiadau'n gynharach a byddant yn dod i ben yn llawer hwyrach. Wrth inni nesáu at dymor yr haf, rydym i gyd yn ymwybodol o'r effaith y mae'r coronafeirws yn ei chael ar y sector twristiaeth a lletygarwch. Un o'r pryderon mwy diweddar a grybwyllwyd wrthyf yw taliadau prydlon i fusnesau bach. Rwy'n annog pob sefydliad mawr, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, i chwarae eu rhan i gefnogi'r busnesau llai hynny drwy wneud taliadau'n brydlon.

Ond mae angen i'r sgwrs ddechrau gyda Llywodraeth y DU yn awr ynglŷn â'r dyfodol, ynglŷn â sut y bydd bywyd economaidd yn gweithredu ar ôl i'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig ddod i ben. Yng Nghymru, nid yw ein blaenoriaeth wedi newid. Iechyd cyhoeddus a rheoli'r pandemig yw ein blaenoriaeth o hyd. Dyna pam y cyhoeddais nodyn atgoffa pwysig ar 14 Mai i unrhyw un a oedd yn ystyried teithio i Gymru: arhoswch gartref os gwelwch yn dda. Bydd croeso â breichiau agored i ymwelwyr â Chymru pan fyddwn wedi cefnu ar yr argyfwng hwn, ond am nawr, rhaid inni drechu'r feirws drwy aros gartref.

Nawr, rhan bwysig o'n gwaith yw cynorthwyo busnesau drwy'r pandemig hwn, a'n pecyn cymorth ni yw'r mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y DU, ac mae'n cynnwys cynllun benthyciadau £100 miliwn i helpu mwy na 1,000 o fusnesau drwy Fanc Datblygu Cymru; cynllun grantiau cronfa cadernid economaidd gwerth £400 miliwn sydd wedi denu mwy na 9,500 o geisiadau cam 1, gyda dros 6,000 o gynigion eisoes wedi'u gwneud hyd yma, gwerth mwy na £100 miliwn; a hefyd, wrth gwrs, y cymorth grant ar sail ardrethi annomestig i fusnesau bach a busnesau sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, sydd wedi dyfarnu 51,100 o grantiau gwerth mwy na £626 miliwn hyd yma. Mae'n becyn cyfan o £1.7 biliwn, sy'n werth 2.7 y cant o'r cynnyrch domestig gros.

Ar 27 Ebrill, caewyd y gronfa cadernid economaidd am gyfnod er mwyn rhoi cyfle inni ystyried ble gallai cymorth pellach gael yr effaith fwyaf, nid yn unig i helpu'r busnesau nad ydym wedi eu cyrraedd eisoes, ond hefyd i ystyried pa gymorth y bydd pob busnes ei angen drwy'r cyfnod achub sy'n mynd rhagddo, yn ogystal ag i mewn i'r camau ailgychwyn ac adfer, wrth i gyfyngiadau gael eu llacio yn unol â fframwaith dydd Gwener diwethaf. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda ac rydym wrthi'n cwblhau manylion cam nesaf y gronfa cadernid economaidd. Rwy'n disgwyl ailagor gwiriwr cymhwysedd y gronfa cadernid economaidd i geisiadau newydd erbyn canol mis Mehefin, gan ganiatáu amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau. Yn dilyn hynny, rwy'n disgwyl agor i geisiadau llawn yn ddiweddarach yn y mis. Bydd hyn yn galluogi busnesau i wneud cais am gyfran o'r £100 miliwn sy'n weddill o'r £300 miliwn sydd eisoes wedi'i gymeradwyo a'i ddyrannu i gefnogi microfusnesau, mentrau bach a chanolig a busnesau mawr.

Nawr, o ran cymhwysedd, bydd cam 2 o'r gronfa yn gweithredu yn yr un ffordd â cham 1, ond gyda diweddariad i'r cynllun micro. Bydd hyn yn galluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW i gael mynediad at y gronfa, rhywbeth y mae cynifer o fusnesau bach wedi bod yn galw amdano. Yn ogystal â hynny, rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol i ddatblygu cynigion cymorth pellach i'r rhai nas cyrhaeddwyd eto—er enghraifft, busnesau newydd. Rydym hefyd wedi ychwanegu at gronfa cymorth dewisol y Llywodraeth, sy'n cefnogi pobl sydd wedi cael eu cyflogi'n ddiweddar ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun cadw swyddi, yn ogystal â'r hunangyflogedig.

Wrth gwrs, Lywydd, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y materion hyn. Yn y cyfamser, mae gan Lywodraeth y DU rôl hollbwysig yn ehangu ei chefnogaeth i fusnesau strategol sy'n dal i'w chael hi'n anodd dod o hyd i gymorth priodol. Yn benodol, rwyf wedi gofyn i Lywodraeth y DU edrych eto ar ba gymorth y gall ei ddarparu i ddiogelu busnesau sy'n allweddol i'n diogelwch economaidd cenedlaethol, megis Tata Steel ac Airbus.

Yn gynharach heddiw, Lywydd, amlinellodd y Gweinidog Addysg gynllun cydnerthu ar gyfer y sector ôl-16 yn sgil COVID-19 er mwyn rhoi fframwaith clir i ddarparwyr addysg ar gyfer cynllunio a darparu ein hymateb o ran cyflogadwyedd a sgiliau. Mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd ac yn ymateb i hynny'n gyflym. Flwyddyn ar ôl ei lansio'n swyddogol, mae gwasanaeth Cymru'n Gweithio wedi cefnogi dros 31,500 o oedolion yn uniongyrchol, a dros 6,000 o bobl ifanc sy'n chwilio am gymorth cyflogadwyedd. Addaswyd y gwasanaeth hwnnw mewn ymateb i'r pandemig ac mae wedi ymestyn ei ddarpariaeth sgwrsio ar y we, negeseuon testun a chyfleusterau gwasanaeth galwadau i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn y ffordd orau.  

Ond nid dyma'r unig newid a wnaethom. Ar gyfer prentisiaid, rydym wedi datblygu modiwlau dysgu ar-lein i sicrhau eu bod yn gallu parhau i gamu ymlaen drwy eu dysgu. Ar gyfer ein dysgwyr drwy hyfforddeiaethau, rydym wedi datblygu pecynnau dysgu digidol ac wedi cynnal eu lwfansau hyfforddiant. Ac i'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, mae ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol wedi addasu eu darpariaeth er mwyn parhau i ddarparu allgymorth yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ac agored i niwed ar gyfer pobl ifanc ac oedolion. I'r rhai sy'n nes at y farchnad lafur, darparir cymorth trwy ReAct, Twf Swyddi Cymru a'r rhaglen sgiliau cyflogadwyedd. Ac i'r rhai sydd mewn gwaith, mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, gyda chefnogaeth Cyngres Undebau Llafur Cymru, yn darparu atebion sgiliau uniongyrchol a chefnogaeth i weithwyr yn ystod ac ar ôl yr argyfwng coronafeirws.

Nawr, mae'n rhaid dweud, Lywydd, na fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein partneriaid cymdeithasol. Ac ar 14 Mai, gyda'r Prif Weinidog, cyfarfûm ag aelodau o gyngor y bartneriaeth gymdeithasol y gwrthbleidiau i drafod yr heriau sy'n ein hwynebu ni i gyd dros y misoedd nesaf, i drafod sut y byddwn yn codi'r cyfyngiadau'n ddiogel, i drafod sut y gallwn fanteisio ar, a symud tuag at economi sy'n cynnwys teithio llai, ond gweithio'n ddoethach.

Yr wythnos diwethaf hefyd, cyfarfûm ag undebau trafnidiaeth, grwpiau teithwyr, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, cynrychiolwyr rhanddeiliaid, a Trafnidiaeth Cymru i drafod y canllawiau rydym yn eu datblygu i helpu i baratoi ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y normal newydd. Yn y tymor byr, rydym yn ystyried ffyrdd o reoli'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus a dal ati i gadw pellter cymdeithasol. Ymhlith y mesurau a drafodasom, roedd blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus i weithwyr allweddol, annog mwy o archebu ymlaen llaw a chynllunio teithio'n well, darwahanu patrymau sifftiau yn y sector cyhoeddus, ac annog y sector preifat i wneud yr un peth. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, yn barod ar gyfer unrhyw lacio ar y cyfyngiadau symud a allai ddigwydd drwy'r adolygiad 21 diwrnod nesaf o'r rheoliadau.

Nawr, Lywydd, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl wrth gwrs, ac rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod ansicr a dirdynnol iawn i fusnesau a chyflogeion. Dyna pam ein bod wedi cynnwys gwybodaeth am iechyd meddwl a lles fel rhan o'n pecyn cyngor ar wefan Busnes Cymru er mwyn helpu arweinwyr busnes i ofalu amdanynt eu hunain a'u staff. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen Amser i Newid Cymru ac ymgyrch Iechyd Cyhoeddus Cymru,'Sut wyt ti?'. Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi, a hoffwn annog pob busnes a chyflogai i ddefnyddio'r adnoddau amhrisiadwy hyn.

Lywydd, hoffwn orffen drwy ddiolch eto i'r Aelodau ar draws y Siambr hon am y cyngor, y syniadau, a'r awgrymiadau y maent wedi'u darparu yn ystod y misoedd diwethaf. Fe ddown drwy'r argyfwng hwn, ac fe wnawn ailadeiladu'n well yn ein heconomi, yn ein cymunedau ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny. Ac rwy'n falch iawn o allu cymryd cwestiynau yn awr.

14:40

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am y ffordd ddefnyddiol a chydweithredol y mae wedi gweithio gyda'r pleidiau ar draws y Senedd yn ystod y cyfnod anodd hwn? Beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngom, rwy'n siŵr fod hwn yn gyfnod pan fo pawb ohonom am weld Llywodraeth Cymru yn llwyddo, ac yng nghyd-destun ein trafodaethau y prynhawn yma, rydym am weld a gallu cefnogi'r Gweinidog yn ei ddyheadau inni allu ailadeiladu'n well a chadw ein heconomi yn gryf.

Hoffwn ofyn ambell gwestiwn penodol, os caf. Ar y gronfa cadernid economaidd, gwn fod y Gweinidog wedi gobeithio gallu ailagor ychydig yn gynharach. Ac rwy'n meddwl tybed a all gofnodi'r esboniad y mae wedi'i roi ynglŷn â pham y bu'n bwysig sicrhau nad oes dyblygu yn y ddarpariaeth, fel y gall y busnesau sy'n dal i aros am gymorth ddeall yn well pam y mae'r oedi ychydig yn annisgwyl hwn wedi bod yn angenrheidiol, ac rwy'n derbyn ei fod yn angenrheidiol. A all gadarnhau bod y saib ychydig yn hwy—rwy'n falch iawn o glywed, gyda llaw, yr hyn y mae'n ei ddweud am gynnwys busnesau nad ydynt yn gallu talu TAW, ond a all gadarnhau y bydd y saib ychydig yn hwy yn ei alluogi i roi ystyriaeth bellach i rai o'r busnesau eraill sydd ar goll y byddai modd iddo eu cynnwys lle gallai fod ychydig yn anos rhoi tystiolaeth? Soniodd am fusnesau newydd, ond hoffwn dynnu ei sylw hefyd at fusnesau twristiaeth sy'n talu'r dreth gyngor, nid ardrethi busnes, na ellir eu cefnogi ar hyn o bryd, wrth gwrs.

Mae'n sôn am gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn hynod falch fod hwnnw yn ei le, ac yn falch iawn ei fod wedi cael ei ymestyn. Ond wrth gwrs, i rai o'r bobl sydd wedi cael eu dal yn y problemau gyda bod yn weithwyr newydd ac na ellir eu gosod ar ffyrlo oherwydd hynny, efallai nad yw ymestyn y cynllun yn newyddion da i'r unigolion hynny. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog y prynhawn yma a fydd yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch sefyllfa gweithwyr newydd, gan ein bod bellach yn gwybod bod y cynllun wedi'i ymestyn? Ac a wnaiff barhau i fynegi'r pryderon rwyf fi ac eraill wedi'u dwyn i'w sylw ynghylch diffyg hyblygrwydd yn y cynllun? Wrth i'r cyfyngiadau ddechrau cael eu codi, efallai y bydd busnesau, er enghraifft, yn dymuno galluogi rhai aelodau o staff i ddychwelyd yn rhan-amser, ond efallai na fyddant yn gallu eu cyflogi'n amser llawn. Ac o ran ailgychwyn ein heconomi'n raddol, yn enwedig busnesau twristiaeth, rwy'n gobeithio y bydd yn cytuno â mi y byddai'r hyblygrwydd hwnnw yn y cynllun ffyrlo'n hanfodol, oherwydd fel arall efallai na fydd gan fusnesau unrhyw ddewis ond peidio ag agor o gwbl.

14:45

A allwch chi ddod â'ch cwestiwn i ben yn awr, oherwydd rydych chi ymhell dros yr amser?

Rwy'n ymddiheuro, Ddirprwy Lywydd, dim ond un cwestiwn olaf. Rwy'n falch iawn o weld yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am y canllawiau ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel. A all ddweud ychydig mwy am y cynnydd ar ganllawiau ehangach ar gyfer dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel?

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones nid yn unig am ei chwestiynau, ond hefyd am y syniadau y mae hi wedi gallu eu cynnig i mi yn ddiweddar? Rwy'n eu gwerthfawrogi'n fawr. Maent wedi helpu i lunio nid yn unig ail gam y gronfa cadernid economaidd, ond ymyriadau eraill hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn yn wir.

Rydym yn ceisio manteisio ar y pythefnos sydd i ddod i bwyso a mesur cynllun benthyciadau adfer Llywodraeth y DU, a hefyd i sicrhau y gallwn weithio'n agos iawn gyda phartneriaid awdurdodau lleol ar unrhyw fanylion cynllun caledi ar gyfer y busnesau sy'n weddill a allai ddisgyn drwy'r rhwyd. Mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n sicrhau nad ydym yn anfwriadol neu'n anffodus, yn ddamweiniol, yn talu ddwywaith i fusnesau a allai geisio gwneud cais ar gyfer cam 1 y gronfa cadernid economaidd a cham 2 y gronfa cadernid economaidd. Drwy bennu canol Mehefin fel y dyddiad y byddwn yn agor y gwiriwr cymhwysedd, gallwn fod yn hyderus y byddwn wedi cwblhau'r holl daliadau i ymgeiswyr llwyddiannus yng ngham cyntaf y cynllun.

O ran rhai o'r busnesau hynny a gafodd sylw, mae'n bosibl y bydd rhai o'r sectorau hynny, y busnesau gwely a brecwast sy'n talu'r dreth gyngor, yn gymwys i gael arian y gronfa cadernid economaidd, cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru ar gyfer TAW ac yn gyflogwyr, neu os nad ydynt, byddai angen iddynt fodloni dau o dri phwynt yn ein meini prawf—mae'r tri phwynt yn ymwneud â bod wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, neu fod â throsiant o dros £50,000. Os na allant fodloni hynny, rydym yn edrych ar sut y gallai cronfa galedi arall fod o gymorth.

Ond pwrpas ein hymyriadau economaidd yw cefnogi busnesau sy'n cyflogi pobl, busnesau sy'n hyfyw, busnesau y mae'r perchnogion a'u gweithwyr yn dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae arnaf ofn nad oes gennym bŵer i allu cefnogi busnesau ffordd o fyw, ac felly rydym yn gorfod bod yn ddetholus o ran pa fusnesau rydym yn eu cefnogi. Dyna pam ei bod yn gwbl briodol ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau ariannol yn y busnesau a fyddai fel arall yn rhoi'r gorau i fasnachu ac yn methu.

Rwy'n cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones ynglŷn â'r angen i sicrhau bod y cynllun ffyrlo yn fwy hyblyg yn ystod y misoedd i ddod, a dyna pam yr hoffem drafod sut y bydd y cynllun yn gweithredu o fis Awst i fis Hydref yn awr. Mae angen inni gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon, a dyna a drafodwyd y bore yma gyda chymheiriaid o'r gweinyddiaethau datganoledig ac o BEIS. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fod yn fwy hyblyg o ran y meini prawf ar gyfer gwneud cais ac yn benodol y cymhwysedd mewn perthynas â dyddiadau. Byddem yn dymuno gweld ceisiadau ffyrlo a estynnwyd i'r cyfnod rhwng 15 Mawrth a 1 Ebrill yn cynnwys gweithwyr tymhorol.

Rydym wedi sefydlu mwy o gyllid yn y gronfa cymorth dewisol i helpu pobl sydd wedi disgyn drwy'r bwlch hwn, a hynny ar sail dros dro. Os na wnaiff Llywodraeth y DU roi sylw i'r broblem benodol honno gyda'r dyddiadau, byddwn yn adolygu eto a oes angen unrhyw gymorth pellach drwy'r gronfa cymorth dewisol.

Credaf fod Helen Mary Jones yn codi'r pwynt pwysig ynglŷn â chanllawiau. Wrth inni godi'r cyfyngiadau, wrth inni lacio'r cyfyngiadau, rhaid inni sicrhau bod gan bobl hyder i ddefnyddio busnesau, a mynd i mewn i'r gweithle. Rydym wedi bod yn trafod gyda'n partneriaid cymdeithasol y canllawiau sydd nid yn unig yn berthnasol i drafnidiaeth gyhoeddus, ond hefyd i fusnesau ar sail sectoraidd, sy'n manteisio ar y gwaith a wnaed gan BEIS o ran gweithio'n fwy diogel, ond sydd hefyd yn ymgorffori, yn allweddol, y rheoliadau yma yng Nghymru mewn perthynas â'r rheol 2m. Edrychaf ymlaen at allu cyhoeddi'r canllawiau hynny yn yr wythnosau sydd i ddod, fel eu bod yn galluogi busnesau i ymgorffori unrhyw ffyrdd newydd o weithio cyn gynted ag y bo modd, er mwyn iddynt allu addasu i fod yn weithrediadau arferol yn gymharol ddidrafferth.

14:50

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei atebion. O ran busnesau twristiaeth, credaf fy mod eisoes wedi sôn wrtho am yr angen penodol iddynt allu cael eu canllawiau dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu eu bod i gyd yn ymwybodol iawn na fyddant ymhlith y busnesau cyntaf sy'n dychwelyd, ond maent hefyd yn ymwybodol iawn y bydd angen iddynt wneud newidiadau strwythurol posibl ar eu safleoedd cyn y gallant agor, ac y gallai fod angen iddynt ddarparu ailhyfforddiant i'w staff hefyd fel eu bod yn ymwybodol o'r canllawiau. Felly, tybed a all y Gweinidog roi rhyw syniad i ni pryd y gallai'r arweiniad busnes sector-benodol ar gyfer twristiaeth fod ar gael? Ac a all gadarnhau y bydd y canllawiau hynny'n cynnwys canllawiau penodol ar gyfer gwahanol sectorau ym maes lletygarwch a thwristiaeth—popeth o barciau carafanau i safleoedd gwersylla i gychod twristiaeth, er enghraifft, lle bydd problemau gwahanol yn codi ynghylch cadw pellter cymdeithasol ym mhob un o'r rheini?

Rwy'n ddiolchgar iddo am yr hyn a ddywedodd am y cynllun ffyrlo ac am barhau i wthio'r achos dros fusnesau newydd. Fel y gŵyr, credwn fod hyd at 22,000 o ddinasyddion Cymru wedi'u dal yn y sefyllfa hon. Ac er fy mod yn ddiolchgar am yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am y gronfa cymorth dewisol, rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod na ddylai honno ddod yn lle cynllun ffyrlo ac ni fyddai'n dymuno iddi gymryd lle cynllun ffyrlo priodol ar gyfer y bobl hynny.

Yn olaf, a gaf fi ddiolch iddo unwaith eto am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni a gofyn iddo gadarnhau y bydd yn gwneud datganiad i'r lle hwn cyn gynted ag y gall am yr union feini prawf ar gyfer cyfnod newydd y gronfa cadernid economaidd?

Gallaf eich sicrhau y byddaf yn cyhoeddi'r meini prawf cyn gynted ag y bo modd—meini prawf llawn—a byddaf yn gwneud datganiad i'r Aelodau. A gaf fi ddweud ein bod yn sefyll gyda'r sector twristiaeth yn awr? Nid yw erioed wedi bod drwy gyfnod mor ansicr ag y mae'n mynd drwyddo ar hyn o bryd, ac rydym am gefnogi'r sector ym mhob ffordd y gallwn, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, sydd â phocedi llawer dyfnach wrth gwrs, a gallu i gefnogi'r sector gydag adnoddau ariannol.

O ran rhai o'r cwestiynau a ofynnodd Helen Mary Jones ynglŷn â'r canllawiau, bydd y canllawiau y byddwn yn eu cyhoeddi yn berthnasol i sectorau, ac mae'r canllawiau a gyhoeddwyd gan BEIS yn berthnasol i weithleoedd, a bydd yn amlinellu sut y gall newidiadau strwythurol, sut y bydd gwaith adeiladu ar safleoedd, yn digwydd mewn ffordd ddiogel. Rydym yn ceisio bod mor gynhwysfawr â phosibl, o ran y canllawiau sy'n cael eu drafftio, fel bod pob busnes yn gallu ystyried y rheoliadau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae'r canllawiau sydd eisoes ar gael gan BEIS yn ymdrin mewn ffordd foddhaol at ei gilydd â threfniadau gweithio diogel. Yr hyn y byddwn yn ei gynhyrchu yw fersiwn well a fersiwn sydd ond yn berthnasol i Gymru.

Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a'r ffordd adeiladol y buoch yn gweithio gyda llefarwyr yr wrthblaid? Fe soniwch eich bod yn annog Gweinidogion Llywodraeth y DU i'ch cynnwys mewn trafodaethau, a tybed a ydych chi hefyd wedi estyn gwahoddiad i Weinidogion Llywodraeth y DU fod yn rhan o'ch trafodaethau chi ar gam nesaf y gronfa cadernid economaidd.

Rwy'n arbennig o falch eich bod wedi rhoi dyddiad ar gyfer cam nesaf y gronfa cadernid economaidd, ond rwy'n siomedig braidd ei fod mor bell i ffwrdd. Rwyf wedi bod yn dweud wrth fusnesau a fu'n cysylltu â fy swyddfa, yn ddyddiol rai ohonynt, ei fod 'yn dod yn fuan.' Roedd hynny dair neu bedair wythnos yn ôl. Os nad yw'r gronfa nesaf ar gael ar gyfer canol mis Mehefin, mae hynny dair, bedair wythnos i ffwrdd eto, ac os na fydd ceisiadau'n agor tan ddiwedd mis Mehefin, rwy'n credu bod hynny'n amser hir i fusnesau aros. A oes unrhyw ffordd o gwbl y gallwch wneud hynny'n gynt, ac egluro'r rheswm pam dewis y dyddiad hwnnw efallai?  

Rydych chi wedi dweud hefyd, ac efallai y gallwch chi egluro hyn, y bydd pobl yn gallu paratoi eu ceisiadau cyn i'r gronfa ddod i fodolaeth. Nid wyf yn deall sut y gallant wneud hynny os nad ydynt yn gwybod beth yw'r meini prawf cymhwysedd. Ac os nad yw'r gwiriwr ar gael tan ganol mis Mehefin, sut ar y ddaear y gallant wneud cais ymlaen llaw os yw hynny'n wir?

O ran TAW, rydych chi wedi dweud yn benodol mai ar gyfer cwmnïau cyfyngedig yn unig y mae hyn. Roedd hwn yn bryder mawr a godwyd gan fusnesau: os nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, nid ydynt yn gymwys. Mae yna ychydig iawn o fusnesau cyfyngedig sydd heb eu cofrestru ar gyfer TAW. Mae hi bron yn sicr nad yw'r busnesau a oedd yn mynegi'r pryderon hyn wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r bylchau. Os gallwch roi mwy o syniad i ni am y bylchau yn y cymorth i fusnesau a gaiff eu dileu'n raddol erbyn cam 2, ac rwy'n meddwl yn arbennig am fusnesau a ddechreuodd yn ôl ym mis Ebrill 2019 nad ydynt wedi gallu cael unrhyw arian o gwbl o hyd. Tybed a allech roi unrhyw obaith i'r busnesau hynny hefyd.

14:55

Wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd. Ac i'r busnesau hynny, fel y dywedais yn gynharach, rydym yn edrych ar sefydlu bwrsariaeth galedi a fydd yn galw am gefnogaeth awdurdodau lleol y bydd gofyn iddynt weinyddu cronfa o'r fath. Mae'n galw am gryn dipyn o waith gweinyddol, a dyna pam y mae angen inni sicrhau bod systemau cadarn yn eu lle cyn inni ddechrau'r cynllun, sydd yn ei dro yn egluro'r amserlen rydym yn edrych arni.

Nawr, rwy'n awyddus i reoli disgwyliadau ac i addo llai a chyflawni mwy, a dyna pam y dywedais y bydd yr offeryn cymhwysedd ar agor erbyn canol mis Mehefin. Os gallwn gyflwyno hynny'n gynt mewn unrhyw ffordd, yna byddwn yn sicr o wneud hynny. Rwy'n cydnabod bod angen gweithredu ar frys. Rydym wedi bod yn gwneud hynny. Mae gennym y pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael yn unrhyw le yn y DU. Rydym ni fel Llywodraeth yn awyddus i gadw ein henw da fel y Llywodraeth sy'n cynnig y pecyn cymorth gorau i fusnesau. Felly, fe wnawn bopeth yn ein gallu i gyflwyno cynllun cyn gynted â phosibl. Ond mae angen inni sicrhau hefyd ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ystyried cynllun benthyciadau adfer Llywodraeth y DU, a'r rownd gyntaf o ddyfarniadau'r gronfa cadernid economaidd wrth gwrs.

Ond rwy'n derbyn yr hyn y mae Russell George yn ei ddweud yn llwyr, sef bod angen inni sicrhau ein bod yn rhoi hyder i fusnesau fod cymorth pellach yn mynd i fod ar gael, a'n bod ni'n mynd i gynnwys cynifer ag y bo modd o'r busnesau a syrthiodd drwy'r rhwyd y tro cyntaf, ac sydd wedi disgyn drwy'r rhwyd o ran cymorth Llywodraeth y DU, gan gynnwys y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig a'r cynllun cadw swyddi.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n credu fy mod yn arbennig o awyddus i ddeall sut y gall busnesau wneud cais am y cynllun cyn bod y gwiriwr ar gael. Ni allant baratoi oni bai eu bod yn gwybod os ydynt yn gymwys ai peidio.

Tybed, hefyd, a wnewch chi roi sylw i'r rheswm pam eich bod mor amharod, mae'n debyg, i gyhoeddi amserlen uchelgeisiol gyda cherrig milltir clir ar gyfer ailagor economi Cymru fesul cam, a phryd y bydd hynny'n digwydd.

Hefyd, rwy'n poeni'n fawr am y diwydiant bysiau a choetsys, ac rwy'n meddwl tybed a allech gynnig unrhyw amlinelliad o'r gefnogaeth sy'n dod i'r sector penodol hwn.

Sylwaf hefyd fod y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi gwneud awgrymiadau da iawn ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo busnesau i ailagor, a tybed sut y byddech yn ymateb i rai o'u hawgrymiadau, sef y dylai Llywodraeth Cymru: gyhoeddi cyngor ac arweiniad ar y rheol 2m; cyflwyno cronfa grantiau cadw pellter cymdeithasol a fyddai'n targedu'r busnesau sydd efallai'n ei chael hi'n anodd gwneud rhai o'r addasiadau hynny; cyflwyno cynllun cyfnod seibiant ar gyfer twristiaeth er mwyn sicrhau bod busnesau yn y sector yn gallu goroesi tan dymor 2021; ac yn olaf, sut y gall rhaglen trawsnewid trefi £19 miliwn Llywodraeth Cymru helpu trefi i addasu yn barod ar gyfer y cyfnod adfer.

