Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
17/07/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw pawb i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ba gymorth sydd ar gael i brosiectau ynni dŵr? OAQ54241
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth technegol a chyllid ar gyfer prosiectau ynni’r sector cymunedol a'r sector cyhoeddus, ar y tir ac ar y môr, drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Mae pum awdurdod lleol a 12 grŵp cymunedol wedi derbyn cymorth ar gyfer cynlluniau gwres ynni dŵr gan wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru.
Diolch yn fawr. Wrth i'ch Llywodraeth gyhoeddi'r argyfwng newid hinsawdd, a'ch awydd chi i weithredu ar hyn, mae pobl Cymru yn chwilio am brawf nad geiriau gwag yn unig ydy hynny. Ac, fel rydych chi'n gwybod, dwi wedi codi'r mater o ryddhad trethi i gynlluniau ynni dŵr yn y Siambr yma cyn heddiw, ac mae Plaid Cymru wedi, hyd yma, llwyddo i'ch darbwyllo chi i barhau efo ryddhad trethi tan fis Mawrth flwyddyn nesaf. Beth sydd ddim yn glir ydy beth sydd yn digwydd ar ôl mis Mawrth flwyddyn nesaf, ac mae hynny'n creu ansicrwydd i gynlluniau ynni cymunedol, fel Ynni Ogwen yn fy etholaeth i. Felly, fedrwch chi, fel rhan o'ch ymrwymiad i daclo newid hinsawdd, roi sicrwydd i ni heddiw y byddwch chi yn dileu trethi ar gyfer y cynlluniau hydro cymundeol, a hynny yn barhaol?
Wel, gallaf roi sicrwydd i’r Aelod, a phawb arall ledled Cymru, na fu’n rhaid imi gael fy mherswadio gan Plaid Cymru i wneud hynny. Rydym yn darparu rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, fel y gwyddoch, ac mae’r cymorth ardrethi hwnnw hefyd ar gael i brosiectau ynni dŵr eraill sydd â gwerth ardrethol o lai na £50,000. Rwy'n ymwybodol iawn o Ynni Ogwen, sy'n gynllun ardderchog yn eich etholaeth, ac rwyf wedi ymweld ag ef. Fe fyddwch yn gwybod nad ydym yn gwybod eto beth fydd ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Nid ydym wedi cael unrhyw syniad gan Lywodraeth y DU, ond yn amlwg, mae'n faes lle roeddwn yn teimlo bod angen inni gael y cymorth hwnnw i gynlluniau ynni dŵr. Rwy'n awyddus iawn—. Fel rhan o'r argyfwng hinsawdd, yn amlwg, mae ynni adnewyddadwy yn rhan enfawr o’r gwaith o gyflawni ein targedau hinsawdd. Felly, byddaf yn parhau i sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn rhan fawr o'n gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy yma yng Nghymru.
Weinidog, fe fyddwch yn llwyr ymwybodol, oddi ar arfordir sir Benfro, fod potensial enfawr i gynhyrchu ynni’r tonnau ac ynni’r llanw, yn enwedig o ystyried y ffrydiau llanw ar Swnt Dewi a gerllaw. Nawr, mae strategaeth Llywodraeth Cymru, 'Cymru Carbon Isel', yn nodi bod Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r economi las, gan gynnwys ynni'r tonnau ac ynni'r llanw. Ac wrth gwrs, derbyniodd y Llywodraeth bwerau cydsynio ym mis Ebrill eleni ar gyfer prosiectau ar y tir ac ar y môr hyd at 350 MW. Fodd bynnag, mae'r strategaeth yn cynnwys polisïau generig, fel gweithredu polisi cydsynio, cynllunio a chaniatáu ynni, a datblygu llwybrau i'r farchnad ar gyfer technolegau adnewyddadwy, ond nid yw'n rhoi unrhyw wybodaeth fanwl ynglŷn â sut y bydd y Llywodraeth yn rhoi’r polisïau hyn ar waith a pha gymorth sydd ar gael. O dan yr amgylchiadau, a allwch amlinellu'r gefnogaeth benodol y gall Llywodraeth Cymru ei darparu i ddarpar gynhyrchwyr ynni a allai fod yn gweithredu oddi ar arfordir sir Benfro?
Fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym ddau o'r parthau mwyaf ar gyfer arddangos araeau ynni'r tonnau ac ynni'r llanw, ac mae un yn sir Benfro, fel y gwyddoch. Rydych yn llygad eich lle; rydym wedi cael pwerau cydsynio ychwanegol drwy Ddeddf Cymru. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r Prif Weinidog a minnau â Cyfoeth Naturiol Cymru i siarad am drwyddedu a rheoleiddio mewn perthynas ag ynni’r tonnau ac ynni’r llanw. Ac rwy'n awyddus iawn i wasanaeth ynni Cymru barhau i gefnogi sefydliadau sydd am gyflwyno mwy o lawer o'r math hwn o ynni adnewyddadwy. Ni fyddech yn disgwyl gweld sut y byddem yn cyrraedd y sefyllfa honno yn y cynllun cyflawni carbon isel. Un o'r pethau rydym yn eu gwneud yng ngoleuni'r datganiad argyfwng hinsawdd yw mynd yn ôl i sicrhau mai'r cynlluniau, y polisïau a'r cynigion a amlinellir yn y cynllun cyflawni carbon isel yw'r rhai cywir i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau newid hinsawdd.
Gwyddom fod pob afon yn llifo i lawr y rhiw ac yn llifo i'r môr dros wyneb y tir. A gwyddom hefyd y gellir trosi hyn yn drydan naill ai drwy adeiladu argaeau ar draws yr afon, ac yna rhyddhau'r dŵr, neu drwy ddefnyddio cerrynt yr afon i gynhyrchu trydan. Gwyddom fod hyn yn digwydd ym mhob cwr o'r byd—UDA, Tsieina, Rwsia, ar draws De America. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i wneud hyn ar draws de Cymru?
Gall cynlluniau ynni dŵr fod yn gymhleth iawn, ac mae angen eu cynllunio a'u rheoli'n ofalus iawn, er mwyn osgoi effeithiau annerbyniol ar gymunedau ac amgylchedd afonydd. Ceir goblygiadau i'n hafonydd, ac yn wir, ar hyn o bryd, credaf y byddwch yn gweld mwy o rwystrau’n cael eu tynnu allan o afonydd nag o argaeau’n cael eu gosod. Unwaith eto, soniaf am wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy'n eiddo i Gymru. Mae llawer o systemau argaeau mwyaf Cymru yn defnyddio ynni dŵr i harneisio pŵer dŵr. Mae gennym Lyn Brianne, er enghraifft, a chwm Elan. Yn anffodus, oherwydd daearyddiaeth Cymru, rwy'n credu mai ychydig iawn o gyfleoedd mawr sydd ar ôl bellach i ynni dŵr wneud cyfraniad mawr i'n cyflenwad ynni, ond rwy'n sicr yn awyddus iawn i glywed am unrhyw brosiectau penodol.
Weinidog, gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi rhoi’r gorau i ystyried morlyn llanw Abertawe, pa ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi'i rhoi i edrych ar gynlluniau profi cysyniad eraill ar raddfa lai? Gallai morlyn llanw fod o gymorth gyda’r gwaith o ddatgarboneiddio gwaith dur Port Talbot. A yw eich Llywodraeth wedi trafod y posibilrwydd hwn gyda Tata?
Byddaf yn ymweld â Tata yn ddiweddarach y mis hwn, ac os ydynt yn awyddus i drafod hynny gyda mi, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Gwn fod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda grŵp dinas-ranbarth bae Abertawe hefyd, mewn perthynas ag ynys y ddraig—rhai cyfleoedd a gyflwynwyd ganddynt yno, y mae Llywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn eu hystyried ar hyn o bryd.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gymuned ffermio yng nghanolbarth Cymru? OAQ54260
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gymuned ffermio yng nghanolbarth Cymru, fel ym mhob rhan o Gymru, i fod yn fwy proffidiol, cynaliadwy, gwydn, ac wedi’i rheoli’n fwy proffesiynol. Mae dros 5,000 o unigolion yn y rhanbarth wedi ymuno â Cyswllt Ffermio, sy'n elfen hanfodol o'n cefnogaeth i fusnesau ffermio, bwyd a choedwigaeth.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm â swyddog gweithredol cangen sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru, ac ar ran aelodau sir Drefaldwyn, codwyd nifer o faterion, a oedd yn cynnwys mwy a mwy o achosion o ddwyn offer a chyfarpar fferm, yn ogystal â chyflwyno parthau perygl nitradau, a’u hymgyrch i leihau’r nifer o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. O ran parthau perygl nitradau, eu pryder, wrth gwrs, yw faint o fiwrocratiaeth a ddaw ynghyd â hynny, a buaswn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu eich sylwadau ynghylch y pryder hwnnw. Buaswn hefyd yn ddiolchgar pe gallwn ddysgu hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chomisiynydd heddlu a throseddu canolbarth a gorllewin Cymru i fynd i'r afael ag achosion o ddwyn cyfarpar, peiriannau ac offer o ffermydd, sydd, yn anffodus, wedi bod yn ffactor cynyddol dros y misoedd diwethaf.
Diolch. Rydych yn codi tri phwynt, felly gadewch i ni ddechrau gyda llygredd amaethyddol. Rwyf wedi cyhoeddi fy mod yn bwriadu cyflwyno rheoliadau. Nid oeddwn yn awyddus iawn i wneud hynny, ond ni chredaf fod y mentrau gwirfoddol wedi gweithio yn y ffordd y byddem wedi hoffi, ac rydym wedi gweld gormod o lygryddion amaethyddol—cawsom un arall ddiwedd yr wythnos diwethaf. Felly, byddaf yn cyflwyno'r rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Byddaf yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu'r rheoliadau, felly rwy'n siŵr y byddwn yn sicrhau cyn lleied o fiwrocratiaeth â phosibl, a byddaf yn sicr yn gwrando ar bryderon ynglŷn â sut y gallwn symleiddio'r rheoliadau.
O ran troseddau cefn gwlad, rwyf wedi ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yng Nghymru. Fe fyddwch yn ymwybodol fod tîm troseddau cefn gwlad wedi’i sefydlu ers tro yng ngogledd Cymru; rwyf bellach yn falch iawn fod un yn Nyfed-Powys hefyd. Credaf hefyd fod grŵp troseddau bywyd gwyllt a materion gwledig Cymru, sydd wedi’i sefydlu, yn gwneud gwaith gwerthfawr iawn, ac rwy'n ei werthfawrogi'n fawr, ac maent yn ymroddedig iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r heddluoedd. Unwaith eto, buaswn yn annog ffermwyr a busnesau gwledig eraill i sicrhau bod eu hoffer o dan glo. Rwyf wedi bod ar lawer o ffermydd fy hun lle mae'r ffermwyr wedi dweud wrthyf, er embaras mawr iddynt, na ddylai'r allweddi fod yn y beic cwad, er enghraifft. A chredaf, unwaith eto, eu bod—[Torri ar draws.] Wel, ni chredaf eu bod yn gwneud hynny bellach; credaf eu bod wedi sylweddoli bod hynny'n rhywbeth y mae angen iddynt ei wneud, fel y mae pob un ohonom yn ei wneud, mewn perthynas â’n heiddo ein hunain.
Weinidog, mae rhwydwaith lles amaethyddol Powys wedi cysylltu â mi, a chredaf eu bod wedi ysgrifennu at yr holl Aelodau yma sy'n cynrychioli Powys. Maent yn bryderus iawn ynglŷn â lles emosiynol a meddyliol pobl sy'n gweithio yn y sector amaethyddol ar adeg o ansicrwydd sylweddol, gyda phryderon gwirioneddol am farchnadoedd yn y dyfodol. A gaf fi ofyn heddiw ichi drafod gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol beth arall y gallai eich Llywodraeth ei wneud i gefnogi ffermwyr a theuluoedd ffermio drwy'r cyfnod anodd hwn? Yn aml, nid yw'n rhan o'r gymuned sy’n ei chael yn hawdd iawn gofyn am help neu gyfaddef eu bod o dan straen, ond wrth gwrs, mae rhai mudiadau gwirfoddol da iawn yn gweithio yn y sector. Felly, a gaf fi ofyn i chi siarad â'ch cyd-Weinidog, a sicrhau bod rhai o'r sefydliadau lleol effeithiol iawn hynny’n parhau i gael mynediad at gyllid i ddarparu'r math o gymorth y gallai fod ei angen ar deuluoedd ffermio drwy'r cyfnod anodd hwn?
Rydych yn codi pwynt pwysig iawn a rhywbeth sydd wedi bod yn achos cryn bryder i mi, ers imi gael y portffolio mae'n debyg, ac wrth i ni weld ffiasgo Brexit yn datblygu, mae'n rhywbeth sydd wedi peri hyd yn oed mwy o bryder i mi. Rwyf eisoes wedi cael y trafodaethau hynny, nid yn unig gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ond gyda chyd-Weinidogion eraill yn y Llywodraeth.
Y llynedd, rhoddais £500,000 i dair elusen wledig yn dilyn y sychder. Bu llawer o bryderon mewn perthynas ag iechyd meddwl ffermwyr yn dilyn y sychder. Rwyf hefyd wedi rhoi rhywfaint o arian ychwanegol i Sefydliad DPJ, y gallech fod yn ymwybodol ohono. Credaf fod gan Sefydliad DPJ gynllun cwnsela anhygoel, lle maent yn mynd i gartrefi ffermwyr, gan fod ffermwyr yn aml iawn wedi'u hynysu, ac maent yn gweithio ar sail un i un yng nghartref y ffermwr ei hun. Rydym yn rhoi hynny ar waith fesul cam. Mae'r arian rydym wedi'i roi fel Llywodraeth i Sefydliad DPJ yn golygu eu bod bellach yn cyflwyno'r cynllun hwnnw yng ngogledd Cymru.
Rwyf hefyd wedi cyflwyno cais am gyllid mewn perthynas â darpariaeth a chwnsela iechyd meddwl yn nghynnig pontio diweddaraf yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rwy'n aros i glywed a fu hynny'n llwyddiannus.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'n amlwg y byddwch yn ymwybodol, fel y mae'r holl Aelodau a'r cyhoedd yn ymwybodol, o'r tarfu yng nghanol Caerdydd heddiw a ddoe ac echdoe. Un o'r cyhuddiadau y mae'r protestwyr wedi eu gwneud yn erbyn llywodraethau o bob lliw, ond yn arbennig yma, yw nad yw'r llywodraethau'n gweithredu digon ar yr agenda newid hinsawdd, ac yn amlwg, y preswylwyr sy'n dioddef yn sgil y tarfu. Beth fyddai eich neges i drigolion Caerdydd yr effeithiwyd arnynt, gan fod y protestwyr yn gwneud y cyhuddiad hwnnw yn erbyn eich Llywodraeth chi?
Nid yw'r protestwyr wedi ceisio ymgysylltu'n uniongyrchol â mi, ond mae swyddogion wedi cyfarfod â rhai aelodau cyn heddiw, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r brotest sy'n mynd rhagddi.
Credaf fod Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, wedi tynnu sylw at y problemau: mae a wnelo hyn â chydbwysedd—mae a wnelo â chydbwysedd rhwng amddiffyn yr hawl i brotestio'n heddychlon, ond wrth gwrs, ni ellir caniatáu i bethau fynd yn rhy bell o ran tarfu ar fywydau pobl gyffredin. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod hynny.
Fel Llywodraeth, credaf fod datgan argyfwng hinsawdd ynddo'i hun a gweld sut y mae hynny wedi ysgogi awdurdodau lleol, cynghorau tref, unigolion a busnesau i weithredu yn dangos ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn, a faint o waith rydym yn ei wneud—. Rydym yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn. Buaswn yn annog y protestwyr, er enghraifft, i ddarllen y cynllun cyflawni carbon isel, sy'n nodi'r 100 o bolisïau a chynigion o ran yr hyn y bwriadwn ei wneud dros y blynyddoedd nesaf.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Credaf y byddai cryn dipyn o drigolion, os nad llawer o breswylwyr a busnesau, yn synnu nad yw'r protestwyr wedi ymgysylltu â chi o gwbl, o gofio mai eu dymuniad penodol, yn amlwg, yw bod y Llywodraeth yn cyflawni mwy yn y maes penodol hwn, ac felly, yn hytrach na phrotestio a blocio ffyrdd, efallai fod ymgysylltu yn ffordd lawer gwell o brotestio yn yr achos hwn.
Ond mae'n gyhuddiad teg i'w gyfeirio at y Llywodraeth. Pan oedd y Prif Weinidog presennol yn ymgyrchu, dywedodd y byddai'n cyflwyno Deddf aer glân, ac mewn ymateb i gwestiynau gan arweinydd yr wrthblaid yn ôl ym mis Mai, dywedodd ei fod wedi cael trafodaeth gyda chi ynglŷn â hyn a bod Llywodraeth Cymru yn llunio cynigion yn y maes penodol hwn. Yn anffodus, ddoe, yn y datganiad deddfwriaethol, ni welsom unrhyw gyhoeddiad o gwbl yn y maes penodol hwn. Mae 2,000 o bobl y flwyddyn yn marw cyn pryd yng Nghymru—pump y dydd, Weinidog. Mae angen gweithredu yn y maes hwn, felly pan fydd protestwyr yn dweud nad ydynt yn gweld gweithredu, onid ydych yn gweld, yn y maes penodol hwn, fod diffyg gweithredu a diffyg brys ar ran Lywodraeth Cymru?
Nac ydw. Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr pan wneuthum ddatganiad ar aer glân bythefnos yn ôl, rwy'n credu—
Fe ymatebais.
Os ymateboch iddo, fe fyddwch yn gwybod beth a ddywedais, a byddwch yn gwybod fy mod wedi dweud y byddwn yn ymgynghori yn yr hydref. Yn dibynnu ar yr ymatebion, bydd hynny wedyn yn llywio cynllun a Bil posibl.
Wel, gyda phob parch, ni soniodd y Prif Weinidog am hyn o gwbl yn ei ddatganiad deddfwriaethol ddoe. O gofio mai dim ond oddeutu 18 mis o dymor y Cynulliad hwn sydd gennym ar ôl, mae'n gwbl glir na fydd y Llywodraeth yn deddfu yn y maes penodol hwn. Ac fel rwyf wedi'i ddweud, o gofio bod hwn yn fater brys—2,000 o farwolaethau cyn pryd; pump y dydd—yn sicr, mae'n rhaid i hynny fod yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth er mwyn gwneud cynnydd yn y maes hwn.
Ond y pwynt arall y mae angen sôn amdano yma, yn amlwg, yw bod yr holl gyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru y tymor hwn, yn benodol ynghylch yr argyfwng hinsawdd a'r ffordd y byddwn yn cyrraedd dim allyriadau carbon erbyn 2050—a gefnogir gan y meinciau hyn—yn galw am ddeialog gyda busnesau a mentrau ledled Cymru. Os ydych yn ystyried gwaith dur Port Talbot, er enghraifft, daw 15 y cant o allyriadau carbon Cymru o waith dur Port Talbot. Mae'n hanfodol fod busnesau'n hyderus y gellir cwblhau'r daith y bydd yn rhaid iddynt fynd arni ac y bydd y Llywodraeth yn eu cefnogi. A wnewch chi ymrwymo i lansio uwchgynhadledd economaidd gyda Ken Skates, Gweinidog yr economi, i ymgysylltu â busnesau, eu gwahodd o gwmpas y bwrdd, fel y gellir cyflwyno cynllun gweithredu clir wedi'i gostio ac y mae pawb yn ei ddeall, yn hytrach na'r rhethreg a glywn gan y protestwyr ar hyn o bryd, sy'n dweud nad oes digon yn digwydd yn y maes hwn ac mae perygl y bydd y frwydr dros galonnau a meddyliau yn cael ei cholli ar yr agenda bwysig hon?
Felly, rwyf eisoes wedi mynychu'r cyngor economaidd a gadeirir gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates, ar ôl cael gwahoddiad gan fusnesau i drafod sut y gallant ein helpu i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gennym, yn ogystal â sut y gallwn gyrraedd sero net erbyn 2050, sef ein huchelgais, gan fynd ymhellach na'r hyn y cawsom ein cynghori i wneud gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Felly, os yw'n rhywbeth yr hoffai busnesau i ni ei wneud, yna rwy'n siŵr y byddai Ken Skates a minnau'n fwy na pharod i'w wneud, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn o gael fy ngwahodd i'r cyngor economaidd ar gais busnesau, gan eu bod yn gweld, os ydym am gyflawni'r gostyngiadau sero net hynny, eu bod yn rhan fawr o'r gwaith i'n helpu i wneud hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol, wrth gwrs, bod sawl ffactor yn cael effaith negyddol ar hyn o bryd ar y sector biff fel y mae hi, gyda chonsérn mawr am brisiau, wrth gwrs, ac effaith y stocpeilio ddigwyddodd, wrth gwrs, gan ddisgwyl bod Brecsit yn digwydd yn gynharach, ond bod hynny nawr yn dod i’r farchnad ac yn effeithio ar hyfywedd y cynnyrch sydd yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru.
Nawr, mae galwadau wedi bod, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru, Hybu Cig Cymru, proseswyr, manwerthwyr, ddod at ei gilydd er mwyn gweithredu gyda'r diwydiant i fynd i’r afael â rhai o’r problemau yma. Mae ffermwyr biff yn Iwerddon, wrth gwrs, yn mynd i weld €100 miliwn yn cael ei gyfeirio tuag atyn nhw drwy’r Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth yr Iwerddon. Felly, gaf i ofyn beth ŷch chi fel Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i ymateb i’r sefyllfa mae’r sector yn ei hwynebu?
Wel, nid wyf yn ymwybodol o gais i bob un ohonom ddod at ein gilydd, ond fe fyddwch yn ymwybodol iawn, yr wythnos nesaf, y byddwn yn Sioe Frenhinol Cymru, lle gall yr holl bobl rydych newydd eu crybwyll ddod at ei gilydd i drafod hyn. Rwyf wedi gweld y datganiad i'r wasg gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru. Rwyf hefyd wedi cael trafodaeth fer iawn gydag NFU Cymru ynglŷn â'r mater hwn. Mae ffermio'n ddiwydiant lle mae newidiadau yn y farchnad yn gyffredin, ond credaf fod y sector cig eidion wedi dioddef cyfnod cythryblus iawn dros y misoedd diwethaf, ac yn amlwg, mae prisiau is yn peri pryder. Felly, rwy'n fwy na pharod i drafod hyn gydag unrhyw un sydd â diddordeb. Fel y dywedaf, bydd pob un ohonom yn yr un lle yr wythnos nesaf, felly efallai y bydd hynny'n gyfle i wneud hynny.
Fe sonioch chi am Iwerddon, ac yn amlwg, Gweriniaeth Iwerddon, mae'r prisiau'n isel mewn cyd-destun hanesyddol ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod yr ansicrwydd ynglŷn â'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd yn niweidio cynhyrchwyr cig eidion Iwerddon hefyd, a gwn fod eu prisiau wedi bod yn isel yn gyson, ond credaf fod paredd yno ar hyn o bryd nad ydym wedi'i weld o'r blaen.
Dwi'n meddwl y byddai pobl wedi disgwyl ichi fod bach yn fwy rhagweithiol, yn hytrach na dweud eich bod chi ar gael i gael trafodaethau os oes pobl yn teimlo bod angen y trafodaethau hynny. Yn amlwg, yn yr Iwerddon, maen nhw wedi mynd allan o'u ffordd i ffeindio'r arian yma. Felly, dwi'n meddwl bod hynna efallai yn awgrymu beth yw agwedd y Llywodraeth yma i'r sefyllfa ar hyn o bryd.
Un maes arall, wrth gwrs, lle mae pobl yn teimlo y dylech chi fod yn fwy rhagweithiol arno fe yw mewn mynd i'r afael â TB mewn gwartheg. Rŷm ni wedi gweld yr ystadegau, wrth gwrs; rŷm ni'n gwybod y buodd yna gynnydd y flwyddyn ddiwethaf—12,000 o wartheg yn cael eu difa yng Nghymru—12,000 o wartheg yn cael eu difa yng Nghymru y llynedd. Nawr, ystadegyn yw hwnna, wrth gwrs, ond tu ôl i'r ystadegyn yna, rŷm ni'n gwybod bod yna effaith economaidd ar y busnesau hynny ac ar yr economi wledig ehangach, wrth gwrs, sy'n dod yn sgil mynd lawr â TB. Mae yna effaith gymdeithasol, wrth inni weld y clefyd yn lledu ymhellach nag y byddai unrhyw un yn dymuno iddo fo'i wneud. A hefyd, wrth gwrs, mae yna effaith bersonol, a hynny'n aml iawn yn amlygu ei hunan ar ffurf problemau iechyd meddwl. Nawr, mi fydd hyn, eto, yn destun trafod, dwi'n gwybod, yn y sioe'r wythnos nesaf. Ond un elfen sydd yn pigo ar nifer o bobl yn y sector yw'r teimlad nad yw'r Llywodraeth yn defnyddio pob arf posib i fynd i'r afael â'r clefyd yma. Onid yw'r amser wedi dod, nawr, Gweinidog, yn wyneb y sefyllfa fel y mae hi, i'r Llywodraeth yma gamu lan a bod yn barod i gyflwyno elfen gryfach o ddifa moch daear fel rhan o'ch strategaeth chi, oherwydd—? Ydych chi'n derbyn bod yna fwy y gallech chi fod yn ei wneud? Achos mae'r sector yn sicr yn teimlo hynny ac maen nhw hefyd yn teimlo bod yr amser wedi dod i chi wneud hynny.
Os caf ddychwelyd at eich cwestiwn cyntaf, nid oes gennyf £100 miliwn y gallaf ei roi i'r sector amaethyddol mewn perthynas â phrisiau cig eidion. Felly, os mai am hynny y mae pobl yn chwilio, yna yn anffodus, nid oes gennyf gymaint â hynny o arian, ac ni chredaf y byddai unrhyw un yn y cyfnod hwn o gyni yn disgwyl i mi wneud hynny. Yr hyn a wneuthum y llynedd oedd rhoi £2 filiwn i'r sector cig coch fel y gallent wneud rhywfaint o feincnodi. Yn anffodus, ni fanteisiwyd ar yr holl arian hwnnw gan fusnesau cig coch, felly credaf fod hynny hefyd yn dangos rhywbeth y dylem ei ystyried.
O ran eich cwestiwn ynghylch TB buchol, ac rwy'n derbyn yn llwyr yr ochr bersonol yn hyn o beth a'r trallod y mae'n ei achosi, fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith a wnaed gennym ar ddiweddaru'r rhaglen ddileu TB, ac rydym yn gweithio ar hynny. A'r ateb byr i ran olaf eich cwestiwn—'A ydym yn credu y dylem gyflwyno rhaglen i ddifa moch daear?'—yr ateb yw 'na'.
Mae'n rhaid i mi ddweud, mewn ymateb i'ch sylw cyntaf ynglŷn â'r nifer sydd wedi manteisio ar y meincnodi, y cwestiwn yw—wel, onid ydych yn beio'r ffermwyr unwaith eto? A dyna ddiwylliant y Llywodraeth hon: beio'r ffermwyr, pwyntio bys at y ffermwyr. Iawn, nid oedd y niferoedd yn uchel, ond onid yw hynny'n gwneud i chi feddwl pam? Efallai na chafodd ei gyflwyno'n iawn, efallai nad dyna oedd y ffordd fwyaf priodol o'i wneud. Ond safbwynt diofyn y Llywodraeth hon yw beio'r ffermwyr, ac rwyf wir—[Torri ar draws.] Rwyf wir yn teimlo bod hynny'n drueni.
Rydym wedi gweld hyn mewn perthynas â'r materion TB hefyd. Clywaf Aelodau—wel, nid wyf yn siŵr beth y maent yn ei ddweud, ond maent yn gwneud synau. Gyda'r materion TB yn y datganiad diwethaf a wnaethoch, rwy'n credu, fe ddywedoch chi wrth ffermwyr fod yn rhaid iddynt weithio'n galetach, ceisio'n galetach i atal hyn rhag digwydd. Serch hynny, maent yn gweld y Llywodraeth hon yn peidio â defnyddio'r holl adnoddau y gallai eu defnyddio, sy'n cael eu defnyddio mewn gwledydd eraill. Felly, yn sicr dylech gyfaddef bod hynny'n ychwanegu at y teimlad o rwystredigaeth, at y teimlad o ddigalondid, sy'n arwain yn y pen draw at anobaith a phroblemau iechyd meddwl, ar y ffermydd lle maent yn dod ar draws neu'n cael eu heffeithio gan TB buchol.
Nawr, ychwanegwch Brexit at hyn oll, wrth gwrs, ac mae darlun tywyll yn mynd yn dywyllach byth. Os yw'r posibilrwydd o 'ddim bargen' yn fwyfwy tebygol ar hyn o bryd, rydych eisoes wedi ein rhybuddio, ac rwy'n dyfynnu:
'Byddai "dim bargen" yn gwbl drychinebus i ffermio, i deuluoedd sy'n ffermio ac i'n cymunedau yng Nghymru',
ac ni welaf unrhyw beth yno rwy'n anghytuno ag ef. Mae'n rhaid i chi, fel Llywodraeth Cymru, ymrwymo i wneud popeth yn eich gallu i liniaru effeithiau Brexit, ond yn enwedig Brexit heb gytundeb, felly a wnewch chi ymrwymo heddiw, os ceir Brexit heb gytundeb, i ddargyfeirio'r holl adnoddau staffio ac ariannu sydd gennych fel adran i geisio lliniaru effeithiau'r Brexit 'dim bargen' hwnnw? Byddai hynny'n golygu, wrth gwrs, oedi'r ymgynghoriadau, fel ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a’n Tir', fel bod y Llywodraeth hon yn gwneud pob ymdrech sy'n bosibl i ddiogelu'r sector a'r cymunedau gwledig sydd mor annwyl i bob un ohonom.
Gadewch i ni ddechrau gyda'r dechrau. Yn sicr nid wyf yn beio'r ffermwyr. Ni cheir diwylliant o fwrw bai gennyf i. Yr hyn rwyf wedi'i ddweud erioed, a'r hyn y maent yn cytuno ag ef, yw ein bod yn gweithio mewn partneriaeth. Felly, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â llawer o'r problemau y mae'r sector amaethyddol yn eu hwynebu, ac mae TB yn un ohonynt lle credaf fod yn rhaid i ni weithio mewn partneriaeth. Nid wyf yn eu beio am brisiau cig eidion. Nid wyf yn eu beio am ofyn i bob adnodd gael ei ddefnyddio. Yr hyn rwy'n ei ddiystyru yw difa moch daear, gan nad yw'r wyddoniaeth yno yn fy marn i. Nid oes unrhyw beth rwyf wedi'i weld yn y tair blynedd ers i mi fod yn y swydd hon yn gwneud i mi feddwl y byddai difa moch daear yn y ffordd a wnânt yn Lloegr o fudd yma yng Nghymru.
Mewn perthynas â Brexit heb gytundeb, mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn gweithio i liniaru effaith Brexit heb gytundeb ers misoedd. Roeddem yn barod pan oeddem yn meddwl y byddai hynny'n digwydd ddiwedd mis Mawrth. Yna, fe'i gohiriwyd tan 12 Ebrill, ac mae bellach wedi'i ohirio tan 31 Hydref. Rydym wedi rhoi amser i oedi a meddwl ac adolygu a mireinio'r holl bolisïau a chynigion a phrosiectau a oedd gennym yn barod ar gyfer diwedd mis Mawrth. Fodd bynnag, gallai pethau fod yn wahanol erbyn diwedd mis Hydref. Felly, os meddyliwch am y sector defaid er enghraifft, yn amlwg, pe baem wedi gadael ar ddiwedd mis Mawrth, byddai'r effaith y byddai hynny wedi'i chael ar y sector defaid wedi bod yn ddifrifol; erbyn diwedd mis Hydref, mae'n mynd i raddfa arall, ac rwy'n siŵr y byddwch yn deall hynny.
A fyddwn yn oedi'r ymgynghoriad? Na, ni fyddwn yn oedi'r ymgynghoriad. Disgwylir i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 30 Hydref. Mae'r gwaith sylweddol a wnaethpwyd i gynnal yr ymgynghoriad hwnnw—dogfen ymgynghori fanwl iawn ag iddi 400 tudalen—mae hwnnw bellach ar y gweill, ac erbyn hyn mae oddeutu 14 neu 15 wythnos i bobl ymateb iddo. Yr wythnos nesaf, yn sicr, yn Sioe Frenhinol Cymru, ac yn yr holl sioeau amaethyddol, rwy'n siŵr y bydd llawer o drafodaethau. Credaf y byddaf yn mynychu tri digwyddiad o leiaf yr wythnos nesaf mewn perthynas â'r ymgynghoriad. Ond na, ni fyddwn yn tynnu pobl oddi arno, oherwydd, os meddyliwch am y peth, mae llawer o waith wedi'i wneud eisoes.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pryfed peillio? OAQ54267
Diolch. Nod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer pryfed peillio, a ddiwygiwyd yn 2018, yw lleihau a gwrthdroi'r dirywiad mewn pryfed peillio. Datblygwyd y cynllun gyda rhanddeiliaid ac fe'i cydnabuwyd fel enghraifft o gydgynllunio a chydgynhyrchu yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn rhannu'r cyfrifoldeb dros ei gyflawni.
Croesawaf yr holl fentrau hynny gan Lywodraeth Cymru, a gwn y byddant yn helpu pryfed peillio, ond mae pethau eraill y gellir eu gwneud. Nid oes ond yn rhaid i ni agor ein llygaid ac edrych o gwmpas y dinasoedd, y trefi a'r pentrefi, a gallwn weld digonedd o fannau taclus, gwyrdd, anffrwythlon ger ffyrdd a pharciau ac ar dir o amgylch adeiladau cyhoeddus, fel ysbytai, ysgolion a swyddfeydd. Rwy'n siŵr, pe bai'r ardaloedd hynny'n cael eu rheoli'n dda, y byddent yn darparu cynefinoedd sylweddol a allai fod yn helpu ein pryfed peillio i ffynnu. Byddai torri gwair yn llai aml yn helpu'n sylweddol ac yn caniatáu i flodau gwyllt dyfu. Mae'n rhad, mae'n effeithiol, ond byddai hefyd yn arbed arian i'r awdurdodau lleol. Yn yr Iseldiroedd, maent wedi mynd gam ymhellach ac wedi plannu blodau ar doeau arosfannau bysiau, er enghraifft, felly gallem ystyried lleoedd ar doeau adeiladau eraill. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar hyn o bryd i annog cyrff y sector cyhoeddus i fabwysiadu polisïau sy'n gyfeillgar i bryfed peillio wrth reoli'r tir o amgylch eu hadeiladau a'r tir y maent yn gyfrifol amdano?
Diolch. Yn fy ateb agoriadol i Joyce Watson, soniais am gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer pryfed peillio, ac mae gennym dasglu sy'n gweithio i roi'r cynllun gweithredu ar waith. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o'n cynllun Caru Gwenyn, sy'n annog cymunedau i gymryd camau cadarnhaol ar gyfer pryfed peillio. Credaf fod y pwynt a godwch ynglŷn â pheidio â thorri gwair ar leiniau—rydym hefyd yn gweld llawer o gylchfannau dolydd gwyllt hefyd. Yn ddiddorol, darllenais am y safleoedd bysiau gyda'r gerddi ar ben yr arosfannau dros y penwythnos, a gofynnais i swyddogion edrych ar hynny ddydd Llun. Deallaf hefyd fod rhai awdurdodau lleol bellach yn defnyddio'r cyllid y byddent wedi'i ddefnyddio i dorri lleiniau i godi sbwriel, sy'n system eithaf cylchol yn fy marn i, a gallai fod yn fuddiol iawn, ond credaf fod llawer iawn y gall pob un ohonom ei wneud. Gall pob un ohonom fonitro pryfed peillio i sicrhau ein bod yn cyfrannu hefyd.
Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Comisiwn y Cynulliad ar y camau y mae wedi'u cymryd? Euthum i lawr uchaf adeilad y Pierhead ychydig wythnosau yn ôl, gyda'n staff ardderchog yno, gyda rhai ohonynt bellach yn wenynwyr arbenigol, ac yn wir, credaf fod rhai o staff cymorth Aelodau'r Cynulliad hefyd wedi ymuno â'r rhaglen. Gwelais ein dau gwch gwenyn, ac roeddent yn weithgar iawn, a dywedir wrthyf fod gennym rai o'r gwenyn gorau yn y bae—er eu bod yn teithio o gwmpas am filltiroedd lawer, yn ôl y sôn, yn eu gwaith. Dyna un enghraifft yn unig o'r hyn y gallem fod yn ei wneud.
Ar ymweliad preifat diweddar â Chicago, gwelais yr hyn y maent yn ei wneud gyda thoeau gwyrdd, ac maent yn edrych yn wych—amwynder gwych. A dyna faes arall. Ac a gaf fi ddweud, os oes unrhyw un wedi gweld fy nesg, maent yn gwybod pa mor ymrwymedig wyf i i ymagwedd braidd yn anniben tuag at ein bywydau bob dydd? Gallem efelychu hyn, yn wir, ar y lleiniau glas ac ardaloedd agored eraill sydd gennym o'n cwmpas, er mawr fudd i fywyd gwyllt.
Diolch yn fawr iawn. Ie, weithiau nid taclusrwydd sydd orau. Croesawaf yn fawr yr hyn a ddywedwch am Gomisiwn y Cynulliad. Mae'n dda iawn clywed bod yno gychod gwenyn—rwyf innau, hefyd, am fynd i fyny yno. Mae gennym bedair o swyddfeydd Llywodraeth Cymru bellach o gwmpas Cymru, gyda chwch gwenyn ynddynt—neu'r tu allan iddynt. Credaf ei bod yn wych fod staff wedi ymgymryd â hyn mewn rôl wirfoddol. Gwn, yn sicr, fod y—. Rwy'n ceisio meddwl. Credaf mai i swyddfeydd Merthyr Tudful yr euthum, ac roedd swyddog addysg yno sydd bellach wedi dod yn arbenigwr ar ofalu am gychod gwenyn gan ei bod wedi gwirfoddoli i wneud hynny. Mae gennyf gryn ddiddordeb mewn toeau gwyrdd, fel y dywedais. Unwaith eto, mae gennym brosiect peilot, Natur Wyllt, sy'n cael ei ariannu gan ein cynllun LEADER Cymunedau Gwledig o'r rhaglen datblygu gwledig. Mae'n datblygu dull ar sail ardal—felly, gall fod yn bentref neu'n dref sy'n dod yn ardal sy'n gyfeillgar i bryfed peillio. Gwn y bydd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar Drefynwy yn etholaeth Nick Ramsay.
Yn ddiweddar, roeddwn mewn agoriad gardd gymunedol ar Wharf Road yng Nghasnewydd, Weinidog, ac roedd yn enghraifft wych, yn fy marn i, o sut rydych yn troi tir diffaith yn ardal gyda blodau a llwyni a phlanhigion yn gyffredinol sy'n gyfraniad gwerthfawr. Ond yr hyn roeddwn am ofyn amdano mewn gwirionedd oedd: a fyddech yn cytuno â mi, lle mae gennym ardaloedd o dir sy'n bwysig iawn i fioamrywiaeth ac sy'n cael eu hamddiffyn—ac rwy'n meddwl am wastadeddau Gwent, sy'n cynnwys nifer o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig—fod yn rhaid inni edrych ar sut y gallwn amddiffyn yr ardaloedd hynny ymhellach? Mae gwastadeddau Gwent yn gartref i'r gardwenynen fain, sydd mewn perygl, yn anffodus, ond maent yn gartref i lawer o bryfed peillio eraill a llawer o fywyd gwyllt a phlanhigion a blodau gwerthfawr ac ecosystemau eraill. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i geisio darparu amddiffyniad pellach ac efallai ystyried gwneud gwastadeddau Gwent yn ardal o harddwch naturiol eithriadol?
Rwy'n ymwybodol fod cais wedi'i wneud i ddynodi a diogelu gwastadeddau Gwent ar sail fwy ffurfiol fel ardal o harddwch naturiol eithriadol, ac yn amlwg, mae hynny'n cael ei ystyried. Ond credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am dir diffaith. Mae'n debyg fod y pwynt roeddwn yn ceisio'i wneud am bob un ohonom yn monitro pryfed peillio a gweld beth y gallwn ei wneud yn yr ardaloedd hynny yn rhywbeth y credaf sy'n—. Mae angen i ni sicrhau—. Ein cyfrifoldeb ni yw pryfed peillio. Mae angen i ni sicrhau bod pob un ohonom yn mynd gam ymhellach i sicrhau eu bod yn gynaliadwy.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd y system taliadau fferm newydd arfaethedig yn ei chael ar yr economi wledig? OAQ54285
Mae 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' wedi'i ategu gan 400 tudalen o asesiadau gwyddonol manwl, a gynhyrchwyd ar y cyd â phrifysgolion ledled y DU. Fodd bynnag, hyd nes y cawn sicrwydd ynghylch cyllidebau gan Lywodraeth y DU, ni allwn gynhyrchu asesiad effaith. Ni fydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno hyd nes y bydd asesiad effaith wedi'i gwblhau.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi gorfodi'r Llywodraeth i gyfaddef y gallai'r system newydd arfaethedig greu loteri cod post o ran cyllid i ffermwyr. Efallai y bydd rhai ffermwyr yn ei chael hi'n anodd nodi digon o weithredoedd amgylcheddol i gyfiawnhau taliadau digonol, tra bydd gan eraill ddigonedd o gyfleoedd gwyrdd. Mae gan un o fy etholwyr fferm sydd wedi bod yn cyflawni gweithredoedd amgylcheddol cadarnhaol ers blynyddoedd, ond efallai na fydd rhai ohonynt yn gallu parhau ar ôl i chi adeiladu ffordd liniaru'r llwybr coch drwy ei dir. Pa iawndal neu addasiadau y byddwch yn eu rhoi ar waith ar gyfer y ffermwyr hynny na all eu tir gyflawni'r targedau amgylcheddol a osodir gennych, neu sy'n ei chael yn anos cyflawni'r canlyniadau rydych yn dymuno'u cael gan eich bod wedi prynu rhannau o'u fferm yn orfodol ac wedi adeiladu arnynt, gan gynyddu llygryddion yn sylweddol ac achosi difrod amgylcheddol i weddill eu tir? Ac os ydych yn mynd i wneud incwm ffermwr yn ddibynnol ar eu gweithredoedd amgylcheddol, oni ddylech fod yn gweithredu o dan yr un rheolau, a pheidio â dinistrio rhannau mawr o'n hamgylchedd? Neu a yw hon yn enghraifft arall o, 'Gwnewch fel rydym ni'n ei ddweud, nid fel rydym ni'n ei wneud'?
Nid yw Undeb Amaethwyr Cymru wedi fy ngorfodi i ddweud unrhyw beth o'r fath, ac nid oes gennyf unrhyw syniad o ble y cawsoch y wybodaeth honno. Fe fyddwch yn ymwybodol fod ein hymgynghoriad bellach yn edrych ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy a chanlyniadau amgylcheddol. Nid wyf wedi ymweld â fferm yng Nghymru—ac rwyf wedi ymweld â llawer iawn o ffermydd yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf—lle na ellid cynhyrchu canlyniadau amgylcheddol ar y fferm honno. Nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw ffermwr sydd wedi dweud wrthyf, 'Ni allaf gynhyrchu unrhyw ganlyniadau amgylcheddol ar fy nhir'. Credaf fod sail ein hymgynghoriad yn dangos yr hyn y mae ffermwyr yn ei wneud eisoes, nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdano, ac fe ddylid eu gwobrwyo. Nid oes marchnad ar gyfer canlyniadau amgylcheddol, ac mae'n gwbl deg, os yw ffermwyr yn darparu ansawdd dŵr ac ansawdd aer rhagorol, ac os ydynt yn storio carbon, eu bod yn cael eu gwobrwyo.
Fe fyddwch yn maddau imi am beidio â cholli cyfle, Weinidog, i'ch gwahodd i fferm yn fy etholaeth, o gofio eich bod wedi bod yn ymweld â ffermydd ledled Cymru, i glywed rhai o'u problemau a'u pryderon. Mae'n gwestiwn cychwynnol da iawn gan Michelle Brown. Mae yna bryderon, ac mae undebau'r ffermwyr wedi tynnu sylw at rai ohonynt. Rwy'n sylweddoli bod materion yn codi mewn perthynas â phroses ac ansicrwydd Brexit, materion sydd y tu allan i'ch rheolaeth ar hyn o bryd, ond mae pethau fel y cynllun rheoli tir newydd o fewn eich rheolaeth. A allwch roi sicrwydd i ni, a sicrwydd i ffermwyr y bydd y ffactorau amgylcheddol, sy'n bwysig iawn, yno yn y ffordd y maent yn ei haeddu, ond hefyd y bydd materion fel cynhyrchu yn cael eu cynnwys yn y cynllun hwn hefyd? Oherwydd credaf fod angen i ni weld ffermwyr yn cael eu had-dalu, neu beth bynnag y dymunwch ei alw, yn hytrach na'r system gymhorthdal bresennol, ond yn cael eu cefnogi i gynhyrchu bwyd, sef eu prif nod wrth gwrs.
Buaswn yn fwy na pharod i ymweld â fferm yn eich etholaeth. Credaf ei bod yn bwysig iawn fy mod allan yno'n ymweld â ffermydd ac yn gwrando ar bryderon ffermwyr. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymgynghoriad helaeth a gawsom y llynedd mewn perthynas â 'Brexit a'n tir', ac yn amlwg, 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yw rhan 2 o'r ymgynghoriad hwnnw. Credaf fod y ddau undeb wedi croesawu'r ymgynghoriad. Credaf y gallent weld newid rhwng yr hyn a gynigiwyd yn 'Brexit a'n tir' a 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Mae un o'r pethau'n ymwneud â chael un cynllun ffermio cynaliadwy yn hytrach na'r ddau gynllun rydym yn eu cynnig, felly gobeithiaf ei fod wedi dangos bod hwnnw'n ymgynghoriad ystyrlon iawn y llynedd, ein bod wedi gwrando ar bryderon ffermwyr, a gallaf roi sicrwydd iddynt hwy a phawb arall y bydd yr ymgynghoriad hwn yr un mor ystyrlon. Mae'n agored tan 30 Hydref a buaswn yn annog pobl i gyflwyno eu hymgynghoriadau, ac yn sicr, fel y dywedais yn fy ateb i Llyr Huws Gruffydd, dros yr wythnosau nesaf pan fyddwn yn mynychu sioeau haf, rwy'n siŵr y bydd hynny'n bwnc trafod. Credaf fod gallu gwobrwyo ffermwyr am gynhyrchu bwyd cynaliadwy yn bwysig iawn. Unwaith eto, roedd yn rhywbeth a ddaeth yn sgil ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Yr hyn sy'n glir iawn i mi, ac i lawer o bobl yma, rwy'n siŵr, yw nad yw cynllun y taliad sylfaenol a'r polisi amaethyddol cyffredin wedi rhoi'r canlyniadau amgylcheddol y byddem yn dymuno'u cael, a dyna rydym yn gobeithio'i wneud gyda ffermio cynaliadwy.
5. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi ffermwyr Cymru yn y deuddeg mis nesaf? OAQ54244
Byddwn yn parhau i ddarparu'r ystod o gymorth sydd eisoes ar gael, gan gynnwys ein gwasanaeth cynghori Cyswllt Ffermio, cynllun y taliad sylfaenol, ac ystod o gymorth arall gan Lywodraeth Cymru, fel y grant cynhyrchu cynaliadwy. Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o eglurder ar lefel y cyllid amaethyddol a fydd yn cael ei ddychwelyd i Gymru ar ôl Brexit.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog, ond mae rhagolygon incwm ffermydd diweddaraf eich Llywodraeth yng Nghymru yn dangos y disgwylir i incwm cyfartalog ffermydd ostwng 15 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae incwm o ffermydd llaeth wedi gostwng 23 y cant, mae ffermydd gwartheg a defaid ardaloedd llai ffafriol wedi gostwng 9 y cant, ac mae ffermydd gwartheg a defaid yr iseldir wedi gostwng 29 y cant, sy'n ostyngiad enfawr. O ystyried pwysigrwydd hanfodol ffermio i economi Cymru, i'n cymunedau a'n hamgylchedd gwledig, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wrthdroi'r dirywiad mewn incwm ffermydd a sicrhau hyfywedd y diwydiant ffermio yng Nghymru yn y dyfodol? Peidiwch ag anghofio ein bod yn economi amaethyddol yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid i ni ofalu am ein ffermwyr yng Nghymru. Diolch.
Cytunaf yn llwyr â chi fod angen inni ofalu am ein ffermwyr yng Nghymru. Y bygythiad mwyaf iddynt yw Brexit, a'r ansicrwydd ynghylch Brexit. Felly rydych yn gofyn beth y byddwn yn ei wneud dros ystod y 12 mis nesaf; wel, un o'r pethau y bydd yn rhaid i ni eu gwneud, o bosibl, yw darparu pecyn achub ar gyfer y sector defaid, oherwydd fel y dywed ffermwyr wrthyf, 'Beth fydd yn digwydd ar 1 Tachwedd os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ac rwy'n mynd â fy ŵyn i'r farchnad ac nid oes neb yno i'w prynu?' Felly, mae hynny'n un peth y gallai fod yn rhaid inni ei wneud dros y 12 mis nesaf.
Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud yw ceisio sicrhau bod ein ffermydd mor gynhyrchiol â phosibl, felly soniais am y cyllid a roddais i sicrhau bod cig coch yn cael ei feincnodi. Roeddem wedi gwneud hynny eisoes mewn perthynas â'r sector llaeth, felly mae llawer iawn o waith yn mynd i mewn i'r sector amaethyddol gan y Llywodraeth hon i sicrhau bod y dyfodol yn ddisglair i'r sector, sydd mor bwysig i Gymru. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, y bygythiad mwyaf ar hyn o bryd yw Brexit heb gytundeb.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ynni adnewyddadwy yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54272
Mae ynni adnewyddadwy yn rhan hanfodol o'r system ynni garbon isel effeithlon a dibynadwy a fydd yn cefnogi Cymru garbon isel lewyrchus. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar draws Gorllewin De Cymru i ddatblygu a darparu dyfodol cryf a chadarnhaol ar gyfer ynni adnewyddadwy.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Efallai eich bod wedi clywed ddoe yn ystod y datganiad busnes fod y Trefnydd wedi dweud wrthyf fod y £200 miliwn a glustnodwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi morlyn llanw yn Abertawe ar gael o hyd mewn cronfeydd wrth gefn, ond wrth gwrs, byddai'n dibynnu ar fanylion unrhyw brosiect a gâi ei gyflwyno cyn y gellid gwneud unrhyw ymrwymiad yn y dyfodol ar gyfer yr holl arian hwnnw. Gobeithiaf y bydd y model newydd arfaethedig—a fyddai'n golygu bod cyflenwad ynni hirdymor yn cael ei werthu i'r cwmnïau mawr ymlaen llaw—yn fodel y gall Lywodraeth Cymru ei gefnogi, yn amodol ar y manylion wrth gwrs. Felly, tybed a allwch ddweud wrthyf a ydych yn cytuno mewn egwyddor y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi'r model newydd hwn ar gyfer morlyn llanw yn Abertawe, ond, yn benodol, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am gynnydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dyrannu'r trwyddedau morol sy'n rhaid eu cael ochr yn ochr â'r caniatâd cynllunio presennol. Fel y gwyddoch, bydd hwnnw'n dod i ben cyn bo hir, a byddai'n gas gennyf feddwl ei fod yn methu ar y sail fod y trwyddedau morol yn araf iawn yn cael eu darparu. Diolch.
Diolch. Clywais y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn dweud hynny ddoe. Fe nodais hynny. Ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith enfawr y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud, yn enwedig gyda dinas-ranbarth Abertawe, i'w cynorthwyo i adolygu'r opsiynau strategol ar gyfer datblygu technoleg môr-lynnoedd. A chredaf mai'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddangos yw dull calonogol ac arloesol o ddatblygu prosiect sy'n ariannol hyfyw. Felly, mae swyddogion yn ystyried y gwaith hwnnw ar hyn o bryd. Mewn perthynas â'ch ateb ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru, nid wyf yn siŵr o gynnydd y drwydded benodol honno. Byddaf yn cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn y bore, felly byddaf yn gofyn iddynt a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod, ond efallai eich bod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach fod y Prif Weinidog a minnau wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Iau diwethaf ym Mangor i drafod trwyddedu mewn perthynas ag ynni'r llanw yn benodol.
7. Oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu deddfwriaeth bridio cŵn? OAQ54250
Daeth yr ymgynghoriad ar werthiannau cŵn a chathod bach gan drydydd partïon, a oedd yn cynnwys materion ehangach yn ymwneud â bridio cŵn, i ben ar 17 Mai. Mae swyddogion wedi bod yn dadansoddi'r ymatebion i bennu'r ymyriadau mwyaf priodol sydd eu hangen, a byddaf yn gwneud datganiad ar y mater hwn cyn diwedd y tymor.
Rydych wedi ateb fy nghwestiwn, felly, fwy neu lai, os ydych yn mynd i wneud—. Wel, nid yw'n rhoi llawer o amser i chi, mewn gwirionedd, i wneud datganiad, ydy e? Yn 2015, cyflwynodd y Cynulliad, yn amlwg, reoliadau ar fridio cŵn, a chafwyd mesurau tebyg yn Lloegr. Ac fel y dywedoch chi, mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud yn y maes hwn. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar a oedd yn pryderu ynglŷn â chryfder rhai o'r mesurau a oedd ar waith, a dywedodd fod rhywfaint o weithgarwch y byddem yn awyddus i'w wahardd yn dal i ddigwydd o ran bridio cŵn bach. Felly, gofynnodd fy etholwr i mi a oes adolygiad ar y ffordd. Yn amlwg, byddwch yn gwneud datganiad ar hyn, felly efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad cyn gynted ag y bo modd o ran pryd y bydd yr adolygiad hwnnw'n digwydd a'i gwmpas, fel y gallwn fynd i'r afael â'r holl faterion hyn.
Diolch. Yn sicr, mae rhywfaint o weithgarwch nad ydym am ei weld yn parhau i ddigwydd yng Nghymru. Roeddwn wedi gobeithio gwneud datganiad erbyn heddiw, ond byddaf yn gwneud datganiad ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn bo hir.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgysylltu â chymunedau i warchod bioamrywiaeth? OAQ54263
Mae egwyddorion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cydnabod bod cyfranogiad a chydweithredu yn hanfodol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae ymgysylltiad cymunedol, felly, yn rhan annatod o'n dull o weithredu, fel y dangosir gan ein cynllun Caru Gwenyn, sy'n annog cymunedau i helpu i wneud Cymru yn un o'r gwledydd mwyaf cyfeillgar i wenyn yn y byd.
Weinidog, diolch am eich ateb. Mae tipyn o suo yn yr awyr ym Mhontypridd, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi enwi Pontypridd yn—mae wedi cael statws swyddogol fel tref gyfeillgar i wenyn gyda chefnogaeth Cyngor Tref Pontypridd ac ardal gwella busnes Pontypridd, o ganlyniad i'r holl gynlluniau. Ond mae colyn i'r stori, Weinidog—[Torri ar draws.]—sef nad oes unrhyw ffordd o gydnabod y cyflawniad mewn gwirionedd. A tybed a allech wneud dau beth, Weinidog—yn gyntaf, ysgrifennu at Gyngor Tref Pontypridd ac at ardal gwella busnes Pontypridd i'w llongyfarch ar y gwaith gwych y maent wedi bod yn ei wneud, ac yn ail, does bosibl na ddylai Llywodraeth Cymru, mewn rhyw ffordd, hwyluso'r broses o osod placiau mewn trefi a galluogi hyn i ddigwydd. Bydd hynny'n siŵr o gynyddu'r suo.
Roeddwn yn ceisio meddwl sut y gallwn gynnwys un, ond ni allwn feddwl yn ddigon cyflym. Rwyf am ganolbwyntio ar yr ateb. A sylw bachog y Prif Weinidog—yn anffodus, rydych eisoes wedi'i ddweud. Yn sicr, rwy'n llongyfarch Pontypridd ar eu gwobr am fod yn gyfeillgar i wenyn. Gwn fod y gymuned wedi gweithio'n galed iawn i greu'r ffynonellau bwyd hynny sy'n gyfeillgar i bryfed peillio—y mannau. Ac maent wedi codi ymwybyddiaeth hefyd, mewn ffordd ardderchog, o'r angen am bryfed peillio. Fel y dywedais mewn ateb arall, credaf ei bod yn bwysig iawn fod pob un ohonom yn monitro hynny, felly credaf y bydd codi ymwybyddiaeth yn helpu hynny. Yn sicr, nid oeddwn wedi meddwl am blaciau, ond rwy'n fwy na pharod i siarad â Cadwch Gymru'n Daclus, efallai, sy'n gweithredu'r prosiect eco-ysgolion, er enghraifft, i weld a oes unrhyw ffordd y gallwn ystyried gwneud hynny. Ond yn sicr, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at Gyngor Tref Pontypridd.
Mae cronfa LIFE a bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer adfer rhywogaethau a chyllido prosiectau amgylcheddol wedi buddsoddi €65 miliwn yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae'r gronfa yn pontio ymchwil, datblygu a chynhwysiad, ac mae'n ariannu technolegau amgylcheddol arloesol. Mae sawl prosiect wedi cael ei ariannu gan hyn, gan gynnwys coedwigoedd Celtaidd ac adfer corsydd mawn hanfodol. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog, felly: a ydych chi wedi gofyn am sicrwydd y bydd Llywodraeth San Steffan yn llenwi'r bwlch ariannol pwysig hwn? Ac, os felly, a fydd gan yr Undeb Ewropeaidd yr hawl, a sut bydd ymateb San Steffan a'r Llywodraeth yma i hynny?
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael addewid na fyddem yn colli ceiniog pe bai'r DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hwnnw'n sicr yn addewid yr wyf i, a phob un o fy nghyd-Weinidogion, o dan arweiniad y Prif Weinidog, yn sicrhau ei fod yn digwydd. Gwn fy mod wedi cael sgyrsiau ynghylch cyllid ar gyfer LIFE. Rwyf wedi ymweld â mawnog wych yng ngogledd-orllewin Cymru ac wedi gweld y gwaith adfer ardderchog a ddarparwyd gan gyllid LIFE. Felly, mae'n bwysig iawn, os ydym am gyflawni ein targedau lleihau carbon, ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn y ffordd y byddem yn dymuno, fod yr arian hwnnw ar gael o hyd. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n parhau.
Mae bioamrywiaeth yn rhan bwysig o'r ymarfer ymgynghori rydych yn ei gynnal ar hyn o bryd i gefnogi ffermydd, ac mae'n amlwg y bydd y gymuned ffermio yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ddatblygu'r fioamrywiaeth honno. Un peth sy'n ganolog i'ch dogfen ymgynghori yw cynlluniau penodol ar y fferm, cynlluniau ffermydd unigol, a chynlluniau rheolwyr tir unigol. Pa asesiad a wnaethoch o'r capasiti i ddatblygu'r cynlluniau hyn os cânt eu datblygu?
Rwy'n derbyn eu bod yn yr ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond cyn i chi gyflwyno'r cynnig hwnnw, does bosibl nad ydych wedi gwneud rhywfaint o asesu ynghylch lefel y capasiti sydd gan y Llywodraeth a phwy bynnag y byddwch yn contractio'r gwasanaeth hwn iddynt. Oherwydd, o bosibl, gallem fynd o'r 16,000/17,000 o ymgeiswyr sydd wedi cael cefnogaeth ar hyn o bryd i dystiolaeth a gawsom yn y pwyllgor o 40,000 o geisiadau, os ydych yn ei ehangu i gynnwys y dehongliad hwnnw o reolwr tir a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth yn yr ymgynghoriad cyntaf.
Diolch. Yn sicr, mae ffermwyr yn rhan o'n hymateb mewn perthynas â bioamrywiaeth. Yn y fferm yr ymwelais â hi i lansio'r ymgynghoriad, yn y cae y safwn ynddo, dywedodd y ffermwr wrthyf yn falch iawn fod rhwng 90 a 100 tunnell o garbon yr hectar wedi'i storio yn y cae hwnnw. Felly, gallwch weld pam fod ffermwyr mor bwysig mewn perthynas â bioamrywiaeth. Wrth gwrs, rydym wedi edrych ar y capasiti. Nid ydym yn dechrau o dudalen wag. Mae gennym Taliadau Gwledig Cymru. Rydym bob amser wedi dweud mai Llywodraeth Cymru, yn amlwg, fydd yn ysgwyddo baich y problemau hynny o ran adnoddau. Felly, os yw'r ymgynghoriad yn mynd rhagddo yn y ffordd y credwn y bydd, ac os bydd pobl yn awyddus i gael yr un cynllun hwnnw, sef yr hyn a ddywedodd ffermwyr a rheolwyr tir a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyntaf wrthym, rwy'n hyderus y bydd gennym y capasiti i wneud hynny. Ond nid wyf yn bychanu maint y dasg; mae'n ymrwymiad enfawr.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol yn dilyn lansio'i strategaeth pum mlynedd? OAQ54279
Cyfarfu swyddogion â'r Post Brenhinol yn gynharach y mis hwn i drafod goblygiadau posibl y strategaeth hon i gymunedau Cymru. Rwy'n bwriadu cyfarfod â'r Post Brenhinol a'r undebau llafur cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ers i'r Post Brenhinol gael ei breifateiddio, mae pwysau wedi bod ar y cwmni i wneud elw. Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, yr wyf yn aelod ohono, wedi mynegi pryderon y gellid adolygu'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, sy'n gwarantu gwasanaeth chwe diwrnod cyfartal i bawb yn y DU. I lawer o bobl sy'n teimlo'n ynysig ac yn unig, gall gweithwyr post fod yn un o'r ychydig bwyntiau cyswllt rheolaidd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Hyd yn oed mewn dinasoedd fel Casnewydd, gweithwyr post lleol yn aml yw'r rhai cyntaf i sylwi bod rhywbeth o'i le ac mae eu cymunedau lleol yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Mae'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol yn wasanaeth teg a gwerthfawr. Os caiff ei ddiddymu, ceir pryder y bydd y cyswllt y mae gweithwyr post cymunedol yn ei ddarparu yn cael ei golli. A all y Dirprwy Weinidog roi sicrwydd i mi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i'r Post Brenhinol i nodi'r gwerth y mae'n ei roi ar y gwasanaeth chwe diwrnod cyfartal, gan sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i ddiogelu rôl y gweithwyr post cymunedol?
Yn sicr. Fel y dywedodd yr Aelod, rwyf innau a'r Llywodraeth yn ymwybodol iawn o'r rôl bwysig y mae gweithwyr post yn ei chwarae mewn cymunedau ledled Cymru, nid yn unig o ran y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu, ond y cysylltiad hwnnw â phobl, y rhaff achub honno i bobl. Byddaf yn cyfarfod â'r Post Brenhinol cyn bo hir i drafod hyn, ond credaf fod cyfarfod ag undebau llafur Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ac Unite yr un mor bwysig, ac yn y ddau gyfarfod, byddaf yn sicrhau bod y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol a'r rôl y mae gweithwyr post yn ei chwarae yn ein cymunedau ar yr agenda yn y cyfarfodydd hynny.
Rwy'n croesawu'r newyddion fod y Post Brenhinol yn buddsoddi oddeutu £1.8 biliwn yn y gwasanaeth post dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o'u cynllun strategol pum mlynedd. Fel rhan o gynllun y Post Brenhinol i adfer ei hun, mae'r grŵp yn bwriadu ehangu eu gwasanaeth parseli a chyflwyno ail ddosbarthiad parseli. Fodd bynnag, mae Ofcom wedi rhybuddio y gallai sefyllfa ariannol y Post Brenhinol fygwth cynaliadwyedd y gwasanaeth post cyffredinol. Pa sicrwydd y mae'r Gweinidog wedi'i gael gan y Post Brenhinol y byddant yn parhau i gyflawni eu rhwymedigaeth gyfreithiol i ddanfon llythyrau i'r wlad gyfan am ffi sefydlog? Diolch.
Yn amlwg, mae gwasanaethau'r Post Brenhinol o dan bwysau oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn perthynas â phreifateiddio. Ond fel rwyf eisoes wedi'i ddweud wrth yr Aelod, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gadw'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Rydym yn ymwybodol o'i gwerth i'n cymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig ledled Cymru. Ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei godi yn fy nghyfarfodydd gyda'r Post Brenhinol a'r undebau llafur perthnasol. O ran yr argymhellion, gwn fod rhai argymhellion cadarnhaol wedi'u gwneud i'w gwneud yn haws i gwsmeriaid bostio parseli, gan gyflwyno blychau post ar gyfer parseli, a'r gallu i'w dychwelyd. Credaf y gallai hynny'n arbennig helpu cwsmeriaid mewn ardaloedd mwy gwledig. Ond yn sicr, mae cadw'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol a'i gwerth, a'r rôl y mae'r gweithwyr post yn ei chwarae yn ein cymunedau ledled y wlad ar ein hagenda.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr achosion o danau gwyllt? OAQ54248
Mae ein gwasanaethau tân ac achub yn parhau i gymryd amrywiaeth o gamau i leihau nifer y tanau gwyllt mewn cymunedau ledled y wlad. Mae llawer o ymyriadau wedi eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r rhain wedi arwain at ostyngiad o 60 y cant yn nifer yr achosion o danau gwyllt ers 2009.
Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, cefais y fraint o gyfarfod â Craig Hope ac aelodau eraill o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yng Ngorsaf Dân Aberdâr i drafod eu dull arloesol o fynd i'r afael â thanau gwyllt. Mae Craig yn enwog yn rhyngwladol am ei waith ar y mater, er enghraifft drwy ddatblygu'r blwch offer tanau gwyllt a'r ffocws ar ddull drwy gydol y flwyddyn hefyd. Gwyddom fod nifer yr achosion o danau gwyllt yn gostwng ar hyn o bryd at ei gilydd, ond mae'r rhai sy'n digwydd yn fwy o faint, sy'n arwain at set wahanol o heriau i wasanaethau tân ac i gymunedau hefyd. Cafwyd tân gwyllt mawr arall yn fy etholaeth ar fynydd Abernant yr wythnos diwethaf. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i leihau nifer yr achosion o danau gwyllt, er enghraifft, drwy reoli tir, rhannu arferion gorau a mabwysiadu dull 365 diwrnod fel nad oes perygl i fywydau nac i eiddo?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Yn wir, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn enwog yn rhyngwladol am y gwaith y maent yn ei wneud, ac mewn gwirionedd, maent wedi darparu cymorth i wasanaethau tân ledled y DU o ran yr arbenigedd y maent wedi'i ddatblygu. A gwn eu bod eisoes yn gweithio'n galed i ddod o hyd i gefnogaeth ychwanegol ar gyfer yr offer arbenigol sydd ei angen arnynt yn yr ardal. Mae'r Aelod yn llygad ei lle fod angen i'r pwyslais fod ar ddull drwy gydol y flwyddyn a gweithio mewn partneriaeth. Felly, er mai'r gwasanaeth tân yw'r rhai ar y rheng flaen, fel petai, mae llawer o gefnogaeth wedi'i rhoi i atal tanau, y rhaglenni addysg mewn ysgolion a'r grwpiau yr ystyrir eu bod mewn perygl, ac ni ellir ond gwneud hynny, fel y dywedoch chi, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu a rhanddeiliaid cymunedol. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi digwydd ers y cynnydd yn nifer y digwyddiadau a welsom dros y Pasg ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae hwnnw'n waith partneriaeth rydym yn parhau i bwysleisio'i werth a'i ddatblygu, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn sicr yn mynd i'r afael ag ef fel y Gweinidog sy'n gyfrifol.
Weinidog, mae trigolion sy'n byw ar Fynydd Cilfái yn Abertawe neu gerllaw wedi sôn am fyw mewn ofn cyson o danau coedwig ar y bryn. Mae rhai o berchnogion y tyddynnod yno wedi dechrau gosod eu briciau tân eu hunain, tra bo Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y dywedoch chi, wedi rhoi camau ar waith, ac yn yr achos hwn, wedi torri coed i leihau'r risg i eiddo pobl. Pan oeddwn yn tyfu i fyny yn etholaeth Vikki Howells, gallaf gofio pobl yn dod i mewn i'r ysgolion ac yn sôn wrthym am beryglon tanau mynydd. O ystyried yr ystadegau rydych wedi'u rhoi i ni hyd yma, mae'n debyg ei fod wedi gweithio ar gyfer cenhedlaeth benodol, beth bynnag. Ond a oes unrhyw dystiolaeth mai pobl wahanol sy'n cael eu cysylltu â'r tanau mynydd rydym yn eu cael bellach, ac a oes angen cyfeirio addysg i gyfeiriad ychydig yn wahanol, efallai?
Ar gyfer eich etholaeth chi, rydych yn nodi eich bod yn byw gyda'r pryder hwnnw am danau gwyllt posibl. Mae tanau glaswellt o unrhyw siâp neu faint a gynnir yn fwriadol yn gwbl annerbyniol. Maent yn anghyfrifol, yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Nid yn unig eu bod yn peryglu cymunedau, ond maent yn peri ofn, a dyna pam fod yr ymagwedd ataliol mor hynod o bwysig. Rydym yn cyd-weithredu'n llawn ag ysgolion, yr heddlu ac asiantaethau eraill, ond hefyd gyda rhaglenni eraill fel Troseddau a Chanlyniadau, ac mae Prosiect Phoenix yn gweithio gyda grwpiau bach y nodwyd eu bod mewn perygl o droseddu i geisio lleihau'r troseddu hwnnw hefyd, ac yn targedu'r cymorth, yr hyfforddiant a'r cyllid yn yr achosion hynny.
Hefyd, rydym yn clywed am achosion lle cawsant eu cynnau'n fwriadol gan bobl ifanc, ond ceir achosion hefyd lle byddant wedi'u cynnau gan dirfeddiannwr efallai. Felly, mae a wnelo â pharhau â'r gwaith traws-bartneriaethol hwnnw ac edrych ar yr agenda ataliol. Yn sicr, os oes gan unrhyw Aelodau unrhyw dystiolaeth neu awgrymiadau pellach o ran sut y gallem fwrw ymlaen â hynny, rwyf bob amser yn fodlon eu cymryd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, fe dderbynioch chi mewn egwyddor yr argymhelliad y dylai pob cartref fforddiadwy newydd fod mor agos â phosibl at fod yn ddi-garbon erbyn 2021, yn amodol ar ganlyniad eich adolygiad o'r rheoliadau adeiladu. Fodd bynnag, y cartrefi sy'n debygol o gael eu cwblhau a bod ar gael erbyn 2021 yw'r cartrefi sy'n rhan o'r ceisiadau sy'n mynd drwy'r broses gynllunio ar hyn o bryd. A wnewch chi ddweud ar goedd felly y dylai adrannau cynllunio sydd wrthi'n gwerthuso'r ceisiadau hyn ar hyn o bryd sicrhau eu bod yn gartrefi di-garbon, a gwneud penderfyniadau yn awr sy'n amlwg yn y fframwaith ar gyfer tai a osodwyd gennych ar gyfer y dyfodol?
Rydym wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio yn ddiweddar i ofyn iddynt adolygu rhai o'r polisïau yng ngoleuni 'Polisi Cynllunio Cymru', ond mae'n broses sy'n dilyn y cynllun ac mae gan y cynlluniau eu hoes eu hunain. Felly, rydym yn gofyn drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a thrwy arweinwyr awdurdodau lleol iddynt adolygu proses y cynllun datblygu lleol. Ac fel y gwyddoch, rydym ar fin ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol a fydd yn rhoi'r strategaeth drosfwaol ar waith. Nid yw'n bosibl newid y system gynllunio ar unwaith fel y dywedwch, ond rydym yn rhoi'r holl gamau ar waith i'w newid mor gyflym ag y gallwn a chadw'r broses sy'n dilyn y cynllun yn ei lle ac yn gynaliadwy—gyda'r bwriad o gyrraedd y sefyllfa rydych am i ni ei chyrraedd, ond mae'n rhaid i ni wneud hynny yn unol â'r cynlluniau eu hunain.
Mae argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn awr fod yn gyson â'r dyheadau am economi ddi-garbon; nid yw parhau i oedi pethau yn ddigon da, Weinidog. Ond wrth symud at fater cynllunio, fe fyddwch yn ymwybodol fod fy nghyd-Aelod wedi ysgrifennu atoch yn ddiweddar i ofyn am addasu polisi cynllunio i adlewyrchu'r ffaith, wrth ystyried mater yr M4, fod y Prif Weinidog wedi rhoi mwy o bwys ar ystyriaethau amgylcheddol nag y gwnaeth yr arolygydd cynllunio. Ymddengys nad oedd eich ateb yn deall y mater yn iawn. Os mai barn y Llywodraeth, fel y'i mynegwyd gan y Prif Weinidog, yw bod datgan argyfwng hinsawdd yn golygu y dylid rhoi mwy o bwyslais ar ystyriaethau amgylcheddol wrth gynllunio nag yr oedd yr arolygydd cynllunio yn barod i'w roi, does bosibl na ddylech dderbyn y dylai pob penderfyniad cynllunio bellach fod yn rhoi mwy o bwys ar ystyriaethau amgylcheddol nag a fyddai wedi digwydd chwe mis yn ôl cyn i chi ddatgan argyfwng hinsawdd? A wnewch chi ddweud ar goedd felly mai dyna farn eich Llywodraeth, ac os nad ydych yn barod i wneud hynny, a allwch egluro'r anghysondeb a fydd yn deillio'n anochel o hynny?
Ni chredaf fod yma anghysondeb. Nid gwyddor yw'r broses gynllunio; mae'n set o farnau yn seiliedig ar set o gynlluniau mewn system sy'n dilyn y cynllun. Ac felly, mae'n rhaid i chi edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, a bydd gan bob unigolyn sy'n gwneud penderfyniad, neu bob pwyllgor sy'n gwneud penderfyniad, ryw farn oddrychol ddynol ynglŷn â sut y maent yn gweld y cynlluniau. Cyhoeddasom ganllawiau ar gyfer hynny, ond ni allwch ddiddymu barn unigol y sawl sy'n gwneud penderfyniad mewn perthynas â hynny yn y broses sy'n dilyn y cynllun. Dywedodd y Prif Weinidog yn glir iawn ei bod yn gwbl bosibl ystyried y broses honno yn y modd hwnnw. Rydym yn cynnal sgyrsiau rheolaidd â phob lefel o'r broses gynllunio ynghylch sut y dylid rhoi'r cynlluniau hynny ar waith. Ond yn y pen draw, mae'n ymwneud â gallu'r penderfynwr unigol i roi'r farn oddrychol honno o fewn y broses gynllunio. Nawr, nid wyf mewn sefyllfa—ac rwy'n deall yr hyn rydych yn ceisio'i ddweud—ac ni fyddai unrhyw benderfynwr arall, nac unrhyw Weinidog arall mewn unrhyw broses sy'n dilyn y cynllun, mewn sefyllfa i orchymyn y penderfynwr ar unrhyw bwynt yn y system honno i roi pwyslais penodol ar bolisi penodol. Yn amlwg, rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod am i ystyriaethau amgylcheddol fod ar frig y goeden honno yn yr ystyriaeth, yn y penderfyniad cynllunio hwnnw yn ei gyfanrwydd, y penderfyniad cynllunio unigol hwnnw.
Rhan bwysicaf y broses yw'r cynllun ei hun, a dyma'r peth rydym yn ceisio'i gyfleu bob amser—fod angen i bobl ymwneud â'r cynllun ei hun, fel bod y cynllun ei hun yn nodi'r paramedrau ar gyfer hynny. Felly, pan fydd yr awdurdod lleol yn nodi ei gynllun, neu'n diwygio ei gynllun, neu'n rhoi ei bolisïau cynllunio penodol ar waith, dyna pryd y mae angen rhoi'r pwyslais mwyaf ar y mathau o ganlyniadau amgylcheddol yr hoffech chi a minnau eu gweld yn y broses hon. Ac wrth i ni fwrw ymlaen â'r fframwaith datblygu cenedlaethol, ac yna, ar ôl hynny, y trefniadau cynllunio strategol, a bod gennym broses gynllunio lawn yng Nghymru, bydd y cynllun hwnnw'n arwain pobl drwy'r broses yn y ffordd honno. Ond ni allwch gael gwared yn llwyr ar allu'r penderfynwr i roi eu barn oddrychol ar set o gynlluniau. Nid gwyddor mohoni.
Hoffwn edrych ymhellach i'r dyfodol yn awr, y tu hwnt i 2021, Weinidog. Mae'n amlwg y bydd rhywfaint o'r dechnoleg sy'n mynd i gael ei defnyddio mewn tai yn troi rhai tai yn orsafoedd pŵer bach i bob pwrpas, a fydd yn gallu cynhyrchu'r trydan y bydd y cymunedau hynny'n ei ddefnyddio, a hyd yn oed, mewn rhai achosion, yn gwneud y tai hynny'n broffidiol. Mae hyn, wrth gwrs, yn gyffrous iawn, ond mae perygl, os nad ydym yn cofleidio'r cysyniad hwn mewn ffordd drefnus, y gallai waethygu rhaniadau cymdeithasol presennol. Bydd pobl gyfoethog yn prynu cartrefi a fydd yn creu incwm ar eu cyfer, ond bydd y rhai ar yr incwm lleiaf naill ai'n gorfod bodloni ar y stoc dai hynaf sy'n ddrud i'w rhedeg, neu os ydynt yn byw mewn cartrefi mwy newydd, bydd yr incwm o ynni o'r fath yn mynd i gymdeithasau tai neu landlordiaid preifat. A wnewch chi amlinellu felly sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu sicrhau y bydd y bobl dlotaf yn ein cymdeithas yn elwa o chwyldro gwyrdd?
Yn sicr, a chytunaf yn llwyr â chi fod system ynni wasgaredig yn gyffrous, a gallu hynny i ddarparu elfen o gyfiawnder cymdeithasol yn y system honno na fyddai'r hen system ganolog erioed wedi gallu ei wneud. Ac rydym yn llawn cyffro i allu gwneud hynny. Bore yfory, byddaf yn cael adroddiadau'r gweithgor datgarboneiddio, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda'r grŵp, felly mae'n debyg fod gennyf lun o syniad beth fyddant yn ei ddweud. A gwn fod ganddynt gryn dipyn o ddiddordeb yn yr hyn rydych newydd sôn amdano, y gallu i fanteisio ar dechnoleg y dyfodol i droi cartrefi'n orsafoedd pŵer. Mae hyn yn rhan o'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer bargen ddinesig Abertawe. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod honno'n cynnwys elfen o gartrefi fel gorsafoedd pŵer, ac rydym yn awyddus iawn i wneud hynny.
Un o'r pethau eraill y byddaf yn eu gwneud cyn bo hir, pan fyddaf wedi cael pob un o'r adroddiadau hyn ar dai yn gyffredinol yn ôl, yw edrych eto ar osod ein polisïau rhent. Ac wrth osod ein polisïau rhent, un o'r pethau y byddwn yn awyddus i edrych arnynt yw cyfiawnder cymdeithasol y math o beth rydych yn sôn amdano. Felly, lle caiff cartref rhywun ei ddefnyddio fel gorsaf bŵer, a'u bod yn denant mewn eiddo rhent cymdeithasol, hoffwn weld budd y pŵer hwnnw'n dod yn ôl i'r tenant, naill ai drwy filiau llai o lawer, neu drwy renti is, neu gyfaddawd rhwng y ddau. Felly, byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar y polisi rhent, er mwyn sicrhau nad yw'r mathau o anghyfiawnder rydych yn sôn amdanynt yn digwydd yn y system honno, a bod y budd yn mynd i'r bobl sy'n rhedeg eu cartrefi yn y modd hwn, naill ai, fel y dywedaf, drwy filiau is neu gydwasanaethau, neu drwy renti is mewn rhai amgylchiadau ac ati. A byddwn yn ceisio sicrhau bod gennym bolisi rhent hyblyg, heb rag-gyhoeddi'r polisïau rwy'n eu hystyried. Ond yn gyffredinol, byddwn yn ceisio sicrhau bod gennym bolisi rhent hyblyg sy'n gwobrwyo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau sy'n rhoi'r mathau hynny o gamau lliniaru ar waith, ac y dylid adlewyrchu hynny yn nhelerau ac amodau'r tenantiaid sy'n byw yn y cartrefi hynny.
Ac o ran y sector rhentu preifat wrth gwrs, wrth ymateb i'r agenda cartrefi fforddiadwy a'r agenda ddatgarboneiddio, byddwn hefyd yn rhoi mesurau ar waith mewn perthynas â'r hyn y disgwyliwn i'r sector rhentu preifat ei wneud i'r perwyl hwnnw hefyd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau ar eich cyfrifoldebau fel Gweinidog gwaith teg a diwygio lles. Nodaf fod gwefan Llywodraeth Cymru yn dweud bod eich cyfrifoldebau gwaith teg yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer mynediad, twf a chynnydd, ac ar gyfer amgylcheddau gwaith diogel, iach a chynhwysol.
Ddydd Llun, fel y gwyddoch o bosibl, cefais y fraint o noddi'r digwyddiad undydd sgiliau gwleidyddol ar gyfer pobl ifanc anabl yn Senedd Cymru i ddathlu Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd y Cenhedloedd Unedig a sgiliau pobl ifanc anabl yng Nghymru, digwyddiad a drefnwyd gan Leonard Cheshire Cymru, Plant yng Nghymru, a Whizz-Kidz. Fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae pobl ifanc anabl yn un o'r grwpiau sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf, ac yn rhy aml o lawer, mae cymdeithas wedi methu cydnabod eu doniau, eu creadigrwydd, eu gallu i weld y byd mewn ffordd sy'n aml yn wahanol i eraill, eu profiadau, a all helpu i nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran mynediad a chynhwysiant. A chododd y bobl ifanc hynny lawer o faterion gyda mi ac aelodau eraill o'r panel holi yn ddiweddarach y bore hwnnw, yn enwedig ynghylch—ymysg pethau eraill—y rhwystrau y maent yn eu hwynebu, nid yn unig i gyflogaeth, ond i'r math o gyflogaeth sy'n gwneud y gorau o'r sgiliau sydd gan bob un ohonynt fel unigolion. Er enghraifft, un o'r cwestiynau oedd: 'Beth arall y dylid ei wneud i'n helpu i ddeall ein budd-daliadau er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â gwaith, a sut y mae disgwyl i bobl ag anableddau gael swydd pan fydd diffyg cyfleusterau hygyrch fel toiledau Changing Places?'
Felly, sut y byddwch yn ymgorffori'r anghenion hynny, y dymuniadau hynny, yr uchelgeisiau hynny, y cyfleoedd hynny, yn eich gwaith ar waith teg a diwygio lles, gan nodi, er enghraifft, y gwaith a wnaethoch ar y cyd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar Cymunedau am Waith, y gwaith y mae Remploy Cymru yn ei wneud gyda'r rhaglen waith ac iechyd, cynllun hyderus o ran anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac wrth gwrs, y cynllun Mynediad i Waith?
Ydy, mae'n bwynt pwysig iawn. Rwyf innau wedi cael y pleser gwirioneddol o weithio gyda rhai o'r bobl ifanc sy'n gweithio gyda Leonard Cheshire, gan gynnwys y llynedd, yn fy mhortffolio blaenorol, pan gyfarfûm â dyn ifanc rwy'n mawr obeithio ei weld yma yn ein plith cyn bo hir, a ddywedodd wrthyf fod ei uchelgais i fod yn wleidydd wedi'i rwystro gan ei fod yn defnyddio cadair olwyn. A cheisiais fy ngorau i egluro iddo, i'r gwrthwyneb, fod hynny'n fantais wirioneddol, ac y byddai'n fantais fawr i ni fel penderfynwyr gael unigolyn ifanc fel ef yn ein plith. Felly, os yw'n gwrando, rwy'n gobeithio ei fod yn parhau i fynd ar drywydd hynny. Felly, cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedwch.
Mae nifer o bethau rydym yn eu gwneud drwy'r agenda gwaith teg, ond mewn gwirionedd, ar draws y Llywodraeth mewn ffyrdd eraill hefyd. Nid yw llawer o'r pethau a grybwyllwyd gennych yn rhan uniongyrchol o fy mhortffolio, ond rwy'n gweithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, ar rai o'r materion hynny, o ran sicrhau bod ein cyflogwyr yn dod yn gyflogwyr sy'n cynnwys pobl anabl, eu bod yn ymwybodol o'r mathau o addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ac yn eu gwneud, ac nad yw pobl anabl—o unrhyw fath, ni waeth beth fo'u hanabledd—yn wynebu rhwystrau ychwanegol, ond mewn gwirionedd yn cael gweithle gwastad yn yr ystyr nad oes yn rhaid iddynt wynebu rhwystrau, ond bod y rhwystrau hynny'n cael eu dileu iddynt. Ac yn rhan o'n hagenda gwaith teg, drwy'r contract economaidd ac fel arall, byddwn yn anelu i wobrwyo cwmnïau sy'n ateb yr her, ac yn sicrhau ein bod, drwy ein cydweithwyr yn yr undebau llafur a thrwy ein gwaith partneriaeth gymdeithasol, yn hybu'r math o ddiwylliant ac ymddygiad sy'n annog ac yn gwobrwyo cyflogwyr da am fwrw iddi ar hyn, gan sicrhau eu bod yn gwneud hynny yn y ffordd honno.
Drwy'r cynllun Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth a mecanweithiau eraill, rydym hefyd yn edrych ar gyfres gyfan o ymyriadau eraill ar draws y portffolio economi a phortffolios anableddau a chydraddoldebau fy nghyd-Aelod, y Prif Chwip, i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau bod y cyflogwyr eu hunain yn ymwybodol o'r cymorth y gallant ei gael i wneud yr addasiadau rhesymol hynny, a'u bod yn ystyried y bobl ag anabledd sy'n gwneud cais i weithio iddynt yn asedau ac nid yn broblem. Oherwydd credaf fod y newid diwylliannol hwnnw'n bwysig iawn, er mwyn i bobl weld y doniau o'u blaenau, yn hytrach na'r gadair olwyn neu'r anabledd yn unig. Felly, credaf fy mod yn cytuno i raddau helaeth â'r hyn a ddywedwch. Rwy'n fwy na pharod i ystyried unrhyw awgrymiadau eraill a gyflwynir naill ai drwy Leonard Cheshire neu gennych chi, Mark.
Diolch. A chredaf mai'r neges allweddol a gawsom drwy hynny oedd fod y bobl ifanc—nid oedd llawer ohonynt yn ymwybodol o'r cynlluniau sy'n bodoli eisoes, hyd yn oed, felly mae'n ymwneud â sut y gallwn ymgysylltu â hwy yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno'r rhaglenni hynny, yn hytrach nag fel derbynwyr, os bydd rhywun yn dewis dweud wrthynt am hyn. A chredaf mai'r dyn ifanc rydych yn cyfeirio ato, o bosibl, oedd yr unigolyn a gadeiriodd y panel holi a gawsom fore Llun, ac fe wnaeth hynny'n wych.
Wrth siarad yma ym mis Hydref 2016, tynnais sylw at bryderon a fynegwyd gan Oxfam Cymru, a ddywedodd ar y pryd nad oeddent wedi cael ateb yn eu cylch yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen'. Ac fe wnaethant awgrymu diwygiadau yn seiliedig ar rywbeth y credaf eich bod wedi cyfeirio ato yn y pwyllgor—y dull bywoliaethau cynaliadwy. Mae eu prosiect tair blynedd i adeiladu bywoliaethau a chryfhau cymunedau yng Nghymru wedi helpu dros 1,100 o bobl i sicrhau bod eu bywydau ar y trywydd iawn, gan eu helpu i nodi eu cryfderau a'u hasedau, er mwyn nodi'r problemau creiddiol sy'n eu hatal rhag cyrraedd eu potensial. Ac roeddent yn dweud ei fod yn gwneud synnwyr ariannol hefyd, gan ei fod yn darparu elw cyfartalog o £4.39 am bob £1 a werir. Felly, sut rydych yn ymateb i'w datganiad y bydd ymgorffori'r dull bywoliaethau cynaliadwy ym mhob polisi a gwasanaeth yng Nghymru yn helpu pobl i godi allan o dlodi ac i gael gwaith teg, a chan gymryd eich bod yn cytuno â'r datganiad hwnnw—a chredaf y byddwch—pa waith a wnewch i ymgorffori hynny wrth ichi symud ymlaen?
Cytunaf yn gryf â'r datganiad hwnnw, ac mewn gwirionedd, mae'r gwaith penodol hwnnw yn rhan o bortffolio'r Dirprwy Weinidog. Roeddwn yn gyfrifol amdano yn fy mhortffolio blaenorol, felly rwy'n ymwybodol iawn ohono.
O ran yr hyn y ceisiwn ei wneud gydag agenda gwaith teg ehangach—yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw sicrhau ein bod, drwy ein gwaith partneriaeth gymdeithasol, yn newid y diwylliant yng Nghymru fel bod cwmnïau'n llawer mwy tebygol o gymryd pobl sydd wedi dod o raglenni o'r fath, naill ai ar brofiad gwaith neu ar interniaethau estynedig â thâl neu ar gynlluniau prentisiaeth, rhai a rennir neu fel arall, ac yn y blaen.
Rwyf am ddweud hefyd ein bod yn annog pobl ifanc o'r fath i ymuno ag undeb llafur. Mae mudiad yr undebau llafur yn wych am helpu pobl i gael mynediad at y buddion y mae ganddynt hawl i'w cael a gweithio gyda'n cyflogwyr i sicrhau bod y cyflogwyr eu hunain hefyd yn ymwybodol o'r hyn y mae gan eu haelodau hawl iddo.
Felly, fy neges fyddai: wrth gwrs, mae gennym gryn ddiddordeb mewn gweithio gydag Oxfam Cymru. Roeddwn yn gyfarwydd iawn â'r cynllun hwnnw o'r blaen, yn enwedig eu gwaith gyda menywod ifanc. Gwn fod fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw hefyd. Ond yn sicr, dylai pobl ifanc yn yr amgylchiadau hynny ymuno â'u hundeb llafur lleol a sicrhau eu bod yn cael mynediad at yr holl fuddion y gall y math hwnnw o fywyd gwaith eu cynnig.
Yn amlwg, fel y dywedwch, mae'n bwysig ein bod yn gweld cryfderau pobl ac yn defnyddio eu dealltwriaeth o'u hunain a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu er mwyn troi'r rhwystrau hynny'n gyfleoedd.
Ond unwaith eto, wrth gyfeirio at yr holl bwyntiau hyn a'u dwyn ynghyd—diwygio lles a'r dull bywoliaethau cynaliadwy—mae'r prosiect partneriaeth sy'n cael ei roi ar waith ledled Cymru rhwng Oxfam Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi ymwybyddiaeth o dlodi yng Nghymru i staff rheng flaen a rheolwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn darparu pecyn adnoddau ar sail tystiolaeth sy'n defnyddio'r dull bywoliaethau cynaliadwy. Yn wreiddiol, aelod o staff Oxfam fyddai'n ei gyflwyno, i hyfforddi staff yr Adran Gwaith a Phensiynau, a fis Medi diwethaf, cafodd aelod o staff yr Adran Gwaith a Phensiynau secondiad i weithio i Oxfam fel arweinydd prosiect hyfforddi ar gyfer Cymru gyfan. Canfu'r gwerthusiad interim fod 90 y cant o staff hyfforddedig yr Adran Gwaith a Phensiynau a staff partneriaid cymunedol, a hyfforddwyd yn y dull bywoliaethau cynaliadwy, wedi nodi cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o faterion tlodi yng Nghymru, a dywedodd 80 y cant y byddant yn defnyddio'r dull bywoliaethau cynaliadwy yn rheolaidd. Felly, sut, unwaith eto, y bydd neu y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r prosiect hwn? A ph'un a yw'n gwneud hynny ai peidio—nid ydynt wedi'u henwi yma fel partner—sut y byddant yn integreiddio'r math hwn o waith yn eu gwaith eu hunain ar waith teg yn y dyfodol?
