Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

15/05/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:29 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Cyn i mi alw'r eitem gyntaf ar yr agenda, dwi'n dymuno hysbysu'r Cynulliad fy mod i wedi derbyn llythyr gan bedwar o Aelodau yn fy hysbysu o'u dymuniad i ffurfio grŵp yn unol â Rheol Sefydlog 1.3. Rwy'n ystyried y mater, yn unol â fy nyletswydd o dan y Rheolau Sefydlog, ac fe fyddaf i'n hysbysu'r Cynulliad ar fy nghasgliadau yn y man.

Pwynt o drefn, Alun Davies. 

13:30

Yn ychwanegol at y datganiad hwnnw, datganiad rwy'n ei werthfawrogi, Lywydd, hoffwn ofyn ichi hefyd ystyried y materion hyn o dan Reol Sefydlog 1.4, lle rhoddir lefel o ddisgresiwn ichi. Mae Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hon yn pryderu'n arw fod digwyddiadau heddiw yn tanseilio ein democratiaeth. Ni wnaeth y mentrwyr hyn sefyll etholiad o dan unrhyw label plaid y maent yn ei ddefnyddio heddiw. Maent yn defnyddio hyn er mwyn cael gafael ar adnoddau cyhoeddus ac arian cyhoeddus heb sefyll etholiad na cheisio caniatâd unrhyw un mewn unrhyw etholaeth neu ranbarth mewn unrhyw ran o Gymru. Nid oes enw yr un ohonynt wedi bod ar bapur pleidleisio. Mae'n tanseilio'r ddemocratiaeth y buom yn ei dathlu yr wythnos diwethaf. Mae gan Aelodau ar bob ochr i'r Siambr amheuon a phryderon difrifol iawn ynghylch y mater hwn, a gwn eich bod yn ymwybodol ohonynt, Lywydd, a gobeithiaf y gallwch ddefnyddio rhywfaint o'r disgresiwn sydd ar gael i chi i ystyried y materion hyn dros gyfnod o amser a fydd yn caniatáu i'r Aelodau ystyried eu meddyliau eu hunain a'u hymatebion eu hunain i'r cyhoeddiad hwn.

Dwi'n ddiolchgar i'r Aelod am ei gyngor ar bob achlysur, a gallaf sicrhau'r Aelod ac Aelodau eraill y byddaf i'n ymwybodol iawn o bob elfen o'r Rheolau Sefydlog sydd yn mynd i roi cyngor i mi ac arweiniad i mi wrth ddod i gasgliadau ar y materion yma. 

Hefyd cyn yr eitem gyntaf o fusnes y prynhawn yma, dwi angen hysbysu'r Cynulliad fod y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd, etc.) (Cymru), yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Sydd nawr yn dod â ni at y cwestiynau i Weindiog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders

Incwm Ffermydd

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r gostyngiad a ragwelir mewn incwm ffermydd? OAQ53843

Diolch. Mae anwadalrwydd yn nodwedd o'r sector ffermio, ac mae angen i fusnesau fod yn wydn er mwyn ymdopi ag amrywiadau prisiau a chostau. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ac arfogi busnesau fferm i wella eu dealltwriaeth a rheoli eu costau cynhyrchu.

Diolch. Mae'r rhagolygon a gyhoeddwyd yn ddiweddar o incwm ffermydd yng Nghymru yn darparu gwybodaeth sy'n peri cryn bryder ynghylch y sector. Mae'n dweud y bydd disgwyl i incwm cyfartalog busnesau fferm o bob math yn gyfunol ostwng 15 y cant i £29,500 y fferm o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy difrifol i ffermwyr llaeth, gan y rhagwelir—mae'n ddrwg gennyf, rwyf angen fy sbectol—y byddant yn wynebu gostyngiad o 23 y cant, a ffermwyr gwartheg a defaid yr iseldir, y disgwylir y bydd eu hincwm cyfartalog yn £17,000 yn unig. Fel y dywedodd John Davies, llywydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, mae'r rhagolygon yn dangos yr anwadalrwydd sy'n wynebu pob math o fferm yng Nghymru ac yn atgyfnerthu'r angen i bolisi amaethyddol yng Nghymru yn y dyfodol gynnwys elfen ganolog o sefydlogrwydd rhag anwadalrwydd. A wnewch chi ystyried cyflwyno grant anwadalrwydd amaethyddol y gall ffermwyr droi ato am gymorth pan fydd newidiadau yn y farchnad yn golygu bod parhau i weithredu busnesau a chynhyrchu bwyd yn beryglus yn ariannol? Diolch.

Diolch. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r wybodaeth a gyhoeddwyd. Credaf fod galwad wedi bod—. Ers inni gynnal ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir' y llynedd—yr ymgynghoriad cyntaf—yn sicr, cafwyd galwad i gael elfen ar gyfer anwadalrwydd. Credaf fod hyn hefyd yn dangos nad yw cynllun y taliad sylfaenol wedi darparu'r glustog honno yr hoffai ffermwyr ei gweld. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y byddaf yn gwneud datganiad llafar yn fuan iawn ynglŷn â'r ymgynghoriad cyntaf ar 'Brexit a'n tir', ac rwyf wedi ymrwymo i gychwyn ail ymgynghoriad cyn Sioe Frenhinol Cymru. Felly, yn amlwg, mae'r rhain oll yn bethau y gellir eu hystyried yn yr ymgynghoriad hwnnw.

Rhywogaethau Mewn Perygl o Ddiflannu

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad y Cenhedloedd Unedig sy'n datgan bod un filiwn o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu o ganlyniad uniongyrchol i weithgarwch dynol? OAQ53855

Diolch. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 2 a 3 gael eu grwpio.

Do, roeddwn wedi gwneud hynny, ond nid yw'r Aelod sy'n gofyn cwestiwn 3 yn y Siambr. Felly, ni ellir grwpio'r grŵp. Felly, atebwch y cwestiwn fel cwestiwn 2.

Diolch. Nid oeddwn wedi sylwi nad oedd yr Aelod yn bresennol, mae'n ddrwg gennyf.

Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â cholli bioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, fynd ati'n rhagweithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth drwy'r penderfyniadau a wnânt. Rydym hefyd yn darparu cymorth ariannol ac ymarferol i grwpiau cymunedol allu rhoi camau ar waith yn eu hardal leol.

13:35

Diolch am eich ateb. Weinidog, nododd y platfform polisi gwyddoniaeth rhynglywodraethol ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau bum ffactor uniongyrchol sy'n sbarduno newid mewn natur, gyda'r effeithiau byd-eang mwyaf yn cynnwys newid o ran defnydd tir a môr, ecsbloetio organebau yn uniongyrchol, newid yn yr hinsawdd, llygredd, gan gynnwys slyri, plaladdwyr a chwynladdwyr, a rhywogaethau goresgynnol. Mae effeithiau'r gweithgareddau dynol hyn ar fioamrywiaeth wedi bod yn drychinebus, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, er gwaethaf hynny, mae'r adroddiad yn mynd yn ei flaen i fod yn eithaf cadarnhaol, a dywed nad yw'n rhy hwyr i wneud gwahaniaeth, ond dim ond os gweithredir camau ar bob lefel, o'r lefel leol i lefel fyd-eang. A thrwy'r newid trawsnewidiol hwnnw, fe all natur wella.