Mae Russell George wedi gofyn nifer o gwestiynau pwysig iawn ac rwyf am geisio fy ngorau i'w hateb yn gryno. Yn gyntaf oll, bydd yr offeryn cymhwysedd ar gael cyn i'r cynllun agor, felly bydd unrhyw fusnes sy'n ystyried gwneud cais yn gallu gweld a fydd yn gymwys ai peidio. Bydd yr holl feini prawf ar gael ar-lein. Rwyf am ymdrechu i lansio'r gronfa honno cyn gynted ag y bo modd, ond rhaid inni wneud hynny gan wybod bod yr holl systemau ar waith a bod ein cydweithwyr llywodraeth leol yn cefnogi'n llawn unrhyw gynllun bwrsariaeth galedi a gyflwynwn.

Ac o ran amserlen ar gyfer ailagor rhai sectorau o'r economi, rwy'n credu ei bod yn bwysig i bawb ohonom ymdrechu i'r eithaf i geisio trechu'r pandemig a'r feirws yn awr. Gallai gosod amserlen artiffisial, neu un ddymunol hyd yn oed, beri i bobl fod ychydig yn llai gwyliadwrus ynglŷn â'r angen i drechu'r feirws. Os yw pobl yn gwybod na fydd busnesau'n ailddechrau fel arfer heb i'r feirws gael ei drechu, rwy'n credu y bydd yr ymdrech gymaint yn fwy, a dyna pam rwy'n awyddus i wneud yn siŵr ein bod ond yn canolbwyntio ar reoli'r feirws.

O ran y cymorth sy'n cael ei gynnig i'r sector bysiau, rydym wedi sefydlu cronfa galedi £29 miliwn ar gyfer darparwyr gwasanaethau bysiau. Nawr, ariannwyd y gronfa drwy swm canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ond daw i ben ddiwedd mis Mehefin. Rydym wedi bod yn glir yn ein gohebiaeth a'n trafodaethau â'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU fod angen cyllid sicrwydd mwy hirdymor ar gyfer y sector bysiau i sicrhau nad yw darparwyr bysiau yn rhoi'r gorau iddi, nad ydynt yn lluchio'r allweddi. Felly, rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar yr hyn rydym wedi galw amdano ac y byddwn yn gallu darparu pecyn cymorth llawer mwy hirdymor ar gyfer y sector bysiau.

Ond yn ogystal â hynny, mae'r gronfa cadernid economaidd wedi bod yn weithredol i fusnesau ar draws pob sector, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gallu cefnogi cwmnïau bysiau drwy'r gronfa benodol honno. Mae cynigion wedi'u gwneud i rai cyflogwyr mawr yn y diwydiant bysiau a'r diwydiant coetsys. Ac rwy'n croesawu'n fawr y papur a gynhyrchwyd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach. Cyhoeddwyd y rheoliadau 2m gennym. Bydd y cyngor a'r canllawiau ar gyfer gweithredu'n ddiogel yn y gwaith i weithwyr a pherchnogion busnesau yn cael eu cyhoeddi. Bydd honno'n fersiwn estynedig o'r hyn sydd eisoes wedi'i ddarparu gan BEIS, gan ychwanegu rheoliadau Cymreig ar gadw pellter cymdeithasol. Ac rwyf eisoes wedi trafod yr angen i ystyried grant i helpu busnesau i addasu i'r hyn fydd yn normal newydd gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn gallu darparu adnoddau ariannol i allu rhoi grantiau i fusnesau, yn enwedig busnesau bach lle gallai'r costau fod yn llethol.  

Mewn perthynas â'r diwydiant twristiaeth, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU ystyried gwyliau TAW yn y sector twristiaeth. Rwy'n credu y gallai hyn fod yn fuddiol iawn, yn enwedig yn y cyfnod adfer, ond yn yr un modd, mae fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod, Dafydd Elis-Thomas, wedi cael sawl trafodaeth ar y ffôn gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU a chyda'r cyrff masnach ynghylch cymorth mwy hirdymor i'r diwydiant i wneud yn union yr hyn rydych chi wedi'i awgrymu, Russell, sef sicrhau eu bod yn gallu cael cyfnod o seibiant trwy adegau gwaethaf yr argyfwng hwn.

15:00

Diolch. Mae gennym oddeutu 12 munud yn weddill ac rydym wedi cael dwy set o gwestiynau, felly rwy'n mynd i ofyn i chi fod yn gryno, Weinidog, ac mae'n ddrwg gennyf am hynny, a bydd angen bod yn gryno yn y gyfres nesaf o gwestiynau hefyd. Jenny Rathbone. Jenny Rathbone? Na. O'r gorau. Huw Irranca-Davies.

Nid wyf yn siŵr fod Huw yn gallu eich clywed, Ddirprwy Lywydd. Mae angen agor ei feic.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, y tu hwnt i COVID-19, rydym yn dal i wynebu argyfwng hinsawdd, mae gennym argyfwng bioamrywiaeth, mae gennym anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd dwfn, mae gennym gwmnïau nad ydynt mor foesegol ag eraill nad ydynt yn talu eu cyfran deg o drethi, ac yn y blaen. Felly, wrth ailadeiladu'n well, a gaf fi ofyn i chi ymhelaethu ar hyn a beth fyddai'n ei olygu ar gyfer math gwahanol o Gymru yn gymdeithasol ac yn economaidd yn y dyfodol? A fyddai'n cytuno bod cyfle o ddifrif yma inni allu ailadeiladu'n well yng Nghymru oherwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, oherwydd pleidlais ein Senedd ar newid hinsawdd, yn cydnabod yr argyfwng newid hinsawdd—swyddi sy'n nes at gartrefi, pobl a lleoedd sydd lawn mor bwysig â gweithgarwch busnes mawr? Sut y gwnawn ni hyn, Weinidog? Mae cyfle go iawn yma.

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â Huw Irranca-Davies fod cyfle anhygoel i wneud fel y mae Andy Burnham wedi'i ddweud, i ailadeiladu'n well—ef sydd wedi bathu'r ymadrodd. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol i ddisgrifio rhai o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithredu yn ddiweddar, gan gynnwys drwy'r contract economaidd, sut rydym wedi bod yn hyrwyddo busnesau cyfrifol, gan gynnwys peth o'r ddeddfwriaeth arloesol sydd gennym yma yng Nghymru, gan gynnwys y Ddeddf teithio llesol a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Yn ystod y drafodaeth a gefais gyda'r Maer Burnham, llwyddais i dynnu sylw at rai o'r ffyrdd unigryw o weithio yng Nghymru a fydd yn ein galluogi i ailadeiladu'n well ac a fydd, os dilynir hynny gan Lywodraethau eraill, yn galluogi'r wlad gyfan i ailadeiladu'n well hefyd.

Rwy'n credu bod peth o'r gwaith cyffrous y gellir ei ddatblygu i sicrhau ein bod yn creu cymdeithas fwy gwyrdd a mwy teg ac economi fwy gwyrdd a mwy teg yn cynnwys y gwaith sydd wedi dechrau ar weithio'n glyfar, ac mae hyn yn cysylltu â chwestiwn Russell George na chefais gyfle i'w ateb ynglŷn â sut y gallem gefnogi canol trefi a strydoedd mawr. Ein barn ni yw na fydd patrymau ymddygiad byth yn dychwelyd i'r hyn oeddent ym mis Chwefror eleni, ac y bydd newid ymddygiad, ar ôl yr argyfwng hwn, yn arwain at fwy o weithio o bell. Mae angen inni groesawu hynny, a gallem gefnogi defnydd eang o weithio o bell pe baem yn buddsoddi mewn siopau gwag yng nghanol trefi ar y stryd fawr, gan gynnig cyfleoedd i bobl, nid o reidrwydd i weithio gartref, ond yn sicr i weithio'n agosach at eu cartrefi. Gallai hyn wneud economi Cymru'n fwy cyfartal hefyd. Byddai'n golygu na fyddai pobl o reidrwydd yn gorfod teithio degau ar ddegau o filltiroedd i drefi a dinasoedd mwy o faint ein gwlad i fynychu cyfarfodydd. Byddai'n galluogi canol trefi i deimlo'n fwy bywiog i ni allu buddsoddi yn rhywfaint o'r seilwaith a fyddai hefyd yn gwella canol trefi a strydoedd mawr, gan gynnwys palmentydd lletach, seilwaith teithio llesol.

Ac rwy'n meddwl hefyd, o ran peth o'r gwaith rydym yn ystyried ei wneud ar strategaeth drafnidiaeth Cymru, wrth i ni ailadeiladu'n well, byddwn yn buddsoddi, wrth gwrs, mewn mwy o ddarpariaeth teithio llesol, gan gynnwys atebion trafnidiaeth mwy gwyrdd. Ac o safbwynt rhai o'r gweithdrefnau cyflogaeth moesegol rydym yn awyddus i'w hyrwyddo, fe fydd Huw Irranca-Davies yn ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi yn ddiweddar na fyddwn yn darparu cyllid cadernid economaidd i fusnesau sydd wedi'u cofrestru mewn hafanau treth. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud hyn; os nad ydych yn talu i mewn i'r system, pam y dylech allu mynd ag arian o'r system cyn y rhai sydd wedi talu eu cyfran deg? Rydym am i Gymru gael ei gweld fel gwlad deg a gwyrdd ac rwy'n hyderus y gallwn gael enw da o'r fath drwy'r gwaith sy'n cael ei wneud yn awr fel rhan o'r broses adfer.

15:05

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, a diolch iddo hefyd am ei ymdrechion glew yn ystod yr amser anodd iawn hwn? Hoffwn gydnabod yn ogystal ehangder yr ymyriadau gan Lywodraeth Cymru a'r modd effeithlon y cawsant eu gweithredu yn wir, yn enwedig drwy gyfrwng llywodraeth leol a Banc Datblygu Cymru. Ac rwy'n meddwl ein bod hefyd am gydnabod y rhan fawr y mae Busnes Cymru yn ei chwarae yn hyn drwy roi gwybodaeth mor dda i gwmnïau ar lawr gwlad.

Gan sôn am gwmnïau, Weinidog, mae pobl Cymru'n dibynnu ar lawer o gwmnïau i wneud eu bywydau gryn dipyn yn well yn ystod y cyfyngiadau symud, ond hoffwn dynnu eich sylw at gwmni nad yw'n gwneud hyn yn fy marn i, ac sy'n gwneud cam â'u cwsmeriaid yn ystod yr argyfwng hwn. Rwy'n cyfeirio yma at gwsmeriaid SSE, sef SWALEC yn flaenorol, y cwmni cyflenwi trydan. Mae'n debyg fod methiant mesurydd trydan wedi achosi i gwsmer golli ei gyflenwad trydan. Roeddent yn ei chael hi'n amhosibl hysbysu'r cwmni am y nam. Fe geisiais i gysylltu â'r cwmni wedyn gan ddefnyddio eu gwefan a nifer o rifau ffôn, gan gynnwys y rhif a roddwyd i Western Power yn benodol ar gyfer yr argyfwng coronafeirws, ond yr unig neges a gafwyd dro ar ôl tro oedd nad oedd y gwasanaeth ar gael. Ymddengys nad oes rhif argyfwng ar gael i gwsmeriaid SSE, nac unrhyw ffordd yn wir o gysylltu â hwy mewn argyfwng. Mae'r cwsmer hwn wedi bod heb drydan ers oddeutu 48 awr. Er nad yw hynny'n wir yn yr achos hwn, gallai fod wedi bod yn aelwyd lle mae cymhorthion iechyd yn ddibynnol ar gyflenwad trydan sy'n gweithio ac ni fyddai'r rhain wedi gweithio, wrth gwrs, gan beryglu bywydau o bosibl. A ydych chi'n teimlo bod methiant y cwmni yn dderbyniol yn y materion hyn?

Diolch i David Rowlands am ei gwestiwn a hefyd am ei sylwadau hael a charedig am staff y banc datblygu a Busnes Cymru. Maent yn sicr yn gwerthfawrogi sylwadau caredig fel y rhai a wnaethoch chi heddiw. Maent yn gweithio mewn amgylchiadau eithriadol o anodd, gan jyglo anawsterau gweithio gartref gyda gofynion niferus busnesau, ac felly mae'r sylwadau hael hynny'n gwneud cryn dipyn i hybu eu morâl.

Ar fater SSE, Ddirprwy Lywydd, rhaid imi ddatgan buddiant gan fy mod yn gwsmer i SSE, a bûm yn derbyn negeseuon testun rheolaidd drwy gydol yr argyfwng. Ond o ran lefel y gwasanaeth y mae David Rowlands wedi tynnu sylw ato a'r siom o fethu cysylltu â SSE, os nad yw'r cwmni wedi clywed yr hyn y mae David wedi'i ddweud y prynhawn yma erbyn diwedd yr wythnos hon, byddwn yn sicr yn mynd ar ôl y cwmni ac yn sicrhau eu bod yn ymateb i bryderon cwsmeriaid oherwydd, fel y dywed David, mae'n gwbl hanfodol fod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth cyfleustodau mewn modd amserol ac mewn ffordd briodol yn ystod yr argyfwng.

15:10

Yn Lloegr, mae busnesau gwely a brecwast bach eisoes yn gymwys i gael grant busnes, ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i eithrio'r busnesau hyn yng Nghymru. Bythefnos yn ôl, dywedodd y Gweinidog cyllid wrthyf eich bod yn edrych ymlaen at wneud cyhoeddiad, ond ni lwyddoch chi i wneud hynny heddiw. Sut ydych chi'n ymateb felly i fusnesau gwely a brecwast gofidus yng ngogledd Cymru sy'n gofyn i mi geisio cael atebion gennych yn awr, neu fel arall bydd yn rhaid iddynt benderfynu a ddylent roi'r gorau i fasnachu y mis hwn?

Bythefnos yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd elusennau bach yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn grant o £10,000 i fusnesau yn sgil COVID-19. Heddiw mae gwefan Busnes Cymru yn dal i ddweud,

'Bydd mwy o fanylion ynglŷn â sut i ymgeisio ar y wefan yn fuan.'

Beth yw eich ymateb felly i'r elusennau a'r busnesau cymdeithasol sy'n dweud wrthyf fod ganddynt filiau niferus i'w talu ac sy'n gobeithio y daw'r cymorth ariannol hwn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?

Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf fod cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch busnesau gwely a brecwast bach sy'n talu'r dreth gyngor yn seiliedig ar £617 miliwn ychwanegol, ac nid wyf yn credu ein bod wedi gweld swm canlyniadol yn sgil hwnnw, ac felly, ni fyddai ceisio efelychu cynllun o'r fath yng Nghymru heb gyllid gan Lywodraeth y DU yn fforddiadwy. Efallai y gallai Mark Isherwood gyfleu ei siom i San Steffan ynghylch y diffyg adnoddau sydd wedi bod ar gael. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau i weithredwyr busnesau gwely a brecwast, os ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW ac yn cyflogi pobl, eu bod yn gymwys i gael arian o'r gronfa cadernid economaidd, ac y byddant yn gymwys ar gyfer ail gam y gronfa cadernid economaidd. Fel y dywedais mewn ymateb i eraill ac fel yr amlinellais yn fy natganiad, rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar yr ail gam o'r gronfa cadernid economaidd i sefydlu bwrsariaeth—bwrsariaeth galedi—i gynnwys unrhyw unigolion neu fusnesau sydd mewn perygl o fynd i'r wal o ganlyniad i'r coronafeirws. Ond fel y dywedais wrth gyfranwyr eraill, mae ein hadnoddau ariannol yn gyfyngedig, ac mae'n rhaid inni ddefnyddio'r arian hwnnw i gadw busnesau'n fyw lle mae'n unig incwm neu'n brif incwm i'r perchnogion ac i'w gweithwyr. Mae arnaf ofn na fyddwn yn gallu cefnogi pob busnes hamdden. Rhaid inni flaenoriaethu arian i'r busnesau sydd fwyaf o'i angen.

Mae busnesau cymdeithasol hefyd yn gymwys ar gyfer y gronfa cadernid economaidd ac yn wir, credaf fod dros 1.5 y cant o ddyfarniadau wedi'u gwneud i fusnesau cymdeithasol—sy'n uwch na chyfran y busnesau cymdeithasol fel cyfanswm o'r economi yn ei chyfanrwydd, gan ddangos ein hymrwymiad i'r sector penodol hwnnw.

Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad heddiw ac yn arbennig y sylw y bydd y gronfa cadernid economaidd yn cael ei hailagor ganol mis Mehefin, gan fod llawer o sefydliadau yn fy etholaeth wedi methu cael mynediad ati hyd yma, ond maent yn awyddus iddi ailagor. Mae croeso mawr iddi.

Cefais gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar ddur ddydd Llun, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud sylwadau ar ddur yn eich datganiad, ond roedd y cyflogwyr a'r undebau llafur fel ei gilydd yn mynegi pryder mawr fod Llywodraeth San Steffan fel pe baent yn rhoi'r argraff nad yw Cymru'n cyfrif. A allwch dawelu fy meddwl i a'r gweithwyr dur yn fy nghymuned y byddwch yn ymladd dros ddur yng Nghymru, ac y byddwch yn sicrhau—nid gofyn i'r Llywodraeth yn unig, ond y byddwch yn mynnu—fod Llywodraeth y DU yn diogelu'r diwydiant dur wrth inni ddod allan o'r adferiad, oherwydd byddwn yn wynebu heriau byd-eang a chystadleuaeth o Ewrop, lle mae cae chwarae gwastad Ewrop yn well i Ewropeaid mewn gwirionedd nag ydyw i ddiwydiant y DU?

Wel, a gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn ac am y cyfle a roddodd i fy swyddogion fod yn rhan o'r trafodaethau bwrdd crwn ar ddur yn ddiweddar fel rhan o grŵp trawsbleidiol? Bob wythnos yn ein galwadau pedairochrog—Gweinidogion eraill o'r gweinyddiaethau datganoledig eraill a minnau—rydym yn codi'r angen i gefnogi'r sector dur yn y Deyrnas Unedig, gan gydnabod ei fod yn sector sy'n bwysig i'n diogelwch gwladol.

Mae trafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraeth y DU a Tata ynglŷn â chymorth pellach posibl. Mater i Lywodraeth y DU a Tata yw natur a manylion y trafodaethau hyn, ond gallaf sicrhau Dai Rees heddiw, a'r miloedd o weithwyr a gyflogir gan Tata a busnesau dur eraill yng Nghymru a ledled y DU, fod Llywodraeth Cymru yn sefyll y tu ôl iddynt, y byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynnig adnoddau priodol a digonol er mwyn goresgyn yr argyfwng presennol, a'n bod yn mynnu gweld newidiadau hirdymor yn cael eu gwneud, yn enwedig mewn perthynas â phrisiau ynni uchel a chyfnewidiol ar gyfer y sector, fel y gall ddod allan o'r argyfwng yn y cyflwr gorau posibl, er mwyn i'r miloedd o bobl a oedd yn ansicr ynglŷn â'u rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol cyn y coronafeirws yn llawer mwy sicr y byddant yn cael eu cyflogi yn y sector yn y blynyddoedd i ddod wrth inni gefnu ar y pandemig ofnadwy hwn.

15:15

Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Y Swyddfa Eiddo Deallusol yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghasnewydd ac mae wedi bod yn arwain y ffordd ar iechyd meddwl a llesiant. Eu gweledigaeth yw bod yn sefydliad lle caiff problemau iechyd meddwl eu deall yn eang a lle caiff stigma yn eu cylch ei ddileu, a lle mae iechyd meddwl a llesiant yn cael eu hybu. Er enghraifft, maent wedi dechrau cwrs ymwybyddiaeth ofalgar rhithwir gyda Phrifysgol Bangor, menter newydd i gysylltu â staff sy'n newydd i'r swyddfa, sy'n byw ar eu pen eu hunain neu sy'n weithwyr gartref am y tro cyntaf, ac amser te rhithwir a sesiynau ffitrwydd drwy ioga desg neu weithgareddau grŵp o adref.

Mae COVID-19 yn debygol o newid y ffordd y mae bron bob gweithle yn gweithredu. Mae manteision a heriau ynghlwm wrth gadw pellter cymdeithasol a gweithio o bell. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda busnesau a gweithleoedd sector cyhoeddus ynglŷn â sut y gallant addasu er mwyn sicrhau nad yw'r ddyletswydd gofal am les eu gweithwyr yn cael ei hanghofio mewn unrhyw leoliad gwaith, ni waeth pa mor fawr neu fach ydyw, a sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i hyrwyddo a rhannu'r arferion da er mwyn i bawb gael cyfle i elwa?

Wel, a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jayne Bryant am natur y cwestiwn? Nid yw iechyd meddwl y genedl yn dda ar hyn o bryd, a dweud y lleiaf. Nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl wedi profi amser mor drawmatig ar wahân i brofedigaeth neu berthynas yn chwalu. Mae hwn yn fater pwysig i iechyd y genedl. Rydym yn defnyddio'r contract economaidd i annog ymddygiad busnes mwy cyfrifol.

Ar ddechrau'r coronafeirws roedd gennym gannoedd o gontractau economaidd ar waith. Bydd nifer y contractau economaidd y byddwn wedi'u sicrhau ar ôl i ni ddod allan o'r argyfwng wedi cynyddu mwy na 1,000 y cant. Fel rhan o'r contract hwnnw—dim ond pedwar pwynt sydd ynddo—rhaid i fusnesau ddangos sut y mae'n gwella iechyd meddwl eu gweithlu. Gan y busnesau sydd wedi ymrwymo i'r contract economaidd hyd yma, rydym wedi gweld creadigrwydd anhygoel, arloesedd a chyfrifoldeb dros wella iechyd meddwl eu gweithwyr. Rwy'n awyddus i barhau i gydweithio â sefydliadau fel Mind Cymru i hyrwyddo cynlluniau fel Amser i Newid er mwyn sicrhau, wrth inni gefnu ar y coronafeirws, fod llesiant ein gwlad yn ystyriaeth o leiaf yr un mor bwysig â chyfoeth ein gwlad, a bod iechyd meddwl pobl ledled Cymru'n gwella'n ddramatig ac yn gyflym wrth i ni gefnu ar y pandemig.

Weinidog, gofynnais i chi—. Wel, bûm yn ceisio cael atebion ers 6 Ebrill. Gofynasom am gyfarfod gyda chi ar 10 Mai—gofynasom am slot 15 munud unrhyw bryd yn ystod y 24 awr. Mae hyn yn ymwneud â chanolfannau chwarae, nad yw swyddogion yn eu cefnogi am ryw reswm—nid ydynt yn cael eu categoreiddio fel busnesau hamdden. Mae'r busnesau hyn yn mynd i fethu oni chânt gefnogaeth. Felly, y cwestiwn syml iawn yw: a wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, y bydd canolfannau chwarae, sy'n cyflawni swyddogaeth wirioneddol werthfawr yn ein cymunedau—a wnewch chi sicrhau bod canolfannau chwarae'n cael eu cefnogi, os gwelwch yn dda?

15:20

A gaf fi ddiolch i Neil McEvoy am ei gwestiwn? Mae hwn yn gwestiwn sydd wedi'i godi gan eraill hefyd, yn enwedig yng nghyswllt rhai o'r canolfannau chwarae meddal sy'n bodoli ac sy'n boblogaidd iawn. Mae'r gronfa cadernid economaidd yn gymwys ar gyfer canolfannau chwarae a bydd ail rownd y gronfa yn agored iddynt hwythau hefyd wrth gwrs.

Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am gyfarfod â Nick Thomas-Symonds AS a minnau yn ddiweddar i drafod y 200 o swyddi sydd i'w colli yn Safran yng Nghwmbrân? Mae'r sefyllfa'n dal i beri pryder mawr i'r gweithlu yno. Mae Nick Thomas-Symonds AS a minnau yn ceisio cael cyfarfod arall gyda rheolwyr y cwmni, heb lwyddiant hyd yma. Tybed a fyddech yn cytuno, pan fydd cymunedau'n wynebu colli swyddi ar raddfa sylweddol, ei bod yn hollbwysig i arweinwyr cwmnïau ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig a'r undebau llafur y maent yn aelodau ohonynt, sef undeb Unite yn yr achos hwn. A gaf fi ofyn hefyd, pan fyddwn yn edrych ar gyllid i gwmnïau, wrth symud ymlaen, pan fo adnoddau mor brin, beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod ymagwedd dda tuag at weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a chydag undebau llafur yn cael ei ymgorffori yn y gofynion ar gyfer y cwmnïau hynny? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am ei chwestiwn ac am y cyfle i drafod y sefyllfa yn Safran yng Nghwmbrân yn ddiweddar iawn, ynghyd â Nick? Rwy'n annog y cwmni i gyfarfod â chynrychiolwyr etholedig yn ddi-oed.

Mewn cyfnod o argyfwng, mae'n gwbl hanfodol fod cyflogwyr yn cyfathrebu'n glir gyda'u gweithlu a chydag Aelodau etholedig a chyda'r cymunedau lle maent yn gweithio er mwyn osgoi pryder diangen, a phanig yn wir, oherwydd dyna rwy'n ei deimlo yng Nghwmbrân ar hyn o bryd o ran rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol. Mae'n gwbl hanfodol fod ymgysylltu'n digwydd mewn ffordd ystyrlon a thryloyw, ac mae hynny'n cynnwys yr undebau llafur yn ogystal.

Fel rhan o'r broses o gyflwyno ein contract economaidd—rwyf eisoes wedi crybwyll bod iechyd meddwl yn rhan o'r meini prawf ar gyfer y contract economaidd—gallaf sicrhau Lynne fod elfennau eraill o'r contract yn ymwneud â gwaith teg. Ac wrth gwrs, fe wnaethom sefydlu'r Comisiwn Gwaith Teg i wneud argymhellion ar sut i wella safonau cyflogaeth yng Nghymru, ac yn ystod cyfnod nesaf y contract economaidd, byddwn yn sicrhau ein bod yn fwy ymestynnol yn yr hyn a ddisgwyliwn gan gyflogwyr o ran ymgysylltu ag undebau llafur a chyda'r gweithlu yn gyffredinol, a'u bod yn cymryd cyfrifoldeb llawn am weithwyr yn ystod cyfnodau o ddirywiad ariannol ac yn ystod argyfwng o'r math rydym yn ei brofi ar hyn o bryd.

Mae'r tri grŵp o fusnesau roeddwn am eich holi yn eu cylch yn cynnwys canolfannau chwarae i blant, mentrau cymdeithasol a'r busnesau bach nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW ac nad ydynt o reidrwydd yn talu ardrethi busnes, sy'n anadl einioes i economïau lleol ac sy'n cynnwys y bobl y mae angen inni fuddsoddi ynddynt er mwyn cynnal ein seilwaith cymdeithasol ac er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau posibl i ymadfer ar ôl yr amharu rydym yn dyst iddo ar hyn o bryd. A allwch gadarnhau—a chredaf eich bod eisoes wedi gwneud hynny yn rhai o'ch atebion heddiw—y bydd y tri bwlch sy'n bodoli ar hyn o bryd yn cael eu llenwi pan fyddwch yn ailagor y gronfa cadernid economaidd?

Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o allu cadarnhau y bydd pob un o'r tri yn cael cynnig cymorth, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd wrth gwrs. Fel sectorau, byddant yn gymwys i wneud cais am arian.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Symudwn ymlaen yn awr at gynnig i atal y Rheolau Sefydlog a galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig hwnnw—Mark Drakeford.

Cynnig NNDM7325 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM7326 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Mai 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol, Ddirprwy Lywydd.

Yn ffurfiol. Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Felly, fel y nodwyd ar yr agenda, cynhelir y bleidlais heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Felly, symudwn ymlaen yn syth i bleidlais. Gall pob grŵp gwleidyddol enwebu un aelod o'r grŵp i gynrychioli'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau yn y grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl Weithredol, bydd yr enwebai hwnnw'n cynrychioli'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau yn y grŵp hwnnw, yn ogystal ag unrhyw aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.

