Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
18/06/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.
1. Beth yw'r broses y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i wyrdroi penderfyniad gan bwyllgor cynllunio awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio? OAQ54087
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Pan fo awdurdodau cynllunio lleol yn gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, mae gan yr ymgeisydd hawl i apelio i Weinidogion Cymru. Yr arolygydd cynllunio, a benodir ar ran Gweinidogion Cymru, sy'n penderfynu'r rhan fwyaf o apeliadau. Caiff nifer fach eu hadfer i gael eu penderfynu trwy Weinidogion Cymru eu hunain.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Prif Weinidog, nid oes neb mewn gwell sefyllfa, does bosib, i wneud penderfyniadau cytbwys am gynllunio lleol na'r bobl sy'n byw yno. Yn 2016, pleidleisiodd cynghorwyr Caerffili yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad tai yn Hendredenny. Roedd trigolion lleol yn ddig, a hynny'n briodol iawn, o weld y penderfyniad hwn yn cael ei wrthdroi gan Weinidog ym Mae Caerdydd, ac mae'r cynghorwyr ar fin pleidleisio eto ar hyn yfory ar ôl i benaethiaid cynllunio gymeradwyo'r cais. Y gwir amdani yw nad yw'r seilwaith yno i allu ymdopi â 260 o gartrefi ychwanegol o ran ffyrdd, lleoedd mewn ysgolion a gallu cael gafael ar feddygon teulu. Dim ond cyfran fach iawn o'r cartrefi newydd hyn a elwir yn fforddiadwy, felly mae'r fantais i'r ardal leol yn ymddangos yn amheus a dweud y lleiaf. Cyflwynwyd tri deg pump o lythyrau gwrthwynebu, a cheir pryderon hefyd ynghylch effaith adeiladu ar safle tir glas ar yr amgylchedd. Prif Weinidog, onid yw'n amser i Lywodraeth Cymru ddiwygio polisi cynllunio i sicrhau ei fod yn ymwneud â chynllunio yng ngwir ystyr y gair, trwy gynnwys lleisiau lleol o'r dechrau, a chynnwys y ddarpariaeth o seilwaith a gwasanaethau addas mewn cynlluniau datblygu o'r cychwyn yn hytrach na gorfodi prosiectau nad oes croeso iddynt ar drigolion lleol?
Wel, Llywydd, diolchaf, wrth gwrs, i Delyth Jewell am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae'n bwysig bod yn eglur bod yr hawl i apêl yn hawl statudol. Fe'i nodir yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a diwygiwyd y broses apelio a ddilynir yng Nghymru mor ddiweddar â 2017, a chytunwyd ar y rheolau sy'n llywodraethu'r broses apelio yma yng Nghymru yn y fan yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am yr angen i'w diwygio ymhellach, ond fe gawsant eu diwygio, ac fe'u diwygiwyd yma ar lawr y Cynulliad hwn mor ddiweddar â'r flwyddyn cyn y llynedd. Bwriadwyd i'r newidiadau wneud y system yn fwy cymesur, yn gost-effeithiol, a'i hagor yn fwy i gyfranogiad y cyhoedd yn y broses apelio. Mae'n ddigwyddiad prin iawn, Llywydd, pan gaiff apêl ei hadfer ar gyfer penderfyniad gan Weinidogion Cymru. Ar gyfartaledd, caiff tua phum apêl cynllunio mewn unrhyw flwyddyn unigol—llai nag 1 y cant o'r holl apeliadau a gyflwynir i'r arolygiaeth gynllunio—eu hadfer i Weinidogion Cymru, a chânt eu hadfer o dan amgylchiadau sy'n gaeth i'r rheolau.
Yn achos Hendredenny, sef yr enghraifft benodol y cyfeiriodd yr Aelod ati, nid oedd her statudol i benderfyniad Gweinidog Cymru. Mae gan bobl chwe wythnos pryd y cânt fynd i'r Uchel Lys i herio'r penderfyniad hwnnw. Ni chyflwynwyd unrhyw her. Felly, mae'r penderfyniad yn derfynol. Mae materion eraill, fel y dywedodd Delyth Jewell, i'w penderfynu nawr gan yr awdurdod cynllunio lleol, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n cadw mewn cof y materion y mae hi wedi eu codi ac a godwyd gan drigolion lleol.
Prif Weinidog, pwynt tebyg i'r un a wnaed gan Delyth Jewell. [Torri ar draws.] Rwy'n gobeithio nad fi sy'n achosi'r llefain i fyny'r grisiau. [Torri ar draws.] Na, nid fy mabi i yw ef; gobeithio ddim beth bynnag. [Chwerthin.]
Mae Tŷ Troy yn Nhrefynwy yn eiddo rhestredig gradd II, sy'n dyddio'n ôl i'r ail ganrif ar bymtheg, wedi ei leoli yn ward Llanfihangel Troddi yn Sir Fynwy. Mae wedi bod mewn cyflwr gwael o ddirywiad ers blynyddoedd lawer. Mae wedi bod yn ysbyty ar wahanol adegau, mae wedi bod yn ysgol, ac mae'n wag ar hyn o bryd. Cymeradwyodd Cyngor Sir Fynwy ganiatâd cynllunio i achub yr adeilad a'i droi'n fflatiau, ond mae'r penderfyniad wedi ei wrthdroi gan arolygydd Llywodraeth Cymru ar y sail ei fod ar orlifdir. Nawr, rwy'n gwybod ei bod yn debygol na fyddwch chi'n gallu trafod manylion y cais hwnnw, ac nid wyf i'n gofyn i chi wneud hynny, ond os oes gennych chi sefyllfa lle mae gennych chi adeilad rhestredig gradd II sy'n dirywio bob blwyddyn, mewn cyflwr difrifol a bod cynllun o ryw fath ar y bwrdd i geisio adfer yr adeilad hwnnw, ceir pryder mawr yn amlwg pan fydd Llywodraeth Cymru yn dweud na all hynny ddigwydd. Beth allwch chi ei wneud? Pa gamau diogelu y gallwch chi eu cynnwys yn y broses gynllunio er mwyn sicrhau, iawn, pan fydd materion fel hyn yn cael eu gwrthdroi gan Lywodraeth Cymru, bod amddiffyniad ar waith i sicrhau nad yw adeilad rhestredig ddim ond yn cael ei adael i fynd yn adfail a chael ei golli i'r genedl?
Diolchaf i Nick Ramsay, Llywydd, am y pwynt pwysig yna. Rwy'n gyfarwydd, fel y mae'n digwydd, â Thŷ Troy ac rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud am yr angen i ystyried statws rhestredig adeiladau o'r math hwnnw wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Fel y dywed, yn yr achos hwn, gwnaeth yr Arolygiaeth Gynllunio ei dyfarniad ar y sail nad oedd yn adeilad addas i'w droi'n fflatiau, oherwydd y perygl o lifogydd. Ac, er mwyn bod yn eglur gyda'r Aelodau, Llywydd, mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'n gweithredu trwy gyfres o reolau yr ydym ni'n eu gosod, ond nid oes unrhyw Weinidog byth yn ymyrryd mewn penderfyniad y mae arolygydd cynllunio yn ei wneud. Mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldebau cynllunio wedi clywed y pwyntiau y mae Nick Ramsay wedi eu gwneud, a byddwn yn edrych eto i wneud yn siŵr bod y rheolau y mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gweithredu yn unol â nhw yn ystyried y pwyntiau a wnaed ynghylch yr angen i roi sylw dyledus i statws rhestredig adeiladau wrth wneud y penderfyniadau hynny.FootnoteLink
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen Cymoedd Technoleg? OAQ54047
Diolchaf i Alun Davies am hynna. Mae buddsoddi mewn sgiliau, seilwaith a seiberddiogelwch ymhlith prosiectau cynnar y rhaglen Cymoedd Technoleg. Mae'r grŵp cynghori arbenigol yn parhau i lunio'r £100 miliwn sydd i'w fuddsoddi dros gyfnod 10 mlynedd y rhaglen fel ein bod ni'n sicrhau ei fod yn cael cymaint o effaith â phosibl ac yn cefnogi technolegau sy'n datblygu.
Prif Weinidog, croesawyd y cyhoeddiad o raglen fuddsoddi gwerth £100 miliwn yng Nglynebwy, ym Mlaenau Gwent, yn nyfodol economi Blaenau Gwent, gan bobl o fewn y fwrdeistref ac ar draws Blaenau'r Cymoedd. Mae'n dangos ymrwymiad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru i economi Glynebwy a Blaenau Gwent, ac mae hefyd yn dangos bod ffydd gwirioneddol ym Mlaenau'r Cymoedd fel man lle y gallwn gyflawni busnes. Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu i ni heddiw sut yr ydych chi'n disgwyl gweld y rhaglen Cymoedd Technoleg yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf a phryd yr ydych chi'n credu y bydd pobl Blaenau Gwent yn gweld manteision y rhaglen hon o fuddsoddiad?
Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Hoffwn ddiolch iddo am yr holl waith a wnaeth i wireddu'r rhaglen ac am y ffordd y mae, wythnos ar ôl wythnos, yn sicrhau bod buddiannau ei etholwyr yn cael eu codi yma bob amser ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol. Ac rwy'n credu y bydd ei etholwyr yn falch o wybod bod cynnydd eisoes—cynnydd pendant—y byddan nhw'n gallu ei weld ar draws yr amrywiaeth o elfennau sy'n rhan o'r rhaglen gymhleth honno. Bydd yn gwybod am y cynllun i ddod â TVR i Lynebwy. Cafodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod yn ddiweddar gydag uwch swyddogion gweithredol. Cadarnhaodd y cwmni gynnydd gwirioneddol o ran dod o hyd i fuddsoddiad ecwiti newydd i gefnogi datblygiad cerbydau cyn-cynhyrchu, ac mae'r broses dendro wedi'i chwblhau erbyn hyn ar gyfer adnewyddu'r adeilad yn Rasa, sef y lleoliad a ffefrir gan TVR ar gyfer cynhyrchu ceir yn llawn. Ar yr un pryd, mae caniatâd cynllunio wedi'i sicrhau erbyn hyn ar gyfer safleoedd Rhyd y Blew a Lime Avenue yng Nglynebwy, a disgwylir i waith adeiladu ddechrau eleni yn y ddau achos. Thales, a'r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol—mae Thales eisoes wedi symud i'w swyddfa prosiect yng Nglynebwy. Mae ceisiadau wedi eu derbyn erbyn hyn ar gyfer y gronfa pyrth darganfod gwerth £7 miliwn ar gyfer rhaglen Parc y Cymoedd, a disgwylir penderfyniadau ar gyllid yn fuan. A gwn y bydd gan Alun Davies ddiddordeb arbennig yn y buddsoddiad newydd o £1.5 miliwn yr ydym ni wedi cytuno arno mewn rhannu prentisiaeth yn ardal Cymoedd Technoleg—sy'n dangos ffydd nid yn unig ym Mlaenau'r Cymoedd, ond mewn pobl ifanc yn yr ardal honno, a'n penderfyniad i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael dyfodol llwyddiannus.
Prif Weinidog, newyddion gwych i gael y buddsoddiad mawr hwn yn ardal Blaenau Gwent. Mae cynllun strategol y Cymoedd Technoleg yn datgan ei nod o greu 1,500 o swyddi newydd dros y 10 mlynedd nesaf. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd tuag at gyflawni'r nod, ac a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i lunio adroddiad blynyddol ar y prosiect hwn i'r Cynulliad, ac i sicrhau bod y buddiannau a addawyd yn cael eu darparu ar gyfer pobl Blaenau Gwent, yn unol â'r cynlluniau?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae e'n iawn i gyfeirio at y nifer uchelgeisiol o swyddi yr ydym ni eisiau eu creu o ganlyniad i'r rhaglen Cymoedd Technoleg. Disgwylir swyddi adeiladu yn y misoedd i ddod, ceir y prentisiaethau yr wyf i eisoes wedi cyfeirio atynt, a bydd y buddsoddiad hwnnw yr ydym ni eisiau ei wneud yn nhirwedd y gymuned honno yn y cymoedd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr asedau naturiol enfawr sydd ganddi. Bydd Gweinidogion yn adrodd yn rheolaidd yn y fan yma, Llywydd, ar hynt y rhaglen. Rwyf i bob amser yn falch o ateb cwestiynau amdani, a gwn fod fy nghyd-Aelod Ken Skates yn adrodd yn rheolaidd i Aelodau ar sut y mae'r rhaglen, sy'n rhaglen 10 mlynedd, â £100 miliwn i'w chefnogi, yn cael ei darparu ar lawr gwlad.
Prif Weinidog, y tro diwethaf i mi eich holi am eich cynlluniau i hybu'r economi yn ardaloedd yr hen feysydd glo, gofynnais i chi'n benodol am eich cynlluniau adfywio economaidd ar gyfer y Rhondda, ac roeddwn i'n siomedig o gael ateb gennych chi a oedd yn sôn llawer am eich cynlluniau ar gyfer gwario mewn etholaeth yng nghymoedd Gwent ond, cyn belled ag y mae'r Rhondda yn y cwestiwn, gellir aralleirio eich ateb fel 'dim llawer'. A ydych chi wedi sylweddoli ers hynny nad yw'r Rhondda yng Ngwent? Ac, os felly, beth ydych chi'n bwriadu ei wneud, o safbwynt technolegol, neu yn wir unrhyw safbwynt adfywio economaidd arall, am yr ardal sydd ag un o'r niferoedd uchaf o bobl heb waith boddhaol yn y wlad gyfan hon?
Wel, diolchaf i'r aelod. Nid wyf i angen cyfarwyddyd daearyddol ganddi hi. Bydd y rhaglen Cymoedd Technoleg yn un a fydd, wrth gwrs, yn mynd y tu hwnt i'r ardaloedd yr wyf i wedi cyfeirio atyn nhw wrth ateb y cwestiwn gan yr Aelod a'i ofynnodd i mi. Gadewch i mi roi un enghraifft yn unig i'r Aelod o sut y bydd y prosiect yn mynd y tu hwnt ac i mewn i'w hardal hi: byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad o ddichonoldeb o'r prosiect Skyline yn fuan iawn. Ystyriodd y prosiect y posibilrwydd o gymunedau yn rheoli'r dirwedd sy'n amgylchynu eu tref neu bentref, ac mae'n canolbwyntio ar dair cymuned yn y cymoedd yn Ystradowen, Caerau a Threherbert. Bydd yr adroddiad hwnnw yn gwneud cynigion yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â llywodraethu, diogelu'r amgylchedd, cynhwysiant cymdeithasol a chynaliadwyedd modelau busnes ar gyfer stiwardiaeth gymunedol o asedau tirwedd. Ac rwy'n eithaf siŵr bod trigolion yn ei hetholaeth hi yr un mor hoff o'r ardal lle maen nhw'n byw, yn awyddus i gymryd cyfrifoldeb cymunedol am stiwardiaeth yr asedau hynny, a bydd y rhaglen yn eu cynorthwyo i wneud hynny.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Brif Weinidog, mae gen i hawl i ofyn cwestiwn i chi yn Gymraeg yn y Senedd hon, ond does gan fy nhad, 84 mlwydd oed, ddim hawl i ofyn cwestiwn yn Gymraeg i'w feddyg, neu i'w optegydd, neu i'w fferyllydd neu i'w ddeintydd. Bum mlynedd yn ôl, fe ddywedoch chi yn bersonol taw gwraidd yr achos dros wella'r defnydd o'r Gymraeg mewn gofal sylfaenol yw'r posibilrwydd mai dim ond yn eu hiaith gyntaf y gall cleifion agored i niwed fynegi eu hunain yn llawn. Heddiw, mae pwyllgor trawsbleidiol yn y Senedd, sy'n cynnwys Aelodau Llafur, yn dweud taw ychydig iawn o gynnydd, os o gwbl, mae'r rheoliadau rŷch chi newydd eu cyhoeddi yn ei wneud o ran hawl i bobl yng Nghymru dderbyn gwasanaethau iechyd yn eu dewis iaith. Pam, ar ôl 84 o flynyddoedd, mae fy nhad i yn dal i gael ei drin fel dinesydd eilradd?
Wel, a gaf i ddweud, unwaith eto, Llywydd, yn fy marn i, mae cael gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, yn enwedig ym maes iechyd, yn hollbwysig? Dyna pam rŷn ni, yn gynharach, wedi cyhoeddi pethau newydd ddiwedd mis Mai, sy'n estyn y pethau rŷm ni'n eu gwneud yn y maes iechyd i ofal sylfaenol. Wrth gwrs, prosiect tymor hir yw e i dyfu pobl yn y gweithlu sy'n barod a gyda'r sgiliau i roi gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ond, fel Llywodraeth, rŷm ni wedi bod yn gweithio gyda phobl yn y maes, gyda'r colegau brenhinol, gyda'r byrddau iechyd, i berswadio pobl sy'n gallu rhoi gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i wneud hynny i ddechrau, ac i dynnu fwy o bobl i fewn i'r maes.
Ddoe, es i i Brifysgol Aberystwyth. Cwrddais i gyda'r bobl yna. Maen nhw newydd lwyddo i gael yr hawl yn ôl i hyfforddi yn y maes nyrsio, ac mae tyfu pobl sy'n gallu rhoi gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth sydd yng nghanol eu cynllun nhw.
So, rŷm ni yn gwneud pethau, ond mae mwy i’w wneud, wrth gwrs. Ond y pwynt sylfaenol yw bod yr hawl sydd gyda phobl i ddefnyddio’r Gymraeg a chael gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn rhywbeth rŷn ni’n ei gefnogi, wrth gwrs, fel Llywodraeth.
Ond, Brif Weinidog, roeddech chi eich hunain wedi adnabod hwn fel gwagle enfawr bum mlynedd yn ôl. Ble ŷch chi wedi bod? Mae’r pwyllgor ei hunan yn dweud rŷn ni’n dal i fod yr un mor bell i ffwrdd o gyflawni’r lefel dewis iaith cydradd ag yr oedden ni ar ddechrau’r Cynulliad hwn. Does dim symud ymlaen o gwbl.
Ac a gaf i droi at fater arall sydd yn greiddiol bwysig o ran dyfodol yr iaith, sef cyflogaeth? Yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol, ymhlith y cyflogwyr mwyaf yw’n prifysgolion ni, ac rŷn ni wedi clywed yn ddiweddar am y problemau ariannol dybryd sydd yn y Drindod Dewi Sant ac ym Mangor. Nawr, yn y gorffennol, pan rŷn ni wedi codi problemau mewn prifysgolion unigol, mae eich Llywodraeth chi wedi dweud, ‘Wel, sefydliadau annibynnol ŷn nhw—dŷn ni ddim yn gallu ymyrryd’. O ystyried pa mor ddifrifol nawr ydy’r creisis ariannol o fewn y sector, a allaf i ofyn ichi gadarnhau a fyddech chi, fel mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi datgan, yn gadael i sefydliad prifysgol yng Nghymru fynd i’r wal?
Wel, Llywydd, hoffwn i fynd yn ôl at y pwynt cyntaf a gododd yr Aelod oherwydd nid wyf i'n cytuno ag ef o gwbl na fu unrhyw gynnydd o ran y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg yn y sector iechyd. Credaf ei fod yn un o'r pethau gwirioneddol galonogol sydd wedi newid yn ystod y degawd diwethaf fy mod i erbyn hyn, pan fyddaf i'n mynd i ysbytai mewn unrhyw ran o Gymru, yn gweld aelodau o staff yn gwisgo arwyddion amlwg sy'n dweud wrthych eu bod nhw'n gallu ac yn barod i ddarparu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid i ni annog y bobl hynny, mae'n rhaid i ni gefnogi'r bobl hynny, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i fwy ohonyn nhw, wrth gwrs, ond nid yw'n helpu'r achos o wneud hynny i ymddwyn fel pe byddai'r bobl hynny sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrech wirioneddol drwy'r rhaglen 'Mwy na geiriau'—os byddwn ni'n diystyru eu hymdrechion ac yn ymddwyn fel pe na byddai dim o gwbl wedi ei gyflawni. Mae llawer iawn wedi ei gyflawni. Mae'r sefyllfa'n wahanol iawn i sut yr oedd hi. Nid yw hynny'n golygu, ac yn enwedig mewn meysydd fel seiciatreg, nad oes llawer mwy yr ydym ni eisiau ei wneud, ond rydym ni'n sicrhau gwelliant trwy annog pobl sy'n barod i fod yn rhan o'r ymdrech honno yn hytrach na diystyru eu hymdrechion fel pe na bydden nhw wedi gwneud unrhyw wahaniaeth.
Nawr, pan fydd fy nghyd-Aelod y Gweinidog addysg yn dweud wrth yr Aelodau bod sefydliadau addysg uwch yn gyrff annibynnol, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn hynny. Mae'n gwbl amhriodol y dylem ni fyth geisio ymyrryd yn y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi gweithio'n galed i gynnal y sector yma yng Nghymru. Rydym ni wedi gweithio gyda'r sector er mwyn gallu gwneud hynny. Dyna pam yr oeddwn i'n benderfynol, pan euthum i Aberystwyth ddoe, o gyfarfod â'r is-ganghellor a'i chydweithwyr i glywed am y gwaith y maen nhw'n ei wneud a'r hyn y gallwn ni ei wneud i'w cynorthwyo yn eu hymdrechion. Dyma pam y cyfarfu'r Gweinidog addysg â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gynharach heddiw er mwyn parhau â'r ymdrech honno. Rydym ni'n deall bod heriau. Wrth gwrs bod heriau, ar ôl degawd o gyni cyllidol, ym mhob rhan o'r hyn y mae'r gwasanaeth cyhoeddus yn ceisio ei gyflawni yng Nghymru, ac nid yw addysg uwch yn ddim gwahanol. Ond y gwahaniaeth rhwng y sector addysg uwch yn Lloegr a'r un yng Nghymru yw ein bod ni'n gweithio gyda'r sector gyda'r nod bob amser o'i gefnogi yn hytrach na dim ond dweud y bydd grymoedd y farchnad yn berthnasol ac y bydd y rhai sy'n mynd i'r wal yn mynd i'r wal beth bynnag.
Bydd nifer o bobl yn teimlo’n anniddig iawn, yn arbennig, wrth weld prifysgolion yng Nghymru’n diswyddo cannoedd o staff tra ar yr un pryd yn talu cyflogau i’w is-gangellorion, sydd, yn ôl ffigurau diweddaraf HEFCW, yn ennill £254,000 ar gyfartaledd. Nawr, tu allan i’r sector prifysgolion, mae cyflog prif weithredwr Banc Datblygu Cymru ymhlith yr uchaf yn y sector cyhoeddus—hynny yn adlewyrchu, am wn i, pwysigrwydd y rôl. Yn wyneb hynny, allwch chi ddweud pam ŷch chi, fel Llywodraeth, fel mater o bolisi, wedi gosod cynsail wrth gytuno i ddeiliad y swydd ymgymryd â rôl anweithredol cyflogedig tu hwnt i’w waith llawn amser yn y banc?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud nad wyf i o blaid y rhai sy'n cael eu talu ar frig ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu talu ar lefelau sy'n eu gwahanu oddi wrth weddill eu gweithlu. Dyna pam mae gan Lywodraeth Cymru gymhareb sydd ymhlith y culaf yn holl gyrff sector cyhoeddus Cymru rhwng yr hyn sy'n cael ei dalu ar frig yr ystod a'r bobl hynny sy'n cael llai o dâl yn ein gwasanaeth cyhoeddus ei hun. Mae hynny'n wir yn y sector addysg uwch hefyd, er nad yw'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am gyflogau is-gangellorion yn benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Weinidogion, ac ni ddylai Gweinidogion ymyrryd â nhw ychwaith.
Ceir sectorau lle mae'r sector cyhoeddus yn gweithredu erbyn hyn lle'r ydych chi mewn marchnad gystadleuol. Mae hynny'n wir yn y gwasanaeth iechyd, fel y gwyddom, lle mae'n rhaid dod o hyd i bobl brin i ddod i weithio yng Nghymru. Dyma pam yr ydym ni'n cynnig i'n meddygon teulu—ac mewn rhannau o Gymru y mae'r Aelod ei hun yn eu cynrychioli—cyllid ychwanegol a chyllid i gael pobl i ddod i weithio mewn rhannau o Gymru lle na fyddem ni'n gallu denu pobl fel arall. Mae'n gwbl anochel—efallai nad ydym ni'n ei hoffi, ond mae'n anochel pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn cystadlu am adnoddau prin a phobl sy'n gallu dewis ble bynnag y maen nhw eisiau mynd i weithio, bod y swm yr ydym ni'n ei dalu iddyn nhw yn dod yn rhan o'r ffordd y mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddod â phobl i gyflawni'r cyfrifoldebau gwirioneddol bwysig hyn.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn diwallu anghenion ein pobl ifanc?
Rwy'n credu bod gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn diwallu anghenion ein holl bobl i'r graddau y mae pobl y tu hwnt i Gymru yn ei ystyried yn rhyfeddol. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu—ac rwy'n siŵr bod yr Aelod ar fin cynnig enghraifft i mi lle ceir pethau y byddem ni'n hoffi eu gweld yn cael eu gwneud yn well. Mae gwasanaethau iechyd a phobl ifanc yn aml wedi bod yn frwydr. Ceir gwaith ymchwil hirsefydlog sy'n dweud wrthych chi y bydd meddyg teulu, er enghraifft, yn treulio llai o amser gyda rhywun dan 20 nag unrhyw un arall y mae'n ei weld. Felly, mae gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth iechyd wedi ei drefnu'n briodol i ddeall a diwallu anghenion pobl ifanc yn rhywbeth sydd wedi bod yn broblem hirdymor o ran anghydraddoldebau iechyd, a bydd enghreifftiau, does dim dwywaith, o ble mae mwy y byddem ni'n dymuno ei wneud.
Mae'r Prif Weinidog yn hollol gywir: mae pethau y gellir eu gwneud yn well oherwydd mae pryderon yng Nghymru mai dim ond dwy ganolfan gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed sydd ar agor i bobl ifanc yng Nghymru, yn cynnig cyfanswm o 27 gwely yn unig. Nawr, lleihawyd capasiti'r trydydd sector i 12 o welyau o 24, ond oherwydd pryderon ynghylch safonau yn y ganolfan yn ôl ym mis Gorffennaf y llynedd, symudwyd cleifion o Gymru oddi yno ac erbyn hyn dim ond cleifion o Loegr y mae'r ganolfan yn eu derbyn. Gan fod y canolfannau hyn yn gweithredu o dan gyfyngiad ar hyn o bryd neu fod ganddynt gyfyngiadau derbyn ar waith, nid yw'r canolfannau gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru yn diwallu anghenion cleifion risg uchel yn effeithiol. Mae rhai cleifion o Gymru yn cael eu trin y tu allan i'r ardal, gan ychwanegu baich ychwanegol arnyn nhw a'u teuluoedd. Nawr, codwyd y capasiti cyfyngedig hwn yn ôl yn 2013, ac eto mae'n ymddangos i mi nad oes unrhyw gynnydd wedi ei wneud. Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, eich bod chi'n cytuno â mi bod hyn yn gwbl annerbyniol. A allwch chi ddweud wrthym ni felly pa gamau yr ydych chi'n mynd i'w cymryd i ddatrys y sefyllfa benodol hon?
Wel, Llywydd, fel mae'n digwydd, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod. Mae gen i farn wahanol iawn i'r un, rwy'n credu, fy mod i wedi ei glywed yn ei ddweud am yr angen am wasanaethau haen 4 ym maes iechyd meddwl plant a'r glasoed. Yn sicr nid wyf i'n cytuno bod angen mwy o ganolfannau arnom ni. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bobl ifanc sydd angen gwasanaeth o'r math hwnnw. Felly, i mi, nid bod â mwy o welyau yr ydym ni angen mynd â phobl ifanc iddyn nhw yw'r prawf o lwyddiant, ond bod gennym ni fwy o wasanaethau cymunedol, mwy o wasanaethau ymyrryd mewn argyfwng, a'n bod ni'n gallu symud pobl ifanc i lawr y raddfa ymyrraeth.
Felly, rwy'n gyfforddus iawn bod gennym ni ganolfan yn y gogledd a chanolfan yn y de yn Nhŷ Llidiard. Credaf mai'r penderfyniad cywir oedd tynnu cleifion o Gymru o'r drydedd ganolfan y mae'r Aelod yn cyfeirio ati gan nad oedd y gwasanaeth hwnnw yn addas i'w ddiben ac nad oedd yn diwallu anghenion pobl ifanc. Mae nifer y bobl ifanc o Gymru yr ydym ni'n eu lleoli y tu allan i Gymru yn gostwng. Mae wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, a hoffwn ei weld yn gostwng ymhellach, oherwydd er fy mod i'n fodlon derbyn y bydd nifer fach o blant o Gymru y mae eu hanghenion mor eithriadol ac mor sylweddol fel bod yn rhaid i chi ddod o hyd i wasanaeth mor arbenigol na all poblogaeth o 3 miliwn o bobl ei gynnal, rwyf i eisiau gweld cymaint â phosibl o bobl ifanc o Gymru yn derbyn gofal yn nes at eu teuluoedd ac yn nes at eu cartrefi. Mae hynny'n golygu dychwelyd plant sy'n derbyn gofal yn Lloegr i wasanaethau haen 4, ac mae'n golygu symud gwasanaethau haen 4 i bobl ifanc yng Nghymru yn ôl i'r gymuned ac yn nes at gartrefi pobl.
Felly, rwy'n cytuno ei fod yn faes gwirioneddol bwysig, ac mae'n dda iawn cael cyfle i'w drafod ar lawr y Cynulliad, ond mae fy ateb i iddo yn llwyr i'r gwrthwyneb i ateb yr Aelod—nid ychwanegu mwy o welyau a rhoi mwy o adnoddau yno, mae'n golygu tynnu pobl, dad-ddwysáu, cryfhau gwasanaethau cymunedol a defnyddio'r 27 o welyau hynny dim ond pan fyddwn ni'n sicr bod hynny'n hanfodol.
Ond does bosib na ddylem ni fod yn darparu gwasanaethau yma yng Nghymru i'r bobl ifanc hynny a dylem ni fod yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys gwelyau hefyd. Felly, yn sicr, Prif Weinidog, mae'n rhaid i chi dderbyn hynny.
Nawr, codwyd pryderon pellach ynghylch amseroedd aros cleifion gyda mi. Canfu adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod cyfartaledd o 57 y cant o gleifion wedi aros dim mwy na phedair wythnos. Fodd bynnag, mae'r arolygiaeth yn nodi bod y rhan fwyaf o gleifion yn aros rhwng pedair a 26 wythnos am eu hapwyntiad cyntaf. Nawr, mae adroddiad gan gyngor iechyd cymuned, yr ydych chi'n bwriadu ei ddiddymu, wedi rhybuddio bod pobl ifanc ddim ond yn teimlo y bydden nhw'n cael eu gweld pe bydden nhw'n gwneud ymgais ddifrifol i gyflawni hunanladdiad. Rhybuddiodd adroddiad arall bod adrannau damweiniau ac achosion brys yn troi'n ddewis diofyn ar gyfer achosion o orddosio a hunan-niweidio oherwydd anawsterau o ran cael gafael ar gymorth gan Ganolfan CAMHS neu ofal sylfaenol.
A ydych chi'n credu mai dyma'r adeg iawn i ddiddymu cynghorau iechyd cymuned, y mae cleifion yn ymddiried ynddynt, a'u disodli gyda chyrff llais dinasyddion cenedlaethol efallai na fyddent yn teimlo y gallan nhw fod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru na'r byrddau iechyd gan mai chi fydd yn eu penodi, yn eu hariannu ac na fyddan nhw eisiau cael eu diswyddo gennych chi? Sut y bydd eich cyrff llais dinasyddion yn siarad ar ran cleifion, ac yn enwedig y bobl ifanc hyn, ar adeg pan fo arnyn nhw fwyaf ei angen ?
Wel, Llywydd, mae cynghorau iechyd cymuned yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Gellid cyfeirio pob beirniadaeth y mae newydd ei gwneud atynt hwythau yn yr un modd, ac, yn sicr, nid yw'r trefniadau hynny wedi atal cynghorau iechyd cymuned rhag siarad ar ran cleifion.
Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw cryfhau llais y dinesydd yn GIG Cymru. Bydd y corff yr ydym ni'n ei gynnig yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth, a bydd yn gweithredu—ac mae hyn yn hollbwysig o ran y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod i mi yn yr ail o'i gwestiynau—ar draws y ffin iechyd a gofal cymdeithasol, nad yw cynghorau iechyd cymuned yn ei wneud. Dim ond o fewn y gwasanaeth iechyd y mae cynghorau iechyd cymuned yn gweithredu. Ac mae'r bobl ifanc y cyfeiriodd atynt—ac rwy'n ddiolchgar iddo am dynnu sylw at y materion hynny y prynhawn yma—mae'r bobl ifanc hynny'n dibynnu ar wasanaethau a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd ac yn aml iawn drwy adrannau gwasanaethau cymdeithasol hefyd. A bydd y sefydliad newydd yn gallu siarad ar ran y bobl ifanc hynny ar draws y sbectrwm cyfan mewn modd na all y system bresennol ei wneud. Mae wedi ei lunio'n gyfan gwbl i fod yn gwbl annibynnol, i allu gwneud pa bynnag bwyntiau y mae'n dymuno eu gwneud, ac mae'r cynigion hynny, Llywydd, yma ar lawr y Cynulliad erbyn hyn i Aelodau graffu arnynt. Bydd ymchwiliad cam 1 gerbron y pwyllgor, lle gellir galw tystion. Edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau'n gallu archwilio pob agwedd ar y Bil, gan gynnwys ystyried sut y mae'r cynigion hyn yn cryfhau annibyniaeth, yn cryfhau llais y claf, ac yn ei ymestyn y tu hwnt i'r ffiniau y mae wedi ei gyfyngu oddi mewn iddynt ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddwn ni'n gwneud gwaith da iawn ar ran cleifion a phobl ifanc hefyd.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Y penwythnos hwn, ymddangosodd y pennawd canlynol yn y South Wales Argus:
Mae traffig yn ciwio a cheir oediadau difrifol ar...yr M4 o amgylch Casnewydd.
Wrth iddyn nhw ei drydar, awgrymais efallai y bydden nhw'n hoffi rhoi'r neges ar frig eu tudalen yn y dyfodol. Ar yr achlysur hwn, adroddodd yr AA bod oediadau difrifol, gyda chyflymder cyfartalog o 15 mya. Yna dywedodd yr AA:
ni fu damwain...mae'r ciwiau'n ganlyniad i draffig arferol tuag at Dwnnel Bryn-glas.
Prif Weinidog, trwy dorri eich addewid maniffesto i adeiladu ffordd liniaru ar gyfer y M4, onid ydych chi'n dweud bod Cymru ar gau i fusnes o dan Lafur?
Wel, bydd y bobl hynny'n falch iawn, Llywydd, nad oes yn rhaid iddyn nhw aros nawr am bum mlynedd a mwy am ateb i'r anawsterau a wynebwyd ganddynt, gan nad yw fy mhenderfyniad yn benderfyniad sy'n ymwneud â mynd i'r afael â'r anawsterau sy'n bodoli o gwmpas twnnel Bryn-glas, mae'n ymwneud â dod o hyd i ffyrdd amgen o fynd i'r afael â'r problemau hynny, o fynd i'r afael â nhw ynghynt o lawer nag y byddai ffordd liniaru i'r M4 erioed wedi ei wneud. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Arglwydd Burns yfory, a fydd yn cadeirio'r grŵp yr ydym ni bellach wedi ei sefydlu i gyflwyno'r syniadau cyflym hynny a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn nhwnnel Bryn-glas. Rwy'n credu y bydd hynny'n gwneud llawer mwy i'r bobl y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw, ac rwy'n benderfynol o barhau i weithio gyda chynrychiolwyr lleol o ardal Casnewydd, gan gynnwys cyngor y ddinas, i wneud yn siŵr ein bod ni'n symud ymlaen nawr, yn edrych tua'r dyfodol, yn dod o hyd i atebion newydd ac yn mynd i'r afael â'r materion sydd yno i fynd i'r afael â nhw.
Nid dyna a addawyd gennych chi eich maniffesto, nage?
Mae'r Gweinidog y tu ôl i chi, Lee Waters, yn dweud ei fod yn dipyn o ystrydeb i awgrymu bod Cymru ar gau i fusnes—[Torri ar draws.]
Nid dyna wnaethoch chi ei roi yn eich maniffesto. Roedd yn dweud—maniffesto Llafur—
Byddwn yn cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer yr M4.
Nid ydych chi wedi gwneud hynny—rydych chi wedi torri eich addewid.
—nid wyf i'n gallu clywed y cwestiwn; nid wyf i'n credu bod y Prif Weinidog yn gallu. A allwch chi barhau â'ch cwestiwn mewn rhywfaint o ddistawrwydd?
Felly, nid fy ngeiriau i oedd yr hyn y mae Lee Waters yn ei ddweud oedd yn ystrydeb—cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru Ian Price a ddywedodd bod y diddymiad hwn
yn cyfleu'r neges nad yw Cymru ar agor i fusnes.
Bydd twf economaidd yn cael ei lethu, bydd ffydd yn y rhanbarth yn gwanhau a bydd cost ffordd liniaru yn y pen draw yn codi.
Nawr, nid wyf i'n dyfynnu Ysgrifennydd Cymru Alan Cairns yn aml, ond rwy'n cytuno ag ef bod y penderfyniad hwn yn hynod siomedig ac yn ddiwrnod tywyll i Gymru.
Yr Ysgrifennydd Gwladol y bu'n rhaid i ni ddibynnu arno hefyd i ddarganfod unrhyw beth am yr hyn a oedd yn digwydd gyda'r ymchwiliad a'r adroddiad, gan ganfod, mewn gwirionedd, bod y penderfyniad yn un cadarnhaol gan yr arolygydd rai wythnosau cyn i Lywodraeth Cymru ein hysbysu. Nawr, a yw'r Prif Weinidog yn cydnabod mai chi roddodd derfyn ar ddadl effeithiol ar yr adroddiad hwn pan allai fod wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd, trwy ei gadw'n gyfrinach am rai misoedd tra'r oeddech chi'n gwneud eich penderfyniad eich hun? Ac onid yw Llywodraeth y DU yn gywir ar y pwynt sylfaenol y byddai'r ffordd hon yn cael ei hadeiladu nawr oni bai am 20 mlynedd o ddatganoli o dan arweinyddiaeth Llafur?
Wel, Llywydd, wn i ddim a oes llawer i'w ddysgu gan yr aelod am faniffestos. Safodd dros y Blaid Geidwadol ar sail maniffesto; cefnodd ar hwnnw yn syth. Safodd dros blaid UKIP ar sail maniffesto; cefnodd ar hwnnw. Nid wyf i'n credu bod unrhyw wersi y mae neb yma fyth yn debygol o'u cymryd ganddo ef ar y pwnc o aros yn driw i bethau y gwnaethoch chi sefyll ar eu sail mewn etholiad.
O ran Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod â phrif weithredwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Ffederasiwn y Busnesau Bach a Chyngres yr Undebau Llafur yr wythnos diwethaf i siarad yn union am y penderfyniad a wnaed, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am y ffordd y daethant i'r cyfarfod hwnnw mewn ysbryd cwbl adeiladol. Daethant yn awyddus i gyfrannu at y gronfa newydd o syniadau sydd yno i fynd i'r afael â'r anawsterau a wynebir yn nhwnnel Bryn-glas. Daethant i ddweud pa mor awyddus oedden nhw i gymryd rhan yn y grŵp a fydd yn cael ei sefydlu nawr i gynnig yr atebion hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n anodd dychmygu mwy o gyferbyniad rhwng yr ysbryd adeiladol y daeth y Cydffederasiwn a chydweithwyr eraill at y Bwrdd hwnnw ynddo a'r dôn o edliw bai a gynigiwyd i ni gan yr Aelod unwaith eto y prynhawn yma.
Nid oes ganddo unrhyw ddealltwriaeth o gwbl o'r ffordd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn Llywodraeth; nid oes ganddo ddim gafael o gwbl ar y drefn y mae'n rhaid ei dilyn wrth wneud y penderfyniadau hynny. Rwy'n gwbl gyfforddus, yn yr achos hwn, bod y penderfyniad wedi ei wneud yn briodol, gan barchu'r rheolau y bu'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw'n unol â nhw, a bod y penderfyniad a wneir nawr yn rhywbeth y mae angen i ni i gyd ei gefnogi, bwrw ymlaen ag ef a gwneud yn siŵr bod gennym ni atebion y gallwn ni eu rhoi ar waith yn llawer cyflymach nag y byddai ffordd liniaru byth wedi eu cynnig i bobl yng Nghasnewydd, a'r anawsterau yr wyf i wedi dweud bob tro y gofynnwyd i mi fy mod i'n cydnabod eu bod nhw yno a bod angen eu datrys.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ54038] yn ôl. Felly, cwestiwn 4—Andrew R.T. Davies.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ54034
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys Canol De Cymru, wedi'u nodi yn y cynllun gweithredu economaidd. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddi mewn pobl, lleoedd a busnesau drwy sgiliau, seilwaith a chymorth busnes.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, gwnaeth Weinidog yr amgylchedd ddatganiad, datganiad ysgrifenedig, ar newid Llywodraeth Cymru i'w hymrwymiad i sicrhau allyriadau di-garbon erbyn 2050. Yn y paragraff olaf ond un, roedd yn dweud bod adroddiad y pwyllgor ar newid hinsawdd
'yn ei gwneud yn glir fod maint y newid sydd ei angen er mwyn cyrraedd targed o sero net yn fwy nag unrhyw newid economaidd wedi'i gynllunio a welwyd yn yr oes hon'
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau, pan gytunodd y Cabinet i'r ymrwymiad hwn ac yn wir ei ddatganiad ar argyfwng newid yn yr hinsawdd, y rhoddwyd modelu economaidd manwl ar gael fel y gall trigolion Canol De Cymru fod yn ffyddiog na fydd y model economaidd y mae'r Llywodraeth yn ei ddilyn yn peryglu swyddi ac yn peryglu ffyniant, a phan fo'n bosibl—pan fo'n bosibl—y bydd y papurau hynny ar gael i Aelodau edrych drostynt?
Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o gadarnhau, wrth gwrs, bod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn yn seiliedig ar gyngor manwl. Ychydig iawn o is-bwyllgorau Cabinet sydd gennym ni, ond mae gennym ni is-bwyllgor Cabinet ar ddatgarboneiddio, lle caiff llawer iawn o waith manwl dros ben ei ystyried, ac sy'n sail i'r holl benderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud. Cawsom, wrth gwrs, y 300 o dudalennau manwl iawn o gyngor gan y pwyllgor ar newid hinsawdd ei hun, a chafodd hynny i gyd ei ystyried yn briodol gan y Cabinet cyn i'm cyd-Aelod Lesley Griffiths wneud ei chyhoeddiad. Fe'i dilynwyd y diwrnod wedyn, rwy'n credu, gan Lywodraeth y DU hefyd yn derbyn cyngor y pwyllgor ar newid yn yr hinsawdd o ran pennu targedau allyriadau ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n siŵr bod cydweithwyr Andrew R.T. Davies yn y Llywodraeth yn Llundain hefyd wedi cael gweld y dadansoddiad sylfaenol y mae'r pwyllgor yn ei ddarparu er mwyn hysbysu ei benderfyniad hefyd.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Lafur Seland Newydd wedi cyhoeddi ei chyllideb llesiant fis diwethaf, a ddisgrifir fel y cyntaf yn y byd. Cyflwynodd dangosyddion llesiant cymdeithasol fel blaenoriaethau yn ei pholisi economaidd, yn hytrach na phwyslais cul ar gynnyrch mewnwladol gros neu werth ychwanegol gros. Gyda mentrau fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r contract economaidd yma yng Nghymru, mae'n amlwg bod y math hwn o ddull yn cyd-fynd â'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud. Felly, sut arall y gellir blaenoriaethu'r math hwn o ddull ym mholisi economaidd Llywodraeth Cymru yn ystod y tymor Cynulliad hwn?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Vikki Howells am y cwestiwn diddorol iawn yna? Wrth gwrs, mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn darganfod mwy am benderfyniad Llywodraeth Seland Newydd. Rydym ni'n ffodus o fod wedi cael cysylltiadau cryf erioed rhwng y Llywodraeth Lafur yma a'r Llywodraeth Lafur yn Seland Newydd. Roedd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn Seland Newydd nid mor bell yn ôl â hynny, yn edrych ar agweddau eraill ar waith y Llywodraeth honno, ac rydym ni wedi edrych ein hunain ar y cyfyngiadau ar werth ychwanegol gros, ar lawr y Cynulliad hwn. Rydym ni'n gwybod, os oes gennym ni ddiddordeb gwirioneddol mewn llesiant, nad yw gwerth ychwanegol gros yn ffordd dda o gael y darlun llawn hwnnw. Rydym ni'n gwybod bod gweinyddiaethau blaengar mewn mannau eraill yn edrych ar economeg llesiant, a'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu mynd ar drywydd hynny yng Nghymru yw drwy'r gwaith yr ydym ni wedi ei gomisiynu drwy'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—rhan o'n penderfyniad, hyd yn oed yn yr oes anodd sydd ohoni, bod Cymru yn parhau i fod yn wlad eangfrydig lle'r ydym ni'n dysgu oddi wrth eraill, lle'r ydym ni'n cymryd rhan mewn gweithgarwch ar y cyd â gwledydd mewn rhannau eraill o'r byd. Ac mae'r gwaith y mae Vikki Howells wedi cyfeirio ato wedi dwyn ffrwyth yn Seland Newydd ynghynt efallai nag yn unman arall, ond mae gan amrywiaeth ehangach o wledydd ddiddordeb mewn datblygu mesurau sy'n mynd y tu hwnt i'r ystod gul y mae gwerth ychwanegol gros yn ei gwmpasu, ac rydym ni'n sicr wedi ymrwymo, trwy Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a pholisïau economaidd eraill y Llywodraeth hon, i fod yn rhan o'r ymdrech ryngwladol honno.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo hanes lleol yng ngogledd Cymru? OAQ54048
Diolchaf i'r Aelod. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo hanes Cymru yn genedlaethol ac yn lleol. Er enghraifft, mae Cadw yn adrodd straeon Cymru nid yn unig ar y safleoedd y maen nhw'n eu rheoli ond hefyd trwy weithio gyda phartneriaid lleol, fel yr ymddiriedolaethau archeolegol.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol y bydd hi'n 30 mlynedd fis Chwefror nesaf ers llifogydd dinistriol Tywyn, a ddigwyddodd ar hyd arfordir fy etholaeth i ac, yn wir, i mewn i etholaeth gyfagos Dyffryn Clwyd, oherwydd fe wnaethon nhw effeithio ar y Rhyl hefyd. Yn sgil y llifogydd hynny, cafodd 5,000 o bobl eu symud o'r cymunedau a gafodd eu difrodi gan y dŵr hwnnw, a chawsant effaith sylweddol ar yr holl fywydau yr effeithiwyd arnynt. Yn wir, effeithiwyd ar fywydau llawer o'r bobl hynny a oedd yn rhan o'r ymdrechion achub hefyd. A gaf i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion lleol i goffáu'r llifogydd hynny a pha waith y gallech chi ei wneud i hybu ymwybyddiaeth o berygl llifogydd yn rhan o unrhyw raglen a ddatblygir?
A gaf i ddiolch i Darren Millar am y cwestiwn yna? Rwy'n cofio llifogydd Tywyn yn iawn, a'r effaith aruthrol ar y gymuned leol honno ac, fel y mae Darren Millar wedi ei ddweud, ar bawb a oedd yn ymwneud â'r digwyddiad hwnnw hefyd. Byddaf yn sicr yn edrych i weld sut, drwy'r gwahanol ffyrdd yr ydym ni'n cefnogi digwyddiadau lleol i goffáu materion o bwys gwirioneddol mewn cymunedau lleol, y gallwn ni edrych i weld a allwn ni gefnogi ymdrechion yn ymwneud â llifogydd Tywyn.
Mae gan Gymru hanes maith o fod â diddordeb mewn materion coffáu. Edrychais, wrth i mi fynd i Aberystwyth ddoe, Llywydd, ar yr heneb 'Cofiwch Dryweryn' yno, wedi ei adfer i'w gyflwr blaenorol, rwy'n falch o weld. Bydd yr Aelodau yma'n gwybod, o dan yr amgylchiadau yn ymwneud â'r heneb honno, ei bod wedi cael ei hefelychu mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Felly, yma yng Nghymru, mae gennym ni gysylltiad hir dros ben â'r effaith y mae llifogydd o wahanol fathau yn ei chael ar gymunedau lleol, a chredaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn am wneud yn siŵr ein bod ni'n meddwl am y materion hynny yn rhan o'n hanesion lleol.
Mi fyddwn i'n gwahodd y Prif Weinidog, y tro nesaf mae'n dod i ardal Rhuthun, i yrru heibio Ysgol Pentrecelyn, sydd wedi bod yn paentio ei murlun ei hun yn yr ysgol gyda 'Cofiwch Dryweryn' arno fel rhan o waith hanes Cymru yr ysgol, wrth gwrs. Dwi'n cytuno â'r angen, wrth gwrs, i hyrwyddo mwy o gyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru ac, yn wir, hanes lleol. Ond y rhwystredigaeth yn aml iawn, wrth gwrs, yw bod yna ddiffyg adnoddau digonol, yn adnoddau cyfoes proffesiynol sydd ar gael ar ystod digon eang o bynciau yn y cyd-destun hanes Cymru a hanes lleol. Felly, a gaf i ofyn beth yw ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod yna adnoddau digonol ar gael ar gyfer bob oedran, er mwyn sicrhau, pan fo'r ewyllys yno i ddarparu'r addysg honno a rhannu'r wybodaeth honno, fod yr adnoddau digonol yno hefyd i gefnogi'r gwaith?
Wel, Llywydd, dwi'n cytuno; mae'n bwysig i gael yr adnoddau. Dwi'n gwybod bod Cadw yn gwneud lot o waith i greu adnoddau lleol a defnyddio posibiliadau newydd i wneud y wybodaeth yna ar gael i bobl. Pan es i Gonwy, i'r castell yng Nghonwy, yn ddiweddar, fe welais i lot o bobl yn mynd o gwmpas gyda'u ffonau ac yn gweld ar eu ffonau lot o wybodaeth yr oedd Cadw wedi'i chasglu. Nawr, nid oes rhaid iddyn nhw brynu taflenni. Maen nhw'n gallu mynd o gwmpas a gweld y wybodaeth o'u blaenau pan fyddan nhw'n mynd o gwmpas y castell. Mae lot mwy o bethau fel yna yn cael eu creu, yn cael eu creu yn swyddogol gan gyrff fel Cadw, ond mae lot o gymdeithasau lleol hefyd—mae un yn Rhuthun, dwi'n gwybod—sy'n gwneud lot o waith i greu adnoddau i bobl pan fo pobl yn dod i ymweld, ledled Cymru. Dwi'n gwybod hefyd bod y Gweinidog Addysg yn gwneud lot o waith i greu adnoddau yn y cwricwlwm newydd. Gan edrych ymlaen, i fod yn glir, bydd hanes Cymru yn rhan ganolog o'r gwaith rŷm ni'n ei wneud yn yr ysgolion. Mae gyda ni yr adnoddau i gefnogi'r gwaith yna.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio caffael cyhoeddus i gryfhau busnesau lleol? OAQ54039
Llywydd, mae cyflenwyr o Gymru yn ennill 52 y cant o'r gwerth £6.2 miliwn blynyddol o wariant caffael yng Nghymru erbyn hyn, i fyny o 35 y cant yn 2004. Ein nod yw cynyddu hyn ymhellach trwy'r cynllun gweithredu ar gaffael Cymru, sy'n cynnwys ymyraethau newydd yn y gadwyn gyflenwi i gynyddu cyfleoedd i fusnesau Cymru.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn amlwg, mae datgan argyfwng yn yr hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni leihau ein hallyriadau carbon ym mhopeth a wnawn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys lleihau milltiroedd bwyd. Pan ein bod ni'n ymwybodol bod y ffefryn yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Dorïaidd yn ymddangos yn benderfynol o'n tynnu ni allan o'r Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb neu heb un ar y diwrnod a enwir yn briodol yn Nos Galan Gaeaf, pan fyddwn ni'n dathlu'r celfyddydau tywyll, bydd hynny wrth gwrs yn tarfu'n enfawr ar ein holl gyflenwadau bwyd, gan gynnwys codi prisiau unrhyw lysiau a ffrwythau yr ydym ni'n eu mewnforio. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ysgogi cynnydd i gynhyrchu garddwriaethol yng Nghymru, fel y gallwn ni gyflenwi cynnyrch lleol ffres i'n hysgolion, ein hysbytai a'n cartrefi preswyl.
Diolchaf i Jenny Rathbone am hynna, Llywydd. Roeddwn i yn Aberystwyth ddoe yn adeilad IBERS i annerch cyfarfod Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd yn lle da iawn i wneud hynny, oherwydd yr hanes maith a llwyddiannus o fridio planhigion yn yr athrofa a'r ffordd y gall hynny gefnogi gwaith cynhyrchu bwyd lleol. Clywais lawer o syniadau diddorol a chalonogol sy'n cael eu datblygu yno yn rhan o unrhyw gytundeb twf canolbarth Cymru yn y dyfodol, i wneud cynhyrchu bwyd lleol yn ganolog i'r ffordd y bydd y cytundeb hwnnw'n cael ei ddatblygu gan ddefnyddio'r arbenigedd hwnnw. Pan siaradais i yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru, roedden nhw'n llwyr ymwybodol o'r pwyntiau y mae Jenny Rathbone newydd eu gwneud, yn bryderus iawn ynghylch y rhagolygon i'w diwydiant o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn ofni'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i amaethyddiaeth yma yng Nghymru, ond â diddordeb, yn bendant, mewn posibiliadau newydd ym maes garddwriaeth. Mae garddwriaeth yn rhan fach ond allweddol o gynhyrchiant amaethyddol yma yng Nghymru, a thrwy 'Brexit a'n tir', sef yr hyn yr oeddwn i yno i siarad â ffermwyr amdano, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu, gan gydweithio'n agos â nhw, ddangos bod dyfodol llwyddiannus i ffermio cynaliadwy yma yng Nghymru lle mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a'r ddarpariaeth o nwyddau cyhoeddus yn mynd law yn llaw, a lle mae cyfleoedd newydd ym maes garddwriaeth, am yr union resymau a amlinellwyd gan Jenny Rathbone, ar gael yn fwy i gymunedau ffermio yng Nghymru, fel bod cynhyrchu bwyd yn lleol i'w fwyta'n lleol, osgoi milltiroedd bwyd, cynorthwyo gydag effaith Brexit, darparu ffrydiau incwm dibynadwy i ffermwyr—yr holl bethau hynny yn dod at ei gilydd yn ein cynllun. Roeddwn i'n falch iawn o gael cyfle i archwilio hynny gydag ymarferwyr yn y byd ffermio ddoe, a chredaf fod gennym ni gyfres o gynhwysion yma yng Nghymru a fydd yn llwyddiannus ym maes ffermio, ond hefyd yn y materion amgylcheddol y cyfeiriodd Jenny Rathbone atynt.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gaffaelwr mawr trwy Gymru gyfan, ac yn wir y sefydliadau sy'n atebol i Lywodraeth Cymru, ac felly mae gennych chi ddylanwad enfawr. Soniasoch am ymyraethau yn y gadwyn gyflenwi yn gynharach; a allwch chi, neu a ydych chi mewn gwirionedd, yn cyhoeddi canllawiau sy'n rhoi pwysoliad i sefydliadau fel y gallan nhw roi mwy o farciau i gwmni lleol, er enghraifft, a thrwy hynny helpu i gyfrannu tuag at ostyngiad i'n costau hinsawdd yn hytrach na dim ond, dyweder, dewis y rhataf bob amser? Oherwydd weithiau byddai cwmni sydd rhywfaint yn ddrutach ond sydd ddim ond i lawr y ffordd yn fwy buddiol o lawer i'r economi leol, i'r Llywodraeth ac i Gymru gyfan.
Diolchaf i Angela Burns am y pwyntiau yna. Wrth gwrs, cyflwynir canllawiau i wasanaethau caffael yma yng Nghymru. Mae'n rhaid iddyn nhw weithredu yn unol â'r llyfr rheolau ehangach y mae'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn gweithredu yn unol ag ef, ond diben y canllawiau hynny yw hoelio sylw'r bobl hynny sy'n ymgymryd â chaffael ar werth gorau yn hytrach na'r gost isaf yn y ffordd y maen nhw'n dyfarnu contractau. Mae'r ystyriaethau y mae Angela Burns newydd eu hamlinellu ynglŷn ag effeithiau mewn economïau lleol, ar gyflogaeth yn y lleoedd hynny, o ran osgoi niwed amgylcheddol drwy filltiroedd bwyd ac yn y blaen—mae pob un o'r rheini'n ystyriaethau dilys y mae caffael clyfar yn eu cymryd i ystyriaeth pan fydd yn canolbwyntio ar gael y gwerth gorau o wariant cyhoeddus, ac nid y pris rhataf yn unig.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y system gynllunio yng Nghymru? OAQ54076
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Bydd dyfodol y system gynllunio yng Nghymru wedi'i seilio ar 'Polisi Cynllunio Cymru'. Cafodd hwn ei ddiwygio'n helaeth cyn cael ei gyhoeddi fis Rhagfyr diwethaf. Mae'n alinio'r system gynllunio yn uniongyrchol ac yn systematig gyda gofynion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Dwi'n siŵr y byddwch chi'n rhannu fy ngofid i ar ôl darllen adroddiad diweddar yr archwilydd cyffredinol ar awdurdodau cynllunio yng Nghymru lle roedd e'n amlygu bod gwasanaethau cynllunio yn cael rhy ychydig o adnoddau ac, yn wir, yn tanberfformio. Roedd e'n dweud yn yr adroddiad bod yr holl wasanaethau cynllunio yng Nghymru wedi gweld cyllidebau yn haneru yn y 10 mlynedd diwethaf ar ôl ystyried chwyddiant. Mae yna ddyletswyddau ychwanegol yn dod i gyfeiriad rhai o'r awdurdodau cynllunio yma hefyd, wrth gwrs, yn sgil y Ddeddf gynllunio. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn mynd i fod yn destun ymgynghoriad dros yr haf, a hynny yn arwain at gynlluniau datblygu strategol a fydd wedyn yn bwydo i mewn i'r cynlluniau datblygu lleol ar y lefel leol yna. Felly, a wnewch chi ddweud a ydych chi'n rhannu gofidiau yr archwilydd cyffredinol? Ac os ŷch chi, beth ŷch chi'n ei wneud i sicrhau bod gan awdurdodau cynllunio yr adnoddau digonol ar gael iddyn nhw er mwyn delifro eu gwasanaethau yn effeithiol?
Mae copi o'r adroddiad gyda fi yn y Siambr y prynhawn yma. Dwi wedi cael y cyfle i ddarllen yr adroddiad yn fanwl dros y penwythnos. Mae nifer o argymhellion yn yr adroddiad, ac fel Llywodraeth mae amser gyda ni nawr, fel arfer, i ystyried beth sydd yn yr adroddiad ac i ymateb i'r argymhellion. Dyw'r rhan fwyaf o'r argymhellion ddim yn dod at Lywodraeth Cymru; maen nhw'n argymhellion i'r awdurdodau lleol eu hunain i feddwl amdanynt. Mae nifer o bethau yn yr adroddiad sy'n dangos ble mae'r awdurdodau lleol yn gallu gwneud pethau i ddelio gyda'r problemau ariannol maen nhw'n eu hwynebu: i dynnu fwy o gostau yn ôl pan maen nhw'n gwneud gwaith ar ran pobl ac—mae hyn yn hollbwysig, dwi'n meddwl—i weithio gyda'i gilydd yn rhanbarthol yn y dyfodol i greu gwasanaeth newydd yn y maes yma. Mae hwnnw'n rhan o'r gwaith mae Julie James wedi'i wneud ac mae hi'n mynd i roi datganiad i'r Cynulliad ar y gwaith hwnnw yn ystod y prynhawn. So, mae lot o wersi yn yr adroddiad, rhai i ni fel Llywodraeth, ac rŷm ni'n ystyried beth dŷn ni'n gallu gwneud gyda nhw, ond mae'r rhan fwyaf yn bethau i'r awdurdodau lleol eu hunain—pethau iddyn nhw eu gwneud.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn Nwyrain Abertawe yn dilyn y datgniad am yr argyfwng newid hinsawdd? OAQ54030
Yr wythnos diwethaf, derbyniodd Llywodraeth Cymru gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i gyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed i leihau carbon gan 95 y cant. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ystyried sut y gallwn osod targed net o sero yn y dyfodol.
Diolch am yr ateb yna. Er mwyn ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni leihau allyriadau carbon ac, yn bwysicach, cynyddu nifer y planhigion, yn enwedig coed, er mwyn cael gwared ar garbon deuocsid o'r atmosffer. Pryd y bydd targedau blynyddol penodol ar gyfer Abertawe yn cael eu pennu?
Nid yw'r cyngor yr wyf i wedi ei weld yn awgrymu y dylid pennu targedau ar gyfer lleihau allyriadau carbon ar lefel is-Gymru. Hyd yn oed ar lefel Cymru gyfan, rydym ni'n agored i ddigwyddiadau y tu hwnt i Gymru ac mae ffactorau unigol yn effeithio ar lefelau allyriadau y tu mewn i Gymru. Felly, roedd yn braf iawn gweld ffigurau yr wythnos diwethaf yn dangos cynnydd da tuag at ein targed yn 2020, gyda'r ffigurau'n dangos gostyngiad o 25 y cant o'i gymharu â 1990. Ond, mewn rhai ffyrdd, cafodd ffigurau'r llynedd eu heffeithio'n gadarnhaol gan haf poeth a chan y ffaith bod gorsaf bŵer glo Aberddawan yn gweithio am lai o ddiwrnodau nag y byddai wedi bod fel arall. Mae etholaeth Dwyrain Abertawe y mae Mike Hedges yn ei chynrychioli yn enghraifft dda iawn o'r modd y gellid cyfrif allyriadau yn union ar ei ffin, ym maes cynhyrchu dur, yn erbyn targed Abertawe pe byddai gennym ni dargedau ar y lefel leol iawn honno. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu, Llywydd, na ddylai awdurdodau lleol fod yn cymryd camau. Mae gennym ni raglen dai arloesol Abertawe, ei chyfranogiad mewn ymdrechion ymchwil i leihau allyriadau o gynhyrchu dur, a chynnig morlyn llanw bae Abertawe, a fyddai wedi gwneud cymaint o ran ynni adnewyddadwy a'n hymdrechion ni. Mae rhai awdurdodau lleol yn pennu eu targedau eu hunain at ddibenion monitro mewnol a phe byddai gan Abertawe ddiddordeb mewn gwneud hynny, mae profiad mewn mannau eraill ar gael y gallen nhw fanteisio arno.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Russell George.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer banc cymunedol i Gymru? OAQ54058
Llywydd, rydym ni mewn trafodaethau gyda nifer o randdeiliaid i brofi dichonoldeb sefydlu banc cymunedol. Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan randdeiliaid. Byddan nhw'n paratoi asesiad llawn o'r farchnad a chynllun busnes, a'r bwriad wedyn yw cyflwyno cais i Fanc Lloegr i sefydlu banc cymunedol i Gymru.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Yn eich maniffesto i ddod yn Brif Weinidog, amlinellwyd cynigion gennych i gefnogi datblygiad banc cymunedol newydd i Gymru'n unig, gyda changhennau ar agor i gwsmeriaid ar gyfer gwasanaeth trafodiadau wyneb yn wyneb, cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Nawr, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith yn y maes hwn ac, yn sicr, mae'r dystiolaeth hyd yn hyn wedi awgrymu ei bod yn broses hynod gymhleth o ran rheoleiddio i agor banc yn y cyfnod, efallai, yr ydych chi wedi ei awgrymu yn eich maniffesto i fod yn Brif Weinidog. Maen nhw hefyd wedi sôn am gymhlethdodau'r swm mawr o gymhorthdal cyhoeddus y byddai ei angen i ddarparu'r banc hefyd. Felly a gaf i ofyn i chi: pryd ydych chi'n disgwyl i'r banciau cymunedol cyntaf fod ar agor, ble byddech chi'n disgwyl iddyn nhw gael eu lleoli a faint o gymhorthdal cyhoeddus fydd ei angen i gyflawni addewid eich maniffesto?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i archwilio'r posibilrwydd o gael banc cymunedol i Gymru—banc a fyddai'n foesegol, yn cael ei ysgogi gan gysylltiadau, yn eiddo i'r cwsmer ac a fyddai'n ein helpu ni yng Nghymru i fynd i'r afael â rhai o'r effeithiau niweidiol y gwyddom sy'n bodoli pan fydd cangen banc yn cau. Mae darparu benthyciadau i ddiwydiannau bach a micro yn nalgylch cangen banc yn gostwng gan 60 y cant pan fydd cangen yn cau, ac mae gennym ni'r ffenomenon o bobl yn methu cael cyfrif banc o gwbl a'r premiwm tlodi sydd yn cynnwys cyfartaledd o £500 y flwyddyn. Felly mae rhywbeth mawr iawn i chwarae amdano yma.
Mae Russell George yn iawn, mae hyn yn gymhleth. Mae eraill sydd ymhellach ar y daith na ni—yn Llundain ac yn Avon yn ne-orllewin Lloegr. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban am y camau y maen nhw'n eu cymryd, hefyd. Edrychaf ymlaen at adroddiad y pwyllgor. Ond nid yw'r model a gynigiwyd i ni, a ddatblygwyd gan gymdeithas frenhinol y celfyddydau, yn cynnwys symiau mawr o arian cyhoeddus mewn cymhorthdal. Yn wir, pan gefais gyfarfod â chynrychiolwyr y gymdeithas sydd wedi bod yn arwain y gwaith hwn, maen nhw'n awyddus iawn i ddweud wrthyf mai'r peth olaf yr oedden nhw ei eisiau oedd i Lywodraeth Cymru roi symiau mawr o arian i'r banc hwn. Banc cymunedol ydyw. Mae'n rhaid iddo fod yn eiddo i amrywiaeth ehangach o lawer o randdeiliaid os yw'n mynd i lwyddo.
Felly, mae gwaith manwl i'w wneud, ac mae rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi, Llywydd, yn rhy gynnar ac ni ellir eu hateb heddiw. Ond, mae'r gwaith yn parhau. Mae'n parhau gyda grŵp ymroddedig iawn o bobl yma yng Nghymru, gyda chymorth arbenigol o'r tu allan i Gymru. Ac os gallwn ni wneud iddo ddigwydd, yna rwy'n credu bod ganddo bosibiliadau cyffrous iawn i gymunedau ledled Cymru gyfan.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Suzy Davies.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru? OAQ54081
Fel y dywedais yn fy natganiad llafar yr wythnos diwethaf, mae cydraddoldeb yn flaenoriaeth ganolog i Lywodraeth Cymru. Adlewyrchir hyn, er enghraifft, yn ein hadolygiad o gydraddoldeb rhywiol, y cynllun 'Cenedl Noddfa' a'n fframwaith ar gyfer gweithredu ar anabledd.
Diolch am hynna, ac rwy'n croesawu'r gwaith yr ydym ni'n dechrau ei weld ar hyn nawr. Gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion mai Castell-nedd Port Talbot, yn fy rhanbarth i, yw'r awdurdod lleol cyntaf i ymrwymo i gynllun cyflogwyr FairPlay i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Ond mae gennym ni fylchau cyflog eraill hefyd, gan gynnwys gyda'r gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac nid oedd Llywodraeth Cymru yn gallu dweud yn ddiweddar faint yw cyfanswm y bobl o'r gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, heb sôn am faint o fenywod o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae eich Llywodraeth yn bwriadu gwella cynrychiolaeth o fewn Llywodraeth Cymru gan 0.4 y cant erbyn y flwyddyn nesaf. Nid wyf i'n siŵr faint o bobl yw hynny mewn gwirionedd, ond a allwch chi ddweud wrthyf sut y byddwch chi'n gwneud hynny mewn ffordd sydd nid yn unig yn gwella cynrychiolaeth cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd yn gwella bwlch cyflog cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig hefyd? Efallai y gallwch chi ddweud rhywbeth hefyd am sut y gallech chi a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod yn casglu data a fyddai'n helpu i lywio polisi ar hynny.
Diolch i Suzy Davies am y cwestiynau yna. Yn wir, rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill gwobr cyflogaeth deg Chwarae Teg, ac, wrth gwrs, mae rhan o hynny'n ymwneud â mynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. O ran y cyfleoedd y mae'n rhaid inni ganolbwyntio arnyn nhw, yn enwedig yr wythnos hon, ddywedwn i, ar sicrhau bod gennym amrywiaeth yn ein penodiadau cyhoeddus gweinidogol, rydym yn cynhyrchu strategaeth amrywiaeth, a fydd yn ystyried camau ar sut y gallwn ni wella'r broses o godi ymwybyddiaeth o benodiadau cyhoeddus a sicrhau bod y broses mor gynhwysol â phosibl. Mae'n rhaid i hynny fod drwy gynllun gweithredu; sut yr ydym yn gwella, er enghraifft, amrywiaeth y paneli asesu, cynorthwyo'r bobl a benodir, bod â threfniadau cysgodi. Rwy'n mentora, ac rwy'n credu, Suzy, eich bod chithau hefyd yn mentora ymgeiswyr o Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Rydym yn sicr yn gwybod bod hyn yn ffordd ymlaen o ran y mathau hynny o benodiadau gweinidogion, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n mynd i'r afael yn benodol â'r diffyg ymgeiswyr duon, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, ond yn enwedig menywod sydd, wrth gwrs, yn gallu bod â swyddogaeth mor allweddol.
Nawr, o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, mae'n fwlch cyflog rhwng y rhywiau lle mae'n rhaid inni edrych ar y materion croestoriadol sy'n gysylltiedig â'r bylchau cyflog. Yn wir, nid yw'n ymwneud â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn unig; mae yna fwlch cyflog anabledd a bwlch cyflog hil hefyd, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r rhai hynny. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried hyn yn rhan hanfodol o'r adolygiad cyflym o rywedd a chydraddoldeb Llywodraeth Cymru, ac rwy'n croesawu yn fawr iawn adroddiad 'Cyflwr y Genedl 2019' gan Chwarae Teg, lle'r aethom i'r afael â'r materion hyn. Ac roeddem yng Nghanolfan Gymunedol Tre-biwt i gynnal trafodaeth banel ar y materion hyn, ac roedd y pwyslais ar fenywod o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru oherwydd yr ymchwil maent yn ei wneud ar fenywod o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a'u profiadau ym marchnad lafur Cymru. Felly, mae'r rhain i gyd yn allweddol i'm hagenda o ran blaenoriaethau wrth gefnogi ac ehangu cydraddoldeb a hawliau dynol.
Gweinidog, roedd y cwestiwn a ofynnwyd i chi yn y fan yna yn ymdrin yn benodol â data. Wnaethoch chi ddim mynd i'r afael â'r pwynt hwnnw o gwbl, felly byddwn i'n ddiolchgar iawn pe byddech chi'n ateb y pwynt hwnnw am gasglu data. Mae sawl math o wahaniaethu yn ein cymdeithas. Mae gennym ni ddata ar bob math o anghydraddoldeb, ond ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am brofiadau cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y wlad hon. Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle i siarad yn y grŵp trawsbleidiol newydd ar gydraddoldeb hiliol ar ddechrau'r mis, a'r neges ysgubol i ni yn y fan honno oedd bod gennym ni ffordd bell i fynd o hyd cyn inni sicrhau cydraddoldeb. Gallwn ni fod â strategaeth. Gallwn ni fod ag ymwybyddiaeth. Gallwn ni fod â chymaint o fentora ag y mynnwch chi, ond oni bai eich bod chi'n casglu data, dydych chi ddim yn mynd i allu nodi a mynd i'r afael â'r problemau hynny. Felly, os gallech chi ateb y cwestiwn hwnnw am ddata, Gweinidog: beth mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i lenwi'r bwlch gwybodaeth sydd gennym am y lleiafrifoedd ethnig sydd wedi bod yn rhan o'n cymunedau yn y wlad hon ers canrifoedd?
Mae data yn hanfodol bwysig, o ran y ffordd yr ydym yn mesur ein canlyniadau ac yn ceisio cyflawni ein hamcanion. O ran data, o ran penodiadau cyhoeddus, er enghraifft, rydym yn coladu ac yn dilysu data amrywiaeth penodiadau ar gyfer 2018-19, ond gwyddom o 2017-18 fod 6.9 y cant o'r holl benodiadau ac ailbenodiadau gan Weinidogion wedi'u datgan i fod o grwpiau PdDLlE, 51.9 y cant o fenywod, a 7.6 y cant o bobl anabl. Ac rwy'n falch o allu rhoi'r data hwnnw heddiw. Ond, yn amlwg, mae'n dangos pa mor bell y mae'n rhaid i ni fynd yn arbennig o ran grwpiau PDdLlE, a dyna pam mae'r data yn bwysig.
Ond, hefyd, o ran data, mae hyn yn rhywbeth lle rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cael gafael ar ddata. Nid oes gennym yr holl ddata sydd ei angen arnom er mwyn cael ein hysbysu, yn enwedig o ran yr amcanion y mae'n rhaid inni roi sylw iddynt. Ac mae angen hynny arnom er mwyn cyflawni ein dyletswydd cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus a dyletswyddau sy'n benodol i Gymru, yr ydym yn awr, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn ailasesu i weld a allwn ni eu cryfhau, a bydd data yn rhan hanfodol o hynny. Felly dwi'n hollol gytuno o ran data.
A gaf i hefyd groesawu'r ffaith bod gennym bellach grŵp trawsbleidiol ar gydraddoldeb hiliol? Rwy'n credu bod John Griffiths yn cadeirio hynny, gyda Bethan yn ei chyd-gadeirio. Mae'n bwysig iawn bod hwnnw'n grŵp trawsbleidiol a all fy nal i gyfrif o ran cydnabod bod gennym ffordd bell i fynd. Ond mae gennym gyfle yn awr, o ran y ffocws hwn ar gydraddoldeb, i wneud camau breision ac i ddefnyddio'r materion sy'n ymwneud â'r ddyletswydd gyffredinol sydd gennym—y ddyletswydd sector cyhoeddus—a'r dyletswyddau ar wahân o ran cydraddoldeb hiliol, anabledd a chydraddoldeb rhwng y rhywiau. A gwn, yng nghyfarfod Butetown, ein bod i gyd yn sôn am bwysigrwydd y rhyngsectoraidd, a'r ymagwedd honno, o ran cydraddoldeb.
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ54035
Rydym yn canolbwyntio ar gryfhau'r broses o weithredu'r Ddeddf a chefnogi ein partneriaid i wireddu manteision cyfrannu at y saith nod llesiant, a gweithio mewn ffordd gydweithredol, integredig ac ataliol sy'n edrych i'r tymor hir ac sy'n cynnwys pobl yn eu holl amrywiaeth.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Dirprwy Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi cymryd cwestiwn ar yr agwedd benodol hon ychydig wythnosau'n ôl. Ond ynghylch y dyfarniad a roddwyd gan y barnwr—Mrs Ustus Lambert ar y pryd—dywedodd fod
y Bil yn fwriadol amwys, cyffredinol a dyheadol ac sy'n berthnasol i ddosbarth yn hytrach nag unigolion.
Mae'r Bil rhyw bedair blwydd oed erbyn hyn. Mae'r dyfarniad hwnnw wedi'i wneud. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniadau ynghylch sut y gallan nhw gryfhau'r ddeddfwriaeth, fel ei bod yn dod yn fwy penodol ac yn berthnasol i unigolion, yn hytrach na grwpiau? Oherwydd, yn amlwg, mae llawer o bolisïau'r Llywodraeth wedi newid yn ystod y pedair blynedd honno, yn enwedig ym maes yr amgylchedd. Ac rydym wedi clywed heddiw, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, am y system gynllunio—mae Bil cenedlaethau'r dyfodol yn berthnasol iawn yn y maes penodol hwnnw. Felly o gofio'r newid yn yr amgylchiadau, a'r dyfarniad sydd wedi'i roi, a allwch chi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ychwanegu at y darn hwnnw o ddeddfwriaeth?
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig o ran y Ddeddf yw ei bod yn rhoi cyfleoedd i ni ddefnyddio'r Ddeddf i lywio polisi, ac mae'n bwysig iawn bod 'Polisi Cynllunio Cymru' a'r datblygiadau a'r adolygiad yn cael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ond gallwn edrych ar ystod eang o faterion o ran y saith nod—Cymru lewyrchus, Cymru iachach—mewn ffyrdd yr ydym, er enghraifft, yn cefnogi darparu 20,000 o dai fforddiadwy, gan gwblhau'r dasg o gyrraedd safon ansawdd tai Cymru, a hefyd yn ystyried, o ran Cymru lewyrchus, Cymru fwy cydnerth, buddsoddi dros £300,000 yn y cynllun treialu prentisiaethau coedwigaeth newydd yng Nghymru. Mae'n hollbwysig i'r argyfwng hinsawdd o ran ein cyfrifoldebau byd-eang, o ran ein Cymru o gymunedau cydlynus. Mae'n ein hysbysu ni o ran polisi ac yn sicrhau ein bod yn ceisio gwella hynny o ran ein cydlynwyr cymunedau cydlynus. Rwy'n credu bod y Ddeddf yn darparu ar gyfer craffu manylach ar Lywodraeth Cymru, drwy bwerau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol—comisiynydd annibynnol i Gymru—a dyletswydd archwilio ar Archwilydd Cyffredinol Cymru.
3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ54085
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau'n fwy diogel. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n pedwar heddlu, Llywodraeth y DU a llu o asiantaethau eraill i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, lleihau troseddau ac, yn bwysig, yr ofn o drosedd.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Yn ddiweddar cynhaliais sgriniad yn y Senedd o Anti Social Bob, ffilm a gynhyrchwyd gan wasanaethau troseddwyr ifanc Casnewydd i wrthsefyll ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r prosiect yn enghraifft ardderchog o fanteision gwaith partneriaeth amlasiantaethol. Cafodd gyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd a Casnewydd yn Un, a gweithiodd y gwasanaeth troseddwyr ifanc yn agos gyda swyddogion cyswllt ysgolion o Heddlu Gwent a'r gwasanaeth tân i gyflwyno'r ffilmiau yn ysgolion Casnewydd. Er iddi gael ei ffilmio yng Nghasnewydd, nod Anti Social Bob yw ceisio mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a all fodoli ym mhob rhan o'r wlad. Mae ein gwasanaethau ieuenctid yn gwbl allweddol ac maen nhw'n wynebu pwysau anhygoel. Sut y gellir rhannu'r arfer da hwn yn ystyrlon drwy rannau eraill o Gymru, a beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gryfhau a chefnogi ein gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid, o ran diogelwch cymunedol?
Hoffwn i ddiolch i Jayne Bryant am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ddiolchgar iawn iddi am rannu'r fideo, Anti Social Bob, a gynhyrchwyd gan wasanaeth troseddau ieuenctid Casnewydd, ac mae'n fideo a ddatblygwyd gyda phobl ifanc yn ganolog iddo. Mewn gwirionedd, mae'n dangos gwir gost ymddygiad gwrthgymdeithasol, nid yn unig i'r person ifanc ond yr effeithiau ehangach ar deulu, ffrindiau a chymunedau. Gwyddom y gall defnyddio cyfrwng ffilm gael gymaint o effaith a'i fod yn ffordd bwerus o addysgu. Mae hefyd yn helpu i arwain pobl ifanc i ffwrdd o'r mathau hynny o ymddygiad, sy'n gallu arwain yn hawdd at droseddoli ac effeithiau hirdymor ymddygiad o'r fath. Gwn fod timau troseddau ieuenctid ledled Cymru'n cyfarfod yn rheolaidd a byddan nhw'n edrych ar hyn fel enghraifft o arfer da. Ond beth sy'n allweddol, yn fy marn i, o ran diogelu ein gwasanaethau ieuenctid, ac mae hynny yn amlwg yn rhywbeth lle'r ydym yn cefnogi ein hawdurdodau lleol yn agos, ond hefyd o ran cyfiawnder ieuenctid, rydym wedi cyflawni'r niferoedd isaf o bobl ifanc o Gymru yn y ddalfa, ac mae gwaith yn cael ei wneud i wella hyn ymhellach fyth gyda'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid a gyhoeddais ar 21 Mai.
Dirprwy Weinidog, dros y tair blynedd diwethaf, mae dros 32,000 o blant ysgol yn y de wedi elwa ar addysg diogelwch ar y rheilffyrdd hanfodol. Mae Network Rail, wrth gymryd rhan gyda Menter diogelwch Crucial Crew, wedi bod yn darparu sesiynau diogelwch ar y rheilffyrdd i blant mewn ardaloedd yn cynnwys Caerffili, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Network Rail a Crucial Crew ar eu gwaith a'u hymrwymiad i ddarparu gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch ar y rheilffyrdd i bobl ifanc yn y de-ddwyrain?
Yn sicr, byddwn yn ymuno â'r Aelod i longyfarch Network Rail ac am ddatblygu rhaglen addysg ac ymwybyddiaeth mor arloesol o ddiogelwch ar y rheilffyrdd, sy'n cynnwys pobl ifanc ac sy'n hollbwysig o ran diogelwch ar y rheilffyrdd, a hefyd yn rhoi cyfle iddynt gymryd cyfrifoldeb o ran eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu cyfoedion a diogelwch eu cymunedau.
Un arweinydd sydd wedi gweithio'n ddiflino i hyrwyddo diogelwch cymunedol yn y de-ddwyrain yw Julian Williams. Mae'n ymddeol y mis hwn fel Prif Gwnstabl Heddlu Gwent. Hoffwn ategu sylwadau'r comisiynydd heddlu a throseddu, Jeff Cuthbert. Dywedodd ei fod
wedi bod yn arweinydd effeithiol iawn ar Heddlu Gwent ac wedi dangos proffesiynoldeb, wedi'i feddalu â thosturi, bob amser.
Ac rwy'n gwybod y bu ganddo hanes nodedig yn Heddlu De Cymru cyn hynny. Tybed a hoffai'r Gweinidog hefyd gofnodi ei gwerthfawrogiad hi a gwerthfawrogiad y Llywodraeth.
Yn sicr, byddwn yn ymuno â chi i gydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan brif gwnstabl Heddlu Gwent, ac, yn wir, bydd yn golled fawr. Mae Jeff Cuthbert a'r prif gwnstabl wedi gweithio mor agos gyda'i gilydd ac wedi cael cymaint o effaith o ganlyniad i'r cydweithio agos hwnnw. Rwy'n siŵr y byddai Aelodau eraill yma, mewn gwirionedd, yn hoffi ymuno â mi, fel Gweinidog, ac yn wir, aelodau o Lywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog i gydnabod yr hyn y mae wedi'i gyflawni.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ54044
Mae gan Lywodraeth Cymru drefniadau cadarn ar waith i sicrhau ein bod yn cyflawni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Rydym yn parhau i gydweithio â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a'n partneriaid er mwyn gwireddu manteision y Ddeddf i Gymru.
