Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

22/04/2020

Cyfarfu’r Cynulliad drwy gynhadledd fideo am 13:32 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae'r Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol ac yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae’r rheini wedi eu nodi ar yr agenda. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau bod y Rheolau Sefydlog yma yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i’r cyfarfod yma. 

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad hynny. 

Diolch, Lywydd. Mae sawl newid i'r agenda heddiw: ychwanegwyd datganiadau gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru; mae fy natganiad wedi'i ymestyn i 45 munud; ac yn olaf, mae’r ddadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi’i gohirio tan yr wythnos nesaf, pan ellir eu trafod ochr yn ochr â rheoliadau diwygio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Diolch i'r Prif Weinidog. Yr item gyntaf, felly, o fusnes yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar goronafeirws, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. 

[Anghlywadwy.]—am y camau diweddaraf wrth i'r Llywodraeth ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Rydym wedi parhau i gyhoeddi cymorth ariannol i gefnogi unigolion ac i helpu gwasanaethau i ymateb i'r argyfwng. Rydym yn dal ati i gydweithio'n agos gyda phartneriaid yn llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd a'r holl wasanaethau cyhoeddus eraill i sicrhau bod pob cymorth angenrheidiol mewn lle. Rydym yn ddiolchgar iawn i bobl Cymru am ddilyn y cyngor pwysig i amddiffyn iechyd pawb. Rydym hefyd yn dechrau cynllunio am y dyfodol pan fyddwn yn dod allan o'r sefyllfa bresennol. Byddwn yn edrych yn ofalus ar y dystiolaeth cyn gwneud unrhyw newidiadau. Byddwn yn tynnu i mewn syniadau i'n helpu ni gyda'r gwaith pwysig yma.

Lywydd, mae’r coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus yn ogystal ag argyfwng economaidd. Bydd y Gweinidogion sy’n bennaf gyfrifol am y ddau faes portffolio hyn yn gwneud datganiadau y prynhawn yma am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i’r feirws. Ychydig iawn o feysydd mewn bywyd cyhoeddus sydd heb gael eu heffeithio gan y coronafeirws, a’r prynhawn yma, byddaf yn canolbwyntio ar y mesurau rydym yn eu cymryd ar draws portffolios eraill.

Lywydd, effeithiwyd ar sawl agwedd ar y maes tai, o bryderon am bobl heb gartrefi i fyw ynddynt, i bobl sy'n teithio i Gymru i'w hail gartrefi. Ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, rydym wedi darparu cyngor cynhwysfawr am y gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid yng Nghymru, gan gynnwys gwybodaeth am fudd-daliadau, help gyda rhent, talu biliau a dyledion. Rydym wedi darparu gwybodaeth i landlordiaid ac asiantau yn y sector rhentu preifat ac arweiniad i awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallant barhau i orfodi safonau mewn eiddo rhent i gadw pobl yn ddiogel.

Rydym yn parhau i gael adroddiadau wythnosol gan brif gwnstabliaid ledled Cymru ar orfodi rheoliadau. Gadewch imi ddweud yn glir unwaith eto: nid yw teithio i ail gartref yn daith hanfodol, ac mae'r heddlu yng Nghymru yn atal pobl rhag ceisio gwneud hynny, a byddant yn parhau i wneud hynny.

Mewn gofal cymdeithasol, rydym wedi darparu £40 miliwn ychwanegol i gynorthwyo gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion gyda’r costau uwch y mae'r sector yn eu hwynebu. Daw'r cyllid hwn yn uniongyrchol o'n cyllideb ein hunain, ac mae'n rhan o'r gronfa ymladd gwerth £1.1 biliwn rydym wedi'i chreu i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i’r coronafeirws.

Gwn fod llawer o Aelodau wedi mynegi pryderon am bobl sydd wedi dewis taliadau uniongyrchol ac sy'n cyflogi eu cynorthwywyr personol eu hunain, ac ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, rydym wedi darparu gwybodaeth benodol i bobl yn y sefyllfa honno. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio cerdyn ar gyfer yr holl weithwyr gofal cymdeithasol i helpu i'w nodi fel gweithwyr gofal hanfodol, ac felly i gael mynediad at yr help a'r cymorth sydd ar gael iddynt.

Lywydd, mae’r feirws wedi cael effaith aruthrol ar addysg a gofal plant. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i weithwyr gofal hanfodol a rhieni plant agored i niwed ynglŷn â sut y gallant gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn yr amgylchiadau presennol, ac rydym yn gweithredu’r cynnig gofal plant estynedig i blant gweithwyr allweddol a gyhoeddwyd gan Julie Morgan ar 6 Ebrill. I lawer o bobl ifanc, mae hon yn adeg o drallod a phryder. Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi £1.25 miliwn o gyllid ychwanegol i ddarparu cymorth iechyd meddwl ychwanegol i blant, gan helpu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion i ymdopi â'r cynnydd a ragwelir yn y galw. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd diwrnod canlyniadau Safon Uwch a Safon UG yn cael ei gynnal fel y trefnwyd yn wreiddiol ar 13 Awst, ac ar 20 Awst ar gyfer TGAU—yr un dyddiadau, felly, â Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Ddoe, Lywydd, Cymru oedd cenedl gyntaf y DU i gadarnhau cyllid ychwanegol i warantu prydau ysgol am ddim i blant yn ystod y pandemig. Bydd £33 miliwn o gymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol yn y maes hanfodol hwn.

Bythefnos yn ôl, atebodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, gwestiynau yn y Senedd. Mae hi wedi parhau i gyfarfod â chynrychiolwyr diwydiant o sectorau ffermio, pysgota, coedwigaeth, amgylchedd a bwyd a diod Cymru i drafod eu heriau penodol. Mae grant newydd ar gael bellach i gynorthwyo busnesau pysgota i dalu'r costau sefydlog sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar gwch pysgota, ac mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwasanaeth ar-lein pwrpasol i baru cyflogwyr â phobl sy'n chwilio am waith yn y sector amaethyddol, y sector tir neu'r sector milfeddygol. Bydd y gwasanaeth hwnnw'n helpu i lenwi swyddi gwag dros y misoedd nesaf, gan fynd i'r afael â phrinder gweithwyr o ganlyniad i’r feirws.

Lywydd, hoffwn gloi drwy edrych tua'r dyfodol. Ddydd Iau, cytunodd pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn rhaid i'r cyfyngiadau aros gartref barhau am dair wythnos arall fan lleiaf. Nid nawr yw'r amser i afradu'r holl ymdrechion rydym wedi'u gwneud, yn enwedig gan fod yna arwyddion fod rhai ohonynt yn dechrau dwyn ffrwyth. Ond mae'n bwysig iawn pwysleisio bod bygythiad y coronafeirws ymhell o fod ar ben. Yn anffodus, bydd bywydau’n dal i gael eu colli yn y dyddiau i ddod, a gwn y bydd pob Aelod yn awyddus i gymryd eiliad i gofio’r 600 a mwy o bobl nad ydynt gyda ni mwyach, a’r galar a’r trallod y mae hyn yn parhau i’w achosi i’r rheini sydd agosaf atynt.

Nawr, ni wneir unrhyw benderfyniad i leddfu cyfyngiadau tan y bydd y dystiolaeth feddygol a gwyddonol yn glir fod yr amser yn iawn i wneud hynny. Bydd y broses yng Nghymru'n ofalus, yn bwyllog ac yn raddol. Ni ellir dychwelyd yn syth i'r ffordd o fyw roeddem yn ei mwynhau cyn i'r pandemig ddechrau. A Lywydd, pan ymwelais â’r Senedd am y tro cyntaf o dan ein trefniadau newydd, roeddem yn dal i wynebu'r pryder realistig y gallai lledaeniad y coronafeirws gyflymu yng Nghymru i’r graddau lle gallai ein GIG fod wedi cael ei orlethu. Mae’r ffaith nad yw hynny wedi digwydd yn deyrnged i'r gwaith aruthrol a wnaed mewn cyfnod mor fyr i ehangu capasiti’r gwasanaeth a'r ymdrechion y mae dinasyddion Cymru wedi'u gwneud i leihau lledaeniad y feirws yn y gymuned. Heddiw, mae nifer y cleifion yn ysbytai Cymru oherwydd y coronafeirws wedi sefydlogi ac mae nifer y derbyniadau newydd yn gostwng. Mae dros hanner ein capasiti gofal critigol estynedig ar gael o hyd. Mae mwy na 3,000 o welyau ysbyty acíwt yn yr un sefyllfa, ac mae'r ddau ffigur wedi gwella eto dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Oherwydd y platfform hwnnw a grëwyd, gallwn ddefnyddio'r wythnosau nesaf i baratoi; i gytuno ar set gyffredin o fesurau gwrthrychol i nodi'r pwynt lle mae'n ddiogel i ddechrau codi’r cyfyngiadau. Bydd y mesurau hyn yn dweud wrthym pryd y gallwn symud ymlaen o'r sefyllfa bresennol.

Bydd risg y bydd y feirws yn dechrau lledaenu eto. Felly, mae angen inni osod mesurau iechyd y cyhoedd cryf i gadw llygad ar y sefyllfa, fel y gallwn nodi unrhyw achosion lleol yn gyflym ac ymateb yn effeithiol. Yng Nghymru, rydym wedi cynnal gwasanaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol gyda phresenoldeb lleol cryf, ac mae’n rhaid inni ddefnyddio hyn fel sail i'n hymateb. Mae’n rhaid inni ddysgu hefyd o brofiad rhyngwladol. Mae rhai gwledydd yn Ewrop a thu hwnt eisoes yn codi cyfyngiadau. Byddwn yn defnyddio'r wythnosau nesaf i ddysgu o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw’n gweithio mewn rhannau eraill o'r byd.

Lywydd, yn olaf, byddwn hefyd yn defnyddio'r cyfnod hwnnw i gynllunio ar gyfer dyfodol Cymru y tu hwnt i’r coronafeirws drwy gynnwys arbenigedd a phrofiad o'r tu allan i'r Llywodraeth. Byddwn yn sefydlu grŵp o bobl o Gymru a thu hwnt i herio ein syniadau, i gyfrannu syniadau newydd, ac felly i'n helpu i gynllunio ar gyfer adfer. Rydym wedi rhoi ein fframwaith ar gyfer gwneud hynny ar waith ac edrychaf ymlaen at drafod y cynllun hwnnw a'r llwybr hwnnw tua’r dyfodol gyda'r Senedd dros yr wythnosau i ddod.

13:40

Cyn i mi alw ar arweinydd yr wrthblaid, hoffwn ddweud fy mod yn ymwybodol fod Aelod yn dymuno codi pwynt o drefn. Byddaf yn cymryd pob pwynt o drefn ar ddiwedd y datganiadau, felly nid oes angen cymhorthion gweledol. Paul Davies.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ac a gaf fi adleisio eich sylwadau, Brif Weinidog, a chydymdeimlo â'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig hwn?

Wrth i bandemig COVID-19 barhau i effeithio ar deuluoedd, cymunedau a busnesau ledled y wlad, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud ein gorau glas i nodi'r bygythiad a thrin y rheini yr effeithiwyd arnynt cyn gynted â phosibl. Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch adolygiad cyflym o system brofi Cymru yn gam hanfodol ymlaen, nid yn unig er mwyn gweld lle mae problemau'n codi gyda chynnal y profion, ond hefyd i sicrhau bod y broses o wneud hynny’n fwy effeithlon o lawer. Rwy'n sylweddoli y bydd y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad ar rai o'r materion hyn maes o law, ond chi, wrth gwrs, sy'n gyfrifol am strategaeth gyffredinol y Llywodraeth, felly a allwch chi ddweud wrthym pa ganfyddiadau cychwynnol a wnaed gan adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru a pha fath o amserlenni a roddwyd ar waith i wneud unrhyw newidiadau newydd i'r system? Gwyddom na chyrhaeddwyd y targed o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill, ac mae'n amlwg iawn na fydd yn agos at 9,000 o brofion yn cael eu cynnal erbyn diwedd y mis hwn fel yr addawyd yn wreiddiol. Mewn gwirionedd, gwyddom fod llawer llai na 1,000 o brofion y dydd wedi'u cynnal ar rai dyddiau. Felly, a bod yn ddi-flewyn-ar-dafod, Brif Weinidog, pam fod cyn lleied o brofion yn cael eu cynnal a pham fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei thargedau, gan ei bod yn bwysig fod ein gweithwyr allweddol ar y rheng flaen yn cael eu profi cyn gynted â phosibl er mwyn eu cadw'n ddiogel? Mae'n amlwg fod capasiti yn y system nad yw'n cael ei ddefnyddio i brofi gweithwyr allweddol ar y rheng flaen ac nad yw canolfannau profi cymunedol a chanolfannau gyrru i mewn ledled Cymru yn gweithredu'n llawn o hyd. Felly, a allwch ddweud wrthym pryd rydych yn rhagweld y bydd pob canolfan brofi ar gyfer gweithwyr allweddol ar agor fel y gallwn gael syniad o leiaf ynglŷn â phryd y bydd profion yn cael eu cynnal ym mhob rhan o Gymru?

Nawr, ar ddechrau'r pandemig hwn, codais bwysigrwydd cyrraedd y rheini sy'n byw ac yn gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ac fe gyfeirioch chi at hyn yn eich datganiad heddiw, ac mae'n drueni na wnaed mwy yn gynharach i fynd i'r afael ag effaith coronafeirws mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Ar y pryd, fe ddywedoch chi fod her benodol yng Nghymru, gan fod y sector yn cynnwys cymaint o bobl sy’n berchen ar un neu ddau o gartrefi gofal preswyl yn unig, ac felly mae sicrhau bod negeseuon yn cyrraedd pobl yn fwy o her pan fydd gennych nifer fawr o bobl, a phobl nad ydynt o reidrwydd mor gyfarwydd ag ymdrin â gofynion â'r cwmnïau mawr, sydd wedi hen ymsefydlu a chanddynt yr adnoddau i wneud hyn. O ystyried bod preswylwyr cartrefi gofal mewn mwy o berygl o wynebu cymhlethdodau difrifol yn sgil y feirws, ac rydym bellach yn gweld mwy o achosion yn cael eu cofnodi mewn cartrefi gofal, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn awr i hwyluso cymorth i'r rheini sy'n byw, ac yn wir, yn gweithio yn y sector?

Brif Weinidog, nododd y Gweinidog iechyd yn glir ddoe fod sicrhau digon o gyfarpar diogelu personol yn fwy o flaenoriaeth na heriau profi am y coronafeirws. Nawr, fe fyddwch yn gwybod bod Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, ac eraill yn wir, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddiogelu cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol yn ogystal â galw ar y Llywodraeth i beidio â gwanhau'r canllawiau er mwyn cuddio prinder, ac i gynnal archwiliad cyflym ar draws y byrddau iechyd i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddosbarthu'n effeithiol i bob lleoliad gofal. Mae'n annerbyniol fod 74 y cant o staff nyrsio wedi mynegi pryderon am gyfarpar diogelu personol a bod dros hanner y staff nyrsio wedi teimlo pwysau i ofalu am glaf heb amddiffyniadau digonol. Felly, a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cynnal archwiliad cyflym o gyfarpar diogelu personol yn awr ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru, yn ogystal â chadarnhau pa gamau brys sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gan weithwyr allweddol yng Nghymru fynediad at y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnynt?

13:45

Lywydd, diolch i Paul Davies am ei gwestiynau. Gadewch imi ddweud yn glir fod profion yn cael eu cynnal ym mhob rhan o Gymru. Mae dros 20,000 o brofion wedi'u cynnal yng Nghymru yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae 40 y cant o'r profion hynny ar gael i staff gofal iechyd ar y rheng flaen. Mae angen gwneud mwy i symleiddio'r broses o nodi staff gofal cymdeithasol yn benodol a chynnig profion iddynt wedyn yn y gwahanol ganolfannau sydd gennym, a dyna un o gasgliadau allweddol yr adolygiad cyflym y cyfeiriodd Paul Davies ato. Mae angen inni symleiddio'r broses honno gan barhau i ddiogelu agweddau diogelwch hanfodol y system. Mae'n bwysig iawn fod yr unigolyn iawn yno ar yr adeg iawn yn y lle iawn ar gyfer y prawf iawn. Mae'n haws dweud na gwneud yr holl bethau hynny pan fo gennych boblogaeth wasgaredig iawn, ac angen rhoi lefel benodol o sicrwydd i bawb ohonynt. Ond clywsom gan bennaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru heddiw—rhai ohonom—fod rhai o'r camau a gymerwyd ar unwaith yn cyflymu eu gallu i brofi staff gofal cymdeithasol, a bod mwy o brofion yn cael eu cynnal o ganlyniad i hynny. Cynigiodd yr adolygiad cyflym y dylem adrodd yn wythnosol ar nifer y profion sydd ar gael, nifer y profion sy'n cael eu cynnal, a'r camau sydd ar waith i gynyddu hynny bob wythnos, a dyna fyddwn ni'n ei wneud. Bydd mwy o brofion ar gael erbyn diwedd yr wythnos hon nag ar ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, a chredaf y bydd mwy o bobl yn cael y profion hynny wrth inni symleiddio'r broses atgyfeirio.

Lywydd, credaf i Paul Davies roi disgrifiad da iawn o rai o'r heriau mewn perthynas â chyfleu gwybodaeth ac agweddau eraill i'r sector cartrefi gofal, o ystyried ei natur yma yng Nghymru. Ond rydym yn gweithio'n agos gyda Fforwm Gofal Cymru; unwaith eto, hoffwn ddiolch iddynt am bopeth y maent yn ei wneud i gryfhau eu gallu i sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y rheng flaen honno. Nid oes unrhyw awgrym yn unman ein bod yn gwanhau'r canllawiau. Roeddem yn rhan o’r adolygiad cyflym o ganllawiau dan arweiniad Llywodraeth y DU sydd wedi arwain at roi hawl i nifer fwy o bobl yn y sector gofal yn arbennig i gael cyfarpar diogelu personol, ac rydym yn cydymffurfio â’r canllawiau hynny ac yn eu gweithredu yma yng Nghymru. O ganlyniad i hynny, byddwn wedi darparu 48 miliwn eitem o gyfarpar diogelu personol o storfeydd yma yng Nghymru—gyda 40 y cant o gyflenwadau ein storfeydd pandemig yn mynd i ofal cymdeithasol. Y frwydr sydd gennym yw ailgyflenwi'r stociau hynny mewn marchnad sy'n gystadleuol yn fyd-eang. Gwyddom eisoes ble mae ein stociau a faint sydd gennym wrth gefn. Rydym yn cynnal ymarferion rheolaidd i sicrhau ein bod yn cael yr adroddiadau diweddaraf o bob rhan o'r system am y storfeydd a gedwir, neu wahanol eitemau mewn gwahanol rannau o Gymru. Wrth inni ddefnyddio cyflenwadau a ddaw i Gymru o'r tu allan, rydym yn gweithredu mor gyflym ag y gallwn i sicrhau bod y storfeydd hynny'n cael eu gwasgaru i'r gwahanol ganolfannau, a'u bod wedyn yn cael eu trosglwyddo ymlaen i'r 640 practis meddyg teulu sydd gennym yng Nghymru, y 715 o fferyllfeydd sydd gennym yng Nghymru, yr oddeutu 1,000 o gartrefi gofal sydd gennym yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gweld bod hwn yn ymarfer logistaidd enfawr ac yn un sy'n cymryd cryn dipyn o amser, ymdrech ac ymrwymiad gan bobl ymroddedig sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac mewn llywodraeth leol ledled Cymru.

13:50

Diolch am eich ymatebion, Brif Weinidog. Fel y dywedoch chi yn eich datganiad heddiw, er bod pandemig y coronafeirws yn her iechyd enfawr yn fyd-eang, mae’n her economaidd sylweddol hefyd. Mae'r gefnogaeth ariannol a roddwyd i’r rhan fwyaf o sectorau wedi bod yn hael, ac rwy'n siŵr fod y rhai sydd wedi'i derbyn wedi’i chroesawu, ond serch hynny, mae sectorau fel ffermio a thwristiaeth yn teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl naill ai am nad yw'r gefnogaeth ar gael, am ei bod yn anhygyrch, neu'n syml am nad yw'n diwallu anghenion y rheini sy'n gweithio yn y sectorau hynny. Felly, o gofio bod diwydiant ffermio Cymru’n rhan annatod o economi, diwylliant, ac yn wir, hunaniaeth Cymru, pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng real iawn y mae ffermwyr Cymru'n ei wynebu ar hyn o bryd, yn enwedig ffermwyr llaeth, er mwyn diogelu cynaliadwyedd ffermio Cymru at y dyfodol? Efallai y gallech roi datganiad clir heddiw i ffermwyr Cymru, Brif Weinidog, drwy atgyfnerthu’r neges eu bod hwythau’n weithwyr allweddol hefyd, a chaniatáu iddynt gael mynediad at gyllid o dan y gronfa cadernid economaidd.

Yr wythnos diwethaf, cyfyngodd Llywodraeth Cymru ar gymhwystra’r rheini a allai hawlio £10,000 o gyllid grant yn y sector twristiaeth. Er fy mod yn deall bod rhai perchnogion ail gartrefi wedi manteisio ar hyblygrwydd blaenorol Llywodraeth Cymru, mae'r canllawiau diwygiedig bellach yn golygu efallai na fydd llawer o weithredwyr twristiaeth llety hunanddarpar bach dilys ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y cyllid hwn mwyach. Brif Weinidog, a wnewch chi ailystyried eich safbwynt ar y mater penodol hwn, fel bod gweithredwyr twristiaeth llety hunanddarpar ar raddfa fach yn gallu cael cymorth yn ystod y cyfnod hwn, o ystyried y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn cefnogi diwydiant twristiaeth Cymru?

Nawr, rwy'n derbyn bod cyfradd y ceisiadau busnes wedi bod yn ddigynsail, ac er bod pob un ohonom yn croesawu unrhyw becynnau cymorth a ddarperir yng Nghymru, credaf fod angen gwneud mwy o waith i fireinio rhai o'r pecynnau sydd ar gael. Er enghraifft, mae diwydiant pysgota Cymru wedi dweud wrthyf nad yw'r gefnogaeth iddynt hwy—ac fe gyfeirioch chi at hyn yn eich datganiad heddiw—yn ddigon i dalu eu holl gostau, a bod angen gwneud y cymhwystra i gael cymorth pellach yn decach. Mae busnesau cludo nwyddau ar lorïau, sy'n dal i orfod talu ardrethi busnes, wedi dweud yn glir fod angen gwneud mwy i gefnogi'r diwydiant dosbarthu, sydd, fel y gwyddoch, yn hanfodol ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod modd cludo nwyddau hanfodol.

Ac yn olaf, mae busnesau twristiaeth yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo nad yw natur dymhorol eu busnes yn cael ei ystyried wrth lunio rhai o'r cynlluniau cymorth sydd ar waith, ac felly maent yn cwympo i'r bylchau wrth geisio cael mynediad at gymorth am nad yw eu model busnes yn cyd-fynd yn union â meini prawf asesu'r Llywodraeth. Felly, pa waith mireinio y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael gwell dealltwriaeth o’r ystod amrywiol o fusnesau yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod pob un o becynnau cymorth busnes y Llywodraeth yn cyrraedd y rheini sydd eu hangen mewn gwirionedd?

Yn olaf, a allwch ddweud wrthym pa gymorth sy'n cael ei ddarparu i fusnesau sydd naill ai heb gofrestru at ddibenion treth ar werth am nad yw eu trosiant mor fawr â hynny, neu fusnesau sy'n unig fasnachwyr, neu'n gweithredu cwmnïau cyfyngedig bach, gan yr ymddengys nad yw’r mathau hyn o ficrofusnesau wedi cael eu hystyried wrth lunio pecynnau cymorth busnes?

13:55

Lywydd, mae arweinydd yr wrthblaid wedi sôn am ffermio llaeth, pysgota, twristiaeth, unig fasnachwyr—credaf fod un arall yno hefyd. Credaf mai'r unig beth y mae'n ei wneud yw dangos yr her economaidd ryfeddol y mae coronafeirws yn ei chreu. Roedd cludo nwyddau, mae'n ddrwg gennyf, yn un arall y soniodd amdano. Gwn fod pob un o'r sectorau hynny’n wynebu heriau go iawn, ac rwy’n siŵr y gallem fod wedi ychwanegu sawl un arall at y rhestr honno.

Mae adnoddau Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig. Rydym yn gwasgu popeth y gallwn o'n cyllidebau presennol. Rydym yn trosglwyddo pob ceiniog o gymorth ychwanegol a ddaw i ni gan Lywodraeth y DU, ac rydym yn gwneud ein gorau i lunio'r cymorth ychwanegol y gallwn ei ddarparu mewn ffordd sy'n ategu'r cymorth y mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn ei gynnig i fusnesau yma yng Nghymru.

Rwy'n fwy na pharod, wrth gwrs, i gofnodi ein bod yn cydnabod popeth a wneir gan y gymuned ffermio yma yng Nghymru ac yn cydnabod yr heriau penodol y mae ffermwyr llaeth yn eu hwynebu. Ddydd Gwener diwethaf, croesawodd Lesley Griffiths y ffaith bod rhai deddfau cystadleuaeth yn y diwydiant llaeth wedi eu diddymu dros dro i ganiatáu i’r llaeth sy'n cael ei gynhyrchu yn y diwydiant llaeth gael ei ddefnyddio mewn ffordd fwy cynlluniedig ar gyfer y lleoedd lle mae angen llaeth. Yn y cyfamser, rydym wedi cynhyrchu canllawiau i ffermwyr llaeth yng Nghymru i'w helpu i sicrhau, os bydd yn rhaid iddynt, fel dewis olaf, gael gwared ar y llaeth sydd ganddynt heb iddo fynd i'r gadwyn fwyd, y gallant wneud hynny yn y ffordd fwyaf diogel sy'n bosibl.

O ran y newidiadau rydym wedi'u gwneud i lety hunanddarpar, rwy'n fwy na pharod i ddweud y byddwn yn parhau i adolygu hynny, gan mai adolygiad o'r dystiolaeth a arweiniodd at gyhoeddiad Julie James ynglŷn â'r newidiadau a wnaethom. Yr hyn y mae'r newidiadau yn ei olygu yw bod yn rhaid i fusnes twristiaeth, hyd yn oed un bach, ddangos ei fod yn gosod eiddo am 140 diwrnod o’r flwyddyn. Os mai dyna’r incwm rydych yn dibynnu arno, ni chredaf ei bod yn afresymol i chi ddangos bod eiddo'n cael ei feddiannu at ddibenion twristiaeth am 140 diwrnod o'r flwyddyn, ac yna mae'n rhaid i chi ddangos bod yr incwm a gewch yn gyfran resymol o gyfanswm eich incwm.

Y pryder oedd—a gwn y bydd Paul Davies yn gwybod hyn, gan ei fod yn rhywbeth a godwyd gan awdurdodau lleol yn ne-orllewin a gogledd-orllewin Cymru—fod perygl y byddai llawer o arian cyhoeddus yn mynd i bocedi'r bobl y mae hyn yn rhan fach ac atodol o'u hincwm, nid yr incwm y maent yn dibynnu arno i sicrhau bod eu busnes yn llwyddiant. Felly, credaf ein bod wedi gwneud y peth iawn, ond rwy'n fwy na pharod i ddweud y byddwn yn parhau i adolygu’r dystiolaeth. Ac os oes angen mireinio, byddwn yn dychwelyd at hynny, ac mae hynny'n wir am nifer o'r pethau eraill y soniodd Paul Davies amdanynt. Y diwydiant pysgota, er enghraifft—rydym wedi cyhoeddi cynllun i sicrhau y gallwn gynorthwyo ein diwydiant pysgota yng Nghymru. Os oes angen ei fireinio, bydd angen y dystiolaeth arnom a byddwn yn edrych ar hynny.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r pwyntiau a wnaed gan arweinydd yr wrthblaid ynglŷn â thwristiaeth yng Nghymru. Gwn ein bod wedi sôn yma eisoes mai'r patrwm yn y diwydiant twristiaeth yw bod pobl yn buddsoddi yn y gaeaf ac yn adennill y costau hynny ac yn gwneud eu busnesau’n llwyddiannus yn yr haf, ac wrth i'r wythnosau fynd heibio, mae hynny'n rhoi cryn dipyn o bwysau ar y model busnes hwnnw. Rydym yn gweithio'n galed ochr yn ochr â'r diwydiant twristiaeth i geisio gwneud yr hyn a allwn i gynorthwyo.

Ar ficrofusnesau a'r pwyntiau eraill a nododd Paul Davies wrth gloi, mewn sawl ffordd, mae’r rheini'n fylchau yng nghynlluniau Llywodraeth y DU, a chanddynt hwy y mae’r prif gyfrifoldebau yn hynny o beth. Rydym yn parhau i ymgysylltu â Gweinidogion y DU, ac mae'r Canghellor wedi nodi parodrwydd i gyflwyno cynlluniau newydd a mesurau newydd lle mae bylchau wedi dod i'r amlwg yn y ddarpariaeth wreiddiol. Unig fasnachwyr, microfusnesau: maent yn parhau i fod yn faes lle mae angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy a chynnig y cymorth sydd ei angen.

14:00

Hoffwn eich holi ynglŷn â phrofi, Brif Weinidog. Yn Lloegr, mae dau fega-labordy sydd â'r capasiti i gynnal degau o filoedd o brofion y dydd eisoes yn weithredol, a bydd trydydd yn cael ei ychwanegu yn Lloegr cyn bo hir. Bydd gan yr Alban fega-labordy erbyn diwedd yr wythnos. Ac fel y nodwyd yng nghynllun profi Llywodraeth y DU, mae Gogledd Iwerddon eisoes wedi sefydlu labordy mawr ym mhencadlys Randox Laboratories yn Swydd Antrim. Felly, ni bellach yw'r unig genedl ar yr ynysoedd hyn nad ydym wedi cael labordy mawr wedi’i sefydlu'n benodol yng nghyd-destun y pandemig. A wnaethoch chi ofyn am fega-labordy i Gymru?

Lywydd, mae gennym y capasiti profi sydd ei angen arnom yng Nghymru. Nid oes gennym unrhyw broblem yng Nghymru o ran prosesu'r profion a gynhelir. Mae'r capasiti sydd gennym yn ddigonol i ymdrin â'r profion rydym yn eu cynnal ar hyn o bryd ac mae gennym gynlluniau i ehangu'r capasiti hwnnw yn y ffordd gywir i Gymru. Nid oedd angen i ni fynd at unrhyw un arall i gael cyngor ar atebion, pan oedd gennym ateb rydym yn ei weithredu mewn ffordd sy'n diwallu ein hanghenion ac sy'n iawn ar gyfer amgylchiadau Cymru.

Brif Weinidog, sut y gallwch ddweud bod gennym y capasiti angenrheidiol a chithau wedi methu eich targedau eich hun ar brofion dair gwaith mewn tair wythnos, a bellach wedi cael gwared arnynt? Gadewch inni sôn am y capasiti profi yng Nghymru. Mae bron i chwe wythnos wedi bod ers i wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn cynnig eu harbenigedd ar gyfer cynnal profion yma yng Nghymru. Bron i chwe wythnos yn ddiweddarach, nid yw’r cannoedd o wyddonwyr hynny—gyda llaw, siaradais ag un ohonynt y bore yma—na’u labordai wedi cael caniatâd, wedi cael eu hachredu, i gynnal un prawf ar weithiwr allweddol yma yng Nghymru. A yw'n syndod fod Syr Martin Evans wedi eich cyhuddo o esgeuluso eich dyletswydd?

