Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/12/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones. 

Bioamrywiaeth yng Ngorllewin De Cymru

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54847

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth eang o fesurau i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth yng Ngorllewin De Cymru. I roi un enghraifft yn unig, yn nhyllau turio Cynffig, rydym ni'n buddsoddi £428,000 i adfer ecosystemau cymhleth o dwyni tywod, gan gynnal rhywogaethau prin ac arbenigol, fel tegeirian ac adar cân.

Diolch, Prif Weinidog. Gan fod fy rhanbarth i yn gartref i un o'r cytrefi olaf sy'n weddill o'r pryf cop fen raft, ac fel yr hyrwyddwr rhywogaeth dros y pryf cop prinnaf hwn ym Mhrydain, mae gen i ddiddordeb brwd mewn cynnal bioamrywiaeth Gorllewin De Cymru. Mae fy rhanbarth i hefyd yn gartref i un o'r enghreifftiau gorau o gynefin twyni tywod yn Ewrop—gwarchodfa natur genedlaethol Cynffig, fel yr ydych chi newydd grybwyll. Prif Weinidog, mewn dim ond ychydig fisoedd, bydd y 1,300 erw hyn o dwyni tywod a gwlyptiroedd arfordirol a reolir o bosibl yn cael eu gadael heb unrhyw reolaeth. Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi'r gorau i redeg y warchodfa natur ar Nos Calan ac nid oes prydles ar gyfer ei rheoli yn y dyfodol wedi ei llofnodi eto. Mae'n hanfodol bod gwarchodfa natur genedlaethol Cynffig yn cael ei rheoli'n briodol yn y dyfodol er mwyn diogelu'r rhan hanfodol hon o'n treftadaeth naturiol a rhan bwysig o fioamrywiaeth y genedl. Prif Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd sy'n cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd â'r brydles hirdymor ar gyfer y warchodfa natur a'r camau y byddan nhw yn eu cymryd i ddiogelu'r nifer fawr o rywogaethau prin o blanhigion ac anifeiliaid sy'n ei galw'n gartref?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac am y gwaith y mae'n ei wneud fel yr hyrwyddwr rhywogaethau dros y pryf cop 'fen raft'. Fel y mae hi'n dweud, dim ond clwstwr bach iawn o safleoedd sydd yn ne Cymru erbyn hyn sy'n cynnal y pryf cop hwnnw, ac mae'n enghraifft dda o pam mae angen gweithredu ar frys i wrthdroi'r dirywiad o ran rhywogaethau a bioamrywiaeth ledled Cymru. Wrth gwrs, mae Caroline Jones yn iawn hefyd i gyfeirio at bwysigrwydd y twyni a'r ecosystem y maen nhw'n ei chynnal yn ardal tyllau turio Cynffig. Llywydd, cyfeiriais at y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—bron i £0.5 miliwn yn y fan honno—ond dim ond rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gydag eraill yn y rhan honno o Gymru yw hynny. Ceir y cynllun rheoli cynaliadwy, y prosiect O Dwyn i Dwyn—£312,000 arall, sy'n canolbwyntio ar y dirwedd rhwng tyllau turio Cynffig a chwningar Merthyr Mawr, sydd unwaith eto yn fan lle'r ydym ni'n rheoli cynefinoedd twyni tywod i wella bioamrywiaeth ac i gynnig buddion i'r gymuned leol.

Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod cynllun hirdymor i greu rhwydwaith ecolegol cydnerth yn y rhan honno o Gymru, yn union fel yr ydym ni'n ei wneud mewn cynifer o rannau eraill o'n gwlad brydferth iawn.

Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r llu o wirfoddolwyr sydd wrth eu boddau â gwarchodfa Cynffig ac sydd wedi cyfrannu oriau dirifedi o'u hamser iddi, ac, wrth gwrs, maen nhw wedi herio'r ymddiriedolaeth sy'n berchen ar y safle ynglŷn â'i ddyfodol. A gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn, gan ei bod hi'n Nadolig, i ddiolch i Weinidog yr amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gohebiaeth a'u hymgysylltiad ynglŷn â hyn yn ystod y misoedd diwethaf? Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n ymddangos yn annhebygol i mi y bydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun y gallu i ymdrin â rheolaeth weithredol ddyddiol y safle hwn, ac mae'n debyg y bydd angen partneriaid arno yn y dyfodol. A allwch chi ddweud wrthyf beth fydd eich disgwyliadau o ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn debygol o fod yn ystod y cyfnod hwn, pa un a fyddwch chi'n cynnig unrhyw gyllid untro iddyn nhw, neu'n cefnogi adnoddau dynol ychwanegol ar gyfer y dasg bwysig hon, ac a oes gennych chi unrhyw gyngor i'r ymddiriedolaeth sy'n berchen ar y safle hwn mewn gwirionedd ynghylch caniatáu i incwm gael ei gynhyrchu yno a all gyfrannu tuag at gost cadwraeth?

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Fy nisgwyliad i o ran Cyfoeth Naturiol Cymru yw y bydd yn bwrw ymlaen yn y ffordd yr ydym ni'n disgwyl i bethau gael eu gwneud yng Nghymru, a hynny mewn sgwrs a phartneriaeth agos gyda chyrff cyhoeddus eraill ac, fel y mae Suzy Davies wedi dweud, gyda'r mudiadau gwirfoddol hynny a'r llu o wirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser iddyn nhw yn y rhan honno o Gymru. Rydym ni eisiau i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgysylltu â'r sefydliadau hynny, gyda'r awdurdodau cyhoeddus eraill, i lunio cynllun a fydd yn ymdrin â'r gwaith o reoli'r ecosystem hynod bwysig hon ymhell i'r dyfodol. A dyna'r ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arfer â gwneud pethau—pa un a yw'n fuddsoddiad ar raddfa fawr, o'r math yr ydym ni eisoes wedi ei ddisgrifio yn nhyllau turio Cynffig, neu pa un a yw yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn cynorthwyo grwpiau cymunedol lleol iawn, drwy'r cynllun cymunedol gwaredu safleoedd tirlenwi, yn ardal yr Aelod ei hun; £8,000, ar ben arall y raddfa yn llwyr, i achub Dôl Prior, un o'r dolydd gwair hanesyddol olaf sy'n dal i fodoli yng Ngŵyr. Y dull yr ydym ni'n ei ddilyn, ar draws y sbectrwm, yw, fel y dywedodd Suzy Davies, cydnabod y cyfraniad y mae'r grwpiau lleol hynny a'r gwirfoddolwyr lleol hynny yn ei wneud, ac yna gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i sicrhau'r cyfraniad mwyaf y gallwn ni ei wneud yn y math yna o bartneriaeth.

13:35

Prif Weinidog, mae'n amlwg mai un ecosystem yw'r twyni, ond amrywiaeth arall o'r ecosystem yw coedwigaeth, ac yn arbennig yng nghwm Afan, lle'r ydym ni wedi gweld llawer o goed yn cael eu cwympo gan Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd gwahanol amgylchiadau. Ond a ydych chi'n cytuno â mi, pan fydd cynaeafwyr yn dod i mewn, ac yn cael eu contractio i gwympo'r coed hynny, y dylen nhw gael gwared ar yr holl goed? Oherwydd mae llawer o dwmpathau coed, boncyffion coed, wedi eu gadael yng nghwm Afan—wedi eu gadael ar y ddaear, i wneud dim ond pydru—pan y gellid bod wedi eu defnyddio ar gyfer biomas, er enghraifft, a gallem ninnau eu hailblannu'n fwy diogel wedyn, oherwydd ni allwch chi ailblannu'n iawn tra bod boncyffion ar y ddaear. A phryd byddwn ni'n ailblannu'r system gyfan, oherwydd mae'n hanfodol, os ydym ni'n mynd i gwympo coed, ein bod ni'n ailblannu coed, fel y gallwn ni barhau i ddatblygu'r ecosystem?

Diolchaf i David Rees am hynna. Mae e'n iawn, wrth gwrs, i gyfeirio at effaith wirioneddol clefyd llarwydd yng nghwm Afan, ac mae hynny wedi arwain at yr angen i gwympo coed yn y goedwig honno. Rydym ni'n gwybod bod gadael rhai coed i bydru, i ddarparu cynefinoedd i bryfed ac eraill, yn bwysig, ond lleiafrif yw hynny, wrth gwrs. Ac, fel y dywed, mae angen symud coed eraill sydd wedi eu cwympo ac ymdrin â nhw mewn ffyrdd eraill. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, Llywydd, yng nghwm Afan, bod y gwaith o ailblannu, o ailstocio'r ardal honno yn darparu coedwig gydnerth ar gyfer y dyfodol, a dyna pam mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi achub ar y cyfle yng nghwm Afan i ailstocio'r ardal gydag amrywiaeth eang o goed. Rydym ni'n deall bod plannu un rhywogaeth yn unig yn gadael yr ardaloedd hynny'n agored i niwed pan fo clefyd yn taro. Er mwyn bod yn gydnerth, mae angen amrywiaeth eang o wahanol rywogaethau arnoch, a bydd hynny'n gwneud yn siŵr na fyddwn ni'n gweld achos arall o rai o'r ymosodiadau ar rywogaethau yr ydym ni wedi eu gweld mewn rhannau o'n coetiroedd, nid yn unig gyda llarwydd, ond gyda choed ynn a rhywogaethau eraill ledled Cymru.

Tynnwyd cwestiwn 2 [OAQ54850] yn ôl. Cwestiwn 3, Hefin David.

Gwasanaethau Bysiau

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru? OAQ54848

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Unwaith eto eleni, er gwaethaf toriadau parhaus i'n cyllideb, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £25 miliwn mewn grant cynnal gwasanaethau bysiau i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynnal a gwella gwasanaethau bysiau ledled Cymru.

Cawsom y newyddion yr haf yma gan Stagecoach eu bod nhw'n bwriadu terfynu'r gwasanaeth rhif 25, sy'n rhedeg o Gaerffili i ysbyty'r Mynydd Bychan, heibio i amlosgfa Thornhill. Ar ôl gweithio gyda mwy na 300 o drigolion, a Wayne David, llwyddasom i berswadio Stagecoach i ailgyflwyno'r gwasanaeth bob awr, o fis Ionawr, fel treial am chwe mis. Roedd hyn o ganlyniad i bwysau gan drigolion a chan fy swyddfa innau. Rydym ni eisiau gweld y gwasanaeth hwnnw'n parhau am gyfnod amhenodol. Rydym ni hefyd wedi llwyddo i gael Stagecoach i ddarparu gwasanaeth i ysbyty'r Mynydd Bychan o etholaeth Caerffili. Ond cysylltwyd â mi hefyd gan drigolion yn Senghennydd, ym Medwas ac yn Nelson am wasanaethau sy'n cysylltu ar draws y cwm ac yn cysylltu â gorsafoedd rheilffordd. Felly, fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw: beth yw eich cynlluniau tymor hwy yn y flwyddyn nesaf ar gyfer gwasanaethau bysiau a fydd yn gwella gwasanaeth cyhoeddus yn etholaeth Caerffili?

Diolchaf i Hefin David am hynna, a hoffwn ei longyfarch ar yr ymgyrch y helpodd ef i'w harwain yng Nghaerffili sydd wedi arwain at ailgyflwyno'r gwasanaeth bws 25, sy'n cysylltu Caerffili bob awr ag Ysbyty Athrofaol Cymru. Nid yw'n syndod clywed am ei effeithiolrwydd yn y fan honno, gan weithio gyda Wayne David. Gwelaf, Llywydd, yr wythnos hon bod asesiad annibynnol o faint y mae cynrychiolwyr cyhoeddus ar gael i'w cymunedau lleol ar draws y Deyrnas Unedig gyfan yn rhoi Wayne David ar frig y rhestr honno—yr Aelod Seneddol a ddarparodd y gwasanaeth sydd fwyaf ar gael a hygyrch i'w etholwyr. Chwe AS Llafur o Gymru yn yr 20 uchaf ar draws y Deyrnas Unedig—dim syndod yn hynny ychwaith. Ac nid yw'n syndod i mi bod yr Aelod yma, yn gweithio gyda Wayne David, wedi cael y llwyddiant y mae wedi ei gael. Gwn y bydd yn dymuno llongyfarch Stagecoach hefyd ar y dyfarniad diweddar o gyllid a gafodd ar gyfer 16 o fysiau trydan, a bydd y rheini i gyd wedi eu lleoli yn eu depo yng Nghaerffili.

Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, Llywydd, yn cydnabod y newid i'r ffordd y bydd teithio ar fysiau yn cael ei drefnu yn y dyfodol. Rydym ni o'r farn y bydd teithio ar fysiau yn dod yn wasanaeth sy'n ymateb i'r galw mewn sawl rhan o Gymru. Mae Sir Benfro eisoes wedi cychwyn eu gwasanaeth arbrofol o fis Medi eleni. Byddwn ninnau yn cynnal ein cynllun arbrofol trafnidiaeth ymatebol trefol cyntaf ym Mlaenau Gwent, yn cychwyn yng nghanol 2020. Mae hynny i gyd yn cael ei ariannu o gronfa trafnidiaeth leol £24 miliwn Llywodraeth Cymru, a byddwn yn cyflwyno Bil bysiau i lawr y Cynulliad hwn yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn. Bydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru ymyrryd yn y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau lleol, gan wrthdroi effeithiau negyddol dadreoleiddio'r Torïaid a chaniatáu i'n hawdurdodau cyhoeddus wneud yn siŵr bod y buddsoddiad cyhoeddus sylweddol iawn sy'n cael ei wneud mewn gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y gwasanaethau bysiau hynny'n cael eu darparu er lles y cyhoedd.  

13:40

Prif Weinidog, bu'n rhaid i Gyngor Sir Powys leihau rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda'r straen parhaus ar ofal cymdeithasol a'r agenda lles, tybed a ydych chi'n cydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y Gymru wledig. A gaf i ofyn beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau bod gan yr holl bobl mewn cymunedau gwledig ledled y canolbarth fynediad at wasanaethau allweddol i ganiatáu iddyn nhw fyw bywydau bodlon?

Wel, Llywydd, rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, pwysigrwydd gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig. Mae Cyngor Sir Powys wedi dewis lleihau'r cymorth y mae'n ei roi i wasanaethau bysiau o dan straen cyni cyllidol, sy'n golygu bod yn rhaid i'n hawdurdodau lleol wneud dewisiadau annymunol ym mhob rhan o Gymru, oherwydd os oes llai o arian oddi wrth ei Lywodraeth ef i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yna, wrth gwrs, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud y penderfyniadau hynny yn y pen draw. [Torri ar draws.] Nid yw'n ateb gwael, gwasanaeth gwael y mae Cymru'n ei gael gan ei blaid ef a'i Lywodraeth ef, ac mae ei drigolion ym Mhowys yn canfod eu hunain yn dioddef o'i herwydd.

Efo arian mor brin ar gyfer gwella gwasanaethau bysiau, doedd yna ddim syndod bod yna siom fawr a beirniadaeth lem wedi bod pan ddaeth i'r amlwg bod y Gweinidog trafnidiaeth wedi ymyrryd yn bersonol i sicrhau arian ar gyfer y gwasanaeth bws yn ei etholaeth o. Dwi'n deall bellach fod y Gweinidog wedi cyfeirio ei hun at y Prif Weinidog i ymchwilio i'r cyhuddiad ei fod o wedi torri'r cod gweinidogol. Ydy'r Prif Weinidog yn gallu dweud wrthym ni ydy o wedi cwblhau yr ymchwiliad i hynny a beth ddaeth yn gasgliad o hynny? Os nad yw, pa bryd fydd y gwaith yn cael ei wneud, oherwydd mae pobl angen gwybod bod yna dryloywder llwyr yn y ffordd mae arian yn cael ei wario ar wasanaethau bysiau a bod yr arian yn cael ei wario mewn ffordd gwbl deg a chyfartal ym mhob rhan o Gymru?

Wel, mae'r Aelod yn iawn i ddweud y cyfeiriwyd hyn ataf o dan god y gweinidogion. Byddaf yn cwblhau fy ymchwiliadau yn y ffordd arferol a byddai'n well i'r Aelod aros i weld canlyniadau hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yng nghyfarfod cyntaf un Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, neu'r Prif Ysgrifennydd, Alun Michael, bod yn rhaid i ni gyflawni tri pheth dros Gymru. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni sicrhau gwell bywyd i bobl Cymru. Yn ail, mae'n rhaid i ni greu ymdeimlad o undod a phwrpas, ac, yn drydydd, mae angen i ni sicrhau hyder newydd ynom ni ein hunain yng Nghymru ac mewn bywyd gwleidyddol. Prif Weinidog, mae Llafur Cymru wedi rhedeg Llywodraeth Cymru ers dros 20 mlynedd. O ystyried, a allwch chi ddweud yn onest bod yr her a gyflwynwyd gan Alun Michael wedi ei bodloni?

13:45

Wel, Llywydd, gallaf ddweud yn hyderus iawn, er gwaethaf gorfod ymdopi â degawd o gyni cyllidol ei blaid ef, gyda phopeth y mae hynny wedi ei wneud i danseilio'r rhagolygon o fywyd gwell yma yng Nghymru, er gwaethaf y diffyg undod y mae ei blaid ef wedi ei ledaenu gyda'u polisïau o anghydraddoldeb, ac er gwaethaf eu hymdrechion i ddirywio Cymru ar bob cyfle sydd ganddynt, bod Llywodraeth Lafur Cymru, wrth gwrs, wedi buddsoddi mewn bywyd gwell i bobl yma yng Nghymru, gwell rhagolygon economaidd, gwell gwasanaethau cyhoeddus—gwlad sy'n wynebu'r dyfodol gyda mwy o hunanhyder a synnwyr o bwrpas, yn hollol sicr, nag yr oeddem ni yn ôl ym 1999. Ac mae hynny i gyd yn deyrnged i'r hyn y mae Llywodraethau olynol o dan arweiniad Llafur Cymru wedi ei gyflawni yma yng Nghymru.

Wel, Prif Weinidog, efallai eich bod chi'n meddwl bod pethau wedi gwella o dan stiwardiaeth eich plaid, ond mae'n sicr nad yw pobl Cymru yn meddwl hynny. Yn wir, nid yw'r canlyniadau'n dangos dim ond methiannau pan fyddwch chi'n edrych ar ein GIG, ein system addysg a'n heconomi. Prif Weinidog, o dan eich plaid chi, mae amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys ar eu lefel gwaethaf erioed, GIG Cymru fu'r unig ran o'r DU lle bu toriad i'w gyllideb. Mae canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr eleni yn cadarnhau mai Cymru, unwaith eto, yw'r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU ym mhob pwnc. Rydym ni'n dal ar waelod rhestr y DU ar gyfer gwerth ychwanegol crynswth fesul pen. Rydych chi wedi methu â chael gafael ar yr argyfwng tai ac adeiladu digon o dai yma yng Nghymru. Rydych chi wedi methu â chyrraedd unrhyw un o'ch targedau i ddileu tlodi tanwydd. Mae ffermwyr Cymru yn wynebu gor-reoleiddio a diffyg gweithredu ar dwbercwlosis mewn gwartheg. Ac mae ein hawdurdodau lleol sy'n brin o arian yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Dyna i chi hanes o gyflawni, Prif Weinidog. Os bydd Cymru'n parhau o dan arweiniad eich plaid chi, byddwch yn dal i din-droi ar yr M4, ac mae'n debyg y byddwch chi'n gweithio ar ffordd Blaenau'r Cymoedd pan fydd y Cynulliad yn cael ei ben-blwydd yn ddeg ar hugain oed. Prif Weinidog, fel y mae eich Gweinidog iechyd wedi brolio yn y gorffennol, a ydych chi'n falch o'ch hanes o gyflawni, ac a wnewch chi dderbyn erbyn hyn eich bod chi wedi methu â sicrhau gwell bywyd i bobl Cymru?

Llywydd, rwy'n credu y bydd angen i'r Aelod ymarfer ei araith pen stryd ychydig mwy o weithiau er mwyn ei chael hi'n gwbl rugl. Edrychwch, roedd e'n iawn, onid oedd? Nid oes gennym ni ddigon o arian yma yng Nghymru. Pam nad oes gennym ni ddigon o arian? Oherwydd y polisïau y mae ei Lywodraeth ef wedi eu dilyn—degawd o ddinistr gan ei blaid ef yma yng Nghymru. Ac er gwaethaf hynny i gyd, er gwaethaf canslo trydaneiddio'r brif reilffordd, er gwaethaf methiant ei blaid i fuddsoddi ym morlyn llanw bae Abertawe, er gwaethaf y ffaith bod ein cyllideb yn is ddegawd yn ddiweddarach nag yr oedd pan ddaeth ei blaid i rym, mae ein GIG yn trin mwy o gleifion yn gyflymach, yn fwy llwyddiannus nag ar unrhyw adeg yn ei hanes. Gwn nad ydyn nhw'n ei hoffi pan fyddwn ni'n dweud—ond dyma ffeithiau'r mater—mwy o gleifion—

—yn gyflymach, yn fwy llwyddiannus nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, gan gynnwys etholwyr yr Aelod. Ie, nid yw hi'n ei hoffi, ond mae e'n wir.

Ein gwasanaeth addysg—fe'i gwelsom yr wythnos diwethaf. Nid oedd ganddo air da i'w ddweud am blant Cymru yr wythnos diwethaf, na'u hathrawon, na'r holl bobl hynny sydd wedi llwyddo i wneud ein canlyniadau PISA yr unig ran yn y Deyrnas Unedig lle mae canlyniadau wedi gwella ym mhob un o'r tri maes yn ein profion PISA. Dyna lwyddiant ein pobl ifanc a'n hathrawon yma yng Nghymru.

A chrybwyllodd yr economi. Onid yw wedi gweld y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw o'r hyn y mae ei blaid ef yn ei gyflawni ar lefel y DU? Dim hyd yn oed mymryn bach o dwf yn economi'r DU yn y mis diwethaf nac yn y chwarter diwethaf. Crebachu ym maes adeiladu, crebachu ym maes gweithgynhyrchu. Ar ddiwedd degawd o stiwardiaeth ei blaid ef o economi'r DU, rydym ni'n canfod ein hunain ar waelod pob cynghrair sy'n bodoli.

Gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog pam y bu'n rhaid i Lywodraeth y DU leihau gwariant yn 2010: oherwydd bod eich cydweithwyr yn eich plaid wedi dinistrio ein heconomi a'n gadael ni—[Torri ar draws.]—a'n gadael ni gyda thwll du o £150 biliwn. Rwy'n gwybod nad yw'r Blaid Lafur yn hoffi'r gwir, ond dyna'r gwir. Oherwydd gadewch i mi atgoffa'r—[Torri ar draws.] Gadewch i mi atgoffa'r—

Rwy'n gwybod ei bod hi'n ddeuddydd cyn bod etholiad cyffredinol yn y DU, ac roeddwn i'n disgwyl cryn dipyn o sŵn y prynhawn yma, ond mae hyn yn mynd â phethau ychydig bach yn rhy bell nawr. A gawn ni glywed arweinydd yr wrthblaid mewn ychydig o dawelwch?

A gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog, Liam Byrne, cyn brif ysgrifennydd ariannol Llafur y Trysorlys, a adawodd y nodyn hwnnw yn dweud nad oedd dim arian ar ôl—ei eiriau ef, nid fy ngeiriau i. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi, Prif Weinidog: mae eich diffyg gostyngeiddrwydd pan ddaw'n fater o graffu gwirioneddol ar hanes eich Llywodraeth yn frawychus, ac mae'n rhoi cipolwg gwirioneddol i ni ar fywyd pe byddai Plaid Lafur y DU yn dod i rym o dan Jeremy Corbyn a John McDonnell.

Wrth gwrs, mewn llai na 48 awr, bydd pobl Cymru'n mynd i'r gorsafoedd pleidleisio i bleidleisio dros Lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig. Nawr, mae eich plaid chi yn galw ei maniffesto yn 'Sefyll Cornel Cymru', ond ni allai'r realiti fod ymhellach o'r gwir, na allai? Rydych chi'n hollol groes i bobl Cymru pan ddaw hi'n fater o Brexit. Rydym ni'n wynebu'r posibilrwydd o wythnos pedwar diwrnod anfforddiadwy. Ac rydych chi eich hun wedi cadarnhau y byddai codiadau treth yn cael eu cyflwyno o dan Lywodraeth Lafur y DU. Prif Weinidog, yn eich cwestiynau olaf i'r Prif Weinidog yn 2019, ychydig dros 20 mlynedd ar ôl i'r cwestiynau cyntaf i'r Prif Weinidog gael ei gofyn a'u hateb, a wnewch chi ymrwymo nawr i sefyll cornel pobl Cymru a chynrychioli eu dymuniadau, a dechrau sicrhau hyder newydd yng Nghymru ac mewn gwleidyddiaeth?

13:50

Llywydd, mae'r Aelod yn cyfeirio at ddiffyg gostyngeiddrwydd. A welodd ef ei Brif Weinidog ddoe? A welodd ef, pan ofynnwyd iddo edrych ar y llun o blentyn yn gorwedd ar lawr un o ysbytai'r GIG yn Lloegr, pan wrthododd edrych arno, pan wrthododd ddweud dim am drafferthion y plentyn hwnnw? Peidiwch â siarad â ni yn y fan yma am ostyngeiddrwydd. Siaradwch am ddynoliaeth, dim ond am ennyd, a'r diffyg dynoliaeth llwyr a ddangosodd ei arweinydd ef ar y foment honno, gan ddangos yn hollol pam nad oes ganddo ymddiriedaeth pobl yng Nghymru na phobl ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.

Mae'r blaid hon yn sefyll cornel Cymru. Mae'r blaid hon yn sefyll cornel Cymru yn wyneb pob ymosodiad y mae ei blaid ef yn ei wneud. Rydym ni'n sefyll cornel pobl sy'n wynebu ofn ac arswyd credyd cynhwysol. Rydym ni'n sefyll cornel pobl Cymru pan fo'n rhaid iddyn nhw ymdrin â chanlyniadau, canlyniadau bwriadol, polisïau ei blaid ef, a fydd yn creu 50,000 yn fwy o blant mewn tlodi yma yng Nghymru. Rydym ni'n sefyll cornel y bobl hynny sy'n mynd i mewn i'n gwasanaethau cyhoeddus bob dydd—heb arian, i ddyfynnu geiriau arweinydd yr wrthblaid; wedi eu hamddifadu o arian parod gan ei blaid ef—i geisio gwneud y gwasanaethau hynny cystal ag y gallan nhw fod. Rydym ni'n sefyll cornel pobl Cymru, a dyna pam, yn ystod 20 mlynedd o ddatganoli, y mae pobl Cymru, ym mhob etholiad y gofynnwyd y cwestiwn iddyn nhw, wedi dewis rhoi dyfodol y wlad hon yn nwylo'r Blaid Lafur. A dyna'r hyn y byddan nhw'n yn ei wneud eto ddydd Iau yr wythnos hon.

Prif Weinidog, faint o arian sy'n cael ei roi i ymgynghorwyr rheoli yn y sector preifat i geisio trwsio GIG Cymru?

Llywydd, nid oes dim arian yn cael ei roi i ymgynghorwyr preifat. Pan fyddwn ni'n cymryd cyngor y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y fan yma, er enghraifft, i gyflogi cymorth ychwanegol ar frys i'n byrddau iechyd, rydym ni'n cymryd y cyngor hwnnw. Mae'r arian yr ydym ni'n ei wario i sicrhau'r cyngor hwnnw'n ffracsiwn, yn ffracsiwn lwyr, o'r hyn a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Prif Weinidog, mae'r ddau ohonom ni'n cytuno bod preifateiddio graddol yn fygythiad i'r GIG. Y'r hyn sy'n syndod, efallai, yw bod y bygythiad hwnnw, yn rhannol, yn dod gennych chi. Rydych chi'n ariannu trên grefi ymgynghorwyr rheoli ar adeg pan fo staff rheng flaen a gwasanaethau fel adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu hymestyn i'r eithaf. Efallai y gallaf i eich helpu gyda rhai o'r ffigurau, Prif Weinidog. Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth wedi datgelu y talwyd £335,000 am 12 wythnos o waith i un o'r pedwar cwmni ymgynghori mawr, PricewaterhouseCoopers, i ymdrin â phwysau'r gaeaf ym mwrdd Betsi Cadwaladr. Onid ydych chi'n credu y byddai wedi bod yn well gwario'r arian hwnnw ar fwy o feddygon, nyrsys a gofalwyr cymdeithasol i reoli argyfwng y gaeaf, yn hytrach na gweinyddwyr gyda chyflwyniadau PowerPoint?

Fel y gwelwn, Llywydd, mae'r Aelod yn gweithio'n galed dros nos i lunio ei gwestiynau ychwanegol digymell ar ddydd Mawrth. Nid oes angen unrhyw wersi ar y Llywodraeth hon ar sut i gadw'r sector preifat allan o'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. O dan y Blaid Lafur, mae'r GIG yng Nghymru yn parhau i gael ei ariannu'n gyhoeddus, ei ddarparu'n gyhoeddus—wedi ei ddarparu gyda hanfod yr ethos gwasanaeth cyhoeddus, sef yr hyn sy'n dod â phobl i mewn i weithio yn ein GIG bob dydd. Pan fo angen i ni atgyfnerthu ymdrechion y bobl hynny trwy gael cynorthwywyr i wneud yn siŵr bod ein systemau cystal ag y gallan nhw fod, bod y cymorth hwnnw ar gael iddynt, rydym ni'n gwneud hynny. Ni wnaf i ymddiheuro o gwbl am wneud hynny, oherwydd mae'n caniatáu i ni wneud yn siŵr bod ein GIG yn parhau i fod yr hyn a ddywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain yn y British Medical Journal yn ddiweddar—GIG Cymru yw'r agosaf o hyd at ysbryd sefydlu Aneurin Bevan o unrhyw GIG yn y Deyrnas Unedig.

13:55

Prif Weinidog, datgelodd yr un datgeliad rhyddid gwybodaeth hwnnw hefyd bod rhai o'r ymgynghorwyr rheoli hyn yn y gogledd yn cael eu talu hyd at £1,000 y dydd, sy'n fwy nag y mae'r rhan fwyaf o nyrsys yn ei ennill mewn wythnos. Nawr, gadewch i mi gyflwyno un ystadegyn difrifol arall sy'n tynnu sylw at eich camreolaeth o'r GIG yn y gogledd: Mae PwC yn cael eu cyflogi gennych chi i dorri costau—neu, fel y'i hadnabyddir yn llednais, i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd. Rydych chi'n eu rhoi nhw ar gontract talu wrth dorri a fydd yn golygu bod 11 y cant o unrhyw arbediad honedig yn cael ei dalu'n ôl iddyn nhw mewn bonws. Nawr, onid ydych chi'n cytuno ag Unsain, a ddywedodd am yr un arfer yn Lloegr, yn hytrach na llenwi pocedi ymgynghorwyr rheoli, y gellid bod wedi gwario'r arian hwn yn well ar wella gwasanaethau i gleifion? Pryd ydych chi'n mynd i roi'r gorau i wneud yng Nghymru yr hyn y mae eich plaid yn addo rhoi terfyn arno yn yr etholiad hwn yn y wlad drws nesaf?

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed o arian yn ein gwasanaethau iechyd. Roedd y cynnydd i fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru y llynedd yn gyflymach nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Yn gyfnewid am hynny, rydym ni'n disgwyl i'n byrddau iechyd reoli'r arian hwnnw gyda'r canlyniad gorau posibl, oherwydd dyna'r canlyniad y mae cleifion Cymru yn ei ddisgwyl. A thra bo'r GIG yng Nghymru yn ein dwylo ni, yna bydd cleifion yng Nghymru yn gwybod, yma, y byddant yn parhau i gael presgripsiynau am ddim, yma, bod gennym ni fwrsariaethau nyrsys. Nid oes arnom ni angen, fel y mae ei blaid ef—maen nhw'n dweud yn eu maniffesto nhw eu bod nhw'n mynd i ailgyflwyno rhywbeth yr oedden nhw'n gyfrifol am ei dorri. Yma, nid ydym byth yn torri o gwbl. Yma, caiff cleifion barcio am ddim yn eu hysbytai. Nid oes angen i ni ei roi yn ein maniffesto yma, oherwydd mae hynny gan gleifion Cymru eisoes.

Mae cleifion Cymru yn deall, Llywydd. Mae cleifion Cymru yn y gogledd yn deall—mae cleifion Cymru yn y gogledd yn deall bod y Llywodraeth Lafur hon yn buddsoddi er mwyn darparu gwasanaeth iddyn nhw o'r math y maen nhw'n ei gydnabod. Cynyddodd cyfraddau bodlonrwydd yn GIG y gogledd y llynedd ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae arweinydd Plaid Cymru yn meddwl ei fod yn glyfar yn gweiddi arnaf i am ei gwestiwn. Yr hyn y mae ei gwestiwn yn ei wneud yw'r hyn y mae ef yn ei wneud wrth iddo fynd o amgylch y stiwdios teledu, sef bychanu Cymru. Mae ei blaid, plaid rhannau o Gymru, y rhannau hynny y maen nhw'n credu ei bod hi'n werth cyflwyno ymgeiswyr i bleidleisio drostynt—mae ei ymateb rhannol yn y maes hwnnw yn nodweddiadol o'i ymateb yn gyffredinol. Mae GIG Cymru yn ddiogel yn nwylo'r Blaid Lafur, a gydnabyddir gan gleifion ledled Cymru, yn y gogledd, ac ym mhob rhan o Gymru.