Diolch yn fawr, Gweinidog. A dydw i ddim yn credu y gallech chi gael eich beirniadu am beidio â gwrando ar Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol o ran y penderfyniad ar yr M4 yn ddiweddar. Rwy'n siŵr ei bod hi'n falch yr ystyriwyd ei syniadau. Ni wnaf godi fy hoff bwnc arferol o holi am ffyrdd, ac, os caf i, ofyn i chi am fonitro neu ddeddfu lles deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol o ran llywodraeth leol a chynllunio. Rwy'n gwybod am o leiaf un cais cynllunio gwledig yn fy etholaeth i a alwyd i mewn gan Lywodraeth Cymru oherwydd ei fod yn torri, neu o bosibl yn torri, y mater o deithio cynaliadwy, gan fod gorddibyniaeth ar geir yng nghefn gwlad yn broblem a oedd wrth wraidd y cais hwnnw. Mae'n ymddangos i mi, er ein bod yn dweud ein dweud yma am gynaliadwyedd a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu gwarchod, efallai nad yw'r neges honno bob amser wedi treiddio allan i awdurdodau lleol nac, yn wir, i asiantaethau eraill, sydd wedyn yn gyfrifol am gyflawni ar lawr gwlad. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn cydgysylltu â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio a llywodraeth leol i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon, y tu allan i furiau'r Siambr hon, mewn gwirionedd wrth wraidd popeth a wna awdurdodau lleol, oherwydd, ynghyd ag argyfwng yr hinsawdd, mae'r rhain i gyd yn eiriau teg, ond oni bai eu bod yn cael eu rhoi ar waith ar lawr gwlad, yna rydym ni'n dweud geiriau ond nid oes pethau da yn digwydd yn y broses mewn gwirionedd.
Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth, hyd yn oed drwy'r cwestiwn amserol i mi yn gynharach y mis hwn gan Andrew R.T. Davies a'r trafodaethau a gawsom mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, pa mor bwysig yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i ni, a pha mor bwysig ydyw ei bod bellach yn cael ei mabwysiadu gan y sector cyhoeddus, sy'n gyfrifol am gyflawni'r saith nod hynny a'r pum ffordd o weithio. Mae'n helpu i ganolbwyntio o'r newydd ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwella'r ffordd y mae'n ymgysylltu, gan gynnwys amrywiaeth poblogaeth Cymru, ac rwy'n credu bod enghraifft 'Polisi Cynllunio Cymru' a'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn enghraifft wirioneddol dda o hynny. Mae angen inni i gyd arwain yn gryf er mwyn symud i'r Gymru a garem ac, wrth gwrs, gan gynnwys y comisiynydd, mae'n rhaid inni weithio gyda'n partneriaid ac yn enwedig y rhai hynny sy'n awdurdodau lleol, ond hefyd y rhai hynny sy'n gwneud y penderfyniadau hynny, yn enwedig ynghylch cynllunio, er mwyn gwireddu manteision y Ddeddf hon. Ond mae'n rhan sylfaenol o'r fframwaith polisi.
Ac, yn wir, rydym ni'n darparu pecyn o gymorth cenedlaethol ar gyfer cyllid rhanbarthol a sesiynau galw heibio rheolaidd i helpu byrddau gwasanaethau cyhoeddus i weithredu'r Ddeddf. Mae gennym grŵp traws-lywodraethol o uwch swyddogion i edrych ar ffyrdd y gallwn gyflymu'r broses o weithredu'r Ddeddf, wedi'i lywio gan ein gwaith gyda'r trydydd sector. Rwy'n credu ei bod yn dderbyniol iawn bod y Cynulliad hwn wedi croesawu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol drwy argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r offeryn asesu effaith integredig i asesu effaith yr holl bolisïau newydd ar gydraddoldeb, hawliau plant, y Gymraeg, prawfesur gwledig a bioamrywiaeth. Felly, mae wedi'i hymwreiddio yn awr yn y ffordd yr ydym ni'n gweithio, ac mae hi wedi'i hymwreiddio yn y rhai hynny sy'n gyfrifol, ein cyrff cyhoeddus, i'w gyflawni, yn enwedig yn gysylltiedig â datblygu cynaliadwy.
5. Pa asesiad mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei wneud o gyflogau merched yn Ynys Môn? OAQ54073
Mae mynd i'r afael a'r hyn sy'n achosi'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn flaenoriaeth yn yr adolygiad cydraddoldeb rhywiol. Ymhlith y camau i ddileu rhwystrau y mae darparu cymorth gofal plant, creu cyfleoedd hyfforddi, mynd i'r afael â gwahaniaethu a helpu menywod i fynd i yrfaoedd nad ydynt yn rhai traddodiadol.
Diolch am yr ateb yna. Mae adroddiad diweddaraf Chwarae Teg ar gyflwr y genedl yn dangos mai yn Ynys Môn mae'r gap mwyaf rhwng cyflogau dynion a merched. Mae'r gap yn Ynys Môn yn 25.5 y cant, sydd yn syfrdanol o uchel, yn enwedig o glywed yn fanna bod hyn i fod yn flaenoriaeth gan y Llywodraeth. Dwi'n mynd i fod yn cadeirio cyfarfod arbennig yn Ynys Môn ym mis Medi, mewn cydweithrediad efo Chwarae Teg, yn edrych ar y mater yma. Ond beth yn union mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn ardaloedd lle mae hyn yn amlwg yn dal i fod yn broblem barhaus? Ac onid ydy'r ffigur yna yn dangos bod y Llywodraeth yma wedi methu yn ei hymgais hyd yma i fynd i'r afael â'r broblem mewn ardaloedd, yn sicr, lle mae'r broblem ar ei mwyaf dwys?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rhwng 2011 a 2018, gostyngodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru o 9.2 y cant i 7.3 y cant. Roedd bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU yn 9 y cant yn 2018. Yn amlwg, mae'n rhaid inni wthio hwnnw i lawr a mynd i'r afael â'r ardaloedd hynny, fel Ynys Môn, lle mae'r bwlch mwyaf. Yn wir, rwy'n credu bod argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ar fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn berthnasol iawn, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu cyfeirio at hynny yn eich cyfarfod. Edrychodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys Ynys Môn, a gwnaeth argymhellion ynghylch helpu i gau'r bwlch hwn.
Byddwn i'n dweud, o ran y cyfleoedd yr ydym ni'n eu cymryd, fod gennym ni'r gynllun treialu cyfrifon dysgu personol sy'n rhan o'r cynllun cyflogadwyedd a lansiwyd ym mis Medi, ac mae yna ardal dreialu yn y gogledd, yn cynnwys Ynys Môn, sy'n darparu cyrsiau galwedigaethol ac yn gwella cymwysterau sy'n gysylltiedig â sectorau allweddol. Bydd ar gael i fenywod o Ynys Môn a ledled Cymru. Ond, yn ystod 2017-18, dechreuodd 400 o fenywod sy'n byw ar Ynys Môn raglen brentisiaeth, o gymharu â 290 o ddynion. Mae mwy o fenywod yn cyflwyno eu hunain a hefyd yn manteisio ar y cynghorydd rhieni, gofal plant a chyflogaeth o ran mynediad at ofal plant a chymorth. Mae dros 1,500 o rieni wedi dechrau gweithio ers i'r rhaglen ddechrau ym mis Gorffennaf 2015, ac mae hynny'n cynnwys 124 o rieni o Ynys Môn. Felly, rwy'n gobeithio y byddaf i'n gallu rhoi gwybod i chi a gweithio gyda chi hefyd i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer cydraddoldeb rhywiol yn mynd i'r afael â'r ardaloedd hynny lle ceir bylchau arbennig o annerbyniol o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a'u bod yn eu cefnogi, ond eu bod hefyd yn ystyried sut y gallwn ni gefnogi menywod o ran eu cyflawniadau.
Yn olaf, fe ddywedaf i fy mod yn credu y bydd Chwarae Teg yn amlwg yn sôn am eu prosiect Cenedl Hyblyg, ac mae hwnnw wedi'i gefnogi dros y blynyddoedd, gan helpu menywod a chyflogwyr i ennill cymwysterau a symud ymlaen yn y farchnad lafur, mewn cyflogaeth a mynd i'r afael â gwahanu galwedigaethol.
6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am yr hyfforddiant sydd ar gael i adnabod a mynd i'r afael â rheolaeth drwy orfodaeth? OAQ54086
Rydym ni'n parhau i gefnogi gweithlu'r sector cyhoeddus er mwyn gallu nodi rheolaeth drwy orfodaeth drwy ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol. Hefyd, lansiais yr ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' ym mis Ionawr, sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Diolch am eich ateb. Cymerais ran fawr mewn gwaith a arweiniodd at gyflwyno'r gyfraith rheolaeth drwy orfodaeth pan roeddwn i yn San Steffan, felly mae hwn yn faes sy'n agos iawn at fy nghalon, ond gweithredu deddfwriaeth sydd bwysicaf, ac mae pryderon yn parhau ynghylch y nifer sy'n manteisio ar hyfforddiant yn y maes hwn. Tan y bydd pob gwasanaeth cyhoeddus yn cael hyfforddiant o'r safon uchaf, rydym ni'n annhebygol o weld newid mewn agweddau tuag at y drosedd niweidiol hon. Er fy mod i'n sylweddoli y bydd rhai elfennau, gan gynnwys plismona, yn faterion a gedwir yn ôl i San Steffan, a gaf i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus perthnasol yn cael hyfforddiant, nid yn unig ar realiti rheolaeth dan orfodaeth, ond yr angen i gyfeirio goroeswyr at gymorth? Tan i'r holl oroeswyr gael hynny, rydym ni'n mynd i weld system lle mae rhai pobl yn mynd i gael eu cosbi gan system lle mae rhai darparwyr yn sylweddoli beth yw'r erchyllterau y maen nhw'n eu dioddef tra nad yw eraill yn sylweddoli.
Wel, diolchaf i Delyth Jewell am y cwestiwn gwirioneddol pwysig iawn hwn, yn enwedig o gofio ein bod ni wedi cael yr achos diweddar, achos Sally Challen, yn rhoi lle blaenllaw i'r pwnc llechwraidd hwn o reolaeth drwy orfodaeth ar newyddion cenedlaethol.
Rwy'n credu, fel y dywedwch, bod hyfforddiant yn allweddol. Mae'n rhan o'n strategaeth genedlaethol. Drwy'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol, rydym ni wedi hyfforddi dros 142,000 o weithwyr proffesiynol yng ngweithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru, a hynny ar wahanol lefelau. Mae gennym ni dros 3,000 o weithwyr proffesiynol yn cael eu hyfforddi yn ein hyfforddiant ymyrraeth gynnar ac atal, 'Gofyn a Gweithredu', lle mae adnabod rheolaeth drwy orfodaeth yn agwedd allweddol. Ond mae gan y fframwaith hyfforddi cenedlaethol chwe grŵp gwahanol i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y rhai sydd agosaf at fenywod sydd mewn perygl yn benodol, yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf o ran grŵp 1, yn codi ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, ac yna'n symud at y gweithwyr proffesiynol hynny sydd â chyswllt mynych â dioddefwyr posibl i'r rhai sy'n arbenigo mewn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, ac at arweinwyr hefyd. Ar hyn o bryd, rydym ni'n cynllunio gweithdai rhanbarthol ar gyfer arweinwyr sector cyhoeddus—y rhai â chyfrifoldebau comisiynu a chynllunio—ac mae gennym ni gyfres o ffilmiau 'Cryfder mewn Arweinyddiaeth' hefyd, a wyliwyd dros 7,800 o weithiau. Felly, mae hyfforddiant Hyfforddi'r Hyfforddwr wedi cael ei gwblhau gan 20 o weithwyr proffesiynol yn y canolbarth a'r gorllewin.
Rwy'n sylweddoli bod hyn yn ymwneud ag estyn allan at y gweithwyr proffesiynol sydd ar flaen y gad ac yn y rheng flaen o ran gallu mynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n falch iawn eich bod chi wedi tynnu ein sylw at hyn i ddangos yr hyn sy'n cael ei wneud o ran y strategaeth genedlaethol yn gweithredu ar ein deddfwriaeth arloesol.
Diolch i’r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi’n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) wedi'i dynnu'n ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Diolch, Trefnydd. Tybed a gaf i ofyn am ddwy eitem, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw llythyr at bob Aelod Cynulliad, efallai gennych chi, a dweud y gwir, ond nid wyf i 100 y cant yn siŵr gan bwy, ynghylch pam nad yw'r ddogfen ymgynghori—y ddogfen hon—ar ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllideb a Chyrff Dynodedig) 2018—gwn nad yw'n swnio'n gyffrous iawn—ar wefan y Llywodraeth ar gyfer ymgynghori ehangach. Gorchymyn drafft yw hwn sy'n ceisio dod â chyrff newydd o fewn cwmpas prosesau adrodd ariannol Llywodraeth Cymru, ac ni hysbyswyd o leiaf un o'r cyrff a restrir yma yn y Gorchymyn drafft bod hyn yn digwydd hyd yn oed, ac felly nid oedd yn gwybod bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal, ac nid yw un yn cyd-fynd â'r diffiniad o 'sector Llywodraeth ganolog', a dim ond i gyrff sector Llywodraeth ganolog yr oedd hyn yn berthnasol. Y rheswm pam rwy'n gofyn i chi, efallai, gyhoeddi llythyr ar hyn yw bod y mater hwn ar fin dod gerbron y Pwyllgor Cyllid, os nad yw hynny eisoes wedi digwydd.
Ac os gaf i hefyd godi hyn gyda chi: ym mis Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Brexit wrthym fod darn sylweddol o waith yn angenrheidiol o ran cymwysterau gweithlu'r sector cyhoeddus ledled Cymru yn dilyn Brexit. Roeddwn i wedi gofyn cwestiwn yng nghyd-destun cymwysterau athrawon a'r gwahaniaeth presennol rhwng dinasyddion yr UE a dinasyddion nad ydynt o'r UE, sy'n rhywbeth a allai ddiflannu ar ôl i ni adael yr UE. Nawr ei bod hi'n eglur y byddai'r brif blaid yn y lle hwn yn ymgyrchu dros 'aros' pe bai ail refferendwm, rwy'n credu bod angen i ni gael rhywfaint o sicrwydd y bydd y gwaith hwn ar yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i gymwysterau ar ôl Brexit yn parhau. Efallai y gallem ni gael datganiad ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw—nid ar addysg yn unig, ond y sector cyhoeddus yn gyffredinol. Diolch.
Ie, diolch yn fawr. O ran mater cyntaf y ddogfen ymgynghori, byddaf yn sicr yn darganfod beth sy'n digwydd yn hynny o beth ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, yn unol â'ch cais, o ran argaeledd y ddogfen ymgynghori honno a'i dosbarthu.FootnoteLink
O ran yr ail fater, rydym ni wedi bod yn eglur iawn bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod buddiannau pennaf Cymru a Phrydain yn cael eu harddel orau trwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Prif Weinidog wedi nodi pam ei fod yn teimlo bod hynny'n wir nawr, ar ôl amlinellu ers nifer o flynyddoedd y Brexit gorau posibl y gallai Cymru fod wedi ei gael o ran achosi'r lleiaf o niwed. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw obaith nawr y bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â hynny. Felly, yr ymateb nawr, mewn gwirionedd, yw dadlau'r achos dros aros yn yr UE. Wedi dweud hynny, nid yw hynny'n golygu am eiliad ein bod ni'n llaesu dwylo o ran y paratoadau yr ydym ni'n eu gwneud i baratoi Cymru pe bai Brexit heb gytundeb, a dyna un o'r rhesymau pam yr wyf i, heddiw, wedi cyhoeddi yn rhan o'r gyllideb atodol gyntaf, raglen ysgogiad cyfalaf o £85 miliwn, a fydd yn caniatáu i'r diwydiant adeiladu yn arbennig fagu rhywfaint o hyder, ond hefyd y cadwyni cyflenwi sy'n dibynnu arno. Felly, mae gwaith yn parhau o ran hyrwyddo'r achos dros ail refferendwm ond hefyd o ran paratoi ein hunain ar gyfer unrhyw Brexit posibl, ond Brexit heb gytundeb yn arbennig. A'r enghraifft a roesoch o ran cymwysterau, fe wnaf yn siŵr eich bod chi'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynny.
Trefnydd, fel llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, dwi'n ymwybodol iawn o'r pwysau ariannol ar gyllidebau awdurdodau lleol. Yn wir, dyna pam roeddwn i'n pwyso ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian i'n cynghorau sir ni rai misoedd yn ôl. Fodd bynnag, yn ddiweddar yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae cynigion wedi cael eu cyflwyno i gynyddu taliadau am gludiant ôl-16 yn sylweddol iawn, o £100 y flwyddyn i £390 y flwyddyn. Yn amlwg, bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar deuluoedd ledled y sir, ond bydd yn cael effaith arbennig ar unig ysgol gyfrwng Gymraeg y sir, sef Ysgol Gyfun Ystalyfera Bro Dur, ac unig ysgol ffydd y sir, sef Ysgol Gyfun Gatholig San Joseff. Gyda disgyblion yn teithio'n draddodiadol i'r ysgolion hyn o bob cwr o'r sir, bydd y teuluoedd hyn yn cael eu taro'n fwy na'r mwyafrif. Rwyf i, ynghyd â'm cyd-Aelod rhanbarthol Bethan Sayed, eisoes wedi derbyn sylwadau gan deuluoedd sy'n anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg a'r pryderon sydd ganddynt yn hyn o beth, a dŷn ni wedi ymrwymo i gefnogi eu hachos.
Nawr, dŷn ni'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru darged o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac er mwyn cyrraedd y targed hwnnw, bydd angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wneud addysg Gymraeg yn hygyrch ledled Cymru. Mae'r cynnig hwn gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwneud y gwrthwyneb. Wrth benderfynu ar addysg eu plentyn, mae'n siŵr y bydd rhieni'n cael eu dylanwadu gan y gost sy'n gysylltiedig â hi, ac mae perygl gwirioneddol y bydd rhieni'n dewis anfon eu plant i'r ddarpariaeth agosaf—cyfrwng Saesneg—yn hytrach nag anfon disgyblion i Ystalyfera. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar yr hyn mae'n bwriadu gwneud i sicrhau nad yw addysg Gymraeg yn cael ei roi dan anfantais yn y modd yma, ac a fyddwch yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth genedlaethol ar fater trafnidiaeth er mwyn rhoi chwarae teg i'r Gymraeg? [Torri ar draws.]
Dylech ateb, Trefnydd.
Felly, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n gwbl gywir, mae cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ganolog i'r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn un o'r ffactorau allweddol o ran ein helpu i gyflawni ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn rhan o ofynion hynny y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae'n rhaid bod gan awdurdodau ddatganiad ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael o ran cludiant rhwng y cartref a'r ysgol er mwyn hybu mynediad at addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn achos Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera yng Nghastell-nedd Port Talbot, nid oes mynediad cyfatebol at addysg cyfrwng Cymraeg o'i chymharu ag addysg cyfrwng Saesneg, fel yr ydym ni wedi clywed. Ac mae materion o'r fath yn ymwneud â phellter teithio i'r unigolion sy'n dymuno parhau â'u haddysg ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu rhoi o dan anfantais. Felly, byddem yn sicr yn pryderu am yr effaith negyddol y gallai cyflwyno'r newidiadau arfaethedig ei chael ar nifer y myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym ni wedi gofyn am sicrwydd gan yr awdurdod lleol bod yr holl opsiynau posibl yn cael eu hystyried i gael gwared ar y rhwystrau ariannol hynny i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei chefnogi yn y sir gyfan.
Bydd y Gweinidog yn nodi'r bleidlais yr wythnos diwethaf gan 83 y cant o weithlu Ford i gefnogi gweithredu diwydiannol hyd at, ac yn cynnwys streic mewn ymateb i gynnig cau Ford. Felly, tybed a ellir dod o hyd i amser ar gyfer datganiad ar Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol agos, a chyn toriad yr haf o leiaf, a fyddai'n caniatáu i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd o ran y tasglu, ac yn benodol o ran y sylwadau a wnaed i sicrhau, os bydd y safle'n cau, bod y pensiynau a'r diswyddiadau yn gyfartal o leiaf â'r rhai a gynigiwyd i weithwyr Ford yn y gorffennol, yn y DU neu mewn unrhyw waith yn Ewrop, ac y dylai unrhyw waddol a adewir gan Ford pe bai'n cael ei gau fod yr un fath â'r hyn y maen nhw wedi ei roi i weithfeydd eraill yn yr UE sydd wedi cau hefyd.
Y cwbl yr ydym ni'n gofyn amdano yw chwarae teg i weithwyr sydd wedi rhoi 40 mlynedd o ymroddiad i'r gwaith hwn. Croesawaf yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud, croesawaf yr hyn y mae Gweinidog yr economi wedi ei ddweud, ein bod yn sefyll yn gadarn, ochr yn ochr â'r gweithwyr hyn, ond byddai'n dda cael diweddariad yn y modd priodol ac amserol cyn i ni gyrraedd yr haf.
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am godi'r mater hwn a'r pryder y mae wedi bod yn ei fynegi'n gadarn dros ei etholwyr a gyflogir yn y gwaith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac etholwyr y tu hwnt i'w ardal ei hun hyd yn oed. Gwn fod Gweinidog yr economi yn awyddus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i'r holl Aelodau, ond byddwn yn dweud heddiw ein bod ni wedi dechrau'r broses o sefydlu'r tasglu hwnnw i weithio gyda phartneriaid, dros yr wythnosau a'r misoedd anodd i ddod, i helpu i ddod o hyd i ateb cynaliadwy, hirdymor i'r gwaith a'i weithlu. Rydym ni'n gweithredu'n gyflym i fwrw ymlaen â hyn ac rydym ni wedi cysylltu, fel y gwyddoch, â ffigwr blaenllaw o'r diwydiant moduron, i gadeirio'r tasglu.
Yn rhan o sefydlu'r tasglu, bydd ffrwd waith y bobl, mewn cydweithrediad â Ford, yn ystyried darparu cyngor ariannol priodol i'r gweithlu. Mae'r Prif Weinidog wedi siarad â'r Prif Weinidog am y sefyllfa a'r angen i'r ddwy Lywodraeth weithio gyda'i gilydd yn ddi-dor dros bobl Pen-y-bont ar Ogwr a'r rhanbarth ehangach. Roedd hon yn neges yr oeddwn i'n gallu ei hail-bwysleisio mewn cyfarfod is-bwyllgor y Cabinet gyda Llywodraeth y DU yr oeddwn i'n bresennol ynddo yr wythnos diwethaf.
Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi siarad gydag uwch reolwyr Ford sydd wedi ymrwymo i weithio gyda ni ar y tasglu i gefnogi eu cyflogeion a'r gadwyn gyflenwi, a hefyd i ddarparu gwaddol i'r gymuned ehangach. Ond byddaf yn siŵr o sicrhau bod Gweinidog yr economi, yn ei ddiweddariadau, yn rhoi sylw i'r mater hwnnw o waddol y mae gennych chi bryder arbennig yn ei gylch, a hefyd mater o bensiynau a'r mater o gydraddoldeb â'r cytundebau a wnaed mewn sefyllfaoedd tebyg mewn mannau eraill.
Gweinidog, a gawn ni ddatganiad os gwelwch yn dda gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar ganlyniad uwchgynhadledd twristiaeth Cymru yn Llandrindod ym mis Mawrth? Mae'r strategaeth 'Partneriaeth ar gyfer Twf' bresennol ar gyfer twristiaeth yn dod i ben y flwyddyn nesaf, a deallaf fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn ymgynghori â'r sector twristiaeth yn dilyn yr uwchgynhadledd. O gofio pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru, a allwn ni gael datganiad os gwelwch yn dda ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi a chynyddu twristiaeth yng Nghymru yn y dyfodol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae'r datganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i dwristiaeth—byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r £2 filiwn ychwanegol a fuddsoddwyd yn y diwydiant i wneud yn siŵr bod gan Gymru ddarpariaeth wych o ran twristiaeth. Gwn fod y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol yn bwriadu gwneud datganiad ar y strategaeth ryngwladol ar 9 Gorffennaf, ac rwy'n sicr y bydd cyfleoedd bryd hynny i drafod sut y gallwn ni sicrhau bod gennym ni'r cynnig twristiaeth ryngwladol gorau posibl i ddenu pobl o bedwar ban byd i'r hyn sydd gennym ni i'w gynnig yma yng Nghymru. Ond o ran manylion penodol eich cwestiwn, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog ysgrifennu atoch chi.
Mae'n rheidrwydd arnaf i godi unwaith eto agenda ganoli'r Llywodraeth hon, sydd wedi cael effaith mor andwyol ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant. Rwy'n derbyn pryderon a chwynion gan gleifion a staff yn rheolaidd. Nid yw'r penderfyniad i dynnu meddygon ymgynghorol o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a'u hadleoli i Ferthyr wedi cael effaith gadarnhaol. Mae symud meddygon ymgynghorol pediatrig o Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi cael ei atal am y tro, a hoffwn weld penderfyniad yn cael ei wneud i atal hynny yn barhaol. Rwy'n clywed bellach pryderon dwys bod meddygon ymgynghorol yn cael tynnu o'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sy'n sbarduno pryderon gwirioneddol y gallai'r adran gau yn y tymor canolig i'r hirdymor, ac rwy'n rhannu'r pryderon hynny. Hoffwn ddatganiad gan y Llywodraeth felly ar gynnydd yr agenda ganoli, ynghyd â dadansoddiad gofalus o ganlyniadau cleifion a bodlonrwydd staff, ochr yn ochr ag ymrwymiad i foratoriwm ar unrhyw ganoli yn y dyfodol pe bai'r ymarfer hwnnw yn dangos yr anfodlonrwydd y credaf y bydd yn ei ddangos. A hoffwn gael datganiad pellach ar ddyfodol yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sy'n cynnwys sicrwydd cadarn ynghylch ei dyfodol.
A gaf i ofyn i chi ysgrifennu yn y lle cyntaf at y Gweinidog iechyd yn amlinellu'r pryderon yr ydych chi wedi eu codi? Rwy'n siŵr y bydd yn falch o roi sylw iddynt gyda'r bwrdd iechyd. Bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad ar adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal critigol ar 2 Gorffennaf, a chredaf y byddai hwnnw'n gyfle priodol, hefyd, i gael y trafodaethau hyn ar lawr y Cynulliad.
Gweinidog, roedd yr eitemau busnes blaenorol yn cynnwys dau gwestiwn am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'n amlwg bod diddordeb gwleidyddol a chyhoeddus brwd yn y ddeddfwriaeth honno. Felly, a gaf i ofyn am ragor o amser i drafod y Ddeddf, yn enwedig sut y mae awdurdodau lleol yn dehongli'r gyfraith o ran tir cyhoeddus? Efallai eich bod yn ymwybodol bod ymgyrch ar y gweill yn Solfach i sicrhau caffaeliad cyhoeddus Fferm Trecadwgan, a'r bwriad yw i drigolion lleol ddatblygu'r safle, sy'n dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, a'i rhedeg fel fferm gymunedol. Er gwaethaf hyn, mae cyngor Sir Benfro hyd yma wedi gwrthod canslo ocsiwn y mis nesaf a rhoi amser i ymgyrchwyr lunio cynllun busnes cadarn. Yn hytrach na helpu'r gymuned, maen nhw'n gofyn am flaendal nad yw'n ad-daladwy o £50,000. Yn fy marn i, mae'n ymddangos mai blaenoriaethau Sir Benfro yn gwneud arian yn gyflym, yn hytrach na datblygu safle hanesyddol er budd cenedlaethau'r dyfodol. Credaf ei bod yn wir y dylid eu hatgoffa o'u rhwymedigaeth gyfreithiol a rhoi gwersi ac chyfarwyddyd eglur iddynt i'r perwyl hwnnw.
Diolchaf i Joyce Watson am godi'r mater hwn. Mae tir cyhoeddus, a gwaredu tir cyhoeddus yn arbennig, yn rhywbeth yr wyf i wedi cymryd diddordeb penodol ynddo ac rwyf i wedi cael rhai trafodaethau da neu drafodaethau cynnar gyda'm cyd-Aelod, Gweinidog yr economi a hefyd y Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol. Rydym ni yng nghyfnod cynnar iawn y trafodaethau hyn, ond byddwn yn awyddus i ymchwilio ymhellach i'r enghraifft yr ydych chi wedi ei rhoi fel astudiaeth achos bosibl, mewn gwirionedd, o ran sut y gallwn ni sicrhau, pan fyddwn ni'n cael gwared ar dir cyhoeddus, ein bod ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n ymwybodol iawn o flaenoriaethau ehangach y Llywodraeth, Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'n dyheadau o ran sicrhau'r gwerth gorau, nid yn unig o safbwynt ariannol ond, mewn gwirionedd, y gwerth ychwanegol y gallwn ni ei gael, yn y ffordd y disgrifiodd y Prif Weinidog yn ei ymateb i gwestiwn Angela Burns heddiw am gaffael.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog trafnidiaeth a'r economi am fetro gogledd Cymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion yr hyn a alwyd yn brosiect metro gogledd-ddwyrain Cymru i ddechrau yn 2017 i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd. Heddiw, mae'r papur newydd lleol, The Leader, wedi cyhoeddi sylwadau a wnaed gan arweinydd Llafur newydd Cyngor Sir y Fflint, Ian Roberts, yn dilyn sylwadau a wnaed ganddo yn ystod cyfarfod yn Neuadd y Sir, lle mae'n dweud mai trafodaethau cyfyngedig yn unig a gafwyd ynghylch sut y byddai prif rannau'r prosiect yn cael eu gweithredu, bod,
Trafnidiaeth a Metro Gogledd Cymru yn fusnes anorffenedig gyda Llywodraeth Cymru
a'i fod yn meddwl
ei bod o ddiddordeb arbennig gofyn yn wirioneddol i Lywodraeth Cymru beth yw eu bwriadau ar gyfer Metro Gogledd-ddwyrain Cymru.
Yn amlwg, os yw'r galwadau hynny nid yn unig yn dod yn fwy cyffredinol ond yn benodol gan arweinydd cyngor Sir y Fflint, sy'n digwydd bod yn aelod o'ch plaid, rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno bod hynny'n haeddu ymateb cyhoeddus.
Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar gamddefnyddio alcohol ymhlith pobl hŷn yng Nghymru? Bythefnos yn ôl, noddais a siaredais yn y digwyddiad lansio siarter 'Calling time for change' Yfed Doeth Heneiddio'n Dda a gynhaliwyd yn adeilad Pierhead y Cynulliad. Nod hyn yw lleihau'r niwed a achosir gan alcohol ymhlith oedolion hŷn ledled Cymru, gan weithio gydag aelodau o grŵp eiriolaeth y siarter, pob un ohonynt yn wirfoddolwyr sydd â phrofiad byw o alcohol. Ar ôl dod at ei gilydd am y tro cyntaf fel grŵp eiriolaeth, mae'r siarter yn benllanw deuddeng mis o'u gwaith caled. Un ethos pwysig yn y rhaglen yw na ddylai pobl fod yn dderbynwyr cymorth goddefol yn unig, ond yn gyfranogwyr gweithredol yn llesiant a gwellhad eu hunain a phobl eraill. Yr hyn sy'n peri pryder yw bod yr adroddiad yn dweud, wrth fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran mewn polisi, ymarfer ac ymchwil alcohol, eu bod wedi canfod bod mwy na 4 miliwn o Brydeinwyr dros 50 oed yn meddwl y dylent leihau faint o alcohol y maen nhw'n ei yfed, ac yng Nghymru, y rhai 65 oed a hŷn yw'r unig grŵp oedran lle mae yfed uwchlaw'r canllawiau dyddiol yn cynyddu. Unwaith eto, galwaf am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn unol â hynny. Diolch.
Diolch am godi'r ddau fater hynny. O ran y cyntaf, sef metro gogledd-ddwyrain Cymru, mae'n sicr yn rhan hanfodol o'n cynllun i wella a moderneiddio trafnidiaeth yn y rhanbarth, ac mae'r gwaith o gyflawni gweledigaeth y metro yn mynd rhagddo'n dda. Sefydlwyd uned fusnes Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd i gynorthwyo darpariaeth y prosiect metro, gan gynnwys datblygu gorsaf reilffordd newydd parcffordd Glannau Dyfrdwy, gorsaf reilffordd integredig Shotton, a chanolfan drafnidiaeth integredig yng ngorsaf reilffordd Gyffredinol Wrecsam. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau.
Mae cynyddu amlder y gwasanaeth yn ystod yr wythnos ar reilffordd Wrecsam-Bidston i ddau drên yr awr o ddiwedd 2021 yn agwedd bwysig ar ddarparu metro gogledd-ddwyrain Cymru, ac rydym ni wedi darparu cyllid i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer cynlluniau i wella mynediad at barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy a symudiad y tu mewn iddo, gan ganolbwyntio ar fysiau a theithio llesol, ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer gwelliannau i orsaf fysiau Wrecsam. Rydym ni hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer llwybr coch coridor Sir y Fflint, a gefnogwyd gan yr awdurdod lleol ac a fydd yn rhan annatod o ddarpariaeth y metro. Bydd ein cynigion ar gyfer metro'r gogledd-ddwyrain Cymru yn helpu'r rhanbarth i fod yn fwy cysylltiedig ac yn cynnig mynediad at swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau, a fydd yn hwb i gymudwyr, busnesau a'r economi, ac a fydd hefyd yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer gogledd Cymru ac ardal drawsffiniol sy'n gystadleuol ac yn elfen allweddol o Bwerdy Gogledd Lloegr.
Rwy'n credu y dylid cydnabod bod gweithredu gwelliannau, mewn llawer o achosion, yn golygu bod angen mynd drwy'r broses statudol, ac rydym ni'n cydnabod na fydd rhai o'r ymyriadau hynny'n rhai cyflym, ond byddwn yn dechrau cyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer y system fetro integredig trwy ganolbwyntio ar y pethau hynny y gellid eu darparu'n gyflym. Os oes gan yr arweinydd newydd bryderon penodol, rwy'n siŵr y bydd yn manteisio ar y cyfle i'w codi'n uniongyrchol gyda'r Gweinidog trafnidiaeth.FootnoteLink
Mae eich pwynt am yr ymgyrch Yfed Doeth Heneiddio'n Dda a chamddefnyddio alcohol ymhlith pobl hŷn yn un da, a gwn ei fod yn rhywbeth y mae'r Gweinidog iechyd yn awyddus i roi sylw iddo drwy'r cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau, ond gofynnaf iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny.
Roeddwn i eisiau gofyn am ddatganiad ar yr adroddiad Augar sydd wedi dod mas yn Lloegr ynglŷn â sut maen nhw'n mynd i dalu am y ffioedd a sut maen nhw'n mynd i dalu am y system addysg ôl-16 yno. Yn sicr, maen nhw wedi argymell i leihau'r ffioedd sydd yn mynd i fynd ar fyfyrwyr, a dwi eisiau deall o Lywodraeth Cymru sut mae hynny yn mynd i effeithio arnoch chi. Felly, a fydden ni'n gallu cael datganiad yn hynny o beth? Rŷn ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn ymateb yn rhan o ymateb Llywodraeth Prydain, ond hoffwn i gael trafodaeth yn y Senedd yma cyn i'r Gweinidog Addysg wneud unrhyw fath o benderfyniad.
Fy ail ddatganiad yw—. Gwn ein bod ni wedi cael y ddadl hon yma droeon am dîm criced i Gymru, ac mae llawer ohonom ni yma eisiau hynny o hyd, ond gwyddom y bydd anghytuno yn gyffredinol. Mae llawer ohonom ni wedi sylwi, wrth i rai o'r gemau gael eu cynnal yma yng Nghymru, ar y brandio truenus y mae Cymru'n ei gael yn rhan o Gwpan Criced y Byd, ac rwy'n meddwl tybed pa ddadansoddiad y byddwch chi'n ei wneud yn rhan o frand Cymru, ar ôl Cwpan Criced y Byd. Go brin y byddech chi'n sylweddoli ei fod yn digwydd, yn un peth, a phrin y byddech chi'n sylweddoli bod Cymru'n rhan o'r tîm criced Cymru a Lloegr honedig hwn. Felly, a allwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y maen nhw'n creu brand Cymru yn rhan o'r Cwpan Criced y Byd hwn, sut y bydd ganddyn nhw wersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol, a pha un a ydynt yn ystyried newid eu meddwl ynghylch cefnogi'r syniad o gael tîm criced i Gymru?
Diolch am godi'r materion hynny. O ran adolygiad Augar, yn amlwg, ar hyn o bryd, rydym ni'n archwilio'r adroddiad penodol hwnnw ac yn llunio ein hymateb ein hunain, a'n dealltwriaeth, a dweud y gwir, o'r hyn y byddai'n ei olygu i ni yng nghyd-destun Cymru. Byddwn yn eich annog chi ac unrhyw aelodau eraill sydd â diddordeb i gyflwyno sylwadau i'r Gweinidog addysg i helpu i lunio'r ymateb ac i lunio ein syniadau o ran sut y byddem ni'n ymateb.
Mae eich pwynt am griced a brandio yn un da iawn eto yn fy marn i, yn yr ystyr bod angen i ni sicrhau, pan fyddwn ni'n cynnal digwyddiadau yma yng Nghymru—ac mae gennym amrywiaeth anhygoel o ddigwyddiadau yr ydym ni'n eu cynnal yma yng Nghymru ac enw hynod o dda, yn fy marn i, am gynnal digwyddiadau yn dda, yn enwedig digwyddiadau chwaraeon—yna mae angen i ni fod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd marchnata hynny. Gofynnaf i'r Gweinidog roi rhywfaint o ystyriaeth i'r mater ac yna ymateb i chi.
Trefnydd, a gaf i gytuno yn gyntaf â'r sylwadau cynharach a wnaed gan fy nghydweithiwr Suzy Davies ynglŷn â'r ffaith nad yw'r ddogfen sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru? Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, mae gen i fynediad ato, ond credaf ei bod yn ddefnyddiol pe bai ar gael i gynulleidfa ehangach.
Yn ail, yr wythnos diwethaf, cawsom y ddadl bwysig ar blastigau a sut y gallem ni geisio gwneud ein dibyniaeth ar blastig cyn lleied â phosibl. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r ddadl honno, ond tybed a allem ni gael, wel, strategaeth a diweddariadau rheolaidd neu led-reolaidd efallai ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon. Rwy'n credu os byddwn ni i gyd yn ceisio mynd i'r afael â'r mater yn uniongyrchol, efallai y gallwn ni wneud rhywfaint o gynnydd yn y tymor canolig. A allem ni gael datganiad ar sut y byddai unrhyw strategaeth yn ymgorffori'r elfen leol? Rwy'n credu bod llawer o waith da a llawer o arfer da yn digwydd ar lefel leol nad ydym yn clywed amdanynt bob amser. Clywais yr wythnos diwethaf am fenter gan Hufenfa Rhaglan yn fy etholaeth i, sy'n gyflenwr llaeth lleol sy'n ceisio cael—neu sydd wedi cael—y contract gyda llawer o ysgolion cynradd yn Sir Fynwy i ddisodli poteli plastig gyda photeli confensiynol. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth enfawr mewn ychydig dros flwyddyn yn unig. Credaf fod enghreifftiau eraill, mae'n debyg, o gwmnïau eraill, yn gwneud pethau tebyg, a gallem ni gael dull gweithredu o'r gwaelod i fyny, lle'r ydym ni'n cymryd yr arfer da hwnnw o ddifrif ac yn ei ymestyn ledled Cymru.
Yn olaf, Llywydd, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i longyfarch tîm sgïo ysgol Brynbuga, a reolir gan y cynghorydd lleol Sara Jones, sydd wedi ennill medalau arian ac efydd mewn cystadleuaeth ddiweddar—i ferched a bechgyn, yn eu trefn—ac sy'n falch iawn ac wedi rhoi gwybod i mi am eu llwyddiant. Rwy'n siŵr yr hoffai'r Cynulliad eu llongyfarch nhw hefyd.
Diolch yn fawr iawn, Nick Ramsay. O ran y mater cyntaf, fel y dywedais wrth Suzy Davies, byddaf yn sicr yn archwilio'r materion yn ymwneud â chyhoeddi'r ddogfen ymgynghori ac yn sicrhau y bydd y bobl hynny y bydd ganddynt ddiddordeb ynddi, ac a fyddai'n hoffi ac angen ymateb iddi, yn cael y cyfle i wneud hynny.
O ran yr ail fater o wastraff plastig a ffyrdd arloesol o leihau faint o blastig yr ydym ni'n ei ddefnyddio, yn enwedig plastig untro, gwn fod y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, sy'n gyfrifol am wastraff, wedi cymryd diddordeb arbennig o frwd yn hyn. Mae'n bwriadu gwneud datganiad i'r Cynulliad, ond nid wyf i'n credu y gallwn ni ddod o hyd i le iddo tan y tymor nesaf, a dyna pam y gwn ei bod hi'n bwriadu cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn fuan iawn, o gofio'r lefel uchel o ddiddordeb sy'n bodoli yn y mater hwn, a hynny'n gwbl briodol.
Rydym ni wrthi'n cynnal ymgynghoriadau ar y cyd â Llywodraeth y DU ar y posibilrwydd o gyflwyno cynllun blaendal-dychwelyd a chynyddu cyfrifoldeb y cynhyrchydd. Daeth hwnnw i ben y mis diwethaf, felly, yn rhan o hynny, gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi cynnal sesiwn friffio i Aelodau Cynulliad a chylch trafod ar gyfer rhanddeiliaid, a roddodd y cyfle i ddod â rhai o'r syniadau mwy lleol hynny am bethau y dylem ni fod yn eu dathlu yng Nghymru ynghyd, ond hefyd gwneud hynny ar raddfa fwy fel nad ydynt dod yn bethau bach yr ydym ni'n credu sy'n werth eu dathlu, ond yn bethau sy'n cael eu rhoi yn y brif ffrwd o ran y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau. Ond, fel y dywedais, mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn fuan iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein sefyllfa o ran y mater o blastig, ac wrth gwrs rwy'n hapus iawn ar ran Llywodraeth Cymru i longyfarch tîm sgïo ysgol Brynbuga ar y llwyddiannau y maen nhw wedi eu cael a'r medalau y maen nhw wedi eu hennill.