Rwy'n cynnal pleidlais yn awr drwy alw ar y cynrychiolwyr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig i ohirio'r Rheolau Sefydlog, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?

15:25

O blaid. Diolch. Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'r 11 pleidlais?

O blaid. Diolch. Cefnogi. Diolch. Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw eich naw pleidlais?

O blaid. Diolch. Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?

O blaid. Diolch. Felly, canlyniad y bleidlais yw—ac mae'n galw am fwyafrif o ddwy ran o dair i basio—o blaid 56, un yn ymatal, a neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NNDM7325 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Ymatal

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid

Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid

Derbyniwyd y cynnig.

Rwy'n bwriadu cymryd seibiant technegol yn awr cyn inni symud at y ddadl nesaf, ac felly byddwn yn torri am 10 munud yn awr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:27.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:40, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

15:40
5. Dadl: COVID-19—Llacio'r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a'n Heconomi: Dal i Drafod

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 4, 5 a 9 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6, 7 ac 8. 

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar COVID-19: 'Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi: Dal i Drafod'. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i gyflwyno'r cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NNDM7326 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddi 'Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi: Dal i Drafod', sy’n disgrifio sut y gall Cymru ddechrau llacio’r cyfyngiadau yn raddol

2. Yn cytuno y dylai iechyd y cyhoedd fod yn ystyriaeth flaenllaw mewn unrhyw benderfyniadau ynghylch pryd a sut y caiff y rheoliadau ynghylch aros gartref gael eu llacio 

3. Yn diolch i bobl Cymru am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws 

4. Yn canmol gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr hanfodol ar draws Cymru yn ystod y pandemig. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ein syniadau diweddaraf ynglŷn â sut gallwn ni ddechrau llacio'r rheolau ar ein cymdeithas a'n heconomi. Dair wythnos yn ôl, gwnaethon ni gyhoeddi ein fframwaith ar gyfer adferiad ac mae'r ddwy ddogfen yn mynd gyda'i gilydd. Rydym wedi cynnal sgwrs barhaus gyda phobl Cymru i drafod beth i'w wneud a phryd. Rydym yn gweithio gyda phobl er mwyn diogelu pob un ohonom. Rydym yn mynd ati i wneud penderfyniadau drwy ein ffordd ni o weithio—model rydym wedi ei sefydlu ers amser. Mae hynny'n golygu gweithio mewn partneriaeth gyda'r undebau, gyda chyflogwyr, gyda'r cymdeithasau gwasanaethau cyhoeddus a phawb arall sy'n cydweithio er lles pobl Cymru.

Lywydd, dros yr wyth wythnos ddiwethaf, mae'r ymateb gan bobl ledled Cymru wedi bod yn rhagorol. Mae ein hymdrechion ar y cyd wedi helpu i arafu lledaeniad y feirws ac wedi helpu'r GIG i baratoi ac i ymateb. Os bydd y gyfradd heintio, o ganlyniad i'r ymdrechion hyn, yn parhau i ostwng, bydd ystod well o ddewisiadau ar gael i lacio'r cyfyngiadau symud.

Roedd ein dogfen fframwaith dair wythnos yn ôl yn nodi sut rydym yn bwriadu gwneud penderfyniadau ynghylch llacio’r cyfyngiadau aros gartref. Mae’r ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf yn mynd â ni ymhellach. Mae ein cynllun yn seiliedig ar system oleuadau traffig. Mae'n nodi cyfres o newidiadau y gellid eu gwneud mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gweld ffrindiau a theulu, mynd yn ôl i'r gwaith, siopa ac ailagor gwasanaethau cyhoeddus.

Mae pobl yn ganolog i'n ffordd o feddwl. Gwyddom pa mor awyddus yw pawb i weld eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac mae hon yn ystyriaeth allweddol i ni. Nid cynllun i gael pobl yn ôl i'r gwaith yn unig mo hwn, er mor bwysig yw hynny, ond cynllun ar gyfer pobl hefyd.

Nid yw'r cynllun yn nodi dyddiadau, gan y bydd newidiadau'n cael eu gwneud pan fydd y cyngor gwyddonol a meddygol yn dweud wrthym ei bod yn ddiogel inni wneud hynny, ond mae'n dangos sut rydym yn symud yn ofalus ac yn bwyllog i'r parth coch—y camau cyntaf ar daith ein hadferiad. Byddwn yn monitro effeithiau'r camau hynny’n ofalus iawn, a chyn belled â bod y feirws yn parhau i fod dan reolaeth, byddwn yn symud tuag at y parth ambr. Yn y parth ambr, bydd mwy o arwyddion o rywbeth tebyg i normalrwydd, ac os bydd ein monitro'n dangos bod y feirws yn dal i fod o dan ein rheolaeth, gallwn ddechrau symud i'r parth gwyrdd. Yn y parth gwyrdd, mae bywyd yn dechrau edrych yn debycach i'r hyn ydoedd cyn i’r coronafeirws ddechrau, ond nid yn union yr un fath, oherwydd hyd nes y down o hyd i frechlyn neu driniaeth effeithiol, bydd y coronafeirws gyda ni am beth amser eto.

Nawr, mae rhai pethau eisoes wedi dechrau llacio. Mae siopau'n agor ar gyfer gwasanaethau clicio a chasglu, mae canolfannau ailgylchu’n dechrau ailagor, ac mae cynlluniau ar y gweill i weld a ellir ailddechrau gwasanaethau llyfrgell hefyd. Mae canolfannau garddio’n agor, wrth gwrs, gyda threfniadau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi nodi ei dull o fynd ati gydag ysgolion, a bydd mwy o fanylion yn cael eu darparu ar gyfer sectorau eraill wrth inni weithio gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur, mewn busnesau ac yn y sector cyhoeddus ehangach.

Lywydd, mae'n gwbl iawn ein bod yn dadlau ynghylch ein gwahanol safbwyntiau ar hyn, y set bwysicaf o amgylchiadau rydym wedi'u hwynebu ers cychwyn datganoli. Ond yn yr argyfwng hwn, credaf fod pobl Cymru am i bob un ohonom ddod at ein gilydd lle gallwn a rhannu ymdeimlad o’n buddiannau cyffredin. Yn yr ysbryd hwnnw, rwy’n falch iawn y gall y Llywodraeth gefnogi pob un ond un o’r gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig heddiw. Lywydd, dychwelaf at yr holl welliannau wrth ymateb i'r ddadl, ond hoffwn ddiolch i'r pleidiau sydd wedi'u cynnig am eu llunio mewn ysbryd adeiladol, ac am y cyfraniad cadarnhaol a wnânt i'r ddadl hon.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth ein cynllun profi, olrhain, diogelu, a fydd yn hanfodol wrth inni lacio’r cyfyngiadau symud. Mae’n rhaid i unrhyw ymgais i ailddechrau gweithgareddau mwy normal ddigwydd law yn llaw â chynllun hyfyw i olrhain a nodi unrhyw achosion newydd a'r mannau problemus o ran yr haint wrth iddynt ddod i'r amlwg. Mae’r ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf yn seiliedig yn yr un modd ar y cyngor gwyddonol diweddaraf. Byddwn yn gweithredu'n ofalus ac yn bwyllog mewn partneriaeth â phobl, mewn ffordd sy'n iawn i Gymru. Bydd hynny bob amser yn golygu rhoi iechyd pobl yn gyntaf.

Nawr, Lywydd, rwyf bob amser wedi dweud ein bod yn awyddus i symud gyda'n gilydd ledled y Deyrnas Unedig, gan mai dyna'r ffordd orau ymlaen i bob un ohonom. Ddydd Sul, cyfarfûm â Michael Gove, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, a’m swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, i drafod materion yn ymwneud â gosod pobl o dramor dan gwarantin. Ddoe, cyfarfûm â fy nghyd-Aelodau datganoledig a Maer Llundain, unwaith eto i barhau â’n trafodaeth, ac mae cyfarfod pellach wedi’i drefnu rhwng y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rydym yn ymgysylltu'n weithredol â gweinyddiaethau eraill drwy gydol yr argyfwng hwn, ond wrth gwrs, byddwn yn gwneud ein penderfyniadau ac yn arfer ein cyfrifoldebau er budd Cymru.

Lywydd, mae angen i mi bwysleisio bod y feirws yn parhau i fod yn fygythiad ac y bydd yn parhau i fod felly hyd yn oed wrth inni gymryd camau tuag at fwy o normalrwydd. Nid oes dyfodol di-risg. Mae'r rheol i gadw pellter cymdeithasol o 2m yn parhau i fod ar waith, ac mae’n rhaid i bob un ohonom arfer y rhagofalon iechyd cyhoeddus sylfaenol hynny, gan olchi ein dwylo’n ofalus ac yn aml, er enghraifft. Dylid teithio’n lleol yn unig, a dylai unrhyw deithio fod yn hanfodol. Mae hyn oll ar waith er mwyn parhau i leihau'r risg o ledaenu coronafeirws. Yn ein dwy ddogfen, rydym wedi nodi llwybr tuag at wneud y penderfyniadau hanfodol hynny. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith inni adolygu deddfwriaeth a chodi cyfyngiadau pan nad oes cyfiawnhad drostynt mwyach. Mae dewisiadau i'w gwneud ar bob pwynt ar hyd y llwybr hwn. Mae angen cydbwyso buddiannau pob rhan o'n cymdeithas, a bydd y Llywodraeth hon bob amser yn rhoi sylw arbennig i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd o dan faich anghymesur anfantais.

Nawr, bydd yn rhaid inni wneud y penderfyniadau hynny ar batrwm 21 diwrnod, ac rydym bellach hanner ffordd drwy'r cylch tair wythnos diweddaraf. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan gyngor gwyddonol a chyngor ein prif swyddog meddygol, a bydd y penderfyniadau hynny’n parhau i gael eu llywio gan y nodau a'r ffyrdd o weithio sydd wedi'u hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a roddwyd ar y llyfr statud gan y Senedd hon.

Lywydd, mae rhai pobl yn annog llacio’r mesurau heb ystyried canlyniadau gwneud hynny. Dyma'r gwrthwyneb i'r dull o weithredu rydym yn ei ddefnyddio yng Nghymru, fel y nodir yn ein cynllun. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn mentro, ac ni fyddwn yn gweithredu ar fympwy. Mae fy neges yn un o undod parhaus yn wyneb y bygythiad mawr hwn i fywydau ac i gymdeithas—yr undod a fynegwyd mor gadarn gan unigolion a chymunedau ledled Cymru. Mae pob un ohonom wedi chwarae ein rhan, a chyda'n gilydd, gallwn barhau i amddiffyn ein gilydd a pharatoi i lacio cyfyngiadau ac adnewyddu ein gwlad. Diolch yn fawr.

15:45

Rwyf wedi dewis chwech o'r naw gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii) nid wyf wedi dewis gwelliannau 6, 7 ac 8, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Galwaf yn awr ar Paul Davies i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Paul Davies.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio â llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig fel rhan o ddull cydlynol pedair cenedl o godi'r cyfyngiadau symud.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod y rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig ac yn estyn ei chydymdeimlad dwysaf â'r rhai y mae profedigaeth yn effeithio arnynt.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi, i gynnwys:

a) amserlenni dangosol ar gyfer codi'r mesurau cyfyngiadau symud;

b) manylion y cerrig milltir a'r targedau sydd i'w cyflawni cyn codi pob mesur;

c) sefydlu tasgluoedd mewn adrannau gweinidogol allweddol i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r cynllun; a

d) cynllun ariannol priodol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynllun.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

15:50

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Er fy mod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd er mwyn arwain Cymru allan o gyfnod y pandemig presennol, mae'n rhaid imi ddweud o'r cychwyn cyntaf fod hwn wedi bod yn gyfle a gollwyd i Lywodraeth Cymru ddarparu rhywfaint o obaith mawr ei angen i bobl Cymru.

Nawr, os caf droi at ein gwelliannau—ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried cefnogi pob un ohonynt gan mai bwriad y gwelliannau hyn yw ychwanegu'n adeiladol at gynnig y ddadl hon—mae'r gwelliant cyntaf yn galw am fwy o gydweithredu â Llywodraethau ledled y DU. Nawr, mae arweinydd Plaid Lafur y DU wedi galw yn gwbl briodol am ddull pedair gwlad o weithredu—dull rwyf wedi'i gymeradwyo drwy gydol cyfnod y pandemig. Nid yw'r feirws COVID-19 yn adnabod unrhyw ffiniau, ac felly mae'n gwneud synnwyr perffaith y dylai Llywodraethau ar bob lefel fod yn gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn pobl y Deyrnas Unedig drwy gydol y pandemig hwn.

Er bod Llywodraethau'r DU a Chymru wedi gweithio gyda'i gilydd ar faterion, mae’r gwahaniaeth rhwng rhai o bolisïau Cymru a Lloegr, yn gwbl ddealladwy, wedi drysu rhai pobl a’u gwneud i deimlo’n rhwystredig, a'r gwir amdani yw bod llawer mwy o ddealltwriaeth ac eglurder ynghylch canllawiau'r Llywodraeth pan oedd polisïau'r Llywodraethau wedi'u halinio'n agosach.

Nawr, rwyf wedi dweud yn glir y dylai strategaeth ymadael Llywodraeth Cymru fod wedi’i hategu â chynigion pendant a cherrig milltir ar gyfer asesu cynnydd y Llywodraeth. Nid yw'r ddogfen hon yn cynnig unrhyw fanylion clir i bobl Cymru y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn, ac yn lle hynny, mae'r strategaeth ymadael i bob pwrpas yn rhestr o gamau ymgynghori y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cychwyn. Nid oes unrhyw amserlenni dangosol ar gyfer codi’r cyfyngiadau symud, ac felly nid yw unigolion a busnesau ledled Cymru yn well eu byd o gwbl o ran gallu dechrau cynllunio ar gyfer bywyd ar ôl y cyfyngiadau symud. Felly, gallaf ddeall y rhwystredigaeth lwyr a deimlir gan gynifer o bobl a oedd wedi gobeithio, ddydd Gwener diwethaf, y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu cynllun y gallent ei ddilyn gyda sicrwydd. Roedd Ian Price, cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru yn iawn i ddweud, ac rwy'n dyfynnu, fod

angen amserlenni dangosol sy'n amlinellu pryd y gall sectorau a gweithleoedd ddod yn weithredol eto hefyd, fel y gall busnesau o bob lliw a llun fynd i’r afael ar unwaith â chynlluniau hanfodol i ailgychwyn ac i wneud penderfyniadau.

Mae gwledydd fel Iwerddon, er enghraifft, wedi cydnabod pwysigrwydd amserlenni ac wedi eu darparu yn eu strategaeth ymadael. Fodd bynnag, pan fydd y wyddoniaeth yn newid, rwy'n derbyn y gallai fod angen i Lywodraethau newid trywydd, ac o ganlyniad, efallai y bydd angen i'r amserlenni hynny newid. Nawr, nid yw cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys strategaeth gynhwysfawr ar gyfer sut a phryd y gellir llacio’r cyfyngiadau. Yn wir, mae'r ddogfen ei hun yn cadarnhau bod manylion penodol ar bob label yn dal i gael eu datblygu gyda busnesau, undebau llafur, awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac eraill.

Nawr, wrth symud ymlaen, credaf y dylai Llywodraeth Cymru fod yn sefydlu tasgluoedd mewn adrannau gweinidogol allweddol i oruchwylio’r broses o roi ei strategaeth ymadael ar waith. Ym mhob maes portffolio, dylai Gweinidogion fod yn ystyried y ffordd orau o gydlynu'r tasgluoedd hynny a dylid eu rhoi ar waith ar unwaith. Er enghraifft, dylai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru fod yn gweithio gyda thasglu pwrpasol i baratoi busnesau ledled Cymru ar gyfer ailagor a sicrhau bod ganddynt well dealltwriaeth o'r heriau penodol y gallai busnesau eu hwynebu wrth symud o un categori i'r llall. Mae Llywodraeth Cymru yn iawn i ddweud nad oes unrhyw ddau fusnes yr un peth, a dyna pam fod angen sefydlu tasglu i sicrhau bod barn y gymuned fusnes yn cael ei chlywed ar bob cam yn y broses. Yn yr un modd, dylai'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fod yn sefydlu tasglu i oruchwylio gweithrediad y strategaeth ymadael gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol.

Nawr, er mwyn osgoi ail ymchwydd sylweddol, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir ei bod yn rhoi'r seilwaith sydd ei angen ar waith i reoli achosion o'r clefyd yn y dyfodol drwy'r strategaeth brofi, tracio a diogelu. Wrth gwrs, er mwyn i hynny fod yn bosibl yn realistig, bydd angen chwistrelliad sylweddol o arian ar awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau y gellir cyflawni'r profion hyn ar raddfa fawr. Nid yn unig fod goblygiadau sylweddol o ran adnoddau i awdurdodau lleol, ond yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae materion recriwtio sylweddol i'w hystyried hefyd. Ac felly, wrth ymateb i’r ddadl y prynhawn yma, efallai y gall Llywodraeth Cymru roi sicrwydd pendant y gall ei rhaglen brofi ymdopi â’r cynnydd sylweddol yn y profion a gynhelir yn y gymuned ynghyd â chadarnhau faint yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddyrannu i awdurdodau lleol i’w galluogi i gynnal y profion hyn.

Lywydd, nid yw cynllun Llywodraeth Cymru yn darparu manylion ariannol addas i gefnogi’r gwaith o’i gyflawni, ac felly nid oes unrhyw arwydd sut y bydd adnoddau'n cael eu dyrannu i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni’n effeithiol. Nawr, gwn fod cyllideb atodol ar y ffordd, ac yn ogystal â'r manylion y soniodd y Prif Weinidog amdanynt yn ei ddatganiad heddiw, rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn cynnwys manylion ariannol penodol ynglŷn â sut y caiff y cynllun ei gyflawni. Ac mae'n gwbl hanfodol fod yr adnoddau hynny a ddyrennir yn nodi'n glir sut y mae pob maes portffolio nid yn unig yn cyfyngu ar effaith y feirws ar unigolion, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn y tymor byr, ond sut y bydd gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yn gallu gweithredu strategaeth ymadael Llywodraeth Cymru.

Felly, gyda hynny, Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein gwelliannau i helpu i sicrhau bod Cymru mor barod â phosibl ac yn cael adnoddau digonol i ddechrau ein rhyddhau o’r cyfyngiadau symud. Diolch.

15:55

Galw nawr ar Adam Price i gyflwyno gwelliannau 4, 5 a 9, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. 

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r alwad gan bedwar Prif Gwnstabl a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru i'r Prif Weinidog sicrhau bod y dirwyon uchaf y gall yr heddlu eu dyroddi am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau iechyd cyhoeddus, yn cael eu cynyddu er mwyn sicrhau bod cyfyngiadau yn cael eu gorfodi'n gadarn cyhyd ag y maent ar waith.

Gwelliant 5—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ei bod yn angenrheidiol sicrhau bod system gadarn o brofi ac olrhain cysylltiadau ar waith er mwyn codi'r cyfyngiadau'n sylweddol.

Gwelliant 9—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol ac i archwilio pob llwybr arall sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaelodlin o gymorth ariannol ar gael i bobl Cymru drwy gydol y cyfnodau o gyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi.

Cynigiwyd gwelliannau 4, 5 a 9.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r Prif Weinidog am ei sylwadau caredig ynglŷn ag ysbryd y gwelliannau? Roeddent yn cynnwys cyfeiriad pryfoclyd at yr un gwelliant nad yw'r Llywodraeth wedi gallu ei dderbyn. Rwy'n gobeithio nad yw’n cyfeirio at y gwelliant sy'n galw am gefnogaeth i'r cais, y cais unfrydol, gan y pedwar prif gwnstabl a'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu am gynyddu'r dirwyon i'r rheini sydd wedi torri rheolau’r cyfyngiadau symud fel y gallant wneud eu gwaith o amddiffyn pobl yn ein cymunedau.

Nawr, y cwestiwn cyntaf, a'r cwestiwn pwysicaf oll yn fy marn i wrth feddwl am y cam nesaf, yw beth y ceisiwn ei gyflawni. Ymddengys i mi fod gennym ddewis yma sy’n seiliedig ar y strategaethau y mae gwledydd eraill wedi'u dilyn—ac mae cyfeiriad yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth at ddysgu gan wledydd eraill. Gallwn fabwysiadu strategaeth atal i geisio cael gwared ar yr afiechyd, sef y dull y mae Seland Newydd ac eraill wedi'i fabwysiadu, neu gallwn geisio lefelu'r gromlin, fel y’i gelwir, unwaith eto, gan ganolbwyntio’n bennaf ar geisio sicrhau nad yw'r GIG yn cael ei orlethu gan ail neu drydedd ton.

Nawr, rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth egluro pa un o'r ddwy strategaeth y mae'n eu mabwysiadu, a byddai'n dda cael eglurder ar hynny heddiw, gan y credaf fod iaith y dogfennau adfer a’r cynllun braidd yn amwys ar ryw ystyr, oherwydd y pwyslais cryf ar bwyntiau profi, olrhain ac ynysu i un cyfeiriad, ond yn y ddogfen, er enghraifft, a ryddhawyd ar 24 Ebrill, un o'r metrigau allweddol a bennwyd ar gyfer gwerthuso mesurau llacio yw

'tystiolaeth y gallwn ymdopi â’r cynnydd disgwyliedig mewn anghenion gofal iechyd am o leiaf 14 diwrnod os yw’r gyfradd heintio yn mynd dros 1 a’r feirws yn lledaenu’n eang unwaith eto.'

Mae hynny'n swnio'n fwy fel pe bai'n cyfeirio at reoli lledaeniad y clefyd o dan lefel gritigol, yn hytrach na cheisio cael gwared ar yr afiechyd lle bynnag y mae'n ailymddangos.

Mae dull Seland Newydd yn golygu rhoi diwedd ar drosglwyddiad cymunedol eang cyn llacio’r cyfyngiadau symud, ac mae hefyd yn golygu ymwrthod â’r dull imiwnedd torfol wrth gwrs. Roeddem wedi cynnig dau welliant ar y ddau fater. Nid ydynt wedi cael eu dewis, ond efallai y gallai'r Prif Weinidog, wrth ymateb, nodi beth yw safbwynt y Llywodraeth.

Gan symud ymlaen i—. Yn ogystal â rhoi diwedd ar drosglwyddiad cymunedol yn gyntaf, credwn mai ail ragofyniad ar gyfer dod â mesurau cyfyngiadau symud sylweddol i ben yw sicrhau bod y system olrhain cysylltiadau ac ynysu yn gwbl weithredol ac yn llwyddiant profedig. Mae gennym gynlluniau peilot, ond mae angen amser arnom i werthuso'r rheini cyn cadarnhau eu bod yn gweithio'n iawn. A’r hyn y byddai'n dda ei wybod gan y Prif Weinidog yw: sut beth yw llwyddiant? Pa lefel o gyfran y cysylltiadau sydd angen inni allu eu holrhain er mwyn rheoli achosion lleol? Ai 50 cant, ai 80 y cant, ynteu 90?

Mae'r pwyslais yn nhrefniadau goleuadau traffig Llywodraeth Cymru yn sectoraidd, ac ar y llaw arall, mae gan Lywodraeth y DU system rybudd pum lefel ar waith yn genedlaethol. Mae perygl y gallai hyn beri peth dryswch fan lleiaf. Un awgrym diddorol yw y bydd y Gyd-Ganolfan Bioddiogelwch yn cynhyrchu asesiadau cyfradd heintio ar lefel leol iawn, ac y gellid eu defnyddio wedyn i atal mannau problemus lleol newydd drwy ailgyflwyno cyfyngiadau symud ar lefel leol. Yn wir, rydym wedi clywed meiri yn Lloegr fel Andy Burnham yn galw am ddull mwy datganoledig, a gefnogir hefyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. A yw Llywodraeth Cymru yn gweld rhywfaint o botensial yn y cam nesaf ar gyfer y math hwnnw o ddull lleol?

Ac yn olaf, nid profi ac olrhain yn unig ydyw wrth gwrs, ond profi, olrhain ac ynysu. Y sefyllfa bresennol yw y dylai pobl â symptomau ynysu am saith diwrnod. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell cyfnod o 14 diwrnod dan gwarantin i bobl â symptomau, ac ymddengys bod hynny’n seiliedig ar dystiolaeth, gan y gallai rhai pobl ddal i ledaenu'r feirws am fwy na saith diwrnod. Felly, a wnaiff y Llywodraeth edrych ar hynny a’i fabwysiadu, yn seiliedig ar gyngor Sefydliad Iechyd y Byd?

Ac yn olaf, a allem hefyd ystyried sefydlu pwyntiau cwarantin canolog i bobl allu ynysu, er enghraifft gwestai wedi'u haddasu? Gwyddom fod y feirws yn manteisio ar dai gorlawn. Gwyddom fod llawer o bobl wedi dal y feirws gan aelod o'r teulu neu gyd-letywyr. Mae sefydlu'r mathau hyn o gyfleusterau cymunedol ar gyfer cwarantin wedi bod yn allweddol i gael gwared ar y feirws yn Wuhan a rhannau o'r Eidal, a byddai llawer o bobl hefyd yn teimlo'n dawelach eu meddwl nad oeddent yn peryglu aelodau o'u teuluoedd. Felly, a allai'r Llywodraeth, wrth inni ddechrau'r cam newydd hwn gyda phrofi, olrhain ac ynysu, edrych ar gryfhau'r elfen 'ynysu' yn y mesurau?

16:00

Lynne Neagle. Os gallwch aros am eich meicroffon, Lynne. A allwn ni eich clywed chi? A allwch godi eich—

Iawn. Diolch, Lywydd, am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl hon. Bydd yn gymharol fyr, oherwydd mae’n rhaid i mi gyfaddef nad yw hon yn arena hollol gyffyrddus i fod yn dadlau ynddi, gyda'r holl dechnoleg, ac yn y blaen.

Roeddwn am ddechrau drwy ddiolch i'r Prif Weinidog a gweddill y Llywodraeth am y gwaith aruthrol y maent yn ei wneud yn y maes hwn, yn enwedig y tîm craidd o Weinidogion, Kirsty Williams, Vaughan Gething, Julie James a chithau, y gwn eich bod wedi bod yn ganolog iawn i'r ymateb i'r argyfwng hwn. Credaf fod y Prif Weinidog yn fy adnabod yn ddigon da erbyn hyn i wybod na fyddwn yn dweud y pethau hynny pe na bawn yn credu eu bod yn wir, ond rwyf wedi teimlo'n dawel iawn fy meddwl o ganlyniad i’ch dull diwyd, manwl a fforensig o sicrhau bod pob un ohonom yn parhau i fod mor ddiogel ag y gallwn o dan yr amgylchiadau anodd hyn. Fel rwyf wedi’i ddweud wrth y Prif Weinidog mewn cyfarfodydd preifat, mae cryn gefnogaeth i’r cyfyngiadau symud o hyd yn fy etholaeth yn Nhorfaen. Felly, rwy'n croesawu'r dull parhaus a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru.

Roeddwn yn awyddus i wneud ychydig o bwyntiau am egwyddorion sy'n arbennig o bwysig yn fy marn i wrth inni ystyried llacio’r cyfyngiadau symud. Mae'r cyntaf yn ymwneud â materion cydraddoldeb. Er nad yw'n gwahaniaethu o ran pwy mae'n eu heintio, yr hyn a welsom gyda'r feirws hwn yw ei bod yn amlwg iawn fod rhai o'r cymunedau tlotaf a'r bobl fwyaf agored i niwed yn agored iawn i'w ddal, a chredaf fod yn rhaid inni gadw hynny mewn cof wrth inni ystyried llacio’r cyfyngiadau symud. Hoffwn ddyfynnu'r Athro Devi Sridhar, sy'n gadeirydd iechyd cyhoeddus byd-eang ym mhrifysgol Caeredin, a ddywedodd ddoe:

Yr hyn sy'n amlwg yw mai cyfoeth yw'r strategaeth warchod orau ar gyfer y feirws hwn, a rhag wynebu effeithiau difrifol.

