Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
03/07/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Y cwestiynau cyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf [OAQ54160] wedi ei dynnu yn ôl. Ac felly, mae'r ail gwestiwn gan Leanne Wood.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn gallu darparu addysg addas i bawb? OAQ54178
Diolch, Leanne. Mae tegwch a chynhwysiant yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Bydd ein diwygiadau addysg yn sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at addysg o safon uchel ac yn hollbwysig, eu bod yn cyrraedd eu potensial llawn.
Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae llawer o bobl yn y Rhondda, sy'n poeni am y gefnogaeth, neu'r diffyg cefnogaeth, i'w plentyn ar y sbectrwm awtistiaeth, wedi cysylltu â mi. Rwyf wedi darganfod bod rhieni yn cael gwybod, pan fyddant yn gofyn am asesiad statudol ar gyfer datganiad anghenion addysgol arbennig, nad yw'r awdurdod lleol yn gwneud datganiadau mwyach. Mae hyn yn anghywir, a hyd at fis Medi 2020, pan fydd newidiadau'n dod i rym o dan y system anghenion dysgu ychwanegol newydd, mae hyn, yn fy marn i, yn fethiant i gyflawni eu dyletswyddau fel awdurdod lleol. A fyddech yn cytuno â hynny? A hoffwn wybod hefyd beth rydych yn ei wneud i sicrhau bod pob athro yng Nghymru yn cael hyfforddiant niwroamrywiaeth. Mae eich Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ystod y broses o graffu ar y Bil awtistiaeth. A allwch chi ddweud wrthym beth a wnaethoch i wireddu'r addewid hwn os gwelwch yn dda?
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn bryderus iawn i glywed gennych am yr adroddiadau nad yw plant yn cael cyfle i gael asesiad statudol ar gyfer eu hanghenion dysgu ychwanegol. Fel y dywedwch yn hollol gywir, nid yw'r ddeddfwriaeth newydd, a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn 2018, wedi dod i rym. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar y cod a'r is-ddeddfwriaeth a fydd yn sail i'r Ddeddf honno. A phe baech yn ddigon caredig i ysgrifennu ataf gyda rhai o fanylion yr achosion hyn, byddaf yn sicrhau fy mod i a fy swyddogion yn mynd ar drywydd y mater. Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth newydd, gan ddisgwyl ei chyflwyno'n llawn yn 2020, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi clustnodi gwerth £20 miliwn o adnoddau, a hynny'n bennaf i gefnogi anghenion dysgu proffesiynol athrawon, i sicrhau bod ganddynt sgiliau a gwybodaeth i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae'r ddeddfwriaeth newydd honno'n eu cynnig i ni, cyfleoedd a fydd yn rhoi'r plentyn wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, beth bynnag fydd yr anghenion dysgu ychwanegol hynny. Ond rwy'n bryderus nad yw plant yn cael yr asesiadau statudol y mae ganddynt hawl iddynt o dan y gyfraith bresennol, a buaswn yn hapus iawn i fynd ar drywydd hynny i chi.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i ddathlu 70 mlynedd ers addysg cyfrwng Cymraeg yn y Llynfi? OAQ54143
Diolch, Huw. Bydd ardal y Llynfi'n dathlu 70 o flynyddoedd o addysg Gymraeg. Bydd partneriaid yn sector y Gymraeg yn dathlu'r cyflawniad hwnnw drwy'r fwrdeistref yng ngŵyl flynyddol Ogi Ogi Ogwr, a drefnir gan Fenter Bro Ogwr, a deallaf y bydd honno'n cael ei chynnal ar 14 Gorffennaf.
Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb hwn.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Cawsom ddathliad aruthrol fel rhan o hyn, a dweud y gwir, gwta bythefnos yn ôl, yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lle cawsom gyngerdd gwych, gyda chantorion a thelynorion, ysgolion o bob rhan o'r ardal, cyn-rieni a disgyblion a llywodraethwyr, ac yn y blaen, ynghyd ag uchelgais go iawn i edrych tua'r dyfodol.
Gaf i ofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hefyd, i sicrhau twf parhaus addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru? A sut y gallai hyn helpu i gyrraedd targedau uchelgeisiol miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Wel, Huw, rwy'n falch iawn o glywed am y dathliadau sydd eisoes wedi bod yn digwydd yn eich ardal leol. Ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod wedi dod yn bell ers i'r ysgol gyfrwng Cymraeg gyntaf gael ei hagor yn etholaeth y Llywydd, yn Aberystwyth, yn 1939. Ond fi fuasai'r cyntaf i gyfaddef bod angen i ni weithio'n galetach, a chyda mwy o uchelgais, er mwyn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd presennol yn y cynnig cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn lleol. Ac yn amlwg, mae gan addysg ran hanfodol i'w chwarae yn y broses o gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
O ran awdurdodau addysg lleol a chynghorau sir, rydym wedi amlinellu'r hyn a ddisgwyliwn gan bob awdurdod lleol, ac mae'r fethodoleg i nodi'r cynnydd yn yr ystod pwyntiau canrannol yn nifer y dysgwyr a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ei gyrraedd erbyn 2031, sef ein carreg filltir interim, yn cael ei pharatoi. Felly, er enghraifft, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, byddem yn disgwyl gweld canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal honno'n cynyddu o 8.7 y cant i rhwng 15 y cant a 19 y cant. Ac rwy'n gwybod bod gan etholaeth yr Aelod ardal awdurdod lleol arall hefyd. Byddem yn disgwyl i ffigurau yn ardal Rhondda Cynon Taf gynyddu o 19.2 y cant i rhwng 27 y cant a 31 y cant. Rydym yn cynorthwyo awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud hynny drwy fuddsoddi yn ein rhaglen ysgolion a cholegau yr unfed ganrif ar hugain yn ogystal â chydleoli gyda darpariaethau meithrin a gofal plant sy'n caniatáu i bobl ddechrau ar y daith honno drwy ddewis dyfodol dwyieithog i'w plant o'r dyddiau cynharaf pan allwn ddarparu gofal plant ar eu cyfer yn ogystal ag addysg feithrin a blynyddoedd cynnar.
Wel, mae disgwyliadau'n un peth, Weinidog, ond ym mis Ionawr eleni, dywedodd pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd y byddai unrhyw leihad pellach yn y gyllideb yn golygu na fyddai'n bosibl cael athrawon arbenigol, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Nawr, rydym i gyd yn ymwybodol o bryderon cyffredinol ysgolion ynghylch toriadau i gyllid craidd, ond beth yw ein hymateb i'r honiad penodol hwn ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg a'i oblygiadau i strategaeth 2050?
Yn amlwg, o fewn cyfyngiadau'r setliad ariannol anodd iawn y mae'r Llywodraeth yn ei wynebu, rwy'n benderfynol o gael cymaint o arian ag sy'n bosibl i'r rheng flaen ac i gyllidebau ysgolion unigol. Wrth gwrs, mae adnoddau ariannol yn un peth; mae adnoddau dynol yn her hefyd ac rwy'n cydnabod hynny. Dyna pam fod y rheini sy'n ceisio cymhwyso fel athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg yn denu'r lefel uchaf o fwrsariaeth gan Lywodraeth Cymru i gefnogi eu hyfforddiant yn ogystal â chael taliadau croeso pan fyddant yn dechrau ar eu gyrfa addysgu.
Rydym yn gweithio ar nifer o gynlluniau arloesol, o gynyddu nifer y plant sy'n gwneud Cymraeg safon uwch—a bydd llawer ohonynt, fel y gwyddom, yn mynd ymlaen i fod yn athrawon Cymraeg yn y dyfodol—i addysg gychwynnol i athrawon, yn ogystal â galluogi athrawon sydd eisoes yn y system i wella eu sgiliau iaith drwy ein cynllun sabothol. Felly, rydym yn ceisio dylanwadu ar ein hathrawon yn y dyfodol, ein hathrawon presennol a sicrhau bod ganddynt y sgiliau ieithyddol i allu darparu addysg cyfrwng Cymraeg o'r radd flaenaf i'r teuluoedd sy'n ei dewis.
Wrth edrych ar record fwyaf diweddar Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn nhermau addysg cyfrwng Gymraeg, yn anffodus dydy'r stori ddim yn un positif. Mae'r cyngor wedi methu dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod addysg Gymraeg yn opsiwn realistig mewn nifer o gymunedau. Yn wir, mae rhai yn pryderu yn lleol fod problem sefydliadol o fewn yr awdurdod lleol lle mae'r Gymraeg yn y cwestiwn. Yn anffodus, mae hyd yn oed targedau Llywodraeth Cymru yn y ddogfen ymgynghori ddiweddaraf ar gynllun strategol y Gymraeg mewn addysg yn fy marn i yn llawer rhy isel—mae angen codi'r bar yn sylweddol. Ydych chi, felly, fel Gweinidog, yn cytuno bod y sefyllfa bresennol o gynnal dim ond pedair ysgol gynradd Gymraeg o fewn sir Pen-y-bont yn embaras llwyr?
Wel, mae trefnu a chynllunio ar gyfer ysgolion lleol, beth bynnag y bo'r cyfrwng dysgu, yn fater i awdurdodau addysg lleol, a hynny'n ddigon teg. Rôl alluogi sydd gan Lywodraeth Cymru, a rôl i annog yr awdurdodau addysg hynny i wthio'r ffiniau. Ac fel y dywedais, rydym wedi nodi ein disgwyliadau'n glir iawn o ran y cynnydd yn nifer y plant y byddem yn disgwyl iddynt gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y fwrdeistref sirol arbennig honno, a hefyd, i ategu hynny, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cymeradwyaeth mewn egwyddor i oddeutu £2.6 miliwn, drwy'r cynnig cyfrwng Cymraeg a gofal plant, ac fel y dywedais, mae hynny er mwyn sicrhau y gall rhieni wneud hynny mewn sector cyfrwng Cymraeg estynedig gan fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant neu ddarpariaeth blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o'r honiadau difrifol o hiliaeth a wnaethpwyd yn erbyn Prifysgol Caerdydd gan nifer o fyfyrwyr duon a lleiafrifoedd ethnig (DLlE) dros y dyddiau diwethaf. Rwyf fi, a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon mae'n siŵr, wedi cael adroddiad o dystiolaeth am hiliaeth, ac mae'n syfrdanol i'w ddarllen. Yn ogystal â hynny, mae adroddiad gan y Western Mail yn amlinellu adroddiadau a brofwyd gan is-lywydd sy'n ymadael. Mae fy swyddfa wedi cyfarfod â grŵp o fyfyrwyr DLlE o'r brifysgol, a ddefnyddiodd y term, ac rwy'n dyfynnu, 'hiliaeth sefydliadol' i ddisgrifio'r brifysgol. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl wedi darllen yr adroddiad, ond ar ôl y sioe 'Anaphylaxis', cwynodd rhai myfyrwyr DLlE a chawsant eu difrïo, a chafodd rhai aelodau o staff DLlE eu difrïo mewn parti ysgol feddygol. Gwaeddodd myfyrwyr 'anaphylaxis' ar y myfyrwyr duon a lleiafrifol ethnig.
Nawr, rwy'n deall rôl prifysgolion yn llwyr, ond a allech chi roi sicrwydd i fyfyrwyr sydd â phryderon ac sydd wedi gorfod ymdrin â hiliaeth, ac amlinellu pa gamau y byddwch yn eu cymryd gyda Phrifysgol Caerdydd a chyda'r myfyrwyr sydd wedi mynegi'r pryderon arbennig hyn?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig iawn hwn? Nid oes lle i hiliaeth yn unman yn system addysg Cymru, boed hynny yn ein hysgolion, ein colegau neu ein prifysgolion. Rydym wedi cael trafodaethau fel Llywodraeth gyda'r brifysgol a chyda'r undeb myfyrwyr dan sylw, a deallaf fod deialog barhaus rhyngddynt. Mae'n rhaid i bob prifysgol gael cynlluniau cydraddoldeb strategol sy'n nodi sut y byddant yn sicrhau cyfle cyfartal i fyfyrwyr â nodweddion gwarchodedig, ac mae'r cynlluniau hyn yn nodi'r prosesau a'r gweithdrefnau a ddylai fod ar waith er mwyn i sefydliadau fynd i'r afael â digwyddiadau unigol o fwlio neu gam-drin neu aflonyddu hiliol, ac yn amlwg byddwn yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad y trafodaethau hynny sy'n mynd rhagddynt drwy'r brifysgol a'r undeb.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Rwy'n falch y byddwch yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd gyda'r brifysgol. Gwn fod Caerdydd wedi mynnu eu bod yn cymryd camau ac wedi derbyn argymhellion yr adroddiad sy'n edrych ar y mater penodol hwn, a heddiw mae'r is-Ganghellor wedi ysgrifennu ataf yn amlinellu rhai o'r ymatebion hynny, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Ond y drafferth yw nad yw rhai myfyrwyr yn credu, yn sefydliadol, fod Caerdydd wedi bod yn barod i ymdrin yn ddigon difrifol â hiliaeth nac ymateb gyda digon o ddifrifoldeb i adroddiadau a chamau gweithredu a argymhellwyd. Maent hefyd yn credu bod problem ddiwylliannol ehangach, yn enwedig mewn rhai ysgolion yn y brifysgol. Felly, nid wyf eisiau tynnu oddi ar lawer o'r profiadau cadarnhaol y bydd myfyrwyr o bob cefndir a diwylliant yn eu cael yn y brifysgol hon, a nodaf fod lefelau boddhad yn uchel ar y cyfan, ond pan geir grwpiau lleiafrifol sy'n amlwg yn teimlo nad yw'r brifysgol wedi mynd i'r afael â'r profiadau hynny'n briodol, a ydych yn cytuno bod hwn yn destun pryder enfawr, a beth arall y gallwch ei wneud, o bosibl, i atal y mathau hyn o ddigwyddiadau rhag digwydd eto yn y dyfodol?
Wel, rydych yn hollol gywir yn dweud bod y rhain yn honiadau difrifol, ac rwy'n disgwyl y bydd y brifysgol yn mynd i'r afael â hwy yn gyflym, yn gydlynus ac yn llwyr, ac yn mynd i'r afael ag unrhyw achosion ymddygiad unigol neu, yn bwysicach efallai, yn mynd i'r afael â'r diwylliant cyfan mewn adran neu ysgol unigol neu'r brifysgol yn gyffredinol. Fel y dywedais, rydym o ddifrif ynglŷn â hyn. Rydym mewn cysylltiad â'r brifysgol er mwyn deall pa gamau y maent yn eu cymryd, a buaswn yn annog unrhyw un sy'n teimlo eu bod wedi dioddef ymddygiad amhriodol o unrhyw fath i sicrhau eu bod yn rhoi'r dystiolaeth honno fel y gallwn gael darlun llawn o'r hyn sy'n digwydd. Deallwn hefyd y gallai digwyddiadau o'r fath beri i bobl beidio â dewis astudio mewn prifysgol, ac felly mae gan bob prifysgol gynlluniau ffioedd a mynediad sy'n nodi sut y byddant yn cefnogi cyfle cyfartal i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch—ac yn aml ni cheir cynrychiolaeth sy'n agos at fod yn ddigonol o gymunedau duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig—i sicrhau eu bod yn cael profiad cadarnhaol iawn mewn addysg uwch, ac rydym hefyd wedi darparu dros £2 filiwn drwy CCAUC eleni i gynorthwyo prifysgolion i ddatblygu eu hymatebion i gefnogi myfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl, a allai ddeillio o unrhyw achosion o fwlio o'r math hwn.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae eich ateb mewn perthynas ag iechyd meddwl yn fy arwain yn ddi-dor at fy nghwestiwn olaf, ac rwy'n cydnabod ac yn diolch i chi am yr arian rydych wedi'i roi i gymorth iechyd meddwl ar gyfer myfyrwyr. Ond mae fy nghwestiwn yn ymwneud â pha fuddsoddiad rydych yn bwriadu ei wneud mewn perthynas â chymorth i staff darlithio hefyd. Rwyf wedi darllen adroddiadau dros y dyddiau diwethaf, a thros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, am broblemau llwyth gwaith mewn llawer o brifysgolion, ac rydym wedi gweld un brifysgol benodol lle mae cynnydd wedi bod mewn cyffuriau gwrth-iselder oherwydd pwysau gwaith, ac fe welsom, yn anffodus, hunanladdiad, a briodolwyd yn rhannol—ni fuaswn yn dweud yn gyfan gwbl—i broblemau llwyth gwaith. A allech chi roi syniad i ni pa drafodaethau a gawsoch gyda'r sector prifysgolion a chydag undebau llafur, sydd wedi cymryd camau gweithredu mewn sawl achos gan eu bod hwythau hefyd yn teimlo'r straen, a chan fod ganddynt hwythau broblemau iechyd meddwl y maent eisiau mynd i'r afael â hwy hefyd? Sut y gallwch chi fel Gweinidog eu helpu'n briodol yn hyn o beth?
Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r buddsoddiad sydd ar gael i gefnogi iechyd meddwl gwell yn ein sector addysg uwch i'w ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr yn unig. Y bwriad yw efelychu mewn gwirionedd, yn yr un modd ag y ceisiwn ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl, sy'n effeithio ar blant a staff proffesiynol—fel bod yr un peth yn digwydd yn ein prifysgolion a'n colegau hefyd. Gwyddom, yn aml, fod staff sy'n dioddef cyfnodau o iechyd meddwl gwael yn gallu trosglwyddo hynny, y teimladau hynny, i'w myfyrwyr. Felly, mewn gwirionedd, mae angen i ni fynd i'r afael â hyn yn gyffredinol, mewn perthynas â staff a chyfadrannau.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae cyngor o ansawdd da ar yrfaoedd yn hanfodol i helpu myfyrwyr i gael mynediad at y swyddi a'r sgiliau sydd fwyaf cymwys ar eu cyfer. Ond mae rhai wedi mynegi pryderon am ansawdd ac argaeledd cyngor ar yrfaoedd, gan gyfeirio at brinder cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol gan staff ysgolion. Beth rydych chi'n ei wneud, Weinidog, i wella cyngor ar yrfaoedd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, yr hyn rydym wedi'i wneud, Oscar, yn dilyn cyfnod pan nad oeddem yn gallu comisiynu Gyrfa Cymru i ddarparu gwasanaeth mewn ysgolion, mae'r cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig hynny bellach yn ôl yn ein hysgolion, ac yn bwysicach na hynny, rydym yn cynnal cynllun peilot Gatsby yn ardal Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd i archwilio arferion gorau. Bydd canlyniadau'r cynllun peilot hwnnw'n ein helpu i ddatblygu gwasanaeth gyrfaoedd gwell fyth ar gyfer plant a phobl ifanc wrth symud ymlaen. Mae'n wirioneddol bwysig fod plant cymharol ifanc yn cael y cymorth hwnnw i allu gwneud dewisiadau da a dewisiadau gwybodus am yr hyn y maent yn ei wneud nesaf yn eu gyrfa addysgol.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Gobeithio y byddwch yn cyflwyno'r cynllun peilot hwn, mae'n well. Mae arolygwyr eisoes yn ystyried darpariaeth cyngor ar yrfaoedd mewn ysgolion wrth wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, y llynedd, dywedodd pwyllgor o Aelodau Seneddol yn San Steffan y dylai ysgolion gael eu graddio'n benodol gan y Swyddfa Safonau mewn Addysg ar ansawdd eu cyngor ar yrfaoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cael yr holl wybodaeth y maent ei hangen i fod yn wyddonwyr a pheirianwyr yn y dyfodol. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ganiatáu i Estyn raddio ysgolion yng Nghymru sy'n dangos ansawdd y cyngor a ddarperir yn yr ysgol?
Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Estyn ac ysgolion unigol i ddatblygu pecyn cymorth hunanwerthuso, a fydd yn ein helpu i nodi arferion gorau mewn ysgolion, nid yn unig mewn perthynas â chyraeddiadau academaidd, ond hefyd mewn meysydd y tu hwnt i gymwysterau ffurfiol. Oherwydd rydym yn disgwyl i ysgolion helpu plant i basio eu harholiadau, ond rydym hefyd yn disgwyl i ysgolion wneud llawer o bethau eraill pan fydd plant yn eu gofal, ac mae'r gwaith hwnnw'n barhaus.
Mae cysylltiadau agos rhwng ysgolion, colegau addysg bellach a chyflogwyr yn ffactor pwysig wrth helpu pobl ifanc i gyflawni eu huchelgeisiau. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i alluogi colegau a chyflogwyr i gael gwell mynediad at wasanaethau cyngor ar yrfaoedd mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y wybodaeth y maent ei hangen i gyrraedd eu potensial gyrfaol llawn? Diolch.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch fy mod, cyn dod i'r Siambr y prynhawn yma, wedi gallu cyhoeddi yn ein digwyddiad Seren y bydd rhaglen sylfaen Seren ac egwyddorion Seren, sydd, ar hyn o bryd, ar gyfer plant sydd wedi cwblhau eu harholiadau TGAU, bellach yn cael eu cyflwyno i ddisgyblion o flwyddyn 8 ymlaen. Mae rhai o'r prosiectau arloesol sydd eisoes wedi'u cynnal yn y cynllun peilot yn gweithio gyda chwmnïau gweithgynhyrchu, peirianwyr a gwyddonwyr i roi plant hyd yn oed yn iau mewn cysylltiad â'r holl gyfleoedd sydd gan y byd ehangach i'w cynnig iddynt, ac rwy'n ddiolchgar i'r busnesau, y colegau addysg bellach a'r prifysgolion sydd wedi cyfrannu mor helaeth at y gwaith o ddatblygu'r rhaglen, ac edrychaf ymlaen at weld hynny'n cael ei gyflwyno ledled Cymru.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith awtomeiddio ar addysg yng Nghymru? OAQ54171
Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn darparu sgiliau digidol lefel uchel i bob dysgwr i sicrhau bod pobl ifanc yn gymwys yn ddigidol ac yn datblygu'n feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol. Mae'r fframwaith cymhwysedd digidol, sef rhan gyntaf y broses o ddiwygio ein cwricwlwm, yn cynnig cyfres o sgiliau i ddysgwyr i'w galluogi i ddefnyddio technolegau a dylunio systemau'n hyderus, yn greadigol ac yn feirniadol.
Diolch yn fawr, Weinidog. Yn ôl ymchwil gan Oxford Economics, erbyn 2030, bydd robotiaid yn cymryd lle'r mwyafrif o swyddi yn y sector gweithgynhyrchu. Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad yn awgrymu y gallai awtomeiddio roi hwb i swyddi a chynyddu twf economaidd pe baem yn addasu'r gweithlu ymlaen llaw. Weinidog, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i addasu'r cwricwlwm i sicrhau bod Cymru'n barod ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol?
Os caf roi un enghraifft bendant iawn i'r Aelod, yn yr ymgynghoriad ar Bapur Gwyn y cwricwlwm, fe fydd hi'n gwybod mai fy mwriad, yn y cwricwlwm newydd, yw cael tri chyfrifoldeb trawsbynciol statudol, gan adeiladu ar y ddau sydd gennym eisoes. Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl i bob gwers gyfrannu at lythrennedd a rhifedd, ac, yn y dyfodol, byddwn yn ychwanegu cymhwysedd digidol fel trydydd cyfrifoldeb trawsbynciol.
Weinidog, yn amlwg, mae awtomeiddio yn gyfle i ni. Mae'r ffigurau yn dangos y bydd hyd at 35 y cant o'r gweithlu'n gorfod ailhyfforddi, ac ailfodelu eu sgiliau ac yn wir, mae'n bosibl y gallai llawer o'r swyddi hynny ddiflannu'n gyfan gwbl. Felly, bydd y galwadau ar y sector addysg bellach yn benodol, a dysgwyr rhan-amser, yn sylweddol dros y deng mlynedd nesaf a rhagor. Pa ymdrechion y mae'r adran wedi'u gwneud i fodelu'r gwaith fel y gallant weithio gyda'r sector hyfforddi, yn enwedig y sector addysg bellach, i adeiladu capasiti, a lle bydd pobl angen cyfleoedd hyfforddi newydd, yn enwedig mewn gwaith, bydd y capasiti hwnnw ar gael, felly nid yn unig yn yr amgylchedd ysgol ond drwy'r diwylliant dysgu rydym eisiau ei ymgorffori yn ein cymdeithas?
Andrew, rydych yn llygad eich lle: bydd angen i ni sicrhau bod ein darparwyr addysg ar sawl lefel yn gallu gwella sgiliau ein gweithlu. Bydd llawer o'r rheini sydd mewn gwaith ar hyn o bryd yn chwilio am gyfleoedd i ailhyfforddi neu i ennill sgiliau am y tro cyntaf, sgiliau y bydd eu hangen arnynt i ddal i fyny â'r economi leol. Rwy'n siŵr y byddwch wedi gweld yr adroddiad 'Digidol 2030' a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae hwnnw'n fframwaith strategol newydd ar gyfer dysgu digidol yn y sector ôl-16 yng Nghymru, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â'r sector addysg bellach. Mae'r fframwaith yn amlygu pwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr wedi'u harfogi â sgiliau digidol a phrofiadau o ddefnyddio technoleg ddigidol.
O ran y cyfle, felly, i gael mynediad at y cyfleoedd hyfforddi hynny, fe fyddwch yn gwybod, drwy newid y fethodoleg ariannu i'n colegau addysg bellach, fod llawer o'n colegau addysg bellach yn dechrau cael mwy i mewn i ddarpariaeth ran-amser ar gyfer dysgwyr hŷn. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhan-amser sy'n gwneud cais i astudio drwy'r Brifysgol Agored ac ym mis Medi eleni, bydd y Llywodraeth yn lansio cynllun peilot cyfrif dysgu unigol yng ngogledd Cymru a rhan o dde Cymru, a fydd yn grymuso dysgwyr unigol sydd mewn gwaith ar hyn o bryd, ond mewn swyddi ar gyflogau isel, drwy roi cyfle iddynt ddefnyddio'r cyfrif dysgu unigol hwnnw i ddychwelyd i fyd addysg, naill ai i'w galluogi i ddringo'r ysgol yrfa neu'n wir, i newid gyrfa'n gyfan gwbl.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am achrediadau cyflog byw yn y sector addysg yng Nghymru? OAQ54164
Diolch i chi, Mick. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gyflogwyr cyflog byw, gan gynnwys y sector addysg. Yn ogystal ag awdurdodau lleol, rwyf wrth fy modd fod pob sefydliad addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru yn gyflogwyr cyflog byw erbyn hyn a'u bod yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol o'r statws hwnnw.
Diolch am yr ateb hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddech yn croesawu'r ffaith mai Prifysgol De Cymru yw'r dau ganfed cyflogwr yng Nghymru i weithredu'r cyflog byw. Yn amlwg, rydym eisiau gweld mwy o sefydliadau'n cael yr un lefel o achrediad, ond a fyddech hefyd yn cytuno â mi fod mwy o waith i'w wneud o hyd, hyd yn oed gyda'r achrediadau hynny, i sicrhau bod meysydd gwaith a gwasanaethau o fewn y sefydliadau hynny, a allai gael eu rhoi ar gontract allanol neu eu hisgontractio weithiau, yn elwa o'r un achrediadau cyflog byw hefyd?
Wel, rydych yn llygad eich lle, Mick. Er mwyn cael achrediad o'r math y dyfarnwyd i Brifysgol De Cymru yn ddiweddar, mae'n rhaid rhoi'r cyflog byw ar waith ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol a gweithgarwch sy'n cael ei roi ar gontract allanol. Heb hynny, ni ellir ennill achrediad.
Mae aelodau Prifysgolion Cymru eisoes wedi ymrwymo i dalu cyflog byw y Living Wage Foundation i bob aelod o staff a gyflogir yn uniongyrchol, ac maent eisoes wedi dechrau'r broses o weithredu'r cyflog byw ar draws eu gweithgareddau addysg uwch sydd wedi cael eu rhoi ar gontract allanol. Fel y dywedais, mae pob sefydliad yn y broses o gael eu hachredu'n ffurfiol am y cyflawniad hwnnw ar hyn o bryd, ac rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Prifysgolion Cymru a'r sector yn ehangach i sicrhau'r ymrwymiad hwn. Y sector addysg uwch yng Nghymru fydd y rhan gyntaf o dirwedd addysg uwch y Deyrnas Unedig i gyflawni'r nod hwn.
Weinidog, croesewais eich ymateb i Mick Antoniw ynglŷn ag awdurdodau lleol ledled Cymru. Cyngor Sir Fynwy oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf i gyflawni'r statws o dalu'r cyflog byw i'w holl staff. Fel y dywedasoch, dylai cynghorau fod yn gwneud hyn, dylai cyrff cyhoeddus fod yn gwneud hyn, a'r sector addysg yn ogystal. Felly, a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut rydych yn annog y sector addysg yng Nghymru i ddilyn yr esiampl a osodwyd gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yn awr, a sut rydych yn gwneud yn siŵr fod yr achrediadau cyflog byw hyn yn digwydd a'u bod yr un mor ddylanwadol ag y byddem yn ei honni?
Mae fy llythyr cylch gwaith dyddiedig 2019-20 i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn nodi fy mod yn disgwyl cael cadarnhad eleni y bydd pob prifysgol yng Nghymru wedi derbyn eu hachrediad yn ffurfiol. Ac rwyf wedi ceisio gwneud cynnydd yn hyn o beth lle gallaf o fewn fy adran. Felly, er enghraifft, staff y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr sy'n gweithredu'r system benthyciadau i fyfyrwyr ar ran Llywodraeth Cymru o'r swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno—rydym hefyd wedi gallu negodi cynnydd gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i sicrhau bod yr holl staff yno'n cael cyflog byw go iawn ac yn cael cyflogau sy'n cyd-fynd yn well â swyddogion Llywodraeth Cymru, sy'n digwydd bod yn gweithio yn yr un adeilad mewn gwirionedd. Mae ein galluogi i wneud hyn yn mynd i'r afael â rhai o'r problemau sy'n ymwneud â recriwtio a chadw'r staff hynny, felly nid yw hynny ond yn enghraifft arall o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud o fewn addysg er mwyn sicrhau, os ydych yn rhan o'r genhadaeth genedlaethol, ym mha ffordd bynnag yr ydych yn rhan o'r genhadaeth genedlaethol, y byddwch yn cael eich gwobrwyo'n deg.
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu disgyblion am fanteision teithio llesol drwy'r system addysg? OAQ54176
Diolch i chi, David. Mae'r cwricwlwm newydd yn cefnogi teithio llesol. Un o'r pedwar diben sy'n rhan annatod o'r cwricwlwm newydd hwnnw yw bod dysgwyr yn datblygu'n unigolion iach a hyderus, sy'n gallu cymhwyso gwybodaeth am effaith ymarfer corff ar eu hiechyd corfforol a'u iechyd meddwl yn eu bywydau bob dydd, a bod yn unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yn fy rhanbarth i yng Nghaerdydd, sy'n datblygu i fod yn arloeswr teithio llesol mewn ysgolion, nid yn unig yng Nghymru ond yng ngweddill y DU? Mae eu syniadau arloesol yn anhygoel: cynlluniau teithio personol ar gyfer y disgyblion a'r rhieni; parcio a cherdded, felly, pan fo'n rhaid defnyddio car, caiff ei barcio ymhellach i ffwrdd o'r ysgol o leiaf. Mae'n cael effeithiau dramatig ar lygredd aer a chyfraddau cerdded i'r disgyblion, sydd, ar gyfartaledd, yn cerdded am 5-10 munud yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Onid dyma'r union fath o raglen rydym eisiau ei hybu ar draws ein system addysg a phwy a ŵyr, efallai y byddwn yn dychwelyd i'r oes rwy'n ei chofio tra oeddwn i yn yr ysgol pan oedd bron bawb yn cerdded i'r ysgol oni bai eich bod yn sâl?
Wel, David, gallaf wneud mwy na chanmol Ysgol Hamadryad am y dull y maent wedi'i fabwysiadu, oherwydd ymunais innau â'r bws cerdded i Ysgol Hamadryad yr wythnos ddiwethaf. Mae'n dangos, drwy newid meddylfryd, pa mor gyraeddadwy y gall hyn fod. Mae nifer o faterion wedi effeithio arno. Yn amlwg, mae'n ysgol newydd ac felly efallai y bydd yn haws i unigolion fabwysiadu arferion newydd. Ond yn yr achos hwn, mae wedi digwydd o ganlyniad i arweinyddiaeth y pennaeth a chorff llywodraethu'r ysgol, yn ogystal â rhai o'r cyfyngiadau ffisegol o ran lle mae'r ysgol newydd wedi'i hadeiladu mewn gwirionedd. Ond mae'n dangos—mae Ysgol Hamadryad yn dangos—beth y gellir ei gyflawni pan fo dull partneriaeth yn cael ei fabwysiadu rhwng ysgolion a rhieni, a mwynheais fy nhro i'r ysgol yn fawr iawn.
Weinidog, mae'n beth da ein bod yn gallu elwa yma yng Nghymru o gynlluniau megis Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a'r gronfa teithio llesol. Nodaf gyfraniad David Melding gyda diddordeb, ac rwy'n credu y gallai fod llawer o bobl ifanc yn gwylio hyn gan feddwl, 'Sut y gallwn gael mentrau fel honno i weithio yn ein hysgolion ni?' Felly, dyma fy nghwestiwn i chi: sut y mae plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n eu galluogi i wneud y dewisiadau cywir? Gwn am sawl ysgol yn fy etholaeth sy'n gweithredu hyfforddiant medrusrwydd beicio a bysiau cerdded hefyd, ond sut y mae llais y disgyblion yn cael ei flaenoriaethu yn y maes hwn?
Vikki, mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi eu cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau cerdded a beicio integredig, mewn ymgynghoriad â chymunedau. Ac mae'r pecyn cerdded i'r ysgol, a gafodd ei ddatblygu gan Living Streets, a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd, yn ffordd hawdd a systematig o gynnwys plant ysgol a chymunedau lleol yn y gwaith o asesu'r llwybrau teithio llesol i ysgolion, rhai newydd a rhai sy'n bodoli eisoes, a nodi gwelliannau angenrheidiol sydd angen eu gwneud er mwyn annog mwy o bobl i deithio'n llesol i'r man dysgu hwnnw.
Weinidog, ym mis Rhagfyr y llynedd rhyddhaodd Llywodraeth Cymru fwletin ystadegol, 'Walking and cycling in Wales', a luniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ac mae'r ffigurau'n dangos bod 44 y cant o blant yn teithio'n llesol i ysgolion cynradd; mae 34 y cant o blant yn teithio'n llesol i'r ysgol uwchradd. Felly, gan fod cyfleusterau addysg newydd o'r radd flaenaf yn cael eu hadeiladu a'u hagor ledled Cymru, bydd yr amgylchedd addysgol arfaethedig rydym yn ei adeiladu yn yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru yn gallu newid a dylanwadu ar ymddygiad teithio cenedlaethau'r dyfodol o ddinasyddion Cymru. Felly, Weinidog, sut y mae rhaglen weddnewidiol Llywodraeth Cymru, rhaglen adeiladu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn cael ei llunio i gynyddu'n uniongyrchol y nifer o blant sy'n dewis teithio'n llesol i ac o'r ysgol?
Wel, Lywydd, gallaf sicrhau'r Aelod fod angen i brosiectau sy'n elwa o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dan raglen adeiladu ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain ddangos yn glir iawn eu bod wedi cynnwys darpariaeth ar gyfer cerdded a beicio'n hwylus a diogel i'r mannau dysgu hynny.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hawl i gael addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ54155
Diolch yn fawr, Alun. Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei chynnig ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn fecanwaith ar gyfer cynllunio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, ac rydym yn ymgynghori ar ddull newydd o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd drwy gyflwyno cynlluniau 10 mlynedd a thargedau mesuradwy uchelgeisiol.
Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am yr ateb. Roeddwn i'n falch iawn o glywed yr ateb hefyd i Huw Irranca-Davies yn gynharach y prynhawn yma. Dwi’n gwybod bod gyda chi ymrwymiad personol i sicrhau bod addysg Gymraeg yn cynyddu ar draws y wlad a dwi’n gwybod eich bod chi wedi bod yn gwthio hynny drwy gydol eich amser yn y swydd fan hyn. Ond dwi wedi bod yn delio gydag etholwyr ac eraill, a dwi wedi clywed straeon o gwmpas y wlad, ble mae pobl wedi bod yn ffeindio problemau cynyddol o ran cael trafnidiaeth i ysgolion Cymraeg i sicrhau bod pobl yn gallu derbyn addysg Gymraeg a hefyd cwblhau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Oes yna fodd i’r Llywodraeth wneud datganiad clir fod gennym ni i gyd hawl i dderbyn ein haddysg, reit drwy gydol yr ysgol, yn y Gymraeg, a bod gan gynghorau gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl yn gallu gweithredu’r hawl i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg?
Wel, Alun, ie yn wir. Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt hwy a'u rhieni'n dewis hynny. Yn sicr, weithiau, mae rhieni a phlant yn wynebu anfantais logistaidd sylweddol wrth arfer yr hawl honno, ac maent yn aml yn gorfod teithio pellteroedd sylweddol i allu manteisio arni. Rwy'n ymwybodol iawn o rai o'r newidiadau mewn perthynas â theithio ôl-16 y mae awdurdodau lleol yn ymgynghori yn eu cylch. Un o'r pethau rhyfedd am Lywodraeth yw'r ffaith nad fi sy'n gyfrifol am y polisi teithio i ddysgwyr. Rwy'n siŵr y byddai llawer o bobl yn synnu nad fi fel Gweinidog addysg sy'n gyfrifol amdano, ac mai fy nghyd-Aelod, Ken Skates, sydd â chyfrifoldeb, a gallaf sicrhau'r Aelod fod fy staff a'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith yn gyffredinol mewn trafodaethau â Ken Skates ar sut y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn. Oherwydd mewn llawer o ardaloedd, gwyddom nad oes mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16 mewn ffordd ddaearyddol debyg i'r hyn a fyddai ar gael ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Saesneg, ac nid wyf eisiau i neb golli'r cyfle i sicrhau'r continwwm hwnnw oherwydd rhai o'r newidiadau hyn. Ac mae trafodaethau ar y gweill yn y Llywodraeth ynglŷn â sut y gallwn ddatrys hyn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chwestiwn Alun. A yw'n hawl, mewn gwirionedd, pan fo gallu awdurdod lleol i ddweud 'na' i gludiant yn ei rhwystro mor hawdd? Ac nid wyf yn sôn am gludiant ôl-16 yn unig, er, yn amlwg, mae honno'n broblem ar hyn o bryd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth i. Rydych chi wedi cyfeirio at hyn—roeddwn eisiau gofyn i chi: a ydych yn credu bod yr amser wedi dod i ddisodli Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a sicrhau bod darpariaeth ar gyfer cludiant am ddim i'r addysg cyfrwng Cymraeg agosaf yn cael ei chynnwys fel hawl, yn ogystal â sicrhau bod mater cludiant myfyrwyr yn cael ei gynnwys yn y portffolio addysg, yn hytrach na phortffolio'r economi?
Wel, Lywydd, dylwn ddatgan buddiant. Bu'n rhaid i fy nheulu fy hun apelio yn erbyn penderfyniad cludiant yn ymwneud â gallu fy mhlant i gael mynediad at eu haddysg cyfrwng Cymraeg, ynghyd â grŵp arall o rieni ym Mhowys. Felly, rwy'n gyfarwydd iawn â rhai o'r problemau y mae rhieni'n eu hwynebu wrth geisio gwneud y dewis cadarnhaol iawn hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hyn os ydym eisiau annog mwy o bobl i wneud y dewis hwnnw. Oherwydd, os nad oes mynediad hawdd at addysg cyfrwng Cymraeg, na chontinwwm eang drwy bob cam dysgu, mae'n bosibl na fydd llawer o rieni, yn enwedig rhieni o gartrefi di-Gymraeg, yn cymryd y cam cyntaf ar y daith honno, ac rwyf eisiau galluogi mwy o rieni i wneud hynny. Fel y dywedais, mae trafodaethau ar y gweill rhyngof i, y Gweinidog, a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth mewn perthynas â'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Nid wyf yn gwybod a oes amser ar hyn o bryd i adolygu'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth yn llwyr, sydd, wrth gwrs, yn golygu nad oes gan neb yr hawl i deithio ôl-16 ni waeth beth fo iaith y dysgu—mae'r trafodaethau hynny'n parhau, oherwydd rwy'n cydnabod bod problemau penodol yn gysylltiedig ag addysg cyfrwng Cymraeg sydd, o bosibl, yn rhoi rhieni a disgyblion o dan anfantais.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru yn Sir Gaerfyrddin? OAQ54172
Yn ystod pum mlynedd gyntaf y rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, bydd £87 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn y gwaith o ailadeiladu ac ailwampio ysgolion yn Sir Gaerfyrddin. Mae £129.5 miliwn arall wedi'i glustnodi ar gyfer ail gam y rhaglen o fis Ebrill 2019, yn amodol, wrth gwrs, ar y broses arferol o ymdrin ag achosion busnes.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb. Hoffwn awgrymu, Weinidog, y prynhawn yma—hoffwn gynnig y cyfle i chi longyfarch y llywodraethwyr, yr awdurdod lleol, y staff a'r disgyblion yn ysgol Pontyberem, sydd wedi cael buddsoddiad sylweddol o gronfa ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac a fydd yn ailagor ddydd Llun. Gwn eich bod wedi cael gwahoddiad ac yn anffodus, nid ydych yn gallu bod yno gyda ni y diwrnod hwnnw, ond credaf y byddwch—ac rwy'n gobeithio y byddwch—yn cydnabod ei fod wedi bod yn waith gwirioneddol effeithiol ac wedi gwneud defnydd gwirioneddol dda o'r ystâd bresennol, ac nid oes yn rhaid i ni adeiladu o'r newydd bob amser—er ein bod yn dymuno gwneud hynny weithiau—ond nid oes angen i ni adeiladu o'r newydd bob tro i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r amgylchedd y mae ein hathrawon yn gweithio ynddo ac y mae ein disgyblion yn dysgu ynddo. Rwy'n gobeithio y byddwch hefyd yn ymuno â mi i longyfarch Sir Gaerfyrddin am fod yn rhagweithiol iawn yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau hynny sydd ar gael. Ac yn bennaf oll, rwy'n gobeithio y byddwch yn dymuno diwrnod hapus iawn i'r rhieni a'r disgyblion ac i bob un ohonom ddydd Llun, oherwydd mae'n sicr yn rhywbeth i'w ddathlu.
Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw'r Cynulliad cyfan at agoriad swyddogol Ysgol Pontyberem yr wythnos nesaf? Rwy'n siomedig iawn na fyddaf yn gallu bod yn bresennol. Un o'r agweddau mwyaf rhyfeddol ar fod yn Weinidog addysg yw gallu teithio ar hyd a lled y wlad yn agor adeiladau newydd, boed hwnnw'n adeilad cyfan gwbl newydd neu'n adeilad wedi'i adnewyddu neu'n estyniad llwyddiannus iawn ar ystâd bresennol yr ysgol.
Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn rhannu fy uchelgais fod plant a'r rheini sy'n eu haddysgu ac yn gweithio gyda hwy yn haeddu gwneud y gwaith pwysig hwnnw mewn adeiladau sy'n addas at y diben ac sy'n caniatáu iddynt fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Er y gall y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol fod braidd yn gynhennus o bryd i'w gilydd o bosibl, mae'r gwaith partneriaeth cryf rhwng awdurdodau lleol ledled Cymru a Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y rhaglen buddsoddi cyfalaf hon, rwy'n credu, yn un o'r rhaglenni cyfalaf mwyaf llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi'u mwynhau, oherwydd y cydweithio agos hwnnw rhyngom ni a'n hawdurdodau lleol. Rwy'n cymeradwyo pawb sy'n gweithio'n wirioneddol galed i godi ac agor yr adeiladau hyn, ac rwy'n gobeithio y cânt ddiwrnod bendigedig.
Weinidog, mae'r model buddsoddi cydfuddiannol sy'n ariannu'r rhan fwyaf o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn Sir Gaerfyrddin a gweddill Cymru yn esblygiad a groesewir yn fawr o'r mentrau cyllid preifat hen ffasiwn, ond wrth gwrs, gyda'r holl faterion hyn, mae angen sicrhau cydbwysedd bob amser rhwng colli rheolaeth a gallu cynnal amlygiad ariannol. Nawr, mae gan y model buddsoddi cydfuddiannol amlygiad ariannol ar gyfer y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ac roeddwn eisiau deall ychydig yn gliriach beth yw eich proses werthuso cyfle a risg er mwyn sicrhau bod pethau fel anallu i gapio elw neu orwariant, gorwariant prosiectau, ac wrth gwrs, y gyfradd fenthyca uwch—sut y mae hynny'n effeithio ar raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
Wel, Angela, rydych yn llygad eich lle: mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn rhoi cyfle i ni fel Llywodraeth, gan weithio gyda phartneriaid, ddenu gwerth £500 miliwn o adnoddau ychwanegol i'r rhaglen, sy'n ein galluogi i gwblhau mwy fyth o waith adnewyddu a phrosiectau adeiladu o'r newydd. Mae angen rheoli hwnnw'n ofalus iawn, ac mae angen sgiliau i gefnogi awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach sy'n rhan o'r broses honno ochr yn ochr â'r sgiliau a fyddai ganddynt yn fewnol. Ar hyn o bryd, fel Llywodraeth rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu model a fydd yn darparu'r gefnogaeth honno, a fydd yn ei dro yn ceisio diogelu cynghorau unigol neu golegau rhag y problemau rydych newydd eu nodi. A buaswn yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd penderfyniad terfynol wedi ei wneud mewn perthynas â hynny, ac mae hynny ar fin digwydd.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi sefydliadau addysg uwch? OAQ54170
Diolch i chi, Joyce. Rydym yn parhau i ddarparu cymorth ariannol a rheoleiddiol i'r sector drwy CCAUC, a fydd, ynghyd â'n diwygiadau cymorth i fyfyrwyr, yn creu sector addysg uwch cryfach, mwy cynaliadwy ledled y wlad.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond yr wythnos diwethaf, roedd yna adroddiad a oedd yn peri pryder yn y cyfryngau ynghylch dyfodol campws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gostyngiad wedi bod yn nifer yr adrannau, y staff a'r myfyrwyr ar y campws penodol hwnnw. Yn ddealladwy, mae'r myfyrwyr a'r trigolion lleol, a'r busnesau sy'n dibynnu ar y brifysgol honno, yn bryderus iawn am yr hyfywedd economaidd a'r effeithiau y bydd hynny'n eu cael ar y gymuned ehangach. Maent yn arbennig o bryderus am gyhoeddiad y brifysgol eu bod yn bwriadu gwneud toriad o £6.5 miliwn a 100 o swyddi ar draws eu tri champws, sy'n cynnwys Caerfyrddin, Abertawe a Llanbedr Pont Steffan. A gaf fi ofyn, Weinidog, a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau o gwbl gyda'r brifysgol ynghylch dyfodol campws Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant?