Mae etholwyr wedi cysylltu efo fi yn bryderus am effaith ddinistriol toriadau posib yn yr ysgol addysg ym Mhrifysgol Bangor, ac yn enwedig y goblygiadau o gael gwared â staff profiadol Cymraeg eu hiaith, a'u disodli gan strategaeth ad hoc sy'n bwriadu dod ag athrawon o ysgolion i mewn i hyfforddi a mentora myfyrwyr. Mi fuaswn i'n ddiolchgar am ddatganiad ar y mater hwn, ac yn enwedig barn y Llywodraeth am effaith dadfuddsoddi mewn hyfforddiant athrawon ac mewn addysg Gymraeg, effaith hynny ar gynaliadwyedd a llwyddiant eich strategaeth addysg a'ch strategaeth iaith Cymraeg—hynny yw, a fyddai dileu swyddi yn yr ysgol addysg yn tanseilio'ch nod chi o recriwtio mwy o athrawon ac yn tanseilio'r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg?
Diolchaf i chi am godi'r mater hwn. A gaf i ofyn i chi ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Addysg a bydd hi'n darparu ymateb?
Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi dechrau streic newyn mewn carchar yn Iran. Cafodd dreial ffug a bu'n rhaid iddi ddioddef pob math o boenedigaethau ers cael ei harestio yn 2016. Mae ei gŵr, Richard, wedi dechrau streic newyn gyfochrog y tu allan i lysgenhadaeth Iran yn Llundain ac mae chwaer Richard, Rebecca Jones, yn byw yn fy etholaeth i ac wedi bod yn ymgyrchu'n lleol. A allwn ni gael datganiad ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ychwanegu ein llais ac anfon neges o gefnogaeth i Nazanin a Richard ar yr amser torcalonnus iawn yma?
Diolch am godi hyn. Nid yw'n rhywbeth yr wyf i'n gyfarwydd ag ef, ond mae'n sicr yn swnio fel amser pryderus a gofidus iawn i'r teulu dan sylw. Gofynnaf i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol archwilio hyn gyda chi ymhellach.
A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi a thrafnidiaeth ar arwyddion ffyrdd yng Nghymru? Efallai eich bod chi wedi gweld rhai adroddiadau yn y cyfryngau ddoe bod arwyddion draenogod newydd yn mynd i gael eu cyflwyno i gael eu defnyddio yn y DU oherwydd y peryglon a all gael eu hachosi'n aml gan fywyd gwyllt bach ar y ffyrdd. Nawr, mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn hyrwyddwyr rhywogaethau, ac wrth gwrs mae angen i ni ddiogelu bywyd gwyllt a modurwyr rhag y peryglon y gall ffyrdd eu hachosi. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, bod gwiwerod yn aml yn cael eu hanafu ar y ffyrdd, ac wrth gwrs mae'r boblogaeth wiwerod coch ar Ynys Môn ac o amgylch coedwig Clocaenog yn fy etholaeth i yn arbennig o werthfawr i mi fel yr hyrwyddwr rhywogaethau lleol. O gofio y bu dros 100 o farwolaethau yn 2017, yn ôl yr Adran Drafnidiaeth, o ganlyniad i fywyd gwyllt bach ar ein ffyrdd, a thros 14,000 wedi eu hanafu o ganlyniad i anifeiliaid ar briffyrdd, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried defnyddio'r mathau hyn o arwyddion mewn mannau priodol er mwyn diogelu bywyd gwyllt lleol a modurwyr rhag y mathau hyn o beryglon?
Diolchaf i Darren Millar am godi hyn, a byddaf yn sicr yn archwilio yn union hynny gyda'r Gweinidog trafnidiaeth.
Hoffwn ofyn i'r Trefnydd am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, gan ddilyn eich ymateb i Joyce Watson o ran sefyllfa ymgais y gymuned yn Solfach i brynu fferm Trecadwgan, mae gen i ddiddordeb mawr yn y pwyntiau a wnaeth Joyce am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol; rwy'n credu y gwnaed y rheini'n dda iawn. Tybed a fyddai'n bosibl, yng nghyd-destun yr ymdrechion y mae'r gymuned honno'n eu gwneud, i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad, datganiad ysgrifenedig efallai, ar y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i alluogi cymunedau i ddatblygu cydnerthedd a diogelu asedau cymunedol? Gallai hwn fod gan Ddirprwy Weinidog yr Economi o bosibl yn rhan o'i gyfrifoldebau menter gymdeithasol ac economi gymdeithasol. Credaf y byddai o gymorth i'r trigolion hynny, ond credaf ei fod yn astudiaeth achos, a byddai o gymorth i drigolion eraill a allai fod yn wynebu sefyllfaoedd tebyg mewn mannau eraill gael gwybod pa fath o gymorth a allai fod ar gael iddyn nhw, pa un a fyddai hynny trwy grantiau uniongyrchol neu mewn unrhyw ffordd arall.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano yw yr hoffwn wneud cais i Lywodraeth Cymru fod yn barod i wneud datganiad ar ôl i'r achos cyfreithiol presennol sy'n cael ei ddwyn yn yr Uchel Lys ar hyn o bryd gan fenywod y 1950au, yr ymgyrch Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth ac eraill—pe gallai'r Llywodraeth fod yn barod pan gaiff y penderfyniad hwnnw ei wneud i wneud datganiad ar sut y bydd hynny'n effeithio ar Gymru. Rwy'n sylweddoli bod hwn yn fater a gadwyd yn ôl, ac rwy'n siŵr bod y Trefnydd, fel finnau, yn siomedig iawn â llythyr ymateb Llywodraeth y DU a rannwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar.
Rydym ni'n dal i gredu ar y meinciau hyn y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth, yn enwedig os bydd camau cyfreithiol pellach, i ba un a allent gael rhywfaint o lais yn yr achos, oherwydd y golled enfawr i economi Cymru, nid yn unig i'r menywod unigol hynny, ond y golled enfawr i economi Cymru, o ganlyniad i'r penderfyniadau anghyfiawn iawn a wnaed ynghylch codi'r oedran pensiwn.
Felly, byddwn yn gofyn i'r Trefnydd ofyn i ba Weinidog bynnag—boed y Dirprwy Weinidog a chyfrifoldeb am gydraddoldebau neu'r Cwnsler Cyffredinol—gadw llygad allan am yr ymateb cyfreithiol hwnnw, am y penderfyniad, ac i fod yn barod efallai i wneud datganiad am beth arall y gallem ni ei wneud i gefnogi'r menywod, yn dibynnu, wrth gwrs, ar natur canlyniad yr achos.
Diolch i Helen Mary Jones am grybwyll y ddau fater yna. O ran y cyntaf, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr economi yn ymwybodol o'r cais am ddatganiad o ran yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi'r cyhoedd a grwpiau cymunedol o ran diogelu asedau cymunedol a'r defnydd o asedau cymunedol mewn ffordd sy'n cyd-fynd i raddau helaeth â deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod gennym ni economi gylchol, bod gennym ni economi sylfaenol, a'n bod yn gallu buddsoddi mewn ffordd sy'n rhoi'r budd pennaf i'r holl bobl yn ein cymunedau yn lleol.FootnoteLink
O ran yr ail fater sy'n ymwneud ag ymgyrch WASPI, rwy'n gwybod fod y Cynulliad wedi anfon neges gref iawn ac unedig, rwy'n credu, at Lywodraeth y DU o ran ein digalondid, mewn gwirionedd, ynglŷn â'r ffordd anhygoel o wael yr ymdrinwyd â menywod WASPI a menywod eraill a nodwyd mewn gwahanol grwpiau—menywod y 1950au, y 1960au, y bydd y polisi hwn yn effeithio arnyn nhw, ac a fydd yn cael effaith fawr arnyn nhw, oherwydd nad ydyn nhw wedi cael cyfle i gynllunio ar gyfer y math o ddyfodol y maen nhw'n ei wynebu nawr.
Fel y dywedwch chi, mae'r effaith ar Gymru yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn benodol yn ei gadw mewn cof o ran yr effaith ar yr economi, ond hefyd o ran yr effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol menywod sy'n gweld bod mwy o angen cymorth a chefnogaeth arnyn nhw. Yn amlwg, gallaf eich sicrhau ein bod yn cadw llygad barcud ar yr achos, a gwn fod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn awyddus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn gynted ag y gwyddom ni unrhyw beth arall.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau, ac, yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'u pleidleisio. Felly, dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7079 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Mike Hedges (Llafur).
Cynnig NDM7080 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carwyn Jones (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jayne Bryant (Llafur).
Cynnig NDM7081 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Griffiths (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Vikki Howells (Llafur).
Cynnig NDM7082 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dawn Bowden (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Carwyn Jones (Llafur).
Cynnig NDM7083 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
Cynigiwyd y cynigion.
Ydw, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac mae'r eitem nesaf hefyd yn ymwneud â chynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau, ac dwi'n cynnig bod y cynigion yma hefyd yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'u pleidleisio. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol—eto, Rebecca Evans.
Cynnig NDM7084 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Joyce Watson (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
Cynnig NDM7085 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Jack Sargeant (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Cynnig NDM7086 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu John Griffiths (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Cynnig NDM7087 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Rhianon Passmore (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Cynnig NDM7088 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Jack Sargeant (Llafur) fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
Cynnig NDM7089 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Jenny Rathbone (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cynnig NDM7090 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Dawn Bowden (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Cynnig NDM7091 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) fel aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cynnig NDM7092 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Dai Lloyd (Plaid Cymru) fel aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Cynnig NDM7093 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Michelle Brown (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
Cynnig NDM7094 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Cynnig NDM7095 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Cynigiwyd y cynigion.
Ydw, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion yma? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n dod â ni at y datganiad nesaf, sef y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Ddoe, cyflwynais y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i wneud datganiad am y Bil. Mae hybu ansawdd wedi bod yn rhan ganolog ac annatod o GIG Cymru ers amser maith. Cydnabuwyd hyn yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2016 gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd uchel ei barch—a adwaenir fel arall, wrth gwrs, fel yr OECD. Mae'r darpariaethau yn y Bil hwn yn adeiladu ar y trefniadau sydd eisoes ar waith i sicrhau gwasanaeth iechyd gwladol sy'n seiliedig ar ansawdd. Mae hyn wedi'i ategu ar hyn o bryd gan y ddyletswydd ansawdd bresennol yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2003. Ond ni allwn ni orffwys ar ein rhwyfau. Mae bob amser lle i ddysgu ac i wneud mwy i sicrhau gwelliant parhaus.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Amlygodd yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yr angen i wella profiad ac ansawdd gofal yn barhaus, er mwyn sicrhau bod gennym ni system iechyd a gofal cymdeithasol sydd bob amser yn dysgu a lle clywir llais y dinesydd yn ganolog ac yn amlwg. Cyhoeddais ymateb Llywodraeth Cymru, ein cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach' ym mis Mehefin y llynedd. Mae'n amlinellu sut y bydd ansawdd yn allweddol i wneud y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol—system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n rhoi canlyniadau da, profiad da i bobl a'r gwerth gorau. Mae ein cynllun yn nodi uchelgeisiau'r Llywodraeth hon i ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd fel y cânt eu cynllunio a'u darparu ar sail anghenion a dewisiadau pobl. Mae ein cynllun yn pwysleisio pwysigrwydd gwella ac ymgysylltu'n barhaus â dinasyddion mewn modd sy'n gwerthfawrogi ac yn galluogi pobl i gyfrannu eu gwybodaeth, eu profiad ac, wrth gwrs, eu dewisiadau.
Mae'r Bil yn gam nesaf ymlaen yn y broses o wella ansawdd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r Bil yn adeiladu ar yr asedau sydd gennym ni eisoes yng Nghymru, i gryfhau a diogelu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol, gan hwyluso rhoi llais cryfach i ddinasyddion, gwella atebolrwydd gwasanaethau er mwyn darparu gwell profiad, ansawdd gofal gwell a chanlyniadau gwell i bobl yng Nghymru. Mae'r Bil yn cyflwyno newidiadau a fydd yn cryfhau'r ddyletswydd ansawdd bresennol sydd ar gyrff y GIG ac yn ymestyn hyn i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â swyddogaethau'r gwasanaeth iechyd; yn rhoi dyletswydd gonestrwydd sefydliadol ar ddarparwyr gwasanaethau'r GIG, gan ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaeth pan fydd pethau'n mynd o chwith; yn cryfhau llais dinasyddion, drwy ddisodli cynghorau iechyd cymuned â chorff newydd ar gyfer Cymru gyfan a fydd yn rhoi llais i ddinasyddion ac yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol; ac yn galluogi penodi is-gadeiryddion ar gyfer ymddiriedolaethau'r GIG, gan sicrhau eu bod yn gyson â byrddau iechyd.
Mae'r ddyletswydd ansawdd bresennol yn Neddf 2003 wedi llwyddo i roi rhywfaint o bwyslais ar wella ansawdd a datblygu seilwaith. Fodd bynnag, fe'i dehonglwyd mewn ffordd gymharol gul ac arweiniodd at roi sylw ar sicrwydd ansawdd yn hytrach na mynd ati'n rhagweithiol i gynllunio a gwella ansawdd. Mae angen i ansawdd fod yn ehangach na hyn. Rwyf eisiau i ansawdd fod yn ffordd system gyfan o weithio, er mwyn sicrhau gwasanaethau diogel, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n amserol, yn effeithlon ac yn deg. Rhaid i hynny gynnwys hybu diwylliant o ddysgu. Mae'r Bil yn disodli dyletswydd 2003 â dyletswydd ansawdd ehangach, sy'n cyd-fynd yn well â sut yr ydym ni eisiau i'n cyrff GIG weithio gyda'i gilydd. Bydd yn cryfhau'r camau gweithredu a'r penderfyniadau er mwyn gwella ansawdd ein system gyfan. A bydd y ddyletswydd ansawdd yn cael ei rhoi ar gyrff y GIG ac ar Weinidogion Cymru. Bydd yn sicrhau yr effeithir ar ansawdd gwasanaethau yn ei ystyr ehangaf. Dyma fydd yr ystyriaeth gyntaf wrth wneud penderfyniadau am wasanaethau iechyd.
Yn anochel, mewn system mor eang a chymhleth â'r GIG, bydd pethau weithiau'n mynd o chwith. Bydd y ddyletswydd gonestrwydd yn helpu i sicrhau, pan fydd hyn yn digwydd, bod darparwyr gwasanaethau'r GIG yn agored ac yn onest â phobl yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae digwyddiadau diweddar yn hen ardal Cwm Taf wedi dangos inni bwysigrwydd hyn. Bydd y Bil yn helpu i sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi, bod sefydliadau yn gwneud y peth priodol ac yn defnyddio digwyddiadau o'r fath i ddysgu a gwella.
Ceir tystiolaeth gynyddol bod gan systemau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwneud yn dda, bobl wrth eu gwraidd, ac y dylai man cychwyn unrhyw benderfyniad ganolbwyntio ar yr hyn sydd orau i'r unigolyn. Mae cyflawni ein huchelgais i wella ansawdd yn golygu gwrando ar lais pobl yng Nghymru a'i werthfawrogi. Bydd creu corff llais y dinesydd newydd i Gymru gyfan yn cryfhau'r llais hwnnw ym mhob agwedd ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Bydd cryfhau ymgysylltiad y cyhoedd, a chefnogi dinasyddion i gael llais cryf, yn cynyddu dylanwad pobl. O gyfuno hyn gyda gwaith y ddwy arolygiaeth—Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru—bydd yn cefnogi'r ymgyrch dros wasanaethau o safon uwch.
Yn olaf, bydd y gofynion ynghylch is-gadeiryddion ymddiriedolaethau GIG yn cryfhau eu trefniadau llywodraethu ac yn sicrhau eu bod yn gyson â byrddau iechyd lleol. Dim ond un agwedd yw'r Bil hwn ar gyfres o fesurau yr ydym ni'n eu gweithredu yn ein hymgyrch ddiwyro tuag at wella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol. Er enghraifft, byddwn yn bwrw ymlaen â gwaith pellach ar wahân ynghylch y ffordd y caiff penderfyniadau ynghylch newid gwasanaethau eu gwneud yn y GIG ac yn ystyried sut y gellir defnyddio cyfansoddiad byrddau iechyd i gryfhau trefniadau llywodraethu. Rydym ni hefyd yn symud ymlaen gyda'r gwaith i atgyfnerthu rheoleiddio ac arolygu, gan gynnwys gwaith i ystyried sail ddeddfwriaethol AGIC. Yn y tymor byr, rydym ni wedi buddsoddi arian ychwanegol i ddatblygu cynaliadwyedd AGIC yn raddol ac i fod yn barod i ymateb i unrhyw fframwaith deddfwriaethol newydd yn y dyfodol.
Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i graffu arno. Edrychaf ymlaen at drafod â'r Cynulliad a'i bwyllgorau dros y misoedd i ddod, y Bil hwn a fydd, yn fy marn i, yn sicrhau manteision cadarnhaol i bobl Cymru. Bydd y Bil yn helpu i wireddu ein huchelgais cyffredin i gael system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ansawdd, sef system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n agored ac yn onest, a lle caiff llais y dinesydd ei glywed yn uchel ac yn glir.
Gweinidog, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad y bore yma—neu'r prynhawn yma—ac am gyflwyno'r manylion pellach am y Bil hwn a gyflwynwyd gennych chi ddoe.
Rwy'n credu bod angen i mi ddechrau drwy ofyn i chi a allwch chi esbonio i ni pam yr ydych chi'n credu bod angen y ddeddfwriaeth hon arnom ni. Oherwydd, wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau cefnogi gwell ansawdd yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gyda'r GIG, oherwydd bod hynny'n cael effaith mor uniongyrchol ar unigolyn. Ac rydym ni i gyd yn dymuno cefnogi'r egwyddor o onestrwydd. Fodd bynnag, mae'r ddau nod da iawn hynny wrth gwrs yn cuddio'r mileindra, sef cael gwared ar y cynghorau iechyd cymuned. Byddai angen i'r Ceidwadwyr Cymreig gael sgwrs hir iawn gyda chi dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod ynghylch a fyddai hynny mewn gwirionedd o fudd i'r claf ac a fyddai'n gymorth gwirioneddol i atgyfnerthu llais y claf.
Mae naw mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi 'Law yn Llaw at Iechyd' ac mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i'n Bwrdd Iechyd hynaf fod mewn mesurau arbennig, ond dim ond nawr mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno unrhyw fath o ddeddfwriaeth neu'n ystyried sut i wella'r safonau ansawdd hynny. Ac os dywedwch chi—fel yr ydych chi wedi dweud yn eich datganiad—fod y pwyslais presennol yn rhy gul, wel, Gweinidog, rydych chi a'ch Llywodraeth wedi cael y rhan orau o ddegawd i gywiro hynny. Felly pam ydych chi'n credu mai deddfu ar ei gyfer fydd yn gwneud y gwahaniaeth, yn hytrach na'r newid mewn diwylliant, sef yr hyn y mae gwir, gwir ei angen arnom ni?
O ran y ddyletswydd gonestrwydd, unwaith eto, credaf fod honno'n egwyddor ddiddorol iawn. Unwaith eto, byddwn eisiau cefnogi hynny ym mhob agwedd ar fywyd. Mae gennyf rywfaint o bryder ynghylch sefydlu gweithgor i ddatblygu canllawiau i benderfynu faint o niwed y mae'n rhaid ei ddioddef cyn i'r ddyletswydd gael ei sbarduno. Ymhle y bydd llais y claf ar y gweithgor hwnnw? Oherwydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, os oes unrhyw niwed, dyna ddylai fod y sbardun. Ac mae gennyf bryder yn deillio o'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, o'ch datganiad, ac o'r dadansoddiad o'r memorandwm esboniadol, y bydd trothwy, y bydd ffon fesur. Ble mae'r ffon fesur honno, a pha mor uchel fydd hi?
Dof yn awr, wrth gwrs, at gynghorau iechyd cymuned, sef, mae'n debyg, y maes sy'n peri'r pryder mwyaf imi. Dyma sy'n peri'r pryder mwyaf imi oherwydd mae popeth mae'r Llywodraeth wedi ei ddweud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ymwneud ag adolygiad seneddol, wedi bod yn ymwneud â'r weledigaeth ar gyfer iechyd, wedi bod ynglŷn â grymuso'r claf. Ac eto, yn y bôn, bydd y cynnig hwn yn dileu pob un o'r cynghorau iechyd cymuned lleol—y bobl ar lawr gwlad, y bobl a all gerdded i mewn i ward 2 yn Ysbyty Glangwili, ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg, sy'n mynd i Fronglais, yn mynd i unrhyw ysbyty yng Nghymru, a chael golwg arni mewn gwirionedd. Mae hyn yn mynd i gael gwared ar y bobl leol sy'n gallu gwrando ar bryder sydd gan breswylydd lleol am y gwasanaethau y mae yn eu derbyn. Mae'n mynd i gynnwys y cwbl mewn sefydliad cenedlaethol, cyffredinol—a hwrê, mae hynny'n swnio'n wych—ond, yn anffodus, rydym ni wedi gweld hyn dro ar ôl tro gyda Llywodraeth Cymru, lle nad yw'r cyrff cenedlaethol hyn, yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, yn syml yn cyflawni'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud. Ac o'r holl bethau y dylai GIG Cymru eu gwneud, dylai fod yn gwrando ar lais y claf, oherwydd mae'n ymwneud â phobl ac mae'n ymwneud â'r cleifion hynny.
Felly, rwy'n wirioneddol bryderus ynghylch y sylw yn eich datganiad am gyfuno hyn gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, oherwydd rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi'i thanariannu. Mae'n dal wedi ei thanariannu. Mae wedi cael llai o arian nag unrhyw arolygiaeth arall yng Nghymru—er enghraifft £3.5 miliwn o'i gymharu â £13 miliwn ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru a £11.3 miliwn ar gyfer Estyn. Hwn hefyd yw'r unig gorff arolygu o'i fath yn y DU nad yw'n gwbl annibynnol ar y Llywodraeth y mae yno i gadw llygad arni. Mae hynny'n cael ei gadarnhau drwy edrych ar Adolygiad Marks yn 2014, lle soniodd adolygiad Marks eto am y diffyg pwyslais, bod y pwyslais yn rhy gul ac, wrth gwrs, yr holl adroddiadau gwych hyn sy'n cael eu llunio mewn modd adweithiol ac yn diflannu i ebargofiant. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwynt allweddol iawn, Gweinidog, oherwydd, wrth gwrs, mae sefydliadau fel AGIC yn ymateb i ddigwyddiad. Maen nhw'n dod i mewn wedyn ac yn dechrau clirio'r llanast. Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn aml iawn ar y rheng flaen ac maen nhw'n gallu ymyrryd ar y dechrau pan fydd problem yn codi yn y lle cyntaf.
Felly, hoffwn ddeall sut yr ydych chi'n gweld y bydd yr AGIC gwan iawn a diddannedd yn gallu cefnogi eich corff cenedlaethol newydd, oherwydd mae'r gwrthwynebiad yn seiliedig ar y gred, os collwn ni ein Cynghorau Iechyd Cymunedol annibynnol, rydym ni'n colli'r gallu i ddwyn ein gwasanaethau iechyd i gyfrif. Ac a siarad yn blaen, roedd y datganiad i'r wasg gwasaidd ar y naw a ryddhawyd y bore yma gan Gonffederasiwn y GIG, yn awgrymu i mi, os nad oedd dim arall, fod y byrddau iechyd yn gorfoleddu a llawenhau, oherwydd bod hyn yn tawelu llais. Nid ail-rymuso llais yw hyn.
Nid wyf yn deall—a byddwn wrth fy modd pe gallech chi esbonio wrthym ni—pam na wnaethoch chi'r penderfyniad i ehangu cylch gwaith y cynghorau iechyd cymuned presennol fel eu bod yn cynnwys gofal cymdeithasol yn ogystal â gofal iechyd, a pham na wnaethoch chi eu hariannu'n briodol, hyd yn oed pe baech yn eu rhoi mewn strwythur a fyddai'n rhoi mwy o gryfder i'r corff ymbarél hwnnw. Oherwydd y maen nhw wedi gwneud gwaith da iawn. Rwy'n gwybod nad yw'n gyson ledled Cymru. Felly, rwyf yn cefnogi'r ddadl ynghylch cysondeb. Ond pan gofiwch chi y cafodd cyngor iechyd cymuned, heb fod yn bell iawn yn ôl, ei fygwth â gwysiad llys am ddwyn ei fwrdd iechyd i gyfrif am ymarfer ymgynghori, yna mae hynny'n dweud wrthyf ble mae'r grym yn hyn o beth mewn gwirionedd. Hoffwn wybod—ac rwyf wedi dal eich llygad, Llywydd dros dro—hoffwn wybod sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod y llais hwnnw yn wirioneddol annibynnol—yn annibynnol arnoch chi, y Llywodraeth, yn annibynnol arnoch chi, y Gweinidog, yn annibynnol ar y byrddau iechyd, ac yn gwasanaethu'r claf. Gan mai dyna eu hunig swyddogaeth, ac rydym ni'n gweld nad yw'r cyrff cenedlaethol hyn yn gwneud hynny ac yn cael eu llyncu gan bartneriaethau rhanbarthol.
Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. Mae cefnogaeth eang i'r ddyletswydd ansawdd a'r ddyletswydd gonestrwydd. Roedd yr ymgynghoriadau ar y Papur Gwyrdd a'r Papur Gwyn yn dangos bod cefnogaeth eang. Byddwch yn gwybod am y mater ehangach sy'n ymwneud ag ansawdd; mae llawer o sylwebwyr sy'n meddwl mai dyna'r peth priodol i'w wneud. Cyfeiriais yn fy natganiad at gyngor Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac, yn wir, mae hynny wedi'i ddilysu gan yr adolygiad seneddol a'r ddyletswydd gonestrwydd y gwyddoch iddynt ddeillio o ymchwiliad Francis i Fwrdd Iechyd Canol Swydd Stafford.
Mae'r pethau hynny, wrth gwrs, yn werth eu gwneud, ac rydym ni yn y sefyllfa hon oherwydd ein bod wedi cael ymgynghoriadau priodol ar ddiwedd y tymor Cynulliad diwethaf. Mae'r Papur Gwyrdd a'n Papur Gwyn yn awr yn barod i gyflwyno cynigion deddfwriaethol. Gwrthodaf unrhyw awgrym, casgliad neu fel arall, fod hyn wedi'i ddal yn ôl yn fwriadol neu, yn wir, bod hyn yn syml yn cuddio malais ynglŷn ag awydd i gael gwared ar lais y claf a chynrychiolaeth cleifion. I'r gwrthwyneb. A phan fydd Aelodau'n edrych ar fanylion y Bil a bwriad y polisi, gobeithiaf y bydd rhai o'r datganiadau a'r cyhuddiadau a wnaethpwyd a'r amheuon a ailadroddir yn rheolaidd yn tewi yn wyneb gwirionedd rhai o'r ffeithiau a realiti'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud o ran cryfhau llais dinasyddion ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol.
Fe wnaf i ymdrin â'ch cwestiwn am lefel y niwed cyn i'r ddyletswydd gonestrwydd fod yn berthnasol cyn imi ymdrin â'r sylw am AGIC ac yna corff llais y dinesydd.
Er ein bod yn gosod trothwy, rydym ni'n siarad am fwy na dim ond ychydig o niwed cyn i'r ddyletswydd gonestrwydd fod yn berthnasol. Felly, rydym ni'n edrych mewn gwirionedd ar lefel gymharol isel ac yna ar ddeall sut y byddech chi'n disgrifio'r amrywiaeth honno o amgylchiadau ac yn darparu rhywfaint o arweiniad ar hynny. Dylai hynny gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys, wrth gwrs, cynrychiolwyr cleifion a lleisiau cleifion hefyd. Yn sicr does dim awgrym y byddwn ni'n mynd i ystafell yn llawn cyfreithwyr a fydd yn ceisio amddiffyn y GIG rhag unrhyw fath o gŵyn ac i wneud yn siŵr bod y ddyletswydd gonestrwydd yn ddiystyr. Ni fyddai diben deddfu ar ei gyfer a siarad am 'fwy na'r niwed lleiaf' yn sbarduno'r ddyletswydd, pe baem ni wedyn yn penderfynu ein bod yn canfod ffordd o wyrdroi'r cyfan yn llwyr a sicrhau nad oedd yn effeithiol o gwbl. Ac rwy'n gobeithio, unwaith eto, pan ddeuwn ni at fanylion y craffu—ac rwy'n sylweddoli na fyddwch chi wedi darllen drwy'r Bil i gyd mor fanwl ag y byddech yn ei ddymuno a'r memorandwm esboniadol—efallai y byddwn ni'n mynd y tu hwnt i'r man cychwyn.
O ran AGIC, mae'n rhaid imi atgoffa unrhyw wleidydd Ceidwadol yn rheolaidd pan fyddant yn sôn am gyllid: ni allwch chi osgoi canlyniadau cyni. Rwy'n gwybod fod pobl yn griddfan ac yn cwyno amdano ar y seddi Ceidwadol yn y fan yma pan soniwn ni am gyni, ond mae gwir effaith y dewisiadau yr ydym ni wedi'u gwneud yn sicrhau—. [Torri ar draws.] Mae dewisiadau anhygoel o anodd ym mhob un gwasanaeth cyhoeddus o werth. Ac fel Gweinidog Iechyd, dydw i ddim yn gosod y gyllideb ar gyfer AGIC, oherwydd wrth gwrs byddai'n gwbl anghywir imi wneud hynny, oherwydd wedyn fe allech chi ddweud yn eithaf teg, 'rydych chi'n cymryd arian yn fwriadol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i'w hatal rhag gallu gwneud ei gwaith yn effeithiol.' Es ati yng nghylch diwethaf y gyllideb i symud arian o'r maes iechyd i'r gyllideb llywodraeth leol yn benodol ar gyfer AGIC, i sicrhau fod ganddi'r adnoddau priodol i wneud y gwaith y mae arnom ni eisiau iddi ei wneud. Felly, er bod gen i rywfaint o gydymdeimlad â rhai o'r pwyntiau a wnaethoch chi, nid oes gennyf unrhyw gydymdeimlad ag unrhyw siaradwr Ceidwadol sy'n cwyno am danariannu unrhyw wasanaeth cyhoeddus penodol.
Ac rwy'n meddwl bod cam-ddisgrifio swyddogaeth AGIC yn y sylwadau hefyd, ac rwy'n gobeithio, wrth graffu eto ar y Bil, bod dealltwriaeth gliriach o'r swyddogaethau a'r cyfrifoldebau sydd gan AGIC. Nid corff di-rym mohono—ddim o bell ffordd. Yn fy marn i, ar ôl inni ymdrin â'r pethau eraill yr ydym ni'n bwriadu eu gwneud o ran y ffordd y mae AGIC yn trefnu ac yn cyflawni ei swyddogaethau, byddwch yn gweld eto ein bod yn ceisio sicrhau ei bod hi wedi'i harfogi'n briodol i gyflawni'r swyddogaeth yr ydym ni eisiau iddi ei gwneud a thacluso'r ffordd y mae hi'n ymgymryd â'i gwaith. A bydd hynny'n cynnwys, wrth gwrs, lle'r corff hwnnw o fewn y Llywodraeth a'r tu allan iddi.
Trof, yn awr, at y corff fydd yn rhoi llais i'r dinesydd, y disgwyliaf y clywn ni fwy amdano heddiw, a dim ond i ymdrin â'r amlinelliad o'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud yn fwriadol, sef rhoi sail gadarnach i gorff llais y dinesydd ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r fframwaith deddfwriaethol sylfaenol ar gyfer cynghorau iechyd cymuned yn golygu mai dim ond ym maes iechyd y gallan nhw weithredu. Wrth i ni fynd ati'n fwriadol i geisio integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ni allwn ni gael corff newydd sy'n rhoi llais i ddinasyddion ac sy'n rhychwantu iechyd a gofal cymdeithasol heb newid y ddeddfwriaeth. Rydym ni'n mynd i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned gyda chorff newydd sy'n rhoi llais i'r dinesydd ym mhob agwedd ar faes iechyd a gofal cymdeithasol, ac ni fydd corff newydd yn cael ei sefydlu i roi llais i ddinasyddion oni bai a nes ei fod yn barod i wneud hynny, ac ar yr adeg honno bydd y cynghorau'n diflannu ac yn cael eu disodli. Nid ydym ni'n mynd i gael bwlch o flynyddoedd lawer heb ddim corff llais y dinesydd yn bodoli ym maes iechyd.
Ac, wrth i ni symud ymlaen gyda'r corff hwnnw, mae'n bwysig cydnabod y sefyllfa y mae'r cynghorau iechyd cymunedol ynddi erbyn hyn. Mae llawer o sylwadau wedi'u gwneud am golli annibyniaeth, ond mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar annibyniaeth nawr, un o'r problemau sydd gennym ni yw bod cynghorau iechyd cymuned yn cael eu cynnal gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Maen nhw'n cael eu cynnal gan un o sefydliadau'r GIG. Ni allan nhw gyflogi pobl yn uniongyrchol eu hunain; maen nhw'n dechnegol yn gyflogeion Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac mae hynny'n achosi problemau sylweddol. Ni allan nhw gael eu contractau eu hunain yn eu henw eu hunain, oherwydd eu trefniadau. Os na fyddwn yn eu tynnu allan ac yn eu creu yn gorff ar wahân, fel y mae'r Bil hwn yn bwriadu ei wneud, ni fyddwn yn gallu datrys y mater hwnnw. Ac yn yr un modd, rwyf i, yn rhinwedd fy swydd yn Weinidog, yn penodi hanner yr Aelodau i gynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd. Rwy'n penodi hanner ohonyn nhw'n uniongyrchol. Nid yw hynny ynddo'i hun yn gwneud synnwyr. Rydym ni'n awyddus i gael sefydliad priodol, lle bydd proses benodiadau cyhoeddus ar gyfer y bwrdd, ac yna byddant yn penderfynu pwy fyddant yn eu cyflogi a sut y byddant yn eu sefydlu eu hunain ar sail leol a rhanbarthol. Bydd y broses honno'n cael ei goruchwylio'n briodol gan y comisiynydd penodiadau cyhoeddus, yn union fel y mae gennym ni benodiadau ar gyfer cadeiryddion bwrdd y cynghorau iechyd cymuned nawr. Nid rhywun nad wyf i erioed wedi cyfarfod ag ef erioed yn fy mywyd o'r blaen, ond rhywun sydd wedi dod i'r amlwg fel y person a ddaeth i'r brig yn y broses recriwtio honno. Dyna'r hyn rydym ni'n disgwyl ei weld yn y dyfodol ar gyfer y corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd.
Ac o ran ein gallu i wneud yn siwr na fydd colli dylanwad ar lawr gwlad chwaith, byddwn yn cynnal sgwrs fwriadol ynghylch sut i sicrhau nad ydym ni'n colli'r hyn y mae'r cynghorau iechyd cymuned yn ei wneud ar hyn o bryd a'r gwerth a roddir arnynt, yn enwedig ym maes eiriolaeth ac o ran cwynion, ond o ran deall sut y bydd eu swyddogaeth yn cael ei hehangu ar draws meysydd ein sector iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, fydd dim colli staff, colli adnoddau; bydd mwy o adnoddau i'r corff newydd ac, mewn gwirionedd, mae'r corff newydd yn cymharu'n dda iawn â chyrff eraill ledled y DU o ran cyllid y pen.
Ac os yw pobl yn ymwneud yn agored â'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud, credaf y byddant yn gweld bod gonestrwydd pan fyddaf yn amlinellu bwriad y polisi ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud i ddatrys y problemau sydd gennym ni ar hyn o bryd, a rhaid i hynny olygu diwygio, oherwydd ni ddadleuodd neb o ddifrif ym mhroses y Papur Gwyrdd na'r Papur Gwyn mai dim newid oedd yr ateb. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau, pan fyddwn yn craffu, ychydig yn fwy tawel eu meddwl ynghylch y pryderon yr wyf yn cydnabod sydd gan bobl yn gyffredinol am y corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y dogfennau y mae wedi'u darparu inni. Ni fydd ein plaid yn gallu cefnogi'r ddeddfwriaeth fel y mae, ond rydym ni'n gwerthfawrogi rhai o'r egwyddorion y tu ôl iddi, a byddwn yn edrych drwy'r broses graffu i'w chryfhau lle gallwn ni oherwydd dyna fyddai ein dewis, wrth gwrs, yn hytrach na gwrthwynebu.
Sylw byr i ddechrau gyda golwg ar ambell agwedd y gallwn yn amlwg eu cefnogi. Mae ehangu'r corff llais y cleifion i gynnwys gofal yn ogystal ag iechyd yn gwneud llawer o synnwyr i ni; wrth gwrs, mae'n peri i rywun ofyn pam na all rhywun roi'r swyddogaeth honno i'r cynghorau iechyd cymuned rhanbarthol, ond dof yn ôl at hynny mewn munud. Ac mae'n amlwg yn gwneud synnwyr llwyr y dylai'r Gweinidog allu penodi is-gadeiryddion yr ymddiriedolaethau yn yr un modd ag y bydd yn penodi is-gadeiryddion y byrddau iechyd lleol. Gallai hynny, fel y dywedodd y Gweinidog, helpu gwella gwaith craffu.
Os caf i droi yn awr, Llywydd dros dro, at ein pryderon, byddaf yn dechrau gyda'r mater o ddeddfu ar gyfer ansawdd. Mae hyn bob amser wedi fy nharo i braidd yn od, sef y byddech yn tybio na fyddai gennym ni ddim gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru lle nad oeddem yn bwriadu i'r gwasanaethau a oedd i'w darparu fod o'r ansawdd uchaf posib. Ac nid ydym ni ar y meinciau hyn, mewn egwyddor, yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth honno, ond yn fy marn i mae'n rhaid i ddeddfwriaeth gael grym. Felly, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog heddiw: a fydd y ddeddfwriaeth hon ar gyfer ansawdd yn cyflwyno system lle mae goblygiadau i reolwyr unigol pan fydd methiant i sicrhau ansawdd?
Wrth gwrs, mae'n llygad ei le pan ddywed yn ei ddatganiad gydag unrhyw sefydliad o faint y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y bydd pethau'n mynd o chwith weithiau. Pan fydd pethau'n mynd o chwith, gwyddom y gall meddygon a nyrsys gael eu dwyn i gyfrif, ac yn wir, eu diarddel os byddant yn methu â darparu ansawdd y gwasanaeth a diogelwch y gwasanaeth y mae gan eu cleifion yr hawl i'w disgwyl. Felly, a fydd y ddeddfwriaeth hon yn rhoi mwy o rym i'r Gweinidog i ymdrin â rheolwyr pan fyddant yn methu â chyflawni? Rydym ni'n dal i gredu ar yr ochr hon i'r tŷ fod angen cofrestr arnom ni ar gyfer rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a bod angen ffordd i'w diarddel yn union fel y gallwn ni ddiarddel meddygon a nyrsys os methant â pherfformio. Felly, byddai'n dda gennyf glywed gan y Gweinidog heddiw a oes modd yn y ddeddfwriaeth hon deddfu ar gyfer ansawdd er mwyn sicrhau bod yr atebolrwydd unigol hwnnw'n cael ei gyflwyno.
I droi yn awr at gorff llais y dinesydd, hoffwn, os gwnaiff y Llywydd dros dro ganiatáu i mi, ddyfynnu grŵp o gleifion, sy'n rhoi sylwadau ar y ddeddfwriaeth hon:
Mae diddymu'r cynghorau iechyd cymuned yn gwbl groes i resymeg. Yn achos Tawel Fan, y cynghorau iechyd cymuned yn aml oedd yr unig ffynhonnell gefnogol o gymorth a chefnogaeth annibynnol—swyddogaeth yr oeddent yn ymgymryd â hi heb ofn na ffafriaeth. Mae dileu'r hawl i wneud ymweliadau dirybudd mewn difrif yn golygu cael gwared ar graffu diduedd.
Nawr, beth bynnag a wnawn ni gyda'r ddeddfwriaeth hon, gobeithiaf y bydd y Gweinidog heddiw'n ailystyried y cymal hwnnw a fyddai'n dileu'r hawl i ymweld yn ddirybudd. P'un a yw'n gorff cenedlaethol, p'un a ydym yn parhau â mwy o gynghorau iechyd cymuned lleol, mae'n gwbl hanfodol bod y rheini sy'n gyfrifol am eiriol dros y claf yn gallu ymweld ar yn union adeg lle nad oes neb eisiau iddyn nhw wneud hynny. Fel arall, mae perygl y byddan nhw'n ddibwrpas, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog, wrth lunio'r ddeddfwriaeth, yn ystyried newid hynny.
Bydd y Gweinidog yn deall, rwy'n siŵr, y pryderon y mae pobl yn eu mynegi y byddai'r corff cenedlaethol newydd hwn yn ymbellhau o'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Dydw i ddim yn credu bod hynny'n anochel; credaf y gellid rhoi sylw i hynny, ond tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw: a yw'n deall bod hynny'n bryder ystyrlon, a pha ystyriaeth y mae wedi'i rhoi eisoes i'r modd y gellid mynd i'r afael â hynny? Wrth gwrs, bydd yn wir, meddai yn ei ymateb i Angela Burns, y bydd yna gynrychiolaeth ar lawr gwlad o hyd, ond bydd y rhai sy'n gyfrifol am y gynrychiolaeth honno yn bell iawn o'r rheng flaen os yw'n gorff cenedlaethol. A bydd angen cryn argyhoeddi arnom ni mai dyma'r ffordd gywir o fynd ati.