A chredaf fod angen inni gadw hynny mewn cof wrth symud ymlaen.

Hoffwn hefyd godi materion yn ymwneud â chyllid. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi gweld David Hepburn, y dwysegydd o Went, sydd wedi bod yn amlwg iawn yn y cyfryngau. Un o'r pethau y mae wedi galw amdanynt yw i fwy o gyllid gael ei gyfeirio at y cymunedau sydd wedi eu taro waethaf yn sgil y feirws hwn. A bydd y Prif Weinidog yn cofio am y trafodaethau a gawsom 20 mlynedd yn ôl ynglŷn â fformiwla Townsend, a gwn hefyd, pe bai'r fformiwla honno wedi'i rhoi ar waith yn llawn, y byddai Gwent, dros sawl blwyddyn, wedi cael mwy o arian nag y cawsom ni. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gallwn edrych arno wrth symud ymlaen.

Y maes arall y mae'n rhaid canolbwyntio’n agos arno yn fy marn i yw hawliau plant. Nid yn unig fod y sefyllfa hon yn cael effaith aruthrol ar blant, ond mae ganddynt hefyd lawer llai o lais na nifer o ddinasyddion eraill. Am y rheswm hwnnw, ac oherwydd ein hymrwymiad i hawliau plant yng Nghymru, hoffwn weld llawer mwy o dystiolaeth o asesiadau effaith ar hawliau plant wrth wneud y penderfyniadau hyn. Hoffwn i'r Llywodraeth ddechrau dangos eu gwaith parhaus yn rheolaidd mewn perthynas â phlant.

Y drydedd egwyddor roeddwn am dynnu sylw ati, ac mae’r Prif Weinidog wedi cyfeirio ati eisoes, yw partneriaeth a chydgynhyrchu. Credaf fod hynny'n hanfodol wrth symud ymlaen, ac yn benodol, credaf fod dull o weithredu drwy gydgynhyrchu gyda llywodraeth leol yn gwbl hanfodol. O'm rhan i, mae llywodraeth leol wedi serennu wrth ymdrin â'r feirws hwn. Ac mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod hynny ac yn sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn yn yr holl benderfyniadau a wnawn.

A hoffwn gloi drwy ddweud fy mod yn credu bod pethau cadarnhaol yn deillio o'r feirws hwn hefyd. Rwyf wedi eu gweld o ran yr ymagwedd at iechyd meddwl—clywed am bobl sy'n ymgysylltu mwy â gwasanaethau iechyd meddwl am fod mynediad rhithwir yn gweddu'n well iddynt, plant a phobl ifanc sydd wedi dweud eu bod yn gwerthfawrogi'r dull hwnnw, lle gallant gael mynediad at y dechnoleg ddigidol. Ac wrth inni ddod drwy’r pandemig hwn, rwy'n gobeithio y gallwn geisio dod â’r pethau cadarnhaol gyda ni ac adeiladu arnynt i wneud Cymru well wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.

16:05

Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon. Mae hwn yn sicr yn gyfnod digynsail. Mae'n amlwg yn hanfodol sicrhau’r cydbwysedd cywir yn awr rhwng ymdrin yn effeithiol â'r pandemig presennol gan sbarduno’r economi cyn gynted â phosibl a diogelu swyddi a bywoliaeth pobl. Gyda hynny mewn golwg, a gaf fi gefnogi’r galwadau a wnaed eisoes am ymagwedd pedair gwlad tuag at y pandemig hwn cyn belled ag sy'n bosibl? Rwy'n dod o etholaeth ar y ffin, fel nifer o ACau eraill, ac nid yw'r feirws yn adnabod ffiniau, felly mae'n bwysig, fel y cydnabuwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, fod gennym ddull trawsffiniol o weithredu—dull mor integredig â phosibl.

Gwyddom y bydd cyllideb atodol yn y dyfodol agos, a bydd y gyllideb hon yn hynod bwysig wrth bennu'r blaenoriaethau perthnasol ar gyfer gwariant a darparu tryloywder. Mae’n rhaid i'r dyraniadau ariannol hynny fod yn ddigonol i ddiwallu anghenion busnesau a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cyfnod hwn o ansicrwydd mawr. Tybed a all y Prif Weinidog, wrth gloi, roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o'i drafodaethau gydag awdurdodau lleol ar yr adeg hon. Mae Lynne Neagle newydd grybwyll rôl bwysig awdurdodau lleol mewn llawer o'r meysydd hyn. Gwyddom fod cyllidebau cynghorau yn dynn ar y gorau, ac mae'r pandemig presennol wedi rhoi pwysau enfawr arnynt. Wrth inni edrych yn awr tuag at fwy o brofi yn y gymuned, bydd y baich hwnnw'n cynyddu, felly mae angen iddynt wybod beth yw eu sefyllfa.

A gaf fi siarad ychydig am brifysgolion? Oherwydd yn amlwg, bydd prifysgolion yn allweddol o ran darparu arbenigedd ar gyfer cyflogaeth a swyddi yn y dyfodol, ac i'n tynnu allan o'r pandemig hwn yn y tymor hwy. Maent mewn sefyllfa ariannol ddifrifol o anodd. Mae rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn peri pryder, felly ni allwn fforddio gwneud dyraniadau cyllidebol nad ydynt yn cadw llygad ar ein sector prifysgolion nac yn edrych tuag at dwf economaidd yn y dyfodol.

A soniodd y Prif Weinidog am fecanweithiau sydd ar waith ar gyfer monitro ar y cychwyn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o eglurder ynglŷn â beth fydd y mecanweithiau monitro hynny dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Nawr, rydym wedi gweld nifer o ddatganiadau cyffredinol yn ddiweddar, fel yr honiad y bydd £11 miliwn ar gael i'r rheini sy'n wynebu caledi o ganlyniad i'r pandemig. Ynddynt eu hunain, mae nifer o'r datganiadau hynny'n dweud pethau da, ond wrth gwrs, fel bob amser, mae'n bwysig ein bod yn gweld camau ar lawr gwlad a'n bod yn gweld cymhellion ar waith sy'n symud pethau ymlaen go iawn. Mae angen inni weld cefnogaeth benodol i'n diwydiant twristiaeth, sydd wedi cael ei effeithio’n aruthrol. Yn ôl ei natur, mae'r diwydiant twristiaeth yn dymhorol, felly hyd yn oed os bydd y cyfyngiadau symud yn llacio dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod, mae'r tymor sy'n darparu’r refeniw wedi'i golli i bob pwrpas, ac ni fydd gan y diwydiant yr adnoddau ariannol arferol i’w buddsoddi dros gyfnod y gaeaf. Felly hoffwn weld mwy o eglurder yn y fframwaith sy’n cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth ynglŷn â sut y cefnogir y diwydiant twristiaeth. Yn fy etholaeth i, mae camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn rhan fawr o'r economi twristiaeth—nid yn unig y gamlas, ond hefyd y busnesau ar ei hyd yr effeithir arnynt. Ac mae nifer fawr o bobl sy'n defnyddio'r gamlas honno’n dod o dramor, felly rwy’n dychmygu na fyddant yn dod yn ôl yn heidiau yn y dyfodol agos. Felly, credaf y bydd angen mwy o eglurder ariannol ar hynny.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid yr wythnos diwethaf ei bod yn ceisio mwy o hyblygrwydd cyllidol o ran trosglwyddiadau rhwng cyllidebau cyfalaf a refeniw a benthyca hefyd—mae hynny i gyd yn ddealladwy, ond gyda hynny, mae’n rhaid cael mwy o atebolrwydd a thryloywder. Ac fel y dywedais wrth y Gweinidog Cyllid, mae disgwyl i’r diffyg presennol yng nghyllideb y DU fod dros £300 biliwn, bron i ddwywaith cymaint â ble roeddem ar anterth yr argyfwng ariannol dros 10 mlynedd yn ôl, felly mae'n rhaid bod terfyn i'r math o hyblygrwydd y gellir ei ddisgwyl. Felly golyga hynny ei bod yn bwysicach fyth fod yr adnoddau presennol yn cael eu defnyddio'n ddoeth.

Mae datganoli cyllidol o ran trethi, fel y dreth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi, yn golygu bod refeniw Llywodraeth Cymru yn mynd i gael ergyd enfawr gyda chwymp mewn refeniw. Nawr, gwn fod y cytundeb fframwaith cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi'i gynllunio i gefnogi Llywodraeth Cymru ar adegau anodd fel hyn, a hoffwn glywed ychydig gan y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru ynglŷn ag i ba raddau y bydd y fframwaith hwnnw’n cefnogi economi Cymru.

O ran ysgogi rhannau o'r economi, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i ysgogi’r farchnad dai—yn amlwg, rhan enfawr a phwysig o economi Cymru, fel gweddill y DU. Mae gwerthwyr tai yn edrych am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, felly hoffwn weld argymhellion yn fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r diwydiant tai cyn gynted â phosibl.

Rwyf wedi derbyn llawer—i gloi, Lywydd—o ymholiadau gan etholwyr sy'n ddryslyd ynglŷn â'r cyfyngiadau symud a chanllawiau gwahanol rhwng Cymru a Lloegr. Fel y dywedais yn gynharach, credaf fod angen dull pedair gwlad arnom cyn belled ag sy'n bosibl, ond lle bydd gwahaniaethau'n bodoli, credaf fod angen inni weld ymgyrch i ddarparu mwy o eglurder i'r cyhoedd ynghylch yr hyn a ganiateir yma. Felly, tybed a allai fframwaith Llywodraeth Cymru roi llawer mwy o bwyslais ar egluro i'r cyhoedd lle rydym arni ar hyn o bryd a'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob un ohonom yn dod allan o argyfwng y pandemig hwn mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.

16:10

Hoffwn siarad am ddau o’r gwelliannau, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—gwelliant 4 mewn perthynas â chefnogi’r comisiynwyr heddlu a throseddu a’r prif gwnstabliaid a’u dymuniad am ddirwyon uwch am dorri’r rheoliadau iechyd, a gwelliant 9, sy'n sôn am yr angen am incwm sylfaenol cyffredinol wrth inni symud allan o'r cyfyngiadau symud.

Hoffwn ddechrau drwy ganmol y dull o weithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu. Yn sicr, credaf mai dull mwy gofalus a mwy synhwyrol yw'r hyn a glywaf sy'n iawn ym marn fy etholwyr ledled canolbarth a gorllewin Cymru. Dyma hefyd a glywaf gan fy ffrindiau a chan ffrindiau fy merch. Nid ydym yn credu ei bod yn ddiogel—fel gwlad, nid ydym yn credu ei bod hi'n ddiogel inni godi'r cyfyngiadau symud yn rhy gyflym. Ac er fy mod yn clywed yr hyn a ddywed Nick Ramsay am ddull pedair gwlad, a gwn mai dyma mae’r Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau’n ceisio'i gyflawni, os yw Llywodraeth y DU, gan weithredu fel Llywodraeth Lloegr, yn gwneud pethau'n anghywir, mae’r Prif Weinidog yn amlwg yn gywir i anghytuno yn fy marn i.

Hoffwn sôn am y sefyllfa yng nghanolbarth a gorllewin Cymru mewn perthynas ag ofnau pobl ynglŷn â thwristiaeth yn ailgychwyn. Ac mae angen i mi ddweud wrth y Prif Weinidog fod fy etholwyr ledled canolbarth a gorllewin Cymru yn ofnus. Mae llawer ohonynt yn ddigon ffodus i fyw mewn rhannau o Gymru lle mae'r gyfradd R wedi aros yn isel iawn, ac rydym yn awyddus dros ben i'w chadw felly. Maent hefyd yn gwybod eu bod yn ffodus iawn i fyw yn rhai o'r cymunedau harddaf a'r lleoedd harddaf ar yr ynysoedd hyn, ac rwy'n falch o'u cynrychioli. Ond nid dyma'r amser i bobl fod yn dod yma.

Nawr, mae mwyafrif helaeth ein hymwelwyr rheolaidd â Chymru, ac ymwelwyr a ddaw i gefn gwlad Cymru o drefi Cymru hefyd—oherwydd nid mater o Gymru a Lloegr yw hwn, ond mater o gadw'r cymunedau gwledig yn ddiogel—yn bod yn barchus; maent yn cadw draw ac edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl. Ond mae ein gwasanaeth heddlu yn dweud yn wirioneddol glir wrthym fod lleiafrif bach o bobl yn anwybyddu’r rheoliadau hynny. Credaf y byddai pob un ohonom yn cytuno, ac rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi yn hyn o beth, mai dull y gwasanaeth heddlu o addysgu a hysbysu yw'r un cywir, ac roedd y mwyafrif helaeth o bobl, y penwythnos diwethaf, a oedd mewn penbleth oherwydd y newidiadau i’r rheoliadau yn Lloegr, nad oeddent yn berthnasol yng Nghymru o ran gallu gyrru i fynd am dro, er enghraifft, yn fwy na pharod i droi rownd a mynd yn ôl.

Ond dywed yr heddlu wrthym fod yna leiafrif bach o bobl nad ydynt i'w gweld yn malio dim. Mae swyddogion yr heddlu yng ngogledd fy rhanbarth yn dweud wrthyf eu bod wedi gweld pobl yn troseddu fwy nag unwaith—pobl sydd wedi gyrru dro ar ôl tro, nid ar un penwythnos yn unig, ond ar un penwythnos ar ôl y llall, yn ôl i'r ardal, gan nad yw'r dirwyon yn eu rhwystro—nid ydynt yn ataliad. Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo, yn hollol briodol, yn y ffaith ei bod yn gwrando ar bobl ar y rheng flaen, a phan ydym mewn sefyllfa lle mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu—y pedwar ohonynt—a'r prif gwnstabliaid—y pedwar ohonynt—yn dweud wrthym, wrth ymdrin â'r lleiafrif bach ystyfnig hwnnw, fod eu dwylo ynghlwm gan nad yw'r cosbau sydd ar gael yn ddigon difrifol i fod yn ataliad, rwy'n gofyn o ddifrif i'r Prif Weinidog esbonio i mi pam nad yw’n gwrando arnynt, ac yn bwysicach, esbonio i fy etholwyr ac i swyddogion yr heddlu sy'n gorfod gweithredu'r polisïau hyn, pam nad yw i'w weld yn gwrando arnynt. Rwyf wedi clywed yr hyn y mae wedi'i ddweud; nid wyf yn deall ei resymeg.

Ond fe drof at faes lle rwy'n gobeithio y gallwn gytuno, sef y syniad o symud yn yr oes ôl-COVID tuag at incwm sylfaenol cyffredinol. Nawr, mae hwn yn syniad rwyf wedi dadlau o’i blaid ers peth amser, ac mae wedi cael ei weld ar brydiau fel syniad rhamantus a fyddai’n braf ar ryw adeg yn y dyfodol, ond wrth gwrs, gwelsom Lywodraeth Sbaen yn cyflwyno hyn. Mewn ymateb i’r argyfwng, mae'n rhaid inni ganmol ymdrechion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cefnogi bywoliaeth pobl, ond fel rydym newydd glywed yn y datganiad gan Weinidog yr economi, mae hynny wedi rhoi darlun cymhleth iawn i ni. Mae'n gwneud pobl yn ddryslyd ynglŷn â'r hyn y maent yn gymwys i'w gael a'r hyn nad ydynt yn gymwys i'w gael, ac mae wedi gadael rhai pobl heb gymorth, a hynny'n anfwriadol, rwy'n credu, a heb fod unrhyw fai ar ran y Llywodraeth.

Rydym yn sôn yn aml am ailadeiladu'n well, am fyw ein bywydau mewn ffordd wahanol, am ddysgu rhai pethau cadarnhaol, efallai, am yr hyn y mae pob un ohonom wedi gorfod byw drwyddo yn yr argyfwng hwn. Ac rydym ni, ym Mhlaid Cymru, yn credu mai nawr yw'r amser—ac rydym yn derbyn, gyda'r setliad cyllidol fel y mae, y byddai'n rhaid iddo fod ar lefel y DU, ond byddem yn dyheu yn y tymor hwy i Gymru allu gwneud hyn ein hunain—nawr yw'r amser i'n gwlad ddarparu incwm sylfaenol i bob dinesydd fel eu bod yn gwybod eu bod yn ddiogel.

Nawr, lle mae hyn wedi'i gyflwyno, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl ei fod wedi atal pobl rhag bod eisiau gweithio, a lle mae wedi'i dreialu, mae wedi cael effaith i’r gwrthwyneb. Mae wedi galluogi pobl i weithio mewn gwahanol ffyrdd. Mae wedi eu galluogi i fentro—mentro’n entrepreneuraidd—mewn ffordd y byddent yn ofni ei wneud fel arall. Mae wedi eu galluogi, er enghraifft, i weithio yn y sector creadigol, lle mae eu cyfraniad yn enfawr ond lle mae'r cyflog yn isel. Mae wedi galluogi pobl i ddarparu gwell cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd teuluol, ac mae wedi galluogi pobl i ysgwyddo cyfrifoldebau dinesig fel gwneud gwaith cyhoeddus di-dâl fel cynghorydd cymunedol, er enghraifft.

Mae gwir angen inni feddwl yn wahanol bellach, a chredaf y byddai'r mwyafrif ohonom, er nad pob un ohonom yn y Siambr hon efallai, yn cydnabod bod y system fudd-daliadau bresennol yn annheg, yn ymrannol. Mae hefyd yn ddrud iawn i'w gweithredu, yn ddrud iawn i’w phlismona. Rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y bobl nad ydynt erioed wedi dod ar draws y system fudd-daliadau ond sydd bellach yn gorfod gwneud hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf ac sydd wedi dweud wrthyf, ‘Ni allaf fyw ar hyn', pan fyddant yn sôn am lefel y credyd cynhwysol. Ac eto, y gwir amdani, fel y gŵyr y Prif Weinidog, yw nad oes dewis gan lawer o'n dinasyddion ond gwneud hynny.

Yn y ddealltwriaeth well hon, lle mae mwy o bobl na fyddent erioed wedi disgwyl wynebu caledi economaidd yn ei chael hi’n anodd, lle mae pob un ohonom, yn gwbl briodol, yn canmol llawer o staff ar gyflogau isel iawn a allai hefyd gael eu cynorthwyo gan incwm sylfaenol cyffredinol, megis gofalwyr, rwy'n gobeithio efallai mai un o'r pethau da a ddeillia o'r amser tywyll hwn yw ymdeimlad cryfach o undod cymdeithasol a chyfle inni fyw ein bywydau mewn ffordd wahanol. Incwm cyffredinol i ddinasyddion ac sydd ar gael i bob un ohonom, a fyddai’n cael ei ad-dalu drwy'r system dreth gan y rheini ohonom nad oes arnom ei angen, fyddai'r arwydd gorau a chliriaf o'r undod cymdeithasol newydd hwnnw, a byddai'n rhoi pawb ar sylfaen gadarn i'w galluogi i fod yn rhan o'r broses o ailadeiladu'n well. Diolch yn fawr.

16:15

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw, a gallaf gadarnhau y bydd fy ngrŵp yn cefnogi’r cynnig fel y saif.

Nid oes dadl i'w gwneud ynglŷn â blaenoriaethu iechyd y cyhoedd mewn unrhyw gynllun i ddychwelyd at rywfaint o normalrwydd, nid oes unrhyw ddadl ynghylch cydnabod ymdrechion y cyhoedd i gadw at y rheolau, a phob cefnogaeth i'r diolch a fynegir i’r holl weithwyr allweddol sydd wedi cynnal y wlad.

Gallwn hefyd nodi cyhoeddiad y ddogfen sy'n destun i’r ddadl hon. Roedd yn teimlo fel pe bai wedi ei llusgo allan o Lywodraeth Cymru ar ôl llawer o ganfasio gan y grŵp Ceidwadol yn y Senedd. Er y gallwn nodi'r ddogfen hon, dyna’r cyfan y gallwn ei wneud, gan nad yw'n dweud llawer wrthym o gwbl. Mae’n rhaid i ni, yma yn y Senedd, gydnabod hefyd na fydd y rhan fwyaf o’r cyhoedd yng Nghymru wedi darllen pob gair ohoni. Rwyf fi wedi gwneud hynny, ac mae'n codi mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb. Ni fydd amser yn caniatáu i mi fynd drwy bob un, felly rwyf am gyfyngu fy hun i dri, ac mae'r rhain yn unol â'r materion a godwyd gan fy etholwyr.

Yn nyddiau cynnar yr argyfwng, bu sôn am fesurau i lefelu’r gromlin, a oedd yn awgrymu mai'r amcan oedd arafu niferoedd y rheini sy'n dal y feirws, a galluogi'r GIG i ymdopi drwy wneud hynny. Felly, nid diben gwreiddiol y cyfyngiadau symud oedd lleihau cyfanswm yr achosion, dim ond sicrhau bod y nifer, ar unrhyw adeg benodol, yn llai na chapasiti ein hunedau gofal dwys. A’r slogan oedd, a’r slogan o hyd yng Nghymru, yw 'Aros gartref. Diogelu’r GIG. Achub bywydau.' Yn y ddogfen hon, rydych yn nodi na allwn symud o'r camau gwyrdd ac yn ôl i ryw fath o normalrwydd—fy ngair i—tan y bydd brechlyn neu driniaeth effeithiol ar waith. A gaf fi ofyn i chi pryd yn union y newidiodd y nod o lefelu’r gromlin i ddod o hyd i frechlyn?

Ac er nad wyf am ddiystyru'r bwriadau da yma, hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith nad ydym wedi dod o hyd i driniaeth i wella ffliw'r gaeaf, annwyd neu ganser, ac mae pob un o'r rheini’n lladd. Mae angen inni weld rhyw fath o gydbwysedd rhwng y bywydau sydd mewn perygl yn sgil COVID a'r bywydau sydd mewn perygl yn sgil y cyfyngiadau symud hefyd. Mae’n aruthrol o anodd, ond mae’n aruthrol o bwysig; nid wyf yn esgus bod opsiwn hawdd i’w gael.

Yn y ddogfen, rydych yn sôn fwy nag unwaith am ddull pedair gwlad, ac eto, mae eich Llywodraeth wedi gwyro bellach oddi wrth ddull Llywodraeth y DU o weithredu, ac mae Cymru’n wynebu mesurau llymach na’r rheini sy'n byw yn Lloegr. Rydych yn sôn am gyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru, Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau a'ch grŵp cynghori technegol. O ystyried y berthynas waith agos rhwng y grwpiau a'r pedair gwlad, beth oedd y gwahaniaeth yn y cyngor a arweiniodd at wahanol benderfyniadau gan y pedair gwlad?

Trof yn awr at iechyd y cyhoedd. Gall pob un ohonom gytuno y dylai hyn fod yn elfen hollbwysig o'r ystyriaethau ar gyfer llacio’r cyfyngiadau. Rwy'n gweld llawer o gyfathrebu gan fyrddau iechyd, yn annog pobl i weld meddygon teulu yn ystod y cyfnod hwn gan fod nifer yr ymweliadau’n is, mae gweithgarwch adrannau damweiniau ac achosion brys yn sylweddol is, ac mae llawdriniaethau dewisol wedi’u canslo neu eu gohirio. Yn fwyaf gofidus, mae atgyfeiriadau canser wedi gostwng, a gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig yw canfod a thrin achosion o ganser yn gynnar. Ac mae'r doll ar iechyd meddwl y genedl yn peri cryn bryder, gyda gorbryder ac iselder ar gynnydd.

Mae'r achos iechyd dros ddechrau llacio’r cyfyngiadau symud yn cryfhau bob dydd, felly, wrth fynd i’r afael â COVID-19, hoffwn ofyn hefyd am sicrwydd gennych nad ydym yn pentyrru problemau iechyd cyhoeddus eraill, fel cynnydd mewn marwolaethau canser o ganlyniad i ddiagnosis hwyr, anhwylderau cymharol fach yn troi'n afiechydon sy'n peryglu bywydau oherwydd diffyg triniaeth, ac y bydd iechyd meddwl y genedl yn parhau i gael y gofal y mae'n ei haeddu. Gwyddom am y niwed economaidd enfawr y mae’r cyfyngiadau symud yn ei achosi, ond mae hefyd yn achosi niwed enfawr i iechyd, ac er fy mod yn cymeradwyo'r gwasanaeth iechyd am ymdopi â phopeth sydd wedi'i daflu ato, rwy'n ofni ein bod yn pentyrru llawer o broblemau eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd tan yn nes ymlaen.

Ar ôl naw wythnos a mwy, mae'r cyhoedd wedi blino. Mae'n rhaid inni weld rhyw fath o olau ar ben draw'r twnnel ac o dwnnel y cyfyngiadau symud yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Huw Irranca-Davies.

Credaf y bydd angen i mi ofyn ichi aros am funud. Ni allwn eich clywed ar hyn o bryd. Na, mae gennym broblem o hyd. Dywedwch rywbeth eto. Na. Rwyf am fynd at Mick Antoniw, ac fe ddof yn ôl atoch.

Gallaf, rydych chi wedi pwyso rhywbeth—fe weithiodd hynny. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. Diolch am ychydig eiliadau i gyfrannu at y ddadl hon. Yn gyntaf oll, hoffwn ddefnyddio gair a ddefnyddiodd Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gynharach mewn perthynas â hyn, yn sylfaen i’r cyfraniad hwn, sef mater gobaith. Dywedodd fod angen gobaith ar bobl drwy gerrig milltir ac amserlenni. A dweud y gwir, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n gywir. Yr hyn sydd ei angen ar bobl yw gobaith drwy weld Llywodraeth sy'n mabwysiadu ymagwedd ofalus, ystyriol a phwyllog yn seiliedig ar dystiolaeth tuag at lacio’r cyfyngiadau symud, tra'n gwylio ymddygiad y feirws sy'n dal i fod allan yno, feirws nad ydym wedi gweld ei ddiwedd, ac na fyddwn yn gweld ei ddiwedd am beth amser.

Felly, yn hytrach na gobaith a ddaw o gerrig milltir ac amserlenni mympwyol a welwn, fel sy’n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd, yn datod bob ychydig ddyddiau, mae a wnelo hyn â’r hyder a'r gobaith y mae pobl yn ei gael o edrych ar Lywodraeth sy'n dweud, 'Y flaenoriaeth gyntaf yw diogelwch y cyhoedd. Rydym am wneud hyn gyda'n gilydd. Rydym am weithio drwy'r dewisiadau anodd hyn gyda'n gilydd ac rydym am ddod drwyddi yn araf deg, ond rydym am ddod drwyddi ar y sail, os yw'r feirws yn cynyddu eto ledled y wlad neu'n cynyddu eto mewn ardaloedd neu ranbarthau, y bydd gennym y mesurau ar waith sy'n caniatáu inni gael gwared arno unwaith eto.'

Nawr, o hynny y daw gobaith, a daw gobaith gan bobl Cymru; y dinasyddion; y busnesau; yr elusennau; plant ysgol a neiniau a theidiau; pysgotwyr; chwaraewyr pêl-droed yn gwybod nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd i osod cerrig milltir ac amserlenni mympwyol, ond y bydd yn dilyn y dystiolaeth ac y bydd yn gosod—fel y gwnaeth gyda'r system oleuadau traffig—cynllun o'r penderfyniadau y mae angen inni eu gwneud mewn modd amserol i lacio’r cyfyngiadau fel y gallwn wneud hynny’n ddiogel.