Wel, credaf fod yn rhaid i'r Aelod fod yn ofalus i beidio â chymysgu'r gwahanol agweddau ar brofi. Gofynnodd imi yn wreiddiol am labordai a oedd yn ymdrin â phrofion a oedd wedi’u cynnal, ac fe ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrtho: nid oes gennym unrhyw ddiffyg ar hyn o bryd yn ein gallu i brosesu'r profion sy'n cael eu cynnal, ac mae gennym gynlluniau i gynyddu'r capasiti hwnnw pan fydd ei angen arnom.

Dangosodd yr adolygiad cyflym o brofion y cyfeiriodd Paul Davies ato sut y gallwn gynyddu nifer y profion sydd ar gael a chynyddu'r nifer sy'n cael prawf, ac rydym yn rhoi'r adolygiad hwnnw ar waith. Bydd gennym fwy o brofion yng Nghymru yr wythnos hon na'r wythnos diwethaf. Rydym yn cynyddu'r nifer sy'n eu cael, yn enwedig pobl ym maes gofal cymdeithasol, ond gweithwyr allweddol eraill hefyd. Mae gennym swyddogion heddlu a diffoddwyr tân yn cael eu profi yng Nghymru yn awr.

Ar sylwadau Syr Martin Evans, cefais fy synnu wrth eu gweld, a gwelaf fod Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi datganiad ar unwaith i ddweud nad oedd ei farn yn cynrychioli barn y brifysgol, a bod y brifysgol yn parhau i weithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru ar ystod o faterion yn ymwneud â’r pandemig.

Brif Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi nid yn unig am eich datganiad ond am yr holl waith rydych chi a'ch tîm yn ei wneud? Rwy’n gobeithio eich bod yn ymdopi yn yr amgylchiadau eithriadol hyn.

Wrth geisio craffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mae'n demtasiwn i ganolbwyntio ar y meysydd lle mae'r dull gweithredu yng Nghymru ychydig yn wahanol, efallai, i'r hyn a wneir gan Lywodraeth y DU. Ond ar y cyfan, mae'r gwahaniaethau hynny'n gymharol fach, a chredaf fod mwy o lawer yn gyffredin yn y dulliau gweithredu nag sydd o wahaniaethau rhyngddynt. Fodd bynnag, rhwng y DU a'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop, credaf fod rhywfaint o wahaniaeth o ran sut rydym yn mynd i’r afael â hynny—fod ein cyfyngiadau symud, neu o leiaf y cyfyngiadau symud gorfodol, wedi dod i rym ychydig yn hwyrach, ac rydym yn gweld, hyd yn oed wrth edrych ar farwolaethau mewn ysbytai yn unig, fod marwolaethau yn y DU, ac yn wir, yng Nghymru, fesul pen o'r boblogaeth, ar frig tabl cynghrair Ewrop, neu’n agos at y brig, os nad yw hwnnw'n ymadrodd amhriodol i'w ddefnyddio, ac mae anawsterau'r data a'r cymariaethau yn real iawn.

Tybed—. Gallwn weld yr ochr negyddol iawn ar bethau, yr holl deuluoedd yr effeithir arnynt gan y colledion hynny, ac rydym yn cydymdeimlo â hwy ym mhob ffordd. Rydym yn gweld hynny'n digwydd. Beth yw rhagdybiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru ynghylch yr hyn y bydd hynny'n ei olygu wrth inni lacio'r mesurau'n raddol ar ryw adeg yn y dyfodol? A yw Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd mwy o imiwnedd gan bobl sydd wedi cael y feirws, boed hynny'n asymptomatig neu â symptomau cymharol ysgafn? Mae astudiaethau'n awgrymu yn Stockholm fod oddeutu 30 y cant o bobl o bosibl wedi cael eu heintio. A oes gennym ragdybiaeth neu unrhyw ffordd o fesur neu daflunio beth fydd y ffigur cyfatebol yng Nghymru a beth fydd effaith hynny pan fyddwn yn ystyried llacio’r mesurau?

A gaf fi ofyn hefyd am y drefn brofi? Beth amser yn ôl, cawsom brofion cymunedol, a rhoddwyd diwedd ar hynny wrth inni symud o un cam o'r pandemig i'r llall. Rydym wedi cael targedau o 5,000, neu 9,000 efallai, erbyn diwedd y mis ar gyfer Cymru, a 100,000 ar gyfer y DU, neu ar gyfer Lloegr. Nid wyf yn gwybod a yw’r targedau hynny’n rhai cywir, ond nid ymddengys ein bod yn arbennig o agos i’w cyrraedd, a tybed beth y gellir ei wneud i gynnal profion ar raddfa fwy.

Nid oedd un bwrdd iechyd rwyf mewn cysylltiad ag ef—ac efallai ei fod yn fater mwy cyffredinol—ddiwedd yr wythnos diwethaf o leiaf, yn awyddus i gynnal profion ehangach i bartneriaid a sefydliadau eraill oherwydd pryderon nad oes sicrwydd yswiriant ganddynt o ran diogelu data a GDPR, ac roeddent yn aros i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi protocol, neu ei rannu gyda hwy o leiaf, ar yr hyn y dylid ei wneud. Does bosibl na ddylai'r pwyslais a roddir ar y materion hynny fod yn llai pan fydd gennym bandemig ar y raddfa hon a'r angen dirfawr i gynnal mwy o brofion. Ac os yw sefydliad yn rhannu data gan rywun sydd wedi cael prawf ac sy'n rhannu swab i'w brofi gyda sefydliad arall, bwrdd iechyd sydd â'r capasiti i brofi, pam na ellir ei brofi a dychwelyd canlyniad y prawf a'r data arall i ble y daeth, o gofio bod yr unigolyn wedi rhoi caniatâd ar gyfer y prawf hwnnw? Yn ddelfrydol, rwy'n gwybod yr hoffai rhywun roi cryn dipyn o adborth a sicrhau pa lwybrau y byddai pobl yn eu dilyn, yn dibynnu ar ganlyniad y prawf hwnnw, ond does bosibl nad yw'n well—os yw pobl yn credu bod ganddynt y coronafeirws, mae'n well eu bod yn cael eu profi ac yn cael sicrwydd a ydynt wedi'i gael ai peidio. Tybed a all Llywodraeth Cymru wneud unrhyw beth neu ddangos arweiniad ar unrhyw faterion diogelu data os oes pryder o hyd sy'n arafu neu'n ei gwneud yn anodd profi pobl nad ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y byrddau iechyd? A allwch chi fel Prif Weinidog roi arweiniad yn hynny o beth?

14:05

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Mark Reckless am ei sylwadau agoriadol? Mae'r berthynas rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig mewn perthynas ag argyfwng y coronafeirws yn un lle credaf fod gweithio ochr yn ochr â'r Llywodraethau eraill yn gryfder, a phan allwn wneud pethau gyda'n gilydd a chyfleu un neges i'r cyhoedd, mae hynny’n gwneud y neges honno'n symlach ac felly mae'n cael ei chlywed a'i deall yn haws. Ond lle mae pethau y mae angen i ni eu gwneud yn wahanol i gyd-fynd ag amgylchiadau Cymru, yna wrth gwrs, byddwn yn gwneud hynny hefyd. Ond rwyf bob amser yn mynd i mewn i'r ystafell gyda Llywodraethau eraill y DU gan chwilio am dir cyffredin a cheisio creu ffordd ymlaen y gallwn oll ei dilyn gyda'n gilydd.

Cytunaf â'r hyn a ddywedodd Mr Reckless ynglŷn â dilyn tystiolaeth Ewropeaidd, ynglŷn ag edrych ar brofiadau mewn mannau eraill. Mae gwledydd Ewropeaidd eraill yn dod allan o’r coronafeirws o'n blaenau ni, yn codi cyfyngiadau cyn y gallwn ni wneud hynny. Mae angen inni sicrhau ein bod yn dysgu ganddynt beth fydd effaith hynny.

Ar imiwnedd, fy nealltwriaeth o hynny yw nad oes gennym dystiolaeth ddigon da o unrhyw le yn y byd fod cael y coronafeirws yn rhoi lefel o imiwnedd i chi sy'n golygu y gallwch fod yn ddigon hyderus i ddarparu gwasanaethau i bobl sydd â'r feirws, gan wybod na allwch gael eich ail-heintio, neu nad ydych yn mynd i beri anawsterau i eraill. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo mewn sawl gwlad i geisio sefydlu'r dystiolaeth honno, ond heddiw, ni allech ddweud yn hyderus wrth rywun sydd wedi cael eu profi, lle mae'r prawf yn dangos eu bod wedi cael y feirws, fod hynny bellach yn golygu ei bod yn ddiogel iddynt fynd i leoedd a fyddai fel arall yn peri risg iddynt.

Mae'r patrwm rydym yn ei ragweld yng Nghymru ar gyfer y dyfodol yn dibynnu i raddau helaeth ar y gyfradd sy’n cydymffurfio â'r cyfyngiadau symud cyfredol. Pe bai hynny ond yn 40 y cant, gallai'r feirws fod yn cynyddu o hyd. Os yw'n 60 y cant, gallwn fod yn eithaf hyderus y bydd cyfradd lledaeniad y feirws yn y gymuned yn gostwng. Os yw'n 75 y cant, mae'n ddigon posibl y gwelwn y feirws yn cael ei atal, ac y bydd hynny’n para yn yr wythnosau i ddod. Felly, mae'r modelu’n dibynnu ar i ba raddau y gallwn barhau i berswadio pobl i gadw at y cyfyngiadau. Fel y gwyddoch, yng Nghymru, rydym wedi cael ymateb gwych i hynny, ond mae angen inni sicrhau ei fod yn parhau.

Ar brofi a mater rhannu data yn arbennig, cyflwynodd y Comisiynydd Gwybodaeth ganllawiau yn gynnar iawn a ddywedai y byddai ei swyddfa’n dangos cydymdeimlad wrth ymdrin â mesurau a oedd yn cael eu cymryd i sicrhau bod y data’n cael ei rannu’n iawn, gan ddweud yn glir nad yw’r gyfraith wedi newid. Felly, pan fydd sefydliadau'n rhannu data—a chofiwch fod y data'n eiddo i'r claf, nid i'r sefydliadau; felly, eich data chi a fy nata i, a data'r person sy'n cael y prawf sy'n cael ei rannu—mae rhwymedigaeth o hyd ar sefydliadau i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn ffordd sy'n ofalus ac yn gymesur. Er nad wyf am i’r rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data a materion rhannu data atal unrhyw un rhag gwneud y peth iawn, rwy'n deall pam fod angen i bobl a fydd yn cael eu dwyn i gyfrif am y ffordd y maent wedi gwneud y penderfyniadau hynny ynglŷn â’n data sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd a fyddai’n parhau i wrthsefyll craffu gan y Comisiynydd Gwybodaeth ac unrhyw lys barn.

14:10

Mae ein hamser bron ar ben ar gyfer y datganiad, ac nid wyf wedi gallu galw ar Aelod o’r meinciau cefn eto, felly os caf ymestyn yr amser ychydig er mwyn gallu galw ar Aelodau o’r meinciau cefn—. Byddwn yn adolygu'r dyraniad amser hwn a’r dyraniad o fewn yr amser i siaradwyr ac arweinwyr y pleidiau ar gyfer sesiwn yr wythnos nesaf er mwyn caniatáu i fwy o Aelodau’r meinciau cefn gael eu galw. Os caf ofyn am gwestiynau cryno ac atebion cryno o hyn ymlaen, fe geisiaf alw ar gynifer â phosibl o fewn y 10 munud nesaf. Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Mewn llythyr atoch ddydd Llun, dywedodd Autistic UK Cymru fod rheoliadau Cymru—y rheoliadau diogelu iechyd cyfyngiadau coronafeirws—wedi cael eu hysgrifennu mewn ffordd sy'n drysu pobl awtistig ymhellach. Yn Lloegr, gall pobl ag anghenion meddygol penodol, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth sydd angen ymarfer corff penodol adael eu cartrefi i ymarfer corff mewn man agored ddwy neu dair gwaith y dydd. Mae teuluoedd pryderus ledled Cymru sydd angen yr un ddarpariaeth wedi cysylltu â mi i ofyn pam na allant wneud hynny yng Nghymru. Yn eich sesiwn friffio ddydd Llun, fe ddywedoch bethau cadarnhaol ynglŷn â newidiadau i'r rheoliadau, gan gynnwys y rheini ar gyfer pobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth. A wnewch chi, felly, sicrhau bod unigolion ag anableddau dysgu neu awtistiaeth yng Nghymru sydd angen ymarfer corff penodol yn gallu gwneud hynny mewn ffordd debyg i'w cymheiriaid dros y ffin?

Mae cynghorau lleol ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol enfawr o ganlyniad i'r pandemig, ac amcangyfrifir y bydd y colledion yn fwy na £33 miliwn y mis. Sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru gyda lefelau isel o gronfeydd wrth gefn y byddant yn boddi heb gymorth ariannol i dalu’r costau ychwanegol yn sgil darparu gwasanaethau yn ystod y pandemig hwn? A wnewch chi ymrwymo i roi'r £95 miliwn ychwanegol y bydd eich Llywodraeth yn ei gael gan Lywodraeth y DU, fel cyllid canlyniadol yn sgil yr £1.6 biliwn a gyhoeddwyd i gynghorau lleol yn Lloegr ar gyfer ymladd COVID-19, yn uniongyrchol i awdurdodau lleol yng Nghymru i gefnogi'r gwasanaethau allweddol y maent yn eu darparu, ac i'r sector gofal annibynnol am y cymorth y maent yn ei ddarparu yn y frwydr gyfunol yn erbyn y pandemig hwn?

Yn olaf, yn y Cyfarfod Llawn rhithwir bythefnos yn ôl, gofynnais i chi egluro'r ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr hanfodol i gael mynediad at ofal plant a lleoliadau addysgol ar gyfer eu plant, ar ôl i staff y GIG yn Sir y Fflint gysylltu i ddweud bod yn rhaid i'r ddau riant fod yn weithwyr hanfodol er mwyn bod yn gymwys. Rwy'n deall bod y rheol wedi bod yr un fath yn y rhan fwyaf o gynghorau, yn yr ystyr y gallai rhieni aros gartref i ofalu am eu plentyn mewn amgylchiadau o'r fath, ond lle nad yw hynny'n bosibl, bydd gofal ar gael. Dysgodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies gan y Gweinidog addysg ddydd Gwener diwethaf, yn ôl yr hyn a ddeallwn, mai’r cyfan sydd angen ei ddangos bellach yw bod un rhiant yn weithiwr allweddol. A allech chi egluro felly, a rhoi cyfarwyddiadau clir i awdurdodau lleol ynglŷn â chywirdeb hynny ac a yw hi bellach yn ddigon i un rhiant fod yn weithiwr allweddol pan nad yw'r rhiant arall yn gallu bod gartref am unrhyw ran o'r diwrnod neu’r wythnos?

14:15

Lywydd, diolch. Mae gennym rwymedigaeth i adolygu'r rheoliadau bob 21 diwrnod. O ganlyniad i'n hadolygiad cyntaf, rydym yn bwriadu newid y canllawiau ar ymarfer corff i deuluoedd lle ceir angen meddygol i ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, a bydd hynny'n cynnwys plant ag awtistiaeth. Byddwn yn diwygio'r rheoliadau ddiwedd yr wythnos hon yn y ffordd a nododd Mr Isherwood.

O ran y cynghorau lleol, rydym eisoes wedi rhoi £110 miliwn yn fwy iddynt yng Nghymru, ymhell uwchlaw'r £95 miliwn o gyllid canlyniadol, ond wrth gwrs, rydym yn ymwybodol o'r pwysau parhaus y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yn eu cyllidebau, ac rydym mewn trafodaethau â CLlLC ynghylch y £95 miliwn ychwanegol hwnnw, a bydd cymorth pellach i awdurdodau lleol yng Nghymru.

Credaf fod y canllawiau eisoes wedi egluro’r sefyllfa o ran gweithwyr gofal hanfodol a gofal plant, ond os bydd unrhyw awdurdodau lleol yn dal i fod yn ansicr, fe wnaf yn siŵr ein bod yn egluro hynny iddynt.

Brif Weinidog, fe sonioch chi am y cyfyngiadau ar symud a gadael eich cartref, a chredaf fod pawb yn deall pwysigrwydd disgyblaeth a chydymffurfiaeth, fel y nodoch chi, ac y byddwch yn dilyn y cyngor meddygol a gwyddonol o ran unrhyw lacio ar y cyfyngiadau hynny. Tybed a oes rhagor y gallwch ei ddweud ar hyn o bryd ynglŷn â sut y byddai llacio’r cyfyngiadau yn gynnar yn edrych yng Nghymru? Oherwydd credaf fod gan lawer o bobl gryn ddiddordeb yn hynny, yn amlwg, ac mae'r cyfyngiadau eu hunain yn cael effaith ar iechyd a lles corfforol a meddyliol. Felly, mae pob un ohonom yn falch iawn fod pobl yn cadw at y cyfyngiadau hyn, ac mae hynny mor bwysig er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a staff ar y rheng flaen. Ond credaf fod gan bobl gryn ddiddordeb yn yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol o ran llacio’r cyfyngiadau yn gynnar, pan fydd cyngor gwyddonol a meddygol yn cefnogi hynny.

Diolch i John am hynny, Lywydd. Edrychwch, nid wyf am roi enghreifftiau heddiw o beth y gallai newidiadau cynnar o ran llacio'r cyfyngiadau ei olygu. Yr hyn rwyf am i bobl yng Nghymru ei wybod yw ein bod yn datblygu cyfres o brofion y byddwn yn eu defnyddio mewn perthynas ag unrhyw fesur penodol, a'r prawf cyntaf oll yw beth fyddai effaith cyflawni'r cam gweithredu hwnnw ar iechyd y cyhoedd? Ond byddwn yn gofyn cwestiynau fel: sut y gellid plismona'r mesur hwnnw? Os ydych yn mynd i newid y rheolau, a ellir gorfodi'r rheolau? A pha mor hawdd y gellid gwrthdroi hynny pe bai'n cael effaith niweidiol? Pe bai hynny'n rhywbeth a fyddai’n achosi i'r feirws ledaenu unwaith eto, a fyddai modd inni ei wrthdroi’n gyflym hefyd?

Pa fesurau bynnag a gyflwynwn, credaf y bydd angen set glir o brotocolau o amgylch y gweithgarwch hwnnw, oherwydd fel y dywedodd John, er y gwn fod llawer o bobl yn edrych ymlaen at y dydd pan ellir llacio rhai o'r cyfyngiadau, credaf y bydd llawer o bobl yn ofni camu'n ôl i fywyd arferol. Rydym wedi cael wythnosau lle mae pob un ohonom wedi bod yn cadw at y neges, 'Arhoswch gartref, diogelwch y GIG, achubwch fywydau', ac wrth i bobl symud y tu hwnt i hynny, credaf y bydd angen hyder ar bobl o wybod bod cyfres o reolau ynghlwm wrth unrhyw weithgaredd sy'n golygu bod eu hiechyd a'u lles yn cael eu diogelu. Felly, wrth inni nodi'r mesurau penodol yn erbyn y profion, byddwn yn awyddus hefyd i weithio gyda'r sectorau i sicrhau bod y protocolau a'r rheolau hynny ar waith i roi hyder i bobl ymgymryd â'r gweithgareddau hynny eto, oherwydd hebddynt, credaf y gallai pobl fod yn nerfus ynglŷn â chymryd y camau cyntaf heb wybod ein bod yn meddwl drwy'r cyfan ac yn sicrhau bod eu hiechyd a'u lles yn cael eu diogelu'n briodol.

14:20

Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog, ac a gaf fi ychwanegu fy niolch at y diolchiadau eraill i chi a'ch Gweinidogion am bopeth rydych yn ei wneud ar hyn o bryd? Mae'n gyfnod anodd iawn i bob un ohonom.

Dau fater gennyf fi: yn gyntaf, gwn fod pob un ohonom yn cydnabod yr ymdrechion gwirfoddol anhygoel rydym yn eu gweld ar draws ein cymunedau i helpu cymdogion a ffrindiau sy'n agored i niwed, felly a wnewch chi roi'r newyddion diweddaraf i ni am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r trydydd sector i helpu i ategu cyfraniad y gwirfoddolwyr? Ac yn ail, yn dilyn yr hyn a ddywedodd John Griffiths a dweud y gwir, rydych eisoes wedi dweud bod yn rhaid i gam nesaf ein hymateb gael ei arwain gan gyngor gwyddonol, felly a gaf fi ofyn a yw eich gwerthusiad cyfredol o'r cyngor hwnnw a'r posibilrwydd efallai y bydd angen inni reoli effaith y feirws ar ein cymunedau am 12 i 18 mis arall o bosibl, a yw hynny'n golygu bod buddsoddi mewn gorsafoedd profi, cyfarpar diogelu personol ac offer arall, mewn timau ymateb cyflym ar gyfer achosion yn y dyfodol ac mewn cynnal rhwydweithiau cymunedol a rhwydweithiau gwirfoddoli, yn mynd i barhau am y dyfodol rhagweladwy mewn gwirionedd, a hyd nes y bydd gennym raglen frechu effeithiol?

Wel, diolch i Dawn Bowden am ei chwestiynau, Lywydd. Ar yr ymdrech wirfoddol, mae gennym 15,000 o wirfoddolwyr newydd yn y system o ganlyniad i'r apêl coronafeirws. Mae hynny'n fwy na dwywaith nifer y gwirfoddolwyr a oedd wedi'u cofrestru eisoes yn y system honno, ac mae hwnnw'n ymateb gwych. Yma yng Nghymru, mae’r help y gallwn ei gynnig i'r grŵp hwnnw o bobl nad ydynt yn y categori a warchodir ond sydd serch hynny’n wirioneddol agored i niwed am nad oes ganddynt deulu, ffrindiau na chymdogion na rhwydweithiau eraill y gallant eu defnyddio, credaf fod symbylu’r ymdrech wirfoddol honno drwy waith cynghorau gwirfoddol cymunedol ar y cyd ag awdurdodau lleol wedi bod yn gryfder rhyfeddol o ran y ffordd rydym wedi gallu sicrhau nad yw'r bobl agored i niwed hynny yng Nghymru wedi cael eu hesgeuluso, neu eu gwthio o'r neilltu. Ac mae honno'n ymdrech sy'n mynd i orfod parhau am wythnosau a misoedd i ddod.

Hoffwn roi sylw i ail bwynt Dawn, Lywydd, a’i danlinellu: mae hon yn daith hir. Ni ddaw i ben yn fuan. Hyd nes y bydd brechiad ar gael y gall pawb deimlo'n hyderus ei fod yn gweithio, byddwn yn byw gydag achosion o'r feirws hwn am amser hir, ac wrth i ni godi'r cyfyngiadau symud, bydd y mesurau gwyliadwriaeth yn y gymuned, ein gallu i nodi achosion lleol o’r feirws yn gyflym ac ymateb iddynt yn gyflym eto, yn rhan gwbl hanfodol o'r cynllun y gofynnodd John Griffiths imi yn ei gylch. Mae ein prif swyddog meddygol eisoes wedi datblygu cynllun gwyliadwriaeth ar gyfer Cymru y bydd ei angen arnom wrth i'r cyfyngiadau symud ddechrau cael eu llacio, ac rydym yn trafod gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yr wythnos hon sut y gellir trosi'r cynllun hwnnw'n wasanaethau ar lawr gwlad. Bydd yn golygu math gwahanol o drefn brofi, mynd yn ôl i brofi yn y gymuned, yn hytrach nag anelu profion at gleifion ac at staff yn unig. Bydd yn ymdrech enfawr y bydd angen i ni ei symbylu unwaith eto, a dyna pam, yn fy natganiad agoriadol, y pwysleisiais ein penderfyniad i ddefnyddio'r amser sydd gennym yn ystod y tair wythnos nesaf i roi'r mathau hynny o gynlluniau ar waith yn gadarn.

14:25

Heddiw yma, mae 15 o ddoctoriaid sy'n arwain clystyrau iechyd ar draws Cymru wedi anfon llythyr cadarn atoch chi yn gofyn am gyfyngiadau llawer llymach ar gyfer ail gartrefi. A fydd eich Llywodraeth chi yn gwrando ar lais y clinigwyr yma sy'n galw am wahardd y defnydd o ail gartrefi yng Nghymru, er mwyn atal ail don o'r haint? Mae'n sobor meddwl am ail don ar ôl wythnosau o bwysau parhaol ar staff rheng flaen, ond rhaid i ni wynebu'r posibilrwydd real yna. Ac wrth gynllunio ar gyfer hynny, mae'n rhaid rhoi sicrwydd i'n hardaloedd gwledig, i'n hardaloedd twristaidd ni, y bydd eu hanghenion nhw yn flaenllaw yn y cynllunio yma. Ac ydych chi'n cytuno efo fi hefyd fod rhoi dirwy o £60 i'r rhai sydd yn teithio yma yn ddiangen—wel, does yna ddim ond un gair amdano fo: bod hynny'n chwerthinllyd o fach. A wnewch chi gefnogi galwad Plaid Cymru am ddeddfwriaeth i gynyddu y ddirwy i £1,000, fel bod yr heddlu yn gallu rhoi cosb go iawn i'r rhai sydd yn torri'r rheolau ac yn teithio yma yn ddiangen?

Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau. Dwi ddim wedi gweld y llythyr yna eto ond, wrth gwrs, dwi'n cydnabod y pethau mae hi wedi eu dweud. Rŷm ni wedi gweithio'n galed gyda'r heddlu ledled Cymru ac maen nhw wedi defnyddio y pwerau sydd gyda nhw ar hyn o bryd. Bob penwythnos, maen nhw'n gwneud pethau. Maen nhw'n dod ar draws pobl sydd yn teithio i mewn i Gymru ac maen nhw'n eu troi nhw nôl; maen nhw wedi gwneud hynna dro ar ôl tro. Bob wythnos, dwi'n gofyn i'r heddlu a ydy'r pwerau sydd gyda nhw ar hyn o bryd yn ddigonol, neu ydyn nhw eisiau i ni wneud mwy. Y casgliad rydym ni wedi dod ato, dwi'n meddwl, yw ein bod ni eisiau tynnu'r heddlu, Llywodraeth Cymru a'r bobl yn y maes at ei gilydd jest i weld. Mae'n un peth i ddweud i gryfhau y mesurau, mae'n rhywbeth arall i gynllunio'r mesurau iddyn nhw ddelio ag unrhyw broblemau mae'r heddlu yn gallu eu dangos i ni. Dwi eisiau gwneud y gwaith yna, ac os oes rhywbeth arall rŷm ni'n gallu ei wneud, lle mae'r heddlu yn dweud y byddai hynny'n ddefnyddiol iddyn nhw, dwi'n hollol fodlon i fynd lawr y llwybr yna. 

Dwi ddim yn cytuno â Siân Gwenllian am yr arian rŷm ni'n gallu tynnu mas o bobl sydd ddim yn cydymffurfio â'r rheolau. Dŷn ni ddim jest yn gallu gwneud hynny am un ffordd o beidio â chydymffurfio. Ac i fi, dwi ddim wedi gweld tystiolaeth o gwbl sy'n dweud bod y lefelau sydd gyda ni yma yng Nghymru ddim yn effeithiol, a dwi ddim yn meddwl bod yr achos wedi cael ei wneud i newid beth sydd gyda ni yn y maes yna. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ac am ei ffordd agored o ateb y cwestiynau hyn. Hoffwn ddychwelyd at bwnc caffael, os caf. Gwelsom anhrefn llwyr ddoe wrth i'r Ysgrifennydd Parhaol yn y Swyddfa Dramor gael ei orfodi i ysgrifennu at bwyllgor dethol yn Nhŷ’r Cyffredin i dynnu tystiolaeth, a roddodd brynhawn ddoe i’r un pwyllgor ar fater caffael peiriannau anadlu’r UE, yn ôl. Gwelsom adroddiadau neithiwr ar y BBC ar Newsnight fod preifateiddio'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr wedi arwain at broblemau go iawn gyda chaffael cyfarpar diogelu personol. Felly, hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog i ba raddau y mae’n credu bod yr anhrefn a welwn dros y ffin yn Lloegr yn cael effaith niweidiol ar allu Llywodraeth Cymru i gaffael y cyfarpar sydd ei angen ar ysbytai a’r cyfarpar diogelu personol sydd ei angen ar ein staff rheng flaen i ddarparu gofal i bobl, ac a yw'r problemau sy'n wynebu Llywodraeth y DU yn Lloegr yn achosi anawsterau iddo o ran sicrhau y gallwn ddarparu ar gyfer pobl a staff sy'n gweithio ar y rheng flaen yng Nghymru.

Lywydd, hoffwn wahaniaethu rhwng dau beth. Ar y naill law, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda swyddogion cyfatebol ledled y Deyrnas Unedig ar gaffael. Mae caffael fel y DU yn fanteisiol i ni oherwydd y cryfder ychwanegol y mae hynny’n ei roi i chi yn y farchnad, ac rydym yn gweithio ar gyd-gymorth hefyd. Yn ddiweddar, rydym wedi darparu cyd-gymorth i Ogledd Iwerddon drwy gyflenwi nwyddau a oedd ar fin dod i ben yno, ac rydym wedi cael cymorth gan yr Alban i gryfhau ein stociau mewn meysydd lle roeddem yn brin.

Felly, rwy'n dal yn gwbl ymrwymedig i'r ffordd honno o wneud pethau. Y cyferbyniad y buaswn yn ei wneud, fodd bynnag, yw’r un y mae Alun Davies yn tynnu sylw ato. Yma yng Nghymru, mae gennym wasanaeth iechyd gwladol o hyd—system sydd wedi'i chynllunio, system sy'n ddigon hawdd i bobl allu ei gweithredu lle mae rheolau cyffredin ar waith ym mhob man. Y frwydr y mae ein swyddogion cyfatebol yn Lloegr yn ei hwynebu yw gwasanaeth tameidiog, lle mae pobl wedi cael eu hannog i gystadlu yn erbyn ei gilydd yn hytrach na chydweithio. Ac ar adeg pan fo'n rhaid cydweithredu a chydweithio, maent yn gorfod brwydro yn erbyn y system sydd ganddynt bellach a'r diwylliant y maent wedi'i greu mewn ffordd nad oes yn rhaid i ni yma yng Nghymru.

14:30

Brif Weinidog, arestiwyd rhai pobl mewn cysylltiad â chynnau tanau mynydd yn fwriadol yn y Rhondda nos Lun. Mae'r bobl leol yn ddig iawn am fod y tanau hyn yn creu risg i fywyd. Mae gennym barcmyn mynydd, ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn cefnogi'r rheini gydag anogaeth. A allwch chi hwyluso cyfraniad y gymuned tuag at atal tanau mynydd? Os na wnewch chi hynny, rwy'n pryderu y gall pobl fynd i'r afael â'r mater eu hunain, o ystyried lefel y dicter. A allwch chi ddweud wrthym hefyd beth y gellir ei wneud o safbwynt y Llywodraeth ar ffurf negeseuon i addysgu pobl ynghylch difrifoldeb cynnau tanau gwair, yn enwedig yn y cyfnod rydym ynddo yn awr?