Gwn eich bod wedi amlinellu rhai o'r newidiadau sy'n cael eu gwneud, a gwyddoch fy mod yn galw dro ar ôl tro am weithredu ar slyri a phethau eraill. Felly, pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio yn awr o leiaf i atal ac yna i wrthdroi'r difrod a wneir?

Diolch. Yn sicr, mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn peri cryn bryder, ond fel chithau, roeddwn yn falch iawn fod yr asesiad byd-eang wedi cydnabod nad yw'n rhy hwyr i wrthdroi tuedd, ond mae angen y newid trawsnewidiol hwnnw y cyfeirioch chi ato er mwyn gwneud hynny. Credaf ein bod ar y blaen o ran cydnabod bod bioamrywiaeth yn sail i'n lles economaidd a chymdeithasol, a chredaf ei bod yn gymaint o her â'r newid yn yr hinsawdd. Mae gennym ein deddfwriaeth flaengar ac arloesol a'n polisi i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae gennym ein polisi adnoddau naturiol, sy'n nodi ein blaenoriaethau i'n galluogi i wrthdroi dirywiad. Rwyf am sicrhau ecosystemau mwy gwydn, a byddwn yn gwneud hynny drwy'r polisi. Mae gennym hefyd ein cynllun gweithredu ar adfer natur, ac rwyf wedi gofyn am ei adnewyddu. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, a bydd yn adrodd yn ôl cyn diwedd y flwyddyn.

Yn sicr, rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am slyri a llygredd amaethyddol, ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r rheoliadau y byddaf yn eu cyflwyno fis Ionawr nesaf. Rwy'n dal i weithio'n agos iawn gyda rhanddeiliaid ar y mentrau gwirfoddol gan y credaf ei bod yn well cael yr ymagwedd ddeuol honno.

Weinidog, rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr yn cytuno bod adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn sobreiddiol iawn ac yn nodi'r brys sydd ei angen i ddiogelu ein bywyd gwyllt.

Mae'r adroddiad yn nodi bod llygredd yn un o'r ffactorau uniongyrchol sy'n sbarduno dirywiad rhywogaethau, ac mae'n cynnwys llygredd plastig wrth gwrs. Mae llygredd plastig yn broblem enfawr, ac fel hyrwyddwr rhywogaeth y pâl, rwy'n pryderu ynghylch yr effaith y gallai plastig morol ei chael ar boblogaeth y pâl yng Nghymru, yn enwedig ar ynys Sgomer.

Er eu bod yn gwneud yn gymharol dda yng Nghymru, mae palod ar y rhestr ambr o adar sy'n destun pryder cadwraethol yn y DU gan eu bod yn agored i newidiadau andwyol yn yr amgylchedd am fod eu poblogaeth fridio wedi'i chrynhoi ar nifer fach o safleoedd. O'r herwydd, mae cynnydd mewn llygredd plastig morol yn rhoi pwysau ar balod yng Nghymru a'r amgylchedd ehangach. O dan yr amgylchiadau, pa waith penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyfyngu ar y gwastraff sy'n cyrraedd ein moroedd er mwyn inni allu helpu i'w glanhau a diogelu ein bywyd gwyllt morol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?

Diolch. Credaf y byddaf yn clywed gan sawl Aelod am y rhywogaethau y maent yn eu hyrwyddo y prynhawn yma, o edrych ar y cwestiynau.

Credaf fod yr Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn am lygredd morol, ac yn sicr, mae sawl ymgyrch wedi tynnu sylw at hynny. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ar yr agenda wastraff. Rydym yn rhoi nifer o fentrau ar waith, ond deallwn y bydd yn rhaid i ni wneud llawer mwy mewn perthynas â hyn. Credaf fod newid ymddygiad hefyd yn bwysig iawn, yn y ffordd y gwnaethom gydag ailgylchu, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno eleni hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy'n deall eich safbwynt ar blastigau fferm a chael gwared ar blastigau fferm. Mae'n benderfyniad masnachol, yn y berthynas rhwng gweithredwyr a busnesau fferm. Ond mae'r rheoliadau sy'n ymwneud â phlastigau fferm a storio plastigau fferm yn amlwg yn reoliadau'r Llywodraeth. A ydych wedi ystyried bod yn hwylusydd i geisio goresgyn rhai o'r rhwystrau yn y system ar hyn o bryd, sy'n amlwg yn golygu bod llawer iawn o blastigau ar ffermydd bellach yn cael eu storio, gan fod y farchnad ar gyfer cael gwared arnynt wedi diflannu, yn y bôn? Fel y dywedais, nid wyf yn disgwyl i chi roi atebion ariannol ar waith, ond mae rôl i'r Llywodraeth yn hyn o beth o ran deall y rheoliadau y maent yn eu gosod ar y diwydiant a cheisio bod yn hwylusydd er mwyn ceisio datrys y broblem fel bod modd dod o hyd i ateb.

13:40

Diolch. Rydych yn llygad eich lle—mae'n fater masnachol rhwng y ffermwyr, casglwyr y gwastraff fferm plastig a'r ffatrïoedd sy'n gallu ei ailgylchu ac sy'n gwneud hynny. Yn amlwg, mae gan ffermwyr gyfrifoldeb i sicrhau y ceir gwared ar eu plastig yn gywir.

Credaf fod ffermwyr hefyd yn cydnabod, wrth gwrs, ei bod yn bwysig casglu a thrin y gwastraff, a bod yn rhaid i bob busnes arall dalu am eu hailgylchu yma yng Nghymru. Wedi dweud hynny, mae swyddogion wedi bod yn trafod gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Nid oedd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn benodol, wedi cynnwys plastig ystwyth ffermydd ar y rhestr o ddarpar gynhyrchion ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Roeddem o'r farn fod hynny'n rhywbeth y dylid ei gynnwys, o bosibl, mewn cynllun ar gyfer y DU gyfan, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion barhau i edrych ar hynny. Ni allaf warantu y bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn gwneud hynny, ond credaf ei fod yn rhywbeth y gallem wneud rhywfaint o gynnydd arno, o bosibl.

Gallem ystyried cyflwyno cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ein hunain. Felly, unwaith eto, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr opsiynau ar gyfer hynny.

