Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/06/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw.

Gweithgareddau Allanol mewn Ysgolion

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod gweithgareddau allanol mewn ysgolion yn gynhwysol i bob disgybl? OAQ53970

Mae darpariaeth deg ar gyfer pob dysgwr yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon. Rwy'n annog ysgolion yn gryf i sicrhau bod cynwysoldeb a thegwch yn llywio pob penderfyniad a wneir ynglŷn ag unrhyw weithgareddau a allai arwain at gostau ychwanegol i deuluoedd.

Weinidog, diolch am eich ateb. Rwy’n ymwybodol o’r ymdrechion a wnaed i sicrhau cynwysoldeb. Ond wrth gwrs, ceir pryder cynyddol, sy’n deillio o adroddiad Undeb y Cerddorion, ynglŷn â hygyrchedd gwersi cerddoriaeth, y materion sy'n codi bellach o ran fforddiadwyedd i blant allu mynychu tripiau allanol—celfyddydau, diwylliant ac yn y blaen. Ac wrth gwrs, mae un newydd rydym wedi’i etifeddu o America, yn ôl pob tebyg, sef datblygiad promiau ysgol, lle ymddengys nid yn unig fod y gost yn codi, ond ymddengys ei bod yn gystadleuaeth rhwng rhieni—gyda rhai'n trefnu limwsinau, ac ati, i fynd i ysgolion. Ac mae hyn yn creu pryder mwy cyffredinol, yng nghyd-destun yr holl bethau eraill, fod problem gynyddol o ran y rhai a all neu na allant fforddio cymryd rhan mewn rhai o'r gweithgareddau hyn. A tybed a yw hwn yn faes, Weinidog, lle gallech nodi a fyddech yn barod i wneud rhagor o ymchwil a dadansoddi, er mwyn asesu beth yw maint y broblem, a sut y gellid mynd i'r afael â hi.

Rwy'n gyfarwydd â ffenomenon y prom, ac mae'n wahanol iawn i’r disgos ysgol fawr a fynychwyd gan bawb ohonom, rwy'n siŵr. Mae cost y diwrnod ysgol yn fater y mae gennyf gryn ddiddordeb ynddo. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith sylweddol y gall ei chael ar rai plant, yn aml o’r grwpiau a fyddai'n elwa fwyaf o weithgareddau allgyrsiol a'r tu allan i'r ysgol. Rwyf wedi gofyn i Plant yng Nghymru gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion, i’w hannog i ystyried effaith costau ychwanegol ar deuluoedd, a bydd y gyfres gyntaf o ganllawiau ar gael erbyn mis Medi, ac yn canolbwyntio ar ystod o faterion penodol. Wrth gwrs, yn ychwanegol at hynny, byddwn yn buddsoddi mwy na £5.1 miliwn eleni yng nghronfa mynediad y grant datblygu disgyblion, i helpu rhieni gyda'r costau sy'n gysylltiedig â'r diwrnod ysgol, gan gynnwys gwisg ysgol, a dillad ac offer addysg gorfforol, yn ogystal â gwario mwy nag erioed ar y grant datblygu disgyblion ei hun i gefnogi addysg rhai o'n plant mwyaf difreintiedig.

A gaf fi gytuno â rhai o'r pwyntiau a wnaed gan Mick Antoniw? Mae mater iechyd meddwl mewn ysgolion wedi bod yn un sy'n codi'n uwch ar yr agenda, a chredaf fod tystiolaeth gynyddol fod gweithgareddau allgyrsiol yn yr ysgol yn fuddiol, mewn llawer o achosion, i iechyd meddwl disgyblion. Ond wrth gwrs, gall y costau y soniodd Mick Antoniw amdanynt—y costau cysylltiedig—gael effaith negyddol hefyd, felly mae angen cydbwyso'r ddau beth. Mewn perthynas â'r broblem iechyd meddwl ehangach, beth a wnewch i sicrhau bod eiriolaeth ar gael i ddisgyblion o’r cychwyn cyntaf, a'u bod yn gwybod ble i fynd os ydynt yn wynebu problemau o ran methu mynychu gweithgareddau allgyrsiol, a theimlo wedi'u heithrio?

Diolch. Rydych yn llygad eich lle—gall y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau effeithio'n gadarnhaol iawn ar iechyd meddwl a lles ein plant, a gall anallu, neu bryder na fyddwch yn gallu gwneud hynny gael effaith i’r gwrthwyneb. Ac fel y dywedais, dyna pam ein bod wedi comisiynu Plant yng Nghymru i gynhyrchu'r adnoddau a'r canllawiau hyn ar gyfer ysgolion, fel y gallant fod yn ymwybodol o hynny wrth wneud penderfyniadau. O ran iechyd a lles cyffredinol yn yr ysgol, fe fyddwch yn gwybod fy mod i a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i weithio gydag ystod eang o randdeiliaid i sicrhau bod argymhellion adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus. Ac yn wir, trafodwyd rhai o'r materion hyn yn y cyfarfod yr wythnos hon.

Canlyniadau Addysgol yng Nghymoedd y De

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella canlyniadau addysgol yng nghymoedd y de? OAQ53947

Mae Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol ar y cyd yn cynorthwyo ysgolion yng Nghymoedd de Cymru—a ledled Cymru gyfan yn wir—i wella canlyniadau addysgol, yn unol â'r blaenoriaethau yn 'Cenhadaeth ein Cenedl'.

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddom, caiff cyfleoedd bywyd pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni eu pennu gan lawer o ffactorau, ond yn enwedig eu cyfleoedd addysgol a hyfforddiant. Yn ddiweddar, mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru wedi cyhoeddi mynegai cyfle ieuenctid, sy'n dangos mai pobl ifanc yn fy etholaeth, a ledled Cymoedd de Cymru, sydd â’r lleiaf o fynediad at gyfleoedd. I ormod o bobl ifanc, eu man geni sy'n pennu eu cyfleoedd a'u canlyniadau mewn bywyd o hyd, yn hytrach na’u galluoedd eu hunain. Pa gamau pellach y gallwch eu cymryd fel Gweinidog addysg i helpu i ddod â'r annhegwch hwn i ben?

13:35

Wel, Lywydd, gan fod y cwestiwn yn ymwneud ag ysgolion yng Nghymoedd de Cymru, a gaf fi roi croeso cynnes i ddisgyblion Ysgol Gyfun Tredegar, sydd wedi ymuno â ni, rwy’n credu, yn yr oriel y prynhawn yma? Ysgol Gyfun Tredegar yw hen ysgol Alun Davies AC. Nid wyf yn siŵr a yw Mr Davies yn esiampl addas i’r plant, ond mae'n rhywbeth i anelu ato. A gwn fod rhai o'r disgyblion sydd gyda ni heddiw yn gyn-ddisgyblion ysgol gynradd Deighton, sef, unwaith eto, hen ysgol gynradd Mr Davies, a chefais y pleser o gyfarfod â hwy pan oeddent yn yr ysgol gynradd.

Ond i ddychwelyd at gwestiwn Dawn, a gaf fi gytuno â chi, Dawn, ei bod yn gwbl annerbyniol i lwyddiant plant gael ei bennu gan eu hamgylchiadau cymdeithasol neu economaidd? Ac yn sail i'n holl waith, mae'r gred na ddylai ble mae rhywun yn byw, beth yw eu cefndir, na beth yw incwm eu rhieni bennu gallu rhywun i elwa o addysg. Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn y grant datblygu disgyblion—dros £190 miliwn y llynedd—i wella canlyniadau ar gyfer rhai o'n dysgwyr mwyaf difreintiedig, ac rydym hefyd yn edrych ar wahanol fathau o gyfleoedd. Rydym wedi ymrwymo cyfanswm o £1.5 miliwn i ariannu rhannu prentisiaethau ar draws ardal tasglu'r Cymoedd, ac mae ein rhaglen brentisiaethau iau yn cynnig cyfle i ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11 astudio'n amser llawn mewn coleg ar gyfer gyrfa yn y dyfodol, o 14 oed ymlaen, ac mae'r rhaglen honno wedi'i thargedu'n benodol at blant sydd heb lawer o uchelgais o bosibl, neu blant sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Weinidog, ni allwch wella canlyniadau addysgol heb ddarparu'r nifer angenrheidiol o staff addysgu sydd eu hangen ar yr ysgolion. Mae ffigurau diweddar yn dangos diffyg o 40 y cant rhag gallu cyrraedd eich targed eich hun ar gyfer athrawon dan hyfforddiant newydd mewn ysgolion uwchradd. Rydych hefyd wedi methu cyrraedd eich targed ar gyfer athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion cynradd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Weinidog, pa gamau a gymerwch i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio athrawon yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Mae recriwtio athrawon yn heriol, nid yn unig yng Nghymru, ond mewn gwirionedd, mae'n broblem ryngwladol. Mae'r ystadegau y cyfeiria’r Aelod atynt yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2017-18, ac ers hynny, rydym wedi diwygio addysg gychwynnol i athrawon yn sylweddol. Ac er ein bod wedi methu cyrraedd ein targedau recriwtio gweithwyr amser llawn i'r rhaglenni hyn, rydym wedi cael mwy o geisiadau i'n rhaglen athrawon graddedig am lwybr i gymhwyso fel athro na'r nifer o leoedd sydd ar gael.

Rydych yn gwybod am fy mhryderon ynglŷn â'ch gorddibyniaeth ar gwmnïau athrawon cyflenwi. Mae'r cwmnïau hyn fel arfer yn codi prisiau afresymol ar ysgolion am ddarparu athrawon, a chyfran fach o hynny'n unig sy’n cael ei drosglwyddo ganddynt i’r athro a gomisiynwyd. Nawr, gwn ein bod wedi trafod hyn o'r blaen, ond mae angen ystyried y cwestiwn hefyd o safbwynt darparu parhad i ddisgyblion o ran athrawon. Wrth gwrs, bydd yna adegau pan fydd angen athrawon cyflenwi, ond rwyf wedi derbyn tystiolaeth anecdotaidd nad yw’r asiantaethau athrawon cyflenwi yn ystyried sicrhau bod yr athrawon sydd ar eu llyfrau yn aros am gyfnod llawn absenoldeb athro penodol. Cysylltodd athro cyflenwi â mi yn ddiweddar i ddweud nad yw'r ymgynghorwyr hyn yn poeni am barhad yn y ddarpariaeth gyflenwi o gwbl, cyn belled â'u bod yn cael eu comisiwn. Weinidog, a ydych yn ymwybodol o'r broblem hon, a'r canlyniadau, ac a allwch ddweud wrthym beth y bwriadwch ei wneud i unioni hyn?

Wel, fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym raglen ddiwygio ar gyfer ymdrin ag arferion asiantaethau athrawon cyflenwi. Bydd y fframwaith newydd ar waith cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, a bydd yn darparu ar gyfer isafswm cyfraddau cyflog ar gyfer y staff a gyflogir gan yr asiantaethau hynny, hawliau cyflogaeth gwell, mynediad gwarantedig at hyfforddiant. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn ynglŷn â pharhad. Mae parhad staff cyflenwi mewn ysgolion yn fuddiol, nid yn unig i'r aelodau unigol o staff, ond yn hollbwysig, i'r disgyblion y maent yn eu haddysgu. A dyma un o'r manteision rydym wedi gallu ei feintioli o ganlyniad i'r model cyflenwi clystyrau rydym wedi'i ddatblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i sicrhau, pan fydd angen darpariaeth gyflenwi—ac mae'r Aelod yn llygad ei lle; o bryd i'w gilydd, mae angen gwneud hynny—fod y rhai sy'n ei darparu wedi'u hyfforddi'n dda, fod ganddynt gymwysterau da a'u bod yn cael eu cefnogi, a'u bod yn gallu darparu gwersi effeithiol i fyfyrwyr.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n gweld y byddwch yn cyfarfod â'ch cyd-Weinidogion addysg uwch yn yr Alban a Llywodraeth y DU cyn bo hir—efallai eich bod eisoes wedi gwneud hynny, nid wyf yn gwybod—i drafod Brexit a chanfyddiadau adolygiad Augar. Mae mater ariannu addysg ôl-16 wedi'i ddatganoli, wrth gwrs, ond mae'r systemau yn yr holl wledydd hyn yn cefnogi cystadleuaeth rhwng sefydliadau ledled y DU, a chyda 40 y cant o fyfyrwyr prifysgol o Gymru eisoes yn astudio yn Lloegr, gyda llai o draffig o lawer yn dod y ffordd arall, tybed beth oedd eich meddyliau cyntaf ynglŷn â chanfyddiadau'r adolygiad ynghylch prifysgolion a cholegau Cymru, pe baent yn cael eu rhoi ar waith yn Lloegr.

Er mwyn egluro i'r Aelod, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Lloegr. Rydym wedi trefnu cyfarfodydd pedairochrog rheolaidd ar fy nghais. Ac er y sicrwydd a gefais yn y cyfarfod diwethaf gan y Gweinidog Skidmore, mae'n drueni nad oedd ei weision sifil yn teimlo y gallent friffio fy ngweision sifil yn iawn cyn cyhoeddi adroddiad Augar, sy'n siomedig. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o gynnwys yr adroddiad, ac yn fy llythyr i The Times yn gynharach yr wythnos hon, dywedais yn glir iawn y bydd unrhyw gynnig i ddiwygio yn Lloegr yn llywio'r dewisiadau a wneir gan Lywodraeth Cymru, ond nid yn eu pennu. Rwy'n falch y bydd Cymru yn parhau i fod â'r system decaf, fwyaf blaengar a mwyaf cynaliadwy i fyfyrwyr yn y DU, hyd yn oed os caiff argymhellion Augar eu rhoi ar waith llawn yn Lloegr. Ond o ystyried yr anhrefn yn y Llywodraeth yn Lloegr, pwy a ŵyr?

Am ateb gwresog. Nid oeddwn yn awgrymu am eiliad y dylem fod yn dilyn arweiniad Lloegr yn hyn o beth. Meddwl yr oeddwn tybed beth fyddai effaith, neu beth gredwch chi fyddai effaith yr adolygiad penodol hwn ar brifysgolion Cymru, ac nid wyf yn credu fy mod wedi dysgu mwy o hyn. Un peth y mae Augar yn ei ddweud yn ei adolygiad, fodd bynnag, yw bod gwahaniaethau i'w cael eisoes rhwng systemau ariannu'r gwledydd, felly ni ddylai gwahaniaethau pellach fod yn broblem. Un o'r meysydd lle na cheir unrhyw wahaniaeth, hyd y gwelaf, yw bod telerau ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, er bod y benthyciadau eu hunain yn wahanol yma, yn enwedig o ran y ffordd y caiff costau cynhaliaeth eu cynnwys a'u sybsideiddio—. Os nad oes gwahaniaeth ar hyn o bryd, a ph'un a ydym yn cytuno ai peidio ar gynigion penodol Augar, un peth y mae'n ceisio mynd i'r afael ag ef yw'r cwestiwn ynghylch nifer y benthyciadau sy'n cael eu dileu i bob pwrpas neu nad ydynt yn cael eu talu'n llawn dros amser, a tybed beth yw eich barn ynglŷn â'r broblem hon ar hyn o bryd—sut y gellir mynd i'r afael â hi mewn ffordd nad yw'n cael effaith andwyol ar incwm prifysgolion nac yn atal pobl rhag mynd iddynt.

Wel, mae'r Aelod yn gofyn i mi pa effaith y byddai adroddiad Augar, pe bai'n cael ei roi ar waith, yn ei chael ar system addysg uwch Cymru. Buaswn yn ei chyfeirio at y sylwadau a wnaed gan Brifysgol Caerdydd, ac yn wir, Prifysgol Cymru, fel corff cynrychioliadol AU yn ein gwlad, sydd wedi cyhoeddi briffiau yn amlinellu eu pryderon ynghylch cynnwys yr adroddiad, ac rwy'n siŵr nad yw eu pryderon ynghylch effaith ariannol yr argymhellion yn syndod i unrhyw un ohonom. Nawr, o gofio'r goblygiadau ariannol i Gymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, rydym wedi atgoffa Llywodraeth y DU yn gyson ac yn barhaus o botensial y goblygiadau hynny neu unrhyw newidiadau y maent yn penderfynu eu rhoi ar waith, a byddaf yn parhau i wneud hynny tra byddant yn ystyried eu hymateb ffurfiol i Augar.

Iawn, wel, Weinidog, dyna ddau gwestiwn nad ydych wedi'u hateb bellach. Rwyf wedi darllen briff Prifysgol Caerdydd, fel rydych chithau wedi'i wneud, yn amlwg. Roeddwn yn awyddus i wybod beth oeddech chi'n ei feddwl, ac rwy'n awyddus i wybod beth ydych chi'n ei feddwl am y sefyllfa hon yn gyffredinol ynghylch benthyciadau heb eu talu, sy'n dod yn grantiau gan y Llywodraeth i bob pwrpas, a'r hyn y credwch y gallai Cymru ei wneud i wella'r sefyllfa mewn ffordd nad yw'n atal pobl rhag mynd i brifysgolion neu'n cyfyngu ar eu hincwm? Ac ni chefais ateb i'r cwestiwn hwnnw.

Mae addysg uwch, wrth gwrs, yn faes cystadleuol iawn, ac mae canlyniadau arholiadau'n bwysig pan all cynigion i fyfyrwyr gan brifysgolion alw am raddau uchel iawn. CBAC yw'r bwrdd arholi mwyaf o bell ffordd sy'n berthnasol i bobl ifanc 16 oed sy'n meddwl am y camau y maent am eu cymryd ar ôl hynny, a tybed a ydych yn poeni o gwbl, fel fi, am yr anawsterau yno—diffyg canllawiau adolygu, camgymeriadau ar y papurau Safon Uwch Ffrangeg, problemau technegol gydag arholiadau gwyddorau cyfrifiadurol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'r corff i dawelu'ch meddwl na fydd y problemau diweddar yn peryglu cyfleoedd myfyrwyr Cymru mewn arholiadau, ac felly eu gobaith o gael eu derbyn i brifysgol o'u dewis?

Dywed yr Aelod ei bod yn pryderu ynglŷn â phobl yn cael eu digalonni rhag ymgymryd ag addysg uwch. Yr hyn a wyddom o waith yr Athro Ian Diamond yw mai diffyg cefnogaeth gyda chostau byw ymlaen llaw yw'r rhwystr mwyaf i bobl rhag ymgymryd â chwrs prifysgol, yn enwedig os ydych yn fyfyriwr o gefndir anhraddodiadol heb rieni ag incwm sylweddol i'ch cefnogi. Dyna pam, hyd yn oed pe bai argymhellion Augar yn cael eu rhoi ar waith yn llawn yn Lloegr, y byddai gennym lefelau sylweddol uwch o grantiau nad ydynt yn ad-daladwy ar gael i israddedigion yng Nghymru.

Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau perthnasol iawn ynglŷn â pherfformiad CBAC. Mae fy swyddogion a Cymwysterau Cymru yn parhau i weithio gyda CBAC i nodi beth a ddisgwyliwn gan fwrdd arholi cenedlaethol ar gyfer ein cenedl.

13:45

Tra bo'r ymgynghoriad ar y cwricwlwm drafft yn mynd rhagddo mae'n briodol i drafod rhai agweddau ohono efo chi prynhawn yma, ac, yn gyntaf, hanes Cymru. Dwi newydd ddod o seminar wnes i ei gynnal ar gais Ymgyrch Hanes Cymru, ac yn fanno fe fynegwyd pryder y bydd cyfle gwych yn cael ei golli i ddysgu hanes Cymru ymhob ysgol os na fydd hynny'n hollol eglur yn y cwricwlwm newydd ac os na fydd adnoddau a hyfforddiant priodol ar gael.

Mae pobl ifanc Cymru yn dysgu am ddigwyddiadau fel boddi Tryweryn drwy furluniau, ac mae hynny'n wych, ond mae gan y gyfundrefn addysg rôl gwbl allweddol i ddysgu stori ein gwlad, rôl sydd, ysywaeth, ddim yn cael ei chyflawni ers degawdau—ddim yn gyflawn, beth bynnag.

Mae'r cwricwlwm drafft yn sôn yn gyffredinol, yn gysyniadol, am y profiad Cymreig, ond, pan fo rhywun yn edrych ar y canllawiau o dan y pennawd 'hanes', does yna ddim sôn am Gymru, y profiad Cymreig na hanes Cymru. Felly, hoffwn i wybod sut ydych chi'n bwriadu diwygio'r cwricwlwm drafft er mwyn adlewyrchu'r dyhead bod pob disgybl yng Nghymru yn cael gwybod am hanes ein gwlad ni.

Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y cwricwlwm drafft ar gael ar gyfer adborth ar hyn o bryd ac rwy'n siŵr y bydd hi, a phobl eraill, yn manteisio ar y cyfle i roi eu barn.

Credaf fod egwyddor cynefin yn un sydd wedi'i hymgorffori yn yr holl feysydd dysgu a phrofiad drafft, ac nid yw'n cyfyngu ei hun i'r cysyniad o addysgu plant am hanes Cymru. Rwyf am i stori Cymru—ei hanes, ei hiaith, ei diwylliant, ei daearyddiaeth, ei chyfraniad i'r byd—fod yn edefyn aur sy'n rhedeg drwy bob agwedd ar y cwricwlwm ac ni chredaf y dylem gyfyngu ein hunain i faes dysgu a phrofiad y dyniaethau neu un pwnc penodol yn unig.

Mi fyddai'n ddiddorol dod yn ôl at hwn ar ryw bwynt eto, gan, efallai, drafod beth yn union ydy'r diffiniad o 'cynefin', achos does yna ddim diffiniad yn y cwricwlwm drafft ohono fo, a mae hwnnw'n wendid, efallai. 

Agwedd arall o'r cwricwlwm newydd sydd yn cael dipyn o sylw ydy addysg rhyw a pherthnasoedd, ac—dwi'n dyfynnu o'r cwricwlwm drafft—bydd dysgu

'Cymraeg, Saesneg, addysg grefyddol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol'

i gyd yn ddyletswyddau statudol. Felly, mae'n gwbl glir y bydd addysg rhyw a pherthnasoedd yn fandadol, sydd yn newyddion da, ac felly hefyd addysg grefyddol a chymhwysedd digidol. Ond dwi'n cael dipyn o anhawster deall rhesymeg dweud bod rhai elfennau o'r cwricwlwm newydd yn fandadol, tra'n eithrio elfennau pwysig eraill. Does yna ddim sôn yn y disgrifiad cyffredinol dwi newydd ei ddyfynnu am les a iechyd meddyliol. Mae hyn yn syndod i mi o gofio'r rhybuddion yn adroddiad 'Mind over Matter' y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl Ifanc. Fedrwch chi egluro rhesymeg pam mae rhai materion yn fandadol a pham dyw materion eraill ddim yn y disgrifiad cyffredinol yna?

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chefnogaeth bersonol, ac yn wir, cefnogaeth ei phlaid i gynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm ar sail statudol? Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Credaf fod y ddwy ohonom yn deall pam fod hynny'n bwysig iawn.

Yn y ddogfen wreiddiol, 'Dyfodol Llwyddiannus', gan Graham Donaldson, fe fyddwch yn gwybod ei fod wedi gwneud rhai argymhellion penodol ynghylch pam y dylai rhai pethau fod yn eglur ar wyneb y Bil. Rwyf wedi ychwanegu addysg cydberthynas a rhywioldeb at hynny mewn ymateb i'r gwaith a wnaed gan yr Athro Emma Renold o Brifysgol Caerdydd a'r grŵp arbenigol a grëwyd pan ddywedasant yn glir iawn fod angen sicrhau bod addysg cydberthynas a rhywioldeb ar wyneb y Bil ac yn elfen statudol o'r cwricwlwm, o gofio pwysigrwydd y pwnc hwnnw, ac o ystyried pwysigrwydd y pwnc hwn ym marn pobl ifanc eu hunain. Gwyddom o waith y Senedd Ieuenctid yma fod sgiliau byw yn flaenoriaeth bwysig iddynt, ac maent wedi bod yn gadarnhaol iawn ynghylch cynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb ar wyneb y Bil.

Gofynnodd yr Aelod y cwestiwn ynglŷn ag iechyd meddwl. Wel, fe fydd hi'n gwybod bod iechyd a lles yn un o'r chwe maes dysgu a phrofiad yn y cwricwlwm newydd. Mae'r ffaith bod y pynciau hynny a'r maes dysgu hwnnw wedi eu cynnwys a'r ffocws a roddwyd arnynt eto yn galonogol iawn ac mae'n ein rhoi mewn sefyllfa wahanol iawn i systemau addysg eraill o'n cwmpas. Byddaf yn myfyrio, o ganlyniad i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ar sut y byddwn, drwy ddeddfwriaeth, yn gallu gwireddu fy nyhead i gael cwricwlwm eang a chytbwys ac i sicrhau y darperir yn ddigonol ar gyfer pob un o'r chwe maes dysgu a phrofiad a'r datganiadau 'beth sy'n bwysig' oddi tanynt yng nghwricwla ysgolion lleol unigol.

13:50

Diolch, a dwi, wrth gwrs, yn croesawu cynnwys lles ac iechyd meddyliol yn greiddiol yn y cwricwlwm drafft, ond dwi dal yn petruso pam nad ydy o ddim yn y datganiad cyffredinol yna, sy'n greiddiol hefyd, tra bo addysg cydberthynas a rhywioldeb yno felly. Dwi'n stryglo i ddeall rhesymeg hynny rhyw ychydig, er yn croesawu bod yr addysg rhyw a pherthnasoedd yno. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod angen arbenigedd wrth ddysgu yn y maes penodol hwnnw, ac mae'r panel fu'n edrych ar hynny wedi cyflwyno nifer o argymhellion, a buaswn i'n licio jest diweddariad y prynhawn yma ar y mater o hyfforddi. Mae'r panel wedi galw am gynnwys hyfforddiant yn y maes addysg rhyw a pherthnasoedd fel llwybr penodol yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol, gan gynnwys cymhwyster lefel Meistr. Felly, faint o gynnydd sydd wedi bod ynglŷn â'r maes yna? Diolch.

Rydych yn gwbl iawn i siarad am yr angen i sicrhau bod gan ein gweithwyr proffesiynol yn ein hysgolion hyder i allu darparu gwersi addysg cydberthynas a rhywioldeb effeithiol iawn. Gwyddom o waith Emma Renold ac o ymgynghori â phobl ifanc nad yw'r staff sy'n darparu'r gwersi hyn wedi cael hyfforddiant penodol bob amser ar yr elfennau hyn o'r cwricwlwm. Darparwyd adnoddau ariannol newydd yn benodol i weithio ar ddeunyddiau hyfforddi a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer yr athrawon sy'n darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn buddsoddi mwy na £21 miliwn dros ddwy flynedd mewn perthynas â chyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon wrth baratoi i roi'r cwricwlwm ar waith, a buaswn yn disgwyl i addysg cydberthynas a rhywioldeb ac iechyd a lles ffurfio rhan o'r cyfleoedd sydd ar gael. Rydym yn parhau i drafod natur arlwy'r cwricwlwm sydd ganddynt gyda'n darparwyr addysg gychwynnol i athrawon, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ynghylch cymhwyster Meistr.FootnoteLink

Dysgu Cymraeg i Oedolion

3.  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddysgu Cymraeg i oedolion? OAQ53969

Mater i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yw Cymraeg i oedolion. Fodd bynnag, rydym yn gweithio'n agos ar hyn ac mewn cydweithrediad â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i ddysgu Cymraeg.

Yn sicr, mae yna feysydd yn fan hyn sy'n gorgyffwrdd â chyfrifoldebau gwahanol Weinidogion. Mae twristiaeth yn bwysig i economi Cymru, ond a gaf i dynnu sylw'r Gweinidog at adroddiad gan fudiad Cylch yr Iaith ar y testun gor-dwristiaeth a'r iaith Gymraeg? Yn sicr, mae yna sgil effeithiau i dwristiaeth y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac un peth y gallwn ni ei wneud ydy trio symud o'r droed ôl i'r droed flaen a thrio mynd â'r Gymraeg, drwy addysg, yn fwy uniongyrchol at dwristiaid a'r rheini sydd, dwi'n meddwl, yma yn fwy parhaol na hynny, o bosibl, fel perchnogion ail gartrefi.

Mi ydyn ni, ym Mhlaid Cymru, gyda llaw, yn gweld potensial clir i ddatblygu twristiaeth iaith, ond mae hynny'n fater i Weinidog gwahanol. Ond, pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog addysg yn benodol i hyrwyddo dysgu Cymraeg i oedolion yn y cyd-destun twristaidd a'r rheini sy'n setlo yng Nghymru yn barhaol neu'n rhannol, a sut mae hi'n gweld y ffordd ymlaen i yrru ymgyrch recriwtio dysgwyr sydd yn clymu efo strategaeth y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg?

13:55

Wel, rydych yn gwbl iawn i ddweud y bydd oedolion sy'n dysgu'r iaith, boed yn ymwelwyr anfynych â Chymru neu'n bobl sy'n symud i'n gwlad, yn chwarae rhan bwysig yn uchelgais y Llywodraeth i gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn dilyn cyfrifiad 2021, y rhagdybiaeth yw y bydd 2,000 o oedolion ychwanegol yn dod yn siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn, a'r sector Cymraeg i oedolion fydd y prif fecanwaith ar gyfer cyflawni hyn. Fel y dywedais, rydym yn parhau i weithio ar draws portffolios gweinidogol a chyda'r ganolfan genedlaethol i edrych i weld beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo argaeledd dysgu oedolion, yn ogystal â sicrhau, pan fydd pobl yn dod i Gymru fel twristiaid, ein bod yn cynyddu'r cyfle i bobl ifanc sy'n gweithio yn y diwydiant hwnnw allu defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg. A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi ymestyn rôl a chylch gwaith y coleg cenedlaethol, nid yn unig mewn addysg uwch ond hefyd i mewn i addysg bellach, er mwyn i'r plant sy'n datblygu cymwysterau technegol allu gweld lle a gwerth economaidd gwirioneddol yn ogystal â gwerth cymdeithasol a diwylliannol o ran gallu parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, neu ddefnyddio sgiliau cyfrwng Cymraeg y maent wedi'u dysgu yn gynharach ar eu taith addysgol.

Wel, credaf fod ein dysgwyr Cymraeg yn adnodd nad oes digon o ddefnydd arno yng Nghymru. Ac fel y gwyddom, ni fydd pob oedolyn sy'n byw yng Nghymru wedi bod drwy system ysgolion Cymru. I lawer ohonynt, bydd gwefan Dysgu Cymraeg yn fan cychwyn iddynt allu dysgu rhywfaint o Gymraeg, a chefais fy synnu o weld bod y gwahaniaeth rhwng argaeledd sesiynau blas—sesiynau blas yn benodol—i oedolion yn syfrdanol. Mae 11 ohonynt yng Ngwent, 10 yn Nant Gwrtheyrn yn unig, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ond dim un ym mae Abertawe neu Sir Benfro—neu o leiaf, nid ydynt ar y wefan. Os mai'r broblem yw'r diffyg tra hysbys o athrawon Cymraeg, pa ystyriaeth a roddwyd i annog pobl nad ydynt yn athrawon a dysgwyr cymwys i chwarae mwy o ran yn y gwaith o gynnal y cyrsiau hynny, o dan oruchwyliaeth briodol gweithwyr proffesiynol, er mwyn cynyddu argaeledd y cyrsiau blas hynny?

Wel, mae'n peri pryder nad yw'n ymddangos bod y cyrsiau blas hynny ar gael, neu o leiaf nad yw pobl yn gwybod amdanynt ac nad ydynt yn cael eu hysbysebu'n dda, pe bai rhywun yn mynd i chwilio am y cyrsiau hynny, fod cyfle ar gael, a byddaf yn codi'r materion hynny gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, sydd â'r prif gyfrifoldeb am y maes hwn.

Y Gwasanaeth SenCom yng Ngwent

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth SenCom yng Ngwent? OAQ53957

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Yn dilyn ymarfer tendro cystadleuol, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bellach wedi penodi contractwr annibynnol i gynnal adolygiad o wasanaeth SenCom. Bydd fy swyddogion yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â CLlLC wrth i'r adolygiad hwn fynd rhagddo.

Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch iawn fod rhywun wedi'u penodi i fwrw ymlaen â hyn bellach, gan fy mod yn siŵr eich bod chi, fel fi, yn gweld bod yr ansicrwydd ynghylch SenCom wedi effeithio'n wael iawn ar forâl staff yn y gwasanaeth. Hoffwn ddiolch i chi am eich goruchwyliaeth a'ch mewnbwn i hyn, ac rwy'n falch o glywed y bydd hynny'n parhau. Tybed a wnewch chi ymuno â mi heddiw i gydnabod y gwaith hollbwysig y mae staff SenCom yn ei wneud, nid yn unig yn y ganolfan, ond yn y gwaith a wnânt i uwchsgilio athrawon ac eraill ledled Gwent i weithio gyda phlant â nam ar y synhwyrau, ac a wnewch chi gytuno i ymweld â'r ganolfan gyda mi, yng Nghwmbrân, i gyfarfod â staff a rhai o'r plant a'r teuluoedd cyn gynted ag y bydd gennych le yn eich dyddiadur?

Wel, Lynne, buaswn wrth fy modd yn ymweld â'r staff ac yn gweld natur eu gwaith â fy llygaid fy hun, gan y gwn ei fod yn cael ei werthfawrogi'n fawr gennych chi, fel yr Aelod lleol, ysgolion yn yr ardal, ac yn bwysicaf oll, y rhieni a'r bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y gwasanaeth hwnnw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau cyn diwedd y tymor ysgol hwn, a bydd yr adolygiad, yn wir, yn manteisio ar y cyfle i gyfarfod ag arweinwyr gwleidyddol ac uwch reolwyr ym mhob un o'r awdurdodau lleol, staff SenCom eu hunain a rhieni'r plant sy'n derbyn y gwasanaeth. Ac fel y rhoddais sicrwydd i chi yn gynharach, bydd fy swyddogion yn cadw llygad barcud ar bethau i sicrhau y cedwir at yr amserlen honno. Ond buaswn wrth fy modd, fel y dywedais, yn ymweld â'r gwasanaeth fy hun. A gaf fi fachu ar y cyfle hwn i ddiolch i chi, yn ogystal ag Aelodau eraill sydd wedi dangos cryn ddiddordeb yn y mater hwn, ac arweinydd cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt, sydd wedi dangos arweinyddiaeth wych yn hyn o beth a chryn frwdfrydedd ynghylch y gwasanaeth hwn? Rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n ymwneud ag ef.

14:00

Rwyf innau'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Lynne Neagle. Rydym wedi bod yn eich holi, ac yn wir, yn holi'r Prif Weinidog ynglŷn â'r mater hwn ers peth amser. Croesawaf y cytundebau a roddwyd ar waith gan bum arweinydd yr awdurdodau lleol er mwyn i SenCom, gwasanaeth gwerthfawr iawn, allu parhau ar ei ffurf bresennol—hyd at 2022, rwy'n credu. Dylai hyn roi mwy o sicrwydd i'r staff medrus.

Mae'n rhaid dweud, Weinidog, ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa hon am fod un o'r partneriaid—o leiaf un o'r partneriaid—wedi rhoi chwe mis o rybudd, rwy'n credu, ynglŷn â'u penderfyniad i dynnu'n ôl. Rwy'n deall bod pwysau ar awdurdodau lleol, ond o ddifrif, nid ydym am i'r sefyllfa hon godi eto gyda chyn lleied o rybudd yn y dyfodol. Felly, tybed a allech ddweud wrthym pa gamau y gallech eu cymryd i sicrhau na cheir sefyllfa debyg i hon yn y dyfodol a bod plant agored i niwed yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt i wneud yn siŵr fod y mathau hyn o wasanaethau'n parhau i fod ar gael iddynt.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gydnabyddiaeth o werth gwasanaeth SenCom yn ei ardal? Mae'n achos pryder i mi, yn wir, fod unrhyw fraw neu ddryswch wedi'i achosi yn sgil y broses hon. Gwn ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i'r staff ac i'r teuluoedd.

Heb os, fel y dywedoch chi, mae pwysau ar gyllidebau cynghorau. Golyga hynny, mewn gwirionedd, fod arnom angen i gynghorau weithio'n agosach gyda'i gilydd ar fwy o feysydd, yn hytrach na meddwl y gallant ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr drwy weithio ar eu pennau eu hunain. Yn y meysydd arbenigol hyn, drwy gydweithio a chronni adnoddau i greu gwasanaeth rhanbarthol, gallwn ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anghenion penodol iawn o ran cymorth.

Gwybodaeth Coginio erbyn Diwedd Cyfnod Allweddol 3

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob disgybl yn gwybod sut i goginio erbyn diwedd cyfnod allweddol 3? OAQ53963

Diolch, Jenny. Mae ein cwricwlwm presennol yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc archwilio ystod eang o faterion sy'n ymwneud â choginio a bwyta'n iach, a chyda chyflwyno ein cwricwlwm newydd, bydd maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn atgyfnerthu'r ddarpariaeth hon.

Weinidog, cawsoch chithau a minnau'r fraint o weld y cyfleusterau gwych yn Ysgol Gynradd Howardian, sy'n un o'n hysgolion newydd yr unfed ganrif ar hugain, lle roedd man addysgu coginio pwrpasol—roedd hynny'n wych—yn ogystal â choed ffrwythau a mefus yn tyfu yn y maes chwarae. Roedd gwersi coginio'n boblogaidd gyda'r disgyblion blwyddyn 3 y siaradais â hwy, er na fyddai peth o'r hyn yr oeddent yn dysgu ei goginio wedi bod yn addas ar gyfer pryd gyda'r nos.

Ond yn anffodus, gwyddom fod llawer o bobl yn gadael ysgol heb wybod sut i goginio. Mewn rhai achosion, y rheswm am hynny yw nad oes unrhyw goginio'n digwydd ar yr aelwyd honno—mae pawb yn dibynnu ar fwyd wedi'i goginio ymlaen llaw o ryw fath neu'i gilydd, sy'n llawer rhy llawn o siwgr, braster a halen. Felly, sut y gallwn newid y diwylliant drwy ein system addysg er mwyn cyflawni amcanion 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ailfeddwl ein perthynas â bwyd yn llwyr?

Tybed a allwch ddweud wrthym faint sydd wedi dilyn y cwrs TGAU mewn bwyd a maeth ers ei lansio, dair blynedd yn ôl rwy'n credu. Yn uwch i fyny'r gromlin dysg, nodais wrth Weinidog yr amgylchedd ddoe fod nifer y bobl sy'n manteisio ar brentisiaethau garddwriaeth mor isel â 30 hyd yn hyn eleni, hyd at 31 Gorffennaf. Oedran cyfartalog garddwriaethwyr yw 55, ac mae anghenion y diwydiant amaeth yn enfawr.

Gwyddom o'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn adran Lesley Griffiths ein bod yn wynebu prinder sgiliau o oddeutu 6,000 o weithwyr ym maes bwyd os ydym am gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer yr agwedd hon ar yr economi sylfaenol. Felly, tybed a allech roi unrhyw syniad inni sut y mae'r system addysg yn gweithio i sicrhau bod gennym y sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer y diwydiant hwn?

Yn wir, roedd yn wych bod yn Ysgol Gynradd Howardian y bore yma, un o'n hysgolion newydd yr unfed ganrif ar hugain, a gwrando ar y plant yn dweud mor frwdfrydig mai'r ystafell goginio yw un o'r agweddau gorau ar eu hadeilad ysgol newydd. Maent wedi bod yn brysur yn gwneud cawl a theisennau ac eitemau amrywiol eraill, ac roedd yn braf iawn gweld hynny.

O ran y nifer sy'n gwneud TGAU mewn bwyd a maeth, cafwyd 1,960 o gofrestriadau yn 2018. Cafwyd 2,120 o gofrestriadau hyd yma yr haf hwn, felly rydym wedi gweld cynnydd eleni yn nifer y myfyrwyr sy'n ymgeisio am y cymhwyster penodol hwnnw.

O ran sgiliau, mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn parhau i gryfhau, ac mae hynny'n rhoi cyfle i ni ddylanwadu ar gyrsiau a chyfleoedd hyfforddi sydd ar gael, naill ai yn ein colegau addysg bellach neu yn ein darpariaeth addysg uwch. Bydd angen i ni barhau i gryfhau'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol hynny a sicrhau bod gennym gyfleoedd hyfforddi a chymwysterau ar gael i'r bobl hyn ar lefel uwch eto, a gallu eu cyfeirio at yr hyn y gall gyrfa werth chweil mewn garddwriaeth, bwyd, maeth ac amaethyddiaeth ei gynnig.

14:05

Weinidog, adolygwyd y fframwaith cymwyseddau bwyd craidd gan holl weinyddiaethau'r DU yn 2014, a chyhoeddwyd canllawiau drafft 'Bwyd—ffaith bywyd' ym mis Chwefror. Tybed pryd y bydd y canllawiau llawn yn cael eu cyhoeddi, a sut y cânt eu cyflwyno i'r cwricwlwm newydd?

David, fel y dywedais yn gynharach, mae iechyd a lles yn ychwanegiad newydd pwysig i'r cwricwlwm yng Nghymru, a byddwch yn gweld o'r datganiad 'beth sy'n bwysig' fod galluogi plant i wneud dewisiadau iach am y bwyd y maent yn ei fwyta a'r gweithgareddau y byddant yn cymryd rhan ynddynt yn rhan bwysig o'r hyn rydym yn disgwyl i blant ei ddysgu. Bydd angen i mi ysgrifennu at yr Aelod mewn perthynas â'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyhoeddi canllawiau.FootnoteLink

Cefnogi Disgyblion sydd wedi eu Heithrio o'r Ysgol

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion sydd wedi eu heithrio o'r ysgol? OAQ53939

Mae ein neges yn glir: dylid defnyddio gwahardd fel dewis olaf. Lle na ellir osgoi gwahardd, mae ein canllawiau gwahardd yn nodi'r cymorth y mae'n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ei roi ar waith ar gyfer pob plentyn sydd wedi'u gwahardd o'r ysgol ac o unedau cyfeirio disgyblion.

Diolch. Fis Awst diwethaf, fe'i gwnaed yn glir am y tro cyntaf mewn dyfarniad llys nodedig mewn achos o wahardd o'r ysgol fod yn rhaid i bob ysgol sicrhau eu bod wedi gwneud addasiadau priodol ar gyfer plant awtistig neu blant ag anableddau eraill cyn y gallant droi at wahardd. Yn ddiweddar, yn ystod y pythefnos diwethaf, cefais lythyr gan etholwr, tad y bûm yn gweithio gydag ef ers rhai misoedd ar ôl i'w fab awtistig ifanc gael ei wahardd o'r ysgol, yn cynnwys llythyr penderfyniad ynghylch eu hachos Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, a ddyfarnodd na chafwyd unrhyw dystiolaeth fod addasiadau rhesymol wedi'u gwneud. Dywedai fod yr ysgol wedi cael ei gorfodi i gyfaddef bod y gwaharddiad ei hun yn wahaniaethol, ac roedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig, i gynnwys ymddiheuriad am hyd anghymesur y gwaharddiad, ymddiheuriad am beidio â darparu digon o gefnogaeth i fynd i'r afael ag anghenion dysgu ychwanegol eu mab, ac i esbonio sut y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y penderfyniad hwn. Roedd hefyd yn eu cyfarwyddo i drefnu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff a llywodraethwyr mewn perthynas â chyflyrau'r sbectrwm awtistig ac ADY yn fwy cyffredinol ar lefel uwch na lefel ragarweiniol.

Nid dyma'r unig achos o'r math hwn sydd gennyf; mae gennyf lawer ohonynt. Ar adeg pan ddylai awdurdodau lleol ac ysgolion fod yn gwbl ymwybodol o'r Ddeddf ADY a'r newidiadau sylweddol sydd ar y gweill, sut ar y ddaear y bwriadwch sicrhau ar lawr gwlad nad yw plant fel hyn yn parhau i gael eu cosbi am fod yn hwy eu hunain, a'u bod yn ymgysylltu â staff sy'n deall yn iawn beth yw eu hanghenion er mwyn iddynt allu byw bywydau hapus, iach a bodlon?

Diolch, Mark. Bydd cyfran sylweddol o'r £20 miliwn o gyllid y rhaglen drawsnewid ADY yn cael ei defnyddio i gefnogi gweithgarwch i uwchsgilio'r gweithlu er mwyn iddynt allu adnabod a diwallu anghenion yr holl ddysgwyr sydd ag ADY ac awtistiaeth yn well. A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi cyflwyno ein deddfwriaeth ADY a pham ein bod wedi ymrwymo i'w diwygio. O dan y system newydd, bydd y dysgwr wrth wraidd y broses, a bydd cydweithredu gwell rhwng asiantaethau yn cael ei annog, er mwyn sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu nodi'n gynnar a bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi ar waith iddynt fel y gellir cyflawni eu cyfleoedd addysgol a'u dyheadau yn briodol.

14:10

Rwy'n llwyr gefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ynglŷn â'r angen i waharddiadau fod yn ddewis olaf. Yn anffodus, maent weithiau'n angenrheidiol, ac yn ogystal â phlant efallai'n cael eu haddysgu gartref wedyn, mewn termau academaidd, am gyfnod byr, mae'r plant hynny'n colli ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol sy'n gysylltiedig â bod yn yr ysgol, a phob math o ddysgu arall a mynediad at chwaraeon. Beth y mae'r Gweinidog yn ei ddisgwyl gan awdurdodau lleol o ran sut y mae plant o'r fath, sydd efallai'n cael eu haddysgu gartref dros dro yn unig, ond sy'n cael eu haddysgu gartref, yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwaraeon, fel celf, cerddoriaeth, drama—rhai o'r gweithgareddau cyfoethogi sy'n mynd y tu hwnt i'r cwricwlwm academaidd pur?

A gaf fi gymryd y cyfle hwn i ddweud unwaith eto y dylai gwahardd fod yn ddewis olaf? Rwy'n cydnabod bod mwy gennym i'w wneud i sicrhau bod ysgolion ac addysgwyr unigol yn cael gwell cefnogaeth i ddeall pam fod plant yn cael anawsterau yn yr ysgol a all arwain at ymddygiad sydd, yn y pen draw, mewn rhai achosion, yn arwain at waharddiadau. Yr wythnos hon yn y grŵp 'Cadernid Meddwl', buom yn sôn eto am yr angen i wella cefnogaeth i athrawon mewn perthynas â deall proses y glasoed—yn llythrennol, y newidiadau niwrolegol na ellir eu gweld wrth i blentyn fynd drwy'r glasoed, sy'n golygu, weithiau, nad yw eu hymddygiad yn arbennig o dda—ond gwell dealltwriaeth o'r heriau y mae'r glasoed yn eu hachosi. Rydym yn gwbl glir, lle mae'n rhaid gwahardd plentyn, fod gan yr ysgol a'r awdurdod lleol gyfrifoldeb i sicrhau bod y plentyn hwnnw'n cael mynediad at ystod o gyfleoedd, yn academaidd ac yn gymdeithasol. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar weithredu ein cynllun gwella addysg heblaw yn yr ysgol, gan y gwyddom fod cyfleoedd cwricwlwm yn gallu cael eu cyfyngu'n ddifrifol ar gyfer y plant y tu allan i'r ysgol. Yn amlwg, nid yw hynny er eu lles gorau mewn llawer o achosion.

Mae llai o lawer o ddisgyblion yn cael eu gwahardd yng Nghymru nag yng nghanol y degawd diwethaf, o dros 450 yn 2004-05 i 150 yn unig yn 2016-17. Felly, Weinidog, a fyddech yn cytuno y dylid croesawu'r ffaith hon, a bod disgyblion yn cael eu gwasanaethu orau mewn amgylcheddau addysg meithringar a chefnogol, a bod canlyniadau cadarnhaol o'r fath yn dilysu'r canllawiau blaengar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012, a oedd yn nodi sut y dylid defnyddio gwaharddiadau, ac y dylai gwneud hynny'n barhaol, fel y dywedwyd heddiw, fod yn gam olaf yn y broses ddisgyblu? Felly, Weinidog, sut y gall Llywodraeth Cymru fonitro pa mor gyson y mae pobl yn deall yr athroniaeth hon ledled Cymru er mwyn sicrhau, lle bynnag y mae plentyn yn byw, y cânt eu trin â'r un penderfyniad i leihau gwaharddiadau, beth bynnag fo'r lleoliad ac anghenion addysgol?

Wel, mae'r Aelod yn llygad ei lle yn dweud ein bod wedi gweld gostyngiad yn nifer y gwaharddiadau parhaol, a bod hynny i'w groesawu ac yn cynrychioli'r gwaith caled sy'n mynd rhagddo mewn ysgolion. Gofynnodd yr Aelod am enghraifft o'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau ymagwedd genedlaethol at y mater hwn. Fe wyddoch ein bod, fel Llywodraeth, wedi cefnogi'r gwaith o sefydlu canolfan gymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i Gymru, sydd wedi datblygu rhaglen ar gyfer hyfforddiant ymwybyddiaeth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar gyfer pob ysgol. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd er mwyn i staff gael gwell dealltwriaeth eto o rai o'r materion sy'n arwain at blentyn yn ymddwyn mewn ffordd y gellir ei hystyried yn annerbyniol. Erbyn mis Mawrth 2020, bydd pob ysgol yng Nghymru wedi gallu cael mynediad at yr hyfforddiant hwnnw.

Addysg Gynradd yn Ogwr

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i wella addysg gynradd yn Ogwr? OAQ53946

Rydym yn darparu cefnogaeth ac yn hybu gwelliannau i bob dysgwr ym mhob ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy bartneriaeth yr awdurdod lleol a'r consortiwm rhanbarthol, Consortiwm Canolbarth y De.

Rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn galonogol iawn fy mod, bob yn ail fis bellach yn ôl pob golwg, yn mynychu agoriad cyfleuster newydd yn Ogwr, naill ai ysgolion cynradd neu uwchradd. Yn fwyaf diweddar, mewn gwirionedd, agorodd y cyn Brif Weinidog ysgol gynradd newydd Betws ym mis Medi—sy'n wych ar gyfer y gymuned honno lle cafodd yr ysgol flaenorol ei difrodi gan dân ychydig flynyddoedd yn ôl—ond hefyd, yn fwy diweddar, yn yr un gymuned, ar yr un safle, agorwyd yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd hefyd, Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd. Nawr, mae hyn yn rhan o fuddsoddiad o £10.8 miliwn yn ardal de Garw, sydd, wrth gwrs, wedi cael arian cyfatebol o £5.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o hynny. Ond a gaf fi ofyn i'r Gweinidog: sut y gallwn sicrhau buddsoddiad mewn arweinyddiaeth i gyd-fynd â'r buddsoddiad hwnnw mewn adeiladau a chyfleusterau—ar lefel ysgol ac ar lefel weithredol, ond hefyd mewn swyddi llywodraethol hefyd—fel bod y safonau rydym am eu gweld yn dod o'r ysgolion hynny, dyfodol y bobl ifanc hynny, yn cyd-fynd â'r buddsoddiad mewn capasiti i roi'r gefnogaeth honno iddynt gan y bobl o'u cwmpas? Ac rwy'n gweld enghreifftiau mor dda o hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy ardal fy hun yn ogystal â'r cyfleusterau unfed ganrif ar hugain.

14:15

Wel, rwyf wrth fy modd fod yr Aelod yn falch gyda chanlyniadau'r buddsoddiad yn Betws, Calon y Cymoedd, Ysgol Gynradd Pencoed, sy'n un arall y mae'r Aelod yn falch iawn o'i gweld, rwy'n siŵr. Gobeithio y bydd y plant yn ymfalchïo ac yn ffynnu yn yr adeiladau hynny. Credaf ei bod mor bwysig inni ddangos i'n plant a'n haddysgwyr ein bod yn credu ynddynt a'n bod am fuddsoddi ynddynt drwy ddarparu'r cyfleusterau gorau iddynt ddysgu a gweithio ynddynt.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da o ran arweinyddiaeth. Ni all unrhyw system addysg wneud yn well nag ansawdd y rhai sy'n ei harwain, boed hynny mewn ysgolion unigol, yn ein hawdurdodau lleol, neu'n wir, yn Llywodraeth Cymru. Ac oherwydd hynny, rydym wedi buddsoddi yn y gwaith o greu'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, y gyntaf o'i bath yng Nghymru, sy'n gweithio gyda'i hail garfan o benaethiaid, ac sy'n gwerthuso ac yn achredu rhaglenni arweinyddiaeth newydd er mwyn cael safon genedlaethol drwy Gymru gyfan ar gyfer cyfleoedd datblygiad proffesiynol i arweinwyr. Mae'n dechrau ar hyn o bryd gyda phenaethiaid newydd a darpar benaethiaid, ond byddwn yn datblygu rhaglen ar gyfer y rheini sydd eisoes yn benaethiaid yn ogystal ag edrych ar y potensial i ddarparu arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol i lywodraethwyr, i awdurdodau lleol ac i eraill sy'n ymwneud â'r gwaith o ddarparu'r weledigaeth strategol ar gyfer addysg ar ba lefel bynnag y maent yn gweithio arni ar hyn o bryd.