Cyfeiriodd y Gweinidog yn ei ymateb i Angela Burns at y broses benodi, a tybed a all roi sicrwydd pellach inni ynghylch sut y bydd hynny nid yn unig yn annibynnol ond yn cael ei gweld fel proses annibynnol. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn penodi hanner yr Aelodau'n uniongyrchol, ond mae gan awdurdodau lleol fewnbwn, mae sefydliadau'r trydydd sector yn cyfrannu at hyn, ac mae hynny'n golygu bod pobl yn cael rhyw sicrwydd bod y cynghorau iechyd cymuned presennol yn annibynnol. Nid oes neb, wrth gwrs, yn dweud eu bod yn berffaith. Mae yna faterion, er enghraifft, sy'n ymwneud â chael digon o gapasiti i allu cael cyngor cyfreithiol o'r ansawdd gorau. Credwn y gellid mynd i'r afael â hynny drwy rannu gwasanaethau yn hytrach na chreu un corff newydd, ond gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn cydnabod heddiw fod y pryderon am annibyniaeth yn rhai dilys ac y bydd yn ceisio mynd i'r afael â'r rheini drwy broses y Bil.
Trof yn fyr at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd wrth Angela Burns. Rydym ni yn croesawu'r gwaith o ystyried rhoi sail ddeddfwriaethol wahanol i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ond a all y Gweinidog ddweud ychydig wrthym ni heddiw ynglŷn â beth yw'r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw? Oherwydd mae hi'n glir—a byddwn yn rhoi o'r neilltu am y tro y materion ynghylch adnoddau, er bod y rheini'n bwysig, ond mae'n amlwg bod angen i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod yn fwy amlwg yn annibynnol a bod yn gryfach o ran deddfwriaeth. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni faint o amser y mae'n credu y bydd yn ei gymryd i gwblhau'r darn hwnnw o waith y mae'n sôn amdano yn ei ddatganiad.
Yn olaf, gan droi at y ddyletswydd gonestrwydd, nawr, unwaith eto, ni fyddai neb yn anghytuno y bydd hynny'n gam ymlaen ac y bydd hynny'n welliant, ond byddwn yn dadlau, Llywydd dros dro, nad yw rhoi'r cyfrifoldeb hwnnw ar gyrff yn ddigonol. Mae'r Gweinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at y sefyllfa yng Nghwm Taf. Wel, byddai rhoi dyletswydd gonestrwydd ar y corff hwnnw yn enghraifft wych o godi pais ar ôl piso. Gwyddom, yn y sefyllfa honno, naill ai nad oedd rheolwyr Cwm Taf yn gwybod beth oedd yn digwydd, ac os felly roeddent yn anghymwys, neu eu bod yn gwybod ac yn dewis peidio â'i gyhoeddi, ac yn yr achos hwnnw roeddent yn anonest ac yn llwgr. Yn y naill achos neu'r llall, ni allaf weld sut y byddai gosod dyletswydd gonestrwydd gyfreithiol arnynt yn gwneud y mymryn lleiaf o wahaniaeth o ran p'un a ydynt yn gweithredu'n briodol ai peidio. Mae llawer o bethau eraill y mae angen eu gwneud. Credwn fod angen rhoi dyletswydd gonestrwydd ar staff, er mwyn grymuso chwythwyr chwiban. Os oes ganddyn nhw ddyletswydd gyfreithiol a'u bod yn gallu dweud wrth eu rheolwr, 'mae'n rhaid imi sôn am yr hyn yr wyf wedi'i weld gan fod gennyf ddyletswydd gonestrwydd gyfreithiol', gallai hynny gefnogi'r ddyletswydd gonestrwydd gyfreithiol sydd ar y cyrff iechyd, na fyddem yn anghytuno â hi ond nad ydym ni'n teimlo ei bod yn ddigonol.
I gloi fy sylwadau, Llywydd dros dro— gallaf weld eich bod yn edrych arnaf, ac yn gwbl briodol mae'n debyg—mae bwriad y ddeddfwriaeth hon yn amlwg yn dda, ond fel yr arferai un o fy athrawon ysgol ddweud wrthyf pan oeddwn yn ifanc sef bod uffern yn llawn o fwriadau da. Bydd angen inni graffu ar hyn yn fanwl iawn. Ac mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hyn, y bydd yn croesawu'r gwaith craffu hwnnw. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae gwendidau o ran y ddyletswydd gonestrwydd, dydw i ddim yn gwybod yn union beth yr ydym ni'n mynd i'w gyflawni gyda deddfu ar gyfer ansawdd os nad ydym ni'n gwneud y pethau eraill sydd angen i ni eu gwneud, ac rwyf ymhell o gael fy argyhoeddi y dylai un corff cenedlaethol ddisodli'r cymunedau iechyd cymunedol, y mae, yn ddiau, angen eu cryfhau.
Unwaith eto, diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Ni fyddaf yn gallu rhoi'r ateb yr ydych chi wedi gofyn amdano heddiw ynglŷn â deddfwriaeth ar gyfer AGIC yn y dyfodol a'r amserlen, oherwydd nid wyf mewn sefyllfa i gyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer y dyfodol, ond mae'r gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod gennym ni sylfaen gadarnach—nid oes angen deddfwriaeth sylfaenol arnom ni ar gyfer rhai agweddau o hynny chwaith. Felly, rwy'n bwriadu gwneud y defnydd gorau o'r pwerau sydd gennym ni eisoes, sy'n rhan o'n her, ac ni fyddaf yn cael fy nargyfeirio yn ormodol i siarad am y ffordd y mae Brexit wedi effeithio ar ein gallu fel Llywodraeth i wneud ystod o bethau eraill, ond mae adnoddau'n cael eu cyfeirio'n fwriadol i'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o ymadael heb gytundeb, a byddwch yn gweld mwy o'r gwaith hwnnw'n digwydd yn y cyfnod cyn mis Hydref. Treuliais oriau lawer yn eistedd wrth ddesg yn edrych ar offerynnau statudol y mae'n rhaid iddyn nhw fod yn barod ac wedi eu paratoi, ac mae hynny'n amser nad yw ein drafftwyr, ein gwasanaethau cyfreithiol, yn ei dreulio ar gyflawni meysydd gwaith pwysig eraill, ac amser Gweinidogion sy'n cael ei dreulio yn gwneud hynny. Pan ddywedaf oriau lawer, rwy'n golygu sawl diwrnod—diwrnodau maith o amser—ac nid oes modd osgoi hynny. Y gwir amdani yw mai'r maes sydd wedi tyfu fwyaf yn y gwasanaeth sifil dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yw ein cyfreithwyr ni, ac nid wyf yn credu mai dyna'r flaenoriaeth gywir, a dywedaf hynny a minnau'n gyn-gyfreithiwr.
Byddaf yn ymdrin â'ch sylwadau am ansawdd a gonestrwydd, ac yna ceisiaf ymdrin â'r sylwadau a wnaethoch chi am gorff llais y dinesydd. O ran y ddyletswydd ansawdd, credaf, wrth edrych ar y manylion sydd yn y ddeddfwriaeth, y gwelwch ail-fframio bwriadol i'w wneud yn ddyletswydd fwy hollgynhwysol, oherwydd gyda'r dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd rydym ni'n ceisio creu rhywfaint o newid diwylliannol. Ceir rhai agweddau mwy anodd yn hynny o beth o ran adrodd, er enghraifft, ynghylch y ffaith bod angen i gyrff iechyd lunio adroddiad blynyddol—i ddisodli datganiad ansawdd presennol ag un mwy estynedig, i ehangu'r amrediad o gyrff iechyd sydd â'r ddyletswydd i lunio adroddiad o'r fath, ac, yn yr un modd, i Weinidogion Cymru. Felly, bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad gerbron y Cynulliad bob blwyddyn am y ddyletswydd ansawdd i ddangos sut y dylid cynnwys hynny wedyn ym mhenderfyniadau'r Cabinet ac a oes unrhyw newid yn y canlyniadau yn sgil hynny hefyd. Felly, rwy'n credu y byddwn ni'n cael sgwrs fwy cyflawn i wneud yn siŵr bod hynny wedi'i ymgorffori'n briodol yn ein proses gynllunio, nid dim ond ein rhaglenni sicrhau ansawdd a gwella ansawdd hefyd. Ac mae hyn yn deillio o ddiweddaru'r cyngor a gawsom ni ynghylch yr adolygiad seneddol, gyda'r adolygiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hefyd, i wneud mewn gwirionedd yr hyn yr ydym ni'n ei ddeall ar hyn o bryd yw'r peth priodol i'w wneud, a gobeithiaf, wrth inni fynd drwy'r broses graffu, y bydd yr Aelod ac eraill yn edrych ar yr hyn sy'n cael ei gynnig a'r dystiolaeth ynghylch hynny hefyd.
O ran eich sylw am y ddyletswydd gonestrwydd—unwaith eto, cafwyd cefnogaeth sylweddol yn yr ymgynghoriadau ar y Papur Gwyrdd a'r Papur Gwyn, ac, unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â sbarduno rhywfaint o newid diwylliannol i roi dyletswydd ar sefydliadau sy'n ategu'r dyletswyddau proffesiynol sydd gan lawer o'n staff. Oherwydd, mewn gwirionedd, gwelsom os ydych chi'n edrych ar ble mae gofal iechyd wedi mynd o chwith, a bod her ddiwylliannol, systemig yn rhan o hynny, ei fod yn aml oherwydd bod ein staff proffesiynol wedi gwneud adroddiadau, wedi crybwyll pryderon, ac nad ydyn nhw wedi cael eu gweithredu. A dydyn nhw ddim wedi cael eu gweithredu ar lefel sefydliadol, a dyna'r her yr ydym ni'n ei gweld mewn gwirionedd mewn rhan sylweddol o'r hyn sydd wedi digwydd yn hen ardal Cwm Taf. Nawr, dylai'r gofyniad i fod â dyletswydd gonestrwydd mewn corff atgyfnerthu difrifoldeb y pryderon a grybwyllir a'r ddyletswydd i ymateb ac ymdrin â nhw, ac, yn yr un modd, dylai gael effaith ar bennaeth sefydliad, ac ar fyrddau eu hunain, hefyd. Pan fydd yn rhaid iddyn nhw ystyried y ddyletswydd gonestrwydd i ddeall, eto mewn adroddiad blynyddol, sut a phryd y mae hynny wedi'i weithredu, bydd yn ailamlygu nifer y meysydd lle dylai hynny fod wedi digwydd. Ac mae hyn yn rhan o newid diwylliannol yr ydym ni mewn gwirionedd yn ceisio'i gyflwyno ac yn gweld corff llais y dinesydd fel rhan o'r newid diwylliannol hwnnw hefyd. O wybod bod dyletswydd o ran ansawdd a gonestrwydd, credaf y dylai hynny eu helpu yn eu gwaith i sicrhau eu bod yn deall yr hyn sy'n digwydd ym mhob un o'n sefydliadau ac i wneud yn siŵr eu bod yn cynrychioli ac yn eiriol yn briodol dros lais y dinesydd.
Dof yn ôl nawr at y pryderon ynghylch pa mor annibynnol, mewn gwirionedd, fydd y corff llais y dinesydd. Wel, fel y dywedaf, bydd yn fwrdd, drwy broses briodol o benodiadau cyhoeddus, a oruchwylir gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, a bydd y bwrdd hwnnw wedyn yn gyfrifol am y sefydliad cyfan ledled y wlad, gan gynnwys eu strwythurau lleol a rhanbarthol. Yn hytrach na bod y Llywodraeth yn nodi'n haearnaidd, 'Dyma'r strwythur y mae'n rhaid ichi ei gael', bydd yn rhaid iddo amlinellu hynny. Bydd dyletswydd arno i nodi yn ei gynllun gwaith blynyddol sut y mae'n bwriadu ymgymryd â'i ddyletswyddau. Yna, bydd yn darparu adroddiad blynyddol ac yna cynllun ar gyfer y flwyddyn i ddod hefyd. Felly, bydd eglurder a chraffu gwirioneddol ar y gallu i graffu ar y corff hwnnw i weld lle'r ydym ni wedi ymgymryd â'r gweithredu hwn, sut y mae'n cyflawni ei genhadaeth ledled y wlad, yn hytrach na Gweinidog yn y Llywodraeth yn y ddeddfwriaeth yn nodi'r strwythur sefydliadol y mae'n rhaid iddo ei gael. Ond byddwn yn sicr yn disgwyl i'r corff hwnnw gael pwyslais lleol a rhanbarthol priodol hefyd. Ond mater i'r corff fydd penderfynu.
Ac o ran ymweliadau—edrychwch, mae hon yn her ynglŷn â'r ffin rhwng corff llais y dinesydd a lle mae'r arolygiaeth yn cynnal arolygiadau priodol, ond yr ymweliadau, y deallwn fod y cynghorau iechyd cymuned yn eu gwerthfawrogi a sut yr ymgymerir â nhw'n briodol—. Ac rwyf yn disgwyl gallu darparu canllawiau ynglŷn â hynny i amlinellu pwerau a swyddogaethau, ond rhan o hyn yw—wrth inni ddisgwyl cyflwyno system newydd, gan ein bod yn disgwyl cael dull gweithredu mwy integredig tuag at iechyd a gofal cymdeithasol, bydd llawer o'r gwaith y byddwn ni yn ei arsylwi mewn cartrefi pobl. Oherwydd nad oes modd cael pŵer syml i fynnu mynediad i ble bynnag y mae gofal yn digwydd, oherwydd os wyf yn eistedd yn fy ystafell fyw, boed hynny'n iechyd neu'n ofal cymdeithasol, ni ddylai trydydd parti allu dweud, 'Mae arnaf angen cael mynediad i'ch cartref', boed y cartref hwnnw'n dŷ teras neu yn gartref gofal preswyl. Felly, mae her o ran gwneud yn siŵr bod gennym ni ddyletswyddau a chyfrifoldebau sy'n cydnabod sut mae gofal yn cael ei ddarparu. Rwyf eisiau canfod ateb i hynny, a bydd gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn y sylwadau y mae'n rhaid i'r Aelodau eu gwneud a'r dystiolaeth a roddir yng Nghyfnod 1, i feddwl sut yr ydym ni'n gwneud yn siŵr ac yn llunio ffordd ddefnyddiol o sicrhau bod y ddyletswydd yn bodoli ac i wneud yn siŵr y gall cynghorau iechyd cymuned a'r corff newydd fydd yn llais i ddinasyddion ymgymryd â'u swyddogaeth ac y gallant gefnogi'r dinesydd i sicrhau bod llais y dinesydd yn cael ei glywed a'i barchu'n ddiffuant.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog, yn ogystal â'ch datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddoe ynglŷn â'r Bil. Rhaid imi gyfaddef, nid oedd 24 awr yn amser hir iawn i amsugno'r memorandwm esboniadol, ond mae gennyf ddigon o fanylion i gael hanfod y ddadl.
Gweinidog, fel yr wyf wedi dweud wrthych chi yn y gorffennol, rwyf yn derbyn nad oedd popeth yn fêl i gyd gyda'r cynghorau iechyd cymuned, fodd bynnag, teimlaf fod angen diwygio ac nid distrywio llwyr. Er nad oedd rhai cynghorau iechyd cymuned yn gweithio yn ôl y bwriad, roedd cynghorau iechyd cymuned eraill, yn enwedig yn y gogledd, mewn gwirionedd yn eiriolwyr glew dros y cleifion. A derbyniaf nad oedd pob cyngor iechyd yn gweithredu fel hyn, ac yn aml yn gwneud dim mwy na rhoi sêl bendith ar benderfyniadau'r byrddau iechyd lleol, ond mater yn ymwneud â chapasiti ac annibyniaeth oedd hyn.
Gyda rhai newidiadau strwythurol a'u diwygio i fod yn gorff cenedlaethol gyda phwyllgorau rhanbarth, gallem fod wedi cryfhau llais y claf. A dyma yw amcan yr ymarfer, onid e? Gwella llais y claf a'i gryfhau. Yn hytrach, mae gennym ni Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) sy'n mygu llais y claf.
Gweinidog, a allwch chi egluro pam y bu ichi ddileu'r gallu i'r corff newydd fydd yn rhoi llais i'r dinesydd wneud ymweliadau arolygu â wardiau ysbytai a herio newidiadau i wasanaethau? Ni fydd y corff newydd hwn ond mor gryf â'r bobl sy'n ei wasanaethu. Gweinidog, mae eich Memorandwm Esboniadol i'r Bil yn sôn am annog sylfaen wirfoddoli fwy amrywiol. Felly, pa brosesau a fyddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y gwirfoddolwyr hyn yn cael digon o hyfforddiant i'w galluogi i herio awdurdod, i sefyll fel llais cryf, gwirioneddol annibynnol a gwleidyddol niwtral ar gyfer cleifion? I'r perwyl hwnnw, sylwaf eich bod yn cynnwys is-gadeiryddion ymddiriedolaethau ysbytai. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod yr is-gadeiryddion hyn yn benodiadau clinigol yn hytrach na gwleidyddol?
Er bod gennyf bryderon difrifol ynghylch llawer o'r Bil hwn, rwyf yn croesawu'r ddyletswydd gonestrwydd; mae'n hen bryd ei chael. Mae wedi bod tua phum mlynedd ers i adolygiad Evans alw am ddiwylliant o beidio â rhoi bai. Fodd bynnag, fel y noda Conffederasiwn y GIG, mae angen mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae'r ddyletswydd hon yn ei olygu mewn gwirionedd a sut y bydd yn cyd-fynd â pholisïau presennol. Pa swyddogaeth fydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru wrth ddatblygu'r ddyletswydd a chyflwyno hyfforddiant i bob aelod o staff?
Diolch ichi unwaith eto, Gweinidog. Edrychaf ymlaen at y craffu manwl. Byddaf yn gweithio gydag Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i wella'r Bil hwn. Diolch yn fawr.
O ran eich sylw olaf, wrth gwrs bydd angen hyfforddiant ar gyfer yr holl wasanaethau a'r system i gyd i sicrhau bod pobl yn gyfarwydd â'r system newydd yr ydym ni'n bwriadu ei chyflwyno, ac i fod yn gwbl barod ar ei chyfer er mwyn sicrhau'r budd yr ydym ni'n ei ddymuno i staff a phobl fel ei gilydd.
O ran eich sylw am is-gadeiryddion, credais imi eich clywed yn dweud eich bod eisiau sicrwydd na fydd is-gadeiryddion yn benodiadau gwleidyddol ond y byddant yn benodiadau clinigol. Nid yw is-gadeiryddion yn benodiadau gwleidyddol; maen nhw'n mynd drwy broses briodol o benodiadau cyhoeddus eisoes, a bydd hynny'r un fath ar gyfer is-gadeiryddion ymddiriedolaethau GIG. Ac nid penodiadau clinigol mohonyn nhw chwaith; mae gan is-gadeiryddion swyddogaeth o ran llywodraethu ac arwain, ac rydym ni'n awyddus i reoleiddio hynny gyda'r byrddau iechyd, yn hytrach na rhoi cyfrifoldebau ychwanegol i is-gadeiryddion presennol yr ymddiriedolaethau. Nid yw hynny'n ffordd foddhaol o fwrw ymlaen ac, mewn gwirionedd, mae cefnogaeth eang dros ddymuno gwneud hynny.
O ran eich sylw ynglŷn â newid gwasanaethau: nid oedd y cynghorau iechyd cymuned eu hunain a'r bwrdd cenedlaethol o gynghorau iechyd cymuned yn dadlau dros gadw pŵer i gyfeirio mewn cynigion i newid gwasanaethau. Mewn gwirionedd mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr agwedd am ymgysylltu parhaus, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hyn yn rhywbeth sydyn sy'n cael ei roi i bobl ag ychydig wythnosau o rybudd, ond y ceir ymgysylltu llawer mwy trylwyr ac eang, dros amser, wrth i gynigion gael eu datblygu. Oherwydd nid yw ein gwasanaeth iechyd a'n system gofal cymdeithasol yn gallu sefyll yn eu hunfan; rhaid cael esblygiad a diwygio cyson. Rwy'n disgwyl diwygio'r canllawiau ar y newid yn y gwasanaeth, a byddwn yn dal i ddisgwyl y bydd ymgynghori ac ymgysylltu â'r corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd yn ymwneud â chynigion o ran newid gwasanaethau, a gobeithiaf y gallwn ni, wrth ddiwygio'r canllawiau hynny, ailadrodd hynny a gwneud hynny'n glir, ac rwy'n disgwyl y bydd cwestiwn tebyg yn cael ei ofyn drwy waith craffu'r pwyllgor, felly byddaf yn falch o ailadrodd y pwynt ehangach hwnnw.
Ac i ddychwelyd eto—nid arolygiaeth fydd y corff newydd fydd yn llais i'r dinesydd. Nid oes gan gynghorau iechyd cymuned unrhyw fwriad i fod yn ddewis amgen i swyddogaeth yr arolygiaeth. Dyma sut yr ydym ni'n gwneud yn siŵr bod llais y dinesydd yn cael gwrandawiad priodol, a sut y rhoddir cymorth i bobl yn rhan o hynny o ran eiriolaeth ym mhob agwedd ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae'n fwy nag eiriolaeth. Ac yn y Bil, byddwch yn gweld dyletswyddau lle mae'r corff llais y dinesydd yn gofyn am wybodaeth gan ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol, yna rhaid i bwy bynnag yw'r darparwr, ym mha bynnag faes iechyd neu ofal cymdeithasol, ymateb i gais rhesymol. Felly, mae pwerau yn y Bil i sicrhau bod y corff newydd yn gallu cyflawni ei swyddogaethau, oherwydd rwy'n wirioneddol edrych ar ddiwygio nid distrywio.
Rwy'n wirioneddol obeithio, wrth inni fynd drwy'r Bil hwn, y bydd Aelodau, unwaith eto, yn edrych ar yr hyn sy'n cael ei gynnig ac nid yn rhagdybio, 'mae'n rhaid bod hyn yn beth drwg, a gadewch inni frwydro nerth deng ewin', oherwydd, mewn gwirionedd, ni allwn ni ymestyn pwerau cynghorau iechyd cymuned. Mae angen inni gael corff priodol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd. Dylem fanteisio ar y cyfle i sicrhau bod ganddo sail annibynnol iawn i'w alluogi i wneud ei waith.
Ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod, wrth ddisgrifio gweithgareddau presennol y cynghorau iechyd cymuned mewn gwahanol rannau o Gymru, nad wyf yn gwybod am un ohonyn nhw a fyddai'n fodlon cael ei ddisgrifio fel cyfrwng i roi sêl bendith i'r bwrdd iechyd lleol. Mae gwahanol berthnasoedd, a phan ddônt i roi tystiolaeth, byddwn yn gofyn i'r aelod ailfeddwl am—credaf fy mod yn deall rhywfaint o'r pwynt y mae hi'n ceisio ei wneud—y modd y gwneir hynny mewn gwirionedd.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Cadeirydd dros dro. Beth bynnag, rwy'n falch iawn ac rwy'n croesawu gweld cyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n hoffi'r syniad o roi'r pwyslais ar ansawdd a gonestrwydd, ac ehangu'r diffiniadau y bydd corff llais y dinesydd i Gymru gyfan yn gallu gweithio o'u mewn. Rwyf eisiau ei gwneud hi'n glir iawn hefyd fod y cynghorau iechyd cymuned wedi gwneud gwaith rhyfeddol, ac maen nhw wedi gwneud hynny hyd eithaf eu gallu yn y rhan fwyaf o achosion, ac rwyf fi, o'm rhan fy hun, wedi gwerthfawrogi eu gwaith a'u cyngor a'u harweiniad yn y gorffennol. Dim ond eisiau dweud hynny ar goedd oeddwn i, oherwydd rwy'n siŵr bod eraill yn teimlo'r un fath.
Credaf ei bod hi'n briodol ein bod yn edrych ar gynllunio rhagweithiol a gwasanaethau diogel, effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gamu i'r dyfodol, ond credaf mai'r hyn sy'n angenrheidiol mewn gwirionedd, ac mae'n cael ei gyflawni yma, yw cydgysylltu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn sail i'r strwythur hwnnw—yn ogystal â bod yn genedlaethol, mae ar lefel ranbarthol a lleol. Oherwydd un o'r gwendidau a nodwyd ac y soniwyd amdano yma heddiw eisoes yw'r gwendid hwnnw yn y sector gofal cymdeithasol, lle mae'n amlwg na allai cynghorau iechyd cymuned ymweld.
Yr hyn rwy'n gobeithio bydd yn deillio o hyn yw creu ffin eglur rhwng pwy yw'r arolygiaeth a phwy yw'r corff sy'n monitro rhywfaint o gynnydd, ac rwy'n siŵr y daw'r manylion yn glir wrth inni edrych yn fanylach ar y cynigion hyn. Rwy'n credu mai'r broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd, os ydym yn dychwelyd at onestrwydd—yn aml iawn, mae ymgyfreitha'n rhwystro gonestrwydd ar hyn o bryd, ac mae hynny'n eithaf amlwg. Ni all hynny fod yn beth da ym mhob achos, felly rwy'n gobeithio, rywsut, y gallwn ni symud ymlaen i ymateb, efallai, llai gochelgar, oherwydd y bygythiad o ymgyfreitha a phenderfyniad agored a chlir yn y modd yr wyf newydd ei ddisgrifio—y cawn ni welliant effeithiol, diogel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn gwasanaethau. Oherwydd nid oes amheuaeth—ac rwy'n ddigon hen i gofio—y byddai gennych chi ychydig mwy o onestrwydd gan nad oedd gennych chi'r bygythiad eithaf o ymgyfreitha—. Credaf os gallwn ni ddychwelyd at hynny, y gallem ni wneud rhywfaint o gynnydd, efallai, mewn rhai achosion, ychydig yn gynt, ac mae hynny'n wir am y maes gofal cymdeithasol nawr, sy'n ehangu, a'r sectorau iechyd. Felly, edrychaf ymlaen, fel llawer o rai eraill yma, i weld hynt y gwaith hwn, ac, os mai dyna'r sefyllfa, y gwelliannau—os oes eu hangen—yn y trafodaethau hynny a gawn ni, nid dim ond ni yn y fan yma ymhlith ein gilydd, ond gyda'r bobl hynny yr ydym ni'n gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth iddynt.
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau, a chredaf ei bod hi'n bwysig—dyna'r pwynt yr oeddech chi'n ei wneud, Joyce Watson, ynglŷn â sicrhau bod hyn yn wir ym mhob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae'n ddiddorol ein bod ni wedi cydweithio â'r CLlLC a lleisiau ar draws Llywodraeth Leol ynglŷn â'r cynnig, gan gynnwys y corff newydd i glywed llais y dinesydd, lle ceir cynrychiolwyr etholedig, wrth gwrs, sy'n codi materion o fewn Llywodraeth Leol ar ran eu hetholwyr, a deall sut y byddan nhw'n gweithio gyda'i gilydd i wrando ar lais dinasyddion ac ymgysylltu â nhw. Ond mae'r dyletswyddau a bennwyd i ddod â gwybodaeth gerbron y corff newydd i glywed llais y dinesydd, fel y dywedaf, yn ymestyn ar draws iechyd a llywodraeth leol. Felly, rydym ni'n tynnu, yn wirioneddol ac yn fwriadol, y ddau sector ynghyd yn y ffordd yr ydym ni'n tynnu gofal ynghyd ar draws y ddau sector hynny hefyd.
Mae'n werth nodi hefyd y bu gan fwrdd cenedlaethol y cyngor iechyd cymuned agwedd gadarnhaol ar y cyfan ynglŷn â'r Bil yr ydym yn ei gyflwyno. Felly, efallai y dylai rhai Aelodau yn yr ystafell hon sydd wedi bod yn fwy beirniadol, edrych ar y ffordd yr ydym ni wedi gweithio o ddifrif cyn gwneud y datganiad, y ffordd y bydd sgyrsiau parhaus rhwng swyddogion yn fy adran i a bwrdd y cyngor iechyd cymuned i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas i gyflawni'r amcan yr ydym ni'n ei rannu, ac mae hynny'n cynnwys eglurder rhwng swyddogaeth arolygiaethau a swyddogaeth y corff i glywed llais y dinesydd. Nid wyf i'n credu bod awydd o fewn mudiad y cynghorau iechyd cymuned i gael y math hwnnw o orgyffwrdd annelwig rhwng arolygiaethau a chynghorau iechyd cymuned. Mae cyfle i gael hynny'n iawn nid yn unig o fewn y ddeddfwriaeth ond o fewn y canllawiau a'r hyn y bydd yn naturiol i ni adeiladu arno o ran y memorandwm o ddealltwriaeth sydd eisoes yn bodoli rhwng cynghorau iechyd cymuned a'n harolygiaethau ni erbyn hyn.
Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Joyce Watson yn un pwysig ynglŷn â'r effaith rhwng ymgyfreitha a'r ddyletswydd o ddidwylledd, ac nid yw ymgysylltiad â'r ddyletswydd o ddidwylledd yn gyfystyr â chyfaddefiad o esgeulustod. Cydnabyddiaeth yw hyn bod angen am sgwrs agored gyda'r dinesydd am yr hyn sydd wedi digwydd ym maes gofal iechyd, ac fe all mwy nag ychydig o niwed gael ei achosi yn y risgiau arferol yr ydym ni i gyd yn gwybod sy'n digwydd wrth ddarparu iechyd a gofal—ond bod yn agored o ran y ffaith bod rhywbeth wedi digwydd yn hytrach na dweud, 'Ni allaf i siarad â chi am fy mod i'n pryderu y byddwch chi'n mynd at gyfreithiwr.' Mae hynny'n rhan o'r her sydd gennym ni mewn diwylliant mwy caeedig sy'n fwy amddiffynnol. Mae hyn yn fwriadol yn rhan o'r ymgysylltu ar gyfer bod â diwylliant llawer mwy agored sy'n canolbwyntio ar welliannau, felly mae'n rhaid gweld didwylledd ac ansawdd gyda'i gilydd, ac rwy'n gobeithio, wrth i'r Aelodau fynd drwy'r broses graffu, y byddan nhw'n gweld nad ymdrech onest yn unig yw hon, ond, yn gyffredinol, bod yr ymagwedd yn y lle iawn gennym ni i gyflawni hynny mewn gwirionedd.
Diolch yn fawr, Weinidog ac Aelodau.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar aer glan. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Cadeirydd. Llygredd aer yw'r risg fwyaf difrifol o ran iechyd yr amgylchedd yr ydym ni'n ei hwynebu heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn lleihau'r graddau y mae pobl a'r amgylchedd naturiol yn agored i lygredd aer niweidiol drwy gyflwyno seilwaith newydd, atgyfnerthu rheoleiddio a gwneud gwaith cadarn o ran monitro a chasglu tystiolaeth.
Mae aer glân yn ganolog i'n llesiant, ac mae ein dull o fynd i'r afael â llygredd aer yn cael ei arwain gan y ffyrdd o weithio a nodwyd gan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae cyfradd llygredd nitrogen deuocsid yn un o'r dangosyddion cenedlaethol a sefydlwyd gan y Ddeddf, yr ydym yn ei defnyddio i fesur cynnydd tuag at ein nodau llesiant. Yn sgil yr effaith barhaus a gaiff materion ansawdd aer ar bobl a'r amgylchedd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Deddf Aer Glân newydd. Rydym ni wedi ymrwymo i gymryd pob cam ymarferol i wella ansawdd aer, nid yn unig yn y mannau mwyaf llygredig, ond ledled Cymru gyfan.
Mae llygredd aer yn cael yr effaith fwyaf ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas: plant, pobl hŷn, y rhai sydd â chyflyrau iechyd cronig, a phobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Mae llygredd aer yn effeithio ar gyflwr ein hamgylchedd naturiol hefyd, gan fygwth ein rhywogaethau planhigion mwyaf prin a'r rhai mewn perygl, ac yn achosi difrod mawr i gnydau a choedwigoedd. Yng Nghymru, y ffynhonnell o lygredd aer sy'n achosi'r broblem fwyaf yw traffig ar y ffyrdd, er bod llygredd gan ddiwydiant, amaethyddiaeth a thanau domestig yn gofyn am ein sylw ni ar frys hefyd.
Mae camau gweithredu gan y Llywodraeth a diwydiant dros y tri degawd diwethaf wedi arwain at gwymp sylweddol o ran rhai llygryddion aer, tra bod eraill heb newid fawr iawn ac mae rhai wedi gweld cynnydd bach hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cyfraddau o lygredd sy'n wynebu ein dinasyddion a'n hamgylchedd naturiol yn rhy uchel o hyd, ac mae cymryd camau pellach yn ofynnol.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi canllawiau ansawdd aer sy'n seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am effaith llygryddion aer ar iechyd pobl. Gyda rhai llygryddion aer, mae unrhyw lefel yn beryglus, ac, o dan yr amgylchiadau hyn, mae'r canllawiau yn awgrymu lefelau sy'n cynrychioli'r isaf gellir ei gyflawni. Bwriedir i'r canllawiau hyn fod yn fan cychwyn i lywodraethau cenedlaethol ddatblygu mesurau sy'n adlewyrchu'r ffactorau lleol y gwyddys eu bod yn dylanwadu ar effeithiau llygredd aer. Rydym ni'n ystyried y lefelau yng nghanllaw Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer deunydd gronynnol. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddeall yr agweddau ymarferol ar gyflwyno gwelliannau i ansawdd aer a llywio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae'r cyfyngiadau cyfreithiol presennol ar lygredd aer yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, ac yn pennu safon dderbyniol ofynnol. Mae'r angen am reolau ar lefel yr UE yn adlewyrchu'r ffaith nad yw llygredd aer yn parchu ffiniau cenedlaethol ac yn gofyn am ymateb ar y cyd ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Beth bynnag fydd canlyniad y broses Brexit, rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dulliau ni o ddiogelu'r amgylchedd yn gyson â'r rhai ar lefel yr UE, ac nid ydym ni am ostwng y safonau o gwbl.
Mae cyflawni yn erbyn y safonau hyn yn gofyn am weithredu ar y cyd ar draws y Llywodraeth a chymdeithas. Felly, mae'r cyfrifoldeb am fynd i'r afael â llygredd aer yn cael ei rannu ar draws y Cabinet i gyd. Rwyf i wedi bod yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar gamau i fynd i'r afael â'r gormodedd o nitrogen deuocsid mewn pum safle ar draws ein rhwydwaith strategol o draffyrdd a chefnffyrdd. Mae'n bleser gennyf i gyhoeddi y bydd terfynau cyflymder 50 milltir yr awr yn cael eu rhoi ar waith yn barhaol ym mhob un o'r pum safle erbyn canol mis Gorffennaf. Fe fyddwn ni'n ehangu'r cyfathrebu ynglŷn â'r rheswm dros y cyfyngiadau cyflymder ac yn gosod arwyddion traffig parhaol newydd ym mhob safle, fel y bydd y cyhoedd yn ymwybodol o bwysigrwydd y mesurau hyn.
Ar ddiwedd y mis hwn, rwyf i fod i gael adroddiadau astudiaeth o ddichonoldeb gan gynghorau Caerdydd a Chaerffili, yn amlinellu'r camau y byddan nhw'n eu cymryd i fodloni'r terfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr amserlen fyrraf bosibl. Bydd y cynlluniau yn cael eu hasesu yn annibynnol gan banel o arbenigwyr y mis nesaf, ac rwy'n bwriadu gwneud penderfyniad terfynol ar weithredu mesurau cyn gynted ag sy'n bosibl wedi hynny, yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor.
Mae sicrhau aer glân yn golygu ei bod yn rhaid i ni, fel cymdeithas, leihau ein dibyniaeth ar geir preifat ac annog pobl i gerdded, seiclo a defnyddio cludiant cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn helaeth mewn creu llwybrau teithio llesol ledled Cymru, ac mae dros £30 miliwn o fuddsoddiad ar y gweill a mwy yn yr arfaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd ein huchelgais ni i bob bws a phob tacsi fod yn isel eu hallyriadau carbon neu'n gwbl rydd o hynny erbyn 2028 yn sicrhau bod y defnydd cynyddol o gludiant cyhoeddus yn gallu cyfrannu at wella ansawdd yr aer, yn ogystal â'n symud ni tuag at economi carbon isel.
Mae angen newid y system gynllunio i fynd i'r afael ag ansawdd aer i atal problemau ansawdd aer cyn iddyn nhw godi. Yn dilyn newidiadau ar gyfer cryfhau'r gofynion i fynd i'r afael ag ystyriaethau ansawdd aer yn y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig, a gyhoeddwyd y llynedd, rwy'n falch fod swyddogion cynllunio a'm rhai innau yn datblygu nodyn cyngor technegol newydd ar gyfer cynllunwyr a datblygwyr ar ansawdd aer a seinlun, yn dilyn galwad â phwyslais am dystiolaeth yn ddiweddarach eleni.
Mae bod â'r dystiolaeth orau sydd ar gael yn hanfodol er mwyn i ni fanteisio i'r eithaf ar effaith gadarnhaol y mesurau yr ydym ni'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer. Ym mis Ebrill eleni, fe wnês i gomisiynu asesiad eang o fesurau i leihau allyriadau aml-lygredd a thraws-sector. Bydd yr ymchwil hwn yn darparu'r asesiad mwyaf manwl erioed o ansawdd aer ledled Cymru. Bydd yn ystyried yr ystod lawn o ymyraethau posibl ac yn eu hasesu ar sail gwerth am arian. Yn hollbwysig, bydd yn asesu effaith bosibl y mesurau hynny ar saith nod lles ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Caiff y dystiolaeth hon ei defnyddio i lywio ein cynllun aer glân i Gymru. Yn ei dro, bydd y cynllun yn nodi'r meysydd hynny sy'n gofyn am fynd i'r afael â'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth drwy ein Deddf Aer Glân.
O'n hanadl gyntaf hyd ein hanadl olaf, mae angen aer glân arnom ni i fyw bywydau iachach a hapusach. Mae'r camau yr wyf wedi eu disgrifio yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu seilwaith, tystiolaeth a rheoliadau newydd i helpu i gyflawni'r nod hwn. Ceir camau hefyd y gall pob un ohonom ni eu cymryd heddiw i osgoi peryglon llygredd aer. Fe allwn ni i gyd leihau ein cyfraniadau personol ni tuag at lygredd yn yr aer a'r amser y byddwn ni'n agored iddo. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda Global Action Plan am y tro cyntaf i ddathlu Diwrnod Aer Glân ar yr 20 o fis Mehefin. Mae'n hanfodol ein bod ni'n hysbysu pawb am achosion llygredd aer a'r swyddogaeth sydd gan bob un ohonom ni wrth fynd i'r afael ag ef. Felly, rwy'n annog Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol i gyd a phawb sy'n gwrando ar y ddadl hon i gefnogi'r ymgyrch Diwrnod Aer Glân ac ystyried yr hyn y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod Cymru'n anadlu aer glân.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies.
Diolch, Comisiynydd. Gweinidog, diolch am eich datganiad chi heddiw. Dyma un o'r meysydd lle'r ydym ni mewn angen taer o weld cynnydd sylweddol, gyda 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn ddim ond yng Nghymru yn unig. Mae hynny'n bump o unigolion y dydd sy'n marw'n gynamserol oherwydd yr ansawdd aer gwael sydd gennym ni yma yng Nghymru. Er enghraifft, mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefel uwch o ronynnau yn yr aer y mae pobl yn ei anadlu yn y ddwy ardal hynny nac yn Birmingham neu Fanceinion, ac, fel un sydd wedi bod yn ardal Birmingham a Manceinion dros y penwythnos, pan feddyliwch chi am faint y ddwy ardal hynny a lefel y llygredd a fyddai'n bosibl yn yr ardaloedd hynny, mae hynny'n ei gwneud hi mor amlwg pa mor bell ar ei hôl hi yr ydym ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu a gwella'r camau y mae'n eu cymryd yn y maes penodol hwn. Yn arbennig, ym mis Ionawr eleni, wrth gwrs, cyfaddefwyd nad oedden nhw'n bodloni eu gofynion cyfreithiol—neu nad oedd Llywodraeth Cymru yn bodloni ei gofynion cyfreithiol—felly, a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, y byddai hynny'n golygu, ar ôl y datganiad heddiw a'r camau gweithredu yr ydych chi wedi eu hamlinellu yn y datganiad, bod Llywodraeth Cymru bellach yn bodloni ei gofynion cyfreithiol o ran ansawdd aer, neu, os nad ydych chi'n bodloni'r gofynion cyfreithiol hynny, pryd fyddwch chi'n debygol o gyrraedd y lefelau sylfaenol a osodir o dan y gyfraith i chi fel Llywodraeth?
Roeddech chi'n sôn yn y datganiad am derfynau cyflymder o 50 milltir yr awr y byddwch chi'n eu sefydlu ar y rhwydwaith gefnffordd a thraffordd yng Nghymru; mae'n rhaid i mi ddweud, y byddai hynny'n gwireddu breuddwyd i lawer sy'n sefyll yn stond ar yr M4 bob dydd, ac mae'r llygredd sy'n deillio o draffig sy'n sefyll ar dair lôn—wel, chwe lôn, i bob pwrpas, oherwydd yn aml iawn bydd hyn i'r ddau gyfeiriad—yn broblem enfawr i bobl sy'n byw yng Nghasnewydd ac yn ardal y de-ddwyrain. Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi o ran eich ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus, ond, os ydych chi'n sôn am 50 milltir yr awr, byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud na fyddech chi'n beiddio mynd yn agos at 50 milltir yr awr y rhan fwyaf o adegau'r dydd ar y draffordd arbennig honno.