Yn amlwg, rwy'n credu y byddai unrhyw gymorth y gall y Llywodraeth ei roi i fod yn hwylusydd i ddatrys y broblem yn cael ei groesawu'n fawr, fel y dywedais, o ystyried faint o blastigau fferm a ddefnyddir, ac yn y pen draw, wrth newid i senario ymhen blynyddoedd i ddod pan na fydd plastigau'n cael eu defnyddio a bydd dewisiadau eraill ar gael.

Ond hoffwn eich holi ynglŷn â'r ystadegau a roesoch i mi yn y sesiwn gwestiynau ddiwethaf a gawsom ar lygredd ffermydd. Buoch yn ddigon caredig i gywiro'r cofnod, oherwydd, ar y pryd, fe nodoch chi gynnydd o 200 y cant yn yr achosion er mai cynnydd o ychydig llai na 200 o achosion a gafwyd mewn gwirionedd. Os edrychwch yn ôl dros yr 20 mlynedd o ffigurau a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, maent yn dangos yn glir fod y paramedrau, mewn blwyddyn dda, oddeutu 100 o achosion, ac mewn blwyddyn wael, o dan 200—194 yw'r uchaf, a gyrhaeddwyd yn 2012-13, rwy'n credu. O ystyried bod y paramedrau hyn wedi bod yn gymharol gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf, a ydych yn credu ei bod yn iawn eich bod wedi cyflwyno mesurau mor llym yn hytrach na gwrando, yn amlwg, ar eich gweithgor eich hun, a sefydlwyd gennych, ac a luniodd y ddogfen hon i chi ei hystyried gyda chefnogaeth draws-sector i'r argymhellion a gyflwynwyd? Ac yn sicr, mae'r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn cynnig glasbrint ar gyfer y dyfodol i'r diwydiant amaethyddol, o ystyried y dystiolaeth a gasglwyd gan y grŵp hwn.

Diolch. Lywydd, ysgrifennais atoch hefyd a rhoddais gopi o'r llythyr hwnnw yn y llyfrgell er mwyn i'r Aelodau allu ei weld.

Ni chredaf fod hyn yn llym. Rwyf wedi clywed y gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau llygru mawr, ac rwy'n siŵr eich bod wedi eu gweld, ac yn sicr, yn fy nhrafodaethau gydag undebau'r ffermwyr, maent yn derbyn bod hyn yn annerbyniol a bod angen gwneud mwy.

Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ar y digwyddiadau. Daw'r rheoliadau newydd i rym fis Ionawr. Bydd cyfnodau pontio ar gyfer rhai elfennau. Ond byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Joyce Watson fy mod yn parhau i weithio gyda'r grŵp y cyfeiriwch ato. Yn amlwg, rwyf wedi cael eu hadroddiad. Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi cyflogi rhywun i edrych ar hyn yn benodol. Rwyf wedi cyfarfod â hi, ac mae swyddogion yn parhau i gael trafodaethau. Ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn atal y llygryddion amaethyddol mawr hyn. Rwy'n Weinidog yr amgylchedd hefyd, a chaf lawer o ohebiaeth gan bobl, yn enwedig ar gyflwr afonydd, yn dilyn rhai o'r digwyddiadau mawr hyn.

Credaf y byddai pob un ohonom yn cytuno ein bod am weld achosion o lygredd yn cael eu gwthio i lawr i ddim, gobeithio, ond yn anffodus, gwyddom fod hynny'n amhosibl yn ôl pob tebyg. Ond fel y dywedais, gyda'r amcanestyniad 20 mlynedd, a rennir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ni chafwyd y cynnydd enfawr hwn, ac mewn gwirionedd, mae'n cyd-fynd ag achosion o lygredd dros yr 20 mlynedd hynny. Fel y dywedais, sefydlwyd y gweithgor gennych, a chynhyrchwyd glasbrint ganddynt, a oedd yn cynnwys argymhellion. Fe ddewisoch chi beidio â derbyn yr argymhellion hynny a dewis ymagwedd or-ofalus, a allai, yn y bôn, amharu ar fusnesau mewn cymunedau agored i niwed ledled Cymru gan fod y rheoliadau hynny mor llym.

Buaswn yn falch o ddeall—rwy'n siŵr y byddai llawer yn falch o ddeall—pam na dderbynioch chi yr argymhellion yn yr adroddiad hwn a luniwyd gan bawb a chanddynt fuddiant yn hyn o beth, ac fel y dywedais, roedd yn lasbrint er mwyn rhoi'r rheoliadau hyn ar waith, sy'n rhywbeth roedd pawb wedi ymrwymo i'w wneud, er mwyn lleihau llygredd amaethyddol ledled Cymru.

Wel, pan ddeuthum i'r swydd gyntaf, dair blynedd yn ôl, roeddwn yn awyddus iawn i gael ymagwedd wirfoddol. Bûm yn gweithio gydag undebau'r ffermwyr, gyda rhanddeiliaid eraill, er mwyn gwneud hynny, ond gwelsom gynnydd mewn llygredd amaethyddol. Ac rydym yn dal i weld—[Torri ar draws.] Na, rydym yn dal i weld nifer sylweddol o ddigwyddiadau llygru mawr. Cawsom un—credaf mai'r wythnos cyn yr wythnos diwethaf neu'r wythnos cyn hynny—lle roedd y storfa slyri gyfan, yn anffodus, yn llygru'r tir a'r dŵr. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn, yn enwedig yng ngoleuni Brexit. Bydd yn niweidio ein brand gwerth cynaliadwy os nad awn i'r afael â hyn ar unwaith.

13:45

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, dwi eisiau cyfeirio, os caf i i gychwyn, at ddogfen ymgynghori'ch Llywodraeth chi ar waredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol. Nawr, mi ddyfynnaf i o’r ddogfen ymgynghorol honno. Mae’n dweud:

‘Mae gwaredu gwastraff ymbelydrol yn fater sydd wedi’i ddatganoli. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bennu'r polisi'

ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol yng Nghymru. Ond, wrth edrych ar baragraff 99 o Schedule 7B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae hwnnw’n dweud bod pwerau dros ynni niwclear ac installations niwclear wedi’u cadw nôl. Mae’r neilltuad yna’n cynnwys diogelwch niwclear ac atebolrwydd am ddigwyddiadau niwclear. Does dim eithriadau, hyd y gwelaf i, dim carve-outs, fel sydd yng nghyd-destun yr Alban, ac, yn nodiadau esboniadol Deddf Cymru 2017, mae’n dweud yn gwbl glir—mae paragraff 99 yn dweud ei bod yn cadw nôl pob mater perthnasol i ynni niwclear ac installations niwclear. Allwch chi felly gadarnhau i ni’r prynhawn yma bod deddfu ar waredu gwastraff ymbelydrol y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yma, sydd, wrth gwrs, i’r gwrthwyneb i’r hyn rŷch chi’n ei honni yn eich dogfen ymgynghorol chi?