Cyfleoedd Addysgol i Bobl Ifanc

8. Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cyfleoedd addysgol i bobl ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol ledled Cymru? OAQ53962

Cenhadaeth ein cenedl yw darparu system addysg sy'n ennyn hyder y cyhoedd ac sy'n destun balchder cenedlaethol. Mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r rhanbarthau, rydym yn darparu cyfleoedd addysgol o ansawdd uchel ledled ein gwlad, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i gyflawni eu potensial llawn.

Diolch. Mae mynegai cyfleoedd ieuenctid y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y cyfleoedd sydd ar gael i'n pobl ifanc ledled Cymru. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y canfyddiadau, ni allaf anghytuno â chasgliad y sefydliad fod rhai anghydraddoldebau amlwg i'w cael ledled Cymru. Mae wedi dangos bod pobl ifanc yn fwy tebygol o fod â llai o gymwysterau a llai o fynediad at gyfleoedd astudio lefel uwch yn yr ardaloedd mwyaf economaidd ddifreintiedig yng Nghymru, ac mae Conwy yn enghraifft dda, ardal â sgôr mynegai addysg uwch cymharol gryf o 81; mae sgôr Sir y Fflint yn llai na hanner y ffigur hwn. Weinidog, ymddengys bod y mynegai'n dangos bod cyfleoedd mewn addysg yn parhau i fod wedi'u dosbarthu'n anghyson ledled Cymru. Pa fesurau rydych yn eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â hyn?

Wel, fel y soniais yn gynharach, rydym yn darparu symiau digynsail o gymorth ariannol i addysgu plant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is drwy ein grant datblygu disgyblion. Rydym yn parhau i gynnal lwfans cynhaliaeth addysg ar gyfer plant o gefndir tlotach, i ganiatáu iddynt allu aros yn yr ysgol neu mewn addysg bellach, ac rydym wedi cyflwyno'r system fwyaf hael o gymorth grant cynhaliaeth i bobl o gefndir tlotach sy'n awyddus i astudio ar lefel addysg uwch. Wrth gwrs, ni ddylai balans banc eu rhieni bennu tynged disgybl, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod sy'n eistedd ar y meinciau hynny: mae effeithiau tlodi ar addysg plentyn yn ddinistriol, ac mae'r ysgolion rwy'n ymweld â hwy'n dweud ei fod yn gwaethygu bob blwyddyn, ac rydym yn ceisio lleddfu a lliniaru hynny yn ein system ysgolion, a dylai'r Aelod gadw hynny mewn cof pan fydd yn gofyn cwestiynau o'r fath.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf felly yw’r cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.

Cefnogaeth i Staff y GIG sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i staff y GIG sydd â phroblemau iechyd meddwl? OAQ53953

Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr GIG Cymru ac undebau llafur drwy fforwm partneriaeth Cymru i gefnogi staff â phroblemau iechyd meddwl. Mae hyn yn unol ag egwyddorion craidd GIG Cymru a nod pedwarplyg 'Cymru Iachach' ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig a chynaliadwy.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb? Roeddwn yn awyddus i godi'r mater hwn gan y gwyddom fod materion sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y GIG yn amlwg yn broblem, fel y maent ym mhob gweithle, ac er bod y rhwydweithiau cymorth gennym ar waith, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno â mi y gallwn wneud mwy bob amser. Lywydd, weithiau mae'n rhaid i'r amgylchiadau mwyaf trasig ein hysgogi i weithredu. Dengys ffigurau syfrdanol a ddatgelwyd ar-lein yn ddiweddar fod mwy na 300 o nyrsys y GIG wedi cyflawni hunanladdiad dros y ffin yn Lloegr mewn saith mlynedd yn unig. Y nifer uchaf erioed oedd 54 yn 2015. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod sicrhau bod gennym y gefnogaeth gywir i staff y GIG yn bwysig iawn, nid yn unig ar gyfer diogelwch cleifion, ond hefyd i sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau fel yr amlinellir yn Neddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016? A gaf fi ofyn hefyd i'r Llywodraeth ddyblu ei hymdrechion i gefnogi staff arwrol ein GIG yma yng Nghymru, sy'n gofalu am bobl eraill bob dydd, felly nid yw ond yn deg ein bod ni oll yn gofalu amdanynt hwy?

14:20

Ie, rwy'n fwy na pharod i roi'r ymrwymiad ynglŷn ag ymagwedd y Llywodraeth at gefnogi ein staff yn y gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n ymwneud nid yn unig â recriwtio'r niferoedd cywir o staff ar draws y gwasanaeth, ond hefyd y buddsoddiad ychwanegol a wnawn mewn hyfforddiant. Rwy'n falch o gadarnhau ein bod, mewn perthynas â Deddf lefelau staff nyrsio, yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiad i gyflwyno'r Ddeddf, yn ogystal â sicrhau bod y dyletswyddau'n real yn y maes cyntaf rydym wedi'i ddewis. Ac o ran y gefnogaeth ehangach y dylai'r GIG ei darparu fel cyflogwr—y cyflogwr mwyaf yng Nghymru—mae hynny'n ffocws gweithgarwch penodol yn y fforwm partneriaeth. Un o'r pethau rwy'n edrych arnynt yw gwasanaeth lles a ddarperir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae hwnnw'n un o brosiectau enghreifftiol Comisiwn Bevan ac mae wedi'i gyflwyno i'r fforwm partneriaeth fel rhan o'u hystyriaeth o arferion gorau i geisio cynnwys y cymorth a roddwn i'n staff GIG ymhellach.

Rwy'n falch fod y mater hwn wedi'i godi. Yn amlwg, mae iechyd meddwl yn fater sy'n effeithio ar bob maes, ond mae'n amlwg fod staff ein GIG yn agored i'w effeithiau. Fe sonioch chi—credaf mai yn ardal Abertawe y dywedoch fod yna elfen o arferion da. Mae'n amlwg yn bwysig fod yr arferion da hynny'n cael eu cyflwyno ledled gweddill Cymru cyn gynted â phosibl. Felly, a allech ddweud wrthym pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau, lle ceir arferion da mewn bwrdd iechyd lleol, y gall byrddau iechyd eraill nad ydynt o bosibl yn arddangos arferion da o'r fath elwa o'r gwersi a ddysgwyd?

Ie, rwy'n fwy na pharod i ehangu ymhellach gan ei bod yn enghraifft dda o sut rydym yn defnyddio ein system yma yng Nghymru. Mae'r fforwm partneriaeth yn dod â'r Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur ynghyd. Felly, mae'r fforwm partneriaeth eisoes yn cymryd camau i edrych ar yr arferion da hynny, eu dwyn ynghyd, a cheisio sicrhau wedyn fod y polisi a gytunwyd yn ddiweddar ar reoli absenoldeb yn y gweithle sy'n edrych ar atal, a chynorthwyo pobl i ddychwelyd i'r gwaith yn gynharach ac i aros yn eu gwaith os oes modd, yn cael ei gefnogi gan enghreifftiau ymarferol o arferion da, i sicrhau bod pobl yn ymwybodol, ac yna ein bod ni'n deall sut y mae'r arferion da'n cael eu cyflwyno'n briodol ar draws ein gwasanaethau. Felly, mae'n enghraifft dda o edrych ar dystiolaeth, edrych ar arferion gorau, er mwyn dysgu o hynny ar draws y system.

Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi y gall staff ddioddef yn sylweddol o straen ar adegau o newid gwasanaeth, hyd yn oed os bydd y newid hwnnw i wasanaeth yn cyflawni gwelliannau yn y pen draw, o ran eu telerau ac amodau gwaith eu hunain. Clywodd y pwyllgor iechyd y bore yma gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, gan yr ymddengys bod ganddynt ymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol iawn at reoli straen eu staff drwy gyfnod o newid gwasanaeth angenrheidiol, a dealltwriaeth dda, yn fy marn i, o'r pwysau y bydd y staff hynny'n ei wynebu, er bod y staff eu hunain yn cydnabod y bydd y newidiadau hynny'n newidiadau er gwell. Pa gamau pellach y gall y Gweinidog eu cymryd—drwy'r fforwm partneriaeth, o bosibl, gan ei fod eisoes wedi cyfeirio at hwnnw yn ei atebion i Nick Ramsay ac i Jack Sargeant—i sicrhau, lle ceir arferion da yn y GIG o ran cefnogi staff drwy gyfnod o newid gwasanaeth, eu bod yn cael eu rhannu, a bod y cyfnodau hynny o straen anochel yn cael eu rheoli'n effeithiol fel nad ydym mewn perygl o wynebu sefyllfaoedd lle mae'r hyn sy'n anochel yn heriol yn troi'n sefyllfa sy'n ddrwg i iechyd meddwl a lles rhywun?

Rwy'n llwyr gydnabod bod gwahanol adegau o straen ym mywydau staff ein gwasanaeth iechyd gwladol, ac yn arbennig i'r rheini sy'n ymdrin ag agweddau brys neu agweddau diwedd oes, mae straen penodol ynghlwm wrth hynny. Mae unrhyw elfen o newid gwasanaeth yn annifyr i unrhyw grŵp o staff mewn unrhyw ran benodol o fusnes, diwydiant neu'r sector gwirfoddol. Felly, rydym yn awyddus i ddysgu'n fwriadol o hynny drwy'r fforwm partneriaeth, ond hefyd i ddysgu o ble mae'r newid gwasanaeth hwnnw eisoes wedi digwydd, ac yn digwydd ar hyn o bryd.

Rydym yn gweld newid sylweddol yn y gwasanaeth yn Hywel Dda, a'r hyn sydd wedi newid yn sylweddol ers y tro diwethaf i newid gwasanaeth gael ei argymell yw y cafwyd llawer mwy o ymgysylltiad â staff ar ddechrau'r broses honno. Fe fyddwch yn cofio, pan oeddech yn Aelod Cynulliad o'r blaen, fod llawer o'r staff yn Hywel Dda yn teimlo nad oeddent yn rhan o'r trafodaethau hynny mewn gwirionedd. A hyd yn oed yn awr, pan fo llawer mwy o gytuno ar sut y bydd pethau yn y dyfodol, mae yna heriau i weithio arnynt o hyd. Ac mae Aneurin Bevan yn enghraifft dda arall. Rydym yn newid y system yn Aneurin Bevan wrth greu Ysbyty Athrofaol newydd y Grange, ac yn asesu bod newid i'w gael mewn rhannau eraill o'r system gofal iechyd yn ei chyfanrwydd. Felly, rydym yn dysgu am yr hyn sy'n digwydd yn awr yn ogystal ag yn y gorffennol. Y fforwm partneriaeth yw'r union le i sicrhau bod dysgu'n cael ei rannu ledled Cymru gyfan.

14:25
Cymorth ar gyfer Pobl â Nychdod Cyhyrol

2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl â nychdod cyhyrol? OAQ53958

Diolch am eich cwestiwn. Nodir ein cefnogaeth i bobl sy'n byw gyda phob cyflwr niwrolegol yn ein cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Y weledigaeth yw i bobl sydd â chyflwr niwrolegol gael mynediad amserol at ofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd ac arbenigol cwbl integredig wedi'i gynllunio o amgylch anghenion yr unigolyn.

Iawn. Diolch yn fawr iawn am eich ateb. Fel y gwyddoch, rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ddystroffi cyhyrol ac rydym yn treulio llawer o amser yn sôn ynglŷn â sut y mae clinigwyr yn ymdrin â, neu sut nad oes ganddynt allu i ymdrin â'r cyflwr penodol hwn. Mewn un enghraifft yng ngorllewin Cymru, dywedodd un ddynes fod clinigydd wedi ceisio rhoi meddyginiaeth iddi a oedd yn anghydnaws â'i chyflwr ac a allai fod wedi arwain at niwed difrifol iawn. Dywedodd gŵr arall o ganolbarth Cymru nad yw'n trafferthu ffonio'r ysbyty lleol nac unrhyw wasanaeth brys mewn gwirionedd oherwydd y diffyg dealltwriaeth yn yr ysbyty penodol hwnnw o unrhyw beth sy'n ymwneud â'i gyflwr.

Yn amlwg, byddaf yn ysgrifennu atoch gyda'r pryderon unigol hynny, ond tybed a wnewch chi gytuno i ddod i gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol i weld sut y gallwch ddeall yr hyn sy'n cael ei drafod yno a sut y gallwn adeiladu cydnerthedd yn y system, fel bod mwy o glinigwyr yn deall dystroffi cyhyrol, os nad yn arbenigo ar y cyflwr, fel y gallant eu cynorthwyo a'u helpu i deimlo'n fwy cyfforddus pan fyddant yn mynd i'r lleoliad hwnnw.

Dyna'r pwynt ynglŷn â'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni: gwasanaeth sydd o ddifrif wedi'i gynllunio o amgylch anghenion yr unigolyn; bydd deall yr anghenion hynny'n wahanol yn dibynnu ar yr unigolyn, nid y cyflwr. Rydych yn gweld yr unigolyn, nid y cyflwr, a dyna sut y dylid cyflawni pob agwedd ar ofal iechyd. Rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud ar rai agweddau nag eraill. Mewn egwyddor, buaswn yn fwy na pharod i fynychu un o gyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol. Rwyf eisoes yn cyfarfod â'r gynghrair cyflyrau niwrolegol, ac rwy'n cydnabod, er yr holl waith rhagorol sy'n mynd rhagddo yn ein gwasanaeth, fod angen newid a diwygio bob amser. Rhan o fy rhwystredigaeth yw nad ydym yn newid mor gyson ag yr hoffem, fel y mae'r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn ei haeddu.

A gaf fi ychwanegu at bwynt Bethan, Weinidog? Mae pob un ohonom wedi cael gwaith achos yn y maes hwn, a dro ar ôl tro, mae pobl â dystroffi cyhyrol neu gyflyrau niwrogyhyrol eraill yn pwysleisio pwysigrwydd swyddi arbenigol fel nyrsys arbenigol sy'n gallu hyfforddi staff meddygol arall, ond sydd hefyd yn galluogi pobl i fyw gyda chyflyrau a all bara am flynyddoedd lawer, degawdau weithiau. Mae gwir angen inni weld cynnydd yn nifer y swyddi arbenigol.

Ac mae hynny'n rhan o'r gwaith y mae'r grŵp gweithredu yn ei arwain. Mewn gwirionedd, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gyfarfod â'r grŵp gweithredu i edrych ar y cynnydd rydym yn ei wneud, gan fy mod yn credu bod y cynnydd wedi bod yn arafach nag y dylai fod, ac ymrwymiadau a wnaed yn y cynllun cyflawni ynglŷn â sut y dylid defnyddio'r arian a ddyrannwyd gan y Llywodraeth. Rwy'n disgwyl y bydd cyfarfod rhwng y cyrff perthnasol, gan gynnwys y trydydd sector, yn cael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn gan fy mod am weld cynnydd gwirioneddol, a'r addewidion a wnawn a'r disgwyliadau a ddylai fod gan bobl ynglŷn â'r gwasanaeth yn cael eu gwireddu yn hytrach na'u cyflawni mewn egwyddor yn unig.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Mae Fforwm Gofal Cymru, a gobeithiaf fod y Gweinidog yn llwyr ymwybodol o hyn, wedi cynnal arolwg mawr o gartrefi gofal ledled Cymru. Mae'r canlyniadau'n syfrdanol. Yr hyn a ddatgelwyd yw bod 16 y cant o gartrefi gofal ledled Cymru yn disgwyl y byddant yn cau yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn frawychus, ynghyd â'r ffaith bod Fforwm Gofal Cymru wedi amcangyfrif y gellid colli mwy na 1,500 o welyau yng Nghymru rhwng nawr a 2024. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae nifer y cartrefi gofal i oedolion hŷn wedi gostwng 4 y cant ac eisoes mae 247 yn llai o welyau nag yn 2014-15. Yn amlwg, mae nifer y cartrefi gofal wedi bod yn gostwng ac mae'n parhau i wneud hynny. Pa gamau rydych yn eu cymryd i wrthdroi hyn ac i alluogi cynnydd yn y nifer o welyau cartrefi gofal priodol?

Mae hyn yn achos pryder i'r Llywodraeth. Rydym yn pryderu am y ffaith bod y system ofal o dan bwysau ac rydym yn ceisio gwneud yr hyn a allwn i ailgydbwyso'r sector gofal. Un o'r pethau rydym yn eu gwneud yw ceisio hybu gwahanol fodelau gofal. Felly, er enghraifft, rydym yn annog awdurdodau lleol i ystyried gweithredu mwy o gartrefi gofal yn fewnol. Rydym hefyd yn edrych i weld a allwn ddatblygu modelau cydweithredol. Felly, rydym yn edrych ar y system gartrefi gofal mewn ffordd ehangach. Rydym hefyd yn ceisio hybu statws y rheini sy'n gweithio mewn cartrefi gofal. Er enghraifft, cawsom ymgyrch fawr i geisio denu mwy o weithwyr i'r sector gofal, gan bwysleisio pwysigrwydd cymwysterau, a sut i ddatblygu. Ac rydym hefyd wedi gwella'r system gofrestru. A chredwn y bydd yr holl faterion hynny'n gwneud y system ofal yn fwy hyfyw.

14:30

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Fodd bynnag, mater canolog y mae angen mynd i'r afael ag ef yw cyllid cartrefi gofal. Cefnogir hyn gan Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, sy'n gweithio'n galed iawn yn y sector hwn, ac sydd wedi gwneud sylwadau cyhoeddus—dyma a ddywedodd:

Gwyddom fod dros 80 y cant o'r darparwyr gofal cymdeithasol yn dweud pa mor anodd yw denu a chadw staff a'r unig ffordd o fynd i'r afael â hynny yw drwy gynyddu ffioedd i lefelau realistig fel y gellir buddsoddi arian yn y rheng flaen yn hytrach na'r swyddfa gefn.

Mae'r neges yn glir, Ddirprwy Weinidog: mae cartrefi gofal yn cael eu tanariannu gan awdurdodau lleol, a chan eich Llywodraeth, a'n byrddau iechyd, i'r fath raddau fel bod staff—[Torri ar draws.]—a wnewch chi ganiatáu i'r Dirprwy Weinidog ymateb i mi, os gwelwch yn dda—i'r fath raddau fel na ellir cadw staff na'u talu'n briodol. Mae hyn yn anghynaliadwy. Felly, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r fformiwlâu ariannu a ddefnyddir i bennu ffioedd ar gyfer unigolion a ariennir gydag arian cyhoeddus?

Yr hyn rydym eisoes wedi'i wneud yw cynyddu'r arian sydd ar gael i dalu am y cyflog byw, er mwyn i hynny helpu cartrefi gofal i godi cyflogau eu staff i gyfraddau'r cyflog byw. Ac rydym hefyd yn gwneud rhai o'r pethau y soniais amdanynt yn y cwestiwn cynharach—rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i wella statws gweithwyr cartrefi gofal, gan y credaf fod hynny'n un o'r pethau pwysicaf i'w gwneud. Oherwydd mae'n sicr fod gofalu am yr henoed a phlant yn un o'r swyddi pwysicaf y gellir eu gwneud, ond serch hynny, nid yw statws y staff hynny'n uchel iawn. A gwyddom fod y cyflogau yn rhywbeth rydym yn rhoi sylw iddo, rydym wedi bod yn mynd i'r afael â chontractau dim oriau, ac rydym wedi bod yn edrych ar yr amser y mae pobl yn ei dreulio'n teithio ar gyfer darparu gofal cartref. Felly, credaf ein bod yn ymdrin â'r materion hyn, ond nid wyf yn gwadu bod hyn yn broblem, ac mae'n broblem sy'n cael sylw gennym.

Diolch. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod cartrefi gofal yn gwneud ceisiadau i awdurdodau lleol i awdurdodi ceisiadau trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid. Nawr, yn ôl yr adroddiad monitro blynyddol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol 2017-18, mae cyrff rheoli fel cartrefi gofal wedi bod yn aros am ormod o amser i gael ceisiadau wedi'u hawdurdodi. Nawr, er bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn datgan y dylai ceisiadau safonol fod wedi eu derbyn ac y dylid gwneud penderfyniad o fewn y 28 diwrnod cyn bod ei angen, cyrhaeddodd nifer cyfartalog y dyddiau yng Nghymru rhwng cyflwyno cais a gwneud penderfyniad gan awdurdodau lleol dros 200 diwrnod yn y Rhondda a Sir y Fflint, a thros 300 diwrnod ar Ynys Môn. Yn amlwg, mae gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd prosesu ceisiadau. Pa gamau rydych chi, neu eich Llywodraeth yn wir, yn eu cymryd i'w helpu, fel bod cartrefi gofal yn cael y penderfyniadau pwysig hyn yn gynt?

Diolch i Janet Finch-Saunders am godi'r mater pwysig hwn. Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i mi fynd yn ôl i edrych arno, i edrych ar y manylion, a dod yn ôl ati gydag ateb.

Diolch yn fawr, Lywydd. A yw'r Gweinidog iechyd yn derbyn bod cyllid y GIG a chyllid gofal cymdeithasol yn gyfnewidiadwy, ac er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian a'r canlyniad gorau i gleifion, mae angen buddsoddiad a chynllunio synhwyrol o ran sut i ddefnyddio'r buddsoddiad hwnnw yn y ddau wasanaeth?

Ie, rydym yn mabwysiadu ymagwedd integredig tuag at ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol. Dyna pam fod gennym, am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig, gynllun iechyd a gofal cymdeithasol cwbl gydgysylltiedig, 'Cymru Iachach', a gynlluniwyd gan y maes iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector ar y cyd. Ac fe welwch, yn y gyllideb ddiwethaf, fy mod wedi penderfynu darparu rhan o'r arian drwy'r gyllideb iechyd, a'i roi yn ôl i ofal cymdeithasol. Mae llawer o'r gwaith a wnawn ar gyflawni 'Cymru Iachach' yn edrych ar sut rydym yn ariannu iechyd a gofal cymdeithasol i weithio'n agosach gyda'i gilydd. Mae'r gronfa trawsnewid a'r cynigion rwyf wedi'u cymeradwyo yn enghreifftiau da o hyn ar waith yn ymarferol.

14:35

Diolch am eich ymateb, er ei fod, mewn gwirionedd, yn groes i benderfyniad eich Llywodraeth i gynyddu cyllideb y GIG ar draul cyllidebau awdurdodau lleol. Ond rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi mai un o nodweddion pwysicaf y GIG, nad yw'n agored i drafodaeth, yw ei fod am ddim yn y man darparu, ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu presgripsiynau am ddim, llawdriniaethau am ddim, pelydr-x am ddim ac yn y blaen. Nawr, byddai pob un ohonom yn ddig iawn pe baem yn clywed bod rhywun, ar ôl cael diagnosis o ganser, yn wynebu bil o gannoedd o filoedd o bunnoedd a bod yn rhaid iddynt werthu eu cartref i dalu am eu triniaeth ganser. Byddem hefyd yn ymateb i gynnig i'w galluogi i gadw £50,000 yn lle £30,000 o dan yr amgylchiadau hyn gyda choegni am yr haelioni. Felly, pam y mae gwahaniaethu'n dal i ddigwydd yn erbyn pobl â dementia?

Oherwydd bod gennym system o hyd lle mae gofal cymdeithasol, fel y gwyddoch, yn cynnwys elfen o fodd. Ac mewn gwirionedd, fel y gwyddoch hefyd, rydym yn edrych ar ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Rwy'n cadeirio grŵp trawsweinidogol sy'n edrych ar opsiynau ariannu gofal cymdeithasol ar hyn o bryd ac ar gyfer y dyfodol, ac fe fyddwch yn gwybod o sylwadau blaenorol cyhoeddus iawn fod cryn ddiddordeb gennyf yn y ffordd rydym yn defnyddio'r pwerau newydd sydd ar gael i ni yn y lle hwn i sicrhau ffrwd gyllido newydd at ddibenion gofal cymdeithasol. Ac ni allwch ddianc rhag eich pwynt cyntaf, a oedd yn ymwneud â dyraniadau'r gyllideb. Gwyddoch cystal â minnau ein bod yn wynebu degfed blwyddyn o gyni. Golyga hynny nad oes modd gwneud unrhyw ddewis heb ganlyniadau. Pe baem yn dewis rhoi mwy o arian—mwy o arian o lawer—i mewn i'r setliad llywodraeth leol, byddai hynny'n golygu llai o arian i'r gwasanaeth iechyd. Nid oes unrhyw ffordd o osgoi hynny. Dyna pam y credaf, ar gyfer y dyfodol, fod angen inni beidio â dal yn ôl yn ein hymgyrch yn erbyn cyni, ond hefyd i feddwl ynglŷn â sut rydym yn defnyddio ein pwerau newydd i gael ffrwd gyllido newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yn benodol.

Mae ariannu gofal cymdeithasol, a'r cyfyng-gyngor sy'n wynebu pobl sy'n derbyn gofal cymdeithasol, yn anghyfiawnder hanesyddol sylweddol a achoswyd gan y methiant i greu gwasanaeth gofal cenedlaethol a ariennir gan drethiant cyffredinol. Oni fyddech yn cytuno felly fod cynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll gofal cymdeithasol, heb unrhyw sicrwydd y byddai hyn yn arwain at ddileu ffioedd am ofal cymdeithasol, yn annheg, ac yn gyfle a gollwyd i osod iechyd a gofal cymdeithasol ar sail ariannol gyfartal?

Mae dau bwynt y buaswn yn eu gwneud ynglŷn â hyn. Y cyntaf, wrth gwrs, yw pan fyddwn yn cymharu cyfleoedd i ddefnyddio trethiant cyffredinol, nid ydym mewn sefyllfa i wneud hynny eto. Ond yn ddiweddar, nodaf astudiaeth a gafodd sylw gan y BBC a nodai, yng Nghymru, fod dinasyddion yn cael lefel fwy hael o lawer o gymorth gan y Llywodraeth hon ar gyfer eu hanghenion gofal cymdeithasol na dinasyddion dros y ffin yn Lloegr. Felly, rydym yn gwneud dewisiadau go iawn hyd yn oed mewn cyfnod o gyni i roi arian go iawn tuag at gefnogi gofal cymdeithasol.

Yr ail bwynt yw nad wyf am amharu ar y gwaith a wnaf drwy gyhoeddi unrhyw beth cyn i fy nghyd-Weinidogion ystyried yr holl dystiolaeth ynglŷn â'r dewisiadau hynny. Ac mae angen i ni feddwl am sicrhau'r lefel fwyaf o incwm a fyddai'n dod i mewn drwy ardoll neu unrhyw fodd arall, a beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd o ran yr hyn y gallwn ei wneud wedyn. Mae angen inni feddwl am yr hyn y mae ein pwerau yn caniatáu inni ei wneud, a'r ffordd orau o'u defnyddio, gan gynnwys cwestiynau anodd ynghylch tegwch rhwng cenedlaethau, pwy sy'n cael cymorth a phryd? Ceir gwahanol atebion mewn perthynas â'r rolau. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r adroddiad gan y ddau bwyllgor dethol yn y Senedd, y cyd-bwyllgorau dethol—y pwyllgor cymunedau ar dai a llywodraeth leol a'r pwyllgor dethol ar iechyd—a allai gynnig ateb a fyddai'n galw am gynyddu trethiant cyffredinol ledled y Deyrnas Unedig. Maent hyd yn oed wedi cael Ceidwadwyr ar y meinciau cefn yn ymrwymo i godiad treth, sy'n anghyffredin. Felly, mae angen i ni feddwl beth yw'r sylfaen drethu gyfan honno a pha ddewisiadau a wnawn wedyn.

A'r ail gwestiwn na allwn ei osgoi chwaith yn fy marn i yw p'un a ydym yn barod i gael elfen o glustnodi neu neilltuo, gan y credaf fod problemau gwirioneddol yn codi ynglŷn ag a ddylid ymddiried mewn gwleidyddion i godi trethi, neu a ddylid diogelu'r arian hwnnw, ac a fyddai hynny'n dderbyniol i'r cyhoedd dros gyfnod hwy o amser i wneud gwahanol ddewisiadau ynglŷn â'r modd y defnyddiwn drethiant i ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Gwasanaethau Profedigaeth

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygu gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru? OAQ53956

Gwnaf. Diolch am eich cwestiwn. Mae'r astudiaeth gwmpasu ar brofedigaeth rwyf eisoes wedi ymrwymo iddi yn gwneud cynnydd. Cafwyd dros 200 o ymatebion ac mae'r cyfnod casglu data wedi'i ymestyn hyd at ddiwedd y mis hwn. Bydd adroddiad astudiaeth interim yn cael ei ddarparu i'r bwrdd gofal diwedd oes yn ddiweddarach y mis hwn, a disgwylir yr adroddiad terfynol ym mis Hydref eleni.

Weinidog, rydych yn ymwybodol iawn o fy mhryderon fod diffyg cefnogaeth ar gael i bobl sydd wedi wynebu profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig nid yn unig am fod hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol, ac mai dyma'r peth iawn i'w wneud, ond hefyd am y gwyddom fod pobl sy'n galaru oherwydd hunanladdiad yn llawer mwy tebygol o farw drwy hunanladdiad. Felly, mae cymorth i'r rheini sy'n galaru yn ffordd o atal hunanladdiad ynddi'i hun. Roedd adroddiad y pwyllgor iechyd, 'Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru', yn cynnwys argymhellion clir iawn ar brofedigaeth yn sgil hunanladdiad. Sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr adolygiad a gomisiynwyd gennych yn ystyried anghenion y rheini sydd wedi wynebu profedigaeth yn sgil hunanladdiad, gan gynnwys gwrando ar brofiadau? A pha gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau y bydd llwybr ôl-ymyrraeth priodol ar gyfer hunanladdiad, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor iechyd a'r Athro Ann John yn ei hadolygiad o 'Siarad â fi 2', yn cael yr adnoddau priodol ac yn cael ei ddatblygu ar fyrder?

14:40

Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod fy mod o ddifrif ynglŷn â'r mater, ac rwy'n cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud am y risgiau tebygol y bydd pobl yn marw drwy hunanladdiad yn y dyfodol os byddant wedi wynebu profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn y lle cyntaf, ac rwyf o ddifrif ynglŷn â hynny. Rwyf am symud mor gyflym ag y gallwn. Mae gennym ddewisiadau i'w gwneud nid yn unig ynglŷn â'r hyn y mae'r data, y dystiolaeth a'r sylwadau yn ei ddweud wrthym am y cymorth y dylem ei ddarparu, ond a ddylai fod gennym system genedlaethol, gan y byddai hynny'n golygu, yn ôl pob tebyg, sefydliad cenedlaethol fel y Samariaid neu Gofal mewn Galar Cruse, er enghraifft, yn darparu gwasanaeth, o bosibl, neu a ddylai fod gennym, safonau cenedlaethol fel y gellir cael darpariaeth leol neu ranbarthol, gan fod grwpiau llawer llai a mwy penodol yn darparu gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae angen i ni feddwl am ba fath o fodel rydym yn awyddus i'w gael a pha fath o wasanaeth rydym am ei ddarparu wedyn. Ond i mi, mae'n hanfodol gwrando ar bobl sydd wedi cael profiadau a phobl sydd eisoes yn darparu cymorth profedigaeth. Ac rwy'n hapus i ailgadarnhau bod yr Athro Ann John yn rhan annatod o'r broses o ystyried y sylwadau ynglŷn â'r hyn y dylem ei wneud nesaf. Felly, mae'n fater o beth rydym yn ei wneud, nid a ddylem wneud rhywbeth, ac rwy'n cydnabod y bydd yr Aelod yn parhau i ofyn cwestiynau hyd nes ein bod mewn sefyllfa lle rydym nid yn unig yn dewis ond yn gweld gwahaniaeth gwirioneddol wedi'i wneud.

Weinidog, un peth a wnaeth argraff arnaf, pan roeddwn yn llefarydd iechyd ar gyfer y grŵp Ceidwadol, mewn perthynas â chymorth profedigaeth oedd pan ymwelais â Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam—hosbis hyfryd, yn fy marn i, sy'n cynnig cefnogaeth wych i unigolion yn ystod wythnosau a dyddiau olaf eu bywydau. Ac ar y pryd, roedd ganddynt brosiect penodol i gefnogi pobl ifanc a oedd wedi eu heffeithio gan brofedigaeth. Ac yn aml iawn, mae'r bobl ifanc, y plant, sy'n cael eu gadael ar ôl—mae 'anwybyddu' yn air anghywir, ond mae'r systemau sydd ar waith yn tueddu i fethu ymateb i'w hanghenion. Pa waith y mae eich adran wedi'i wneud gydag adran y Gweinidog Addysg i sicrhau y ceir pontio rhwng iechyd ac addysg i ddarparu'r gwasanaethau profedigaeth hynny? Ac a fydd yr adolygiad a amlinellwyd gennych yn edrych yn benodol ar y gefnogaeth a roddir i bobl ifanc yr effeithir arnynt gan brofedigaeth?

Rwy'n fwy na pharod i edrych yn iawn ar y mater a godwyd gan yr Aelod. Rwyf wedi ymweld â Hosbis Tŷ'r Eos fy hun, ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaeth yr Aelod am eu gwaith, ac yn wir, rhannau sylweddol eraill o'r mudiad hosbisau yma yng Nghymru. Felly, rwy'n awyddus i ddeall nid yn unig y gwaith a wnânt, ond sut y mae unrhyw strategaeth—ac wrth gwrs, bydd y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi canllawiau pellach am gymorth profedigaeth hunanladdiad i ysgolion, i blant a phobl ifanc—yn defnyddio dealltwriaeth o brofiadau'r plant a'r bobl ifanc hynny i wella ein gwasanaeth ymhellach. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu, nid yn unig at yr Aelod, ond hefyd i sicrhau bod y pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd y Gweinidog addysg a minnau, wrth gwrs, yn ei fynychu ymhen ychydig wythnosau.FootnoteLink FootnoteLink

Cynorthwyo Pobl sydd â Nam ar y Synhwyrau

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cynorthwyo pobl sydd â nam ar y synhwyrau? OAQ53938

Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi pobl â nam ar y synhwyrau drwy fentrau allweddol, fel y fframwaith gweithredu integredig o ofal a chymorth i bobl sy'n fyddar neu'n byw â byddardod a chynllun gofal iechyd llygaid Cymru.

Diolch. Wel, yn union fel pobl heb nam ar y synhwyrau, nid oes un ffordd sy'n addas i bawb o ddarparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau. Mae rhai awdurdodau lleol yn ariannu sefydliadau lleol i ddarparu gwasanaethau cymorth i breswylwyr, gan alluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, ac mewn rhai achosion, pobl sy'n drwm eu clyw neu wedi colli eu clyw, tra bo eraill heb unrhyw ddarpariaeth o gwbl. Mae'r gwasanaethau sy'n bodoli nid yn unig yn darparu mynediad at wybodaeth i bobl sydd â nam ar y synhwyrau, ond maent hefyd yn dod law yn llaw â gwasanaeth eirioli neu gynghori. Ond ar gyfer awdurdodau lleol ac adrannau'r Llywodraeth, cynhyrchir gwybodaeth fel arfer yn Iaith Arwyddion Prydain yn unig neu yn Iaith Arwyddion Prydain gydag isdeitlau, heb ddarparu hygyrchedd i bobl â nam ar eu golwg, er y gellid cynhyrchu fideos ac ati gyda'r ddarpariaeth honno, a darpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg hefyd. Mynegwyd y pryderon hyn wrthyf gan elusennau nam ar y synhwyrau yng ngogledd Cymru. Sut felly y byddwch yn ymateb i'w pryderon fod yr anghydraddoldeb o ran mynediad at wybodaeth i bobl â nam ar y synhwyrau yn effeithio ar y bobl y maent yn gweithio gyda hwy, a bod arnom angen cyllid cyfartal i'r boblogaeth gyfan, mynediad at wybodaeth, a hynny ar gyfer pobl â nam ar y synhwyrau ym mhob awdurdod lleol ac nid dim ond y rhai sy'n dewis gwneud hynny?

14:45

Wel, mae hwn yn bwynt ynglŷn ag a ydym yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth lle mae ganddynt safonau cenedlaethol y mae'n rhaid iddynt eu bodloni, neu a yw'n fater i awdurdodau lleol wneud dewisiadau yn ei gylch. Oherwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gwyddom fod pob bwrdd iechyd ac awdurdod lleol ar fin cynnal, neu wedi cynnal, asesiad ar y cyd o angen yn eu hardaloedd, a bod angen iddynt ddiwallu'r anghenion hynny wedyn. Buaswn yn disgwyl i'r dadansoddiad o angen lleol ystyried gofynion cyfathrebu pobl â nam ar y synhwyrau yn briodol. Prin fod hwn yn faes ymylol o weithgarwch, o ystyried yr ystadegau ar y nifer ohonom yn yr ystafell hon a all ddisgwyl nam ar ein clyw neu ein golwg yn ystod ein hoes. Felly, rwy'n disgwyl i hyn fod yn rhan ganolog o'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn rhedeg eu gwasanaethau.

Os yw'r Aelod yn awyddus i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a minnau gyda manylion ynglŷn â'r meysydd hynny lle mae'n credu bod anghydraddoldeb yn y ddarpariaeth, byddem yn fwy na pharod i edrych arnynt ac i ymrwymo i ystyried a oes mwy y gallem ei wneud, neu ai mater i awdurdodau lleol yw datrys y materion eu hunain.

Weinidog, cyhoeddodd y Prif Weinidog, pan oedd yn gyfrifol am bortffolio'r Ysgrifennydd cyllid, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo £2.9 miliwn i ariannu gwasanaethau cyflogaeth a hyfforddiant arbenigol i bobl â nam ar eu synhwyrau, ac ar y pryd, dywedodd Rebecca Woolley, cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru

'Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian hwn. Bydd nid yn unig yn sicrhau bod pobl â nam ar eu synhwyrau yn cael cymorth i wireddu eu potensial llawn, ond bydd cyflogwyr yng Nghymru hefyd yn cael eu grymuso i’w cefnogi i ffynnu yn y gweithle.'

Weinidog, mae'r ymrwymiad gan Lywodraeth Lafur Cymru i brosiect JobSense yn dystiolaeth bellach o'r flaenoriaeth barhaus y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i wella rhagolygon cyflogaeth a hyfforddiant pobl â nam ar y synhwyrau. Felly, pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn awr i adeiladu ar arferion da o'r fath fel y gall pawb sydd â nam ar y synhwyrau gael gwell mynediad at gyflogaeth a hyfforddiant?

Credaf fod hyn, mae'n debyg, yn croesi nifer o wahanol bortffolios gweinidogol, ond rwy'n hapus i gydnabod y gwelliant a wnaed, yn ogystal â'r gwaith y mae Action on Hearing Loss, yn arbennig, yn ei wneud gyda'u gwobrau rhagoriaeth i amlygu'r meysydd lle mae arferion da i'w cael eisoes a lle gellir gweld enghreifftiau pellach. Mae'r gwobrau diweddar, a gynhaliwyd ym mis Mai eleni, yn enghraifft dda, ac yn wir, fe wnaethant amlygu gwaith nifer o wahanol gyflogwyr. Rwy'n fwy na pharod i siarad ymhellach am hyn gyda fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog cyflogaeth yn ogystal, rwy'n siŵr, â'r Gweinidog sy'n arwain ar gydraddoldeb, sydd yn yr ystafell ac a fydd yn hapus i ymuno â'r sgwrs honno hefyd.

Dystonia

5. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sefydlu cynllun gweithredu cenedlaethol i sicrhau bod pobl yng Nghanol De Cymru sy'n byw gyda dystonia yn cael y driniaeth iawn ar yr amser iawn? OAQ53945

Mae ein cynllun cyflawni wedi'i ddiweddaru ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn nodi ein hymrwymiad gyda GIG Cymru i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol ac i sicrhau bod gan bobl yr effeithir arnynt gan unrhyw gyflwr niwrolegol fynediad amserol at ofal o ansawdd uchel, ble bynnag y maent yn byw, a ph'un a yw'r rhain yn cael eu darparu drwy ysbytai neu mewn lleoliad cymunedol.

Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch am eich ymateb ysgrifenedig i mi ar gwestiynau blaenorol a ofynnais ichi.

Rydych wedi nodi y byddwch yn cyfarfod y mis hwn, fis Mehefin, â'r grŵp cymorth i berthnasau cleifion dystonia yn ogystal ag Aelodau eraill yn y Siambr hon, ynghyd â chadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Cafodd apwyntiadau eu canslo yn ddiweddar yn y clinig botox sydd ar gael i gleifion dystonia, a chafodd apwyntiadau 300 o gleifion eu canslo yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae 3,500 o gleifion ledled Cymru yn dioddef o'r cyflwr hwn. A fyddwch yn rhoi sylw i'r hysbysiadau canslo hyn sydd wedi'u hanfon at gleifion ac yn sicrhau, lle mae gan gleifion apwyntiadau ar gyfer y cyflwr ofnadwy hwn, fod yr apwyntiadau hynny'n digwydd ac y rhoddir ystyriaeth briodol i gynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer cleifion dystonia, oherwydd, fel y dywedais, mae 3,500 o gleifion ledled Cymru yn dioddef o'r cyflwr hwn?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol. Ddoe, cyfarfûm â grŵp cymorth y Gymdeithas Dystonia a dau Aelod nad ydynt yn y Siambr heddiw—Vikki Howells a Dawn Bowden—i drafod rhai o'r heriau a godwyd gan yr Aelod. Rwyf wedi ymrwymo i ymyrryd ac i egluro disgwyliadau, ac i sicrhau y gwneir cynnydd pellach. Mae a wnelo hyn yn rhannol â staffio o fewn y gwasanaeth. Mae'n wasanaeth sy'n cael ei ddarparu ar fodel prif ganolfan a lloerennau, gyda Chaerdydd yn ganolbwynt i dde-ddwyrain Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn arwain ar gyfer de-orllewin Cymru. Rwyf am weld buddsoddiad priodol yn cael ei wneud mewn staff, gan mai dyna'r mater allweddol i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld ar amser, gan fy mod yn cydnabod bod methu cael apwyntiad yn effeithio'n fawr ar ansawdd bywyd pobl, p'un a ydynt mewn gwaith ai peidio. Felly, ydw, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod camau pellach yn cael eu cymryd, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd y camau pellach hynny wedi'u cymryd.

14:50
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau gofal yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Hywel Dda? OAQ53966

Mae sicrhau bod gan bobl fynediad at ofal o ansawdd uchel yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Dyma pam rydym yn buddsoddi £180 miliwn eleni a fydd yn cael ei dargedu ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu modelau gofal di-dor ym mhob rhanbarth.

Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hateb. Bydd y Gweinidog iechyd ei hun yn ymwybodol o achos unigol torcalonnus a godwyd gyda mi gan deulu yn fy rhanbarth. Roedd gan y gŵr anghenion gofal cymhleth iawn a phecyn wedi'i gytuno i allu ei ryddhau o'r ysbyty i fynd adref o dan ofal iechyd parhaus. Arweiniodd methiant Allied Healthcare Ltd at sefyllfa lle roedd y pecyn gofal a ddarparwyd iddo yn ei gartref yn anghynaliadwy, ac mewn gwirionedd, yn beryglus. Yna, cafodd ei aildderbyn i'r ysbyty. Mae hon wedi bod yn stori hir—ac rwy'n fwy na pharod i anfon copi o'r ohebiaeth at y Dirprwy Weinidog—gan fod cyfres gyfan o broblemau wedi arwain at aildderbyn y gŵr, ar ôl chwe mis o hyn, i ysbyty acíwt.

Tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog ymrwymo heddiw i gynnal asesiad o faint o gleifion sydd wedi cael eu heffeithio ledled Cymru gan fethiant Allied Healthcare Ltd. Wedi'r cyfan, mae 12 mis wedi bod bellach ers y rhybuddion ariannol cyntaf a chwech mis ers i'r cwmni fynd i'r wal. Felly, hoffwn wybod faint o gleifion yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan hyn. Rwy'n siŵr nad fy etholwr fydd yr unig un, yn anffodus. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ymrwymo i ymchwilio i weld faint o'r cleifion hyn sydd heb becyn gofal digonol o hyd ac a yw hynny'n golygu eu bod gartref a ddim yn derbyn y pecyn gofal a ddylai fod ganddynt, neu a yw hynny'n golygu efallai eu bod yn cael eu lleoli yn amhriodol mewn gofal preswyl?

A gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog, gyda'r Gweinidog, ymrwymo i edrych ar effeithiau hyn, o bosibl, ar dimau nyrsys ardal? Yn yr achos penodol hwn, gwnaeth y tîm nyrsys ardal eu gorau i gamu i'r adwy, ond nid oedd hynny'n bosibl. Ac a all y Dirprwy Weinidog ymrwymo i gynnal trafodaethau gyda bwrdd iechyd Hywel Dda—ond efallai y bydd eraill ledled Cymru—a'r awdurdodau lleol perthnasol, i edrych ar y gwaith y maent yn ei wneud i gael darpariaeth yn lle'r pecynnau gofal arbenigol a gollwyd o ganlyniad i fethiant Allied Healthcare Ltd? Ac yn olaf, a yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi fod yr achos penodol hwn yn tynnu sylw at y risg o ddibynnu ar gwmnïau'r sector preifat i ddarparu'r pecynnau gofal hynod bwysig hyn i rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed? A wnaiff hi ymrwymo i weithio gyda byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i ddatblygu modelau mwy amgen a chynaliadwy fel na fydd yn rhaid i unrhyw glaf arall ddioddef ac fel na fydd yn rhaid i unrhyw deulu arall ddioddef yr hyn y mae'r teulu hwn a'r gŵr hwn wedi ei brofi?

Diolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth a gafodd Helen Mary Jones gyda'r Gweinidog am ei hetholwyr, ac rwy'n ymwybodol o natur dorcalonnus yr hyn a ddigwyddodd. Yn ddi-os, credaf fod methiant ariannol Allied Healthcare cyn y Nadolig diwethaf wedi rhoi straen ychwanegol enfawr ar y bwrdd iechyd lleol ac ar yr awdurdod lleol. A chredaf ei bod yn bwysig cofio bod y rheoliad a roddwyd ar waith o dan Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wrando ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn, sy'n rhywbeth a oedd i'w deimlo'n gryf iawn yn fy marn i yn yr ohebiaeth a welais. Hefyd, mae'n pwysleisio ansawdd y gofal, ac roedd yn anffodus iawn fod y sefyllfa wedi datblygu fel y gwnaeth gyda'ch etholwr.

Gwyddom fod pwysau enfawr ar ofal cartref ac ar ofal iechyd parhaus, a chredaf nad oes amheuaeth fod sefyllfa Allied Healthcare wedi gwneud hynny'n waeth. Rwy'n sicr yn barod i edrych ar rai o'r pwyntiau a wnaed ganddi. Rydym eisoes yn ystyried ceisio arallgyfeirio'r sector cyfan, gan nad yw'r straen o gael y ddibyniaeth lwyr hon ar ddarpariaeth gofal preifat yn iach. Mae angen y ddarpariaeth gofal preifat arnom ac mae darpariaeth ardderchog i'w chael yno, ond hefyd, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiynau Janet Finch-Saunders yn gynharach, mae angen modelau gofal eraill fel nad ydym yn ddibynnol ar un maes—er enghraifft, datblygu cwmnïau cydweithredol a busnesau gwerth cymdeithasol, yn ogystal ag annog awdurdodau lleol i gynnig mwy o ddarpariaeth yn fewnol. Felly, rydym eisoes yn gwneud hynny gan ei fod yn rhan o'n ffrwd waith, a chredaf fod hyn oll wedi tynnu sylw at hynny. A chredaf fod yr effeithiau y mae wedi'u cael ar y gwasanaeth nyrsys ardal a'r effeithiau y mae wedi'u cael ar unigolion a faint ohonynt sydd i'w cael yn rhywbeth y gallem edrych arno fel rhan o'r ymchwiliadau ehangach rydym yn eu hystyried ynghylch sut y bydd y system gofal cymdeithasol yn datblygu.

Felly, unwaith eto, mae'n wir ddrwg gennyf am y profiad a gafodd ei hetholwyr, ac rydym yn awyddus i geisio osgoi hynny rhag digwydd. Ond credaf ei bod hefyd yn bwysig dweud, pan aeth Allied Healthcare i'r wal, fod Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi gweithredu'n gyflym i redeg eu cartrefi'n fewnol, sydd yn amlwg yn gam da ymlaen. Ond gyda'r sefyllfaoedd gofal iechyd parhaus, gwn fod hynny wedi bod yn anos.

14:55

Ddirprwy Weinidog, cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr Gofal Solfach, elusen gofrestredig sy'n gweithredu ar hyn o bryd ym mhentref Solfach yn fy etholaeth. Nawr, mae'r elusen yn gweithredu model arloesol iawn ar gyfer darparu gofal, gyda ffocws clir ar gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain. Nod yr elusen yw gwella iechyd a lles y gymuned, ac mae'n cynnal digwyddiadau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, hoffwn eich annog chi, a'r Gweinidog yn wir, i edrych ar y model gofal penodol hwn, o gofio bod Gofal Solfach yn gwneud gwaith gwych yn eu cymuned. O ystyried llwyddiant penodol y model hwn, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r mathau hyn o fodelau cymunedol a pha gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i sefydliadau fel Gofal Solfach?

Diolch yn fawr iawn i Paul Davies am ei gwestiwn, ac yn wir, hoffwn ymweld â Gofal Solfach, o bosibl, i weld beth yn union y maent yn ei wneud, gan fod yr hyn y maent ei wneud yn cyd-fynd yn llwyr â'r hyn rydym yn awyddus i'w wneud fel Llywodraeth. Yn sicr, mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, credaf mai dyna'r union bethau rydym yn ceisio'u hyrwyddo fel Llywodraeth. Fel rhan o'n harolwg a'n hadolygiad o'r holl fathau o ofal cymunedol sy'n cael eu hystyried, yn sicr mae gofal gan y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yn un o'r meysydd allweddol sy'n darparu'r amrywiaeth o ofal rydym yn chwilio amdani. Felly yn sicr, credaf fod hon yn enghraifft y byddem yn awyddus iawn i edrych arni ac i weld a allwn ei hybu, ac eraill sy'n debyg iddi, i ddarparu'r amrywiaeth hon o ofal sydd ei hangen arnom fel nad ydym mewn sefyllfa lle rydym yn ddibynnol iawn ar un sector.

Gwasanaethau Ambiwlansys ym Mlaenau Gwent

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau ambiwlansys ym Mlaenau Gwent? OAQ53952

Diolch iddo am y cwestiwn. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth diogel ac amserol i bobl Blaenau Gwent. Ym mis Ebrill eleni, cyrhaeddodd 71.2 y cant o ymatebion brys i alwadau coch yn ardal Aneurin Bevan o fewn y targed wyth munud, gydag amser ymateb canolrifol o ddim ond pum munud a 38 eiliad.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Credaf fod pob un ohonom yn cydnabod y gwaith caled a wneir gan barafeddygon i sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, a'u bod yn ddiogel. Gwyddom hefyd fod rhai galwadau'n cael eu gohirio, yn enwedig galwadau oren a gwyrdd, a gwyddom hefyd fod rhai materion sylweddol sy'n atal y gwasanaeth ambiwlans rhag gweithredu'n effeithlon. Rwy'n meddwl yn arbennig am drosglwyddo mewn ysbytai, a byddwch wedi gweld adroddiadau ynglŷn â hynny yn y wasg a'r cyfryngau yn gynharach yr wythnos hon. Gwyddom hefyd o'r ystadegau a gyhoeddwyd gennych chi fod oddeutu 21,000 o oriau wedi'u colli yn chwarter cyntaf eleni o ran trosglwyddo o ambiwlansys mewn ysbytai. Nawr, gwyddom fod gennym staff gweithgar iawn mewn unedau damweiniau ac achosion brys, sy'n teimlo dan bwysau enfawr oherwydd y pwysau ar y gwasanaeth hwnnw, a gwyddom hefyd fod gweithwyr ambiwlans yn gweithio hyd eithaf eu gallu. Felly, ymddengys i mi fod gennym system lle mae gennym ddau grŵp o bobl sy'n gweithio'n eithriadol o galed i'n cadw'n ddiogel ac i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom, ond ymddengys fod y system ei hun yn eu hatal rhag gwneud hynny bob amser. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i edrych eto—a gwn ein bod wedi trafod hyn o'r blaen—ar y ffordd y caiff trosglwyddiadau o ambiwlansys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys eu gweithredu i sicrhau bod ambiwlansys yn gallu cyflawni'r targed 15 munud a bennwyd gennych ar eu cyfer, ac yn gallu treulio mwy o amser yn darparu'r gwasanaeth hwn a llai o amser yn trosglwyddo cleifion?