Diolch i chi, Joyce. Siaradais ag is-ganghellor y sefydliad hwnnw yr wythnos diwethaf a rhoddodd sicrwydd pendant ynghylch dyfodol darpariaeth addysgol ar gampws Llanbedr Pont Steffan.
Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod partneriaethau rhwng busnesau ac awdurdodau addysg uwch yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf wybodaeth a sgiliau cywir i ymuno â'r gweithlu, a fydd, rwy'n siŵr, yn wahanol iawn mewn 10 mlynedd, o ystyried datblygiad awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. Yn naturiol, bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ym mhobman hogi eu sgiliau presennol neu gaffael rhai newydd hyd yn oed. Gyda hyn mewn golwg, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo sefydliadau addysg uwch i weithio gyda chyflogwyr er mwyn sicrhau bod gweithlu'r dyfodol yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i fynd i mewn i'r gweithle?
Os caf roi un enghraifft bendant i'r Aelod o'r ffordd rydym yn gwneud yn union hynny, ein rhaglen brentisiaeth gradd yw honno. Mae'r rhaglen brentisiaeth gradd yn golygu bod unigolion yn gweithio yn y cwmni am y mwyafrif helaeth o'u hamser ond yn ymgymryd â rhywfaint o astudio rhan-amser. Nid yw hynny yr un fath â meddwl bod y myfyrwyr hynny'n gwneud gradd arferol ar sail ran-amser; mae'r rhaglen a ddatblygwyd gan y brifysgol wedi'i chreu yn fwriadol mewn partneriaeth â'r busnesau sy'n cyflogi'r myfyriwr.
Rydym newydd glywed cwestiwn am y Drindod. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i weld rhai o'r bobl sy'n rhan o raglen brentisiaeth gradd ddigidol y Drindod Dewi Sant drosof fy hun—menyw ifanc a benderfynodd ddilyn y llwybr hwnnw yn 18 oed yn hytrach na'r rhaglen israddedig fwy traddodiadol. Ac rydym yn gobeithio cynyddu nifer y proffesiynau a gwmpesir gan brentisiaethau gradd yn ddiweddarach eleni, gan ganolbwyntio'n benodol ar bynciau digidol, peirianneg a phynciau STEM eraill, gan ganiatáu i fusnesau a phrifysgolion gydweithio i gyflwyno cwricwlwm sy'n llwyr ddiwallu anghenion unigolion yn ogystal â'r economi ehangach.
Ac yn olaf, cwestiwn 10—Mark Isherwood.
10. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol i mewn i addysg ôl-16? OAQ54153
Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru a sefydliadau addysg bellach i ddarparu gwasanaethau sy'n cynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n dechrau addysg ôl-16. At hynny, bydd ein diwygiadau ADY uchelgeisiol yn arwain at gynllunio, monitro ac asesu cydweithredol gwell o'r cymorth a roddir i bob dysgwr ag angen dysgu ychwanegol.
Diolch. Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi yn y Cynulliad diwethaf y byddai lleoliadau mewn colegau arbenigol ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau dysgu fel arfer yn para dwy flynedd yn awr yn hytrach na thair, ymwelais â Choleg Derwen yn Gobowen ychydig dros y ffin, sy'n derbyn myfyrwyr o Gymru a Lloegr. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar y pryd drwy ddweud bod hyn yn hyblyg; byddai'n ystyried achosion unigol yn ôl amgylchiadau ac anghenion unigol, a dangosodd y coleg i mi fod y drydedd flwyddyn yn dyngedfennol, oherwydd dyna pryd y maent yn darparu'r profiad gwaith uniongyrchol mewn partneriaeth â chyflogwyr yn lleol. Mae mam o Sir y Fflint wedi cysylltu â mi yn awr, ac mae ei mab yn mynychu'r coleg ar leoliad dwy flynedd, ac mewn cyfarfod adolygu, cafodd wybod y gall myfyrwyr o Loegr gael lleoliadau tair blynedd o hyd, ond dwy yn unig i fyfyrwyr o Gymru, ac nid yw'r hyblygrwydd a oedd ar gael yn flaenorol ar gael iddi yn awr. Beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd mewn perthynas â galluogi neu sicrhau bod myfyrwyr sydd angen y drydedd flwyddyn honno yng Nghymru yn gallu cael cyllid ar ei chyfer drwy'r prosesau priodol, neu ai 'na' yw'r ateb i bawb bellach?
Na, nid 'na' yw'r ateb i bawb o gwbl. Byddem yn disgwyl i'r rhan fwyaf o leoliadau bara dwy flynedd, ond mae disgwyl i mi, fel Gweinidog, gymeradwyo'r lleoliadau hyn, a gwn fy mod wedi cymeradwyo nifer o leoliadau tair blynedd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, am fod y lleoliadau tair blynedd hynny wedi'u dynodi a bod penderfyniad wedi'i wneud mai dyna yw'r cyfnod astudio mwyaf priodol ar gyfer myfyriwr unigol. Ac o bryd i'w gilydd, mae ceisiadau'n cael eu cyflwyno i ymestyn lleoliad dwy flynedd yn dair blynedd os yw hynny er budd gorau'r dysgwyr. Felly, mae yna hyblygrwydd llwyr o hyd yng Nghymru, ac mae natur y lleoliad, boed yn ddwy flynedd neu'n dair blynedd, neu p'un a oes angen ymestyn dwy flynedd yn dair blynedd, yn ddibynnol ar asesiad unigolyn, ac nid oes polisi cyffredinol o ddwy flynedd yn unig.
Diolch i'r Gweinidog.
Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn gan David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Rwy'n ymddiheuro, Lywydd. Roedd hynny braidd yn ddirybudd, mae arnaf ofn.
Mae cwestiwn 1 fel arfer yn cael ei ofyn a disgwylir iddo gael ei ofyn. David Rowlands.
Ddirprwy Weinidog, mae rhan fawr o fy ngwaith achos yn faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol—[Torri ar draws.]
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn. Cwestiwn 1, David Rowlands.
Rwy'n ymddiheuro. Diolch.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gweithdrefnau ar gyfer mabwysiadu gorfodol, yng ngoleuni'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion? OAQ54158
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Ein prif nod yw cynorthwyo plant i aros gyda'u teuluoedd biolegol lle bo hynny'n bosibl. Mae penderfyniadau sy'n ymwneud â gofal, yn cynnwys ar fabwysiadu, yn cael eu gwneud er budd gorau'r plentyn yn unig. Mae nifer y mabwysiadau a orchmynnir gan y llys wedi bod yn gostwng, ond rydym yn cydnabod y gall mabwysiadu gynnig teuluoedd sefydlog, cariadus a chanlyniadau da.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Mae rhan fawr o fy ngwaith achos yn ymwneud â materion sy'n gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â'r gwasanaethau mabwysiadu. Nid yw hyn yn syndod o gofio, yn rhanbarth Dwyrain De Cymru yn unig, fod oddeutu 280 o blant wedi'u hatgyfeirio i'w mabwysiadu yn 2016-17—cynnydd enfawr o 66 y cant ers y flwyddyn flaenorol.
Deallaf fod y tueddiad hwn yn debyg ledled Cymru yn ôl y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae'n ganmoladwy fod y Prif Weinidog wedi cydnabod y tueddiadau hyn, fel yr amlinellwyd yn y datganiad ddoe, ac wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau i geisio lliniaru'r hyn na ellir ond ei alw'n epidemig o fabwysiadau o'r fath. Fodd bynnag, y gweithiwr cymdeithasol sy'n gyfrifol am benderfynu a ddylid symud plentyn o'i deulu biolegol, ac fel yr amlygir isod, mae'n ymddangos bod llawer o'r penderfyniadau hyn yn rhai gwallus yn eu hanfod. Roedd un o fy achosion yn ymwneud â phlentyn a oedd wedi dioddef mân anaf, ac a gafodd ei symud o'u teulu am chwe mis, gan achosi trawma aruthrol i'w rhieni a'i neiniau a'i theidiau. Canfuwyd wedyn nad oedd unrhyw achos i'w ateb ar sail esgeulustod neu beri'r anaf yn fwriadol. Yn wir, dioddefodd y plentyn lawer mwy o anafiadau pan oedd mewn gofal, er bod y rhain yn rhai y byddai rhywun yn eu hystyried yn arferol i blentyn ifanc ar ei dyfiant. Lywydd, rydym ni, ar y meinciau hyn, yn teimlo nad oes amheuaeth—
Nid ydych yn fy annerch i; mae angen i chi ofyn eich cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog, ac ar ôl cymryd amser hir i ddod o hyd i'ch cwestiwn, rydych yn awr yn cymryd amser hir i ofyn eich cwestiwn. A wnewch chi ofyn y cwestiwn os gwelwch yn dda?
Onid yw'r Gweinidog yn cytuno bod achos pendant iawn dros ymchwilio i'r gwasanaeth mabwysiadu cyfan, yn enwedig o ystyried y gost gynyddol i bwrs y wlad?
Fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn a ddarllenasoch, yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw atal plant rhag bod angen cael eu mabwysiadu drwy geisio'u cadw gartref gyda'u teuluoedd. Felly, rydym yn buddsoddi mewn gwasanaethau ar ffiniau gofal, sydd bellach yn gweithredu ym mhob un o ranbarthau Cymru. Rydym wedi rhoi £2.3 miliwn i helpu i atal plant sydd wedi'u mabwysiadu rhag dod yn ôl i ofal, sy'n digwydd oherwydd y cymorth sydd ei angen ar gyfer mabwysiadu. Mae'r penderfyniad i fabwysiadu yn benderfyniad difrifol iawn, fel y mae'r Aelod yn ei gydnabod. Mae'n gofyn am benderfyniad gan lys, felly nid yw'n digwydd ar fympwy gweithiwr cymdeithasol. Mae wedi'i ystyried yn ofalus iawn a dylai fod yn ddewis olaf; dylid bod wedi gwneud pob ymdrech cyn cyrraedd y sefyllfa lle mae mabwysiadu'n digwydd, yn enwedig os yw'n groes i ddymuniadau'r rhieni biolegol naturiol. Felly, credaf mai'r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yw ceisio newid y cydbwysedd. Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr fod llai o blant yn dod i mewn i ofal ac yna angen cael eu mabwysiadu, ac mewn perthynas â'r rhai sy'n sicr angen cael eu mabwysiadu, ar ôl gwneud pob ymdrech i atal hynny rhag digwydd, fod cymaint o gymorth â phosibl yn cael ei roi i sicrhau bod y mabwysiadau hynny'n llwyddiannus.
Yn y datganiad ddoe ynglŷn â gwella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal, soniasoch, Weinidog, eich bod wedi gweld cynnydd o 34 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru dros y 15 mlynedd diwethaf, ac rydych wedi addo edrych ar hyn yn ofalus. Rwy'n meddwl tybed a ydych, neu a fyddech, yn ystyried lansio ymchwiliad i'r cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal fel rhan o'r broses hon?
Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn gwybod beth sydd wedi achosi'r cynnydd hwn yn nifer y plant, a gwn fod galwadau wedi bod i edrych ar pam fod hyn wedi digwydd mewn gwirionedd. Mae'n debyg ei fod wedi digwydd am sawl rheswm, ac mae'n anodd iawn dewis un rheswm penodol. Ond yn sicr, yn y gwaith rydym yn ei wneud yn awr i geisio atal plant rhag dod i mewn i ofal—hynny yw, mae 34 y cant yn ffigur brawychus ac yn sicr, nid ydym eisiau i hynny barhau, a dyna pam rydym yn gweithio gyda'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru i geisio lleihau'r ffigur hwnnw. Yn ystod y gwaith dwys iawn a wnawn, byddwn yn edrych i weld beth arall sydd angen ei wneud, oherwydd mae'n frawychus, ac os yw'n parhau i ddigwydd, bydd hynny'n newyddion drwg iawn.
Rwy'n cefnogi eich polisi yn llwyr a'r cyfeiriad y mae'n mynd iddo, credaf fod y broblem yn ymwneud â lleihau'r ffigur hwnnw, oherwydd, ar lawr gwlad, mae'n ymddangos bod plant yn mynd i mewn i ofal yn llawer rhy hawdd. Felly, fy nghwestiwn yw: sut y gallwn rymuso rhieni? A allem greu gwasanaeth eiriolaeth proffesiynol i rieni? Oherwydd mae'n ymddangos bod yna rywbeth cyffredinol sy'n cael ei alw'n osgoi niwed emosiynol yn y dyfodol, ac mae plentyn ar ôl plentyn yn mynd i mewn i ofal, yn cael eu rhoi i'w mabwysiadu. Rwy'n ceisio cefnogi un fam ar hyn o bryd ac mae ei chysylltiad â'r gwasanaethau plant wedi difetha ei bywyd. Penderfynodd gael erthyliad er mwyn atal ei phlentyn rhag cael ei roi mewn gofal, ac mae'r teulu cyfan wedi'i ddistrywio. Yr hyn sy'n fy nharo, gydag achos ar ôl achos, yw'r diffyg hawliau llwyr a'r diffyg grymuso. Ac os ydych yn rhiant sydd wedi bod drwy'r system ofal eich hun, rydych yn cael eich trin mewn modd gwarthus weithiau. Felly, sut y gallwn rymuso rhieni?
Un o'r pethau rydym yn ei wneud yw sefydlu'r prosiect Myfyrio, ac efallai y bydd yr Aelod yn gwybod amdano, mae ar gyfer menywod sydd eisoes wedi wynebu plentyn yn cael ei gymryd oddi wrthynt, felly mae ganddynt un plentyn yn y system gofal yn barod. Felly, mae'r prosiect Myfyrio yn ymdrech i geisio atal hynny rhag digwydd eto. Felly, unwaith eto, mae'r prosiect hwnnw wedi'i gyflwyno ledled Cymru. Nid yw'n ddigon, mae angen gwneud llawer mwy, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid i ni roi cymaint o gymorth ag y gallwn i rieni allu cadw eu plant, ac mae gennym ffordd bell i fynd eto. Ond rydym yn gwneud hyn gyda'r cymorth rydym yn ei roi ac yn benodol, buaswn yn argymell bod yr Aelod yn edrych ar y prosiect Myfyrio, sy'n edrych ar y math arbennig o achos y mae'n ei ddisgrifio.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion diweddar i ategu gofal sylfaenol gyda chymorth gan fferyllfeydd? OAQ54167
Mae gan fferylliaeth gymunedol rôl bwysig i'w chwarae'n darparu gofal sylfaenol yng Nghymru heddiw. Mae cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud drwy drefniadau cytundebol newydd sy'n cefnogi'r gwaith o gydweithredu, gwella ansawdd a darparu gwasanaethau clinigol. Mae Dewis Fferyllfa bellach ar gael mewn 98 y cant o fferyllfeydd ledled Cymru ac rwyf wedi darparu dros £4.5 miliwn eleni i wella hyfforddiant yn y proffesiwn.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n gadarn o blaid polisi Llywodraeth Cymru o ddefnyddio mwy ar fferyllwyr i ategu gofal sylfaenol, ond rwyf wedi clywed am ddau achos, yn Nwyfor Meirionydd yn fy rhanbarth, lle roedd cleifion wedi gadael adolygiad o'r defnydd o feddyginiaethau gyda'r fferyllydd o dan y gred gyfeiliornus fod disgwyl iddynt addasu eu meddyginiaeth. Nid oedd ffynhonnell y dryswch yn hollol glir yma, ac fe gafodd ei gywiro gan eu meddyg teulu yn ddiweddarach, felly ni wnaed unrhyw niwed mewn gwirionedd. Ond mae'n ymddangos y gallai fod problem systemig yma lle mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd gael cofnod fod yr adolygiad o'r defnydd o feddyginiaethau wedi digwydd, a rhaid i'r claf arwyddo hwnnw, ond yn yr achosion hyn, nid oedd unrhyw gofnod ysgrifenedig, naill ai'n electronig neu ar bapur, a oedd yn rhoi manylion y cyngor neu'r argymhellion a roddwyd yn yr adolygiad. Mae'r risg diogelwch posibl i glaf sydd â phroblemau gyda'r cof neu ddealltwriaeth yn amlwg, felly tybed beth y gellid ei wneud i gyflwyno archwiliad rheoleiddiol mwy trylwyr ar gyfer adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau a gynhelir gan fferyllwyr i geisio lleihau'r problemau hyn hyd y gellir.
Mae risg bob amser wrth ryngweithio â'r proffesiwn gofal iechyd, lle rhoddir cyngor, ac mae naill ai wedi'i ysgrifennu neu heb ei ysgrifennu o ran sut y mae'r person yn gallu neu'n dewis defnyddio'r wybodaeth honno a'r cyngor hwnnw. Rhan o bwrpas cyflwyno Dewis Fferyllfa yw ei fod yn caniatáu i fferyllwyr eu hunain, fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a reoleiddir, wneud cofnodion ar gofnod y meddyg teulu. Gwelwn hynny eisoes gyda'r gwasanaeth mân anhwylderau sydd wedi cael ei gyflwyno. Mae gennyf bob amser ddiddordeb mewn clywed mwy o enghreifftiau penodol o'r hyn sydd wedi digwydd, os yw'n arfer unigol neu os yw'n dweud rhywbeth wrthym ar lefel system. Felly, os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf gyda manylion y digwyddiad, gallaf ystyried hynny gyda swyddogion a chyda'r bwrdd iechyd, boed yn broblem unigol i'w datrys neu'n broblem y mae angen i ni roi sylw iddi ar lefel system.
Weinidog, roeddwn yn falch o ymweld â fferyllfa gymunedol yn fy etholaeth yn gynharach yr wythnos hon, a chefais sgwrs gadarnhaol iawn gyda'r fferyllydd am y gwasanaethau y mae'n eu cynnig ac yn wir, am rai o'r heriau y mae'n eu hwynebu hefyd. Un o'r materion a gododd oedd system gyfrifiadurol y GIG, a ddefnyddir i storio gwybodaeth am gleifion. Mae'n teimlo ei fod yn cael ei lesteirio'n fawr gan y broses hirwyntog o fewngofnodi i system gyfrifiadurol sy'n ymddangos fel pe bai'n cael trafferth i lawrlwytho gwybodaeth sylfaenol. Er bod yn rhaid cadw data personol yn ddiogel, wrth gwrs, dywedir wrthyf y gall gymryd hyd at 20 munud mewn gwirionedd i fynd drwy'r drefn ddiogelwch ar gyfer mewngofnodi er mwyn darparu gwasanaeth i'r claf a ddylai gymryd oddeutu pum munud yn unig. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bwysig cael gafael ar wybodaeth mewn modd amserol, yn enwedig pan fo claf yn aros. A wnaiff ef a'i swyddogion edrych ar y mater hwn felly, i sicrhau bod fferyllfeydd yn gallu darparu gwasanaeth effeithlon, o gofio bod fferyllfeydd yn darparu mwy a mwy o wasanaethau i gleifion?
Ie, unwaith eto, os gall yr Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion y broblem, gallaf edrych i weld a yw'n broblem unigol neu'n broblem ar lefel system gyfan i ni fynd i'r afael â hi. Ond yn gyffredinol, mae gennym raglen uchelgeisiol eisoes ar gyfer fferylliaeth gymunedol fel rhan o'r tîm gofal sylfaenol fel ag y mae, a rôl fwy i'w chwarae yn y dyfodol—nid y system anhwylderau cyffredin yn unig, ond hefyd pam ein bod yn mabwysiadu dull sy'n wahanol i wledydd eraill yn y DU. Dros y ffin, mae gostyngiad ariannol o 7 y cant mewn fferylliaeth gymunedol; mae dros 120 o fferyllfeydd cymunedol wedi cau. Rydym wedi cynnal ein buddsoddiad, rydym wedi ei gynyddu, mae gennym fwy o uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn mynd ati'n fwriadol i gyflwyno mynediad at systemau meddygon teulu i sicrhau bod fferyllwyr yn gallu mewnbynnu gwybodaeth arnynt, ac mae Dewis Fferyllfa wedi cael ei gynllunio i'n helpu i ddarparu hynny: mynediad at wybodaeth fel ei bod ar gael, a bydd hynny wedyn yn ein galluogi i ddarparu mwy fyth o wasanaethau yn y sector fferylliaeth gymunedol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r clefyd llygaid ceratoconws, sy'n gallu arwain at gleifion yn colli eu golwg yn gyfan gwbl. A wnewch chi egluro pam nad yw'r driniaeth gydnabyddedig ar gyfer y clefyd hwn ar gael drwy GIG Cymru?
Rwyf wedi gohebu â nifer o Aelodau ar hyn mewn gwahanol rannau o'r wlad, ac wedi trafod rhai o'r heriau. Mae'n ymwneud â'r gymysgedd o sgiliau sydd gennym a'n gallu i ddarparu'r driniaeth gywir fel yr argymhellwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae'n rhywbeth rydym yn gweithio arno'n fwriadol, ac fel rwy'n dweud, rwyf wedi gohebu ag Aelodau o wahanol bleidiau yn ei gylch. Mae'n ymwneud â chapasiti a gallu ein system i gyflawni popeth y byddem yn dymuno ei wneud.
Weinidog, am £2,000, gallwch fynd i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr—a oedd yn un o ysbytai'r GIG y tro diwethaf i mi edrych—a gallwch dalu £2,000 i lawfeddyg GIG roi'r driniaeth i chi yn ei amser sbâr sy'n achub eich golwg yn eich llygad. Ni allaf weld sut y mae hynny'n ymwneud â chapasiti; rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag ewyllys. A wnewch chi addo edrych ar y broses hon? Mae'n cael ei galw'n groesgysylltu: i'r rhai nad ydynt yn gwybod, mae eich cornbilen, yn hytrach na'i fod yn gromlin esmwyth fel y blaned, yn ymdebygu i gadwyn o fynyddoedd. Mae golau LED yn helpu i'w wastadu—weithiau mae'n dod yn ôl ond nid bob amser. Ond mawredd, os gallwch achub eich golwg am chwe mis, blwyddyn, neu ddwy flynedd arall am £2,000, ni allaf ddeall pam nad ydym yn ei wneud. A wnewch chi edrych ar hyn os gwelwch yn dda?
Buaswn yn hapus i edrych arno, ond nid mater o ewyllys ydyw. Mae bob amser yn ymwneud â sut y defnyddiwn yr adnoddau sydd gennym. Ac nid ag arian yn unig y mae'n ymwneud, ond â phobl—. Ac fe fyddwn yn cael dadl yn nes ymlaen heddiw am fesurau gofal llygaid, a’r penderfyniad sydd gennym fel Llywodraeth, ynghyd â’r gwasanaeth iechyd, i atal llawer o bobl rhag colli eu golwg, a chael mesurau sy’n hybu’r gweithgaredd hwnnw, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â cholli golwg cyn iddo ddigwydd mewn gwirionedd.
Weinidog, mae'n ymwneud yn llwyr ag arian ac adnoddau. Ac fel y dywedais, mae gennych yr adnoddau yno—gallaf eich rhoi yn fy nghar a’ch gyrru i lawr yno a’u dangos i chi. Nid yw'r arian yn fawr iawn. Os ydych chi'n siarad am driniaeth gostus iawn rwy’n deall yn iawn y gallech edrych ar y dadansoddiad o gost a budd. Os ydych yn siarad am salwch lle mae nifer o atebion gwahanol, a bod hwn ond yn un o’r rheini, gallaf ddeall yn iawn os ydym yn dewis peidio â’i gefnogi am ba reswm bynnag. Ond dyma'r unig driniaeth. Pan fyddwch wedi mynd yn ddall, mae'n rhaid i chi fynd ar restr aros am drawsblaniad cornbilen—nid ydynt yn hawdd. Felly, mae fy etholwr, sy'n 19 oed, ac yn fyfyriwr, wedi benthyg £2,000 gan ei gyflogwr, am na ddywedodd neb wrtho am y cynllun cyllido cleifion unigol. Benthyciodd £2,000, a chafodd driniaeth ar un o'i lygaid; mae bellach yn chwilio am £2,000 i wneud y llygad arall. Mae'n 19 oed—nid yw am fynd yn ddall, mae ganddo ei oes gyfan o’i flaen. A'r cwestiwn y gofynnodd i mi ei ofyn i chi yw: 'Pam fod GIG Cymru yn hapus i fy ngweld yn colli fy ngolwg o ran y gost o £2,000?'
Nid yw GIG Cymru yn hapus i weld pobl yn colli eu golwg. Rwy'n credu bod honno'n ffordd anffodus iawn o ddod â'r cyfraniad i ben. Oherwydd mae hyn yn ymwneud ag adnoddau a chapasiti, mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl ar gael i wneud y gwaith ac mae’n ymwneud â chael system sy’n gallu cyflawni mewn ffordd sy’n gwbl deg. Rwy'n fwy na hapus i gyfathrebu â'r Aelod, i fynd i'r afael â'r materion y mae'n eu codi, a'r pwynt ehangach ynglŷn â’r modd y mae’r system gofal iechyd gyfan yn mynd i’r afael â hynny.FootnoteLink Oherwydd mae’r GIG yn sefydliad sy'n gwneud llawer iawn o waith ac yn cyflawni manteision gwych i’r cyhoedd, ond mae yna le bob amser i wella. Ac rwy'n gobeithio y gallwn gydnabod hynny yn ein holl ymwneud yn y Siambr a thu hwnt.
Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau oren wedi mwy na dyblu, o tua 12 munud i tua 26 munud, dros y tair blynedd ddiwethaf. A ydych chi'n meddwl bod hynny'n bwysig?
Ydy, mae'n bwysig. Ond yr her a osodwyd gennym ar gyfer ein system ambiwlans yw blaenoriaethu’r rhai sydd â’r angen mwyaf, lle bydd yr ymateb cyflymaf yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Dyna pam—cyn i chi ddod i’r Siambr y tro hwn, rhaid cyfaddef—y cynhaliwyd proses yr adolygiad clinigol, er mwyn deall pa amgylchiadau a ddylai gael amser ymateb o wyth munud, a pha rai nad oedd yn galw am ymateb felly, ond a fyddai’n dal i gael ymateb golau glas. Ac mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym ei fod yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sydd yn y categori wyth munud—y categori coch—os oes ymateb cyflym iawn. Bydd y rhai yn y categori oren angen gofal brys a byddant yn cael ymateb golau glas, ond mae llai o frys, a bydd yn gwneud llai o wahaniaeth. Ac mewn gwirionedd—ac rwyf wedi ailadrodd hyn sawl tro pan fyddwn yn siarad am amseroedd ymateb ambiwlansys—mae’r dull yr ydym wedi arwain arno yma yng Nghymru wedi cael ei efelychu ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth yr SNP yn yr Alban wedi mabwysiadu ymagwedd eithaf tebyg; mae hyd yn oed y Ceidwadwyr yn Lloegr wedi benthyca ein dull o weithredu, er na chlywch unrhyw Weinidog Ceidwadol yn codi i ddweud eu bod yn gwneud hynny.
Nid wyf yn meddwl mai’r dull cyffredinol o weithredu sy’n fy mhoeni, ond yr effeithiau canlyniadol ar gyfer cyflyrau penodol. Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan fy swyddfa fod 4,038 o bobl wedi bod yn aros am dros awr i ambiwlans gyrraedd ar ôl iddynt gael strôc, rhwng mis Ionawr 2018 a mis Mawrth eleni. Mae strôc yn argyfwng sy'n bygwth bywyd; pan nad ydynt yn bygwth bywyd, gallant ddinistrio bywydau pobl yn llwyr. A yw'n dderbyniol fod gennym dros 4,000 o bobl yn aros am dros awr gyda’r argyfwng meddygol hwn sy’n bygwth bywyd mewn llawer o achosion ac sy’n peri gofid mawr iawn?
Na, dyna pam y cychwynnais y broses adolygu oren a gynhaliwyd—eto dan arweiniad clinigwyr sy'n gweithio yn y gwasanaeth. Rhoddais ddatganiad ar hyn o fewn yr ychydig fisoedd diwethaf—ar gyflwyno’r rhaglen ddiwygio a gwella sydd wedi digwydd. Rwyf wedi cyfarwyddo Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r pwyllgor gwasanaethau ambiwlans argyfwng i gyflawni'r rhaglen waith honno a darparu'r gwelliant sydd ei angen ac sy’n bosibl. Felly, nid yw hwn yn faes lle rydym yn llaesu dwylo—ymhell o fod. Gwnaethom gynnydd gwirioneddol mewn gofal iechyd yn ein system drwy newid y ffordd yr ydym yn mesur ac yn ysgogi perfformiad o fewn y system ambiwlans. Rydym wedi cael adolygiad i edrych ar y categori oren a pha gynnydd pellach y gallwn ei wneud. Dyna rwy'n benderfynol o'i wneud a dyna y treuliais beth amser ar fy nhraed yn ymateb i gwestiynau yn ei gylch dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.
Yn wir, fe wnaethoch, Weinidog, ac rwy'n disgwyl y byddwch yn parhau i fod angen ymateb i’r cwestiynau hynny hyd nes y cawn atebion y mae ein hetholwyr yn gwbl fodlon â hwy.
Rydych chi'n gwybod pa mor ddinistriol, rwy'n gwybod—nid oes angen i mi ddweud wrthych pa mor ddinistriol y gall ôl-effeithiau strôc fod. Rydych chi hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw hi i’r llwybr cyfan, o’r alwad argyfwng i’r driniaeth ei hun, gael ei wneud mewn modd amserol. Mae yna gostau i hynny, ond mae yna arbedion costau enfawr posibl hefyd, oherwydd os rhoddir triniaeth yn ddigon cyflym, rydym yn mynd i weld cleifion yn gwella’n llawn, lle gallent fod yn ddibynnol yn barhaol ar ofal iechyd a gofal cymdeithasol fel arall.
Nawr mae’r Gymdeithas Strôc wedi galw arnoch i osod targedau o amser yr alwad argyfwng i ddarparu'r driniaeth. Mae hynny'n cael ei wneud mewn mannau eraill. Rwy'n falch iawn o’ch clywed yn dweud, ac rwy'n gwybod ei fod yn wir, fod Llywodraethau eraill yn dysgu o rai o’r pethau da yr ydym yn eu gwneud yma yng Nghymru ym maes gofal iechyd. A yw hon yn enghraifft o rywbeth y gallech fod angen ei ddysgu o rywle arall? Rydych yn barod i osod set o dargedau rhwymol ar gyfer rhai agweddau ar wasanaethau, sy'n gwbl gywir. A wnewch chi ailystyried eich penderfyniad i beidio â gosod targed rhwymol ar hyn o bryd ar gyfer yr amser triniaeth, o’r alwad argyfwng i ddarparu'r driniaeth, ar gyfer cleifion sy’n dioddef strôc?
Rwy'n deall yr alwad a wnaed gan y Gymdeithas Strôc; rwy'n deall y rheswm pam y gwnaethant yr alwad. Ond unwaith eto, rydym newydd gael adolygiad dan arweiniad clinigol o'r categori oren ac fe wnaeth ystyried hyn. Mae'r Gymdeithas Strôc yn rhan o'r gwaith a wneir i symud ymlaen ar hynny. Ac unwaith eto, os yw'r dystiolaeth yn newid, yna rwy'n fwy na pharod i edrych eto ar y dystiolaeth honno i weld ai dyna’r penderfyniad cywir o hyd. Ond ar hyn o bryd, byddai’n anonest i mi ddweud fy mod yn mynd i edrych eto ar adolygiad diweddar a gynhaliwyd, a minnau wedi adrodd i’r Siambr yn yr ychydig fisoedd diwethaf ar y gwaith a amlinellais eisoes. Nid yw hynny'n golygu ei fod hwnnw'n benderfyniad a fydd yn aros am byth; mae'n golygu, ar hyn o bryd, nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi’r alwad a wnaed gan y Gymdeithas Strôc. Ond dylem bob amser fod yn barod i ddysgu a chydnabod yr angen, pan fo’r dystiolaeth yn newid, i newid penderfyniadau er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn darparu'r gwasanaeth iawn i bobl ledled y wlad.
Llefarydd Plaid Brexit, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae cadeirydd ymadawol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi dweud bod swyddogion y bwrdd iechyd lleol yn cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn tair neu bedair galwad gynadledda y diwrnod gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n eich cyhuddo o ficroreoli’r bwrdd iechyd ac o fod yn rhwystr rhag datrys y problemau sy’n wynebu’r bwrdd iechyd. Weinidog, a ydych yn cytuno â'r dadansoddiad fod eich Llywodraeth yn atal y bwrdd iechyd rhag gwneud gwelliannau i’r GIG yn fy rhanbarth?
Na, nid wyf yn rhannu barn cadeirydd ymadawol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod yna gysylltiad, ac mae’r Aelodau yn y lle hwn ac yn y pwyllgorau yn annog yn rheolaidd, os nad yn mynnu, fy mod i a fy swyddogion yn chwarae rhan hyd yn oed yn fwy yn dwyn rhannau o’r gwasanaeth iechyd i gyfrif ac yn ymyrryd ar lefel hyd yn oed yn fwy sylfaenol na’r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Ond yn sicr, drwy’r gaeaf, ceir galwadau cynadledda rheolaidd â phob bwrdd iechyd ynglŷn â pherfformiad, yn enwedig yn y system gofal heb ei drefnu. Mae yna bob amser gydbwysedd i’w daro lle rydych yn ymyrryd a lle rydych yn gofyn a lle rydych yn craffu a lle rydych yn gadael i rannau o’r system y gallwch ymddiried ynddynt fwrw yn eu blaen. Mae’n rhan o’r rheswm pam fod gennym fframwaith uwchraddio sy’n gosod y lefel o hyder mewn gwahanol rannau o’n system. Ond ar rai o'r meysydd gweithgaredd allweddol mawr, lle rydym yn cydnabod bod yna broblemau go iawn i gleifion, rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda’r byrddau iechyd, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny.
Ond buaswn yn dweud, fodd bynnag, gan ein bod yn siarad am gadeirydd ymadawol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, eu bod wedi wynebu heriau go iawn yn y bwrdd iechyd yn ystod ei gyfnod yn ei swydd fel cadeirydd ac mae wedi bod yn rhan o’r gwaith o sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r heriau hynny. A cheir llwybr gwella gwirioneddol bellach i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a gall Andrew Davies hawlio clod go iawn am fod yn rhan o hynny. Nid ydym bob amser yn cytuno, ac ni wnaethom hynny pan oedd ychydig yn fwy gweithredol mewn gwleidyddiaeth etholedig, ond mae hynny'n rhan o wneud swydd fel hon—nid yw pawb yn cytuno â chi, gan gynnwys pobl yn eich plaid eich hun, fel y mae pawb ohonom yn gwybod.
Diolch, Weinidog. Tan fis Ebrill, eleni, roedd trigolion Pen-y-bont ar Ogwr yn dod o dan y bwrdd iechyd hwnnw. Erbyn hyn maent yn dod o dan Gwm Taf, ac er eu bod yn dal i fod yn destun trefniadau uwchraddio ac ymyrryd ar y cyd, nid ydynt mor ddrwg â rhai Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn flaenorol. Fodd bynnag, nid yw hynny'n helpu cleifion ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yr wythnos diwethaf, bu i un o fy etholwyr hŷn, sydd hefyd yn gyfaill, gael strôc a chafodd anaf o ganlyniad i hynny. Arhosodd am bron i dair awr am ambiwlans a hefyd arhosodd am naw awr yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg am fod Ysbyty Tywysoges Cymru yn llawn. Mae'n 85 oed. Felly, Weinidog, pryd y gall cleifion sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddisgwyl gweld gwelliannau i'r GIG o dan Gwm Taf?
Cwm Taf Morgannwg, fel y bwrdd iechyd newydd, sy'n gyfrifol am weithredu'r gwasanaeth iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr erbyn hyn, ac rwy'n disgwyl gweld gwelliant graddol ym mhob rhan o'n gwasanaeth ac nid yn ardal Cwm Taf Morgannwg yn unig. Unwaith eto, os edrychwn ar brofiad rheolaidd pobl yn ein system gofal iechyd, cânt eu gweld yn ddi-oed ac yn dosturiol. Roeddwn yn meddwl am nifer o ddigwyddiadau heddiw lle mae gofal iechyd yn mynd o chwith, mae'n cael effaith enfawr ar fywydau pobl, o ran y profiad o ofal iechyd a phan fydd pethau'n mynd o chwith yn dechnegol mewn gofal iechyd yn ogystal. Ond hefyd, mae ein system gofal iechyd yn system o ansawdd uchel ac mae'n rhan o'r rheswm pam y mae i'w weld mor amlwg pan nad yw'n mynd yn iawn. Os yw'r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf, neu'n wir yn uniongyrchol at y bwrdd iechyd, i gael ymchwiliad i'r amgylchiadau unigol, buaswn yn hapus i edrych arno. Ond mae gennyf ddiddordeb, wrth gwrs, yn y ffordd yr ydym yn gwella'r system gyfan er mwyn sicrhau bod llai a llai o bobl yn cael y profiad a ddisgrifiwyd ganddi a bod mwy a mwy o bobl yn cael y profiad safonol o ofal amserol a thosturiol o ansawdd uchel.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ54183] yn ôl. Cwestiwn 4—John Griffiths.
4. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru? OAQ54163
Un o uchelgeisiau canolog y Llywodraeth hon yw bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle teg i fyw bywyd iach, waeth beth yw eu cefndir neu ble maent yn byw. Byddwn yn parhau i fabwysiadu dull Llywodraeth gyfan o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd.
Weinidog, un mater pwysig y mae'n rhaid inni wneud cynnydd pellach arno yw nifer y rhai sy'n smygu yng Nghymru. Diolch byth, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol, ond fel arfer, mae mwy o waith i'w wneud, ac mae'n arbennig o berthnasol, rwy'n credu, i rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Dangosodd yr arolwg diweddar o iechyd a lles myfyrwyr yng Nghymru fod 9 y cant o ddisgyblion ysgol blwyddyn 11, pobl ifanc 15 i 16 oed, yn smygu'n rheolaidd, ac mae hynny wedi aros fwy neu lai'n statig ers 2013-14. Ac yn yr ardaloedd lleiaf cefnog, yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae'r nifer sy'n smygu yn y grŵp oedran hwnnw wedi codi o 4 y cant i 6 y cant. Gwn fod ASH Cymru yn credu bod angen inni dargedu camau gweithredu'n fwy effeithiol yn ein cymunedau tlotach a mesur cynnydd ar y mesurau a dargedir yn rheolaidd. A gytunech mai dyna un rhan o'r ffordd ymlaen wrth ymdrin â'r materion pwysig hyn sy'n ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru?
Mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol nid yn unig yn yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym, ond lle mae arloesedd yn ogystal i rannau o'n system gofal iechyd a'r canlyniadau a gawn a'r realiti fod anghydraddoldebau iechyd yn bodoli ym mron pob agwedd ar brofiad a chanlyniadau. Gwn fod gan ASH ddiddordeb arbennig mewn datblygu gwasanaethau sydd wedi'u hanelu at bobl ifanc ac sy'n effeithiol am gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn rhaglenni rhoi'r gorau i smygu ond yn yr un modd, negeseuon am beidio â dechrau smygu yn y lle cyntaf. Gwn fod fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd ag ASH Cymru. Ac fel y dywedais, rwyf bob amser yn ymddiddori yn y sail dystiolaeth y maent yn ei datblygu, ac yn achos rhai o'u hymyriadau, rydym wedi rhoi cymorth i rai o'r rheini yn y gorffennol, ond bydd yn rhaid i hyn fod yn faes gweithgarwch sylweddol, oherwydd yn ogystal ag annog pobl i roi'r gorau i smygu, y ffordd orau wrth gwrs yw inni beidio â dechrau smygu yn y lle cyntaf. Mae gwersi bywyd ac agweddau a geir cyn i bobl adael yr ysgol yn rhan bwysig iawn o hynny.
Weinidog, yng Nghymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, mae anghydraddoldebau iechyd amlwg rhwng y rheini sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig a'r rheini sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf cefnog. Nid yw gordewdra ymhlith plant yn eithriad. Mae mwy na 28 y cant o blant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig naill ai'n rhy drwm neu'n ordew o gymharu â llai na 21 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae dwywaith cymaint o'r plant sy'n byw ym Merthyr Tudful yn ordew o'u cymharu â'r rheini sy'n byw ym Mro Morgannwg. Gan fod mynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant yn ymwneud â mwy na chylch gwaith yr adrannau iechyd, Weinidog, beth a wnewch i annog gweithredu ar y cyd ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem hon yng Nghymru?
Wel, mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym wrthi'n ei ystyried gyda'n strategaeth pwysau iach ledled Cymru, a sut y defnyddiwn y pwerau sydd gennym ar draws Llywodraeth Cymru ym mhob maes datganoledig i geisio gwneud gwahaniaeth go iawn—yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo, yr hysbysebu ac yn wir, yr hyn y gallwn ei wneud nid yn unig i wneud dewisiadau nad ydynt yn iach ynglŷn â bwyd a diod yn fwy anodd, ond i hyrwyddo dewisiadau mwy iach mewn modd cadarnhaol. A buaswn yn dweud, o ystyried yr adeg yr ydym yn byw drwyddi a'r ras am yr arweinyddiaeth nad wyf yn cymryd rhan ynddi sy'n digwydd ar hyn o bryd, mae un o'r ymgeiswyr yn awgrymu cael gwared ar y dreth siwgr. Nid wyf bob amser yn cytuno â'r hyn y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn ei wneud—a'r rhan fwyaf o'r amser nid wyf yn cytuno â'r hyn y mae'n ei wneud—ond roeddwn yn meddwl bod cyflwyno'r dreth siwgr yn beth da i'w wneud. Nid wyf yn credu bod unrhyw dystiolaeth i gefnogi cael gwared ar y dreth siwgr fel peth da i'n helpu i fynd i'r afael â gordewdra ar draws y Deyrnas Unedig. A gobeithio y bydd yr Aelodau Ceidwadol sydd â phleidlais yn y ras am yr arweinyddiaeth yn ystyried hynny ac effaith unrhyw ddewisiadau eraill a gaiff eu gwneud yn y dyfodol, oherwydd caiff effaith wirioneddol ar ein teuluoedd a'n plant yma yng Nghymru ac nid yn unig mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd cymunedol? OAQ54184
Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 'Cymru Iachach', sy'n nodi ein gweledigaeth a'n cynllun gweithredu ar gyfer gwasanaethau iechyd a lles di-dor, cynaliadwy a hygyrch yn ein cymunedau.
Wel, diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi ac yn cymeradwyo'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl i ddychwelyd i'w cartrefi ac yn ôl i'w cymunedau, oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod y gallwch wella yn eich cartref os ydych yn teimlo'n fwy cyfforddus, ond mae'n rhaid i chi fod yn ddiogel ac mae'n rhaid i chi gael cymorth. Ac i wneud hynny, mae angen sawl peth. Rydych eisoes wedi sôn am fferyllfeydd cymunedol fel enghraifft o wasanaethau gofal iechyd cymunedol, ond mae llawer o rai eraill, ac mae darparu adnoddau ar gyfer hynny yn un o'r materion sy'n codi. Mae angen inni sicrhau bod gan y gwasanaethau hynny ddigon o adnoddau fel y gallant gael cymorth pan fydd pobl yn dychwelyd adref.
Nawr, ar sawl achlysur rwyf wedi cael sefyllfaoedd lle mae nyrsys ardal a nyrsys cymunedol yn ei chael yn anodd wynebu peth o'r llwyth gwaith sydd ganddynt, ac mae hynny'n ychwanegol, efallai, at bractisau a phractisau meddygon teulu'n uno ac yn wynebu anawsterau. Nawr, mae croeso i chi ddod i gwm Afan i weld rhai o'r heriau y maent yn eu hwynebu yn y gymuned honno, mewn gwasanaethau meddygon teulu ac mewn gwasanaethau cymunedol, ond beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau adnoddau ar gyfer y gwasanaethau hynny pan fydd heriau gyda gwasanaethau meddyg teulu hefyd, fel nad oes gennym un rhan o'r gwasanaeth yn methu a rhan arall yn ceisio dal i fyny ac yn darparu'r hyn na ddylai fod yn ei ddarparu?
Mae hynny'n rhan ganolog o'n dull gweithredu ar y cyd yn 'Cymru Iachach', ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Ac os edrychwch ar brosiectau'r gronfa trawsnewid yn Aberafan ac yn ehangach, nid yn unig yn sir Castell-nedd Port Talbot, ond ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot hefyd, fe welwch Ein Cynllun Cymdogaeth, sy'n ymwneud ag adeiladu ar asedau cymunedol, gan ddeall beth sydd eisoes ar gael i gynorthwyo pobl i wneud dewisiadau gwahanol. Nid ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yn unig y mae hynny; mae'n ymwneud â'r holl asedau gwahanol mewn cymdogaeth. Caiff ei arwain o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot o'r bwrdd iechyd a bwrdd y bartneriaeth ranbarthol. Ond hefyd, mae pob un o'r saith clwstwr gofal sylfaenol yn gweithio gyda'i gilydd ar ddull system gyfan. Felly mae'n golygu edrych yn gadarnhaol ar sut y maent yn deall beth y gallent ac y dylent ei wneud yn wahanol—nid meddygon teulu'n unig, nid y tîm amlddisgyblaethol wedi'i grwpio o amgylch pob un o'r practisau yn unig, ond y gwasanaethau cymunedol eraill sy'n bodoli.
Ar y pwynt cyffredinol, gan ein bod yn mynd i edrych drwy gynnydd o fewn y gronfa drawsnewid, buaswn yn hapus i ystyried ymweld ag un o'r clystyrau hynny yn eich ardal i weld y gwaith y maent yn ei wneud ar lawr gwlad.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a oedd gennych i'w ddweud am asedau cymunedol, Weinidog. Mae eich cynllun gweithredu ar ddementia ar gyfer 2018-22 yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cael awdurdodau lleol a byrddau iechyd i weithio gyda chymunedau lleol a'r cyrff trydydd sector ynddynt i'w hannog i wneud gwasanaethau'n hygyrch i bobl â dementia, yn ogystal â'u teuluoedd a'u gofalwyr. A allwch gadarnhau bod byrddau iechyd a chynghorau'n gwneud hynny yn fy rhanbarth i, a sut y mae gwasanaethau, ar y cam hwn, yn edrych yn wahanol i deuluoedd yr effeithir arnynt gan ddementia?
Wel, rydym wedi cael sgyrsiau rheolaidd, a byddaf yn adrodd yn ôl ar weithrediad y strategaeth ddementia. Roeddwn yn y grŵp trawsbleidiol diweddar hefyd, ac mae fy swyddogion yn mynychu hwnnw hefyd, er mwyn gallu nodi'r hyn sy'n gweithio. Felly, bydd y buddsoddiad hwnnw'n digwydd dros amser, a bydd fframwaith newydd yn cael ei gyflwyno ar weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd, gan mai un o rannau mawr y cynllun yw rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau a chysylltu pobl â'i gilydd. Felly, credaf y byddwch yn gweld cynnydd yn cael ei wneud ym mhob rhan o'r wlad, nid yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn unig, ynghyd â'i bartneriaid awdurdod lleol. Ac wrth gwrs, mae gennym grŵp sicrwydd sy'n cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia eu hunain, i gadarnhau a yw'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu fesul cam ac a ydynt yn gweld y gwahaniaeth hwnnw ar lawr gwlad.