Ac mae gobaith yn tyfu yr un mor gyflym â'n gallu i nodi ac atal achosion newydd o'r clefyd gyda'r mesurau profi, olrhain ac amddiffyn sy'n cael eu rhoi ar waith. Daw gobaith o’r dull pwyllog a gofalus ac ystyriol hwnnw sy’n cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru, dull sy’n realistig ac iddo ffocws, dull nad yw'n rhodresgar neu'n addo gormod neu'n or-optimistaidd. Mae'n realistig, ac mae’n dweud, 'Gallwn wneud hyn; gallwn lacio’r cyfyngiadau hyn, ond mewn modd gofalus.' Ac mae'n ddull sy'n gweithio gyda phobl, fel y nodir yn y ddogfen, gyda gweithwyr a chyflogwyr a chydag undebau, gyda rhieni, gydag athrawon a phlant a phobl ifanc, gan wrando arnynt hefyd i ddod o hyd i'r ffyrdd diogel, ymarferol ac amserol hynny o lacio’r cyfyngiadau, ac nid rhyw fath o ddictad mympwyol y mae'n rhaid i Weinidogion gamu'n ôl oddi wrtho maes o law.

Rhaid i mi ddweud bod gobaith hefyd yn golygu rhoi gwybod i deuluoedd y bydd yna ffordd ddiogel y gallant weld aelodau'r teulu cyn bo hir, mewn ffordd gyfyngedig ar y dechrau, efallai, yn yr awyr agored—un aelod o'r teulu ar y dechrau, efallai—ond os yw pobl yn cydymffurfio ac os na welwn gynnydd yn yr achosion, gellid ymestyn hyn pan fydd y dystiolaeth yn dweud ei bod yn ddiogel inni wneud hynny.

Mae gobaith yn golygu llacio’r cyfyngiadau mewn ffordd ddoeth; manteisio ar y cyfleoedd i ymarfer corff yn yr awyr agored fel cerdded a beicio; adeiladu ar frwdfrydedd newydd pobl ynghylch y gweithgareddau sylfaenol ond pleserus hyn; datblygu, os mynnwch, ffordd fwy Swedaidd neu ffordd fwy Nordig o ymarfer corff yma yn ein maes chwarae awyr agored hardd, sef yr hyn yw Cymru fel arfer, fel ein bod yn fwy egnïol fel cymdeithas wrth i ni gefnu ar y cyfyngiadau symud, yn fwy hoff o fod yn yr awyr agored, a gallwn fynd i'r afael â'r nifer o afiechydon sy'n gysylltiedig â diffyg ymarfer corff, afiechydon sy'n niweidio ac yn lladd ein pobl bob blwyddyn ac sydd ddwywaith mor niweidiol i'r bobl dlotaf a mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas.

Mae gobaith hefyd, fel yn y ddogfen hon, yn golygu bod yn onest â phobl Cymru nad yr hen normal yw'r normal newydd, ac yn sicr, hyd nes y ceir brechlyn diogel ac effeithlon, a hyd yn oed wedyn, bydd y ffordd rydym yn byw, yn gweithio, yn teithio ac yn creu cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd yn wahanol.

A fy mhwynt olaf yw'r gobaith y gall holl Lywodraethau a Seneddau a gweinyddiaethau'r DU, gan gynnwys y Weithrediaeth yn Llundain—fel y cyfeiriodd un o Weinidogion Cabinet y DU at ein Llywodraeth yma—y gall pob un ohonynt weithio gyda’i gilydd wrth i ni lacio’r cyfyngiadau symud, ond mae hyn yn dibynnu ar barodrwydd Gweinidogion y DU i gynnal trafodaethau â chenhedloedd a rhanbarthau’r DU, gan gynnwys meiri’r ardaloedd metropolitanaidd mawr yn Lloegr. Dywedodd y Prif Weinidog ymadrodd cofiadwy, sydd bellach wedi dod yn femyn poblogaidd i drac sain, 'Byddai angen i drafodaethau o'r fath fod ar rythm rheolaidd, dibynadwy.' A all roi rhywfaint o obaith inni y gallai'r rhythm rheolaidd, dibynadwy hwn o ymgysylltu ddigwydd bellach, gan ei gwneud yn ofynnol i Brif Weinidog y DU ymrwymo i hyn? Fel y gorffennodd y memyn poblogaidd: 'Rho alwad i ni, Boris bach.'

16:30

Yn gyntaf, a gaf fi gofnodi fy nghydymdeimlad llwyr ynghylch pawb sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i COVID-19? Ni allaf ddychmygu beth y mae llawer o deuluoedd a ffrindiau'r unigolion hynny’n ei wynebu ar hyn o bryd, ond mae gennym ddyletswydd tuag atynt, a chredaf fod gennym ddyletswydd tuag at y gweithwyr allweddol sy'n gofalu amdanynt a'r bobl eraill sy'n cadw ein heconomi a’n gwlad yn weithredol ar hyn o bryd, i sicrhau ein bod yn gallu codi'r cyfyngiadau hyn, y cyfyngiadau sylweddol hyn ar eu bywydau, mewn ffordd sy'n ddiogel ac na fydd yn peryglu bywydau pobl yn ddiangen. A chredaf ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng, ie, achub bywydau unigolion, ond achub bywoliaeth pobl hefyd. Ac a dweud y gwir, mae lefelau'r cymorth a gafwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi bywoliaeth pobl yn ogystal â'u bywydau yn ystod y pandemig hyd yn hyn wedi creu cryn argraff arnaf.

Rwyf wedi bod yn pryderu am y gwahaniaeth yn ymagwedd y pedair gwlad mewn perthynas â'r cyfyngiadau symud. Gwyddom fod gan y pedair gwlad fynediad at yr un dystiolaeth wyddonol, felly, yn ddealladwy, mae aelodau'r cyhoedd yn cysylltu â'u Haelodau o’r Senedd i ofyn pam fod dull gwahanol ar waith yng Nghymru, ac weithiau mae'n anodd iawn esbonio pam fod dull gwahanol ar waith, o ystyried bod y dystiolaeth wyddonol yr un fath. I bob pwrpas, mae’n ganlyniad i rai o'r penderfyniadau gwleidyddol a wneir gan Weinidogion yn unol â'u crebwyll eu hunain. Ac wrth gwrs, mae gan bob un ohonom hawl i ddefnyddio ein crebwyll ein hunain gyda’r pethau hyn ar ôl ystyried y dystiolaeth, ond yn fy marn i, po bellaf y byddwn yn gwneud pethau'n wahanol i ddull DU gyfan ar draws y pedair gwlad, yr anoddaf y bydd hi—fel y dywedodd Nick Ramsay, yn gwbl gywir—i gyfleu'r gwahaniaethau hynny i'r cyhoedd a disgwyl i bobl gadw atynt.

Mae pobl yn genfigennus weithiau o'r rhyddid y mae pobl yn ei fwynhau mewn rhannau eraill o'r DU ar hyn o bryd, a'r gallu i deithio i gyfarfod ag aelodau o'r teulu mewn ffordd na allant ei wneud yng Nghymru eto. Credaf fod yn rhaid inni feddwl yn ofalus ynglŷn â sut y gallwn godi rhai o'r cyfyngiadau hyn yn ddiogel mewn ffordd sy'n gydnaws â'r dystiolaeth wyddonol, sy'n dal i ddiogelu bywydau pobl, ond sydd hefyd yn helpu teuluoedd i ddod yn ôl at ei gilydd, yn helpu anwyliaid i weld ei gilydd, yn helpu’r gymdeithas i ddechrau ailagor, ac wrth gwrs, lle bo hynny'n bosibl, i gael yr economi'n weithredol eto. Oherwydd wrth gwrs, po hiraf y bydd gennym lefelau uwch o gyfyngiadau, yn enwedig ar ein heconomi yma yng Nghymru, y lleiaf cystadleuol y byddwn gyda rhannau eraill o'r wlad sydd efallai'n llacio rhai o'r cyfyngiadau hynny.

Rydym eisoes wedi clywed am yr effaith bosibl ar y farchnad eiddo ar hyn o bryd, ond ystyriwch y diwydiant twristiaeth hefyd, sy’n rhywbeth y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato. Pan edrychwch ar ein diwydiant twristiaeth, mae'n hynod bwysig mewn sawl rhan o'r wlad—gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun—ond os na fyddwn yn codi cyfyngiadau ar y diwydiant twristiaeth ar yr un pryd ag y caiff y cyfyngiadau eu codi yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, mae perygl y bydd y bobl a fyddai wedi dewis dod i Gymru ar eu gwyliau yn penderfynu mynd i rywle arall, a gallai diffyg cae chwarae gwastad yn hynny o beth beri inni gael llai o fantais gystadleuol a rhoi mantais i ddiwydiannau yng ngwledydd eraill yn y DU. Nid wyf am weld hynny, er lles parciau carafanau gwyliau, gwestai a'r atyniadau twristaidd pwysig yma yng ngogledd Cymru ac o gwmpas fy etholaeth. Rwyf am sicrhau eu bod yn cael eu codi ar yr un pryd, lle bo modd, er mwyn iddynt barhau i allu gweithredu'n llwyddiannus.

Credaf fod pwynt Paul Davies ynghylch amserlenni’n hynod bwysig. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies, ond nid yw'n wir dweud bod pobl yn bod yn fyrbwyll, os mynnwch, gyda bywydau pobl. Fel y dywedaf, mae pobl yn ystyried yr un dystiolaeth wyddonol, ac os gallwch bennu dyddiad petrus—a dyna'r cyfan y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud, rhoi dyddiadau petrus yn y dyddiadur i ddweud, ‘Rydym yn gobeithio gallu gwneud y pethau hyn erbyn y dyddiadau hyn os yw'r wyddoniaeth yn dweud ei bod yn ddiogel inni wneud hynny, os yw’r gyfradd heintio, y gyfradd R, a'r gyfradd drosglwyddo wedi gostwng i lefel benodol.' Nid oes gennym unrhyw un o'r dangosyddion hynny yn y ddogfen a roddodd Llywodraeth Cymru i ni. Nid yw’n cynnwys unrhyw beth o gwbl ynglŷn â’r amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn symud o goch i ambr a gwyrdd yn ôl diwydiant, neu yn ôl sector yn hytrach, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae pobl yn ysu amdano, os ydynt am weld sut y gallwn wthio ein ffordd yn raddol allan o'r pandemig penodol hwn. Felly, rwyf am eich annog, Brif Weinidog, i ystyried o ddifrif a oes modd rhoi rhai o'r amodau hynny yn y ddogfen mewn ffordd sy'n hawdd i bobl weld a ellir bodloni'r profion er mwyn gwneud cynnydd ar godi'r cyfyngiadau symud. Diolch yn fawr iawn.

16:35

Siân Gwenllian. Aros i'r microffon, Siân Gwenllian. Treial eto.

Iawn, diolch yn fawr, Llywydd. Mae sefydlu cyfundrefn gadarn ar gyfer profi, olrhain ac ynysu pob achos o'r COVID yn gorfod bod yn gwbl greiddiol i'r cynlluniau ar gyfer codi'r cyfnod clo, yn cynnwys ailagor ysgolion. Mae'r cyhoedd angen negeseuon clir iawn am y broses, ac mae angen trefniadau cadarn ar gyfer y cyfnod ynysu, a threfniadau priodol i bobl fedru ynysu i ffwrdd o'u cartref os oes angen. Law yn llaw â hynny, mae angen data manwl am yr epidemig ym mhob awdurdod lleol hyd at lefel ward.

Mi fydd ailagor ein hysgolion gam wrth gam yn ddibynnol iawn ar lwyddiant y strategaeth profi, olrhain ac ynysu. Os na fydd gan rieni a disgyblion a staff yn ein hysgolion eu ffydd yn y system honno, mi fydd hi'n anodd iawn i'w darbwyllo nhw i fynd yn ôl i'r ysgol. Hyd yn oed os ydy'r holl fesurau angenrheidiol yn eu lle—y materion sy'n cael eu trafod yn fframwaith penderfynu y Gweinidog Addysg—os nad oes yna hyder yn y gyfundrefn brofi, fe fydd ailagor ysgolion yn dasg anodd iawn. Does dim ond yn rhaid inni edrych ar y ffrae fawr sydd yn digwydd yn Lloegr dros hyn, ac erbyn hyn dwi'n amheus iawn a fydd yr ysgolion yn ailagor yno ar 1 Mehefin. Mae'r undebau yn hollol iawn i fynnu bod cyfundrefn brofi ac ynysu effeithiol ar waith cyn agor yr ysgolion yna, ac mae hyn wedi dangos ffolineb gosod dyddiad pendant ac wedyn canfod nad ydy'r elfennau pwysig o godi'r clo wedi cael eu cyflawni.

Mae agwedd ofalus Llywodraeth Cymru tuag at ailagor ysgolion o'i chymharu â rhuthr digynllun y Torïaid i'w chroesawu, felly. Dydy hi ddim yn glir eto beth ydy rôl plant wrth drosglwyddo'r feirws, ac mae yna sawl adroddiad sydd yn gwrthddweud ei gilydd, felly mae angen bod yn wyliadwrus o hynny, ac angen pwyll efo'r camau i ailagor ysgolion. Ond, mae angen hefyd fod yn ymwybodol iawn o'r niwed sy'n digwydd oherwydd bod yr ysgolion ar gau. Mae cyfnod y feirws wedi dangos mor bwysig ydy'r ysgolion ar gyfer lles nifer fawr o blant, ac mae'n loes calon gen i feddwl am y plant sydd ddim yn cael cefnogaeth oherwydd y feirws. Mae rhai plant yn cael eu cam-drin yn ystod y cyfnod clo, heb fedru troi at eu hysgol am gymorth. Mae gofalwyr ifanc dan bwysau sylweddol heb yr ysbaid mae'r ysgol yn ei gynnig, ac mae yna filoedd o blant sydd efo anableddau dysgu yn colli'r gefnogaeth ychwanegol a'r routine mae ysgol yn rhoi i'w bywydau. A'r hiraf yn y byd y bydd yr ysgolion yn aros ar gau, y mwyaf fydd y bwlch cyrhaeddiad hefyd—bydd hwn yn tyfu; does dim dwywaith am hynny. Mae yna wahaniaethu mawr yn barod, mi wneith o fynd yn waeth. Felly, hoffwn i heddiw glywed gan y Prif Weinidog y bydd y Llywodraeth yn rhoi ffocws clir ar gefnogi'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl oherwydd bod yr ysgolion ar gau.

Wrth gynllunio'r cyfnod nesaf, mae'n rhaid, hefyd, gyflwyno mesurau lliniaru cadarn ar gyfer y cyfnod trosiannol hir sydd o'n blaenau ni cyn bod pawb yn ôl yn llawn amser yn yr ysgolion. Mae'n rhaid gwneud pob ymdrech i ymgysylltu efo'r garfan fawr o'r rhain sy'n cael eu galw'n reluctant learners, y rhai sydd ddim yn ymgysylltu'n llawn efo'u haddysg mewn cyfnod arferol, ond sydd rŵan yn cael eu gadael ar ôl oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth nhw.

Mae angen sicrhau bod pob un plentyn efo cysylltiad i'r we ac efo'r dechnoleg briodol. Mae angen i bob ysgol gynnal cysylltiad rheolaidd efo pob plentyn a'u hannog i ddefnyddio'r adnoddau ar-lein sydd ar gael. Ac yn greiddiol hefyd, mae angen dysgu o bell byw. Mae'n rhaid i hwn ddigwydd ar draws Cymru. Mae angen anogaeth cwbl glir gan Lywodraeth Cymru. Mi ddylai hi fod yn ddisgwyliad bod pob ysgol yn cyflwyno gwersi drwy ffrydio byw fel y ffordd fwyaf effeithiol o ennyn diddordeb y dysgwyr rheini sy'n cael eu gadael ar ôl ar hyn o bryd. Felly, gobeithio y medrwch chi roi ystyriaeth lawn i hyn. 

I gloi, Llywydd, dwi'n credu, rydym ni i gyd yn credu, fod addysg yn hawl dynol sylfaenol. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain a mynnu bod yr arfer da sy'n digwydd ar draws Cymru yn arfer da ymhob ysgol a phob dosbarth yn y cyfnod rhithiol yma, a bod pob ymdrech bosib yn cael ei gwneud i gynnal addysg o safon i bawb, ond yn enwedig y rhai sydd angen y gefnogaeth fwyaf yng nghyd-destun COVID-19.

16:40

Pan alwaf ar Rhianon Passmore—dylwn ddweud y bydd angen cyfraniadau byrrach o hyn ymlaen os wyf am ddod yn agos at alw ar yr holl Aelodau sydd wedi nodi eu bod am siarad. Rhianon Passmore.

Diolch. Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd ddoe gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cynnwys marwolaethau ym mhob lleoliad, yn dangos y bu 1,852 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â’r feirws yng Nghymru hyd at 8 Mai, ac mae hynny’n golygu bod 1,852 o deuluoedd yn galaru. Felly, yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad a fy niolch diffuant fel yr Aelod o’r Senedd dros Islwyn am ymdrechion arwrol dynion a menywod y gwasanaeth iechyd gwladol, sy’n gwasanaethu ar y rheng flaen. Maent hwy, ynghyd â'r holl weithwyr gofal a gweithwyr hanfodol, yn parhau i sicrhau bod cymunedau Islwyn yn gweithredu, ac mae Cymru’n parhau i ddangos bod y fath beth â chymdeithas yn bodoli.

Felly, fel cynrychiolwyr gwleidyddol pobl Cymru, rydym yn edrych tua’r dyfodol a'r modd y gall Cymru symud ymlaen yn ddiogel ac yn rhagweithiol wrth inni geisio gweithredu'n fwy llawn fel cymdeithas gyda'n gilydd. Hoffwn groesawu sylwadau Ysgrifennydd iechyd Cymru y bydd Cymru’n mabwysiadu ymagwedd fwriadol ofalus tuag at lacio’r cyfyngiadau symud gyda’r adolygiad nesaf i'w gynnal ar 28 Mai. Mae'n iawn mai bywydau pobl sydd bwysicaf, nid brys di-feddwl. Fel y gŵyr yr Aelodau, fel sosialydd ar hyd fy oes, rwy'n credu bod yn rhaid i'n gweithredoedd polisi cyhoeddus gael eu llywodraethu gan egwyddorion a gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol.

Mae'n bwysig ein bod yn hwyluso gweithgarwch pellach, ydy, ond nid cyn inni gael tystiolaeth ei bod hi'n ddiogel inni wneud hynny, gyda gweithgareddau awyr agored a chwaraeon unigol eraill sy'n caniatáu i bobl ailddechrau arni gan arfer synnwyr cyffredin a chadw pellter cymdeithasol, a mwynhau ymweld â chanolfannau garddio yn yr awyr iach a gweithgareddau awyr agored eraill. Gwyddom fod y feirws yn casáu golau haul a'r awyr agored.

Yn yr un modd, ac yn hollbwysig, fel Llywodraeth Lafur Cymru, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig ac yn ymroddedig, fel y buom erioed, i sicrhau bod aelodau tlotach a mwy bregus ein cymunedau—sy'n aml yn byw, fel y nodwyd eisoes, mewn cartrefi llai o faint, yn aml heb erddi mawr, yn aml mewn gofod cyfyng, neu mewn fflatiau heb ofod awyr agored—yn gallu profi, ac y byddant yn gallu profi mwy o ryddid er mwyn sicrhau iechyd meddwl gwell yn ogystal ag iechyd corfforol gwell. Fe wyddom, ac rydym wedi clywed eto heddiw, fod y feirws yn effeithio'n anghymesur ar y bobl dlotaf yn ein cymdeithas.

Gwyddom hefyd am beryglon y pandemig cudd o fewn y pandemig byd-eang hwn, sef menywod a'u plant yn bennaf, ond nid yn unig mewn unrhyw ffordd, sy'n cael eu gorfodi nawr i fyw o dan gyfyngiadau symud gyda phartneriaid camdriniol sy’n eu rheoli ac sy'n gallu manteisio'n ddiedifar ar reolau'r Llywodraeth er eu budd ffiaidd eu hunain. Felly, os yw hyn yn wir amdanoch chi neu rywun rydych yn eu hadnabod, mae’n rhaid i chi ddweud. Nid oes rhaid i chi ddioddef, ac mae cymorth a chefnogaeth ar gael i chi nawr.

Lywydd, fe ailadroddodd y Prif Weinidog heddiw sut y mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn cael eu llywodraethu gan y wyddoniaeth. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd cyfyngiadau ar gyfarfod â phobl o aelwydydd eraill yn yr awyr agored yn cael eu llacio. Gwyddom fod y feirws yn debygol iawn o ddirywio’n gyflym ar ôl ychydig funudau yn yr awyr agored ac ar arwynebau yng ngolau’r haul. A gwyddom hefyd am yr awydd cryf iawn sydd gan neiniau a theidiau i weld eu hwyrion a’u hwyresau, a’r ffordd arall. Nid yn Islwyn yn unig y teimlir hyn, ond y tu hwnt. Ond gŵyr pob un ohonom fod yn rhaid i’r amseru fod yn iawn.

Felly, fel y nododd y Prif Weinidog, mae COVID-19 yn ffynnu ar gadwyni cyswllt dynol. Mae’n rhaid i'r cyfyngiadau symud a'r normal newydd geisio cyfyngu ar y newidiadau hynny, oherwydd fel arall, ar sail tystiolaeth wyddonol, ofnwn y bydd y feirws yn lledaenu ac yn cynyddu eto. Dyma’r hyn y mae cyfyngiadau symud Cymru yn ceisio’i osgoi. Ar bob cyfrif, mae'n rhaid inni atal twf esbonyddol y lladdwr anweledig hwn. Nid yw'r hyn sy'n cael ei ruthro mewn cyfraith yn gyfraith dda, a chyda'r pandemig hwn, mae'r un egwyddorion yn berthnasol.

Yn olaf, rwy'n credu bod angen inni ddechrau llunio rhaglen etifeddol ar gyfer y daioni y gobeithiwn ei weld, fel y nodwyd gan eraill heddiw, o’r pandemig ofnadwy a thrasig hwn. Yng Nghymru, mae angen inni ystyried, fel y gwnaethom eisoes, ffordd newydd, mathau newydd o ddiwylliant gwaith, ffyrdd newydd o deithio, caffael, trefnu, addysgu a rheoli’r hinsawdd, ond yn bennaf, sut y gall y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, boed yn blant neu'n oedolion, gael eu diogelu'n well a'u cynorthwyo mewn cyfnodau da yn ogystal â'r cyfnod gwael y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno y byddwn yn gweld egin gwyrdd ag iddynt botensial mawr?

Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog hefyd—

16:45

Diolch. Felly, hoffwn ailadrodd fy mod yn hynod falch o bobl Islwyn am bopeth y maent wedi'i wneud yn yr amser anodd hwn, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth, yn drawsbleidiol, ac y byddwn, gyda phartneriaeth gymdeithasol gref, yn adeiladu dyfodol mwy disglair gyda'n gilydd. Diolch.

Diolch, Lywydd. Ar ôl mwy na saith wythnos o gyfyngiadau, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fesurau yn ddiweddar i lacio’r cyfyngiadau symud yn Lloegr. Cafodd y llacio hwn ei groesawu gan lawer am ei fod yn nodi carreg filltir arwyddocaol ar y daith i ddychwelyd i normalrwydd. Mae strategaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnig ac yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.

Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu dogfen sy'n amwys ac nid yw'n cynnig fawr ddim eglurder i bobl Cymru. Yn lle amlinellu amserlen glir ar gyfer llacio’r cyfyngiadau, nid yw’n cynnwys y manylion sy'n hanfodol er mwyn rhoi'r hyder sydd ei angen yn daer ar bobl a busnesau yng Nghymru. Drwy beidio â gweithio ar y cyd â gweddill y Deyrnas Unedig i ddatblygu dull clir a chyson o lacio’r cyfyngiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ymroi i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Y canlyniad yw dryswch ynghylch yr hyn y gellir ac na ellir ei wneud, yn enwedig i etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru sy'n byw'n agos at y ffin.

Mae'r ffin o Gas-gwent i Gaer yn un eithaf hir, ac mae’n rhaid i'r Gweinidog sylweddoli bod pobl yn Lloegr yn cael cyfarfod ag un unigolyn o aelwyd arall yn yr awyr agored, os ydynt yn cadw 2m oddi wrth ei gilydd. Tybed, gyda ffin 100 milltir o hyd, sut y mae pobl—[Anghlywadwy.]—a gellir atal popeth. Hefyd, gall teuluoedd yrru cryn bellter i gyrchfannau fel parciau a thraethau. Fodd bynnag, ni allant deithio i Gymru, hyd yn oed os yw'r ffin yn agos. Mae pobl yng Nghymru mewn penbleth ac yn siomedig na chaniateir yr hyn a ganiateir yn Lloegr yng Nghymru.

Nid yw coronafeirws yn parchu hil, rhywedd, oedran na phriodoleddau personol, ond ymddengys bod gan Lywodraeth Cymru obsesiwn â'r ffin ac mae'n benderfynol o fod yn wahanol. Mae'r gwahaniaeth yn y dull o weithredu yn amlwg yn eu hymagwedd tuag at y farchnad dai. Nid yw'r ddogfen strategaeth hon ond yn cynnwys addewid i ymgynghori ar ganllawiau mewn perthynas â thai ac adeiladu. Yn Lloegr, mae gwerthwyr tai, cwmnïau symud a syrfewyr ymhlith gwasanaethau hanfodol y diwydiant tai sydd wedi cael caniatâd i ddychwelyd i'r gwaith. Caniateir i brynwyr a rhentwyr symud tŷ, a bellach, gall gwerthwyr tai ailagor gyda chanllawiau cadw pellter cymdeithasol llym ar waith. Yn ogystal, gall datblygwyr cartrefi newydd ailagor cartrefi arddangos, tra bo cynghorau lleol wedi cael eu hannog i gefnogi oriau gwaith estynedig ar safleoedd adeiladu am yr amser ychwanegol y mae'n ei gymryd i weithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol diogel. Bydd ailddechrau gwaith yn chwarae rhan bwysig yn y broses o helpu i adfer yr economi, yn ogystal â darparu'r tai sydd eu hangen arnynt. Yng Nghymru, mae'r farchnad dai yn parhau i fod ar gau.

Lywydd, bydd manwerthwyr nwyddau dianghenraid yn Lloegr yn cael agor, yng ngham 1, ar 1 Mehefin, os ydynt yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Bydd tafarndai, bwytai, siopau trin gwallt, gwestai, sinemâu ac addoldai yn agor o 4 Gorffennaf ar y cynharaf cyn belled â'u bod yn rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Mae canllawiau clir, sector-benodol yn hanfodol i sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol a hylendid cyfredol os yw'r cyfyngiadau ar siopau a gwasanaethau i gael eu codi mewn dull rheoledig sy'n rhoi blaenoriaeth i sicrhau cyn lleied o risg o drosglwyddiad â phosibl mewn gweithgareddau a gwasanaethau.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gyhoeddi unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei strategaeth gyfredol a rhoi gwybod i fusnesau sut i gyflawni statws diogel o ran COVID-19 er mwyn caniatáu iddynt ailagor o fewn y canllawiau cyfredol. Bydd hyn yn achosi oedi a rhwystrau i fusnesau Cymru wrth iddynt ymdrechu i adfer. Diolch, Lywydd.

16:50

Neil Hamilton. Os gallwch aros eiliad i'ch meicroffon gael ei agor. Neil Hamilton.

