Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

02/07/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Neil Hamilton.

Y Canlyniadau PISA Diweddaraf

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i'r canlyniadau PISA diweddaraf i gael eu cyhoeddi? OAQ54169

Llywydd, cyhoeddwyd y canlyniadau diwethaf sydd ar gael ar gyfer y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn 2016. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o ddiwygio addysg, sydd â'r nod o godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a gwella perfformiad addysgol.

Wel, y tro diwethaf, roedd y canlyniadau PISA yng Nghymru yn waeth nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, a dyna'r pedwerydd tro yn olynol y cyrhaeddwyd y sefyllfa druenus honno. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ragweld yn ffyddiog nad oes fawr ddim wedi newid? Yr wythnos diwethaf, dywedodd Lee Waters, mewn eiliad o onestrwydd i'w groesawu, nad oes gan y Llywodraeth Lafur unrhyw syniad mewn gwirionedd o beth y mae'n ei wneud gyda'r economi. Mae cyflwr y gwasanaeth iechyd yn profi nad oes ganddi unrhyw syniad o beth mae'n ei wneud ym maes iechyd, ac mae cyflwr y gwasanaeth addysg yn golygu nad oes ganddi unrhyw syniad o beth mae'n ei wneud ym maes addysg ychwaith.

Llywydd, rwy'n credu mai'r cwestiwn oedd a wnaf i ymuno â'r aelod i ddyfalu ynghylch y canlyniadau. Ni wnaf i hynny. Bydd y canlyniadau ar gael yn ddiweddarach yn yr hydref, ac edrychwn ymlaen at eu trafod bryd hynny.

Prif Weinidog, pa un a ydych chi'n ei hoffi ai peidio, mae'r canlyniadau PISA yn fesur a gydnabyddir yn eang o berfformiad Cymru o ran addysg—fe'u cydnabyddir ledled y byd. Yng Nghymru, rydym ni'n dal yn ansicr ynghylch pa mor ddadlennol fydd y fframwaith newydd ar gyfer mesur perfformiad ysgolion a sut y bydd yn cael ei ddarllen yng nghyd-destun y cymaryddion rhyngwladol. Pa waith ymchwil y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud i weld a yw ein canlyniadau PISA yn effeithio ar benderfyniadau buddsoddwyr tramor i ymrwymo i Gymru, ac a ydym ni'n gwybod eto a fydd disgyblion yng Nghymru yn dal i gael eu gwahodd—ar hap—i sefyll y profion PISA pan fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno?

Llywydd, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw waith ymchwil sy'n cyfeirio at gwestiwn cyntaf yr Aelod, ac nid wyf i'n synnu at hynny, oherwydd nid oedd y cysylltiad tenau rhwng y ddau gynnig yn ymddangos i mi, ar yr olwg gyntaf, yn deilwng o ymchwil. O ran yr ail bwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, wel, wrth gwrs, mae PISA yn un o fesurau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac mae'r OECD yn dweud ein bod ni'n gwneud y pethau iawn yma yng Nghymru. Nid wyf i wedi gweld dim sy'n awgrymu i mi na fyddai'r dull PISA yn cael ei ddefnyddio yma yng Nghymru pan fydd y cwricwlwm newydd yn weithredol.

Cefnogi'r Stryd Fawr yng Nghymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ54147

Diolchaf i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae cefnogi canol ein trefi a'n strydoedd mawr yn rhan fawr o'n hymdrech adfywio. O gymryd cyllid a ysgogwyd i ystyriaeth, erbyn yr adeg y bydd ein rhaglen bresennol wedi ei chwblhau, bydd dros £800 miliwn wedi ei fuddsoddi yng nghanol ein trefi ers 2014.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Byddwch yn gwybod, fel y bydd Aelodau'n gwybod ar draws y Siambr, mai un effaith sylweddol ar ein strydoedd mawr ledled Cymru fu cau banciau, sydd wedi bod yn arbennig o niweidiol ym Mwcle yn fy etholaeth i. Mae gwaith ymchwil y Cynulliad yn dangos bod dros 200 o fanciau wedi cau yng Nghymru ers 2008. Llywydd, mae hon yn her enfawr i lawer, gan gynnwys yr henoed a'n pobl sydd fwyaf agored i niwed, sy'n aml yn dibynnu ar wasanaethau wyneb yn wyneb. Llywydd, roeddwn i'n falch iawn o ddarllen ymateb y Prif Weinidog i mi ar y mater hwn, i lythyr a ysgrifennais ato yn ddiweddar. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen i ni flaenoriaethu'r syniad o fanc cymunedol i Gymru, sicrhau bod ardaloedd arbrofi wedi eu lleoli'n strategol, a bod yn rhaid i ni adfer y gwasanaethau hyn y mae wir eu hangen ac sy'n cael eu gwerthfawrogi?

Llywydd, diolchaf i Jack Sargeant am hynna. Pan fo'n dyfynnu'r ffigur o 200 o fanciau sydd wedi cau yng Nghymru yn ddiweddar, mae hynny'n dangos y pwynt a wnaeth am y ffordd y mae hyn yn effeithio ar bron pob etholaeth a phob Aelod sydd yma yn y Siambr. Dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi a phrofi ymarferoldeb creu banc cymunedol i Gymru. Ac mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn weithredol â nifer o randdeiliaid yn y maes hwn. Rydym ni'n cymryd cyngor arbenigol drwy'r sefydliadau hynny sydd eisoes wedi cychwyn ar y daith hon. Ceir heriau, fel yr esboniais yn fy ngohebiaeth gyda'r Aelod. Mae'n rhaid i chi gael cymeradwyaeth reoliadol, trwy rai prosesau dra chymhleth, a bydd angen cymorth arnom ni gyda hynny, ac mae angen i chi sicrhau cefnogaeth poblogaethau lleol fel y bydd gan fanc cymunedol gwsmeriaid a phobl sy'n barod i adneuo â nhw. Yn hynny o beth, mae wedi bod yn dda iawn gweld Banc Cambria yn sefydlu ei hun yma yng Nghymru. Cynhaliodd gyfarfod cyffredinol arbennig ar 28 Mehefin yn Llandrindod. Deallaf fod llawer yn bresennol a'i fod yn llwyddiannus, ac, yn ein barn ni, bydd gweithio gyda sefydliadau cymunedol, yn rhan o'n hymdrechion i greu'r banc, yn rhan o'r rysáit a fydd yn ei wneud yn llwyddiannus.

13:35

Mae ymadawiad y banciau o'r stryd fawr, wrth gwrs, yn gadael gwagle sydd angen ei lenwi, ac mae yna sawl enghraifft o fusnesau yn cymryd drosodd y banciau, tra rydym, wrth gwrs, ar yr un pryd yn chwilio am ffyrdd newydd i ddod â gwasanaethau ariannol i mewn i'n trefi ni. Ond mae yna achos un busnes yn fy etholaeth i sy'n ceisio buddsoddi mewn troi banc yn fusnes yn y sector hamdden. Mi oedd yna gyllid grant i fod i ddod gan y Llywodraeth i'w helpu nhw yn hynny o beth. Mi oedd y pot o arian yr oedd yn mynd i gael ei ddefnyddio yn wag erbyn i'r cais gyrraedd. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd y bydd pob cyfle yn cael ei chwilio amdano fo i sicrhau bod y potiau yma o arian yn ddigonol ar gyfer busnesau fel hyn, ac a ydy o'n barod i edrych i mewn i'r hyn ddigwyddodd yn yr achos hwn? 

Wel, wrth gwrs, Llywydd, dwi'n hapus i edrych i mewn i'r achos mae'r Aelod wedi codi. Rŷn ni'n gwybod, pan fo'r arian ar gael, fod lot o ddiddordeb ledled Cymru gyda busnesau sydd eisiau sefydlu a thyfu hefyd. So, dwi'n gallu gweld pam, pan fydd rhai pobl yn mynd at y gronfa, does dim arian ar ôl, ond, wrth gwrs, dwi'n hapus i edrych ar yr achos mae Rhun ap Iorwerth wedi'i godi. 

Mae Jack Sargeant wedi codi cwestiwn pwysig am fanciau, Prif Weinidog, ac rydym ni'n gwybod y bu llu o achosion o gau banciau ledled Cymru, sydd wedi peri pryder i bobl leol. Yn fy ardal i fy hun, collodd tref Brynbuga ei holl fanciau un ar ôl ei gilydd yn gyflym iawn ac yna roedd swyddfa'r post—yr unig wasanaeth ariannol a oedd ar ôl—hefyd dan fygythiad. Achubwyd honno trwy gamau ar y cyd a gymerwyd gan y cyngor a grwpiau eraill i'w symud i'r ganolfan gymunedol leol. Tybiaf fod hynny'n digwydd mewn mannau eraill. Os nad yw, efallai ei fod yn arfer y gellir ei ddefnyddio mewn trefi eraill ledled Cymru i wneud yn siŵr, pan fydd trefi yn colli eu banciau a bod swyddfa'r post dan fygythiad, bod gwasanaethau ariannol hollbwysig yn dal i fod ar gael i bobl agored i niwed sydd eu hangen nhw.

Wel, diolchaf i Nick Ramsay am wneud y pwynt pwysig yna. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi swyddfeydd post ledled Cymru ers tro, ac rydym ni'n gweld y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn llwyr. Ac, wrth ateb cwestiwn Jack Sargeant, efallai y dylwn i fod wedi dweud, wrth ddatblygu'r syniad o fanc cymunedol i Gymru, ein bod ni'n gwbl benderfynol bod yn rhaid iddo fod yn rhan ategol o'r gyfres ehangach honno o wasanaethau ariannol, boed nhw'n undebau credyd, boed nhw'n swyddfeydd post, neu, ar ben arall y sbectrwm, Banc Datblygu Cymru. Rydym ni eisiau banc cymunedol sy'n llenwi bwlch priodol yn yr amrywiaeth o wasanaethau ariannol sydd gennym ni, ac mae'r cyfraniad parhaus y mae swyddfeydd post yn ei wneud mewn llawer o gymunedau yng Nghymru yn un yr ydym ni'n ei gydnabod.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae cod y gweinidogion yn dweud y dylai Gweinidogion ymddiheuro os byddant yn dweud rhywbeth sy'n anghywir. Pam dylai eich Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth orfod ymddiheuro am ddweud rhywbeth sy'n iawn? [Chwerthin.]

Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu bod hynny'n wir.

Pa ddarn? A ydych chi'n gwadu—? Mae'r BBC yn adrodd bod Gweinidog yr economi yn ymddiheuro am ei sylwadau ar economi Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud, o ddarllen yr adroddiad—darllen Ken Skates yn ail-ddehongli i ni yr hyn yr oedd Lee Waters yn ei olygu mewn gwirionedd—braidd yn debyg i ddarllen y neges trydar enwog honno gan Andrew Adonis yn clodfori rhinweddau polisi Brexit Jeremy Corbyn. Nawr, gallaf ddeall eich anhawster gyda rhan gyntaf datganiad Lee Waters,

Am 20 mlynedd rydym ni wedi cymryd arnom ein bod ni'n gwybod beth yr ydym ni'n ei wneud o ran yr economi—a'r gwir yw nad ydym ni,

er fy mod i'n credu ei fod yn llygad ei le bod syniadau confensiynol wedi methu, a'u bod wedi methu yma yng Nghymru yn fwy eglur nag yn unman arall. Ond y cwbl yw ail ran ei ddatganiad yw datganiad o ffaith eich bod chi wedi sicrhau cynnyrch mewnwladol gros sefydlog, o safbwynt cymharol, am 20 mlynedd. Pennodd y Llywodraeth yr oeddech chi'n uwch gynghorydd ynddi darged o sicrhau 90 y cant o incwm y DU fesul pen. Mewn gwirionedd, rydym ni yn y 70au isel erbyn hyn—yn union lle'r oeddem ni, fel y dywed Lee Waters, 20 mlynedd yn ôl. Siawns mai Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd ddylai fod yn ymddiheuro am hynny, nid eich dirprwy Weinidog yr economi am wneud dim mwy na thynnu sylw at hynny?

Wel, Llywydd, gadewch i mi nodi'r gwir yn y fan yma. Pan adroddwyd geiriau Lee Waters, roedd yn siarad mewn modd heb ei sgriptio mewn trafodaeth gyda chynulleidfa, ac rwyf i eisiau Gweinidogion mewn Llywodraeth Cymru sy'n gallu trafod materion ag eraill ac yn gallu herio'r Llywodraeth ei hun o ran y ffordd y mae ein polisïau'n cael eu gweithredu. Y gwir am economi Cymru dros yr 20 mlynedd hynny yw ein bod ni'n eu cloi gyda'r lefelau cyflogaeth uchaf a fu gennym erioed. Rydym ni'n eu cloi gyda'r lefelau isaf o anweithgarwch economaidd a fu gennym erioed. Rydym ni'n eu cloi gydag un o'r lefelau twf busnes uchaf a fu gennym erioed. Mae gennym ni'r perfformiad rhanbarthol gorau o ran creu swyddi drwy fewnfuddsoddiad o'i gymharu ag unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae gennym ni allforion a gynyddodd yng Nghymru unwaith eto y llynedd, 7.5 y cant. Dyma ffeithiau economi Cymru, ac roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod â Ieuan Wyn Jones unwaith eto neithiwr a'i glywed yn siarad am yr adeg pan yr oedd ef yn gyfrifol am economi Cymru a'r polisïau a ddilynodd bryd hynny. Sylwais pan fydd yr Aelod, fel y mae'n arfer ei wneud, yn bwrw ei olwg eang ar draws 20 mlynedd, nad yw byth yn ein hatgoffa o'r ffaith bod ei blaid ef yn gyfrifol am yr economi yn ystod yr adeg y mae newydd ddweud wrthyf fi bod popeth yn methu drwyddi draw. Nid wyf i'n cytuno ag ef. Nid oedd yn methu bryd hynny. Nid yw wedi methu drwy'r 20 mlynedd ychwaith. Lle'r oedd Lee Waters yn gwbl gywir oedd i dynnu sylw at y ffaith, mewn economi sy'n cael ei herio gan gyni cyllidol, sy'n cael ei herio gan Brexit, sy'n cael ei herio gan awtomeiddio, sy'n cael ei herio gan bwysau globaleiddio, na fydd y ffyrdd y mae pob Llywodraeth wedi ymateb i heriau economaidd dros yr 20 mlynedd diwethaf yn ddigonol ynddynt eu hunain ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, ac felly byddwn ni angen atebion newydd, arbrofi newydd, gwahanol ffyrdd o fynd i'r afael â'r heriau hyn, ac yn hynny o beth, roedd yn llygad ei le.

13:40

Edrychwch, os ydych chi'n dweud eich bod chi'n croesawu, mewn gwirionedd, her feirniadol i Weinidogion a gwyro o'r sgript, pam y gofynnwyd iddo neu y mae wedi teimlo ei bod yn angenrheidiol iddo ymddiheuro? Gan ein bod ni'n sôn am awtomeiddio, y peth diwethaf yr ydym ni ei eisiau yw Gweinidogion sy'n ymddwyn fel robotiaid. Mae Lee Waters yn gywir yn ei ddadansoddiad, ac a dweud y gwir, gan eich bod chi'n sôn am Ieuan Wyn Jones, cyhoeddodd Ieuan, pan oedd yn Weinidog, strategaeth economaidd a oedd yn dweud nad y model economaidd, yn pwysleisio buddsoddiad uniongyrchol o dramor dros fuddsoddiad cynhenid, yn pwysleisio grantiau dros fenthyciadau, oedd y model cywir. Roedd Ieuan yn iawn bryd hynny; mae Lee Waters yn iawn nawr. Yn anffodus, nid yw'r polisi wedi newid, a dyna'r realiti sydd, yn fy marn i, wedi ei amlygu gan sylwadau Lee Waters. Nawr, un o ganlyniadau hyn, fel y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ei nodi heddiw, yw'r bwlch cyllidol rhwng y refeniw a godir yng Nghymru a gwariant cyhoeddus. A ydych chi'n credu y dylai cau'r bwlch hwnnw a, thrwy oblygiad, y bwlch incwm rhwng Cymru a gweddill y DU, fod yn nod pendant i'ch Llywodraeth? A wnewch chi bennu targed y tro hwn y byddwch chi'n ymdrechu mewn gwirionedd i'w gyrraedd?

Wel, rwy'n credu bod cau'r bwlch cyllidol yn uchelgais wirioneddol i unrhyw Lywodraeth Cymru. Yn sicr, byddai'n rhaid iddo fod yn uchelgais i Lywodraeth dan arweiniad yr Aelod sy'n ceisio tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig, oherwydd wedyn bydd yn rhaid iddo ddod o hyd i ffordd o esbonio i etholwyr Cymru sut y bydd y £13 biliwn sy'n cael ei wario yng Nghymru yn uwch na'r hyn a godir mewn trethi yma yng Nghymru yn cael ei lenwi gan ei Lywodraeth pan nad yw'r £13 biliwn hynny ar gael mwyach i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, ydy, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ond pwysigrwydd y pwynt mewn gwirionedd—i unrhyw blaid sy'n ceisio tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig ac yna gofyn y cwestiwn—sut y gwnaiff pobl Cymru ymdopi wedyn, pan na fydd ganddyn nhw nid dim ond ychydig o fwlch, ond gwerth £13 biliwn o fwlch y byddai'n rhaid i'w blaid ddod o hyd i ffordd i'w lenwi? Ac ni allan' nhw wneud hynny, ac maen nhw'n gwybod na allan' nhw wneud hynny, a bydd yn rhaid iddyn nhw ei esbonio.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am wasanaethau mamolaeth yn ysbyty Llwynhelyg?

Mae gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yn parhau i fod yn seiliedig ar uned dan arweiniad bydwragedd. Rwyf i wedi gweld adroddiadau yn y wasg sy'n awgrymu na fydd yr uned dan arweiniad bydwragedd rywsut yn rhan o'r gwasanaeth a ddarperir gan Lwynhelyg yn y dyfodol. Fy nealltwriaeth i yw nad yw hynny'n wir—bod trafodaethau yn parhau gyda staff yn ysbyty Llwynhelyg ynglŷn â sut i integreiddio'r uned dan arweiniad bydwragedd yn well gyda gwasanaethau bydwragedd cymunedol. Mae hynny'n ymddangos i mi fel uchelgais synhwyrol i'r bwrdd iechyd—i wneud y defnydd gorau o'r staff sydd ganddo a chynnig y gwasanaethau gorau i'r bobl sydd eu hangen nhw. Yn hynny i gyd, nid oes unrhyw awgrym na fydd yr uned dan arweiniad bydwragedd yn parhau i fod ar gael am 24 awr bob dydd.

13:45

Prif Weinidog, mae uwch reolwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ei gwneud yn gwbl eglur mewn sylwadau heddiw i'r wasg eu bod nhw'n bwriadu newid gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbyty, ac mae'n warth bod y gwasanaethau mamolaeth yn cael eu lleihau i wasanaeth ar alwad, y tu allan i oriau arferol er gwaethaf eich sylwadau blaenorol nad oedden nhw. Gadewch i mi eich atgoffa o'r hyn a ddywedasoch wrthyf ym mis Mawrth yn yr union Siambr hon, a dyfynnaf:

'nid oes unrhyw gynigion o unrhyw fath i wneud newid i'r gwasanaeth a ddarperir yno.'

Mae hyn yn nodweddiadol iawn o ddull eich Llywodraeth, onid yw, tuag at ein GIG yng Nghymru? Rydych chi'n dweud un peth wrthym ni yn y Siambr hon ond mae'r hyn yr ydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd yn gwbl wahanol. Hyd yma, yn ein trafodaethau, rydym ni wedi sôn am y ffaith bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig am fwy na phedair blynedd, a Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn dod yn destun mesurau arbennig, ac rydym ni'n gweld nawr, yn ystod y dyddiau diwethaf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn y newyddion. Mae'r cyn-gadeirydd, yr wyf i'n credu eich bod chi'n ei adnabod yn eithaf da, Prif Weinidog, Andrew Davies, wedi bod yn feirniadol iawn o ficroreoli'r bwrdd iechyd gan eich Llywodraeth. A ydych chi'n cytuno ag ef nad yw graddau'r craffu mewn gwirionedd yn helpu'r bwrdd iechyd i ddatrys ei broblemau?

Llywydd, gofynnodd yr Aelod gwestiwn cyntaf i mi am fanylion un uned mewn un ysbyty mewn un rhan o Gymru, gan ddisgwyl i mi allu ateb y cwestiwn hwnnw, fel yr wyf i'n awyddus i'w wneud. Yna, mae'n dymuno cyhuddo Llywodraeth Cymru o ficroreoli'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ni all ei chael hi bob ffordd. Mae Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn cymryd diddordeb priodol mewn cyflawni cyfrifoldebau byrddau iechyd, a phan fydd byrddau iechyd yn wynebu heriau, fel, er enghraifft, yr wynebodd bwrdd iechyd Bae Abertawe heriau dros y gaeaf diwethaf hwn o ran gwneud yn siŵr bod mynediad at wasanaethau brys i gleifion yn yr ardal honno, mae'n gwbl gywir a phriodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd diddordeb uniongyrchol yn hynny, ac rydym ni'n gwneud hynny yn y gaeaf yn arbennig gan ein bod ni'n gallu cynorthwyo byrddau iechyd i wneud yn siŵr y gellir cyfeirio cleifion i'r rhan honno o'r gwasanaeth iechyd lle mae cyfleusterau ar gael ar iddyn nhw yn fwyaf cyflym.

Felly, nid oes gen i unrhyw ymddiheuriad i'w wneud am y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y diddordeb uniongyrchol hwnnw. Rydym ni'n gwneud hynny ar ran cleifion yng Nghymru. Ond mae'n amhosibl, Llywydd, i'r aelod haeru ar y naill law ei bod hi'n anghywir i Lywodraeth Cymru gymryd diddordeb yn yr hyn y mae byrddau iechyd yn ei wneud ac yna disgwyl gofyn cwestiynau yma am faterion manwl iawn sydd, yn y pen draw, yn gyfrifoldeb i'r bwrdd iechyd hwnnw.

Wel, bwrdd iechyd arall yw hwn, Prif Weinidog, nad yw'n gwneud yn dda iawn, gan fod yr amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ar gyfer y bwrdd iechyd 19 y cant yn is na'ch targed—unwaith eto, un nad yw erioed wedi cael ei gyrraedd—ac mae cwynion am y bwrdd iechyd wedi codi 29 y cant yn 2018. Yr hyn sy'n frawychus i mi, Prif Weinidog, yw bod Andrew Davies yn sôn am y pwyslais cyson ar dargedau tymor byr, microreoli gan swyddogion Llywodraeth Cymru, ac fel y mae Mr Davies yn ei ddweud, gyda rhywfaint o graffu

nad yw'n eu helpu nhw i fwrw ymlaen â datrys y broblem.

Nawr, yn ein trafodaethau blaenorol, mae eich Gweinidog iechyd wedi wfftio'r syniad o bennu targedau i gael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig, ac mae wedi ei gwneud yn eglur na fydd yn pennu targedau mympwyol i wella gwasanaethau i bobl leol. Felly, pam, Prif Weinidog, mae eich Llywodraeth yn microreoli un bwrdd iechyd, ond yn gadael un arall mewn trafferthion? A yw'n wir bod eich Dirprwy Weinidog yr Economi yn gywir—nad yw eich Llywodraeth yn gwybod beth mae'n ei wneud?

Llywydd, roedd y Gweinidog iechyd 100 y cant yn gywir pan ddywedodd na fyddwn yn pennu targedau mympwyol. Pam yn y byd y byddem ni'n gwneud hynny? Rydym ni'n pennu targedau sydd, yn ein tyb ni, yn gwneud synnwyr er budd clinigol cleifion, a phe bawn i wedi ateb yr Aelod yn y gaeaf, pan ofynnodd gwestiynau i mi am ambiwlansys yn aros yn Ysbyty Treforys, trwy ddweud nad oes gan y Llywodraeth hon ddiddordeb mewn targedau tymor byr, gallaf ddychmygu'r hyn y byddai wedi ei ddweud am hynny. Dyna'r rheswm pam y cymerodd Llywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ym mherfformiad bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg fel yr oedd ar y pryd dros y gaeaf. Dyna pam yr oeddem ni'n ymgysylltu ar y ffôn yn sicrhau bod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud, er mwyn sicrhau bod llif drwy'r ysbyty hwnnw, bod cleifion yn gallu cael eu rhyddhau o ambiwlansys i mewn i'r adran damweiniau ac achosion brys, yn cael eu gweld yn brydlon, eu rhyddhau gartref pryd bynnag yr oedd hynny'n bosibl. Mae'r rheini'n dargedau priodol. Mae'r rheini'n dargedau nad ydyn nhw yn fympwyol. Mae'r rheini'n dargedau sy'n canolbwyntio ar anghenion clinigol cleifion, ac ni fydd y Llywodraeth byth yn camu'n ôl rhag gwneud yr hyn y gallwn ei wneud i helpu byrddau iechyd i gyrraedd y targedau hynny a'u helpu i wneud yn siŵr eu bod nhw'n canolbwyntio ar eu cyrraedd er budd cleifion.

13:50

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Gymraeg ddatganiad o'r diwedd ar ymweliad â Dulyn. Meddai:

'Prif ffocws fy ymweliad oedd cyfarfod wyneb yn wyneb gyda'r Tánaiste a'r Gweinidog Materion Tramor, Simon Coveney.'

Mae hi'n mynd yn ei blaen:

'Yn fy holl gyfarfodydd gyda llywodraeth Iwerddon'

roedd

'anghrediniaeth o hyd i Gymru bleidleisio fel ag y gwnaeth yn 2016.'

Prif Weinidog, onid yw hynny'n hynod amhriodol? Sut y byddai pobl Iwerddon yn teimlo pe byddai Gweinidogion y DU yn mynegi anghrediniaeth bod Iwerddon wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth? Oni ddylem ni, yn hytrach, fod yn dweud wrth Iwerddon bod angen iddyn nhw symud mater y 'backstop' yn ei flaen os ydyn nhw eisiau osgoi sefyllfa 'dim cytundeb'?

Llywydd, ar y naill law mae'r Aelod yn cwyno oherwydd bod y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol yn adrodd yr hyn a ddywedwyd wrthi gan uwch aelodau'r Llywodraeth yn y Weriniaeth, ac yna mae eisiau i mi gyfarwyddo'r un Llywodraeth honno ar agweddau y dylen nhw fod yn eu cymryd at y 'backstop'. Y pethau a adroddwyd gan y Gweinidog yw'r pethau yr ydym ni'n gwybod sy'n cael eu dweud yn feunyddiol am yr agwedd y mae Llywodraeth y DU wedi ei mabwysiadu at yr holl drafodaethau Brexit ac at ei methiant i gydnabod arwyddocâd y ffin ar ynys Iwerddon. Roeddwn i'n ddigon ffodus, Llywydd, i allu trafod y materion hyn gyda'r Taoiseach yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos diwethaf. Mae'r rhain yn faterion gwirioneddol ddifrifol sy'n effeithio ar heddwch cymunedau ar ynys Iwerddon, ac nid yw eu diystyru a dweud wrth Lywodraeth arall sut y dylen nhw ymdrin â'r mater hwn wir yn cyd-fynd â difrifoldeb y materion hynny o gwbl.

Felly, Prif Weinidog, rydych chi'n honni eich bod chi eisiau osgoi 'dim cytundeb', ond yr unig fesur sydd wedi pasio yn Nhŷ'r Cyffredin yw'r un y dylai'r 'backstop' gael ei ddisodli gan drefniadau eraill. A beth bynnag yw eich safbwyntiau eich hun, siawns eich bod yn cydnabod mai'r 'backstop' hwnnw sydd yn rhwystr enfawr i ddod i gytundeb a fyddai'n caniatáu i ni adael yr UE gyda chytundeb yn hytrach na heb gytundeb, a'i basio. Ac nid oes unman mwy nag Iwerddon, yn ogystal â rhannau o'r Deyrnas Unedig—yn y tymor agos o leiaf—a fydd yn wynebu heriau sylweddol os nad oes cytundeb. Os ydym ni eisiau osgoi hynny, siawns y dylem ni, yn hytrach na mynegi anghrediniaeth ynghylch y modd y pleidleisiodd ein gwlad ein hunain, fod yn cefnogi'r achos i ni gytuno ar drefniadau synhwyrol, yn hytrach na 'backstop' sy'n ein cloi ni yn yr undeb tollau a'r farchnad sengl oni bai eu bod nhw'n rhoi caniatâd i ni adael na chawn ni gytuno arno.

Felly, gwelaf fod y Swyddfa Dramor bellach wedi ehangu ei pholisi o wneud i chi deithio ar fws ym Mrwsel i Lywodraeth yr Alban, ar ôl i'r Prif Weinidog yno hyrwyddo annibyniaeth ar daith i'r Unol Daleithiau gyda chyfleusterau'r Swyddfa Dramor. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn gynnau am y bwlch cyllidol o £13 biliwn y byddem ni'n ei wynebu pe byddem ni'n annibynnol yng Nghymru, ac eto rydych chi'n closio at yr SNP fel pe byddech chi'n arwain Llywodraeth sydd eisiau chwalu'r Deyrnas Unedig mewn gwlad a bleidleisiodd i aros. [Torri ar draws.] Ond dydych chi ddim, a wnaethom ni ddim. Prif Weinidog, a ydych chi'n cydnabod bod cannoedd o filoedd o bobl, a oedd yn arfer pleidleisio dros Lafur, wedi pleidleisio dros 'adael'? Prif Weinidog, onid ydych chi wedi eu bradychu nhw erbyn hyn a chithau'n blaid sydd o blaid aros?

Llywydd, gadewch i mi geisio canfod tri phwynt o'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud y gallwn i geisio eu hateb. Yn gyntaf oll, mae'n ddyletswydd ar y bobl hynny sy'n siarad am drefniadau amgen ar y ffin ar ynys Iwerddon ddod i egluro i ni sut y bydd y trefniadau amgen hynny'n gweithredu. Nid oes diben mewn dim ond dweud bod ffyrdd eraill y gellid gwneud hyn. Mae'n rhaid i'r bobl hynny sy'n credu hynny gyflwyno cynllun credadwy ynghylch sut y gellir cyflawni hynny. Nid oes dim yr wyf i wedi ei ddarllen na'i weld na'i glywed gan yr Aelod na neb arall sy'n gwneud yr haeriad hwnnw yn fy arwain i gredu bod cyfres o gynigion gwirioneddol fanwl ac ymarferol a fyddai'n caniatáu i'r 'backstop' gael ei ddileu ar y pwynt hwn yn y trafodaethau. Os oes rhai, dylai pobl gyflwyno'r syniadau hynny. Gofynnodd Mrs May, mi wn, dro ar ôl tro, i'r Aelodau hynny ar ei hochr ei hun a gynigiodd y gellid gwneud y pethau hyn roi'r wybodaeth iddi a fyddai'n caniatáu iddi wneud y cynnig hwnnw'n gredadwy. Nid oeddwn nhw'n gallu gwneud hynny, nid oedd hi'n gallu gwneud hynny ac yn sicr ni all yr Aelod yn y fan yma wneud hynny.

Gadewch i mi ymdrin â'r pwynt a wnaeth am y Swyddfa Dramor, oherwydd mae'n arwain at ei bwynt ynglŷn â'r undeb. Mae gweithredoedd y Swyddfa Dramor o ran Llywodraethau Cymru a'r Alban wedi bod yn rhai anneallus dros ben. Nid wyf i byth yn mynd dramor i feirniadu Llywodraeth y DU; rwy'n mynd i wneud y pwyntiau sy'n cael eu gwneud yn y Siambr hon ac rwyf i'n eu gwneud ar ran Cymru. Pe byddai'r Swyddfa Dramor yn credu am eiliad na fyddwn i'n dweud y pethau y credaf ei bod hi'n bwysig eu dweud ar ran Cymru trwy ddweud na allwn i gael lifft yn un o'u ceir—lifft, gyda llaw, yr ydym ni'n talu amdano; nid yw'n lifft am ddim, rydym ni'n talu amdano bob tro yr ydym ni'n ei ddefnyddio. Pe bydden nhw'n meddwl y byddai hynny'n peri i mi newid fy meddwl, yna mae hynny'n dweud wrthych chi pa mor ychydig y mae'r adran honno yn ei ddeall ar realiti'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu.

Mae hynny'n bwysig i mi, Llywydd, oherwydd fy mod i'n credu yn y Deyrnas Unedig. Rwyf i eisiau i'r Deyrnas Unedig fod yn llwyddiant, ac rwyf i eisiau i Gymru fod yn rhan lwyddiannus o Deyrnas Unedig lwyddiannus. Ond pan fydd y Swyddfa Dramor yn gweithredu yn y ffordd lawdrwm honno, yna'r cwbl y mae'n ei wneud yw rhoi hwb cysylltiadau cyhoeddus i'r bobl hynny sydd â gwahanol syniad ynghylch y dyfodol. Ac yn y pen draw, yr unoliaethwyr sy'n peri'r bygythiad mwyaf i'r undeb, oherwydd nid ydyn nhw'n fodlon cymryd y materion hyn o ddifrif ac maen nhw'n ymddwyn yn y mathau ffôl hynny o ffyrdd herfeiddiol. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i ddadlau'r achos dros y modd y gall y Deyrnas Unedig weithredu'n llwyddiannus yr ochr arall i Brexit, pe byddai hynny'n digwydd, a byddai'n wych, oni fyddai, pe byddai'r bobl hynny sy'n codi eu lleisiau fel pe bydden nhw'n berchen ar yr undeb yn barod i gymryd rhan mewn sgwrs o'r math hwnnw?