Prif Weinidog, rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddylanwadol gan fod polisi eich plaid ar refferendwm yr UE wedi esblygu o ddweud y byddech chi'n ei barchu i wneud y gwrthwyneb. Rydych chi'n honni y byddai'r ail refferendwm yr ydych chi ei eisiau, gan nad ydych chi'n hoffi canlyniad y cyntaf, rhwng y dewis o 'adael' credadwy ac 'aros'. A allwch chi gadarnhau y byddai'r hyn yr ydych chi'n ei alw'n ddewis o 'adael' credadwy yn golygu aros yn undeb tollau'r UE, aros yn rhan o farchnad sengl yr UE ac yn parhau i fod yn destun rhyddid i symud yr UE? Oni fyddai hwnnw'n refferendwm caeth rhwng 'aros' ac 'aros'?

Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n dywysydd i ni ar esblygiad swyddi gwleidyddol, gan ei fod wedi esblygu ei ffordd o gwmpas y Siambr hon nifer o weithiau. Wrth gwrs, mae'n credu na ddylid caniatáu i neb arall newid eu meddwl, er ei fod ef yn newid ei feddwl gyda rheoleidd-dra sylweddol.

Mewn refferendwm, a'r unig ffordd, Llywydd, y bydd pobl yng Nghymru byth yn cael ail refferendwm yw drwy bleidleisio dros y Blaid Lafur ddydd Iau—yn yr ail refferendwm hwnnw, bydd dewis 'gadael' ymarferol yn cael ei gynnig i bobl, pryd y byddwn yn gwneud hynny—er y bydd llawer ohonom yn ei resynu. Pe byddem ni'n gwneud hynny, byddem ni wedi gadael sefydliadau gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd, ni fyddem yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd mwyach, ond ni fyddem yn ei wneud mewn ffordd sy'n sicrhau niwed i'n heconomi, i swyddi, i'n rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

14:00

Prif Weinidog, rwyf i wedi cefnogi Brexit erioed, wrth i chi geisio atal Brexit yn ogystal â cheisio rigio'r cwestiwn ar gyfer ail refferendwm. A yw Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd i'ch plaid rigio'r etholfraint? Fe wnaethoch chi golli eich mwyafrif yn etholiad diwethaf y Cynulliad ac rydych chi'n parhau i golli cefnogaeth draddodiadol. Yn hytrach na gwrando, dysgu a newid eich polisïau, rydych chi wedi penderfynu yn hytrach dilyn Bertolt Brecht o Ddwyrain yr Almaen drwy newid yr etholaeth. A allwch chi gadarnhau bod Llafur y DU—[Torri ar draws.] A allwch chi gadarnhau bod Llafur y DU yn dilyn Llywodraeth Cymru yn hyn o beth hefyd? Oherwydd i chi golli ar sail yr etholfraint bresennol, a fyddai eich refferendwm gaeth yn rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed, gwladolion yr UE a charcharorion?

Llywydd, ceisiais wrando'n astud ar y cwestiwn gan nad oeddwn i'n ei ddeall o gwbl mewn gwirionedd. Ble mae'r Aelod yn gywir? Mae'n gywir yn hyn o beth: dim ond pleidlais dros y Blaid Lafur fydd yn rhoi'r penderfyniad hynod rwygol hwn yn ôl yn nwylo'r bobl, lle'r ydym ni'n credu y dylai fod. Yn y refferendwm hwnnw, bydd y blaid a'r Llywodraeth yr wyf i'n eu harwain yn ymgyrchu i aros, fel y mae gennym ni'r hawl i'w wneud. Yn union fel y bydd ef yn ymgyrchu i berswadio pobl i adael, byddwn ni'n ymgyrchu i berswadio pobl bod ein dyfodol yn well yn yr Undeb Ewropeaidd. A wyf i'n credu y dylai pobl ifanc 16 oed gael pleidlais yn yr etholiad hwnnw? Ydw'n sicr, oherwydd eu dyfodol nhw a dyfodol pobl ifanc a chenedlaethau'r dyfodol i ddod a fyddai yn y fantol mewn refferendwm o'r fath. Mae'r bobl ifanc hynny'n haeddu cyfle i leisio eu barn, i gael eu perswadio ganddo ef neu gennyf i, oherwydd eu dyfodol nhw fydd yn y fantol mewn unrhyw ddewis o'r fath.

Staff GIG Cymru

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff yn y GIG yng Nghymru? OAQ54812

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff y GIG trwy fwy o addysg a hyfforddiant proffesiynol, blaenoriaethu recriwtio a chadw a chymryd camau i sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu gwerthfawrogi a'u diogelu yn y gweithle.

Diolch. Wel, yr wythnos diwethaf, bron i bedair blynedd ar ôl i Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 gael Cydsyniad Brenhinol, cyhoeddodd eich Gweinidog iechyd ddatganiad cryno yn datgan mai dim ond rhaglen staff nyrsio Cymru gyfan sy'n sbarduno'r gwaith archwiliadol o ymestyn Deddf 2016. Ddiwedd y mis diwethaf, lansiodd Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru ei adroddiad cynnydd a her ar weithredu'r Ddeddf, a ddywedodd bod y gweithlu nyrsio yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol: gwaethygir nifer uchel y swyddi gwag, yr amcangyfrifwyd ganddyn nhw i fod o leiaf 1,600, gan fwy o brinder yn y sector cartrefi gofal a'r posibilrwydd o golledion sylweddol i ymddeoliad yn ystod y pum i 10 mlynedd nesaf. Sut, felly, mae Llywodraeth Cymru—ydych chi—yn ymateb i'r cwestiynau a ofynnwyd ganddyn nhw i Lywodraeth Cymru yng nghyd-destun y gogledd? Sut mae'r trefniadau mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn monitro ac yn cynorthwyo'r bwrdd i gydymffurfio â'r Ddeddf? A wnewch chi gynyddu nifer y myfyrwyr dan hyfforddiant, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi gofyn i chi ei wneud, ac a wnewch chi gefnogi lleoli nyrsys dan hyfforddiant nad ydynt wedi'u comisiynu o Brifysgol Glyndŵr, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi gofyn i chi ei wneud?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Roeddwn i yn bresennol mewn digwyddiad Coleg Nyrsio Brenhinol i ddathlu pasio'r Ddeddf staff nyrsio diogel i'r llyfr statud yma yng Nghymru a phopeth a wnaed ers hynny i wneud yn siŵr bod y nifer briodol o nyrsys o dan yr amgylchiadau priodol ar bob ward. Croesawyd ganddynt y ffaith fod y Gweinidog yn symud ymlaen i sicrhau bod effaith y Ddeddf honno'n cael ei theimlo mewn lleoliadau newydd. Siaradais â llawer o nyrsys ar y noson honno, Llywydd. Siaradais yn arbennig â grŵp o nyrsys o'r gogledd, a ddywedodd wrthyf gymaint yn anoddach y mae eu bywydau'n cael eu gwneud gan y beirniadu parhaus o'r bwrdd hwnnw, yn enwedig gan aelodau'r blaid gyferbyn—sut y mae hynny'n ei gwneud yn fwy anodd recriwtio a chadw pobl yn y bwrdd iechyd hwnnw. [Torri ar draws.] Dyna eiriau nyrsys yn siarad â mi. Y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw dweud wrthych chi yr hyn a ddywedasant am eich plaid chi a'i heffaith ar eu bywydau gwaith beunyddiol.

Yma, yn Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys gan 89 y cant ers i ni ddechrau ein taith chwe blynedd o gynyddu pob un flwyddyn faint o fuddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn hyfforddi meddygon a phroffesiynau perthynol i feddygaeth yma yng Nghymru. Rydym ni'n ymdrin bob dydd â'r effaith y mae Brexit yn ei chael—un o bolisïau eraill ei blaid ef—ac effaith ar y gogledd yn arbennig, lle mae staff a recriwtiwyd i weithio yma yng Nghymru o Weriniaeth Iwerddon a Sbaen wedi teimlo oerfel rhethreg Brexit ei blaid ac wedi penderfynu gwneud eu dyfodol mewn mannau eraill yn hytrach nag yma yng Nghymru. Ac mae hynny'n arbennig o wir, Llywydd, yn y sector cartrefi gofal y cyfeiriodd yr Aelod ato yn ei gwestiwn. Bydd effaith Brexit yn ein sector cartrefi gofal, boed hynny'n nyrsys cymwysedig, boed yn staff cartrefi gofal, yn wirioneddol ac yn cael ei theimlo ym mywydau pobl yma yng Nghymru.  

Rydym ni'n mynd ati i wneud popeth y gallwn drwy ein rhaglen 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' a phopeth arall i wneud yn siŵr bod gennym ni'r staff sydd eu hangen arnom ni yma yng ngwasanaeth iechyd Cymru. Nid yw'n cael ei helpu gan lawer o'r pethau a ddywedir wrthym ni ar lawr y Cynulliad hwn ganddo ef a'i blaid.

14:05

Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi mai un o'r ffactorau allweddol i unrhyw weithlu deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael cefnogaeth yw os byddan nhw'n teimlo bod systemau priodol ar waith i ganiatáu iddyn nhw godi pryderon yn effeithiol os byddan nhw'n gweld rhywbeth y maen nhw'n teimlo sy'n anghywir, os byddan nhw'n gweld arferion nad ydyn nhw'n teimlo sy'n ddiogel, os byddan nhw'n gweld bod arferion nad ydyn nhw'n teimlo sy'n dangos parch ac yn effeithiol. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod pryderon nad yw ein harferion presennol yma yng Nghymru yn ddigon annibynnol, a chaiff y pryderon hynny eu codi gan rieni a theuluoedd a hefyd gan sefydliadau proffesiynol. A all y Prif Weinidog ddweud pa un a yw wedi ei argyhoeddi ai peidio ein bod ni'n rhoi'r camau cywir ar waith yma yng Nghymru i sicrhau y gellir cynorthwyo staff pan eu bod yn codi pryderon, ac a wnaiff ef ymrwymo i gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dawelu ei feddwl ei hun nad oes mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod pryderon yn cael eu codi'n ddiogel—mwy y gallwn ni ei wneud ac nad ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr, Llywydd, â'r hyn y mae Helen Mary Jones wedi ei ddweud am bwysigrwydd diwylliant yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn y gwasanaeth iechyd bod pobl sydd â phryderon yn gwybod, pan fydd y pryderon hynny'n cael eu codi, y byddan nhw'n cael gwrandawiad parchus; byddan nhw'n cael eu hystyried fel rhai sydd â'r arbenigedd sydd gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau rheng flaen, pan eu bod nhw'n gweld pethau y maen nhw'n credu sy'n mynd o chwith neu y gellid eu gwneud mewn ffordd well. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd yn gweithio gyda Vaughan Gething, comisiynwyd Keith Evans  ar y cyd gennym i lunio'r adroddiad 'Defnyddio Cwynion yn Rhodd'. Roedd Keith Evans, fel y gwyddoch, yn weithredwr uchel iawn yn Panasonic a daeth gydag ef i'r GIG y synnwyr hwnnw o sut, os oes rhywun wedi mynd i'r drafferth—boed yn aelod o staff neu'n glaf, os yw wedi mynd i'r drafferth i roi gwybod i chi am ei brofiad a sut y mae'n meddwl y dylai pethau gael eu cywiro, na ddylech ystyried hynny fel cwyn i boeni amdani, ond fel rhodd y mae'r person hwnnw'n ei wneud i chi, oherwydd dyna yw ei gyfraniad ef. Fel y mae pobl yn dweud wrthych chi dro ar ôl tro yng Nghymru, os ydyn nhw yn cymryd camau o'r fath, mae er mwyn gwneud yn siŵr nad oes rhywun arall yn dioddef rhywbeth y maen nhw wedi ei weld neu y maen nhw eu hunain wedi cael profiad ohono. Ac wrth gwrs rydym ni'n parhau i adolygu hynny. Byddwn yn adolygu'r polisi 'Gweithio i Wella' yn ystod y misoedd nesaf, ac mae'r Gweinidog iechyd a minnau yn trafod yn rheolaidd ffyrdd y gallwn ni wneud yr hyn a allwn ni i greu'r math o ddiwylliant y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato.

Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar staff y GIG, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'n Nadolig eto ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i fod yn destun mesurau arbennig. A fydd bwrdd iechyd gogledd Cymru yn dal i fod o dan reolaeth a goruchwyliaeth eich Llywodraeth chi y Nadolig nesaf?

Wel, fe atebaf y cwestiwn hwnnw yr adeg yma y flwyddyn nesaf, Llywydd.

Canser y Pancreas

5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch lleihau amseroedd aros am lawdriniaeth i drin canser y pancreas? OAQ54849

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwneud ymrwymiad i ystyried cyflwyno model mynediad cyflym i drin canser pancreatig. Cynhaliwyd trafodaeth ar y materion hyn eisoes gyda Rhwydwaith Canser Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Yn dilyn ein dadl drawsbleidiol ar hyn, a gefnogwyd yn dda, cysylltodd menyw â mi yr wythnos diwethaf a oedd newydd gael diagnosis yr wythnos diwethaf o ganser pancreatig, ond dywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi aros dau fis am lawdriniaeth. Fe wnaeth hynny beri gofid a syndod mawr iddi. Yn ddealladwy, roedd ei gŵr yn ddig iawn ac roeddwn i'n cydymdeimlo â'r ddau ohonyn nhw, gan ein bod ni'n gwybod bod canser pancreatig yn un o'r canserau mwyaf angheuol a bod angen ei drin o fewn 21 diwrnod mewn gwirionedd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y diweddariad yr ydych chi newydd ei roi a'ch bod chi eisoes yn cymryd camau yn dilyn y ddadl a gynhaliwyd gennym yn y fan yma, ond pa sicrwydd allwch chi ei roi, yn y cyfamser, tra ein bod ni'n edrych ar y mater mynediad cyflym hwnnw, ein bod ni hefyd yn edrych ar frys ar gomisiynu llawdriniaethau dros y ffin yn Lloegr i gleifion sy'n ddigon iach i allu cyflawni'r daith honno i gael eu llawdriniaeth yn brydlon?

14:10

Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn atodol yna. Wrth gwrs, mae ni'n iawn bodi canser pancreatig yn un o'r canserau mwyaf creulon, bod diagnosis cynnar yn arbennig o anodd oherwydd y symptomau amwys, fel y maen nhw'n eu galw yn y byd clinigol, y mae'n tueddu i'w cyflwyno. Bydd yn gwybod hefyd, hyd yn oed pan fydd diagnosis cynnar yn bosibl, bod cyfran sylweddol o gleifion sy'n addas ar gyfer llawdriniaeth hefyd wedi cael clwyf melyn ar y pwynt hwnnw ar lwybr y salwch, y mae'n rhaid ei drin cyn y gellir cynnal y llawdriniaeth. Felly, ceir rhai heriau clinigol gwirioneddol wrth ymdrin â chanser pancreatig drwy lawdriniaeth.

Felly, mae gennym ni ddau fater i ymdrin â nhw yma yng Nghymru, Llywydd. Ceir y llwybr presennol y cyfeiriodd Lynne Neagle ato—a bydd yn falch, rwy'n gwybod, bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe yn bwriadu recriwtio pedwerydd llawfeddyg pancreatig i gynyddu capasiti theatr llawdriniaeth o ddwy sesiwn drwy'r dydd ar hyn o bryd i dair sesiwn drwy'r dydd yn y dyfodol, a'u bod nhw'n ehangu eu gweithlu nyrsio arbenigol clinigol ar yr un pryd. Tra bod hynny'n digwydd, maen nhw eisoes yn atgyfeirio cleifion ar draws ein ffin i gapasiti mewn mannau eraill, ac mae cleifion o Gymru sydd wedi cael cynnig llawdriniaeth, er enghraifft, yn ysbyty King's College yn Llundain—mae cleifion eisoes wedi derbyn y cynnig hwn ac wedi cael llawdriniaeth yno. Felly, mae gwaith i'w wneud a mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod y llwybr presennol yn gweithio i'r eithaf ac yna ceir—fel y gwn y trafododd yr Aelod yn ystod y ddadl a gynhaliwyd gennym ni yn y fan yma dim ond rhyw wythnos yn ôl—y cyngor diweddaraf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a luniodd werthusiad tystiolaeth yn gynharach eleni fel y gellir cynnig llawdriniaeth yn gyflymach i gleifion y canfyddir eu canser ar y cam cynharaf. Dyna'r drafodaeth a gynhaliwyd eisoes gyda Rhwydwaith Canser Cymru ers i'r ddadl honno gael ei chynnal. Mae'r Gweinidog yn cyfarfod yr wythnos nesaf gyda Chynghrair Canser Cymru ac mae elusen canser pancreatig y DU yn rhan o'r gynghrair honno. Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn o'r llwybr canser sengl yr ydym ni wedi ei ddatblygu yng Nghymru a byddwn ni'n chwilio am ffyrdd nawr y gellir ymgorffori'r cyngor diweddaraf hwnnw gan NICE yn y ffordd y mae'r llwybr canser sengl hwnnw'n cael ei ddatblygu.

Prif Weinidog, mae Pancreatic Cancer UK wedi dweud ei fod yn

siomedig o weld Llywodraeth Cymru yn gwrthod cydnabod y ffaith bod canser pancreatig yn argyfwng canser pan fo Llywodraethau eraill y DU wedi derbyn yr angen i weithredu'n gyflymach pan fo angen clinigol.

Nawr, rwyf yn croesawu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, gan ei fod yn ymddangos yn newid pwyslais sylweddol o ran mynediad cyflym at lawdriniaeth, ond dull cyffredinol sydd ei angen arnom ni, gan fod hwn yn ganser cymharol gyffredin ac mae'r prognosis yn parhau i fod yn siomedig iawn, tra, yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, bod llawer o ganserau cyffredin eraill wedi cynyddu'r amser a'r siawns o oroesi, yn wir, o ollyngdod parhaol. Dyna sydd ei angen arnom ni, ac rwy'n gobeithio mai dyma'r cam cyntaf yr ydych chi'n ei wneud i ganolbwyntio'n wirioneddol ar ganser pancreatig fel ei fod yn cael ei dynnu i'r un math o lefel ag yr ydym ni, a bod yn deg, wedi ei gyflawni ar gyfer canserau cyffredin eraill.

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod arwyddocâd canser pancreatig a'r her a wynebir o ran darparu triniaeth lwyddiannus ar ei gyfer. Yng nghanol degawd cyntaf datganoli, roedd cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn ar gyfer canser pancreatig yng Nghymru yn 18 y cant. Yng nghanol y degawd hwn, roedden nhw'n 28 y cant. Nawr, mae 28 y cant yn dal i fod ar ben isaf yr hyn y gall canserau eraill ei gyflawni, ond serch hynny mae'n gynnydd o 10 y cant i gyfraddau goroesi am flwyddyn o fewn degawd. Ac os gallwch chi ganfod canser pancreatig yng nghyfnod 1, yna mae'r cyfraddau goroesi am flwyddyn yn uwch na 60 y cant. Felly, rydym ni'n gwybod, lle'r ydym ni'n gallu cael ymateb cynnar i ganser pancreatig, bod pethau llwyddiannus y gellir eu gwneud. Yr her, fel y dywedais yn fy ateb i Lynne Neagle, fel y gwyddom, yw gwneud diagnosis cynnar, oherwydd nid yw'r symptomau'n hawdd eu canfod ac maen nhw wedi eu cuddio gan eu bod nhw'n edrych fel y gallen nhw fod yn gyflwr gwahanol.

Rydym ni wedi gwneud pethau anferthol yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf i gynyddu'r diagnosis cynnar o ganser. Llywydd, o 100 o gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu gyda chanser tybiedig, canfyddir yn y pen draw nad oes gan 93 ohonyn nhw ganser o gwbl. Ond y rheswm y mae hynny'n beth da yw ei fod yn dangos ein bod ni wedi cynyddu nifer y bobl sy'n dod i mewn i'r system i gael y siawns mwyaf posibl hwnnw o'r diagnosis cynharaf posibl. Nid canser pancreatig yw'r canser rhwyddaf o bell ffordd i wneud i hynny weithio ac rydym ni'n gwybod erbyn hyn, lle gallwch wneud iddo weithio, bod gan ymyraethau llawfeddygol ran bwysicach i'w chwarae. Rydym ni'n parhau i fod yn benderfynol o weithio gyda'n rhwydwaith canser yma yng Nghymru i wella canfyddiad a diagnosis cynnar ac yna i roi'r gwasanaethau ar waith sy'n ymateb i hynny gyda'r effeithiolrwydd clinigol mwyaf posibl.

14:15

Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn yr atebion sobr a difrifol y mae wedi eu rhoi i gwestiynau cynharach, ac yn wahanol iawn i'r pantomeim a gawsom ni ar ddechrau'r cwestiynau heddiw. Erys y ffaith fod gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd ymhlith gwledydd sydd â data cymaradwy. Rydym ni'n bedwerydd ar ddeg ar hugain o 36 yn y ffigurau diweddaraf yr wyf i wedi eu gweld gan Pancreatic Cancer UK, yr wyf i'n gwisgo eu rhuban heddiw, o ran goroesi am bum mlynedd.

Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn derbyn gennyf, os edrychwn ni yn ôl 10 neu 15 mlynedd, ein bod ni'n edrych ar ganser y prostad yn yr un modd negyddol, ond bu datblygiadau aruthrol o ran trin canser y prostad yn y cyfnod hwnnw a gallai'r un peth fod yn wir gyda mwy o flaenoriaeth i ddioddefwyr canser pancreatig hefyd. Gwn fod y Llywodraeth wedi bod yn gyflym i ddatgan argyfwng hinsawdd; ni allaf ddeall felly pam y mae'n teimlo mewn unrhyw ffordd ei bod wedi ei llesteirio rhag gwneud yr un peth ar gyfer canser pancreatig oherwydd mae hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth aruthrol o bosibl i fywydau nifer fawr o bobl o gofio'r newyddion hynod ofidus y mae hyn yn ei gyfleu i bobl sy'n darganfod yn sydyn eu bod yn ddioddefwyr. Tua 25 y cant yn unig yw'r gyfradd oroesi am fis, neu beth bynnag yw ef—dim ond tua 25 y cant yw ef am flwyddyn. Felly, po fwyaf o flaenoriaeth y gall y Llywodraeth ei rhoi i hyn, y gorau fydd pethau.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn difrifol yna ac fe geisiaf barhau i roi ateb difrifol iddo. Y rheswm pam rwy'n credu ein bod ni'n gyndyn o ddewis math arbennig o ganser a datgan bod hwnnw'n argyfwng yw ar gyfer pob claf sy'n cael diagnosis o unrhyw fath o ganser mae hwnnw'n argyfwng yn eu bywydau. Rydym ni wedi bod yn amharod, rwy'n credu, am resymau da iawn i ddilyn trywydd lle mae gennym ni hierarchaeth o wahanol gyflyrau, lle'r ydym ni'n ceisio tynnu sylw at gyflwr penodol ac yn ceisio dweud ei fod rywsut yn bwysicach ac yn fwy arwyddocaol na chyflwr arall.

Nid yw hynny'n golygu nad wyf i'n deall y ddadl sy'n cael ei gwneud oherwydd yr effaith benodol iawn y mae'r canser hwn ac anawsterau diagnosis cynnar yn ei chael. Felly, nid wyf i am funud yn wfftio'r ddadl sy'n cael ei gwneud, ond mewn ateb difrifol dyna'r rheswm pam yr ydym ni wedi bod yn gyndyn i ddilyn y trywydd hwnnw. Mae canser pancreatig i unrhyw un sy'n dioddef ohono yn argyfwng, ond mae hynny hefyd yn wir i rywun sydd â chanser yr afu neu ganser yr ysgyfaint neu ganser y fron. Ac rwy'n gyndyn i ddweud bod un math o ganser yn achos mwy brys neu'n fwy o argyfwng rywsut nag un arall oherwydd, o safbwynt y claf, nid wyf i wir yn meddwl ei fod yn edrych felly.

Tasglu'r Cymoedd

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Tasglu'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent? OAQ54832

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae mentrau tasglu Cymoedd Blaenau Gwent yn cynnwys £500,000 i sefydlu Parc Bryn Bach fel safle porth i barc rhanbarthol y Cymoedd. Ar yr un pryd, bydd yr ardaloedd yn elwa ar gronfa her yr economi sylfaenol, y grant cartrefi gwag ac, yn y flwyddyn newydd, y cynllun arbrofol bysiau ymatebol integredig y bwriedir ei gynnal ym Mlaenau Gwent.

14:20

Rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am yr ymateb yna, a hefyd i Ddirprwy Weinidog yr economi, sydd wedi bod yn arwain ar lawer o'r mentrau hynny. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar i Weinidog yr economi am ei eiriau a'i gyfarfodydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf am y datblygiadau gyda Thales ac chyda TVR. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo adnoddau sylweddol ac wedi gwneud nifer o ddatganiadau ar gefnogi'r buddsoddiad yn TVR a chefnogi twf presenoldeb Thales yng Nglynebwy, ac rydym ni i gyd yn falch iawn o weld y buddsoddiadau hynny'n cael eu gwneud yn y fwrdeistref. Ond rydym ni hefyd yn edrych ar fframwaith cyffredinol y Cymoedd Technoleg, ac mae'n bwysig bod yr ymrwymiad a wnaed gan y Llywodraeth hon i fuddsoddiad o £100 miliwn dros y degawd nesaf i newid yn llwyr dyfodol economaidd, nid yn unig Blaenau Gwent ond holl ranbarth Blaenau'r Cymoedd, yn cael ei gyflawni ac y gallwn ni weld yr elfennau hynny o ddarpariaeth yn dod i rym dros y cyfnod sydd i ddod. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi'n disgwyl i'r Cymoedd Technoleg fod yn datblygu dros y 12 mis nesaf a'r buddsoddiadau yr ydych chi'n rhagweld y byddan nhw'n cael eu gwneud yn ystod y cyfnod amser hwn?

Llywydd, diolchaf i Alun Davies am hynna ac am y diddordeb parhaus, wrth gwrs, y mae'n ei gymryd yn y materion hyn. Bydd yn gwybod fy mod i, ynghyd â Ken Skates, wedi cyfarfod ag uwch swyddogion o Thales ddydd Llun yr wythnos diwethaf, gan gynnwys prif swyddog gweithredol Thales UK, ac roedden nhw'n awyddus iawn i siarad am yr hyn y maen nhw eisoes wedi ei gyflawni drwy eu presenoldeb yng Nglynebwy.

Roedd hi'n galonogol iawn yn wir i glywed am y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda menywod ifanc yn enwedig mewn ysgolion yn yr ardal honno a'r ymdrechion bwriadol iawn y maen nhw'n eu gwneud fel cwmni i wneud yn siŵr bod swyddi'r dyfodol y byddan nhw'n eu creu yn wirioneddol agnostig o ran rhyw, a'u bod ar gael i'r un lefelau i fenywod ifanc ag y maen nhw i ddynion ifanc. Maen nhw wedi cymryd rhai camau ymarferol iawn, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, i wneud yn siŵr y gall hynny ddigwydd. Fe wnaethon nhw siarad â mi am fuddsoddiadau pellach y maen nhw'n gobeithio y byddwn ni'n gallu eu gwneud ochr yn ochr â nhw i barhau i wneud y ganolfan seiberddiogelwch genedlaethol yn rhan fywiog o'r economi leol honno, gan gofio mai'r de-ddwyrain sydd â'r crynodiad mwyaf o gwmnïau seiberddiogelwch yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, gan ddenu diddordeb gwirioneddol gan fuddsoddwyr rhyngwladol yn hynny hefyd.

O ran TVR, rydym ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r cwmni hwnnw. Roeddwn i'n falch iawn o weld eu bod nhw wedi cymryd rhan yn y fforwm modurol, sef cyfarfod mawr y fforwm a gynhaliwyd gennym yr wythnos diwethaf yn rhan o agoriad ffurfiol Aston Martin. Mae arian ar gael gan Lywodraeth Cymru i'w fuddsoddi ar y cyd â TVR mewn safleoedd yn ardal Blaenau Gwent. Rydym ni angen i'r cwmni fod mewn sefyllfa gref i sicrhau eu bod hwythau hefyd yn gallu cyflwyno'r buddsoddiad preifat sy'n angenrheidiol i sicrhau llwyddiant y buddsoddiad mewn seilwaith y byddem ni'n ei wneud fel Llywodraeth. Mae'r trafodaethau hynny'n cael eu harwain, fel y dywedodd Alun Davies, gan y Dirprwy Weinidog, gwn ei fod yn hapus i gyfarfod a rhoi gwybodaeth fanylach i chi ynghylch sefyllfa bresennol y trafodaethau gyda TVR.

Cyflymder Band Eang

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb o ran cyflymder band eang yng ngorllewin Cymru? OAQ54837

Diolchaf i'r Aelod. Er nad yw darparu band eang yn fater sydd wedi ei ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag methiant y farchnad. Buddsoddwyd dros £32 miliwn, er enghraifft, mewn darparu cyflymder band eang cyfartalog o 82 Mbps i dros 111,000 o safleoedd ar draws y gorllewin.

Diolch am hynna, er mae'n rhaid i mi ddweud nad yw eich ymdrechion i ddiogelu cyflymderau band eang wedi bod yn gwbl lwyddiannus. Ail-bwysleisiodd adroddiad a gyhoeddwyd gan y grŵp defnyddwyr uSwitch yr wythnos diwethaf yr anghysondeb rhwng cyflymderau band eang. Er enghraifft, ym Mhenffordd, cofnodwyd y cyflymderau lawrlwytho cyfartalog arafaf, a oedd yn golygu y byddai ffilm Netflix HD dwy awr o hyd yn cymryd mwy nag 11 awr i'w lawrlwytho. Fodd bynnag, yn Clare Walk ym Mhenfro, gellid lawrlwytho'r un ffilm honno mewn 11 munud yn unig. Fy mhryder ynglŷn â hyn yw oherwydd, fel y gwyddom, mae cyflymderau band eang yn hanfodol ar gyfer iechyd, ar gyfer addysg, ar gyfer cyfathrebu ac ar gyfer adloniant. Rydych chi wedi cael symiau sylweddol o arian, a sylwaf ym maniffesto'r Blaid Lafur eich bod chi'n cynnig band eang am ddim i bawb yn rhan o'ch anrhegion Nadolig. Ond, beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod yr arian a roddwyd i chi gan San Steffan ar gyfer y prosiectau hyn eisoes [Torri ar draws.]—rwy'n mynd i anwybyddu'r gwichian yn y cefndir—yn sicrhau mewn gwirionedd bod gennym ni fand eang sy'n addas i'w ddiben? Rydych chi wedi cael llwyth o arian.

14:25

Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru yn cael arian gan Lywodraeth y DU at y diben hwn gan fod hwn yn gyfrifoldeb nad yw wedi ei ddatganoli. Felly, byddai'n llawer gwell i'r Aelod gyfeirio ei gwestiynau at y rhai sy'n gyfrifol am y mater hwn. Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yw defnyddio arian a ddarparwyd i ni at ddibenion eraill, ac arian yr ydym yn ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd, i unioni methiant y Llywodraeth Geidwadol i fynd i'r afael â'r problemau—y problemau gwirioneddol, go iawn—y mae'r Aelod wedi eu codi.

Mae hi'n hollol iawn i ddweud bod y Blaid Lafur, yn ein maniffesto, yn gwneud cynigion a fyddai'n mynd i'r afael â'r anawsterau y mae'r Aelod wedi eu nodi. O dan rwymedigaeth gyfredol y gwasanaeth cyffredinol. Mae gennym ni sefyllfa yng Nghymru nad yw'n gyffredinol. Yn sicr, nid yw'n rhwymedigaeth. Mewn rhai rhannau o Gymru, prin iawn ei fod yn wasanaeth. Mae'r Blaid Lafur a'n maniffesto yn cydnabod na fydd band eang yn wasanaeth braf i'w gael neu'n ategol yn y dyfodol; bydd yn gyfleustod pwysig, a dylid ei drin fel gwasanaeth cyffredinol.

Byddwn yn buddsoddi i sicrhau y bydd y cymunedau hynny ledled Cymru sy'n dibynnu ar fand eang ar gyfer eu busnesau ac ar gyfer eu cartrefi yn ei gael o dan Lywodraeth Lafur. Mae pobl yng Nghymru sydd â diddordeb yn hynny ac sydd wedi clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yn gwybod pwy y mae'n rhaid iddyn nhw bleidleisio drosto er mwyn ei gael.

Cyfraddau Goroesi Canser

8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser yn 2020? OAQ54818

Llywydd, nodir y camau gweithredu hyn yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser yng Nghymru. Maen nhw'n cynnwys pwyslais ar ganfod yn gynnar a chyflwyno un llwybr canser. Drwy wneud hynny, gallwn barhau i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru.

Diolch i chi am yr ateb yna, Gweinidog. Y ffaith yw bod rhoi diagnosis i bobl ar y cam cynharaf yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyfle gorau i gleifion oroesi canser. Fodd bynnag, mae pob bwrdd iechyd heblaw am un yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd recriwtio a chadw radiograffwyr. Mae oddeutu un o bob 10 o swyddi nyrs endosgopi yn wag, ac mae rhai byrddau'n gorfod dod â thimau o Loegr i mewn i glirio ôl-groniadau. Prif Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i gynyddu'r lleoedd hyfforddi clinigol yn unol ag anghenion cleifion Cymru yn y presennol ac yn y dyfodol, os gwelwch yn dda?