Gwnaf, rwy'n fwy na pharod i edrych eto. Yn wir, mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes. Ddoe, cawsom gyfle i drafod yr adolygiad oren, ac wrth gael gwared ar yr amseroedd aros hir iawn hynny sy'n digwydd, mae rhan o hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â rhyddhau'r capasiti sy'n aml wedi'i ddal yn ôl ar safle ysbyty. Yn ardal Aneurin Bevan yn ddiweddar, yn ystod y chwarter diwethaf, cawsant y nifer uchaf o achosion o oedi am dros awr. Mae gennym ddau fesur penodol: un i weld a yw ambiwlansys yn cael eu rhyddhau o fewn 15 munud, ac ail fesur i weld a ydynt yn cael eu rhyddhau o fewn awr. Felly, mae pwysau gwirioneddol o fewn y system bresennol.

Nawr, yn y tymor canolig, bydd gennym gyfleuster newydd yn y Grange, a ddylai olygu bod gennym broses well a gwell system i bobl weithio ynddi, ond mae hynny'n golygu, am y ddwy flynedd nesaf, cyn i'r Grange ddod yn weithredol, fod angen i ni sicrhau ein bod yn gwella'r system sydd gennym. Mae hynny'n ymwneud â'r system gyfan. Mae'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn trefnu gwahanol rannau. Mae hefyd yn ymwneud â'r arferion a'r weithdrefn mewn adrannau brys hefyd. Byddaf yn cyfarfod â grŵp o glinigwyr i edrych ar adolygiad o fesurau adrannau brys i geisio helpu i newid yr arweinyddiaeth a'r diwylliant o'u mewn drwy wrando ar eu cymheiriaid hefyd. Nid oes a wnelo hyn â'r Llywodraeth yn gorchymyn o'r canol; mae a wnelo ag arferion da mewn gwahanol rannau o'n system, a dysgu oddi wrth ein gilydd a gwir arweinyddiaeth. Buaswn yn fwy na pharod i drafod rhai o'r manylion gyda chi y tu allan i'r Siambr hefyd.FootnoteLink

15:00

I ymhelaethu ar gwestiwn Mr Alun Davies, Weinidog, mae ffigurau'n dangos bod criwiau ambiwlans ledled Cymru wedi treulio dros 65,000 o oriau'n aros i drosglwyddo cleifion mewn ysbytai y llynedd—a soniasoch eisoes am y 25,000 awr ers 2015, ar ben hynny hefyd. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem o oedi estynedig wrth drosglwyddo cleifion i wella gwasanaethau ambiwlans ym Mlaenau Gwent ac mewn mannau eraill yng Nghymru? Gwyddom fod y gweithwyr ambiwlans yn gwneud gwaith gwych, ond beth yw'r rhesymau a'r ffeithiau a'r ffigurau y tu ôl i'r ffaith bod yr amser trosglwyddo mor hir y tu allan i ysbytai yn hytrach na bod pobl yn yr ysbyty? Diolch.

Nid wyf yn siŵr, Lywydd, a allaf ganfod unrhyw beth sy'n wahanol yn y cwestiwn y mae'r Aelod wedi'i ofyn i'r hyn a ofynnwyd yng nghwestiwn atodol yr Aelod dros Flaenau Gwent. Ailadroddaf eto fod cyfres o gamau ar y gweill eisoes i edrych ar fesurau mewn adrannau achosion brys, fel y dywedais yn fy ateb i Alun Davies. Yn gyffredinol o fewn ein system, rydym wedi gweld gwelliant yn ystod y chwarter diwethaf, ond mae her yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac rwy'n edrych i weld beth sy'n digwydd ar draws y system gyfan i sicrhau'r gwelliant. Ond heblaw am hynny, Lywydd, nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu at yr ateb rwyf eisoes wedi'i roi ar yr un pwnc.

Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaeth therapi iaith a lleferydd Gogledd Cymru? OAQ53968

Diolch am y cwestiwn. Cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw sicrhau ei fod yn darparu mynediad digonol at wasanaethau therapi, gan gynnwys therapi iaith a lleferydd, gan ystyried yr arferion gorau perthnasol. Fodd bynnag, mae'n bleser gennyf gadarnhau nad oes neb yng ngogledd Cymru yn aros yn hwy na'r targed o 14 wythnos am wasanaethau therapi, ac mae hynny wrth gwrs yn cynnwys mynediad at therapi iaith a lleferydd.

Diolch. Ers 2017, rwyf wedi bod mewn cysylltiad ag etholwr, cyn-therapydd, a oedd ymhlith staff a benderfynodd chwythu'r chwiban ar bryderon a oedd ganddynt yn ymwneud ag adran therapi iaith a lleferydd Betsi Cadwaladr. Mae'r pryder yn ddeublyg: yn gyntaf, mater yn ymwneud â llywodraethu clinigol, gyda phryderon gwirioneddol am bwysau llwyth gwaith, diwylliant negyddol yn y gweithle, gwanhau gwasanaethau a risg i staff a defnyddwyr y gwasanaeth, yn eu tyb hwy. Ond mae yna deimlad dwfn hefyd, yn eu geiriau hwy, fod y broses chwythu'r chwiban ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi torri.

Nawr, gwyddom fod plant nad ydynt yn cael y cymorth cyfathrebu sydd ei hangen arnynt yn gallu profi effeithiau gydol oes—addysg, cyflogaeth, iechyd meddwl, llesiant ac yn y blaen. Rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion lle mae plant wedi gorfod aros yn hir am therapi, neu wedi profi therapi anaddas—ac roedd un achos yn nodi arhosiad hir am therapi yn y Gymraeg, er enghraifft. Rwy'n falch ein bod, o'r diwedd, ar gam lle mae ymchwiliad annibynnol, allanol wedi'i gwblhau.

Nawr, er ei bod yn amlwg i mi fod angen adolygu'r broses chwythu'r chwiban, yn seiliedig ar brofiad fy etholwr, a wnaiff y Gweinidog gytuno â mi, er mwyn tryloywder, y dylai'r adroddiad annibynnol—ac rwyf wedi cael gwybod na fydd yn cynnwys unrhyw argymhellion fel y cyfryw—fod ar gael yn hwylus i fy etholwr ac eraill sydd â phryderon tebyg, ac y dylid rhoi cyfleoedd i'r rhai sydd wedi mynegi pryderon weithio gyda'r bwrdd iechyd i drafod eu hanghenion a sut y gellid gwella gwasanaethau?

Credaf fod dau bwynt yr hoffwn eu gwneud mewn ymateb. Y cyntaf yw cydnabod, wrth sicrhau bod y perfformiad cyfredol yn parhau mewn perthynas â nifer y bobl sy'n cael eu hasesu o fewn amser rhesymol, ei bod hi'n bwysig parhau i edrych ar sut y caiff y gwasanaeth ei drefnu. Ac nid ydym yn rhoi digon o bwyslais ar yr effeithlonrwydd neu'r aneffeithlonrwydd rydym yn ei adeiladu i mewn i'r system gofal iechyd ar adegau drwy barhau i weithredu system yn y ffordd y mae bob amser wedi cael ei gweithredu. Er enghraifft, lleoliad apwyntiad—a yw'n haws ac yn fwy cyfleus asesu pobl mewn lleoliadau cymunedol? Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod y lleoliadau hynny'n addas i bobl gael eu hasesu'n briodol, yn hytrach na gofyn i bobl deithio i wasanaethau sydd wedi'u lleoli mewn ysbytai? Felly, mae rhywbeth am yr ôl-troed cymunedol hefyd. Eich pwynt, mewn gwirionedd—o ran ffocws y problemau y deallaf eich bod wedi bod yn ymdrin â hwy yn eich etholaeth, nid wyf yn ymwybodol o'r holl fanylion, felly nid wyf am honni hynny, ond gwn eich bod wedi dweud bod ymchwiliad annibynnol wedi'i gynnal. Nid wyf yn credu y gallaf ymrwymo i gyhoeddi ymchwiliad annibynnol o ystyried nad oes gennyf yr holl fanylion—credaf fod y bwrdd iechyd wedi cytuno i benodi rhywun i gynnal ymchwiliad annibynnol—ond buaswn eisiau iddo fod yn gwbl dryloyw a sicrhau bod pobl eisiau gweithio gyda'i gilydd i geisio gwella'r gwasanaeth. Felly, efallai y byddwch eisiau ysgrifennu ataf neu siarad â mi wedyn. Rwyf eisiau sicrhau'r lefel uchaf o dryloywder i helpu i wella'r gwasanaeth ymhellach.FootnoteLink

15:05
Cefnogi Dioddefwyr y Sgandal Gwaed Halogedig

9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dioddefwyr y sgandal gwaed halogedig? OAQ53972

Iawn, a diolch am y cwestiwn. Drwy gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr o daliadau ex gratia ynghyd â chymorth cofleidiol helaeth sy'n cynnwys cymorth seicolegol, cyngor a chymorth ar fudd-daliadau a chyfeiriadau at wasanaethau cyhoeddus eraill a ddarparwn ledled Cymru.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod y BBC wedi adrodd ar achos Kirk Ellis o Gaerffili, a oedd wedi dal hepatitis C pan oedd yn blentyn bach, ond ni ddaeth yn ymwybodol o hynny nes ei fod yn 13 oed. Mae'n cael £18,500 y flwyddyn o iawndal. Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai cleifion yn Lloegr yn cael £10,000 ychwanegol. Ni fyddai hynny'n berthnasol i gleifion sydd wedi'u heffeithio yng Nghymru. Nid yw'n deg bod y 175 o bobl â haemoffilia yng Nghymru a gafodd eu heintio yn y 1970au a'r 1980au yn cael llai o gymorth ariannol na dioddefwyr yn Lloegr a'r Alban. Iechyd—er ei fod yn fater datganoledig, mae Kirk Ellis yn cydnabod bod hyn wedi digwydd cyn datganoli, dan oruchwyliaeth Llywodraeth y DU, ac mai hwy a ddylai fod yn gyfrifol am wneud taliadau. Ond beth bynnag fydd yn digwydd, mae angen datrys y mater hwn, a hoffwn wybod beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i gael y mater hwn wedi'i ddatrys a sicrhau bod taliadau teg yn digwydd ar draws y Deyrnas Unedig.

Ie. Gwelais y cyfweliadau gyda'ch etholwr, ac mae'n cydnabod, fel y dywedwch, fod hyn wedi digwydd cyn datganoli, a byddech fel arfer yn disgwyl i Lywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb parhaus dros yr hyn a oedd yn sgandal gwirioneddol, dros nifer o ddegawdau, lle cafodd pobl ddiniwed eu heintio a lle'r effeithiwyd ar eu bywydau cyfan. Roeddwn yn siomedig fod Adran Iechyd y DU, ar y diwrnod y cychwynnodd yr ymchwiliad o'r diwedd, wedi cyhoeddi system daliadau gwbl newydd ar gyfer trigolion Lloegr yn unig, heb unrhyw fath o rybudd na thrafodaeth gyda Chymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon, system a aeth yn groes i gytundebau a thrafodaethau blaenorol, oherwydd mae gwahaniaethau yn y cynlluniau cymorth sydd ar gael ledled y Deyrnas Unedig. Credaf y byddai'n synhwyrol pe gallem sicrhau system gymorth a oedd yn gyson ar draws y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n golygu bod angen i'r pedair Llywodraeth weithio gyda'i gilydd. Cafodd hynny ei roi i ni cyn i'r ymchwiliad ddechrau, ac wedyn cafwyd cyhoeddiad annisgwyl. Serch hynny, mae ein swyddogion yn parhau i siarad, ac mae cyfarfod i'w gynnal rhwng swyddogion yn ystod yr wythnos nesaf, ac rydym yn gobeithio trefnu dyddiad i Weinidogion y DU allu trafod y materion hyn gyda'i gilydd—Gweinidogion o bob un o'r tair Llywodraeth, a chynrychiolydd o Lywodraeth Gogledd Iwerddon hefyd—cyn diwedd toriad yr haf, oherwydd rwyf eisiau gwneud cynnydd, ac yn sicr nid wyf eisiau gadael i'r mater hwn barhau gyda chystadleuaeth flynyddol rhwng y pedair Llywodraeth, ond yn hytrach, mae angen rhywfaint o synnwyr ac ymwybyddiaeth i gydnabod ein bod angen cefnogi'r bobl yr effeithiwyd arnynt, oherwydd mae ganddynt lawer o'u bywydau i'w byw o hyd.

Diolch i'r Gweinidog.

Pwynt o drefn mewn perthynas â'r cwestiynau, Mark Reckless.

Lywydd, yn y gorffennol, mae grwpiau o bedwar neu fwy o Aelodau wedi cael caniatâd i ofyn yr un nifer o gwestiynau â grwpiau mwy o faint. Pan oedd y Gweinidog addysg yn arwain grŵp o bump a oedd yn rhan o gonsensws Bae Caerdydd, nid oedd unrhyw gwestiwn ynglŷn â chyfyngu ar nifer eu cwestiynau. Gyda Phlaid Brexit, rydych eisiau cyfyngu nifer ein cwestiynau i chwarter y cwestiynau y mae'r grwpiau eraill yn eu gofyn. Lywydd, oni fydd pobl yn dod i'r casgliad eich bod yn rhagfarnllyd fel rhan o'r sefydliad 'aros'?

Roeddwn am ddiolch i chi am roi rhybudd i mi am y pwynt o drefn, ac am ein trafodaethau ar y mater yn gynharach yr wythnos hon, ond mae'n debyg na fyddaf yn diolch i chi ar ôl y cyfraniad hwnnw. Hoffwn ailadrodd, fel y gwneuthum yn ein cyfarfod yn gynharach yr wythnos hon, fod dyraniad cwestiynau arweinwyr a llefarwyr yn cael ei bennu yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, ac rwyf wedi penderfynu rhoi'r un dyraniad i grŵp newydd Plaid Brexit ag a oedd gan grŵp UKIP yn ddiweddar. Mae'r dyraniadau'n adlewyrchu'r cydbwysedd cyffredinol ac nid ydynt yn wyddor fanwl nac yn gyfrifiad pro-rata. Felly, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod eich grŵp yn cael dyraniad cyffredinol teg o amser ar draws y cwestiynau. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen i mi dynnu eich sylw at y ffaith na allaf alw ar eich Aelodau os nad ydynt yn gwneud ceisiadau i ofyn cwestiynau, ac er gwybodaeth i'r Aelodau, ni chefais unrhyw geisiadau o'r fath gan Blaid Brexit heddiw.

15:10

Fe ddywedoch chi wrthym na chaem wneud hynny—dim ond tri.

3. Cwestiynau Amserol

Felly, y cwestiwn a'r eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol, a'r cwestiwn hwnnw gan Russell George.

Y Comisiwn Arbenigol ynghylch Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y comisiwn arbenigol a gaiff ei benodi o ran coridor yr M4 o amgylch Casnewydd? 318

Gwnaf, wrth gwrs. Yn gynharach heddiw, cyhoeddais ddatganiad yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y comisiwn arbenigol, gan gynnwys y cylch gorchwyl.

A gaf fi ddiolch i chi, Lywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol hwn? A byddai wedi bod o gymorth, rwy'n credu, pe bai'r Gweinidog wedi cyflwyno datganiad llafar yn hytrach na datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn. Wrth gwrs, darllenais eich datganiad heddiw, Weinidog, ac o'm safbwynt i, o ddarllen y datganiad, rydym yn mynd yn ôl i'r cychwyn, gyda chomisiwn arbenigol arall wedi'i benodi i edrych ar gynigion eraill yn lle cynigion Llywodraeth Cymru ei hun ar ôl i £114 miliwn, fel y clywsom o'r datganiad heddiw, o arian cyhoeddus gael ei wario neu ei wastraffu ar ddatblygu cynigion ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus annibynnol dros gyfnod o ddwy flynedd. Buaswn yn cytuno â'r sylwadau yn eich datganiad heddiw, Weinidog, fod angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i ateb yn gyflym, felly mae gennyf nifer o gwestiynau.

Beth fydd yr amserlen i'r comisiwn arbenigol gyflwyno'u hadroddiad? Pa gyllideb y byddwch yn ei dyrannu'n benodol ar gyfer gwaith y comisiwn arbenigol? Pwy fydd yn penodi aelodau'r comisiwn hwn, a faint o amser fydd y broses recriwtio yn ei gymryd? Ac a wnewch chi ymrwymo i lynu at gasgliadau'r comisiwn neu a fydd modd diystyru adroddiadau'r comisiwn arbenigol hwn? Weinidog, rydych wedi dweud wrth y Cynulliad hwn ei bod yn hanfodol ein bod yn cynllunio trafnidiaeth yn gyfannol ac nad ydym yn edrych ar foddau trafnidiaeth ar eu pen eu hunain, ac aethoch ymlaen i ddweud, pe baech yn gwneud y mwyaf o'r capasiti ar y metro, mai'r uchafswm y gallech ei dynnu oddi ar yr M4 oedd 4 y cant yn unig. A ydych yn credu y bydd unrhyw gynigion amgen a wnewch yn tynnu mwy na 4 y cant oddi arni?

Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog y bydd cyfres o ymyriadau cyflym wedi'u targedu yn cael eu gwneud yn y cyfamser i liniaru tagfeydd ar y M4, ac mae eich datganiad heddiw wedi cyfeirio at hynny. Os yw'r Gweinidog yn credu bod mesurau tymor byr yn effeithiol, pam nad ydynt wedi cael eu gweithredu yn y gorffennol pan ellid bod wedi eu rhoi ar waith flynyddoedd yn ôl?

Ac yn olaf, Lywydd, mae'r Gweinidog wedi dweud o'r blaen, ac rwy'n dyfynnu yma, fod gwelliannau tameidiog a defnyddiol wedi cael eu gwneud dros amser, ond nid ydynt ond wedi gohirio'r mater—nid ydynt ond wedi gohirio'r mater—mae angen gwaith uwchraddio helaeth ar y darn hwn o seilwaith yn hirdymor. Felly a gaf fi ofyn: a yw'r Gweinidog bellach yn credu na fydd angen gwaith uwchraddio mor helaeth ar seilwaith yr M4 mwyach?

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a'i sicrhau nad ydym yn mynd yn ôl i'r cychwyn? A dyna pam ein bod yn gallu gofyn i'r comisiwn gyflwyno argymhellion o fewn cyfnod o chwe mis o gael ei gynnull. Nid ydym yn mynd yn ôl i'r cychwyn, oherwydd mae pob un o'r modelau llif traffig, yr asesiad cyfan, a'r dadansoddiad cyfan o dros 28 a mwy o gynigion yn bodoli bellach. Mae adroddiad yr arolygydd yn gynhwysfawr ac mae'n cynnwys asesiad o bob un o'r 28 cynnig hwnnw. Fodd bynnag, bydd y comisiwn yn rhydd i ystyried cynigion ychwanegol ac amgen. Bydd y comisiwn yn cael ei sefydlu gydag arbenigedd o'r maes trafnidiaeth er mwyn gwneud hynny. Ac felly, nid yw'r arian wedi'i wastraffu. Yn wir, pan fyddwch yn cymharu cyfran y gost ar gyfer datblygu'r M4 â chyfran y gost ar gyfer cynlluniau ffyrdd mawr eraill, mae'r costau datblygu fel cyfran yn ffafriol iawn mewn gwirionedd—maent yn 6.3 y cant. I gymharu â hynny, Lywydd, roedd ffordd osgoi A487 Caernarfon-Bontnewydd yn 9.4 y cant, adran 3 yr A465 yn 9.8 y cant, a'r A40 yn 11.5 y cant.

Ni ellir datblygu prosiectau am ddim, ac nid yw ond yn iawn ac yn briodol mewn proses ddemocrataidd fod cyfle llawn yn cael ei roi i'r cyhoedd graffu ar achos y Llywodraeth. Roedd achos y Llywodraeth yn gryf ac yn rymus, fel y dangosodd yr arolygydd, ond mae'r oes wedi symud ymlaen gryn dipyn ers 2016, pan wnaethom addo adeiladu ffordd liniaru, ac rwy'n benderfynol o symud ymlaen yn gyflym yn awr gyda dewisiadau amgen a chyfuniad—nid un ymyriad posibl yn unig, ond cyfuniad o ymyriadau o bosibl, a gallai llawer ohonynt fod ymhlith y 28 a gyflwynwyd i'r arolygydd, ac rwyf am fwrw ymlaen â hwy yn gyflym iawn.

Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw, ynglŷn â'r amserlen ar gyfer llunio a gwahodd y comisiwn i gyflwyno adroddiad, y byddwn yn gweld aelodau'n cael eu penodi—bydd y cadeirydd a minnau'n cytuno arnynt—cyn toriad yr haf. Bydd eu gwaith yn dechrau cyn gynted ag y bo modd ar ôl y dyddiad hwnnw, ond byddaf yn cwrdd â'r cadeirydd ddydd Llun i drafod y gwaith ac adroddiad yr arolygydd a'r asesiad a'r dadansoddiad sydd wedi'u cynnal eisoes. Fel y dywedais yn y datganiad, rwy'n disgwyl adroddiad interim o fewn 6 mis, ond rwyf wedi bod yn awyddus ac yn glir iawn wrth ddweud wrth y cadeirydd ac wrth y cyhoedd, os gall y comisiwn gyflwyno awgrymiadau ymarferol y gellir eu cyflwyno yn y tymor byr, yn syth, o fewn y cyfnod hwnnw o chwe mis, yna dylai wneud hynny heb oedi.

Nawr, gofynnodd Russell George gwestiwn pwysig iawn ynglŷn ag a fydd yr argymhellion yn rhwymol. Byddant yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth, ond byddant yn amodol ar eu gallu i ddangos gwerth am arian neu beidio. Nid wyf am wastraffu arian cyhoeddus ar brosiectau na fyddant yn cyflawni. Bydd yn rhaid iddynt hefyd fod yn fforddiadwy, o ystyried, yn arbennig, safbwynt y Prif Weinidog ar lwybr du'r M4, lle barnwyd nad oedd yn fforddiadwy. Ac yna, yn drydydd, mae'n rhaid iddynt fod yn gyflawnadwy. Yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddus, gwelsom fod rhai awgrymiadau wedi cael eu cynnig, gan gynnwys twnnel hir iawn na fyddai wedi bod yn gyflawnadwy. Rydym eisiau gweld atebion cyflawnadwy yn cael eu rhoi ar waith.

Mae Russell George hefyd yn iawn i dynnu sylw at y ffigur o 4 y cant o ran faint o bobl y gallwn eu tynnu oddi ar y M4 a'u cael i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhan o'r gymysgedd o ymyriadau, a dyna pam y dywedais nad ydym yn edrych ar un ateb yn unig, un fwled hud; rydym yn edrych ar gyfuniad posibl, a chyfuniad o atebion ac mae'n bosibl y bydd angen eu trefnu mewn ffordd benodol.

O ran yr ymyriadau cyflym rwyf wedi'u nodi yn fy natganiad ysgrifenedig, rwy'n falch o ddweud ein bod bellach mewn sefyllfa, ar ôl profi rhai o'r ymyriadau hynny ar yr A55, i fwrw ymlaen â hwy ar unwaith ar yr M4. A lle rydym wedi'u cyflwyno ar yr A55, rwy'n credu eu bod wedi profi'n llwyddiannus iawn yn lleihau tagfeydd yn gynt pan fo digwyddiadau a damweiniau'n digwydd. Ac mewn perthynas â'r cwestiwn ynglŷn ag a fyddai darn mawr o seilwaith ffordd newydd yn cael ei ystyried, wel, rwyf wedi dweud wrth gadeirydd y comisiwn y dylai ei gylch gwaith fod yn eang; dylai allu ystyried atebion sy'n seiliedig ar ffyrdd gyda'r bobl a gaiff eu penodi gydag ef, ond mae'n rhaid iddynt gyrraedd y safon a osodwyd gan y Prif Weinidog. Mae'n rhaid iddynt fod yn fforddiadwy ac mae'n rhaid iddynt beidio â chyfrannu'n sylweddol at newid hinsawdd. Maent yn safbwyntiau sylfaenol ac ni fyddant yn newid yn ystod proses y chwe mis nesaf.

15:15

Rwy'n falch o gael y cyfle i ofyn cwpl o gwestiynau. Credaf fod y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r llwybr du yn un cywir. Nid wyf mor argyhoeddedig â'r Gweinidog fod pethau wedi symud ymlaen cymaint ers i'r cynigion gael eu gwneud yn wreiddiol. Mae digonedd o bobl, gan gynnwys fy mhlaid i, wedi bod yn dadlau—a'r Gweinidog sy'n eistedd y tu ôl i chi—ers blynyddoedd lawer y byddai hyn yn debygol o gael ei ystyried, yn y pen draw, yn anghynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol. Ac mewn gwirionedd, buaswn yn falch o weld swm sylweddol o arian yn cael ei wario ar wella'r rhwydwaith ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru, ond mae'n rhaid i hynny ddigwydd ochr yn ochr ag ymdrech wirioneddol i sicrhau newid moddol yn ne-ddwyrain Cymru, fel mewn mannau eraill. Credaf mai dyna a gollwyd yn llwyr yn yr ymrwymiad i wario cymaint ag a gâi ei argymell ar y llwybr du.

Mae un neu ddau o gwestiynau'n codi ynglŷn â'ch datganiad y bore yma, y datganiad ysgrifenedig. Rydych yn dweud y bydd nifer o gamau tymor byr yn cael eu cymryd—swyddogion traffig ychwanegol, er enghraifft, peidio â chau lonydd yn ystod digwyddiadau mawr, mwy o gerbydau achub ac yn y blaen, er mwyn caniatáu i draffig lifo. Bydd pobl yn gofyn pam ar y ddaear nad oedd y mesurau hyn eisoes ar waith, o ystyried y tagfeydd difrifol ar y rhan honno o'r M4?

O ran y comisiwn, rwyf innau hefyd yn awyddus i weld a chlywed ychydig mwy am amserlen ar gyfer y gwaith rydych yn disgwyl i'r comisiwn ei gyflawni. Credaf y dylem fod yn wyliadwrus iawn o ran edrych am bethau y mae'r comisiwn yn dweud y gellir eu gwneud o fewn chwe mis. Nid wyf yn credu mai dyna'r math o ymateb difeddwl tymor byr sydd ei angen arnom. Os nad yw'n ocsimoron, credaf fod angen edrych ar frys ar atebion strategol hirdymor ar gyfer trafnidiaeth, nid yn y de-ddwyrain yn unig ond golwg ehangach ar yr hyn y gellir ei gyflawni gyda'r arian sydd ar gael.

Felly, un ynghylch yr amserlen, ond yn ail, oni ddylai'r gwaith rydych yn ei ddyrannu i'r comisiwn hwn fod yn cael ei roi i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru? Mae hwnnw'n bodoli eisoes. A gwn eich bod yn dweud bod hwn yn gyfrwng a fydd yn gyfrifol am ddarparu prosiect penodol, ond oni allai hwn fod yn brawf gwirioneddol i'r comisiwn seilwaith newydd hwnnw i Gymru, o gael tasg sydd â chenhadaeth strategol hirdymor? Nid wyf yn deall pam y byddech eisiau creu comisiwn newydd pan fo gennych y corff hwnnw ar waith eisoes.

15:20

A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau? Credaf fod y cwestiwn olaf yn arbennig o ddilys—ynglŷn ag a ddylai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wneud y gwaith penodol hwn. Roedd hwnnw'n rhywbeth y bûm yn ei ystyried yn ofalus, a gwneuthum y penderfyniad hwn oherwydd bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru eisoes wedi dechrau gweithio mewn amryw o feysydd yn edrych ar fathau eraill o seilwaith— er enghraifft, yn y maes digidol—pe baem wedi gwahodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i ymgymryd â'r gwaith hwn, byddai'n eu llethu ac yn eu hatal rhag symud ymlaen ar waith arall sy'n rhaid ei ystyried er ein budd hirdymor.

O ran yr amserlen, wel, mae fy natganiad yn glir iawn ar hyn: bydd y comisiwn yn ystyried ymyriadau tymor byr ac atebion mwy hirdymor, gan gynnwys yr ymddygiadau sy'n arwain pobl i deithio mewn ffyrdd penodol a dewis teithio gan ddefnyddio mathau penodol o drafnidiaeth. Roeddem bob amser yn dangos, gyda'n tystiolaeth, fod y llwybr du—fe'i cydnabuwyd yn llawn gan yr arolygydd—wedi'i gynllunio ar y cyd â mathau eraill o drafnidiaeth yn llwyr, yn enwedig gyda metro de Cymru, er mwyn cynllunio rhwydwaith trafnidiaeth modern, cwbl integredig ar draws y rhanbarth. Cafodd y gwaith hwnnw, fel y dywedais, ei gydnabod gan yr arolygydd.

Rydym eisiau gweld newid moddol sylweddol yn digwydd, a dyna pam rydym yn buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen mewn teithio llesol, a pham ein bod, gyda fy nirprwy yn arwain ar deithio llesol, yn benderfynol o weld mwy o bobl yn gadael eu ceir ac yn dewis mathau eraill o drafnidiaeth. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw fod un o'r cynlluniau peilot rydym yn eu cyflwyno mewn perthynas â bysiau—teithio sy'n ymateb i'r galw—wedi cael ei brofi mewn mannau eraill yn y DU, lle canfu fod mwy na hanner y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth penodol hwnnw'n defnyddio bysiau am y tro cyntaf. Dyna'r math o newid moddol rydym yn arwain arno yn Llywodraeth Cymru.

Roedd Rhun ap Iorwerth yn cydnabod mai hwn oedd y penderfyniad cywir—rwy'n ddiolchgar iddo am gytuno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, pan fydd pethau'n newid a phan fydd amgylchiadau'n newid, fod yn rhaid ystyried cynigion newydd a gaiff eu hyrwyddo a'u cyflwyno gan Lywodraeth. Yn yr un modd, mae'n bwysig cydnabod, rwy'n credu, fod un o'r dewisiadau amgen a gynigiwyd gan eraill yn y Siambr—y llwybr glas—wedi cael ei ddifa'n llwyr gan yr arolygydd fel dewis amgen dilys i'r llwybr du. Felly, bydd yn rhaid i'r comisiwn fod yn ddadansoddol yn ogystal â chreadigol iawn wrth edrych ar atebion amgen.

Fel eraill, roeddwn yn ddiolchgar i chi, Weinidog, am eich datganiad y bore yma ac yn ddiolchgar am rai o'r manylion a oedd ynddo—rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi'i ddweud yn fawr. A gaf fi ddweud bod gan rai pobl yn fy etholaeth fy hun bryderon ynghylch amserlenni a phryderon ynglŷn â'r amser y bydd hyn yn ei gymryd? Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y cylch gorchwyl rydych wedi'i osod ar gyfer y comisiwn, a dylwn ddweud fy mod yn croesawu penodiad Terry Burns hefyd—rwy'n credu y bydd rhywun o'r statws hwnnw'n gallu gyrru'r gwaith hwn yn ei flaen.

Ond nid yw'r amcanion ar gyfer y gwaith yn glir yn y cylch gorchwyl—beth yw diben hyn? Wrth ddarllen drwy'r cylch gorchwyl, gallech yn hawdd iawn gynnig y llwybr du a dechrau eto. Rwy'n siŵr nad dyna'r bwriad, ond mae'r cylch gorchwyl yn eithaf eang, sydd, ar un lefel, yn rhywbeth i'w groesawu. Ond rwy'n credu hefyd fod pobl eisiau gwybod beth y ceisiwch ei gyflawni a beth yw'r amserlen. Hoffwn weld ymrwymiad clir iawn i leihau tagfeydd—ond i ba raddau? Sut y bwriadwch leihau tagfeydd? Beth yw'r targed ar gyfer lleihau tagfeydd? Beth fydd yr effaith ar yr economi ehangach? Rwy'n siŵr y bydd eraill yn trafod y problemau o amgylch Casnewydd ei hun, ond mae hon yn rhan allweddol ac yn sbardun allweddol i'r economi ar draws de-ddwyrain Cymru a chymoedd Gwent, ac felly bydd yna bobl a fydd yn bryderus iawn ac eisiau sicrhau bod yr hyn a wnawn yng Nghasnewydd i leddfu'r anawsterau sy'n gysylltiedig â'r M4 hefyd yn cael effaith economaidd ehangach nag a fyddai wedi bod yn wir yn achos y llwybr du.

Felly, dros yr wythnosau nesaf, pan fyddwch yn gallu dychwelyd atom gyda datganiadau pellach ar y mater hwn, rwy'n gobeithio y gwelwn dargedau clir, amcanion clir ac amserlenni clir. Mae llawer iawn o sinigiaeth, Weinidog; nid yw pobl yn credu y byddwch chi fel Llywodraeth yn cyflawni rhywbeth drwy'r comisiwn hwn mewn gwirionedd. Credaf ein bod angen amserlen glir, uchelgeisiau clir a thargedau clir hefyd er mwyn cyflawni'r amcanion y byddwch yn eu gosod i chi'ch hun, a bod angen gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau bod economi gyfan y rhanbarth yn elwa o'r gwaith hwn.    

15:25

A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau? Rwy'n cydnabod y rhwystredigaeth y mae llawer o bobl ar draws y rhanbarth yn ei deimlo. Mae hon yn broblem sydd wedi effeithio ar dde-ddwyrain Cymru ers degawdau, ac mae'n broblem rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â hi a'i datrys. Dyna pam rydym wedi penodi'r Arglwydd Burns i gadeirio comisiwn o arbenigwyr. Dyna pam fy mod yn hyderus iawn y bydd y comisiwn yn gallu cynnig atebion a fydd yn arwain at lai o dagfeydd ac yn sicrhau bod traffig yn llifo mor rhydd â phosibl.

Rwyf eisoes wedi nodi'r amserlen ar gyfer y gwaith a fydd yn digwydd, ac rydym wedi hysbysu cadeirydd y comisiwn y byddem yn dymuno gweld ymyriadau brys yn cael eu cynnwys yn eu hadroddiad interim, os nad ynghynt, fel y dywedais wrth Russell George. Ac mae diben gwaith y comisiwn yn gwbl glir: ei nod yw nodi atebion amgen cyflawnadwy yn lle cynllun y llwybr du sy'n cynnig gwerth am arian ac a fydd yn lleihau tagfeydd i'r lefel isaf posibl er mwyn galluogi traffig i lifo mor rhydd â phosibl.

Nawr, wrth gwrs, bydd Gweinidogion yn craffu ar bob awgrym a chynnig a gyflwynir gan y comisiwn i weld pa mor gyflawnadwy ydynt a'u gwerth am arian, ond gan ein bod yn penodi arbenigwyr traffig neu arbenigwyr trafnidiaeth i'r comisiwn, mae gennyf bob ffydd y byddant yn cynnig atebion cyflawnadwy a fforddiadwy o fewn y cyfnod hwnnw o chwe mis.

Yn amlwg, ac yn anochel, gofynnwyd llawer o'r cwestiynau yr oeddwn am eu gofyn neu'n bwriadu eu gofyn, ond mae'n amlwg y bydd y Gweinidog yn sensitif i'r pryder cyffredinol ymhlith y cyhoedd ynghylch goblygiadau cost y comisiwn newydd hwn, o ystyried y symiau enfawr o arian a wariwyd eisoes yn yr ymchwiliad maith a phellgyrhaeddol. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi fod ganddynt hawl i ofyn faint y bydd yn ei gostio, pa mor hir y bydd yn para a phwy fydd yn aelodau'r comisiwn. Gwn eich bod yn eich datganiad, a diolch i chi amdano, Weinidog, wedi rhoi rhyw syniad i ni ynglŷn â rhai o'r cwestiynau hyn, ond a fyddech yn eu hailadrodd yma y prynhawn yma inni allu lleddfu rhywfaint ar bryderon y cyhoedd? O gofio bod tua 100 o gyflwyniadau ar strategaethau amgen yn lle'r llwybr du wedi'u cyflwyno i'r ymchwiliad, sut y caiff y rhain eu gwerthuso ac a oes dyddiadau cau ar gyfer cyflwyniadau newydd? Yn olaf, ond nid yn lleiaf, pryd y cawn weld gwaith ymarferol yn cychwyn i leihau'r problemau enbyd parhaus gyda thwnelau Bryn-glas?

A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau? Roeddwn ar fai yn peidio ag ateb y cwestiwn a ofynnwyd i mi yn gyntaf gan Russell George ynghylch cost y comisiwn. Gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd cost y comisiwn yn cael ei gadw i'r isafswm lleiaf posibl, oherwydd byddwn yn darparu'r gwasanaethau ysgrifenyddol a byddwn yn darparu'r arbenigedd trafnidiaeth ar ffurf swyddogion presennol a'u hamser.

O ran cyfansoddiad y comisiwn, rwyf hefyd yn awyddus i weld cynrychiolydd posibl ar ran yr heddlu—swyddog traffig sy'n gallu cynnig cyngor ac arbenigedd a gwybodaeth am y darn hwnnw o ffordd. O ran cyflwyniadau newydd, nid ymarfer pysgota gan y comisiwn fydd hwn. Bydd y comisiwn yn ystyried yr holl gynigion sy'n bodoli eisoes, ac unrhyw rai y mae'r arbenigwyr eu hunain eisiau eu hystyried. Wedi dweud hynny, rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod llais y dinesydd yn cael ei glywed, ac felly, fel y dywedais yn fy natganiad, rwyf wedi gofyn i'r comisiwn gyflwyno cynigion ar sut y gall pobl, nid yn unig yn yr ardal y mae'r ffordd hon yn effeithio arni, neu'r rhanbarth y mae'n effeithio arno, ond Cymru gyfan, ddod yn rhan o broses a gydgynhyrchir.

15:30

Weinidog, mae'r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn rhai dybryd sydd angen eu datrys ar frys, ac mae'n amlwg bod angen ymateb iddynt yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn hirdymor. Yn bersonol, credaf fod 'rhagweld a darparu' wedi'i danseilio i raddau helaeth fel model ar gyfer ymdrin â'r problemau hyn, a dyna pam rwy'n croesawu'r penderfyniad a wnaeth Llywodraeth Cymru, oherwydd gwelwyd bod ceisio rhagweld twf traffig ac adeiladu ffyrdd newydd er mwyn darparu ar gyfer y rhagfynegiadau hynny wedi arwain at y ffyrdd newydd hynny'n llenwi gyda mwy a mwy o deithiau traffig, ac nid yw hynny o fudd i neb. Felly, credaf fod angen meddwl o'r newydd, mwy o ddychymyg a newid moddol, ynghyd â rheolaeth well ar draffig.  

Felly, er mwyn cyflawni hynny, Weinidog, bydd angen camau gweithredu cynnar. Ac fel y gofynnais i'r Prif Weinidog ddoe, tybed a allai un o'r camau cynnar hynny gynnwys ystyriaeth o gynnig rhodfa Magwyr a Gwndy ar gyfer gorsaf drenau newydd o dan gronfa gorsafoedd newydd Llywodraeth y DU? Ac fel y gwyddoch, mae'r grŵp cymunedol lleol yn ceisio arian gan Lywodraeth Cymru i gyfateb i'r hyn sydd ar gael gan Gyngor Sir Fynwy er mwyn symud y cais hwnnw ymlaen i'r cam nesaf o broses Llywodraeth y DU. Felly, tybed a allech roi unrhyw awgrymiadau cadarnhaol ynglŷn â hynny.  

O ran y comisiwn, Weinidog, mae'n amlwg y bydd yn ofynnol i Gyngor Dinas Casnewydd gyflawni llawer o'r camau gweithredu a gyflwynir—yn anochel, fe gredaf—felly ymddengys i mi ei bod yn briodol i Gyngor Dinas Casnewydd fod yn rhan o'r comisiwn hwnnw, a tybed a wnewch chi ddynodi y bydd hynny'n digwydd.

O ran rhai o'r galwadau y credaf inni eu clywed eisoes, Weinidog, clywsom alwadau gan Aelodau yn y Siambr hon am wario arian sydd ar gael ar hyd a lled Cymru, ac mae hynny'n ddealladwy mewn ffordd, oherwydd, yn amlwg, mae gan Aelodau achosion sy'n peri pryder dybryd yn eu hardaloedd eu hunain, ond mae'n amlwg mai'r hyn sydd dan sylw yma yw coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Dyna lle mae'r problemau, a dyna lle mae'n rhaid gwario'r arian sydd ar gael. A tybed a fyddech yn cytuno â hynny, Weinidog, ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â hynny.  

A gaf fi ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau, ac am ei gyfraniad yn arbennig mewn perthynas â'r model 'rhagweld a darparu'? Mae hyn yn rhywbeth a ystyriwyd yn fanwl iawn gan yr arolygydd, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch, nid yn unig i'r arolygydd, sydd bellach wedi ein gadael, yn anffodus, ond i'w dîm a wnaeth waith mor glodwiw dros fisoedd lawer. Fwy na blwyddyn yn ôl, dywedais fy mod yn dymuno sicrhau bod pob person yn gallu cyfrannu at yr ymchwiliad cyhoeddus lleol. Rwy'n credu bod hynny wedi digwydd, a dyna pam fod yr ymchwiliad cyhoeddus lleol wedi cymryd cymaint o amser, ond gwnaeth yr arolygydd a'i dîm waith gwych yn sicrhau y gellid ystyried a chyflwyno'r holl dystiolaeth yn ofalus.  

Mae John Griffiths yn gywir i ddweud nad oes arian am ddim yn gysylltiedig â'r cyhoeddiad a wnaeth y Prif Weinidog. Nid oes unrhyw arian annisgwyl a fydd yn golygu bod symiau enfawr o arian yn cael eu lledaenu ar hyd a lled Cymru. Pam? Oherwydd y byddai llawer o'r gost wedi dod o brosiectau trafnidiaeth eraill a fyddai naill ai'n gorfod cael eu canslo neu eu gohirio, byddai wedi dod o brosiectau adeiladu ysgolion, prosiectau adeiladu ysbytai a gofal iechyd, neu gartrefi newydd. Bydd y prosiectau hynny'n mynd rhagddynt yn awr o ganlyniad. Felly, ni fyddwn o reidrwydd yn cyflwyno prosiectau newydd at restr. Rhestr y dywedodd y Prif Weinidog ddoe ei bod yn costio tua £2.2 biliwn i gyd; heddiw, mae'n £3 biliwn. Ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i godi.  

Mae'r comisiwn yn gyfrifol am ddatrys mater penodol a diffiniadwy iawn—sef y tagfeydd ar yr M4 yn nhwnelau Bryn-glas ac o'u hamgylch. Ac felly mater i'r comisiwn fydd ystyried unrhyw gynigion a fydd yn cyfrannu tuag at liniaru tagfeydd, gan gynnwys unrhyw waith y byddai'n rhaid ei wneud i agor gorsafoedd neu wella gorsafoedd er mwyn cael mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a allai gyfrannu wedyn tuag at leihau tagfeydd. Nid wyf am achub y blaen ar waith yr arbenigwyr yn hyn o beth; yn lle hynny, rwyf am i'r comisiwn farnu unrhyw gynigion a allai gael eu cyflwyno.

15:35

Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Ac fel yr Aelod dros Orllewin Casnewydd, rwy'n siŵr y byddech yn deall bod gennyf lawer o gwestiynau, ond byddaf yn eu cadw mor gryno ag y gallaf.

Yn gyntaf, rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i wrando ar y bobl yr effeithir ar eu bywydau bob dydd gan y ffordd. Sut yn union y bydd y comisiwn yn sicrhau bod y safbwyntiau hyn yn cael eu casglu'n llawn? Nid traffig lleol yw'r mwyafrif helaeth o draffig yr M4 o amgylch Casnewydd. Gyda chymaint o deithio ar draws y ffin a chynnydd o 10 y cant yn y siwrneiau ar y pontydd, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd y comisiwn yn edrych ar draffig sy'n teithio i Loegr ac oddi yno?

Rwy'n falch fod y datganiad yn cydnabod yr angen i liniaru tagfeydd a materion ansawdd aer sy'n deillio o hynny. Yn y lle cyntaf, pa drafodaethau y mae swyddogion y Gweinidog wedi'u cael â swyddogion cyngor Casnewydd i sicrhau bod Casnewydd yn gallu cael arian sydd eisoes ar gael i fynd i'r afael ag ansawdd aer?

Gan gyfeirio at y prosiectau a luniwyd i greu manteision cymedrol ond uniongyrchol, fel y swyddogion traffig ychwanegol a cherbydau achub penodol, bydd fy etholwyr yn gofyn pam nad yw'r rhain wedi cael eu rhoi ar waith o'r blaen. A pha dystiolaeth a gafwyd sy'n dangos y bydd y rhain yn gweithio'n effeithiol?

Ac yn olaf, ac yn bwysicaf oll efallai, mae pobl Casnewydd wedi dioddef yn ddigon hir ac wedi gweld llawer o adolygiadau'n mynd a dod. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y bydd y comisiwn hwn o'r diwedd yn un sy'n sicrhau canlyniadau ystyrlon?

A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiynau, a'i phryder mawr am yr effaith a gaiff y penderfyniad ddoe ar ei hetholwyr? Rwy'n gwybod bod Jayne wedi cefnogi'r llwybr du yn frwd iawn, ac yn bur siomedig nad yw'r prosiect yn mynd yn ei flaen. Fodd bynnag, a gaf fi sicrhau'r Aelod a'i hetholwyr ein bod yn benderfynol o ddatrys problem y tagfeydd ar yr M4 yng Nghasnewydd, a lleihau'r llygredd yn yr aer ar hyd y coridor penodol hwnnw? Rwy'n credu y byddai'r ffigur ar gyfer lleihau llygredd aer yr ystyrid ei fod yn ganolig neu'n uchel oddeutu 500 ar gyfer y llwybr du—500 o gartrefi; rwy'n credu y byddai 12 wedi gweld gostyngiad sylweddol iawn; a byddai dros 10,000 wedi gweld gostyngiad bach iawn—ond gostyngiad er hynny. Felly, rwy'n ymwybodol o'r angen i ni roi atebion ar waith a fydd yn lleihau llygredd aer, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i hynny—fel y mae fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth.

Rwy'n falch o ddweud bod cyngor Casnewydd eisoes wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch cynigion ar gyfer yr M4. Mae gwaith ymgysylltu wedi bod yn mynd rhagddo ers sawl blwyddyn bellach a bydd yn parhau mewn perthynas â'r dewisiadau eraill. O ran yr ymatebion uniongyrchol, a'r cwestiwn a ofynnwyd ynghylch pam nad ydym wedi rhoi'r rhain ar waith hyd yma, wel, y rheswm am hynny yw oherwydd ein bod wedi profi'r systemau patrolio ychwanegol a'r systemau ymateb ac achub uniongyrchol ar yr A55. Maent wedi cael eu profi a gwelwyd eu bod yn llwyddiannus. Mae hynny'n ein galluogi yn awr i'w symud allan ar yr M4, gyda hyder y byddant yn lliniaru tagfeydd.

Gwnaeth Jayne Bryant bwynt pwysig iawn hefyd o ran sicrhau bod gan ddinasyddion lais yn y broses hon. A byddaf yn trafod ddydd Llun gyda'r Arglwydd Burns sut y gall pobl gyfrannu, o ran eu barn, eu safbwyntiau a'u pryderon. Ac mae'n ddigon posibl mai mewn rhyw fath o gynulliad dinasyddion y bydd hynny, ond mae'n rhywbeth yr hoffwn i'r comisiwn ei hun gyflwyno cynigion yn ei gylch. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am ei diddordeb brwd yn y mater hwn ers misoedd a blynyddoedd lawer. Gallaf ei sicrhau y bydd y comisiwn yn edrych ar bob un o'r modelau trafnidiaeth sy'n bodoli, a'r holl ddata ar lif trafnidiaeth sydd gennym, gan gynnwys y data trafnidiaeth ar lif traffig trawsffiniol, er mwyn sicrhau ein bod yn cynhyrchu naill ai ateb neu set o atebion y gellir eu cyflawni yn y tymor byr, a rhai sy'n arwain hefyd wrth gwrs at newid ymddygiad a newid moddol yn fwy hirdymor.

Er fy mod yn cytuno â fy nghyd-Aelodau dros Ddwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd fod angen inni wario'r rhan fwyaf o'r arian o amgylch Casnewydd er mwyn lliniaru'r tagfeydd yno, onid yw'n bwysig hefyd i'r arbenigwyr trafnidiaeth hyn edrych yn fanwl ar y data sydd gennym? Er enghraifft, y ffaith bod cynnydd o bron i 40 y cant yn nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r M4 i'r dwyrain o Gasnewydd o'i gymharu ag i'r gorllewin o Gasnewydd, sy'n awgrymu eu bod ar eu ffordd i Gaerdydd, a bod rhaid inni edrych ar y data ffonau symudol a data arall sydd ar gael i weld ble mae angen inni gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir unigol?

15:40

A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau? Wrth gwrs, Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Mae'n rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono. Mae'n ddinas ddeniadol i bobl fuddsoddi ynddi, i weithio ynddi, i ddysgu ynddi, i fagu teuluoedd ynddi, ac rydym am sicrhau ei bod yn parhau'n ddinas ddeniadol i bobl ddod iddi. Yn yr un modd, dymunwn weld lleoedd eraill ar draws coridor yr M4 ac yn rhanbarth ehangach de-ddwyrain Cymru yn elwa ar seilwaith trafnidiaeth gwell a fydd yn eu galluogi i fod yn lleoedd mwy deniadol i fuddsoddi ynddynt, ac i fyw ynddynt ac i astudio ynddynt. Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth, rhaid i ni sicrhau yn yr un modd ei fod yn fforddiadwy a'n bod yn buddsoddi yn yr atebion trafnidiaeth cywir. Bydd defnyddio arbenigwyr ar ffurf arbenigwyr trafnidiaeth ac economegwyr yn y comisiwn hwn yn ein galluogi i wneud hynny.

Ond hoffwn roi nodyn o rybudd ynglŷn â data symudol. Wrth gwrs ein bod yn defnyddio data sy'n ein galluogi i ganfod o ble y daw traffig, i ble y mae'n mynd, a phwrpas y teithiau hynny lle bynnag y bo modd, ond mae cyfyngiadau cyfreithiol ar y data symudol y gallwn ei ddefnyddio. Gallaf sicrhau'r Aelod na fyddwn byth yn gweithredu'n anghyfreithlon.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad gan Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Yfory bydd hi'n 75 mlynedd ers D-day. Ar fore 6 Mehefin 1944, fe wnaeth y armada fwyaf mewn hanes angori oddi ar ogledd Ffrainc gan baratoi i ollwng miloedd o filwyr y cynghreiriaid ar lannau Normandi. Arweiniodd yr hyn a ddilynodd at un o benodau mwyaf gwaedlyd yr ail ryfel byd a nodi moment dyngedfennol yn yr ymgyrch yn erbyn Hitler. Yn aros yn y llongau, fel rhan o ymgyrch Overlord, roedd cannoedd o filwyr o Gymru, pob un ohonynt yn aelodau o Gyffinwyr De Cymru a oedd eisoes yn enwog am hanes Rorke's Drift.

Treuliasant ddau fis yn hyfforddi a bellach roeddent yn barod i'r goresgyniad ddechrau. Eu tasg oedd dilyn y don gyntaf o filwyr drwy lanio ger Arromanches a gwthio tuag at y tir uchel i'r gogledd o Bayeux. Ar eu ffordd, roeddent i gipio gorsaf radar, yn ogystal â'r gynnau a'r bont yn Vaux-sur-Aure, a chysylltu â lluoedd Americanaidd. Roedd yn gynllun mentrus. Wrth iddynt aros, cododd y mwg o'r frwydr i'r awyr a chlywsant sŵn y ffrwydradau yn atseinio ar draws y dŵr. Daeth y gorchymyn i lanio ychydig cyn hanner dydd. Wrth lanio, gwthiasant yn gyflym yn eu blaenau, gan yrru'r Almaenwyr allan o'r orsaf radar ac erbyn iddi nosi roeddent wedi cymryd y gynnau a'r bont yn Vaux-sur-Aure. Erbyn hanner nos, roedd Cyffinwyr De Cymru wedi cipio mwy o dir nag unrhyw uned arall a oedd yn rhan o'r goresgyniad.