Nid yw gwaredu gwastraff ymbelydrol, sef yr hyn y cyfeiriwch ato, rwy'n credu, yr un fath â gwastraff niwclear. Crëwyd y gwastraff ymbelydrol actifedd uwch yng Nghymru, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gymryd rhan yn rhaglen Llywodraeth y DU i gael gwared arno.

Wel, mae'n bosib y gallwch chi esbonio i ni, felly, beth yw rôl Llywodraeth Cymru yn y gwaith o edrych ar le mae’r gwastraff niwclear arfaethedig, sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, yn mynd. Oherwydd, mae’n glir i ni nad yw hwnnw wedi’i ddatganoli. Yn wir, mae paragraff 3(2)(4) o Atodlen 23 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn dweud, ac mi ddyfynnaf i yn Saesneg:

Os yw'r Ysgrifennydd Gwladol—

ar lefel Deyrnas Unedig—

o dan yr argraff nad oes cyfleusterau digonol ar gael ar gyfer gwaredu neu gronni gwastraff ymbelydrol yn ddiogel, gall yr Ysgrifennydd Gwladol—

(a) ddarparu'r cyfryw gyfleusterau, neu

(b) wneud trefniadau iddynt gael eu darparu gan bwy bynnag y barna'r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn gymwys i wneud hynny.

Mi ofynnaf i eto, felly: oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o bwerau gweithredol i allu rhoi veto ar unrhyw safle sy'n cael ei hadnabod ar gyfer wastraff niwclear—gwastraff ymbelydrol, er mwyn gwneud y gwahaniaeth yr oeddech chi'n ei wneud yn eich ateb blaenorol? Oherwydd, eto, mae'n ymddangos i fi bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol y penderfyniad terfynol.

Fe ddywedasom yn glir iawn fel Llywodraeth—ac yn sicr, dywedodd Llywodraeth y DU hefyd—nad oeddem wedi nodi unrhyw safleoedd, nad oedd Llywodraeth y DU wedi nodi unrhyw safleoedd. Mater i gymuned oedd penderfynu a oeddent am fod yn safle. Felly, mae'r gwaith a wnaed, y cyfarfodydd ymgynghori—wel, fe'u cynhaliwyd ar weminar, fel y gwyddoch, un yn ne Cymru ac un yng ngogledd Cymru—fel y gallai'r cymunedau gynnig eu hunain pe baent yn awyddus i wneud hynny. Nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU roi feto arno; mae'n benderfyniad i'r cymunedau eu hunain. Ac nid oedd gennym farn ynglŷn ag a ddylid cael unrhyw safle yma yng Nghymru; mater i'r gymuned oedd bod yn barod i'w croesawu a chymryd rhan yn y trafodaethau hynny wrth symud ymlaen. Felly, nid yw'n rhywbeth y gall unrhyw un—y naill Lywodraeth na'r llall—roi feto arno.

Wel, dwi ddim cweit yn deall y pwynt rŷch chi'n trio'i wneud, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, penderfyniad y Llywodraeth yw e. Rwy'n deall y ffaith eich bod chi am barchu dymuniadau cymunedau, ac fe fyddwn i'n cytuno â chi yn hynny o beth, ond mae'r rheoliadau trwyddedu amgylcheddol dwi wedi cyfeirio atyn nhw'n ei gwneud hi'n gwbl glir, ac mi ddarllenaf i eto:

Os yw'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr argraff nad oes cyfleusterau digonol ar gael—

hynny yw, dyw cymuned ddim eisiau cael y cyfrifoldeb am hwn—

gall yr Ysgrifennydd Gwladol—

(a) ddarparu'r cyfryw gyfleusterau—

veto, a dweud ei fod yn mynd i ddigwydd, doed a ddelo—

neu

(b) wneud trefniadau iddynt gael eu darparu gan bwy bynnag y barna'r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn gymwys i wneud hynny.

Mae'n ymddangos i fi, Gweinidog, fod yna ddryswych fan hyn. Mi ddylen ni fod lawer cliriach—yn sicr, mi ddylai Lywodraeth Cymru fod lawer cliriach—ynglŷn â ble mae'r cyfrifoldeb yn eistedd, a dyw taflu'r peth nôl a dweud, 'Wel, dyw e ddim lan i ni, mae lan i'r gymuned'—mae'r egwyddor yn iawn, ond, ar ddiwedd y dydd, chi yw'r Gweinidog, chi yw'r Llywodraeth a chi ddylai fod yn gwneud yr achos dros bobl Cymru.

13:50

Felly, cytunaf yn llwyr ei bod yn iawn ein bod yn rheoli'r gwastraff yn awr. Ni chredaf y dylem ei adael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn sicr, pan ddeuthum i'r portffolio hwn, ac roedd hwn yn gwestiwn a oedd yn cael ei ofyn, a byddai'r ymgynghoriadau hyn yn mynd rhagddynt wrth symud ymlaen, roeddwn yn teimlo ei bod yn gwbl iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn yn awr, er mai ymhen 20 mlynedd y byddai hyn yn digwydd yn ôl pob tebyg, yn hytrach na'i adael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, fel y nodais yn fy atebion cynharach i'ch cwestiynau, mater i gymuned a fyddai'n barod i'w groesawu fyddai hyn, nid yn rhywbeth i Lywodraethau—y naill Lywodraeth na'r llall; Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru—ei orfodi arnynt. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod os nad yw hynny'n ddigon o eglurhad i'w gwestiynau, ond yn sicr, ni ellir adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru oni bai fod y gymuned yn barod i'w dderbyn.FootnoteLink

Dirywiad Mewn Rhywogaethau

3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r bygythiad yn sgil dirywiad mewn rhywogaethau? OAQ53860

Diolch. Rwy'n bryderus iawn ynghylch colli bioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, fynd ati'n rhagweithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth drwy'r penderfyniadau a wnânt. Rydym hefyd yn darparu cymorth ariannol ac ymarferol i grwpiau cymunedol allu gweithredu yn eu hardal leol.

Y gobaith yw y bydd adroddiad y Cenhedloedd Unedig y mis hwn ar ddirywiad rhywogaethau yn rhybudd i arweinwyr ledled y byd. Gallai un filiwn o rywogaethau ddiflannu dros y blynyddoedd nesaf. Oni bai ein bod yn rhoi camau difrifol ar waith, fe fyddwn ni fel rhywogaeth ddynol yn eu dilyn. Nid yw hon yn broblem sy'n bell i ffwrdd, gan ein bod wedi gweld yr un tueddiadau yma yng Nghymru. Mae'r adroddiad cyflwr natur yn dangos bod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Mae 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o loÿnnod byw a 40 y cant o adar yn dirywio. Amlygodd adroddiad 'State of Birds in Wales 2018' fod bron i draean o adar Cymru yn dirywio'n sylweddol. Nid yw'r darlun yn llawer gwell i stociau pysgod, gan fod llawer o rywogaethau, fel eog, brithylliaid y môr a sewin, mewn perygl ledled Cymru.