Llywydd, dywedais yn gynharach, wrth ateb cwestiwn arall, fod Llywodraeth Cymru erbyn hyn, am chwe blynedd yn olynol, wedi buddsoddi mwy o arian bob blwyddyn yn hyfforddiant ein gweithwyr clinigol ac yn y proffesiynau sy'n gysylltiedig â meddygaeth, fel bod gennym ni'r gweithlu y mae ei angen arnom ni yma yng Nghymru. Mae hynny'n sicr yn cynnwys cynnydd yn nifer y radiograffwyr sy'n cael eu hyfforddi.

Ond, yn ogystal â bod â mwy o bobl yn cael hyfforddiant, mae'n rhaid i chi hefyd greu'r amodau lle gall y bobl hynny ymarfer a datblygu eu sgiliau, fel eu bod yn gallu gwneud y gwaith angenrheidiol sy'n galw am sgiliau penodol yn y gwasanaeth iechyd. Dyna pam yr ydym ni wedi creu academi ddigidol yma yng Nghymru, yn ardal Cwm Taf. Mae'n darparu man lle gellir gwella radiograffeg o ran nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r proffesiwn, ond lle gallwn ni hefyd greu'r amodau lle y bydd y sgìl arbenigol iawn hwnnw, sy'n datblygu dros amser, yn cael ei wneud yn wahanol yn y dyfodol, lle y gellir creu gweithlu'r dyfodol.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015? OAQ54824

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac ymgyrch Rhuban Gwyn 2019 wedi tynnu sylw at yr angen i weithredu Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn llym ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol.

14:30

Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae'r archwilydd cyffredinol wedi dweud bod dioddefwyr a goroeswyr yn wynebu system dameidiog sy'n anghyson, yn gymhleth ac yn fyrdymor. Ac mae'n dweud bod y cynnydd o ran cyflawni agweddau allweddol ar y Ddeddf yn wael ac nad yw wedi cael yr effaith ddymunol. Ac mae'n galw am gydweithio effeithiol a gweithio ar y cyd mewn meysydd allweddol, a bod yn rhaid i ni ymdrechu yn galetach i sicrhau bod gennym ni y math hwn o ddull gweithredu cydlynol. Nawr, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y Llywodraeth yn ymateb i'r feirniadaeth hynod ystyriol hon gan fod cefnogaeth drawsbleidiol i wella gwasanaethau yn y maes hollbwysig hwn. Ac wrth i ni wneud cymaint o gynnydd o ran sut mae'r cyhoedd yn gwrthod unrhyw sôn am dderbyn trais domestig fel norm mewn unrhyw ffordd—ac rydym ni wedi gweld ein gwasanaethau brys yn ymateb, yr heddlu yn wych hefyd, wrth newid eu systemau o ran sut maen nhw'n ymdrin â'r materion hyn—mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym ni wedyn yn eu darparu i'r goroeswyr a'r dioddefwyr y gorau y gallan nhw fod. Nawr, rwy'n gwybod na allwn ni gyflawni hyn dros nos, ond mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar hyn yn ofalus iawn, iawn i sicrhau ein bod ni yn cael gwell gwasanaethau.

A diolchaf i David Melding am godi'r cwestiwn hwn heddiw. Byddwch chi'n ymwybodol o'm datganiad ysgrifenedig ar 25 Tachwedd, lle'r oedd yr adroddiad yn dangos bod—. Cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ei hadroddiad ac roedd yn dangos bod y Ddeddf yn gwella gwasanaethau ledled Cymru, ond mae'n amlwg bod mwy i'w wneud. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud bod y Ddeddf yn helpu i ysgogi'r gwaith o weddnewid gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'i bod wedi bod yn hollbwysig o ran ysgogi newid. Ond, wrth gwrs, mae hyn mewn gwirionedd yn cynnwys, nid yn unig Llywodraeth Cymru yn arwain, ond awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, yn pennu eu strategaethau clir ar gyfer codi ymwybyddiaeth, atal a rhanbartholi, a hefyd gwneud yn siŵr eu bod yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thanberfformio a gosod amcanion cydraddoldeb strategol. Felly, mae'r darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru yn helpu i ysgogi'r gwaith o weddnewid gwasanaethau, ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni roi sylw i'r argymhellion.

Rwyf eisiau sôn wrthych chi am achos sy'n ymwneud â merch 14 oed yr ymosodwyd arni yn rhywiol. Plediodd y cyflawnwr yn euog ac, ym mis Medi, cafodd ddedfryd o 24 mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd. Gwnaed gorchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd a chafodd ei orchymyn hefyd i gofrestru fel troseddwr rhyw am 10 mlynedd. Mae'r ddedfryd ohiriedig wedi arwain at ganiatáu i'r pedoffilydd hwn sydd wedi ei euogfarnu ddychwelyd i'w gartref sy'n llai na 300 troedfedd i ffwrdd o gartref teuluol y dioddefwr. Mae ei bresenoldeb parhaus yn gwneud i'r teulu cyfan, ond yn enwedig y ferch yn ei harddegau sy'n agored i niwed, deimlo'n ofnus, yn anniogel ac i fethu â symud ymlaen. Mae'r teulu cyfan yn cael gwasanaeth cwnsela a chymorth iechyd meddwl i ddod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd, ond mae'r atgofion trawmatig parhaus a dyddiol am yr hyn a ddigwyddodd yn golygu bod adferiad mwy neu lai yn amhosibl.

Nid cyfiawnder yw hyn. Gwarth yw hyn. Oherwydd achosion fel hyn rwyf eisiau gweld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli. Siawns y byddem ni'n rhoi diogelu'r dioddefwr, diogelu plant a diogelwch y cyhoedd wrth wraidd system cyfiawnder troseddol sy'n cael ei gweithredu yng Nghymru. Mae gennym ni ddeddfwriaeth yng Nghymru a ddylai gynnig amddiffyniad i'r plentyn sy'n dioddef yn yr achos hwn, ac eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Dylai Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 fod yn un dewis i ddarparu amddiffyniad. Hefyd, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn glir bod llesiant yn cynnwys yr hawl i fod yn rhydd rhag cam-drin a chael rheolaeth ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Mae angen symud y troseddwr a euogfarnwyd yn yr achos hwn cyn y gellir gwneud mwy o niwed. Ni ddylai'r ferch hon orfod wynebu'r sawl a wnaeth ei cham-drin bob un dydd.

Dirprwy Weinidog, pa obaith y gallwch chi ei gynnig i'r teulu y cyfarfûm i â nhw yr wythnos hon?

Wel, unwaith eto, diolchaf i Leanne Wood am ddod â hyn i'n sylw yn y Siambr hon heddiw. Yn amlwg, mae gennym ni gyfrifoldebau o ran diogelu ein plant rhag cam-drin rhywiol a chamfanteisio, ac, yn wir, rydym yn datblygu ac yn ymgynghori ar y canllawiau statudol. Ond mae hefyd yn gyfrifoldeb i'r system gyfiawnder, a byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr achos hwn yn cael ei godi ar y lefel uchaf o ran ein heddlu a'n comisiynwyr heddlu a throseddu.

14:35
Safleoedd Anghyfreithlon i Deithwyr

2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â safleoedd anghyfreithlon i deithwyr yng Nghymru? OAQ54813

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn glir bod angen i awdurdodau lleol ddarparu digon o safleoedd preswyl a thramwy awdurdodedig i Sipsiwn a Theithwyr. Yn 2013, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod o ran swyddogaethau, cyfrifoldebau a hawliau, i sicrhau dull teg a chyson o ymdrin â gwersylloedd diawdurdod.

Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, maen nhw wedi sefydlu mesurau sydd, yn amlwg, yn cynorthwyo awdurdodau lleol a'r asiantaethau gorfodi i symud ar safleoedd anghyfreithlon. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i effeithiolrwydd darpariaeth o'r fath yma yng Nghymru? Ac, yn ail, yn aml iawn pan fydd safleoedd anghyfreithlon yn datblygu, mae bil glanhau enfawr y mae'n rhaid i drethdalwyr lleol ei ysgwyddo. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ystyried cryfhau pwerau lleol i adennill rhai o'r costau gan y teithwyr anghyfreithlon sydd wedi sefydlu safleoedd, ac eto trethdalwyr lleol sy'n talu'r bil am y llanastr yn y pen draw?

Fel y dywedais i, rydym ni wedi cyhoeddi, wrth gwrs, y canllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod, yn 2013, ac mae'n nodi ein disgwyliadau clir o ran sut y bydd awdurdodau cyhoeddus yn datrys gwersylloedd o'r fath. Hefyd, mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried cymesuredd unrhyw gamau i ddatrys gwersylloedd, gan bwyso a mesur hawliau a rhwymedigaethau pawb dan sylw. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi datrysiad cyson, dyngarol ac effeithiol ar gyfer gwersylloedd diawdurdod, gan barchu hawliau Sipsiwn a Theithwyr i fyw bywyd nomadig, a hawliau'r gymuned ehangach. Ac yn sicr, rydym ni'n bryderus iawn—roeddwn i'n bryderus iawn—am yr ymgynghoriad diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n rhywbeth lle y byddwn ni'n ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw, gan bwyso ar Lywodraeth y DU i ailfeddwl a mabwysiadu ein dull gweithredu ni.

Diogelwch Cymunedol yn Abertawe

3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am wella diogelwch cymunedol yn Abertawe? OAQ54828

Mae’r rhaglen Cymunedau Mwy Diogel yn mabwysiadu’r argymhellion sy’n deillio o adroddiad ar ddiogelwch cymunedau yng Nghymru gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n gwneud hyn drwy ddefnyddio dull aml-asiantaeth gyda phartneriaid allweddol.

Diolch yn fawr am yr ateb bendigedig yna, Weinidog.

Fe fyddwch yn ymwybodol bod stryd fawr Abertawe wedi cael trafferthion yn ddiweddar o ran troseddu yn yr ardal, o ran defnyddio cyffuriau, puteindra, dwyn, a thrais. Mae'r broblem wedi bod yno ers misoedd—blynyddoedd, mewn gwirionedd—a chofnodwyd 75 o droseddau ym mis Medi a mis Hydref yn unig. Nawr, o ystyried bod gennych chi fel Llywodraeth Cymru swyddogaeth allweddol o ran diogelwch cymunedol ac o ran adfywio, a chefnogi mentrau fel trin camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, digartrefedd, cysgu ar y stryd ac amddiffyn dioddefwyr, beth arall ydych chi'n bwriadu ei wneud, ar y cyd â Heddlu De Cymru a Chyngor Abertawe, i fynd i'r afael â'r broblem hon ar un o byrth allweddol Abertawe?

Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau yn fwy diogel, ac mae'n rhaid i hynny fod yn gamau ar y cyd a gymerir i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu—nid yw'r rhain yn faterion sydd wedi eu datganoli yn uniongyrchol, ond mae gennym ni gyfrifoldebau i sicrhau y gallwn ni wneud popeth o fewn ein gallu i wneud pobl Cymru yn fwy diogel a theimlo'n fwy diogel. Rydym ni, wrth gwrs, yn ymgorffori dull iechyd cyhoeddus wrth wraidd ein rhaglen. Cadeiriais gyfarfod diweddaraf Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru. Er enghraifft, fe wnaethom ni ganolbwyntio yr wythnos diwethaf ar gamddefnyddio sylweddau, sydd, wrth gwrs, yn broblem, fel yr ydych chi wedi'i godi. Ac rwy'n meddwl bod Ymgyrch Sceptre, yn ystod y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi eleni, gan gynnwys tasglu yn Abertawe, o ran mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau—. Ond mae hwn yn—. Yn amlwg, mae grŵp digwyddiadau critigol Bae Abertawe, sydd hefyd yn edrych ar y materion hyn, yn hanfodol bwysig. Ond rydym ni'n bwrw ymlaen â'r argymhellion sy'n codi o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ddiogelwch cymunedol, fel y dywedais i, drwy'r dull amlasiantaethol hwn.

Tybed, Dirprwy Weinidog, os caf i bwyso ychydig mwy arnoch chi ar hynny. Oherwydd, fel y gwyddoch, yn gymharol ddiweddar, mae Heddlu De Cymru, er mwyn ceisio mynd i'r afael â phuteindra ar y stryd, yn arbennig ar Stryd Fawr Abertawe, wedi cyflwyno gorchmynion diogelu'r cyhoedd, ac mae hynny wedi achosi cryn ddadlau. Canlyniad hyn, a oedd i'w ddisgwyl efallai, yw bod y menywod a'r rhai hynny sy'n manteisio arnyn nhw wedi symud i rywle arall. Tybed a allwch chi roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn y mae'r tasglu wedi ei argymell, oherwydd rwy'n credu y dylai fod yn destun pryder i bob un ohonom ni fod yr heddlu wedi dweud wrthym ni mai'r ffordd orau neu'r unig ffordd o weithredu'r ymyrraeth fwyaf er mwyn cynorthwyo'r menywod hyn yn erbyn camfanteisio yw eu harestio mewn gwirionedd, sydd yn ôl pob tebyg yn gam rhy llym i ymdrin â'r broblem yn fy marn i. Beth allwch chi ddweud wrthym ni am y gwasanaethau datganoledig sydd ar gael i chi sy'n gallu helpu'r menywod ac, wrth gwrs, rhai dynion hefyd, i ddod allan o'r trap hwn heb fod yn rhaid eu harestio?

14:40

Wel, rwyf innau hefyd yn ddiolchgar iawn, Suzy Davies, eich bod chi wedi codi'r mater yna am agweddau ar fod yn agored i niwed hefyd, yn enwedig menywod yn y sefyllfa hon, ac yn amlwg mae angen taro cydbwysedd yn y fan yma ynghylch mynd i'r afael â materion, fel camddefnyddio sylweddau ac effaith hynny, yr wyf i wedi eu hamlinellu yn Ymgyrch Sceptre. Ond mae'n amlwg yn gyfrifoldeb, nid yn unig i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd, ond hefyd—. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hyn yn mynd â mi at y glasbrint troseddwyr benywaidd o ran sut y gallwn ni ymyrryd a cheisio cefnogi menywod yn y sefyllfa hon, ac ystyried y dull Cymru Ddiogelach o sicrhau bod diogelwch ar y strydoedd ar gyfer y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed a bod problemau Bae Abertawe yn cael eu trin ar sail amlasiantaethol.

Gwasanaethau Cynghori

4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am wasanaethau cynghori yng Nghaerdydd? OAQ54846

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau cynghori. Mae ein cyllid grant yn sicrhau bod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd, a ledled Cymru, yn cael y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i ddatrys problemau gyda'u tai, eu dyledion neu eu budd-daliadau lles.

Mae dyled yn amlwg yn bryder cynyddol yn y sefyllfa bresennol. Gwyddom o'r adroddiad 'Cymru yn y coch': a oedd yn asesu effaith dyledion problemus yng Nghymru yn gynharach eleni mai Caerdydd, ein dinas fwyaf, sydd hefyd â'r dwysedd uchaf o ddyled. Mae bron i 200,000 o bobl ledled Cymru yn ymgodymu â dyledion difrifol ac mae 200,000 arall eisoes yn dangos arwyddion o drallod ariannol. Ac yn anffodus, dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fydd pobl yn cael eu hannog i wario arian nad yw ganddyn nhw.

Ond, er hynny, y prif resymau y mae pobl yn mynd i ddyled ddifrifol yw incwm sy'n gostwng o ganlyniad i'r economi gìg y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi erbyn hyn, yn ogystal â salwch neu anaf a diweithdra, sy'n anodd iawn eu lliniaru, gan nad oes gan bobl syniad bod hynny ar ddod, fel arfer. Yn frawychus, rwy'n darllen bod hyn yn golygu bod llawer yn defnyddio cardiau credyd i lenwi bylchau yn eu costau byw bob dydd, ac rydym ni hefyd yn gwybod bod toriadau i fudd-daliadau mewn gwaith ac allan o waith yn ystod y naw mlynedd diwethaf o dan gamau cyni y Llywodraeth Dorïaidd hon yn ffactor pwysig.

Mae pobl sydd mewn dyled ddifrifol yn fy etholaeth i yn aml yn cael eu llorio gan y broblem i'r fath raddau fel eu bod nhw'n araf i ddod i gael cyngor. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall pobl gael gafael ar wasanaethau cyngor ar ddyledion yn rhwydd pan eu bod nhw'n mynd i'r fath drafferthion?

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn pwysig yna. Mae'n fater yr wyf i wedi bod yn ei godi'n lleol yng Nghaerdydd a'r Fro o ran swyddogaeth yr undebau credyd yn ogystal â gwasanaethau cynghori wrth ddarparu benthyciadau fforddiadwy yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn wir gall hynny osgoi ac atal y cynnydd mewn dyledion ar yr adeg arbennig hon o'r flwyddyn.

Ond rwy'n credu bod gwasanaethau cynghori yn hollbwysig o ran darparu nid yn unig mynediad o ran y swyddfeydd sydd ar gael gan Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro, ond hefyd eu bod wedi eu lleoli yng nghanol cymunedau pan fydd pobl yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyngor yn enwedig ynghylch gwasanaethau dyledion. Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu darparu yng nghanol eu cymunedau i gyrraedd y bobl sydd eu hangen. Ond byddwn i'n dweud bod y gwasanaeth yng Nghaerdydd a'r Fro, yn ystod y llynedd yn unig, wedi helpu dros 3,500 o bobl i ddatrys problemau yn ymwneud yn benodol â materion lles cymdeithasol. A'r hyn sy'n hollbwysig o ran atal dyled, mewn gwirionedd, yw bod hynny wedi cynnwys cynhyrchu enillion incwm o fwy na £4.5 miliwn.

Gweinidog, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwerthfawrogi swyddogaeth y sector gwirfoddol yn enwedig wrth roi cyngor, oherwydd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, maen nhw yng nghanol eu cymunedau, mae pobl yn fwy parod i'w defnyddio yn aml iawn, ac mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n parhau i gefnogi sefydliadau sydd â'r swyddogaeth hon a bod y ddinas hefyd yn sylweddoli pa mor bwysig yw rhoi cymorth i fudiadau gwirfoddol, drwy elfen o gyllid craidd neu drwy eu hariannu ar gyfer gwasanaethau cynghori, a bod gwerth mewn gwario arian yn y modd hwnnw.

14:45

Diolch i David Melding am y cwestiwn hwnnw. Yr hyn sy'n bwysig o ran trefniadau'r gronfa cyngor sengl, yr arian grant cyngor sengl yr wyf wedi'i ddyfarnu i ddarparwyr yw, er bod darparwyr arweiniol—yn yr achos hwn, Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro, mewn ymateb i'r cwestiwn hwn—mae ganddyn nhw hefyd bartneriaid cynghori a phartneriaid mynediad, yn ogystal â phartneriaid eraill yn y sector gwirfoddol.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r ddadl yfory ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 wedi'i thynnu yn ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg am ei hagwedd at addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru? Mae etholwyr wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon bod cynghorwyr Llywodraeth Cymru wedi galw am wneud gwersi'n orfodol yn ysgolion Cymru. Yn Lloegr, mae disgwyl i benaethiaid siarad â rhieni sy'n dymuno eithrio eu plant o'r gwersi hyn i esbonio mantais derbyn yr addysg bwysig hon. Fodd bynnag, bydd gan rieni yr hawl o hyd i dynnu eu plentyn yn ôl hyd at 15 oed. Gweinidog, a gawn ni ddatganiad ynghylch a fydd y Gweinidog yn dilyn y dull adeiladol o ymgysylltu â rhieni, fel yn Lloegr, neu a yw hi'n cefnogi dileu hawliau rhieni i leisio barn ar yr agwedd hon ar addysg eu plant yn gyfan gwbl?

Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cau ymgynghoriad ar yr union fater penodol hwn yn ddiweddar. Gwn y bydd y Gweinidog addysg yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ganlyniad ei hystyriaethau, pan fydd hi wedi cael y cyfle i roi ystyriaeth lawn i'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw.

O gofio ymrwymiad y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a gawn ni ddatganiad yn amlinellu a yw'r Llywodraeth yn gresynu at sylwadau'r AS Llafur a ddisgrifiodd ymgeisydd Plaid Cymru fel un sydd ag obsesiwn â'r iaith Gymraeg? A yw'r Llywodraeth o'r farn bod gan bawb sy'n siarad Cymraeg neu sy'n dysgu Cymraeg obsesiwn â'r Gymraeg? A wnewch chi gytuno i gael gair â'r AS dan sylw i egluro bod y sarhad hwn ar y Gymraeg gan y blaid Lafur yn achosi rhaniadau ac yn anghywir? Ac a wnewch chi gytuno â mi na ddylid goddef defnyddio'r Gymraeg yn arf fel hyn, fod y math hwn o chwibanu ar gŵn yn annerbyniol, ac a wnewch chi ymrwymo inni y prynhawn yma i roi terfyn arno?

Hoffwn i sôn am broblem ynghylch y cyllid ar gyfer cyrsiau penben. Tynnwyd fy sylw at hyn gan etholwr sydd wedi cael ei gadael mewn tlodi oherwydd nad yw'n cael y cymorth ariannol yr oedd ganddi'r hawl iddo fel myfyrwraig â dyslecsia. Mae'r cwmni benthyciadau myfyrwyr yn atal yr arian gan eu bod yn aros am benderfyniad polisi gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cyrsiau penben hyn. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn dweud na allan nhw ryddhau unrhyw arian hyd nes iddyn nhw glywed gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn dweud iddyn nhw rybuddio Llywodraeth Cymru am y mater hwn pan gododd, gan wneud yn glir na fydden nhw'n gwneud unrhyw daliad i fyfyrwyr ar y cyrsiau penben hyd nes y rhoddir naill ai'r ddeddfwriaeth neu lythyr awdurdod iddyn nhw. 

Mae fy etholwr yn un o'r rhai ffodus. Ar ôl rhoi'r gorau i'w chwrs gan na allai fforddio'r tocyn bws, fe'i darbwyllwyd i newid ei meddwl gan y coleg y mae'n ei fynychu am eu bod wedi cynnig bwrsariaeth iddi fel y gall ymdopi tan y Nadolig. Mewn gohebiaeth â'r Gweinidog Addysg, rwyf wedi cael sicrwydd y bydd yn cyflwyno rheoliadau i ddiwygio'r sefyllfa hon yn fuan, ac mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu. A wnaiff y Llywodraeth roi addewid nawr y caiff y mater hwn ei gwblhau cyn y Nadolig i ddod â sicrwydd i fy etholwr ac eraill sy'n eu cael eu hunain yn yr un sefyllfa? Hefyd, a fydd yna ymdrech i gysylltu â phob un o'r myfyrwyr hynny a all fod wedi gadael eu cyrsiau'n o ganlyniad i'r camgymeriad biwrocrataidd hwn er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw y bydd cymorth ariannol yn cael ei adfer, gan roi'r dewis iddyn nhw barhau â'u hastudiaethau?

14:50

Llywydd, nid oes yr un blaid sydd wedi gwneud mwy dros y Gymraeg na'r Blaid Lafur. Mae gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Lafur Cymru hanes hir a balch o gefnogi'r Gymraeg a bod yn frwdfrydig dros y Gymraeg, ac yn uchelgeisiol dros y Gymraeg. A dyna pam mae Cymraeg 2050 yn ganolog i holl bolisïau Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd y miliwn hynny o siaradwyr Cymraeg ac i ddyblu'r defnydd o'r Gymraeg. Ac mae Llywodraeth Cymru yn angerddol am yr agenda hon.

O ran yr ail fater, rwy'n falch eich bod wedi cael y sicrwydd yr oeddech chi yn ei geisio gan y Gweinidog Addysg, y bydd yn cyflwyno'r rheoliadau priodol, ac rwy'n falch bod y Coleg wedi gallu cynnig i'ch etholwr y cymorth sydd ei angen arni i allu parhau i fynychu ei chwrs tan y Nadolig. Yn amlwg, siaradaf â'r Gweinidog Addysg am yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r rheoliadau pwysig hynny a'r gwelliannau.

Ddydd Mawrth diwethaf, cyflwynodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth adroddiad ar gyflogaeth a phobl anabl. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, ac yn bwysicach, gan gyrff sy'n cael eu cefnogi'n ariannol gan Lywodraeth Cymru, i gynyddu nifer y bobl anabl sy'n cael eu cyflogi?

Yn ail, mae fy ngwrthwynebiad i losgi yn hysbys ac wedi'i gofnodi'n helaeth. Hoffwn i ofyn am ddatganiad ynglŷn â'r allyriadau carbon deuocsid o losgyddion biomas ac esboniad pam na fydd Llywodraeth Cymru yn gosod moratoriwm ar losgyddion newydd, ac eithrio'r rhai ar gyfer gwaredu gwastraff meddygol, a hefyd ar weithfeydd biomas newydd. Gwyddom nad yw llosgi a newidiadau eraill i ddeunydd yn ei ddinistrio. Mae'r gyfraith ar gadwraeth cyflyrau màs yn nodi bod màs deunydd bob amser yr un peth cyn ac ar ôl i newidiadau ddigwydd. Nid yw'n bosibl creu na dinistrio'r deunydd hwnnw, dim ond ei newid o un ffurf i'r llall. Felly, yr hyn sydd gennym ni yn y pen draw, mewn gwirionedd, yw troi carbon ac elfennau eraill yn ddeuocsinau a charbon deuocsid.

Diolch i Mike Hedges am godi'r ddau fater hyn. Roedd y cyntaf yn ymwneud â gwaith Llywodraeth Cymru o ran cefnogi a galluogi pobl anabl i fynd i'r gweithle o fewn cyd-destun Llywodraeth Cymru. A ninnau'n sefydliad arweinydd hyderus o ran anabledd lefel 3, rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y bobl anabl sy'n gweithio yn y sefydliad hwn. Felly, drwy ddefnyddio'r model cymdeithasol o anabledd i ddileu rhwystrau, gweithredu'n gadarnhaol a thargedu pobl anabl drwy allgymorth ac annog ymgeiswyr i ofyn am addasiadau yn ystod y broses recriwtio, mae nifer y bobl anabl sy'n ymuno â Llywodraeth Cymru wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond yn sicr nid ydym yn hunanfodlon, a dyna pam mae gennym ein cynllun gweithredu amrywiaeth a chynhwysiant 2020-4 wrthi'n cael ei ddatblygu, a bydd hwnnw'n nodi'r camau nesaf i ni o ran sicrhau bod yr ymyriadau hynny'n parhau ac yn parhau i fod yn effeithiol o ran cefnogi pobl anabl i ymuno â'r sefydliad hwn.

Rydym yn gyfrifol am benodiadau bwrdd i gyrff a noddir gan y Llywodraeth yn unig. Nid oes gennym gyfrifoldeb dros y staff a gyflogir gan y cyrff hynny, ond yn sicr byddem eisiau eu hannog i edrych tuag at Lywodraeth Cymru am yr arweinyddiaeth a'r gwaith y gallwn ni ei wneud yno. Ond, fel y dywedais, rwy'n credu bod llawer mwy i ni ei wneud ar yr agenda arbennig hon.

Mae barn Mike Hedges ar losgi yn hysbys iawn a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am wastraff ddarparu ateb i'r hyn a oedd yn gwestiynau eithaf manwl.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau'r Llywodraeth i roi hwb i economi Pont-y-pŵl a'i chymunedau agos yn y Cymoedd, gan gynnwys Blaenafon? Roedd Pont-y-pŵl yn gymuned ddiwydiannol lewyrchus ar un adeg, gyda chwmnïau fel ICI, yr hen British Nylon Spinners, a oedd yn cyflogi tua 6,000 o bobl ar y tro; Gwaith Dur Panteg gydag oddeutu 3,000; Pilkington Glass, 700; a Warner-Lambert tua 600. Collwyd pob un yn yr 20 mlynedd diwethaf, heb fod unrhyw gwmnïau sylweddol wedi'u sefydlu yn y cyfnod hwnnw. Mae'n rhaid ei fod yn bryd i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth i ddenu diwydiannau a fyddai'n eu disodli. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a oes unrhyw gyflogwyr mawr ar y gweill, oherwydd mae'n nodedig yr ymddengys mai ychydig o fuddsoddiad mawr a fu yn yr ardal am dros 20 mlynedd?

Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw fentrau a gyflwynwyd gan dasglu'r Cymoedd a allai atal y dirywiad yn y gymuned hon a arferai ffynnu?

Wel, yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi, a'r Dirprwy Weinidog, sy'n arwain ar waith tasglu'r Cymoedd, ysgrifennu atoch chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo yn ardal Pont-y-pŵl a'r gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer ardal Pont-y-pŵl, o ran cefnogi diwydiant, arloesi a chyflogaeth a buddsoddi yn yr ardal.FootnoteLink

A gaf i gytuno â sylwadau a cheisiadau blaenorol Mike Hedges ar ddau fater? Yn gyntaf, y cais am ddatganiad a diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl anabl i gael gwaith neu i ddychwelyd i'r gwaith. Ddydd Iau diwethaf, cefais y pleser o ymweld â'r Legacy International Group Ltd, sydd wedi'i leoli ym Merthyr ond sy'n gwasanaethu De Cymru gyfan. Mae ganddyn nhw nifer o brosiectau ar y gweill i helpu prosiectau sy'n hyderus o ran anabledd i geisio cyflawni eu nodau. Roeddwn i'n credu bod nifer gwerth chweil o brosiectau yn digwydd yno, felly rwy'n credu y byddwn i'n hoffi clywed pa gymorth sy'n cael ei roi i helpu'r rheini.

Yn ail, cododd Mike Hedges fater llosgi, a gwn fod nifer o'r Aelodau wedi codi'r mater hwnnw yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Mae gen i broblem yn fy etholaeth i ar gyrion Brynbuga gyda chynllun ar gyfer llosgydd newydd. Fel y gŵyr Mike, pan fydd y cynigion hynny'n cael eu cyflwyno, maen nhw'n peri dadlau mawr yn lleol ac mae pobl yn chwilio am sicrwydd. Efallai y byddai modd inni gael datganiad gan y Gweinidog ynglŷn â sut y gellir tawelu meddyliau pobl, ac efallai na ddylai'r prosiectau hyn fynd yn eu blaenau hyd nes y ceir cadarnhad eu bod yn ddiogel.

Ac yn olaf, yr wythnos diwethaf, codais fater Dydd Sadwrn y Busnesau Bach â chi, a gofynnais beth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ailystyried y drefn ardrethi busnes a'r cymorth sydd ar gael i fusnesau bach ledled Cymru. Ddydd Sadwrn ymwelais â busnes bach yn fy ardal i, N. S. James o Raglan. Rwy'n falch o weld bod y busnes bach hwnnw'n gwneud yn dda, ond, wrth gwrs, ledled Cymru, ym mhob un o'n hetholaethau, nhw yw asgwrn cefn ein heconomïau lleol. Gofynnais ichi yr wythnos diwethaf a byddaf i'n gofyn eto a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru efallai ynghylch pa gymorth sydd ar gael i gefnogi busnesau bach yng Nghymru.

14:55

Diolch i Nick Ramsay am godi'r materion hynny. Cawsom ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth dim ond yr wythnos diwethaf ynglŷn ag anabledd a chyflogaeth pobl anabl, felly efallai ei bod ychydig yn rhy fuan i gael trafodaeth bellach ar hynny. Ond rwy'n gwybod y bydd yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd y gwaith yr oedd ef yn ei drafod yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, ac, yn amlwg, bydd o ddiddordeb mawr i mi glywed, fel y gwn y bydd i'r Gweinidog, am y prosiectau lleol penodol hynny a ddisgrifiwyd gennych chi hefyd.

Unwaith eto, mae'r cais am ddatganiad ar losgi: byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am wastraff yn ymwybodol o'r diddordeb gan yr Aelodau mewn datganiad.

Ac roeddwn i wrth fy modd yn cefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach. Felly, ar y dydd Gwener cyn hynny, treuliais gryn amser ym Mhontarddulais yn siarad â pherchnogion busnesau bach yn y pentref hwnnw, ac roedden nhw'n awyddus iawn i siarad â mi am ardrethi busnes. Roedd llawer o'r busnesau y siaradais i â nhw wedi elwa ar ryddhad ardrethi Llywodraeth Cymru, i'r pwynt lle nad oedden nhw'n talu dim o gwbl am eu hardrethi busnes, a oedd yn rhagorol yn fy marn i. Ac rwy'n falch iawn y prynhawn yma o fod yn symud rheoliadau o ran cyfradd y lluosydd ar gyfer Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019. Bydd hynny'n golygu ein bod yn symud eleni at ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr, ac mae hynny ar ben y gefnogaeth yr ydym eisoes yn ei darparu.

Mae pawb yn yr ystafell hon yn gwybod bod y terfyn amser ar gyfer y pàs bws newydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr. Rwy'n gwybod ein bod wedi gweld adroddiadau ac rwyf i hefyd wedi cael etholwyr yn dod i'r swyddfa yn dweud pa mor anodd y mae wedi bod i gael y pàs newydd hwnnw. Mae llawer o bobl, yn enwedig o'r genhedlaeth hŷn, wedi cael eu gwthio i fynd ar-lein. Ond yna rwy'n cael gwybod gan rai o'r staff swyddfa sy'n gweinyddu'r broses nad ydynt yn gallu ymdopi â hynny oherwydd nad oedden nhw wedi rhagweld pobl yn mynd ar-lein. Felly, roedd yn ymddangos yn dipyn o gybolfa o'r hyn a ddigwyddodd yn hynny o beth. Gwn mai'r bwriad yw gwneud gwelliannau, ond a allwch chi ein sicrhau ni eich bod yn mynd i wneud hynny a'ch bod yn mynd i annog pawb a all gael tocyn bws arall i allu gwneud hynny cyn 31 Rhagfyr?