Tua 11 mis yn ddiweddarach, roeddent wedi ymladd eu ffordd yr holl ffordd o'r traethau hynny i Hambwrg ar flaen ymgyrch y cynghreiriaid drwy Ffrainc ac i mewn i'r Almaen nes i'r gyfundrefn Natsïaidd gael ei threchu. Heddiw, rydym yn clodfori'r rhai a fu'n ymladd ac yn diolch iddynt am eu haberth.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Yr eitem nesaf felly yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a dwi'n galw ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.  

Cynnig NDM7063 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.13(ii), yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly tan y cyfnod pleidleisio a bydd angen i fwyafrif o ddwy ran o dair o'r Aelodau i bleidleisio o blaid. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. 

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dwi'n galw ar Angela Burns i wneud y cynnig. Angela Burns.

Cynnig NDM7058 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig.

2. Yn nodi ymhellach bod y trefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gyson o dan oruchwyliaeth y Gweinidog Iechyd cyfredol.

3. Yn gresynu at y ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd o ran ei wasanaethau iechyd meddwl ac o ran ei lywodraethu, ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth, er gwaethaf treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig ar gyfer y materion hyn nag unrhyw sefydliad yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd i dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu â chyflawni'r gwelliant gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y pedair blynedd diwethaf ac ymddiswyddo.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o'r cyfle i agor y ddadl hon heddiw i nodi pen blwydd nad oedd yr un ohonom am ei weld. Weinidog, rydych chi a'ch rhagflaenydd, y Prif Weinidog bellach, wedi llywyddu dros bedair blynedd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Nid yn unig y mae'r bwrdd hwn wedi treulio'r pedair blynedd diwethaf o dan reolaeth eich Llywodraeth, ond fel y clywsom yn y datganiad ddoe, nid yw'n ymddangos ein bod yn agosach at allu dweud bod y bwrdd iechyd wedi gwella bellach ac yn gallu sefyll ar ei draed ei hun unwaith yn rhagor.

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae trigolion gogledd Cymru, dan ofal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, wedi'u gwasgaru ar draws ardal enfawr o'r wlad, gan ffurfio 23 y cant o holl boblogaeth Cymru. Er gwaethaf ei faint, mae cleifion yn dioddef yr amseroedd aros damweiniau ac achosion brys gwaethaf yn y wlad, y nifer uchaf o ddigwyddiadau diogelwch cleifion a gofnodwyd a phrinder llesteiriol bron o feddygon teulu, bydwragedd a nyrsys cymunedol.

Nawr, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno'r ddadl hon ar wythnos y pedwerydd pen blwydd i beri mwy o ddigalondid i'r staff gweithgar sydd dan bwysau sylweddol, ond yn hytrach er mwyn ceisio cael atebion pendant ynglŷn â pha gynnydd a wnaed yn y pedair blynedd diwethaf, a gafodd gwersi eu dysgu, ac yn bwysicaf oll, a yw'r rhesymau a roddwyd dros y mesurau arbennig hyn wedi cael eu hateb.

Roedd y datganiad a ddarparodd y Gweinidog ddoe ar y pwnc hwn yn rhoi darlun llawer mwy cadarnhaol na realiti profiadau cleifion a'r hyn a glywn gan staff. Er fy mod yn derbyn bod rhai camau cadarnhaol wedi'u cymryd a bod gwelliannau wedi'u gwneud, roedd y datganiad ddoe i'w weld yn fwy addas ar gyfer bwrdd iechyd a oedd newydd gael ei wneud yn fwrdd a gynorthwyir, ac nid un a fu'n destun mesurau arbennig ers pedair blynedd—y cyfnod hwyaf y bu unrhyw fwrdd neu ymddiriedolaeth yn destun mesurau arbennig yn sgil pryderon ynghylch eu gwasanaethau, eu harweinyddiaeth a'u trefniadau llywodraethu mewn unrhyw ran o'r DU.

Rwyf am ailedrych ar 8 Mehefin 2015, bedair blynedd yn ôl, pan gafodd y bwrdd ei roi dan fesurau arbennig yn wreiddiol gan yr Ysgrifennydd iechyd ar y pryd a'i ddirprwy—y Gweinidog iechyd presennol. Roedd y datganiad ysgrifenedig, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar yr agweddau canlynol ar weithrediad y bwrdd: llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd; gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaeth y tu allan i oriau arferol; ac ailgysylltu â'r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd. Roeddwn yn obeithiol y byddai'r datganiad ddoe yn rhoi atebion i'r pryderon cychwynnol hynny, ac efallai yn cydnabod ac yn dangos ychydig o ostyngeiddrwydd ar ran y Gweinidog iechyd nad yw'r rhesymau dros y mesurau arbennig wedi'u datrys o hyd. Yr hyn y mae pobl gogledd Cymru eisiau ei wybod mewn gwirionedd yw a yw eu bwrdd iechyd wedi troi'r gornel, ac o'r holl dystiolaeth sydd ar gael, Weinidog, yr ateb byr yw 'nac ydy'.

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf gwelwyd 13 datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, tri ymchwiliad allanol, a miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cael ei fuddsoddi yn y bwrdd. Fe ddaeth gwasanaethau mamolaeth allan o fesurau arbennig yn 2018, ond dim ond ar ôl gwrthdroi'r penderfyniad i gau'r gwasanaethau a ddarperid yng Nglan Clwyd yng Ngorffennaf 2015, rhywbeth a lwyddodd i uno gwleidyddion o bob rhan o'r Siambr, o gofio ffolineb cynlluniau'r bwrdd iechyd, ac o ganlyniad, wrth gwrs, gwnaeth lawer o niwed i enw da'r bwrdd iechyd ymhlith y cyhoedd.

Mae gofal y tu allan i oriau arferol wedi dilyn y gwasanaethau mamolaeth, ac mae hyn i'w groesawu, er bod yn rhaid ichi gydnabod, Weinidog, nad yw gofal y tu allan i oriau arferol yn sefydlog o gofio'r prinder—prinder cronig—o feddygon teulu yng ngogledd Cymru. Ac mae'r meddygon teulu'n dweud hyn, nid dim ond fi.

Fodd bynnag, mae gwasanaethau iechyd meddwl a llywodraethu ariannol yn parhau i fod yn destunau mesurau arbennig, a nododd adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad fod tîm yr uwch reolwyr wedi cyfaddef na fyddai'r bwrdd ar daith wirioneddol drawsnewidiol erbyn 2020.

O ran y pumed rheswm dros fesurau arbennig—ailgysylltu â'r cyhoedd—mae'n anos o lawer barnu. O ystyried y blynyddoedd o sbin, dryswch ac ymarferion ymgynghori gwael, bydd y clwyfau'n cymryd llawer mwy na phedair blynedd i wella rhwng y bwrdd a'r cyhoedd. Fel y nododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus unwaith eto, mae gosod y bwrdd mewn mesurau arbennig wedi dod yn drefn arferol. Mae'r cynnydd yn annerbyniol o araf a phrin fu effaith ymarferol ymyrraeth Llywodraeth Cymru.

Weinidog, mae cynnydd wedi'i wneud mewn rhai agweddau ar fethiannau'r bwrdd iechyd hwn, ond mae rhai o'r materion gwreiddiol heb eu datrys o hyd. Yn eich datganiad ddoe, fe ddywedoch hyn, ac rwy'n dyfynnu:

'Canfuwyd o'r trosolwg mesurau arbennig, fodd bynnag, bod pryderon eraill drwy'r system gyfan o ran cyflawni'r cynnydd sydd ei angen ym maes cyllid, cynllunio a pherfformiad amser aros. Nid yw'r bwrdd iechyd wedi bodloni'r disgwyliadau a nodir yn y fframwaith yn y meysydd hyn.'

Felly, ar y naill law, dywedwch fod cynnydd wedi'i wneud, ond ar y llaw arall, mae problemau newydd yn codi'n gyflym, heb ddim atebion amlwg ar waith. Mae'n destun pryder ei bod wedi cymryd pedair blynedd gyfan i nodi'r materion a'r pryderon hyn.

Nawr, bydd fy nghyd-Aelodau'n canolbwyntio ar rai o'r agweddau mwy penodol ar fethiannau rheoli'r bwrdd iechyd hwn, ond hoffwn droi fy sylw at sut beth yw mesurau arbennig neu ymyrraeth gan y Llywodraeth ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn gwirionedd a'r hyn y dylai fod. Oherwydd o dan eich stiwardiaeth, Weinidog, mae pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn gweithio o dan ryw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Nawr, mae'n amlwg mai Betsi Cadwaladr sy'n cael y sylw mwyaf oherwydd hyd y cyfnod y bu'r drefn hon ar waith, ond ni ddylem anwybyddu'r hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad.

Yr hyn nad yw'n glir i lawer y tu allan i'r Siambr hon yw beth sy'n digwydd pan fydd bwrdd iechyd yn cael ei roi o dan fesurau arbennig. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i nodi ac ymateb i faterion difrifol sy'n effeithio ar wasanaethau, ansawdd, diogelwch gofal ac effeithiolrwydd sefydliadol. Er nad yw hynny'n digwydd bob amser, gall camau gweithredu gynnwys lleoli arbenigwyr unigol allweddol neu bobl â phrofiad o sicrhau newid i ddarparu lleoliadau cymorth, camau gweithredu, cerrig milltir a fframwaith gwella. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu atal neu ddiddymu pwerau a dyletswyddau aelodau o'r bwrdd iechyd, neu gyfarwyddo bwrdd iechyd i sicrhau bod swyddogaethau'n cael eu cyflawni gan berson penodol.

Yn yr Alban, mae eu mesurau arbennig yn cwmpasu proses bum cam, yn amrywio o oruchwyliaeth i gynlluniau adfer ffurfiol, gyda'r sancsiwn eithaf, yng ngham 5, i Lywodraeth yr Alban ddiswyddo neu benodi uwch arweinwyr bwrdd, fel y gwnaethant yn ddewr iawn yn NHS Tayside yn 2018. Yn Lloegr, mae pum math o gam y gellir ei roi ar waith, yn amrywio o benodi cyfarwyddwyr gwella i gael gwared ar y rhyddid sydd gan rai ymddiriedolaethau sefydledig GIG o gymharu â sefydliadau eraill y GIG.

Dull arloesol yn Lloegr yw'r system gyfeillio, sy'n cydnabod y gall rhai ymddiriedolaethau mewn mesurau arbennig ddioddef yn sgil cael eu hynysu, felly mae'n hanfodol fod ymddiriedolaethau yn edrych tuag allan wrth iddynt geisio gwella eu hansawdd. Cyflwynwyd hyn yn gyntaf yn 2013 ac mae'n cydnabod sut y gall ymddiriedolaethau ddeall sut y mae ymddiriedolaethau eraill yn mynd ati i weithredu. Gallant ddysgu, gallant feincnodi, ac mae gwelliannau o ansawdd wedi digwydd. Mae cyfeillio ag ymddiriedolaeth arall wedi bod yn werthfawr iawn yn aml, ond mae angen ymrwymiad gan y ddwy ochr. Mae'n helpu i ddiffinio'r cylch gorchwyl penodol ar gyfer y berthynas, er enghraifft meysydd clinigol neu arbenigedd penodol.

Ceir nifer o astudiaethau achos y buaswn wrth fy modd yn eu dwyn i'ch sylw sy'n dangos arferion gorau, oherwydd mae'r amser a gymerodd i gyflwyno rhai o'r mesurau hyn yn gwneud i mi sylweddoli nad ydych wedi mynd allan ac wedi edrych ar yr arferion gorau ledled y DU. Rwyf am dynnu sylw at un achos, ysbyty Wexham Park yn Slough, lle nodwyd problemau yn 2014. Disgrifiodd y Comisiwn Ansawdd Gofal ddiwylliant o 'ddiymadferthedd a ddysgwyd', a chredaf y gallwn ddweud bod hynny'n swnio'n debyg iawn i Betsi Cadwaladr, a gwnaed newid hyn yn flaenoriaeth i'r tîm arweinyddiaeth newydd. Roedd y ffocws ar roi'r cleifion wrth wraidd popeth, gan ofyn i'r staff eu trin fel pe baent yn aelodau o'u teuluoedd eu hunain. Roedd golwg allanol ar yr hyn a edrychai'n dda yn helpu i newid a herio ymddygiad gwreiddiedig, gan alluogi'r ysbyty i wneud newid sylweddol i'r diwylliant mewn cyfnod cymharol fyr.  

Nid wyf yn dweud bod yr holl atebion ar draws y ffin, ond rwyf am sicrhau, Weinidog, eich bod yn edrych ar yr arfer gorau sydd ar gael i gydnabod bod systemau eraill ar waith. Rwyf hefyd yn deall na allem gyfeillio yng Nghymru gan mai dim ond dau fwrdd iechyd a fyddai gennym a byddent yn chwalu o dan bwysau'r pump. Ond gallem ofyn i'r Alban a gallem ofyn i Loegr am eu cyngor a'u cefnogaeth.

Ddoe, yn eich datganiad, roeddech yn cydnabod bod angen tîm trawsnewid, ac mae hwn yn bwynt a wneuthum dro ar ôl tro. Rwy'n cydnabod eich bod o'r diwedd wedi penderfynu cynnwys PricewaterhouseCoopers er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau ariannol sylweddol, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo hyn. Ond pam y mae wedi cymryd cymaint o amser—pedair blynedd?  

Nid fy mwriad yw dweud wrthych pa mor ofnadwy oedd y broses gyfan hon yn fy marn i: rwyf am roi rhywfaint o gymorth i chi hefyd. Dyma fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud: byddem yn gofyn am gymorth gan reolwyr newid profiadol sy'n gweithio yn y GIG ledled y DU i helpu i yrru'r newidiadau hynny yn eu blaen. Byddem yn gweithredu digwyddiadau ymgynghori a sesiynau adborth cadarn ac annibynnol i ymgysylltu â staff a'u grymuso, er mwyn eu helpu i nodi meysydd sy'n peri pryder yn rhydd o bwysau allanol. Byddem yn pwysleisio'r meysydd sydd wedi dangos methiannau mor ddinistriol o ran perfformiad ac yn rhoi cymorth a chyllid rheoli o ddydd i ddydd er mwyn iddynt wella.

Byddem yn ystyried rhesymoli'r strwythur rheoli, datganoli'r pŵer i'r lefelau rheoli is fel y gellir gwneud penderfyniadau'n gyflym, a gellir annog egin addewid i dyfu wrth i bobl deimlo y cânt eu grymuso i wneud y gwahaniaeth sydd cymaint o'i angen. A byddem hefyd yn gwneud rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru i'w weld mor amharod i'w wneud mewn cymaint o fyrddau iechyd—byddem yn adolygu cymhwysedd a sgiliau craidd uwch reolwyr er mwyn sicrhau bod y bobl iawn yn y swyddi cywir.

Weinidog, hoffwn gloi fy nghyfraniad—. Siambr, hoffwn gloi fy nghyfraniad gydag un ystyriaeth. Mae'n dorcalonnus cofio bod y bwrdd iechyd hwn sy'n ei chael hi mor anodd wedi ei enwi ar ôl Betsi Cadwaladr, nyrs enwog a fu'n trin milwyr clwyfedig rhyfel y Crimea. Fe'i ganwyd hi yng ngogledd Cymru, a llwyddodd ei dewrder ar feysydd y gad mewn rhannau pell o'r byd i ysbrydoli gweledigaeth ynghylch darpariaeth iechyd i bobl ei mamwlad. Er cof amdani, rwy'n gobeithio na fydd yn hir cyn y gellir anrhydeddu ysbryd ei gwaddol yn iawn unwaith eto. Mae staff y bwrdd iechyd yn meddu ar yr ysbryd hwn. Y cyfan sydd ei angen arnynt yw'r arweinyddiaeth i ryddhau eu potensial yn llawn. Drwy arweiniad priodol, sy'n benthyg ychydig o ddewrder enwog Betsi, efallai y gellir adfer yr adnodd hanfodol hwn eto i bobl gogledd Cymru. Ac os nad ydych chi'n gallu dangos y dewrder i ddarparu'r arweinyddiaeth hon, Weinidog, rhowch gyfle i rywun sy'n gallu gwneud hynny.

15:55

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn 2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws uwchgyfeirio gael ei ostwng.

Yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

I fwy na 154,000 o bobl yn Sir y Fflint a thros 675,000 o bobl ar draws gogledd Cymru, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn darparu llawdriniaethau sy'n achub bywydau, yn gofalu am ein pobl fwyaf bregus a'n henoed, yn cefnogi ein ffrindiau a'n teuluoedd drwy drawma marwolaeth, a hefyd yn cynorthwyo mamau a thadau i ddod â bywyd newydd i'r byd hwn. Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy gydnabod hynny a diolch i bob aelod o staff y GIG ledled Cymru, ar draws y DU, am eu gwaith a'r arweiniad y maent yn ei ddangos yn eu cymunedau, yn ogystal â'r rhan y maent yn ei chwarae yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Rwy'n gwybod, fel y bydd Aelodau eraill ar draws y Siambr hon sy'n cynrychioli gogledd Cymru yn gwybod, fod y gofal a gaiff llawer o'n hetholwyr gan y bwrdd iechyd gystal â'r gorau. Pan fyddaf yn siarad â chleifion a fy etholwyr fy hun, mae llawer yn dweud wrthyf eu bod wedi cael gofal rhagorol ac yn sôn am broffesiynoldeb y staff. Ond mae gennyf ormod hefyd sy'n troi ataf am help ar ôl cael eu siomi. Yn gyntaf, rwy'n credu bod y bwrdd iechyd wedi gwneud peth cynnydd cadarnhaol iawn drwy gydnabod y risgiau i'w berfformiad, sef y methiant i gynnal ansawdd gwasanaethau i gleifion, cynnal cynaliadwyedd ariannol, datblygu cynlluniau ac ailgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach.

Pan fydd etholwyr yn cysylltu â mi, yn amlach na pheidio mae'n ymwneud â meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, gwasanaethau gofal sylfaenol, gwasanaethau iechyd meddwl ac amseroedd ymateb ambiwlansys. Felly, gan gyffwrdd yn fyr â gofal sylfaenol, gwn fod y problemau'n cael eu cydnabod yn fy etholaeth a bod angen gwneud mwy i sicrhau gweithlu gofal sylfaenol cynaliadwy. Yn yr un modd, o ran meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, gwn fod buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud a bod perfformiad yn gymharol dda o edrych arno gyda gweddill Cymru, ond bydd Aelodau gogledd Cymru hefyd yn gwybod bod sawl her yn parhau o ran y gweithlu, perfformiad, rheoli risg a chyllido gwasanaethau o'r fath.

Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod fy mod wedi siarad llawer am dechnoleg newydd a sut y gall hynny gynorthwyo ein gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu'n wirioneddol, os ydym yn ddigon dewr, fod Betsi Cadwaladr mewn sefyllfa dda i arwain ar y dechnoleg newydd, ac y bydd yn elwa o wneud hynny, boed drwy adael iddynt arwain ar dreialon technolegol penodol neu drwy ddefnyddio mwy o wasanaethau ar-lein i leihau'r pwysau yn y gwasanaethau meddyg teulu.

Ar iechyd meddwl, sydd, wrth gwrs, yn un o'r materion mwyaf personol i mi, gwn beth yw maint sylweddol yr her barhaus i wella'r gwasanaethau hynny ar draws gogledd Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod, ers imi gael fy ethol, fy mod wedi cael llawer o waith achos ar iechyd meddwl, ac edrychaf ymlaen yn arbennig at ei ateb i fy ymholiad diweddar ar argaeledd therapi ymddygiad dialectig yng ngogledd Cymru, rhywbeth a fydd o gymorth i lawer o fy etholwyr.

Yn olaf, ar fater cyfansoddiad y bwrdd iechyd fel y mae—oherwydd gwn fod hwn yn bwnc trafod dadleuol yn y gorffennol, ond o'r ohebiaeth rwy'n dal i'w chael a'r cyfarfodydd a gefais, credaf y byddai'n anghywir rhoi'r gorau'n llwyr i'r syniad o ad-drefnu Betsi Cadwaladr. I mi, mae angen i unrhyw newid bwyso a mesur y dystiolaeth—nid tystiolaeth wleidyddol, ond y dystiolaeth glinigol, ac wedi'i harwain gan weithwyr proffesiynol. Ar yr un pryd, mae angen i ni wneud yn siŵr na fyddai unrhyw newidiadau o'r fath yn arwain at ganlyniadau anfwriadol neu'n effeithio ar yr anawsterau y mae eisoes yn eu hwynebu. Yn y pen draw, rhaid inni ganolbwyntio ar sicrhau bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dod allan o fesurau arbennig ac yn adennill hyder y rhai sy'n teimlo eu bod wedi cael cam.

Rwyf am orffen fy nghyfraniad gyda hyn, Ddirprwy Lywydd, ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod cleifion ar draws gogledd Cymru, yn enwedig fy etholwyr, yn parhau i allu cael gwasanaethau trawsffiniol, yn union fel rydym ni'n falch o groesawu cleifion o Loegr i Gymru. Ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud diolch am ddod â phawb at ei gilydd, oherwydd ni ddylem fod yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd a dadleuon am y gwasanaeth iechyd fel pêl wleidyddol, ond dylem siarad yn agored ac yn onest am y materion hyn gan barchu staff gweithgar y GIG. Dyna'r ffordd rwy'n gweld newid a dyma'r ffordd y mae angen i bob un ohonom weld newid. Diolch.

16:00

A gaf fi fynegi fy niolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw? Nid yw hon, fel y dywedodd Angela Burns, yn sefyllfa y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno bod ynddi ein hunain, ac mae'n effeithio, wrth gwrs, yn uniongyrchol iawn ar lawer iawn o fy etholwyr yng ngorllewin ardal Betsi Cadwaladr.

Rwy'n pryderu'n fawr ein bod yn cael llawer o hunanfodlonrwydd gan y Gweinidog hwn, a llawer o 'bydd popeth yn iawn'. Rwyf wedi bod yn edrych yn ôl drwy'r adroddiadau chwe misol—maent yn llawn o haeriadau ac nid ydynt yn llawn iawn o dystiolaeth. Ac rwyf am dynnu sylw—yn fyr iawn—at nifer o'r materion y ceir tystiolaeth gyhoeddus yn eu cylch. Nid yw amseroedd aros wedi gwella ers cyflwyno mesurau arbennig ac nid ydynt ond wedi dangos gwelliannau ar ddechrau 2018, pan gafodd sylw fel problem yn y Cyfarfod Llawn unwaith eto. Mae'r system damweiniau ac achosion brys yn gyson yn perfformio'n waeth na chyfartaledd Cymru o hyd, ac mae perfformiad dau ysbyty sy'n perfformio'n wael yn tynnu oddi ar berfformiad ysbyty da. Mae amseroedd aros canser yn dangos, ar ddechrau mesurau arbennig, fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn gwirionedd yn perfformio'n well na chyfartaledd Cymru a'i fod bellach yn perfformio'n waeth na chyfartaledd Cymru a bod gostyngiad o 5 y cant yn nifer y meddygon teulu yn ardal Betsi Cadwaladr dros amser, er fy mod yn derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ddoe ynghylch rhoi gwasanaethau amgen a gyflogir yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd lleol ar waith i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny. Nawr, ymddengys bod y Gweinidog yn mynegi rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â hyn, ond rwy'n seilio hyn ar ffigurau sydd ar gael i'r cyhoedd, ac os oes ganddo ffigurau eraill sydd ar gael i'r cyhoedd sy'n dweud rhywbeth arall wrthym—ffigurau eraill nad ydynt ar gael ar gyfer y cyhoedd—rwy'n ei annog i'w datgelu'n gyhoeddus er mwyn inni allu gweld ble mae'r cynnydd honedig a phwy sy'n ei gyflawni.

Ar ôl pedair blynedd, mae angen inni weld bod y Gweinidog hwn yn deall yn iawn pam ei fod yn credu bod sicrhau newid ym mwrdd Betsi Cadwaladr wedi bod mor anodd. Pam y mae mor ddi-ildio? Beth sy'n mynd o'i le yno? Nawr, pe bawn yn clywed gan y Gweinidog heddiw, 'Dyma'r problemau rwy'n eu hwynebu', 'Dyma'r pethau na allaf eu newid', 'Dyma'r pethau sydd eu hangen arnom i sicrhau consensws gwleidyddol, efallai, er mwyn cyflawni a newid', fi fyddai'r person cyntaf i achub ei gam, gan fod Jack Sargeant, wrth gwrs, yn llygad ei le pan ddywed nad oes neb am chwarae unrhyw fath o gêm wleidyddol gyda'r GIG, ond y realiti, wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, yw bod materion sy'n ymwneud â'r GIG yn wleidyddol iawn: mae'r modd yr ariennir y GIG, y modd y caiff ei reoli, yn wleidyddol iawn, ac yma, yng Nghymru, rydym wedi sefydlu—deddfwyd yn 2009 ar gyfer system a oedd yn atebol i'r Gweinidog. Rwy'n cofio'r Gweinidog ar y pryd, Edwina Hart, yn dweud bod angen i'r penderfyniadau ynglŷn ag iechyd yng Nghymru gael eu gwneud gan y bobl y gall y bobl eu diswyddo. Nawr, ar y pryd, roedd llefarydd y Ceidwadwyr, Jonathan Morgan, o'r farn y dylem barhau i goleddu ymagwedd lai gweithredol. Nid dyna oedd y penderfyniad a wnaeth y lle hwn. Mae'n safbwynt cwbl barchus; nid un a rannwn ar y pryd. Felly, mae'r Gweinidog yn amlwg yn gwbl atebol am hyn, ac mae angen iddo egluro wrthym pam nad yw pethau wedi symud ymlaen.

Nawr, wrth gwrs fod rhywfaint o welliant wedi bod; pe baech wedi gadael y system yn gyfan gwbl ar ei phen ei hun am bedair blynedd heb wneud unrhyw beth o gwbl byddai rhai pobl dda mewn rhai sefyllfaoedd da wedi gallu sicrhau rhywfaint o newid cadarnhaol. Ac wrth gwrs, fel y mae eraill wedi'i ddweud, a rhaid inni gydnabod hyn, ar draws y system honno—a chlywaf hyn bob wythnos gan etholwyr—mae pobl wirioneddol dda ar y rheng flaen sy'n gweithio'n galed iawn. Ceir rhai rheolwyr rheng flaen da iawn hefyd sy'n gwneud pethau arloesol, er enghraifft cydweithredu â gwasanaethau cymdeithasol yng Ngwynedd. Ond ar frig y bwrdd iechyd, mae'n amlwg fod rhywbeth mawr o'i le, ac rwy'n credu bod problem ddiwylliannol yn bodoli.

Tybed faint o ymrwymiad sydd gan yr uwch arweinwyr yn y bwrdd iechyd hwnnw i sicrhau newid. Nawr, mae'n peri pryder i mi nad yw chwech o'r bobl sy'n arwain y bwrdd iechyd—nid ar ochr y bwrdd, ond yn broffesiynol—yn byw yn y wlad hon hyd yn oed, heb sôn am yr ardal y maent yn ei gwasanaethu. Nawr, yn amlwg, ni fyddech am ddechrau gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail ble maent yn byw, ond pan fo gennych ganran mor uchel o'ch tîm rheoli nad effeithir ar eu teuluoedd, ar eu plant, ar eu cymdogion yn uniongyrchol gan y penderfyniadau a wnânt, rwy'n credu ei bod hi'n bosibl fod gennych broblem. Yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn aml iawn arferem benodi uwch arweinwyr—rwy'n meddwl yn arbennig am brif weithredwyr awdurdodau lleol—ar y sail, 'Rydym yn eich croesawu o ble bynnag y dewch, ond disgwyliwn i chi ddod yma, disgwyliwn i chi fyw yma, disgwyliwn i chi fuddsoddi yn y gymuned hon'. Ac mae Betsi Cadwaladr yn llawn o uwch arweinwyr nad ydynt wedi gwneud hynny.

Pan ofynnais i'r Gweinidog ddoe a oedd yn credu bod yr uwch arweinwyr yn deall y cymunedau yr oeddent yn eu gwasanaethu, cefais fy siomi'n ddirfawr pan wfftiodd at hynny fel pryder. Ond mae'n ymddangos i fy etholwyr i ac etholwyr cyd-Aelodau eraill fod y penderfyniadau'n cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn deall natur y cymunedau, nad ydynt yn deall y ddaearyddiaeth, ac efallai fod hynny'n rhywbeth sydd wrth wraidd hyn oll.

Rwy'n gweld bod fy amser ar ben, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am ddirwyn fy sylwadau i ben. Ond hoffwn gysylltu fy hun â'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud am yr angen i gael safonau perfformiad ar gyfer rheolwyr, i gael cymwyseddau craidd, i gael cofrestr ar gyfer rheolwyr y GIG y gellir eu tynnu oddi arni, fel y gellir ei wneud i feddygon a nyrsys os nad ydynt yn cyflawni, oherwydd rwy'n credu bod hon yn broblem ddiwylliannol ar draws ein GIG. Rhaid i'r Gweinidog ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn. Os oes arno eisiau ein help, gall ei gael yn sicr, ond fel y mae, mae'n diystyru ein pryder ac nid yw hynny'n ddigon da.

16:05

Mae Llafur, 'plaid y GIG' fel y mae'n galw ei hun, yn gyfrifol am saith bwrdd iechyd yn unig yng Nghymru, ac mae'n gywilyddus fod pump o'r rhain mewn mesurau arbennig o ryw fath. Ni fydd y mwyaf o'r rhain, sy'n gwasanaethu tua miliwn o bobl, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, yn dathlu'r ffaith y bydd hi'n bedair blynedd ddydd Sadwrn nesaf ers iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig. Y Gweinidog presennol sydd wedi bod â goruchwyliaeth ar y trefniadau mesurau arbennig hyn. Nid oes yr un Prif Weinidog Ceidwadol erioed wedi torri cyllideb y GIG. O dan Lafur, fodd bynnag, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld gostyngiad mewn termau real yn y gwariant adnabyddadwy ar iechyd rhwng 2010 a 2016.

Gwnaed Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig wedi i adroddiadau erchyll ddod yn hysbys am ward iechyd meddwl Tawel Fan. Roedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu gwrando ar rybuddion adolygiad Ockenden—neu mae wedi methu gwrando ar rybuddion adolygiad Ockenden ar hyn, ac yn gyson mae wedi anwybyddu pryderon y teuluoedd dan sylw. Efallai ei bod wedi cyfarfod â hwy—mae wedi parhau i'w hanwybyddu. Yn hytrach, dibynnai Llywodraeth Cymru ar adolygiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2018, a ddisgrifiwyd gan y teuluoedd fel ymgais i guddio'r gwir.

Ym mis Ionawr, dywedodd Donna Ockenden nad oedd wedi gweld digon o gynnydd ar wella gwasanaethau iechyd meddwl a datgelodd fod staff wedi dweud wrthi fod gwasanaethau'n mynd tuag yn ôl. Cafodd ei hadolygiad yn 2018 glywed dro ar ôl tro, ers sefydlu'r bwrdd iechyd ym mis Hydref 2009, fod achos pryder sylweddol iawn ynghylch y systemau, y strwythurau a'r prosesau llywodraethu sy'n sail i ystod o wasanaethau a ddarperir gan Betsi Cadwaladr.

Wrth siarad yma ym mis Mai y llynedd, gofynnais i'r Gweinidog iechyd pam nad oedd casgliadau adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gomisiynwyd gan Betsi Cadwaladr, yn cydfynd â chanfyddiadau adroddiad 2015 Donna Ockenden, adroddiad yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn, neu gydag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, neu waith mapio gofal dementia, ill dau yn 2013, y flwyddyn y mae'r bwrdd iechyd yn datgan iddo gael ei rybuddio am bryderon difrifol ynglŷn â gofal cleifion ar ward Tawel Fan. Yn wir, roeddwn wedi tynnu eu sylw hwy a Llywodraeth Cymru at bryderon yn 2009.

Er bod staff y rheng flaen yn gweithio'n eithriadol o galed, y mis diwethaf canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn y bwrdd heb gael 'fawr o effaith ymarferol'. Dywedodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ei fod yn cytuno'n llwyr ag argymhellion yr adroddiad a chyfeiriodd at lythyr a anfonwyd at y Gweinidog iechyd lle mae'n nodi bod ei aelodau'n credu bod y drefn mesurau arbennig bellach yn drefn arferol ac yn ymddangos fel pe bai wedi colli ei heffaith. Nid yw targed damweiniau ac achosion brys Llywodraeth Cymru i weld 95 y cant o gleifion o fewn pedair awr, sydd ar waith ers 2008, erioed wedi cael ei gyrraedd. Felly, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd sy'n perfformio waethaf yng Nghymru o hyd. Dim ond hanner ei gleifion a welwyd o fewn pedair awr gan adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ym mis Ionawr, dywedodd crwner gogledd Cymru, John Gittins, fod oedi yn y gwasanaeth ambiwlans, prinder staff a'r anhawster i sicrhau gofal damweiniau ac achosion brys yn gyflym wedi cyfrannu at farwolaethau niferus ac mae'n bosibl y gallai achosi mwy o farwolaethau. Y mis diwethaf, dywedodd meddyg ymgynghorol uwch, Ian Smith, wrth gwest y crwner i farwolaeth Megan Lloyd-Williams yn Ysbyty Glan Clwyd ei bod hi'n ddwy flynedd a mwy ers iddo dynnu sylw at fwlch mewn gofal a thriniaeth i'r henoed mewn gwrandawiad tebyg, ond nid oedd dim wedi newid, er cael sicrwydd fod gwelliannau wedi cael eu gwneud. Mae hynny'n swnio mor gyfarwydd. Yn dilyn y cwest hwnnw, rhoddodd y crwner tan ddiwedd y flwyddyn hon i'r bwrdd iechyd wneud gwelliannau i'w ofal orthopedig.

Ym mis Mawrth, ysgrifennodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru at y Gweinidog yn mynegi eu siom ynglŷn ag ymateb Llywodraeth Cymru i bapur opsiynau ar restr perfformwyr meddygon teulu GIG Cymru, gan ddweud bod yr anawsterau yng ngogledd Cymru wedi bod yn bresennol ac yn cynyddu ers o leiaf bum mlynedd. Nid oes unrhyw amheuaeth na fydd yr anawsterau i recriwtio a chadw staff yn parhau. Ychwanegasant nad oedd y ffyrdd eraill y ceisiodd Betsi Cadwaladr eu defnyddio i fynd i'r afael â'r broblem recriwtio mor llwyddiannus ag yr adroddwyd. Bellach maent yn gweithio gyda chynghorau iechyd cymuned ledled Cymru i adolygu profiadau pobl sy'n gorfod aros yn rhy hir yn yr ysbyty pan fyddant yn ddigon iach i adael. A oes unrhyw syndod, felly, fod y Llywodraeth Lafur groendenau hon yn awr yn ceisio gosod corff canolog y gallant ei reoli yn lle cynghorau iechyd cymuned?

Y mis diwethaf yn unig, dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon mai dim ond 43 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol a hysbysebwyd yng ngogledd Cymru a gafodd eu llenwi y llynedd. Mae'r datganiadau a wnaeth y Gweinidog iechyd dro ar ôl tro ei fod yn disgwyl gweld gweithredu—fe'u clywsom heddiw, fe'u clywsom bedair gwaith ddoe—yn wag. Mae angen iddo dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu cyflawni'r gwelliannau gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ymddiswyddo'n anrhydeddus.

16:10

Fel rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, mesur dros dro oedd y mesur o roi bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig i fod. Bedair blynedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, maen nhw dal yno. Gallaf ddweud wrthych chi, Gweinidog, dyw trigolion gogledd Cymru bellach ddim yn ystyried y mesur yna fel rhywbeth dros dro, a dyw pobl gogledd Cymru bellach ddim yn ystyried mesurau arbennig yn rhywbeth arbennig o gwbl, oherwydd, fel mae Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru wedi'i ddweud, mae'r mesurau arbennig erbyn hyn yn normal newydd yng ngogledd Cymru.

Mae'r cyngor iechyd yn credu, a dwi'n cytuno gyda nhw, fod rheolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru o'r bwrdd wedi colli ei effaith. Mae yna ddiffyg hyder ymhlith trigolion y gogledd ynglŷn â'r modd y mae'r Llywodraeth yn ceisio delio â'r sefyllfa yma, ac, yn wir, o ganlyniad i hynny, yng ngallu'r bwrdd iechyd i ddarparu'r gofal y mae'r cyhoedd yn y gogledd yn dymuno ei weld, yn disgwyl ei weld, ac sydd â hawl i'w dderbyn.

Nawr, mae'r normal newydd yma, wrth gwrs, yn cynrychioli argyfwng ariannol parhaus, mae'n cynrychioli problemau recriwtio, methiant i gynllunio'n hirdymor, yn enwedig o safbwynt y gweithlu, gwasanaethau meddygon teulu'n chwalu, gorddibyniaeth ar staff locwm ac asiantaeth, a methiant, wrth gwrs, i ddelio â chwynion mewn modd amserol neu briodol. Yn gynyddol, hefyd—ac mae hwn yn rhywbeth dwi wedi codi fan hyn yn flaenorol—mae yna fwy a mwy o ymwneud y sector breifat â gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru. Dwi wedi codi o'r blaen yr ymgyrch i atal preifateiddio agweddau o'r gwasanaeth dialysis yn Wrecsam ac yn y Trallwng, gan gynnwys trosglwyddo staff o'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i'r sector breifat, a nawr, wrth gwrs, rŷm ni'n wynebu preifateiddio gwasanaethau fferyllfeydd mewn ysbytai cyffredinol ar draws y gogledd.

Mae pobl yn cwyno bod Donald Trump yn mynd i fod yn fygythiad i breifateiddio elfennau o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru—wel, efallai, weithiau, mae'n rhaid inni edrych yn agosach i adref pan fo'n dod i'r agenda yna. Dwi yn gobeithio bydd gan y Llywodraeth a'r Gweinidog y gonestrwydd a'r gras, pan fyddan nhw, yn y dyfodol, yn condemnio preifateiddio cynyddol, neu breifateiddio'r gwasanaethau iechyd yn Lloegr, i fod yn ymwybodol o'r hyn sydd yn digwydd ar eu watsh nhw o safbwynt gwasanaethau cyffelyb yng Nghymru.

Nawr, dwi'n mynd i gyfeirio at achos un etholwraig i fi sydd yn wraig 90 oed yn byw yn sir y Fflint. Mi aeth hi i'r ysbyty yn ddiweddar iawn ar ôl cwympo yn yr ardd. Mae hi bellach yn ddigon da i fynd adref, ond mae angen peth cymorth arni o gael mynd adref. Mae ei theulu, yn amlwg, eisiau iddi ddod adref i'w chartref ar ôl bod 10 diwrnod bellach yn Ysbyty Glan Clwyd ac, yn fwy diweddar, yn Ysbyty Cymuned Treffynnon, ond does yna ddim pecynnau gofal cartref ar gael er mwyn caniatáu iddi wneud hynny. Mae'r teulu felly'n wynebu cyfyng-gyngor: a ydyn nhw yn ei gadael hi yn yr ysbyty cymunedol lle mae hi'n amlwg yn mynd yn isel ei hysbryd, neu a ydyn nhw'n talu am becyn gofal preifat—dyma ni'r sector breifat eto—sy'n costio cyfanswm o £210 yr wythnos?

Dwi'n tynnu sylw at hyn oherwydd nôl yn 2012, fe gyflwynodd Betsi Cadwaladr becynnau gofal ychwanegol yn y cartref—home enhanced care—rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd yn cofio'r HECs, i roi'r acronym. Y bwriad oedd helpu i symud pobl allan o'r ysbytai ac yn ôl i'r gymuned, a'r broliant a wnaed bryd hynny oedd y byddai cleifion yn gallu gweld consultants yn eu cartrefi a byddai hynny'n cymryd lle, wedyn, yr ysbytai cymunedol a oedd yn cael eu cau ar draws y gogledd fel rhan o ailstrwythuro radical a chanoli gwasanaethau ar draws y gogledd. Ond y gwir amdani yw nad yw hyd yn oed gweithwyr cymorth yn gallu ymweld â'r cleifion yn eu cartrefi erbyn hyn, heb sôn am unrhyw un arall. Mae yna ormod o alw am y gwasanaeth a dydyn nhw ddim yn medru ateb y galw yna.

Nawr, nid staff y front line sydd ar fai fan hyn. Fel rŷm ni wedi clywed, maen nhw'n gwneud eu gorau glas er gwaethaf yr amgylchiadau a'r anawsterau. Y drwg yn y caws, dwi'n ofni, yw'r uwch-swyddogion sydd wedi gwneud y penderfyniadau gwael a gwallus yna sydd wedi arwain at y bwrdd yn cyrraedd y pwynt lle mae e, ac sydd wedi arwain at y mesurau arbennig yma. Ac, wrth gwrs, mae un ohonyn nhw wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am droi'r bwrdd o gwmpas, sydd yn codi cwestiynau pellach.

Ond, yn wahanol i ddoctoriaid a nyrsys sy'n gwneud camgymeriadau yn eu gwaith ar adegau, does dim modd i reolwyr byrddau iechyd wynebu cael eu hel o'u proffesiwn. Os ydyw e'n iawn i feddygon a nyrsys gael eu taro oddi ar y gofrestr—rŷm ni wedi dweud fel plaid ers blynyddoedd mawr mi ddylai fod hynny'n wir am brif reolwyr hefyd. Yn y gogledd, rŷm ni wedi bod trwy dri phrif weithredwr, tri chadeirydd ac mae yna deimlad o symud y deckchairs tra bo'r llong yn suddo. Yr un peth cyson, wrth gwrs, gydol y cyfnod yna yw'r ffaith mai chi yn flaenorol fel Dirprwy Weinidog oedd yn gyfrifol am redeg dydd i ddydd y gwasanaeth iechyd a'r sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Ac felly, yn lle newid cadeiryddion a phrif weithredwyr, onid y gwir yw mai chi yw'r un ddylai fynd?

16:15

Dylai gofalu am iechyd a lles poblogaeth gogledd Cymru fod yn nod a phwrpas sylfaenol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rwy'n dyst i'r ffaith, o ran y staff rheng flaen, eu bod yn gweithio'n galed bob dydd gyda'u calonnau a'u meddyliau, yn ceisio cyflawni yn union hynny. Bedair blynedd yn ôl, fodd bynnag, rhoddwyd y bwrdd mewn mesurau arbennig o ganlyniad i fethiannau sylweddol. Ar 8 Mehefin 2015, datganodd ein Prif Weinidog erbyn hyn fod y penderfyniad arwyddocaol hwn yn adlewyrchu pryderon difrifol ac eithriadol am arweinyddiaeth, trefniadau llywodraethu a chynnydd yn y bwrdd iechyd dros beth amser ac y byddai asesiad trwyadl a chytbwys yn digwydd ar feysydd a oedd yn peri pryder er mwyn ffurfio sail i'r camau gweithredu a oedd i'w cymryd o ganlyniad i'r mesurau arbennig hynny.

Rydych chi, Weinidog, wedi llywio'r camau hynny o'ch cyfnod fel Dirprwy Weinidog a'ch datganiad ar 14 Gorffennaf yn 2015 hyd at y ddadl hon heddiw. Bron i 48 mis yw'r cyfnod hwyaf y mae unrhyw sefydliad wedi bod mewn mesurau arbennig yn hanes y GIG. Mae'n ddwbl yr amser yr honnai Vaughan Gething AC yn wreiddiol y byddai'n ei gymryd. Felly, ar ôl 1,460 diwrnod o'ch rheolaeth uniongyrchol, buaswn i a llawer o fy etholwyr a llawer o Aelodau yma heddiw yn y Siambr wedi disgwyl i'r bwrdd iechyd fod yn ôl mewn cyflwr da.

Fodd bynnag, ar ôl 13 o ddatganiadau ysgrifenedig a thri ymchwiliad allanol, mae'r sefyllfa heddiw'n ddychrynllyd o hyd. Mae gwasanaethau iechyd meddwl gogledd Cymru yn dal i fod heb eu hisgyfeirio, ac maent yn ymddangos yn bell iawn o gyrraedd y pwynt hwnnw. Yn frawychus, mae Donna Ockenden wedi dweud nad yw wedi gweld digon o gynnydd, a datgelwyd bod staff yn credu bod y gwasanaethau iechyd meddwl yn mynd tuag yn ôl. Y mis diwethaf yn unig, amlinellodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—a diolch i'r Cadeirydd a'i dîm am hyn—bryderon allweddol ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd, gan gynnwys rhyddhau adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ansensitif, adroddiad a oedd yn gwneud cam â theuluoedd cleifion Tawel Fan, cynnydd annigonol ar weithredu argymhellion adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adroddiad Ockenden, diffyg ymgysylltu â Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru a gohebiaeth gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle maent hwy, y rheng flaen, yn egluro bod staffio'n waeth, eu bod wedi ymlâdd, ac nad ydynt yn disgwyl newid cadarnhaol yn y dyfodol rhagweladwy. Weinidog, dylech chi—mae'n flin gennyf—fod â chywilydd ynglŷn â'r casgliadau hyn, a'r ffaith bod cynnig Donna Ockenden i helpu—eich bod wedi ei wrthod.

A dweud y gwir, rydych wedi llywyddu dros ddatblygiad meigryn ariannol hefyd. Mae bwrdd Betsi Cadwaladr newydd gofnodi'r diffyg mwyaf o blith holl fyrddau iechyd Cymru ar ddiwedd 2018-19—yr unig fwrdd i gynyddu ei ddyledion yn y cyfnod hwn—ac nid yw ond wedi llwyddo i gyrraedd 85 y cant o'i darged arbedion erbyn mis Mawrth. Mae'n ymddangos bod y cyfrifon ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cynyddu y tu hwnt i reolaeth, gyda phwysau mawr o bob cyfeiriad: gwariwyd £900,000 ar wyth achos cyfreithiol ym maes iechyd, mae Caerdydd yn mynnu bod y bwrdd yn ad-dalu £1 filiwn am fethu cyrraedd targedau amseroedd aros, ac arweiniodd prinder o staff rheng flaen at wario £34 miliwn ar staff asiantaeth yn 2017-18. Yn amlwg, mae gan y bwrdd iechyd welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd er gwaethaf mesurau arbennig.

Mae rheolaeth wael y Gweinidog yn effeithio'n negyddol ar staff, ac rwy'n deall o le da fod eich ymyrraeth yn achosi rhai o'r problemau a geir yno yn awr mewn gwirionedd. Dangosir hynny gan y ffaith bod absenoldeb oherwydd salwch rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2018 yn fwy nag ar gyfer yr un cyfnod yn 2017. Yn anffodus, mae'r sefyllfa'n effeithio'n uniongyrchol ar fy etholwyr. Bron bob dydd, rwy'n cael cwynion newydd ac yn gorfod cael apwyntiadau wythnosol yn awr gyda swyddfa'r cadeirydd—y cadeirydd newydd—sy'n gweithio'n galed iawn i oruchwylio fy nghasgliad o bryderon etholwyr. Rydych chi'n gwybod beth yw'r problemau: amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth nad ydynt wedi gwella dim, y nifer uchaf o gleifion yn aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a bylchau staffio difrifol. Yn amlwg, ni all unrhyw berson rhesymol ond cytuno â chanfyddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod mesurau arbennig wedi dod yn drefn arferol ac nad yw ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cael fawr o effaith yn ymarferol.

Mae trigolion gogledd Cymru, ac yn sicr fy etholwyr yn Aberconwy a fy nghyd-Aelodau eraill—maent yn haeddu gwell. Rhaid ystyried mai'r gwasanaeth iechyd mewn unrhyw wlad yw ei phrif flaenoriaeth, ac mae'n siomedig iawn na all y Prif Weinidog ei hun fod yn bresennol ar gyfer dadl mor bwysig heddiw. Mae'n ymddangos ein bod yn wynebu 12 mis arall o fesurau arbennig, ac nid oes gennym strategaeth glinigol gynaliadwy ar waith. Mae'n bryd i'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru gael eu dal yn gyfrifol ar y cyd. Ond rwy'n eich dal chi'n gyfrifol, Weinidog. Fe ategaf bryderon fy nghyd-Aelodau. Peidiwch â difenwi enw Betsi Cadwaladr, ac os gwelwch yn dda, Weinidog, os ydych—. Rydych chi'n ysgwyd eich pen yn awr. Os ydych yn dal i wadu pa mor ddrwg yw pethau, a fyddech cystal â gwneud ffafr â phawb ohonom a rhoi cyfle i rywun a allai—o bosibl—newid y sefyllfa honno. Diolch.

16:20

Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae cyflwr y GIG yng ngogledd Cymru yn ddiffygiol iawn, a rhaid i Lafur Cymru dderbyn y bai yma, oherwydd mae'r diwygiadau dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi arwain yn uniongyrchol at y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr.

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Mandy Jones, ddoe, bu'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig am bron i hanner ei fodolaeth. Mae'r ffaith bod y newid wedi bod yn araf a'r gwelliant yn gyfyngedig, o gofio bod bron i bedair blynedd wedi mynd heibio ers i'r bwrdd iechyd gael ei wneud yn destun mesurau arbennig, yn peri pryder mawr i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac i bob un ohonom yn wir. Fodd bynnag, nid wyf o'r farn mai galw am ymddiswyddiad y Gweinidog presennol yw'r ateb cywir, ac mae'r ffaith bod llwyddiant i gyflawni gwelliannau mewn gofal iechyd yng ngogledd Cymru wedi bod yn gyfyngedig yn awgrymu bod yna broblem fwy strwythurol na'r hyn y mae Gweinidog y Llywodraeth yn gyfrifol amdani. Mae'n dangos yn glir nad yw system bresennol y byrddau iechyd lleol yn addas at y diben, ac er bod y problemau i'w teimlo fwyaf yng ngogledd Cymru, mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd Cymru mewn rhyw fath o drefniant uwchgyfeirio ac ymyrryd. Nid newid Gweinidogion ddylai ddigwydd yn awr, ond newid dull o weithredu. Mae angen i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am y llanastr y mae wedi'i greu a gweithredu ar unwaith.  

Gwyddom i gyd am yr heriau sy'n wynebu'r GIG yn y degawdau nesaf, ac os na fydd gennym strwythurau llywodraethu priodol ar waith, bydd y problemau a welwn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr heddiw yn ymddangos yn ddibwys mewn cymhariaeth. Felly, mae angen inni roi diwedd ar benodiadau gweinidogol i fyrddau iechyd. Mae angen i fyrddau iechyd wneud penderfyniadau clinigol, ac nid rhai gwleidyddol. Mae angen inni gryfhau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a sicrhau ei bod hefyd yn rhydd rhag ymyrraeth wleidyddol. Dylai'r Arolygiaeth gael pŵer i ymyrryd a chyfarwyddo byrddau iechyd pan ganfyddir problemau. Ac mae angen inni sicrhau bod problemau'n cael eu nodi'n gynnar. Mae hyn yn golygu cyflwyno diwylliant o beidio â beio er mwyn canfod camgymeriadau a sicrhau bod dyletswydd ar bob person sy'n gweithio yn y GIG neu gyda'r GIG i ddatgelu.

Mae angen inni wneud cynnydd sylweddol ar frys i sicrhau bod gan ein GIG strwythurau cywir ar waith i ddiwallu anghenion cleifion ym mhob rhan o Gymru, yn awr ac yn y degawdau sydd i ddod. Er bod y Gweinidog presennol yn rhannu rhywfaint o'r bai am y problemau ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ac ar draws y GIG, rwy'n credu o ddifrif ei fod wedi ceisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau sydd wedi bodoli ers cyn iddo gael y portffolio iechyd. Ac os oes rhaid beio, rhaid i'w ragflaenwyr dderbyn cyfran o'r bai hwnnw'n gyfartal, a pheidio â chaniatáu i un person gael ei wneud yn fwch dihangol. Felly, mae'r bai weithiau'n uniongyrchol, ac ar adegau eraill yn anuniongyrchol am y trefniadau llywodraethu blêr presennol.

Rwy'n annog y Gweinidog i dderbyn bod camgymeriadau wedi'u gwneud ac i roi camau brys ar waith i'w hunioni. Dyma sut yr awn i'r afael â'r problemau. Efallai na fydd newid arweinyddiaeth ond yn eu gwaethygu yn awr. Weinidog, rwy'n hyderus y gallwch gyflawni'r newidiadau angenrheidiol, ond mae'n rhaid i chi weithredu yn awr.  