Roeddwn eisiau holi am archfarchnadoedd hefyd, a'r slotiau arbennig. Ar ôl oedi, mae archfarchnadoedd o'r diwedd wedi cael y wybodaeth gan eich Llywodraeth am gwsmeriaid yn y grŵp a warchodir, fel y gellir eu blaenoriaethu ar gyfer danfoniadau i'r cartref. Felly, pam fod cymaint o bobl yn dal i fethu cael y slotiau blaenoriaethol hynny? Mae rhai archfarchnadoedd yn dweud wrthyf eu bod yn ateb y galw, ond rwy'n dal i glywed cwynion gan bobl sydd â rhesymau dilys dros gael danfoniadau i'r cartref ond eto nid ydynt yn gallu sicrhau slot. Felly, rydych wedi sôn y byddwn yn y sefyllfa hon am amser hir. Sut y gallwch chi fel Llywodraeth gynyddu capasiti'r gwasanaeth danfon i'r cartref?

Ac yn olaf, roeddwn eisiau gofyn i chi ynglŷn â gweithwyr allweddol. Ysgrifennais at eich Llywodraeth yn gynharach heddiw i alw am ymestyn yr hawl i drafnidiaeth gyhoeddus am ddim a gynigir i weithwyr y GIG i gynnwys yr holl weithwyr allweddol sy'n cynnal ein cymdeithas yn yr amgylchiadau peryglus hyn. A wnewch chi ystyried y cynnig hwn i gydnabod cyfraniad pob gweithiwr allweddol, ac yn ychwanegol at hynny, a fyddai'r Llywodraeth yn barod i ystyried talu costau angladdol gweithwyr allweddol os ydynt wedi marw o ganlyniad i ddal COVID-19 yn rhan o'u gwaith? Fel y gwyddoch, gall angladdau gostio mwy na £5,000. Mae'r bobl hyn wedi marw wrth gyflawni dyletswydd gyhoeddus. Rwy'n credu eu bod fan lleiaf yn haeddu hynny.  

Lywydd, diolch i Leanne Wood am y cwestiynau hynny. Rwy'n rhannu ei phryderon ynglŷn â thanau gwair yn llwyr. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r gwasanaeth tân ac achub. Byddaf yn sicrhau ein bod yn cyfleu'r pwynt a wna am gynnwys y gymuned, oherwydd mae hwnnw'n wasanaeth y byddai'n rhaid i ni ddibynnu arno i gyflawni hynny. Ond ar adeg pan ydym angen i'r gwasanaeth tân ac achub fod yno i gynorthwyo ein gwasanaeth ambiwlans, gyda'r holl gymorth y maent yn ei roi i ni yn ystod yr argyfwng coronafeirws, mae'n gwbl anghywir fod pobl yn gorfod ymdrin â digwyddiadau nad oes angen iddynt fod wedi digwydd. Rydym wedi dweud yn y gorffennol, fel y gwyddoch—dywedir yn aml mai pobl ifanc a phlant sy'n gwneud y pethau hyn—mae tystiolaeth yn dangos mai oedolion yw'r rhai sy'n achosi'r tanau gwair hyn, pobl a ddylai wybod yn well. A diolch i Leanne am y pwynt ynglŷn â chyfraniad y gymuned, a byddwn yn sicrhau bod y gwasanaeth tân ac achub yn cael y neges honno.

O ran archfarchnadoedd, gadewch imi fod yn glir: ni fu oedi cyn rhoi'r wybodaeth i archfarchnadoedd. Bu cryn oedi cyn i rai archfarchnadoedd dynnu'r hysbysiad a ddywedai eu bod yn aros am y wybodaeth oddi ar eu gwefannau. Roeddent wedi cael y wybodaeth ers sawl diwrnod, llawer o ddiwrnodau mewn rhai achosion, cyn iddynt lwyddo i dynnu'r hysbysiad hwnnw oddi ar eu gwefannau. Roeddent wedi cael y wybodaeth honno gennym. Ond eto, i fod yn glir, pobl yn y grŵp a warchodir yw'r rhain—nid y grŵp ehangach o bobl sy'n agored i niwed am resymau eraill ac sy'n cael blaenoriaeth drwy'r cytundeb sydd gennym â'r archfarchnadoedd, ac mae hynny'n wir ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Felly, mae gan yr holl archfarchnadoedd y data sy'n dweud pwy sydd yn y grŵp a warchodir. Pan gaiff pobl eu hychwanegu at y grŵp a warchodir, fel sy'n digwydd wrth i feddygon teulu ychwanegu enwau, mae archfarchnadoedd yn cael y wybodaeth ychwanegol honno hefyd. Mae Lesley Griffiths yn cyfarfod â'r archfarchnadoedd bob wythnos. Maent hwy, hefyd, eisiau ymestyn nifer y slotiau sydd ar gael ganddynt, ond ni ellir gwneud hynny dros nos.

Os nad yw pobl yn gallu cael nwyddau wedi eu danfon i'w cartrefi drwy'r archfarchnadoedd, a lle mae gwirioneddol angen gwneud hynny am na allant ddibynnu ar unrhyw un arall i wneud hynny drostynt, mae awdurdodau lleol wedi bod yn camu i'r adwy gyda'r gwirfoddolwyr y cyfeiriwyd atynt yn gynharach. Os oes gan unrhyw Aelod Cynulliad unigolyn neu deulu nad ydynt yn gallu cael mynediad at y slotiau a warchodir ar gyfer archfarchnadoedd ond sy'n dal i fod angen cymorth, dylem droi at yr hybiau a grëwyd gan awdurdodau lleol, ac mae gennym dystiolaeth dda eu bod yn gallu trefnu cymorth lle mae ei angen.

Ac o ran gweithwyr allweddol, rwy'n credu bod Leanne wedi dweud ei bod wedi ysgrifennu heddiw, felly fe arhosaf am ei llythyr, ac ymateb pan fyddaf wedi cael cyfle i ystyried yr hyn y mae wedi'i ddweud ynddo.

14:35
3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch ichi, Lywydd. Rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â'n hymateb i'r coronafeirws o bob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydym yn parhau i gynnal cyflenwad o gyfarpar diogelu personol i'n gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen. Rydym yn gweithio ar sail Cymru a'r DU i sicrhau trefniadau cyflenwi mwy cadarn yn y dyfodol. Fel y clywsoch yn gynharach gan y Prif Weinidog, hyd at yr wythnos ddiwethaf, roeddem wedi darparu dros 16.2 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol i'r GIG ac i awdurdodau lleol, i'w dosbarthu ym maes gofal cymdeithasol, o storfeydd pandemig ein GIG. Mae'r stoc pandemig hwnnw yn rhan o'r 48.3 miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol a ddosbarthwyd gennym yng Nghymru ers 9 Mawrth. Mae cyflenwadau wedi'u dosbarthu i ysbytai, ymarfer cyffredinol, gwasanaeth ambiwlans Cymru, fferyllfeydd, a phob awdurdod lleol i'w trosglwyddo ymlaen i ofal cymdeithasol. Ac rwyf eisiau cydnabod y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud i sefydlu strwythurau newydd i ddarparu cyfarpar diogelu personol o'n cyflenwadau cenedlaethol i'n gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys ein darparwyr sector annibynnol ym maes gofal cymdeithasol. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi chwarae rhan yn hyn—ein partneriaid iechyd ac awdurdod lleol, darparwyr gofal cymdeithasol a chydgysylltwyr fforymau lleol Cymru gydnerth.

Mewn unrhyw waith ar y raddfa hon, bydd yna adegau lle na fydd pethau'n gweithio'n union fel y byddem yn ei hoffi. Ac rwy'n ymwybodol iawn o'r straen a'r pryder a deimlir gan ein staff rheng flaen; maent eisiau bod yn siŵr y bydd offer hanfodol ar gael pan fydd ei angen. Ac mae undebau llafur wedi bod yn allweddol yn nodi'r materion hynny mewn amser real ar lefel y gweithle, er mwyn i gyflogwyr ymateb yn gyflym i brinder, sy'n ein galluogi i wella a mireinio'r broses a beth y mae hynny'n ei olygu i ganiatáu i'n staff wneud eu gwaith a gofalu am y cyhoedd.

Mae'r galw byd-eang am gyfarpar diogelu personol yn creu marchnad anniogel ac anrhagweladwy. Fel y gwyddom, mae rhai gwledydd wedi penderfynu atal cyflenwadau cyfarpar diogelu personol rhag cael eu hallforio, ac mae llwybrau cyflenwi eraill wedi wynebu oedi sylweddol. Ac mae'n bosibl mai'r enghraifft amlycaf a mwyaf cyhoeddus yw'r oedi a brofodd y DU gydag archeb o Dwrci yn ddiweddar.

Fodd bynnag, rydym yn mabwysiadu ymagwedd amlweddog yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn llwyddo i ddarparu ein cyflenwad parhaus o gyfarpar diogelu personol yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda'r gwledydd eraill yn y DU i gyfuno a rhannu ein hymdrechion caffael i ddod â stociau newydd hanfodol i mewn, ein trefniadau arferol yng Nghymru, caffael cyflenwadau ychwanegol o gyfarpar diogelu personol gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, a'n gwaith gyda busnesau Cymru i gynhyrchu mwy o gyfarpar diogelu personol yma yng Nghymru.

Yn ogystal â gweithio ar y cyd â Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr, rydym wrthi'n ysgogi diwydiant yng Nghymru i ychwanegu at y llwybrau cyflenwi hynny ledled y DU drwy arloesedd a gweithgynhyrchu newydd.

Fel y gwyddoch, galwodd y Prif Weinidog yn ddiweddar ar fusnesau a gwneuthurwyr o Gymru i helpu i gynhyrchu cyflenwad Cymreig o gyfarpar diogelu personol i gefnogi ein staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio gyda diwydiant Cymru i ddatblygu, mireinio a chyflwyno'r syniadau hynny. Ac mae ein dull o weithredu yn bwriadu manteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael i ni er mwyn cydnabod maint y galw a'r farchnad fyd-eang heriol iawn rydym yn gweithredu ac yn cystadlu ynddi.  

Fodd bynnag, rydym wedi cael ymateb gwych gan gwmnïau o Gymru hyd yma. Yng ngogledd Cymru, mae gennym Brodwaith ar Ynys Môn, sy'n gwneud 2,000 o wisgoedd i weithwyr ysbytai bob mis. Hefyd mae gennym Worksafe Workwear yn Rhuthun, sy'n cynhyrchu dros 2,000 o wisgoedd i weithwyr ysbytai bob mis. Roedd un o'r cwmnïau hynny'n arfer gwneud pyjamas a'r llall yn arfer gwneud bagiau. Maent yn enghreifftiau da o'r modd y mae cwmnïau wedi addasu eu prosesau mewn ychydig wythnosau i gynhyrchu'r offer rydym ei angen—dillad i weithwyr ysbytai yn yr achos hwn.  

Mae gennym hefyd enghreifftiau amlwg iawn o'r Bathdy Brenhinol a Rototherm Group, sy'n gwneud y feisorau a'r tariannau wyneb sy'n cael eu gwisgo gan staff gofal iechyd. Ac mae distyllfa jin In The Welsh Wind yn gwneud diheintydd llaw a gymeradwywyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae lefel yr arloesedd a'r cymorth sydd wedi dod o bob rhan o Gymru wedi gwneud argraff fawr arnaf.

Bydd y galw am gyfarpar diogelu personol yn parhau i fod yn llawer uwch na'r arfer am y dyfodol rhagweladwy. Mae'r holl gamau rydym yn eu cymryd yng Nghymru wedi'u hanelu at sicrhau cyflenwad o gyfarpar diogelu personol i'n staff sydd ei angen i barhau i weithio ac i ofalu am y cyhoedd yn ddiogel. Wrth gwrs, mae'n bwysig fod y canllawiau ar gyfarpar diogelu personol yn cael eu dilyn yn briodol a bod y staff sydd angen y cyfarpar diogelu personol hwnnw, wrth gwrs, yn ei ddefnyddio'n unol â'r canllawiau hynny.

Ar gynnal profion—gwn fod sylwadau wedi cael eu gwneud yn natganiad y Prif Weinidog ac mewn cwestiynau—ar 15 Ebrill, comisiynais adolygiad cyflym a oedd yn canolbwyntio ar elfennau allweddol ein cynllun ar gyfer profi gweithwyr hanfodol. Roedd hwnnw'n cynnwys ein capasiti profi, mynediad at brofion, ynghyd â'r broses atgyfeirio a chanlyniadau. Yn dilyn yr adolygiad, gallaf gadarnhau bod ein capasiti profi yn 1,800 o brofion y dydd bellach. Rwyf wedi sicrhau bod £50 miliwn o arian Llywodraeth Cymru ar gael i gyflwyno rhagor o offer, adweithyddion cemegol ac adnoddau eraill i gynyddu ein capasiti profi. Bellach, mae gennym ganolfannau profi mawr yn weithredol yng Nghaerdydd a Chasnewydd a bwriedir i seilwaith profi newydd ar gyfer gogledd a de Cymru fod ar waith yn fuan—o fewn y pythefnos nesaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf heddiw—i roi hwb i'r trefniadau profi presennol sydd eisoes ar waith. Rydym yn treialu platfform archebu ar y we yr wythnos hon, ac rwyf wedi dileu'r terfyn ar atgyfeiriadau gan awdurdodau lleol, ac rwyf hefyd wedi cyhoeddi polisi gweithwyr hanfodol newydd sy'n ymestyn nifer y grwpiau y gellir eu profi yn awr. Rydym bellach yn profi holl breswylwyr cartrefi gofal sy'n dangos symptomau a phob preswylydd cartref gofal sy'n dychwelyd o'r ysbyty. Gellir atgyfeirio pob aelod o staff cartrefi gofal sy'n dangos symptomau i gael profion hefyd yn awr.

Rwy'n parhau i fod yn hyderus, yn dilyn trafodaethau gyda'n prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd, fod ein cynllun yn nodi'r dull cywir o sicrhau ein bod yn darparu'r profion cywir ar yr adeg gywir lle mae eu hangen yn y tymor byr a'r tymor hwy. Felly, rwy'n hyderus ar y pwynt hwn ein bod yn profi'r bobl iawn.

Ar bwnc gwahanol, rwy'n deall ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod ac yna'n ceisio deall, ar draws y DU, pam ein bod yn gweld nifer anghymesur o bobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi mynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i Covid-19.

Ddoe, cadarnheais y byddem ni yng Nghymru yn cyfrannu at yr adolygiad sy'n cael ei arwain gan Public Health England i archwilio rôl cyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sefydlu a oes unrhyw ffactorau penodol a allai helpu i lywio penderfyniadau ynglŷn â'r angen i ni roi cyngor cyhoeddus gwahanol ynghylch cydafiachedd, ynysu, gwarchod a chyfarpar diogelu personol mewn perthynas â phobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Byddwn yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'n cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yma yng Nghymru i helpu i lunio'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen.

Nawr, ar ofal cymdeithasol a diogelu plant, rwy'n gwybod bod pryderon mawr, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan randdeiliaid allweddol eraill. Rydym yn deall bod gwasanaethau o dan bwysau, ac ar yr un pryd, gwyddom fod yr argyfwng yn rhoi straen mawr ar bawb sy'n rhan o fywydau plant agored i niwed. Er mwyn cefnogi adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a'u partneriaid i fynd i'r afael â'r heriau hynny, rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant. Cawsant eu datblygu drwy weithio'n agos gyda rhanddeiliaid ac maent yn nodi mesurau y dylid eu rhoi ar waith i leihau effaith y pandemig; i helpu awdurdodau lleol a'u partneriaid i barhau i ddarparu cymorth effeithiol i blant sy'n agored i niwed, sydd mewn perygl neu sydd wedi cael profiad o ofal, tra'n cynnal eu dyletswyddau statudol.

Mae diogelu yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i bawb. Rwy'n bryderus am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau a'r adroddiadau o bryder am oedolion a phlant sydd mewn perygl o gael eu niweidio, eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn ystod pandemig y coronafeirws. Felly, rwyf eisiau atgoffa pawb fod adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn gweithredu yn ôl yr arfer a'u bod yn gallu ymateb i bryderon sydd gan bobl. Felly, os ydych yn teimlo y gall unrhyw un, boed yn oedolyn neu'n blentyn, fod mewn perygl o gael ei gam-drin, ei niweidio neu ei esgeuluso, gallwch roi gwybod drwy ffonio 101 neu gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol. Mae cymorth ar gael drwy linell gymorth Byw Heb Ofn i unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn ag unrhyw un a allai fod yn dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol.

Ac yn olaf, rwy'n gofyn i'r cyhoedd beidio â llaesu dwylo. Rydym wedi cynyddu capasiti'r GIG yn sylweddol ac wedi cymryd camau eithriadol i newid y ffordd rydym yn byw ein bywydau. Nid oes amheuaeth fod hynny wedi atal lledaeniad llawer ehangach a mwy ffyrnig o goronafeirws yma yng Nghymru. Mae'r camau rydym i gyd yn eu cymryd yn achub bywydau. Fodd bynnag, mae llawer mwy i bawb ohonom ei wneud am beth amser i ddod.

14:45

Prynhawn da, Weinidog. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch nid yn unig i'n holl wasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymunedol, ond i bawb sy'n helpu Cymru i geisio rheoli ac ymdopi â'r sefyllfa erchyll hon rydym ynddi. Hoffwn gydymdeimlo hefyd â'r holl bobl sydd wedi colli anwyliaid dros yr wythnosau erchyll diwethaf. Hoffwn gofnodi hefyd fy mod yn ddiolchgar am ein trafodaethau rheolaidd, ac maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi allu deall yr hyn sy'n digwydd a gallu craffu ar waith y Llywodraeth.  

Gan droi at eich datganiad, rwyf wrth fy modd eich bod yn teimlo bod gwelliant yn cael ei wneud mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol a sicrhau ei fod yn y lle iawn, ar yr amser iawn ar gyfer y bobl iawn. A allwch chi gadarnhau, fodd bynnag, faint yn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gaffael y tu allan i strategaeth brynu'r pedair gwlad? Rwy'n rhannu'r farn yn llwyr y dylem fod yn rhan o strategaeth brynu'r pedair gwlad. Mae'n amlwg y bydd prinder cyfarpar diogelu personol yn y byd am fisoedd lawer i ddod, ac mae'n gwneud synnwyr i gael y pŵer prynu cyfunol hwnnw, ond wrth gwrs, mae nifer o lwybrau eraill y gallwn fanteisio arnynt. Felly, a ydych mewn sefyllfa i ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â chaffael cyflenwadau cyfarpar diogelu personol ychwanegol gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a nodwyd gennych yn eich datganiad?  

Rwyf hefyd eisiau diolch a chroesawu'r newyddion gwych fod cymaint o gwmnïau o Gymru wedi troi eu llaw at ein helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Nawr, hoffwn droi at y rhan o'ch datganiad sy'n ymwneud â phrofi, Weinidog. Rwy'n pryderu'n fawr am y penderfyniad i roi'r gorau i'r targedau ar gyfer profi. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei gyfraniad ychydig yn gynharach—yn ei ddatganiad—byddwn yn y sefyllfa hon am amser hir, ac rwy'n credu bod hwn yn faes hollbwysig. Ac rwy'n credu y gallwch ddweud ei fod yn faes pwysig am ei fod wedi cael sylw heddiw gan gynifer o bobl eraill. Os ydym eisiau rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau symud gan gyfyngu'n helaeth ar y perygl o ail neu drydydd ymchwydd o'r clefyd, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol inni gael system brofi gref iawn ar waith.

Nodaf eich adolygiad cyflym—mae gennyf gopi ohono yma, rwyf wedi'i ddarllen. A bod yn onest, nid yw'n dweud llawer mwy na'r hyn roeddem i gyd yn ei wybod dros yr wythnosau diwethaf hyn, ond ei bod wedi cymryd amser i'w gynhyrchu. Rwy'n siomedig mai 1,800 prawf y dydd yn unig rydym wedi'i gyrraedd, i lawr o'r 9,000 a addawyd pan ddechreuodd hyn i gyd. Rwy'n croesawu'r platfform archebu ar y we, ond rwyf eisiau ailadrodd fy ngalwad am arweinydd adnabyddadwy a all ddarparu rhaglen brofi i Gymru, nid yn unig heddiw, ond ar gyfer y misoedd sydd i ddod. Rhywun—a thîm—sydd â logisteg, profiad a llwyddiant o ran cyflawni, oherwydd nid yn unig y mae angen profion yn y pwynt gofal a chanolfannau profi rhanbarthol arnom, rydym angen canlyniadau cyflym hefyd. Yng ngorllewin Cymru a gogledd Cymru, rwy'n dal i glywed bod canlyniadau profion yn dod yn ôl yn rhy hwyr. Byddwn yn edrych ar becynnau cartref, bydd angen olrhain cysylltiadau, bydd angen i ni adeiladu meddalwedd, bydd yn rhaid i ni edrych ar y modelu y byddwn angen ei wneud er mwyn ein galluogi i roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud, ac mae angen tîm pwrpasol i wneud hynny.

Ychydig ddyddiau'n ôl, fe ddywedoch chi mai profi oedd eich prif flaenoriaeth, y diwrnod wedyn fe ddywedoch chi mai cyfarpar diogelu personol oedd eich prif flaenoriaeth. Rwy'n llwyr gydnabod eich bod yn cael eich tynnu i bob cyfeiriad gyda blaenoriaethau'n cystadlu'n erbyn ei gilydd. Rwy'n erfyn arnoch, Weinidog, i ystyried rhoi'r gwaith hwn i dîm a all ganolbwyntio arno a'i gyflawni, oherwydd bydd yn strategaeth mor hanfodol i ni allu symud ymlaen.

Hoffwn fynd i'r afael â dau faes arall na chafodd eu crybwyll yn eich datganiad er mar ofid i mi. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ffaith bod ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr, oddeutu tair wythnos yn ôl, wedi cael sicrwydd y gellid dileu eu dyledion presennol er mwyn sicrhau y gallent ganolbwyntio'n llawn ar ymladd COVID-19. Ond yma, nid oes addewid tebyg wedi bod, a sylwais ar yr ymatebion yn y gynhadledd i'r wasg ddoe pan oeddech yn awyddus iawn i ddweud, 'Wel, nid ydym yn gwybod yn iawn pa fath o arian rydym yn ei gael. Nid ydym yn hollol siŵr.' Gallaf fod yn glir—byddwn yn cael cronfa COVID gwerth £2 biliwn eleni; ar ben hynny, mae gennym £1.4 biliwn arall o symiau canlyniadol. Yn eich ateb ysgrifenedig i fy nghwestiwn, sylwais eich bod yn dweud nad ydych yn codi llog ar y ddyled. Yn hollol, ac rydych yn cyfeirio at fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro fel enghraifft o fwrdd iechyd sydd bellach yn rhydd o ddyled, ond gadewch inni fod yn glir iawn, roedd y bwrdd hwnnw'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru am ddwy flynedd a hanner, a chyflawnodd hynny yn y cyfnod cyn-COVID. Rydym mewn sefyllfa wahanol yn awr. Mae gennym fyrddau iechyd sydd mewn dyled rhyngddynt o £100 miliwn i Lywodraeth Cymru, ac maent hwy hefyd yn dal i weithredu ar y rhagdybiaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn talu am yr holl waith y maent yn ei wneud yn awr. A wnewch chi nodi, yn glir iawn, pa gymorth ariannol rydych yn bwriadu ei gynnig i'r byrddau iechyd hyn?

Mae fy set olaf o gwestiynau'n ymwneud â'r data rydym yn ei gasglu ar hyn o bryd. Mae data, wrth gwrs, bob amser yn un o'r pethau y gallwch ei ddehongli mewn llawer iawn o ffyrdd, ac mae gwahanol wledydd yn mesur data mewn ffyrdd gwahanol iawn. Ond rwy'n pryderu bod setiau data diweddar sydd wedi ymddangos yn dangos gwahaniaethau mor enfawr, Weinidog iechyd, rhwng byrddau iechyd o ran nifer y bobl sydd wedi marw yn yr ysbyty, nifer y bobl sydd wedi marw mewn cartrefi gofal, mewn hosbisau, neu hyd yn oed yn eu cartrefi eu hunain. A heb ddeall y data hwnnw'n iawn, nid wyf yn credu y gallwn ddechrau creu darlun sylweddol o sut y mae proses COVID-19 yn gweithio; y math o bobl—pryd, lle, pam, sut—cwestiynau hanfodol i ddeall unrhyw beth cyn y gellir mynd i'r afael o ddifrif â'r hyn sydd wedi digwydd a beth sydd angen inni ei wneud yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi adolygu sut rydym yn casglu ein data a sut rydym yn ei ddefnyddio? Felly, un enghraifft gyflym: rydym yn dweud mai tua 10 i 12 o bobl yn unig a fu farw o COVID mewn cartrefi gofal ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan o gymharu â'r bwrdd iechyd cyfagos lle mae'r nifer bron dair gwaith yn uwch. Nawr, efallai eu bod wedi'i ddal mewn cartref gofal, a'u bod wedi cael eu cludo i'r ysbyty, ac mai dyna lle buont farw yn anffodus. Ond mae hwnnw'n ddata pwysig iawn i'w ddeall, oherwydd rydym yn gwybod felly fod y clefyd wedi digwydd yn y cartref gofal mewn gwirionedd a gallwn roi mesurau ar waith yn unol â hynny. Felly, a wnewch chi adolygu hynny, os gwelwch yn dda?

Yn amlwg mae gennyf nifer o gwestiynau, ond gallaf weld y bydd y Llywydd eisiau clywed gan bobl eraill, a hynny'n briodol, ac felly rwyf am roi'r gorau iddi yn y fan honno. Unwaith eto, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am y wybodaeth rydych yn ei rhannu'n rheolaidd.

14:50

Ar y pwynt olaf a godwyd gan Angela Burns ynglŷn â chasglu a defnyddio data, rwy'n hapus i adolygu'r data er mwyn inni allu bod yn fwy sicr am ei gywirdeb a sut y caiff ei ddefnyddio wedyn i fynd i'r afael â meysydd gwella a dysgu ar draws y system. Rwy'n credu ei bod bob amser yn bwynt teg i feddwl ynglŷn â sut rydym yn adolygu'r hyn rydym yn ei wneud a pham a sut y caiff gwybodaeth ei defnyddio i'n galluogi i wella.

O ran cyllid, rwyf am ailddatgan yr hyn a ddywedais ddoe: ni fydd yr un bwrdd iechyd lleol yn cael ei gosbi am y camau y maent wedi'u cymryd wrth ymateb i'r bygythiad unwaith mewn canrif y mae coronafeirws yn ei greu. Rwyf wedi siarad yn rheolaidd â chadeiryddion a phrif weithredwyr ar draws teulu'r GIG ac nid oes unrhyw un wedi tynnu fy sylw o gwbl at bryderon ynglŷn â sut y bydd y cyllid yn cael ei gysoni ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn, ond pwynt o gywirdeb yn unig yw'r ffaith nad ydym yn sicr ynglŷn â'r symiau canlyniadol. O'r prif ddatganiadau a wneir, rhaid inni drosi'r hyn a ddaw i Gymru mewn gwirionedd.

A'r pwynt arall na all yr un ohonom ei osgoi yw'r ffaith nad ydym yn gwybod sut yn union y mae coronafeirws yn datblygu a hyd a lled y straen a'r pwysau y bydd yn eu cynhyrchu, nid yn unig mewn perthynas â'r adnoddau ychwanegol sylweddol rydym wedi'u darparu i greu rhwydwaith o ysbytai maes, ond wrth gwrs, y pwysau sylweddol a pharhaus i ddarparu cyfarpar diogelu personol a phwysau'r gost real iawn y mae hynny'n ei olygu ynddo'i hun, a chydbwyso hynny â gweithgarwch arall nad yw'n digwydd lle nad yw'r costau'n codi ond lle caiff y staff hynny eu hadleoli i raddau helaeth. Felly, nid yw'r modd y mae arian yn symud o amgylch y system yn sicr, ond i ailddatgan: ni fydd unrhyw fwrdd iechyd, nac unrhyw ymddiriedolaeth yng Nghymru, yn cael eu cosbi am y gweithgarwch y maent yn ei wneud i gadw pob un ohonom yn ddiogel.

Ar gynnal profion, rydym wedi cyrraedd 1,800 o brofion heddiw. Bob bore dydd Mawrth, byddaf yn cyhoeddi diweddariad ar y cynnydd mewn profion a'r rhagolygon, ac yn ddiweddarach heddiw, byddaf yn cadarnhau nifer o ffigurau eraill. Ond o ran yr amserlen ar gyfer profi, fy nealltwriaeth i yw y dylwn allu cadarnhau pan fyddaf wedi cyhoeddi materion heddiw—ac mae'n destun gofid i mi nad oeddwn yn gallu gwneud hyn cyn y sesiwn heddiw—fod dros 90 y cant o bobl yn derbyn eu canlyniadau o fewn deuddydd i gynnal y prawf. Rydym wedi cynnal dros 27,000 o brofion yma yng Nghymru, ac ar sail y pen o'r boblogaeth mae hynny'n golygu ein bod yn cynnal mwy o brofion na'r Alban a Lloegr. Felly, mewn gwirionedd, mae ein cyfradd weithgarwch yn cymharu â gwledydd eraill y DU. Mae'r her sy'n ein wynebu yn ymwneud nid yn unig â'r hyn rydym ei angen yn awr i sicrhau bod gweithwyr hanfodol, gan gynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, gwasanaethau brys eraill a phartneriaid eraill yn cael y prawf, ond yn amlwg, y pwynt rwyf wedi'i wneud dro ar ôl tro ynglŷn â graddau'r profi rydym ei angen cyn cefnu ar y cyfyngiadau symud er mwyn sicrhau ein bod yn profi ar raddfa lawer mwy sylweddol a gwasgariad a mynediad at y profion hynny hefyd.

Ar gyfarpar diogelu personol, hoffwn ailddatgan: rydym ymhell o fod yn llaesu dwylo neu'n hunanfodlon ynglŷn â'n sefyllfa. Rydym yn gwybod ein bod yn gweithredu gyda'r rhagdybiaeth y byddwn yn cael cyfarpar diogelu personol, ond rydym yn dibynnu ar gyflenwadau a ddaw i mewn bob wythnos i wneud yn siŵr ein bod yn ddiogel. Nid yw'r sefyllfa o ran gwisgoedd atal hylif a welsom yn Lloegr dros y penwythnos yn rhywbeth sy'n rhoi unrhyw gysur i ni am nad oeddem yn y sefyllfa honno, oherwydd gwyddom ein bod angen cyflenwadau rheolaidd i sicrhau nad ydym yn y sefyllfa honno lle mae'n rhaid inni ailystyried beth i'w wneud os nad yw'r ffynhonnell gyntaf o gyfarpar diogelu personol ar gael i ni ac i'n staff. Ni allaf roi cyfanswm y nifer o eitemau cyfarpar diogelu personol rydym wedi'u caffael y tu allan i lwybrau prynu'r pedair gwlad, ond rydym yn parhau i fynd drwy bob un o'r cyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Rydym yn awyddus i edrych ar gyfleoedd unigol i gydweithio â gwledydd eraill y DU. Ac mae hynny'n dal i ddigwydd yn ogystal â'n trefniadau caffael pedair gwlad. A'r hyn rydym wedi cytuno i'w wneud yw bod yn agored gyda'n gilydd ar draws y pedair Llywodraeth ynglŷn â faint sydd gennym o bob eitem. Oherwydd y cyd-gymorth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato a ddarparwyd gennym i Ogledd Iwerddon, efallai ein bod yn disgwyl i'r cyd-gymorth hwnnw gael ei ddarparu yn y dyfodol, boed o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Felly, mae'r tryloywder rydym ei angen yn bwysig iawn i wneud i hyn weithio oherwydd mae'r farchnad rydym ynddi mor gystadleuol ac mor ansicr fel na fydd ymagwedd cenedl unigol o fudd i'n staff na'r cyhoedd. Ond rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ein sgyrsiau rheolaidd ynglŷn â'n sefyllfa a'r cwestiynau y gwn eich bod yn eu gofyn mewn gohebiaeth hefyd. Rwy'n hapus i wneud hynny.