Fy ail gwestiwn i, ac efallai eich bod chi'n credu fy mod yn gynamserol, ond nid wyf yn credu fy mod i, oherwydd mae'r tocynnau eisoes ar gael ar gyfer Pencampwriaethau Ewro 2020, ac mae'n amser gwirioneddol wael, yn fy marn i, oherwydd mae pawb yn meddwl am y Nadolig. Fodd bynnag, mae pobl yn cynllunio eu hymweliadau â Rhufain, â Baku, a Baku ac yn ôl y flwyddyn nesaf, ond ni fydd llawer yn gallu fforddio mynd, neu efallai na fyddan nhw'n gallu am wahanol resymau eraill oherwydd eu hymrwymiadau gwaith. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda chynghorau ledled y wlad, i sefydlu parth cefnogwyr unwaith eto, ac i wella ac ehangu'r cysyniad o barth cefnogwyr? Gwn fod llawer ohonyn nhw wedi bod yn orlawn y tro diwethaf, ac roeddent yn boblogaidd iawn, ac mae angen cynllunio ymhell cyn mis Mehefin fel y gallwn ni fod yn dawel ein meddwl y gall y cefnogwyr na allan nhw gyrraedd y gemau, ble bynnag y bônt, weld Cymru ac y gallan nhw gefnogi Cymru o'u cartrefi, a gwneud hynny mewn steil.

Diolch. O ran y pasys bws, gwn fod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod pobl yn cael eu pasys bws mewn da bryd erbyn diwedd y flwyddyn. Mae yna faterion penodol—er enghraifft, pobl sydd wedi bod yn aros am eu pàs bws ac yna wedi ymgeisio am yr eildro, ac, wrth gwrs, mae hynny'n codi'r achos penodol hwnnw fel twyll posibl. Felly, mae hynny'n golygu oedi wrth argraffu'r tocynnau bws hynny. Felly, byddem ni'n annog pobl, os nad ydyn nhw wedi cael eu pàs bws eto, ond eu bod wedi gwneud cais, i beidio â gwneud cais am yr eildro, oherwydd gallai hynny arafu eu cais. Ond byddaf i'n gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ymchwilio a oes diweddariad pellach a chyfredol y gall ei ddarparu ar fater sy'n bwysig iawn i bob un ohonom ni fel Aelodau'r Cynulliad ac o ran yr etholwyr yr ydym ni'n eu cynrychioli.

Nid yw byth yn rhy gynnar i sôn am Ewro 2020—gwn y bydd y Gweinidog Chwaraeon a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cael, neu eisoes yn cael, trafodaethau pwysig â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael mwynhau gwylio'r gemau hynny a theimlo'r awyrgylch o'u hamgylch. Felly, unwaith eto, rwy'n siŵr y bydd datganiad yn dod gerbron maes o law.

15:00

Un cais am ddatganiad, un am ddadl sydd gen i—y ddau ym maes iechyd. Mi glywoch chi, dwi'n siŵr, yn y wasg yr wythnos diwethaf am achos torcalonnus fy etholwr i, Thomas Griffith Jones, sydd â dementia ond sy'n wynebu cael ei symud i Stafford oherwydd ei anghenion gofal dwys. Mae'r Llywodraeth yn dweud—mi ddywedodd y Prif Weinidog mewn ateb i gwestiwn llafar ond atebwyd yn ysgrifenedig yn ddiweddar—mai nod y Llywodraeth ydy bod disgwyliad y bydd pob siaradwr Cymraeg â dementia'n cael gofal yn ei ddewis iaith, a bod hynny am resymau clinigol. Mae hynny'n amlwg yn mynd yn groes i realiti'r hyn sydd yn digwydd. Rydym ni'n gwybod mor allweddol ydy derbyn gofal mewn iaith gyntaf ar gyfer cleifion dementia. Cymraeg ydy iaith gyntaf Twm. Cymraeg ydy unig iaith Twm, mewn gwirionedd. Dwi wedi siarad efo'r awdurdod lleol. Maen nhw'n barod i gydweithio fel rhan o'r bartneriaeth ranbarthol, ond cyfrifoldeb y bwrdd iechyd ydy hyn, a Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud wrthyf i y bydd o'n cysylltu efo cadeirydd y bwrdd iechyd. Mae angen gweithredu ar frys i gael gofal i Twm ac mewn achosion tebyg iddo fo. Rydym ni angen datganiad i ddweud beth mae Llywodraeth Cymru'n mynd i wneud rŵan ar fyrder i gynyddu capasiti, achos nid achos unigol ydy hwn.

Mae'r ail fater yn ymwneud â gofal deintyddol. Rwyf mewn cysylltiad â llawer o etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i ddeintydd GIG. Ar Ynys Môn yr wythnos diwethaf, trosglwyddwyd y pryderon diweddaraf ymlaen i'r Gweinidog iechyd. Rwyf  hefyd mewn cysylltiad â deintyddion, fel mae'n digwydd, sy'n awyddus i ddod i Ynys Môn i weithio ac sy'n wynebu rhwystrau, gan gynnwys cael eu cyfarwyddo i fynd i weithio i rai o'r cwmnïau rhyngwladol mawr yn hytrach na thrwy feddygfeydd lleol, ond rwy'n mynd ar drywydd hynny mewn rhywle eraill.

Mae un achos yn benodol yn ymwneud ag etholwr diabetig. Fel sgil-effaith o gael Metformin ar bresgripsiwn, mae ei dannedd i gyd wedi dod yn rhydd. Atgyfeiriodd ei meddyg teulu hi at adran y geg yn Ysbyty Gwynedd yn ôl ym mis Mawrth. Dywedwyd wrthi fod angen atgyfeiriad deintydd arni. Yn y pen draw, bu'n rhaid iddi fynd yn breifat, ar ôl cael ei gwrthod hefyd gan uned ddeintyddol frys y GIG yn Llanfairpwll. Nawr, amcangyfrifir bod y gwaith adferol preifat yn costio tua £5,000. Mae'n teimlo ei bod yn cael ei chosbi am sgil-effaith ei diabetes a'r diffyg cyfle i fanteisio ar ddarpariaeth ddeintyddol y GIG ac nid yw mewn gwirionedd mewn sefyllfa i allu fforddio'r gwaith angenrheidiol. Rwyf wedi bod yn rhygnu ymlaen am hyn, fel y bu'r Aelodau eraill, ers imi gael fy ethol yma. Rydym yn dal i fod heb weld unrhyw arwydd o welliant mewn darpariaeth ddeintyddol yng Ngogledd Cymru. Mae angen dadl arnom ni, mae ei hangen yn amser y Llywodraeth, ac mae ei hangen arnom yn fuan.

Wel, rwy'n gyfarwydd â'r mater cyntaf yr ydych chi'n ei godi, sef achos eich etholwr, Twm, a gallaf ddeall pa mor gythryblus a gofidus yw hyn i Twm ac i'w deulu hefyd oherwydd y disgwyl yw, wrth gwrs, y dylai pobl gael eu trin mor agos i'w cartref ag y bo modd ac y dylen nhw gael manteisio ar y gwasanaeth arbenigol hwnnw y mae arnynt ei angen. Yn amlwg, rydym yn deall pwysigrwydd cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig os mai dyna yw eich iaith gyntaf, gan fod pobl yn tueddu i golli eu hail iaith yn gyntaf pan fod ganddyn nhw ddementia. Rwy'n falch eich bod wedi codi'r achos gyda'r Gweinidog Iechyd a'i fod wedi ymrwymo i'w drafod gyda Chadeirydd y bwrdd iechyd. Gwn y bydd yn rhoi ymateb neu ganlyniad y trafodaethau hynny i chi cyn gynted ag y bo modd. Byddaf hefyd yn ei hysbysu o'ch cais am ddadl ar ddarpariaeth deintyddiaeth yng Ngogledd Cymru yn benodol, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau yr ydych chi newydd eu disgrifio.

15:05
3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Aer Glân

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y cynllun aer glân. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Pleser yw cael lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar ein cynlluniau uchelgeisiol ledled y Llywodraeth i wella ansawdd aer ar draws Cymru. Gwn fod pawb yn y Cynulliad hwn yn cytuno bod gan bobl yng Nghymru yr hawl i anadlu aer sy'n iach. Er bod ansawdd cyffredinol dda i'n haer ni ar hyn o bryd a bod hyn yn cymharu'n dda â gweddill y DU a'r UE, fe allwn ni wneud yn well ac mae cyfle amlwg i weithredu ymhellach.

Mae'r 'Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach' yn nodi fframwaith cenedlaethol a fydd yn galluogi pob un ohonom ni, ledled Cymru, i weithio gyda'n gilydd i sicrhau gwelliannau pellach a chynaliadwy mewn modd sy'n atgyfnerthu ein gwaith ni ar newid hinsawdd, datgarboneiddio a thwf amgylcheddol. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein hymdrechion ni i wella ansawdd yr aer ymhellach eto yng Nghymru, ac mae'n dwyn gwaith ynghyd ar draws llawer o adrannau'r Llywodraeth a sefydliadau'r sector cyhoeddus drwy bedair thema ganolog, sef: diogelu iechyd a lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol; cefnogi'r amgylchedd, ecosystemau a bioamrywiaeth; cefnogi Cymru lewyrchus; a chefnogi mannau cynaliadwy.

Mae'n hanfodol bod ein dull ni o weithredu yn diogelu iechyd a lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae ein thema gyntaf yn pwysleisio'r camau gweithredu cyfredol ac arfaethedig i leihau llygredd aer, y risgiau ac anghydraddoldebau. Mae hyn yn cynnwys ymrwymo i dargedau newydd o ran deunydd gronynnol yng Nghymru, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar iechyd, gan ystyried gwerthoedd canllawiau caeth Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae'r ail thema yn cydnabod pwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd naturiol, ein hecosystemau a'n bioamrywiaeth a hyrwyddo twf amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Un o'r heriau mwyaf yr ydym ni'n eu hwynebu yw dod o hyd i ffordd o sicrhau amgylchedd sy'n iach, yn gydnerth ac yn gynhyrchiol i'r dyfodol gan barhau i greu swyddi, tai a seilwaith. Byddwn yn mesur cynnydd drwy ddangosyddion newydd ar gyfer bioamrywiaeth.

Mae'r drydedd thema yn cefnogi Cymru lewyrchus. Rydym yn awyddus i fod yn gymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy'n cydnabod terfynau'r amgylchedd byd-eang ac yn defnyddio adnoddau yn effeithlon ac yn gymesur â'n hangen. Mae busnesau ffyniannus yn bwysig i economi lwyddiannus yng Nghymru ac mae angen inni gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd ochr yn ochr â'n hymrwymiadau i gael aer glân a thwf amgylcheddol iach. Drwy gyfuniad o reoleiddio, buddsoddi a datblygiadau technegol, llwyddwyd i wneud cynnydd sylweddol eisoes i leihau llygredd aer oherwydd diwydiant. I gyflawni gwelliannau pellach, fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan dargedu heriau penodol o ran ansawdd aer mewn ardaloedd diwydiannol.

Mae'r bedwaredd thema, a'r olaf, yn cydnabod pwysigrwydd lleihau llygredd yn yr aer mewn mannau cyhoeddus. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cydnabod pwysigrwydd ansawdd aer a seinweddau priodol i iechyd a lles pobl a'r amgylchedd. Rydym yn cynhyrchu canllawiau pellach ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i gefnogi ystyriaeth fanwl o ansawdd aer a seinweddau yn y broses gynllunio. Mae dull cydgysylltiedig rhwng polisi trafnidiaeth cenedlaethol a pholisi cynllunio yn cefnogi cynnydd yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan leihau allyriadau a'u heffaith ar y cyhoedd. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i annog newid moddol oddi wrth ddibyniaeth ar gerbydau preifat a thuag at fathau cynaliadwy o drafnidiaeth.

Er y gallwn arwain a gosod esiampl drwy weithredu gan y Llywodraeth, ni allwn gyflawni'r cynllun ar ein pennau ein hunain. Mae mynd i'r afael â llygredd aer yn llwyddiannus yn golygu bod Llywodraeth Cymru, ei hasiantaethau, awdurdodau lleol, busnes a diwydiant, sefydliadau anllywodraethol ac, wrth gwrs, y cyhoedd yn gweithio gyda'i gilydd. Fe fyddwn yn rhoi'r grym i bawb leihau'r effeithiau a'u cysylltiad ag ansawdd aer lleol drwy addysg well a chodi ymwybyddiaeth, a datblygu dulliau cyfathrebu integredig a dargedwyd i hysbysu a galluogi newid mewn ymddygiad.

Bydd gan ein Deddf Aer Glân newydd ni i Gymru ran allweddol i'w chwarae i'n helpu ni i sicrhau hyn drwy gyflawni'r ymrwymiad ym maniffesto'r Prif Weinidog a lleihau'r baich y mae ansawdd aer gwael yn ei roi ar iechyd pobl, ein heconomi, bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol. Byddaf yn ymgynghori ar gynigion mwy manwl ar gyfer y Ddeddf erbyn diwedd tymor presennol y Cynulliad, gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.

Dros y 12 wythnos nesaf, rwy'n gobeithio cael trafodaeth adeiladol ar y cynigion yn y cynllun, ac rwy'n eich annog chi a'ch etholwyr i ymateb iddyn nhw. Gyda'n gilydd, mae gennym gyfle i wella ansawdd aer ledled y wlad, er ein mwyn ni, er mwyn ein plant ac er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.

15:10

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae maes polisi'r agenda aer glân yn hanfodol bwysig i'r Llywodraeth ac i wleidyddion o bob lliw a llun. Rwy'n mynd i ddarllen y datganiad hwn—rwy'n credu y bydd hynny ynddo'i hun yn fodd inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd dan sylw—

Mae marwolaethau y gellir eu hosgoi oherwydd clefyd anadlol yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn fwy na 60 y cant ar gyfer dynion a 66 y cant ar gyfer menywod, o'u cymharu ag 11 y cant yn unig ar gyfer y ddau ryw pe byddech chi'n digwydd byw mewn maestref goediog braf neu yng nghefn gwlad.

Mae hwn yn ystadegyn brawychus yn wir, a dweud y lleiaf, ac yn fater mewn maes polisi y mae'r ysgogiadau i ymdrin ag ef yn ein dwylo ni, lle y gallwn ni wneud gwahaniaeth.

Mae'n werth myfyrio hefyd ar sefyllfa Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, sydd wedi dangos bod allyriadau yng Nghymru rhwng 2015 a 2016 wedi codi 5 y cant, a, rhwng 2009 a 2016, wedi codi bron 1.5 y cant, o'i gymharu â gostyngiad o 5 y cant ledled y DU. Felly, mae'n amlwg nad yw'r dulliau y mae Llafur Cymru wedi bod yn eu defnyddio yn y maes penodol hwn wedi bod yn gweithio, er fy mod i'n credu bod datganiad y Gweinidog yn ddiffuant y prynhawn yma o ran ceisio newid y naratif ar y pwnc penodol hwn. Dyna pam ei bod yn destun gofid i mi fy mod i'n sefyll yn y fan hon ac yn dweud y drefn wrth Lywodraeth Cymru am fethu â chyflwyno Deddf aer glân a deddfu'n wirioneddol yn y maes penodol hwn. Gallaf gofio'r tro cyntaf y gwnes i alw ar y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, i dynnu'r partneriaid ynghyd a chael trafodaeth wirioneddol i roi darn o ddeddfwriaeth ar y llyfr statud erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

Yn anffodus, erbyn hyn, er gwaethaf ymrwymiad y Prif Weinidog presennol fel arweinydd, ni fyddwn yn gweld y Ddeddf hon gerbron y Cynulliad hwn. Rwy'n clywed y Gweinidog yn cyfeirio at Brexit fel un o'r problemau efallai, oherwydd y pwysau sydd ar ei hadran hi, ond ceir cytundeb ar y maes polisi penodol hwn ar draws y Siambr hon i gyflawni'r gwelliannau hyn. Ac, oni bai fod y gwelliannau hyn yn cael eu hymgorffori mewn cyfraith, ni fydd llawer o bartneriaid cyhoeddus a phartneriaid sector preifat yn gallu cyflawni'r gwelliannau sy'n ddyledus. Ac felly fe fyddwn ni'n annog y Gweinidog i fyfyrio unwaith eto ar y maes penodol hwn. Nid yw'r amser wedi dod i ben yn gyfan gwbl—mae bron 18 mis arall eto cyn yr etholiadau i'r Cynulliad, ac, fel y dywedais i, gydag ewyllys da, mae modd inni wneud cynnydd ar y mater hwn.

Fodd bynnag, os ydych chi'n parhau i benderfynu peidio â chyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn—yn ôl yr hyn a ddeallaf yn y datganiad hwn, dim ond sôn am Bapur Gwyn yr ydym yma—a wnewch chi ymrwymo i neilltuo amser yng nghalendr y Cynulliad cyn i'r Cynulliad gael ei ddiddymu er mwyn trafod y pwnc penodol hwn a phleidleisio ar unrhyw argymhellion a allai ddeillio o'r Papur Gwyn a'r ymgynghoriadau a gynhelir? Oherwydd credaf fod hwn yn faes pwysig, sef deall sut yn union y byddwch chi'n ymdrin â'r eitem benodol hon.

Yn ogystal â hynny, fel y clywsom yn y datganiad busnes, ceir problem fawr ynghylch llosgi yng Nghymru, a'r deunydd gronynnol sy'n deillio o hynny. Mae'n ymddangos bod cytundeb trawsbleidiol ar y mater penodol hwn ymhlith fy nghyd-Aelodau o etholaeth Sir Fynwy, yr Aelod dros Abertawe, neu'r Barri ym Mro Morgannwg yn fy rhanbarth i. A wnewch chi dynnu sylw heddiw at sut y bydd y strategaeth aer glân, neu'r cynllun, fel yr ydych chi wedi ei gyflwyno ef, yn ymdrin ac yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon yn y maes penodol hwn ynghylch llosgi?

Rydych wedi crybwyll bioamrywiaeth a phwysigrwydd creu diwylliant bioamrywiaeth yma yng Nghymru. Rydym yn gwybod, ysywaeth, bod ymdrechion Llywodraeth Cymru o ran plannu coed wedi taro ymhell iawn oddi wrth y nod. Sut y gallwn ni fod yn hyderus y bydd y cynllun penodol hwn, wrth iddo sôn am gynyddu bioamrywiaeth ledled Cymru, mewn gwirionedd yn gallu cyflawni'r gwelliannau y soniwch amdanynt yn y maes penodol hwn?

Hefyd, rydych chi'n sôn am grŵp arbenigol—cafodd panel arbenigol ei sefydlu i edrych ar ymyriadau mewn lleoliadau domestig, ac, mewn gwirionedd, mae'n sôn am ddiddymu allyriadau o ffynonellau domestig yn gyfan gwbl. A wnewch chi ein goleuo ni ynglŷn ag union natur yr ymyriadau hynny, oherwydd mae'n ddatganiad beiddgar iawn? A pha ymyriadau fydd y Llywodraeth yn ceisio eu cyflawni, oherwydd rwy'n tybio bod yr wybodaeth honno gennych chi, gan fod gennych banel o arbenigwyr, yn amlwg, yn rhoi cyngor ichi yn y maes penodol hwnnw?

Siomedig iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, yw nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwneud gwelliannau i safonau Sefydliad Iechyd y Byd o ran ansawdd aer, dim ond i safonau'r UE yn unig, er eich bod yn cyfeirio'n fyr at hynny yn eich datganiad—y byddwch yn cael eich arwain, yn hytrach na dweud y byddwch chi'n dymuno gwireddu'r targedau hynny mewn gwirionedd. A wnewch chi egluro imi pam na wnewch chi osod y targed ymestynnol iawn hwnnw sydd gan Sefydliad Iechyd y Byd i chi eich hun, yn hytrach na thargedau'r UE, yr ydych chi'n anelu atyn nhw?

Rydym i gyd yn gefnogol i ragor o drafnidiaeth gyhoeddus, ond ceir rhaniad eglur iawn rhwng cefn gwlad a'r trefi. Mewn nifer o achosion, mewn mannau gwledig, yn anffodus, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael o gwbl. Felly, fe fyddai'n dda iawn cael gwybod sut y byddwch chi'n llunio'r maes polisi a fydd yn galluogi'r gwelliannau hynny lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn bodoli fel bod hwnnw'n ddewis gwerth chweil yn hytrach na defnyddio ceir preifat, heb gosbi pobl mewn mannau gwledig, lle, yn aml iawn, yr unig ddull o drafnidiaeth sydd ganddyn nhw yw defnyddio'r cerbyd modur preifat sydd wedi ei barcio wrth y tŷ.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nawr, yn amlwg, fel yr oeddech chi'n dweud, fod pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn ac, yn y pen draw, ein bod ni'n gweld ymateb gan y Llywodraeth sy'n mapio dyfodol y maes arbennig hwn. Ni allwn barhau i gael ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n tynnu sylw at y ffaith bod rhwng 1,400 a 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn yn gysylltiedig ag ansawdd aer gwael. Rwy'n cyfeirio'n ôl at y datganiad agoriadol a wnes i yn y datganiad hwn ynglŷn â sut mae'r anghydraddoldebau—. Os ydych yn byw mewn ardal dlawd, mae yna siawns o 60-66 y cant y byddwch chi'n marw o anhwylderau anadlol, o'i gyferbynnu â siawns o 11 y cant os ydych chi'n byw mewn maestref goediog. Mae hwnnw'n anghydraddoldeb na allwn ni ei oddef na chaniatáu iddo barhau.

Yn ei bapur ar adnewyddu trefol, a gyflwynodd ryw 18 mis yn ôl, nododd fy nghyd-Aelod David Melding pa mor uchelgeisiol yw Ceidwadwyr Cymru yn y maes polisi penodol hwn, a sut y byddem ni'n barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu parthau aer glân mewn lleoliadau trefol a mannau diogel o amgylch ysgolion. Felly erbyn 2021, ni fyddwn ni'n trafod hyn o hyd, bydd gennym gamau gweithredu, a gallwn gyfeirio at ardaloedd yng Nghymru a all fod yn batrymau o ragoriaeth, yn hytrach na'r ystadegau hynny a ddefnyddiais yn fy sylwadau agoriadol, sy'n dangos, mewn gwirionedd, fod ansawdd yr aer wedi dirywio yng Nghymru 5 y cant yn ddiweddar, o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, lle mae wedi gwella 5 y cant.

15:15

Diolch i chi, Andrew R.T. Davies, am y rhestr hir iawn yna o sylwadau ynglŷn â'r ymgynghoriad yr wyf i wedi ei lansio heddiw. Fe wnaf i fy ngorau i ateb eich holl gwestiynau. Mae'n rhaid imi ei alw ef i gyfrif am ddweud y drefn wrth Lywodraeth Cymru. Mae'n dda gweld Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yma yng Nghymru yn cydnabod y gwaith da yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Rwy'n falch iawn o'r cynllun, ond fe gafodd cynlluniau'r Torïaid yn Lloegr eu disgrifio gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint fel cyfle a gollwyd gyda risg o golli tir. Felly, rwy'n dweud hynny ar fy union. Fodd bynnag, mae bron yn Nadolig, felly rwy'n falch iawn eich bod chi'n hapus i weithio gyda ni ynglŷn â hyn.

Yn sicr, rwy'n cofio papur David Melding, ac rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi. Nid oes gennym yr holl atebion. Yn sicr, fe fydd yr ymgynghoriad hwn, rwy'n gobeithio, yn cyflwyno rhai ymatebion da iawn y gallwn ni fwrw ymlaen â nhw. Rydym  wedi cael y rhaglen, rwy'n lansio'r ymgynghoriad arfaethedig heddiw, ac yna fe fydd gennym ni'r Ddeddf aer glân. Fe glywais i'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am y Ddeddf, a'r ffaith nad ydym yn ei chynnig yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rwyf wedi ymrwymo i gynhyrchu Papur Gwyn cyn diwedd y tymor. Gwn ichi ddweud y byddwn ni'n rhoi'r bai ar Brexit. Wel, mae Brexit yn broblem enfawr i'm hadran i. Fe wyddoch fod fy adran i wedi mynd i'r afael yn llwyr â deddfwriaeth Ewropeaidd a chyllid a rheoleiddio, ac ati. Felly, mae wedi tynnu'r ffocws oddi ar bethau fel hyn. Hoffwn i'n fawr ddod â Deddf aer glân gerbron y tymor hwn, ond rwyf wedi ymrwymo i Bapur Gwyn.

Mae'n rhaid imi ddweud nad deddfwriaeth yw'r ateb i bopeth. Mae gennym ddulliau y gallwn eu defnyddio, ac rwy'n credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Un o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud yn Llywodraeth Cymru, o ran ansawdd aer a gwella ansawdd aer, yw adeiladu sylfaen o dystiolaeth nad oedd gennym o'r blaen. Yn aml iawn, buom yn edrych tuag at Lywodraeth y DU am mai gan y rheini oedd y dystiolaeth i gyd. Ond, erbyn hyn rwy'n credu bod gennym yr argyfwng hinsawdd, mae gennym y materion bioamrywiaeth yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, ac ansawdd yr aer. Er bod yna orgyffwrdd, tri pheth gwahanol iawn yw'r rhain ac mae'n rhaid inni ddod â nhw at ei gilydd.

Rhai o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud—. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod gan awdurdodau lleol bwerau ar hyn o bryd i gyflwyno parthau allyriadau isel, er enghraifft, a pharthau aer glân, felly mae hynny eisoes ar waith; nid oes angen mwy o ddeddfwriaeth arnyn nhw i allu gwneud hynny.

Roeddech chi'n cyfeirio at losgi gwastraff. Yn amlwg, nid fy nghyfrifoldeb i yw gwastraff, ond rwyf wedi cael sawl trafodaeth gyda Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ynglŷn â llosgi a'r hyn y gallwn ni ei wneud. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n genedl gyfrifol. Mae'n rhaid ymdrin yn effeithiol â'r gwastraff na ellir ei ailgylchu mewn ffordd na fydd yn llygru'r amgylchedd nac yn allforio'r broblem honno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw. Felly, er bod llosgi deunydd gwastraff ar gyfer gwres a phŵer yn uchel iawn o ran hierarchaeth gwastraff statudol, os mynnwch chi—mae'n uwch na thirlenwi—rwyf i o'r farn ei fod yn gam trosiannol. Mae angen inni ddod o hyd i ddatrysiad ar gyfer symud oddi wrth blastigau untro, er enghraifft, a gwn fod y Gweinidog yn ystyried gwahardd neu gyfyngu ar rai cynhyrchion plastig untro.

Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â choetir. Nid ydym wedi bod yn plannu'r niferoedd o goed y byddem wedi hoffi gwneud, ond unwaith eto, fe welwch chi gynnydd yn hyn, oherwydd rwy'n sicrhau bod hynny yn digwydd.

O ran hylosgi domestig, mae hwn yn faes diddorol iawn, oherwydd yn amlwg mae hynny'n digwydd dan do, dyna lle mae pobl yn byw, ac yn anffodus fe all yr aer gael ei lygru. Felly, fe ofynnwyd y cwestiwn imi, 'A ydych chi'n mynd i wahardd stofiau sy'n llosgi pren?' Nac ydym. Ond, yr hyn y mae angen ei ystyried yw'r tanwydd a ddefnyddir. Felly, er enghraifft, rydym yn ceisio gwahardd coed gwlyb oherwydd gwyddom yn amlwg fod yn rhaid i'r tân weithio hyd yn oed yn galetach i gynhyrchu'r gwres, felly mae angen i bobl ddefnyddio coed sych. Os yw pobl yn defnyddio pren gyda farnais neu baent arno, er enghraifft, fe all hynny'n amlwg gynyddu'r cemegau. Felly, rwy'n mynd i ymgynghori ar gynigion cyn bo hir i wahardd neu gyfyngu ar werthu coed gwlyb a glo traddodiadol hefyd, oherwydd gwyddom fod peth o'r glo carreg di-fwg o Gymru, er enghraifft, yn cael ei ystyried yn gynnyrch glân.

O ran canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), rwy'n gwybod eich bod chi wedi codi hyn gyda mi o'r blaen ac rwy'n credu imi ateb nad ydym yn gwybod eto a yw'n bosibl cyflawni canllawiau'r WHO ym mhobman ledled Cymru, na sut y gellid ei gyflawni o gwbl, mewn gwirionedd. Felly, rydym yn ystyried hynny. Rydym yn cydymffurfio â'r terfynau deddfwriaethol presennol ar gyfer deunydd gronynnol yng Nghymru, ond os edrychwch chi ar y canllawiau, rwy'n credu bod hynny tua 50 y cant yn fwy y mae angen inni edrych arno. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn ofalus iawn. Unwaith eto, fe fyddwn ni'n ymgynghori ar dargedau newydd ar gyfer deunydd gronynnol yng Nghymru, a bydd hynny'n rhoi ystyriaeth i ganllawiau'r WHO fel rhan o'r broses o ddatblygu Deddf aer glân i Gymru.

Eich cwestiwn olaf ynghylch trafnidiaeth—fe fyddwch chi'n ymwybodol y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn bwrw ymlaen â strategaeth drafnidiaeth a fydd yn canolbwyntio ar ardaloedd gwledig. Bydd hefyd yn cyflwyno'r Bil bysiau. Rwy'n cytuno'n llwyr, rydym eisiau gweld pobl yn newid eu hymddygiad, i ffwrdd o ddefnyddio'r car tuag at drafnidiaeth gyhoeddus, ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid i'r drafnidiaeth gyhoeddus fod ar gael. Felly, unwaith eto, rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog ynglŷn â phob agwedd ar hynny, o ran tacsis hefyd, er enghraifft, a defnyddio mwy o geir carbon isel. Felly, ar ôl i'r strategaeth gael ei chyhoeddi, byddwch chi'n gallu gweld y cysylltiad rhwng y rhain.  

15:20

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar y cynlluniau aer glân? Yn amlwg, rwyf fi, yn gadeirydd i'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer Deddf aer glân i Gymru, yn awyddus i weld Deddf, yn y bôn. Rwy'n cymeradwyo'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud cyn belled ag yr aiff hynny, ond credaf fod angen gweithredu ar fyrder nawr. Fe ddaeth hi'n amser i weithredu ar fyrder, oherwydd mae'r gromen hon o aer yr ydym yn ei anadlu yn ddim ond 10 milltir o ddyfnder. Mae'n rhaid inni ofalu am hyn, wyddoch chi. Pan soniwn am deithio yn y gofod a'r pellter i'r planedau ac ati, rydym yn sôn am filiynau o filltiroedd a blynyddoedd goleuni ac ati, ond dim ond 10 milltir yw dyfnder yr aer yr ydym ni'n ei anadlu. Mae'n rhaid inni ofalu am hyn.

Nawr, wrth gwrs, gan fynd yn ôl mewn hanes, cawsom y Deddfau aer glân gwreiddiol a oedd yn ymateb i'r mwrllwch angheuol a'r tawch yn Llundain ym 1952 ac mewn dinasoedd mawr eraill, Manceinion a Lerpwl, yn yr 1940au a'r 1960au. Yna fe gyflwynwyd deddfwriaeth i gynhyrchu tanwyddau di-fwg. Yn amlwg, glanhawyd yr aer, ond ceir llygredd yn yr aer o hyd, ond y gwahaniaeth nawr yw nad ydym yn ei weld. Ond rydym wedi codi ein troed oddi ar y sbardun yn llythrennol gan nad ydym yn cael ein dallu gan y tawch hwnnw erbyn hyn. Ac yn amlwg, yr anghysonder arall oedd bod cynhyrchu'r tanwyddau di-fwg i Lundain yn golygu ein bod ni wedi rheoli'r broses o drosglwyddo'r llygredd aer gronynnol solet hwnnw yn Llundain, a'i drosglwyddo, yn lle hynny, i Abercwmboi yng Nghwm Cynon, a gafodd y gwaith o gynhyrchu'r tanwyddau golosg di-fwg—dyna ychydig o eironi.

Ond beth bynnag, hynny, ynghyd ag etifeddiaeth diwydiant trwm a'r llygredd a ddaw yn ei sgil, ac rydym yn dal i weld hynny gyda glo brig a'r diwydiant dur a metelau trwm fel nicel, mae'r llewygfa yno o hyd ar waelodion Cwm Tawe—. Felly, nid dim ond llygredd hanesyddol sy'n fyw iawn o hyd. Yn amlwg, fel y dywedwyd, rydym ni'n dal i'w gynhyrchu hefyd, yn weithredol, gyda phob math o ddamweiniau traffig a dosbarthiad y traffig ar y ffyrdd. Mae oedi anferthol ar yr M4 ar y gorau.  

Nawr, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd, mae gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae gennym ni lefelau difrifol o lygredd aer yn niweidio iechyd ac yn lladd pobl nawr, heddiw. Dyna 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru. Mae gennym ni lefelau cynyddol o asthma, mae gennym ni lefelau cynyddol o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, rydym wedi etifeddu niwmoconiosis i'r glowyr, silicosis i'r chwarelwyr, ceir asbestosis mewn mannau o hyd, ac mae gennym ni gyfraddau cynyddol o ffibrosis codennog idiopathig—ystyr idiopathig yn Lladin yw 'Nid ydym yn gwybod beth sy'n ei achosi'. Ond rwy'n amau y byddwn ni, un o'r dyddiau hyn, yn canfod mai llygredd aer sy'n ei achosi, yn bennaf oherwydd ein hagwedd ddi-hid at lygredd aer dros y cenedlaethau. Mae anadlu deunydd gronynnol 2.5 yn lladd pobl, mae nitrogen deuocsid yn lladd pobl hefyd, gall nanogronynnau plastig gael eu hamsugno i'r system waed, i system cylchrediad y gwaed a'r galon. Felly, mae gennym ni Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sydd angen newid sylweddol a difrifol o ran ei gweithredu. Felly fy nghwestiwn cyntaf i yw: beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i helpu i wireddu newid sylweddol yn y ddeddfwriaeth sydd gennym eisoes?