Ond rwyf yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall pam nad ydych chi'n dod i'r Siambr heddiw ac efallai'n croesawu rhai o'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu cymryd ynghylch ansawdd aer. [Torri ar draws.] Wel, dyna'r gwirionedd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd ei hun wedi dweud bod y datganiad a'r strategaeth y mae Llywodraeth y DU—ac rwy'n clywed rhywrai, ar eu heistedd, yn chwerthin, ond dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod y strategaeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei rhoi ar waith yn esiampl i weddill y byd ei dilyn. Felly, nid gwleidyddion sy'n dweud hynny, ond Sefydliad Iechyd y Byd. Ond rwy'n siŵr bod y cenedlaetholwyr yn gwybod yn well na Sefydliad Iechyd y Byd.
Felly, a gaf i ofyn—[Torri ar draws.] A gaf i ofyn pam nad yw'r Gweinidog wedi gweld yn dda efallai i fabwysiadu strategaeth o'r math hwn yng Nghymru, o gofio na fyddwn i'n awgrymu bod gwahaniaethau enfawr rhwng ein heconomi ni a'r hyn sy'n digwydd dros y ffin a Chlawdd Offa? Ac, os yw'r strategaeth honno'n ddigon cadarn gan Sefydliad Iechyd y Byd, pam nad ydym ni wedi mabwysiadu honno yma yng Nghymru?
Hefyd, rwy'n sylwi yn y datganiad fod y Gweinidog yn dweud bod ein polisïau a'n cyfreithiau yn seiliedig ar safonau'r UE. Mae'n ffaith bod safonau Sefydliad Iechyd y Byd, yn amlwg, yn uwch na'r safonau Ewropeaidd hynny ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fodloni'r safonau hynny. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y byddai'n sicr yn uchelgais gan Lywodraeth Cymru i ddarparu hyd at safonau Sefydliad Iechyd y Byd yn hytrach na safonau'r UE? Oherwydd fe fyddai hynny'n gweld newid sylweddol eto yn yr hyn y gallem ni ei gyflawni yma yng Nghymru. Rydych chi wedi sôn am Ddeddf aer glanach, Gweinidog; byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod—gan sôn am 2021, bod y Ddeddf honno'n dod ymlaen gan Lywodraeth Cymru, rwy'n amau fy mod i'n cofio bod honno'n flwyddyn etholiad i ni yma yn y Cynulliad, felly a yw hynny'n fwy o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai hyn yn eu maniffesto, neu a gaiff hyn ei gyflwyno a'i weithredu mewn gwirionedd erbyn 2021? Beth yw'r amserlen y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arni i gyflwyno Deddf o'r fath? Oherwydd rwy'n siŵr—. Credaf fod yna gefnogaeth drawsbleidiol i Ddeddf o'r fath, a byddai honno'n broses ddeddfwriaethol gymharol syml—efallai ei bod hi'n anghywir i ddweud bod unrhyw broses ddeddfwriaethol yn syml, ond mae cefnogaeth eang i weld deddfwriaeth yn y maes arbennig hwn.
Fe hoffwn i hefyd ddeall pam mae Caerdydd a Chaerffili—ac rwy'n gallu deall pam, oherwydd bod ganddyn nhw lefelau uchel iawn o lygredd—yn cyflwyno cynlluniau i chi ac rydych chi'n aros am y cynlluniau hynny, ond pam nad yw ardaloedd eraill yng Nghymru—ac rwyf i wedi tynnu sylw at Bort Talbot, er enghraifft—â'r un ymrwymiad i gyflwyno cynlluniau gweithredu o ran y ffordd y byddan nhw'n mynd ati i wella ansawdd yr aer y mae preswylwyr a busnesau yn yr ardaloedd hynny'n ei ddioddef ar hyn o bryd.
Fe hoffwn i dynnu eich sylw chi hefyd at y cynigion a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, o dan fy rhagflaenydd o ran y cyfrifoldeb portffolio hwn, sef David Melding, yn y ddogfen 'Liveable Cities', a oedd yn sôn am ddefnyddio'r system gynllunio ac yn sôn am greu parthau awyr glân. Ceir trywydd parod i gael cynnydd yn gyflym yn y maes arbennig hwn, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i wedi fy argyhoeddi, o ddarllen y datganiad hwn, ein bod ni'n mynd i gyflawni hynny. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed eich atebion.
Diolch, Andrew, am y cwestiynau a'r sylwadau yna. Yn benodol, mae gan Gaerdydd a Chaerffili bryderon penodol iawn ynghylch llygredd aer ac rwy'n gwybod bod fy swyddogion i wedi bod yn gweithio'n agos iawn, nid yn unig ers i mi fod yn y portffolio ond pan oedd Hannah Blythyn yn Weinidog yr Amgylchedd, i fynd i'r afael â'r pryderon hynny. Rydym ni wedi helpu i ariannu eu hastudiaethau dichonoldeb nhw ac fe fyddan nhw'n adrodd i mi erbyn diwedd y mis.
Roeddech chi'n sôn yn benodol am Bort Talbot, ac mae'n amlwg ein bod ni wedi cwblhau llawer o waith ar gyfer deall y problemau yn yr ardal honno o ran ansawdd aer. Hyd yma eleni, nid yw'r lefelau o ronynnau a gaiff eu monitro ar draws yr holl safleoedd monitro sydd gennym ni ym Mhort Talbot wedi sbarduno gweithredu drwy'r cynllun gweithredu tymor byr sydd gennym ni yn y fan honno ac rydym ni'n parhau i fod o fewn terfynau rhesymol. Ond eto, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw ar ben y gwaith, felly rwyf i wedi gofyn i'm swyddogion ailedrych ar y cynllun gweithredu tymor byr hwn i sicrhau mai honno yw'r ffordd orau o fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael ym Mhort Talbot.
Roeddech chi'n sôn am y pum safle 50 milltir yr awr. Mae hwn yn rhywbeth diddorol iawn yr ydym ni wedi ei gyflwyno. Mae gennyf i un yn fy etholaeth i fy hun, felly mae'n amlwg mai hwnnw yr wyf i'n gwybod y mwyaf amdano. Rwy'n aros i glywed beth yw canlyniad y parth 50 milltir yr awr neilltuol hwn. Fy mhryder i yw nad yw pobl yn cadw ato. Fe fyddaf i'n gyrru ar 50 milltir yr awr a bydd pobl yn fy ngoddiweddyd i, fe fyddwn i'n dweud, drwy'r amser. Rwy'n credu mai un o'r meysydd lle mae gennyf i bryderon—ac fe roddir sylw i hyn pan fyddwn ni'n cyflwyno'r pum safle ar sail barhaol—yw nad yw pobl yn deall pam maen nhw'n safleoedd 50 milltir yr awr. Felly, rwyf i o'r farn fod angen arwyddion yn dweud, 'Mae ansawdd aer gwael yn lladd, peidiwch â mynd mor gyflym.' Felly, rydym ni'n gweithio ar yr arwyddion hynny, oherwydd rwyf i'n sicr wedi clywed pobl yn dweud yn Wrecsam eu bod nhw'n credu mai'r cyflymder yw holl ystyr hyn ac yn holi pam nad yw'r heddlu'n ei orfodi. Felly, rwy'n credu bod angen i ni roi gwybod i'r cyhoedd pam y byddwn ni'n cyflwyno'r safleoedd 50 milltir yr awr—pam yr ydym ni wedi eu cyflwyno nhw, mae'n ddrwg gennyf i—a pham y byddwn ni'n eu gwneud nhw'n barhaol.
O ran Llywodraeth y DU, rwy'n hapus iawn i ddysgu oddi wrth Lywodraeth y DU pan fyddan nhw'n cyflwyno syniadau a chynlluniau a fyddai'n ein helpu ni, ac yn sicr rydym ni'n ymgysylltu â nhw ar faterion perthnasol o ran ansawdd aer, oherwydd fel y gwyddoch chi, swyddogaethau gweithredol cyfyngedig sydd gan Weinidogion Cymru. Os meddyliwch chi am reoleiddio adeiladu, er enghraifft, sy'n amlwg yn effeithio ar hyn, cyflenwad cerbydau modur, safonau i fanylebau cerbydau, er enghraifft—felly, rydym ni yn gweithio gyda Llywodraeth y DU.
Rydych chi yn llygad eich lle am ganllawiau iechyd y byd. Yn sicr, rwyf i wedi gofyn—rwy'n meddwl fy mod i wedi crybwyll yn fy natganiad fy mod i wedi gofyn i swyddogion edrych arnyn nhw. Rwy'n credu eu bod oddeutu 50 y cant yn fwy llym na lefelau'r UE. Felly, mae hwn yn sicr yn rhywbeth yr wyf i wedi gofyn i swyddogion edrych arno, ac rwy'n disgwyl am gyngor pellach ar y mater hwnnw.
Roeddech chi'n gofyn am y Ddeddf aer glân—roedd hwnnw'n ymrwymiad gan y Prif Weinidog yn ei faniffesto—ac roeddech chi'n holi ynghylch yr amserlen. Rydym ni am ymgynghori ar gynllun aer glân i Gymru yn yr hydref a bydd y cynllun yn nodi'r llygrynnau allweddol a'u heffeithiau ar iechyd y cyhoedd ac, wrth gwrs, ein hamgylchedd. Bydd yn cynnwys mesurau i sicrhau cydymffurfiad â'r holl ofynion deddfwriaethol. Bydd hynny wedyn yn llywio yr hyn y byddwn ni'n ei gyflwyno mewn Deddf.
Felly, ni allaf i roi amserlen i chi, ond yn sicr mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i gyflwyno hyn cyn gynted ag sy'n bosibl. Rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi am gytundeb trawsbleidiol—os oes unrhyw broses o ddeddfu yn hawdd, rwy'n credu eich bod chi'n iawn; fe allai hyn fod yn rhywbeth y gallem ni edrych arno. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr amserlen yn dilyn yr ymgynghoriad yn yr hydref.
Mae hi, wrth gwrs, yn wythnos aer glân ac mae'n rhaid i fi ddweud, Weinidog, roeddwn i wedi disgwyl rhyw ddatganiad neu ryw gyhoeddiad arwyddocaol yn eich datganiad chi y prynhawn yma, ond y cyfan rŷm ni wedi ei gael yw ategu, yn amlwg, eich bod chi'n ymrwymedig i Ddeddf aer glân i Gymru, ond dim manylion pellach ynglŷn â chynnwys posib i'r Ddeddf, a bach iawn o fanylion ynglŷn ag amserlen gosod Deddf o'r fath. Pa gynnydd ydych chi fel Llywodraeth wedi ei wneud yn y gwaith i ddatblygu'r Ddeddf yma?
Rŷch chi'n dweud yn y datganiad eich bod chi'n ymrwymiedig i gynllun aer glân i Gymru—rwy'n gwybod hynny'n barod—ond dim cynnydd. Hynny yw, rŷch chi newydd gyfeirio at ryw ddyddiad anelwig yn yr hydref ar gyfer ymgynghoriad, heb sôn am gyflwyno cynllun. Rŷch chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi'n ymrwymiedig i gymryd pob mesur ymarferol i wella ansawdd aer. Wel, ble mae'r camau ychwanegol, yn hytrach na ryw gyfeiriad at beth rŷch chi eisoes wedi ei gyhoeddi? Y cyfan sydd yn y datganiad yma yw re-hash o gyhoeddiadau blaenorol, ac mae'n rhaid i fi ddweud, mae hynny'n hynod, hynod siomedig.
Nawr, mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi codi'r mater yma'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi'n cofio dadleuon yn y Siambr yma flwyddyn a mwy yn ôl yn galw am weithredu brys. Mae Dr Dai Lloyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân yn y Cynulliad yma. Felly, pryd welwn ni gynllun aer glân yn gweld golau dydd? Nid yr ymgynghoriad—pryd ydych chi'n bwriadu gosod y cynllun ar waith? Pryd mae'r Llywodraeth yma yn bwriadu gosod Bil aer glân o flaen y Cynulliad yma? Roeddwn i'n gobeithio mai dydd Iau yma fyddai'r Dydd Aer Glân olaf inni yng Nghymru heb fod yna ddeddfwriaeth wedi ei mabwysiadu yn ei lle. A byddai hynny, wedyn, wrth gwrs, yn ein helpu ni i daclo melltith llygredd aer unwaith ac am byth. Felly, pryd ddaw e? Oherwydd os bydd yn rhaid inni aros blwyddyn arall, yna yr hyn mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs, yw y bydd Llywodraeth Cymru yn goddef 2,000 o farwolaethau ychwanegol yn sgil llygredd aer oherwydd yr oedi hynny, ac mae hynny'n sgandal. Mae'n sgandal cenedlaethol ac mae'n warthus.
Mae'r Llywodraeth, eich Llywodraeth chi, a'r Cynulliad yma wedi datgan argyfwng hinsawdd—argyfwng hinsawdd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan bod llygredd aer yn grisis iechyd cyhoeddus—yn grisis iechyd cyhoeddus. Nawr, nid diweddariad roeddwn i'n gobeithio ei gael yn y datganiad yma. Nid busnes fel arfer. Mae'n amser nawr i newid gêr ac i roi troed i lawr, ond beth rŷm ni'n ei gael yw Llywodraeth mewn awtopeilot, a dyw hynny ddim yn dderbyniol.
Rwy'n siomedig iawn bod Llŷr wedi cymryd y safiad yna. Rydych chi wedi clywed fy ateb i Andrew R.T. Davies ynghylch y Ddeddf aer glân. Hefyd, rydych chi wedi clywed—rwy'n credu eich bod chi yn y Siambr—Vaughan Gething yn dweud am y—. O ran deddfwriaeth, roedd Vaughan Gething yn siarad am offerynnau statudol; rwyf i wedi cwblhau 95 o offerynnau statudol eleni. Mae'n rhaid i chi sylweddoli'r cyfyngiadau sydd arnom ni o ran deddfwriaeth. Byddaf yn ymgynghori ar y cynllun aer glân yn ystod yr hydref. Byddwn yn gobeithio dod â Bil gerbron y flwyddyn nesaf, ond bydd yn rhaid i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r Aelodau ynglŷn â hynny ar ôl yr ymgynghoriad. Ond i'r Prif Weinidog, roedd hwn yn un o'i ymrwymiadau maniffesto pan ddaeth yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr, felly rwy'n gwybod ei fod ef yn awyddus iawn i gyflwyno Deddf.
Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar draws y Llywodraeth. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen i ni wneud cynnydd yn y fan yma, ac fe soniais i yn fy natganiad mai un o'r prif faterion y mae'n rhaid i ni ymdrin â nhw yw traffig ar y ffyrdd. Ac rwy'n credu po fwyaf y gallwn ni ei wneud o ran cyflwyno cynlluniau i sicrhau bod modd i bobl allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn haws, ein bod yn annog cerdded, ein bod yn annog pobl i feicio—. Mae gennym ni deithio llesol ac rydym ni wedi rhoi cyllid sylweddol i hynny—£30 miliwn. Gwneir llawer iawn o waith monitro ledled Cymru gyda'r awdurdodau lleol sydd wedi cael yr arian hwnnw i gyflwyno eu cynlluniau.
Roeddech chi'n sôn am yr argyfwng hinsawdd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n cymysgu rhwng newid yn yr hinsawdd, ansawdd aer a datgarboneiddio. Er eu bod nhw'n integredig, wrth gwrs, pethau ar wahân ydyn nhw. Yn sicr, darllenais rywbeth yn y wasg yr wythnos hon a wnaeth i mi feddwl bod pobl yn dechrau rhoi'r pethau hyn at ei gilydd. Ac, fel y dywedais i, ceir integreiddio yn amlwg, ond rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod ni'n eu cadw nhw ar wahân pan fyddwn ni'n edrych ar faterion penodol.
Roeddech chi'n gofyn pa bethau ychwanegol yr ydym ni wedi eu gwneud. Rydym ni wedi dyrannu dros £20 miliwn ar gyfer cronfa ansawdd aer a fydd yn mynd â ni hyd at 2021. Mae hyn yn ein helpu i gyflymu cydymffurfiad â therfynau ar nitrogen deuocsid a gwella ansawdd yr aer ledled Cymru.
Rwyf i'n croesawu'r datganiad. Un o'r problemau sydd gennym ni yw na ellir gweld deunydd gronynnol o fathau PM2.5 a PM10, ond maen nhw'n difrodi'r ysgyfaint drwy lidio a difa'r wal alfeolaidd ac, o ganlyniad, yn amharu ar weithrediad yr ysgyfaint. Mae angen aer glân arnom ni. A wnaiff y Gweinidog, ar y cyd â'i chyd-Weinidogion, ystyried y canlynol: gwahardd llosgyddion newydd heblaw am losgyddion meddygol i ymdrin â phathogenau; cynhyrchu cynlluniau i leihau llygredd aer mewn ardaloedd fel Hafod a Ffordd Fabian yn Abertawe, lle nad y cyfyngiad ar gyflymder yw'r achos ond y cerbydau sy'n symud yn araf ac yn sefyll sy'n achosi'r broblem; ac, yn olaf, gwahardd llosgi gwastraff gan unigolion yn eu gerddi, sy'n aml yn cynnwys plastigau ac eitemau eraill sy'n gwneud difrod difrifol i'r aer?
Fe fyddaf i'n bendant yn hapus iawn i gael y trafodaethau hynny gydag ystod o gyd-Weinidogion. Yn amlwg, mae ansawdd aer yn fater ar draws y Llywodraeth, ac yn sicr fe gaiff ei drafod yn y Cabinet. Ond byddaf i'n edrych ar yr holl faterion hynny ac yn ysgrifennu atoch chi ymhellach.
Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn briodol yn eich datganiad, Gweinidog, mae'n amlwg bod traffig ar y ffyrdd yn agwedd arwyddocaol iawn ar lygredd aer, ac rydym ni wedi clywed cyfeiriad eisoes at y problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod i'n croesawu penderfyniad y Prif Weinidog yn fawr i fwrw ymlaen ag ymateb integredig i'r problemau hyn o ran trafnidiaeth? Mae'n ymddangos i mi nad yw'r syniad y gallwch chi ymdrin â'r problemau a achosir gan draffig ar y ffyrdd drwy adeiladu rhagor o ffyrdd eto, sy'n llenwi â mwy fyth o deithiau traffig, yn gasgliad rhesymegol iawn i ddod iddo. Yr hyn sydd arnom ei angen mewn gwirionedd yw newid sylweddol a'r symudiad moddol hwnnw o ran dulliau teithio i weld pobl a nwyddau yn gynyddol oddi ar ein ffyrdd ac ar ein trenau a'n bysiau ac, wrth gwrs, cynyddu teithio llesol yn rhan o hynny, i ni gael gweld y manteision corfforol o ran iechyd yn ogystal ag aer glanach i'w anadlu.
A ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, fod parthau 20 milltir yr awr yn cyd-fynd yn dda iawn â'r math o gynnydd mewn teithio llesol yr ydym ni'n awyddus i'w weld, a'u bod nhw'n cyd-fynd yn dda iawn hefyd gydag anogaeth i'n plant i feicio, cerdded a sgwtera i'r ysgol, a fyddai'n gyfraniad pwysig iawn, yn fy marn i, ar gyfer ymdrin â llygredd aer ar ein ffyrdd, ar ein strydoedd? Oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod pan fo'r ysgolion ar eu gwyliau, bod llawer llai o draffig o gwmpas a llawer llai o lygredd aer. Rydym ni'n gweld yn aml yr anhrefn sydd i'w gael o gwmpas ysgolion pan fydd rhieni'n cael lleoedd annhebygol i barcio lle na ddylen nhw barcio mewn gwirionedd, mae injans yn cael eu gadael yn troi, gadewir cerbydau yn sefyll a'u hinjans yn troi, ac mae'r plant yng nghanol hyn i gyd, ynghyd â staff yr ysgol ac, yn wir, y rhieni sy'n cerdded i'r ysgol gyda'u plant.
Gellir gwneud llawer o bethau i ymdrin â'r materion hyn: bysiau cerdded, polisïau i wobrwyo plant a'i gwneud hi'n nod i'r ysgol i gynyddu cerdded, sgwtera a beicio. Yn wir, mae ysgol gynradd Ringland yn fy etholaeth i wedi cynyddu'r teithio llesol i'r ysgolion gan 20 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac erbyn hyn mae ychydig llai na hanner y disgyblion yn teithio i'r ysgol yn y dull hwnnw. Mae hi'n berffaith bosibl, ond mae'n ymddangos i mi fod angen rhywbeth mwy cynhwysfawr ledled Cymru, rhywbeth mwy systemig, Gweinidog, fel nad yw hyn yn gyfrifoldeb i ysgolion unigol nac, yn wir, i awdurdodau lleol.
Dim ond dau fater arall y byddwn i'n hoffi eu crybwyll. Un ohonyn nhw yw fflydoedd tacsis. Rwyf i wedi sôn wrthych chi o'r blaen, Gweinidog, pe byddem ni'n trawsnewid fflydoedd tacsis i redeg ar Nwy Calor, er enghraifft, byddem ni'n gweld gwelliant enfawr o ran materion llygredd aer. Ac mae cost y trawsnewidiadau fel arfer yn eu had-dalu eu hunain mewn dim ond rhyw flwyddyn neu ddwy. Mae hi'n achos dryswch i mi, mewn gwirionedd, pam nad ydym ni wedi gweld mwy o fentrau o'r fath. Hefyd, a yw eich cylch gwaith chi ar lygredd aer yn ymestyn i ysmygu mewn mannau cyhoeddus? Gan fy mod i'n gwybod bod llawer o bobl yn teimlo'n gryf iawn, yn enwedig pobl â chyflyrau fel asthma, bod anadlu mwg i mewn ym mannau awyr agored caffis a bwytai, mewn parciau, yng nghanol trefi a dinasoedd, yn wirioneddol beryglus i'w hiechyd ac yn llygryn mawr yn yr aer y maen nhw'n ei anadlu.
Diolch i John Griffiths, am y cwestiynau yna. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion, am fy mod i'n credu i chi ofyn i mi sawl tro ynglŷn â thacsis, ac rwyf i wedi gofyn i swyddogion edrych yn benodol ar Nwy Calor ac edrych ym mhle arall yn y byd y maen nhw'n cael eu defnyddio i allu cael mwy o wybodaeth am hynny.
Ysmygu mewn mannau cyhoeddus, nac ydi, nid yw hynny'n rhan o'm cylch gwaith i, ond, fel y dywedais i, mae hwn yn fater i bob aelod o'r Llywodraeth, ac felly fe fyddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn clywed eich sylwadau chi. I'r rhai ohonom ni nad ydym ni'n dioddef o glefyd anadlol, mae mwg—y newid yn sicr, a Chymru, yn amlwg, oedd y wlad gyntaf i wahardd ysmygu mewn mannau caeedig, ac rydym ni'n derbyn bod hynny'n rhywbeth cwbl arferol erbyn hyn, ond heb fod mor bell yn ôl â hynny, pan fyddech chi'n mynd i dafarn, er enghraifft, roedd hawl i ysmygu a'r effaith yr oedd hynny siŵr o'i gael ar gynifer ohonom ni—.
O ran ysgolion, credaf eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, a hefyd ynghylch newid mewn ymddygiad. Mae'r ysgol gynradd yr ydych chi'n sôn amdani yn eich etholaeth eich hun yn amlwg yn enghraifft dda o hynny. Os ydym ni'n ystyried sut y dechreuasom ni godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a newid ymddygiad o ran ailgylchu, er enghraifft, a'r newid yn yr hinsawdd, gyda phobl ifanc y digwyddodd hynny, felly, mae hon yn enghraifft wych, yn fy marn i, o ddanfon plant i'r ysgol, i ddefnyddio'r priod-ddull hwnnw. Yn sicr, rydym ni'n gwybod bod danfon plant i'r ysgol yn gwneud cyfraniad sylweddol at lefelau llygredd aer a thagfeydd traffig ar ein ffyrdd mewn llawer o ddalgylchoedd ysgolion, ac mae hynny'n sicr yn ystod yr oriau prysuraf yn ystod tymor yr ysgol, fel y gwnaethoch chi ei grybwyll. Credaf fod potensial hefyd, gan fynd yn ôl at y newid mewn ymddygiad sydd ei angen, i ysgolion helpu i ddysgu plant a rhieni am y materion sy'n ymwneud ag ansawdd aer a'n helpu ni i archwilio atebion posibl, fel rhannu ceir ac a oes unrhyw bolisïau hefyd o ran peidio â gadael i injans droi yn segur ar dir yr ysgol ac o'i amgylch. Felly, rydym ni yn rhoi canllawiau statudol i awdurdodau lleol, oherwydd rydym ni yn cydnabod bod ysgolion a llwybrau teithio llesol, ymhlith pethau eraill, yn lleoliadau derbynnydd sensitif, i ryw raddau.
Mae gennym ni bedwar i siarad eto a 15 munud ar ôl. Rwyf i eisiau tynnu sylw at hynny. Y siaradwr nesaf yw Mark Reckless.
Gweinidog, a wnewch chi egluro'r cyfyngiadau 50 milltir yr awr ymhellach? Mae pump ohonyn nhw, rydych chi'n dweud, yn cae eu gwneud yn rhai parhaol ar hyn o bryd. Pa dystiolaeth sydd gennym ni o ran sut y maen nhw wedi bod yn effeithiol o ran lleihau'r llygryddion yr ydym ni'n pryderu yn eu cylch? Rwyf i'n cael cwynion yn arbennig ynghylch y cyfyngiad 50 milltir yr awr wrth i chi ddod at dwneli Bryn-glas, ac rwy'n gwybod y gallai fod rhesymau eraill am hynny, ond mae'r pwyslais wedi bod ar lygredd aer yn ddiweddar pan fy mod i wedi cael ymatebion. Pa mor llwyddiannus neu fel arall fu hyn, tybed? Mae rhai pobl yn awgrymu bod y gostyngiad i 50 milltir yr awr yn achosi traffig i fynd yn agos at ei gilydd fel consertina mewn modd sy'n arwain at ran o'r tagfeydd, a dywedodd arolygydd ar y M4 y byddai'r ffordd liniaru yn lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd a llygredd aer. Yn amlwg, nid ydych chi am fwrw ymlaen â hynny, ond a yw'r cyfyngiad 50 milltir yr awr yn cael yr effaith y byddech chi'n hoffi ei gweld?
A wnewch chi egluro hefyd—? Rwy'n credu i chi wneud sylw am yr un yn eich etholaeth chi neu'n agos ati, am nad yw'r heddlu, efallai, yn gorfodi yn yr un ffordd ag y bydden nhw pe byddai hi'n fater arferol o oryrru. A yw'r heddlu'n trin y cyfyngiadau hyn yn yr un modd â'r rhai lle mae hi'n fater o ddiogelwch yn hytrach na llygredd aer?
Roeddech chi'n dweud yn eich datganiad fod yr angen am reolau ar lefel yr UE yn adlewyrchu'r ffaith nad yw llygredd aer yn parchu ffiniau cenedlaethol. Efallai fod hynny'n wir am rai llygryddion—fe fyddai sylffwr deuocsid yn enghraifft amlwg—ond o ran y rhai yr ydym ni'n pryderu fwyaf yn eu cylch nhw yn y fan hon—y nitrogen deuocsid a'r gronynnau—maen nhw mewn gwirionedd yn lleol tu hwnt. Fe fyddaf i'n ofalus iawn pan fyddaf i'n cerdded â'm tri o blant ar hyd y brif ffordd yn rhan o'u taith nhw i'r ysgol. Hyd yn oed os mai dim ond cerdded ar y palmant a wnewch chi, ryw ychydig oddi wrth y ceir, mae'r cyngor meddygol yn dweud bod hynny'n sylweddol well.
Rydych chi'n dweud nad ydych chi eisiau i ni gymysgu newid yn yr hinsawdd ac ansawdd aer, ond mae polisi cyhoeddus wedi gwneud hynny. O'r Undeb Ewropeaidd gyda'i safonau diesel a'r orfodaeth lac ohonyn nhw os o gwbl, hyd at Gordon Brown â'i gymhellion treth i symud oddi wrth betrol at ddiesel, y rhain mewn cyfuniad sydd wedi ein harwain ni at lawer o'r broblem llygredd sydd gennym ni erbyn hyn gydag ansawdd aer o ran y nitrogen deuocsid a'r gronynnau, sydd mor ddifrifol ac sydd, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, yn lladd 2,000 o bobl y flwyddyn yn gynamserol. A ydych chi dderbyn erbyn hyn mai camgymeriad oedd cymell pobl i newid o betrol i ddiesel? Ac er y byddai hi'n well gennych chi, yn ddiamau, weld pobl yn defnyddio cerbydau trydanol a bod Llywodraeth y DU newydd dynnu rhai o'r cymhellion yn ôl ynglŷn â hynny, a yw hi'n well i bobl brynu ceir petrol yn hytrach na rhai diesel, er gwaethaf yr allyriadau carbon deuocsid uwch yn yr ardal honno? Diolch.
Diolch. O ran y parthau 50 milltir yr awr, rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud bod y dystiolaeth yn gymysg. O ran yr un yn Wrecsam, yr hyn a ddywedais i oedd nad oeddwn i o'r farn bod pobl yn deall pam mae'r parth 50 milltir yr awr wedi ei orfodi yno. Maen nhw'n meddwl bod hyn i dawelu traffig neu i leihau cyflymder ac maen nhw'n gofyn pam nad yw'r heddlu'n ei orfodi. Wnes i ddim dweud y byddai'r heddlu'n ei orfodi o ran allyriadau carbon. Felly, yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud yw y byddwn i'n hoffi parhau â'r safleoedd 50 milltir yr awr, y pump ohonyn nhw, ond bod yn rhaid cael arwyddion yn egluro'r union reswm am y gostyngiad am nad wyf i'n credu bod pobl yn deall hynny. Felly, yn sicr yr un yn Wrecsam, rwy'n gwybod am hwnnw'n well am ei fod yn fy etholaeth i, mae hwnnw'n dweud 'Lleihau allyriadau'. Dim ond arwydd bach sy'n dweud, 'Lleihau allyriadau', nad yw'n ddealladwy i bobl, yn amlwg. Felly, rwyf i'n credu nad yw pobl wedi bod yn cadw ato oherwydd rwy'n credu bod ychydig o ddryswch ynglŷn â'r rheswm amdano ac oherwydd os ydyn nhw'n meddwl bod hyn oherwydd cyflymder ac nad yw'n cael ei orfodi, yna ni fyddan nhw'n cadw at 50 milltir yr awr. Yn bendant, mae'r dystiolaeth yr wyf i wedi ei chael o'r pum safle yn gymysg, ond rwy'n credu pe byddai gennym ni arwyddion sy'n dweud yn glir iawn bod ansawdd aer gwael yn lladd—a chredaf ei bod yn rhaid i chi roi sioc i bobl weithiau—bydd pobl yn fwy parod i gadw at y gostyngiad.
Peth hawdd iawn yw bod yn ddoeth wedi'r digwydd. Yn sicr, rwy'n cofio'n iawn pan oedden nhw'n dweud wrthym ni i gyd am gael ceir diesel. Yr hyn yr hoffwn i ei weld nawr yw mwy o symudiad tuag at gerbydau trydan. Yn anffodus, mae angen i ni gael y seilwaith i gyd-fynd â hyn, ac rydym ni wedi rhoi £2 filiwn i gael mwy o leoedd gwefru cerbydau trydan, er enghraifft, ledled Cymru gan fod angen i ni sicrhau bod pobl yn gallu mynd o gwmpas heb boeni am wagio'r batri ac wedyn heb fod yn gallu dod o hyd i bwynt gwefru. Rwy'n credu bod angen gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod y seilwaith ar gael.
Mae tri siaradwr gennyf i nawr, ac os byddan nhw i gyd yn gryno, efallai y byddaf i'n gallu rhoi cyfle i bob un ohonoch chi. Felly, yn eich dwylo chi mae hyn. Y siaradwr nesaf yw Vikki Howells.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae hwn yn fater mor bwysig, yn enwedig a ninnau i gyd yn gwybod am y niwed y mae llygredd aer yn ei achosi. Fel cynifer o gymunedau'r Cymoedd, mae fy ardal i yn un lle y cafodd aer ei lygru gan ddiwydiant trwm gyda'r gwaith tanwydd di-fwg Phurnacite eiconig yn cau 30 mlynedd yn ôl, ond mae etifeddiaeth hynny, yn enwedig o ran cyflyrau anadlol yn y gymuned, yn parhau i fod yn fater parhaus yn wir.
Mae gennyf i ddau gwestiwn i chi heddiw. Mae'r cyntaf hefyd yn ymwneud â pharthau 50 milltir yr awr. Mae un, fel y gwyddoch chi, ym Mhontypridd a Glan-bad, sydd ychydig y tu allan i'm hetholaeth i, ac fe fyddwn i'n cytuno â'r sylwadau a wnaethoch chi nawr. Rwyf i'n teithio drwy'r parth hwnnw bron bob dydd ac rwy'n teimlo mai fi yw'r unig un sy'n teithio ar 50 milltir yr awr, ac yn sicr nid oes unrhyw arwyddion yno i egluro pam mae'n barth 50 milltir yr awr. Rwyf i yn credu y byddai pobl leol mewn gwirionedd yn llawer mwy cefnogol pe bydden nhw'n gwybod y rheswm am hynny, i'r graddau fy mod i mewn gwirionedd wedi cael sylwadau gan etholwyr sy'n byw rywfaint i'r gogledd o'r parth hwnnw yn fy etholaeth i, yng Nghilfynydd, sydd wedi gofyn i mi pam na ellir ymestyn y parth i gwmpasu eu hardal nhw hefyd. Maen nhw yn gwybod fod a wnelo hyn ag allyriadau ac ansawdd aer ac maen nhw'n arbennig o ofidus oherwydd bod ysgol uwchradd Pontypridd yn sefyll yn union wrth ymyl yr A470 yn y fan honno ac mae cynnig i gydleoli Ysgol Gynradd Cilfynydd ar yr un safle. Rwyf i wedi cael sylwadau cryf iawn gan bobl yn y fan honno a fyddai'n croesawu ymestyn y parth 50 milltir yr awr i gynnwys ac amddiffyn plant yn yr ardal honno. Felly, rwy'n meddwl tybed beth yw eich barn chi ynglŷn â hynny.
A'r cwestiwn olaf sydd gennyf i yw nodi'r agwedd gyfiawnder cymdeithasol yn hyn hefyd, y gwnaethoch chi gyfeirio ati yn eich datganiad. Rydym ni'n gwybod bod cysylltiad agos iawn rhwng amddifadedd, anghydraddoldebau iechyd a llygredd aer, felly tybed pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda chyd-Weinidogion eraill ynghylch sut y gallwn ni fynd i'r afael â hynny.
Diolch i Vikki Howells am y ddau gwestiwn yna ac rwyf i'n cytuno'n llwyr â chi oherwydd rwyf i wedi cael sylwadau gan fy etholwyr fy hunan ynghylch y 50 milltir yr awr hwn, ac rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle y byddai pobl leol yn llawer mwy parod i yrru ar gyflymder o 50 milltir yr awr, oherwydd rwy'n teimlo weithiau mai fi yw'r unig un sy'n gyrru ar 50 milltir yr awr. Nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd, ond mae hi'n teimlo felly, ac yn enwedig pan fydd pobl yn gwibio heibio i chi. Ond pe byddai yno arwydd yn dweud yn union beth oedd y rheswm am hynny ac, fel y dywedaf, mae hi'n angenrheidiol i roi sioc i bobl weithiau. Felly, mae fy swyddogion a minnau wedi bod yn trafod pa eiriad i'w ddefnyddio gan mai dim ond rhyw bedwar gair sydd gennych i'w defnyddio, ac yn amlwg bydd angen i hynny fod yn ddwyieithog. Felly, nid oes eisiau arwyddion enfawr arnoch chi, ond yn yr un modd mae angen i hwnnw fod yn drawiadol iawn, yn fy marn i, ar gyfer gwneud i bobl sylweddoli.
O ran estyniad, mae'n debyg y byddaf i'n bwrw golwg ar y dystiolaeth barhaus—fel y dywedais i, mae'n gymysg iawn ar hyn o bryd, ond credaf ei bod yn gymysg am nad yw pobl yn deall diben hyn—cyn ystyried unrhyw estyniadau. Ac rydych chi'n llygad eich lle, mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hynny. Roeddech chi'n sôn am ddiwydiant trwm yn eich sylwadau agoriadol, ac yn sicr mae sgyrsiau yn digwydd ynglŷn ag estyniad pellach i'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus y cyfeiriodd John Griffiths ato, felly rwyf i yn cael y trafodaethau hynny ar draws y Llywodraeth.
Fel y dywedwch chi, yr un ffynhonnell o lygredd aer sy'n achosi'r broblem fwyaf yw traffig ar y ffyrdd, felly nid yw hi'n ddigon i symud o ddiesel i betrol, neu hyd yn oed, mewn gwirionedd, i geir trydan. Mae llawer iawn o ronynnau yn dod o'r olwynion beth bynnag.
Rydych chi'n sôn y byddwch chi'n cael yr astudiaethau dichonoldeb hyn gan gynghorau Caerdydd a Chaerffili ynghylch sut y maen nhw'n mynd i fodloni terfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr amser byrraf posibl, felly rwy'n gobeithio y bydd eich panel o arbenigwyr yn sylwi ar y ffaith, er bod y cynllun ar gyfer canol y ddinas yn newyddion da iawn, yn enwedig i drigolion Heol y Porth, lle maen nhw'n dioddef lefelau sylweddol iawn o lygredd aer, nid oes llawer iawn i ymdrin â'r materion ehangach o ran llygredd aer y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies atyn nhw yn ei gyfraniad cychwynnol.
Nid oes plant yn byw yng nghanol y ddinas. Er fy mod i'n croesawu'r bysiau di-allyriadau sydd ar fin mynd i lawr Heol Casnewydd, sef lle mae sawl ysgol yn ogystal â chryn dipyn o ardaloedd preswyl adeiledig iawn, yn arbennig tai amlfeddiannaeth—nid yw'r rhain yn bobl sy'n cael dewis lle maen nhw'n byw—er hynny, bydd ardal arall heb unrhyw welliant o gwbl i'r ysgolion o amgylch cyfnewidfa Llanedeyrn â'r A48. Ceir tair ysgol a meithrinfa a lefelau sylweddol iawn o lygredd yn yr aer, ac rwy'n gwybod bod problemau anadlol sylweddol yn y fan honno. Felly, rwy'n teimlo bod angen mwy gan Gaerdydd i sicrhau bod pobl ar draws y ddinas yn ymdrin â'r mater hwn ac yn gwneud y newid hwnnw i deithio llesol.
Fe hoffwn i'n arbennig pe byddech chi, yn eich cynllun aer glân, yn edrych ar ddanfon plant i'r ysgol neu'r 'school run' fel y'i gelwir yn gyfeiliornus, gan nad yw'n rhedeg nac yn gerdded nac yn seiclo hyd yn oed. Ac, mewn gwirionedd, mae honno'n ymddangos i mi yn un o'r ffyrdd cyntaf i ni leihau traffig oherwydd mae'n amlwg pan fydd yr ysgolion ar wyliau, bod gostyngiad enfawr yn y traffig. Felly, i ddechrau cychwyn, pe gallem ni weld pob ysgol uwchradd mewn ardal drefol â llwybrau teithio llesol fel y gallai pobl ifanc naill ai feicio neu gerdded i'r ysgol, byddai hynny'n llawer gwell ar gyfer datblygiad eu hannibyniaeth nhw yn ogystal â gwella'r amgylchedd yn gyffredinol. Felly, rwy'n gobeithio y gallech chi roi sylw i hyn yn eich cynllun aer glân, yr ydym ni'n edrych ymlaen amdano.
Diolch, Jenny Rathbone, am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Fel yr ydych chi'n dweud, ac fel yr wyf i wedi ei ddweud mewn atebion cynharach, mae'n ofynnol i Gyngor Caerdydd gyflwyno cynllun terfynol i mi erbyn diwedd y mis ynglŷn â sut y maen nhw am gyflawni'r gwerthoedd terfyn nitrogen deuocsid statudol yn eu hardal o fewn y cyfnod byrraf posibl. A bydd y panel adolygu arbenigol annibynnol hwn gennyf, yr wyf i wedi gofyn iddo graffu ar dystiolaeth. Rwy'n awyddus i gael yr wybodaeth honno cyn gynted ag sy'n bosibl—rwyf i wedi dweud erbyn diwedd y mis nesaf. Ar hyn o bryd, byddai'n amhriodol i mi roi sylwadau pellach ar gynlluniau'r Cyngor ar y cam hwn.
Rydych chi'n hollol gywir ynglŷn â cherbydau. Mae traffig ar y ffyrdd yn cael y fath effaith aruthrol, ac mae angen i ni annog newid. Gan fynd yn ôl at yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am ddanfon plant i'r ysgol, mae angen i ni annog newid o orddibyniaeth, yn fy marn i, ar geir preifat, at drafnidiaeth sy'n llawer mwy cynaliadwy fel cerdded a seiclo a chludiant cyhoeddus, ac mae honno'n amlwg yn elfen allweddol ar ymagwedd ein polisi.