16:25

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud y bydd y problemau llywodraethu a rheoli parhaus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers 2013 heb amheuaeth yn destun gofid ac embaras mawr i Lywodraeth Cymru. Er i nifer o adolygiadau ac adroddiadau gael eu cynnal dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r cynnydd wedi bod yn echrydus o araf, mae rheolaeth ariannol wedi bod yn aneffeithiol, ac yn bwysicaf oll, mae pryderon ynghylch gofal cleifion yn parhau. Mae'r staff a'r gweithwyr meddygol proffesiynol yng ngogledd Cymru sy'n gweithio'n galed mewn amgylchiadau anodd iawn yn haeddu arweiniad a chymorth priodol gan Lywodraeth Cymru.

Fel y dywedodd Mark Isherwood a Janet Finch-Saunders yn gynharach, ychydig wythnosau'n ôl yn unig cyhoeddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad y diweddaraf mewn cyfres o adolygiadau o drefniadau llywodraethu'r bwrdd iechyd. Daeth yr adroddiad trawsbleidiol hwnnw i'r casgliad fod cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn annigonol ac na chafodd y camau gweithredu fawr o effaith ymarferol ar newid perfformiad y bwrdd iechyd. Ar ôl pedair blynedd hir o'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i lywyddu dros wasanaeth sy'n parhau i wneud cam â rhai cleifion. Nawr, wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw, rhannodd Mark Thornton, cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, eu rhwystredigaeth drwy gymharu diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru â chamau a gymerwyd dros y ffin. Dywedodd,

Mae'n ymddangos bod ganddynt ymagwedd ychydig yn wahanol yn yr ystyr eu bod mewn gwirionedd yn dod â llawer mwy o adnoddau, arbenigedd, beth bynnag sydd ei angen i osod bwrdd iechyd ar sail gytbwys a darparu llwyfan sefydlog i fwrdd iechyd wneud y gwelliannau sydd eu hangen i ddod allan o fesurau arbennig. Hyd y gwyddom, rhoddwyd rhywfaint o arbenigedd i'r bwrdd iechyd ar ffurf cynghorwyr arbennig, ond yn sicr, i ddechrau o leiaf, ni welsom fawr o ddim arall.

Nawr, nid fy ngeiriau i yw'r rheini, na geiriau'r pwyllgor hyd yn oed, ond geiriau'r cyngor iechyd cymuned wrth gynrychioli cleifion lleol. Mae'r dystiolaeth a roesant i'r ymchwiliad yn ddamniol. Er bod Llywodraeth Cymru yn gwybod am anawsterau gyda threfniadau llywodraethu ac ariannu parhaus y bwrdd iechyd, mae'n ymddangos i mi fod y cyngor iechyd cymuned yn credu nad yw unioni'r mater yn flaenoriaeth ddifrifol i Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, mae cleifion yng ngogledd Cymru'n parhau i fethu cael y gwasanaeth iechyd y maent yn ei haeddu, yn enwedig gwasanaethau iechyd meddwl, fel y dywedodd Jack Sargeant yn gynharach.

Er bod adroddiad ar ôl adroddiad yn beirniadu'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru, y realiti ar lawr gwlad yw nad yw pobl go iawn yng ngogledd Cymru'n cael y gofal sydd ei angen arnynt a'r hyn y maent yn ei haeddu. Fel y dywedodd Angela Burns yn gynharach, mae yna gwestiwn go iawn yma hefyd ynglŷn â gostyngeiddrwydd a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r holl sefyllfa. Wrth ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Llywodraeth Cymru:

Rydym hefyd yn cydnabod y cynnydd a'r camau pellach y mae'n rhaid i ni eu cymryd i fynd i'r afael â materion hirsefydlog a byddwn yn gweithio gyda'r Cadeirydd a'r tîm arwain i sicrhau y caiff pethau eu trawsnewid a'u hisgyfeirio o fesurau arbennig.

Ni cheir ymddiheuriad go iawn yn unman yn y datganiad i'r teuluoedd yng ngogledd Cymru sydd wedi dioddef yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig camau pendant yn unman yn y datganiad, nac yn rhoi unrhyw arweiniad ar y sefyllfa. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn ailadrodd ei datganiad 'Byddwn yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd'. Wel, nid yw hynny'n ddigon da bellach, ac yn syml iawn, nid yw'n mynd i wneud y tro i bobl yng ngogledd Cymru sydd wedi clywed hyn i gyd o'r blaen.

Dylai pob gwleidydd yng Nghymru resynu at y ffaith bod rhan o Gymru yn dechrau ar ei phumed blwyddyn o fod mewn mesurau arbennig yn fuan, ac eto ymddengys bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mai mesurau arbennig yw'r drefn arferol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Beth y mae'n mynd i'w gymryd i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad ac ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn llawn? Ac yn y cyfamser, faint o gleifion fydd yn gorfod dioddef? Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd go iawn yn y dyfodol agos, bydd pobl yng ngogledd Cymru'n teimlo eu bod wedi cael cam gan Lywodraeth y byddant yn ei gweld yn canolbwyntio gormod ar Gaerdydd. Ac a allwch chi feio pobl gogledd Cymru am deimlo felly?

Ddirprwy Lywydd, mae'r ddadl heddiw'n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru newid pethau a chyflwyno strategaeth gadarn sy'n rhoi gwir ymrwymiad i bobl gogledd Cymru y bydd yn mynd i'r afael â'r mater hwn o'r diwedd. A gobeithio y bydd y Gweinidog yn dangos ychydig o ostyngeiddrwydd i'r bobl hynny am y gyfres o fethiannau y mae ef a'i Lywodraeth wedi llywyddu drostynt.

Ar ddechrau eleni, dywedodd Donna Ockenden wrth y Gweinidog yn uniongyrchol fod staff wedi dweud wrthi fod gwasanaethau'n mynd tuag yn ôl. Ewch ymlaen i bythefnos yn ôl a daeth adroddiad a gymeradwywyd ac a gefnogwyd gan bob plaid yn y Siambr hon i'r casgliad ei bod yn amlwg na chafodd ymyriadau Llywodraeth Cymru fawr o effaith ymarferol. Felly, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a derbyn cyfrifoldeb am y methiannau sydd wedi digwydd tra bu Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig, a gwneud y mater yn flaenoriaeth frys. Felly, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn, a galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddechrau darparu gwasanaeth yng ngogledd Cymru sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

16:30

A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae'r cynnig a wnaed yn nodi, ar 8 Mehefin bydd pedair blynedd wedi mynd heibio ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig. Roedd fy natganiad ddoe yn cydnabod yr angen i ddefnyddio'r pen blwydd fel cyfle i fyfyrio ar realiti a chyflymder y cynnydd hyd yma, ond hefyd y camau gweithredu sy'n dal heb eu cyflawni. Soniais hefyd ddoe am amrywiaeth o gamau sy'n cael eu cymryd eisoes mewn perthynas â chyllid, perfformiad a gweithredu. Rwyf am ymdrin ar y dechrau ag un pwynt arall a wnaethpwyd ynglŷn ag absenoldeb y Prif Weinidog heddiw, yn arbennig sylwadau gan Janet Finch-Saunders, ac fel y gŵyr y rhan fwyaf o'r Aelodau, nid yw'r Prif Weinidog yma heddiw oherwydd ei fod yn union lle dylai fod, yn y digwyddiad i gofio D-day yn Portsmouth.

Bedair blynedd yn ôl, roedd angen gwella'r fframwaith mesurau arbennig ar draws ystod o feysydd: llywodraethu; arweinyddiaeth a throsolwg; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd; ailgysylltu â'r cyhoedd; ac ymarfer cyffredinol a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau yn benodol. Yn y datganiad a roddais ddoe, nodais y meysydd lle mae gwelliant eisoes wedi'i wneud. Amlinellais hefyd y meysydd lle nad yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud y cynnydd a ddisgwyliwn, ac mae'n amlwg fod angen gweithredu pellach.

Ar ddau o'r meysydd pryder sylweddol a nodwyd yn 2015—gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol—mae gwelliannau wedi arwain at isgyfeirio'r meysydd hynny o fesurau arbennig. Mae'n bwysig cydnabod yr arferion da, yr arloesi a'r gwelliant y mae staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u cyflawni. Ac ar un pwynt y mae'r siaradwyr yn cytuno yn ei gylch, dylid cydnabod ymroddiad ein staff yn y gwasanaeth iechyd gwladol sy'n darparu gofal rheng flaen ym mhob un o'n cymunedau.

Yn 2015, fodd bynnag, roedd gennym ni a phobl gogledd Cymru bryderon sylweddol am gyfraddau heintiau, er enghraifft, mynediad at wasanaethau therapi a mynediad amserol at driniaeth i bobl sydd ar y llwybrau canser, ac ym mhob un o'r meysydd hynny, gwelwyd gwelliant gwirioneddol. Heddiw, clywsom am feysydd eraill lle dylai Betsi Cadwaladr ddatblygu eu gwasanaethau i wella canlyniadau a phrofiad pobl gogledd Cymru—meysydd sy'n peri pryder, wrth gwrs, ac sy'n mynd y tu hwnt i fesurau arbennig y gallem eu trafod mewn unrhyw ran benodol o wasanaeth cyhoeddus. Nid cael gwared ar y rheini yw'r her, ond canolbwyntio ar welliant ym mhob maes a deall yr hyn sydd angen i Betsi Cadwaladr ei wneud er mwyn symud y tu hwnt i fesurau arbennig. Mae'n bwysig nodi bod y bwrdd iechyd yn bwrw iddi i weithredu'r camau sydd eu hangen i sicrhau gwelliant. Barn y cynghorwr annibynnol yw bod y bwrdd mewn gwell sefyllfa i wneud hynny erbyn hyn ac yn benodol fod y cadeirydd wedi darparu egni a hwb newydd i arweinyddiaeth a gwelliant go iawn.

Mewn perthynas â'r meysydd i'w gwella a gwmpesir o dan y trefniadau mesurau arbennig—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.

16:35

Diolch. Crybwyllwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar hyn gan nifer o'r Aelodau, ac argymhelliad 1 yn yr adroddiad hwnnw oedd, os yw pethau am gael eu trawsnewid, mae angen inni gael staff allanol mwy arbenigol yn dod i mewn—cyflwyno cyngor allanol—i gynorthwyo'r bwrdd, yn ogystal â'r cyfarwyddwr trawsnewid, neu beth bynnag arall y maent wedi'i wneud. Pa gynnydd a wnaethoch i sicrhau bod y cymorth ychwanegol hwnnw'n cael ei roi ar waith?

Llwyddais i drafod rhywfaint ar hyn ddoe, ond rydym eisoes yn cydweithio â'r cadeirydd i edrych ar y swyddogaeth gyllid gan ddod ag arbenigedd allanol i mewn i helpu, penodi cyfarwyddwr cyllid newydd a meddwl am y tîm fydd ei angen i fynd o gwmpas y person hwnnw er mwyn cyflawni'r swyddogaeth—ac nid person yn unig, ond swyddogaeth drawsnewid. Felly rydym eisoes o ddifrif ynghylch yr angen i gael cymorth allanol a chyfleoedd ar gyfer gwella o fewn y sefydliad.  

Yn bersonol, er hynny, rwy'n amlwg yn rhwystredig gyda'r cynnydd mewn nifer o feysydd, ac rwy'n cydnabod bod angen ymagwedd integredig system gyfan er mwyn i welliannau fod yn gynaliadwy. Ddoe, amlinellais y ffocws newydd sydd ei angen ar gynllunio, perfformiad rheoli ariannol, iechyd meddwl, gofal wedi'i gynllunio a gofal heb ei drefnu, ac amlinellais hefyd y cymorth pellach sy'n cael ei roi i'r bwrdd er mwyn helpu i sicrhau gwelliant. Rwyf wedi ysgrifennu at gadeirydd y bwrdd yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer yr hydref hwn, i gadarnhau y bydd cynllun blynyddol gyda llwybrau perfformiad ar gyfer 2019 ar gael erbyn diwedd yr haf er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu strategaeth gwasanaethau clinigol gynaliadwy, mewn partneriaeth â chlinigwyr a phartneriaid ehangach; cael cynllun ariannol y cytunwyd arno, gan gynnwys arbedion a nodwyd, arbedion effeithlonrwydd a chyfleoedd i'w cymryd gan y bwrdd iechyd drwy gydol y flwyddyn hon; a chael perfformiad cynaliadwy gwell mewn meysydd o ansawdd, iechyd meddwl, gofal heb ei drefnu a gofal wedi'i gynllunio; a gwneud cynnydd gwirioneddol a pharhaus ar gyflawni'r strategaeth iechyd meddwl a'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt mewn ymateb i argymhellion y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ockenden. Mae grŵp rhanddeiliaid gweithredol eisoes yn bodoli i ddarparu trosolwg a her go iawn i'r cynnydd sy'n cael ei wneud.  

Wrth gynnig ein gwelliant, nodais y bydd unrhyw benderfyniadau ar newid statws uwchgyfeirio Betsi Cadwaladr yn digwydd ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru. Dyna yw'r safon o dan y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd sydd gennym ar waith, felly fel y dywedais droeon o'r blaen, ni fyddaf yn gosod amserlen artiffisial i'r bwrdd iechyd ar gyfer symud allan o fesurau arbennig. Bydd hynny'n digwydd pan fydd cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud a gwir hyder y bydd cynnydd pellach yn cael ei wneud. Ond nid yw'n briodol awgrymu bod pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun rhyw ffurf ar fesurau arbennig. Mae'n ddefnydd bwriadol ar label y mesurau arbennig i fwrw amheuaeth a thaflu baw dros weddill y gwasanaeth iechyd. Mae'r trefniadau ymyrryd ac uwchgyfeirio yno i amlygu lle mae angen gwella ac nid fel cyfle i daflu baw dros y gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n mynd yn ôl at sylw a wnaeth Jack Sargeant am beidio â bod eisiau gweld y bwrdd iechyd yn cael ei ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol, ac wrth gwrs, mae'n bwnc sy'n amlwg yn wleidyddol.

Rydym yn gwario hanner arian y Llywodraeth ar y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Mae gan bawb farn am y gwasanaeth iechyd, ac fe ddylai fod, ond clywsom wedyn gyfres o ddatganiadau cwbl wleidyddol yn y ddadl. Nawr, rwy'n derbyn mai dyna natur busnes yn y lle hwn. Bydd gan wleidyddion farn, ac wrth gwrs bydd pobl yn ceisio cael atebion gwleidyddol i atebion yn y maes hwn. Fy ngwaith i yw gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth iechyd yn parhau i symud ymlaen. Mae'n wasanaeth cyhoeddus—yn falch o fod yn wasanaeth cyhoeddus. Nid ydym yn preifateiddio'r gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Rydym wrthi'n edrych ar ymarfer yng Nghymru ar gyfer gwella, a ledled y Deyrnas Unedig hefyd, yn ein fframwaith ymyrryd ac ar adfer a gwella o fewn y gwasanaethau iechyd. Nid gwasanaeth ynysig mo hwn, sydd ond yn edrych tuag i mewn er mwyn gwella. Rwy'n parhau i fod yn agored i arferion da, fel y mae ein system gofal iechyd ehangach yn wir, lle bynnag y mae'n bodoli, yn enwedig ar draws y Deyrnas Unedig.

Gofynnwyd imi ynglŷn ag ad-drefnu, a gwn fod Jack Sargeant wedi sôn am hyn yn ei sylwadau, a hoffwn ddweud hyn yn syml iawn: nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth wrthrychol y byddai ad-drefnu Betsi Cadwaladr yn ddau neu dri bwrdd llai o faint yn gwella gwasanaethau na chanlyniadau. Credaf mai'r peth olaf sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru yw ad-drefnu eto, yn hytrach na chanolbwyntio'n barhaus ar wella'r sefyllfa bresennol.

Er hynny, rwy'n bell o fod yn ddidaro neu'n hunanfodlon ynglŷn â'r heriau parhaus yr ydym yn eu hwynebu. Byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar wella a symud Betsi Cadwaladr y tu hwnt i fesurau arbennig. Byddaf yn parhau i fod yn onest ac yn dryloyw ynghylch gwelliannau a wnaed a gwelliannau sy'n amlwg eu hangen o hyd.

16:40

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae eraill wedi'i ddweud yn y Siambr hon, mae'n ddiwrnod trist iawn, a dweud y gwir, ein bod ni'n sefyll yma bedair blynedd ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig, ond eto nid yw'r sefydliad hwn wedi gwneud digon o gynnydd i ddod allan ohonynt.  

Fel y dywedwyd, mae chwarter y boblogaeth yng Nghymru'n cael eu gwasanaethu gan y bwrdd iechyd hwn, ond mae'n torri sawl record, ac mae'n eu torri am y rhesymau anghywir: perfformiad gwael gwaeth nag erioed ar adrannau achosion brys; amseroedd aros gwaeth nag erioed i bobl sy'n aros am lawdriniaeth orthopedig; ac wrth gwrs, fel y clywsom eisoes, y cyfnod hwyaf erioed mewn mesurau arbennig ar gyfer y gwasanaethau a'r agweddau hynny ar y bwrdd iechyd sydd mewn mesurau arbennig.

Wyddoch chi, mae'r staff rheng flaen yn ein hysbytai yng Nghymru—ym mhob un o'n hysbytai, gan gynnwys y rheini yng ngogledd Cymru—yn gwbl arwrol. Maent yn ceisio gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd bob dydd. Crybwyllais y ffaith fy mod wedi ymweld ag Ysbyty Maelor Wrecsam ddydd Llun, a gwelais yr hyn yr oedd pobl yn gorfod ymdrin ag ef yn yr adran achosion brys yno.

Maent yn bobl ryfeddol a hynod dalentog, ond nid yw hynny'n tynnu oddi ar y ffaith bod yr holl dystiolaeth yn dangos nad yw mesurau arbennig ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn gweithio. Nid ydynt yn gweithio. Rydym wedi gweld rhywfaint o welliant, do, ym maes gofal mamolaeth, ond mae hynny oherwydd bod pobl wedi gorymdeithio ar y stryd er mwyn sicrhau'r gwelliannau hynny—nid oedd a wnelo â chi, a dweud y gwir, Weinidog. Oni bai ein bod wedi gorymdeithio ar y strydoedd, y realiti yw na fyddai'r newidiadau hynny wedi cael eu gweithredu.

Bu rhywfaint o welliant yn ddiweddar iawn gyda recriwtio meddygon teulu, neu hyfforddiant yn sicr, o ran sicrhau mwy o hyfforddiant. Ond y gwir amdani yw bod y gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, a isgyfeiriwyd gennych, yn dal i fod â bylchau mawr yn eu rotâu yn fynych. Deallaf mai un o'r rhesymau pam y mae'n haws iddynt gyrraedd eu targedau yn awr pan fyddwch yn ffonio'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau, yw bod y targed ar gyfer dychwelyd at rywun bellach yn awr yn hytrach na hanner awr fel yr arferai fod yn flaenorol. Wel, wrth gwrs, mae'n haws pan fyddwch yn symud y pyst gôl i allu cyrraedd y targedau hynny, a dyna pam eich bod wedi llwyddo i isgyfeirio'r gwasanaeth arbennig hwnnw. Ond mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sylwadau Donna Ockenden a chryn dipyn o dystiolaeth arall yn dynodi nad yw'r mesurau arbennig hyn yn gweithio.

Felly, mae pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun rhyw fath o ymyrraeth neu'i gilydd, ac mae hynny, i mi, yn awgrymu bod problem systematig yn Llywodraeth Cymru o ran y ffordd y mae'n ceisio cyflwyno gwelliannau yn ein gwasanaeth iechyd. Nid yw fel pe bai'n dysgu o arferion da ac nid yw'n ymddangos ei bod yn dysgu o'i chamgymeriadau. Gwyddom fod Cwm Taf, er enghraifft, wedi dod yn destun mesurau arbennig yn ddiweddar, ac un o'r rhesymau am hynny oedd ei fod wedi ailadrodd llawer o'r camgymeriadau a wnaed yn Betsi Cadwaladr.

Mae'n rhaid i mi orffen. Fe ddywedaf hyn: rwy'n cytuno â'r Gweinidog ar un peth. Nid wyf yn credu bod angen ad-drefnu yng ngogledd Cymru. Credaf fod yr enw 'Betsi Cadwaladr' wedi cael ei lychwino, a chredaf y dylech feddwl am newid enw'r bwrdd iechyd er mwyn adfer ei enw da yn y byd. Ond chi yw'r person sydd wedi bod yn gyfrifol am yr oruchwyliaeth weinidogol hon ers pedair blynedd. Rydych chi wedi methu trawsnewid y sefyllfa, ac ymddengys bod y GIG yn llithro ymhellach i mewn i'r trefniadau ymyrryd hyn mewn pob math o ffyrdd eraill ledled Cymru. Credaf y dylech ysgwyddo cyfrifoldeb, derbyn y bai ac ymddiswyddo.  

16:45

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl Plaid Cymru: Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Caroline Jones, gwelliant 2 yn enw Darren Millar, a gwelliant 3 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru: refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd, a galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig. Delyth.

Cynnig NDM7059 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan ei gefnogaeth ddiamwys i refferendwm cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod opsiwn ar y papur pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n addo bod yn un fywiog. Mae'n fater y mae bron bawb yn teimlo'n gryf eu bod yn iawn yn ei gylch, ac mae cymaint yn y fantol. Mae'r cynnig ger ein bron yn galw ar y lle hwn i ddatgan ei gefnogaeth ddigamsyniol i refferendwm cadarnhau. Do, rydym wedi galw am eglurder diamwys heb ei gymylu gan amgylchiadau posibl, oherwydd dyn a ŵyr, mae polisïau'r prif bleidiau yn San Steffan wedi bod braidd yn ddryslyd yn ddiweddar, wedi'u glynu at ei gilydd â thâp i guddio'r rhaniad dwfn yn eu rhengoedd eu hunain ar y mater tra chynhennus hwn. Rydym yn croesawu newid polisi Llywodraeth Cymru i gefnogi ail refferendwm, beth bynnag a ddaw. Dyma'r unig ffordd o ddatglymu cwlwm Brexit.

Rwyf wedi crybwyll fod Brexit yn gynhennus; wrth gwrs ei fod. Mae'n anodd, ac rwy'n deall pam fod y mater yn llawn o drafferth i lawer o gynrychiolwyr etholedig. Ond mae'n hollbwysig ein bod yn meddwl ac yn gwneud yr hyn sydd orau i'n hetholwyr, yn hytrach na'r hyn sy'n wleidyddol gyfleus. Rwy'n cydnabod hefyd pam y pleidleisiodd miloedd o fy etholwyr o blaid gadael, oherwydd y cyfle ymddangosiadol i adfer rheolaeth. Roedd y slogan hwnnw'n canu clychau, ond roedd yn un sinigaidd—yn sinigaidd am nad oedd yn wir. Mae'r gwrthwyneb wedi digwydd mewn gwirionedd, gyda digwyddiadau'n chwyrlïo allan o reolaeth pawb—gan gynnwys San Steffan. Addawodd y mantra camarweiniol hwnnw ddewis arall yn lle'r sefyllfa druenus y mae gormod o fy etholwyr ynddi, ond ni fydd y cyfoeth a addawyd iddynt ar ochr bws byth yn eu cyrraedd; fe wyddom hynny.

Nid bai'r UE yw'r problemau y mae pobl yn eu hwynebu, deilliant o weithredoedd Llywodraeth San Steffan, esgeulustra tuag at gymunedau a adawyd ar ôl ar y naill law, a pholisïau sy'n fwriadol greulon yn targedu unigolion agored i niwed ar y llall. Canlyniad y toriadau, nid y cyfandir, yw'r caledi y mae pobl yn ei wynebu. Mae llawer o sylwebyddion a gefnogai Brexit hyd yn oed wedi hen roi'r gorau i honni y bydd cymunedau tlotaf y DU yn elwa o Brexit; mae'r cyfan yn ymwneud yn awr â sofraniaeth, neu i fod yn fwy manwl, y camargraff o sofraniaeth. Ond ym mha wedd y mae sofraniaeth yn golygu colli rheolaeth ar ein GIG, rhywbeth y mae Donald Trump wedi dweud yn glir y bydd yn rhaid iddo fod ar y bwrdd yn gyfnewid am gytundeb masnach?  

Rydym yn wynebu dyfodol lle gallai arweinydd nesaf y blaid Dorïaidd fod yn barod iawn i daflu ein heconomi—bywoliaeth fy etholwyr—o dan y bws gwaradwyddus hwnnw er mwyn bod yn Brif Weinidog. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw bod tuedd lechwraidd ac ysgeler ymysg mwy a mwy o gefnogwyr Brexit, gan gynnwys y mwyafrif o'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, i ddweud bod dim bargen nid yn unig yn dderbyniol, nid yn unig, yn dwyllodrus, fod pobl wedi pleidleisio o'i blaid yn 2016, er na wnaethant hynny, ond hefyd na fyddai dim bargen mor ddrwg â hynny mewn gwirionedd. Mae'n gas gennyf feddwl y byddai Aelodau yma neu yn San Steffan yn honni na fyddai dim bargen yn golygu unrhyw beth heblaw trychineb ac amddifadedd i rai o fy etholwyr. Nid gêm mo hon. Nid cystadleuaeth i weld pwy sy'n ildio gyntaf. Bydd yn effeithio ar fywydau pobl. Felly, byddwn yn cefnogi gwelliant Llafur, ac ni fydd yn syndod i neb na fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau eraill.  

Mae'r rheini a oedd o blaid gadael yr UE wedi cael un cyfle ar ôl y llall i wireddu'r canlyniad, ond pan ddaeth hi i'r pen, nid oedd ganddynt unrhyw beth i'w gynnig heblaw rhethreg wag, felly fe wnaethant ymddiswyddo yn lle hynny. Maent wedi cael eu cyfle ac maent wedi methu, gan ein gadael heb unrhyw ddewis ond ailedrych ar y penderfyniad gwreiddiol, ond y tro hwn gan wybod beth sydd yn y fantol, gan gynnwys ein GIG. Mae'n bell iawn o'r £350 miliwn yr wythnos a addawyd.

Lywydd, un o'r safbwyntiau 'newspeak' newydd mwyaf gofidus sy'n cael eu hailadrodd yn awr yw y byddai cael ail bleidlais yn annemocrataidd. Ni allaf ddirnad sut y gall unrhyw un honni bod rhoi pleidlais i'r bobl yn tanseilio democratiaeth. Mae'n groesddywediad. Gadewch i mi atgoffa Aelodau yn y Siambr hon: byddai ail bleidlais yn dal i roi dewis a bydd pobl yn rhydd i ymgyrchu dros y naill ochr neu'r llall.

Rwy'n dal i fod yn bryderus iawn ynghylch y modd y mae Brexit wedi gwenwyno dadleuon—gwleidyddion yn galw enwau, yn gweiddi ar eu heistedd, yn gwawdio. Rhennir cymdeithas hefyd ac ni fydd refferendwm ei hun yn ddigon i wella rhaniadau o'r fath. Rwy'n gwybod hynny. Bydd hynny'n galw am ymdrech fwy cynhwysol, trawsbleidiol ac ar draws y gymuned. Ond mae refferendwm yn gam angenrheidiol ar hyd y llwybr hwn, oherwydd mae pob senario arall sy'n ein hwynebu yn waeth.

Cyflawnodd canlyniad y refferendwm yn 2016 fuddugoliaeth gul i ymgyrch wallus, troseddol esgeulus o bosibl, a wnaeth addewidion na chânt byth mo'u gwireddu i'r bobl rwy'n eu cynrychioli. Yn waeth na hynny, roedd y bobl a wnaeth yr honiadau'n gwybod hyn. Nid oeddent yn malio, felly mae hi wedi dod i hyn. Mae'r Aelodau ar yr ochr arall i'r ddadl yn aml yn sôn am barchu democratiaeth. Wel, mae democratiaeth yn wastadol, nid moment benodol yw hi. Y peth mwyaf democrataidd yw rhoi llais terfynol i'r bobl; mae esgus fel arall yn gyfystyr â lluchio llwch i lygaid pawb.

Mae amser o hyd i gamu'n ôl o'r dibyn, i ddiogelu'r £245 miliwn y mae Cymru'n ei gael bob blwyddyn o fod yn yr UE, amser i amddiffyn ein diwydiannau, amser i ailgadarnhau hawliau gweithwyr, amser i ddilyn y llwybr sy'n cynnig y dyfodol gorau a disgleiriaf i Gymru a'n dinasyddion drwy ddewis aros yn yr UE. Nid yw'n rhy hwyr. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig ac i roi cyfle i bobl Cymru wneud y dewis hwnnw.  

16:50

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Ac os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Mark Reckless. 

Gwelliant 1—Caroline Jones

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

1. Yn cydnabod ei bod bron yn dair blynedd ers i bobl Cymru bleidleisio i adael yr UE ac nad ydym yn nes at gyflawni eu dymuniadau.

2. Yn gresynu fod Aelodau Seneddol o'r ddwy brif blaid wedi ceisio atal y DU rhag gadael yr UE, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwario £9miliwn ar daflen a oedd yn addo cadw at ganlyniadau'r refferendwm a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol a etholwyd yn 2017 yn sefyll ar sail y maniffestos a oedd yn addo cyflawni BREXIT.

3. Yn galw ar Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig i gyflawni dymuniadau'r bobl a gadael yr UE ddim hwyrach na 31 Hydref 2019.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n cynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Caroline Jones. Felly, rydym wedi clywed gan Delyth mai canlyniad y toriadau nid y cyfandir oedd y refferendwm. Tybed a allai hwnnw fod yn ddatganiad bachog y gellid ei ddyfynnu ar ôl y ddadl, oherwydd ei bod wedi edrych ar ei dail te a'i bod yn gwybod sut y pleidleisiodd pobl ein rhanbarth, pam y bu iddynt bleidleisio. Mae'n gweld i mewn i'w meddyliau ac mae'n gwybod yn well na hwy—[Torri ar draws.]—beth sydd o fudd iddynt.

Rwy'n dod o'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, ac roeddwn hefyd yn gweithio i Cyngor ar Bopeth pan gynhaliwyd y refferendwm, felly gallaf ddeall eithaf tipyn ynglŷn â pham y pleidleisiodd pobl dros adfer rheolaeth mewn gwirionedd.

Diolch i'r Aelod am ddweud hynny. O leiaf ni chefais fy ngalw'n ymwelydd ganddi. Y gwir amdani yw bod pobl wedi penderfynu. Pleidleisiasant mewn refferendwm. Pleidleisiasant 52 i 48 y cant ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ychydig yn fwy yng Nghymru, a llawer mwy yn ein rhanbarth ni. Ond mae hi'n credu mai hi sy'n gwybod orau. Mae hi eisiau eu hanwybyddu. Ac addawodd ei phlaid dderbyn canlyniad y refferendwm hwnnw, yn union fel yr addawodd Llafur ei dderbyn. Nawr, efallai fod Plaid wedi newid ei safbwynt ychydig yn gynharach ac ychydig yn fwy cadarn na Llafur, ond mae Llafur bellach wedi dal i fyny ac maent yn yr un lle eto fel sefydliad 'aros'.  

Nawr, yn ôl pan gawsom y Papur Gwyn ar y cyd y maent bob amser yn cyfeirio ato fel pe baent wedi bod â pholisi cyson—nid oedd yn dweud dim am refferendwm. Ceisiodd gyflwyno math o fersiwn o Brexit mewn enw'n unig, ond nid oedd yn dweud, 'Os na wnewch hyn, rhaid i ni wneud i chi bleidleisio eto.' Na, roeddent yn dal i honni eu bod yn derbyn canlyniad y refferendwm, fel y gwnaeth y Blaid Lafur o leiaf yn yr etholiad cyffredinol yn 2017. Fodd bynnag, y gwir amdani yw nad ydynt yn ei dderbyn. Maent yn meddwl eu bod—[Torri ar draws.] Na. Diolch. Maent yn meddwl eu bod yn gwybod yn well na'r bobl yr honnant eu bod yn eu cynrychioli, a dywedant yn awr y dylai fod yn refferendwm cadarnhau. Wrth gwrs, arferai fod yn 'ail refferendwm' ond mae'n debyg nad oedd hynny'n apelio llawer felly fe wnaethant ei alw'n 'bleidlais y bobl', ond roedd hynny mor amlwg yn chwerthinllyd nes eu bod bellach wedi symud ymlaen i 'refferendwm cadarnhau'. Mae'n swnio'n hawdd iawn, onid yw? Tebyg i, gadewch inni gadarnhau'r hyn a benderfynasom—dim mwy na hynny. Ond wrth gwrs, nid y bwriad yw cadarnhau'r refferendwm, y bwriad yw ei wrthdroi. A phan ddywed, 'O, bydd pobl yn gallu ymgyrchu—bydd yna ddewis'—a dweud y gwir, o edrych ar gynnig Plaid Cymru, mae'n ymddangos ei fod yn ddewis rhwng aros yn yr Undeb Ewropeaidd a pha gytundeb Brexit mewn enw'n unig bynnag a negodir i'w roi yn ei erbyn—yr hyn a ddisgrifiais ychydig flynyddoedd yn ôl wrth David Cameron fel 'refferendwm i mewn-i mewn'. Ond mae pobl Cymru, pobl y Deyrnas Unedig, wedi pleidleisio dros adael. Felly, dyna pam, yn ein gwelliant ni, ein bod yn dileu cynnig Plaid Cymru a'n bod yn cydnabod yn gyntaf ei bod hi'n dair blynedd ers i bobl Cymru bleidleisio. A phrin fu'r symud, os o gwbl, tuag at gyflawni'r canlyniadau. Ond wrth gwrs, dyna yw bwriad cynifer yn y Cynulliad hwn, yn union fel gyda chynifer yn San Steffan. Maent yn gobeithio, drwy chwarae am amser, gadael i amser fynd yn ei flaen, y gallant ddweud wedyn, 'O, digwyddodd hyn amser maith yn ôl; gallwn ei anwybyddu yn awr.' Dyna yw eu strategaeth.

Nawr, mewn refferendwm, lle gwariodd yr ochr 'aros' lawer iawn mwy na'r ochr 'gadael', gadewch inni beidio ag anghofio, dosbarthodd y Llywodraeth daflen, llyfryn—£9 miliwn; daeth ychydig yn ddiweddarach inni oherwydd ein hetholiadau i'r Cynulliad—a ddywedai y byddent yn gweithredu'r canlyniad: yr hyn rydych chi y bobl yn ei benderfynu, bydd y Llywodraeth yn gweithredu'r canlyniad. Ond y gwir yw nad yw'r Llywodraeth wedi gweithredu'r canlyniad. Nawr, efallai fod rhai Ceidwadwyr yn edifar am hynny; mae eraill wedi'i fwriadu. Ac rwy'n tybio y gallai'r Prif Weinidog presennol, sy'n gadael diolch byth, fod yn y categori hwnnw. Nawr, mae eraill yn cystadlu am y swydd honno—mae rhai ohonynt o leiaf yn dweud eu bod yn mynd i adael ar 31 Hydref. Mae eraill yn dweud na wnânt hynny; efallai y gwnânt erbyn diwedd 2020. Efallai na wnânt byth mo hynny. Felly, mae Boris Johnson yn dweud y bydd yn gadael ar 31 Hydref, gyda neu heb gytundeb, ond dywedodd Theresa May hynny 100 o weithiau a mwy. Dyna'r sefyllfa y pleidleisiodd 550 o Aelodau Seneddol drosti pan gyflwynasant erthygl 50, ac eto mae cynifer ohonynt bellach yn ceisio gwrthdroi'r canlyniad hwnnw.

Felly, galwn ar Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig i gyflawni dymuniadau'r bobl a gadael yr UE erbyn 31 Hydref 2019, a dim hwyrach na hynny. Hynny yw, er mwyn parchu democratiaeth, rhaid inni sicrhau yn ein gwlad fod y bobl sy'n parchu democratiaeth yn trechu'r rhai sy'n dymuno atal Brexit a gwadu democratiaeth.

16:55

Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu'r cyfan a rhoi  yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016.

2. Yn credu y dylid gweithredu ar ganlyniadau refferenda bob amser.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Rhaid imi ddweud, mae'n teimlo fel pe baem yn ailadrodd yr un peth unwaith eto fyth bob tro y codaf yma ar gyfer un o'r dadleuon hyn, oherwydd, unwaith eto, rydym yn trafod cynnig gan Blaid Cymru sy'n ceisio cael pleidlais arall er mwyn gwyrdroi canlyniad y gyntaf. Ond peidiwn ag anghofio bod 17.4 miliwn o bobl yn y DU, y mandad mwyaf ar gyfer unrhyw beth yn hanes gwleidyddol Prydain, wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd Sir Gaerfyrddin dros adael. Pleidleisiodd Ynys Môn dros adael. Pleidleisiodd Rhondda Cynon Taf dros adael. Gwn ei fod yn anghyfleustra i rai ohonoch ar y meinciau hynny, ond fe wnaethant bleidleisio dros adael. Ac eto, daw eu Haelodau Cynulliad Plaid Cymru i'r Siambr hon dro ar ôl tro gan chwilio am ffyrdd i danseilio democratiaeth a gwyrdroi ewyllys eu pleidleiswyr eu hunain, gan eu bod yn credu bod gwleidyddion yn gwybod yn well na'r bobl ac er gwaethaf y ffaith bod mwyafrif clir yn dymuno gadael, mae sefydliad gwleidyddol Cymru yn honni eu bod yn gwybod yn well ac am gadw Cymru yn yr UE.

Nawr, yr wythnos diwethaf, gwelsom Blaid Brexit yn ennill dwy o bedair sedd Cymru yn Senedd Ewrop, gan ennill mewn 19 o'r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru gyda 32.5 y cant o'r bleidlais dros eu safiad o blaid Brexit. A chredaf fod honno'n neges glir. Mae'n neges glir i bob un ohonom yn y Siambr hon—

—a phob un ohonom i fwrw ati i'w wneud. Ydw, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. Gallaf ddeall pam y byddech yn dod i gasgliad o'r canlyniadau yn y ffordd honno. Beth am adio'r pleidiau sy'n ddigamsyniol o blaid aros a dweud bod honno'n bleidlais ddiamwys o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd?

Deuaf at hynny yn awr. Peidiwn ag anghofio hyn: mae 32.5 y cant yn rhoi cyfreithlondeb mwy i Brexit na'r Llywodraeth hon, a etholwyd yn 2016 drwy ddim ond 31.5 y cant o'r bleidlais yng Nghymru. Ond fel y clywsom gennych chi a phobl eraill, mae'n debyg nad yw dod yn gyntaf mewn etholiad yn cyfrif llawer oherwydd, pan fyddwch yn adio pleidleisiau cyfun pawb a gollodd yr etholiadau hynny, mae gennych fwy o bleidleisiau. Nawr, ar y rhesymeg honno, gallech dynnu pob math o gasgliadau rhyfedd am bopeth. Felly, darllenais mai Mark Reckless oedd y person talaf yn y Siambr hon i gael ei ethol. Nawr, os yw hynny'n wir, wrth gwrs, nid ef yw'r talaf mewn gwirionedd os dilynwch eich rhesymeg chi, oherwydd os ydych chi'n adio pawb yng ngrŵp Plaid Cymru, rydych chi'n dalach nag ef. Hynny yw, mae honno'n rhesymeg hurt—

—ond dyna yw eich rhesymeg. Iawn, rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.

O ran yr adeg y cawsom ein hethol, rwy'n tybio bod yr Aelod o bosibl wedi anghofio am Nathan Gill.

17:00

Ie. Mae'n gyn-Aelod, wrth gwrs. Roeddwn yn sôn am Aelodau presennol.

Nawr, mae rhai—. Beth am ddilyn y rhesymeg eto: mae rhai Aelodau yn y Siambr hon yr hoffwn eu llongyfarch ar ddathlu 20 mlynedd o wasanaeth di-dor yn y Cynulliad Cenedlaethol, yr hwyaf o blith pawb ohonom yma, ond wrth gwrs, pan fyddwch yn adio gwasanaeth cyfun yr Aelodau Cynulliad eraill, mae'n hwy na'r rhai o'u blaenau. [Torri ar draws.] Dyma yw eich rhesymeg. Dyma yw eich rhesymeg. [Torri ar draws.] Iawn, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

Diolch yn fawr iawn. Yn gryno iawn: onid ydych yn meddwl eich bod yn gwneud dadl ddifrifol iawn yn gyff gwawd?

Rydych chi'n gwneud democratiaeth yn gyff gwawd. Rhoesom gyfle i bobl Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig ddweud eu barn. Dywedwyd wrthynt ei fod yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddweud eu barn ynglŷn ag a oeddent am aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe'u hysbyswyd yn glir gan yr ymgyrch o blaid aros—. Rhoddwyd pob math o 'ffeithiau' iddynt. Dywedwyd wrthynt y byddai'r farchnad stoc yn methu pe baent yn pleidleisio dros adael. Dywedwyd wrthynt y byddem yn mynd i mewn i ddirwasgiad ar unwaith, ac y byddai ein cyfradd ddiweithdra'n codi y tu hwnt i reolaeth. Ac eto mae'r economi'n dal i dyfu, mae diweithdra'n dal i ostwng, ac mae ein marchnad stoc yn dal i ddringo. Dyna'r realiti.

Nawr, gwyddom fod newid meddwl wedi bod. Gwyddom fod newid meddwl wedi bod. I fod yn deg â Phrif Weinidog Cymru, mae wedi edrych ar y canlyniadau hyn ac mae'n ceisio gosod rhywbeth at ei gilydd y cred y gall eu hachub rhag y gofid sydd ar fin eu hwynebu ar ffurf arweinyddiaeth Jeremy Corbyn drwy alw am ail refferendwm. Deallaf y gall fod rhywfaint o resymeg dros geisio osgoi cael Jeremy Corbyn i barhau i arwain eich plaid. Rwy'n deall hynny. Ond ni allwch honni eich bod yn parchu canlyniad y refferendwm mewn unrhyw ffordd os ydych yn berson sy'n argymell cynnal ail refferendwm sy'n ailgynnal y gyntaf, gydag 'aros' ar y papur pleidleisio, oherwydd dyna rydych yn ceisio'i wneud. Nawr, a bod yn deg, mae gennym hanes hir yn y wlad hon o barchu canlyniad refferenda, o'r gorau. Mae hynny'n wir. A bod yn deg â'r Democratiaid Rhyddfrydol, pan gollasant y refferendwm ar y bleidlais amgen, fe wnaethant barchu'r canlyniad hwnnw. Ni wnaethant alw am gynnal refferendwm arall. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod. A yw'n cofio bod gan ei blaid, am wyth mlynedd rhwng 1997 a 2005, bolisi o alw am ail refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru?

Nid wyf erioed wedi galw am ail refferendwm. [Torri ar draws.] Nid wyf erioed wedi galw am ail refferendwm, a'r gwir amdani yw—[Torri ar draws.] A'r gwir amdani yw bod refferendwm y Cynulliad Cenedlaethol hwn ynglŷn â'i sefydlu wedi'i roi ar waith, a hynny'n gwbl briodol, gan Lywodraeth y dydd. Ac wrth gwrs, roedd pawb ohonom yn derbyn—roeddem i gyd yn derbyn—canlyniad ein refferendwm ein hunain ar bwerau deddfu yn ôl yn 2011. Ni allwch alw am bleidlais arall am nad ydych yn hoffi'r canlyniad. Nawr, clywais arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf—nid yw yma heddiw—yn galw am sefydlu cynghrair i'r rhai sydd am aros yn yr UE. Os ydych am weithio gyda'ch gilydd i ymgyrchu dros aros, wrth gwrs, mae'n rhy hwyr, oherwydd nid oes refferendwm arall yn mynd i fod ar y mater hwn, gobeithio, nid yn fy oes i. A dyna pam rwy'n annog pawb sy'n parchu democratiaeth i wrthod y cynnig chwerthinllyd hwn gan Blaid Cymru a chefnogi ein gwelliant, sy'n ei gwneud yn glir y dylid rhoi canlyniadau refferenda ar waith bob amser pan fyddwn yn cyflwyno'r cwestiynau hyn i'r bobl.

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3, yn enw Rebecca Evans. 

Gwelliant 3—Rebecca Evans

Ar ôl 'barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd' rhoi 'ac yn dweud unwaith eto y byddai Brexit heb gytundeb yn ganlyniad trychinebus a chwbl annerbyniol.'

Cynigiwyd gwelliant 3.

Y broblem sydd gyda fi, wrth gwrs, yw dyw hi ddim yn glir o gwbl beth oedd Brexit yn ei feddwl, pa fath o Brexit oedd pobl yn gallu ei ddisgwyl ar ôl y refferendwm, ac felly roedd yna vacuum, onid oedd? Ac yn ystod yr ymgyrch—ac yn sicr ers hynny—mae pob Brexiteer wedi rhyw fath o brojecto eu fersiwn nhw o Brexit ar y papur pleidleisio oedd pobl yn ei farcio yn y blychau pleidleisio—pob math o Brexits gwahanol—a phawb, wrth gwrs, yn hawlio wedyn mai eu Brexit nhw enillodd y dydd yn y refferendwm. Roeddwn i'n meddwl y dydd o'r blaen—faint o wahanol Brexits ŷn ni wedi clywed amdanyn nhw? Mae yna Brexit meddal, mae yna Brexit caled, mae yna Brexit gyda chytundeb, mae yna Brexit—[Torri ar draws.]

Na, ni wnaf, oherwydd mae gennyf lawer i'w ddweud. Rhowch gynnig arall arni'n nes ymlaen, iawn? [Chwerthin.]

Brexit meddal, Brexit caled, Brexit â chytundeb, Brexit heb gytundeb, Brexit masnach rydd—mae yna protectionist Brexit—

—Brexit agored, Brexit senoffobig, opsiwn Canada, Norwy a mwy, opsiwn Ukrain, opsiwn y Swistir, opsiwn Twrci. Rwy'n deall bod yna Brexit Torïaidd yn rhywle. Mae yna Brexit y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd yn sicr. Mae yna Brexit Jeremy Corbyn, mae yna Brexit UKIP, mae yna Brexit Plaid Brexit, mae yna Brexit 'coch, gwyn a glas', mae'n debyg, ac mae yna Brexit 'Mae Brexit yn golygu Brexit'. [Chwerthin.] Ond mae'n fy atgoffa o'r hyn a ddywedodd Clinton, wyddoch chi—'Mae'r bobl wedi siarad; nid ydym yn siŵr beth a ddywedasant', a dyna fy mhroblem sylfaenol. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf. Parhewch, felly, i mi gael egwyl. 

17:05

Onid hyn, onid dyna'n union yw'r broblem gyda refferenda â chwestiynau syml?

Gwrandewch, ac rwyf am eich cyfeirio at refferendwm yr Alban ar annibyniaeth. Roedd Papur Gwyn 700 tudalen y tu ôl i'r papur pleidleisio hwnnw a oedd yn dweud wrth bobl beth yn union y gallent ei ddisgwyl pe baent yn pleidleisio dros annibyniaeth yn yr Alban. Y cwbl a gawsom gyda Brexit oedd slogan ar ochr bws, ac wrth gwrs, mae'r rhai a oedd yn gyfrifol am y slogan hwnnw'n cael eu galw i ymddangos gerbron llys yn awr i gyfiawnhau'r ffigur hwnnw.

Nawr, rwyf am gyfeirio—. O, mae gennyf ychydig o amser, felly nid oes raid i mi boeni eto. Rwyf am gyfeirio at rai o'r datganiadau a wnaethpwyd, a Darren—wyddoch chi, cyfeiriodd Darren at ddatganiadau amheus a wnaethpwyd. Wel, gallaf gyfeirio at rai eraill hefyd. A ydych chi'n cofio Daniel Hannan ASE? Mae'n dal i fod yn ASE rwy'n credu, onid yw? Mae'n un o'r ychydig rai sy'n dal i fod yn ASE Torïaidd.

Nid oes unrhyw un o gwbl yn sôn am fygwth ein lle yn y farchnad sengl,

meddai cyn y refferendwm. Nawr, mae pawb yn gwneud hynny—hynny yw, roedd yn gelwydd noeth. Liam Fox, wrth gwrs, ar y cytundeb masnach rydd bondigrybwyll—'yr hawsaf yn hanes y ddynoliaeth'. Ac os ydym am fyfyrio ar rywfaint o'r wleidyddiaeth 'chwiban y ci' a gawsom yn ystod ymgyrch y refferendwm honno, twristiaeth iechyd—a ydych chi'n cofio'r ffordd yr oedd pobl yn dweud wrthym fod pobl sy'n teithio i'r DU yn dod yn unswydd er mwyn elwa ar ein system iechyd hael? Celwydd llwyr, gan fod dinasyddion Prydain yn yr UE yn cael pum gwaith gwerth y driniaeth a roddwn i ddinasyddion yr UE yma. Ac wrth gwrs, rydym yn gwybod y byddai ein GIG a'r gwasanaethau gofal yn gamweithredol i bob pwrpas pe baem yn colli llawer o'r gweithwyr tramor sy'n dod i'r wlad hon i weithio drosom ni.

A chyfeiriodd Delyth at y mantra o 'adfer rheolaeth', ac rwy'n cytuno'n llwyr—do, fe wnaeth daro deuddeg i filiynau o bobl. Yn gwbl briodol, roeddent yn teimlo'n ddifreintiedig ac yn bryderus ynglŷn â'u dyfodol, ond nid y diffyg rheolaeth dros yr UE oedd dan sylw yno yn fy marn i, ond diffyg rheolaeth dros raglen o gyni yn San Steffan a osodwyd gan George Osborne a'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain. Felly, ceir pob math o Brexit a gwnaed addewidion amheus o bob math.

Ac rwyf am gyfeirio'n fyr at y sector amaethyddol yn benodol. Rydych yn gofyn yn awr i ffermwyr Cymru am y posibilrwydd o golli eu taliad sylfaenol—. Er mor ddiffygiol oedd y PAC efallai, ac er mor ddiffygiol ydyw, os gofynnwch iddynt ynglŷn â cholli'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd hwnnw tra bo gweddill Ewrop, a'r Alban a Gogledd Iwerddon yn eu cadw, fel y soniais ddoe, rwy'n siŵr y byddai ganddynt rywbeth i'w ddweud wrthych.

Heddiw ddiwethaf dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod DEFRA mewn perygl o gael eu cyllideb amaeth wedi'i thorri gan y Trysorlys os na all warantu y bydd llawer yn manteisio ar ei chynllun newydd i reoli tir er lles yr amgylchedd. Nawr, nid yw hynny'n digwydd mewn perthynas â'r PAC. Os nad ydych yn gwario eich holl arian, mae'n dal yno a gallwch ei wario yn nes ymlaen. Felly, pan ddaw ffeithiau newydd yn amlwg, pan fydd y realiti newydd yn dod yn glir, rwy'n meddwl bod gan bobl hawl i newid eu meddyliau a chredaf fod rhoi hyn yn ôl i'r bobl yn gwbl gyfiawn.

Dywedodd Aneurin Bevan

unwaith ein bod yn gwybod beth sy'n digwydd i bobl sy'n oedi ar ganol y ffordd. Cânt eu taro.

Yn anffodus i fy mhlaid i, dyna'n union a ddigwyddodd yn yr etholiadau Ewropeaidd ddydd Iau diwethaf. Roedd ein methiant i fod yn feiddgar ar fater pwysicaf ein cyfnod yn gadael y drws yn agored i gawdel o fanteiswyr, penboethiaid a thwyllwyr. Un peth a unai'r criw anfad hwnnw oedd y gallu i ddod at ei gilydd o gwmpas un neges ymgyrch yn yr ymdrech i sicrhau buddugoliaeth. Roedd yn wers wleidyddol greulon a ddywedai mai un peth yw bod yn gynnil wrth ddrafftio polisi, ond pan ddaw'n fater o ddrafftio hanes, rhaid inni fod yn feiddgar.

Bydd yr Aelodau yn y Siambr hon yn gwybod yn iawn beth yw fy marn ar fater Brexit; mae fy safbwynt yn onest ac yn gyson, yn seiliedig yn gyfan gwbl ar fuddiannau fy etholwyr. Ac er fy mod wedi fy siomi'n arw ei bod wedi cymryd y canlyniadau hynny i fy mhlaid newid ein dull o weithredu, nid oes gennyf ddiddordeb mewn dim bellach heblaw cydweithio ar gyfer y dyfodol, nid ailgynnau brwydrau a fu. Nid dyma'r amser i bwyntio bysedd; dyma'r amser i uno ac i frwydro ar ran ein cymunedau yng Nghymru. Mae hon yn foment o argyfwng cenedlaethol ac ni ddylai neb mewn Llywodraeth neu mewn gwrthblaid sy'n credu bod angen inni weithredu i'w wynebu fod yn meddwl am fantais plaid dros fudd cenedlaethol. Oherwydd y peth arall a ddangosodd yr etholiadau Ewropeaidd i ni yw nad oes mwyafrif dros Brexit yng Nghymru na'r DU bellach, ac yn anad dim, nid oes mandad o blaid 'dim bargen'.