13:55
Y Lluoedd Arfog

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r lluoedd arfog? OAQ54157

Mae adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru, o ran cyflogaeth, addysg, iechyd a thai.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu cyhoeddiad yr adroddiad hwnnw a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn. Fel y gwyddoch, roedd hi'n ddiwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn ac roedd cymunedau ledled y DU ac, yn wir, ledled Cymru a oedd yn dathlu ac yn coffáu cyfraniad y lluoedd arfog i'r genedl. A dydd Llun yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad i goffáu a nodi milwyr wrth gefn yng nghymuned y lluoedd arfog, y mae llawer ohonyn nhw yn gweithio yn Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Roeddwn i'n falch iawn bod Gweinidog y lluoedd arfog Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw.

A wnewch chi ymuno â mi i goffáu a diolch i wŷr a gwragedd y lluoedd arfog yma yng Nghymru am y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud, ac a allwch chi ddweud wrthym ni a oes unrhyw gynnydd pellach wedi ei wneud gan eich Llywodraeth o ran hyrwyddo'r cyfleoedd y gall bod yn rhan o'r lluoedd arfog wrth gefn eu cynnig i'w cyflogwyr, a hefyd a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich ystyriaeth o gynllun sicrhau cyfweliad i gyn-filwyr yn y dyfodol?

Diolchaf i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Diolchaf iddo am ei gydnabyddiaeth o'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ac am y diddordeb parhaus y mae bob amser yn ei gymryd yn y materion hyn. Wrth gwrs, Llywydd, rwy'n cydnabod y cyfraniad y mae milwyr wrth gefn yn ei wneud i'n lluoedd arfog. Bydd llawer ohonom ni'n adnabod pobl sy'n cymryd rhan yn y lluoedd wrth gefn. Mae gen i, yn fy swyddfa fy hun, rywun y rhoddir amser iddo i fynd i helpu yn y ffordd y maen nhw'n ei wneud. Felly, mae'n dda iawn gweld y digwyddiad a gynhaliwyd yn y fan yma—rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ei chynrychioli ynddo, ac yn falch iawn o ychwanegu fy niolch i'r bobl hynny sy'n rhoi o'u hamser a'u hymrwymiad i fod yn filwyr wrth gefn i'r lluoedd arfog.

O ran y cynllun sicrhau cyfweliad, a gwn fod yr Aelod wedi codi hyn gyda mi rai wythnosau yn ôl, bydd yn falch, rwy'n gwybod, o glywed bod nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru—Casnewydd a Thorfaen, er enghraifft—eisoes wedi cyflwyno cynllun sicrhau cyfweliad. Rwy'n disgwyl cael cyngor cyfreithiol a chyngor arall ar y mater hwn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, o ganlyniad i'r sgwrs a gawsom yn y fan yma rai wythnosau yn ôl. Cyn gynted ag y byddaf wedi cael cyfle i ystyried y cyngor hwnnw, ac os oes unrhyw gamau pellach y gallwn ni eu cymryd i'r cyfeiriad hwnnw, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ysgrifennu at yr Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo am y materion hynny.

14:00

Prif Weinidog, er fy mod i'n cymeradwyo ymrwymiad eich Llywodraeth i gyfamod y lluoedd arfog, mae Cymru'n dal i siomi ei chyn-filwyr. Gwrthodwyd mynediad i un o'm hetholwyr i ganolfan adsefydlu yn Lloegr sydd wedi ei chynllunio'n benodol i ymdrin â cholli braich neu goes, ynghyd â'i anhwylder straen wedi trawma, yn ystod gwasanaeth gweithredol. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael y driniaeth orau sydd ar gael—ni waeth ym mha le y darperir y gwasanaeth yn y DU—sy'n diwallu eu hanghenion orau? Diolch.

Wel, Llywydd, dyna'n union y byddem ni'n disgwyl iddo ddigwydd, ond clinigwyr sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, nid gwleidyddion, ac mae'n iawn bod clinigwyr yn rhoi'r cyngor hwnnw i unigolion o ran ble, yn union fel y dywedodd Caroline Jones, y gall unigolion gael y driniaeth orau ar gyfer eu hanghenion. Nid wyf i, wrth gwrs, yn ymwybodol o fanylion yr achos unigol, ond rwy'n gwbl sicr bod y penderfyniadau, a ddylai fod yn unol â'r polisi a amlinellwyd, yn cael eu gwneud gan bobl sydd â'r arbenigedd clinigol angenrheidiol i ddarparu'r cyngor cywir i gleifion, o ble bynnag y daw'r cleifion hynny a beth bynnag fo'u cefndir.

Ansawdd Aer

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ansawdd aer yn Islwyn yn parhau i wella? OAQ54191

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae gwella ansawdd aer i gynorthwyo gwelliannau iechyd, bioamrywiaeth ac amgylcheddol yn Islwyn a ledled Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn ystod hydref eleni, byddwn yn ymgynghori ar gynllun aer glân drafft i Gymru, a bydd y cynllun hwnnw'n nodi'r camau y mae angen eu cymryd ar draws y Llywodraeth a'r sectorau i leihau llygredd aer.

Diolch. Fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, a gaf i groesawu'r gwaith caled a phenderfynol gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r fwrdeistref sirol a arweinir gan Lafur Cymru wrth gydweithio i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol llygredd nitrogen deuocsid ar y A472 yn Hafodyrynys? Yn ddiweddar iawn, ymwelodd Mr Martin Brown, sy'n byw ar y stryd dan sylw, ag un o'm cymorthfeydd gyda'r cynghorydd Llafur lleol dros Grymlyn, Carl Thomas, i glywed y newyddion diweddaraf. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu i bobl Islwyn ymhellach sut y mae cyllideb aer glân Llywodraeth Lafur Cymru a'i hymrwymiad cryf i sicrhau bod trigolion Islwyn yn mwynhau lefelau iach o ansawdd aer wedi galluogi'r Llywodraeth i weithio gyda'r cyngor lleol a, thrwy wneud hynny, sicrhau y caiff trigolion sy'n byw yn y tai yr effeithiwyd arnynt waethaf ar Woodside Terrace eu digolledu'n briodol am eu heiddo i sicrhau na fyddan nhw'n dioddef unrhyw galedi ariannol o ganlyniad i'r camau y mae angen eu cymryd? Ac, yn olaf, Prif Weinidog, beth mae'r camau hyn yn ei ddweud am y modd y gall gwaith partneriaeth agos rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol weddnewid bywydau pobl wrth i ni barhau'r frwydr yn erbyn effeithiau negyddol parhaus llygredd?

Llywydd, hoffwn i ddiolch i Rhianon Passmore. Mae hi, wrth gwrs, yn siarad ar ran ei thrigolion yn Hafodyrynys ac yn Woodside Terrace. Mae hon yn adnabyddus fel ardal lle mae angen gwella ansawdd yr aer ar frys. Gwn y bydd yr Aelod yn falch o glywed bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflwyno, yn unol â'r amserlen a bennwyd gan fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths, eu cynllun ar gyfer ymdrin ag effeithiau negyddol llygredd nitrogen deuocsid yn y lleoliad hwnnw. Mae cynllun y cyngor bwrdeistref sirol gyda Llywodraeth Cymru erbyn hyn. Byddwn yn dilyn y llwybr yr ydym ni wedi ei bennu gyda'r cyngor sir; sy'n golygu y bydd eu cynllun yn cael ei gyflwyno i banel craffu annibynnol. Bydd y panel hwnnw yn adrodd i'r Gweinidog cyn diwedd y mis hwn ac, yn unol â'r llythyr a anfonodd y Gweinidog at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar 9 Ebrill, rydym yn ailadrodd ein hymrwymiad, sef os bydd y mesurau a gynigir gan y cyngor sir yn gwrthsefyll y gwaith craffu hwnnw, yna byddwn yn sicrhau bod cyllid digonol ar gael i'r cyngor bwrdeistref sirol i'w galluogi i weithredu eu cynllun. A bydd y cyllid hwnnw yn dod o'r gronfa aer glân o £20 miliwn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei sefydlu.

14:05

Prif Weinidog, i ymhelaethu ar gwestiwn Rhianon Passmore, byddwn yn llwyr gefnogi'r penderfyniad gan gyngor Caerffili i brynu 23 o'r cartrefi yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y llygredd aer yn Hafodyrynys. Fodd bynnag, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, gwrthododd y cyngor gynlluniau i ddymchwel y tai ac, yn hytrach, hoelio eu gobeithion ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer ar geir yn troi'n lanach ac yn wyrddach yn y blynyddoedd i ddod. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder ynghylch yr oedi o ran gwneud penderfyniad i ddymchwel y tai hyn a achoswyd gan gyngor Caerffili yn osgoi ei gyfrifoldebau i bobl sy'n byw yn y gymuned hon? Diolch.

Llywydd, nid wyf i wedi gweld manylion cynigion y cyngor sir, ond ni fu unrhyw oedi yn yr ystyr eu bod nhw wedi cael eu cyflwyno yn unol â'r amserlen yr oedd y Gweinidog wedi ei phennu, ac rydym ni wedi symud ar unwaith i wneud y cynlluniau hynny yn destun craffu annibynnol. Felly, byddwn yn aros i weld beth mae'r cynlluniau'n ei ddweud. Byddwn yn aros i weld beth fydd gan y trefniadau craffu i'n cynghori ni ar ansawdd y cynlluniau hynny, ond roeddwn i eisiau rhoi sicrwydd i'r Aelod lleol—a rhoddaf yr un sicrwydd i Mohammad Asghar—nad y cyllid fydd y rhwystr i weithredu'r cynlluniau hynny cyn belled â'u bod yn gwrthsefyll y gwaith craffu.

Caniatâd Cynllunio a Newid Defnydd Adeiladau

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganiatâd cynllunio a newid defnydd adeiladau? OAQ54189

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid sylweddol i ddefnydd adeilad fel arfer, ac eithrio lle y mae eisoes wedi ei ganiatáu gan y Gorchymyn dosbarthiadau defnydd a'r Gorchymyn datblygu a ganiateir. Mae'n rhaid gwneud penderfyniad ynghylch unrhyw gais am ganiatâd cynllunio yn unol â'r cynllun datblygu lleol, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.

Diolch. Cau tafarndai yw'r pwnc y mae gen i ddiddordeb ynddo. Roeddem ni'n sôn yn gynharach am gau banciau yng Nghymru; problem arall sy'n effeithio ar y stryd fawr yw cau tafarndai. Rydym ni wedi gweld chwarter y tafarndai yng Nghymru yn cau yn yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr, maen nhw wedi cymryd rhai camau deddfwriaethol yn gysylltiedig â hyn yn Lloegr gyda Deddf Lleoliaeth 2011. Rwyf i wedi gofyn cwestiynau yn y fan yma o'r blaen ynglŷn â pha gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, ond nid yw'n ymddangos fy mod i—neu nid yw'n ymddangos ein bod ni fel Siambr—wedi clywed dim ers i mi godi'r mater ddiwethaf ym mis Chwefror y llynedd. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich syniadau.

Diolchaf i'r Aelod. Rwy'n gobeithio bod gen i newyddion cymharol dda iddo o ran ei gwestiwn. Fel y bydd yn gwybod, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad gan Brifysgol Gorllewin Lloegr yn edrych i weld a yw Gorchmynion dosbarth defnydd cyfredol yn parhau i fod yn addas i'w diben. Er bod y Gorchmynion, yn gyffredinol, yn parhau i gyflawni'r swyddogaethau y'u sefydlwyd ar eu cyfer, daeth yr adroddiad i'r casgliad bod nifer o welliannau y gellid eu gwneud iddyn nhw—yn arbennig, wrth ddiwygio'r Gorchymyn dosbarth defnydd cyfunol a'r Gorchymyn datblygu a ganiateir. Un o'r newidiadau yr ydym ni'n bwriadu ei gyflwyno y flwyddyn nesaf fydd darparu mwy o fesurau diogelu i dafarndai.

Nawr, bydd y cynigion yn ceisio sicrhau na chaiff unrhyw dafarn newid ei defnydd na chael ei dymchwel heb gael caniatâd cynllunio yn gyntaf. Ac mae hynny'n mynd i newid, oherwydd bydd yn golygu y bydd lefel uwch o graffu pan fyddai cynigion datblygu fel arall yn arwain at golli ased cymunedol yn barhaol, ac mae llawer o'n tafarndai yn asedau cymunedol pwysig iawn mewn trefi a phentrefi yng Nghymru.

Ceir nifer o gynigion eraill sy'n deillio o'r gwaith a wnaed gan Brifysgol Gorllewin Lloegr. Byddwn yn eu dwyn ynghyd yn rhan o gydgyfnerthu ehangach o ddeddfwriaeth gynllunio, ac rydym ni'n bwriadu dod i lawr y Siambr y flwyddyn nesaf i wneud y newidiadau hynny i'r ddeddfwriaeth.

Prif Weinidog, mae angen i ni fod yn ofalus iawn gyda'n hadeiladau mwyaf gwerthfawr. Efallai eich bod chi wedi clywed bod cynlluniau'n cael eu hystyried erbyn hyn—nid wyf i'n disgwyl i chi wneud sylwadau ar y rhain, ond mae cynlluniau'n cael eu hystyried ar gyfer datblygu siop Howells. Ac maen nhw'n ddiddorol iawn, a bod yn deg. Maen nhw'n haeddu cael eu harchwilio'n drylwyr. Ac, os trown ni at lyfr gwych Newman ar adeiladau Morgannwg, dywed am ychwanegiad Howells gan Percy Thomas yn 1928, a dyfynnaf:

Mae hwn yn ddehongliad gwych o glasuriaeth Beaux-Arts Americanaidd.

Ac mae awduron eraill wedi dweud ei bod yn sleisen o Chicago yng Nghaerdydd. Ond llyncodd ychwanegiad diweddarach gapel Bedyddwyr Bethany, a sylwaf y gallai hwn gael ei ryddhau eto nawr. Ond y wers yn y fan yma yw bod angen i ni addasu adeiladau fel y gellir eu defnyddio ym mhob cenhedlaeth, ond ei wneud gyda gofal mawr, oherwydd nid oedd yr hyn a wnaed yn y 1960au i gapel Bethany yn enghraifft o arfer gorau.

14:10

Wel, diolchaf i'r Aelod am hynna ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd. Ac mae hon wedi bod yn dipyn o thema ar lawr y Cynulliad yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Cefais rywfaint o waith i'w wneud yn dilyn cwestiwn Nick Ramsay wythnos neu ddwy yn ôl am Troy House. Nawr, o'r gwaith hwnnw, rwy'n credu ein bod ni eisoes yn gwybod bod gofyniad statudol, mewn unrhyw gynnig cynllunio, i roi ystyriaeth arbennig i ddymunoldeb cadw adeiladau lle mae gan yr adeiladau hynny statws arbennig o'r math y mae David Melding wedi cyfeirio ato y prynhawn yma. Felly, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Rydym ni'n edrych i weld a yw'r trefniadau cynllunio presennol yn cefnogi'r canlyniad hwnnw yn y modd y byddem ni'n dymuno iddyn nhw ei wneud. Mae'r gofyniad statudol yn amddiffyniad pwysig sydd gennym ni eisoes yn y ffordd y mae ein cyfraith gynllunio yn gweithredu, ond rwyf i wedi gofyn i swyddogion roi cyngor i mi ynghylch pa a oes unrhyw ffyrdd eraill y gellid cryfhau hynny er mwyn sicrhau, pan gaiff cynigion eu gwneud, eu bod nhw'n rhoi ystyriaeth gwbl briodol i natur ac arwyddocâd hanesyddol adeiladau, ond bod yr adeiladau hynny angen dyfodol yn ogystal â gorffennol a bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o wneud yn siŵr bod ffyrdd dichonol i'r adeiladau hynny allu parhau i fod â diben byw.

Pryd, Brif Weinidog, welwn ni Lywodraeth Cymru’n cyflwyno rheolau newydd a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gael caniatâd cynllunio er mwyn troi tŷ preswyl yn dŷ haf neu’n dŷ gwyliau?

Wel, dwi’n gyfarwydd, wrth gwrs, gyda’r ddadl sydd tu ôl i’r cwestiwn ac mae ein swyddogion ni wedi edrych yn fanwl ar y wybodaeth sydd yna yn y maes i weld os yw’r rheolau sydd gyda ni ar hyn o bryd yn deg i bob un neu os oes bwlch wedi codi yn y rheoliadau lle bydd yn rhaid inni fynd yn ôl i wneud rhywbeth arall. Rŷm ni’n dibynnu ar y wybodaeth sydd yn dod i mewn o'r awdurdodau lleol ac rŷm ni wedi cael peth gwybodaeth oddi wrth Wynedd, er enghraifft, am yr effaith maen nhw’n meddwl maen nhw'n ei weld yn y maes lleol. Dŷn ni ddim ar hyn o bryd yn siŵr os yw hynna’n dod at y point lle mai newid y rheoliadau yw’r ffordd orau i ddatrys y broblem, os oes problem i’w ddatrys, ond rŷm ni’n agored i’r ddadl, rŷm ni’n casglu’r wybodaeth ac, os yw’r achos yna, fel Llywodraeth, rŷm ni’n agored i weld os oes rhywbeth arall bydd yn rhaid inni ei wneud i newid y rheoliadau.

Lleihau Tlodi Plant

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau tlodi plant? OAQ54190

Diolchaf i Lynne Neagle am hynna. Mae'n annerbyniol i gyfleoedd bywyd plentyn gael eu penderfynu ar sail ei amgylchiadau cymdeithasol neu economaidd. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn arwain adolygiad o raglenni ariannu Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod nhw'n cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi.

Diolch, Prif Weinidog. Fis diwethaf, yn dilyn dadl Aelod unigol, dan arweiniad fy nghyd-Aelod, John Griffiths, pleidleisiodd ACau o blaid Llywodraeth Cymru yn cyflwyno strategaeth newydd i fynd i'r afael â thlodi ynghyd â chyllideb fanwl a chynllun gweithredu i'w rhoi ar waith. O ystyried y gefnogaeth drawsbleidiol amlwg sydd i fwy o weithredu yn y maes hwn, pryd fydd y strategaeth yn cael ei chyflwyno? A pha sicrwydd allwch chi ei roi y bydd yn cael ei hategu gan dargedau eglur, cyllidebau tryloyw ac arweinyddiaeth weinidogol gref?

Wel, Llywydd, rydym ni'n dal i ystyried, wrth gwrs, y cynnig a basiwyd yma ar lawr y Cynulliad. Rwyf i o blaid yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn rhan gyntaf ei chwestiwn atodol. Rwyf i o blaid camau sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant yma yng Nghymru. Rwyf i o blaid adeiladu ar yr hanes y mae Llywodraethau olynol wedi ei sicrhau lle'r ydym ni'n sefydlu polisïau a rhaglenni yma yng Nghymru sy'n golygu bod arian yn cael ei adael ym mhocedi teuluoedd y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu arian am wasanaethau fel arall.

Felly, mae'r ffaith bod gennym ni £244 miliwn yn ein cynllun rhyddhad treth gyngor yn golygu y byddai'r teuluoedd hynny a fyddai fel arall—ac ar draws ein ffin—yn talu bob wythnos am y dreth gyngor yn cael yr arian hwnnw wedi ei adael yn eu poced yma yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod arian ganddyn nhw i'w wario ar les plant. Pan fyddwch chi'n diddymu ffioedd presgripsiwn, pan fo gennych chi'r cynnig gofal plant mwyaf hael yng Nghymru, pan fyddwch chi'n ariannu prydau ysgol am ddim newydd pan nad ydyn nhw'n cael eu hariannu yn Lloegr, pan fo gennych chi frecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd, pan fo gennym ni'r unig raglen genedlaethol o gyfoethogi gwyliau ysgol—mae hynny i gyd, Llywydd, yn dod i fwy na £0.5 biliwn, a phe na byddai'n cael ei ddarparu gan y rhaglenni y mae Llywodraethau olynol yn y fan yma wedi eu datblygu, byddai teuluoedd yn gorfod talu am y pethau hynny o'u pocedi eu hunain. Mae hynny'n gadael, ym mhocedi teuluoedd yng Nghymru, unrhyw beth rhwng £1,000 a £2,000 bob blwyddyn. Dyna'r math o gamau ymarferol yr wyf i'n credu sydd yn nwylo awdurdodau cyhoeddus Cymru.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Lynne Neagle am yr angen i gymryd camau pellach fel bod gan deuluoedd arian y gallan nhw ei wario i ddiwallu anghenion eu plant a'u teuluoedd ehangach. Byddwn yn edrych i weld beth arall y gellir ei wneud. Byddwn yn edrych arno yng nghyd-destun y cynnig a basiwyd yma ar lawr y Cynulliad. Ond byddwch yn gwybod—bydd yr Aelodau yn y fan yma yn gwybod—mai'r feirniadaeth o'r Cynulliad Cenedlaethol yn aml yw ein bod ni'n ffatri strategaethau ac nad yw'r strategaethau hynny bob amser yn effeithio ar fywydau teuluoedd yn y ffordd y byddem ni wedi dymuno ei gweld. Mae gen i ddiddordeb yn y pethau y gallwn ni eu gwneud sy'n gwneud gwahaniaeth ac sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant a fyddai fel arall yn byw mewn tlodi, a dyna'r hyn y byddwn ni'n canolbwyntio arno.

14:15

Rwy'n llwyr gefnogi galwad Lynne Neagle a gofynnaf i chi ailystyried hynny, o gofio bod Comisiynydd Plant Cymru wedi galw ym mis Mawrth am gynllun cyflawni newydd ar dlodi plant yng Nghymru. [Torri ar draws.] A oes problem sain?

Nid wyf i'n gallu ei glywed.

Os gallwch chi—. Doedd eich meicroffon ddim yn—. Na, peidiwch â'i symud. Dyna'r peth gwaethaf i'w wneud. Nid oedd eich meicroffon ymlaen ar ddechrau'r cwestiwn. Ymddiheuraf am hynny. Os gallwch chi ailadrodd eich cwestiwn fel y gall y Prif Weinidog glywed.

Iawn. Pleidleisiais gyda Lynne Neagle yn y ddadl y cyfeiriodd hi ati. Rwy'n llwyr gefnogi ei galwad, a gofynnaf i chi ailystyried y pwynt penodol a gododd hi pan alwodd Comisiynydd Plant Cymru ar Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth am gynllun cyflawni newydd ar dlodi plant.

Hyd yn oed cyn y cwymp ariannol, roedd gan Gymru'r lefelau tlodi plant uchaf yn y DU: 29 y cant yn 2007, 32 y cant yn 2008—hyd yn oed cyn y cwymp. Yn 2012, dywedodd 'Child Poverty Snapshots' gan Achub y plant mai Cymru sydd â'r cyfraddau tlodi plant a thlodi plant difrifol uchaf o blith holl wledydd y DU. Ym mis Mai, dywedodd y rhwydwaith Dileu Tlodi Plant mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle bu cynnydd o ran tlodi plant y llynedd.

Wel, mae hi'n Wythnos Cyd-gynhyrchu Genedlaethol, fel yr atgoffodd Ymddiriedolaeth Carnegie rai ohonom ni ddoe. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r datganiad yn 'Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Plant a Theuluoedd 2018' Plant yng Nghymru? Gofynnodd i ymatebwyr, pobl yn ein cymunedau, beth oedden nhw ei gredu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud i leihau tlodi plant a theuluoedd, a'r sylw cyntaf a ddyfynnwyd oedd

'Buddsoddi mewn cymunedau lleol—ymgysylltu â phobl leol a gweithio drwy strategaethau o’r gwaelod i fyny ar gyfer rhaglenni adfywio'.

Er gwaetha'r rhethreg, er gwaethaf y biliynau a wariwyd, nid yw hyn wedi digwydd, nid yw'n digwydd, ac mae'n rhaid iddo ddigwydd o fewn y strategaeth os ydym ni am fynd i'r afael â'r cywilydd hwn o'r diwedd.

Wel, Llywydd, rwy'n llwyr o blaid llunio polisïau tlodi plant mewn trafodaeth â'r bobl hynny sy'n destun polisïau. Pan fyddaf i'n siarad â theuluoedd yn fy etholaeth i sydd yn dioddef tlodi plant, yna'r pethau y maen nhw'n siarad â mi amdanynt yw'r ffaith bod eu budd-daliadau wedi eu rhewi ers y flwyddyn 2015, bod yn rhaid iddyn nhw dalu'r dreth ystafell wely am y fraint o gael rhywle lle gall eu wyrion a'u wyresau ddod i aros gyda nhw, a lle, os ydych chi'n deulu â mwy na thri o blant, y cewch chi eich cosbi gan gap plant y Llywodraeth Geidwadol. Felly, hanes tlodi plant yn ystod datganoli, Llywydd, yw bod tlodi plant yng Nghymru wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod y 10 mlynedd cyntaf, ac yn yr ail ddegawd, bydd y degawd yn dod i ben gyda 50,000 yn fwy o blant mewn tlodi nag a oedd ar ei ddechrau. Wrth gwrs, mae angen i ni lunio ein hymatebion ochr yn ochr â'r bobl hynny sy'n destun y polisïau hynny, ond dyna'r polisïau sydd wedi achosi tlodi plant. Maen nhw wedi gwneud hynny'n fwriadol ac yn ymwybodol, ac mae'n bryd i'r pleidiau yn y Siambr hon sy'n gyfrifol am y polisïau hynny gyfaddef hynny.

14:20
Ansawdd Rheolaeth y GIG

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ansawdd rheolaeth y GIG? OAQ54188

Bydd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn cefnogi dull system gyfan o sicrhau ansawdd yn y GIG, a bydd yn ofynnol i reolwyr y GIG sicrhau diwylliant o fod yn agored ac yn onest, a chynnwys y cyhoedd yn well ac yn barhaus yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol integredig.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond a yw'n cydnabod bod pryder eang ynghylch capasiti rhai adrannau o reolaeth y GIG yng Nghymru i ymdrin yn effeithiol, yn enwedig o ran ymdrin â chwynion a phryderon a chyda chwythu'r chwiban? Ac a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen arnom ni nawr, yn ogystal â'r ddeddfwriaeth y mae wedi sôn amdani, gyfres o gymwyseddau craidd sy'n seiliedig ar werthoedd cenedlaethol ar gyfer ein rheolwyr yn y GIG yng Nghymru, ac y dylai fod angen i'r rheolwyr hynny fod ar gofrestr genedlaethol, lle mae'n rhaid iddyn nhw brofi eu bod yn dal i fod yn gymwys, yn union fel y mae ein meddygon a'n nyrsys yn ei wneud, er mwyn osgoi sefyllfa lle gall pobl symud o gwmpas y system? Pan eu bod nhw wedi methu mewn un man, gallan nhw ymddangos yn rhywle arall. Rydym ni'n gwybod bod hynny'n digwydd.

Diolchaf i'r Aelod am hynna ac edrychaf ymlaen at ei chlywed yn cyflwyno'n fwy manwl ei syniadau yn y maes hwn yfory. Mae'n faes pwysig i'w drafod, a chredaf y bydd yfory'n gyfraniad gwerthfawr i  hynny. Bydd cyfres, fel y mae hi'n gwybod, rwy'n siŵr, o gwestiynau cymhleth a fydd y tu ôl i'r penawdau: yr angen i allu diffinio'r hyn yr ydym ni'n ei olygu wrth ddweud 'rheolwr' mewn termau deddfwriaethol, i ddysgu o rai o'r profiadau yr ydym ni wedi eu cael yn y sector gofal cymdeithasol , lle'r ydym ni wedi cael fframweithiau rheoleiddio yn cystadlu â'i gilydd, er enghraifft, ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal sydd hefyd wedi eu cofrestru fel nyrsys. O dan ba un o'r ddwy system y maen nhw'n gweithredu oddi tanynt y dylid eu dwyn i gyfrif? Sut, mewn gweithlu rheoli y byddech chi'n gwahaniaethu, er enghraifft, rhwng rhywun sydd â chyfrifoldebau am y gweithlu a rhywun sy'n gyfrifol am reoli cyllideb corff iechyd? Felly, rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig, ond rwy'n credu ei bod yn ddadl gymhleth hefyd, ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn y bydd yr Aelod yn ei ddweud yfory. Yn y cyfamser, bydd y Bil y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno, rwy'n credu, yn gwneud cyfraniad sylweddol at y materion cyffredinol y dechreuodd Helen Mary Jones ei chwestiwn â nhw, a bydd hynny hefyd yn destun craffu drwy'r Cynulliad ac yn ddi-au yn cael ei wella o ganlyniad i hynny.

Mae fy nghyd-Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn, ond nid yw eu gadael ar gyfer dadl yfory, i gnoi cil arnynt dros yr ychydig fisoedd nesaf, yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn cyrraedd hanfod yr argyfwng presennol sydd gennym ni, yn fy marn i.

Prif Weinidog, rydych chi'n gwybod cystal â minnau bod gennym ni nifer o fyrddau iechyd sydd mewn cyflwr truenus. Mae gennym ni ddiffyg gwaed ffres, mae gennym ni'r un tîm yn mynd o gwmpas, gyda chadeiryddion yn cael eu hailbenodi i fyrddau iechyd newydd sydd wedi bod mewn bodolaeth mewn byrddau iechyd sydd eisoes mewn trafferthion. Mae gennym ni brif weithredwyr, mae gennym ni dimau rheoli cyfan, mae gennym ni Weinidog iechyd y mae gennych chi ffydd ynddo yn llwyr ac rydych chi'n dweud nag ef yw'r broblem. Wel, os nad chi, eich Llywodraeth, eich Gweinidog iechyd, gweddill eich cyd-Weinidogion yn y Cabinet sy'n gyfrifol am y broblem gyda'n GIG, yna siawns mai uwch reolwyr y GIG sy'n gyfrifol, gan y telir yr arian mawr iddyn nhw i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein cleifion, a thelir yr arian mawr iddyn nhw i fod yn atebol.

Yr hyn yr hoffwn i ei ddeall, drwy'r cwestiwn hwn, yw pa fesurau atebolrwydd ac ansawdd sydd ar waith ar hyn o bryd, nid beth allai ddod yn ddiweddarach ymhen misoedd a blynyddoedd i ddod, ond nawr, heddiw, fel ein bod ni'n gwybod bod gennym ni'r tîm gorau yn gweithio ar y mater. Oherwydd pan edrychwch chi ar y bagiau post sydd gan bob un ohonom ni'n dod drwy ein drysau, nid ydym yn gweld y dystiolaeth ar y rheng flaen.

14:25

Wel, Llywydd, dyma GIG Cymru, a oedd, ddiwedd mis Mawrth, ar ddiwedd y cylch blynyddol o adrodd, â'r amseroedd aros isaf ers 2013, llai o bobl yn aros mwy na 26 wythnos nag yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gwasanaeth iechyd lle mae 30 y cant yn fwy o bobl yn cael eu trin o fewn amseroedd aros ar gyfer canser nag yr oedden nhw bum mlynedd yn ôl, a lle mae cyfraddau goroesi yn well nag erioed o'r blaen ar ôl blwyddyn a phum mlynedd, gwasanaeth iechyd lle'r oedd achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, yn 2017 a 2018, y ddwy flynedd isaf ers i'r ffigurau hynny gael eu casglu erioed. Dyma'r gwasanaeth iechyd y mae'r Aelod yn dymuno ei ddisgrifio fel un sydd mewn cyflwr enbyd. Nid yw'n wir o gwbl. Yn syml, nid yw'n adlewyrchu cyflwr y gwasanaeth y mae miliynau o bobl yn ei gael gan GIG Cymru o'r naill flwyddyn i'r llall. Nid yw ei ddychanu yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei wneud yn gwneud dim i sicrhau—[Torri ar draws.]—dim i sicrhau'r gwelliannau y byddem ni a hithau yn dymuno eu gweld. Ac mae'r gwelliannau hynny yr wyf i wedi eu hamlinellu yn deillio'n rhannol o'r ymdrechion y mae rheolwyr y GIG, yn ogystal â chlinigwyr ac eraill, yn eu gwneud. Rydym ni eisiau system o atebolrwydd eglur ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni system sy'n canolbwyntio ar ansawdd. Mae gennym ni un eisoes; rydym ni eisiau ei gwella ymhellach. Dyna pam yr ydym ni'n cyflwyno deddfwriaeth, ac mae angen i'r ddeddfwriaeth fod yn seiliedig ar ffeithiau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, nid rhyw fath o ymgais gyffredinol i fychanu ei enw da, pan nad yw'r dystiolaeth ar gyfer hynny ar gael o gwbl.

Y Cynnig Gofal Plant yn Ogwr

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y cynnig gofal plant yn Ogwr? OAQ54142

Mae cynnig gofal plant uchelgeisiol y Llywodraeth hon wedi bod ar gael i rieni yn Ogwr ers diwedd mis Ebrill eleni. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae dros 300 o deuluoedd wedi manteisio ar y cynnig, gyda mwy o geisiadau'n dod i mewn bob wythnos.