Nawr, croesawaf ddatganiad y Llywodraeth hon ar yr argyfwng hinsawdd, ond ni allaf gysoni'r safbwynt hwn â honiad y Prif Weinidog nad oedd yn cynrychioli, a dyfynnaf, 'gwahaniaeth mawr o ran polisi.' Ai sbloet gysylltiadau cyhoeddus oedd y datganiad hwnnw, ac yn bwysicach, a yw eich Prif Weinidog, ac yn wir y Llywodraeth hon yn gyffredinol, yn anwybyddu'r rhybuddion?

Ddim o gwbl. Credaf fod y Prif Weinidog, ers y diwrnod y daeth i'r swydd ym mis Rhagfyr, wedi dweud yn glir iawn fod bioamrywiaeth a lliniaru newid yn yr hinsawdd yn un o'i brif flaenoriaethau. Mae'n rhaid i bob un ohonom edrych ar fioamrywiaeth ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â'n polisïau.

Rydych yn llygad eich lle—roedd yr adroddiad yr wythnos diwethaf yn destun gofid mawr. Dywedais yn fy ateb i Joyce Watson ei fod yn sicr yn sobreiddiol iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym gynllun cyflawni carbon isel; unwaith eto, fe'i lansiwyd gan y Prif Weinidog yn ôl ym mis Mawrth. Mae'r cynigion a'r polisïau—mae 100 o bolisïau a chynigion yn y cynllun hwnnw a fydd, os cânt eu gweithredu, yn gamau pwysig o ran bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Roeddwn yn dweud fy mod yn credu bod bioamrywiaeth yn gymaint o fygythiad â'r newid yn yr hinsawdd; mae ar frig y rhestr.

Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol fy mod i a fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban ac yn Llywodraeth y DU wedi gofyn i gomisiwn newid hinsawdd y DU am gyngor yn sgil adroddiad y panel rhynglywodraethol a edrychai i weld a fyddem yn cyrraedd y lefelau sy'n ofynnol yng nghytundeb Paris. Cefais y cyngor hwnnw wythnos i ddydd Iau diwethaf. Rwyf wedi cyfarfod â Phwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, rhai o'r aelodau, ar ddau achlysur yn ystod y pythefnos diwethaf. Mae swyddogion yn ystyried y cyngor hwnnw ar hyn o bryd—mae oddeutu 300 o dudalennau o hyd—i weld a oes angen i ni newid ein polisïau, ond fe fyddwch yn deall mai dim ond ym mis Mawrth y lansiwyd y cynllun cyflawni carbon isel, a chredaf fod angen i ni barhau â'r polisïau a'r cynigion hynny. Ond gallai fod angen inni newid.

Roedd y datganiad, yn fy marn i, yn ddatganiad cadarnhaol a chadarn iawn. Credaf na ddylech orddefnyddio'r gair 'argyfwng'; nid yw'n air y gallwch ei ddefnyddio ar chwarae bach. Felly, cafodd hynny gryn dipyn o ystyriaeth, ac roeddwn yn falch iawn fod y Senedd hon wedi pleidleisio i fod yn gyntaf—ni oedd y Senedd gyntaf yn y byd i ategu'r argyfwng newid hinsawdd. Felly, mae llawer iawn o waith i'w wneud. Mae angen i ni wirio ein holl bolisïau ac argymhellion, ond credaf fod angen i ni ddechrau gyda'r cynllun cyflawni carbon isel, sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â hwnnw. Ond yn bendant mae'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei ystyried ar draws y Llywodraeth.

13:55

Rwy'n falch fod Leanne Wood wedi gofyn y cwestiwn hwn. Fel y gwyddoch yn ôl pob tebyg, rwy'n falch iawn o fod yn hyrwyddwr rhywogaeth i'r Cynulliad—gallaf eich gweld yn troi i'ch tudalen ar hyrwyddwyr rhywogaethau, wedi hen arfer—ar ran misglen berlog yr afon, un o'r rhai lleiaf adnabyddus o'r rhywogaethau a warchodir, a gellir dadlau mai'r rhywogaeth hon sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddiflannu yng Nghymru, ac mae'n un o'r rhywogaethau sy'n wynebu perygl difrifol o ddiflannu yn y byd. Nawr, mae poblogaeth iach o fisglod perlog yr afon yn faromedr o ecosystem afon iach. Mae eu dirywiad yn deillio o'r ffaith bod angen dŵr pur iawn arnynt. Felly, tybed a allech esbonio i ni, Weinidog, yn ychwanegol at yr hyn rydych wedi'i ddweud wrth Leanne Wood, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio gwella ansawdd dŵr yn ein hafonydd ledled Cymru, mewn ffordd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar obaith fy rhywogaeth i, misglen berlog yr afon, o oroesi, ond rhywogaethau eraill hefyd?

Diolch. Fel y dywedais, credaf fod yr adroddiad yn sobreiddiol iawn ac yn achos cryn bryder, ond roeddwn yn falch ei fod yn cydnabod nad yw'n rhy hwyr i wrthdroi'r duedd a welsom. Nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hyn, mae'n gyfrifoldeb i bawb, ac i ddychwelyd at sylwadau Leanne Wood ynghylch yr argyfwng newid hinsawdd, credaf fod hynny'n ymwneud ag ysgogi nid yn unig Llywodraethau ond unigolion a busnesau a chymunedau i weithredu ac i sylweddoli bod hwn yn argyfwng gwirioneddol ac nad oes llawer o amser gennym i wrthdroi'r hyn sy'n digwydd.

Yr hyn rydym yn ei wneud yw prif ffrydio bioamrywiaeth i'n holl benderfyniadau. Felly, pan fyddaf yn ystyried polisïau morol, er enghraifft, mae angen i mi sicrhau ein bod yn cefnogi'r ecosystem a fydd yn sicrhau na fydd eich rhywogaeth yn dirywio ymhellach.

Mae'r ecosystem yn cael ei chynnal drwy gydbwysedd, ond bydd colli ysglyfaethwyr ar frig y gadwyn fwyd yn arwain at gynnydd mewn rhai rhywogaethau, gan achosi niwed pellach i'r ecosystem. Rydym ynghanol y cyfnod mwyaf o rywogaethau'n cael eu colli ers 60 miliwn o flynyddoedd. Mae dinistrio cynefinoedd, ecsbloetio a newid yn yr hinsawdd yn mynd i arwain at golli dros hanner poblogaeth anifeiliaid gwyllt y byd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu cynefin naturiol Cymru? Yn fwyaf arbennig, beth a wnewch chi i atal pobl rhag cymryd camau sy'n atal adar rhag nythu? Nid wyf yn hyrwyddwr rhywogaeth ar ran unrhyw aderyn.