John Griffiths.
Nid oes gennyf gwestiwn atodol ar hyn, Lywydd.
Ocê. Mae cwestiwn 6, [OAQ54146], wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 7, Mick Antoniw.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau i fynd i'r afael â chaethiwed i gamblo yng Nghymru? OAQ54152
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar draws y portffolios i nodi camau y gellir eu cymryd i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a'r effaith y mae'n ei chael ar iechyd ac ar ein cymdeithas ehangach. Rydym yn parhau i gynnal trafodaethau i benderfynu sut y gellir defnyddio gwasanaethau presennol i gefnogi pobl sy'n gaeth i gamblo.
Weinidog, diolch i chi am yr ateb hwnnw. Down yn fwyfwy ymwybodol ar draws y DU gyfan a thu hwnt o'r epidemig o gaethiwed i gamblo sy'n dod i'r amlwg, yn rhannol o ganlyniad i'r cynnydd enfawr mewn gamblo ar-lein. Ac roedd yn galonogol sylwi o leiaf fod 14 clinig yn cael eu sefydlu yn GIG Lloegr gyda'r bwriad o ddarparu cyngor ar gaethiwed, ond yr hyn sy'n amlwg, wrth gwrs, yw ei fod yn cael ei ariannu'n rhannol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, gan gyfraniadau gwirfoddol eithaf tila o'r diwydiant gamblo ei hun drwy'r Comisiwn Hapchwarae. Roeddwn yn meddwl tybed pa gamau sydd wedi'u cymryd neu y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod arian priodol yn dod o'r cronfeydd a godir yng Nghymru ar gyfer cefnogi'r rhai sy'n gaeth i gamblo, ac a oes gennych unrhyw gynlluniau i gyfarfod, neu i gysylltu â'r Comisiwn Hapchwarae er mwyn sicrhau bod yr un gefnogaeth a darpariaeth ar gael yng Nghymru yn y maes mawr ei angen hwn o gymorth i rai sy'n gaeth i gamblo.
Ie, rwy'n ymwybodol o'r cyhoeddiadau sydd wedi'u gwneud ar y ddarpariaeth arbenigol. Rydym eisoes yn cyfeirio rhai pobl at ddarpariaeth arbenigol ar draws y ffin mewn gwirionedd. Rwy'n cytuno â'r pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud ac nid wyf yn credu y bydd ardoll wirfoddol yn debygol o gyflawni'r math o ymddygiad cyfrifol y dymunwn ei weld, na'r adnoddau yn wir. Nid pobl yn ein plaid ni yn unig sy'n credu hynny; fe gofiwch i'r Gweinidog ar y pryd, Tracey Crouch, ymddiswyddo ar bwynt o egwyddor am nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â mesurau ar beiriannau betio ods sefydlog. Gwnaethant hynny wedyn, ac unwaith eto, roedd hwnnw'n waith ar draws y pleidiau, gyda Carolyn Harris o fy mhlaid fy hun ac eraill yn gwneud y gwaith. Felly, ceir cydnabyddiaeth ehangach mewn mwy nag un rhan o'r DU ac mewn mwy nag un blaid fod hon yn her wirioneddol ar draws y gymdeithas.
Mae gwaith yn mynd rhagddo rhwng y gwahanol adrannau iechyd. Mae'r prif swyddog meddygol yn parhau i arwain gwaith ar hyn, yn dilyn ei adroddiad y llynedd. Ceir ymgysylltu rheolaidd rhyngddo ef a GambleAware a'r Comisiwn Hapchwarae. Credaf y byddai o gymorth i'r Aelodau hynny—a gwn eu bod mewn mwy nag un blaid—sydd â diddordeb mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf, pe bawn yn trefnu i'r prif swyddog meddygol roi'r diweddaraf am y gwaith a wnaethpwyd eisoes a sut beth yw hwnnw, a chael adroddiad pellach wedyn ar unrhyw gynnydd pellach a allai gael ei wneud ar fater ardoll orfodol, oherwydd heb ardoll orfodol, fy marn bersonol i yw na welwn y math o newid ymddygiadol gan y bobl sy'n darparu cyfleoedd ac amgylcheddau gamblo, a'r adnoddau a ddylai ddod i ymdopi â'r niwed go iawn a achosir.FootnoteLink
Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd hyd yma ond wrth gwrs, gallwn bob amser wneud mwy, a buaswn yn bendant eisiau gweld mwy o'r buddsoddiad gan y diwydiant gamblo, drwy'r Comisiwn Hapchwarae, yn dod i Gymru er mwyn datblygu ein gwasanaethau a'n canolfannau triniaeth i rai sy'n gaeth i gamblo. Cynhaliais y gynhadledd flynyddol gyda Beat the Odds yr wythnos diwethaf ar gamblo cymhellol, ac roedd yn canolbwyntio'n fawr ar bobl ifanc a phlant yn y fforwm arbennig hwnnw eleni. A gaf fi ofyn pa wasanaethau penodol a allai fod ar gael i blant a phobl ifanc sy'n gamblo yn awr drwy'r system hapchwarae ar-lein mewn gemau fel Star Wars a FIFA, lle mae ganddynt fath o flychau dolen sy'n rhoi ods ofnadwy iawn, ac maent yn arwain mewn gwirionedd at rai plant ifanc yn gamblo miloedd ar filoedd ac yn colli miloedd lawer o bunnoedd o incwm eu teulu? Rwy'n meddwl ei bod yn nodwedd gynyddol o'r tirlun gamblo. Mae'n rhywbeth y mae Disney hyd yn oed yn dechrau ei wneud. Mae hynny'n annerbyniol. Mae angen inni fynd i'r afael â'r materion hyn. A gaf fi ofyn a fydd gwasanaethau wedi'u teilwra ar gyfer plant a phobl ifanc yn rhan o'r gwasanaethau sy'n cael eu paratoi a'u datblygu gan Lywodraeth Cymru ac os felly, sut y gellir rhoi gwybod bod y rheini ar gael a rhoi gwybod am beryglon gamblo i bobl ifanc yn ein cymdeithas?
Mewn gwirionedd, mae'r clinigau newydd yn canolbwyntio'n benodol ar blant a phobl ifanc, ond mae'r her yn mynd yn ôl at bwynt Mick Antoniw ynglŷn â'r gallu go iawn i wneud hynny, gan mai'r union reswm pam y caiff gemau eu gwneud yn rhai ariannol yn y ffordd hon yw yn union hynny: mae'n ffordd o greu incwm. A rhan o'r hyn a godais gyda fy nghyd-Aelod, Julie James, yn ei rôl flaenorol oedd ein bod yn ysgrifennu ar y cyd at y Comisiwn Hapchwarae ynglŷn â'r modd y mae'r gallu i gamblo a hysbysebion sy'n hyrwyddo gamblo yn gysylltiedig â gweithgareddau a gaiff eu targedu'n fwriadol at blant a phobl ifanc, nid yn unig ym myd gamblo ar-lein ond mewn gweithgareddau prif ffrwd fel chwaraeon hefyd. Mae nifer y timau pêl-droed, er enghraifft, sydd â noddwr gamblo proffil uchel a'r hysbysebion sy'n digwydd ymhell cyn y trothwy gwylio yn broblem wirioneddol yn fy marn i. Maent yn cyfrannu at y broblem ac nid ydynt yn ein helpu i fynd i'r afael â hyn, ac rwy'n falch o weld bod rhywfaint o gytundeb ar draws y pleidiau ar hyn oherwydd nid ydym lle mae angen i ni fod ar hyn o bryd yn fy marn i.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran adeiladu Ysbyty Athrofaol y Grange? OAQ54161
Gwnaf. Rwy'n falch o gadarnhau bod y cynnydd a wnaed ar adeiladu ysbyty prifysgol newydd Grange, a gafodd ei awdurdodi gennyf, ar y trywydd iawn, ac y disgwylir iddo agor yn ystod gwanwyn 2021. Bydd yn darparu ysbyty â 470 o welyau ar gyfer poblogaeth de-ddwyrain Cymru.
Ateb i'r pwynt yno, Weinidog. Diolch am hynny. Ymwelais â'r ysbyty ar un neu ddau o achlysuron, un ohonynt gyda chi. Mae'n adeilad trawiadol, ac rwy'n falch o glywed ei fod ar y trywydd iawn. Un neu ddau o gwestiynau: ers i'r adeilad gael ei gomisiynu, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yr argyfwng hinsawdd. Mae'n ofynnol i bob adeilad cyhoeddus gadw eu hôl troed carbon mor fach â phosibl, felly tybed a allech ddweud ychydig wrthym am ochr ynni adnewyddadwy'r adeilad a sut y mae'n cyflawni'r rhwymedigaethau hynny? Yn ail, un nodwedd o'r ysbyty sy'n ei wneud yn wahanol i adeiladau tebyg yw ei diroedd helaeth a thrawiadol sydd wedi'u tirlunio, ac sy'n dyddio'n ôl i gyfnod plasty Llanfrechfa Grange. Ystyrir bod y tir hwnnw'n rhan ganolog o broses adsefydlu'r bobl a fu'n gwella yn sgil afiechydon a llawdriniaethau yn yr ysbyty. A allwch ddweud wrthym sut y bwriadwch—roeddwn yn mynd i ddweud 'adeiladu ar', ond mae'n ymadrodd anghywir, onid yw? [Chwerthin.] Sut y bwriadwch wneud yn fawr o'r tiroedd hynny a dirluniwyd o ran cadw'r adeilad mor adnewyddadwy â phosibl? Credaf fod cyfle yma i blannu coed ac i wneud datganiad go iawn gyda'r tiroedd hyn er mwyn sicrhau bod y safle cyfan yn gweithredu nid yn unig fel canolfan adsefydlu i bobl ond hefyd fel dalfa garbon?
Wel, rwy'n falch iawn o gadarnhau nid yn unig y gwaith sy'n cael ei wneud ar y gerddi cyfagos—mae yna grŵp gwirfoddol yn gwneud y gwaith hwnnw—ond y bydd yn adeilad llawer mwy effeithlon na'r rhan fwyaf o ystâd y GIG. Wrth gwrs, cafodd llawer o ystâd y GIG ei chreu sawl blwyddyn yn ôl, yn y gorffennol. Mae'n adeilad sy'n cael ei adeiladu i'r safonau pensaernïol uchaf, a bydd arbediad sylweddol o ran effeithlonrwydd ynni yn ogystal â'r gwaith gwres a phŵer modern ar y safle hefyd.
O ran plannu coed, yn rhyfedd ddigon, roedd yn gwestiwn a ofynnais ar un o fy ymweliadau, a bydd gweithgarwch plannu coed sylweddol yn ysbyty prifysgol Grange ac o'i gwmpas. Dyna ran o'r olygfa y mae pobl ei heisiau yn ogystal â rhai o'r heriau a gofnodwyd yn drwyadl. Gwelais y brawd Melding ar y to wrth ymyl cychod gwenyn yn y fan hon, a gallwch ddisgwyl gweld coed blodeuog a choed eraill a phlanhigion yn cael eu plannu'n fwriadol ar dir y safle er mwyn ateb yr union bwynt a grybwyllodd.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr heintiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau a gofnodwyd yn ystod y 12 mis diwethaf sydd ar gael? OAQ54185
Nid yw heintiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau yn cael eu cofnodi ar hyn o bryd, ond mae gwaith ar wneud hynny'n mynd rhagddo gan fod lleihad yn y niferoedd yn uchelgais ar gyfer strategaeth ymwrthedd i gyffuriau newydd y DU y cytunwyd arni ar y cyd, ac mae pob un o bedair gwlad y DU wedi ymrwymo iddi. Caiff lefel ymwrthedd bacterol i gyffuriau ei fonitro yng Nghymru yn barhaus, a chyhoeddir adroddiadau rheolaidd.
Diolch yn fawr, Weinidog. Bu cynnydd o 44 y cant mewn siffilis yn y flwyddyn ddiwethaf a chynnydd o 32 y cant mewn gonorea. A'r hyn sy'n fy mhoeni fwyaf am hynny, o siarad ag arbenigwyr iechyd rhywiol, yw bod cyfran sylweddol o'r heintiau yn ffurfiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. Rwy'n sylweddoli eich bod wedi derbyn argymhellion yr adolygiad iechyd rhywiol i leihau trosglwyddiad heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac roeddwn yn meddwl i ba raddau y mae'r dasg honno'n cael ei llesteirio gan lefel y fersiynau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, oherwydd, yn amlwg, yn y gorffennol, roedd hyn yn rhywbeth yr oedd pobl yn marw ohono. Gyda gwrthfiotigau, gall pobl oroesi a pharhau i fyw bywydau normal. Rydym mewn perygl o ddychwelyd i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Rydych yn gywir, ac o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar eu cyfer, bu cynnydd o 79 y cant mewn siffilis a chynnydd o 47 y cant mewn gonorea. Mae pryder ar draws y byd, yn enwedig mewn perthynas â gonorea, fod yna heintiau sy'n datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau. Nawr, nid ydym wedi gweld y math hwnnw yng Nghymru eto. Erys lefelau o heintiau clamydia yn sefydlog. Mae'r her o hyd yn ymwneud ag ymddygiad, y pethau y mae gennym reolaeth drostynt, a dyna ran o'r her ynghylch y strategaeth iechyd rhywiol newydd, ynghylch ein hymgysylltiad â phobl sy'n wynebu'r perygl mwyaf a sut y cawn sgwrs am addysg yn hytrach na datrys hyn ar ddiwedd triniaeth. Mae'r prif swyddog meddygol wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ystyried beth arall sydd angen ei wneud i leihau'r risg y mae'r heintiau hyn yn ei hachosi ac mae nifer o argymhellion yn cael eu datblygu a chânt eu hystyried yn y cyfarfod nesaf o fwrdd y rhaglen iechyd rhywiol, ac wrth gwrs, wrth inni weld mwy o gynnydd i roi gwybod yn ei gylch o waith bwrdd y rhaglen iechyd rhywiol, fe wnaf yn siŵr fy mod yn darparu datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau i sicrhau eich bod i gyd yn gweld gwelliant.
Credaf fod Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud y gallai ymwrthedd i wrthfiotigau fod yn un o'r prif heriau iechyd sy'n ein hwynebu, gan y bydd heintiau cyffredin yn dod yn lladdwyr cyffredin unwaith eto os na fyddwn yn gwneud pethau'n iawn a bod llai o gyffuriau newydd yn cael eu cyflwyno. Un peth y gallem ei wneud yw annog pobl, yn hytrach na mynd at y meddyg i ofyn am wrthfiotig ar gyfer annwyd neu ddolur gwddf neu rywbeth, i fynd i weld eu fferyllydd yn gyntaf, oherwydd yn ôl pob tebyg, bydd hynny'n arwain at driniaeth well ac yn osgoi'r defnydd o wrthfiotigau pan nad ydynt yn briodol.
Cytunaf yn llwyr ac mae'n rhan o'r her sy'n ein hwynebu: rydym fel arfer yn ceisio perswadio pobl nad oes angen iddynt fynd at y meddyg a chael tabledi i gael gwasanaeth da. Yn aml, mae a wnelo â pherswadio pobl fod gwahanol opsiynau ar gael, gan gynnwys hunanofal, a gwahanol ffyrdd o gael mynediad at ofal iechyd hefyd. Gyda'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin rydym wedi'i gyflwyno, yn ystod pum mis cyntaf eleni, mae oddeutu 20,000 o bobl wedi ymweld â fferyllfeydd ledled Cymru fel rhan o'r gwasanaeth hwnnw. Fel arall, byddai oddeutu 80 y cant o'r bobl hynny wedi mynd at eu meddyg teulu, ac yn fwy na hynny, mae'r cynllun peilot yn ardal Betsi Cadwaladr ar y gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf unwaith eto'n gyfle gwych i ledaenu'r union ymarfer rydych wedi'i gydnabod. Mae'n ymwneud â'r cwestiwn yn gynharach gan Paul Davies ynglŷn â'n gwasanaethau fferylliaeth gymunedol ac adeiladu arnynt—mae'n ddrwg gennyf, cwestiwn gan Neil Hamilton ydoedd, gyda chwestiwn atodol gan gyd-Aelod o'ch plaid, ond unwaith eto, ceir cytundeb cyffredinol mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Mae mwy o lawer i'w ennill o'i wneud, ac mewn gwirionedd, mynediad llawer gwell i'r cyhoedd at wasanaethau gofal iechyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol.
Ac felly'r datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, ac mae'r datganiad cyntaf gan Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Mae'n Bythefnos y Mentrau Cydweithredol, a drefnir gan Co-operatives UK, sy'n dwyn ynghyd, am bythefnos o gydweithredu torfol, y gweithwyr, yr aelodau, y rebeliaid, y dinasyddion, y preswylwyr, y perchnogion, y cyfranwyr a'r miliynau o gyd-weithredwyr ledled y DU i nodi Pythefnos y Mentrau Cydweithredol ac i ddathlu—ac mae'r datganiad hwn yn rhan o hynny—yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithredu.
Yn Leeds, bydd y Digital Cooperative Development Consortium Ltd yn cynnal digwyddiad hacio digidol dros y penwythnos ar gyfer cyd-weithredwyr ym maes technoleg. Yn Northampton, ceir dangosiad o'r ffilm Pioneers, stori ysbrydoledig am darddiad cydweithredu dros 175 mlynedd yn ôl, a marchnad sy'n cynnwys cwmnïau cydweithredol lleol. Yn Plymouth, fel rhan o'r bythefnos hon a Phythefnos Ynni Cymunedol, bydd Cymuned Ynni Plymouth yn cynnal parti solar Bee—fel y gwenyn—wrth eu haráe o baneli solar sy'n eiddo i'r gymuned. Ac yn yr Alban, bydd cydweithwyr Scotmid Co-op yn cynnal 13 digwyddiad casglu sbwriel ledled yr Alban, gan ddarparu offer casglu sbwriel i gymunedau lleol a helpu 1,500 o grwpiau i gymryd rhan yn y gwaith o gadw eu hamgylchedd yn hardd. Ac yng Nghaerdydd, cynhaliodd Canolfan Cydweithredol Cymru ginio ar gyfer arweinwyr cwmnïau cydweithredol i ddathlu effaith gadarnhaol busnesau cydweithredol ac i archwilio partneriaethau gweithio newydd, lle roedd hi'n wych clywed y cyhoeddiad y bydd £3 miliwn o arian yr UE yn cefnogi prosiect newydd a fydd yn helpu i greu busnesau cymdeithasol newydd ledled gorllewin Cymru a'r Cymoedd, gyda menter Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru, o dan arweiniad Canolfan Cydweithredol Cymru, yn anelu i greu 200 o fusnesau cymdeithasol dros y tair blynedd nesaf. Dyma rym cydweithredu a'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio, ac rwy'n falch o ddweud bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi ein helpu i ddathlu Pythefnos y Mentrau Cydweithredol 2019.
Mike Hedges.
Diolch. Abertawe: dinas ers 50 mlynedd. Y bore yma, roeddwn yng Nghapel y Tabernacl yn Nhreforys yn dathlu, ym mhresenoldeb Tywysog Cymru, hanner can mlynedd ers rhoi statws dinas i Abertawe. Hanner can mlynedd yn ôl i heddiw, a ddeuddydd ar ôl ei arwisgo, ymwelodd Tywysog Cymru ag Abertawe ar ei daith o amgylch Cymru. Ar risiau Neuadd y Dref, cyhoeddodd y byddai Abertawe'n cael ei dynodi'n ddinas. Abertawe oedd yr ail dref yng Nghymru i gael statws dinas, er y bu'n rhaid iddynt aros tan 15 Rhagfyr i dderbyn eu breinlythyrau gan y Frenhines yn ffurfiol.
Ar y diwrnod hwnnw, daeth Tywysog Cymru yn ôl i'r ddinas newydd i roi'r siarter i'r bobl a phwysigion dinesig Abertawe yn Neuadd Brangwyn. Cafwyd dau newid ar unwaith: ar y cyfle cyntaf, newidiodd Clwb Pêl-droed Tref Abertawe eu henw i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe; daeth maer Abertawe yn arglwydd faer, gan ymuno â 23 dinas yn Lloegr a Chaerdydd yng Nghymru a gâi ddefnyddio'r teitl 'arglwydd faer'.
Yn gynharach eleni, roeddwn yn falch o fynychu lansiad y cyngor o hanner can mlynedd ers rhoi statws dinas i Abertawe, ac mae llawer wedi'i wneud yn y ddinas i ddathlu'r cyflawniad mawr hwnnw. Ac mae wedi arwain at newid meddylfryd: nid ydym bellach yn 'dref hyll a hyfryd' ond yn ddinas fywiog sy'n edrych tuag allan.
John Griffiths.
Ar ddydd Sadwrn, 6 Gorffennaf, bydd Gŵyl Maendy yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd. Mae'n ddigwyddiad pwysig ac yn un o uchafbwyntiau'r haf a bywyd diwylliannol yn fy etholaeth. Sefydlwyd cymdeithas yr ŵyl yn 1997 ac mae wedi trefnu a chodi arian ar gyfer digwyddiadau blynyddol ers hynny. Mae'n dechrau gyda gorymdaith ysblennydd lle mae pawb yn gwisgo i fyny ac yn ymuno â'r ffigyrau enfawr, y bandiau o gerddorion a'r dawnswyr, gan ddod i ben yn y lleoliad ar dir yr ysgol gynradd.
Mae Maendy yn gymuned ethnig amrywiol sy'n newid ac yn esblygu'n gyson ond mae'n dod ynghyd ar y diwrnod hwn i ddathlu gwahaniaeth a dynoliaeth gyffredin gyda chelf, cerddoriaeth a dawns, bwyd a diod. Ar adeg lle ceir rhaniadau sy'n peri gofid ledled y byd ac yn agos at adref, mae cyfleoedd i gofleidio undod yn ein cymunedau, chwalu rhwystrau a hybu cydlyniant cymdeithasol yn hollbwysig. Ni allai thema eleni, sef 'creu Maendy', sy'n ceisio cydnabod popeth sy'n gwneud ein cymdogaeth mor fywiog a chyfoethog, fod yn fwy priodol.
Rwy'n talu teyrnged i'r elusen a'i phwyllgor gweithgar a thalentog a'r gwirfoddolwyr sy'n rhoi cymaint o amser ac egni i sicrhau bod y diwrnod yn llwyddiant, gan ymgysylltu â phobl ar draws diwylliannau. Ac wrth gwrs, rwy'n talu teyrnged i'n cymuned hynod o amrywiol, sy'n cymryd rhan ac yn mynychu mewn niferoedd cynyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a'r cynnig hwnnw ar reoli'r gwasanaeth iechyd, ac mae'r cynnig yn cael ei wneud gan Helen Mary Jones.
Cynnig NDM7102 Helen Mary Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoli'r gwasanaeth iechyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu corff proffesiynol i reolwyr y GIG yng Nghymru i bennu cymwyseddau proffesiynol craidd ar gyfer rheolwyr ar bob lefel, sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant cychwynnol priodol a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu datblygu, a gyda'r pŵer i gymryd sancsiynau yn erbyn rheolwyr am berfformiad gwael neu anniogel;
b) sicrhau gwir annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru;
c) gosod dyletswydd gonestrwydd cyfreithiol i fod yn berthnasol i bob gweithiwr iechyd proffesiynol gan gynnwys rheolwyr; a
d) sefydlu system gwyno ddilys, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac mae'n bleser ac yn fraint gennyf gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn i'r Senedd heddiw. Mae wedi bod yn dipyn o arfer ymysg gwleidyddion yng Nghymru i ddweud weithiau, 'Mae gennym ormod o reolwyr yn y GIG; nid ydynt gwneud eu swyddi'n iawn'. Mae'n debyg fy mod wedi bod yn euog o hynny fy hun yn y gorffennol, ond y gwir yw na fyddwn yn darparu'r mathau o wasanaethau y mae ein hetholwyr eu heisiau a'u hangen—pob un o'n hetholwyr—oni bai fod gennym wasanaeth sy'n cael ei reoli'n effeithiol.
Nawr, mae hefyd yn gwbl wir fod gennym lawer o reolwyr rhagorol yn gweithio ar bob lefel yn ein GIG yng Nghymru, ac maent yn ymdrechu ac yn llwyddo i gynllunio a darparu gwasanaethau rhagorol gyda'u cydweithwyr clinigol. Ond ni all fod unrhyw un ohonom yn y Siambr hon nad yw'n ymwybodol o'r pryderon tra hysbys ynglŷn â chapasiti, weithiau ynghylch cymhwysedd, ac yn sicr, ynghylch cysondeb perfformiad wrth reoli ein gwasanaethau. A cheir pryderon dilys iawn ynghylch atebolrwydd. Felly, dyma pam rwy'n cynnig Bil inni heddiw ar reoli'r gwasanaeth iechyd. Mae beth yn union y dylem ei alw—Bil atebolrwydd a thryloywder y GIG—yn rhywbeth ar gyfer dadl bellach. Ond diben y Bil hwn, ei brif ddiben, fyddai sefydlu corff proffesiynol ar gyfer rheolwyr y GIG yng Nghymru. Nawr, mae hyn wedi cael ei bortreadu mewn rhai rhannau o'r wasg a chan rai sy'n ymateb i'r ddadl fel ymosodiad ar y gwasanaeth. Yn sicr, nid yw hynny'n wir. Yr hyn y mae'n ei wneud mewn gwirionedd yw cydnabod pwysigrwydd enfawr rheolwyr i effeithiolrwydd y gwasanaeth, a phe baem yn rhoi corff proffesiynol priodol iddynt a fyddai'n eu cofrestru, byddem yn sicrhau bod eu cyfraniad yn gyfartal â'u cydweithwyr clinigol, a chredaf fod hynny'n sicr yn haeddu ystyriaeth.
Felly, rwy'n argymell rôl i'r corff proffesiynol hwn bennu cymwyseddau proffesiynol craidd ar gyfer pobl sy'n ymwneud â rheoli a gweinyddu ar bob lefel, ac y dylai'r cymwyseddau hyn fod yn seiliedig ar werth. Os ydych yn hyfforddi fel nyrs, y peth cyntaf a gewch yw hyfforddiant ar y gwerthoedd y mae'r gwasanaeth yn eu disgwyl ar eich cyfer. Ar hyn o bryd, nid ydym yn cynnig hynny'n gyson i'r rhai sy'n gweinyddu ac yn rheoli'r gwasanaethau.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Byddai arnom angen cymwyseddau craidd wedi’u pennu ar bob lefel, a byddai'r cymwyseddau hynny’n seiliedig ar yr hyfforddiant hwn sy'n seiliedig ar werth. Gallai corff proffesiynol wneud datblygiad proffesiynol parhaus yn ofynnol i sicrhau bod y rheini sy'n rheoli ein gwasanaethau'n gallu cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfan sy'n ofynnol ganddynt a'r holl ddatblygiadau sy’n digwydd o'u cwmpas. Mae rhai, yn enwedig rheolwyr canol, yn dweud wrthyf eu bod wedi'u gorlethu, weithiau, gan newid. Nid ydynt yn gresynu at ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r gwasanaeth y byddant yn ei ddarparu, ond mae angen eu grymuso i wneud hynny'n briodol.
Felly, mae a wnelo â'r gwerth a roddir ar y bobl sy'n rheoli ein GIG. Mae'n ymwneud â rhoi'r adnoddau iddynt wneud y gwaith a sicrhau bod pawb arall yn gwybod beth y gellir ei ddisgwyl o ran cymhwysedd, gwybodaeth a sgiliau gan bobl sy'n rheoli ar wahanol lefelau yn ein gwasanaeth. Nawr, wrth gwrs, un agwedd ar y cofrestru hwn fyddai, pe bai rheolwr yn methu’n gyson, neu pe bai rheolwr yn cael hi’n anodd gwneud eu gwaith, byddai eu corff proffesiynol, fel y byddent yn ei wneud gyda nyrs neu feddyg, yn camu i mewn ac yn rhagnodi cyngor, yn rhagnodi hyfforddiant, yn rhagnodi cefnogaeth. Ond pe na bai hynny'n llwyddiannus, yn y pen draw, byddai gan y corff proffesiynol hwn hawl i ddiswyddo rheolwr ac i ddweud, 'Nid ydych yn berson addas a phriodol i reoli ein gwasanaeth'. Nid dyna brif swyddogaeth y ddeddfwriaeth rwy'n ei chynnig, ond mae'n sancsiwn, a byddai'n rhoi terfyn ar batrwm rydym wedi’i weld—ac nid oes gennyf unrhyw fwriad heddiw, Lywydd, o enwi unrhyw un—lle mae pobl mewn rolau uchel iawn mewn rhannau o'n gwasanaeth yn methu rheoli'r gwasanaethau hynny’n effeithiol, yn diflannu am ychydig ac yna'n codi eu pennau yn rhywle arall ac yn rheoli agwedd arall ar y gwasanaeth ac yn methu gwneud hynny’n dda. Mae hynny'n gwbl annheg; mae'n gwbl annheg i'r cleifion, mae'n gwbl annheg i'r staff clinigol, ond mae hefyd yn gwbl annheg i'r rhai sy'n gweithio ym maes rheoli yn y gwasanaeth ac sy’n dymuno gallu gwneud hynny'n effeithiol.
Rwy’n sylweddoli fod hwn yn waith mawr—nid yw'n rhywbeth y gellid ei gyflawni drwy Fil Aelod preifat—ond nid yw’r ffaith ei fod yn waith mawr yn golygu na ddylem fynd ati i'w wneud. Rwy'n cofio cael gwybod yn y lle hwn y byddai cofrestru gweithwyr cymorth gofal iechyd yn amhosibl ac yn llawer rhy gymhleth. Wel, rydym yn gwneud hynny bellach. A chredaf fod angen i ni fod yr un mor uchelgeisiol o ran yr hyn rydym yn ei gynnig i'r bobl sy'n rheoli ein gwasanaethau.
Buaswn hefyd yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn sefydlu annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn briodol. Bydd yr Aelodau'n cofio bod y pwyllgor, yn ôl yn 2014, yn bryderus iawn nad oedd wedi derbyn sicrwydd ynghylch rôl yr arolygiaeth, nad oedd yn ddigon annibynnol. Nawr, gwn fod gan y Gweinidog rai cynlluniau hirdymor i wneud rhywbeth am hyn, ond buaswn yn ei atgoffa ei fod wedi dweud y byddai Bil ansawdd y GIG a fyddai'n cael ei gyflwyno’n rhoi sylw i annibyniaeth AGIC, ac nid yw'r drafft sydd gennym o'n blaenau yn gwneud hynny.
Byddai fy neddfwriaeth arfaethedig hefyd yn gosod dyletswydd gonestrwydd, nid yn unig ar sefydliadau, sy'n ganmoladwy wrth gwrs, ond ar unigolion hefyd. Y mannau lle mae angen grymuso pobl i godi eu llais o fewn sefydliadau nad ydynt yn arfer eu dyletswydd gonestrwydd yw lle mae angen y ddyletswydd gonestrwydd honno fwyaf. Ac ni fydd gosod y cyfrifoldeb hwnnw ar sefydliadau yn unig yn cyflawni'r hyn y mae'r Gweinidog, rwy'n siŵr, yn bwriadu ei wneud. Hefyd, mae angen system gwynion gadarn, gyson a thryloyw sy'n wirioneddol annibynnol ac y gellir ymddiried ynddi ar gyfer cleifion ac mae angen i ni edrych eto ar ba mor llwyddiannus yw ein polisïau chwythu'r chwiban, gan fod fy mhrofiad a fy mag post yn dweud wrthyf nad ydynt yn llwyddiannus.
Mae hwn yn fater hynod o ddifrifol. Mewn rhai amgylchiadau, mae'n fater o fywyd a marwolaeth. Credaf fod hon yn broblem sydd angen ateb radical. Credaf fod y bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaeth yn haeddu cael eu proffesiynoldeb wedi’i gydnabod, yn haeddu cael eu hyfforddi'n briodol, yn haeddu gwybod, drwy set o gymwyseddau craidd, beth yn union a ddisgwylir ganddynt. Ac mae angen iddynt wybod hefyd y byddant yn atebol am gyflawni’r gwaith o gynllunio a rheoli ein gwasanaethau mewn cydlyniad â'r set graidd honno o gymwyseddau.
Edrychaf ymlaen, Lywydd, at glywed sylwadau'r Aelodau eraill yn y ddadl hon. Nid wyf yn disgwyl i’r Gweinidog ddweud yma y bydd yn derbyn y ddeddfwriaeth hon—er y buaswn wrth fy modd pe bai'n gwneud hynny wrth gwrs—ond rwy'n gobeithio y bydd yn teimlo bod modd iddo gydnabod bod materion difrifol y mae angen mynd i'r afael â hwy ac y gallwn eu harchwilio ar sail drawsbleidiol yn y lle hwn i sicrhau bod gennym y system reoli orau, fwyaf tryloyw y mae ein GIG ei hangen ac yn ei haeddu.
Diolch. A gaf fi atgoffa'r siaradwyr mai tair munud yn unig sydd gennych ar gyfer eich cyfraniadau i'r cynnig hwn? Angela Burns.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cynnig hwn am Fil ar reoli'r gwasanaeth iechyd. Gallaf eich sicrhau y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig nid yn unig yn cefnogi eich cynigion, ond yn ceisio cryfhau a chynyddu rhai o ddarpariaethau'r Bil arfaethedig, oherwydd mae'n cyd-fynd yn agos â chynllun iechyd pum pwynt a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth. Mae tri o'r pwyntiau a drafodwyd gennym wedi'u cynnwys yn rhannol yn eich Bil, a hoffem eu datblygu ymhellach.
Oherwydd rydym wedi galw am ailwampio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn radical er mwyn ei gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru a rhoi pwerau newydd iddi ymyrryd yn gyflym pan fydd problemau'n cael eu nodi. Drwy ei gwneud yn wirioneddol annibynnol ar y Llywodraeth, fel y mae Helen Mary yn ei gynnig, credaf y gallem gyflawni'r amcan hwn, ond buaswn yn gofyn i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ystyried darpariaeth ariannol hefyd, gan y credwn y byddai'n rhaid treblu cyllideb AGIC er mwyn iddi allu ehangu ei rhaglen o arolygiadau heb eu cyhoeddi ymlaen llaw a sicrhau bod y gofynion ar gyfer gwella yn cael eu rhoi ar waith.
Mae sesiwn dystiolaeth y pwyllgor iechyd a gynhaliwyd y bore yma gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cadarnhau hyn. Ymweliad dirybudd gan AGIC ag uned argyfwng ac uned asesu Ysbyty Athrofaol Cymru a amlygodd y safonau gofal anniogel, yr arferion rhoi meddyginiaeth gwael a'r lefelau staffio amhriodol, ymhlith pethau eraill roedd angen mynd i'r afael â hwy. Ac eto, er yr honnir bod uwch reolwyr yn ymweld â'r adrannau, nid oedd yn ymddangos bod y bwrdd iechyd yn cydnabod bod angen cymorth ychwanegol ar yr uned argyfwng a'r uned asesu, ac i aralleirio'r hyn a ddywedodd y prif weithredwr heddiw, mae pobl yn gweld y sefyllfa neu'r broblem i'r fath raddau fel nad ydynt yn ei hadnabod fel problem bellach, ac rydym angen i sefydliad annibynnol ddod i mewn.
Yn ychwanegol at hynny, credaf fod y corff proffesiynol arfaethedig ar gyfer rheolwyr, unwaith eto, yn rhywbeth y byddem yn ei gefnogi’n gryf. Unwaith eto, awgrymwyd hyn gennym yn ein syniad, ond hoffem ei weld yn mynd ymhellach ac yn dod yn gyngor arweinyddiaeth y GIG sy'n gwneud cofrestru'n ofynnol, a byddai'r rhai yr ystyrir eu bod yn anghymwys yn cael eu diswyddo. Fel y dywedoch yn gynharach, mae pobl—mae gennyf chwe enghraifft yma o bobl sydd wedi ailymddangos yn y system ar ôl gwneud cawlach lwyr o'u gwaith yn rhywle arall, ac maent wedi llwyddo i oroesi a pharhau.
Rydym yn llwyr gefnogi system gwynion newydd gadarn. Gadewch i ni atgoffa ein hunain eto am bwyllgor iechyd arall, pan ddywedodd prif weithredwr Cwm Taf, ac rwy'n dyfynnu,
A dweud y gwir, roedd faint o adborth a gawsom gan y teuluoedd, sef yr elfen fwyaf gofidus yn hyn, yn sioc lwyr, hyd yn oed i mi, ac rwy'n llofnodi'r cwynion yn y sefydliad.
Wir.
Yn olaf, a gaf fi ddweud eich bod wedi gwneud pwynt diddorol iawn ynglŷn â dyletswydd gonestrwydd? Dylai fod yn berthnasol i unigolion yn ogystal â sefydliadau. Rydym wedi bod yn galw am ddyletswydd gonestrwydd ers chwe blynedd, ers iddi gael ei chyflwyno yn Lloegr ar ôl sgandal Canol Swydd Stafford ac yng ngoleuni cyfraith Robbie. Fodd bynnag, awgrymodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, nad oedd yn angenrheidiol i Gymru. Dywedodd yn 2013,
'Mae’r rheoliadau gwneud iawn a basiwyd yma gan y Cynulliad yn 2011 yn gosod dyletswydd o fod yn agored ar fyrddau iechyd yn awr. Mewn ffordd, mae dyletswydd o onestrwydd eisoes ymhlyg, os nad yn amlwg, yn y rheoliadau hynny.'
Rydym wedi gweld nad yw'n gweithio. Byddem yn eich cefnogi'n llwyr, a hoffwn weithio gyda chi i gyflwyno Bil o'r fath ar lawr y Siambr hon.
Gaf i longyfarch Helen Mary Jones am ei harweiniad? Rwy'n cefnogi ei bwriad yn llawn. Does yna ddim dwywaith bod systemau yn y gwasanaeth iechyd dan straen anferthol—dim digon o staff, dim digon o adnoddau, dim digon o welyau, a nyrsys a meddygon yn cael eu hymestyn i'r eithaf i ddarparu gwasanaeth derbyniol rhan fwyaf o'r amser, gwasanaeth bendigedig yn aml, ond weithiau mae safon y gwasanaeth yn cwympo'n fyr o'r nod ac mae camgymeriadau yn digwydd, yn anorfod bron, mewn system dan y fath straen.
Mae yna gwpwl o bwyntiau i'w gwneud. Mae dyletswydd gonestrwydd yn her pan fo cyfreithwyr yn dod yn rhan o'r broses, ac mae hyd yn oed ymddiheuro yn y fath amgylchiadau yn gallu cael ei ddehongli fel cyfaddefiad o fai, a gonestrwydd y nyrs neu feddyg yn eu cyfeirio at lys barn. Pan fo nyrs neu feddyg yn penderfynu codi llais i amlygu rhyw wendid yn y system, dylen nhw gael eu gwarchod go iawn. Yn aml, fel rhywun sy'n chwythu'r chwiban, byddant yn cael eu herlid gan reolwyr a wynebu beirniadaeth eu cydweithwyr a gweld cael eu halltudio o'r gwaith neu eu gyrfa yn darfod am godi pryderon. Bu'r arbenigwr wnaeth chwythu'r chwiban ar farwolaethau babanod o dan lawdriniaeth y galon ym Mryste dros 20 mlynedd yn ôl—yn y pen draw, roedd rhaid i'r arbenigwr yna orfod symud i Awstralia er mwyn cael swydd a pharhau efo'i yrfa ddisglair. Dim ond am chwythu'r chwiban.
A'r ail bwynt: mae angen cydnabod methiannau yn y system sydd yn gallu esgor ar gamgymeriadau unigol pan mae meddygon a nyrsys yn gorfod gwneud mwy nag un peth hanfodol bwysig ar yr un amser oherwydd pwysau gwaith—ddim yn wastadol erlid y nyrs neu'r meddyg, ond edrych ar gyfrifoldebau rheolwyr hefyd, fel mae Helen Mary wedi crybwyll, achos mae gan bawb ran yn y cyfrifoldeb. Dylai pawb—nyrsys, meddygon, rheolwyr—gael eu trin yr un peth, yn gofrestredig gan eu cyrff proffesiynol ac yn gallu wynebu cael eu taflu allan o'r proffesiwn a mynd i lys barn i wynebu cyhuddiadau difrifol iawn. Dyna beth sy'n wynebu pob nyrs a phob meddyg nawr; dyna beth yw cyfrifoldeb dros gleifion go iawn. Dylai'r rheolwyr wynebu'r un peth.
Yn y pen draw, mae angen system iawndal di-fai—no-fault compensation—arnom fel gwlad pan mae pethau yn mynd o'u lle neu ryw anffawd annisgwyl yn digwydd i'r claf. Mae hyn yn digwydd mewn sawl gwlad arall, achos nid oes rhaid i'r claf gael gafael â chyfreithiwr drudfawr, nid oes angen llys, nid oes angen profi bai, achos weithiau anffawd pur yw e—does neb ar fai. Mae taliad iawndal di-fai yn cymryd y costau cyfreithiol i ffwrdd, a'r iawndal i gyd yn haeddiannol i'r claf. Cefnogwch y cynnig.
Rwy'n croesawu cynigion Helen Mary ar gyfer rheoli'r GIG ac rwy'n cefnogi ei chynnig am Fil yn llwyr. Fel rwyf wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon, mae'n rhaid inni sicrhau bod rheolwyr gwasanaethau iechyd yn cadw at yr un rhwymedigaethau â staff clinigol. Mae gan glinigwyr ddyletswyddau gofal a osodir arnynt gan eu colegau brenhinol a'r cyrff proffesiynol amrywiol. Mae rheolwyr yn rhan hanfodol o'n GIG modern, ac yn aml, gallant chwarae rôl yn sicrhau ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion. Mae'n hanfodol, felly, fod rheolwyr y GIG yn perthyn i gorff proffesiynol a fydd yn eu helpu i sicrhau nad oes lle i berfformiad gwael neu arferion anniogel yn y gwaith o reoli'r gwasanaeth iechyd.
Rwy'n croesawu mesurau yn y Bil arfaethedig hefyd i osod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gwbl annibynnol wrth wraidd system gwynion sy'n rhoi cleifion yn gyntaf ac yn sicrhau eu bod hwy a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses. Gobeithio y bydd gosod dyletswydd gonestrwydd ar reolwyr y GIG yn ffurfio rhan o'r cod ymddygiad a bennir gan y corff proffesiynol newydd, gan sicrhau y bydd camgymeriadau yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn gyfleoedd dysgu yn hytrach na rhywbeth i'w cuddio a'u hosgoi. Mae Bil arfaethedig Helen Mary yn cydnabod bod ein GIG yr un mor ddibynnol ar reolwyr a gweinyddwyr ag y mae ar staff clinigol.
Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y rheolwyr a'r gweinyddwyr hynny wedi'u rhwymo gan yr un dyletswyddau cyfreithiol i'r claf â staff clinigol. Ni fyddwn byth yn dileu camgymeriadau'n llwyr—rhaid inni dderbyn hynny—ond gallwn sicrhau ein bod yn dileu arferion anniogel ac nad ydym yn gwobrwyo perfformiad gwael. Er mwyn i'n GIG ffynnu, rhaid i bob rhan ohono weithio'n dda. Mae rheolwyr y GIG yno i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol gan staff clinigol i drin eu cleifion. Bydd y Bil arfaethedig hwn yn helpu i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan reolwyr gofal iechyd i gefnogi staff clinigol mewn GIG sydd o ddifrif yn rhoi'r claf yn gyntaf. Mae ganddo gefnogaeth lwyr fy ngrŵp ac edrychaf ymlaen at helpu Helen Mary mewn unrhyw ffordd y gallaf i sicrhau ei fod yn dod yn gyfraith yn gyflym. Diolch yn fawr.
Rwyf innau'n cefnogi cyflwyno'r Bil hwn ac yn diolch i'r Aelod am ei gyflwyno. Mae pob un ohonom yn gyfarwydd â'r straeon arswyd. Mae babanod wedi marw o ganlyniad i gamreoli yn y GIG. Tarfwyd ar fywydau miloedd o bobl ifanc am fod rhestrau aros iechyd meddwl wedi cynyddu bedair gwaith. Mae cleifion wedi marw wrth aros am oriau am ambiwlans brys. Mae bywydau wedi cael eu difetha wrth i bobl aros yn hwy nag y dylent am lawdriniaeth, ac mae canserau wedi tyfu wrth i'r gallu i wneud diagnosis a'u trin yn y wlad hon grebachu. Nid bai'r clinigwyr ac nid bai'r staff ar y rheng flaen yw'r ffaith bod hyn wedi digwydd yng Nghymru, ond mae'n fai ar rhywun, ac os ydym am gredu'r Llywodraeth hon pan fyddant yn gwadu mai hwy sy'n gyfrifol am y cynnydd yn nifer y marwolaethau a'r dioddef diangen a achosir gan ganlyniadau ac ymatebion gwael, mae'n rhaid felly ei fod yn fai ar reolwyr penodol yn y GIG.
Yn ddiamau, mae rheoli adnoddau cyfyngedig mewn sefydliad sy'n gorfod ymateb i'r hyn y gellid ei ystyried yn alw na ellir ei reoli yn anodd, ond mae#n siŵr fod llawdriniaethau ar yr ymennydd a thriniaethau canser cymhleth yn anos. Serch hynny, mae llawfeddygon ymennydd sydd wedi'u hyfforddi, eu cofrestru a'u trwyddedu yn ddarostyngedig i benderfyniadau rheolwyr GIG didrwydded heb eu cofrestru, nad oes angen unrhyw gymhwyster statudol o gwbl arnynt i gyflawni eu rôl. Mae penderfyniadau rhai o reolwyr y GIG wedi achosi rhai problemau difrifol, fel y soniais, ond nid ydym yn gwybod am unrhyw reolwr yn y GIG sydd wedi colli diwrnod o gyflog, neu sydd wedi'u diswyddo, neu wedi gorfod bod yn atebol yn gyhoeddus am eu methiannau angheuol.
Ers blynyddoedd, rwyf wedi cefnogi galwadau i gofrestru rheolwyr y GIG yn yr un modd â'r clinigwyr sy'n ddarostyngedig i benderfyniadau rheolwyr y GIG. Yn llawer rhy aml, rydym wedi gweld rheolwyr sy'n methu mewn un maes sector cyhoeddus yn gadael gyda thaliad mawr ac yn ymddangos yn rhywle arall yn y sector cyhoeddus i wneud llanast o bethau i grŵp arall o drethdalwyr diarwybod. Mae ein profiad ni yn y lle hwn yn dangos, heb newid y rheolau, na allwn ddisgwyl unrhyw welliant sylweddol. Er enghraifft, sawl gwaith rydym ni yn yr wrthblaid wedi holi’r Gweinidog iechyd, Vaughan Gething, ynglŷn â'r llanast parhaus ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ac wedi gofyn iddo a oes unrhyw un wedi cael eu diswyddo am eu methiannau enfawr neu am ddifetha bywydau pobl, dim ond i’w weld yn gwingo ac ymddiheuro bron am ei anallu i wneud unrhyw beth ynglŷn â’r sefyllfa?