Yn ogystal â hynny, fel y clywsom—. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi bod yn gysylltiedig â dwy ymgyrch o leiaf i atal datblygiadau ar gyfer llosgydd—yn Nhywyn Crymlyn ar bwys Abertawe ac yn Llansamlet yn Abertawe hefyd bellach. A wnaiff y Gweinidog gytuno—? Mae hi wedi clywed y sylwadau eraill am losgyddion arfaethedig mewn ardaloedd eraill, ym Mrynbuga ac yn y Barri, nid yr un yn Llansamlet yn unig; a wnewch chi gytuno ar foratoriwm ar adeiladu llosgyddion, o leiaf mewn ardaloedd preswyl ac yn agos at ysgolion? Oherwydd, os oes argyfwng newid hinsawdd ac os ydym ni'n sôn am yr holl farwolaethau hyn oherwydd llygredd aer, 'does bosib y gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch.

Ac, fel y dywedais, rwyf i'n bersonol yn ffafrio deddfwriaeth. Nid oes dim byd tebyg i gefnogaeth gyfreithiol i wneud yn siŵr bod pobl yn gweithredu yn hytrach na gwneud cynlluniau, ni waeth pa mor ddiffuant ydyn nhw. Deddf aer glân i ymgorffori canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd yn y gyfraith; Deddf aer glân i orchymyn Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd; Deddf aer glân i roi dyletswydd statudol gyfreithiol ar awdurdodau lleol i fonitro llygredd aer, i asesu llygredd aer, i gymryd llygredd aer o ddifrif a chymryd camau i'w rwystro, i ystyried y pryderon o ddifrif oherwydd llygredd aer mewn ceisiadau cynllunio; ac mae angen Deddf aer glân arnom ni i gyflwyno'r hawl i anadlu, lle mae'n rhaid i gynghorau lleol ddweud wrth grwpiau sy'n agored i niwed pan gaiff lefelau penodol eu torri. A gaf i wahodd y Gweinidog i gytuno ar y pwynt olaf hwn?

Ac felly, yn olaf, gan fod pawb yn cwyno bod y gwasanaeth iechyd yn costio mwy o arian o flwyddyn i flwyddyn, nid oes unrhyw un yn credu ym muddsoddi mewn newid ymddygiad i atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Na, rydym yn lladd ar y GIG am amsugno arian, pan fo'n rhaid i'r gwasanaethau iechyd fynd i'r afael â'r problemau y dylai Llywodraethau fod yn ei datrys yn y lle cyntaf. Felly, mae gennym ni agenda gordewdra sy'n achosi cynnydd mewn diabetes a chynnydd mewn canser, wel, deddfwch am 120 munud o weithgarwch corfforol bob wythnos mewn ysgolion, felly. Gwaherddwch hysbysebu gwael a bwyd sothach. Defnyddiwch arian o dreth siwgr yng Nghymru ar gyfer yr agenda addysg hon. Peidiwch â rhoi'r bai ar iechyd am orfod ymdrin â'r canlyniadau. Ac, o ran llygredd aer, ie, deddfwriaeth i lunio Deddf aer glân, i fynd i'r afael â'r cyfraddau cynyddol hynny o asthma, i fynd i'r afael â COPD, y lefelau cynyddol o rai sy'n dioddef o ffibrosis idiopathig ysgyfeiniol, y niwed i ysgyfaint plant sy'n tyfu. Nid ydym mwyach yn goddef dŵr budr, ni ddylem oddef aer budr mwyach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael y gwaith o leihau allyriadau yn y ffordd gyflymaf bosibl ar ôl cael ei gweld yn torri rheoliadau'r UE bron dwy flynedd yn ôl—23 mis yn ôl, i fod yn fanwl gywir. Peidied neb â'm cyhuddo i o orliwio'r mater. Bron dwy flynedd yn ôl, fe'i cafwyd yn euog o dorri rheoliadau'r UE ar lygredd aer. Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig y dylai'r Siambr hon eistedd am ddiwrnod ychwanegol er mwyn cyflwyno polisïau a fframweithiau a nodir yn y cynllun hwn i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus y mae llygredd aer yn ei gyflwyno heddiw? Dwy fil o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru. Pe byddai hwn yn gyffur, pe byddai hwn yn dabled, fe fyddem ni'n neidio lan a lawr er mwyn ei wahardd a'i ddatrys  mewn mater o ddyddiau neu wythnosau. Mae yna gynllun a Phapur Gwyn, ac efallai y bydd yna ddeddfwriaeth ymhen 18 mis. Mae'r her yn ddifrifol. Nawr yw'r amser. Diolch yn fawr.

15:30

Diolch i chi, Dai Lloyd, am y cyfraniad hwnnw. Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y ddwy flynedd a fu, ac fe glywsoch fy ateb i Andrew R.T. Davies ynglŷn â'r dewisiadau anneddfwriaethol sydd gennym ni a'r rhai yr ydym  wedi eu rhoi ar waith. Rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn, ac rwyf wedi nodi hefyd yn fy natganiad llafar y camau gweithredu y byddwn ni'n eu rhoi ar waith.

Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, rwy'n credu, am newidiadau o ran ymddygiad. Ac rwyf newydd fod yng Nghynhadledd y Partïon 25 ym Madrid am ychydig ddyddiau, ac roedd yn ddiddorol iawn siarad â'm cymheiriaid o bob cwr o'r byd am newid ymddygiad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n dysgu oddi wrth ein gilydd, ac rydym yn gweld beth sy'n digwydd os nad ydych yn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd. Ac rwy'n credu, yng Nghymru, bod gennym ni hanes da o ran newid mewn ymddygiad. Os ydych chi'n ystyried ailgylchu, roeddem ar waelod y tabl cynghrair ailgylchu 20 mlynedd yn ôl ar ddechrau datganoli. Rydym ni'n drydydd yn y byd erbyn hyn. Ac mae hynny, yn fy marn i, oherwydd arweiniad gan Lywodraeth Cymru a chyllid, ymgysylltiad ein hawdurdodau lleol ac, yn bwysicaf oll, y cyhoedd yn gwneud felly hefyd. Os ydych chi'n meddwl am roi organau—unwaith eto, rydym ni'n arwain y ffordd o ran newid ymddygiad. Felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o beryglon ansawdd aer drwg, a'u bod nhw'n deall y camau y gall pob un ohonom ni eu cymryd, ac weithiau mae'n anodd gwybod pa newidiadau y gallwch chi eu gwneud yn eich bywyd chi eich hun er mwyn gwella'r sefyllfa. Felly, rwy'n nodi yn fy natganiad llafar y gwaith y byddwn ni'n ei wneud ynglŷn â newid ymddygiad. Rwy'n credu bod pobl wedi cyrraedd y fan nawr lle nad ydyn nhw eisiau i rywun ddweud wrthynt beth na chânt ei wneud; maen nhw'n awyddus i gael gwybod beth y gallan nhw ei wneud. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n eu galluogi nhw i wneud hynny.

Rydych chi'n cyfeirio at ein treftadaeth ni o ran diwydiant trwm ac ynghylch glo, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol, nawr, fod cloddio am lo wedi gostwng i lefel lle nad oes ond nifer gymharol fach o safleoedd glo brig yn weithredol o hyd yng Nghymru. Ond rydym yn cydnabod bod ein treftadaeth ddiwydiannol yn seiliedig ar lo, ac mae gan hynny ran bwysig iawn ym mywyd y Cymry o hyd. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw dod o hyd i ddewisiadau carbon isel yn hytrach na glo, ar gyfer ynni a defnydd diwydiannol arall. Felly, mae angen y newid cyflym hwnnw tuag at ddiwydiannau ynni glân. Ond rwy'n credu bod angen gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwarchod ac yn diogelu'r mannau hynny lle mae pobl yn byw ac yn gweithio.

Roeddech chi'n cyfeirio at yr M4. Fe fyddwch yn ymwybodol bod comisiwn Burns yn gwneud darn o waith i'r Prif Weinidog ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr y bydd ansawdd yr aer yn rhan o—. Mae angen inni edrych ar ran o'r datrysiad ar gyfer yr M4 ac, yn amlwg, ansawdd yr aer, a gwella ansawdd yr aer.

Fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r pum nitrogen deuocsid—rydym ni wedi rhoi cyfyngiadau 50 mya mewn pum parth i leihau nitrogen deuocsid ac, yn sicr, mae'r data dros dro a gafodd y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi dangos y gwelliannau yn sgil y parthau 50 mya hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau.

O ran teithio llesol, rydym yn rhoi'r symiau mwyaf erioed o arian tuag at deithio llesol. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi lansio'r cynllun cyflawni carbon isel yn ôl ym mis Mawrth, ac fe ofynnais i bob Gweinidog edrych ar y cynlluniau a'r cynigion yn y rhain i weld a oedd angen iddyn nhw gael eu diweddaru yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd, ond mae ansawdd yr aer yn rhan o hynny hefyd, ac mae teithio llesol yn faes y gwn fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Dirprwy Weinidog wedi rhoi mwy o arian tuag ato.

Ynghylch llosgi gwastraff, mae hynny yn nwylo'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, a gwn y gofynnwyd iddi hi ystyried moratoriwm, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni maes o law.

Mae'n amlwg bod gan gynllunio swyddogaeth aruthrol. Ac, unwaith eto, rhoddwyd sylw i ansawdd yr aer a seinwedd yn y 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf. Mae honno'n elfen allweddol o'r amgylchedd naturiol ac adeiledig, ac mae'n gosod y materion ar sail gyfartal ag amcanion eraill fel tai, trafnidiaeth a datblygu economaidd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn gan y Gweinidog y prynhawn yma. Llygredd aer yw un o broblemau mwyaf ein hoes ni, ac mae'n fater pwysig o ran iechyd y cyhoedd. Drwy'r byd, rydym nid yn unig yn cynhesu'r atmosffer o ganlyniad i allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond rydym hefyd yn difrodi'r gynhaliaeth bwysicaf sydd gennym ni: yr aer a anadlwn ni.

Yng Ngorllewin Casnewydd, mae gan ardaloedd fel Caerllion, sydd, oherwydd ei harwyddocâd hanesyddol, â ffyrdd cul, poblogaeth sy'n tyfu a dewisiadau gwael o ran trafnidiaeth gyhoeddus—mae hynny'n creu storm berffaith o lygredd aer. Yng Nghasnewydd, mae gennym ni'r M4 hefyd yn ymestyn drwy galon y ddinas, yn agos at dai ac ysgolion, a lle mae traffig yn aml yn aros yn yr unfan heb symud. Ac rwy'n falch eich bod chi wedi crybwyll eisoes y bydd hyn ar agenda comisiwn Burns. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gweithio'n galed i gyflwyno cynigion i wella ansawdd aer yn ein dinas ni, ond mae llawer mwy y gellir ei wneud eto.

Mae'n rhaid inni gael camau i leihau traffig ar bwys ein hysgolion ni. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd disgyblion o ysgol gynradd Maesglas yn fy etholaeth i brotest newid hinsawdd ar hyd ffordd brysur ger eu hysgol nhw, yn galw am newid. A'n ddyletswydd ni yw gwrando ac ymateb i'r galwadau hyn.

Fe all y pethau bychain helpu. Er enghraifft, traffig sy'n aros yn yr unfan yn aml iawn sy'n cyfrannu fwyaf at lygredd aer y tu allan i ysgolion. Gall un funud yn unig o injan car yn troi lenwi 150 o falwnau gyda mwg ecsôst. Felly, i'r rheini y mae'n rhaid iddynt yrru car ar yr adeg honno o'r dydd, byddai eu hannog nhw i ddiffodd eu hinjans pan fyddan nhw wedi parcio yn helpu i leihau llygredd yn yr aer.

Rhywbeth arall sy'n gymharol syml a all wneud gwahaniaeth enfawr yw plannu coed. Mae coed trefol yn arbennig o effeithiol yn amsugno carbon deuocsid, gydag un astudiaeth yn dangos bod parthau gwyrdd trefol yn amsugno cymaint o garbon deuocsid â fforestydd glaw. Gwyddom am uchelgais Llywodraeth Cymru o ran plannu coed, ond mae modd gwneud mwy, a hynny gyda chyflymder ac yn ddi-oed. I lawer o ysgolion, nid oes unrhyw goed na gwrychoedd wrth ymyl y ffordd. Fe allai mesurau o'r fath helpu gyda lefelau llygredd, a helpu i wasgaru mygdarth. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i'w hannog nhw i blannu mwy o goed a fyddai'n addas ar eu tir nhw?

Ac rwyf innau'n falch iawn hefyd o weld y bydd yr ymgynghoriad hwn yn adolygu'r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag allyriadau yn sgil llosgi tanwyddau ffosil dan do, fel coed a glo. Mae llygredd dan do yn fater o bwys, ac yn rhywbeth sy'n cael ei anwybyddu yn aml iawn. Hoffwn i hefyd groesawu'r ffaith y caiff coelcerthi a thân gwyllt eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, a'r cyfraniad y maen nhw'n ei wneud i lefelau allyriadau niweidiol.

Yn olaf, mae mynegai o amddifadedd lluosog Cymru 2019 wedi dangos bod lefelau uchel o aer o ansawdd gwael i'w cael mewn ardaloedd o amddifadedd mawr. Mae ambell i ardal yn fy etholaeth i ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gweithio gyda'i chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn?

15:35

Diolch i chi, Jayne Bryant. Fe fyddwch chi wedi clywed fy ateb i gyd-Aelodau ynglŷn â'r M4 yn flaenorol, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i'r comisiwn ystyried yr holl broblemau a'r cyfleoedd a'r heriau a'r amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thagfeydd o amgylch yr M4. Ac rwy'n deall y bydd yna adroddiad interim—rwy'n credu y bydd hynny cyn diwedd eleni, y byddaf i, wrth gwrs, â diddordeb mawr ynddo.

Ynglŷn ag ansawdd aer ac ysgolion, unwaith eto, mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Ac os edrychwch chi ymhle yr ydym ni'n treulio ein hamser, rydym yn treulio ein hamser dan do—ac rwy'n dychwelyd at yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am hylosgiad domestig—ac yn y gweithle hefyd, ac, wrth gwrs, y tu allan—mannau fel ysgolion. Felly, fe fyddwch chi'n ymwybodol o'n canllawiau statudol ni i awdurdodau lleol—fe wnaethom ni gyhoeddi'r rhain yn 2017—a oedd yn cydnabod ysgolion a llwybrau teithio llesol, ymysg eraill, fel lleoliadau sensitif ar gyfer derbynyddion. Ac fe wyddom ein bod ni wedi—. Rydym wedi rhoi canllawiau i orfodi awdurdodau lleol i gymryd dull sy'n seiliedig ar risg wrth leoli eu monitorau. Mae angen iddyn nhw gael eu llywio gan y mannau y mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn debygol o fod yn agored i'r lefelau uchaf o lygredd aer, ac, yn amlwg, mae ysgolion yn faes lle mae angen gwneud hyn. Soniais eisoes fod gennym ni ddulliau, ac mae gan awdurdodau lleol bwerau—yn arbennig o ran injans yn aros yn yr unfan; rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn.

Plannu coed—unwaith eto, mae Aelodau eraill wedi codi'r mater nad ydym ni'n plannu digon o goed, fel y dylem ni fod yn ei wneud, ond, fel y dywedais rydym yn gwneud cynnydd yn hyn o beth. Fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r ymrwymiad ym maniffesto'r Prif Weinidog i goedwig genedlaethol. Ac o fewn y goedwig genedlaethol honno, rydym ni'n edrych ar gysyniad a elwir yn goedwigoedd bychain, lle mae gennych chi lecyn o faint cwrt tenis, efallai, y gellir ei ddefnyddio i blannu coed i sefydlu'r goedwig fechan honno. Felly, rydym yn edrych ar ysbytai, er enghraifft; a byddai ysgolion yn faes arall lle y gallem ni weithio efallai, i weld a oes modd gwneud hynny.

Llygredd dan do—soniais y byddwn yn ceisio gwahardd coed gwlyb, oherwydd gwyddom fod coed gwlyb yn defnyddio mwy—mae angen mwy o ynni o'r tân i'w losgi. Felly, byddwn yn ceisio gwneud hynny. Ac o ran rhai mathau o lo sy'n llygru mwy nag eraill, byddwn yn cymryd cyngor pellach ar hynny, ac yn ymgynghori ar gynigion i gyfyngu ar y defnydd o lo bitwminaidd wrth symud ymlaen.

Ynglŷn â choelcerthi a thân gwyllt, mae hyn yn rhywbeth a godir yn aml iawn o ran llygredd sŵn. Ond, fel y dywedwch, gall gael effaith ar ansawdd aer hefyd, yn amlwg. Felly, unwaith eto, rwy'n edrych ymlaen at glywed ymatebion i'r ymgynghoriad ynglŷn â hynny. Ar draws y Llywodraeth, mae llawer—yn ôl pob tebyg, y rhan fwyaf o'm cyd-Aelodau yn y Cabinet yr wyf i'n ymwneud â nhw—. Soniais i o'r blaen fod 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi cael ei newid ddiwedd y llynedd i sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried ac yn amlwg, gyda Ken Skates, o ran y strategaeth drafnidiaeth—rwyf wedi cael trafodaethau sylweddol gydag ef ynghylch hynny, ac rwy'n gwybod ei fod eisiau lansio'r strategaeth yn y dyfodol agos iawn o ran sut y gallwn ni fynd i'r afael â llygredd aer a achosir gan drafnidiaeth.

Ond rwy'n dychwelyd at newid ymddygiad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n clywed yr hyn y mae pobl yn credu y gallan nhw ei wneud. Ac rwy'n credu, o edrych ar yr ymgynghoriad a lansiais heddiw, ac rwy'n ymbil ar yr Aelodau i annog eu hetholwyr i gyflwyno—efallai na fyddai etholwyr unigol yn meddwl am gyflwyno'r math hwn o ymgynghoriad. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni ddefnyddio sefydliadau sy'n bodoli eisoes fel Awyr Iach Cymru a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i'n helpu ni gyda'r cynllun hwn.

15:40

Gweinidog, a gaf i ganmol gwaith Awyr Iach Cymru, sef y grŵp ymbarél sy'n ymgyrchu dros Ddeddf aer glân? Ac rwy'n credu os edrychwch chi ar eu llenyddiaeth nhw a'r deunydd ymgyrchu fe welwch chi'n glir pam mae angen Deddf arnom i wreiddio canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd, i sicrhau ein bod ni'n gorchymyn strategaeth ar ansawdd aer bob pum mlynedd, ac yn sicrhau hefyd fod yna ddyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol. Mae hwn yn ddull cydlynol iawn ac mae cytundeb trawsbleidiol yn y fan hon mai dyma'r hyn sydd ei angen. Felly, rwy'n credu bod llawer o bobl yn siomedig nad ydym yn mynd i weld hynny yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Fe gafodd hyn ei godi yn nyddiau cynnar iawn y Cynulliad, oherwydd efallai y cofiwch nad oedd sôn am aer glân yn rhaglen y Llywodraeth o gwbl, ac fe gafodd y Llywodraeth, yn gwbl briodol, ei beirniadu'n hallt ledled y sector oherwydd hynny.

A gaf i ddweud yn fwy cadarnhaol nawr ein bod ni, yn ein dogfen 'Dinasoedd Byw', wedi edrych hefyd ar y sefyllfa o ran ysgolion yn benodol, oherwydd ein bod yn credu y gallwn ni symud yn gyflym iawn yn hyn o beth? Fe soniodd Jayne Bryant am geir yn aros yn eu hunfan a'u hinjans yn troi—yr holl fater o ollwng plant o geir wrth yr ysgol, gan greu cyfradd enfawr o lygredd. Nid oes gennym ddata gwych iawn, felly un peth y gallem ei wneud yw bod pob ysgol yn gorfod monitro ansawdd yr aer, yn enwedig o gwmpas y mannau gollwng plant ac unrhyw ffordd brysur. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n codi'r safon yn hyn o beth ac yn sicrhau bod gan ein dinasyddion iau yr hawl i anadlu aer o'r ansawdd gorau posibl, ac mae hynny'n rhywbeth y gallech chi ei wneud yfory nesaf, neu o leiaf ddechrau ar y broses yfory nesaf.

Diolch, David Melding ac, yn amlwg, mae fy swyddogion i, yn arbennig, wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag Awyr Iach Cymru. Roeddwn i'n falch iawn eu bod nhw'n croesawu'r cynllun y bore yma a byddaf i'n sicr o barhau i weithio gyda nhw. Rwyf newydd ddweud, yn fy ateb i Jayne Bryant, fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gweithio gyda'n rhanddeiliaid wrth symud ymlaen.

Yr ymrwymiad ym maniffesto'r Prif Weinidog oedd gwella ansawdd aer drwy ddatblygu Deddf aer glân i Gymru. Fe fyddai hynny'n sicr yn darparu mecanwaith ffurfiol, ac rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd y tymor hwn. Ond fel y dywedais, mae ystod eang o ddulliau ar gael inni ar gyfer gweithredu nawr i wella ansawdd aer, ac ar hyn o bryd mae gan awdurdodau lleol bwerau, er enghraifft, i gyflwyno parthau allyriadau isel a pharthau aer glân, naill ai drwy godi tâl neu heb godi tâl. Mae ganddyn nhw, hefyd, y pwerau i gyflwyno dirwyon ar gyfer injans ceir yn troi'n ddiangen, y cyfeiriasoch ato fel problem. Ond rwy'n credu bod angen inni ystyried sut y gallwn ni rymuso'r pwerau hyn drwy Ddeddf aer glân, a dyna fwriad y Llywodraeth hon yn bendant.

Wrth sôn am ysgolion, pan soniais wrth Andrew R.T. Davies fy mod i wedi bod ym Madrid ar gyfer y cyfarfod COP25 yn ddiweddar, sy'n dal i fynd rhagddo, un o'r pethau a welais i ym Madrid oedd waliau byw. Felly, mae yna waliau gwirioneddol uchel anhygoel wedi cael eu gorchuddio â gwyrddni ac yn cael eu dyfrhau o'r tu mewn. Tybed pam nad oes gennym ni fwy o waliau o'r fath yn y wlad hon, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn i'n awyddus iawn i'w ddatblygu.

Ac roeddech chi'n siarad am ysgolion yn monitro ansawdd eu haer nhw. Rwy'n credu imi sôn wrth Jayne Bryant fod angen iddyn nhw ddilyn dull sy'n seiliedig ar risg wrth leoli eu monitorau. Y nhw sy'n adnabod y boblogaeth leol a'r ardal leol orau ac mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr eu bod yn edrych ar ein canllawiau ni ynglŷn ag ysgolion a llwybrau teithio llesol.

15:45

Gweinidog, a gaf i groesawu'r datganiad a wnaethoch chi heddiw, ac a gaf i groesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun gweithredu gwirioneddol, oherwydd mae hynny'n hanfodol? Rwy'n sylwi bod sawl cyfeiriad at Bort Talbot. Fel y gallwch ddeall yn llwyr, mae'r goblygiadau i Bort Talbot yn aruthrol. Mae gennym draffordd yn mynd drwy'r ardal. Mae gennym y gwaith dur a diwydiannau eraill yma hefyd. Yn wir, mae gennym gyfuniad o bopeth y mae eich cynllun chi'n sôn amdano. Felly mae gennyf ychydig o gwestiynau, a byddaf yn ceisio cadw at fy nau gwestiwn oherwydd gwn y byddai'r Dirprwy Lywydd yn hoffi canolbwyntio ar gwestiynau ar yr adeg hon.

O ran y materion ynghylch 'Polisi Cynllunio Cymru', fe wnaethoch chi siarad yn gynharach mewn ymateb i hyn. Mae'n bwysig inni gael cefnogaeth i hynny unwaith eto, oherwydd mae'n rhaid rhoi sylw i'r modd y bydd y cynlluniau datblygu lleol yn ystyried y mater hwn o ansawdd aer a rheoli ansawdd aer. Mae hyn yn arbennig o wir yn y cynigion cynllunio a fydd yn cynnwys naill ai losgyddion neu ryw fath o elfen a fydd yn cynyddu llygredd aer yn yr ardal dan sylw, boed honno'n ardal breswyl neu'n ardal ddiwydiannol. Felly, a fyddwch chi'n edrych ar awdurdodau lleol ac yn gofyn iddyn nhw adolygu eu CDLlau i sicrhau eu bod yn gyfredol ar gyfer bodloni'r cynllun hwn?

O ran traffyrdd, fel y dywedasoch, mae'r darn o'r M4, rhwng cyffyrdd 41 i 42 yn fy ardal i, yn un o'r parthau y bu'n rhaid ei gyfyngu i 50 mya. Unwaith eto, a wnewch chi fy sicrhau i, rhoi sicrwydd imi, eich bod chi'n trafod â'r Gweinidog i ystyried sut yr ydych chi am ymdrin â'r mater hwnnw, oherwydd bydd dargyfeirio traffig yr M4 ar ffyrdd lleol yn dirywio ansawdd yr aer i'r trigolion yn yr ardaloedd ger y ffyrdd lleol hynny, yn enwedig i'r plant, gan eu bod nhw'n cerdded ar hyd y ffyrdd hynny i'w hysgolion? Felly, nid yw hwn yn ddatrysiad; mae'n rhaid inni ddod o hyd i atebion eraill, yn hytrach na chau cyffyrdd yn unig neu ddargyfeirio traffig oddi ar yr M4 ar ffyrdd lleol.

Fe dynnodd Andrew R.T. Davies sylw at fater trafnidiaeth gyhoeddus ac, unwaith eto, mae hynny'n hollbwysig. Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cyflwyno Bil trafnidiaeth gyhoeddus. A wnewch chi ofyn iddo ef sicrhau y bydd hwnnw'n bodloni'r cynllun hwn, oherwydd ceir llawer o ardaloedd lle nad oes gan bobl gar a'r bws yw eu hunig ddewis nhw? Os ydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu defnyddio'r bws, yna mae'n rhaid bod bws yno i'w ddefnyddio. Felly, mae'n rhaid i'r Bil hwnnw sicrhau ei fod yn rhoi'r baich ar ardaloedd lle nad oes unrhyw ddewis amgen na cheir ar wahân i fws, a sicrhau bod y bysiau hynny ar gael.

Rwy'n croesawu'r adolygiad o'r cynllun gweithredu ar gyfer Port Talbot—mae'n amser inni gael hwnnw—ond a wnewch chi sicrhau ei fod yn ystyried llwch niwsans yn ogystal â'r gronynnau PM10, PM 2.5 a nitrogen deuocsid? Oherwydd, er y gallai pobl feddwl nad yw hynny o reidrwydd yn fater sy'n ymwneud ag iechyd mewn un ffordd, rydym yn awyddus i ymdrin â lles pobl hefyd, ac mae'r rhain yn effeithio'n fawr iawn ar fy etholwyr i yn hyn o beth.

Rwy'n croesawu'r cyfeiriad at lygredd dan do yn y datganiad ac mae angen rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i hynny, oherwydd fe es i lan i'r atig yr wythnos diwethaf, i ddod ag addurniadau'r Nadolig i lawr. Pan edrychwch chi ar y cynllun a pha faterion sy'n effeithio ar eiddo dan do, rydych chi'n dechrau sylweddoli sut y gall rhywbeth syml effeithio ar bawb ohonom, ond efallai nad yw pobl yn gwybod hynny. Nid oeddwn i'n ymwybodol o rai o'r pwyntiau yn y cynllun hwn.

Mae newid ymddygiad yn bwysig, ond mae angen dewisiadau amgen arnom os ydych chi'n dymuno newid ymddygiad, a dyna'r broblem. Weithiau, nid yw'r dewisiadau amgen hynny ar gael ar gyfer achosi newid ymddygiad. Gadawaf bethau yn y fan honno, rwy'n credu.  

Diolch i chi, Dai Rees, am y pwyntiau yna. Rwyf am gyfeirio at Bort Talbot a Tata Steel ac, yn amlwg, nid yw'r Aelod byth yn colli cyfle i drafod ansawdd aer ym Mhort Talbot gyda mi. Fel y gwyddoch, rhoddwyd y cynllun gweithredu tymor byr ar waith i atal gormodiant o ran terfynau cyfreithiol a diogelu iechyd trigolion yn benodol. Nid ydym erioed wedi mynd uwchlaw'r terfynau cyfreithiol Ewropeaidd ar gyfer deunydd gronynnol ym Mhort Talbot; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn gwneud y pwynt hwnnw. Serch hynny, fel gyda llawer o'r pethau hyn, mae'n ymwneud ag amgyffrediad, a gwn eich bod chi wedi gofidio bod eich etholwyr wedi byw gyda llawer o lwch. Rwy'n credu bod Dai Lloyd wedi gwneud pwynt pwysig iawn yn gynharach mai pethau anweledig sy'n achosi'r problemau mwyaf, nid yr hyn a welwn ni. Eto i gyd, yr amgyffrediad yw mai hynny sy'n niweidiol iawn.

Rwy'n credu eich bod chi'n iawn am y parth 50 mya; nid ydych eisiau canlyniadau gwrthnysig. Wrth i'r strategaeth drafnidiaeth gael ei chyflwyno—rwy'n credu bod y Gweinidog yn ei chyflwyno yr wythnos nesaf—yn sicr, fe allwn ni sicrhau bod y cynllun hwn yn cyd-fynd â'r strategaeth honno. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, a'r Bil trafnidiaeth gyhoeddus hefyd, oherwydd rydych chi'n iawn: ni allwn ddisgwyl y bydd pobl yn gwneud y newid moddol hwnnw i ffwrdd o'r car.

Yn fy marn i, mae angen ystyried yr effaith economaidd hefyd o ran trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd, os yw pobl yn edrych ar y gost a'i bod yn llawer rhatach teithio yn y car, bydd hynny hefyd yn siŵr o effeithio ar bobl. Yn ogystal â hynny, os ydych chi'n eistedd mewn bws ac rydych chi'n eistedd mewn bws sy'n teithio tu ôl i 200 o geir, fe fyddwch yn amau a yw'n werth y drafferth. Er hynny, os oes yna lôn fysiau ac rydych chi'n gallu defnyddio'r lôn fysiau a theithio'n gyflymach o lawer—. Rwy'n credu mai pethau syml fel hyn sy'n cyfrif oherwydd, fel y dywedais i, rwy'n credu bod Cymru wedi arwain y ffordd o ran newid ymddygiad gydag ailgylchu a rhoi organau, felly rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny yn y maes hwn hefyd.

O, mae'n ddrwg gennyf, fe wnaethoch holi am gynllunio hefyd, ac fe ddywedais i fod 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi newid, ond mae'n bwysig i awdurdodau lleol edrych ar y cynllun aer glân hwn yn y dyfodol i sicrhau ei fod yn gweddu.

15:50

Iawn. Mae'r amser wedi dod i ben, ond mae gen i ddau siaradwr arall ac rwy'n siŵr mai dim ond gofyn cwestiynau y byddan nhw. Huw Irranca-Davies.

Fel hyn y bydd hi bob amser arnaf i. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i roi croeso cyffredinol i'r datganiad a'r cyhoeddiadau heddiw, ond, fel i lawer o unigolion a mudiadau y tu allan, mae hyn yn debyg i'r foment yn y rhaglen deledu 'Bake Off', lle maen nhw'n disgrifio'r hyn y maen nhw am ei bobi a ninnau'n llyfu ein gweflau wrth feddwl am hynny, ond rydym yn aros mewn gwirionedd i weld beth ddaw allan o'r ffwrn? Felly, mae rhywfaint o ddisgwyl o ran amserlenni a manylion ac ati, ac rwy'n siŵr y daw hynny. Ond a gaf i ddweud—? Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac rwy'n ei olygu drwyddo draw: dyma'r hyn sy'n cyfateb heddiw i epidemigau colera yn Llundain yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir mai mater yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol yw hwn ac mae'n dangos pa gamau sydd angen eu cymryd. Y cwestiwn nawr yw, a ydym yn bwriadu symud yn gadarn ac yn ddi-oed i gymryd y camau gwirioneddol angenrheidiol? Ac mae'r Gweinidog wedi disgrifio rhywfaint o hynny yn ei datganiad heddiw a rhai o'r syniadau o ran yr hyn y gallem ni ei wneud. Yr hyn y mae angen inni ei wneud nawr yw gweithredu arnyn nhw a bwrw ymlaen â nhw.