Diolch. Mae gennym ein polisi adnoddau naturiol, ac yn amlwg, mae hwnnw'n nodi ein blaenoriaethau i'n galluogi i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a sicrhau ecosystemau mwy gwydn. Soniais yn fy ateb i Joyce Watson ein bod yn adnewyddu'r cynllun gweithredu adfer natur, gan y bydd hwnnw'n rhoi inni'r camau a'r mecanweithiau allweddol y bydd angen i ni eu rhoi ar waith er mwyn wneud y gwahaniaeth real hwnnw.

Mae rhwydo yn fater sydd wedi cyrraedd fy nesg droeon dros yr wythnosau diwethaf, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod datblygwyr yn deall mai yn gynnil iawn ac mewn amgylchiadau penodol iawn y dylid defnyddio'r polisi hwnnw, a byddaf yn ysgrifennu at awdurdodau lleol i'w hatgoffa o hynny.

Colledion Mewn Bioamrywiaeth

4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal a gwrthdroi colledion mewn bioamrywiaeth? OAQ53864

10. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth? OAQ53839

Diolch. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 10 gael eu grwpio.

Mae angen newid trawsnewidiol er mwyn atal a gwrthdroi bioamrywiaeth yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fod yn gatalydd. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio bellach ar adeiladu ar y camau gweithredu sydd eisoes ar waith. Byddwn yn adeiladu ar y camau rydym yn eu cymryd drwy bolisïau newydd pwysig, gan gynnwys cynllun morol Cymru, cynllun gweithredu adfer natur wedi'i ddiweddaru, coedwig genedlaethol i Gymru, a system newydd o gymorth i ffermio ar ôl Brexit.

Rwy'n croesawu eich ymateb. Fel cynifer o bobl eraill, rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth. Fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y gornchwiglen yma yn y Cynulliad, a gwyddom ein bod wedi mynd o 7,500 o barau nythu yng Nghymru yn y 1980au i lai na 700 yn awr, er gwaethaf gwaith da gan bobl fel yr Ymddiriedolaethau Natur ac eraill. Mae adroddiad IPBES yn dangos maint yr her, ac rydym yn wynebu—. Pa ffordd bynnag yr edrychwch ar hyn, mae'n argyfwng, mae'n fater o frys, ac nid yw'n un newydd. Mae'n un rydym wedi'i wynebu dro ar ôl tro drwy Lywodraethau olynol hefyd, ar lefel y DU a Chymru.

Un apêl y buaswn yn ei gwneud i'r Gweinidog wrth geisio ei hysgogi a cheisio rhoi cymorth iddi o ran trafodaethau â chyd-aelodau o'r Cabinet yw y dylem geisio ymdrin â newid hinsawdd a bioamrywiaeth gyda'i gilydd. Er bod iddynt elfennau ar wahân, ceir llawer iawn o orgyffwrdd, ac yn rhy aml yn y Llywodraeth rydym wedi canolbwyntio ar y naill neu'r llall o bryd i'w gilydd. Mae angen gwneud y ddau beth gyda'i gilydd.

Yn ail, a chan gydnabod y gwaith da y mae'r Llywodraeth yn ei wneud eisoes, o ran y modd y bydd angen i ni gynyddu ein hymdrechion, a chan gydnabod bod gennym Weinidog blaengar yma o'n blaenau, a gaf fi awgrymu—a gaf fi wneud rhai awgrymiadau? A bydd y Prif Weinidog yn gwrando gobeithio, felly rwy'n ychwanegu at ei chryfder yma o amgylch bwrdd y Cabinet. Bydd angen i ni edrych ar yr adnoddau yn y dyfodol a chynyddu'r adnoddau tuag at ariannu'r gwaith o atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth a cholli natur. Bydd angen i ni ymrwymo'n gyfan gwbl i ddweud y byddwn yn adfer, yn gwella, yn cysylltu ein holl gynefinoedd pwysig, a buddsoddi'n weithredol mewn adfer rhywogaethau. Efallai y bydd angen i ni ystyried targedau cyfreithiol ar gyfer adfer natur. Bydd angen i ni ystyried cynyddu newidiadau sylweddol o ran systemau bwyd sy'n seiliedig ar fioamrywiaeth gynaliadwy yng Nghymru, a phopeth a ddaw yn sgil hynny, a defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur mewn ffordd real ac ystyrlon, fel yr amlygwyd yn adroddiad IPBES.

14:00

Yn wir. A gaf fi ofyn, felly, ar ôl yr awgrymiadau defnyddiol hynny—? Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi profi eich amynedd. A gaf fi ofyn, felly: gyda'i chyd-aelodau o'r Cabinet, a wnaiff hi ystyried camau radical a allai gynnwys defnyddio ein pwerau amrywio trethi yng Nghymru i ystyried gwahardd, trethu neu osod ardollau amgylcheddol hyd yn oed ar bethau sy'n amgylcheddol wael er mwyn ariannu pethau amgylcheddol dda?

Diolch, Huw Irranca-Davies, am eich sylwadau defnyddiol, ac yn sicr, am eich cymorth gyda fy nghyd-Weinidogion. Yn sicr, ni chredaf fod angen unrhyw gymorth arnaf gyda'r Prif Weinidog. Fel y dywedais yn fy ateb i Leanne Wood, mae'r Prif Weinidog, o'r dydd y daeth i'r swydd, wedi dweud yn glir iawn fod y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth—a chredaf eich bod yn llygad eich lle, mae'r ddau beth yn rhedeg ochr yn ochr—yn un o'i brif flaenoriaethau. Yn sicr, wrth inni fynd drwy broses y gyllideb, mae bioamrywiaeth yn thema a fydd yn cael ei hystyried yn ofalus iawn gan bob cyd-Aelod sy'n llunio cytundebau cyllidebol a pholisïau ar gyfer y dyfodol.

Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud bod yr adroddiad yn peri cryn bryder, ond fel y dywedais, roedd elfen gadarnhaol iddo, yn yr ystyr nad yw'n rhy hwyr i wneud hynny. Rydych yn gwneud dau awgrym defnyddiol iawn. Yr un am dargedau cyfreithiol: rwy'n cofio pan oedd Deddf yr amgylchedd yn mynd drwy'r lle hwn oddeutu pedair neu bum mlynedd yn ôl, a buom yn ystyried a fyddai cyflwyno targedau bioamrywiaeth i'r Bil hwnnw'n ffordd effeithiol o wella bioamrywiaeth yng Nghymru. Ond credaf ein bod wedi penderfynu na fyddai'n gwneud hynny—mewn gwirionedd, gwelsom y gallai arwain at ganlyniadau niweidiol. Felly, nid dyna oedd y ffordd ymlaen.

O ran defnyddio ein pwerau codi trethi newydd, unwaith eto, gallaf roi ystyriaeth lawn i hynny, gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid, i weld a fyddai'n rhoi cyfle inni. Mae cynllun y dreth gwarediadau tirlenwi gennym eisoes, fel y gŵyr yr Aelod, ac rydym wedi gweld arian sylweddol yn mynd tuag at y cynlluniau hynny i helpu yn y ffordd honno.