Diolch, Lywydd. Wel, mae'r Prif Weinidog, fel holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig, yn dweud y bydd ei bolisi'n seiliedig ar y wyddoniaeth, ond beth y mae 'gwyddoniaeth' yn ei olygu yn y cyd-destun hwn? Nid gwyddoniaeth feddygol. Rydym yn sôn am fodelu ystadegol, ac nid oes unrhyw un yn meddwl bod econometryddion a modelwyr economaidd yn wyddonwyr, felly pam y dylem feddwl bod gan fodelwyr ystadegol fwy o hygrededd ym maes meddyginiaeth? Wedi'r cyfan, mae strategaeth Llywodraeth y DU wedi'i seilio ar astudiaeth yr Athro Neil Ferguson o'r Coleg Imperial, dyn sy’n enwog am golli ei swydd am ei fod wedi arfer un o'r ffurfiau mwy eithafol ar agosrwydd cymdeithasol yn hytrach na chadw pellter cymdeithasol. Mae ei hanes blaenorol yn wael iawn mewn gwirionedd. Ef oedd yr un a ddywedodd y byddai Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol yn arwain at golli 150,000 o bobl a fyddai'n marw ar ôl ei ddal. Y nifer a gollwyd mewn gwirionedd oedd 200. Nid oes neb yn gwybod beth sy’n sail i waith modelu'r Athro Ferguson; nid yw wedi'i adolygu gan gymheiriaid. Felly, byddwn yn sicr yn argymell pwyll wrth drin hynny fel gwyddoniaeth.

Un arall yw'r Ganolfan ar gyfer Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, sydd wedi dweud, y tu hwnt i ddamcaniaethau cylchol am ffliw, nad ydym yn gwybod fawr ddim ynglŷn ag a yw clefydau pandemig yn dilyn patrymau penodol o gwbl a’i bod yn annoeth gwneud datganiadau pendant am ail donnau.

Wrth gwrs, nid yw gwledydd sydd wedi dechrau llacio'r cyfyngiadau symud, megis yr Almaen, wedi gweld ail don o’r fath, a hyd yn oed yn fwy diddorol—roeddwn yn falch fod Huw Irranca-Davies wedi crybwyll Sweden yn ei gyfraniad—nid yw Sweden wedi cael unrhyw gyfyngiadau symud wedi’u gorfodi gan y gyfraith o gwbl, a beth yw profiad Sweden? Mae’r gyfradd heintio yn Sweden yn 3,000 o achosion y filiwn. Yn y DU, mae'n 3,700 o achosion y filiwn. Mae ein cyfradd heintio ym Mhrydain, er gwaethaf ein cyfyngiadau llwyr ar symud a'r pris economaidd y bu'n rhaid inni ei dalu, yn fwy nag yn Sweden. O edrych ar gyfradd y marwolaethau hefyd, mae'n uwch yn y Deyrnas Unedig na'r hyn ydyw yn Sweden. Mae marwolaethau y filiwn yn Sweden yn 371, yn y Deyrnas Unedig, mae’n 521, bron i 50 y cant yn uwch nag yn Sweden. Mae'r heintiau yn y Deyrnas Unedig oddeutu 0.4 y cant o gyfanswm y boblogaeth. Yn Sweden, maent yn 0.3 y cant.

Felly, nid oes unrhyw dystiolaeth fod y cyfyngiadau symud wedi gwneud cymaint o wahaniaeth ag yr honnir. Wrth gwrs, mae'n anodd gwneud cymariaethau rhyngwladol gan fod y ffordd y caiff ystadegau eu casglu’n wahanol, ac mae nodweddion cymdeithasol a seicolegol gwahanol wledydd yn wahanol hefyd. Ond pan ystyriwch y costau economaidd a chymdeithasol enfawr rydym yn eu hysgwyddo yn sgil ymateb y Llywodraeth, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y Deyrnas Unedig, rwy'n credu o ddifrif y dylem gael gwell synnwyr o gymesuredd. Gofynnodd Mandy Jones gwestiynau pwysig iawn yn fy marn i, ac Adam Price hefyd yn ei araith yn gynharach. Beth y gobeithiwn ei gyflawni drwy hyn? Credaf fod Mandy Jones wedi gofyn cwestiwn perthnasol iawn: a ydym yn ceisio lefelu’r gromlin neu a ydym yn ceisio atal yr haint rhag lledaenu? Os mai'r ail opsiwn yw’r dewis, bydd y cyfyngiadau symud yn parhau am amser maith yn wir.

Rhagwelir y bydd economi Sweden yn lleihau oddeutu 2 y cant o ganlyniad i'w hymateb i'r argyfwng. Yn y Deyrnas Unedig, bydd y ffigur rywle rhwng 15 a 30 y cant—gostyngiad sydd cymaint ag unrhyw beth a ddioddefwyd gennym yn y 1930au yn ystod y dirwasgiad mawr, ac mae hynny'n mynd i gael effaith ar wasanaethau cyhoeddus, a'r gwasanaeth iechyd gwladol yn anad dim. Felly mae gwir angen inni wneud popeth yn ein gallu i ysgogi’r economi. Yn Sweden, yr hyn y maent wedi'i ddweud yw y dylai pobl fod yn gyfrifol yn gymdeithasol, ac mae traean o bobl wedi osgoi mynd i'w gweithle, ac mae trosiant dyddiol bwytai wedi gostwng 70 y cant. Ond mae’r Swediaid yn cadw at y canllawiau o'u gwirfodd yn hytrach na chael eu gorfodi i wneud hynny. A beth yw canlyniad hyn oll yn Sweden? Mae llai o welyau unedau gofal dwys mewn defnydd erbyn hyn, ac mae nifer y cleifion mewn gofal dwys yn Stockholm wedi gostwng 40 y cant. Gostyngodd nifer dyddiol y marwolaethau i lefel isel iawn yn ail hanner mis Ebrill ac mae wedi bod yn gostwng ers hynny. Mae’r rhif R enwog yn 0.85 yn Sweden, ac mae rywle rhwng 0.7 ac 1 yn y Deyrnas Unedig. Felly mae ein profiad cyffredinol yn debyg iawn. Ond mae'r pris economaidd y byddwn yn ei dalu yn y wlad hon yn llawer mwy na'r hyn y byddant yn ei dalu yn Sweden.

Wrth gwrs, mae’n rhaid inni ymddwyn mewn ffordd synhwyrol. Ar gyfer y rhannau o’r boblogaeth sy’n agored i niwed—yr henoed, y rheini sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes—dylid ynysu, ac mae cadw pellter cymdeithasol yn synhwyrol i bawb o dan yr amgylchiadau hyn. Ein problem ni yw bod ein polisi wedi bod yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr o ran y pethau y dylid bod wedi'u gwneud, ac rydym bellach yn cadw'n rhy hir y pethau nad ydynt o unrhyw fudd real mewn gwirionedd. Felly, byddwn yn cynghori'r Prif Weinidog, heb fod yn rhy benodol ynglŷn â sut y bydd y system oleuadau traffig yn cael ei gweithredu’n ymarferol, y dylai bechu ar yr ochr feiddgar, fel y dywedais wrtho’r wythnos diwethaf, yn hytrach na bod yn wangalon. Oherwydd nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd y risgiau iechyd a wynebir yn ddim byd tebyg i'r risgiau economaidd a risgiau eraill a fydd yn deillio o hynny, gan arwain at effaith barhaus yn y dyfodol ac at farwolaethau eraill hefyd o bethau eraill, fel y nododd Mandy Jones.

16:55

Mae’r ddadl hon yn achosi penbleth athronyddol—sut y gallwn ddatgloi drws heb yr allwedd? Does bosibl nad yr allwedd i ddatgloi ein cymdeithas a chefnu ar y cyfyngiadau symud yw cael system olrhain cysylltiadau ar waith, sicrhau bod gennym stociau digonol o gyfarpar diogelu personol a chael y mesurau dibynadwy gorau i gefnogi a rhoi hyder i'r cyhoedd. Yn anffodus, mewn gormod o ffyrdd, mae’r allwedd yn dal ar goll yma, ac mae'r drws ar gau'n sownd.

Rwy'n croesawu papur Llywodraeth Cymru, ond credaf fod angen i’r Llywodraeth wneud mwy i gydnabod yr anghyfiawnderau cymdeithasol a amlygwyd gan y cyfyngiadau symud. Nid yw'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yr un fath i bawb. I bobl sy'n gallu gweithio gartref a chanddynt erddi, mae'r amser hwn wedi bod yn drafferthus, ond roedd modd ymdopi. Ond i bobl sy'n methu gweithio gartref, mae’r cyfyngiadau symud wedi golygu eu bod yn agored i beryglon heb amddiffyniadau digonol. I bobl hŷn sy'n byw ar eu pen eu hunain, maent wedi golygu unigrwydd llym, ac i deuluoedd ifanc sy'n byw mewn fflatiau heb ofod allanol, mae'r cyfyngiadau wedi golygu dringo'r waliau ddydd ar ôl dydd. Mae angen i unrhyw lwybr allan o’r cyfyngiadau symud flaenoriaethu cymorth i’r bobl sydd wedi’i chael hi anoddaf yn ystod yr argyfwng hwn. Rhaid inni ddangos tosturi a rhoi cymorth pendant i'r bobl sydd ei angen, ac ar yr un pryd, mae angen inni fod yn llym â’r lleiafrif hunanol sy'n anwybyddu'r rheolau’n fwriadol—y bobl sy'n mynnu gyrru i Ben y Fan a Sir Benfro. Er mwyn i unrhyw reol weithio, mae'n rhaid cael ataliad, ac mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ddangos arweiniad yma a chynyddu'r dirwyon.

Er mwyn ein rhoi ar y trywydd iawn, mae angen cydweithrediad Llywodraeth y DU i egluro pryd y mae rheolau’n berthnasol i Loegr yn unig. Mae angen dull o ddileu'r feirws, fel yn Seland Newydd, yn hytrach na chynnal lefelau trosglwyddo peryglus, ac mae angen hyblygrwydd arnom fel y gall ardaloedd ailgyflwyno cyfyngiadau symud os gwelir cynnydd yn nifer yr achosion. Ni all coch droi'n ambr heb gael gwared ar y perygl o ddamwain car yn gyntaf.

Lywydd, mae’n rhaid i ni fynd i'r afael hefyd â'r niwed cudd sydd wedi'i waethygu gan yr argyfwng hwn—pobl mewn perthynas gamdriniol, pobl â dyledion cynyddol, hyd yn oed y rheini â chyflyrau meddygol heblaw am COVID sydd wedi gwaethygu yn ystod yr argyfwng. Mae’n rhaid i'n llwybr allan o’r cyfyngiadau symud roi blaenoriaeth iddynt hwy mewn unrhyw ystyriaethau—y niwed a'r trallod anuniongyrchol a wynebir mewn cartrefi ym mhob stryd ledled Cymru.

Rydym wedi dysgu llawer am COVID-19 yn ystod yr wythnosau diwethaf. Un o'r pethau mwyaf syfrdanol yw ei fod yn cael ei waethygu gan dlodi. Mae’n rhaid i’n llwybr allan o’r cyfyngiadau symud fynd i'r afael â'r tlodi hwn a pheidio â'i anwybyddu, neu fel arall byddai cystal â dweud bod rhai bywydau yn fwy dibwys nag eraill. Mae'n rhaid inni flaenoriaethu llesiant. Gallai ailagor gweithleoedd heb lacio cyfyngiadau ar rai elfennau o fywyd cymdeithasol ar yr un pryd edrych fel blaenoriaethu'r economi dros lesiant pobl, a gallai rhuthro i ailagor ysgolion heb hwyluso gallu plant i weld eu neiniau a'u teidiau edrych fel blaenoriaethu tablau cynghrair dros hawl i fywyd teuluol. Gyda chydsyniad y bobl yn unig y gall cyfyngiadau symud weithio. Er mwyn eu llacio, mae angen yr allwedd a geir wrth dracio ac olrhain, a chynllun sy'n rhoi llesiant yn gyntaf.

Felly, i gloi, Lywydd, byddwn yn dweud bod y Gweinidog iechyd wedi cyfaddef ddoe y bydd angen cynnal ymchwiliad i'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli rhai elfennau o'r argyfwng hwn. Rwy'n gobeithio y bydd cwmpas yr ymchwiliad hwnnw’n ehangach nag edrych ar gyfarpar diogelu personol a phrofi yn unig. Dylai ystyried y diffygion strwythurol mewn cymdeithas sy'n ganlyniad i benderfyniadau polisi hirdymor ac sydd wedi arwain at bobl ar ben anghywir y sbectrwm anghydraddoldeb yn talu pris anghymesur, gyda'u bywydau yn aml, am dlodi nad yw’n fai arnynt hwy.

17:00

Mae’n rhaid imi ailadrodd, rydym ni fel grŵp yn cefnogi llawer o'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y datganiad hwn ac yn croesawu'r ddadl hon a'r cyfle y mae'n ei gynnig i gyfrannu'n drawsbleidiol at y drafodaeth hanfodol bwysig hon. Ond mae'n rhaid dweud bod datganiad y Llywodraeth braidd yn brin o fanylion. Rwyf am ganolbwyntio ar elfennau economaidd y datganiad hwn a'r dull gwahanol o weithredu a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth hon o gymharu â dull Llywodraeth y DU.

Er fy mod yn deall awydd Llywodraeth Cymru i fod yn ofalus, mae’n rhaid gofyn y cwestiwn: a ellid lleddfu’r rhan fwyaf o'i phryderon pe byddem yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr i sicrhau y bydd unrhyw weithwyr sy'n dychwelyd i'r gwaith yn gwneud hynny mewn amgylchedd mor ddiogel â phosibl? Mae Llywodraeth y DU bellach yn annog rhai gweithwyr yn Lloegr i ddychwelyd i'r gwaith, ond mae’n rhaid deall nad yw'r gyfraith sylfaenol wedi newid mewn perthynas â gweithio. Daeth y gyfraith hon, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Lloegr) 2020, i rym ar 26 Mawrth. Maent yn ei gwneud yn drosedd i unigolyn adael eu tŷ i fynd i'r gwaith oni ellir gwneud y gwaith hwnnw, o fewn rheswm, o gartref. Nid yw'r rheol hon wedi newid.

Mae’r gwaith o weinyddu iechyd y cyhoedd, wrth gwrs, wedi'i ddatganoli i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, felly mae hyn wedi caniatáu i'r Llywodraethau yn y tair gwlad gadw eu rheolau eu hunain ar gyfyngiadau symud, ac maent wedi dweud nad ydynt eto'n dilyn dull Llywodraeth y DU o annog mwy o weithwyr i fynd i'r gwaith. Fodd bynnag, ymddengys bod rhywfaint o syniad pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu rhyw fath o ddychwelyd i'r gwaith—neu mae angen cael rhyw syniad ynglŷn â dychwelyd i'r gwaith i'r rheini na allant weithio gartref, yn enwedig pobl hunangyflogedig. Ac mae'n rhaid cael set glir o reolau i'w llywodraethu pan fyddant yn dychwelyd.

Ceir rhywfaint o ddryswch ynghylch y rheolau sy'n berthnasol i fusnesau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Gan fod iechyd y cyhoedd wedi’i ddatganoli, bydd angen i fusnesau yn y gwledydd hyn weithredu yn unol â'r rheoliadau cyfyngiadau symud datganoledig perthnasol. Yn y cyfamser, nid yw cyfraith iechyd a diogelwch wedi'i datganoli i'r Alban a Chymru. Yn y pen draw, rhaid i gyflogwyr gynnal eu hasesiadau risg eu hunain sy'n ystyried yr holl ganllawiau sydd ar gael, yn cynnwys canllawiau 'Gweithio’n ddiogel yn ystod coronafeirws (COVID-19)' Llywodraeth y DU a'r canllawiau iechyd y cyhoedd a gyhoeddwyd gan y gweinyddiaethau datganoledig. O ystyried y cymhlethdodau hyn, mae'n hanfodol fod y Llywodraeth yn rhoi rhyw fath o syniad sut y bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu codi er mwyn rhoi cyfle i'r gymuned fusnes gydymffurfio â'r holl reolau hyn, sy'n wahanol i'w gilydd ar brydiau. Diolch, Lywydd.

17:05

Rwyf wedi clywed safbwyntiau eithaf gwahanol yma y prynhawn yma, ond rwy'n amlwg yn mynd i siarad o blaid y Llywodraeth, ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan o grŵp—y grŵp sy'n rheoli yng Nghymru—lle mae'r holl adborth a gaf yn canmol y dull tawel, ystyriol o helpu i gadw pobl yn ddiogel yng Nghymru; o helpu pobl i ymdopi â sefyllfa ddigynsail lle mae gennym feirws sy'n llechu o'n cwmpas. Ac ni allwn ei weld, ni allwn ei deimlo, ni allwn ei gyffwrdd, ond un peth y gwyddom yw na allwn roi triniaeth i'w ddileu ar hyn o bryd chwaith.

Felly, rwyf wedi gwrando’n astud y prynhawn yma, ac mae Paul Davies yn ein cyhuddo o beidio â rhoi unrhyw obaith. Mae’n rhaid i mi wrthod hynny, yn amlwg, gan i mi ddarllen o’i ddatganiad fod gobaith, yn ei farn ef, yn golygu dilyn Llywodraeth ddi-hid y DU yn ddall. Mae hefyd yn galw am gydweithredu, ond serch hynny, rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad i agor ysgolion ym mis Mehefin yn Lloegr heb unrhyw ymgynghori, wrth gwrs, â'i gymheiriaid yn Lloegr sydd i fod i weithredu'r newidiadau hynny. Felly, credaf ei bod hi braidd yn anodd cydweithredu â Llywodraeth y DU pan na allant gydweithredu â'r awdurdodau llywodraeth leol o fewn eu ffiniau eu hunain hyd yn oed.

Rwyf wedi clywed cryn dipyn o sôn, unwaith eto, am wadu gwyddoniaeth, a gadewch inni beidio â chymryd sylw, wrth gwrs, o'r amcanestyniadau. Nid wyf yn synnu, wrth gwrs, fod Neil Hamilton wedi gwneud hynny, gan ei fod yn gwadu'r union wyddoniaeth sy'n dweud wrthym fod y newid hinsawdd yn digwydd o'n cwmpas, felly, o leiaf mae'n gyson yn hynny o beth. Ond yr hyn yr hoffwn ei drafod yma heddiw yw rhoi gobaith yn ôl i bobl, a dweud wrthynt y gallwch ymddiried mewn Llywodraeth a fydd yn mabwysiadu dull gofalus ac ystyriol o weithredu er mwyn eich helpu, a byddwn yn gwneud hynny, fel y nodwyd yn y ddogfen, drwy weld gwerth pob unigolyn, y bobl sydd ar y rheng flaen yn darparu gwasanaethau rydym oll yn eu gwerthfawrogi ac rydym yn mynd allan bob nos Iau i guro dwylo iddynt, a hynny'n hollol briodol. Ni fyddwn yn cyfeirio at y bobl hynny fel pobl 'heb lawer o sgiliau', a methu gweld eu gwerth—dyna'r union sgwrs a gafwyd yn San Steffan nos Lun pan fuom yn siarad am lafur gweithwyr mudol yn y GIG. Nid dyna a wnawn yng Nghymru, ac nid er mwyn bod yn wahanol; byddwn yn ei wneud am ein bod o ddifrif yn gwerthfawrogi'r bobl hynny. A phan ddown allan o hyn, byddwn yn parhau i weld eu gwerth gyda’r partneriaethau cymdeithasol, y contract, a fydd yn sicrhau y bydd yr holl gyfranogwyr o gwmpas y bwrdd ym mhob sgwrs ynglŷn â phobl yn dychwelyd yn ddiogel i'r gweithle. Golyga hynny y bydd y bobl sydd wedi cynnal y wlad drwy'r cyfnod eithriadol o anodd hwn yn parhau i gael eu gwerthfawrogi.

Dyna pam y byddaf yn cefnogi hyn heddiw, gan mai’r contract cymdeithasol hwnnw, y bartneriaeth gymdeithasol honno, dyna'n union sydd gennym yn awr, a dyna'n union fydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol. Ni allwn fynd yn ôl ar hynny byth. Rwy’n llwyr gefnogi’r datganiad a wnaed na fydd unrhyw gwmni yng Nghymru sydd wedi penderfynu peidio â thalu trethi yn y wlad hon yn cael unrhyw arian o bwrs y wlad. Os na allwch dalu i mewn i bwrs y wlad, pam ar y ddaear y dylid caniatáu i chi dynnu arian allan o'r pwrs cyhoeddus? Ac felly, wrth symud ymlaen, rydym wedi nodi ein safbwynt a byddwn yn cadw ato.

Rhaid i mi longyfarch yr holl bobl sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y cyfnod anodd hwn. Ac mae’n gyfnod enbyd o anodd. Mae pobl wedi colli eu bywydau. Gwyddom hynny. Ac mae pobl yn cadw draw rhag aelodau o'u teuluoedd. Mae'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau rheng flaen yn hunanynysu ar wahân i’w teuluoedd. Ac rwyf wedi clywed enghreifftiau, enghreifftiau ofnadwy, o bobl sy'n rhannu llety, yn byw mewn mannau lle mae pobl eraill yn byw—llety a rennir—ac eto mae'r bobl eraill sy'n rhannu'r llety hwnnw yn eu hynysu, a chredaf fod angen i chi edrych ar hynny.

Rwyf am ddirwyn i ben, a hoffwn gofnodi fy mod yn llwyr gefnogi'r cynnig wrth symud ymlaen. Diolch.

17:10

Ie, diolch yn fawr, Llywydd, am eich amynedd. A allaf jest wthio'r Prif Weinidog yn bellach? Allaf i jest gofyn yn benodol beth mae eich strategaeth chi, Prif Weinidog, yn ceisio ei gyflawni? Ydych chi'n trio cael gwared â'r feirws yn llwyr o'n cymunedau, fel mae Seland Newydd wedi llwyddo i wneud, neu ydych chi ddim?

Y Prif Weinidog nawr, felly, i ymateb i'r ddadl. Prif Weinidog.

Diolch yn fawr, Lywydd. Dywedais wrth agor y byddwn yn dychwelyd at y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig ar ôl clywed gan y rhai a'u cynigiodd, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny, ac yn dilyn hynny, yn dibynnu ar faint o amynedd fydd yn dal i fod gennych, fe geisiaf ateb rhai o'r bobl a gyfrannodd at y ddadl, os bydd amser yn caniatáu.  

Lywydd, mae'r Llywodraeth yn hapus iawn i bleidleisio o blaid y gwelliant sy'n pwysleisio cydweithrediad a chydgysylltiad ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae'r sylw yn y cyfryngau bob amser yn canolbwyntio ar wahaniaethau. Mae ein hymagwedd sylfaenol yn gyffredin ar draws y pedair Llywodraeth—llacio'r cyfyngiadau'n raddol, y lens iechyd cyhoeddus y caiff mesurau penodol eu hasesu drwyddi. Nid yw'n wir fod ein dull ni o weithredu'n dilyn trywydd gwahanol i un y Deyrnas Unedig, fel y mae rhai cyfranwyr wedi awgrymu. Nid oes unrhyw dempled y bernir pawb arall yn ei erbyn. Mewn gwirionedd, mewn sawl ffordd, rwy'n meddwl y byddai dadansoddiad o'r hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn awgrymu mai Llywodraeth y DU mewn perthynas â'i chyfrifoldebau yn Lloegr sydd wedi dewis llwybr gwahanol i bawb arall.  

Ond nid ceisio codi cyfyngiadau penodol ar yr un pryd, fel yr awgrymodd Darren Millar, yw'r hyn rydym am ei wneud. Mae ein lens ar godi cyfyngiadau ar yr adeg iawn. Ac mae honno'n lens lawer pwysicach i weld pethau trwyddi. A pho fwyaf y gallwn siarad â'n cymheiriaid mewn Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, y mwyaf tebygol y byddwn o gytuno ar y mesurau cywir a phennu'r adeg iawn, a dyna fy uchelgais o hyd—cyfrannu'n gadarnhaol at y posibilrwydd hwnnw.  

Mae'r ail welliant ar y papur trefn, Lywydd, yn tynnu sylw eto at y rhai sydd wedi colli eu bywydau a'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl i alaru. Rwy'n ceisio dweud ym mhob cynhadledd i'r wasg a phob datganiad fod unigolion y tu ôl i'r ffigurau rydym yn eu dyfynnu ar yr adegau hyn, unigolion â bywydau a allai fod wedi parhau'n hwy, a chost ddynol ar eu holau. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant ar ôl clywed yr hyn a ddywedodd Darren Millar, ar ôl clywed gan Rhianon Passmore yn ei disgrifiad huawdl o'r effaith anghymesur y mae'r feirws yn ei chael ar rai pobl a rhai lleoedd. Yr hyn na fyddwn yn ei wneud, Lywydd, yw cymryd cyngor Mr Hamilton a'i alwadau i fod yn feiddgar. Mae ei alwadau i fod yn feiddgar yn—. Byddai pris ei alwad i fod yn feiddgar yn cael ei dalu ar ffurf bywydau pobl eraill. Ac rwy'n cofio bob tro y bydd gennym benderfyniad i'w wneud yma yn Llywodraeth Cymru—mai pobl go iawn yw'r rhain, gyda theuluoedd go iawn a bywydau go iawn i'w byw, ac nid wyf yn mynd i fod yn feiddgar ar eu traul hwy.  

Mae gwelliant 4, Lywydd, yn galw am gynnydd yn y dirwyon uchaf y gellir eu rhoi am beidio â chydymffurfio â rheoliadau iechyd cyhoeddus. Rwy'n ddiolchgar iawn i'n prif gwnstabliaid a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu am y cydweithrediad agos rhyngom yn ystod yr argyfwng, ac am y dystiolaeth a gyflwynwyd ganddynt i Lywodraeth Cymru ddechrau'r wythnos hon. Bwriadaf weithredu ar y dystiolaeth honno cyn y penwythnos gŵyl y banc sy'n dod.

Roeddwn yn meddwl bod Helen Mary Jones wedi rhoi cyfrif mor rhesymol ag a glywais am yr angen i ymateb i'r bobl sy'n ymroi yn ystyfnig ac yn barhaus i wrthod ufuddhau i'r rheoliadau. Nid oedd hi'n deg pan ddywedodd nad oedd y Llywodraeth wedi bod yn gwrando; rydym wedi bod mewn sgwrs barhaus â'n prif gwnstabliaid a chyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu, ac wedi i'r offerynnau cyfreithiol angenrheidiol gael eu rhoi ar waith, byddaf yn gallu darparu manylion am ein bwriadau a sut y mae ein hargymhellion yn caniatáu inni bleidleisio o blaid y gwelliant hwn.

Lywydd, fel y dywedais yn gynharach, mae system brofi, olrhain a diogelu yn cael ei sefydlu. Cyn codi'r cyfyngiadau mewn modd sylweddol, rhaid bod y system honno ar waith, ac rwy'n falch o gadarnhau hynny eto wrth bleidleisio o blaid gwelliant 5.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn cefnogi gwelliant 9 ar y papur trefn. Mae angen i mi fod yn glir, lle mae'r gwelliant yn dweud, 'i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol', mai cefnogi'r gwaith rhagarweiniol y byddai ei angen i sefydlu incwm sylfaenol ar gyfer y Deyrnas Unedig y mae'n ei olygu. Rwy'n amau na fyddai cefnogwyr cryfaf y system honno hyd yn oed yn honni ei bod yn barod ar y silff i'w chyflwyno'n llawn. Fodd bynnag, Lywydd, mae sawl agwedd ar incwm sylfaenol cyffredinol eisoes ar waith—pensiwn y wladwriaeth i bobl hŷn a budd-dal plant i enwi'r rhai mwyaf amlwg. Wrth inni ddod allan o'r argyfwng economaidd y mae coronafeirws wedi ei greu, galw effeithiol fydd yr hyn y bydd ein heconomi ei angen. A'r ffordd orau o greu galw effeithiol yw gwneud yn siŵr fod arian yn nwylo ein cyd-ddinasyddion i allu prynu nwyddau a gwasanaethau. Pa un a ydym yn ei alw'n incwm sylfaenol cyffredinol, yn incwm dinasyddion, yn ddifidend cymdeithasol, maent i gyd wedi'u gwreiddio mewn ymdeimlad o undod cymdeithasol. Ac fel y dywedodd llawer o siaradwyr eraill, does bosibl nad yw'r holl brofiad hwn yn ein dysgu mai undod cymdeithasol yw'r adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym fel cymuned.