Felly, gadewch imi ofyn rhai cwestiynau penodol yma—a mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hwn, oherwydd mae hyn yn effeithio'n fwy ar y cymunedau mwyaf difreintiedig ac ar blant yn eu hysgolion nhw. Felly, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar drafnidiaeth. Yn gyntaf oll, rwy'n gofyn i'r Gweinidog: onid oes raid inni wneud nawr yr hyn y mae'r hierarchaeth teithio llesol yn ei ddweud, sef buddsoddi'r arian mwyaf mewn beicio a cherdded a chludiant cyhoeddus, a bod y blychau metel bychain yr ydym ni'n teithio ynddyn nhw—eu bod nhw ar waelod y rhestr, nid ar frig y rhestr fel y maen nhw nawr? Mae hynny'n rhan o'r dilyniant i ymdrin â'r mater hwn o ansawdd aer. Oherwydd rydym ni'n llythrennol—yn gwbl lythrennol—bellach wedi gyrru ein hunain i lawr ffordd bengaead o ran ansawdd aer, lle'r ydym ni'n eistedd mewn bocsys metel sydd ag aerdymheru, seinyddion a seddi cynnes, ac yn gollwng ein plant wrth yr ysgol, gan gystadlu'n wyllt â mamau a thadau eraill i balu trwy'r llinellau melyn igam-ogam. Yna rydym yn taro ein pen yn erbyn olwyn llywio'r car wrth eistedd mewn tagfa ddyddiol arall ar y draffordd neu mewn ras annifyr ar ffordd gefn ar ein ffordd i'r gwaith mewn trefi a dinasoedd. Nawr, efallai fod Chris Rea yn un o'r bobl hynny sydd wedi cyfrannu fwyaf i'r Blaid Geidwadol, ond roedd yn ŵr doeth iawn pan ddywedodd yn ei gân

'this is the road to hell.'

Felly, a gawn ni edrych ar—? Pa mor fuan y gallwn ni edrych ar gyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20 mya? Rydym wedi siarad amdanyn nhw. Dyma'r syniad cywir. Mae angen inni fwrw ymlaen â hyn nawr. Pam nad yw parthau gwahardd o'r ysgol yn cael eu crybwyll yn benodol? Gobeithio nad ydych chi wedi eu diystyru nhw. Gobeithio, yn yr ymgynghoriad, y bydd parthau gwahardd ysgolion, lle y gallwn ni naill ai ddweud wrth rieni, 'cerddwch neu beiciwch gyda'ch plant i'r ysgol, ac ewch gyda nhw'—fel y gwnes i fy hunan, nid wyf yn siarad ar fy nghyfer yma—'neu, fel arall, parciwch mewn man arall a cherddwch'. Y cyfleusterau parcio a rhodio sy'n cael eu cynnal gan Sustrans, Dinasoedd Byw ac yn y blaen—

Ac yn olaf—. Yn olaf—bobl bach, fel hyn y bydd hi arnaf i bob amser pan wyf i'n gwybod bod eraill wedi siarad am—. Mae'n flin gennyf. Fy mhwynt olaf i, felly, yw: a ydych chi wedi cael amser i ystyried y cynigion ynglŷn ag egwyddor cynllunio cymdogaeth 20 munud Sustrans, sef y syniad na ddylid datblygu unrhyw gymuned yng Nghymru lle mae mwy nag 20 munud o waith teithio ar feic i gyrraedd pob math o wasanaeth hanfodol? Oherwydd, yn hynny o beth, gallwn eu hatal rhag gyrru i bobman a gallwn fwrw ymlaen heb amharu ar ansawdd yr aer. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dilynwch y dystiolaeth: awn amdani.

Mae angerdd yr Aelod yn amlwg iawn, fel y mae bob amser. Felly, rydym yn cyflwyno ystod eang o gamau gweithredu eisoes. Rydym wedi bod yn eu gweithredu nhw ac yn amlwg rydym yn gwybod bod angen inni fynd ymhellach. Ymgynghoriad o 12 wythnos yw hwn. Nid oes dim wedi cael ei ddiystyru ac, fel y dywedais i wrth gyd-Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n hapus iawn i wrando ar syniadau sydd gan unrhyw un i wneud yn siŵr bod y cynllun hwn yn esgor ar y gwelliant yr ydym ni'n awyddus i'w weld o ran ansawdd aer. Roeddech chi'n canolbwyntio fwy neu lai ar gludiant ac rwyf i o'r farn eich bod chi yn llygad eich lle i wneud felly. Yn amlwg, mae teithio llesol yn faes y mae angen inni ei wella ac rydym wedi ei wella. Fe soniais mewn ateb cynharach fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Dirprwy Weinidog wedi cyflwyno cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer teithio llesol at y diben hwn. Mae'r strategaeth drafnidiaeth y bydd y Gweinidog yn ei chyflwyno yn edrych ar ddulliau penodol o deithio. Mae hynny'n cynnwys bysiau, yn amlwg, ac fe fydd yna Fil trafnidiaeth gyhoeddus a bysiau. Rydym yn edrych ar dacsis. Gwn eu bod nhw, yng Nghaerdydd, yn ystyried disodli'r fflyd bresennol o dacsis ac yn eu lle gael tacsis sy'n allyrru llawer llai o garbon.

Mae llawer o'r camau gweithredu yng nghyd-destun datgarboneiddio trafnidiaeth, oherwydd gwyddom mai gwella ansawdd aer drwy leihau allyriadau yw'r dull cywir ac fe fydd yn un o gonglfeini datblygiad y strategaeth drafnidiaeth wrth symud ymlaen. Mae angen inni annog newid o'r or-ddibyniaeth ar geir. Rydych chi yn llygad eich lle. Ni allaf ddyfynnu'r hyn a wnaethoch chi o gwbl, ond yn sicr mae angen inni roi ystyriaeth i gerdded, seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n rhaid i'r seilwaith hwnnw fod yn ei le i bobl allu ei ddefnyddio. Yn fy ateb i Dai Rees yn gynharach roeddwn i'n dweud bod elfen economaidd i hyn hefyd oherwydd ein bod yn mynd yn ôl i'r ardaloedd hynny o amddifadedd. Mae angen sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy.

15:55

Rwyf dim ond eisiau pwysleisio mor siomedig yr wyf i na fyddwn ni'n cyflwyno Deddf aer glân yn y Cynulliad hwn, gan fod hynny ym maniffestos y tair prif blaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol hwn, felly mae consensws enfawr ynghylch hyn ac, felly, tybed pam nad yw'n bosib gwneud cynnydd ar rywbeth y gallwn ni i gyd gytuno arno. Mae hefyd ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Heb ailadrodd yr hyn a ddywedodd pobl eraill eisoes, gan ddilyn pwynt Jayne Bryant ynghylch y diffyg gwrychoedd o amgylch ysgolion i'w diogelu rhag llygredd aer, a gawn ni sicrhau felly bod pob awdurdod lleol yn rhwystro chwistrellu plaladdwyr o gwmpas ffiniau ysgol heb unrhyw gynllun penodol, oherwydd mae hynny'n ei gwneud hi'n amhosib cynhyrchu'r gwrychoedd hyn os cânt eu lladd wedyn?

Y peth arall, gan godi syniad o faniffesto'r Blaid Werdd, yw pwysigrwydd sicrhau na chaiff datblygiadau tai newydd eu hadeiladu mewn ardaloedd lle nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn rhwydd. Fy nghwestiwn, ar wahân i'r un i'r awdurdodau lleol, yw: ar ôl inni ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau a bellach mae gennym ni Trafnidiaeth Cymru yn comisiynu gwasanaethau trên a bws, a yw'n ddyhead gan y Llywodraeth i wneud teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach na theithio mewn car?

Felly, os caf i ddechrau gyda rhan olaf cwestiwn Jenny Rathbone, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud wrth ateb Huw Irranca-Davies fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae'n rhaid i bobl ystyried beth yw cost trafnidiaeth gyhoeddus, os oes ganddynt gar, o gymharu â'r car. Felly, mae'n rhaid inni edrych ar hynny'n bendant.

Rwyf yn ymwybodol bod sôn am Ddeddf aer glân ym maniffestos sawl plaid. Rwyf wedi edrych ar hynny ac rwy'n credu nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn rhoi amserlenni ar ei chyfer. Yn amlwg, roedd yn ymrwymiad maniffesto gan y Prif Weinidog. Rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn. Y gwir amdani yw—. Ac rwy'n gwybod i Andrew R.T. Davies ddweud, 'o, byddwch yn beio Brexit', ond mae hynny wedi bod yn fater i'm hadran i. Efallai y bydd angen inni gyflwyno deddfwriaeth frys er mwyn talu ffermwyr, er enghraifft, y flwyddyn nesaf. Wn i ddim beth fydd yr effaith ar y rhaglen ddeddfwriaethol os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymarferol ynglŷn â hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cyflwyno'r Papur Gwyn, ond rwy'n credu hefyd ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn cydnabod nad deddfwriaeth yw'r ateb i bopeth a bod angen inni ddefnyddio'r dulliau dylanwadu sydd gennym ni.

Mae angen inni ganolbwyntio, rwy'n credu, ar newid ymddygiad. A minnau wedi bod yn COP25 ym Madrid am ychydig ddyddiau—ac rwyf wedi cwrdd â llawer o'm cyd-Weinidogion o bob cwr o'r byd—mae'n ddiddorol iawn y bu pwyslais sylweddol ar newid ymddygiad a galluogi pobl i wneud y newidiadau hynny: nid dweud wrthynt beth na allant ei wneud, ond dweud wrthynt beth y gallant ei wneud, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Yn amlwg, mae codi ymwybyddiaeth pobl yn bwysig iawn ac yn rhan fawr o'r cynllun.

O ran eich cwestiwn ynghylch plaladdwyr ac ysgolion, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â hynny. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw beth penodol yr ysgrifennais at awdurdodau lleol yn ei gylch, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â hynny.

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad Cynnydd Tlodi Plant 2019

Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—adroddiad cynnydd tlodi plant 2019. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Y bore yma, cyflwynais gopi o adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'r canlyniadau'n anodd ei darllen. Mae'r prif ffigur—a'r un yr wyf yn siŵr yr hoffai'r Aelodau heddiw i gyd ganolbwyntio arno—yn dangos bod tlodi plant yng Nghymru wedi codi. Mae'r ffaith anochel hon yn rhywbeth a ddylai fod yn destun pryder i bob un ohonom ni. 

Mewn gwlad gyfoethog, ddatblygedig fel y DU, mae bron i draean o blant yn byw mewn tlodi. Mae'n ystadegyn sobreiddiol ac yn gondemniad trist o'r anghydraddoldeb sydd wedi cael cyfle i wreiddio ar draws y DU dros y degawd diwethaf. Nid oes amheuaeth bod tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU dros y degawd diwethaf. Degawd o doriadau cyni sydd wedi lleihau'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a degawd o doriadau lles creulon sydd wedi gweddnewid yr hyn a ddylai fod yn rhwyd ddiogelwch, i fod yn system i gosbi'r rhai sy'n dibynnu ar y wladwriaeth i'w helpu yn ystod adegau anodd. Diwygiadau sydd wedi eithrio'r trydydd plentyn rhag cael cymorth plant, sydd wedi barnu'n anghywir bod pobl anabl a phobl sy'n hirdymor wael yn ddigon iach i weithio, ac wedi creu cyfundrefn sancsiynau sydd wedi gwthio niferoedd anhysbys o bobl i gyflawni hunanladdiad. Diwygiadau sydd wedi gorfodi pobl i dalu am foethusrwydd ystafell wely sbâr a lle mae defnyddio banciau bwyd yn beth arferol i filiynau. 

Dirprwy Lywydd, pan fyddwn yn edrych yn fanylach ar yr adroddiad hwn, mae'n dangos, lle mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n uniongyrchol i ddylanwadu ar fywydau teuluoedd a phlant ledled Cymru, bod ein polisïau'n cael effaith gadarnhaol ar achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb. Mae ein cyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng pum pwynt canran—dwywaith y gyfradd yn y DU ers datganoli. Mae nifer yr aelwydydd heb waith yng Nghymru wedi gostwng mwy na 18 y cant. Mae'r gyfradd gyflogaeth yma yng Nghymru bellach yn uwch na'r DU yn gyffredinol, ac mae canran yr oedolion sy'n gweithio heb unrhyw gymwysterau yn gostwng.

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth drwy liniaru effaith tlodi, helpu pobl i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith, ac yn darparu cymorth drwy'r cyflog cymdeithasol, gwerth £2,000 y flwyddyn i rai aelwydydd. Ond gyda 29 y cant o blant mewn tlodi yng Nghymru, ni all yr hyn y gallwn ei wneud dim ond lliniaru'r hyn sydd wedi dod yn amcan polisi bwriadol gan y Llywodraeth bresennol a chyn-lywodraethau Ceidwadol y DU i gynyddu anghydraddoldeb ledled y DU.

Mae'r Resolution Foundation, sefydliad annibynnol, wedi rhagamcanu y bydd 37 y cant o blant yn y DU yn byw mewn tlodi erbyn 2022 oherwydd polisïau Llywodraeth y DU. Mae hyn yn uwch nag mewn unrhyw gyfnod arall ers yr ail ryfel byd. Mae hwn yn warthnod ar enw Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ni fyddwn yn rhoi'r gorau i weithio i wella bywydau teuluoedd yng Nghymru, a byddwn yn gwneud popeth a allwn ni i feithrin mwy o gadernid i gefnogi pobl a chymunedau. Gallwn ni, Llywodraeth Cymru, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd hynny sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru, ond ni allwn ni ddadwneud yr anghydraddoldeb sylfaenol hwn sy'n cael ei orfodi arnom o'r tu hwnt i'n ffiniau.

Byddwn yn edrych eto ar bopeth yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth—ein gweithgareddau, ein polisïau a'n blaenoriaethau—i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn y cyfnod hwn o ansicrwydd digynsail. Yn rhan o'r gwaith hwn, rydym ni wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gloriannu'r ddadl dros ddatganoli agweddau ar y system fudd-daliadau. Wrth fwrw ymlaen â hyn, byddwn yn edrych ar waith diweddar Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghylch dyfodol budd-daliadau lles yng Nghymru. Rydym ni eisoes wedi dechrau amlinellu rhai egwyddorion craidd ar gyfer newid, gan gynnwys tosturi, tegwch, urddas a dealltwriaeth, gyda'r nod o fod yn drugarog a rhoi mwy o sylw i'r dinesydd.

Rwy'n arwain adolygiad o'r rhaglenni a'r gwasanaethau yr ydym yn eu hariannu er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posib ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio sut yr ydym yn blaenoriaethu ein cyllid i gefnogi rhaglenni yn y dyfodol. Cynhelir yr adolygiad hwn ar y cyd â chynllunio blaenoriaethau ein cyllideb ar gyfer 2020-21 o safbwynt tlodi. Drwy gydol y broses adolygu, byddwn yn sicrhau y bydd lleisiau'r rhai sydd â phrofiad o beth yw byw mewn tlodi, yn cyfrannu at y dewisiadau wrth fwrw ymlaen. Bydd hefyd yn cael ei lywio gan ganfyddiadau ac argymhellion amrywiaeth o randdeiliaid, a thrwy weithio'n agos gyda Chomisiynydd Plant Cymru, Sefydliad Bevan, y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant a Chwarae Teg. 

Byddwn yn ystyried gwaith ymchwil a dadansoddi gan sefydliadau megis y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Oxfam a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys cynigion ar gyfer rhaglen o weithgareddau ar gyfer y dyfodol ac amserlen ar gyfer cyflawni hynny yn seiliedig ar yr argymhellion, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach unwaith y bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau yn y gwanwyn.

Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod effaith ein pwerau datganoledig, gyda'i gilydd, yn cyflawni ein blaenoriaeth o fynd i'r afael â thlodi. Gwyddom na fydd hyn yn hawdd. Rwy'n croesawu'r adroddiad cynnydd hwn, er gwaethaf y negeseuon anodd y mae'n eu cynnwys. Mae'n nodi ein cyflawniadau yn ogystal â maint yr her sy'n ein hwynebu o hyd yng Nghymru, ac mae'n dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wneud gwahaniaeth. Yn bwysig ddigon, bydd yn feincnod ar gyfer mesur ein hymdrechion o'r newydd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i fyw bywyd cyfoethocach a chyrraedd ei lawn botensial. Cymeradwyaf yr adroddiad hwn i'r Cynulliad. Diolch.

16:00

Dylai'r ffaith fod tlodi plant yng Nghymru wedi cynyddu beri pryder i bob un ohonom ni, fel y dywed y Gweinidog. Ond tybed a all hi ddweud wrthyf pam ei bod hi'n dweud fod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru bellach yn uwch na'r DU gyfan, pan fo'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Ymchwil y Senedd yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn is nag yn yr Alban, Lloegr a'r DU gyfan, ac nid yw hi'n sôn bod yr un ffigurau'n dangos bod anweithgarwch economaidd wedi cynyddu 24,000 i 441,000, neu pam na soniodd bod gan Gymru, ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Lafur, y cyflogau isaf o blith gwledydd Prydain Fawr.

Rydych yn cyfeirio at adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am ddyfodol budd-daliadau lles yng Nghymru. Gan fy mod â rhan yn yr adroddiad hwnnw, ni fyddaf yn rhoi sylwadau. Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb.

Rydych yn cyfeirio at doriadau cyni, wel, mae fy ngeiriadur yn disgrifio 'toriadau cyni' fel bod heb ddigon o arian, ac, o'r herwydd, gwaddol oedd hynny, nid dewis. Gwyddom, oherwydd yr hyn a wnaed ers 2010, y gall gwariant cyhoeddus ddechrau cynyddu'n sylweddol eto nawr. Pam ydych chi yn hytrach yn hyrwyddo'r polisïau economaidd sy'n cael eu ffafrio gan y gwledydd hynny sydd â diffyg mawr a geisiodd ddifrïo a gwrthod cyni ac yn y pen draw y gorfodwyd toriadau llawer, llawer uwch arnynt—yn union fel y mae eich plaid yn ei gynnig ar lefel y DU nawr, mewn cyfraddau llog a'r math o gyni na welsom ni yma ers yr ail ryfel byd?

Nawr, fel y dywedais, mae Cymru wedi cael Llywodraeth Lafur ers dros ddau ddegawd. Pam wnaethoch chi fethu â chrybwyll ffigurau cyn 2010? Hyd yn oed cyn y chwalfa ariannol, mae ffigurau swyddogol yn dangos mai Cymru oedd â'r lefelau tlodi plant uchaf yn y DU: 29 y cant yn 2007; 32 y cant yn 2008, hyd yn oed cyn y chwalfa. Yn 2012, mae cipluniau tlodi plant gan Achub y Plant yn dweud mai Cymru oedd â'r tlodi mwyaf a'r cyfraddau tlodi plant mwyaf difrifol o unrhyw wlad yn y DU, ac ym mis Mai eleni, dywedodd y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn tlodi plant y llynedd i 29.3 y cant.

Mewn gwirionedd, mae polisi'r Deyrnas Unedig yn bwysig—. Ffigurau swyddogol yw'r rheini, os gwelwch yn dda gwiriwch nhw. Mae materion polisi'r DU yr ydych yn cyfeirio atynt yn berthnasol, wrth gwrs, ar draws y DU, ond dim ond Cymru sydd â Llywodraeth Lafur. Rydych yn dweud bod tystiolaeth yn dangos bod rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth drwy liniaru effaith tlodi. A wnewch chi, felly, ymddiheuro, er enghraifft, am grynodeb ffeithiau'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant a gyhoeddwyd ym mis Mai, a ddywedodd fod gan Gymru'r gyfradd tlodi gyffredinol uchaf yn y DU yn 2018, neu am ganfyddiadau adroddiad Joseph Rowntree ar dlodi ym Mhrydain a gyhoeddwyd fis Rhagfyr y llynedd, a oedd yn dweud o blith pedair gwlad y DU, yr oedd yr un polisïau gan Lywodraeth y DU yn effeithio arnynt—mai  Cymru oedd â'r gyfradd dlodi uchaf yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, nid naw yn unig?

Cyfeirir at Gymru, fel y gwyddom ni, mewn llawer o adroddiadau eraill. Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru wedi bod yn galw ers amser ar i Lywodraeth Cymru gynhyrchu strategaeth tlodi plant newydd gyda thargedau mwy uchelgeisiol i ddileu tlodi plant. Ym mis Mai, mae Sefydliad Joseph Rowntree, Dr Steffan Evans, swyddog—. Mewn erthygl ar gyfer Sefydliad Joseph Rowntree, dadleuodd Dr Evans o Sefydliad Bevan fod tlodi plant yn dal i fod yn fater o bwys yng Nghymru ac y bu 'diffyg meddwl cydgysylltiedig', lle nad yw polisi Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi 'wedi bod yn gweithio mewn cytgord' â meysydd eraill fel tai. Ac, wrth gwrs, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ym mis Mawrth y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu cynllun cyflawni newydd ynghylch tlodi plant, yn canolbwyntio ar 'gamau pendant' a 'mesuradwy'.

Pam mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chefnogi galwadau am unrhyw gynllun priodol, fel y trafodwyd mewn dadl gan unigolyn yn gynharach eleni? A sut mae hi'n ymateb i alwadau gan y sector, gan gydnabod bod yr ysgogiadau polisi Cymreig sydd gan Lywodraeth Cymru o fewn ei phŵer yr union faes yr hoffent ganolbwyntio arno, gan eu bod yn cytuno bod pwerau y dylai Llywodraeth Cymru fod yn eu defnyddio ac y gall ei defnyddio i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi? Dywedwyd hynny yn y misoedd diwethaf, nid degawd yn ôl.

Dywedwch y byddwch yn sicrhau, drwy gydol y broses adolygu, y bydd lleisiau'r rheini sydd wedi byw mewn tlodi yn cyfrannu at y dewisiadau ar gyfer y dyfodol. Saith mlynedd yn ôl, gwrthododd Llywodraeth Cymru adroddiad 'Cymunedau yn gyntaf—Y Ffordd Ymlaen' gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a ganfu y dylai cynnwys y gymuned yn y gwaith o gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog i unrhyw raglen olynol a fyddai'n arwain ar drechu tlodi. Ac, ar ôl gwario £0.5 biliwn ar y rhaglen honno, aeth Llywodraeth Cymru ati i'w diddymu, ar ôl methu â lleihau'r brif gyfradd dlodi neu gynyddu ffyniant cymharol yng Nghymru. Fel y dywedodd Sefydliad Bevan, os yw pobl yn teimlo bod polisïau'n cael eu gorfodi arnynt, nid yw'r polisïau'n gweithio, a dylid llunio rhaglen newydd gyda chymunedau, nid ei chyfarwyddo o'r brig i lawr.

Sut, felly, ydych chi'n ymateb i ddatganiad Ymddiriedolaeth Carnegie yn eu hadroddiad diweddaraf ar drefi trawsnewid mai'r dull galluogi gwladol, megis symud o bennu targedau i ganlyniadau, o'r brig i lawr i'r gwaelod i fyny, cynrychioli i gyfrannu, yw'r ffordd o symud ymlaen o statws y darparwr lles tuag at ddull mwy galluogol o lywodraethu, gyda newid yn y berthynas rhwng dinasyddion, y gymuned a'r wladwriaeth, lle mae cymunedau yn y sefyllfa orau i ddod â chyfoeth o wybodaeth leol ac egni ar y cyd i'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?

Yn olaf, sut ydych chi'n ymateb i'r dystiolaeth sydd ar gael gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru fod angen inni fesur beth sy'n bwysig? Mae eu pecyn cymorth yn dweud ei fod o'r pwys mwyaf i'r bobl y mae eich gweithgarwch yn eu cefnogi bod y bobl yn cyd-ddylunio yn ogystal â chymryd rhan yn y gwerthusiad. Felly, sut fydd arweinydd yr adolygiad tlodi plant yr ydych yn ceisio ei gyflogi ar hyn o bryd yn ceisio cymhwyso'r gwersi newydd hynny, neu'r hen wersi, i sicrhau bod yr anghenion sy'n parhau ar ôl dau ddegawd yn cael eu trafod o'r diwedd mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â'r achosion ac nid yn unig yn talu am y symptomau?        

16:10

Gofynnodd Mark Isherwood imi sut yr wyf yn ymateb i gyfres gyfan o ystadegau a ddarllenwyd ganddo. Ymatebaf fel hyn: y bobl a ddylai ymddiheuro am y ffigurau gwarthus hyn yw'r Llywodraeth Geidwadol, sydd wedi gweithredu'r gyfundrefn fwyaf didrugaredd, didostur, a chreulon o gredyd cynhwysol a welodd y byd erioed—[Torri ar draws.] Gadewch imi ddyfynnu rhai ystadegau ichi. [Torri ar draws.] Gadewch imi ddyfynnu rhai ystadegau ichi.

Ar hyn o bryd mae budd-daliadau yn 12.5 y cant o gyflog cyfartalog. Ym 1948, pan grëwyd y wladwriaeth les gan y Blaid Lafur, roedd yn 20 y cant. Yn yr oes Elisabethaidd, ym 1599, dan ddeddfau'r tlodion, roedd yn 16.5. Felly, llongyfarchiadau, rydych chi wedi gostwng—wedi gostwng—y safon byw i bobl dlawd yn y wlad hon o'r fan lle yr oedd yn yr oes Elisabethaidd. Chi yw'r bobl a ddylai fod yn ymddiheuro, nid y Llywodraeth hon.

Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud llawer iawn i liniaru effeithiau Llywodraeth Dorïaidd greulon a didostur sydd wedi gosod treth ystafell wely—treth ystafell wely. Ar ôl faint o amser ar ôl i'ch plentyn farw y mae'n rhaid i chi ddechrau talu mwy o dreth ar yr ystafell y mae wedi'i gadael? Faint o amser? Ydych chi'n gwybod? Na, rwy'n amau hynny. Faint o amser fydd hi'n cymryd cyn ichi dderbyn bod menyw sydd â thri phlentyn—tri phlentyn—yn gorfod profi ei bod wedi'i threisio i gael cymorth i'r trydydd plentyn hwnnw? Rhag eich cywilydd yn dweud wrthyf i ymddiheuro am unrhyw beth. Dylai fod cywilydd gennych.

Croesawaf y gonestrwydd yn y datganiad fod tlodi plant wedi cynyddu ac y rhagwelir y bydd yn parhau i gynyddu. Mae'n bendant yn wir y bu toriadau nawdd cymdeithasol ac agenda cyni ehangach y Torïaid yn ffactor mawr yn hyn. Does dim amheuaeth am hynny. Fodd bynnag, bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol bod ymchwil gan Brifysgol Loughborough wedi canfod mai Cymru yw'r unig wlad sydd wedi gweld cynnydd mewn tlodi plant yn y blynyddoedd diwethaf.

Nid ydym ni'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu. Yn wir, cafwyd enghreifftiau lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynigion a fyddai wedi gwneud pethau'n waeth petaent wedi'u gweithredu: y cynnig i dorri'r grant gwisg ysgol; gostwng y trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim. Cymru, wrth gwrs, oedd yr unig wlad i beidio â chadw'r gronfa deuluol ar ei ffurf flaenorol, a welodd miloedd o deuluoedd â phlant anabl ar eu colled.

Gallwn hefyd gyfeirio at y nifer fawr o adroddiadau pwyllgor sydd wedi gwneud argymhellion difrifol ac arwyddocaol i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella pethau. Ond, nid wyf mewn gwirionedd eisiau pendroni ar hyn i gyd. Yn lle hynny, mae gennyf nifer o gwestiynau, gan edrych i'r dyfodol. O gofio bod llawer o'r toriadau lles wedi'u dechrau o dan Lafur yn San Steffan pan roddodd Tony Blair ei swydd weinidogol gyntaf i'r Arglwydd Freud, a ydych chi'n derbyn bod angen ichi gael rheolaeth weinyddol dros les os ydych chi eisiau mynd i'r afael o ddifrif ag anonestrwydd yr Adran Gwaith a Phensiynau pan ddaw hi'n fater o asesu pobl anabl, ac i roi terfyn ar gyflwyno sancsiynau rif y gwlith?

A ydych chi'n derbyn fod angen ichi gael strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant a'i ddileu sy'n cynnwys targedau campus a chyfrifoldeb penodol am bob cam gweithredu? Ac yn olaf, a ydych chi'n credu fod angen i chi efelychu rhywfaint o'r ddeddfwriaeth yn yr Alban a chynnwys dyletswyddau i fynd i'r afael â thlodi a thlodi plant yn y gyfraith—dyletswyddau a ddylai gael eu hymestyn drwy'r sector cyhoeddus ac a allai, er enghraifft, gael eu defnyddio i atal ysgolion rhag mynnu dim ond dillad drud fel gofynion ar gyfer gwisg ysgol, sydd, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, yn warthus?

16:15

O ran y rheolaeth weinyddol, mae gennym ni adroddiad yr ydym ni'n aros amdano gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Rydym ni wedi cael yr adroddiad dros dro, ond rydym ni'n disgwyl yr adroddiad terfynol cyn bo hir. Felly, pan fydd yr adroddiad hwnnw gennym ni, byddwn, wrth gwrs, yn gweld beth mae'r adroddiad hwnnw'n ei ddweud wrthym ni o ran cymryd rheolaeth weinyddol.

Rwy'n rhannu ei dymuniad i weinyddu budd-daliadau lles mewn modd mwy dyngarol. Dywedais hynny yn fy natganiad. Byddem yn awyddus iawn i weld pobl sydd â hawl i fudd-daliadau yn eu cael yn y lle cyntaf heb orfod dioddef apêl ac ati. Ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ofalus iawn nad ydym ni, wrth wneud hynny, yn gwneud y sefyllfa'n waeth a'n bod yn gallu lliniaru'r sancsiynau a'r system orfodi, sy'n peri cymaint o anobaith i bobl yn y wlad hon. Felly, rwyf eisiau bod yn glir iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym eisiau ei gyflawni yn hynny o beth. A phan gawn yr adroddiad byddwn yn sicr yn ei rannu â'r Cynulliad a gweld a allwn ni ei weinyddu mewn ffordd fwy dyngarol.

O ran strategaeth, rwyf fi'n bersonol wedi cael trafodaethau gyda'r grŵp gweithredu ar dlodi plant a'r comisiynydd plant am yr hyn a olygwn wrth strategaeth. Does arnaf i ddim eisiau dargyfeirio adnoddau i ddod â rhywbeth at ei gilydd os nad yw'n gwneud rhywbeth. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod ein rhaglenni yn cyrraedd y bobl sydd eu hangen a'u bod mor effeithiol ag y gallan nhw fod. Felly, rwy'n arwain adolygiad gyda phob rhan o'r Llywodraeth ar ein holl raglenni er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, neu a oes angen eu newid, neu a oes angen targedau gwahanol iddynt. Oherwydd wrth i'r gyfundrefn credyd cynhwysol gael ei chyflwyno, mae angen inni ymwneud â charfan wahanol o bobl.

Y peth gwarthus arall—mae'n rhaid imi ddweud peth cwbl warthus—yw nifer y plant sydd mewn cartrefi sy'n gweithio ac sy'n dal i fod mewn tlodi. Yn amlwg, nid yw'r system credyd cynhwysol yn gweithio. Un o'r pethau nad yw pobl ar y meinciau gyferbyn byth yn dymuno ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb amdano yw lefel y lwfans tai lleol, yr ydym ni wedi'i drafod yn y Siambr hon o'r blaen, sydd heb ei gynyddu ers pedair blynedd, ac sy'n gwthio niferoedd mawr o bobl yn y sector rhentu preifat i dlodi yn sgil gorfod ychwanegu at eu taliadau rhent. Gallai'r meinciau gyferbyn ddatrys hynny bore yfory pe dymunent. Maen nhw'n dewis peidio. Felly, mae nifer o bethau o'r math hwnnw sy'n anodd iawn eu lliniaru.

Bydd Leanne Wood yn ymwybodol ein bod yn ceisio sicrhau bod pobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat yn cael tai sy'n addas i bobl fyw ynddynt, sy'n cyrraedd safonau penodol ac y cânt eu trin yn deg gan eu landlordiaid. Dyma'r effeithiau lliniaru y gallwn eu gwneud. Yn anffodus, ni allwn ni newid lefel y lwfans tai lleol.

Fodd bynnag, yr hyn y gallwn ei wneud yw adeiladu llawer mwy o dai cymdeithasol fel y gallwn ni gael pobl i mewn i'r math priodol o dai, a gorau po gyflymaf y gallwn ni wneud hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda chynghorau ledled Cymru i sicrhau bod y rhaglen honno'n cael ei rhedeg, a chap y Torïaid ar y cyfrifon refeniw tai bellach wedi ei ddileu.

Ac o ran model yr Alban, mae anawsterau gyda'r Alban. Rydym ni wrth gwrs yn hapus i ddysgu gan unrhyw un sy'n gallu gwneud hyn yn effeithiol, ond mae'r Alban yn wynebu anawsterau o ran yr hyn mae'n ei wneud. Rydym yn hapus iawn i ddysgu o unrhyw wlad sy'n gallu gwneud hyn yn fwy effeithiol. Y rhai sydd fwyaf effeithiol, wrth gwrs, yw'r rhai sydd â llywodraethau gwirioneddol flaengar, fel y rhai yn y Ffindir, lle mae'r system dreth yn cyfateb i angen yr agenda polisi cyhoeddus. A dyna beth yr hoffem ei weld pan fydd Llywodraeth Lafur yn dychwelyd i San Steffan ddydd Iau.

A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac i Lywodraeth Cymru am ei hymdrechion wrth geisio mynd i'r afael â'r mater hwn? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl rymoedd economaidd allweddol yn y sefyllfa hon, a'ch bod wedi gweithio yn erbyn y cefndir hwnnw o gyni'r Torïaid yr ydych chi eisoes wedi cyfeirio ato, ac sydd, fel yr ydych yn gywir yn dweud, yn cynnwys diwygiadau lles didrugaredd sy'n gyfrifol am lawer o sgandal parhaus tlodi plant, ynghyd â, fel yr ydych chi eisoes wedi crybwyll, tlodi mewn gwaith llawer o rieni sy'n gweithio sydd wedi'u dal mewn swyddi ansicr â chyflogau bychain.