Diolch, Weinidog. Roeddwn innau, hefyd, yn awyddus i ofyn cwestiwn am adroddiad IPBES, a nodaf eich atebion cynharach. Credaf fod y ffaith bod cynifer ohonom wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â bioamrywiaeth heddiw yn dangos pa mor bwysig yw'r pwnc i bob un ohonom. Felly, hoffwn ofyn i chi sut y bwriadwch gadw a gwella amddiffyniadau amgylcheddol sy'n deillio o'r UE. Gwn fod yr RSPB wedi crybwyll creu corff gwarchod annibynnol, cryf i dderbyn a gweithredu ar gwynion dinasyddion, a'r angen i warantu bod ein cyfreithiau mor gryf, neu'n gryfach na phe baem yn aelod o'r UE. Felly, beth yw eich barn ar hyn?

Diolch am eich cwestiwn. Yn sicr, rwyf wedi dweud yn glir iawn nad ydym am weld unrhyw leihad yn yr amddiffyniadau amgylcheddol a gawsom yn yr UE. Os rhywbeth, rydym am eu gwella. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wrthi'n ymgynghori ar lywodraethiant ac egwyddorion ar hyn o bryd. Daw'r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 9 Mehefin. Buaswn yn annog pawb i gyflwyno eu hymatebion. Yn sicr, rwy'n gweithio gyda rhanddeiliaid ac yn gofyn am eu barn a'u cyngor mewn perthynas â materion ôl-Brexit.

Fe fyddwch yn gwybod am fy nghyfarfodydd gweinidogol o amgylch y bwrdd, ac mae'r RSPB yn aelod o'r cyfarfodydd hynny. Maent yn sicr wedi crybwyll y gallem edrych ar gorff gwarchod cryf, annibynnol. Yn amlwg, mae sefydliadau i'w cael ar hyn o bryd a allai edrych ar hynny, ond rydym am sicrhau na cheir bwlch yn sgil gadael yr UE. Felly, pan fyddwn wedi cael yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac wedi cael cyfle i'w hystyried, bydd modd inni ddweud wedyn a ydym yn credu mai dyna'r ffordd ymlaen mewn gwirionedd. Ond yn sicr, mae'n rhaid sicrhau bod rhywle y gall dinasyddion fynd, ar ôl Brexit, os na allant fynd i'r llys Ewropeaidd fel y gallant wneud ar hyn o bryd.

Weinidog, y wiwer goch yw'r rhywogaeth rwy'n ei hyrwyddo, ac rwy'n ffodus iawn fod yna boblogaeth dda o wiwerod coch yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth, ac yn wir, canolfan fridio yn Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn. Ond mae poblogaeth y wiwer goch wedi gostwng i oddeutu 1,500 o wiwerod coch ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae'r rhan fwyaf ohonynt ar Ynys Môn. Cefais y fraint o ymweld â'r prosiectau ar Ynys Môn ac yng Nghlocaenog, a gwn mai un o'r heriau y mae'r prosiectau'n eu hwynebu yw parhad cyllid o un prosiect i'r llall. Felly, tybed pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn sicrhau dull mwy cynaliadwy o ariannu gweithgarwch craidd sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Clocaenog ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, sydd wedi gwneud gwaith pwysig iawn yn amddiffyn y rhywogaeth eiconig hon yng Nghymru.

14:05

Diolch. Rwy'n falch iawn, Lywydd, fy mod wedi dod â fy rhestr o hyrwyddwyr rhywogaethau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad y prynhawn yma. Rwy'n amlwg yn ymwybodol iawn o boblogaeth y wiwer goch yn y goedwig y cyfeiria'r Aelod ati. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n agos iawn gydag Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru drwy eu prosiect Red Squirrels United, ac mae hynny wedi golygu bod nifer sylweddol o wirfoddolwyr wedi ymrwymo i sefydlu Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Clocaenog. Yn amlwg, mae cyllid yn fater y mae'n rhaid i mi ei ystyried fesul achos. Rwyf am sicrhau bod cymaint â phosibl o brosiectau o'r fath yn gynaliadwy, felly byddwn yn edrych ar hynny yn y rownd nesaf o grantiau rheoli cynaliadwy.

Newid yn yr Hinsawdd

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53862

Mae 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel' yn nodi 100 o bolisïau ac argymhellion i gyflawni ein cyllideb garbon gyfredol a nodi trywydd datgarboneiddio i Gymru ar gyfer y tymor hwy. Ers hynny, daethom yn senedd gyntaf y byd i bleidleisio o blaid y datganiad argyfwng newid hinsawdd.

Diolch, Weinidog. Un peth yw datgan argyfwng newid hinsawdd, ond fel y byddech yn cyfaddef rwy'n siŵr, mae'n anos rhoi'r camau anodd ar waith i fynd i'r afael â hynny. Fel y'i disgrifiwyd gan Al Gore, cyn Is-arlywydd America, mae'n wirionedd anghyfleus y mae'n rhaid i bob un ohonom ei wynebu. Mae hyrwyddo ceir trydan a phwyntiau gwefru, fel y bu Rhun ap Iorwerth yn ei wneud y tu allan i'r Senedd heddiw, yn amlwg yn un ffordd ymlaen i geisio mynd i'r afael â phethau ar lawr gwlad. Mae gwaith radical yn mynd rhagddo hefyd ar wella'r hinsawdd ym mhrifysgol Caergrawnt, sydd wedi bod yn edrych ar ddalfeydd carbon a phethau fel ailgoedwigo. Beth a wnewch chi i hyrwyddo ymchwil tebyg yma yng Nghymru, a sut yr ewch ati i hyrwyddo datblygiad dalfeydd carbon, megis coedwigoedd newydd, yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud mwy nag ymdrin â'r problemau sydd gennym ar hyn o bryd, ond yn y dyfodol, efallai y gallwn droi'r cloc yn ôl mewn rhai ffyrdd a cheisio gwella'r hinsawdd, yn hytrach na dim ond ei sefydlogi?

Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach mai'r rheswm pam y gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd oedd i sicrhau ein bod yn ysgogi nid yn unig Llywodraethau ond busnesau, cymunedau ac unigolion i weithredu ar unwaith. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithredu ar unwaith. Rydych yn awgrymu ychydig o ffyrdd y gallwn wneud hyn, a dychwelaf at y cynllun cyflawni carbon isel. Ceir 100 o bolisïau ac argymhellion sy'n rhaid inni eu rhoi ar waith, rai ohonynt ar gyfer y dyfodol, os ydym am ddatgarboneiddio a chael yr effaith gadarnhaol hon ar newid yn yr hinsawdd.