14:55

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariad ac am ein sgyrsiau rheolaidd ni? Rydw i'n falch gallu gofyn y cwestiynau mewn fforwm gyhoeddus fel hyn. Gaf i gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i'r holl weithwyr allweddol hynny mewn iechyd a gofal a meysydd allweddol eraill sydd yn gweithio mor, mor galed ar ein rhan ni gyd ar hyn o bryd?

Yn gyffredinol, dwi'n meddwl bod yna nifer o feysydd sydd dal yn sefyll allan: diffyg profion; pryderon am offer diogelwch neu PPE yn dal yn broblem wirioneddol ar lawr gwlad, ac ymhlith y rheini sydd ar y rheng flaen, wrth gwrs. Dydyn ni ddim yn profi digon. Does yna ddim cynlluniau i brofi digon, a does gan wasanaethau, yn enwedig y gwasanaethau gofal, dwi'n meddwl, ddim yr hyder y buaswn i'n licio eu gweld nhw yn ei gael yn ein cyflenwadau, wrth inni edrych ar yr wythnosau sydd o'n blaenau ni.

Gadewch imi ganolbwyntio ar ychydig o'r materion allweddol hynny, felly. Rwy'n meddwl bod llawer o ddryswch o hyd ynglŷn â phrofi. Fel y gwyddoch, Weinidog, rwy'n dal i fod heb fy argyhoeddi gan safbwynt Llywodraeth Cymru ar brofi. Cawsom wybod eto heddiw fod ychydig dros 20,000 o bobl wedi cael eu profi yng Nghymru hyd yn hyn, ond i roi hynny yn ei gyd-destun: o dan y targedau gwreiddiol, byddem wedi profi 20,000 ers bore Llun. Nawr, ni fyddech wedi dewis y targedau gwreiddiol—8,000 y dydd a mwy erbyn hyn—allan o unman; byddent wedi bod yn seiliedig ar gyngor. Gwyddom mai cyngor Sefydliad Iechyd y Byd yw bod profi yn rhan allweddol o'r frwydr yn erbyn coronafeirws, felly a allwch egluro pa newid a fu yn y cyngor a roddir ichi ar werth profi, oherwydd rydym wedi mynd o'r targed o 8,000 neu 9,000 y dydd i tua 1,000? Rydych newydd ddweud funud yn ôl ei fod yn 1,800 heddiw. Nawr, mae'n gapasiti o 1,800 heddiw; roedd yn llai na 1,000 o brofion ddoe, felly mae angen inni wybod beth sy'n cael ei ddweud yn wahanol wrthych.

Ddoe, dywedwyd wrthym fod llai o ledaeniad nag a feddyliom: oes, ond mae hynny oherwydd y cyfyngiadau symud, oherwydd cadw pellter cymdeithasol effeithiol; mae'n gweithio'n well nag yr oeddem wedi'i ofni o bosibl. Nid yw'n gwneud y firws yn llai heintus, felly onid oes angen inni gael profion cymunedol effeithiol ar waith cyn y gallwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud? Yn wir, oni ddylem ddweud na allwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud? Ni allwn gael gwared ar y cyfyngiadau i raddau sylweddol hyd nes y bydd gennym brofion cymunedol ar waith, ac mae angen cynllun i wneud hynny. Nid yw'n ymddangos bod gennym un, neu nid wyf wedi fy argyhoeddi bod gennym un, felly a all y Gweinidog gysoni'r anomaledd hwnnw i ni? Sut y gallwn ddatblygu ein profion yn barod ar gyfer llacio'r cyfyngiadau heb fod gennym lwybr i'w ddilyn ar gyfer cynyddu niferoedd y profion?

A dywedodd y Prif Weinidog heddiw nad oes gennym broblem capasiti. Os nad oes gennym broblem capasiti, pam eich bod chi, yn gwbl briodol, yn rhoi £50 miliwn tuag at gynyddu capasiti? Yn ôl yr hyn a welaf i, nid ydym yn cyrraedd y capasiti hwnnw'n ddigon cyflym. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ymwneud â'r ffaith nad oes digon o bobl yn mynd i gael profion. Wel, beth am gael polisi sy'n annog pobl i wneud hynny, fel model profi cymunedol sy'n tyfu, fel ein bod yn adeiladu tuag at roi'r gorau i'r cyfyngiadau? Mae pob un ohonom am iddo ddigwydd cyn gynted â phosibl, ond ni allwn ei wneud hyd nes ein bod yn gwybod bod yr amser yn iawn.

Gadewch imi droi at gyfarpar diogelu personol: pryder gwirioneddol. Dau beth sydd angen i ni ei wybod, wrth gwrs: fod gennym ddigon o gyfarpar diogelu personol ar y silffoedd yn awr, a'r wythnos hon a'r wythnos nesaf ar gyfer y rhai sydd eu hangen. O'r hyn rwy'n ei ddeall, rwy'n meddwl ein bod yn weddol agos ati ar y funud, sy'n beth da, er fy mod yn dal i glywed am broblemau, yn enwedig yn y sector gofal. Yn y tymor hwy, fodd bynnag, y pryderon a glywaf yw bod diffyg hyder yn yr hyn sydd ar ei ffordd yn yr wythnosau nesaf, faint ohono, ac yn hollbwysig, beth yw'r amserlenni cyflenwi er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y mannau lle mae ei angen. Nawr, a allwn ddisgwyl cael y math hwnnw o gynllun manwl? A chyda'r fyddin, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi bod yn cynorthwyo gyda'r adolygiad o ddosbarthiad, a ellir rhannu canlyniadau'r adolygiad hwnnw fel ffordd o roi hyder i bobl?

Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod hefyd—ac rwyf wedi gofyn i'r Gweinidog droeon—lle rydym arni o ran gallu cyrchu ein cyfarpar diogelu personol ein hunain yn rhyngwladol, yn ogystal â bod yn rhan o'ch cydymdrechion pwysig ar draws y DU. Rydym yn gwybod y cefndir: cyflenwyr yn Lloegr yn gwrthod gwerthu cyfarpar diogelu personol i gartrefi gofal yng Nghymru; awyrennau'n llawn o gyfarpar diogelu personol yn glanio yn yr Alban; archeb fawr ar ei ffordd i Ogledd Iwerddon, ond nid oes unrhyw beth tebyg i hynny'n digwydd yma. Felly, os ydym yn cyflwyno archebion o'r fath ein hunain, a chael ein cyflenwadau ein hunain—o Tsieina, er enghraifft—mae hynny'n wych; mae'n newyddion da. Efallai y gallwn ofyn ichi rannu manylion yr archebion hynny heddiw. Ond rydym hefyd yn clywed am Lywodraeth y DU yn dweud wrth y gweinyddiaethau datganoledig, 'Ni chewch chi gaffael drosoch eich hunain yn rhyngwladol mwyach.' Efallai y gallwch ddweud wrthym a ydych wedi cael cyfarwyddyd o'r fath.

Y trydydd maes i holi yn ei gylch yn fyr: a gaf fi ofyn pa waith sy'n cael ei wneud ar gyfarpar diogelu personol i'w ddefnyddio gan y cyhoedd? Rwy'n credu bod tystiolaeth gynyddol y gallai gwisgo masgiau fod yn ddefnyddiol er mwyn arafu'r trosglwyddiad pan fydd rheoliadau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu llacio. Felly, yn ychwanegol at gyfarpar diogelu personol at ddefnydd proffesiynol, pa gynlluniau sy'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru ar gyfer caffael neu gynhyrchu neu ddosbarthu masgiau at ddefnydd y cyhoedd, oherwydd mae'n ddigon posibl y bydd pawb ohonom eu hangen yn fuan?

Ac yn olaf—cwestiwn gennyf fi hefyd ar ddata. Rydym yn cael y data dyddiol ar farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID mewn ysbytai, ac mae oedi yn y broses o gofrestru marwolaethau. Rydym wedyn yn aros i weld ffigurau marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID yn y gymuned hefyd, sy'n awgrymu, rwy'n credu, fod tua thraean yn fwy yn marw'n uniongyrchol o COVID o ran cyfanswm nag y mae'r ffigurau dyddiol swyddogol o ysbytai yn ei ddangos. Ond ar ben hynny, mae gennym y marwolaethau trasig sy'n digwydd—marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID, ond marwolaethau na fyddent wedi digwydd yn ôl pob tebyg oni bai am y cyfyngiadau presennol: pobl ddim yn mynd am driniaeth amserol, ddim yn mynd at y meddyg ac yn y blaen. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cymharu cyfraddau marwolaeth yn awr â'r cyfraddau marwolaeth arferol, a chanfod fod y ffigur bron yn ddwbl yr hyn y byddem fel arfer yn ei ddisgwyl ar draws y DU ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Dyna 8,000 yn fwy yn yr wythnos lawn gyntaf o Ebrill. Felly, a allwch ddweud wrthym gydag unrhyw hyder beth gredwch chi yw'r ffigurau cyfredol ar gyfer nifer y marwolaethau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac a ydym yn gallu asesu, drwy'r data hwnnw, y camau y gellid eu cymryd i achub bywydau?  

15:05

Diolch ichi am y rhestr faith honno o gwestiynau, sylwadau a phwyntiau. O ran y man cychwyn ar gyfer profi ac a ydym yn cynnal digon o brofion—rydym wedi siarad am hyn yn ein cyfarfodydd eraill ac yn yr ymateb a ddarparwyd gennyf yn y fforwm cyhoeddus mewn sylwebaeth ac wrth ateb cwestiynau gan y wasg. O ran a ydym yn profi digon, mae gennym ddigon o gapasiti, ac mae'n ymwneud â gwneud defnydd o'r capasiti hwnnw. Dyna pam roedd angen i'r adolygiad y gofynnais amdano edrych nid yn unig ar ba mor gyflym rydym yn cynyddu'r capasiti, ond y defnydd a wnawn ohono a'r system sydd gennym i sicrhau bod pobl yn cael profion ar ôl eu hatgyfeirio. Rwy'n cydnabod bod rhai heriau yn ein system, a dyna pam y bu rhai newidiadau ar unwaith i wella hynny. Rydym eisoes wedi gweld llawer mwy o weithgaredd mewn perthynas â'r bobl o'r sector gofal. Rydym eisoes wedi clywed gan lywodraeth leol; maent yn cyflwyno niferoedd llawer mwy o'u staff a phobl yn y sector annibynnol. Rydym yn fwriadol wedi tynnu Fforwm Gofal Cymru i mewn i'r gwaith a wnawn fel bod gan y rheini yn y sector annibynnol lwybr mwy eglur o lawer o ran sut y gallant gael eu staff wedi'u hatgyfeirio, a deall y newidiadau polisi a wnaed y cyfeiriais atynt yn fy natganiad, ac yn hollbwysig, fod fforymau lleol Cymru gydnerth, sy'n gorfod cyd-gysylltu'r ymateb brys ledled Cymru, a'r amrywiaeth o wasanaethau, hefyd yn deall sut y gallant atgyfeirio eu haelodau staff yn ogystal, er mwyn sicrhau bod y broses yn gydradd, yn gyson ac yn effeithiol. Felly, ein capasiti presennol yw'r hyn y defnyddir hynny ar ei gyfer, ac rwyf wedi cael sgwrs uniongyrchol gyda'r prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd, ac rwyf hefyd wedi siarad â'r prif swyddog meddygol bob dydd yn ogystal, ac maent yn hyderus.

Roedd un o'r pwyntiau a godwyd gennych yn ymwneud â pha gyngor a gawn. Bydd ein sefyllfa yn ateb yr angen sydd gennym yn y sector hwnnw o weithwyr. Ond y pwynt rwyf wedi'i wneud yn rheolaidd, a gwn ichi gyfeirio ato hefyd yn eich sylw ynglŷn â gwerth profion—rwyf wedi gwneud y pwynt yn rheolaidd fod angen inni gael seilwaith cymunedol llawer mwy ar waith ac yn barod i weithredu. Nid yw hynny'n golygu ein bod yn ei brofi am y tro cyntaf ar y diwrnod cyntaf ac yn ceisio rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau symud fesul cam, ond bod y capasiti'n cael ei gynyddu'n raddol, yn gynyddol, a'i fod ar waith cyn inni roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud. Dyna bwynt a wneuthum sawl gwaith dros yr wythnos ddiwethaf.

Ond y rheswm pam nad ydym yn gorfod profi 5,000 o bobl a mwy y dydd yw oherwydd y cadw pellter cymdeithasol a gyflwynwyd, oherwydd y mesurau a roddwyd ar waith i gyfyngu ar symud yn y wlad, oherwydd ymateb y cyhoedd, oherwydd ein bod wedi ymyrryd a gwastatáu'r gyfradd heintio bresennol mor llwyddiannus. Ond nid yw hynny'n golygu y gallwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud heddiw, a hynny am amryw o resymau y credaf fod yr Aelodau yma'n eu deall yn iawn. Dyna pam y gwneuthum y pwynt droeon, a byddaf yn parhau i'w wneud, ein bod angen y seilwaith mwy hwnnw'n barod ac ar waith cyn i'r profion fynd allan. Ac nid wyf yn meddwl bod anghysondeb yn hynny, oherwydd dyna'n union y bûm yn ei ddweud yn eithaf cyson pan ofynnwyd i mi am hyn dros yr wythnos ddiwethaf a mwy.

Ar y pwynt am y diweddariad wythnosol—yn y diweddariad wythnosol sy'n cael ei gyhoeddi ar fore Mawrth, yn y dyfodol ni fyddaf yn rhoi diweddariad ond yn hytrach, byddaf yn nodi ble rydym yn disgwyl ei gyrraedd dros yr wythnos nesaf. Daw hynny o'r cyngor a gawn gan ein system ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill ar sut rydym yn cynyddu ein capasiti yma, yr hyn y mae contractau'r DU yn ei ddarparu ar ein cyfer, i roi'r syniad o ble rydym yn mynd nesaf. Oherwydd nid tynnu ffigur o unman a wneuthum—roedd yn seiliedig ar y cyngor a gawsom. Ac yn yr adolygiad profion, nodais y rhesymau pam nad oeddem yn gallu cael y ffigur blaenorol hwnnw ar brofion: y newid mewn ymddygiad ar draws gweddill y byd; y trefniadau blaenorol a oedd gennym ar waith; y ffaith bod gwledydd eraill wedi rhwystro cyfarpar rhag gadael eu gwledydd, gan gynnwys adweithyddion cemegol a phecynnau profi ffisegol; a'r ffaith bod oedi wedi bod cyn cael rhywfaint o'r cyfarpar hwnnw. Mae'r rhain i gyd yn ffactorau real iawn sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. Felly, yn hytrach na gosod targed newydd pan na allaf reoli amryw o'r ffactorau hynny, na'n gweithredwyr ein hunain yma ychwaith yn y teulu iechyd yng Nghymru, rwyf wedi ymrwymo i roi diweddariad rheolaidd ar yr hyn rydym yn ei wneud a'r hyn rydym yn disgwyl ei wneud i gyrraedd y pwynt lle bydd gennym seilwaith llawer mwy o faint yn ei le.

Ar gyfarpar diogelu personol, darperir amserlen reolaidd i awdurdodau lleol ac o fewn ein system gofal iechyd, ar gyfer pryd y gallant ddisgwyl cyflenwadau. A bod yn deg, mae'r arweinyddiaeth yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cydnabod y bu gwelliant yn y ddealltwriaeth o'r hyn sy'n dod a'r ffordd y caiff ei gyflenwi. Fel y dywedais, mae dros 40 y cant o stoc pandemig ein gwasanaeth iechyd gwladol wedi cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i'w ddefnyddio yn y sector gofal, gan gynnwys gan y busnesau unigol a fyddai fel arfer yn dod o hyd i'w cyfarpar diogelu personol eu hunain, ond sydd bellach yn ei gael gennym am ddim, drwy'r gwasanaeth iechyd gwladol, ond mewn rhai rhannau o Loegr maent yn dal i dalu am y stoc honno er ei bod yn cael ei darparu drwy'r system gofal iechyd.

Ar yr adolygiad y mae'r fyddin wedi'i gynnal, mae wedi rhoi hyder i ni yn logisteg ein system gyflenwi. Mae wedi rhoi rhai awgrymiadau i ni ynglŷn â lle i wella, ac rydym yn edrych sawl gwaith yr wythnos ar yr hyn sy'n digwydd a'n gallu i gael y lefelau cywir o gyfarpar diogelu personol, a lle rydym yn credu bod yna broblemau posibl gyda'r cyflenwad. Rydym hefyd yn darparu cyfarwyddyd technegol i bobl sydd wir angen gwybod hyn yn y system, ar ochr yr undebau llafur a chyflogwyr, fel bod ganddynt hyder i roi gwybod i'w haelodau a'u gweithwyr beth sy'n digwydd mewn gwirionedd.

Ar gaffael, rydym yn parhau i weithio nid yn unig fel unigolion i fynd ar drywydd awgrymiadau a roddir i ni, ond rydym hefyd, fel y nodais, yn gweithio gyda Gogledd Iwerddon a'r Alban, yn ogystal â Lloegr, ac rydym hefyd wedi cytuno i ddod at ein gilydd ar sail pedair gwlad. Nid gwneud hynny drwy gyfarwyddyd a wnawn fel y cyfryw, ond yn hytrach, drwy gytundeb rhyngom i weithio ar fynd ar drywydd y cyfleoedd hynny.

O ran masgiau ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol—unwaith eto, rwyf wedi ateb llawer o gwestiynau ar hyn mewn nifer o fforymau dros yr wythnos ddiwethaf—mae'r sylfaen dystiolaeth yn cael ei hadolygu. Ar hyn o bryd, y cyngor a gawn yw nad oes angen i'r cyhoedd wisgo masgiau. Gwyddom fod nifer o bobl yn gwneud hynny'n barod. Mae gwisgo masgiau'n golygu diogelu pobl eraill fel nad ydych chi'n lledaenu coronafeirws i rywun arall, ac mae hynny'n fwyaf effeithiol i bobl a allai fod yn asymptomatig, ond mae'n werth atgoffa ein hunain y dylai pobl sy'n dangos symptomau ac sydd heb gael prawf fod yn hunanynysu. Yn bendant, dylai pobl sydd wedi cael prawf COVID positif fod yn hunanynysu.

Bydd angen inni ystyried effaith gofyn i'r cyhoedd wisgo masgiau a beth y mae hynny'n ei olygu, gan sicrhau nad yw'n peryglu'r cyflenwad o fasgiau o safon lawfeddygol, ond ein bod, yn yr un modd, yn deall beth yw'r sylfaen dystiolaeth. Os bydd y sylfaen dystiolaeth yn newid, byddaf yn hapus iawn i newid y safbwynt a'r cyngor a roddwn i'r cyhoedd. Nid ydym yn gwybod popeth am coronafeirws—rydym yn dysgu mwy bob dydd a phob wythnos. Mae'n rhan o'r rheswm pam y mae rhywfaint o'r cyngor wedi newid dros hynt y pandemig. Rwy'n disgwyl y byddwn yn gwneud pethau'n wahanol ar amryw o bethau yn ystod y misoedd i ddod o gymharu â'r lle rydym heddiw.  

Ar farwolaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID—eich pwynt olaf—yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, cododd prif weithredwr GIG Cymru y pwynt hwn yn ei gynhadledd i'r wasg. Rwyf wedi cyfeirio ato sawl gwaith yr wythnos hon, gan gynnwys yn y gynhadledd i'r wasg ddoe, ac rwyf eisoes wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd wneud gwaith i ddeall y marwolaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID, i ddeall faint y mae'r angen hwnnw'n cael ei lethu i bobl sydd ag anghenion gofal brys. Fel y crybwyllais yn fy natganiadau yn flaenorol, mae'r GIG ar agor i bobl ag anghenion gofal brys. Nid wyf eisiau i bobl fod mor ofnus fel nad ydynt yn troi at y gwasanaeth iechyd gwladol am driniaeth gan beryglu eu hiechyd a'u lles o bosibl. Weithiau mae hynny wedi arwain at farwolaethau y gellid eu hosgoi. Mae'n fater y llwyddais i'w drafod gyda phrif weithredwyr a chadeiryddion yn gynharach heddiw. Rwyf am roi mwy o bwyslais ar hynny yn ystod yr wythnos i ddod, oherwydd mae ymddygiad y cyhoedd yn rhan fawr o'r rheswm pam ein bod wedi cael llwyddiant yn atal lledaeniad coronafeirws, ond mae hefyd yn rhan o'r her rydych wedi tynnu sylw ati, ac rydym wedi siarad amdani o'r blaen, gyda marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID a sut rydym yn parhau i ailgychwyn rhannau eraill o'n gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol.  

15:10

Diolch am eich datganiad, Weinidog, ac am ymdrechion parhaus eich adran i helpu i frwydro yn erbyn y clefyd hwn—clefyd sydd wedi lladd bron 200,000 o bobl ym mhob rhan o'r byd. Mae pob un o'r rheini'n annwyl i rywun, ac mae fy nghalon yn gwaedu dros bawb sydd wedi dioddef colled dan law'r lladdwr anweledig hwn. Heb ymdrechion ein GIG, arwyr gofal cymdeithasol a gwirfoddolwyr, byddai llawer iawn mwy ohonom yn dioddef o'r golled honno.

Weinidog, yn ogystal â'n staff gofal cymdeithasol amser llawn, mae gan ofalwyr—cyflogedig a di-dâl—ran hanfodol i'w chwarae yn ystod yr argyfwng hwn. Yn anffodus, nid yw'r rhan hanfodol hon yn cael ei chydnabod bob amser. Mae un etholwr sydd wedi cysylltu â mi wedi dweud wrthyf eu bod yn aml yn cael eu gorfodi i gerdded chwe milltir adref ar ôl gofalu am rywun oherwydd bod trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i neilltuo ar gyfer gweithwyr allweddol. Er ei bod yn dangos dogfennau sy'n dweud ei bod yn ofalwr ac yn weithiwr allweddol, gwrthodwyd caniatâd iddi ar fwy nag un achlysur i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod gofalwyr yn weithwyr allweddol ac a wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog trafnidiaeth i sicrhau y caiff ein gofalwyr eu cydnabod yn briodol fel gweithwyr allweddol hanfodol, oherwydd heb eu hymdrechion byddai ein system iechyd a gofal yn cael ei llethu?

Weinidog, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio'r bathodyn CARE er mwyn ei gwneud hi'n bosibl i ymdrechion y rhai sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol gael eu cydnabod a'u gwobrwyo. Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau tebyg?

Rwy'n falch o weld bod ein cartrefi gofal yn cael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol, er bod prinder o hyd yn y system drwyddi draw. Rwy'n derbyn bod hon yn broblem fyd-eang. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i wella cynhyrchiant domestig a'i gwneud yn haws dod â chyflenwadau i mewn. Cysylltodd cwmnïau cludo nwyddau â mi i ddweud eu bod yn pryderu ynglŷn â lefel y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â chludo cyfarpar diogelu personol. Er fy mod yn derbyn bod yn rhaid cael archwiliadau i sicrhau effeithiolrwydd cyfarpar diogelu personol, does bosibl na allwn wneud mwy i symleiddio'r prosesau yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn.

Weinidog, rhaid inni hefyd sicrhau ei bod mor syml â phosibl i gwmnïau a sefydliadau weithgynhyrchu cyfarpar diogelu personol. Rwyf wedi cysylltu â gwneuthurwr gwisgoedd priodas yn lleol sy'n dymuno gwneud gwisgoedd a masgiau ar gyfer y GIG. Felly, Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i'w gwneud yn haws i gwmnïau o'r fath gyfrannu, ac a wnewch chi ystyried pa gamau y gallwch eu cymryd i symleiddio'r broses, megis darparu templedi, ac ati, yn enwedig ar gyfer masgiau wyneb?

Ceir tystiolaeth gref sy'n awgrymu, pan roddir y gorau i'r cyfyngiadau symud yn y pen draw, y bydd y cyhoedd ar adegau, wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er enghraifft, yn dal i wisgo masgiau wyneb i helpu i gyfyngu ar ledaeniad coronafeirws. Ond ni allwn wneud hynny oni bai bod cyflenwadau digonol o fasgiau wyneb ar gael. Felly, Weinidog, a oes gennych gynlluniau ar y gweill ar gyfer cynyddu'r cyflenwadau hyn?

Ac yn olaf, Weinidog, mae'n rhaid i ni gynllunio, yn amlwg, ar gyfer llacio'r cyfyngiadau presennol yn y pen draw, ac rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru yn recriwtio pobl i helpu gydag olrhain cysylltiadau ac wedi mabwysiadu'r ap olrhain symptomau. Fodd bynnag, nid oes gan bawb ffôn clyfar, felly pa gynlluniau sydd gennych i wella'r broses o olrhain symptomau ar gyfer y rhai sydd heb ffôn clyfar at eu defnydd?

Diolch ichi, unwaith eto, Weinidog, am eich ymdrechion parhaus.

15:15

Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Rydym wedi gweithio gyda datblygwyr ar yr ap ffôn clyfar ac mae'n rhoi llawer iawn o ddata i ni yng Nghymru i ddeall gweithgarwch ac ymddygiad cymunedol ehangach, ond nid yw'r un o'r systemau hynny'n berffaith ac mae yna bobl sydd ar eu colled—yn yr un modd, nid o ran symptomau'n unig, ond o ran y data rydym yn gallu ei olrhain am symudiadau traffig a symudiadau pobl yn ogystal i ddangos lefelau cydymffurfiaeth o ran cadw pellter cymdeithasol yn ehangach.  

Felly, mae gennym amrywiaeth o ymdrechion i gadw golwg, nid yn unig ar symptomau, ond ar y bobl sy'n rhoi gwybod amdanynt, a hefyd, wrth gwrs, nifer y bobl sy'n cysylltu â'n system gofal iechyd os yw eu symptomau'n peri digon o bryder iddynt a'u bod yn teimlo'n anhwylus.

Felly, mae yna amrywiaeth o feysydd gwahanol i ddeall yr heriau sy'n ein hwynebu ar draws systemau a sut rydym yn mynd i'r afael â symptomau wedyn, yn enwedig o ystyried y lleoliadau—dyna pam y bu cymaint o bryder am y sector cartrefi gofal.  

Ar fasgiau wyneb, credaf ei bod unwaith eto'n bwysig iawn ailadrodd nad ydym am i'r cyhoedd geisio caffael masgiau wyneb o safon meddygol sydd i'w defnyddio yn ein sector iechyd neu ofal cymdeithasol. Mae'n ymwneud â'r sylfaen dystiolaeth sydd gennym i ddeall a fyddai masgiau'n gwneud gwahaniaeth i'r cyhoedd, ac os felly, pa fath o fasg, a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynhyrchu mewn ffordd wahanol iawn a'i gwneud yn glir nad ydynt yn cystadlu â'r rhai y mae gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen eu hangen. Nawr, ar fewnforio cyfarpar diogelu personol, hyd yn oed os ydych yn rhoi'r materion hynny sydd wedi'u cadw yn ôl ac nad oes gennym reolaeth drostynt i'r naill ochr, rydym yn sicr am sicrhau ein bod yn profi ac yn deall natur y cyfarpar sy'n cael ei ddarparu. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un am i ni geisio gwneud y system honno'n llai trwyadl mewn unrhyw fodd. Rydym eisiau gwybod y gall pobl fod â hyder yn yr hyn a ddarperir iddynt. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr economi, drwy ddefnyddio'i gysylltiadau lleol, gyda mewnforio masgiau wyneb drwy gwmni yng ngogledd Cymru—bu'n rhaid inni brofi'r cyfarpar hwnnw cyn cael y sicrwydd y gallem ei ddefnyddio yn ein system ehangach. Rhaid mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Ond awn ar drywydd pob un o'r awgrymiadau a gaiff eu cyflwyno i ni ac mae'n bwysig gwneud hynny'n glir.

Un o'r rhwystredigaethau sydd gennyf yw nad yw pob un sydd ag awydd caredig i helpu yn cael cyfle i wneud hynny, am resymau rwy'n siŵr y gall pawb ohonom eu deall. Ond o'r holl bethau da a charedig a chadarnhaol sy'n cael eu gwneud, fy rhwystredigaeth fwy yw'r ffaith ein bod yn dal i orfod treulio amser yn gweithio drwy'r hyn sy'n ymholiadau twyllodrus cwbl ddrygionus, ac mae hynny'n creu teimlad gwirioneddol rwystredig. Mae cynifer o bobl yn y byd yn ymddwyn mewn ffordd eithriadol i helpu eu cyd-ddinasyddion, ond yn anffodus, mae rhai pobl yn ceisio manteisio, ac mae hynny'n mynd â llawer o'n hamser prin, ein hegni a'n hymdrech.

Ar fater cydnabod gofalwyr, bydd Gweinidog yr economi'n gwneud datganiad cyn bo hir, ond mae angen inni feddwl am gapasiti ymarferol ein rhwydwaith trafnidiaeth i ymgymryd â'r angen ychwanegol o ran hynny, ac mae'n gydbwysedd anodd. Rydym yn ystyried rôl gofalwyr yn rheolaidd, gan gynnwys gofalwyr di-dâl a'r hyn a wnânt, ac mae llawer ohonom, mewn gwirionedd, yn ofalwyr di-dâl ein hunain, pan feddyliwch am ffrindiau a theulu rydym yn gofalu amdanynt. Rwy'n sicr yn gwneud hyd yn oed mwy dros fy mam, fel y mae llawer o bobl eraill gyda'u rhieni a'u neiniau a'u teidiau hefyd, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig i gadw cymdeithas i fynd ac i wneud yn siŵr fod pobl sy'n byw bywydau mwy cyfyngedig yn gallu gwneud hynny'n dda ac yn ddiogel.

Ar fater y cerdyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i gynhyrchu—fy nealltwriaeth i yw mai cerdyn i weithwyr gofal cymdeithasol ydoedd. Rydym eisoes wedi darparu cerdyn yng Nghymru—un electronig, ac mae fersiwn ffisegol yn mynd allan—ond mae hynny er mwyn i'n gweithwyr gofal cymdeithasol allu cael eu hadnabod fel gweithwyr hanfodol. Bydd hynny'n eu helpu gyda chymorth i gyfyngiadau ymarferol mewn siopau, pan gânt eu neilltuo ar gyfer y GIG a gweithwyr hanfodol eraill, ac yn eu helpu i gael cymorth ymarferol. Rydym hefyd yn edrych ar fesurau ychydig yn fwy ymarferol yn ymwneud â sut rydym yn cydnabod ymdrechion sylweddol ein system gofal cymdeithasol, a grŵp o staff y mae pawb ohonom yn cydnabod eu bod ar gyflogau cymharol isel, ac rydym yn ailystyried, yn gwbl briodol, y gwerth y maent yn ei roi i'n gwlad drwyddi draw.

15:20

Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Hoffwn, yn gyntaf oll, ofyn i chi a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am nifer y meddygon a'r nyrsys a oedd wedi ymddeol yn flaenorol ac sydd wedi dychwelyd i'r GIG ac efallai unrhyw fyfyrwyr nyrsio a sut y gallant lenwi'r bylchau hynny.

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â'r cyhoeddiad ynghylch ymgynghoriadau fideo ar-lein gan feddygon teulu. A allwch gadarnhau eu bod ar gael ledled Cymru yn awr, ac a oes unrhyw gynlluniau i ymestyn y rheini i ofal eilaidd?

