Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

08/01/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Gweinidog cyllid. Mae'r cwestiwn cyntaf [OAQ54853] wedi cael ei dynnu yn ôl, ac felly cwestiwn 2 gan Darren Millar. 

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ54865

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ54878

Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 2 ac 8 gael eu grwpio.

Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn dilyn cylch gwario un flwyddyn Llywodraeth y DU, nad yw’n newid y sefyllfa o ran cyni. Bydd ein cyllideb yn 2020-21 £300 miliwn yn llai mewn termau real nag yn 2010-11, ond serch hynny, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn Cymru fwy llewyrchus, fwy cyfartal a gwyrddach.

Wel, diolch i Lywodraeth y DU, wrth gwrs, mae gennych £600 miliwn yn ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer 2021—2020, ydy hynny'n iawn—2020-21, o gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Ac mae hynny'n rhoi cyfleoedd gwych i chi. Un o'r cyfleoedd hynny, wrth gwrs, yw lliniaru effaith y newid yn yr hinsawdd, yn enwedig ar arfordiroedd Cymru, lle ceir perygl o lifogydd. Nawr, croesawaf y buddsoddiad a ddarparwyd ar gyfer promenâd Hen Golwyn yn fy etholaeth yn ystod y misoedd diwethaf. Mae ychydig yn brin o'r swm y gofynnodd yr awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, amdano er mwyn gwneud y gwaith priodol sy'n ofynnol yn y tymor hwy, ond bydd o leiaf yn gwneud rhywfaint o wahaniaeth i'r perygl llifogydd yn y gymuned honno. Ond wrth gwrs, mae rhannau eraill o arfordir gogledd Cymru mewn perygl hefyd, gan gynnwys ardal Tywyn a Bae Cinmel, a gafodd ei distrywio gan lifogydd 30 mlynedd yn ôl i eleni wrth gwrs.

A gaf fi ofyn pa adnoddau penodol rydych wedi'u darparu ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-2021, ac a fydd unrhyw gyfran o'r hyn a ddyrannwyd yn mynd tuag at wella'r amddiffynfeydd yn ardal Tywyn a Bae Cinmel, fel y gallwn atal y math o ddinistr a welsom 30 mlynedd yn ôl?

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, ac fel y gallais nodi yn fy natganiad ar y gyllideb ddrafft ddoe, cafwyd cyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf i ddarparu cyllid i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl arbennig yn sgil newid hinsawdd a llifogydd, ond mae hynny ar ben yr arian ychwanegol rydym yn ei ddarparu drwy ein rhaglen tai arloesol ar gyfer rheoli risg arfordirol. Ac mae honno’n rhaglen gwerth £150 miliwn yn ystod y Cynulliad hwn, sydd wedi’i chyhoeddi eisoes gan fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Y cynlluniau rydym yn eu cefnogi, yn amlwg, yw’r rhai lle mae'r sylfaen dystiolaeth yn dweud bod yr angen mwyaf, ond yn amlwg, buaswn yn fwy na pharod i gael sgyrsiau gyda'r Aelodau os oes ganddynt bryderon penodol am ardaloedd yn eu hetholaethau eu hunain.

Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ateb cynharach hwnnw, Weinidog. O ran y gyllideb gyffredinol, yn ystod ein sgwrs yn y Pwyllgor Cyllid cyn y Nadolig, gwnaethoch gadarnhau y byddai toriad mewn termau real i'r arian sydd ar gael i gefnogi ac i gynnal gwasanaethau bysiau ledled y wlad. Credaf y bydd hyn yn anodd iawn i lawer ohonom, gan fod Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i achos newid hinsawdd—a chredaf i mi groesawu'r arian sydd ar gael ar gyfer polisi hinsawdd ddoe—ac sydd wedi ymrwymo hefyd i drafnidiaeth gyhoeddus, gyda'r ddeddfwriaeth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati ddoe, yn golygu bod angen i ni allu darparu cefnogaeth go iawn i drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn arbennig, trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau fel y rhai rydych chi a mi yn eu cynrychioli. Mae llawer iawn o gyllid eisoes yn cael ei ddarparu i deithio llesol, a chefnogaf hynny; mae llawer iawn o gefnogaeth yn mynd i'r rheilffyrdd, a chefnogaf hynny hefyd. Ond rwy'n poeni fwy a mwy nad yw'r Llywodraeth yn ystyried gwasanaethau bysiau yn flaenoriaeth ddigonol. Bydd y ffaith y byddant yn cael eu torri mewn termau real yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yn siom fawr i lawer ohonom ar bob ochr i'r Siambr hon.

Buaswn yn ddiolchgar iawn felly, Weinidog, pe baech yn ystyried adolygu'r elfen hon o'r gyllideb i sicrhau bod gennym arian ar gael i gefnogi a chynnal y gwasanaethau bysiau sy'n cysylltu cymunedau bregus iawn weithiau â'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Wel, yn amlwg, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd o fewn portffolios unigol o ran y gallu i gynyddu cyllid ar gyfer elfennau penodol o'u cyllidebau, neu ddim ond gynnal y meysydd gwariant hynny. Ac fel y dywed Alun Davies yn gwbl gywir, mae’r gwariant o £25 miliwn wedi’i gynnal yn hytrach na’i gynyddu o ran y grant cymorth ar gyfer gwasanaethau bysiau. Ond wrth gwrs, dim ond un o'r ffyrdd rydym yn cefnogi gwasanaethau bysiau yng Nghymru yw'r grant cymorth ar gyfer gwasanaethau bysiau, ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol, yn gyffredinol, am benderfynu pa wasanaethau y dylid eu cefnogi'n ariannol gan ddefnyddio arian cyhoeddus, yn seiliedig ar eu hasesiadau o'r amgylchiadau ac anghenion lleol. Ac yn aml iawn, mae awdurdodau lleol yn darparu cyllid o'u grant cymorth refeniw eu hunain er mwyn cefnogi'r gwasanaethau bysiau lleol hynny a chynlluniau trafnidiaeth gymunedol hefyd. Ac wrth gwrs, bydd pob awdurdod lleol ledled Cymru wedi gweld cynnydd yn eu cyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf, fel y nodir yn y gyllideb ddrafft, sy'n rhywbeth y dylid ei gydnabod yn fy marn i. Ond ynghyd â hyn, rydym yn cefnogi'r rhwydwaith bysiau a chymunedau drwy ein cyllid ar gyfer rhwydwaith TrawsCymru o wasanaethau bysiau pellter hir, llinell Traveline Cymru ar gyfer Cymru gyfan, sy'n darparu gwybodaeth ar gynllunio teithiau, a gwaith Bus Users Cymru, sy'n cynrychioli teithwyr, ac wrth gwrs, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol a Swyddfa Comisiynydd Traffig Cymru hefyd. Ac yn bwysig iawn, rydym yn parhau i gefnogi'r cynllun teithio ar fysiau ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 oed, ac wrth gwrs, ein cynllun teithio ar fysiau hynod boblogaidd ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl. Ac mae'r rheini'n bwysig, wrth gwrs, am eu bod yn cynyddu'r galw am fysiau, ac yn helpu i gadw'r gwasanaethau hynny'n gynaliadwy yn y tymor hwy.

13:35
Rheoli'r Gyllideb

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei chyllideb? OAQ54852

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o fewn y drefn gyllidebol a bennir gan Lywodraeth y DU. Mae cyllidebau'n cael eu monitro'n agos gan swyddogion, ac mae hyn yn cynnwys rhagfynegi ac egluro amrywiannau yn y gyllideb. Rwy'n derbyn adroddiadau misol gan y cyfarwyddwr cyllid, ac yn trafod perfformiad ariannol gyda swyddogion. Rwy'n gyfrifol am gymeradwyo diwygiadau i'r gyllideb yn ystod y flwyddyn.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn archwilio un agwedd ar eich cyllideb, sef y setliad llywodraeth leol. Mewn perthynas â hynny, hoffwn ddyfynnu rhai ffigurau i chi: 2 y cant, 4.2 y cant, a 6.5 y cant. Y ffigur cyntaf, 2 y cant, yw cyfradd chwyddiant y DU; yr ail ffigur, 4.2 y cant, yw'r cynnydd cyfartalog hael yn y gyllideb a ddyrannwyd gan eich Llywodraeth i awdurdodau lleol. Felly pam, Weinidog, fod y trydydd ffigur, 6.5 y cant, yn nodi'r cynnydd cyfartalog yn nhreth gyngor awdurdodau lleol? Onid yw hyn yn awgrymu rheolaeth ariannol wael gan awdurdodau lleol, ac a ddylech adolygu'ch dyfarniad yn unol â hynny?

Wel, wrth gwrs, mater i’r cynghorau lleol eu hunain yw pennu'r dreth gyngor. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cydnabod bod y setliad y mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn eleni yn un eithriadol o dda. Ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda CLlLC ac eraill wrth bennu'r gyllideb, a deall y pwysau sydd arnynt. A'n hymrwymiad ers y dechrau oedd rhoi'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol, a chredaf ei bod yn deg dweud bod llawer o awdurdodau lleol wedi cael siom ar yr ochr orau ynghylch y setliadau y maent wedi gallu eu derbyn. Ac mae rhai wedi nodi efallai na fydd y cynnydd yn y dreth gyngor yn eu hardaloedd lleol mor fawr ag y rhagwelwyd ganddynt i ddechrau, oherwydd y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei rhoi.

Weinidog, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi dweud bod datgysylltiad o hyd rhwng dyraniadau'r gyllideb a'n dyheadau priodol iawn i ddod yn Gymru garbon isel a charbon niwtral. A sylwaf fod y pwyllgor hefyd wedi dweud y dylai'r gyllideb ddrafft egluro a dangos yn glir sut y bydd dyraniadau cyllid yn cefnogi'r flaenoriaeth ddatgarboneiddio. Felly, a allwn ddisgwyl y bydd cyllidebau'r dyfodol yn fwy tryloyw a chlir yn hyn o beth, neu a ydych yn credu bod cyllideb eleni yn enghraifft o ymarfer gorau?

Yn sicr, ni chredaf ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle gallwn ddweud ein bod wedi cyflawni ymarfer gorau yn gyfan gwbl eto, ac mae hynny wedi bod yn glir iawn, gan ein bod wedi llunio cynllun uchelgeisiol i wella’r gyllideb. Rwy’n ei weld fel cynllun treigl pum mlynedd, o ran sut y gallwn ymdrechu’n barhaus i wella’r ffordd rydym yn gosod ein cyllideb a’r ffordd y gallwn ystyried ble rydym yn rhoi arian Llywodraeth Cymru—neu arian cyhoedd Cymru. O ran datblygu’r cynllun hwnnw i wella’r gyllideb, gwnaethom hynny gyda chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, sydd, mae’n rhaid i mi ddweud, wedi canmol Llywodraeth Cymru am gymryd cam da tuag at greu Cymru wyrddach. Yn amlwg, rydym yn cydnabod bod gennym lawer i’w wneud o hyd. Ond mae'r cynllun hwnnw i wella’r gyllideb yn ystyried y gwiriwr siwrnai, a ddatblygwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynny'n ymwneud â sut y gallwch ddangos yn ymarferol, a sut y gallwch sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth wraidd y gwaith o wneud penderfyniadau, drwy gydol proses y gyllideb, a’r gwaith o’i monitro a'i hasesu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch ddweud wrthym sut y mae eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn 2020-21 yn mynd i gefnogi busnesau Cymru?

13:40

Yn sicr. Ddoe ddiwethaf, fe gyhoeddais i, fel rhan o gyllideb 2020-21, y byddem yn parhau i ymestyn ein cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr ac ardrethi manwerthu i 2020-21. Felly, mae hynny’n fwy na £24 miliwn o gyllid, sy'n cefnogi dros 15,000 o fusnesau gyda'u hardrethi. Credaf fod hynny'n bwysig iawn, ond mewn gwirionedd, mae hynny ochr yn ochr â £213 miliwn o ryddhad arall i fusnesau yng Nghymru, sy'n golygu nad yw oddeutu hanner busnesau Cymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.

Wel, wrth gwrs, rydym yn croesawu unrhyw ryddhad ardrethi busnes, ond y gwir amdani yw, er gwaethaf y rhyddhad hwnnw rydych yn ei ymestyn, ni sydd â’r drefn ardrethi busnes fwyaf cosbol yn y Deyrnas Unedig o hyd. Ac wrth gwrs, yn ogystal â’r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, mae gennym hefyd dreth trafodiadau tir uchel iawn ar gyfer eiddo anfasnachol, a byddant yn parhau i fod yn uwch na'r Alban a Lloegr hyd y gellir rhagweld. Pam na wnaethoch chi achub ar y cyfle i ystyried lleihau'r trethi hynny er mwyn hyrwyddo buddsoddiad ac i hyrwyddo busnes fel y crewyr cyfoeth yng Nghymru yn eich cyllideb, ac a wnewch chi ailystyried y safbwynt hwnnw cyn cyflwyno'r gyllideb derfynol i’r Siambr yn ddiweddarach yn y flwyddyn?

Wel, buaswn yn dechrau, wrth gwrs, drwy awgrymu bod Darren Millar yn anghywir i awgrymu bod gennym ardrethi busnes cosbol yng Nghymru, oherwydd mewn gwirionedd, ceir cyfran fwy o fusnesau yng Nghymru nad ydynt yn talu unrhyw ardrethi o gwbl nag a geir dros y ffin yn Lloegr. Ac mae'r man lle rydym yn pennu ein hardrethi busnes yn adlewyrchu'r ffaith bod ein gwerth ardrethol cyfartalog yng Nghymru yn wahanol i’r hyn a geir yn Lloegr. Felly, yn Lloegr, mae oddeutu £50,000, a dim ond £30,000 yng Nghymru, felly credaf ei bod ond yn deg fod ein system yn adlewyrchu'r gwahanol werthoedd ardrethol a'r darlun gwahanol sydd gennym yma yng Nghymru.

O ran y dreth trafodiadau tir, yn amlwg, mae gennym gyfradd wahanol, uwch ar gyfer trethi amhreswyl. Ac mae'r rheini ar gyfer pryniannau dros £1 miliwn. Pan gyrhaeddwch £1.1 miliwn, mae'r dreth trafodiadau tir yn dechrau dod yn uwch na threth dir y dreth stamp. Wrth gwrs, cytunwyd ar y gyfradd honno gan y Cynulliad pan wnaethom bleidleisio ar hynny. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod mai hon yw blwyddyn gyntaf yr ardrethi penodol hynny, felly rydym yn amlwg yn cadw llygad barcud arnynt, ond rydym hefyd yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd yn Iwerddon a'r Alban hefyd. Oherwydd mae pob un ohonom wedi dilyn gwahanol lwybrau ac nid oes gennym unrhyw arwydd hyd yn hyn fod yr ardrethi hynny'n atal busnesau rhag lleoli yng Nghymru, oherwydd pan fydd busnesau'n lleoli, maent yn gwneud hynny am lu o resymau, a bydd y dreth trafodiadau tir yn un ohonynt, ond yn amlwg, bydd materion eraill fel sgiliau a chefnogaeth y Llywodraeth i fusnes yn ffactorau.

Wel, cawsoch gyfle euraidd, Weinidog—ac rydych wedi ei golli, a dweud y gwir—i ostwng y lluosydd ardrethi busnes a'i gwneud yn fwy deniadol i bobl ddod yma a buddsoddi yng Nghymru— £600 miliwn yn ychwanegol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth y DU, grant bloc Cymru ar y lefel uchaf erioed. Ac wrth gwrs, er gwaethaf hyn, rydych yn disgwyl i ni gredu nad oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i leihau effaith y trethi hynny ar fusnesau.

Y gwir amdani yw bod gennym Lywodraeth yma nad yw’n rheoli ei gwariant yn iawn. Rydym wedi cael cost ychwanegol o £51 miliwn o ganlyniad i oedi a gorwario ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, £221 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn ardaloedd menter anghystadleuol, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld—ac amlygwyd hyn eto ddoe ddiwethaf—degau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn yn mynd i mewn i dwll du i lawr y ffordd ym Maes Awyr Caerdydd.

Nawr, gwyddom fod llawer o bobl, bob blwyddyn, ym mis Ionawr, yn achub ar y cyfle i fyfyrio a gwneud addunedau blwyddyn newydd. A gaf fi awgrymu adduned blwyddyn newydd i chi, sef rhoi’r gorau i wastraffu arian trethdalwyr a gwneud popeth y gallwch i gefnogi busnesau fel y crewyr cyfoeth yng Nghymru a fydd yn helpu i gynhyrchu’r incwm y dywed eich Llywodraeth fod ei angen yn enbyd?

O ran ein cefnogaeth i fusnes, credaf fod y ffigurau rydym eisoes wedi'u gweld ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn siarad drostynt eu hunain, oherwydd ym mlwyddyn gyntaf y dreth trafodiadau tir, mae'r newidiadau i'r cyfraddau yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn atyniadol i fentrau masnachol. Ac o ganlyniad i'r cyfraddau treth newydd hyn, mae dros 90 y cant o drafodiadau amhreswyl yng Nghymru yn talu'r un faint neu lai o dreth nag y byddent dros y ffin yn Lloegr, ac rydym yn disgwyl i'r newidiadau hynny arwain at gynnydd mewn gweithgarwch masnachol yng Nghymru.

Weinidog, credaf ei bod yn gwbl afresymol fod yn rhaid craffu ar gyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod cyn i gynlluniau gwario Llywodraeth y DU, gan gynnwys manylion grant bloc Cymru, gael eu cyhoeddi. Disgwylir datganiad ar gyllideb y DU ar 11 Mawrth, ychydig ar ôl i'n gwaith craffu ar y gyllideb yma ddod i ben. Dyma enghraifft arall ar restr hirfaith a chynyddol o resymau pam nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru. Ond ai dyma pam fod cyllideb Llywodraeth Cymru mor brin o uchelgais ac arloesedd?

13:45

Mae'n rhaid i mi ddweud, yr hyn sy'n brin o arloesedd ac yn brin o uchelgais, yn fy marn i, yw pan fydd y gwrthbleidiau'n cyhoeddi datganiadau i'r wasg a allai fod wedi'u hysgrifennu o'r blaen. Credaf ei bod bron yn rhagweladwy, onid yw, y bydd gwrthblaid yn dweud bod cyfle wedi'i golli neu eu bod yn siomedig? Beth am astudio a chraffu ar y gyllideb a herio pethau o ddifrif os ydych o'r farn y dylent fod yn wahanol? Beth am gynnig cyllidebau amgen? Beth am gynnig syniadau ar gyfer ffyrdd eraill y dylid gwario arian Llywodraeth Cymru? Credaf y byddai hynny'n gyfraniad mwy defnyddiol o lawer i'r ddadl.

Nid oes gennyf unrhyw syniad at ba ddatganiad i'r wasg y cyfeiriwch ato, ond byddaf yn parhau i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i'w gweld ym meddylfryd y Llywodraeth; rheoli'r gyllideb, dyna a welwn. Credaf fod y newid yn yr hinsawdd yn un o'r meysydd lle mae eich Llywodraeth wedi methu dangos mewn ffordd ystyrlon sut y mae gwariant yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd mewn gwirionedd—gwneud penderfyniadau mawr yn awr er ein lles hirdymor. Nawr, fel y nododd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ni all y Llywodraeth ddweud wrthym hyd yn oed sut y bydd eich cynlluniau gwario yn effeithio ar allyriadau carbon. Er mwyn gweld pam fod angen y math hwnnw o asesiad arnom, edrychwch ar y diweddariad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru ar gyfer 2019; mae'n dangos buddsoddiad o £1.56 biliwn ar ffyrdd o gymharu â buddsoddiad o £818 miliwn mewn trafnidiaeth gynaliadwy, sy'n awgrymu i mi y gallai elfennau o'ch cyllidebu fod yn tanseilio eich amcanion i gyrraedd sero-net o ran carbon mewn gwirionedd. Nawr, a wnewch chi fel Gweinidog roi sicrwydd inni y bydd pob cyllideb yn y dyfodol yn darparu asesiad effaith carbon? Ac o ystyried bod yn rhaid i ni ganolbwyntio mwy ar wariant ataliol ar draws meysydd gwario'r Llywodraeth, a wnewch chi ddarparu dogfen fanwl yn y dyfodol hefyd ar ble mae'r Llywodraeth yn gwario ar atal?

Cefais gyfle i drafod y mater penodol hwn gyda Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig y bore yma, gan ein bod yn awyddus i allu dangos y penderfyniadau a wnawn a'r effaith y maent yn ei chael ar ostwng lefelau carbon. Fodd bynnag, nid yw pethau mor syml â hynny mewn gwirionedd.

Felly, er enghraifft, dim ond un rhan o'r darlun yw buddsoddi yn y seilwaith i gefnogi ceir trydan, gan y bydd y carbon sy'n cael ei arbed mewn gwirionedd o ganlyniad i hynny yn dibynnu ar y nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan, ac mae hynny, mewn sawl ffordd, yn dibynnu ar wahanol ysgogiadau y bydd Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith o ran treth. Felly, os gofynnwch i mi faint y byddwn yn ei arbed o ran carbon o ganlyniad i'n buddsoddiad mewn pwyntiau gwefru, er enghraifft, ni allwn ddweud. Gallwn ddweud sut y bydd ein buddsoddiad, er enghraifft, i newid y fflyd o lorïau sbwriel ledled Cymru yn arbed, gan y gallwn ddangos faint y mae pob lori yn ei allyrru.

Felly, wrth gwrs, mae'n anodd iawn dangos asesiad effaith carbon llawn. Yn aml, arbed carbon yw'r prif reswm pam y byddwn yn gwneud pethau, ac yn aml, maent yn fuddion eilaidd i'r rhesymau pam ein bod yn gwneud pethau. Felly, mae'r llun yn hynod gymhleth. Ond yn amlwg, fel y nodwyd yn ein cynllun i wella'r gyllideb, byddwn yn parhau i ymdrechu i egluro'r penderfyniadau a wnawn o ran asesiadau effaith carbon. Ond mewn gwirionedd, efallai nad yw pethau mor syml ag yr awgrymodd yr Aelod.

Ond, Weinidog, os gaf i awgrymu, y gwir amdani ydy, wrth gwrs ei bod hi'n anodd i chi fesur yr impact, achos dydych chi ddim yn gwneud asesiadau impact. Felly, gofyn i chi ydw i, fel Llywodraeth, i wneud yn siŵr eich bod chi, mewn cyllidebau yn y dyfodol, yn gwneud asesiad o sut yn union mae'r penderfyniadau gwariant rydych chi yn eu cymryd yn mynd i gael impact ar ein huchelgeisiau ni o ran torri allbwn carbon.

Cyfle wedi'i golli ydy'r gyllideb yma, fel y dywedais i ddoe. Mae yna rywfaint o ryddhad—dros dro y mae'r rhyddhad yna, dwi'n ofni—yn yr arian sydd ar gael i'w wario yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond dydy'r cyfle ddim wedi cael ei gymryd i fuddsoddi go iawn rŵan yn yr hirdymor. Dŷn ni ddim yn meddwl yn ddigonol am lesiant ein cenedl yn yr hirdymor.

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo yn barod i gyflwyno prosesau cyllidol llesol, yn cynnwys gwneud asesiadau carbon, er enghraifft. Does yna neb wir yn gweld hon fel cyllideb sy'n arloesi, cyllideb sy'n ennyn gobaith, yn dangos uchelgais ar gyfer dilyn llwybr newydd. Pa bryd fyddwch chi fel Gweinidog yn sylweddoli bod rheoli ynddo fo'i hun ddim yn ddigon?

13:50

Yn amlwg, buaswn yn anghytuno â'r hyn yr awgryma'r Aelod—fod y gyllideb hon yn cynrychioli busnes fel arfer. Wrth gwrs nad ydyw. Rydym yn gweld pecyn buddsoddi sylweddol mewn datgarboneiddio a bioamrywiaeth, ac mae'n flin gennyf na all ei groesawu.

Felly, byddwn yn gweld £5 miliwn yn cael ei ddefnyddio i greu seilwaith gwyrdd mewn canol trefi ac annog bioamrywiaeth. Pa mor aml rydym yn sôn yn y Siambr hon am ba mor bwysig yw hi ein bod yn gwyrddu canol ein trefi? Mae gennym gronfa twf amgylcheddol benodol, a fydd yn gofalu am leoedd lleol ar gyfer natur ac yn annog ceisiadau i gefnogi atal dirywiad natur yn ein cymunedau lleol. Dywed yr Aelod mai cynllun yw hwn—wrth gwrs ei fod yn gynllun, ond mae'n rhan o becyn ehangach sy'n newid cyfeiriad ac yn newid ffocws ein cyllideb.

Diolch, Lywydd. Weinidog Cyllid, siaradais â chi ar y diwrnod y cyhoeddwyd y gyllideb a gwneuthum rai o'r pwyntiau rydym wedi'u clywed gan Rhun heddiw, ac yn rhannol ddoe. Ac rwy'n falch o glywed eich bod wedi cyfarfod â Lesley Griffiths y bore yma i ystyried rhai o'r materion hyn. Fodd bynnag, yn eich datganiad ddoe, fe ddywedoch chi eich bod yn buddsoddi yn y meysydd lle gallwn gael yr effaith fwyaf ar gyfer ein hamgylchedd. Yna, fe ddyfynnoch chi bedwar ohonynt: teithio llesol; fflyd fysiau trydan; ffyrdd newydd o adeiladu cartrefi; a'r goedwig genedlaethol. A gaf fi ofyn, sut y gwnaethoch flaenoriaethu'r meysydd hyn a phenderfynu faint i'w fuddsoddi ym mhob un o'r gwahanol feysydd?

Lluniwyd y cynlluniau penodol hyn yn rhan o'r gwaith trawslywodraethol a wnaethom, pan aeth pob Aelod o'r Llywodraeth i'r afael ag un o'n hwyth maes trawsbynciol, sy'n faes na fyddent yn ei oruchwylio fel arfer, ac yna fe wnaethant ymdrechu i weithio ar draws y Llywodraeth gyda chyd-Aelodau i chwilio am gyfleoedd ar gyfer syniadau newydd, meysydd gwario newydd, a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol, a'r meysydd lle dywed y dystiolaeth wrthym y gellir gwneud gwahaniaeth. Felly, dyma'r cynlluniau a gafwyd o ganlyniad i'r gwaith trawslywodraethol hwnnw.

O edrych ar y dystiolaeth, nid oes angen inni wneud yr holl waith o gasglu tystiolaeth empirig ein hunain—dim ond edrych am enghreifftiau o arferion gorau yn fyd-eang o ran yr hyn y gwyddom sy'n gweithio, a chael cyngor gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd o ran yr hyn yr hoffent weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei hymdrechion arno o ran datgarboneiddio a gostwng ein hallyriadau carbon ledled Cymru.

Gallaf weld bod y Gweinidog yn awyddus i ddilyn arferion gorau. Ac i'r graddau fod Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn bodoli a bod ganddo restr o wahanol brosiectau y mae'n ystyried y gallant fod yn effeithiol, gallaf weld pam ei bod yn defnyddio hynny fel man cychwyn. Ond fel Gweinidog cyllid sy'n gwneud penderfyniad ynghylch faint o'n hadnoddau gwerthfawr i'w buddsoddi mewn meysydd penodol, i'r graddau y caiff hyn ei gyflwyno fel rhywbeth sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd, does bosibl na fyddai'n hoffi gwneud y gwahaniaeth mwyaf y gallai ei wneud gyda'r swm o arian sydd ar gael iddi? Nid wyf yn gwybod ai'r asesiad effaith hinsawdd a awgrymodd Rhun yw'r ffordd iawn ai peidio. Ond does bosibl nad oes angen iddi wneud mwy o waith ar ddeall beth yw'r gwerth am ei harian—os bydd yn cael arian o'r fath—ym mhob un o'r gwahanol feysydd hyn?

Er enghraifft, mae'n sôn am y goedwig genedlaethol—a rhwng popeth, ymddengys i mi ei bod yn fenter dda i blannu mwy o goed a chael coedwig genedlaethol a gweithio ar hynny yng Nghymru—ond beth yw cost gymharol hynny o gymharu ag un arall o’i mentrau, sef buddsoddi arian mewn plannu coed yn Uganda, o ystyried y gwahanol fathau o goed sy’n tyfu, pa mor gyflym y maent yn tyfu, faint o garbon deuocsid y maent yn ei amsugno, faint y mae’n ei gostio i’w plannu, a pha mor effeithiol y bydd y broses reoli mewn perthynas â hynny? Does bosibl nad oes angen i ni ystyried hynny?

Mae hi'n sôn am y ffordd rydym yn adeiladu cartrefi newydd, ac mewn mannau eraill yn y gyllideb, mae'n pwysleisio pwysigrwydd cartrefi fforddiadwy. Ond oni allai fod cyfaddawd rhwng y ddau uchelgais gwahanol? Un maes lle mae tystiolaeth gref o effeithiolrwydd gwariant yn fy nhyb i yw effeithlonrwydd ynni ac inswleiddio cartrefi, lle rydych yn lleihau biliau ynni ar gyfer yr unigolyn dan sylw ac efallai'n cael rhywfaint o effaith hefyd o ran yr hyn y ceisia ei wneud ynglŷn â'r newid yn yr hinsawdd. Onid yw hwnnw'n faes y dylai fod yn buddsoddi arian ynddo, o gymharu â meysydd eraill a allai fod yn ddrytach? Er enghraifft, beth yw cost cael bws trydan o gymharu, dyweder, â buddsoddi mewn rhagor o fysiau, er enghraifft, ym Mlaenau Gwent? Gallai hynny sicrhau bod pobl yn dod allan o'u ceir neu ganiatáu iddynt deithio mewn ffyrdd na allent ei wneud fel arall. Os gwelwch yn dda, cyn cyllideb y flwyddyn nesaf o leiaf, a allwn gael ffordd fwy trylwyr o gynnal yr asesiadau hyn?

Ac mae'n sôn am fod yn awyddus i fuddsoddi arian mewn cyfathrebu—tybiaf fod hynny'n golygu dweud wrth bobl pa mor wych yw Llywodraeth Cymru a'r hyn y mae'n ei wneud ar newid hinsawdd—ond a wnaiff hi ystyried cyfleu neges wirioneddol effeithiol? Un o'r pethau sy'n atal coed rhag cael eu plannu yw'r PAC, gan fod cymhorthdal yn cael ei roi i dir ffermio, ond nid i goetiroedd fel y cyfryw. Os yw hynny'n mynd i newid, sut y bydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i hynny? Sut y bydd yn annog pobl i inswleiddio'u cartrefi, rhywbeth a fydd o fudd iddynt hwythau hefyd? A wnaiff hi weithio'n galetach i gydgysylltu a gwella polisi yn y maes hwn?

13:55

Credaf fod y ddau faes y canolbwyntiodd Mark Reckless arnynt—wel, dau o'r meysydd y canolbwyntiodd arnynt—yn ddau o'r meysydd lle nododd y dystiolaeth gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd y dylid canolbwyntio ymdrechion datgarboneiddio. Felly, un yw'r sector trafnidiaeth ffyrdd—un sy'n hanfodol i gyflawni targed o sero-net—ac felly, mewn ymateb i hynny a'r dystiolaeth a ddarparwyd gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, mae dros £60 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol wedi'i dargedu mewn datgarboneiddio wedi'i anelu'n uniongyrchol bellach at y sector trafnidiaeth yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ac ynghyd â hynny, nododd Mark Reckless fod tai, gwresogi domestig ac ynni domestig yn feysydd pwysig i fynd i’r afael â hwy. Ac eto, dywed Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd fod hwnnw'n faes y dylem roi ein sylw iddo. Felly, mae'r gyllideb yn darparu £25 miliwn ychwanegol yn ein rhaglen tai arloesol i edrych ar hynny. Felly, rydym yn derbyn y dystiolaeth sy'n cael ei darparu i ni a'r argymhellion gan arbenigwyr ac yn eu defnyddio i lywio ein penderfyniadau cyllidebu.

Yn amlwg, mae yna ffyrdd o gymharu pethau. Felly, cyfeiria Mark Reckless at y prosiect plannu coed uchelgeisiol sydd gennym yn Uganda, ac yna mae'n edrych ar y gwaith a wnawn yma yng Nghymru ar y goedwig genedlaethol. Ac yn amlwg, rydym am wneud y ddau beth. Gallwch gael mwy o werth am eich arian os mai yn Uganda'n unig y byddwch yn plannu'r coed hynny. Yn gyffredinol, mae'n rhatach i wneud hynny, maent yn tyfu'n gyflymach ac yn y blaen. Yn dibynnu ar ba fath o goed sy'n cael eu plannu, byddwch yn cael canlyniadau gwahanol o ran carbon. Ond i'r un graddau, rydym yn awyddus i blannu coed yng Nghymru, gan y gwyddom beth fydd y budd i'ch llesiant ac ati os cewch gyfle i gerdded drwy goed ac mewn coetiroedd. Felly, mae'n amlwg fod sawl budd i blannu coed, ac maent yn sicr yn bethau y byddem yn awyddus i'w gwneud yng Nghymru, er y gallech, yn dechnegol, gael mwy o werth am eich arian o'i wneud yn rhywle arall.

Ariannu Gwasanaethau Deintyddol

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gwasanaethau deintyddol yn y dyfodol? OAQ54875

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ystod o faterion ariannol yn ei bortffolio, gan gynnwys materion sy'n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol.

Weinidog, mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ddeintyddiaeth yng Nghymru, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gallu ymrwymo'r un geiniog o fuddsoddiad newydd. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi nodi:

Ni fydd yr argyfwng sy'n wynebu deintyddiaeth y GIG yng Nghymru yn cael ei ddatrys gan ychydig eiriau cynnes.

Eu geiriau hwy, nid fy rhai i. Felly, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Gweinidog iechyd i sicrhau bod y diwygiadau angenrheidiol i'r contractau a recriwtio ychwanegol mewn perthynas â deintyddion yn cael eu cefnogi gan gyllid digonol ac ychwanegol?

Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gyda'r Gweinidog iechyd mewn perthynas â diwygio contractau ac ynglŷn â'r problemau sy'n wynebu deintyddiaeth ledled Cymru, gan y gwn fod hwn yn fater sy'n codi'n aml yn y Cynulliad. Rydym wedi cydnabod bod angen diwygio'r system gontractio bresennol, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn sicr yn mynd i'r afael ag ef, ac mae newidiadau sylweddol eisoes yn cael eu gwneud ac mae timau deintyddol yn croesawu'r newidiadau hynny.

Rydym wedi dweud ein bod yn dymuno gweld nifer y practisau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen ddiwygio yn cynyddu ymhellach, ac rydym bellach yn disgwyl gweld dros hanner y practisau yn rhan o'r rhaglen erbyn mis Hydref 2020. Ceir 132 ohonynt ar hyn o bryd, felly mae oddeutu 30 y cant o bractisau deintyddol yn cymryd rhan ar hyn o bryd.

Yn amlwg, rydym hefyd yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau gyda'r gweithlu a chadw staff. Mae rhan o hynny'n digwydd drwy'r rhaglenni hyfforddi rydym yn eu rhoi ar waith. Ceir cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn awr yn nifer y deintyddion sy'n darparu gofal y GIG yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod bod recriwtio a chadw staff yn broblem benodol, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru—gogledd Cymru, canolbarth Cymru a gorllewin Cymru, yn enwedig—ac mae hynny'n achosi cryn drafferth o ran llenwi swyddi gwag.

Ond gallaf gadarnhau bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru bellach yn edrych ar gomisiynu pecynnau addysg, niferoedd sy'n hyfforddi a hyfforddiant i ddatblygu’r gweithlu, ac ystyried a oes modelau gweithlu mwy effeithiol i ddarparu gwasanaethau a allai wella llwyth gwaith deintyddion a helpu i sicrhau bod practisau'n fwy cynaliadwy a'r yrfa'n fwy deniadol.

14:00

Roedd yn ddiddorol clywed hynny, a dweud y gwir, ond mae'r diwygiadau contract hyn wedi bod yn mynd rhagddynt o ran cynlluniau peilot, neu gynnydd cyffredinol, ers oddeutu tair neu bedair blynedd bellach. O gofio bod y newid yn y contract yn ymwneud â helpu pobl i ddod yn well wrth ofalu am iechyd y geg, buaswn wedi meddwl y gallai fod llai o angen am wariant Llywodraeth Cymru, nid yn unig oherwydd llai o apwyntiadau diangen, ond hefyd llai o driniaethau ar gyfer difrod y gellir ei atal.

Yn 2015-16, costiodd yr hen raglenni gofal deintyddol a gofal iechyd y geg £137 miliwn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r refeniw o £33 miliwn o daliadau cleifion, sef 2.14 y cant o gyfanswm gwariant y GIG. Sut y mae hynny'n cymharu bellach â'r gwariant o dan y contract diwygiedig hwn a pha dystiolaeth a gawsoch gan y Gweinidog i gyfiawnhau'r newidiadau?

Eleni, rydym yn darparu dros £146 miliwn i GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol. Rydym yn gweld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau deintyddol, sy'n beth da. Felly, mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos bod 1.7 miliwn o bobl yn defnyddio gwasanaethau deintyddiaeth gofal sylfaenol y GIG yn rheolaidd, ac mae hynny 42,000 yn fwy o bobl na phum mlynedd cyn y ffigurau diweddaraf. Bellach, mae gennym dros 1,500 o ddeintyddion yn gweithio yn y GIG yng Nghymru o gymharu â 1,439 yn ôl yn 2014, felly rydym yn gweld cynnydd yn raddol yn nifer y deintyddion, ond cynnydd cyfatebol hefyd yn nifer y cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.

Mae'n ddealladwy fod gan lawer o breswylwyr cartrefi gofal iechyd deintyddol gwael i gychwyn pan fyddant yn mynd i gartref gofal, gan eu bod yn aml yn mynd i gartref gofal gan fod eu hiechyd yn dirywio ac oherwydd diffyg symudedd. Gan fod mynediad deintyddol i blant ar lefel uwch nag erioed, ac fel y gwyddoch, rwy'n sôn yn rheolaidd iawn am ba mor dda yw Cynllun Gwên, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn newyddion gwych i bobl hŷn y bydd cyllideb rhaglen Gwên am Byth yn dyblu y flwyddyn nesaf, gan sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd pob cartref gofal ledled Cymru?

Diolch i Mike Hedges am godi'r mater penodol, pwysig hwnnw ac am ei gefnogaeth gyson i Cynllun Gwên. Cofiaf, yn y sesiwn graffu ddiweddar ar gyllid, iddo gyfeirio ato fel un o'r enghreifftiau rhagorol o wariant gwirioneddol ataliol sydd gennym yng Nghymru. Credaf ei bod ond yn deg ein bod yn ceisio canolbwyntio ein hymdrechion er mwyn gwella iechyd y geg ac iechyd deintyddol pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, felly rwy'n falch iawn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi £0.25 miliwn yn ychwanegol i ymestyn rhaglen iechyd y geg Gwên am Byth—A Lasting Smile i'r flwyddyn nesaf, ac rydym yn dyblu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer hynny bellach i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ym mhob cartref gofal yng Nghymru yn 2020.

Rheoli Adnoddau

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hadnoddau i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd? OAQ54857

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod penderfyniadau gwariant yn cael eu llywio gan dystiolaeth gadarn a bod gwerth am arian yn cael ei ystyried wrth ddatblygu polisi. Rydym yn cyfeirio at ystod o ganllawiau i wneud y defnydd gorau o adnoddau cyhoeddus, gan gynnwys yr egwyddorion lefel uchel a nodir yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM.

Gŵyr y Gweinidog nad oes prinder ymgeiswyr am fwy o wariant lle mae gwir angen, boed hynny'n golygu'r gwasanaeth iechyd neu leihau tlodi tanwydd neu beth bynnag. Credaf y bydd y rhan fwyaf o drethdalwyr Cymru yn crafu eu pennau, felly, pan fyddant yn darganfod y bydd £1.2 miliwn yn cael ei wario ar sefydliadau fel Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru—lle mae dwy ran o dair o'i hincwm yn cael ei wario ar gyflogau ei staff. O'r rhan o'i hincwm nad yw'n cael ei wario ar gyflogau staff, mae'n cefnogi sefydliadau fel Hub Cymru Affrica, sy'n derbyn £640,000 y flwyddyn. Nid yw'n darparu unrhyw gyfrifon ei hun, felly nid oes gennym unrhyw syniad faint o bobl y mae'n eu cyflogi na faint o gyflog y maent yn ei ennill, ac mae'n gwario'r arian nad yw'n ei wario ar gyflogau staff yn bennaf ar eitemau nad ydynt yn dod o Gymru neu endidau eraill, sydd eu hunain yn gwario'r arian yn bennaf ar gyflogau staff, fel y panel cynghori is-Sahara, sydd ag incwm o £68,000 y flwyddyn, a chostau staff o £74,000.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfrifoldeb am gymorth tramor, datblygu tramor na pholisi tramor, felly pam rydym yn ymbleseru yn y sioe fawr hon o nodi rhinweddau a ariennir gan drethdalwyr ar gyfer gwleidyddion dosbarth canol ym Mae Caerdydd pan fo anghenion gwirioneddol y tu allan? Fel y mae'r blogiwr Jac o' the North wedi'i ddisgrifio'n fwy bachog, o bosibl:

Mae gan wlad â phobl ddigartref ar y strydoedd, lle mae plant yn mynd i'r ysgol yn llwglyd, lle mae pobl yn marw wrth aros am ambiwlansys, filiynau o bunnoedd i'w sbario, yn ôl pob golwg, fel y gall gweithredwyr diletantaidd o Loegr a gwleidyddion Cymreig diwerth deimlo'n well amdanynt eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod yn Llywodraeth ryngwladol, fyd-eang sy'n cymryd ei chyfrifoldebau i'r blaned ac i eraill o ddifrif. Rydym yn gwbl falch o'r gwaith a wnawn drwy ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Credaf y gallai apelio'n well at werthoedd yr Aelod pe byddwn yn gwneud y pwynt ei bod, mewn gwirionedd, yn fuddiol i ni os yw gwledydd tramor sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd yn gallu ymdopi'n well mewn cymaint o ffyrdd. Mae heddwch dramor yn fuddiol i ni. Mae sicrhau bod gwledydd tramor yn gallu gwneud cyfraniad gwell at yr argyfwng hinsawdd yn fuddiol i ni. Felly, credaf efallai y gallai'r syniadau cul hynny helpu'r Aelod i ddeall pa mor bwysig yw ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica.

14:05

Yn amlwg, mae rheoli adnoddau i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd yn cynnwys chwarae, sy'n allweddol i iechyd a lles plant. Nododd yr adolygiad diweddar o asesiadau digonolrwydd chwarae a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan Chwarae Cymru fod cyllid grant cyfleoedd chwarae Cymru gyfan gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at fwy o weithgarwch i sicrhau cyfleoedd chwarae ledled Cymru, ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch sut y dylid defnyddio buddsoddiadau gwrth-dlodi a buddsoddiadau eraill â ffocws i gefnogi digonolrwydd chwarae. Sut rydych yn ymateb, felly, i bryderon a godwyd gyda mi gan gynrychiolwyr y sector chwarae yr wythnos hon, sydd wedi cael gwybod na fydd y grant cyfleoedd chwarae Cymru gyfan yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf; mai'r grant hwn yw'r unig beth sydd wedi bod yn cadw'r darnau olaf o seilwaith chwarae a gwaith chwarae i fynd ledled Cymru; a'u bod, fel sector, yn colli nifer o staff rhagorol sydd wedi gadael i fynd i feysydd eraill, ac er bod gwaith rhagorol yn mynd rhagddo mewn rhai ardaloedd, mae bylchau enfawr yn y seilwaith o hyd ac mae'r ddarpariaeth yn crebachu?

Rwy'n ymwybodol o waith da Chwarae Cymru. Rwyf wedi cael cyfle i weld rhai o'r pethau a wnânt yn lleol yn fy ardal fy hun. Yr hyn a ddywedaf yw nad wyf yn arbennig o gyfarwydd â'r grant penodol y cyfeiria'r Aelod ato, ond os ysgrifennwch ataf gyda mwy o wybodaeth, efallai y gallaf ei drafod gyda'r Gweinidog perthnasol sy'n gyfrifol.

Effaith y Gyllideb ar Ogledd Cymru

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn ei chael ar Ogledd Cymru? OAQ54887

Mae'r gyllideb yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n cymunedau. Mae hyn yn cynnwys hwb o £20 miliwn i fetro gogledd Cymru ym mhortffolio Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan barhau â'n buddsoddiad mewn system drafnidiaeth integredig, fodern ac effeithlon ar gyfer y rhanbarth.

Diolch i chi am eich ateb. Byddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, mae gen i nifer o gynlluniau ynni hydro yn fy etholaeth, a dwi wedi codi hyn gyda chi lawer gwaith yn y gorffennol. Mae yna ofid difrifol yn y sector, wrth gwrs, ynglŷn â'r sefyllfa treth fusnes annomestig, a'r effaith mae hynny'n ei gael ar y sector. Mae yna alwadau, ac mae ystyriaeth wedi bod, ynglŷn â newid y fethodoleg i gyfrifo lefel y dreth, neu, wrth gwrs, mae'r cynllun grant sydd wedi bod ar gael gan Lywodraeth i gynorthwyo'r cynlluniau yma, gyda'r taliadau hynny'n dod i ben ddiwedd y flwyddyn ariannol yma. Does yna ddim sicrwydd ynglŷn â beth fydd y trefniadau yn y flwyddyn ariannol nesaf ac mae hynny yn taflu cysgod difrifol dros y sector; mae'n creu ansicrwydd. Mae hynny, wrth gwrs, ar ôl gwrando arnoch chi'n dweud gymaint rydych chi'n ei wneud dros yr amgylchedd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, yn codi cwestiwn, efallai, ynglŷn â pham nad ŷch wedi gallu rhoi ateb a sicrwydd i'r sector cyn hyn. Oes posib i ni glywed beth yw'r diweddaraf ynglŷn â hyn, ac allech chi roi sicrwydd i fi y byddwch chi'n gwneud popeth y gallwch chi i amddiffyn y sector rhag effeithiau gorfod talu'r dreth yma yn ei llawnder?

Rwy'n ddiolchgar i Llyr am godi'r mater hwn. Gwn fod ganddo gryn ddiddordeb yn y sector ynni dŵr, fel sydd gennyf innau a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni. Ar hyn o bryd, rydym yn aros am bapur gan gorff cynrychiadol y sector ynni dŵr, sy'n cyfeirio at y newidiadau posibl yn y fethodoleg a ddisgrifiwyd gennych, ond rwy'n agored i gael trafodaethau pellach, fel rwyf eisoes wedi dweud wrth y Gweinidog, mewn perthynas â chefnogaeth i'r sector y flwyddyn nesaf.

Wrth groesawu’r cynnydd o £400 miliwn i iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n rhaid i ni nodi bod hyn yn llai na’r gorwariant cronnol tair blynedd ar draws y GIG. Yng ngogledd Cymru, rydym wedi gweld diffygion uwch nag erioed o £20 miliwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2015-16; £30 miliwn yn 2016-17; £39 miliwn yn 2017-18; a £41 miliwn yn 2018-19. Mae'r methiannau hyn i fantoli'r gyllideb wedi digwydd er bod y bwrdd iechyd wedi derbyn £83 miliwn mewn cyllid mesurau arbennig. Nawr, fel y gwyddoch, Weinidog, nid oes golau ar y gorwel eto gan fod y bwrdd yn rhagweld diffyg o £35 miliwn ar gyfer 2019-20, gan fethu eich targed eich hun o £10 miliwn. Ers y mesurau arbennig, ni ellir dadlau bod y Gweinidog iechyd wedi goruchwylio, ac yn wir, wedi caniatáu i fwrdd iechyd sy'n perfformio'n wael ddod yn wactod ariannol enfawr. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi y bydd arian a roddir i'r bwrdd iechyd hwn ar gyfer 2020-21 yn dod gyda strategaeth gadarn ar waith i gael gwared ar wariant gormodol ac amseroedd aros sydd hyd yn oed yn fwy gormodol?

14:10

Fel y soniais yn y datganiad ddoe, bydd y byrddau iechyd lleol ledled Cymru yn cyflwyno eu cynlluniau a’u cynigion ar gyfer 2020-21 erbyn diwedd y mis, a bydd y Gweinidog iechyd a’i swyddogion yn eu herio ac yn craffu arnynt yn ofalus, ac yna bydd y Gweinidog iechyd naill ai'n derbyn y cynlluniau neu fel arall wrth iddynt gael eu cyflwyno. Yn amlwg, bydd ffocws ar wella a ffocws ar werth am arian yn ganolog i'r ystyriaethau hynny.

Weinidog, un o'r rhesymau pam y dewisais fynd i'r byd gwleidyddol oedd y canfyddiad nad yw gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg o sylw, cyllid ac ystyriaeth o gymharu â'r de. Rydym wedi cael Gweinidog ar gyfer gogledd Cymru ers dros flwyddyn, nid yw wedi gwneud datganiad eto yn y rôl honno, ac a dweud y gwir, nid wyf fawr callach a yw'r canfyddiad hwnnw'n gywir. Weinidog, a allwch gadarnhau bod gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg mewn gwirionedd a sut y gallwn ddweud hynny?

Wel, nid yw'n wir, wrth gwrs, nad yw gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg o gyllid. Rwy'n edrych ar y ffigurau ar wariant cyfalaf sydd gennyf o'm blaen, ac maent yn dangos bod cyfanswm y gost ragamcanol ar wariant cyfalaf, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, yn £2.5 miliwn, sef yr uchaf ond un o'r holl ranbarthau mewn gwirionedd. A dim ond y ffigur cyntaf sydd gennyf o'm blaen yw hwnnw. Felly, ni chredaf fod y ffigurau'n cefnogi hynny, ac er mawr siom i'r Aelod efallai, nid yw'r dadleuon hynny'n ddilys.

Effalith y Gyllideb ar Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar bobl Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ54881

Mae cyllideb ddrafft 2020-21 yn cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru ac yn buddsoddi yn nyfodol ein planed. Er enghraifft, mae ein cynlluniau'n cynnwys cyllid i gwblhau'r buddsoddiad o £25 miliwn ar gyfer cam 2 y cynllun menywod a phlant yn ysbyty Glangwili.

Diolch am hynny, ac wrth gwrs, mae croeso mawr i'r £25 miliwn hwnnw i Glangwili. Ond mewn gwirionedd, hoffwn gael eglurder gennych heddiw ynglŷn â'r dyraniad a ddarperir yn y gyllideb i gynnal a diweddaru ystâd y GIG. Nid yw'n glir iawn yn y trosolwg ble a sut y gellid defnyddio'r cyllid cyfalaf hwnnw. Mae gennyf nifer o feddygfeydd yn fy ardal nad ydynt yn addas at y diben mwyach mewn gwirionedd. Rydym yn gofyn i ymarfer meddygol ddarparu mwy a mwy o wasanaethau i nifer fwy o bobl, gyda llawer ohonynt â chydafiacheddau, ac mae angen galluoedd mynediad arbennig arnynt ac mae arnom angen llu o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd angen adeiladau i weithio ynddynt. Yn y gorffennol, roedd gennym gronfa arbennig o oddeutu £10 miliwn y gallai meddygon teulu wneud cais iddi er mwyn adnewyddu eu hystâd. Mae'r gronfa honno wedi diflannu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Sylwaf fod £1.8 biliwn wedi'i ddyrannu i gynnal a thrawsnewid ystâd y GIG, ond nid yw'n glir i mi a fydd meddygon teulu hefyd yn gallu cael mynediad at yr £1.8 biliwn hwnnw ai peidio, neu a yw'n gyfan gwbl ar gyfer ymddiriedolaethau a byrddau iechyd.