Mae'n newyddion gwirioneddol wych nid yn unig bod y cynnig gofal plant nid yn unig yn cydymffurfio â'r amserlen ond yn rhagori ar hynny, gan ei fod yn caniatáu i ni feddwl, nawr, beth allai ddod nesaf mewn dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â darpariaeth y blynyddoedd cynnar hefyd. Mae gennym ni amser i feddwl nawr. Ond mae'n newyddion da iawn. A gaf i ofyn—a diolchaf i'r Gweinidog am y trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael eisoes—bod y swyddogion y tu ôl i'r iteriad ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn sicrhau eu bod nhw'n cael trafodaeth dda gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? Y rheswm am hynny yw eu bod nhw, yn hanesyddol, wedi gorddarparu'r cyfnod sylfaen gan oddeutu 25 i 30 awr y plentyn. Nawr, mae hyn ymhell ar y blaen i lawer o ardaloedd awdurdod lleol eraill yng Nghymru, ond mae hyn cyn ein bod ni wedi dechrau ar y cynnig gofal plant. Felly, rwy'n meddwl tybed, gan weithio gyda'r Gweinidog rhagorol sydd gennym ni ar gyfer y cynnig gofal plant a'i swyddogion, a allem ni wneud yn siŵr ein bod ni'n ymgysylltu â Phen-y-bont ar Ogwr, ac nid cadw'r brych a lluchio'r babi. Mae'n ddrwg gen i—nid bod unrhyw fabanod yn rhan o hyn o gwbl. Ond i wneud yn siŵr bod y plant sydd eisoes yn cael addysg y blynyddoedd cynnar ragorol yn y cyfnod sylfaen yn parhau i gael darpariaeth, yn y dyfodol, wrth i hyn esblygu i'r cynllun newydd.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y ddau bwynt yna a diolch iddo am ein hatgoffa bod cyflwyno'r cynnig gofal plant yng Nghymru yn digwydd yn gynharach na'r disgwyl ac ar gael ym mhob rhan o Gymru erbyn hyn. Gan feddwl am gwestiwn cynharach Lynne Neagle, mae 88 y cant o'r teuluoedd sy'n cymryd rhan yn y cynnig gofal plant yn dweud bod ganddyn nhw fwy o arian ar ôl yn eu pocedi at ddibenion eraill ar ddiwedd bob un wythnos.

O ran y pwynt arall a wnaeth Huw Irranca-Davies ynghylch materion sy'n benodol i Ben-y-bont ar Ogwr, bydd yn falch o wybod bod Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog, yn cyfarfod â'r Cynghorydd Huw David, arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ar 9 Gorffennaf, yr wythnos nesaf. Trefnwyd y cyfarfod hwnnw i drafod gofal plant a chyfleoedd ehangach i weithio ar y cyd ar waith y blynyddoedd cynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n siŵr y bydd y materion y mae'r Aelod lleol wedi eu codi y prynhawn yma yn rhan o'r agenda honno.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Ceir un newid i'r agenda heddiw, sef bod y datganiad ar y cynllun gweithredu economaidd a'r mesurau datblygu economaidd wedi ei dynnu'n ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Doeddwn i ddim yn gallu clywed y Trefnydd yn y fan yna. Os gallwn ni gynnal ein trafodion mewn ychydig mwy o dawelwch, byddai hynny'n helpu. Ond rwy'n tybio ei bod hi wedi dweud rhywbeth digon tebyg i'r hyn a oedd yn y datganiad busnes y bore yma, felly fe awn ymlaen. Wnaf i ddim gofyn i chi ei ailadrodd. Janet Finch-Saunders.

14:30

Diolch, Llywydd. Trefnydd, ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o ymweld â thri chartref gofal yn y gogledd-orllewin. Fe gadarnhaodd y profiad hwn yr hyn a ddywedais yma yn y Senedd y mis diwethaf—fod argyfwng difrifol iawn yn ein hwynebu mewn cartrefi gofal. Yr hyn a welais oedd darparwyr gofal yn gwneud eu gorau glas i sicrhau eu bod yn darparu gofal o ansawdd uchel. Fodd bynnag, maen nhw'n gorfod gwneud hyn wrth frwydro i gael dau ben llinyn ynghyd, oherwydd cyllido annheg gan awdurdodau lleol, ac yn enwedig, bwrdd iechyd gogledd Cymru. Daw hyn â mi at y ffeithiau syfrdanol yr wyf eisiau i bob un ohonoch fod yn ymwybodol ohonynt.

Ar 26 Mehefin 2019, anfonodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr e-bost at ddarparwyr gofal, yn nodi eu bod newydd gymeradwyo'r ffioedd gofal iechyd parhaus ar gyfer 2018-19. Yr hyn a olyga mewn gwirionedd yw bod cartrefi gofal yn derbyn cleifion o ysbytai, a dim ond yr wythnos diwethaf y cawsant wybod am yr hyn y cânt eu talu am ofal a ddarperir o 1 Ebrill ymlaen. Rydym bellach ym mis Gorffennaf. Felly, mewn un achos, roedd hyn yn golygu nad oedd cartref yn gwybod faint o arian a delir iddyn nhw am tua 50 y cant o'u cleientiaid. Mae'n amhosibl rheoli busnes yn iawn—a dyna mae darparwyr cartrefi gofal yn ei wneud: maen nhw'n rhedeg busnes hanfodol iawn, un y mae mawr angen amdano hefyd a hynny gyda chymaint o ansicrwydd cyllidebol. Felly, credaf yn wir ein bod yn agos iawn at golli 1,500 o welyau yng Nghymru erbyn 2024. Dyna'r ffigur y mae pobl yn y sector gofal wedi'i ddarogan. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn niweidio'r sector cartrefi gofal, sy'n gwneud cymaint i'w helpu.

A wnewch chi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymrwymo i wneud datganiad ar ffioedd y cynghorau iechyd cymuned, a chynnal ymchwiliad er mwyn canfod pam mai dim ond yn awr y mae darparwyr gofal yn cael eu cynghori ynghylch faint y byddant yn cael eu talu am y gwasanaethau gwych a ddarparant? Nid yw hyn yn ffordd i unrhyw gwmni redeg busnes. Mae gan gwmni sy'n gofalu ac yn darparu triniaeth, gofal a chymorth ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yr hawl i wybod sut y gallant drefnu eu gofynion ariannol eu hunain. Felly, rwy'n credu bod hyn nid yn unig yn fethiant ar ran y bwrdd i

echyd, ond rwy'n credu ei fod yn wendid ar ran eich Llywodraeth. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr i weld eich bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif, os gwelwch yn dda. Diolch.

Wel, Llywydd, mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yma i wrando ar bryderon Janet Finch-Saunders, ond efallai, os bydd hi'n rhoi manylion y pryderon penodol hynny mewn gohebiaeth i'r Gweinidog iechyd, fe fydd yn gallu edrych arnynt yn fwy manwl.

Trefnydd, roedd datblygu astudiaeth ddichonoldeb i fetro bae Abertawe a Chymoedd y gorllewin yn rhywbeth y cytunwyd arno rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o gyllideb 2017. Ers hynny, gyda Chyngor Abertawe yn arwain ar y rhan o waith rhanbarthol, yr ydym wedi clywed Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei bod yn cefnogi datblygu gorsaf reilffordd parcffordd yn y gorllewin, ar dir yn Felindre, Abertawe. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn gyson wrth ddweud na ellir edrych ar welliannau i'r rheilffyrdd rhwng y dwyrain a'r gorllewin ar eu pen eu hunain, a bod angen i'r metro ym mae Abertawe a Chymoedd y gorllewin, yn ogystal â gweld gwasanaethau i orsafoedd Abertawe a Chastell-nedd wedi'u diogelu, ail-ddechrau defnyddio llwybrau eraill unwaith eto—llwybr rheilffordd Dyffryn Aman ac Abertawe, er enghraifft—a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth o safon i gymoedd Castell-nedd, Dulais ac Afan. Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad a gweledigaeth ar y mater hwn. Ac yn ôl ym mis Chwefror, gofynnais i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth gyflwyno datganiad am y modd y mae'n gweld parcffordd y gorllewin yn cyd-gysylltu â'r her ehangach o ddatblygu rhagor o seilwaith rheilffyrdd a thramiau yn y rhanbarth, fel rhan o fetro bae Abertawe. Dywedasoch y byddai'r Gweinidog yn barod i wneud hynny, ond hyd yma, ni neilltuwyd amser ar gyfer hyn. A gaf i ofyn eto, felly—bron i bum mis yn ddiweddarach—a ellir rhoi amser nawr am ddatganiad ar y mater pwysig hwn yn y Siambr hon?

Diolch ichi am godi'r mater hwn. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn na all unrhyw orsaf barcffordd fod ar draul canol dinas Abertawe, a chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y datganiad hwnnw'n glir iawn. Mae gennym ddadl yfory sy'n edrych ar ddyfodol Trafnidiaeth i Gymru, felly gallai hynny fod yn gyfle i godi'r pryderon penodol hyn gyda'r Gweinidog trafnidiaeth. Ond byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y mater penodol hwn.

Gweinidog, a gaf fi ofyn am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r cyhoeddiad ynglŷn â chynllun hirdymor GIG Lloegr fod tua 14 o ganolfannau hapchwarae'r GIG i gael eu sefydlu, wedi'u hariannu'n rhannol gan y Comisiwn Hapchwarae. Ymddengys i mi fod hwn yn faes y dylem fod yn gweithredu arno ein hunain, a tybed a fyddai modd inni gael datganiad ynghylch pa geisiadau a wnaed am gyllid gan y Comisiwn Hapchwarae i sicrhau bod yr arian annigonol a godir, ar ffurf ardoll wirfoddol ar gyfer y Comisiwn Hapchwarae, hefyd yn cael ei rannu'n gyfartal ledled y DU. Byddai'r adnoddau, felly, ar gael i ni hefyd ddelio â'r mater hwn, fel y nodwyd yn adroddiad y prif swyddog meddygol y llynedd.

Ac a gaf i ofyn hefyd am ddatganiad ynglŷn â'r sefyllfa o ran gweithwyr Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr—mae 200 ohonyn nhw'n byw yn fy etholaeth i? Ysgrifennodd un etholwr ataf a dweud, 'Mae'r cwmni wedi cynnig pecyn diswyddo imi, gan gynnwys pensiwn gohiriedig i'w gymryd pan fyddaf yn 55. Rwyf yn 46 oed.' Y pwynt y mae'n ei godi yw, o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth y DU yn yr oedran pensiwn, mae'n golygu i bob pwrpas y bydd yn colli oddeutu £50,000 i £60,000. Ymddengys i mi fod hyn yn anghysonder difrifol yn y modd y caiff gweithwyr Ford eu trin, a gwn yn sicr ei fod yn fater y bydd yr undebau'n debygol o'i godi, ond fe allem ni ei godi hefyd, o ran pa mor deg y mae gweithwyr Cymru'n cael eu trin yn y mater hwn.

14:35

Diolch i Mick Antoniw am godi'r ddau fater hyn. O ran y cyntaf, sy'n ymwneud â hapchwarae, gwn fod swyddogion iechyd yn cael rhai trafodaethau i archwilio pa arian, os o gwbl, a allai ddod i Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â gamblo, oherwydd, fel y nododd Mick, fe edrychodd adroddiad y prif swyddog meddygol yn benodol ar bennod am gamblo, ac ers hynny, fe wnaed rhai gwelliannau sylweddol. Felly, mae cwestiynau ar gamblo wedi cael eu hychwanegu at yr arolwg o ymddygiad iechyd plant oedran ysgol ac ymchwil rhwydwaith iechyd ysgolion yn ystod 2017-18. Hefyd, bydd cwestiynau ar amlder, cyfranogiad ac agweddau tuag at gamblo yn cael eu cynnwys yn yr arolwg cenedlaethol am y tro cyntaf yn 2020-21. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Mick wedi bod yn gofyn amdano'n gryf iawn ers amser maith.

Mae'r prif swyddog meddygol wedi cael trafodaethau gyda GambleAware a chyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd yng Nghymru i archwilio sut y gellir defnyddio gwasanaethau presennol, megis gwasanaethau cymorth iechyd meddwl, i gefnogi gamblwyr problemus, ac wrth gwrs, ar 1 Gorffennaf, fe lansiwyd rhaglen newydd genedlaethol Cyngor ar Bopeth, gyda dwy ganolfan gymorth newydd yn sir Ddinbych a Rhondda Cynon Taf, a bydd y rheini'n gallu darparu hyfforddiant allgymorth i drydydd parti i sicrhau bod gweithwyr rheng flaen yn meddu ar y sgiliau perthnasol i adnabod a chefnogi pobl â phroblem gamblo. Ac rwy'n gwybod bod gan Mick gwestiwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pwnc hwn yfory, felly bydd yn gallu rhoi rhagor o fanylion am y cynnydd sydd wedi'i wneud ers adroddiad y prif swyddog meddygol.

O ran pensiynau, yn amlwg, mae'r hyn a ddisgrifiodd Mick yn destun pryder mawr, a byddem wrth reswm yn annog Ford i roi'r fargen orau posibl i'w gweithwyr ffyddlon. Mae pwynt Mick yn ein hatgoffa, wrth gwrs, fod gweithwyr Ford ar hyd a lled Cymru, yn enwedig yn y de, ac yn sicr bydd angen i Lywodraeth Cymru a'u hundebau gyflwyno neges gref bod yn rhaid cael tegwch wrth wraidd unrhyw fargen. 

Bydd ffrwd waith pobl y tasglu, ar y cyd â Ford, yr undebau llafur a'r rheoleiddiwr pensiynau, yn ystyried darparu cyngor annibynnol priodol i'r gweithlu wrth iddyn nhw gynllunio eu dyfodol ariannol, ond byddaf yn sicr o ddod â'r astudiaeth achos a gyflwynwyd gan Mick i sylw'r tasglu hwnnw.  

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar droseddau casineb trawsryweddol yng Nghymru? Mae ffigurau a gafwyd gan y BBC o heddluoedd yng Nghymru yn dangos bod nifer y troseddau casineb trawsryweddol a gofnodwyd wedi mwy na dyblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n bosib bod rhywfaint o'r cynnydd hwn o ganlyniad i dangofnodi yn y gorffennol a bod mwy o bobl bellach yn barod i ddod ymlaen i roi gwybod am eu profiadau, mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir bod camdriniaeth neu drais a gyfeirir at bobl ar sail trawsrywedd ar gynnydd. A gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog ynghylch beth yn rhagor y gellir ei wneud i amddiffyn pobl drawsryweddol ac i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion trawsryweddol yn y gymuned ehangach yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar iawn fod y pwynt hwn wedi cael ei godi yn y Siambr. Mae'n amlwg fod troseddau casineb yn ei holl ffurfiau yn peri pryder mawr i ni. Ac mae'n destun pryder mawr bod nifer y bobl sy'n cyflwyno'u hunain fel dioddefwyr troseddau casineb trawsryweddol wedi cynyddu. Os yw'n wir bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i fod yn agored am hyn, mae hynny ynddo'i hun yn beth cadarnhaol, ond er hynny mae unrhyw drosedd casineb o'r math hwn yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid inni weithio'n drawsbleidiol i fynd i'r afael ag ef, ond fe wnaf yn siŵr fod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes penodol hwn.FootnoteLink

14:40

Y penwythnos diwethaf, treuliais y noson yn Abertawe gyda grŵp o wirfoddolwyr sy'n mynd allan bob nos Sul gyda bwyd, deunydd ymolchi, dillad cynnes ac ati ar gyfer bobl ddigartref. Doedd gan rai o'r bobl y siaradais i â hwy ddim byd o gwbl, ac roedden nhw'n ddiolchgar iawn am y bwyd a'r darpariaethau, ac fe wnaethant rannu rhai o'u profiadau â ni. Clywais gan nifer o bobl sut yr oedden nhw neu eu ffrindiau wedi cael eu harestio o dan y Ddeddf Crwydradaeth. Nawr, cyflwynwyd y Ddeddf Crwydradaeth ym 1824. Mae'n hen ffasiwn. Fe'i cyflwynwyd i fynd i'r afael â digartrefedd a achoswyd gan gyn-filwyr yn dychwelyd o'r rhyfeloedd Napoleonaidd. Yn benodol, mae'n gwneud cysgu allan a chardota yn drosedd—gallwch gael eich arestio am y naill neu'r llall. Dywedodd un fenyw ifanc wrthyf nos Sul, 'Mae'n anghyfreithlon bod yn ddigartref, eto nid yw'n anghyfreithlon gwneud rhywun yn ddigartref,' ac roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n ddatganiad eithaf dwys. Dywedodd wrthym fod yr heddlu'n clirio'r strydoedd yn rheolaidd, yn arestio pobl ac yn symud eu heiddo, er gwaethaf y ffaith bod y Prif Weinidog wedi dweud wrthyf yr wythnos diwethaf nad oedd hyn yn bolisi gan y Llywodraeth. I raddau helaeth, nid oes gan Gymru'r pŵer i wneud unrhyw beth am y Ddeddf Crwydradaeth oherwydd ein diffyg pwerau cyfiawnder troseddol. Yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Ddeddf eisoes wedi'i diddymu. I mi, mae hynny'n un enghraifft arall pam y mae angen i'r system cyfiawnder troseddol gael ei datganoli. Dyma enghraifft ymarferol arall eto o'r hyn y gallai'r pwerau hynny ei wneud i ni. Dylem fod yn cynnig cymorth i bobl sy'n cael eu gorfodi i fyw ar y strydoedd. Ni ddylem ni eu galw'n droseddwyr. Mae'n bryd i chi fel Llywodraeth ddweud, digon yw digon, a byddwn yn ddiolchgar petaech yn barod i ganiatáu dadl, yn amser y Llywodraeth, a fyddai'n ffafrio datganoli pwerau cyfiawnder troseddol gyda'r bwriad o ddiddymu'r Ddeddf Crwydradaeth.

Diolch ichi am godi'r mater ac am roi'r cyfle imi hefyd i rannu eich edmygedd o'r gwaith y mae'r gwirfoddolwyr yn ei wneud yn Abertawe, ddydd ar ôl dydd, i gefnogi pobl sy'n cysgu allan. Yn ddiweddar, sefydlodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ei thasglu newydd i archwilio'r cymorth i bobl ddigartref, yn enwedig y rhai sy'n dioddef fwyaf gyda digartrefedd, ac wrth gwrs fe'i harweinir gan bennaeth Crisis. Rwy'n siŵr y byddech yn croesawu hynny, a byddaf yn gofyn i'r grŵp gorchwyl edrych yn benodol ar hyn. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn yn ein gwrthwynebiad i'r Ddeddf Crwydradaeth, sydd yn gwbl hen ffasiwn. Mae'n gwbl amhriodol i droi pobl yn droseddwyr am yr hyn sy'n aml yn fater o gael eu hunain mewn sefyllfaoedd na allwn ni hyd yn oed ddychmygu gorfod delio â hwy. Felly, gwn fod y Gweinidog hefyd yn cydweithio'n agos iawn â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i sicrhau eu bod yn ymdrin yn briodol ac mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma â phobl sy'n eu cael eu hunain mewn sefyllfa o gysgu allan.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda, yng ngoleuni adroddiad yr arolygiaeth ddoe ar yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Mynydd Bychan? Nid gwleidydd sy'n dweud hyn; mae'n amlwg mai'r Arolygiaeth ei hun sy'n nodi yn eu hadroddiad sut y cafodd cleifion eu symud o welyau i gadeiriau er mwyn i'r bwrdd iechyd allu cydymffurfio â thargedau aros iechyd. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog na fydd y Llywodraeth yn ymatal rhag helpu byrddau iechyd i gyflawni'r targedau hyn. Dywedodd fod y targedau hyn o fudd clinigol amlwg a dyna pam eu bod yn bodoli. Rwy'n siŵr nad yw'r rhan fwyaf o'r cleifion a gafodd eu symud o welyau i gadeiriau ac yna aros am 20 awr yn gweld hynny fel budd clinigol, a bod yn onest gyda chi. Rydym wedi dysgu heddiw, gan un o'r un enw â mi, Andrew Davies, sef cadeirydd bwrdd iechyd Abertawe, bod tri neu bedwar o alwadau'r dydd yn mynd i fyrddau iechyd. Yn fy marn i, mae'n annealladwy i feddwl nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r sefyllfa hon yn yr uned asesu ac yn yr adran achosion brys, os oedd y lefel honno o ryngweithio'n digwydd ar amseroedd aros. Dyna pam rwy'n credu ei bod yn dyngedfennol fod y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad—datganiad llafar gobeithio—er mwyn inni gael atebion i rai o'r cwestiynau. Rwy'n cynrychioli rhanbarth sydd ond newydd gael trychineb y gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, lle yr oedd uwch reolwyr yn honni nad oeddent yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd yn yr adran famolaeth honno. Yma, mae'r arolygiaeth iechyd wedi nodi gweithredoedd bwriadol i geisio cydymffurfio â'r amseroedd aros y byddwn yn eu hawgrymu, ac rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o glinigwyr yn awgrymu bod hyn yn peryglu canlyniadau cleifion, ac ni ellir goddef hynny. Ni all fod yn ddigon da i ni, ymhen chwech neu ddeuddeng mis o bosibl, ymateb am na chymerwyd camau i ymdrin â hyn a chanfod pwy oedd yn gwneud y penderfyniadau hyn. Yn sicr, nid y staff a oedd dan bwysau yn yr adrannau hynny, gan ein bod yn gwybod fod yr arolygaeth wedi amlygu'r ffaith nad oedd rotâu staff yn cael eu llenwi, er bod gan Lywodraeth Cymru ddeddfwriaeth ar waith sy'n dweud y dylid llenwi rotâu staff i lefel ofynnol benodol. Mae'r gyfraith yn mynnu hynny, ac eto mae'r Arolygiaeth wedi amlygu hynny yn ei hadroddiad, ac felly credaf fod difrifoldeb yr adroddiad hwn yn cyfiawnhau o leiaf ddatganiad llafar gan y Gweinidog mewn Cyfarfod Llawn fel y gallwn ofyn y cwestiynau hynny y mae ein hetholwyr a phobl sy'n gweithio yn yr adrannau hyn, nid yn afresymol, yn eu gofyn i ni.  

14:45

Wel, mae'n amlwg bod y Gweinidog iechyd wedi bod yma i glywed eich cais, ac rwyf yn sicr wedi darllen yr adroddiad y cyfeiriwch ato. Gwn y bydd y Gweinidog iechyd wedi gwneud hynny hefyd. Roeddem yn siomedig i'w ddarllen, a byddem yn disgwyl wrth gwrs bod pob claf sy'n cael gofal mewn uned asesu yn cael ei drin mewn modd amserol er mwyn gwneud y gorau o'u profiad a'u canlyniadau. Ond dylid nodi hefyd, yn yr adroddiad, fod mwyafrif y cleifion a holwyd wedi canmol y staff am fod yn garedig ac yn sensitif, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n cydnabod gwaith da'r staff hefyd.

Rydym wedi dyrannu arian yn ddiweddar i fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn benodol i gefnogi gwelliannau o ran profiad a'r ddarpariaeth gyntaf, ac mae hyn yn cynnwys estyniad i'r gwasanaeth lles yn yr adran frys a gwasanaeth diogel yn y cartref llwyddiannus, ac i alluogi'r bwrdd iechyd i fod yn fabwysiadydd cynnar o'r fframwaith ansawdd a chyflawni cenedlaethol ar gyfer y prosiect adrannau achosion brys. Mae'r ddau brosiect hyn yn ceisio gwella'r profiad a'r canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal brys. Gwyddom fod AGIC bellach wedi derbyn cynllun gwella'r bwrdd iechyd ac mae'n amlwg y bydd yn monitro'r cynnydd yn ofalus.

Rwyf wedi gofyn ar dri neu bedwar achlysur erbyn hyn am ddiweddariad ar y fframwaith anhwylderau bwyta. Rwy'n falch bod y Gweinidog iechyd yma, oherwydd cynhaliwyd y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta'r wythnos diwethaf, a dywedodd rhai o'r dioddefwyr eu bod yn teimlo nad oedden nhw'n gweld unrhyw ddiben mewn cymryd rhan yn y broses ymgynghori gan eu bod wedi bod yn aros am wyth mis bellach am syniad o'r hyn sy'n mynd i ddigwydd. Cymerodd pawb ran yn yr ymgynghoriad hwnnw gyda phob ewyllys da am eu bod eisiau helpu i newid y sefyllfa o ran anhwylderau bwyta yma yng Nghymru. Felly, rwyf yn annog y Gweinidog iechyd i gyflwyno datganiad fel y gallwn edrych ar y fframwaith o'r newydd a gweld sut y caiff gwasanaethau eu gwella gydag adfywiad o'r fframwaith. Yn y pen draw, rydym wedi gwella gwasanaethau yma, ond mae lle i wella eto, ac mae'r rhai ar y grŵp trawsbleidiol, yn ddioddefwyr, yn ofalwyr ac elusennau, am glywed bod gweithredu ar y gweill yn awr.

Diolch ichi am godi'r mater hwn. Mae'r Gweinidog iechyd, mi wn, i fod i drafod y mater hwn gyda swyddogion yr wythnos hon. Rwy'n deall ei fod yn adroddiad mawr ac mae llawer o dystiolaeth wedi ei gynnwys ynddo, ac mae'n amlwg bod angen ei ystyried yn drylwyr, ond cyn gynted ag y bydd y Gweinidog iechyd wedi derbyn cyngor, a deallaf y bydd hynny'n ystod yr wythnosau nesaf, bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.

Trefnydd, hoffwn ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—rwyf yn falch o weld ei fod yma heddiw—i ystyried gwneud datganiad ysgrifenedig efallai am y sefyllfa o ran yr uned a arweinir gan fydwragedd yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Fe fyddwch yn ymwybodol, ac fe fydd ef yn ymwybodol, bod pryder ein bod yn mynd i wynebu sefyllfa lle byddai disgwyl i fenywod petai nhw angen gwasanaethau yn ystod y nos, ffonio'r fydwraig gymunedol a threfnu drostynt eu hunain i'r fydwraig honno fod yn bresennol. Nawr, wrth ymateb i Paul Davies, rhoddodd y Prif Weinidog rywfaint o sicrwydd i'r Siambr hon nad yw hynny, mewn gwirionedd, yn wir. Ond bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r pryderon y byddai hyn yn digwydd pan fyddai'r gwasanaeth yn mynd o wasanaeth dan arweiniad ymgynghorydd i wasanaeth sy'n cael ei arwain gan fydwragedd, oherwydd ei fod wedi digwydd mewn mannau eraill. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog wneud datganiad, os yw'n gallu gwneud hynny, i dawelu meddyliau'r cyhoedd yn yr ardal nad yw hyn yn mynd i ddigwydd, nad ydynt yn mynd i golli eu gwasanaeth 24 awr, ac amlinellu pa drafodaethau y mae ef neu ei swyddogion wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod y Prif Weinidog yn gywir ac nad yw'r gwasanaeth hwn yn mynd i gael ei leihau ymhellach.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei sesiwn gwestiynau'r prynhawn yma, bu trafodaethau ar y dewisiadau i wella effeithlonrwydd y model staffio drwy sicrhau mwy o integreiddio rhwng y bydwragedd a'r staff yn y gymuned sydd wedi'u lleoli yn yr uned dan arweiniad bydwragedd. Ond roedd yn glir iawn na fydd hyn yn lleihau'r gwasanaeth i gleifion, a fydd yn parhau'n agored i fenywod yn sir Benfro bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o'r wythnos.

Rwy'n deall bod trafodaethau ar y gweill gyda'r staff ynglŷn â sut i integreiddio staff uned dan reolaeth bydwragedd a staff bydwragedd cymunedol yn well, ac ni all y bwrdd iechyd gadarnhau ei drefniadau staffio ar gyfer y dyfodol eto oherwydd, yn amlwg, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud. Ond mae wedi sicrhau pob darpar fam feichiog, fodd bynnag, y bydd y cymorth staffio yn parhau i fod ar gael bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o'r wythnos, a'r flaenoriaeth o hyd yw gofal diogel a phrofiad cyffredinol y menywod hynny.

14:50

Diolch, Llywydd. Dwi wedi edrych ar y datganiad busnes ŷch chi wedi'i gyhoeddi heddiw, a dwi ddim yn gweld unrhyw fwriad gan y Llywodraeth i ni gael datganiad llafar gan y Gweinidog amgylchedd a materion gwledig ar fwriad y Llywodraeth yma nawr i symud ymlaen gyda chynlluniau 'Brexit a'n tir'. Byddwch chi'n gwybod cystal â fi mai dyma fydd un o'r cyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol y bydd y Llywodraeth yma'n ei wneud. Yn sicr, bydd yn arwain at rai o'r newidiadau mwyaf pellgyrhaeddol y mae'r sector amaeth a chymunedau gwledig wedi'u gweld mewn cenedlaethau, a liciwn i ddeall pam nad ŷch chi'n teimlo bod datganiad llafar i'r Siambr yma yn angenrheidiol, oherwydd mae'r Gweinidog wedi'i gwneud hi'n gwbl glir y bydd e'n cael ei ddatgan cyn y sioe frenhinol amaethyddol ymhen ychydig wythnosau. Ydw i'n iawn i feddwl mai bwriad y Llywodraeth, felly, yw rhyddhau hwn ar ffurf datganiad ysgrifenedig? A byddai ambell sinig yn awgrymu efallai y byddwch chi'n gwneud hynny yn nyddiau ola'r tymor er mwyn osgoi'r craffu a fyddai'n dod o'i wneud e'n gynt. Allwch chi roi sicrwydd i ni ei bod hi'n fwriad i ni gael datganiad llafar fan hyn, oherwydd dyna y mae datganiad mor arwyddocaol â hyn yn ei haeddu?

Fe wnaf i, Llywydd, siarad â Gweinidog yr amgylchedd, o ran y cynlluniau ar gyfer rhyddhau'r ymgynghoriad 'Brexit â'n tir'.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol—Adroddiad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal critigol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch, Llywydd. Bydd yr Aelodau'n cofio ein bod ni, yn 2016, wedi creu adolygiad seneddol o arbenigwyr annibynnol i archwilio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac fe gafodd yr adolygiad hwnnw, wrth gwrs, gefnogaeth drawsbleidiol. Mae adroddiad yr arolwg seneddol yn disgrifio'r galwadau cynyddol a'r heriau newydd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae'r rhain yn cynnwys mwy o anghenion gofal gan y gall mwy ohonom ni ddisgwyl byw yn hŷn, a'r cynnydd yn nisgwyliadau'r cyhoedd o ran datblygiadau meddygol newydd a rhai sy'n datblygu. Mae'r gwasanaethau gofal critigol wedi teimlo'r heriau hyn yn fawr iawn yn y blynyddoedd diweddar. Mae'n amlwg bod straen sylweddol o fewn gwasanaethau gofal critigol, ac mae hyn wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf hyn, mae pobl â salwch difrifol sydd angen cymorth yn parhau i gael gofal critigol o safon uchel, diolch i ymroddiad y llu o aelodau arbenigol o staff sy'n gweithio mewn amgylchiadau lle mae pwysau mawr.

Fel y nodir yn 'Cymru Iachach', mae gwasanaethau mewn ysbytai megis gofal critigol yn parhau i fod yn rhan hanfodol a gweladwy o'n system iechyd a gofal yn y dyfodol. Fel gyda systemau gofal iechyd eraill, mae angen inni gyflymu'r broses o newid ym maes gofal critigol, gan gynnwys y model darparu ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau priodol yn y man priodol ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael. Dyna pam, ym mis Gorffennaf y llynedd, y cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi rhaglen genedlaethol i edrych yn strategol ar y materion a'r heriau ar gyfer ein gwasanaethau gofal critigol. Yn y datganiad hwnnw, dywedais y bydd ein hymagwedd at ofal critigol yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gyda gweithredu'r cynllun cyflawni ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael. Erbyn hyn, rydym ni'n cymryd mwy o ran ganolog yn y gwaith o gyfarwyddo hyn yn genedlaethol. Sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen, dan gadeiryddiaeth yr Athro Chris Jones, y dirprwy brif swyddog meddygol. Roedd yn cynnwys saith ffrwd waith a oedd yn edrych ar: mapio modelau gwasanaeth, y galw a'r capasiti; gofynion y gweithlu; allgymorth; unedau gofal ôl-anesthesia; cymorth anadlu tymor hir; trosglwyddo cleifion; a mesurau perfformiad.

Yn dilyn argymhellion y ffrydiau gwaith hyn, gwnaed cynnydd ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys: gofal critigol yn dod yn elfen o'r ymgyrch recriwtio 'Hyfforddi. Gweithio. Byw'; tynnu sylw at y cyfleoedd presennol i weithio ym maes gofal critigol yng Nghymru; a chynnwys gweithgarwch gofal critigol yn y dangosfwrdd perfformiad gofal heb ei drefnu o hyn ymlaen. Mae hyn yn helpu byrddau iechyd i reoli eu gwasanaethau yn fwy effeithiol.