Ie, rwy'n hapus i gadarnhau, ynglŷn â staff sy'n dychwelyd i'r gwasanaeth iechyd, fod dros 10,000 o staff bellach wedi mynd yn ôl ar y gofrestr sydd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac mae oddeutu 5 y cant o'r rheini'n staff o Gymru. Mae'n newyddion dda iawn, oherwydd mae hynny ychydig yn fwy na'n cyfran o'r boblogaeth, ac mae'n dangos parodrwydd gwirioneddol gan staff sydd wedi ymddeol yn ddiweddar i fod eisiau dychwelyd. Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, fel y corff rheoleiddio sy'n cadw'r cofnodion, yn ysgrifennu at bobl sydd wedi ymddeol ers mwy o amser i weld a ydynt am ddychwelyd. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r bobl hynny mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'u sgiliau, ond hefyd i gydnabod y gall fod angen defnyddio rhai ohonynt i ffwrdd o ofal am bobl ar y rheng flaen hefyd, felly rydym yn gwneud defnydd o'u sgiliau heb beryglu eu diogelwch eu hunain.

Ac mae'r un darlun gyda meddygon sy'n dychwelyd hefyd. Mae gan nifer o bobl sydd wedi ymddeol eu cydafiacheddau eu hunain bellach lle mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn eu defnyddio mewn ffordd sy'n gwbl briodol. Byddaf yn gallu rhoi ffigurau dros yr wythnosau nesaf am nifer yr israddedigion sydd wedi derbyn y cynnig i ddychwelyd i'r gwaith a chael eu talu ar amodau'r 'Agenda ar gyfer Newid' a chefnogi'r rhwydwaith sydd gennym. Ac nid oes angen ymestyn hynny i'r graddau y credem y byddai'n rhaid ei wneud hyd yn oed fis yn ôl, oherwydd y ffaith amdani yw nad ydym wedi cael y cynnydd mwy sylweddol yn y nifer a heintiwyd gan y coronafeirws a gynlluniwyd gennym ac y bu'n rhaid paratoi ar eu cyfer. Felly, mae hynny'n newyddion dda—nad ydym wedi gorfod cael yr holl bobl hynny i weithio o fewn ein system. Ond fe fydd yn bwysig wrth inni symud nid yn unig at ailgychwyn rhannau o'n gwasanaeth iechyd gwladol, lle bydd angen inni ddefnyddio'r rhwydwaith hwnnw o ysbytai maes; bydd hefyd yn bwysig o ran ein gallu i ofalu am bobl sydd ag anghenion gofal brys. Ac os gwelwn gynnydd pellach yn y coronafeirws, bydd angen i ni allu galw ar y bobl hynny'n weddol gyflym, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y lefel o hyblygrwydd ac ymrwymiad a ddangoswyd gan yr holl bobl hynny.

O ran defnyddio fideo-gynadledda, rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gyflwyno hyn ledled y wlad. Cafwyd peilot yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Felly, cafodd hyn ei dreialu yng Ngwent yn gyntaf a dangoswyd ei fod yn llwyddiannus, ac rydym wedi llwyddo i'w gyflwyno'n llawer mwy cyflym nag y byddem wedi'i wneud fel arfer wrth gyflwyno cynllun yn genedlaethol. Rhan o fy rhwystredigaeth ar adegau arferol yw nad ydym yn gallu symud yn gyflymach ar draws y system. Mae gwir barodrwydd y staff i wneud i bethau ddigwydd ac i gael gwared ar rwystrau wedi bod yn un o'r agweddau gwirioneddol gadarnhaol ar ein hymateb. Mae hynny ar gael yn rhydd ac yn gynhwysfawr mewn gofal sylfaenol mewn ymarfer cyffredinol, ac rydym yn bwriadu ei gyflwyno ymhellach mewn gofal eilaidd hefyd, oherwydd mae gan rai meysydd o'r gwasanaeth hwnnw amrywiaeth o dechnoleg ddigidol a fideo-gynadledda eisoes. Rwyf am weld hynny'n rhan lawer mwy cyson o'r ffordd rydym yn rhedeg ein gwasanaeth. Mae'n angenrheidiol ar gyfer y sefyllfa rydym ynddi, ond wrth gwrs, mae'n fantais wirioneddol ac yn gyfle ar gyfer y dyfodol wrth i ni ddod i arfer â ffyrdd gwahanol o weithio sy'n gwneud gwell defnydd o amser pawb—y cleifion sydd angen gofal, a'n staff sy'n ei ddarparu.

15:25

Rwyf bellach wedi galw Aelodau o bob un o'r grwpiau gwleidyddol. Bydd angen cwestiynau ac atebion mwy cryno o hyn ymlaen i geisio galw cynifer ohonoch ag sy'n bosibl. Mae'r amser ar ben ar gyfer y datganiad hwn eisoes. Janet Finch-Saunders.

[Anghlywadwy.]—Lywydd. Ac unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, Vaughan, am eich datganiad a chydnabod yr ymdrech sylweddol rydych yn ceisio ei gwneud i ymateb yn gyflym i'r argyfwng COVID-19 sy'n esblygu'n barhaus. Nawr, ddoe, fe gyhoeddoch chi mai dim ond ychydig ddyddiau o stoc cyfarpar diogelu personol oedd ar gael yng Nghymru, ac fe fyddwch yn cofio imi ysgrifennu atoch ar 3 Ebrill, yn cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig Cynulliad yn gofyn i chi roi camau ar waith ar frys i sicrhau bod gan hosbisau oedolion a phlant fynediad at gyfarpar diogelu personol digonol. Nawr, er fy mod eto i gael ymateb, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad rydych wedi'i wneud ynglŷn â phecyn tri mis o gymorth ychwanegol sy'n werth hyd at £6.3 miliwn i hosbisau yng Nghymru, ond a allwch egluro pa gamau rydych hefyd wedi'u cymryd i'r perwyl hwnnw i sicrhau, gan fod y cyllid yn ei le bellach, y gallant gael y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnynt?

Rwy'n sylweddoli bod mwy na £62.2 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol ychwanegol wedi'u hanfon at weithwyr rheng flaen, ond ni allaf ddiystyru canfyddiadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol fod 54 y cant o'r rhai a holwyd yn teimlo o dan bwysau i ofalu am glaf COVID-19 heb gyfarpar diogelu digonol a bod 49 y cant o'r staff nyrsio sy'n trin cleifion COVID-19 nad ydynt ar beiriant anadlu yn dweud nad oeddent wedi cael hyfforddiant ar ba gyfarpar diogelu personol safonol i'w wisgo a phryd y dylent ei wisgo. A chafodd y pryder hwnnw ei ddwyn i fy sylw yn y sector gofal cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cysylltu â chynllunwyr milwrol ynghylch y galw am gyfarpar diogelu personol, ac yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu gyda'r gwaith o'i ddosbarthu'n effeithiol, ond a wnewch chi egluro pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddosbarthu'n deg ar draws rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod rhai cwmnïau wedi ysgrifennu atoch ac er gwaethaf yr hyn a ddywedoch chi am bobl yn ysgrifennu'n dwyllodrus atoch, mae pobl yn cynnig cyflenwadau, ac maent wedi gorfod dod ataf fi am eu bod yn dweud nad ydynt wedi cael ymateb gennych chi hyd yn oed—felly, 'na' bach syml, efallai. Ond nid yw gadael pobl mewn limbo pan fyddant yn darllen adroddiadau newyddion yn dweud bod yna banig ynghylch cyfarpar diogelu personol a phan fyddant yn trafferthu ysgrifennu atoch chi a'r Gweinidog cyllid—nid yw peidio ag ymateb yn ddigon da.

Nawr, yn anffodus, yn y ffigurau ar gyfer ddoe, amcangyfrifwyd bod 100 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi marw o COVID-19 yn y DU. Felly, unwaith eto, hoffwn ailadrodd—rwy'n credu mai Leanne Wood a ofynnodd am deuluoedd y rhai a fu farw yma yng Nghymru—a fydd grantiau ar gael i'r rhai sydd wedi colli eu bywydau i'r ymdrech fyd-eang, o ran angladdau a phethau.

Yr hyn sy'n peri mwy o bryder i mi, a dyma yw byrdwn pob un o fy nghwestiynau, yw fy mod wedi cael llawer o bryderon gan y sector gofal cymdeithasol yma ynglŷn â'r methiant i gynnal profion ar bobl sy'n gadael yr ysbyty, a'r modd y gofynnir i gartrefi gofal cymdeithasol gymryd y bobl hyn. Mae gennyf sefyllfaoedd yn awr lle nad yw rhai darparwyr gofal cymdeithasol yn barod i wneud hynny oherwydd y methiant i gynnal profion, oherwydd yn amlwg, os oes ganddynt amgylchedd sy'n rhydd o COVID mewn cartref gofal preswyl neu leoliad nyrsio, dyna sut y maent am ei gadw. Ond hoffwn ofyn: sut y mae'r marwolaethau hyn yn cael eu cofnodi? Pan fyddwch chi'n ysgrifennu at awdurdodau lleol maent yn dweud, 'Nid ydym yn eu cofnodi. Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n eu cofnodi.' Rydych chi'n ysgrifennu at Arolygiaeth Gofal Cymru ac maent hwy'n dweud, 'Nid ydym yn eu cofnodi.' Felly, hoffwn i chi egluro oherwydd mae nifer y marwolaethau yn y sector gofal cymdeithasol ar draws y DU wedi cynyddu bedair gwaith, ac mae'n bryder enfawr i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, ac mae'n bryder i mi fel cynrychiolydd y bobl hynny a fy etholwyr. Caf fy holi'n aml iawn am faterion gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.

Felly, rwy'n credu fy mod wedi gofyn digon o gwestiynau i chi, ond hoffwn gael eich atebion cynhwysfawr i'r rheini, atebion a fydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i mi. Diolch.

15:30

I ailadrodd y pwynt a wneuthum, gofynnais am gwestiynau cryno ac atebion cryno, felly bydd angen imi ofyn i'r Gweinidog fod yn gryno yn ei atebion hefyd, a byddwn yn gwerthfawrogi pe bai'r Aelodau'n gwrando ar yr hyn a ddywedaf pan ofynnaf am gwestiynau cryno. Weinidog.

Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n credu bod wyth pwynt gwahanol wedi'u gwneud. Nodais fod gennym tua wythnos o wisgoedd atal hylif, rydym yn disgwyl cael mwy yr wythnos hon, ond roeddwn yn ceisio bod yn agored gyda phobl am y sefyllfa, a'r staff a'r cyhoedd yn wir.

Ar ofal hosbis, cyhoeddais arian ychwanegol ar gyfer y sector hosbisau. Mae angen dilyn y canllawiau ar gyfer cyfarpar diogelu personol yn y sector hwnnw hefyd, ac fel y dywedais, mae'r offer, y cyfarpar diogelu personol rydym yn ei ddarparu i'w ddefnyddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn amlwg yn cael ei ddefnyddio'n briodol a lle bo angen mewn hosbisau.

Ar arolwg y Coleg Nyrsio Brenhinol, y pwynt allweddol yw fy mod yn disgwyl i bobl godi'r materion hynny gyda chyflogwyr. Rydym yn cael cyfarfodydd partneriaeth gymdeithasol helaeth yma yng Nghymru, a dull gweithredu drws agored fwy neu lai. Mewn gwirionedd, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac undebau llafur eraill eu hunain yn cymryd rhan mewn cyfarfod wythnosol gyda mi fel y gallant ddwyn materion i fy sylw yn uniongyrchol. Mae'n bwysig fod y materion unigol hynny'n cael eu trafod gyda chyflogwyr yn gyntaf, ac rwy'n disgwyl i'r rheini gael eu datrys.

Rwy'n hapus i gadarnhau bod y dosbarthiad yn deg ar draws y wlad. Nid oes unrhyw ranbarth yn cael mantais neu anfantais yn y ffordd rydym yn diwallu'r angen ar draws y wlad, ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac os oes gan bobl enghreifftiau o bryderon lle mae cwmnïau'n dweud nad ydynt wedi cael ymateb, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Aelodau roi'r manylion i mi allu mynd ar eu trywydd.

O ran profi preswylwyr sydd ar fin dychwelyd i'r sector cartrefi gofal o'r ysbyty, mae hwnnw'n fater rwyf wedi'i drafod yn yr adolygiad profion ac rwy'n siŵr y byddwch wedi fy nghlywed yn ei gynnwys yn fy natganiad heddiw.

O ran cofnodi marwolaethau yn y gymuned, gan gynnwys yn y sector cartrefi gofal, mae gennym eisoes adroddiad rheolaidd drwy'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y marwolaethau hynny a ble maent yn digwydd. Mae oedi rhwng y rheini, oherwydd mae angen iddynt adolygu pob tystysgrif farwolaeth, rhwng saith ac 14 diwrnod o'r prif ffigurau sy'n cael eu rhyddhau bob dydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, ceir cofnod eithaf clir a thryloyw o bob marwolaeth ar draws pob sector.

Mae'n fethiant anfaddeuol, Weinidog, nad ydych wedi cynnal y 5,000 o brofion y dydd a addawyd gennych yng Nghymru. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori fod y gwledydd sy'n ymdopi orau â'r pandemig hwn yn cynnal profion torfol, yn olrhain ac yn gosod cwarantin. Rhaid cynnal profion wythnosol fan lleiaf ar yr holl weithwyr allweddol, p'un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat, a hyd nes y cawn hynny, ni allwn lacio'r cyfyngiadau. Rwyf am ofyn a fyddech yn derbyn y pwynt hwnnw. Rydych chi wedi dweud eich bod yn gweithio tuag at gynnal profion torfol, ond ni ddywedoch chi mewn ymateb i gwestiynau gan fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth p'un a ydych yn derbyn y pwynt hwnnw—na allwn lacio'r cyfyngiadau os na chynhaliwn brofion ar raddfa fawr.

Rwyf wedi clywed adroddiadau sy'n peri pryder o gartrefi gofal hefyd, lle mae cyflenwad o gyfarpar diogelu personol ar gael, ond mae'r rheolwr yn ei gadw dan glo oherwydd ei fod yn cael ei ddogni. Y polisi yw ei ddefnyddio pan fydd preswylwyr neu eraill yn dangos symptomau, ond gwyddom i gyd ei bod yn ddigon posibl fod y feirws eisoes wedi'i drosglwyddo erbyn i'r symptomau ymddangos. Felly, a wnewch chi gyhoeddi canllawiau ar frys i wella'r mesurau diogelu y dylai cartrefi gofal a lleoliadau caeedig eraill eu dilyn? Rwy'n gwybod bod cyfarpar diogelu personol yn adnodd gwerthfawr, ond nid yw'n dderbyniol disgwyl i weithwyr ar gyflogau isel a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt gael eu rhoi mewn perygl fel sy'n digwydd o dan y polisi presennol, yn fy marn i.

15:35

O'r gorau. Ar y man cychwyn, nid wyf yn derbyn y rhagosodiad fod methiant anfaddeuol i beidio â darparu mwy o brofion. Rwyf wedi egluro ar sawl achlysur y rhesymau pam nad oeddem yn gallu gwneud hynny, y ffactorau a oedd y tu hwnt i'n rheolaeth a beth y mae hynny'n ei olygu, a'r cyngor uniongyrchol a gawsom gan ein prif swyddog meddygol a'n prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd ar sut i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau profi, a'r ffaith bod gennym ddigon o gapasiti profi ar gyfer ein gweithwyr rheng flaen. Rwyf hefyd wedi bod yn hollol glir, nid yn unig heddiw ond ar sawl achlysur yn y gorffennol, am y ffaith bod cynnal profion ar raddfa fawr yn rhagofyniad cyn gallu rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau. Nid oedd angen gofyn cwestiwn i mi ar hynny, rwyf wedi gwneud hynny'n glir mewn nifer o ddatganiadau cyhoeddus.

Nid wyf yn derbyn y rhagosodiad ein bod ni angen profion wythnosol ar weithwyr hanfodol. Nid ydym yn cynnal profion er mwyn cynnal profion, rydym yn profi mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr ac sy'n unol â'r cynllun a gymeradwywyd gennym. Ac mewn gwirionedd, nid yw'n ddull annhebyg i ddull y pedair Llywodraeth ledled y DU o weithredu, o ran sut rydym am ddefnyddio ein hadnoddau a'r rhesymeg sy'n sail i hynny.

Ar gyfarpar diogelu personol, rwyf am ailddatgan ein bod yn dilyn y canllawiau. Cawsom adolygiad o'r canllawiau ledled y DU; mae'r pedair gwlad yn ceisio dilyn y canllawiau hynny ac yng Nghymru, nid ydym wedi gorfod gwyro oddi wrthynt. A dyna'r pwynt ynglŷn â gwneud yn siŵr nad ydym yn peri i bobl heidio i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol am ein bod yn ymateb i'r ofnau mawr sydd gan bobl, ond ein bod yn rhoi hyder fod y canllawiau'n briodol ac yn cael eu dilyn, ac mae hynny'n tanlinellu pam mai darparu swm digonol o gyfarpar diogelu personol yw'r brif flaenoriaeth i mi ac i'r Llywodraeth ar hyn o bryd.  

Diolch, Lywydd. Gallaf bob amser fod yn gryno, fel y gwyddoch. 

Tri maes. Cyfarpar diogelu personol: byddaf am dynnu sylw at gyfarpar diogelu personol oherwydd, unwaith eto, rwy'n clywed pryderon gan ddarparwyr cartrefi gofal a hefyd gan ddarparwyr gofal yn y cartref ynglŷn â chyfarpar diogelu personol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn sicrhau bod ganddynt lefelau digonol, ac rwyf o'r farn y gall Iechyd Cyhoeddus Cymru gryfhau'r canllawiau, oherwydd os ydych dan gyfyngiadau symud, mae cartref gofal yn debygol o weld heintiau oherwydd bod aelod o staff asymptomatig yn dod i mewn gyda'r feirws ac yn ei drosglwyddo, felly dylent ddefnyddio cyfarpar diogelu personol ar bob adeg, nid yn unig pan fydd achos yn digwydd yn y cartref hwnnw. Felly, efallai y gallech gryfhau cyngor ac arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â hynny.  

Mewn cartrefi gofal hefyd—. Rwy'n gwerthfawrogi'r wefan sydd ar y gweill, a fydd yn gwneud pethau'n haws, ond a allwch chi hefyd ystyried sicrhau ei bod yn haws yn awr i ddarparwyr cartrefi gofal gael atgyfeiriadau drwy ofyn i'r cyngor ei wneud yn uniongyrchol, yn hytrach na gorfod mynd drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n peri mwy o bryder i rai o'r darparwyr cartrefi gofal pan fo aelodau o staff yn dangos symptomau a'u bod eisiau iddynt gael prawf? Gallai atgyfeirio uniongyrchol at y cyngor fod o gymorth yn hynny o beth.  

Yn olaf, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn yr hyn a ddywedoch chi wrth Rhun ap Iorwerth ynglŷn â'ch trafodaethau gyda byrddau iechyd ynghylch y paratoadau i gyflwyno triniaethau eraill sy'n ymwneud â'r ddarpariaeth ar gyfer materion nad ydynt yn rhai COVID, ond rwyf hefyd wedi cael gwybodaeth fod atgyfeiriadau canser gan feddygon teulu mewn rhannau eraill o'r DU, mewn rhai ardaloedd, wedi gostwng 75 y cant. A ydym yn ymwybodol o ba newid a fu yn y ganran o atgyfeiriadau canser—atgyfeiriadau canser brys—gan feddygon teulu, ac a wnewch chi ymchwilio i'r mater? Oherwydd efallai nad yw cleifion yn dymuno mynd at feddygon teulu yn awr, neu efallai mai'r rheswm yw bod meddygon teulu'n cael cyngor fod angen bodloni rhai mathau o amodau a'u bod felly'n petruso rhag atgyfeirio. Mae angen inni sicrhau nad yw'r rhai sydd ag anghenion brys o'r fath yn wynebu oedi oherwydd ofn gorlwytho'r system iechyd ar hyn o bryd.  

Diolch am y cwestiynau. Hoffwn ailadrodd y pwynt, ar gyfarpar diogelu personol, ynglŷn â'r angen i ddilyn y canllawiau. Y peth olaf y mae angen inni ei wneud yw annog pobl i ddefnyddio llawer iawn o gyfarpar diogelu personol oddi allan i'r canllawiau, oherwydd er y gallai hynny roi mwy o hyder i rai pobl nad oes ei angen arnynt, bydd yn mynd â chyflenwad oddi wrth ein staff rheng flaen sydd ei angen yn ddybryd. Mae angen sicrhau bod pob un o'n lleoliadau rheng flaen, gan gynnwys gofal preswyl a gofal cartref, lle mae angen iddynt ddefnyddio cyfarpar diogelu personol, yn ei gael. Dyna pam ein bod wedi cymryd y cam eithriadol o ddefnyddio ein hadnoddau cyhoeddus i ddarparu cyfarpar diogelu personol i fusnesau annibynnol. Ni fyddem yn gwneud hynny fel arfer. Ar adeg arferol, pe baem yn darparu cyfarpar diogelu am ddim i'r rheini, byddai gan bobl set hollol wahanol o gwestiynau, ond mae'n dangos y bygythiad unwaith mewn canrif hwn sy'n ein hwynebu a'r ffordd rydym yn ymateb.  

Ar y broses atgyfeirio, rwy'n hapus i adrodd bod hynny eisoes wedi gwella. Ac fel y dywedais, clywsom yn uniongyrchol gan lywodraeth leol fod nifer lawer mwy o atgyfeiriadau'n cael eu gwneud ar gyfer gweithwyr yn y sector gofal. Mae'n bwysig i mi nad pobl a gyflogir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol yn unig yw'r rheini, ond pobl yn y sector annibynnol, fel y mae Dai Rees yn pwysleisio. Felly mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn cael atgyfeiriadau cyflymach, boed hynny drwy'r awdurdod lleol neu'n uniongyrchol, i wneud yn siŵr eu bod yn cael y prawf yn brydlon. Unwaith eto, dylai'r ffigurau rydym wedi'u cyhoeddi heddiw roi rhywfaint o hyder fod y canlyniadau hynny'n cael eu darparu'n gyflym wedyn.    

Ar y pwynt penodol am atgyfeiriadau canser, rwy'n cydnabod diddordeb hirsefydlog Dai Rees yng ngwaith y wlad ar wella canlyniadau canser, ac mae'n un o'r pethau rwy'n poeni amdano i wneud yn siŵr nad yw atgyfeiriadau brys lle mae angen gofal brys yn cael eu gwthio i'r naill ochr. Mae hynny eisoes yn un o'r pethau rwyf wedi gofyn i'r gwasanaeth ymchwilio iddo yn rhan o fy awydd i ddeall y darlun yn gywir, ac yna nid yn unig i gyflwyno'r darlun hwnnw ond i wneud rhywbeth am y peth; annog pobl i gamu ymlaen i allu rhoi sylw i'w hangen gofal iechyd real iawn oherwydd, fel y gwyddom, mae atgyfeirio hwyr, adnabod canser yn hwyr yn aml yn arwain at driniaeth lawer mwy radical ac yn peryglu'r rhagolygon gorau i bobl allu cael canlyniad da. Felly, maent yn bendant yn bwyntiau rwyf am fynd ar eu trywydd, a byddwch yn clywed mwy gennyf dros yr wythnosau nesaf am y gwaith a wneir ar hynny, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb cwestiwn Dai.  

15:40

Credaf mai'r realiti, Weinidog, yw bod llawer gormod o bobl ar y rheng flaen heb gyfarpar diogelu personol. Unwaith eto, mae'r hyn rwy'n ei glywed y prynhawn yma bron â bod yn gwadu realiti'r sefyllfa. Felly, mae fy nghwestiwn yn un syml iawn: beth a wnaethoch i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei archebu ym mis Ionawr a mis Chwefror, a faint o gyfarpar diogelu personol a gafodd ei archebu ar gyfer GIG Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw?

Fel y bydd Mr McEvoy yn deall, nid oes gennyf y ffigurau penodol hynny wrth law, ond gallaf gadarnhau'n bendant na fu unrhyw laesu dwylo na gwadu maint yr her sy'n ein hwynebu, a phe bai ond wedi gwrando ar y datganiad a'r cwestiynau rwyf wedi'u hateb yn gyhoeddus ar amryw o achlysuron, rydym wedi dosbarthu miliynau o eitemau ychwanegol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r 16.2 miliwn o eitemau sydd eisoes wedi'u dosbarthu o'n stociau pandemig yn fewnlif ychwanegol enfawr o gyfarpar diogelu personol ar draws ein system, ac mae'r gwaith yn ddiflino gan ein staff a phobl yn y sector y tu allan i'r Llywodraeth. Ac rwyf am dalu teyrnged iddynt am yr ymdrechion eithriadol y maent yn eu gwneud i sicrhau bod ein staff rheng flaen yn cael eu harfogi'n briodol â chyfarpar diogelu personol mewn sefyllfa fyd-eang na welwyd erioed mo'i thebyg o'r blaen.

Diolch, Weinidog, am yr holl waith rydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud ar yr adeg hon. Yn dilyn buddsoddiad Llywodraeth Cymru, roedd Ysbyty Athrofaol Grange i fod i agor yn rhannol ddiwedd mis Ebrill. Er y bydd y 350 o welyau ychwanegol yn barod ac ar gael yn ôl y bwriad, yn ystod y diwrnodau diwethaf mae wedi bod yn braf iawn cael gwybod ei bod yn annhebygol y bydd angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddefnyddio'r capasiti ychwanegol. Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud y byddant yn adolygu'r sefyllfa'n gyson rhag ofn y bydd y dystiolaeth yn newid, a rhaid inni beidio â llaesu dwylo. Mae'r bwrdd iechyd, eu staff ymroddedig a'r gymuned wedi bod ar y pen blaen ers dechrau mis Mawrth, a gwn y bydd y staff ychwanegol a gaiff eu recriwtio'n cael eu defnyddio i gefnogi'r gwasanaethau presennol. A all y Gweinidog fy sicrhau y caiff y profiadau a ddysgwyd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan eu rhannu ag eraill, a hefyd beth arall y gellir ei wneud i annog aelodau o'r cyhoedd, os ydynt yn cael trawiad ar y galon neu strôc, er enghraifft, i ffonio 999 gan fod gwelyau critigol ar gael?

Ie, diolch. Rwy'n credu bod un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn eu gwneud yn gyflym mewn ymateb, sef ei bod yn newydd da nad oes angen i Aneurin Bevan ddefnyddio'r capasiti sydd ar gael yn y Grange yn awr. Mae hynny'n dangos effaith ein mesurau cadw pellter cymdeithasol, ond y neges bwysig am beidio â bod yn hunanfodlon am yr hyn rydym yn ei wneud yn awr fel nad yw pobl yn sydyn yn afradu'r enillion a gawsom. Ond mae ar gael i'w ddefnyddio yn y dyfodol oherwydd ein bod yn disgwyl, wrth i ni ryddhau mesurau cadw pellter cymdeithasol, y gallai fod mwy o angen yn dod i mewn i'n system, ac mae'r pwynt wedi'i wneud yn dda am atal yr angen. I'r bobl sy'n osgoi dod i mewn i'n system oherwydd eu bod yn pryderu ynglŷn â dod i amgylchedd ysbyty yn awr, er bod ganddynt anghenion gofal brys eu hunain, rwyf am ailadrodd y neges honno eto: os oes gennych angen gofal brys, mae'r GIG yn dal ar agor fel arfer; rydym am i chi roi gwybod am eich angen gofal brys. Mewn rhai achosion, mae'n wir y gall wneud y gwahaniaeth rhwng achub bywyd rhywun neu beidio.

Ac mae'n bwysig gwneud y pwynt am ddysgu o'r hyn sy'n cael ei wneud, ac rwy'n meddwl yn bendant ar draws y system ein bod yn ceisio dysgu o'r ehangu a'r ffordd y mae Aneurin Bevan wedi ymdopi. Rwy'n credu mai dyma'r adeg anghywir yn awr i gael ymchwiliad cyhoeddus llawn; byddai hynny'n tynnu sylw mewn modd hynod o ddiangen. Mae angen i ni ddysgu wrth i ni symud, dysgu wrth i ni wneud hynny, ac wrth gwrs daw amser pan fydd angen edrych yn ôl yn llawnach o lawer ar yr hyn sydd wedi'i wneud a pham. Rwy'n siŵr y bydd y Senedd hon am chwarae ei rhan yn penderfynu sut i wneud hynny.

15:45

Yn gyntaf, hoffwn ddweud bod hwn wedi'i wneud i mi gan ddau geisiwr lloches. Mae'n amlwg nad yw'n addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, ond mae wedi'i wneud yn wych, a dyma'r math o beth y gallem gael ein myfyrwyr dylunio a thechnoleg i'w wneud, er enghraifft. Felly, efallai y gallech drosglwyddo'r syniad hwnnw i'r Gweinidog addysg.  

Dau gwestiwn: mae un yn ymwneud â chyfarpar diogelu personol. Mae'n amlwg fod brwydr geisiadau fyd-eang yn mynd rhagddi, ac mae cartrefi gofal yn rhy fach ac yn rhy brysur o lawer i gymryd rhan ynddi. Felly, rôl i lywodraeth, llywodraeth leol a chenedlaethol, yw sicrhau bod gennym y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnom. Rwy'n meddwl na ddylem fod yn saethu'r negesydd pan fydd Syr Martin Evans yn dweud ei bod yn rhyfeddol nad yw gwlad ddatblygedig, ddiwydiannol fel ni'n gallu cyrchu cyfarpar diogelu personol yn ein gwlad ein hunain. Ac nid wyf yn golygu bod angen i ni gynhyrchu pob eitem o gyfarpar diogelu personol yng Nghymru; rwy'n golygu, ar draws y DU, y dylem allu bod yn hunangynhaliol mewn cyfarpar diogelu personol. A chan fod y pandemig coronafeirws hwn yn mynd i barhau am fisoedd lawer, mae gwir angen inni gynyddu ein gallu i'w gynhyrchu drosom ein hunain, neu fel arall nid oes unrhyw obaith i wledydd sy'n datblygu. Roeddwn eisiau gofyn cwestiwn am hynny, sef pa ystyriaeth a roddwyd, os o gwbl, i'w gwneud yn ddiogel i ailddefnyddio rhai eitemau o gyfarpar diogelu personol, oherwydd dyna sy'n digwydd beth bynnag gan bobl ar y rheng flaen sy'n methu cael eitemau penodol pan fydd eu hangen arnynt. Felly, a oes unrhyw dystiolaeth y gellid ailddefnyddio rhywfaint ohono yn hytrach na'i waredu yn syth ar ôl ei ddefnyddio?

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â phrofion, oherwydd rydych chi'n dweud eich bod yn hyderus fod yr holl bobl iawn wedi cael profion. Wel, mae rhai o fy etholwyr sy'n weithwyr gofal wedi cael anhawster mawr i gael prawf, a hynny'n unig am nad oes ganddynt gar. Ni allwch fynd i Stadiwm Dinas Caerdydd neu gyfleusterau profi drwy ffenest y car eraill os nad oes gennych gar, ac nid yw eu rhoi mewn tacsi yn cyd-fynd â'r canllawiau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer rhywun yr amheuir bod COVID-19 arnynt. Ond drwy beidio â darparu'r profion hyn, rydym yn cadw unigolion sydd heb COVID rhag dychwelyd i'w gwaith, ac rydym yn gorfodi eu teuluoedd i hunanynysu. Ac felly, yn ogystal â chynnal profion yn y cartref—a hoffwn gael ychydig mwy o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer cynnal profion yn y cartref—tybed a allech ddweud wrthym pa bosibilrwydd sydd yna o gynnal profion symudol gan brofwyr sy'n mynd i'r cartrefi gofal, a'r carchar, a mannau eraill lle gwyddom fod angen profi pobl er mwyn gallu gwneud gwaith cartrefi gofal yn haws.  