Unwaith eto, nid yw hynny'n rhan benodol o fy mhortffolio, felly bydd yn rhaid i mi ofyn i'r Dirprwy Weinidog ddod yn ôl atoch ynglŷn â manylion y rhaglen benodol honno, nad wyf yn gyfarwydd â hi, mae arnaf ofn.FootnoteLink
Drwy fy Nirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, rydym wedi bod yn cyfathrebu â Llywodraeth y DU ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â lles. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn croesawu ymagwedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru at y math hwnnw o ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac rydym yn ei argymell.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud mai un o'r rhesymau mwyaf pam y mae gennym dlodi yng Nghymru yw am nad yw'r system fudd-daliadau lles yn addas i'r diben ac am nad yw'n darparu'r math o arian y mae pobl ei angen i fyw. Ac mae'r dreth ystafell wely greulon iawn a'r system gapio yn cael effaith arbennig o niweidiol ar bobl sy'n byw mewn tlodi. Felly, er fy mod yn croesawu'r dull y soniwch amdano sy'n canolbwyntio ar drawma, y peth gorau y gallwch ei wneud gyda lles yn fy marn i fyddai ei wneud yn ddigon o arian i bobl fyw arno.
Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl bod ganddo drydydd cwestiwn, neu bedwerydd cwestiwn.
Na, na, chi sydd i fynd.
Fi sydd i fynd.
3. Pa newidiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'w pholisïau tai a chynllunio o ganlyniad i ddatgan argyfwng hinsawdd? OAQ54251
Mae'r fersiwn ddiweddaraf o 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhoi datgarboneiddio wrth wraidd ein polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd ffocws tebyg i'r fframwaith datblygu cenedlaethol sydd ar ei ffordd. Bydd ein gwaith ar effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd drwy reoliadau adeiladu hefyd yn cyfrannu at ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Diolch, Weinidog. Mae fy nghwestiwn yn cysylltu, mewn ffordd fach, ag un o gwestiynau cynharach Leanne Wood fel llefarydd. Codais hyn gyda Lesley Griffiths, yn ei rôl fel Gweinidog yr amgylchedd, y mis diwethaf. Roeddwn wedi cael ymholiad gan etholwr a oedd yn awyddus i adeiladu eco-dŷ, tŷ carbon niwtral i bob pwrpas yng nghefn gwlad, ond mewn man lle bu tŷ yno o'r blaen, a gwrthodwyd y cais, ond cawsant ganiatâd i adfer adeilad hŷn a oedd yno ac yn llai ecogyfeillgar. Felly, gan fod yr argyfwng hinsawdd newydd gael ei ddatgan, gofynnwyd i mi a fuaswn yn cyfleu pryderon i Lywodraeth Cymru ynglŷn ag a fydd unrhyw adolygiad o'r system gynllunio fel bod awdurdodau lleol, pan fyddant yn dilyn canllawiau cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau cynllunio, yn ystyried, os yw pobl am adeiladu cartrefi carbon niwtral, ecogyfeillgar, y bydd rheini'n cael eu gwthio ychydig yn uwch i fyny yn y broses gynllunio—gan dderbyn, wrth gwrs, fod agweddau lliniarol eraill yn bodoli yn y broses gynllunio hefyd, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r argyfwng hinsawdd wedi'i ymgorffori'n bendant yn y system gynllunio.
Ie, wel, nid wyf yn anghytuno â'r teimlad y tu ôl i hynny. Mae rhesymau mwy cymhleth y tu ôl i hynny, ac nid wyf am wneud sylwadau ar gais cynllunio unigol nad wyf yn gwybod unrhyw beth amdano, ond gall fod problemau cymhleth eraill. Nid yw cael gwared ar hen adeilad sydd wedi'i wneud o ddeunyddiau cwbl anailgylchadwy neu anghynaliadwy yn gwbl garbon niwtral bob amser. Ac yn aml, gall hynny greu ôl-troed carbon mwy na'r tŷ ei hun rydych yn bwriadu ei adeiladu. Nid wyf yn awgrymu bod hynny'n wir yn yr achos hwnnw—nid wyf yn gwybod unrhyw beth amdano—ond mae'n bwysig edrych ar gylch oes cyfan y fath beth pan fyddwch yn ystyried ymagwedd garbon niwtral tuag at bethau. Pan fyddwn yn ymateb i'r gweithgor datgarboneiddio ac ar ôl i ni gael cyfle i dreulio eu hadroddiad, a ddaw i law yfory, gan fy mod wedi cael sgyrsiau rhagarweiniol gyda hwy, rwy'n gwybod eu bod hwythau'n bryderus iawn ynglŷn â'r mater cylch bywyd hefyd, gan fod codi cartref newydd yn lle un hŷn, llai effeithlon yn swnio'n dda ar yr wyneb, ond beth a wnewch gyda'r deunydd yn yr hen gartref os yw'n anghynaliadwy ac yn anailgylchadwy, er enghraifft? Felly, ceir problemau mwy yn hynny o beth.
Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw nad dyna yw'r broses gynllunio mewn gwirionedd, er y bydd gan bob awdurdod cynllunio unigol eu barn eu hunain. Mae'r polisïau ar waith i ganiatáu i eco-dai gael eu hadeiladu yn awr. Yr hyn a wnawn ni yw adolygu ein rheoliadau adeiladu, fel bod yn rhaid i chi wneud pethau penodol wrth adeiladu eich tŷ. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn gwneud hynny yn rhannol mewn ymateb i drychineb Grenfell, ac felly rydym yn ceisio sicrhau bod ein prosesau diogelwch tân yn ddigonol, ond wrth wneud hynny, rydym hefyd yn edrych ar ddatgarboneiddio'r broses adeiladu ei hun, fel y bydd yn rhaid i chi, pan gewch ganiatâd cynllunio, adeiladu beth bynnag y mae gennych ganiatâd cynllunio ar ei gyfer yn unol â'r rheoliadau adeiladu. Felly, mae'r rheoliadau adeiladu yn adnodd pwysig o ran hynny, a chyn bo hir, Lywydd, byddaf yn cyflwyno cynigion i ymgynghori ar argymhellion i newid y rheoliadau adeiladu, y byddwn yn mynd â hwy drwy'r Senedd wedyn, felly fe gewch gyfle i graffu ar ein cynlluniau yn y modd hwnnw hefyd.
Wel, hen bryd, hefyd, oherwydd y tro diwethaf y cyflwynodd y Llywodraeth gynigion i gryfhau rheoliadau adeiladu rhan L, dadleuodd Plaid Cymru, fy nghyd-Aelodau a minnau, yn gryf y dylai'r Llywodraeth fod yn fwy uchelgeisiol o lawer. Er iddi ymgynghori ar gryfhau effeithlonrwydd ynni 40 y cant neu 25 y cant, dewisodd eich Llywodraeth gael cynnydd pitw o 9 y cant. Nawr, fe wnaethom ni ddadlau yn erbyn hynny, ac fe bleidleisioch chi yn ein herbyn. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae gennym nifer o dai a adeiladwyd yn y cyfamser sydd wedi cynnal yr aneffeithlonrwydd ynni hwnnw a gefnogwyd gennych chi ac a wrthwynebwyd gennym ninnau. A ydych yn difaru hynny?
Fel y dywedaf, rydym ar fin adolygu rhan L o'r rheoliadau adeiladu. Mae llawer o bethau wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf o ran y deunyddiau sydd ar gael er mwyn cyflawni effeithlonrwydd ynni, a cheir materion eraill mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd, mewn gwirionedd, sy'n wirioneddol ddiddorol, gan nad cynhesu yw un o'r problemau mwyaf i dai Cymru bellach, ond oeri. Felly, mewn gwirionedd, wrth gryfhau'r rheoliadau adeiladu ar hyn o bryd, gallwn ystyried technoleg nad oedd yn bodoli tan yr ychydig fisoedd diwethaf o ran sicrhau bod eich cartref yn oer ac yn gynnes. Rwy'n siŵr, Lywydd, fod pob un ohonom yn croesawu'r tywydd braf a gawsom yn ddiweddar, ond bydd nifer o bobl ar hyn o bryd yn oeri eu cartrefi drwy'r nos yn ogystal â'u gwresogi, ac mae aneffeithlonrwydd ynni hynny yn rhywbeth y mae angen inni ei ystyried hefyd. Mae'r rheoliadau adeiladu bellach yn gallu cynnwys hynny ar eu ffurf gyntaf yn 2020, ond byddant hefyd yn cael eu diogelu at y dyfodol, ac wrth i'r dechnoleg newid, byddwn yn gallu diweddaru'r rheoliadau adeiladu gyda'r dechnoleg ddiweddaraf heb orfod ail-wneud yr holl broses.
Caroline Jones.
Diolch, Lywydd, ond credaf fod fy nghwestiwn newydd gael ei ateb, gan ei fod yn ymwneud â gwresogi ac oeri. Felly, diolch.
4. Sut y bydd y Gweinidog yn ymateb i ddatganiadau o blaid annibyniaeth Cymru sy'n dod i'r amlwg gan rai cynghorau yng Nghymru? OAQ54262
Mae barn Llywodraeth Cymru ar annibyniaeth yn glir iawn: credwn mai'r ffordd orau o wasanaethu Cymru yw drwy fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Ond mae'n rhaid i'r undeb newid i lwyddo i fodloni'r heriau digynsail y mae'n eu hwynebu. Bydd democratiaeth leol yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn hyn.
Diolch, Weinidog. Mae 11 o gynghorau cymuned a thref bellach wedi pasio cynigion yn cefnogi Cymru annibynnol. Felly, dyna 11 o blith ymhell dros 700 o gyrff unigol. Nawr, dyfynnwyd cadeirydd cyngor tref Nefyn yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd penderfyniad y cyngor tref yn achosi tswnami o gyffro a hyder drwy'r genedl. Mae'n iawn ynglŷn ag un peth: byddai annibyniaeth yn tswnami dinistriol i Gymru. Er enghraifft, mae'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.]
Ni all y Gweinidog glywed y cwestiwn sydd ar fin cael ei ofyn.
—a Llywodraeth Cymru yn elwa'n fawr o'r ffaith bod Cymru'n rhan annatod o'n Teyrnas Unedig. Er fy mod yn sylweddoli mai oddeutu 1.5 y cant yn unig o'r holl gynghorau tref a chymuned yng Nghymru sydd wedi datgan cefnogaeth i annibyniaeth, credaf fod angen ymateb—[Torri ar draws.]—cryf gan eich Llywodraeth. A wnewch chi, felly, gadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pleidleisiau hyn fel esgus i ailasesu Cymru a'i lle yn yr undeb?
Wel, Lywydd, cynghorau tref yw democratiaeth leol ar waith, ac os ydynt am wneud datganiadau ynghylch nifer o bethau sydd y tu hwnt i'w pwerau, nid wyf i mewn unrhyw sefyllfa i ddweud wrthynt a ddylent wneud hynny ai peidio. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud yn glir iawn ein bod yn credu bod buddiannau Cymru'n cael eu diogelu orau fel rhan o undeb sy'n gweithio'n dda. Rydym wedi bod ar flaen y gad yn gyson yn ein hymdrechion i geisio diwygio'r agweddau hynny nad ydynt yn gweithio er budd Cymru. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf i nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol a'r cyfansoddiad yn 'Brexit a Datganoli', ac fel rhan o'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, fe wnaethom arwain y gwaith o ddatblygu egwyddorion newydd ar gyfer cysylltiadau rhwng ein Llywodraethau, sydd bellach wedi'u cyhoeddi. Os yw cynghorau tref yn teimlo'n wahanol, mater i'w democratiaethau lleol hwy yw hynny'n llwyr.
Weinidog, ddoe cawsom ein rhybuddio gan y Gweinidog Cyllid fod Cymru'n wynebu bygythiadau deublyg rhaglen barhaus Llywodraeth y DU o gyni a Brexit heb gytundeb, a allai wneud niwed aruthrol i fuddiannau Cymru. Yn wir, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi gweld y ddinas sy'n gartref i ni, Abertawe, yn cael ei hesgeuluso mewn perthynas â blaenoriaethau Llywodraeth y DU—canslo cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd, gwrthod ariannu'r morlyn llanw. Mae hyd yn oed Gweinidog trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi cwyno'n gyson fod Llywodraeth y DU yn esgeuluso seilwaith rheilffyrdd Cymru. Nid ydym yn cael ein cyfran deg o fuddsoddiad. Gwrthodwyd pwerau i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â tholl teithwyr awyr, plismona, a chyfiawnder troseddol. Pam na allwn wneud y pethau hyn? Weinidog, onid yw'n gwbl ddealladwy fod pobl yn dechrau gofyn i'w hunain, 'A oes ffordd arall?', 'Beth am fod yn annibynnol?', 'Beth am reoli ein hadnoddau a'n dyfodol yn hytrach na gorfod cwyno'n barhaus am anghyfiawnder, annhegwch ac addewidion wedi'u torri, sef yr hyn a gawn gyda'r setliad cyfansoddiadol presennol?'.
Wel, Lywydd, fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, nid wyf yn gwneud sylwadau ar faterion o'r mathau hyn yn aml, ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth Dai Lloyd ynglŷn â rhai o'r pethau y mae Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig yn eu gwneud heb rannu ei bryderon ynglŷn â'r Deyrnas Unedig ei hun, a dyna'r gwahaniaeth sylfaenol rhyngom.
Ond nid wyf chwaith yn rhannu'r modd cyson y mae'n dilorni gwahanol ddinasoedd y mae'r ddau ohonom yn eu caru. Felly, ar y pwynt hwn, gan ei bod yn ymddangos ein bod wedi gwyro oddi ar bwnc llywodraeth leol, rwyf am achub ar y cyfle i ddweud bod Abertawe wedi dod yn ail ddoe mewn rhestr o'r lleoedd gorau ym Mhrydain i fyw, gyda 75 y cant o bobl yn Abertawe yn dweud mai dyma'r lle gorau ar y blaned gyfan i fyw. Mae'n ddinas boblogaidd i fyw ynddi, gyda chyfraddau cyflogaeth da ar gyfer gweithwyr proffesiynol, hinsawdd ardderchog a phobl hyfryd. Ac rwyf fi'n bersonol yn eilio hynny.
Nid oedd Caerdydd yn yr arolwg, nac oedd?
Oedd.
Y cwestiwn Nefyn ac Abertawe fydd y cwestiwn hwnnw am byth. [Chwerthin.]
Cwestiwn 5, Mark Reckless.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru? OAQ54281
Ni allaf wneud cyhoeddiad am ddyfodol Cymorth i Brynu yng Nghymru hyd nes y ceir eglurder ynghylch lefel y cyllid canlyniadol y byddwn yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio y byddwn yn cael yr eglurder hwnnw yn yr hydref.
Cafwyd datganiad gan Lywodraeth y DU am ddyfodol Cymorth i Brynu yn Lloegr yr hydref diwethaf, a chredaf fod y diffyg sicrwydd yn dod yn fwyfwy anodd i adeiladwyr tai o ran eu cynllunio, pa ffordd bynnag yr aiff y penderfyniad. Gan mai Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r cynllun hwn, tybed a yw'n disgwyl gwneud elw ar ailwerthu tai yn y pen draw, neu a yw'n bryderus y gallai prynwyr tro cyntaf fod yn gosod eu hunain mewn perygl o ecwiti negyddol drwy dalu cymaint yn fwy o arian am gartrefi newydd.
Na, nid wyf yn rhannu'r pryderon hynny. Gwyddom fod oddeutu 6 y cant o'r holl dai o dan y cynllun Cymorth i Brynu wedi'u cwblhau gan brynwyr tro cyntaf mewn gwirionedd, ac maent wedi bod yn elfen bwysig o'r 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, gyda llawer ohonynt wedi'u gosod am renti fforddiadwy. Ar ddechrau'r cynllun, prynwyd 8,731 eiddo, ac mae gennym 827 o geisiadau eraill am fenthyciadau ar y gweill, a phrynwyd 5,645 eiddo yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Felly, gallwn weld, Lywydd, fod hwn yn gynllun poblogaidd. Os ydym am gyhoeddi cyfran arall, ac ni fydd modd i mi wneud hynny y naill ffordd neu'r llall, yna yn sicr, bydd rhai newidiadau yn cael eu gwneud i'r cynllun i adlewyrchu rhai o'r materion argyfwng hinsawdd rydym wedi'u trafod yn y Siambr hon, ond nid wyf mewn sefyllfa i ddweud y naill ffordd neu'r llall ar hyn o bryd.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y system gynllunio yng Nghymru? OAQ54255
Yn sicr. Bydd dyfodol y system gynllunio yn seiliedig ar ddogfen 'Polisi Cynllunio Cymru', a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf, a'r fframwaith datblygu cenedlaethol, y byddwn yn ymgynghori arno yn ystod yr haf. Mae'n alinio'r system gynllunio yn uniongyrchol ac yn systematig â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel llawer o'r Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae etholwyr wedi cysylltu â mi i sôn am anghydfodau gyda'u cymdogion mewn perthynas ag uchder gwrychoedd, ac roeddwn yn meddwl tybed a allai hyn fod yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno fel rhan o'i pholisi cynllunio yn y dyfodol, gan ei fod yn fater difrifol; mae'n achosi lefelau sylweddol o anghydfod rhwng cymdogion y mae'n rhaid i'r heddlu ymdrin ag ef weithiau. Ac mae'r diffyg canllawiau ynghylch uchder gwrychoedd a'r diffiniad o wrych weithiau'n achosi problemau i adrannau cynllunio ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i yng Nghonwy. Felly, tybed pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i ddarparu rhywfaint o eglurder er mwyn datrys y materion hyn.
Ie, mewn gwirionedd, mae'r awdurdod lleol eisoes yn gallu gwneud cryn dipyn o ran yr hyn y mae'n ei ddweud yn eu cynllun datblygu lleol, felly buaswn yn annog yr Aelod i sicrhau bod ei awdurdod cynllunio lleol yn ystyried unrhyw beth a godir drwy ei swyddfa etholaethol, ac yn edrych yn lleol i sicrhau bod ganddynt yr holl ddarpariaethau cywir yn eu cynllun datblygu lleol i'w gynorthwyo.
Weinidog, gall adrannau cynllunio helpu mewn perthynas ag aer glân, materion llygredd ac allyriadau. Rwy'n deall eich ateb i Leanne Wood yn gynharach pan ddywedoch chi na ellir mynd i'r afael â materion amgylcheddol ar sail unigol, ond gall y Llywodraeth helpu mewn gwirionedd drwy ddarparu rhywfaint o ganllawiau, yn enwedig mewn perthynas â phethau ysgrifenedig fel allyriadau mewn unrhyw geisiadau. Os ydym am leihau allyriadau mewn ardal, yn enwedig ym Mhort Talbot, er enghraifft, lle cawn ein beirniadu drwy'r amser am ansawdd yr aer, gallech sôn am gofnodi lefelau cronnol o allyriadau, ac felly, gellir herio cais sy'n ychwanegu at hynny ar sail y ffactor hwnnw. A wnewch chi edrych ar y mater hwn er mwyn sicrhau y gallwn gyflwyno'r cysyniad hwn fel y gellir ymdrin â cheisiadau a allai fod yn niweidiol i ansawdd yr aer yn gyffredinol gyda'i gilydd, yn hytrach na fel cais unigol?
Ie. Rwy'n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelod y gall yr awdurdod lleol wneud hynny eisoes. Diwygiwyd 'Polisi Cynllunio Cymru' gennym yn llwyr i adlewyrchu'r nodau a'r ffyrdd o weithio a nodwyd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fis Rhagfyr diwethaf. Ac os yw'r awdurdod lleol am adolygu eu cynllun datblygu lleol yng ngoleuni'r ddogfen newydd honno, sy'n sicrhau bod creu lleoedd yn ganolog yn y polisi cynllunio cenedlaethol, gallant wneud hynny wrth gwrs. Holl bwynt adolygu 'Polisi Cynllunio Cymru' oedd sicrhau'r math o greu lleoedd y mae David Rees yn ei nodi, ac felly mae'r awdurdod lleol eisoes yn gallu gwneud hynny os ydynt am adolygu eu cynllun yn unol â hynny.
Weinidog, rwyf wedi gofyn sawl gwaith ynghylch y system gynllunio, yn enwedig mewn perthynas â cheisiadau cynllunio tai ar raddfa fawr, ynglŷn â mater ehangu'r nifer statudol o ymgyngoreion, yn enwedig, er enghraifft, y rheini y byddai'n rhaid iddynt ddarparu, er enghraifft, gwasanaethau meddygon teulu ac yn y blaen. Nawr, nid yw byrddau iechyd lleol wedi bod yn effeithlon iawn yn hyn o beth, ond yn amlwg, ceir effeithiau sylweddol yn aml ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol. Tybed a oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud ar hynny, ac ar fy awgrym y dylid cael ardoll, efallai, ar geisiadau cynllunio mawr a fyddai'n ariannu cynrychiolaeth i grwpiau cymunedol lle mae'n amlwg y bydd ceisiadau mawr yn cael effaith enfawr ar gymunedau lleol.
Amrywiaeth o bethau, felly. O ran ehangu'r rhestr o ymgyngoreion statudol, disgwylir i ymgyngoreion statudol roi ymateb sylweddol i'r awdurdod cynllunio lleol o fewn 21 diwrnod pan ymgynghorir â hwy ynghylch ceisiadau cynllunio, a 28 diwrnod ar gyfer ymgynghoriad cyn ymgeisio. Gall hynny fod yn dipyn o ymrwymiad. Mae angen i ni fod yn sicr y byddai'r bwrdd iechyd lleol mewn sefyllfa i fodloni'r disgwyliadau hynny'n gyson, ac rydym yn hapus iawn i gael y sgyrsiau hynny. Yn wir, rydym wedi bod yn cael y sgyrsiau hynny ers tro. Nid yw hynny'n golygu, fodd bynnag, na all yr awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â'r bwrdd iechyd heb iddo fod yn ymgynghorai statudol, ac rydym yn sicr yn argymell hynny fel arfer da. Wrth gwrs, gall yr awdurdod lleol roi cytundeb adran 106 ar waith ar gyfer datblygiad lle gall ddangos bod y cyfraniad seilwaith yn angenrheidiol, ac rydym yn annog awdurdodau lleol i wneud hynny mewn perthynas â'r cynllun cyffredinol ar gyfer eu seilwaith.
Profiad uniongyrchol meddygon teulu o'r capasiti yn eu hardal—byddem yn disgwyl i hynny gael ei sianelu drwy'r bwrdd iechyd lleol ac yn wir, drwy'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol fel bod gan y trefniadau cynllunio ardal sylfaen dda ar gyfer sefydlu'r cynllun datblygu lleol yn y lle cyntaf.
Ni allaf bwysleisio ddigon i'r Aelodau yn y Siambr hon mai pwrpas proses sy'n dilyn y cynllun yw sicrhau bod pobl leol yn rhan o'r cynllun, ac felly pan fydd yr awdurdod lleol yn neilltuo safleoedd ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad, bydd pobl yn gallu dweud, 'Ond bydd hynny'n cael yr effaith hon ar yr ysgol hon neu'r seilwaith hwn' ac yn y blaen. Dyna ddiben system gynllunio, nid cael system ar hap lle edrychir ar bob cais cynllunio yn unigol. Holl bwrpas y cynllun yw edrych ar y seilwaith yn ei gyfanrwydd, ac felly ni allaf bwysleisio hynny ddigon, ac os gallwn ledaenu'r neges honno fwyfwy wrth i'r cynlluniau datblygu lleol fynd drwy eu prosesau adolygu, byddwn wedi gwneud cymwynas fawr â phobl Cymru.
O ran cefnogaeth i drigolion yn y broses apelio, fel y dywedais, mae angen i'r trigolion gymryd rhan ar y cam cynllunio, lle bo hynny'n bosibl. Wrth gwrs, mae croeso i unrhyw grŵp unigol gymryd rhan yn eu proses apeliadau cynllunio. Mae angen help arnynt i wneud yn siŵr fod eu sylwadau'n seiliedig ar resymau cynllunio cadarn. Nid yw'n ddigon gwrthwynebu oherwydd nad ydych yn hoffi rhywbeth; mae'n rhaid i chi ei seilio ar ystyriaeth gynllunio berthnasol, a gellir helpu pobl gyda hynny. Mae gennym Cymorth Cynllunio Cymru, sefydliad elusennol sy'n ceisio cefnogi ymgysylltiad â'r gymuned yn y broses gynllunio. Mae'n darparu canllawiau a chymorth uniongyrchol mewn rhai achosion i grwpiau cymunedol, ac rwy'n hapus i gyfeirio unrhyw grwpiau o drigolion rydych yn teimlo y gallant fod angen y cymorth hwnnw at Cymorth Cynllunio Cymru.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau anstatudol gan awdurdodau lleol? OAQ54249
Gwnaf. Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu cyllid ar gyfer ein hawdurdodau lleol fel y gellir parhau i ddarparu'r gwasanaethau statudol ac anstatudol hanfodol hynny.
Gan fod cyllidebau llywodraeth leol wedi lleihau a'n bod wedi gorfod ateb y galw cynyddol ar ofal cymdeithasol ac anghenion addysg, mae gwasanaethau anstatudol, neu wasanaethau â dyletswydd statudol sylfaenol, megis llyfrgelloedd, wedi cael eu torri, a'u torri'n ddifrifol ledled Cymru. Mae toriadau o'r fath wedi arwain at doriad yn amserau agor llyfrgelloedd ac mae rhai llyfrgelloedd wedi cau, a'r bobl tlotaf sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan hyn; lleihau nifer y cyfleusterau hamdden, pan ddylai cynyddu gweithgarwch corfforol a lleihau gordewdra fod yn flaenoriaeth i wella iechyd pobl; toriadau i wasanaethau ieuenctid, sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc. A yw'r Gweinidog yn cytuno â fy nadansoddiad ac os felly, beth y mae'n bwriadu ei wneud i geisio cynyddu'r swm o arian sydd ar gael i awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf? Os nad yw'r Gweinidog yn cytuno â'r hyn a ddywedais, a allwch chi egluro pam?
Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch dadansoddiad. Mae'r Aelod Mike Hedges yn ymwybodol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gorau i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag y gwaethaf o'r toriadau cyllidebol a orfodwyd gan Lywodraeth y DU. Hoffwn ailadrodd eto, rhag ofn bod Aelodau ar y meinciau gyferbyn wedi diflasu gormod ar hyn, fod cyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru eleni bron £1 biliwn yn is mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2010-11, ac felly mae ceisio cynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn wyneb toriadau o'r fath wedi bod yn her fawr iawn. Rwyf fi a fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet yn parhau i ymgysylltu â llywodraeth leol drwy ein sianeli sefydledig i ddarparu'r setliad gorau posibl ar gyfer pobl Cymru. Fodd bynnag, gyda Brexit a'r diffyg eglurder ynghylch unrhyw adolygiad o wariant posibl, mae'r ansicrwydd ynghylch ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol hyd yn oed yn fwy amlwg yn awr nag y maent wedi bod yn y gorffennol, a buaswn yn annog Llywodraeth y DU i roi trefn arni ei hun a dweud wrthym, o leiaf, beth y mae'n bwriadu ei wneud â chyllideb y flwyddyn nesaf.
Wrth gwrs, pan fo pethau'n anodd, mae angen i ni fod yn llawer mwy creadigol, a hoffwn dynnu eich sylw, Weinidog, at sefydliad o'r enw Dr.M'z yng Nghaerfyrddin. Prosiect ieuenctid ydyw. Mae'n hynod lwyddiannus. Mae'n hynod o boblogaidd. Mae wedi ymladd nerth deng ewin i barhau i oroesi. Ac mae'n cael ei ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn rhannol, ond hefyd gan oddeutu saith neu wyth o sefydliadau mawr eraill y maent wedi gwneud cais am grantiau ganddynt. Maent wedi bod yn greadigol iawn yn ceisio cynnal y gwasanaeth amhrisiadwy y maent yn ei ddarparu i rai 12 i 25 oed, rhieni ifanc, oedolion sy'n anodd eu cyrraedd ac yn agored i niwed, a hoffwn ofyn i chi edrych efallai ar yr hyn y gallech ei wneud i annog sefydliadau eraill, ac yn wir, y cynghorau sir eu hunain, i fod yn llawer mwy creadigol wrth gydweithio gyda sefydliadau ac ymddiriedolaethau elusennol sydd â rhywfaint o arian, yn amrywio o'r Loteri Fawr i rai o'r sefydliadau elusennol mawr ond llai amlwg, oherwydd bydd yr holl arian hwn gyda'i gilydd yn cyfrannu at yr ymdrech i gynnal rhai o'n gwasanaethau.
Ie, rwy'n croesawu'r dull gweithredu hwnnw'n fawr, ac mae gennym rai cynlluniau arloesol iawn ledled Cymru, lle mae awdurdodau lleol wedi gweithio'n galed iawn i gynnal gwasanaethau mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, drwy'r trydydd sector a sefydliadau eraill, sefydliadau cymunedol lleol, cynghorau tref a chymuned ac yn y blaen. Ceir amrywiaeth o ffyrdd creadigol iawn ymlaen. Mae'r strategaeth gwaith ieuenctid ym mhortffolio'r Gweinidog Addysg mewn gwirionedd. Rwy'n falch iawn fod strategaeth gwaith ieuenctid Cymru wedi'i lansio ym mis Mehefin eleni, a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud gyda'r strategaeth honno yw datblygu gwell dealltwriaeth o'r gwasanaethau yng Nghymru er mwyn sicrhau cynnig mwy cyson sydd wedi'i seilio ar ddull gwaith ieuenctid—felly, dysgu o enghreifftiau fel y rheini, oherwydd eu bod yn dameidiog ar draws Cymru, oherwydd bod awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd rhoi peth o'r arian, lle nad yw'r gwasanaeth yn statudol. Rwy'n falch iawn fod mwy na £10 miliwn wedi'i ryddhau drwy'r grant cymorth ieuenctid i gefnogi'r gweithgarwch hwnnw, gan gynnwys £2.5 miliwn ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol pobl ifanc, a £3.7 miliwn i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith ieuenctid yn arbennig, o'r rhan arall o fy mhortffolio. Oherwydd rydym yn gwybod, a chytunaf yn llwyr ag Angela Burns, fod gan waith ieuenctid ran bwysig i'w chwarae yn sicrhau bod datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol pobl ifanc yng Nghymru yn aros ar y trywydd cywir er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu bod ar eu gorau. Felly, cytunaf yn llwyr â'r teimlad, ond credaf fod cael y cyllid craidd hanfodol hwnnw yn gallu bod yn fater o fywyd neu farwolaeth, ac felly, mewn gwirionedd, mae problem wirioneddol wedi bod gyda thoriadau cyni mewn gwasanaethau anstatudol, gan eu bod wedi cael gwared ar yr arian craidd hanfodol hwnnw, ac oherwydd hynny mae'r gwasanaeth yn cael trafferthion mawr i gael y math o gymorth y mae wedi'i nodi.
8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y byddai dileu'r gallu i landlordiaid weithredu troi allan heb fai, yn ei chael ar y sector rhentu? OAQ54284
Byddwn yn gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ystod y tymor Llywodraeth hwn, ac rwyf hefyd yn ymgynghori ar gynigion i ymestyn y cyfnod rhybudd lleiaf o dan adran 173 o'r Ddeddf honno.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ym mis Ebrill eleni, dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau cael gwared ar droi allan heb fai pan fo contractau meddiannaeth newydd mewn grym, ac rydych eisoes wedi crybwyll eich bod wedi cyflwyno ymgynghoriad i ymestyn y cyfnod y mae angen i landlord ei roi i denantiaid adael o ddau fis i chwech mis. Felly, a allwch ddweud wrthyf i, a'r rhai sy'n byw mewn cartref rhent, a phobl sy'n chwilio am gartref rhent, neu sydd eisiau gosod eu cartrefi eu hunain ar rent—ac felly ychwanegu at y stoc tai sydd ar gael yn y sector rhentu—a ydych yn anghytuno â pholisi'r Prif Weinidog o wahardd troi allan heb fai mewn gwirionedd, neu a ydych yn aros nes bod digon o amser gan y Cynulliad i gyflwyno gwaharddiad a fydd yn niweidio'r farchnad rentu ac yn gadael llawer mwy o deuluoedd mewn llety argyfwng?
Wel, dim un o'r opsiynau hynny, oherwydd mae'r Aelod wedi anghofio'n llwyr fod y Cynulliad hwn eisoes wedi pasio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae'n Ddeddf radical iawn, ac rwy'n falch iawn ohoni. Nid ydym wedi bod mewn sefyllfa i weithredu'r Ddeddf honno, yn anffodus, oherwydd rhai materion astrus sy'n gysylltiedig â'r systemau TG yn y llysoedd nad af i'w trafod am nad oes amser, ond rydym wedi datrys y broblem honno yn awr ac rydym bellach yn ymgynghori ar ddarn olaf y jig-so ar gyfer gweithredu'r Ddeddf honno. Hoffwn atgoffa'r Aelod fod y Ddeddf honno'n cyflwyno contractau meddiannaeth orfodol, gan wneud rhentu'n fwy tryloyw. Mae'n cyflwyno'r gofyniad i annedd fod yn addas i bobl fyw ynddi, ac rwy'n arbennig o falch o hynny, ac roedd y meinciau y tu ôl i mi yn awyddus iawn i weld hynny hefyd. Mae'n cynnwys gofynion penodol ar gyfer larymau mwg a charbon monocsid a phrofion diogelwch trydanol. Mae'n diogelu rhag achosion o droi allan dialgar, sef pan fydd landlord yn troi tenant allan mewn ymateb i gais am waith atgyweirio neu waith cynnal a chadw. Mae'n cynnwys nifer o bethau eraill sy'n ymwneud â hyd y contract ac yn y blaen, ac nid wyf am eu trafod yn awr rhag ennyn llid y Llywydd. Rydym yn ymgynghori yn awr ar ymestyn y cyfnod ar gyfer rhoi terfyn ar gontractau cyfnodol yng Nghymru, oherwydd ni fydd y tenantiaethau byrddaliadol sicr y mae'n sôn amdanynt yn bodoli yng Nghymru mwyach ar ôl i'r Ddeddf hon ddod i rym, felly bydd gennym denantiaethau gorfodol sy'n para dwy flynedd. Felly, mae'r cyfyngiadau hyn mewn set hollol wahanol o drefniadau cyfreithiol i'r hysbysiad adran 21 y mae'n sôn amdano yn Neddf Tai 1988. Lywydd, yma yng Nghymru, rydym wedi symud ymhell o'r fan honno, ac rydym wedi ailgydbwyso'r berthynas rym rhwng landlordiaid a thenantiaid, ac wrth weithredu'r Ddeddf hon byddwn yn cywiro llawer o'r gwallau yn yr hen Ddeddf tai. Rydym wedi ymgynghori'n helaeth â'r—[Torri ar draws.] Rydym wedi ymgynghori'n helaeth â'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl ac maent yn hapus iawn â'r trefniadau hyn.
Ac mae'r cwestiwn olaf yn mynd i David Melding.
Efallai y gallaf ddod ag ychydig o gonsensws tawel i'r mater hwn. Mae'n bwysig ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir yma—nad ydym yn gwneud i landlordiaid posibl a landlordiaid presennol beidio â darparu tai i'w rhentu. Ond mae angen ail-gydbwyso hefyd, ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn rhan o ddull gweithredu tebyg. Rwy'n eich annog i gofio'r hyn a ddywedodd Richard Lambert—sef prif swyddog gweithredol Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid—ac mae'n briodol iawn, o ystyried yr hyn a ddywedoch chi am Ddeddf 2016. Yno, roeddent yn sicrhau bod y gweithdrefnau craidd yn cael eu diwygio yn yr Alban—mae'n ddrwg gennyf, roedd yn cyfeirio at yr Alban, lle roeddent wedi sicrhau bod y prosesau craidd ar waith, ac felly roedd y tenant a'r landlord yn gwybod pa hawliau a fyddai ganddynt pe bai'n rhaid iddynt ddefnyddio system y llysoedd. Credaf fod honno'n wers dda, oherwydd mae'n rhaid i'r system hon weithio'n effeithiol a bod yn deg i'r ddwy ochr.
Oes, yn wir, ac wrth gwrs mae'n mynd ochr yn ochr â Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, a basiwyd drwy'r Cynulliad yn ddiweddar iawn, sy'n nodi Rhentu Doeth Cymru fel y sefydliad sy'n ei 'blismona' yng Nghymru. Wrth gwrs, gwnaethom edrych yn ofalus ar y profiad yn yr Alban hefyd, ac mae problem ynglŷn â chapasiti awdurdodau lleol i blismona'r systemau yno. Ond rwy'n siŵr, Lywydd, y bydd y system hon yn cyflwyno set hollol wahanol o drefniadau yng Nghymru, a basiwyd gan y Cynulliad hwn am fod ganddo'r weledigaeth i wneud hynny. Bydd ein trefniadau newydd a'r ymgynghoriad ar adran 173 yn sicrhau nad oes gennym unrhyw fylchau lle gellir troi tenantiaid allan yn ddisymwth. Mae'r Ddeddf ffioedd yn eu hatal rhag gorfod talu'r ffioedd yn ôl. Mae gennym y trefniadau adneuon. Mae cyfres gyfan o bethau eraill rwy'n annog yr Aelodau i ddod yn fwy cyfarwydd â hwy yn y Ddeddf honno sy'n amddiffyn tenantiaid rhag y mathau o bethau y mae adran 21 yn cael ei defnyddio ar eu cyfer yn yr hen Ddeddf tai.
Dioch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf oedd i fod y cwestiynau amserol, ond ni chafwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Felly, y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Hefin David.
Ni fyddwch yn credu hyn, Lywydd, ond roeddwn i bob amser eisiau bod ar y llwyfan ac ni chefais erioed gyfle, a dyna pam roeddwn wrth fy modd yn mynychu pymthegfed sioe flynyddol Grŵp Theatr Bedwas y penwythnos diwethaf. Mae Grŵp Theatr Bedwas wedi bodoli ers 1982, ac mae'n fudiad sy'n cael ei redeg gan y gymuned ac mae'n darparu adloniant, pantomeimiau a digwyddiadau codi arian ar gyfer y gymuned. Maent yn croesawu pobl o bob oed, ni waeth beth yw eu gallu, ac mae ganddynt tua 30 o aelodau, sy'n cynnwys pobl o bob oed.
Os oes unrhyw un eisiau gweithio mewn amgylchedd theatraidd, boed hynny ar lwyfan, actio, canu, dawnsio neu gomedi, cânt gyfle i wneud hynny gyda Grŵp Theatr Bedwas. Os oes unrhyw un yn tueddu mwy at yr ochr gynhyrchu, mae gan y grŵp offer theatrig ac offer technegol a gwybodaeth i'w dangos iddynt a'u rhoi ar ben ffordd yn yr hyn a fydd yn yrfa ddifyr iawn. Mae Grŵp Theatr Bedwas yn credu bod pawb yn seren, a bod pawb yn gallu gwneud rhywbeth. Mae yna aelodau swil iawn yn ymuno â'r grŵp, a rhai sy'n aflonydd ac yn orfywiog, ac mae pob un wedi mynd ymlaen i lwyddo gyda rhywbeth roeddent eisiau ei wneud.
Ni fyddai wedi bod yn bosibl gwneud llawer o'r hyn a wnaeth Grŵp Theatr Bedwas heb waith caled Caroline Hampson. Caroline yw cadeirydd a llywydd y grŵp, ac mae wedi bod yn aelod ers 1987, ac yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd y grŵp ers 2001. Yn ystod ei hamser gyda'r grŵp, mae Caroline wedi bod yn ysbrydoliaeth. Mae wedi ymgymryd â rôl gwniadwraig, artist coluro, yn ogystal â bod yn aelod o'i bwyllgor rheoli.
Yn anrhydeddau pen blwydd y Frenhines eleni, roedd Caroline wrth ei bodd yn derbyn medal yr ymerodraeth Brydeinig am ei gwaith gwirfoddol gyda Grŵp Theatr Bedwas. I bobl sy'n ei hadnabod, fodd bynnag, nid oedd yn syndod—roedd hi'n wobr haeddiannol iawn. I Caroline y mae'r diolch fod y grŵp theatr yn chwarae rhan mor ganolog yng nghalon y gymuned, a beth bynnag yw eich oedran, mae'r grŵp yn dweud mai hud y llwyfan sy'n eich helpu i lwyddo.
Jayne Bryant.
Yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth y Morwyr. Mae gan ddinas Casnewydd dreftadaeth forol falch iawn. Ddydd Sul, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i gofio am aberth morwyr Casnewydd a gymerodd ran yn y glaniadau D-Day 75 o flynyddoedd yn ôl. Cynhaliwyd y gwasanaeth ar y cyd â digwyddiad i ddadorchuddio angor coffa yn y Genhadaeth i Forwyr ger Doc Alexandra. Mae eleni hefyd yn nodi ugain mlynedd ers sefydlu cangen Casnewydd o Gymdeithas y Llynges Fasnachol. Rhaid rhoi sylw arbennig i Alan Speight, cadeirydd y gangen, am ei ymroddiad i'r gymdeithas, ac i'r hoelion wyth eraill fel Edward Watts am eu cyfraniad i'r gymuned leol. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae cangen Casnewydd wedi gweithio i goffáu aelodau'r llynges fasnachol. Mae'r gangen yn weithgar iawn, ac mae ei gwaith yn cynnwys placiau i goffáu morwyr o Gasnewydd a gollwyd yn y rhyfel byd cyntaf, cofeb i aelodau confois yr arctig a ddisgrifiwyd yn enwog fel y teithiau gwaethaf yn y byd, a chofeb i Raymond Victor Steed, y person ieuengaf o Gymru i gael ei ladd yn ymladd yn yr ail ryfel byd, ag yntau'n ddim ond 14 oed, pan ffrwydrwyd ei long, yr Empire Morn, oddi ar arfordir gogledd Affrica. Collodd Casnewydd fwy o fasnachlongwyr yn ystod yr ail ryfel byd nag a gollodd o holl aelodau'r fyddin, y llynges a'r awyrlu gyda'i gilydd. Gwn y bydd Cymdeithas y Llynges Fasnachol yng Nghasnewydd yn parhau i weithio'n ddiflino i sicrhau na fyddwn byth, fel dinas, yn anghofio'r rheini a gollwyd ar y môr.
Yr wythnos diwethaf, fe goronwyd dau Gymro yn bencampwyr y byd yn eu maes. Mewn cystadleuaeth rhwng 35 o wledydd a 300 o gystadleuwyr yn Ffrainc, fe ddaeth y Cymro Richard Jones o Lyndyfrdwy yn sir Ddinbych yn bencampwr cneifio'r byd—y cyntaf o Gymru erioed i ennill y teitl hwnnw. Roedd yn rhaid cneifio 20 o ddefaid, a mi wnaeth e hynny mewn 15 munud a 30 eiliad, ac er bod dau gneifiwr arall, y ddau yn gyn-bencampwyr y byd, wedi gorffen mewn amser ychydig yn gynt, ansawdd cneifio Richard sicrhaodd mai fe gipiodd y bencampwriaeth. Roedd e'n rhan o dîm o saith o Gymru, gydag aelod arall o'r tîm, Aled Jones o Bowys, yn dod yn bencampwr y byd am drin gwlân, dim ond y trydydd o Gymru i ddal y teitl hwnnw. Mi ddaeth Richard a'i bartner Alun Lloyd Jones o Langollen o fewn trwch blewyn hefyd i ennill pencampwriaeth tîm cneifio y byd. Os na weloch chi hanes eu camp nhw ar Ffermio ar S4C, yna mae yn werth ichi wylio eto. Mi fydd hefyd gyfle, wrth gwrs, i weld aelodau tîm Cymru wrth eu crefft yn cystadlu yn y sioe fawr yn Llanelwedd wythnos nesaf, lle dwi'n siŵr y bydd yna gryn ddathlu. Ond does dim gorffwys i Richard gan y bydd e'n amddiffyn ei goron fel pencampwr cneifio Cymru yn y sioe. Ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, felly, gaf i estyn ein llongyfarchiadau ni i gyd i dîm Cymru, ac yn enwedig i Richard Jones ac Aled Jones, pencampwyr byd diweddaraf Cymru a thestun balchder i bob un ohonom ni?
Yr eitem nesaf, wedyn, yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar flaenoriaethau Brexit. Dwi'n galw ar y Cadeirydd i wneud ei ddatganiad. David Rees.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cyflwyno'r datganiad hwn heddiw er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ein blaenoriaethau ar gyfer Brexit dros y misoedd sydd ar ôl o 2019, a gobeithio y byddwn yn tynnu rhywfaint o'r wleidyddiaeth allan o hyn hefyd. Efallai y bydd yr Aelodau wedi clywed hyn yn cael ei ddweud sawl gwaith o'r blaen ar adegau gwahanol yn ystod proses Brexit, ond serch hynny rydym yn dechrau ar gyfnod tyngedfennol rhwng yn awr a 31 Hydref eleni. Bydd y penderfyniadau a wneir dros y misoedd nesaf yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol a fydd yn dylanwadu ar ein gwleidyddiaeth am sawl blwyddyn i ddod, ac er y bydd llawer o'r penderfyniadau hyn yn digwydd yn San Steffan, mae nifer o feysydd o hyd lle y byddwn ni fel pwyllgor yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ran Cymru.
Ddoe, clywsom ddatganiad eto gan y Gweinidog Brexit, ac rwy'n gwerthfawrogi'r diweddariadau parhaus rydym yn eu cael gan y Gweinidog. Ond fel y clywsom ddoe, roedd pethau'n ddisymud iawn yn San Steffan gan nad oes llawer yn digwydd yno. Lywydd, yn fy natganiad heddiw, hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes blaenoriaeth sydd, yn ein barn ni, yn bwysig i Gymru: paratoi ar gyfer Brexit, yn enwedig o ran y goblygiadau i'n heconomi; y risg i ddatganoli a dyfodol undeb y Deyrnas Unedig o ganlyniad i'r hyn a allai ddod; ac effaith Brexit ar wladolion yr UE a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru.
Yn ystod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, rydym wedi edrych yn rheolaidd ar barodrwydd sectorau allweddol er mwyn tynnu sylw at y materion sy'n arbennig o bwysig i Gymru. Rydym bob amser wedi canolbwyntio ar y materion sy'n berthnasol i Gymru, ac mae'n bwysig fod yr Aelodau yn atgoffa eu hunain o hynny. Mae hyn wedi cynnwys edrych ar oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru; edrych ar sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn paratoi; ac archwilio rhai o'r goblygiadau ar gyfer sectorau allweddol o'r economi. Er bod llawer o'r gwaith hwn wedi'i wneud, mae'n rhaid nodi na ellir ystyried ein gwaith yn y maes hwn, yn enwedig mewn perthynas â gadael heb gytundeb, yn rhestr gynhwysfawr o'r risgiau a'r manteision posibl. Yn fwyaf arbennig, mae'n dal i fod yn wir y gallai goblygiadau gadael yr UE heb gytundeb amlygu eu hunain mewn ffyrdd niweidiol na ellir eu rhagweld.