Diolch i'r Aelod am ofyn y cwestiwn hwnnw. Os yw'n fodlon, efallai y gofynnaf i'r Gweinidog iechyd ddarparu ateb manwl i'r cwestiwn hwnnw.FootnoteLink

Mae cwestiwn 8 wedi'i ofyn eisoes ac felly cwestiwn 9, Jack Sargeant.

Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru

9. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael i'r portffolio Tai a Llywodraeth Leol yn ystod y cylch cyllideb cyfredol i gefnogi Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru? OAQ54868

Yn unol â'r flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei rhoi i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac er gwaethaf bron i ddegawd o gyni, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cynnal lefel y buddsoddiad yn y grant cymorth tai y flwyddyn nesaf ar £170 miliwn—mae'n ddrwg gennyf, £127 miliwn.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r grant cymorth tai yn un o'r amddiffyniadau gorau sydd gennym yn erbyn yr anhrefn parhaus a achosir gan gyni Torïaidd. Gellir gweld canlyniad blynyddoedd o ddihidrwydd Llywodraeth y DU ynghylch effaith eu polisïau lles ar ein strydoedd: lefelau cywilyddus o gysgu allan ledled y DU, nid yn unig yn ein dinasoedd, ond ym mhob un o'n cymunedau.

Weinidog, mae cynghorau yng Nghymru yn defnyddio'r grant cymorth tai i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. Os yw cyllideb mis Mawrth yn darparu unrhyw arian ychwanegol i Gymru, a wnewch chi ystyried rhyddhau mwy o arian i'r grant cymorth tai?

14:15

Mae Jack Sargeant yn cydnabod pwysigrwydd y grant cymorth tai, fel finnau, yn yr ystyr ei fod yn un o'r dulliau sydd gennym o atal digartrefedd yma yng Nghymru. Er ein bod wedi gallu cynnal cyllidebau ar y lefelau presennol, mae'n gywir i ddweud nad ydym, yn anffodus, wedi gallu darparu cynnydd mewn termau real i bob eitem yn y gyllideb. Mae'r pwysau'n parhau, wrth gwrs, wrth fynd i mewn i'r flwyddyn nesaf.

Credaf fod ein cyflawniad yng Nghymru yn cymharu’n ffafriol â’r stori dros y ffin, lle cafodd rhaglen Cefnogi Pobl ei dadneilltuo, gan arwain at doriadau sylweddol yn y cyllid, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Ond wrth gwrs, pan gyhoeddir y gyllideb ar 11 Mawrth, byddwn yn gweld wedyn i ba raddau y bydd cyllid ychwanegol yn dod i Gymru, ac yn amlwg, bydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud bryd hynny mewn cyllideb atodol gynnar, os yw'r newidiadau hynny'n sylweddol.

Weinidog, ymddengys fod y rhan fwyaf o'r arian ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd wedi'i dargedu at Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Felly, a gaf fi ofyn pa arian ychwanegol fydd yn cael ei ddarparu i gefnogi pobl ddigartref mewn awdurdodau lleol gwledig yn benodol, er enghraifft Powys?

Mae Russell George yn llygad ei le fod cyllid penodol yn mynd i Abertawe, Casnewydd, Caerdydd a Wrecsam, gan eu bod yn ardaloedd go iawn lle mae llawer o gysgu allan, ac mae pwysau sylweddol ar yr awdurdodau lleol hynny. Ond rydym yn llwyr gydnabod nad mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol yn unig y mae digartrefedd yn digwydd, mae'n digwydd ledled Cymru, a dyna un o'r rhesymau pam fod y Gweinidog tai a llywodraeth leol newydd lansio ymgyrch sy'n cydnabod bod digartrefedd yn digwydd ledled Cymru, ac yn aml y gall fod yn fath cudd o ddigartrefedd. Felly, mae'n arbennig o bryderus am y bobl sy'n symud o un soffa i'r llall, er enghraifft.

Felly, ceir cymorth ledled Cymru ar gyfer digartrefedd—mae'r cyllidebau digartrefedd hynny wedi'u cynnal ar £17.9 miliwn yn 2021. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth yn eich ardal benodol chi.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.

Hawliau Dynol

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo hawliau dynol drwy ei strategaeth cysylltiadau rhyngwladol? OAQ54866

Member
Eluned Morgan 14:17:50
Minister for International Relations and the Welsh Language

Mae gwerthoedd ac egwyddorion clir yn sail i'r strategaeth ryngwladol, gan gynnwys pwyslais ar gefnogaeth i hawliau dynol. Mae gennym draddodiad hir a balch o fod yn genedl groesawgar i bobl o bob diwylliant a gwlad ac ymrwymiad hefyd i nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig.

A gaf fi gymeradwyo'r ymrwymiad a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, Llywodraeth y DU ar hawliau dynol a hyrwyddo'r hawliau hynny ym mhob cwr o'r byd? Wedi dweud hynny, rwy’n poeni ychydig fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod iawn ei chroeso i Lywodraeth gomiwnyddol Fietnam dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig drwy gyswllt addysg Cymru-Fietnam. Nawr, yn wir—[Torri ar draws.] Yn wir, gosodwyd y carped coch gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymweliad gan Weinidog addysg Fietnam y llynedd, lai na 12 mis yn ôl. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae cyfundrefn Fietnam yn wladwriaeth heddlu, sy'n cael ei chyhuddo'n rheolaidd o fynd yn groes i hawliau dynol, yn enwedig mewn perthynas â'r gymuned Gristnogol leiafrifol yno. [Torri ar draws.] Credaf y dylai'r Gweinidog addysg gael ei haddysgu mewn perthynas â hawliau Cristnogion yn Fietnam, hawliau sy'n cael eu torri'n rheolaidd. Yn ôl yr elusen Open Doors, mae Fietnam yn un o’r 50 man gwaethaf yn y byd am erlid Cristnogion, gyda’r rheini o leiafrifoedd ethnig yn ei chael hi'n arbennig o anodd, wrth iddynt wynebu ymosodiadau treisgar, aflonyddwch, wrth i'w haddoldai gael eu dymchwel ac wrth iddynt gael eu carcharau. A gaf fi ofyn, fel y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Fietnam ynglŷn â'u record mewn perthynas â hawliau dynol, yn enwedig mewn perthynas â'r gymuned Gristnogol yno? A pha gamau rydych yn eu cymryd ar draws y Llywodraeth i sicrhau y ceir dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r materion hawliau dynol hyn gyda Gweinidogion, fel Gweinidog addysg Fietnam, pan fyddant yn ymweld yn y dyfodol?

Diolch, Darren. Rwy'n siomedig, gan y credaf y dylem fod yn falch iawn o'r ffaith ein bod yn datblygu perthynas addysg gref iawn â Fietnam. Y ffaith ein bod yn eu helpu i wella eu systemau addysg, ein bod yn annog mwy o bobl o'r wlad honno i ddod i astudio yng Nghymru, fod hon yn wlad llawn addewid a bod cyfleoedd i ni, felly, i helpu i ddylanwadu ar—

14:20

A ydych yn eu herio ar eu record mewn perthynas â hawliau dynol?

—gyfeiriad y wlad, yn bartneriaeth strategol bwysig iawn i ni, rwy'n credu—

A ydych yn eu herio ar eu record mewn perthynas â hawliau dynol?

A gaf fi—? Darren, rydych wedi gofyn eich cwestiwn ac mae'n rhaid i chi roi cyfle i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn. Weinidog.

Credaf ei bod yn werth tanlinellu nad ni yn unig sydd â pherthynas â Fietnam, ond Llywodraeth y DU hefyd. Mae gan Lywodraeth Dorïaidd y DU berthynas agos iawn hefyd. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod cysylltiadau rhyngwladol ym maes hawliau dynol bob amser yn gallu bod yn eithaf anodd, ond mae'n rhaid i chi wneud rhai penderfyniadau anodd weithiau, ac rydym wedi gwneud penderfyniad yn yr achos hwn ei bod o fudd adeiladol i ni a'n partneriaeth i sicrhau ein bod yn gweithio gyda Fietnam i'w helpu i ddatblygu eu system addysg.

Yr hyn y buaswn yn cytuno â Darren yn ei gylch yw y dylai pob Llywodraeth—y Llywodraeth hon, Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd, pob Llywodraeth—sicrhau, fel y bo'n briodol, eu bod yn codi materion ynghylch hawliau dynol gydag unrhyw genedl—unrhyw genedl a phob cenedl. Ond mae'r un mor briodol, ac mae'n rhaid i ran o hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, ymwneud â datblygu cysylltiadau lle gallwch gael y sgyrsiau hynny hefyd.

Yr hyn yr hoffwn holi yn ei gylch—mae'n fater rwyf wedi'i godi eisoes, ond nid wyf wedi cael yr eglurder rwy'n chwilio amdano—yw materion rhyngwladol ehangach yn y dyfodol, ac yn enwedig mewn cytundebau masnach yn y dyfodol, lle rwy'n pryderu y byddwn yn gweld ymrwymiadau'n cael eu glastwreiddio, Darren, mewn perthynas â hawliau dynol, oherwydd i bob pwrpas, rydym wedi gweld hynny, yng nghytundebau Fietnam, lle mae'r hyn a oedd yn gyfreithiol rwymol o dan rwymedigaethau hawliau dynol cyfreithiol rwymol a chyfreithiol orfodadwy'r Undeb Ewropeaidd bellach wedi'u gosod mewn ffurf o eiriau ochr yn ochr ag ef. Felly, a gaf fi ofyn am gadarnhad y bydd llais Llywodraeth Cymru drwy'r Gweinidog yn nodi'n glir ein bod yn dymuno gweld rhwymedigaethau hawliau dynol rhwymol mewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol, boed gyda'r UDA, boed gyda Fietnam, boed gydag unrhyw un? A bydd angen i Lywodraeth y DU ddeall y byddant yn gorfodi'r mater.

Diolch, a chredaf ei bod yn werth tanlinellu, yn y gorffennol, fod maniffesto'r Ceidwadwyr yn dymuno diweddaru'r Ddeddf Hawliau Dynol—yn y gorffennol, roeddent yn dymuno cael gwared arni'n gyfan gwbl a chyflwyno bil hawliau Prydeinig yn ei lle. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod gennyf fwy o hyder yn y system sydd gennym ar hyn o bryd nag unrhyw system arall y maent yn debygol o'i chyflwyno, gan y credaf fod meincnodi rhyngwladol yn wirioneddol bwysig. Ac os yw'n dymuno bod mewn sefyllfa lle mae'r math o bobl y mae'n cymysgu â hwy—. Os yw'n dymuno ymbellhau oddi wrth y Ddeddf Hawliau Dynol, y bobl y bydd yn cymysgu â hwy, yr unig bobl yn y Cyngor Ewropeaidd, yw Belarws a Kazakhstan, a dyna'r llwybr rydym arno, o bosibl. Yn sicr, dyna oedd persbectif maniffesto'r Ceidwadwyr. Felly, gadewch inni fod yn glir pwy yw'r blaid sy'n awyddus i israddio hawliau dynol.

Nawr, i ddod at eich cwestiwn, credaf yn gyntaf oll ei bod yn werth dweud nad yw hawliau dynol yn rhywbeth y darperir ar eu cyfer fel y cyfryw mewn cytundebau masnach. Yr hyn sy'n digwydd yw y cyfeirir atynt, ceir cyfeiriadau atynt, mewn cytundebau fframwaith ehangach, a'r hyn y byddem ni yn Llywodraeth Cymru yn dymuno'i weld yw cyfeiriad clir at y cytundebau fframwaith ehangach hynny a fyddai'n cynnwys hawliau dynol i sicrhau bod cysylltiad rhwng y polisïau masnach a'r sefyllfaoedd hawliau dynol ehangach hynny. Credaf ei bod hefyd yn werth nodi, fodd bynnag, fod nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig wedi awgrymu bod hawliau dynol yn hanfodol ar gyfer datblygu cynaliadwy. Felly, mae'n debyg y byddai meddwl y gallwch eu gwahanu'n gyfan gwbl yn anghywir hefyd.

Hyrwyddo'r Defnydd o'r Gymraeg

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy'r system addysg? OAQ54854

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Gweinidog Addysg. Cawsom gyfarfod arall yr wythnos hon i drafod agweddau ar Cymraeg 2050 mewn perthynas â’i phortffolio, ac yn dilyn yr ymgynghoriad ar Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a’r canllawiau drafft cysylltiedig a fu'n destun ymgynghoriad, byddwn yn cynnal cynhadledd ym mis Mawrth i drafod cynllunio a hyrwyddo'r Gymraeg mewn addysg.

14:25

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae rhieni wedi cysylltu â mi, ac maent yn parhau i gysylltu â mi mewn niferoedd cynyddol, yn pryderu nad oes unrhyw ddosbarthiadau anghenion dysgu ychwanegol arwahanol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn fy etholaeth, ac maent yn teimlo bod eu plant o dan anfantais ac yn methu cael mynediad at addysg yn eu hiaith ddewisol. Pa drafodaethau rydych wedi'u cael ynghylch sicrhau darpariaeth ddigonol o addysg ADY mewn dosbarthiadau arwahanol drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghwm Cynon, ond ledled Cymru hefyd?

Diolch yn fawr iawn, Vikki. Dylwn roi gwybod i chi fod y Gweinidog addysg wedi cynnig cyfarfod â chi i drafod hyn ymhellach, ond er gwybodaeth, ceir darpariaeth yn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd sy'n mynnu bod ADY yn cael eu hystyried. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd wedi'i gryfhau. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ymwybodol ohono. Cawsant gyfarfod ym mis Rhagfyr. Felly, mae hwn yn fater y maent yn deall bod angen mynd i'r afael ag ef, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y credaf y byddai'n peri pryder i ni, i feddwl na fyddai'r ddarpariaeth honno ar gael. Yn sicr, mae angen i ADY fod yn hygyrch drwy gyfrwng y Gymraeg fel y maent drwy gyfrwng y Saesneg.

Gweinidog, dwi'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â fi wrth longyfarch Ysgol y Preseli yn fy etholaeth i sydd, fel dŷch chi'n gwybod, yn ysgol uwchradd Gymraeg sydd wedi cael ei graddio'n ail yng Nghymru yn ôl canllaw ysgolion The Sunday Times eleni am ei pherfformiad rhagorol. Nawr, mae'n bwysig bod ysgolion eraill yn dysgu oddi wrth ysgolion Cymraeg fel Ysgol y Preseli er mwyn hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg drwy'r system addysg. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni, yn y trafodaethau dŷch chi wedi'u cael ac yn cael gyda'r Gweinidog addysg, sut ydych chi fel Llywodraeth yn sicrhau bod ysgolion eraill yn gallu elwa o'r gwaith arbennig mae Ysgol y Preseli yn ei wneud i hyrwyddo'r Gymraeg?

Diolch yn fawr. Gaf i hefyd longyfarch Ysgol y Preseli, sydd wedi bod yn datblygu dros y blynyddoedd? Dwi'n gwybod yn y gorffennol roedd reputation eithaf uchel gyda nhw. Aethon nhw i lawr tipyn bach ac maen nhw wedi codi unwaith eto a dŷn ni'n falch iawn o'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i'r disgyblion yn yr ardal yna. Wrth gwrs mae yna gyfle i ddysgu, ac un o'r pethau dŷn ni'n ei wneud yw sicrhau bod y rhwydweithiau yma ar draws y canolfannau yn rhoi cyfle i bobl i ddysgu oddi wrth ei gilydd, yn arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hwn yn sicr yn rhywbeth sydd yn cael ei edrych arno yn yr ardal yna yn benodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch, Llywydd. Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, mi wnes i godi achos dyn oedrannus Cymraeg ei iaith o Ynys Môn sy'n byw efo dementia. Mae'r ffaith bod bwrdd iechyd sydd i fod yn gweithredu'n unol â'r safonau iaith hyd yn oed yn ystyried darparu gofal iddo yn Lloegr, lle, wrth gwrs, na fyddai yna wasanaeth Cymraeg ar gael, yn brawf gwbl ddiamheuol fod y safonau ar y byrddau iechyd yn ddiffygiol.

O dan eich safonau chi fel maen nhw ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa oedd yn wynebu'r gŵr o Fôn yn berffaith gyfreithlon a does dim gwarchodaeth gyfreithiol o gwbl i gleifion. Does bosib y dylai hi fod yn ddisgwyliad ar fwrdd iechyd i ddarparu gwasanaeth i gleifion bregus, megis cleifion dementia, yn eu hiaith gyntaf, ac na ddylai hi syrthio ar deuluoedd, gwleidyddion a grwpiau pwyso i ddiogelu hawliau dynol sylfaenol siaradwyr Cymraeg i wasanaeth yn eu hiaith. Ydych chi'n cytuno ag awgrym y Prif Weinidog ddoe fod yna ddiffygion sylfaenol i'r safonau iechyd a bod rhaid ail-ymweld â nhw ar fyrder? 

Wel, gaf i ategu at yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog ddoe? Mae'n anodd inni drafod materion personol ynglŷn ag un unigolyn, ond mae yn bwysig ein bod ni'n deall hefyd fod yna faterion clinigol ambell waith sydd yn golygu ei fod e'n ofynnol i bobl adael ein gwlad ni. Ond dwi yn cyd-fynd â'r Prif Weinidog wrth iddo ddweud bod angen inni gydnabod bod hawliau siaradwyr Cymraeg i gael eu materion nhw wedi ymdrin â nhw trwy gyfrwng y Gymraeg a'u gofal nhw trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth rŷm ni'n ei weld fel rhywbeth elfennol a sylfaenol y dylem ni fod yn cael ein cynnig yng Nghymru.

Yn ôl e-bost anfonoch chi i swyddogion yn holi cwestiynau cyn pasio'r safonau iechyd—. Mae'n dod yn amlwg, o ddarllen yr e-bost yna, eich bod chi'n gwbl effro i ddiffygion y safonau iechyd. Dwi'n dyfynnu—rydych chi'n gofyn hyn: 

Felly, hoffwn ddweud yn glir, os oes dynes fach 90 oed o Wynedd sy'n siarad Saesneg gwael yn mynd i'r ysbyty ac ar fin cael llawdriniaeth gymhleth, yn gyfreithiol, ni all ofyn i rywun esbonio iddi beth sy'n digwydd yn Gymraeg, ac mai'r hyn rydym yn ei gynnig yw bod y bwrdd iechyd yn gwneud cynlluniau fel y gallant nodi i ba raddau y byddant yn gallu cynnal ymgynghoriadau clinigol yn y Gymraeg ymhen pum mlynedd, a allai olygu, yn ôl pob tebyg, na fyddant yn gallu gwneud hynny o hyd.

Ac rydych yn mynd ymlaen i ddweud:

Rydych chi'n dweud hyn:

Credaf y bydd yn eithaf anodd perswadio pobl i dderbyn hyn. Unrhyw syniadau?

Onid y gwir amdani ydy nad ydy polisi'ch Llywodraeth chi yn gallu gwarantu gwasanaeth Cymraeg sylfaenol i gleifion bregus heddiw, a'ch bod chi'n gwbl gywir yn eich dadansoddiad chi na fyddan nhw ar gael ymhen pum mlynedd chwaith, oni bai ein bod ni yn newid y safonau iechyd? Ac, fel y dywedoch chi eich hun, mae sefyllfa fel hyn yn tough sell i bobl sy'n siarad Cymraeg. 

14:30

Wel, dwi yn meddwl bod yna wahaniaethau ar draws y wlad. Dwi'n meddwl, os ŷch chi'n edrych ar rywle fel Betsi, bod ymrwymiad tuag at y Gymraeg yn rhywbeth nawr sydd yn cael ei weld fel rhywbeth sylfaenol. Dwi'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw ddarparu; mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o beth yw gofynion iaith y cleifion sy'n dod i'w gweld nhw. A dwi yn meddwl bod yna newid wedi bod yn yr agwedd y tu fewn i'r adrannau iechyd sydd gyda ni ar draws Cymru. 

Wel, dwi'n siomedig iawn efo'r ateb yna. Rydyn ni yn sôn am fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn achos y gŵr efo dementia o Ynys Môn, fel mae'n digwydd. Felly, mae beth rydych chi'n ei ddweud yn anghywir.

Diffyg arall y gwnaethoch chi ei adnabod yn y drafodaeth ynglŷn â'r safonau iechyd, cyn iddyn nhw gael eu pasio, oedd y diffyg sylw i gynllunio'r gweithlu meddygol drwy hyfforddi. Cyngor eich swyddogion chi ar y pryd oedd bod angen ymdrin efo hynny trwy gamau polisi, a dwi'n cytuno. Mae'n allweddol cynllunio'r gweithlu. Mi fyddai gosod targedau er mwyn sicrhau recriwtio nifer digonol o ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg ar gyrsiau o'r fath yn sicrhau fod gweithlu'r dyfodol wedi'i gynllunio ar sail anghenion pobl Cymru.

A allwch chi gadarnhau y bydd eich Llywodraeth chi yn gwneud hynny? Achos, o beidio gwneud, y peryg ydy na fyddwn ni ddim nes i ddarparu'r gwasanaethau sy'n hanfodol o ran diogelwch, ac o ran ansawdd gofal pobl Cymru yn awr eu hangen.

Rŷn ni yn ymwybodol bod angen gwneud mwy o ran cynllunio ieithyddol, a dyna pam rŷn ni wedi dod ymlaen â phrosiect 2050. Bydd hwnnw yn dechrau gyda'r Llywodraeth yn edrych ar sut rŷn ni'n cynllunio'n ieithyddol y tu fewn i'r Llywodraeth, ac wedyn, wrth gwrs, yn sicrhau ein bod ni yn effeithiol tu fas i'r Llywodraeth, yn sicrhau ein bod ni'n gwthio rhai o'r cyfleoedd yna o ran y cyfleusterau cyhoeddus, i sicrhau bod nhw hefyd yn cymryd eu cyfrifoldeb nhw yn ystyrlon. 

Dwi yn meddwl hefyd ei bod hi'n bwysig i danlinellu ein bod ni wedi gofyn i Academi—sydd wedi ymrwymo i sicrhau fod arweinyddion y dyfodol tu fewn i'r Llywodraeth yn ymwybodol o'u dylanwad nhw, ac o'u cyfrifoldeb nhw tuag at yr iaith Gymraeg yn y ffordd maen nhw yn mynd i arwain yn ein canolfannau cyhoeddus ni yn y dyfodol. 

Diolch yn fawr. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod ynghanol y tymor gwobrau teledu a ffilm ledled y byd, ac rwy'n siŵr y byddwch yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch Taron Egerton o Aberystwyth ar ei lwyddiant—

Roeddwn yn meddwl y byddai hyn yn eich plesio, Lywydd.

Rwy'n ei longyfarch ar ei lwyddiant gwych hyd yn hyn. Ei ddawn yw gwneud i bobl gofio bod Cymru'n enwog fel magwrfa ar gyfer llwyddiant eithriadol ar y sgrin fawr, a hoffwn ddymuno'n dda iddo gyda'i yrfa yn y dyfodol. Er ei fod yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni yn niwydiant ffilm a theledu Cymru, at ei gilydd, Weinidog, credaf ei bod yn deg dweud nad ydym yn cyflawni ein potensial llawn ar hyn o bryd, yn enwedig o gymharu ein hunain â gwledydd eraill o faint tebyg.

Mae gan Seland Newydd, er enghraifft, ddiwydiant ffilm a theledu ffyniannus sydd wedi'i adeiladu ar ei hatyniadau fel lleoliad ffisegol gwych—ac mae hynny'n gamp, yn amlwg, y gallem ei hefelychu. Mae'r diwydiant yno'n werth oddeutu £0.5 biliwn y flwyddyn i Seland Newydd. Nawr, nid wyf yn dweud y byddwn o reidrwydd yn anelu mor uchel â hynny, ond ar hyn o bryd, credaf ei bod yn deg dweud nad ydym wedi gwneud cystal ag y byddem wedi gobeithio dros y pum mlynedd diwethaf. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo Cymru fel lleoliad penigamp ar gyfer y diwydiant ffilm gan fod y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau wedi'i chadw'n ôl?

14:35

A gaf fi hefyd longyfarch Taron Egerton? Rydym yn falch tu hwnt ohono, ac rydym yn edrych ymlaen at yr Oscars, lle rwy'n siŵr ein bod yn gobeithio y bydd yn cael ei wobrwyo hefyd. Bu o gymorth mawr i ni yn y Llywodraeth ddiwethaf, yn ein cynorthwyo i hyrwyddo Cymru fel lle i ddod i fuddsoddi mewn perthynas â theledu a ffilm, yn ôl ym mis Tachwedd. Felly, mae'n berthynas rydym yn falch iawn o'i chael. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid inni hefyd danlinellu'r ffaith bod gennym ddau actor o Gymru yn serennu yn y prif rannau yn The Two Popes hefyd, sy'n ffilm wych y buaswn yn argymell eich bod yn ei gwylio.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod gennym enw da iawn bellach fel man lle gallwn greu rhaglenni teledu a ffilmiau o safon. Mewn perthyna â'r strategaeth ryngwladol y byddwn yn ei lansio yr wythnos nesaf, dyna pam mai un o'r tri sector rydym yn gobeithio y byddant yn hyrwyddo Cymru'n fawr, o ran sut rydym am gael ein gweld yn rhyngwladol, yw teledu a ffilm. Ac os edrychwch ar y datblygiadau dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gennym bellach oddeutu 50,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant hwn, a chredaf fod hwnnw'n dwf o oddeutu 50 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Felly, credaf ein bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond mae angen i ni ledaenu'r neges yn rhyngwladol, ac yn sicr, mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio ei wneud.

Diolch am eich ateb, Weinidog, a chredaf fod pob un ohonom yn rhannu'r uchelgais hwn, ond mae a wnelo hyn mewn gwirionedd â'r map i'n cael ni yno; oherwydd, os edrychwn ar y strategaeth ryngwladol ddrafft, mae'n denau iawn ar yr hyn a wnawn i adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol i gyflawni ein potensial llawn o ran yr hyn y gallai trawsnewid diwydiannau creadigol teledu a ffilm, yn benodol, ei gyflawni.

Ac unwaith eto, os edrychwch ar yr hyn y gall rhaglenni teledu ei wneud o ran cynhyrchu twristiaeth, mae rhaglenni fel Game of Thrones wedi cael effaith enfawr ar dwristiaeth yn Croatia a Gogledd Iwerddon, er enghraifft, a mannau eraill. Ac yn Seland Newydd, fel y soniais yn gynharach, mae rhan gyfan o’u heconomi dwristiaeth bellach yn seiliedig ar Tolkien a’r llwyddiant a gawsant yno yn sgil y cynhyrchiad The Lord of the Rings.

Tybed a ydym yn mynd i gael manylion go iawn yn y strategaeth lawn, oherwydd ar hyn o bryd, ymddengys ei bod yn denau iawn. Ac mae hwn yn amlwg—rwy'n cytuno â chi—mae hwn yn amlwg yn faes lle gall Cymru gael gwir fantais gystadleuol, a dylem geisio gwireddu'r potensial llawn hwnnw ar unwaith.

Y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am faterion yn ymwneud â'r economi greadigol. Yr hyn y byddwch yn ei weld, yn fuan ar ôl lansio'r strategaeth ryngwladol, yw y bydd strategaeth Cymru Greadigol yn cael ei lansio, a bydd hwnnw'n gyfle i roi mwy o gig ar yr asgwrn, fel y gofynnoch chi amdano. A bydd hynny'n digwydd ochr yn ochr â'r strategaeth dwristiaeth hefyd, felly mae honno'n cael ei adnewyddu. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ystyried y tair strategaeth gyda'i gilydd fel cyfle i ni weiddi. Ac wrth gwrs, mae His Dark Materials yn enghraifft arall lle mae Cymru bellach wedi gwerthu'r gyfres honno'n rhyngwladol, ac mae cyfle i ni sicrhau hefyd ein bod yn manteisio nid yn unig ar ba mor wych ydym ni'n dechnegol mewn perthynas â'r datblygiadau ffilm hyn, ond hefyd mae'n gyfle i ddangos ychydig o dirwedd Cymru hefyd. Dylai hynny annog mwy o dwristiaeth hefyd, gobeithio.

Weinidog, os caf droi at gynhyrchu domestig, mae 27 mlynedd wedi bod bellach ers i ffilm Gymraeg gael ei henwebu am Oscar; Hedd Wyn, yn 1993, sy'n ffilm wych iawn. Ac wrth gwrs, gall hyn fod yn rhan allweddol o'n strategaeth ryngwladol i bortreadu i Gymru fodern y diwylliant Cymraeg hanfodol rydym yn ei fwynhau yma. Nawr, yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r maes hwn, roedd yna ganfyddiad fod ffilmiau Cymraeg yn fasnachol anhyfyw, ac roedd hynny'n ei gwneud yn anodd i gynhyrchwyr sicrhau cefnogaeth ariannol. Cafwyd beirniadaeth hefyd ynglŷn â'r fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth hyn ac roedd llawer o bobl yn cwyno am ba mor rhwystredig oedd hynny, cyfreithiol gyfyngol, a disgrifiwyd gofynion eraill fel rhai beichus. Ond credaf fod y strategaeth ryngwladol yn caniatáu i ni fanteisio ar y mathau hyn o bethau hefyd. Ac onid oes lle i Lywodraeth Cymru wneud mwy o lawer i hyrwyddo ffilmiau Cymraeg ar gyfer y gynulleidfa ffilmiau artistig ac arbrofol ryngwladol, a allai arwain at fanteision enfawr o ran canfyddiad pobl ledled y byd o Gymru? Ac yn wir, mae'r gynulleidfa honno'n tueddu i gynnwys llawer iawn o ffurfwyr barn a phenderfynwyr.

14:40

Diolch, mae hynny'n gwbl gywir, ac roedd yn wych gweld Hedd Wyn yn cael ei henwebu yn y sefyllfa honno am Oscar. Ond bu sawl enghraifft cyn hynny. Fy swydd gyntaf oedd gwerthu animeiddio ar gyfer S4C a bu sawl achlysur pan gafodd cwmnïau cynhyrchu animeiddio S4C yng Nghymru lwyddiant yn yr arenâu rhyngwladol hynny hefyd.

Credaf mai un o'r pethau sydd angen i ni eu gwneud yw edrych ar ble rydym mewn sefyllfa unigryw o ran teledu a ffilm, ac enghraifft o hynny yw sut rydym yn gwneud cynyrchiadau cefn wrth gefn. Felly, os ydych yn meddwl am rai o'r cynyrchiadau y mae S4C yn eu creu, maent yn gwneud fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg, ac mae hynny'n rhywbeth y credwn sy'n werth ei archwilio i weld a hoffai gwledydd eraill edrych ar sut y gwnawn hynny.

Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi'i drafod gyda S4C a chyda rhai cwmnïau teledu eraill. Cynhaliais gyfarfod bwrdd crwn yn ddiweddar gyda phenaethiaid teledu a ffilm yng Nghymru i drafod hyn: beth yw'r peth unigryw y gall Cymru ei gynnig yn y maes hwn? Felly, un o'r pethau rwyf wedi bod yn ceisio'u gwneud yw ceisio penderfynu beth yn union yw'r neges pan fyddwn yn gwerthu teledu a ffilm i'r byd? Beth sy'n ein gwneud yn unigryw? Beth sy'n ein gwneud yn wahanol? Ac yn sicr, mae cynhyrchu cefn wrth gefn yn rhywbeth a nodwyd.

Denu Digwyddiadau i Gymru

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i ddenu digwyddiadau i Gymru? OAQ54870

Rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda phartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i nodi a cheisio cyflawni targedau hirdymor i ddenu digwyddiadau diwylliannol, digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau busnes mawr i gael eu cynnal ym mhob rhan o Gymru. Yn ogystal â hyn, rydym yn cefnogi sefydlu, twf a datblygiad ystod eang o ddigwyddiadau wedi'u trefnu yng Nghymru.

Diolch, Weinidog. Ym mis Rhagfyr y llynedd, cynhaliwyd digwyddiad personoliaeth chwaraeon y flwyddyn BBC Cymru yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol newydd yng Nghasnewydd. Roedd yn llwyddiant ysgubol ac roeddwn yn hynod falch o weld y digyffelyb Alun Wyn Jones yn ennill y brif wobr.

Yn dilyn hyn, rwyf wedi ysgrifennu at y BBC a'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn eu hannog i ystyried y lleoliad ar gyfer cynnal digwyddiad personoliaeth chwaraeon y flwyddyn y DU. Mae tri o'r 13 o bersonoliaethau chwaraeon diwethaf y DU wedi bod yn Gymry, serch hynny, nid yw'r digwyddiad erioed wedi'i gynnal yng Nghymru, yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i beidio â gwneud hynny. Felly, nawr yw'r amser i unioni hyn.

Mae Casnewydd, ynghyd â'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, yn lle perffaith i gynnal digwyddiad personoliaeth chwaraeon y flwyddyn y DU y BBC, ac mae ganddi botensial enfawr ar gyfer digwyddiadau tebyg a'r buddion a ddaw yn eu sgil. A allwch roi eich cefnogaeth a dwyn perswâd er mwyn dod â'r digwyddiad i Gasnewydd a Chymru?

Am syniad gwych. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr hoffwn fynd i'r afael ag ef. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Celtic Manor a'r bobl sy'n gyfrifol am y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, ac yn sicr, mae hwnnw'n syniad gwych y byddaf yn bwrw ymlaen ag ef yn frwd. Diolch.

Weinidog, efallai y cofiwch i mi eich holi ym mis Tachwedd y llynedd ynglŷn â sicrhau'r budd mwyaf posibl i Gymru yn sgil Gemau'r Gymanwlad 2022, sy'n cael eu cynnal yn Birmingham. Bryd hynny, fe gadarnhaoch chi eich bod wedi cyfarfod â threfnwyr y gemau i weld a allai rhai o'r timau sy'n cystadlu gael eu lleoli yma yng Nghymru. O gofio'ch ateb, a allwch ddweud a ydych wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ar hyn i ddenu rhai o'r digwyddiadau chwaraeon eu hunain i gael eu cynnal yng Nghymru, neu a oes posibilrwydd o hyd y bydd hyn yn digwydd? Bydd ein sector lletygarwch yng Nghymru yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf gennych ar y mater hwn yn fawr.

Diolch. Wel, nid wyf wedi cael cyfarfod diweddar â phobl Gemau'r Gymanwlad, ond byddaf yn ceisio darganfod a ydynt wedi gwneud unrhyw gynnydd wrth geisio cael timau i leoli yma yng Nghymru. Felly, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae gennym gryn ddiddordeb mewn bwrw ymlaen ag ef, gan ein bod yn awyddus i sicrhau cymaint o ffocws ag y gallwn ar Gymru yn ystod y cyfnod hwnnw.

Rwy'n ymwybodol fod gan Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft, gysylltiad strategol bellach â thîm Cymru o ran hyrwyddo Cymru, ac maent yn defnyddio masgot yr Urdd fel y dull o hyrwyddo Cymru yn ystod Gemau'r Gymanwlad. Felly, fe af ar drywydd hynny a gweld a ydym wedi gwneud mwy o gynnydd wrth ddenu pobl i leoli yma.

14:45

Hoffwn holi'r Gweinidog ymhellach ar hynny, os caf, am unrhyw gynnig yn y dyfodol i gynnal Gemau’r Gymanwlad yma ac a ydych wedi dysgu neu siarad â Llywodraeth yr Alban am y buddion a ddaeth i’r Alban, nid yn unig o ran chwaraeon, ond hefyd y buddion diwylliannol a'r buddion i iechyd y cyhoedd a ddaeth i'r wlad honno ar ôl cynnal Gemau'r Gymanwlad. Yn amlwg, roeddem yn siomedig, ynghyd â miliynau—wel, miliynau yn rhyngwladol—o gefnogwyr chwaraeon pan fethodd y cynlluniau i geisio'u cynnal. Mae'r cynigion ar gyfer 2026 a 2030 wedi'u penderfynu ar yr un pryd, ond a allwch ymrwymo i sicrhau y gwneir gwaith yn awr i baratoi'r ffordd inni allu cynnig am gemau 2034?

Credaf fod 2034 yn ffrâm amser go hir, mae'n orwel eithaf pell i ni fod yn gweithio tuag ato. Mae'n rhaid bod yn glir fod yn rhaid cydbwyso hyn yn erbyn mentrau eraill sydd hefyd ar waith. Er enghraifft, mae Prif Weinidog newydd y DU wedi dweud ei fod yn awyddus iawn i gynnal cwpan pêl-droed y byd. Mae cyfleoedd i'w cael ac mae'n rhaid i ni benderfynu—ni allwn wneud popeth—pa un o'r rhain rydym am geisio amdanynt. Wrth gwrs, mae cynnal y digwyddiadau hyn yn ddrud, ond ceir cyfleoedd gwirioneddol hefyd. Mae cael sylw'r byd arnom yn gyfle na ddylem ei golli. Ond credaf fod 2034 yn rhy bell i ffwrdd yn ôl pob tebyg o ran yr hyn a wnawn i sganio'r gorwel.

Un o fanteision y ganolfan gynadledda ryngwladol a chynnig rhagorol Jayne yw ei lleoliad ar ochr ddwyreiniol Casnewydd yn y Celtic Manor, fel nad oes angen i bobl sy'n dod i ddigwyddiadau yno o Loegr ar hyd y ffordd deithio drwy dwneli Bryn-glas. Oni fyddai adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn strategaeth ehangach ar gyfer denu digwyddiadau i Gymru, er enghraifft i Gaerdydd, gan ei gwneud yn bosibl i fwy o bobl eu cyrraedd heb fod mewn tagfeydd hir iawn, sef yr hyn a ddigwyddodd unwaith eto dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, a heddiw yn wir?

Wel, gwn fod y bobl sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn gweithio'n agos iawn gyda chyngor Caerdydd ac yn deall, mewn gwirionedd, os oes ganddynt ddigwyddiad mawr ac os nad oes ganddynt y capasiti, hyd yn oed gyda'r Celtic Manor a'r gwestai eraill cyfagos y maent yn berchen arnynt, fod angen iddynt rannu'r ffyniant ac maent yn awyddus i rannu'r ffyniant. Credaf fod y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn ddatblygiad cwbl unigryw i Gymru. Mae cyfle go iawn yma i ni ddod â phobl i Gymru i ddigwyddiadau busnes—cynhaliwyd cynhadledd y gofod yno fel un o'r digwyddiadau agoriadol, a bu'n llwyddiant ysgubol. Ond yr hyn sy'n digwydd gyda digwyddiadau busnes yw bod pobl yn dychwelyd fel ymwelwyr. Yn aml iawn, maent yn unigolion â gwerth net uchel sy'n awyddus, felly, i ddod i wario rhywfaint o arian yng Nghymru. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae gennym ddiddordeb ynddo. Byddwch wedi gweld yn ddiweddar ein bod yn falch iawn o weld y byddwn yn cynnal digwyddiad golff mawr yn yr ardal honno yn y dyfodol agos hefyd.

Strategaeth Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwerthoedd sy'n sail i strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54873

Bydd y strategaeth ryngwladol yn seiliedig ar set glir o werthoedd fel yr amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Wrth ei gwraidd, bydd yn hyrwyddo tair thema, sef creadigrwydd, cynaliadwyedd a thechnoleg, gyda'r gwerth craidd o hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Nodaf eich sylwadau i ginio masnach ryngwladol cyntaf Siambr Fasnach De Cymru cyn y Nadolig. Yn eich araith, fe sonioch chi am y ffocws ar gloddio data a seiberddiogelwch, gan gyhoeddi mai Cymru yw'r clwstwr mwyaf ar gyfer cwmnïau seiber yn y DU. Nawr, mae taer angen swyddi, yn enwedig yn rhannau mwyaf difreintiedig ein gwlad, ac rwy'n cydnabod bod seiberddiogelwch yn sector sy'n tyfu'n gyflym ac y bydd yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Ond yr hyn rwy'n ei chael yn anodd derbyn yw bod Llywodraeth Cymru yn ariannu mentrau seiberddiogelwch a gyflawnir gan gwmnïau sy'n ymwneud â'r fasnach arfau. Ystyriwch y ganolfan seiber £20 miliwn rydych wedi'i sefydlu gyda'r gwneuthurwr arfau o Ffrainc, Thales. Mae'r trefniant hwn yn golygu i bob pwrpas fod y Llywodraeth yn fuddsoddwr mewn cwmni sy'n cynhyrchu arfau ar gyfer cyfundrefnau gormesol fel Saudi Arabia. Credir hefyd fod Thales yn cyflenwi cydrannau ar gyfer tanciau Rwsiaidd. A ydych yn cytuno y dylai fod gennym gyfrifoldeb moesegol i fuddsoddi mewn cwmnïau nad ydynt yn ymwneud â'r busnes o gynhyrchu arfau a gynlluniwyd i anafu ac i ladd? Sut y mae hynny'n cyd-fynd â pholisïau'r Llywodraeth ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol? Ac os nad ydych yn cytuno y dylai fod gennym gyfrifoldeb moesegol, a allwch egluro pam i'r Senedd hon?

14:50

Wel, nid wyf am gefnu ar ein hymrwymiad i gefnogi'r sector seiber yng Nghymru. Mae'n rhywbeth y credaf y dylem fod yn wirioneddol falch ohono, ynghyd â'r ffaith ein bod yn datblygu'r ganolfan seiber yng Nglynebwy, ardal ddifreintiedig tu hwnt, lle ceir ymrwymiad i helpu i ddatblygu cyfleuster addysg yno, lle cafwyd digwyddiadau i annog menywod, yn arbennig, i ymuno â'r sector seiberddiogelwch. Credaf fod hyn yn rhywbeth y dylem fod yn wirioneddol falch ohono, ac mae perygl, wrth gwrs, a phosibilrwydd fod cysylltiad i'w gael rhwng amddiffyn a meysydd eraill, ond credaf fod yn rhaid i chi ddeall hefyd fod angen seiberddiogelwch ar bob un ohonom. Mae ei angen arnom ar gyfer ein cyfrifiaduron yma. Mae ei angen ar ffatrïoedd. Mae ei angen arnoch i fynd ar awyren. Mae'n rhywbeth sy'n treiddio i bob agwedd o'n cymdeithas, ac os ydych yn meddwl y gallwch wahanu'r ddau beth, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall pwysigrwydd seiberddiogelwch ym mhob agwedd o'n bywydau, bron â bod.

Lywydd, mae fy nghwestiwn ychydig yn llai rhyfelgar. [Chwerthin.] Os caf droi at Susie Ventris-Field, prif weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae hi wedi tynnu sylw at ein cyflawniad dinesig gwych yng Nghymru mewn perthynas â hybu heddwch a chydsafiad rhyngwladol. Mae'n dyfynnu enghreifftiau fel y neges heddwch ac ewyllys da gan bobl ifanc Cymru, a fydd, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn cyrraedd ei chanmlwyddiant; yr apêl heddwch a wnaed yn 1924, pan lofnododd 40 y cant o fenywod Cymru ddeiseb i fenywod America yn galw arnynt i lobïo arlywydd America i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, a gallai hynny fod wedi arwain at ganlyniadau gwahanol iawn; a chysylltiadau hirsefydlog rhwng Cymru a Somalia, Uganda, Lesotho a lleoedd eraill; a sefydliadau fel mudiad gwrth apartheid Cymru. Yn amlwg, mae sefydliadau anllywodraethol a'r sector dinesig yn gyffredinol wedi chwarae rhan enfawr yn anffurfiol yn ein strategaeth gysylltiadau rhyngwladol, felly nawr, yn eich strategaeth ffurfiol, sut y byddwch yn cynnwys y sector hanfodol hwn wrth gyflawni eich strategaeth a'i datblygu yn y dyfodol?

Diolch. Wel, rydym wedi cael sgyrsiau hir gyda'r sector, maent yn sicr wedi gwneud llawer i'n helpu i ddatblygu'r strategaeth, a chredaf y dylem fod yn falch o'n cyflawniad yng Nghymru mewn perthynas â hyrwyddo heddwch. Fel y dywedwch, credaf y dylem fod yn wirioneddol falch o neges flynyddol yr Urdd i'r byd ac y dylem fod yn ei dathlu, yn sicr pan fyddant yn dathlu'r canmlwyddiant hwnnw yn 2021.

O ran y pethau eraill rydym yn awyddus i'w datblygu, gŵyl ryngwladol Llangollen—ni ddylem anghofio iddi gael ei sefydlu'n wreiddiol gyda neges o heddwch yn rhan annatod ohoni. Gwn fod y Prif Weinidog yn awyddus iawn i weld a allwn adfywio hynny, ac rydym wedi bod yn siarad â'r trefnwyr yno i weld a ellir sicrhau bod hynny'n dod yn fwy canolog unwaith eto.

Gwn hefyd fod Mererid Hopwood wedi gwneud cryn gynnydd yn datblygu’r academi heddwch, gan weithio gydag amryw brifysgolion ledled Cymru i weld beth y gellir ei wneud yn y maes hwnnw. Felly, credaf fod yna ddatblygiadau diddorol iawn yma y gallem fod yn adeiladu arnynt o ran y math o negeseuon y byddwn yn eu cyfleu ochr yn ochr â'n strategaeth ryngwladol.

Gwariant ar Hybu'r Gymraeg

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau gwariant ar hybu'r Gymraeg yn y gyllideb ddrafft? OAQ54886

Diolch yn fawr. Mae'r gyllideb ddrafft 2020-21 yn cynnwys dros £37 miliwn i’r Gymraeg. O hyn, mae tua £13 miliwn yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar weithgareddau hybu. Mae ein partneriaid grant yn chwarae rôl bwysig wrth gynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith. Rŷm ni'n falch o allu parhau i gyllido 27 partner a 52 papur bro.

Diolch am y rhestr yna. Mi wnaeth y Gweinidog cyllid, wrth gwrs, yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft ddoe, ddweud nad oedd cyllideb y Gymraeg yn mynd i gael ei thorri. Allech chi jest, o ran eglurder, felly, i ni, gadarnhau y bydd cynnydd yn unol â chwyddiant yn y gyllideb honno? Fel arall, wrth gwrs, mae yn doriad mewn termau real, onid yw e? Felly, dwi jest eisiau cadarnhad bod yna gynnydd yn unol â chwyddiant, o leiaf hynny, o safbwynt eich cyllideb chi ar gyfer y Gymraeg.

Hefyd, dwi'n deall eich bod chi, y bore yma, wedi awgrymu yn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu efallai y byddai'n ofynnol i chi dorri cyllideb Cymraeg i Oedolion er mwyn gallu cyfeirio peth o'r arian yna at liniaru effeithiau Brexit. Allech chi gadarnhau os ydy hynny yn rhywbeth ŷch chi wir yn ei ystyried, ac efallai esbonio pam targedu Cymraeg i Oedolion yn benodol, a pha elfennau eraill o'ch cyllideb chi y bydd yn cael eu torri am y rheswm hwnnw?

14:55

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall bod Cymraeg yn cael ei phrif-ffrydio ar draws y Llywodraeth, a'r ffaith yw dŷn ni ddim wedi gweld toriadau yn y cyllid i'r Gymraeg. Beth sydd wedi digwydd yw bod peth o'r gwariant a oedd yn y gyllideb ar gyfer y llinellau addysg wedi symud i linell arall, a dyna pam, efallai, roedd yna rywfaint o ddryswch ynglŷn ag os oedd toriad wedi bod.

Rŷm ni wedi dod o hyd i £50,000 ychwanegol i dalu am gostau staff Comisiynydd y Gymraeg, ac rŷm ni hefyd wedi rhoi arian cyfalaf o £0.38 miliwn i'r comisiynydd fel ei fod e'n gallu cael system gyfrifiadurol newydd. Beth rŷm ni'n ei wneud—o ran edrych ar y gyllideb yn gyffredinol, un o'r pethau y gwnes i oedd gofyn i'r bobl sydd yn fy helpu i, i sicrhau ein bod ni ar y trywydd cywir, i edrych ar y cyfeiriad ac ar a ydym ni'n gwneud y pethau iawn o ran cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Mi edrychem ni—. Beth oedd yn amlwg oedd ein bod ni'n gwario lot fwy na hanner y gyllideb sydd gen i ar hyfforddi Cymraeg i Oedolion. Felly, os ŷm ni'n gwneud hynny, mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arian yn cael ei wario'n iawn a sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am arian. Felly, i fi, beth sy'n bwysig yw ein bod ni yn gyson yn edrych ar a ydym ni'n gwario yn y llefydd cywir.

Mae'n rhaid i fi ddweud yn hollol glir fy mod i'n falch iawn gyda'r gwaith y mae'r ganolfan dysgu yn ei wneud, ac mae tua 12,000 o bobl yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond rŷm ni yn rhoi tua £13 miliwn i'r ganolfan. Felly, mae hi'n gyfran eithaf mawr o'm cyllideb i. Dyna pam dwi eisiau jest craffu yn fwy manwl ar sut mae hynny'n cael ei wario.

Efallai y gallaf i drio ymateb i'r cwestiwn yna, te. Er mwyn osgoi dyfodol o basio'r baich ar y pwnc yma, allech chi egluro'r newidiadau i gyllideb comisiynydd yr iaith Gymraeg y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i'w gyfrifoldebau hyrwyddo newydd? Pa arian fydd yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru am ei chyfrifoldebau hyrwyddo? Achos hoffwn i gadw llygad ar hyn ymlaen llaw.

Allech chi hefyd ddweud a fydd cynnydd mewn cyllideb llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd yn cynnwys arian ar gyfer gwella eu cydymffurfiad â safonau, gan gynnwys unrhyw gyfrifoldebau am hyrwyddo'r Gymraeg, neu a fyddant yn gallu cael gafael ar arian o brif grŵp gwariant y Gymraeg i'w wneud hynny?

Wel, rŷm ni wedi sicrhau ein bod ni'n cydweithredu lot yn well nawr gyda'r comisiynydd iaith. Felly, mae gyda ni memorandwm o ddealltwriaeth ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth fel ein bod ni ddim yn dyblygu'r gwaith rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth a'r gwaith mae e'n ei wneud fel comisiynydd. Dwi yn meddwl bod arbedion yn gallu cael eu gwneud, felly, yn y maes yna gan ein bod ni ddim, wedyn, yn dyblygu.

O ran beth sy'n digwydd o ran iechyd, un o'r pethau rŷm ni wedi bod yn ei wneud yw helpu pobl i gael hyfforddi a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gyllideb yna ar hyn o bryd yn dod oddi wrthym ni ar gyfer iechyd. Roeddwn ni'n gobeithio yn y pen draw y bydd yr adran ei hunan yn cymryd y cyfrifoldeb dros hyfforddi pobl trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r un peth yn wir hefyd yn ymwneud â hyfforddi athrawon i addysgu pobl ifanc, er enghraifft. Felly, ar hyn o bryd, mae hwnna'n dod o dan y ganolfan dysgu genedlaethol, a ni sy'n ariannu hwnna; gobeithio, yn y tymor hir, bydd hwnna'n cael ei gymryd i mewn i'r adrannau eu hunain.