Rwy'n falch heddiw o gyhoeddi adroddiad terfynol y grŵp gorchwyl a gorffen. Mae'r adroddiad yn onest am yr heriau y mae gofal critigol yn eu hwynebu, ac mae'n cynnig golwg strategol ar yr hyn sydd angen ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau i bobl sy'n ddifrifol wael yn addas ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â'r prif adroddiad, mae'r adroddiadau gan bob ffrwd waith wedi'u cyhoeddi ar ffurf atodiadau, sy'n nodi argymhellion manylach. Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad, os na fydd arferion derbyn ac atgyfeirio yn newid, sef rhywbeth yr oedd y grŵp yn teimlo nad oedd fawr o gyfle ar ei gyfer, dim ond drwy gynyddu cyfanswm y capasiti gofal critigol y gellir diwallu'r galw cynyddol yn y dyfodol. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn glir bod angen capasiti ychwanegol ar Gymru. Fodd bynnag, rhaid i hyn fod ar y cyd â gwelliannau mewn llwybrau gofal critigol, megis unedau gofal ôl-anesthesia, sy'n cael eu hadnabod yn y gwasanaeth fel PACUs, cymorth anadlu hirdymor, timau allgymorth gofal critigol, a gwell effeithlonrwydd, gan gynnwys lleihau oedi wrth drosglwyddo o ofal critigol a defnyddio cyfuniad sgiliau ein staff yn fwy effeithiol.

Mae angen i ni fynd i'r afael â materion presennol sy'n ymwneud â'r gweithlu, sef cyfuniad sgiliau, recriwtio, cadw a hyfforddi, yn ogystal â chynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â'r sgiliau priodol i ddiwallu anghenion presennol a'r angen yn y dyfodol. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn cydnabod bod y rhaglen genedlaethol yn uchelgeisiol ond, os caiff ei gweithredu'n llawn, bydd yn helpu i sicrhau bod gan Gymru wasanaeth gofal critigol sydd gyda'r gorau yn y DU. Mae staff gofal critigol ledled Cymru yn gweithio mewn amgylchiadau lle mae pwysau mawr, ac mae'r diffyg capasiti drwy'r system wedi gwaethygu hyn. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn gobeithio y bydd staff a chleifion yn gweld hyn fel ymrwymiad clir, wedi'i ategu gan argymhellion cadarn ac arian ychwanegol i helpu i gyflwyno rhaglen wella fesul cam.

Er mwyn helpu i roi adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar waith, rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd £15 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd yn cael ei ddarparu. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi nifer o flaenoriaethau cenedlaethol, megis sefydlu gwasanaeth trosglwyddo ar gyfer oedolion sy'n ddifrifol wael ac uned cymorth anadlu hirdymor. Mae blaenoriaethau lleol, gan gynnwys cynyddu capasiti gofal critigol, y gweithlu, allgymorth a sefydlu unedau gofal ôl-anesthesia, hefyd yn cael eu cefnogi.

Mae angen i ni fod yn glir bod yn rhaid i'r arian ychwanegol hwn gael effaith gadarnhaol sylweddol ar y gwasanaeth a bod ein systemau yn gwella o ganlyniad i'r buddsoddiad a'r ailgynllunio gwasanaethau. I gefnogi hyn, caiff cyfres newydd o fesurau perfformiad sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad eu gweithredu a byddwn yn olrhain perfformiad o ran achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Mae gan y gwaith hwn, a gyfarwyddir yn genedlaethol, gysylltiadau pwysig â meysydd datblygol eraill o wasanaethau arbenigol. Mae'r rhain yn cynnwys trawma sylweddol, triniaeth yn dilyn ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, a llawdriniaeth fasgwlaidd. Mae'n bwysig bod y buddsoddiad hwn yn cael ei weld yn y cyd-destun ehangach hwnnw.

Yn olaf, hoffwn ddod â'r datganiad hwn i ben drwy ddiolch i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen yn ogystal â'r gweithwyr a'r rheolwyr gofal iechyd sy'n gweithio, ac yn cydweithio gyda'i gilydd, i drawsnewid ein gwasanaethau gofal critigol mewn ffordd real ac ystyrlon.

14:55

Gweinidog, diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno eich datganiad ar yr adroddiad hwn. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn dda iawn. Roeddwn i'n falch iawn o weld ei fod yn glir, ei fod yn gryno, fod ganddo gyfres o amcanion sydd wedi'u diffinio'n dda, a'i fod yn sôn mewn gwirionedd am y ffordd y gallwn ni ei fonitro a mesur y canlyniadau. Mae'n berl prin, ac rwy'n falch iawn o allu gofyn ychydig o gwestiynau i chi am hyn. 

Mae'n sôn am y ffaith mai gennym ni y mae'r lleiaf o welyau gofal critigol fesul pen o'r boblogaeth o'i gymharu â'r rhan fwyaf o ardaloedd eraill, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi efallai amlinellu sut yr ydych chi'n gweld y gwelyau gofal critigol ychwanegol hyn yn cael eu datblygu a sut y byddwch chi'n eu clustnodi fel nad ydyn nhw'n dod yn welyau ôl-driniaeth aneth—. Ni fedraf ddweud y gair; fe wnaf i eu galw nhw'n welyau PACU. Oherwydd rwy'n sylwi ei bod yn eithaf clir ynghylch nifer y gwelyau a ddylai fynd i ba ardal, pa fwrdd iechyd, ond unwaith eto, mae'n golygu sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Pe byddwn i'n darllen yr adroddiad cyfan hwn, yn syml iawn, byddwn yn dweud, 'Adroddiad gwych, dadansoddiad gwirioneddol dda, ond sut ydym ni'n sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd, a ninnau'n gwybod bod y byrddau iechyd o dan bwysau aruthrol a phan ein bod yn gwybod bod targedau ac amcanion yn cael eu haddasu, eu newid, ac y gall ystadegau ddweud bron iawn unrhyw beth? Oherwydd, pe gellid cyflawni hyn, byddai'n gam enfawr ymlaen.  

Sylwaf fod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi awgrymu, ar ôl i hyn ddod i fodolaeth a'i fod yn symud ymlaen, y dylen nhw gamu'n ôl ac y dylid ei adael i'r grŵp gweithredu ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael ei fesur. Ond, wrth gwrs, un o feirniadaethau mawr y grŵp gweithredu ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael yn 2016 oedd y ffaith eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd cynnig atebion cynaliadwy, ac nad oedd yr ymrwymiad sefydliadol a oedd ei angen ar y system gyfan yn bodoli. Felly, hoffwn wybod beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod y grŵp gweithredu ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael yn gallu monitro'r gwaith parhaus hwn, oherwydd credaf ei bod hi'n dweud cyfrolau ein bod ni wedi gorfod cael grŵp gorchwyl a gorffen i ddweud wrthyn nhw beth ddylen nhw ei wneud, pan, a bod yn blwmp ac yn blaen, y dylen nhw fod wedi gallu meddwl am hynny eu hunain.

A wnewch chi roi trosolwg cyflym inni o ble yr ydych chi'n gweld y bydd yr arian, gan ei fod yn dweud yn glir iawn yn y fan yma y dyrennir arian i fyrddau iechyd yn rhinwedd eu swyddi fel comisiynwyr, ac eto mae angen iddyn nhw fynd ati ar unwaith i ddefnyddio'r arian hwnnw i ddechrau cael y gwelyau ychwanegol hyn, i ddechrau llunio'r system trosglwyddo oedolion mewn argyfwng maen nhw'n sôn amdani? Sut byddan nhw'n gwneud cais am hynny, a phwy fydd yn penderfynu ar ba un a yw eu cynllun busnes yn ddigon addas ai peidio i gael yr arian i ddal ati a cheisio cyflawni'r amcanion hynny?

A fydd neilltuo arian yn elfen o hynny? O ran adrodd yn dryloyw ar fesurau canlyniadau gofal critigol gyda threfniadau cadarn ar gyfer uwchgyfeirio: a fyddwch chi, y Gweinidog iechyd, hefyd yn cadw llygad ar hyn, neu a fyddwch chi'n rhoi hyn i'r grŵp gweithredu gofal critigol i'w fonitro? Oherwydd hoffwn i gredu na chaiff yr adroddiad hwn, mewn gwirionedd, ei anghofio, ond y byddwch chi mewn gwirionedd, neu y bydd y Llywodraeth, yn cadw golwg manwl arno i wneud yn siŵr bod y pethau hyn yn digwydd. Yr ofn mawr sydd gennyf yw na chaiff llawer o'r argymhellion hyn, sy'n wirioneddol ragorol, eu cyflawni yn syml oherwydd nad yw'r cyllid yn y lle priodol, nad yw'r sgiliau yn y lle priodol, na fydd y bobl briodol sy'n gwybod sut i newid pethau, a newid pethau yn llwyddiannus, yn gallu cyflawni hyn, yn enwedig ar adeg pan ein bod ni'n gofyn i fyrddau iechyd geisio gweddnewid y ffordd maen nhw'n gweithredu, er mwyn cyflawni'r weledigaeth ar gyfer iechyd, sy'n ffordd arbennig o dda ymlaen yn fy marn i.

Rwy'n credu y bydd fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â sut mae'r cyllid sy'n weddill yn cael ei rannu rhwng Aneurin Bevan, Betsi, Cwm Taf, Hywel Dda a Bae Abertawe. Mae'n sôn am feysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer gwasanaethau gofal critigol, ac, unwaith eto, pwy fydd yn cael y gair olaf ynglŷn â beth yw'r blaenoriaethau cytunedig hynny a pha un a yw'r achos busnes yn dal dŵr wedyn.  

15:00

Diolch am y gyfres o gwestiynau, y credaf fod gan rai ohonyn nhw themâu sy'n gorgyffwrdd. Byddwn yn dweud fy mod yn meddwl bod yna bwynt canolog yr ydych chi'n ei wneud ynghylch a fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno ac a fydd yr arian yn cyflawni'r amcanion a sut y bydd hynny'n cael ei olrhain a'i fonitro. Wel, rwyf wedi bod yn glir bod y dyraniad adnodd a awgrymir yn dod o'r grŵp gorchwyl a gorffen ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei gefnogi. Bydd rhwydwaith gofal critigol a thrawma Cymru yn rhan o'r gwaith o edrych ar y cynlluniau cyflawni gan fyrddau iechyd, oherwydd nid yw'n fater syml o ddweud wrth fyrddau iechyd, 'Ewch yn eich blaen a gwnewch hyn'. Mewn gwirionedd, bydd angen inni weld y cynlluniau cyflawni hynny er mwyn cyflawni'r cynnydd mewn capasiti y mae'r adroddiad wedi awgrymu y mae angen inni ei wneud. Felly, mae'r arian ar gael, ond mae angen iddyn nhw gael cynlluniau cyflawni priodol er mwyn elwa ar hynny. A bydd hynny'n cael ei oruchwylio. Bydd gan rwydwaith gofal critigol a thrawma Cymru farn am hynny hefyd, bydd safbwynt gan y Llywodraeth, ac ar sail y cynlluniau cyflawni hynny y bydd yr arian yn cael ei ryddhau i fyrddau iechyd i gyflawni'r cynnydd hwnnw mewn capasiti. Felly, bydd y broses yn un fwy canolog. Pan gyhoeddais ddatganiad y llynedd, cyhoeddais y byddai hon yn rhaglen o weithgarwch a gyfarwyddir yn ganolog, a nawr rydym ni'n dal i sicrhau mai felly y bydd hi. Felly, ni chaiff hi mo'i hanghofio. Bydd yn rhywbeth lle bydd mesurau perfformiad a mesurau canlyniadau i ddeall yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd. Ac ydw, rwy'n disgwyl y bydd y Llywodraeth yn cael gwybod beth sy'n digwydd yn hynny o beth ac ni chaiff ei adael i fyrddau iechyd, os mynnwch chi, i farcio eu gwaith cartref eu hunain.

Ac o ran y sylw ynghylch a fydd yr arian yn cyrraedd y nod yn unol â'r amcanion, wel, rwyf wedi bod yn glir yn y gorffennol, pan gawsom ni symiau o arian a oedd wedi'u clustnodi at ddiben penodol, fod angen iddo gyflawni'r diben hwnnw. Os ydych yn ystyried yr enghraifft o'r cyllid perfformiad a gawsom ni yn y blynyddoedd diwethaf, lle nad yw byrddau iechyd wedi cyflawni yn unol â'r cynlluniau a ddarparwyd ganddyn nhw, rwyf wedi bod yn barod i adfachu'r arian hwnnw. Felly, rwyf yn glir y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio at y diben, ac na fydd yn diflannu i bot cyffredinol o arian. Rhaid ei ddefnyddio i'r diben.  

Ac mae rhywfaint o'r adeiladu capasiti, wrth gwrs, ymhlith staff, felly mae'r gwaith ynglŷn â'r gweithlu yn bwysig nid yn unig i ddeall yr hyn y mae angen inni ei wybod, ond hefyd i'r dyfodol. Mae'r gweithgareddau recriwtio eisoes yn mynd rhagddyn nhw, y cyngor pellach gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru am y grwpiau staff y bydd eu hangen arnom ni, oherwydd, mewn gwirionedd, nid y cyfyngiad mwyaf ar gynyddu gallu yw'r gwely ei hun—ond yr holl staff o'i gwmpas ar gyfer y gwahanol haenau o wasanaeth y mae eu hangen—oherwydd ar y lefel uchaf o ofal, rydym ni'n sôn am ofal nyrsio un i un a gweddill y tîm o amgylch y person hwnnw hefyd. Felly, y staff, mewn gwirionedd, yw'r hyn y mae angen inni fuddsoddi ynddyn nhw o ran hyfforddi a gwella sgiliau, wrth gwrs, â chael y nifer o staff sydd eu hangen i gyflawni'r capasiti ychwanegol y mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn ei argymell ac yr wyf wedi'i dderbyn yr ydym ni eisiau ceisio ei greu.  

O ran y sylw am drosglwyddiadau, serch hynny, mae hynny'n rhywbeth y bydd y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys yn ymdrin ag ef, gan gydweithio gyda—[Anghlywadwy.]— i edrych ar y profiad sydd eisoes yn bodoli yno. Felly, bydd gennych chi drosolwg yn hynny o beth o'r hyn sy'n cael ei gomisiynu, sut y caiff ei wneud, ac, unwaith eto, swm penodol o arian i fynd i sicrhau'r gwelliant hwnnw, oherwydd os cawn ni welliannau o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, nid mater fydd hi lle gallaf i neu'r Dirprwy Weinidog sefyll ar ein traed a dweud, 'Edrychwch, mae oedi wrth drosglwyddo gofal wedi gwella', ond, mewn gwirionedd, y caiff ein hadnoddau drwy'r holl system eu defnyddio'n llawer gwell a mwy effeithlon. Mae'n golygu y gall pobl nad oes angen iddyn nhw fod mewn gofal critigol mwyach gael eu symud i'r man lle mae angen iddyn nhw fod, ac y bydd hynny'n aml yn nes at eu cartrefi, yn enwedig os ydyn nhw'n symud o un o'n canolfannau trydyddol. Ond bydd hefyd yn golygu y bydd rhywun y mae angen iddo gael y lle hwnnw mewn gofal critigol yn fwy tebygol o fod yn y lleoliad cywir yn gyflym, oherwydd rydym ni yn cydnabod bod diffyg hyblygrwydd, effeithlonrwydd a chapasiti yn golygu nad yw rhai pobl yn y lleoliad gorau posib ar gyfer eu gofal. Felly, mae ynglŷn â'r system gyfan. Mae'r oedi wrth drosglwyddo yn gwneud gwahaniaeth i'r lefel uchaf o ofal, ond hefyd i gael pobl i symud drwy'r system yn y cyfeiriad cywir, pa un a ydyn nhw'n symud i fyny neu i lawr yn y system. Felly, rwyf yn credu fod gennym ni'r math cywir o argymhellion fel y bydd hi nawr yn ymwneud â'r cyflawni.

15:05

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am yr wybodaeth ychwanegol a roddodd mewn ymateb i Angela Burns. Fel Angela Burns, fe'm trawyd gan ansawdd uchel iawn yr adroddiad hwn ac, fel y dywedodd y Gweinidog ac eraill, rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r grŵp gorchwyl a gorffen am yr holl waith maen nhw wedi'i wneud ac, yn wir, i'r staff sy'n gweithio mewn amgylchiadau lle mae pwysau mawr, fel y dywedodd y Gweinidog.

Os gallaf ddychwelyd at y cwestiynau am y gyllideb—mae hyn yn £15 miliwn yn ychwanegol, sydd i'w groesawu'n fawr, ond nid yn llawer iawn i fynd i'r afael â'r hyn sy'n amlwg yn faterion o bwys y mae angen mynd i'r afael â nhw. A all y Gweinidog roi gwybod inni heddiw o ble ddaeth y £15 miliwn hwnnw? A yw hynny yn arian ychwanegol i'r gyllideb iechyd o rywle arall, neu a yw wedi cael ei ailddyrannu o rywle o fewn ei gyllideb gyfredol, oherwydd mae'r rhain yn amlwg yn benderfyniadau blaenoriaethol anodd iawn i'w gwneud, a chredaf y byddai'n ddefnyddiol inni wybod o ble mae'r arian yna wedi dod, yn arbennig? 

Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y sylwadau a wnaeth mewn ymateb i Angela Burns am gynlluniau cyflawni, ond ni atebodd ei chwestiwn yn llwyr ynghylch a fydd y cyllid yn cael ei neilltuo ai peidio. A'n profiad ni yw y gall y Gweinidog weithiau osod disgwyliadau ar fyrddau iechyd lleol nad ydyn nhw bob amser yn eu cyflawni, felly hoffwn bwyso arno ychydig yn galetach ynglŷn â beth fydd y canlyniadau os byddant yn cymryd yr arian hwn ac yn ei wario ar rywbeth arall. Dydw i ddim yn awgrymu am eiliad y byddan nhw'n gwneud hynny, ac mae'r adroddiad yn wirioneddol glir ac mae'n nodi'r hyn sydd angen ei wneud felly ddylen nhw ddim teimlo'r angen i wneud hynny. Ond rwy'n poeni, gan fod hwn yn swm penodol iawn o arian i wneud gwaith penodol iawn, na fyddem ni eisiau iddo fynd ar goll.

Yng nghyd-destun yr elfen o fuddsoddi, pa drafodaethau mae'r Gweinidog neu ei swyddogion wedi'u cael ynghylch buddsoddiadau penodol mewn gwasanaethau yn y gogledd, lle y gwyddom ni sydd â rhai o'r problemau mwyaf—unedau damweiniau ac achosion brys sy'n parhau'n i berfformio'n wael sy'n cael sgileffaith ar sawl rhan arall o'r system, gormod o achosion gofal critigol sydd mewn gwirionedd yn cael eu hanfon o Gymru'n gyfan gwbl, gan gynnwys i Stoke, ac nid yw hynny'n dderbyniol yn y tymor hir, ac nid yw'n ddefnydd da o adnoddau yn y tymor hir chwaith? Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw pa fuddsoddiad penodol a fydd yn y gogledd i fynd i'r afael â'r materion y mae'r adroddiad yn tynnu sylw atyn nhw?

A all y Gweinidog ddweud ychydig mwy am ba mor ffyddiog ydyw ynghylch llwyddiant yr ymgyrch recriwtio, gan seilio hynny, efallai, ar sut hwyl y cafodd yr ymgyrchoedd blaenorol ar gyfer arbenigeddau eraill? Rwy'n falch iawn o weld y caiff hyn ei gynnwys nawr, a bydd yn ddiddorol clywed pa fath o ddisgwyliadau sydd gan y Gweinidog o ran ei chanlyniadau.

Cwestiwn ychydig yn benodol: mae adroddiad y grŵp wedi amlygu sut mae newidiadau i drefniadau pensiwn a threth wedi creu rhai heriau ar gyfer cynllunio gweithlu yn y maes hwn ac, yn ddiau, sut maen nhw'n effeithio ar adrannau eraill hefyd. A all y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch sut y mae'n bwriadu sicrhau bod byrddau iechyd yn ymateb i'r heriau hynny, oherwydd mae'n amlwg nad ydyn nhw'n mynd i ddiflannu?

Ac yn olaf, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am rywfaint o eglurder ynglŷn â'r amserlen, yr amserlen ar gyfer gweithredu? Cymerais o'r hyn a ddywedodd fod rhywfaint o frys yn y gwaith hwn a'i fod yn disgwyl i'r byrddau iechyd ymateb yn gyflym, ond hoffwn wybod pryd y mae'n teimlo efallai y bydd yn gallu adrodd yn ôl i'r Siambr hon am y cynnydd a gyflawnwyd o ran dyheadau'r adroddiad.

15:10

Diolch am y gyfres o gwestiynau. O ran yr adnodd newydd, mae'n adnodd canolog. Nid yw'n ymwneud ag ailddyrannu cyllidebau a oedd eisoes yn bodoli o fewn byrddau iechyd, ond mae yna rywbeth ynghylch sut mae byrddau iechyd yn defnyddio'r adnoddau sydd eisoes ar gael iddyn nhw hefyd. Nid dim ond dweud y bydd capasiti ychwanegol yn cael ei ddarparu drwy arian ychwanegol o'r ganolfan yn unig yw hyn, ond arian o'r canol yw'r £15 miliwn a bydd yr Aelodau yn cofio i'r Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys fynegi pryderon ynghylch capasiti gofal critigol y llynedd, a gofynnais i brif weithredwr GIG Cymru gwrdd â nhw, ac mae hynny wedi helpu i lywio rhywfaint o'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud ers hynny, ac mae aelodau'r gyfadran, wrth gwrs, wedi bod yn rhan o'r grŵp gorchwyl a gorffen. Ac mae hynny'n dod yn ôl at y sylw a wnaethoch chi yn ddiweddarach am y gogledd. Daw'r capasiti ychwanegol yr ydym ni'n sôn amdano—saith gwely ychwanegol—o ffrydiau gwaith y maen nhw wedi'u cymeradwyo hefyd. Dyna'r capasiti ychwanegol y dylai'r cyllid ei ryddhau, ond ar y sail bod cynlluniau priodol ynglŷn â sut y byddant yn gwneud hynny, sut y byddant yn gwneud hynny a sicrhau bod y capasiti ar gael i gyflawni. Ond, fel y dywedais mewn ymateb i Angela Burns, mae'n rhaid cyfuno hynny gyda defnydd mwy effeithlon o adnoddau ac, yn arbennig, fel y dywedais yn fy natganiad, oedi wrth drosglwyddo gofal, maes lle y gallem ni wneud gwell defnydd o'r hyn sydd gennym ni eisoes yn ogystal â'r capasiti ychwanegol yr ydym ni'n gobeithio ei greu.

Rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â'r sylw am yr hyn fydd yn digwydd os bydd pobl yn ceisio gwario arian mewn ffordd wahanol. Rwyf wedi bod yn glir y gellir cymryd yr arian yn ôl mewn meysydd eraill. Caiff byrddau iechyd eu rheoli. Yn y maes hwn, mae'n rhaglen a gyfarwyddir yn genedlaethol, ac rwy'n disgwyl i'r arian gael ei wario yn y ffordd honno, ac ni fydd byrddau iechyd yn gallu dod o hyd i ffordd wahanol o wario arian yn amhriodol. Mae'r argymhellion yn gymharol dynn a chlir o ran sut y caiff arian ei wario, ac felly nid oes llawer o gyfleoedd i ddefnyddio'r arian mewn meysydd eraill o'r gwasanaeth.

O ran eich sylw am yr hyn a fydd yn digwydd gyda gweithgarwch recriwtio, wel, mae gennym ni hanes da drwy 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', ac mae hynny'n seiliedig ar weithio gyda meysydd gwasanaeth, gan weithio gyda grwpiau cynrychioliadol o fewn y maes gwasanaeth hwnnw, ynglŷn â'r hyn sy'n ddeniadol ar hyn o bryd o ran y ffordd yr ydym ni'n darparu ein gwasanaeth a'r hyn a fyddai'n gwneud y gwasanaeth hwnnw'n fwy deniadol. Ac, mewn gwirionedd, mae gallu rhoi barn am ddyfodol y gwasanaeth yn y tymor hir yn rhywbeth y dylai'r staff ei gael yn atyniadol. Ac, wrth gwrs, yn gefndir i hyn mae argymhellion grŵp o glinigwyr sy'n gweithio yn y maes gwasanaeth hwn ar hyn o bryd sy'n cydnabod y pwysau sy'n bodoli ond hefyd sut y gellid cael gwell gwasanaeth i gyflawni ar gyfer ein cleifion ond hefyd, wrth gwrs, ar gyfer ein staff—lle gwell iddyn nhw wneud eu gwaith. Ac rydym ni'n cael llwyddiant o ran seiciatreg, lleoedd hyfforddi meddygon teulu, fferylliaeth, nyrsys a therapyddion yn y rhaglen 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', felly mae gennym ni resymau dros fod yn gadarnhaol ynghylch ein gallu i wneud mwy yn y maes hwn hefyd.

Disgwyliaf y darperir cynlluniau yn yr hydref, a disgwyliaf weld cynnydd o fewn y 12 mis nesaf fwy neu lai. Ond mae rhywfaint o hyn, yn fy marn i, yn ymwneud â gwella sgiliau'r staff sydd gennym ni ar hyn o bryd, yn ogystal â'r staff ychwanegol y mae angen inni eu cael i gyflawni'r capasiti yr ydym ni eisiau ei ddarparu. Felly, dydw i ddim yn mynd i gymryd arnaf y bydd hwn yn ateb cyflym. Mae gennym ni eglurder ynghylch sut y dylid gwario'r arian a'r manteision y dylid eu cael.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am ddarparu copi o adroddiad terfynol y grŵp gorchwyl a gorffen inni. Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith yn ein helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd i'r rhai sy'n ddifrifol wael yng Nghymru. Mae casgliadau'r adroddiad i'w croesawu, gyda'r amcanion yn glir a chryno, ynghyd ag argymhellion rhagorol.

Fel y mae'r grŵp yn gywir yn ei nodi ac mae'r Gweinidog yn cydnabod, mae cryn straen yn cael ei roi ar wasanaethau gofal critigol a sut y bydd y straen hwn yn dwysáu yn y dyfodol oherwydd newidiadau demograffig. Ac, fel y dywedwyd, mae'n bwysig, fel gyda gwasanaethau gofal iechyd eraill, ein bod yn cyflymu'r broses o newid o fewn gofal critigol, gan gynnwys y model o ddarpariaeth ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn y lle cywir i'r rhai sy'n ddifrifol wael bryd hynny. Ymddengys mai problemau gweithlu yw'r rhwystr mwyaf i gynyddu gwasanaethau gofal critigol, ac mae recriwtio a chadw staff yn ffactorau pwysig o hyd ledled y GIG.

Gweinidog, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn cyfeirio at yr effaith y mae newidiadau diweddar mewn pensiwn yn eu cael, o gofio'r ddibyniaeth ar ymgynghorwyr yn cynnal sesiynau ychwanegol. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r effaith y mae newidiadau treth a phensiwn yn eu cael ar ein GIG? Rwyf wedi cael gwybod bod y newidiadau diweddar yn annog mwy a mwy o feddygon i beidio â chynnal sesiynau ychwanegol ledled y GIG. Mae'n amlwg bod angen inni recriwtio mwy o staff ar gyfer ein gwasanaeth gofal critigol, ond ni fydd y personél hyn yn ymddangos dros nos, ac, felly, Gweinidog, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw gwasanaethau gofal critigol yn dirywio ymhellach hyd nes y bydd gennym ni ddigon o staff i ddiwallu'r galw presennol ac yn y dyfodol? Yn bwysig, Gweinidog, a yw'r cyllid wedi'i glustnodi?

Gweinidog, rwy'n croesawu eich agwedd genedlaethol at ofal critigol. O gofio bod y rhwydwaith trawma sylweddol wedi'i gyflwyno, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod gennym ni ddigon o gapasiti i drosglwyddo cleifion yn y dyfodol?

Yn olaf, Gweinidog, rwyf hefyd yn croesawu'r pwyslais a roddir ar leihau oedi wrth drosglwyddo o ofal critigol. Fodd bynnag, mae gennym ni broblemau o hyd o ran oedi wrth drosglwyddo gofal drwy'r system gyfan ac yn ddiweddar dysgais am enghraifft o glaf strôc oedrannus yn cael ei anfon adref heb fod unrhyw becyn gofal ar gael. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'ch cydweithwyr mewn llywodraeth leol ynghylch cynyddu capasiti gofal cymdeithasol, ac ystyried yr effaith y mae hyn yn ei chael ar wasanaethau megis gofal critigol? Oherwydd bu'r hen ŵr 85 oed hwn yn aros naw awr mewn uned ddamweiniau ac achosion brys am wely, sut fyddwch chi, felly, yn sicrhau bod digon o welyau ar gyfer pobl, oherwydd roedd ei ysbyty lleol hefyd yn llawn dop? Diolch ichi, unwaith eto, Gweinidog, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i wella gwasanaethau gofal critigol i gleifion yng Nghymru.

15:15

Diolch. O ran y gweithlu, wrth gwrs, o ran sefydlogi'r gweithlu nawr, buddsoddwyd £5 miliwn yn y maes arbennig hwn dros y gaeaf diwethaf, a hynny'n fwriadol er mwyn ceisio sefydlogi'r rhan benodol hon o'r gwasanaeth wrth i ni edrych tua'r dyfodol. O ran eich sylw am oedi wrth drosglwyddo gofal, mae'n eithaf diddorol, a dweud y gwir, oherwydd, pan oeddwn yn mynd drwy amryw o wahanol ysbytai ledled y wlad, fel y caiff pob Gweinidog iechyd y cyfle i wneud drwy gydol y flwyddyn ac yn arbennig drwy'r gaeaf, mae ein hymgynghorwyr meddygol brys mewn gwirionedd yn griw eithaf gonest, a byddan nhw'n dweud wrthych chi yr hyn y maen nhw'n ei gredu sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn i mi yw nad ydyn nhw wedi gwneud cais am fwy o welyau yn yr ysbyty yn gyffredinol. Ac rydym ni'n dadlau'n aml am niferoedd gwelyau yn y lle hwn, wrth ddweud, 'rydych chi wedi cael gwared ar ormod o welyau o'r system dros gyfnod hir', ond, a dweud y gwir, eu hangen mawr nhw yw sicrhau mwy o gapasiti mewn gofal cymdeithasol. Cefais ychydig o sgyrsiau diddorol iawn yn ystod y gaeaf pryd dywedon nhw, 'Mae gennym ni her ar hyn o bryd, ond nid wyf yn credu mai cael 20 neu 30 o welyau ychwanegol yn yr ysbyty ar ben yr hyn sydd gennym ni yn barod yw'r ateb'. Roedden nhw'n dweud, 'rydym ni eisiau cael mwy o gapasiti ym maes gofal cymdeithasol i ryddhau pobl o'r ysbyty', oherwydd roedden nhw i gyd yn gwybod am y niferoedd mawr o bobl feddygol iach a oedd yn yr ysbyty, a dyna oedd yr her o ran y system gyfan yn methu â symud pobl i'r man lle'r oedd angen iddyn nhw fynd iddo.

Rwyf wedi crybwyll y materion hyn ac wedi cael trafodaethau gyda byrddau iechyd a llywodraeth leol gyda'i gilydd ar oedi wrth drosglwyddo gofal. Yn ddiweddar, rwyf wedi cwblhau cyfres o gyfarfodydd gyda phob bwrdd partneriaeth ranbarthol, arweinwyr iechyd a llywodraeth leol, ac rwyf wastad, ers —. Wel, yn dilyn fy nhrafodaethau cyntaf am oedi wrth drosglwyddo gofal, lle siaradais yn unigol ag awdurdodau lleol ac wedyn eu bwrdd iechyd a chanfod eu bod yn dweud yn fras mai'r partner nad oedd yn yr ystafell a oedd yn gyfrifol, rwyf bob amser wedi cael cyfarfodydd ar y cyd. Mae wedi bod yn ffordd well o lawer i ddeall sut y gallai ac y dylai'r cynnydd edrych. Ac mae pawb yn deall bod hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, ond, i'r un graddau iddyn nhw hefyd, boed ym maes iechyd neu lywodraeth leol, ac rydym ni mewn sefyllfa well o lawer, gyda llai o oedi wrth drosglwyddo gofal nag erioed o'r blaen, ond yn Lloegr, fel arall mae'r duedd. Felly, rydym ni'n gwneud rhai pethau'n gywir, ond mae a wnelo â faint yn fwy y mae angen i ni ei wneud.