Soniais mewn ateb cynharach am deithio llesol. Rydym ni wedi rhoi cyllid sylweddol tuag at hynny—£60 miliwn dros dair blynedd. Ac fe fyddwn i'n falch iawn—unwaith eto, nid yw hyn o fewn fy mhortffolio i, ond fe fyddwn i'n falch iawn o gael gweld y monitro sy'n digwydd o ran teithio llesol a sut mae awdurdodau lleol yn sicrhau ei bod yn fwy diogel i bobl feicio a cherdded. Ac, unwaith eto, o fewn fy etholaeth i fy hun, rwyf i wedi gweld llwybrau beicio sy'n dod i derfyn yn sydyn—nid yw hynny'n dderbyniol, ac mae angen i ni sicrhau bod ein gwaith monitro yn gadarn a bod awdurdodau lleol yn cyflwyno'r math hwn o—. Wel, nid math o drafnidiaeth ydyn nhw, ond maen nhw'n ei gwneud hi'n haws i bobl roi'r car o'r neilltu. Ac rwy'n gwybod bod mwy o bobl yn defnyddio bysiau na'r rheilffyrdd, ond rwy'n credu eu bod nhw'n bwysig, y camau yr ydym ni'n eu cymryd gyda'r rheilffyrdd ac yn sicr mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi mewn cerbydau newydd, glanach, a hefyd, yn amlwg, bydd gennym ni fetro de Cymru a metro gogledd Cymru, a fydd, rwy'n gobeithio, yn dwyn ffrwyth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
A'r siaradwr olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch. Rwyf yn croesawu'r datganiad heddiw, a dim ond un cwestiwn sydd gennyf. Deallaf yn ôl ym 1854, fod meddyg ifanc o'r enw John Snow, a oedd yn gweithio yn Soho yn Llundain pan oedd yr epidemig colera ar ei anterth, wedi nodi ar fap â dotiau hynt yr achosion o golera, a chan ddefnyddio'r dystiolaeth honno, ymdriniwyd mewn gwirionedd ag achosion o golera a oedd yn gysylltiedig ag un bibell garthion halogedig a oedd yn agos at danc septig ac yn y blaen. Mae gennym y dystiolaeth yn glir yn awr o'r effaith drychinebus y mae hyn yn ei gael drwy fyrhau bywydau ifanc, ac ynghylch pa mor agos ydynt i ysgolion a lleoedd eraill, felly mae angen i ni weithredu. Felly, rwyf yn ei groesawu heddiw.
Mae fy nghwestiwn mor syml â hyn: mae gennyf ffydd enfawr yn y Gweinidog, wrth gyflwyno ei chynllun gweithredu, y bydd ganddo'r manylder yn ogystal â'r uchelgais a fydd yn helpu i wneud y newidiadau y mae eu hangen arnom ni er mwyn sicrhau na fydd hyn yn arwain at epidemig colera ein hoes ni, ar draws y DU gyfan a'r gymdeithas yn y gorllewin, ond yma yng Nghymru yn arbennig. Ond mae'r rheswm pam y cafodd hyn ei wthio mor galed dros y degawd diwethaf yn deillio o grwpiau fel ClientEarth ac eraill, sydd wedi gallu dwyn achosion yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dywedodd Andrew R.T. Davies pa mor dda y mae Llywodraeth y DU yn gweithredu—y rheswm eu bod wedi rhoi mwy o her iddynt eu hunain yw am fod ClientEarth bellach wedi dweud wrthynt, 'byddwn yn mynd â chi'n ôl ac yn ôl ac yn ôl ac yn ôl i'r llys', ac maen nhw wedi herio'u hunain i lunio strategaeth. A allwn ni gael y sicrwydd hwnnw, wrth symud ymlaen, nawr ac mewn sefyllfa ar ôl Brexit, y gall dinasyddion neu sefydliadau dinasyddion ddwyn llywodraethau i gyfrif er mwyn sicrhau, os nad oedd y Gweinidog hwnnw yno, a bod diffyg uchelgais gan ryw Weinidog neu ddiffyg gallu i gyflawni ac nad oedd hwnnw'n gwneud hynny, y gallai dinasyddion ddal y Llywodraeth yn gyfrifol—mynd â nhw i'r llys, eu herlyn a'u gorfodi i fynd i'r afael â'r epidemig hwn, nawr, sydd ledled y DU?
Diolch. I ateb eich sylw penodol: mae'n gwbl hanfodol bod yna gorff y gall trigolion ac unigolion a dinasyddion Cymru fynd ato os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.
Diolch.
Diolch. Rwy'n mynd i symud ymlaen yn awr at eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Camau nesaf y gweithgor ar lywodraeth leol. Galwaf ar y Gweinidog i agor y ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Ymddiheuraf am fy llais craslyd heddiw.
Heddiw, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am argymhellion y gweithgor ar lywodraeth leol. Hoffwn hefyd nodi'r camau nesaf ar ôl i'r gwaith hwn ddod i ben.
Cafodd y gweithgor ei greu gan fy rhagflaenydd yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i lunio a diffinio ar y cyd dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. Ei brif orchwyl oedd datblygu agenda ar y cyd ar gyfer diwygio sy'n sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth gwasanaethau lleol drwy strwythurau a phrosesau priodol, boed hynny drwy gydweithio, cydwasanaethau neu uno'n wirfoddol. Roedd y gweithgor hefyd yn gyfle i ni feithrin ein perthynas â llywodraeth leol o'r newydd, i archwilio a chydnabod y gwaith cadarnhaol, cydweithredol sylweddol y mae awdurdodau lleol eisoes yn ei wneud, a sut y gallwn ni symleiddio trefniadau er mwyn sicrhau sector llywodraeth leol mwy cynaliadwy yng Nghymru.
Mae ein cyfarfodydd wedi bod yn heriol ac yn gadarnhaol. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar faterion sy'n bwysig i ni i gyd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac i arweinwyr llywodraeth leol am ymwneud â'r cyfarfodydd a'r gwaith hwn gyda meddwl agored ac awydd i gytuno ar atebion ymarferol i faterion cymhleth.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rhaid imi hefyd ddiolch i Derek Vaughan a'i longyfarch am gadeirio'r cyfarfodydd yn deg a chynhwysol. Roedd ymrwymiad Derek i'r grŵp hwn a'i gred yn yr hyn y gellid ei gyflawni yn sylfaenol i gynnydd y grŵp. Roeddwn yn falch iawn o weld ei fod wedi cael y CBE yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines y mis hwn am ei gyfraniad at wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus, sy'n haeddiannol iawn.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi argymhellion y gweithgor, sy'n ymdrin â nifer o feysydd gan gynnwys cydwasanaethau, trefniadau uno gwirfoddol, pwerau a hyblygrwydd, amrywiaeth mewn llywodraeth leol, a'r agenda o barchu'r ddwy ochr. Cafwyd llawer o ddadlau adeiladol rhwng yr holl Aelodau ac roeddwn yn falch bod y grŵp yn gallu cytuno ar gyfres glir o egwyddorion ar y cyd yn gyflym fel sail i drafodaethau ac unrhyw waith rhanbarthol a gaiff ei gyflawni yn y dyfodol.
Mae'r egwyddorion yn gosod gweithio rhanbarthol yn gadarn o fewn fframwaith o reolaeth ac atebolrwydd democrataidd, gyda chynaliadwyedd yn graidd iddo a phwyslais ar sicrhau gwasanaeth cyhoeddus yn cyflawni'n well ar gyfer dinasyddion a chymunedau. Roedd hi'n amlwg o'r sgyrsiau yn y gweithgor, a'r gwaith mapio a wnaed gan lywodraeth leol, fod cryn dipyn eisoes o gydweithio ar sail wirfoddol a statudol ledled Cymru. Rwy'n croesawu ac yn cymeradwyo hyn.
Fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth yn y gweithgor hefyd fod y dirwedd hon yn gymhleth, ac y gallai'r cymhlethdod hwn gyfyngu ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y trefniadau hyn. Rwy'n benderfynol o weithio gyda'm cyd-Aelodau yn y Cabinet i ddod o hyd i ffyrdd o leihau rhywfaint ar y cymhlethdod sy'n gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru.
Drwy'r gweithgor, a chyfarfodydd eraill yr wyf wedi'u cael gydag arweinwyr, mae llywodraeth leol hefyd wedi tanlinellu'r angen am fwy o gysondeb yn ein hymagwedd at bartneriaeth. Rwyf wedi ymrwymo i geisio symleiddio lle bynnag y bo modd. Yn dilyn trafodaethau yn y gweithgor, mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a minnau wedi comisiynu adolygiad ar y cyd o'r sefyllfa o ran partneriaethau strategol i nodi'r meysydd allweddol lle y teimlir bod cymhlethdod neu ddyblygu diangen a nodi cyfleoedd ar gyfer symleiddio a rhesymoli. Bydd yr adolygiad hwn yn adrodd i'r cyngor partneriaeth ym mis Hydref eleni.
Un o brif argymhellion y gweithgor oedd yr angen am ddulliau a strwythurau mwy cyson i gefnogi gweithio a chydweithio rhanbarthol. Mae cryn dipyn o amser ac ymdrech yn mynd ar greu ac ail-greu'r trefniadau gwaith ymarferol ar gyfer gweithio ar y cyd; er enghraifft, pa awdurdod fydd yn arwain o ran y cyllid, pa awdurdod fydd y cyflogwr? Cytunodd Aelodau'r gweithgor y byddai un strwythur ar gyfer trefniadau statudol a gwirfoddol yn cadw atebolrwydd democrataidd lleol ac yn sicrhau cysondeb a symleiddio'r trefniadau cydweithio.
Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd i'w gyflwyno i'r Cynulliad hwn yn ddiweddarach eleni, yn rhoi'r cyfle i ddarparu un cyfrwng cyson, syml ac uniongyrchol ar gyfer gweithio rhanbarthol sy'n atebol yn ddemocrataidd. Rwy'n bwriadu cynnwys pwerau yn y Bil i alluogi creu math newydd o weithio ar y cyd—y cyfeirir ato ar hyn o bryd fel cydbwyllgor statudol—sef y cynllun glasbrint i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd. Bydd hyn yn dileu'r costau sefydlu sy'n gysylltiedig â sefydlu trefniadau dyblygu lluosog ac yn galluogi awdurdodau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n bodoli wrth gydweithio. Bydd y dull newydd hwn o weithio ar y cyd yn gorff corfforaethol sy'n gallu cyflogi staff a dal asedau a chyllid.
Bydd awdurdodau lleol yn gallu gofyn am sefydlu corff o'r fath pan fyddan nhw'n dymuno gweithio gyda'i gilydd ar sail buddiannau cyffredin a budd i'r ddwy ochr. Gall hyn fod mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth y mae awdurdodau lleol yn credu y gellir ei ddarparu'n fwy effeithlon ac effeithiol yn y modd hwn. Rwyf hefyd yn cynnig y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu ei gwneud hi'n ofynnol i swyddogaethau awdurdodau lleol gael eu cyflawni'n rhanbarthol yn y modd hwn ar gyfer meysydd gwasanaeth penodol. Ein bwriad yw canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi trefniadau rhanbarthol ar waith—naill ai'n statudol neu'n wirfoddol—neu lle mae darpariaeth i wneud trefniadau rhanbarthol eisoes yn bodoli.
Byddai Gweinidogion Cymru yn gallu sefydlu cyrff yn y meysydd gwasanaeth hyn, pryd y byddai gwneud hynny'n darparu ffordd fwy effeithiol, effeithlon a buddiol o gyflawni'r swyddogaethau hyn. Byddai hyn yn golygu'r posibilrwydd o sefydlu gwasanaethau mewn meysydd gwasanaeth fel cynllunio, trafnidiaeth a datblygu economaidd. Mae'r atebolrwydd democrataidd a'r tryloywder a ddaw yn sgil y trefniadau statudol newydd hyn yn hanfodol ar gyfer unrhyw gydweithio, ond yn enwedig ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau dinasyddion.
I gefnogi hyn, rwy'n falch y bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu cod ymarfer cydweithredol i'w fabwysiadu gan bob awdurdod lleol. Bydd y cod yn darparu egwyddorion clir ar gyfer gweithio rhanbarthol ehangach gyda disgwyliadau eglur o ran lle mae gweithio rhanbarthol yn bwysig, a'r hyn y gall awdurdodau lleol ei ddisgwyl gan ei gilydd wrth ystyried trefniadau newydd, neu reoli'r cyd-drefniadau presennol. Rwyf hefyd yn falch o ddweud fy mod wedi ymrwymo i gefnogi, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, swyddogaeth newydd ar gyfer gwella a chefnogi, a argymhellwyd gan y gweithgor, a fydd, rwy'n credu, yn rhoi cymorth cadarnhaol i awdurdodau i sicrhau'r arloesedd a'r trawsnewidiad yn y gwasanaeth sydd eu hangen ar gyfer dyfodol ein dinasyddion a'n cymunedau.
Rwyf wedi cytuno â llywodraeth leol y crëir is-grŵp newydd o Gyngor Partneriaeth Cymru, a fydd yn gweithredu ar rai o brif argymhellion y gweithgor. Bydd yr is-grŵp hwn yn mabwysiadu'r egwyddorion a oedd yn gwneud y gwaith grŵp mor llwyddiannus—cyd-barch ac agenda ar y cyd i sicrhau'r canlyniadau gorau posib i bobl Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Fel y dywedwch chi, sefydlwyd y gweithgor i lunio a chyflawni dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ar y cyd. Rwy'n hoff iawn o'r term 'llunio a chyflawni ar y cyd' oherwydd cyd-gynhyrchu yw hynny. Ymgynghorais â rhai o'm cydweithwyr ym maes llywodraeth leol i gael eu barn am hynny. Byddwch yn falch bod un ohonyn nhw wedi dod yn ôl ataf yn dweud bod y gweithgor wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Ni fydd dim, meddai, yn eich datganiad yn dychryn cydweithwyr mewn Llywodraeth Leol. Nid yw'n rhydd i rannu canlyniadau'r gwaith hyd yn hyn, ond gall ddweud ei bod hi'n debygol y bydd is-grŵp o'r cyngor partneriaeth yn parhau â'r gwaith a ddechreuwyd drwy fisoedd yr haf, ac, wrth gwrs, mae hyn yn adlewyrchu argymhelliad cyntaf y gweithgor.
Fodd bynnag, a fyddech cystal ag ymdrin â phryder a godwyd gyda mi mewn ymateb arall gan gydweithiwr ym maes llywodraeth leol, rwy'n dyfynnu, ei bod hi'n ymddangos bod obsesiwn parhaus i ymyrryd gyda llywodraeth leol—a gawn ni lonydd i fwrw ymlaen â'r hyn y gwyddom ni y mae angen ei gyflawni i'n trigolion a gall Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r hyn y dylent fod yn ei wneud?
Rwy'n credu bod y ddau ymateb yn adlewyrchu'r pryderon sy'n dal i fod, efallai: ewyllys cadarnhaol i ymgysylltu, ond pryder y gallai hyn fod yn rhwystr, yn seiliedig ar adolygiadau blaenorol a deddfwriaeth arfaethedig ar wneud pethau'n well.
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad fod y grŵp wedi cytuno ar gyfres glir o gyd-egwyddorion i fod yn sail i drafodaethau ac unrhyw waith rhanbarthol a gaiff ei gyflawni yn y dyfodol, gan roi gweithio rhanbarthol yn gadarn o fewn fframwaith o reolaeth ac atebolrwydd democrataidd. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd hynny'n gweithio pan fod gan wahanol awdurdodau lleol siambrau cynghorau gwahanol, gyda gwahanol setiau o arweinwyr etholedig ac aelodau etholedig, y bydd pob un ohonyn nhw'n ceisio dwyn i gyfrif ac yn craffu ar weithrediadau posib cyrff rhanbarthol ar y cyd, ac o bosib agendâu gwahanol rhwng cynghorau gwahanol, a hyd yn oed grwpiau o fewn cynghorau, yn unol â hynny?
Rydych chi'n dweud ei bod hi'n amlwg bod cryn dipyn o waith partneriaeth gydweithredol eisoes yn cael ei gynnal ar sail wirfoddol a statudol ledled Cymru. Pan wnaethom ni gymryd tystiolaeth yn olynol ar gynigion blaenorol Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad diwethaf ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, pwysleisiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolwyr cynghorau, swyddogion ac aelodau etholedig wrthym eu bod yn gorfod cynnal dadansoddiad cost a budd wrth gynnig gweithio'n rhanbarthol neu gydweithio ag unrhyw un ar unrhyw brosiect, fel gydag unrhyw beth arall, ac yna cyflwyno canfyddiadau'r dadansoddiad hwnnw i'r cyngor llawn er mwyn iddyn nhw benderfynu a ddylid bwrw ymlaen ai peidio. Wrth gwrs, nid oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru ei hun wneud hynny pan fydd yn cynnig newidiadau mewn llywodraeth leol, felly sut byddwch yn rhoi ystyriaeth i hynny? Roedd yn bryder mawr pan roedd hi'n ymddangos nad oedd rhai o'ch rhagflaenwyr yn gwneud hynny. Rwyf yn sicr y byddech chi, ond, unwaith eto, sut byddech chi'n ystyried y pryder hwnnw a oedd ganddyn nhw yn y gorffennol?
Rydych chi'n dweud, yn dilyn trafodaethau yn y gweithgor, fod arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chithau wedi comisiynu adolygiad ar y cyd o'r sefyllfa o ran partneriaethau strategol i nodi'r meysydd allweddol lle y teimlir bod hynny'n ddiangen, o ran cymhlethdod neu ddyblygu—. A bydd hwn yn adrodd i'r Cyngor Partneriaeth ym mis Hydref. Sut, felly, byddwch yn rhannu'r canfyddiadau â'r Cynulliad llawn? Pa amserlenni a pha ran a ydych chi'n rhagweld y bydd y Cynulliad yn ei chwarae o ran hynny?
Rydych chi'n dweud, neu'n cyfeirio at, greu dull gweithio ar y cyd, y cyfeirir ato ar hyn o bryd fel cydbwyllgor statudol—sef y cynllun glasbrint ar gyfer awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd. Sut y bydd hynny'n gweithio gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol, ac yn osgoi ailadrodd gwaith byrddau partneriaeth rhanbarthol, a oedd i fod yn ffordd newydd o weithio'n rhanbarthol ar draws gwasanaethau cyhoeddus a fyddai'n orfodol ac yn systematig ac yn llywio'r gwaith strategol o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol ar lefel ranbarthol gan gydweithio'n agos ag iechyd, ond hefyd byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pob awdurdod lleol, sydd wedi'u cynllunio i wella lles economaidd, lleol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd, gan ymgysylltu â'r holl gyrff cyhoeddus a chymunedau? Felly, a ydych chi'n cynnig disodli'r cyrff hynny, neu a yw hon yn mynd i fod yn haen arall, gyda'r un bobl o bosib yn eistedd o gwmpas bwrdd gwahanol yn trafod materion tebyg iawn a chyffredinol?
Rydych chi'n datgan eich bod yn cynnig y dylai Gweinidogion Cymru allu ei gwneud hi'n ofynnol i swyddogaethau awdurdodau lleol gael eu cyflawni'n rhanbarthol mewn rhai ardaloedd ac y byddai hyn yn golygu'r posibilrwydd o sefydlu gwasanaethau mewn meysydd gwasanaeth megis cynllunio trafnidiaeth a datblygu economaidd. Sut bydd hynny'n gyson â chyrff megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, bwrdd twf y gogledd, wrth iddo fwrw iddi â'r ymateb i'w gais twf gan y ddwy Lywodraeth, yn ddiweddarach eleni, gobeithio, lle mae ganddyn nhw eu hunain—ac wrth gwrs, mae gennych chi'r fargen ddinesig yng Nghaerdydd ac yn Abertawe hefyd—eu cwestiynau o ran rheolaeth a phŵer gweithredol yn rhai o'r meysydd hynny ar sail cydranbarthol gyda'i gilydd eisoes? Rydych chi'n dweud y bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu cod ymarfer cydweithredol. A fydd hynny'n orfodol a sut y caiff ei orfodi neu a fydd yn god gwirfoddol yn unig?
Os caf i gloi drwy ofyn y cwestiwn amlwg ynghylch cynrychiolaeth y trydydd sector, gwyddom fod Cynghrair Henoed Cymru wedi parhau i godi pryderon am gynrychiolaeth y trydydd sector ar fyrddau partneriaethau rhanbarthol, gan deimlo eu bod wedi'u heithrio, gan deimlo nad ydyn nhw'n cael eu cynnwys yn llawn, ac maen nhw wedi ailadrodd hynny eto yn ddiweddar iawn. Rydym ni wedi cael adborth, er enghraifft, gan Gynghrair Niwrolegol Cymru nad yw pobl â chyflyrau niwrolegol yn cael eu cyfeirio at wasanaethau neu'n cael llais o dan ddeddfwriaeth bresennol Cymru.
Ddoe ddiwethaf, bûm i a'm cydweithiwr, Darren Millar, yn bresennol mewn digwyddiad yn y gogledd, y cynllun rhannu bywydau, rhywbeth y gwn fod Llywodraeth Cymru'n awyddus i'w gefnogi. Clywsom gan gynrychiolwyr o Wynedd ac Ynys Môn ac o'r gogledd-ddwyrain, a'r pwynt allweddol a wnaethant oedd nid yn unig fod hyn yn dda iawn i unigolion ond ei fod yn dda i gynghorau a byrddau iechyd sydd eisiau arbed arian. Fe wnaethon nhw ddweud ei fod yn costio llai na mathau eraill o ofal—£26,000 y flwyddyn, ar gyfartaledd, yn rhatach i bobl, er enghraifft, gydag anableddau dysgu, ac mae pobl yn cael ansawdd bywyd llawer gwell na drwy fathau eraill o ofal.
Felly, sut bydd—yn olaf—y corff newydd hwn yn torri drwy'r rhwystr hwnnw o'r diwedd, sy'n peri i ddarparwyr y trydydd sector bryderu'n barhaus, er gwaethaf deddfwriaeth a bwriad Llywodraeth Cymru, eu bod yn dal ar y tu allan?
Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. Rwy'n credu bod 24, felly, byddaf i'n gwneud fy ngorau i'w hateb.
Mae'r cynnig hwn wedi'i ddatblygu, ni allaf bwysleisio digon, mewn cydweithrediad llwyr â llywodraeth leol. Nid yw hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i lywodraeth leol, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud gyda'n gilydd. Mae'n deillio o'r gweithgor. Gweithiodd y gweithgor yn effeithiol iawn, oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, derbynnir yn eang gan lywodraeth leol yn ei chyfanrwydd fod y system bresennol yn gymhleth ac y gallai gael ei dyblygu, ac nad yw'n dryloyw iawn i'r dinesydd sy'n edrych i weld sut y caiff ei wasanaethau eu darparu. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw creu cyfrwng symlach a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol gael pŵer caniataol—gydag un neu ddau eithriad, ond pŵer caniataol ydyw sy'n caniatáu i lywodraethau lleol ddod at ei gilydd mewn diwyg arbennig, nad yw ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd. Byddwn yn galluogi i hynny fod ar gael drwy'r Bil, a bydd yn bwyllgor sydd yn endid cyfreithiol yn ei hawl ei hun, sy'n cael ei ffurfio gan arweinwyr yr awdurdodau lleol sy'n cydweithio. Felly, mae'n ddull democrataidd syml iawn. Bydd disgwyl i'r awdurdodau lleol ddirprwyo'r pwerau i'r pwyllgor hwnnw y maen nhw am ei wneud yn rhanbarthol yn y ffordd honno, ac wedyn gall y pwyllgor hwnnw sefydlu unrhyw strwythur y mae'n ei ddymuno o dan y drefn honno, gydag unrhyw gyfethol, unrhyw un y mae'n dymuno ei gael. Dydym ni ddim mewn unrhyw ffordd—. Dydym ni ddim yn gorfodi ein hewyllys mewn unrhyw ffordd ar hynny; mae'n fater i'r awdurdodau lleol sy'n dod ynghyd i wneud y gwaith rhanbarthol hwnnw.
Rydym ni'n gwneud hynny gan fod hynny'n caniatáu i gyrff fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fabwysiadu'r strwythur hwnnw. Bydd yn sicr yn caniatáu i drefniadau bargen dinas Caerdydd fabwysiadu'r strwythur hwnnw. Mae'n caniatáu cynrychiolaeth o'r trydydd sector. Mae'n caniatáu cyfethol unrhyw un sy'n bartner sy'n gweithio i awdurdodau lleol o ran darparu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu.
Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol am y byrddau cynllunio rhanbarthol. Nid ydym ni wedi eu cynnwys yn benodol fel rhai gorfodol nac unrhyw beth arall ar wyneb y Bil, ond bydd yn gyfrwng sy'n agored i awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Doedd gennym ni ddim amser i wneud y gwaith polisi i'w roi ar wyneb y Bil, ond, ar y cyd ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd—ac mae'r Gweinidog Iechyd a minnau wedi cael sgyrsiau cychwynnol am hyn—byddwn yn edrych i weld a ydym ni'n credu y byddai'n fuddiol, oherwydd rydych chi'n nodi'n gywir fod rhai awdurdodau lleol yn teimlo, ar hyn o bryd, eu bod yn eistedd yn yr un cyfarfod a dim ond dau o bobl sy'n newid bob awr neu ddwy. Ac rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn defnyddio'u hamser a'u harian yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosib.
Mae tri maes yr hoffem ni eu harchwilio gyda llywodraeth leol dros yr haf. Y cyntaf o'r rheini yw maes trafnidiaeth, lle ceir Papur Gwyn eisoes yn sôn am gyd-awdurdodau trafnidiaeth. Yn hytrach na chael trefniant rhanbarthol gwahanol ar yr un pryd, rydym ni'n bwriadu rhoi hynny yn y trefniant hwn. Mae gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 eisoes drefniadau cynllunio strategol ynddi. Byddwn yn rhoi'r rheini yn y trefniant hwn. A byddem yn awyddus iawn i sicrhau bod datblygu economaidd a defnydd tir ar gyfer datblygu tai cymdeithasol yn rhan o'r trefniant hwn. Byddai hynny'n creu tair mantais, mae'n ymddangos i ni: un yw y byddai'n caniatáu i'r tir gael ei ddefnyddio ar y cyd ledled Cymru er mwyn cael y gorau o'r posibiliadau ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol, rhywbeth yr ydym ni eisiau ei wneud yn gyflym ac ar raddfa fwy. Yr ail yw y byddai'n caniatáu i bobl rannu adnoddau dynol prin. Mae'n anodd iawn cael gafael ar yr holl sgiliau sydd eu hangen i adeiladu'n gyflym ac ar raddfa fwy ym mhob ardal yng Nghymru, felly byddai'n ein galluogi ni i gronni'r adnoddau dynol prin hynny. A'r trydydd yw y byddai'n caniatáu cyllidebau cyfun. Wrth gyflwyno'r cyfrwng hwn yn y Ddeddf, byddwn yn cyflwyno fframwaith perfformiad newydd i gyd-fynd ag ef a fydd yn cwmpasu'r mater sy'n ymwneud â'r dadansoddiad cost a budd a'r hyn y mae angen ei wneud er mwyn gwneud hynny ac, ar y cyd, unwaith eto, â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau y bydd disgwyl i awdurdodau lleol lynu wrthynt pan fyddant yn ymrwymo i drefniant o'r fath, neu'n tynnu eu hunain allan o drefniant o'r fath. Ond ni allaf bwysleisio digon, Llywydd, fod hyn yn cael ei wneud ar y cyd â llywodraeth leol. Mae'n rhywbeth y maen nhw'n dymuno ei gael cymaint ag y dymunwn ni, a bydd yn symleiddio i ddinasyddion Cymru y ffordd y caiff eu gwasanaethau eu darparu.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar y gweithgor ar lywodraeth leol? Nawr, yn amlwg, crëwyd 22 o awdurdodau lleol nôl ym 1996 ac nid oedd ganddyn nhw fawr o amser i ymsefydlu cyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddod i fodolaeth ym 1999, ac weithiau rwy'n credu ein bod yn dal i fedi'r cynhaeaf hwnnw, mewn gwirionedd, oherwydd dydw i ddim yn credu ein bod ni erioed wedi mynd i'r afael o ddifrif â'r sgwrs ynghylch pwy sy'n gwneud beth o ran darparu gwasanaethau yng Nghymru o ganlyniad i'r sefyllfa 1996/1999 honno. Ac mae'r her o sut i drefnu gwasanaethau—yr hyn sydd angen ei wneud yn genedlaethol, yr hyn sydd angen ei wneud yn rhanbarthol a'r hyn sydd angen ei wneud yn lleol, yr her o ran trefniadaeth gwasanaethau—yn parhau. Ac mae pobl bob amser yn dweud, 'Wel, dim ond 8,000 milltir sgwâr yw Cymru, 3,000,000 o bobl, dewch bobl, siawns na allwn ni drefnu rhywbeth heb ddagrau, llawer o bartneriaethau a'r gweddill'.
Nawr, sylwais fod is-grŵp newydd wedi'i greu yn hyn o beth, ac roeddech chi'n sôn yn eithaf bras yn eich araith am y gwaith sydd ar y gweill. A gaf i ofyn ichi ymhelaethu ychydig ar y gwaith, yn fwy cyffredinol, o ran sut ydym ni'n ystyried o ddifrif darparu gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol yng Nghymru, y peth cenedlaethol, rhanbarthol, lleol hwnnw—am yr holl wasanaethau cyhoeddus, nid am lywodraeth leol yn unig, nawr, yn ehangach na llywodraeth leol, ie, llywodraeth leol gyfan, ond hefyd iechyd, gofal cymdeithasol, tai, trafnidiaeth, datblygu economaidd, y gwnaethoch chi eu crybwyll, a sut y gwelwch chi hynny'n digwydd? Oherwydd mae angen i hynny ddigwydd beth bynnag—. Dydw i ddim yn mynd i gael y sgwrs 'llinellau ar fapiau', ond mae angen i ni gael trafodaeth aeddfed ynghylch sut yr ydym ni'n cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus i 3,000,000 o bobl mewn 8,000 milltir sgwâr. Fe'i gwneir mewn mannau eraill heb y graddau o gymhlethdod sydd gennym ni nawr, sy'n rhannol hanesyddol, ond mae'n amlwg weithiau mai'r cwbl y mae'n rhaid ichi ei wneud yw cydio yn y danadl ac yna mynd amdani o ran darparu gwasanaethau sydd wedi'u cydlynu'n briodol, rhywbeth y soniwch amdano, a tybed a wnewch chi ymhelaethu ar hynny, oherwydd mae hi'n amlwg bod y pwynt am graffu democrataidd yn holl bwysig ac, weithiau, yr hyn sy'n mynd ar goll nawr pan soniwn ni weithiau ychydig yn gyffredinol am gynllunio rhanbarthol, yw lle y mae'r craffu democrataidd yn digwydd, felly, gan mai dim ond i'w hawdurdod lleol y caiff pobl eu hethol, nid i fwrdd rhanbarthol, fel y cyfryw.
Ac, yn fwy penodol, mae fy unig gwestiwn arall yn ymwneud â galluogi awdurdodau lleol—y pŵer i greu math newydd o weithio ar y cyd a amlinellwyd gennych chi, dull newydd i weithio ar y cyd, corff corfforaethol newydd, os mynnwch chi. A gaiff hyn ei ymestyn i ganiatáu i awdurdodau lleol sefydlu ar y cyd, rhyngddynt, ddarparwr gwasanaeth di-elw, lle y gall awdurdodau lleol ddarparu gwell gwasanaethau ar y cyd, yn hytrach na dim ond sefydlu darpariaeth ddi-elw yn unigol? Byddwn yn gobeithio y gallen nhw gydweithio, gwasanaethau cyhoeddus, a darparu gwell gwasanaethau ar y cyd, ond disgwyliaf eich ateb. Diolch.
Iawn, Diolch am hynny. Rydych chi wedi taro'r hoelen ar ei phen yn llwyr; nid wyf yn credu nad oes rheswm o gwbl pam na allwn ni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel un dull o weithredu gwasanaethau cyhoeddus i Gymru gyfan. Rydym yn trafod hynny gyda llywodraeth leol ar hyn o bryd, ond rydym ni hefyd wedi cael trafodaethau gyda'r byrddau iechyd. Roeddwn yn agored iawn wrth ddweud wrth Mark Isherwood, ac fe'i dywedaf eto: ni chawsom yr amser polisi i gynnwys iechyd yn hyn ar unwaith, ond byddwn yn ceisio, wrth inni fynd â'r Bil drwy'r Cynulliad, a thrwy'r broses o graffu ar waith pwyllgorau'r Cynulliad, cael y drafodaeth honno ac i ystyried cynnwys iechyd os yw hynny'n rhywbeth y mae iechyd a llywodraeth leol, gan weithio gyda'i gilydd yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol, yn credu y byddai'n fuddiol. Rydym yn credu y byddant yn meddwl fel yna, ond nid ydym ni—ni allaf bwysleisio digon nad ydym ni'n gorfodi hyn.
Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â'r mater craffu. Felly, unwaith eto, ni fyddwn yn haearnaidd yn y Bil; byddwn yn ystyried cyd-gynhyrchu yn unol â chanllawiau craffu llywodraeth leol. Gobeithiwn allu rhannu'r arfer da o graffu ar draws Cymru. Y trefniadau rhanbarthol—gallant gael craffu rhanbarthol os ydynt yn dymuno hynny. Gallant hefyd gael craffu unigol gan lywodraeth leol os ydynt yn dymuno, neu byddwn yn rhagweld, mewn gwirionedd, cyfuniad o'r ddau, ond nid ydym ni'n cyfyngu ar hynny mewn unrhyw ffordd. Yr hyn yr ydym eisiau ei weld yw'r hyn sy'n gweithio orau.
Bydd y gyfundrefn berfformiad newydd a fydd yn cyd-fynd â hyn yn y Bil llywodraeth leol sydd ar ddod, wrth iddo gael ei gyflwyno i'r Cynulliad, gobeithio, ym mis Hydref, hefyd yn cynnwys y trefniadau newydd ar gyfer etholiadau awdurdodau lleol ynddi a, Llywydd, bu fy swyddogion yn gweithio'n galed iawn ar rywfaint o hynny yn y Senedd, ond dyma'r darn arall. Felly, bydd dwy ran fawr i'r Bil; rhan 1 fydd newid y fasnachfraint ar gyfer llywodraeth leol, gyda'r holl gymhlethdod sy'n mynd law yn llaw â hynny ynghylch y canfasio a'r holl bethau eraill sydd ynghlwm â hynny, ac wedyn yr ail ran ohono fydd y trefniadau newydd hyn a chyfundrefn berfformiad gyfan newydd. I bob pwrpas, byddwn yn diddymu Mesur 2009 ac yn disodli hynny â chyfundrefn newydd i adolygu hunanwelliant gan gymheiriaid, y bydd cyfres gyfan o ganllawiau statudol ac anstatudol yn gysylltiedig â hi er mwyn symleiddio'r dull o wneud hyn.
Rwy'n cytuno'n llwyr mai'r hyn sydd gennym ni yw dull hanesyddol o roi trefniadau amrywiol ar waith, heb i neb erioed feddwl, 'Wel, nid dyma sut y byddech yn ei wneud petaech yn dechrau eto'. Felly, dyma lywodraeth leol yn cyflwyno'r broses hon o ddechrau eto os mynnwch chi. Ni allaf bwysleisio digon pa mor gydweithredol a llawn bwriadau da y mae'r gweithgor cyfan hwn wedi bod. Mae wedi bod yn bleser bod yn bresennol, ac mae pobl wedi ymdrin ag ef yn yr ysbryd y cyfeiriodd Dai Lloyd ato yn ei gyfraniad. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at fynd â'r Bil drwy'r Cynulliad, a gallu cael y sgwrs fanwl yn y pwyllgorau craffu ac ar lawr y Siambr wrth inni fynd â'r mater yn ei flaen.
Ac anghofiais ddweud wrth Mark Isherwood, mewn ymateb i un o'i gwestiynau, rwyf newydd sylweddoli hefyd, y byddwn, ar y mater hwnnw ynglŷn â chraffu, yn awyddus iawn i weld beth sydd gan bwyllgorau'r Cynulliad i'w ddweud am eu swyddogaeth hwythau wrth graffu ar swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y math hwn o gydweithio.
Yn gyntaf, a gaf fi ddweud wrth Dai Lloyd, pe na baem ni wedi cael ad-drefnu ac uno cynghorau ardal a thref, yna ni fyddem wedi cael y Cynulliad? Gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr, oherwydd byddai wedi ychwanegu haen arall o lywodraeth, ac os edrychwch chi ar ba mor agos oedd canlyniad yr etholiad, ni fyddai wedi digwydd.
Rwyf eisiau siarad am lywodraeth leol—rwyf bob amser eisiau siarad am lywodraeth leol. Credaf fod llywodraeth leol yn bwysig iawn. Mae'n darparu gwasanaethau i bobl ledled Cymru, ac mae'r gwasanaethau y mae'n eu darparu fel arfer o safon uchel iawn ac yn cael eu gwerthfawrogi gan y preswylwyr bob amser. A phan fydd pethau'n mynd o chwith, maen nhw'n sicr o ddweud wrthym ni Aelodau Cynulliad, ac maen nhw'n dweud wrth y cynghorwyr lleol.
Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fy mod yn croesawu'r datganiad ac mae'n rhoi cyfle i ni aildrefnu ein perthynas â llywodraeth leol, i archwilio a chydnabod y cydweithio a'r gwaith cadarnhaol sylweddol y mae awdurdodau lleol eisoes yn ei wneud. Efallai y byddai hynny'n peri syndod i lywodraeth leol, oherwydd nid ydyn nhw wedi arfer â phobl yn dweud pethau caredig amdanyn nhw yn y Siambr hon o'r fainc flaen ers sawl blwyddyn. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith a wneir gan awdurdodau lleol.
A gaf fi ddweud am gydwasanaethau, sy'n syniad rhagorol yn fy marn i—ac roeddwn yn perthyn i un a fodolai yn y gorffennol, sef consortiwm trafnidiaeth integredig de-orllewin Cymru? Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eu bod yn digwydd mewn ardaloedd dealladwy, fel bod gan bob dinas-ranbarth yr holl wasanaethau yn cymryd rhan nid o reidrwydd ar draws y ddinas-ranbarth, ond o fewn y ddinas-ranbarth, a bod y rheini yn y canolbarth a'r gorllewin yn cymryd rhan yn y canolbarth a'r gorllewin. Y gwendid mawr yn Abertawe yw nad ydyn nhw'n gwybod pwy sydd yn mynd i ddod i'r cyfarfod nesaf, oherwydd weithiau Ceredigion oedd yn bresennol, weithiau Ceredigion a Phowys, weithiau Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n creu anhawster wrth gydweithio pan fyddwch yn cydweithio â gwahanol bobl gan ddibynnu ar y gwasanaeth yr ydych chi'n sôn amdano. Felly, os oes modd gwneud popeth mewn un patrwm—ac rwyf wedi dadlau hyn sawl gwaith o'r blaen felly byddaf yn parhau i ddadlau hyn—yna bydd pobl yn dod i arfer ag ef ac yn meithrin perthnasoedd a bydd pobl yn dod i arfer ag ymdrin â'r peth yn y ffordd honno.
Credaf fod cyd-bwyllgorau statudol yn syniad rhagorol. Rwy'n meddwl am ddatblygu economaidd, ac mae'n debyg bod datblygu Prifysgol Abertawe yn ardal Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael mwy o effaith ar Abertawe, ar ddwyrain Abertawe yn benodol, nag ar Gastell-nedd Port Talbot. Cofiaf hen Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw yn sefydlu marchnad Clydach, a oedd yn Nyffryn Lliw mewn gwirionedd, ond roedd y tai gyferbyn yn Abertawe a'r bobl yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf oedd y bobl yn Abertawe. Felly, credaf ei bod hi'n bwysig inni gael rhywfaint o gydweithio oherwydd bod rhai o'r ardaloedd siopa y tu allan i drefi—. Mae Trostre yn effeithio ar Lanelli ac mae Fforest-fach yn effeithio ar Abertawe. Mae hyn yn anochel mewn lleoedd sydd mor agos ac sydd â chysylltiadau ffyrdd da.
Yr unig gwestiwn arall sydd gennyf i yw: sut bydd yn wahanol, os o gwbl, i'r cydbwyllgor yng Ngogledd Iwerddon, a oedd yn cynnwys y cynghorau a oedd yn cymryd rhan ac a ffurfiwyd fel corff corfforaethol?
Wel, yr ateb syml iawn i'r cwestiwn olaf yw, 'ddim o gwbl.' Felly, yn y bôn, mae'n gydbwyllgor fel unrhyw un arall, heblaw ei fod yn gorff corfforaethol yn ei hawl ei hun. Y rheswm pam fod hynny'n bwysig yw ei fod yn golygu y gall gyflogi staff yn uniongyrchol a chael ei gyllideb ei hun, ac mae'n endid cyfreithiol yn ei hawl ei hun. Felly, pan fydd awdurdod yn dirprwyo ei swyddogaethau i gydbwyllgor sy'n cael ei alluogi yn y ffordd honno, mae'n golygu bod y dinesydd yn gwybod mai dyna'r corff sy'n gyfrifol am ei gyflawni ac os oeddech, er enghraifft, eisiau erlyn yr awdurdod hwnnw am beidio â darparu eich hawliau unigol, dyna fyddai'r corff corfforaethol y gallech chi arddel eich hawliau yn ei erbyn. Felly, sefyllfa llawer symlach na'r hyn sydd gennym ni eisoes.
Rwy'n rhannu teimladau Mike Hedges am lywodraeth leol. Rwyf innau hefyd yn gefnogwr mawr o lywodraeth leol. Bu ef a minnau yn gweithio gyda'n gilydd mewn un awdurdod lleol am amser hir iawn. Mae llywodraeth leol yn dda iawn am wneud y gorau o strwythurau a phrosesau gwael a pharhau i ddarparu ei gwasanaethau yn wyneb yr hyn a all fod yn rhwystrau diangen. Holl ddiben y gweithgor hwn yw dileu'r rhwystrau diangen hynny. Mae'n amlwg bod awdurdodau ledled Cymru yn cael effaith economaidd, y naill ar y llall. O ran addysg, er enghraifft, ymddengys bod ffin yr awdurdod lleol, i bob golwg, yn ffin haearnaidd ar gyfer dalgylchoedd rhai ysgolion, ac nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl o ran sut olwg fyddai ar yr ysgol leol ac ati. Rydym ni wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl. Mae Kirsty Williams a minnau wedi cael sawl sgwrs gyda phobl ynglŷn â chael agwedd fwy synhwyrol at gynllunio seilwaith yn ymwneud â datblygiadau tai newydd ac yn y blaen am yr union reswm hwnnw.