Nid yw'r Bil hwn yn cynnwys system drwyddedu ar gyfer rheolwyr y GIG ond mae'n gam mawr i’r cyfeiriad cywir. Byddai llawer o bobl yn synnu na cheir corff proffesiynol ar gyfer galwedigaeth mor bwysig â rheoli’r GIG, er bod cyrff proffesiynol ar gyfer pethau fel gwerthwyr tai, hysbysebwyr a hyfforddwyr pêl-droed ac ati. Mae arolygiaeth iechyd annibynnol nad yw'n llawn o benodiadau gwleidyddol yn hanfodol hefyd. Mae'n hen bryd gallu dwyn rheolwyr y GIG i gyfrif am y marwolaethau a'r dioddef y mae eu penderfyniadau gwael yn eu hachosi. Gan nad oes gan Vaughan Gething sgiliau i ddatrys y problemau hyn ei hun, mae'n amlwg fod yn rhaid i ni ymgorffori’r atebion yng nghyfraith Cymru. Diolch.
A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gydnabod o'r cychwyn cyntaf y pryderon a'r materion a godwyd gan nifer o siaradwyr yn eu cyfraniadau, ac sy'n sail i'r cynnig, ond credaf fod y Bil drafft Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn ymdrin â nifer o'r pwyntiau yn y cynnig. Wrth gwrs, rydym newydd ddechrau'r broses graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Cefais gyfle i ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid heddiw. Bydd taith y Bil drafft hwnnw drwy'r Cynulliad yn rhoi cyfle inni ddadlau a thrafod y syniadau hyn, gan gynnwys cyfleoedd i wneud diwygiadau a gwelliannau. Ansawdd yw'r cysyniad canolog sy'n sail i'r darpariaethau yn y Bil. Drwy osod dyletswyddau ar lefel sefydliadol, mae'r Bil yn mabwysiadu ymagwedd system gyfan tuag at wella ansawdd.
Mae'r cynnig heddiw’n cynnwys cynigion i gryfhau annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae rheoleiddiwr cryf sy'n gallu gweithredu'n annibynnol ar y GIG a’r Llywodraeth yn rhan bwysig o'r darlun o ran ansawdd. Mae'r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn sicrhau y gall yr arolygiaeth weithredu’n annibynnol a’i bod yn gwneud hynny. Fel Gweinidog iechyd, nid wyf yn rhan o’r gwaith o’i goruchwylio na phennu ei chyllideb. Mae'n gyfrifol am bennu ei rhaglen waith ei hun o fewn cwmpas eang ei llythyr cylch gwaith. Mae'r rhain yn ffactorau hanfodol wrth sicrhau y gall AGIC godi’i llais pan fo angen a’i bod yn gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gymhleth a bod angen ei ddiwygio. Yn y cyfamser, mae angen datblygu capasiti AGIC yn raddol i sicrhau ei bod yn barod i ymateb i fframwaith deddfwriaethol gwahanol yn y dyfodol. Rwyf wedi darparu dros £1 filiwn o gymorth ychwanegol i'r sefydliad ddatblygu ei gapasiti.
Mae'r cynnig yn galw am system gwynion fwy tryloyw. Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth fod angen newid y trefniadau 'Gweithio i Wella'. Canfu adolygiad gan Keith Evans eu bod yn addas at y diben, ac roedd ei argymhellion yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn gyson. Mae'r trefniadau 'Gweithio i Wella' yn cynnwys cynllun gwneud iawn y GIG, sy'n arloesol ac yn unigryw yn y DU. Ymdrinnir â hawliadau sy'n werth llai na £25,000 o dan y cynllun, sy'n llawer cyflymach na'r broses ymgyfreitha ac sy'n gweithredu heb unrhyw gost i achwynwyr.
Bydd y Bil y cyfeiriais ato yn sefydlu corff newydd ar gyfer llais y dinesydd ac rwy'n siŵr y bydd llawer o gyfleoedd i wneud sylwadau a holi ynglŷn â hynny yn ystod ei daith. Bydd y corff newydd ar gyfer llais y dinesydd yn cefnogi pobl neu eu cynrychiolwyr os oes angen iddynt wneud cwyn am iechyd neu ofal cymdeithasol. Bydd staff ychwanegol yn cael eu hariannu i alluogi'r corff newydd i ymestyn ei wasanaethau i ddarparu gwasanaeth cwynion, cyngor a chymorth i ystod ehangach o unigolion.
Mae'r Bil yn argymell dyletswydd gonestrwydd statudol ar lefel sefydliadol. Bydd hyn yn golygu y bydd yr holl staff, gan gynnwys rheolwyr, yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd. Rhoddir hyfforddiant i'r holl staff ar bob lefel mewn sefydliadau, boed yn glinigwyr ai peidio. A bydd yr hyfforddiant hwnnw’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â chlinigwyr. Mae pob grŵp proffesiynol yn y gwasanaeth, bron â bod, yn awyddus i weithio gyda ni ar y canllawiau ar gyfer y dyletswydd gonestrwydd, i sicrhau ei bod yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol gan unigolion a sefydliadau ledled Cymru.
Credaf efallai fod y pwyntiau pwysicaf yn y sgwrs heddiw wedi ymwneud â heriau’r diwylliant o fwrw bai, a'r croesi rhwng bai ac atebolrwydd. Nawr, os ydym am symud ein system gofal iechyd yn fwriadol tuag at system sy’n fwy seiliedig ar ddysgu a myfyrio—os am sicrhau nad dyhead mo hynny, ond rhywbeth sy'n cael ei wireddu—rwy'n cydnabod bod angen inni weld newid diwylliant o fewn y sefydliadau. Ac mae hynny'n berthnasol i glinigwyr yn ogystal â rheolwyr. Ac mae rhan o fy mhryder yn ymwneud â'r iaith o amgylch y cynnig posibl hwn, sy'n swnio'n debycach i'r gallu i gael gwared ar reolwyr, yn hytrach na dysgu a myfyrio pan aiff pethau o chwith.
Yn gynharach heddiw, mynychais lansiad y weledigaeth ar gyfer mamolaeth yng Nghymru. Ac unwaith eto, yno, o fewn y proffesiwn mamolaeth yng Nghymru, ceir myfyrio go iawn ar y pethau sydd wedi mynd o chwith mewn gwahanol rannau o'r wlad—yn amlwg, yn hen ardal Cwm Taf—ond ceir balchder gwirioneddol hefyd yn y dewisiadau bwriadol a wnânt, ac y cânt eu cydnabod am eu gwneud yn y DU a thu hwnt. Ac nid wyf yn dymuno gweld system ymddygiad newydd yn cael ei chyflwyno a fyddai’n ein symud oddi wrth y gallu i ddysgu a myfyrio. Ac felly, byddai'r cynigion ar gyfer corff rheoleiddio gorfodol newydd ar gyfer rheolwyr y GIG yn cyflwyno lefel o gost a chymhlethdod, ond wrth gwrs, mae hynny'n wir bob amser wrth gyflwyno mesurau newydd. Ond dylem gofio profiadau nyrsys mewn perthynas â’r rheoliadau cartrefi gofal, a gorfod bod yn atebol i ddau reoleiddiwr. Ni wellodd hynny ein system, ni wnaeth wahaniaeth i'r aelodau hynny o staff na’r bobl y maent yn gweithio gyda hwy neu ar eu cyfer.
Byddai angen inni ystyried cyllid a pholisi yn fanwl i adlewyrchu natur amrywiol y gweithlu a'u rolau, gan gynnwys y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog ddoe ynglŷn â chynnwys y diffiniad o bwy neu beth yw rheolwr yn rhan o gwmpas gwaith corff rheoleiddio newydd, p'un a yw'n rheoliad arfaethedig, lle mae'n rhaid i bawb ymddangos ar gofrestr i allu gweithio, neu'n brawf ôl-weithredol o ba mor addas a phriodol yw person. Mae'r rheini'n faterion y byddai angen i ddarpar gynigydd y ddeddfwriaeth fynd i'r afael â hwy, a'r cydbwysedd rhwng cyfrifoldeb y cyflogwr a chyfrifoldeb y rheoleiddiwr, a sut i sicrhau bod y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sef y mwyafrif helaeth o reolwyr yn ein system, sut yr ymdrinnir â hwy, ac yn wir, symudedd y gweithlu dros ffiniau pe baem yn cyflwyno'r gofyniad hwn yng Nghymru'n unig. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain, er enghraifft, wedi galw yn y gorffennol am ymagwedd ledled y DU ar y mater hwn. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynglŷn â’r achos dros reoleiddio gorfodol i reolwyr, ond rwy'n fwy na pharod i wrando ar gynigion manwl sy'n mynd i'r afael â'r heriau real ac ymarferol iawn.
Diolch. Galwaf ar Helen Mary i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dau funud yn unig sydd gennyf i ymateb, felly ni allaf ymateb i’r holl bwyntiau y mae pobl wedi’u codi. Ond rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gafwyd ar draws y Siambr, ac rwy'n ddiolchgar hefyd, mewn gwirionedd, i'r Gweinidog am gydnabod bod hon yn ymgais i fynd i'r afael â materion real ac ystyrlon, ac am ei barodrwydd i edrych ar gynigion manylach.
Hoffwn gyfeirio at un neu ddau o bwyntiau a godwyd gan Angela Burns. Credaf fod y ddarpariaeth ariannol ar gyfer AGIC yn gwbl hanfodol. Fodd bynnag, nid wyf yn siŵr a ydych yn ymdrin â hynny mewn deddfwriaeth, er y gall fod rhai ffyrdd o wneud hynny. Ac rwy’n llwyr gefnogi'r hyn a ddywedwch am gofrestru gan gynnwys yr hawl i ddiswyddo rhywun, o bosibl. Ond hoffwn herio'r Gweinidog a dweud fy mod wedi dweud yn glir iawn yn fy nghyfraniad nad o’r fan honno rwy'n dechrau. Yr hyn rwy’n dechrau ohono yw grymuso pobl i wneud eu swyddi'n iawn, ac ni fydd yn rhaid dod yn ôl atynt heblaw i ymdrin â methu gwneud y gwaith yn iawn, fel dewis olaf, fel sy'n wir am feddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol clinigol eraill.
Ni fydd unrhyw un yn synnu wrth fy nghlywed yn dweud fy mod yn cytuno â phopeth a ddywedodd Dai. Yng nghyd-destun y Bil hwn, rwy'n credu'n hollbwysig mai symud i system iawndal ddi-fai briodol yw'r unig ffordd yn y pen draw y byddwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i allu cyfaddef eu bod wedi gwneud camgymeriadau a dysgu oddi wrthynt. Ac mae tegwch o ran trin rheolwyr a staff clinigol yn hanfodol.
Nid yw Bil y Gweinidog yn gwbl ddiwerth, ac wrth gwrs, byddwn yn ceisio ei ddiwygio, ond nid yw'n mynd i'r afael â’r rhan helaeth o’r pryderon. Credaf fod angen i ni reoleiddio ein rheolwyr, yn benodol er mwyn eu hatal rhag ymddangos, diflannu ac ailymddangos pan fydd pethau wedi mynd o chwith. Wrth gwrs, byddwn yn cydweithredu drwy gydol taith y Bil, ond mae angen i ni wneud mwy.
Nawr, rwy'n digwydd credu bod gennym y gallu a'r capasiti. Mae gennym ddigon o bobl ddisglair yng Nghymru i allu rheoli ein gwasanaethau cyhoeddus yn wirioneddol effeithiol, ond nid ydym yn rhoi'r hyfforddiant a'r strwythur iddynt i'w galluogi i wneud hynny. Byddaf yn gweithio gydag Aelodau ar draws y Siambr i geisio bwrw ymlaen â’r agenda hon. O bosibl, er enghraifft, gallem ystyried grŵp trawsbleidiol ar atebolrwydd gwasanaeth cyhoeddus a allai fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i godi'r materion hyn yma heddiw. Mae peth o'r adborth a ddaeth yn ôl ataf gan staff rheoli, mewn gwirionedd, yn nodi’n glir iawn eu bod yn falch o wybod bod pobl yn gwybod nad yw popeth yn iawn a’u bod o ddifrif ynglŷn â'r mater. Edrychaf ymlaen at gydweithredu ar yr agenda hon i ddarparu'r rheolaeth orau a'r canlyniadau gorau i gleifion.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] O'r gorau, felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Cyn imi alw'r eitem nesaf ar yr agenda, bydd llawer ohonoch yn gwybod bod digwyddiad angheuol wedi bod ar ein rhwydwaith rheilffyrdd, yn cynnwys dau aelod o staff. Cytunais felly y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud datganiad byr, cyn y ddadl ar adroddiad y pwyllgor. Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gynharach heddiw, cafodd dau o bobl eu taro gan drên Rheilffordd y Great Western rhwng Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr ym Margam. Mae Llywodraeth Cymru, a'r Cynulliad Cenedlaethol cyfan, wedi eu syfrdanu gan y digwyddiad trasig hwn ac rydym yn cydymdeimlo â theuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr y gweithwyr rheilffordd. Gwn y bydd hyn yn ysgytwad i'r diwydiant cyfan a hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys a phawb a fu'n rhan o'r ymateb.
Bydd effaith a chanlyniadau'r digwyddiad i'w teimlo ym mhob rhan o'r diwydiant rheilffyrdd. Nid oes unrhyw un yn mynd i'w gwaith i golli eu bywyd. Nawr, mae angen ymchwilio i'r digwyddiad, deall ei achosion a rhoi mesurau angenrheidiol ar waith fel bod y gwersi priodol yn cael eu dysgu. Mae'n dyst i ba mor brin yw digwyddiad fel hwn—fod pobl yn colli eu bywydau ar y rheilffyrdd—ei bod yn anodd deall sut y gallai hyn fod wedi digwydd y bore yma oddeutu 20 milltir i ffwrdd yn unig.
Bydd Network Rail, Rheilffordd y Great Western a Trafnidiaeth Cymru yn gweithio i gynghori cwsmeriaid ar drefniadau teithio amgen. Dylai cwsmeriaid ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ar-lein i weld y cyngor teithio diweddaraf. Diolch yn fawr.
Diolch, Ddirprwy Weinidog.
Symudwn yn awr at y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - 'Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol' a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Russell George.
Cynnig NDM7108 Russell George
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol—a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mai 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ategu sylwadau'r Dirprwy Weinidog gyda fy sylwadau fy hun. Credaf fod pob un ohonom wedi ein tristáu gan y digwyddiad trasig gyda’r gweithwyr rheilffyrdd y bore yma, ond rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yma yn awyddus i gydymdeimlo â'r teuluoedd.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n cyflwyno'r cynnig yn fy enw i. Ar ôl adrodd ar y fasnachfraint rheilffyrdd a metro de Cymru ym mis Mehefin 2017, y cam nesaf naturiol i'r pwyllgor oedd edrych yn fanylach ar drefniadau llywodraethu Trafnidiaeth Cymru. Yn ôl yn 2017, roeddem wedi dweud yr adeg honno, er bod y trefniadau'n briodol ar y pryd, y byddai angen iddynt newid yn y dyfodol. Felly, yn yr ymchwiliad hwn, edrychasom ar sut roedd cyrff trafnidiaeth eraill yn gweithio a gwrando ar bryderon rhanddeiliaid Cymru. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffordd anarferol y sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru—fel is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru—a bod y penderfyniad hwn wedi peri rhywfaint o ddryswch i randdeiliaid.
Rhoddaf enghraifft i chi o hyn. Yn fuan wedi i ni ddechrau ein hymchwiliad, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaethol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Ond Trafnidiaeth Cymru a ymgysylltodd yn uniongyrchol â’r rhanddeiliaid ar ddatblygu'r Papur Gwyn, nid Llywodraeth Cymru. Felly mae'r llinellau cyfrifoldeb ar gyfer datblygu polisi ac ar gyfer cyflawni gweithredol wedi ymddangos yn aneglur, ac ar ôl y dryswch, credaf fod rhywfaint o ddryswch yno, ac ni chredaf fod hynny'n syndod o gwbl. Dywed Llywodraeth Cymru wrthym fod Trafnidiaeth Cymru yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Gweinidogion Cymru, ond ar yr un pryd, fod gwahaniad clir rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, sy’n galluogi Trafnidiaeth Cymru i wneud penderfyniadau gweithredol annibynnol. Mae'n nodedig fod gennym, o'n blaenau heddiw, ymateb gan Lywodraeth Cymru i rai o'n hargymhellion, ac ymateb ar wahân gan Trafnidiaeth Cymru i eraill.
Roedd yr adroddiad penodol hwn yn canolbwyntio ar y gwaith o lywodraethu Trafnidiaeth Cymru, nid ar berfformiad gwasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Er gwaethaf rhai anawsterau a rhai problemau cychwynnol a arweiniodd at darfu ar y rheilffyrdd yn yr hydref, y mae'r pwyllgor wedi adrodd arnynt ar wahân, ymddengys bod llawer o randdeiliaid trafnidiaeth wedi’u calonogi gan ymgysylltiad cychwynnol Trafnidiaeth Cymru â hwy ar sail un i un, a chredaf fod hynny'n gadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yr angen am dryloywder ac ymgysylltu llawer gwell, a llinellau atebolrwydd cliriach, yn argymhellion allweddol. Er bod rhanddeiliaid trafnidiaeth yn datblygu gwell dealltwriaeth o Trafnidiaeth Cymru drwy gyswllt uniongyrchol â hwy, nid oedd hynny’n cael ei gyfleu'n ddigon clir i'r cyhoedd.
Mae llawer i'w groesawu, yn fy marn i, yn ymateb Trafnidiaeth Cymru i'r adroddiad, megis yr ymrwymiad i greu panel cynghori i roi cyfle i gwsmeriaid, rhanddeiliaid a grwpiau â buddiant gynghori Trafnidiaeth Cymru ar eu gweithgarwch. Dywed Trafnidiaeth Cymru hefyd y byddant yn cyhoeddi crynodeb lefel uchel o’u cynllun cyfathrebu ar gyfer 2019-20, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod pryd y gallem ddisgwyl gweld y cynllun hwnnw.
Hefyd, gwnaethom nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â chyhoeddi siart sefydliadol; bod yn gliriach ynglŷn â rôl ymgynghorwyr; sicrhau bod eu bwrdd yn gynrychioliadol ac yn amrywiol; cyhoeddi cofrestr gyflawn o fuddiannau aelodau eu bwrdd a’u cyfarwyddwyr; a dangos dull partneriaeth cryf ac agored o ymgysylltu ag undebau llafur. Roedd y pwyllgor yn pryderu am dystiolaeth dau undeb llafur ynglŷn â diffyg gweithio mewn partneriaeth. Gwnaeth prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru ymrwymiad i wrando ar bryderon yr undebau, ac mae'r ymateb i argymhelliad 11 yn disgrifio dyhead Trafnidiaeth Cymru
i weithio gyda'r holl bartneriaid a ffurfioli unrhyw gytundebau cyn gynted â phosibl.
Nid yw hyn, wrth gwrs, yr un fath â dweud bod cytundebau ar waith. Felly, credaf fod angen cynnydd pellach yn hynny o beth.
Mae ymateb Trafnidiaeth Cymru i argymhelliad 3, yn anffodus yn fy marn i, yn methu'r pwynt. Gofynnodd y pwyllgor am gael gweld siart sefydliadol yn cael ei chyhoeddi ar gyfer y sefydliad cyfan, nid y bwrdd yn unig. Dywed Trafnidiaeth Cymru fod cyhoeddi manylion eu huwch dîm yn unol ag arferion mewn mannau eraill, gan gynnwys Transport for London. Ond mae strategaeth dryloywder Transport for London yn ymestyn yn llawer pellach na chyhoeddi bywgraffiadau aelodau'r bwrdd. Mae hefyd yn cyhoeddi siart sefydliadol lawer mwy sylweddol gyda manylion am rolau staff a bandiau cyflog ar gyfer staff uwch, yn ogystal ag aelodau bwrdd Transport for London. Gallai cynigion Trafnidiaeth Cymru i gyhoeddi manylion contractau sy’n werth mwy na £25,000 bob chwarter helpu i raddau, rwy'n credu, i ddeall rôl ymgynghorwyr, ond yng ngoleuni pryderon ynglŷn â’r defnydd sylweddol o ymgynghorwyr, nid wyf yn credu bod yr ymateb yn mynd yn ddigon pell.
Rydym yn croesawu'r cydbwysedd rhwng y rhywiau ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru ac ymrwymiad y Gweinidog i sicrhau y bydd cadeirydd nesaf Trafnidiaeth Cymru yn ddarostyngedig i wrandawiad gyda'r pwyllgor cyn eu penodi. Nid yw'r argymhelliad, wrth gwrs, yn adlewyrchiad o addasrwydd y cadeirydd presennol, ond mae'n cydnabod rôl bwysig y pwyllgor o ran craffu.
Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed barn fy nghyd-Aelodau y prynhawn yma, yn ogystal, wrth gwrs, ag ymateb y Dirprwy Weinidog. Ac wrth gwrs, rwy'n cymeradwyo ein hadroddiad i'r Cynulliad.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon, gan y credaf mai ychydig iawn o gyfle a roddwyd i randdeiliaid gael unrhyw fewnbwn i'r broses ar adeg y caffael, ac roedd hynny am resymau masnachol da, ond fe wnaeth atal rhanddeiliaid lleol, sy'n amlwg yn bobl sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gan mwyaf, rhag roi eu barn ar beth yn union oedd ei angen. Ac felly rwy'n obeithiol y byddwn yn clywed gan y Gweinidog sut y bydd llawer mwy o ymgysylltu â'r cyhoedd bellach o ran yr hyn y mae pobl yr effeithir arnynt gan y sefyllfa drafnidiaeth bresennol—beth y maent yn awyddus i'w gael o'r broses hon. Yn benodol, yn amlwg, mae'r bobl rwy'n eu cynrychioli yng Nghanol Caerdydd yn arbennig o awyddus i weld system drafnidiaeth gydgysylltiedig sy'n cyplysu system y rheilffyrdd â'r system fysiau, gyda systemau tocynnau integredig a fydd yn galluogi pobl i drosglwyddo o un dull trafnidiaeth i un arall; yn amlwg, rheseli beiciau da a llwybrau cerdded da i gyrraedd gorsafoedd rheilffordd, gan ei bod yn amlwg nad ydynt yn mynd i fod ar ben draw pob stryd, ac felly mae pobl angen dull trafnidiaeth i gyrraedd yr orsaf drenau mewn gwirionedd. Felly, credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn gweld yr adroddiad gan y pwyllgor, ond credaf fod angen i ni wneud mwy o lawer i sicrhau y gall teithwyr cyffredin ddweud eu barn ynglŷn â'r math o system drafnidiaeth y maent am ei gweld.
Diolch i'r Cadeirydd am arwain ar yr agenda hon. Roedd gwaith hwn yn ddiddorol iawn i mi, y syniad ein bod yn ceisio llunio dyfodol Trafnidiaeth Cymru, gan ystyried ei fod yn sefydliad mor ifanc. Ac er ein bod wedi dod i’r casgliad fod rhai problemau cychwynnol wedi bod—yn enwedig yn ein hadroddiad arall ar y tarfu yn yr hydref—gwyddom mai amser a ddengys pa mor ymgysylltiol a pha mor gadarnhaol fydd y berthynas y gall Trafnidiaeth Cymru ei datblygu, nid yn unig gyda ni ond gyda’r cyhoedd yn gyffredinol. Felly, credaf y daw hynny oll i’r amlwg yn y dyfodol.
Credaf mai'r hyn sy'n hollbwysig i bob un ohonom fel gwleidyddion yw deall beth yn union fydd Trafnidiaeth Cymru a'i rôl. Cafwyd peth—nid wyf am ddefnyddio'r geiriau 'anghydfod' na 'dryswch' ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol yn y pen draw. Pan ofynnais i Ken Skates, 'Ai chi sy’n gyfrifol?', dywedodd 'Ie'; mewn sesiynau blaenorol, efallai nad oedd hynny mor glir, pan oeddem yn holi Trafnidiaeth Cymru pwy oedd yn gyfrifol yn y pen draw am unrhyw fethiannau neu am unrhyw broblemau yn y system. Felly, beth bynnag sy'n digwydd o ran y strwythur, mae'n rhaid i ni wybod mai'r Llywodraeth fydd yn gyfrifol yn y pen draw am yr hyn sy'n digwydd, neu os nad hi sy’n gyfrifol, fod y llinellau pŵer ac ymwrthod â phŵer yn glir i bawb eu gweld, fel y gwyddom, ac yn bwysicach, fel y gŵyr y cyhoedd, os oes rhywbeth yn mynd o'i le, os ydynt am gwyno, os ydynt am gael iawndal, eu bod yn gwybod yn union ble i fynd. A hyd yn hyn, nid wyf yn siŵr ein bod yn gwybod beth yw'r ateb.
Er enghraifft, mae gennym y cyd-awdurdodau trafnidiaeth. A ydym am gael system ranbarthol, neu a ydym am gael system genedlaethol, neu a ydym am gael y ddwy system? Yn reddfol, ac nid wyf yn siarad ar ran pawb eto, gan nad ydym wedi trafod hyn fel plaid eto, buaswn yn dweud mewn gwirionedd, a oes angen i ni gael dwy system wahanol? Oni allwn gael un system glir y gall pobl droi ati? Efallai y gall y Papur Gwyn roi mwy o atebion i ni ynglŷn â hynny.
Roedd hi braidd yn eironig a braidd yn drist gweld bod yr undebau llafur wedi gorfod codi'r mater nad oedd Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â rhai o'r undebau llafur o gwbl, a bod yn rhaid inni godi hynny gyda hwy yn y sesiynau pwyllgor hyn i ddweud wrthynt, 'Edrychwch, os ydych am drosglwyddo staff yn unol â’r Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth), os ydych am drosglwyddo pobl i Trafnidiaeth Cymru o gyrff eraill, mae angen iddynt ddeall beth yn union sy'n digwydd ac mae'n rhaid rhoi rôl iddynt ar y bwrdd hwnnw hefyd,’ Rwy'n falch o weld, yn dilyn y pryderon cyhoeddus hynny, fod Trafnidiaeth Cymru bellach wedi ymgysylltu â'r holl undebau llafur. Credaf mai Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol oedd â'r pryder mwyaf ar y pryd, ond maent bellach yn rhan o'r sgwrs honno. Ond ni ddylai fod yn ôl-ystyriaeth; dylent fod yno o'r cychwyn cyntaf fel rhan o'r bartneriaeth gymdeithasol, ac ni ddylem weld hynny'n digwydd eto yma yng Nghymru.
Yn y pen draw, credaf fod yn rhaid i unrhyw system lywodraethu fod yn ddigon cadarn i fod yn sicr fod yr hyn a ddarperir i'r cyhoedd yn ddigonol ac yn gryf. A chredaf mai dyna lle mae angen i bethau wella, o bosibl. Yn ein hadroddiad, dywedwn fod Trafnidiaeth Cymru yn fwy adweithiol na rhagweithiol: nid oedd pobl yn gwybod beth oedd yn digwydd, nid oeddent yn gwybod pwy oedd yn rhedeg y gwasanaeth bellach, ni allent ddod o hyd i wybodaeth ar y wefan ac nid oeddent yn gwybod am gynlluniau ar gyfer tocynnau integredig. Felly, yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod angen i Trafnidiaeth Cymru gynnal ymgyrch eang ar draws Cymru i ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â’r hyn y maent am ei weld yn digwydd a sut. Os yw Trafnidiaeth Cymru am ymestyn i fysiau ac i ddulliau trafnidiaeth eraill, sut y gellir defnyddio'r cyhoedd fel rhan o'r sgwrs honno, yn hytrach na dweud wrthynt beth sy'n mynd i ddigwydd yn unig? Dyna maent am ei weld yn digwydd bellach mewn perthynas â hyn.
Un sylw arall y credaf inni ei drafod yn yr ymchwiliad, ac un y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymateb iddo efallai, oedd y diffyg arbenigedd gan y rheini yn y diwydiant rheilffyrdd ar y bwrdd. Rwy'n derbyn na ellir llenwi'r bwrdd ag arbenigwyr ac anoracs rheilffyrdd yn unig—ni all olygu'r bobl hynny'n unig, er mor angerddol ydynt—rhaid iddo gynnwys pob rhan o gymdeithas. Ond os nad oes gennych unrhyw un a chanddynt y sgiliau hynny, onid yw hynny’n dipyn o broblem? Rwy'n gwerthfawrogi'r arbenigedd hwnnw gan nad wyf yn arbenigwr ar reilffyrdd—ni fuaswn yn gallu gwneud y gwaith hwnnw—felly os gwelwch yn dda, a gawn ni weld sut y gellir eu cynnwys, a sut y gallwn ddefnyddio’r agenda newid hinsawdd y mae pawb ohonom yn sôn amdani ar hyn o bryd i ffocysu gwaith Trafnidiaeth Cymru ar edrych ar sut y gallant integreiddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth i'w gwaith, ond hefyd annog pobl allan o'u ceir.
Hoffwn ddiolch i dîm y pwyllgor am eu holl waith caled yn cefnogi'r gwaith hwn, ond credaf mai dyma yw dechrau ein gwaith craffu ar Trafnidiaeth Cymru, ac yn sicr nid y diwedd.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad y prynhawn yma ar ddatblygiad Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Diben yr adroddiad hwn yw sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn addas i’r diben. I'r perwyl hwnnw, mae'r pwyllgor yn gwneud 13 argymhelliad. Mae'n dda nodi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 13 argymhelliad, a bod Trafnidiaeth Cymru eu hunain wedi croesawu'r adroddiad.
Hoffwn gyfyngu fy sylwadau heddiw i rai o'r egwyddorion allweddol pwysig a amlygwyd gan y pwyllgor. Y pryderon cyntaf yw: tryloywder ac eglurder o ran gweithrediadau, rôl a llywodraethu. Daeth hyn i'r amlwg fel mater allweddol yn ystod yr ymchwiliad, gydag amrywiaeth o safbwyntiau'n cael eu mynegi. Mynegwyd pryderon nad oes eglurder, ar hyn o bryd, ynghylch ble mae swyddogaethau Trafnidiaeth Cymru’n gorffen a swyddogaethau Llywodraeth Cymru’n dechrau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddiffinio cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru yn glir i fodloni cyfranddalwyr a chwsmeriaid. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog sut y mae'n bwriadu cyflawni hyn yn ei ateb.
Fel y dywed yr adroddiad,
'mae trafnidiaeth yn bennaf oll yn ymwneud ag anghenion y defnyddiwr… Rhaid i Trafnidiaeth Cymru ddangos ymrwymiad cryfach i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a gwella profiad teithwyr.'
Er i'r pwyllgor gydnabod bod Trafnidiaeth Cymru wedi mynegi parodrwydd i fod yn agored, mynegwyd pryderon fod argaeledd gwybodaeth i'r cyhoedd wedi bod yn araf ac yn anghyflawn. Yr argraff a roddwyd oedd fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn darparu gwybodaeth ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar sail adweithiol yn hytrach na rhagweithiol, fel y crybwyllwyd eisoes gan Bethan. Fel sefydliad cymharol newydd, nid yw'r problemau hyn yn syndod. Mae’n rhaid i Trafnidiaeth Cymru weithio’n gyflym i sefydlu grŵp cynghori ffurfiol i ymgysylltu â chyrff rhanddeiliaid a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'i gyfrifoldebau a’i swyddogaethau. Byddai ystod eang o fecanweithiau i ymgynghori â rhanddeiliaid a theithwyr yn dangos ymrwymiad cryfach i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a gwella profiad teithwyr.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, ewch yn eich blaen.
A gaf fi ofyn: a oes safbwynt gan y Blaid Geidwadol bellach ar gyd-awdurdodau trafnidiaeth?
Gadewch i mi orffen fy araith a rhoddaf yr ateb i chi mewn munud.
Byddai corff gweithredol trafnidiaeth strategol yn cydgysylltu’r ddarpariaeth o brofiad teithio di-dor i ddefnyddwyr. Byddai hyn yn darparu swyddogaeth cefn swyddfa ar gyfer tocynnau integredig ar draws pob dull trafnidiaeth, a phob dull talu a ffefrir. Bydd tocynnau integredig ac opsiwn teithio clyfar yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deithwyr yng Nghymru, ac yn gwella eu profiad yn sylweddol. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach pan fo'r teithwyr yn bobl hŷn, yn anabl neu angen defnyddio cadeiriau olwyn.
Fel Gweinidog sgiliau'r wrthblaid ar ran fy mhlaid, mae gennyf ddiddordeb arbennig—nawr, dyma fy ateb i Hefin David—yn y cyfleoedd a gynigir yn sgil datblygu Trafnidiaeth Cymru i adeiladu a chadw sgiliau a gallu o ran arbenigedd trafnidiaeth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu prentisiaethau. Nodwyd bod gan Transport for Greater Manchester a’r Liverpool City Region Combined Authority ffocws cryf ar gaffael lleol a chreu gwaddol o swyddi a hyfforddiant. Croesawodd y pwyllgor nod y Gweinidog o greu sefydliad arbenigol a all gynorthwyo a datblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r gwaith o ddatblygu Trafnidiaeth Cymru arwain at gynnydd sylweddol mewn sgiliau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a chynhyrchu prentisiaethau. Mae’n rhaid i ni hefyd ddilyn arweiniad Manceinion a Lerpwl ac alinio arferion caffael er mwyn cefnogi gwaddol o sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, credaf y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddatblygu fel sefydliad sy'n addas i’r diben ac sy'n gwasanaethu pobl Cymru yn dda. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r holl staff ar y pwyllgor am eu cefnogaeth mewn ymchwiliad a fu’n hynod ddefnyddiol. Wrth godi i siarad heddiw, hoffwn ddechrau drwy nodi'r canmlwyddiannau pwysig sy'n cael eu dathlu eleni mewn perthynas â datblygu polisi trafnidiaeth yn y DU. Pan oeddwn yn athrawes, roeddwn bob amser yn dweud wrth fy myfyrwyr fod hanes yn berthnasol yn y byd modern, a chredaf bod yr enghreifftiau hyn yn dangos hynny.
Ym 1819, agorodd rheilffordd Mansfield a Pinxton. Y rheilffordd hon, sy’n dathlu ei deucanmlwyddiant ar hyn o bryd, yw’r rheilffordd fasnachol hynaf yn y DU sy'n rhedeg yn barhaus. Ac yn bwysicach, yng ngoleuni'r sylwadau y byddaf yn eu gwneud yn y man ac y mae Aelodau eraill eisoes wedi'u gwneud, roedd y rheilffordd honno'n gysylltiedig â datblygiad economaidd, ac roedd yn rhan o ymgais radicalaidd i integreiddio seilwaith trafnidiaeth, sef rheilffyrdd a chamlesi yn yr achos hwnnw.
Gan neidio ymlaen 100 mlynedd, ym mis Mai 1919, penodwyd y Gweinidog trafnidiaeth cyntaf erioed yn San Steffan. Penodwyd Eric Geddes gan Lloyd George i oruchwylio'r adran newydd, lle roedd y rheilffyrdd yn gyfrifoldeb allweddol, ac roedd ffurf y rhwydwaith yn y dyfodol yn ddadl allweddol, sydd unwaith eto'n rhywbeth a fydd yn taro tant gyda ni heddiw. Felly, mae'n ddiddorol nodi bod y math o flaenoriaethau roeddem yn edrych arnynt fel gwlad 100 mlynedd yn ôl, 200 mlynedd yn ôl, yn dal i adleisio gyda ni heddiw.
Neidiwn ymlaen 100 mlynedd arall, ac yma mae gennym yr adroddiad gan y Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr ydym yn ei ystyried heddiw. Ac rwy'n ofni, Gadeirydd, y gallai fod yn ormod disgwyl y bydd llunwyr polisi yn nodi ei ganmlwyddiant ymhen 100 mlynedd, ond er hynny, credaf fod negeseuon allweddol yn yr holl feysydd hyn—yr economi, integreiddio a ffurf y rhwydwaith, ac rwyf am gymryd peth amser i'w harchwilio.
Hoffwn ddechrau gydag argymhelliad 13. Credaf y gallai'r math hwnnw o ffocws ar gaffael, sgiliau a hyfforddiant ddarparu hwb economaidd pwysig iawn. Mae'n gyfle gwych i bobl sy'n byw mewn ardaloedd fel fy un i gael gwaith o ansawdd da. Mae'n gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig sicrhau contractau o ansawdd da. Ac fel y dywedodd y dystiolaeth a gawsom o Fanceinion a Lerpwl wrthym, mae’n rhaid i gefnogi cyflogaeth a phrentisiaethau fod wrth wraidd unrhyw fodel gweithio rhanbarthol neu genedlaethol. Gyda hynny mewn golwg, mae'n dda gweld yr amrywiaeth o ddulliau a amlinellwyd yn yr ymateb gan Trafnidiaeth Cymru i'r argymhelliad hwn.
Gan droi'n fyr at argymhelliad 11, er mwyn i Trafnidiaeth Cymru ddangos eu hymrwymiad i'w gweithlu a'u lles, mae'n bwysig eu bod yn ymrwymo i gytundeb partneriaeth gymdeithasol gyda’r undebau llafur perthnasol. Gwn fod gwefan Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gael cynrychiolydd undeb ar eu bwrdd. Felly, byddai'n dda gweld cynnydd ar y pwynt hwn.
Am y rhan fwyaf o fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar argymhellion 5 i 8. Mae pob un ohonynt yn ymwneud â’r pwyntiau ehangach ynghylch integreiddio a rhwydwaith a nodais yn fy sylwadau agoriadol. Mae gan bob un ohonynt rôl bwysig yn sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'r newid trawsnewidiol yr hoffem ei weld ganddynt. O'r herwydd, mae'n dda fod pob un o'r argymhellion hynny wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n dda darllen yr ymateb cadarnhaol gan Trafnidiaeth Cymru, lle bo'n briodol.
Er mwyn cyflawni'r nodau hyn fodd bynnag, mae gwasanaethau bysiau'n gwbl hanfodol yn fy marn i, ac i wireddu'r weledigaeth o fetro de Cymru fel system drafnidiaeth wirioneddol integredig, mae’n rhaid inni sicrhau prif lwybrau iach—prif lwybrau sydd, drwy wasanaethau bysiau neu gysylltiadau teithio llesol o bosibl, yn cysylltu’r cymunedau tlotaf a mwyaf ynysig yn aml â'r prif lwybrau trafnidiaeth.
O fy mag post etholaethol, yn enwedig mewn perthynas â'r gwasanaethau bysiau hynny, mae llawer gennym i’w wneud o hyd i gyflawni hyn ac i wireddu uchelgais lawn metro de Cymru. Byddai gwneud hynny’n cyd-fynd â'r nodau llesiant ac yn cynnig ymyrraeth go iawn o ran hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, ac wrth gwrs, byddai angen system docynnau gydgysylltiedig ac integredig ar wasanaeth cydgysylltiedig, a hoffwn weld gwasanaeth nad yw’n cosbi rhai nad ydynt yn teithio'n aml. Mae un o fy nghanghennau Cymru Egnïol lleol wedi galw mewn modd tebyg am ymestyn teithio rhatach ar fysiau i gynnwys gwasanaethau trenau a hoffwn weld rhagor o waith ar hyn.
Yn ystod ein hymchwiliad, cafwyd tystiolaeth gymhellol gan sawl un o'n tystion hefyd ynghylch rôl bosibl i Trafnidiaeth Cymru o ran y rhwydwaith priffyrdd, a chredaf y byddai hwn yn gyfle gwirioneddol gadarnhaol i newid asiantaeth cefnffyrdd nad yw'n ymatebol iawn yn fy marn bersonol i. Cafodd fy etholaeth ei heffeithio'n wael gan lifogydd ar ran o'r A465 ger y Rhigos yn gynharach eleni, ac roedd gweithredoedd Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn broblemus. Defnyddiwyd arwyddion anghywir ganddynt, a methwyd dod o hyd i offer pwmpio y gallodd yr awdurdod lleol gael gafael arno’n gyflym. Achosodd eu llanast rwystredigaeth i gymudwyr a thrigolion lleol, gan wneud sefyllfa wael yn waeth. Rwyf hefyd wedi cael problemau cyson mewn perthynas â hyn gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru dros y tair blynedd diwethaf o ran arwyddion cau ffyrdd, methiant i drwsio tyllau yn y ffyrdd, amseru goleuadau traffig, a gwelededd peryglus o wael ar gyffyrdd allweddol oherwydd methiant i dorri gwair. Ym mhob achos, mae'r materion hyn, sydd wedi achosi oedi ac wedi effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr ffyrdd, wedi cael eu datrys yn y pen draw, ond dim ond ar ôl lobïo personol gennyf i neu gan Aelodau Cynulliad eraill. Felly, yn y dyfodol, byddai rôl fwy i Trafnidiaeth Cymru, gyda llinellau atebolrwydd clir, yn ddim byd ond gwelliant.
Yn gyntaf, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi gyfleu fy nghydymdeimlad mwyaf i a fy mhlaid i deuluoedd a ffrindiau'r ddau weithiwr a laddwyd ar reilffordd Caerdydd i Abertawe y bore yma?
Yn ei chynllun economaidd 'Ffyniant i Bawb', pwysleisiodd Llywodraeth Cymru bwysigrwydd cysylltedd yng Nghymru fel rhywbeth sy'n hanfodol i lwyddiant economaidd. Bydd gan Trafnidiaeth Cymru rôl allweddol i'w chwarae yn y gwaith o gyflawni'r agwedd seilwaith ac amserlennu trafnidiaeth mewn perthynas â'r cysylltedd hwn. Hoffwn gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed gan y pwyllgor i gynhyrchu'r adroddiad hwn. Mae'n arwyddocaol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad. Credaf fod hyn yn dangos aeddfedrwydd y pwyllgor, ac mae'n rhaid ei ystyried bellach yn gyfaill beirniadol yn hytrach na phwyllgor craffu yn unig.
Gwn o fy nghyfnod ar y pwyllgor fod yno gonsensws trawsbleidiol i wella perfformiad economaidd a chymdeithasol Cymru. Mae un achos pryder wedi'i gynnwys yn argymhelliad 5. Dywed ei bod yn:
'anodd argymell ar ba ffurf y dylai’r corff trafnidiaeth fod hyd nes bod eglurder ynghylch ei swyddogaethau.'
Nodaf efallai y dylai hyn fod wedi bod y ffordd arall, lle rydych yn penderfynu ar ei swyddogaethau ac yna'n creu'r model sydd ei angen arnoch i gyflawni'r swyddogaethau hynny. Yn sicr, ymddengys bod consensws rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i sicrhau y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gymwys i gyflawni rôl corff trosfwaol a fydd yn gallu cydgysylltu pob rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth a rhoi cyfeiriad, rhywbeth a fu'n brin yn y gorffennol.
Nid oes amheuaeth fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i greu'r seilwaith trafnidiaeth gorau posibl i Gymru, ond dywedaf mai cyflawni, cyflawni, ac unwaith eto, cyflawni fydd yn penderfynu yn y pen draw a yw nodau'r Llywodraeth yn cael eu cyrraedd. Felly, mae'n rhaid i ni beidio â rhoi gormod o le i droi i Trafnidiaeth Cymru ar yr agwedd hon.
Mae'n werth nodi bod Trafnidiaeth Cymru yn y broses o ddefnyddio amser teithwyr a gollir fel eu hofferyn perfformiad newydd—y cyntaf i'w ddefnyddio yn y DU. Er y bydd hyn yn gwella adborth data, gweithredu camau cywiro fydd y gwir brawf o allu Trafnidiaeth Cymru i wella ar ddisgwyliadau teithwyr. I grynhoi, Lywydd: 600 o swyddi newydd, 30 o brentisiaethau bob blwyddyn, trenau newydd wedi'u harchebu, gwaith cynllunio a dylunio manwl yn mynd rhagddo ar y prosiect metro, a gwaith eisoes ar y gweill ar wella gorsafoedd—mae'r dyfodol yn sicr yn edrych yn ddisglair i'r cyhoedd sy'n teithio yng Nghymru, ac rwy'n yn hyderus y bydd y gwaith craffu parhaus yn sicrhau bod yr holl addewidion a rhwymedigaethau'n cael eu cyflawni, ac ar amser gobeithio, fel ein trenau.
Hoffwn gytuno â'r sylwadau am y drychineb ym Margam a grybwyllwyd gan y Gweinidog ac eraill.
Yn ôl ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion, nod hirdymor Trafnidiaeth Cymru yw
'cyflenwi system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi mynediad haws i bawb i fysiau, trenau a theithio llesol ar gyfer siwrneiau pob dydd.'
Gŵyr y Siambr fy mod wedi gwneud llawer o gwyno am ymagwedd y Llywodraeth—nid y Llywodraeth, mae'n debyg, ond yr ymagwedd at adeiladu tai a welwyd yn fy etholaeth, ac yn enwedig yn y rhan ddeheuol, gan adael y Llywodraeth yn aml heb unrhyw ddewis ond caniatáu i'r gwaith adeiladu hwnnw fynd rhagddo oherwydd y galw. Ond mae'r tai hynny'n cael eu hadeiladu mewn ardaloedd lle mae'r cysylltiadau trafnidiaeth yn wael iawn. Ac—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Does bosibl mai rôl yr awdurdod lleol yw penderfynu a yw datblygiad tai penodol yn gynaliadwy ai peidio.
Ie, ac mae'r awdurdod lleol yn ei wrthod ar y sail honno, yna ceir apêl ac mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gwrthdroi’r penderfyniad ar apêl, ac yna mae'r Gweinidog yn cymeradwyo'r apêl am fod y Gweinidog yn poeni, os nad yw'n ei gymeradwyo ar apêl, y bydd yn destun adolygiad barnwrol a barn yr arolygydd cynllunio fydd drechaf yn yr amgylchiadau hynny. Dyna'r anhawster sydd—. A gallaf roi enghraifft benodol i chi yn Hendredenny. Y broblem gyda Hendredenny, lle bydd Redrow yn adeiladu tai, yw nad yw'n cysylltu'n dda iawn, ac mae'r amcangyfrifon trafnidiaeth yn awgrymu y bydd mwy o geir—mai chwe char y dydd yn unig fydd ar y ffordd o ganlyniad i adeiladu'r ystâd honno. Mae'n gwbl hurt, gan nad yw'r system drafnidiaeth yn darparu ar gyfer y meintiau traffig a gaiff eu creu mewn gwirionedd. Felly, mae dyfodol Trafnidiaeth Cymru yn hynod bwysig er mwyn lleihau’r angen am y math hwnnw o ystâd dai ac i gysylltu'n well, a defnyddio'r system drafnidiaeth i gysylltu trafnidiaeth yn well ar draws etholaeth Caerffili, yn enwedig wrth adeiladu mewn ardaloedd o angen.
Mae'n galonogol fod y Gweinidog yn derbyn argymhelliad 7, a dywed argymhelliad 7 y dylai Trafnidiaeth Cymru
‘ddarparu tystiolaeth glir o sut y mae’n cydymffurfio ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.’