Daw hynny â mi at heriau'r tri neu bedwar mis nesaf. Ac mae'n bwysig ein bod yn trafod hyn heddiw, oherwydd byddwn yn cael toriad ddydd Gwener, bydd Prif Weinidog newydd yn dod i rym yr wythnos nesaf, bydd yn ffurfio Llywodraeth newydd, ac ni fyddwn yn dychwelyd tan ganol mis Medi. Gall llawer ddigwydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid oes gan fusnesau yng Nghymru ddigon o eglurder ynghylch ein trefniadau masnachu yn y dyfodol, ac ar hyn o bryd maent yn ymgodymu â pharatoadau ar gyfer Brexit 'dim bargen' niweidiol. Mae'r risgiau i'r diwydiant bwyd a diod, yn enwedig y sector cig coch, yn sylweddol. Gwyddom fod 88 y cant o allforion bwyd a diod yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd ar hyn o bryd ac y gallai'r tariffau a fyddai'n cael eu gosod ar yr allforion hyn os na cheir cytundeb ac o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd fod yn llethol. Ac ar ben hynny, byddai effeithiau rhwystrau di-dariff ac archwiliadau glanweithdra a bioddiogelwch ar ein ffiniau ac yn ein porthladdoedd yn fygythiad arwyddocaol i economi Cymru a llif nwyddau a gwasanaethau gyda'n marchnadoedd agosaf. Ac er ein bod wedi cael sicrwydd, i ryw raddau, ynglŷn â gwaith cynllunio Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion hyn, byddwn yn parhau i graffu ar eu gweithgareddau yn y meysydd hyn yn ystod y misoedd nesaf, ac mae'n rhaid dweud nad oes unrhyw fesur o gynllunio—unrhyw faint o gynllunio—a all ein paratoi ar gyfer senario o'r fath yn llawn.
Gan droi at ein hail flaenoriaeth, mae gadael yr UE yn golygu bod angen i Lywodraethau a deddfwrfeydd gwledydd cyfansoddol y Deyrnas Unedig drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio gyda'i gilydd, a sicrhau bod buddiannau eu gwledydd yn cael eu rheoli'n deg wrth i ni fynd o gyrraedd ystod yr UE o fframweithiau polisi cyffredin. Yn y bôn, ymddengys bod consensws yn dod i'r amlwg gan bawb, ar wahân i Lywodraeth y DU, fod yn rhaid i strwythurau rhynglywodraethol presennol newid er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ein dyfodol y tu allan i'r UE. Rydym ni, a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wedi tynnu sylw o'r blaen at y ffaith bod mecanweithiau rhynglywodraethol o fewn y DU yn annigonol. Mae hwnnw'n air caredig, oherwydd roeddem yn defnyddio geiriau cryfach yn rhai o'n condemniadau eraill ohonynt. Ac annigonolrwydd y mecanweithiau hyn sy'n debygol o achosi'r straen cynyddol yn y berthynas rhwng y DU a'r llywodraethau datganoledig yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. O ran craffu, ceir dwy her newydd y mae'n rhaid i ni fel Cynulliad roi sylw iddynt ar frys, sef fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan ac effaith cytundebau rhyngwladol y DU ar ddatganoli.
Lywydd, rwy'n falch o nodi'r camau gweithredu y gwnaeth fforwm y Cadeiryddion sylwadau arnynt yr wythnos diwethaf. Maent wedi cytuno i fwrw ymlaen â'r gwaith ar y fframweithiau, a bydd Cadeiryddion eu pwyllgorau yn ei basio ymlaen gyda'u pwyllgorau. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith honno'n fawr. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr a phwyllgorau eraill y Cynulliad wrth i ni ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil y tasgau craffu newydd hyn. A chwestiwn difrifol iawn y mae'n rhaid i ni ei ofyn i'n hunain yw: sut y craffwn ar y rhain? Ac, efallai, sut y mae gwneud hynny gyda deddfwrfeydd eraill hefyd. Wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni gadw mewn cof y bydd penderfyniadau ar fframweithiau a chytundebau rhyngwladol yn cael effaith ddofn ar ein gallu i weithredu polisïau ar gyfer pobl Cymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, sy'n amlwg yn bwysig. Er enghraifft, polisi amaethyddol, diogelu'r amgylchedd, ac agweddau ar bolisïau gofal iechyd a thrafnidiaeth—gall cytundebau rhyngwladol effeithio arnynt i gyd, a byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru drafod gweithredu'r rheini drwy ei pholisïau.
Mae'r drydedd flaenoriaeth yn ymwneud â'r rhyddid i symud a pharhad hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. Ac er bod consensws eang y dylid cael gwarant gyfatebol ar hawliau dinasyddion ar ôl Brexit, mae yna feysydd polisi mawr ar gyfer y dyfodol y mae angen eu hystyried a chytuno arnynt o hyd. Ac am y rheswm hwnnw, rydym wedi lansio ymgynghoriad ar oblygiadau Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddyfodol rheolau mewnfudo ar ôl Brexit. Byddwn hefyd yn lansio sgwrs ar-lein drwy'r ap Dialogue yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yn cynnal sesiynau grŵp ffocws gyda'r rhai sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newidiadau i'r rheolau hyn yn ystod tymor yr hydref. Ni allwn fethu â gwneud hynny. Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, oherwydd drwy gydol y broses hon, y peth pwysig i ni fel pwyllgor yw datgan yn glir i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, 'Bydd croeso i chi yma bob amser. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad rydych yn ei wneud, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i fyw eich bywydau yma yn rhan o'n cymunedau ar hyd a lled y wlad wych hon.'
Dyma'r neges a gyflëwyd gennyf yn ystod ymweliad diweddar Ei Ardderchogrwydd, llysgennad Rwmania â'r DU. Mewn trafodaeth answyddogol a gawsom gydag ef a'r grŵp a ddaeth gydag ef o'r conswl anrhydeddus yng Nghymru, roedd yn frawychus eu clywed yn sôn am y ffordd roedd pobl yn dal i ddweud wrthynt hwy fel teulu, neu wrth eu plant, am fynd adref—ac roeddent yn blant a oedd yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'n neges rwyf am barhau i'w hailadrodd dros y misoedd sydd o'n blaenau. Mae'n neges rwy'n credu y bydd pob Aelod yn y Siambr hon yn dymuno ei hailadrodd hefyd—sef y bydd Cymru bob amser yn gartref i bobl sydd eisiau byw yma a gweithio yma ac sydd, mewn gwirionedd, yn ein helpu i wasanaethu ein pobl. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i David Rees am y ffordd y mae'n cadeirio'r pwyllgor? Credaf ei bod yn dasg anferthol mewn cyfnod hynod ryfeddol o'n hanes gwleidyddol, ac mae gennym ni ran angenrheidiol iawn i'w chwarae yma yng Nghymru, ac mae arweinyddiaeth David wedi bod yn allweddol i sicrhau bod y pwyllgor hwnnw'n gweithio'n anhygoel o effeithiol a chyda chytundeb dwfn iawn ar lawer o faterion, sydd, o gofio'r safbwyntiau angerddol sydd gan bobl, yn gamp ryfeddol.
Mae'n rhaid i mi ddweud, ar ôl dechrau ar y nodyn cadarnhaol hwnnw, rwy'n siomedig iawn ynglŷn â phresenoldeb gwael Llywodraeth Cymru ar gyfer y sesiwn hon. Rwy'n credu y dylai'r holl Weinidogion sydd â'r cyfrifoldeb perthnasol yma fod wedi ei mynychu. Nid wyf yn siŵr pam nad ydynt wedi gwneud hynny, oherwydd, er mwyn cydbwyso fy sylwadau, cafwyd cyfranogiad rhagorol gan Lywodraeth Cymru yng ngwaith y pwyllgor a thystiolaeth ddidwyll, ddoeth o ansawdd uchel gan Weinidogion y Llywodraeth. Felly, unwaith eto, credaf ei fod yn anarferol o ran y ffordd y maent wedi ymddwyn hyd yn hyn yn ein rôl yn craffu ar eu heffeithiolrwydd fel Llywodraeth. Ond rwy'n credu ei bod yn briodol cofnodi'r sylwadau hynny.
Credaf y byddai canlyniad 'dim bargen' yn risg ddifrifol. Ni allaf weld sut y gallai unrhyw berson rhesymegol ddod i unrhyw gasgliad arall. Hyd yn oed pe bai Brexit yn datblygu i fod yn fwy sefydlog yn y tymor canolig i'r tymor hir—ac mae hynny'n bosibl; gallwch wneud y rhagfynegiadau hynny—byddai'r cythrwfl tymor byr yn ddifrifol. Nid oes gennym unrhyw hawl i wneud penderfyniadau sy'n gwneud y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn agored i'r peryglon hynny, ar wahân i'r hyn y gallem ei wneud mewn capasiti economaidd mwy hirdymor yn y wlad hon. Felly, rwy'n credu bod angen sylwi ar hynny. Ac mae wedi bod yn broblem wirioneddol i'r rhai sydd, y tu hwnt i rethreg, wedi ymrwymo i ganlyniad 'dim bargen', fel posibilrwydd o leiaf. Oherwydd mae'r ochr arall yn ei weld fel rhywbeth sydd â fawr iawn o hygrededd yn perthyn iddo o ystyried y niwed y byddai'n ei achosi i'r rhai sy'n ei argymell.
Mae perygl o achosi dirwasgiad gyda 'dim bargen', a dirwasgiad difrifol o bosibl hyd yn oed. Yr hyn sy'n sicr yn wir yw y byddai unrhyw ddirwasgiad, mae'n debyg, yn taro Cymru galetaf. Ni yw'r rhan fwyaf agored o economi Prydain. Mae llawer o ddadansoddwyr yn rhagweld y bydd y bunt yn disgyn i lefel y ddoler. Os clywodd unrhyw un newyddion ariannol Radio 4 y bore yma, nid oedd yn ffordd braf o ddechrau eich diwrnod. Byddai honno'n lefel nas gwelwyd ers y dirwasgiad ar ddechrau'r 1980au. Byddai'n cael effaith fawr ar lefelau incwm effeithiol yn y wlad hon gan fod cymaint o'r economi fyd-eang yn cael ei chyfrif mewn doleri. Byddem yn gweld ein cyfraddau cyflog yn gostwng yn eithaf sylweddol i bob pwrpas. Fel y dywedodd y Cadeirydd, mae'r sectorau cig oen, dur, modurol ac awyrenegol yn wynebu heriau penodol, ac rwy'n cymeradwyo'r gwaith a wnaethpwyd yn y meysydd hyn yn arbennig ac ymateb Llywodraeth Cymru wrth geisio paratoi cymaint ag y gall i leddfu'r effaith yn y meysydd hynny.
Ac yn y byd ar ôl Brexit, bydd angen diwygio strwythurau rhynglywodraethol y DU, diwygio sy'n cryfhau'r undeb ac sy'n caniatáu i fframweithiau cyffredin weithio'n effeithiol. Unwaith eto, rwy'n canmol Llywodraeth Cymru am ei hymagwedd gytbwys. Mae wedi nodi'r meysydd lle mae'n ystyried bod Llywodraeth y DU wedi bod yn adeiladol iawn, ac mae hefyd, yn anochel, wedi tynnu ein sylw at feysydd y mae'n eu hystyried yn ddiffygiol. Ond rwy'n credu bod yna lefel o ewyllys da gwirioneddol ar y ddwy ochr—Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru—o ran llywio drwy'r cyfnod hwn a sicrhau bod gennym strwythurau cadarn ar gyfer y dyfodol.
Ond rwy'n credu y gallai'r sefyllfa ganlynol, neu'r amgylchiadau a allai ddod i'r amlwg yn ystod y tri mis nesaf, fod yn arbennig o niweidiol i'r undeb ac i Gymru. Mae angen i ni fod yn ymwybodol y bydd y tri mis nesaf yn gwbl wahanol i unrhyw gyfnod arall o heddwch yn ein hanes gwleidyddol dros y 100 mlynedd diwethaf. A bod rhaid i ni sylweddoli—. Nid yw hon yn sefyllfa arferol; mae wedi cymryd tair blynedd i gyrraedd y cam hwn, ond gallai'r hyn sy'n digwydd nesaf ddigwydd yn gyflym a gall fod yn ddramatig iawn.
Credaf y dylem ddiystyru Brexit heb gytundeb yn awr a gwneud hynny'n glir ar draws y Siambr. Sut y mae wedi dod yn sefyllfa ddiofyn y gallem oddef Brexit heb gytuneb? Pwy yn y byd a bleidleisiodd dros hynny? Faint ohonom a glywodd "Brexit 'dim bargen'" yn ymgyrch y refferendwm? Dim gair, a digon o dystiolaeth ymysg y rhai a argymhellai ein bod yn dirwyn ein perthynas â'r UE i ben nad dyna'r ffordd y byddai'r ysgariad yn cael ei drefnu.
Gohirio'r Senedd—wel, mae gennym gymeriad poblogaidd, neu gymeriad sy'n cael ei ystyried yn boblogaidd gan lawer o leiaf, a chyfeirir ato fel yr aelod o'r ddeunawfed ganrif. Wel, mae'n ymddangos i mi y byddai gohirio'r Senedd yn ddull o weithredu o'r ail ganrif ar bymtheg. Dull Siarl I o ymdrin â'r Senedd. Ond—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n ofni na allaf ar ddatganiad.
Datganiad yw hwn.
Ond y Senedd yw fforwm cenedlaethol y wladwriaeth Brydeinig. Nawr, rwy'n gwybod nad yw rhai ohonoch yn cytuno'n llwyr â hynny, ond yn yr un modd â'n bod yn fforwm cenedlaethol Cymru, y Senedd yw fforwm cenedlaethol y wladwriaeth Brydeinig, ac ar yr adeg hon o argyfwng domestig mawr, mae hyd yn oed goddef i eraill gynnig gohirio’r Senedd fel opsiwn i fynd â chi dros linell Brexit heb gytundeb yn gwbl hurt a dylai pob gwleidydd cyfrifol ddiystyru hynny.
Peth arall y dylid ei ddiystyru yw unrhyw sefyllfa, unrhyw ymagwedd, sy'n arwain at gysylltiadau chwerw ar unwaith â'r UE. Rydym yn gadael. Mater i ni yw eu hargyhoeddi hwy ein bod yn ei wneud mewn perthynas â’r holl ystyriaethau a buddiannau allweddol sydd ar gael gyda'n partneriaid a gyda ni. Ac rwy'n ofni ffurf hyll iawn ar genedlaetholdeb sy’n datblygu, mewn rhai mannau beth bynnag, sy'n sydyn yn troi unrhyw fethiant ar ran Llywodraeth y DU yn fai ar yr Ewropead estron rywsut, ac mae angen ymdrin â hyn. Mae arnom angen cysylltiadau cadarnhaol gyda'r UE o'r diwrnod cyntaf. Sut y cawn ni byth y math o berthynas fasnachu sydd ei hangen arnom?
Os caf ddod i ben, y canlyniad gorau o’r cychwyn yw cytundeb. Anogaf bawb i fod mor hael â phosibl wrth geisio sicrhau cytundeb. Rhaid iddo fod yr hyn sydd yno, yn y bôn. Nid cytundeb Mrs May yw’r hyn sydd yno; cytundeb yr UE a argymhellwyd gyda'r wladwriaeth Brydeinig ydyw. Mae'n fwy nag unrhyw wleidydd penodol. Rwy'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru rai amheuon, ond rydym yn wynebu'r posibilrwydd o 'ddim bargen', neu’r cytundeb presennol efallai wedi'i addasu ychydig drwy ddatganiad gwleidyddol. Dyna lle rydym ni. A byddai'r cytundeb presennol hwnnw’n parchu refferendwm Brexit a byddai hefyd yn parchu'r realiti economaidd a masnachol sy'n bodoli ar hyn o bryd, ac sy'n debygol o fodoli am lawer o flynyddoedd i ddod. Ac mae mynd yn groes i hwnnw ac esgus ein bod yn byw yn yr ail ganrif ar bymtheg, lle mae goruchafiaeth Prydain dros fasnach y byd yn datblygu, yn hurt ac mae angen rhoi diwedd ar hynny yn awr.
A gaf fi ddiolch i David am ei gyfraniad, ac yn arbennig am ei eiriau caredig ar y dechrau? I bawb gael gwybod, rwyf wedi derbyn ymddiheuriadau gan y Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n cytuno efallai fod Gweinidogion wedi cael digon ar Brexit i raddau, ond mae'n faes pwysig ac mae'n rhaid inni sicrhau—. Ac i fod yn deg â hwy, mae'n hollol iawn nad yw Gweinidogion erioed wedi cilio rhag dod i’r pwyllgor a bod yn drwyadl ac yn onest gyda'r pwyllgor, ac mae ambell un o Weinidogion y DU wedi gwneud hynny hefyd.
Tynnodd sylw hefyd at bryderon eto fod y tri mis nesaf yn dri mis allweddol—Awst, Medi, Hydref. Y pedwar a phum mis nesaf mewn gwirionedd, gan fy mod yn credu y bydd Tachwedd a Rhagfyr, ar ôl i ni adael, os byddwn yn gadael heb gytundeb, yr un mor ddrwg, a byddwn yn wynebu cyfnod heriol. Ond mae yna amser tyngedfennol o’n blaenau. Mae hefyd wedi tynnu sylw at y dasg ryfedd o hawlio democratiaeth, ond gohirio’r Senedd hefyd, sy'n gwadu democratiaeth ar un ystyr. Felly, yn anffodus, nid yw’n rhywbeth y cawn fynegi barn yn ei gylch am na allwn atal hynny, ond mae'n effaith y dylem fod yn gwbl ymwybodol ohoni, oherwydd mae canlyniadau hynny’n ddifrifol i ni, oherwydd os ydynt yn gohirio’r Senedd, yn amlwg ni fydd dim yn cael ei wneud yn San Steffan dros y misoedd hynny. Mae'n effeithio ar yr hyn a wnawn—nid ydym yn gwybod i ble y byddwn yn mynd. Mae'n amlwg na fyddem yn deall un peth sy'n ddiben iddo sef gadael heb gytundeb, ac mae hynny'n rhywbeth y byddem yn amlwg yn gorfod derbyn ei fod yn mynd i ddigwydd. Ond mae'r canlyniadau y tu hwnt i hynny yn rhywbeth nad ydym yn ei ddeall o gwbl. Oherwydd, fel y pwysleisiodd David, yr hyn sy'n bwysig yw cryfhau'r undeb drwy ddiwygio, ac os ydych chi'n gohirio'r Senedd, rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y bydd hynny'n cryfhau'r undeb drwy ddiwygio. Felly mae'n gwestiwn difrifol iawn sy'n rhaid i ni ei wylio.
Mae wedi gwneud yn hollol glir eto yr heriau y byddai 'dim bargen' yn eu creu i'r DU gyfan, a'r risgiau y byddem yn eu hwynebu. Ac mae'n hollol iawn ar baredd y bunt; darllenais y bore yma eu bod yn rhagweld y bydd y bunt yn gostwng i $1. Rwy'n cofio'r adeg pan oedd yn $4 a rhywbeth i’r bunt; mewn gwirionedd, rwy'n cofio $2.50 i'r bunt yn dda iawn. Rwy'n gwybod ei bod wedi gostwng yn ddramatig, ond nid wyf erioed wedi ei weld yn $1 i’r bunt—mae hynny'n gwbl wallgof. A dyna'r ffigurau y maent yn sôn amdanynt. Felly mae angen i ni fod yn wyliadwrus iawn o'r canlyniadau, oherwydd mae llawer o gynhyrchion byd-eang yn cael eu prynu yn y broses drwy ddoleri—mae olew yn enghraifft berffaith o hynny—a bydd hynny'n effeithio ar bopeth a wnawn, oherwydd mae'n effeithio ar gostau cludiant popeth a gyflenwn. Felly, mae cyfnod heriol o'n blaenau os yw hynny'n digwydd o ganlyniad.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i David Rees am y modd ardderchog y cadeiriodd y pwyllgor, a'r swyddogion sy'n gwneud gwaith mor wych yn cynorthwyo ein gwaith. Rwy'n credu ei bod yn fraint fy mod yn gallu chwarae rhan mewn pwyllgor sy'n gwneud y gwaith pwysig hwn mewn perthynas â Brexit, ar yr adeg hollbwysig a rhyfedd hon yn ein gwleidyddiaeth, a chyda phobl o wahanol bleidiau sydd am ymdrin yn ddifrifol â'r materion yr ydym yn eu hwynebu, ac eisiau gweithio'n adeiladol, er mwyn craffu ar benderfyniadau, a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer y dyfodol. Ac yn hynny o beth, hoffwn gysylltu fy hun â llawer o'r hyn y mae David Melding wedi'i ddweud.
Gadeirydd, mae'r rhain yn amseroedd pryderus, a rhywbeth y siaradais amdano o'r blaen yw'r gost cyfle sydd wedi deillio o’r holl gynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb, a'r holl adnoddau y gallem fod wedi eu gwario fel arall ar ddatblygu ein cenedl a gwella gwasanaethau. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, rwy'n gwybod, yn effro i hyn—rhoesant dystiolaeth i ni ar hyd y llinellau hynny. Pan gyrhaeddwn yr ochr arall, boed yn gytundeb neu'n ‘ddim bargen’ neu ‘aros’—beth bynnag sy'n ein hwynebu—a ydych chi’n cytuno y bydd hwnnw'n waith mawr i ni edrych arno?
Rydych chi hefyd wedi siarad am y rôl gwbl hanfodol y bydd ein pwyllgor yn ei wneud wrth siarad â dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, a'r effaith y mae'r ansicrwydd yn ei chael arnynt hwy. Ychydig wythnosau yn ôl, cyfarfûm ag un o fy etholwyr sy'n un o wladolion yr UE, a chyflwynodd i mi lyfr o dystebau Brexit, o'r enw In Limbo. Mae'r enw'n dweud y cyfan, onid yw? Mae bywydau cymaint o bobl ar stop ar hyn o bryd oherwydd yr ansicrwydd hwn. Ac fe gyfeirioch chi, Gadeirydd, at y ffaith bod un person yr oeddem yn siarad â hwy’n ddiweddar wedi siarad ynglŷn â sut y dywedwyd 'Ewch adref' wrth eu plentyn. Wel, mae rhai etholwyr sy'n wladolion yr UE wedi dweud pethau tebyg iawn wrthyf innau hefyd. Nid yw'n iawn, a hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethoch i holl ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru—hoffem i chi wybod bod croeso i chi, ein bod yn gwerthfawrogi’n fawr eich cyfraniad i'n heconomi a'n cymdeithas, ac mae’n cyfoethogi'r wlad hon yn fawr.
Nawr, rwy’n hynod o falch y byddwn ni, fel pwyllgor, yn ystyried dyfodol yr undeb fel rhan o'n rhaglen waith yn y dyfodol. Mae angen dybryd inni graffu ar strwythurau rhynglywodraethol, ac i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn y dylai ei wneud o ran yr egwyddorion drafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o gofio, hyd yn hyn, nad ydynt wedi rhoi unrhyw arwydd eu bod yn bwriadu newid eu ffyrdd haerllug o fynd ati. Edrychaf ymlaen at graffu ar y fframweithiau polisi cyffredin, ac at weithio i sicrhau nad yw San Steffan yn cael rhwydd hynt i lofnodi cytundebau rhyngwladol sydd â'r potensial i ddiraddio gwasanaethau datganoledig heb i Gymru gael llais.
Ar adegau fel hyn, gyda chwyldro yn yr awyr bron, dyletswydd y lle hwn, a'r Llywodraeth, yw paratoi at y dyfodol. Ydy, mae hyn yn golygu paratoi ar gyfer pob math o bosibiliadau Brexit gwahanol, ond mae hefyd yn golygu paratoi'r wlad hon ar gyfer gwahanol bosibiliadau cyfansoddiadol. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun wrth y pwyllgor fod rhannau symudol i'r undeb hwn, nad yw Llywodraeth Cymru yn rheoli'r rhain, ac y gallai fod yn bosibl y bydd angen i Gymru ystyried ei dyfodol cyfansoddiadol yn fuan iawn, pe bai'r Alban yn dod yn annibynnol, er enghraifft. Felly, mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi'r sylfeini ar gyfer y posibilrwydd hwn—ac rwy'n derbyn ei fod y tu allan i gylch gwaith ein pwyllgor.
Felly, rwy'n ailadrodd fy ngalwad—gan siarad fel aelod unigol o'r pwyllgor yn hytrach nag ar ran y pwyllgor yn ei gyfanrwydd—i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth ar frys i gynnull confensiwn cyfansoddiadol i ystyried y gwahanol opsiynau cyfansoddiadol sydd ar gael i Gymru. Nid oes unrhyw bwynt galw am gonfensiwn o'r math hwn ar gyfer y DU gyfan. Treuliodd y cyn Brif Weinidog flynyddoedd yn ceisio ei orau i gyflawni hyn heb gyrraedd unman. Mae'r Alban ar eu llwybr cyfansoddiadol eu hunain ac nid oes gan Loegr unrhyw fwriad i chwarae'n deg. Cyn belled ag y gwelwn, mae hyn yn rhywbeth sy'n rhaid i ni ei wneud drosom ein hunain.
Dylai'r confensiwn hwn, a allai fod yn debyg o ran ei gwmpas i gomisiwn Kilbrandon a gynullwyd gan Lywodraeth Lafur Wilson, ystyried y gwahanol bosibiliadau sydd ar gael i Gymru a sut y byddai'r rhain yn gweithredu'n ymarferol: o hunanlywodraeth i 'devo max'; o ffederaliaeth i gydffederaliaeth; ac, ie, annibyniaeth hefyd. Os na wneir y gwaith hwn, mae'n bosibl y gwelwn ein bod yn suddo'n rhan o long wladol gamweithredol ac anghytbwys Cymru a Lloegr, yn llawn edifeirwch na wnaethom adeiladu bad achub pan gawsom gyfle. Mae gennym ddyletswydd i'n dinasyddion a chenedlaethau'r dyfodol i roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r mater hwn. Nawr yw'r amser i baratoi ar gyfer y dyfodol.
Diolch i Delyth am ei chyfraniad a'r pwyntiau a wnaeth. Rwy'n credu bod y costau cyfle yn rhywbeth y dylem fod yn edrych arno, oherwydd ni chlywaf unrhyw rai sydd o blaid Brexit yn herio'r costau a glustnodwyd ar gyfer gadael yr UE, heblaw'r bil ysgariad. Ond mae costau ychwanegol y tu ôl i hynny. Siaradodd pawb ohonom yn y refferendwm am gostau bod yn yr UE, ond nid ydym yn cael unrhyw ffigurau ar gyfer faint y mae'n ei gostio i ni yn awr mewn gwirionedd, yr arian sy'n cael ei wario, yr aflonyddwch adrannol a achosir, a'r ffigurau hynny. Dyna rywbeth y byddwn am ei ofyn i Lywodraeth Cymru ar ryw bwynt o bosibl, ynglŷn â’r math o ffigurau y maent yn eu gwario ar hyn, ar wahân i'r gronfa drawsnewid, Weinidog, oherwydd gwelaf chi’n edrych yno, ond y swm o arian rydych yn ei wario ar weithgareddau eraill yn ogystal.
Buaswn yn cytuno â Delyth ynglŷn â ddinasyddion yr UE hefyd—maent yn dal i fod mewn limbo. Nid ydym yn genedl o Donald Trumps, lle mae pobl yn dweud, 'Ewch adref.' Mae pobl yn dod yma ac mae croeso iddynt yma ac maent eisiau bod yn rhan o fywyd yma, ac rydym am iddynt fod yn rhan o fywyd yma. Rwy'n credu ein bod bob amser wedi bod yn gymdeithas amlddiwylliannol. Daw fy mam o Wlad Belg. Daeth hi drosodd ar ôl yr ail ryfel byd. Rydym yn genedl o bobl sydd bob amser wedi croesawu eraill, ac ni ddylem byth, byth, byth newid o hynny. Os oes unrhyw un eisiau efelychu Donald Trump, rwy'n awgrymu eich bod yn mynd oddi yma i America.
Mae dyfodol yr undeb yn beth cryf iawn. Efallai fod gennym farn wahanol ar yr hyn y dylai confensiwn cyfansoddiadol fod, ond ar ryw adeg, mae angen i ni fynd i'r afael â: sut olwg fydd ar yr undeb? Ac os na wnawn hynny, sut olwg a allai fod arno? Mae angen inni gyrraedd y fan honno, gan fy mod yn ofni bod yna estrysod yn San Steffan sy'n dal ati i gladdu eu pennau, heb fod eisiau gwybod a heb fod eisiau edrych ar sut y gallai edrych os nad ydym yn gweithredu yn awr.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad. Mae'n dda gweld bod y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yma bellach hefyd. Roeddwn i'n meddwl bod ei ddatganiad yn un ystyriol iawn mewn gwirionedd, ac yn llai pleidiol a mwy cytbwys na'r cyfraniadau a glywsom hyd yma o'r llawr. Hefyd, roedd yn well na'r hyn a welais yn ei bwyllgor ddydd Llun, rwy’n credu, lle'r oedd y flaenraglen waith yn cynnwys adran ar gael blaenraglen waith ar Fil refferendwm, fel pe na bai Cymru a'r DU eisoes wedi pleidleisio dros adael, ac roedd wedi'i lliwio’n wyrdd ar gyfer mis Medi a mis Hydref ar gyfer casglu tystiolaeth. [Torri ar draws.] Nid dadl yw hon; datganiad yw hwn, David, ac roeddwn i’n credu bod y sylwadau a glywsom gennych chi, David Melding, yn fwy addas ar gyfer dadl na datganiad, ond datganiad yw hwn ac fe geisiaf ateb yn briodol.
Ac yna mae'n debyg, byddwn yn cael adroddiadau coch ym mis Tachwedd ar Fil refferendwm. Pleidleisiasom dros adael, a hyd yma, rydych chi wedi bod yn dda iawn ynglŷn â hynny a chydnabod bod angen i ni adael, David. Ond prin ei fod yn syndod mai dyna'r cyfraniad o feinciau'r Ceidwadwyr, pan fo cymaint o gonsensws ar y pwyllgor.
Nid wyf yn credu bod yr hyn a welwn am hyn yn gyfraniad cytbwys. Nid ydym erioed wedi gweld paredd â'r ddoler ac mae awgrymu bod dirwasgiad yr 1980au cynnar wedi arwain at baredd â'r ddoler mor groes i hanes ac anghywir. Yn ystod y dirwasgiad yn yr 1980au cynnar, gwelsom uchafbwynt o $2.40 neu $2.45 yn y gyfradd gyfnewid sterling/doler. Mae llawer yn ei feio am gau llawer o'r diwydiant trwm ledled Cymru. Cyfradd gyfnewid uchel, nid cyfradd gyfnewid isel oedd y broblem gyda'r dirwasgiad hwnnw. Yn 1986-7 y gwelsom yr isafbwyntiau yn yr arian cyfred gyda'r cwymp ym mhris olew.
Rydych chi'n siarad am ohirio, ond mewn gwirionedd, mae'n beth eithaf arferol yng ngwleidyddiaeth rhai o'r gwledydd eraill sydd â'n system ni. Canada, er enghraifft—nid ydych yn ymwybodol o'r sefyllfa yng Nghanada, gyda Stephen Harper, y Prif Weinidog yno? Gohiriodd yn 2008, ac fe ohiriodd eto yn 2010, ac yna am dri mis yn 2013—i gyd i'w helpu i ddod drwy sefyllfa wleidyddol—[Torri ar draws.] Ond nid yw'n ddigynsail, nid yw'n ddigynsail. [Torri ar draws.] Cawn weld beth fydd eich arweinydd newydd yn ei ddweud, David, ac rwy'n credu mai dyna fydd yn gyrru llawer o'r hyn sy'n digwydd mewn gwleidyddiaeth dros y misoedd nesaf. Ond rwy'n credu mai'r hyn a glywn—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod hynny'n hollol deg, Lywydd. Yr hyn sydd gennym, o ran y datganiad hwn a'r paratoi ar gyfer 'dim bargen', yw sylwadau synhwyrol iawn yn fy marn i, a chytunaf â'r hyn y mae'r Cadeirydd wedi'i ddweud am hynny.
O ran edrych ar y sector cig, hoffwn ddweud ein bod yn sôn llawer am gig oen, ac rwy'n credu ei bod yn iawn i wneud hynny, oherwydd mae'n sector a fydd yn wynebu rhai o'r heriau anoddaf os byddwn yn gadael heb gytundeb. Ond tybed oni ddylid gwneud llawer mwy i farchnata cig oen o fewn y Deyrnas Unedig? Cofiaf y rhyfel cig eidion a gafodd John Major, a gwelsom gynnydd mewn gwirionedd yn y galw domestig am gig eidion, yn enwedig y darnau gorau. Pe baem yn gweld yr anawsterau hynny i ffermwyr cig oen, does bosibl na ddylech fod yn gweithio i geisio dweud wrth y mwyafrif o bleidleiswyr yn y DU a bleidleisiodd dros adael, 'Mewn gwirionedd, dyma un sector sy'n dioddef anawsterau—os prynwn fwy o gig oen Cymru ledled y DU, bydd yn helpu i liniaru'r anawsterau hynny.' A beth am y sector cig eidion? Clywsom yn gynharach am Iwerddon a phrisiau cig eidion yn disgyn. Wel ydynt, oherwydd eu bod yn ofni y gallai fod tariff yn erbyn eu hallforion i mewn i'r DU. Gobeithio na fydd mor uchel ag y gwelwn, o ran y tariff uchaf posibl y gallai fod, ond pe bai mor uchel â hynny, byddai prisiau cig eidion yma'n codi. Beth ydym yn ei wneud i helpu ffermwyr Cymru i elwa o hynny, cynyddu eu cynhyrchiant a lliniaru'r cynnydd hwnnw yn y prisiau i ddefnyddwyr?
Nid yw saernïaeth sefydliadol y DU—nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi digon o sylw i hyn. Mae'n llawer o bwysau eraill—gwn fod yr Aelod yn deall hynny hefyd. Ond hoffwn eu gweld yn gwneud mwy, ac i'r graddau fod Llywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban yn cytuno â ni, beth am weithio gyda hwy ar y mater hwn? Yr unig adegau y mae'n ymddangos ein bod yn gweithio gyda hwy yw pan fo cynghrair gwrth-Brexit am geisio atal canlyniad y refferendwm, fel pe bai Cymru wedi pleidleisio dros aros ac am adael y DU. Nid yw hynny'n wir. Ond pam nad ydym yn gweithio'n fwy adeiladol gyda Senedd yr Alban ar y fframweithiau? [Torri ar draws.] Pam nad ydych chi'n gwrando ar yr hyn rwy'n ei ddweud, Lee? Rwy'n siarad am y fframweithiau hyn, a pham y mae'n rhaid i ni gydweithio ar draws y DU. Os ydym yn cytuno â'r Alban, beth am i ni weithio gyda hwy a cheisio gwneud rhywbeth ar y cyd, er mwyn cael sylw Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr fod pethau'n cael eu gwneud yn briodol yn y maes hwn?
Ac yn olaf gennyf fi, hoffwn gysylltu fy hun a fy mhlaid yn llwyr â'r sylwadau olaf a wnaed gan David fod croeso i bobl o'r Undeb Ewropeaidd a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd yng Nghymru, rydym am iddynt aros—[Torri ar draws.]—a dylai'r neges honno fynd allan o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. A phan fydd rhai pobl yn heclo, a phan fydd rhai pobl yn awgrymu bod ein plaid ni'n arddel unrhyw safbwynt arall ond hynny, nid yw'n ddefnyddiol iawn, oherwydd mae'n mygu'r—[Torri ar draws.] Mae'n mygu—[Torri ar draws.] Mae'n mygu'r neges honno.
Gadewch i'r Aelod orffen ei gyfraniad.
Rydych yn mygu'r neges honno, a ddylai fynd allan gan bawb ar draws y Siambr hon, gan bob plaid a grŵp gwleidyddol, ein bod am i'r bobl hynny aros. Mae croeso iddynt yng Nghymru: arhoswch os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.]
Lywydd, rwy'n croesawu'r pwynt olaf a wnaethpwyd gan arweinydd Plaid Brexit yn y Cynulliad, oherwydd mae'n bwysig i bobl ddeall, gobeithio—pawb—a phan fyddant yn defnyddio iaith mewn dadleuon, eu bod yn parhau i ddefnyddio'r un iaith fod croeso i bobl, nad ydynt yn estroniaid, eu bod yn unigolion sydd yma ac sydd yma i helpu a gweithio gyda ni. Felly, rwy'n croesawu'r safbwyntiau hynny a wnaed gan yr Aelod.
Rwy'n siomedig ei fod wedi defnyddio ein blaenraglen waith, lle roeddem yn tynnu sylw at y cysyniad o refferendwm, ond oherwydd nad ydym yn gwybod beth sy'n dod, a'n bod am sicrhau bod hyn ar gael yn ein blaenraglen waith fel posibilrwydd. Ac roedd yn bwysig felly nad oeddem yn ei hepgor, fel ein bod mewn sefyllfa, fel un o bwyllgorau'r Cynulliad hwn, i fod yn barod i fynd i'r afael â materion os a phan fyddant yn codi. Roedd yn amlwg fod hyn yn dal yn bosibilrwydd, oherwydd ni wyddom beth a allai ddigwydd yn y dyfodol, boed yn ohirio'r Senedd, a beth fyddai canlyniadau hynny? Gallai fod yn etholiad cyffredinol, o ganlyniad i hynny—pwy sy'n gwybod beth sy'n digwydd wedyn, ar wahân i hynny. Nid ydym yn gwybod a fydd etholiad cyffredinol yn cael ei alw cyn y sefyllfa honno, lle gall plaid ennill a chyflwyno refferendwm arall mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod, ac roedd angen i ni gynnwys sefyllfa yn ein rhaglen waith ar gyfer y posibilrwydd y byddai angen i ni fynd i'r afael â hyn pe bai'n digwydd. A dyna pam ei fod yno, nid oherwydd bod y pwyllgor neu aelodau'r pwyllgor o'r farn ei fod yn syniad gwych. Dyma bwyllgor yn bod yn gyfrifol yn y ffordd y mae'n datblygu pethau, ac mae hynny'n bwysig. Mae'n siomedig fod yr Aelod wedi ceisio bychanu'r cyfrifoldeb hwnnw. [Torri ar draws.]
Ar y gyfradd gyfnewid—wel, roedd yn ddiddorol clywed ei fod yn credu bod cyfraddau cyfnewid isel yn dda, oherwydd yn amlwg mae hynny'n rhoi ein hallforion o dan anfantais, ond dyna ni. Ac fe heriodd fod gohirio'n dderbyniol am ei fod yn digwydd mewn mannau eraill. I mi'n bersonol, ac i'r sefydliad hwn rwy'n credu, pe bai rhywun yn ceisio dweud wrthym, 'Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n mynd i'ch atal rhag eistedd am y ddau neu dri mis nesaf', er mwyn iddynt allu cael deddfwriaeth drwodd, ni fyddem yn hapus. Byddem yn ei weld fel methiant democratiaeth ac felly, nid yw'r ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn golygu ei fod yn dderbyniol neu y dylai gael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU. Ac i unrhyw un sy'n meddwl felly—a chlywais, er mai si yw hi, rwy'n derbyn hynny, ond clywais sibrydion fod y rhai sy'n cefnogi Boris Johnson yn awyddus i weld y Senedd yn cael ei gohirio, a chredaf y byddai hynny'n gamgymeriad mawr i'r Prif Weinidog newydd, os daw'n hynny, ond gadewch i ni aros i weld, a gobeithio y daw i ryw synnwyr yn y swydd honno.
Heblaw hynny—o, y farchnad gig oen. Rwyf am dynnu sylw at un peth: soniwn yn aml am ein marchnadoedd a'n hallforion, ac mae ein cig oen yn mynd dramor, mae cyfrannau mawr yn mynd dramor, ond rydym i gyd yn derbyn, mewn gwirionedd, fod un o'r marchnadoedd mwyaf drws nesaf i ni, sef Lloegr. Deallwn hynny, ond deallwn hefyd fod yn rhaid inni fynd i mewn i'r farchnad honno a bod yn gystadleuol yn ogystal. Ac os ydych yn mynd i senario 'dim bargen' a beth bynnag sy'n digwydd, os ewch i reolau Sefydliad Masnach y Byd a'ch bod yn penderfynu cael gwared ar dariffau, byddwch yn agor y marchnadoedd ar gyfer allforion o wledydd eraill ar draws y byd, a fyddai wedyn yn heriol o ran y cig oen y byddwn ni'n ei roi i mewn hefyd. Felly, mae'n rhaid i chi edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y bydd y marchnadoedd hynny'n dderbyniol ar ei gyfer a sut y gallwch gyrraedd y marchnadoedd hynny hefyd, a phenderfyniadau Llywodraeth y DU i ganiatáu i hynny ddigwydd. Felly, rwy'n credu ei bod yn mynd i fod yn fwy heriol na dweud yn syml, 'Gadewch i ni fynd i Loegr i werthu ein cig oen.' Mae ychydig yn fwy cymhleth na hynny.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am gyflwyno'r datganiad hwn y prynhawn yma. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iddo am y ffordd y mae'n cadeirio'r pwyllgor, ac i'r ysgrifenyddiaeth, sy'n rhoi cymorth i'r pwyllgor. Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r amrywiaeth eang o faterion y mae'r pwyllgor yn ceisio eu cynnwys yn ei amser, ac rwy'n ystyried bod fy amser ar y pwyllgor wedi rhoi cipolwg i mi ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ymdrin â Brexit, ond hefyd o ran gallu craffu ar waith y Llywodraeth ar draws ystod eang o'i gweithgareddau.
Nawr, nid fy nod y prynhawn yma yw ailadrodd dadleuon ynghylch Brexit ei hun. Roeddwn wedi bwriadu gwneud pwynt yn y datganiad fod angen inni ganolbwyntio'n galed ar hawliau a sefyllfa dinasyddion yr UE yn ein gwlad. Roeddwn yn falch o glywed bod y pwynt hwnnw eisoes wedi'i ailadrodd heddiw. Ond fe ddywedaf wrth arweinydd Plaid Brexit fod ei blaid wedi cyflwyno iaith i'r Siambr hon ac i'n dadl nad wyf erioed wedi ei chlywed o'r blaen. Nid wyf erioed wedi clywed Aelodau o'n cymdeithas, ein cymunedau, yn cael eu galw'n 'estroniaid' cyn i chi ddod yn Aelodau o'r Siambr hon. Ni chlywais elfen o unrhyw ddadl a gawsom erioed o unrhyw ran o'r Siambr yn cynnwys y geiriau 'estroniaid' a 'mewnfudwyr' yn ein dadl. Yn y blynyddoedd y bûm yn Aelod yma, mae pawb sy'n byw yng Nghymru wedi cael eu trin yn gyfartal nes i chi gyrraedd y Siambr hon. Eich iaith chi ydyw, eich cywair chi ydyw, a'ch agwedd chi sy'n arwain yn uniongyrchol—yn uniongyrchol—at ymosodiadau ar bobl yn y wlad hon ac sy'n gwneud i bobl deimlo nad oes croeso iddynt yn eu cartrefi eu hunain, a dylai fod cywilydd arnoch am hynny. A dylai fod cywilydd arnoch am yr hyn rydych wedi'i wneud i ddiraddio'r ddadl wleidyddol yn y lle hwn ac yn y wlad hon.
Gadewch imi ddweud hyn: o ran bwrw ymlaen â gwaith y pwyllgor, cytunaf â'r rhai a siaradodd yn y datganiad am rai o'r datganiadau rhyfeddol a glywsom am ein democratiaeth yn y Deyrnas Unedig. Beth bynnag fo'n teimladau ynghylch natur democratiaeth y DU a Phrydain, ein democratiaeth ni ydyw ac mae'n perthyn i bob un ohonom. Nid rhywbeth sy'n eiddo i arweinwyr y Blaid Geidwadol ydyw na'r bobl sy'n ceisio am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Nid oes ganddynt hawl i geisio tanseilio ein democratiaeth seneddol, na defnyddio'r ddemocratiaeth seneddol honno i gyflawni pwrpas nad oes cefnogaeth iddo na mwyafrif o'i blaid. Efallai fod gohirio Senedd y DU yn dderbyniol mewn rhai mannau, ac efallai ei fod yn dderbyniol i rai pleidiau gwleidyddol, a hynny am fod barn seneddwyr yn anghyfleus i'w diben gwleidyddol, ond ni chredaf mai dyna oedd pobl yn ei gredu pan oeddent yn awyddus i adfer rheolaeth. Nid wyf yn cofio unrhyw sgwrs nac unrhyw ddadl yn cael ei gwneud—'Os pleidleisiwch dros adael yr UE yn y refferendwm, wyddoch chi beth fyddwn ni'n ei wneud? Byddwn yn canslo democratiaeth seneddol, byddwn yn gohirio'r Senedd, byddwn yn atal Aelodau Seneddol rhag pleidleisio.' Ni ddywedodd neb hynny erioed, a dylai unrhyw un sy'n gwneud y ddadl honno fod â chywilydd mawr o'r modd y maent yn twyllo pobl y wlad hon, ac nid wyf eisiau unrhyw ran o gwbl yn hynny.
Gwelwyd byrbwylltra, diofalwch a diffyg gofal nad yw'n Brydeinig am bobl y wlad hon yn y ddadl a gawsom dros Brexit heb gytundeb. Rwy'n poeni'n fawr am bobl ym mhob un o gymunedau'r wlad hon, nid y gymuned a gynrychiolaf yn unig. Ac nid yw'n ddigon da i bobl ddweud yn syml, 'Fe gawn adael heb gytundeb ac i'r diawl â'r costau, i'r diawl â'r canlyniadau, ac i'r diawl â bywydau'r bobl yr ydym yn eu difetha.' Nid yw hynny'n ddigon da mewn unrhyw ddadl ar unrhyw adeg. Gadewch imi ddweud nad yw hyn yn nodweddiadol o Brydain—[Torri ar draws.] Nid dim ond esgeulustod troseddol ydyw, mae eich ymagwedd yn gwbl annodweddiadol o Brydain. Felly, rwy'n poeni'n fawr am ddyfodol amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu. Rwy'n poeni'n fawr am y cymunedau sy'n cael eu cynnal gan y diwydiannau hynny. Rwy'n poeni'n fawr am y teuluoedd sy'n cael eu cynnal gan y gwaith hwnnw, ac ni fyddaf byth yn defnyddio fy mhleidlais a fy lle i yn y lle hwn er mwyn tanseilio eu dyfodol.