15:00
Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar sy'n Siarad Cymraeg

6. Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i gynyddu nifer yr ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy'n siarad Cymraeg? OAQ54879

Mae'r sector blynyddoedd cynnar yn hanfodol i'n nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Rydym yn gweithio ar raglenni fel Cynnydd ar gyfer Llwyddiant a Camau i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithlu presennol a sicrhau bod y rhai sy'n ymuno â'r sector yn gallu defnyddio'r iaith yn hyderus. 

Diolch. Weinidog, fe fyddwch yn gwbl ymwybodol fod yna alw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel gynradd ac uwchradd, ac yng ngoleuni'r duedd gynyddol honno, tybed pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i sicrhau cynnydd pellach yn nwyieithrwydd cymunedau Saesneg uniaith trwy sicrhau y byddai'r cynnig gofal plant estynedig, a oedd drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, yn rhoi'r gallu i blant tair a phedair oed amsugno dwyieithrwydd yn y ffordd y mae cath yn llarpio soseraid o laeth. Mae'n ymddangos i mi fod hwn yn gyfle a gollwyd yn y cynnig gofal plant i deuluoedd sydd i'w groesawu'n fawr a chost gofalu am blant ifanc, yn ogystal ag i'r plant hynny. Felly, o ystyried bod yr ymarferwyr blynyddoedd cynnar mewn lle fel Caerdydd yn dod o gymunedau Saesneg eu hiaith yn bennaf, tybed pa strategaeth y gellid ei defnyddio i sicrhau cynnydd cyflym yn nifer y bobl sy'n ymarferwyr blynyddoedd cynnar rhagorol yn ogystal â siaradwyr Cymraeg.

Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ein bod yn awyddus iawn i gyrraedd y targed hwn, ond er mwyn sicrhau bod hynny'n gweithio mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym y nifer iawn o bobl a all addysgu. Dyna pam y mae gennym 350 o ymarferwyr a fydd yn elwa o'r rhaglen Camau. Mae honno’n cynnig hyfforddiant iaith Gymraeg gan ymarferwyr gofal plant a chwarae. Y gwir amdani yw bod gennym y cynnig gofal plant a thua 30 y cant o'r cynnig gofal plant hwnnw sydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall bod yna gyfle yno. Mae gennym y Mudiad Meithrin hefyd. Maent yn cyflawni rhaglen o'r enw Croesi'r Bont sef system drochi i sicrhau bod gan bobl sgiliau datblygu gofal plant. Datblygwyd diploma lefel 3 gyda’r Mudiad Meithrin, felly mae pobl yn mynd trwy'r system honno. Ac yna, ar ben hynny, mae ein swyddogion yn gweithio gyda'r Urdd ac mae ganddynt lawer o brofiad o brentisiaethau ac felly rydym yn ceisio eu cael i gyflogi mwy o brentisiaid trwy gyfrwng y Gymraeg i edrych yn benodol ar ofal plant. 

Arian y Loteri

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthiad arian y loteri yng Nghymru? OAQ54871

Diolch, Dawn. Dathlodd y Loteri Genedlaethol ei phen-blwydd yn 25 y llynedd. Ers 1994 mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi tua 50,000 o brosiectau ledled Cymru gyda buddsoddiadau gwerth bron i £1.75 biliwn. Mae hyn yn amlwg wedi cael effaith drawsnewidiol ar gyllid ar gyfer y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, achosion elusennol a phrosiectau cymunedol ledled Cymru. 

Diolch am yr ymateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Rwy’n gweld gwerth arian y loteri gyda fy llygaid fy hun yn fy etholaeth, yn enwedig pan fyddaf yn cyfarfod â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n fuddiolwyr lleol. Fodd bynnag, rwy'n awyddus i weld pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau mwy fyth o arian i'n cymunedau mwy difreintiedig. Felly, a allwch ddweud wrthyf beth arall y gellid ei wneud trwy eich rôl mewn perthynas â dosbarthu cyllid loteri i helpu i ddiwallu anghenion cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni yn benodol? 

Wel, rwy'n falch o gadarnhau bod gwariant y loteri ym Merthyr Tudful a Rhymni, fel y gwyddoch, dros £13 miliwn dros gyfnod y gwariant hwnnw ac mae 70 o brosiectau wedi'u cwblhau neu wrthi'n cael eu cyflawni. Ac fe fyddwch yn gwybod, am ein bod wedi ymweld â rhai o'r prosiectau hyn gyda'n gilydd, am y gwaith pwysig a wnaed ac sy'n dal i gael ei ddatblygu yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, y dyfarnwyd arian iddi ar gyfer prosiect clyweledol ym mis Ionawr 2018. Nawr, o ran parc Cyfarthfa, mae cais prosiect Ailddarganfod Parc Cyfarthfa, a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn dal i fod yn agored i drafodaeth bellach—gallaf gadarnhau hyn—rhwng y cyngor bwrdeistref a'r loteri. Ac rwy'n gobeithio y deuir o hyd i ffordd o gyflawni hyn oherwydd, yn amlwg, mae budd cymunedol yn un o’r meini prawf sy’n dangos effeithiolrwydd gwariant loteri. Byddaf yn parhau i sicrhau, yn fy nhrafodaeth gyda'r Loteri Genedlaethol yng Nghymru—byddaf yn cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr yn rheolaidd iawn, ac fe wnaf yn siŵr bod yr agweddau hyn yn cael eu trafod yn llawn yn ein cyfarfod nesaf. 

15:05
Digwyddiadau Chwaraeon Mawr

8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar waddol digwyddiadau chwaraeon mawr a gynhelir yng Nghymru? OAQ54882

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant Cymru yn cynnal digwyddiadau mawr ac yn gweithio'n rhagweithiol gyda pherchnogion digwyddiadau o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol i sicrhau'r buddion ehangach mwyaf posibl o ddigwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau diwylliannol neu ddigwyddiadau busnes i gymunedau ledled Cymru. 

Weinidog, fel y gwyddoch, dros y blynyddoedd diwethaf, mae de Sir Benfro a Dinbych-y-pysgod yn enwedig wedi dod yn amlwg iawn yn y gymuned triathlon gyda chynnal digwyddiad Ironman Cymru—un o'r heriau chwaraeon anoddaf yng nghalendr Ironman. Bob mis Medi, mae miloedd o bobl yn heidio i'r ardal i gystadlu yn y gystadleuaeth, sy'n cynnig slotiau cymhwyso ar gyfer digwyddiad pencampwriaeth y byd yn Hawaii. Cynhelir y digwyddiad dros un penwythnos o'r flwyddyn yn unig, ond mae'n denu cystadleuwyr o bob cwr o'r byd. Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i harneisio’r sylw rhyngwladol y mae’r ardal yn ei gael bob mis Medi ac i sicrhau bod gwaddol y digwyddiad hwn yn cael ei wireddu trwy gydol y flwyddyn ac ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gystadleuwyr Ironman posibl yn lleol?

Ac os caf, Weinidog, wrth siarad am y genhedlaeth nesaf o ddarpar gystadleuwyr Ironman, a gaf fi ofyn ichi ymuno â mi i longyfarch fy etholwr Cameron Tallis? Mae Cameron yn byw ym Mhenfro, mae'n mynd i Goleg Sir Benfro, ac yn 18 oed a phedwar diwrnod, yn 2019, ef oedd yr Ironman Cymru ieuengaf erioed. 

Wel, fe hoffwn ei longyfarch. Rwy'n credu ei bod yn rhyfeddol y gall unrhyw un gyrraedd unrhyw le yn agos at hyn. Mae'n rhyfeddol o ystyried yr hyn sy'n rhaid iddynt ei gyflawni. Fe gyflawnodd fy nghefnder y ras eleni ac roedd y stamina sydd ei angen arnoch i’w wneud yn anhygoel, ac maent yn dechrau ar ryw adeg chwerthinllyd o'r bore hefyd. Felly, llongyfarchiadau i unrhyw un sy'n cyrraedd unrhyw le'n agos at hyn. Rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom addunedau blwyddyn newydd, ond nid yw hyn yn un o fy addunedau i. [Chwerthin.]

Tynnwyd cwestiwn 9 [OAQ54860] yn ôl. Cwestiwn 10—Dai Lloyd.

Atyniadau Twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru

10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo atyniadau twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54874

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae de-orllewin Cymru yn gyrchfan arbennig i ymwelwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi er mwyn gwella ansawdd yr hyn y gall yr ardal ei gynnig ac mae wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu twristiaeth yno a thrwy Gymru.

Gweinidog, gan fod Cymru wedi cyrraedd pencampwriaeth pêl-droed yr Ewros y flwyddyn yma eto, mae hyn yn gyfle gwych i hyrwyddo Cymru i dwristiaid—rwy'n gobeithio y buasech chi'n cytuno. Mae busnesau yn fy rhanbarth i, yng Ngorllewin De Cymru, eisoes wedi gofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddefnyddio'r bencampwriaeth bwysig yma i hyrwyddo'n atyniadau gwych, nid dim ond yn lleol yng Ngorllewin De Cymru ond ledled Cymru gyfan. A allwch chi amlinellu gwaith y Llywodraeth ar hyn ac awgrymu ffyrdd y gall busnesau lleol fod yn rhan o unrhyw ymgyrch farchnata tra bo Cymru yn ennill pencampwriaeth bêl-droed?

Diolch yn fawr am y sylw yna. Fe wnaf i eich sicrhau chi y byddaf yn trafod hyn yn benodol gyda'r gymdeithas bêl-droed a chyda Chwaraeon Cymru i weld pa fodd y gallwn ni'n arbennig ddatblygu'r agweddau cymunedol, oherwydd un o'r llwyddiannau sydd yn dilyn proffil uchel i dimau rhyngwladol, mewn rygbi ac mewn chwaraeon eraill, ac mewn pêl-droed yn benodol yn yr achos yma, yw bod pêl-droed cymunedol, a diddordeb mewn pêl-droed, yn gallu cynyddu a datblygu. Dwi'n eich sicrhau chi y bydd hynny'n cael ei osod ar agenda'r drafodaeth, fel bod cyllid Llywodraeth Cymru tuag at y gymdeithas bêl-droed a'r cyngor chwaraeon hefyd yn effeithio ar ddiddordeb cymunedol, ac yn cynhyrfu rhagor o ddiddordeb cymunedol yn y maes, gan gynnwys pêl-droed menywod, sydd yn ddatblygiad yr wyf wedi'i fwynhau'n arbennig yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog.

Adnoddau Pêl-droed 3G Cymunedol

11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn adnoddau pêl-droed 3G cymunedol? OAQ54851

Diolch yn fawr am y sylw yna. Rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn barod drwy Chwaraeon Cymru, sy'n arwain ein buddsoddiad mewn caeau pêl-droed 3G ac artiffisial. Maen nhw wedi buddsoddi £3.731 miliwn yn y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol, sy'n cynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru. Mae hyn wedi helpu Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i sefydlu 77 o gaeau chwarae 3G yng Nghymru. Y targed yw creu 100 o'r caeau yma erbyn 2024.

15:10

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna, a dwi am eich annog chi i fuddsoddi ymhellach ac i fuddsoddi'n benodol yn Ynys Môn. Gan gyfeirio at y cwestiwn blaenorol ynglŷn â phêl-droed rhyngwladol, fydd yna ddim pêl-droed rhyngwladol heb bêl-droed llwyddiannus yn ein pentrefi a'n trefi ni ym mhob cwr o Gymru. Dwi'n edrych ymlaen at ddilyn tîm Cymru draw i Azerbaijan yn nes ymlaen eleni, ond fyddwn ni ddim yn gallu gwneud hynny mewn blynyddoedd i ddod heb fuddsoddi yn y grass roots fel petai.

Mae yna gae 3G bendigedig yn Llangefni, mae yna fuddsoddiad yn mynd i fod mewn uwchraddio adnoddau ym Mhorthaethwy. Mae gwirioneddol angen caeau 3G newydd yng Nghaergybi ac yn Amlwch. Dwi wedi cynnal cyfarfodydd yn barod efo aelodau o'r cymunedau hynny sy'n barod i wneud beth bynnag sydd ei angen i ddod â'r buddsoddiad i mewn. Mae'r cyngor sir â chynllun dros y blynyddoedd nesaf o wneud buddsoddiad, ond mae angen y buddsoddiad rŵan. Gaf i ofyn am ymrwymiad gan y Llywodraeth i weithio efo fi ac eraill a'r cyngor sir a grwpiau cymunedol, cwmnïau budd cymunedol, yn Ynys Môn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu chwilio am bob ffordd i dynnu'r arian i mewn i ddod â'r adnoddau yma sy'n hanfodol, nid dim ond ar gyfer dyfodol y gêm brydferth ond ar gyfer ein hiechyd ni fel cenedl?

Yn naturiol, rydw i'n mynd i gytuno efo hynny. Ces i'r cyfle i agor maes newydd ym Mharc Eirias yn y sir dwi'n byw ynddi, a dwi'n gwybod pa mor bwysig ydy'r adnodd yma ar gyfer pob math o chwaraeon lle mae'r meysydd yma'n addas. Felly, beth wnaf i ydy cyfleu'r hyn sydd wedi'i ddweud yma heddiw i Chwaraeon Cymru a gofyn am adroddiad pellach ar y cynnydd y maen nhw'n ei wneud yn Ynys Môn yn arbennig. Ac rydw i'n derbyn nad yw hi'n bosibl i gael pêl-droed rhyngwladol yng Nghymru os nad ydy o'n cynnwys y fam ynys yn ogystal.

Diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog am gwblhau'r holl gwestiynau ar eu cyfer nhw y prynhawn yma. 

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Mae'r cwestiynau nesaf i Gomisiwn y Cynulliad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant, ac i'w ateb gan Joyce Watson. Jack Sargeant.

Y Cynllun Achredu Rhuban Gwyn

1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyfranogiad yn y cynllun achredu Rhuban Gwyn? OAQ54867

Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'r Comisiwn yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn bob blwyddyn drwy ganiatáu i'r ystâd gael ei defnyddio ar gyfer digwyddiad a drefnwyd gennyf ers 2007. Caiff hynny ei hysbysebu ar draws yr ystâd. Gosodir hysbysiadau ar fewnrwydi Aelodau a staff, a chodir arian drwy werthu'r rhubanau gwyn yn Nhŷ Hywel ac yn y Senedd, heb sôn am y ffordd y mae llawer o'r Aelodau yma, ers 2007, wedi ymgyrchu'n frwd ac wedi hyrwyddo achos y Rhuban Gwyn.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, ac rwy'n eich canmol am eich gwaith caled dros y blynyddoedd lawer, ers 2007—mae wedi bod yn allweddol yn y gwaith o godi proffil yr ymgyrch yma yng Nghymru, a chefais y fraint o siarad yn y digwyddiad y buoch yn helpu i'w gynnal yn y Senedd y llynedd. Fel y gwyddoch, fel y gŵyr yr Aelodau, yn dilyn marwolaeth drasig fy nhad, rwyf wedi ymrwymo i barhau â'i waith caled i gefnogi'r ymgyrch bwysig hon, felly i mi mae'n ymddangos yn rhesymegol mai ein cam nesaf yw i'r sefydliad hwn, y Senedd hon, ddilyn ôl traed cynghorau fel fy un i yn Sir y Fflint a Chyngor Tref Cei Connah a chael ei hachredu'n llawn. Felly, a wnaiff y Comisiwn gyfarfod â mi a'r ymgyrch Rhuban Gwyn i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd yn y dyfodol? Diolch.

Rydym wedi ymrwymo i fynd ar drywydd hyn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, oherwydd y llynedd canolbwyntiodd y Comisiwn ar urddas a pharch yn y gweithle yn gyffredinol, ac mae hynny'n cynnwys llesiant, cydraddoldeb hil a rhyw fel rhai o'r eitemau hynny, ac mae'r gwaith hwnnw'n cael ei adolygu. Cyfarfûm â phrif weithredwr newydd y Rhuban Gwyn—gwneuthum hynny ym mis Tachwedd—a thrafodais eu cynllun achredu. Ac o'r drafodaeth honno, canfûm eu bod yn adolygu'r cynllun hwnnw mewn gwirionedd. Gan ein bod hefyd yn adolygu ein cynllun ni, roedd i'w weld yn gwneud rhywfaint o synnwyr i aros tan y flwyddyn nesaf, ar ôl i'r adolygiad hwnnw gael ei wneud, pan allwn asesu'r cynlluniau sydd gennym i roi'r ddau at ei gilydd a symud ymlaen yn gadarnhaol y flwyddyn nesaf.

15:15
4. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, a'r cwestiwn i'w ofyn gan David Rees. 

Tata Steel

1. Yn dilyn y sylwadau a wnaed gan gadeirydd grŵp Tata Sons, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru ym Mhort Talbot? 374

A gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn a'i sicrhau y byddwn yn parhau i ymgysylltu â Tata Steel ar bob lefel i drafod sut y gallwn gefnogi cynaliadwyedd hirdymor gweithfeydd dur yng Nghymru, gan gynnwys safle Port Talbot wrth gwrs? 

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb? Ddydd Sul, yn The Sunday Times, nododd y cyfweliad a gyhoeddwyd gyda Mr Natarajan Chandrasekaran—cadeirydd Tata Sons, sef rhiant-gwmni Tata Steel—yn glir na fyddent i bob pwrpas yn ystyried cynnal colledion yn y cynhyrchiant dur y tu allan i India. Yr hyn a ddywedodd oedd, 'Pam y dylai India barhau i ariannu colledion o'r fath?'. Nawr, nid yw hyn yn newydd i'r gweithlu, rwy'n tybio. Cyfarfûm â'r undebau wrth gwrs, cyfarfûm â'r rheolwyr ac yn amlwg maent yn deall mai ymwneud â chreu cynaliadwyedd roedd y rhaglen drawsnewid fel bod eu busnes yn gallu bod yn hunangynhaliol yn y dyfodol.

Fodd bynnag, dyma sioc arall i’r gweithlu, gan ei gwneud yn glir iawn iddynt beth yw’r heriau sydd o’u blaenau yn dilyn y cyhoeddiad cyn y Nadolig y bydd 1,000 o swyddi’n cael eu colli yn y DU drwy Tata. Mae'n creu mwy o ansicrwydd yn y gweithlu. Mae'r gweithlu wedi gwneud cymaint ag y gallant, i bob pwrpas. Maent yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod cynhyrchiant yn gwella. Maent yn gwneud popeth posibl i wneud y cynhyrchion ar gyfer pen uchaf y farchnad. 

Efallai ei bod hi'n bryd bellach i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad p'un a yw am gael diwydiant cynhyrchu dur yn y DU. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi gweithredoedd Llywodraeth Cymru hyd yma. Rydych chi wedi bod yn gefnogol i ddiwydiant dur Cymru. Ond daw pwynt bellach lle mae'n rhaid i chi wneud argymhellion a galwadau cryf ar Lywodraeth y DU. A wnewch chi alw ar Lywodraeth y DU yn awr, boed yn ysgrifenedig neu drwy fynd i’w gweld, a chan gynnwys y Prif Weinidog, i ailgychwyn y cyngor dur, i gael yr agenda drafod hon ar waith fel y gallwn siarad am ddyfodol dur y DU er mwyn cael cytundeb y sector dur wedi'i gytuno gyda'r Ysgrifennydd Gwladol?

Efallai y gallwch wahodd yr Ysgrifennydd Gwladol i ddod i drafodaethau yng ngwaith Port Talbot ei hun fel y gall weld yn y fan a'r lle beth yw pwysigrwydd dur i economi Cymru. Ac efallai y gallech chi eich hun fynd i India i gyfarfod â Mr Chandrasekaran i drafod sut ddyfodol sydd i Tata yng Nghymru, oherwydd mae hwn yn ddiwydiant allweddol, nid yn unig i fy nghymunedau i ond i lawer o gymunedau ledled Cymru. Felly, mae angen inni sicrhau y gallwn ddiogelu dur, ond yn anffodus, nid yw'r dulliau ar gyfer gwneud hynny yn eich dwylo chi—y rhan fwyaf ohonynt—maent yn nwylo Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid i ni eu cael hwy i wneud rhywbeth. 

Rwy’n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Dai Rees wedi'i ddweud. Nid wyf yn credu y byddai llawer o wledydd yn unrhyw le ar y blaned yn barod i roi'r gorau i'w gallu i gynhyrchu dur a hoffwn annog Llywodraeth y DU i ddangos cyn gynted â phosibl nad yw'n fodlon troi ei chefn ar allu Prydain i gynhyrchu dur chwaith. Roedd y cyfweliad, fel y dywedodd Dai Rees, yn cynnwys datganiad sy'n hollol gyson â datganiadau blaenorol gan Tata Steel, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u cynnwys yn nogfennau'r cynllun trawsnewid. 

Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod cymuned cynhyrchu dur Ewrop yn wynebu ystod eang o heriau enfawr. Ond yma yn y DU, gall Llywodraeth y DU weithredu tri cham fwy neu lai ar unwaith i fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar Tata yn y DU a llawer iawn o gwmnïau cynhyrchu dur a chwmnïau ynni dwysedd uchel eraill. 

Yn gyntaf oll, rhaid iddynt weithredu ar brisiau ynni uchel ac anwadal, fel y mae Dai Rees wedi nodi. Yn ail, rhaid iddynt gyflawni bargen y sector dur. Ac yn drydydd, fel y bûm yn galw amdano ers amser maith, rhaid iddynt gynnull y cyfarfod a ganslwyd o’r bwrdd crwn ar ddur ar gyfer y DU. 

Ddydd Llun yr wythnos hon, cyfarfûm â Gweinidogion Llywodraeth y DU a phwysleisio eto yr angen iddynt weithredu ar unwaith ar y prisiau ynni uchel hynny sy'n gwneud cynhyrchu dur yn y DU yn anghynhyrchiol, ac sydd hefyd yn effeithio ar gystadleurwydd y sylfaen yma yn y DU. Rhaid iddynt weithredu'n fuan oherwydd, fel y mae'r cyfweliad hwnnw wedi'i ddangos i lawer o ddarllenwyr yn ôl pob tebyg, mae’r amynedd yn brin ynghylch y ffordd nad yw Llywodraeth y DU yn gweithredu. 

A gaf fi gytuno â rhywfaint o'r hyn y mae David Rees wedi'i ddweud o ran y sylwadau siomedig gan y cadeirydd? Mae hynny'n amlwg yn mynd i fod yn destun pryder i'r gweithlu o 4,000 yn Tata Steel.

Yn amlwg, mae rolau yma ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; mae gan y ddwy Lywodraeth ysgogiadau at eu defnydd. Tybed a fyddai'r Gweinidog yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd i ddigolledu gweithgynhyrchwyr ynni-ddwys am gostau ynni adnewyddadwy a chostau polisïau newid hinsawdd.

A fyddai'r Gweinidog hefyd yn cytuno â mi nad yw'r broblem gyda'r diwydiant dur yn gyfyngedig i un peth, nid yw'n gyfyngedig i drydan yn unig, mae yna nifer o broblemau, a'r brif broblem yw pris isel dur yn rhyngwladol yn sgil gorgapasiti byd-eang? Ceir mater ardrethi busnes hefyd, ac roeddwn yn meddwl tybed a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar unrhyw gamau pellach y gall eu cymryd mewn perthynas â lleddfu ardrethi busnes i'r diwydiant.

Y llynedd, naill ai mewn datganiad neu mewn cwestiwn fel hwn, fe sonioch chi sut y gallai cyhoeddiad Tata effeithio ar weithwyr medrus ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill yng Nghymru. Fe sonioch chi y byddai'n ychydig fisoedd cyn y gellid cynnal dadansoddiad fesul swyddogaeth—credaf mai dyna oedd y geiriau. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, tybed a ydych wedi cael unrhyw ddiweddariad ganddynt, neu os nad ydych, pryd rydych chi'n disgwyl y gallai hynny ddigwydd.

A throi at beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ers mis Tachwedd, pan ofynnais y cwestiwn—roedd yn sôn rhywbeth am ardrethi busnes eto. Ond beth arall, ar wahân i ardrethi busnes, y credwch chi y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r diwydiant i fod yn strwythurol gystadleuol yma yng Nghymru?

Mae'r etholiad cyffredinol wedi bod, a chan fod Brexit yn mynd i ddigwydd, tybed pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth newydd y DU—rwy'n sylweddoli nad oes llawer o amser wedi bod ers i'r Llywodraeth honno ddod i rym—ar ailedrych ar y pryderon ynghylch cystadleuaeth a fynegwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'r uno arfaethedig.

Hefyd, mewn byd ar ôl Brexit, byddai rhai'n dadlau bod rhywfaint o hyblygrwydd ynghylch rheoliadau allyriadau presennol yr UE, a tybed beth yw barn Llywodraeth Cymru ar ddarparu hyblygrwydd ychwanegol dros reoliadau allyriadau ar gyfer y diwydiant dur, gan ystyried datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru hefyd wrth gwrs. Tybed beth yw eich barn ar hynny.

Ac yn olaf, beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ddiweddaru canllawiau caffael cyhoeddus yn adrannau Llywodraeth Cymru er mwyn gallu ystyried unrhyw ffactorau amgylcheddol wrth i Lywodraeth Cymru gaffael dur?

15:20

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Er fy mod yn cydnabod bod rhywfaint o gamau wedi'u cymryd gan Lywodraeth y DU, yn ôl y diwydiant ei hun, mae'r gweithredu hwnnw'n annigonol, boed ar ffurf y gronfa a sefydlwyd ar gyfer cwmnïau ynni dwys, neu'r fenter dur gwyrdd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n gwbl hanfodol yw ei bod yn gwrando ar y sector mewn cyfarfod bwrdd crwn wedi'i ailgynnull ac yn gweithredu ar sail yr hyn a ddywedant, yr hyn y mae'r busnesau hynny'n dweud sydd ei angen yn y DU. Ar sail yr hyn a glywaf yn gyson, y broblem fwyaf sy'n eu hwynebu yw prisiau ynni cyfnewidiol sy'n aml yn rhy uchel.

Rwy'n disgwyl adborth y mis nesaf ar y rolau y bydd cyhoeddiad Tata cyn y Nadolig yn effeithio arnynt. Os caf unrhyw wybodaeth cyn mis Chwefror, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn unol â hynny wrth gwrs.

Meysydd eraill o gymorth y tu hwnt i ardrethi busnes, efallai—sy'n fater y bydd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, yn rhoi llawer o sylw iddo—rydym yn ystyried cymorth pellach wrth gwrs ar gyfer cyfleoedd ymchwil a datblygu er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar dechnolegau newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg yma ac y gellir gweithgynhyrchu cynhyrchion newydd yma yng Nghymru ac y gellir cynhyrchu'r dur ar eu cyfer ym Mhort Talbot. Yn ôl pob tebyg, ni fydd Tata'n ailedrych ar yr uno, ac felly mae'n annhebygol iawn yr ailedrychir ar benderfyniad Comisiwn yr UE. Fodd bynnag, yn ystod y trafodaethau y byddaf yn eu cael gyda Tata yn ystod yr wythnosau nesaf, mae hwn yn fater y byddaf yn ei godi gyda hwy.

O ran allyriadau, mae gwir angen lleihau allyriadau carbon ledled Cymru a ledled y byd, a dyna pam y buom yn buddsoddi mewn adeiladau gorsaf bŵer gwell o fewn y gwaith ym Mhort Talbot a pham ein bod, drwy'r galwadau i weithredu yn y cynllun gweithredu economaidd, yn buddsoddi yn y gwaith o ddatgarboneiddio diwydiant, a gweithgynhyrchu yn benodol. Hoffwn annog Llywodraeth y DU i helpu yn hyn o beth drwy sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU a'r heriau amrywiol y mae'n eu cefnogi o fudd i Gymru lawn cymaint ag y mae o fudd i rannau eraill o'r DU.

Yn olaf, ar gaffael, a'r mater hynod bwysig y mae'r Aelod yn ei godi, fe fydd yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi cyhoeddi hysbysiad cyngor caffael ym mis Ionawr y llynedd sy'n cefnogi'r broses o gyrchu a chaffael dur cynaliadwy mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yng Nghymru. Yn ogystal, ers ei lansio, mae Gwerth Cymru wedi bod yn hyrwyddo manteision llofnodi'r siarter dur—Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf i lofnodi'r siarter dur—i awdurdodau lleol ledled Cymru, drwy gyswllt uniongyrchol a thrwy sesiynau grŵp, yn y gogledd ac yn y de.

15:25

Weinidog, mae dyfodol y gweithfeydd ym Mhort Talbot ac yn Shotton yn gysylltiedig drwy'r gadwyn gynhyrchu, ac rwy'n sefyll yn gadarn gyda fy nghyd-Aelod, David Rees, yn fy nghefnogaeth i'r gweithlu ym Mhort Talbot a'r gweithwyr dur ledled Cymru. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru bob amser wedi cefnogi'r diwydiant dur, ac unwaith eto rhaid inni ddangos pa mor bwysig ydyw i Gymru. Nawr, mae parhau i gefnogi ac ariannu'r gwaith o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr dur, gan uwchsgilio'r gweithlu presennol ar yr un pryd, yn allweddol i'r gefnogaeth honno. Byddai hyn yn anfon neges glir fod Cymru wedi ymrwymo i ddyfodol ei diwydiant dur. A wnewch chi addo parhau'r cyllid a'r gefnogaeth honno? Hefyd, a wnewch chi ddefnyddio eich amser heddiw, Weinidog, i gofnodi eich rhwystredigaeth gyda Llywodraeth Geidwadol y DU yn San Steffan, sydd wedi methu'n llwyr â chefnogi'r diwydiant dros y blynyddoedd? Mae fy etholwyr wedi gweld hyn yn fwy na neb, ers dros 20 mlynedd. A wnewch chi alw arnynt i ddilyn eich arweiniad yn Llywodraeth Cymru a dod yn ôl at y bwrdd a dangos y gefnogaeth sydd ei hangen o'r diwedd i achub ein dur?

A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau a'i gyfraniad? Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud datganiadau diweddar iawn a fyddai'n awgrymu ei bod yn barod i fod yn fwy ymyraethol nag y bu ers 2010. Hoffwn eu hannog i ddefnyddio dur a'r angen i ymyrryd yn yr hyn sy'n digwydd i ddiwydiant dur y DU i ddangos parodrwydd i fod yn fwy rhagweithiol er mwyn achub swyddi gwerthfawr, medrus, sy'n talu'n dda. Bydd y Prif Weinidog a minnau'n ymweld â Tata yn Shotton gyda'n gilydd yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn yr Aelod yno, siarad gyda'r rheolwyr, gydag undebau, gyda'r gweithlu, ac yn arbennig, at drafod cyfleoedd ar gyfer y safle. Wrth gwrs, ceir potensial ar gyfer canolfan logisteg Heathrow yn Tata yn Shotton, rhywbeth a allai ddod â chyfleoedd enfawr i'r ardal. Ond rwy'n awyddus hefyd i gefnogi'r rôl y gallai Llywodraeth Cymru ei chynnig mewn perthynas â hyfforddiant sgiliau. Rydym eisoes wedi cyflwyno ac wedi defnyddio £11.7 miliwn ar gyfer hyfforddiant sgiliau yn Tata ar draws ei safleoedd, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i gyfleoedd bywyd pobl a gyflogir yn y cwmni. Rwy'n awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl ailsgilio ac i uwchsgilio yn unol â hynny.

Mae'r sylwadau hyn gan bennaeth Tata yn amlwg yn peri pryder mawr. Hoffwn ailadrodd yn fyr un o'r sylwadau a wnaed gan David Rees. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi bod yn galw am uwchgynhadledd diwydiant i Gymru. Pwysleisiodd yr Aelod dros Aberafan yn awr yr angen i ddod ag elfennau o ddiwydiant dur y DU a rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd ar y lefel uchaf, a boed hynny'n golygu cyngor dur neu'r math o uwchgynhadledd y bûm yn siarad amdani, nid siopau siarad yw'r rhain. Mae'r rhain yn ymwneud â phwysleisio pwysigrwydd y sectorau hyn a'r angen i weithredu ar frys. A wnaiff Llywodraeth Cymru alw'n benodol yn awr am ailgynnull y cyngor hwnnw gyda sedd i Lywodraeth Cymru o gwmpas y bwrdd er mwyn dadlau bob amser dros bwysigrwydd y diwydiant dur i Gymru? Nid yw'n ymwneud ag ynni yn unig, wrth gwrs, ond mae angen ynni rhad arnom ar gyfer dur. Mae arnom angen ynni rhad a glân ar gyfer dur. Mae angen inni lanhau'r diwydiant dur, ac mae'n amlwg fod ein hamser yn brin.

A gaf fi fod yn gwbl glir gyda'r Aelodau? Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gynnull cyfarfod o gyngor dur y DU. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar 25 Tachwedd yn ei hannog ar frys i ailgynnull cyfarfod o'r bwrdd crwn a ganslwyd ar ddur yn y DU, cyfarfod a oedd wedi'i ganiatáu yn dilyn fy ngheisiadau brys yn gynharach yn yr hydref. Cafwyd galwadau ffôn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol hefyd, lle dadleuais dros ddwyn ynghyd arweinwyr allweddol y diwydiant i sicrhau ein bod yn archwilio pob cyfle i wella cydnerthedd y sector yn y DU. Hoffwn ailadrodd heddiw fod taer angen ailgynnull cyngor dur y DU; rhaid inni sicrhau bod y bobl iawn o amgylch y bwrdd i drafod y camau y gallai Llywodraethau eu cymryd ar bob lefel ledled y DU i helpu'r diwydiant.  

Ac mae'r Aelod yn iawn. Rwy’n credu bod angen cynnull arweinwyr y diwydiant yn ehangach hefyd i drafod dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru, a dyna pam y cytunais, cyn y Nadolig, i gynnal uwchgynhadledd weithgynhyrchu. Bydd honno'n digwydd y gaeaf hwn yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn. A dyma pam y cynhaliais uwchgynhadledd fodurol hefyd cyn y Nadolig ynghylch dyfodol y diwydiant modurol yng Nghymru, ac roedd honno’n hynod gynhyrchiol. A byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i achub y diwydiant dur, a gweithgynhyrchu yn fwy cyffredinol yng Nghymru. 

15:30

Diolch, Lywydd. Weinidog, yng Nghasnewydd wrth gwrs mae gennym safle Llanwern, sydd wedi'i integreiddio â Phort Talbot. Fel y dywedodd Dai Rees a Jack Sargeant eisoes, gwelir y gweithgarwch Tata hyn yn ei gyfanrwydd i raddau helaeth. Felly, rydym yn pryderu llawer am y swyddi yn Llanwern, a hefyd, wrth gwrs, ar hyn o bryd, y swyddi yng ngwaith Orb. Mae'r gwaith ar stop, gyda darpar brynwyr yn dal mewn trafodaethau â Tata ynghylch y defnydd posibl o’r safle hwnnw yn y dyfodol. 

Fe sonioch chi am Lywodraeth y DU yn gweithredu dull mwy ymyraethol yn awr. Ceir achos cryf iawn yn fy marn i dros ddiwydiant cerbydau trydan yn y DU, gyda gwaith dur Orb yn cyflenwi’r dur trydan ar gyfer gweithgarwch o’r fath, lle gallem gael manteision gwirioneddol o ran yr hyn sy’n sicr o fod yn ddiwydiant twf enfawr ar gyfer y dyfodol. Byddai dull ymyraethol gan Lywodraeth y DU yn deall hynny; byddai'n sicrhau bod y gefnogaeth angenrheidiol yn cael ei rhoi i'r darpar brynwyr a Tata Steel, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r undebau llafur er mwyn gwireddu dyfodol hyfyw ac addawol. Felly, yn ogystal â nodi’r achos yn fwy cyffredinol, fel y mae’r Aelodau wedi galw amdano eisoes heddiw, Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod gwaith Orb, a'r sefyllfa yno, yn ogystal â Llanwern, yn flaenllaw yn eich trafodaethau gyda Tata, gyda Llywodraeth y DU, gyda'r undebau llafur, a'r holl elfennau eraill yn y materion hyn? 

Diolch i John Griffiths am ei gwestiynau a'i gyfraniad, ac rwy’n ei sicrhau bod Orb yn wir yn flaenllaw yn ein cyfathrebiadau â Tata, a’n trafodaethau â Llywodraeth y DU hefyd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol, os ydynt am ymyrryd, nad â geiriau cynnes yn unig y byddant yn ymyrryd, ond gydag arian caled. Ac yn y pen draw, ni fyddai angen swm enfawr o arian gan Lywodraeth y DU i Orb drwy’r gronfa her ddiwydiannol i allu sicrhau dyfodol iddo, yn enwedig mewn perthynas â gweithgynhyrchu cerbydau trydan. Ac ar hyn o bryd, fel y gŵyr John Griffiths, nid yw Orb yn gwneud y duroedd datblygedig a ddefnyddir ar gyfer cerbydau trydan, ond mae cynnig Syndex yn amlinellu'r gwaith y byddai ei angen er mwyn symud y safle ymlaen i wneud duroedd heb raen cyfeiriedig yn ogystal â duroedd â graen cyfeiriedig. 

Nawr, fe wnaethom ymweld â’r ffatri Orb gyda'r Prif Weinidog a Jayne Bryant ganol mis Tachwedd. Cyfarfuom â chynrychiolwyr yr undebau llafur; cyfarfuom â'r gweithlu, a buom yn trafod y cyfleoedd ar gyfer y safle, sy'n real iawn. Rwy'n falch o ddweud y bydd Tata yn parhau i drafod unrhyw gyfle i sicrhau bod gweithgynhyrchiant yn parhau gydag unrhyw ddarpar brynwyr, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod y sgyrsiau hynny'n gynhyrchiol yn y pen draw. 

Diolch i'r Gweinidog. Cwestiwn nawr i'r Gweinidog iechyd, ac mae'r cwestiwn hynny gan Helen Mary Jones. 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ganslo llawdriniaethau cleifion mewnol ddydd Llun 6 Ionawr 2020 yn ysbytai Bronglais, Glangwili, ysbyty'r Tywysog Philip a Llwynhelyg? 375

Diolch. Fe ddechreuaf trwy ailadrodd fy niolch, ynghyd â diolch y Prif Weinidog ddoe, i'n staff ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol mewn cyfnod o bwysau gwirioneddol eithriadol. Mae pob gaeaf yn creu anawsterau, ond gwelsom bwysau eithriadol ar draws ein system ar ddiwedd cyfnod y Nadolig ac ar ddechrau mis Ionawr. Heb eu hymroddiad, ni fyddem yn gallu darparu’r lefel o ofal sy'n dal i gael ei darparu ledled Cymru. 

Roedd y penderfyniad i ohirio llawdriniaethau cleifion mewnol yn Hywel Dda yn benderfyniad gweithredol a chlinigol a wnaed gan y bwrdd iechyd i sicrhau na châi diogelwch cleifion mo'i beryglu. Mae fy swyddogion wedi bod yn cyfathrebu'n rheolaidd â'r bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn gweithredu'r holl gamau angenrheidiol i'w galluogi i isgyfeirio mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. 

15:35

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â'i sylwadau am y gwaith rhagorol y mae'r staff yn ei wneud o dan amgylchiadau anodd iawn. Ond tybed sut y byddai'n ymateb i alwad y Coleg Nyrsio Brenhinol ddoe i ailedrych ar faint y pwysau hyn. Tybed sut y byddai'n ymateb i Dr Philip Banfield, BMA Cymru, sy'n dweud—ac rwy'n dyfynnu — eu bod yn poeni o ddifrif am effaith llwyth gwaith a phwysau ar weithlu a staff y GIG ar hyn o bryd. Mae'n mynd rhagddo i ddweud bod gwir berygl y caiff bywydau eu colli'n ddiangen.

Hoffwn wybod hefyd beth fyddai gan y Gweinidog i'w ddweud wrth fy etholwyr, ac etholwyr Aelodau eraill yma, sydd wedi cael eu llawdriniaethau wedi'u gohirio. Gwyddom—a dylwn fod yn glir, Lywydd: nid wyf yn beirniadu'r penderfyniad y mae'r bwrdd iechyd wedi'i wneud; os nad yw'r gwasanaethau'n ddiogel, nid oedd dewis ganddynt. Ond tybed a hoffai'r Gweinidog ymuno â mi i fynegi ei ofid i gleifion fod eu llawdriniaethau—gyda rhai ohonynt wedi bod yn aros amdanynt ers amser maith, a rhai ohonynt mewn poen difrifol iawn—wedi gorfod cael eu gohirio. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi gwybod i ni beth yw'r sefyllfa mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, oherwydd fy nealltwriaeth i yw eu bod wedi gohirio rhai llawdriniaethau a gynlluniwyd heddiw. Cafodd ei awgrymu i mi hefyd nad oes gan Betsi Cadwaladr gynllun y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf. A tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym a yw hynny'n wir ai peidio, ac a ydynt, mewn gwirionedd, wedi cael eu cyfran o'r adnoddau ychwanegol y mae wedi'u rhoi i mewn.

Sonia'r Gweinidog am bwysau eithriadol, a hoffwn ddweud wrth y Gweinidog unwaith eto fod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, fel y mae norofeirws, fel y mae'r ffliw. Mae'r pethau hyn yn hollol ragweladwy. Wrth gael ei holi am y materion hyn ddoe, disgrifiodd y Prif Weinidog y trefniadau a oedd ar waith gyda'r bwrdd iechyd fel rhai 'gwydn'. Wel, hoffwn awgrymu ei fod yn dod i ardal bwrdd iechyd Hywel Dda i esbonio hynny i fy etholwyr, oherwydd nid yw'n edrych fel set o drefniadau gwydn neu dderbyniol i mi. Ac yn bwysicaf oll efallai, Lywydd, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi inni fod y math o ddull pob-system y mae'r BMA yn gofyn amdano—? Mae angen inni weld cynnydd ar frys yn nifer y gwelyau. Yn y tymor hwy, mae'r neges yn aros yr un fath—rhaid i ni gynyddu lefelau staffio mewn lleoliadau gofal iechyd ac mewn cymunedau. Tybed beth y gall ei wneud i dawelu ein meddyliau na fyddwn yn cael y sgwrs hon yn y Siambr hon ar yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Ac yn bwysicach, beth y gall ei wneud i sicrhau'r staff rheng flaen y mae'n siarad mor gynnes amdanynt, a chleifion, na fyddant yn y sefyllfa hon?

Wel, mae ystod eang o gwestiynau yn y fan honno, Lywydd; fe geisiaf ymdrin â'r pwyntiau fel y cawsant eu rhoi. Y man cychwyn yw ein bod yn gwybod, wrth gwrs, fod pwysau ychwanegol yn dod dros y gaeaf, ac mai dechrau Ionawr yw'r amser anoddaf oll, gyda'r pwysau sy'n deillio o ddiwedd un cyfnod gŵyl, pobl sydd wedi gohirio eu gofal, pobl sydd wedi mynd adref ynghanol hynny, ac angen triniaeth bellach wedyn. Nid yn ein hysbytai'n unig y mae'n digwydd chwaith—mae hon yn her wirioneddol mewn gofal sylfaenol hefyd. Ac mae'r hyn a welwn yn Hywel Dda, gyda chanslo gweithgaredd cleifion mewnol, yn symptom o'r pwysau ar y system gyfan. Ac o ran disgrifio'r pwysau ar y system gyfan, adroddwyd bod naw o'r 11 mis diwethaf yn 2019 yn rhai lle cafwyd mwy o weithgarwch nag a welwyd erioed o'r blaen—naw o'r 11 mis a gofnodwyd. Dyna raddfa'r galw ar ein system. Gyda phob parch, y gaeaf diwethaf, ni fyddai neb yn yr ystafell hon wedi rhagweld gweithgarwch o'r fath.

Yr hyn sy'n cael ei wneud yw cynllun ar gyfer y gaeaf ym mhob bwrdd iechyd. Nid oes gennyf syniad o ble y daeth y syniad na cheir unrhyw gynllun ar gyfer Betsi Cadwaladr, ac mae hi braidd yn anodd i mi ymdrin â ffuglen a dychymyg. Ond yn sicr, ceir cynllun ar gyfer y gaeaf ar draws gogledd Cymru—cafodd ei gytuno, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd, ond materion uniongyrchol o dan reolaeth y gwasanaeth iechyd, a'u cyfran, y mae pob bwrdd iechyd, gan gynnwys gogledd Cymru, wedi'i dderbyn o'r £30 miliwn o arian ar gyfer heriau'r gaeaf, ond y cynllun ar y cyd a gyflawnir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol ar gyfer beth i'w wneud ar draws y system gyfan. Mae hynny'n cynnwys mwy o welyau—a chyhoeddais cyn y toriad fod hynny'n golygu oddeutu 400 o wlâu ychwanegol ar draws y system. Dyna faint ysbyty cyffredinol dosbarth mawr o gapasiti ychwanegol sydd wedi'i roi i mewn i'r system. Mae hynny'n cynnwys capasiti ychwanegol yn Hywel Dda.

O ran y sgyrsiau sy'n digwydd gyda staff, gwnaeth Cymdeithas Feddygol Prydain eu sylwadau ar y ffordd i uwchgynhadledd glinigol y mae fy swyddogion yn ei chynnal heddiw—sy'n cynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol a rhanddeiliaid eraill—i archwilio realiti ein sefyllfa, yr ymateb, a beth arall sy'n bosibl ar lefel genedlaethol. Ac o ran lle Hywel Dda yn hynny, maent mewn sefyllfa yn awr lle maent yn gweld mwy o gynnydd yn cael ei wneud ar ryddhau cleifion i o leiaf dri o'r pedwar safle, oherwydd y gwaith y maent yn ei wneud ac oherwydd gweithredu cynllun y gaeaf, ond yn fwy na hynny, oherwydd y berthynas sy'n bodoli rhwng y bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol. A heb fod y berthynas honno mewn lle llawer gwell nag mewn gaeafau a fu, byddem yn annhebygol o weld y cleifion hynny'n cael eu rhyddhau.

Mae'n broblem system gyfan ac mae'n ymateb system gyfan yn awr, ac mae'r diwygio parhaus rwyf wedi siarad amdano'n rheolaidd ac sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod gennym gapasiti ychwanegol, a gofal cartref a phreswyl, sy'n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio i ddarparu hynny. Ac mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn dewis defnyddio'r system wrth inni barhau i weld mwy o alw'n cael ei yrru i mewn i'n system. Mae angen inni edrych eto ar sut rydym yn ei ddiwallu ac yn ei gynllunio. Ac o gofio'r holl uchafsymiau ac isafsymiau gweithgarwch, mae angen inni gydnabod nad ydym yn debygol o weld lleihad sylweddol yn y galw. Mae'n ymwneud â sut rydym yn ymdrin â'r galw hwnnw i wneud yn siŵr nad yw diogelwch cleifion yn cael ei beryglu, a dyna'n union pam mai dyna oedd y peth iawn i Hywel Dda ei wneud, gyda'r holl wahanol risgiau cysylltiedig, i wneud yn siŵr eu bod yn blaenoriaethu'r bobl sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf.

15:40

Waw, ble mae dechrau? Soniwn am y gair 'diogelwch', sydd wedi cael ei ddefnyddio unwaith neu ddwy, ond gadewch inni fod yn glir, y gwelyau yn Hywel Dda—mae'r llawdriniaethau wedi'u canslo oherwydd bod y ward orthopedig yn Ysbyty'r Tywysog Philip wedi'i chau i driniaeth orthopedig, i lawdriniaeth ddewisol, ac maent yn rhoi achosion meddygol i mewn yno. Mae hynny'n cynnwys nifer enfawr o broblemau gyda llawdriniaeth ddewisol. Ceir diffyg eglurder gan reolwyr Hywel Dda y siaradais â hwy heddiw ynglŷn â pham y canslwyd llawdriniaethau yn ysbytai Bronglais, Llwynhelyg a Glangwili, ond maent yn eglur iawn ynglŷn â pham y cawsant eu canslo yn Ysbyty'r Tywysog Philip. Mae wardiau llawdriniaeth ddewisol y Tywysog Philip yn cael eu defnyddio ar gyfer achosion meddygol am eu bod yn dweud eu bod wedi cael mwy o gynnydd mewn achosion meddygol.

Nawr, pan siaradais â'r prif weithredwr yn gynharach, a thrafod hyn gydag ef, un o'r pethau a deimlais yn gryf iawn oedd fy mod yn derbyn bod cynlluniau pwysau'r gaeaf ar waith gyda phob un o'r byrddau iechyd, ond ni chredaf eu bod yn ddigon dychmygus nac yn adeiladu digon o gapasiti wrth gefn. Gwyddom beth yw'r tueddiadau; gwyddom beth yw'r tueddiadau trwy gydol y flwyddyn. Weinidog, fe wnaethoch ofyn iddynt gyflwyno cynlluniau pwysau'r gaeaf. Fe roesoch chi £30 miliwn ychwanegol. Ond wrth wrando, ac fe wnes i wrando'n ofalus, mae'n ymddangos bod yna 'nid wyf yn gwybod beth yw'r pwysau' go iawn o ran a oeddent yn teimlo nad oedd ganddynt gyllid i'w wneud, neu a oedd yn fater o 'beth am inni gynhyrchu'r cynllun gaeaf a gawsom y llynedd. Fe chwythwn y llwch oddi arno, ei gynyddu ychydig a'i ail-lunio'. Ond mae'n fater—llawer iawn ohono—o ddiffyg cynllunio wrth gefn, y braster ychwanegol yn y system, lle rydym wedi gorfod cau wardiau triniaethau dewisol cyfan.

Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn deall gennych beth y gellir ei wneud i sicrhau bod y data'n cael ei ddadansoddi go iawn. Oherwydd, unwaith eto, pan siaradais â'r prif weithredwr, dywedodd y byddent yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd—byddent yn edrych i weld pam yr achoswyd y sefyllfa hon, ond fe wnaeth rhywun y penderfyniad i atal y llawdriniaethau ddydd Llun a dydd Mawrth ac eto heddiw. Felly, mae rhywun eisoes yn gwybod y data hwnnw. Felly, ni allaf ddeall pam nad yw'r data ar gael ar hyn o bryd o ran beth yw'r rheswm sylfaenol.

Tybed a allech geisio annog y bwrdd iechyd, a Betsi Cadwaladr yn awr, i sicrhau bod rhaglen gref iawn yn cael ei sefydlu i ddal i fyny â llawdriniaethau dewisol. A gadewch i ni fod yn glir, gyfeillion: nid sôn am gluniau a phengliniau yn unig a wnawn; yn Hywel Dda, mae rhestr aros o 19.4 mis ar gyfer hynny eisoes. Felly, dychmygwch eich bod yn meddwl eich bod yn mynd i gael eich pengliniau wedi'u gwneud, a pwff, mae'n rhaid i chi aros eto. Ond mae'n cynnwys llawdriniaeth torgest fentrigl, llawdriniaeth fariatrig, llawdriniaeth wrth-adlifo—mae pob math o lawdriniaethau dewisol wedi cael eu canslo gyda rhestri aros o hyd at 15 mis. Felly, rydym yn mynd i wneud ein rhestrau aros yn hirach. Felly, Weinidog, a allech edrych ar yr hyn y gellid ei wneud yn y byrddau iechyd lle maent wedi gorfod canslo llawdriniaethau er mwyn iddynt allu cyflymu rhaglen dal i fyny fel y caiff ein hamseroedd aros gyfle i wella yn hytrach na'u hymestyn?