Felly, rwy'n croesawu'n gynnes ymrwymiad y Prif Weinidog nid yn unig i frwydro dros ail refferendwm ond i sicrhau y byddwn yn ddiamwys yn ein cefnogaeth dros 'aros' yn yr ymgyrch honno. Nid oes etholiadau uniongyrchol inni boeni amdanynt yn awr, dim enillion gwleidyddol cul i'w cyfrifo, dim ond mynydd i'w ddringo. Yn union fel y gŵyr y rheini ohonoch yn y Siambr pa mor gryf yw fy safbwyntiau wedi bod dros y tair blynedd diwethaf, fe fyddwch yn gwybod hefyd, pan ddaw'n fater o egwyddor, fy mod i, fel cynifer ohonom yma, yn barod i weithio ar draws ffiniau pleidiol. I'r rhai ohonom sy'n credu'n angerddol fod yn rhaid inni fynd yn ôl at y wlad, i'r rhai ohonom sy'n gwybod pa mor niweidiol fydd Brexit i Gymru, mae'n bryd gadael ein lliwiau pleidiol wrth y drws a gweithio gyda'n gilydd ar ymgyrch dros 'lais terfynol'.

Yr wythnos hon dywedwyd bod sector gweithgynhyrchu'r DU wedi crebachu am y tro cyntaf ers mis Gorffennaf 2016, wrth i bentyrru cyflenwadau lacio cyn Brexit. Yn ôl yr ymchwil, roedd cwmnïau'n ei chael hi'n anodd darbwyllo cleientiaid i ymrwymo i gontractau newydd. Rydym eisoes wedi cael gormod o enghreifftiau o gwmnïau nad ydynt bellach yn barod i wynebu'r risg o'r hyn y gallai Brexit ei olygu iddynt hwy. Roedd busnesau'n dal i ddisgwyl i wleidyddion wneud y gorau o sefyllfa wael. Hyd yma, nid ydym ond wedi gwneud pethau'n waeth—rhaid i hynny newid. Ac fel pe bai angen rhagor o gliwiau arnom ynglŷn â'r hyn y gallai ein dyfodol ôl-Brexit fod, gwelsom hwy'n eglur iawn gydag ymweliad Arlywydd yr UDA yr wythnos hon. Fel y dywedodd Sadiq Khan, mae Donald Trump yma nid yn unig i ledaenu ei safbwyntiau atgas a thrydar geiriau sarhaus plentynnaidd, mae yma oherwydd ei fod am gael cytundeb masnach ôl-Brexit gyda Phrydain a fyddai'n ein gorfodi i gytuno i unrhyw beth y mae am ei gael. Byddai'n golygu trosglwyddo ein GIG annwyl i gwmnïau gofal iechyd preifat yr UDA a rhoi'r gorau i ddiogelwch bwyd—  

17:10

Mewn eiliad.

—a safonau lles anifeiliaid yn gyfnewid am gyw iâr wedi'i glorineiddio a chig eidion wedi'i chwistrellu â hormonau. Ac mae'n cefnogi Boris Johnson yn agored i gyflawni hyn ar ei ran.

Yn gyflym, Mark.

Tybed a sylwodd yr Aelod ar sylwadau'r Arlywydd heddiw nad oedd yn disgwyl i'r GIG fod yn rhan o unrhyw gytundeb masnach.

Fe wneuthum. Fe sylwais ar sylwadau'r Arlywydd heddiw, ond nid wyf yn ei gredu ac nid wyf yn meddwl bod unrhyw un arall yma yn ei gredu chwaith.

Nawr, nid wyf yn gyffyrddus ag unrhyw ran o'r hafaliad hwnnw, yn enwedig y rhan olaf. Yr unig beth a allai fod wedi gwneud y sefyllfa hon yn waeth yw ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol sy'n gynyddol ddod yn gystadleuaeth i fesur Brexit caled. Ni allai neb ond y Torïaid ddylunio proses o fesur pa mor wrol ydynt drwy chwalu bywoliaeth pobl eraill. Maent am droi eu plaid yn grŵp teyrnged i Nigel Farage, ond mae gennyf eiriau hefyd i'r Ceidwadwyr hynny sy'n arswydo rhag hyn, a gwn fod hynny'n cynnwys ACau sy'n eistedd yma heddiw—heb edrych arnoch chi, Nick Ramsay. [Chwerthin.]

Rwy'n falch nad sylwodd neb ar hynny. [Chwerthin.]

Mae'r wlad wedi cael digon ar gael ei dal yn wystl gan felodrama mewnol plaid ar Ewrop. Gwyddom na ellir gwireddu'r addewidion a wnaed am Brexit, gwyddom fod celwydd wedi'i ddweud wrth y cyhoedd, fod costau real i adael—i'n heconomi, i'n GIG ac i'n diogelwch—ac na fydd gorfodi Brexit yn rhoi sicrwydd ynglŷn â ble rydym yn mynd. P'un a ydych am aros yn yr UE neu adael, dim ond un ffordd sydd yna o ddatrys tagfa Brexit, sef parchu'r bobl a rhoi llais terfynol iddynt.

Wel, wrth gwrs, roeddwn i'n un o'r rhai fu'n ymgyrchu dros aros, ond pan wnaethom golli, fe dderbyniais y canlyniad. Roeddwn i, ar y pryd, yn gweithio i elusen gwaith ieuenctid a phrofais yn uniongyrchol ofid a dicter llawer iawn o bobl ifanc ynglŷn â'r canlyniad. Bryd hynny, buom yn gweithio gyda hwy, yn eu cynghori i dderbyn, ceisio ymdrin â'u trallod emosiynol a gweithio i ddylanwadu ar natur yr hyn y gallai Brexit ei olygu—er enghraifft, cadw lle'r DU yn y rhaglen Erasmus sydd wedi bod mor bwysig.

Nid yn aml iawn yn y lle hwn y byddaf yn cyfaddef fy naïfrwydd, Lywydd, ond rhaid i mi ddweud fy mod wedi credu bod yna gynllun. Nawr, o ystyried y bobl a oedd yn dadlau dros Brexit, dylwn fod wedi gwybod yn well, oherwydd yn amlwg nid oedd cynllun yn bodoli. Cymerais yn ganiataol y byddai'r bobl a oedd am i hyn ddigwydd yn gwybod beth oedd ei natur, ac mae fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd newydd ddweud wrthym am y nonsens Brexit amryliw a gawsom byth ers hynny. Felly, dderbyniais ganlyniad y refferendwm oherwydd fy mod yn credu, mewn egwyddor, mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud, ond roeddwn yn meddwl erbyn hyn—[Torri ar draws.] Ac os gwelwch yn dda, a gaf fi ddweud hyn? Rwy'n ddigon bodlon derbyn ymyriadau, ond rwy'n ei chael hi'n anodd siarad yn iawn pan fydd pobl yn gwneud sylwadau o'r llawr. Felly, os oes unrhyw Aelod sy'n anghytuno â mi neu'n wir yn cytuno â mi yn dymuno ymyrryd, rwy'n agored iawn i hynny, ond os gwelwch yn dda, dylem drin ein gilydd â pharch yn y lle hwn, felly gadewch inni wrando ar ein gilydd, hyd yn oed pan fyddwn yn anghytuno.

Felly, roeddwn yn barod i'w dderbyn, gan gymryd yn ganiataol y byddai rhyw fath o gynllun yn bodoli, y byddai pethau y gallem eu rhoi ar waith efallai i liniaru rhai o'r effeithiau gwaethaf, a thair blynedd yn ddiweddarach, mae popeth yn gwbl wahanol. Nid oes cynllun, neu mae ystod eang o wahanol gynlluniau, ac mae cyd-Aelodau eraill eisoes wedi tynnu sylw at rai o'r canlyniadau sydd wedi dod i'r amlwg.

Nawr, mae cyd-Aelodau yma wedi dweud nad ydym yn gwybod pam fod pobl wedi pleidleisio fel y gwnaethant. Wel, nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd. Cafwyd ymchwil academaidd helaeth a ymchwiliai i'r rheswm pam y pleidleisiodd pobl 'ie' a'r rheswm pam y pleidleisiodd pobl 'na', a gwyddom, fel y dywedodd cyd-Aelodau eraill, fod y neges rymus honno am adfer rheolaeth yn un a oedd, yn ddealladwy iawn, yn taro deuddeg gyda phobl weithiau mewn cymunedau a deimlai fod eu bywydau allan o reolaeth. Wrth gwrs, mae'r hyn a welsom ers hynny'n gwbl groes i unrhyw fath o reolaeth, gyda'r bobl sy'n dadlau dros Brexit yn methu dweud wrthym sut beth ddylai Brexit fod a heb baratoi, efallai, ar gyfer bod yn onest. Ac mae llawer o gyd-Aelodau, fel y dywedais, wedi tynnu sylw at y peryglon enfawr posibl a'r bygythiad presennol sydd wedi dod i'r amlwg eto yr wythnos hon i'n gwasanaeth iechyd—yr hyn a gynigiwyd fel y fargen euraid. Un yn unig o ddwsinau ar ddwsinau o enghreifftiau y gallem gyfeirio atynt yw'r cytundeb masnach gyda'r GIG.

Felly, gwyddom fod gan bobl resymau da dros bleidleisio fel y gwnaethant, a gwyddom hefyd, gan fod gwaith ymchwil helaeth yn mynd rhagddo, fod llawer ohonynt wedi newid eu meddyliau. Un grŵp o'r boblogaeth sydd heb newid ei feddwl yw pobl ifanc. Dair blynedd yn ôl, pleidleisiodd 71 y cant o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed dros aros a 29 y cant dros adael. Nawr, eu dyfodol hwy ydyw—ni fydd llawer ohonom ni yma i weld canlyniadau hirdymor Brexit 'dim bargen' yn enwedig, ond eu dyfodol hwy sydd yn y fantol.

Rwy'n credu heddiw o bob diwrnod ei bod hefyd yn bwysig iawn cofio'r grŵp arall o'r boblogaeth a bleidleisiodd yn unfrydol o blaid aros, sef ein cyd-ddinasyddion a oedd yn cofio'r ail ryfel byd, a gofiai ddechrau'r Gymuned Ewropeaidd—beth bynnag yw ei beiau, ac rwy'n sicr nad oes yr un ohonom yma'n credu bod y sefydliad fel y mae yn berffaith—ond fe safodd y genhedlaeth honno, cenhedlaeth ein rhieni a wyddai beth oedd rhyfel, gyda'r bobl ifanc a phleidleisio 70 y cant i 30 y cant yn fras dros aros. Nawr—

17:15

O ble ar y ddaear y daw hynny? Yn fras, yn y refferendwm, po hynaf oedd y bobl, y mwyaf oedd y gyfran o blaid 'gadael'. Mae'r syniad fod pobl a oedd yno yn y rhyfel wedi pleidleisio 70 y cant dros aros—beth ar y ddaear yw eich ffynhonnell ar gyfer yr honiad hwnnw?

Mae'n ymchwil academaidd sefydledig. Mae Mark Reckless yn hollol iawn i ddweud bod pobl dros 30—pobl rhwng 30 oed a 75 oed—wedi tueddu i bleidleisio dros adael. Fe wnaeth y grŵp oedrannus iawn hwnnw o bobl a oedd mewn gwirionedd wedi byw drwy'r rhyfel fel oedolion bleidleisio dros aros—

—ac rwy'n hapus iawn i anfon y ddolen academaidd ato.

Rwy'n cofio gweld un peth lle'r oedd y nifer a bleidleisiodd dros 'adael' yn mynd i fyny wrth i bobl fynd yn hŷn, ac ymhlith y rhai hynaf oll—ac roedd yn sampl bach iawn—roedd y bleidlais dros 'adael' ychydig bach yn llai na'r hyn ydoedd ymhlith y grŵp ychydig yn iau, ond roedd yn gryf iawn dros adael.

Nid yn y grŵp hwnnw oedd hyn, ac os yw'n dymuno—er nad yw'n aml yn dymuno cael gwybodaeth nad yw'n cytuno â'i safbwynt—rwy'n hapus i'w rhannu gydag ef.

Felly, mae'r Aelodau yma wedi siarad llawer am ddemocratiaeth ac maent yn berffaith iawn i wneud hynny wrth gwrs. Mae'r grŵp ymgyrchu For our Future's Sake yn amcangyfrif bod dros 92,000 o bobl ifanc wedi cyrraedd oed pleidleisio—wedi cyrraedd yr oedran lle mae ganddynt hawl i bleidleisio yma yng Nghymru, ac mae'n ffigur anfanwl oherwydd bod pobl yn symud i mewn ac allan. Yn fy marn i, mae gan y 92,000 o bobl ifanc hynny hawl i gael llais yn yr hyn sy'n digwydd nesaf.

Dylem anrhydeddu'r genhedlaeth nad oedd arni eisiau gweld perygl rhyfel arall, a dylem anrhydeddu'r genhedlaeth sydd am weld dyfodol yn rhan o'r teulu Ewropeaidd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.

Credaf fod hwn yn gwestiwn cwbl sylfaenol sy'n ein hwynebu fel gwlad ac fel cenedl ar hyn o bryd. Am ba resymau bynnag, a heb ddymuno mynd i mewn i'r ymgyrch ddiwethaf yn rhy ddwfn y prynhawn yma, mae'n amlwg nad yw'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny wedi adlewyrchu'r hyn a addawyd cyn y bleidlais honno. Yr un peth a fyddai'n uno llawer ohonom ar bob ochr i'r Siambr yn fy marn i yw bod y tair blynedd diwethaf wedi arddangos y wleidyddiaeth waethaf a welsom, mae'n debyg. Mae rhai o'r pethau y bûm yn dyst iddynt ar-lein ac mewn bywyd go iawn, os caf ddweud, wedi peri dychryn a gofid llwyr i mi. Rwy'n rhywun sy'n ddigon bodlon i gymryd rhan mewn dadleuon cadarn, yn y lle hwn ac mewn mannau eraill, ond mae natur ein gwleidyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud cam â'r bobl, y wlad, a'r dyfodol.

Mae'n amlwg i mi a'r hyn rwy'n ei ddeall o'r sefyllfa rydym ynddi heddiw yw bod ein gwleidyddiaeth wedi'i thagu'n llwyr, ac nid oes unrhyw arwydd y caiff hyn ei ddatrys. Mae'n annhebygol o newid o ganlyniad i'r ymgyrch etholiadol o fewn y Blaid Geidwadol. Mae'n annhebygol y caiff ei ddatrys drwy etholiad cyffredinol. Ni chredaf y dylem adael heb gytundeb. Byddai honno'n weithred eithriadol o aberth sy'n groes i natur yr hyn ydym, yn groes i'n hanes ac yn groes i'n diwylliant. Ni chredaf fod gennym ddewis arall ond ymestyn erthygl 50 i ganiatáu i refferendwm gael ei gynnal, i ganiatáu inni ddechrau'r broses o wella yn y wlad hon.  

Oherwydd pan edrychwn ar yr hyn sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yr hyn a welsom yw'r egwyddor o gydsyniad yn cael ei ddwyn oddi wrthym. Mae cydsyniad yn egwyddor bwysig mewn unrhyw ddemocratiaeth, ond ni all cydsyniad fod yn gydsyniad a orfodwyd neu'n gydsyniad sy'n seiliedig ar dwyll. Rhaid iddo gael ei roi'n rhydd a bod yn gydsyniad gwybodus. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwelsom y bobl a ariannodd, ac a oedd y tu ôl i'r ymgyrch dros 'adael' yn wynebu un ymchwiliad ar ôl y llall. Rhoddwyd dirwyon, a gwyddom am waith pobl fel Cambridge Analytica, sydd wedi defnyddio data budr mewn ffordd sydd y tu hwnt i'r cyfreithiau sydd gennym ar hyn o bryd a thu hwnt i'r rheolyddion sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae'r cydsyniad a roddwyd dair blynedd yn ôl gan bobl y wlad hon yn rhywbeth a gafodd ei gam-drin gan y bobl a geisiodd y cydsyniad hwnnw. Drwy wneud hynny, maent yn tanseilio nid yn unig y refferendwm y maent hwy eu hunain yn credu y dylid anrhydeddu ei ganlyniad, ond maent hefyd yn tanseilio ein democratiaeth a'n sefydliadau democrataidd.

Mae ein sefydliadau democrataidd wedi dioddef mwy o gamdriniaeth nag y gallaf ei gofio yn ystod fy oes, ac rwyf wedi byw drwy'r 1980au, a oedd yn gyfnod digon cyffrous pe baech yn fyfyriwr ifanc asgell chwith. Ond gadewch imi ddweud hyn: pan fydd Nigel Farage yn disgrifio Parliament Square fel 'tiriogaeth y gelyn', beth ar y ddaear—beth ar y ddaear y mae hynny'n ei ddweud am rywun sy'n mynnu gweld dychweliad ein sofraniaeth mewn democratiaeth seneddol? A phan fydd papurau newydd cenedlaethol yn gallu disgrifio ein barnwriaeth fel 'gelynion y bobl', beth y mae hynny'n ei ddweud am gydnabod a pharchu ein democratiaeth yn y wlad hon? Yr hyn y mae'n ei ddweud wrthym yw nad yw'r bobl hynny'n parchu ein democratiaeth. Nid ydynt yn malio am ein democratiaeth. Maent yn malio ynglŷn â thanseilio'r union sefydliadau sy'n cynnal ein gwareiddiad yn y gymdeithas hon. Mae'n ymgyrch wleidyddol i danseilio'r pethau sy'n bwysig inni.

Dechreuodd ymddatod, wrth gwrs, gyda'r Arlywydd Trump yn dweud y gwir—cyn i rywun ddweud wrtho am beidio—yn gynharach yr wythnos hon. Dros y blynyddoedd diwethaf, gallasom weld mai ewyllys y bobl yw peidio â symud ymlaen mewn ffordd a ddisgrifiwyd rai blynyddoedd yn ôl. Rwy'n gobeithio y gallwn ailosod ein gwleidyddiaeth ac y gallwn gynnal ein dadleuon cyhoeddus yn y wlad hon heb yr anoddefgarwch, y rhagfarn, a hyd yn oed y trais a'r bygythiadau o drais a welsom, yr arian amheus, yr ymyrraeth dramor. Mae'r ymgais i dorri ein democratiaeth a'n sefydliadau democrataidd yn rhywbeth sy'n rhaid inni i gyd sefyll gyda'n gilydd i sicrhau, gobeithio, y byddwn, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn gallu ennill dadl, nid dros refferendwm yn unig, a fydd, gobeithio, yn rhoi canlyniad y gallwn greu seiliau cadarn arno ar gyfer cymdeithas gyfiawn—cymdeithas sy'n gymdeithas oddefgar, cymdeithas yr oedd pobl yn ymladd dros ei gwarchod 75 mlynedd yn ôl.

A phan gofiwn am aberth y 1940au, gadewch i ni hefyd gofio beth wnaeth y Frenhines ein hatgoffa ohono'n gynharach yr wythnos hon: fod y 1940au wedi arwain at fwy o amlochroldeb, nid llai. Arweiniodd at greu sefydliadau Bretton Woods. Arweiniodd at greu'r Cenhedloedd Unedig. Arweiniodd yn y pen draw at greu'r Undeb Ewropeaidd. Arweiniodd at yr holl sefydliadau ar gyfer trefn ryngwladol sy'n ceisio cadw heddwch a chynyddu ffyniant a chyfiawnder i'r holl bobl hynny. Gadewch inni wneud mwy nag ennill pleidlais mewn ail refferendwm, gadewch inni ennill dadl o blaid math gwahanol iawn o gymdeithas yn y dyfodol. Diolch.

17:25

Agorodd Delyth Jewell ei haraith gyda'r geiriau fod gan bobl deimlad cryf eu bod yn iawn ar y pwnc hwn. Un o'r pethau y buaswn i'n ei ddweud yw, o'm safbwynt i, mae cwestiwn economaidd clir y gellir ei ateb a chwestiwn diogelwch yn codi mewn perthynas â'r Undeb Ewropeaidd—mai 'aros' sydd orau. Ond fe allech ddweud hefyd nad yw'r cwestiwn o bellter pŵer, a'r cwestiwn ynghylch diffyg democrataidd strwythurau'r Undeb Ewropeaidd, wedi eu hateb, ac felly gallwch ddweud bod—. Ni allwch ddweud bod pawb sy'n dadlau o blaid 'gadael' yn bendant yn anghywir. Rwy'n meddwl mai'r cwestiwn yw i ba raddau rydych chi'n cydbwyso'r achos economaidd a'r achos dros ddiogelwch yn erbyn yr achos ynghylch diffyg democrataidd a phellter pŵer.

I egluro hynny, dywedais fy mod yn credu bod pawb bron yn credu eu bod yn iawn ar y mater hwn, oherwydd ei fod yn rhywbeth y maent yn teimlo mor gryf yn ei gylch. Nid wyf o reidrwydd yn gwneud sylw ar hynny.

O'r gorau. Nid oeddwn yn awgrymu eich bod, ac rwy'n credu fy mod yn iawn am hynny.

Ond y peth yw, ar y cyfan, nid wyf mor sicr â fy nghyd-Aelodau. Ar y cyfan, rwy'n credu mai 'aros' yw'r cam gweithredu iawn ar gyfer y wlad hon, ac rwyf wedi meddwl hynny erioed, ond y broblem yma, yn fy marn i, yw'r cwestiwn o sut y gwnawn ein democratiaeth—sut y mae ein democratiaeth yn gweithio. Pan fydd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn galw am bleidlais, mae'n gweiddi'r gair 'division'—yn uchel iawn—ac mae Tŷ'r Cyffredin yn rhannu. Holl bwynt Tŷ'r Cyffredin yw ei fod yn rhannu. Pan fyddwn yn cynnal pleidlais yma, rydym yn rhannu. A dyna yw diben cael pleidlais. Ond y rheswm pam ein bod yn rhannu yw fel nad oes rhaid i'r wlad wneud hynny, ac os yw pobl yn ddig gyda ni am y dewisiadau a wnawn pan fyddwn yn rhannu, cânt gyfle wedyn i'n cosbi am hynny adeg etholiad pan allant bleidleisio dros rywun a oedd yn rhannu yn y ffordd y dymunent iddynt ei wneud.

Y broblem gyda'r refferendwm yw ei fod yn rhoi'r cyfrifoldeb am y rhaniad hwnnw i bobl y wlad, ac ar ôl i'r rhaniad hwnnw ddigwydd, mae'n anhygoel o anodd dod â'r wlad yn ôl at ei gilydd wedyn. Yn dilyn etholiad, bydd gan y rhai sydd ar yr ochr sy'n colli lais o hyd yn y Senedd y cawsant eu hethol iddi. Felly, yn dilyn etholiad, os ydych wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr, fel y bydd Darren Millar yn ei wneud y tro nesaf—pan fydd yn colli bydd yn gwybod y bydd ganddo lais yn San Steffan a bydd yn parhau—wel, gobeithio neu gobeithio ddim—i gynrychioli ei etholwyr yn y Siambr hon. Bydd gan bobl lais o hyd. Ac nid oes neb yn dweud yn ystod dadl, 'Eisteddwch; fe wnaethoch chi golli'. Clywais Mark Reckless yn gweiddi hynny ar draws y Siambr at Alun Davies: 'Eisteddwch; fe wnaethoch chi golli', gan gyfeirio at y refferendwm. Ac mae Alun Davies yn gweiddi'r geiriau sarhaus y mae'n dewis eu defnyddio yn ôl. Ond y gwir yw—[Torri ar draws.] Rwy'n eich amddiffyn chi nawr. Ond y gwir yw—[Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad gan y naill na'r llall ohonoch. Gall y ddau ohonoch eistedd a gwrando arnaf. Ond y ffaith yw bod y refferendwm yn mynd â hyn allan i'r wlad ac yna'n galluogi gwleidyddion i ddweud wrth wleidyddion eraill sy'n cael eu hethol yn ddemocrataidd i fod yn dawel.

Y broblem arall gyda refferendwm yw ei fod yn symleiddio dewisiadau. Mae'n symleiddio dewisiadau i'r pwynt o fod yn hurt—'ie' neu 'na'. Mewn bywyd go iawn, mewn gwleidyddiaeth go iawn, mae pob dewis a wnawn yn effeithio ar rywun arall. Mae pob penderfyniad unigol a wnawn yn y Siambr hon yn creu canlyniad i rywun arall. Nid ydym yn bod yn onest wrth bobl os dywedwn wrthynt, 'Pan bleidleisiwch mewn refferendwm, bydd eich dewis yn cael ei anrhydeddu a dyna fydd diwedd y mater, a bydd popeth yn iawn'. Nid yw mecanwaith refferendwm yn caniatáu hynny. [Torri ar draws.]

Os caf amser ychwanegol gan y Llywydd, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Mae gennyf lawer o gydymdeimlad mewn gwirionedd â'ch pwynt ynglŷn â refferenda'n gyffredinol. Mae'n anodd iawn rhoi materion cymhleth yn y ffordd honno. Ond yn y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd, nid yw'r Senedd yn gallu datrys hyn. Mae'r Senedd wedi cael tair blynedd i geisio'i ddatrys, ac oherwydd y bylchau mawr rhwng y rhai sydd o blaid aros a'r rhai sydd o blaid gadael yn y Blaid Geidwadol, a'r rhai sydd o blaid aros ac o blaid gadael yn eich plaid eich hun yn San Steffan, ni allwn ddefnyddio etholiad cyffredinol, sef y ffordd amlwg i ddatrys hyn, felly nid oes unrhyw ddewis, oes yna?

Nid wyf yn credu bod Plaid Cymru yn llawn o bobl sydd o blaid aros, chwaith. Ydw, rwy'n cytuno. Y rheswm pam rwy'n fodlon cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ar ôl llawer o feddwl, yw oherwydd y pwynt hwnnw. Rydym mewn cyfyngder. Ar hyn o bryd yr unig opsiwn arall yn lle ail bleidlais fyddai dim bargen, rwy'n credu, a dyna pam rwy'n dweud bod angen i ni gefnogi hyn, mae'n debyg.

Gyda llaw, un peth y buaswn yn ei ddweud am Gareth Bennett—mae Neil Hamilton wedi mynd ac nid yw Gareth Bennett yma—mae'n addo, yn ei gais am arweinyddiaeth UKIP, y bydd yn cael refferendwm ym mhob tymor seneddol. Duw a'n gwaredo os cawn ein hunain yn y sefyllfa honno. Beth sy'n mynd i fod nesaf? Y gosb eithaf? Efallai y cawn refferendwm ar hynny. Dyna ddewis syml i chi—nid oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yno. Credaf mai'r broblem yw bod ein democratiaeth wedi torri. Nid wyf wedi bod yn gryf o blaid cynrychiolaeth gyfrannol yn y gorffennol ac rwy'n edifar am hynny, oherwydd rwy'n credu mai'r unig ffordd y gallwn gamu ymlaen yn y dyfodol a'n galluogi i beidio â bod angen refferenda yn y dyfodol yw drwy gael system bleidleisio gyfrannol briodol yn San Steffan ac yn y Siambr hon, felly, ni fydd angen refferenda arnom wedyn. Nawr, mae pobl ym Mhlaid Cymru yn cytuno. Buaswn yn dweud hefyd, os cewch chi hynny, ac os gallwch gael mwy na 50 y cant o'r bleidlais drwy system gyfrannol, gallwch gyflwyno eich polisi craidd a gofyn am i hynny gael ei gyflwyno. Felly, beth am edrych ar annibyniaeth i Gymru. Ni fydd arnom angen refferendwm ar annibyniaeth Cymru os gallwch gael 50 y cant o'r Siambr i'w gefnogi, ac yna ei gyflwyno mewn etholiad Cynulliad arall neu mewn etholiadau Seneddol Cymreig. Ni fydd angen refferendwm byth eto, a dywedodd Llyr—

17:30

Mae fy amser wedi dod i ben ac mae'n debyg nad wyf am fynd ar drywydd yr ysgyfarnog honno yn awr. Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw nad yw ein democratiaeth yn gweithio. Yr unig ffordd drwyddi yn awr, yn anfoddog, yw drwy refferendwm. Ond mae angen i ni edrych ar hyn. Mae angen inni feddwl sut y gallwn drwsio ein democratiaeth. Mae yna ffordd ymlaen, a'r ffordd honno ymlaen yw diwygio ein system etholiadol.

Rwy'n gyndyn braidd i ddilyn y person olaf i siarad oherwydd fe ddywedodd gymaint o bethau da a phethau cywir cyn i mi sefyll ar fy nhraed hyd yn oed. Ac rwy'n eich llongyfarch ar y ffordd y gwnaethoch gyflwyno hynny, Hefin.

Felly, roedd y refferendwm ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn 2016, i roi ei enw cywir iddo, yn gofyn i bobl y Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon a oeddent am adael neu aros yn yr UE. Credaf y dylem gofio na ofynnwyd erioed i bobl y DU a oeddent am fod yn aelodau o Undeb Ewropeaidd. Yr hyn a ofynnwyd inni oedd a oeddem am ymuno â marchnad gyffredin. Ac os oedd yna gelwyddau ar ochr bws, fel y dywedwch, efallai fod hyd yn oed hynny, os mai celwydd ydoedd, yn pylu'n ddim wrth feddwl am y celwyddau a aeth â ni i mewn i Ewrop. Dywedwyd wrthym na fyddem byth yn colli sofraniaeth; na fyddem yn colli goruchafiaeth ein llysoedd Prydeinig; na fyddai gofyn inni byth fynd yn rhan o drefn arian sengl; na fyddem yn colli ein parthau pysgota. Gallwn fynd ymlaen â llawer iawn mwy o'r celwyddau a ddywedwyd wrthym i fynd â ni i mewn i'r Undeb Ewropeaidd.

Er bod y refferendwm yn ddi-rym yn gyfreithiol, addawodd y Llywodraeth ar y pryd weithredu'r canlyniad. Roedd y ffiasgo a ddilynodd yn dangos nad yw geiriau ein gwleidyddion o unrhyw werth gwirioneddol. Caiff y rhai sydd o blaid Brexit eu beio am y rhaniad sy'n amlwg yn bodoli bellach ymhlith poblogaeth y DU, ond y ffaith nad yw'r rhai a oedd o blaid aros yn derbyn y refferendwm democrataidd sydd wedi achosi'r rhaniad, ac mae'n sicr mai rhethreg y rhai sydd o blaid aros sy'n gwenwyno'r ddadl fel y gwelsom yn ddiweddar pan rannodd arweinydd Plaid Cymru a ddisodlwyd neges ar y we a oedd yn cymharu'r rhai a gefnogai Brexit â Natsïaid. Wrth gwrs, nid yw'n cyfeirio at Blaid Brexit yn y neges, ond at yr holl bobl—

—a bleidleisiodd dros Brexit. Na, rwyf wedi clywed digon o'ch rhethreg.

Fe ddywedoch chi gelwydd. Rydych chi'n dweud celwydd amdanaf fi. [Anghlywadwy.]

Rwyf wedi clywed digon o'ch rhethreg wenwynig heddiw, diolch.

Mae'r Aelod wedi dweud celwydd am yr hyn a ddywedais. Fe wnaeth y Daily Mail bennawd ffug am yr hyn a ddywedais—

Efallai eich bod yn dewis credu'r hyn a ddarllenwch yn y Daily Mail

Ar bwynt o drefn, mae'r Aelod newydd ddweud ei fod yn dweud celwydd. Mae hynny'n groes i'r drefn.

Fe wnaeth yr AC dros y Rhondda ailbostio rhywbeth ar dudalen Facebook a dyna rwy'n ei ddweud. Roedd hwnnw'n dweud bod pobl sydd o blaid Brexit—. Mae'r post hwnnw'n cymharu rhai sydd o blaid Brexit â Natsïaid.

Wrth gwrs, nid yw'n cyfeirio at Blaid Brexit—[Torri ar draws.]

O'r gorau. Mae'r pwyntiau wedi cael eu gwneud ac awgrymaf eich bod yn symud ymlaen. Mae'r pwyntiau wedi cael eu gwneud.

Ni allwch ganiatáu iddo ddal ati i ddweud celwydd.

Rydych wedi gwneud eich pwynt. Rydych wedi gwneud eich pwynt, Leanne Wood. Parhewch â'ch cyfraniad a symud ymlaen o'r pwynt hwn.

17:35

Peidiwch â gweiddi arnaf fi. Chi yw arweinydd eich grŵp, Mark Reckless, nid wyf yn disgwyl i chi ddal ati i weiddi arnaf fi a chodi ar eich traed. Ni chewch eich galw. Rydych yn tarfu ar eich Aelod eich hun rhag parhau â'i gyfraniad i'r ddadl hon. David Rowlands.

Nid oedd y neges yn cyfeirio at Blaid Brexit, ond at yr holl bobl a bleidleisiodd dros Brexit, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys y 30 a mwy y cant a bleidleisiodd dros Brexit yn ei hetholaeth ei hun yn y Rhondda.

Felly nawr, mae dinasyddion gweithgar, ufudd i gyfraith y wlad hon sy'n anghytuno â safbwynt aros yn Ewrop yn cael eu cysylltu â chyfundrefn a lofruddiodd filiynau o bobl.

Felly, gan symud ymlaen, mae'n anodd deall—

Diolch i chi, David. Roeddech ym Merthyr Tudful yn ddiweddar gyda Nigel Farage a Mark Reckless, ac roeddech mewn rali yn Trago Mills, lle roedd Mark Reckless yn rhannu llwyfan gyda Nigel Farage a rhestrodd Aelodau Cynulliad ac ASau Llafur yr honnai eu bod dros aros ac o ganlyniad i hynny, cafodd yr ACau a'r ASau Llafur hynny eu cam-drin yn eiriol ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymosodwyd ar swyddfeydd dau ohonynt—a minnau'n un—o ganlyniad uniongyrchol i'r hyn a ddywedoch chi a Mark Reckless yn rali Farage ym Merthyr Tudful.

A gaf fi ddweud, pan agorais swyddfa ym Merthyr Tudful, fod yr holl arwyddion wedi'u chwalu, cefais fygythiadau y câi ei llosgi i'r llawr, cefais y cloeon ar fy swyddfeydd wedi'u llenwi â glud a chefais fy ngham-drin yn eiriol ac yn gorfforol gan grŵp o bobl adain chwith y tu allan i fy swyddfa? Felly, os dywedwch eich bod wedi cael y gamdriniaeth honno, rwyf wedi cael llawer mwy gan adain chwith ffasgaidd eich plaid.

Mae'n anodd—

Os caf ddychwelyd, efallai, at y ddadl ei hun, sy'n ymwneud â refferendwm—nid yw'n ymwneud ag aros na gadael heddiw. Rwyf wedi cael digon o safbwyntiau ar y mater hwnnw; nid wyf yn bwriadu eu hailadrodd. Yr hyn y gallaf ei ddweud, serch hynny, yw bod Darren Millar yn gynharach yn y Siambr hon wedi tynnu sylw'n gwbl briodol at y ffaith y bydd hi'n 75 mlynedd ers D-day yfory, pan unodd 12 o wledydd i drechu Natsïaeth a ffasgaeth. Rwy'n credu na fyddai'r hyn y byddant wedi ei weld heddiw, a'r hyn y byddant yn ei weld o'n gwleidyddiaeth yn gyffredinol ar draws Prydain, wedi eu plesio. Nid dyma y brwydrasant drosto. Mae dyletswydd ar bob un ohonom yn y Siambr hon i feddwl yn ofalus ynglŷn â ble rydym yn mynd nesaf fel cymdeithas.

Yr hyn y gallwn gytuno yn ei gylch yw fod pobl wedi pleidleisio yn 2016 dros adael yr UE. Mae hynny'n glir. Rydym yn gwybod hynny. Gallwn weld hynny o'r canlyniad. Ond fel y dywedodd Llyr Gruffydd, y broblem oedd nad oedd cynllun, na dogfen, nac arweiniad. Pan gawsom ein refferenda yn 1997 a 2011, pe bai pobl yn dymuno gwneud hynny, gallent edrych ar ddogfen a fyddai'n dweud wrthynt beth yn union a fyddai'n digwydd, a dyna lle mae'r broblem.

Clywais y ddadl a gyflwynwyd gan Llyr Gruffydd, ac mae'n hollol iawn, ceir pob math o wahanol ffurfiau ar Brexit, ond un peth y mae'r bobl wedi ei wrthod yw aros yn yr UE. Roedd hynny ar y papur pleidleisio ac fe'i gwrthodwyd. Pam rydych chi am roi aros ar bapur pleidleisio eto mewn refferendwm yn y dyfodol?

Oherwydd bod yr amgylchiadau wedi newid, a byddaf yn datblygu'r ddadl honno mewn munud, os caf.  

Gall Mark Reckless sefyll yn y Siambr hon a gall ddadlau mai pleidlais dros adael o dan unrhyw amgylchiadau oedd hi. Gall gyflwyno achos dros hynny ar sail y canlyniad yn 2016, er na ddadleuodd neb hynny yn 2016, ond gall ddefnyddio'r dystiolaeth honno i gyflwyno achos. Yn yr un modd, rwyf o'r farn mai pleidlais dros adael yr UE ydoedd, ond nid oedd ganddi ddim i'w ddweud ar y farchnad sengl a'r undeb tollau nad yw'r naill na'r llall yn galw am fod yn aelod o'r UE, ac nid oedd yn bleidlais i adael yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ac Euratom chwaith yn fy marn i. Gallaf gyflwyno achos dros hynny. Gadael yr UE a dim byd arall oedd hyn. Ni allwn ein dau fod yn iawn.  

Gwyddom fod pobl wedi cael cynnig Brexit eithaf caled yn 2017 a'u bod wedi gwrthod ei gefnogi. Gwelsom yr hyn a wnaeth Theresa May. Gwelsom y penawdau yn y papur a oedd yn dweud y byddai hyn yn ymgais i drechu'r sabotwyr, sydd i bob golwg yn dal heb eu trechu. Bythefnos yn ôl, gwyddom fod 32 y cant o bobl wedi cefnogi plaid a oedd yn ddiamwys, a bod yn deg, ynglŷn ag ymrwymo i gytundeb sefydliad masnach y byd. Nid yw hynny'n fwyafrif o blaid gadael yr UE heb gytundeb. Nid democratiaeth mo hynny. Nid yw'r rhifau'n ddigon.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi clywed hyn gynifer o weithiau am 'y sefydliad'. Wel, gadewch imi ddweud wrth y rhai sy'n honni fy mod i ac eraill yn rhan o'r sefydliad, fy mod i'n ŵyr, yn or-ŵyr ac yn nai i lowyr. Fi yw'r arweinydd Llywodraeth cyntaf yn y DU i ddod o ysgol gyfun. Nid euthum i Eton, nid euthum i ysgol breifat ac ni wneuthum erioed gamblo ar brisiau metel yn y ddinas. Roedd gennyf swydd go iawn, ac yna deuthum i'r lle hwn a pharhau gyda'r profiad a gefais fel cyfreithiwr.

Y gyfatebiaeth a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio Brexit yw ymyl clogwyn. Wel, dywedwyd wrth bobl y gallent neidio oddi ar ymyl clogwyn, ond y byddai barcud hedfan yno i'w helpu, ac y byddai'n codi'n uchel i'r awyr—dim byd i'w ofni. 'Peidiwch â phoeni', dywedwyd wrthynt, 'bydd yr UE yn gwneud yn siŵr fod y barcud hedfan yno ac os na fydd, bydd gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn gwneud yn siŵr fod y barcud hedfan yno.' Ond erbyn hyn mae'r bobl wedi dod i ymyl y clogwyn ac nid oes barcud hedfan yno. 'Peidiwch â phoeni', dywedir wrthynt, 'gallwch neidio i ffwrdd, bydd yn iawn, peidiwch â chredu'r bobl sy'n dweud wrthych y bydd disgyrchiant yn peri i chi blymio—rhan o brosiect ofn yw hynny. A pheidiwch â phoeni beth bynnag, oherwydd bydd yr UDA yn dod â pharasiwt, efallai pan fyddwch wrthi'n disgyn, ond dim ond os rhowch eich crys iddynt.'  

Mae'n bryd datrys hyn unwaith ac am byth; tair blynedd o ddadlau di-ddiwedd. Mae Prydain yn gyff gwawd. Nid yr UE a ddisgynnodd yn ddarnau oherwydd Brexit; Prydain sy'n gwneud hynny. Mae'r Llywodraeth yn Llundain wedi ei pharlysu. Nid oes dim yn digwydd yno. Ni chymerodd neb sylw o gwbl o'r hyn a ddigwyddodd gyda Dur Prydain; mae'r cyfan yn ymwneud â Brexit, mae'n eu llyncu'n llwyr. Mae swyddi'n cael eu colli. Does bosibl nad yw pobl Prydain yn haeddu ystyried a ydynt am neidio gyda neu heb y barcud hedfan, neu a ddylent neidio o gwbl.  

I mi, mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni ystyried refferendwm arall. A gadewch i ni beidio ag esgus pe bai'r canlyniad wedi mynd y ffordd arall na fyddai Nigel Farage dros y tair blynedd diwethaf wedi bod yn swnian am ail refferendwm am fod y gyntaf mor agos. Roedd tudalen flaen un o'r papurau newydd yn Llundain yn barod ar gyfer pleidlais o blaid aros, gyda'r pennawd yn awgrymu bod pleidleisiau wedi'u rhwbio allan ar bapurau pleidleisio. The Sun oedd hwnnw, ac yna, wrth gwrs, newidiodd popeth. Felly, peidiwn â thwyllo ein hunain y byddai'r cyfan rywsut wedi'i ddatrys yn 2016 pe bai wedi bod yn bleidlais dros aros.

Felly, sut ar wyneb y ddaear y gallwn ei ddatrys? Wel, i mi, mae'n fater o gynnal refferendwm dau gwestiwn. Cwestiwn un: yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol, a ddylem aros neu adael? Mae'n gwestiwn teg. Cwestiwn dau: gadael gyda chytundeb neu heb gytundeb? Wedi'i ddatrys. Rydych yn gofyn y ddau gwestiwn, fe gewch ateb y naill ffordd neu'r llall. Os bydd pobl yn pleidleisio dros adael heb gytundeb, wel, mae llawer ohonom yn y Siambr na fyddem yn cytuno â hynny, ond mae'r penderfyniad wedi'i wneud, ni ellir dadlau yn ei gylch. Dyna fe. Nid oes cwestiwn yn ei gylch. A bydd hynny'n rhoi eglurder inni. Ni allwch herwgipio pleidlais 2016 a rhoi'r dehongliad mwyaf eithafol posibl iddi, yn enwedig o ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn 2017 ac wrth gwrs, yr hyn a ddigwyddodd bythefnos yn ôl pan nad oedd dwy ran o dair o'r rhai a bleidleisiodd yn cefnogi cytundeb Sefydliad Masnach y Byd.

Gwyddom y bydd refferendwm o'r fath yn rhoi eglurder inni. Roedd dau gwestiwn yn refferendwm yr Alban yn 1997, ond ceir marc cwestiwn difrifol—rwy'n dirwyn i ben, Lywydd—nid yn unig am les economaidd y DU, ond ynglŷn ag a fydd y DU ei hun yn dal i fodoli. Byddai'n sicr yn eithafol o eironig pe bai'r rheini sy'n dymuno i'r DU adael heb gytundeb yn dod yn benseiri tranc y DU ei hun. Mae ein gwleidyddiaeth wedi'i gwenwyno. Mae ein cymdeithas yn rhanedig. Mae angen inni ddatrys hyn. Roedd gan y bobl lais yn 2016. Maent yn haeddu llais yn awr. O ran synnwyr a rhesymeg, mewn democratiaeth, mae'r bobl yn haeddu'r gair olaf.

17:40

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles. 

Llywydd, mae tair blynedd wedi pasio nawr ers canlyniad y refferendwm, ac mae'n ymddangos ein bod ni'n bellach nag erioed rhag dod i unrhyw fath o benderfyniadau. Mae'r etholiadau Ewropeaidd yn dangos yn glir bod ein gwlad mor rhanedig ag erioed ar fater allweddol ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Senedd yn San Steffan yn methu'n lân â chytuno, a nawr fe fyddwn ni'n gwastraffu mwy fyth o amser gwerthfawr wrth i'r Torïaid fynd ati i gynnal ymgyrch i gael arweinydd newydd. Rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru am y cyfle, drwy'r cynnig hwn, i drafod y ffordd ymlaen, gan fod y dirwedd wleidyddol wedi newid nawr yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig y bydd hi'n camu o'r neilltu.

Gŵyr y Siambr hon, wrth gwrs, nad canlyniad y refferendwm yn 2016 oedd yr hyn yr oeddem am ei weld. Ond rydym wedi bod yn gyson wrth geisio dod o hyd i ffordd o gyflawni'r canlyniad hwnnw a gwneud y gorau dros Gymru yn y broses. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, roeddem yn cydnabod y rhaniadau dwfn ac yn ceisio adeiladu consensws, ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, roeddem yn cydnabod hefyd o'r dechrau na fyddai unrhyw fath o Brexit yn ddi-boen neu y byddai'n diogelu holl fuddion economaidd aelodaeth o'r UE.  

Yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'—yn wahanol i'r Ceidwadwyr, yn wahanol i gefnogwyr Brexit—fe wnaethom sefydlu ffordd o sicrhau na fyddai gadael yr UE yn tanseilio diogelwch swyddi pobl ac economi Cymru mewn modd eithafol, gan geisio cyflawni canlyniad y refferendwm ar yr un pryd. Ac mae 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn dangos ein bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd, yn hytrach na dim ond adleisio ymagwedd ein cymheiriaid Llafur yn y Senedd o bosibl. Ac roedd y Papur Gwyn hwnnw, a gyhoeddwyd bron ddwy flynedd a hanner yn ôl, yn lasbrint manwl ar gyfer y ffordd ymlaen. Aeth ymhellach o lawer na'n cymheiriaid yn y Senedd i egluro'r cyfaddawdu a fyddai'n angenrheidiol, ac nid oes dim yn rhyfedd yn hynny, gan ein bod yn blaid mewn Llywodraeth yma nid gwrthblaid, a Llywodraeth sy'n rhoi blaenoriaeth i fuddiannau pobl Cymru.  

Nawr, unwaith eto, rydym yn diffinio ein ffordd ymlaen ein hunain drwy ei gwneud yn glir, ar ôl tair blynedd a wastraffwyd, ei bod yn bryd gwneud achos unwaith eto dros aros yn yr UE. Ar ôl y tair blynedd hynny, yn anffodus, nid oes consensws yn y Senedd ac mewn gwlad sy'n dal i fod mor rhanedig. Ni fydd etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn cynnig unrhyw atebion. Oni roddir camau ar waith, fel y dywedodd Lynne Neagle, mae'n anochel o arwain at un canlyniad costus yn unig: Brexit caled neu 'ddim bargen' trychinebus, o'r math a hyrwyddwyd mor gywilyddus gan Mark Reckless a Darren Millar yn y Siambr dros yr ychydig ddyddiau diwethaf yn enwedig. Ni allwn ac ni fyddwn yn gadael i hynny ddigwydd.  

Ydy, mae ein safbwynt wedi datblygu ac nid ydym yn ymddiheuro am hynny. Mae Prif Weinidog y DU wedi dangos y niwed y gellir ei wneud drwy lynu at linellau coch a'i geiriau bachog. Rhaid inni weithredu ar sail y gwirioneddau sy'n ein hwynebu. Awgrymodd yr etholiad Ewropeaidd nad yw'r math o Brexit meddal a argymhellwyd gennym yn denu cefnogaeth eang. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg mai'r dewis sy'n wynebu'r wlad hon yw'r un rhwng Brexit caled ac 'aros'. Ni allwn ymddiried bywoliaeth ein dinasyddion yn y dyfodol i grŵp o gefnogwyr Brexit caled yn y Blaid Geidwadol.

Felly, rydym yn dweud yn glir yn awr, unwaith eto, y byddwn yn ymgyrchu'n ddi-baid dros aros ac mae angen seneddwyr o bob plaid i gydnabod mai'r unig ffordd ymlaen yw deddfu ar gyfer refferendwm arall. Dylai Llywodraeth y DU fod yn rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i baratoi ar gyfer refferendwm arall yn awr, gan ddrafftio'r ddeddfwriaeth berthnasol, ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol a gofyn am gytundeb i estyniad arall i broses erthygl 50. Dyna pam yn fwyaf diweddar pan gyfarfûm â'r Ysgrifennydd dros Brexit yng Nghaerdydd ar 16 Mai y gofynnais iddo'n uniongyrchol pa baratoadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud. Yr ateb, i bob pwrpas, oedd dim. Felly, mae angen i'r Senedd achub y blaen. Ni allwn ganiatáu i ragor o amser gael ei wastraffu.

Felly, gadewch i mi fod yn glir: rydym yn cefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad. Dylai unrhyw gytundeb y bydd unrhyw Lywodraeth yn ei gyflwyno fod yn ddarostyngedig i refferendwm. Ond rydym hefyd yn credu nad yw refferendwm dair blynedd yn ôl ar gynnig y byddai'r Llywodraeth yn ei chael yn hawdd trafod Brexit cyfeillgar yn rhoi mandad—fel y dywedodd Carwyn Jones ei hun yn yr araith—i ganiatáu i 'ddim bargen' trychinebus ddigwydd. Eto i gyd, dyna'r dewis diofyn o hyd. Dyna pam ein bod wedi cynnig gwelliant i ailadrodd safbwynt sefydledig y Cynulliad hwn, a diolch i Delyth Jewell, yn ei haraith, am ei chefnogaeth ar ran Plaid Cymru i'r gwelliant hwnnw. Er hynny, Lywydd, er mwyn ystyried y gwelliant yn ffurfiol ar lawr y Siambr, rydym yn cydnabod i bob pwrpas y byddai angen inni wrthwynebu neu ymatal ar y cynnig ei hun, ac nid ydym yn barod i wneud hynny. Mae'n hanfodol fod y Cynulliad yn rhoi datganiad clir o'r safbwynt hwn, ac felly byddwn yn cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd, er y bydd yn golygu bod ein gwelliant yn methu, ond rwy'n hyderus fod gan y Siambr hon fwyafrif o hyd i gefnogi'r egwyddorion a nodir yn y gwelliant hwnnw.

Mae dau welliant arall wedi'u cyflwyno i'r ddadl heddiw. Yn syml iawn, mae'r gwelliant cyntaf gan Caroline Jones yn methu cydnabod cymhlethdodau ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd mewn unrhyw ffordd a'r effaith hynod o niweidiol a gaiff senario 'dim bargen'. Byddwn yn ei wrthwynebu. Rhaid gwrthwynebu'r ail welliant a gyflwynwyd gan Darren Millar hefyd. Rydym i gyd yn cydnabod canlyniad y refferendwm. Mae'n fater o ffaith. Ond mae'r rhaniad sydd y tu ôl iddo ar draws Cymru a'r DU yn real, ac mae angen agwedd fwy meddylgar a mwy cyfrifol tuag at y realiti hwnnw.

Rhaid inni beidio â llaesu dwylo. Mae bygythiad 'dim bargen' yn real iawn. Nid yw ethol arweinydd Ceidwadol newydd ond yn cynyddu'r risg honno. Mae'r amser wedi dod i roi penderfyniad terfynol yn ôl i'r bobl ac i atal y wlad rhag llithro i sefyllfa ddiofyn 'dim bargen' na wnaeth neb achos drosti yn 2016 ac nad oes mandad ar ei chyfer.

17:50

Diolch, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gael cloi’r ddadl yma. Dwi'n ddiolchgar i’r rheini sydd wedi cyfrannu at y ddadl, sy’n gyfle arall i ni wneud datganiad diamwys ynglŷn â’r angen i fynnu cydsyniad pobl Cymru i’r cam nesaf o ran ein perthynas ni efo’r Undeb Ewropeaidd. Dwi’n parchu’r bleidlais ddigwyddodd ym mis Mehefin 2016 a’r canlyniad, sef bod y boblogaeth yn rhanedig, ond yn ffafrio, o ychydig, yr egwyddor gyffredinol y gofynnwyd iddyn nhw basio barn arno fo ar y pryd hwnnw, yn y cyd-destun ar y pryd.

Beth dwi ddim yn fodlon ei dderbyn, yn wyneb tair blynedd o ddryswch a mynd i nunlle, tair blynedd o anghenion Cymru’n cael eu hanwybyddu gan y sefydliad yn Westminster a Whitehall, tair blynedd o sylweddoliad bod llawer o sail yr hyn a gyflwynwyd i bobl adeg y refferendwm yn gamarweiniol ar y gorau, ydy bod y bleidlais honno ym Mehefin 2016 yn setlo yn glir beth oedd ewyllys y bobl. Sut allai fo setlo yn glir, achos doedd yna ddim cynllun ar y bwrdd hyd yn oed? Dim ond rŵan allwn ni hyd yn oed feddwl am setlo’r mater, a refferendwm gair olaf ydy’r ffordd i wneud hynny.