Ac yna eich sylw am newidiadau pensiwn: wel, mae hon yn her fawr i'r gwasanaeth iechyd, nid yn unig yn y maes hwn, ond yn her lawer ehangach, ac nid dim ond yn her i Gymru. Mae'n effeithio ar bob un genedl yn y DU, pob un partner yn y gwasanaeth iechyd gwladol, ac mae'n gwenwyno'r ewyllys da sy'n bodoli ymysg ein staff sy'n barod i wneud gwaith ychwanegol yn y gwasanaeth iechyd gwladol, gan gynnwys gweithio ar fentrau rhestrau aros ar nosweithiau a'r penwythnosau, a nawr maen nhw'n darganfod biliau treth sylweddol ac annisgwyl yn cyrraedd eu stepen drws. Mae'n broblem sydd wedi'i chreu drwy newid rheolau'r Trysorlys a'r perygl yw y byddwn yn gyrru gweithwyr y GIG allan o'r gwasanaeth iechyd—nid meddygon yn unig, ond staff eraill hefyd—a bydd yn rhaid i ni brynu'r gwasanaethau hynny wedyn a bydd yn costio cymaint os nad mwy na'r hyn y byddem ni fel arall yn ei dalu i staff y GIG. Y risg arall, wrth gwrs, yw, os byddwn yn gyrru staff sydd ar gyflogau breision allan o gynllun pensiwn y GIG, yna mae'n bosib y byddwn yn tanseilio'r cynllun ar gyfer y dyfodol. Felly, rwyf eisoes wedi gohebu â Llywodraeth y DU gyda hyn mewn golwg; y bwriad yw cynnal ymgynghoriad ffurfiol yn y dyfodol agos. Ond rwyf yn gobeithio bod y Trysorlys yn barod i wrando ar bob rhan o'r gwasanaeth iechyd hwladol a gwneud y peth cywir i'n GIG ni, neu fe fyddwn ni i gyd yn talu pris os gwrthodant wneud hynny.

15:20
4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd—Mesurau Datblygu Economaidd
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Eitem 5 yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am wella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Caiff ein gweledigaeth ni o ran gwasanaethau plant ei hamlinellu'n glir yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud  Cymru Ymlaen', ac yn ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Rwy'n credu bod consensws trawsbleidiol cryf ymysg aelodau'r Siambr hon fod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod plant sy'n cael profiad o ofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael i'w galluogi nhw i ffynnu mewn amgylchiadau diogel a mwynhau'r un cyfleoedd ag y byddai unrhyw blentyn arall yn eu disgwyl.

Rwy'n credu hefyd bod consensws y dylai plant, os oes modd, gael cymorth i fod gyda'u teuluoedd biolegol. Mae ein Prif Weinidog wedi tynnu sylw at y ffaith bod nifer cynyddol y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn faes blaenoriaeth ar gyfer camau ataliol. Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn am osod disgwyliadau clir i leihau nifer y plant mewn gofal, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu lleoli y tu allan i'w sir, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu lleoli y tu allan i Gymru, yn ogystal â lleihau nifer y plant sy'n cael eu symud oddi wrth rieni sydd ag anabledd dysgu.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 6,405 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru ar 31 o fis Mawrth 2018. Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 34 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Mae adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi na ellir priodoli'r cynnydd hwn yn unig i gyni. Cyfradd y plant sy'n derbyn gofal fesul 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru yw 102. Serch hynny, mae hyn yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau yng Nghymru, o 50 fesul 10,000 o'r boblogaeth ar ei isaf, hyd 191 fesul 10,000 o'r boblogaeth ar ei uchaf. Ac er bod amddifadedd yn ffactor pwysig yn yr amrywiad hwn, ceir amrywiadau hefyd o ran ymarfer. Ni ellir goddef y gwahaniaeth hwn rhwng ardaloedd na'r cynnydd cyffredinol, ac mae'r awdurdodau lleol eu hunain wedi cydnabod y pwysau sy'n cael ei roi ar wasanaethau plant ac ar y llysoedd teulu.

Mae bron 25 y cant o'r plant sy'n derbyn gofal yn cael eu lleoli y tu allan i'w sir a 5 y cant yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru. Er bod rhesymau da yn aml dros eu lleoli y tu hwnt i'r ardal—er enghraifft, yr angen am leoliadau arbenigol neu gyda ffrindiau a'r teulu ehangach—rydym yn awyddus i ystyried a ellid lleoli cyfran o'r plant hyn mewn modd mwy priodol yn nes at eu cynefin. Bydd y disgwyliadau arfaethedig o ran lleihau hyn yn ymestyn dros gyfnod o dair blynedd, gyda gwerthuso a monitro'n digwydd yn rheolaidd, yn chwarterol ac ar ddiwedd pob blwyddyn.

Rwy'n cydnabod bod yr agenda hon yn un heriol. Er hynny, o ystyried y pwysau a roddir ar awdurdodau lleol a'r llysoedd teulu mewn oes lle mae adnoddau yn prinhau, mae'n rhaid i ni gymryd camau a fydd yn helpu i leihau mewn modd diogel nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, gan alluogi ail-fuddsoddi mewn adnoddau i atal a chefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn gwbl glir, drwy weithredu mewn dull sy'n rhoi diogelwch yn gyntaf yma yng Nghymru, nid oes dim yn bwysicach na'r angen i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Ac rwyf wedi ymrwymo i weithio mewn modd cydgynhyrchiol ag awdurdodau lleol i ddatblygu disgwyliadau o ran lleihau sydd wedi cael eu teilwra'n benodol i bob awdurdod lleol, a'u teilwra i'w poblogaethau a'u demograffeg nhw.

Cafodd y dull hwn o weithredu ei groesawu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sydd wedi ymrwymo i weithio gyda ni ar yr agenda hon. Gan weithio mewn ffordd gydgynhyrchiol, sefydlwyd grŵp technegol, gydag uwch gynrychiolwyr o Lywodraeth Leol a'r trydydd sector. Datblygwyd fframwaith ar gyfer trafodaeth a thempled ar gyfer adrodd cyn i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gael ymweliad gan dîm bychan i ymgysylltu â phlant sy'n derbyn gofal. Helpodd y fframwaith i bennu'r agenda a sicrhau bod trafodaeth yn digwydd yn gyson ym mhob awdurdod lleol, gan ganolbwyntio ar sut y maen nhw'n rheoli eu gwasanaeth, eu dull o ymdrin â risg, a'u dull o reoli mynediad i ofal a gadael gofal. Cwblhawyd pob un o'r 22 ymweliad ym misoedd Ebrill a Mai. Roedd y tîm ymgysylltu yn edmygu maint y gwaith sy'n cael ei wneud ledled Cymru i gefnogi plant a theuluoedd ac i osgoi'r angen am ymyrraeth statudol, a chafodd y trafodaethau a gynhaliwyd gydag awdurdodau lleol dderbyniad da.

Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar yr angen am gyfrifoldeb ar y cyd dros wasanaethau plant ar lefel gorfforaethol i helpu i wella canlyniadau i blant. Anogwyd yr awdurdodau lleol i ddangos sut y maen nhw'n rheoli'r busnes gwasanaethau plant, gan gynnwys gwybodaeth am y fframwaith ymarfer y maen nhw'n ei weithredu, data am y gwasanaethau a ddarperir i blant a theuluoedd, monitro perfformiad ac olrhain. Anogwyd awdurdodau lleol i fod yn uchelgeisiol wrth ddatblygu eu cynlluniau o ran disgwyliadau lleihau. Cyhoeddwyd y neges yn glir am yr angen i weithredu i ailgydbwyso'r system, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar i gefnogi buddiannau plant a theuluoedd. Wrth i'r swyddogion fynd o amgylch Cymru, mynegwyd pryderon ynglŷn â chanlyniadau posibl methiant wrth fodloni'r disgwyliadau. Rhoddwyd sicrwydd i'r awdurdodau lleol nad oedd cosbi'n cael ei ystyried.

Fodd bynnag, fe ddaw canlyniadau amlwg yn sgil peidio â gweithredu. Er nad yw ystadegau swyddogol ar niferoedd y plant sy'n derbyn gofal ar gael ar gyfer 2018-19 tan fis Tachwedd, cyfeiriodd yr awdurdodau lleol at y ffigurau cynnar, fel y rhai ym mis Mawrth 2019, sy'n dangos cynnydd arall o bosib yn nifer y plant sy'n derbyn gofal o oddeutu 470, gan arwain at gyfradd o 109 i bob 10,000 o'r boblogaeth. O gymharu hyn â gwledydd eraill y DU, yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft, mae'r gyfradd yn is o lawer, sef 71 fesul 10,000, er gwaethaf y ffaith ei bod yn fwy difreintiedig yno nag yng Nghymru, yn gyffredinol. Ar sail y tueddiadau presennol, os na chymerwn ni unrhyw gamau gweithredu, bydd y niferoedd yn parhau i gynyddu 6 y cant ar gyfartaledd bob blwyddyn.

Yn dilyn yr ymweliadau, rhoddodd pob awdurdod lleol ei gynlluniau ar gyfer disgwyliadau o ran lleihad erbyn 31 Mai. Mae 16 o awdurdodau lleol wedi gosod nodau i leihau niferoedd y rhai sy'n derbyn gofal, sy'n golygu gostyngiad o 4 y cant ar gyfartaledd ym mhob un o'r tair blynedd nesaf. Mae trafodaethau ar y gweill gyda'r awdurdodau hynny sydd heb ymrwymo eto i ostyngiadau. Roedd ymweliadau pellach yn cael eu cynllunio i helpu'r awdurdodau hynny i ddatblygu eu disgwyliadau nhw o ran lleihad. Mae angen eglurhad hefyd ar y cynlluniau a gyflwynir o ran yr hyn sy'n digwydd y tu allan i'w sir, y tu allan i Gymru ac yn achos plant a symudir oddi wrth rieni sydd ag anabledd dysgu. Er bod awdurdodau lleol wedi dweud wrthym fod plant yn cael eu lleoli mewn modd priodol, fe'u hanogir i ddangos eu cynlluniau ar gyfer dod â phlant yn nes i'w cynefin.

Mae awdurdodau lleol wedi tynnu sylw'n gyson at y ffaith bod gan y farnwriaeth, y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru a byrddau iechyd hefyd waith allweddol o ran cefnogi cynlluniau ar gyfer disgwyliadau lleihad. Rydym yn pryderu, er enghraifft, fod nifer y plant sydd wedi cael eu lleoli gyda rhieni dan orchymyn gofal wedi cynyddu yn sylweddol dros y tair blynedd diwethaf. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gyda'r farnwriaeth a CAFCASS Cymru i ddeall yr amharodrwydd i ddefnyddio gorchmynion goruchwylio, adran 76 a gweithredu'r egwyddor na ddylid rhoi gorchymyn.

Bydd awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad cenedlaethol dysgu a chefnogi gan gymheiriaid ym mis Hydref er mwyn dysgu am y negeseuon allweddol a ddaw o'r gwaith hwn. Bydd awdurdodau lleol yn cael eu hannog i gydweithio a rhannu arferion gorau a fydd yn helpu i leihau'r amrywiaeth yn y niferoedd ledled Cymru. Mae'r ymarfer hwn yn cyd-fynd â'r gweithgarwch sy'n parhau yn sgil y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant a'i grŵp cynghori gweinidogol, y mae David Melding AC yn ei gadeirio yn fedrus ac yn llwyddiannus, yn enwedig y canolbwyntio ar ffrwd waith 1, ynghylch atal ac ymyrraeth gynnar a lleihau'r angen am ofal mewn modd diogel. Gyda'i gilydd, mae hyn yn dangos ein hymrwymiad cadarn i ailgydbwyso'r system ar gyfer plant sy'n derbyn gofal fel y gellir rhoi'r cymorth cywir i alluogi teuluoedd i gefnogi eu plant eu hunain, a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y plant hynny sydd mewn gofal.

15:25

Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad, ac rwyf i hefyd am gadarnhau'r gred, eich bod yn llygad eich lle, fod consensws trawsbleidiol cryf ymysg aelodau'r Siambr hon fod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod y gofal y mae plant yn ei gael o'r ansawdd gorau. Er hynny, yn eich dwylo chi y mae'r awenau o ran pwerau, ac felly roeddwn i'n darllen eich datganiad gyda chryn ddiddordeb. Mae angen mesurau ar frys, gan fod Cymru wedi gweld cynnydd o 34 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal dros y 15 mlynedd diwethaf. Yn 2017, cafodd 23 o gynlluniau gofal a chymorth eu rhoi ar waith gan y gwasanaethau i blant bob dydd. Ar gyfartaledd, roedd plentyn neu unigolyn ifanc yn cael ei dderbyn i'r system gofal yng Nghymru bob pedair awr. Felly, fel y cytunwch, rwy'n siŵr, mae'n frawychus bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cyrraedd cyfradd o 109 fesul 10,000 o'r boblogaeth, gan syrthio y tu ôl i wledydd eraill y DU.

Felly, cwestiwn rhif 1. Lleolir dau ddeg a phump y cant o blant y tu allan i'w sir, a 5 y cant y tu allan i Gymru. Nawr, rydych chi wedi dweud eich bod eisiau edrych i weld a oes modd lleoli cyfran o'r rhain yn nes i'w cynefin. Felly, gan hynny, a wnewch chi egluro pa gamau yr ydych yn eu cymryd i gyflawni hyn, ac a wnewch chi osod nod a therfyn amser, inni gael gweld gostyngiad yn y niferoedd?

Cwestiwn 2. Rydych wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu disgwyliadau o ran lleihad, wedi cael eu teilwra i'w poblogaethau a'u demograffeg nhw. Er hynny, dim ond 16 o awdurdodau o'r 22 sydd wedi gosod nodau i leihau'r niferodd yn eu poblogaeth nhw sy'n derbyn gofal. Felly, mae'n debyg mai'r cwestiwn yw: pam felly, a phryd y dylem ni ddisgwyl gweld nodau'n cael eu gosod ar gyfer y chwe awdurdod lleol arall? Fel y cytunwch, rwy'n gobeithio, mae angen inni weld pob cyngor yn gweithio tuag at leihad, ac os nad oes nod, tybed pa mor llwyddiannus fydd y cynlluniau ar gyfer disgwyliadau o ran lleihad.

A'm cwestiwn olaf i, Dirprwy Weinidog. Gwyddom fod awdurdodau lleol yn allweddol i fynd i'r afael â'r argyfwng o ran plant sy'n derbyn gofal yma yng Nghymru. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol dan bwysau ariannol enfawr. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod adran gwasanaethau plant Cyngor Ynys Môn wedi gorwario ei chyllideb 2018-19 gan £1,830,000, yn bennaf oherwydd cynnydd sydyn yn nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal, a lleoliadau costus y tu allan i'r sir ar ben hynny. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i'n hawdurdodau lleol ni, sy'n dweud mai materion cyllid yw'r rhwystr i leihad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal? Ac a wnewch chi egluro faint o blant eto yr ydych yn disgwyl iddyn nhw ddod o dan gylch gwaith system gofal sydd mewn trafferthion eisoes? A hefyd, ar adeg yr ydym yn gweld y fath argyfwng o ran plant sy'n derbyn gofal, a llawer o bwysau ar ein hadrannau gofal cymdeithasol, a oes gwir achos dros ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol?

15:30

Rwy'n diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiynau hynny. Rydym ni'n dod â'r datganiad hwn gerbron y Siambr hon heddiw oherwydd ein bod yn bryderus iawn ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y plant mewn gofal, a chredaf fy mod i wedi rhestru'r ffyrdd yr ydym ni'n gobeithio mynd i'r afael ag ef. Mae hi'n iawn; bu cynnydd o 34 y cant dros y 15 mlynedd diwethaf, ac ni allwn ni ganiatáu i hyn barhau. Ni allwn ni ganiatáu i hyn barhau er mwyn y plant, a dyna'r holl reswm pam rydym ni'n gwneud hyn—rydym ni am roi'r plant yn gyntaf. A gwyddom, pryd bynnag y bo hynny'n bosibl, ein bod yn dymuno i'r plant gael aros yn eu cartrefi eu hunain. Felly dyna'r rheswm pam y gwnawn ni hyn.

O ran y ffaith bod 25 y cant y tu allan i'r sir, a rhai ohonyn nhw y tu allan i'r wlad hefyd, mae'n amlwg ei bod hi'n well o lawer i'r plant pe gellid eu lleoli nhw'n nes at eu teuluoedd, ac yn agos at eu rhwydwaith o wasanaethau lleol. Mae'r cyswllt yr wyf i wedi ei gael gyda phlant sydd mewn gofal—un o'r prif bethau y maen nhw'n ei ddweud yw eu bod nhw'n awyddus i gadw cysylltiad, yn enwedig gyda'u brodyr a'u chwiorydd. Y cyfan y maen nhw'n ei ddymuno yw cael gweld eu brodyr a'u chwiorydd. Ac os ydych chi'n eu lleoli nhw ymhell i ffwrdd, mae hynny'n anodd iawn. Felly, rydym yn annog awdurdodau lleol i ddatblygu cyfleusterau yn eu hardaloedd nhw eu hunain, ar sail ranbarthol, fel y gall rhai o'r plant hyn sy'n mynd y tu allan i Gymru, gyda lleoliadau costus iawn, gael eu lleoli o fewn y wlad—y wlad hon, yng Nghymru. Bu rhai datblygiadau da iawn yn hynny o beth. Mae'r byrddau partneriaethau rhanbarthol yn gwneud hynny ar hyn o bryd, ac rydym wedi rhoi symiau o arian iddyn nhw i wneud hynny'n benodol. Felly, rydym yn symud i'r cyfeiriad hwnnw.

Pam 16 awdurdod yn unig? Mae dau ddeg a dau o awdurdodau wedi cytuno gyda'n hamcanion ni. Mae dau ddeg a dau o awdurdodau yn cefnogi'r agenda yr ydym ni wedi ei phennu, ond dim ond 16 o awdurdodau sydd wedi gwireddu'r gostyngiad y bydden nhw'n ei ddymuno. Ac rydym ni'n falch iawn bod yr awdurdodau hynny wedi ymateb yn y ffordd y maen nhw, gan ddefnyddio ffyrdd synhwyrol iawn o atal plant rhag cael eu rhoi mewn gofal ac adsefydlu plant mewn ffordd gadarnhaol iawn, iawn. O ran y rhai nad ydyn nhw wedi gwneud hynny, rydym ni'n trafod gyda nhw o hyd. Felly, mae'r drafodaeth honno'n parhau o hyd.

Rwyf i o'r farn fod yna nerfusrwydd sy'n ddealladwy ymysg awdurdodau lleol ynglŷn â chyflwyno'r niferoedd y bydden nhw'n gallu eu lleihau. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd ddeall fod yna nerfusrwydd ynghylch pennu targedau, ac felly rwy'n ddeall yn llwyr sut mae'r awdurdodau lleol yn teimlo. Ond rydym ni'n gweithio gyda nhw, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y chwech arall yn gallu dod ymlaen, ac y gallwn ni weithio gyda nhw i gefnogi sefydlogrwydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal. Oherwydd mae'n rhaid inni weithredu, ac un o'r ffyrdd gorau o wneud hynny yw gweithio gyda'r awdurdodau lleol i ostwng y niferoedd hynny. Felly, rydym ni'n parhau i weithio gyda'r chwe awdurdod lleol nad ydyn nhw, hyd yma, mewn gwirionedd wedi cyflwyno unrhyw niferoedd.

Mae'n wair dweud bod yr awdurdodau lleol dan bwysau ariannol mawr. Un o'r pwysau mwyaf, rwy'n credu i Janet Finch-Saunders gyfeirio ato, yw'r swm enfawr o arian y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu am rai o'r lleoliadau hyn y tu allan i'w sir. Felly, un o'r ffyrdd o leihau'r effaith arnyn nhw yw eu helpu i gadw'r plant yn eu cartrefi, yn nes adref, a dyna un o'r rhesymau pam mae'n amlwg ein bod ni wedi rhoi symiau penodol o arian i'r gwasanaethau ar ffiniau gofal. Felly, mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru wasanaeth ar ffiniau gofal erbyn hyn. A gallaf ei sicrhau ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r rhaglen gyni. Rydym wedi cael dadl fawr ynglŷn â hynny yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, ac rydym yn gwybod bod rhywfaint o'r diwygiadau lles a gyflwynwyd yn achosi llawer iawn o galedi. Ond rwyf i'n wir yn credu na allwn ni ganiatáu i'r sefyllfa hon barhau. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn ar hyn er lles y plant.  

15:35

Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei datganiad. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, hoffwn innau ei sicrhau hi bod y consensws trawsbleidiol ynghylch rhoi ein plant ni yn gyntaf, ynghylch y plant hyn sy'n derbyn gofal, mewn ffordd, ein plant ni fel Cynulliad Cenedlaethol a Senedd genedlaethol—ein bod ni'n teimlo cyfrifoldeb unigol tuag atyn nhw yn unol â'r agenda rhianta corfforaethol lleol. Ond bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol hefyd fod yna rai ohonom ni'n poeni am chwarae gêm rhifau gyda'r mater penodol hwn.

Hoffwn i ddechrau drwy holi ychydig mwy i'r Dirprwy Weinidog am y gwasanaethau ataliol. Roeddech chi'n disgrifio'r ffordd yr aeth y tîm ymgysylltu allan a'u bod nhw'n edmygu'r hyn a welson nhw, ond mae'r sylwadau yr wyf i'n eu cael gan y sector a'r plant a'r bobl ifanc eu hunain yn awgrymu bod rhai o'r gwasanaethau ataliol hynny'n amrywio'n fawr iawn. Mae gwasanaeth ar ffiniau gofal gan bob awdurdod lleol erbyn hyn, ac mae hynny'n amlwg i'w groesawu. Ond hoffwn i glywed ychydig mwy heddiw, Dirprwy Weinidog, am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau cysondeb yn y gwasanaethau hynny, sut y caiff teuluoedd fynd at y gwasanaethau hynny, y mathau o gymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Nid wyf i'n awgrymu bod angen ichi osod rhyw fath o batrwm cenedlaethol, oherwydd efallai nad yw'r hyn sy'n briodol yng Ngwynedd yn briodol ym Mlaenau Gwent, ond mae angen inni gael cysondeb o'r fath.

Byddwn i'n dweud wrthych chi, Dirprwy Weinidog, fod yna berygl, ar un ystyr, o roi'r drol o flaen y ceffyl yn y fan hon; rydych chi'n awyddus i awdurdodau lleol gytuno ar dargedau ar gyfer lleihau niferoedd, ond heb fod â disgwyliadau cenedlaethol o reidrwydd ynghylch y mathau o wasanaethau ataliol, faint o wasanaethau ataliol sydd eu hangen i wneud y gostyngiad hwnnw'n rhywbeth sy'n ystyrlon. Oherwydd, er fy mod i'n hynod o falch eich clywed yn dweud bod y Llywodraeth yn cymryd yr agwedd fod diogelwch yn dod yn gyntaf, rwy'n cymryd bod hynny'n golygu—ac efallai y gwnewch chi gadarnhau hynny i ni—na fyddech chi byth yn disgwyl i awdurdod lleol beidio â chymryd plentyn i mewn i ofal dim ond am fod hynny'n mynd i ddifetha eu targedau nhw pe bydden nhw'n gwneud y ffasiwn beth. Ond tybed a fyddech chi'n cydnabod, Dirprwy Weinidog, fod yna berygl o osod cymhellion gwrthnysig yn y system. Gwyddom fod pobl yn gwneud yr hyn sy'n cael ei gyfrif. Ac os yw nifer y plant neu ganran yn ôl y boblogaeth—neu sut bynnag y caiff hynny ei fesur—yn cael ei gyfrif, ac nid nifer y plant sy'n cael mynediad effeithiol at wasanaethau ar ffiniau gofal, yna mae'n debyg iawn mai'r perygl yw y bydd pobl yn gwneud yr hyn sy'n cael ei gyfrif, ac os mai dim ond niferoedd y plant—.

Rwy'n ofidus ynglŷn â'r achosion ymylol hynny, a bod yn onest, Dirprwy Weinidog. Rwy'n ofidus y gallai fod pwysau ar weithwyr cymdeithasol ar y rheng flaen. Rydym ni ein dwy wedi gweithio yn y maes, mae'r ddwy ohonom yn gwybod sut beth yw rheolwyr yn dweud wrthych chi, 'Wel, wyddoch chi, a yw hyn mor ddifrifol â hynny?' oherwydd mae'r gwasanaeth hwn yn orlawn, neu 'Nid oes arian wedi'i ddyrannu inni ar gyfer hyn.' Felly, byddwn i'n ceisio rhyw sicrwydd—a dyma eich cyfle i ailadrodd, efallai, yr hyn yr ydych wedi ei ddweud eisoes—na fyddech chi byth yn disgwyl i awdurdod lleol beidio ag amddiffyn plentyn unigol oherwydd ei fod yn mynd i ddrysu'r ffigurau. Rwy'n siŵr nad yw hynny'n ddisgwyliad gennych chi o gwbl, ond rwy'n gobeithio y byddech chi'n cydnabod bod pwysau o'r fath yn bodoli.

Roeddwn i'n falch o'ch clywed yn dweud yn eich datganiad y byddech chi'n ystyried poblogaeth a demograffeg y sir. Er enghraifft, nid wyf i'n siŵr—ac fe fyddai hi'n ddiddorol gwybod—a yw siroedd llai o faint yn ddaearyddol yn cael mwy o leoliadau y tu allan i'r sir? Efallai y bydd yn haws dod o hyd i leoliad yn y sir os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf nag ydyw os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol ym Merthyr Tudful yn syml oherwydd maint y boblogaeth yr ydych chi'n ymdrin â hi. Felly, mae eich clywed chi'n dweud y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r gwahanol heriau sy'n wynebu'r awdurdodau lleol amrywiol yn achos rhyddhad i mi.  Byddwch yn ymwybodol, drwy'r sgyrsiau hynny ac, rwy'n siŵr, drwy sylwadau uniongyrchol, fod gan rai o'r awdurdodau lleol yn y gogledd, er enghraifft, broblemau gwirioneddol o ran poblogaethau dros dro—y bydd teuluoedd yn dod i'r amlwg sydd eisoes mewn helbulon mawr iawn, ac efallai nad oes ganddyn nhw amser i roi cyfle i'r rheini gael y gwaith ataliol mewn da bryd. Felly, hoffwn pe gallech ein sicrhau ni y bydd y mathau hynny o faterion unigol ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu hystyried, os ydych chi'n bwriadu dilyn y targedau hyn.

Hoffwn i ofyn hefyd pa adnoddau ychwanegol a allai fod ar gael i awdurdodau lleol, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau ataliol. Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd. Dywedodd rhywun wrthyf unwaith—a hoffwn i'n fawr pe na fyddai'n wir—nad oes modd ennill llawer o bleidleisiau gyda mater plant sy'n derbyn gofal. Nid oes llawer o bobl, pan fyddan nhw'n penderfynu pwy i bleidleisio o'i blaid mewn etholiad awdurdod lleol, yn rhoi'r ystyriaeth bennaf i'r swm y mae'r awdurdod yn ei wario ar wasanaethau ataliol i blant. Felly, tybed a wnewch chi roi rhywfaint o ystyriaeth, yn y tymor hwy yn y broses gyllidebu, i rai adnoddau a ddiogelir efallai ar gyfer y maes penodol hwn o waith—ar gyfer camau ataliol, ar ffiniau gofal, ac un cam yn ôl.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Dirprwy Lywydd am ei goddefgarwch. Rwy'n dymuno codi un neu ddau o bwyntiau yn fyr iawn. Mae'n edrych arna i dros ei sbectol yn y ffordd honno sydd ganddi, a gwyddom ein bod mewn trybini pan fydd hynny'n digwydd inni.

15:40

Hoffwn i glywed barn y Gweinidog heddiw ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus ehangach fwy eang, nid gwasanaethau cymdeithasol yn unig, yn cymryd o ddifrif eu cyfrifoldeb dros blant sy'n derbyn gofal. Rwy'n meddwl am y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau addysg—rydym ni'n gwybod fod yna rai problemau gwirioneddol yn parhau gyda gwahaniaethu'n digwydd mewn ysgolion i blant sy'n derbyn gofal—ac o ran tai. A yw'r Gweinidog yn teimlo y gallai fod yn amser priodol i ystyried deddfu ar yr agenda rhianta corfforaethol? Gwn fod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried gan y grŵp cynghori Gweinidogol, ond weithiau mae angen inni fod yn gadarn iawn gyda sefydliadau ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl.

Rwy'n pryderu, ac rwy'n siŵr eich bod chwithau, Dirprwy Weinidog, am blant sydd mewn gofal yng Nghymru o'r tu allan i Gymru, mewn nifer mawr iawn a chynyddol o gartrefi plant preifat. Nawr, yn amlwg, nid yw'r plant hynny'n blant i ni fel y mae ein plant ni ein hunain sy'n derbyn gofal, ond tra eu bod nhw gyda ni, y ni sy'n gyfrifol amdanynt. Rwy'n poeni'n fawr am ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn rhai o'r cartrefi hynny. Tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn werth inni ystyried darparu gwasanaeth eiriolaeth ar gyfer pob un o'r cartrefi hynny, ac y byddai hynny'n amod ar y cartrefi hynny'n cael eu cofrestru, fel ein bod yn cael rhywfaint o sicrwydd bod unigolyn annibynnol yn mynd i'r cartrefi hynny, gan weld sut mae'r plant yn dod yn eu blaenau, a bod llais i'w gael yno i'r plant hynny pe byddai angen—cynnig o eiriolaeth ragweithiol. Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd inni y bydd hi, yn y gwaith hwn drwyddo draw, yn rhoi sylw manwl iawn i'r bobl ifanc sydd yn y system ar hyn o bryd ac i'r lleisiau sydd â phrofiad o fod mewn gofal? Diolch i chi eto, Dirprwy Lywydd.

Rwy'n diolch i Helen Mary Jones am y rhestr faith o gwestiynau. Rwyf am geisio ymdrin â rhai ohonyn nhw o leiaf. Rwy'n awyddus i ateb yr un pwysicaf, sef wrth gwrs nad ydym ni'n disgwyl i unrhyw blentyn beidio â chael ei gymryd i mewn i ofal os ydyw mewn perygl o gael ei esgeuluso neu ei gam-drin. Rydym yn eiddgar i wneud hyn mewn modd diogel, ac rydym yn dymuno gwneud hynny, fel y dywedais i eisoes, er lles y plant, a dyna'r rheswm y tu ôl i'r datganiad hwn heddiw.

Y pwynt arall yw nad oes neb yn gorfodi unrhyw dargedau ar neb arall. Bydd yr awdurdodau lleol yn cyflwyno eu targedau eu hunain. Felly, os ydyn nhw'n cyflwyno'r targedau, byddan nhw'n ystyried y ddaearyddiaeth, y maint, ac fe fyddan nhw'n cyflwyno targedau. Ac fel yr wyf i'n ei ddweud, mae'r rheini sydd wedi cyflwyno targedau wedi cyflwyno ffyrdd ystyrlon iawn o allu lleihau'r niferoedd, ac wedi sefydlu cynlluniau i atal nifer penodol o blant rhag dod i mewn, ac ar gyfer ailuno plant eraill lle credant fod hynny'n bosibl. Rwyf i o'r farn fod 16 allan o 22 yn rhif gweddol dda, mewn gwirionedd, ar gyfer y rhai sydd wedi cyflwyno'r targedau hyn ac wedi eu hystyried nhw'n ofalus iawn. Ond nid ydym yn dymuno eu gorfodi na phennu cosbau; y cyfan y mae hyn yn ei wneud yw ceisio sicrhau strwythur cyffredinol i geisio atal y cynnydd hwn yn nifer y plant sy'n cael eu derbyn mewn gofal, fel y bydd pawb, rwy'n siŵr, yn cytuno nad honno yw'r ffordd orau o wneud pethau. Felly, mae'n rhaid inni wneud rhywbeth i geisio atal hyn, a chan geisio gwneud hyn mewn ffordd sy'n gweithio ar y cyd, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol i roi'r cymorth y gallwn ni i'w helpu i gyflawni—dyna'r rheswm y gwnawn ni hyn.

Felly, nid wyf i'n credu y dylai'r Aelod ofidio am y defnydd o ffigurau, oherwydd nid yw'n ffordd o orfodi awdurdodau lleol i gyflwyno nifer o ffigurau. Nid honno yw'r ffordd yr ydym ni'n gwneud hyn. Mae'n cynnig cyfle iddynt gyflwyno'r ffigurau y maen nhw'n credu y gallen nhw eu lleihau'n ddiogel, a gweithio gyda nhw a cheisio eu helpu nhw i gyflawni hynny. Felly rwy'n credu mai dyna'r peth pwysicaf o'r holl bethau a ddywedwyd ganddi, gan fy mod i'n deall, oherwydd fel y dywedodd hi, roeddwn innau'n gweithio yn y maes hefyd, ac felly'n gwybod am y pwysau sydd ar awdurdodau lleol. Ond yn sicr, nid oes unrhyw fodd y gellid gadael unrhyw blentyn heb ddiogelwch am y rheswm hwn. Felly, rwy'n credu mai dyna oedd y prif bwynt, ac rwy'n awyddus i dawelu ei meddwl hi a cheisio ei hargyhoeddi o hynny.

O ran y pwyntiau eraill, yn gyflym iawn, o ran yr amrywiaeth ledled y wlad, ydw, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno. Oherwydd, fel y dywedais, y gwasanaethau ar ffiniau gofal, rydym wedi rhoi £5 miliwn o fuddsoddiad rheolaidd i'r gwasanaethau ar ffiniau gofal, ac mae dros 3,600 o blant wedi cael cymorth hyd yn hyn i aros o fewn yr uned deuluol. Dyna'r ffigurau am 2017-18. Felly, mae hwnnw'n gynnydd da, ac mae'n amlwg bod llawer o ffyrdd eraill yr ydym ni'n rhoi cymorth, drwy Teuluoedd yn Gyntaf, drwy Dechrau'n Deg. Ond wrth gwrs, dim ond mewn nifer cyfyngedig o ardaloedd y ceir hynny, ac yn sicr rydym yn ystyried hwn yn faes blaenoriaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi hyn yn un o'i brif flaenoriaethau, ac rwy'n credu ei bod yn glodwiw iawn fod y Prif Weinidog wedi rhoi hyn ar ben ei agenda ef: gadewch inni geisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal, a rhoi cyfle iddyn nhw fyw gyda'u teuluoedd, os gallwn ni roi'r tamaid bach ychwanegol hwnnw o gymorth. Felly mae'r cyfan wedi ei anelu at hynny er mwyn gwella cyfleoedd bywyd i blant.