Ond a gawn ni ddweud hefyd fod angen i ni gael dadl go iawn am ddyfodol y Deyrnas Unedig. Rwy'n ddiolchgar fod y Gweinidog wedi gallu ymuno â ni ar gyfer y sgwrs hon y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei sylwadau a'i ddidwylledd wrth fynychu'r pwyllgor, ac nid dim ond ateb cwestiynau ond ceisio cael sgwrs, dadl a thrafodaeth gyda'r pwyllgor mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymagwedd.
Ond rydym yn gweld newid mawr iawn yn natur y Deyrnas Unedig, creu strwythurau newydd lle na chredaf fod gennym sicrwydd o'r didwylledd, y tryloywder a'r atebolrwydd sydd eu hangen arnom. Rwy'n croesawu llawer o'r newidiadau a welir, a fydd yn creu Teyrnas Unedig lawer mwy cyfartal gyda seneddau ymreolaethol, yn enwedig yma ac yng Nghaeredin, yn gwneud penderfyniadau a fydd yn llywio bywydau pobl yn ein gwledydd, ond gan weithio gyda'r Senedd yn San Steffan er mwyn sicrhau bod gennym drefniant cyfartal lle gall pob un ohonom gyfrannu at ddyfodol y DU hon.
Rwy'n gobeithio y bydd goruchwyliaeth a chraffu democrataidd yn rhan o hynny, ac mae angen inni weithio'n galed—ac rwyf am gyfeirio rhai o fy sylwadau at y Gweinidog yma. Credaf fod angen i bob un ohonom, Lywydd, a chi fel Llywydd, o bosibl, hyd yn oed, sicrhau bod yna atebolrwydd democrataidd sefydliadol o fewn y Deyrnas Unedig sy'n dwyn y strwythurau a grëir gan y fframweithiau cyffredin i gyfrif am eu penderfyniadau.
Gadewch imi wneud un sylw olaf, a gwn fy mod yn profi amynedd y cadeirydd, os nad Aelodau eraill. Gwyn Alf Williams, wrth gwrs, a ofynnodd y cwestiwn enwog, 'Pa bryd oedd Cymru?', ac rwy'n credu bod rhaid i ni yn awr ofyn cwestiwn tebyg, sef 'Beth fydd Cymru?' I mi, mae'r wlad hon bob amser wedi bod yn wlad sydd wedi edrych tuag allan ac wedi edrych ar y byd ac wedi cofleidio'r byd. Bu inni brofi globaleiddio cyn i neb fathu'r ymadrodd. Deallasom beth yw rhyngwladoldeb, ac yma yn y lle hwn, ym Mae Caerdydd, y gwelwyd un o'r cymunedau metropolitanaidd, cosmopolitanaidd cyntaf yn y byd. Ac mae gennym gyfrifoldeb, rwy'n credu, nid yn unig i chwarae ein rhan yn llawn o fewn y Deyrnas Unedig a strwythurau eraill, ond mae gennym gyfrifoldeb i weithio law yn llaw â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn parhau i gael ei chynrychioli mewn prifddinasoedd rhyngwladol ac mewn materion rhyngwladol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth y DU ac eraill i sicrhau ein bod yn cryfhau statws Cymru yn rhyngwladol ar y llwyfan rhyngwladol, a'n bod yn cryfhau cynrychiolaeth Cymru ledled y byd.
Lywydd, rwy'n ddiolchgar ichi am ganiatáu'r datganiad hwn y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod pwyllgorau'n gallu dod â'r datganiadau hyn i'r Siambr, a chyda rhai eithriadau, rwy'n credu ein bod wedi cael dadl gadarnhaol iawn ar y datganiad hwn.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Hoffwn hefyd ganmol y profiad y mae'n ei ddwyn i'r pwyllgor wrth ddeall y gwaith, yn enwedig ochr y berthynas rynglywodraethol i faterion sy'n codi a'r ffordd y mae angen inni fynd i'r afael â'r gwendidau sy'n dechrau ymddangos o ganlyniad i Brexit, a gwireddu'r hyn y mae datganoli yn ei olygu yn awr mewn gwirionedd, heb yr UE. Oherwydd rydym bob amser wedi gweithredu datganoli o dan y cysyniad o UE, ac yn awr mae'n rhaid inni edrych arno mewn strwythur gwahanol, felly gwerthfawrogir ei fewnbwn i'r gwaith hwnnw'n fawr iawn yn yr ystyr hwnnw. Mae hefyd, unwaith eto, yn tynnu sylw at bwysigrwydd dinasyddiaeth a phwysigrwydd pobl sy'n dod i'r wlad hon sydd am fod yn rhan o'r wlad hon, pobl sy'n weithgar ac yn dod â bywyd i'r wlad hon, a dylem groesawu hynny bob amser.
Lywydd, roeddwn yn meddwl mewn gwirionedd fy mod wedi dweud yn flaenorol y dylai unrhyw un fynd i America—rwy'n credu na ddylwn fod wedi dweud hynny. Rwy'n meddwl nad ydym eisiau gweld neb yn mynd o reidrwydd, ond nid ydym eisiau'r agweddau meddwl hynny yn y wlad hon. Ac mae angen cael gwared ar yr agweddau hynny, ac felly dylai pawb fod mor groesawgar â phosibl.
A gaf fi—? Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw Aelodau eraill yn siarad.
Na. Yn bendant, nac oes. [Chwerthin.]
Os felly, a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? A gaf fi hefyd gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r tîm clercio, gan eu bod yn gwneud gwaith aruthrol, ac mae hyn wedi bod yn gymhleth iawn—nid dim ond y tîm clercio; y tîm sy'n cynrychioli'r Cynulliad ym Mrwsel hefyd, y tîm ymchwil. Maent yn gwneud llawer iawn o waith, a phan fyddwch yn ystyried yr holl fynd a dod sy'n digwydd, eu gallu i gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan, yng Nghaerdydd ac ym Mrwsel—credaf eu bod yn gwneud gwaith gwych ar ran y Cynulliad wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd, ac rwy'n canmol eu hymdrechion yn fawr.
Mae wedi bod yn gyfres ddiddorol o gyfraniadau, ond rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n glir yw bod gwaith y pwyllgor yn hanfodol i ddeall y goblygiadau i Gymru. Rwy'n gwerthfawrogi Gweinidogion—pob un ohonynt, a gwn fod Gweinidog Brexit yno—am eu trafodaethau gonest ac agored â ni, ac mae'n rhaid i hynny barhau oherwydd, os ydym am wasanaethu pobl Cymru, mae'n rhaid inni gael yr atebion a'r drafodaeth honno. Ac mae bob amser wedi bod yn dda yn y pwyllgor fod Gweinidogion wedi dod i wneud hynny drosom. Edrychaf ymlaen at eu gweld yn parhau i wneud hynny, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn atgoffa eu cymheiriaid yn y DU y gallant hwy ddod i wneud hynny hefyd, oherwydd weithiau nid yw mor hawdd eu cael hwy i ddod hefyd. Diolch.
Diolch i’r Cadeirydd.
Yr eitem nesaf yw adroddiadau y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ond ni chyflwynwyd cynigion heddiw.
Felly, yr eitem ddilynol yw’r cynnig i nodi’r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19. Dwi’n galw ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7126 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr. A phleser o’r mwyaf ydy cyflwyno’r adroddiad blynyddol yma ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad. Mae’n braf cael cyfle i’ch diweddaru chi am ein gwaith ni dros y flwyddyn diwethaf. Mae’r adroddiad yn dathlu llwyddiannau, ond hefyd yn nodi’r adegau pan nad ydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y safonau uchel sy’n ddisgwyliedig o dan y cynllun.
Mi hoffwn i gychwyn efo’r themâu sy’n rhoi strwythur i’n gwaith ar gyfer y pumed Cynulliad. Fe gafwyd cryn drafodaeth y llynedd am ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid y system recriwtio er mwyn disgrifio a phennu sgiliau iaith ar gyfer swyddi yn well, gan gyflwyno gofyniad sgiliau iaith sylfaenol ar gyfer pob swydd a hysbysebir. Bellach, mae’r system honno wedi bod ar waith am flwyddyn ac mae’r adroddiad yn cynnwys manylion nifer y swyddi a hysbysebwyd ar wahanol lefelau, ac mewn adroddiadau blynyddol o hyn allan mi fydd modd i ni gymharu’r niferoedd hynny.
O ran y thema sgiliau iaith, mae’r tîm sgiliau iaith wedi parhau i gynnig hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad. Bellach mae dros 150 o ddysgwyr yn derbyn hyfforddiant gan y tîm. Eleni, diolch i ymroddiad ein dysgwyr, a dulliau hyfforddi arloesol y tîm, mae 11 o ddysgwyr wedi sefyll arholiadau CBAC ar lefelau mynediad, sylfaen a chanolradd, efo llawer iawn mwy yn dringo ysgol y lefelau ond yn dewis peidio â sefyll arholiad.
Ar y cyfan, mae gwaith y tîm ieithoedd swyddogol eleni wedi canolbwyntio ar gynllunio ieithyddol, sef y trydedd thema, yn sgil rhoi’r system recriwtio newydd ar waith. Mae penaethiaid gwasanaeth a chydgysylltwyr ieithoedd swyddogol wrthi’n diwygio cynlluniau iaith y gwasanaethau unigol, gan nodi gofynion sgiliau iaith ar gyfer pob swydd. Law yn llaw â’r gwaith hwn, rydym ni yn y broses o gofnodi sgiliau iaith ein holl staff. Mae’r gwaith yn digwydd fesul gwasanaeth ar sail hunan asesiad, a bydd y tîm ieithoedd swyddogol a’r tîm sgiliau iaith yn darparu cefnogaeth i unigolion a thimau yn ôl yr angen. Bydd hyn oll yn ffordd o gynnig sicrwydd i’r prif weithredwr, ac i mi fel comisiynydd â chyfrifoldeb am ieithoedd swyddogol, ein bod ni yn cynllunio capasiti dwyieithog y sefydliad yma'n briodol ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf bob amser.
Trafodion y Cynulliad ydy’r pedwaredd thema. Mae ein gwaith ni wedi canolbwyntio ar gefnogi Aelodau Cynulliad i weithio a chymryd rhan mewn trafodion yn eu dewis iaith. Eleni, cafwyd canlyniadau arbennig o dda yn yr arolwg o Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth o ran y gallu i weithio yn eu dewis iaith, ond dydyn ni ddim yn mynd i fod yn gorffwys ar ein rhwyfau, ac mi fyddwn ni'n parhau i wrando ar adborth gan Aelodau a’u staff cymorth er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchel yma.
Yn anffodus, ni chafwyd gwelliant o ran nifer y dogfennau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno yn uniaith, sy’n golygu ei bod yn anodd i Aelodau baratoi ar gyfer trafodion yn eu dewis iaith. Fodd bynnag, rydym ni'n parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i chwilio am gyfleoedd i wella eu darpariaeth. Rydym ni'n croesawu’r ymrwymiad a roddwyd gan Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol, yr wythnos diwethaf, yn ystod sesiwn craffu’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, sef ymrwymiad i gynyddu nifer y dogfennau a osodir yn ddwyieithog, ac mi fyddai’n braf iawn gallu dod yn ôl yma'r flwyddyn nesaf i adrodd cynnydd ar y mater yna.
Thema pump yw’r un mwyaf eang o ran targedau, ac er eu bod yn rhai gweddol syml, gyda’i gilydd, mi fyddan nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr i ddiwylliant ac ethos ein sefydliad. Dyma’r targedau fydd yn ein galluogi ni i wneud y newidiadau fydd yn sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y nod o gael ein hadnabod fel sefydliad blaengar a rhagweithiol wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
O ran y safonau gwasanaeth, fe gofiwch i ni gynnwys nifer o ystadegau ar elfennau o’r gwasanaethau a ddarparwn y llynedd, ac eleni rydym ni wedi ychwanegu at y tablau hynny er mwyn caniatáu cymhariaeth rhwng blynyddoedd. Yn ystod y ddadl llynedd, gofynnodd Aelodau am fanylion ynghylch union nifer a natur y cwynion a dderbyniwyd. Mae’n galonogol nodi mai nifer bach o gwynion gafodd eu derbyn a’n bod wedi llwyddo i fynd i’r afael â’r rhan fwyaf ohonyn nhw'n anffurfiol heb yr angen am ymchwiliad ffurfiol. Fodd bynnag, mi fyddwn i'n hoffi eich sicrhau chi y byddwn ni'n defnyddio unrhyw adborth i ddysgu ac i wella ein gwasanaethau. Mae adborth positif hefyd yn bwysig, ac mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o ddyfyniadau gan unigolion, unwaith eto sy’n ein cynorthwyo i ddysgu a rhannu arferion llwyddiannus ar draws y sefydliad. Dwi'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb i'r adroddiad.
Gaf i ddiolch i chi, Siân, hefyd, ac i aelodau'r tîm ieithoedd swyddogol, am yr adroddiad hwn? Unwaith eto, mae'n adlewyrchu sefydliad lle mae mwy o bobl yn teimlo'n gyfforddus yn gweithio ac yn cael eu cynnwys mewn amgylchedd dwyieithog. Ond dyma'r tro cyntaf i mi deimlo ei fod wedi cydio ar safbwynt ein dysgwyr.
Ydy, mae'r cynllun bob amser wedi bod yn glir ynglŷn â’r addysgu wedi’i deilwra sydd ar gael i Aelodau a'u staff ac i staff y Comisiwn, ac mae llawer ohonom wrth ein bodd o fod yn ddigon ffodus o gael y gwasanaeth hwnnw. Ond, os ydych chi'n ddysgwr iaith eich gwlad eich hun, rydych mewn sefyllfa unigryw sydd ddim yn amlwg mewn sgyrsiau am bolisi, boed hynny am ddysgwyr sy'n oedolion neu hawliau'r Gymraeg, efallai achos dyw dysgwyr ddim weithiau wedi llunio’r polisi.
Er bod yn deg, mae llinynnau gwddf dysgwyr wedi bod yn ddatblygiad cynnar. Pan oeddwn i'n gwisgo fy llinyn gwddf 'iaith gwaith', ni fyddai’r dysgwyr yn siarad â fi, ond pan wisgais i fy llinyn 'dysgwr', fyddant yn fodlon siarad, ac roeddwn i, efallai, hefyd yn llai brawychus.
Felly, rwy'n croesawu'n fawr y ffordd newydd o bennu lefelau sgiliau iaith wrth ddiffinio anghenion swyddi. Gwnes i gynhyrfu nifer o bobl pan geisiais godi hyn mewn dadl ychydig wythnosau'n ôl, yna yng nghyd-destun safonau, ond mae'r egwyddor yr un fath. Ond, yma, mae ein Comisiwn ni ein hunain yn cyfaddef y bydd pobl yn dewis peidio â gwneud cais am swyddi a hysbysebwyd gyda gofyniad iaith ‘Cymraeg yn hanfodol’, pan nad yw dealltwriaeth gyffredinol y gair ‘hanfodol’ yn adlewyrchu'n gywir yr hyn sy'n angenrheidiol. Mae'r un risg yn berthnasol i gyrff sy'n ddarostyngedig i safonau, ond y pwynt yw, yn y lle hwn, yn fan hyn, mae'r Comisiwn wedi cyflwyno dull recriwtio llawer mwy nuanced, mwy cywir a thecach, gan chwilio am lefel o sgiliau sydd ei hangen yn wirioneddol o'r diwrnod cyntaf, ond sy'n creu lle i wella a datblygu'r sgiliau hynny yn y fan a'r lle, gan wneud y gweithle yn lle i dyfu dinasyddion yn gynyddol ddwyieithog a dinasyddion sy’n gynyddol hyderus yn eu dwy iaith.
Mae gyda fi enghraifft o gyfarwyddwr cyfathrebu newydd yn yr adroddiad. Roedd sôn am ofyniad—lefel 3 y’i nodwyd fel y lefel angenrheidiol lleiaf. Gan weithio fan hyn, yn y rôl honno, wedi'i hamgylchynu gan fwy o siaradwyr rhugl, ni fyddai'n hir cyn i ymgeisydd lefel 3 feithrin ei sgiliau i lefel 4 neu lefel 5. Ac rwy’n gwybod bod rhywun wedi cael ei benodi erbyn hyn. Ond pe bai hynny wedi'i hysbysebu fel ‘Cymraeg yn hanfodol’, efallai na fyddai siaradwr lefel 3 wedi gwneud cais, ac efallai na fyddai wedi gwella ei sgiliau iaith. Felly, dwi’n gwerthfawrogi’r ffordd hon ymlaen.
Gyda llaw, fel y gwyddom ni i gyd, mae menywod yn llai tebygol na dynion o wneud cais am swydd lle nad ydynt yn cyflawni'r holl feini prawf. Felly mae'n bosibl y bydd y dull matrics hwn yn cael gwared ar ragfarn anymwybodol rhyw yn ogystal â rhagfarn anymwybodol yn erbyn y rhai sydd ddim yn hyderus yn eu sgiliau cwbl briodol.
Roeddwn yn falch iawn o weld eich bod eisoes wedi rhannu'r dull hwn â'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, undebau a rhai cyrff cyhoeddus fel cyngor Abertawe. Gaf i argymell eich bod yn mynd at y ddau gyngor arall yn fy rhanbarth hefyd, lle mae dal dipyn o broblem gyda diwylliant a chamddealltwriaeth tuag at y Gymraeg?
Ar ben arall y sbectrwm iaith yma, mae cyflwyno gofyniad i'r holl staff gyrraedd lefel cwrteisi Cymraeg wedi cael effaith amlwg iawn. Bron pob dydd, byddaf yn cael o leiaf ‘bore da’ wrth y gât, ac nid yw'r rhan fwyaf o staff yn swil am roi cynnig ar eu sgiliau newydd pan allant. Ac roedd rhai, fel un o’r staff nos yr wythnos diwethaf, yn benderfynol o ddangos faint mae eisoes wedi symud ymlaen o ‘bore da’ i siarad yn fwy rhugl yn ei faes ei hun. Mae hwn yn syniad da arall i gyrff cyhoeddus ei ystyried.
Yn amlwg, mae gennym yr adnoddau i wneud hyn i gyd. Ni allwn gymryd y bydd mor syml i rai eraill. Ond, i'n copïo ni, efallai dyw e ddim yn costio lot. Wrth gwrs, mae gennym ni’r adnoddau i ddarparu profiad cwbl ddwyieithog i staff, ymwelwyr ac unrhyw un sy'n ymgysylltu â'r Cynulliad hwn.
Jest un peth arall, os caf i, Llywydd. Ar wahân i'r broblem barhaus gyda rhai dogfennau heb eu gosod yn ddwyieithog—mae’n ymddangos i mi nad yw'r rhesymau wedi newid o gwbl—. Wel, hoffwn i—dwi ddim eisiau anghofio’r ffaith bod gwaith da yn cael ei wneud fan hyn hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd y cyfraniad hwn heddiw jest yn bwniad bach, efallai, i'r ystadegau o ran defnyddio'r Gymraeg yn y Siambr ac yn annog eraill i roi cynnig arni. Diolch.
Fel rhywun y mae ei ddiffyg Cymraeg yn ganlyniad uniongyrchol i gyfyngu ar yr iaith ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf—cafodd fy mam y gansen yn yr ysgol am siarad Cymraeg yn yr ysgol—rwy'n llwyr gefnogi unrhyw symudiadau i gynyddu'r defnydd o'r iaith. A ble'n well i hyrwyddo ei defnydd nag yn y sefydliad hwn? O'r herwydd rwy'n croesawu'r holl gamau a gymerwyd gan y Comisiwn yn y materion hyn. Diolch yn fawr.
Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Efallai y gwnaf i gychwyn trwy ymateb i'r sylw diwethaf yna a'r ffaith eich bod chi wedi dweud, David Rowlands, gerbron y Cynulliad heddiw bod eich mam, yn wir, wedi dioddef yn sgil y materion hanesyddol oedd yn digwydd yn ein hysgolion ni ers talwm, pan oedd pobl yn cael eu cosbi yn gorfforol am siarad Cymraeg. Dwi dal yn flin iawn, iawn am hynny, ond mae rhywun yn troi'r dicter tuag at fod yn adeiladol, ac felly dwi'n falch iawn o'r gwaith blaengar sydd yn digwydd yn y maes yma.
Dwi'n diolch i Suzy am ei sylwadau hollol adeiladol a phositif yn cymeradwyo'r gwaith sydd yn digwydd o ran cynllunio ieithyddol yn y gweithle yma. Mae yna bobl o Norwy, mae yna bobl o'r Ffindir wedi bod yn dod yma i Gymru i weld y gwaith blaengar ynglŷn â chynllunio ieithyddol sydd wedi bod yn digwydd ac yn awyddus i ddysgu o'n profiadau ni a'n harferion ni efo ieithoedd lleiafrifol yn eu gwledydd nhw.
Dwi'n falch eich bod chi'n cytuno bod cael gwared ar y 'Cymraeg yn hanfodol' wedi bod yn gam cadarnhaol, ac rydym ni'n gwybod o brofiad, nid yn unig yn y Cynulliad, ond mewn meysydd eraill, mi oedd pobl yn arfer dewis peidio â gwneud cais am swyddi oherwydd eu bod nhw'n ofni'r 'Cymraeg yn hanfodol'. Ond ers cyflwyno disgrifiadau ar wahanol lefelau, rydym ni wedi gweld yr hysbysebion yn cael eu datblygu o amgylch anghenion y swyddi, ac yn wir rydym ni wedi gweld cynnydd yn y nifer o ddysgwyr Cymraeg sy'n cael eu penodi i swyddi, sy'n dangos y gwerth o fuddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau iaith ar gyfer yr unigolion a'r sefydliad.
O ran Cymraeg cwrteisi, mae'n wych gweld hwn ar waith. Wnaf i fyth anghofio yn yr Eisteddfod Genedlaethol gweld y swyddogion diogelwch wrth eu boddau yn defnyddio Cymraeg sylfaenol: 'Bore da', 'Prynhawn da'. Un peth sy'n cael ei ddefnyddio yn aml erbyn hyn ydy 'Popeth mewn trefn'. Dwi'n cael hwnna rŵan pan dwi'n—. Mae'n ardderchog gweld Cymraeg cwrteisi yn digwydd. Dwi'n gweld fy mod i allan o amser, ond rwy'n falch iawn o gymeradwyo, felly, yr adroddiad yma, ac mi fydd y gwaith yn parhau. Mae'n bell o fod yn berffaith, ond mi fyddwn ni'n parhau ac yn cynnal y momentwm.
Os caf i jest ddweud un gair byr cyn cloi, buaswn i ddim yn licio gorffen heddiw heb enwi un swyddog yn benodol. Dydyn ni ddim yn arfer gwneud hyn, dwi'n gwybod, ond hoffwn i roi teyrnged i Craig Stephenson, y cyfarwyddwr ymgysylltu sydd yn ymddeol. Dros y blynyddoedd, mae o wedi bod yn bencampwr diflino ac yn eiriolwr brwd dros bob agwedd ar y cynllun ieithoedd swyddogol, gan sicrhau bod darparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf yn rhan greiddiol o holl waith Comisiwn y Cynulliad. Felly, diolch yn fawr iawn i Craig a phob lwc i’r dyfodol.
Ie wir. Y cynnig, felly, yw i nodi'r adroddiad. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid, a'r adroddiad hwnnw ar asesu effaith penderfyniadau cyllidebol. Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid sy'n gwneud y cynnig—Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM7119 Llyr Gruffydd, Lynne Neagle, John Griffiths
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad ar y cyd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sef 'Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n gwneud y cynnig yma, sy'n cael ei gyflwyno ar y cyd, wrth gwrs, gen i, Lynne Neagle a John Griffiths. Dwi'n falch iawn o fod yn agor y ddadl heddiw ar ffordd drawsbynciol newydd o wynebu her rŷn ni wedi'i hwynebu droeon fel Aelodau'r Cynulliad, sef, wrth gwrs, asesu effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru ar bobl Cymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Yn ogystal â gwaith craffu ein pwyllgorau ni ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 eleni, roedd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn credu ei bod hi'n bryd cyfuno ein hymdrechion i ymchwilio i effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb ac ar blant a phobl ifanc. Fe aethom ni ati, felly, i gasglu tystiolaeth ar y cyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan Gomisiynydd Plant Cymru, gan Mark Drakeford, yr Aelod Cynulliad a oedd, wrth gwrs, ar y pryd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r Aelod Cynulliad Julie James, wrth gwrs, fel arweinydd y tŷ ar y pryd, a oedd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb. Rŷm ni hefyd wedi ceisio barn comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol drwy gydol y broses yma.
Gan mai dadl ar y cyd yw hon, mi fydd fy nghyfraniad i'n canolbwyntio ar ein prif ganfyddiadau, gan ganiatáu wedyn i'r Cadeiryddion Lynne Neagle a John Griffiths rannu safbwyntiau portffolios eu pwyllgorau eu hunain. Mae ein hadroddiad ni yn gwneud pum argymhelliad, ac o blith pob un o'r rhain mae Llywodraeth Cymru naill ai wedi eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Rŷm ni wedi dod i un casgliad cyffredinol, sef bod angen i ni fynd yn ôl i'r egwyddorion sylfaenol. Dyna'r casgliad cyffredinol sydd gennym ni, ond, wrth gwrs, mae yna nifer o argymhellion penodol, wedyn, yn deillio o hynny.
Ein hargymhelliad cyntaf yw gofyn i Lywodraeth Cymru osod allan mewn mwy o fanylder y broses asesiad effaith integredig strategol, ei diben, a’r canlyniadau disgwyliedig, yn dilyn, wrth gwrs, iddyn nhw ymgysylltu â’r comisiynwyr statudol perthnasol a chael eu cytundeb nhw. Rŷm ni yn teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch pam maen nhw'n cynnal asesiad, pwy sy'n defnyddio'r asesiad, beth maen nhw'n gobeithio ei ddeall ohono fe, beth yw'r ffordd orau o'i gyflwyno fe, a beth yw’r broses. Nawr, mae angen gwneud hyn, wrth gwrs, gyda chymorth y gwahanol gomisiynwyr statudol, ac rŷm ni'n pryderu am y ffaith eu bod nhw'n dweud nad ydyn nhw wedi cyfrannu at ddatblygu offeryn asesiad effaith integredig Llywodraeth Cymru.
Rŷm ni'n credu y dylai'r offeryn hwn gael ei ddefnyddio i hysbysu, llywio gwaith, a dylanwadu ar newidiadau. Gyda'i gilydd, roedd y comisiynwyr yn pryderu ei bod yn ymddangos bod yr offerynnau'n cael eu defnyddio i adlewyrchu neu gyfiawnhau penderfyniadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud. Felly, rŷm ni'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i weithio gyda'r comisiynwyr statudol perthnasol i roi mwy o eglurder am ddiben proses yr asesiad effaith integredig strategol a’r canlyniadau a ddisgwylir ohoni. Wrth gwrs, rŷm ni'n cydnabod nad yw cyfuno llawer o wahanol asesiadau effaith yn dasg hawdd, ac yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i dynnu llawer o wybodaeth i un asesiad effaith integredig strategol. Fodd bynnag, er mwyn bod yn sylfaen gredadwy ar gyfer gwaith craffu, mae angen i asesiadau effaith ddangos yn glir pa dystiolaeth y maen nhw'n ei defnyddio, a rhaid i ni sicrhau nad yw'n cael ei gwanhau o ganlyniad i'r integreiddio yma.
Mae asesiadau effaith yn ddull hanfodol ar gyfer sicrhau bod y Llywodraeth yn dryloyw, ac os ydyn nhw am fod yn werthfawr o gwbl, mae'n rhaid iddyn nhw lywio, mewn modd ystyrlon, y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu. Mae angen mwy o fanylion ynglŷn â sut y caiff penderfyniadau eu gwneud, ac rŷm ni wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i roi manylion lle gall penderfyniadau gwario gael effeithiau negyddol, yn ogystal, wrth gwrs, â rhai cadarnhaol, sef y rhai rŷm ni fel arfer yn eu clywed. Fel y mae pethau, nid yw'n glir pa ffactorau sydd wedi llywio penderfyniadau heb weld y gwaith y tu ôl i'r asesiad effaith integredig strategol. O ganlyniad, rŷm ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei holl asesiadau effaith unigol mewn un man canolog, a bod yr asesiad effaith integredig strategol wedyn yn gallu cyfeirio at y rheini. Yn ei hymateb, mae'r Gweinidog yn dweud,
'Fel arfer, caiff asesiadau effaith unigol o benderfyniadau pwysig eu cyhoeddi fel rhan o ddogfennaeth y polisi ar wefan Llywodraeth Cymru.'
Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod yr asesiadau effaith hynny'n cael eu cyhoeddi'n systematig o gwbl. Mae'r Gweinidog wedi cytuno â'r argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan nodi bod angen iddi ystyried ymhellach a fyddai cyhoeddi mewn un man canolog yn helpu o ran hygyrchedd, dealltwriaeth a thryloywder. Rŷm ni'n cydnabod yn llawn y gwerth o gyhoeddi asesiadau effaith ochr yn ochr â'r dogfennau polisi cysylltiedig. Wrth gwrs, mae'r un peth yn wir am gyhoeddi asesiadau effaith unigol ochr yn ochr â'r asesiad effaith integredig strategol. Yn ystod ein gwaith craffu ar y cyd, mi ddaeth yn amlwg bod rhanddeiliaid arbenigol yn aneglur am yr egwyddorion a'r prosesau sylfaenol y tu ôl i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal yr asesiad effaith ar y gyllideb, a'r gwahaniaeth rhwng yr asesiad effaith integredig strategol a'r offeryn asesiad effaith integredig newydd.
Mae ein trydydd argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud darn penodol o waith i ystyried y cynnydd sydd wedi cael ei wneud mewn perthynas ag asesiadau effaith integredig strategol ar ddiwedd y Cynulliad hwn, gan gynnwys yr offeryn asesiad effaith integredig y mae wedi'i ddatblygu. Mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, gan gydnabod yr angen i adolygu a gwella'r broses a'r offeryn. Mae ei hymateb yn cyfeirio at brofi dulliau amgen ochr yn ochr â pharatoadau ar gyfer y gyllideb sydd i ddod, ac ystyried a fyddai modd i ddiogelwr taith—os mae dyna yw'r cyfieithiad am journey checker—Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gefnogi y gwaith hwn. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog ddarparu mwy o wybodaeth inni am y dulliau amgen sy'n cael eu profi, a'r amserlenni sydd o dan sylw, yn ogystal, efallai, â nodi pryd y mae hi'n rhagweld cwblhau adolygiad 2019 o'r offeryn asesiad effaith integredig.
Mae'r argymhellion sy'n weddill yn ymwneud ag integreiddio deddfwriaeth ac ofnau y bydd dyletswyddau penodol yn cael eu lleihau neu eu dadleoli gan eraill wrth wneud penderfyniadau. Mae ein pedwerydd argymhelliad ni yn ceisio ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel fframwaith ar gyfer yr asesiad effaith integredig strategol. O ystyried ffocws ein gwaith craffu ni ar y cyd, rŷm ni'n credu y dylid rhoi blaenoriaeth i weithio gyda'r comisiynydd plant a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod y gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau plant yn cael eu hadlewyrchu'n llawn ac yn effeithiol yn y broses asesu.
Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio'r Ddeddf i fframio a llywio cynigion cyllidebol a'r offeryn asesiad effaith integredig, ond mae'n cydnabod bod angen gwneud gwaith pellach. Yn wir, nid yw Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn credu bod hyn wedi digwydd i lefel ddigonol yn y broses gyllidebol hyd yn hyn. Rŷm ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau â deialog â rhanddeiliaid allweddol a chomisiynwyr statudol, a fydd yn hanfodol i sicrhau nad yw'r dull integredig yn gwanhau'r gwaith o fodloni'r amrywiol rwymedigaethau cyfreithiol sydd arni, a bod y penderfyniadau y mae'n eu gwneud yn fwy tryloyw.
Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, mi ddywedodd arweinydd y tŷ ar y pryd ei bod wedi comisiynu darn o waith ymchwil yn ymchwilio i'r ffordd orau o ymgorffori amrywiol gytuniadau rhyngwladol—international treaties—a dyletswydd economaidd-gymdeithasol y Ddeddf gydraddoldeb yng nghyfraith Cymru, ochr yn ochr â'r dyletswyddau presennol. Fe wnaeth hi egluro hefyd y byddai cyfarfod o bwyllgor cynghori comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ym mis Tachwedd y llynedd yn caniatáu i'r holl gomisiynwyr fynd ati ar y cyd i drafod cyfleoedd a heriau'r asesiadau effaith integredig. Felly, roedd ein hargymhelliad terfynol yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau cyfarfod y comisiynwyr ym mis Tachwedd y llynedd, a pha bryd y rhagwelir y bydd y gwaith ymchwil a gafodd ei gomisiynu ar integreiddio dyletswyddau yn cael ei gyhoeddi.
Rŷm ni'n pryderu, ond heb synnu, o nodi bod rhai aelodau wedi lleisio pryderon yn ystod y cyfarfod fis Tachwedd diwethaf ynghylch y posibilrwydd o wanhau'r dull integredig. Yn dilyn hynny, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru i fod i fynd i gyfarfod panel cynghori comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ym mis Gorffennaf, ac rŷm ni'n awyddus i wybod sut aeth y cyfarfod hwnnw. Rŷm ni'n deall y bydd y Gweinidog yn dechrau'r gwaith ymchwil sylweddol pellach yma erbyn mis Medi ar integreiddio dyletswyddau newydd, ac rŷm ni'n edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am sut y mae'r gwaith hwn yn datblygu ac yn dod yn ei flaen. Dwi hefyd, fel Cadeirydd, yn edrych ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau i'r ddadl yma, fel cyfraniad adeiladol i'r gwaith parhaus a'r drafodaeth barhaus bwysig hon ar asesu effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn adroddiadau diweddar ein pwyllgor ar y gyllideb, rydym wedi amlygu ein pryderon ynghylch lefel y sylw a roddir i hawliau plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau ariannol pwysig. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad o'r effaith ar hawliau plant ar ei chyllideb ddrafft fel mater o drefn. Hyd yma, gwrthodwyd y galwadau hyn ar y sail y cynhelir asesiad effaith integredig ehangach o'r gyllideb ddrafft.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pob un o'n pwyllgorau wedi gwneud sylwadau ar yr angen i wella'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith ei phenderfyniadau cyllidebol ar wahanol grwpiau poblogaeth. Fel y cyfryw, ac fel y mae Llyr eisoes wedi egluro, roeddem am gydweithio fel tri phwyllgor i hoelio sylw ar y thema hon sy'n codi ei phen yn rheolaidd.
Cydnabyddwn nad yw asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar ein poblogaeth yn hawdd, ond credwn hefyd ei bod yn hanfodol gwneud popeth a allwn i ystyried sut y mae'r penderfyniadau a wnawn am arian yn trosi i brofiadau bywyd go iawn y bobl y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli, ac nid yw aelodau ieuengaf ein cymdeithas yn eithriadau.
Plant a phobl ifanc oedd fy ffocws yn ystod y gwaith craffu ar y cyd, a dyna fydd fy ffocws heddiw. Rwy'n cydnabod bod anghenion plant yn sefyll ochr yn ochr â nifer o ystyriaethau eraill wrth wneud penderfyniadau am y gyllideb. Ond yn fy marn i, mae dau beth yn eu gwneud yn unigryw o ran eu hangen am sylw. Yn gyntaf oll, ni all aelodau ieuengaf ein cymdeithas bleidleisio. Yn niffyg yr etholfraint, ein lle ni yw sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u buddiannau'n cael eu hystyried. Yn ail, cymerodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 y cam arloesol o ymgorffori dyletswydd mewn statud ar Weinidogion Cymru i ystyried hawliau plant ym mhopeth a wnânt. Ond nid yw deddf ond yn torri tir newydd os yw ei dyheadau'n cael eu gwireddu. Yn achos cyllidebau drafft, credwn fod cryn bellter i'w deithio o hyd cyn y gallwn fod yn hyderus fod y penderfyniadau a wneir yn gwbl gydnaws ag ysbryd y ddeddf honno.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pedwar o'n pump argymhelliad, ynghyd ag un mewn egwyddor. Ymhellach, rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth o dan argymhelliad 1 i weithio gyda'r comisiynwyr statudol perthnasol i roi mwy o eglurder ynglŷn â phwrpas a chanlyniadau disgwyliedig y broses asesu effaith integredig strategol. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r comisiynwyr am eu cyfraniad i'n proses graffu ar y cyd, a'r safbwyntiau y maent wedi'u rhannu ar gyfer llywio'r ddadl hon. Serch hynny, mae nifer o bryderon yr hoffwn eu codi mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn benodol. Rwy'n rhannu llawer o'r rhain gyda'r comisiynydd plant.
Mewn ymateb i argymhelliad 2, mae'r Llywodraeth wedi awgrymu y byddai cyhoeddi asesiadau effaith unigol mewn lleoliad canolog yn peri dryswch. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynglŷn â hyn. Fel cyd-bwyllgorau, cytunasom fod tryloywder yn allweddol. Hyd yma, ni chafodd asesiadau effaith unigol eu cyhoeddi'n systematig. Mae penderfyniad y llynedd ynglŷn â'r grant gwisg ysgol yn enghraifft, ac yn un yr ydym yn tynnu sylw ati yn ein hadroddiad ar y gyllideb. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi ystyriaeth bellach i hyn.
O ran argymhellion 3 a 4, fel pwyllgor, rydym yn pryderu bod ansawdd yr asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn parhau i amrywio. Rydym yn glynu wrth ein haeriad ei bod yn ymddangos weithiau fod asesiadau effaith yn cael eu defnyddio i adlewyrchu neu gyfiawnhau penderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Buaswn yn arbennig o awyddus i glywed barn y Gweinidog am sylw'r comisiynydd plant—ac rwy'n dyfynnu—
Rydym wedi gweld enghreifftiau o asesiadau o'r effaith ar hawliau plant nad ydynt mewn gwirionedd yn ceisio ateb y cwestiwn cyffredinol ynghylch a fydd y polisi'n effeithio ar blant a phobl ifanc, a/neu sut y bydd yn gwneud hynny, heb sôn am roi cynnig ar broses lawnach.
Yn olaf, o ran argymhelliad 5, er fy mod yn croesawu'r ymrwymiad i gomisiynu ymchwil ar integreiddio dyletswyddau, sylwaf gyda phryder nad yw'r gwaith hwn wedi dechrau eto. Anogaf y Llywodraeth i fwrw ymlaen â hyn cyn gynted â phosibl.
Wrth gloi, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Gadeiryddion ac aelodau'r pwyllgorau am eu parodrwydd i weithio ar y cyd ar hyn. Dyma'r tro cyntaf i ni weithio gyda'n gilydd ar y gyllideb ddrafft, a chredaf ei fod yn darparu model defnyddiol ac arloesol ar gyfer craffu ar feysydd o ddiddordeb cyffredin ar draws y pwyllgorau yn y dyfodol.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei hymwneud â'r gwaith hwn. Ein nod cyffredinol fel pwyllgorau yw cynnig cyfraniad adeiladol a defnyddiol mewn maes yr ydym yn cydnabod ei fod yn gymhleth ac yn heriol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy, a chyda'r comisiynwyr statudol perthnasol, i barhau â'n gwaith trawsbynciol yn y maes hwn yn y blynyddoedd ariannol sydd i ddod. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy adleisio'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y dull newydd hwn o graffu ar y gyllideb, a'i fod yn fodel, efallai, ar gyfer gwaith yn y dyfodol, ac rwy'n synhwyro fy mod yn siŵr y bydd pwyllgorau eraill am fwrw golwg gofalus arno. Rwy'n credu ei bod yn adeiladol iawn i dri phwyllgor gydag arbenigeddau gwahanol a diddordebau gwahanol ddod at ei gilydd i ystyried yr agwedd bwysig hon ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn llunio ei chyllideb, ac yn ceisio sicrhau bod pobl sy'n ddiamddiffyn yn ein cymuned yn cael eu diogelu yn y broses o bennu'r gyllideb, ac mae'r holl faterion cydraddoldeb hynny'n cael eu hystyried mewn ffordd ystyrlon sy'n helpu i gynhyrchu'r gyllideb derfynol mewn gwirionedd.
Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i'r rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru am gymryd rhan yn y gwaith hwn, oherwydd rwy'n credu bod hynny wedi bod yn adeiladol a blaengar iawn hefyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n amlwg fod pawb eisiau gweld y broses gyllidebol yn cael ei gwneud yn fwy tryloyw ac yn fwy effeithiol, ac mae hwnnw'n fan cychwyn da iawn ar gyfer y drafodaeth hon a'r ddadl hon wrth i ni symud ymlaen. Yn wir, mae ein pwyllgor, a'r pwyllgor blaenorol yn wir, wedi bod yn amheus ers amser ynglŷn ag effeithiolrwydd proses y gyllideb, a'r broses asesu effaith yn benodol. Rhaid i'r asesiadau effaith hynny lywio'r broses benderfynu. Fel y credaf y mae Lynne newydd ei ddweud, ni ddylai fod yn fater o gyfiawnhau penderfyniadau a wnaed, ond yn hytrach, o lywio penderfyniadau sydd eto i'w gwneud, a defnyddio'r asesiadau hyn yng nghamau cynharach y broses, os yw'r broses i fod yn ystyrlon a bod yr holl randdeiliaid sydd â diddordeb i gredu ei bod yn ystyrlon. Ond rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried y dystiolaeth a ystyriwyd gennym ni mewn perthynas â'r asesiadau effaith integredig unigol hynny, a gobeithiaf y bydd hyn yn arwain at welliannau yn y broses, ac yn y pen draw, at welliannau i'r penderfyniadau sy'n dilyn.
Os caf symud at rai materion penodol, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar, cafodd swyddogion Llywodraeth Cymru bapur briffio wedi'i drefnu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y model asesu effaith gronnol. Ac rwy'n credu bod llawer ohonom yn pryderu am hyn, oherwydd pan edrychwn ar gyni, er enghraifft, mae'r effaith gronnol dros gyfnod o flynyddoedd yn mynd yn fwy byth, ac rydych yn cyrraedd y cam lle mae'n eithriadol o frawychus yn wir. A dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod Llywodraeth Cymru wedi dangos parodrwydd i archwilio'r model hwn ymhellach. Felly, byddai'n dda gennyf glywed gan y Gweinidog a ydych yn debygol o fwrw ymlaen â'r model hwnnw.
Un mater parhaus ar draws llawer o waith ein pwyllgor yw integreiddio deddfwriaeth, a'r gofynion gwahanol a osodir ar gyrff cyhoeddus gan wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Roedd hon yn thema allweddol yn ein gwaith. Clywsom am effaith haenu gwahanol ofynion, a all arwain at faterion yn disgyn drwy'r bwlch. Mae hyn cyn i ddyletswyddau newydd pellach, megis dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010, gael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru.
Yn ein gwaith ar rianta, mamolaeth a gwaith, galwasom am fireinio dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y byddai'r Gweinidog yn cael cyngor ar y rheoliadau a'r trefniadau adrodd, yn enwedig y berthynas rhwng y dyletswyddau a Deddf cenedlaethau'r dyfodol.
Galwodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ddiwygio'r dyletswyddau cydraddoldeb a'u cryfhau fel eu bod yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau i unigolion. Nodant eu bod wedi cynnal symposiwm yn gynharach y mis hwn i helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad hwn. Felly, fel pwyllgor byddem yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r symposiwm a nodi'r amserlen ar gyfer adolygu'r dyletswyddau.
Fel y dywedwn yn ein hadroddiad, mae nawr yn amser da i wneud newidiadau i'r broses asesu effaith. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi fframwaith polisi clir, ac yn argymhelliad 4 ein hadroddiad, galwasom ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i'w defnyddio'n sail i'w hymagwedd at asesiadau effaith. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru. Wrth ymateb i hyn, dywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nad oedd hyn wedi digwydd yn ddigonol hyd yn hyn ym mhroses y gyllideb. Felly, hoffwn wybod sut y bydd y Gweinidog yn ymateb i'r dadansoddiad penodol hwnnw.
Yn olaf, gwelwn yn ymateb Llywodraeth Cymru y bydd yr adolygiad o'r dull integredig o asesu effaith yn gynhwysfawr. Mae hefyd yn nodi y bydd yn cynnwys ymgysylltu â nifer o randdeiliaid allanol, gan gynnwys y comisiynwyr a grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb. Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wrth wneud sylwadau ar hyn y byddai ymgysylltu allanol â phobl o grwpiau gwarchodedig yn allweddol, gan awgrymu y dylai ymgysylltiad o'r fath fynd y tu hwnt i'r grŵp cynghori. Weinidog, a allwch amlinellu sut y byddwch yn ymgysylltu â rhanddeiliaid y tu allan i'r grŵp cynghori ar yr adolygiad o'r pecyn cymorth?
A ydych chi'n dirwyn i ben?
Ydw yn awr. Y ddwy frawddeg olaf, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr.
Hoffwn gloi drwy ddweud nad dyma ddiwedd y gwaith hwn. Yn amlwg, byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn wrth i ni graffu ar y gyllideb ac yn wir yn ein gwaith craffu mwy cyffredinol ar bolisi. Mae asesu effaith yn ystyrlon yn hanfodol ar gyfer datblygu polisïau a phenderfyniadau cyllidebol effeithiol. Diolch yn fawr.
Diolch i chi, bawb, am ddod â'r adroddiad hwn i lawr y Siambr. Cymerais ran yn y sesiwn graffu ar y cyd a lywiodd ran o'r broses o greu'r adroddiad hwn. Nid oes ots gennyf ddweud fy mod, yn y naw mlynedd y bûm yn Aelod Cynulliad, wedi gweld y broses o graffu ar y gyllideb yn un o'r elfennau lleiaf boddhaol o fy ngwaith fel Aelod Cynulliad. Rwy'n teimlo bod ceisio cysylltu penderfyniadau gwariant ag uchelgeisiau didarged ac yna gyda chanlyniadau—dilyn yr arian, yn y bôn—bron yn gwbl amhosibl. Rwy'n gobeithio'n fawr fod fy nghyd-Aelodau yn y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei chael ychydig yn haws. Dyna pam yr oeddwn am fod yn rhan o'r panel craffu hwn ar yr achlysur hwnnw.