Canolbwyntiodd llawer o'r ddadl honno yn 2016 ar y ffyniant a oedd ar ei ffordd i'r GIG, GIG a fyddai'n debygol, yn eironig, o gael ei werthu pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel mae'n digwydd. Ond pan nad oedd yn canolbwyntio ar hynny, fe'i canmolwyd fel ffordd o adfer rheolaeth. Buaswn yn dadlau na fyddai ffordd well o adfer rheolaeth na thrwy sicrhau'r holl ffordd drwy'r ddadl hon ar ein haelodaeth o'r UE, mai'r etholwyr sy'n penderfynu'r canlyniad, a—

Roedd y refferendwm, i raddau helaeth hefyd, yn ymwneud â mewnfudo, ac mae'r cwestiwn hwnnw wedi ysgogi cynnydd yr asgell dde eithafol, ac rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â hynny, nid yn unig yma ond yn Ewrop a ledled y byd hefyd. Ac a rannwch fy mhryder hefyd mai'r rheini ohonom sy'n mynegi pryderon a gofid ynghylch y cynnydd yn y dde eithafol sy'n destun newyddion ffug ac sy'n dioddef ymosodiadau caletach a mwy milain na'r dde eithafol eu hunain?

Rwy'n falch eich bod wedi rhoi'r wybodaeth honno. Rwy'n credu y dylai pob un ohonom fod yn bryderus iawn am y dystiolaeth, ac mae digon ohoni, fod y ddadl Brexit yn un o ddau beth: naill ai'n gyrru cynnydd y dde eithafol neu'n symptom ohono. Ac yn sicr, rwyf wedi gweld rhywfaint o'r gamdriniaeth y mae'r Aelod dros y Rhondda wedi'i hwynebu, mae'n gywilyddus ac rwy'n ei gondemnio. A da o beth fyddai clywed eraill yn condemnio'r gamdriniaeth honno yn hytrach na chondemnio Leanne Wood.  

Rwy'n credu mai'r etholwyr a ddylai benderfynu'r canlyniad. Ac fel y soniais sawl gwaith yma, mae'r etholwyr yn awr yn cynnwys y cannoedd o filoedd o bobl ifanc sydd wedi cael eu pen blwydd yn 18 oed ers y refferendwm, gan gynnwys un ferch i mi, fel mae'n digwydd. Nid oedd ganddynt lais bryd hynny, ac fe ddylai fod ganddynt lais yn awr. Eu dyfodol hwy yn fwy na neb sydd yn y fantol. A gadewch i'r bobl benderfynu—yr etholwyr, nid ystrywiau Stryd Downing, nid ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, nid Johnson, Rees-Mogg, Farage, ond y bobl. Sut y gallai'r awydd i fod mor ddemocrataidd ag y gallwn danseilio democratiaeth fel y mae rhai'n ei awgrymu—i fod mor gyfoes ac mor gyfredol ag y gallwn fod wrth fesur barn y cyhoedd?  

Pe bai pobl wedi cael cynnig gweledigaeth glir ynglŷn â beth oedd y dewis amgen yn lle aelodaeth o'r UE, beth yn union oedd Brexit yn ei olygu cyn y refferendwm, ni fyddem yn y sefyllfa hon yn awr. Soniodd Llyr am y gwaith a wnaed i fraenaru'r tir ar gyfer y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban. Ond ni chafodd y gwaith paratoi hwnnw ei wneud cyn y refferendwm hwn. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU dderbyn y cyfrifoldeb am ruthro'r refferendwm gwleidyddol hwnnw—sef yr hyn ydoedd—drwodd ac rydym i gyd, ar y ddwy ochr i'r ddadl, yn medi'r hyn a heuwyd bryd hynny. Gallwn weld, ar y ddwy ochr i'r ddadl, mai camgymeriad oedd rhuthro i sbarduno erthygl 50 heb fapio'r llwybrau, ac rwy'n falch fod fy nghyd-aelodau o'r blaid yn San Steffan wedi pleidleisio dros beidio â gwneud hynny. Nid oeddem yn barod. Gall pawb ohonom, ar y ddwy ochr i'r ddadl, gytuno bod sefydliad y DU wedi bod yn hynod gyfeiliornus yn y modd y mae wedi camdrafod yr holl fater hwn.

Felly heddiw, rwy'n hyderus y byddwn yn pleidleisio i ddatgan cefnogaeth ddiamwys y Cynulliad hwn i refferendwm cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog i'r DU adael yr UE arnynt, gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Mae asesiad Plaid Cymru'n glir: mae'r Aelod a etholwyd ar ran UKIP yn ne-ddwyrain Cymru yn dweud bod Plaid Cymru wedi newid ei meddwl rywsut ar Brexit—cyfeiriodd at y ffaith ein bod wedi cyd-ysgrifennu'r Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Rydym bob amser wedi bod yn ymrwymedig i'r farn mai'r ffordd orau ymlaen i ni yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yr hyn y mae'r gwaith ar y Papur Gwyn a'n pleidlais ar bleidleisiau mynegol yn San Steffan, er enghraifft, wedi'i ddangos yw ein bod wedi bod yn gyfrifol ers y refferendwm a'n bod wedi mabwysiadu'r safbwynt, os oes yn rhaid inni adael—nid ydym am wneud hynny—os oes rhaid inni adael, gadewch i ni o leiaf geisio lliniaru, gadewch inni o leiaf geisio meddwl 'Beth sydd o fudd i Gymru?' a chyflwyno'r achos dros yr hyn sydd orau i Gymru. Cawsom ein hanwybyddu, ac ar ôl llanastr y tair blynedd diwethaf, ydy, mae ein hasesiad yn parhau'n glir y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd—ein hasesiad ni—yn niweidiol i Gymru—yn ddrwg i ffermio, fel y trafododd Llyr; yn ddrwg i bobl ifanc, fel y clywsom gan Helen; i'r GIG; i'r economi. Rwy'n falch o sefyll ochr yn ochr â phobl eraill ar draws y pleidiau gwleidyddol yma yn y Cynulliad Cenedlaethol sy'n rhannu'r asesiad hwnnw. Ni fydd pawb yn cytuno â'r asesiad hwnnw, ond apêl yr hyn y galwn amdano heddiw yw nad ewyllys Plaid Cymru y dymunwn ei weld yn cael ei ddilyn, ond ewyllys y bobl heddiw. Gadewch i ni roi'r gair olaf i'r bobl, nid i ni, a gadael i'r bobl roi eu hasesiad o'r hyn sydd wedi digwydd ers Mehefin 2016. Mae ein dyfodol a dyfodol ein plant yn y fantol.

17:55

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Trechu Tlodi

Ac, felly, dyma ni'n cyrraedd yr eitem nesaf, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, a dwi'n galw ar John Griffiths i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7029 John Griffiths, Dawn Bowden, Mike Hedges

Cefnogwyd gan Jayne Bryant, Siân Gwenllian, Vikki Howells, Huw Irranca-Davies, Mark Isherwood, Dai Lloyd, Lynne Neagle, Jenny Rathbone, David Rees, David J Rowlands 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth trechu tlodi, gyda chyllideb a chynllun gweithredu manwl ar gyfer gweithredu.

2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi ym mhob portffolio gweinidogol.

3. Yn cydnabod ac yn llywio atebolrwydd ar gynnydd a wneir ar yr agenda trechu tlodi.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae'r darlun o dlodi yng Nghymru yn un llwm. Mae Cymru'n wynebu'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig, gyda bron un o bob pedwar o bobl yn byw mewn tlodi incwm heddiw. Mae'r mater yn aml yn ymwneud â dosbarth cymdeithasol. Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, os ydych chi'n fenyw sy'n byw mewn dinas ddosbarth gweithiol, rydych chi'n debygol o farw saith mlynedd yn gynharach na phe baech chi'n byw mewn ardal gefnog. Os ydych yn blentyn difreintiedig, rydych 27 y cant yn llai tebygol o gael graddau A i C mewn pump TGAU neu fwy. Os ydych yn mynychu ysgol breifat, erbyn eich bod yn 40, byddwch yn ennill 35 y cant yn fwy na disgybl o ysgol wladol. Os ydych yn ddigartref fel oedolyn, roeddech bron yn sicr o fod yn dlawd ac yn perthyn i'r dosbarth gweithiol pan oeddech yn blentyn. Dosbarth sy'n siapio ein cenedl. I lawer, mae'n cyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd ac yn llesteirio eu dyheadau. I eraill, mae'n cynnig bywyd o rym a braint.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ddirprwy Lywydd, mae llawer ohonom wedi gweld adroddiad yr Athro Philip Alston, rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig, ar dlodi eithafol a hawliau dynol, a gyhoeddwyd fis diwethaf. Canfu'r adroddiad nad yw cyflogaeth wedi profi'n ffordd awtomatig allan o dlodi yng Nghymru a bod tlodi mewn gwaith wedi cynyddu dros y degawd diwethaf. Mae 25 y cant o'r swyddi sy'n cael llai na'r cyflog byw, a swyddi rhan-amser ar gyflogau isel neu swyddi anniogel yn aml yn cael eu gwneud i raddau anghymesur gan fenywod, yn bennaf oherwydd anawsterau i gydbwyso cyfrifoldebau gwaith a gofalu.

Canfu'r Athro Alston fod dull Llywodraeth Cymru o weithredu a strategaeth newydd 'Ffyniant i Bawb' yn brin o ffocws strategol ar leihau tlodi, a diffyg cyfrifoldeb gweinidogol unigol dros wneud hynny. Ceir diffyg targedau a dangosyddion perfformiad clir a fyddai'n mesur cynnydd ac effaith. Canfu'r adroddiad hefyd gonsensws eang ymysg rhanddeiliaid fod newidiadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau yn un o'r achosion strwythurol sy'n sail i'r cynnydd mewn tlodi, gyda gweithredu'r credyd cynhwysol yn gwaethygu'r problemau. Mae effaith niweidiol cyni yn parhau i ddifetha bywydau mewn cynifer o gymunedau. Yng Nghymru, caiff ymdrechion i fynd i'r afael â lefelau ystyfnig o uchel o dlodi eu llesteirio gan y ffaith mai yn nwylo San Steffan y mae nifer o'r ysgogiadau polisi allweddol.

Mae'n rhwystredig na all Llywodraeth Cymru gyflwyno hyblygrwydd angenrheidiol i'r broses o weinyddu budd-daliadau yma, yn wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban, lle mae'r gallu hwnnw ganddynt. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau rwy'n gadeirydd arno wedi gweld hyn yn ein gwaith yn edrych ar dlodi yng Nghymru ac wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ddichonoldeb gweinyddu rhai budd-daliadau, a fyddai'n ein galluogi i fynd ati mewn ffordd sy'n fwy addas i gymunedau yng Nghymru. Rydym yn gobeithio adrodd ar ein canfyddiadau yn ddiweddarach eleni.

Mae'r ystadegau tlodi diweddaraf wedi dangos mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn tlodi plant, gyda 29.3 y cant amcangyfrifedig o blant yn byw mewn tlodi rhwng 2017 a 2018. Mae natur seiliedig ar y rhywiau y materion hyn yn golygu bod menywod yn parhau i gael llai o dâl na dynion ac yn aml yn cael anhawster i ddod o hyd i rolau sy'n caniatáu iddynt ennill bywoliaeth gan ymdopi ar yr un pryd â'r rhan fwyaf o'r gwaith domestig a gofal plant.

18:00

Diolch, John. Mewn perthynas â'r pwynt a wnewch am natur tlodi yn seiliedig ar y rhywiau, mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi cyhoeddi rhai argymhellion heddiw, ac mewn perthynas â'r terfyn dau blentyn, a elwir hefyd yn 'gymal trais', dywedant y byddai 300,000 yn llai o blant—dyma ffigur ar gyfer y DU, gyda llaw—yn byw mewn tlodi pe bai'r terfyn dau blentyn mewn credyd cynhwysol yn cael ei ddileu. O'r holl newidiadau a fodelwyd yn yr adroddiad, dyma fyddai'n tynnu fwyaf o blant allan o dlodi am bob punt o wariant nawdd cymdeithasol. Felly, a ydych yn rhannu fy ngofid am y cymal trais hwnnw, ac a wnewch chi ymuno â mi i alw am gael gwared arno?

Rwy'n hapus iawn i ymuno â Leanne Wood i alw am y newid hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn bolisi gwarthus sydd bron yn ceisio gorfodi safbwynt y wladwriaeth ynglŷn â faint o blant y dylai teuluoedd dosbarth gweithiol eu cael. Mae'n wirioneddol frawychus.

Ddirprwy Lywydd, i bob pwrpas, mae menywod yn wynebu baich dwbl o dlodi a gwahaniaethu, ac mae angen newid hynny a mynd i'r afael ag ef. Mae bwyd yn ganolbwynt i lawer o'r problemau tlodi hyn heddiw. Mae'r ymchwydd yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth bwyd brys yng Nghymru'n dangos y frwydr feunyddiol ofidus sy'n wynebu llawer o bobl ar hyd a lled ein gwlad o ran cael mynediad at hanfodion sylfaenol yn unig.

Yn dilyn ei ymweliad â'r DU, tynnodd rapporteur y Cenhedloedd Unedig sylw at ei bryder nad oedd cyflogaeth hyd yn oed yn gwarantu yn erbyn yr angen i bobl ddefnyddio banciau bwyd, gydag un o bob chwech o bobl a gyfeiriwyd at Ymddiriedolaeth Trussell yn gweithio. Rhwng 2017 a 2018, cafodd 98,350 o gyflenwadau bwyd brys tri diwrnod eu darparu i bobl yng Nghymru. O'r rhain, aeth 35,403 i blant. Ac fel y gwyddom, mae tlodi bwyd yn cael effaith ganlyniadol ar ddeiet dinasyddion, ac yn wir, mae'r Food Foundation wedi dangos bod 160,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn cartrefi lle mae deiet iach yn mynd yn fwyfwy anfforddiadwy. O gofio nad ydym yn wynebu prinder bwyd yng Nghymru, mae angen inni newid ffocws o ddarparu cymorth bwyd i hybu incwm er mwyn sicrhau mynediad teg at ddeiet iachus a maethlon. Heb newid cyfeiriad, mae perygl y bydd banciau bwyd yn dod yn rhan sefydliadol o gymdeithas Cymru. Ni all yr un ohonom fod eisiau hynny.

Er gwaethaf y darlun brawychus hwn, Ddirprwy Lywydd, nid oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth gyffredinol ar dlodi ar hyn o bryd fel oedd ganddi mewn blynyddoedd blaenorol, ac mae angen mwy o arweinyddiaeth. Y mesur mwyaf cyffredin o dlodi yw nifer neu gyfran y boblogaeth sy'n byw mewn cartref sydd ag incwm llai na 60 y cant o'r incwm canolrifol, wedi'i addasu ar gyfer maint a math o aelwyd ar ôl costau tai. Fodd bynnag, nid oes gennym ddiffiniad pendant o hyd o'r hyn y mae tlodi'n ei olygu y gellir ei defnyddio gan adrannau Llywodraeth, awdurdodau lleol a sefydliadau sector preifat a gwirfoddol. Gellid mynd i'r afael â hyn mewn modd defnyddiol er mwyn sicrhau dealltwriaeth eglur a chyson.

Nid oes unrhyw arweinydd amlwg o fewn Llywodraeth Cymru i arwain ar y mater hwn ac eraill, a fyddai'n canolbwyntio ar gymhlethdodau mynd i'r afael â'r agenda dlodi a chanolbwyntio ar atebolrwydd, craffu a darparu cyngor a chymorth. Mae'r rhain yn faterion y mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i'w hunioni dro ar ôl tro. Mewn dau o'n hadroddiadau diweddar sy'n edrych ar dlodi, 'Cymunedau yn Gyntaf - Gwersi a Ddysgwyd' a 'Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel', gwnaed argymhellion ond ni chawsant eu derbyn yn anffodus. Canfu rapporteur y Cenhedloedd Unedig nad yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru a strategaeth newydd 'Ffyniant i Bawb' yn darparu ffocws strategol ar leihau tlodi, na chyfrifoldeb gweinidogol unigol dros wneud hynny. Nid oes ganddi dargedau a dangosyddion perfformiad cryf i fesur cynnydd ac effaith. Rwy'n dyfynnu:

'Rydym yn argymell yn gryf bod strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi yn cael ei chyhoeddi, un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau niferus o waith i leihau tlodi i helpu i ddarparu cyfeiriad clir ac i helpu’r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth. Dylai’r strategaeth gynnwys dangosyddion perfformiad clir i sicrhau rheoli perfformiad effeithiol, yn ogystal â nodi sail dystiolaeth ehangach i helpu i ategu gwerthusiad effeithiol o wahanol ddulliau o drechu tlodi.'

Mae hyn yn cyd-fynd i raddau helaeth iawn â gwaith ein pwyllgor cydraddoldeb. Mae'r adroddiad yn ysgytwad, Ddirprwy Lywydd, ac mae angen inni weld tystiolaeth gref o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn prawfesur ei phenderfyniadau mewn perthynas â thlodi yn y dyfodol ar draws pob portffolio, polisi a strategaeth er mwyn mynd i'r afael â'r darlun pryderus a gafwyd. Mae rhagolygon tlodi yng Nghymru yn rhagweld y bydd y sefyllfa'n gwaethygu, sy'n cryfhau'r angen am oruchwyliaeth ac arweinyddiaeth strategol. Erbyn 2021-22, amcangyfrifir y bydd 27 y cant o boblogaeth Cymru'n byw mewn tlodi, gyda 39 y cant ohonynt yn blant. Mae hwn yn gynnydd o dri a 10 pwynt canran yn eu tro, sef y cynnydd uchaf ond dau o bob rhanbarth yn y DU. Dyma pam ein bod yn galw unwaith eto heddiw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth trechu tlodi gyda chyllideb fanwl a chynllun gweithredu. Mae angen i'r cynllun hwn fod yn uchelgeisiol, yn gynhwysfawr ac yn hollgynhwysol, a chynnwys camau ymarferol i wella profiad bywyd pawb sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

18:10

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig cydsyniol hwn sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth, cyllideb a chynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi, ac i'r Senedd hon yng Nghymru ysgogi atebolrwydd ar y cynnydd a wnaed ar yr agenda trechu tlodi. Er bod polisi Llywodraeth y DU ar faterion sydd heb eu datganoli yn berthnasol ar y ddwy ochr i'r ffin, nid yw polisi Llywodraeth Cymru ond yn gymwys yng Nghymru. Mae rhai siaradwyr heddiw am roi eu sylwadau ar bolisïau a wneir yn San Steffan, ond mae'r cynnig hwn yn galw arnom i ganolbwyntio ar bolisïau a wneir yng Nghymru.

Os dewisant ganolbwyntio ar ddiwygio lles Llywodraeth y DU, fe'u cyfeiriaf at fy araith ar 19 Mawrth ar hyn yma ac at fy araith ar 28 Mawrth yn seminar Fforwm Polisi Cymru ar leihau tlodi yng Nghymru. Fel y clywsom, os dewisant ganolbwyntio ar adroddiad rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, ategaf sylwadau'r siaradwr agoriadol am yr adran ar Gymru a oedd yn cynnwys y ffaith bod Cymru'n wynebu'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y DU, fod 25 y cant o swyddi yng Nghymru yn talu islaw'r isafswm cyflog, ac er bod cynllun gweithredu penodol ar dlodi a'r swydd ar gyfer cymunedau a threchu tlodi wedi cael eu dileu yn 2017, nid oes gan strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb'

unrhyw ffocws strategol na chyfrifoldeb gweinidogol dros leihau tlodi, ac nid yw'n cynnwys targedau perfformiad a dangosyddion cynnydd clir.

Canfu adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar 'Safonau byw, tlodi ac anghydraddoldeb yn y DU: 2018' fod tlodi absoliwt wedi gostwng 2.5 pwynt canran i 19 y cant rhwng 2011 a 2017; fod twf mewn cyflogaeth yn ystod y cyfnod hwn wedi peri i dlodi absoliwt plant ostwng 3 y cant i 26 y cant, yn is na'r gostyngiadau a welwyd yn ystod y cyfnod cyn y dirwasgiad; fod pensiynwyr yn dal i fod gryn dipyn yn llai tebygol o fod yn byw mewn tlodi na grwpiau demograffig eraill; a bod tlodi cymharol yn y boblogaeth gyfan—sef y DU—wedi bod yn weddol wastad am y 15 mlynedd diwethaf ac yn dal yn is na'r lefelau a welwyd ynghanol y 1990au.

Er i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol adrodd bod anghydraddoldeb incwm wedi cynyddu ychydig bach y llynedd, dywedasant fod hyn yn gwrthdroi'r duedd a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol ac

y gallai fod yn rhy gynnar i ddod i gasgliadau pendant o'r tueddiad bychan hwn ar i lawr.

Mae data'r Cenhedloedd Unedig yn gosod y DU yn bymthegfed ar y rhestr o'r llefydd hapusaf i fyw ynddynt ac ym mis Mawrth, dangosodd ffigurau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod lefelau lles personol wedi gwella ledled y DU, fel y gwnaeth sgoriau iechyd meddwl, gan godi 4.6 y cant rhwng 2011 a 2016 i 63.2 y cant—y cyfartaledd Ewropeaidd bron iawn. Y mis diwethaf, fodd bynnag, dangosodd ymchwil a gomisiynwyd gan y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn tlodi plant y llynedd. Fel y dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ym mis Mawrth,

'Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Tlodi Plant sy’n amlinellu ei dyheadau hirdymor, ond ar hyn o bryd does dim cynllun clir',

a dywedodd

y dylai Llywodraeth Cymru lunio Cynllun Cyflawni ar Dlodi Plant newydd, a chanolbwyntio ar gamau pendant, mesuradwy.

Canfu adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n decach?', fis Hydref diwethaf, fod

lefelau tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain; Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, ac mae enillion wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban. 

Fel y dywedasant,

gallwn wneud gwahaniaeth, ond rhaid cael gweledigaeth feiddgar a chynllun gweithredu cyflawnadwy ar gyfer cyflawni hyn.

Canfu papur briffio 'State of Wales' Sefydliad Bevan ar gyflogau isel, fod nifer a chanran y gweithwyr sy'n cael llai na'r cyflog byw go iawn yng Nghymru wedi cynyddu, gyda menywod, pobl anabl a grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig mewn mwy o berygl o fod mewn gwaith ar gyflog isel.

Mae Sefydliad Bevan yn galw am ddatblygu

strategaeth gwrthdlodi sy'n nodi'n glir y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.

Fel y dywed Oxfam Cymru,

Nid yw'n wir nad yw strategaethau gwrthdlodi'n gweithio; mae a wnelo â sut y caiff y strategaethau hynny eu targedu. Mae diffyg strategaeth yn amddifadu'r agenda trechu tlodi o gyfeiriad clir.

Ac fel y dywed NEA Cymru,

dylai Llywodraeth Cymru ddynodi tlodi tanwydd yn flaenoriaeth seilwaith.

Fel y dywedais yn 2006,

mae pob un o'r pleidiau gwleidyddol prif ffrwd eisiau trechi tlodi. Drwy rymuso pobl i wireddu eu potensial a chymryd perchnogaeth yn eu cymunedau eu hunain yn unig y gwireddir cyfiawnder cymdeithasol.

Ac fel y dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn 2013,

Mae angen i Lywodraeth Cymru a'r sector adfywio'r mecanweithiau ymgysylltu presennol i ddatblygu, hyrwyddo a monitro Rhaglen Weithredu yn seiliedig ar gydgynhyrchu a thir cyffredin.

Felly, mae hyn yn golygu cael gwared ar unrhyw ddogma farw, cofleidio mentrau cymdeithasol a busnes yn llawn, a gwneud yr hyn sy'n gweithio. Diolch yn fawr.

18:15

Dyma ni eto, yn gresynu at y ffaith bod niferoedd sylweddol o bobl, mewn gwladwriaeth ddatblygedig a gwareiddiedig, yn dibynnu ar fanciau bwyd am faeth sylfaenol ac yn byw mewn cartrefi sy'n eu gwneud yn sâl. Yn ôl melin drafod y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, gallai mwy na 120,000 o farwolaethau yn y DU fod wedi'u hatal ers 2012, oni bai am gyni. Mae polisïau Llywodraeth San Steffan yn lladd pobl, ac nid wyf am ymddiheuro am ddweud hynny.

Mae ystadegau diweddar gan y gynghrair Dileu Tlodi Plant yn dangos bod bron un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi—un o bob dau mewn rhai wardiau cyngor. Cymru yw'r unig wlad yn yr ynysoedd hyn i weld cynnydd mewn tlodi plant. Mae galw'r ffigurau hyn yn ysgytwad yn awgrymu eu bod yn annisgwyl, ond yn anffodus, rydym wedi arfer cael newyddion mor wael yn gyson. Mae'n hawdd disgrifio'r broblem, ond beth am yr atebion? Beth rydym ni ym Mhlaid Cymru yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud? Beth fyddem ni yn ei wneud pe baem yn Llywodraeth?  

Defnyddiwn y term 'cydgynhyrchu' yn aml heb ei olygu go iawn, ond erys y cysyniad yn un dilys a allai fod o gymorth. Yn rhy aml, ni wrandewir ar bobl sy'n byw mewn tlodi a phobl dosbarth gweithiol yn gyffredinol. Mae polisi yn rhywbeth sy'n cael ei wneud iddynt, yn hytrach na rhywbeth y maent yn rhan ohono. Felly, rwyf am i'r rheini sy'n goruchwylio'r broses o ddarparu gwasanaethau sy'n allweddol er mwyn trechu tlodi i sicrhau bod pobl sy'n profi tlodi yn cael eu cynrychioli'n briodol yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae sylwadau diweddar Philip Hammond, sy'n honni nad yw tlodi'n bodoli ac yn diystyru canfyddiadau rapporteur y Cenhedloedd Unedig, yn dangos y frwydr y mae pobl mewn tlodi yn ei hwynebu wrth geisio sicrhau bod eu problemau'n cael sylw o ddifrif gan filiwnyddion cyfoethog sy'n gwneud penderfyniadau am eu bywydau. Sawl Aelod Seneddol sydd bellach yn filiwnyddion? Rhaid inni fynd i'r afael â'r ffaith nad oes gan bobl ddosbarth gweithiol gynrychiolaeth ddigonol ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Rwyf am i unrhyw gyrff sydd â chyfrifoldeb dros drechu tlodi allu dangos sut y maent yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn, sut y maent yn cynnwys ac yn gwrando ar bobl sy'n byw mewn tlodi. Dyna sut y byddai cydgynhyrchu go iawn yn gweithio.

Yr ail ateb: rhaid inni gael rheolaeth weinyddol ar les ar unwaith. Dim ond hynny fydd yn ein galluogi i ddechrau cyflawni atebion, gan ganiatáu inni greu bargen newydd i Gymru—un werdd, wrth gwrs—sy'n helpu pobl i ddilyn gyrfaoedd ac sy'n rhoi'r modd iddynt allu darparu ar eu cyfer eu hunain, yn hytrach na'u bwlio a'u cosbi am bethau fel mynychu angladdau.

Trydydd ateb: rhaid i ni roi diwedd ar y penderfyniadau gwael a welwn gan wasanaethau cyhoeddus amrywiol. Rydym wedi gweld toriadau'n cael eu hargymell, hyd yn oed os oes rhai wedi'u gwrthdroi, i gymhwysedd i gael grantiau gwisg ysgol, prydau ysgol am ddim, gwasanaethau bws sy'n gwasanaethu cymunedau tlotach, toriadau i gymorthdaliadau i'r clybiau chwaraeon sy'n gwasanaethu ardaloedd difreintiedig—mae'r rhestr yn parhau a gall fod yn helaeth. Ond mae'n adlewyrchu diwylliant lle mae gwasanaethau cyhoeddus i bobl dlawd yn ddifrod cyfochrog yn sgil methiant i gynllunio gwasanaethau gwirioneddol ataliol. Mae cyni wedi golygu bod y tlodion yn waeth eu byd tra bod y cyfoethog wedi tyfu'n gyfoethocach. Rhaid i hyn ddod i ben.

Mae digartrefedd yn bla sy'n tyfu yn ein cymdeithas. Rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadu polisi tai yn gyntaf fel athroniaeth sy'n sail i bolisi digartrefedd, sydd wrth gwrs yn golygu bod yn rhaid ichi roi'r gorau i din-droi a rhaid ichi ddileu angen blaenoriaethol, fel y mae pawb yn dweud wrthych am ei wneud. Gweithredwch argymhellion yr adroddiad argyfwng ar unwaith. Ni allwn aros i hynny ddigwydd dros y 10 mlynedd nesaf. Mae'n sgandal na fu unrhyw strategaeth na rhaglen drosfwaol i drechu tlodi ers i raglen Cymunedau yn Gyntaf gael ei diddymu. Gyda Brexit yn mynd i fynd â mwy fyth o filiynau o bunnoedd oddi wrth gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, sut y gallwn sicrhau nad yw'r cymunedau hyn yn suddo ymhellach fyth?

Cofiaf yr ymgyrch i sefydlu'r Cynulliad hwn yn 1997—sut yr oeddem angen Cynulliad, ar ôl bron i ddau ddegawd o reolaeth y Torïaid bryd hynny, i amddiffyn pobl rhag creulondeb gwaethaf y Torïaid. Yn yr Alban, gyda'u setliad datganoli cryfach, maent wedi mynd gam o'r ffordd tuag at liniaru effeithiau gwaethaf polisïau'r Torïaid. Mae'n fwy na siomedig nad ydym wedi gallu gwneud yr un peth yma, ac mae'n hen bryd i ni newid hynny.

18:20

Dychmygwch fod yn ifanc yn deffro ar un o'r diwrnodau ysgol olaf ym mis Rhagfyr, adeg pan fydd cyffro a hwyl yn rhedeg drwy'r ysgol fel trydan. Mae'n golygu cyngherddau, gemau a chyfnewid cardiau, ond wedyn rydych chi'n sylweddoli na fyddwch chi'n mynd i mewn y diwrnod hwnnw. Ni fyddwch yn mynd i mewn oherwydd mae'n ddiwrnod siwmper Nadolig, ac nid oes gennych siwmper Nadolig; ni all eich teulu fforddio un.  

Datgelodd prosiect ymchwil a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yng ngogledd-orllewin Lloegr y patrwm hwn o absenoliaeth ymhlith disgyblion difreintiedig ar 14 Rhagfyr y llynedd. Y gwir amdani yw mai dim ond yr enghraifft ddiweddaraf o'r stigma sy'n dod yn sgil tlodi yw hon, ac enghraifft arall o'r modd yr ydym, yn ddifeddwl, yn pentyrru costau anweledig, costau na all pawb eu talu, ar y flwyddyn ysgol gyfartalog. Gobeithio y gellir ychwanegu ymchwil y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau at yr enghreifftiau niferus iawn a welwn yn ysgolion Cymru heddiw, o ddiwrnodau gwisgo i fyny i dripiau a digwyddiadau ysgol, sydd mewn perygl o danseilio cymaint o'r gwaith da sy'n cael ei wneud mewn meysydd polisi addysg eraill.  

Mae'r ddadl heddiw, wrth gwrs, yn ymwneud â set lawer ehangach o ystyriaethau, ond dyma'r gwirioneddau dyddiol syml, torcalonnus a niweidiol yn y pen draw sy'n sail i'r ffigurau y soniwn amdanynt. Nid oes dim yn anochel ynglŷn â thlodi, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau eraill sydd wedi cyflwyno'r ddadl amserol a phwysig hon heddiw. Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig ac yn credu'n gryf ei bod yn bryd cael newid sylweddol yn ein hagwedd at dlodi yng Nghymru. Er ei bod wedi dynodi ei bod yn newid cyfeiriad bellach, credaf fod Llywodraeth Cymru yn iawn i fabwysiadu'r targed ar gyfer dileu tlodi plant erbyn 2020, ac rwy'n gresynu at y penderfyniad i'w ddileu. Mae hon yn agenda sy'n mynnu uchelgais. Ond fel y dywedodd Sefydliad Bevan, gyda chynifer o'r sbardunau polisi pwysig heb eu datganoli, nid oedd y targed hwn ond yn rhywbeth y gellid ei gyflawni drwy weithio gyda Llywodraeth y DU a oedd hefyd yn llwyr ymrwymedig i'r uchelgais hwnnw. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir ers 2010.

Canlyniad hyn yw bod ffigurau tlodi plant yng Nghymru wedi aros yn eu hunfan ers degawd bellach, a'u bod erbyn hyn wedi dechrau codi mewn gwirionedd—methiant digyffelyb ein model economaidd yn y DU, pris anghyfiawn cyni, magl i genedlaethau'r dyfodol. Y gwirionedd mwyaf creulon o hanes y Ceidwadwyr mewn grym yw bod nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi sy'n gysylltiedig â thlodi, fel yr amlygwyd gan Leanne Wood, wedi codi drwy'r cyfnod o gyni. Er bod cyllidebau'n crebachu, mae'n glod i Lywodraeth Cymru drwy gydol y cyfnod hwn fod diweithdra wedi gostwng, fod y bwlch cyflogaeth â Lloegr wedi cau, a bod cyrhaeddiad disgyblion tlotach yn cael ei flaenoriaethu. Ond fel y dangosodd cyhoeddi'r mynegai cyfle ieuenctid yn ddiweddar, mae yna gosb cod post gyson yng Nghymru sydd yr un fath heddiw â'r hyn a oedd ar ddechrau datganoli. Dangosodd ymchwil gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith fod cyfleoedd addysg a gwaith yn parhau i fod ar eu teneuaf mewn ardaloedd difreintiedig, gyda fy awdurdod lleol fy hun, sef Torfaen, yn isaf ar y rhestr honno.

Felly, mae digon o elfennau o bolisi datganoledig yn galw am eu hailasesu i ychwanegu brys at ein hagenda wrthdlodi. Gobeithiaf heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i ailedrych ar ddull o fynd i'r afael â thlodi plant yn benodol, a thlodi yn fwy cyffredinol. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod, gan ei fod yn Weinidog cyllid ar y pryd, fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn feirniadol ynghylch y diffyg eglurder yng nghyllideb y llynedd o ran sut a ble y mae'r Llywodraeth yn canolbwyntio ei hadnoddau mewn perthynas â thlodi. Argymellasom fwy o eglurder ynghylch perchnogaeth weinidogol ar dlodi, strategaeth tlodi plant newydd i adlewyrchu'r newidiadau polisi ers 2015, a chyhoeddi gwybodaeth am gyllidebau yn y dyfodol i ddangos sut yn union y cyflawnir y strategaeth newydd honno a sut y caiff canlyniadau eu gwella.

Sylweddolaf fod awydd yn y Llywodraeth i symud oddi wrth feddylfryd ffatri strategaethau, ac rwy'n cydnabod yr atyniad o wneud tlodi'n fusnes i bawb yn y Llywodraeth, yn hytrach na gwthio'r cyfan i un adran gyda chyllideb fach. Ond y gwir yw, hyd yn hyn, heb y newid sylfaenol yn y ffordd y mae gweddill y Llywodraeth wedi gweithio i wella'r agenda hon, mae diffyg strategaeth glir a pherchnogaeth yn golygu bod methiant yn dod yn norm. Mae pryderon Sefydliad Bevan, Oxfam, Sefydliad Joseph Rowntree a'r comisiynydd plant yn deillio o ddealltwriaeth ddofn o'r agenda hon, ac mae'n bryd inni weithredu ar yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym. Ceir 55,000 o blant sy'n byw mewn tlodi nad ydynt yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim, maes polisi sydd wedi'i ddatganoli i ni yma. Ac mae hyd yn oed y rhai sy'n gymwys yn wynebu rhwystrau lluosog a diangen. Mae mwy o gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i roi diwedd ar newyn gwyliau—canfyddiad cyson mewn adroddiadau diweddar. Gallwn barhau, ond yr hyn y daw hyn oll yn ôl ato yw'r angen am strategaeth glir ar dlodi wedi'i gyrru gan dri pheth: targedau clir, cyllidebau tryloyw ac arweinyddiaeth weinidogol gref. Fe wyddom pam y mae tlodi plant wedi cynyddu yng Nghymru—degawd o gyni'r Torïaid sy'n gyfrifol am hynny—ond nid yw hynny'n rhoi rhwydd hynt inni wneud dim byd. Yn wir, rhaid i hynny ein herio i wneud mwy byth, a gobeithio y gall y gwaith hwnnw ddechrau heddiw.

18:25

Hoffwn gysylltu fy hun â sylwadau Lynne Neagle a John Griffiths a'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd Leanne Wood. Credaf ein bod yn cytuno bron yn llwyr ar y materion hyn. Mae llawer gormod o bobl yng Nghymru, gan gynnwys llawer o blant, yn byw mewn tlodi, sy'n golygu nad ydynt yn cael digon o fwyd, maent yn byw mewn tai sy'n mynd i fod yn oer pan ddylent fod yn gynnes, ac maent yn byw mewn tai nad ydynt o reidrwydd yn dal dŵr neu'n ddiogel rhag y gwynt. Dengys y mesur mwyaf cyffredin o dlodi a amlinellwyd gan John Griffiths yn gynharach, ac yn ôl Sefydliad Bevan, fod un ym mhob pedwar o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi. Nid yn unig y mae—[Torri ar draws.] Nid ym mhob ardal yn unig. Pe bai'n un o bob pedwar ym mhob ardal byddai'n wael, ond mewn gwirionedd, mae'n un o bob pedwar ledled Cymru, ond mewn rhai ardaloedd mae'n agos at un o bob dau: plant sy'n byw ar aelwydydd heb waith, oedolion ar aelwydydd heb waith, tenantiaid tai cymdeithasol, unig rieni, pobl o grwpiau ethnig nad ydynt yn wyn. O ran nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi, pobl sy'n anabl, pobl sy'n byw ar aelwydydd sy'n gweithio, tenantiaid tai cymdeithasol—.

Rydym wedi gweld twf aruthrol yn y defnydd o fanciau bwyd, ac mae hynny wedi bod yn broblem wirioneddol, fod llawer gormod o bobl mewn gwaith sy'n gorfod mynd i fanciau bwyd i fwyta. Mae'r banciau bwyd wedi dod yn geginau cawl yr unfed ganrif ar hugain. Bu twf aruthrol mewn tlodi mewn gwaith. Er ein bod yn aml yn tynnu sylw at gontractau dim oriau, problem fwy yw'r contractau oriau isel wedi'u gwarantu: rydych yn cael nifer isel o oriau—efallai pump neu saith awr yr wythnos—ond rydych chi fel arfer yn gweithio oriau llawer hwy. Peidiwch â bod yn sâl, oherwydd wedyn byddwch yn mynd yn nôl i'ch saith awr. Neu ar rai wythnosau, pan nad oes digon o waith, ni fyddwch ond yn gweithio'r saith awr hynny. A'r hyn sy'n digwydd wedyn yw eich bod yn lluosi'r oriau gyda'ch isafswm cyflog ac rydych mewn trafferthion difrifol iawn; ni allwch fforddio'r holl bethau sydd eu hangen arnoch i fyw.

Mae llawer yn gweithio sawl swydd, tair, pedair neu bump. Rhaid iddynt gydbwyso gofal plant â'r swyddi hyn, gan obeithio y bydd yr oriau—

O ran y sylwadau yn gynharach am gael gwead cymdeithasol a bod yn rhan o'ch cymuned, a ydych yn credu bod hynny'n bosibl mewn gwirionedd i rywun sy'n gweithio dau, dri, neu bedwar contract dim oriau weithiau?

Wel, mae'n anodd iawn, oherwydd mae pobl yn tueddu i weithio 40 neu 50 awr ar rai wythnosau. Yn anffodus, ar wythnosau eraill nid ydynt ond yn gweithio 10 awr. Ni allant gynllunio unrhyw beth. Mae gofal plant yn troi'n hunllef; mae ganddynt broblemau enfawr ar draws eu bywydau i gyd. Felly, ydy, mae'n anodd iawn bod yn rhan o helpu i redeg y tîm pêl-droed lleol os nad ydych chi'n gwybod a ydych chi'n mynd i fod yn gweithio awr ddydd Sadwrn neu 10 awr ddydd Sadwrn.

Yn ôl Sefydliad Bevan, mae newidiadau diweddar i'r system fudd-daliadau, gan gynnwys rhewi budd-daliadau a chyflwyno credyd cynhwysol, wedi lleihau incwm teuluol yn sylweddol. Mae effaith gronnol ac effaith diwygio lles wedi golygu bod aelwydydd â phlant dros £5,000 yn waeth eu byd—[Torri ar draws.] Iawn, yn sicr. Ac mae wedi golygu bod cartrefi ag oedolyn anabl dros £3,000 yn waeth eu byd. Mark.

A ydych yn cydnabod ymchwil, sydd yr un mor bryderus, yn 2008 gan Sefydliad Bevan ac Achub y Plant, a ganfu fod un o bob pedwar plentyn yng Nghymru'n byw mewn tlodi—y mesur tlodi cymharol—a bod 90,000 yn 2008 yn byw mewn tlodi difrifol, sef y lefel uchaf yn y DU? Felly, nid yw hon yn broblem newydd, ac mae'n sicr yn broblem y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi.

Nid yw'n broblem newydd, ond mae credyd cynhwysol wedi ei gwneud yn waeth i bobl ddi-waith. Gwnaeth pob un ohonom—neu gwnaeth y rhan fwyaf ohonom—ymladd etholiad a chawsom fis o'r gwaith pan nad oeddem yn cael unrhyw incwm. A sut y bu i ni oroesi? Cynilion a chardiau credyd. Sut y mae pobl nad oes ganddynt y rheini'n ymdopi pan fydd yn rhaid iddynt oroesi am fisoedd heb gredyd cynhwysol? Nid ydynt yn ymdopi. Maent naill ai'n dioddef gormes benthycwyr carreg y drws, neu yn y pen draw maent yn gorfod benthyca gan aelodau o'u teuluoedd a ffrindiau sy'n aml yr un mor dlawd â hwythau.

Y tlodion sy'n talu'r pris am gyni. Roeddwn yn siomedig iawn fod Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben. Roedd yn ddiffygiol, ond roeddwn yn meddwl ei fod yn rhywbeth y dylem fod wedi ei barhau; ei gywiro, yn hytrach na rhoi diwedd arno. Roeddwn yn hynod siomedig hefyd na wnaeth y Prif Weinidog greu Gweinidog i ymdrin â thlodi a chymunedau difreintiedig.

Dyma'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd: datblygu strategaeth wrthdlodi sy'n nodi'n glir y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru; sicrhau bod pob gweithiwr yn y sector cyhoeddus sy'n cael ei gyflogi gan gyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn cael y cyflog byw go iawn; gwneud talu'r cyflog byw go iawn yn rhagamod ar gyfer contractio gyda chyrff sector cyhoeddus a ariennir drwy Lywodraeth Cymru naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol; gwneud talu'r cyflog byw go iawn yn rhagamod i grantiau a benthyciadau i gwmnïau preifat; gwahardd contractau sy'n camfanteisio ar weithwyr gan gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â'u contractwyr a'u hisgontractwyr; gwneud cymorth ariannol i gwmnïau, yn grantiau a benthyciadau, yn ddibynnol ar gontractau nad ydynt yn camfanteisio; ymrwymo i droi Cymru'n wlad cyflog byw; a dysgu o'r camgymeriadau a wnaed yn Cymunedau yn Gyntaf a chreu cynllun gwrthdlodi newydd yn seiliedig ar y gorau o'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Roedd gan lawer ohonom gynlluniau Cymunedau yn Gyntaf rhagorol yn ein cymunedau, ac maent wedi'u colli yn anffodus.

18:30

Diolch yn fawr iawn i John Griffiths am ddod â’r ddadl yma ymlaen heddiw. Dwi’n falch o gael rhoi fy enw iddo fo. Dwi hefyd eisiau dweud fy mod i’n parchu ac yn edmygu ymroddiad John i’r maes yma dros nifer o flynyddoedd, a dwi’n siŵr bod pawb yn ategu hynny yn fan hyn.

Mae’r pwyslais wedi bod y prynhawn yma—a dwi’n falch o glywed hynny—ar beth fedrwn ni yng Nghymru a beth fedr y Llywodraeth yma ei wneud. Ydyn, mae achosion tlodi yn gymhleth, ond mae yna lawer iawn mwy y gall y Llywodraeth yma ei wneud, hyd yn oed o fewn ffiniau caeth y setliad datganoli. Dwi am restru’r rhai dwi’n meddwl sydd yn bwysig rhoi sylw iddyn nhw ar frys, a hynny gan y Llywodraeth yma.

Un—mae angen cydlynu ymdrechion y Llywodraeth mewn ffordd llawer mwy effeithiol. Byddai hynny’n cynnwys strategaeth trechu tlodi pwrpasol a chynllun gweithredu ar dlodi plant, yn cynnwys cerrig milltir a thargedau mesuradwy er mwyn i ni gael dull clir o adrodd yn erbyn amcanion strategaeth statudol tlodi plant yng Nghymru.

Dau—rydym ni angen bod yn hollol glir pwy, o blith Gweinidogion y Llywodraeth, sydd yn gyfrifol am faterion plant a thlodi plant. Pwy sydd yn arwain y gwaith?

Tri—mae’r Llywodraeth angen adolygu ei strategaethau ymyrraeth gynnar a chynlluniau fel Dechrau’n Deg. Dydy 44 y cant o blant sydd yn byw mewn amddifadedd incwm ddim yn gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg. Mae angen symud y ffocws yn ôl at ymyrraeth gynnar a chreu strategaeth genedlaethol a lleol o ran ymyrraeth gynnar.

Pedwar—mae angen i’r Llywodraeth adolygu’r cynnig gofal plant diffygiol. Mae eisiau ei ymestyn o ac mae eisiau rhoi’r pwyslais yn y lle cywir, ac mae hynny’n cynnwys addysg gynnar.

Pump—mae angen cryfhau gwaith y comisiwn gwaith teg yn sylweddol ac mae angen defnyddio prosesau caffael cyhoeddus i godi cyflogau.

Chwech—mae angen pwyso am ddatganoli elfennau o weinyddu’r wladwriaeth les i Gymru, fel bod modd credu diwylliant llawer mwy empathetig o gwmpas lles. Dwi wir methu deall pam na fyddai Llywodraeth Lafur yn gallu gweld rhesymeg datganoli elfennau o weinyddu’r wladwriaeth les i Gymru.

Saith—rydym ni angen cynllun llawer mwy uchelgeisiol o adeiladu tai cymdeithasol a mabwysiadu polisi 'cartrefi’n gyntaf' i daclo digartrefedd.

Dwi’n hoelio sylw ar y saith maes yna. Rydym ni wedi clywed ambell i faes arall, ond i fi, dyma’r rhai pwysig sydd angen hoelio sylw arnyn nhw, a hynny ar frys. Mae yna lawer iawn mwy o waith y gellid ei wneud, ond rhain ydy'r materion mae angen i'r Llywodraeth fynd ar eu holau nhw yn syth. Diolch.

18:35

Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod Llafur yng Nghymru, John Griffiths AC am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon gerbron y Siambr. Cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd gan y rhan fwyaf o'r Aelodau. Felly, gadewch inni fod yn onest: rydym yn byw mewn economi gyfalafol mewn byd sy'n cael ei ddominyddu gan gyfalafiaeth a'r pyramid economaidd ymrannol y mae'n ei gynhyrchu. Er bod hyn yn cynnig llawer o gyfleoedd i rai yn wir—ac mae gwerthiant ceir Rolls-Royce wedi cynyddu—bydd hefyd yn creu, a bob amser yn creu'r dilema gwleidyddol a moesol gwirioneddol ynglŷn â sut y sicrhawn y caiff cyfoeth ei ddosbarthu'n deg drwy ein cymdeithas i'n dinasyddion a wasanaethir gan bob un ohonom.

Dyma'r dilema i bawb ohonom—i bawb yn ein hoes ni, ac i'n holl wledydd. Yn Unol Daleithiau America, aeth yr Arlywydd Lyndon Baines Johnson ati i osod pwerau Llywodraeth yr Unol Daleithiau ar gyfer ymladd rhyfel diamod yn erbyn tlodi, ac roedd yn iawn i wneud hynny. Fodd bynnag, ni allai, ac ni wnaeth ei nod clodwiw o gymdeithas wirioneddol wych ddileu tlodi. Yn y Deyrnas Unedig, mae'n drist fod llawer erbyn hyn yn derbyn yn eang fod y gagendor rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn ein cymdeithas yn stratosfferig ac yn amlwg iawn. Mae'n un seismig, ac yn waeth byth, mae'n systemig. Yn wir, mae'n rhaid i chi edrych yn ôl at Lywodraeth Lafur James Callaghan yn 1976, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y New Economics Foundation, i weld Prydain lle câi elw cyfoeth ein gwlad ei ddosbarthu'n gyfartal. Er gwaethaf y mesurau lliniaru glew gan y weinyddiaeth Lafur Gymreig hon, rydym yn dal i fod yma heddiw yn trafod yr hyn sy'n fyd cwbl anghyfartal ac annheg iawn i lawer.

Ond polisi Llywodraeth Cymru sy'n ceisio sicrhau bod ffrwyth gwaith a llafur yn cael ei ddosbarthu'n decach i'r lluoedd, nid i rai yn unig. Mae gennym ni ar yr ochr hon farn gwbl wahanol am y ffordd y dylai ein cymdeithas fod a sut y dylai ddod yn gymdeithas decach drwy bolisi cymdeithasol a pholisi economaidd tecach i'n holl bobl. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i ymrwymo bob un diwrnod i fynd i'r afael â melltith tlodi ledled Cymru, gyda'r ysgogiadau—ac mae'n rhaid inni dderbyn eu bod yn gyfyngedig—sydd ar gael i ni. Rwy'n cefnogi'r mentrau diweddar. Yn gynharach eleni, croesawodd Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth, Ken Skates, £2 filiwn ychwanegol o gyllid yr UE i drechu tlodi mewn gwaith a mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gweithwyr heb lawer o sgiliau yn ne-ddwyrain Cymru. Rhaid inni gydnabod effaith Brexit ar dlodi. Felly, i ddyfynnu:

'Mae sicrhau bod gennym weithlu sy'n meddu'r sgiliau y mae eu hangen i ffynnu mewn economi fodern yn hollol greiddiol i'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi.'

Felly, gyda Gweinidogion fel Ken Skates a Phrif Weinidog sosialaidd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'r frwydr yn erbyn polisïau'r DU sy'n achosi tlodi. Mentraf gyferbynnu hynny â pholisi Torïaidd Llywodraeth y DU. Gadewch inni wrando ar leisiau allanol a rhai a berchir yn fyd-eang—ac fe soniaf am y Cenhedloedd Unedig. Mae rhwyd ddiogelwch gymdeithasol y Deyrnas Unedig, meddent yn eu hadroddiad diweddar—un o lawer—

wedi cael ei dileu'n fwriadol ac ethos llym ac angharedig wedi'i osod yn ei lle.

Dywedodd y rapporteur arbennig ar dlodi eithafol, Philip Alston—ac rwy'n dyfynnu—fod toriadau 'ideolegol' i wasanaethau cyhoeddus—a gadewch inni gofio mai'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, nid y cyfoethog—wedi arwain at 'ganlyniadau trasig' ers 2010. Canlyniadau trasig sydd, fel y dywedwyd eisoes heddiw, yn lladd pobl. Blaenoriaeth gyntaf Llywodraeth yw diogelu ei dinasyddion. Daeth i'r casgliad mai

Diwedd y gân yw bod llawer o'r glud sydd wedi dal cymdeithas Prydain at ei gilydd ers yr Ail Ryfel Byd wedi cael ei dynnu'n fwriadol ac ethos llym ac angharedig wedi'i osod yn ei le.

Dywedodd yr athro fod polisïau'r Llywodraeth wedi arwain at 'dlodi economaidd systemig' i ran sylweddol o boblogaeth y DU, sy'n golygu eu bod hwy, y Llywodraeth Dorïaidd, bob amser wedi gwthio pobl ymhellach i mewn i dlodi. Felly, nid wyf am gymryd unrhyw wersi heddiw gan y meinciau gyferbyn sy'n hapus i ganu clodydd Lywodraeth y DU sy'n mynd i ryfel ideolegol yn erbyn y dosbarthiadau gweithiol a'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ni allwn negyddu niwed diwygio lles, ac ni allwn negyddu niwed cyni. Ni all fod unrhyw amheuaeth felly: mae mynd i'r afael ag anghyfiawnder anghyfartaledd economaidd i bob un o'n pobl a threchu'r tlodi a achosir gan bolisi pwrpasol a strategol y DU yn rhan o DNA y Llywodraeth hon.