Yn olaf, rwy'n credu mai'r eliffant yn yr ystafell yw bod angen i wasanaethau cymdeithasol fod ar alwad saith diwrnod yr wythnos drwy'r flwyddyn, fel ein gwasanaethau iechyd. Ar alwad o ran gallu lleddfu oedi wrth drosglwyddo gofal, oherwydd, eto, wrth siarad â'r bwrdd iechyd, maent yn dweud na allant gael pobl allan o'r ysbyty, oherwydd er bod ganddynt berthynas dda â gwasanaethau cymdeithasol, yn ystod cyfnodau fel y Nadolig a'r flwyddyn newydd a gwyliau banc, mae pobl yn cael gwyliau wrth gwrs, ac yn briodol felly. Nid oes neb yn dweud, 'Mae'n rhaid i chi weithio drwy'r amser', ond mae'n rhaid inni gael system ar waith lle ceir staff wrth gefn fel bod y gwaith arferol o ryddhau pobl, a fyddai yn ei dro yn rhyddhau gwelyau i alluogi pobl sy'n dod i mewn drwy'r drws blaen i fynd i'r ysbyty, yn gallu parhau'n ddiymdroi. Oherwydd, unwaith eto, yr hyn a ddywedwyd wrthyf yw mai rhan o'r broblem yw na allant gael pobl oddi yno. Mae angen i hynny fod yn rhan o'r cynllunio ar gyfer y gaeaf lle ceir ychydig mwy o weithwyr gofal cymdeithasol ar ddyletswydd i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau. Hoffwn glywed eich barn ar hynny.

Ac yn olaf, hoffwn ychwanegu fy mod yn credu bod y staff wedi gwneud gwaith gwych a hoffwn ddweud bod y prif weithredwr yn hollol glir, yn fy sgwrs gydag ef yn gynharach, fod staff wedi dod i mewn, eu bod wedi dod i mewn ar eu dyddiau gwyliau, maent wedi gweithio goramser, maent wedi cyfyngu ar eu gwyliau er mwyn ceisio helpu gyda hyn. Felly, nid yw'n ymwneud â'r ymdrech a'r ymrwymiad a'r ymroddiad rheng flaen, mae'n ymwneud â sicrhau bod yr ochr gynllunio a'r ochr gynllunio wrth gefn yn well ac yn fwy ystwyth er mwyn atal hyn rhag digwydd y flwyddyn nesaf.  

15:45

Wel, rwy'n deall pam y mae Angela wedi gofyn ystod o gwestiynau, ond rwy'n credu bod nifer o'r casgliadau y daeth iddynt yn hynod annheg a chredaf y dylai edrych arnynt eto. Rwy'n hapus iawn i fynd drwy pam rwy'n credu hynny. Mae'n hawdd iawn dweud bod hyn oll yn ymwneud â chynllunio ac ag anallu i gyflawni ac nad yw'r cynlluniau'n ddigon dychmygus. Mewn gwirionedd, credaf fod hynny'n annheg iawn, oherwydd, os edrychwch ar y cynlluniau ar gyfer y gaeaf hwn, maent yn wahanol, maent wedi dysgu gwersi o'r gaeaf diwethaf. Dechreuodd y cynllunio ar gyfer y gaeaf yn ystod y gwanwyn y llynedd er mwyn dysgu'r gwersi—beth ddigwyddodd y gaeaf diwethaf, beth oedd yn llwyddiannus. Dyna pam ein bod wedi cynyddu capasiti mewn nifer o feysydd y gaeaf hwn. Dyna pam rydym wedi cyflawni ymrwymiadau'r Groes Goch, dyna pam y mae'r cynllun Gofal a Thrwsio wedi parhau. Dyma pam hefyd eu bod wedi cynnwys capasiti ychwanegol yn fwriadol gyda phartneriaid ar draws awdurdodau lleol. Y peth hawsaf i'w ddweud yw, 'Gallwch fod yn fwy dychmygus a gallech wneud mwy'. Mewn gwirionedd, ni allwch ond gwneud nifer gyfyngedig o bethau â rhestr gyfyngedig o adnoddau, ac nid dim ond arian yw hynny, ond pobl.

Ac mewn gwirionedd, o ran eich sylwadau am ofal cymdeithasol, mae gofal cymdeithasol eisoes yn gweithio saith diwrnod yr wythnos. Ac mewn gwirionedd, nid y cyfnod rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd yw'r cyfnod problemus fel y cyfryw, oherwydd rydym eisoes yn gweld ysbytai'n gweld pobl yn gadael dros y cyfnod hwnnw, ac mae'r her ar y pwynt hwn yn ystod y pythefnos nesaf. Ac mewn gwirionedd, mae'r her yn ymwneud mewn gwirionedd â chapasiti o fewn y system gofal cymdeithasol ehangach, mewn gofal cartref a gofal preswyl. Yng ngorllewin Cymru yn arbennig, ond mewn rhannau eraill o'r wlad—nid Cymru'n unig ond ar draws gweddill y DU hefyd—mae breuder rhannau o ofal cartref a phreswyl yn broblem wirioneddol ac yn ffactor gyfyngol go iawn o ran gallu cael pobl allan o'r ysbyty ac i'w cartref eu hunain, boed y cartref hwnnw'n stryd mewn cymuned rydych chi neu fi yn byw ynddi neu'n gyfleuster gofal preswyl. Felly, ceir her wirioneddol ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny a dyna pam y mae diwygio mwy hirdymor mor bwysig ar gyfer y dyfodol, oherwydd i ddychwelyd at y flwyddyn nesaf, mae hynny'n ymwneud â pha mor llwyddiannus y gallwn fod wrth gomisiynu capasiti sy'n gynaliadwy ac o'r ansawdd y byddai pawb ohonom yn ei ddymuno i'n teuluoedd ein hunain pan fyddwn yn darparu ar gyfer y cyhoedd yn ehangach.

Fodd bynnag, dyna pam rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol fod y bwrdd iechyd wedi cyhoeddi eu bod am wneud archwiliad dwfn gwrthrychol o'r penderfyniadau a wneir dros y penwythnos hwn ac yn ystod y dyddiau diwethaf. Nid yw hynny'n golygu bod y penderfyniadau hynny'n anghywir o ran y wybodaeth sydd ar gael, ond mae'n ymwneud â bod eisiau dysgu yn awr a pheidio ag aros i adolygu hyn ymhen chwe mis, ond dysgu, gydag ychydig bellter, yn wrthrychol, sut y cafodd y penderfyniadau eu gwneud, a oes pethau y gallem fod wedi'u gwneud yn wahanol, felly nid yw'n golygu dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond ar gyfer yr wythnos nesaf a'r mis nesaf. A dyna'n sicr yw'r peth iawn i'w wneud. Yn wir, pe na baent yn gwneud hynny, byddai beirniadaeth yn y Siambr hon am beidio â chyflawni'r broses honno ar bwynt agos i'r digwyddiadau mewn amser.  

Rwy'n credu bod arweinwyr y bwrdd iechyd, ynghyd â staff rheng flaen, yn gwneud y peth iawn. Ac mae'n gyfnod eithriadol o amser gydag ymateb eithriadol gan ein staff. Edrychaf ymlaen at weld isgyfeirio'n digwydd a byddwch chi ac eraill yn gallu edrych ar eich etholaeth a gweld bod llawdriniaeth ddewisol wedi dychwelyd i lefelau mwy arferol. Ond nid wyf yn mynd i feirniadu'r bwrdd iechyd am gamgymeriadau lle nad wyf yn credu ei bod yn deg beirniadu, a dyna pam nad wyf yn cytuno â'r ystod o gasgliadau y daeth Angela Burns iddynt.  

Y peth cyntaf rwyf am ei wneud yw diolch i'r holl staff sy'n gweithio'n anhygoel o galed i roi cymorth ymroddedig i'r rhai sydd ei angen a chydnabod eu bod yn gwbl ymrwymedig i ddiwallu anghenion eu cleifion. Rwyf am ddechrau gyda hynny oherwydd teimlaf fod hynny'n bwysig ac yn gysur iddynt ein bod yn cydnabod hynny. Darllenais yr e-bost gan Dr Philip Banfield o BMA Cymru a'r pryderon a fynegwyd ganddo, oherwydd rwy'n tybio ei fod wedi ei anfon at nifer ohonom. Ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r trallod i gleifion sydd wedi bod yn aros am lawdriniaeth, beth bynnag fo'r llawdriniaeth honno, a bod pobl yn mynd yn bryderus ac yna'i bod yn cael ei chanslo. Felly, rwyf am gofnodi fy mod yn cydnabod hynny; rwy'n siŵr bod pawb yn yr ystafell hon yn cydnabod hynny. Felly, hoffwn geisio symud hyn ymlaen yn awr, a chafwyd ambell awgrym yn natganiad Dr Phil Banfield. Ac mae'n galw am angen brys i ehangu nifer y gwelyau sydd ar gael fel un ateb posibl i symud pobl drwy'r system. Nid wyf yn gwybod beth yw eich safbwyntiau ar hynny, ond hoffwn eu clywed.  

Gwn eich bod wedi darparu capasiti ychwanegol yn Hywel Dda, fel y gwnaethoch ledled Cymru, ac unwaith eto mae hynny'n newyddion i'w groesawu. Ond rwy'n credu mai'r prif beth—a lle rwy'n cytuno ag Angela—yw na ddylai'r bobl sydd heb gael llawdriniaeth y tro hwn gael eu gwthio i waelod y rhestr ond eu bod yn aros lle'r oeddent, ar frig y rhestr. Ac os oes unrhyw ffordd o gwbl y gallwn ni yng Nghymru, ble bynnag y bo, gyflawni'r llawdriniaethau hyn yn gynt neu o leiaf gynnig y posibilrwydd hwnnw i'r unigolion fel eu bod yn gweld diwedd ar yr hyn y maent yn gobeithio ei ddatrys yn eu pecyn gofal a'u llawdriniaeth—.  

Felly, dyna'r cwestiynau yr hoffwn eu gwybod ac rwy'n deall hefyd y bydd cyfarfod ar y cyd rhyngoch chi a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar symud ymlaen yn gyflymach ac yn fwy gofalus ar yr her gofal cartref y mae pawb ohonom yn ymwybodol ohoni ac sydd wedi'i gwaethygu wrth i lawer o'r unigolion sy'n gweithio yn y sector hwnnw deimlo nad oes croeso iddynt fel ymateb i Brexit. Felly, rydym yn fwy prin o staff yn awr nag o'r blaen hyd yn oed.  

15:50

Mae Joyce Watson yn gwneud pwynt teg am y realiti o fod eisiau recriwtio staff a phobl sy'n gweithio ym maes gofal cartref a phreswyl, ac rydym yn dibynnu ar amrywiaeth o bobl o'r tu allan i'r DU i wneud hynny. Felly, mae unrhyw rwystrau i recriwtio'r bobl hynny, sy'n aml o dan gap mewnfudo arfaethedig y Llywodraeth, yn broblem wirioneddol i bawb ohonom ym mhob un o wledydd y DU. Pe baem yn cael y sgwrs hon yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, byddech yn gweld darparwyr ac aelodau etholedig yn mynegi'r un pryderon yn union am yr effaith ymarferol ar wasanaethau iechyd a gofal.  

O ran yr hyn y gallwn ei reoli a'r hyn y gallwn ei wneud, rwy'n falch o gadarnhau i Joyce Watson y bydd pobl y gohiriwyd eu llawdriniaethau gan y gwasanaeth iechyd yn cael eu hysbysu o ddyddiad cynnar yn fuan i'r llawdriniaeth honno gael ei haildrefnu. Nid yw'r llawdriniaethau wedi'u canslo a'u symud i waelod y rhestr. Mae'n rhan o'r hyn a wnawn pan fydd y gwasanaeth iechyd yn dweud bod angen iddo ohirio llawdriniaeth; byddant yn cael cynnig dyddiad newydd a buan yn awtomatig. Ac wrth gwrs, rwyf am dynnu sylw, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi ei wneud, at y ffaith ei bod hi'n ddrwg iawn gennyf ac rwy'n deall yr effaith ar unigolion sydd wedi bod yn edrych ymlaen, yn aml gyda rhywfaint o bryder, at lawdriniaeth, a'i chael wedi'i gohirio wedyn. Nid yw honno'n sefyllfa bleserus i fod ynddi, ac eto gwyddom yn wrthrychol hefyd fod y bobl sy'n cael gofal brys ac sy'n cael llawdriniaeth ganser—pe na baem yn blaenoriaethu'r bobl hynny, byddem yn iawn i gael ein beirniadu am beidio â gwneud hynny ar draws y system.  

O ran yr heriau a'r ateb posibl y mae Phil Banfield wedi'i awgrymu—dywedodd ei fod yn ateb posibl—mae mwy o welyau yn aml yn ateb deniadol. Mae gennym gapasiti ymchwydd, felly, fel y dywedais yn gynharach, ceir 400 o welyau ychwanegol ar draws y system iechyd a gofal—gwelyau neu'r hyn sy'n cyfateb i welyau. Os ydym am gynyddu capasiti'n barhaol, yr her yw bod angen inni ddeall i ba ddiben, sut rydym yn staffio hynny, fel bod gennym staff parhaol i allu gwneud hynny, ac eto, mewn gwirionedd, pan fydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn siarad am yr hyn y maent am ei weld i ryddhau'r hyn y maent yn cyfeirio ato fel bloc gadael, nid sôn am fwy o feddygon ymgynghorol yn unig a wnânt—ac mae'n nodweddiadol fod pawb yn gofyn am fwy o'u haelodau eu hunain—ond maent yn dweud eu bod am weld buddsoddi mewn gofal cymdeithasol ac yn y system gofal cymdeithasol, oherwydd eu bod yn cydnabod nad problem wrth ddrws blaen y system acíwt yn ein hysbytai yn unig yw hon, mae'n her sy'n ymwneud â phobl yn cael eu cadw gartref yn ddiogel, ond hefyd o ran gallu mynd i'w cartrefi eu hunain gyda phecyn gofal a chymorth. Byddwch wedi gweld yn y gyllideb ddrafft fod y gyllideb iechyd eto eleni wedi rhoi swm bwriadol o arian tuag at ofal cymdeithasol. Rwyf wedi cynyddu'r swm hwnnw o arian o fewn y gyllideb. Mae hefyd yn ymwneud â pham y rhoddwn arian i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n ei gwneud yn ofynnol i iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio â phartneriaid eraill, a dyna yw'r newid i'r system sydd angen inni ei weld yn parhau'n gyflym er mwyn ceisio sicrhau y gallwn ymdrin â'r problemau hyn mor effeithiol ac mor gyflym â phosibl, oherwydd nid ydynt yn mynd i ddiflannu.

15:55

Cawn y sesiynau ymchwiliol hyn mor aml oherwydd pwysau eithriadol ar y gwasanaeth iechyd, ond mae hynny'n dangos bod y pwysau eithriadol wedi dod yn drefn arferol mewn rhai ffyrdd a dyna'r broblem systemig sydd gennym yma. Mae llawdriniaethau wedi cael eu canslo yn awr am y trydydd diwrnod yn olynol yn Hywel Dda a gellid maddau i bobl, felly, am feddwl y dylem newid enw'r bwrdd iechyd i Hywel Ddim Mor Dda.

Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un—yn sicr, nid wyf fi—yn cwestiynu ymrwymiad y staff a'r rheolwyr yn Hywel Dda i wneud pethau'n well, ac maent wedi bod yn gweithio'n galed iawn ers y newid i'r drefn er mwyn gwella pethau ac wedi cael llawer o lwyddiant yn fy marn i. Yn amlwg, mae ffordd bell i fynd o hyd, ond mae yna broblem systemig, nid yn unig yn Hywel Dda. Dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd y mis diwethaf fod perfformiad damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai ledled Cymru yn waeth nag erioed am y trydydd mis yn olynol a bod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi methu cyrraedd ei darged amser ymateb am y tro cyntaf mewn pedair blynedd.

Mae Dr Banfield, sydd wedi cael ei grybwyll sawl gwaith yn y sesiwn hon y prynhawn yma, wedi dweud nad un person sydd ar fai am hyn. Dywedodd ei bod yn broblem gyda'r system. Ac meddai:

Rydym yn clywed adroddiadau am lawdriniaeth ganser yn cael ei chanslo yn awr hefyd drwy wahanol ysbytai yng Nghymru.

Clywaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y cwestiwn gwelyau funud yn ôl, ond unwaith eto, mae Dr Banfield yn gwneud pwynt elfennol yn fy marn i, sef bod gwelyau llawfeddygol yn llawn o gleifion meddygol ac mae hynny'n rhoi'r math anghywir o glaf yn y gwely ysbyty anghywir ar yr adeg anghywir ac mae'n amlwg nad ydynt yn cael y gofal y dylent ei gael.

Nid oes neb yn disgwyl i unrhyw un yn y gwasanaeth iechyd allu proffwydo'n berffaith, a bydd pethau'n mynd o chwith, yn aml am resymau damweiniol na allai neb fod wedi'u rhagweld, felly mae'n rhaid inni fod yn rhesymol ynglŷn â hyn. Ond fel y dywedodd Helen Mary Jones o'r dechrau, rydym yn gwybod bod y gaeaf yn digwydd bob blwyddyn a bod pwysau eithriadol yn debygol o daro, a chlywais y Prif Weinidog yn dweud ddoe, 'Wel, fe wyddem fod hyn yn dod beth bynnag. Dyna pam nad oeddem wedi cynllunio llawdriniaethau ar gyfer yr wythnos diwethaf.' Wel, os felly, does bosibl na allem fod wedi bod ychydig yn fy manwl gywir yn ein rhagfynegiadau o'r math o bwysau a fyddai'n cael eu hychwanegu ar ben yr hyn a oedd yn y system beth bynnag.

Mae'r Gweinidog yn dod yma mor rheolaidd yn awr fel bod ganddo ryw olwg barod i ildio i'w dynged ar ei wyneb wrth ateb y pwyntiau sydd gan bawb ohonom i'w gwneud. A phe bai yn ein lle ni, heb amheuaeth byddai'n eu gwneud yn yr un ffordd â ni. Unwaith eto, nid wyf yn amau ei ymrwymiad i wella'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru o gwbl, ond mae'n rhaid gwneud rhywbeth.

Rhaid darparu mwy o arian rywsut yn ogystal â rhyw fath o welliannau ar y lefel micro ym mhob un o'r byrddau iechyd sy'n dioddef o'r mathau hyn o broblemau systemig. Mae Hywel Dda wedi bod mewn sefyllfa anodd, mae wedi bod yn gwneud gwelliannau, ond yn amlwg mae ffordd bell i fynd eto. Gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ei orau i sicrhau bod bwrdd iechyd Hywel Dda yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arno i ymdopi â'r pwysau y mae wedi bod yn eu dioddef.  

Wel, rydym wedi darparu cymorth sylweddol fel Llywodraeth i'r system iechyd a gofal cymdeithasol, wedi cynnal buddsoddiad sy'n uwch na'r symiau canlyniadol o arian. Felly, o ran cymorth ariannol, mae'r Llywodraeth hon yn bendant wedi—. Ac mae hynny'n wrthrychol ddiymwad: mae ffigurau'r Trysorlys ei hun yn dangos ein bod yn parhau i roi mwy o arian tuag at ein system iechyd ac iechyd a gofal na Lloegr, ac rydym wedi cynnal y buddsoddiad hwnnw at ddiben bwriadol.

Mae a wnelo â mwy nag arian. Fel y dywedais ar sawl achlysur arall, mae'n ymwneud â sut y mae rhannau iechyd a gofal cymdeithasol y system yn gweithio gyda'i gilydd. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cydnabod ei fod yn gymhleth. Nid yw mor syml â dweud, 'Rhowch fwy o arian ac ymdrechwch yn galetach a bydd popeth yn iawn.' Mae'n ymwneud â lefel a natur y galw, ac un o'r enghreifftiau gorau o'r modd y mae'r galw hwnnw wedi cynyddu yn ei gymhlethdod yw bod y galwadau coch y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ymateb iddynt—. Pan wneuthum y penderfyniad i newid y statws galwadau coch, cafwyd rhywfaint o feirniadaeth—mae peth beirniadaeth o hyd bob hyn a hyn—a geisiai awgrymu bod a wnelo hynny mewn gwirionedd â newid y ffigurau i fy siwtio i. Fe ddigwyddodd yn sgil adolygiad clinigol, wedi'i gefnogi gan ein staff rheng flaen, gyda chefnogaeth pob cyfarwyddwr meddygol yng Nghymru. Mae gennym gategori newydd, diffiniad newydd i gyrraedd y bobl salaf. Dyna pam fod yna gategori coch newydd. Ac eto, yn awr, mae gennym 15 y cant yn fwy o alwadau coch i'r gwasanaeth ambiwlans na'r gaeaf diwethaf, a thros y tri mis diwethaf cafwyd nifer uwch nag erioed o alwadau coch. Mae'r rhain yn bobl sâl iawn sydd angen gofal ysbyty. Felly, mae'r proffil galw wedi newid ers y gaeaf diwethaf.

Felly, hanfod yr her yw'r holl fesuriadau a gymerwyd gennym y gaeaf diwethaf, y mesuriadau ychwanegol a gymerir gennym ar hyn o bryd, a'n gallu i gael pobl allan o'r system ysbytai ac i ofal cymdeithasol. Dyna pam y mae breuder gofal cartref a phreswyl yn gymaint o fygythiad a phroblem, sef pam ein bod yn edrych mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd. Ac fe ddywedaf eto, heb y berthynas well a'r camau y mae'n rhaid i lywodraeth leol eu cymryd ochr yn ochr â'r gwasanaeth iechyd—mae'r pethau hynny'n digwydd yn awr, wrth imi siarad, i gael mwy o bobl allan o'r ysbyty—byddai'r broblem hon yn waeth o lawer.

Ond nid yw wedi'i orffen. Yn sicr, nid wyf yn hunanfodlon nac yn hapus fy myd, oherwydd rwy'n cydnabod bod hynny'n golygu nad yw profiad rhai pobl yr hyn y dylai fod. A'r nifer fach o lawdriniaethau a gynlluniwyd a oedd i fod i ddigwydd ond nad ydynt wedi digwydd—y system yn cynllunio ar gyfer yr hyn y gall ddisgwyl ei weld yw hynny. Ond mae'r rhain yn dderbyniol o hyd, serch hynny, y tu hwnt i'r gweithgarwch a gynlluniwyd. Felly, bydd yr archwiliad dwfn y soniais amdano, y cyfeiriodd Angela Burns ato, yn digwydd. Fe fydd yn ddefnyddiol nid yn unig ar gyfer Hywel Dda ond ar gyfer rhannau eraill o'n system hefyd. Ac rwy'n edrych ymlaen at ateb cwestiynau tebyg yr wythnos nesaf yn ôl pob tebyg pan fyddaf yn gwneud datganiad ar bwysau'r gaeaf.

16:00
5. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Un datganiad sydd heddiw, ac mae'r datganiad hynny gan Russell George. 

Diolch, Lywydd. Cyrhaeddodd yr Angel Cyllyll Oriel Davies Gallery yn y Drenewydd ddydd Sadwrn. Dyma'r lleoliad cyntaf yng Nghymru i groesawu'r cerflun wrth iddo barhau ar ei daith ar draws y DU, a bydd yn aros yn y Drenewydd tan ddiwedd mis Ionawr, mewn ymdrech i roi diwedd ar droseddau cyllyll ac ymddygiad treisgar. Yn ffodus, nid oes gan Bowys broblem ddifrifol gyda throseddau cyllyll, ond mae'r Angel Cyllyll yn bodoli hefyd i weithredu yn erbyn bwlio a llinellau cyffuriau ac ymosodiadau eraill.

Cludwyd yr angel o Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, a nod y cerflun, sydd wedi'i greu'n gyfan gwbl o gyllyll, yw codi ymwybyddiaeth y gymdeithas o droseddau cyllyll. Ar ôl cysylltu â heddluoedd, gosodwyd 200 o fanciau cyllyll mewn lleoliadau ar draws y wlad a dechreuodd y broses o greu'r Angel Cyllyll.

Cafodd y seremoni ddydd Sadwrn diwethaf i groesawu'r Angel Cyllyll i'r Drenewydd ei harwain gan y Cynghorydd Joy Jones, sydd wedi gweithio'n galed iawn hefyd gyda Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a Chyngor Sir Powys i ddod â'r cerflun i'r Drenewydd. Felly, hoffwn dalu teyrnged iddi hi a phawb arall sydd wedi gweithio i sicrhau hyn.

Roedd y nifer a ddaeth i weld y cerflun yn y Drenewydd yn anhygoel ac roedd yn dangos yr effaith y mae'r Angel Cyllyll yn ei chael ym mhob man y mae'n mynd, gan gyfleu neges gwrth-drais. Ac am weddill y mis hwn, mae Cyngor Sir Powys yn cynnal amryw o weithdai a rhaglenni addysgol, ac mae'r ymgyrch yn cynnwys ysgolion a grwpiau ieuenctid hefyd. Heb gymorth y cyhoedd, ni all y cerflun cenedlaethol yn erbyn trais ac ymddygiad ymosodol gyfleu ei neges i'r rhai y bwriadwyd iddi eu cyrraedd. Felly, os ydych yn y Drenewydd neu'n mynd heibio i'r Drenewydd y mis hwn, ewch i weld yr Angel Cyllyll.

6. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Waith y Pwyllgor

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad am y wybodaeth ddiweddaraf am waith y pwyllgor hynny. Dwi'n galw ar y Cadeirydd i wneud ei datganiad—Dawn Bowden.

Diolch, Lywydd. Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ym mis Medi 2019 i archwilio argymhellion y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. Bydd yr Aelodau'n cofio i'r panel arbenigol, yn 2017, adrodd ar amrywiaeth eang o faterion, ond yn greiddiol i'w waith roedd cydnabyddiaeth fod angen i'r Cynulliad a'i Aelodau allu cyflawni ein cyfrifoldebau'n effeithiol os ydym i wasanaethu'r bobl a gynrychiolwn yn briodol. Daeth y panel arbenigol i'r casgliad, ar drothwy cyfnod newydd ar ddatganoli yng Nghymru, na all y Cynulliad barhau fel y mae heb beryglu ei allu i gyflawni dros y bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

Mae argymhellion y panel arbenigol ar bleidleisiau i bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu rhoi ar waith gan y Bil Senedd ac etholiadau. Ein rôl fel pwyllgor yw archwilio gweddill yr argymhellion, sy'n cynnwys amrywiaeth o faterion pwysig. Mae'r rhain yn cynnwys: maint y Cynulliad; ei amrywiaeth; sut y caiff Aelodau eu hethol; a'r ardaloedd rydym yn eu cynrychioli. Gellir ystyried y rhain yn faterion cymhleth a thechnegol, ond rhaid inni helpu i barhau â dadl gyhoeddus wybodus gan eu bod wrth wraidd ein democratiaeth sy'n dal i ddatblygu yng Nghymru. Fel pwyllgor, byddwn yn edrych ar bob mater yn ei dro.

Ni welwn unrhyw angen i fynd dros y tir blaenorol, felly, wrth gyflawni ein gwaith, byddwn yn cydgrynhoi ac yn ychwanegu at y dystiolaeth sy'n bodoli, gan ddefnyddio gwaith y panel arbenigol fel ein pwynt cychwynnol. Credaf y bydd y sgyrsiau rydym yn eu cael ac unrhyw argymhellion a wnawn yn fwyaf effeithiol os byddant yn ategu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Senedd ac yn seiliedig ar sylfaen eang o gefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y pwyllgor yn edrych tuag allan ac yn agored ei feddwl. Byddwn yn darparu gwybodaeth gywir a hygyrch, yn chwilio am dystiolaeth ac yn casglu safbwyntiau. Byddwn yn defnyddio ystod eang o ddulliau i gasglu tystiolaeth ac yn gwrando'n ofalus ar farn pobl.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon wedi ymwneud â'r sefydliad hwn neu wedi bod yn rhan ohono ers ei ddyddiau cynnar, ond rhaid inni gofio hefyd na fydd pobl iau—gan gynnwys y rhai 16 a 17 oed a gaiff yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf yn 2021—erioed wedi adnabod Cymru heb ddatganoli. Er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn ystod ein gwaith, rydym yn edrych ar opsiynau ar gyfer gweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru ac ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru drwy dimau addysg ac allgymorth y Cynulliad.

Felly, mae heddiw'n foment allweddol yng ngwaith y pwyllgor. Ers i chi bleidleisio i greu'r pwyllgor hwn, rydym yn ymwybodol fod y rhan fwyaf o'n trafodaethau wedi bod yn breifat, wrth inni gael cyfarwyddyd technegol a thrafod y rhaglen waith rydym yn ei chyflwyno heddiw. Mae'r datganiad hwn yn awr yn rhoi cyfle i rannu ein cynlluniau â chi. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein dull gweithredu strategol, gan nodi ein nodau a'n hamcanion ar gyfer y misoedd i ddod, yn ogystal â'r cylch gorchwyl ar gyfer pob un o'n hymchwiliadau. Gobeithio y bydd hyn yn darparu eglurder ynglŷn â sut y byddwn yn archwilio'r tri mater allweddol yn ein cylch gwaith.

Rydym hefyd wedi lansio ein hymgynghoriad cyntaf heddiw. Rydym yn gofyn am dystiolaeth gan y gymuned etholiadol, pleidiau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill i lywio ein gwaith ar systemau etholiadol, ffiniau, a mecanweithiau adolygu ffiniau. Yn ogystal â chasglu tystiolaeth ysgrifenedig ffurfiol, mae arnom eisiau i bawb allu dilyn ein gwaith a dweud wrthym beth y maent yn ei feddwl. I hwyluso hyn, byddwn yn defnyddio platfform ymgysylltu digidol 'Eich Cymru Chi' i rannu gwybodaeth am ein gwaith ac i roi cyfleoedd i bobl gynnig eu syniadau a'u hadborth ar sail barhaus. Gobeithiaf y byddwch chi, fel Aelodau, yn annog pobl yn eich etholaethau a'ch rhanbarthau i ymgysylltu â'n gwaith yn y modd hwn.

Rwy'n falch heddiw o fod wedi gallu amlinellu ein rhaglen waith uchelgeisiol a chynhwysfawr y bwriadwn ei chwblhau erbyn hydref 2020. Yn wir, mae ein gwaith eisoes wedi dechrau, gyda sesiwn dystiolaeth ym mis Rhagfyr gyda'r Llywydd, a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid yn gynharach yr wythnos hon. Rydym yn bwrw iddi ar ein gorchwyl gydag ymdeimlad o realaeth gan ein bod yn gwybod bod ystod o safbwyntiau gwahanol ymhlith yr Aelodau sy'n bresennol yma heddiw. Yn ddiau, bydd amrywiaeth o safbwyntiau hefyd ymhlith y rhai a fydd yn eistedd yn y seddi hyn yn y Cynulliad nesaf, ac ymhlith yr etholwyr y byddant yn eu cynrychioli. Mae pob un ohonom yn bwrw iddi ar y materion hyn mewn perthynas â'n safbwyntiau gwahanol, ond gobeithiwn y cawn drafodaeth ystyrlon gyda'r pleidiau gwleidyddol ac o fewn y pleidiau, yn ogystal â'r bobl y mae pawb ohonom yn ceisio'u cynrychioli.

Nid ydym yn bychanu'r dasg, ond byddwn yn bwrw iddi'n frwdfrydig. Fan lleiaf, ein bwriad yw y bydd ein casgliadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cynnig trywydd ar gyfer diwygio, a fydd, gobeithio, yn helpu pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu maniffestos ar gyfer 2021 ac yn sicrhau'r cyfle gorau posibl i gonsensws ymddangos ar ffordd ymlaen. Fel pwyllgor, mae gennym dasg heriol o'n blaenau, ond mae gennym hefyd gyfle gwirioneddol a chyffrous i gyfrannu at y ddemocratiaeth barhaus a ffyniannus yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:05

Rwy'n croesawu sefydlu'r pwyllgor hwn, ac rwy'n falch iawn o gael bod yn aelod ohono. Er hynny, mae'n drueni na ddaw unrhyw newidiadau a argymhellwn i rym tan o leiaf 2026. Mae'n fwy hanfodol byth ein bod yn gweithio ar draws y pleidiau i gael hwn yn brosiect y gall pawb yn y Senedd deimlo ei fod yn perthyn iddynt—ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd meinciau'r Ceidwadwyr yn teimlo y gallant ychwanegu Aelod i'n plith.

Nawr, fel y dywedodd Dawn Bowden, bydd y pwyllgor yn edrych yn rhannol ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r diffyg capasiti sydd gennym yn y lle hwn, i ganiatáu inni fod yn fwy arloesol, i wneud mwy o waith trawsbleidiol, i wneud gwaith craffu mwy effeithiol, ac i ganiatáu i Aelodau'r Senedd hon ddatblygu arbenigedd mewn meysydd penodol.

Nawr, Lywydd, nid yw hyn yn ymwneud â chynyddu niferoedd er mwyn cynyddu niferoedd; mae'n golygu sicrhau y gall y Senedd hon gyflawni'n llawn nid yn unig ei photensial ond ei dyletswydd i fod yn Senedd genedlaethol go iawn i Gymru. Dod yn ddeddfwrfa sy'n adlewyrchu'r bobl y mae'n eu cynrychioli, Senedd lle gall pobl Cymru weld eu hunain nid yn unig yn cael sylw, ond hefyd yn cael eu henghreifftio, Senedd lle gallai unrhyw un yng Nghymru weld pobl sy'n edrych yn debyg iddynt hwy, yn meddu ar nodweddion tebyg iddynt hwy. Oherwydd bydd ein pwyllgor hefyd yn ystyried sut y gallai'r cynnydd yn nifer yr Aelodau arwain at fwy o amrywiaeth yn y lle hwn.

Wedi'r cyfan, mae mwy nag un ystyr i'r gair 'represent'. Gall olygu gweithredu neu siarad ar ran neu gyflwyno'n swyddogol ar ran person neu grŵp arall o bobl, ond gall hefyd olygu bod yn ganlyniad i rywbeth neu fod yn rhywbeth. Pan fyddwn yn cael ein hethol i'r Senedd hon, cawn yr anrhydedd aruthrol o siarad ar ran a phleidleisio er budd ein hetholwyr. Hyd yma, a chyda rhai eithriadau, gwelwyd diffyg amrywiaeth siomedig yn ein plith. Dyma ein cyfle i unioni'r sefyllfa. Dychmygwch Senedd lle mae pob person sy'n byw yng Nghymru yn cydnabod y Senedd fel lle sy'n berthnasol ac yn perthyn iddynt hwy. Nawr, oni fyddai hynny'n newid y gallem i gyd fod yn falch ohono?  

16:10

Er bod fy mhlaid yn barod i gymryd rhan mewn trafodaeth a dadl ar y cynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad a'r materion eraill sy'n rhan o gylch gwaith y pwyllgor, credwn fod yn rhaid cael archwiliad cadarn a chynhwysfawr o rôl a llwyth gwaith yr Aelodau Cynulliad presennol ar hyn o bryd, archwiliad sydd hefyd yn ystyried y cynnydd yn llwyth gwaith y Cynulliad yn ei gyfanrwydd. Byddai hyn wedyn yn dynodi a oes galw am ehangu i 80 neu 90 o Aelodau Cynulliad, fel y rhagwelwyd yn adroddiad y pwyllgor arbenigol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.  

Yn anad dim, rhaid i'r Cymry eu hunain gael eu hargyhoeddi, drwy'r dadleuon a gyflwynir, fod ehangu o'r fath nid yn unig yn ddymunol ond yn anorfod. Fel plaid, rydym wedi dewis bod yn rhan o'r broses drwy ein cynrychiolaeth ar y pwyllgor diwygio etholiadol oherwydd credwn y dylai newidiadau mor ddramatig i strwythur y Cynulliad fod yn ddarostyngedig i'w harchwilio'n drylwyr.

Fel y mae Cadeirydd y pwyllgor wedi'i amlinellu, mae'r pwyllgor yn benderfynol o ymgysylltu â phawb y bydd y newidiadau'n effeithio arnynt, a bydd hyn, yn anad dim, yn cynnwys y cyhoedd yng Nghymru yn gyffredinol. Er mwyn cyflawni'r nodau hyn, rydym wedi nodi sut y bwriadwn hwyluso'r ymgysylltiad hwn ac yn wir, rydym eisoes wedi dechrau ar y broses gyda thrafodaethau cychwynnol â chadeirydd y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad, Laura McAllister, ei swyddogion, a'r Llywydd a'i staff. Rydym hefyd wedi cynnal digwyddiad bwrdd crwn gyda rhanddeiliaid perthnasol.

Wrth gwrs, nid yw ein trafodaethau wedi'u cyfyngu i'r cynnydd yn nifer yr ACau. Mae dau gynnig pwysig arall y byddwn yn edrych arnynt yn fanwl. Y cyntaf o'r rhain yw pa newidiadau y gellir eu gwneud i gynyddu amrywiaeth yn y Cynulliad, a'r ail yw diwygio etholiadol. Hynny yw, y dull o ethol Aelodau'r Cynulliad, a bydd hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau arfaethedig i ffiniau y gallai fod eu hangen er mwyn gweithredu newidiadau i'r system etholiadol a ddewisir.  

O ystyried ein trafodaethau hyd yn hyn, rwy'n argyhoeddedig fod gennym Gadeirydd pwyllgor hynod gymwys yn Dawn Bowden, a cheir awydd pendant ymhlith y pleidiau sydd wedi dewis cymryd rhan yn y broses hon i ddod i gonsensws ar y ffordd ymlaen. Diolch.

Fy nghamgymeriad i: dylwn fod wedi gofyn i Gadeirydd y pwyllgor ymateb i'r datganiadau a wnaethpwyd gan Delyth Jewell a David Rowlands. Datganiad ydyw, nid dadl, ac rwyf wedi drysu fy hun. Felly, os caf ofyn i Gadeirydd y pwyllgor ymateb i'r datganiadau sydd eisoes wedi'u gwneud—

16:15

Mae'n iawn, roeddwn i'n aros am y cwestiynau, ac roeddent yn ddatganiadau cefnogol iawn, felly diolch i chi'ch dau am hynny. A gaf fi ymdrin yn gyntaf â'r pwynt a wnaeth Delyth Jewell am ddiffyg Aelod Ceidwadol ar y pwyllgor? Rwy'n credu y buaswn innau hefyd ac aelodau eraill o'r pwyllgor yn croesawu'n fawr pe bai'r Blaid Geidwadol yn adolygu eu safbwynt ar hynny. Cefais sgyrsiau gydag arweinydd y grŵp Ceidwadol, a gwn fod y grŵp Ceidwadol yn awyddus iawn i fod yn rhan o waith y pwyllgor, ac yn sicr barn y pwyllgor yw bod angen inni estyn allan at bob plaid wleidyddol, hyd yn oed y rhai nad ydynt ar y pwyllgor a gofyn am eu safbwyntiau, a byddwn yn ceisio gwneud hynny. Ond wrth gwrs, gall y pwyllgor newid ei aelodaeth ar unrhyw adeg, ac os yw'r Ceidwadwyr yn cynnig rhywun i fod yn aelod o'r  pwyllgor a gweithio gyda ni, yna credaf y gall y Pwyllgor Busnes edrych ar hynny a gwneud argymhellion i'r Cynulliad, a gallwn dderbyn aelod ychwanegol, felly rwy'n mawr obeithio y bydd hynny'n digwydd.

Y materion eraill sydd wedi'u nodi yw materion yn ymwneud â chapasiti, amrywiaeth a chraffu. Yn sicr, o ran capasiti, fel y disgrifiwyd gan David Rowlands, rydym eisoes wedi cael trafodaeth bwrdd crwn gyda rhai rhanddeiliaid cychwynnol, a sefydliadau trydydd parti oedd y rhain yn bennaf a'r cyfryngau a oedd yn cydweithio'n agos iawn â'r Cynulliad, ac roeddent yn gallu rhoi eu harsylwadau inni ynglŷn â sut y maent yn gweithio gyda'r Cynulliad. Roeddwn yn meddwl mai'r hyn a oedd yn ddiddorol am hynny oedd y modd y gallent gyferbynnu a chymharu sut y gallant ryngweithio ag Aelodau Seneddol yn San Steffan a'r modd na allant ryngweithio â ni yn yr un modd, oherwydd ein diffyg capasiti, ein diffyg niferoedd, ein hargaeledd ac yn y blaen, a'r angen i ni allu arbenigo mewn meysydd penodol.

Unwaith eto, cyfeiriwyd at y ffaith nad yw Aelodau Seneddol ond yn eistedd ar un pwyllgor yn aml iawn, ac rwy'n credu, Lywydd, pan roesoch dystiolaeth, eich bod wedi crybwyll y ffaith nad yw oddeutu 100 o'r Aelodau Seneddol yn eistedd ar unrhyw bwyllgor o gwbl Felly, mae hynny'n rhoi llawer mwy o gyfle i'r Aelodau Seneddol allu arbenigo, i ganolbwyntio ar feysydd penodol, nag y gallwn ni fel Aelodau Cynulliad. Rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi dod i'r amlwg yn glir yn y wybodaeth a gawsom hyd yn hyn er mwyn ein galluogi i graffu'n fwy effeithiol—ac wedi'r cyfan, dyna ddylai'r Cynulliad fod yma i'w wneud, craffu ar y Llywodraeth—yw bod angen i ni gael y capasiti i allu gwneud hynny.

Pwynt arall a ddeilliodd o'r trafodaethau y credaf ei fod yn deilwng o sylw yma oedd ein bod yn dweud yn barhaus fod gennym 60 o Aelodau, ond mewn gwirionedd, tua 45 sydd gennym mewn gwirionedd, oherwydd mae 15 yn y Llywodraeth, ac felly, 45 o Aelodau sydd gennym ar gael felly i wneud gwaith pwyllgor, gwaith y Comisiwn a gwaith craffu. Felly, mae angen inni edrych arno yn y cyd-destun hwnnw.

Ond rwy'n credu mai un o'r agweddau allweddol i ni, a rhywbeth rwy'n credu bod pob un ohonom wedi'i nodi, yw bod gennym lawer iawn o waith i'w wneud gyda'r cyhoedd. Bydd hynny'n bwysig eithriadol inni mewn perthynas â sicrhau agwedd eangfrydig ar ran y pwyllgor, sut yr ymgysylltwn ag aelodau o'r cyhoedd, sut yr eglurwn wrthynt beth y mae'r lle hwn yn ei wneud, a sut y gallant ddylanwadu ar hynny a sut y gallant ein gwneud yn fwy effeithiol.

A gaf fi groesawu'r datganiad gan y Cadeirydd heddiw, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddiolch iddi hi a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am y ffordd golegol, agored, ddidwyll ac ymgysylltiol iawn yr aethom ati gyda'n gilydd i wneud gwaith y pwyllgor? Er y gallwn oll gyflwyno ein syniadau ein hunain, ac weithiau, ein rhagdybiaethau ein hunain, mae pawb ohonom wedi ymrwymo i fod yn agored ac i ystyried y dystiolaeth wrth iddi gael ei chyflwyno. Mae'r rhain yn faterion gwleidyddol dyrys: archwilio'r achos dros ragor o ddiwygio etholiadol, dros gael Aelodau Cynulliad ychwanegol a materion cysylltiedig. Ond ein dyletswydd fel pwyllgor yw archwilio'r materion hyn mewn modd ystyrlon, hyddysg ac wedi'i arwain gan dystiolaeth, ac rydym yn gwneud hynny.

Nawr, mae sawl rhan i'r strategaeth sy'n sail i'r ymchwiliad a nododd y Cadeirydd yn ei datganiad heddiw ac yn y dogfennau ategol sydd ar y wefan, ond un o'r agweddau pwysicaf yw cysylltu â'r cyhoedd a'u hysbysu er mwyn helpu i lunio ein gwaith fel pwyllgor. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i'n Cadeirydd yw gofyn a all ymhelaethu ar ein dull o ymgysylltu â dinasyddion Cymru a gofyn am eu barn wybodus ar faterion megis y nifer orau o Aelodau Cynulliad ar gyfer y Senedd hon, a'r system etholiadol a ddefnyddir, a materion eraill. Mae'r ymgysylltiad hwn, yn gynnar ac yn gyson drwy'r broses, hefyd yn bwysig wrth sefydlu a ellir cyflwyno ac ennill y ddadl dros ddiwygio pellach, gan fod cefnogaeth eang cymdeithas ddinesig ac etholwyr gwybodus yn bwysig wrth ddatblygu unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol.

Nawr, fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, bydd unrhyw argymhellion a wnawn yn fwyaf effeithiol os ydynt wedi'u gwreiddio mewn cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus eang ei sail. Felly, mae ymgysylltu â'r cyhoedd ar y cam hwn a thrwy'r cyfan yn hollbwysig, ond mae'r ymgysylltiad gwleidyddol yn bwysig hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud. Felly, fy ail gwestiwn i'n Cadeirydd yw holi a fydd—a sut y bydd—yn parhau i drafod â'r holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd, yn ogystal â'r elfennau gwleidyddol arwyddocaol eraill yng Nghymru nad ydynt wedi'u cynrychioli yma, er mwyn gallu bwydo eu safbwyntiau hwy i mewn hefyd, ond fel y gallant weld ac ymwneud â'r dystiolaeth a glywn. Yn benodol—mae wedi cael ei grybwyll yn barod—rwy'n chwilio am gadarnhad gan y Cadeirydd fod yna sedd, yn wir, wrth fwrdd y pwyllgor ar gyfer yr holl brif bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yma, a byddem am weld y sedd las wag honno yn cael ei llenwi gan Aelod galluog, ystyrlon a chraff o'r meinciau yn union gyferbyn â mi yma, ac y bydd yn parhau, ar ran y pwyllgor, fel y byddaf i'n bersonol yn ei wneud, i annog llenwi'r sedd honno, fel y gallwn oll ymwneud â'r dystiolaeth gyda'n gilydd, ni waeth beth fo'n safbwyntiau unigol neu ein safbwyntiau pleidiol wleidyddol. Yn sicr, dyna'r dasg fwyaf sylfaenol sydd gennym fel deddfwyr a llunwyr polisïau—ymgodymu â'r cwestiynau anodd hyn gyda'n gilydd.

Rwyf o ddifrif yn gweld colli llais a chyfraniad fy nghyd-Aelodau ar draws y llawr ar y pwyllgor hwn, ac rwy'n siŵr bod y blaid honno, a fu, o dan Disraeli ac o dan Gladstone, yn ymgodymu ag anhawster, ond mae'n rhaid i mi ddweud yn hyderus hefyd, gyda phethau fel y cwestiwn Gwyddelig, fel ymestyn yr etholfraint, a diwygio seneddol mawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'n fwy na galluog a hyderus, rhaid imi ddweud—. Rwy'n edrych ar unigolion gyferbyn yn awr, byddai unrhyw un o'r Aelodau hynny'n gallu cymryd rhan yn y pwyllgor bach amser cyfyngedig ar ddiwygio etholiadol. [Torri ar draws.] Rwy'n gwneud fy ngorau i annog hyn, Lywydd. Byddent yn fwy na galluog, o'r blaid honno, i ymwneud â'r pwyllgor bach amser cyfyngedig ar ddiwygio etholiadol yn yr unfed ganrif ar hugain.

A gaf fi hefyd ofyn i'r Cadeirydd ymhelaethu ychydig ar drefn, amserlen, y pwyllgor gorchwyl a gorffen hwn i bob pwrpas? Yn y pen draw, mae gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar ddiwygio etholiadol yn mynd i fod yn nwylo holl Aelodau'r Senedd yma, wedi'u llywio gan y cyhoedd a'u pleidiau eu hunain, ond hefyd yn cael eu llywio gan waith y pwyllgor hwn. Felly, a all amlinellu ei barn gyffredinol, fel Cadeirydd y pwyllgor, ar ba bryd y mae'n rhaid i'n hargymhellion ddod i'r amlwg er mwyn galluogi'r Senedd hon i'w hystyried yn gynhyrchiol, ac a fydd hi'n trafod gyda'r Llywydd, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y pleidiau o bob plaid sut y mae'r amserlen hon yn galluogi unrhyw gynigion ar gyfer diwygio y gellir eu cyflwyno, os yw'r dystiolaeth yn ei gefnogi ac os teimlir y gall cynigion ennyn cefnogaeth y Senedd, yn yr amserlen sy'n caniatáu i gynulliadau'r Senedd hon neu Seneddau yn y dyfodol wneud y paratoadau angenrheidiol, y ddeddfwriaeth angenrheidiol, os yw'n briodol, a'i chyflwyno?

Yn olaf, a gaf fi ofyn i'r Cadeirydd am ei barn ar rywfaint o'r dystiolaeth a glywsom eisoes? Crybwyllodd hyn funud yn ôl—ar y goblygiadau i berfformiad ac effeithiolrwydd y Senedd hon ac ar ein dulliau o weithio a'n hwythnos waith, neu ar yr hyn y gallai fod yn rhaid inni ddewis peidio â'i wneud â'n pwerau presennol, heb sôn am bwerau nad ydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd, neu unrhyw bwerau yn y dyfodol, os byddwn yn dewis peidio â chyflawni newidiadau pellach a allai gynyddu capasiti ac amrywiaeth o ran cynrychiolaeth i adlewyrchu hyn yn llawn, ein gwlad, ein Senedd Cymru. Rydym eisoes wedi clywed tystiolaeth ar hyn ac roedd yn ddiddorol iawn clywed beth y mae'r sefydliadau sy'n ymgysylltu â ni'n rheolaidd ac yn ein lobïo ar faterion pwysig iechyd a'r amgylchedd a chymaint o bethau eraill, yn ei feddwl fyddai goblygiadau dewis peidio â bwrw ymlaen â rhyw fath o ddiwygio etholiadol a fyddai'n cynyddu capasiti ac amrywiaeth y lle hwn. A fyddai'n dymuno ymhelaethu ar hynny?

16:25

Ie, Diolch, Huw, fe gymeraf hynny gan ddechrau ar y diwedd. Y pwynt olaf a wnaethoch am y goblygiadau i'n perfformiad, yn fy marn i, yn ôl y dystiolaeth gyfyngedig a gawsom hyd yn hyn, roedd y dystiolaeth a gawsom yn gyson ac yn glir iawn o ran y goblygiadau i ni. Os deuwn at bwynt lle na allwn ehangu maint y Cynulliad hwn, credaf ei bod yn amlwg i bawb y siaradasom â hwy hyd yma y bydd yn rhaid i'r ffordd y mae'r Cynulliad yn gweithio newid yn ddramatig. Ac mae'n debyg y bydd yn rhaid cael rhai argymhellion y byddai llawer o Aelodau'r lle hwn yn eu hystyried yn annymunol.

Ac os dywedaf wrthych mai un o'r pethau a awgrymwyd i ni hyd yn oed, a fyddai'n eithriadol o annymunol i mi ac i'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn yr ystafell hon, oedd y gallai fod yn rhaid inni oedi datganoli ei hun os nad ydym mewn sefyllfa i gyflawni ein swyddogaethau'n effeithiol. Yr hyn roedd y bobl hynny'n sôn amdano oedd y byddai'n rhaid inni ddweud, o ran pwerau pellach, os na allwn ymgymryd â rhagor o bwerau'n fwy effeithiol, efallai y bydd yn rhaid inni ddweud na allwn ac efallai y bydd yn rhaid inni edrych ar y pwerau sydd gennym eisoes a dweud na allwn bellach fwrw ymlaen â'r pwerau hynny oni allwn eu gwneud yn effeithiol. Nawr, nid wyf yn dweud bod hynny'n rhywbeth roedd y pwyllgor yn cytuno ag ef, nid wyf yn dweud y byddai hynny o reidrwydd yn un o'n hargymhellion; yr hyn rwy'n ei ddweud wrthych yw bod hwnnw'n un o'r awgrymiadau a gyflwynwyd gan bobl sy'n ymgysylltu â ni ac roeddent yn dweud y byddai angen inni roi ystyriaeth ddifrifol i hyn.