Nawr, o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, yn groes i'r hyn a glywsom ni gan Mark Isherwood yn gynharach, cafodd 600,000 o blant eu codi allan o dlodi cymharol, ond o dan y Llywodraeth Dorïaidd hon, er mawr gywilydd iddynt, rhagwelir nawr y bydd tlodi plant yn codi i'w lefel uchaf mewn 60 mlynedd. Yn wir, yn fy etholaeth fy hun ym Merthyr Tudful a Rhymni, mae tlodi plant yn dal i fod ymhlith yr uchaf yng Nghymru, er gwaethaf rhai gwelliannau sylweddol mewn ardaloedd fel y Gurnos.

Gweinidog, o ystyried mai menywod yw'r prif ofalwyr o hyd yn y rhan fwyaf o deuluoedd a chartrefi, mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â thlodi menywod er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant, a gwneud yn siŵr bod ein polisïau yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran achosion a chanlyniadau tlodi. Ac rwyf wedi sylwi ar ychydig o ystadegau sydd, yn fy marn i, yn helpu i greu darlun o'r sefyllfa honno: mae 46 y cant o aelwydydd un rhiant yn y DU yn byw mewn tlodi, ac mae 90 y cant o rieni sengl yn fenywod. Ac mae 27.8 y cant o fenywod yn economaidd anweithgar, o gymharu ag 19.6 y cant o ddynion, ac mae hyn bedair gwaith yn fwy tebygol o fod oherwydd eu bod yn gofalu am y teulu neu eu bod gartref.

Mae 58 y cant o'r rhai sydd o oedran gweithio ac yn hawlio budd-daliadau yn fenywod hefyd, felly mae unrhyw newidiadau neu doriadau i fudd-daliadau ac unrhyw gyfnodau hir o aros am daliadau yn fwy tebygol o effeithio ar fenywod. Felly, mae mynd i'r afael â'r materion hyn yn gofyn i bob un ohonom ni yn y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU gydweithio. Ac os ydym ni'n mynd i wneud cynnydd gwirioneddol, mae angen dwy Lywodraeth sy'n cyd-dynnu ar achos cyffredin i fynd i'r afael â thlodi. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, mae'n teimlo fel bod Llywodraeth Cymru yn gwario er mwyn lliniaru effeithiau tlodi plant a achosir gan bolisïau Llywodraeth y DU nad yw'n rhannu'r un angerdd a blaenoriaethau yn amlwg. Ac rwy'n gobeithio, fel chi, Gweinidog, y bydd hynny'n dod i ben ddydd Iau yr wythnos hon. Wrth ddatblygu ein camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi plant, a allwch chi fy sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi sylw i rywedd, o gofio'r ystadegau y cyfeiriais atynt yn gynharach?

16:20

Ydw, rwy'n hapus iawn i sicrhau Dawn Bowden ein bod yn edrych yn ofalus iawn ar hynny. Dyna un o'r rhesymau y comisiynodd y cyn Brif Weinidog yr adolygiad rhywedd, wrth gwrs, ac rydym yn bwrw ymlaen â cham 2 yr adolygiad rhywedd. Un o brif ganfyddiadau'r adolygiad rhywedd hwnnw, nad yw'n syndod i neb ohonom ni, yw bod anghydraddoldeb o ran incwm yn sbarduno anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, sy'n sbarduno trais yn y cartref a materion eraill. Hyd nes bo menywod yn cael cyflogau digonol, heb y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, bydd y problemau hynny'n parhau. Gadewch inni fod yn glir, rydym yn gwybod, ar draws y byd, beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gael pobl allan o dlodi, a hynny yw addysgu a thalu menywod yn briodol. Ac felly mae angen i'r Llywodraeth weithredu ar hynny.

Gyda'r diwygiadau lles a gawsom ni gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs rydym ni wedi symud arian o'r pwrs, fel roedden nhw'n arfer ei ddweud, i'r waled. Felly, rydych chi wedi cymryd arian o bocedi menywod a'i roi ym mhocedi penteulu gwrywaidd yr aelwyd. Mae hynny hefyd yn sbarduno trais yn y cartref, mae hefyd yn sbarduno anallu menyw i adael sefyllfa sy'n annioddefol iddi, ac mae'n sbarduno'r cynnydd mewn teuluoedd un rhiant, gan fod y lefelau o ddyled bersonol o dan y Llywodraeth Dorïaidd hon wedi cynyddu'n aruthrol fel na all pobl gael dau ben llinyn ynghyd. Ac mae dyled bersonol yn sbarduno iechyd meddwl ansicr ac iechyd meddwl ansicr yn sbarduno chwalfa perthynas. Ac felly nid yw'r pethau hyn yn ddamweiniol. Mae hwn yn bolisi bwriadol gan Lywodraeth sydd â'r nod o wneud pobl dosbarth gweithiol yn dlotach, gadewch i ni fod yn glir, a'r holl broblemau cysylltiedig sy'n rhan o hynny.

Felly, mae gennym ni Boris y Prif Weinidog, pan oedd yn faer etholedig Llundain, a gwtogodd nifer yr heddweision yn sylweddol iawn, ac mae bellach yn esgus ei fod yn mynd i ddadwneud hynny. Nid yw'r niferoedd yn gwneud synnwyr mewn gwirionedd. Ac yna rydym ni i gyd yn rhyfeddu bod gennym ni gynnydd mewn troseddau cyllyll. Rydym ni'n torri gwasanaethau ieuenctid, ond rydym ni'n synnu na allwn ni gael plant i fynychu ysgolion yn iawn a'r holl agweddau eraill cysylltiedig. Rydym yn torri gwasanaethau ataliol cyhoeddus hanfodol ond rydym yn synnu bod y ddarpariaeth gwasanaethau aciwt yn cynyddu.

Mae gan Mark Isherwood yr haerllugrwydd i ddyfynnu ystadegau wrthyf am lefelau cyflog yng Nghymru gan gefnogi Llywodraeth sy'n torri hawliau undebau llafur ac yn gwrthod bargeinio ar y cyd i nifer fawr o weithwyr. Byddwn yn awgrymu'n gryf iawn bod nifer o bolisïau sy'n gweithio mewn llawer o wledydd ledled y byd nad ydynt yn sbarduno anghydraddoldeb, a byddwn yn argymell yn daer i'r cyhoedd ym Mhrydain bleidleisio dros Lafur ddydd Iau er mwyn i ni allu bod yn un o'u plith.

A gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Mae llawer gormod o blant yn byw mewn cartrefi tlawd. Heno yn Abertawe bydd rhai plant yn mynd i'r gwely'n llwglyd. Bydd hyd yn oed mwy o famau'n mynd i'r gwely'n llwglyd. Bydd rhai yn mynd i'r gwely mewn tŷ oer a llaith. Bydd rhai plant yn newid eu hysgol weithiau mor aml â phob blwyddyn wrth i'w rhieni symud o un tŷ a rentir yn breifat am gyfnod byr i dŷ arall. Erbyn hyn, mae mwy o blant yn byw mewn tlodi ar aelwydydd sy'n gweithio nag ar aelwydydd di-waith, yn bennaf oherwydd bod gwaith ansicr sy'n talu'n wael mor gyffredin. Yr hyn y gall gwaith ansicr ei olygu yw mai oriau wythnosol gwarantedig isel sydd gan rywun, megis saith neu 10 awr yr wythnos, o bosib mewn siop y byddwch yn ymweld â hi yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Y rhan fwyaf o wythnosau byddant yn gweithio rhwng 30 a 40 awr ar yr isafswm cyflog ac yn gallu goroesi. Os ânt yn ôl i'w lleiafswm oriau gwarantedig am un wythnos, yna mae ganddynt argyfwng ariannol. Bydd yn rhaid iddynt fynd i'r banc bwyd ac ni fyddant yn gallu fforddio'r rhent na'r tocynnau trydan.

Pwysaf eto ar y Llywodraeth am ddau beth a fydd, rwy'n credu, yn helpu i liniaru'r caledi hwn. Y cyntaf yw adeiladu nifer fawr o dai cyngor ynni effeithlon. Bydd hynny'n cael pobl allan o'r tai drud llaith ac oer iawn sy'n cael eu rhentu'n breifat, a fydd wedyn yn gallu mynd yn ôl i'r sector preifat a dod yn gartrefi i berchen-feddianwyr eto.

Mae gwyliau yn gyfnod o bryder mawr i rieni. Os siaradwch â rhieni yn rhai o ardaloedd tlotaf Abertawe, y peth maen nhw'n ei gasáu fwyaf yw gwyliau'r haf. Mae angen deg pryd ychwanegol y plentyn bob wythnos. Gofynnaf eto i Lywodraeth Cymru ariannu brecwast am ddim a pharhau â'r prydau ysgol am ddim drwy wyliau'r ysgol, gan ddechrau gyda gwyliau'r haf y flwyddyn nesaf. Dyma fyddai'r un cam a fyddai'n cael yr effaith fwyaf llesol ar bobl sy'n byw mewn tlodi, sef llawer gormod o'm hetholwyr i.

16:25

Diolch am y pwyntiau yna, Mike. Mae'n werth tynnu sylw at y ffaith bod lefel tlodi plant ledled y DU wedi cynyddu. Yn ôl adroddiad 2018 Sefydliad Joseph Rowntree ar dlodi plant, bu tlodi plant yn cynyddu ers 2011-12, sy'n gydberthynas ddiddorol â sefydlu Llywodraeth, ac mae cyfanswm o 4.1 miliwn o blant bellach yn byw mewn tlodi incwm cymharol—cynnydd o 500,000 yn y pum mlynedd diwethaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n glir bod polisïau penodol yn achosi hyn.

Yma yng Nghymru rydym ni'n gwneud sawl peth i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a ddaw yn sgil tlodi. Felly, er enghraifft, ers 2012 darparwyd mwy na £475 miliwn drwy'r grant datblygu disgyblion i gynorthwyo plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. Mae'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol wedi rhoi cyfleoedd i blant rhwng saith ac 11 oed o ardaloedd difreintiedig i fod yn fwy egnïol ac, yn bwysicach, fel y noda Mike, i fwyta'n iach drwy wyliau'r ysgol, datblygu cyfeillgarwch a defnyddio cyfleusterau ysgolion lleol yn ystod gwyliau'r haf.

Rydym yn sicr yn edrych ar sut y gallwn ni ymestyn y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol ledled Cymru, oherwydd fy mod yn derbyn yn llwyr pwynt Mike Hedges nad yw plentyn sy'n llwglyd yn blentyn sy'n cyrraedd ei lawn botensial. Rydym ni hefyd yn helpu pobl i gael hyfforddiant a gwaith, ac mae ein rhaglen £12 miliwn y flwyddyn, Cymunedau am Waith a Mwy, wedi helpu 2,227 o unigolion ychwanegol i gael gwaith. Ond nid cyflogaeth yw'r unig agwedd ar hyn, ai e? Mae'n rhaid iddi fod yn gyflogaeth dda. Rhaid iddi fod yn gyflogaeth sicr. Mae'n rhaid iddi fod yn gyflogaeth nad yw'n cynnig nifer bychan o oriau sicr, neu yn waeth fyth, contract dim oriau. Ac er mwyn cyflawni hynny mae angen deddfwriaeth gyflogaeth wahanol arnom ni yn y DU. Mae angen inni sicrhau na ellir manteisio ar bobl ac, yn lle ystyried y bobl a gaiff eu cefnogi gan gredyd cynhwysol fel y broblem, ein bod yn ystyried y busnesau nad ydynt yn eu talu'n ddigonol fel y broblem, a bod gennym ni system drethu sy'n adlewyrchu hynny'n briodol. Ac i wneud hynny, mae angen Llywodraeth Lafur flaengar iawn arnom ni mewn grym.

Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad yma heddiw. Fel y gwyddoch chi, nodwyd yn gynharach eleni mai Penrhiwceibr yn fy etholaeth i sydd â'r gyfradd uchaf o dlodi plant yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hynny'n dditiad cywilyddus o ddegawd o gyni gan y Torïaid. Yn y bumed wlad gyfoethocaf yn y byd, does dim angen dioddefaint o'r fath, ond mae'n ddioddefaint a achoswyd gan ymosodiad y Torïaid ar ein system les.

Hoffwn ddiolch i chi am ddod i'r cyfarfod bord gron a drefnais yng nghymuned falch a chlos Penrhiwceibr yn ôl ym mis Medi, ac rwy'n gwybod ichi gael eich plesio gan y dystiolaeth a gyflwynwyd i chi yno gan grwpiau cymunedol sy'n gweithio mor galed, yn aml gydag arian Llywodraeth Cymru, i geisio lliniaru rhai o effeithiau gwaethaf tlodi plant. Rwy'n gwybod y bydd y rhai sy'n bresennol yn y cyfarfod hwnnw'n dilyn trafodion heddiw'n ofalus.

Yn eich datganiad, rydych chi'n cyfeirio at yr adolygiad o raglenni a gwasanaethau Llywodraeth Cymru yr ydych yn ymgymryd ag ef i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posib ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi, gan gydnabod, wrth gwrs, fod y rhan fwyaf o'r grymoedd y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru. A allwch chi roi rhagor o fanylion inni am hyn, Gweinidog, megis sut y bydd yr adolygiad yn sicrhau y caiff lleisiau plant eu clywed mewn modd clir iawn? Ac a fydd unrhyw bwyslais ar effaith tlodi plant ar iechyd meddwl plant? Byddwch yn cofio inni glywed tystiolaeth eithaf syfrdanol gan ysgolion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw am iechyd meddwl plant yn y gymuned honno, sydd â chysylltiad agos â thlodi plant yn fy nhyb i. Beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn y maes hwn?

Yn ail, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw'r cytuniad hawliau dynol rhyngwladol y bu'r cadarnhad mwyaf eang iddo mewn hanes. A ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, drwy barhau i gyflwyno diwygiadau lles megis credyd cynhwysol, y dreth ystafell wely, y terfyn dau blentyn ar gredyd treth, diwygiadau y disgwylir iddynt wthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi erbyn iddynt gael eu llawn weithredu, y gallai'r Llywodraeth Dorïaidd annynol hon fod wedi torri sawl erthygl o'r Confensiwn hwnnw? A chyfeiriaf yn arbennig at erthygl 26, sy'n datgan bod gan bob plentyn yr hawl i elwa ar nawdd cymdeithasol, hawl sydd ar hyn o bryd yn cael ei warafun i drydydd neu bedwerydd plentyn teuluoedd o'r fath, neu i blant y teuluoedd hynny sy'n gorfod aros pedwar, chwech, wyth neu hyd yn oed 10 wythnos cyn cael eu rhandaliad cyntaf o gredyd cynhwysol, ac erthygl 27 hefyd, sy'n nodi bod gan bob plentyn yr hawl i safon byw ddigonol. Pa gyflwr ydym ni ynddo, Gweinidog, lle gellid gweld polisïau Llywodraeth y bumed wlad gyfoethocaf yn y byd yn mynd yn groes i'r holl gytundebau hawliau dynol pwysig hyn, a pha waith ydych chi a'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei wneud i bwysleisio difrifoldeb y sefyllfa hon, nid i Lywodraeth Dorïaidd y DU yn unig, ond i'r gymuned ryngwladol ehangach?

Yn olaf, Gweinidog, gan gydnabod bod y cynnydd mwyaf mewn tlodi plant ymhlith aelwydydd sy'n gweithio, y ffordd orau o godi plant allan o dlodi yw galluogi eu rhieni i gael swyddi sicr, sy'n talu'n dda. Mae gwaith rhagorol Cymunedau am Waith a Mwy a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth yn hysbys iawn yn fy nghymuned i, ond a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith arall yr ydych chi'n ei wneud gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Llywodraeth i geisio cynyddu cyfleoedd cyflogaeth yn y cymunedau hyn y mae tlodi plant yn effeithio fwyaf arnynt, yn enwedig yng Nghymoedd y De?

16:30

Oedd. Roedd hi'n bleser gwirioneddol dod i'ch etholaeth a gwrando ar grŵp o bobl ymroddedig iawn yn trafod sut y gallwn ni ddod at ein gilydd a sicrhau bod pob un o'n polisïau yn effeithio ar y bobl briodol ar yr adeg briodol a sut y gallwn ni eu defnyddio, ac, mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, rydym ni wedi rhoi sawl peth ar waith drwy'r Llywodraeth gyfan i sicrhau bod ein polisïau yn cyd-fynd yn dda â'i gilydd, gan y tynnwyd sylw at y ffaith bod gennym ni bolisïau sy'n llawn bwriadau da nad ydynt bob amser yn cyd-fynd yn dda. Felly, dyna un o'r ffrydiau gwaith yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef i wneud yn siŵr nad yw pobl yn disgyn i'r bylchau rhwng polisïau.

Felly, o ran sut mae'r adolygiad yn digwydd, dros y chwe mis nesaf, rydym ni'n adolygu holl bolisïau Llywodraeth Cymru—mae'n beth eithaf cymhleth i'w wneud—i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod ble maen nhw, beth maen nhw'n ei wneud a beth maen nhw i fod i'w wneud i sicrhau nad oes gennym ni unrhyw grwpiau sy'n cael eu hepgor yn anfwriadol o ganlyniad i hynny ac yna siarad am yr hyn y dylem ni ei wneud i'w trawsnewid yn y dyfodol. Felly, bryd hynny byddwn eisiau ystyried lleisiau plant a phobl eraill, ond byddwn yn cydweithio'n agos â'r comisiynwyr a'r Comisiwn Hawliau Dynol, Chwarae Teg a nifer o sefydliadau eraill i'n helpu i ddod i'r casgliadau hynny, a hefyd, wrth gwrs, y Dirprwy Weinidog gyda'r adolygiad rhywedd, sy'n rhan bwysig iawn o'r darn hwn o waith. Felly, mae'n ymwneud â'u cysylltu â'i gilydd.

Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n gwneud nifer fawr iawn o bethau i gefnogi iechyd a lles teuluoedd sydd ar incwm isel. Mae gennym ni gynllun taleb Cychwyn Iach a llaeth i blant meithrin gwerth £6.9 miliwn, sy'n darparu talebau i fenywod beichiog, mamau newydd a phlant o dan bedair oed o gartrefi incwm isel i gael ffrwythau a llysiau, llaeth a fformiwla babanod, yn ogystal ag ychwanegion fitaminau am ddim. Rwyf eisiau pwysleisio hynny, oherwydd mae arwyddion sy'n peri pryder mawr ledled y DU o bwysau geni isel mewn menywod tlawd, a gwyddom fod pwysau geni isel yn cael effaith aruthrol arnoch chi am weddill eich bywyd. Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau ein bod yn cael y gwasanaethau cywir i fenywod beichiog er mwyn sicrhau nad yw deiet gwael yn effeithio ar bwysau geni eu plentyn ac yna ar ei gyfleoedd mewn bywyd. Onid yw'n warthus dweud, yn y bumed wlad gyfoethocaf yn y byd, fod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych arno? Mae'n gwbl gywilyddus. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau ein bod yn cyflwyno'r cynlluniau hynny i'r bobl y mae arnynt eu hangen fwyaf.

Caiff trigain mil o bobl gymorth bob blwyddyn drwy'r grant cymorth tai £126 miliwn i helpu atal digartrefedd, oherwydd, unwaith eto, mae symiau mawrion o ddyled bersonol a thai ansicr yn arwain at ddigartrefedd—digartrefedd cudd yn aml: nid pob un ohonynt sy'n cysgu allan, ond mae llawer o bobl sy'n mynd o soffa i soffa heb le diogel i fyw, neu, fel y dywedodd Mike Hedges, yn mynd o'r naill lety rhent preifat i'r llall yn gyflym iawn. Felly, mae gennym ni amrywiaeth eang o raglenni deddfwriaethol wedi'u cynllunio i roi mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl yn eu cartref rhent ac i wneud yn siŵr bod y cartref rhent yn addas i'w ddiben. Ac fe ddywedaf ar y pwynt hwn: er mwyn sicrhau bod y landlordiaid da sydd gennym ni ledled Cymru yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi, rwy'n awyddus i gyflwyno cynllun gwobrwyo i'r landlordiaid da iawn hynny er mwyn i bobl adnabod pwy ydynt, a'r asiantau rheoli sy'n gweithio gyda nhw, fel y gallwn ni wobrwyo'r landlordiaid da ac ynysu'r rhai nad ydynt yn ymddwyn yn y ffordd gywir, a bydd ein deddfwriaeth yn ein helpu i wneud hynny.

Mae gennym ni hefyd nifer enfawr o fentrau eraill sy'n ymwneud â chyflog cymdeithasol mwy hael. Felly, mae'r rhain yn wasanaethau sy'n gyfwerth ag arian parod ac yn golygu bod mwy o arian ym mhocedi dinasyddion Cymru. Felly, mae rhai teuluoedd yng Nghymru tua £2,000 y flwyddyn yn well eu byd o ganlyniad i bethau fel cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor, sydd wrth gwrs yn lleihau'r rhwymedigaeth treth gyngor ar gyfer rhai o'n cartrefi mwyaf bregus. Mae'n bwysig iawn deall ein bod yn wir yn helpu pobl gyda faint o arian sydd ganddyn nhw dros ben. Oherwydd dyna beth yr ydych chi eisiau: urddas, onid e, a medru rheoli eich cyllideb eich hun. Un o'r pethau sy'n fy nghythruddo i yw pan glywaf Weinidogion Torïaidd yn dweud nad yw pobl dlawd yn gwybod sut i gyllidebu. Maen nhw yn gwybod sut i gyllidebu. Roedd fy nheulu yn gwybod sut i gyllidebu. Os oedden nhw'n gorfod byw ar yr hyn oedd ganddyn nhw i fyw arno, fe fyddent yn gwybod beth yw cyllidebu mewn gwirionedd.

Rydym ni hefyd yn buddsoddi £104 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd rhwng mis Ebrill a mis Mawrth i gyflwyno system wresogi well mewn 25,000 o gartrefi i bobl ar incwm isel neu sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Oherwydd, fel y mae Mike Hedges wedi dweud hefyd, a chredaf ichi dynnu sylw at hyn yn eich cyflwyniad heddiw, ond fe grybwyllwyd hynny hefyd yn y cyfarfod bord gron, os ydych yn talu biliau mawr i gadw'ch cartref uwchben y rhewbwynt ac nad oes gennych chi ddigon i'w fwyta a'ch bod yn cael trafferth i brynu dillad i'ch teulu, dydych chi ddim yn y sefyllfa orau i wneud yn fawr o'ch potensial ac mae hynny'n golygu nad ydych chi yn y sefyllfa orau i chwilio am waith. Mae'r drefn hon mewn gwirionedd yn atal pobl rhag cael cyflogaeth dda drwy beidio â'u galluogi i wneud eu gorau. Mae'n gwbl groes i'r hyn y dylem fod yn ei wneud i gynorthwyo pobl i gael gwaith sy'n talu'n dda. Felly, byddaf wrth fy modd yn gweithio gyda chi, Vikki, ymhellach ar ganlyniadau'r cyfarfod bord gron a chydag unrhyw Aelodau eraill sydd eisiau cynnal sesiwn o'r fath yn eu hetholaethau hwythau hefyd.

16:35
5. Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7216 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2019.   

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019. Mae'r Gorchymyn yn gosod y lluosydd at ddibenion ardrethu annomestig ar gyfer 2020-21. Yn 2011, nododd Llywodraeth Cymru ei bwriad i newid y mesur chwyddiant a ddefnyddir i gyfrifo'r lluosydd yng Nghymru o'r mynegai prisiau manwerthu i'r mynegai prisiau defnyddwyr o 1 Ebrill 2018.

Ar gyfer 2018-19 a 2019-20, cafodd hyn ei gyflawni drwy Orchmynion a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn. Mae'r Gorchymyn hwn yn gosod y lluosydd ar gyfer 2020-21 ar yr un sail. Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i'r Gorchymyn hwn gael ei gymeradwyo cyn y bleidlais ar adroddiadau cyllid Llywodraeth Leol—y setliad terfynol i llywodraeth leol a'r heddlu—ar gyfer 2020-21.

Bydd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 yn pennu'r lluosydd ar gyfer 2020-21 gan ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu. Bydd y Gorchymyn yn arwain at lai o gynnydd yn y biliau ardrethi 2020-21 sydd i'w talu gan fusnesau a pherchenogion eiddo annomestig eraill nag a fyddai'n digwydd pe bai'r ffigurau mynegai prisiau manwerthu yn cael eu defnyddio. Drwy ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr, bydd busnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn elwa o £10 miliwn yn 2020-21. Mae hyn yn ychwanegol at y buddiannau sy'n deillio o'r newid mynegeio yn 2018-19 a 2019-20. Ein bwriad yw parhau â'r un dull gweithredu yn y blynyddoedd i ddod.

Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd, yn cynnwys darpariaethau i wneud y newid yn un parhaol. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ystyried y Gorchymyn lluosydd.

Mae ardrethi annomestig wedi'u datganoli i raddau helaeth. Mae defnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu i gyfrifo'r terfynau lluosydd yn cyfyngu ar y cynnydd mewn biliau ardrethi, y byddai trethdalwyr yn ei wynebu fel arall. Bydd y newid hwn yn helpu busnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru gan gynnal ffrwd sefydlog o refeniw treth ar gyfer gwasanaethau lleol. Caiff y newid ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac ni fydd unrhyw effaith ar y cyllid a ddarperir ar gyfer gwasanaethau lleol. Gofynnaf felly i Aelodau gytuno i gymeradwyo'r Gorchymyn heddiw.

Diolch. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gennyf ddatganiad byr iawn i'w wneud, oherwydd fe wnaethom ni ystyried y Gorchymyn hwn yn ein cyfarfod ar 2 Rhagfyr 2019 a chyflwyno ein hadroddiad gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2019. Cododd ein hadroddiad ni un pwynt rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3, a oedd yn nodi'r penderfyniad a wnaeth Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ffigur is o ran y mynegai prisiau defnyddwyr yn rhan o'r broses o gyfrifo biliau ardrethu annomestig yn hytrach na ffigur uwch y mynegai prisiau manwerthu, sef yr un a ddefnyddir fel arfer. Mae hyn yn adlewyrchu ymagwedd Llywodraeth Cymru yn y drefn gyfatebol o 2018.

Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi bod y Gorchymyn hwn wedi'i wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn yn golygu na fydd y Gorchymyn, er ei fod eisoes wedi'i wneud, yn effeithiol oni bai y caiff ei gymeradwyo gan y Cynulliad ac mae'n rhaid i'r gymeradwyaeth honno ddigwydd cyn i'r Cynulliad gymeradwyo'r adroddiad cyllid llywodraeth leol, a fydd yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:40

Er ein bod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r mynegai pris defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu, bydd hyn yn dal yn arwain at gynnydd mewn ardrethi busnes i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd ledled Cymru. Mae defnyddio'r mynegai pris defnyddwyr yn dal i arwain at gynnydd o 1.7 y cant ar gyfer ardrethi busnes ledled Cymru, ac, ar adeg pan fo busnesau'n ei chael hi'n anodd a'n stryd fawr yn dirywio'n ddifrifol, y peth gwaethaf y gallwn ei wneud yw codi ardrethi busnes unwaith eto, hyd yn oed ychydig bach. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 yn caniatáu ar gyfer ffigur sy'n llai na'r mynegai prisiau manwerthu, felly pam wedyn defnyddio'r mynegai pris defnyddwyr pan allem ni fod wedi pennu cyfradd a fyddai wedi rhewi ardrethi busnes, a fyddai wedi ysgogi'r economi?

Croesawn y ffaith nad yw'r cynnydd mor uchel ag y gallasai fod. Fodd bynnag, mae ein stryd fawr a'n perchnogion busnes sy'n ei chael hi'n anodd ledled y wlad yn dal yn methu â fforddio'r cynnydd hwn mewn ardrethi busnes. Diolch yn fawr.

Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r lluosydd yn gydran allweddol o'r system NDR ac mae'n pennu lefel pob bil ardrethi annomestig ac felly'r cynnyrch cyffredinol a gynhyrchir gan y system, ac mae'n bwysig iawn cydnabod a myfyrio ar y ffaith bod ardrethi annomestig yn gyfranu'n sylweddol at ariannu gwasanaethau lleol yng Nghymru, felly dros £1 biliwn y flwyddyn. Felly, mae angen inni gofio, pan fyddwn yn meddwl am ddulliau amgen ar gyfer ardrethi busnes, pe baem yn awgrymu y dylid cael toriadau mewn ardrethi busnes, yna mae angen i ni hefyd awgrymu ble gellid torri'n ôl. Yn ein hysgolion tybed? Ein llyfrgelloedd? Ym maes gofal cymdeithasol? Mae'r rhain yn gwestiynau dilys y mae angen eu hateb. Ond, wrth gyfrifo'r cynnydd gan ddefnyddio CPI yn hytrach na'r RPI, rydym yn sicrhau y bydd trethdalwyr yn cael bil llai nag y byddent wedi'i gael fel arall, ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn dal i ymrwymo i ryddhau ardrethi busnes, felly, eleni, er enghraifft, mae gennym ni fuddsoddiad o £230 miliwn mewn busnesau lleol i sicrhau, mewn gwirionedd, nad yw hanner y busnesau yng Nghymru yn talu ardrethi o gwbl. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn effro iawn i'r pwysau sy'n wynebu busnesau, ond mae gennym ni raglen sylweddol o gynlluniau rhyddhad, sydd yno i helpu busnesau.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Julie Morgan.

Cynnig NDM7217 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19 ac ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r comisiynydd plant am ei gwaith diflino ar ran ein plant a'n pobl ifanc. Rwy'n gwybod y bydd Aelodau'r Cynulliad yn cytuno â mi fod y Comisiynydd yn chwarae rhan hollbwysig fel hyrwyddwr annibynnol sy'n dadlau dros hawliau a lles plant.

A minnau'n Ddirprwy Weinidog yn arwain gwaith Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd ar hawliau plant, rwy'n croesawu adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant, ei argymhellion pwysig, a'i gwaith craffu hi ar Lywodraeth Cymru. Ac mae'n arbennig o bwysig tynnu sylw at waith y Comisiynydd eleni, gan fod 2019 yn nodi deng mlynedd ar hugain ers sefydlu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yr ydym ni'r Llywodraeth wedi gwneud pob ymdrech i'w nodi. Yng Nghymru, rydym yn hynod falch o'n cynnydd o ran hawliau plant, gan mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i benodi comisiynydd plant yn 2001. Mabwysiadwyd y Confensiwn gennym yn sail ar gyfer ein gwaith gyda phlant yn 2004, gan ymgorffori hawliau plant mewn cyfraith drwy'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn 2011. Ac mae'r Mesur yn golygu ei bod hi'n ofynnol i bob Gweinidog, yn ôl y gyfraith, ystyried hawliau plant cyn gwneud neu adolygu ein polisïau neu ddeddfwriaeth. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn sicrhau bod plant a'u hawliau yn ganolog i bopeth a wnawn, a daeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i'r casgliad yn ddiweddar fod Mesur 2011 wedi arwain at effaith gadarnhaol sylweddol ar bolisi yng Nghymru. Dywedodd:

Nid oes gennym unrhyw amheuon wrth ddod i'r casgliad bod y Mesur wedi cyflawni ei amcan o ymgorffori'r Confensiwn i'r broses o lunio polisïau yng Nghymru.

Un arwydd ymarferol iawn o'n hymrwymiad i hawliau plant yw ein gwaith i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae hyn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i hawl plentyn i gael ei fagu mewn amgylchedd diogel a meithringar. Credwn nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru o gwbl. Mae erthygl 12 o'r Confensiwn yn pwysleisio pwysigrwydd canolog clywed a chymryd i ystyriaeth safbwyntiau plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiad y Cynulliad yn 2021, ac etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Rwy'n gwybod bod y diwygiadau hyn yn cael eu hystyried yn radical gan rai, hyd yn oed yn ddadleuol i rai, ond rwy'n credu bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dangos ein hymrwymiad i hawliau plant drwy wneud cynnydd yn y meysydd hollbwysig hyn.

Gadewch imi droi yn awr yn benodol at adroddiad blynyddol y Comisiynydd ac ymateb y Llywodraeth iddo. Yn adroddiad blynyddol eleni, mae'r Comisiynydd wedi gwneud 14 argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau plant, iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Cyhoeddom ein hymateb i'r adroddiad blynyddol ar 3 Rhagfyr, sy'n nodi ein hymateb cynhwysfawr i bob un o argymhellion y Comisiynydd yn ogystal â'r hyn rydym ni wedi ei wneud neu'n bwriadu ei wneud yn y meysydd hyn.

Mae ein hymrwymiad i hawliau plant, rwy'n credu, yn cael ei ddangos yn glir wrth i Lywodraeth Cymru dderbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, 12 o'r 14 argymhelliad yn adroddiad blynyddol eleni, ac rwy'n credu bod hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cymryd hawliau plant o ddifrif ac yn dangos ein hymrwymiad llwyr i weithio'n agos iawn gyda'r comisiynydd plant.

Rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad yn awyddus i drafod yr adroddiad blynyddol a'n hymateb yn fanylach, ond hoffwn dynnu sylw'n fyr at un enghraifft bwysig o'r ffordd rydym ni'n ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion yn yr adroddiad blynyddol. Mae hyn yn y maes hollbwysig o fynd i'r afael â bwlio. Mae hwn yn faes y mae'r comisiynydd plant wedi gwneud llawer o waith gwerthfawr ynddo, ac rwy'n gwybod fod gan lawer o'm cyd-Aelodau yn y Cynulliad ddiddordeb brwd yn y maes hwn. Mae argymhelliad y comisiynydd plant yn y maes hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn cadw cofnod o bob digwyddiad a'r math o fwlio a gofnodir. Hoffai'r Comisiynydd weld pob ysgol yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio, monitro a gwerthuso eu gwaith gwrth-fwlio ataliol ac ymatebol.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Ar 6 Tachwedd eleni, 2019, cyhoeddwyd canllawiau statudol gwrth-fwlio newydd, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', i helpu ysgolion i ymdrin â bwlio. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r disgwyliad y bydd ysgolion yn cofnodi'r holl achosion o fwlio, gan amlinellu'r mathau penodol o fwlio a'u bod yn monitro prosesau'n rheolaidd ac yn dadansoddi data yn rhan o'u hunanwerthusiad. Mae'r canllawiau'n nodi'n glir y dylai ysgolion ymateb i dueddiadau penodol a materion sy'n codi mewn ffordd gyflym ac effeithiol, mewn ymgynghoriad â disgyblion a'u rhieni/gofalwyr.

Rwy'n credu mai gyda diwygiadau ymarferol fel hyn a'r lleill yn ein hymateb y byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd tuag at iechyd, hapusrwydd a diogelwch ein plant i gyd, oherwydd dyna eu hawl nhw a'n cyfrifoldeb ni.

Lle mae gennym y grymoedd i gyflawni newid, byddwn yn gweithredu er budd hawliau plant. Rhaid inni gydnabod, fodd bynnag, fod penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn effeithio'n ddifrifol ar fywydau plant yma yng Nghymru, a chredaf fod hynny wedi ei ddangos yn glir yn y ddadl a gawsom ni o'r blaen—

16:45

Diolch am ildio, Julie. Cytunaf yn llwyr â'r hyn yr ydych newydd ei ddweud am bwysigrwydd ysgolion yn cofnodi data o ran bwlio, ond a fyddech chi hefyd yn cytuno, er mwyn sicrhau tryloywder, ei bod hi'n bwysig nad cael ei gofnodi'n unig y bydd data ond y dylai fod ar gael i rieni petaent yn gofyn amdano fel ein bod yn cael darlun cywir o fwlio, ac, yn bwysicach, y mathau o fwlio sy'n digwydd mewn gwahanol ysgolion? Oherwydd gallai'r achosion hynny amrywio o ardal i ardal a bydd angen ymateb penodol, yn dibynnu ar y sefyllfa benodol.

Deallaf fod yr Aelod yn gofyn i'r ysgolion gyhoeddi'r data a gasglant—

Ni ddywedais 'cyhoeddi' fel y cyfryw, oherwydd gallwn ddeall y gallai hynny achosi rhai problemau—

—ond bod y data hwnnw ar gael os gofynnir amdano, yn hytrach na chael ei gadw o'r neilltu, oherwydd efallai na fyddai rhai ysgolion eisiau i'r math hwnnw o ddata fod ar gael i'r cyhoedd na bod ar gael i rieni, am resymau amlwg.

Ie. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gallem yn sicr ei drafod gydag ysgolion o ran sicrhau ei fod ar gael. Diolch.

Lle mae gennym y dulliau i gyflawni newid, byddwn yn gweithredu er budd hawliau plant, ond, fel yr wyf newydd ddweud, mae'r penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn effeithio'n ddifrifol ar fywydau plant yma yng Nghymru, ac rydym wedi trafod hynny'n frwd y prynhawn yma. Er enghraifft, siaradodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gynharach am y cyni a'r toriadau lles a sut maen nhw wedi effeithio ar dlodi plant a'i gynyddu, a chredaf fod hynny'n rhywbeth yr ydym yn gwneud ein gorau i'w liniaru, ond yn amlwg, nid yw'r dulliau pwerus iawn hynny gennym ni. Rwy'n gwybod fod llawer iawn o angerdd ac arbenigedd ar hawliau plant yma yn y Cynulliad, felly edrychaf ymlaen at glywed eich barn. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol bod materion hawliau plant wrth wraidd ein gwaith o lunio polisïau ym mhob agwedd ar y Llywodraeth, ac y gallwn ni barhau i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd, ond byddwn bob amser yn cydnabod bod gennym ni lawer i'w wneud o hyd.

16:50

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r adroddiad ac ymateb y Llywodraeth. Nawr, mae cyflawniadau mawr y gallwn ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw yma yng Nghymru, a hynny o ganlyniad i waith Comisiynydd Plant Cymru. Pan feddyliwch am rai o'r prosiectau y mae hi wedi gweithio arnyn nhw—. Bellach gwelsom ethol Senedd Ieuenctid, yr ydym wedi cydweithio â hi arni; y cynadleddau hawliau ysgolion uwchradd cyntaf i fyfyrwyr a staff; a'r gefnogaeth a roddir i gyrff cyhoeddus mawr i fabwysiadu ymagwedd hawliau plant.

Mae'r adroddiad blynyddol yn amlygu rhai ffeithiau gwych sy'n deillio o swyddfa'r comisiynydd: y ffaith ei bod wedi ymgysylltu â 9,857 o blant a phobl ifanc ledled Cymru; wedi hyfforddi'n uniongyrchol tua 700 o blant a phobl ifanc i fod yn llysgenhadon hawliau yn eu hysgolion a'u cymunedau; a chynnal yr arolwg hawliau addysg cyntaf erioed, gan sicrhau 6,392 o ymatebion.

Nawr, fel y dywedodd y comisiynydd, mae heriau sylweddol o hyd o ran hawliau plant ledled Cymru. Felly, roedd yn ddiddorol iawn darllen ei hadroddiad a'i hargymhellion i Lywodraeth Cymru. O ran gofal preswyl i blant sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, dim ond mewn egwyddor y mae Llywodraeth Cymru, ysywaeth, wedi derbyn yr argymhelliad cyntaf. Yr hyn y gelwir amdano yw arian newydd wedi'i neilltuo'n benodol at ddibenion darpariaeth breswyl iechyd meddwl a gofal cymdeithasol wedi ei chomisiynu ar y cyd, i blant a phobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth yng Nghymru. Ond, nid oes ymrwymiad wedi'i wneud ynglŷn â'r cyllid hwnnw. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r gronfa trawsnewid a'r gronfa gofal integredig yn cwmpasu Cymru gyfan.

Hefyd, mae'r adroddiad yn cynnwys enghraifft rymus iawn o'r effaith y mae'r diffyg darpariaeth bresennol wedi'i chael ar blentyn sydd ag anghenion ymddygiadol cymhleth. Er enghraifft, ni ddylai'r comisiynydd orfod ymyrryd er mwyn i blentyn gael ei symud o ward oedolion ar ôl sawl wythnos. Nid yw hynny'n ddigon da. Felly, anogaf y Dirprwy Weinidog i fwrw ymlaen ar frys â'i gwaith i ddatblygu trefniadau comisiynu ac, o leiaf, neilltuo cyllid ar gyfer y tymor byr.

Yn yr un modd, credaf y gellir gwneud mwy i wahardd yr arfer o wneud elw mewn gwasanaethau gofal plant. Mae natur frys hyn yn amlwg wrth ystyried bod traean o blant Cymru mewn gofal maeth yn cael eu lleoli gydag asiantaethau annibynnol, a chanfyddiadau'r comisiynydd y bu rhai pobl ifanc yn ymwybodol iawn o gostau ariannol eu lleoliadau eu hunain, ac mae'r rhieni'n anghyfforddus oherwydd bod elfen o wneud elw yn rhan o'u hangen am ofal a chymorth.

Er fy mod yn croesawu'r ffaith eich bod yn parhau i weithio gyda'r fframwaith maethu cenedlaethol i recriwtio mwy o ofalwyr maeth mewn awdurdodau lleol, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer comisiynu a rheoli'r sbectrwm llawn o leoliadau i blant mewn gofal? Yn yr un modd, Dirprwy Weinidog, hoffwn gael eglurhad o'r ffaith eich bod yn gwrthod rhoi dyletswydd ar bob corff perthnasol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawlia'r Plentyn wrth gyflwyno'r cwricwlwm. Er gwaethaf bodolaeth Mesur Plant a Phobl ifanc (Cymru) 2011, credaf fod hyn yn gamgymeriad. Mae'r comisiynydd yn iawn wrth ddweud mai'r ffordd orau o sicrhau bod plant yn dysgu am eu hawliau yw mewn amgylcheddau sy'n parchu'r hawliau hynny, a gellir gwneud hynny drwy osod dyletswydd ar wyneb y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Ategir hyn gan y ffaith mai dim ond 34 y cant o'r plant a'r bobl ifanc a gymerodd ran yn Y Ffordd Gywir: Arolwg Addysg oedd hyd yn oed wedi clywed am y CCUHP; bod pobl ifanc wedi dweud wrth y comisiynydd bod angen help arnynt i ddeall eu hawliau; a'r dystiolaeth yr ydym ni wedi bod yn ei chlywed yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, drwy ein hymchwiliad presennol i hawliau plant yng Nghymru. Felly, byddai o ddiddordeb i mi, Dirprwy Weinidog, gael gwybod sut rydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog Addysg i fynd i'r afael â'r pryderon hynny.

Mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo hawliau plant mewn addysg ac ysgolion, felly, a hithau'n ddeng mlynedd ar hugain ers sefydlu'r CCUHP, rwy'n eich annog i ailystyried gwrthod argymhelliad y comisiynydd yn hyn o beth.

Croesawaf yr adroddiad, rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud, fel y gwnaethoch chi ddweud, o ran hawliau plant yng Nghymru, ond hoffwn ganmol a diolch i'r comisiynydd plant am bopeth mae hi'n ei wneud, gan weithio gyda ni a gweithio gyda'r Llywodraeth, i gefnogi hawliau ac anghenion ein plant yng Nghymru.  

16:55

Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Cyfeiriwyd eisoes at ben-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ddeg ar hugain oed. Rwy'n credu, wrth gwrs, bod yn rhaid inni hefyd gofio pen-blwydd pwysig arall y byddwn yn ei goffáu yfory, sef ugeinfed pen-blwydd adroddiad Waterhouse. Ymateb y Cynulliad hwn i'r adroddiad hwnnw a barodd mai ni oedd y weinyddiaeth Llywodraeth gyntaf yng Nghymru i sefydlu comisiynydd plant—yn greadigol, gan nad oedd gennym y pwerau deddfwriaethol i wneud hynny ar y pryd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol dweud ein bod wedi dod yn bell iawn tuag at wireddu hawliau plant, yn enwedig hawliau plant ar gyfer rai o'n pobl fwyaf agored i niwed. Ond, fel mae'r Gweinidog wedi dweud, mae gennym ni ffordd bell iawn i fynd.

Mae cymaint yn adroddiad y comisiynydd, a byddwn yn ategu popeth y mae'r Gweinidog a Janet Finch-Saunders wedi'i ddweud ynghylch pa mor ddiolchgar yr ydym ni i'r comisiynydd, i'w thîm, am y modd y maen nhw'n gweithio mor effeithiol i ddileu'r rhwystrau rhag gwireddu i hawliau plant. Mae'n amhosib, yn yr amser sydd ar gael i mi heddiw, i wneud sylwadau ar bopeth yr hoffwn ei godi, ond hoffwn wneud sylwadau ar dri maes penodol o argymhellion y comisiynydd, ac efallai gofyn i'r Gweinidog am ychydig mwy o wybodaeth am ymateb y Llywodraeth.

O ran y gyfres gyntaf o argymhellion ynghylch gofal preswyl i blant sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth yn derbyn argymhellion y comisiynydd, er fy mod yn rhannu pryder Janet Finch-Saunders ynglŷn â derbyn argymhellion mewn egwyddor, y gwyddom o brofiad yn aml ei bod hi'n fwy arferol eu torri na'u hanrhydeddu. Byddwn yn annog y Gweinidog a'r Llywodraeth i weithredu ar frys yn hyn o beth.

Rwyf wedi bod yn ymdrin yr wythnos hon ag achos dyn ifanc iawn sydd ag anghenion amrywiol iawn a chymhleth iawn, yn ymwneud â'r sbectrwm awtistiaeth ac iechyd meddwl. Mae ei deulu wedi darganfod yr wythnos hon ei fod yn debygol o gael ei roi mewn sefydliad anghysbell ymhell iawn i ffwrdd, yn Lloegr. Ac mae gwir angen inni weithredu ar hyn, oherwydd mae pob diwrnod y mae'r bobl ifanc hynny oddi cartref yn ddiwrnod yn ormod, a phob dydd y mae eu perthynas â'u teuluoedd wedi chwalu yn ddiwrnod yn ormod.

Hoffwn gyfeirio at ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 5 y comisiynydd, sy'n ymwneud â sicrhau bod y cwricwlwm newydd—bod dyletswydd, a grybwyllwyd gan Janet Finch-Saunders, ar bob corff perthnasol i roi sylw dyledus i'r confensiwn. Nawr, rwyf wedi drysu braidd gan ymateb y Llywodraeth, oherwydd mae'r Llywodraeth yn dweud, o gofio bod yn rhaid i'r Gweinidogion roi sylw dyledus i'r confensiwn, nad oes angen gosod dyletswydd ar gyrff eraill i roi sylw dyledus i'r confensiwn. Ond, yn ôl yr hyn a ddeallaf, Dirprwy Lywydd—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn fy nghywiro os wyf yn anghywir—mae'r Llywodraeth eisoes wedi gosod dyletswydd i roi sylw dyledus ar gyrff drwy'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed gan y Gweinidog pam, mewn egwyddor, y gallwch chi wneud hynny yn y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, ond nad yw hi'n briodol gwneud hyn yn y cwricwlwm.

Mae Janet Finch-Saunders yn gywir, wrth gwrs, i ddweud nad yw'n ddigon i'r cwricwlwm ei hun gael cynnwys sy'n parchu hawliau, rhaid ei gyflwyno drwy sefydliadau sy'n parchu hawliau. Ac er bod gennym ni rai o'r ysgolion mwyaf anhygoel yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn ymweld â nhw'n rheolaidd, yn enwedig mewn addysg uwchradd, mae ffordd bell i fynd cyn bydd y sefydliadau hynny yn parchu hawliau'n llwyr. Rwyf felly wedi drysu ynghylch amharodrwydd y Llywodraeth i roi dyletswydd o sylw dyledus yn y ddeddfwriaeth. Byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy gan y Gweinidog am ei rhesymau dros hynny.

Wrth gwrs, mae rhai ohonom yn dadlau dros ymgorffori'r confensiwn yn llawnach. Rydym yn ei ymgorffori'n rhannol yn ein fframwaith deddfwriaethol, ac mae'n bryd symud hynny ymlaen. Pe bai hynny wedi digwydd, efallai bod y Gweinidog yn iawn, efallai na fyddai angen gosod dyletswydd i roi sylw dyledus ar sefydliadau eraill. Ond, fel y mae pethau, ni allaf ddeall pam na wnawn nhw hynny.

Yna, hoffwn gyfeirio'n fyr at argymhelliad Rhif 7, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'w dderbyn chwaith. Rwy'n methu'n lân a deall hyn, oherwydd mae'r comisiynydd yn gofyn am adolygiad ac mae'r Llywodraeth yn gwrthod yr argymhelliad ac yna'n dweud eu bod yn mynd i gynnal adolygiad. Nawr, efallai fy mod yn methu rhywbeth yn hyn o beth, ond rwy'n credu bod angen—ac mae'n dda gweld y Llywodraeth yn dweud eu bod yn edrych ar hyn mewn gwahanol bortffolios, oherwydd wrth gwrs mae hyn yn effeithio ar sawl portffolio—ac os yw'r Llywodraeth yn derbyn yr angen am adolygiad, pam maen nhw'n dweud eu bod yn gwrthod argymhelliad y comisiynydd? A yw'n golygu nad ydynt eisiau yr un math o adolygiad ag y mae'r comisiynydd yn ei argymell? Felly, byddai'n ddefnyddiol, gan dderbyn yn llawn fwriadau da'r Gweinidog, ac yn yr achos hwn fwriadau da'r Llywodraeth, deall pam mae'r adolygiad y byddant yn ei gynnal yn wahanol i'r adolygiad y mae'r comisiynydd wedi'i argymell.

Ac, fel sylw olaf o ran y materion hyn ynglŷn â chludiant, mae ymateb y Llywodraeth yn dweud bod y trefniadau ar gyfer cludiant a diogelwch yn yr ysgol yn gweithio'n dda ar y cyfan. Wel, rwy'n siŵr o'm llwyth achosion yn fy etholaeth nad yw hynny bob amser yn wir, yn enwedig o ran myfyrwyr ôl-16. Byddwn i'n dadlau, fel y mae'r Comisiynydd yn ei wneud, fod y fframwaith deddfwriaethol sydd gennym ni gyda Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn hen ffasiwn gan fod gennym ni fwy a mwy o bobl ifanc yn aros mewn addysg yn llawn amser o 16 i 18 oed a thu hwnt. Ac mae hi wrth gwrs yn arbennig o bwysig bod gan y plant hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gludiant priodol.

Deuaf â'm sylwadau i ben, Dirprwy Lywydd. Mae cymaint mwy, rwy'n siŵr, y byddem i gyd yn hoffi ei ddweud. Rwy'n gwybod y caiff y materion hyn eu harchwilio'n drwyadl yn y pwyllgor priodol, ond rwy'n credu bod llawer i ymfalchïo ynddo gydag ymrwymiad y sefydliad hwn i hawliau plant dros yr 20 mlynedd o'n bodolaeth.  

17:00

Mae llawer o eiriau poblogaidd yn yr adroddiad—'grymuso', 'hawliau', 'ymgynghori', 'ymgysylltu'—ond rwy'n siomedig iawn â'r adroddiad mewn gwirionedd. A'r hyn sy'n peri'r siom fwyaf i mi, yn wir yr hyn sy'n annerbyniol, i fod yn onest, yw nad oes un cyfeiriad at ddieithrio plentyn oddi wrth riant, dim sôn o gwbl yn yr adroddiad cyfan. Nawr, dieithrio plentyn oddi wrth riant yw hynny'n union. Gall ddigwydd i dadau, gall ddigwydd i famau. Rwy'n gwybod hyn oherwydd fy mod yn gweld cynifer ohonynt yn fy swyddfa, wythnos ar ôl wythnos, bron. Mae'n fath o gam-drin plant yn emosiynol, mae'n fath o gam-drin plant sy'n cael ei dderbyn ac, yn fwy at ddiben yr adroddiad hwn, mae hyn yn dystiolaeth ei fod yn fath o gam-drin plant sydd, mewn gwirionedd, yn cael ei anwybyddu gan yr union bobl a ddylai fod yn gwneud rhywbeth ynghylch y peth.

Os ydych yn blentyn sydd wedi'i dieithrio oddi wrth riant da a chariadus, rydych yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi, rydych yn llai tebygol o wneud yn dda mewn addysg, rydych yn fwy tebygol o ddioddef salwch meddwl, rydych yn fwy tebygol o hunan-niweidio, rydych yn fwy tebygol o gamddefnyddio sylweddau, rydych yn fwy tebygol o gael anawsterau eich hun wrth ffurfio perthynas yn oedolyn. Rwy'n credu mai dyma'r broblem enfawr sy'n cael ei hanwybyddu yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU. Rwy'n credu mai esgeuluso dyletswydd yn syfrdanol yw hyn ac mae'n anghyfrifol peidio â siarad am hyn.

Mae llawer o sôn am y confensiwn—confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn. A bod yn berffaith onest, nid yw'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno yng Nghymru, oherwydd bod gennych chi sefydliadau yng Nghymru, sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus, sy'n hwyluso ac yn gweithio gyda phobl sy'n ymroi i ddieithrio plant oddi wrth rieni neu sy'n gweithredu'r math hwnnw o gam-drin. Ac mae yna sefydliadau na ddylent mewn gwirionedd gael arian cyhoeddus nes bod ganddyn nhw bolisïau yn y maes hwn, ond nid oes ganddyn nhw unrhyw bolisïau am ei fod yn cael ei anwybyddu ac, yn wir, yn cael ei dderbyn.

Mae llawer yn cael ei ddweud y dyddiau hyn am lais plant, ac rwyf eisiau tynnu sylw at leisiau plant mewn gofal, ac rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith yn y Siambr hon. Soniais amdano y tro diwethaf roeddwn yn siarad am y materion hyn. Mae cymaint o blant yng Nghymru nad ydynt eisiau bod mewn gofal. Maen nhw eisiau bod gyda'u rhieni ac nid oes neb yn gwrando arnyn nhw. Nid eir i'r afael â'r maes hwn a dylai hyn gael sylw eto yn yr adroddiad hwn, ond nid yw'n cael y sylw hwnnw.

Rwy'n pryderu'n fawr hefyd oherwydd pan fydd plant mewn gofal yn honni eu bod yn cael eu cam-drin, nid oes neb yn gwrando arnynt. Dywedais hyn y tro diwethaf; fe ddywedaf hyn eto nawr oherwydd bod rhai wythnosau wedi heibio ers hynny: mae yna achos sy'n fy mhoeni'n fawr na all y comisiynydd plant ymdrin ag ef oherwydd ei fod yn achos unigol. Rwy'n pryderu'n ddirfawr am y modd y mae'r heddlu wedi ymdrin â'r mater hwn. Rydym ni nawr ym mis Rhagfyr. Rwyf wedi bod yn ceisio cael cyfarfod gyda'r swyddog uchaf ym maes diogelu'r cyhoedd yn Heddlu De Cymru ers mis Gorffennaf, ac nid wyf wedi gallu trefnu na chael y cyfarfod hwn. Mae hynny'n dweud wrthyf mewn gwirionedd nad yw Heddlu De Cymru'n cymryd cam-drin plant neu gam-drin honedig o ddifrif. Mae hwnnw'n bwynt yr hoffwn ei gofnodi, ac mae'n bwynt y dylem i gyd fod yn sôn amdano wrth inni nesáu at etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Fel y dywedais, rwy'n credu ei fod yn ddiffyg anferthol, anferthol, yn yr adroddiad hwn, sef nad yw mater sy'n effeithio ar gymaint o blant, ar gymaint o famau, ar gymaint o dadau, ar gymaint o neiniau, ar gymaint o wyrion, ar gymaint o deidiau, ar gymaint o deuluoedd, yn cael ei grybwyll hyd yn oed yn yr adroddiad. I wirio hynny—fe wnaf orffen nawr—bûm drwy'r ddogfen gyda'r adnodd 'chwilio' hyd yn oed i weld a oedd y gair 'parental' yno; nid oedd yn y ddogfen. 'Alienation'—teipiais hynny; nid oedd yn y ddogfen, dim ond rhag ofn fy mod wedi ei fethu drwy ddarllen drwy'r ddogfen, ac rwyf wedi ei darllen sawl gwaith, ac rwy'n siomedig iawn. Diolch yn fawr.

17:05

Diolch. A gaf i alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl hon? Julie Morgan.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl, a diolch i'r rhai a ddiolchodd i'r comisiynydd plant am ei gwaith. Rwyf eisiau tynnu sylw ar y dechrau at rywbeth na soniais amdano yn fy araith, sef creu'r Senedd Ieuenctid, ac rwy'n falch iawn bod Janet Finch-Saunders wedi sôn am hynny oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n gam mawr ymlaen o ran rhoi llais i blant ac roedd yn amlwg bod hyn yn rhywbeth a gefnogwyd yn gryf gan y comisiynydd plant. Felly, diolch yn fawr, Janet, am grybwyll hynny.

Nawr, i droi at rai o'r materion a godwyd, o ran mater gofal preswyl a'r angen am ofal preswyl i blant sydd ag anghenion cymhleth, mae'r Llywodraeth yn llwyr gydnabod yr angen i gomisiynu llety arbenigol i blant sydd ag anghenion cymhleth, yn enwedig i'r rhai sydd mewn perygl o fynd i leoliadau lles neu iechyd meddwl diogel, neu sy'n gadael darpariaeth ddiogel. Ac rydym yn gwybod bod gennym ni brinder mawr o'r math hwnnw o gyfleuster. Nid mater o gynyddu capasiti yn unig yw hyn; mae'n ymwneud â hyrwyddo modelau gofal sydd â phwyslais ar drawma. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni sicrhau bod trefniadau comisiynu ar y cyd priodol ar waith rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg fel bod anghenion y plant hyn yn cael eu diwallu ac nad ydynt yn syrthio rhwng gwahanol fathau o ddarpariaeth. Gwyddom fod problem yn aml o ran cael lleoedd ar gyfer plant cymhleth sydd ag anghenion anodd, ac mae'n digwydd eu bod weithiau yn y pendraw yn mynd allan o Gymru, gan fynd ymhell o'u cartrefi eu hunain weithiau, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio'n galed iawn i'w atal.

Yr hyn y mae hwn mewn gwirionedd yn cysylltu ag ef yw pwynt Neil McEvoy yn ei araith lle mae'n dweud nad yw llawer iawn o blant eisiau bod mewn gofal. Yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yn y Llywodraeth yw lleihau nifer y plant y mae angen iddynt fod mewn gofal, ac rwy'n gwybod ei fod yn cefnogi'r polisi hwnnw. Ond rwy'n meddwl bod a wnelo hyn â chael darpariaeth ddigonol ar gyfer y plant hynny sy'n gorfod cael gofal. Felly, rydym yn ymchwilio i hyn drwy waith y grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal preswyl i blant, ac rydym ni yn hyrwyddo dulliau gweithredu rhanbarthol drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol a'r gronfa gofal integredig, er bod yn rhaid imi ddweud bod y cynnydd yn anghyson. Mae gennym ni lawer mwy i'w wneud yn y maes hwn.

Felly, rydym ni wedi comisiynu darn o waith i'w ddatblygu a'i weithredu, er mwyn ceisio dod o hyd i atebion ar gyfer y grŵp bach iawn hwn o blant, ond yn bwysig iawn ein bod yn cael darpariaeth foddhaol ar eu cyfer. Gobeithio y byddwn yn gallu adrodd yn ôl o fewn chwe mis ar y cynigion hyn a gobeithiaf y byddwn yn gallu cael cynllun i Gymru gyfan ar gyfer ein hanghenion ar gyfer y grŵp cymhleth iawn hwn o blant, ac na fyddwn ni yn y pendraw mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid inni eu hanfon allan o'r wlad, allan o'r sir, ac yn bell o'u cartrefi, oherwydd mae hi'n gwbl briodol fod plant—rydym i gyd yn gwybod—eisiau bod yn agos at eu teuluoedd, yn enwedig eisiau bod yn agos at eu brodyr a'u chwiorydd, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Felly, rydym yn gwneud y darn hwn o waith ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cael gwybodaeth o hynny a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen.

Roedd pwynt arall a wnaed yn ymwneud â gwneud elw wrth faethu. Unwaith eto, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn oherwydd rwy'n gwybod, weithiau, bod plant yn ymwybodol bod pobl yn gwneud elw o ofalu amdanynt a bod yn rhaid inni ail-gydbwyso’r ddarpariaeth hon mewn gwirionedd, a dyna un o flaenoriaethau'r Prif Weinidog—sef ail-gydbwyso’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Felly, rydym ni eisiau annog awdurdodau lleol i wneud llawer mwy i sicrhau bod gennym ni leoliadau maethu sy'n lleoliadau maethu awdurdodau lleol. Felly, rydym ni yn ymateb i'r argymhelliad hwnnw mewn ffordd gadarnhaol iawn.

Roedd a wnelo mater arall â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a sut rydym ni'n gwneud yn siŵr ei fod yn digwydd, sef y mater allweddol, mi gredaf. Nawr, nid wyf yn gwrthod yn llwyr unrhyw ymgais i gael unrhyw ddeddfwriaeth bellach ar hyn, ond rwy'n ymwybodol iawn bod y Dirprwy Weinidog Cydraddoldeb a'r Prif Chwip yn gwneud ychydig o ymchwil sy'n edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd, ac mae'n edrych i weld a allai fod yn bosib. Efallai y bydd angen deddf hawliau dynol arnom ni yn y Senedd nesaf. Felly, mewn gwirionedd, mae angen inni edrych ar hyn yn ofalus iawn ac yn ei gyfanrwydd. Felly, nid yw'r mater hwn yn cael ei wrthod. Yr hyn sy'n digwydd yw bod gwaith eisoes yn mynd rhagddo ac rydym ni eisiau sicrhau bod cyfle i fynd i'r afael â hyn mewn ffordd gyfannol a chynhwysfawr. 

Ac yna'r broblem cludiant ar gyfer plant ag anghenion arbennig. Mae'r broblem cludiant yn ymwneud yn benodol â'r oedran ôl-16 oherwydd dyna lle mae'r mater o ddifrif yn berthnasol, rwy'n credu, a dyna lle rwy'n gweld y bydd yn berthnasol, a byddwn yn cynnal yr adolygiad, gan edrych ar y rhai ôl-16 yn enwedig. Mae'r sylw, gan y Llywodraeth, yn dweud ei bod hi'n ymddangos ei fod yn gweithio'n weddol dda, mae hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â phlant dan 16 oed lle mae'n ymddangos ei fod yn gweithio'n dda iawn. Felly, byddwn yn edrych ar yr adolygiad ar gyfer y cyfnod ôl-16, ond, yn amlwg, rydym ni eisiau i unrhyw blentyn sydd angen cludiant ei gael—

17:10

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n dal i fod ychydig yn ddryslyd, fodd bynnag, oherwydd eich bod yn cynnal adolygiad, ac mae'r comisiynydd wedi gofyn i chi gynnal adolygiad, ond dyma'r argymhelliad y mae eich ymateb ysgrifenedig yn dweud eich bod yn ei wrthod. Efallai y gallwch chi egluro—. Rwy'n credu bod a wnelo fy mhryder ynghylch a oedd yn fath gwahanol o adolygiad neu a oedd hi'n gofyn am rywbeth gwahanol i'r hyn yr ydych chi'n ei wneud. A doeddwn i ddim yn gallu gweld hynny yn ei hadroddiad nac yn eich ymateb chi, felly dim ond tybio oeddwn i. Rydym ni'n edrych am ychydig o eglurder ynghylch hynny oherwydd ymddengys i mi, mewn gwirionedd, eich bod yn derbyn yr argymhelliad, yn rhannol o leiaf.

Wel, mae'r comisiynydd yn galw am drefn lle mae pob plentyn sydd ag anghenion arbennig yn cael cludiant, ac nid ydym ni'n credu ei fod, o reidrwydd, yn angenrheidiol i bob plentyn gan y bydd rhai plant yn gallu cerdded. Felly, os ydych yn ei gymryd yn y ffordd dechnegol yna i raddau, rydym yn ei wrthod am y rhesymau hynny, ond rydym yn cydnabod bod yna broblemau, yn enwedig gyda'r oedran ôl-16, a dyna fyddwn ni'n edrych arno.

Ac yna, yn olaf, rwy'n credu, i ddod at bwynt Neil McEvoy am ddieithrio plentyn oddi wrth riant, rwyf eisiau ei sicrhau bod hwn yn faes sy'n cael ei ystyried yn ofalus iawn gan y Llywodraeth. Mae'n cael ei ystyried yn—. Yn sicr, rwyf wedi cael nifer o drafodaethau amdano gyda CAFCASS, ac yn sicr nid yw'n rhywbeth sy'n cael ei anwybyddu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod mai'r hyn y mae'r adroddiad hwn yn sôn amdano yw rhestr benodol o bethau. Nid yw'n ymwneud â phopeth y mae gan y comisiynydd plant ddiddordeb ynddo, oherwydd mae'r adroddiadau gwahanol bob blwyddyn yn ymdrin â gwahanol faterion. Ac felly, rwy'n gwybod fod y comisiynydd plant yn bryderus iawn—

—gwnaf, mewn eiliad—yn bryderus iawn ynghylch plant mewn gofal ac yn sicr yn gefnogol iawn i'n hagenda i ostwng nifer y plant mewn gofal.

Diolch am dderbyn yr ymyriad cyflym, Dirprwy Weinidog. Y broblem sydd gennyf ynghylch y comisiynydd plant yw, os darllenwch yr hyn a ddywedodd hi am ddieithrio, mae hi'n gwadu i bob pwrpas ei fod yn digwydd, ac mae CAFCASS yn dod i ddeall hyn yn hwyr iawn, sy'n gynnydd. Mae Lloegr ymhellach ar y blaen i Gymru. Ond mae'n ymddangos bod gennym ni gomisiynydd plant sy'n methu â chydnabod y broblem enfawr hon a dyna sydd wir yn fy mhoeni.

17:15

Gallaf eich sicrhau bod y Llywodraeth yn sicr wedi ystyried y mater o ddieithrio plentyn oddi wrth riant ac, mewn gwirionedd, mae gan Loegr yr un dull â Chymru fwy neu lai nawr. Rydym ni yn sicr wedi dechrau gweithio yn yr un ffordd yn hyn o beth ac rydym yn ymateb mewn ffordd gytbwys iawn, anemosiynol, i ddieithrio plentyn oddi wrth riant ac yn edrych ar hynny mewn ffordd gytbwys iawn. Felly, gallaf ei sicrhau ei fod ar ein hagenda. Diolch.

Iawn. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Nid ydym ni wedi gohirio unrhyw eitemau tan y cyfnod pleidleisio, felly dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:15.