Ac yna rwyf eisiau codi'r pwynt olaf a wnaethoch chi, o ran y pryder am sefydliad preifat lle mae llawer o blant o'r tu allan i Gymru wedi cael eu lleoli. Unwaith eto, rwy'n credu bod hwnnw'n destun pryder enfawr, oherwydd er mai ni sy'n gyfrifol am ein plant ni sy'n byw yng Nghymru, mae'r plant hynny'n cael eu lleoli ymhell oddi wrth eu teuluoedd, felly nid oes ganddyn nhw'r mathau hynny o wiriadau ar yr hyn sy'n digwydd. Felly, yn sicr, credaf y gallem ni gael trafodaeth eto ar yr hyn y gellid ei wneud i geisio edrych ar y sefydliadau hynny.

15:45

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Yr wythnos diwethaf, ar y cyd â phawb arall ar y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fe ymwelais i â'r uned troseddwyr ifanc yng ngharchar y Parc. Roedd yn beth da imi gael fy atgoffa o'r angen i wella'r canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal, pe byddai eisiau hynny, gan fod 40 y cant o'r bobl ifanc a oedd yno wedi derbyn gofal. Felly, rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gefnogi'n gryf iawn yn y Siambr hon.

Mae'n rhaid imi ddweud, er hynny, fy mod i'n anesmwyth iawn gyda'r syniad o bennu targedau neu ddisgwyliadau am leihad, neu beth bynnag y dymunwch chi eu galw nhw, yn y maes hwn, am y rhesymau y mae Helen Mary Jones newydd eu mynegi. Rwy'n credu bod yna berygl bob amser o gymhellion gwrthnysig a mesur yn unig yr hyn a gyfrifir. Roedd yr adolygiad o'r argyfwng gofal yn y DU 2018 yn nodi nad oedd unrhyw esboniad syml am y niferoedd cynyddol o blant sy'n derbyn gofal. Felly rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud fy mod i a'r pwyllgor yn bryderus hefyd ei bod yn annhebygol y ceir unrhyw ateb syml ychwaith, a dyna pam mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, at Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ac at y comisiynydd plant yn mynegi rhai pryderon ac yn holi ymhellach ynglŷn â'r mater hwn.

Mae gennyf i rai cwestiynau penodol yr hoffwn i eu gofyn i chi. Y cyntaf yw holi am adroddiad thematig Arolygiaeth Gofal Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal, na ddaeth o hyd i dystiolaeth fod plant sy'n cael eu derbyn mewn gofal na ddylen nhw fod mewn gofal. Felly, byddai'n ddiddorol cael gwybod pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i'r gwaith hwnnw wrth fwrw ymlaen â hyn. Mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu atoch chi, fel y dywedais i, ac nid wyf am ofyn y cwestiynau a oedd yn y llythyr i gyd, oherwydd rydym am aros am ymateb ysgrifenedig gan y Prif Weinidog. Ond rwyf i am ofyn eto pwy yn union sy'n gyfrifol am asesu risg y targedau hyn. Mae'r cyfrifoldeb yn cael ei roi ar awdurdodau lleol, sydd â'r ddyletswydd statudol hefyd o gadw plant yn ddiogel, ac nid wyf i o'r farn fod yna unrhyw bennaeth gwasanaethau plant yn y wlad sy'n codi yn y bore ac yn meddwl, 'Gadewch inni dderbyn mwy o blant mewn gofal.' Felly, hoffwn ofyn i chi, yn benodol, am hynny a'r hyn fydd swyddogaeth Llywodraeth Cymru wrth fonitro'r targedau hynny neu beth bynnag y byddan nhw'n cael eu galw.

Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych wedi ei ddweud am gyd-gynhyrchu, er mai'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, o'r hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yn hyn, nid yw'r gweithredu yn y maes hwn yn awgrymu unrhyw gyd-gynhyrchu yng ngweithrediadau rhai o'r awdurdodau, ac mae hynny'n bryder ac yn rhywbeth y byddwn i'n dymuno mynd ar ei ôl. Roeddech chi'n cyfeirio at y ffaith bod hwn yn un o brif ymrwymiadau'r Prif Weinidog. Hoffwn i ofyn a oes asesiad o'r effaith ar hawliau plant wedi cael ei wneud ynglŷn â'r ymrwymiad hwn, ac os felly, a gaiff hwnnw ei gyhoeddi?

Ac yn olaf, o ran y lleoliadau y tu allan i'r sir, y tu allan i'r wlad, unwaith eto, nid oes neb yn dymuno gweld plant yn cael eu lleoli ymhell oddi wrth eu cynefin a'u cydnabod. Ond cyn belled ag yr wyf i'n deall y sefyllfa, nid oes gennym ni'r lleoliadau amgen ar gyfer rhai o'r plant hyn. Nid oes gennym ddigon o leoliadau diogel, nid oes gennym ddigon o gymorth diogelwch isel, neu ddigon o gefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol. Ac ni all hyn fod yn fater i awdurdodau lleol yn unig; mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain arno, oherwydd ni allan nhw gynllunio ar gyfer hynny ar eu liwt eu hunain. Felly, hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Holwyd y Gweinidog iechyd ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf yn y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y lleoliadau hynny ar gael, i osgoi gorfod anfon plant mor bell o'u cynefin? Diolch.

15:50

Rwy'n diolch i Lynne Neagle am y cwestiynau hynny. Rwyf innau hefyd wedi ymweld â'r uned troseddwyr ifanc yng ngharchar y Parc, ac rwy'n credu bod y ffaith bod 40 y cant o'r bobl ifanc a leolwyd yno yn arfer derbyn gofal yn rheswm pendant pam mae'n rhaid inni wneud rhywbeth ynglŷn â hyn. A dyna pam rydym ni'n cymryd camau, am yr union reswm hwnnw, oherwydd dyna ganlyniad y system ofal yr ydym ni wedi bod yn ei rhedeg hyd yn hyn. Felly, rwy'n teimlo'n ymroddedig iawn i geisio atal peth fel hyn rhag digwydd. Ac, mewn gwirionedd, dyna pam rydym ni'n gwneud yr hyn a wnawn ni.

Gwn fod Lynne Neagle yn dweud ei bod yn anesmwyth ynglŷn â gosod targedau neu ddisgwyliadau o ran gostyngiadau—beth bynnag fo'r mynegiant a ddefnyddiwn. Ac unwaith eto, fel y gwnes i gyda Helen Mary Jones, hoffwn ei sicrhau hi y bydd yr awdurdodau lleol yn gosod y targedau hyn—maen nhw'n gosod eu targedau eu hunain. Rydym am fynd atyn nhw i'w cefnogi nhw a thrafod hynny gyda nhw. A holl ddiben gwneud hyn yw ei wneud mewn ffordd gyd-gynhyrchiol. Rwy'n credu ei bod hi ymhellach yn ei datganiad wedi dweud ei bod yn teimlo nad oedd hyn wedi cael ei wneud mewn ffordd gyd-gynhyrchiol. Felly byddwn i'n falch iawn pe gallai hi egluro hynny'n fanylach, oherwydd, yn sicr, y bwriad fu i swyddogion o Lywodraeth Cymru weithio gyda'r awdurdodau lleol mewn modd cyd-gynhyrchiol ar gyfer cyflwyno rhywbeth sy'n dderbyniol ar y cyd. A chyda'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol, mae hynny wedi digwydd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe byddai hi'n trafod hynny gyda mi.

Yn yr adroddiad ar yr argyfwng o ran gofal, ie, yn hollol, gwn nad oes unrhyw esboniad syml ynghylch pam y cafwyd y cynnydd mawr yn nifer y plant sy'n cael eu derbyn mewn gofal. Ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno fod yna doreth o resymau, gan gynnwys cyni a thlodi a llawer, llawer o bethau na allwch chi eu cyfyngu nhw i un peth. Nid oes ateb syml, fel y mae hi'n dweud. Felly, yr hyn y gallwn ni ei wneud yw gwneud ein gorau i atal hynny rhag digwydd drwy wneud popeth o fewn ein gallu i atal y plant sy'n cael eu derbyn i ofal, eu hatal rhag dod i mewn, a helpu rhai o'r plant eraill i gael eu hailuno â'u teuluoedd, i'w hatal rhag ailymuno â gofal. Er enghraifft, o ran adnoddau ychwanegol—y credaf iddi sôn amdanyn nhw ymhellach ymlaen—rydym wedi rhoi'r £2.3 miliwn hwn i'r gwasanaethau mabwysiadu. Mae hyn yn eithriadol o bwysig a chafwyd croeso iddo gan y sector, gan gydnabod yr angen dirfawr am roi cymorth ar ôl mabwysiadu er mwyn atal ailymuno â'r system gofal, sy'n digwydd weithiau pan fydd rhieni sy'n mabwysiadu yn ymgymryd â phlant anufudd ac anystywallt iawn. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gam enfawr a gafodd ei gydnabod o'r diwedd a bod arian wedi cael ei wario a bod arian i gefnogi'r gwasanaethau mabwysiadu.

I fwrw ymlaen ymhellach gyda'i chwestiynau hi, pwy oedd yn gyfrifol am yr asesiad o'r risgiau, wel, mae'r awdurdodau lleol yn asesu risg drwy'r amser wrth wneud pethau. Nid ydym yn ceisio cymryd unrhyw beth oddi ar yr awdurdodau lleol; rydym yn awyddus i helpu i'w cefnogi nhw i gyflawni'r nod ledled Cymru, sef ceisio lleihau nifer y plant sy'n dod i mewn. Rydym wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn ymweld yn rheolaidd ac yn monitro'n rheolaidd. Rwy'n codi cyd-gynhyrchiad eto. Efallai y gallwn i gael trafodaeth â hi ynglŷn â sut y byddai hi'n gweld asesiadau o'r effaith ar hawliau plant a sut y byddai hi'n gweld y rhain yn gweithredu mewn amgylchiadau fel hyn.

Ac, yn sicr, mae awdurdodau lleol yn lleoli plant y tu allan i'r sir a thu allan i'r wlad am nad oes lleoedd ar gael yng Nghymru o gwbl. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yw ceisio sicrhau bod yr agenda blant ar agenda'r byrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn datblygu cyfleusterau yng Nghymru, a hefyd y gronfa ICF, sy'n cael ei defnyddio hefyd i ddatblygu cyfleusterau. Mae gan rai rhanbarthau gynlluniau y cytunwyd arnyn nhw i geisio llenwi'r bylchau sy'n sicr yn bodoli. Mae hi'n hollol iawn: mae'n rhaid inni ddarparu mwy o adnoddau. Rydym yn darparu adnoddau drwy'r byrddau hyn. Mae rhai rhanbarthau eisoes wedi cychwyn arnyn nhw.

Felly, nid wyf yn credu y dylem ofidio'n ormodol am y rhifau. Ymdrech gyffredinol yw hon, sef ein bod ni'n ceisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal, a chredaf mai'r hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw edrych ar hyn mewn ffordd gyffredinol o ran ceisio cael ysgogiad yn y maes hwn, sydd fel rwy'n dweud yn prysur waethygu.

15:55

Rydym ni'n croesawu'r datganiad hwn a wnaed yma heddiw. Yn amlwg, mae angen i bethau newid. Fel y dywedwyd mewn datganiadau eraill o'r blaen, mae'n ymddangos bod nifer y plant dan oruchwyliaeth awdurdodau lleol yn codi bob blwyddyn, a hoffwn i wybod beth, yn eich barn chi, yw'r rhesymau am y cynnydd hwn sy'n peri pryder. Rydych chi eisoes wedi nodi cyni a thlodi, ond mae llawer, llawer o gwestiynau eraill y mae angen eu gofyn. A yw hyn yn arwydd, er enghraifft, o ddiffyg sgiliau rhianta? A yw rhieni'n mynd yn iau ac yn methu ymdopi? Ynteu a ydym ni'n disgwyl safonau uwch gan rieni nag oeddem ni, dyweder, 15 i 20 mlynedd yn ôl? Fy nealltwriaeth i yw bod y cynnydd hwn yn amlwg yn digwydd ledled y DU ac nid yn unig yma yng Nghymru. Byddwn i'n croesawu eich sylwadau ynglŷn â'r pwynt hwnnw.

Rydym ni yn y sefyllfa hon heddiw, ac o ran y plant hynny sydd eisoes yn derbyn gofal, fe fyddan nhw wedi dioddef camdriniaeth neu esgeulustod ac mae'n debyg y bydd ganddyn nhw anghenion penodol y mae angen mynd i'r afael â nhw o ran addysg, datblygiad a chymorth emosiynol. Efallai y bydd ganddyn nhw hefyd fwy o waith i'w wneud i gyrraedd yr un man â'u cyfoedion o gefndiroedd teuluol traddodiadol. Bydd angen llawer o gymorth hefyd ar unrhyw rieni maeth neu ddarpar rieni sy'n mabwysiadu i sicrhau bod y lleoliad yn llwyddiannus. A yw'r cymorth hwnnw ar gael ac a yw'n gweithio? Mae'n rhaid ei bod yn dorcalonnus i'r plentyn a'r teulu os yw'r lleoliad yn methu. A oes unrhyw ffigurau ar gael ar gyfer plant sy'n dychwelyd i leoliad gofal ar ôl eu lleoli gyda theulu?

Rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid canolbwyntio nawr ar atal ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol symud oddi wrth adweithio i atal ac ymyrryd yn gynnar. Rwy'n eich llongyfarch chi a'n gwasanaethau cymdeithasol am y newid hwn yn y dull o weithredu. Eto i gyd, bob wythnos yn y Siambr hon rydym yn clywed pa mor anodd yw hi ar ein hawdurdodau lleol, heb ddigon o gyllid na digon o adnoddau. A ydych chi'n hyderus bod gan y staff proffesiynol y gallu a'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y newid hwn yn digwydd, a'r niferoedd staff, y staff cymorth a hefyd y cymorth emosiynol sy'n angenrheidiol i ymdrin â rhai materion anodd? Rwy'n poeni'n wirioneddol y gallem fod yn disgwyl gormod mewn rhy ychydig o amser ac na fyddwn ni, yn y pen draw, yn gweld y canlyniadau y mae eu hangen nhw arnom ni ar gyfer y plant dan sylw, ac mae'n rhaid canolbwyntio ar hynny.

Yn olaf, hoffwn i godi mater gorchmynion gwarchodaeth arbennig. A oes gennych chi unrhyw ffigurau ynghylch a yw'r defnydd o'r rhain yn cynyddu? A yw'r plant sy'n destun y gorchmynion hyn yn parhau i gael eu hystyried yn rhai 'sy'n derbyn gofal'? Os na, sut y cofnodir eu canlyniadau nhw? Diolch, Gweinidog.  

16:00

Ie, wel, mae'r Aelod yn amlwg yn llygad ei lle ynghylch y niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn, ac ydy, yn sicr mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae'r tueddiad ar i fyny. Ac mae'r rhesymau am hynny'n gymhleth iawn yn fy marn i. Rwy'n credu eu bod yn cynnwys tlodi ac amddifadedd, ac effaith rhaglen gyni Llywodraeth y DU—nid wyf yn credu y gallwn ni ddiystyru bod hynny'n cael effaith ar ein teuluoedd mwyaf bregus, ond nid wyf i'n credu mai hwnnw yw'r darlun cyfan.

Nid oes amheuaeth bod awdurdodau lleol dan bwysau. Mae'r system llysoedd teulu dan bwysau sylweddol ac, yn sicr, mae rhai o'r arferion sydd wedi codi yn y llysoedd teulu wedi cynyddu nifer y plant sy'n aros mewn gofal. Roeddwn i'n sôn yn gynharach yn y datganiad am duedd fawr, tuedd gynyddol, i roi gorchmynion gofal a lleoli'r plant yn eu cartrefi. Felly, mae'r plant dan orchymyn gofal ond maen nhw'n cael eu lleoli gartref, ac rwy'n credu bod gennym tua 1,000 o blant fel hyn yng Nghymru, sy'n byw gyda'u teuluoedd ond sydd mewn gwirionedd dan orchymyn gofal. Ond hoffwn roi teyrnged i'r hyn y mae'r awdurdodau lleol yn ei wneud, a hynny dan bwysau mawr, oherwydd maen nhw'n gwneud gwaith aruthrol ac yn diogelu plant sy'n agored i niwed ac yn cefnogi teuluoedd. Ond mae'r rhesymau'n gymhleth iawn, rwy'n credu, fel y dywedodd Lynne Neagle. Ceir amrywiaeth eang o resymau, ac mae'n rhaid inni geisio gweithio arnyn nhw fel y gallwn ni.

Yn sicr, mae angen rhoi cymorth i rieni maeth a rhieni sy'n mabwysiadu, oherwydd maen nhw'n gwbl allweddol yn y system hon. Roeddwn i'n sôn yn gynharach am y £2.3 miliwn a roddwyd i'r gwasanaeth mabwysiadu, a hynny i helpu i gefnogi rhieni sy'n mabwysiadu fel ein bod ni'n ceisio osgoi plant yn cael eu haildderbyn i ofal. Oherwydd gyda phlant sydd wedi cael eu niweidio yn y fath fodd ac sydd wedi bod drwy'r fath gyfnodau adfydus, beth bynnag a wna'r rhiant sy'n mabwysiadu, yn aml bydd angen cymorth ychwanegol. Ac felly mae hynny, bellach, yn fater o hawl, sef y gwasanaeth ôl-fabwysiadu. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam mawr ymlaen.

Nid wyf i'n credu y gallwn ddweud ein bod ni'n disgwyl gormod gan yr awdurdodau lleol, oherwydd bywydau ein plant ni yng Nghymru sydd yn y fantol. Felly mae'n rhaid inni fod yn uchelgeisiol ac mae'n rhaid inni eu helpu nhw i fod yn uchelgeisiol. Digon hawdd yw dweud drwy'r amser, 'Cyni sydd ar fai, mae pawb dan bwysau, ni allwn wneud dim byd, a bydd mwy o blant eto'n dod i dderbyn gofal.' Ond mae'n rhaid i rywun geisio gwneud rhywbeth, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn inni geisio gwneud rhywbeth ar lefel lywodraethol. Felly, dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud drwy fwrw ymlaen â hyn.

Mae'r Gweinidog wedi bod yn ddigon caredig i gyfeirio at fy ngwaith i yn cadeirio'r grŵp cynghori gweinidogol, ac rwy'n atgoffa'r Aelodau nawr am fy safle i yno.

Dirprwy Weinidog, rwy'n credu ei bod yn bwysig—rydym wedi clywed cwestiynau a sylwadau craff iawn, ac mae'n anochel eu bod nhw wedi ystyried yr heriau. Ond dylem  atgoffa pawb fod canlyniadau da yn digwydd pan fyddwn ni'n llwyddo gyda gofal. Mae yna bobl sy'n ofalwyr maeth, pobl yn rhedeg cartrefi preswyl, gweithwyr cymdeithasol a phobl sy'n rhan o'r system iechyd ac yn y cynghorau hefyd, yn wleidyddol, sydd mewn gwirionedd yn gwneud penderfyniadau da iawn ac yn darparu gofal o ansawdd uchel hefyd, yn amlwg, yn y sefyllfa gyffredinol hon yr ydym ni ynddi. Ac nid wyf i o'r farn y gallwn ni anwybyddu'r ffaith ein bod ni, yn yr 20 mlynedd o ddatganoli, wedi dyblu nifer y plant, yn fras, sy'n cael eu derbyn mewn gofal. Ac nid ydym wedi gwneud hynny mewn ffordd a gynlluniwyd—fe ddigwyddodd hynny. Mae'r Aelodau eisoes wedi dweud bod hyn wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r DU hefyd. Ond mae angen inni edrych ar y cydbwysedd presennol ac a ydym ni'n gwneud pethau'n iawn—a ydym ni'n symud yn fwy tuag at addysgofal a hynny hyd yn oed yn fwy cynnar yn y cylch, pan fydd angen i deuluoedd gael yr ymyrraeth gynnar a'r gefnogaeth honno gyda sgiliau rhianta, er enghraifft, fel y soniodd Mandy yn gynharach?

Rwy'n credu mai peth allweddol arall y mae'n rhaid edrych arno yw'r diffyg cysondeb ar draws yr awdurdodau lleol. Nawr, fe ddylai awdurdodau lleol sydd â'r un sefyllfa economaidd gymdeithasol yn fras fod mewn band y gellir ei gymharu ag eraill sydd ynddo o ran cyfran y plant y maen nhw'n eu derbyn i ofal. Ac os oes gwahaniaeth arwyddocaol iawn rhwng siroedd sy'n debyg i'w gilydd, yna credaf fod angen cael esboniad am hynny. Efallai fod yna esboniad, ond mae angen inni ofyn amdano.

Rwy'n credu bod angen mwy o gydweithio gyda'r llysoedd. Mae hynny'n amlwg yn rhan o'r deinamig sydd ar waith yma, ac mae hynny'n cyffwrdd hefyd ag arfer proffesiynol, gyda'r gweithiwr cymdeithasol iawn yn y llys pan glywir yr achos—mae angen gwneud yr holl bethau hyn os ydym yn dymuno cael canlyniad mwy cytbwys ac ymyriadau priodol.

Roeddwn i'n falch hefyd—. Rwy'n credu mai Helen Mary gododd mater rhianta corfforaethol. Dyma'r asiantaethau i gyd; rydych chi wedi cyfeirio at y rhai cyhoeddus—nid wyf i'n gallu cofio'r hyn y maen nhw'n cael eu galw nawr—y byrddau, beth bynnag—y byrddau cyhoeddus rhanbarthol newydd. Mae hwnnw'n fforwm pwysig i ni, rwy'n credu, a'r holl asiantaethau, y llysoedd, yr heddlu, iechyd, addysg, tai—mae angen i'r holl asiantaethau hyn ddod at ei gilydd. Ond mae angen i'r dimensiwn gwleidyddol fod yno—yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond hefyd ein cymheiriaid ar lefel llywodraeth leol, cadeiryddion y pwyllgorau craffu allweddol ac aelodau'r cabinet fel ei gilydd, ac mae angen inni dynnu'r holl wleidyddion sy'n weithredol yn y maes hwn, yn fy marn i, i ryw fath o rwydwaith.

Yn olaf, a gaf i roi gwybod i'r Aelodau, mewn gwirionedd, fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gwneud gwaith ardderchog wrth edrych ar sefyllfa bresennol y plant sy'n derbyn gofal? Ac maen nhw wedi dweud y dylai'r grŵp cynghori gweinidogol wynebu'r cyhoedd yn fwy aml ac, yn wir, rydym ni yn gwneud hynny o ran yr adroddiadau a gyhoeddwyd gennym a'r cofnodion sydd ar y wefan. Ond hefyd, roeddwn i'n falch eich bod chi'n cytuno y dylem ymrwymo i gyhoeddi adroddiad blynyddol a chael dadl flynyddol yn y Cynulliad. Credaf y bydd hynny'n rhan allweddol o sicrhau bod y pwnc pwysig hwn yn parhau i fod yn ganolog ym mlaenoriaethau'r holl bleidiau gwleidyddol sydd yma, ac mae pob un wedi dweud nad yw hwn yn fater sy'n achos rhaniadau—mae yma gonsensws—ond mae angen ei gymhwyso hefyd.  

16:05

Diolch yn fawr iawn i David Melding am ei gyfraniad, a hoffwn i ddiolch eto am yr holl waith y mae bob amser wedi'i wneud ar hyd y blynyddoedd ac y mae'n ei wneud nawr ar grŵp cynghori'r Gweinidog. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny.

Rwy'n credu ei fod yn hollol gywir i ddweud bod y canlyniadau'n dda pan fyddant yn cael y gofal yn gywir, pan fyddwn wedi archwilio pob posibilrwydd o ran y plant yn aros gartref, ac yna rydym eisiau rhoi'r gofal gorau posibl iddyn nhw. Ac os byddwn ni'n cael hyn yn gywir, gwyddom y bydd y canlyniadau'n dda, a gwyddom fod angen inni gynnwys pethau ychwanegol i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl ei fod yn iawn ynglŷn â hynny.

Mae'r ffaith bod y nifer wedi dyblu dros 20 mlynedd, rwy'n credu, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder, oherwydd ni chredaf ein bod ni'n deall yn iawn pam ei fod wedi dyblu dros 20 mlynedd. Fel y dywedwyd yma heddiw, yn yr holl gyfraniadau da iawn sydd wedi bod, mae'n gwbl amhosibl dweud, 'Dyma'r rheswm pam mae hynny wedi digwydd.' Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno'n ofalus iawn.

Rwy'n credu ei fod ef yn iawn i ddweud bod angen mwy o gymorth arnom gyda sgiliau rhianta, a chredaf fod hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n rhoi sylw manwl iddo wrth ystyried dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried ac yn rhoi sylw iddo ledled Cymru gyfan i weld lle mae bylchau o ran helpu gyda sgiliau rhianta. Ond credaf mai un o'r datblygiadau da, y gwn fod David Melding wedi bod ynghlwm wrtho, yw datblygu'r rhaglen fyfyrio. Deallaf fod prosiect myfyrio ym mhob rhanbarth yng Nghymru erbyn hyn, sydd ar gyfer gwraig y cafodd hi un plentyn wedi'i gymryd i ofal, ond bellach mae ganddi'r cyfle i gael help ac i fyfyrio, ac yn dilyn hynny, gymryd y plentyn i ofal. Rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad da iawn. Mae'r diffyg cysondeb mewn gwahanol awdurdodau lleol a pham mae gwahaniaethau rhyngddynt, unwaith eto, yn rhywbeth y dylid ei ystyried.

Yn olaf, mae'r mater hwn am wleidyddion—ie, credaf ei fod yn gyfrifoldeb arnom ni fel gwleidyddion. Mae arweinwyr gwleidyddol mewn awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn rhieni corfforaethol, a gwn fod un o fy rhagflaenwyr yn y swydd hon, Gwenda Thomas, yn sicr wedi cael enw da i'w ddilyn—. Soniwyd wrthyf, pan es i un awdurdod lleol, fod Gwenda Thomas wedi dweud, pan aeth hi i mewn i'r awdurdod lleol hwnnw, ei bod yn disgwyl i'r swyddogion wybod enw pob plentyn a oedd yn derbyn gofal yn yr awdurdod hwnnw. Ac rwy'n credu bod gennym ni swyddogaeth fel gwleidyddion, a gwn fod David Melding wedi dweud yn aml efallai mai ni yw'r neiniau a theidiau, y neiniau a'r teidiau corfforaethol y plant yr ydym ni'n gofalu amdanynt. Ac rwy'n credu bod angen inni gael yr ymwybyddiaeth a'r cyfrifoldeb hwn fel gwleidyddion mai ein plant ni yw'r plant hyn yng Nghymru. A dyna pam y credaf ei bod mor ganmoladwy, mewn gwirionedd, fod y Prif Weinidog wedi rhoi hyn ar frig ei agenda, sy'n golygu bod y gwaith y mae David Melding yn ei wneud, ac mae'r gwaith yr wyf i'n ei wneud yn hanfodol bwysig. Felly, diolch am y sylwadau hynny, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd.    

16:10

Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud yn barod. Gwyddom fod nifer y plant sy'n derbyn gofal yn cynyddu'n ddi-syfl, ac mae llawer iawn o resymau dros hynny. Ond un o'r niferoedd sy'n sefyll rhywfaint ar wahân yw Powys, lle bu cynnydd o 50 y cant ers Ebrill 2017. Felly, roedd yna 160 o blant ac erbyn hyn, ym mis Mawrth, mae yna 244. Nawr, mae'n gynnydd sylweddol, ac rwy'n siŵr bod rhesymau y tu ôl i hynny. Y rheswm dros ddewis yr un penodol hwnnw, ar wahân i'r ffaith ei fod yn fy ardal i, yw bod adroddiad damniol gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2017, a ddywedodd fod plant y sir yn cael eu rhoi 'mewn perygl '.

Nawr, gwn eu bod wedi cyhoeddi fframwaith newydd yr wythnos hon, a bod y fframwaith hwnnw'n mynd i gael ei ategu gan fwy o arian, oherwydd yn amlwg roedd rhan o'r mater yn ymwneud â diffyg gwariant ac, felly, diffyg blaenoriaeth yn y maes hwn. Mae hynny'n newyddion da—ac rwy'n mynd i fod yn gadarnhaol yma—fod hynny wedi cael ei gydnabod, hyd yn oed os nad cyngor Powys oedd wedi ei gydnabod ei hun. Felly, mae'n debyg mai'r cwestiwn yma yw: sut yr ydym ni'n mynd i wybod, ymlaen llaw, nid ar ôl i bethau fynd o chwith, bod plant mewn gofal yn uchel nid ar yr agenda hon yn unig ond ar agenda awdurdodau lleol a phobl eraill sydd i fod cyflwyno'r newidiadau hynny yn gadarnhaol ar eu cyfer? Ac a gaf i awgrymu, pe baem yn mynnu bod awdurdodau lleol yn gorfod gwneud datganiad neu gyhoeddiad o fewn eu hawdurdod penodol yn flynyddol a bod yn rhaid i'r adroddiad hwnnw fod yn gyhoeddus, o leiaf y byddai pobl yn cael golwg arno ac efallai y byddai'r cyngor yn cymryd peth perchenogaeth ohono, oherwydd byddai'n rhaid iddo fod yn gynhwysfawr a byddai'n rhaid iddynt ddweud faint o arian yr oeddent yn ei wario arno. A gallai hefyd helpu i ganolbwyntio meddyliau'r holl gynghorwyr a'r rhieni corfforaethol hynny yn yr ardaloedd hynny ynghylch pwysigrwydd gofalu am blant sy'n derbyn gofal.

Yn olaf, mae'n newid gwirioneddol dda hwn gan y Cynulliad nad oes raid i blant sy'n derbyn gofal sy'n gadael gofal dalu unrhyw dreth gyngor. Felly, mae'n gam i'r cyfeiriad cywir a gobeithio y bydd yn helpu rhai i beidio â chael eu hunain yn ôl mewn gofal.

Diolch i Joyce Watson am y sylwadau hynny ac am ei sylwadau am Bowys, lle cafwyd y cynnydd hwn a ddefnyddiodd yn enghraifft. Mae'n cyfeirio at adroddiad yr arolygiaeth gofal, a gallaf ei sicrhau ein bod wedi bod yn cwrdd â Phowys ac yn pwysleisio pwysigrwydd cael y fframwaith newydd hwn, a chredaf mai dyna sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ond credaf ei bod yn iawn wrth geisio pwysleisio y dylai diogelwch plant a phwysigrwydd plant sy'n derbyn gofal fod yn uchel ac ar frig agenda awdurdodau lleol, a byddwn i'n fwy na pharod i drafod â hi unrhyw ffordd y mae'n credu y gellid gweithredu hyn. Ac rwy'n falch iawn ei bod wedi sôn am y dreth gyngor, oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n gam cadarnhaol arall ymlaen, gan fod cryn nifer o gamau cadarnhaol wedi'u cymryd gan grŵp David Melding. A dim ond i ddweud, o ran ymateb i warcheidiaeth arbennig, nad oeddwn wedi ymateb iddo, mae nifer y gwarchodaethau arbennig wedi cynyddu, ydynt.

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog—Dirprwy Weinidog—rwy'n falch iawn o'ch clywed yn sôn am leihau nifer y plant mewn gofal. Mae'r ffaith bod cynnydd o 34 y cant wedi bod mewn 15 mlynedd yn peri pryder mawr. Hoffwn i wybod mwy am yr amrywiadau yr ydych chi'n sôn amdanynt. Os oes yna ardaloedd o Gymru lle mae cyfradd y plant sy'n derbyn gofal bron dair gwaith yn uwch nag yng Ngogledd Iwerddon, yna credaf fod gwir angen inni wybod pam.