Credaf y dylem boeni bod yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi dweud yn unig 'y gellid' defnyddio asesiadau integredig ar gyfer buddsoddiadau sylweddol. Roedd hynny'n dipyn o syndod i mi. Buaswn yn disgwyl iddynt gael eu defnyddio ar gyfer pob buddsoddiad sylweddol. Yn amlwg, clywsom yr hyn a ddywedodd Lynne Neagle am yr amharodrwydd, ddywedwn ni, i gyflwyno asesiadau o'r effaith ar hawliau plant ym mhob penderfyniad cyllidebol, yn enwedig y rhai mwyaf difrifol. Ond yn y bôn, roeddwn eisiau cael rhyw syniad o sut y mae asesiadau effaith yn dylanwadu ar benderfyniadau gwario mewn gwirionedd. Oherwydd pan oedd gennyf y portffolio diwylliant a threftadaeth, deuai'r asesiadau effaith a wneid ar y pryd yn ôl yn rheolaidd â'r wybodaeth y byddai methu buddsoddi'n effeithio'n negyddol ar bobl ifanc a phobl o gefndiroedd difreintiedig, ond ni chafodd y buddsoddiadau eu gwneud er hynny, felly deuthum i'r casgliad fod yr un canlyniadau asesu effaith wedi'u canfod ar gyfer meysydd polisi eraill yn ôl pob tebyg. Roedd gennyf ddiddordeb mewn gweld sut oedd Llywodraeth Cymru yn pwyso'r ddau asesiad a oedd yn cystadlu, os mynnwch, i benderfynu pwy fyddai'n colli. Ond mewn gwirionedd, ar ôl ein sesiwn graffu, mae arnaf ofn nad oeddwn fawr doethach ynglŷn â sut oedd hynny'n gweithio mewn gwirionedd, ac rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at argymhelliad 3 yn yr adroddiad.
Roeddwn yn gobeithio darganfod hefyd sut y gallai buddsoddiad o'r gyllideb addysg, dyweder, effeithio ar feysydd polisi ac effeithiau eraill yno. Nid wyf yn siŵr fy mod wedi cael eglurder ar hynny o'r sesiwn hon mewn gwirionedd. I mi, mae'n fater byw, oherwydd gyda fy mhortffolio rwy'n gweld y tensiwn rhwng y prif grwpiau gwariant addysg a llywodraeth leol, er enghraifft, o ran pa mor llwyddiannus y mae ysgolion yn cael eu hariannu. Roeddwn hefyd am fod yn bresennol oherwydd y profiad gwael a gefais fel Aelod Cynulliad o asesiadau effaith a gynhyrchwyd gan awdurdodau lleol yn fy rhanbarth, yn enwedig mewn perthynas â chau ysgolion a gwerthiannau tir posibl. Rwy'n siŵr fod eraill yma wedi cael cyngor da iawn gan gomisiynwyr ynghylch sut i herio'r asesiadau effaith hynny, ond ymddengys i mi eu bod yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn, felly rwy'n credu y gallai hyn fod yn rhywbeth y gallai'r Cynulliad hwn fod yn awyddus i'w ystyried ar gyfer dadl yn y tymor nesaf.
Mae'r gwrthdaro rhwng Llywodraeth Cymru a chomisiynwyr ynghylch dyfnder yr asesu a welwyd mewn asesiadau effaith integredig yn rhywbeth y credaf fod angen i ni fel Aelodau fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Mater craffu yw hwn, a mater i ni, nid Llywodraeth Cymru, yw'r hyn a welwn. Rwy'n gwybod y bydd clercod yn gwaredu pan ddywedaf hyn, ond rwy'n credu o ddifrif, Lywodraeth Cymru, y dylech gyhoeddi'r cyfan, os gwelwch yn dda, ac fe benderfynwn ni ar beth fyddwn yn ei graffu. Oherwydd ar hyn o bryd, fel y clywsom, y canfyddiad yw nad yw'r asesiadau integredig yn darparu dadansoddiad effeithiol, a'r cam cyntaf tuag at eu gwella, os yw Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r fethodoleg benodol hon, yw bod yn rhaid i'r asesiadau hyn gael eu cydgynhyrchu. Rhaid i'r broses fodloni comisiynwyr ac Aelodau'r Cynulliad o ran eu diben a'u cydbwysedd, oherwydd rydym yn derbyn na allwn gael popeth.
Yn olaf, Aelodau, bu inni basio Bil Deddfwriaeth (Cymru) ddoe, a thybiaf y gallwn ddisgwyl, mewn peth amser, rhywfaint o gyfuno deddfwriaeth o dan faner gyffredinol llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Fodd bynnag, er gwaethaf yr anfodlonrwydd fod polisi'n cael ei brofi fwy nag unwaith—ac rwy'n deall hynny—credaf fod angen inni fod yn effro i'r hyn y gallem ei golli yn ystod y broses gyfuno. A minnau'n briod â ffermwr, credwch fi, rwy'n deall y rhwystredigaeth o weld yr un gweithgaredd yn cael ei asesu dro ar ôl tro o safbwynt ychydig yn wahanol, ond os ceisiwn gyfyngu ar y fiwrocratiaeth sydd yn y broses, rhywbeth y credaf ei fod yn rhan o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru'n ceisio ei wneud gyda'r asesiadau integredig, ac mae'n egwyddor sydd i'w chroesawu, mewn gwirionedd, mae angen inni wylio rhag colli manylion arwyddocaol, a buaswn yn wyliadwrus iawn rhag rhoi blaenoriaeth awtomatig i asesiadau effaith integredig dros asesiadau unigol, a all gwmpasu manylion mwy penodol, o bosibl, a allai fod yn arwyddocaol iawn. Mae'n eithaf posibl, er enghraifft, y gallai asesiad o'r effaith ar hawliau plant nodi effaith mor arwyddocaol fel y dylai fod iddo fwy o bwysau nag asesiad effaith a luniwyd mewn ffordd gyfannol. Rydym yn sôn am rywbeth arwyddocaol iawn yn hynny o beth. Ac mae'n ymddangos i mi mai dyna yn ei hanfod oedd gofid yr holl gomisiynwyr a roddodd dystiolaeth i'n paneli.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â meddwl bod hon yn broses y gellid cuddio pethau oddi tani, oherwydd mae eisoes yn eithaf anhydraidd, ac edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog ar sylwadau comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nad yw'r cynnydd hyd yma wedi bod yn ddigonol. Diolch.
Fe glywsom ni y llynedd fod y comisiynydd plant yn hynod feirniadol na wnaed unrhyw asesiadau effaith hawliau plant ar y cynigion cyllidebol presennol. Mae hynny'n groes, wrth gwrs, i erthygl 4 confensiwn hawliau'r plentyn, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob lefel o lywodraeth weithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r confensiwn. Mae'r confensiwn yn dweud bod angen asesu'n gyson sut y bydd cyllidebau'n effeithio ar grwpiau gwahanol o blant, gan sicrhau bod y penderfyniadau cyllidebol yn arwain at y deilliannau gorau posib i'r nifer fwyaf o blant, ond gan gymryd i ystyriaeth yn ganolog i'r broses y plant mewn sefyllfaoedd bregus. Mi fyddwch chi'n cofio—neu mi fydd rhai ohonoch chi'n cofio—y dywedodd y comisiynydd hyn:
mae'n ymddangos bod hawliau plant yn "ychwanegiad" o fewn y gyllideb hon,
yn hytrach na bod hawliau yn rhan o'r dadansoddiad o'r cychwyn cyntaf, a hynny yn arwain at y penderfyniadau cyllidebol. Rŵan bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gydweithio efo'r comisiynydd plant, sy'n ardderchog i gychwyn, mae'n rhaid i'r gwaith o osod cyllideb 2020-21 ddigwydd yn gyflym. Ac mae'r comisiynydd yn sôn ei bod hi'n disgwyl gweld asesiad effaith hawliau plant yn cael ei gyhoeddi law yn llaw efo'r gyllideb. Mi fyddai gwneud hynny, dwi'n meddwl, yn profi bod yna well aliniad rhwng polisi ac ariannu yn dechrau gwreiddio.
Llynedd, mi wnes i ofyn yn y Siambr yma i Senedd Cymru ddangos y ffordd ac i fod y Senedd gyntaf yn y byd i wreiddio ystyriaethau hawliau plant yn ddwfn i'n prosesau cyllidebol. Ac mae yna ddechreuad, oes, ond mae o'n digwydd mewn gwledydd eraill ac, ynghynt eleni, mi wnaeth Llywodraeth Seland Newydd gyhoeddi'r gyllideb les gyntaf yn y byd, gan roi gwariant sylweddol ar wasanaethau iechyd meddwl, tlodi plant a buddsoddiad mewn mesurau i daclo trais yn y cartref. Seland Newydd, mae'n ymddangos, ydy'r wlad gyntaf yn y byd i ddylunio'i chyllideb yn seiliedig ar flaenoriaethau lles, gan wedyn gyfarwyddo'i Gweinidogion i gynllunio'u polisïau er mwyn gwella lles.
Felly, os ydym ni wir eisiau gweld arian yn dilyn blaenoriaethau—rhai o'r pwyntiau roedd Suzy Davies yn eu codi—mi fedrwn ni ddefnyddio hawliau plant fel enghraifft. Ac mae'n rhaid i'r pwrpas yna fod yn bresennol o ddechrau'r broses gyllido, ddim fel sydd wedi digwydd yn hanesyddol, achos dim gweithred ticio bocs a gweld hawliau plant fel add-on ydy'r ffordd ymlaen, ac yn sicr ddim dyna beth fyddai'n cynrychioli'r newid meddylfryd sydd yn dod allan o'r adroddiad yma. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw yn fawr iawn, a diolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad ar y cyd yn asesu effaith penderfyniadau cyllidebol. Diolch hefyd i'r holl Aelodau am yr hyn a fu'n ddadl adeiladol iawn, ac yn sicr yn ddigon o her ac yn llawer imi feddwl amdano wrth inni ddechrau mynd drwy'r broses o osod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym wedi bod yn ymrwymedig ers tro byd i wella'r ffordd yr ydym yn asesu ac yn gwneud y mwyaf o effaith ein penderfyniadau cyllidebol ac fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi derbyn pob un o'r argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor. Croesawaf y cyfle hwn i'w trafod yn y Siambr.
Felly, Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i gyhoeddi asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar ein cynlluniau gwariant yn ôl yn 2011, ac roedd yn gam y tu hwnt i'n gofynion statudol ac yn arwydd o'n penderfyniad i barhau i gryfhau a gwella ein dull gweithredu, un sy'n golygu ein bod wedi mynd ati'n fwyfwy soffistigedig i ystyried effeithiau. Gan adeiladu ar adborth gan y Pwyllgor Cyllid a grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb, gwnaethom ddatblygu asesiad effaith integredig strategol a gyhoeddwyd yn gyntaf gyda'r gyllideb ddrafft yn 2015-16.
Datblygwyd yr asesiad effaith integredig strategol i ystyried penderfyniadau gwariant drwy nifer o lensys, i ddeall eu heffeithiau ar wahanol grwpiau o bobl, ac mae'r rhain yn cynnwys: hawliau plant; y Gymraeg; anfantais economaidd-gymdeithasol; a datblygu cynaliadwy. Mae cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd wedi llunio ein dull o weithredu ers ei chyflwyno yn 2015. Drwy weithredu mewn ffordd integredig, ein nod oedd datblygu dealltwriaeth ehangach o'r pwysau a'r cyfleoedd i leihau costau sy'n bodoli ar draws meysydd gwasanaeth allweddol, yn unol â'n blaenoriaethau a'n cyllid targed pan fydd ei angen fwyaf.
Rwy'n cydnabod y cyfeiriad at y gwaith a wnaethpwyd yn Seland Newydd. Rydym wedi bod â diddordeb mawr yn hwnnw, ac mae ein swyddogion wedi siarad â swyddogion yn Seland Newydd. Mae'n rhaid i mi ddweud bod llawer o debygrwydd eisoes o ran ein dull gweithredu drwy ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a'r hyn a wnawn drwy ein hasesiadau effaith integredig strategol—mae'n debyg iawn o ran y broses o wneud penderfyniadau a'r dyletswyddau arnom o ran pethau y mae'n rhaid inni edrych arnynt.
Mae ein dull o weithredu wedi esblygu hefyd wrth i ni sefydlu'r dirwedd gyllidol newydd. Rydym wedi nodi ein hymagwedd at dreth a'i hegwyddorion ar gyfer trethi Cymreig yn y fframwaith polisi treth, ac mae'r rhain yn cynnwys yr egwyddor allweddol y dylai trethi Cymru godi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mewn modd mor deg â phosibl. Dylid eu datblygu drwy gydweithio a chymryd rhan, a chyfrannu'n uniongyrchol at nodau Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod sut y mae'r asesiad effaith integredig strategol yn cyd-fynd â'r dirwedd asesu effaith ehangach, ac wrth gwrs ceir effaith ar y lefel y pennwyd y gyllideb amlinellol arni, ond ar lefel y penderfyniadau manwl a wneir gan Weinidogion y cysylltir agosaf â'r effeithiau y bydd pobl a chymunedau yn eu teimlo. Dyna pam, am y tro cyntaf y llynedd, y cyhoeddasom asesiad effaith integredig strategol i gyd-fynd â'n cyllideb amlinellol a'n cyllidebau manwl.
Mae asesu effaith polisïau yn effeithiol o gam cynnar a thrwy gydol eu datblygiad yn rhan ganolog o lunio polisïau, ac yn y cyd-destun hwn mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i ddatblygu a symleiddio asesiadau effaith presennol yn un fframwaith integredig i lywio'r broses o ddatblygu polisi a deddfwriaeth. Wedi'i fframio gan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, arweiniodd y gwaith hwn at lansio'r offeryn asesu effaith integredig yn 2018, a helpodd yr offeryn hwnnw benderfynwyr i ddeall effaith bosibl polisïau, yn gadarnhaol a negyddol, o gyfnod cynnar a thrwy gydol eu datblygiad. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, cafwyd adborth da iawn o ran sut y defnyddir yr offeryn a'r ffordd y mae wedi herio syniadau wrth i bolisïau gael eu datblygu, ac mae'n cael ei ddefnyddio ar gam cynnar er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau y gofynnir i Weinidogion eu gwneud yn wybodus ac wedi'u datblygu'n dda o ran yr effaith y gallent ei chael ar wahanol grwpiau. Fodd bynnag, mae hyn yn wahanol iawn i rôl yr asesiad effaith integredig strategol o'r gyllideb, sy'n nodi sut y mae ystyriaethau effaith wedi llywio'r dyraniadau cyllideb strategol a wnaethpwyd fel rhan o broses flynyddol y gyllideb. Ond rydym yn parhau'n ymrwymedig i esblygu ein dull gweithredu, ac wrth i ni integreiddio ein pwerau trethu a benthyca ymhellach, rydym yn archwilio sut y gall gwahanol ddulliau lywio ein hystyriaeth o effaith yn well, gan gynnwys asesiadau o'r effaith ar aelwydydd ac unigolion yng Nghymru, a dyma rai o'r syniadau yr ydym yn bwrw ymlaen â hwy wrth inni ystyried beth y gallwn ei wneud i barhau i wella'r ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â'r gwaith hwn.
I gyd-fynd â'n hadolygiad cydraddoldeb rhywiol, er enghraifft, fel rhan o baratoadau'r gyllideb ar gyfer eleni, rydym yn edrych ar gyllidebu ar sail rhyw. Gan ddysgu oddi wrth y gwledydd Nordig, rydym yn ystyried sut y gallai dull cyllidebol ar sail rhyw ein helpu i ddeall effeithiau ein penderfyniadau yn well. Yn ogystal, rydym yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio diffiniad gweithredol o 'atal', y cytunwyd arno gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yng nghyllideb 2019-20 i'n helpu i symud gweithgarwch ymhellach i fyny mewn perthynas â'n penderfyniadau cyllidebol.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru hefyd wedi bod yn datblygu dull ataliol drwy weithio gyda chynrychiolwyr, sefydliadau partner, trethdalwyr a'r cyhoedd i'w gwneud yn haws i bobl dalu'r swm cywir o dreth y tro cyntaf. Ac fel y clywsom, eleni rydym hefyd yn adolygu proses ein hofferyn asesu effaith integredig ar benderfyniadau polisi, ac fel rhan o'r adolygiad hwn, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r cyrff allanol a'r comisiynwyr sydd wedi bod yn rhan o'r datblygiad. Rwy'n bwriadu cyfarfod â chomisiynwyr wrth i ni fynd ati i osod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn manteisio ar y cyfleoedd i drafod gyda hwy beth yn rhagor y gallwn ei wneud i wella ein hasesiadau effaith.
Rwyf eisoes wedi cael cyfarfod da gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a chawsom drafodaeth dda ynghylch pa welliannau y gellid eu gwneud. Gwn eu bod yn parhau i drafod gyda swyddogion. Mynychodd fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip y symposiwm y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, John Griffiths, ato, a gwn y byddai'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a'r holl Gadeiryddion am y trafodaethau a gafwyd yno.
Cawsom gyfle ddoe i drafod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus a'r heriau digynsail sy'n ein hwynebu wrth inni ddatblygu ein cynlluniau gwariant ar gyfer y dyfodol. A chyda'r posibilrwydd gwirioneddol y bydd cyfyngiadau ar wariant yn parhau, a'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb hefyd, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn arfarnu effeithiau cadarnhaol a negyddol newidiadau ar ein cynlluniau gwariant, i'n helpu i dargedu ein hadnoddau sy'n prinhau ar y camau gweithredu y gwyddom y byddant yn sicrhau'r effaith fwyaf i bobl a'u lles yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a fu'n sgwrs wirioneddol adeiladol, a gwn y bydd yr ymgysylltu'n parhau wrth i broses y gyllideb esblygu eleni.
Diolch. A gaf fi alw ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth hon? Cawsom ein hatgoffa gan Lynne Neagle, yn ei chyfraniad, mai'r hyn yr oeddem am ei wneud oedd cydweithio fel tri phwyllgor i hoelio'r sylw ar y thema hon, a chredaf fod y sesiwn graffu gydamserol a gawsom, yr adroddiad a gyhoeddwyd gennym, a'r ddadl hon yn awr, yn sicr yn helpu i wneud hynny. Rhannaf eich teimlad fod gennym bellter i'w deithio cyn y gallwn fod yn hyderus fod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn cael eu defnyddio'n llawn. Ac wrth gwrs, dyna'r pwynt, ynte? Sut y gallwn fod yn hyderus eu bod yn cael eu defnyddio? Sut y mae Llywodraeth yn dangos yn effeithiol eu bod yn cael eu gwneud mewn ffordd ystyrlon a gwerthfawr, a sut y mae pethau'n cael eu gwneud yn wahanol o ganlyniad?
Diolch, John, am eich cyfraniad chi hefyd. Rwy'n falch eich bod yn gweld hwn fel model posibl ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar draws y pwyllgorau. Nid yw'n hawdd ei wneud ar lefel ymarferol, yn amlwg, oherwydd materion ymarferol fel y slotiau penodol y mae gwahanol bwyllgorau'n cyfarfod ynddynt, ond wrth gwrs, roedd yn rhaid i ni gynnal cyfarfod cydamserol. Ni allem gynnal cyfarfod ar y cyd, oherwydd nid oeddem yn gallu gwneud hynny o dan y Rheolau Sefydlog. Roedd yn rhaid inni gael tri phwyllgor yn cyfarfod ar yr un pryd yn yr un ystafell gyda'r un bobl yn rhoi tystiolaeth. Felly, rwy'n meddwl bod rhywbeth y mae angen i ni edrych arno yn y fan honno o ran caniatáu mwy o hyblygrwydd i ni.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r Llywodraeth yn rhyw fath o symud tuag at ddiwylliant lle mae mwy nag un Gweinidog—neu gyfrifoldebau'n gorgyffwrdd rhywfaint a'u bod yn rhannu rhai cyfrifoldebau. Wel, credaf y dylem fod yn adlewyrchu hynny yn y ffordd y gallwn ni fel Cynulliad ac fel pwyllgor ddangos ystwythder o'r fath fel ein bod mor effeithiol ag y gallwn fod o ran craffu ar waith y Llywodraeth.
Mae angen defnyddio asesiadau effaith ar y cam cynharaf er mwyn iddynt fod yn ystyrlon—yn bendant. Ac er y gallwn ei wneud yn flynyddol, hoffem ein hatgoffa, wrth gwrs, na allwn golli golwg ar yr effaith gronnol a rhaid i ni fod yn gwbl ymwybodol o hynny. Ac yn sicr, nid dyma ddiwedd ein gwaith, fel y dywedasoch. Mae hon yn mynd i fod yn broses barhaus a bydd yn broses graffu a fydd yn parhau dros fisoedd a thros flynyddoedd i ddod, rwy'n siŵr. Mae'n ddrwg gennyf fod Suzy Davies yn ystyried bod craffu ar y gyllideb yn un o'r agweddau lleiaf pleserus neu leiaf cynhyrchiol o'i gwaith fel AC. Rwy'n ofni fy mod i, fel Cadeirydd cyllid, yn gobeithio y bydd hi'n gwneud mwy ohono fel pwyllgorau pwnc yn y blynyddoedd i ddod a'i fod yn cael ei wreiddio'n fwy byth yn y gwaith y mae ein holl bwyllgorau yn ei wneud. A gallaf innau hefyd uniaethu â'r rhwystredigaeth y mae ffermwyr, er enghraifft, yn ei theimlo pan welant fod yr un gweithgaredd yn cael ei asesu o sawl ongl wahanol, ond wrth gwrs, y peth allweddol yno, os ydynt yn deall pam y mae'n cael ei wneud a pha effaith a gaiff a'u bod yn gallu gweld bod iddo effaith gadarnhaol, yna rwy'n siŵr y byddent yn fwy maddeugar ynglŷn â hynny, ac felly, wrth gwrs, ein casgliad trosfwaol yn yr adroddiad yw mynd yn ôl at yr egwyddorion sylfaenol fel ein bod i gyd yn glir ac yn deall yn iawn pam ein bod yn gwneud hyn, i ba ddiben, a beth yw ei effaith.
Roedd un o'r ymyriadau mwy trawiadol a grybwyllodd Siân Gwenllian gan y comisiynydd plant yn dweud, i bob pwrpas, nad yw'r broses hon yn cael yr effaith y dylai ei chael mewn gwirionedd, mai ychwanegiad ydoedd i raddau helaeth, ac felly nid yw'n syndod ein bod yn gweld bod angen inni drafod hyn yma yn y Siambr. Mae'r cyfeiriad at Seland Newydd yn ddiddorol oherwydd, yn Seland Newydd, maent yn defnyddio'u proses gyllidebol i ysgogi'r newidiadau hyn, ond yng Nghymru, wrth gwrs, rydym wedi deddfu drwy Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol i geisio ysgogi'r broses hon. Felly, byddai'n ddiddorol cymharu a chyferbynnu ar ryw bwynt y gwahanol ddulliau o weithredu yma ac yn y fan honno, ac wrth gwrs, y gwahanol ganlyniadau sy'n deillio o hynny wedyn.
Nid oes llawer—. Wel, nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth yr oeddwn yn anghytuno ag ef o ran yr hyn a ddywedodd y Gweinidog mewn egwyddor, ond wrth gwrs, mae'r her, fel y gwyddom i gyd, yn ymwneud â chymhwyso'r egwyddorion y mae pawb ohonom am eu gweld yn cael eu dilyn yn ymarferol. Rwy'n falch eich bod wedi ymrwymo i ymagwedd sy'n esblygu wrth i bwerau esblygu o ran trethiant a benthyca. Mae'n briodol fod y prosesau sydd gennym i sicrhau bod effeithiau ein defnydd o'r cyfrifoldebau a'r pwerau newydd hynny'n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Nawr, yn y bôn, rwy'n credu bod angen i ni, felly, sefydlu disgwyliadau a dealltwriaeth gyffredin o sut rydym yn asesu effaith gyllidebol a sut y mae hynny'n bodoli ochr yn ochr â gofynion deddfwriaethol eraill. Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd a chredwn fod yr hinsawdd ariannol bresennol yn gwneud asesu effaith gwariant yn bwysicach nag erioed. Ond wyddoch chi, mae bod yn onest am gyfaddawdu anodd sy'n rhaid i chi ei wneud yn iawn, onid yw? Yn wir, mae'n hanfodol os ydym am feithrin hyder y cyhoedd yn ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Mae'r cynnig heddiw yn nodi'r adroddiad ar y cyd gan ein tri phwyllgor, a fydd, gobeithio, yn creu deialog adeiladol, gadarnhaol a blaengar gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'i dull o gynnal asesiadau effaith ar y gyllideb ddrafft wrth symud ymlaen a byddwn yn parhau, fel y dywedaf, i fynd ar drywydd y materion hyn yn ein gwaith craffu unigol ar y gyllideb yn ddiweddarach eleni.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r comisiynwyr a Llywodraeth Cymru am y ffordd adeiladol y maent wedi ymgysylltu â ni fel tri phwyllgor yn ein dull arbrofol o weithredu ac rydym yn sicr yn edrych ymlaen at adeiladu ar yr arloesedd hwn yng nghylch nesaf y gyllideb ddrafft. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rebecca Evans.
Symudwn ymlaen at eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn imi alw ar y sawl sy'n gwneud y cynnig, a gaf fi ddweud fy mod wedi—mae llawer iawn o bobl am siarad ac felly rwyf wedi cyfyngu'r amser siarad ar gyfer Aelodau sy'n cefnogi sy'n dymuno siarad i dri munud, a buaswn yn ddiolchgar pe baech yn cadw at dri munud yn hytrach na'r pump arferol, neu i rai ohonoch, pum munud a mwy oherwydd eich bod yn meddwl nad wyf yn edrych ar y cloc. A hynny fel ein bod yn caniatáu i bawb gael eu cyfraniad. Felly, nid yw'n effeithio ar y sawl sy'n cynnig a chloi'r ddadl na'r sawl sy'n cynnig y gwelliannau. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7124 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar 1 Ebrill 2019.
2. Yn nodi ymhellach y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019.
3. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn rhoi’r Bil Awtistiaeth (Cymru) ar waith.
4. Yn cydnabod er bod adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg mesurau canlyniadau o fewn yr adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016.
5. Yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth awtistiaeth integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi awtistiaeth o ansawdd uchel drwy:
a) darparu cymorth a gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth drwy fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth;
b) datblygu system fonitro glir a chyson er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
c) egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau;
d) rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
e) gweithio i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae pobl yn cael eu geni gyda chyflyrau sbectrwm awtistiaeth gydol oes ac mae pobl awtistig yn gweld, yn clywed ac yn teimlo'r byd yn wahanol i bobl eraill. Os ydych yn awtistig, rydych yn awtistig am oes. Nid salwch neu glefyd yw awtistiaeth ac ni ellir ei wella. Yn aml, mae pobl yn teimlo bod awtistiaeth yn elfen sylfaenol o'u hunaniaeth. Mae ein cynnig yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, fod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.
Mae'n nodi cyhoeddi'r gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac adroddiad terfynol y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig ym mis Ebrill, a gyhoeddwyd ar ddiwedd mis Mawrth, ac adroddiad blynyddol 2018-19 cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig y mis hwn, er ei fod yn cydnabod y diffyg mesurau canlyniadau yn yr adroddiad hwn ar gyflawni cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig 2016. Felly, mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cymorth awtistiaeth cynaliadwy hirdymor o ansawdd uchel, drwy weithredu argymhellion gwerthusiad mis Ebrill a sicrhau bod gwasanaethau'n cryfhau'r llais awtistig drwy symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth i rymuso pobl ag awtistiaeth, drwy ddatblygu system fonitro glir a chyson, drwy egluro trefniadau ariannu yn y dyfodol, a thrwy gyflawni'r blaenoriaethau gweithredu a amlinellwyd yn y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd, gan gynnwys cyfleoedd addysg a chyflogaeth.
Fel y mae'r pecyn cymorth, 'Ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn y gweithle', a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyngres yr Undebau Llafur, yn ei ddangos, gall gweithwyr awtistig ddod â manteision enfawr i'r gweithle. Er bod dogfennau Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfeirio at 'anhwylderau'r sbectrwm awtistig', mae'n well gan bobl awtistig y term 'cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth', a theimlir bod y term 'anhwylder' yn anghywir, yn stigmateiddio ac yn ddilornus—rhowch y gorau i'w ddefnyddio os gwelwch yn dda.
Fel y dywed ein cynnig hefyd, gresynwn fod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn gweithredu Bil Awtistiaeth (Cymru). Wrth wneud hynny, rydym yn adlewyrchu'r gofid a fynegwyd wrthym gan gymunedau awtistig ac awtistiaeth ledled Cymru. Fel y dywedais wrth gynnig Bil Awtistiaeth (Cymru) yn y Siambr ym mis Hydref 2016, ni fydd y gymuned awtistiaeth yn cael y cymorth y gwyddant fod ei angen arnynt hyd nes y ceir sail statudol ac atebolrwydd a'n bod yn symud y tu hwnt i ymgynghori i rôl uniongyrchol ar gyfer cyrff proffesiynol a thrydydd sector a'r gymuned awtistig o ran cynllunio, cyflwyno a monitro.
Mae'n rhaid i fy staff a minnau bwysleisio dro ar ôl tro i gyrff cyhoeddus, pan na roddir digon o amser i berson awtistig brosesu gwybodaeth, y gall hynny arwain at wneud iddynt deimlo'n bryderus ac yn y sefyllfa waethaf, gallant golli arni, a chan fod pobl awtistig efallai'n orsensitif i rai synhwyrau, a heb fod yn ddigon sensitif i rai eraill, a chyfuniad o'r ddau yn aml, gall hyn achosi poen a gorlwytho synhwyraidd iddynt, gan arwain at wneud iddynt golli arni, a bod newid i drefn a strwythur yn gallu bod yn drallodus iawn i bobl awtistig. Felly mae'n ddyletswydd ar y gwasanaethau cyhoeddus i sefydlu ac addasu i anghenion cymdeithasol a chyfathrebu person awtistig, adnabod yr hyn sy'n achosi pryder cynyddol yn y person awtistig neu'n peri iddynt golli arni, ac felly osgoi trin y person awtistig fel y broblem.
Fel y dyfarnodd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn ddiweddar ynghylch gwahardd disgybl awtistig ifanc yr wyf wedi gweithio gydag ef o'r ysgol, roedd y gwaharddiad ei hun yn wahaniaethol. Fel y dywedodd rhieni myfyriwr awtistig wrthyf yn ddiweddar, roedd eu merch wedi cael rhybudd ysgrifenedig terfynol am ymddygiad annerbyniol ar ôl dychwelyd i goleg addysg bellach a chanfod ei bod wedi cael y cyfarwyddiadau anghywir ynglŷn â pha ystafell i fynd iddi, er bod y coleg yn gwybod ei bod yn ei chael hi'n anodd rheoli newidiadau yn y drefn arferol neu drefniadaeth. Fel y clywais gan fam i fyfyriwr awtistig yn yr un coleg, a gyflawnodd hunanladdiad y llynedd, 'Roedd i'w weld yn ddyn ifanc tawel, disglair; nid ydynt yn gweld y frwydr y mae'r plant hyn yn ei hymladd yn ddyddiol i oroesi mewn byd niwronodweddiadol'.
Mae gwerthusiad mis Ebrill yn cydnabod nifer o welliannau o ran darparu gwasanaethau cymorth awtistiaeth yng Nghymru yn dilyn cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Fodd bynnag, dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, er bod y gwerthusiad yn gam cadarnhaol ymlaen i weld amlinelliad mor gynhwysfawr o ble'r ydym yng Nghymru, mae hefyd yn rhoi darlun clir o ble mae angen i welliannau ddigwydd yn awr. Mae'r rhain yn cynnwys y ffaith nad oes unrhyw adroddiadau clir ar y dulliau monitro a ddatblygwyd ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig; nid yw'n ymddangos bod gan bobl awtistig, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ffydd fod yna ddigon o wasanaethau a chymorth ar gael i ddiwallu'r ystod eang o anghenion a all fod gan bobl awtistig; fod y ffocws ar y gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi bod ar draul ymrwymiadau eraill, megis gwella canlyniadau cyflogaeth pobl awtistig; a bod angen mynd i'r afael â'r diffyg eglurder ynghylch cynaliadwyedd ac ariannu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y dyfodol.
Canfu'r gwerthusiad anghysonderau ar draws ardaloedd daearyddol sy'n effeithio ar effeithiolrwydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig, pryderon nad yw'r gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr y gwasanaeth oherwydd oedi wrth ei sefydlu, a bod defnyddwyr eisiau i'r gwasanaeth wneud mwy, gan gynnwys gweithio'n uniongyrchol â phlant, nad yw'n rhan o'i gylch gwaith. Roeddent yn dweud bod defnyddwyr y gwasanaeth yn aml heb fod yn glir pa gymorth y gall y gwasanaeth awtistiaeth integredig ei ddarparu, a'u bod yn aml yn teimlo'n rhwystredig pan na allant gael gafael ar y gwasanaeth cymorth sydd ei angen arnynt. Er mai'r bwriad ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig oedd ategu a chryfhau ond nid disodli gwasanaethau presennol, canfu nad oedd rhai rhanddeiliaid yn rhannu'r farn hon, a bod amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau a diagnosis i oedolion wedi cynyddu'n helaeth, gyda'r gwasanaeth newydd yn datgelu galw mawr nas diwallwyd yn flaenorol.
Mae'n peri pryder nad yw adroddiad blynyddol y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig 2018-19 yn darparu fawr o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd yn gweithredu argymhellion gwerthusiad annibynnol mis Ebrill, gan awgrymu yn lle hynny y bydd y rhan fwyaf o'r argymhellion, ac rwy'n dyfynnu, 'yn cael eu hystyried'. Mae'r adroddiad hwn yn amwys yn ei gynigion i roi cymorth ariannol i ddatblygu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r terfyn amser presennol, er gwaethaf pryderon eang gan ddefnyddwyr gwasanaethau, rhanddeiliaid a'r gwasanaethau awtistiaeth integredig eu hunain. Ac er ei fod yn nodi bod data o ansawdd da yn hanfodol i ddeall effaith diwygiadau i wasanaethau ac i gynllunio gwasanaethau awtistiaeth yn y dyfodol, mae adroddiad Llywodraeth Cymru yn methu darparu digon o wybodaeth ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid gwasanaethau awtistiaeth fel y gwasanaeth awtistiaeth integredig, y tîm awtistiaeth cenedlaethol, byrddau partneriaeth rhanbarthol a byrddau iechyd lleol yn casglu data a sut y caiff data ei ddefnyddio wedyn i lywio'r broses o gynllunio gwasanaethau.
Wel, bydd maniffesto 2021 y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys cynigion cyllido pendant ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth cynaliadwy digonol yng Nghymru, gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio gyda'r cymunedau awtistig ac awtistiaeth, ac rydym yn annog y pleidiau eraill i wneud yr un peth. Er bod yn rhaid i ni roi sicrwydd i bobl awtistig a'u teuluoedd, mae'r diffyg gwybodaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn peri pryder. Mae gwirfoddolwr awtistig gyda'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yng ngogledd Cymru wedi gofyn i mi rannu ei bryder, er y gallai'r gwasanaeth fod yn bŵer er daioni, y gallai greu mwy o fylchau yn y pen draw, fod mwy o bobl yn cael eu hasesu ond nad oes unman iddynt fynd wedyn, fod ei weithiwr cymdeithasol wedi achosi problem enfawr drwy ddweud pethau a methu glynu atynt, fod angen inni wneud hyn yn iawn y tro cyntaf, nid achosi i bethau waethygu, sy'n cynyddu'r pwysau ar wasanaethau, a bod angen cynnwys pobl awtistig yn weithredol bob dydd.
Dywedodd unigolyn awtistig arall sy'n ymwneud â'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yng ngogledd Cymru wrthyf fod yna agweddau cadarnhaol a negyddol i'r gwasanaeth ar y cyfan. Gall rhai o'r pethau negyddol, meddai, gael eu hunioni'n hawdd drwy well cyfathrebu a hyfforddiant. Fodd bynnag, fe ychwanegodd, 'Nid wyf yn credu bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion y rhan fwyaf o unigolion awtistig, gan gynnwys mewn perthynas â chymorth ymarferol, cymorth gyda threfniadau ariannol, sefydliadau, sgiliau, ac ati.' A dywedodd, 'Er mwyn iddo lwyddo, credaf fod angen i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ddatblygu gwasanaethau sy'n bwrpasol i'r gymuned awtistiaeth, gan gynnwys asesiadau "beth sy'n bwysig", sgyrsiau sy'n canolbwyntio'n unigol ar rymuso cleientiaid a dewisiadau cleientiaid.'
Dywedodd gweithiwr proffesiynol ym maes awtistiaeth fod cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi rhoi straen ychwanegol ar wasanaethau'r sector gwirfoddol i gefnogi pobl cyn ac ar ôl diagnosis, gyda gwasanaethau eiriolaeth mewn perygl o chwalu, ac nad oedd dyfnder i'r deunyddiau hyfforddi a roddwyd iddi gan ASDinfoWales a'i bod wedi gorfod creu ei deunydd ei hun i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r cyflwr ac atal arwahanrwydd. Yn ogystal â bod yn weithiwr proffesiynol, mae ganddi flynyddoedd o brofiad bywyd.
Dywedodd aelodau o'r gymuned awtistiaeth yng ngogledd Cymru wrthyf fod y gwasanaeth awtistiaeth integredig i'w weld yn synnu ac mewn penbleth nad yw menywod a merched yn cyd-fynd â'r meini prawf a ddefnyddir yn gyffredinol ar gyfer bechgyn a dynion, a bod llawer o rieni awtistig plant awtistig o dan anfantais ddifrifol wrth ymdrin ag addysg, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, am nad yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn darparu gwaith uniongyrchol gyda phlant. Ac fel y dywedodd elusen sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ar y sbectrwm wrthyf, nid yw'r cyllid yn canolbwyntio ar y meysydd pwysicaf a'r bylchau yn y ddarpariaeth, gan gynnwys hyfforddiant awtistiaeth i ysgolion ar gyfer yr holl staff, adnoddau mewn ysgolion, gweithgareddau penodol ar gyfer awtistiaeth a chlybiau, cymorth i rieni ar adegau o argyfwng, gwasanaethau seibiant i deuluoedd, a chymorth allanol i deuluoedd. Dyna lle dylai'r £13 miliwn fod yn mynd.
Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, er bod awtistiaeth eisoes yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn yr un modd ag y mae cyflyrau niwroamrywiol eraill, megis dyslecsia. Mae'n peri gofid fod gwelliannau Llywodraeth Cymru yn osgoi'r galwadau yn y gwerthusiad annibynnol a gomisiynwyd ganddynt i fynd i'r afael â gwendidau'r gwasanaeth awtistiaeth integredig fel mater o frys, gan gynnwys, meddent, diffyg data cyhoeddedig a diffyg eglurder ynghylch y model cyllid hirdymor. Gwrandewch ar y gwerthusiad a gomisiynwyd gennych a'r argymhellion ar sail tystiolaeth a wnaed ganddynt.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu, er mwyn i bobl ag awtistiaeth gael y gwasanaethau gorau posibl, fod angen ystyried niwroamrywiaeth fel mater cydraddoldeb ynddo'i hun, a bod cael ymennydd nad yw'n niwronodweddiadol yn dod yn nodwedd warchodedig o dan ddeddfwriaeth cydraddoldebau, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb yn unol â hynny.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn, ac mae pawb ohonom ar y meinciau hyn yn ddiolchgar iawn i'r grŵp Ceidwadol am ddewis y pwnc pwysig hwn ar gyfer eu dadl. Hoffwn gysylltu fy hun â llawer o'r hyn y mae Mark Isherwood wedi'i ddweud, ac ni thrafferthaf y Siambr na chymryd amser i'w ailadrodd, ond credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn deall, pa newidiadau bynnag a pha wasanaethau bynnag a ddarperir, fod yn rhaid i leisiau pobl sy'n niwroamrywiol, gan gynnwys pobl awtistig, fod yn ganolog i hynny. Rhaid inni fod yn siŵr ein bod yn darparu'r gwasanaethau y mae pobl eu heisiau ac angen eu defnyddio, ac nid dim ond darparu'r gwasanaethau sy'n hawdd ac yn gyfleus i'r rheini sy'n darparu'r gwasanaethau, a dyna'r risg bob amser.
Rydym yn rhannu'r gofid nad aeth y ddeddfwriaeth a gynigiwyd gan Paul Davies yn ei blaen. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod, yn y broses honno, nad oedd y ddeddfwriaeth yn berffaith—nid oedd yn orffenedig—ond roedd yr Aelod wedi dweud yn glir iawn fod ganddo ddiddordeb mewn edrych ar welliannau a newidiadau, pe bai'r ddeddfwriaeth wedi cael caniatâd i symud ymlaen. Ac i ddod yn ôl at y pwynt a wneuthum ynglŷn â gwrando ar leisiau pobl awtistig a'u teuluoedd, mae'n amlwg iawn i ni eu bod yn teimlo bod angen rhoi'r amddiffyniadau hyn ar sail statudol, eu bod angen gwybod beth y gallent ei ddisgwyl gan wasanaethau, a'u bod angen hawliau y gellid eu gorfodi. Nawr, wrth gwrs, nid dyna oedd y farn gyffredinol o reidrwydd, ond yn sicr dyna oedd yr ymateb ysgubol a gefais fel aelod o'r pwyllgor iechyd ac o fy rhanbarth fy hun.
Fe siaradaf yn fyr, os caf, Ddirpwy Lywydd, am welliant 1. Rydym yn credu bod angen i niwroamrywiaeth fod yn nodwedd warchodedig yn ei hawl ei hun. Soniaf yn gryno pam, a bydd fy nghyd-Aelod Leanne Wood yn dweud mwy yn y man. Oherwydd nid yw'n hollol gywir inni ddweud bod y Ddeddf yn cwmpasu'r cyflyrau hyn yn llawn, oherwydd er mwyn iddynt gael eu cynnwys yn llawn yn y Ddeddf fel y mae, rhaid i bobl ddangos eu bod, mewn rhyw ffordd, yn cael eu hanalluogi gan eu cyflwr, ac mae llawer o bobl yn y gymuned, wrth gwrs, nad ydynt yn ystyried eu hunain yn anabl yn yr ystyr hwnnw, ond maent yn gwybod eu bod yn destun gwahaniaethu am fod yn pwy ydynt. Diogelir rhai pobl niwroamrywiol o dan yr elfen anabledd, ond mae llawer hefyd yn dewis peidio â datgelu eu niwroamrywiaeth yn y gweithle am eu bod yn ofni cael eu stereoteipio mewn rhyw ffordd fel pobl ryfedd a dod yn destun gwahaniaethu. Felly, credwn y byddai categori niwroamrywiaeth penodol yn y ddeddfwriaeth yn helpu i fynd i'r afael â'r pethau hynny, a byddai hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr, oherwydd mae hon, wrth gwrs, yn her y mae pobl yn ei hwynebu yn eu bywydau ac yn eu cyfathrebu—nad yw bob amser yn bosibl ei gweld yn glir. Felly, credwn fod angen cynnwys niwroamrywiaeth fel nodwedd warchodedig ar wahân a phenodol o dan y Ddeddf cydraddoldeb, er y byddai'n well gennym, wrth gwrs, pe bai pwerau cydraddoldeb yn dod yma i'n Senedd, fel y gallem ddeddfu yma ar hyn a phob mater arall sy'n ymwneud â chydraddoldeb.
Rwyf am orffen yr hyn rwy'n mynd i'w ddweud, Ddirprwy Lywydd, gydag ychydig o sylwadau am welliannau'r Llywodraeth. Mae'n rhwystredig eu bod, fel sy'n digwydd yn rhy aml, yn awgrymu bod pethau naill ai'n iawn fel y maent, neu y byddant yn iawn yn fuan, ac mae'n amlwg nad ydynt, fel y gall bag post etholaethol pawb ddweud wrthych. Maent yn cynnig ystyried mwy yn lle'r galwadau clir i weithredu yn y cynnig gwreiddiol. Nawr, nid oes neb am i bobl ruthro a gwneud penderfyniadau anghywir, ond fel y mae Mark Isherwood wedi'i nodi, mae'r wybodaeth hon wedi bod gyda'r Gweinidog ers tri neu bedwar mis bellach, ers mis Ebrill. Faint yn hwy y mae angen inni ystyried, a phryd y gall pobl weld gweithredu'n digwydd?
Ac yna wrth gwrs gwelwn y symud cyfrifoldeb arferol i Lywodraeth y DU am ran o'r broblem. Nawr, nid oes neb ar y meinciau hyn, a minnau'n enwedig, yn mynd i fod eisiau dweud pethau caredig am y Llywodraeth Geidwadol hon, ac rwy'n siŵr ei bod yn rhwystredig iawn i Lywodraeth Cymru nad ydynt yn gwybod eto beth yw eu cyllideb, ond rwy'n teimlo nad oes urddas mewn gwthio'r cyfrifoldeb i rywle arall. Yn y pen draw, mae pobl awtistig eisiau gwybod beth y bwriadwn ei wneud. Nid ydynt eisiau gweld y bai'n cael ei drosglwyddo i rywle arall—er mor haeddiannol y gallai hynny fod. Mae hwn yn batrwm rwy'n gweld gormod ohono a dweud y gwir, gyda gwelliannau'r Llywodraeth o rai cylchoedd i gynigion y gwrthbleidiau. Os nad ydych yn cytuno, pleidleisiwch yn ei erbyn—mae hynny'n iawn. Ond rwy'n herio pwrpas ei ddiwygio cymaint nes eich bod yn ei wneud yn ddiystyr.
I ddychwelyd at yr agenda hollbwysig hon, os ydym am wneud cynnydd arni, byddem yn elwa o rywfaint o onestrwydd ar bob ochr ynghylch yr heriau. Mae mawr angen hynny. Ni allwn sicrhau bod pob person awtistig ac unigolyn niwroamrywiol arall yn ein gwlad yn cael eu galluogi a'u cynorthwyo i fyw bywydau ar eu llawnaf os ydym yn esgus bod popeth yn iawn yn awr. Cymeradwyaf welliant 1, a byddwn yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio gan welliannau'r Llywodraeth.
Diolch. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu pwynt 3 ac ailrifo’n unol â hynny.