Bydd ein gwaith yn y lle hwn yn parhau ac fel y dywedwyd, rhaid inni ailymrwymo bob dydd i ddilyn y polisi gorau posibl, ac yn fwy strategol o lawer os oes angen. Ac edrychaf ymlaen bob dydd at weld Llywodraeth sosialaidd Lafur mewn grym yn San Steffan i weithio mewn partneriaeth â'r lle hwn er mwyn galluogi'r sbardunau sydd ar gael. Gyda'n gilydd gallwn fynd i'r afael â'r tlodi endemig sy'n difetha bywydau pobl ac sydd bob dydd yn gwenwyno dyheadau pob un sy'n cael cam gan sylfaen bolisi cymdeithasol Torïaidd creulon y DU.  

18:40

Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn i ganolbwyntio ar un agwedd, sef plant mewn tlodi. Gwn fod pobl eraill wedi sôn amdano hefyd, ond roeddwn am edrych ar y ffordd y gofalwn am ein plant.  

Dywedodd Prue Leith, un o'r arbenigwyr coginio mwyaf eiconig, yng Ngŵyl y Gelli yr wythnos diwethaf fod bwyd yn arddangosiad o gariad ac a dweud y gwir, nid ydym yn caru ein plant ddigon, oherwydd mae gormod o deuluoedd nad ydynt yn coginio prydau bwyd ac yn dibynnu yn hytrach ar brydau parod sy'n aml wedi'u lygru â siwgr, halen a braster er mwyn cynyddu eu helw.

Mae tlodi'n fater cymhleth iawn, oherwydd er bod dosbarth, fel y dywedodd John yn gwbl gywir, yn benderfynydd mawr, serch hynny ceir gwahanol bobl o fewn y dosbarth gweithiol sydd ag ymatebion gwahanol i heriau cyflogau isel, addysg annigonol a'r gweddill i gyd. Felly, mae'n fater cymhleth iawn. Mae grym y diwydiant hysbysebu yn sicr yn ffactor yn y mater hwn, a'r ffordd y daw'n ôl at strategaeth y Llywodraeth yw mai prydau ysgol yn aml yw'r unig bryd iawn y mae llawer o blant yn ei gael. Ac yna, fel y nododd adroddiad 'Holiday Hunger' Sefydliad Bevan, mae'r broblem yn tyfu'n un ddifrifol yn y gwyliau pan nad yw'r pryd ysgol hwnnw ar gael mwyach.  

Nawr, mae'r rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol, a gafodd ei threialu ddwy neu dair blynedd yn ôl, wedi llwyddo i ddangos ei bod yn cael effaith wirioneddol fawr ar y plant sy'n cymryd rhan ynddi. Gwnaeth Bwyd Caerdydd waith ymchwil a ddangosai fod traean o'r plant hynny wedi mynd heb bryd o fwyd y diwrnod cynt cyn iddynt ddod i'r cynllun gwyliau Bwyd a Hwyl. Felly, er ei bod yn wych fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £400,000 arall i'r cynllun hwn, nid yw ond yn ddiferyn yn y môr pan edrychwn ar yr ystadegau eu hunain. Cafodd tua 2,500 o blant ysgol fudd o'r system hon yr haf diwethaf; gobeithio y bydd llawer mwy yr haf yma. Ond nid yw'n cyffwrdd â'r 76,000 o blant, fan lleiaf, sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru a'r 160,000 i 180,000 o blant sy'n byw mewn tlodi cymharol, a llawer ohonynt ar aelwydydd sy'n gweithio.  

Gwyddom mai cael swydd yw'r llwybr gorau allan o dlodi. Mae 70 y cant o blant yn byw mewn cartrefi lle nad oes neb mewn gwaith, 35 y cant mewn cartrefi lle mae un yn ennill cyflog, a 15 y cant mewn cartrefi lle mae dau o bobl yn ennill cyflog hyd yn oed. Felly, mae rhan o hynny oherwydd y cyflogau gwael y mae rhai cyflogwyr yn eu talu. Cyfarfûm â dyn ar y stryd yn fy etholaeth y bore yma a ddywedodd wrthyf ei fod wedi cael cynnig swydd am £4.50 yr awr mewn bwyty. Mae hyn yn gwbl anghyfreithlon, am mai hanner yr isafswm cyflog ydyw. Ond rwy'n siŵr fod llawer o gwmnïau'n cael rhwydd hynt i wneud hynny am nad oes digon o orfodaeth yn digwydd.  

Rwyf am edrych ar bwy sy'n gymwys i gael pryd ysgol am ddim, oherwydd gwyddom, ar ddiwrnod y cyfrifiad ysgol yn 2017-18, fod llai na hanner y plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol ac sydd mewn addysg amser llawn yng Nghymru wedi cael pryd ysgol am ddim mewn gwirionedd, ac ni wnaeth chwarter y plant a oedd yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim fwyta'r pryd hwnnw. Ni fanteisiodd rhai o'r plant ar y pryd ysgol am ddim er eu bod yn gymwys i'w gael. Felly, mae hon yn broblem wirioneddol gymhleth.

Pwy sy'n gymwys heddiw, gan fod gennym y credyd cynhwysol hefyd yn ogystal â chymhorthdal incwm a lwfans cyflogaeth a chymorth? Wel, bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyfyngu'r rhai ar gredyd cynhwysol i'r rhai a oedd â throthwy enillion net o £7,400 ar ôl ystyried costau tai. Mae'n ddull anfanwl iawn, oherwydd mae aelwyd gyda dau oedolyn ac un plentyn angen llai o incwm nag aelwyd gyda dau oedolyn a thri o blant. Felly, drwy osod cap sy'n ystyried incwm a enillir yn unig, yn anffodus mae Llywodraeth Cymru'n gwaethygu tlodi mewn teuluoedd mwy o faint, grŵp sydd eisoes mewn mwy o berygl o fod yn byw mewn tlodi.  

Ceir llawer o ffyrdd gwahanol y gallem fynd i'r afael â phroblemau deiet annigonol i iechyd, gyda chyrhaeddiad addysgol yn is, yn ogystal â'r broblem wirioneddol heriol sydd gennym gyda gordewdra. Ond rydym yn byw mewn gwlad lle nad yw traean o'r holl fwyd a gynhyrchir byth yn cyrraedd y bwrdd; caiff ei daflu. Felly, rhaid inni gael ffordd o ddatrys y broblem hon a rhaid inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i'w datrys, oherwydd y gwahaniaeth rhwng awdurdodau lleol o ran pwy sy'n cael pryd ysgol am ddim, hyd yn oed os ydynt mewn dyled yn eu system heb arian parod mewn ysgolion uwchradd, mae gwahaniaeth enfawr yn hynny, ac mae gwahaniaeth enfawr yn lefel y ddyled prydau ysgol rhwng gwahanol awdurdodau lleol—o £770 yn Rhondda Cynon Taf i'r swm enfawr o £85,000 yng Ngwynedd.  

18:45

Felly, dyma rai o'r materion cymhleth a byddai'n wych pe bai gennym strategaeth dda iawn y gallem i gyd fod yn craffu arni. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, John, am gychwyn y ddadl hon, a hefyd i bawb a gyfrannodd, ac mae'n bleser dilyn Jenny hefyd, a ganolbwyntiodd ar fwyd. Ac rwyf innau am ganolbwyntio fy sylwadau byr ar faes penodol. Hoffwn ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â newyn a thlodi bwyd, a'r ymgyrch a fu ar y gweill yn genedlaethol ers rhai misoedd bellach, sef ymgyrch y Blaid Gydweithredol yn genedlaethol dros gyfiawnder bwyd.

Mae'n cychwyn o'r rhagosodiad sylfaenol y dylai bwyd iach, maethlon, fforddiadwy fod yn hawl sylfaenol i bawb. Ni waeth beth yw eich amgylchiadau, ble rydych chi'n byw, o ble rydych chi'n dod, dylai bwyd iach, maethlon, fforddiadwy fod yn hawl. Ac eto mae gennym ormod o bobl ledled y DU ac yma yng Nghymru yn newynu, ac ar ôl degawd o gyni gan y Torïaid y digwyddodd hynny; ni allwn anwybyddu hynny. Mae gennym gynnydd diddiwedd mewn banciau bwyd; mae'n un symptom o broblem fwy. Caiff ei gwaethygu gan newidiadau creulon i drethi a lles sydd wedi taro'r bobl sy'n cael y cyflogau isaf a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac yn y cymunedau lle rydym yn byw.

Mae achosion newyn wedi eu gwreiddio mewn cyni, ac mae polisïau Torïaidd y DU ar gredyd cynhwysol, y cap ar fudd-daliadau a rhewi budd-daliadau a'r dreth ystafell wely oll wedi chwarae eu rhan, ond hefyd, fel y crybwyllwyd yn y ddadl hon, mae gennym economi camweithredol nad yw bellach, yn rhy aml, yn talu cyflog teg am ddiwrnod teg o waith i ormod o bobl. Ac mae gennym farchnad dai sydd wedi torri sy'n ychwanegu at dlodi a dyled. Yn syml, mae gennym ormod o bobl yn newynu ar sail ddyddiol yn y DU, yn y chweched wlad gyfoethocaf ar y blaned.  

Ac eto, ar yr un pryd, mae gennym dwf di-baid mewn gordewdra a diabetes math 2 a chyflyrau eraill, cyflyrau a all ddinistrio ansawdd bywyd unigolyn, a byrhau bywydau. Maent hefyd yn effeithio ar ein GIG wrth gwrs. Ac mae rhai cymunedau yn awr yn anialwch bwyd i bob pwrpas, lle nad yw pobl yn gallu cael gafael ar fwyd maethlon, iachus, fforddiadwy. Mae newyn a diffyg maeth yn broblem ar draws y DU, a chaiff ei chymell gan gyni parhaus a newidiadau dinistriol i drethi a lles.  

Ond ni allwn anwybyddu canfyddiadau diweddar adroddiad Cynghrair Tlodi Bwyd De Cymru, sy'n datgan bod 98,350 o gyflenwadau bwyd argyfwng tri diwrnod wedi'u darparu ar gyfer pobl mewn argyfwng yng Nghymru yn 2017-18—pobl mewn argyfwng—gan fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell. O'r rhain, aeth dros 35,000 i blant yn y wlad hon. Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae un o bob pump o bobl yng Nghymru yn poeni ynglŷn â rhedeg allan o fwyd, ac roedd chwarter y rhai rhwng 16 a 34 oed a holwyd yng Nghymru wedi rhedeg allan o fwyd yn y flwyddyn ddiwethaf.  

Mae'r Food Foundation, fel y soniodd John, wedi dangos bod 160,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn cartrefi lle mae deiet iach yn fwyfwy anfforddiadwy. Mae plant oedran derbyn yng Nghymru yn llawer mwy tebygol na chyfartaledd Cymru o fod yn ordew os ydynt yn byw mewn ardaloedd sydd â lefelau uwch o amddifadedd. Ac mae'r bwlch rhwng lefelau gordewdra yn y cwintelau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ein cymdeithas wedi cynyddu o 4.7 y cant yn 2015-16 i 6.2 y cant yn 2016-17. Mae popeth yn mynd i'r cyfeiriad anghywir.

Felly, fe allwn ac fe ddylem ddefnyddio pob dull sydd ar gael inni i fynd i'r afael â hyn yng Nghymru, hyd yn oed os yw'r Llywodraeth ar lefel y DU, sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, fel pe bai'n benderfynol o wneud pethau'n waeth. Ac mae gennym y polisi a'r fframwaith deddfwriaethol cywir i wneud hyn gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae gennym ymrwymiad trawslywodraethol i fynd i'r afael â phob ffurf ar dlodi. Ond fel y clywsom mor aml heddiw, y strategaeth, y cyfeiriad, y cerrig milltir a'r arweiniad clir ar hyn sydd ei angen arnom.

Ond mae angen i ni wneud mwy i fynd i'r afael ag anghyfiawnder bwyd. Camau ymarferol. Felly, mae ein hymgyrch yn galw ar gynghorau ledled Cymru i ddynodi aelod arweiniol ar gyfer tlodi bwyd; llunio cynllun gweithredu ar fwyd, gan weithio gyda phartneriaid lleol ar lawr gwlad; cael ysbrydoliaeth o'r ymatebion sy'n dod i'r amlwg yn y gymuned i dlodi bwyd; gweithio gyda'r partneriaethau bwyd lleol presennol, neu fel arall, yn niffyg hynny, sefydlu partneriaeth o'r fath; a mesur maint y broblem yn eich ardal, oherwydd gwyddom fod yr hyn y byddwch yn ei fesur yn cael sylw. Ac ar lefel Cymru gyfan, Weinidog, yn seiliedig ar ein Deddf flaenllaw ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol, galwn am gydnabod yr hawl i fwyd iach a maethlon ac ymrwymiad i sicrhau cyfiawnder bwyd yn y cerrig milltir cenedlaethol newydd yng Nghymru, er mwyn i ni allu olrhain cynnydd.

Ddirprwy Lywydd, mae wedi bod yn bleser gweld cynifer o Aelodau'r Cynulliad hwn a chynghorwyr ar draws y tir a phobl gyffredin yn cefnogi'r ymgyrch hon dros gyfiawnder bwyd. Mae llawer o Weinidogion wedi ymrwymo iddi hefyd. Felly, yn unol â natur ystyrlon a sobr y ddadl hon heddiw, gadewch inni droi'r ymgyrchu hwn yn weithredu go iawn ar lefel leol a chenedlaethol. Gadewch i ni sicrhau bod mynediad at fwyd maethlon, iach yn hawl a gadewch inni roi camau ymarferol ar waith i sicrhau nad oes neb yn newynu yn y chweched wlad gyfoethocaf yn y byd.  

18:50

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi ymateb i'r ddadl, a gaf fi ddweud y gallai Aelodau fod wedi gweld newyddion yn ystod y ddadl hon ynglŷn â dyfodol ffatri geir Ford Pen-y-bont ar Ogwr? Dyfalu pur ydyw ar hyn o bryd, ac nid yw Ford yn gwneud sylwadau am y mater. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau fy mod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â'r Prif Weinidog heddiw. Rwyf hefyd wedi siarad ag Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clark, a hefyd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ac rwy'n gofyn am drafodaethau brys gyda Ford. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mater cyn gynted ag y bydd gennyf ragor o fanylion.

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddechrau fy ymateb i'r ddadl hon drwy ddiolch yn ddiffuant i'r Aelodau am eu cyfraniadau rhagorol yn y ddadl? Hoffwn ddiolch yn benodol i'r rhai a gyflwynodd y cynnig pwysig hwn heddiw. Rwy'n falch o allu cael y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n deg dweud, pan siaradwn yn y Siambr am y pethau sy'n bwysig i'n cymunedau—creu swyddi, pwysigrwydd gwaith teg, a grybwyllwyd gan gynifer heddiw, yr angen am addysg o safon uchel neu adeiladu tai o ansawdd da—yr hyn a ddywedwn mewn gwirionedd, boed yn glir ai peidio, yw ein bod am i bawb gael cyfle i fyw bywyd llawn, bywyd yn rhydd o'r hualau a'r cyfyngiadau y mae tlodi'n eu creu. Ac fel rhywun a fagwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn fab i weithiwr dur, ac a fagwyd mewn cymuned ddosbarth gweithiol ac a fynychodd ysgolion y wladwriaeth, dileu tlodi oedd yr union reswm pam y dechreuais i mewn i gwleidyddiaeth etholedig. Mae wedi llywio popeth a wneuthum ym mhob un o'r rolau gweinidogol y bu'n fraint gennyf eu cyflawni—yr awydd i atal tynged plentyn rhag cael ei bennu gan yr hyn y cawsant eu geni iddo.

Rwy'n credu bod y rôl sydd gennyf yn awr yn arbennig o bwysig yn hyn o beth. Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth sy'n codi i ymateb i'r ddadl hon heddiw gan mai'r rôl honno sy'n crynhoi dull gweithredu Llywodraeth Cymru o frwydro yn erbyn tlodi. Sef, mai dim ond drwy economi gref, wydn a deinamig y gall pawb ym mhob rhan o Gymru elwa, ac yn ei dro, bydd gwneud hynny'n gallu helpu i ddileu tlodi. Mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i lunio i'r diben penodol hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, wrth inni edrych yn ôl dros 20 mlynedd o ddatganoli, rwy'n falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros yr amser hwnnw i gefnogi unigolion a theuluoedd sy'n gweld bod tlodi'n cyfyngu ar eu bywydau. Rydym wedi datblygu model blaengar o gymorth i bobl yng Nghymru ac wedi ychwanegu ato a'i wella dros gyfnod datganoli. Mae'n canolbwyntio ar y pethau bach, y pethau bara menyn, sydd wedi dangos mewn ffordd hynod ymarferol fod pryderon teuluoedd sy'n gweithio yn bryderon go iawn. Cyflog cymdeithasol ydyw, sy'n cynnwys presgripsiynau am ddim, y lwfans cynhaliaeth addysg, nofio am ddim, y tocyn bws am ddim, cynllun maeth gwyliau ysgol y mae fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn ei ehangu, ac wrth gwrs y prydau ysgol am ddim yr ydym yn gwario £7 miliwn yn fwy arnynt eleni na'r llynedd. I rai teuluoedd yng Nghymru, gall y cyflog cymdeithasol hwn fod yn gymaint â £2,000, gan godi pwysau oddi ar gyllidebau cartrefi. Ac mae'r dull hwnnw wedi canolbwyntio ar wneud y defnydd gorau posibl o'r pwerau sydd ar gael i ni yma yn Llywodraeth Cymru yn yr amgylchiadau anoddaf.

Ond ar ôl etholiadau'r Cynulliad 2016, yr hyn a ddaeth yn glir iawn oedd bod angen dull o weithredu arnom, fel Llywodraeth Lafur Cymru, a fyddai'n harneisio'r pŵer a oedd gennym ar draws y Llywodraeth yn fwy effeithiol, ac fel Gweinidog yr economi, roeddwn i mewn sefyllfa effeithiol i arwain y gwaith hwnnw. Fel Gweinidog yr Economi a Seilwaith, roeddwn yn glir iawn fod cymunedau cydnerth ac economïau cydnerth yn cael eu tanategu gan gyflogaeth leol o ansawdd da, seilwaith cysylltiedig, a sgiliau ar gyfer gwaith. Rwy'n hynod falch o'r economi gryfach y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i sicrhau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae 300,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru ers 1999, ac mae cyfran y bobl o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau wedi mwy na haneru. Yn fwyaf calonogol efallai, mae'r cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru bellach yn cymharu'n fras neu'n is na chyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed.

Ond wrth gwrs, rydym yn cydnabod y bydd y pum mlynedd nesaf yn creu heriau enfawr i'n cymunedau. Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith lawn diwygio lles yn cael ei ddwysáu gan gyflymder cynyddol newid technolegol a'i effaith ar waith a'r farchnad lafur. Bydd defnyddio'r holl ysgogiadau economaidd sydd ar gael inni i sicrhau bod cymunedau a'r unigolion sy'n byw ynddynt yn fwy gwydn yn wyneb yr heriau y byddant yn eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf yn allweddol i'n dull o drechu tlodi, a dyna pam ein bod wedi datblygu dull trawslywodraethol o gefnogi economïau tecach a chryfach ar draws pob un o'n rhanbarthau.

Ar gyfer unigolion sydd angen sgiliau ar gyfer gwaith, addewid o raglen gyflogadwyedd newydd sy'n dwyn ynghyd ein rhaglenni presennol mewn un system gymorth wedi'i hadeiladu o amgylch yr unigolyn, a'i theilwra ar gyfer yr unigolyn, ac wedi'i chynllunio'n well i fynd i'r afael ag anweithgarwch. Ar gyfer unigolion sydd eisiau sgiliau uwch, addewid i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bob oed. Ar gyfer busnesau sydd am dyfu a chyflogi pobl, contract economaidd newydd i gynyddu'r gwaith teg sydd ar gael a darparu'r math o dwf cynhwysol y soniodd Huw Irranca-Davies am yr angen amdano. Ar gyfer rhieni sy'n gweithio, i blant tair a phedair oed, addewid o 30 awr o ofal plant am ddim, 48 wythnos o'r flwyddyn, i helpu mwy o bobl i ddychwelyd i'r farchnad lafur. Ac ar gyfer cymunedau, buddsoddi mewn seilwaith cryfach a mwy integredig, er mwyn sicrhau bod prosiectau mawr fel y cynlluniau metro'n dod â newidiadau gwirioneddol drawsnewidiol i economïau lleol a chymunedau lleol. Rydym wedi datblygu hyn oherwydd ein bod o'r farn mai hon yw'r strategaeth orau ar gyfer trechu tlodi yng Nghymru yn hirdymor.

Ond Ddirprwy Lywydd, fel y soniodd Rhianon Passmore—[Torri ar draws.] Cewch, yn wir.

18:55

Felly, rydych yn cadarnhau heddiw nad oes gennych fwriad o gwbl i gynhyrchu strategaeth wrthdlodi, ac na fydd y Llywodraeth yn cael cynllun gweithredu yn seiliedig ar y strategaeth honno.

Wel, fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym eisoes nifer o ddulliau a ffyrdd o drechu tlodi.

Rydych chi'n dweud bod hynny'n wir. Ni fydd—. Felly, ni fydd strategaeth.

Prif amcan y Llywodraeth hon yw sicrhau bod pob person yng Nghymru yn cael cyfle i weithio, gan sicrhau bod swydd ym mhob cartref. Dyna'r ffordd orau allan o dlodi a dyna'r ffordd orau o osgoi tlodi. Ond Ddirprwy Lywydd, fel y dywedodd Rhianon Passmore yn glir, mae angen i un elfen bwysig yn y ddadl hon ysgwyddo'i chyfrifoldebau. Ers bron i ddegawd bellach, mae cyni a thoriadau lles wedi golygu bod Llywodraeth y DU yn estyn i bocedi'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed er mwyn ariannu dogma economaidd. Ac i roi syniad i chi o'r hyn rydym wedi bod drwyddo, pe bai ein cyllidebau yng Nghymru wedi sefyll yn llonydd rhwng 2009 a 2019, byddai gennym £800 miliwn yn fwy i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, pe baent wedi tyfu'n unol â'r economi, byddem wedi cael £4 biliwn yn fwy gan Lywodraeth y DU i'w fuddsoddi yn ein gwlad. Fe ildiaf.

19:00

A ydych yn cydnabod bod tlodi plant yng Nghymru wedi dechrau codi yn 2004, ei fod eisoes ar y lefelau uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd a bod 90,000 o blant yng Nghymru, ddegawd yn ôl, mewn tlodi difrifol a bod dros un o bob pedwar yn byw mewn tlodi cymharol? Ni ddechreuodd hyn yn 2010.

A ydych chi felly'n anwybyddu'r cyfrifoldeb—y cyfrifoldeb clir—a fu gan Lywodraeth y DU ac sy'n parhau i fod ganddi am gyfraddau tlodi yng Nghymru? Pedair biliwn o bunnoedd yn fwy i'w fuddsoddi; dyna faint y dylem fod wedi'i gael. Dyna faint y byddem wedi'i gael pe bai Llywodraeth o gyfansoddiad gwahanol yn San Steffan. Mae'r gyfundrefn drethi a lles y mae Llywodraeth bresennol y DU yn ei gweithredu yn cael effaith enfawr ar gyfraddau tlodi yng Nghymru. Yn amlwg, gallent chwarae eu rhan, a dylent chwarae eu rhan, yn dileu'r rhaglen niweidiol a chynhennus o doriadau a buddsoddi mewn economïau sydd angen eu cymorth.

Ddirprwy Lywydd, atgyfnerthwyd ein dull gweithredu gan benderfyniad y Prif Weinidog newydd i wneud trechu tlodi yn faes blaenoriaeth ym mhroses cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn arwain gweithgor fel rhan o baratoadau'r gyllideb i gynyddu effaith ein buddsoddiad ar y cyd. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol hefyd yn datblygu'r gwaith a wnawn ar drechu tlodi plant, gan arwain adolygiad o raglenni ariannu er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Mae'r gwaith hwnnw'n ein helpu i wella ein dull o weithredu ac i ddatblygu neges gliriach i'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ynglŷn â'r cydweithredu sydd ei angen er mwyn sicrhau gwell canlyniadau.

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac rwy'n ymrwymo i weithio gyda hwy wrth i ni fwrw ymlaen â'r genhadaeth bwysig hon i roi diwedd ar dlodi yng Nghymru.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi dangos diddordeb brwd yn y ddadl hon ac sydd wedi cyfrannu? Gyda'r amser sydd ar gael i mi, nid wyf yn meddwl y byddaf yn gallu mynd drwy gyfraniadau pawb, ond rwyf am ddiolch i John am gyflwyno'r ddadl ac i Mike Hedges am ei chyd-gyflwyno. Yn y ddadl, clywsom John Griffiths yn agor drwy sôn am y gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y DU a goblygiadau hynny i iechyd, addysg, rhagolygon cyflogaeth, tai ac yn enwedig yr effaith hynod o niweidiol ar dlodi plant a'r effaith anghymesur ar fenywod. Siaradodd pawb a gyfrannodd at y ddadl am effaith tlodi plant, ac rwyf am nodi rhai o'r rheini.

Soniodd Mark Isherwood yn benodol am dlodi mewn gwaith ond credaf ei fod wedi methu cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn y broses a arweiniodd at y lefelau hynny o dlodi mewn gwaith a thlodi plant. Roedd Leanne Wood yn llygad ei lle yn tynnu ei sylw at hynny a nododd hynny fel maes pwysig. Soniodd hefyd am yr angen i'r Llywodraeth wrando ar bobl sy'n byw mewn tlodi a'u cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau. Siaradodd Lynne Neagle am waith ei phwyllgor, yn enwedig mewn perthynas â thlodi plant, a soniodd am stigma tlodi, gan ddefnyddio'r ffaith nad yw plant yn gallu fforddio cymryd rhan mewn pethau fel gweithgareddau ysgol yn enghraifft. Cyfeiriodd Mike Hedges at y cynnydd yn nifer y banciau bwyd a thai gwael ac yn wir, cyfeiriodd at y nifer anghymesur o bobl anabl sy'n byw mewn tlodi hefyd.

Galwodd Siân Gwenllian am gynllun gweithredu i fynd i'r afael â thlodi yn y strategaeth dlodi. Roedd gennych saith pwynt, Siân, ond nid oes gennyf amser i fynd drwy bob un ohonynt.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Roeddwn yn siomedig iawn i glywed nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r strategaeth fawr ei hangen hon, strategaeth y galwodd pob un ohonom sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw amdani.

Dof at yr hyn rwy'n ei feddwl o safbwynt y Llywodraeth mewn munud. Cyfeiriodd Rhianon Passmore wrth gwrs at ddosbarthu cyfoeth yn deg, ac i'r rheini ohonom sy'n sosialwyr, credaf fod hwnnw'n bwynt sylfaenol i bob un ohonom: dosbarthu cyfoeth yn decach.

Siaradodd Jenny Rathbone a Huw Irranca-Davies ill dau am effaith tlodi bwyd. Siaradodd Huw Irranca yn arbennig am ymgyrch y Co-op ym maes cyfiawnder bwyd, a thynnodd Jenny sylw at y problemau sy'n gysylltiedig â diffyg maeth beunyddiol da a newyn gwyliau, pan fydd plant yn mynd heb brydau ysgol.

Rwy'n credu bod effeithiau tlodi yn amlwg iawn ym mhob cymuned. Dyma rai o'r penawdau o bapur newydd lleol yn fy etholaeth i, y Caerphillly Observer: ar 23 Mai, y pennawd oedd, 'Benefit caps hit hundreds in Caerphilly County Borough', ac o dan y pennawd nesaf gwelwyd y cynnydd yn nifer y cyflenwadau argyfwng gan fanciau bwyd.

Mae tlodi yn awr yn realiti beunyddiol mewn gormod o fywydau, ac eto mae Canghellor y DU yr wythnos hon yn parhau i wadu'r cysylltiad rhwng polisi cyni a'r nifer fawr o bobl sy'n dioddef tlodi. Cyfeiriwyd at hynny gan John Griffiths pan soniodd am adroddiad yr Athro Philip Alston yn gynharach. Mae'n ymddangos bod y Canghellor yn gwrthod tystiolaeth ei ystadegau swyddogol ei hun, ond bellach mae'n debyg ei fod yn cyfaddef nad yw'r economi'n gweithio fel y dylai. Wel, o edrych ar ffigurau'r banciau bwyd y cyfeiriodd John atynt yn gynharach, mae'n amlwg yn bryd i'r Canghellor ddihuno, oherwydd mae honno'n broblem fawr i'r wlad.  

Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud tlodi'n fater trawsbynciol i'r Cabinet, ac felly mae trechu tlodi yn gyfrifoldeb i bob Gweinidog, ac mae hynny i'w groesawu. Diolch i'r Gweinidog am nodi safbwyntiau a pholisïau'r Llywodraeth ar gyfer ceisio trechu tlodi yn ei ymateb i'r ddadl. Ond mae hefyd yn golygu, yn fy marn i, nad yw'r rheini sydd ag angerdd penodol ynghylch y materion sy'n ymwneud â threchu tlodi bob amser yn dod o hyd i'r ffocws sydd ei angen. Ac er ei bod yn wir, fel y dywedodd John Griffiths, nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ysgogiadau economaidd allweddol sy'n angenrheidiol er mwyn trechu tlodi, a chyfrifoldeb y DU dros les yn enwedig, mae rhai ohonom yn credu bod angen ffocws cliriach arnom, a byddai'r ffocws cliriach hwnnw hefyd yn ein galluogi i baratoi ar gyfer yr adeg pan fyddwn yn gweld dychweliad Llywodraeth yn y DU sy'n fwy parod i weithio mewn partneriaeth i helpu i drechu tlodi.

Mae llawer ohonom yn cofio'r hyn a ddigwyddodd yn ystod cyfnod Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU: cafodd plant eu tynnu allan o dlodi—

19:05

—sefydlu ac ehangu'r rhaglen Dechrau'n Deg, buddsoddi yn rhagolygon bywyd pobl ifanc. Felly, ein tasg ni yw cadw'r ffocws cryf hwnnw ar yr agenda trechu tlodi. Ein her ni ydyw a dyna'r rheswm pam y cyflwynwyd y ddadl hon yma heddiw.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Iawn, felly fe gawn bleidlais.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rwy'n bwriadu symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na, iawn.

8. Cyfnod Pleidleisio

Felly, symudwn ymlaen at y cyfnod pleidleisio a'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw cynnig i ethol aelod i bwyllgor. A gaf fi atgoffa'r Aelodau—? Rydych i gyd yn mynd i wneud camgymeriadau, oherwydd does neb yn gwrando. A gaf fi atgoffa'r Aelodau, pan gynhaliwn y bleidlais hon, fod angen mwyafrif o ddwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio cyn y gellir derbyn y bleidlais? Felly, rwy'n bwriadu galw yn awr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, a dau yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM7063 - Cynnig i Ethol Aelod i Bwyllgor: O blaid: 14, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 20, roedd pedwar yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7058 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 32, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7058 - Gwelliant 1: O blaid: 32, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7058 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig.

2. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn 2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws uwchgyfeirio gael ei ostwng.

3. Yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 32, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

19:10

NDM7058 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 32, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar refferendwm cadarnhau'r Undeb Ewropeaidd. A galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 36, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM7059 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 36, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna'r pleidleisio ar ben— [Torri ar draws.] Iawn. Felly, symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar drechu tlodi. A galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw John Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 39, roedd 12 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM7029 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Dychwelwn yn awr at yr agenda a'r ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda?

9. Dadl Fer: Dad-ddofi Tir Cymru: Yr achos dros anadlu bywyd i'n tirweddau a'n cymunedau gwledig ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd

Symudwn yn awr at eitem 9, sef y ddadl fer, a galwaf yn awr ar Joyce Watson i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Joyce.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o arwain y ddadl fer heddiw ac wrth fy modd yn rhoi amser i fy nghyd-Aelodau, John Griffiths a Llyr Gruffydd. Edrychaf ymlaen at eu cyfraniadau, ac wrth gwrs, at ymateb y Gweinidog. Heddiw yw Diwrnod Amgylchedd y Byd, ac eleni yn arbennig mae'n teimlo fel pe bai'n dod ar adeg bwysig. Rydym wedi gweld protest Extinction Rebellion a'r streiciau ysgol a ysbrydolwyd gan Greta Thunberg. Protestiodd cannoedd o bobl ifanc y tu allan i'r Cynulliad hwn ym mis Chwefror fel rhan o fudiad ieuenctid byd-eang y streiciau hinsawdd. Ar yr un pryd, mae pobl wedi bod yn gwylio cyfres newydd David Attenborough ar y BBC ar y newid hinsawdd ac yn mynnu camau gwleidyddol ledled Ewrop. Mae'n ymddangos bod rhywbeth pwysig iawn yn digwydd. Mae Llywodraeth Cymru ar flaen y gad. Mae wedi datgan argyfwng hinsawdd. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn gobeithio y bydd y datganiad yn sbarduno ton o weithredu. Ddoe gwelsom hynny pan gyhoeddodd y Prif Weinidog na fydd ffordd liniaru'r M4 yn mynd yn ei blaen oherwydd bod yn rhaid inni roi mwy o bwyslais ar y ddadl amgylcheddol. Mae'r hyn a ddywedodd John Prescott yn enwog:

Cyflawniad Llafur yw'r llain las, a bwriadwn adeiladu arno.

Wel, mae datgan argyfwng hinsawdd yn un o bolisïau mawr Llafur Cymru, a heddiw rwyf am adeiladu ar hynny drwy siarad am ddad-ddofi.

Mae dad-ddofi'n bwnc llosg, ac yn un dadleuol. A siarad yn fras, mae'n ymwneud ag adfer tirweddau i'w cyflwr naturiol, a thrwy hynny greu cynefinoedd mwy gwyllt a bioamrywiol. Mae'n tueddu i fachu'r penawdau pan fydd anifeiliaid rheibus yn cael eu hailgyflwyno, anifeiliaid fel eirth a bleiddiaid. Yma yng Nghymru, mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn arwain prosiect afancod Cymru, sy'n ymchwilio i ddichonoldeb ailgyflwyno afancod gwyllt. Mae'r Alban eisoes wedi cydnabod bod afancod yn rhywogaeth frodorol, ac wedi sefydlu rhaglen reoli ac amddiffyniadau cyfreithiol. Y cynllun i Gymru, a gyflwynwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Ymddiriedolaeth Bevis yn 2015, yw sefydlu 10 pâr ar hyd afon Cowyn a Nant Cennin yn Sir Gaerfyrddin. Hyd yn hyn, mae 50 o ffermwyr a thirfeddianwyr ar hyd yr afon wedi cytuno i gefnogi rhyddhau afancod neu ganiatáu monitro. Ond wrth gwrs, gall ildio mwy o dir i natur, yn hytrach na'i ddefnyddio i dyfu cnydau neu fagu da byw, fod yr un mor ddadleuol ag ailgyflwyno anifeiliaid.  

Ond yn ôl adroddiad newydd gan y sefydliad Rewilding Britain, gallai cymaint â chwarter tir y DU gael ei adfer i natur heb ostyngiad canlyniadol i gynhyrchiant bwyd nac incwm ffermydd. Ac mae'r grŵp yn galw am wario biliynau o bunnoedd mewn cymorthdaliadau fferm ar greu coetiroedd a dolydd brodorol, ac ar ddiogelu mawnogydd a morfeydd heli. Yn ogystal â helpu bywyd gwyllt, maent yn honni y gallai'r cynllun ostwng allyriadau carbon ein gwlad i sero.

Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog ymateb polisi Llywodraeth Cymru i'w hymgynghoriad 'Brexit a'n tir', ac wrth ei wraidd mae'r egwyddor fod yn rhaid i arian cyhoeddus gefnogi nwydd cyhoeddus, nid budd preifat. Y peth pwysicaf yw diffinio beth yw nwydd cyhoeddus. Cynllun Rewilding Britain yw gosod dal a storio carbon yn ganolog fel model o daliadau sy'n gweld gwerth dal a storio carbon mewn gwahanol ecosystemau a adferwyd er mwyn lliniaru newid hinsawdd yn hirdymor. Mewn geiriau eraill, golyga hynny ddad-ddofi wedi'i reoli, nid esgeuluso rhannau o'n cefn gwlad. Roedd tua hanner y 12,000 a ymatebodd i 'Brexit a'n tir' yn cefnogi argymhellion y Llywodraeth ar gyfer taliadau yn seiliedig ar ganlyniadau ac ar gyfer mwy o bwyslais ar ganlyniadau amgylcheddol. Nid oedd yr hanner arall, ffermwyr yn bennaf, yn eu cefnogi. Mae angen inni eu hargyhoeddi â'r dadleuon hynny.

O ran yr ucheldiroedd, roedd rhai'n cydnabod y peryglon o ddadstocio, tra bod eraill yn tynnu sylw at y manteision amgylcheddol enfawr posibl. Roedd un ymatebydd yn bryderus y byddai Cymru, mewn 20 mlynedd, yn 'genedl o geidwaid parciau'. Ni allwch blesio pawb drwy'r amser, a nododd un ymatebydd fod angen ewyllys wleidyddol a dewrder enfawr i ddarparu cynllun nwyddau cyhoeddus beiddgar. Rydym eisoes wedi cael model o'r hyn y gallai hynny ei olygu yng nghanolbarth Cymru. Bydd prosiect O'r Mynydd i'r Môr yn dwyn ynghyd un ardal sy'n gyfoethog o ran ei natur, yn ymestyn o fasiff Pumlumon—yr ardal uchaf yng nghanolbarth Cymru—i lawr drwy gymoedd coediog i aber afon Dyfi ac allan i fae Ceredigion. O fewn pum mlynedd, bydd yn cynnwys o leiaf 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o fôr. Rwy'n crwydro oddi ar y testun braidd, ond mae'n ymddangos i mi mai llwyddiant mawr prosiect llwybr arfordir Cymru oedd dod o hyd i ffordd o gysylltu'r holl hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau caniataol a negodi mynediad newydd i dir preifat. Drwy wneud hynny, erbyn hyn gall pobl fwynhau 870 o filltiroedd di-dor o gerdded o Gas-gwent i Queensferry, os yw'r stamina ganddynt.

Pam na allwn ni wneud rhywbeth tebyg ar gyfer bywyd gwyllt? Rhowch ryddid iddo grwydro, nid ei ynysu mewn pocedi. Mae O'r Mynydd i'r Môr yn profi sut y byddai'r partneriaethau hynny rhwng amryfal ddaliadau tir a thaliadau am nwyddau cyhoeddus yn gweithio ar raddfa fawr. Beth bynnag yw'r strategaeth, rhaid inni wneud rhywbeth a rhaid inni wneud hynny yn awr. Mae Prydain yn un o'r gwledydd lle mae natur wedi dihysbyddu fwyaf yn y byd. Rydym yn fwy ffodus na'r rhan fwyaf yn y wlad hon—mae Cymru'n cynnal cyfran fawr o boblogaeth y DU o lawer o rywogaethau adar sy'n magu ac yn gaeafu, er enghraifft, ac yn wahanol i Loegr, nid ydym yn lladd un o'n hychydig famaliaid brodorol en masse, sef moch daear. Fodd bynnag, rydym wedi gweld dirywiad dramatig hefyd. Dengys adroddiad 2016 ar gyflwr byd natur fod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu a bod niferoedd bron i draean o'r adar yma yn lleihau'n sylweddol. Ar draws y DU, mae 56 y cant o rywogaethau wedi dirywio ers 1970.

Ond nid yw'n ymwneud â'r syniadau mawr; bob dydd, mae newidiadau bach yn hanfodol hefyd. Ychydig wythnosau'n ôl, cyfarfûm â Pauline Hill, swyddog pobl a bywyd gwyllt gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn Aberhonddu, a buom yn siarad am dri phrosiect bywyd gwyllt yn Ystradgynlais yn yr ysbyty, y llyfrgell a rhandiroedd Penrhos. Daeth y cynllun swyddogol i ben y llynedd, ond mae eu gwaddol yn parhau yn y gymuned a thrwy ymgysylltu, ac yn cynnig manteision amgylcheddol. Drwy gydol mis Mehefin, mae'r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt yn annog pobl i wneud rhywbeth gwyllt bob dydd, fel rhan o'i her 30 Diwrnod Gwyllt. Gallwn i gyd wneud ein rhan, yn enwedig yn yr 1.4 y cant o Gymru a ddiffinnir fel mannau trefol gwyrdd, parciau a gerddi. Mae'r ardaloedd hynny'n hanfodol i fywyd gwyllt, nid yn unig er mwyn cynnal bioamrywiaeth, ond fel mannau cysylltu â'r 60 y cant o dir a ffermir, a'r 35 y cant sy'n ofod naturiol—rhosydd, coedwigoedd, llynnoedd, glaswelltiroedd, ac ati. Treuliais y bore yma ar do'r Pierhead, yn ymweld â'r gwenyn. Er enghraifft, maent hwy, yn eu tro, yn bwydo ar yr ardaloedd bywyd gwyllt a blannwyd yn yr ysgolion lleol. Yr un syniad sydd wrth wraidd menter coridorau gwyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnffyrdd a thraffyrdd. Ond fel y dywedais, mae 95 y cant o Gymru yn cynnwys tir fferm a thir naturiol, felly dyna lle gallwn, a lle mae'n rhaid inni wneud y gwahaniaeth mwyaf. Ac os ydym o ddifrif ynglŷn â defnyddio arian cyhoeddus i ddarparu nwydd cyhoeddus, mae dad-ddofi'n rhan o'r ateb mawr, beiddgar a dewr sydd ei angen arnom.

19:20

Roeddwn yn falch iawn heddiw o noddi digwyddiad Diwrnod Amgylchedd y Byd yma yn y Senedd, i nodi pwysigrwydd gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r argyfwng ecolegol sy'n ein hwynebu, er mwyn adfer natur yng Nghymru. Fel y clywsom, mae natur Cymru mewn cyflwr bregus. Mae hanner bywyd gwyllt Cymru yn dirywio, ac mae dyfodol cannoedd o rywogaethau o dan fygythiad. Er mwyn mynd i'r afael â'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod ein tir a'n moroedd yn cael eu rheoli i gefnogi adferiad natur a bod natur yn cael lle canolog yn y Llywodraeth yma. Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i bolisïau cywir i fynd i'r afael â hyn gynnwys dad-ddofi, a dylid ei ystyried yn un o'r dulliau rheoli cadwraethol a ddefnyddiwn i fynd i'r afael â'r argyfwng ecolegol hwn. Er enghraifft, adfer mawnogydd neu ganiatáu aildyfiant naturiol coetiroedd. Ond rhaid inni hefyd gydnabod bod rhai cynefinoedd a rhywogaethau, fel y gylfinir—aderyn sy'n nythu ar y ddaear—yn ffafrio cynefin agored, ac felly bod angen ei reoli'n weithredol drwy bori. Dyna'r cydbwysedd y mae'n rhaid inni ei daro.

Gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma? Ro'n i'n gwrando'n astud ar y sylwadau ynglŷn ag ailwylltio—os mai dyna yw'r term Cymraeg am rewilding. Yn amlwg, mae ailgyflwyno rhywogaethau yn bwnc sydd yn amserol yng Nghymru, ond dwi yn meddwl bod yna ragor o waith angen ei wneud i berswadio pobl bod ailwylltio ehangach, efallai, yn sicr yn rhywbeth y byddai pobl am ei weld. Dwi'n gwybod bod y cynllun O'r Mynydd i'r Môr wedi cychwyn ar droed anffodus, dwi'n credu, gyda llawer un yn teimlo ei fod e'n rhywbeth sy'n cael ei wneud i'n cymunedau gwledig ni, yn hytrach na rhywbeth—fel y dylai e fod, wrth gwrs—sy'n cael ei wneud ar y cyd â nhw. Felly, byddwn i yn taro'r nodyn yna.

Ond yr hyn yr o'n i eisiau ei ddweud mewn gwirionedd oedd, ro'n i eisiau clywed gan y Gweinidog, i bob pwrpas, ba gyfarwyddyd, neu ba arweiniad, y mae hi nawr yn ei roi i'r cyrff a'r sefydliadau cyhoeddus sydd o dan ei hadain hi, a'i hadran hi, mewn ymateb i'r datganiad argyfwng hinsawdd, sydd hefyd wrth gwrs yn cynnwys yr argyfwng bioamrywiaeth rŷm ni'n ei wynebu. Mi wnes i grybwyll ddoe wrth y Prif Weinidog, er enghraifft, y posibilrwydd o newid llythyrau cylch gorchwyl i gyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn y blaen, i adlewyrchu y newid cywair yma rŷm ni'n chwilio amdano fe oddi wrth y Llywodraeth. Ac felly, byddwn i'n awyddus iawn, yn ei hymateb hi, i glywed efallai a oes ganddi hi unrhyw sylwadau i'w hychwanegu at hynny yn benodol.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am gyflwyno dadl ar y pwnc hwn ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, a hefyd i John Griffiths am noddi'r digwyddiad amser cinio y cefais y pleser o siarad ynddo?

Credaf fod Joyce wedi gwneud pwynt perthnasol iawn pan ddywedodd ein bod ar adeg dyngedfennol yng nghyswllt yr argyfwng newid yn yr hinsawdd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr—mae gennym argyfwng bioamrywiaeth hefyd. Fel Llywodraeth, mae ein polisi adnoddau naturiol yn seiliedig ar ymrwymiad i gynyddu gwytnwch ecosystemau Cymru. Credwn fod gan ddad-ddofi, fel proses a reolir yn ofalus, botensial i fod yn rhan o'r ateb. A chredaf i Llyr gyfeirio at hyn pan—. Credaf fod rhaid i ni ddiffinio ystyr 'dad-ddofi'. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, oherwydd gall rannu barn, gyda rhai yn cysylltu'r cysyniad â'r arfer o gefnu'n gyffredinol ar dir a arferai gael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol, neu ailgyflwyno rhywogaethau eiconig o'r gorffennol pell i ardaloedd gwledig ar hap. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru, yn amlwg, yn cefnogi polisi o gefnu ar dir neu anifeiliaid yn y ffordd honno. Fodd bynnag, os yw dad-ddofi'n golygu adfer cadarnhaol neu greu cynefinoedd i gyfrannu at adeiladu rhwydweithiau cydnerth, ecolegol, yna credwn y gall hyn helpu i sicrhau amryw o fanteision amgylcheddol a manteision eraill i les cymunedau yng Nghymru.

Pe baem yn caniatáu i gefn gwlad Cymru ddatblygu drwy olyniaeth naturiol, mae'n debygol y byddai hyn yn troi rhannau helaeth o Gymru yn goetir, ac ar yr wyneb, gallai hyn ymddangos yn syniad deniadol, gan ein helpu i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd a phlannu coetiroedd. Fodd bynnag, nid yw llawer o'n cynefinoedd sydd dan fwyaf o fygythiad a'r rhai sy'n cael blaenoriaeth yng Nghymru yn goetir ac maent yn dibynnu ar reoli drwy bori, er enghraifft, i'w cadw mewn cyflwr mwy agored, i ganiatáu i'w rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid nodweddiadol ffynnu.

Yng Nghymru, mae gennym amrywiaeth ryfeddol o gynefinoedd a rhywogaethau yn ein moroedd ac ar ein tir, ac mae gennym amrywiaeth yr un mor ryfeddol o grwpiau cymunedol lleol a grwpiau ymgyrchu sydd yno o un diwrnod i'r llall i'n helpu i ddeall yn iawn, i werthfawrogi ac i ddiogelu'r asedau naturiol gwerthfawr hyn. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi gwaith y grwpiau hynny drwy gynyddu maint a chydlyniant ein safleoedd gwarchodedig, gan wella gwaith monitro, a'u cyflwr yn y pen draw. Y bore yma—a soniais am hyn amser cinio—cyhoeddais £11 miliwn o fuddsoddiad newydd tuag at adfer byd natur drwy ein cynllun grant galluogi adnoddau naturiol a llesiant. Bydd un o'r prosiectau'n arwain at greu 30 o ddolydd cymunedol newydd, ac adfer 22 o safleoedd eraill, drwy weithredu ar y cyd rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ein parciau cenedlaethol a 25 o bartneriaid eraill, gan gynnwys llawer o grwpiau cymunedol. Soniais hefyd fod un o'r cynlluniau cydweithredu rhwng y pedwar awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau eraill a fydd, gyda'i gilydd, yn profi dulliau cydweithredol newydd o leihau effeithiau lleol llygredd, rhywogaethau estron goresgynnol a phwysau amgylcheddol allweddol arall. Mae'r prosiectau hyn yn dangos y math o ddull cydweithredol sydd wedi'i adeiladu ar ffocws ar lesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol y credaf fod ei angen er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiadau sy'n wynebu ein hamgylchedd, gan wneud Cymru'n decach ac yn iachach ar yr un pryd. Ac rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer prosiectau llwyddiannus yn yr wythnosau nesaf.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym hefyd wedi darparu £20 miliwn ar gyfer 44 o brosiectau graddfa tirwedd ledled Cymru drwy ein cynllun rheoli cynaliadwy, gyda £3 miliwn arall ar gael drwy'r cylch ariannu nesaf. Mae'n agored i geisiadau ar hyn o bryd. Bydd gwersi pwysig i'w dysgu o'r gweithgarwch hwn, a dylai ein helpu i benderfynu a all dad-ddofi fod yn ddull addas o gyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol, ac ym mhle. Yn benodol, mae prosiect Coetir Anian, a ariennir drwy ein cynllun rheoli cynaliadwy, wedi cymhwyso egwyddorion dad-ddofi fel elfen greiddiol o'i ddull gweithredu.

Hoffwn sôn am ffermwyr Cymru hefyd sydd, yn fy marn i, â rôl ganolog i'w chwarae yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol, ac rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan lefel uchelgais ac ymrwymiad llawer o'n ffermwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu polisïau—a chyfeiriodd Joyce at y datganiad a wneuthum yma ddoe—sy'n gwobrwyo ffermwyr yn briodol am y canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol y maent yn eu cynhyrchu ynghyd â bwyd o safon uchel. Ein hegwyddor gyntaf sy'n llywio'r gwaith o ddatblygu ein polisi yw bod yn rhaid inni gadw ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir gweithgar eraill ar y tir. Gwnawn hynny er mwyn diogelu buddiannau ein cymunedau gwledig ac i sicrhau nad ydym yn colli'r wybodaeth leol unigryw nad yw ar gael yn unman arall, a'r sgiliau a'r ymroddiad sy'n bodoli yn y cymunedau hynny, ac yn hyn o beth, rhaid i'n polisi osgoi amddifadu neu gefnu ar ein hardaloedd gwledig.

Cyfeiriodd Llyr at y camau pellach yr oeddem yn eu cymryd mewn perthynas â'r argyfwng newid hinsawdd ac yn amlwg, yr argyfwng bioamrywiaeth. Y bore yma—a soniodd Joyce am hyn yn ei sylwadau agoriadol am y streiciau newid hinsawdd gan bobl ifanc—cyfarfûm â grŵp o bobl ifanc ynghyd â'r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac roedd yn ysbrydoliaeth. Roedd rhai ohonynt yn rhai bach o'r ysgol gynradd, eraill yn hŷn, a chlywsom beth y maent yn disgwyl inni ei wneud dros y blynyddoedd nesaf, ac rydym yn gweithio ar gynllun i nodi sut y gallwn sicrhau bod ein polisïau a'n hargymhellion—. Ac nid ydynt yn mynd i adael i mi ddianc oddi ar y bachyn. Maent am wybod pryd y gallant gyfarfod â mi eto, pryd y gallant ysgrifennu ataf i wneud yn siŵr fod y polisïau, yn enwedig y cynllun cyflawni carbon isel—y 100 o bolisïau ac argymhellion a gyflwynwyd gennym ym mis Mawrth—sut y bwriadwn eu gweithredu, ac a ydym yn mynd i'w newid yn sgil cyhoeddi'r argyfwng newid hinsawdd.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni achub ar bob cyfle i ddod â bywiogrwydd newydd i'r cymunedau hynny, a chredaf fod gan y syniadau a gyflwynwyd gan Joyce a John a Llyr i'r ddadl heddiw botensial gwych i wneud hynny. Diolch.

19:30

Daeth y cyfarfod i ben am 19:30.