Rwy'n pryderu'n fawr am breifateiddio gwasanaethau gofalu am blant. Mae yna gwmnïau preifat yng Nghymru nad ydynt yn croesawu craffu, nad ydynt eisiau i gynghorwyr ymweld â'r cartrefi—yn wir, maen nhw'n gwrthod ymweliadau—ac mae diffyg tryloywder llwyr a chymhelliant enfawr—enfawr—i wneud elw. Mae gen i achos ar fy llyfrau lle mae'r plentyn yn ymbil am gael mynd yn ôl adref—yn ymbil—ond mae'r plentyn hwnnw'n werth £300,000 y flwyddyn yn sicr, a gallai fod yn £0.5 miliwn hyd yn oed; nid ydynt yn barod i'w gadarnhau, oherwydd cyfrinachedd y cleient. Felly, nid yw'r cartref gofal hwnnw byth yn mynd i adael i'r plentyn hwnnw fynd—byth. Allaf i ddim mynd at y comisiynydd plant, oherwydd mae'n achos unigol; allaf i ddim mynd atoch chi—rydw i wedi ceisio, ond mae'n achos unigol, ac—. Efallai y gall y Senedd Ieuenctid helpu, oherwydd mae angen llais ar y plant hyn. A'r achos yr wyf yn sôn amdano—. A minnau'n annibynnol, roeddwn yn ffodus o gael cyllideb fwy; llwyddais i gyflogi gweithiwr cymdeithasol profiadol iawn yn llawn amser, a chymerodd ddau fis o waith i ddod o hyd i'r gwaith papur a chanfod, yn y bôn, na ddylai'r plentyn byth fod wedi cael ei gymryd i mewn i ofal. Cafodd camgymeriadau eu gwneud ac nid oedd gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo. Mae'r achos yn dal i fynd rhagddo.

Ond, i ddychwelyd at y cymhelliad elw, rwyf i o'r farn ei fod yn warthus. Mae'n braf bod llywydd y llys teulu yn gwneud y mater hwn yn brif flaenoriaeth iddo. I mi, mae'n siomedig nad yw chwe awdurdod lleol wedi cyflwyno targedau, felly tybed pa awdurdodau lleol oeddent.

Rwyf eisiau sôn hefyd am ddieithrio plentyn oddi wrth riant. Mae'n effeithio ar gynifer o famau, tadau, teidiau a neiniau a hefyd rieni plant mewn gofal. Unwaith eto, mae'n mynd â ni yn ôl at y cymhelliad o wneud elw. Mae llawer o bobl yn gwneud gwaith rhagorol, ond credaf na allwn anwybyddu'r ffaith bod y plant hyn mewn rhai amgylchiadau'n cynrychioli llawer o arian, ac mae rhieni'n curo ar ddrws fy swyddfa yn dweud wrthyf eu bod yn cael eu dieithrio oddi wrth eu plant. Mae gwir angen ystyried y mater hwn.

Wrth gloi, rwyf eisiau pwysleisio fy mod i'n pryderu'n fawr am y diffyg craffu, y diffyg tryloywder, gyda chwmnïau preifat yn gwneud ffortiwn. Os mai ni yw'r neiniau a'r teidiau corfforaethol, rhowch gyfle inni ofalu am y plant hynny a'u buddion. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn iawn ac rydym yn wynebu gelyniaeth eithafol ac, yn wir, gwynion.

Diolch i Neil McEvoy am y sylwadau hynny. O ran gofyn pwy yw'r chwe awdurdod lleol, ni chredaf y byddai'n briodol i mi ddweud pwy oedd yr awdurdodau lleol hynny, oherwydd un o'r pethau yr ydym yn ceisio ei wneud yw gweithio ar y cyd gyda'r awdurdodau lleol ac rwyf eisiau inni weithio gyda'n gilydd. Felly, yn fy marn i, ni fyddai'n ddefnyddiol imi enwi unrhyw awdurdod lleol yma heddiw, ac nid oes gennyf i unrhyw fwriad o wneud hynny.

O ran yr amrywiadau, mae rhai amrywiadau eithaf sylweddol rhwng gwahanol awdurdodau lleol ac mae hynny'n un o'r pethau yr ydym ni'n gobeithio canfod mwy amdano yn yr ymweliadau yr ydym ni'n eu cynnal, ac yn arbennig yn yr ail rownd o ymweliadau. A chredaf y gallwn ganfod a oes materion penodol  mewn awdurdodau lleol penodol, ac mae'n bosibl iawn fod hynny'n wir. Felly, rydym yn mynd ati yn y ffordd honno. Gwn iddo sôn am lywydd y llys teulu, ei fod yn falch bod Syr Andrew McFarlane yn cymryd hyn o ddifrif, oherwydd deallaf ei fod wedi dweud ar goedd mai ei brif flaenoriaeth yw deall y cynnydd yn nifer yr achosion gofal. Ac, er nad ydym ni wedi cael unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag ef eto, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cysylltu â Syr Andrew McFarlane i geisio gweithio a mynd at wraidd y cynnydd hwn mewn achosion.

O ran darpariaeth breifat, yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud yw annog darpariaeth gan yr awdurdodau lleol yn uniongyrchol a rhai cyrff di-elw—y sector gwirfoddol—i gynnig darpariaeth. Ond gwn mewn rhai siroedd—ym Mhowys, mi gredaf, y mae'n bosibl bod Joyce Watson yn gwybod—fod—. Credaf ei fod yn wir fod 13 o sefydliadau preifat yno ac nad oes unrhyw blant lleol yn y sefydliadau hynny. Credaf fod hynny'n gywir, ond, yn amlwg, mae hon yn sefyllfa y mae angen inni edrych arni.

16:20
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau), ac felly galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7105 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i egluro'r cefndir i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn o ran Bil y Cyfrifiad (Manylion Dychwelyd a Dileu Cosbau). Mae'r cyfrifiad yn rhoi cipolwg ar y boblogaeth yn y Deyrnas Unedig bob 10 mlynedd. Mae'n rhoi gwybodaeth inni am bobl, gan gynnwys eu haddysg, eu crefydd, eu cefndir ethnig, eu bywyd gwaith a'u hiaith, er enghraifft. Mae llywodraethau cenedlaethol a lleol, grwpiau cymunedol, elusennau a busnesau yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud penderfyniadau i'w helpu i wasanaethu cymunedau ac unigolion yng Nghymru yn well.

Cafodd Papur Gwyn cyfrifiad 2021, 'Helpu i Lunio ein Dyfodol: Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021' ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae'r Papur Gwyn yn nodi argymhellion Awdurdod Ystadegau'r DU ynghylch cynnwys a chynnal cyfrifiad 2021. Roedd hyn yn cynnwys y cynnig i ofyn cwestiynau newydd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd ar gyfer y rhai sy'n 16 oed neu'n hŷn. Diben y Bil, sy'n cynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yw cynnwys cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd fel manylion y gallai fod eu hangen yn y cyfrifiad a gwneud y ddarpariaeth o'r wybodaeth hon yn wirfoddol. Bydd casglu gwybodaeth am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn ein helpu ni ac eraill i fonitro'r gwasanaethau a ddarperir yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Bydd hefyd yn ddata pwysig i gyrff cyhoeddus i'w cefnogi yn eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol (Cymru) 2015 i lunio asesiadau o lesiant yn y dyfodol.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, na fydd angen i neb ateb y cwestiynau am eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith ac am gytuno â gwneud y darpariaethau ar gyfer Cymru drwy'r Bil hwn. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig heddiw, gan y bydd casglu'r wybodaeth hon ar sail wirfoddol yn ein helpu i symud ymlaen tuag at Gymru fwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynus. Cynigiaf y cynnig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.

Diolch, Llywydd. Dim ond i groesawu'n fawr y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac ailddatgan yr hyn a ddywedodd y pwyllgor yn ei adroddiad, rydym yn credu mai'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yw'r ffordd briodol o fwrw ymlaen â'r mesurau hyn fel y maent yn berthnasol i Gymru. Ac a gaf fi ddweud, fel Cadeirydd, Llywydd, fy mod i'n croesawu'n fawr y gallu i gynnwys y cwestiynau hynny ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd ar sail wirfoddol, fel y dywedodd y Gweinidog? Mae'n amlwg yn bwysig iawn bod pobl mewn lleiafrifoedd o ran eu cyfeiriadedd rhywiol a'u hunaniaeth o ran rhywedd yn cael gwasanaethau a ddarperir sy'n briodol i'w hanghenion, a bydd yr wybodaeth ychwanegol honno a fydd ar gael i ddarparwyr gwasanaethau yn arwyddocaol iawn ac yn gwbl gydnaws, yn fy marn i, â'r polisi cydraddoldeb a'r safbwynt ar gydraddoldeb a gymerir gan y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru.

Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Rhoddwyd ystyriaeth i gynnig cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil yn ein cyfarfod ar 10 Mehefin, a gosodwyd ein hadroddiad gerbron y Cynulliad ar 24 Mehefin. Rydym wedi nodi rhesymau Llywodraeth Cymru pam, yn ei barn hi, y byddai'n briodol darparu ar gyfer Cymru ym Mil y DU, ac rydym ni'n hapus gyda hynny. Hefyd, rydym yn croesawu'r ffaith bod y Bil, am y tro cyntaf, yn darparu ar gyfer cynnwys cwestiynau gwirfoddol ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd mewn cyfrifiadau yn y dyfodol.

Fel rheol, ni fyddai'r pwyllgor ond yn gwneud sylwadau ar uniondeb cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'r materion cyfansoddiadol sy'n ymwneud ag ef. Ond rydym yn cydnabod bod hwn yn gam mawr ymlaen o ran gallu nodi materion sy'n berthnasol nid yn unig i gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ond hefyd i faterion sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol a chydraddoldeb rhywiol. Mae hwn yn fesur cydraddoldeb pwysig iawn, ac mae'r pwyllgor yn gefnogol iawn i'r polisi hwn.

16:25

Diolch, Llywydd. Fel y dywedodd y ddau Gadeirydd yna, mae hwn yn gam mawr ymlaen o ran caniatáu inni gael gwybodaeth o ansawdd gwell am y poblogaethau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol yma yng Nghymru er mwyn monitro anghydraddoldebau a llywio'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a chymorth i'r grwpiau hyn o bobl yn y dyfodol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi cynyddu ein hangen am ddata o ansawdd uchel i gefnogi asesiadau lleol o lesiant a bydd y cyfrifiad yn darparu'r data ardal leol hwnnw ar gyfansoddiad a nodweddion poblogaethau LGBT i helpu i benderfynu ynghylch ble y dylid darparu gwasanaethau. Ac, wrth gwrs, yn bwysig, bydd hefyd yn caniatáu i'r poblogaethau hynny allu nodi eu hunaniaeth bersonol eu hunain yn glir ar ffurflen y cyfrifiad am y tro cyntaf. Rwy'n ddiolchgar i'r ddau bwyllgor am eu gwaith. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Doll Teithwyr Awyr: Yr achos dros ddatganoli

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar doll teithwyr awyr, yr achos dros ddatganoli, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7107 Rebecca Evans, Darren Millar, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

2. Yn croesawu argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

3. Yn nodi’r gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r doll, gan gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy:

a) amlinellu cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad Cenedlaethol; a

b) datganoli’r Doll yn llawn erbyn 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw. Ar 11 Mehefin, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig ganfyddiadau ei ymchwiliad i ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Rydym yn croesawu'n llwyr argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid datganoli'r doll teithwyr awyr yn llawn i Gymru.

O'r cychwyn cyntaf, roedd y pwyllgor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr a bod Llywodraeth y DU wedi nodi'n glir ei hamharodrwydd i newid y trefniadau presennol. O ganlyniad, roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio'n naturiol ar ystyried y dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli'r doll. Amlygodd tystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i'r pwyllgor gryfder y gefnogaeth ar draws y Siambr hon ac ar draws y sectorau busnes, twristiaeth ac awyrennau yng Nghymru ar gyfer datganoli'r doll, ac adlewyrchir y gefnogaeth hon hefyd yn y cynnig ar y cyd heddiw.

Mae datganoli'r doll teithwyr awyr wedi bod yn fater sydd wedi parhau dros amser maith ac yn bryder inni i gyd. Cafodd yr argymhelliad i ddatganoli'r doll i Gymru ei gynnwys yn adroddiad cyntaf comisiwn Holtham ar drefniadau ariannu i Gymru, a gyhoeddwyd 10 mlynedd yn ôl yr wythnos hon. Mae datganoli'r doll hefyd yn dal i fod yn unig argymhelliad sylweddol comisiwn Silk sydd eto i'w gyflawni gan Lywodraeth y DU. Ddegawd ar ôl Holtham, mae penderfyniadau ynghylch faint o dreth incwm y mae trethdalwyr Cymru yn ei thalu yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, gyda phenderfyniadau ar gyfraddau'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, a'r rheini wedyn yn cael eu cadarnhau gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae cyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru yn dilyn cyflwyno trethi newydd cyntaf Cymru ers dros 800 o flynyddoedd—treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi. Ynghyd â threthi lleol a gesglir gan awdurdodau lleol, sydd wedi'u datganoli ers 1999—y dreth gyngor ac ardrethi annomestig—mae trethi Cymru bellach yn codi tua £5 biliwn bob blwyddyn ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac eto, mae toll teithwyr awyr, gyda'r refeniw presennol a gynhyrchir yng Nghymru o lai na £10 miliwn y flwyddyn, yn dal i fod yn dreth a gadwyd yn ôl ac mae'n dal o fewn pŵer Llywodraeth y DU.

Mae anhyblygrwydd safbwynt Llywodraeth y DU ar ddatganoli toll teithwyr awyr yn cael ei ddwysáu ymhellach gan ei phenderfyniadau blaenorol i ddatganoli'r dreth i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros drin Cymru'n llai ffafriol a chroesawaf gydnabyddiaeth benodol y pwyllgor o'r annhegwch presennol yn y setliad datganoli. Ac mae hyn yn ymwneud â mater ehangach: wrth honni pa un a ddylid datganoli pŵer, rhinweddau datganoli ei hun a ddylai fod yn destun pryder i Lywodraeth y DU a'r Senedd, nid dyfarniadau damcaniaethol ynghylch unrhyw benderfyniadau polisi yn y dyfodol y byddai Gweinidogion Cymru efallai yn eu gwneud neu beidio. Mae'n amlwg i mi y byddai datganoli'r doll yn gwbl gyson â dull Llywodraeth y DU o ddatganoli trethi o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig presennol, ac eto amlygodd tystiolaeth Llywodraeth y DU i'r ymchwiliad ei phryderon y byddai effaith sylweddol ar Faes Awyr Bryste pe bai Llywodraeth Cymru yn lleihau neu'n diddymu toll teithwyr awyr, er gwaethaf tystiolaeth i'r gwrthwyneb a adolygwyd yn annibynnol gan gymheiriaid.

Yn amlwg, nid yw hyn yn sail ddigonol na phriodol i gyfyngu ar ddatganoli pwerau i Gymru, a fyddai o fudd i'n dinasyddion. Wrth ddod i'w gasgliad, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am barhau i ganolbwyntio ar y seiliau tystiolaethol a chyfansoddiadol dros ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru, yn hytrach nag asesiad cynamserol o benderfyniadau polisi posibl yn y dyfodol. Ac i fod yn glir, ni fu unrhyw newid yn safbwynt Llywodraeth Cymru.

16:30

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw'n bolisi gan Lywodraeth Cymru o hyd, a amlinellwyd gan y cyn-Brif Weinidog, pe bai'r pŵer yn cael ei ddatganoli, y byddech yn gostwng y doll teithwyr awyr i sero o faes awyr Caerdydd?

Byddaf yn dod at safbwynt Llywodraeth Cymru cyn bo hir, a bwriadaf hefyd fynd i'r afael, ar ryw adeg yn ystod y ddadl, â'r materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd, y gwn eu bod yn flaenllaw iawn ym mhob un o'n meddyliau ar hyn o bryd. Ond fel y dywedaf, nid yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid. Petai'n cael ei ddatganoli i Gymru, ein bwriad yw defnyddio'r doll teithwyr awyr i sicrhau'r twf gorau posibl i'r maes awyr ac i Gymru, gan weithio gyda'r dulliau eraill sydd ar gael i ni.

Mae tystiolaeth gref ynghylch y manteision economaidd sy'n deillio o ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Mae gwella cysylltedd rhwng Cymru a gweddill y DU, a'r byd ehangach, yn elfen ganolog yn ein cynllun gweithredu economaidd. Byddai rheolaeth dros y dreth yn ein galluogi ni i wneud penderfyniadau yng Nghymru ar gyfer Cymru, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer masnach a thwristiaeth, a galluogi twf yn y sector hedfan a'r economi ehangach. Byddai'n rhoi inni'r pŵer i gyflwyno un o'r negeseuon pwysicaf wrth inni edrych ymlaen at yr adeg pan fydd y DU yn gadael yr UE: sef bod Cymru ar agor ar gyfer busnes. Ond wrth gwrs, dim ond ar ôl i ni gael y pwerau, ac yng nghyd-destun yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r amgylchiadau ar adeg y datganoli y gellir gwneud unrhyw benderfyniadau polisi ar doll teithwyr awyr.

Byddai unrhyw gynigion ar gyfer y dreth yn destun ymgynghoriad llawn â busnesau a phobl Cymru, a byddent yn cael eu hasesu'n drwyadl i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'n targedau datgarboneiddio statudol a'r cyllidebau carbon cysylltiedig sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Felly, pwyswn ar Lywodraeth y DU i gydnabod y gefnogaeth drawsbleidiol gref a geir ar draws y Cynulliad hwn i ddatganoli'r doll teithwyr awyr, ac ymateb i argymhellion y pwyllgor seneddol wrth gytuno i ddatganoli'r doll teithwyr awyr yn llawn i Gymru heb ragor o oedi.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei sylwadau? Fel y gwnaethoch chi ddweud, mae cryn dipyn o gonsensws ar draws y Siambr hon ar gyfer datganoli'r doll hon, ac mae'n drafodaeth sydd wedi mynd ymlaen cyhyd ag y gallaf gofio imi fod yn y Siambr hon. Mae'n siŵr eich bod yn teimlo'r un peth. Mae'n amlwg ei fod wedi cael lle mwy blaenllaw ar yr agenda dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, gyda datganoli darnau eraill o'r jig-so treth yng Nghymru, a nawr gofynnir cwestiynau'n gynyddol ynghylch a allwn ni gael pwerau treth incwm yma ac a allwn ni gael treth stamp a'r holl ystod o drethi eraill, yna pam rhwystro hwn, os gallaf ei roi fel yna.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn fodlon cyd-gyflwyno'r cynnig hwn gyda'r Gweinidog. A gaf i groesawu'r ysbryd yr ydych chi wedi dod â'r ddadl gerbron ynddo? Mae hyn, yn ei hanfod, yn ymwneud â chadw'r sylw ar ddatganoli'r doll, yn bennaf oll. Ie, wrth gwrs, er mwyn eu codi, eu gostwng, neu eu cadw yn y canol yn rhywle y byddwch yn datganoli trethi, ond wrth gwrs daw hynny ar ôl cael y pwerau hynny yn y lle cyntaf. Felly, os nad yw'r pŵer gennym ni eto, yna mae'r dadleuon hynny'n llai perthnasol. Credaf fod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddeunydd darllen diddorol iawn, ac mae'n amlwg ei bod yn hen bryd datganoli'r doll teithwyr awyr. Credaf ei bod hi'n braf ac yn ddiddorol gweld pwyllgor seneddol o ben arall y M4, fel y'i disgrifiwn ef yn aml, wel, yn gyntaf oll yn ymdrin â mater fel hwn, sydd mor berthnasol i'n trafodaethau yn y Siambr hon, ond sydd hefyd yn croesawu datganoli'r doll hon, bron iawn yn frwdfrydig, er gyda rhybuddion o ran rhai o'r problemau a allai godi yn sgil hynny.

Fel y dywedais, byddai'r doll teithwyr awyr yn gorwedd yn daclus yn y jig-so o drethi sydd wedi'u datganoli—treth incwm, treth gwarediadau tirlenwi, treth stamp. Mae hwn yn fater o gydraddoldeb, mi gredaf. Mae gan yr Alban y pŵer hwn, fel y gwyddom, mae'r doll wedi'i datganoli i Ogledd Iwerddon, felly mae wedi dod yn fwyfwy anodd gweld pam na all y doll gael ei datganoli i Gymru yn yr un modd. Wrth gwrs, mae dadleuon yn erbyn ei datganoli, ac mae rhai ohonyn nhw'n simsan, mae eraill yn werth eu hystyried. Maen nhw'n gyfarwydd iawn. Rydym yn dal i glywed am y bygythiad i Faes Awyr Bryste; sy'n codi dro ar ôl tro pan fyddwn yn cael y trafodaethau hyn. Credaf fod y bygythiad yn cael ei orbwysleisio, yn ôl pob tebyg, o gofio bod meysydd awyr rhanbarthol ledled y DU a Maes Awyr Caerdydd yn gwasanaethu poblogaethau gwahanol, yn bennaf. Rwy'n gwybod bod pobl yn teithio pellteroedd gweddol faith i fynd ar deithiau hedfan o feysydd awyr, ond ni allaf weld pam y byddai Maes Awyr Bryste'n teimlo dan gymaint o fygythiad. A beth bynnag, nid wyf yn credu y dylai hynny rwystro'r hyn sy'n sylfaenol yn benderfyniad gwleidyddol, athronyddol—sut bynnag yr ydych eisiau ei fynegi; cyfansoddiadol—ar gyfer y lle hwn, a'r angen i Gymru gael y pŵer hwn.

Dadl arall sydd wedi'i defnyddio yn erbyn datganoli'r doll teithwyr awyr yw'r ffaith nad yw'r diwydiant hedfan yn cael ei drethu digon, ac nad yw tanwydd awyrennau yn destun treth, ac nad yw treth ar werth yn cael ei gosod ar docynnau yn yr un ffordd. Mae'n ddigon posibl bod hynny'n wir, ond eto, ni allaf weld pam fod honno'n ddadl o blaid neu yn erbyn datganoli'r doll. Mater i'r Cynulliad hwn fyddai penderfynu beth sy'n berthnasol i Gymru ac economi Cymru a theithiau awyr yma, a dyma ble y dylai'r pŵer fod.

Soniodd fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies yn gynharach am yr argyfwng yn yr hinsawdd, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei ystyried. Roedd yn codi yn nhrafodaethau'r Pwyllgor Cyllid. Yn amlwg, bu llawer o ganolbwyntio ar deithiau awyr yn ddiweddar, ynghylch y rhan sydd ganddo yn hyn o beth, ac mae'n amlwg yn cyfrannu'n sylweddol at yr ôl-troed carbon, felly credaf fod angen i unigolion a llywodraethau fod yn ymwybodol o hynny. Byddwn yn dweud, fel y dywedais o'r blaen, fodd bynnag, nad yw hyn o reidrwydd yn ddadl yn erbyn ei datganoli—mae'r penderfyniadau i'w gwneud yn y fan yma. Byddwn i hefyd yn dweud nad wyf i wir yn ei weld fel—. Nid wyf yn credu bod pobl yn sydyn yn mynd i neidio ar awyren pan na fydden nhw wedi neidio arni cyn hynny. Rwy'n credu y bydden nhw'n fwy tebygol o fynd i—. Efallai y byddai'n gwneud gwahaniaeth bach iawn. Byddan nhw'n mynd i faes awyr Caerdydd yn hytrach na rhywle arall, boed hynny dros y ffin i Luton neu Heathrow neu le bynnag y bo. Ond yn bennaf oll, mae'n rhaid i'r maes awyr hwnnw fod yn llwyddiannus er mwyn wynebu'r penderfyniadau hynny nes ymlaen.

Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn fwy na pharod i gefnogi'r cynnig hwn—yn wir, cyd-gyflwyno'r cynnig hwn ynghyd â phleidiau eraill yma—a gobeithiaf y gallwn ni o'r diwedd gael y maen hwn i'r wal unwaith ac am byth a chael y lefel bwysig hon o drethiant wedi'i datganoli i Gymru.

16:35

Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi gallu cyflwyno'r cynnig hwn ar y cyd â'r Llywodraeth Lafur a'r Blaid Geidwadol. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro byd dros ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru, ac mae'n braf gweld yn awr, o'r diwedd, fod yna gonsensws yn cynyddu yma—yn sicr hefyd y consensws a welsom ni'n cael ei  adlewyrchu yn yr adroddiad gan Bwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Tŷ'r Cyffredin. Mae'n 10 mlynedd ers i adroddiad Holtham gynnig bod hwn yn fesur synhwyrol. Byddai hyn, fel y clywsom eisoes, yn un o'r cynigion mawr olaf i ddeddfu arno o Gomisiwn Silk, felly mae'r adeg yn iawn, ac mae'n annealladwy, mewn sawl ffordd, pam mae rhwystrau'n dal i gael eu rhoi i atal datganoli. Credaf fod Stephen Crabb, pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud bod gormod o ansicrwydd a phryderon ynghylch y doll teithwyr awyr i gael penderfyniad drwy'r Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron, a'r Canghellor. Ie, ansicrwydd a phryderon—nid am Gymru, fe ymddengys. 

Unwaith eto, mae wedi bod yn ddirgelwch llwyr gweld Ysgrifennydd Gwladol Cymru—a Maes Awyr Caerdydd yn ei etholaeth—yn ôl pob golwg yn brwydro dros Faes Awyr Bryste, ac yn sgil hynny'n cael y teitl Ysgrifennydd Gwladol Gorllewin Lloegr. Ac rydym ni wedi clywed digon o dystiolaeth i ddweud na fyddai hyn yn golygu rhoi Bryste dan anfantais—ac nid oes tystiolaeth gref i awgrymu y byddai Bryste dan anfantais—ond y byddai, mewn gwirionedd, yn fanteisiol i Gaerdydd. A dyna sydd o ddiddordeb i ni yma. Ac nid Maes Awyr Caerdydd yn unig, ond Maes Awyr Môn yn fy etholaeth i. Dylem ni fod yn edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd.

Mae pryderon amgylcheddol amlwg ynghylch dyfodol teithiau awyr yn gyffredinol. Cafwyd digon o adroddiadau sy'n awgrymu y byddwn yn dal i weld cynnydd enfawr mewn teithio awyr yn fyd-eang—llawer ohono wedi'i ysgogi gan dwf yn Asia. Ond roeddwn yn darllen adroddiad heddiw yn dweud y bydd newidiadau ym mhatrymau teithio awyr na fyddant o reidrwydd yn cynyddu nifer y teithwyr, ond y byddai'n ymwneud â'r ffyrdd mwy craff y bydd pobl yn defnyddio teithiau awyr fel dull o deithio, pryd bydd y rhwydweithiau prif ganolfan a lloerennau yr ydym ni wedi arfer â nhw, a thwf y prif feysydd awyr—Heathrows y byd hwn—, os nad yn ildio'n llwyr, yn gweld symudiad tuag at fwy o deithio o fan penodol i fan penodol gydag awyrennau hediad pellter hir o faint llai, mwy effeithlon yn gallu gwneud y siwrneiau o ddinas i ddinas benodol, a rhanbarth i ranbarth penodol, gan gynnwys, wrth gwrs, Caerdydd a Chymru, a'r manteision a all ddeillio o hynny.

Felly, rwy'n falch ein bod yn cyflwyno hyn ar y cyd. Ni ddylem ni orfod gwneud hyn. Mewn sefyllfa lle mae'r Alban eisoes wedi gweld y doll teithwyr awyr wedi'i ddatganoli, pan fo Gogledd Iwerddon wedi gweld y doll teithwyr awyr wedi'i ddatganoli, ymddengys i mi fod y rhwystrau yno i atal Cymru mewn rhyw ffordd rhag ennill y math hwnnw o fantais a allai ddod yn sgil datganoli rhywbeth sydd yn sicr, rwy'n credu, yn ysbryd datganoli a'r modd y bydd datganoli yn ei gyfanrwydd yn datblygu, a chynnig sydd wedi cael ei wneud nawr mewn nifer o adroddiadau uchel eu parch, o Silk yn ôl i Holtham. Felly, gadewch inni heddiw wneud y datganiad hwnnw ein bod yn credu ei bod hi nid yn unig yr amser priodol, ond ei bod hi'n hen bryd inni gymryd y cam hwn. Mae o fudd inni wrth inni chwilio am ffyrdd o fireinio economi Cymru. Nid yw'n ymwneud â cheisio rhoi pobl eraill dan anfantais.

16:40

Mae'n bleser cael siarad yn y ddadl hon ac rwyf wrth fy modd yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig. Fe'i darllenais ar yr adeg yr ymddangosodd. Roeddwn yn credu ei fod yn adroddiad da. Mae'n gymharol fyr; ni fyddwn i'n ei ddisgrifio fel adroddiad cynhwysfawr. Roedd fy asesiad ychydig yn wahanol i un y Gweinidog yn yr ystyr na welais fod ei bwyslais yn arbennig ar yr ochr gyfansoddiadol ac nad oedd yn edrych ar hyn mewn rhyw fath o ffordd niwtral megis 'a ddylid ei datganoli?' yn hytrach na 'beth fyddai'r effaith pe bai—?'. Roedd ei sylwedd, o leiaf o ran newid safbwynt yn San Steffan ar sail drawsbleidiol, yn ymddangos fel pe bai'n ymwneud â'r dystiolaeth am Faes Awyr Bryste. A chredaf eu bod wedi dod i'r casgliad eithaf pendant y byddai'r effaith ar Faes Awyr Bryste yn eithaf bach, hyd yn oed pe baem ni'n dileu'r doll teithwyr awyr neu'n ei lleihau'n sylweddol, ac yn wir, nid yw'n sail ddigonol ar gyfer penderfynu a ddylid datganoli'r dreth hon yma pan fo wedi'i datganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon.

O ran pwyntiau 2 a 3 a'r cyfeiriadau at y consensws trawsbleidiol, a gwthio hyn ymlaen gyda phwynt 4, mae fy ngrŵp wedi trafod hyn ac wedi myfyrio arno. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, mewn gwirionedd, ddoe, am ateb fy nghwestiynau mewn galwad ffôn ac am amlinellu ychydig mwy o ran safbwynt Llywodraeth Cymru, a'i gonestrwydd yn hynny, ac roeddwn yn gwerthfawrogi hynny. Credaf y cafwyd newid pwyslais o effaith torri neu gael gwared ar y dreth i effaith amrywio'r dreth, ond deallaf safbwynt y Gweinidog, fel y mynegwyd gynnau, y byddai'n hoffi petai San Steffan yn edrych ar bob treth a dadl dros ddatganoli o safbwynt rhinweddau datganoli, yn hytrach na rhinweddau penodol polisi arfaethedig, o gofio y byddai'n cael ei datganoli er mwyn inni benderfynu beth ddylai'r polisi hwnnw fod yn y fan yma. 

Serch hynny, credaf ei bod hi'n haws asesu rhagoriaethau polisi lle mae bwriad cadarn o ran pa gyfeiriad y dylai ei ddilyn. Fy nealltwriaeth o hyd yw y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio ei lleihau os nad ei diddymu ac y byddai'r budd posibl i Faes Awyr Caerdydd yn rhywbeth y dylem ei ystyried yn briodol. Ac wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru yn berchen ar Faes Awyr Caerdydd, felly pe bai'n dod yn faes awyr mwy poblogaidd ac yn fenter fusnes well, byddai rhywfaint o'r budd yn sgil hynny yn mynd i'r trethdalwr, naill ai drwy fwy o ddifidendau neu drwy lai o arian net yn mynd iddo yn y dyfodol, neu yn wir drwy werthu cyfran leiafrifol pe bai'r Llywodraeth fyth yn gwneud hynny. Felly dyna rywbeth i'w ystyried.

Roeddwn yn llai argyhoeddedig ynghylch y dadleuon a gyflwynwyd gan Nick Ramsay fod hyn yn fater o gydraddoldeb â'r Alban, ac felly dylem wneud hyn. Mae gan yr Alban lawer mwy o bwerau mewn llawer o feysydd nag sydd gennym ni yma. Ni fyddwn i'n dadlau dros gydraddoldeb ar sail un o'r rheini, a doeddwn i ddim yn ymwybodol ei fod e'n gwneud hynny chwaith, o leiaf nid yn gyffredinol. Mae gan yr Alban y pŵer i amrywio'r cyfraddau ac nid dim ond y cyfraddau ond trothwyon treth incwm. Mae pobl yn yr Alban yn talu llawer mwy o dreth yn rhan ganol uwch a rhan uwch y dosbarthiad incwm oherwydd nad yw'r trothwy wedi'i godi fel y mae yn Lloegr ac yn wir yng Nghymru ar gyfer y gyfradd 40c. Gwnaf, fe wnaf dderbyn ymyriad.

16:45

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i egluro hynny. Rydych chi wedi dechrau dadlau nawr am dreth incwm ac mae hynny'n dreth eithaf gwahanol i'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu o ran treth megis toll teithwyr awyr, mae'n amlwg bod manteision o ddatganoli hynny i Gymru. Yn achos y dreth honno, rwy'n credu bod dadl dros gydraddoldeb, ond nid oeddwn yn dweud y dylai fod cydraddoldeb i bopeth yn gyffredinol, neu fe fyddem ni'n newid yn aruthrol y—

Rwy'n falch o gael yr eglurhad. Rwy'n siŵr y byddai ei etholwyr yn gwerthfawrogi hynny hefyd. Yn sicr yn well cynnig na phe bai Boris Johnson yn dod a chodi'r trothwy i £80,000 a phetai hynny ddim yn digwydd iddyn nhw, efallai yr hoffent ddwyn eu Haelod i gyfrif am hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn nodi gwahaniaethau pwysig ynghylch trethi. Rydym ni'n amheus ynghylch datganoli mwy fyth o drethi i Gymru—

Mae wedi cynnig codi'r trothwy treth incwm a grybwyllais i—

Nid ydym ni'n sôn am dreth incwm. Rydym ni'n sôn am y doll teithwyr awyr.