Gwelliant 3—Rebecca Evans
Ym mhwynt 6, dileu popeth ar ôl is-bwynt a, a rhoi yn ei le:
adeiladu ar y gwaith monitro sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y byddwn wedi cael yr eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny;
rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Yn ffurfiol.
Diolch. Mohammad Asghar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddwy flynedd yn ôl, siaradais yn y Cynulliad hwn o blaid cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn am ganiatâd i gyflwyno Bil awtistiaeth. Byddai ein Bil awtistiaeth arfaethedig wedi gwneud darpariaeth ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion â chyflwr sbectrwm awtistig. Ei nod oedd diogelu a hyrwyddo hawliau tua 34,000 o bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Y ffaith amdani yw nad yw llawer o ddioddefwyr awtistiaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i'w helpu i fwrw ymlaen â'u bywydau. Maent yn wynebu heriau wrth geisio cael gafael ar wasanaethau cyflogaeth, addysg, iechyd a thai. Mae hyn yn ei gwneud hi'n fwyfwy anodd iddynt fyw bywyd annibynnol. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i bleidleisio yn erbyn ein cynnig yn destun gofid mawr.
I fod yn deg, mae'r ddarpariaeth o wasanaethau i bobl ag awtistiaeth yng Nghymru wedi gwella'n ddiweddar, ond mae'r anghysonderau'n codi amheuon ynglŷn â'r—. Mae'n ddrwg gennyf. Fodd bynnag, mae'r gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a'r cynllun gweithredu awtistiaeth ar ei newydd wedd—. Mae adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dweud bod nifer o anghysonderau yn y cymorth a ddarperir ar hyn o bryd. Mae'r anghysonderau hyn yn codi amheuon ynglŷn ag effeithiolrwydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn darparu cymorth digonol i ddefnyddwyr gwasanaethau a grymuso pobl ag awtistiaeth yn ogystal ag ymwybyddiaeth o awtistiaeth.
Y dyddiau hyn, mae defnyddwyr gwasanaethau'n aml yn aneglur ynghylch pa gymorth y gall y gwasanaeth awtistiaeth integredig ei ddarparu. Yn aml, maent yn teimlo'n rhwystredig pan na allant gael gafael ar y gwasanaeth cymorth sydd ei angen arnynt. Ddirprwy Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru egluro pa wasanaethau y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl, a rhaid iddi asesu a oes angen ehangu gwasanaethau i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau'n cael y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn cyflawni ymrwymiad a nodwyd i gymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau neu wendidau yn y ddarpariaeth. Mae arnom angen ymrwymiad i lunio adolygiad rheolaidd o gynnydd y gwasanaethau y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl, fel bod darparwyr gwasanaethau'n darparu lefel gyson o ofal.
Ceir anghysonderau hefyd yn y cymorth y mae pob gwasanaeth awtistiaeth integredig rhanbarthol yn ei ddarparu. Mae hyn wedi creu loteri cod post mewn gwasanaethau. Ceir llawer o wasanaethau awtistiaeth rhanbarthol sy'n methu cydymffurfio â'r holl safonau cenedlaethol. Lywydd, rwy'n dal i gredu bod angen cefnogaeth statudol arnom i amddiffyn hawliau pobl awtistig a chodi ymwybyddiaeth o gyflwr cymhleth. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu'r argymhelliad sydd yn y cynllun cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Rwy'n cefnogi'r cynnig.
Gofynnais i aelodau grŵp y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ym Mlaenau Gwent drafod y ddadl hon y prynhawn yma, a gofyn iddynt beth oedd eu barn am rai o'r gwasanaethau yr oeddent yn eu cael. Rhaid imi ddweud y dylai eu sgwrs, a glywais dros amser cinio, wneud i bawb ohonom oedi a meddwl am realiti'r gwasanaethau y mae gormod o bobl yn eu cael.
Treuliwn gryn dipyn o amser yn sôn am y pwysau ar gyllidebau addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ond yn aml iawn, soniwn am hynny mewn modd haniaethol. Y bore yma, gwelsom yn glir iawn sut y mae hynny'n effeithio ar bobl ac ar blant. Ym Mlaenau Gwent, mae'n amlwg fod diffyg cyfathrebu gwirioneddol ar ran yr awdurdod lleol. Mae'r awdurdod lleol yn gwneud camgymeriadau'n aml gyda'r wybodaeth a ddarperir. Caiff negeseuon e-bost eu hanwybyddu. Ni cheir adborth yn ystod prosesau, a phrin yw'r adborth na'r ymateb i negeseuon e-bost. Mae pobl yn teimlo nad ydynt yn bwysig ac nad yw'r awdurdod yn malio. Mae hwnnw'n ddarlun gwarthus o'n hawdurdod lleol.
Yn rhy aml—ac rwyf wedi gweld hyn yn fy llwyth achosion fy hun—er mwyn mynd i'r ysgol leol ym Mhen-y-Cwm, mae'n cymryd gormod o amser, ac mae pobl a phlant yn aros yn llawer iawn hwy nag y dylent ei wneud i gael yr addysg y mae arnynt ei hangen ac y maent yn ei haeddu. Pan sefais o flaen y lle hwn fel Gweinidog a oedd yn gyfrifol am anghenion dysgu ychwanegol, rhoddais addewid i bob Aelod y byddem yn darparu'r cyfle addysgol gorau posibl i bob plentyn ac i bob person ifanc. Rhaid inni gyflawni hynny drwy sicrhau bod yr adnoddau a'r strwythurau sy'n darparu'r adnoddau hynny ar gael i bobl. Nid yw'n rhywbeth y gallwn ddymuno iddo ddiflannu ar ei ben ei hun.
Yn rhy aml, mae meddygon teulu fel pe baent yn ansicr ynghylch y ffyrdd priodol o gael cymorth, ac nid yw meddygon teulu yn deall beth y dylid ei ddarparu i'r plant neu'r bobl ifanc a welant. Dywedir wrth bobl y gallent roi cynnig ar gyffuriau gwrthseicotig i weld a fydd hynny'n gweithio, a dod yn ôl ymhen ychydig wythnosau os nad yw'n gweithio. Yn rhy aml, mae'r broses gyfan o gael cymorth a gwasanaethau gan gyrff cyhoeddus yn ddryslyd. Mae pobl yn teimlo eu bod ar goll yn y system. Nid yw pobl yn deall ble i ofyn am help a chymorth. Yn rhy aml clywn straeon, fel arfer gan famau sy'n sôn am yr hyn y maent yn mynd drwyddo wrth geisio darparu'r gwasanaethau a'r cariad a'r gefnogaeth i'w plant. Teimlai un ddynes y bore yma fod yn rhaid i rieni gyrraedd pwynt argyfwng gwirioneddol i allu cael unrhyw gymorth. Roedd ei mab yn hunan-niweidio ac yn ceisio cyflawni hunanladdiad, a bu'n rhaid iddi ffonio'r heddlu ar sawl achlysur. Nid oedd y gwasanaethau yno o gwbl.
Mae pontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion hefyd yn gyfnod anodd, ac weithiau'n drawmatig—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ni wnaf dderbyn ymyriad am fod amser yn fy erbyn ar hyn, ond rwy'n gobeithio y caiff yr holl Aelodau eraill gyfle i siarad.
Yr hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud y prynhawn yma, Weinidog, yw taflu goleuni ar realiti'r straeon hyn. Pleidleisiais gyda'r Llywodraeth ym mis Ionawr ar fater Bil awtistiaeth, ac yn ddeallusol nid wyf wedi fy argyhoeddi gan y ddadl o'i blaid. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Llywodraeth ein bod wedi rhoi addewidion difrifol iawn i bobl y wlad hon, ac os nad ydym yn gallu cyflawni'r ymrwymiadau hynny, a darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, byddaf yn cefnogi deddfwriaeth i sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaethau hynny yn y dyfodol.
Amcangyfrifir bod tua 1 o bob 7 o bobl, mwy na 15 y cant o boblogaeth y DU, yn niwrowahanol, sy'n golygu bod yr ymennydd yn gweithredu, yn dysgu ac yn prosesu gwybodaeth yn wahanol. Mae gwahanol bobl yn cael profiad gwahanol o niwroamrywiaeth. Felly, mae'n bwysig nad yw pobl yn cael eu stereoteipio yn ôl y nodweddion mwy adnabyddus. Ni fydd pob person awtistig, er enghraifft, yn dda am wneud mathemateg neu'n meddu ar ryw fath o ddawn gudd. Math o amrywiaeth ddynol yw niwroamrywiaeth. Nid oes y fath beth â math 'normal' neu 'iach' o ymennydd, yn union fel nad oes y fath beth â rhyw neu hil neu ddiwylliant normal neu iach. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol o'u mewnflychau o'r mathau o wahaniaethu y gall pobl awtistig eu hwynebu. Dyna'r gwahaniaethu yr ydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef drwy ein gwelliant y prynhawn yma.
Mae Plaid Cymru eisiau gweld niwrowahaniaeth yn dod yn nodwedd warchodedig ar wahân. Gallech ddadlau bod y Ddeddf cydraddoldeb, i ryw raddau, eisoes wedi cynnig rhywfaint o amddiffyniad cyfyngedig i niwrowahaniaeth, gan y gallai ddod o dan gategori mwy cyffredinol anabledd, ond mae hynny'n achosi problemau, a hoffwn egluro pam. Er mwyn cael amddiffyniad o dan y Ddeddf hon, byddai angen i berson gael diagnosis, ac mae pawb ohonom yn gwybod y gall hynny gymryd llawer o amser, a byddai angen prawf arnynt fod y cyflwr yn amharu'n sylweddol ar weithgareddau o ddydd i ddydd. Ni ddylid edrych ar y cwestiwn hwn drwy lens anabledd. Nid yw niwrowahaniaeth o reidrwydd yn amharu ar rywun. Gyda'r cymorth cywir, gall pobl ffynnu. Mae'n ymwneud â deall ac addasu, nid ag anabledd o anghenraid.
Mae'r Ddeddf cydraddoldeb yn mynnu prawf y byddai ymddygiad neu amgylchiad yn gwahaniaethu yn erbyn person nodweddiadol sydd â'r cyflwr hwnnw, ac mae hynny'n anodd ei orfodi ar gyfer niwroamrywiaeth gan fod pob cyflwr yn effeithio ar unigolyn mewn ffordd unigryw. Nid yw labelu rhywbeth fel anawsterau dysgu, fel sy'n digwydd yn aml, o gymorth. I lawer o bobl, mae'r term yn gysylltiedig â phlant, ac ni fydd llawer o weithwyr niwrowahanol, er enghraifft, yn ei chael hi'n anodd dysgu sgiliau newydd neu ddeall cysyniadau newydd. At hynny, nid oes dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol os nad yw'r cyflogwr yn gwybod neu os na ellid disgwyl yn rhesymol iddynt wybod bod person yn anabl yn ystyr y Ddeddf. Fodd bynnag, nid yw bron i dri chwarter y gweithwyr niwrowahanol yn datgelu eu cyflwr rhag ofn iddynt wynebu gwahaniaethu, ac mae hanner yr holl weithwyr sy'n datgelu eu cyflwr yn difaru gwneud hynny yn ddiweddarach. A dyna'n union pam y dylai'r gwahaniaethu hwn gael ei wahardd. Mae pob siaradwr sydd yma y prynhawn yma'n derbyn na all y status quo barhau. Rydym i gyd yn cydnabod sut y mae pobl yn cael cam gan ein gwasanaethau cyhoeddus a chan ein cymdeithas gyfan. Rhaid inni roi'r gorau i ddal ati i ddim ond dweud hynny. Fe wnaeth pob un ohonoch ar ochr y Llywodraeth bleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth a oedd ar gael inni ar hyn o'r blaen. Mae arnom angen gweithredoedd yn awr, nid geiriau. Pryd y cawn ni eu gweld?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac roedd hi'n fraint cael cyfle i gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth awtistiaeth. Ac er nad oedd y canlyniad yr hyn yr oedd llawer ohonom wedi gobeithio amdano, mae'r gymuned awtistiaeth a minnau'n gallu cael rhywfaint o gysur o'r ffaith bod awtistiaeth ar frig agenda'r Cynulliad am gymaint o amser. Nawr, nid wyf yn dweud am eiliad ers fy Mil arfaethedig nad oes peth gwaith da'n cael ei wneud ar draws Cymru, oherwydd mewn rhai meysydd gwelwyd cynnydd da. Fodd bynnag, y broblem o hyd yw bod arferion da i'w gweld mewn rhai rhannau o'r wlad, ond mewn rhannau eraill, mae'r gwasanaethau'n wael ac amseroedd aros annerbyniol o uchel cyn cael diagnosis. I mi dyna oedd y rheswm canolog pam fod angen cyflwyno deddfwriaeth awtistiaeth yng Nghymru, ac mae'r optimist ynof yn gobeithio'n ddiffuant y bydd Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried deddfwriaeth os dangosir nad yw eu strategaethau presennol yn llwyddiannus.
Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, a bod yr adolygiad annibynnol diweddar wedi tynnu sylw at rai o'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud, ac rwy'n arbennig o falch o weld bod y gwasanaethau sefydledig yn gweithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ddatblygu ac addasu eu gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion a grwpiau. Fodd bynnag, dywedodd yr un adroddiad yn ddiweddarach fod y gwasanaethau sefydledig yn dal i wynebu heriau wrth reoli'r galw am asesiadau a diagnosis, felly mae'n amlwg fod angen gwneud llawer mwy o waith i fynd i'r afael â'r heriau penodol hyn. Gadewch inni gofio hefyd mai dim ond yn awr y mae'r bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng ngorllewin Cymru'n gweld gwasanaeth yn cael ei ddatblygu yn eu hardal, a bydd yn ddiddorol gweld sut y datblygir y gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd yn fy ardal i, a'r effaith a gaiff hyn o ran gallu fy etholwyr i gael gafael ar wasanaethau.
Un o'r pryderon eraill a glywais wrth siarad ag elusennau a mudiadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl ag awtistiaeth yw'r ffaith bod pobl yn cael eu cyfeirio atynt gan gyrff statudol heb eu bod yn cael unrhyw gymorth ariannol eu hunain. Dyma'r neges a gefais yn ddiweddar iawn pan ymwelais ag AP Cymru. Nawr, yn fy marn i, mae angen i hyn newid. Felly, hoffwn annog y Gweinidog i edrych ar hyn o ddifrif ac i newid y seilwaith ariannu i sicrhau bod y sefydliadau hyn, sy'n gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl awtistig, yn cael y cymorth ariannol y maent yn ei haeddu.
Un o brif fanteision y Bil awtistiaeth arfaethedig oedd y ffaith ei fod yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth awtistiaeth. Y rhesymeg y tu ôl i hyn oedd y byddai'n sicrhau rhywfaint o sefydlogrwydd a chynaliadwyedd wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Y tu hwnt i gyfnod y cynllun gweithredu strategol diwygiedig ar gyfer awtistiaeth 2016-20, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd gwasanaethau awtistiaeth yn cael eu blaenoriaethu'n barhaus yng Nghymru. At hynny, gwyddom o ddeddfwriaeth awtistiaeth mewn rhannau eraill o'r DU fod angen deddfwriaeth i sicrhau na chollir y momentwm ar gyfer gwella. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r cynnig hwn ac yn edrych ar ffyrdd y gall sicrhau bod gwasanaethau awtistiaeth yn cael eu blaenoriaethu yn y dyfodol.
Ddirprwy Lywydd, er nad oedd fy ymgais i weld y Bil awtistiaeth arfaethedig yn cael ei basio yn y Siambr hon yn llwyddiannus, nid oes unrhyw reswm pam na all Llywodraeth Cymru gymryd agweddau arno a'u hymgorffori lle bo'n gymwys yn ei rhaglen ei hun ac yn wir, yn ei deddfwriaeth ei hun yn y dyfodol. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cod ymarfer, ac er nad yw'n mynd yn ddigon pell yn fy marn i, mae o leiaf yn dangos ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, pwysaf ar yr Aelodau i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma ac anfon datganiad i'r gymuned awtistiaeth ein bod yn gwrando ac yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r heriau y mae pobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru yn eu hwynebu.
Rwy'n credu bod perygl ein bod ag ymagwedd gwydr hanner gwag drwy'r amser yn hytrach na chydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud o ganlyniad i'r drafodaeth a gawsom yn y Siambr ac mewn mannau eraill. Rwyf wedi ymweld â'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ar gyfer Caerdydd a'r Fro, sydd wedi'i leoli ym Mhenarth, ac rwy'n edmygu'n fawr y dull cydweithredol o weithredu gofal iechyd darbodus sydd ganddynt. Maent yn ofalus iawn i beidio â threulio gormod o amser ar wneud diagnosis o awtistiaeth yn unig, er mwyn sicrhau bod staff yn cael digon o amser i roi cymorth ac arweiniad i bobl ag awtistiaeth. Oherwydd nid yw gwneud diagnosis o awtistiaeth yn newid y broblem mewn gwirionedd; cymorth yw'r peth cwbl hanfodol.
Felly, rwy'n credu bod llawer o gynnydd wedi'i wneud, ac rwy'n credu bod angen i ni gydnabod hynny, ond mae angen i ni edrych ar y model staffio a chyllido ac i ba raddau y mae'n hyrwyddo partneriaeth â'r sector gwirfoddol, sy'n fater allweddol i mi er mwyn sicrhau, yn hytrach na datblygu model meddygol o ddarpariaeth, ein bod yn cryfhau'r model cymdeithasol, lle mae'n rhaid i gymdeithas newid, yn hytrach nag ychwanegu at restrau o faterion cydraddoldeb. Felly, dyna pam y buaswn yn gwrthwynebu gwelliant 1 Plaid Cymru.
Rwy'n falch iawn o ddarllen bod Estyn yn adrodd bod cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi gwella dealltwriaeth ysgolion a cholegau o anghenion dysgwyr ac wedi gwella'r berthynas ag aelodau o'r teulu a gofalwyr. Yn amlwg, mae'r rhaglen dysgu gydag awtistiaeth wedi gwella dealltwriaeth athrawon sy'n addysgu pobl ag awtistiaeth, ond mae'r nifer sy'n dilyn y rhaglen yn parhau'n anghyson. Felly, yn bendant, mae'n rhywbeth sy'n rhaid inni weithio arno. Ond wrth i ni symud fwyfwy oddi wrth osod safonau, sy'n cymell addysgu i basio'r prawf, ac yn canolbwyntio fwyfwy ar sut y mae ysgolion a cholegau'n ychwanegu gwerth at anghenion pob disgybl, rwy'n siŵr y bydd llawer mwy o sylw'n cael ei roi i ddysgu gydag awtistiaeth a gwneud yn siŵr eu bod yn cyflawni ar gyfer y plant hynny.
Yn yr amser byr sydd gennyf, roeddwn am siarad am ddau beth. Un yw bod arnaf eisiau tynnu sylw at brawf mwy addas i blant ar gyfer awtistiaeth sy'n cael ei ddatblygu yng Nghanada, lle maent yn defnyddio ffotograffau o wynebau i allu adnabod plant niwronodweddiadol, yn hytrach na phlant eraill sy'n rhan o'r astudiaeth. Mae'r plant hyn yn treulio llawer mwy o amser yn astudio'r geg a llai o amser yn edrych ar lygaid y lluniau hyn, ac mae'n profi'n brawf llawer mwy cywir o awtistiaeth. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn pan fyddwn yn ymdrin â phlant, oherwydd nid yw cael seicolegwyr a holiaduron yn eu hasesu yn rhywbeth y bydd plant yn teimlo ei fod yn ddefnyddiol—yn wir, mae'n frawychus.
Yn ail, wrth ddatblygu'r model cymdeithasol, hoffwn gymeradwyo siop GAME yng nghanolfan siopa Dewi Sant, sy'n gweithio gyda phobl ag awtistiaeth, gan roi hyfforddiant ymwybyddiaeth iddynt a chynnal nosweithiau cyfeillgar i bobl awtistig bob deufis, ar adegau pan fydd y ganolfan siopa a'r siop yn dawel, gan wneud i bobl ag awtistiaeth deimlo'n llawer mwy cyfforddus ynglŷn â mynd i'r siop a chymryd rhan yn eu gemau. Mae hon yn un o ddim ond pedair ardal yn y DU sydd wedi'u dewis ar gyfer y treial hwn. Felly, rwy'n llongyfarch siop GAME yng nghanolfan Dewi Sant. Diolch.
Fel y gwyddom, mae awtistiaeth yn ystod o gyflyrau na chânt eu trafod yn ddigonol—un o'r rhesymau dros y diffyg dealltwriaeth sy'n parhau ynglŷn â'i effaith, felly mae bob amser yn braf cael cyfle fel hyn i drafod y cyflwr. Mae stigma ynghlwm wrtho o hyd ac mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i fynd i'r afael â hynny. Gall y diffyg dealltwriaeth, fel y gwyddom, arwain at ofn diagnosis o awtistiaeth neu efallai nad yw pobl yn cynnig cymorth oherwydd nad ydynt yn gwybod pa gymorth y gallai fod ei angen o bosibl. Roedd yn ddiddorol clywed yr hyn a oedd gan Jenny Rathbone i'w ddweud yn awr am y prawf ar gyfer awtistiaeth lle mae dioddefwyr posibl yn gweld wynebau ac yn edrych ar y cegau, rwy'n credu mai dyna a ddywedoch chi, yn fwy na'r llygaid. Mae ymchwil ddiddorol dros ben yn cael ei wneud yn y maes hwnnw.
Mae'r anwybodaeth gyffredinol ynglŷn ag awtistiaeth yn rhyfedd pan ystyriwch pa mor gyffredin yw awtistiaeth ym mhoblogaeth y DU. Fel y clywsom, mae angen cymorth ychwanegol ar bobl ag awtistiaeth, nid oherwydd eu cyflwr yn unig, ond oherwydd y diffygion yn y ffordd y mae cymdeithas yn ymateb i bobl â'r cyflwr hwnnw. Am drasiedi, ac un y gellir ei hosgoi, ac un y gallwn wneud llawer i fynd i'r afael â hi. Yn ôl y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, mae 70 y cant o blant awtistig wedi'u gwahardd o'r ysgol ar un adeg neu'i gilydd, mae tua hanner y rheini wedi cael eu hatal droeon, ar dri achlysur neu fwy, a dim ond 16 y cant o oedolion awtistig sydd mewn gwaith cyflogedig amser llawn, ac mae cyfran debyg mewn rhyw fath arall o waith cyflogedig. A ddylai awtistiaeth ei hun fod yn rhwystr i waith o reidrwydd? Wel wrth gwrs na ddylai. Mae'n rhaid i ni symud y tu hwnt i rai o'r syniadau hen ffasiwn am awtistiaeth.
Mae mwy nag un o bob tri oedolyn ag awtistiaeth yn profi heriau iechyd meddwl difrifol, ond unwaith eto, nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud yn uniongyrchol ag awtistiaeth, ond yn hytrach mae'n ymwneud â'r cymorth, neu'r diffyg cymorth, yr ydym ni fel cymdeithas yn ei gynnig i'r bobl hynny. Ar y pwynt hwn hoffwn sôn am waith amhrisiadwy grwpiau fel Mencap Cymru yn fy ardal, yng Nghas-gwent, sefydliad a fu'n gweithredu ers 40 o flynyddoedd ac sydd wedi cael llwyddiant mawr yn ymdrin â phobl ifanc ag ystod o anawsterau, yn cynnwys anawsterau dysgu, a nifer o bobl ag awtistiaeth ddifrifol hefyd. Ceir llawer o grwpiau eraill sy'n gweithio yr un mor galed ym mhob un o'n hetholaethau ac maent yn gwneud gwir wahaniaeth ar lawr gwlad, lle mae'n bwysig.
Mae llawer mwy y gallwn ei wneud i gefnogi pobl ag awtistiaeth, felly gadewch i ni edrych ar rai o'r pethau y gallwn eu gwneud. Fel y dywedodd Helen Mary Jones ac eraill, ac fel llawer o bobl ledled Cymru, rwy'n parhau'n siomedig ac yn rhwystredig ein bod wedi colli cyfle i ymgorffori hawliau pobl awtistig drwy Ddeddf awtistiaeth bwrpasol. Rwy'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru ei rhesymau dros ddweud bod llwybr arall i'w gymryd yn lle Deddf, ond rwy'n un o'r rhai sy'n credu y byddai Deddf yn helpu i wreiddio'r hawliau hynny yn y llyfr statud. Ac rwy'n gobeithio y bydd cyfle i Aelodau yn y dyfodol efallai i adfywio cynlluniau ar gyfer Bil awtistiaeth pwrpasol i Gymru.
Ond mae pethau eraill y gallwn eu gwneud i gefnogi pobl ag awtistiaeth, fel y dywedodd Paul Davies. Mae angen inni weld cynnydd ar gynllun gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer pobl ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig. Mae angen inni weld mesurau canlyniadau cliriach yn cael eu cyflwyno, a monitro mwy effeithiol.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, yn y cyfnod cyn 2021, rwy'n gobeithio y byddai pob plaid yma yn ymrwymo i ddiogelu cyllid ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn. Os daw pob un ohonom at ein gilydd ar y mater hwn, rwy'n credu y gallwn wneud y cynnydd y mae angen i ni ei weld.
Pan siaradais yn y ddadl ar y Bil ym mis Ionawr, crybwyllais y ffaith bod fy merch yn aros am ddiagnosis ar gyfer awtistiaeth, a chafodd y diagnosis hwnnw ym mis Chwefror. Yfory yw ei phedwerydd pen-blwydd, a rhai o'r pethau a ddywedais ar y pryd oedd: a fydd hi'n gallu aros yn yr ysgol; sut y gallaf ei helpu i oresgyn ei rhwystredigaeth nad yw'n gallu dweud wrthyf beth mae hi eisiau; a fyddwn ni byth yn gallu cael sgwrs; sut y gallwn fynd ati i'w dysgu sut i ddefnyddio toiled os nad yw'n deall y cysyniad; pwy all fy addysgu i i'w helpu hi; ac a fydd hi byth yn gallu dweud wrthyf ei bod hi'n fy ngharu? Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y gefnogaeth a gawsom wedi bod yn anhygoel. Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych. Rydym wedi mynychu gweithdai toiled fel rhieni ac mae'n cael cymorth iaith a lleferydd yn yr ysgol. Buaswn yn dweud bod yna oedi ac aros am hyfforddiant EarlyBird. Rydym yn dal i aros am hwnnw, ac rwy'n credu y byddwn yn aros am chwe mis ar ôl y diagnosis. Felly mae yna broblemau o hyd.
Pleidleisiais yn erbyn y Bil, ond gadewch i mi ddweud na fuaswn wedi pleidleisio gyda'r chwip. Pleidleisiais ar benderfyniad, ar ôl cael cyngor gan lawer o wahanol ffynonellau yn fy etholaeth. Cymerais gyngor gan y bwrdd iechyd, cymerais gyngor gan Ysgol Trinity Fields, a'r gwasanaeth sbectrwm awtistig clodwiw sy'n gweithredu yno. A daeth y Gweinidog i ymweld. Ac rwy'n credu bod llawer iawn o hyn—ac mae'n rhaid i mi ddweud, ac rwy'n siarad fel rhiant yn awr, rwy'n teimlo bod llawer iawn o hyn yn deillio o'r ffaith bod y pleidiau yn y Siambr wedi gwleidyddoli awtistiaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn teimlo felly ac rwy'n teimlo ei fod wedi cael ei fwydo—[Torri ar draws.] Mae Janet Finch-Saunders yn ysgwyd ei phen; fe waeddoch chi 'Cywilydd' arnaf pan ddywedais nad oeddwn i'n mynd i gefnogi'r Bil y tro diwethaf.
Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn rhan o hyn. Pan ddarllenais dudalen Facebook y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, darllenais rai o'r sylwadau'n syth ar ôl y ddadl, a dyma rai o'r sylwadau sy'n dal i fod ar y dudalen honno heddiw. Dyma'r hyn a ddywedasant amdanom ni fel Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd yn erbyn y Bil: 'Rhowch blentyn awtistig iddynt neu blentyn ag anghenion arbennig a gweld sut y byddant yn pleidleisio bryd hynny.' 'Mae Llafur Cymru yn llwyth o—rheg. Nid ydynt yn malio dim am awtistiaeth ac unigolion a theuluoedd y mae'n effeithio arnynt.' Dywedodd rhywun arall: 'Enwch a chodwch gywilydd ar y—rheg—dideimlad a bleidleisiodd yn erbyn y Bil hwn.' Ac roedd yna un arall a ddywedai, 'Efallai y dylai ASau a bleidleisiodd dros rwystro'r Bil hwn dreulio wythnos gyda theuluoedd sy'n gofalu am blant ac oedolion ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig.' Nid yw'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi gwneud unrhyw ymdrech o gwbl i fynd i'r afael â'r anghysonderau—[Torri ar draws.]
Mark Isherwood a gododd—
Nid wyf yn derbyn ymyriad.
Nid yw'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi gwneud unrhyw ymdrech o gwbl i fynd i'r afael â'r anghysonderau yn y sylwadau hyn. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, a dywedasant, 'Nid ydym yn monitro ein llif 24 awr y dydd. Byddwn yn dileu unrhyw regfeydd a chyfraniadau amhriodol.' Mae'r cyfraniadau amhriodol yn dal yno ac mae'r rhegfeydd yn dal yno. Nid ydynt yn addysgu rhieni ynglŷn â pham y byddai Bil yn briodol neu'n amhriodol. Maent yn rhan o'r gêm wleidyddol gyda hyn.
Rwy'n falch, ac rwy'n rhannu llawer o dir cyffredin gydag Aelodau o bob plaid sydd wedi dweud ein bod wedi gwneud cynnydd ac sydd hefyd wedi nodi mai cyflwr ydyw, nid anhwylder; cytunaf yn llwyr â hynny. Ond buaswn yn dweud wrth Leanne Wood, a nododd bryder, nad yw'r status quo yn parhau. Mae newid yn digwydd; rwyf wedi'i weld. Ond mae gennyf bryderon a chredaf fod geiriad y cynnig heddiw'n well, ac mae'r ddadl hon wedi bod yn well na'r ddadl ar y Bil gwreiddiol, ond os gwelwch yn dda, os ydym yn mynd i wneud cynnydd, gadewch inni fwrw ymlaen ar sail drawsbleidiol.
Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon. Gwrthododd Llywodraeth Cymru fesur awtistiaeth Paul, gan ddweud wrthym nad oedd angen Deddf awtistiaeth arnom oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni newid gwirioneddol yn y gwasanaethau i'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistiaeth. Ond nid yw hynny'n wir bob amser, ydy e? Oherwydd nid yw honiadau Llywodraeth Cymru yn cyfateb i'r hyn a gyflawnir ar y rheng flaen.
Rydym yn methu ar amseroedd aros ar gyfer diagnosis, a chyflwynodd Llywodraeth Cymru amser aros ar gyfer atgyfeirio i gael asesiad niwroddatblygiadol sy'n ddwywaith yr amser aros a awgrymir gan ganllawiau NICE. Ni cheir data Cymru gyfan ar gyfer yr amser aros hwn, ond mae tystiolaeth anecdotaidd gan rai cleifion yn awgrymu nad yw'r targed o 26 wythnos yn cael ei gyrraedd. Mae'r galw am wasanaethau lawer yn fwy na'r cyflenwad mewn llawer o ardaloedd. Mae llawer o oedolion yn methu cael diagnosis, ac felly'n cael eu gadael heb gymorth. Dyma oedd un o'r prif resymau dros greu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae diffyg prosesau casglu data ac adrodd yn ei gwneud hi'n anodd asesu pa mor wir yw honiad Llywodraeth Cymru nad oes angen dim mwy nag amser i'r gwasanaethau ymsefydlu. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roeddem i fod i gael data ar amseroedd aros ar gyfer diagnosteg, a hyd yma nid yw'r wybodaeth hon wedi'i chyhoeddi ar gyfer plant, pobl ifanc nac oedolion.
Mae'r adroddiad 'Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig' gan y meddygon Holtom a Lloyd-Jones gan yr Uned Pobl a Gwaith yn nodi'n glir, er bod cynnydd wedi'i wneud, fod yna brinder adnoddau a loteri cod post o gefnogaeth i oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae'r adroddiad yn amlygu'n glir ein methiant i gefnogi oedolion ar y sbectrwm, ac mae'n dweud llawer na chafodd y rhan fwyaf o'r oedolion a gyfrannodd at yr adroddiad ddiagnosis cyn iddynt wynebu argyfwng. Nid yw hyn yn ddigon da. Ac rwy'n dal i honni bod angen Deddf awtistiaeth ar Gymru, a hyd nes y cawn bethau i drefn, bydd pobl o bob oed ar y sbectrwm yn dioddef o ganlyniad. Fel y mae'r meddygon Holtom a Lloyd-Jones yn nodi, mae mynediad at ofal cymdeithasol yn parhau i fod yn anodd er gwaethaf bodolaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Os nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi Deddf awtistiaeth, rhaid iddynt weithredu'n llawn argymhellion yr adroddiad, 'Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig'. Mae'r pwyllgorau, yn dilyn eu gwaith craffu cyn deddfu ar Fil awtistiaeth Paul Davies—. Rydym wedi gwneud cynnydd, ond nid yw'r cynnydd hwn yn ddigon cyflym, ac nid yw newid yn digwydd yn ddigon cyflym. Rydym wedi bod yn trafod gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth ers blynyddoedd lawer, ac eto rydym yn dal i wneud cam â phobl awtistig a'u teuluoedd. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru weithredu neu gyflwyno'r Ddeddf y mae pawb ohonom wedi bod yn galw amdani. Ni allwn fforddio gwastraffu rhagor o flynyddoedd, ac ni all y rhai ar y sbectrwm aros llawer mwy. Diolch yn fawr.
Rwy'n sefyll y prynhawn yma ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd gan Aelodau ar draws y Siambr. Mae gan bob un ohonom brofiad ymhlith etholwyr, ac mewn gwirionedd mae gennym dad sydd wedi nodi yma ei fod yn profi ei sefyllfa ei hun. Os ydych yn adnabod Hefin David, fe fyddwch yn gwybod ei fod yn ei ddweud o'r galon, ac yn ei dweud hi fel y mae.
Mae angen inni sicrhau bod y gwasanaethau'n iawn. Gadewch i ni beidio â chuddio rhag y ffaith nad yw gwasanaethau'n gweithio'n iawn ac yn llwyr. Rwy'n cael etholwyr yn dod i fy ngweld i egluro'r anawsterau y maent yn eu hwynebu. Maent yn wynebu heriau a rhwystrau. Maent wedi blino'n lân, maent wedi ymlâdd. Maent yn ymdrin â'u plant. Maent yn mynd i mewn i'r ysgol i geisio brwydro dros eu plant. Maent yn mynd i mewn i'r system addysg i frwydro dros eu plant, ac mae rhai o'r plant hynny yn oedolion hefyd erbyn hyn. Mae angen rhoi sylw o hyd i faterion yn ymwneud â chyflogaeth.
Ond rydym yn symud ymlaen; mae'r adroddiad awtistiaeth yn dangos bod yna gynnydd. Nawr, o ran yr anghysonderau, rwy'n deall yn iawn pam fod anghysonderau oherwydd, pan gafodd yr adroddiad ei gynhyrchu ym mis Ebrill, nid oedd y gwasanaeth yn fy ardal i'n weithredol hyd yn oed. Dim ond ers mis Ebrill y mae wedi bod ar waith, ac rwyf wedi cyfarfod â'r arweinydd. Pan soniwn am y Bil, oherwydd mae i mewn yno, pleidleisiais yn ei erbyn; mae Paul Davies yn gwybod fy marn yn bendant iawn. Ond edrychais ar y cyngor arbenigol, edrychais ar farn amryw o feddygon a cholegau brenhinol ac mewn gwirionedd, ar ôl siarad ag arweinydd y gwasanaethau awtistiaeth yn fy ardal i, sy'n rhiant i blant awtistig ei hun, dywedodd nad oedd y Bil yn iawn. Ni fyddai wedi gweithio. Felly, ar un ystyr, gallwch wneud dadleuon emosiynol, ond nid yw pobl am gael dadleuon emosiynol—maent am gael canlyniadau ac maent am gael cymorth. A dyna lle'r ydym ni'n methu ar un ystyr, rwy'n credu: sut y mae sicrhau bod y gefnogaeth yno'n amserol? A dyna yw hyn mewn gwirionedd. Ni ddylem fod yn ceisio ei roi—nid wyf am ei feirniadu, ond dylem fod yn sicrhau, pan fydd ein hetholwyr yn dod i mewn, pan fyddant yn dod atom gydag unrhyw un sydd ag aelod awtistig o'u teulu, boed yn blentyn neu'n frawd neu'n chwaer, dylem allu sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Ac ni ddylent orfod brwydro amdano. Dyna'r frwydr sy'n rhaid i ni ei hymladd yma. Weithiau, mae hynny'n golygu ymwneud â chyrff cyhoeddus a sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn darparu'r gwasanaethau hynny. Daeth un rhiant i fy ngweld yr wythnos hon, a chafodd y plentyn ddiagnosis ei fod yn awtistig—felly mae'r diagnosis yno—ac mae ganddo ddatganiad, ond mae'r awdurdod lleol yn dal i fethu cyflawni anghenion y plentyn hwnnw, sy'n mynd i mewn i addysg amser llawn ym mis Medi, ac mewn gwirionedd mae angen cymorth un i un arnynt am mai dyna a ddywedai'r asesiad a'r ysgol y mae ynddi ar hyn o bryd. Dyna'r mecanwaith, dyna'r maes y mae angen i ni ganolbwyntio arno. Beth am ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y bobl hyn, gwneud yn siŵr eu bod yn eu cael. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn darparu'r meini prawf cywir—[Torri ar draws.]—ie, cyllid, rwy'n cytuno'n llwyr, ni allwch ddarparu rhai o'r gwasanaethau hyn heb gyllid, ond mae angen inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen arnynt i sicrhau bod eu teuluoedd ac unigolion awtistig yn gallu cael y bywyd y dylent ei gael.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel gyda Hefin David, mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant gan fod fy wyres agos i bump oed yn awtistig. Er bod diagnosis o awtistiaeth wedi'i wneud yn gynnar iawn, rwy'n credu mai ar hap a damwain y digwyddodd hynny yn hytrach na thrwy ymyrraeth asiantaethau lleol. Roedd gan athrawes yn y feithrinfa roedd hi'n ei mynychu blentyn awtistig ei hun ac felly tynnodd ein sylw at y ffaith ei bod yn dangos nodweddion awtistig. Gofynnodd ei rhieni am gyngor ar unwaith, a rhaid dweud bod y cymorth y maent yn ei gael ar ôl i'r cyflwr gael ei adnabod wedi bod yn ardderchog a bod y gefnogaeth gan y staff addysgu yn ei meithrinfa wedi bod yn rhagorol.
Fodd bynnag, mae'n dal yn ffaith nad yw llawer o blant awtistig yn cael diagnosis yn gynnar, ac felly nid yw ymyriadau mawr eu hangen yn digwydd. Mewn llawer o achosion, mae rhieni wedi wynebu brwydr hir ac anodd i gael diagnosis i'w plentyn, gan arwain at straen mawr a chyfnodau hir o aros am gymorth a chyngor. Efallai y gallai'r Gweinidog roi sylwadau ar y cynnydd a wnaed yn y maes hollbwysig hwn. Wrth gwrs, rhaid inni gydnabod sefydlu'r tîm datblygu cenedlaethol a'r cynnydd rhagorol y maent yn ei wneud, yn enwedig ym maes hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth sy'n cael ei gyflwyno ganddynt ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rydym hefyd yn derbyn bod y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo, ond mae'r canlyniadau hyd yma yn galonogol iawn, ac rydym yn llongyfarch y tîm ar eu llwyddiannau ers ei sefydlu.
A allai'r Gweinidog ddweud beth y mae'n teimlo yw'r blaenoriaethau nesaf ar gyfer y tîm datblygu? Dylem hefyd gydnabod bod grwpiau awtistiaeth lleol yn gwneud gwaith rhagorol yn dod â rhieni plant awtistig at ei gilydd, a'u bod yn rhoi cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd mewn cysylltiad. Ni cheir ymyrraeth well i rieni plant awtistig nag ymyrraeth gan rieni plentyn awtistig. Fodd bynnag, os nad yw plentyn yn cael diagnosis ei fod yn awtistig, yn aml ni fydd rhieni plant o'r fath yn ymwybodol o grwpiau fel hyn ac felly maent yn colli cymorth mawr ei angen. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gefnogaeth i grwpiau o'r fath?
Er y bu cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n ymddangos bod y gwasanaethau cymorth yn dameidiog o hyd, lle mae rhai ardaloedd yn rhoi cymorth rhagorol ar ôl cael diagnosis, tra bod eraill yn methu darparu'r cymorth sydd ei angen. Byddem yn gobeithio y bydd bwrdd datblygu'n lliniaru'r broblem hon yn y dyfodol drwy ddarparu sylfaen ar gyfer darpariaeth sy'n fwy cydgysylltiedig, gan hwyluso gwasanaeth mwy cyson ar draws yr holl awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd.
Yn olaf, Weinidog, a minnau'n dad-cu i blentyn awtistig, diolch i'r Llywodraeth am ei hymyriadau cadarnhaol hyd yma ond rydym yn eich annog i wneud yn siŵr fod cyllid digonol ar gael fel y gellir cynnal y gwasanaethau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo i'r cyllid hwn yn y dyfodol?
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith a wneir i wella'r cymorth gyda phobl awtistig ac ar eu cyfer. Rwy'n falch fod y cynnig yn cydnabod bod gwelliant gwirioneddol wedi bod, ond mae mwy i'w wneud, wrth gwrs. Ac rwyf am ddweud ar y dechrau fy mod yn cydnabod ymrwymiad gwirioneddol yr Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi siarad—ac yn yr un modd y rhai nad ydynt wedi siarad—i roi cymorth a chefnogaeth ymarferol ledled Cymru i wella bywydau pobl awtistig a'u teuluoedd. Yn fwyaf arbennig, rwy'n cydnabod yr effaith ar deuluoedd lle nad oes gwelliant yn cael ei wneud. Gwelaf hynny fel Gweinidog drwy fy ymwneud fy hun ond yn yr un modd yn fy rôl fy hun fel Aelod Cynulliad dros etholaeth.
Felly, mae'n bwysig nid yn unig i Aelodau ond hefyd i bobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr fod Llywodraeth Cymru yn dryloyw ynghylch maint ac ansawdd y ddarpariaeth bresennol. Dyna pam y cyhoeddais yr ail adroddiad blynyddol am strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth glir ar gyflawni ein hymrwymiadau yn y cynllun cyflawni ar awtistiaeth. Mae'r adroddiad hwnnw'n crynhoi'r cynnydd a wnawn yn erbyn pob un o'r amcanion yn y cynllun cyflawni, ac ochr yn ochr â hynny, mae'r tîm awtistiaeth cenedlaethol hefyd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n dangos ystod eu llwyddiant yn cyflawni eu cynllun gwaith blynyddol, ac mae'r adroddiad yn dangos yn glir y gefnogaeth i gyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae partneriaethau cryf ar waith bellach, mae codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant ychwanegol yn digwydd, ac mae pwyslais gwirioneddol ar gynnwys pobl awtistig yn eu gwaith. Gwelwyd tystiolaeth o'r cyfranogiad hwnnw yn y gynhadledd awtistiaeth genedlaethol ddiweddar ar gyfer oedolion, a gydgynhyrchwyd gan bobl awtistig. Rwy'n falch iawn o ddweud bod yna adborth cadarnhaol i bobl awtistig a gymerodd ran, er y buaswn yn cydnabod bod hwn yn grŵp yn ein cymdeithas sydd wedi dweud wrthyf yn rheolaidd eu bod yn gallu teimlo'n anweledig a bod eu hanghenion yn gallu cael eu hanwybyddu.
Fodd bynnag, mae gwaith y tîm cenedlaethol yn dangos bod gwell yn bosibl mewn gwirionedd. I barhau â gwaith y tîm cenedlaethol, rwyf wedi cytuno ar gyllid o dros £145,000 i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu cynllun gwaith ar gyfer eleni, ac rwy'n cytuno â'r teimladau y tu ôl i'r cynnig fod yn rhaid i'r diwygiadau rydym yn eu gwneud ddiwallu anghenion pobl awtistig a gwella eu canlyniadau unigol.
Ers 2015, rydym wedi targedu gwaith drwy'r rhaglen plant a phobl ifanc. Erbyn hyn mae gan ei ffrwd waith niwroddatblygiadol dimau niwroddatblygiadol dynodedig ym mhob ardal ac rydym wedi sefydlu safonau gwasanaeth cenedlaethol a llwybrau atgyfeirio. Wrth i ni agosáu at ddiwedd y rhaglen hon, rydym yn gweithio i sefydlu trefniadau etifeddol priodol i sicrhau bod y cynnydd a wneir mewn gwasanaethau niwroddatblygiadol yn parhau yn y dyfodol ac er mwyn sicrhau tryloywder wrth i ni ddatblygu, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad dros yr haf sy'n adlewyrchu sefyllfa'r gwasanaeth yn erbyn pob un o'i safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt. Bydd yn gwneud argymhellion ar ble y dylai datblygiadau ganolbwyntio yn y dyfodol.
Rhaid i ni sicrhau hefyd fod gwasanaethau'n cael eu cefnogi i gyflawni'r safon amser aros o 26 wythnos ar gyfer asesu. Mae byrddau iechyd wedi dechrau adrodd data i Lywodraeth Cymru ac rydym yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod cofnodion ansawdd data yn cyrraedd y safon er mwyn ein galluogi i'w cyhoeddi fel rhan o set ddata genedlaethol. Ac felly rwy'n hapus i ail-wneud yr ymrwymiad i wneud hynny. Mae'r gwasanaethau niwroddatblygiadol hefyd yn gweithio i ddatblygu trefniadau monitro cyfoethocach sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Bydd y rheini'n adlewyrchu gwelliannau mewn canlyniadau unigol.
Ac ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig, mae pob un o'r saith rhanbarth bellach ar agor ac rydym yn gweithredu system monitro data sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac a gefnogir gan Data Cymru. Bydd y data hwn yn darparu gwybodaeth ar sut y mae pob gwasanaeth yn cyflawni'r safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt ac yn cynnwys ffurflenni adborth rhieni, gofalwyr ac oedolion awtistig.