Diolch am y set olaf honno o gwestiynau. Ar gyfarpar diogelu personol, rwyf am ailadrodd ein bod yn mynd ar drywydd pob awgrym ac yn gweithio'n adeiladol gyda gwledydd eraill y DU, am mai dyna'r peth cyfrifol i'w wneud. Ac ar adegau arferol, fe fyddem yn ymwneud â gwleidyddiaeth yn ôl yr arfer. Rwy'n credu ei bod yn bryd rhoi popeth felly o'r neilltu yn bendant er mwyn sicrhau'r cyfarpar cywir ar gyfer ein staff. Ac nid yw'n fater o saethu'r negesydd o ran yr hyn a ddywedodd Martin Evans. Nid yw Prifysgol Caerdydd o'r farn fod ei safbwynt yn un sy'n berthnasol i waith a natur ein partneriaeth â'r brifysgol honno. Mae'n wir, fodd bynnag, fod y cadwyni cyflenwi byd-eang y daethom i arfer â'u cael yn darparu ar ein cyfer, wedi cael eu tarfu'n sylweddol mewn modd na ellid ei ragweld hyd yn oed yn y gorffennol agos. Dyna pam y mae cymaint o weithgynhyrchwyr Cymru wedi ymateb i'r alwad i newid y ffordd y maent yn cyflenwi nwyddau er mwyn cynhyrchu cyfarpar diogelu personol a nwyddau y gwyddom ein bod eu hangen. Ac wrth gwrs, o ran edrych yn ôl a dysgu gwersi, mae angen i ni edrych ymlaen er mwyn deall pa gadwyni cyflenwi lleol sydd gennym i ddarparu mwy o allu i gyflenwi cyfarpar diogelu personol ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hwnnw'n bwynt sy'n cael ei ddeall yn dda o fewn y Llywodraeth a thu hwnt.

Mewn perthynas ag ailddefnyddio cyfarpar diogelu personol, mae'n bosibl y gall rhywfaint o gyfarpar diogelu personol gael ei ddefnyddio, er enghraifft, mewn deintyddiaeth fel rhan reolaidd o wneud defnydd o rai o'r amddiffynwyr llygaid y maent yn eu gwisgo. Ond nid dewis na phroses a arweinir yn wleidyddol yw hynny; mae'n rhaid i hynny ddigwydd ar sail tystiolaeth o'r hyn sy'n ddiogel, oherwydd os byddaf yn penderfynu dweud yn awr y dylem fod yn ailddefnyddio rhai mathau o gyfarpar diogelu personol, ni fydd hynny'n rhoi'r lefel o hyder y mae staff ei heisiau, yn ddigon dealladwy, neu'r cyhoedd yn wir. Mae'r rhain yn sgyrsiau proffesiynol penodol sy'n mynd rhagddynt ar y potensial i ailddefnyddio mwy ar gyfarpar diogelu personol.  

Ac o ran profi, nid cyfleusterau profi trwy ffenest y car yn unig sydd gennym, fel y gwyddoch. Felly, er enghraifft, rydym yn credu ein bod yn agosáu at allu profi yn y cartref. Fe fyddwch wedi clywed peth o'r cyhoeddusrwydd yr wythnos hon ynghylch pecynnau profi yn y cartref sy'n cael eu datblygu yma yng Nghymru. Ac mae hynny'n sicr yn rhan o'n cynllun, i fod eisiau gallu manteisio ar y rheini—profion yn y pwynt gofal—fel nad oes rhaid i ni aros yn hir i symud o atgyfeiriad i brawf i ganlyniad. Ond hefyd, mae gwasanaethau profi cymunedol sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru yn cynnwys pobl sy'n mynd i weithleoedd pobl eraill neu'n wir, i'w cartrefi. Mae hynny eisoes yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae hynny'n rhan o'r seilwaith sydd gennym yn barod, ac rydym yn edrych ar geisio ehangu hynny eto i'r dyfodol.

15:50
4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar yr ymateb i goronafeirws. A chyn galw ar y Gweinidog, gaf i gadarnhau y bydd y Dirprwy Lywydd yn cymryd y Gadair ar gyfer y datganiad yma? Felly, dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. Nage, nid Vaughan Gething, Ken Skates. [Torri ar draws.]

Rwy'n credu bod angen i Vaughan Gething ddiffodd ei feicroffon. Mae angen i Vaughan Gething ddiffodd ei feicroffon.

A gawn ni ofyn i Aelodau, yn enwedig y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol—? Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd.

Mae'n iawn. Rwy'n galw ar Weinidog yr economi i wneud ei ddatganiad—Ken Skates. A gaf fi oedi am eiliad? A gawn ni gadarnhad fod y meicroffon ar gyfer y Gweinidog ymlaen yn awr, a bod modd ei glywed? [Torri ar draws.] Fe gymerwn seibiant technegol am funud, tra byddwn yn ailddechrau meicroffon y Gweinidog—meicroffon Ken Skates.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:52.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 15:53, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Iawn, rydym yn ailddechrau'r sesiwn, a galwaf yn awr ar Weinidog yr economi i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Aelodau ar draws y Siambr am y trafodaethau cadarnhaol a gefais gyda chyd-Aelodau o bob plaid yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae rhai syniadau adeiladol iawn wedi codi o'r trafodaethau hynny, ac rydym wedi defnyddio llawer ohonynt i lunio'r cymorth rydym bellach yn ei roi i fusnesau ledled Cymru, ac i unigolion hefyd. Felly, rwyf am i'r Aelodau wybod pa mor ddiolchgar ydwyf am y cyngor a'r cyfarwyddyd hwnnw.

Nawr, nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â maint yr her economaidd sydd o'n blaenau. Mae senario cyfeirio'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dynodi y bydd cynnyrch domestig gros y DU yn gostwng 35 y cant yn ystod ail chwarter y flwyddyn hon. Felly nid oes modd osgoi dirwasgiad, ond os ydym am osgoi dirwasgiad mawr, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraethau ledled y DU yn gwneud popeth yn eu gallu i roi cysgod i fusnesau drwy'r storm, a diogelu gweithwyr rhag bygythiad gwirioneddol o golli swyddi.

Nawr, fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y gwaith hwnnw. Dyna pam ein bod wedi ailedrych ar ein cyllidebau ac wedi gwneud penderfyniadau anodd ar draws y Llywodraeth i sefydlu cronfa cadernid economaidd newydd gwerth £0.5 biliwn. Mae ein cronfa yn darparu cymorth ariannol sylweddol sy'n ychwanegol at yr hyn a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Mae'n cynnig cymorth hanfodol i fusnesau, yn enwedig y cwmnïau bach a chanolig eu maint sydd mor hanfodol i economi Cymru, ac nid yw hynny ar gael i gwmnïau yn Lloegr. Rydym wedi gwneud hyn oherwydd ein bod yn awyddus i gynorthwyo busnesau da yn 2019 i fod yn fusnesau da yn 2021. Rydym am gefnogi pobl a oedd â swydd dda yn 2019 i fod â swydd dda yn 2021.

Felly, ddydd Gwener diwethaf, agorasom y broses ymgeisio ar gyfer y gronfa. Mae cyfradd y ceisiadau yn y dyddiau ers hynny wedi bod yn ddigynsail. Daeth mwy na 6,000 o geisiadau am grant i law o fewn 24 awr i'r lansiad. Erbyn 6 o'r gloch fore heddiw, roedd y gronfa cadernid economaidd wedi cael 5,842 o geisiadau gan ficrofusnesau, cyfanswm o £56.7 miliwn, a 2,267 o geisiadau gan fusnesau bach a chanolig eu maint, cyfanswm o £127.3 miliwn. Mae hynny gyda'i gilydd yn 8,109 o geisiadau, a chyfanswm o £184 miliwn.  

Credaf fod y galw hwnnw'n dyst i raddfa'r argyfwng rydym yn ei ganol ar hyn o bryd, a dyna pam roeddwn yn falch ddydd Llun yr wythnos hon i fod wedi ymateb yn gyflym i ryddhau £100 miliwn ychwanegol i gymal cyfredol y gronfa cadernid economaidd. Mae'n werth dweud bod y gwaith hwn yn adeiladu ar y gwerth mwy na £440 miliwn o grantiau ardrethi busnes sydd bellach wedi cyrraedd bron i 35,000 o fusnesau ledled Cymru.

Ddirprwy Lywydd, mae awdurdodau lleol wedi gweithio'n gyflym ac yn ddeheuig i brosesu taliadau ac maent yn gwneud gwaith gwych i drosglwyddo cyllid i fusnesau cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, hoffwn ddiolch i bob un awdurdod lleol sydd wedi chwarae rhan yn y gwaith hwn.

Hoffwn roi teyrnged unwaith eto hefyd i staff Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, a fy swyddogion, sydd wedi gweithio'n ddiflino, yn aml mewn amgylchiadau personol anodd, i ddatblygu'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr i fusnesau yn unrhyw ran o'r DU.

Rydym wedi ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cefnogi cymaint o fentrau â phosibl a gwneud cyfraniad ystyrlon i oroesiad pob un. Ond wrth wneud hynny, nid ydym yn colli golwg ar ein huchelgeisiau mwy hirdymor: yr angen i ddatgarboneiddio economi Cymru, yr angen i gynyddu gwaith teg a'r angen i godi lefelau sgiliau unigolion ledled Cymru. A dyna pam rydym wedi gofyn i bob un sy'n derbyn ein cymorth ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd.

Bydd y gronfa a'r meini prawf yn cael eu hadolygu cyn rhyddhau'r cymal nesaf. Yn ogystal, hoffwn groesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd gyda'r cynllun cadw swyddi sydd bellach ar agor, ac rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cynllun wedi'i ymestyn tan ddiwedd mis Mehefin fan lleiaf.  

Ddydd Llun, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth i gwmnïau arloesol newydd nad ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau achub coronafeirws sy'n bodoli eisoes. I fod yn gymwys, mae'n rhaid bod cwmni wedi codi £0.25 miliwn neu fwy yn breifat yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae'n bwysig, rwy'n credu, fod Llywodraeth y DU yn monitro cynnydd y cynllun i sicrhau nad yw'r trothwy hwn yn atal busnesau bywiog a hyfyw rhag cael cymorth.

Yng Nghymru, bydd busnesau newydd a sefydlwyd cyn 1 Mawrth eleni yn gallu gwneud cais i'r gronfa cadernid economaidd os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, wrth gwrs. Mae'r pecyn hwn yn cyd-fynd â'r pecyn cymorth hirsefydlog a safonol ar gyfer busnesau bach o'r cyfnod cyn COVID sydd ar gael trwy Fanc Datblygu Cymru ac wrth gwrs, benthyciadau dechrau busnes a chyngor cynhwysfawr Busnes Cymru.

Felly, er bod llawer wedi'i wneud, dylwn ddweud hefyd fod llawer i'w wneud eto. Mae angen taer i weld mwy o'r benthyca a addawyd ac a warentir gan Lywodraeth y DU yn cyrraedd y rheng flaen. Rhaid i Lywodraeth y DU barhau i gefnogi a phwyso ar fanciau'r stryd fawr i fod yn llawer mwy ymatebol i anghenion ein busnesau ar yr adeg hynod anodd hon. Credaf fod llawer y gallai banciau'r stryd fawr ei ddysgu gan ein Banc Datblygu Cymru ein hunain yn y ffordd y mae wedi addasu i'r cyfnod rydym yn ei ganol ar hyn o bryd—sicrhau ei fod wedi addasu ei bolisïau a'i brosesau ei hun i gael cyllid a chymorth i fusnesau yn ddi-oed.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yn hynod o falch o fusnesau ar hyd a lled Cymru—busnesau sy'n camu i'r adwy i gefnogi'r frwydr yn erbyn COVID ac i gynorthwyo ein GIG. Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol gan y gymuned fusnes i'n galwad i weithredu ar gyfarpar diogelu personol. Yn sil hynny, rydym yn awr yn gweld ffyrdd arloesol o weithio wrth i fusnesau newid i greu dyfeisiau a chynnyrch a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Serch hynny, mae angen cymorth ar y gweithwyr sydd ar hyn o bryd ar ffyrlo neu'n ddi-waith. Dyna pam y gwneuthum lansio ein darpariaeth e-ddysgu newydd ddydd Llun gyda'r nod o wella sgiliau a chefnogi llesiant meddyliol trwy helpu unigolion i baratoi'n gadarnhaol ar gyfer y dyfodol, beth bynnag a ddaw. Drwy ein cynnig newydd, rydym wedi darparu ystod o adnoddau dysgu ar-lein o ansawdd uchel am ddim gan ddarparwyr dibynadwy fel y Brifysgol Agored. Cefnogir y ddarpariaeth hon gan gyngor a chanllawiau gyrfaoedd ar-lein sydd ar gael i'w defnyddio gan unigolion ledled Cymru trwy wefan Cymru'n Gweithio.

Edrychaf ymlaen yn awr at ateb cwestiynau gan fy nghyd-Aelodau.

16:00

Diolch yn fawr, Weinidog. A gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, ac a gaf fi hefyd ddiolch i chi am eich cyfarfodydd wythnosol gyda llefarwyr y gwrthbleidiau? Rwy'n credu eu bod yn amhrisiadwy, gan eu bod yn caniatáu i ni godi materion yn uniongyrchol gyda chi, yn ogystal â chael y wybodaeth ddiweddaraf. Felly, mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr, Weinidog. A gaf fi roi croeso diffuant i'ch datganiad? Rwy'n credu bod y cymorth ariannol sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dda iawn hyd yma. Rwyf hefyd yn credu bod yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw yn hollol iawn, ei bod yn bwysig i gynlluniau gan y ddwy Lywodraeth ategu ei gilydd.  

Cyhoeddodd y Canghellor gronfa'r dyfodol gwerth £250 miliwn ar gyfer busnesau newydd a'r sector technoleg, a tybed sut rydych chi'n cefnogi busnesau yng Nghymru i ddenu cyllid o'r cynllun arbennig hwnnw. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ystyried y Ganolfan Ymchwil Menter, a gyhoeddodd ddata yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwy'n meddwl, sy'n dangos mai Cymru fyddai'n dioddef fwyaf o bosibl o ganlyniad i'r coronafeirws a'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith, ac maent wedi cynnwys manylion i gyd-fynd â hynny. Ond yn amlwg, rwy'n credu eich bod wedi dweud eich hun, Weinidog, mae gennym ganran uwch o fusnesau llai yma yng Nghymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, felly rwy'n credu bod angen inni addasu yn unol â hynny. 

Roedd croeso mawr i'r gronfa cadernid economaidd. O'm rhan i, roeddwn yn dweud wrth fusnesau a oedd yn cysylltu â mi 10 diwrnod neu bythefnos yn ôl: 'Os gwelwch yn dda, arhoswch. Mae'r gronfa cadernid economaidd yn mynd i lenwi'r bylchau hynny sydd ar ôl'. Rwy'n sylweddoli na all unrhyw Lywodraeth lenwi'r holl fylchau, ond roeddwn yn disgwyl i fwy o fylchau gael eu llenwi nag sydd wedi digwydd hyd yma, yn ôl yr hyn a gyhoeddwyd. Ond rwy'n gobeithio'n arw y byddwch yn cyflwyno cynlluniau pellach a fydd o gymorth i lenwi'r bylchau sy'n bodoli, ac rwy'n meddwl yn benodol am—a byddaf yn rhestru rhai o'r bylchau yn awr—TAW, er enghraifft. Mae busnesau nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW—busnesau bach yw'r rhain; nid yw'r rhan fwyaf o fusnesau bach yng Nghymru, neu nifer sylweddol ohonynt, yn mynd i fod wedi cofrestru ar gyfer TAW—wedi'u heithrio o'r meini prawf ar hyn o bryd. Felly, byddai'n dda cael cadarnhad fod y busnesau hynny, yng nghyfnod nesaf y cynllun, yn mynd i gael eu gwasanaethu. Rwy'n gwybod bod Paul Davies wedi codi hyn gyda'r Prif Weinidog yn gynharach, ond ni roddodd y Prif Weinidog ateb manwl ar y pwynt hwnnw.

Mae problem o hyd gyda'r rhai sy'n hunangyflogedig, unig fasnachwyr a ddaeth yn hunangyflogedig yn ddiweddar nad ydynt yn gallu cynhyrchu cyfrifon. Mae problem hefyd gyda'r rhai nad ydynt wedi gallu cyflwyno ffurflenni treth eto neu sydd â throsiant afreolaidd. Rwy'n meddwl yn arbennig am fusnesau sydd o bosibl yn anfonebu, felly roedd ganddynt waith ym mis Ionawr, mis Chwefror, ac anfonwyd anfonebau allan ac maent yn cael eu talu ym mis Mawrth a mis Ebrill, ond nid oes ganddynt unrhyw waith yn dod i mewn ar hyn o bryd. Felly, nid ydynt yn gallu bodloni'r meini prawf a bennwyd yng nghyllid presennol y gronfa cadernid economaidd mewn perthynas â gostyngiad o 40 y cant mewn trosiant neu elw.

Yna, mae rhai materion yn ymwneud ag ardrethi busnes rwy'n gobeithio y gallwch roi sylw iddynt. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn gorgyffwrdd â gwaith eich cyd-Weinidog, y Gweinidog cyllid, ond mae llawer o fusnesau wedi'u heithrio, ac mae'n ymddangos i mi fod angen rhyw gymaint o dapro neu gymhwysiad ar gyfer hyn. Mae yna fusnesau, er enghraifft, gyda gwerth ardrethol o £12,500, sydd wedi'u heithrio, tra bo busnesau sydd â gwerth ardrethol o ychydig bach yn llai yn cael £10,000 o arian grant, ac mae busnesau yn y sector lletygarwch, er enghraifft, gyda gwerth ardrethol—. Rwy'n gwybod am un gyda gwerth ardrethol o £53,000 nad yw'n gallu cael unrhyw gyllid o gwbl, tra bydd busnes gyda gwerth ardrethol o tua £49,000 yn cael arian grant o £25,000. Felly, faint o dapro y gellid ei gyflwyno ym mentrau rhyddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?

Hefyd ar ryddhad ardrethi busnes, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r arian i awdurdodau lleol yn gyflym, ond yn anffodus, mae peth gwahaniaeth rhwng awdurdodau lleol o ran sut y maent yn darparu'r cyllid yn uniongyrchol i fusnesau. Mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud yn dda, megis Cyngor Sir Powys yn fy ardal i, a drosglwyddodd yr arian yn gyflym iawn. Felly, rwy'n cymeradwyo hynny'n fawr. Ond mae rhai awdurdodau lleol yn methu trosglwyddo'r arian hwnnw, ac mae systemau eraill yn llawer mwy biwrocrataidd.

Y sector twristiaeth—rwy'n gwybod iddo gael ei grybwyll yn gynharach heddiw. Gwelwyd dirywiad sylweddol yn y sector penodol hwn, a tybed pa gymorth pellach gan y Llywodraeth y gallwch gadarnhau y bydd yn cael ei gyflwyno i gefnogi'r sector penodol hwn. Yn amlwg, mae hynny'n hollbwysig. Hefyd, mae yna fusnesau sydd â throsiant tymhorol hefyd, yn enwedig rhai sydd angen dangos colled yn yr elw. Yn amlwg, ni fydd rhai yn gallu gwneud hynny oherwydd natur dymhorol hyn.

Hefyd, gan dynnu at y terfyn, y cyfnod adfer. A allwch chi gadarnhau mai yn y cyfnod presennol yn unig y bydd y gronfa cadernid economaidd ar waith, neu a yw yno'n fwy hirdymor? Rwy'n cymryd mai yn y cyfnod presennol yn unig y bydd ar waith, ac y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno pecyn arall mwy ar gyfer symud y tu hwnt i'r cyfnod presennol, a'n bod yn cael cymorth allan i helpu busnesau i newid eu modelau busnes, arloesi drwy dechnoleg, ac ati.

Ac yn olaf, Banc Datblygu Cymru—rwy'n falch iawn eu bod wedi trosglwyddo benthyciadau yn gyflym i bobl. Mae'n newyddion da, efallai, i ryw raddau, fod llawer o fusnesau wedi cael cymorth. Ond wrth gwrs, mae'r cronfeydd wedi sychu, felly pa gyllid ychwanegol arall y gall Llywodraeth Cymru eu sicrhau o'i hadnoddau ei hun neu gyllid Llywodraeth y DU neu arian Ewropeaidd yn ogystal?

16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Russell George, am ei sylwadau caredig ar y dechrau ac am y cwestiynau y mae wedi eu gofyn? Rwy'n credu bod y ffordd rydych chi, Russell, Helen Mary, David a minnau wedi gallu gweithio dros y mis diwethaf yn dangos eich bod yn gallu gweithredu mewn ffordd golegol ar draws pleidiau gwleidyddol heb golli craffu cadarn ar y Llywodraeth hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd rydym wedi gallu cydweithio wrth asesu'r hyn sydd orau i'r wlad.

O ran y cwestiynau sydd wedi'u gofyn, fe geisiaf fynd drwyddynt yn y drefn y'u gofynnwyd. Yn gyntaf oll, cronfa'r dyfodol—y gronfa a gyhoeddwyd ar gyfer busnesau newydd. Rwyf eisoes wedi dweud bod anhawster ynghlwm wrth y meini prawf ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru ynglŷn â'r gofyniad i fod wedi codi £0.25 miliwn yn breifat yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac ar ben hynny wrth gwrs, mae'n rhaid sicrhau arian cyfatebol gan fuddsoddwyr preifat ar gyfer unrhyw arian a gyfrannir gan Lywodraeth y DU, ond os nad yw'r arian yn cael ei ad-dalu, bydd Llywodraeth y DU yn cymryd cyfran o berchnogaeth y cwmni.

Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth wedi adolygu'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Rwy'n gobeithio ei bod yn monitro effeithiolrwydd y cynllun penodol hwn yn agos iawn hefyd, a phe bai'n dod yn amlwg fod angen diwygiadau pellach yma, y bydd yn gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn cynorthwyo busnesau ledled y wlad, oherwydd ar hyn o bryd, mae perygl mai i fusnesau Llundain y byddai'n fwyaf buddiol.

Rhaid dweud, fodd bynnag, fod yna ddewisiadau amgen eraill sy'n creu argraff—sydd dan ystyriaeth gan Weinidogion Llywodraeth y DU, gan gynnwys defnyddio'r drefn bresennol ar gyfer lleihau'r dreth ar ymchwil a datblygu i gyflymu'r broses o dalu symiau sylweddol o arian. Mae'r arian eisoes yn y system, ond gellid ei ryddhau'n gynt i gefnogi busnesau.

Mae'n werth dweud y gall busnesau newydd a sefydlwyd cyn 1 Mawrth 2020 wneud cais i'r gronfa cadernid economaidd os ydynt yn bodloni'r meini prawf. Felly, mae'r cymorth hwnnw ar gael iddynt, ac mae hynny'n ychwanegol, wrth gwrs, at yr hyn a fyddai ar gael i fusnesau a busnesau newydd yn Lloegr. Mae'r banc datblygu ei hun yn gweithredu ei ddwy gronfa benodol i gynorthwyo gyda busnesau newydd a busnesau technoleg newydd mewn sectorau penodol.

Nawr, o ran y gronfa cadernid economaidd, rydych yn iawn i dybio bod y gronfa benodol hon ar gyfer y cyfnod achub. Wrth i ni edrych yn awr ar ailosod yr economi ac adfer ar ôl COVID-19, byddwn yn edrych ar y ffordd fwyaf priodol o gefnogi busnesau wrth inni symud ymlaen. Bydd ail gam y gyfran honno o £100 miliwn yn ein galluogi i edrych ar rai o'r bylchau sydd ar ôl ac rydych chi wedi tynnu sylw at nifer ohonynt.

Un o'r bylchau mwyaf sydd wedi mynnu ein sylw yw'r microfusnes nad yw'n gofrestredig ar gyfer TAW. Nawr, y rheswm pam ein bod wedi cynnwys y maen prawf penodol hwnnw yng ngham 1 y gronfa cadernid economaidd oedd er mwyn osgoi twyll sylweddol, oherwydd ei fod yn ein galluogi i wirio cyfeiriad busnes, bodolaeth busnes. Wrth symud ymlaen, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno model y buom yn ei ystyried, sef bwrsari yn y bôn. Efallai mai dyna fydd yr opsiwn y byddwn yn ei ddewis. Ond mae un peth yn sicr: rydym eisiau mynd i'r afael â'r rhan arbennig honno o'r economi.

O ran unig fasnachwyr sydd wedi dechrau gweithio'n ddiweddar a rhai o'r bylchau eraill y tynnodd Russell George sylw atynt, mewn sawl ffordd, mae'r rhain yn faterion lles a allai alw am sylw swyddogion sy'n ymwneud â'r gronfa cymorth dewisol, ac ar draws adrannau, rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio cronfa cymorth dewisol estynedig i gau rhai o'r bylchau hyn.  

Bu'n rhaid inni sefydlu torbwyntiau ar ryw bwynt ar gyfer lefel y grantiau y byddai busnesau'n eu cael. O ran tapro rhyddhad ardrethi yn y dyfodol, mae'n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei drafod gyda fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog cyllid yn bennaf. A byddwn yn rhannu llongyfarchiadau Russell George i gyngor Powys, sydd wedi bod ar flaen y gad yn gyson, o wythnos i wythnos, yn trosglwyddo grantiau i fusnesau. Yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf, o fewn yr wythnos gyntaf rwy'n credu, llwyddasant i weinyddu 2,000 o grantiau, ac roedd hynny'n drawiadol iawn.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd yn cyhoeddi perfformiad holl gynghorau Lloegr, ac o gofio bod hynny'n debygol o ddigwydd yn fuan iawn dros y ffin, credaf ei fod yn gwneud synnwyr inni ystyried hynny yma, ond rwyf hefyd wedi gofyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi tabl cynghrair, os mynnwch, o gefnogaeth y stryd fawr i'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws, fel y gallwn wirio pa rai o'r banciau sy'n camu i'r adwy a pha rai sy'n gwneud cam â'u cwsmeriaid.

Gallai cam nesaf cynllun benthyciadau COVID-19 Banc Datblygu Cymru ddenu arian gan Lywodraeth y DU. Rydym yn sicr wedi gofyn amdano ac mae'r banc datblygu ei hun wedi gwneud cais i fod yn fenthyciwr cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Byddai hynny'n cynnig cyfle enfawr o ran gallu darparu mwy o arian yn gynt i fusnesau Cymru. Mae'n ffaith syfrdanol fod Banc Datblygu Cymru, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd gyda'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws, wedi ein sicrhau y bydd yn gallu trosglwyddo arian i bob un o'r ymgeiswyr llwyddiannus erbyn diwedd y mis hwn. Bydd yn eithaf trawiadol os llwyddant i gyflawni hynny.

Wrth inni ystyried yr ailosod a'r adfer, bydd cyfleoedd enfawr yn codi. Wrth gwrs, bydd rhai sectorau'n crebachu, bydd rhai sectorau'n newid yn sylweddol, ond bydd llawer o gyfleoedd hefyd, ac rydym eisiau gwneud yn siŵr fod y mecanweithiau cymorth gennym yn eu lle. Mae cryn dipyn o feddwl ar hyn o bryd ynglŷn â sut y gallwn groesawu a manteisio ar y cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg a fydd yn cael eu sbarduno'n bennaf gan newid mewn ymddygiad.  

Mae Russell George wedi nodi un sector penodol a fydd yn galw am gyfnod hwy o gymorth—yr economi ymwelwyr. Rwyf eisoes wedi mynd ar drywydd pryder Gweinidog Llywodraeth y DU ynghylch y sector twristiaeth a sectorau ac is-sectorau eraill a fydd yn debygol o fod angen rhagor o gymorth yn y misoedd i ddod, yn enwedig mewn perthynas â'r cynllun cadw swyddi.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o lawer o sgyrsiau a gafodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar sail y DU i archwilio pa gymorth ar draws y sector y gellid ei gynnig ar draws Prydain a Gogledd Iwerddon. Pan fyddwn yn dechrau ymadfer wedi cyfnod y coronafeirws, rwy'n credu hefyd y bydd angen ystyried pa brotocolau sydd angen eu cyflwyno er mwyn ailgychwyn yr economi ymwelwyr yn ddiogel ar draws Cymru. Gallai'r protocolau hynny, pe baent yn cael eu hardystio, roi sicrwydd i gwsmeriaid ac i ymwelwyr fod busnesau'n cydymffurfio â gofynion ôl-COVID-19 er mwyn gweithredu'n llwyddiannus, ac rwy'n credu mai dyna'r ffordd fwyaf diogel o ailgychwyn gweithgarwch yn y sector pwysig hwn.

16:15

A gaf fi ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Russell George a diolch i'r Gweinidog ac yn wir, i'w staff, sydd wedi bod yn ymatebol iawn i bryderon penodol rwyf fi a fy nghyd-Aelodau wedi'u codi a hefyd yn agored iawn i syniadau newydd ac awgrymiadau newydd? Byddwn yn awgrymu bod hwn yn fodel cadarnhaol iawn ar gyfer y ffordd y dylai Llywodraeth ymgysylltu â gwrthwynebiad adeiladol ar yr adeg hon, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae'r Gweinidog wedi sicrhau bod hynny'n digwydd yn fawr iawn.

Os caf godi rhai materion penodol yn fyr. Roeddwn yn falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud bod y gronfa cadernid economaidd—mae'n ymwybodol iawn nad yw'n cynnwys yr holl fusnesau yr hoffai eu cynnwys, yn enwedig y busnesau nad ydynt yn cofrestru ar gyfer TAW. Rwy'n falch iawn o'i glywed yn dweud y bydd hynny'n cael ei adolygu'n rheolaidd. Tybed a all y Gweinidog roi syniad inni heddiw pa bryd y gallai hynny ddigwydd, oherwydd fel y gwn ei fod yn gwybod, mae'r busnesau bach iawn hynny'n rhai a all fod â llai wrth gefn, gallent fod yn fwy agored i niwed ac efallai y bydd arnynt angen cymorth yn gyflymach na busnesau mwy a allai fod â pherthynas fwy cadarn â'u banciau. A siarad am fanciau, rwyf am groesawu'n arbennig yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am dabl cynghrair, fel petai, ar gyfer banciau'r stryd fawr, ynghylch y rhai sy'n helpu a'r rhai nad ydynt yn helpu. Byddwn i'n dweud, yn fwy cyffredinol, rwy'n credu, y bydd pobl Cymru yn cofio'r busnesau mawr a wnaeth ymddwyn yn dda ac y byddant yn cofio am y rhai na wnaethant hynny, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ynglŷn â hynny.