Agweddau eraill ar ein gwaith y byddai'n rhaid inni edrych arnynt yw ein hwythnos waith, sawl diwrnod yr wythnos y bydd y Cynulliad hwn yn eistedd, pa mor hir fydd ein dyddiau, faint o bwyllgorau sy'n cyfarfod, a oes angen inni uno rhai o'n pwyllgorau, a allwn anfon pobl adref ar ddydd Iau neu a oes raid i bobl aros yma bum niwrnod yr wythnos, a phob un o'r mathau hyn o bethau. Os ydym o ddifrif ynghylch bod yn gorff deddfu sydd o ddifrif ynghylch craffu ar waith y Llywodraeth hon, oni fyddwn yn ehangu'r capasiti, bydd yn rhaid inni wneud rhai penderfyniadau anodd ac annymunol iawn.  

O ran yr amserlenni, yr amserlen rydym yn gweithio arni ar hyn o bryd yw llunio argymhellion y pwyllgor cyn toriad yr haf eleni gyda'r bwriad o ddod yn ôl i'r Cynulliad ar gyfer dadl yn sesiwn yr hydref—felly, cyn toriad yr hydref ym mis Hydref. Dyna'r math o amserlen rydym yn gweithio iddi. Gallai lithro, neu beidio. Nid wyf yn gwybod faint o ryddid fyddai gan y pwyllgor i lithro yn ei amserlen oherwydd bod y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud gan y Cynulliad hwn o ran, wyddoch chi, mai grŵp gorchwyl a gorffen ag iddo amser cyfyngedig yw hwn. Rwy'n credu bod angen inni weithio yn ôl yr amserlen honno. Mae'n rhaid i mi ddweud bod clercod y pwyllgor—. A gaf fi ddiolch o galon i glercod y pwyllgor sydd wedi gweithio'n galed iawn ar gynhyrchu amserlen ar ein cyfer, gan nodi'n glir iawn y darnau o dystiolaeth sydd angen inni eu casglu a'r grwpiau y mae angen inni siarad â hwy yn ystod ein gwaith?

Daw hynny â mi at y pwynt a godwyd gennych, Huw, a chrybwyllais ef yn fy ateb blaenorol, ynghylch ymgysylltiad ac ymwneud â dinasyddion. Yr hyn rydym yn ei gynnig o ran ymgysylltu â dinasyddion yw ein bod yn sefydlu cynulliad dinasyddion. Y rheswm pam ein bod wedi cynnig sefydlu cynulliad dinasyddion yw bod hynny'n rhoi'r cyfle gorau inni gael sampl cynrychiadol iawn o'r etholaeth ehangach o ran oedran, rhyw, lleoliad, iaith—Cymraeg, Saesneg ac ati—y gallwn eu dwyn ynghyd gyda safbwyntiau amrywiol, safbwyntiau gwleidyddol amrywiol, a gellir gwneud hynny'n eithaf gwyddonol, ein bod yn cael pobl at ei gilydd mewn math o senedd fach, math o gynulliad dinasyddion. Ond, ac mae hwn yn 'ond' mawr, mae hwnnw'n ymarfer costus iawn. Byddem yn ceisio gwneud hynny—. Rydym wedi trafod gyda'r clercod sut y gallem wneud hynny yn y ffordd fwyaf costeffeithiol. Felly, rydym wedi edrych ar ben isaf y raddfa, ond hyd yn oed ar ben isaf y raddfa, nid yw'r swm o arian y byddai ei angen i redeg cynulliad dinasyddion yn ansylweddol. Ond os ydym o ddifrif ynglŷn â'i wneud, ac os ydym o ddifrif eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cael barn wybodus gan y cyhoedd, teimlwn y byddai'n arian sy'n werth ei wario. A deallaf y bydd Comisiwn y Cynulliad yn edrych ar hynny ar 27 Ionawr i gymeradwyo ein cais am gynulliad i ddinasyddion, gobeithio. Os na chawn gynulliad dinasyddion, bydd yn rhaid inni edrych ar ffyrdd eraill o ymgysylltu â'r cyhoedd, a gallai hynny ddigwydd drwy grwpiau ffocws, gallai ddigwydd drwy arolygon barn, gallai ddigwydd drwy ffyrdd eraill o ymgysylltu. Ond rydym yn awyddus iawn i symud ar hyd y ffordd hon o ymgynghori'n ystyriol iawn gyda phobl ar draws ystod eang o safbwyntiau ac yn y blaen.

Felly, y pwynt arall y credaf i chi ei godi, Huw, oedd yr un am y sedd agored i'r Blaid Geidwadol, ac unwaith eto, rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ymateb i Delyth Jewell: mae'r sedd yno i'r Blaid Geidwadol allu ymuno. Gobeithio y gallwn barhau â'n sgyrsiau â hwy, y byddant yn ymgysylltu â gwaith y pwyllgor hwn ac y byddant yn adolygu ac yn ystyried eu penderfyniad ac yn dychwelyd atom gyda safbwynt mwy cadarnhaol yn y dyfodol.

16:30

Fe ymunaf ag Aelodau eraill yn y Siambr i ddweud pobl mor hyfryd yw'r Ceidwadwyr a pha mor wych fyddai eu gweld yn ymwneud â hyn. Llyr, peidiwch â dweud, 'Peidiwch â mynd mor bell â hynny'—rwy'n credu y byddai'n beth da iawn pe baent yn cymryd rhan. [Chwerthin.]

Lywydd, fe ddefnyddiaf eich geiriau chi i'r pwyllgor, ac mae'r Cadeirydd eisoes wedi sôn am hyn. Fe ddywedoch chi am ASau San Steffan fod dros 100 o'r dros 600 o Aelodau Seneddol heb fod yn aelodau o unrhyw bwyllgorau o gwbl, ac yn eich geiriau chi, fe ddywedoch chi

nad ydynt yn cymryd unrhyw ran yn y Llywodraeth na'r wrthblaid, ac—. Nid wyf yn gwybod beth y maent yn ei wneud.

Fe ddywedoch chi:

Nid wyf yn gwybod sut beth yw'r bywyd hwnnw, dod i'r Senedd a pheidio â chael dim i'w wneud am yr wythnos.

Ac mae hynny'n bell iawn o'n profiadau ni. Mae hynny'n bell iawn o brofiad pob un yn y Siambr hon, a ninnau ar ddau neu fwy o bwyllgorau, yn treulio penwythnosau'n ceisio deall ein papurau ar gyfer dau bwyllgor yr wythnos ganlynol, i'r rheini ohonom sydd ar bwyllgorau. Ac ni allaf ddychmygu, felly, sut y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn cydbwyso gwaith etholaethol a bod mewn Llywodraeth. Mae'n rhaid ei fod yn uffern llwyr o ran cydbwysedd gwaith a bywyd. Ni allaf ddychmygu bod yn y sefyllfa honno byth, yn enwedig gyda dau o blant ifanc. Ni allaf ddychmygu sut y caiff ei wneud gyda'r niferoedd sydd gennym ar hyn o bryd a'r llwyth gwaith sydd gennym ar hyn o bryd.

Ond o ran y ddadl fwy poblogaidd dros berswadio pobl, credaf fod angen ichi ddweud wrth bobl, 'Os yw Gweinidog Llywodraeth yn destun craffu, beth fyddai orau gennych? A fyddai'n well gennych iddynt gael llawer o bobl yn craffu ar yr hyn a wnânt, neu lai o bobl yn craffu ar yr hyn a wnânt?' A buaswn yn dweud y byddai pobl yn dweud, 'Wel, byddai'n well gennyf fod llawer o bobl yn arbenigwyr mewn meysydd bach, cyfyngedig yn craffu ar y Llywodraeth, yn hytrach na bod ychydig o bobl yn ceisio gwneud popeth.' Rwy'n credu eich bod yn cael craffu gwell gyda mwy o Aelodau—[Torri ar draws.]—a hefyd mae dyfnder y craffu yn dod yn well yn ogystal. Mae'n ddrwg gennyf, buaswn wrth fy modd yn derbyn ymyriad, ond datganiad ydyw, felly ni allaf wneud hynny. Ond nid wyf yn gwybod beth rydych newydd ei ddweud, Janet Finch-Saunders, mae'n ddrwg gennyf.

A'r mater arall yw tegwch etholiadol ac eglurder. Tegwch etholiadol ac eglurder. Rwyf wedi cael cwynion, Delyth Jewell, gan etholwyr yn Nelson sydd wedi dweud eu bod wedi derbyn taflenni gan Blaid Cymru yn dweud nad fi oedd yr Aelod Cynulliad mwyach ac mai Delyth Jewell oedd yr Aelod Cynulliad. Ac roeddent yn cwyno wrthyf, 'Pa bryd y rhoesoch chi'r gorau iddi?' Wel, wrth gwrs, nid dyna a wnaethoch, dim ond dosbarthu taflen wnaethoch chi, yn dweud, 'Fi yw'r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru ac rwyf yma i'ch helpu.' Wrth gwrs mai dyna a wnaethoch, nid wyf yn credu i chi wneud unrhyw beth o'i le. Delyth, pe baech chi wedi gwneud unrhyw beth o'i le, buaswn wedi mynd yn syth at y comisiynydd safonau. [Chwerthin.]

Ond yr hyn a wnaethoch oedd y peth iawn i'w wneud—roeddech yn Aelod Cynulliad newydd ac roeddech yn cyflwyno'ch hun i bobl yn Nelson. Ond mae'r bobl yn Nelson wedi drysu—roeddent yn credu bod yna Aelod Cynulliad newydd a fy mod i, rywsut, wedi rhoi'r gorau iddi. Nid oedd pobl yn deall bod ganddynt fwy nag un Aelod Cynulliad yn eu cynrychioli gyda'r system ddeuol hon. Nid yw'r system etholiadol honno'n gweithio ac mae angen ei newid. Credaf y dylai hynny fod yn rhan o'r hyn sy'n cael ei ystyried, a chredaf mai'r unig ffordd y gallwch ddadlau dros fwy o Aelodau Cynulliad yw drwy i chi ddadlau hefyd dros ddiwygio etholiadol sy'n fwy cynrychiadol o'r gymdeithas y ceisiwn ei chynrychioli.

Mewn etholaeth aml-Aelod—a defnyddio'r model y mae Laura McAllister yn ei gynnig, rwy'n tybio—y math o etholaeth a fyddai gennym yng Nghaerffili, efallai y byddech chi a minnau'n Aelodau Cynulliad yn cynrychioli'r un etholaeth. Wel, mae hynny'n iawn, oherwydd felly mae gennych esboniad clir ynglŷn â pham roeddech chi yno, yr hyn roeddech yn ei wneud yno, a buaswn yn dadlau hefyd y byddai'n gorfodi pleidiau i gydweithio'n well nag y mae'r system bresennol yn ei wneud. A hefyd, byddai'n fwy cynrychiadol o ganran y bleidlais, oherwydd ar hyn o bryd, hyd yn oed gyda system D'Hondt, nid yw'r Cynulliad hwn yn etholiadol gynrychiadol o ganrannau. Felly, nid yw'n gweithio ar hyn o bryd, ac rwy'n annog—. Gwn fod aelodau'r pwyllgor wedi cymryd cam yn ôl rhag arddel y safbwyntiau eithaf beiddgar hyn, ond rwy'n dadlau o blaid y safbwyntiau hyn—. Fel Aelod mainc gefn o'r Cynulliad, dadleuaf o blaid y safbwyntiau hyn. Credaf y dylech fod yn edrych yn fanwl ar system etholiadol decach, mwy o Aelodau Cynulliad yn ysgwyddo mwy o rolau craffu, a hynny'n cael ei gydbwyso ar draws Siambr fwy cytbwys, a chredaf y gallwn ennill y ddadl honno'n gyhoeddus, yn enwedig heb unrhyw Aelodau o'r Senedd Ewropeaidd a llai o Aelodau Seneddol yn ôl pob tebyg, yn y dyfodol. Credaf y gellir ennill y ddadl honno os ydym yn ddigon beiddgar ac yn cyflwyno'r dadleuon hynny.

Hefyd, os oes gennych ddemocratiaeth gynrychiadol dda, ni fydd angen yn y dyfodol am ddemocratiaeth uniongyrchol, oherwydd bydd eich democratiaeth gynrychiadol yn weithredol. Gallwn ymdopi â'r rhaniadau ar ran y gymdeithas. Nid oes raid inni drosglwyddo'r rhaniadau hynny i ddinasyddion ar ffurf refferenda yn y dyfodol—[Torri ar draws.]—buaswn yn dadlau. Buaswn yn dadlau. Mark Reckless, nid wyf yn dadlau ar ran fy mhlaid.

Felly, gyda'r achosion hyn yn cael eu gwneud, fy nghwestiwn i chi, Dawn, yw: mae ymgynghoriad eich pwyllgor yn agor ar 19 Chwefror—roeddwn yn ei chael yn eithaf anodd dod o hyd i fanylion yr ymgynghoriad hwnnw ar y wefan, felly credaf y byddai'n ddefnyddiol gwneud hynny'n fwy hwylus i'r defnyddiwr. A hefyd, sut y byddwch yn gwneud hyn—? Nid yw'r geiriau a ddefnyddiwyd yn yr ymgynghoriad y math o eiriau y buaswn i, er enghraifft, yn gallu eu rhannu ar Facebook. Sut rydych chi'n mynd i gael pobl i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw yn y lle cyntaf? Oherwydd os yw'r holl ddadleuon rwyf wedi'u cyflwyno yn mynd i fod allan yno, mae'n rhaid ei wneud yn hygyrch, ac nid wyf yn credu bod yr ymgynghoriad cyntaf hwnnw o reidrwydd mor hygyrch—er gwaethaf cynulliad y bobl—nid wyf yn credu bod yr ymgynghoriad cyntaf hwnnw mor hygyrch ag y gallai fod.

16:35

Diolch am y sylwadau hynny, Hefin. Rwy'n credu bod llawer yn hynny y byddai'r pwyllgor yn cytuno ag ef. Nawr, yr hyn nad wyf yn mynd i'w wneud fel Cadeirydd y pwyllgor, ac nid oes neb o aelodau'r pwyllgor ar hyn o bryd yn mynd i ddweud beth rydym ni'n credu ddylai ddigwydd neu a fydd yn digwydd mewn perthynas â diwygio etholiadol, ond mae diwygio etholiadol yn rhan o'r briff sydd gan y pwyllgor. Felly, byddwn yn edrych—. Rydym eisoes wedi cael y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn dod i mewn i roi briff technegol inni ar y gwahanol fathau o system bleidleisio. Fe fyddwch yn gwybod bod adroddiad Laura McAllister, adroddiad y panel arbenigol, wedi gwneud argymhelliad ynglŷn â symud oddi wrth y system D'Hondt sydd gennym ar hyn o bryd am yr union reswm y siaradoch chi amdano: y math gwahanol o AC a'r dryswch y mae hynny'n ei achosi. Rwy'n gwybod, fel AC dros etholaeth, fy mod yn gwneud pethau'n wahanol iawn i'r ffordd y mae AC rhanbarthol yn gweithio. Felly, nodwyd hynny yn adroddiad y panel arbenigol. Roedd hynny'n rhywbeth nad oedd pobl, yn gyffredinol, yn ei ffafrio wrth symud ymlaen. Roeddent am gael mwy o eglurder ynghylch y modd y caiff pobl eu hethol. Roeddent am gael eglurder o ran gwybod pwy oedd eu Haelod Cynulliad.

Felly, bydd rhan o'r gwaith y byddwn yn edrych arno yn canolbwyntio ar ddiwygio etholiadol, ac ynghyd â diwygio etholiadol wrth gwrs, bydd yn rhaid cael trafodaeth ynghylch ffiniau etholiadol. Nawr, at ddibenion y panel arbenigol—ac roedd honno'n ffordd bragmatig o fynd ati oherwydd ar y pryd roedd gobaith, rwy'n credu, y byddai'r argymhellion wedi bod yn weithredol ar gyfer etholiadau 2021. Yn amlwg, nid yw hynny'n digwydd. Fel dull pragmatig o fynd i'r afael â hynny, awgrymodd y panel arbenigol y dylid gefeillio etholaethau, ac y byddai fy etholaeth wedi'i gefeillio â'ch un chi. Felly, Hef, gallech chi a minnau fod wedi bod yn Aelodau yn yr un etholaeth, gyda Delyth a phwy a ŵyr pwy arall. Ond roedd honno'n ffordd bragmatig o'i wneud lle byddem ond wedi lleihau nifer yr etholaethau ond wedi dyblu'r maint, a chynyddu nifer yr Aelodau sy'n cynrychioli pob etholaeth mewn system STV—pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Felly, mae hynny i gyd yn bethau i'r pwyllgor eu hystyried ac mae'n rhaid i ni gael mwy o dystiolaeth ynglŷn â hynny. Byddwn yn clywed tystiolaeth gan bleidiau gwleidyddol am hynny, oherwydd gwyddom fod gan bleidiau gwleidyddol wahanol safbwyntiau ar hynny, ac mae gan bobl o fewn y pleidiau gwleidyddol safbwyntiau gwahanol ar hynny, ac fe fyddwch yn gwybod, Hefin, yn ein plaid ni, fod gan lawer o bobl safbwyntiau gwahanol iawn ynglŷn â beth yw'r system bleidleisio orau—[Torri ar draws.] Ie, yn sicr, oherwydd rhaid i ni fod—. Rhaid inni fyw yn y byd go iawn a rhaid inni gydnabod mai gwleidyddiaeth yw hyn, a rhaid inni gydnabod y bydd pleidiau gwleidyddol yn edrych i weld pa system y credant y bydd yn eu ffafrio fwyaf. Nawr, réal politique yw hynny. Felly, rhaid inni ystyried hynny. Ond rydym wedi dweud—ac fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol—o'r cychwyn cyntaf bydd gennym feddwl agored ynglŷn â hyn, a byddwn yn seilio ein hargymhellion ar dystiolaeth a gyflwynir i ni sy'n dangos beth fyddai'r ffordd orau ymlaen.

O ran ffiniau etholiadol, un o'r pethau sydd wedi'u datganoli i ni yw'r gallu i osod ein ffiniau ein hunain, ond nid oes gennym ddeddfwriaeth sylfaenol ar waith eto i'n galluogi i wneud hynny. Felly, mae'r cymhwysedd gennym, ond nid y broses ddeddfwriaethol ar gyfer gwneud hynny. Felly, byddai'n rhaid inni roi hynny ar waith hefyd. Byddai'n rhaid cyflwyno deddfwriaeth drwy'r Cynulliad i'n galluogi i sefydlu ein comisiwn ffiniau ein hunain i benderfynu ar ein ffiniau ein hunain. Felly, bydd hynny, unwaith eto, yn un o'r meysydd gwaith y bydd y pwyllgor yn edrych arnynt—felly, diwygio etholiadol, ffiniau etholiadol.

Y pwynt olaf a wnaethoch, rwy'n credu, oedd yr un ynglŷn â sicrhau bod yr ymgynghoriadau'n hwylus i ddefnyddwyr. Rwy'n derbyn hynny, rwy'n derbyn eich pwynt, a byddaf yn cael trafodaeth gyda chlercod y pwyllgor ynglŷn â sut y gallem eu gwneud ychydig yn haws i'r defnyddiwr, ac edrych efallai ar rywfaint o'r iaith a ddefnyddir hefyd, yn sicr, pan fyddwn yn gwneud yr ymgynghoriadau mwy allanol gyda'r cyhoedd, yn hytrach nag ymgynghoriadau gyda sefydliadau sy'n gweithio gyda ni'n rheolaidd. Rwy'n siŵr y bydd hynny'n bwysig iawn, felly rwy'n hapus i edrych ar hynny.

16:40

Mae’r amser ar ben ar gyfer y datganiad hwn, ond galwaf ar y ddau siaradwr sy'n weddill i roi cyfraniadau byr. Janet Finch-Saunders. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n ddryslyd braidd—rwy’n codi i wneud sylwadau personol yn awr, mewn gwirionedd, ac rwy’n teimlo bod hyn wedi rhoi cyfle i mi, gyda chi’n cyflwyno hyn, Dawn. Yn sicr, fel Aelod sy'n teithio o ogledd Cymru, ar gost fawr i'r trethdalwr mewn gwirionedd—pedair, pedair awr a hanner ar y trên, yno ac yn ôl—pan fyddaf yma, yn amlwg, rwyf am lenwi'r amser yn y ffordd orau sy’n bosibl. 

Mae dau beth yn eich datganiad heddiw yn peri pryder i mi. Yn gyntaf, cawsom refferendwm yn 2011, y refferendwm pleidlais amgen—ai dwy fil ac—? [Torri ar draws.] Na, na, ond roedd yn refferendwm er hynny: fe siaradodd y bobl, penderfynodd y bobl ar y system bleidleisio roeddent ei heisiau, ac i mi fel Aelod dros Aberconwy, gydag iechyd ac addysg a'r pryderon sydd ganddynt yno, nid yw'n cael lle blaenllaw ar eu graddfa Richter o’r hyn y dylem fod yn ei wneud yma. 

Ond fe sonioch chi am fwy o graffu. Nawr, siom arall sydd gennyf, pan fyddwn wedi teithio i lawr yma, yw bod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn arfer bod yn awr, yna cafodd ei byrhau'n fuan iawn i 45 munud. Yn bersonol, rwy’n teimlo y gallem fod yn gwneud mwy yn yr amser rydym yma—y rhifau a roddir inni. Yn eithaf aml, gofynnir i mi yn fy etholaeth, lle mae pobl wedi troi at Senedd.tv, 'Pam y mae'r meinciau bob amser yn wag neu mai ychydig iawn o bobl sydd ar y meinciau hynny?' Rwy'n mynd i bwyllgorau lle mae pobl ar un pwyllgor yn unig, ac nid ydynt yn mynychu’r pwyllgor yn rheolaidd. Rwy'n credu o ddifrif, a hoffwn ofyn—fy nghwestiwn pennaf yw: beth neu bwy yn y sefydliad hwn a fyddai'n edrych efallai ar sut y gallem wneud mwy o ddefnydd o'r amser rydym ni fel Aelodau Cynulliad yma, a pheidio â dal i edrych bob amser ar sut y gallwn gynyddu'r gost i'r trethdalwr? 

Aelodau, Cymru sydd â'r nifer uchaf o wleidyddion yn Ewrop, yn ôl yr hyn a ddeallaf o astudiaeth a wneuthum. Felly, rwy'n credu, mewn gwirionedd, cyn inni ddechrau dweud, 'Mwy, mwy, mwy—mwy o gost i'r trethdalwr', dylem edrych—[Torri ar draws.] Rwy'n gofyn—

Mae'r Aelod yn ceisio cyfrannu at y drafodaeth bwysig hon. Caniatewch iddi barhau. 

Ac rwy'n gofyn y cwestiwn: pa ystyriaethau rydych chi wedi'u rhoi i wneud i'r Cynulliad hwn wneud gwell defnydd o’r Aelodau'r Cynulliad sydd yma mewn gwirionedd ? Diolch. 

Cyn i Gadeirydd y pwyllgor ymateb, ar gyfer y cofnod, ni allaf gofio amser pan oedd sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn para 45 munud. Efallai mai 45 munud sy’n cael ei neilltuo ar ei chyfer, ond ni fu'n 45 munud ers amser go hir. Gadeirydd y pwyllgor. 

Diolch, Lywydd. Fe gadwaf fy ymateb yn gryno iawn. Janet, rydych chi'n llygad eich lle, ac rwy'n credu fy mod i wedi cyffwrdd â hyn yn gynharach mewn ymateb, ynglŷn ag edrych ar—ymateb i Huw Irranca-Davies ydoedd mewn gwirionedd. Un o'r pethau y bydd y pwyllgor yn ei wneud yw edrych ar y ffordd y gweithiwn, oherwydd hyd yn oed os ydym yn cael cytundeb ar argymell Cynulliad mwy o faint, a bod y Cynulliad yn pleidleisio dros hynny, a'n bod yn ei gael, a bod y Llywodraeth nesaf yn cymeradwyo hynny—oherwydd nid y Llywodraeth hon fydd hi; Llywodraeth nesaf Cymru fydd yn bwrw ymlaen â hynny—bydd cyfnod o bum mlynedd o hyd pan fyddwn yn gweithio gyda 60 Aelod. Felly, nid yw'r status quo yn opsiwn o ran sut rydym yn gweithio ar hyn o bryd. Dyna oedd y farn a fynegwyd gan nifer o bobl, ac felly bydd hynny'n un o'r pethau—. Bydd hynny'n un o'r pethau y bydd yn rhaid i ni eu hystyried o'r dystiolaeth a gesglir gennym: os na symudwn at nifer fwy o Aelodau Cynulliad, byddem yn ceisio gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gallai'r Cynulliad weithredu'n wahanol, oherwydd ni all barhau i weithredu yn y ffordd y mae’n gwneud yn awr, gyda'r nifer bresennol o Aelodau.  

16:45

A gaf fi bwysleisio'r angen am gyflymder wrth ddadlau a dod i gasgliad ar y materion hyn? Yn yr 20 mlynedd ers cyflwyno llywodraeth ddemocrataidd yng Nghymru rydym wedi cael yr hyn sy'n ymddangos i mi yn gasgliad toreithiog o gomisiynau a phwyllgorau, ac o ran archwiliadau gan rai o feddyliau mwyaf y wlad hon—meddwl mwy nag sydd gen i yn sicr. Ac os yw pawb—[Chwerthin.] Rwy'n derbyn nad yw hynny'n gosod y bar yn arbennig o uchel. Ond mae'r holl bobl sydd wedi astudio'r mater hwn wedi dod i'r un casgliad. Mae eu casgliadau wedi bod ychydig yn wahanol mewn mân faterion, ond daethant i'r un casgliad—nad oes gan y lle hwn adnoddau na chapasiti i wneud ei waith yn briodol, a chaiff ei ethol mewn ffordd nad yw'n galw am gysylltiad y bobl â'r broses wleidyddol. 

Cefais sioc ddoe, wrth siarad â'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, pan ddysgais fod 52 y cant o'r bobl a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol y mis diwethaf wedi pleidleisio dros ymgeiswyr a gollodd—ni chafodd rhywun y gwnaethant bleidleisio drostynt mo'u hethol. Ni wnaeth 52 y cant—mwyafrif y bobl a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol y mis diwethaf—ethol rhywun roeddent am eu gweld yn eu cynrychioli. Mae hynny'n gondemniad llwyr o system y cyntaf i'r felin. 

Ond gwyddom hefyd—gwyddom hefyd—fod y system aelod ychwanegol a weithredwn yma hefyd yn creu datgysylltiad rhwng y bobl y ceisiwn eu cynrychioli a'r lle hwn. Gwyddom nad yw pobl yn gwerthfawrogi nac yn deall y system ddwy haen gyda system y rhestr. Gwyddom fod pobl yn ei chael hi'n anodd deall weithiau pwy sy'n eu cynrychioli, yn yr un ffordd ag y mae fy nghyd-Aelod o Gaerffili wedi'i egluro y prynhawn yma. Rydym hefyd yn gwybod nad yw system y rhestr yn gweithio, a'i bod wedi torri. Gwyddom hynny o ddigwyddiadau yn y lle hwn dros y tair blynedd diwethaf. Nid yw'n darparu'r cymesuredd y ceisiai ei sicrhau. 

Felly mae'r system sydd gennym yn creu datgysylltiad, mae wedi torri, nid yw'n gweithio, ac felly mae angen newid. Y peth hawsaf yn y byd—y peth hawsaf oll—yw camu'n ôl a chreu sloganau, gwneud dadleuon hawdd a diog. Ond gadewch imi ddweud hyn wrth y rhai sy'n gwneud hynny: nid y Llywodraeth yw'r bobl a fydd o reidrwydd yn elwa o'r diwygio hwn. Y lle hwn, a ni fel seneddwyr fydd yn elwa, oherwydd byddwn yn gallu craffu ar y Llywodraeth mewn ffordd fwy trylwyr nag y gallwn ei wneud heddiw. Bydd gennym amser a lle i gynrychioli ein hetholwyr mewn ffordd fwy trylwyr. Ar hyn o bryd, buaswn yn dadlau mai'r Llywodraeth hon yma yw'r Llywodraeth sy’n ddarostyngedig i leiaf o graffu o bob gwlad yn y Deyrnas Unedig, a hi ddylai fod y Llywodraeth y creffir arni fwyaf. [Torri ar draws.] Yr wrthblaid, Darren, ddylai fod yn gwneud hynny. 

Gwnaeth Darren y ddadl ddoe na ddylai’r gwrthbleidiau wrthwynebu Llywodraethau, dadl ddewr iawn yn fy marn i i rywun sydd wedi bod yn yr wrthblaid ers 13 blynedd ei gwneud, ond yr wrthblaid fydd yn elwa’n fawr o’r diwygio, nid y Llywodraeth. A chredaf fod yn rhaid inni wneud hynny. Ac rwyf hefyd yn credu—a gwn fy mod yn profi eich amynedd eto, Lywydd—fod gennym ni, fel seneddwyr, gyfrifoldeb uwch na dim ond edrych ar fudd a mantais wleidyddol bersonol a phleidiol. Fel seneddwyr, mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i sicrhau bod y lle hwn yn gweithio’n iawn i bobl y wlad hon, ac mae hwnnw’n gyfrifoldeb rwy’n gobeithio fy mod bob amser wedi bod o ddifrif yn ei gylch tra bûm yn Aelod yma.

Credaf fod Janet Finch-Saunders yn gywir ar rai pethau. Rwy'n credu bod yna newidiadau sydd angen inni eu gwneud i'r ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu, nid yn unig er mwyn cynyddu'r cyfleoedd sydd gennym yma i sicrhau newid. Ond credaf, er enghraifft, y dylem newid y ffordd rydym yn cyflawni cyllideb y Llywodraeth. Dylai fod gennym broses ddeddfwriaethol i graffu mwy ar y Llywodraeth, i wneud i'r Llywodraeth weithio'n galetach i gael ei ffordd, ond ni allwn wneud hynny os nad oes gennym gapasiti i gyflawni hynny. Credaf hefyd y dylem fod yn rhoi mwy o bwysau ar y Llywodraeth i ddeddfu, mewn ffordd. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog heddiw ynglŷn â chyfraith Lucy, a gofyn pam nad yw hynny'n cael ei gyflawni mor gyflym ag y dylai. Ond ni allwch ddadlau nad yw'r Llywodraeth yn gweithio'n ddigon caled a dadlau wedyn fod angen llai o graffu arni. Ni allwch wneud hynny. Mae hynny'n golygu’n bendant fod angen i chi wneud newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithredu yma, ac yn enwedig pan fo gennym system unsiambr. Ond ni allwch wneud hynny os nad ydych chi, ar yr un pryd, yn dadlau dros gael y capasiti a'r strwythurau a'r adnoddau ar waith i wneud y mwyaf o'r gwaith a wnawn fel seneddwyr. 

16:50

Diolch am y sylwadau hynny, Alun. Dim llawer yno i anghytuno ag ef, heblaw dweud yn amlwg nad ydym eto wedi gorffen ein trafodaethau ac felly nid ydym wedi dod i gasgliadau ar nifer o'r materion rydych chi'n eu codi. 

Fy sylw olaf mewn gwirionedd yw dweud ein bod yn chwilio am dystiolaeth a sylwadau gan bleidiau gwleidyddol y tu mewn a'r tu allan i'r lle hwn. Rydym hefyd yn gofyn am dystiolaeth a sylwadau gan aelodau unigol pleidiau gwleidyddol ac Aelodau. Felly, mae croeso i unrhyw Aelod unigol sy'n dymuno gwneud sylwadau ar unrhyw un o'r pwyntiau a godwyd heddiw wneud hynny. Gallwch ei wneud trwy'r wefan neu gallwch ei wneud trwy ysgrifennu ataf yn bersonol. Byddaf hefyd yn sicrhau fy mod ar gael i siarad ag unrhyw Aelod o'r lle hwn sy'n dymuno siarad â mi’n bersonol am unrhyw un o'r materion a godwyd heddiw a gwaith y pwyllgor, a byddaf yn cynnwys hynny i gyd yn nhrafodaethau'r pwyllgor dros yr ychydig fisoedd nesaf. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adfywio Cymunedol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adfywio cymunedol. Galwaf ar Mark Isherwood i gyflwyno’r cynnig. 

Cynnig NDM7221 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

2. Yn cydnabod yr angen i gyflawni, yn ymarferol, dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol, gyda chyfraniad y gymuned at gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol.

3. Yn cydnabod yr heriau penodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad yn eu hwynebu gyda chyfraddau uwch o siopau gwag a lefelau uwch o amddifadedd nag mewn rhannau eraill o Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi'r gwaith o adfywio mewn cymunedau ledled Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae ein cynnig yn cynnig bod y Senedd hon yn gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Fel llawer, rhoddais fy nghefnogaeth i'r rhaglen drechu tlodi honno pan gafodd ei lansio oherwydd dywedwyd wrthym ei bod yn ymwneud â grymuso a pherchnogaeth gymunedol go iawn. Fodd bynnag, datblygodd pryderon wrth i dystiolaeth dyfu nad oedd y rhaglen yn cyflawni'r canlyniadau gwell sydd eu hangen ar bobl yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. 

Wyth mlynedd yn ôl, gwrthododd Llywodraeth Cymru adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, 'Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen', a ganfu y dylai cyfranogiad y gymuned wrth gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog i unrhyw raglen olynol ar gyfer trechu tlodi. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ac ar ôl gwario bron i £0.5 biliwn arno, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dod â Cymunedau yn Gyntaf i ben yn raddol, ar ôl methu gostwng prif gyfraddau tlodi na chynyddu ffyniant cymharol yng Nghymru.

Fel y dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru yn 2011,

'mae angen i unrhyw raglen sy’n olynu Cymunedau yn Gyntaf greu’r amodau i symud o raglen llywodraeth o’r brig i lawr i strategaeth sy’n cael ei harwain gan y gymuned ar gyfer mynd i’r afael ag amddifadedd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.' 

Fel y canfu astudiaeth ddofn Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru 2014 yn Nhredegar, 

Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r agenda grymuso cymunedol wedi'i fframio fwyfwy o fewn y dull cydgynhyrchu, 

a,

dylai gwaith llywodraethu ar gyfer lleoedd gwydn a chynaliadwy geisio denu dinasyddion lleol i gymryd rhan, 

gan fynnu

persbectif gwahanol iawn i'r ymagwedd arferol tuag at bŵer ar lefel gymunedol ac yn ddibynnol ar allu parod ac agored i rannu pŵer a gweithio tuag at amcanion cyffredin.

Fel y canfu adroddiad 'Cymunedau yn Gyntaf: yr hyn a ddysgwyd' y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 2017, hanes cymysg oedd i Cymunedau yn Gyntaf oherwydd 

roedd gormod o amrywioldeb ledled Cymru, a fframweithiau rheoli perfformiad annigonol. 

Fel y nododd Sefydliad Bevan yn 2017, 

Ni wnaeth Cymunedau yn Gyntaf ostwng y prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth drwy Gymru gyfan. 

Mae Oxfam Cymru wedi galw’n benodol ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori’r dull bywoliaeth gynaliadwy ym mhob polisi a gwasanaeth yng Nghymru, gan helpu pobl i nodi eu cryfderau eu hunain er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol sy’n eu hatal hwy a’u cymunedau rhag cyrraedd eu potensial. Fel y dywed Sefydliad Bevan, os yw pobl yn teimlo bod polisïau’n cael eu gorfodi arnynt, nid yw'r polisïau'n gweithio a dylid cynhyrchu rhaglen newydd gyda chymunedau, nid ei chyfeirio o'r brig i lawr. 

Yn yr adroddiad ‘Valuing place’, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n seiliedig ar ymchwil mewn tair cymuned, gan gynnwys Cei Connah, canfuwyd y dylai sefydlu rhwydweithiau lleol i gydgysylltu pobl sydd am weithredu’n lleol fod yn flaenoriaeth. Yn bersonol, cefais y pleser o weithio gyda meddygon teulu lleol a chydgynhyrchwyr newid trydydd sector ar Lannau Dyfrdwy i geisio gwneud hyn. 

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn wrthwynebus i weithredu agenda hawliau cymunedol Deddf Lleoliaeth 2011, a fyddai’n cynorthwyo ymgysylltiad cymunedol. Er bod yr amcanion llesiant yn Neddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys pobl yn cyfrannu at eu cymuned a chael eu hysbysu, eu cynnwys a'u clywed, yn rhy aml nid yw hyn wedi digwydd, naill ai oherwydd nad yw pobl mewn grym eisiau ei rannu neu oherwydd methiant i ddeall y bydd darparu gwasanaethau fel hyn yn creu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol. 

Mae polisi Llywodraeth y DU ar faterion heb eu datganoli yn berthnasol ledled y DU, ond dim ond Cymru sydd wedi cael Llywodraeth Lafur ers bron i 21 mlynedd. Nododd adroddiad Joseph Rowntree ar dlodi yn y DU a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2018 mai Cymru, o bedair gwlad y DU, sydd wedi bod â’r cyfraddau uchaf o dlodi yn gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ddau fis yn gynt, canfu sesiwn friffio 'State of Wales' Sefydliad Bevan fod cyfradd tlodi incwm cymharol yng Nghymru yn uwch na'r gyfradd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban; roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn tlodi yng Nghymru yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU; ac roedd cyfradd tlodi pensiynwyr yng Nghymru yn llawer uwch nag yng ngwledydd eraill y DU. 

Fis Mai diwethaf, nododd y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn tlodi plant yn y flwyddyn flaenorol i 29 y cant. Wel, roedd lefelau tlodi plant yng Nghymru eisoes wedi cyrraedd y lefel honno yn 2007—y lefel tlodi plant uchaf yn y DU—ar ôl degawd o Lywodraeth Lafur y DU, wyth mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru a chyn y gellid beio hyn i gyd ar y cwymp ariannol neu Lywodraeth y DU ar ôl 2010. 

Er gwaethaf biliynau o gyllid strwythurol y bwriedid iddo gau'r bwlch ffyniant cymharol, mae ffigurau a gyhoeddwyd y mis diwethaf yn dangos mai Cymru sydd â'r ffyniant isaf y pen o hyd ymhlith gwledydd y DU ar ddim ond 72.8 y cant o lefel y DU. Datgelodd cyhoeddiad bob pum mlynedd o fynegai amddifadedd lluosog Cymru fis Tachwedd diwethaf fod llawer o'r wardiau ar y gwaelod wedi bod ymhlith y pum gwaelod, neu ychydig bach uwchben hynny, ddeng mlynedd a 15 mlynedd cyn hynny hefyd. 

Mae Age Alliance Cymru wedi mynegi pryder dro ar ôl tro fod y trydydd sector wedi cael ei weld fel elfen nad yw’n chwarae llawer o ran, gydag ond ychydig o gyfranogiad strategol yn y gronfa gofal integredig os o gwbl, a fawr ddim mewnbwn wrth gynllunio rhaglenni. Er bod Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar dro ar ôl tro, mae ei gweithredoedd, yn ymarferol, wedi arwain at ddiddymu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal allweddol y trydydd sector ar gost ychwanegol enfawr i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Nododd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fis Medi diwethaf fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, a darparu ystod ehangach o wasanaethau yn y gymuned trwy bartneriaethau a gwaith amlasiantaethol, ond adroddodd fod amrywio eang o ran argaeledd, gwelededd, hygyrchedd ac ansawdd y wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol yn arwain at ddefnydd anghyson ledled Cymru. Roeddent yn dweud y dylai cynghorau gynnwys partneriaid trydydd sector wrth gydgynhyrchu atebion ataliol i ddiwallu anghenion pobl a sicrhau bod gan bobl fynediad teg at y gwasanaethau hyn. 

Wel, mae pob plaid wleidyddol brif ffrwd eisiau trechu tlodi. Mae Llafur yn honni mai dim ond y wladwriaeth a all warantu tegwch, ac wrth gwrs, mae'r wladwriaeth yn allweddol. Ond mae eu dull canolog o'r brig i lawr yn llawn bwriadau da ond yn methu’n ddrwg. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn deall mai dim ond trwy rymuso pobl o ddifrif i gyflawni eu potensial ac i gymryd perchnogaeth yn eu cymunedau eu hunain y sicrheir cyfiawnder cymdeithasol. Mae Llafur yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gall y sector gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol ei wneud. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod mai'r entrepreneuriaid cymdeithasol a'r trechwyr tlodi hyn sy'n gallu dod o hyd i’r atebion ar gyfer problemau hirdymor ein cymunedau mwyaf difreintiedig—gallant hwy lwyddo lle mae'r wladwriaeth ar ei phen ei hun yn methu. 

Mae ein cynnig yn argymell bod y Senedd hon yn cydnabod yr angen i ddarparu dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol yn ymarferol, gyda’r gymuned yn cyfrannu yn y gwaith o gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol. Mae hyn yn golygu mabwysiadu arferion gorau rhyngwladol, gan alluogi pobl a gweithwyr proffesiynol i rannu pŵer a chydweithio mewn perthynas gyfartal i wneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol a pherthnasol a datgloi cryfderau cymunedol i adeiladu cymunedau cryfach ar gyfer y dyfodol. Fel y mae Sefydliad Bevan yn pwysleisio, mae damcaniaeth newid sy'n adeiladu ar asedau pobl ac yn eu galluogi i wella eu bywydau yn fwy effeithiol na diwallu anghenion neu fynd i'r afael â diffygion. Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor nid mewnbynnau tymor byr, a dylid cydgynhyrchu rhaglenni gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol, gan bwyso ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio. 

Mae ein cynnig yn argymell bod y Senedd hon yn cydnabod yr heriau arbennig a wynebir gan drefi glan môr a threfi marchnad sydd â chyfraddau uwch o adeiladau manwerthu gwag a lefelau uwch o amddifadedd na rhannau eraill o Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd ar gyfer trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi adfywio mewn cymunedau ledled Cymru. Mae pump o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi'u lleoli mewn trefi, gan gynnwys y Rhyl, Merthyr Tudful a Wrecsam. 

Fel y mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi dadlau, mae trefi’n allweddol i'r ffordd y mae Cymru’n gweithio, gyda threfi bach yng Nghymru yn cynnwys bron 40 y cant o boblogaeth y wlad, ac maent yn dweud bod angen dull newydd o fynd ati ar ein strydoedd mawr, sy’n dioddef o dan bwysau nifer o broblemau, ac rydym bellach wedi cyrraedd amser tyngedfennol ar y busnesau hyn. 

Felly byddai Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn sefydlu cronfa ar gyfer trefi glan môr a chronfa ar gyfer trefi marchnad i helpu i adfywio cymunedau lleol Cymru, gyda £200 miliwn i'w fuddsoddi yn ein hardaloedd lleol dros dymor o bum mlynedd. Bydd y cronfeydd hyn, a fyddai’n galluogi cymunedau i benderfynu sut y dylid buddsoddi’r gronfa yn eu hardal leol, yn helpu i gefnogi gwasanaethau a busnesau lleol hanfodol ac yn pwysleisio ymrwymiad y Ceidwadwyr Cymreig i lefelu buddsoddiad ledled Cymru ac adfer trefi a chymunedau Cymru. 

Fel y mae Consortiwm Manwerthu Cymru yn nodi, Cymru sydd â'r lluosydd ardrethi annomestig uchaf ym Mhrydain a chyfradd siopau gwag uwch nag unrhyw ran arall o'r DU. Er mai rhyddhad ardrethi 100 y cant ar eiddo manwerthu hyd at werth ardrethol o £9,100 yn unig y mae Llafur yn ei ddarparu, byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn ymestyn hyn i £15,000. 

Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl bwysig ardaloedd gwella busnes. Ond mae eu gwefan yn nodi mai 24 o’r rhain yn unig sy’n bodoli neu sy’n cael eu datblygu yng Nghymru, mai tan fis Mawrth 2020 yn unig y mae cymorth ar gael, ac mai cyllid o hyd at £30,000 yn unig sydd ar gael ar gyfer pob ardal. Digon yw digon. Fel y mae tystiolaeth yn cadarnhau dro ar ôl tro, mae croesawu'r chwyldro cydgynhyrchu yn ein trefi a'n cymunedau bob amser yn well na dulliau o'r brig i lawr o ymgysylltu â'r gymuned. Ar ôl 20 mlynedd, mae angen newid go iawn. 

17:00

Diolch. Rwyf wedi dewis y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. A gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol? 

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022.

2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr.

3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Yn ffurfiol, diolch. A gaf fi alw ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth? 

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at bolisïau budd-daliadau Llywodraeth y DU, yn enwedig Credyd Cynhwysol, sydd wedi cynyddu tlodi fel y nodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn Adroddiad y Rapporteur Arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol.

Yn cydnabod effeithiau niweidiol llymder ar adfywio cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mentrau cymunedol i wrthdroi ei effeithiau.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyd-ddatblygu'r gwaith o adfywio'r stryd fawr a pholisi trafnidiaeth leol fel ffordd o wella adfywio cymunedol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch. Caf fy syfrdanu unwaith eto i weld y Torïaid yn cyflwyno cynnig yn y Senedd hon yn gresynu at dlodi ac amddifadedd. Beth nesaf? Beth allwn ni ei ddisgwyl nesaf? A allwn ni ddisgwyl gweld cynnig ganddynt yn gresynu at gyfalafiaeth efallai? 

Nawr, mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â dadleuon sy'n dwyn y Llywodraeth Lafur hon i gyfrif am eu methiant i gael rhaglen wrth-dlodi amgen yn lle Cymunedau yn Gyntaf, ac yn wir am eu methiant i gael strategaeth lleihau tlodi o gwbl. Buaswn yn cydymdeimlo hefyd â dadleuon sy’n dangos methiant truenus y Llywodraeth hon, ar ôl bod mewn grym am yr 20 mlynedd gyfan ers datganoli, i wneud unrhyw beth mwy na tholc bach yn y gwaith o oresgyn y tlodi a wynebir gan bobl yn ein hen ardaloedd diwydiannol, yr ardaloedd sydd wedi bod mewn tlodi dwfn ac anhydrin ers i Margaret Thatcher fynd ati'n fwriadol i'n dad-ddiwydiannu. Mae'r rhain yn fethiannau sydd wedi cael effeithiau eang a dwfn ac mae'r effeithiau hynny’n dal i gael eu teimlo heddiw. Rhaid imi ddweud serch hynny mai hyfdra pur yw amlinellu'r methiannau hyn heb edrych yn y drych. 

Mae polisïau budd-daliadau’r Torïaid yn San Steffan wedi cael eu beirniadu’n hallt gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig a disgrifiwyd effaith y mesurau hynny yn y Siambr gan lawer o'r Aelodau ar sawl achlysur. Mae pawb ohonom yn deall pam y mae cymaint mwy o bobl yn cael eu gorfodi i fyw ar y strydoedd. Canlyniad uniongyrchol i bolisïau eich Llywodraeth chi ydyw. Ac eto fe ddowch yma a gwneud sioe o boeni am dlodi yng Nghymru.  

Yn y ddadl sy'n dilyn, bydd Plaid Cymru yn amlinellu mesurau ymarferol ac effeithiol i fynd i'r afael â thlodi plant yn arbennig. Mae y tu hwnt i sgandal fod cyfraddau marwolaethau plant, a chyfraddau marwolaeth cyffredinol mewn gwirionedd, yn gwaethygu yng Nghymru a Lloegr, tra bod cyfraddau marwolaeth plant yn gwella yn yr Alban. Mae hynny'n golygu bod pobl yn marw'n iau yma. Deillia hynny'n rhannol o’r ffaith ein bod wedi byw drwy 12 mlynedd o gyni, ond mae'n fwy na hynny, neu byddai cyfraddau marwolaeth yr Alban yr un fath â'r rhai ar gyfer Cymru a Lloegr. Ond mae gan yr Alban Lywodraeth sy’n meddu ar strategaeth i drechu tlodi, sy’n cynnwys blaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau mamolaeth a blynyddoedd cynnar, ac mae’r buddsoddiad hwnnw’n talu ar ei ganfed. 

Nid yw tlodi'n ffenomen naturiol. Nid yw tlodi'n anochel. Caiff ei greu’n fwriadol gan bolisi a gellir ei leihau. Gellir ei atal hyd yn oed gydag ewyllys wleidyddol. Ond nid wyf yn gweld yr ewyllys honno yn y Llywodraeth yma. Ac rwy'n gweld y gwrthwyneb llwyr i hynny gan y blaid sy'n cael ei rhedeg gan eich Llywodraeth chi ar ben arall yr M4. Gallwn oresgyn tlodi, ond fel rwy’n ei weld, ni allwn ddibynnu ar y Blaid Lafur na'r Torïaid i wneud hynny. Ni fydd yn digwydd heblaw ein bod yn penderfynu ei wneud drosom ein hunain. 

17:05

Anaml y bydd diwrnod yn mynd heibio pan nad wyf yn gresynu at y ffaith bod cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben yn fy etholaeth. Yn gyntaf, roedd unrhyw un a gredai y byddai cynllun £30 miliwn y flwyddyn yn dileu tlodi naill ai’n or-optimistaidd neu’n twyllo’i hun. Adleisir hyn gan y dystiolaeth a roddodd cyngor Caerffili i bwyllgor Cynulliad pan oeddem yn edrych arno. A gaf fi ddweud bod disgwyl i un rhaglen leihau tlodi ar ei phen ei hun yn naïf ac yn afrealistig? Ni fyddwch byth yn dileu tlodi, tlodi o un genhedlaeth i’r llall, gydag un rhaglen wrth-dlodi. Roedd yn llwyddiannus iawn mewn rhai pethau a heb fod mor llwyddiannus mewn pethau eraill, ond economeg sy'n gyfrifol am dlodi yn y bôn. Mae rhaglenni gwrth-dlodi a rhaglenni cymorth cyflogaeth i gyd yn iawn, ond oni bai fod gennych economi gadarn, ni fyddwn byth yn dileu tlodi. Rydym hefyd yn gwybod mai'r peth cyntaf y mae mwyafrif y bobl sy'n byw mewn ardal homogenaidd dlawd yn ei wneud i gynyddu eu hincwm yn ddigonol, yw symud, ac mae gennym enghreifftiau o hynny nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd. 

Rydym yn gwybod beth yw nodweddion cymunedau tlawd: iechyd gwael; nifer uchel o bobl ar fudd-daliadau; y rhai nad ydynt ar fudd-daliadau, a cheir mwy a mwy ohonynt, ar gyflog isel iawn ar yr isafswm cyflog, ac yn hollbwysig, yn gweithio oriau gwarantedig isel, gan arwain at incwm isel ac amrywiol, ac mae llawer yn mynd trwy broblemau difrifol y mis hwn gan eu bod yn cael 30 a 40 o oriau'r mis diwethaf ac maent bellach i lawr i'w saith a 10 awr warantedig y mis hwn; cyrhaeddiad addysgol isel yn gyffredinol; fawr ddim llyfrau yn y cartref; gyda llawer yn teimlo na all pethau wella. 