Rwy'n falch eich bod wedi egluro nad ydych chi'n siarad am hynny, oherwydd ni fyddai wedi bod yn boblogaidd ymhlith eich etholwyr. Ond y ffaith yw—[Torri ar draws.] Dyna ddigon, Nick, diolch. [Torri ar draws.] Nick, a allwn ni symud ymlaen? Diolch.

Treth fach yw'r dreth hon. Dim ond £10 miliwn. Fe'i hargymhellwyd, fel y nodwyd, gan gomisiwn Silk. Er gwaethaf ein hamheuaeth tuag at ddatganoli parhaus o fwy a mwy o drethi sydd dim ond yn mynd i un cyfeiriad, tuag at yr amcan a gefnogwyd gan Blaid Cymru ar fy ochr chwith, gyda'r bwlch cyllidol o £13 miliwn y dywedwyd wrthym ni amdano'n gynharach, nid wyf yn credu ei fod yn syniad da i gael hyd yn oed mwy o ymreolaeth gyllidol ac yna annibyniaeth. Fodd bynnag, roedd y maes hwn yng nghomisiwn Silk. Nid ydym ni eisiau ymladd yn erbyn rhywbeth yr oedd cymaint o gonsensws yn ei gylch mor bell yn ôl. Rwy'n credu y byddai'n fanteisiol i Faes Awyr Caerdydd pe bai'r dreth hon yn cael ei gostwng. A dyna sut rwy'n dal i weld y bydd pethau'n datblygu. 

Credaf ei bod hi'n anodd iawn gwneud hynny o fewn cyd-destun y gyllideb garbon, oherwydd pe baem ni'n lleihau'r doll teithwyr awyr yma a bod hynny'n arwain at fwy o bobl yn hedfan o'r fan hon a fyddai fel arall wedi mynd i Fryste, a phetai hynny yn cyfrif yn ein herbyn a hynny heb ystyried y gostyngiad ym Mryste, yna efallai na fyddwn yn gwneud yr hyn a fyddai'n benderfyniad cywir o ran carbon deuocsid ar gyfer y DU gyfan. Ond yn gyffredinol, credaf fod yr achos wedi'i gyflwyno dros ddatganoli'r dreth hon. Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn ei gefnogi ar draws y pleidiau, a chredaf y dylem ei gefnogi ar draws y pleidiau yn y Cynulliad hwn hefyd.

Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod yn cefnogi datganoli'r doll teithwyr awyr, ond rwy'n wyliadwrus ynghylch yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud â hi. Nid yw Llafur yn hoffi dim mwy na gwario arian pobl eraill ac maen nhw'n credu eu bod nhw'n gwybod yn well ynghylch sut i wario arian pobl eraill nag y mae'r bobl eu hunain. Yn ddiweddar, clywsom, dros y ffin, fod eneidiau hoff cytûn Llafur Cymru a ffrindiau mynwesol ideolegol yn y Blaid Lafur yn San Steffan yn bwriadu trethu'r rhoddion y mae rhieni'n eu rhoi i'w plant drwy dreth roddion newydd oes gyfan. Dyma enghraifft arall eto fyth o'r Blaid Lafur sy'n gweithio ar yr egwyddor, os gellir trethu rhywbeth, yna mae'n rhaid ei drethu, beth bynnag yw'r canlyniadau.

Wrth gwrs, bydd datganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru yn gyfle i Gymru leihau'r dreth er budd teuluoedd sy'n defnyddio meysydd awyr Cymru, ond nid oes unrhyw reswm dros amau, o gael y cyfle, na fydd Llafur Cymru yn dilyn arweiniad eu harwyr yn San Steffan ac yn ei gynyddu unwaith y bydd ganddyn nhw reolaeth drosto, neu'n creu trethi newydd sbon os oes ganddyn nhw'r pwerau i wneud hynny. Nid wyf yn clywed unrhyw warant gan Lywodraeth Cymru, petai'r dreth yn cael ei datganoli, na fydden nhw'n ceisio ei defnyddio fel peiriant arian parod. Efallai yn y ddadl hon y byddant yn fodlon rhoi'r warant honno i deuluoedd a busnesau a fyddai'n defnyddio meysydd awyr Cymru. Er, rwy'n amau hynny.

Yr hyn sy'n sicr o fod yn syndod i unrhyw un sy'n credu bod Llafur yn sefyll dros y rhai ar gyflog isel yw eu bod hyd yn oed eisiau bod yn gyfrifol am dreth atchweliadol fel toll teithwyr awyr yn y lle cyntaf. Mae'n gorfodi teulu ar gyflog isel sydd wedi treulio blwyddyn neu fwy yn cynilo ar gyfer gwyliau i dalu'r un faint o dreth â theulu mwy cefnog sy'n gallu mynd ar wyliau ar yr esgus lleiaf. Mae'n anwybyddu incwm neu'r gallu i dalu yn llwyr ac yn fwriadol. Felly, sut y mae plaid sy'n dweud ei bod hi ar ochr teuluoedd sy'n cael trafferthion eisiau'r cyfrifoldeb am dreth atchweliadol ar wyliau haeddiannol i'r rhai sy'n gweithio'r oriau hiraf yng Nghymru? Wel, oherwydd bod y Llywodraeth Lafur hon yn cefnogi trethi atchweliadol eraill pan fydd yn gyfleus iddyn nhw a'u syniadaeth wleidyddol, wrth gwrs. Edrychwch ar TAW.

Er nad yw wedi'i ddatganoli eto, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn ceisio ein twyllo eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i drechu tlodi mislif, gan ddweud ar yr un pryd y dylem gadw ein haelodaeth o'r UE, sy'n ein hatal rhag dileu TAW ar dyweli mislif a thamponau, oherwydd bod yr UE yn eu hystyried yn eitemau moethus. Nawr, mae'n un peth dweud eich bod yn barod i drethu'r rhai ar gyflog isel yr un faint â'r rhai cyfoethog iawn am wyliau tramor, ond siawns nad yw'n anfoesol dweud y byddwch yn parhau i godi tâl ar fam sengl am dyweli mislif neu damponau hanfodol. Mae'r un peth yn wir am yr hyn a elwir yn 'dreth fraster'.

Gadewch i ni fod yn realistig: mae'n annhebygol y bydd Llafur eisiau i doll teithwyr awyr gael ei datganoli fel y gallant ei gostwng neu ei dileu. Maen nhw eisiau iddi gael ei datganoli er mwyn iddyn nhw allu ei chodi a'i defnyddio fel y mynnant. Bydd hyd yn oed y ddealltwriaeth syml o economeg sydd gan y Blaid Lafur yn dweud wrthyn nhw y byddai ei chynyddu'n ormodol yn golygu y byddai pobl yn dewis teithiau hedfan sy'n mynd a dod o feysydd awyr cyfagos yn Lloegr, megis Bryste yn lle Caerdydd.  

16:50

Na. Gadewch inni fwrw ymlaen, Mark. Mae'n ddrwg gennyf.

Mae bod eisiau rheoli'r dreth atchweliadol hon, ond yn gwbl groes i hynny eisiau aros mewn UE sy'n gosod trethi nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth drostynt gan allu dim ond tynnu llewys eu cyfeillion honedig yn yr UE i geisio dylanwadu ar benderfyniadau, yn dangos fod neges y Llywodraeth Lafur hon, hyd yn oed pan ddaw hi i deuluoedd incwm isel, yn glir ac yn groyw: eu bod yn gwybod yn well na'r bobl sut y dylid gwario eu harian haeddiannol.

Daw hyn â mi at fy mhwynt olaf: yn ystod cyfnod y Llywodraeth hon mae rhannau o GIG Cymru yn methu â chynnal eu hunain, nid yw llythrennedd na rhifedd yn wych o bell ffordd yn ôl y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, ac mae'r economi wedi bod yn aros yn ei hunfan. Felly mae'n syndod bod Llywodraeth Cymru, ar yr adeg benodol hon, yn gweld yn dda i dreulio ei hamser a'i sylw yn gwneud cais am ragor o bwerau o San Steffan. Yn wir, pe bai Llafur yn treulio cymaint o amser yn ceisio datrys problemau Cymru ag y maen nhw'n ei dreulio'n pendroni ynghylch pa bwerau newydd y dylent eu cael, pa ffyrdd newydd y gallant eu llunio i fynd ag arian oddi ar bobl i ariannu eu hoff brosiectau, a gwneud eu gorau i rwystro Brexit, byddai Cymru mewn cyflwr llawer gwell. Diolch.

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw, oherwydd bod datganoli'r doll teithwyr awyr yn rhywbeth yr wyf wedi bod yn ei hyrwyddo'n gryf ers amser maith, ac ni allaf weld bod dadl resymegol pam na ddylai'r doll teithwyr awyr gael ei datganoli i'r sefydliad hwn. A dweud y gwir, roeddwn yn ymdrin â'r pwynt hwn yn y trafodaethau ar Silk ar ran y grŵp Ceidwadol yma, a phan oedd yr arweinwyr i gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd negodi'n siarad am dreth incwm a siarad am fesurau eraill, mae'n amlwg bu hon yn un o'r trethi y buom yn siarad amdani.

Rwyf yn cydymdeimlo â'r pwynt a gyflwynwyd—credaf i Rhun ei gyflwyno—am sylwadau Stephen Crabb ryw bedair blynedd yn ôl erbyn hyn, oherwydd bu trafodaeth ynghylch ei roi i'r Alban hefyd ar y pryd, a'r meysydd awyr gogleddol hefyd, a sut y byddai'n effeithio arnyn nhw, ac mae'n ymddangos ei bod wedi goresgyn y ddadl honno dros ei throsglwyddo i'r Alban. Nid ein problem ni yw'r hyn sy'n digwydd ym Mryste. Mae Bryste yn weithrediad masnachol, ac ymddengys bod ganddyn nhw fodel lwyddiannus iawn, a bod yn deg â nhw, gydag 8 miliwn o deithwyr yn ei defnyddio. Os yw rhywun yn ceisio defnyddio Bryste fel dadl dros beidio â throsglwyddo'r doll, sydd wedi digwydd yn fy marn i, nid wyf yn gweld y dylai honno fod yn ddadl resymol yn y ddadl hon, a bod yn onest â chi. Mae hyn yn ymwneud â—[torri ar draws.] Ie.

Yn gyflym iawn—a diolch am ildio—a oes gennych chi unrhyw syniad beth sy'n cymell yr Aelod dros Faes Awyr Caerdydd i gyfeirio at broblemau i Fryste fel rheswm dros beidio â datganoli'r dreth i Gymru?

Rwy'n siŵr ei bod hi'n haws i chi gael gafael ar yr Aelod dros Faes Awyr Caerdydd nag y mae hi i mi y dyddiau hyn. [Chwerthin.] Felly, gadawaf i chi ofyn y cwestiwn hwnnw, ac efallai y byddwch yn gwrando ar yr ateb.

Ond, yn gyffredinol, mae hwn yn arf a all ddod i ddwylo'r Cynulliad hwn ac o ganlyniad, i Lywodraeth Cymru, a all greu cyfleoedd. Yn bersonol, hoffwn weld yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, ei fod yn dod yn realiti ac yn cael ei dileu. Nid wyf yn celu hynny, oherwydd dyna a ddywedodd y Prif Weinidog: pe bai'n dod i Lywodraeth Cymru, byddent yn sicr yn ceisio cael gwared arni. Byddai'n costio tua £1 miliwn i hediadau pellter hir, ac rwy'n sylweddoli mai'r ffigur y soniwyd amdano yw £10 miliwn i gyd. Mae'n werth myfyrio ar argymhelliad comisiwn Silk sef ei fod yn ymwneud â hediadau pellter hir ac nid teithiau awyr byr. A dyna oedd argymhelliad comisiwn Silk. Felly mae gwahaniaeth yn hynny o beth, felly byddwn yn awgrymu y byddai'r golled gymedrol o incwm treth y gallai Llywodraeth Cymru ei hwynebu pe bai'n cael gwared â hi ar gyfer hediadau pellter hir, pe bai'r pŵer hwnnw'n dod iddi, byddwn yn dweud y byddai hynny'n cael ei luosi sawl gwaith drosodd gan y cynnydd yn nifer y teithwyr a fyddai'n dod i Gaerdydd, yn enwedig teithwyr rhyngwladol, a'r gwariant a fyddai'n digwydd yn economi Cymru.

Yn ddiddorol, wrth inni fwrw ymlaen, pe bai'n cael ei datganoli yn ei chyfanrwydd ar deithiau byr hefyd—mae llawer o sôn am beiriannau trydan a datblygu peiriannau trydan ar deithiau awyr byr yn arbennig—dewis y Llywodraeth fyddai hynny, pwy bynnag sy'n rheoli'r pŵer hwnnw ar y pryd, pa un a fyddech yn awyddus i gymell y dechnoleg honno ar gyfer teithiau awyr byr neu beidio. Credaf fod honno'n ddadl ac yn drafodaeth ddiddorol, oherwydd mae hi yn deg nodi bod goblygiadau amgylcheddol i bobl sy'n hedfan—rwyf yn derbyn hynny—ond a minnau'n un sy'n credu bod hedfan yn fudd economaidd ac yn cysylltu pobl â chymunedau ar hyd a lled y byd, hoffwn weld hedfan yn dod mor rhad â phosibl, nid mor ddrud â phosibl. Rwy'n ei weld fel arf grymuso yn sicr.

Ond gresynaf yn arw nad ydym ni wedi gweithredu argymhelliad comisiwn Silk ac, yn wir, argymhelliad comisiwn Holtham 10 mlynedd yn ôl, ac rwyf yn ei ailadrodd ac mae'n werth ei ailadrodd: nid oes dadl resymegol i rwystro datganoli'r doll teithwyr awyr i'r Cynulliad Cenedlaethol. Gallaf ddadlau gyda Llywodraeth Lafur Cymru—fel y gwnaf wythnos ar ôl wythnos—am rai o'r penderfyniadau polisi y maen nhw wedi'u gwneud, ond mae'n cael ei alw'n ddemocratiaeth, ac mae pobl yn bwrw eu pleidlais yn unol â hynny ac maen nhw naill ai'n cymeradwyo'r gwleidyddion i wneud y penderfyniadau hynny neu beidio. Felly, nid yw dweud nad ydym ni'n ymddiried yn y penderfyniadau polisi sy'n mynd i gael eu gwneud, yn rheswm digon da a digon cadarn i atal y dreth hon rhag cael ei datganoli.

Felly, mae'n olygfa braf gobeithio—nid wyf wedi gweld y botymau'n cael eu gwasgu yma heno—ond erbyn diwedd y noson gobeithio y cawn ni bleidlais fawr i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heno. Ac rwy'n gobeithio, gyda'r newid arweinyddiaeth yn y Blaid Geidwadol a'r Prif Weinidog newydd yn San Steffan, y bydd y busnes anorffenedig penodol hwn yn cael ei symbylu o'r newydd, ac ni fydd hi'n rhy hir cyn i'r erfyn economaidd hwnnw gael ei drosglwyddo yma i Gymru, ac yna gallwn gael y drafodaeth go iawn ar y polisi. Ond fel y dywedais, yn amlwg rwyf eisiau cefnogi'r rhan fwyaf o'r hyn y dadleuodd Prif Weinidog blaenorol Cymru yn gynhwysfawr iawn y dylai gael ei ddefnyddio er mwyn gostwng toll teithwyr awyr, fel bod pobl yn cael gwell dewisiadau a chyfleoedd i hedfan allan o Faes Awyr Caerdydd.

Ond eto, hoffwn gael eglurhad, gan fy mod yn clywed yr hyn y mae'r Gweinidog Cyllid wedi'i ddweud, sef ar y naill law mae'r ddadl amgylcheddol, ar y llaw arall mae'r ddadl economaidd, a dywedwch fod yn rhaid i'r profion hyn gael eu rhoi gerbron comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, y ddeddfwriaeth a'r gweddill—Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Gallwch wneud hynny nawr fel y gellir deall yr achos a'r ddadl a'r polisi a chael cefnogaeth ehangach y tu allan i'r Siambr hon. Ac, fel y dywedais, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn sicr roedd cyn Brif Weinidog Cymru yn glir iawn ei fod eisiau cael gwared ar y doll teithwyr awyr, yn enwedig ar hediadau pellter hir. Byddwn yn ddiolchgar pe baech chi, wrth grynhoi, yn ymrwymo i'r polisi penodol hwnnw a oedd yn bolisi gan Lywodraeth Cymru o dan Brif Weinidog blaenorol Cymru, a hoffwn ddeall a fydd y Llywodraeth bresennol hon yn parhau â'r polisi hwnnw.

16:55

Yn wir, mae'n braf nodi'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, oherwydd nid oes amheuaeth, petai'r doll teithwyr awyr yn cael ei datganoli, a bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfle hwn i leihau neu yn well fyth, diddymu'r doll, fe fyddai'n rhyddhau gwir botensial Maes Awyr Caerdydd drwy wella gallu Llywodraeth Cymru i ddenu cwmnïau hedfan newydd yn sylweddol, a thrwy hynny o bosibl hwyluso cynnydd mawr yn nifer y teithwyr a fyddai'n defnyddio'r maes awyr.

Datganolwyd y dreth teithwyr awyr i Ogledd Iwerddon ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol drwy Ddeddf Cyllid y DU 2012, tra bo Deddf yr Alban 2016 yn darparu ar gyfer datganoli'r doll yn llawn i'r Alban. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau nad oes cyfiawnhad dros gael ein trin yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ac rydym ni ar y fainc hon yn cefnogi'r safiad hwnnw'n llawn.

Y broblem i Gymru yw safbwynt y DU o ran gwarchod statws Maes Awyr Bryste. Nid yw'r ddadl hon yn dal dŵr mwyach, gan fod gweithrediadau Bryste wedi ehangu'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, llawer mwy na rhai Caerdydd. Nid oes ond rhaid inni edrych dros Afon Hafren tuag at goridor yr M49 i weld yr effaith ehangach y gall defnydd estynedig o faes awyr ei gael ar yr economi. Mae cyfnewidfa gwbl newydd yn cael ei hadeiladu i greu mynediad i barc busnes mawr, y disgwylir iddo ddarparu miloedd o swyddi lleol. Fel y nodwyd yng nghynllun gweithredu economaidd Cymru, mae gwella cysylltedd Cymru â gweddill y DU ac yn rhyngwladol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru.

Mor bell yn ôl â 2014, fel y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies, argymhellodd adroddiad Silk hefyd y dylid datganoli'r doll teithwyr awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol i ddechrau. Ond er i Andrew R.T. Davies ddweud nad oedden nhw'n sôn am deithiau safonol, fe wnaethon nhw ddweud mewn gwirionedd:

dylai datganoli holl gyfraddau toll teithwyr awyr i Gymru fod yn rhan o waith Llywodraeth y DU ar drethi hedfan yn y dyfodol.

Nawr, o gofio bod adroddiad Silk wedi ei gyhoeddi bum mlynedd yn ôl, rwy'n credu ei bod hi bellach yn bryd cael datganoli llawn. Rydym ni yn y Blaid Brexit yn cymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad yn llawn ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r pwerau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod yn cefnogi'r doll hon ar y sail y bydd Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i'w diddymu neu ei lleihau'n sylweddol, oherwydd dyna fydd hyn yn ei wneud i economi Cymru, a dyna'r holl syniad dros ddatganoli hyn i Lywodraeth Cymru.

17:00

Hoffwn gyfrannu'n fyr at y ddadl hon. Fel eraill, rwy'n croesawu'n fawr y cynnig y mae'r Llywodraeth a'r gwrthbleidiau wedi'i roi ger ein bron y prynhawn yma, ac rwy'n falch iawn o gymeradwyo a chefnogi hynny. Credaf y dylem ni hefyd groesawu gwaith y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Nawr, rwy'n derbyn bod gennyf rywfaint o ddiddordeb yn y mater hwn, ond mae'n un o offerynnau Tŷ’r Cyffredin a system San Steffan sydd wedi bod yn gyson gefnogol i waith y lle hwn ac sydd wedi cydnabod sut y mae arnom ni angen a sut y gallwn ni ddatblygu craffu a democratiaeth sefydliadol ar draws y Deyrnas Unedig.

Nawr, credaf y dylem ni fod yn datganoli'r dreth benodol hon oherwydd credaf y dylem ni sicrhau bod datganoli strwythurol yn cael ei gydlynu. Dydw i ddim yn un o'r bobl hyn sy'n credu y dylem ni ddatganoli unrhyw fater penodol oni bai fod rhywbeth yr ydym ni eisiau ei wneud yn arbennig gyda'r mater hwnnw yn wahanol i'r hyn a wneir yn Lloegr. Nid wyf erioed wedi bod yn un o'r datganolwyr hynny sydd eisiau diffinio'r hyn yr ydym ni yma yng Nghymru fel rhywbeth gwahanol i'r hyn a geir dros Glawdd Offa.

Credaf y dylem ni gael cydlyniad yn y setliad. Credaf fod y setliad, ar hyn o bryd, yn setliad diffygiol. Nid oes ond rhaid ichi wrando ar unrhyw ddadl am drafnidiaeth i weld hynny. Dyna ichi'r problemau sydd gennyf ynghylch y rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd, sy'n faterion sy'n cael eu hanwybyddu gan yr adran drafnidiaeth yn Lloegr, ac nid oes gan y Llywodraeth yn y fan hon ddigon o bwerau i fwrw ymlaen â materion fel y byddem yn dewis ei wneud. Mae problem strwythurol yn y fan yna o ran y setliad, a chredaf fod problem strwythurol yma o ran y setliad hefyd. Credaf, os byddai Llywodraeth Cymru—a Llywodraeth Cymru yw'r unig awdurdod sydd â'r gallu i reoli polisi trafnidiaeth yng Nghymru yn briodol, felly os yw am wneud hynny mewn modd cydlynol yna mae'n rhaid iddi gael y pwerau i gyflawni'r polisi hwnnw, beth bynnag yw'r polisi hwnnw. Ac mae toll teithwyr awyr yn rhan o hynny. Mae'n rhan o gyfres o bwerau gwahanol a ddylai fod ar gael i'r Llywodraeth i'w galluogi i gyflawni polisi cyfannol.

Felly, credaf y dylem ni gefnogi gwaith y pwyllgor dethol yn y mater hwn, a chredaf y dylem ni gefnogi barn hirsefydlog Llywodraeth Cymru bod hwn i'w ddatganoli yn rhan o fframwaith cyllidol ehangach, a fydd yn sefydlu perthynas ariannol wahanol iawn rhwng gwahanol sefydliadau'r Deyrnas Unedig. Rydym ni eisoes wedi gweld y ddadl hon yn cael ei chyflwyno'n gydlynol gan Silk a gan Holtham. Mae'r ddau wedi bod yn glir iawn iawn petaem yn ceisio datganoli materion trethiant yna dylem wneud hynny, nid yn dameidiog ond er mwyn cyflwyno setliad sefydlog pryd gall y Llywodraeth yn Lloegr ac yma yng Nghymru gyflawni eu polisi mewn ffordd gyfannol. Rydym ni eisoes wedi gweld y methiant hwn gyda'r system farnwrol, lle mae cyfiawnder troseddol eto'n cynrychioli rhan o setliad diffygiol.

Gobeithiaf y byddwn, wrth ddatrys y materion hyn, yn gallu cyrraedd sefyllfa pryd y bydd gennym ni setliad sefydlog a chydlynol cyn imi ymddeol neu cyn i fy etholwyr benderfynu ei bod yn bryd imi ymddeol. Gobeithiaf, wrth fwrw ymlaen â'r mater hwn, y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd safbwynt mwy cyflawn ynghylch y materion hyn. Nid wyf i'n siŵr os ydw i'n rhannu optimistiaeth Andrew R.T. Davies a Nick Ramsay y bydd Prif Weinidog newydd y DU yn ddiweddarach eleni yn arwain at ganlyniad mor hapus, ond yr hyn yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu ei wneud—ac mae cyn Brif Weinidog Cymru wedi siarad yn glir am hyn, mae Prif Weinidog newydd Cymru wedi siarad yn hynod o argyhoeddiadol am hyn hefyd—yw cyrraedd sefyllfa lle mae'r setliad yn gweithio ac nad y setliad bellach yw'r pwynt trafod, ond mai sut rydym ni'n gweithredu'r setliad a'r dewisiadau polisi sydd gennym fydd maes y drafodaeth, a dyna sut y dylai unrhyw ddemocratiaeth weithredu'n briodol. Felly, nid wyf eisiau dechrau dadl, ac rwy'n gobeithio na fyddwn yn cymylu'r ddadl y prynhawn yma gyda chwestiynau ynghylch sut y byddai'r Llywodraeth yn gweithredu'r trethiant hwn. Mae hynny'n fater ar gyfer maniffestos, etholiadau a dadleuon gwleidyddol yn y fan hon. Yr hyn y mae'r lle hwn yn gyfrifol am ei wneud—ac fe wnaethom ni fethu gyda phroses Deddf Cymru y tro diwethaf oherwydd y syrthni yn Whitehall wrth gyflawni setliad datganoledig sy'n ein galluogi i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n gobeithio nawr y byddwn ni, drwy'r adroddiad hwn ac adroddiadau eraill, yn gallu sicrhau bod gennym ni setliad datganoledig sy'n galluogi'r ddwy Lywodraeth i gyflawni eu polisi.

17:05

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi gwneud cyfraniadau diddorol a defnyddiol iawn yn ystod y ddadl heddiw. Fy ngobaith mewn gwirionedd yw y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i ystyried datganoli'r doll teithwyr awyr fel rhywbeth i'w wrthsefyll, ond yn hytrach yn gweithio gyda ni i greu cyfleoedd nid yn unig ar gyfer economi Cymru ond hefyd ar gyfer de-orllewin Lloegr a'r DU gyfan, gan nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai datganoli'r doll teithwyr awyr yn rhoi maes awyr Bryste o dan anfantais mewn unrhyw ffordd ac roedd y Pwyllgor Materion Cymreig yn gwbl glir ynglŷn â hynny.

Er bod y manteision i Gymru yn glir, gallai datganoli'r doll i Gymru yn y pen draw helpu i leihau'r tagfeydd maes awyr yn ne-orllewin Lloegr, gan wneud defnydd mwy effeithlon o gapasiti presennol rhedfeydd a meysydd awyr ledled y DU. Mae ehangu capasiti meysydd awyr yn amlwg yn hanfodol ar gyfer ffyniant tymor hwy y DU.

Gan droi at rai o'r cyfraniadau penodol, roedd pryder, yn naturiol, ynghylch argyfwng yr hinsawdd, ac er mwyn mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd rydym ni wedi derbyn argymhelliad Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd sef gostyngiad o 95 y cant yng Nghymru ac rydym ni'n bwriadu deddfu i'r perwyl hwnnw. Mae hyn yn cynrychioli cyfraniad teg Cymru at ymrwymiad y DU o dan gytundeb Paris ac mae'n dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', sy'n cynnwys proffiliau allyriadau manwl, fesul sector, a 100 o bolisïau a chynigion i sicrhau Cymru carbon isel. A bydd hyn yn ein harwain at ein targed allyriadau yn 2020 ac yn gosod y sylfaen ar gyfer mwy o ymdrechion yr ydym yn dechrau eu creu. Mae'n bwysig cydnabod, rwy'n credu, a rhoi'r mater yn ei gyd-destun, oherwydd bod y ffigurau diweddaraf, o 2016-17, yn amcangyfrif bod cyfanswm yr allyriadau sy'n deillio o hedfan cenedlaethol a rhyngwladol yng Nghymru yn 0.22 y cant o gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gwaith ymchwil a wnaed yn annibynnol yn dangos y byddai arbedion carbon o ran allyriadau oherwydd y traffig ar y ffordd i Faes Awyr Bryste.

Rwy'n cydnabod bod llawer o ddiddordeb a brwdfrydedd o ran sut y gallai Llywodraeth Cymru geisio defnyddio'r pwerau hyn yn y dyfodol, ond yn ystod y ddadl hon ac yn ystod y trafodaethau yr ydym yn eu cael ar hyn, ac yn ystod y dystiolaeth yr oeddwn yn falch o'i rhoi i'r Pwyllgor Materion Cymreig, roeddwn yn gwbl glir ynghylch peidio â nodi'n union beth y byddem yn bwriadu ei wneud â hynny, oherwydd mae pwynt pwysig o egwyddor yn hyn o beth, a chredaf fod Alun Davies yn ei grynhoi'n berffaith, sef nad mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a yw'n datganoli pwerau i Gymru neu beidio drwy farnu ar sut y gellid defnyddio'r pwerau hynny ymhen amser. Dylai wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid datganoli'r pwerau neu beidio yn ôl ei deilyngdod yn unig, a dyna pam nad wyf wedi rhoi llawer o fanylion am hynny yn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, wrth gwrs, byddai'n destun ymgynghoriad llawn ag unigolion â diddordeb, gyda busnesau, gyda'r sector twristiaeth, ac, wrth gwrs, byddai cyd-Aelodau eisiau ddweud eu dweud.

O ran y gost, ni fyddai unrhyw gost i Lywodraeth y DU. Byddai arian Llywodraeth Cymru yn cael ei ostwng yn gyfatebol i addasiad i'r grant bloc i gyfrif am golli refeniw y DU. Mae hyn yn debygol o fod yn cyfateb yn y lle cyntaf i swm y refeniw toll teithwyr awyr a gynhyrchir yng Nghymru, ac mae'r amcangyfrifon diweddaraf gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer 2017-18 yn dangos bod refeniw toll teithwyr awyr yng Nghymru tua £9 miliwn. Felly, does dim gobaith o gwbl iddo fod y math o beiriant pres y mae Michelle wedi awgrymu y gallai fod. Mewn gwirionedd, mae ein diddordeb ni yma mewn gwirionedd yn ymwneud â rhyddhau potensial y maes awyr.

Ni fydd unrhyw gostau gweinyddol i deithwyr chwaith. Fel gyda'r system bresennol o doll teithwyr awyr, y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ei gweithredu, mae'n orfodol i gwmnïau awyrennau gyflwyno ffurflenni treth. O ran y gost i gwmnïau, yn eu tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Materion Cymreig, cadarnhaodd cwmnïau awyrennau, pe byddai costau gweinyddol ychwanegol yn deillio o ddatganoli, nad oedden nhw'n disgwyl i'r baich fod yn sylweddol nac yn barhaol, ac yn sicr ni fyddai'n eu rhwystro rhag defnyddio Maes Awyr Caerdydd.

Rwyf wedi croesawu'n fawr y gefnogaeth a'r consensws cryf a gawsom gan yr amryfal bleidiau yn ystod y ddadl hon, felly efallai y byddaf yn pwyso ar gyd-Aelodau am fwy o gefnogaeth drawsbleidiol ar fater cysylltiedig, a hynny yw, o ran cynllunio ar gyfer Prydain ar ôl Brexit, mae angen inni greu cyfleoedd i barhau a datblygu ein heconomi. Siaradodd Andrew R.T. Davies yn benodol am bwysigrwydd cysylltedd a rhan teithio awyr yn hynny. Gan fod 80 y cant o fasnach Cymru gyda marchnadoedd domestig y DU, mae gwella'r cysylltedd trafnidiaeth ledled y DU gyfan yn hanfodol bwysig i lwyddiant ein dyfodol, a dyna pam fod y llwybrau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus hynny mor bwysig.

Yn rhan o'n gwaith cynllunio am fywyd ar ôl Brexit, fe wnaethom ni ddatblygu ac anfon ceisiadau cadarn yn seiliedig ar dystiolaeth at Lywodraeth y DU i'w cyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhwydwaith newydd o wasanaethau awyr rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus domestig, ond mae Llywodraeth y DU, yn anffodus, yn rhwystro'r ceisiadau hyn, heb ddarparu unrhyw resymeg wirioneddol heblaw ei bod wrthi'n datblygu strategaeth hedfan newydd 2050, and mae hynny'n debygol o gymryd dwy neu dair blynedd cyn iddi ddod yn rhan o gyfraith y DU.

Nawr, swyddogaeth Llywodraeth y DU o ran rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus yw bod yn gyfrwng i drosglwyddo ein ceisiadau i Ewrop; nid oes ganddi unrhyw swyddogaeth arall yn y broses. Felly, mae sefyllfa San Steffan drwy rwystro datblygiad y llwybrau newydd hyn, ac felly, yn fwy cyffredinol, datblygiad y sector hedfan yng Nghymru, yn hynod o rwystredig, yn enwedig o'i hystyried ochr yn ochr â'i phenderfyniad, er enghraifft, i beidio ag ariannu'r system eGates yng Nghaerdydd gan eu hariannu ar yr un pryd mewn meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr sy'n cystadlu â ni, ac, wrth gwrs, gwrthod yn barhaus i ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru pan fo hynny eisoes wedi'i wneud ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban. Felly, byddwn yn croesawu cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus llwybrau awyr yr ydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU eu datblygu ar ein rhan.

Ond i gloi, Llywydd, rwy'n ddiolchgar iawn, unwaith eto, i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau ac i ddiolch ar goedd, unwaith eto, i'r Pwyllgor Materion Cymreig am ddarn o waith da a defnyddiol iawn. Diolch.

17:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae hynny'n golygu nad oes yna unrhyw bledleisiau heddiw ac sydd yn dod â'n cyfnod trafod ni i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:13.