Yn ei ddatganiad, mae'r Gweinidog yn sôn am gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, y cynllun cadw swyddi, ac rwy'n gwybod ein bod i gyd yn falch iawn o weld hynny ar waith, ond mae'r Gweinidog yn ymwybodol fod rhai problemau, ac mae rhai bylchau, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle y mae wedi'i roi i mi ddarparu rhywfaint o dystiolaeth iddo am y bobl hynny'n arbennig sy'n cael eu gadael ar ôl am eu bod wedi newid eu gwaith ar yr adeg hon—ni fydd eu cyflogwyr blaenorol yn eu rhoi ar ffyrlo, weithiau efallai am eu bod wedi gadael heb fod y berthynas rhyngddynt yn gadarnhaol, a chyflogwyr newydd a fyddai'n dymuno gwneud hynny. Tybed a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni y prynhawn yma am y trafodaethau y gwn ei fod wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, ac a yw'n teimlo bod posibilrwydd, gan fod y prif gynllun ar waith bellach—a'r dystiolaeth amlycaf yw'r gyflogres—o weld unrhyw bosibilrwydd o hyblygrwydd. Ac yn olaf, mae'r Gweinidog wedi cydnabod yn ei ymatebion i Russell George fod rhai bylchau o hyd, a byddwn yn dweud, yn y cyd-destun hwn, pan fyddwch yn gwneud y camau mawr hyn mor gyflym, fe fydd yna fylchau; nid wyf yn credu bod neb yn synnu ynglŷn â hynny.

Nawr, pan holwyd y Prif Weinidog ynglŷn â materion cysylltiedig a meddwl ynglŷn â ble mae'r bylchau a sut y gellid eu llenwi, soniodd y Prif Weinidog am bwyso ar Lywodraeth y DU i lenwi'r bylchau hynny, ac rwy'n siŵr na fyddai neb ohonom yn anghytuno â hynny, ac rydym i gyd yn cydnabod, wrth gwrs, yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Ond yn y gorffennol, mae'r Gweinidog wedi dweud—ac rwy'n meddwl ei fod wedi dweud y prynhawn yma wrth ymateb i Russell George—y bydd yn ceisio cau rhai o'r bylchau hynny â chynlluniau ar gyfer Cymru'n unig os bydd raid.

Roedd yn ddiddorol ei glywed eto'n cyfeirio at y gronfa gymorth, y gronfa cymorth dewisol, a tybed a all roi ystyriaeth bellach i ddefnyddio'r gronfa honno i ddarparu incwm sylfaenol brys i rai o'r bobl a fydd yn disgyn drwy'r bylchau, oherwydd ni allwn wneud cynlluniau ffyrlo i bawb, a phryd y mae'n credu y caiff asesiad o faint o fusnesau a faint o unig fasnachwyr unigol sy'n disgyn drwy'r bylchau a pha mor fuan y gallai cynllun newydd fod ar waith i'w cefnogi. Diolch.

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones eto am ei sylwadau caredig a hael iawn a'r cwestiynau a ofynnwyd? Yn sicr nid oes gennym fonopoli ar syniadau yn Llywodraeth Cymru. Rydym yn ceisio barn, syniadau ac arloesedd o bell ac agos, ac mae'n rhaid i mi ddweud, rydym wedi cael llawer o syniadau adeiladol gan Aelodau ar draws y Siambr. Rwy'n hynod ddiolchgar i Helen Mary hefyd am y syniadau a'r wybodaeth y mae hi a'i swyddfa wedi gallu eu darparu ar yr adeg hon.

Wrth fyfyrio ar y grŵp o unigolion a busnesau bach sy'n disgyn drwy'r bwlch mewn perthynas â chofrestru ar gyfer TAW, fy nod yw rhoi manylion am gam 2 y gronfa cadernid economaidd yn ystod y 10 diwrnod i bythefnos nesaf, fel y gallwn symud yn ddidrafferth yn y bôn o gam 1 i gam 2, gan gydnabod na fydd y cyfnod presennol, gyda gofyniad, neu gyfanswm ceisiadau o dros £180 miliwn, yn para am gyfnod sylweddol y tu hwnt i—[Anghlywadwy.] Felly, nid wyf yn dymuno cael bwlch rhwng cam 1 a cham 2 os gellir ei osgoi. Ac rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle o ran perfformiad banciau'r stryd fawr. Bydd atgofion yn byw'n hir iawn o'r profiad hwn a bydd pobl yn barnu ac yna'n gwneud penderfyniadau ar sail perfformiad banciau'r stryd fawr ac eraill. Rwy'n credu ei bod yn iawn fod Llywodraeth y DU, os yw'n dewis cyhoeddi tabl cynghrair, os mynnwch, ar berfformiad awdurdodau lleol yn Lloegr, hefyd yn gwneud yr un peth gyda'r banciau. Nid yw ond yn deg, yn fy marn i, y dylid cymhwyso hynny.

O ran y ffyrlo—y rheswm pam rwy'n crybwyll ffyrlo yw oherwydd, Helen Mary, eich bod wedi nodi grŵp o unigolion sydd wedi disgyn drwy'r bwlch o ran y dyddiad terfyn. Rydym wedi cael ein cefnogi gan Lywodraeth yr Alban yn ein galwad am i'r dyddiad gael ei wthio'n ôl i 1 Ebrill. Byddai hynny hefyd yn dal nifer sylweddol o bobl sy'n weithwyr tymhorol o fewn yr economi ymwelwyr. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r trafodaethau a gaf gyda Gweinidogion yn Llywodraeth y DU bob amser yn gyfeillgar, yn adeiladol, maent yn agored i'n syniadau ni, ac yn wir, maent wedi gallu cyhoeddi newidiadau i becynnau cymorth penodol yn seiliedig ar ein hargymhellion, yn seiliedig ar y wybodaeth rydym wedi bod yn ei chael. Felly, maent wrthi'n ystyried yr estyniad pellach hwnnw i 1 Ebrill. Cynhaliwyd galwad bedair ochrog y prynhawn yma yn ystod y Cyfarfod Llawn; nid oeddwn yn gallu cymryd rhan ynddi felly fe gymerodd fy nghyd-Aelod Lee Waters fy lle. Os oes unrhyw newyddion am estyniad posibl i'r ffyrlo wedi dod yn ôl o ganlyniad i'r alwad honno, byddaf yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhannu â'r Aelodau.

Hoffwn fynd ar drywydd y cwestiwn ynglŷn ag i ba raddau y dylem fod yn llenwi bylchau yn sgil gweithgareddau Llywodraeth y DU. Dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud gyda'n hadnoddau cyfyngedig. Mae gwir angen i Lywodraeth y DU gael ei gweld yn Llywodraeth sydd â'r pocedi eithriadol o ddwfn yn wahanol i ni, ond nid yw hynny'n gyfystyr â dweud na allwn ymyrryd mewn ffordd ar gyfer Cymru'n unig—dyna'n union a wnaethom gyda'r gronfa cadernid economaidd gwerth £0.5 biliwn. Fel arfer, rydym yn gwario—drwy'r is-adran busnes a rhanbarthau o'r Llywodraeth, cymorth busnes a buddsoddi—tua £30 miliwn y flwyddyn, felly rwy'n credu bod £500 miliwn, £0.5 biliwn, yn dangos maint yr hyn rydym wedi'i wneud. Ond o ran cymorth megis cynllun incwm sylfaenol brys, rwy'n credu y byddai hwnnw'n anhygoel o ddrud, yn anfforddiadwy yn ôl pob tebyg i Lywodraeth Cymru, yn sicr o ystyried yr ymrwymiadau rydym eisoes wedi'u gwneud. Byddai ceisio dod o hyd i'r swm o arian y byddai ei angen ar gyfer hynny bron yn amhosibl, ond mae'n rhywbeth rydym wedi'i ddweud wrth Lywodraeth y DU y dylid yn sicr iawn ei ystyried. Rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r gronfa cymorth dewisol i gefnogi mwy o bobl. Mae'r galw am y gronfa cymorth dewisol ar hyn o bryd yn eithaf anghredadwy, felly hyd yn oed pe baem yn cynyddu'n sylweddol y swm o arian sydd ar gael drwy'r gronfa honno, ni fyddai'n atgynhyrchu, ni fyddai'n cynnig yr hyn y byddai cynllun incwm sylfaenol brys amgen yn ei gynnig. Dyna pam ein bod wedi bod yn weddol gyson ac yn glir wrth ddweud wrth Lywodraeth y DU, 'Edrychwch, gallwch gyflwyno'r cynllun brys hwn, gall fod am amser cyfyngedig, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl hynod o agored i niwed sy'n disgyn drwy'r bylchau ar hyn o bryd.'

16:20

Mae unig fasnachwyr yn cysylltu â mi—hyfforddwyr gyrru, ffotograffwyr, plymwyr—i ddweud bod eu gwaith newydd ddod i ben. Maent wedi gwneud ymholiadau ac maent wedi cael gwybod nad oes cefnogaeth iddynt o fewn y system bresennol. A yw hynny'n gywir, ac os nad yw'n gywir, a wnewch chi ofyn i bwy bynnag sy'n rhoi'r wybodaeth honno i ddweud wrthynt pa gymorth sydd ar gael iddynt, oherwydd mae'r rhain yn bobl sydd newydd golli eu holl incwm?

Mae'r ail bwynt yr hoffwn ei godi yn ymwneud â chael strategaeth ar gyfer pob sector economaidd. Os edrychaf ar fanwerthu, er enghraifft, mae rhai cwmnïau nad ydynt erioed wedi ei chael hi cystal—manwerthwyr ar-lein a manwerthwyr bwyd nad oes raid iddynt gael unrhyw gynigion arbennig oherwydd mae ganddynt giw yn ffurfio y tu allan. Nid ydynt erioed wedi ei chael hi cystal, mae fel Nadolig bob wythnos, tra bo gennych fanwerthwyr eraill sy'n methu gwerthu o gwbl.

Rydym yn gweld un manwerthwr mawr yn methu bob wythnos, ac rwy'n disgwyl y bydd llawer mwy na hynny o fanwerthwyr lleol na fyddant yn gallu ailagor. A oes unrhyw beth y gellir ei wneud i gefnogi rhai o'r manwerthwyr llai hyn? Gwyddom fod eu hardrethi wedi mynd—mae'n dal i fod angen iddynt dalu rhent ac mae ganddynt y gorbenion eraill o hyd. Mae'n rhaid iddynt wneud yr holl daliadau hyn ddim ond er mwyn cadw eu hadeilad.

16:25

A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gyfraniad? O ran cymorth i'r rheini sydd newydd ganfod bod eu trosiant, eu hincwm, wedi gostwng yn helaeth o ganlyniad i'r coronafeirws, rwy'n credu y gallant wirio eu cymhwystra drwy Busnes Cymru—y porth ar-lein—ar gyfer y gronfa cadernid economaidd. Mae cymorth gan Lywodraeth y DU hefyd ar gyfer yr hunangyflogedig.

Ni allaf roi sylwadau ar bob sector ar hyn o bryd, a bydd pob busnes yn cael trafferth gweld a oes cymorth ar gael. Y ffordd orau i fusnes wneud hynny'n sicr yw mynd draw i wefan Busnes Cymru ac edrych ar y gwahanol gynlluniau sydd ar gael yno. Yn benodol mewn perthynas â'r gronfa cadernid economaidd, sy'n gysylltiedig—mae'r meini prawf yn gysylltiedig—â gostyngiadau sylweddol mewn trosiant, mae yna adnodd cymhwystra sy'n syml iawn. Gallai unig fasnachwr fynd drwyddo mewn munudau i weld a fyddai'n gymwys i gael y cymorth hwnnw neu unrhyw gymorth arall y mae Busnes Cymru yn darparu cyngor yn ei gylch.

O ran y sector manwerthu, mae hwn yn sector arall a fydd, yn ôl pob tebyg, yn galw am gyfnod hwy o gymorth gan Lywodraethau. Nid oes amheuaeth o gwbl, fodd bynnag, oherwydd newid ymddygiad a ysbrydolir gan y cyfnod hwn, y bydd y newid tuag at lawer o fanwerthu ar-lein yn cyflymu eto. Bydd hynny'n cael sgil-effeithiau ar natur y stryd fawr—diben y stryd fawr neu ganol tref yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae gwaith ar y gweill yn yr adran tai a llywodraeth leol ar y dull canol trefi'n gyntaf o weithredu, a sut y gallwn ail-lunio canol trefi yn erbyn pwysau newydd y coronafeirws a'r effaith y mae'n debygol o'i chael ar dueddiadau hirdymor defnyddwyr.

Wedi dweud hynny, rydym hefyd yn gweithio ar y sector manwerthu—gwaith yng ngogledd Cymru yw hwn yn benodol, lle rydym wedi dwyn ynghyd awdurdodau lleol, y bwrdd uchelgais economaidd, y sector manwerthu ei hun a Llywodraeth Cymru ar ddarn o waith sydd â thair elfen iddo, yn cynnwys dyfodol y stryd fawr. Byddwn yn sicr yn ystyried ymestyn y darn hwn o waith i dri rhanbarth arall Cymru, oherwydd rwy'n credu y bydd yn fater cwbl allweddol i awdurdodau lleol, i Lywodraeth Cymru ac i'r sector.

Diolch. David Rowlands. A all rhywun agor meicroffon Mr Rowlands? Dyna ni.

O'r gorau, rwyf wedi'i wneud fy hun. Iawn.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ond a gaf fi hefyd ddiolch i chi am y diweddariadau wythnosol rheolaidd a gawn fel llefarwyr, sy'n gynhwysfawr iawn ac sydd, mewn gwirionedd, yn gadael fawr iawn o le i ofyn cwestiynau, os caf ddweud hynny?

A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu bod llawer o'r asiantaethau rydych chi'n eu defnyddio ar gyfer yr ymyriadau, yn enwedig awdurdodau lleol, a Banc Datblygu Cymru yn benodol—a gawn ni i gyd ddiolch iddynt am y gwaith aruthrol y maent yn ei wneud? Heb os nac oni bai, maent yn camu i'r adwy.

Hoffwn ailadrodd cryn dipyn o bethau a ddywedodd Helen Mary Jones a Russell George ynglŷn â gallu sectorau penodol i gael gafael ar arian. Mae'n anodd iawn gwybod ble yn union mae'r bylchau, ac rydym yn sylweddol0i hynny, a hefyd y ffaith bod yn rhaid inni gofio mai arian cyhoeddus yw hwn a bod yn rhaid cael mesurau diogelu ar gyfer craffu ar bobl sy'n gwneud cais am y cyllid hwnnw. Felly, rydym yn sylweddoli y gall fod oedi cyn i'r cronfeydd hynny ddod drwodd.

Un o'r meysydd rwyf am ofyn yn benodol yn ei gylch yw'r diwydiant adeiladu, lle mae'n ymddangos bod yna gymysgedd mawr o bethau'n digwydd. Er enghraifft, beth sy'n digwydd ar yr A465 ar hyn o bryd? A oes cynnydd yn digwydd o hyd neu a yw'r gwaith wedi'i atal? Beth rydych chi'n ei glywed gan y diwydiant adeiladu o ran beth sy'n digwydd gydag argyfwng COVID-19?

16:30

A gaf fi ddiolch i David Rowlands, Ddirprwy Lywydd, am ei gwestiynau, a hefyd am ei sylwadau caredig am y trafodaethau a gawsom, a'r cyfraniadau a wnaeth Aelodau ar draws pob plaid yn ein brwydr yn erbyn coronafeirws?

Yn sicr fe wnaf gyfleu ei ddiolchiadau, ac rwy'n siŵr eu bod wedi eu hategu ar draws y Siambr, i awdurdodau lleol, i'r banc datblygu ac i Busnes Cymru. Mae'r pwysau sydd ar bobl yn y sefydliadau hynny'n eithaf anhygoel, a chânt eu hanghofio'n aml. Yn yr un modd, gweision sifil—mae'r pwysau sydd arnynt yn anferthol ar hyn o bryd ac unwaith eto, nid ydynt yn cael eu cofio'n aml ynghanol y gymeradwyaeth i weithwyr hanfodol, ond maent yn gwneud eu gorau glas i gadw pobl yn ddiogel ac i gadw ein heconomi mor iach ag y gall fod.

Felly, rydym yn gweld bod gwefan Busnes Cymru yn cael tua 0.5 miliwn o ymweliadau yr wythnos ar hyn o bryd. Mae'r traffig i'r wefan honno'n eithaf anhygoel, ac mae eu staff yn cael tua 250 i 300 o alwadau ffôn bob dydd—tîm ymroddedig gwirioneddol dda o dros 40 o bobl sy'n dangos tosturi anhygoel at bobl sydd dan bwysau ac yn bryderus iawn ar hyn o bryd, yn ceisio cadw eu busnesau'n fyw.

Gan symud ymlaen at sut rydym yn gwario'r arian, wrth gwrs, rydych yn iawn, mae'n rhaid i ni ymdrin ag ymdrechion twyllodrus i gael gafael ar arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ac rwyf wedi tynnu sylw at un maes penodol o gymorth lle mae'r meini prawf wedi'u gosod mewn ffordd a fyddai'n atal ceisiadau twyllodrus rhag cael eu gwneud. Y grŵp nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW sydd wedi dioddef o ganlyniad i hyn yn anffodus, ond rydym yn anelu at gynorthwyo'r grŵp hwn yng ngham 2. Ond wedyn mae'r cwestiwn ychwanegol ynglŷn â pha fath o werth—yn fwy na chadw'r cwmni hwnnw'n fyw, cadw'r bobl hynny mewn gwaith—rydym yn ei gael am y buddsoddiad mewn gwirionedd.  

Wel, rwy'n falch ein bod wedi gallu cyflwyno'r contract economaidd i'r broses grantiau. Rydym am sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau posibl o'n buddsoddiad. Byddwn yn ailedrych ar y busnesau hynny yn ystod y misoedd i ddod, gan sicrhau y gallant ddangos sut y maent wedi gallu datgarboneiddio, yr hyn y maent wedi'i wneud, yn yr amser ers llofnodi'r contract economaidd, i wella iechyd ac iechyd meddwl a sgiliau'r gweithlu, a sut y maent wedi tyfu hefyd, oherwydd rydym am sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y busnesau sy'n hyfyw ar gyfer y dyfodol, busnesau sy'n gyfrifol.

Rwy'n mynd i droi'n fyr, os caf, at y sector adeiladu. Rydym wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar draws y pedair gwlad ynglŷn â safleoedd adeiladu a sicrhau bod cyngor i weithwyr mor glir a hygyrch â phosibl. Ond fel y nodwyd gennych, David Rowlands, nid yw'r darlun yn berffaith ac mae dehongliadau gwahanol ar hyn o bryd ar draws y pedair gwlad, ac ymhlith y cwmnïau, ac nid yw hynny'n fanteisiol iawn.

Rwy'n credu mai'r rheoliadau a gyhoeddwyd gyda'r canllaw atodol sy'n rhoi'r arweiniad cliriaf yn unman yn y DU. Ac o ganlyniad i hynny, rwyf wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil a chyrff sgiliau sy'n cynrychioli'r sector adeiladu. O'r herwydd, rwy'n credu ein bod wedi gweld adeiladu mewn nifer o ardaloedd yn cael ei gynnal er mwyn cefnogi'r ymdrech iechyd a'r economi sydd ar waith ar hyn o bryd. Felly, er enghraifft, mae gwaith adeiladu ysbyty'r Grange yn parhau—mae'n agos at gael ei gwblhau. Bydd yn darparu 350 o welyau ysbyty ychwanegol amhrisiadwy. Mae'n iawn i'r prosiect adeiladu hwnnw gael ei gwblhau; yr A465 hefyd—darn hanfodol o seilwaith economaidd a fydd yn ganolog i'r economi ranbarthol a'r broses o ymadfer wedi'r coronafeirws yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym am weld prosiectau eraill hefyd fel ffordd osgoi Bontnewydd, Caernarfon yn cael ei chyflawni o fewn yr amserlen a fwriadwyd ar ei chyfer, oherwydd ei bod mor bwysig i gymunedau ac i'r economi leol. Fodd bynnag, rhaid cadw at y canllawiau bob amser ar safleoedd adeiladu.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn deg dweud y bydd y gwaith adeiladu'n chwarae rhan ganolog yn ystod y cam adfer. Gwyddom y gall buddsoddi mewn seilwaith ddarparu'r ffordd gyflymaf o dyfu economi allan o ddirwasgiad, ac rydym yn wynebu dirwasgiad yn awr. Felly, rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio prosiectau adeiladu ar raddfa fawr, yn ogystal â phrosiectau llai o faint yn aml hefyd a fydd o ychydig mwy o fudd i gadwyni cyflenwi er mwyn cynnal gwaith yn awr, ond hefyd i ehangu cyfleoedd cyflogaeth cyn gynted ag y gallwn, pan fyddwn wedi dod trwy gyfnod y feirws.

16:35

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi roi'r datganiad arferol ein bod wedi cael prif siaradwr gan bob un o'r pleidiau, felly a all y gweddill ohonoch ofyn eich cwestiynau'n unig? Mae gennym nifer o bobl sydd eisiau gofyn eu cwestiynau i Weinidog yr economi, felly mater i chi yw sawl un y gallaf eu galw. Nick Ramsay.

[Anghlywadwy]—Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi gytuno â'r datganiadau blaenorol ein bod yn meddwl am y rheini ar y rheng flaen ar hyn o bryd yn ein gwasanaethau cyhoeddus? A gwn fod Gweinidog yr economi wedi dweud hynny hefyd.

Os caf ofyn ychydig o gwestiynau am yr economi'n benodol, yna trafnidiaeth, Weinidog. Yn gyntaf oll, mae nifer o siaradwyr, gan gynnwys Russ George, wedi sôn am broblem rhai busnesau sy'n teimlo eu bod yn disgyn drwy'r bylchau, fel petai. Mae un o'r rhai y siaradais â hwy'n ddiweddar, un perchennog busnes, yn pryderu, os byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi, y gall hynny eich eithrio o'r gronfa cadernid ac y gallwch droi mewn cylchoedd. Felly, tybed a allech chi egluro'r sefyllfa o ran hynny.

Hefyd, mae perchennog canolfan chwarae meddal yn y Fenni wedi cysylltu â mi heddiw ddiwethaf, ac mae hi'n pryderu am y meini prawf ar gyfer gwneud cais am arian argyfwng, ar y sail fy mod yn meddwl bod yn rhaid i chi naill ai fod yn fusnes lletygarwch neu'n fusnes hamdden, ac nid yw ei busnes yn perthyn i'r naill gategori na'r llall. Mewn gwirionedd, mae'n debyg ei fod yn perthyn i'r ddau ac yn amlwg, fel canolfan chwarae meddal, efallai ei fod yn rhywbeth nad yw'n cael ei ystyried mor bwysig â chyfleusterau eraill ar adegau penodol mewn amser, ond wrth gwrs, pan ddown allan o'r broblem hon rydym ynddi, bydd rhieni, plant, yn dibynnu ar y math hwnnw o brofiad addysg a chwarae i'w plant. Felly, tybed a allech chi edrych eto ar y categorïau a'r busnesau na fyddant yn ffitio'n hawdd i un categori.

Ac yn olaf ar yr economi, yr hunangyflogedig—roedd dyn busnes lleol unwaith eto yn pryderu, er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid argyfwng gan Lywodraeth Cymru, fod yn rhaid i chi gael elw cyfartalog, rwy'n meddwl, neu ddangos elw cyfartalog dros dair blynedd, ac roedd yn pryderu mai'r flwyddyn ddiwethaf sy'n fwyaf perthnasol yn ei achos ef. Felly, nid wyf yn gwybod a allech chi ystyried, neu ofyn i'ch swyddogion edrych i weld a ellid gwneud eithriadau o ran proffidioldeb busnesau.

Yn ail, yr ail faes roeddwn am ei grybwyll yn fyr oedd trafnidiaeth a faint o gyfarpar diogelu personol sydd ar gael. Yn gyntaf, trafnidiaeth gyhoeddus: arhosodd gweithiwr allweddol rwy'n ei adnabod yn ysbyty'r Waun am 75 munud am fws adref y noson o'r blaen. Tybed beth sy'n cael ei wneud i gefnogi'r diwydiant bysiau ar hyn o bryd, yn enwedig o safbwynt ein gweithwyr allweddol a darparu trafnidiaeth yn ôl ac ymlaen iddynt; maent ar y rheng flaen. Ac wrth gwrs, y gyrwyr bysiau eu hunain a staff Trafnidiaeth Cymru—maent hwy ar y rheng flaen hefyd, ac rwy'n meddwl tybed a yw cyfarpar diogelu personol wedi cael ei ystyried ar eu cyfer hwy. Gwn fod pwysau a straen ar hynny ar hyn o bryd, ond gallai hynny fod yn rhywbeth i edrych arno yn y dyfodol.

A'r diwydiant cludo nwyddau y mae rhai siaradwyr wedi sôn amdano, a'r gyrwyr dosbarthu nwyddau—Amazon a'u tebyg—maent yn gweithio'n galed iawn i gwmnïau ar hyn o bryd, ac mae'n debyg iawn eu bod, mewn llawer achos, yn cadw'r economi i symud o ran bod pobl yn cael eu cyflenwadau a phobl yn cael eu siopa. Felly, tybed pa gymorth sy'n cael ei ddarparu i gwmnïau o'r fath er mwyn rhoi digon o amddiffyniad i'w gyrwyr ac i'w staff.

Yn olaf, Weinidog, ar fater cadw pellter cymdeithasol, mae'n beth anodd iawn i'w gyflawni ar drafnidiaeth gyhoeddus, felly tybed sut rydych yn cysylltu â Trafnidiaeth Cymru i wneud yn siŵr ar hyn, ac yn wir, pan ddechreuwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau, fel y gwnawn ar ryw adeg gobeithio, os oes unrhyw ofynion cadw pellter cymdeithasol yn dal i fod ar waith, y bydd Trafnidiaeth Cymru a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael y math o gymorth ac arweiniad fydd ei angen arnynt.

16:40

A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau? Trof at gwestiynau'r economi yn gyntaf, ac o ran yr ymholiadau y mae wedi'u cael gan gwmni chwarae meddal, rwyf wedi cael nifer anhygoel o ymholiadau gan fusnesau chwarae meddal sydd mewn sefyllfa debyg. Mae'n wir nad ydynt wedi eu categoreiddio fel hamdden na manwerthu na lletygarwch, ac felly nid oeddent yn gallu elwa o'r rownd gychwynnol o gymorth. Roeddem yn ymwybodol o hyn pan ddatblygwyd y gronfa cadernid economaidd, ac at ei gilydd, mae busnesau chwarae meddal yn ficrofusnesau neu'n fentrau bach neu ganolig. Mae nifer enfawr ohonynt yn cyflogi naw o bobl neu lai, felly cânt eu categoreiddio fel microfusnesau. Mae'r rhan fwyaf wedi'u cofrestru ar gyfer TAW. Maent wedi dioddef gostyngiad o 40 y cant neu fwy at ei gilydd, ac felly maent yn gymwys, rwy'n credu, ar gyfer elfen ficrofusnesau'r gronfa cadernid economaidd. Yn sicr, dyna lle rydym wedi bod yn cyfeirio busnesau chwarae meddal i gael cymorth priodol, ac mae'r manylion hynny ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Awn ar drywydd y cwestiwn olaf a ofynnoch chi ynglŷn â'r economi a sut y gallem gefnogi pobl sydd wedi bod yn weithredol ers tair blynedd, ond y mae eu perfformiad o ran proffidioldeb wedi amrywio'n eithaf sylweddol dros y tair blynedd hynny. Fe ofynnaf i swyddogion fynd ar drywydd hynny.

O ran trafnidiaeth wrth gwrs, rydym wedi darparu'r gronfa galedi ar gyfer y diwydiant bysiau. Ar ôl inni gyhoeddi hynny, gwnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddiad a oedd, yn y bôn, yn sicrhau bod yr Alban, Cymru a Lloegr yn cynnig yr un faint o gymorth i weithredwyr bysiau yn ystod y cyfnod hwn. Ond yn amlwg, fel y gallwch ddychmygu, rydym yn awr yn ystyried sut i gefnogi bysiau wrth i ni ymadfer wedi'r coronafeirws, sut rydym yn sicrhau, fel rydych wedi nodi, y gellir parhau i gadw pellter cymdeithasol ar wasanaethau bysiau a pha fath o gymorth y byddai ei angen ar y sector i allu cynnal hynny, gyda'r canlyniad anorfod sydd iddo o ran yr ergyd i dderbyniadau, yn enwedig ar y llwybrau sy'n hyfyw yn fasnachol. Mae hynny'n rhywbeth rydym wrthi'n ei ystyried yn awr. Cefais alwad gynadledda gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr trafnidiaeth a'r economi y bore yma, ac fe nodais nifer o ffrydiau gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae'n fwriad gennyf weithio gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol a chyrff fel y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i sicrhau ein bod yn cael y cymorth priodol i'r diwydiant yn y dyfodol a'n bod yn datblygu model ar gyfer gwasanaethau bws lleol sy'n addas ar gyfer y dyfodol hefyd, o ystyried y byddwn yn debygol o weld newid mewn ymddygiad am y 12 mis nesaf o leiaf, os nad 24 mis, a allai, ac a fyddai'n debygol o arwain at lai o ddefnydd o wasanaethau bysiau. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn cyflwyno rhai o'r syniadau radical a gyhoeddwyd gennym yn y Papur Gwyn, er mwyn inni allu mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud â chanfyddiad o'r gwasanaethau bysiau er mwyn ceisio cynyddu defnydd ymysg cwsmeriaid newydd, teithwyr newydd, wrth i rai o'r teithwyr presennol benderfynu peidio â defnyddio bysiau oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r coronafeirws, oherwydd eu bod yn ofni mynd yn rhy agos at deithwyr eraill.

Mae rhai safonau ymarfer gorau wedi'u datblygu yn y diwydiant—er enghraifft, ynysu seddi fel nad oes neb yn eistedd yn agos at ei gilydd, fel bod pobl yn cael eu cadw draw oddi wrth yrwyr bysiau. Rwyf wedi clywed bod cwmnïau bysiau eu hunain ar y cyfan wedi mynd ati'n gyfrifol iawn i sicrhau bod gyrwyr yn cael rhywfaint o amddiffyniad ar ffurf glanhawyr dwylo ac yn y blaen. Ond yn yr un modd, clywais am un neu ddau o achosion lle nad yw cyflogwyr wedi bod mor gyfrifol ag y byddai'r diwydiant, a ninnau yn sicr, yn ei ddisgwyl. Mae hyn yn rhywbeth a godwyd yn uniongyrchol gyda hwy.

Rydym mewn cysylltiad agos iawn, fel y gallwch ddychmygu, gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r modd rydym yn mynd i sicrhau ein bod yn gallu cynnal rheolau cadw pellter cymdeithasol ar ôl i ni ddechrau ymadfer wedi'r coronafeirws. Yn amlwg, bydd hynny'n cael effaith o ran darparu cerbydau ar y rheilffyrdd mwyaf poblogaidd—y rheilffyrdd hynny lle mae'r capasiti eisoes wedi'i gyrraedd. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd. Unwaith eto, ar sail y dystiolaeth rydym wedi gallu ei chasglu, rydym yn disgwyl y bydd newid mewn ymddygiad yn arwain, yn y tymor byr o leiaf, at ostyngiad yn nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio ein rheilffyrdd, ac rydym yn gweithio gyda gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru i asesu sut y bydd hynny'n effeithio ar y cytundeb a wnaed ychydig flynyddoedd yn ôl ar y fasnachfraint.