Lle mae gennych ardal sydd dan anfantais cymysgryw, i ddyfynnu tystiolaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'r un pwyllgor, 

os edrychwch ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ganddynt hwy y mae fwyaf o rannau o’r system lle y mae angen ymyrraeth, felly maent angen dull amlasiantaethol, gwaith dwys, i roi’r holl ddarnau yn ôl, a sicrhau eu bod yn gweithio eto. Mewn ardal fwy cefnog, lle y mae gennych bocedi llai o dlodi, nid yw’r system wedi torri i’r un graddau, ac felly, bydd angen llai o ymyriadau—ymyriadau mwy penodol—i helpu’r bobl hynny yn ôl ar eu traed.

Dywedodd cyngor Ynys Môn: 

Mae’r rhaglen wedi cael llwyddiant wrth newid a gwella bywydau unigolion drwy eu cynorthwyo i mewn i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith a gwella eu sgiliau byw.

I ddyfynnu Cyngor Abertawe: 

Mae gwasanaethau hygyrch yn y gymuned yn caniatáu i staff ddeall cymunedau, gan adeiladu cysylltiadau ac ymddiriedaeth a chynorthwyo pobl sydd wedi ymddieithrio i gymryd rhan a defnyddio gwasanaethau na fyddent wedi ei wneud fel arall.

Roedd llwyddiannau cymunedol yn cynnwys: iechyd; rhaglenni colli pwysau; rhaglenni gwella deiet; rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu; rhaglenni ymarfer corff—rwyf o'r farn fod atal afiechyd yn bwysicach na gweld iechyd fel system driniaeth, a dyna beth rydym yn ei wneud: rhoi mwy o arian tuag at iechyd, trin mwy o bobl, ond gadewch inni gael llai o bobl angen triniaeth.

Ar dlodi, roedd prosiect a oedd yn ceisio helpu pobl trwy leihau eu biliau cyfleustodau. Mewn cyfarfod pwyllgor y bore yma, roeddem yn siarad am y ffaith fod Nyth ac Arbed wedi gwneud llawer o waith i wella’r adeiladau, a safon ansawdd tai Cymru, ond mae pobl yn dal i dalu llawer mwy os ydynt yn dlawd. Fel y dywedais ar fwy nag un achlysur: mae bod yn dlawd yn ddrud iawn.  Mae'r swm y mae pobl yn ei dalu pan fyddant yn gorfod rhoi cardiau yn y system er mwyn cael nwy a thrydan yn fwy o lawer na'r hyn rydym ni yn yr ystafell hon yn ei dalu. Yn wir, rwyf wedi dweud, unwaith eto ar fwy nag un achlysur: mae gennyf etholwyr sy'n gwario mwy o arian ar wresogi i fod yn oer na'r hyn rwy'n ei dalu i fod yn gynnes.  

Mae gennym brosiectau sy'n didoli ac yn ailgylchu dillad nad oes mo'u heisiau. Ceir llawer o waith, nid yn Abertawe yn unig, gwnaed gwaith da yn Sir Ddinbych, fel y gwyddoch, Ddirprwy Lywydd, ar ailgylchu dillad mewn ysgolion. Mae'r mathau hyn o bethau yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Roedd prosiect yn hyrwyddo undeb credyd lleol a chael pobl allan o fenthyciadau stepen y drws, ac mae benthyciadau stepen y drws yn broblem enfawr i lawer iawn o bobl; lle mae rhywun yn dod a chynnig arian iddynt ac yn sydyn, mae'n mynd i gostio llawer iawn iddynt yn y pen draw. Mae addysg a chyrhaeddiad addysgol isel yn un o brif achosion tlodi. Roedd prosiectau'n blaenoriaethu gwella cyrhaeddiad addysgol drwy helpu oedolion i ddychwelyd at addysg; prosiectau dysgu fel teulu mewn partneriaeth ag ysgolion lleol; grwpiau rhieni a phlant bach gyda'r nod o wella datblygiad a dysgu plant meithrin; clwb gwaith cartref i roi cymorth i blant gyda'u gwaith cartref.  

Mae cymdeithas wedi gwaethygu llawer er pan oeddwn yn blentyn yn byw mewn cymuned dlawd iawn. Gallwn wneud popeth a wnâi unrhyw un arall oherwydd gallwn fynd i'r llyfrgell leol. Nid oedd gan neb well mynediad at lyfrau na fi. Erbyn heddiw, mae gennych chi bobl gyda'u dyfeisiau electronig yn eu hystafell wely, pan fyddai pobl fel fi, pe bawn i'n byw yno yn awr, yn wynebu taith ar droed o ddwy filltir er mwyn cyrraedd y llyfrgell. Roedd yna gynllun hefyd a oedd yn annog amgylchedd dysgu o fewn y teulu ac yn y cartref.

Roedd Cymunedau yn Gyntaf, mewn sawl ffordd, yn gynllun rhagorol, ac roedd yn ddiwrnod trist iawn pan benderfynodd Llywodraeth Cymru gael gwared ag ef heb gyflwyno dim i gymryd ei le mewn perthynas â'r pethau hynny sydd o wir bwys: gwella cyfleoedd bywyd i'r rheini yn ein cymunedau tlotaf.  

17:10

Rydym i gyd yn dymuno gweld y stryd fawr yn brysur yng nghanol ein trefi. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen busnesau lleol ffyniannus ac ymgysylltiad cadarnhaol rhwng ein cymunedau a'u strydoedd mawr. Fodd bynnag, y realiti trist yw bod llawer o'n strydoedd mawr mewn argyfwng heddiw. Mae gormod o siopau yng nghanol trefi Cymru yn wag. Mae ffigurau Consortiwm Manwerthu Cymru yn dangos bod gan Gymru, yn y chwarter diweddaraf, gyfradd siopau manwerthu gwag o fwy na 13.4 y cant. Dyna gyfradd uwch o siopau gwag nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Ceir llawer o resymau dros y dirywiad yn ein strydoedd mawr: mae newidiadau i ffyrdd o fyw pobl wedi golygu newidiadau i'r ffyrdd y maent yn siopa; mae datblygiadau siopau ar gyrion y dref, mewn rhai achosion, wedi cael effaith andwyol ar ganol trefi ledled Cymru: mae siopwyr yn hoffi ac yn gwerthfawrogi'r cyfleustra a'r dewis a gynigir gan siopau ar gyrion y dref, gyda manteision parcio am ddim; e-fasnach yw un o'r marchnadoedd sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop, gyda mwy a mwy o fusnes yn digwydd ar y rhyngrwyd. Mae'r holl ffactorau hyn yn cyfuno i gynyddu'r pwysau ar ein strydoedd mawr.

Heb weithredu, byddant yn diflannu, Ddirprwy Lywydd. Ni allant oroesi heb gymorth. Mae arnom angen pecyn o fesurau i gefnogi busnesau a chymunedau lleol. Mae hynny'n golygu mynd i'r afael ag ardrethi annomestig. Cafodd datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ddoe ar ryddhad ardrethi groeso yma. Fodd bynnag, mae busnesau lleol yng Nghymru yn dal i gael eu llesteirio gan ardrethi annomestig uchel sy'n tagu'r broses o greu busnesau ac yn llesteirio eu twf. Mae ardrethi annomestig yng Nghymru yn codi dros £1 biliwn.

Mae diffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth wedi golygu bod siopau gwag yn difetha canol ein trefi. Mae hyn yn creu'r perygl o fandaliaeth a throseddu, gan ychwanegu at ymddangosiad dilewyrch ein cymunedau. Fel y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn cydnabod: er mwyn i adnewyddu ddigwydd, mae angen i ganol trefi feddwl mwy am fusnes ac mae angen iddynt ddysgu oddi wrth ein cystadleuwyr, fel y gwledydd datganoledig eraill. Mae ymddygiad a disgwyliadau defnyddwyr wedi newid ac mae arnom angen dull mwy gwybodus o reoli canol trefi.

Credaf fod gan ardaloedd gwella busnes ran hollbwysig i'w chwarae yn y gwaith o adfywio ein strydoedd mawr, ond mae'n ymwneud â mwy na siopau'n unig. Mae gan hamdden a gwasanaethau rolau hanfodol i'w chwarae. Mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng siopau mawr, siopau bach, gwasanaethau hamdden, caffis, bariau a bwytai, yn ogystal â thai. Mae angen strategaeth ar gyfer trefi sy'n mynd y tu hwnt i'r strategaeth adfywio wedi'i thargedu a amlinellwyd yn Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, un sy'n cydnabod y problemau penodol sy'n wynebu ein trefi glan môr a'n trefi marchnad ac sy'n rhoi'r cymorth manwerthu y mae'r cymunedau hyn ei angen ac yn ei haeddu.

Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn rhyddhau potensial Cymru drwy sefydlu cronfa ar gyfer ein trefi marchnad a'n trefi glan môr a fyddai'n werth £200 miliwn dros bum mlynedd. Byddai'r ymrwymiad cyllid hwn yn llawer mwy uchelgeisiol na strategaeth adfywio gyfredol o'r brig i lawr Llywodraeth Cymru a byddai'n galluogi'r cymunedau hyn i dyfu a ffynnu. Ddirprwy Lywydd, mae taer angen adfywio ein strydoedd mawr fel canolfannau ar gyfer twf economaidd ac mae angen inni weithredu yn awr.

Yn olaf, fel mater o ffaith, Weinidogion, ers 2014-17, mae £124 miliwn wedi cael ei wario ar 18 o ardaloedd. Pa ddatblygiad a gafwyd yno? Cyllid yr UE—£ 150 miliwn yn y chwech neu saith mlynedd diwethaf, a £100 miliwn ar gyfer y cynllun adfywio cenedlaethol y dylid ei barhau tan 2021. Pa ddatblygiad a gafwyd yn yr ardaloedd hynny? A yw'r siopau gwag ar y stryd fawr yn gwella? Na, maent yn gwaethygu, yn enwedig yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru—rydym yn dioddef yn enbyd. Mae'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y Deyrnas Unedig yn fy rhanbarth i.

Rwy'n credu ei fod yn destun cywilydd mawr i ni yma. Rydym yn gwneud llawer o siarad—. Clywais ein cyd-Aelod ar yr ochr arall i'r fainc yma'n sôn am y beiau hyn i gyd yn mynd drosodd i Lundain. Nid yw hynny'n wir. Bron £370 miliwn yn y saith mlynedd diwethaf ac i ble'r aeth yr arian? Adfywio ar gyfer cymunedau lleol—beth ddigwyddodd yno? Mae llawer o siopau gwag o hyd—. Nid wyf eisiau dysgu gwersi gan Blaid Cymru. Cafwyd enghraifft ganddynt o gyfraith y Cenhedloedd Unedig a'r ochr arall i'r bont. Pam na allant ofyn i'r Llywodraeth wneud yn siŵr eu bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau? Dylem adfywio ein cymunedau tlawd ym mhob cwr o dde-ddwyrain Cymru.

17:15

Rwy'n gwrthwynebu'r cynnig am wahanol resymau'n gysylltiedig â phob un o'r pedwar pwynt. Y pwynt cyntaf, rwy'n credu ei bod yn ddigon teg gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, ond mae llawer iawn o raglenni Llywodraeth Cymru wedi methu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ond yn gyffredinol, maent yn llusgo ymlaen heb i'r Llywodraeth gyfaddef y methiant. Yn yr achos hwn—ac rwy'n credu eu bod yn haeddu rhywfaint o glod am hyn—wynebodd Llywodraeth Cymru yr her, asesodd y rhaglen, daeth i'r casgliad nad oedd wedi gweithio yn ôl y bwriad a chafodd ei dirwyn i ben. Fel y clywsoch gan Mike, mae llawer o wrthwynebiad wedi bod mewn cylchoedd Llafur a chan bobl sy'n rhan o'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen i'r hyn a wnaethant. Rwyf wedi clywed Ken Skates yn siarad rhywfaint am ddull amgen a ffocws ar dwf economaidd, ond rwy'n credu ei bod yn anfoesgar peidio â chydnabod ymateb y Llywodraeth yn yr achos hwn.

Mae pwynt 2 yn cydnabod yr angen i weithredu dull cydgynhyrchiol yn ymarferol. Edrychais ar y gair 'co-productive' ac roedd Dictionary.com yn dweud 'no response' ac yn yr Oxford English Dictionary yn y llyfrgell, nid yw 'co-productive' i'w weld ynddo. Clywais ychydig o'r hyn roedd Mark yn ei ddweud ac mae'n awyddus i ymyrryd, felly rwy'n falch o ildio.

A gaf fi eich cyfeirio at Cydgynhyrchu Cymru, y Rhwydwaith Cydgynhyrchu ar gyfer Cymru, yr arian enfawr a gawsant gan y loteri i gyflawni'r prosiect hwnnw ac edrych ar ystyr ryngwladol 'Cydgynhyrchu', gydag 'C' fawr? Fe'i lansiwyd yn wreiddiol yng Ngorllewin Awstralia tua 30 mlynedd yn ôl a bu'n llwyddiannus tu hwnt yn rhyngwladol ers hynny.

Diolch iddo am y cymorth. Mae 'Co-produce' yn Dictionary.com, ond nid yw 'co-productive' yno, dim ond 'co-produce'. Mae'n dweud,

cynhyrchu (ffilm, drama, ac ati) mewn cydweithrediad ag eraill.

Beth bynnag, rwy'n casglu bod ganddo rywbeth i'w wneud â chynnwys y gymuned a chydgynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol ac mae hynny'n beth da, ond nid yw'r gair 'cydgynhyrchiol' ei hun yn un rwy'n gyfarwydd ag ef.

Yn fwy perthnasol, rwy'n credu, wrth edrych ar bwynt 3, credaf fod yna amwysedd go iawn ynglŷn â phwynt 3. Nid wyf yn siŵr a yw'r Ceidwadwyr yn dweud y dylai trefi glan môr a threfi marchnad mewn rhannau mwy difreintiedig o Gymru gael mwy o gymorth. Nid wyf yn siŵr a ydynt yn dweud bod angen cymorth ar drefi glan môr a threfi marchnad penodol, lle ceir problem arbennig o ran amddifadedd, neu nid wyf yn siŵr a ydynt yn gwneud pwynt neu honiad fod trefi glan môr a threfi marchnad yn fwy difreintiedig na rhannau eraill o Gymru, ac os felly, mae gennyf gydymdeimlad â Leanne Wood a'i chyfeiriad at ein cymunedau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol, a allai ymddangos fel pe baent wedi'u heithrio o'r diffiniad hwn. Fe ildiaf, unwaith eto, i Darren Millar y tro hwn.

17:20

Nid yw'n golygu nad ydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod yna dlodi y tu allan i drefi glan môr a threfi marchnad, ond yn aml ceir heriau arbennig sy'n wynebu trefi glan môr a threfi marchnad y carem roi sylw iddynt, a chanolbwyntio ar eu hadfywio. Yn aml iawn, mae Llywodraethau blaenorol yng Nghymru wedi anwybyddu'r rheini yn y gorffennol, ac mae'n rhywbeth rydym am ei weld yn cael sylw.

Rwy'n llongyfarch yr Aelod ar ei waith dros gyfnod hir o amser, yn cyflwyno'r achos dros drefi glan môr, ac rwy'n llongyfarch y Ceidwadwyr, sy'n cynrychioli ychydig yn fwy, ar lefel San Steffan o leiaf, nag y gwnaent o'r blaen. Ond nid yw pob tref glan môr yn ddifreintiedig. Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn clywed gan David Melding—efallai y bydd yn cyflwyno'r achos dros Benarth, ond nid wyf yn siŵr, fel categori, fod trefi glan môr o reidrwydd yn fwy difreintiedig, ac nid wyf yn deall y cysylltiad â threfi marchnad. Efallai y bydd ehangu cwmpas y cynnig yn cael mwy o gefnogaeth ar draws y grŵp Ceidwadol, ond ar y cyfan, nid wyf yn cysylltu trefi marchnad fel rhai sydd, ar gyfartaledd, ac nid y gair cyntaf sy'n dod i fy meddwl mewn perthynas â threfi marchnad, yw amddifadedd. Rwy'n siŵr bod pocedi o amddifadedd mewn trefi marchnad, ac rwy'n siŵr bod rhai trefi marchnad yn fwy difreintiedig nag eraill, ond rwy'n pryderu bod y syniad o sefydlu cronfa newydd arbennig ar gyfer trefi glan môr a threfi marchnad, (1) yn fiwrocrataidd, ac efallai fod cronfa a strwythur newydd ar gyfer gwneud hyn yn mynd dros ben llestri, a (2) a yw'r holl drefi glan môr a threfi marchnad—a ydym am weld y budd hwnnw'n cael ei ledaenu ar y sail eu bod yn ddifreintiedig?

Felly, beth yw'r trefi marchnad? Rydym angen diffiniad. Mae gennym restr gan Croeso Cymru o 21 o drefi marchnad, ac mae gennyf lyfr arbennig o wych adref ers rhai blynyddoedd, sef Market Town Wales, gan David Williams, ac mae yntau hefyd yn rhoi rhestr, o 25 yn ei achos ef, a rhyw fath o ddiffiniad. Mae'n dweud bod tua 50 o drefi yng Nghymru lle mae gennych lythrennu maint canolig ar y map. Roedd rhai'n safleoedd amddiffynnol, ac eraill—yn benodol, mae'n eithrio trefi hirfain maes glo de Cymru, cymunedau chwarelyddol Eryri, a chanolfannau diwydiannol gogledd-ddwyrain Cymru. Felly mae pob un o'r rheini wedi'u heithrio o'i ddiffiniad o drefi marchnad. Nid wyf yn siŵr a yw'r Ceidwadwyr am eu heithrio o'u diffiniad hwy, nac o'r budd a geir yn y cronfeydd hyn, ond rwy'n cwestiynu a yw'r cynnig hwn fel y'i hysgrifennwyd yn un a ddylai gael cefnogaeth, neu a gafodd ei ystyried mor drylwyr ag y gellid bod wedi'i wneud. Diolch.

Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar yr heriau sy'n wynebu trefi glan môr a threfi marchnad, ac mae gennyf lawer ohonynt yn fy etholaeth, ac edrych i weld pa opsiynau sydd ar gael i helpu i adfywio cymunedau o'r fath ledled Cymru. Byddaf yn rhoi sylw i'ch cwestiwn mewn munud, Mark Reckless, os ydych chi'n barod i aros gyda mi.

Weinidog, fel y gwyddom, ledled Cymru, rydym wedi ein bendithio ag ardaloedd cefn gwlad prydferth, trefi hanesyddol a chymunedau bywiog, ac mae trefi fel Arberth, y Bont-faen a Chonwy yn denu ymwelwyr yn rheolaidd ac yn cael eu canmol yn fawr. Ond er bod gennym y trysorau hyn, ceir digon o drefi a phentrefi ledled y wlad sydd wedi wynebu adegau anodd, ac mae'n ymddangos nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw strategaeth glir i ymdrin â hynny.

Dywedodd Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar adfywio trefi a chymunedau glan môr fod

glan y môr a'n treftadaeth arfordirol yn rhan hanfodol o asedau gorau ein gwlad,

ac wrth gwrs, rwy'n cynrychioli etholaeth ag iddi arfordir hir, ac mae'n ddyletswydd arnaf i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar yr ased hwn ac y caiff ei ddefnyddio'n briodol. Nid wyf eisiau mynd yn ôl i'r gorffennol, lle mae pob un ohonom yn dychmygu sgipio i lawr y stryd fawr mewn trefi marchnad gan edrych ar y byd drwy sbectol binc, gyda basgedi ar ein breichiau, a gallu mynd i mewn i siop y pobydd a siop y crydd a'r gweddill oll i gyd. Ond rwy'n mynd i honni, gyda'r cymorth cywir, y gall trefi marchnad a threfi glan môr addasu gyda'r oes, gwneud defnydd o'r pwyntiau gwerthu unigryw sydd ganddynt, a ffynnu a thyfu yn yr unfed ganrif ar hugain.

Caniatewch i mi ganolbwyntio ar fy etholaeth i, lle mae gennym gymunedau fel Talacharn, gyda'i gysylltiadau ag un o awduron mwyaf Cymru, a thua'r gorllewin i Ddinbych-y-pysgod, sydd wedi modelu ei hun go iawn fel cyrchfan drwy gydol y flwyddyn, gyda digwyddiad amlwg yr Ironman y cyfeiriais ato yn gynharach, ac wrth gwrs, trefi Penfro, sef man geni Harri Tudur, a Doc Penfro, gyda hanes milwrol cyfoethog iawn. Er bod gan bob un o'r trefi hyn eu pwyntiau gwerthu unigryw, maent yn dal i wynebu heriau mewn sector manwerthu sy'n newid.

Cyn y Nadolig, bûm mewn ffair Nadolig ragorol yng nghastell Penfro. Mae'n denu ymwelwyr o bell ac agos, ond wrth imi gerdded yn ôl at fy nghar ar ben arall stryd fawr Penfro, cefais fy nharo gan y dirywiad yn y stryd fawr honno dros y 15 mlynedd ers i mi fod yn byw yno. Arferai fod yn stryd fawr fywiog, brysur, ac roedd ganddi archfarchnad yng nghanol y dref, ond erbyn hyn, nid oes ond siopau betio, siopau elusen, ac mae popeth arall wedi'i fordio i raddau helaeth. Ac rwy'n meddwl tybed beth allwn ni ei wneud i ddod â'r math hwnnw o fywyd yn ôl i stryd fawr o'r fath, oherwydd os nad Penfro, fe fydd yn digwydd yn Noc Penfro, ac yna yn Arberth, a fu'n un o drysorau mawr Sir Benfro ers amser maith, a Hendy-gwyn ar Daf, sy'n marw ar ei thraed, ac mae Sanclêr yn mynd yr un ffordd.

Nawr, soniais am hyn mewn cwestiwn i Weinidog yr economi cyn y Nadolig, a dywedwyd wrthyf fod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo menter canol y dref yn gyntaf, gan annog mwy o ardaloedd gwella busnes, ac annog pobl i ganolbwyntio ar hyrwyddiadau fel Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Ond Weinidog, nid wyf yn teimlo bod yr ymateb hwn yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r problemau a wynebir. Mae'n ymwneud â mwy na'r arlwy o siopau a'r amodau y mae angen edrych arnynt, ac mae angen edrych ar agweddau sylfaenol eraill ar fywyd mewn cymunedau gwledig, cymunedau glan môr neu drefi marchnad. A buaswn yn argymell y gallai rhywun ddewis mynd i astudio adroddiadau Ymddiriedolaeth Carnegie ar drefi glan môr a threfi marchnad, yn enwedig trefi glan môr, oherwydd mae'r pwyntiau a wnânt yn nodi eu bod, o ran eu natur arfordirol, yn tueddu i fod ymhellach oddi wrth y canolfannau llywodraethu; maent yn tueddu i fod yn fwy ynysig; maent yn tueddu i fod yn fwy gwledig. Ac mae Ymddiriedolaeth Carnegie wedi nodi'n glir iawn y problemau amlwg a phenodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad bach ar gyrion yr arfordir yn eu hwynebu. A dyna lle gwnaethom edrych am lawer iawn o'n hymchwil, a buaswn yn hapus iawn i rannu hynny gydag unrhyw un wrth symud ymlaen.  

Dyna pam y byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn ystyried sefydlu cronfa ar gyfer trefi glan môr a chronfa ar gyfer trefi marchnad i helpu i adfywio cymunedau lleol, gyda £200 miliwn wedi'i glustnodi i'w fuddsoddi dros gyfnod o bum mlynedd. Weinidog, ein nod fyddai—a byddem yn hoffi pe bai hyn yn nod i chi—sicrhau mwy o degwch mewn perthynas â buddsoddi rhwng ein trefi a'n dinasoedd. Hoffem roi mwy o bŵer i gymunedau lleol gymryd rheolaeth ar eu hymdrechion adfywio lleol. Rydym am fabwysiadu'r agenda hawliau cymunedol a sefydlwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011. Credwn y bydd trefi cryf yn helpu i ddatblygu cymunedau cryf, a bydd cymunedau cydlynus ac ymgysylltiol yn helpu i wella'r ardal gyfan er budd pawb. Ac mae i hynny effaith ganlyniadol aruthrol ar addysg ac iechyd ac ysgogiad economaidd. Ac felly, rydym yn annog y Llywodraeth Cymru yn gryf i edrych ar hyn.  

17:25

Rwy'n gwybod. Yn olaf, gadewch imi sôn yn fyr am bwysigrwydd marchnata ein trefi a'n cymunedau'n well. Rwyf eisoes wedi sôn am y digwyddiad Ironman a gynhelir yn Ninbych-y-pysgod. Dylem fod yn edrych mwy o lawer ar farchnata cyrchfannau; mae hynny'n rhywbeth sy'n addas iawn ar gyfer trefi marchnad a threfi glan môr.

Yn fyr, mae gennym lawer o drefi gyda hanesion unigryw ac amrywiol. Maent yn tueddu i fod yn y lleoedd pellennig. Ni ellir canolbwyntio'n unig ar ddinasoedd mawr, ar gytrefi enfawr. Mae angen ychydig bach o hynny arnom i helpu, oherwydd os cerddwch drwy rannau gwledig o Gymru, os cerddwch drwy rai o'r trefi hyn, a heb fod mor wledig hyd yn oed, fel y gwyddoch eich hun, Ddirprwy Lywydd, ond ar hyd arfordir gogledd Cymru, mae prinder—. Mae strydoedd mawr wedi cau; mae gwynt yn chwibanu drwy'r strydoedd gwag hyn. Mae gennym gynllun i wneud gwahaniaeth, a hoffem i chi ein helpu i wneud hynny.

Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon o dan y teitl 'adfywio cymunedol', ac am resymau y byddaf yn ymhelaethu arnynt mewn munud, ni fyddaf yn cefnogi'r cynnig yn eu henw; byddaf yn cefnogi cynnig y Llywodraeth. Ond mewn gwirionedd, nid yw rhai o'r nodweddion rydych wedi sôn amdanynt sy'n effeithio ar drefi arfordirol—nid pob un ohonynt, ond rhai trefi arfordirol—yn annhebyg i'r un nodweddion sy'n effeithio ar gymunedau'r Cymoedd. Ac mae'n rhyfedd, yn y drafodaeth y mae Mark Reckless newydd ei chael ynglŷn â'r hyn sy'n diffinio tref farchnad—wel, yn rhyfedd ddigon, mae trefi marchnad hefyd yn bodoli mewn rhannau o gymoedd de Cymru yn ogystal; nid trefi marchnad enfawr ydynt, ond marchnadoedd. Mae Maesteg ei hun ag enw fel cyrchfan tref farchnad, ond mae'n llawer o bethau eraill heblaw hynny hefyd.

Ond rwyf am siarad â chi am rai o'r atebion posibl wrth symud ymlaen, ac rwy'n credu bod rhai o'r rhain yn perthyn i leoedd penodol. Maent yn ymwneud â phobl a lleoedd a balchder, a nodi'r hyn sy'n unigryw ac yn arbennig am ardaloedd penodol i ni allu adeiladu arno. Oherwydd gwn fod gennyf yn fy ardal i—ac rwy'n mynd i fod yn blwyfol iawn, oherwydd rwy'n mynd i gyflwyno rhyw fath o restr ddymuniadau i'r Llywodraeth wrth symud ymlaen hefyd—asedau go iawn y gallwn adeiladu arnynt mewn gwahanol ardaloedd. Mae fy Nghymoedd yn wahanol i'w gilydd mewn gwirionedd. Fe ildiaf.

Roeddwn am egluro un peth. Rwy'n deall nad oes angen y math hwnnw o gymorth ar bob tref arfordirol. Ond fel y gwnawn mewn sawl man yng ngweddill Cymru, gallwch gael cronfa a dweud beth yw'r meini prawf cymhwyso. Ac rydych yn gwneud y pwynt am drefi'r Cymoedd, ond mae'r adroddiad yn glir iawn:

Mae eu lleoliad ar gyrion y wlad yn eu gosod ar gyrion yr economi, gan ddod â phroblemau cymdeithasol canlyniadol. Mae'r cyfuniad hwn o heriau yn teilyngu sylw a chefnogaeth bwrpasol.

Nid fy ngeiriau i—gwaith ymchwil yw hwn. Ac felly, fel ardaloedd eraill yng Nghymru, mae angen inni gael rhaglen dda a phwrpasol ar gyfer y mathau hynny o ardaloedd.

17:30

Ac yn wir, mae'n ddadl y mae cyn-gydweithwyr i mi yn San Steffan a gynrychiolai'r ardaloedd glan môr hynny wedi ei chyflwyno'n eithaf cryf, dro ar ôl tro. Ac mae rhai o'r rhain yn ardaloedd ariannu thematig, a heb fod yn gyfyngedig i gyrchfannau gwyliau arfordirol. Felly, mae pethau fel yr hyn a fodolai unwaith—Cronfa Swyddi'r Dyfodol, a phethau fel hynny, gyda Llywodraeth y DU—roedd y rheini'n bethau a ddiflannodd wedi hynny, ond cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn eu lle. Fe drof at rai ohonynt yn awr, oherwydd credaf y gall rhai ohonynt fod yn thematig yn hytrach nag arfordirol yn unig, ac yn y blaen. Ac wrth ddweud hyn, ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac o safbwynt cymoedd gogledd Pen-y-bont ar Ogwr, buaswn yn dweud nad ydym yn ganolog i lawer o'r mentrau hyn—tueddwn i fod ar un pen i'r bwrdd iechyd, tueddwn i fod ar un pen i ddinas-ranbarth Caerdydd, ar un pen i'r metro, ac ati, ac ati—felly mae'n rhaid i ni weiddi'n uchel iawn a dadlau'r achos. Ond o fewn yr hyn sydd ar gael, rydym wedi bod yn eithaf llwyddiannus, ond mae angen i ni wneud mwy.

Felly gadewch i mi droi at rai o'r rhain. Os edrychwch, er enghraifft, ar gymoedd Garw ac Ogwr yn benodol, ceir angen dirfawr am adnewyddu dinesig—adeiladau gwag, siopau gwag sydd wedi bod yno ers amser maith. Nawr, mae'r math o ymagwedd sydd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, ymagwedd y maent wedi bod yn arwain arni mewn gwirionedd, o ran adfywio gofodol go iawn—trawsnewid ffisegol—sydd nid yn unig yn gwneud siopau ac unedau ond hefyd yn gwneud llety a thai uwchben, byddem yn bendant yn elwa o hynny, a mynd ati i'w wneud yn yr ardaloedd hyn yn y Cymoedd.

Mae'r gwaith adfywio rydym yn mynd i'w wneud gyda rhywfaint o'r arian Ewropeaidd olaf ar Neuadd y Dref Maesteg, gan ei newid o fod yn neuadd y dref hen ffasiwn—mae wedi bod yn lleoliad gwych ers blynyddoedd lawer, ond ei throi'n ganolfan a lleoliad diwylliannol go iawn a fydd yn gwneud amrywiaeth o bethau dinesig yno, a phethau diwylliannol. Bydd honno'n ganolfan go iawn i'r gymuned honno, ac mae iddi botensial gwirioneddol, gan weithio gyda'r coleg a chydag eraill, i wneud llawer iawn mwy.

Mae safle Heol Ewenni, y bydd Gweinidogion yn gwybod amdano am fy mod yn rhygnu ymlaen am hyn, bron â bod yn 8 hectar o faint yng nghanol Maesteg. Mae wedi bod yn wag ers cymaint o amser erbyn hyn. Mae problemau'n ymwneud â materion adfer tir ynghlwm wrth y safle, ond maent wedi bod yno ers tro. Rwy'n credu bod dwy neu dair o adrannau'r Llywodraeth yn rhan o'r broses o edrych arno, ond mae angen i ni dynnu'r cyfan at ei gilydd yn awr. Oherwydd gallai hwnnw fod yn safle busnes a phreswyl amlddefnydd, ac yn y blaen, yng nghanol un o'n prif gymoedd.

I ni, mae trafnidiaeth yn fater pwysig wrth sôn am adfywio cymunedau. Ac mae ar draws y cymoedd, yn ogystal ag i fyny ac i lawr y cymoedd. Felly, gorau po gyntaf y gallwn ddatrys materion yn ymwneud â'r rheilffyrdd a bysiau cyflym, ac ail-reoleiddio'r bysiau fel y gallwn benderfynu i ble mae'r llwybrau'n mynd, a sicrhau bod pobl yn cyrraedd y gwaith ar yr adeg y mae angen iddynt gyrraedd eu gwaith, mae hynny'n hanfodol yn ogystal. Nid wyf yn siŵr am yr amser gan i mi dderbyn ymyriad, ac rwyf wedi mynd ymhell y tu hwnt.

Buaswn yn dweud mai'r elfen arall, a grybwyllwyd mewn perthynas â threfi glan môr hefyd, yw'r potensial o ran twristiaeth a diwylliant, oherwydd mae gennym brofiad awyr agored gwych. Os gwnewch ffigwr wyth o Bontycymer yng nghanol cwm Garw i fyny un ochr i'r rhewglai, ac i lawr yr ochr llall, a mynd i fyny yn eich ôl a rownd, rydych newydd wneud cylched mor ymestynnol ag unrhyw ddiwrnod ar y Tour du Mont Blanc yn yr Alpau Ffrengig. Felly mae angen inni wneud mwy o hynny. Ac mae nifer y beicwyr rhyngwladol sy'n defnyddio mynydd y Bwlch a chwm Ogwr fel eu hardal hyfforddi—i fyny'r bryn hwnnw ac yn ôl i lawr yr ochr arall hefyd. Felly mae angen i ni wneud mwy o hyn. Ond mae gennym rai o'r arfau sydd ar gael i ni; yr hyn sydd ei angen arnom yw'r uwchgynllunio i wneud i hyn weithio.

Ac rwy'n tybio, gyda rhai o'r meysydd thematig hyn, ei fod yn ymwneud lawn cymaint â'r hyn sydd angen inni ei wneud mewn ardaloedd glan môr hefyd. Mae'n golygu edrych ar ba gyllid sydd ar gael, a oes angen mwy—oes, yn bendant—ond yr hyn sydd ar gael yn awr. Ac un o'r pethau yr hoffwn ei ddweud hefyd, yn y dyfodol, un o'r agweddau—wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd—yw edrych ar yr hyn y cyfeiriwyd ato ddoe, sef hyblygrwydd ychwanegol y gellid ei ddefnyddio yn y meysydd thematig hynny i wella mwy o flaenoriaethau rhanbarthol a lleol. Gallai hynny olygu nad oes arnom angen cronfa glan môr, yr hyn sydd ei angen yw mwy o hyblygrwydd i bobl benderfynu beth sy'n bwysig yn eu hardaloedd.

Mae bron 40 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn trefi bach yng Nghymru. Mewn etholaethau fel Aberconwy, mae'r boblogaeth gyfan bron yn dibynnu ar drefi, megis Llanfairfechan, Llanrwst, Conwy, Penmaen-mawr, Betws-y-coed, a Llandudno wrth gwrs, ar gyfer bancio, siopau, llyfrgelloedd a llawer o ddiwydiannau gwasanaeth eraill. Yn wir, canfu Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru mai dim ond 8 y cant o'r boblogaeth sy'n teimlo nad yw trefi'n berthnasol bellach.

Byddem yn elwa'n fawr o ofalu am ein trefi yn Aberconwy ac yng Nghymru, ac adeiladu ein strydoedd mawr, grymuso ein hentrepreneuriaid, cynyddu ein refeniw treth, a chreu mwy o arian yn gyffredinol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau gwaith cyflogedig i fwy o bobl. Yn anffodus, fodd bynnag, mae llawer o drefi'n wynebu heriau, fel strydoedd mawr sy'n ei chael hi'n anodd.

Yn y chwarter diweddaraf, roedd gan Gymru gyfradd siopau gwag o 13.4 y cant. Mae'r gyfradd hon o siopau gwag yn fwy nag unrhyw ran arall o'r DU, ac yn ystod y pedair wythnos rhwng mis Medi a mis Hydref y llynedd, bu gostyngiad o 5.2 y cant yn niferoedd yr ymwelwyr yn gyffredinol o gymharu â 2018. Fel Llywodraeth, rhaid i chi roi camau ar waith ar fyrder i helpu ein busnesau, ein strydoedd mawr a'n cymunedau.

Caiff busnesau yng Nghymru eu llesteirio gan ardrethi annomestig uchel, gyda chwmnïau o Gymru'n gorfod rhoi mwy na hanner eu rhent blynyddol amcangyfrifedig mewn trethi—52.6c am bob £1. Mae'n bryd ichi ddilyn arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig, a'n galwadau parhaus i fabwysiadu polisi o hyd at £15,000 ar gyfer rhyddhad ardrethi o 100 y cant. Byddai hyn yn sicrhau twf busnes go iawn. Yn fwy felly, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar siopau bach, bûm yn gweithio gyda llawer o bobl eraill i geisio sicrhau diwygiadau go iawn mewn perthynas â rhyddhad ardrethi, er enghraifft drwy uno'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, y stryd fawr a'r gyfradd ddisgresiynol. A ydych chi erioed wedi siarad â busnes sydd wedi ceisio cael mynediad at yr arian mawr ei angen hwn?

Mae'n deg dweud bod canol rhai trefi wedi elwa o Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Fodd bynnag, soniais eisoes am Aberconwy a swm y refeniw ardrethi busnes a ddaw i mewn i Gymru, ac eto, mae'r buddsoddiad mewn adfywio yng ngogledd Cymru wedi'i gytuno a'i ddyrannu ar draws y rhanbarth, gyda'r cyllid buddsoddi'n canolbwyntio ar fannau y tu allan Aberconwy yn bennaf. Ac mae hynny i'w weld mewn llythyr ataf gan y Gweinidog. Felly, ni fydd yn syndod i chi, felly, fy mod yn cytuno â chanfyddiadau Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar Adfywio Trefi a Chymunedau Glan Môr fod trefi glan môr wedi'u hesgeuluso ers gormod o amser. Yn wir, mae pump o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru i'w gweld mewn trefi. Ac mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru wedi dangos bod pocedi o amddifadedd uchel ar hyd arfordir gogledd Cymru.

Mae angen inni helpu'r busnesau ynddynt i ffynnu a datblygu a rhoi llais i gymunedau ar eu cynnydd eu hunain. Er enghraifft, drwy gydgynhyrchu—diolch i Mark Isherwood am sicrhau lle pendant iddo yng Nghofnod y Trafodion—gallem weld pobl yn darparu ac yn derbyn gwasanaethau—[Torri ar draws.] A hoffech imi dderbyn ymyriad?

17:35

—yn rhannu cyfrifoldeb a gweithio mewn perthynas gyfartal.

Nawr, yn ôl asesiad Ymddiriedolaeth Carnegie UK 2019, mae eich polisïau prif ffrwd yn canolbwyntio ar gydweithio yn hytrach na chydgynhyrchu trawsnewidiol. Ceir methiant i ymgysylltu'n ddigonol â chymunedau. Mae problemau o ran gweithredu Deddf Lleoliaeth 2011—fel y nododd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, yma heddiw—yn brawf o hyn, gan nad yw'r darpariaethau wedi cael eu gorfodi, megis yr hawl i her gymunedol, i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer gweithredu gwasanaethau awdurdod lleol ac i wneud cais am asedau sydd o werth i'r gymuned. Mae'r rhain yn bethau y gallwch eu gwneud yn Lloegr, ond nid yng Nghymru.

Ceir camau symlach y gallwch eu cymryd i annog cydgynhyrchu, fel y newidiadau a argymhellir gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol: proses gyllidebol gyfranogol, cynnwys pobl yn gynnar yn y broses o ddatblygu gwasanaethau, a chyd-ddatblygu mannau cymunedol—

Mae fy amser bron ar ben.

Mae yna ewyllys i gynnwys cymunedau yn y gwaith o adfywio a datblygu trefi yn Aberconwy, ond mae trigolion yn wynebu rhwystrau. O ganlyniad, rwy'n cefnogi'r galwadau ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd ar gyfer trefi glan môr a threfi marchnad. Mae'r dulliau gennych, mae'r arian gennych hyd yn oed. Os gwelwch yn dda, gweithiwch gyda'n perchnogion busnesau, a chyda'n gilydd yn y bartneriaeth honno bydd gennym lawer mwy o arian ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Entrepreneuriaeth, cyflogaeth ac uchelgais—dyna sydd ei angen ar Gymru, ac yn anffodus mae'n brin ohonynt ar hyn o bryd.

17:40

Nid yw 'dim bargen' wedi diflannu, mae wedi cael ei ohirio, dyna i gyd, felly bydd yn rhaid inni fod yn ddychmygus iawn yn y ffordd y bwriadwn ddiogelu ein cymunedau. Fel y mae'r rapporteur arbennig yn rhybuddio, bydd yn effeithio ar yr aelodau mwyaf agored i niwed a mwyaf difreintiedig o'r gymdeithas, y bobl leiaf abl i ymdopi â newidiadau ac a fydd yn dioddef yr ergyd fwyaf. Felly, bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar ein dyfeisgarwch i greu a chadw cyfoeth yng Nghymru os ydym am osgoi'r anfodlonrwydd sylweddol ymhlith y cyhoedd, y rhaniadau pellach, a'r ansefydlogrwydd hyd yn oed y mae'r rapporteur arbennig yn rhybuddio yn eu cylch.

Roedd yn ddiddorol gwrando ar Huw Irranca-Davies yn sôn am safle Heol Ewenni, oherwydd buaswn yn argymell ei fod yn edrych ar gynllun Goldsmith yn Norwich, sydd ynghanol Norwich ac a enillodd wobr Stirling, ac mae wedi bod yn ffordd wych o adfywio ardal ynghanol tref. Dyna'r math o beth yr hoffwn ei weld. Teimlaf fod cynllunio da yn hanfodol i waith adfywio da, oherwydd gallwch weld sut y mae trefi glan môr fel Llandudno, Conwy, Aberaeron, ac ati, wedi'u cynllunio'n dda, a dyna pam eu bod yn parhau i ffynnu a bod pobl yn parhau i fod eisiau byw yno. Gorfodwyd penderfyniadau cynllunio trychinebus ar ardaloedd eraill ac o ganlyniad, maent wedi dioddef. Felly, mae angen inni sicrhau bod gennym gynllunio gwirioneddol dda o ran y ffordd y datblygwn ein trefi yn y dyfodol. Rwy'n hyderus y gallwn wneud pethau cyffrous iawn yn awr gan fod gennym yr holl enghreifftiau da o'r rhaglen tai arloesol, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn adeiladu ar hynny.

Wrth gerdded o amgylch fy etholaeth yn ystod y ddau neu dri mis diwethaf, bûm yn meddwl llawer ynglŷn â pham y mae rhai pobl yn cadw eu gerddi blaen yn dwt ac yn daclus tra bod eraill yn meddwl ei bod hi'n iawn eu defnyddio fel toiled i gŵn neu domen sbwriel. Ac rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn i bobl sy'n byw mewn cymunedau. Pam y dylai pobl orfod dioddef hunanoldeb a diogi pobl eraill? Felly, rwy'n credu bod yna her wirioneddol i bob awdurdod lleol sicrhau bod pob preswylydd yn ymfalchïo yn eu cymdogaeth ac yn chwarae eu rhan yn hytrach na gadael i bobl eraill wneud hynny. Yn yr achos gwaethaf, mae pobl yn dweud, 'Pam nad yw'r cyngor wedi gwneud unrhyw beth am y sbwriel?' Nid yw'r cyngor yn taflu'r sbwriel, mewn gwirionedd. Felly, yn ogystal â dathlu'r gwaith y mae'r casglwyr sbwriel gwirfoddol yn ei wneud, wedi ei gydlynu gan Cadwch Gymru'n Daclus—ac rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn o swm bach iawn o arian a fuddsoddwyd yn Cadw Cymru'n Daclus i gydlynu'r casglwyr sbwriel gwirfoddol hyn, a hebddo, byddai ein cymunedau yn dlotach o lawer—credaf fod llawer y gallwn ei ddysgu o leoedd fel Wigan, lle mae'r Wigan Deal wedi cynnwys y gymuned gyfan drwy eu cael i ddweud beth sy'n bwysig iddynt a sut y gallwn oll ymfalchïo yn ein cymuned a bod yn rhan ohoni a sicrhau ein bod yn meddwl ei fod—. Maent wedi'u cael i ddweud, 'Gyda'n gilydd, rydym am greu lle glân a gwyrdd y mae pawb ohonom yn gofalu amdano ac yn ei fwynhau.' Ac rwy'n credu bod angen inni wneud hynny ym mhob un o'n cymunedau i sicrhau ein bod i gyd yn gwneud hynny.

Rwyf hefyd am ganmol y gwaith a wneir gan gyngor Abertawe i sicrhau bod pawb yn cymryd rhan mewn ailgylchu, oherwydd nid yw'n deg os yw 80 y cant o bobl yn ailgylchu a bod 10 y cant yn dweud, 'Nid wyf am drafferthu; rwy'n mynd i'w roi yn y bag du', ac mae hynny'n cynyddu'r gost i gynghorau o gael gwared ar y bagiau du. Felly, rwy'n credu bod y gwaith a wneir gan y swyddogion ailgylchu dan hyfforddiant ar archwilio bagiau du a siarad â phreswylwyr a dweud, 'Wyddoch chi, cewch ddirwy os na fyddwch yn newid eich ffyrdd' wedi arbed £300,000 mewn ychydig fisoedd. A dyna'r math o beth yr hoffwn weld pob awdurdod lleol yn ei wneud. Pam y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu a rhai pobl nad ydynt yn ailgylchu? Yn amlwg, gall fod problemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu, ac mae'n rhaid ystyried y rheini, ond mewn rhai achosion diogi llwyr ydyw a 'Nid wyf am drafferthu', a dyna'r math o beth na allwn ei dderbyn. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon.

Rwy'n falch iawn fod Mike Hedges wedi rhoi diwedd ar y ffug ddadleuon ynglŷn â Cymunedau yn Gyntaf. Nid oedd Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio'n dda, ond gallai fod wedi'i ddiwygio yn fy marn i, ac yn sicr mae angen rhaglenni dileu tlodi arnom i barhau i sicrhau bod gennym gymdeithas fwy cydlynol. Fel arall, rydym yn creu problemau ar gyfer y dyfodol.

17:45

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn?

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw, gydag ystod eang o gyfraniadau meddylgar a niferus i'r ddadl a'r drafodaeth bellgyrhaeddol hon? Siaradasom gryn dipyn heddiw am gefnogi ein pobl a'n lleoedd a phwysigrwydd cefnogi a galluogi'r ymdeimlad hwnnw o falchder yn ein cymunedau, a bod buddsoddi mewn cymunedau yn ymwneud â mwy na'r manteision economaidd yn unig, ond y manteision ehangach o ddod â chymunedau at ei gilydd a chynyddu cymunedau cydlynus.

Mae Llywodraeth Cymru am i'n cymunedau a'n trefi gael dyfodol gwych yn ogystal â gorffennol gwych gyda'r llu o drefi hanesyddol y gallwn ymffrostio ynddynt yng Nghymru. Ac rydym wedi cydnabod, ac mae pobl wedi cydnabod yn y ddadl hon heddiw, fod rôl a phwrpas ein trefi'n newid a bod angen i ni ymateb i'r her honno er mwyn ail-greu ac ailddyfeisio ein cymunedau a'n canol trefi.

Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn darparu cefnogaeth adfywio sylweddol i dros 50 o drefi a chymunedau ledled Cymru, gan ryddhau £800 miliwn o fuddsoddiad rhwng 2014 a 2022. Boed yn hen gapeli neu'n neuaddau tref sydd wedi'u hesgeuluso, sinemâu sy'n dadfeilio neu neuaddau bingo sydd bellach yn segur, boed yn stryd fawr sy'n wynebu anawsterau neu'n eiddo adfeiliedig, mae ein buddsoddiad yn helpu i roi bywyd newydd iddynt. Gallai hynny fod ar ffurf swyddfeydd neu ganolfannau menter, canolfannau cymunedol neu ofal neu gyfleusterau hamdden neu ddigwyddiadau, gwell cynigion manwerthu a hyd yn oed cartrefi newydd. Ac rydym wedi clywed gan Huw Irranca-Davies am yr hyn sy'n digwydd gyda neuadd y dref Maesteg hefyd. Felly, rydym yn helpu cymunedau i ail-greu canol eu trefi a'u hadeiladau ar gyfer heriau'r unfed ganrif ar hugain.

Mae'r cynnig gwreiddiol yn awgrymu braidd nad yw trefi glan môr a threfi marchnad yn elwa ar y buddsoddiad hwn ar hyn o bryd er bod llawer ohonynt yn sicr yn gwneud hynny. Yng ngogledd Cymru, mae Bae Colwyn yn cael dros £3 miliwn o fuddsoddiad adfywio i weddnewid adeiladau canol y dref a sicrhau bod gofod llawr masnachol gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i weld drosof fy hun a'r gwahaniaeth y mae hynny'n ei wneud i'r nifer sy'n dod i'r dref hefyd. Ac ychydig ar hyd yr arfordir—buddsoddiad enfawr yn y Rhyl. Mae'n cynnwys ailddatblygu eiddo helaeth sydd wedi dirywio ynghanol y dref ac addasu'r promenâd, gyda llawer mwy ar y gweill, ac nid dweud hynny am fod y Dirprwy Lywydd yn y gadair rwyf fi. [Torri ar draws.] [Chwerthin.] Gwerth rhoi cynnig arni. Yn y Barri, rydym yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu adeilad y Goods Shed, gan greu 120 o swyddi, swyddfeydd a gofod cymunedol a chynnig bwyd a hamdden yn sgil hynny. Rydym hefyd yn darparu bron i £1 filiwn er mwyn gwella gofod masnachol a manwerthu ac i drawsnewid gofod mewn eiddo masnachol at ddefnydd preswyl a chronfa fenthyg o £1 filiwn dan brosiectau cefnogi tai cymdeithasol ynghanol y dref.

Gan droi'n fyr at drefi marchnad ac ychydig o enghreifftiau: yn Hwlffordd, rydym wedi rhoi cefnogaeth mewn egwyddor i brosiect £3 miliwn a mwy i adnewyddu a thrawsnewid siop adrannol Ocky White yn emporiwm bwyd, a benthyciad o £2.75 miliwn ychwanegol, sy'n darparu 23 o unedau preswyl, ardal fenter ieuenctid a masnachu ac adnewyddu maes parcio aml-lawr i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref.

Yng nghanolbarth Cymru, mae chwe thref farchnad yn elwa o £2.14 miliwn i wella eiddo ynghanol y trefi a sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Ac mae Llanbedr Pont Steffan a'r Drenewydd hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau, gyda gwerth cyfunol o £5 miliwn. Ac yn Llanbedr Pont Steffan, bydd Canolfan Dulais a ailddatblygwyd yn darparu gwasanaethau cymunedol ynghyd â chanolfan fenter sy'n canolbwyntio ar ofal ac a fydd yn hybu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref a chyflogaeth. Gall trefi glan môr hefyd fanteisio ar ein cronfa cymunedau arfordirol, sydd wedi darparu £16 miliwn i ardaloedd arfordirol ers 2011.

Rydym wedi sôn am wahanol gronfeydd heddiw ac rwy'n meddwl mai un o'r pethau rydym wedi—. Ni fuaswn yn dweud bod gennym ddigon o arian, ond credaf fod gennym ddigon o gronfeydd ac mewn gwirionedd, mae'n debyg fod gennym ormod. Ac mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn gweld sut y gallwn atgyfnerthu rhai ohonynt yn hytrach na chreu rhai newydd a gwneud y gorau o'u heffaith mewn trefi a chymunedau ar hyd a lled y wlad.