Lywydd, yr un gwelliant na allwn ei gefnogi yw gwelliant 3. Mae'n or-benodol mewn rhai agweddau, ac nid oes modd ei weithredu mewn ffyrdd eraill. Mae gennym gynllun ariannol priodol; rydym wedi ei gyflwyno dros amser, byddwn yn ei ailadrodd ac yn ei ddwyn ynghyd yn y gyllideb atodol gyntaf. Ac mae gennym grwpiau ym mhob rhan o'r Llywodraeth—fel y gofynnodd Paul Davies amdanynt—yno'n barod, yn gweithio ar weithredu llwybr allan o'r argyfwng. Ond mae amserlenni, cerrig milltir a thargedau yn iaith sy'n perthyn i gyfnod gwahanol a chyd-destun gwahanol. Fel yr eglurais yn gynharach heddiw, mae gweithredu unrhyw fesurau'n dibynnu nid ar reolaeth ond ar allu hyblyg i ganfod cynnydd y clefyd a graddnodi ein mesurau yn erbyn y cyngor meddygol a gwyddonol ar y pryd. Mae poblogi cynllun gyda gweithredoedd sydd ymhell yn y dyfodol ac mewn amgylchiadau na all yr un ohonom eu rhagweld yn cynnig ymdeimlad ffug o sicrwydd i bobl. A chyflwynodd Huw Irranca-Davies y ddadl honno'n gadarn iawn y prynhawn yma yn fy marn i.

Ni fyddwn yn clymu ein hunain wrth weithredoedd penodol sydd o reidrwydd yn fympwyol eu natur. Mae ein prif swyddog meddygol wedi dweud droeon ei bod hi'n ymddangos bod y coronafeirws yn feirws sy'n meddu ar lawer o nodweddion annisgwyl, a bydd angen inni lywio ein ffordd drwy'r dyfodol hwnnw mewn modd sy'n rhoi sylw i'r dystiolaeth, yn rhoi sylw i'r amgylchiadau, ac yn amlwg, bydd angen inni allu dangos i bobl yng Nghymru fod y mesurau a roddwn ar waith yn seiliedig ar yr amgylchiadau a wynebwn gyda'n gilydd.

Lywydd, os caniatewch i mi wneud hynny, rwyf am ymateb yn fyr iawn i rai o'r manylion yn rhai o'r cyfraniadau. Mae nifer o gyfranwyr Plaid Cymru yn arbennig wedi tynnu sylw at Seland Newydd a'i strategaeth ddileu. A dywedodd Adam Price ei bod yn bwysig dysgu gan eraill. Rwy'n cytuno, mae'n bwysig dysgu gan eraill, ond dangosodd cyfraniad Neil Hamilton pa mor hawdd yw hi i ddod i'r casgliadau anghywir o brofiadau mannau eraill, yn hytrach na'r rhai cywir. Ac mae Seland Newydd yn ynys. Nid oes ganddi ffin ar y tir â phoblogaeth arall, ac mae strategaeth ddileu yn llawer haws ei gweithredu a'i chyflawni pan nad ydych yn sefyll foch ym moch â gweinyddiaeth sydd efallai'n gwneud pethau gwahanol.

Roeddwn yn cytuno'n gryf, fodd bynnag, â'r hyn a ddywedodd Adam Price am y gyd-ganolfan bioddiogelwch a'i gallu i edrych am gamau gweithredu ar lefel leol. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am y potensial ar gyfer hynny a byddwn am wneud y gorau o'n gallu i fanteisio ar y potensial hwnnw.

Gwrandewais yn astud ar yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay. Gofynnodd imi wario arian ar awdurdodau lleol, ar brifysgolion, ar y gronfa cymorth dewisol, ar dwristiaeth a nifer o amcanion cwbl haeddiannol eraill. Gofynnodd i mi am eglurder ariannol. Gadewch i mi ddweud: nid rhagor o eglurder sydd ei angen arnom, ond rhagor o arian. Ac er mwyn gallu rhoi sylw i'r galwadau niferus i ateb yr amgylchiadau a wynebwn yng Nghymru, bydd arnom angen Llywodraeth y DU sy'n gallu gweithredu, nid drwy ailgyflwyno cyni, ond drwy chwistrellu galw i mewn i'r economi, drwy gynnig yr ysgogiad inni—yr ysgogiad ariannol—y bydd ei angen arnom er mwyn rhoi sylw i'r llu o bethau y cyfeiriodd Nick Ramsay atynt.

Hoffwn orffen drwy ddwyn ynghyd un neu ddau o gyfraniadau gan Lynne Neagle a Joyce Watson. Gadewch i mi ddweud cymaint roeddwn yn cytuno â thair o'r egwyddorion allweddol a nodwyd gan Lynne Neagle. Cydraddoldeb: mae'n ofnadwy mai cyfoeth yw'r darian orau yn erbyn y feirws hwn. Roeddwn yn meddwl bod Joyce Watson wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'r ddadl y prynhawn yma drwy dynnu sylw at y ffyrdd ymarferol y mae bywydau pobl, sy'n ddigon anodd yn y lle cyntaf, yn cael eu gwneud yn anos byth bellach ers ymddangosiad y clefyd. Ac mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi cydraddoldeb ar flaen y lens y byddwn yn ei defnyddio wrth inni gynllunio llwybr allan o'r coronafeirws gyda'n gilydd.

A phan ddywedaf 'gyda'n gilydd', rwy'n tynnu sylw at yr ail o'r egwyddorion a amlinellodd Lynne, sef partneriaeth. Ac mae cryfder llywodraeth leol wedi dod yn amlwg yn yr argyfwng hwn. Ac rwy'n talu teyrnged i arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen—y gymuned y mae Lynne yn ei chynrychioli yn y Cynulliad—am bopeth y mae wedi'i wneud gydag arweinwyr eraill i droi pŵer llywodraeth leol a'u presenoldeb ar lawr gwlad mewn cymunedau ledled Cymru er budd y poblogaethau lleol hynny ac yn enwedig i'r rheini sydd wedi bod fwyaf o angen cymorth.

Ac yn olaf, a gaf fi rannu yn yr hyn a ddywedodd Lynne am agweddau cadarnhaol y profiad a gweld rhywfaint o obaith ym mhob dim rydym wedi mynd drwyddo? Neithiwr, Lywydd, cymerais ran mewn Iftar rhithwir a ddaeth â phobl ynghyd o bob ffydd wahanol ym mhob rhan o Gymru mewn seremoni deimladwy iawn, ac roedd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, ac eraill yn bresennol. Yn y digwyddiad hwnnw, rhoddwyd cyfle i lais rhywun a ddisgrifiwyd fel aelod cyffredin o'r gymuned yn y ganolfan yma yng Nghaerdydd siarad â ni ynglŷn â sut beth oedd byw mewn ardal ddinesig drwchus ei phoblogaeth mewn tŷ bychan gyda thri mab yn eu harddegau a gŵr, oll yn ceisio byw o dan yr un to, ac roedd hi'n gwbl ysbrydoledig yn y ffordd y canolbwyntiai ar y pethau cadarnhaol y mae'r teulu hwnnw a'r gymuned honno wedi'u cael o'r profiad hwn.

A dyna lle caf hyd i'r gobaith—dyna lle caf hyd i'r gobaith—yn y profiadau y mae dinasyddion Cymru wedi'u cael, y ffordd y maent wedi dod o hyd i ffyrdd o ddod yn agosach at ei gilydd o fewn y cartref a chyda'r rhai sy'n byw o'u cwmpas, a'r penderfyniad a fynegwyd yno i adeiladu ar y ffordd bwyllog ac ystyriol y mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o ddod o hyd i ffordd allan o'r coronafeirws, ffyrdd o fod yn ddiwyd, o fod yn fanwl yn y modd y gwnawn benderfyniadau yma yng Nghymru, a thynnu ar y cryfder hwnnw, y cryfder allweddol hwnnw, sy'n rhoi undod inni—yr undod o wybod ein bod yn rhannu'r profiadau hynny, ein bod yn canfod pethau cadarnhaol ynddynt a chyda'n gilydd, rydym yn gweithredu i ganfod ffordd y tu hwnt i'r coronafeirws sy'n rhoi sylw i'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf, sydd wedi cyfrannu fwyaf ac y dylid seilio'r dyfodol ar eu anghenion.  

17:25

Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, rwy'n gweld gwrthwynebiad gan Siân Gwenllian. Cafwyd gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19)

Daw hynny â ni at eitem 6, sydd wedi'i thynnu'n ôl.

Felly, y rheoliadau, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y cynigion ar gyfer Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 eu grwpio ar gyfer eu trafod, ond gyda phleidlais ar wahân. A oes unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig hwnnw? Gwelaf nad oes gwrthwynebiad i grwpio'r dadleuon.

7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020

Felly, gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno'r cynigion ar y ddwy set o reoliadau—Vaughan Gething.

Cynnig NDM7322 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2020.

Cynnig NDM7323 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mai 2020.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y ddwy set o reoliadau sydd ger ein bron heddiw, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau. Cyfeiriaf atynt fel rheoliadau 'Rhif 2' a 'Rhif 3', yn hytrach nag ailadrodd eu teitl hir yn llawn.  

Bydd yr Aelodau'n cofio'r ddadl a gawsom ar 29 Ebrill am y ddwy set o reoliadau a ragflaenai'r rhai sy'n cael eu trafod heddiw. Y rhain oedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, a wnaed ac a ddaeth i rym ar 26 Mawrth. Dyma'r prif reoliadau a oedd yn gosod cyfyngiadau ar ein symudiadau ac yn ei gwneud yn ofynnol i rai busnesau gau. Eu prif ddiben oedd lleihau'r graddau y mae pobl yn gadael eu cartrefi yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng er mwyn helpu i gyfyngu ar y coronafeirws, lleihau'r baich ar y gwasanaeth iechyd ac achub bywydau, wrth gwrs.  

Gwnaed diwygiadau pellach yn y rheoliadau diwygio a ddaeth i rym ar 7 Ebrill. Cyflwynai'r rhain y gofyniad am fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob man gwaith ac roeddent yn gwneud newidiadau pwysig mewn perthynas â chladdu ac amlosgi.

Wrth i'r cyfyngiadau barhau, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r gofynion yn barhaus, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r cyfyngiadau hyn yn ei chael ar bobl Cymru. Mae ein hadolygiad parhaus yn ychwanegol at y cylch adolygu 21 diwrnod, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a gofynion bob 21 diwrnod.

Fel gyda'r set o reoliadau sy'n eu rhagflaenu, cyflwynwyd y ddwy gyfres o reoliadau rydym yn eu trafod heddiw o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein dull o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.

Yn rheoliadau Rhif 2, a ddaeth i rym ar 25 Ebrill, gwnaethom nifer o ddiwygiadau. Gwnaethom ddarpariaeth i ganiatáu ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, os oes angen, oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol, a'i gwneud yn glir fod ymweld â mynwent neu dir claddu neu ardd goffa arall i dalu teyrnged i rywun sydd wedi marw yn esgus rhesymol dros adael y fan lle rydych yn byw. Rydym hefyd yn ehangu'r diffiniad o 'unigolyn agored i niwed' i gynnwys grwpiau neu gyflyrau penodol eraill lle gallai pobl gael budd o gymorth, ac mae darparu nwyddau ar eu cyfer yn esgus rhesymol i rywun arall adael cartref, er enghraifft er mwyn cynorthwyo pobl â dementia. Roedd y newidiadau hyn yn ategu'r rheolau a oedd eisoes mewn grym ond fe'u gwnaed i ymateb i rai o'r heriau y gwyddom fod teuluoedd ledled Cymru yn eu hwynebu, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cadw'r nod o reoli lledaeniad coronafeirws.  

Mae'r rheoliadau Rhif 2 hefyd yn sicrhau bod y gofynion i gadw pellter corfforol o 2m ar waith ar gyfer gwasanaethau clicio a chasglu, ac yn ymestyn y ddyletswydd i gynnwys caffis a ddefnyddir gan y cyhoedd mewn ysbytai, a'r rhai sy'n gyfrifol am ffreuturau mewn ysgolion a charchardai ac at ddefnydd y lluoedd arfog er mwyn sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei roi ar waith.

Yn y rheoliadau Rhif 3, rydym wedi cymryd camau, yn unol â thystiolaeth wyddonol ac iechyd y cyhoedd, i wella lles a chefnogi gweithgarwch economaidd. Rydym wedi codi'r terfyn ar ymarfer corff unwaith y dydd yn unig, ac wedi caniatáu i lyfrgelloedd agor, cyn belled ag y dilynir y gofynion cadw pellter. Mae neges 'aros gartref' yn dal i fod ar waith yng Nghymru, ac mae ein rheoliadau yn nodi'n benodol fod rhaid gwneud ymarfer corff o fewn ardal sy'n lleol i'r man lle mae unigolyn yn byw. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn datgan y gall canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion agor yn amodol ar y gofynion cadw pellter cymdeithasol.

Felly, rydym wedi newid yr hyn sy'n esgus rhesymol at ddibenion adran 8(1) fel ei bod yn amlwg y gall unigolyn wneud defnydd o gyfleuster ailgylchu neu waredu gwastraff neu gasglu nwyddau a archebir o siop ar sail clicio a chasglu os oes angen iddynt wneud hynny. Rwy'n falch o weld bod canolfannau ailgylchu bellach yn ailagor ar sail wedi'i chynllunio ar draws Cymru.

Yn bwysig, mae'r rheoliadau Rhif 3 yn cynyddu trosolwg democrataidd drwy ddileu darpariaethau ynghylch terfynu gofynion neu gyfyngiadau drwy gyfarwyddyd Gweinidogion. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r holl newidiadau i'r prif reoliadau gael eu dwyn gerbron y Senedd. Lywydd, mae'r cyfyngiadau hyn yn eu lle er mwyn diogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad coronafeirws. Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn glir mai dim ond cyhyd â'u bod yn angenrheidiol ac yn gymesur y dylid cadw'r cyfyngiadau hyn yn weithredol, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r ymdrechion eithriadol a wnaed gan gynifer o bobl ledled Cymru i helpu pob un ohonom i arafu lledaeniad y clefyd.

Mae ein cynllun, a gyhoeddwyd ar 15 Mai ac sydd newydd gael ei drafod, yn nodi camau penodol rydym yn eu hystyried wrth inni symud allan o'r cyfyngiadau symud. Fel rhan o'n dull pwyllog a chydlynol o lacio'r cyfyngiadau, byddwn yn ystyried a fyddwn yn cyflwyno rhagor o newidiadau rheoleiddiol yn ystod yr wythnosau nesaf, a sut y gwnawn hynny. Am heddiw serch hynny, ein neges i bobl Cymru yw glynwch at y cyngor i aros gartref, ac os oes angen i chi adael eich cartref am un o'r rhesymau a ganiateir, arhoswch yn lleol. Wrth wneud hynny, fe fyddwch yn diogelu ein GIG ac yn helpu pob un ohonom i achub mwy o fywydau. Diolch, Lywydd.

17:30

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad—Mick Antoniw.

Diolch, Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y ddwy set o reoliadau'n diwygio'r prif reoliadau ar y cyfyngiadau coronafeirws, ac fe'u gwneir, fel y nodwyd gan y Gweinidog, o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Nawr, i roi cyd-destun, hoffwn amlinellu'n fras ddiben y prif reoliadau, a ddaeth i rym ar 26 Mawrth ac a gymeradwywyd wedyn gan y Senedd ar 29 Ebrill.

Mae'r rheoliadau hynny'n gosod cyfyngiadau ar symudiad unigolion, gan nodi amgylchiadau lle gallant adael y fan lle maent yn byw, ac atal grwpiau o fwy na dau o bobl ac eithrio mewn rhai amgylchiadau, ac unwaith eto, fel y nodwyd eisoes, maent yn ei gwneud yn ofynnol i gau rhai busnesau a gosod gofynion ar fusnesau eraill, yn ogystal â dyletswyddau i gau rhai llwybrau cyhoeddus a thir. Daeth y rheoliadau diwygio Rhif 2 i rym ar 25 Ebrill, a daeth y rheoliadau diwygio Rhif 3 i rym ar 11 Mai.

Darperir ein hadroddiadau ar y rheoliadau hyn gyda'r agenda, felly maent gerbron yr Aelodau. Nid oes unrhyw bwyntiau adrodd technegol yr hoffem eu codi yn y naill achos na'r llall, ond rwyf am ei gwneud yn gwbl glir ein bod wedi rhoi sylw manwl iawn i'r rheoliadau hyn. Rydym i gyd yn deall yn llawn y rhesymeg sy'n sail i'r pwerau. Mae'r Gweinidog ei hun wedi esbonio'r rhesymeg hefyd, ond serch hynny, mae'n bwysig cydnabod, mae'n debyg, mai dyma'r cyfyngiad mwyaf ar ryddid a hawliau sylfaenol a roddwyd ar waith ledled y DU ers yr ail ryfel byd. Felly, mae'n hanfodol fod y gwaith o gyflawni a gweithredu'r pwerau eithriadol hyn yn cael ei graffu'n rheolaidd gan bwyllgor a chan y Senedd hon, gan mai ni sy'n diogelu'r hawliau y maent yn eu cyfyngu, a sicrhau eu bod ond ar waith cyhyd ag y bo diogelwch y cyhoedd yn galw am wneud hynny a'u bod yn gyfyngiad sy'n gymesur â'r risg.

Nawr, mae ein rhwymedigaethau hawliau dynol hefyd yn hanfodol, felly mae'n bwysig fod y rhain yn cael eu hamlygu, a'r hyn yr hoffwn ei wneud yw canolbwyntio ar yr agweddau hawliau dynol ar y rheoliadau diwygio, y tynnwn sylw atynt yn yr adran ar rinweddau yn ein hadroddiad. Felly, nodasom fod yr erthyglau canlynol yn berthnasol i'r rheoliadau Rhif 2: erthygl 8, sef yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol; erthygl 9, sy'n ymwneud â rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd; erthygl 11, rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu; ac erthygl 1 o'r protocol cyntaf, gwarchod eiddo. Nawr, mae pob un o'r rhain yn hawliau cymwysedig, y gellir ymyrryd â hwy cyn belled â bod cyfiawnhad dros yr ymyrraeth honno, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi dynodi.

Nawr, yn wreiddiol, nid oedd memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru yn nodi'r erthyglau penodol y mae'n ystyried eu bod yn berthnasol i'r rheoliadau hyn, felly nodasom fod y Llywodraeth wedi cyflwyno sylwebaeth gyfyngedig ar y cyfiawnhad dros ymyrryd ag arfer hawliau dynol o ganlyniad i'r rheoliadau, yn bennaf er mwyn atal clefydau heintus rhag lledaenu a diogelu iechyd y cyhoedd, ac mewn modd sy'n gymesur. Fodd bynnag, dylai wneud ei chyfiawnhad drwy gyfeirio at erthyglau penodol Deddf Hawliau Dynol 1998 sy'n berthnasol, ac mae dull o'r fath yn caniatáu i Lywodraeth Cymru esbonio'n gliriach yr ymarfer cydbwyso a gynhaliodd fel sy'n ofynnol dan gyfraith hawliau dynol pan fo hawl breifat yn gwrthdaro â budd cyhoeddus. Nid wyf yn dweud, wrth gwrs, fod hawliau dynol wedi'u torri; nid wyf ond yn pwysleisio, hyd yn oed ar adegau o argyfwng, na ddylid anghofio am hawliau dynol.

At hynny, rhaid inni ymwrthod bob amser â'r demtasiwn i ganiatáu i gyfyngu ar ryddid a hawliau gael ei normaleiddio mewn unrhyw fodd. Felly, rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Yn ogystal â'r erthyglau y cyfeirir atynt yn ein hadroddiad, mae'n nodi bod erthygl 5, sef yr hawl i ryddid, ac erthygl 14, gwahardd gwahaniaethu, hefyd yn berthnasol. Mae hefyd yn darparu sylwebaeth fanylach sy'n cyfiawnhau ac yn esbonio'r ymyrraeth ar arfer hawliau dynol.

Gan droi yn awr at y rheoliadau Rhif 3, mae'r rheoliadau hyn yn gwneud nifer o bethau pwysig unwaith eto, fel yr amlinellodd y Gweinidog: caniatáu i lyfrgelloedd, canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion agor yn amodol ar ofynion i roi pob mesur rhesymol ar waith i sicrhau bod pellter o 2m yn cael ei gadw gan unigolion ar y safle ac unigolion sy'n aros i fynd i mewn i safle; pennu bod gadael y man lle rydych yn byw i gasglu nwyddau a archebir o siop sy'n gweithredu ar sail archebu a chasglu yn esgus rhesymol at ddiben rheoliad 8(1) o'r prif reoliadau; a chael gwared ar y cyfyngiad i ymarfer corff unwaith y dydd yn unig.

Nawr, o ran hawliau dynol, mae'r memorandwm esboniadol yn egluro bod erthyglau 8 ac 11 yn ogystal ag erthygl 1 o'r protocol cyntaf yn berthnasol i'r rheoliadau. Unwaith eto, darperir peth sylwebaeth ar gyfiawnhad dros ymyrryd â'r hawliau hyn. Yn fwyaf penodol, mae'r rheoliadau'n ychwanegu cymesuredd gofynion a chyfyngiadau fel ystyriaeth pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu'r prif reoliadau coronafeirws. Yn ein hadroddiad, nodwn fod cymesuredd yn ystyriaeth sylfaenol wrth asesu'r cyfiawnhad dros ymyrryd â rhai hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ac mae'n mynd at wraidd cyfreithlondeb y penderfyniad i ymyrryd â'r hawliau hynny. Felly, fel y cyfryw, rydym yn croesawu'r gwelliant hwn oherwydd ei fod yn cydnabod dyletswydd drosfwaol Gweinidogion Cymru i fod yn gymesur, fel y mae'r Gweinidog wedi cadarnhau, o dan Ddeddf iechyd y cyhoedd 1984, a hefyd eu cyfrifoldeb trosfwaol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Hawliau Dynol, ac rydym yn fodlon ei fod yn gwneud hynny. Diolch, Lywydd.  

17:35

Hoffwn gofnodi fy mod yn credu bod Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi mynegi'n glir ac angerddol iawn y sylw angenrheidiol sy'n rhaid i ni ei roi i'n rhyddid a'n hawliau sylfaenol er gwaethaf y cyfnod anodd rydym ynddo ar hyn o bryd, ac felly, mae wedi datgan fy mhryderon ynghylch y rheoliadau parhaus hyn a'r ffordd y cânt eu trin a'u cyflwyno. Mae'r prif reoliadau hyn yn destun gwelliant cyson mewn nifer o feysydd am fod Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar wyneb y ddeddfwriaeth yn hytrach nag yn y canllawiau, a chredaf fod hynny'n dderbyniol. Ond mae'n golygu ein bod ni, Senedd Cymru, bob amser yn trafod y gwelliannau ar ôl iddynt ddigwydd, ac nid yw honno'n sefyllfa gwbl foddhaol yn fy marn i. Mae craffu'n iawn ar y rheoliadau hyn yn hollbwysig, ac er bod angen i'r Senedd eu cymeradwyo er mwyn i'r rheoliadau gael eu rhoi mewn grym am fwy na 28 diwrnod, ni all fod yn dderbyniol, er enghraifft, mai gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn unig y cyflwynwyd y rheoliadau hyn ar 18 Mai. Yn fy marn i, mae hyn yn gwadu cyfle i gael proses graffu glir, ac er ein bod yn byw mewn cyfnod anodd byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i adael i'w hunain fod yn ddarostyngedig i graffu priodol, a rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn caniatáu i'r amgylchiadau rydym ynddynt danseilio'r gwaith craffu hwnnw.

Mae arnom angen mwy o eglurder ynglŷn â'r rheoliadau a'r canllawiau sy'n cyd-fynd â hwy, oherwydd mae'r rheoliadau presennol yn ddryslyd ac mewn llawer o achosion i'w gweld yn gwrthddweud eu hunain. Nid yw pobl yn gwybod beth y maent yn ei olygu. Rwy'n gwybod bod fy mlwch post yn cynnwys llu o negeseuon e-bost gan etholwyr nad ydynt yn glir ynglŷn â'r ystyr sy'n sail i'r rheoliadau. A sylwais heddiw yn yr ateb gan y Prif Weinidog i Carwyn Jones, a oedd yn ceisio sicrhau eglurder pellach ynglŷn â'r rheoliadau, a bu'n rhaid iddo roi'r eglurder ychwanegol hwnnw. Dywedodd Alun Davies hefyd fod ei etholwyr yn gofyn am eglurder, felly nid wyf ar fy mhen fy hun.

Rwy'n falch fod y rheoliadau'n gosod gofyniad am gymesuredd i'r cyfyngiadau, ond rwyf am dynnu sylw'r Senedd at rai meysydd, felly, er enghraifft, rheoliad 8, sy'n cael ei ddiwygio i ganiatáu ymarfer corff rhesymol fwy nag unwaith y dydd. Nawr, dyma enghraifft o ba mor aneglur yw'r rheoliadau hyn: beth yw lleol? Nodaf fod Llywodraeth Cymru yn datgan nad oes unrhyw ddymuniad i ddiffinio 'lleol', gan y bydd gwahanol ystyron, yn dibynnu a ydych yng Nghaerdydd neu yng nghanolbarth Cymru. Felly, mae gennym sefyllfa lle gallwch yrru i'ch cwrs golff agosaf, a allai fod 30 munud i ffwrdd, ond ni chewch fynd i bysgota os na allwch gerdded neu feicio yno. Ac os ydych chi'n gyrru 10 munud i draeth i syrffio ar eich pen eich hun, gan gadw pellter cymdeithasol, fe gewch eich ceryddu a chael dirwy gan yr heddlu o bosibl. Gallwch ymarfer corff o'ch tŷ eich hun mewn stryd orlawn sy'n ei gwneud hi'n anodd cadw pellter cymdeithasol, ond ni chewch yrru am funud neu ddwy i fynd i dir comin i fyny'r mynydd o ble rydych chi'n byw. Gallwch fwyta tra'n cerdded erbyn hyn, ond mae awdurdodau lleol wedi atal mannau picnic rhag cael eu defnyddio, felly dyna anghysondeb arall. Mae hyn i gyd yn seiliedig ar y wyddoniaeth, dywedir wrthym. 'Dyna yw'r wyddoniaeth' yw mantra Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n iawn, ond sut felly ei fod mor amwys ac anghyson, ac fel y mae'r heddlu'n dweud wrthyf, yn anodd iawn ei orfodi?

Ceir llawer o anghysonderau eraill, enghreifftiau eraill yn y rheoliadau o ddiffyg eglurder, meysydd eraill sy'n ymddangos yn anghyson, ac nid oes gennyf ddigon o amser i fynd drwyddynt i gyd. Ond digon yw dweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant 2 i gyfyngiadau coronafeirws y rheoliadau diogelu iechyd. Fodd bynnag, byddwn yn ymatal ar welliant 3 y rheoliadau y cyfeirir atynt uchod. Ac rwyf am eich rhybuddio chi a Llywodraeth Cymru, Weinidog, na fyddwn yn petruso rhag pleidleisio yn erbyn gwelliannau yn y dyfodol os nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu neu'n barod i wella eglurder gwelliannau pellach, ac egluro'r rhesymeg wyddonol a chymdeithasol sy'n sail i'r newidiadau pellach hyn i ni ac i'n hetholwyr, oherwydd rydym mewn cyfnod anodd yn wir, ond mae'n rhaid i ni bob amser, bob amser, roi sylw iawn i hawliau pobl i fywyd, i ryddid, i ryddid i symud, ac mae angen i chi egluro i ni yn glir iawn, oherwydd mae pobl mewn penbleth; maent yn poeni; maent yn ofni eu bod yn torri'r gyfraith.