Credaf fod hynny'n ymdrin â phopeth bron, ar wahân i'r pwynt pwysig a gododd Nick Ramsay ynglŷn â gyrwyr, a'r modd y mae'r sector preifat hefyd yn sicrhau bod gweithwyr yn cael yr amddiffyniad y maent ei angen. Unwaith eto, mae safonau amrywiol—er yn anecdotaidd—yn cael eu mabwysiadu gan gwmnïau dosbarthu. Rwy'n awyddus i sicrhau, wrth i ni ailgychwyn yr economi ac yna wrth i ni ymadfer wedi'r coronafeirws, ein bod yn datblygu—a byddaf yn awyddus iawn i sicrhau bod y sectorau eu hunain yn arwain ar hyn—yn datblygu protocolau clir y gellir eu cymhwyso'n gyson, os oes modd, ledled y DU, a fydd yn hwyluso ymagwedd gyson o fewn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, fel y gellir cymhwyso safonau cadw pellter cymdeithasol yn y sector cyhoeddus ar gyfer trafnidiaeth i'r math o safonau y byddai angen eu bodloni ar gyfer ac ar ran a chan yrwyr dosbarthu yn ogystal.

16:45

Diolch. A gaf fi apelio eto ar yr Aelodau? Mae ein hamser wedi dod i ben ar y datganiad hwn. Fe wnaf ei ymestyn i gynnwys ychydig mwy o Aelodau'r meinciau cefn ar hyn.

Diolch. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod—. Felly, a gawn ni ddweud cwestiynau byr yn unig, atebion byrrach, ac efallai y gallaf gynnwys ychydig rhagor ohonoch? David Rees.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf fi hefyd ddiolch i chi am y camau a roddwyd ar waith gennych fel Llywodraeth Cymru i lenwi rhai o'r bylchau a grëwyd gan gymorth busnes Llywodraeth y DU? Mae'n bwysig ein bod yn rheoli'r busnesau yn y bylchau hynny, ond fel y nodwyd yn gywir gennych, ceir rhai bylchau o hyd. Rydych wedi ateb llawer o gwestiynau y byddwn wedi dymuno eu codi i fy nghyd-Aelodau ar y rheini, felly fe gadwaf at ddau bwynt yn unig. Un: ceir llawer o fusnesau a oedd yn cyflenwi neu a oedd â chleientiaid yn y diwydiannau lletygarwch a hamdden, ond nid ydynt yn y diwydiannau hynny'n uniongyrchol eu hunain. Gan nad yw eu cleientiaid yno bellach, maent yn colli incwm, ac felly maent yn ei chael hi'n anodd, ac ni chawsant eu cynnwys yn y cymorth ardrethi nac unrhyw agwedd ar y cymorth busnes. A wnewch chi edrych yn benodol ar y mathau hynny o fusnesau i sicrhau nad ydynt yn mynd ar goll? Oherwydd roeddent yn gynhyrchiol iawn yn 2019, bydd angen iddynt fod yno yn 2021, ac nid ydym am weld y mathau hynny o fusnesau'n cael eu colli o ganlyniad i gefnogi eu cleientiaid, a hwythau ddim yn cael eu cefnogi. Dyna un.

Ac yn ail, yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb brwd iawn yn y diwydiant dur, fel y gwyddoch. Mae'n ymddangos nad yw cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws Llywodraeth y DU yn mynd i gynnwys y sector dur yn hynny. A wnewch chi gyfarfod â Llywodraeth y DU, Weinidog, i weld beth y gellir ei wneud ar gyfer diwydiannau fel Tata ac eraill sydd efallai yn sector mwy yn yr economi, ond sy'n cael trafferth eto am nad oes galw gan eu cleientiaid am ddur o ganlyniad i'r camau gweithredu, ac maent yn mynd i'w chael hi'n anodd? Felly, bydd angen rhywfaint o gymorth arnynt, ond unwaith eto, maent y tu allan i'r meini prawf. Felly, edrychwn ar agenda Llywodraeth y DU ar hynny, oherwydd mae hwnnw'n gwestiwn cymorth busnes i Lywodraeth y DU, ond mae angen i chi ddadlau'r achos dros y sector hwnnw yng Nghymru.

Diolch i Dai Rees am ei gwestiynau. O ran dur, mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei godi gennym yn wythnosol gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac wrth gydnabod nad oedd y cynllun benthyciad tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws yn cefnogi pob busnes, ac yn benodol nad oedd yn cefnogi'r canol coll o fusnesau â throsiant o £45 miliwn, rwy'n falch fod newidiadau wedi'u gwneud er mwyn i gymorth fod ar gael. Yn ogystal, mae'r terfyn benthyciad o £25 miliwn wedi cael ei adolygu, ac rwy'n falch fod ein galwad i hynny gael ei gynyddu wedi'i gytuno, ond rydym yn pwyso'n barhaus ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yna gydnabyddiaeth fod angen cefnogaeth ar Tata yn enwedig. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Tata a'i nifer o safleoedd yng Nghymru, ond mae'n amlwg fod gan Lywodraeth y DU rôl allweddol yn cefnogi'r sector hwn, a Tata yn arbennig, ac rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ar sawl achlysur bellach fod angen i ymyrraeth mewn perthynas â dur arwain at fwy na chyfran wedi'i Barnetteiddio i Lywodraeth Cymru, gan na fyddai hynny'n arwain i unman o ran maint y sector dur yng Nghymru o'i gymharu â'r DU gyfan. Felly, mae angen iddi fod yn fenter a arweinir gan y DU i gynorthwyo'r sector penodol hwnnw.

Rydych chi'n iawn, rydym bob amser yn ceisio llenwi bylchau. O ganlyniad i'r gronfa cadernid economaidd a'r cronfeydd eraill y gallasom eu darparu, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gallu cefnogi bron un rhan o bump o fusnesau Cymru yn uniongyrchol erbyn hyn, ac mae hynny'n ychwanegol at gynlluniau Llywodraeth y DU, y cynlluniau cadw swyddi a chymorth i'r hunangyflogedig, sydd wedi bod o fudd i lawer iawn mwy.

O ran y cyflenwyr i'r sector lletygarwch, rydych yn llygad eich lle, Dai, mae nifer fawr o fusnesau wedi disgyn allan o'r dosbarthiad sector i allu hawlio'r gyfran gyntaf o gymorth, ond drwy'r gronfa cadernid economaidd, byddent yn gymwys oherwydd, wrth gwrs, microfusnesau ydynt ac nid oes amheuaeth eu bod wedi gweld eu trosiant yn gostwng 40 y cant fan lleiaf. Yn ôl pob tebyg, os ydynt yn cyflenwi'n bennaf i'r sector lletygarwch a'u bod yn fusnes bach neu ganolig, bydd eu trosiant wedi gostwng mwy na 60 y cant. Felly cafodd y gronfa cadernid economaidd ei chynllunio gan ystyried y cyflenwyr i'r sectorau allweddol sydd ar gyfnod o seibiant i bob pwrpas.  

16:50

Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad, er bod llawer wedi'i wneud, fod llawer i'w wneud o hyd, ac mae hynny'n sicr yn wir. Mae'r Llywodraeth, i bob pwrpas, wedi rhoi'r rhan fwyaf o'r economi mewn math o goma wedi'i ysgogi'n feddygol ac mae llawer o fusnesau yn ofni, gyda pheth cyfiawnhad, nad ydynt yn mynd i ddod allan o'r coma hwnnw'n fyw, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn dechrau'r broses raddol o godi cyfyngiadau cyn gynted ag y gallwn ac yn y ffordd fwyaf hirben, i ni allu diogelu iechyd y cyhoedd yn ogystal ag iechyd yr economi.  

Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rydym yn dibynnu'n helaeth ar ffermio, twristiaeth, lletygarwch, ac ati, ac mae llawer o'r busnesau hyn yn mynd i ddisgyn drwy'r bylchau, fel y soniwyd eisoes, yn yr amrywiol gronfeydd sydd ar gael i geisio ymdopi â chanlyniadau'r cyfyngiadau symud. Mae ffermydd, er enghraifft, yn cael eu heithrio o'r gronfa cadernid economaidd yn ôl yr hyn a ddeallaf am eu bod bron drwy ddiffiniad yn derbyn grantiau a ariennir yn gyhoeddus drwy'r polisi amaethyddol cyffredin. Ac eto, rydym wedi gweld y diwydiant llaeth yn wynebu gostyngiad o 25 i 30 y cant yn y galw am laeth, rydym wedi gweld y sector da byw yn dioddef mewn modd tebyg am nad yw gwestai, bwytai ac ati'n defnyddio toriadau cig gwerth uchel ym mhen uchaf y farchnad mwyach. Mae llawer o'r busnesau hyn yn mynd i fod ar yr ymylon, ac ni ellir eu helpu o dan y cynlluniau presennol.  

Yn yr un modd, roeddwn yn siomedig iawn o glywed mai twyll oedd y rheswm dros ddefnyddio'r trothwy TAW fel cymhwyster ar gyfer ceisiadau i'r gronfa cadernid economaidd. Mae llawer iawn o ffyrdd o drechu twyll ar wahân i edrych ar y wybodaeth sydd ar gael i'r awdurdodau TAW. Felly rwy'n gobeithio bod hynny'n mynd i gael ei ailystyried. Gadewch imi roi un enghraifft ichi o fusnes nad yw'n dwyllodrus yn sicr, ond sy'n ficrofusnes: nid yw pont dollau Llynpenmaen ger Dolgellau yn mynd i unman ac nid yw'r bobl sy'n berchen ar y bont yn mynd i unman chwaith, ond maent yn disgyn drwy'r holl fylchau hyn am nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW. Maent yn dibynnu'n llwyr ar incwm o dwristiaeth i gadw'r bont i fynd. Mae'n atyniad twristaidd. Mae llawer o fusnesau o'r fath yn mynd i fynd i'r wal oni bai eu bod yn cael cymorth yn fuan iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn edrych yn fwy hyblyg ar hyn wrth ailystyried y rheolau presennol ac ymhen wythnos neu ddwy, yn cyflwyno rhyw fath o gynllun dewisol mwy hyblyg, ac oherwydd na fyddwn yn cynnwys pob enghraifft bosibl mewn set o reolau, bydd rhyw fath o fecanwaith dewisol ar waith i allu ailystyried busnesau sy'n disgyn drwy'r bylchau.  

16:55

A gaf fi ddiolch i Neil Hamilton am ei gwestiynau a dweud mai cynllun dewisol fyddai'r syniad o fwrsariaeth? Mae hynny'n rhywbeth rydym wrthi'n edrych arno. Rydym wedi llacio ein hagwedd tuag at risg, ac mae hynny'n cynnwys y risg o dwyll, er mwyn cael arian allan drwy'r drws mor gyflym â phosibl i gynifer â phosibl. Ond o ran y gronfa cadernid economaidd, rwyf eisoes wedi amlinellu sut y mae 8,100 a rhywbeth o geisiadau eisoes wedi'u cyflwyno ac angen eu prosesu cyn gynted â phosibl. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hynny gyda'r nifer lleiaf o achosion twyllodrus, roedd yn gwneud synnwyr i ddefnyddio'r meini prawf TAW, ond roeddem yn glir iawn pan wnaethom lansio cam 1 y gronfa cadernid economaidd, ein bod hefyd yn edrych ar sut y gallwn gynorthwyo'r rhai nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW yng ngham 2, a byddwn yn gwneud hynny gyda'r ail gam. Ond hoffwn sicrhau ein bod yn osgoi twyll eang a sylweddol, oherwydd mae pob grant o £10,000 sy'n mynd i ymgeisydd twyllodrus yn £10,000 na fydd yn mynd i ficrofusnesau a allai oroesi yng Nghymru. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod yr arian yn cyrraedd busnesau priodol, gweddus sy'n bodoli go iawn, ac nid twyllwyr.  

Mae'n well gennyf ddefnyddio'r ymadrodd 'cyfnod o seibiant' yn hytrach na 'coma', ond mae eich pwynt yn gywir; dyna'n union rydym yn ceisio'i wneud. I bob pwrpas rydym yn rhoi sectorau penodol drwy gyfnod o seibiant, gan wneud yn siŵr, drwy weithio gyda Llywodraeth y DU, y gallant oroesi a bod eu gweithwyr yn cael rhywfaint o incwm dros gyfnod y coronafeirws. Yna, gellir eu hailgychwyn wrth i ni gyflwyno datblygiad graddol allan o'r cyfyngiadau coronafeirws, a'n bwriad yw sicrhau bod y datblygiad hwnnw'n cael ei gynnal ar sail gweithgarwch a sector, yn hytrach nag ar sail lle neu'n gysylltiedig ag oedran.

Mae'n werth dweud ynglŷn â ffermydd y gall ffermydd sydd wedi arallgyfeirio ac sydd â busnesau ychwanegol wneud cais i'r gronfa cadernid economaidd, ond am y rhesymau y mae Neil Hamilton eisoes wedi'u hamlinellu, nid yw ffermydd sydd heb arallgyfeirio yn gymwys. Mewn perthynas â'r sector llaeth, ar ôl siarad â Calon Wen, ar ôl siarad â busnesau eraill sy'n gweithredu yn y sector hwn, rwy'n ymwybodol o'r ymdrech aruthrol sy'n digwydd ar hyn o bryd. Nid oes gennym gyfleusterau sychu hyd y gwn i yn y DU, felly mae pryder y bydd llaeth yn mynd yn wastraff. Rydym yn gweld y pris gât yn disgyn i gyfradd anhygoel o isel. Mae hynny'n annerbyniol yn fy marn i, o gofio bod ffermwyr llaeth yn cyfrannu cymaint at yr ymdrech i gadw pobl yn iach ar hyn o bryd. Ac felly, rwyf wedi codi trafferthion y sector llaeth yn fy ngalwadau wythnosol gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy'n rhannu fy mhryder innau hefyd, a chyda chymheiriaid ar draws y gweinyddiaethau datganoledig, ac wrth gwrs gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Rwy'n croesawu'r hyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar ddeddfau cystadlu, ond wrth gwrs, rydym yn effro i sefyllfa sy'n newid yn gyflym, a byddaf yn cyflwyno sylwadau ar ran y sector llaeth yn yr wythnosau nesaf i Lywodraeth y DU, fel y gallwn gael y gefnogaeth sydd ei hangen ar ei gyfer.    

Rwyf wedi ysgrifennu atoch, Weinidog, ynglŷn â nifer o fusnesau sydd wedi disgyn drwy'r bylchau y mae pawb wedi bod yn siarad amdanynt yn y ddarpariaeth i atal diweithdra a methiant busnesau o ganlyniad i bandemig COVID-19. Nid yw un o'r busnesau hyn yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol am nad yw wedi'i gofrestru ar gyfer TAW a'i fod yn cael ei redeg o gartref. Nawr, mae perchennog y busnes wedi ceisio cael cyllid gan fanc ar ffurf benthyciad tarfu ar fusnes i gadw'r busnes i fynd, ond yr isafswm y maent yn dweud y gallant ei fenthyg yw £25,000, ac mae hynny'n ormod. Mae llawer o bobl hunangyflogedig eraill wedi bod mewn cysylltiad i ddweud na allant gael y cymorth ariannol sydd ar gael hefyd, ac mae incwm y rhan fwyaf o'r bobl hyn bellach wedi sychu ac maent yn goroesi ar gynilion os oes rhai ganddynt. Mae'r rhain i gyd yn achosion sydd wedi'u gwirio yn erbyn y meini prawf cymhwyster, felly sut y gallwch gynorthwyo'r grwpiau o fusnesau ac unigolion sydd wedi colli'r cymorth hwn? Byddai incwm cyffredinol yn un ateb i hynny, ond a oes rhywbeth penodol y gallwch ei wneud ar gyfer y grŵp penodol hwn o bobl? Sut y gallwch atal y nifer o fusnesau da hyn rhag mynd i'r wal?

A gaf fi ddiolch i Leanne am ei chwestiynau? Rwy'n credu ei bod yn werth dweud y byddai un o'r achosion penodol a amlinellwyd gennych wedi bod yn gymwys i gael benthyciad bach gan Fanc Datblygu Cymru. Efallai fod £25,000 yn ormod; mae cynllun benthyciadau COVID-19 Banc Datblygu Cymru yn cynnig benthyciadau llai ar gyfraddau llog ffafriol iawn gyda gwyliau blwyddyn o hyd. Nawr, mae hynny wedi'i gefnogi'n llawn, ond fel y dywedais yn flaenorol wrth ateb cwestiynau yn gynharach, mae'r banc datblygu yn edrych ar ail gam cronfa fenthyciadau COVID-19, felly mae'n bosibl iawn y bydd y busnes rydych chi wedi tynnu sylw ato yn gymwys ar gyfer yr ail gam hwnnw o gymorth. Wrth gwrs, cyfeiriais at y rôl sydd gan fanciau'r stryd fawr yn hyn o beth hefyd. Ac mae gan fanciau'r stryd fawr fynediad at fwy na'r cynlluniau benthyciadau tarfu i fusnesau yn unig; gallant helpu eu cwsmeriaid presennol mewn llawer iawn o ffyrdd, boed gyda thelerau ffafriol ar orddrafftiau estynedig, neu delerau ffafriol o ran benthyciadau. Mae'n gwbl hanfodol fod banciau'r stryd fawr yn camu i'r adwy yn hyn o beth. Ac rwyf eisoes wedi amlinellu'r rhesymeg dros beidio â chynnwys yng ngham 1 y gronfa cadernid economaidd y busnesau hynny nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, ac rwyf wedi rhoi sicrwydd i'r Aelodau fod hyn yn flaenllaw iawn yn ein meddyliau wrth i ni ddatblygu cam 2.

Mae Leanne yn iawn yn dweud mai cymorth lles, ar lawer ystyr, yw'r cymorth sydd angen ei gynnig i bobl sydd wedi disgyn drwy'r bwlch, ac rydym yn derbyn bod gennym ran i'w chwarae yn Llywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth y DU rôl bwysig iawn hefyd, ac rwyf eisoes wedi crybwyll bod gwaith ar y gweill i archwilio rôl y gronfa cymorth dewisol o safbwynt Llywodraeth Cymru.

17:00

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

Weinidog, diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Fy mhwynt yw hwn: collais gyfaill da iawn yn y pythefnos diwethaf i'r coronafeirws, a bu farw ei fab y bore yma, ac mae'r ail fab eisoes yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Fy nghwestiwn i chi yw fy mod yn dal i synnu'n fawr nad oes yr un Aelod Cynulliad wedi sôn am y teuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru. Beth yw'r cymorth ariannol sydd ar gael i'r anwyliaid hynny, sydd nid yn unig yn bobl annwyl iddynt ond hefyd yn ennill bywoliaeth i'w teuluoedd? Beth yw'r cymorth ariannol sydd ar gael i'r teuluoedd hynny yn y dyddiau hyn?

Ac yn ail, rwyf hefyd yn ymwneud ac mewn cysylltiad â chymaint o fusnesau a wnaeth gais i fanc datblygu Cymru am fenthyciadau, ac mae llythyr safonol yn dod i'r busnesau hynny sydd eisoes wedi bod yn ymwneud â busnes ers cymaint o flynyddoedd. Maent wedi cyflwyno'r cyfrifon a phopeth, ac mae llythyr safonol yn dod iddynt i ddweud nad ydynt yn bodloni'r meini prawf. Nid oes manylion cyswllt i'r bobl hyn allu mynd yn ôl a gofyn iddynt am y meini prawf.

Mae cryn dipyn o gwestiynau eraill, Weinidog, ond rwy'n credu, oherwydd ein bod yn brin o amser, hoffwn i chi esbonio i mi sut y gallwch eu helpu yn y ddau faes hwn.

Diolch, ac a gaf fi estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Mohammad Asghar? Mae'n amser ofnadwy ar hyn o bryd. Clywais lawer iawn o straeon am bobl rwy'n gweithio gyda hwy'n colli anwyliaid. Mae'n gyfnod trasig, ac mae'n boenus iawn i'r rhai sydd dan bwysau ariannol. Dyna'n union beth y cafodd y gronfa cymorth dewisol ei sefydlu i helpu pobl ag ef—pobl na allant fforddio cael deupen llinyn ynghyd mewn cyfnod arferol, ond wrth gwrs, mae'n arbennig o anodd ar yr adeg hon.

Gwn fod y Prif Weinidog wedi cymryd cwestiynau'n gynharach heddiw ynglŷn â'r costau sy'n gysylltiedig â cholli bywyd i deuluoedd. Credaf ei bod yn bwysig nodi ei bod yn debygol mai'r gronfa cymorth dewisol yw'r sianel gymorth fwyaf addas i unigolion yn y sefyllfa honno.

Ac felly, o ran y llythyr safonol sy'n cael ei anfon, mae arnaf ofn fod llythyrau safonol yn cael eu hanfon oherwydd cyflymder yr ymateb sydd ei angen ar hyn o bryd, a'r angen i leihau gweinyddiaeth a biwrocratiaeth, fel y gallwn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn y banc datblygu a Busnes Cymru, a Llywodraeth Cymru ac ati ar y rheng flaen yn gweinyddu ac yn darparu grantiau a chymorth ariannol.

Dylai meini prawf ar gyfer cymorth fod yn dryloyw iawn i bawb yn awr, boed drwy'r banc datblygu, neu ar-lein, wedi'u darparu gan Busnes Cymru drwy'r porth coronafeirws. Hoffwn eich annog chi, ac unrhyw fusnesau sy'n dod atoch, i edrych yn gyntaf ar y meini prawf a gyhoeddir ar-lein, ac os oes cwestiynau dilynol y mae angen eu hateb, anfonwch e-bost ataf os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu fy mod i lawr i un pwynt nawr, Weinidog, gan fod y gweddill i gyd wedi cael eu hateb. A dweud y gwir, mae tua hanner dwsin o Aelodau wedi gofyn cwestiwn am y bwlch TAW mewn gwahanol ffyrdd. Felly, fe wnaf basio heibio i hwnnw a mynd yn syth at fy mhwynt ar yswiriant busnes. Nawr, diolch i chi am ysgrifennu ataf am hynny yn ddiweddar, oherwydd rwy'n deall eich bod yn mynd i gyfarfod â'r diwydiant yswiriant yn awr i drafod hynny gyda hwy. Ac er fy mod yn deall yn iawn nad yw rheoleiddio'r diwydiant yswiriant yn fater wedi'i ddatganoli, rwy'n siŵr nad fi'n unig sy'n cael busnesau'n cysylltu â mi ynglŷn ag agwedd cwmnïau yswiriant, sy'n achosi straen sylweddol i nifer o unigolion a gredai fod ganddynt sicrwydd yswiriant—mewn gwirionedd, roedd hyd yn oed eu broceriaid eu hunain yn credu bod ganddynt sicrwydd yswiriant, ond mae'n ymddangos bod y cwmnïau yswiriant eu hunain yn gweld pethau'n wahanol. Mae hyn i'w weld yn arbennig o amlwg yn y sector lletygarwch, ond nid yn y sector hwnnw'n unig.

Ac os caf roi dwy enghraifft fer iawn: un yw cymal tarfu ar fusnes yn y polisi, ond mae'n galw am lythyr gan y Llywodraeth wedyn i ddweud bod yn rhaid i'r busnes gau er mwyn gwneud yr amod hwnnw'n ddilys. Sut mewn gwirionedd y mae Llywodraeth mewn sefyllfa i ddarparu llythyrau o'r fath i bob cwmni yn y sefyllfa honno, nid wyf yn siŵr. Ac enghraifft arall oedd lle roedd gan glwb cymdeithasol yswiriant i ddweud, os oedd yn rhaid iddynt gau oherwydd clefyd heintus, fod ganddynt sicrwydd yswiriant, ddim ond i ganfod nad yw'r cymal hwnnw'n golygu pandemig. Felly, nid oes ganddynt sicrwydd yswiriant.

A allwch gadarnhau i ni beth yw'r ffyrdd gorau y gallem helpu i ddwyn materion i'ch sylw a allai eich cynorthwyo mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant yswiriant i sicrhau nad yw cwmnïau yswiriant yn dod o hyd i ffordd o osgoi cyfrifoldeb a gadael y baich i gyd ar ysgwyddau'r Llywodraeth er mwyn helpu'r cwmnïau hyn sydd wedi talu arian i bolisïau yswiriant ers blynyddoedd lawer?

17:05

A gaf fi ddiolch i Dawn Bowden am nodi pryder y mae nifer o wleidyddion wedi tynnu fy sylw ato hefyd? Rydych chi'n llygad eich lle, Dawn, fod rhai yswirwyr, i ryw raddau, yn ceisio dod o hyd i unrhyw ffordd bosibl o osgoi talu hawliadau. Nid yw hynny'n dderbyniol, ac rydych chi'n iawn fod Gweinidogion yn siarad â'r ABI—Cymdeithas Yswirwyr Prydain—y prynhawn yma. Dechreuodd y drafodaeth honno tua 30 munud yn ôl. Roeddwn i fod yn rhan ohoni, ac rwyf wedi gofyn i fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, ei chadeirio. Byddwn yn adrodd yn ôl i'r Aelodau ar ganlyniad y drafodaeth honno. Ond os oes unrhyw achosion sydd angen eu hamlygu i'r Llywodraeth, ceir cyfeiriad e-bost busnes penodol ar gyfer COVID-19 y byddwn yn annog yr Aelodau i'w roi i fusnesau. Mae'n syml iawn: business.covid-19@gov.wales.

Ac rydych chi'n iawn fod busnesau, yn enwedig yn y sector digwyddiadau, yn canfod nad oedd eu polisïau yswiriant yn ddigon manwl, nad oedd ganddynt ddigon o sicrwydd yswiriant i sicrhau eu bod yn gallu ymgeisio am hawliad llwyddiannus pe bai pandemig o'r math hwn yn digwydd. Y broblem sydd gennyf fi'n bersonol gyda busnesau yswiriant yn hyn o beth yw bod y print mân weithiau'n rhy fach i'w ddarllen, a bod tyllau amlwg y dylid tynnu sylw cwsmeriaid atynt wrth iddynt brynu eu polisïau yswiriant nad ydynt yn cael eu hamlygu. Rwy'n credu bod rôl yn y diwydiant yswiriant i gynnig ffyrdd mwy tryloyw o rannu gwybodaeth hanfodol gyda'u cwsmeriaid.

Diolch yn fawr, Weinidog. Ac rwy'n ymddiheuro i'r rhai ohonoch a oedd wedi nodi y byddech am ofyn cwestiynau, ond rwyf wedi ymestyn yr amser yn sylweddol ar y datganiad hwn.

Pwyntiau o Drefn

Symudwn yn awr at bwynt o drefn. Tynnwyd fy sylw at ddau bwynt o drefn. Daw'r cyntaf gan Neil McEvoy.

Mae gennyf ddau bwynt o drefn i'w codi, Ddirprwy Lywydd. Mae gennyf ddau bwynt o drefn i'w codi.

Iawn, diolch. Y cyntaf yw cadw trefn, 13.9, lle mae'n rhaid i'r Llywydd alw i drefn unrhyw Aelod sydd, pwynt (iv), yn euog o ymddygiad amhriodol neu, pwynt (v), yn defnyddio iaith sy'n groes i'r drefn neu'n peri tramgwydd. Rwy'n credu ei bod yn eithaf clir fod y rhan fwyaf ohonom wedi clywed rhai pethau'n cael eu dweud gan y Gweinidog yn gynharach, ond ni chafodd unrhyw beth o gwbl ei ddweud. Felly, hoffwn i hynny gael ei nodi. Rwy'n gobeithio yr ymdrinnir â hynny yn y sesiwn nesaf, os gwelwch yn dda, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob AC yn cael eu trin yn gyfartal.

Gan symud ymlaen at yr ail bwynt—

Iawn, diolch. A gaf fi, ar y pwynt hwnnw, ddweud bod pwynt arall o drefn yn cael ei gyflwyno ar hynny, ac nid dyna roesoch chi rybudd i ni yn ei gylch ar gyfer eich pwynt o drefn? Felly, symudwch at y pwynt o drefn y rhoesoch chi rybudd i mi yn ei gylch, os gwelwch yn dda.

O'r gorau. Rheol Sefydlog 12.56, sy'n rhoi'r hawl i'r Aelodau gyflwyno cwestiynau'n ffurfiol i'r Prif Weinidog a chael ateb. Rwy'n credu ei bod yn chwerthinllyd fod y Llywydd yn parhau i weithredu Rheol Sefydlog 34.18, er mwyn rhoi diwedd ar yr angen i Lywodraeth Cymru dderbyn cwestiynau gan Aelodau'r Cynulliad, yn ogystal â busnes arall. Nid oes problem iechyd y cyhoedd yng nghyfarfod y Cynulliad yn awr, oherwydd ein bod yn cynnal cyfarfodydd rhithwir o'n cartrefi. Nid oes unrhyw broblem iechyd felly, ac nid oes angen inni gael math gwahanol o agenda. Dylem fod yn dychwelyd at fusnes llawn. Mae San Steffan yn eistedd, mae Senedd yr Alban yn eistedd. Mae angen inni sicrhau bod yr economi'n gweithio tuag at roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud a bod yn rhaid inni ddechrau cael ein Cynulliad Cenedlaethol i weithio fel arfer. Ac nid yw'r Rheolau Sefydlog y dibynnir arnynt yn gredadwy. Nid oes problem iechyd cyhoeddus yn awr oherwydd ein bod yn cynnal cyfarfodydd rhithwir, felly dylai fod gennym agenda arferol, a dyna fy mhwynt o drefn.

17:10

Diolch yn fawr iawn am hynny a diolch ichi am roi rhybudd ar hynny. A gawn ni ddweud bod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno ac wedi gwneud cryn dipyn o waith ar hyn, ac fe wnaethom gytuno y byddem yn cyflwyno Rheol Sefydlog 34 er mwyn rhoi ein gwaith a'n llwyth gwaith yno. Ni oedd y Senedd gyntaf, fel y gwyddoch, i gynnal cyfarfodydd rhithwir. O ystyried bod gofynion yn ymwneud â chwestiynau llafar a chwestiynau'n fater a drafodwyd, penderfynwyd y byddem yn mynd am ddatganiadau gan Weinidogion yn y maes iechyd y cyhoedd sydd bellach yn cael ei alw'n COVID-19, ac mae hynny'n dal i fod yn wir. Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau ein bod yn adolygu'r sefyllfa'n barhaus—y Llywydd a'r Pwyllgor Busnes—a byddwn yn ystyried sut y gallwn ddychwelyd at agenda fwy llawn yn y dyfodol. Diolch.

Pwynt o drefn, felly, Siân Gwenllian.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mi gawsom ni ddigwyddiad yn gynharach y prynhawn yma pan glywsom ni'r Gweinidog iechyd yn bod yn ddilornus o gyd-Aelod a oedd yn gofyn cwestiynau cwbl ddilys yn enw craffu ac yn enw galw'r Llywodraeth i gyfrif. Ydy'r Gweinidog wedi gwneud cais i chi i gael gwneud datganiad am y digwyddiad ac a wnewch chi ymchwilio i weld a dorrwyd unrhyw reolau neu drefniadau yn ymwneud â'r Senedd a'r Cyfarfod Llawn yn sgil y digwyddiad hwnnw?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y pwynt o drefn hwnnw? Fel y sylweddolwch, mae gweithio'n rhithwir yn eithaf anodd ac nid wyf yn ymwybodol, ac efallai fod y Llywydd wedi cysylltu. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu'r sefyllfa ac fe ddown yn ôl atoch. Ond diolch yn fawr iawn am godi hynny ac am ein hysbysu yn ei gylch—rwy'n gwerthfawrogi hynny. Ond byddwn yn dychwelyd at hynny, ac os oes unrhyw beth i roi gwybod i'r Cyfarfod Llawn yn ei gylch, byddwn yn sicr o wneud hynny mewn amgylchiadau arferol. Diolch.

5. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Felly, daw hynny â ni'n awr at eitem 5, sef Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, sydd wedi'i gohirio tan 29 Ebrill. Ac felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Felly, diolch yn fawr iawn, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:13.