Mae pob gwasanaeth hefyd yn defnyddio'r dull sêr canlyniadau i fesur y pellter a deithiwyd gan bob unigolyn a gefnogir drwy'r gwasanaeth. Fel hyn, bydd gennym ddarlun clir o sut y mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fudd i bobl sy'n ceisio cymorth. Mae'r casglwr data wedi cael ei dreialu i brofi ansawdd a chysondeb a byddwn yn sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd cyn gynted â phosibl.
Yn gynharach eleni, cyhoeddasom y gwerthusiad annibynnol o gyflawniad y gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae'n cydnabod ymrwymiad byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i lansio'r gwasanaeth ym mhob ardal o Gymru. Rwy'n cefnogi gwerthusiad pellach o'r gwasanaeth a'r strategaeth awtistiaeth eleni.
Ariennir y gwasanaeth awtistiaeth integredig hyd at 2021 ar y cynharaf. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwnnw gyda risg yn erbyn cyllidebau yn y dyfodol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn parhau i gefnogi a monitro ei ddatblygiad. Byddaf mewn sefyllfa i ystyried cyllid yn y dyfodol pan gawn rywfaint o eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2021 a thu hwnt.
Felly, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol, ond rwy'n gwybod o siarad â phobl awtistig a gwrando arnynt fod cryn bellter i’w deithio o hyd ac nid wyf erioed wedi ceisio honni fel arall. Byddwn yn parhau i ofyn am adborth ar ein diwygiadau ac i fynd i'r afael â rhwystrau gwirioneddol i wella. Felly, rydym yn gwrando ar bryderon rhanddeiliaid a gasglwyd trwy werthuso a thrwy graffu ar y Bil awtistiaeth a'r ymgynghoriad diweddar ar y cod awtistiaeth.
Yn ddiweddar, cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr o golegau brenhinol i drafod y pwysau parhaus ar wasanaethau iechyd. Ac mae'r heriau hynny i’r gweithlu yn real, ac nid ydynt yn hawdd eu datrys, ond mae gennym gynllun ac rydym yn gwneud mwy o gynnydd. Rwyf am weld cyflymder a maint y gwelliant hwnnw'n parhau i gynyddu, a thryloywder ynghylch y cynnydd a wnaethom a'r heriau sy'n dal i fodoli. Felly, rwyf wedi comisiynu adolygiad ychwanegol ar y rhwystrau parhaus i leihau amseroedd aros asesu ac alinio gwasanaethau awtistiaeth a niwroddatblygiadol ac unwaith eto, byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad hwnnw cyn gynted ag y bydd ar gael. Rwy'n disgwyl iddo fod ar gael dros yr haf.
Mae'n cadarnhau i mi, fodd bynnag, y pryderon a glywais yn uniongyrchol gan deuluoedd a grwpiau cymorth awtistiaeth ynghylch galw a chapasiti o fewn y gwasanaethau asesu plant ac oedolion. Mae'n amlwg fod angen clir i ddeall yn fanwl sut y mae'r pwysau'n effeithio ar wasanaethau cyfredol, ac wrth hynny, rwy'n golygu gwasanaethau awtistiaeth a gwasanaethau iechyd meddwl cysylltiedig a gwasanaethau plant. Felly, byddwn yn gwneud y gwaith hwn gyda'n partneriaid dros y flwyddyn nesaf. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion am ein cynlluniau ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
Yn olaf, rydym yn datblygu ein rhaglen gwella awtistiaeth trwy gyflwyno cod ymarfer awtistiaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Yn gynharach eleni, cynhaliwyd ymgynghoriad ar ein cynigion. Cynhaliwyd saith digwyddiad ymgysylltu ledled Cymru gyda'r gymuned awtistig a chawsom 65 o ymatebion ysgrifenedig. Cyhoeddais grynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad yr wythnos diwethaf ac rwy'n falch fod cefnogaeth dda i'n dull gweithredu yn gyffredinol. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys pobl awtistig eu hunain wrth gwrs, i ddatblygu'r cod. Bydd hyn yn cynnwys archwilio'r holl argymhellion a wnaed drwy adroddiadau pwyllgorau, ein gwerthusiad, ymgynghoriadau diweddar, a mapio ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r cod ymarfer drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Mae'n hanfodol fod y cod awtistiaeth yr ydym yn ei gyflwyno yn gyflawnadwy, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau y disgwylir iddynt gyflawni'r dyletswyddau y mae'n eu cynnwys yn gallu gwneud y gwaith heb niweidio gwasanaethau eraill y bydd pobl eraill yn parhau i ddibynnu arnynt. Bydd y gwaith yr ydym yn ei gychwyn yn awr yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol ar gyllid mwy hirdymor ac ail-gyflunio gwasanaethau i bobl â chyflyrau niwroddatblygiadol a phobl awtistig. Rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig, fel y dywedais droeon yn y gorffennol, i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i wella ac i'r buddsoddiad hirdymor rwy’n cydnabod y bydd ei angen er mwyn gwneud i hynny ddigwydd.
Diolch. A gaf fi alw ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Weinidog, am eich ateb. Ond gadewch i ni fod yn glir yma heddiw, ni all neb amau nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig ac eraill yn y Siambr hon yn teimlo'n angerddol ynglŷn â sicrhau gwelliant o ran darpariaeth ddigonol i'r rhai sydd ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Rydym wedi cael ein hatgoffa o hyn heddiw ac nid oes angen i ni ond edrych yn ôl i fis Ionawr, pan wrthododd Llywodraeth Lafur Cymru y Bil gan Paul Davies AC, er cywilydd iddynt, Bil awtistiaeth (Cymru). Bil—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, na.
Bil y pleidleisiwyd drosto pan gafodd ei gyflwyno yn 2015. Eto, ar ôl y cam hwnnw y daeth y gwleidyddoli i mewn—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Hefin, ond dyna'r ffaith.
Fel yr eglurodd fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon, mae'n hollbwysig i lwyddiant cyffredinol y gwasanaeth awtistiaeth integredig fod Llywodraeth Cymru yn ystyried yn llawn y materion a godwyd gan y gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac adroddiad terfynol y cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig, a'i bod yn gweithredu ei argymhellion. Yn wir, mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru hyd yn oed wedi dweud ei fod yn rhoi darlun clir o ble mae angen gwneud gwelliannau yn awr. Roedd Mark Isherwood yn llygad ei le'n tynnu sylw at y galwadau am weithredu gwell, gan gryfhau grymuso awtistiaeth a chynllun gweithredu ar gyfer addysg a chyflogaeth a'r gwerth y maent yn ei ychwanegu i'r gweithle.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru unman i guddio, felly mae angen iddi gytuno i'r newid y mae'r Aelodau sy'n eistedd ar y meinciau hyn a rhai draw acw yn ei geisio. Yn wir, nid yw'n dderbyniol dweud yn syml y caiff hyn ei ystyried gan dîm polisi awtistiaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o'r broses o ddatblygu cod ymarfer awtistiaeth a datblygu polisi yn 2019-20.
Rwy'n poeni am y ffaith bod adroddiad blynyddol y cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig ar gyfer 2018-19 yn amwys yn ei gynigion, ac mae llawer o fy etholwyr a'u teuluoedd yn poeni am hynny hefyd. Mae angen cymorth ariannol i gefnogi datblygiad y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i derfyn amser 2021. Yn sicr ddigon, dylech roi tawelwch meddwl i ddefnyddwyr gwasanaethau yn awr drwy gytuno i egluro'r trefniadau ariannu ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y dyfodol. Mae galwadau wedi'u gwneud am ddatblygu system fonitro glir a chyson i ddarparu digon o gymorth a gwasanaethau i'r rhai sydd ag awtistiaeth a'u teuluoedd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt, gan osod y gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach o gefnogi pobl awtistig a chyflawni blaenoriaethau gweithredu gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg.
Helen Mary, roeddech yn llygad eich lle'n cefnogi'r angen i wrando ar y teuluoedd yn hyn i gyd a'r rheini sy'n dioddef yn sgil awtistiaeth—sut y gallant chwarae rhan mewn gwirionedd yn darparu'r union wasanaethau sydd eu hangen arnynt, a sut, yn anffodus, o heddiw ymlaen, y mae pobl sydd ag awtistiaeth—[Torri ar draws.] Yr hyn sy'n warthus yw eich bod wedi gwrthod y Bil, felly dyna ddigon gennych chi.
Erfyniaf ar y Siambr i dderbyn ein cynnig.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
O'r gorau. Rydym wedi cael llond bol ar y meinciau hyn o 'dileu popeth a rhoi yn ei le'. Mae'n hen bryd i chi gael parch at eich gwrthbleidiau, mae'n hen bryd i chi gael parch at bob Aelod yn y Cynulliad hwn, a phan fydd Aelod yn cael cyfle i gyflwyno Bil, mae'n bryd i chi ddangos rhywfaint o ddewrder—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—a chaniatáu i Filiau o'r fath fynd yn eu blaenau. A dweud y gwir, fi sydd â chywilydd ohonoch chi a'ch meinciau.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, credaf ein bod wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Rydym wedi gwneud hynny, iawn. Felly, symudwn ymlaen i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awtistiaeth. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM7124 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 1, 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM7124 - Gwelliant 1: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 2, 27, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.
NDM7124 - Gwelliant 2: O blaid: 27, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 3, 27, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.
NDM7124 - Gwelliant 3: O blaid: 27, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Ac felly galwn yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7124 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar 1 Ebrill 2019.
2. Yn nodi ymhellach y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019.
3. Yn cydnabod er bod adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg mesurau canlyniadau o fewn yr adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016.
4. Yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth awtistiaeth integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi awtistiaeth o ansawdd uchel drwy:
a) darparu cymorth a gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth drwy fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth;
b) adeiladu ar y gwaith monitro sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
c) egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y byddwn wedi cael yr eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny;
d) rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
e) gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 30, un yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM7124 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 30, Yn erbyn: 16, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? Os oes Aelodau'n mynd allan o'r Siambr, a allant wneud hynny? A wnewch chi beidio â sgwrsio? Gallwch sgwrsio tu allan. Diolch.
Felly, symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mark Reckless i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis.
A gaf fi ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd? Rwy'n siarad am ddatganoli trethi i Gymru. Nid wyf yn siŵr a ydw i wedi tynnu'r gwelltyn byr i gael y ddadl fer olaf yn y tymor, neu a yw'r Gweinidog wedi'i dynnu i ymateb i mi, neu efallai mai chi a wnaeth, Ddirprwy Lywydd, drwy orfod ein cadeirio, ond rydych wedi hen arfer â hynny, felly diolch i chi.
Pan feddyliwn am ddatganoli trethi i Gymru, mae'n rhaid ystyried pa mor bell y dylai fynd, ac rwyf wedi cadw dau beth yn benodol mewn cof wrth feddwl am hynny. Y cyntaf yw'r ffigur a nodwyd gan y Prif Weinidog ychydig yn ôl fel ein 'bwlch cyllido', fel y'i disgrifiodd, sef £13 biliwn, ac rwy'n deall hynny fel y gwahaniaeth rhwng y refeniw treth a godir yng Nghymru, boed hynny o drethi datganoledig neu rai eraill, a faint o arian a werir yng Nghymru. Mae'n ffigur pwysig iawn. Ceir trosglwyddiad net sylweddol o adnoddau yn y bôn o Loegr i Gymru. Mae'r swm hwnnw ychydig yn wahanol, yn gysyniadol, i'r £13 biliwn, i'r graddau ein bod yn disgwyl i'r diffyg fod yn sero dros amser, ac y gallem gynnal diffyg a oedd yn ddiffyg, yn hytrach na sero, ond serch hynny mae rhywfaint o gydgyfeirio'n perthyn i'r ddau swm, rwy'n credu.
Po fwyaf y byddwn yn datganoli trethi a pho fwyaf yw annibyniaeth ein system drethi, y mwyaf amlwg fydd y diffyg ariannol yn fy marn i, a'r anoddaf fydd cael cydsyniad parhaus i lefel y trosglwyddo hwnnw. Yn y ddadl yn Lloegr o leiaf, fe welwch lawer mwy am yr Alban nag am Gymru—cwynion am yr hyn y mae'r Alban yn gallu ei wneud o ran yr hyn sydd ar gael yn rhad ac am ddim yno ond nad yw'n rhad ac am ddim yn Lloegr, a chredaf fod mwy o bwyslais ar annhegwch canfyddedig yn y blynyddoedd diweddar nag a oedd yno o'r blaen. Nid wyf yn synhwyro'r un faint o bwyslais ar y trosglwyddiad cyllidol hwnnw i Gymru, ond mae yno, a pho fwyaf o reolaeth a gawn ar ein trethi ein hunain ac y byddwn yn codi ein trethi ein hunain yma, y mwyaf amlwg y daw'r trosglwyddiad hwnnw, a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig i'w gofio, ac ar y sail na ddigwyddodd datganoli yng Nghymru yn 1979, a phryder llawer yn y Blaid Lafur, yn draddodiadol, ynglŷn â datganoli a sut yr oedd cydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig a'r trosglwyddiadau hynny'n bwysicach ac yn rhywbeth y dylid eu cadw.
Y mater arall rwy'n ei ystyried o ran pa mor bell y dylai datganoli trethi fynd yw dymuniad am setliad sefydlog. Nid wyf yn credu y dylai datganoli fod yn fath o wledd symudol am byth, heb sôn am bob amser, bob amser i un cyfeiriad. Hoffwn gael polisi sefydlog lle ceir consensws eang. Wrth gwrs, ni fydd yn cynnwys pawb, ond consensws eang mai dyma'r pwerau sydd gennym yng Nghymru a'r rhain yw'r pwerau a arferir gan Lywodraeth y DU, ac o ran treth, pa drethiant a godir yma a beth a godir yno. Felly, pan gefnogwyd datganoli trethi gennym, mae wedi bod ar y sail naill ai ei fod wedi digwydd, neu fod barn sefydlog y dylai ddigwydd. Cawsom gomisiwn Richard a chomisiwn Silk wedyn, ac roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid ar gyfer y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi ac mewn egwyddor, fe'u cefnogais, oherwydd fy mod yn teimlo eu bod wedi'u cytuno drwy fath o ddull cydsyniol, ac er nad wyf yn siŵr y buaswn wedi dadlau o'r egwyddorion cyntaf dros eu datganoli pe na bai wedi'i gynnig, cefais fy argyhoeddi i'w cefnogi gan y ffaith bod yna gytundeb o'r fath ynghylch y datganoli hwnnw. Yn yr un modd gyda'r doll teithwyr awyr, pan benderfynodd ein grŵp ni eto y byddem yn cefnogi'r consensws, teimlem fod y Gweinidog yn iawn yn ei nodi yn y maes hwnnw. Felly, rydym yn ychwanegu'r rheini at ddatganoli'r dreth gyngor a'r system ardrethi busnes, ac o fis Ebrill eleni, cyfraddau treth incwm Cymreig.
Edrychasom wedyn i weld a ddylid datganoli trethi newydd. Un pryder sydd gennyf yn y maes hwn yw'r syniad y dylem rywsut drethu er mwyn trethu, neu y dylem drethu er mwyn profi'r peirianwaith datganoli, a chlywais hyn yn gyntaf gan Mark Drakeford pan anerchodd y Pwyllgor Cyllid yng Nghasnewydd. Yn hytrach na dweud, 'Dylem drethu oherwydd bod arnom angen y dreth honno i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus penodol hynny, a dyma'r ffordd orau o'i chael,' ymddangosai bron fel pe bai'r dreth yn cael ei hystyried yn beth da ynddi ei hun. Rwy'n deall bod rhai trethi'n cael effaith ar ymddygiad a phan fydd pobl yn sôn am dreth ar blastig neu dreth ar dir gwag, mae o leiaf ran o'r rheswm dros y dreth yn ddymuniad i newid ymddygiad. Ond i mi, mae hwnnw'n fater isradd i'r prif un o fod angen treth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Felly, roeddem yn edrych, rwy'n credu, ar—roedd pedair ohonynt. Mae gennyf dair ohonynt. Y dreth ar blastigion—rwy'n credu efallai ein bod yn edrych ar, os yw hynny'n mynd i ddigwydd, byddai'n fwy ar sail y DU, ac rwy'n credu y byddai'n arbennig o anodd i weithgynhyrchwyr a chadwyni cyflenwi ei wneud ar gyfer Cymru'n unig. Roedd y dreth dwristiaeth yn amhoblogaidd iawn, rwy'n credu, ac nid oedd yn syniad da yn fy marn i, ac rydym yn edrych yn awr ar y dreth ar dir gwag. Credaf ei bod yn cysylltu â'r trethi eiddo eraill sydd gennym—y dreth gyngor, yr ardrethi busnes, y dreth trafodiadau tir—a chredaf fod dadl yn sicr dros ddatganoli un math o drethiant fel y gall rhywun ystyried y modd y mae'r gwahanol drethi hynny'n cydblethu â'i gilydd, a cheisio gwneud y penderfyniad iawn i Gymru ynghylch sut y dylai hynny weithio. Fy mhryder braidd am y syniad o dreth ar dir gwag yw gallaf ddeall, mewn egwyddor ac mewn theori, pam y gallai fod yn syniad da, ond rwy'n poeni sut y byddai'n gweithredu'n ymarferol. Yn benodol, ofnaf y gallai arwain at ganfyddiad fod trethi busnes yn uwch yng Nghymru; ei bod yn anos gwneud busnes yng Nghymru nag yn Lloegr. Ac er mor ddefnyddiol fyddai effaith gymhellol y dreth yn ddamcaniaethol, tybed a fydd hynny'n wir yn ymarferol bob amser.
Mae gennym y dreth eiddo masnachol hon o—rwy'n ei galw'n uwchdreth—o 6 y cant ar eiddo dros £1 filiwn. Ar y cyd â hynny, credaf fod y gyfundrefn drethi'n mynd yn uwch. Rydym wedi siarad sawl tro rwy'n credu, Weinidog, mewn amrywiol gyd-destunau am y dreth hon a sut y mae'n gweithredu, fel gyda'r Prif Weinidog pan oedd yn y rôl honno'n flaenorol, ac rwy'n pryderu nad oes gennym dystiolaeth dda eto ynglŷn â sut y mae'n gweithio. Nododd y Gweinidog yn gywir na fydd yn gymwys mewn llawer o achosion oherwydd bydd eiddo sy'n fwy nag £1 filiwn yn eiddo i gwmni, a'r ffordd y caiff y dreth ei hosgoi yn y bôn yw drwy drosglwyddo'r cwmni hwnnw o un cwmni i'r llall. Ac o ystyried y gyfradd dreth, mae pobl yn cael eu cymell i ffurfio'r cwmnïau hynny. A phan fo'n eiddo preswyl, mae'n cael ei weld fel osgoi treth mewn ffordd ddrwg y dylid rhoi diwedd arni, ac ar lefel y DU, gyda'r dreth flynyddol ar anheddau wedi'u cynnwys o fewn y cwmni, yn ogystal â chyfraddau treth dir y dreth stamp, dyna fu'r pwysau. Ond yn y maes masnachol, ymddengys ei bod yn llawer mwy arferol fod adeiladau gwerth uchel yn eiddo i gwmnïau. A yw hynny'n rhywbeth yr ydym yn gyfforddus yn ei wneud, ac i ba raddau yr ydym yn monitro pa mor uchel yw'r gyfran honno, a'r newid yn unrhyw ran o'r gyfran honno yng ngoleuni'r symud o'r gyfradd o 5 y cant i'r gyfradd o 6 y cant yng Nghymru? Rwyf hefyd yn meddwl tybed pa effaith y mae'n ei chael ar y farchnad llety myfyrwyr a adeiladwyd yn bwrpasol, yn enwedig yng Nghaerdydd, a'r potensial i farchnad adeiladu i rentu dyfu. Oherwydd efallai y bydd yn fwy atyniadol i'r trafodion hynny gael eu gwneud drwy'r rhyddhad ar anheddau lluosog, yn hytrach na'r dreth fasnachol y gellir ei hethol ar ei chyfer.
Mae'r Gweinidog wedi bod yn awyddus iawn, pan fydd yn dadlau â Llywodraeth y DU neu'n cyflwyno'r achos dros ddatganoli treth i Gymru, i beidio â dweud beth y byddai'n ei wneud â'r dreth honno. Ac nid wyf yn siŵr os wyf yn cefnogi neu'n deall y dull hwnnw'n llawn. Os oes gennym dreth wedi'i datganoli, rwy'n deall pam mai ein busnes ni yw hynny ac nid lle San Steffan yw dweud beth y dylem ei wneud â'r dreth honno, gan ei bod wedi'i datganoli. Ond pan nad yw rhywbeth wedi'i ddatganoli eto a'ch bod am gyflwyno'r achos dros ei ddatganoli, oni fyddai'n ddefnyddiol i'r achos dros wneud hynny eich bod yn esbonio i San Steffan a Whitehall beth yw pwrpas y datganoli hwnnw? Rwy'n credu bod y dreth ar dir gwag—gallai integreiddio'n dda iawn â'r trethi eiddo eraill sydd gennym. Ond os ydym am geisio ei wneud yng Nghymru, a bod gennym syniad da sut y byddem am ei defnyddio, beth am esbonio hynny i San Steffan? Oherwydd gallai fod manteision i Lywodraeth y DU, i Loegr, neu i Lywodraeth yr Alban yn wir, o weld beth a wnawn â hi. Felly, er mwyn eu perswadio i'w datganoli, beth am gyflwyno'r achos hwnnw, gan gynnwys, dyweder, beth yw'r cyfeiriad teithio a beth y disgwyliwn i hynny ei gyflawni?
Mae datganoli treth incwm—y cyfraddau Cymreig—yn enfawr o'i gymharu â'r hyn a welsom gyda'r dreth trafodiadau tir neu'r dreth gwarediadau tirlenwi neu, yn wir, gyda'r dreth gyngor ac ardrethi busnes, sy'n fawr o ran maint hefyd, ond lle nad ydym wedi gwyro i raddau sylweddol iawn o'r system fel y'i gweithredir yn Lloegr. Ac am nad ydym yn bwriadu newid y cyfraddau, rwy'n pryderu nad yw'r Aelodau'n rhoi'r sylw y maent yn ei haeddu i'r cyfraddau treth incwm Cymreig. Yn gyntaf, soniwn am y band 10c, ond mewn gwirionedd dyna'r swm y gallem ei ostwng—gallwn ei ostwng 10c, ond nid oes terfyn ar y swm y gallem ei godi. Felly, mae hynny ynddo'i hun yn ei wneud yn beth mawr iawn.
Ond ers mis Ebrill, rydym wedi wynebu risg yn sgil hyn, a'r pryder a oedd gennyf ynghylch datganoli treth, y cyfraddau Cymreig hyn o dreth incwm, yw eu bod wedi'u datganoli ar ôl addewid y byddai'n destun refferendwm, ac o edrych ar hanes hyn, roeddwn wedi meddwl efallai fod yna rywfaint o gydgynllwynio rhwng y Blaid Lafur yma a'r Ceidwadwyr yn San Steffan, ond nid wyf wedi gweld tystiolaeth o hynny, ac nid yw'r Llywodraeth Lafur yma yn ymddangos fel pe bai wedi ei wthio, ac mae wedi dweud y dylai fod yn destun fframwaith cyllidol y credwn ei fod yn gweithio. Mae hynny gennych, ac ar y pen Ceidwadol yn San Steffan y gwnaethpwyd addewid i ddatganoli gyda refferendwm yn unig, a chafodd yr addewid hwnnw ei dorri a chafodd ei ddatganoli heb refferendwm.
Nawr, rwy'n credu bod yna syniad o fewn y cylchoedd Ceidwadol, boed yn wleidyddol neu'n perthyn mwy i fyd y felin drafod, mai'r broblem gyda datganoli yw ein bod ni ond yn penderfynu ar wariant mewn gwirionedd, ac os ydych yn datganoli trethi sylweddol y mae pobl yn poeni amdanynt, fel rhannau o'r dreth incwm, bydd hynny'n gwthio pobl i'r canol dde, oherwydd bydd pobl yn pryderu am gynnal trethi isel—neu o leiaf dyna'r ddamcaniaeth. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n mynd i weithio, oherwydd gwelir bod y Llywodraeth Geidwadol wedi addo refferendwm, wedi torri ei gair ac yna wedi penderfynu rhoi'r grym hwn i Lywodraeth Lafur—am nawr o leiaf—yng Nghymru, gyda'r bwriad efallai o berswadio pobl i bleidleisio drostynt. Rwy'n credu ei fod yn fwy tebygol o gael effaith i'r gwrthwyneb.
Pan fyddwn yn newid cyfraddau treth, yn enwedig treth incwm, ceir effaith refeniw o'r cynnydd mewn refeniw a gewch o'r gyfradd uwch, ond hefyd effaith cymhelliad neu osgoi wrth i bobl weithio'n llai caled efallai neu strwythuro eu pethau yn y fath fodd fel eu bod yn talu llai o'r dreth. Nawr, rwy'n credu ei fod yn fater o dystiolaeth o beth yw maint y ddau beth hynny, a sut y maent yn cydbwyso ei gilydd. Rwy'n poeni bod y system a roddwyd i ni yng Nghymru yn un lle rydym yn cael yr holl fantais ar yr ochr refeniw honno, ond dim ond hanner y gost ar gyfer y gyfradd sylfaenol, neu chwarter y gost pan edrychwch ar y gyfradd 40c. Ar y llaw arall, gallai Llywodraeth y DU elwa o rai o'r newidiadau y mae pobl yn eu gwneud, oherwydd bydd pobl sy'n osgoi cyfraddau uwch o dreth incwm Cymru, os mai dyna fyddant, drwy symud i Loegr—mae hynny'n amlwg yn cynyddu sylfaen drethi'r DU i'w defnyddio yn Lloegr yn hytrach nag yma. Yn yr un modd, os bydd pobl yn penderfynu corffori, sy'n aml yn ffordd o osgoi treth incwm uwch, byddai hynny eto o fudd i Lywodraeth y DU, gan eu bod yn parhau i gymryd y dreth ddifidend. Felly, rwy'n pryderu os gall hynny ogwyddo tuag at ddadl dros drethi ar gyfeiriad uwch yn hytrach nag is.
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'i gyflawni gyda datganoli trethi? Beth yw'r weledigaeth? Ni wnaethoch wthio'n benodol am ddatganoli'r dreth incwm. Cafodd ei wthio arnoch; fe wnaethoch negodi rhywbeth yr oeddech yn hapus ag ef. Beth ydych chi eisiau ei wneud am y peth? Gwyddom yr hyn a ddywedodd maniffesto Llafur, ond mae'r Prif Weinidog yn dweud wrthym fod hynny'n mynd yn llai a llai pwysig wrth ichi fynd ymhellach oddi wrth yr etholiad. Ar ôl gweld yr hyn y mae wedi'i wneud ar yr M4, a oes dadl weithredol ynglŷn ag a fydd cyfraddau treth incwm yn newid y flwyddyn nesaf? A allai Llafur fynd yn ôl ar yr addewid maniffesto hwnnw? A wnewch chi ei esgusodi drwy gyfeirio at Brexit, neu a ydych yn mynd i gadw at yr addewid yn eich maniffesto? Yn y tymor hwy, a welwch y rhyddid hwn dros gyfraddau treth fel rhywbeth sy'n caniatáu i chi adeiladu sosialaeth mewn un wlad—nid yn unig gyda'r un cymal hwnnw, ond a allwch gael cymdeithas sylfaenol wahanol o ran cyfraddau treth yng Nghymru o gymharu â Lloegr, neu a yw'r ddwy wlad wedi integreiddio cymaint fel nad yw hynny'n mynd i ddigwydd, neu onid yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn ei ddymuno?
Ar yr ochr arall, a yw cael model Singapôr dros yr Hafren yn gredadwy mewn gwirionedd? Pe bai trethi'n cael eu torri, a fyddai'r golled refeniw'n rhy fawr, neu a ydym yn credu o ddifrif y byddai'r cynnydd yn nifer y bobl a allai ddod i Gymru neu sefydlu busnesau yma neu gynyddu eu hincwm yn ddigon i'w wrthbwyso? Rwy'n credu y gallem wneud â ffordd gyffredin o drafod hyn. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dod i mewn ac nid eu gwaith hwy yw dweud 'Rhaglen y blaid: bydd fel hyn neu bydd fel arall', ond yr hyn y maent yn ei wneud i'r Trysorlys a'r hyn a gewch yn San Steffan yw safbwynt gwrthrychol wedi'i gytuno o ran beth yw'r derbyniad treth os ydych yn codi neu'n gostwng treth 1 y cant. A wyddom beth yw'r ffigurau cyfatebol hynny ar gyfer Cymru? A yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei ddarparu? Onid yw'n bwysig, pan fyddwn yn mynd i mewn i'r etholiad nesaf, fod rhyw fath o ganolwr niwtral yn dweud, 'Wel, os newidiwch y gyfradd dreth o hyn a hyn, mae'r effaith ar refeniw yn debygol o fod yn hyn'?
Rwy'n edrych ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog, a hefyd y gynhadledd neu'r seminar yr ydym yn ei chael yn Heol yr Eglwys Gadeiriol ddydd Gwener, lle rwy'n edrych ymlaen at ei chlywed yno. Ac mae ganddi'r haf i feddwl ynglŷn â beth a wnawn yn y maes hwn, oherwydd rwy'n meddwl bod angen gwaith arno, ac mae'n hynod o bwysig ein bod yn gwybod beth sy'n digwydd gyda'r trethi hyn a'r teimladau yn eu cylch, a'n bod yn monitro beth sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn. Oherwydd rydym chwe mis i mewn i'r flwyddyn—dylem gael ychydig mwy o dystiolaeth ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd o ran treth incwm. A gobeithio, pan fydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dechrau yr hydref hwn, y byddwn yn dod i batrwm rheolaidd o adolygu'r rheini pan ddylem. Diolch.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch yn fawr iawn ichi, a diolch i Mark Reckless am gyflwyno dadl olaf y tymor. Nid yw siarad am drethi byth yn welltyn byr—rwy'n credu bod y ddau ohonom yn ei fwynhau yr un faint. Mae datganoli trethi wedi bod yn un o'r gwelliannau allweddol i bwerau Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol dros y ddau ddegawd diwethaf, ac mewn ychydig flynyddoedd, mae trefniadau newydd ar gyfer datganoli cyllidol a chyflwyno trethi Cymreig wedi trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus Cymru eu hariannu. Gyda chefnogaeth y Senedd, ac yn arbennig y Pwyllgor Cyllid, a chyda'r cymorth sylweddol a ddarperir gan fusnesau, sefydliadau eraill a chymunedau, ynghyd â chefnogaeth arbenigol ein grŵp cynghori ar drethi, llwyddasom i gyflwyno dwy dreth genedlaethol newydd, sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, ac yn gynharach eleni, cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymreig.
Felly, erbyn hyn mae tua £5 biliwn yn cael ei godi ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus drwy drethi datganoledig a lleol: cyfraddau treth incwm Cymreig, y dreth trafodiadau tir, y dreth gwarediadau tirlenwi, y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cymryd cam pwysig tuag at sicrhau cyllid teg i Gymru drwy'r cyllid gwaelodol y buom yn ei drafod gyda Llywodraeth y DU. Ac yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae hwn wedi dechrau darparu arian ychwanegol i Gymru, a bydd yn parhau i wneud hynny yn y tymor hwy. Fodd bynnag, ni all hyn wrthbwyso effaith naw mlynedd o gyni ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn y dyfodol, rydym yn parhau'n glir mai fformiwla seiliedig ar anghenion yw'r ffordd orau o sicrhau bod pob rhan o'r DU yn cael y cyllid y mae'n ei haeddu.
Yn sail i'n gwaith ar drethi datganoledig, rydym wedi datblygu fframwaith polisi treth sy'n adeiladu ar arferion gorau rhyngwladol ac sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i fod yn dryloyw ynghylch datblygu polisi treth yng Nghymru. Rydym wedi sefydlu egwyddorion trethiant clir sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni ein hymrwymiadau llesiant a chenedlaethau'r dyfodol, ac sy'n sicrhau bod ein trethi'n helpu i gyflawni amcanion ariannol a pholisi ehangach, gan gynnwys swyddi a thwf.
Rwy'n croesawu'r cyfraniadau y mae Aelodau'r Cynulliad eisoes wedi'u gwneud i helpu i lywio'r agenda ar drethi, ac edrychaf ymlaen at eu mewnbwn parhaus i ddatblygu polisi treth Cymru ymhellach, ac rwy'n rhoi pwyslais arbennig ar ymgysylltu. Rwy'n edrych ymlaen at gynnal cynhadledd drethi Cymru ddydd Gwener, lle byddwn yn trafod y datblygiadau diweddaraf; rwy'n deall y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd yn ymuno â ni yn y digwyddiad hwnnw. Mae datganoli trethi wedi dod â phenderfyniadau pwysig yn nes at bobl Cymru, gyda chyfleoedd newydd i deilwra diwygiadau i anghenion penodol ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas. Ac mae hyn yn rhoi gallu i ni gysoni trethiant yng Nghymru â'n hamcanion polisi ehangach, fel ein huchelgeisiau ar gyfer tai a'r amgylchedd, ac wrth bennu'r cyfraddau ar gyfer ein trethi newydd, y cytunwyd arnynt gan y Senedd hon, rydym wedi ystyried yn ofalus yr angen i'n trethi fod yn deg, yn syml ac yn flaengar. Wrth gwrs, mae un peth amlwg wedi'i hepgor o'n pecyn o bwerau, sef datganoli'r doll teithwyr awyr, a argymhellwyd yn gyntaf yn 2012 gan gomisiwn Llywodraeth y DU ei hun. Ac wrth gwrs, fel y buom yn ddadlau'n ddiweddar yn y Siambr, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw'n ddiweddar am ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru erbyn 2021, ac roedd hwnnw'n safbwynt a gefnogwyd yn unfrydol gan y Siambr, a chaiff ei gefnogi'n gryf iawn gan y gymuned fusnes.
Ond hoffwn droi yn awr at rai o'r pwyntiau penodol a godwyd gan Mark Reckless, a'r cyntaf oedd y bwlch rhwng yr arian a godir yng Nghymru a'r arian a werir yng Nghymru. Mae'n iawn i ddweud bod y bwlch oddeutu £13 biliwn, sy'n cyfateb i tua £4,000 y pen. Ac wrth gwrs, mae dadl yno pan soniwn am annibyniaeth—a godwyd yn y Siambr yn gynharach heddiw—ac mae'n ymddangos, ar y dechrau un yn sicr, y byddai safonau byw yn gostwng yng Nghymru. Ond mae'n debyg y gallwn adael hynny ar gyfer trafodaeth lawnach ar achlysur arall. Rhan o'r her yno a'r allwedd y naill ffordd neu'r llall fyddai gwella ein sylfaen drethi, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn canolbwyntio'n fawr iawn arno. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol, y cawsom gyfle i'w drafod yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a chynhelir ymgynghoriad yn ei gylch. Daw i rym yn 2020 ac mae hynny'n caniatáu inni edrych ar hyn yn fwy hirdymor. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio hynny, gan fy mod yn awyddus iawn i sicrhau bod ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y dyfodol yn rhai a fydd yn ein helpu i dyfu ein sylfaen drethi a gwneud hynny mewn un neu ddwy o ffyrdd, gan weithio ar draws y Llywodraeth gyda chyd-Aelodau ym maes addysg, er enghraifft, i sicrhau ein bod yn uwchsgilio pobl yng Nghymru ac yn caniatáu i bawb wneud y gorau o'u potensial incwm, a hefyd i ddenu pobl i Gymru sy'n mynd i fod yn creu cyfoeth, unwaith eto er mwyn gwella ein sylfaen drethi.
Mae llawer o waith wedi'i wneud ar drethi newydd. Mae pwysigrwydd cael y system yn iawn a mynd o amgylch y trac y tro cyntaf a phrofi'r peirianwaith, fel y dywedodd Mark Drakeford, yn bwysig iawn.
Soniodd Mark Reckless am y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Yn yr Alban gwn fod ganddynt gomisiwn cyllidol, a phenderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai hynny'n mynd ychydig dros ben llestri, os caf ei roi felly, yng Nghymru. O ran datblygu gallu Llywodraeth Cymru i ragweld y sefyllfa economaidd yn well, fel y mae San Steffan wedi bod yn ei gwneud ers tro ac fel y mae'r Alban yn ceisio ei wneud, pa waith a wnaethpwyd yn y maes hwn i sicrhau bod ein rhagamcanion mor gywir â phosibl?
Mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ac mae gennym fath o gytundeb memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n nodi'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ei wneud. Yn amlwg, rydym yn talu am eu gwasanaethau, felly rydym yn disgwyl ac yn derbyn gwasanaeth o ansawdd da. Maent yn defnyddio'r un mecanweithiau ar gyfer cyflawni eu gwaith rhagweld a dadansoddi ag sydd ganddynt ar gyfer rhannau eraill o'r DU. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gennym allu i gymharu ar draws ffiniau. Rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn i'n helpu i ddatblygu ein hargymhellion ar gyfer trethi yma yng Nghymru.
Nodwyd y broses sy'n ymwneud â threthi newydd a'u datganoli yn Neddf Cymru 2014, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio ar y cyfle cyntaf hwn i weld a yw'n system sy'n addas at y diben. Pam na wnawn ni ddweud wrth Lywodraeth y DU beth yn union y byddem yn ei wneud â'r pwerau pe baem yn eu cael? Wel, oherwydd bod gwir angen i ni ymgynghori'n eang. Felly, ni allwn ddweud wrth Lywodraeth y DU, er enghraifft, ar ba lefel y byddem yn gosod cyfraddau treth neu ddarparu union fanylion ynglŷn â sut y byddai'r trethi hynny'n cael eu defnyddio, oherwydd byddai'n rhaid ymgynghori ynghylch hynny. Ond y cam cyntaf, fel y dywedaf, yw negodi'r Ddeddf, trosglwyddo'r pwerau perthnasol, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Gobeithiwn gael trafodaeth gydag Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys ar ôl y rownd derfynol o drafodaethau rhwng swyddogion. Gobeithio na fydd hynny'n rhy hir yn awr.
Daeth y syniad am dreth ar dir gwag o ganlyniad i alwad am dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid blaenorol, a ofynnodd i bobl Cymru am eu syniadau ar gyfer trethi newydd. Awgrymwyd mwy na 200 o drethi gwahanol iddo, ac ymddangosai mai'r dreth ar dir gwag oedd yr un i'w chefnogi yn y lle cyntaf, ond cynhwyswyd tri awgrym arall fel meysydd y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol iddynt, ac un o'r rhain oedd y dreth dwristiaeth. Felly, ar hyn o bryd rydym yn edrych i weld ble y cafodd ei gweithredu mewn mannau eraill. Mae Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, wedi ymrwymo i archwilio'r dadleuon o blaid ac yn erbyn treth dwristiaeth yno.
Mae cyngor Caeredin eisoes wedi dangos ei gefnogaeth i drethi twristiaeth ac wedi ymgynghori ar gyflwyno ardoll ymwelwyr dros dro yng Nghaeredin—roedd 67 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r syniad hwnnw'n credu y dylid ei chyflwyno ar gost o £2 y noson am lety. Mae gan Fenis ddull gwahanol o weithredu; mae ganddynt ffi mynediad o hyd at £9 neu €10 ar gyfer twristiaid arhosiad byr. Yn Seland Newydd, maent hefyd yn edrych ar y potensial ar gyfer treth dwristiaeth newydd, ond eu prif nod fyddai talu cost gwella seilwaith a chadwraeth. Felly, rydym wedi bod yn glir, ar y dechrau o leiaf, mai'r argymhellion yr ydym yn awyddus i ymgynghori yn eu cylch fyddai treth dwristiaeth, i'w chodi o bosibl ar sail leol, felly gallai awdurdod lleol benderfynu a yw'n rhywbeth y byddent yn dymuno mynd ar ei drywydd ai peidio, ac yna, yn amlwg, byddem am weld yr arian hwnnw'n cael ei ailfuddsoddi yn y diwydiant twristiaeth wedyn, i barhau i wneud yr ardaloedd hynny'n fwyfwy deniadol i dwristiaid.
Bydd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn y tymor newydd ar y gwaith sy'n mynd rhagddo ar ddatblygu'r cynigion ar gyfer yr ardoll gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod hwn yn faes y mae gan gyd-Aelodau ar draws y Siambr ddiddordeb mawr ynddo. Mae pawb ohonom yn cydnabod yr heriau difrifol sy'n ein hwynebu gyda'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol, a chostau cynyddol gofal cymdeithasol, ac mae'n rhywbeth lle'r ydym yn awyddus i rannu'r wybodaeth a'n syniadau gydag eraill, a phan ddaw'n bryd inni osod ein maniffestos ar gyfer y flwyddyn nesaf, gall pawb ohonom wneud hynny mewn ffordd wybodus. Felly, bydd datganiad gan Vaughan Gething yn y tymor newydd, ac yna byddaf yn darparu datganiad pellach yn nes ymlaen eleni sy'n edrych yn benodol ar yr agweddau ariannol ar hynny.
Treth ar ddeunydd plastig untro—roedd hwnnw'n faes arall yr ydym yn dal i weithio arno ar hyn o bryd, yn y lle cyntaf, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, ac yna roedd y dreth olaf sef—. Rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio at bob un o'r trethi yr ydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Gwn fod gan Mark Reckless ddiddordeb arbennig yn y dreth trafodiadau tir, yn enwedig ar y gyfradd uwch ar gyfer eiddo amhreswyl. Fel y mae'n dweud, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth hyd yn hyn i fod ag unrhyw syniad beth fydd effaith gosod y gyfradd uwch ar y lefel yr ydym wedi'i gosod, ond dros amser, mae'n amlwg y bydd gennym fwy o dystiolaeth, a byddwn bob amser yn rhoi ystyriaeth drylwyr i effaith y penderfyniadau a wnawn.
Wrth gwrs, mae gwahanol resymau pam y byddai busnesau'n ceisio lleoli a phrynu eiddo yma yng Nghymru, yn rhannol yn ymwneud â'r sgiliau sydd gennym i'w cynnig. At ei gilydd, mae tir ac eiddo'n rhatach yma yng Nghymru, a bydd hynny i gyd yn rhan o ystyriaethau busnesau wrth iddynt ystyried ble i leoli a pha eiddo y maent yn ei brynu. O ran cyfraddau treth incwm Cymreig, mae Mark Reckless yn iawn—mae hyn yn bwysig iawn i Gymru, ac nid yw'n cael y sylw y mae'n ei haeddu eto yn ôl pob tebyg, ond rwy'n credu bod llawer o waith i'w wneud o hyd o ran cyfleu'r negeseuon hynny i'r cyhoedd.
Buom yn siarad ddoe am y ffigurau cyflogau sydd wedi dod allan ar lefel y DU—tua 3.6 y cant o dwf, sy'n uwch na'r disgwyl. Mae'r Gweinidog yn llygad ei lle'n sôn am gyflogau'r sector cyhoeddus, ond a yw hefyd yn cydnabod bod y cyflogau uwch hynny'n debygol o arwain at fwy o dderbyniadau o'r cyfraddau treth incwm Cymreig? Yn y gyllideb atodol, cawsom chwe mis yn rhagor o wybodaeth. Cawsom wybod beth oedd y flwyddyn ddiwethaf yn llawn yn hytrach na rhagolwg, ac mae gennym ffigurau ar gyfer dechrau eleni. Onid yw'n syndod na fu newid yn y rhagolwg ar gyfer y cyfraddau treth incwm Cymreig, ac efallai fod hynny'n adlewyrchu'r ffaith nad oes gennym systemau ar waith yn llawn eto ar gyfer integreiddio â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a ffurf y rhagolygon?
Ni fyddem yn disgwyl gweld newidiadau ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn, oherwydd yn amlwg, fel y dywedwch, nid oes gennym y manylder sydd ei angen, ac rydym wedi gosod ein cyfraddau treth incwm Cymreig ar yr un lefel ag sydd ganddynt yn Lloegr. Rydym wedi bod yn glir iawn, ac fe ailadroddaf hyn yn y Siambr heddiw, na fyddai gennym unrhyw fwriad o newid y cyfraddau treth incwm Cymreig rhwng nawr ac etholiadau'r Cynulliad. Rwy'n credu mai mater i bob un o'n pleidiau yw ystyried beth yw ein cynnig i bobl Cymru. Gofynnodd Mark Reckless beth fyddai'r newid yn nhermau newid o 1 y cant yn y gyfradd sylfaenol, er enghraifft. Wel, am bob 1 y cant rydym yn edrych ar £200 miliwn felly pe baech yn gostwng y dreth 1 y cant, byddai'n doriad o £200 miliwn, neu byddai cynnydd o 1 y cant yn arwain at gynnydd o £200 miliwn. Rwy'n credu hefyd fod yna ddadleuon i'w cael gyda'r cyhoedd ynglŷn â beth y mae pobl yn barod i'w golli, neu beth y byddent yn fodlon talu am ei gael. Credaf y bydd hynny'n bendant yn ychwanegu elfen newydd i'n hetholiadau Cynulliad y tro nesaf.
Yna, yn olaf, mae'n debyg, beth yw'r weledigaeth ar gyfer trethi Cymru? Wel, rydym yn gosod y weledigaeth, yn sicr yn y blynyddoedd cynnar, yn ein fframwaith polisi treth, sy'n seiliedig ar egwyddorion ynglŷn â bod refeniw yno i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, ac i wneud hynny mewn ffordd mor deg â phosibl. Dylai trethi fod mor syml a chlir a sefydlog â phosibl bob amser, ac wrth gwrs dylent gysylltu'n uniongyrchol a chyfrannu'n uniongyrchol at ein nod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal. Os yw'r Aelodau'n awyddus i wybod mwy o fanylion hynny, mae gennym ein cynllun gwaith ar bolisi treth sy'n rhan o gylch datblygu polisi blynyddol, ac ym mis Chwefror cyhoeddasom y cynllun ar gyfer eleni. Ond ar bob adeg yn ystod y flwyddyn rydym yn awyddus iawn i ymgysylltu ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn trethi yng Nghymru er mwyn parhau i ddatblygu ein syniadau ac archwilio syniadau newydd, a cheisio gwella bob amser y pethau yr ydym yn eu gwneud eisoes.
Rwy'n meddwl fy mod wedi defnyddio fy amser yn siarad am drethi, ac fel bob amser, mae wedi bod yn bleser.
Diolch yn fawr iawn. Diolch ichi, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw, a thrafodion y tymor mewn gwirionedd, i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.