Un peth nad wyf yn cytuno â Mike Hedges arno yw mater y patrwm sengl. Byddwn yn siarad â'r awdurdodau am y tri maes y dymunwn ffurfio cydbwyllgor statudol ar eu cyfer ac, fel y dywedais, y rhain yw'r trefniadau trafnidiaeth ar y cyd, trefniadau'r cynllun strategol a datblygu economaidd/adeiladu tai cymdeithasol—y cronni tir, i bob pwrpas, er mwyn adeiladu tai cymdeithasol. Ond, fel arall, mae rhyddid i wneud hyn. Felly, gall yr awdurdodau lleol wneud pa drefniadau bynnag sydd eu hangen arnyn nhw, ond oherwydd ein bod yn gwneud hynny drwy'r gweithgor, mae'r gweithgor wedi gwneud map o'r hyn sy'n bodoli a'r hyn nad yw'n bodoli, ac nid yw'n gwneud synnwyr eu bod yn gorgyffwrdd. Felly, bydd awdurdodau lleol eu hunain yn feistri ar eu ffawd eu hunain yn hynny o beth. Dyma'r rhai fydd naill ai'n mynd yn rhan o drefniant o wahanol bwyllgorau sy'n gorgyffwrdd neu beidio. Ond nid yw'n ymddangos yn synhwyrol i mi y byddech yn gwneud pump lle byddai un yn gwneud y tro. Felly, credwn y byddant yn cael y sgwrs honno ymysg ei gilydd ac yn dod i'r casgliad hwnnw.
Felly, mae'n mynd law yn llaw â'r gyfundrefn berfformiad newydd, a fydd yn cymell gweithio rhanbarthol. Byddwn yn disgwyl i awdurdod lleol ystyried gweithio'n rhanbarthol wrth gynllunio ei wasanaethau, pam nad yw hynny'n anghenraid strategol a'r hyn y gallai elwa arnynt o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth wneud hynny, ac yna byddwn yn ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw ystyried y ffordd orau o gyflawni hynny. Ond ni fydd hi'n ofynnol sefydlu dull penodol; eu dewis nhw fydd hynny.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, a diolch ichi hefyd am ddarparu copi ymlaen llaw inni o argymhellion y gweithgor. Er ei bod yn amlwg bod llawer o waith wedi'i wneud ar osod yr agenda ar gyfer diwygio, ychydig iawn o ddiwygio a fu, mewn gwirionedd. Gweinidog, a ydych chi'n derbyn nad yw'r model presennol ar gyfer llywodraeth leol yn gynaliadwy, ac o ystyried cyflwr cyllid cyhoeddus, bod angen inni ddiwygio hynny cyn gynted ag y bo modd?
Mae is-bwyllgor newydd yn cael ei sefydlu o fewn y cyngor partneriaeth. Felly, pa bryd fyddwch chi'n gallu rhannu cylch gwaith llawn yr is-grŵp, ac, yn bwysicach, beth fydd yr amserlenni, os o gwbl, y byddant yn gweithio iddyn nhw? Os ydych chi'n derbyn y rhagosodiad bod gormod o lawer o awdurdodau lleol yn gwneud pethau'n wahanol, fel y mae'n ymddangos eich bod chi, o ystyried yr ymgyrch i greu mwy o weithio rhanbarthol, rhaid ichi dderbyn y brys am newid o ystyried y toriadau i wasanaethau hanfodol a biliau treth cyngor sy'n cynyddu.
Mae'r cyhoedd, ein trigolion, yn poeni am yr hyn a gânt am eu harian. Pan fyddant yn talu eu treth gyngor, beth maen nhw'n ei gael yn ôl? Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n ateb yr honiadau nad yw hyn ond yn ail bobiad o hen system y cynghorau sir ac na fydd hyn yn arwain at well gwasanaethau cyhoeddus ac arbedion i drethdalwyr?
Mae'r cyhoedd, ein hetholwyr, yn mynnu cael newid cyflymach. Mae'r mater hwn wedi'i drafod ers bron i ddau ddegawd, ac nid ydym ni'n llawer nes at ei ddiwygio o hyd. Felly, Gweinidog, pryd byddwn yn gweld newid mewn llywodraeth leol mewn gwirionedd? Beth yw'r amserlen? Mae angen gweithredu nawr yn hytrach na dim ond siarad. Diolch.
Wel, dydw i ddim yn cytuno gyda chynsail sylfaenol cyflwyniad Caroline Jones yno. Dydw i ddim yn bwriadu lleihau nifer y prif awdurdodau yng Nghymru. Rydym ni'n benodol yn peidio â gwneud hynny. Bydd darpariaeth yn y Bil ar gyfer trefniadau uno gwirfoddol, pryd mae awdurdodau lleol yn teimlo eu bod am ddod at ei gilydd, ond ni fydd awdurdodau lleol yn cael eu huno'n orfodol. Yn hytrach, fel y dywedais, byddwn yn ceisio cael dull systematig o weithio'n rhanbarthol, wedi'i ddatblygu'n unol â llywodraeth leol drwy'r is-grŵp, y cytunwyd ar y cylch gorchwyl ar ei gyfer yn y cyngor partneriaeth. Rwy'n fwy na pharod i ddosbarthu'r cylch gorchwyl os oes gan Aelodau ddiddordeb, ond maen nhw i edrych eto ar y trefniadau gwaith rhanbarthol ar gyfer llywodraeth leol. Bydd adroddiad cyntaf y grŵp hwnnw'n dod yn ôl erbyn mis Hydref ac fe'i defnyddir gennym ni i lywio'r ddadl ar gyfer cyfnod 1 y Bil wrth iddo fynd i'r Senedd. Rydym yn mawr obeithio, gyda chaniatâd y Llywydd, y byddwn yn cyflwyno'r Bil hwnnw ym mis Hydref er mwyn cyrraedd anghenion amserlen yr etholiad y bydd yn sicr yn ymwybodol ohoni, ac ar hyn o bryd rydym ar y trywydd iawn i wneud hynny. Yna, wrth inni fwrw ymlaen â hynny, byddwn yn cyfeirio at yr is-grŵp newydd, y trefniadau gweithio a'r gwaith craffu ar ein pwyllgorau yma er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ati i gydweithio i greu system newydd o weithio i lywodraeth leol.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar Wythnos Addysg Oedolion, a dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol a gydlynir gan Y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Bob blwyddyn, rydym yn gweld dros 10,000 o oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Wythnos Addysg Oedolion. Mae'r ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth o werth dysgu oedolion, yn dathlu cyflawniadau dysgwyr a darparwyr, ac yn ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau'n gadarnhaol. Bwriadaf ddefnyddio fy natganiad heddiw i dynnu sylw at yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn yn yr ysbryd Wythnos Addysg Oedolion.
Bydd Aelodau'n ymwybodol, yn fy nghytundeb blaengar gyda'r Prif Weinidog, ein bod ni wedi ymrwymo i archwilio sut y gallwn gyflwyno hawl Gymreig newydd i ddysgu gydol oes. Mae gwaith wedi dechrau o fewn y Llywodraeth a gyda'r sector dysgu oedolion ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith am gynnal seminar diweddar ar y mater, ac rwyf wedi gofyn i CCAUC hyrwyddo a herio swyddogaeth prifysgolion o ran addysg oedolion, cymunedol a gydol oes sy'n seiliedig ar leoedd.
Euthum i wobrau dysgwr y flwyddyn sy'n oedolyn Inspire! ar 5 Mehefin, ac rwyf eisiau, unwaith eto, llongyfarch Andrea Garvey, a enillodd wobr dysgwr y flwyddyn sy'n oedolyn Inspire! eleni. Y gwobrau hyn yw'r llwyfan lansio ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion, ac fe'm syfrdanwyd gan ymroddiad, cydnerthedd a dewrder y dysgwyr y cwrddais i â nhw. Roedd eu hagwedd tuag at ddysgu, eu penderfyniad i estyn am fywyd gwell a'u cryfder cymeriad llwyr yn rhyfeddol. Rwy'n gweld tebygrwydd yn nibenion ein cwricwlwm ysgol newydd—i ddatblygu dinasyddion a dysgwyr mentrus, ymgysylltiol ac uchelgeisiol. Ac mae'r un mor ddilys ystyried y rhain fel y dibenion ar gyfer dysgu gydol oes.
Os ydym am lwyddo i wneud Cymru yn genedl gref a hyderus, sef ein huchelgais, yna mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn pobl drwy gydol eu bywydau. Mae ein polisi dysgu oedolion yn rhoi blaenoriaeth briodol i sgiliau hanfodol, ac rydym yn cynnig y ddarpariaeth hon yng nghanol ein cymunedau lle mae ein dysgwyr yn teimlo'n ddiogel. Ond ni allwn ddiystyru'r niferoedd enfawr o bobl sydd angen ailsgilio neu wella. Ni allwn fforddio gadael i bobl aros ar waelod yr ysgol gan nad ydym wedi rhoi'r cyfle iddynt ddringo i fyny. Dyna pam yr wyf yn falch bod ein rhaglenni dysgu a chyflogadwyedd cymunedol yn cefnogi ein hoedolion mwyaf agored i niwed. Rydym yn darparu sgiliau hanfodol, cymwysterau a hyfforddiant paratoi at waith i gynorthwyo pobl i oresgyn rhwystrau rhag cael gwaith, wrth ailsgilio ac uwchsgilio dysgwyr sy'n gweithio ac yn ddi-waith.
Mae ein gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio ar waith bellach ac mae'n ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar gyngor a chymorth gyrfaoedd proffesiynol er mwyn cael mynediad at addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Yn yr hydref, byddwn yn dechrau cynllun treialu dwy flynedd ar gyfer ein cyfrifon dysgu personol sydd â'r nod o gefnogi oedolion sydd mewn swyddi â chyflog isel neu sydd â sgiliau isel i ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen naill ai i newid gyrfa neu i symud ymlaen i lefel uwch yn eu cyflogaeth bresennol. Llywydd, nid oes un diffiniad unigol o ddysgu oedolion. Mae'n cwmpasu dysgu ar bob lefel, o'r cyfnod cyn mynediad hyd at radd, ac mae'n digwydd mewn amrywiaeth o leoliadau, o ganolfannau cymunedol i'n prifysgolion. Rwyf wedi ymrwymo i ehangu mynediad at addysg bellach ac uwch, gan sicrhau bod unrhyw ddysgwr sydd â'r potensial i elwa ar addysg ôl-16 yn cael cyfle i'w gyflawni.
Heno, byddaf yn mynd i dderbyniad i ddathlu hanner canmlwyddiant y Brifysgol Agored. Ers i'r Brifysgol Agored agor ei drysau gyntaf ym 1969, mae dros 200,000 o fyfyrwyr yng Nghymru wedi astudio gyda nhw. Mae'r Brifysgol Agored yn darparu cyfleoedd dysgu o bell i tua 9,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, sy'n golygu mai dyma'r darparwr mwyaf o addysg uwch ran-amser yn y wlad. A hi yw'r Brifysgol fyd-eang sydd hefyd yn brifysgol leol i bawb. Rwy'n teimlo'n falch iawn bod y Brifysgol Agored wedi'i chontractio i ddatblygu ein rhaglenni addysg athrawon newydd a fydd yn ehangu cyfranogiad mewn addysgu. Bydd y llwybrau newydd hyn i addysgu yn chwalu rhwystrau, gan ddarparu cenhedlaeth gyfan o athrawon o wahanol gefndiroedd, gwella profiad dysgu disgyblion yn ein hysgolion ac, yn hollbwysig, cynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu.
Wrth gwrs, mae dysgu rhan-amser o bell hyblyg yn gwneud cyfraniad economaidd, cymdeithasol ac unigol sylweddol ac mae ein diwygiadau i gyllid myfyrwyr wedi gweld y Brifysgol Agored yn adrodd am gynnydd mewn ceisiadau o bron i 50 y cant, a chynnydd o fwy na thraean yn nifer yr israddedigion rhan-amser sy'n cael cymorth i fyfyrwyr. Bydd tua hanner y myfyrwyr rhan-amser yr ydym yn eu cefnogi'n ariannol eleni yn cael y lefel uchaf o grant cynhaliaeth ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fyfyrwyr sydd ag ymrwymiadau ariannol eraill yn eu bywydau. Byddwn i'n atgoffa'r Aelodau mai Cymru yw'r unig wlad yn Ewrop i ddarparu cymorth cynhaliaeth cyfatebol mewn benthyciadau a grantiau ar draws moddau a lefelau astudio. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar gymhellion i ôl-raddedigion a chymorth i ddysgwyr hŷn yn fuan iawn.
Mae'r wythnos hon hefyd yn nodi wythnos ffoaduriaid, a dydd Iau, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, byddaf yn lansio'r prosiect integreiddio ffoaduriaid, AilGychwyn. Bydd y fenter hon yn cynnig siop un stop i ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac yn darparu cymorth a chyngor ar faterion amrywiol, gan gynnwys darpariaeth addysg a Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill.
Mae ymgyrchoedd fel Wythnos Addysg Oedolion yn hanfodol. Dathliad yw'r wythnos hon; dathliad o bob agwedd ar ddysgu oedolion, a bydd yn rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar rywbeth newydd gyda llu o weithgareddau'n cael eu cynnal ar draws ein cenedl. Ni ellir byth tanbrisio pwysigrwydd cymryd rhan mewn dysgu, ar bob lefel. Gall cymryd rhan mewn gweithgaredd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion fod y cam cyntaf allweddol yn ôl i ddysgu ac ar lwybr i greu bywyd newydd a gwell, a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac ymunaf â hi i longyfarch Andrea Garvey. Nod Wythnos Addysg Oedolion yw codi ymwybyddiaeth o werth dysgu oedolion, dathlu cyflawniadau dysgwyr a darparwyr, ac ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau'n gadarnhaol. Y ffaith yw, mae dysgu oedolion yn allweddol i economi flaengar ac amrywiol ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhoi'r gallu i weithlu Cymru feithrin sgiliau a gwybodaeth newydd er mwyn gwella canlyniadau cyflogaeth. Felly mae'n hanfodol bod oedolion yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn dysgu ar unrhyw gyfnod yn eu gyrfa, boed hynny drwy ddysgu mewn gwaith neu astudiaeth bersonol.
Er gwaethaf manteision cymdeithasol ac economaidd, dros y blynyddoedd, mae nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned wedi gostwng yn sylweddol. Mae addysg i oedolion wedi wynebu ergyd toriadau Llywodraeth Lafur Cymru ers amser, sydd wedi llesteirio gallu'r sector i ddarparu cyrsiau hyblyg, cyson a hygyrch, gan gyfrannu at y gostyngiad yn y niferoedd a gofrestrodd. Mae ond yn iawn fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'n llawn i roi blaenoriaeth i'r sector ymylol hwn, er mwyn sicrhau y gall Cymru gynnig safon uchel o gyfleoedd dysgu i oedolion yn gyson ym mhob rhan o Gymru—gogledd, dwyrain, de a gorllewin.
Y prif heriau sy'n wynebu dysgwyr sy'n oedolion yw sut i gydbwyso gwaith ac ymrwymiadau teuluol ynghyd â rhwystrau ariannol. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog: pa gymorth y mae Gyrfa Cymru yn ei roi i oedolion sy'n ceisio manteisio ar gyfleoedd addysgol? Sut y gellir gwneud gwell defnydd o Gyrfa Cymru er mwyn darparu cymorth a chyngor wedi'i deilwra i oedolion sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd, yn ogystal â phobl ifanc?
Yn 2016, nododd adroddiad Estyn ar ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned:
Yn y rhan fwyaf o bartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned mae gostyngiadau ariannol wedi cael effaith sylweddol ar y ddarpariaeth a lefelau staffio.
Ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod darparwyr dysgu oedolion yn cael y cyllid a'r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen yn amlwg?
Yn olaf, Gweinidog, yn 2017, dywedodd dogfen bolisi Llywodraeth Cymru ar ddysgu oedolion yng Nghymru—fel mater o ffaith, yr oeddech chi yn dweud—ac rwy'n dyfynnu:
Byddwn yn ariannu'r ddarpariaeth o Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol hyd at lefel 2.
Ac rydych yn parhau i ddweud:
Byddwn yn parhau i gefnogi'r ddarpariaeth o Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol hyd at lefel 2.
A ydych wedi cynnal unrhyw asesiad effaith i weld pa mor effeithiol fu'r cymorth ar gyfer cymwysterau o'r fath? Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r hyn sydd angen ei wneud yn fwy i helpu oedolion sy'n dysgu cymwysterau newydd i ennill cymwysterau uwch yng Nghymru? Hefyd, mae'r maes hwn angen pobl ag anableddau, rhai materion eraill, lleiafrifoedd ethnig, LGBT ac yn enwedig cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y maes hwn. Mae'r angen hynny'n ddirfawr i wella'r sector hwn. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am gydnabod pwysigrwydd dysgu oedolion a'r gwir effaith a gaiff hynny ar unigolion ac ar y gymdeithas ehangach? Rwy'n credu, Llywydd, imi grybwyll yn fy natganiad fod gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio ar waith nawr. Diben y gwasanaeth newydd hwn yw darparu ac ymateb i'r union faterion a gododd yr Aelod, drwy sicrhau bod oedolion yn gallu cael cyngor gyrfaoedd proffesiynol a all eu helpu i gael mynediad i addysg oedolion, dysgu seiliedig ar waith, cyfleoedd hyfforddiant ychwanegol, i'w helpu nhw i gyrraedd eu nodau.
Rwyf hefyd yn cydnabod—. A gofynnodd yr Aelod beth arall yr ydym ni'n ei wneud. Soniais yn fy natganiad y byddwn yn cael cynllun treialu newydd ar gyfer cyfrifon dysgu personol yn yr Hydref. Mae'r rheini'n benodol ar gyfer pobl sydd mewn gwaith. Yn aml, mae ein cynlluniau cyflogadwyedd wedi canolbwyntio ar y rheini—yn ddealladwy, yn gwbl briodol—y rhai pellaf oddi wrth gyflogaeth, ond mewn gwirionedd rydym yn gwybod bod pobl mewn gwaith sydd angen cyfleoedd arnyn nhw i uwchsgilio ac ailsgilio, a bydd y cynllun treialu'n ymyrraeth werthfawr ar gyfer y gweithwyr penodol hynny.
O ran cyllid ar gyfer rhan-amser, nid yw'r Aelod yn anghywir. O ystyried effaith cyni, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ac nid yw'n afresymol bod penderfyniadau blaenorol wedi canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd amser llawn i'n pobl ieuengaf. Mae'n ddewis anodd, ond credaf fod rhesymeg yn sicr y tu ôl i flaenoriaethu'r dysgwyr hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, lle gallwn, o gofio'r sefyllfa ariannol anodd yr ydym ynddi o hyd, yw dod o hyd i ffyrdd arloesol o gefnogi dysgu oedolion yn gyffredinol. Felly, er enghraifft, rydym wedi cyflwyno dull ariannu rhan-amser newydd sy'n diogelu'r ddarpariaeth o Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, sgiliau sylfaenol ac ailsefyll TGAU, ond mae hefyd yn dyrannu gweddill y cyllid hwnnw ar lefel data poblogaeth ar draws pob coleg. Felly, wrth fynd i'r afael â'r mater hwn, lle bynnag yr ydych yng Nghymru, rydym yn gobeithio ail-ymgysylltu darpariaeth ran-amser, a fu'n rhy dameidiog yn y gorffennol. Rydym yn cyflwyno trefniadau pontio yn y flwyddyn ariannol hon i sicrhau na fydd yr un coleg unigol ar ei golled. Ond, bydd canlyniad y diwygiad hwn yn golygu y bydd mynediad i addysg bellach ran-amser yn llawer tecach nag a fu yn y gorffennol.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni i gyd gydnabod pwysigrwydd Wythnos Addysg Oedolion ac i ddiolch i bawb—fel sydd wedi cael ei wneud yn barod—yn y sector sydd yn gweithio mor ddiwyd yn y maes yma. Dwi'n cydnabod ei fod yn beth pwysig iawn, yn rhan o'n cymdeithas ni, fod pobl yn gallu dysgu pa bynnag oedran ydyn nhw, pa bynnag bwnc yw e, os ydyw e ynglŷn ag ailsgilio neu os ydyw e yng nghyd-destun jest eu bod nhw eisiau dysgu rhywbeth newydd mewn cyfnod o fywyd. Felly, rwy'n credu mai dyna sydd yn bwysig—ein bod ni'n cydnabod dysgu am yr hyn ydyw e yn hytrach na dysgu er mwyn cael rhyw fath o arholiad ar y diwedd.
Mae gen i gyfres o gwestiynau. Yn sicr, yr wythnos yma, dŷn ni wedi clywed bod 180 o swyddi wedi'u peryglu yn Allied Bakeries. Dŷn ni wedi clywed, yn sicr, fod swyddi yn y fantol yn Ford ym Mhen-y-bont. Mae hynny wedyn yn mynd i effeithio ar y system addysg oherwydd mae'n siŵr bod nifer fawr o'r bobl hynny sydd yn gweithio yn y sectorau yma yn mynd i eisiau ailsgilio ac eisiau ffeindio swyddi eraill. Blwyddyn diwethaf, fe wnaethom ni glywed y Future Advocacy think tank yn rhagfynegi bod un mewn tair swydd yng Nghymru mewn perygl o awtomeiddio erbyn y 2030au cynnar, ac mai Alyn and Deeside yw'r etholaeth fwyaf bregus a fydd yn gweld yr ergyd fwyaf sylweddol. Felly, o ystyried yr impact economaidd sydd ohoni, o ystyried rhai o'r ffactorau awtomeiddio, a allwch chi ddweud wrthym ni os ydych chi wedi ystyried y rhagolygon yn ddifrifol? Pa ddarpariaethau y gallwch chi eu gwneud i ailsgilio ac uwchsgilio y bobl hynny sydd yn mynd i fod yn gofyn am hynny? Sut ydych chi'n mynd i gynnwys hynny o fewn y system addysgu i oedolion? Wedyn, yn dilyn o hynny, pa drafodaethau a ydych chi wedi’u cael gyda Gweinidog yr economi i liniaru effeithiau datblygiad awtomeiddio ar ein gweithwyr, a'r effaith a gaiff hynny ar gyfleoedd o fewn y sectorau penodol dwi wedi siarad amdanynt yn flaenorol?
Mae nifer ohonom ni wedi cael e-byst gan Age Cymru, a dŷch chi wedi trafod y ffaith eich bod chi'n mynd i wneud datganiad penodol ar bobl hŷn, felly diolch am hynny. Ond, dŷn ni wedi cael e-byst gan Age Cymru yn dweud bod dysgu gydol oes, a'r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgiadol, yn bwysig i nifer fawr o bobl hŷn i ennill sgiliau newydd a gwybodaeth. Dŷn ni wedi cael y Bevan Foundation yn dweud mai dim ond un mewn 20 o ddysgwyr mewn addysg gymunedol sydd yn 65 mlwydd oed neu'n hŷn. Mae rhesymau fel lleoliad cyrsiau, diffyg hygyrchedd cyfleusterau, diffyg ystod cyrsiau a diffyg hysbysebu, yn enwedig diffyg hysbysebu i ffwrdd o'r we, yn rhwystrau iddyn nhw allu ymwneud ag addysg yn y ffordd y bydden nhw'n hoffi. Felly, beth yw'ch asesiad chi o ddysgu gydol oes fel arf lles, yn ychwanegol iddo fod yn brofiad i ennill sgiliau ar gyfer cyflogadwyedd? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad gwasanaethau ac adnoddau, fel bod dysgu gydol oes yn cael ei weld fel arf i ddelio â chamau mewn bywyd, gan gynnwys unigrwydd, ymddeoliadau, galar ac yn y blaen? Wedyn, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog llywodraeth leol i wella hygyrchedd a symudedd mewn llyfrgelloedd a chanolfannau addysg eraill i sicrhau nad yw'r rhain yn rhwystrau ar gyfer dysgu?
Y drydedd elfen sydd gen i: rydych chi wedi clywed gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, dwi'n credu, ynglŷn â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae colegau addysg bellach a phobl yn y sector honno wedi dweud wrthyf i fod yna rai anawsterau gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a'r awgrymiadau sydd yn cael eu rhoi iddyn nhw. Mae yna dystiolaeth wedi bod gan y sector honno sy'n awgrymu bod yna gap rhwng beth mae'r bartneriaeth a'r Llywodraeth yn disgwyl iddyn nhw ei wneud, a beth sydd yn realistig iddyn nhw ei wneud ar lawr gwlad, ac efallai eu bod nhw'n rhy fanwl ynglŷn â'r hyn sydd yn cael ei ofyn ganddyn nhw. Felly, dwi'n cydnabod bod angen rhoi rhyw fath o seilwaith i arian y Llywodraeth, ond oes yna ffordd i fod yn fwy hyblyg gyda'r hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad o ran y cyrsiau sydd yn cael eu rhoi arno fel bod yna ymateb i beth mae pobl eisiau ei wneud, ond hefyd ymateb i beth mae'r economi a beth dŷn ni ei angen fel cenedl?
Roeddwn i mewn cyfarfod gyda rhai cyn-filwyr ddoe ac roedden nhw'n sôn wrthyf am y ffaith, pan fyddan nhw'n gadael y lluoedd arfog, na chydnabyddir eu sgiliau trosglwyddadwy yn eithaf aml, felly efallai fod ganddyn nhw sgiliau penodol mewn peirianneg ac ati, ond ni chaiff hynny ei gydnabod os oes angen iddyn nhw fynd i dirwedd waith gwbl wahanol, ac maen nhw yn y diwedd yn byw ar fudd-daliadau, neu'n ddigartref, mewn gwirionedd, gan nad ydyn nhw wedi dod o hyd i rywle lle y gallant fynd iddo i geisio newid y realiti hwnnw dros eu hunain, a chael swydd mewn rhyw faes a fyddai'n gweddu iddyn nhw. Ond dydyn nhw ddim yn cael gwybod sut y gallant drosglwyddo'r sgiliau hynny. Tybed pa waith y gallwch chi ei wneud drwy'r sector addysg i oedolion i helpu'r cyn-filwyr hynny i wireddu eu potensial fel nad ydyn nhw yn y sefyllfaoedd agored i niwed hynny.
Fy nghwestiwn olaf oedd—byddwch chi'n ymwybodol o adolygiad Augar a'r ffaith eu bod yn dilyn y cysyniad hwn o ddysgu drwy fywyd, a byddwch chi'n ymateb i hynny, rwy'n gwybod. Fe wnaethoch chi sôn yn gynharach am y cyfrifon dysgu personol. Roeddwn i eisiau deall ai'r un peth oedd hynny, neu a oedd yn rhywbeth yr ydych chi'n gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU arno, oherwydd rwyf wedi cael sgyrsiau gyda'r Brifysgol Agored yn enwedig sydd â diddordeb mawr yn y gwaith o ehangu'r math hwnnw o beth, pryd, os ydych chi'n gweithio mewn swydd a'ch bod wedi llwyddo i wneud yn eithaf da ond nad oes gennych radd, neu os oes unigolyn arall mewn sefyllfa lle mae eisiau ennill cymwysterau ychwanegol ac na all gael cymorth ariannol i wneud hynny, sut ydym ni'n hwyluso'u gallu i wneud hynny pan fyddan nhw mewn gwaith amser llawn a phan fydd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw. Felly, byddai unrhyw beth sydd gennych chi i'w ychwanegu at eich ymateb i'r cwestiwn blaenorol gan Mohammad Asghar yn ddefnyddiol iawn, diolch.
A gaf i ddiolch i Bethan Sayed am gydnabod, unwaith eto, y gwaith caled sy'n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru yn y maes pwysig hwn, a hefyd i gydnabod mai dysgu anffurfiol, heb ei achredu, yw'r cam cyntaf un y mae'n rhaid i rai pobl ei gymryd cyn iddyn nhw symud ymlaen i ddysgu achrededig mwy ffurfiol? Felly weithiau gallwn fod yn rhy ddilornus o'r hyn sy'n ymddangos yn weithgaredd cymdeithasol yn bennaf, ond mewn gwirionedd gall hynny fod yn elfen hollbwysig yn aml er mwyn i rywun fagu hyder, meithrin ei hunan-barch, ailgysylltu â dysgu, yn enwedig ar gyfer y bobl hynny nad oedd yr ysgol efallai, a'u cyfle cyntaf i ddysgu, wedi bod yn brofiad cadarnhaol. Felly, fel chi, rwy'n credu y dylem ni gydnabod swyddogaeth cyfleoedd anffurfiol, heb eu hachredu. Mae'n bwysig.
Gofynnodd yr Aelod a wyf i wedi yn cael cyfarfodydd gyda'm cydweithiwr, Ken Skates ynghylch effaith awtomeiddio. Mae'r Llywodraeth yn effro iawn i'r bygythiadau ond hefyd y cyfleoedd yn sgil awtomeiddio. Yn ddiau mae angen i ni fod mewn sefyllfa lle mae'r gweithlu yng Nghymru yn fedrus er mwyn manteisio. Bob tro rydym wedi gweld chwyldro diwydiannol neu gam mawr ymlaen ym myd gwaith, yn naturiol ceir ofn mawr ynghylch yr effaith negyddol, ond ceir cyfleoedd hefyd, ac mae angen inni fod yn ymwybodol iawn o ble fydd y cyfleoedd am waith yn y dyfodol, a sicrhau bod gan ein gweithlu'r sgiliau a'r doniau i allu newid ac i allu symud i'r cyfleoedd newydd hynny os byddant ar gael. Mae'r Llywodraeth wedi comisiynu darn penodol o waith i edrych ar effaith bosibl awtomeiddio ar economi Cymru a'r hyn y bydd angen inni ei wneud i ymateb i unrhyw gyfleoedd newydd a fydd yn deillio o hynny.
Cydnabu'r Aelod fy mod, yn fy natganiad, wedi dweud y byddwn yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â dysgwyr hyn cyn hir, a byddaf yn cwrdd â'r comisiynydd pobl hŷn ddydd Iau yr wythnos hon i drafod y materion pwysig hyn ar gyfer ein dinasyddion hŷn. Ar ôl ymweld â dosbarth ym Merthyr Tudful yn ddiweddar—. Rwy'n credu bod eu dysgwr hynaf yn ei 90au. Nid oedd gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch pwysigrwydd parhau i sicrhau bod y cyfle penodol hwnnw ar gael. Roedd yn sicr yn darparu pob math o fanteision iddi hi o ran brwydro yn erbyn unigedd cymdeithasol, gan sicrhau ei bod yn cael cyfle i ymgysylltu â phobl o'r un meddylfryd ar bwnc a oedd yn wirioneddol bwysig iddi hi, ac, unwaith eto, rydym ni am wneud yn siŵr, wrth inni ddatblygu ein hawl Cymraeg i ddysgu gydol oes, ein bod yn cynnwys ein dinasyddion hŷn yn hynny.
Mae'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol yn ffordd fwyfwy pwysig inni allu cysoni ein darpariaeth addysg a hyfforddiant ag anghenion ein heconomi. Weithiau, gall fod tensiwn rhwng yr hyn y mae pobl eisiau ei astudio a dysgu amdano a pha gymwysterau sydd eu hangen i allu cael gwaith â chyflog. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi neilltuo swm o arian i golegau addysg bellach er mwyn iddyn nhw allu ymateb yn rhagweithiol ac yn gadarnhaol i gais ein partneriaeth sgiliau rhanbarthol, ond cydnabyddwn fod angen bod yn hyblyg weithiau ar sail sefydliad i sefydliad. Rydym ni'n ymwybodol o hynny. Ond fy ngalwad i'n cydweithwyr mewn addysg bellach, a draddodwyd mewn araith yn eu cynhadledd yr wythnos diwethaf, yw'r angen i gydweithio â'n partneriaeth sgiliau rhanbarthol er mwyn i'n dysgwyr, o ba oedran bynnag, allu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi a chyfleoedd dysgu sy'n mynd i fod yn ystyrlon yng nghyd-destun cyflogaeth yn eu hardal. Gan fod y rhan fwyaf o ddysgwyr eisiau defnyddio'r sgiliau hynny i weithio eu ffordd i fyny'r ysgol gyflogaeth i roi cyfleoedd iddyn nhw a'u teuluoedd. Mae sicrhau bod cysondeb rhwng yr hyn y mae ein colegau Addysg Bellach yn ei ddarparu a'r anghenion a'r cyfleoedd ar gyfer swyddi ar ôl cyfnod o ddysgu yn gwbl hanfodol.
Mae'n amlwg fy mod yn cymryd llawer iawn o ddiddordeb yn adroddiad Augar. Yr hyn sy'n ddiddorol am Augar yw'r penawdau, wrth gwrs, sy'n rhoi sylw mawr i strwythurau ffioedd ar gyfer Addysg Bellach, ond mewn gwirionedd mae gan adroddiad Augar rai pethau diddorol iawn i'w dweud am ddysgu gydol oes. Rwy'n credu, a dweud y gwir, yng Nghymru ein bod ni mewn sefyllfa bosibl i edrych ar rai o'r argymhellion hynny ac efallai symud yn gyflymach na'n cyd-Aelodau yn Lloegr, o ystyried yr anhrefn sy'n teyrnasu ar hyn o bryd. Cwestiwn arall o ran cyd-destun Lloegr yw a fydd adroddiad Augar byth yn gweld golau dydd. Ond mae ganddo rai pethau diddorol i'w dweud am addysg bellach a dysgu oedolion, ac, fel y dywedais, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn datblygu hawl i ddysgu gydol oes yng Nghymru.
Ond, wrth gwrs, mae'r Aelod yn sôn am gyfleoedd i astudio'n rhan-amser. I'r bobl hynny sydd efallai â chyfrifoldebau gofalu neu weithio ond sydd eisiau'r cyfle i ail-ymgysylltu â dysgu, dau ddull ymarferol iawn o wneud hynny yw ein cefnogaeth i ddysgwyr rhan-amser. Fel y dywedais, mae'r Brifysgol Agored wedi gweld cynnydd o 50 y cant mewn ceisiadau eleni oherwydd ein bod yn rhoi'r cymorth ariannol i alluogi'r unigolion hynny i ddychwelyd i astudio. Ond rwyf hefyd yn cydnabod efallai nad yw cwrs llawnamser o'r fath yn iawn i'r unigolyn. Bydd ein cyfrifon dysgu personol yn rhoi mwy o hyblygrwydd yn ein hardaloedd treialu yn y gogledd a'r de-ddwyrain lle gall fod yn gwrs byrrach neu'n gymhwyster proffesiynol penodol y mae ei angen i'ch helpu chi i newid gyrfa neu symud i fyny'r ysgol yrfa. Felly, mae hynny'n rhoi blas i chi o'r ffordd hyblyg yr ydym yn ceisio ei defnyddio i gynorthwyo'r bobl hynny sy'n ceisio ymgysylltu â dysgu, i'w cynorthwyo nhw a'u rhagolygon nhw o ran cyflogaeth.
Mae'n wych cael y datganiad hwn yn Wythnos Addysg Oedolion, oherwydd ei fod yn ein hatgoffa ni nad yw byth yn rhy hwyr. Beth bynnag yw eich oedran chi, rydych chi'n parhau i ddysgu. Roedd yn sicr yn wir yn fy achos i pan es i yn ôl i wneud fy Meistr yng nghanol fy 30au, yr oedd yn wir am fy niweddar fam pan wnaeth hi ei chwrs Prifysgol Agored yn ei 60au, ac yr oedd yn sicr yn wir pan oeddwn yn cynnal cymhorthfa yn y Gilfach Goch ddydd Gwener diwethaf, pan, tua diwedd y gymhorthfa, wrth imi gael cwpanaid o de, cyn i'r ganolfan ddydd roi cinio pysgod a tharten cwstard hyfryd i mi hefyd—cyn imi wneud hynny, daeth Gwyn David, yn 70 mlwydd oed i mewn. Roedd Gwyn eisiau dweud stori fach wrthyf i. Bu yma yng Nghaerdydd yn yr hen gyfnewidfa lo yr wythnos diwethaf, yng ngwobrau Inspire! Enillodd Gwyn David, yn 70 mlwydd oed—dyn na chafodd fywyd hawdd a aeth, yn 19 oed, i mewn i Hensol â mân anawsterau dysgu, a threuliodd 20 mlynedd o'i fywyd yn goresgyn y problemau hynny a chael gwybod na fyddai'n gallu cyflawni—gwobr dysgwr y flwyddyn yng ngwobrau Inspire! yn 70 mlwydd oed. Mae wrth ei fodd ag addysg, mae'n hoff iawn o ddysgu, mae wrth ei fodd yn dweud wrth bobl eraill am hynny.
A dyna yw'r hyn yr ydym eisiau ei 3ddweud yma: o ddifrif, beth bynnag ydyw, pa un a yw'n newid gyrfa, hyfforddiant newydd, addysg newydd neu, a dweud y gwir, gwneud pethau fel y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud ar hyn o bryd ym mhob canolfan gymunedol, ym mhob neuadd, ym mhob llyfrgell—twristiaeth, TG, ymgynghori, ysgrifennu CV, prynu a gwerthu i fusnesau bach, rheoli straen—mae angen hynny ar bob un ohonom ni—Sbaeneg ar gyfer y gwyliau, Ffrangeg ar gyfer y gwyliau, garddio organig—. Neu Goleg Penybont, sef coleg addysg bellach y flwyddyn yng ngwobrau addysg bellach TES eleni, ac yn rhagorol ddwywaith yn ôl Estyn, gan ddarparu, yn Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos hon, sesiynau rhagflas am ddim mewn pethau fel garddwriaeth neu ieithoedd modern, ac ati. Nid yw byth yn rhy hwyr. Mae angen yr ail gyfle hwnnw arnom ni i gyd. Mae angen trydydd, pedwerydd a phumed cyfle ar rai ohonom ni hefyd, ond rydym ni'n parhau i ddysgu, ac rwy'n credu bod y datganiad heddiw i'w groesawu, oherwydd mae'n dweud, yn yr amrywiaeth o ddysgu i oedolion sydd gennym ni—yn amser llawn, yn rhan-amser, yn gyrsiau rhagflas a phopeth arall—y dylai pawb barhau i ddysgu ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu yng Nghymru i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y cyfle hwnnw. A'm cwestiwn i'r Gweinidog yw hyn: sut ydym ni'n gwneud yn siŵr—? Beth yw'r arfer gorau o ran cydgysylltu hyn fel bod pobl yn gwybod, lle bynnag y byddan nhw—yn y Gilfach Goch neu yng Nghaerau, neu ble bynnag, nid dim ond yn y canolfannau dysgu—bod cyfleoedd ar eu cyfer nhw? Beth yw'r arfer gorau wrth rannu'r cydgysylltu hwnnw fel bod pawb yn gwybod bod ganddyn nhw'r ail gyfle hwnnw?
A gaf i ddweud mewn ymateb y cefais y cyfle i gwrdd â Gwyn yn y seremoni wobrwyo? Fel y mae'r aelod newydd ei ddweud, yn 19 oed, derbyniwyd Gwyn i Hensol a threuliodd ddegawdau o'i fywyd yn y sefydliad hwnnw. Nid oedden nhw'n flynyddoedd hapus. Treuliodd lawer o'i amser yn ynysig, ar ei ben ei hun ac, mae gennyf i gywilydd dweud, dan ddylanwad cyffuriau a thawelyddion. Mae'r ffaith bod Gwyn bellach yn byw bywyd i'r eithaf ac yn rhan hollbwysig o'r grŵp yn y Gilfach yn wych. A'r hyn yr oedd ganddo i'w ddweud wrthyf oedd nad oes ganddo unrhyw fwriad o roi'r gorau i ddysgu yn fuan. A'r hyn y mae dysgu wedi'i roi iddo yw pŵer—pŵer dros ei fywyd i wneud penderfyniadau ynghylch sut y mae'n treulio'i amser, a phŵer, am gynifer o flynyddoedd pan oedd yn Hensol, nad oedd yn eiddo iddo.
Os nad ydych chi wedi'ch ysbrydoli gan Gwyn, yna bydd Andrea Garvey yn eich ysbrydoli gan iddi, yn fam ifanc, ddyheu am astudio'r gyfraith. Ac erbyn hyn mae hi wedi gwneud hynny. Ar ôl cwblhau gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, mae hi'n astudio ar gyfer ei Meistr ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Mae ganddi angerdd penodol ym maes camweinyddiad cyfiawnder ac mae wedi ymwneud yn helaeth â'r gwaith y mae adran y gyfraith yn Abertawe yn ei wneud i ystyried achosion a chwilio am gyfleoedd newydd i archwilio a fu camweinyddiad cyfiawnder. Cafodd ei henwebu gan aelodau o'i theulu sydd mor falch o'r hyn y mae hi wedi'i gyflawni.
Gadewais y noson honno—ac, wn i ddim, rwy'n credu y gallai pob un ohonom ni gofrestru ar y cwrs rheoli straen—ac yn sicr fe'm hysbrydolodd i ystyried gwneud fy Meistr, a byddaf i'n hŷn nag yn fy 30au, Huw, ond, fel y dywedasoch chi, nid yw byth yn rhy hwyr ac efallai fod y cyfle hwnnw gennyf i wneud hynny.
Rwyf eisiau gwneud Cymru'n genedl ail gyfle, neu, fel y dywedodd rhywun, efallai fod angen trydydd cyfle, neu bedwerydd cyfle, neu bumed cyfle i fynd yn ôl a chymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. Rydym ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth i greu'r hawl honno i ddysgu gydol oes. Yr her i mi nawr yw troi'r hawl honno a'r cysyniad hwnnw'n realiti, yn realiti i bobl fel Gwyn, yn realiti i bobl fel Andrea a phwy a ŵyr, hyd yn oed yn realiti i bobl fel Kirsty Williams.
Thank you, Minister, for that statement.
Daw hynny â ni at eitem 7, ond mae eitem 7 wedi ei dynnu yn ôl. Felly, mae hynny'n dod â ni at ddiwedd ein trafodion am y dydd heddiw. Diolch i chi.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:10.