Rydym yn darparu llawer o gymorth, ond mae blynyddoedd o gyni ac effaith ar ein cyllid yn golygu na allwn ymyrryd ym mhobman yn anffodus. Felly, rydym am helpu i rymuso cymunedau i gymryd yr awenau.

Mae adroddiad diweddar Ymddiriedolaeth Carnegie UK, 'Turnaround Towns UK', yn tynnu sylw at drawsnewid Aberteifi o fod yn dref farchnad a oedd yn methu i fod yn enghraifft o ymarfer gorau drwy ddefnyddio ei hasedau ffisegol a hanesyddol. Mae Aberteifi wedi elwa ar ein cymorth ond mae hefyd yn dangos pwysigrwydd grymuso arweinwyr lleol sy'n adnabod eu trefi ac sy'n allweddol i ysgogi newid. Maent hefyd yn gwneud yn fawr o dechnoleg ddigidol i helpu i yrru hyn i gyd ymlaen.

Mae'r Llywodraeth yn cefnogi ac yn ymgysylltu â'n cymunedau, fel y dangoswyd gan dasglu'r Cymoedd, sydd wedi gweithio gyda chymunedau i ddatblygu cynlluniau a syniadau sy'n helpu i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan gymunedau, ond sydd hefyd yn dathlu ac yn adeiladu ar eu cryfder. Rwy'n awyddus i symud ymlaen i edrych ar sut y gwnawn rymuso cymunedau yn well i fod yn rhan o hyn, a chynnwys cynghorau tref a chymuned a sefydliadau cymunedol eraill.

Rydym yn gweithio i ddatblygu dulliau newydd o gefnogi ein cymunedau drwy Brexit a thu hwnt, gan adeiladu ar brofiadau megis dull LEADER a phwyso ar y rhaglen datblygu gwledig. Bydd gan gymunedau lais yn y ffordd y caiff buddsoddiad rhanbarthol ei dargedu yn eu hardaloedd lleol yn y dyfodol.

Mae cyfundrefn drethi a lles a blynyddoedd o gyni Llywodraeth y DU wedi cael effaith enfawr ar gyfraddau tlodi yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hon wedi gweithredu ar draws y Llywodraeth i drechu tlodi ac ar ein cynllun gweithredu economaidd a'n rhaglenni megis Dechrau'n Deg, Cymunedau am Waith ac mae'r grant datblygu disgyblion a Teuluoedd yn Gyntaf yn hanfodol i leihau'r bwlch rhwng ein hardaloedd difreintiedig a mwy ffyniannus.

Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n gadarn i gynorthwyo a chefnogi ein trefi a'n cymunedau nid yn unig i oroesi ond i ffynnu. Yn sicr, nid ydym yn hunanfodlon a gallwn bob amser adeiladu ar yr hyn rydym yn ei wneud eisoes. Rwy'n bwriadu dweud mwy yn yr wythnosau nesaf yn y Siambr ynglŷn â sut rydym yn cefnogi ein cymunedau i symud ymlaen i gael dyfodol gwych yn ogystal â gorffennol gwych.

17:50

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl hon? Llawer o gyfraniadau—ni lwyddaf i fynd trwyddynt i gyd.

Dechreuodd Mark gyda'i frwdfrydedd arferol a'r gafael llwyr sydd ganddo ar y pwnc am ei fod wedi golygu cymaint iddo drwy gydol ei yrfa fel Aelod o'r Cynulliad, lle mae wedi hyrwyddo'r holl gysyniad o gydgyflwyno, cydgynhyrchu a bod hynny'n ganolog i adfywio cymunedol.

Yn ddiweddarach, mewn cyfraniad braidd yn rhyfedd, rhaid i mi ddweud, gan Mark Reckless, dywedwyd wrthym nad yw 'cydgynhyrchiol' yn air. Roedd y cyfrifiadur yn dweud 'na' pan edrychodd Mark arno. [Chwerthin.] Wel, nid wyf yn gwybod ble rydych chi wedi bod dros y pedair blynedd diwethaf, Mark, ond ni allech fod wedi gwrando ar unrhyw un o gyfraniadau bendigedig Mr Isherwood. Ac mae wedi bod yn siarad am gydgynhyrchu'n llawer hwy na phedair blynedd hefyd, felly gadewch i mi ddweud wrthych, mae yno, mae wedi'i sefydlu fel idiom wych ac un y dylem ei chyflawni.

Gyda'i haelioni nodweddiadol a'i chwilio cyson am gonsensws, condemniodd Leanne haerllugrwydd Plaid Geidwadol Cymru am hyd yn oed gyflwyno'r ddadl hon a chawsom ein hatgoffa ganddi mai bai Mrs Thatcher oedd y cwbl ac yna cynigiodd rai awgrymiadau braidd yn amwys ynglŷn â sut y byddai'n ymdrin â newid strwythurol, gan anghofio y byddai annibyniaeth yn ein gosod ar ddiffyg o 25 y cant ar ein gwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn o'r cychwyn. Ond beth bynnag, fe adawaf i'r blaid gyferbyn ymdrin â'r anghysonderau hyn.

Dywedodd Mike mai mater o economeg yw tlodi—wel, yn y bôn, nid wyf yn credu y byddai llawer yn anghytuno â hynny—ac roedd yn amheus ynglŷn â rhaglenni gwrth-dlodi unigol i geisio troi'r llanw economaidd hwnnw. Ac yna yn ei araith, aeth ymlaen i ddangos sut y gallai dulliau penodol o weithredu sicrhau manteision mawr—cynlluniau hyfforddiant dychwelyd i'r gwaith, cyrhaeddiad addysgol a llawer o rai eraill. Felly, nid oeddwn yn siŵr iawn ble roeddech ar ddiwedd eich cyfraniad, Mike, ond roeddwn yn meddwl ei fod yn dangos beth y gallai cynlluniau adfywio cymunedol cydlynol a phenodol ei wneud i uwchsgilio ein dinasyddion.

Soniodd Oscar am yr angen am strydoedd mawr prysur a'r cyfraddau uchel presennol o siopau gwag sydd gennym mewn llawer gormod o'n trefi, ac mae hyn yn rhywbeth a nodwyd gan siaradwyr eraill hefyd.

Mewn rhan arall o'i gyfraniad, canmolodd Mark y cysyniad o ddiswyddiadau, ac y dylem fod yn cyfyngu'n ddramatig ar raglenni'r Llywodraeth nad ydynt yn gweithio. Wel, wyddoch chi, mae hynny'n wir, ond roeddem yn galw am raglen adfywio cymunedol effeithiol. Roeddem yn ymwybodol iawn o'r problemau gyda chynllun Llywodraeth Cymru. Felly, dyna oedd ffocws ein dadl.

Yna, gwrthododd Angela ymosodiad epistemolegol Mark ar drefi glan môr a threfi marchnad. Roedd hon yn dipyn o thema gan Mr Reckless y prynhawn yma, wrth iddo chwilio am ddiffiniadau. Ond roeddwn o'r farn fod Angela wedi ymdrin ag ymarferoldeb y materion hyn, ac wedi cyfeirio at yr adroddiad ardderchog hwnnw gan bwyllgor dethol Tŷ'r Arglwyddi, ac yna'r angen i farchnata cyrchfannau. Mae'r straeon llwyddiant yn anhygoel, a'r trefi sydd heb gyflawni hynny eto—mae ganddynt botensial mawr i wneud yr un peth. Cawsom awgrym o hyn gan Huw, rwy'n credu, pan oedd yn sôn am ailddatblygu neuadd y dref Maesteg, a'i statws fel canolbwynt. Mae'n fy atgoffa o fy nhref enedigol, Castell-nedd—nid neuadd y dref, ond Neuadd Gwyn, lle gwelwyd enghraifft wych o hynny yn fy marn i.

Dywedodd Janet fod 40 y cant o boblogaeth Cymru'n byw mewn trefi bach. Nid oes gennyf syniad a yw hynny'n wir, ond fe wnaeth yr honiad argraff fawr arnaf beth bynnag, ac mae'n ein hatgoffa pa mor bwysig yw hyn i'n bywyd cymunedol. Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dweud pa mor bwysig yw trefi i'n dyfodol economaidd, ac rydym i gyd yn cytuno. Ymhellach ar y thema hon, efallai, soniodd Jenny Rathbone pa mor bwysig yw cynllunio da a sut y mae ei angen wrth fynd ati i adfywio a datblygu trefi, ac rwy'n sicr yn cytuno â hynny.

Yna gorffennodd y Gweinidog gydag amddiffyniad digyffro o bolisi'r Llywodraeth, ac rwy'n diolch iddi am ei hymagwedd. Roedd yn un eithaf adeiladol, ac rwy'n siŵr eich bod wedi gwrando ar y ddadl y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y gallwn weld adfywio cymunedol mwy effeithiol, a fyddai'n ennyn cefnogaeth ar bob ochr i'r Cynulliad wrth gwrs.

17:55

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Teuluoedd Incwm Isel

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. 

Symudwn at eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma, sef dadl Plaid Cymru ar deuluoedd incwm isel, a galwaf ar Adam Price i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7224 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos i bob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyflwyno'r cynnig hwn ar dlodi plant, sy'n asio'n daclus iawn—yn gwbl annisgwyl, ond yn ffodus—â pheth o thema'r ddadl ddiwethaf. Tlodi plant yw un o'r problemau mwyaf cyson sy'n ein hwynebu fel cymdeithas. Yng Nghymru mae tlodi plant cymharol wedi bod mewn band rhwng 36 y cant a 28 y cant o'r holl blant yng Nghymru ers 20 mlynedd fwy neu lai—tua thraean o'r cyfanswm. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau un flwyddyn ar ei chyfer, yn ôl y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd o 1 y cant mewn tlodi plant, i fyny i 29.3 y cant, sy'n cyfateb i 206,000 o blant ledled Cymru. Wrth gwrs, y rhagolwg ar gyfer Cymru, ac yn wir ar draws y DU, yw y bydd y duedd hon o gynnydd mewn tlodi plant yn parhau. Mae rhai rhagolygon yn rhagweld y bydd yn codi i 39 y cant ym mlynyddoedd cynnar y degawd sy'n dod.

Rwy'n meddwl ar y lefel ehangaf y gallech ddweud mae'n debyg mai'r methiant ar fater tlodi plant yw un o'r methiannau mwyaf yn ein gwleidyddiaeth. Efallai fod rhai ohonoch yn cofio'r Tony Blair ifanc, ym mis Mawrth 1999, yn mynd draw i Neuadd Toynbee, a oedd ei hun yn symbol o ymdrechion adfywio yn y rhan honno o Lundain dros genedlaethau lawer, ac yn cyhoeddi mai hon oedd y genhedlaeth gyntaf erioed i gael gwared ar dlodi plant yn llwyr. Ac wrth gwrs, cawsom yr ymrwymiad polisi wedyn i ddileu tlodi plant o fewn 20 mlynedd, a chredaf ei bod bob amser yn talu inni atgoffa ein hunain ynglŷn â pheth o'r iaith oreurog honno: 'Ni ddylai bod yn dlawd fod yn ddedfryd oes. Mae angen inni dorri cylch anfantais.' Wel, nid yw'r cylch hwnnw wedi'i dorri, a chredaf fod hynny'n rhywbeth inni ei ystyried.

Y syniad sydd wrth wraidd y cynnig hwn, mewn gwirionedd, yw p'un a oes angen newid radical yn ein meddylfryd ac yn ein hymarfer, oherwydd, yn amlwg, credaf ei bod yn deg dweud nad yw'r polisïau presennol wedi gweithio, ac mae hynny wedi bod yn wir dros weinyddiaethau olynol y ddwy blaid wleidyddol yn San Steffan.

Nawr, yn amlwg, bron drwy ddiffiniad, yr hyn sy'n achosi tlodi plant yw diffyg incwm. Daw incwm yn bennaf o ddwy ffynhonnell yn ein cymdeithas—cyflogaeth a budd-daliadau Llywodraeth. Nawr, rydym yn gyfarwydd iawn wrth gwrs â'r naratif sy'n cyfeirio at effaith diffyg gwaith ar gynnal tlodi rhwng cenedlaethau, ond mewn gwirionedd, os edrychwch ar y dystiolaeth, y gostyngiad a oedd yno rhwng 2000 a 2010, i roi—. Digwyddodd gostyngiad bach ond arwyddocaol yn lefelau tlodi plant, ond roedd yn deillio bron yn gyfan gwbl o'r newidiadau mewn budd-daliadau, nid unrhyw newid yn yr economi ehangach a'r farchnad lafur, ac felly, yn bennaf, o gyflwyno'r credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a newidiadau eraill i'r system fudd-daliadau. Fel arall, mae'r cynnydd a welwn yn awr yn ymwneud bron yn llwyr â chyni, a'r gostyngiad yn y gyllideb les a newidiadau cysylltiedig ers 2010. Yr achosion allweddol yno, wrth gwrs, oedd rhewi budd-daliadau, y methiant i gynyddu nawdd cymdeithasol i bobl o oedran gweithio yn unol â chostau byw. Rhagwelir y bydd budd-dal plant, er enghraifft, achubiaeth i lawer o deuluoedd sydd â phlant, wedi colli 23 y cant o'i werth erbyn eleni o'i gymharu â lle'r oedd yn 2010. Yn ogystal â hynny felly, mae gennych y cap ar fudd-daliadau, gan gyfyngu ar gyfanswm y budd-daliadau i aelwydydd o oedran gweithio, ac yna, yn drydydd, y terfyn dau blentyn sy'n cyfyngu credyd treth, budd-dal tai, credyd cynhwysol i ddau blentyn ym mhob teulu.  

Nawr, mae'r rheini'n amlwg i gyd yn bolisïau San Steffan, ac yn amlwg, roedd llawer o'r sylw y llynedd ar newidiadau yn y polisïau hynny yn San Steffan a fyddai'n deillio o newid Llywodraeth. Wel, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd nawr, ac nid yw'n mynd i ddigwydd am bum mlynedd o leiaf, ac rwy'n mentro dyfalu ei bod hi'n debygol y bydd gennym Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan am ddegawd fan lleiaf, o ystyried y rhifyddeg wleidyddol sy'n ein hwynebu. Felly, nid wyf yn meddwl y daw ateb o'r cyfeiriad hwnnw. Rwy'n hapus i ildio.  

18:00

Efallai eich bod yn iawn, a chroesawaf y ffordd gynhwysfawr yr aethoch drwy rai o'r polisïau sydd gan San Steffan. Efallai eich bod yn iawn na fyddant yn newid, ond mae'n ddiddorol fod rhai o'r ASau hynny a etholwyd mewn ardaloedd Llafur yn flaenorol yn mynd i gael etholwyr yn heidio i'w cymorthfeydd yn awr gan ddangos realiti hyn yn glir iddynt. Felly, nid wyf yn credu y dylem anobeithio, pe bai'r Cynulliad hwn yn anfon neges gydunol i San Steffan yn y gyllideb sydd i ddod ym mis Mawrth, i edrych ar y materion hynny mewn perthynas ag (1) yr etholwyr agored i niwed sydd ar fudd-daliadau, a'r hyn y byddai ei angen i unioni rhywfaint o hynny, ond yn ail, yr hen ffaith syml o wneud i waith dalu.

Rwy'n sicr yn cytuno ag ysbryd y pwynt rydych yn ei wneud, y dylem yn bendant ddwyn San Steffan i gyfrif a pharhau i wneud hynny'n groch iawn. Ond mae'n debyg mai rhesymeg fy nadl yw bod yn rhaid inni ofyn i ni'n hunain beth y gallwn ei wneud yma nawr, oherwydd nid wyf yn credu ei bod hi'n debygol y daw achubiaeth yn fuan o San Steffan. Nawr, yn ei hanfod, rydym wedi cael dwy elfen o ddull gwrth-dlodi yng Nghymru. Mae un ohonynt wedi canolbwyntio ar ymyrryd yn uniongyrchol yn yr economi, felly gostwng nifer y teuluoedd mewn aelwydydd heb waith, gan alluogi mwy o fenywod i ymuno â'r gweithlu, er enghraifft, a chodi lefelau cyflog y rhai sydd mewn gwaith sy'n gweithio yn yr economi sylfaenol. Yr ail fath o bolisi, felly, yw darparu gwasanaethau wedi eu targedu'n uniongyrchol at blant mewn tlodi, pethau fel y grant amddifadedd disgyblion, llawer o'r rhaglenni y mae'r Llywodraeth, mae'n debyg, yn cyfeirio atynt yn ei gwelliant wrth gyfeirio at y £1 biliwn a werir—bob blwyddyn rwy'n tybio—fel y mae'n dweud yn ei adroddiad cynnydd ar dlodi plant ym mis Rhagfyr.  

Y broblem gyda'r cyntaf, yr her gyda'r dull blaenorol o ymyrryd yn uniongyrchol yn yr economi, yw bod y math hwnnw o newid strwythurol dwfn yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth. Ac felly, tra rydych yn aros i'r newid strwythurol hwnnw ddigwydd wrth gwrs, wedyn bydd gennych chi genhedlaeth gyfan o blant sydd wedi tyfu i fyny gyda phroblemau tlodi. Mae'n bwysig, mae'n hollbwysig, ond nid yw'n mynd i ddarparu'r rhyddhad uniongyrchol hwnnw.  

Y broblem gyda'r olaf, trwy ddiffiniad bron, yw y bwriedir iddo fod yn fesur lliniarol. Felly, mae'n ymdrin ag effeithiau, canlyniadau, symptomau tlodi, nid yr achosion sylfaenol. Ac mae hyn yn ein harwain at y drafodaeth ynglŷn ag a oes angen dull gweithredu newydd arnom, a fyddai, yn y bôn, ar ffurf taliad plant Cymru, yn golygu trosglwyddiad arian parod sy'n daladwy'n uniongyrchol i deuluoedd incwm isel eu hunain. Nawr, mae'n amlwg fod cwestiynau dilys yn codi ynglŷn â'r manylion, a gallwn droi at rai ohonynt yn nes ymlaen—lefel y taliad, pwy fyddai'n gymwys, y pwerau neu'r cytundebau gyda Llywodraeth y DU y byddai eu hangen arnom er mwyn gwneud hyn mor effeithiol â phosibl. Ond cwestiynau eilradd yw'r rhain yn y bôn. Y cwestiwn cyntaf allweddol yw: a ydym yn cytuno mewn egwyddor y byddai hwn yn bolisi cadarnhaol ac y gallai gael effaith fwy na rhai o'r dulliau amgen y cyfeiriais atynt yn gynharach?  

Nawr, nid yw'n syniad gwreiddiol. Mae'n seiliedig ar daliad plant yr Alban o £10 a fydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni i deuluoedd incwm isel. Dechreuodd hynny fel syniad gan y gynghrair o grwpiau gwrth-dlodi yn yr Alban, gyda'r ymgyrch Give Me Five i ychwanegu £5 at y budd-dal plant bob wythnos. Awgrymai'r gwaith modelu arno y byddai hynny hyd yn oed yn codi 30,000 o blant allan o dlodi yn yr Alban. Mae hynny'n dangos mai symiau cymharol fychan—symiau bach i ni efallai—ond gall symiau cymharol fach o arian gael effaith enfawr pan fyddwn yn sôn am deuluoedd sy'n byw ar y llinell dlodi. O'r syniad hwn, datblygodd y syniad o daliad plant yn yr Alban wedi'i osod ar gyfradd uwch ond nad yw'n awtomatig, felly byddai'n rhaid gwneud cais amdano. Amcangyfrifir hefyd y bydd yn cael effaith debyg i godi 30,000 o blant allan o dlodi.  

Cost y polisi yw tua £180 miliwn—£180 miliwn allan o gyllideb Llywodraeth yr Alban o dros £40 biliwn. Wel, wyddoch chi, os yw'n flaenoriaeth, ac mae'n amlwg fod tlodi plant yn flaenoriaeth i Lywodraeth yr Alban, roeddent wedi asesu bod hwnnw'n bris gwerth ei dalu o ystyried yr effaith y mae'n mynd i'w chael ar y niferoedd hynny.

Mae'r dystiolaeth academaidd yn gryf iawn. Mae arian yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau hirdymor plant. Mae plant tlotach yn cael canlyniadau bywyd gwaeth o ran eu hiechyd, eu cyflawniad addysgol, eu cyflogaeth yn y dyfodol a'u rhagolygon incwm eu hunain. Daw hwnnw'n gylch o anfantais sy'n pontio'r cenedlaethau, ac mae tlodi'n cynyddu lefelau straen a phryder, mae rhieni'n llai abl i fuddsoddi yn y nwyddau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar blant ar gyfer eu datblygiad eu hunain. A'r—[Torri ar draws.] Iawn, fe ildiaf.

18:05

Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Hoffwn ofyn i chi: rwy'n cytuno bod angen inni liniaru tlodi plant, wrth gwrs fy mod, ond rwy'n edrych ar The Oxford Review of Economic Policy yn 2010 ac mae'n rhaid imi gywiro datganiad a wnaethoch, sef bod Llafur mewn grym—. Rhwng 1996 pan ddaethom i rym a 2010 pan adawsom, cafwyd gostyngiad enfawr mewn tlodi i bensiynwyr, i deuluoedd â phlant, ac i'r plant eu hunain. Y cwestiwn rwyf am ei ofyn yw—. Mae hynny wedi'i briodoli—a gallaf anfon dolen atoch i'r erthygl, gan nad ydych fel pe baech yn gwybod amdani—i'r cynnydd yn yr arian a roesom tuag at y system fudd-daliadau yn hytrach na'r gostyngiad sydd wedi digwydd. Felly, mae angen inni ystyried y dulliau sydd gennym, a chydnabod ar yr un pryd y dulliau nad ydynt yn ein dwylo ni ac sy'n effeithio arnom.

Cytunaf yn llwyr â chi. Yr achos rwy'n ei wneud, edrychwch, yw y dylem greu ein hofferyn ein hunain oherwydd, fel y dywedodd yr adolygiad systematig mwyaf yn y maes hwn gan Sefydliad Joseph Rowntree, polisïau cymorth incwm fel taliad plant Cymru yw'r offerynnau polisi amlbwrpas gorau oherwydd eu heffaith gronnol ar draws cymaint o agweddau ar fywydau plant a theuluoedd.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn gofyn am y pŵer i greu budd-daliadau newydd. Mae hynny'n golygu y gallem wneud yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud yn ddiweddarach eleni. Rwy'n meddwl, wyddoch chi, y math o ffigurau rydym yn sôn amdanynt, codi degau o filoedd o blant allan o dlodi ar unwaith, dyna fyddai un o'r effeithiau mwyaf y gallai Llywodraeth Cymru ei chael ar fywydau cymaint o bobl, a hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi ysbryd y cynnig hwn. Gadewch inni fwrw ati i gyrraedd y targed o ddileu tlodi plant a osodwyd 20 mlynedd yn ôl.

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu’r degawd o gyni dan Lywodraeth y DU a’i rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru.

2. Yn nodi’r mesurau gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd incwm isel a threchu tlodi.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, codaf i gefnogi gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans AC. Treuliais lawer o amser cyn hyn, fel llawer o rai eraill, yn dadlau ac yn trafod yn y Siambr hon y llu o bolisïau creulon a phwrpasol sydd wedi mynd i mewn i'r hyn a elwir yn doriadau cyni i rwyd y system les. Ond heddiw byddai'n braf, rwy'n credu, pe bai'r cenedlaetholwyr sy'n siarad ar feinciau Plaid Cymru yn cydnabod y gwerth £1 biliwn o fesurau y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'u rhoi ar waith i gefnogi teuluoedd incwm isel a threchu tlodi. Ac yn ddiau mae cynnig Plaid Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos am bob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru yn ddiddorol ac yn bachu'r penawdau, ond yn y manylion y mae'r drwg bob amser.

Fe wyddom—gadewch inni fod yn onest—fod y cenedlaetholwyr yn hoff o ddynwared cenedlaetholwyr yr Alban, ac felly mae Plaid Cymru naill ai'n gwbl anymwybodol neu'n fodlon iawn i anwybyddu'r ffaith bod Llywodraeth yr Alban yn defnyddio—nid yw wedi cael ei grybwyll—pwerau newydd a ddatganolwyd i Senedd yr Alban mewn perthynas â gweinyddu lles. Nid yw'r pwerau a ddefnyddiodd yr Alban i gyflwyno taliadau plant yn yr Alban, fel y dywedwyd, wedi cael eu datganoli i Gymru. Felly, pe bai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno rhywbeth tebyg yng Nghymru, mae'n amlwg y byddai angen i Lywodraeth y DU gytuno i drosglwyddo'r pwerau hyn, ac yn anffodus, maent yn ymddangos yn llawer mwy parod i gipio pwerau Cymru yn ôl. Yn wir, mae datganoli rheolaeth weinyddol dros fudd-daliadau lles i'r Cynulliad yn sicr yn rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei ddymuno, fel y maent wedi dangos heddiw eto, ond credaf fod angen inni edrych ar y dystiolaeth, ac mae angen inni wynebu'r gwir, o gofio'r hyn a ddigwyddodd pan ddatganolodd Llywodraeth Dorïaidd y DU fudd-dal y dreth gyngor, pan wnaethant drosglwyddo'r pwerau hynny, a chwtogi'r arian. Byddai angen ystyried unrhyw gam i'r cyfeiriad hwn yn ofalus iawn.

Ni chredaf ei bod hi'n iawn i ni syrthio i'r fagl o feddwl y byddai cael rheolaeth weinyddol neu weithredol ar nawdd cymdeithasol yn yr un modd yn rhoi cyfle i ni wella canlyniadau cymdeithasol ac economaidd i bobl Cymru. Rydym wedi dysgu trwy brofiad na fyddai Llywodraeth Cymru yn cael lefelau digonol—

18:10

—o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r rhai a fyddai angen y system les.

Rwy'n awyddus iawn i wneud fy mhwyntiau, ond yn fyr, iawn.

Nid yw'n glir o'ch dadl a ydych o blaid datganoli gweinyddu budd-daliadau neu yn erbyn.

Mewn gwirionedd, gallai olygu llai o gefnogaeth i ddinasyddion yr effeithir arnynt. Fe ddof at y pwynt rydych yn ei wneud.

Ni all Llafur Cymru fod yn asiantau ar ran Llywodraeth Dorïaidd y DU yng Nghymru. Byddai cael rheolaeth weinyddol mewn meysydd penodol yn golygu gweithredu polisïau rydym yn anghytuno'n sylfaenol â hwy, gan wybod am y niwed y byddent yn ei achosi i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ar eu rhan.

Unwaith eto, mae Plaid Cymru yn barod i achub croen Llywodraeth Dorïaidd y DU drwy alw ar Lywodraeth Cymru i wneud iawn am y diffyg cyllid a achoswyd yn uniongyrchol gan gyni a diwygiadau lles y Torïaid. Os yw Plaid Cymru am helpu plant yng Nghymru sydd ar incwm isel yn ymarferol—a dyna'r pwynt, yn ymarferol—fe wyddant sut y gallant wneud hyn: gallwch gefnogi, a chroesawu, ac egluro, a chyfleu i'r cyhoedd y mesurau, ein mesurau gwrth-dlodi, yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Lafur Cymru. [Torri ar draws.] Byddai hyn yn—[Torri ar draws.] Gwleidyddiaeth aeddfed fyddai hyn. [Torri ar draws.] Fe wyddoch fod cyllideb Llywodraeth Lafur Cymru yn cynnwys—ac nid wyf yn mynd i ddarllen y cynigion drafft; nid wyf am wneud hynny. Fe wyddoch y bydd Llafur Cymru yn parhau i frwydro yn erbyn hyn, yn glaf ac yn iach, oherwydd ein bod yn credu mewn cefnogi a pheidio â niweidio ein dinasyddion.

Felly, ddirprwy gadeirydd, polisïau Torïaidd sydd wedi atgyfnerthu a chreu'r tlodi dyfnaf mewn canrif, a Llafur Cymru fydd yn parhau i'w ymladd yn ymarferol ar lawr gwlad.

Diolch, Lywydd. Mae un o bob tri o blant Cymru'n byw mewn tlodi, ac mae'r ffigur hwn yn codi, ac mae'n gondemniad damniol o effaith agenda gyni greulon y Ceidwadwyr a thoriadau i les yn sgil hynny, ac 20 mlynedd o lywodraethu aneffeithlon gan Lafur Cymru. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi, os nad oes unrhyw newid, fod y ffigur tlodi plant yn debygol o gynyddu i 40 y cant o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi erbyn 2020—eleni, hynny yw—ac mae diwygio lles yn ffactor pwysig.

Pryd bynnag y cyflwynir cynigion radical i fynd i'r afael â hyn, ymateb ceidwadwyr, yn y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur, yw gofyn yn rhethregol, 'Faint y mae hyn yn ei gostio?' Cwestiwn gydag is-destun, 'Faint o dreth rydych chi'n mynd i godi ar fy incwm mawr i dalu am y cynllun ar gyfer pobl dlawd?' Felly, mae'n werth gosod rhywfaint o gyd-destun ar gyfer hyn yn gyntaf. Mae tlodi'n costio £3.6 biliwn o wariant cyhoeddus i Gymru o ran ei ganlyniadau bob blwyddyn. Er enghraifft, mae gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ymdrin â'r afiechydon a achosir gan dlodi. Ac wrth gwrs, bydd y gost o dalu £35 yr wythnos am bob plentyn ar aelwyd incwm isel yn amrywio yn dibynnu ar sut rydym yn diffinio incwm isel a pha mor benodol y mae angen i ni fod. Gydag amcangyfrif o 200,000 o blant yn byw mewn tlodi, byddai rhoi'r taliad i bob plentyn mewn tlodi yn costio oddeutu £364 miliwn y flwyddyn, er y gallai opsiynau eraill i ddiffinio cymhwysedd olygu bod y bil yn cynyddu neu'n lleihau'n sylweddol.

Ar hyn o bryd, rydym am gadw'r holl opsiynau ar y bwrdd am ein bod eisiau lleihau tlodi plant, a thra na fydd gennym bwerau dros weinyddu lles, bydd angen inni negodi â'r Adran Gwaith a Phensiynau fel na fyddai'r taliad arian parod yn cael ei dynnu o fudd-daliadau eraill—ac ni fuaswn yn synnu pe bai'r adran benodol honno'n ddigon milain i wneud hynny. Ond mae'r egwyddor o ychwanegu at incwm yr aelwydydd sy'n ennill y lefelau isaf o gyflog yn un a ddylai gael consensws gwleidyddol, yn seiliedig ar y dystiolaeth o'i heffeithiolrwydd.

Mae rhai rhannau o'r cyfryngau yn y DU wedi bod yn ymladd rhyfel propaganda di-baid i argyhoeddi pobl bod y problemau economaidd sy'n eu hwynebu naill ai'n fai ar fewnfudwyr neu'r tlawd anhaeddiannol, da i ddim, yn hytrach na Wall Street yn amnewid diffyg credyd. Mae ychwanegu at incwm teuluoedd incwm isel yn gweithio. Mae hyd yn oed y cylchgrawn Americanaidd asgell dde The Atlantic yn cefnogi'r egwyddor hon, ac mae'n dadlau:  

Mewn llawer o achosion, mae rhaglenni arian parod yn llawer mwy effeithiol na throsglwyddiadau mewn nwyddau wrth droi doleri a wariwyd yn ganlyniadau cadarnhaol.

Nid oes yr un o'r rhaglenni a werthuswyd o bob rhan o'r byd yn gweld bod taliadau arian parod yn arwain at fwy o ddefnydd o dybaco neu alcohol fel y byddai'r propaganda rhagfarnllyd bob amser yn dymuno i bobl ei gredu. Dengys y dystiolaeth fod y rhaglenni hyn yn rhatach na dewisiadau amgen. Felly, y ffyrdd rhataf a mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan incymau isel yw sicrhau bod yr incwm hwnnw'n uwch. Pwy fyddai wedi meddwl y fath beth? Felly, gyda Chymru'n profi'r cyfraddau uchaf o dlodi plant yn y DU, ac 20 mlynedd o fentrau aflwyddiannus a chyfyngu ar yr hyn y dylai Cymru fod wedi bod yn ei wneud, onid yw'n bryd bellach am newid radical i'n dull o weithredu? Mae Plaid Cymru'n credu hynny.

18:15

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, sydd, unwaith eto, yn ailadrodd y problemau sy'n wynebu teuluoedd a grybwyllwyd yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gymunedau lleol yn gynharach. Gan siarad am welliant Llywodraeth Cymru, mae'n rhagweladwy, gwaetha'r modd, ei fod unwaith eto wedi ceisio symud y bai am ei methiant ei hun i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru, gan ailadrodd ei dadl dreuliedig ei hun am gyni yn lle hynny, yn hytrach nag ysgwyddo cyfrifoldeb am ei gweithredoedd ei hun.

Na wnaf. Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf lawer i fynd drwyddo.

Y gwir amdani yw bod Llywodraeth Lafur wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 1999, wedi'i chynnal yn y gorffennol, gellid dadlau, gan Blaid Cymru hefyd. Ond pa gynnydd a wnaed? Mae adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos, o bedair gwlad y DU, mai Cymru sydd wedi bod â'r gyfradd dlodi uchaf yn gyson ers 20 mlynedd. Hyd yn oed cyn y cwymp ariannol, dengys ffigurau mai yng Nghymru roedd y lefelau uchaf o dlodi plant yn y DU: 29 y cant yn 2007 a 32 y cant yn 2008. Yn y cyfamser, mae Dileu Tlodi Plant yn dangos mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd yn lefel tlodi plant, gyda 29.3 y cant o blant yn byw mewn tlodi yn 2017-18.

Gwariwyd bron i £500 miliwn ar Cymunedau yn Gyntaf, ond canfu Sefydliad Bevan na wnaeth ostwng prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif llethol o gymunedau, a llai fyth yng Nghymru gyfan. Ym mis Hydref 2018 nododd papur briffio Sefydliad Bevan ar dlodi yng Nghymru mai Cymru oedd â'r boblogaeth fwyaf o unigolion yn byw mewn tlodi yn y DU cyn cyfrif costau tai. Rhwng 2014 a 2017, roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn tlodi yng Nghymru yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU, ac roedd y gyfradd tlodi ymhlith pensiynwyr yng Nghymru yn llawer uwch nag yng ngwledydd eraill y DU. Mae hyn, wrth gwrs, wedi'i waethygu gan y ffaith mai gan Gymru y mae'r cyflogau isaf a'r lefel uchaf o gontractau cyflogaeth nad ydynt yn barhaol ym Mhrydain gyfan.

18:20

Rwy'n ddiolchgar iawn. Diolch. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn a ddywedoch chi, ond a fyddech hefyd yn cydnabod effaith y newidiadau i fudd-daliadau, fel yr amlinellodd Adam Price yn ei araith? Ac a gaf fi ofyn i chi, fel rhywun y gwn ei bod yn Geidwadwr egwyddorol, i fynd yn ôl at eich cyd-aelodau Ceidwadol yn Llundain a gofyn iddynt gael gwared â'r rheol dau blentyn, yr hyn a alwn yn 'gymal trais'? Mae'n arswydus o greulon. Beth bynnag yw ein barn am ymddygiad y rhieni, nid y trydydd plentyn sy'n gyfrifol am y ffaith ei fod wedi'i eni i deulu tlawd. A gaf fi ofyn i chi wneud hynny os gwelwch yn dda? Oherwydd rwy'n credu o ddifrif eich bod yn poeni am hyn, ond rwy'n meddwl nad yw llawer o'ch cydweithwyr yn Llundain yn deall effaith y rheol ofnadwy honno. Does bosibl eich bod chi'n cytuno bod yn rhaid i fenyw orfod honni iddi gael ei threisio gan ei gŵr er mwyn gallu cael arian ar gyfer ei thrydydd plentyn?

Diolch, Helen Mary Jones.

Er bod cynnig Plaid Cymru yn ychwanegu cywair mwy adeiladol yn y ddadl hon, mae'n anodd craffu ar y cynigion, y costau a'r sylfaen dystiolaeth a ddefnyddiwyd. Fodd bynnag, nid yw gwneud dim mwy na darparu rhagor o arian yn sicrhau manteision hirdymor go iawn i fywydau pobl bob amser. Er bod incwm yn chwarae rhan bwysig yn atal tlodi, mae melin drafod Policy Exchange yn awgrymu ein bod, drwy ganolbwyntio ar drosglwyddiadau lles ac incwm, yn trin symptomau'r broblem yn hytrach na mynd i'r afael ag achosion dyfnach incwm isel a thlodi, gan gynnwys: diweithdra, safonau addysgol gwael, diffyg sgiliau a phroblemau cymdeithasol megis camddefnyddio sylweddau. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn mae angen ymateb ar ran y Llywodraeth sy'n canolbwyntio mwy ar y gymuned.  

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'n gyson am gydgynhyrchu gwasanaethau lleol er mwyn grymuso cymunedau lleol a chreu gwladwriaeth sy'n galluogi. Dadleuwyd hyn yn angerddol gan Mark Isherwood yn y ddadl flaenorol a cheir rhai enghreifftiau cadarnhaol o hyn yng Nghymru. Nod dull bywoliaeth gynaliadwy Oxfam yw gwella bywydau'r rhai sy'n profi tlodi ac anfantais, gan ganolbwyntio ar ddull cyfranogol sy'n seiliedig ar y gydnabyddiaeth fod gan bawb asedau y gellir eu datblygu i'w helpu i wella eu bywydau. Mae Oxfam wedi gweithio mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau i wreiddio'r dull bywoliaeth gynaliadwy o fewn yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru drwy ddarparu hyfforddiant ar gyfer staff, gyda 50 y cant o'r staff hyfforddedig a samplwyd yn dangos lefelau uwch o foddhad defnyddwyr neu'n nodi gwell canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi ym mhobl Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r anghyfiawnder sy'n wynebu cymunedau. Byddem yn sefydlu cronfa ar gyfer trefi glan môr a chronfa ar gyfer trefi marchnad i fynd i'r afael ag amddifadedd yn ein trefi, gan alluogi cymunedau i ariannu'r gwasanaethau y mae pobl leol eu hangen yn well. Byddem yn canolbwyntio ar fuddsoddi yn sgiliau pobl i'w galluogi i gael swyddi mwy medrus sy'n talu'n dda—gan roi £20 miliwn ychwanegol tuag at addysg bellach—a byddem hefyd yn ariannu mwy o ofal plant o ansawdd uchel er mwyn galluogi rhieni i fanteisio ar gyfleoedd gwaith i gynnal eu teuluoedd.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn diogelu incwm teuluoedd gweithgar a bydd yn codi'r trothwy yswiriant cenedlaethol i £9,500 ac yn cynyddu'r cyflog byw 6.2 y cant o fis Ebrill 2020. Llywodraeth Geidwadol sy'n rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Mae'r ddadl hon wedi rhoi cyfle defnyddiol i drafod rhai o'r problemau sy'n wynebu teuluoedd ledled Cymru, megis incwm isel a thlodi.  

Ydw. Fodd bynnag, os ydym am fynd i'r afael â'r materion hyn, rhaid inni ganolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor, yn hytrach na mewnbynnau tymor byr, a grymuso unigolion a chymunedau i gyd-gynllunio gwasanaethau lleol sy'n diwallu eu hanghenion. Diolch i Blaid Cymru am eich dadl heddiw.

Yn amlwg, mae tlodi a thlodi plant yng Nghymru yn faterion arwyddocaol iawn i ni ac i'r rhai sy'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol sydd wrth wraidd y cynnydd y mae angen inni ei wneud yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw a'r ffocws y mae'n ei ganiatáu yma yn y Siambr. Dylem fod yn trafod y materion hyn a dylem fod yn edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol ymlaen a ffyrdd newydd posibl o fynd i'r afael â'r problemau hyn. Mae'n anodd, a chredaf ein bod wedi cydnabod hynny ar hyd yr amser, o gofio bod llawer o'r dulliau a fyddai'n ein galluogi i drechu tlodi'n fwy effeithiol yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth y DU. A phan fydd Llywodraeth y DU yn Llywodraeth Dorïaidd, rydym yn gweld y canlyniadau. Rydym wedi gweld y canlyniadau drwy gydol y blynyddoedd o gyni, ac ofnaf y byddwn yn gweld canlyniadau Llywodraeth Boris Johnson yn y DU dros y blynyddoedd i ddod.

Felly, credaf fod angen inni edrych i weld beth y gallwn ei wneud yma yng Nghymru gyda'r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd, ond hefyd pa ddatganoli pellach a allai ddigwydd i ychwanegu dulliau o weithredu at y rhai sydd ar gael i ni ar hyn o bryd, i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad. Dyna pam y mae'r pwyllgor rwy'n ei gadeirio, sef y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi gwneud gwaith ar y system fudd-daliadau. Oherwydd, fel y clywsom eisoes, mae'r system fudd-daliadau yn rhan bwysig iawn o'r darlun cyffredinol; oherwydd, oes, mae angen inni gynyddu incwm teuluoedd tlawd ac mae angen inni hefyd leihau'r arian sy'n rhaid iddynt ei wario. Mae sefydliadau fel Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan wedi gwneud y pwyntiau hynny'n gwbl glir. Felly, un ffordd o wella incwm teuluoedd tlawd yng Nghymru fyddai gwella'r system budd-daliadau lles.

Wyddoch chi, mae rhai pethau o dan ein rheolaeth ar hyn o bryd, a gallem gyflwyno gofynion newydd—er enghraifft, o ran y nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau. Rwy'n credu bod cryn dipyn o waith i'w wneud ar hynny o hyd. Yn ein hadroddiad, rydym yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol gydag arian angenrheidiol, er mwyn iddynt allu chwarae mwy o ran. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn wella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yng Nghymru yn gyffredinol.

Rydym yn edrych ar gredyd cynhwysol. Rwy'n credu ein bod yn gwybod bod diffygion y credyd cynhwysol wedi'u cydnabod yn eang gan asiantaethau ac elusennau yng Nghymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn a chyflwyno gwelliannau. Wyddoch chi, yr aros am daliad cychwynnol, taliadau misol yn hytrach na phob pythefnos, y diffyg dewis i hawlwyr budd-daliadau o ran hyblygrwydd—er enghraifft, i sicrhau bod yr elfen budd-dal tai yn cael ei thalu'n uniongyrchol i'r landlord lle credant y byddai hynny fanteisiol iddynt—ac yn wir, yn rhannu taliadau rhwng cyplau lle ceir problemau mewn perthynas a rheoli drwy orfodaeth efallai. Mae llawer o hyblygrwydd y gellid ei gyflwyno pe bai gan Lywodraeth Cymru bŵer i wneud hynny, yn hytrach na cheisio negodi rhywbeth gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau.  

Oes, mae yna bosibiliadau o ran budd-daliadau newydd, o ran datganoli'r budd-daliadau presennol. Gwyddom fod y rheolau a'r rheoliadau sy'n ymwneud â sancsiynau'n broblemus, a chredaf y gallem gael dull llawer gwell o weithredu pe bai gennym bŵer i newid hynny yma yng Nghymru. Mae'r broses asesu ar gyfer budd-daliadau salwch ac anabledd yn bell o fod yn briodol, ac mae canran yr apeliadau llwyddiannus yn dangos yn eithaf clir y diffygion yn y broses gychwynnol.

Wyddoch chi, mae llawer iawn mwy y gellid ei wneud. Rydym yn archwilio hynny i gyd a llawer mwy yn ein hadroddiad. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb, fe wyddom hynny, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i gwaith ei hun ar rai o'r agweddau hyn, a gwn fod ganddi ddiddordeb mawr yn adroddiad y pwyllgor. Maes o law, wrth gwrs, bydd gennym ymateb Llywodraeth Cymru pan fydd y gwaith pellach—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf?

18:25

Yn fyr. Tybed a yw wedi cael amser i fyfyrio ar un o'r cynigion mwy radical neu drafodaethau a gododd, sef: os yw'r undeb yn parhau fel y mae, ymddengys nad yw nofio yn erbyn y llif fel hyn yn erbyn yr hyn a wna Llywodraeth y DU yn barch cydradd, yn parchu'r hyn sy'n digwydd, yn cydweddu â'n polisïau. Felly, byddai'n ddiddorol gweld, ar fecanweithiau'r cyd-Weinidogion ac yn y blaen, a oes ffordd o ymgorffori lles a budd-daliadau a'r system nawdd cymdeithasol o fewn hynny. Felly, pe bai Gweinidogion y DU yn cyflwyno cynigion radical, gallem ddweud wrthynt, 'Wel, fe ddywedaf wrthych beth fydd yn ei wneud yng Nghymru, felly mae arnom eisiau rhyw fecanwaith digolledu i ymdrin â hynny mewn gwirionedd'. Nawr, nid wyf yn dweud y byddai hyn yn digwydd, ond beth mae'n ei feddwl o hynny?

Wel, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Huw, am yr ymyriad hwnnw. Rydym yn edrych ar hynny yn yr adroddiad, fel y gwyddoch, Huw, a gwn eich bod yn awyddus iawn i ystyried y dull hwnnw o weithredu yn ystod gwaith y pwyllgor. Felly, rydym yn cydnabod bod angen edrych ar lais cryfach yng Nghymru. Pan ddaw'n bryd inni drafod yr adroddiad, rwy'n siŵr y byddwch yn cymryd rhan ac y byddwn yn clywed safbwyntiau amrywiol ar hynny efallai. Ond wyddoch chi, ynghyd â llais Cymreig cryfach yn y system fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd, mae angen inni edrych ar ddatganoli, fel y disgrifiais—a thu hwnt i hynny yn wir. Ac fel y dywedaf, mae hynny i gyd wedi'i nodi yn yr adroddiad. Cawn ymateb Llywodraeth Cymru a dadl maes o law, ond credaf fod y rhain yn faterion y mae angen eu hystyried a'u harchwilio'n ofalus iawn, o gofio pwysigrwydd taliadau budd-daliadau lles i rai o'r bobl dlotaf a'r teuluoedd tlotaf yn ein cymunedau. Pe na baem yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r materion hyn, nid wyf yn credu y byddem yn gwasanaethu'r cymunedau hynny cystal ag y gallem.

18:30

Mae lleihau’r cynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru, gan anelu at ddileu tlodi plant yn llwyr, yn haeddu sylw llawn gan Lywodraeth ein gwlad—sylw llawn, blaenoriaeth uchel a gweithredu brys. Yn anffodus, nid dyna’r sefyllfa.

Siomedig iawn oedd clywed y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y bore yma yn dweud nad oedd hi yn hyderus o gwbl fod modd gwella ar sefyllfa argyfyngus ble mae 29 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Bron fel ei bod hi wedi rhoi’r ffidil yn y to yn llwyr gan luchio’r bai ar newidiadau lles y Llywodraeth yn Llundain. Nid gwaith Llywodraeth ydy rhoi’r ffidil yn y to; gwaith Llywodraeth ydy troi pob carreg—gweithio'n ddiflino i ganfod atebion a rhoi’r arweiniad cwbl glir er mwyn gyrru newid. Dydw i felly ddim wedi fy argyhoeddi o gwbwl fod y Llywodraeth yma yn wirioneddol ceisio mynd at wraidd y broblem. Does yna ddim hyd yn oed strategaeth draws-Lywodraeth ar daclo tlodi. I mi, mae hynny yn dweud y cwbl.

Fe gollwyd cyfle, yn fy marn i, i wneud gwahaniaeth efo'r cynllun gofal plant 30-awr. Mae hwn yn gynllun cwbl wallus. Mae o'n gynllun sy'n cau allan plant o rai o deuluoedd tlotaf Cymru ac yn wir yn gosod y plant hynny o dan anfantais o gymharu â’u cyfoedion. Oherwydd dydy plant o deuluoedd lle nad ydy’r rhieni yn gweithio yn gymwys ar ei gyfer. Pam yn y byd y byddai Llywodraeth sy’n ceisio dileu tlodi plant yn blaenoriaethu plant o deuluoedd lle mae rhieni mewn gwaith o flaen plant lle nad ydy'r rhieni yn gweithio? Pam y byddai Llywodraeth sydd am ddileu tlodi plant yn gwahaniaethu yn erbyn rhieni sy’n fyfyrwyr a rheini ar gontractau dim oriau?

Mae’r cynllun wedi wynebu sawl tro trwstan yn barod, ac wedi ei feirniadu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a gan y Comisiynydd Plant am nad oedd yn gymwys i bawb. Mi ddoeth yna dro trwstan pellach pan roedd rhaid rhoi heibio’r bwriad o’i weinyddu drwy Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, ac fe wastraffwyd £1 miliwn yn y broses, ac erbyn hyn, yr awdurdodau lleol sydd yn ysgwyddo’r bach gweinyddol, er mai dros dro ydy'r trefniant hynny a does yna ddim sicrwydd i'r tymor hir.

Ac yna, fe ddangosodd gwerthusiad o’r cynllun fod dryswch pellach wedi codi wrth i rieni orfod talu am ofal yn ystod y gwyliau pan oedden nhw dan yr argraff ei fod o ar gael am ddim. Fe gafodd un rhiant sioc anferth o dderbyn bil am dros £800 am ofal plant un mis yn ystod yr haf ar ôl peidio â sylweddoli bod ei hawl hi wedi dod i ben. Mae yna ddryswch hefyd am sut mae’r cynnig yn effeithio ar gredydau treth a materion efo rhieni hunangyflogedig yn profi eu cymhwysedd ar gyfer y cynllun.

Dyma beth ydy traed moch go iawn. Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod gofal plant ar gael i bob plentyn. Mae mynediad at ofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd yn allweddol yn y dasg o ddileu tlodi plant. Mae o hefyd yn allweddol ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad.

Yn ogystal â chyflwyno’r taliad plant wythnosol, fe fyddai gan Blaid Cymru bolisïau priodol eraill yn cynnwys polisi gofal plant a blynyddoedd cynnar uchelgeisiol a phell-gyrrhaeddol. Ac fe fyddem ni yn mynnu datganoli gweinyddu'r gyfundrefn les i Gymru. Mi fyddai gan Lywodraeth Plaid Cymru yr ewyllys, yr egni a’r tân yn ein boliau i fynd ati i daclo tlodi plant, gan roi iddo fo'r flaenoriaeth uchaf posib. Gwnawn ni ddim—fedrwn ni ddim jest derbyn sefyllfa lle rhagwelir y bydd 39 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi erbyn 2022. Fe fyddwn ni yn mynd ati i daclo'r mater ac yn rhoi'r flaenoriaeth iddo mae o yn ei haeddu. 

18:35

Mae hi wedi bod yn ddadl ddiddorol, ond rydym 20 mlynedd i mewn i'r ganrif hon ac ers troad y mileniwm, mae 2020 wedi bod ar y gorwel, ac mae wedi bod ym meddyliau'r mwyafrif o bobl yn goelcerth ac yn gyrchfan i bob math o bolisïau a dyheadau. Ac rydym yma, felly mae'n werth myfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd, a’r hyn a allai fod eto i'w wneud. 

Felly, 20 mlynedd yn ôl, roedd 223,000 o aelwydydd di-waith yng Nghymru; heddiw, mae'n 182,000—gostyngiad o bron 20 y cant. Nid yw hynny'n ei wneud yn ffigur da; mae'n ei wneud yn ffigur gwell. Ond y duedd fawr yn yr amser hwnnw fu'r cynnydd mewn tlodi mewn gwaith, cymaint felly fel bod mwy o blant mewn tlodi bellach mewn cartrefi sy'n gweithio nag mewn rhai di-waith. A beth yw'r rheswm am hynny? Y rheswm yw bod y Llywodraeth Dorïaidd yn y DU yn y degawd diwethaf wedi gorfodi newidiadau cosbol i fudd-daliadau a newidiadau treth sy'n golygu nid yn unig nad yw bod yn ddi-waith yn talu, ond yn aml, nid yw gweithio’n talu chwaith. Mae aelwydydd un rhiant sy'n gweithio yn arbennig o agored i dlodi, ac erbyn hyn mae gennym Brif Weinidog a fu unwaith yn dadlau y dylid gorfodi 

amddifadrwydd sicr ar raddfa Fictoraidd

ar 'ferched ifanc' i wneud iddynt

feddwl ddwywaith ynglŷn â chael babi.