Dyna'n union y siaradwn amdano pan fyddwn yn sôn am gysylltedd ac ystadau newydd.
Mae argymhelliad 6 yn cyfeirio at rywbeth sydd o ddiddordeb mawr i'r pwyllgor, sef creu cyd-awdurdodau trafnidiaeth, fel y nodais wrth Mohammad Asghar. Credaf fod diffyg eglurder yno p'un a oes angen cyd-awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol arnom, a oes angen cyd-awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol, ac mae angen i'r Llywodraeth fod yn glir ynglŷn â hyn a pha rolau y byddant yn eu chwarae. A fydd y cyd-awdurdodau trafnidiaeth ond yn ailadrodd yr hyn y mae corff Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud? Ac edrychwn ymlaen at eglurder ynglŷn â hynny'n arbennig.
Un peth y buaswn yn ei ddweud mewn ymateb i Bethan Jenkins, a gododd bryderon ynglŷn â chyfrifoldeb am agweddau ar yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud: yn fy mhrofiad i, mae James Price, fel prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, wedi bod yn agored iawn wrth ateb cwestiynau'n onest iawn yn y pwyllgor, ac weithiau ar draul ei enw da, o bosibl, yn yr ystyr fod llawer o bethau na all eu gwneud, ond mae hefyd yn fwy na pharod i wahodd Aelodau'r Cynulliad sydd â diddordeb i weld beth y maent ei wneud, yn enwedig yn y depo yn Nhreganna, a gweld beth y maent yn ei wneud i roi trenau newydd ar y rheilffyrdd.
Erbyn hyn, ar reilffordd Rhymni i Gaerdydd, mae gennym wasanaethau a dynnir gan locomotif a cherbydau ychwanegol o ganlyniad uniongyrchol i Trafnidiaeth Cymru. Mae bodolaeth Trafnidiaeth Cymru wedi arwain at gerbydau ychwanegol ar y rheilffordd sy'n rhedeg drwy fy etholaeth, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Mae hwnnw’n ateb dros dro wrth i’r trenau newydd gael eu hadeiladu, ac mae'n rhywbeth sy'n berthnasol iawn yn fy marn i i'r ffaith bod gennym y fasnachfraint hon bellach, ym mherchnogaeth Cymru ac yn cael ei rhedeg gan Gymru. A bydd y newidiadau yn y dyfodol yn ganlyniad uniongyrchol i'r ffaith bod y fasnachfraint yn cael ei goruchwylio gan Weinidogion yn y Senedd hon.
Yn olaf, o ran tocynnau, mae arnom angen y gwasanaeth tocynnau di-dor hwn—soniodd Vikki Howells amdano—a’r gallu i olrhain tocynnau. Cefais brofiad dros y penwythnos: euthum â fy mhlant ar daith ddwyffordd o Hengoed i Aber. Euthum i Ffiliffest yng nghastell Caerffili ac yna i Barc Morgan Jones a'r pad sblasio yno—rwy’n annog pawb i ymweld â hwnnw, mae'n anhygoel—ond prynais fy nhocyn gan ddefnyddio fy ap Trafnidiaeth Cymru ar fy ffôn. Felly, prynais fy nhocyn cyn i mi adael y tŷ. Ni wiriodd neb fy nhocyn ar y trên. Rhaid bod yna dechnoleg a fyddai'n galluogi i'r tocynnwr ar y trên wybod a yw tocynnau wedi cael eu prynu ai peidio, gan wneud bywyd yn haws i'r tocynnwr. Roedd y cerbyd yn llawn, felly nid oedd modd i’r tocynnwr symud o un cerbyd i'r llall i wirio fy nhocyn, ond roeddwn wedi prynu'r tocyn. Ond byddai'n demtasiwn—ac mae'n debyg na fydd fy etholwyr yn diolch i mi am hyn—i beidio â phrynu tocyn; dyna’r natur ddynol. Credaf fod angen inni gael technoleg sy'n galluogi'r tocynnwr i wybod, heb fod yn ymwthiol, fod tocynnau wedi’u prynu. Credaf fod honno'n ystyriaeth bwysig ar gyfer y dyfodol.
Y peth cyntaf yr hoffwn innau ei wneud yw cydymdeimlo â theuluoedd y ddau ddyn a laddwyd heddiw, a chytuno â phopeth a ddywedwyd yn gynharach o ran y ffordd y teimlwn yma heddiw—fod pobl sy'n mynd i'r gwaith yn disgwyl dod adref o'r gwaith.
Hoffwn ddweud—ac i barhau â'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod—fy mod yn croesawu menter Trafnidiaeth Cymru, gan ei fod yn golygu'n amlwg iawn y ceir ffocws ar drafnidiaeth yn ei chyfanrwydd yng Nghymru, ac mae hynny'n amlwg yn beth cadarnhaol, ac rydym yn gweld pethau cadarnhaol yn codi eisoes o hynny. Ond hoffwn ganolbwyntio i ddechrau ar symud ymlaen, yn enwedig pan fyddwn yn edrych ar yr argyfwng hinsawdd sydd wedi'i ddatgan. Rydym yn sôn am aer glanach ac rydym hefyd yn sôn am ddatgarboneiddio yn y system drafnidiaeth. Felly, mae yna resymeg—ac mae wedi'i derbyn—fod yn rhaid inni alinio'r polisïau trafnidiaeth â phob agwedd ar gynllunio, ac unwaith eto, soniodd Hefin am hynny ar gyfer ei ranbarth. Ond mae'n rhaid i ni siarad am y peth mewn perthynas â phob ardal—[Torri ar draws.] Iawn, o'r gorau, nid oes ganddo ranbarth; mae gennyf i ranbarth. Ond mae'n rhaid i ni siarad am hyn yn ei gyfanrwydd, gan fod trafnidiaeth—. Os ydym am adeiladu—ac rwy'n gobeithio ein bod—mwy o lawer o dai i bobl, ac os ydym am siarad yn benodol am dai fforddiadwy o fewn hynny, mae'n rhaid i ni ganiatáu i'r unigolion hynny, ni waeth pwy ydynt na lle maent yn byw, gael cyfle i deithio naill ai ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i gerdded neu feicio.
Yn rhy aml yn y gorffennol—mae pob un ohonom wedi gweld hyn, ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi sôn am hyn o'r blaen ar y meinciau cefn—rydym wedi gweld ystadau'n cael eu hadeiladu heb unrhyw fynediad nac unrhyw ystyriaeth i'r ffordd y bydd pobl yn teithio o gwmpas y tai hynny. Gellir dweud yr un peth pan fyddwn yn adeiladu ysgolion, ysbytai, neu unrhyw beth arall o ran hynny. Oherwydd, os ydym am fynd ati o ddifrif, mae'n rhaid i ni fod o ddifrif o'r cychwyn cyntaf, yn y cyfnod cyn cynllunio. Mae gennyf bob hyder y bydd y Dirprwy Weinidog yn canolbwyntio ar yr agenda honno, ac mae hynny'n beth da, ond mae angen inni fod yn siŵr fod hyn yn digwydd ar lawr gwlad. A oes arnom angen—pan fyddwn yn edrych ar gynllun cenedlaethol, a chynllun rhanbarthol a chynllun lleol, a ydym yn cael sgyrsiau gyda'r awdurdodau lleol a fydd yn llunio'r cynlluniau hynny'n lleol, gan sicrhau bod yr aelodau ar y pwyllgorau cynllunio'n deall yn iawn beth y dylent fod yn edrych arno yn ei gyfanrwydd wrth benderfynu ar gais? Oherwydd er ein bod ni yma yn trafod hyn, ac wedi cynnal ymchwiliad pwyllgor i hyn, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y bydd y bobl y gofynnir iddynt ei roi ar waith ar lawr gwlad yn deall hyn mor glir â ninnau. Felly, mae'n debyg mai dyna fy nghwestiwn go iawn i chi. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am y ffordd ystyriol y cynaliasant eu hymchwiliad ac am eu hadroddiad? Mae rôl Trafnidiaeth Cymru yn esblygu, ac mae'n ddefnyddiol i'r pwyllgor wneud y gwaith hwn ar y pwynt hwn yn y cylch. Roeddwn yn awyddus, fel aelod o'r pwyllgor hwn pan oedd yn drafftio'i raglen waith, i'r pwyllgor roi ei drwyn i mewn yn y ddadl hon yn gynnar, ac rwyf yr un mor awyddus yn awr, fel Gweinidog, i dderbyn cyngor a syniadau'r pwyllgor ynglŷn â sut y dylid llunio hynny. Credaf fod hyn yn enghraifft bwysig o bwyllgor yn cyflawni ei rôl o ran craffu a dylanwadu ar bolisi. Dyna un o'r rhesymau pam fod y Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion, ac wedi egluro'r camau y bwriadwn eu cymryd a'r camau y bwriadwn i Trafnidiaeth Cymru eu cymryd yn glir. Mae gennym weledigaeth am system drafnidiaeth garbon isel integredig o'r radd flaenaf yng Nghymru i yrru ein heconomïau a'n cymunedau tuag at fwy o ffyniant. Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru i'n cynorthwyo i gyflawni'r weledigaeth honno. Mae gan y cwmni rôl bwysig yn sbarduno'r broses o integreiddio ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth cyfan, gan sicrhau bod y teithiwr wrth wraidd popeth a wna.
Wrth i ni ddechrau ar ein taith gyda Trafnidiaeth Cymru i newid rhwydwaith Cymru, mae cymhlethdod ac anwadalrwydd y ffactorau sy'n sbarduno newid y mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb iddynt yn ddigynsail. Bydd dyfodiad technolegau newydd a datblygol yn y sector trafnidiaeth yn trawsnewid y modd y mae pobl yn defnyddio trafnidiaeth yn eu bywydau bob dydd dros y degawd nesaf. Y bore yma, Ddirprwy Lywydd, bûm yn lansio fflyd newydd o fysiau ar gyfer TrawsCymru ac yn myfyrio ar fy mhrofiad fy hun, fel myfyriwr yn Aberystwyth yn gwneud y daith erchyll ar y bws ar hyd lonydd troellog canolbarth Cymru, gyda gyrwyr yn mynd yn llawer rhy gyflym, a minnau’n teimlo'n swp sâl ar ôl noson allan y noson cynt—ac ystyried y profiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ac yna, 25 mlynedd yn ddiweddarach, bydd y profiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn wahanol iawn. Mae'r syniad o Uber ar gyfer bysiau bellach yn rhywbeth rydym wrthi'n ei dreialu drwy'r Cymoedd ac yn Wrecsam, ac mae hwnnw’n rhywbeth a oedd yn gwbl annirnadwy pan oeddwn yn fyfyriwr. Felly, mae'r technolegau newydd hyn, os cânt eu rheoli'n gywir, yn gyfleoedd i economi Cymru elwa o swyddi newydd, medrus, ac yn gyfle i brofiad y teithiwr newid hefyd, ac i ddenu mwy o bobl i newid eu dulliau trafnidiaeth i'n helpu i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd.
Mae'r model presennol, lle mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am strategaeth yr holl ffordd hyd at gyflawni prosiectau a gweithrediadau, yn arwain at ddull tameidiog o weithredu o ran ymdrech a ffocws, gan newid yn anochel o ddatblygu polisi effeithiol i ymdrin â’r gwaith uniongyrchol o gyflawni. Yn y cynllun gweithredu economaidd, rydym wedi nodi ein dyhead i weld Trafnidiaeth Cymru yn manteisio ar y cyfle sydd ganddo fel ein hintegreiddiwr trafnidiaeth—i alluogi'r cwmni i ymgymryd ag ystod ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth. Wrth wneud hynny, byddwn yn cynyddu gallu, arbenigedd a chapasiti staffio Trafnidiaeth Cymru i gyflawni nodau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rhai camau uniongyrchol tuag at integreiddio trafnidiaeth: grymuso Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi mynediad haws i bawb at fysiau, trenau a theithio llesol ar gyfer teithiau bob dydd; creu model cynllunio trafnidiaeth i Gymru, gan alluogi penderfyniadau gwell o ran cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth; rhoi technoleg tocynnau clyfar ar waith i greu gallu i ryngweithredu a defnydd ar draws dulliau trafnidiaeth; a chydgysylltu gwybodaeth ar draws dulliau trafnidiaeth i helpu i lywio’r gwaith o gynllunio llwybrau.
Yn y tymor canolig, rydym wedi cyfarwyddo swyddogion i gynllunio ar gyfer symud gweddill y swyddogaethau cyflawni trafnidiaeth, fel gweithrediadau a gwelliannau priffyrdd, o Lywodraeth Cymru i Trafnidiaeth Cymru. Bydd gwneud hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar yr heriau polisi sy'n deillio o ddatgarboneiddio, ansawdd aer, cerbydau awtonomaidd a cherbydau trydan ac yn y blaen er mwyn datblygu fframwaith polisi a rhaglen ddeddfwriaethol aml-dymor a fydd yn ein helpu i wireddu'r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Fel rhan o'r gwaith o ddiwygio bysiau, rydym yn cynnig y dull cyd-awdurdodau trafnidiaeth, lle mae awdurdodau lleol yn rhanbarthau Cymru yn cydweithio i ddarparu canlyniadau trafnidiaeth lleol a rhanbarthol. Hoffwn ymateb i her Hefin David—nid y rhan lle datgelodd ei hoffter o osgoi talu am docynnau, ond y rhan arall—lle dywedodd fod yna ddiffyg eglurder ynglŷn ag a ddylai Trafnidiaeth Cymru fod yn gorff cynllunio trafnidiaeth cenedlaethol neu'n un rhanbarthol. Dyma'r ddadl rydym am ei chael, a buaswn yn gwahodd yr Aelodau i fewnbynnu hyn i awdurdodau lleol hefyd.
Ein safbwynt ar hyn o bryd—ac mae hwn yn wahoddiad gwirioneddol i'n helpu i'w lunio—wrth weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, a'r gwaith y mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei wneud ar greu ôl-troed rhanbarthol ar gyfer cydweithredu, yw y dylai trafnidiaeth fod yn rhan fawr o hynny, nid fel datblygiad annibynnol, ond wedi'i integreiddio'n llwyr i'r cyrff cydweithredol rhanbarthol y mae'r Gweinidog yn eu creu. Yn union fel y gall Llywodraeth Cymru gomisiynu Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd i wneud gwaith ar ein cyfer, mae'n gwbl bosibl, yn unol â'r hyn rydym am ei weld, y gallai awdurdodau lleol eu comisiynu yn yr un modd i wneud gwaith ar eu cyfer hwy, gan nad oes gan bob awdurdod lleol gapasiti ac arbenigedd, fel y bu ganddynt ar un adeg, i wneud hyn. Felly, nid oes unrhyw reswm pam na all gwahanol haenau o lywodraeth arfer y ffordd weithredol a democrataidd honno o wneud penderfyniadau, a gall Trafnidiaeth Cymru sefyll ochr yn ochr â hwy fel partneriaid i ddarparu'r arbenigedd hwnnw. Fel hynny, fel cenedl fach, glyfar, gallwn wneud y gorau o'n harbenigedd, a gwneud hynny mewn ffordd gydweithredol.
Dyna yw ein cynllun. Dyna rydym yn gweithio tuag ato, a byddem yn croesawu rhywfaint o her ar hynny os yw'r Aelodau'n credu y byddai cyfeiriad gwahanol yn well. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny’n darparu rhywfaint o eglurder, i ateb pwynt Hefin David ar ein cyfeiriad teithio. Fel sefydliad sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ddarparu atebion trafnidiaeth, gall Trafnidiaeth Cymru adeiladu gweithlu trafnidiaeth medrus iawn gyda phwyslais ar sgiliau technegol, rheoli ac arwain a fydd yn creu gwerth a chanlyniadau gwell i bobl, i leoedd ac i Gymru. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar Russell George yn awr i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Trafnidiaeth Cymru a'r Gweinidog wedi datgan eu hymrwymiad i fod yn agored a thryloyw, ond buaswn yn dweud bod eu record ar hyn yn amherffaith. Cafwyd bylchau yn y fframiau amser a gwmpesir yn llythyr cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru, ac nid ydym eto wedi gweld yr achos busnes hirddisgwyliedig ar gyfer ei lywodraethu yn y dyfodol.
Nawr, siaradodd Hefin David am beth amser ynglŷn â chyd-awdurdodau trafnidiaeth. Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo gyda llywodraeth leol ac eraill ynglŷn â'r cyd-awdurdodau trafnidiaeth arfaethedig, a gallai hwnnw effeithio ar sut y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu yn y dyfodol wrth gwrs. Felly, dylwn ddweud fy mod yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gyhoeddi achos busnes Trafnidiaeth Cymru a'u cylch gwaith yn y dyfodol yn ystod yr ymgynghoriad ar y cynigion cyd-awdurdodau trafnidiaeth. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y Gweinidog yn datgan ei fwriad cyn bo hir fel y gall pawb ddeall sut y bydd cyd-awdurdodau trafnidiaeth yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig yn y dyfodol.
A ydw i'n iawn i feddwl bod y dystiolaeth a gawsom wedi dweud y byddai cyd-awdurdodau trafnidiaeth cenedlaethol a chyd-awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol yn gam yn rhy bell, ac y byddent yn dyblygu eu hunain?
Credaf eich bod yn iawn. Roeddwn am sôn ychydig am hynny hefyd, efallai, yn dilyn eich cyfraniad.
O'r dystiolaeth a gasglwyd—. Fe ddychwelaf at y cyd-awdurdodau trafnidiaeth. O'r dystiolaeth a gasglwyd gennym, ni chredaf y gallwn ddod i'r casgliad y byddai un model llywodraethu penodol yn berffaith addas i Gymru, ond credaf y dylid dewis a dethol cymysgedd o'r arferion gorau. Clywsom dystiolaeth gan yr arbenigwr trafnidiaeth, yr Athro Iain Docherty, a ddywedodd wrthym y dylid cael cyn lleied ag sydd eu hangen o gyrff trafnidiaeth, a dim mwy.
Mae cynrychiolwyr llywodraeth leol wedi dweud wrthym eu bod am weld mecanweithiau cydgysylltu tynn ar gyfer gwneud penderfyniadau trafnidiaeth pwysig yng Nghymru. Er eu bod yn croesawu'r cydweithredu rhanbarthol, maent yn cwestiynu'r angen am gyd-awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol. Mae rhai rhanddeiliaid hefyd o’r farn y dylai Trafnidiaeth Cymru ysgwyddo'r rôl gydgysylltu genedlaethol honno, er ei fod yn gwmni cyfyngedig wrth gwrs sy'n eiddo i'r Llywodraeth, yn hytrach nag awdurdod trafnidiaeth â phwerau statudol. Felly, mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at weld manylion y cynigion ar gyfer cyd-awdurdodau trafnidiaeth a rôl Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol i ddeall sut y byddant yn cydblethu.
Soniodd Jenny Rathbone a Vikki Howells a Hefin hefyd am docynnau integredig yn eu cyfraniadau. Nawr, bydd y cylch gwaith a roddir i Trafnidiaeth Cymru ar gyfer cynllunio defnydd tir a theithio llesol yn bwysig ar gyfer datblygu rhwydwaith integredig, gan fod ein hymchwiliad wedi dangos pwysigrwydd model llywodraethu sy'n gweithio ar draws meysydd polisi, fel iechyd, addysg a chynllunio. Wrth gwrs, nid yw siwrneiau teithwyr yn cydnabod y ffiniau hynny, a chredaf fod yn rhaid i anghenion teithwyr ddod yn gyntaf.
Rydym yn awyddus i weld tystiolaeth hefyd fod gwaith Trafnidiaeth Cymru ar docynnau integredig a chyfathrebu ac ymgysylltu â theithwyr yn dwyn ffrwyth. Rydym am weld hynny'n digwydd. Nodaf yr ymateb i argymhelliad 8 ein hymchwiliad, sy'n cyfeirio at eu gwefan am fanylion eu rhwymedigaethau mewn perthynas â thocynnau integredig, ond credaf fod angen cyflwyno llawer mwy o fanylion yn y cyswllt hwnnw. Diolch hefyd i Vikki am ei chyfraniad—Vikki Howells—a roddodd wers hanes i ni. Dysgais rai pethau heddiw nas gwyddwn o'r blaen. Ni fuaswn yn disgwyl unrhyw beth arall gan gyn-athrawes.
Diolch i Bethan Sayed, a ymunodd â'n pwyllgor wrth inni ddechrau ar y gwaith hwn. Buaswn yn adleisio sylwadau terfynol Bethan ein bod, fel pwyllgor, yn mynd i barhau i graffu ar Trafnidiaeth Cymru. Rwyf hefyd yn adleisio sylwadau Hefin, yn yr ystyr fy mod yn credu bod Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi ein gwaith craffu a herio ac maent bob amser wedi bod yn agored iawn i ddod i'r pwyllgor ac i ymgysylltu â ni fel Aelodau hefyd.
Diolch i Oscar Asghar, nad oedd ar y pwyllgor, ond sy’n aelod newydd o'r pwyllgor ar ôl ymuno â'n pwyllgor yn fwy diweddar. Rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau yntau hefyd. A diolch i Joyce Watson am ei chyfraniad, a David Rowlands am ei gyfraniad. Roedd David yn aelod o'r pwyllgor ar y pryd, ond nid yw’n aelod o'r pwyllgor bellach, felly fel y dywedais yn y pwyllgor—nid oedd yno i glywed hyn—ond diolchais i David am ei gyfraniad ar y pwyllgor yn ystod ei amser gyda ni.
Rydym bob amser yn ddiolchgar i'r rheini sy'n rhoi tystiolaeth i'n hymchwiliad, ac yn sicr, rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn ein rhanddeiliaid trafnidiaeth. Diolchwn hefyd—credaf fod Vikki Howells wedi crybwyll hyn—i’n staff ar y pwyllgor a'r tîm integredig am eu cymorth hefyd. Ein prif neges yw bod teithwyr yn haeddu'r gorau ac mae'n rhaid iddynt fod wrth wraidd popeth y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud o hyn ymlaen.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru' yw eitem 7 y prynhawn yma. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, i wneud y cynnig.
NDM7112 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—'Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Ebrill 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar statws cymhwyster bagloriaeth Cymru.
Dros nifer o flynyddoedd ac yn rhy aml, mae pryderon ynglŷn â bagloriaeth Cymru wedi bod yn codi yn y newyddion ac ym mewnflychau ein hetholaethau a'n pwyllgorau fel ei gilydd—pryderon ynglŷn â phrifysgolion yn dewis peidio â derbyn y cymhwyster, ynglŷn â'i effaith ar ddewis dysgwyr a'u llwyddiant mewn meysydd pwnc eraill, pryderon nad yw athrawon yn teimlo'n barod i gyflwyno'r cymhwyster. Fel rhiant i unigolyn ifanc sy'n mynd drwy fagloriaeth Cymru, dywedir wrthyf yn uniongyrchol ac yn rheolaidd iawn am rai o'r anawsterau sy'n wynebu ein pobl ifanc. Roedd nifer y pryderon a gâi eu codi yn peri pryder i ni fel pwyllgor. Felly, roeddem am gynnal yr ymchwiliad hwn a chlywed yn uniongyrchol gan y rheini ar y rheng flaen—disgyblion, rhieni, athrawon, cyflogwyr a phrifysgolion—am eu profiadau o fagloriaeth Cymru i ganfod pa mor gyffredin yw'r heriau sy'n cael eu dwyn i'n sylw.
Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud 10 argymhelliad. Nid wyf yn bwriadu mynd drwy bob un o'r argymhellion hynny heddiw. Yn lle hynny, rwyf am amlinellu rhai o'r prif bryderon a godwyd drwy gydol yr ymchwiliad. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymateb gan y Gweinidog, sy'n derbyn pob un ond un o'r argymhellion a wnaethom i'r Llywodraeth, gydag un argymhelliad wedi'i dderbyn mewn egwyddor. Rydym hefyd yn croesawu'r ymateb gan Cymwysterau Cymru, a oedd yn gadarnhaol iawn am y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud ac sy'n darparu ymrwymiad clir i ddatblygu bagloriaeth Cymru fel ei fod yn darparu'r budd gorau posibl i'n pobl ifanc. Dangosodd ein hymchwiliad fod yna bryderon clir ynglŷn â bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, mae'n werth nodi, er gwaethaf amheuon cychwynnol y pwyllgor, fod y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn dangos y budd amlwg a geir o astudio bagloriaeth Cymru.
Roedd hyn yn arbennig o wir o ran ehangder y sgiliau a ddatblygwyd ar gyfer dysgu, cyflogaeth a bywyd yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r ffordd y mae'r cymhwyster yn cael ei gyflwyno a'i hysbysebu ar hyn o bryd yn cael effaith niweidiol ar ei werth gwirioneddol a chanfyddedig. Roedd llawer o'r safbwyntiau negyddol a glywsom hefyd yn ymwneud â diffyg dealltwriaeth o ddiben a chynnwys y cymhwyster, a'r anghysondeb yn y modd y caiff ei ddarparu ledled Cymru.
Er i ni ganfod bod dealltwriaeth o fagloriaeth Cymru ar gynnydd mewn rhai ardaloedd, mae cyflogwyr a phrifysgolion yn parhau i fod heb wybod digon am y cymhwyster. Ceir anghysondeb sy'n peri pryder rhwng canolfannau dysgu o hyd o ran eu hymagwedd at addysgu'r cymhwyster. Mae dyblygu ymdrech a gofynion asesu na ellir eu rheoli hefyd yn golygu bod athrawon a dysgwyr wedi ymlâdd, a hynny'n ddealladwy. Er mwyn i botensial bagloriaeth Cymru gael ei wireddu'n llawn, mae angen mynd i'r afael â'r materion hyn fel mater o flaenoriaeth. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad cliriach am ei gweledigaeth ar gyfer bagloriaeth Cymru yn seiliedig ar ganllawiau sy'n rhoi manylion am ei disgwyliadau mewn perthynas â chyflwyno'r cymhwyster. Felly rwy'n croesawu cadarnhad y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r canllawiau sydd ar gael ar fagloriaeth Cymru a'r ffordd y caiff ei darparu, ac y bydd yn cyhoeddi canllawiau cliriach maes o law.
Rydym hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru weithio gyda'i gilydd i gyflwyno ymgyrch sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth wedi'i hanelu'n benodol at fusnesau a sefydliadau addysg uwch. Os caiff y sgiliau a ddatblygir o dan fagloriaeth Cymru eu deall yn well gan y sectorau hynny, bydd yn helpu i sicrhau eu hymgysylltiad a'u cefnogaeth. Rydym yn cydnabod y gwaith y mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi'i wneud yn hyn o beth ac rydym yn falch fod ymateb y Gweinidog wedi dangos bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos yn awr gyda Cymwysterau Cymru a CBAC ar ddatblygu cynllun cyfathrebu ar y cyd i helpu i sicrhau bod prifysgolion a chyflogwyr yn deall y sgiliau y mae dysgwyr yn eu datblygu wrth ymgymryd â'r cymhwyster hwn.
Canfu'r pwyllgor fod yna ddiffyg eglurder ynghylch ystyr a gweithrediad polisi Llywodraeth Cymru o fabwysiadu bagloriaeth Cymru yn gyffredinol. Er bod rhai canolfannau dysgu yn mabwysiadu ymagwedd orfodol tuag at eu meysydd astudio, nid yw eraill yn gwneud hynny. Mewn llawer o achosion, mae'r amrywioldeb hwn wedi arwain at ymdeimlad o annhegwch ac at sefyllfa lle mae rhai dysgwyr yn symud o un sefydliad i'r llall yn syml er mwyn osgoi bagloriaeth Cymru. Mae hefyd wedi arwain at ganfyddiad y gallai'r gofyniad i wneud bagloriaeth Cymru gyfyngu ar ddewisiadau pobl ifanc yn y dyfodol ac o ganlyniad, y gallai effeithio ar eu hawliau. Roedd ein hargymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel mater o flaenoriaeth, i gyhoeddi canllawiau cryfach a mwy manwl ar ei pholisi ar gyfer mabwysiadu'r cymhwyster yn gyffredinol. Credwn y dylai'r canllawiau nodi'n glir yr amgylchiadau lle gall dysgwyr gael eu heithrio rhag astudio'r dystysgrif her sgiliau.
Roeddem yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau wedi'u diweddaru ar fagloriaeth Cymru ac y bydd y polisi ar gyfer mabwysiadu bagloriaeth Cymru yn gyffredinol yn cael ei gynnwys yn y canllawiau hynny. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd y canllawiau hynny'n cynnwys y manylion y galwasom amdanynt, a byddwn yn monitro datblygiad y canllawiau'n fanwl iawn. Mae'n hanfodol hefyd fod asesiad trylwyr a chynhwysfawr o'r effaith ar hawliau plant yn cael ei gynnal wrth ddatblygu'r canllawiau hynny.
Rydym wedi clywed bod cyflwyno bagloriaeth Cymru, ynghyd â diwygiadau addysg ehangach dros y blynyddoedd diwethaf, wedi arwain at roi pwysau ar amserlenni. O ganlyniad, ceir canfyddiad fod yr opsiynau a'r dewisiadau i ddysgwyr wedi lleihau. Er na ellir gwadu bod cyflwyno'r dystysgrif her sgiliau a'r diwygiadau addysg ehangach yn gadael llai o le yn yr amserlen ar gyfer agweddau eraill ar ddysgu, os cânt eu cynllunio a'u gweithredu'n effeithiol, credwn fod gan fagloriaeth Cymru botensial i ehangu sgiliau a phrofiadau dysgwyr.
Roedd lefelau priodol o hyfforddiant, datblygiad ac adnoddau ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am gyflwyno bagloriaeth Cymru hefyd yn bryder amlwg i lawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth. Nid yw pryderon o'r fath wedi'u cyfyngu i'r cymhwyster penodol hwn a chlywodd y pwyllgor safbwyntiau tebyg mewn perthynas â diwygiadau addysg eraill. Credwn y gall Llywodraeth Cymru helpu i wella'r ffordd y caiff bagloriaeth Cymru ei chyflwyno drwy sicrhau bod addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus yn addas i'r diben o'i chyflwyno. Unwaith eto, rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion yn hyn o beth.
Mae'r sector addysg yn wynebu cyfnod o ddiwygio ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen. Gyda chymaint o newid ar y gorwel, mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i helpu i sicrhau bod ein dysgwyr yn cael yr addysg o safon y maent yn ei haeddu. Fel pwyllgor, byddwn yn monitro'r agenda ddiwygio honno'n fanwl, a bydd addysgu bagloriaeth Cymru yn chwarae rhan fawr yn hynny yn y dyfodol.
Mae'r pwyllgor yn gadarnhaol ynglŷn â chymhwyster bagloriaeth Cymru, ac os caiff y newidiadau a amlinellir yn ein hadroddiad eu cyflawni, credwn fod dyfodol disglair i fagloriaeth Cymru, a'i dysgwyr. Diolch yn fawr.
Diolch ichi, Lynne, am gadeirio'r hyn a oedd, yn fy marn i, yn un o'r ymchwiliadau mwyaf pleserus a gawsom gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—yn y cyfnod y bûm i yno, beth bynnag—yn bennaf am ei fod wedi rhoi cyfle inni gasglu tystiolaeth yn uniongyrchol gan bobl ifanc gyda phrofiad, yn y gorffennol a'r presennol, ac wrth gwrs mae gwahanol fersiynau o'r fagloriaeth wedi bod ar waith ers amser, a'i chydrannau hefyd.
Bydd yr Aelodau'n gwybod, wrth gwrs, ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor, fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi eu polisi o gael gwared ar y fagloriaeth, ond nid yw'r adroddiad ei hun yn argymell hynny wrth gwrs. Ar y sail y bydd y Llywodraeth mewn grym am flwyddyn neu ddwy eto, rwy'n dal i ddisgwyl iddynt weithredu—a gweithredu ar frys mewn rhai achosion—yn sgil argymhellion byw'r pwyllgor.
Yn sicr, dylai pob elfen arall o'r cymhwyster fod wedi'u prif-ffrydio yn y cwricwlwm a'r cymwysterau presennol erbyn hyn ond roedd gennyf obeithion mawr, mewn gwirionedd, gyda'r dystysgrif her sgiliau ar ei ffurf ddiweddaraf, yn enwedig yr elfen her gymunedol ohoni. Nod yr her sgiliau yw datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol, yn ogystal â meddwl yn feirniadol, datrys problemau, sgiliau cynllunio a threfnu, creadigrwydd ac arloesedd, ac effeithiolrwydd personol. Ac mewn gwirionedd, pwy nad yw'n dymuno hynny i'n pobl ifanc? Buaswn yn dweud bod y sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer grymuso personol, cymunedau cydnerth, arweinyddiaeth effeithiol mewn gwaith a bywyd cyhoeddus, ac unrhyw obaith i economi Cymru hefyd, os caf ychwanegu hynny. Ond maent hefyd fwy neu lai yr un nodau ag ar gyfer y cwricwlwm newydd a dyna pam nad ydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod angen y ddau arnom. Tynnaf sylw'r Aelodau yn benodol at argymhelliad 10, sy'n dweud, yn ei hanfod, dysgwch o gamgymeriadau'r fagloriaeth a sicrhewch eich bod yn cael y cwricwlwm newydd yn iawn.
Mae cipolwg sydyn ar yr argymhellion yn rhoi blas o'r problemau parhaus—clywsom am rai gan Lynne eisoes: yr angen am ddatganiad o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y fagloriaeth; arweiniad ynghylch disgwyliadau o ran darparu adnoddau—rwy'n falch o weld symud ar hynny; ymgyrch codi ymwybyddiaeth i gynyddu dealltwriaeth; eglurder ynglŷn ag a yw'n orfodol ai peidio; eglurder ynglŷn ag a yw myfyrwyr ôl-16 yn dewis astudio lle nad yw'r fagloriaeth yn orfodol; gwell dealltwriaeth o effaith y llwyth gwaith ar iechyd meddwl a lles dysgwyr; a gwell dealltwriaeth o effaith y fagloriaeth ar opsiynau eraill yn y cwricwlwm. Mae hwn yn gymhwyster sydd wedi bod gyda ni ers tro erbyn hyn, felly mae hynny'n llawer o bryderon i fod yn dal i godi yn ei gylch.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â myfyrwyr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a oedd yn gweld gwerth gwirioneddol i'r her sgiliau. Dyma ysgol sy'n gwbl ymrwymedig i'r fagloriaeth ac mae ethos y cwricwlwm newydd, mewn gwirionedd, eisoes yn cael ei deimlo a'i weithredu drwy'r ysgol honno. Ond nid oedd yn brofiad cyson ar draws Cymru. Cawsom dystiolaeth gymhellol gan ddysgwyr ledled Cymru—nawr, rydym yn derbyn ei bod yn anochel y bydd agweddau rhieni yn lliwio barn eu plant—ond profwyd y rhain ar wahân mewn gwaith a wnaethom hefyd. Pan arolygwyd pobl ifanc, roedd dros hanner y rheini a oedd yn astudio her sgiliau'r lefel sylfaen yn meddwl ei fod yn llai defnyddiol na chymwysterau eraill i'w paratoi ar gyfer gwaith a bywyd. Dyma yw pwrpas yr her sgiliau. Roedd dwy ran o dair ohonynt yn credu ei fod yn cymryd mwy o amser, er bod y rhan fwyaf o'r farn nad oedd yn fwy na'n llai anodd nag astudiaethau traddodiadol.
Mae'r un peth yn wir am dystysgrif her sgiliau'r lefel genedlaethol, er bod 70 y cant o'r myfyrwyr yn yr achos hwn yn credu ei bod yn cymryd gormod o amser. Roedd y ffaith bod myfyrwyr ôl-16 yn teimlo yr un peth yn ddigon i fy argyhoeddi i, yn enwedig gan fod traean ohonynt yn dweud eu bod yn meddwl ei fod yn llai anodd na safon uwch, er ei fod yn cymryd mwy o amser—roedd dwy ran o dair ohonynt yn credu hynny. A dylai hynny beri pryder inni, rwy'n credu, oherwydd gwerthir y fagloriaeth i brifysgolion fel cymhwyster sy'n gyfwerth â safon uwch, ond os yw'n cael ei ddefnyddio gan rai prifysgolion fel rheswm dros ostwng graddau mynediad eraill, a bod cynlluniau eraill yn cynnig graddau is i ymgeiswyr os ydynt yn rhoi blaenoriaeth i'r brifysgol benodol honno yn eu ceisiadau UCAS, mae angen inni feddwl am hynny, gan fod gostwng gofynion mynediad yn arwydd gwael i'r sector addysg uwch yn fwy cyffredinol. Ac mae cyfeirio at y fagloriaeth fel ffactor sy'n ysgogi hynny yn fy mhoeni mewn gwirionedd, yn hytrach na rhoi hyder i mi yn ei gadernid—
A wnewch chi ildio?
O'r gorau—os byddwch yn hael.
Diolch yn fawr iawn. Fe fyddaf yn gyflym iawn. O'r ymweliad ag Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd—ac rwy'n ymweld â'r ysgol yn fuan am fy mod yn gwybod eu bod yn gryf iawn y tu ôl i fagloriaeth Cymru—roeddwn yn meddwl tybed beth a ddysgoch y gallwn i ei ddysgu pan af yno am yr hyn y maent yn ei wneud yn dda iawn y gallwn ei drosglwyddo i ysgolion eraill?
Gallai hyn gymryd amser. Mae gennych athrawon yno sy'n gefnogol iawn i'r egwyddor. Maent wedi gwneud eu datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn gwneud yn siŵr eu bod mewn sefyllfa i ddatblygu a chyflwyno bagloriaeth mewn ffordd sy'n berthnasol i'r disgyblion hefyd, ac maent wedi edrych ar y gymuned lle maent yn gweithio i weld sut y gallant ddefnyddio'r rhyddid i gymhwyso'r fagloriaeth er mwyn cael hyn yn iawn. Dyma'n union sut y gallai'r cwricwlwm newydd fod, ond fel y clywsom, cawsom dystiolaeth gan fyfyrwyr mewn ysgolion eraill, a oedd yn cael gwybod beth i'w astudio yn y bôn: 'Gwnewch ychydig bach yn ychwanegol i'r hyn a wnaethoch ar y lefel ôl-16 dyna i gyd, ychwanegwch ddarnau o waith rydych eisoes wedi'i wneud.' Nid dyna sut y dylai'r fagloriaeth weithio.
Felly, os byddwch yn amyneddgar â mi, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi clywed rhywfaint o hyn: dim digon o amser, dyblygu gwaith a wnaed mewn blynyddoedd cynharach, lleihau amser ar gyfer astudiaethau eraill, ymddengys nad yw marcio'n gymesur â'r ymdrech sydd ei hangen—dyma lais disgyblion a myfyrwyr. Ac nid yw'n fater o fethu gwerthfawrogi'r sgiliau, ond yn hytrach, mae'r broses o'u cyflawni'n gallu bod yn aneffeithlon, yn anghymesur, yn anghyson a heb ei gwerthfawrogi gan gyflogwyr ac mewn rhai achosion, gan addysg bellach ac addysg uwch.
Hoffwn orffen, os caf, Ddirprwy Lywydd, gydag ansicrwydd y Llywodraeth ynglŷn ag a ddylai'r fagloriaeth fod yn orfodol. Chwiliai'r pwyllgor am eglurder, ond efallai y gallwch gadarnhau, Weinidog, eich bod yn cytuno na allwch ei wneud yn orfodol ar lefel ôl-16. Gwelaf yn awr fod colegau'n cael mwy o arian i'w darparu—mae athrawon yn dweud wrthyf ei bod yn ddrutach i'w darparu na safon uwch—felly mae hynny'n beth da. Ond mae hynny'n rhoi'r colegau nad yw eu myfyrwyr am wneud hyn dan rywfaint o anfantais ariannol erbyn hyn, onid yw? O leiaf ar gyfer y ddwy flynedd lle mae'r myfyrwyr newydd gychwyn ar raglen lle nad ydynt wedi dewis y fagloriaeth.
Rwyf am wneud y pwynt olaf hwn. Os yw arian yn cael ei ddefnyddio fel cymhelliad i fyfyrwyr wneud y cymhwyster hwn fel cymhwyster ychwanegol, yn hytrach na chymhwyster amgen, gall hyn greu amheuaeth ynglŷn â'r ffordd y caiff lles meddyliol myfyrwyr ei flaenoriaethu, ac fel y gwyddoch, Weinidog, mae ein pwyllgor wedi bod â digon i'w ddweud am hynny.
Credaf fod Cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, wedi crynhoi barn y pwyllgor yn berffaith ar rai o'r materion allweddol a godwyd gennym, ac roedd cryn fanylder ynghylch y materion y teimlem eu bod yn berthnasol i hyn. Felly, nid af yn ôl dros y pethau hynny, ond yn hytrach, rwyf am grybwyll rhai argymhellion. Ond fel plentyn yr 1980au, buaswn yn dweud bod yn rhaid bod 'Bacc to the Future' yn un o'r adroddiadau pwyllgor gorau a gawsom erioed. [Chwerthin.]
Mae'r Gweinidog yn nodi yn ei chyflwyniad i'w hymateb i'r adroddiad fod cynnwys y fanyleb yn cynnig dewis o fodelau cyflwyno i ysgolion, felly gellir mynd ati i ymdrin â gofynion y cwricwlwm mewn ffordd greadigol. Dyna mae hi'n ei ddweud, ac rwy'n credu bod hynny'n gweddu'n fawr i ddull y cwricwlwm newydd o weithredu a datblygiad y cwricwlwm newydd a'r modd y caiff hwnnw ei weithredu hefyd, felly mae yna elfen gyfatebol yn hynny o beth. Ac rwy'n credu bod Suzy Davies wedi crybwyll hynny yn rhai o'r pethau a ddywedodd am y ffordd y mae'n datblygu.
Ond mae hynny hefyd yn codi'r cwestiwn—. Nid wyf am adleisio gormod o'r hyn a ddywedodd Suzy, ond i ba raddau yr ydym yn cydbwyso annibyniaeth ysgolion, colegau a darlithwyr unigol yn erbyn yr angen am gysondeb yn y cymhwyster drwyddo draw? Mae honno'n her amlwg y gall y gwahanol ddulliau gweithredu hefyd arwain at ddiffyg cysondeb yn y dulliau o gyflwyno bagloriaeth Cymru, ac felly gall arwain at danseilio'r ddarpariaeth. Mae argymhellion 8 a 10 yn cyffwrdd â hynny, yn yr ystyr eu bod yn galw am—ac mae'r Llywodraeth wedi derbyn hyn—gwerthuso parhaus a dysgu am effaith bagloriaeth Cymru ar ddiwygiadau addysg eraill a'r newid ehangach sy'n digwydd i'r cwricwlwm ar hyn o bryd. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi trafod y profiadau y mae ysgolion wedi'u cael gyda'r materion ehangach hynny gyda hi. Mae'n galonogol fod y Gweinidog wedi derbyn y ddau argymhelliad hwnnw, sef argymhellion 8 a 10.
Cefais gyfarfod gyda ColegauCymru yn ystod yr ymchwiliad ac ar ôl hynny i drafod rhai o'r pryderon a allai fod ganddynt a fyddai'n cael eu codi yn yr adroddiad ond hefyd yn fwy cyffredinol. Nodwyd argymhelliad 7 ganddynt ynglŷn â'r pryderon ynghylch iechyd meddwl a lles dysgwyr. Dywedodd ColegauCymru hefyd eu bod yn ymwybodol o ddysgwyr sydd o bosibl yn cael trafferth ymdopi â gofynion bagloriaeth Cymru, eu prif gymwysterau dewisol, yn ogystal ag ailsefyll Saesneg, Cymraeg neu fathemateg TGAU yn arbennig. Ac mae'n llawer i'w wneud a gallai gael effaith niweidiol ar les y dysgwyr yn ogystal â'u gallu i gyflawni'r fagloriaeth Gymreig uwch yn hytrach na'r dystysgrif her sgiliau, ac mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw ac yn cyfeirio at y cyd-grŵp gorchwyl a gorffen Gweinidogol, a chredaf mai hwn yw'r un y mae Cadeirydd y pwyllgor yn aelod ohono. Credaf y byddai'n ddefnyddiol cael ychydig mwy o fanylion ynglŷn â beth yn union sy'n cael ei wneud mewn perthynas â bagloriaeth Cymru drwy'r pwyllgor hwnnw.
Ac yn olaf, soniodd ColegauCymru hefyd am y newidiadau i'r ffordd y caiff bagloriaeth Cymru ei hariannu yn y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad yw colegau addysg bellach yn cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymhwyster, dywedasant y byddant yn colli cannoedd o bunnoedd y dysgwr, er nad yw'r sefyllfa hon yn berthnasol i ysgolion. Dyma a ddywedasant wrthyf. Ac yn y pen draw, mae cyllid yn ysgogi ymddygiad mewn perthynas â dewisiadau, felly gallech weld gwahaniaeth rhwng ymagwedd addysg bellach ac ysgolion tuag at fagloriaeth Cymru. Nid oedd yr adroddiad yn ymdrin â'r mater yn uniongyrchol, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol cael ymateb gan y Gweinidog ar hynny hefyd.
Roeddwn ar y pwyllgor ar y dechrau pan benderfynwyd gwneud yr adroddiad hwn ac ystyriwyd rhywfaint o'r gwaith cwmpasu cychwynnol a nodwyd yr hyn a ddisgrifiodd y Cadeirydd fel rhai o'r pryderon a oedd yn cymell y pwyllgor i wneud hyn, ond nid wyf wedi cael y fantais o eistedd drwy'r dystiolaeth, sydd, i rai o aelodau'r pwyllgor o leiaf, fel pe bai wedi lliniaru o leiaf rai o'r pryderon a fynegwyd. Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae'r Ceidwadwyr wedi newid eu polisi yn amlwg i gael gwared ar fagloriaeth Cymru. Ac rwyf wedi darllen yr adroddiad hwn yn ofalus ar ran ein grŵp, ond rydym yn dal i ystyried beth ydym am i'n polisi fod ar hyn wrth symud ymlaen.
Rwy'n meddwl tybed ai un o'r heriau allweddol ynghylch hyn yw egluro beth yw bagloriaeth Cymru, a chyfeiriodd Hefin at ddechrau'r teitl Saesneg, 'Bacc to the Future', ac roeddwn yn mynd i ganmol y pwyllgor ar hynny, ond wedyn cawn, 'Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru' ar ei ôl, a chredaf fod hynny'n awgrymu rhywfaint o ansicrwydd o leiaf ynglŷn â beth ydyw, ac nid wyf yn siŵr i ba raddau y mae'r adroddiad yn ateb hynny, er fy mod yn credu ein bod wedi cael un neu ddau ddatganiad defnyddiol yn ymateb y Gweinidog.