17:40

Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn amlwg yn cefnogi'r rheoliadau hyn, er bod y bleidlais hon yn ôl-weithredol, fel y nodwyd eisoes, gan fod y rheoliadau yn eu lle, ac fel aelod o'r pwyllgor deddfwriaeth, yn naturiol rwy'n cefnogi sylwadau rhagorol ein Cadeirydd, Mick Antoniw. Fodd bynnag, mae'r gyfradd R yn dal yn rhy uchel i fentro ton arall o achosion, ac roeddem yn rhy araf yn dechrau'r cyfyngiadau symud, mae wedi costio bywydau ac mae'n golygu bod yn rhaid i ni aros dan gyfyngiadau am amser hirach. A dyna pam y mae angen ymagwedd fwy gochelgar arnom wrth lacio cyfyngiadau; yn y pen draw mae'n golygu peidio â gorfod eu hailosod. Ond mae gennym nifer o bryderon.

Yn gyntaf, mae cyfathrebiadau Llywodraeth Cymru wedi bod dros y lle ym mhobman yma. Caniateir i bobl wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd bellach, fel y clywsom, ar yr amod nad ydynt yn gyrru, ond mae rhai pobl yn dal i fod yn ddryslyd ynglŷn â hyn i gyd, ac mae gennyf flwch post i'r perwyl hwnnw hefyd. Yn amlwg nid yw hyn wedi cael ei helpu gan y dirmyg y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddangos at Gymru heb unrhyw ystyriaeth y byddai ei newidiadau i ganiatáu gyrru yn arwain yn anochel at bobl yn gyrru i fannau twristaidd yma yng Nghymru. Rydym hefyd yn pryderu am y methiant i atal llif o bobl rhag mynd i ail gartrefi. Nodwn fod achosion COVID newydd ar gynnydd yn Betsi Cadwaladr.

Nawr, gan symud ymlaen, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth ymadael gyda'i goleuadau traffig; mae yna ddiffyg manylder ynddi fodd bynnag, ac ni fydd llawer o bobl fawr callach ynglŷn â chwestiynau sylfaenol sy'n berthnasol i'w bywydau yn awr, fel pryd y gallant fynd â'u plant i weld eu neiniau a'u teidiau. Elfen allweddol er mwyn gallu ateb hyn i gyd wrth gwrs yw atal lledaeniad y feirws yn ein barn ni, ond yn lle hynny, yr hyn a gawn gan y ddwy Lywodraeth yw goslefau rheolwrol am liniaru a rheoli'r gyfradd R er mwyn atal ail don. Mae'r fathemateg yn syml: bydd ychydig wythnosau'n rhagor o ymdrechion diflino i gadw R o dan 0.5 yn esgor ar ganlyniadau llawer gwell na misoedd o geisio cadw ychydig bach o dan 1. Bydd profi ac olrhain cysylltiadau'n allweddol.

Nawr, arferai'r wlad hon fod â system ardderchog ar gyfer rheoli iechyd y cyhoedd a chlefydau trosglwyddadwy, gyda system o hysbysu am glefydau hysbysadwy ac olrhain cysylltiadau personol yn ymestyn yn ôl dros ddegawdau. Mae'r seilwaith iechyd cyhoeddus ac iechyd yr amgylchedd rhagorol hwnnw wedi'i ddifetha gan gyni a difaterwch Llywodraeth ynghylch y posibilrwydd o bandemig yn gyffredinol. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn frwd ynglŷn â gosod haen newydd o brofion preifat a thechnoleg sy'n seiliedig ar apiau fel pe na baem ni wedi meddwl am olrhain cysylltiadau erioed o'r blaen yn ein bywydau. Mae angen i dimau iechyd cyhoeddus lleol adfer eu rheolaeth ar hyn. Mae olrhain cysylltiadau a phrofi, canfod achosion, ynysu a chwarantin yn fesurau iechyd cyhoeddus clasurol sydd bob amser wedi cael eu defnyddio i reoli clefydau trosglwyddadwy ers oes Fictoria, ers i Dr John Snow, mewn gwirionedd, ganfod mai'r pwmp dŵr ar Broad Street yn Soho yn Llundain yn 1854 oedd y ffynhonnell mewn epidemig colera.

I gloi, mae aberth personol enfawr wedi'i wneud wrth i bobl ymroi i'r cyfyngiadau er mwyn atal y feirws. Nid ydym wedi dod allan ohoni eto. Mae achosion o haint COVID yn dal i fod ar gynnydd mewn rhannau o Gymru. Nid yw pleidleisio yn erbyn unrhyw un o'r rheoliadau hyn heddiw yn gwneud unrhyw synnwyr, oherwydd bydd fel troi'r cloc yn ôl i beidio â chaniatáu ymweliadau â chanolfannau garddio, a pheidio â chaniatáu mwy o ymarfer corff—pethau sydd eisoes wedi'u cychwyn. Mae hynny oherwydd natur ôl-weithredol y ddadl rydym yn ei chael a'r pleidleisio y byddwn yn ei wneud cyn hir. Felly, byddwn yn cefnogi'r rheoliadau. Diolch yn fawr.

17:45

Mae'n bleser dilyn Dai Lloyd, ac rwy'n diolch iddo am ei sylwadau yno. Rwy'n gyfarwydd iawn â stori John Snow gan fy mod, 25 mlynedd yn ôl, yn arfer byw mewn fflat uwchben tafarn John Snow, yn edrych allan ar y pwmp hwnnw sydd wedi'i gadw yn yr hyn a elwir bellach yn Broadwick Street.

Rydym i gyd yn pwysleisio'r materion iechyd y cyhoedd, mae pob un ohonom yn pryderu am y materion iechyd eraill, a siaradodd fy nghyd-Aelod, Mandy Jones, yn fedrus iawn am y rheini yn y ddadl yn gynharach. Rwy'n credu bod angen inni roi rhywfaint o ystyriaeth i'r economi hefyd, yn anad dim am na fyddwn yn gallu cyllido iechyd os na fydd gennym adnoddau i wneud hynny.

Rydym yn pleidleisio yn erbyn y ddwy set o reoliadau heddiw. Rheoliadau gwelliant 2—gwelliannau eithaf bach ynddynt; testun rhyfeddod i mi yw y gall y Gweinidog eu cymeradwyo fel rhai brys, mewn rhai achosion fan lleiaf. Mae gennym newidiadau dadleuol i'r gofyniad unwaith y dydd i ganiatáu i rai grwpiau gael eu heithrio o hynny, ond mae'r gofyniad unwaith y dydd na ddylai fod wedi bod yno yn y lle cyntaf wedi cael ei ddileu eisoes gan y rheoliadau Rhif 3 a ddaeth i rym cyn inni gael cyfle i'w hystyried. Y rheoliadau Rhif 2, mae'n bwynt hynod o fach: gofyniad, mae'n ymddangos, 

'er mwyn dileu tawtoleg cael “angen i gael angenrheidiau sylfaenol”'.

Hynny yw, onid oes gan Lywodraeth Cymru ddim byd gwell i'w wneud? Sut ar y ddaear y gall hynny fod yn fater brys, Weinidog? Ac nid yn unig ei fod yn bedantig, ond mae'n anghywir. Bydd p'un a oes arnoch angen angenrheidiau sylfaenol ai peidio yn dibynnu'n rhannol ar p'un a ydynt gennych chi eisoes ai peidio.

Y trydydd maes o'r rhain lle ceir newid—rwy'n petruso rhag dweud arwyddocaol, ond mae'n eu hymestyn, yw'r gofyniad i roi cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn deddfwriaeth, sy'n destun rhyfeddod pur i mi. Beth yw'r dystiolaeth wyddonol sydd gan Lywodraeth Cymru, a neb arall, ymddengys, mai 2m yw'r penderfynydd allweddol? Pam eu bod yn meddwl y byddai'r penderfynydd allweddol yr un fath y tu mewn ag y mae tu allan? Pam y credant fod gan wledydd yn Ewrop, fel yr Almaen, sydd ag 1.5 m, neu Ffrainc a'r Eidal, sydd ag 1m rwy'n credu—? Mae hyd yn oed Sefydliad Iechyd y Byd, nad wyf yn derbyn popeth y mae'n ei ddweud fel efengyl yn sicr, yn dweud 1m. Pam ein bod ni yng Nghymru yn gwybod yn well?

A yw'r 2m wedi ei drosglwyddo o dempled Seisnig a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU? Ond wrth gwrs nid ydynt wedi rhoi hynny mewn cyfraith. Maent yn gweithio'n synhwyrol gyda busnesau, diwydiannau a sectorau i feddwl sut orau i'w cael yn ôl i'r gwaith mewn ffordd sy'n lleihau'r risg mewn ffordd synhwyrol tra'n sicrhau bod yr economi'n gwella. Mae'n llawer anos gwneud hynny yng Nghymru am fod y ddeddfwriaeth yn dweud 2m ac mae'n cyfeirio at 'unigolion a chanddynt gyfrifoldeb am fusnesau'. Mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol i fusnes benderfynu pwy yn y busnes hwnnw sy'n gyfrifol yn gyfreithiol. Ac efallai nad yw'r person sy'n gyfrifol ac sydd fel arfer yn gwneud pethau am gael ei enwi fel y person sy'n gyfrifol ac efallai'n euog o'r drosedd hon a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, ac felly ni chaiff y busnes ailagor pan allai wneud hynny fel arall.

Bydd llawer iawn o fusnesau mawr sy'n gweithredu ar draws y DU, ac mewn llawer o achosion y tu hwnt i hynny, sy'n ailagor llawer o'u mannau busnes yn Lloegr, yn edrych ar hyn ac yn meddwl, 'Wel, a dweud y gwir, mae'n mynd i fod yn drosedd os gwnawn hynny yng Nghymru, a rhaid inni fod yn sicr nad ydym yn cyflawni'r drosedd honno, ac mewn gwirionedd, hyd yn hyn, nid oes gennym unrhyw arbenigwyr ar gyfraith Cymru ar ein staff, ac mae'n anodd mynd allan i gael cyngor allanol, ac nid ydym eisiau'r risg o fynd yn groes i'r gofyniad rheoleiddio hwnnw', felly nid ydynt yn ailagor. Nid wyf yn credu bod hon yn ffordd synhwyrol o fynd ati.  

Rheoliadau gwelliant 3: roeddwn yn meddwl llawer o'r hyn a ddywedodd Angela am hynny. Rwy'n credu iddi siarad yn dda iawn, ac nid wyf am wneud nifer o'r pwyntiau am y weithdrefn ar gyfer ymarfer corff am ei bod hi wedi eu gwneud yn barod. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y Ceidwadwyr yn ymatal ar y rheoliadau gwelliant 3 hyn. Mae'n bryd i ni weld o leiaf rywfaint o wrthwynebiad ganddynt i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a'u penderfyniad i fod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr.  

Am y tro cyntaf, rydym yn gweld y gofyniad mewn perthynas ag ymarfer corff yn lleol mewn cyfraith. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn dweud pethau sy'n wahanol iawn. Mae'n dal i fynd yn ei flaen am ymarfer corff sy'n gorfod dechrau a gorffen gartref, ond nid yw hynny mewn cyfraith a phan edrychais i ddiwethaf, ni allwn ddod o hyd iddo yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru beth bynnag. Fodd bynnag, roeddent yn dweud na fyddai lleol, pe baech yn byw yng Nghaerdydd, yn golygu mor bell â Phorthcawl, felly rwy'n gobeithio bod rhai pobl yn cael hynny'n ddefnyddiol, os ydynt yn gyrru i ymarfer corff ond nad ydynt yn gyrru mor bell â hynny, maent o leiaf yn cydymffurfio â'r elfen honno o'r canllawiau. Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn barnu beth y caiff pobl ei wneud. Clywsom Dai Lloyd, rwy'n meddwl, yn dweud na fyddech yn cael gyrru, ond rwyf wedi clywed pobl eraill yn dweud y cewch wneud hynny mewn rhai amgylchiadau. A'r gofyniad deddfwriaethol y byddwn ni—neu eraill o leiaf, rwy'n ofni—yn cytuno iddo yw y dylai fod yn lleol, rhywbeth sydd heb ei ddiffinio.

Ond ein rheswm cryfaf dros bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn yw eu bod yn dileu'r gofyniad i Weinidogion Cymru gael gwared ar gyfyngiadau os nad oes eu hangen. Mae'n destun rhyfeddod pur i mi y gallwch gael y cyfyngiadau hyn ar fywydau pobl, er mor eithafol ydynt, ystyried nad ydynt yn angenrheidiol mwyach, ond newid y gyfraith fel y gallwch eu cadw beth bynnag am hyd at chwe mis. Ac mae'r Gweinidog iechyd yn ddigon digywilydd i ddweud wrthym mai cynyddu trosolwg democrataidd yw hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud yw rhoi dannedd iddo. Mae'n gwreiddio'r cyfyngiadau hyn. Gall Gweinidogion eu cyflwyno pryd bynnag y byddant yn dymuno gwneud hynny, honni bod angen dirfawr amdanynt a'u gwneud yn gyfraith, heb i'r Cynulliad gytuno arnynt—fel y cawn gyfle i'w wneud yma, yn rhy hwyr—ond pan na fydd eu hangen mwyach, gallant eu cadw. Rwy'n credu bod hynny'n anghywir. 'Rhesymol', 'cymesur', mae'r rheini i gyd yng nghyfraith y DU. Mae'n warthus fod Llywodraeth Cymru yn newid y gyfraith fel y gall gadw cyfyngiadau pan fyddant yn ddiangen. Felly, yn lle hynny, gallant eu rhoi drwy eu profion cydraddoldeb Corbynaidd a'u dethol ar y sail honno. Nid yw'n sail briodol ar gyfer cadw'r mathau hyn o gyfyngiadau, a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y ddwy set o reoliadau.

17:55

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.

Diolch, Lywydd. Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r rheoliadau hyn ond yn rhan o ymateb cynhwysfawr i reoli'r achosion o coronafeirws sy'n parhau yma yng Nghymru yn effeithiol, a'n bod yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r pandemig ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Diolch i'r ymdrechion a wnaed gan bobl ledled Cymru rydym wedi helpu i arafu lledaeniad y clefyd, amddiffyn ein GIG ac achub bywydau.

Rydym yn gwybod bod y cyfyngiadau parhaus yn effeithio ar iechyd a lles pobl yn ogystal â'n heconomi. Er hynny, rydym yn dechrau ar gyfnod hollbwysig yn awr. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth, cyfarwyddyd a chyngor gwyddonol a gawn gan y prif swyddog meddygol o ran sut y symudwn ymlaen i ddiffinio sut y gellir llacio'r cyfyngiadau sy'n weithredol ar hyn o bryd mewn gwahanol rannau o fywyd yng Nghymru.

Erbyn hyn, mae'r crynodeb o'r cyngor gwyddonol hwnnw sy'n mynd i ddigwydd bob dydd Mawrth yn cael ei gyhoeddi'n rheolaidd, felly mae'r cyhuddiad a wnaed gan Mr Reckless yn arbennig, nad oes tystiolaeth o beth yw'r cyngor—rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynglŷn â beth ydyw. Mae'n tanlinellu'r dewisiadau y mae Gweinidogion yn eu gwneud. Mae hefyd yn bwysig tanlinellu'r diben a'r angen i gael y rheoliadau a helpu i lywio'r drafodaeth gyhoeddus barhaus.

Wrth gwrs, rydym o ddifrif ynglŷn â'r pwyntiau a wnaed gan nifer o siaradwyr am yr eglurder, a phwynt a phwrpas y rheoliadau, beth yw ystyr hynny o fewn y rheoliadau, ac anelwn i ddarparu hynny yn ein canllawiau. Wrth gwrs, byddwn yn bwrw ymlaen â hynny fel rhan o'r adolygiad nesaf. Bydd angen i ni edrych eto ar bwynt a phwrpas y rheoliadau. Rwy'n anghytuno; nid wyf yn cytuno'n arbennig ag ymgais led-gyfreithiol Mr Reckless i ddiffinio beth sy'n digwydd gyda'r pwerau. Mae'n dal i fod rhaid inni gael rheoliadau sy'n angenrheidiol ac yn gymesur. Mae'n dal i fod rhaid inni gael cyngor gan y prif swyddog meddygol i wirio bod y rhain yn rheoliadau a ddylai fod ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng cyhoeddus, y digwyddiad unwaith mewn canrif y mae pawb ohonom yn byw drwyddo.

Gwyddom na allwn drechu'r feirws heb fynd ati ar y cyd, felly rydym am annog y sgwrs barhaus honno gyda'n holl bartneriaid, a'r pwysicaf ohonynt o hyd yw pobl Cymru. Y sgwrs ynglŷn â sut rydym yn gwneud dewisiadau y mae angen inni eu gwneud, gyda'r hyblygrwydd cyfyngedig sydd gennym, i lacio'r cyfyngiadau rheoleiddiol presennol, ac nad ydym yn peryglu bywydau a lles pobl ledled Cymru. Mae'r rhain yn ddewisiadau anodd a byddant yn parhau i fod yn ddewisiadau anodd. Bydd angen i gydbwysedd yr hyn y dewiswn ei wneud yn y rheoliadau adlewyrchu'r realiti—fod y dewisiadau hynny ynddynt eu hunain yn anodd—ac yna mae angen inni ystyried eu heffaith gronnol, a gallu ei hesbonio mewn ffordd sy'n wirioneddol argyhoeddiadol i bobl Cymru. Ond rwy'n cydnabod, yn y ddadl flaenorol, fod cefnogaeth eang o hyd i'r ymagwedd bwyllog sydd gennym, a dyna yw ymagwedd y Llywodraeth o hyd.

Gwnaed y diwygiadau i'r rheoliadau rydym wedi'u trafod heddiw mewn ymateb i farn rhanddeiliaid, er mwyn helpu i hyrwyddo gweithgarwch economaidd pellach a chefnogi teuluoedd ledled Cymru. Ar gyfer heddiw, rhaid i'r rheoliadau aros yn eu lle yn ein barn ni gan eu bod yn gymesur â'r bygythiad rydym yn ei wynebu, ac ni fyddant yn weithredol yn hwy na'r angen.

Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn a chytuno eu bod yn fesurau angenrheidiol i ymateb i'r pandemig ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru.

Y cynnig cyntaf, felly, yw derbyn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, rwy'n gweld gwrthwynebiad ac felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yr ail gynnig yw derbyn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ie, unwaith eto, mae yna wrthwynebiadau ac felly gohiriwn y pleidleisio ar y rheoliadau hynny tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020

Yr eitem nesaf yw'r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gyflwyno'r cynnig hwn—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM7324 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ebrill 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig. Mae'r gofynion gwyrddu yn neddfwriaeth yr UE a ddargedwir yn datgan mai'r arferion amaethyddol sydd o fudd i'r hinsawdd a'r amgylchedd yw arallgyfeirio cnydau, cynnal glaswelltir parhaol sydd eisoes yn bodoli a chael ardal â ffocws ecolegol yn rhan o'r ardal amaethyddol.

Mae'r rheolau arallgyfeirio cnydau yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr ar ddaliadau sydd â rhwng 10 a 30 hectar o dir âr dyfu dau gnwd gwahanol, gyda'r cnwd mwyaf heb fod yn gorchuddio mwy na 75 y cant o'r tir âr. Ar ddaliadau sydd â mwy na 30 hectar o dir âr, mae'n ofynnol i ffermwyr dyfu o leiaf dri chnwd gwahanol, gyda'r cnwd mwyaf, unwaith eto, heb fod yn gorchuddio mwy na 75 y cant o'r tir âr, a'r ddau gnwd mwyaf gyda'i gilydd heb fod yn gorchuddio mwy na 95 y cant o'r tir âr.

Dros y 12 mis diwethaf, mae Cymru wedi profi glawiad uwch na'r cyfartaledd. O ganlyniad, mae hyn wedi cyfyngu ar allu ffermwyr i gydymffurfio â rheolau arallgyfeirio cnydau, naill ai oherwydd na allant gyrraedd tir sydd dan lifogydd, neu am fod tir yn rhy wlyb ar gyfer plannu. Mae'r rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad i arallgyfeirio cnydau yn llwyr ar gyfer blwyddyn y cynllun taliad sylfaenol yn 2020. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i ffermwyr Cymru gydymffurfio â'r gofynion arallgyfeirio cnydau i blannu mwy nag un cnwd yn 2020. Mae hefyd yn golygu, er mwyn cael taliad llawn, na fydd yn ofynnol i ffermwyr ddarparu tystiolaeth yn dangos eu bod wedi ceisio cydymffurfio ond eu bod wedi methu am resymau force majeure. Diolch.

18:00

Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr, ac felly rwy'n cymryd nad yw'r Gweinidog yn awyddus i ymateb iddi hi ei hun, felly fe ofynnaf—. Y cwestiwn, felly, yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw wrthwynebiadau i hynny? Ni welaf unrhyw wrthwynebiadau ac felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cyfnod Pleidleisio

Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio, ac fel y nodwyd ar yr agenda, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11, ac i atgoffa pawb: gall pob grŵp gwleidyddol enwebu un aelod o'r grŵp i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau yn y grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai'n cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau yn y grŵp hwnnw, ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain fel unigolion. Byddaf yn cynnal y bleidlais drwy alw ar yr enwebeion.

Bydd y bleidlais gyntaf felly ar y ddadl ar lacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi, ac fe gymerwn y bleidlais gyntaf ar welliant 1. Felly, rydym yn dechrau'r bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Ar ran y Blaid Lafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais?

Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw eich 11 pleidlais?

Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw eich naw pleidlais?

Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?

Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 47 o blaid, neb yn ymatal, a 10 pleidlais yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 1 i NNDM7326 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid

Neil McEvoy - Annibynnol: Yn erbyn

Derbyniwyd y gwelliant.

Gwelliant 2—pleidlais, felly, ar welliant 2 yn enw Darren Millar. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais?

Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw pleidlais y Ceidwadwyr Cymreig—11 o bleidleisiau?

Plaid Cymru, Siân Gwenllian—y naw pleidlais, sut ŷch chi'n cyflwyno'r rheini?

Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'r pedair pleidlais?

Canlyniad y bleidlais honno yw 57 o blaid, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 2 i NNDM7326 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid

Derbyniwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 yw'r bleidlais nesaf—gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais?

Darren Millar, grŵp y Ceidwadwyr Cymreig—11 o bleidleisiau.

18:05

Nid wyf yn siŵr os gwnaethoch chi fy methu neu na wnes i glywed. Nid oeddwn wedi cael cyfle i wneud.

Rwy'n ymddiheuro am hynny. Ar gyfer y cofnod, felly, Mark Reckless ar ran Plaid Brexit—mae'r pedair pleidlais yn cael eu bwrw o blaid. Sy'n rhoi canlyniad y bleidlais: o blaid 18, yn erbyn 39. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 3 i NNDM7326yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid

Gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 4 yw'r bleidlais nesaf, a chyflwynir gwelliant 4 yn enw Siân Gwenllian. Ar ran y grŵp Llafur ac felly, y Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais?

Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw eich 11 pleidlais?

Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw eich naw pleidlais?

Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?

Neil McEvoy o blaid, felly. 

Canlyniad y bleidlais, felly, yw 51 o blaid, pump yn ymatal, ac un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 4 i NNDM7326 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Ymatal

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid

Derbyniwyd y gwelliant.

Cyflwynir gwelliant 5 yn enw Siân Gwenllian. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais?

Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'r 11 pleidlais yn enw grŵp y Ceidwadwyr Cymreig?

Canlyniad y bleidlais felly yw 51 o blaid, un yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 5 i NNDM7326 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Ymatal

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid

Derbyniwyd y gwelliant.

Ni chafodd gwelliannau 6, 7 ac 8 eu dethol. Gwelliant 9 yw'r bleidlais nesaf. Cyflwynwyd gwelliant 9 yn enw Siân Gwenllian. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson—y 30 pleidlais.

Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar—yr 11 pleidlais.

Canlyniad y bleidlais, felly, yw—byddai'n dda gennyf pe gallwn gyfrif wrth imi fynd ymlaen, ond yn anffodus ni allaf. Rwy'n aros i rywun arall ei wneud ar fy rhan. Rywle yng Nghymru, mae rhywun yn cyfrif y pleidleisiau, ac ar fin ei anfon ataf. A'r tro hwn mae'n dod i mewn ar fy WhatsApp, nid fy iPad. Sut y mae'r pethau hyn yn amrywio o un bleidlais i'r llall.

O blaid 40, 17 yn erbyn, neb yn ymatal. A oedd hynny'n gywir? Ar y pwynt hwn, byddwn yn edrych ar y clercod wrth fy ymyl i gael cadarnhad pe bawn i yn y Senedd. Ydy, mae wedi ei gadarnhau ar WhatsApp. Darllenais hynny'n gywir. Ymddiheuriadau am hyn—mae cryn nifer o bleidleisiau heddiw, oherwydd bod cryn nifer ohonoch wedi cyflwyno gwelliannau. Felly, derbyniwyd gwelliant 9.

18:10

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 9 i NNDM7326 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid 

Derbyniwyd y gwelliant.

Felly, rydym yn cynnal pleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans.

Cynnig NNDM7326 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddi Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi: Dal i Drafod, sy’n disgrifio sut y gall Cymru ddechrau llacio’r cyfyngiadau yn raddol

2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio â llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig fel rhan o ddull cydlynol pedair cenedl o godi'r cyfyngiadau symud.

3. Yn cytuno y dylai iechyd y cyhoedd fod yn ystyriaeth flaenllaw mewn unrhyw benderfyniadau ynghylch pryd a sut y caiff y rheoliadau ynghylch aros gartref gael eu llacio

4. Yn cydnabod y rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig ac yn estyn ei chydymdeimlad dwysaf â'r rhai y mae profedigaeth yn effeithio arnynt.

5. Yn diolch i bobl Cymru am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws

6. Yn canmol gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr hanfodol ar draws Cymru yn ystod y pandemig.

7. Yn cefnogi'r alwad gan bedwar Prif Gwnstabl a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru i'r Prif Weinidog sicrhau bod y dirwyon uchaf y gall yr heddlu eu dyroddi am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau iechyd cyhoeddus, yn cael eu cynyddu er mwyn sicrhau bod cyfyngiadau yn cael eu gorfodi'n gadarn cyhyd ag y maent ar waith.

8. Yn credu ei bod yn angenrheidiol sicrhau bod system gadarn o brofi ac olrhain cysylltiadau ar waith er mwyn codi'r cyfyngiadau'n sylweddol.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol ac i archwilio pob llwybr arall sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaelodlin o gymorth ariannol ar gael i bobl Cymru drwy gydol y cyfnodau o gyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi.

Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw eich 11 pleidlais?

Plaid Brexit—Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?

Canlyniad y bleidlais felly yw: 40 o blaid, pedwar yn ymatal, 13 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NNDM7326 fel y'i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn 

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid

Derbyniwyd cynnig NNDM7326 fel y'i diwygiwyd.

Bydd y bleidlais nesaf ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, fel y'i cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw'r pleidleisiau?

Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, yr 11 pleidlais.

Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'r naw pleidlais yn enw Plaid Cymru?

Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, eich pedair pleidlais.

Canlyniad y bleidlais ar y rheoliadau hyn, felly: o blaid 51, yn erbyn 6. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7322 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid

Derbyniwyd y cynnig.

Mae'r bleidlais nesaf ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Ac ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais?

Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, yr 11 pleidlais.

Canlyniad y bleidlais, felly, ar y rheoliadau hyn yw: 40 o blaid, 11 yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig ar y rheoliadau hyn.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7323 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Ymatal (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn 

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid 

Derbyniwyd y cynnig.

Daw hynny â'n trafodion am heddiw i ben. Cadwch yn iach, bawb. Prynhawn da.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:13.