Daw hynny o geg dyn na all hyd yn oed ddweud, neu sy'n gwrthod dweud, faint o blant sydd ganddo. Ond mae wedi cael yr hyn roedd ei eisiau, oherwydd rhieni sengl bellach yw bron i chwarter y rhai sy’n defnyddio banciau bwyd yr ystyrir bod bron bob un ohonynt yn byw mewn amddifadrwydd. Hyd at 2012, yn oes Fictoria y byddai'r gair 'amddifadrwydd' yn ymddangos. [Torri ar draws.] Gallwch edrych am y dyfyniad; fe anfonaf y ddolen atoch. 

Felly, yn anffodus, y gwir amdani yw y bydd angen i Lywodraeth Cymru barhau i liniaru effaith tlodi sy'n cael ei bweru gan y Torïaid yn y blynyddoedd i ddod. Mae hynny'n golygu parhau â'r gwaith da ar bethau fel y cyflog cymdeithasol, gofal plant am ddim—beth bynnag fo'i broblemau, ni fyddwn yn cefnu arno—yn ogystal â pholisïau strwythurol ar sgiliau, addysg a datblygu economaidd. A bydd cadw mwy o arian ym mhocedi pobl yn rhan hanfodol o hynny. Dylem geisio ehangu’r nifer fawr o bolisïau sy'n cefnogi pobl, a chlywsom gyd-Aelodau yn siarad yma heddiw am syniadau a pholisïau sy'n cefnogi pobl; polisïau sy'n eu helpu i gadw'r arian yn eu pocedi. 

Roeddwn am sôn yn benodol heddiw am bwysigrwydd cymunedau cryf fel clustog yn erbyn cymdeithas. Cyn y Nadolig, cyhoeddodd elusen Ymddiriedolaeth Trussell ei hadroddiad 'State of Hunger'. Nid yw'n syndod iddo ddod o hyd i dystiolaeth glir fod

maint ac amseriad pum newid allweddol i fudd-daliadau,

sef

sancsiynau, Credyd Cynhwysol, ‘treth ystafell wely’, lefelau budd-daliadau, asesiadau Taliad Annibyniaeth Personol, wedi arwain at effeithiau sylweddol ac arwyddocaol

ar y defnydd o fanciau bwyd. Felly, beth wnaeth y Torïaid? Fe wnaethant bensaer hynny, Iain Duncan Smith, yn farchog yn anrhydeddau'r flwyddyn newydd. Felly, mae'n amlwg eu bod wedi newid, onid ydynt? 

Profiadau bywyd heriol ac afiechyd oedd y rhesymau eraill dros y newidiadau hynny, yn ogystal â diffyg cymorth anffurfiol, a dyma lle gallwn wneud rhai newidiadau. Fel yr eglura'r adroddiad, roedd mwyafrif helaeth y bobl a gyfeiriwyd at fanciau bwyd naill ai wedi dihysbyddu'r cymorth gan deulu neu ffrindiau, yn meddu ar rwydwaith cymdeithasol heb fawr o adnoddau, neu wedi methu cael hyd i gymorth oherwydd ynysu cymdeithasol. Yn sicr, gallwn gamu i'r bwlch hwnnw. Felly, o ran rhoi’r cymorth hwnnw, mater i ni fydd hynny, oherwydd mae un peth yn sicr yn fy meddwl: mae'n annhebygol iawn y bydd Llywodraeth y DU—ac maent yn gwadu hynny yn y fan acw—yn helpu i newid unrhyw beth. Nid yw’r dyn rwyf newydd ei ddyfynnu’n mynd i newid eu meddyliau na’u teimladau’n sydyn. Ei eiriau ef nid fy rhai i yw'r geiriau hynny. Felly, yn onest, byddem yn ffôl braidd pe baem yn meddwl, yng Nghymru, fod y Torïaid yn San Steffan, dan arweiniad dyn sy'n credu y dylem gosbi menywod i'w hatal rhag cael babi, yn mynd i fod yn dosturiol rywsut—fe anfonaf y ddolen atoch—ynglŷn â dyfodol yr union bobl hynny. 

18:40

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn? 

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw yn lle'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 

Rydym yn gwybod bod dadansoddiad a wnaed ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amcangyfrif y bydd tlodi cymharol plant yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd i ddod, gan wthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi o bosibl erbyn 2021-22. Fel y clywsom heddiw, nid yw ond yn iawn y dylai hyn fod yn destun pryder i bob un ohonom ni waeth beth yw ein plaid neu ein swydd. Dylai un plentyn mewn tlodi fod yn un yn ormod bob amser. 

Ac er nad yw’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau ei glywed, fel y clywsom dro ar ôl tro, nid yw effaith ddinistriol cyni a diwygio lles yn newyddion ffug; mae'n realiti anffodus, eglur ac erchyll i lawer gormod o bobl. Mae'r rhes o doriadau lles creulon wedi newid yn sylweddol yr hyn a ddylai fod yn rhwyd ​​ddiogelwch yn system sy'n cosbi pobl sydd ei hangen ac yn dibynnu arni pan fyddant fwyaf o’i hangen. Ac fel y clywsom heddiw, yn ystod y ddadl heddiw, mae'r diwygiadau lles hyn wedi gweld dileu budd-dal plant i'r trydydd plentyn, toriadau i fudd-daliadau anabledd a chreu cyfundefn o sancsiynau niweidiol. 

Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos ar gyfer pob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru. Mae'n bolisi diddorol, ond fe'i cyflwynir i ryw raddau fel ateb i bob problem i liniaru anghydraddoldeb sylfaenol a systemig yn llwyr. Fel y noda Adam Price, mae’n amlwg fod angen mwy o fanylder ac mae cwestiynau dilys i'w gofyn ynglŷn â'r manylion hynny. 

Clywsom ei fod wedi'i fodelu ar y cynllun y mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu ei weithredu, lle bydd £10 yr wythnos yn cael ei dalu ar gyfer pob plentyn mewn teuluoedd incwm isel, a bydd yn cael ei gyflwyno i deuluoedd cymwys erbyn diwedd 2022. Gall Llywodraeth yr Alban weithredu eu polisi am fod ganddynt y cymhwysedd deddfwriaethol sy’n angenrheidiol i ddiwygio budd-daliadau nad ydynt yn ddibynnol ar yswiriant cenedlaethol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar y cymhwysedd hwn, felly pe baem yn gwneud hyn, byddai angen dull amgen arnom i’w weithredu. 

Gallai'r dull hwnnw fod â goblygiadau i hawliau budd-daliadau yng Nghymru, gan y byddai'n cael ei drin fel incwm ychwanegol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac ni fyddem am weld sefyllfa a fyddai mynd ag arian oddi wrth deuluoedd incwm isel. Wrth gwrs, gallem ofyn am y cymhwysedd i ddiwygio budd-daliadau, ond mae angen gwneud hyn gyda’n llygaid yn agored i unrhyw ganlyniadau anfwriadol nad oes mo'u heisiau. Fel y clywsom Aelodau'n dweud heddiw, pe na bai cyllid yn dilyn y cyfrifoldeb, byddai angen i'r adnoddau ddod o rywle arall ac o wneud hynny ni fyddem am roi'r baich hwnnw ar y rhai lleiaf abl i'w ysgwyddo. 

Clywsom heddiw am yr amcangyfrif o gost y polisi. Rhoddwyd amcangyfrifon cychwynnol y byddai polisi o'r fath yn cyrraedd oddeutu 240,000 i 300,000 o blant, gan edrych ar gyfrifiadau bras cychwynnol o £525 miliwn—i fyny at £25.25 miliwn y flwyddyn. Dyna arian y byddai'n rhaid dod o hyd iddo o rywle arall. 

Rwy'n credu bod John Griffiths wedi gwneud pwyntiau pwysig o ran y gwaith y mae’r pwyllgor wedi’i wneud a hefyd y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar sut yr edrychwn ar y posibilrwydd o ddatganoli gweinyddu lles, ac ar yr un pryd, sut y gwnawn y defnydd gorau posibl o'r pwerau a'r adnoddau sydd ar gael inni ar hyn o bryd. 

Dyna pam y mae ein cynnig diwygiedig yn nodi bod y Llywodraeth hon yn buddsoddi bron i £1 biliwn mewn ystod eang o fesurau sy'n cyfrannu at drechu tlodi. Mae hyn yn cynnwys £244 miliwn bob blwyddyn yng nghynllun gostyngiad y dreth gyngor, gydag un o bob pum aelwyd yn elwa o ostyngiad yn y dreth gyngor; mwy na £125 miliwn yn y grant cymorth tai; a chymorth blynyddoedd cynnar parhaus i blant a theuluoedd trwy'r grant plant a chymunedau, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg. Yn ogystal, rydym wedi dyrannu mwy na £19 miliwn yn 2020-21 ar gyfer pecyn o fesurau wedi'u targedu'n benodol i helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, sy'n cynnwys pobl sy'n byw mewn tlodi. Lle mae'r Llywodraeth wedi cymryd camau uniongyrchol i ddylanwadu ar fywydau teuluoedd a phlant ledled Cymru, dengys y dystiolaeth inni fod y polisïau'n cael effaith gadarnhaol ar achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb. Erbyn hyn mae 300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999 ac mae cyfran y bobl o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau wedi mwy na haneru.  

Ers datganoli, mae nifer yr aelwydydd di-waith yng Nghymru wedi gostwng, fel y clywsom, o 223,000 i 173,000, ac mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio'n benodol i gefnogi’r gwaith o sicrhau economi gref, wydn a deinamig. Ochr yn ochr â'r polisïau a'r cynlluniau hyn, rydym wedi datblygu cymorth trawslywodraethol i unigolion a theuluoedd er mwyn darparu cyflog cymdeithasol mwy hael. Mae hyn yn cynnwys gwerth cyfwerth ag arian parod sy'n arwain at adael mwy o arian ym mhocedi dinasyddion Cymru; cymorth sy'n golygu bod rhai teuluoedd yng Nghymru fwy na £2,000 y flwyddyn yn well eu byd nag y byddent fel arall. 

Rydym hefyd yn cynnal adolygiad o'r holl raglenni a gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Bydd hyn yn helpu i lywio’r modd y blaenoriaethwn ein cyllid i gefnogi rhaglenni wrth symud ymlaen, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau yn y gwanwyn. Ond gadewch i ni fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn hunanfodlon o bell ffordd a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ddulliau ac opsiynau sydd ar gael i alluogi a grymuso unigolion, aelwydydd a chymunedau ledled y wlad. Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig diwygiedig. Diolch yn fawr.

18:45

Dechreuodd y ddadl gyda Rhianon Passmore yn canolbwyntio ar y cwestiwn a oes gennym y pŵer. Hynny yw, pan benderfynodd Rhodri Morgan fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ychwanegu at y gronfa ymddiriedolaeth plant, ni welais lawer o drafod na hunanymholi bryd hynny; dyna oedd y peth iawn i'w wneud ac os nad oedd gennych chi'r pŵer, fe fyddech yn gofyn amdano. A dyna'r ymagwedd Calman yn awr. A chredaf eich bod ar ei hôl hi braidd, Rhianon, hyd yn oed o fewn eich plaid eich hun, oherwydd roedd John Griffiths yn adlewyrchu esblygiad meddwl ar ochr y Blaid Lafur i’r cwestiwn. Rwy’n credu bod y ffaith bod y Llywodraeth wedi penderfynu gohirio ei hymateb i argymhellion adroddiadau'r pwyllgor sy'n ymwneud â datganoli lles oherwydd eu bod eisiau cael ymateb Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod yna newid meddwl.  

Rhianon Passmore a gododd—

Mae arnaf ofn fod fy amser yn gyfyngedig iawn.

Rwy’n meddwl mai Leanne a dynnodd sylw at y cyfoeth o dystiolaeth a geir yn rhyngwladol ar werth taliadau trosglwyddo arian parod yn hytrach na thaliadau o fath arall. Mae dadl yn mynd rhagddi wrth gwrs rhwng manteision gwasanaethau sylfaenol cyffredinol ac incwm sylfaenol cyffredinol, y cyflog cymdeithasol y cyfeiriodd Joyce Watson ato, ond mae'r dystiolaeth yn eithaf ysgubol mewn gwirionedd fod taliadau trosglwyddo gan y wladwriaeth i deuluoedd incwm isel yn ganolog i greu gwladwriaeth les. Mae’n gwneud gwahaniaeth materol enfawr i fywydau pobl mewn pob math o ffyrdd: mae'n lleihau iselder ôl-enedigol; mae'n lleihau ysmygu yn ystod beichiogrwydd; mewn gwirionedd, mae’n cadw plant yn fyw am mai tlodi yw un o'r ffactorau allweddol yng nghyfraddau marwolaethau cynnar plant o dan un oed. Felly, mae iddo ganlyniadau cadarnhaol enfawr yn gyffredinol. 

Credaf fod Siân Gwenllian wedi ein hatgoffa bod y methiant y cyfeiriais ato—methiant Llywodraeth y DU i gyrraedd y targed 20 mlynedd—hefyd yn fethiant yma yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, mabwysiadwyd y targed hwnnw tua 2003, a chafodd ei ddileu yn 2016. Rwy'n deall y cyd-destun i hynny, ond mae gennym gyfle yn awr i wynebu’r her a derbyn nad yw’r atebion yn mynd i ddod o San Steffan, ac mewn gwirionedd gallwn ddysgu gwersi o'r model y mae Llywodraeth yr Alban yn ei ddatblygu, edrych ar y gwersi yno a mynd hyd yn oed ymhellach na hwy o ran lefel y budd rydym yn siarad amdano. 

Wrth gwrs ei bod hi'n iawn, fel y dywedodd y Gweinidog, na all taliad plant yng Nghymru fod yn ateb i bob problem. Wrth gwrs fod yn rhaid i chi fabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr tuag at leihau tlodi, ond mae'r holl dystiolaeth yn dweud yn gynyddol fod yn rhaid i daliadau trosglwyddo fod yn ddull canolog gan unrhyw Lywodraeth. A phan fo gennym Lywodraeth yn San Steffan nad yw'n cyflawni ei chyfrifoldebau, mae'n rhaid inni lenwi'r gwactod hwnnw, onid oes? Hynny yw, dyna pam y cawsom ein creu: ar gyfer yr union amgylchiadau hyn. 

Roedd y dadleuon yn yr adroddiad yn erbyn datganoli lles yn ddiddorol, ac roedd rhai ohonynt yn canolbwyntio ar 'undod cymdeithasol' fel y'i gelwir. Wel, yn gynyddol, nid yw’n undod cymdeithasol mwyach; mae'n undod gwrthgymdeithasol—ydy? Hynny yw, mae'r math o newidiadau yn y polisïau budd-daliadau ac ati yn mynd â ni i sefyllfa, fel y clywsom, lle gallem weld hyd at 40 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi. Felly, mae'r syniad hwn mewn gwirionedd yn rhan o'r pecyn sydd ei angen arnom yn awr i ddiogelu ein plant. Oherwydd, ni all y plant hyn fforddio aros pum mlynedd i ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan, neu 10 mlynedd yn y senario waethaf y mae rhai yn y Blaid Lafur yn pwyntio ati, yn dibynnu ar ganlyniad yr etholiad ar gyfer yr arweinyddiaeth yn ôl pob tebyg. Edrychwch, ni all y plant hynny fforddio aros, bydd yn rhaid iddynt fyw gyda chanlyniadau hynny am genedlaethau. Gallwn wneud gwahaniaeth. Gadewch i ni edrych ar y pwerau dros les, ond yn enwedig y syniad hwn o greu taliad plant yng Nghymru a fydd yn profi gwerth creu'r sefydliad hwn yn y lle cyntaf.    

18:50

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen at y bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, yw'r un ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adfywio cymunedol. Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, un yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.

NDM7221 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 1, 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1 a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

NDM7221 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM7221 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022.

2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr.

3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7221 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar deuluoedd incwm isel. Unwaith eto, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig, wyth, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliant.

NDM7224 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.

NDM7224 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7224 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu’r degawd o gyni dan Lywodraeth y DU a’i rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru.

2. Yn nodi’r mesurau gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd incwm isel a threchu tlodi.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7224 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Cymru Dairieithog: Y gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd tramor modern

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar Suzy Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Suzy.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn 2012, gyda chaniatâd Angela Burns, a oedd yn llefarydd yr wrthblaid ar addysg ar y pryd, gwneuthum rywbeth rwy’n meddwl bellach tybed a oedd wedi’i ganiatáu mewn gwirionedd, oherwydd lansiais ein polisi Cymru dairieithog ar y maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe wneuthum hynny yn Ffrangeg, a dyna pam nad wyf yn siŵr a oedd yr hyn a wneuthum o fewn y rheolau. Fe newidiais i'r Gymraeg yn eithaf cyflym, mae'n rhaid i mi ddweud, yn rhannol oherwydd bod y cyfryngau a oedd yn bresennol yn edrych mor syfrdan. Nawr, nid wyf yn siŵr y byddai'r wasg leol mewn gwledydd bach eraill wedi cael cymaint o sioc mewn sefyllfa debyg. Nid yw cynefindra ag ieithoedd eraill, os nad dealltwriaeth o ieithoedd eraill, yn rhywbeth sy’n peri syndod mewn rhannau eraill o'r byd; nid yw'n digwydd.

Fodd bynnag, sut bynnag yr edrychwch arno—yn ddiwylliannol, yn economaidd neu'n syml o ran gwell cyd-ddealltwriaeth rhyngom â’n cyd-ddyn—rydym o dan anfantais. Rydym yn llai nag y gallem fod, ac yng Nghymru ni allwn fforddio bod yn llai nag y gallem fod. Ac mewn gwirionedd, mae gennym fantais nad ydym yn ei hyrwyddo nac yn ei gwerthfawrogi ddigon. Yn ddamcaniaethol o leiaf, ni yw'r genedl hyblyg yn ieithyddol yn y Deyrnas Unedig hon. Mae nifer gynyddol ohonom yn bwrw ymaith y flanced gysur Saesneg yn unig ac yn dod yn llai poenus ynglŷn â chael dwy iaith genedlaethol at ein defnydd. Mae'n siŵr bod gweddill y byd yn pendroni pam fod cael dwy iaith genedlaethol yn peri pryder inni beth bynnag, ond rwy'n credu fy mod i'n mynd o flaen fy hun braidd.  

Y rheswm y deuthum â hyn i'r Siambr heddiw yw oherwydd fy mod yn credu ein bod, am nifer o resymau’n rhannu pryder gwirioneddol am y dirywiad yn ein gallu ar lefel y boblogaeth i gyfathrebu mewn ieithoedd heblaw ein rhai ni. Ymddengys hefyd fod cryn gonsensws rhyngom ni fel Ceidwadwyr Cymreig, a’r Llywodraeth yn wir, ac yn hynny, rwy’n cynnwys Gweinidogion addysg blaenorol, ynghylch cyflwyno trydedd iaith i mewn i fywydau plant yn yr ysgol gynradd. Wrth gwrs, i rai o'n plant lwcus, nid eu trydedd iaith fydd hi, gallai fod yn bedwaredd neu hyd yn oed yn bumed iaith iddynt. 

A bydd, fe fydd yna bobl o hyd sy'n beio'r dirywiad mewn sgiliau ieithoedd tramor modern ar gynnwys Cymraeg gorfodol yn ein cwricwlwm, ond mae hynny'n anwybyddu’r ffaith bod rhannau eraill o'r DU hefyd wedi ymrwymo i roi tair iaith i blant a'u bod yn wynebu problemau heb fod yn annhebyg o ran y nifer sy’n astudio tair iaith.

Prin fod y canllawiau ar ddysgu ieithoedd tramor modern wedi newid ers 2008. Ni wnaeth adolygiadau thematig Estyn ar y pryd, ac eto yn 2016, baentio'r darlun gorau, gan ddweud i bob pwrpas fod y brwdfrydedd a'r bwriadau da ym mlwyddyn 7, efallai blwyddyn 8, yn diflannu’n eithaf cyflym yn sgil nifer o ffactorau o restr o resymau a roddir: ansawdd addysgu amrywiol; rhy ychydig o wersi; rhy ychydig o athrawon sydd â'r iaith yn brif ddisgyblaeth; y safonau mewn ysgol yn fwy cyffredinol efallai; problemau gyda'r amserlen opsiynau yng nghyfnod allweddol 4—rwy'n credu ein bod i gyd yn gyfarwydd â hynny; bagloriaeth Cymru; cydweithredu annigonol ag ysgolion eraill; proffil economaidd-gymdeithasol disgyblion; p'un a yw'r ysgol yn gyfrwng Saesneg neu Gymraeg; cefnogaeth anghyson gan awdurdodau lleol; agwedd arweinwyr ysgolion a chynghorwyr gyrfaoedd tuag at astudio ieithoedd tramor modern—dim ond 17 y cant sy'n rhoi negeseuon cadarnhaol ar werth ieithoedd tramor modern; ac wrth gwrs y canfyddiad, a chanfyddiad yn unig ydyw, fod ieithoedd yn rhy anodd. 

Nawr, i'r disgyblion sy'n penderfynu parhau i astudio iaith yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5 ac ymlaen, mae eu safonau cyflawniad yn eithaf uchel. Efallai y bydd athrawon y carfannau hynny’n teimlo eu bod yn lwcus, gan eu bod yn cael y plant â'r ddawn fwyaf i astudio’r pwnc a'r awydd mwyaf i'w astudio, ac felly dylem ddisgwyl i’r cyflawniad fod yn uchel. Ond mae'r agwedd, 'Iaith elitaidd yw hon'—ac rwy'n defnyddio'r gair hwnnw yn ei ystyr fwyaf cadarnhaol—yn creu ei ganlyniadau negyddol ei hun. Os bydd y galw’n gostwng am na chaiff ieithoedd modern eu hystyried yn hygyrch i bawb yn y ffordd y mae Llywodraethau olynol wedi ceisio gwneud y gwyddorau’n hygyrch i bawb, bydd nifer y bobl ddisglair sydd eisiau dysgu ieithoedd tramor modern yn gostwng hefyd. 

Weinidog, rydym wedi trafod y targedau rydych chi wedi'u rhoi i Gyngor y Gweithlu Addysg i geisio dod â myfyrwyr newydd i mewn i hyfforddi fel athrawon ieithoedd tramor modern. Nid ydynt yn hynod o uchelgeisiol, ond ni chânt eu cyrraedd chwaith. Nid yw'n fath o gylch dirinwedd, mae'n fwy o droell ddirinwedd tuag i lawr, ac mae'n rhywbeth y mae pawb eisiau ei weld yn dod i ben. Felly, yn eich ymateb, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cyfeirio at hon fel problem y tu allan i Gymru, ac rwy’n derbyn hynny’n llwyr, fod Dyfodol Byd-eang wedi cyflawni rhywbeth, ond gobeithio nad oes ots gennych os cymerwn hynny fel ffaith, oherwydd dadl fer yw hon lle nad wyf yn ymosod ond yn hytrach, rwy'n gobeithio rhannu sylwadau a dysgu beth a ddysgwyd gennych yn eich profiad hyd yma o geisio gwyrdroi'r gostyngiad yn y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern a sut y mae wedi llywio'r cwricwlwm newydd, lle rydych chi'n gobeithio a lle rydym ni’n gobeithio y bydd maes dysgu a phrofiad newydd ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn creu rhywfaint o newid go iawn. 

Nawr, cyfathrebu. Rwy'n credu mai’r hyn sydd wedi fy nharo o'r holl ymchwil ac adroddiadau a ddarllenais, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog a'i swyddogion wedi cael cyfle i ddarllen llawer mwy, naill ai gan Estyn, Sefydliad Gertner, y British Council, Gorwel, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, llwyth o'r UE, erthyglau meddygol, blogiau, beth bynnag y bo, y neges sy'n dod drwodd yn uchel ac yn eglur yw mai dulliau cyfathrebu yw ieithoedd yn anad dim arall. Ond nid dyna sut mae'n teimlo pan fyddwch yn eu hastudio yn yr ysgol. Ac eto, eu diben fel dull o gyfathrebu, sy'n gwneud eu haddysgu mor werthfawr ac yn arbennig o werthfawr i Gymru, yw bod angen i ni gyfathrebu â'r byd. 

Ac rwy'n cydnabod yn y maes dysgu a phrofiad hwnnw fod llawer o'r hyn a ddarllenais am y pwnc wedi’i seilio ar gryfder amlieithrwydd ar gyfer cyfathrebu. Heb y gallu i gyfathrebu a deall beth mae eraill yn ceisio'i gyfleu inni, sut y gallwn ni ddysgu dod yn gyfranogwyr mentrus yn ein bywydau ein hunain, dod yn ddinasyddion moesegol yn y byd neu ddatblygu perthynas gadarnhaol ag eraill? 

Ond wrth edrych ar nodau'r maes dysgu a phrofiad hwnnw ac edrych ar yr hyn sy'n cyfateb yn yr Alban hefyd, mae'r ymrwymiad i sicrhau bod ein plant yn caffael gallu mewn ieithoedd eraill mewn unrhyw ffordd y gellir ei chymharu â'r iaith y maent yn tyfu i fyny gyda hi—mae'n dal yn eithaf anodd dod o hyd iddo. Nid wyf yn dweud nad yw yno, ond rwy'n ei chael hi'n anodd ei weld. 

Gyda mwy o ymreolaeth, wrth gwrs, bydd gan rai ysgolion le a rhyddid i godi statws ieithoedd tramor modern yn eu hysgolion fel sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â dysgu mwy ffurfiol a phenodol. Ond bydd eraill yn ei ddefnyddio i adael iddo lithro i'r lefel dderbyniol isaf, oherwydd gadewch inni gofio mai dim ond 17 y cant o arweinwyr ysgolion sy'n rhoi negeseuon cadarnhaol ar ddysgu ieithoedd tramor modern. Os ydym am eu hachub, rwy'n credu bod angen cam ychwanegol arnom, sef cam atebolrwydd. Weinidog, rwy'n deall eich cymhellion dros newid yr atebolrwydd, ac ydw, rwy'n cytuno â chi, mae angen iddo fod yn ystyrlon. Wrth edrych ar y cwricwlwm newydd fel cyfle newydd ar gyfer ieithoedd tramor modern, rwy'n gobeithio y byddwch yn edrych nid yn unig ar sut y mae ysgolion yn dysgu ieithoedd tramor modern ac i faint o bobl, ond ar sut y mae ysgolion yn defnyddio ieithoedd tramor modern, ac rwy'n meddwl tybed a ellid cynnwys hyn yng ngwaith Estyn, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr, os yw'n berthnasol, ac nid wyf yn gwybod sut y mae hynny'n gweithio a dweud y gwir, ond yn sicr y gofynion atebolrwydd mewnol. Rwyf eisoes yn gofyn inni feithrin gallu mewn dwy iaith genedlaethol yn ein plant ieuengaf, ac ni allaf weld pam na ellir cymhwyso'r un egwyddor o ddefnyddio iaith, nid dysgu amdani'n unig, ar gyfer trydedd iaith hefyd.

Felly, byddaf yn edrych eto ar yr ymchwil ar yr adegau gorau yn natblygiad plentyn ar gyfer caffael iaith, ond rwy'n gobeithio y gallwch fy helpu yma, Weinidog. Er fy mod yn cydnabod bod pob un o'n plant—ac rwy'n golygu pob un ohonynt—mewn perygl cynyddol o drosglwyddo iaith lafar salach mewn oes lle mae pob oedran yn sownd wrth y sgrin, ac y bydd datblygiad lleferydd a dealltwriaeth rhai plant yn arafach am amryw o resymau, rydym yn dal fel pe baem yn methu'r man delfrydol hwnnw pan fydd plentyn yn amsugno fwyaf ar gyfer caffael mwy nag un iaith. Felly, rwy'n awgrymu—o leiaf, rwy'n credu fy mod ar hyn o bryd—fod angen i'r elfen ieithoedd tramor modern o faes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu ddigwydd yn llawer cynt nag a welwn ar hyn o bryd. Felly, hoffwn glywed ychydig mwy ynglŷn â pham nad yw cyfleoedd yn y cyfnod sylfaen presennol wedi cael eu nodi hyd yma oherwydd bydd pawb ohonom yn gwybod am enghreifftiau o ysgolion unigol lle mae arweinwyr yr ysgol yn frwd iawn ynglŷn â hyn, a'r dystiolaeth yno, yn yr achosion lle ceir cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, fod plant oedran cynradd yn mynd â'r diwylliant ieithoedd hwnnw gyda hwy i mewn i flwyddyn 7. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni fynd i wraidd y rheswm pam nad oes mwy o ysgolion cynradd wedi bachu ar y cyfle hwn, oherwydd bydd hynny'n rhoi cipolwg inni ar sut i hybu pwysigrwydd y sgìl bywyd hwn mewn cwricwla lleol ac yn ein helpu i ddwyn ysgolion i gyfrif mewn ffordd ystyrlon, ynghylch llwyddiant neu fel arall helpu pobl ifanc i fod o leiaf yn hyderus, a hyd yn oed yn well, yn gymwys mewn tair iaith.

Felly, pam y mae hyn yn bwysig i Gymru? Wel, rwy'n credu bod yna resymau y byddwn i gyd yn eu coleddu, beth bynnag yw ein blaenoriaethau gwleidyddol. Rydym yn dysgu iaith mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau yn ein bywydau ac yn defnyddio gwahanol rannau o'r ymennydd. Mae effeithiau gwybyddol hyn a mireinio gwahanol fathau o sgiliau dysgu wedi'u dogfennu'n dda bellach a'u cadarnhau dros gyfnodau adolygu ac astudio sy'n argyhoeddi, nid yn unig ar gyfer plant ysgol, ond ar gyfer y rheini sydd mewn perygl o gael dementia a cholli sgiliau gwybyddol eraill hefyd. Nawr, wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu y byddai siarad nifer o ieithoedd wedi fy ngwneud yn well pêl-droediwr yn yr ysgol—wel, nid wyf yn meddwl y byddai'n fy ngwneud yn well pêl-droediwr o gwbl. Y rheswm pam fod gennyf lefel O mewn Lladin yw oherwydd ei fod yn ddewis arall yn lle gwneud hoci. [Chwerthin.] Ond gallai fod wedi fy helpu gyda sgiliau meddwl yn wahanol a sgiliau dysgu, a fyddai wedi fy helpu i hyfforddi neu reoli tîm, dangos empathi neu gymell a disgyblu tîm, strategeiddio'n well, deall cyllid clwb yn well, ac yn gynyddol, mae'n ymddangos i mi, cyfathrebu â'r bodau dynol yn y tîm yn eu hieithoedd eu hunain, gan eu gwneud yn gyfforddus, a theimlo'u bod wedi'u cynnwys yn rhan o rywbeth mwy ac yn ymrwymedig i gyfranogi mewn rhywbeth sy'n effeithio ar lwyddiant eraill—yn union y math o ganlyniad rydym ei eisiau o'r cwricwlwm newydd, a chaiff ei grisialu yno yn y dysgu sut i gyfathrebu mewn mwy nag un iaith.

Ond rwy'n Geidwadwr, ac felly rwyf am orffen ar rai pwyntiau ynglŷn â'r economi. Gall mwy o gyfranogwyr mewn economi ffyniannus helpu i wella buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus gan leihau'r ddibyniaeth arnynt, felly mae hyn yn wirioneddol bwysig, ac mae popeth a ddywedwn ynglŷn â sut y mae amlieithrwydd yn helpu i allu deall pobl eraill, am fwynhau a dysgu o wahanol ddiwylliannau, dod yn ddinasyddion y byd yn ogystal â'n cynefin ein hunain, mae'r rhain yn nodau ynddynt eu hunain, ond maent hefyd yn gwbl berthnasol i helpu Cymru i ffynnu'n economaidd.

Roeddwn yn gwrando ddoe ar y sesiwn ar fasnach ryngwladol a'ch pryderon, fel person amlieithog eich hun, Weinidog, ynglŷn â pholisi America yn gyntaf, gadael y farchnad sengl ac yn y blaen. Mae'n fyd mawr; rhaid inni ddefnyddio'r hyn sydd gennym i gael y gorau ohono. Ac felly mae hynny'n golygu mwy nag allforio rhagor o'r nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu y mae pobl eu heisiau; mae'n ymwneud â dod o hyd i ffordd o wneud yn siŵr mai ein cynnyrch ni y mae pobl eu heisiau mewn marchnad gynnyrch hynod gystadleuol a chynyddol safonedig. Ac mae hynny'n ymwneud â pherthynas pobl â'i gilydd. Mae'n ymwneud â chyfathrebu.

Os ydym am i'n diwydiant lletygarwch ac ymwelwyr dyfu, nid yn unig o ran nifer ymwelwyr, ond hefyd o ran statws, a fydd yn gwneud y diwydiant yn ddeniadol i'n pobl fwyaf disglair a mwyaf mentrus, mae egluro bod sgiliau penodol mewn mwy nag un iaith yn ased enfawr yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gyfleu. Unwaith eto, mae cysylltiadau'n adeiladu busnesau, yn enwedig yn ein diwydiannau gwasanaeth, yn enwedig yn y mathau o fusnesau sydd gennym yng Nghymru eisoes. Oherwydd mae hyn oll yn ymwneud â mwy na chwmnïau rhyngwladol neu'r mathau o is-ganghennau ffatrïoedd roedd Mike Hedges yn sôn amdanynt ddoe. Mae amlieithrwydd wedi meithrin masnach a chyfnewid syniadau ers cyfnod yr henfyd ac mae ymgyrch Prydain i ddod o hyd i farchnadoedd newydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn debygol o arwain at anghenion ieithyddol newydd. Bydd cwmnïau sy'n ymateb i'r her hon yn dibynnu ar gronfa sgiliau amlieithog ar gyfer masnach drawsffiniol.

Mae llawer o bobl Prydain yn honni eu bod yn wael am siarad ieithoedd heblaw Saesneg. Mae ystadegau cyfredol Llywodraeth y DU yn dangos bod y DU eisoes yn colli tua 3.5 y cant o'i chynnyrch domestig gros bob blwyddyn o ganlyniad i brinder sgiliau iaith yn y gweithlu. Er bod busnesau'n ystyried bod y gallu i siarad Saesneg yn anhepgor, canfu astudiaeth gan yr UE mai dim ond 29 y cant o'u holl alw yn y dyfodol am sgiliau ieithoedd tramor oedd yn ymwneud â'r Saesneg. Y parodrwydd i ddefnyddio ieithoedd oedd yn bwysig i'r cysylltiadau masnach, a rhoddai hynny fantais i fusnesau ym marchnadoedd cynnyrch lle nad oedd llawer i'w ddewis rhwng cynnyrch un wlad a chynnyrch gwlad arall. Ac roedd yr adroddiad hwnnw hefyd yn dangos bod 945,000 o fusnesau bach a chanolig yn Ewrop yn colli masnach oherwydd diffyg cymhwysedd ieithyddol.  

Economi busnesau bach a chanolig yw Cymru. Mae'n economi sy'n dod yn fwy cyfarwydd â manteision ei hyblygrwydd ieithyddol, gyda'i hieithoedd swyddogol ei hun, a hyd yn oed wrth edrych ar hyn drwy lens economïau sylfaenol a chylchol, nid yw'r economi leol yn elwa os bydd y plymwr lleol neu'r cigydd lleol neu'r cwmni glanhau lleol yn methu cynnig gwasanaethau i'r gwesty lleol am fod y gwesty ar gau am na allai gystadlu â chadwyni â staff amlieithog rhugl a wnâi i'w cleientiaid busnes a hamdden deimlo o ganlyniad i hynny eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy ac yn fwy cyfforddus.

I orffen, ac rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, y byddwch yn rhoi amser ar gyfer un neu ddau o siaradwyr eraill—

19:05

Iawn. Wel, o'r gorau, ond rydych chi ar 13:30, felly mae gennych funud a hanner, yn y bôn.

Iawn. Wel, i orffen felly, rwyf am ddychwelyd at y pwynt hwnnw yn 2012, pan wneuthum y cyhoeddiad polisi yn yr Eisteddfod. Y prif reswm pam fy mod wedi newid i'r Gymraeg mewn gwirionedd oedd oherwydd fy mod wedi anghofio'r rhan fwyaf o fy Ffrangeg. Mae'n rhyfedd i mi mai fy ail iaith bellach yw Cymraeg ac nid un o'r rhai a ddysgais yn yr ysgol neu rywle arall, nid yn unig am ei bod yn bwysig i fy ffrindiau a fy nheulu, ond am fod cwsmeriaid, cleientiaid a chydweithwyr yn gwerthfawrogi'r ffaith fy mod yn siarad yr iaith oedd yn bwysig iddynt hwy. Os gwnewch hynny'n wir ar gyfer Ffrangeg neu Almaeneg neu Sbaeneg neu Bortiwgaleg y bobl neu beth bynnag y bo, mae gennym rywbeth gwirioneddol arbennig i'w gynnig i'n plant ysgol.

Ar hynny, rwy'n gobeithio y byddwch yn hael, a rhoi munud i Mike Hedges, Ddirprwy Lywydd, ac un i Darren Millar hefyd.

Bydd yn ddiddorol gweld y ddau ohonynt yn gwneud eu cyfraniadau mewn munud. Fe rown gynnig arni. Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am roi munud i mi yn y ddadl hon, ond hefyd am ei chyflwyno? Hoffwn ganolbwyntio ar ddewisiadau TGAU. Heb TGAU mewn iaith dramor, mae'n annhebygol y bydd disgyblion yn mynd ymlaen i astudio safon uwch neu radd yn yr iaith dramor honno. Mewn ysgol cyfrwng Cymraeg bydd disgybl yn astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg, iaith a llenyddiaeth Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth ddwbl a bagloriaeth Cymru. Byddant yn cael eu gadael gyda thri neu bedwar o bynciau eraill i'w dewis o'r gwahanol grwpiau sydd ar gael. A yw'n syndod bod y niferoedd sy'n astudio TGAU Ffrangeg ac Almaeneg wedi gostwng? Mae Tueddiadau Ieithoedd Cymru yn datgan mai dim ond 2 y cant o ddisgyblion Cymru sy'n astudio TGAU mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.

Gallaf roi rhai atebion posibl: caniatewch i ddisgyblion wneud un pwnc gwyddonol a dwy iaith fodern; gwnewch iaith fodern yn orfodol ar gyfer TGAU; neu gallwn barhau fel rydym a chymryd yn ganiataol y bydd pawb yn y byd yn siarad Saesneg, yn enwedig os siaradwn yn uchel.

Roeddwn eisiau llongyfarch Suzy ar araith agoriadol aruthrol a dweud yn syml nad ysgol yw'r unig gyfle, wrth gwrs, i ddysgu ail iaith. Rwy'n defnyddio ap ar hyn o bryd, Mango Languages, i geisio dysgu ychydig o Arabeg Lefantaidd er mwyn i mi allu cyfathrebu â rhai o fy ffrindiau yn y dwyrain canol, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod y dechnoleg sydd ar gael i ni yn gwneud dysgu iaith newydd yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen. Un o'r pethau sy'n cael ei wneud mewn rhannau o'r Unol Daleithiau ar hyn o bryd ac yn rhai o wledydd eraill Ewrop, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon, yw bod apiau fel Mango Languages ar gael i'r cyhoedd drwy'r rhwydwaith llyfrgelloedd fel y gallant fod yn hygyrch i aelodau o'r cyhoedd eu defnyddio am ddim, ac roeddwn i'n meddwl, Weinidog—efallai nad yw'n gyfrifoldeb uniongyrchol i chi—tybed a yw hyn yn rhywbeth y gallech ei drafod gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet fel dull o ddod â ni i mewn i'r unfed ganrif ar hugain o ran y ffordd y defnyddiwn y technolegau newydd hyn i ddysgu ieithoedd newydd a rhoi ail gyfle i bobl na chafodd gyfle yn yr ysgol.

19:10

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Suzy Davies am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heddiw a dechrau drwy ddweud fy mod yn credu nid yn unig mewn gweld Cymru yn dod yn genedl dairieithog, ond yn wlad amlieithog. Heb ystyried y newidiadau gwleidyddol sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, rwy'n cydnabod pwysigrwydd addysgu ieithoedd rhyngwladol yn ein system addysg. Rwy'n ymroddedig i sicrhau bod ein dysgwyr yn profi'r ystod o fanteision sy'n deillio o ddysgu ieithoedd rhyngwladol, yn enwedig ar adeg pan fo'n bwysicach nag erioed fod gan ein gweithlu yn y dyfodol sgiliau iaith i allu cystadlu yn y farchnad fyd-eang—dadl a wnaed gan Suzy yn ei haraith agoriadol.

Rwyf hefyd yn derbyn bod heriau gwirioneddol yn gysylltiedig â dysgu iaith ryngwladol, a dyna pam, o dan gwricwlwm newydd trawsnewidiol Cymru, y bydd pob dysgwr yn dechrau profi ieithoedd rhyngwladol o oedran llawer cynharach. Fel y dywedwyd, daw'r cwricwlwm newydd â dysgu ieithoedd at ei gilydd ym maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd hyn yn rhoi cyfle i athrawon yng Nghymru ddatblygu a rhannu arbenigedd mewn dysgu iaith i roi'r cyfle gorau i'n plant a'n pobl ifanc ddatblygu sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol. Yn ein cwricwlwm newydd, caiff ieithoedd tramor modern eu cynnwys yn yr adran ieithoedd rhyngwladol a bydd dysgwyr yn profi ieithoedd rhyngwladol gyda disgwyliadau clir o ran eu cynnydd tra byddant yn yr ysgol gynradd.

Bydd strwythur ein cwricwlwm newydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i greu polisi amlieithog cyfoethog ac effeithiol ar gyfer addysg iaith yng Nghymru. Bydd dysgu am ieithoedd a diwylliant yn chwarae rhan hollbwysig yn ein nod o ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd. Bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn annog dysgwyr i fod yn ymwybodol o'r cysylltiadau rhwng ieithoedd wrth iddynt ddatblygu gwerthfawrogiad o darddiad geiriau a diddordeb mewn patrymau iaith. Byddant yn cael eu hannog i drosglwyddo'r hyn y maent wedi'i ddysgu ynglŷn â sut y mae ieithoedd yn gweithio, er enghraifft yn y Gymraeg neu'r Saesneg, i ddysgu a defnyddio'r profiad hwnnw wrth gaffael a dysgu ieithoedd rhyngwladol. Credaf y bydd y dull amlieithog hwn yn tanio brwdfrydedd dysgwyr ac yn rhoi sylfaen gadarn i ddiddordeb gydol oes yn sgil hynny mewn dysgu ieithoedd a llenyddiaeth o Gymru a'r byd.

Er mwyn meithrin gallu yn y system, eleni rhoddais £188,000 i gonsortia rhanbarthol er mwyn iddynt allu cynorthwyo ysgolion cynradd i ddatblygu eu darpariaeth iaith cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae'n galonogol iawn fod ein hysgolion cynradd eisoes yn cynyddu eu darpariaeth ieithoedd tramor modern, ac rwyf wedi cefnogi hyn drwy roi rhagor o arian ychwanegol i athrawon ysgolion cynradd gymryd rhan yng nghynllun LXT y Brifysgol Agored ar gyfer dysgu sut i addysgu ieithoedd yn yr ysgol gynradd, sy'n cynnig cyrsiau i ddechreuwyr mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Ac mae Suzy'n iawn, nid ydym ar ein pen ein hunain yn hyn, mae'n rhan o ddirywiad cyffredinol ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae'r rhesymau am hynny'n niferus ac weithiau'n eithaf cymhleth. Nawr, dyna pam, ers 2015, fod dros £2.5 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn rhaglen Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor. Mae'r cyllid hwn wedi arwain at ganolfannau rhagoriaeth newydd, lle mae ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a phartneriaid i wella'r profiad addysgu a dysgu. Eleni, yn ogystal â pharhau i ariannu ein rhaglen fentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern sydd wedi ennill gwobrau, rhaglen sy'n anelu at gynyddu nifer y bobl sy'n astudio ieithoedd ar lefel TGAU, rwyf hefyd yn ariannu cynllun peilot ar gyfer rhaglen fentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern gyda'r nod penodol o gynyddu'r nifer sy'n astudio ieithoedd tuag at safon uwch hefyd.

Nawr, mae Suzy'n iawn, mae rhannau o Dyfodol Byd-eang wedi cyflawni a cheir rhannau o Dyfodol Byd-eang lle nad ydym wedi gweld y cynnydd y byddem yn dymuno ei weld. Dyna pam y byddaf yn cyhoeddi dull newydd o gyflawni rhaglen Dyfodol Byd-eang ym mis Ebrill eleni. A byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i gefnogi ein hysgolion wrth i ni drosglwyddo i'n cwricwlwm newydd.

Rhaid inni beidio ag anghofio, pan fo disgyblion yn dewis astudio—ac i fod yn deg â Suzy, fe wnaeth hi gyfeirio at hyn—y myfyrwyr hynny sy'n dewis ieithoedd tramor modern, wel, maent yn gwneud yn wirioneddol dda mewn gwirionedd. Cefais fy nghalonogi'n arbennig gan gyrhaeddiad rhagorol myfyrwyr ieithoedd tramor modern, sy'n dyst nid yn unig i'w gwaith caled, ond hefyd i'r addysg ieithoedd tramor modern rhagorol y mae'r myfyrwyr hyn yn ei chael. Roeddwn wrth fy modd fod athrawon ysgol gynradd Sant Paul yr Eglwys yng Nghymru yng Nghaerdydd ac Ysgol Osbaston yr Eglwys yng Nghymru yn Nhrefynwy wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Athrawon Almaeneg 2019 am eu cyfraniad rhagorol i addysgu Almaeneg yn y sector cynradd, sy'n dangos bod ymarfer rhagorol i'w weld yma yng Nghymru eisoes, ond mae angen inni adeiladu arno.

Yn y tymor hwy, bydd cymwysterau Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol yn newid hefyd ac mae angen inni weithio'n agos gyda Cymwysterau Cymru i ystyried sut y dylai cymwysterau newid yn unol â'r cwricwlwm newydd er mwyn mynd i'r afael â'r dull mwy cyfannol o ddysgu ieithoedd. Ac fel chi, Suzy, rwy'n credu y dylai fod pwyslais ar siarad a chyfathrebu yn hytrach na'r hyn sy'n digwydd weithiau yn y system bresennol o bosibl, lle ceir pwyslais ar ysgrifennu a darllen, yn hytrach na'ch gallu i gyfathrebu â bod dynol arall a gallu dangos cymhwysedd yn eich gallu i gyfathrebu ar lafar gyda gwahanol bobl.

Rydym yn symud oddi wrth system atebolrwydd sydd â phwyslais anghymesur nad yw'n ddefnyddiol ar rai mesurau perfformiad unigol i hyrwyddo'r defnydd o ystod ehangach o wybodaeth sy'n crisialu cynnydd ein holl ddysgwyr yn well a'r cyfan o'u dysgu a'u profiad a'n huchelgeisiau o fewn y cwricwlwm newydd. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi bod yn datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd a fydd yn cefnogi'r broses o roi cwricwlwm Cymru ar waith, a bydd yn seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn—dylent fod yn deg, yn gydlynol, yn gymesur ac yn dryloyw. Rydym yn cychwyn ar gynllun strategol tair blynedd ar gyfer treialu, datblygu a gweithredu'r trefniadau newydd hyn. Drwy amlygu agweddau ar y trefniadau gwerthuso a gwella eleni, byddwn yn gallu profi agweddau ar y trefniadau newydd a bydd hyn yn rhoi eglurder ynghylch y gwahanol rolau a chyfrifoldebau wrth symud ymlaen. Bydd y trefniadau newydd yn cefnogi ein nod i godi safonau, gan leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac fel Suzy, rwy'n pryderu wrth weld bod ieithoedd yn cael eu hystyried ar gyfer math penodol o fyfyriwr, yn hytrach na'u bod o werth i bob myfyriwr, ac fel bob amser, Ddirprwy Lywydd, yn canolbwyntio ar ddarparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd.

I gloi, hoffwn ddweud bod ieithoedd yn hanfodol ac yn bwysig iawn i ffyniant Cymru yn y dyfodol ac i'n dylanwad yng ngweddill y byd. Rwy'n cydnabod yr her yn y tymor byr, ac wrth i'n newidiadau ddechrau cael effaith, bydd angen inni ddyblu ein hymdrechion gyda phartneriaid ar yr agenda hon, gan ddeall rhai o'r rhesymau go iawn pam y mae myfyrwyr yn dewis peidio ag astudio pynciau TGAU—ac mae Mike Hedges yn iawn, weithiau mae materion amserlennu yn broblem—hyrwyddo ieithoedd, a'r canfyddiad fod cymwysterau TGAU iaith yn anodd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod rhai newidiadau eisoes wedi'u gwneud yn Lloegr o ran graddio TGAU Ffrangeg ac Almaeneg, er nad Sbaeneg, ac mae Cymwysterau Cymru a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru yn edrych ar y systemau hynny o fewn ein system ni, gan fod canfyddiad yn aml fod gwneud y cymwysterau TGAU hyn yn anodd a bod pethau haws a ffyrdd haws o gael eich gradd A* drwy ddewis pynciau eraill. Ond oni bai ein bod yn cyfathrebu â myfyrwyr ynglŷn â phwysigrwydd y pynciau hyn a'r cyfleoedd gwych a all ddeillio o ennill cymwysterau o'r fath, ni fyddwn yn gwneud cynnydd pellach. Ac felly byddwn am ystyried hynny, fel y dywedais, yn ein fersiwn newydd o Dyfodol Byd-eang, a gaiff ei chyhoeddi yn nes ymlaen eleni.

Rwy'n deall, ac yn wir, rwy'n gresynu at fy methiant fy hun yn hyn o beth, ond mae Darren yn iawn, nid yw byth yn rhy hwyr, ac fel yntau, gallwch ddod o hyd i mi weithiau, pan fyddaf adref gyda'r nos, ar fy ap Duolingo yn ymarfer ychydig o Gymraeg ac ychydig o Espagnol. Ond mae ffordd bell i fynd. Byddaf yn codi mater mynediad at apiau dysgu ar-lein gyda'r Gweinidogion perthnasol. Yn sicr mae'r ffordd y gallwn helpu pob plentyn i gaffael ieithoedd a defnyddio apiau o fewn y system addysg yn rhywbeth y bydd angen inni ei groesawu'n rhan o'n dyfodol wrth symud ymlaen.

Ond i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i Suzy Davies am gyflwyno'r ddadl hon. Credaf fod consensws yma fod hyn yn bwysig i ddyfodol Cymru a chredaf y gall ein cwricwlwm newydd a'r pwyslais ar gyflwyno dysgu iaith yn llawer cynharach ym mywyd y plentyn ein helpu i oresgyn rhai o'r problemau rydym yn bendant wedi'u gweld, a byddwn yn parhau i fynd i'r afael â hwy gyda phenderfyniad. Diolch yn fawr.

19:20

Diolch. Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:20.