Roeddwn i'n meddwl ei fod yn adroddiad da yn gyffredinol, ond roedd un man a oedd yn ddiffygiol, o'r hyn a ddarllenais i o leiaf—roeddwn i'n meddwl mai dim ond disgrifio cyd-destun bagloriaeth Cymru a wnâi mewn un man, nid wyf yn credu ei fod yn nodi'n glir y gwahaniaeth rhwng y lefel sylfaen a'r lefel genedlaethol. Mae'n cyfeirio at y gwahaniaeth wrth raddio'r dystysgrif her sgiliau, ond nid yr angen i gael y pum TGAU ar y meini prawf priodol ar lefel C neu uwch ar gyfer y lefel genedlaethol. Ond wedyn ar gyfer y lefel sylfaen, dim ond cael y TGAU, felly G—[Anghlywadwy.] Ond os edrychwch ar yr hyn a elwir wedyn yn fagloriaeth Lloegr, credaf fod honno'n rhoi her bellach eto inni egluro bagloriaeth Cymru, a'r ffaith eu bod wedi gosod honno ar bum TGAU lefel C neu uwch neu bump neu uwch yn Lloegr yn awr, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys Saesneg a mathemateg ac mae ychydig yn fwy penodol o ran y tri arall, o leiaf—rwy'n poeni bod hynny'n rhoi'r argraff i rai, efallai, nad ydynt yn edrych arno mor fanwl ag y gallwn ei drafod heddiw, efallai nad yw bagloriaeth Cymru mor uchel ei safon â'r fagloriaeth Seisnig am fod gennym y lefel sylfaen is hon nad yw ond yn gofyn am lefel G yn hytrach nag C neu radd gyfatebol.
Credaf hefyd nad ydym yn llwyddo i egluro neu farchnata elfen y dystysgrif her sgiliau, ac mewn egwyddor o leiaf, mae'n fy nharo fel syniad da. Pan fydd pobl yn edrych ar fagloriaeth Cymru, a hyd yn oed yn rhai o'n sgyrsiau heddiw, pan ddywedwn 'y fagloriaeth' neu 'fagloriaeth Cymru', rwy'n credu bod hynny'n nifer fawr o bethau mewn gwirionedd, ac mae rhan ohono'n ymbarél sy'n disgrifio lefel fach iawn o gymwysterau eraill, ac yna mae gennych y dystysgrif her sgiliau sy'n unigryw i fagloriaeth Cymru, ac rwy'n credu bod y prosiect estynedig 50 y cant a'r hyn y mae'n ceisio ei wneud i ganiatáu mwy o opsiynau i'r myfyriwr o ran yr hyn y maent yn ei wneud yn hynny, a rhywbeth sy'n wirioneddol sylweddol a phrosiect estynedig i ddatblygu eu sgiliau, mae hynny mewn egwyddor yn fy nharo i fel rhywbeth a allai weithio'n dda. Ac rwy'n credu hefyd ei fod yn rhywbeth y gall dysgwyr siarad amdano mewn cyfweliadau â phrifysgolion a'i ddefnyddio er eu budd yn y datganiad personol hwnnw. Ond nid wyf yn meddwl ei fod yn cael ei ddeall yn ddigon da gan brifysgolion a chyflogwyr ac i raddau, gan rieni, fod y dystysgrif her sgiliau'n rhywbeth ychwanegol yr ydym yn ei wneud yng Nghymru sydd o bosibl yn beth go iawn y gallant ei werthu, ac nid yw'n glir sut y mae'n berthnasol i'r ymbarél sydd wedyn yn rhoi'r fagloriaeth Cymreig sy'n ei gynnwys, yn enwedig pan fydd gan bobl ganfyddiad, i raddau o leiaf, o'r hyn yw'r fagloriaeth Seisnig a'r hyn nad ydyw hefyd. Ac rwy'n meddwl bod honno'n her go iawn i ni werthu ac egluro hynny. Ac mae rhai o'r pethau y tynnodd Suzy sylw atynt o ran yr hyn mae dysgwyr yn ei ddweud am y cymhwyster yn ychwanegu at yr anhawster hwnnw. Nid wyf yn gwbl barod i ddweud, 'Nid yw'n iawn', ond mae gennyf bryderon yn ei gylch.
Ar un maes, credaf fod ymateb y Gweinidog yn ddefnyddiol iawn pan ddywed
'Nid yw Bagloriaeth Cymru yn bwnc statudol yn y cwricwlwm cenedlaethol, ac felly nid yw'n orfodol i bob disgybl',
ni waeth pa arweiniad y gallai fod yn ei adolygu neu'n ei gyflwyno. Mae hynny wedi'i gofnodi—datganiad clir iawn.
Bydd y Gweinidog yn cofio un achos arbennig a gefais yn fy etholaeth lle roedd hi a'i huwch dîm o gymorth mawr, sef achos dysgwr a oedd yn gwneud safon uwch, yn gwneud cais i Gaergrawnt, dysgwr a oedd eisoes yn gwneud pedwar pwnc safon uwch, yn ceisio gwneud lefelau papur arholiad chweched tymor i Gaergrawnt hefyd, ac roedd yn ei chael hi'n anodd iawn cynnwys bagloriaeth Cymru—hynny yw, elfen y dystysgrif her sgiliau uwch—ac roedd ei ysgol yn dweud wrtho, 'Wel, mae'n orfodol, neu o leiaf mae'n ofynnol, a hynny oherwydd yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud.' Ac nid oedd yn hawdd iddo gytuno i hynny ar lefel ysgol, a diolch i ymyrraeth y Gweinidog, cawsom ganlyniad llwyddiannus i'r unigolyn hwnnw sydd bellach yng Nghaergrawnt, a llongyfarchiadau iddo.
Ond rwy'n meddwl bod gennym ddatganiad mwy defnyddiol yma, ond trueni na allwn wneud yn well am werthu'r dystysgrif sgiliau a'r elfen honno. Ac rwy'n gofidio bod y posibilrwydd o gael bagloriaeth Cymru A i G, ond nid yn y fagloriaeth Seisnig, yn rhoi'r argraff i rai pobl fod pobl sy'n cael y lefel genedlaethol neu uwch yn dioddef yn annheg, mewn cymhariaeth, os yw pobl dan yr argraff y gallai bagloriaeth Cymru fod yn haws na'r un Seisnig o ran ansawdd y cymhwyster, a bod y fagloriaeth Seisnig ei hun yn debyg iawn i'r dangosydd perfformiad y mae'r Gweinidog newydd benderfynu nad yw'n mynd i ddwyn ysgolion i gyfrif amdano mwyach.
O ddarllen yr adroddiad ac ymatebion y Llywodraeth, gellid maddau i chi am feddwl mai'r broblem y mae'r Llywodraeth yn ei hwynebu gyda bagloriaeth Cymru yw nad yw colegau'n deall yn iawn beth ydyw. Fodd bynnag, o edrych ar rywfaint o'r wybodaeth yn yr adroddiad llawn, mae'n glir mai'r broblem go iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu yw bod prifysgolion a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yn deall bagloriaeth Cymru ond nad ydynt yn ei hoffi'n fawr iawn.
Archwiliodd Prifysgol Durham fagloriaeth Cymru yn fanwl yn 2016 ar ôl iddi gael ei newid flwyddyn ynghynt, a daeth i'r casgliad nad oedd yn cyfateb i safon uwch ac na fyddent yn ei hystyried yn rhan o gais darpar fyfyriwr. Lle mae colegau'n barod i'w derbyn, maent yn aml yn atodi at hynny na fyddent yn ei derbyn fel cymhwyster i gael mynediad i'r cyrsiau pen uchaf fel meddygaeth.
Mae hyd yn oed prif weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, yn dweud mai tair safon uwch ynghyd ag elfen tystysgrif her sgiliau bagloriaeth Cymru yw'r ateb gorau i ddysgwyr, ond mae hynny'n golygu bod llawer o'r fagloriaeth yn ddibwynt i bob pwrpas. Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion—[Torri ar draws.] Na. Nid oes gennyf lawer o amser, Hefin.
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn gwneud cynigion ar sail tair safon uwch, ac mae'n debygol fod y cyrsiau sy'n gofyn am fwy yn gyrsiau yn y pen uchaf y mae colegau wedi dweud na fyddant yn derbyn bagloriaeth Cymru ar eu cyfer. Felly, gall cefnogwyr bagloriaeth Cymru ddweud tan ddydd Sul y Pys fod y cymhwyster yn gyfwerth â safon uwch, ond y ffaith amdani yw bod y rhan fwyaf o brifysgolion i'w gweld yn anghytuno. Ac maent yn anghytuno, nid oherwydd diffyg dealltwriaeth o'r cymhwyster, ond oherwydd eu bod yn ei ddeall.
Mae'n destun gofid fod ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod myfyrwyr sydd â bagloriaeth Cymru yn aml yn perfformio'n waeth yn y brifysgol na myfyrwyr eraill, ac mae hynny'n gwneud i mi feddwl tybed a yw'r cymhwyster—[Torri ar draws.] Os ydych yn amau hynny, gofynnwch i Brifysgol Caerdydd. Mae'n gwneud i mi feddwl a yw'r cymhwyster yn rhoi taith haws i fyfyrwyr na safon uwch ac yn eu gadael heb baratoi digon ar gyfer pa mor anodd yw cyrsiau israddedig. [Torri ar draws.] Yn sicr, byddai'n un esboniad pam fod swyddogion derbyniadau mewn prifysgolion—[Torri ar draws.]—yn gyndyn o'i drin fel cymhwyster safon uwch llawn. Nid wyf yn ildio, mae'n ddrwg gennyf. Felly, nid yw'n syndod ein bod yn ei chael hi'n anodd gwerthu bagloriaeth Cymru i fyfyrwyr pan fo'r holl dystiolaeth yn awgrymu ei bod yn wrthgynhyrchiol. Er mwyn gallu agor holl ddrysau dysgwyr o Loegr, byddai'n rhaid i ddisgybl o Gymru astudio ar gyfer tair safon uwch a bagloriaeth Cymru. [Torri ar draws.] A oes rhaid i mi godi fy llais?
A hoffech dderbyn ymyriad i'ch arbed rhag codi eich llais?
Ac nid ydynt yn cael lle ar y cyrsiau gorau. Mae'n amlwg, ar hyn o bryd, y bydd hi bob amser yn well i ddysgwr wneud safon uwch yn lle bagloriaeth Cymru. [Torri ar draws.] Caewch eich ceg, Huw.
Na, na. Mae'n ddrwg gennyf. Rhaid ichi dynnu hynny'n ôl. Dadl yw hon. [Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf, naill ai eich bod yn tynnu hynny'n ôl neu'n ystyried—
[Anghlywadwy.]—gweiddi a heclo arnaf ers y foment yr agorais fy ngheg.
Ie, ac mae hynny'n rhan o ddadl. Rwy'n synnu na fyddech wedi—[Torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i—
Ni allwn glywed fy hun yn meddwl hyd yn oed.
Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf am eich cael yn gweiddi'r hyn rydych newydd ei weiddi ar draws y Siambr. Ystyriwch hynny a pharhewch.
Wel, mae'n ddrwg gennyf fod yn rhaid i mi ddweud wrth Huw am gau ei geg.
Nid wyf am gael hynny, mae'n ddrwg gennyf. Naill ai parhewch â gweddill eich araith ac anwybyddu'r synau o'r ochr, neu gallwch eistedd ac fe symudwn ymlaen.
Iawn, fe wnaf. Fe wnaf eu hanwybyddu.
Mae'r adroddiad ei hun yn gwneud rhai argymhellion dilys mewn perthynas â gwerthu bagloriaeth Cymru, ond mae'n ymddangos ei fod yn ceisio gwerthu cynnyrch nad oes galw amdano. Gofynnwyd i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach am fewnbwn ond fe wnaethant wrthod gwneud hynny, fel y gwnaeth Prifysgolion Cymru. Mae gan bob un o'r sefydliadau hyn ddiddordeb mawr yng nghymwysterau pobl ifanc, ac mae'r datgysylltiad bwriadol o'r drafodaeth yn siarad cyfrolau am eu barn hwy ar fagloriaeth Cymru.
Buaswn yn bryderus iawn felly pe bawn yn meddwl bod camau wedi cael eu cymryd i wneud bagloriaeth Cymru'n rhan orfodol o addysg ein pobl ifanc. Mae'r holl dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod problemau difrifol gyda'r cymhwyster nad oes ganddynt ddim oll i'w wneud â diffyg ymwybyddiaeth ohono, ond i'r gwrthwyneb mewn gwirionedd. Nid yw hynny'n golygu na allai fod yn gymhwyster defnyddiol yn y dyfodol, yn enwedig pe bai'r Llywodraeth yn gofyn i brifysgolion Grŵp Russell am eu cymorth i'w lunio, ond nid yw wedi cyrraedd yno eto, ac fel y cyfryw ni ddylid ei werthu i ddisgyblion fel rhywbeth sy'n cyfateb i safon uwch ac yn sicr ni ddylid ei orfodi arnynt. Dylem weithio i gyflawni'r gorau i'n dysgwyr fel bod cymaint o ddrysau ar agor iddynt ag sy'n bosib. Mae gwthio bagloriaeth Cymru arnynt neu orliwio ei rhinweddau er mwyn cynyddu'r nifer sy'n ei hastudio i'w weld fel pe bai'n ceisio dilyn agenda wahanol i'r un sy'n rhoi'r dyfodol gorau posibl i'n dysgwyr. Mae'n werthu cath mewn cwd iddynt i bob pwrpas. Wedi dweud hynny, rwy'n credu y dylid rhoi clod i'r Gweinidog am dderbyn a gweithredu argymhellion y pwyllgor. Diolch.
Da iawn, Michelle, am barhau.
Diolch.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn i gymhwyster diwygiedig bagloriaeth Cymru yn sicr wedi bod yn agoriad llygad i mi, ac roedd rhai o ganfyddiadau'r adroddiad yn bwysig iawn. Amlygwyd nifer o enghreifftiau o ganfyddiadau gwael o fagloriaeth Cymru, er enghraifft, y ffaith bod 66 y cant yn credu nad yw bagloriaeth Cymru yn werthfawr i yrfaoedd yn y dyfodol; dealltwriaeth o'r cymhwyster gan brifysgolion yn gostwng y tu hwnt i ffiniau Cymru; ac mae amrywiaeth fawr yn y modd y caiff y cymhwyster ei gyflwyno mewn ysgolion a cholegau, gyda rhai yn ei drin fel pwnc llenwi, a diffyg cysondeb llwyr o ran amserlennu ledled Cymru.
Ni fydd yn syndod, felly, ein bod ni fel pwyllgor wedi nodi mai un mater allweddol yw diffyg dealltwriaeth o'r cymhwyster ymhlith rhieni, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae'n dal i fod angen i Lywodraeth Cymru esbonio mewn modd symlach beth yn union yw'r cymhwyster.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, mae'n ddrwg gennyf, Hefin. O, o'r gorau, fe dderbyniaf ymyriad—ewch ymlaen. [Chwerthin.]
Nid wyf yn bwriadu ymosod ar neb o gwbl. Rwy'n teimlo bod cywair y ddadl yn troi'n gwbl negyddol am fagloriaeth Cymru, er bod y dystiolaeth a gawsom yn fwy cynnil na hynny mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Michelle yn gyfan gwbl ar yr ochr negyddol, ond mewn gwirionedd fe welsom safbwyntiau llawer mwy cadarnhaol hefyd.
O'r gorau. Wel, gyda phob dyledus barch, fe wnes i dderbyn yr ymyriad ac felly nid yw'n ymwneud â'r hyn a ddywedodd Michelle, ond â'r hyn rwyf fi'n ei ddweud. A chyda phob dyledus barch, dyma a welais i wrth wrando ar y dystiolaeth. Cyfarfuom â disgyblion, cyfarfuom ag athrawon, cyfarfuom â phenaethiaid, cyfarfuom â rhieni—cyfarfuom â phawb, ac a dweud y gwir, roedd yr adborth yn fy synnu'n fawr, oherwydd roeddwn yn meddwl y byddai'n llawer mwy cadarnhaol na'r hyn ydoedd mewn gwirionedd.
Felly, bedair blynedd yn nes ymlaen, mae angen i Lywodraeth Cymru esbonio mewn termau symlach yr hyn y mae'r—rwyf wedi dweud hynny i gyd [Chwerthin.]. Fodd bynnag, mor bell â hyn i mewn, rhaid gofyn a yw'n rhesymol taflu mwy o arian at gymhwyster—a rhaid ei ddweud, i fod yn deg—y mae llawer yn eu gasáu. Yn wir, er gwaethaf yr ymgyrch, rwy'n amau a fydd byth ddigon o ddealltwriaeth a chysondeb i wneud bagloriaeth Cymru yn llwyddiant. Mae llawer o waith i'w wneud yma os yw'n mynd i barhau. Er enghraifft, rydych wedi derbyn argymhelliad 1 a'r angen am ddatganiad cliriach i'w ategu gan ganllawiau sy'n manylu ar ddisgwyliadau mewn perthynas â chysondeb o ran y dull o gyflwyno'r cymhwyster, ac rydych wedi derbyn argymhelliad 5, ond eto rydych yn dal i ddisgwyl i benaethiaid ddefnyddio eu barn broffesiynol i benderfynu ar y rhaglen ddysgu gywir ar gyfer eu dysgwyr.
Yn amlwg, gallai'r diffyg cysondeb ac eglurder barhau, yn enwedig mewn perthynas â mabwysiadu'r cymhwyster yn gyffredinol.
A wnaiff yr Aelod ildio?
O, o'r gorau 'te.
A gaf fi egluro, pan mae hi'n dod i gasgliadau negyddol yn gyffredinol ynghylch bagloriaeth Cymru, a yw'n cyfeirio'n benodol at y dystysgrif her sgiliau, neu a yw'n cyfeirio at yr ymbarél, oherwydd mae'r holl gymwysterau eraill hyn ar gyfer yr ymbarél yn cael eu hastudio beth bynnag, felly ym mha synnwyr y byddech am gael gwared arnynt?
Pan wnaethom gyfweld â'r disgyblion eu hunain, nid oedd rhai wedi'i gymryd am eu bod wedi cael eu hannog i beidio gan eu ffrindiau a ddywedodd mai'r dystysgrif her sgiliau oedd un o'r prif ystyriaethau naill ai pam nad oeddent am wneud y fagloriaeth neu'n ei chael yn heriol ac yn anodd pan fyddent yn ei gwneud. Dyna'r union bwynt a wnaethant, ond mae nifer o resymau eraill gyda bagloriaeth Cymru: y ffordd y caiff ei gweld, athrawon heb gael eu hyfforddi i gyflwyno bagloriaeth Cymru—a dywedodd athrawon wrthym mewn gweithdai yr hoffent ei gweld yn dod i ben. Felly, daeth tystiolaeth go gryf o hynny. Felly, mae'n llu o resymau—nid dim ond un.
Nid oes rheswm pam na ellir cyflawni hyn drwy ddefnyddio arolygon, felly tybed a yw'r petruso ar ran Llywodraeth Cymru yn arwydd o beth nerfusrwydd ynglŷn â'r hyn y bydd y canlyniadau'n debyg o ddangos.
Yn ogystal â thystiolaeth o atgasedd disgyblion at y cymhwyster, mae ein gwaith wedi gweld ei fod yn cael effaith ar athrawon. Mae'n ymddangos bod yr hyfforddiant yn annigonol; nid oes digon o hyder gan rai athrawon i'w gyflwyno. Er eich bod wedi derbyn argymhelliad 9, mae'n ddiddorol nodi eich sylw fod y sgiliau a'r addysgeg wrth addysgu'r cwricwlwm newydd yn cyd-fynd yn agos ac y gellir eu trosglwyddo i addysgu cymhwyster bagloriaeth Cymru. Mae'n golygu bod gennym athrawon mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru sydd bellach yn poeni am gyflwyno bagloriaeth Cymru a'r cwricwlwm newydd. Mae hyn bellach yn cael ei weld fel pwysau arall eto ar ein hathrawon.
Credaf o ddifrif ei bod yn bryd ystyried lleihau'r pwysau, ac i Lywodraeth Cymru ystyried o ddifrif y galwadau a wnaed yn flaenorol gan fy nghyd-Aelod Suzy Davies AC i ailedrych ar fagloriaeth Cymru i weld a yw'n addas mewn gwirionedd i'n myfyrwyr yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Diolch.
A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch ichi am y cyfle i drafod adroddiad y pwyllgor ar statws bagloriaeth Cymru. Roeddwn yn falch fod y dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor yn dangos y rhinwedd amlwg o gael pobl ifanc yn astudio bagloriaeth Cymru. Roeddwn yn falch fel Gweinidog Addysg Cymru, ac fel Lynne, rwy'n falch fel rhiant sydd â dau o blant ar hyn o bryd yn astudio dwy lefel wahanol o'r fagloriaeth wrth i ni siarad.
Mae'n gymhwyster fframwaith eang ei gwmpas sy'n rhoi ffocws ar addysgu sgiliau sylfaenol, ac mae'n galluogi disgyblion i fod yn fwy annibynnol, i feddwl yn fwy beirniadol ac i fod yn fwy hyblyg yn y ffordd y maent yn gweithio. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gymdeithas, y gymuned y maent yn byw ynddi ac ymwybyddiaeth o faterion, digwyddiadau a safbwyntiau byd-eang, gan eu helpu i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a'r byd. Yn wir, mae bagloriaeth Cymru yn darparu'r sylfaen i'n dysgwyr ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth ehangach sy'n cyd-fynd yn berffaith â phedwar diben y cwricwlwm newydd ac yn rhoi iddynt dystysgrif ac achrediad ar gyfer y sgiliau hynny.
Gadewch i mi fod yn glir: fy nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn gallu elwa o fagloriaeth Cymru ac ennill y dystysgrif her sgiliau. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r gwahanol safbwyntiau yma yn y Siambr ynglŷn â gwerthoedd a manteision bagloriaeth Cymru, ac yn ystod ei hoes gymharol fyr, bu'n destun adolygiadau a newidiadau niferus. Gadewch i ni fod yn glir: mae bagloriaeth Cymru a'r dystysgrif her sgiliau ar eu ffurf bresennol yn dal yn ifanc a bydd yn parhau i ddatblygu dros amser. Ar hyn o bryd, dim ond dwy set o ganlyniadau a gafwyd ers ei gweithredu ym mis Medi 2015, er bod yn rhaid imi ddweud bod y ddwy set o ganlyniadau wedi bod yn galonogol iawn.
Ond rwy'n sylweddoli bod rhai agweddau ar gyflawniad y gellir eu gwneud yn well. Gellir gwneud y ffordd yr ydym yn cyfleu'r gwerth a'r manteision yn gliriach, gellir gwella dealltwriaeth prifysgolion o'r cymhwyster, a rhaid inni ddysgu gwersi o weithredu bagloriaeth Cymru wrth inni symud ymlaen i gyflwyno'r cwricwlwm i Gymru 2022.
Roedd adroddiad y pwyllgor yn ategu fy marn ar yr heriau hyn. Felly, roeddwn yn hapus iawn i dderbyn yr argymhellion naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes ar wella'r canllawiau sydd ar gael, a fydd yn amlinellu fy ngweledigaeth ar gyfer dyfodol bagloriaeth Cymru yn ogystal â pholisi'r Llywodraeth ar fabwysiadu'r cymhwyster yn gyffredinol, a byddant yn barod yn yr hydref. Mae Cymwysterau Cymru, CBAC a ninnau fel Llywodraeth yn gweithio gyda'n gilydd i wella ymwybyddiaeth o fagloriaeth Cymru drwy gynllun cyfathrebu ar y cyd, gan sicrhau bod negeseuon clir yn cael eu cyfleu ar ddiben a manteision gwneud y fagloriaeth i ddysgwyr.
Nawr, un o'r cwestiynau y gofynnir i mi yn aml yw a fydd prifysgolion yn derbyn y dystysgrif her sgiliau. Y gwir amdani yw bod y dystysgrif her sgiliau'n cario'r un pwyntiau tariff UCAS ac yn gyfwerth ag unrhyw safon uwch arall. Mae mwy a mwy o brifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig yn cydnabod y dystysgrif her sgiliau yn eu cynigion, gan gynnwys 15 o brifysgolion Grŵp Russell. Ac yn fwy na hynny, dywed prifysgolion wrthyf fi a'n saith cydlynydd rhwydwaith fod y fagloriaeth uwch yn rhoi mantais gystadleuol i fyfyrwyr o Gymru o ran eu gallu i ddangos sgiliau academaidd ac ymchwil clir ac annibynnol, sy'n eu harwain i fod yn israddedigion rhagorol.
Rwyf eisoes wedi dweud yn glir yn y ddadl hon nad wyf yn rhannu'r farn gwbl negyddol a fynegwyd gan rai yn y Siambr, ond serch hynny, roedd yn wir fod prifysgolion yn ymddangos yn amharod i roi tystiolaeth i'r pwyllgor a mynegi'r farn honno. Pam felly? Os yw'r darlun mor dda, pam eu bod wedi bod mor amharod i siarad â ni?
Fel rwy'n dweud yn aml yn y Siambr hon, mae prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, a mater iddynt hwy yw hynny, nid i mi. Ond fel y dywedais, mae bagloriaeth Cymru yn rhoi mantais gystadleuol i fyfyrwyr o ran gallu dangos y sgiliau hyn yn glir, a gwn y bydd y pwynt hwn yn cael ei atgyfnerthu yn y digwyddiad Seren-Rhydychen ar y cyd a gynhelir yn yr Eglwys Norwyaidd heno.
Nawr, heddiw ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, cefais restr o gynigion dethol gan brifysgolion y mae CBAC wedi'u cael sy'n cynnwys y dystysgrif her sgiliau. Mae dros 650 o gyrsiau yma, boed yn feddygaeth yng Nghaerdydd, ffiseg yng Nghaerwysg, cyfrifiadureg yng Nghaeredin, y gyfraith yn Birmingham, ac i wrthbrofi'r pwyntiau a wnaeth Michelle Brown, a ddywedodd nad yw'n cael ei dderbyn mewn cynigion ar gyfer meddygaeth, o fewn y rhestr honno ceir myfyrwyr sydd wedi cael cynigion sy'n cynnwys eu tystysgrif her sgiliau i astudio meddygaeth yng Nghaerwysg, yng Nghaerdydd, yng Nghaerlŷr, ym Manceinion, yn Nottingham ac yn Plymouth. Nawr, rwy'n fwy na bodlon i fy swyddogion friffio Michelle Brown, ac efallai, pan fydd yn ystyried y ffordd y siaradodd â'n cyd-Aelod Huw Irranca-Davies, y gallai ystyried ei sylwadau am natur y cymwysterau a'r ymdrechion ar ran athrawon a myfyrwyr i'w cyflawni.
Nawr, gan symud ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a CBAC yn parhau i weithio gydag UCAS a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod gwybodaeth ynglŷn â sut y mae prifysgolion yn trin y fagloriaeth yn eu cynigion yn cael ei choladu a'i diweddaru'n systematig, a'i bod ar gael, yn hollbwysig, i ddysgwyr, eu rhieni, eu gwarcheidwaid, ac i ysgolion a cholegau. Mae'n bwysig nodi mai dim ond ychydig fisoedd wedi i Cymwysterau Cymru gyhoeddi ei adolygiad ei hun o'r dystysgrif her sgiliau ym mis Ebrill 2018 y dechreuodd adolygiad y pwyllgor o fagloriaeth Cymru. Nawr, un o brif ganfyddiadau'r adolygiad annibynnol oedd bod cynllun y dystysgrif yn fwy cymhleth nag sydd angen iddo fod. O ganlyniad, mae Cymwysterau Cymru wedi sefydlu grŵp cynllunio a grŵp addysgwyr i ddatblygu argymhellion yr adolygiad, gan gynnwys gallu i reoli'r cymhwyster a'r effaith bosibl ar iechyd meddwl a lles dysgwyr.
Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda Cymwysterau Cymru, CBAC, consortia rhanbarthol ar gyfer ysgolion a'n colegau addysg bellach tra bydd y gwaith o adolygu'r dystysgrif yn symud ymlaen, gan sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth ar gyfer unrhyw adnoddau, hyfforddiant neu oblygiadau a allai godi o unrhyw newidiadau pellach.
A fyddech yn derbyn—? Diolch yn fawr iawn am hynny. Rwy'n meddwl tybed a allwch ddweud wrthyf a yw gwaith y grŵp hwnnw—ac roedd yn dda clywed ei fod yn edrych ar symleiddio hyn mewn rhyw fodd—yn ystyried y cwricwlwm newydd a'r cymwysterau ar gyfer hynny maes o law, a beth yn ychwanegol y bydd y dystysgrif her sgiliau'n ei roi i fyfyrwyr, 10 mlynedd o nawr, dyweder?
Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, Ddirprwy Lywydd, yw cydnabod bod y grŵp yn grŵp o sefydliad annibynnol Cymwysterau Cymru, a bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn y bydd Cymwysterau Cymru yn dechrau ei sgwrs genedlaethol ar effaith y cwricwlwm newydd ar gymwysterau ym mis Medi.
A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Aelodau'r pwyllgor am yr adroddiad? Rhaid inni ganiatáu amser yn awr ar gyfer gweithredu'r argymhellion, a symud ymlaen yn hyderus fod y fagloriaeth yn gweithio i ddysgwyr, yn gweithio i gyflogwyr, colegau a phrifysgolion, ac nid yma yng Nghymru'n unig ond ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Lynne Neagle i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Os caf ddechrau drwy ddweud fy mod wedi gwneud jôc neu sylw ysgafn yn fy araith gyntaf am y loes rwy'n ei chael gartref gan fy mab ar fagloriaeth Cymru, sydd—nid wyf yn siŵr fod y jôc wedi gweithio'n dda iawn yn y Siambr. [Chwerthin.] Ond dyna'n union sut y bu i mi ymdrin â'r ymchwiliad, o'r safbwynt fy mod yn bryderus iawn am fagloriaeth Cymru ac yn teimlo'n eithaf negyddol amdani fel rhiant. Ond mae'n rhaid i mi ddweud nad oedd y dystiolaeth a gawsom yn cadarnhau hynny, mewn gwirionedd.
Un o'r pethau mwyaf pwerus i mi oedd pan aethom allan i'r ysgolion a siarad â'r bobl ifanc yn uniongyrchol. Euthum i Ysgol Uwchradd Crucywel—aeth Aelodau eraill i leoedd eraill—a'r hyn a wnaeth argraff fawr arnaf yn Ysgol Uwchradd Crucywel oedd nad oedd yr un o'r bobl ifanc yn dweud eu bod am i'r fagloriaeth ddod i ben, roedd gan bob un ohonynt bethau defnyddiol ac ystyrlon i'w dweud—ac rwy'n cydnabod bod gwahanol safbwyntiau mewn mannau eraill wrth gwrs, ond credaf mai'r hyn oedd yn amlwg yn Ysgol Uwchradd Crucywel oedd bod yr arweiniad ar fagloriaeth Cymru'n rhagorol yno. Mae ganddynt aelod penodol o staff sy'n amlwg yn frwdfrydig iawn am y cymhwyster a gallech weld y manteision a ddaeth yn sgil hynny i'r disgyblion. Ond y broblem yw nad oes gennym hynny ym mhobman. Ac ymwneud â hynny y mae'r adroddiad—ceisio sicrhau rhywfaint o gysondeb. Felly, credaf fod honno'n neges allweddol bwysig yn yr adroddiad. Rydym yn derbyn bod budd i'r cymhwyster hwn ond mae angen gwneud mwy o waith ar y ffordd y caiff ei gyflawni'n effeithiol ar draws Cymru ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion yn y ffordd y mae'r Gweinidog wedi gwneud.
Os caf gyfeirio'n benodol at rai cyfraniadau unigol, siaradodd Suzy Davies am glywed yn uniongyrchol gan y bobl ifanc ac yn wir, fel y dywedodd, roedd yna safbwyntiau amrywiol, ac yn yr adroddiad a luniwyd gennym rwy'n gobeithio ein bod wedi ceisio ymateb i argymhellion sy'n mynd i'r afael â'r pryderon amrywiol a godwyd gan bobl ifanc ynghylch cysondeb, ynghylch pethau fel natur orfodol bagloriaeth Cymru. Hefin David, pan siaradoch chi, fe sonioch chi am y tensiwn sy'n bodoli rhwng rhoi rhyddid i addysgwyr proffesiynol a sicrhau cysondeb y ddarpariaeth. Yn ddiau, mae honno'n her ar draws y cwricwlwm cyfan yn y dyfodol, ond rwy'n gobeithio y bydd yr argymhellion a wnaethom ynghylch gwella addysg gychwynnol athrawon, datblygiad proffesiynol parhaus mewn perthynas â bagloriaeth Cymru, a'r canllawiau'n gyffredinol i nodi'n gliriach yr hyn a ddisgwylir, yn helpu i gyflawni hynny.
A gaf fi ddiolch i Mark Reckless am ei gyfraniad meddylgar iawn i'r ddadl hon? Fel y dywedwch, fe ddechreuoch chi gyda'r pwyllgor pan lansiwyd yr ymchwiliad hwn gennym. Ni wnaethom gymryd tystiolaeth yn benodol ar y gymhariaeth uniongyrchol â Lloegr, felly ni wnaf sylwadau penodol ar hynny, ond hoffwn ddiolch i chi am gydnabod y dystysgrif her sgiliau, oherwydd roedd honno'n thema a ddaeth yn amlwg yn nhystiolaeth y bobl ifanc y siaradais â hwy, eu bod yn teimlo ei fod yn beth defnyddiol i'w wneud a'u bod hefyd yn teimlo bod y modd hwnnw o astudio'n apelio at brifysgolion, a dweud y gwir, fel ffordd fwy annibynnol o ddysgu.
Rwy'n derbyn, wrth gwrs, fod angen rhagor o esboniad ynglŷn â'r cymhwyster. Nid ein rôl ni fel pwyllgor mewn gwirionedd oedd ceisio nodi hynny'n fanwl yn yr adroddiad; roeddem yn canolbwyntio ar geisio gwneud argymhellion i wella'r modd o weithredu, ac fel y gwyddoch, gwnaethom argymhellion allweddol ynglŷn â gwella dealltwriaeth pawb, mewn gwirionedd—rhieni, disgyblion ac addysgwyr proffesiynol sy'n cyflwyno'r cymhwyster, ond prifysgolion a busnesau hefyd, yn bwysig iawn. A diolch ichi hefyd am dynnu sylw at y ffaith bod y Gweinidog wedi egluro, unwaith eto, nad yw bagloriaeth Cymru yn orfodol i rai ôl-16. Mae hynny'n ddefnyddiol iawn, oherwydd fel pwyllgor, roeddem yn teimlo'n glir iawn y dylai budd gorau'r unigolyn ifanc fod yn brif ystyriaeth.
Os caf droi yn awr at gyfraniad Michelle Brown—[Torri ar draws.] Wel, ie. Roedd yn eithaf negyddol a dweud y gwir, ac mae'n rhaid imi ddweud—a dywedaf eto—fy mod wedi cychwyn yr ymchwiliad yn teimlo'n eithaf amheus—. Byddai'n braf pe baech yn gwrando ar yr ymateb, Michelle, ar ôl siarad yn y ddadl. Ar ôl cychwyn yr ymchwiliad yn teimlo'n negyddol iawn am fagloriaeth Cymru, nid oedd y dystiolaeth a gawsom yn ategu hynny, ac mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo. Nid oeddwn yn cydnabod chwaith yr hyn a ddywedodd Michelle Brown nad oes galw am y cymhwyster, gan fod hynny'n amlwg o siarad â phobl ifanc, a dywedodd rhai ohonynt wrthym na fyddent wedi llwyddo i gael eu derbyn i brifysgolion heblaw am fagloriaeth Cymru, am nad oedd gwneud tair safon uwch yn gweddu cystal iddynt, felly roeddent yn gwneud dwy safon uwch a bagloriaeth Cymru. Felly, credaf fod angen inni adeiladu ar y pethau cadarnhaol yn yr ymchwiliad.
Janet, unwaith eto, roeddech yn pryderu'n fawr am fagloriaeth Cymru ac wrth gwrs, cefnogodd y ddau Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig yr adroddiad hwn pan gyhoeddwyd yr adroddiad gennym, ac roedd yn adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth, felly o ran hynny, rwyf ychydig yn siomedig mewn gwirionedd eich bod wedi dod i'r casgliad a wnaethoch, ar ôl cefnogi.
A fyddech yn derbyn ateb i hynny?
Ar bob cyfrif.
Rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro hynny yn fy sylwadau agoriadol, sef y bydd y Llywodraeth yn ei lle am oddeutu dwy flynedd arall, ac wrth gwrs, rydym yn disgwyl gweld y Llywodraeth yn gweithredu ar yr argymhellion hynny, ond nid yw'n golygu eu bod yn mynd i lwyddo.
Wrth gwrs, a bydd yn rhaid inni fonitro'n agos y modd y caiff yr argymhellion eu gweithredu, ond barn glir y pwyllgor oedd bod gwerth yn y cymhwyster hwn, ond ein bod am ei weld yn cael ei wella.
Roeddwn am grybwyll un pwynt penodol a wnaeth Janet Finch-Saunders am leddfu'r pwysau ar athrawon. Heb os, mae llwyth gwaith yn bryder parhaus i athrawon ond unwaith eto, rwy'n credu bod y pwysau ar athrawon yn deillio o'r ffordd y caiff y fagloriaeth ei rhoi ar waith mewn ysgol. Mewn ysgol lle mae gennych arweinyddiaeth dda ar fagloriaeth Cymru, lle mae'r staff yn cael yr amser priodol i'w chyflwyno—. Daw'r pwysau pan nad yw ysgolion yn ei weithredu'n iawn, pan fydd yn rhywbeth ychwanegol, rhywbeth sydd wedi cael ei daflu i mewn rhwng pethau. Felly, unwaith eto, rwy'n gobeithio y bydd ein hargymhellion ynglŷn â sicrhau cysondeb y ddarpariaeth yn ddefnyddiol.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb pellach heddiw? Roedd yn ddefnyddiol cael y wybodaeth am y prifysgolion wedi'i nodi yn y Siambr. Fel y pwysleisiwyd eisoes, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, fe'i cawsom yn anodd cael tystiolaeth lafar ffurfiol gan y prifysgolion am nad oeddent yn awyddus i ddod i mewn a rhoi'r dystiolaeth lafar ffurfiol honno, a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Ac mae'n wych gweld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad iawn. Wrth gwrs, mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo, mewn gwirionedd, a dyna'r hyn a argymhellodd yr adroddiad hefyd: fod angen inni wneud mwy i sicrhau bod gan bob un o'n prifysgolion ddealltwriaeth wirioneddol dda o fagloriaeth Cymru a'u bod yn ei chydnabod yn llawn.
Hoffwn gloi drwy ddiolch i weddill y pwyllgor a dweud y byddwn, fel gyda'n holl ymchwiliadau, yn gwneud ein gorau i wneud gwaith dilynol ar ein hargymhellion a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n gyflym. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar golli golwg—
A gaf fi godi pwynt o drefn?
Pwynt o drefn o dan ba Reol Sefydlog?
Rheol Sefydlog 13.10.
O dan Reol Sefydlog 13.10,
'Rhaid i Aelod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Llywydd',
ac fe ofynnoch chi i Michelle Brown dynnu datganiad a wnaeth yn ôl, ac ni wnaeth hynny.
Wel, fe wnaeth.
Ond ar fater ehangach, roedd y pryderon ar yr ochr hon i'r Siambr yn ymwneud â'r ffaith nad oedd y pethau roedd hi'n eu dweud yn adlewyrchu'r hyn a oedd yn yr adroddiad, a phan oedd Lynne Neagle, fel Cadeirydd y pwyllgor, yn gwneud y datganiad, nid oedd Michelle Brown yn gwrando ar yr hyn yr oedd Lynne Neagle yn ei ddweud. Felly, gyda'r parch mwyaf, nid oes unrhyw syndod fod datganiadau gwallus yn mynd i gael eu gwneud yn y Siambr.
Rwy'n derbyn y pwynt o drefn. Rydych wedi'i godi, mae wedi'i gofnodi. A gaf fi ddweud bod gan Aelodau hawl mewn dadl i ddefnyddio'r amser a ddyrannwyd iddynt i helpu i hyrwyddo'r ddadl honno? Mater iddynt hwy yn llwyr yw sut y maent yn ei wneud. Fe ofynnais am ymddiheuriad. Cafwyd yr ymddiheuriad hwnnw. Efallai nad oedd mor glir yn y ffordd—ond roedd yno. Ac yn sicr, mae llawer o bobl yn gwneud llawer o bethau eraill yn y Siambr ar wahân i gymryd sylw'n llawn. Felly, rwy'n credu pe bawn i'n dechrau dweud y dylai pobl fod yn gwrando'n astud, rwy'n meddwl y byddai cryn dipyn ohonoch chi'n torri rhai o'r Rheolau Sefydlog. Mae'r pwyntiau a wnaethoch wedi'u cofnodi.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar golli golwg. Galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig. Angela.
Cynnig NDM7110 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod 111,000 o bobl yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw gyda nam ar eu golwg;
b) y rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn dyblu erbyn 2050.
2. Yn croesawu cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid.
3. Yn gresynu bod 1 o bob 3 chlaf y tybir eu bod mewn perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy na'u targed o ran amser aros ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) bod yn gadarn wrth ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros gofal llygaid a rhoi ei mesurau gofal llygaid ar waith;
b) datblygu cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol;
c) gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;
d) cyhoeddi amserlen, ar frys, ar gyfer datblygu a chyhoeddi cynllun cyflawni newydd ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i agor y ddadl heddiw, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Elin a'r tîm yn RNIB Cymru am eu cymorth yn darparu astudiaethau achos rhagorol ac am alluogi a goleuo a gweithredu'r panel cleifion, a gwn fod nifer fawr ohonynt gyda ni heddiw.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae'n ddadl amserol oherwydd bod y mesurau perfformiad newydd wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar, yn enwedig gan fod colli golwg yn bwnc a fydd yn effeithio ar lawer ohonom, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gydol ein bywydau. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am wrando ar ddefnyddwyr ac arbenigwyr, ac am gyflwyno'r mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid. Mae'n wych mai Cymru yw'r rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno'r mesurau newydd hyn sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, a dylai helpu byrddau iechyd i roi blaenoriaeth i gleifion yn ôl eu hanghenion clinigol. Yr her a wynebwn yn awr yw sicrhau nad yw'r ffordd newydd hon o fesur yn arwain at golli ffocws ar y ddarpariaeth, a bod y cleifion sydd fwyaf o angen llawdriniaeth neu gymorth ar frys yn eu cael, a hynny cyn y gwneir niwed parhaol i'w golwg.
Fel y noda ein cynnig, rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030, sy'n ganran syfrdanol mewn gwirionedd, ac y bydd wedi dyblu erbyn 2050. Ar hyn o bryd, mae tua 111,000 o bobl yn byw gyda nam ar eu golwg yng Nghymru, ac yn y ddwy sir rwy'n eu cynrychioli, mae dros 13,500 o bobl yn byw gyda rhyw fath o nam ar eu golwg, ac mae tua 1,500 o bobl wedi'u cofrestru'n ddall. Gadewch inni oedi ac ystyried beth y mae hyn yn ei olygu. Ymhen 30 mlynedd, bydd gan oddeutu 7 y cant o boblogaeth Cymru nam ar eu golwg. Golyga hyn y byddant yn byw gyda nam ar un o'n synhwyrau pwysicaf. Nawr, mae llawer ohonom yn y Siambr, a minnau yn eu plith, yn gwisgo sbectol i gywiro ein golwg, ac onid yw'n rhwystredig pan na allwn ddod o hyd iddynt am gyfnod byr, ac ni allwn weld yn glir iawn? Meddyliwch sut beth yw hynny ar sail barhaol, ac yn aml heb obaith o allu gweld yn glir eto, neu ar ei waethaf, heb obaith o allu gweld o gwbl. Meddyliwch wedyn am yr effaith hirdymor ar iechyd meddwl claf o orfod derbyn eu bod yn colli eu golwg, ac yna ystyriwch y gost i'r GIG a'r wladwriaeth o gefnogi unigolyn â nam ar eu golwg neu sydd wedi colli eu golwg.
Mae'r costau anuniongyrchol hyn sy'n gysylltiedig â cholli golwg yn costio tua £268 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ac yn ôl ffigurau Access Economics a gynhyrchwyd yn 2017 gan Deloitte, mae'r lleihad cysylltiedig mewn iechyd a lles o ganlyniad i fyw gyda nam ar y golwg yn £1 biliwn bob blwyddyn yng Nghymru. A dim ond am arian rwy'n sôn yn y fan hon. Rhaid i ni gofio'r gost bersonol i'r unigolyn. A dywedodd RNIB hynny'n glir iawn: mae'r rhwystrau y mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn eu hwynebu bob dydd eisoes yn creu anghydraddoldeb dwfn, a bydd yn troi'n drychineb genedlaethol oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth radical. Mae'r sefyllfa bresennol yn dangos bod rhestrau aros offthalmoleg wedi tyfu y tu hwnt i reolaeth, ac ystyrir bod un o bob tri chlaf mewn perygl mawr o golli eu golwg neu o aros yn hwy na'u hamseroedd aros targed. Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae'r ffigur hwn yn waeth o lawer—bron 50 y cant o bobl—a ledled Cymru offthalmoleg yw'r ail waethaf o'r holl ddisgyblaethau o ran amseroedd aros.
Cyfarfûm â nifer o bobl drwy fy ngwaith yn yr etholaeth a thrwy grŵp cleifion yr RNIB, ac mae rhai ohonynt yn eistedd yma fel y dywedais eisoes, ac rwyf am atgyfnerthu'r neges nad oes yr un o'r cleifion hyn yn beirniadu'r meddygon, y clinigwyr, y staff gofal iechyd gweithgar. Pan gânt y driniaeth, mae'n wych; cael y driniaeth sy'n anodd. Maent am wneud yn siŵr ei fod yn well gwasanaeth i bobl eraill. Weinidog, y bywydau hyn, y bobl hyn, sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau y mae eich Llywodraeth yn eu gwneud, ac mae un o'r prif bryderon yn ymwneud ag apwyntiadau. Mae yna restrau aros. Ac wrth gwrs, mae pawb ohonom yn derbyn y bydd rhestrau aros yn bodoli ar gyfer rhai cyflyrau. Ac wrth gwrs, mae llwyddiant yn creu rhestrau aros. Roeddwn yn meddwl ei bod hi'n ddiddorol darllen dros y penwythnos mai'r llawdriniaeth ar gyfer trwsio cataractau yw'r fwyaf llwyddiannus bellach a'r fwyaf poblogaidd a mwyaf cyffredin o unrhyw lawdriniaeth a wneir gan y GIG yn y DU. Ond mae pris i'w dalu am y llwyddiant hwn—sef bod mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio, rhestrau aros hwy heb y gyllideb ychwanegol o reidrwydd. Dychmygwch y rhwystredigaeth; ateb o'r radd flaenaf sydd mor gyffredin fel y gellir mynd ag arbenigwyr i wledydd â chyfleusterau meddygol gwael a darparu llawdriniaeth i achub eu golwg, ond yn ein gwlad gymharol gyfoethog ni, caiff mynediad at lawdriniaeth cataract ei ddyrannu'n anghyson.
Roedd cynllun tebyg gan y Llywodraeth yn y pedwerydd Cynulliad ar gyfer glawcoma yn llwyddiannus iawn, a chafodd groeso mawr, ond arweiniodd at bwysau ychwanegol ar glinigau. A chlywais nad yw'n anarferol i gleifion aros am dros bedair awr i fynychu eu hapwyntiadau. Nid dim ond yr amser aros ar gyfer apwyntiadau a godwyd, ond mater canslo apwyntiadau. Nododd cais rhyddid gwybodaeth i Betsi Cadwaladr fod y bwrdd iechyd hwnnw, dros y pum mlynedd diwethaf, wedi canslo'n agos i 40,000 o apwyntiadau offthalmoleg; roedd tua 7,900 ohonynt yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. A chlywais gleifion yn dweud pethau fel, 'Rwyf wedi cael digon o lythyrau canslo i bapuro wal fy ystafell wely.' Cawsom wybod sut oedd pobl yn sefyll yno yn y ciw yn aros i gael eu gweld a byddent yn clywed y derbynnydd ar y ffôn â rhiant neu briod yn ôl yn eu cartref yn dweud, 'O, dywedwch wrtho na all ddod i mewn', ac maent yn sefyll o flaen y derbynnydd, yn aros i gael eu derbyn.
Mae angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Weinidog, rwy'n gofyn i chi wneud rhywbeth yn ei gylch, oherwydd mae hyn yn gwbl hanfodol. Mae cleifion yn sôn sut y mae colli golwg a dirywiad eu golwg yn effeithio'n enfawr ar eu hiechyd meddwl. Mae'n arwain at arwahanrwydd, dicter, colli ffrindiau. Rhaid i bobl roi'r gorau i'w trwyddedau gyrru, sy'n cael effaith aruthrol, yn enwedig os ydych yn byw mewn cymuned wledig. Dywedodd un claf, a ddefnyddiai ei ganolfan hamdden leol i nofio, fod rhywun wedi dweud wrtho na allai ddefnyddio'r ganolfan pan ddaeth yn amlwg ei fod yn colli ei olwg am ei fod yn berygl iechyd a diogelwch. Yn anffodus, mae colli golwg yn rhywbeth sydd â llawer iawn o stigma ynghlwm wrtho.
A hoffwn nodi hefyd, Weinidog, nad yw pob claf yn cael ei eni â phroblemau llygaid neu'n dioddef problemau sy'n gysylltiedig â heneiddio. Rwy'n pryderu nad oes digon o ddealltwriaeth neu gymorth yn cael ei roi i'r rhai sy'n colli eu golwg yn sydyn oherwydd anaf i'r ymennydd neu achosion eraill o golli golwg yn gyflym. Weinidog, hoffwn i chi edrych ar eich strategaeth gofal llygaid a mynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys. Rwy'n mynd i roi'r gorau iddi yn awr; nid wyf yn mynd i gael digon o le i orffen yn y bôn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed beth y mae pawb arall yn ei ddweud. Weinidog, rydych yn gwneud yn dda; gallem wneud yn well. Gwrandewch yn ofalus iawn arnom os gwelwch yn dda.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a dwi’n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl is-bwynt 4a a rhoi yn ei le:
bwrw ymlaen â chyhoeddi a gweithredu’r cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal llygaid a chyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol;
gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;
parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn olaf a nodi y bydd y Prif Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid trwy Gymru yn ystod y misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Y cyfraniadau nawr i fod yn dri munud yn unig, felly. Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r grŵp Ceidwadol ac Angela Burns am ddod â’r cynnig hwn gerbron heddiw. Byddwn yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio. Hoffwn hefyd gysylltu fy hun â diolchiadau Angela i’r RNIB am y wybodaeth ddefnyddiol a grymus iawn, a buaswn yn cytuno â phob dim y mae Angela wedi’i ddweud yn eu chyfraniad ac nid wyf am ei ailadrodd i’r Cynulliad.
Hoffwn siarad am ddau beth, ac un ohonynt yw sôn ychydig bach am yr effaith ar fywydau pobl, oherwydd mae hon yn sefyllfa a ddigwyddodd yn fy nheulu fy hun. Cafodd fy nhad ddiagnosis o gataractau; roedd yr amseroedd aros yn hir iawn—roedd hyn amser maith yn ôl, ar ddechrau'r 1990au. Ni allem ei berswadio i fynd yn groes i’w egwyddorion a gadael i ni fel ei blant dalu am driniaeth breifat. Teimlai y byddai hynny'n anghywir. Pleidleisiodd dros y Llywodraeth yn 1945 a greodd y gwasanaeth iechyd gwladol ac nid oedd yn mynd i neidio i flaen unrhyw giw. Ond pen draw hyn oedd nad oedd modd ei drin mwyach erbyn iddo ddod yn gymwys i gael ei lawdriniaeth GIG; roedd niwed o dan y cataract.
Nid wyf bob amser yn siarad am brofiadau personol, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny yma, oherwydd mae’r effaith ar fywyd rhywun, y colli annibyniaeth y siaradodd Angela amdano, methu darllen llyfr, methu teithio heb orfod ein cael ni gydag ef, a’r effaith ar ei urddas oedd y peth gwaethaf oll rwy'n credu—o fod yn ddibynnol, ac yntau wedi bod yn berson mor annibynnol. Felly rwy’n credu ei bod hi’n bwysig beth bynnag a wnawn, ac yn wir, pan siaradwn am faterion iechyd eraill, fod rhaid inni gofio sut y mae’n effeithio ar bobl. Rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedodd Angela ei bod hi’n gadarnhaol yn awr fod y problemau hyn yn weladwy yn y gwasanaeth oherwydd y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd, ond credaf fod angen iddynt weithredu ar fwy o frys nag y byddai gwelliant y Llywodraeth yn awgrymu sy'n bodoli.
A'r pwynt penodol arall yr hoffwn ei wneud yn ogystal â’r effaith ar fywydau pobl yw’r angen am wybodaeth hygyrch. Os yw pobl yn colli apwyntiadau, ac mae rhywfaint o ymateb gwrthwynebus yn y system yn dweud 'Wel, nid ein bai ni yw bod cynifer o apwyntiadau’n cael eu colli', meddai’r byrddau iechyd, 'Nid yw pobl yn dod i’w hapwyntiadau', wel, os nad ydych yn anfon gwybodaeth i berson dall ar ffurf hygyrch, os nad ydych yn eu ffonio, os nad ydych yn eu cael i ddynodi rhywun arall a allai dderbyn y wybodaeth ar eu rhan, fe fyddant yn colli apwyntiadau a bydd hynny’n effeithio ar y system. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog heddiw edrych yn agos wrth iddo wthio ei agenda yn ei blaen i weld i ba raddau y mae byrddau iechyd yn gyson yn darparu gwybodaeth ar ffurf hygyrch. Ni ddylai pobl ddal orfod cael eu plant a’u hwyrion i ddarllen llythyrau apwyntiad iddynt—nid yw’n briodol—na phobl sy’n colli eu golwg. Unwaith eto, rwy’n ddiolchgar, ac ni ddywedaf lawer mwy, i’r Ceidwadwyr am gyflwyno hyn. Mae hon yn agenda bwysig tu hwnt, ac rwy’n credu’n gryf fod yn rhaid inni gael ymdeimlad o frys oherwydd bob dydd bydd un o’n cyd-ddinasyddion yn colli eu gallu i weld, a hynny’n ddiangen, ac rwy’n siŵr na all neb ohonom fod yn fodlon ynglŷn â hynny.
Mae ffigurau Angela’n golygu bod disgwyl i nifer y bobl sydd â nam ar eu golwg yng Nghymru ddyblu i 222,000 erbyn 2050 ac mae nam ar y golwg a cholli golwg yn effeithio ar annibyniaeth a symudedd, yn cynnwys y perygl o gwympo, o gael anaf, iechyd meddwl, gwybyddiaeth, cyflogaeth, a chyrhaeddiad addysgol. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol yn cael eu dwyn i gyfrif yn gadarn ynglŷn â’u methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros gofal llygaid a rhoi mesurau gofal llygaid ar waith.
Fis Hydref diwethaf, adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru fod rhestrau aros ar gyfer apwyntiadau dilynol GIG Cymru wedi tyfu'n sylweddol gydag offthalmoleg yn ail waethaf o'r holl ddisgyblaethau. Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata perfformiad cyntaf y byrddau iechyd yn erbyn y mesurau gofal llygaid newydd ar gyfer cleifion allanol y GIG. Mae RNIB Cymru yn credu bod cyhoeddi’r data hwn yn gam mawr ymlaen tuag at wneud byrddau iechyd yn fwy atebol am y modd y maent yn darparu gwasanaethau gofal llygaid. Mae'r elusen wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu targedau newydd ar gyfer apwyntiadau newydd neu apwyntiadau dilynol yn ôl y risg i’r claf o golli eu golwg yn barhaol—rhywbeth y rhannodd Helen Mary â ni a ddigwyddodd i’w theulu hi yn anffodus. Fodd bynnag, dangosodd data mis Ebrill nad oes yr un bwrdd iechyd yn cyrraedd targedau newydd Llywodraeth Cymru hyd yma. Mae RNIB Cymru yn nodi ei fod yn adlewyrchu'r hyn y bu cleifion yng Nghymru yn ei ddweud ers blynyddoedd, gyda miloedd ohonynt wedi dioddef apwyntiadau’n cael eu canslo a’u gohirio dro ar ôl tro, gan eu rhoi mewn perygl gwirioneddol o golli eu golwg am nad ydynt yn cael y gofal a’r driniaeth iawn ar yr adeg iawn.
RNIB Cymru sy’n galw felly am ddwyn byrddau iechyd i gyfrif yn gadarn, ymgyrch fawr i ailgynllunio gwasanaethau a dull cenedlaethol ac amlddisgyblaethol strategol o gynllunio’r gweithlu offthalmoleg. Mae Action on Hearing Loss hefyd yn nodi ein bod yn dal i weld methiannau bum mlynedd ar ôl cyflwyno’r safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch ar gyfer Cymru gyfan i bobl â nam ar eu synwhyrau—y golwg a’r clyw—yn y GIG, na chaiff y safonau eu mesur na’u rheoleiddio ar hyn o bryd, ac y dylai hyn fod yn rhan o waith gwella ansawdd gan Weinidogion Cymru a chyrff y GIG i gynnwys profiad y claf. Wedi'r cyfan, mae Llywodraeth Cymru’n datgan ei chefnogaeth i’r model cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod mai’r gymdeithas sy’n gwneud pobl yn anabl, nid y nam sydd arnynt, fod yn rhaid inni fynd i’r afael â’r rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb, a bod yn rhaid caniatáu i bawb gael annibyniaeth, llais, dewis a rheolaeth yn eu bywydau—dim byd amdanom ni hebom ni. Mae cod ymarfer Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan fod hyn,
‘yn rhoi system ar waith lle mae pobl yn bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a gweithredu gofal a chymorth.’
Ac yn olaf, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn datgan bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus arddangos ymwneud y bobl y mae gwasanaethau neu weithgareddau’n mynd i fod o fudd iddynt neu’n mynd i’w heffeithio o gam mor fuan â phosibl. Nid yw deddfwriaeth ond yn ystyrlon os caiff ei gweithredu. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon, ond rwy'n siomedig mai dadl 30 munud yn unig ydyw yn hytrach nag un awr, oherwydd rwy'n credu ei fod yn destun pwysig iawn. Mae’r ffaith bod pobl wedi mynd yn ddall wrth aros am driniaeth—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Clywais yr hyn a ddywedoch chi ac rwy’n credu ei fod yn angharedig iawn. Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi gyflwyno dadl ar ofal llygad, ac a oedd gennych unrhyw fwriad o wneud hynny cyn heddiw?
Gadewch i mi ddweud, Darren, fy mod yn credu ei fod yn bwnc pwysig iawn, felly eich canmol ar hynny roeddwn i’n ei wneud, wyddoch chi? Ond dyna ni, nid ydych yn adnabod canmoliaeth pan fyddwch yn ei chlywed, felly—
Dylai’r ffaith bod pobl wedi mynd yn ddall wrth aros am driniaeth fod yn destun cywilydd mawr i'n gwlad. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn bwrw iddi i fuddsoddi yn y gwaith o drawsnewid gwasanaethau gofal llygaid.
Mae RNIB Cymru wedi croesawu’r mesurau newydd a fydd, am y tro cyntaf, yn caniatáu inni weld gwir faint yr heriau sy’n wynebu offthalmoleg yng Nghymru. Mae'r mesurau newydd a amlinellwyd gan y Gweinidog yn rhoi'r claf yn gyntaf o’r diwedd, gan roi blaenoriaeth i’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Mater i’r byrddau iechyd yw cyflawni’r gwelliannau hyn yn awr a gwneud defnydd llawn o’r canllawiau newydd. Ac rwy’n gobeithio y bydd byrddau iechyd lleol yn cyflawni y tro hwn. Mae’r £7 miliwn a neilltuwyd ar gyfer y system ddigidol newydd ar gyfer gofal llygaid i’w groesawu’n fawr. Y gobaith yw y gall Llywodraeth Cymru wrthdroi'r duedd gyda phrosiectau TG yn y gorffennol a darparu'r system yn gyflym ac yn effeithlon. Pan fydd y system newydd ar waith gydag atgyfeiriadau uniongyrchol, dylem ddileu amseroedd aros hir am driniaeth. Tan hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y byrddau iechyd yn symleiddio’r broses atgyfeirio i'w gwneud mor effeithlon â phosibl. Bydd atgyfeiriadau cyflym yn helpu i gyflymu’r broses o wneud diagnosis a rhoi triniaeth ac yn sicrhau nad yw cleifion yn colli eu golwg oherwydd amseroedd aros hir.
Ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd, ac mae prinder swyddogion adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg yn sicr yn creu risg i ddiogelwch pobl. Nid ydym yn cynnig y triniaethau gorau sydd ar gael, triniaethau a allai sicrhau nad yw cleifion yn colli eu golwg. Ac er y byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw er mwyn cydnabod y cynnydd sy’n cael ei wneud, rwy’n annog y Gweinidog i sicrhau bod y cynllun cyflawni nesaf yn mynd i’r afael â diffygion o ran opsiynau triniaeth a chymorth. Edrychaf ymlaen at argymhellion y prif gynghorydd optometrig, a hynny'n gynt yn hytrach na’n hwyrach, rwy'n gobeithio. Gadewch i ni sicrhau nad oes unrhyw un arall yn colli eu golwg wrth aros am driniaeth a chymorth, gan na ddylai’r achos erchyll a ddisgrifiodd Angela Burns yn gynharach byth ddigwydd, a dylai roi cyfle i bawb ohonom ystyried faint o welliant sydd ei angen yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Mae 13 o bobl yn colli eu golwg yng Nghymru bob diwrnod, gan ychwanegu at y ffaith syfrdanol fod 111,000 o bobl yn byw gyda nam ar eu golwg yma. Mae nam ar y golwg a cholli golwg yn cael effaith sylweddol ar unigolion. Er enghraifft, credir bod dros 14,000 o bobl dros 65 oed sydd â nam ar eu golwg yn dioddef un gwymp bob blwyddyn; mae 40 y cant o bobl ddall neu rannol ddall wedi dweud eu bod wedi’u hynysu o’r gymdeithas i raddau cymedrol neu'n llwyr; ac yn ôl RNIB, dim ond un o bob pedwar o bobl ddall a rhannol ddall sy'n gweithio yn y DU.
Bob tro rwy’n ôl yng ngogledd Cymru, caf fy atgoffa am y rhai yr effeithir arnynt gan nam ar y golwg. Yn wir, mae'r dref lle mae fy swyddfa a lle rwy'n byw, Llandudno, yn ffodus i fod yn gartref i’r ganolfan hyfforddi ac adsefydlu i gyn-filwyr dall; gwesty gydag ystafelloedd wedi'u neilltuo ar gyfer gwesteion â nam ar eu golwg; ac mae gennym Mr Billy Baxter, ein crïwr tref gwych, yr unig grïwr tref dall yn Ewrop a'r ail yn hanes y DU.
Nawr, ni fydd yn syndod i chi felly fy mod yn hoffi meddwl am gymuned Aberconwy fel un sy’n ceisio bod, ac sy’n llwyddo i fod yn ystyriol o bobl sydd â nam ar eu golwg. Fodd bynnag, rwy'n ofni bod miloedd o fy etholwyr yn cael cam yn sgil diffyg triniaeth briodol. Diolch i’r mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid, rwy'n ymwybodol fod 11,310 o gleifion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn aros y tu hwnt i lefelau clinigol ddiogel am apwyntiadau cleifion allanol. Dyna'r nifer uchaf o bobl yn aros y tu hwnt i’r targedau mewn unrhyw fwrdd iechyd.
Yn anffodus, mae'r drafferth ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn rhan o ddarlun cenedlaethol digalon lle mae un o bob tri chlaf y bernir eu bod yn wynebu risg uchel o golli eu golwg yn aros yn hwy na’r amser aros targed am apwyntiadau offthalmoleg yn unig. Mae hyn yn arbennig o wael i gleifion dilynol, gan fod RNIB Cymru wedi amcangyfrif fod 90 y cant wedyn yn wynebu’r risg o golli golwg yn barhaol. Fodd bynnag, mae’n debygol fod y sefyllfa hyd yn oed yn waeth, gan nad yw’r mesurau gofal llygaid ond yn dangos y nifer o gleifion R1 sy’n aros i gael eu trin, nid y rhai a gategoreiddir fel rhai R2 neu R3. Rhaid i’r byrddau iechyd a chi fel Llywodraeth Cymru gael eich dwyn i gyfrif am y ffigurau hyn.
Ar hyn o bryd, ceir dibyniaeth enfawr ar ddarpariaeth locwm. Er enghraifft, mae 50 y cant o swyddi staff a meddygon cyswllt offthalmoleg arbenigol sydd heb eu llenwi angen darpariaeth locwm yng Nghymru. Mae hynny'n fwy na chyfartaledd y DU. Yn amlwg, mae angen gweithlu cenedlaethol a chynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid er mwyn helpu i sicrhau bod y galw’n cael ei ddiwallu ac y gall byrddau iechyd fynd i’r afael â’r argyfwng ar sail genedlaethol.
Gyda'r disgwyl y bydd y niferoedd a fydd angen gofal llygaid yn y dyfodol yn codi’n sylweddol dros y degawd nesaf, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu yn awr. Felly, rwy'n erfyn ar yr Aelodau yma heddiw i gefnogi’r cynnig er mwyn inni allu helpu unigolion sydd â nam ar eu golwg ledled Cymru, ac i mi yn arbennig, yn Aberconwy, lle mae’r problemau dan ofal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn sylweddol. Unwaith eto, ni ddylai fy etholwyr fod ar eu colled yn y maes pwysig hwn.
Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn a diolch am fy ngalw. Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn casglu cryn dipyn o dystiolaeth ar hyn, ac roedd ansawdd y dystiolaeth a roddodd yr RNIB yn rhagorol iawn. Hoffwn dalu teyrnged i’r gwaith a wnânt—yn enwedig Gareth Davies, sef arweinydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yr RNIB—yn cynghori pobl ynghylch arwyddocâd yr ohebiaeth a gânt gan eu bwrdd iechyd, oherwydd mae’n bwysig iawn i gleifion wybod a yw canslo apwyntiad yn rhywbeth y dylent ei herio oherwydd y brys gyda’u problem, neu a yw’n rhywbeth cwbl arferol. Roedd yr RNIB yn pryderu fod apwyntiadau pobl yn cael eu canslo bron cyn iddynt gael y llythyr yn eu hysbysu am yr apwyntiad. Yn amlwg, mae Caerdydd a’r Fro wedi wynebu problem fawr, sydd wedi achosi i mi gael llawer o ohebiaeth gan unigolion—
Un o'r pethau a welaf yn fy etholaeth yw pobl yn cael llythyrau’n canslo eu hapwyntiadau, weithiau ar ddiwrnod yr apwyntiad, ac yn aml iawn, nid yw’r llythyrau hynny hyd yn oed yn addas ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Maent mewn ffont bach a phethau. Ai dyma'r math o broblem rydych chi'n ei chael yng Nghaerdydd a'r Fro hefyd?
Yn bendant nid wyf wedi gweld llythyrau mewn print mân, ond yn sicr rwyf wedi—dyma oedd peth o’r dystiolaeth a gawsom gan yr RNIB, ac ni allaf ddweud ai yng Nghaerdydd a’r Fro y digwyddodd hynny ai peidio.
Hoffwn wneud dau neu dri phwynt cyflym. Un yw nad yw’r cynnydd o 7 y cant yn nifer y bobl sydd angen gofal llygaid yn fai ar y Llywodraeth mewn unrhyw ffordd. Mewn rhai achosion, mae hyn yn rhywbeth i’w ganmol, yn yr ystyr fod mwy o bobl yn dod i gael eu gweld am eu bod yn sylweddoli nad yw eu golwg cystal ag y mae angen iddo fod.
Yn ail, mae pobl yn byw'n hirach, felly, yn amlwg, wrth inni dyfu’n hŷn, mae'n rhaid i ni ddechrau defnyddio sbectol, ac wrth inni dyfu’n hŷn eto—rwy’n rhagweld y bydd gennyf broblemau llygaid difrifol oherwydd hanes fy nheulu. Y broblem yma yw sut y trefnwn y gwasanaethau i ddiwallu’r galw cynyddol, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru’n gweithio arno, a dyna pam y byddaf yn pleidleisio dros y gwelliant.
Ond ceir materion eraill y mae angen i ni wneud pethau yn eu cylch hefyd. Un ohonynt yw na ddylai fod angen i rywun sydd wedi cael ei weld gan optometrydd ar y stryd fawr, sydd wedi nodi bod angen i’r unigolyn weld arbenigwr, fynd drwy eu meddyg teulu er mwyn cael llythyr 'Annwyl Feddyg' cyn y gall fynd i’r adran arbenigol. Mae'n wastraff gwarthus ar amser y gwasanaeth gofal sylfaenol, yn ogystal â bod yn ddiangen i'r claf unigol.
Yn ail, mae technoleg newydd yn galluogi'r offthalmolegydd yn yr ysbyty i edrych ar ba mor ddifrifol yw'r achos unigol heb fod angen cael y claf o'u blaen. Oherwydd, gyda'r Gweinidog iechyd, ymwelais ag optometrydd cwbl ragorol ym Mhentwyn a gwelais eu bod yn gallu anfon delweddau o safon uchel iawn o'r llygad yn uniongyrchol at yr arbenigwr yn yr ysbyty. Mae hynny'n arloesedd gwych, ac yn un y dylem ei gymeradwyo, gan ei fod yn eu galluogi i flaenoriaethu'r rhai y mae eu hachosion yn rhai y mae brys gwirioneddol yn eu cylch ac angen eu gweld ar unwaith am fod risg i'w golwg, yn hytrach na'r rheini sydd â phroblem yn ôl pob tebyg, ond nad oes angen iddynt gael eu gweld yr wythnos hon. Felly, mae hynny'n rhywbeth arall sy'n wirioneddol bwysig.
Ond y trydydd peth yr ydym wedi cael llawer o anhawster yn ei gylch yng Nghaerdydd a'r Fro yw sicrhau nad oes angen i'r rhai sydd wedi cael llawdriniaethau cataract rheolaidd, sy'n cael eu gwneud wrth y miloedd ar y diwrnod yn y rhannau mwyaf anghysbell o India, fel Bihar—nad oes angen iddynt fynd yn ôl i'r ysbyty oni bai fod rheswm arbenigol dros wneud hynny. Gellir eu gweld yn ôl ar y stryd fawr gan yr optometrydd i sicrhau bod y llawdriniaeth cataract, sy'n llawdriniaeth reolaidd y dyddiau hyn, wedi bod yn llwyddiant ac nad oes problem—
Mae angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben yn awr.
Diolch am fy ngalw, Lywydd.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gethin.
Diolch i chi, Lywydd, ac i'r Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl heddiw, ac rwy'n falch iawn o ymateb iddi. Fel y mae pawb wedi cydnabod, mae iechyd llygaid gwael yn broblem gyffredin a all gael effaith ddinistriol ar bobl a'u teuluoedd. Ac fel rydym yn cydnabod, rhagwelir y bydd nifer y bobl yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg yn dyblu erbyn 2050. Felly, o ystyried pwysigrwydd gofal iechyd llygaid, rwy'n croesawu'r cyfle i amlinellu'r newidiadau rydym yn eu gwneud i wella gwasanaethau i bobl sy'n eu defnyddio yn awr ac i sicrhau eu bod yn gynaliadwy ac yn barod i ymateb i'r galw yn y dyfodol.
Ceir pobl yng Nghymru sy'n dal i aros yn rhy hir am eu triniaeth gyntaf, ac rwy'n cydnabod nad yw hynny'n ddigon da. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd yn nifer y bobl sydd angen ein gwasanaethau, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn yr amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ddiwedd mis Mawrth 2019, roedd 218 o bobl yn aros am fwy na 36 wythnos am eu hapwyntiad cyntaf, a dyna'r sefyllfa orau ers mis Mawrth 2012, a gwelliant o 93 y cant ers y pwynt isaf ym mis Mawrth 2015, pan oedd dros 3,500 o bobl yn y sefyllfa honno. Ond yn bwysig—a dyma'r rheswm am y mesurau newydd—gwyddom mai ar gyfer cleifion newydd yn unig y mae mesurau amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn berthnasol. Mae'r rhan fwyaf o gleifion offthalmoleg angen archwiliadau a thriniaeth reolaidd a pharhaus i sicrhau eu bod yn gweld yn well neu i leihau'r risg o golli golwg yn ddiangen, ac mae tystiolaeth glinigol yn awgrymu bod tua 10 y cant o gleifion newydd mewn perygl o golli eu golwg yn barhaol o'i gymharu â 90 y cant o gleifion dilynol.
Unwaith eto, rwy'n derbyn y pwyntiau y mae Jenny Rathbone wedi'u gwneud am y ffordd yr ydym yn ceisio ad-drefnu ein system er mwyn gwneud gwell defnydd o'r gweithwyr proffesiynol ar ein stryd fawr, lle gellir rheoli pobl yn ddiogel ac yn briodol y tu allan i wasanaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol mewn ysbyty. Ond mae'r ffigurau a ddyfynnwyd ac a drafodwyd gennym yn y ddadl hon yn rhai digalon. Mynegodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r trydydd sector bryderon nad oedd mesurau amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn adlewyrchu'r pethau pwysicaf. Ac yn ddiddorol, cafwyd llawer o drafod ar gataractau, a rhan o'n her, wrth gwrs, os ydym am wella hen fesurau amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth, oherwydd eich bod ar restr aros i ddechrau ar gyfer cataractau ac eto mae'n fwy diogel yn glinigol i aros gyda chataract na chyda chyflyrau eraill—. Nid yw hynny'n golygu y gallwch aros am byth, ond roedd ein mesurau blaenorol yn ein gyrru tuag at gyrraedd targed heb ystyried angen clinigol yn briodol.
Felly, nid oedd yr hen fesurau'n cofnodi oedi yn ddiweddarach ar lwybr y claf ac fel y dywedais, gallai wneud i wasanaethau flaenoriaethu apwyntiadau ar gyfer cleifion newydd. O ganlyniad, gwrandewais ar yr hyn a ddywedodd clinigwyr a'r trydydd sector, a chynrychiolwyr cleifion yn enwedig, ac rydym wedi bwrw iddi i dreialu ffordd newydd o ddeall sut y gallai mesurau newydd edrych a sut y gellid eu cynllunio. Ac ar ddiwedd y broses honno, rwyf wedi cyflwyno'r mesurau newydd a gyhoeddais yn ddiweddar. Fe'u dyfeisiwyd i gynnwys cleifion newydd a chleifion presennol, yn seiliedig ar angen clinigol a risg o ganlyniad anffafriol. Ac mae'r gwaith wedi cael ei gefnogi'n llawn gan y grŵp trawsbleidiol ar olwg, ac rwy'n cydnabod ac yn croesawu eu cefnogaeth.
Ac mae hyn wedi bod yn gam beiddgar i ni oherwydd yr hyn a wnaethom fel Llywodraeth yn y bôn yw nodi'r meysydd lle mae angen inni wneud mwy mewn ffordd lawer mwy gonest, oherwydd a dweud y gwir, gallem fod wedi gadael yr hen fesurau a dweud, 'Rydym yn cyrraedd ein targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth', ac yn y bôn, gallem fod wedi methu datgelu natur yr her yn briodol. A ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn. Soniwn yn rheolaidd ynglŷn ag a oes modd cymharu mesurau rhwng gwledydd y DU? Wel, nid oes modd gwneud hynny, oherwydd fe wnaethom ddewis bwriadol i newid ein mesurau, ac rwy'n credu nid yn unig fod hynny'n briodol yn glinigol oherwydd y cyngor a gefais, ond mewn gwirionedd credaf y dylai pobl yng Nghymru gael gwell gwasanaeth oherwydd yr ymgyrch i gyrraedd y targedau newydd a gyflwynwyd gennym.
Fe gymeraf yr ymyriad, yna dylwn wneud rhywfaint o gynnydd.
Diolch. Roeddwn eisiau dweud yn fyr, am na chefais amser i ddod i mewn—rwyf am ddatgan buddiant, mae gan fy nhad glawcoma—yr hyn na soniwyd amdano yn y ddadl hon oedd y ffordd y mae rhai o'r systemau sydd y tu ôl i driniaethau colli golwg yn cael eu preifateiddio. Cafodd fy nhad alwad ffôn gan gwmni preifat yn Preston i newid ei apwyntiad o ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac nid yw wedi cael apwyntiad ers misoedd lawer. Nid ef yn unig; mae wedi gwneud rhywfaint o waith cyhoeddus ar hyn, mae pobl yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau y tu allan i'w hardaloedd, oherwydd, yn syml, nid yw'r apwyntiadau—nid oes arbenigwyr yn yr ardaloedd hynny, felly ni ellir eu gweld yn lleol. Beth ydych chi'n ei wneud i herio rhai o'r gweithredoedd y tu ôl i'r mater hwn, os oes gennych y weledigaeth newydd hon? Pam y mae cwmnïau preifat yn rhan o'r broses hon?
Credaf fod hynny'n symud i ffwrdd o destun y cynnig, ond rydym yn defnyddio darparwyr y tu allan i'r gwasanaeth iechyd i ddal i fyny. Dyna a wnawn mewn amrywiaeth o feysydd er mwyn gwneud y defnydd gorau o gapasiti'r GIG, ond yr her yw, os defnyddiwn wasanaethau y tu allan i'r gwasanaeth iechyd gwladol, y realiti yw bod mwy o bobl yn aros yn hwy. Ac mewn gwirionedd, rhan o'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw cael mesur sy'n briodol yn glinigol ac sy'n dweud wrthym yn onest beth yw maint yr her sy'n ein hwynebu. Yna, mae angen inni fuddsoddi yn ein gwasanaeth, o ran diwygio'r system, ond hefyd y buddsoddiad wedi'i dargedu a gyhoeddais yn flaenorol, i wella capasiti lle bo angen er mwyn i'n system fod yn gytbwys, ac fel nad oes angen i ni wneud defnydd rheolaidd o wasanaethau y tu allan i'r gwasanaeth iechyd gwladol i wneud yn siŵr nad yw pobl yn aros yn rhy hir.
Cyhoeddais berfformiad yn erbyn y mesur newydd ym mis Mehefin eleni a byddaf yn parhau i adrodd yn ôl bob mis. Dengys y data fod dwy ran o dair o gleifion yr aseswyd eu bod ar y lefel uchaf o risg yn aros o fewn eu hamser targed neu o fewn 25 y cant i'r dyddiad, ac mae hynny'n dderbyniol yn glinigol yn ôl y clinigwyr sydd wedi cynllunio a threialu'r mesur newydd cyn imi wneud y penderfyniad i'w gyflwyno ar draws Cymru. Ac mae'r data'n taflu goleuni ar draws llwybr y claf ac yn dangos yn glir fod angen gwneud mwy o waith i wella gwasanaethau i gleifion newydd a chleifion sy'n dychwelyd.
Felly, mae byrddau iechyd wedi datblygu cynlluniau i wella eu sefyllfa, ac rwyf wedi darparu buddsoddiad wedi'i dargedu yn erbyn hynny i gefnogi datblygiad. A bydd y camau a gymerir ganddynt yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed ers lansio 'Law yn llaw at iechyd' yn 2013. Mae ein dull o weithredu yn cyd-fynd ag egwyddorion gofal iechyd darbodus a'r cyfeiriad a amlinellais yn flaenorol yn 'Cymru Iachach'. Felly, bydd ffocws newydd a pharhaus ar ddarparu mwy o driniaeth a gofal yn y gymuned a gwneud gwell defnydd o optometryddion i sicrhau bod offthalmolegwyr yn rhydd i weld pobl y mae gwir angen iddynt eu gweld.
Mae ein gwasanaeth gofal llygaid yng Nghymru a ddarperir gan optometryddion yn arwain y ffordd yn y DU a chaiff ei gydnabod yn eang fel cam mawr ymlaen yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal llygaid sylfaenol ac mae wedi helpu i leihau'r ôl-groniad, ac mae mwy i'w wneud.
Rwy'n tynnu tua'r terfyn, Lywydd, gan y gallaf weld bod y cloc wedi fy nhrechu. Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn ystyried yn ofalus gyda phartneriaid pa gamau y dylem eu cymryd pan ddaw'r cynllun cyflawni ar gyfer gofal iechyd llygaid i ben. A bydd adolygu perfformiad yn erbyn y mesur newydd yn rhan bwysig o hynny. Mae llawer i'w wneud o hyd, ond gwnaed cynnydd gwirioneddol yng Nghymru ar ddarparu gwasanaethau gofal iechyd llygaid ac unwaith eto, hoffwn gydnabod cyfraniad gweithwyr iechyd proffesiynol ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd oherwydd y ffordd y maent wedi cynllunio a chyflawni'r newid a wnawn yn awr yn y gwasanaethau. Hefyd, hoffwn ddiolch i bartneriaid, gan gynnwys cynrychiolwyr cleifion a'r trydydd sector, am yr her a'r cydweithio sy'n parhau i lywio ein dull o weithredu: mesurau newydd sy'n briodol yn glinigol a'r wlad gyntaf yn y DU i dargedu buddsoddiad sy'n helpu i ddiwygio'r system. Ac yn awr bydd gennym lawer mwy o onestrwydd a chraffu ar yr her sy'n ein hwynebu. Ein targed yn awr yw cyflawni.
Angela Burns i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y dywedais ar ddechrau fy araith, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddewr, ond mae angen i chi fod yn ddewrach byth, ac mae rhai pethau clir iawn y gallech eu gwneud. Nid yw'r triniaethau yma'n ddrud. Yr hyn sydd ei angen yw cysondeb, mae angen gwneud y byrddau iechyd yn atebol i'w hatal rhag canslo dro ar ôl tro, oherwydd mae nifer o bobl yn wynebu canslo lluosog—nid unwaith neu ddwy, ond pump, chwech, saith gwaith. Dyna'r peth cyntaf. Yr ail beth yw bod angen inni edrych ar golli golwg yn sydyn yn eich strategaeth. Os yw pobl yn colli eu golwg drwy anafiadau i'r ymennydd a phethau o'r fath, ni ddarperir ar eu cyfer, maent angen math gwahanol o gymorth a gallech wneud hynny. Byddwch yn ddewr. Rwy'n gofyn i chi wneud hynny.
Mae angen inni edrych hefyd ar optometryddion. Rydych wedi dweud eich hun am y gwasanaeth gwych y maent yn ei ddarparu. Rwy'n cytuno â chi 100 y cant. Fodd bynnag, nid ydynt yn gallu gwneud dau beth. Un: nid ydynt yn gallu presgripsiynu, ac felly, os daw rhywun atynt a bod angen presgripsiwn arnynt, rhaid iddynt eu hanfon yn ôl at y meddyg teulu—gan wastraffu amser pawb. Rhaid bod rhyw ffordd o weithio o gwmpas hyn. Yr ail beth na all optometrydd ei wneud: nid wyf yn gwybod am y rhan fwyaf ohonoch—ac rwy'n ceisio brysio a siarad mor gyflym ag y gallaf, Lywydd—ond bydd llawer ohonom yn mynd at yr optegydd sy'n agos at ein gwaith. Rwy'n byw yn Sir Benfro, mae fy optegydd yma yng Nghaerdydd, ond os oes gennyf broblem gyda fy llygaid, ni all fy nghyfeirio at fwrdd iechyd Sir Benfro. Mae'n rhaid iddo fy atgyfeirio at yr un hwn, neu mae'n rhaid i mi fynd i chwilio am optegydd. Felly, pam na allwn gael gwared ar hynny, oherwydd mae'n rhwystr diangen?
'Cymru Iachach'—mae'n ymwneud ag atal, mae'n ymwneud â chadw pobl yn gall, yn ddiogel ac mewn amgylchedd y maent yn hapus ag ef. I'r rhan fwyaf ohonom, ein cartref yw hwnnw a chyda'n ffrindiau, heb orfod cael holl bwysau eraill bywyd. Os ydym am gadw ein poblogaeth yn y fath fodd, os ydym am atal, rhaid inni gadw pobl a rhoi'r adnoddau i'w galluogi i aros yn eu cartrefi. Mae colli eich golwg yn creu unigrwydd, arwahanrwydd a phob math o straen iechyd meddwl. Mae'r byd yn lle anodd iawn i'w lywio heb arwyddbyst. Rydych wedi gwneud gwaith da iawn hyd yn hyn—byddwch yn ddewrach, oherwydd dyma un rhan o'r gwasanaeth iechyd y gallai pob un ohonom ei gael yn iawn mewn gwirionedd, a byddai'n helpu cymaint o bobl ar gyfer y dyfodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar uchelgais y strategaeth 'Cymraeg 2050' o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth. Dwi'n galw ar Suzy Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7111 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad i uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth.
2. Yn cydnabod bod llwyddiant y strategaeth yn ddibynnol, yn rhannol, ar:
a) creu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle yn ogystal ag yn y gymuned;
b) argyhoeddi busnesau bod mantais fasnachol o ran hyrwyddo hunaniaeth ddwyieithog;
c) sicrhau cydbwysedd a hyblygrwydd rhwng camau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol i gyflawni hyn, a chydnabod bod 99 y cant o fentrau Cymru yn fusnesau micro, bach, neu ganolig o ran maint;
d) nodi a darparu gwerth am arian drwy gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle yn hytrach na chyflwyno gofynion nad ydynt yn cyflawni hyn ac nad ydynt yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth gan siaradwyr Cymraeg.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad drwy ddatganiadau llafar bob chwe mis ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Cymraeg 2050.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad cyn diwedd 2019 ar effeithiolrwydd ei gwaith hyrwyddo presennol o'r Gymraeg i fusnesau, ar wahân i waith Comisiynydd y Gymraeg.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes Cymraeg i hybu defnyddio'r Gymraeg gan fusnesau micro, bach a chanolig eu maint.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diwygio rôl Comisiynydd y Gymraeg ymhellach o ran caniatau i ymchwiliadau gael eu cynnal i honiadau siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg mewn perthynas â thorri eu hawliau iaith.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Jest gaf i ddiolch i Aelodau ymlaen llaw am eu cyfraniadau yn y ddadl flasu—taster session—heddiw ar un maes bach o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Fel y gwelwch o'r cynnig, doeddwn i ddim am sgubo’n eang dros y strategaeth na deifio'n ddwfn. Mae'n gyfle inni drafod sut i wella'r broses o graffu ar y strategaeth a syniadau ychwanegol ar sut i gryfhau'r rhan ohoni sy'n ymwneud â busnesau micro, bach a chanolig, sef y mwyafrif o fusnesau yng Nghymru o bell ffordd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Gwnaf i ddelio â'r gwelliannau wrth grynhoi, os gallaf i, ond gaf i ddechrau gan symud y cynnig a dechrau ystyried sut y gallem helpu ein busnesau bach i dderbyn manteision dwyieithrwydd, gan edrych ar bwyntiau 2 a 5? Rydym dair blynedd i mewn i strategaeth y Llywodraeth erbyn hyn, a dywed y Llywodraeth ei bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged addysg blynyddoedd cynnar erbyn 2021, ond mae hi'n dawel iawn am bob targed arall.
Gan ystyried y mater o weithio gydag oedolion mewn gwaith heddiw, mae'r gwaith a wnaed gan y Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg wedi bod yn bennaf gyda'r sector cyhoeddus. Mae'r comisiynydd blaenorol wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth newid diwylliant a darpariaeth busnesau preifat mwy, ac mae hynny’n haeddu cydnabyddiaeth, ond wnaeth ei braich ddim ymestyn i gwmnïau llai. Mae mentrau iaith yn wahanol iawn yn eu sgiliau, cyllid, profiad ac uchelgais, ond dyw hi ddim yn hawdd mesur eu llwyddiant wrth greu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle yn ogystal ag yn y gymuned.
Dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod pob peth, unrhyw beth efallai, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ariannu neu ei gefnogi wedi gwneud unrhyw ddatblygiad sylweddol a hirbarhaol wrth berswadio ein busnesau llai o fanteision dwyieithrwydd. Mae yna ymchwil i ategu'r honiad bod cynnig dwyieithog, gweithle dwyieithog, yn fuddiol, ond sut mae hynny'n cael ei rannu gyda'n siambrau masnach, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y CBI a'r sefydliadau aelodaeth eraill, er enghraifft—cyrff sydd ddim yn llawn o benodedigion y Llywodraeth neu siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf?
Mae gan reolwyr busnesau llai ewyllys da tuag at yr iaith Gymraeg, ond mae angen cymhelliad arnynt i weithredu ar ei defnyddio. Gallai hynny fod yn alw gan staff neu gwsmeriaid, gallai fod yn ariannol uniongyrchol, gallai fod yn ddeddfwriaethol, ac mae angen inni fod yn ofalus iawn yno, fel y mae'r cynnig yn ei awgrymu, neu gallai newid llais eiriolaeth. Mae'n rhaid i fi ddweud nad yw llais yr establishment Cymraeg iaith gyntaf o reidrwydd yn llais sy'n mynd i berswadio cwmnïau llai i wrando ar y dadleuon o blaid croesawu dwyieithrwydd—'Rwy'n siŵr bydd y syniad yn dda, ond i bobl eraill'—oni bai eu bod nhw'n gallu gweld y budd sydd o werth iddyn nhw.
Mae angen, yn fy marn i, i fusnes siarad yn uniongyrchol â busnes. Dyna pam rydym ni am weld hyrwyddwyr iaith y tu fewn i'r byd busnes: co-production, trosi; dysgwyr sy'n gwybod pa mor anodd yw hi i fwrw ymlaen gyda’r iaith ac sy'n deall y llinell waelod hefyd. Efallai y bydd gennym boblogaeth fwy dwyieithog ymhen 20 mlynedd, ond mae'n rhaid inni feddwl am y gweithle a gweithlu a chwsmeriaid heddiw hefyd. Mae gan eich 14 o swyddogion frwydr ar i fyny, Weinidog, os nad ydynt yn fewnweledwyr, ac mae'n drueni eich bod wedi diystyru hyn trwy ddileu'r rhan hon y cynnig. Mae’n debyg, wrth ddileu pwyntiau 3 a 4 hefyd, nad ydych chi'n barod i gael eich craffu ar eich cynnydd, chwaith. Does dim ots faint o swyddogion busnes sydd gennych neu faint o sefydliadau cymunedol yr ydych yn eu cefnogi os nad yw defnyddio'r Gymraeg yn tyfu fel profiad y gweithle, neu os nad ydym yn darbwyllo busnesau o'i botensial fel USP. Ond, ar ôl eich gwelliant, mae'n amlwg nad ydych chi am inni ofyn cwestiynau ichi am hynny o gwbl.
I orffen, diben pwynt 6. Rydym yn aml yn pasio cyfraith yn y lle hwn sy’n creu hawliau a dyletswyddau heb unrhyw rhwymedi am ddiffyg cydymffurfio. Ond, yn anarferol, wnaethom ni ddim hynny gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Rhoesom bwerau ymchwilio a gorfodi iddi pan na ddefnyddir safonau a thorrir hawliau. Ond does dim ateb o'r fath os torrir hawliau rhywun di-Gymraeg. Os bydd safonau'r Gymraeg yn cael eu cymhwyso'n anghymesur fel bod y gweithredoedd hynny yn eithrio rhywun nad yw'n siarad Cymraeg rhag cael cyfle, nid yw'r person hwnnw ond yn gallu troi at y llysoedd. Rydym i gyd wedi clywed cwynion lle mae rhai hysbysebion swyddi, er enghraifft, yn y sector cyhoeddus ddim yn gofyn am lefel benodol o Gymraeg pan ddylent, ac, wrth gwrs, mae pawb yn gallu mynd at y comisiynydd yn y sefyllfa yna, ond mae potensial yna yn y ffordd arall hefyd. Felly, gofynnaf i Aelodau jest i feddwl am sut y gallem drin y ddwy sefyllfa'n deg o ran rhwymedi pan ddylid trin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal. Dyw ein hawgrymiad ni ddim yn tanseilio hawliau siaradwyr Cymraeg. Os ŷch chi am ddweud nad mater i gomisiynydd yw hyn, ffein, ond dywedwch beth yw'ch syniad chi, a chreu rhwymedi cyfartal o safbwynt gwahaniaethu anymwybodol.
Y rheswm rwyf wedi codi hyn yn y ddadl hon yw hyn: gall y gweithle fod yn lle perffaith i ddatblygu a defnyddio sgiliau Cymraeg. Edrychwch ar Aelodau fan hyn, er enghraifft, yn y Siambr sydd ddim wedi defnyddio'r Gymraeg erioed o'r blaen, yn arbennig yn y gweithle. Edrychwch ar staff y Cynulliad. Hoffwn i weld cyflogwyr yn meddwl tipyn bach yn fwy am gyfleoedd i ddysgwyr uchelgeisiol, ymroddgar yn ogystal â siaradwr rhugl pan fyddan nhw’n ystyried hysbysebion swyddi, achos os collwn ni ffydd y dysgwyr, fe gollwn ni’r Gymraeg.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
A gaf fi ofyn i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu pwyntiau 2 – 6 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod bod tair elfen i strategaeth Cymraeg 2050 a fydd yn ein helpu i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef:
a) cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r rhaglen Cymraeg i Blant / Cymraeg for Kids, y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gwell, a’r ymagwedd newydd tuag at addysgu Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
b) cynyddu’r defnydd dyddiol o’r iaith mewn gweithleoedd, busnesau ac yn y gymuned;
c) darparu seilwaith cadarn ar gyfer pob cam gweithredu gan gynnwys technoleg, seilwaith ieithyddol, a sicrhau cefnogaeth y cyhoedd.
Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru, ers lansio Cymraeg 2050, wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y meysydd a ganlyn:
a) cynyddu nifer y Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi er mwyn i fwy o blant gael cychwyn ar eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg;
b) symud o asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg i greu’r galw amdani, er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
c) lansio Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd sy’n nodi gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg ar gael yn hawdd ym maes technoleg;
d) cyllido’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu’r cynllun Cymraeg Gwaith / Work Welsh er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau a dargedir, gan gynnwys y sector prentisiaethau;
e) darparu bron £60 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg ac ar gyfer ailwampio Neuadd Pantycelyn a chyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog;
f) cyllido 14 Swyddog Busnes ledled Cymru i gynnig cyngor a dulliau ymarferol i helpu busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Caiff llinell gymorth ei lansio’n fuan i roi gwybodaeth am y Gymraeg, i gyfeirio pobl at gymorth gyda’r Gymraeg, ac i ddarparu cyfieithiadau cryno;
Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n frwdfrydig at Flwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, a hynny fel platfform i ddathlu Cymru fel cenedl ddwyieithog agored.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Delyth Jewell i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Delyth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod gweithredu dyhead y strategaeth yn gofyn am gynllunio strategol a gweithredu ymarferol bwriadus ym mhob maes, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, datblygu economaidd, datblygu cymunedol, statws ac isadeiledd y Gymraeg, y gweithle, a’r teulu.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno a gweithredu amserlen i ganiatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau’r Gymraeg ac ehangu hawliau i ddefnyddio’r iaith ym maes cymdeithasau tai, dŵr, gwasanaethau post, trafnidiaeth, ynni, telathrebu ynghyd ag ychwanegu cyrff newydd at reoliadau a basiwyd eisoes.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel unrhyw ddatganiad uchelgeisiol o fwriad ynghylch y math o genedl yr ydym ni am ei chreu yng Nghymru, boed hynny yn datgan argyfwng hinsawdd neu geisio sicrhau dyfodol yr iaith, mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod y ddelfryd yn cael ei hatgyfnerthu yn ein gweithredoedd ac yn ein blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'n rhaid cydnabod nad ar chwarae bach y mae gwyrdroi sefyllfa'r Gymraeg, ac mae'n bwysig peidio gorsymleiddio maint yr her sydd yn ein hwynebu wrth sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif. Rydym ni'n credu bod ceisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr yn gofyn am gynllunio strategol a gweithredu cadarn ym mhob maes, ac mae'r meysydd lle mae hyn yn bwysig yn cynnwys addysg, datblygu economaidd, datblygu cymunedol, a statws ac isadeiledd yr iaith, y gweithle a'r teulu. Byddwn i'n annog Aelodau, felly, i gefnogi gwelliant 2.
Aeth cynlluniau'r Llywodraeth o ran Mesur y Gymraeg i'r wal, sydd yn anffodus yn adlewyrchu'r llanast cyffredinol yn y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ceisio llywodraethu'r tymor hwn, gyda blaenoriaethau a chynlluniau yn mynd a dod gyda'r Gweinidogion. Roedd hyn yn beth da yn yr achos hwn, gan y byddai'r cynigion i ddileu'r comisiynydd wedi bod yn gam yn ôl i 1993, yn hytrach nag ymlaen i 2050. Tra bod galw am fwy o dryloywder i'w groesawu, mae angen i'r pwyslais nawr ddychwelyd at weithredu'r strategaeth.
Felly, rhaid i mi ddweud fy mod i wedi rholio fy llygaid wedi gweld agwedd olaf cynnig y Ceidwadwyr, sydd yn ymwneud â dychwelyd eto at drafod pwrpas rôl y comisiynydd. Roeddwn i wedi siomi y bore yma wrth glywed sylwadau llefarydd y Ceidwadwyr ar Radio Cymru ac sydd wedi cael eu dweud eto prynhawn yma yn y Siambr, a oedd yn tanseilio diben y ddadl hon. Mae'n gwbl anhygoel mai blaenoriaeth y Blaid Geidwadol mae'n debyg yw gwanhau mesurau i gynyddu nifer y siaradwyr trwy alluogi unigolion i gwyno pan fydd swyddi yn gofyn am sgiliau yn y Gymraeg.
Rwy jest wedi esbonio does dim rheswm o gwbl i feddwl mai ein pwrpas ni yw i danseilio hawliau'r Gymraeg a phwrpas y comisiynydd. Beth rwy am wneud yw ehangu hynny er mwyn bod yn siŵr does dim bygythiad i hawliau'r Gymraeg mewn ffordd anwybyddus.
Diolch am hynny. Mi fuaswn i'n dweud, gyda pharch, mai pwrpas swyddfa'r comisiynydd yw i ddiogelu ac atgyfnerthu statws y Gymraeg, nid y di-Gymraeg, ac rwy'n meddwl byddai hynny yn cymhlethu pethau efallai, yn tanseilio y swyddogaeth hynny yn gyffredinol pe byddem ni'n ei wneud e trwy'r un peth. Ond diolch am yr ymyriad yna.
Efallai fod hyn ddim yn llawer o syndod—ac mi fuaswn i yn dweud hyn—pan fo ymgeiswyr y blaid Geidwadol mewn seddi targed yn cwyno'n gyhoeddus am arwyddion dwyieithog ac yn galw am ddiddymu'r Senedd hon a, thrwy hynny, wrth gwrs, unrhyw obaith o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mi fuaswn i'n annog y blaid Geidwadol plîs i gael gair gyda'r rheini.
Wrth gloi, mi fuaswn i eisiau dweud hefyd fod angen i ni edrych ar beth sydd angen digwydd nawr. Mae angen gweithredu gan y Llywodraeth yn hytrach na mwy o lusgo traed, sef sail gwelliant 3. Rwy'n credu ein bod ni wedi disgwyl yn ddigon hir am gyflwyno safonau'r Gymraeg yn yr holl feysydd sy'n weddill, sef cymdeithasau tai, bysiau a threnau, dŵr ac ynni, cwmnïau telathrebu, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Ble maen nhw? Fe fyddwn i'n erfyn ar y Gweinidog i roi addewid y prynhawn yma ar lawr y Senedd y bydd amserlen gynhwysfawr yn cael ei chyhoeddi cyn y toriad wrth ymateb i'r ddadl hon. Diolch.
Dwi eisiau dechrau fy nghyfraniad i gan ddweud ein bod ni yr ochr hon i'r Siambr wedi cyflwyno'r ddadl yma oherwydd rŷm ni'n credu bod yr iaith Gymraeg yn ased enfawr i'n pobl ac i'n cymdeithas. Yn wir, mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn gefnogol iawn o gynyddu mynediad i'r Gymraeg am ddegawdau. Mae gan Gymru hanes hir a chyfoethog, ac mae cadw'r iaith yn fyw yn rhan o hynny. Dyna pam rŷm ni'n cefnogi'r uchelgais o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dyna pam rŷm ni'n cefnogi creu mwy o gyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithlu a'r gymuned, a dyna pam rŷm ni'n cefnogi defnyddio mwy o'r iaith ym myd busnes. Mae'n hollbwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd, gyda'n cymunedau, gyda'n busnesau a gyda'r gymdeithas oll i fagu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein bywydau pob dydd. Fel gwleidyddion, ein dyletswydd ni ydy perswadio ac argyhoeddi pobl o rinweddau a manteision dysgu a defnyddio'r Gymraeg tu fewn a thu allan i fusnes, ond rŷm ni fel gwlad yn mynd i syrthio'n fyr o'r targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 os na allwn ni gael pobl i addysgu'r genhedlaeth nesaf.
Fel soniais i wrth y Prif Weinidog fis yn ôl, mae nifer yr athrawon dan hyfforddiant sy'n medru dysgu yn y Gymraeg ar ei isaf ers degawd, ac, yn anffodus, ar hyn o bryd nid oes digon o athrawon yn dewis dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'n rhaid i ni newid hynny. Os yw'r duedd yma yn parhau, yn anffodus fyddwn ni ddim yn cyrraedd y targed pwysig yma erbyn 2050, ac efallai yn ei hymateb i'r ddadl y prynhawn yma y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni ba drafodaethau mae hi'n eu cael gyda'r Gweinidog Addysg a sut gallwn ni newid y sefyllfa fregus yma a sicrhau bod mwy o athrawon yn mynd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol. Mae'n bwysig ein bod ni yn perswadio mwy o athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd, os na allwn ni wneud hyn, bydd perswadio’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid a dynion a menywod busnes i wneud hyn hyd yn oed yn fwy o her.
Nawr, mae ymchwil gan swyddfa comisiynydd y Gymraeg wedi ffeindio bod y diwydiant bwyd a diod wedi dangos bod defnyddio'r Gymraeg yn werth masnachol i'r diwydiant, ac mae'n denu ac yn cadw cwsmeriaid. Mae'n cyflawni'r nodwedd hanfodol o natur unigryw mae busnesau ei hangen. Dyna pam rŷm ni eisiau gweld datganiad llafar ddwywaith y flwyddyn yn y Siambr hon, oddi wrth y Gweinidog sy'n gyfrifol, fel y gallwn ni fonitro datblygiad y strategaeth, oherwydd allwn ni ddim sgrwtineiddio'r Llywodraeth yma mewn tri degawd am fethiannau Llywodraeth heddiw.
Felly, sut allwn ni rymuso'r genhedlaeth nesaf i adeiladu busnesau dwyieithog? Dwi wedi cyffwrdd ar addysg, ond mae hefyd angen i ni weithio gyda busnesau. Y ffordd orau i annog gweithle wir ddwyieithog yw drwy ddatblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes Cymraeg sy'n cael ei redeg gan bobl fusnes ar gyfer pobl fusnes. Trwy hyn, gellir perswadio busnesau o'r manteision economaidd a chymdeithasol o ddwyieithrwydd yn y gweithle, a bydd hyn hefyd yn rhoi hyder i'r busnesau hynny ddatblygu dwyieithrwydd tu fewn i'w busnesau.
Felly, Dirprwy Lywydd, i gloi, mae'n rhaid i ni gynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle ar sail gwerth am arian a chyflwyno tystiolaeth empirig dros pam y byddai'n well ac o fudd i fusnesau pobl. Wrth gwrs, mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn gorwedd yn nwylo y rhai sydd eto i ddod i ddysgu'r iaith, ac mae hefyd yn gorwedd yn ein dwylo ni, sydd â dyletswydd i sicrhau bod yr hen iaith yn parhau.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol? Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau croesawu'r cyfle i gynnal dadl ar y Gymraeg. A gaf i ddweud pa mor falch ydw i i nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer strategaeth iaith Gymraeg 2050? Mae dwy flynedd wedi pasio ers lansio Cymraeg 2050 ac mae llawer o waith da eisoes wedi'i wneud. Dwi'n meddwl bod pawb yn ymwybodol bod hon yn strategaeth uchelgeisiol a heriol ond hefyd yn un sy'n gwbl realistig. Beth dŷn ni wedi gwneud yw rhoi camau pendant i mewn. Dŷn ni ddim yn aros tan 2050 i fesur y cynnydd; mae gyda ni gamau pendant ar y ffordd i gyrraedd hynny.
Achos mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru ac i bob plaid, a dwi eisiau'n wirioneddol ddiolch i'r Blaid Geidwadol am arwain y ddadl yma heddiw. Dwi eisiau ei gwneud hi'n glir, wrth gynnig y gwelliannau i'r cynnig, nad ŷn ni'n ceisio tanseilio'r cynnig adeiladol gan y Torïaid; rŷn ni'n wirioneddol yn croesawu'r gefnogaeth. Dŷn ni ddim chwaith eisiau cuddio o sgrwtini, ond dŷn ni eisiau rhoi darlun efallai ehangach sy'n adlewyrchu’r gwaith rŷn ni eisoes yn ei wneud.
Nawr, mae lot o'r pethau rŷn ni'n eu gwneud yn cynnwys yr enghraifft yn y blynyddoedd cynnar. Rŷn ni wedi cynyddu nifer y cylchoedd meithrin er mwyn dechrau mwy o blant ar y daith yna at addysg cyfrwng Cymraeg. Mae yna 12 o gylchoedd meithrin wedi'u sefydlu yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen i gynyddu nifer y grwpiau hyn, a bydd rhagor yn agor eleni.
O ran addysg, trwy gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, rŷn ni wedi symud o fesur y galw ac ymateb iddo i greu'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr. Rŷn ni wedi darparu cyllid cyfalaf o bron £60 miliwn ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Ac, ar ben hynny, rŷn ni wedi rhoi arian i adnewyddu neuadd eiconig Pantycelyn a chyfleusterau'r Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog.
O ran sgiliau, rŷn ni wedi ariannu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i redeg cynllun Cymraeg Gwaith. Mae'r cynllun yn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau penodol, gan gynnwys y sectorau gofal plant a phrentisiaethau. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud bod pobl o'r sector preifat hefyd wedi ymgymryd â rhai o'r cyrsiau sy'n cael eu rhoi gerbron. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar gymorth y ganolfan i'r sector addysg bellach yn ystod 2018-19.
O ran technoleg, ym mis Hydref y llynedd fe wnaethom ni lansio cynllun gweithredu technoleg Cymraeg, sy'n gosod allan ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau bod y Gymraeg ar gael yn rhwydd ym maes technoleg. Ac o ran busnes, dwi eisiau tynnu sylw'r Senedd at y ffaith ein bod ni eisoes wedi penodi rhwydwaith o bencampwyr i'r Gymraeg ym myd busnes. Rŷn ni'n ariannu 14 o swyddogion busnes ledled Cymru, a beth maen nhw'n ei wneud yw cynnig cyngor a chymorth ymarferol i helpu busnesau ddefnyddio rhagor o Gymraeg.
A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n tanlinellu'r ffaith ein bod ni'n cytuno bod angen taro cydbwysedd addas rhwng rheoleiddio a hybu er mwyn helpu busnesau, yn arbennig busnesau bach, i fod yn ddwyieithog. Achos rŷn ni'n gwybod—a dwi'n cytuno gyda Suzy—nad y sefydliad sy'n mynd i berswadio cwmnïau bach i ymgymryd â defnyddio’r Gymraeg, ond efallai y bydden nhw yn ymateb i'r ffaith bod darpariaeth ddwyieithog yn gallu denu mwy o fusnes iddyn nhw. Rŷn ni'n gwybod bod hynny'n wir.
Rŷn ni'n awyddus i wneud yn siŵr bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael gwasanaethau Cymraeg yn rhwydd ac o'r un ansawdd â rhai Saesneg, ond mae'n ofynnol wedyn bod siaradwyr Cymraeg yn gwneud defnydd o'r gwasanaeth yma, a dyw hynny ddim yn digwydd i'r graddau efallai y dylai fod yn digwydd yn bresennol.
Mae rôl y comisiynydd, wrth gwrs, yn hollbwysig. Dechreuodd Aled Roberts yn ei swydd fel comisiynydd newydd ar 1 Ebrill eleni. Rŷm ni hefyd wrthi'n penodi aelodau newydd i'r panel cynghori. Mae eisiau gofyn y cwestiwn sydd wedi ei ofyn gan Suzy: a ddylem ni edrych ar swydd y comisiynydd yn cael ei ehangu? Wel, rôl statudol y comisiynydd yw hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg, a byddai angen newid deddfwriaeth i ymchwilio i gwynion ynglŷn â ieithoedd eraill, a dŷn ni ddim eisiau mynd lawr y trywydd yna.
Nawr bod Aled yn ei swydd a'r Bil wedi ei roi o'r neilltu, dwi wedi ymrwymo i edrych eto ar rôl y Llywodraeth, comisiynydd y Gymraeg a'r prif bartneriaid fel bod pawb yn gwbl glir beth yw cyfraniad pob un, fel bod gyda ni strwythurau addas i weithredu Cymraeg 2050.
O ran Llywodraeth Cymru, mae 2050 yn perthyn i bob is-adran yn y sefydliad. Mae nifer o'r prif gamau yn y strategaeth, wrth gwrs, yn nwylo'r Gweinidog Addysg, felly mae angen i'r Llywodraeth i gyd fod yn ymwybodol o'r rhan rŷm ni i gyd yn ei chwarae. Gallaf ei gwneud hi'n glir i Paul Davies fy mod i a'r Gweinidog Addysg yn cael trafodaethau yn aml ynglŷn â sut rŷm ni'n mynd i gynyddu nifer y bobl sy'n mynd mewn i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac un o'r pethau rŷm ni wedi'i wneud yw rhoi £150,000 i drio annog pobl i ymgymryd â lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithio y bydd hwnna wedyn yn bwydo trwyddo i bobl sydd eisiau mynd i mewn i ddysgu Cymraeg.
O ran gwelliannau, rŷm ni'n cytuno gyda'r gwelliant cyntaf, sy'n ailddatgan nifer o'r blaenoriaethau strategol sydd eisoes yn cael eu gweithredu trwy ein strategaeth. Y rhai wedi sydd wedi dod o Blaid Cymru—dwi'n meddwl ei bod yn deg i ddweud, yn yr ail welliant, ar ôl penderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda'r Bil newydd, fe wnes i ymrwymo i ailddechrau'r drefn safonau. Dwi wedi dechrau ymgynghori gyda'r prif fudiadau a fydd yn cael eu heffeithio gan y safonau rŷm ni'n debygol o ffocysu arnynt nesaf.
I ddod yn ôl, i orffen, at y pwynt trawsbleidiol, mae yna gefnogaeth i'r Gymraeg, gydag arolygon yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl Cymru, p'un ai'n siaradwyr Cymraeg ai peidio, o'r farn bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi, ac mae eisiau inni ddathlu hynny. So, ein neges ni yw bod ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn un cynhwysol, mae'n un eang, ac rŷm ni'n awyddus i groesawu pobl newydd i'r Gymraeg. Trwy wneud hynny, rwy'n ffyddiog y gallwn ni symud ymlaen yn hyderus tuag at y filiwn o siaradwyr yna.
Diolch. Galwaf yn awr ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Does dim lot o amser gen i, yn anffodus, felly a allaf i jest ddechrau gan ddiolch i Blaid am eu cefnogaeth i rai o'n pwyntiau? Edrychaf ymlaen atoch yn cyflwyno dadl eich hunain yn nhermau eich gwelliannau. Hoffwn gymryd rhan mewn dadl fwy eang nag un heddiw. Mae'n siomedig eich bod wedi dileu'r pwynt olaf yn hytrach nag ychwanegu pwynt newydd. Mae'n amhosib inni gytuno oherwydd hynny, ond rwy yn cytuno y dylid cael amserlen ar gyfer y safonau, er y posibilrwydd efallai o anghytuno ar ble y dylai arwain.
Dyna pam ein bod yn cael ein drysu gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu ein cynnig yn llwyr. Wrth gwrs nad yw strategaeth yn ymwneud â'r ffrwd gwaith hon yn unig. Rwy'n ceisio dadansoddi, trwy ddadleuon unigol fel hyn, lle gallwn ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am eu methiannau ar agweddau penodol ar y strategaeth. Heddiw, mae'n fusnesau llai, nid addysg, achos mae'n ymddangos i mi nad yw'r Llywodraeth yn fodlon cynnig y cyfle i ni ei hun.
Unwaith eto, mae wedi dangos amarch, yn anffodus—mae'n rhaid i mi ddweud hynny—arferol i'r Senedd hon trwy ddileu rhan sylweddol o gynnig gwrthblaid a'i disodli, yn ei hanfod, gyda'i chynnig ei hun. Wel, na: os oes gennych hyder yn eich strategaeth, Weinidog, cyflwynwch ddadl yn eich amser eich hun. Mae pwyntiau 3 a 4 yn ymateb i’ch ymgysylltiad truenus â’r Cynulliad hwn ar gynnydd eich strategaeth a’i heffeithiolrwydd. Pam dŷch chi ddim yn adrodd i’r lle hwn ddwywaith y flwyddyn ar gynnydd cyffredinol? Pam dŷch chi ddim eisiau adrodd yn ôl i ni ar lwyddiant neu fel arall gwaith eich Llywodraeth gyda busnesau bychain? Beth yw’ch cynnydd sylweddol, Weinidog? Tair blynedd, a ble yn union mae'ch strategaeth wedi llwyddo? Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb welliannau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio yn awr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y pleidleisio. O'r gorau. Diolch. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—rheoli'r gwasanaeth iechyd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Helen Mary. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 25, roedd un yn ymatal, a 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM7102 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Rheoli'r Gwasanaeth Iechyd: O blaid: 25, Yn erbyn: 21, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar golli golwg, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM7110 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Colli Golwg - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
A symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliant. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 30, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
NDM7110 - Gwelliant 1: O blaid: 30, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
A galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7110 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod 111,000 o bobl yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw gyda nam ar eu golwg;
b) y rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn dyblu erbyn 2050.
2. Yn croesawu cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid.
3. Yn gresynu bod 1 o bob 3 chlaf y tybir eu bod mewn perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy na'u targed o ran amser aros ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) bod yn gadarn wrth ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros gofal llygaid a rhoi ei mesurau gofal llygaid ar waith;
b) bwrw ymlaen â chyhoeddi a gweithredu’r cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal llygaid a chyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol;
c) gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;
d) parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn olaf a nodi y bydd y Prif Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid trwy Gymru yn ystod y misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 38, roedd tri yn ymatal, a chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM7110 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 6, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Y bleidlais nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, roedd tri yn ymatal, a 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM7111 - Uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 33, Ymatal: 3
Gwrthodwyd y cynnig
A symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 27, roedd tri yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1, a chaiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
NDM7111 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 17, Ymatal: 3
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
A galwn yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7111 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad i uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth.
2. Yn cydnabod bod tair elfen i strategaeth Cymraeg 2050 a fydd yn ein helpu i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef:
a) cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r rhaglen Cymraeg i Blant / Cymraeg for Kids, y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gwell, a’r ymagwedd newydd tuag at addysgu Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
b) cynyddu’r defnydd dyddiol o’r iaith mewn gweithleoedd, busnesau ac yn y gymuned;
c) darparu seilwaith cadarn ar gyfer pob cam gweithredu gan gynnwys technoleg, seilwaith ieithyddol, a sicrhau cefnogaeth y cyhoedd.
3. Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru, ers lansio Cymraeg 2050, wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y meysydd a ganlyn:
a) cynyddu nifer y Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi er mwyn i fwy o blant gael cychwyn ar eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg;
b) symud o asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg i greu’r galw amdani, er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
c) lansio Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd sy’n nodi gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg ar gael yn hawdd ym maes technoleg;
d) cyllido’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu’r cynllun Cymraeg Gwaith / Work Welsh er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau a dargedir, gan gynnwys y sector prentisiaethau;
e) darparu bron £60 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg ac ar gyfer ailwampio Neuadd Pantycelyn a chyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog;
f) cyllido 14 Swyddog Busnes ledled Cymru i gynnig cyngor a dulliau ymarferol i helpu busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Caiff llinell gymorth ei lansio’n fuan i roi gwybodaeth am y Gymraeg, i gyfeirio pobl at gymorth gyda’r Gymraeg, ac i ddarparu cyfieithiadau cryno;
4. Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n frwdfrydig at Flwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, a hynny fel platfform i ddathlu Cymru fel cenedl ddwyieithog agored.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 27, roedd 11 yn ymatal, a naw yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM7111 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 9, Ymatal: 11
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym? Rwy'n mynd i symud ymlaen i'r ddadl fer yn awr, a galwaf ar Jack Sargeant i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Jack.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. I ddechrau, hoffwn gynnig munud o fy amser heddiw i gyd-Aelod ar y meinciau gyferbyn, Darren Millar.
Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf arwain y ddadl fer hon ar y pwnc a ddewsiais—camau at wleidyddiaeth garedicach: cynllun ar gyfer creu cymunedau caredicach ledled Cymru. Ym mis Medi y llynedd, roeddwn yn falch iawn o arwain fy nadl fer gyntaf yn Siambr y Senedd, yn benodol ar garedigrwydd yn ein dadleuon gwleidyddol, ac ers hynny rydym wedi gweld cyfeiriadau at wleidyddiaeth garedicach yn y Siambr hon gan Aelodau o bob plaid wleidyddol, ac wrth gwrs, gan y Dirprwy Lywydd ei hun. Nawr, mae hynny'n dda iawn i'w weld. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Rhaid inni droi geiriau'n weithredoedd oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod—hyd yn oed heddiw, hyd yn oed yn y Siambr hon—fod tystiolaeth o hyd o'r math o wleidyddiaeth nad ydym am ei gweld, ac rydym hefyd yn gweld hyn yn ein dadleuon gwleidyddol ehangach, yn aml dros y cyfryngau cymdeithasol.
Ddirprwy Lywydd, heddiw, mae'n bleser gennyf amlinellu cynllun caredigrwydd wrth lunio polisïau fel rhan o fy ymrwymiad i ymgyrchu dros gymunedau caredicach ledled Cymru, ac wrth wneud hynny, rwy'n cydnabod gydag ymdeimlad o ddyletswydd yr angen i drechu'r anghyfiawnder a'r broblem fwyaf oll, sef nad yw bywyd yr un mor deg i bawb. I mi, mae cymunedau caredicach yn dechrau drwy gydnabod bod yn rhaid i empathi fod yn rhan ganolog o'r hyn a wnawn. Mae'n golygu cael y gallu i weld y byd o safbwyntiau sy'n wahanol i'n rhai ni weithiau. Rhaid i hynny fod yn sylfaen inni. Mae hefyd yn golygu bod yn agored, yn onest ac yn dryloyw fel unigolion ac fel Llywodraethau, felly, os methwn ar rai pethau, bydd pobl yn gwybod ein bod wedi gwneud ein gorau. Ac mae'n golygu cydnabod bod ein heconomeg ein hunain wedi bod yn anghyfartal ers llawer gormod o amser a'r canlyniadau'n llym eithriadol. Rydym wedi gweld ymdeimlad cynyddol o arwahanrwydd, dryswch, ansicrwydd ac erydu gobaith, twf cymunedau angharedig. Felly, er mwyn ymdrin â'r pethau hyn, gallwn naill ai ymladd tân â thân, gan ddefnyddio atebion angharedig ar gyfer sefyllfaoedd angharedig, na fyddant ond yn arwain at fwy o boen a thaflu bai, neu gallwn gydnabod y problemau sydd gennym a cheisio eu datrys ag atebion newydd, atebion caredicach.
Yn gynharach eleni, roedd yn bleser gennyf gyfarfod ag Ymddiriedolaeth Carnegie. Maent yn cydnabod, fel y mae llawer ohonom yn ei wneud yma, fod yna bethau sydd o bwys i ni i gyd: y lleoedd rydym yn byw ynddynt, ein hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn, y bobl rydym yn byw gyda hwy, yn eu caru ac y gofalwn amdanynt, a'r ffordd yr edrychir ar ein holau ac y cawn ein trin a'n cefnogi pan fyddwn fwyaf mewn angen. Mae'r pethau hynny i gyd yn gysylltiedig â'r hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraethau eraill ledled y byd. [Torri ar draws.] Dyna fy oriawr Apple yn canu yn ystod y ddadl. [Chwerthin.] Rhaid i bolisïau ar gyfer ymdrin â'r pethau hynny ymwneud yn gyfan gwbl ag emosiynau. Maent yn ymwneud â'n cartrefi a'n cymunedau, ein heconomi a'n bywoliaeth, addysg ein plant a gofal y rhai sy'n dioddef o afiechyd. Dylent gysylltu â'n natur ddyngarol a'n hochr fregus, mynnu ein bod yn ymddiried ac yn rhannu, ac ennyn ymateb emosiynol felly gan y Llywodraeth bob amser ac ym mhob man.
Mae'r gwaith y mae Ymddiriedolaeth Carnegie yn ei wneud yn arbennig o ddiddorol a phwysig am ei fod yn gwneud i ni feddwl mwy am garedigrwydd a llesiant yn ein gweithredoedd bob dydd fel seneddwyr a Llywodraethau. Yn ystod y 12 mis diwethaf yn enwedig, maent wedi bod yn cydlynu rhwydwaith arloesedd caredigrwydd gyda phobl o bob rhan o'r Alban yn ogystal â Chyngor Gogledd Ayrshire, a hynny er mwyn annog caredigrwydd drwy ardal yr awdurdod lleol. Mae'n rhaid i chi ddarllen eu hadroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'The Practice of Kindness', sy'n dweud sut y gallwn ddatblygu dysgu ymarferol a'r hyn y gallai ei gymryd i annog caredigrwydd yn ein cymunedau. Mae eu hadroddiad helaeth yn palu'n ddyfnach i'r rheswm pam y mae hyn mor anodd, gan fframio caredigrwydd fel rhywbeth radical, oherwydd mae Ymddiriedolaeth Carnegie yn dweud yn gywir fod yn rhaid inni fod
yn radicalaidd yn yr ystyr fod caredigrwydd yn rhywbeth i'w drafod yng nghyd-destun tlodi a chyni, nid fel rhywbeth i dynnu sylw oddi arnynt na hyd yn oed fel mesur lliniarol, ond fel rhywbeth sy'n annatod i'r broses o wneud penderfyniadau. Ac yn radicalaidd yn yr ystyr fod caredigrwydd yn galw am ailfeddwl ynglŷn â'r ffordd y caiff pethau eu rhedeg a'u rheoli.
Pan oedd Ymddiriedolaeth Carnegie yn meintioli caredigrwydd yma yng Nghymru, canfuwyd bod y rhan fwyaf o bobl yn teimlo caredigrwydd yn eu cymunedau ac yn ymateb i hyn yn eu hymddygiad. Mae llai o bobl yn teimlo'n gryf am hyn, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno'n gryf o hyd eu bod yn gwneud amser i siarad â'u cymdogion a'u bod yn gallu dibynnu ar rywun yn eu cymdogaeth am gymorth ymarferol neu i gadw llygad ar eu cartref os oeddent oddi cartref. Ceir darlun tebyg mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae dros 85 y cant yn cytuno bod pobl yn cael eu trin yn garedig gan yr heddlu, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Yn llai aml ac mae llai na thraean yn teimlo'n gryf am hyn. Felly, Ddirprwy Lywydd, sut mae gwneud i'r cyhoedd deimlo'n gryf am y mater hwn ac yn bwysicach na hynny efallai, sut y gallwn ni yma yn y Siambr hon ymgorffori caredigrwydd yn ein gwaith pan fyddwn yn llunio polisi, yn gwerthuso ei effaith ac yn meddwl am wella cydraddoldeb? Oherwydd, fel rhan o'r daith hon, rwyf am i sefydliadau allanol, elusennau, busnesau, y trydydd sector, ac eraill, weithio gyda ni. Mae'n bwysig eu hannog ar y daith, oherwydd mae maint ein her yn galw am ailfeddwl am y systemau a'r strwythurau sydd wedi dominyddu'r ffordd y gweithiwn ers degawdau. Nawr, er gwaethaf hyn, fel y mae Ymddiriedolaeth Carnegie wedi amlinellu, ceir pethau y gellir eu gwneud ar lefel sefydliadol i wneud caredigrwydd yn real yn ymarferol, ac yn arbennig mewn perthynas â rheoli, arweinyddiaeth, caffael a chomisiynu.
Nawr, os cytunwn fod ymdrin â'r materion hyn yn golygu cysylltu caredigrwydd â lles, rhaid i ni hefyd gydnabod rôl Deddf cenedlaethau'r dyfodol a'r rôl y bydd honno'n ei chwarae yn creu'r cymunedau caredicach yr ydym am eu gweld. Mae angen inni fynd ymhellach wrth wneud cyhoeddiadau polisi a deddfwriaeth, i siarad yn agored am y Ddeddf a'i nodau llesiant. Dylem gynnwys nodau caredigrwydd a llesiant ar wyneb Biliau, yn ein maniffestos—ar draws y pleidiau gwleidyddol—ac wrth wraidd rhaglenni llywodraethu yn y dyfodol a llywodraethau yn awr. Mae rôl caredigrwydd wrth lunio polisi cyhoeddus yn arbennig o bwysig wrth inni gychwyn ar y genhedlaeth nesaf o chwyldro gwyrdd a digidol. Mae'r hyn a ystyrir yn norm bellach mewn technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial eisoes wedi trawsnewid ein profiadau, ym maes bancio, manwerthu a chyfathrebu. Ond wrth i ni geisio mynd ymhellach fyth gyda'r newid hwnnw—ac yn bersonol, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn bleidiol iawn i'r newid hwnnw—mae angen inni sicrhau hefyd ein bod yn llunio'r datblygiadau yn y dyfodol o amgylch anghenion pobl, ac anghenion emosiynol.
Nawr, mae hon yn her uniongyrchol i'r rheini, gan gynnwys y pwerus, yn ein heconomi ac mewn bywyd gwleidyddol, ac mae rhai'n dal i fethu dychmygu bod caredigrwydd yn gweithio fel strategaeth wleidyddol. Ddirprwy Lywydd, unwaith eto, rwy'n dweud wrthynt, 'Rydych yn anghywir'. Yn y cyfnod dryslyd rydym yn byw ynddo, yr ateb gorau yn aml yw camu'n ôl a meddwl. Beth yw'r canlyniad syml rydym am ei weld? Heddwch, ffyniant, tegwch, swyddi, cyfoeth neu gyfleoedd? I mi, gellir cynnwys ein holl uchelgeisiau mewn un cysyniad, a rhaid i bob un ohonom fynd ar ei drywydd yn awr, a rhaid inni arwain ar hyn yma yng Nghymru. Fel y dywedais ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd, mae angen inni droi geiriau'n weithredoedd go iawn yn awr. A'r un cysyniad hwnnw yw caredigrwydd. Diolch.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, am roi munud o'i amser i mi? Darllenais innau hefyd drwy adroddiad Carnegie, ac roeddwn yn falch iawn, mewn gwirionedd, o weld bod Cymru'n lle caredicach, efallai, nag y byddai llawer ohonom yn meddwl weithiau. Rydym yn gwybod ac yn gweld gweithredoedd o garedigrwydd a chwrteisi yn ein cymunedau ein hunain, ond yn aml iawn, credwn eu bod wedi'u cyfyngu i'n hardal uniongyrchol ni yn unig, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n wir, o ystyried y canfyddiadau yn yr adroddiad hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom fel cynrychiolwyr etholedig ac arweinwyr lleol yn ein cymuned i geisio modelu caredigrwydd i eraill. Nid ydym yn ei gael yn iawn bob amser; mae anghytuno'n dda yn anodd weithiau, yn enwedig mewn gwleidyddiaeth. Ac rydych chi'n llygad eich lle yn tynnu sylw at ddifrïo pobl sy'n credu pethau gwahanol weithiau—boed yn gredoau gwleidyddol neu grefyddol, mewn gwirionedd—mewn pethau fel cyfryngau cymdeithasol. Gwn fy mod i, fel Ceidwadwr, weithiau'n wynebu angharedigrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, a hefyd fel Cristion; weithiau, dywedir geiriau angharedig wrthyf, a darlunnir gwawdlun o'r math o Gristion y mae pobl yn tybio ydw i. Ond rwy'n credu bod angen i bob un ohonom gydweithio yn y Siambr hon. Mae'n bleser gennyf estyn fy nghefnogaeth i'ch ymgyrch, Jack, a gwn fod fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr—cewch eu cefnogaeth hwy hefyd i geisio gwneud y Siambr hon yn fodel o'r math o garedigrwydd yr ydym am ei weld ledled Cymru, ym mhob un o'n cymunedau. Ac rwy'n eich cymeradwyo am ddod â hyn gerbron heddiw.
A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl? Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n credu y gall ac y dylai Cymru fod yn fan lle rydym yn arwain y ffordd ar hyrwyddo cymdeithas garedicach, lle nad oes lle i wahaniaethu, hiliaeth na rhagfarn. Gobeithio bod pob un ohonom yn rhannu'r dyheadau hyn yma heddiw, ac mae'n wych ein bod wedi cael y cyfraniad gan Darren Millar, a bod eraill wedi aros ar gyfer y ddadl fer hon. Rhaid i bob un ohonom rannu'r dyheadau hyn, am yr angen am oddefgarwch a charedigrwydd yn ein hymwneud o ddydd i ddydd ag eraill, yn enwedig fel cynrychiolwyr etholedig yn ein cymuned. Hoffwn ddiolch i Jack hefyd am wneud i wleidyddiaeth garedicach atseinio yma ers i chi ymuno â ni—testun eich dadl fer gyntaf erioed—ac rydych wedi gwneud cymaint o farc. Fe sonioch chi fod Aelodau'n cyfeirio at hyn yn gyson bellach ar draws y Siambr, a'r Prif Weinidog yn ogystal. Mae dyheadau, wrth gwrs, angen gweithredoedd, a dyna rydych yn galw amdano heddiw—cynllun, llwybr i symud ymlaen mewn gwirionedd mewn perthynas â gwleidyddiaeth garedicach sy'n arwain at gymunedau caredig. Er mwyn perswadio, ysgogi ac arwain drwy esiampl—ni allwn ddisgwyl ennyn caredigrwydd, goddefgarwch a dealltwriaeth yn ein cymunedau ac ar draws Cymru os na allwn eu dangos yma yn y Siambr, os na allwn eu harddangos. Ac fel y dywedwch, nid yw bywyd yr un mor deg i bawb.
Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i adeiladu pontydd a hyrwyddo dealltwriaeth, cynyddu amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus, mynd i'r afael â throseddau casineb, ymddygiad eithafol a brawychu, cefnogi dioddefwyr trais a chamdriniaeth, diogelu hawliau dynol, a chefnogi'r bobl fwyaf ddiamddiffyn yn ein cymunedau, fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Cenedl noddfa yw'r hyn rydym am fod, ac mae'r croeso hwnnw'n rhan o'r agenda garedigrwydd. Gwn fod ysbryd croesawgar y Cymry'n fyw ac yn iach yn ein cymunedau ledled Cymru, ac adlewyrchwyd hynny yn adroddiad Ymddiriedolaeth Carnegie, ond hoffwn ddweud ychydig mwy o eiriau am hynny hefyd. Mae'n ddefnyddiol iawn eich bod wedi ymgysylltu â hwy, a hoffwn fynd ar drywydd hyn. Ond gwelwn gymaint o weithredoedd caredig tuag at eraill, gan ein cymdogion yn rhedeg o gwmpas pobl mewn angen, dieithriaid yn dangos empathi a charedigrwydd tuag at ei gilydd ac at y rhai o'u hamgylch. Rhaid inni goleddu'r rheini, dysgu o'r enghreifftiau hynny, ac anelu tuag at ymdeimlad newydd o gymuned. Credaf ein bod i gyd yn teimlo hynny yn ein hetholaethau.
Credaf fod dod ynghyd wedi'i adlewyrchu dros benwythnos 21-23 Mehefin er cof am Jo Cox AS, a lofruddiwyd mewn gweithred o gasineb, ond ei gwaddol hi yw'r Great Get Together. Gwnaethom ei nodi yma yn y Senedd a ledled Cymru. Credaf fod yn rhaid inni weithio gyda'n gilydd fel Llywodraeth a chyda phartneriaid ar draws pob sector—ac rydych wedi sôn am y trydydd sector, ond y sector cyhoeddus a'r sector preifat hefyd—i annog cydlyniad, a dyna air am gymuned a ninnau'n gweithio gyda'n gilydd i fwrw gwreiddiau, oherwydd mae gennym hanes balch o groesawu cymunedau amrywiol sy'n ymestyn yn ôl dros gannoedd o flynyddoedd, ond mae angen inni ddiogelu'r cryfder hwnnw.
Mae ein rhaglen cydlyniant cymunedol yn cael £1.5 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, ac mae hynny wedi cael ei groesawu, ac mae'n cefnogi timau bach ym mhob ardal o Gymru, gan ymgysylltu mwy â chymunedau lleol a gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r heddlu'n ymwneud llawer â hyn hefyd, ac yn dymuno bod yn rhan o'r datblygiad mewn ymateb i hynny, yn enwedig pan fydd tensiynau'n codi. Felly, rydym yn dathlu amrywiaeth yng Nghymru yn rheolaidd—Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Wythnos y Ffoaduriaid, Mis Hanes Pobl Dduon—ac mae'r rheini hefyd yn achlysuron sy'n rhoi cyfleoedd inni werthfawrogi a lledaenu ein hamrywiaeth a chroesawu amrywiaeth. Hoffwn sôn am ddigwyddiad Diwrnod Windrush a ddathlais ym Mhilgwenlli yng Nghasnewydd ddydd Sul diwethaf, sef gweithred o ddathlu a myfyrio yn cynnwys straeon am y trafferthion y mae hynafgwyr Windrush a'u disgynyddion wedi'u profi dros y 70 mlynedd diwethaf yng Nghymru. Wel, nid yw'r straeon hynny wedi cael eu clywed. Rydym wedi cael digwyddiadau Diwrnod Windrush ar draws Cymru gyfan bellach, ac mae hi mor bwysig ein bod yn dysgu gan yr hynafgwyr hynny a'u disgynyddion.
Wrth gwrs, rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â throseddau casineb, a dyna lle mae'n rhaid imi ddweud, pan oeddwn yn Weinidog o'r blaen yn cyflwyno ac yn hyrwyddo'r strategaeth troseddau casineb gyntaf yng Nghymru, nid oeddwn yn gallu credu ein bod yn y sefyllfa honno—roedd hyn 10 mlynedd yn ôl—pan oeddem yn dweud bod yn rhaid i ni gael strategaeth troseddau casineb yng Nghymru a bod yn rhaid inni roi arian tuag ati i gael adroddiad cenedlaethol ar droseddau casineb. Rhaid inni gefnogi cymorth i ddioddefwyr—dyna'r ganolfan troseddau casineb—a chodi ymwybyddiaeth o droseddau casineb. Rydym yn rhoi sylw i hyn. Mae wedi dod i'r amlwg. Rydym yn awyddus i fynd i'r afael ag ef ar gynifer o lefelau—yn ein hysgolion, yn ein cymunedau. Ond ni ddylem byth gael ein diffinio yng Nghymru gan y rhai sy'n casáu. Rydym yn unfryd yn ein penderfyniad i hyrwyddo heddwch, ac wrth gwrs dyna neges Jo Cox: gobaith nid casineb. Yn sicr, rhoddais y neges honno ar Ynys y Barri pan gawsom ddigwyddiad gyda thri chôr, gyda'r cyhoedd, wythnos neu ddwy yn ôl.
Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gweithio ar bob lefel. Rwy'n credu bod polisi cyhoeddus yn bwysig a dyna lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod parch, goddefgarwch a charedigrwydd yn nodweddion sy'n diffinio ein hysgolion, ein cymunedau a diwylliant Cymru yn gyffredinol. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â bwlio ar-lein neu fwlio personol. Mae'n cael cymaint o effaith ar fywyd plentyn, yn ogystal â phan fyddwn yn oedolion, a rhaid inni dorri'r cylch a gwneud yn siŵr y gallwn greu'r cyfleoedd hynny ar gyfer pobl ifanc. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n falch eich bod wedi sôn am fwlio ar-lein, gan fod hwnnw'n rym mor ddinistriol yn awr, mae'n gadael pobl yn agored iawn i niwed, heb unrhyw leoedd diogel neu bersonol i fynd, a gall cyfryngau cymdeithasol fod yn niweidiol iawn pan gaiff ei gam-drin, ond gall fod mor bwysig, fel y dywedwch, i hysbysu ac addysgu pobl. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd allweddol cadw'n ddiogel ar-lein, a dysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i fyw'n ddiogel ac yn llwyddiannus yn yr unfed ganrif ar hugain.
Credaf mai dyma lle mae'n rhaid inni gydnabod rôl bwysig y trydydd sector, gan gydnabod bod angen ein cefnogaeth ar y sefydliadau cymunedol a llawr gwlad hynny. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r trydydd sector i ganiatáu i'r sector ffynnu. Mae cymaint o'r caredigrwydd i'w weld drwy wirfoddoli, drwy ofalu—gweithgaredd a gyflawnir nid er budd personol. Rwy'n meddwl bod ystadegau'n dangos bod tua un o bob chwech o bobl yn gofalu am rywun arall, nid dim ond eu teuluoedd agos eu hunain. Mae'n fynegiant o ddinasyddiaeth, yn elfen hanfodol o'n democratiaeth. Ond hefyd, gall gwirfoddoli helpu i fynd i'r afael â'r ymdeimlad o arwahanrwydd y gall pobl ei deimlo, gan weithredu fel bloc adeiladu cymdeithasol pan fydd grŵp yn dod at ei gilydd dros achos cyffredin. Ac wrth gwrs, rydym yn datblygu strategaeth i fynd i'r afael â'r profiad o unigrwydd ac arwahanrwydd.
Credaf ei bod yn bwysig, felly, ein bod yn edrych ar y ffyrdd y gallwn gefnogi'r gymuned, trwch y bobl a'r trydydd sector fel hyn. Fel y dywedais, rwy'n falch iawn eich bod wedi codi gwaith Ymddiriedolaeth Carnegie, a Darren Millar hefyd heddiw. Roeddwn yn hoffi ei bwynt, 'A gawn ni ddysgu sut i anghytuno'n dda?' Mae honno, wrth gwrs, yn her wirioneddol, oherwydd mae arnom eisiau dadl fywiog, rymus, ond mae angen inni hefyd gael parch a goddefgarwch. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yng nghanfyddiadau Ymddiriedolaeth Carnegie yng Nghymru, a hoffwn eu cyfarfod yn awr, fel Gweinidog, gan edrych yn benodol ar eu hadroddiad ar garedigrwydd mewn polisi cyhoeddus, oherwydd dyna lle y gallaf weld bod yna dystiolaeth o lle mae angen inni fynd i'r afael â'r materion hyn.
Ond yn olaf, mae creu cymunedau caredicach ledled Cymru yn rhywbeth lle mae cynnal Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fel y dywedoch chi, Jack, yn gwbl allweddol. Mae gennym y Ddeddf honno gyda'r saith nod llesiant, ac mae Jack bob amser wedi cydnabod hynny, ac yn wir, mae'n cael ei gydnabod yn awr, nid ei grybwyll yn unig—mae wedi cael ei grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma yn ôl pob tebyg mewn dadleuon. Ond unwaith eto mae sefydliadau'n derbyn y saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio ac mae'n ysgogi ffordd newydd o weithio yng Nghymru.
Mae gan bob gwleidydd gyfrifoldeb i gyd-fynd â'r gwerthoedd a'r egwyddorion y mae Jack Sargeant wedi'u nodi heddiw ac ar sawl achlysur. Ond rwy'n credu, yn olaf, y buaswn i'n dweud mai her Jack yw'r hyn a ddywedodd wrth y pwerus yn ein cymdeithas. Mae gennym gyfrifoldeb i godi llais, bob un ohonom. Mae gan rai ohonom bŵer. Mae gennym i gyd bwerau yn ein ffyrdd ein hunain, ond rhaid i'r rheini sydd â chyfrifoldeb, fel arweinwyr, fwrw ymlaen â'r pŵer hwnnw. Felly, gadewch inni gymryd y ddadl hon, unwaith eto, fel enghraifft arall o'r ffordd y mae Jack wedi ein galluogi i edrych ar ffyrdd newydd o weithio, ffyrdd yr ydym yn credu ynddynt, ac rwy'n diolch yn fawr iawn iddo am y ddadl amserol a diddorol hon, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddatblygu'r syniadau hyn a'u rhoi ar waith yn ymarferol.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:44.