Soniais am fusnesau. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Hafren Dyfrdwy, y bydd yr Aelodau'n gwybod amdanynt—y cwmni dŵr—yr wythnos diwethaf. Dywedasant wrthyf, er enghraifft, eu bod wedi gwneud addewid triphlyg i gyrraedd dim carbon net a chyfradd 100 y cant o gerbydau trydan, gan gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedoch am gerbydau trydan, a 100 y cant o ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Y math hwnnw o weithredu sydd ei angen arnom er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Felly, rwy'n edrych yn ofalus iawn ar yr argymhellion a'r polisïau hynny a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog ym mis Mawrth. Soniais am y cyngor a roddwyd i ni gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, ac mae swyddogion wrthi'n edrych ar y 300 tudalen o gyngor. Maent wedi awgrymu y gallem sicrhau gostyngiad o 95 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050, felly mae angen i mi ystyried hynny'n ofalus iawn, ac yna byddwn yn gwneud datganiad pellach.

Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos arweinyddiaeth strategol gref a sefydlog ar ran Cymru drwy ddatgan argyfwng hinsawdd, fel y cydnabu Greta Thunberg, yr ymgyrchydd newid hinsawdd. Yn ddiweddar, cafodd Llywodraeth Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a oedd yn argymell y gallai ac y dylai allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru ostwng 95 y cant dros y 30 mlynedd nesaf er mwyn gwneud ein cyfraniad uchelgeisiol i'r ymrwymiadau a wnaed yng nghytundeb Paris. Weinidog, rydych hefyd wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i adolygu targed Cymru ar gyfer 2050 ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn pennu trydedd gyllideb garbon Cymru erbyn diwedd 2020. Felly, pa fentrau strategol pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried er mwyn mynd ati'n rhagweithiol i wrthsefyll yr argyfwng hinsawdd, fel y gall Cymru arwain drwy esiampl, ac amlygu'r bwlch brawychus yn yr arweinyddiaeth gan bobl fel y gwadwr newid hinsawdd Donald Trump, a'r rheini yn y DU sy'n rhannu'r farn wleidyddol honno?

14:10

Diolch. Soniais fod swyddogion wrthi'n ystyried y cyngor a gawsom gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, ond rydym hefyd yn adolygu brys y camau gweithredu yn ein cynllun carbon isel i weld ble y gallwn gymryd camau pellach yn dilyn y datganiad. Rwy'n cadeirio grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog—sy'n grŵp trawslywodraethol—ac rwyf wedi sicrhau bod edrych ar sut y gallwn fynd i'r afael â hynny yn flaenoriaeth i'r grŵp hwnnw. Rydym yn llwyr gydnabod y brys i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Efallai ein bod yn wlad fach, ond rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb byd-eang o ddifrif, ac mae angen i ni wneud hynny mewn ffordd sy'n darparu cymaint â phosibl o fanteision ehangach i gymdeithas wrth i ni newid i economi carbon isel.

Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig gwneud y datganiad hwnnw, er mwyn ysgogi eraill i gael y sbardun hwnnw—ton o weithredu gartref ac yn rhyngwladol, i bawb ddod at ei gilydd i gydnabod yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae Cymru'n rhan o gynghrair Dan2—rydym ar y grŵp llywio mewn gwirionedd—ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn i fynychu cynadleddau gyda gwladwriaethau a rhanbarthau eraill i weld y gwaith sy'n mynd rhagddo ym mhob rhan o'r byd. Mae'r gynghrair yn cynnwys oddeutu 220 o lywodraethau o bob cwr o'r byd, ac maent yn cynrychioli dros 1.3 biliwn o bobl a 43 y cant o economi'r byd. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu gan wledydd eraill, ond credaf mai dim ond drwy weithredu gartref y gallwn ysgogi gweithredoedd eraill ledled y byd.

Y Diwydiant Bwyd a Diod

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r diwydiant bwyd a diod yng nghanolbarth Cymru? OAQ53838

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf y diwydiant bwyd a diod ledled Cymru. Agorodd galwad £10 miliwn am gynigion i fuddsoddi mewn busnesau bwyd ddechrau mis Mai. Rwy'n bwriadu cyhoeddi ymgynghoriad ar gynlluniau yn y dyfodol i ddatblygu'r diwydiant bwyd a diod y tu hwnt i 2020 erbyn mis Gorffennaf.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddarach heddiw, rwy'n cefnogi cynnig Jenny Rathbone mewn perthynas â phrydau ysgol iach. Yn benodol, hoffwn weld cynnydd o ran faint o fwyd i ysgolion sy'n cael ei gaffael yn lleol. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol, fel Cyngor Sir Powys ac eraill, i gael gafael ar gynhwysion yn lleol, lle mae hynny'n bosibl, i wella'r gallu i olrhain bwyd, lleihau milltiredd bwyd a sicrhau y gall prydau ysgol fod yn fwy ffres, yn fwy blasus, yn fwy maethlon, yn well i'r amgylchedd ac yn well i'r economi leol?

Yn sicr. Felly, unwaith eto, mae hwn yn waith trawslywodraethol gyda nifer o Weinidogion i sicrhau bod hyn yn digwydd. Credaf fod caffael yn faes lle mae gennym gyfle mawr. Os ydym yn ceisio bachu ar gyfleoedd ar ôl Brexit, credaf fod hwn yn un maes lle gallwn wneud hynny. Ac fel y dywedwch, os prynwn gynnyrch lleol, mae'n helpu ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd, ac mae'n helpu ein hinsawdd hefyd.

Dwi'n meddwl mai un peth sy'n bwysig o ran busnesau cynhyrchu bwyd yn y canolbarth, fel yn fy etholaeth i yn Ynys Môn, ydy sicrhau bod yna ddigon o eiddo addas ar gael ar gyfer busnesau sy'n dymuno datblygu yn y maes yma. Mae gen i lythyr sy'n barod i gael ei anfon atoch chi—mi wnaf i hynny heddiw—ynglŷn â'r egwyddor yma o sicrhau bod yna ddigon o eiddo ar gael. Ac mi fyddwn i'n croesawu gennych chi adduned y byddwch chi'n barod i weithio efo fi, fel Aelodau sy'n cynrychioli'r canolbarth, ar ffyrdd o sicrhau bod y math yna o eiddo ar gael. Oherwydd yn fy etholaeth i yn ddiweddar, er enghraifft, mae yna sawl busnes wedi tyfu yn y sector bwyd, lle dwi'n dal yn credu y byddai eiddo wedi'i ddarparu'n benodol ar eu cyfer nhw yn gweithio'n well.

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Rydym wedi cael trafodaethau ynglŷn â hyn dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf, ac os ydym am weld yr hybiau hyn yn datblygu, credaf ei bod yn bwysig iawn fod gennym adeiladau safonau cynhyrchu bwyd i gyd-fynd â hynny. Yn amlwg, mae gennym y ganolfan arloesedd bwyd yn Llangefni, felly credaf fod honno'n addas ar gyfer cael y math hwnnw o barth bwyd, os mynnwch. Felly, rwy'n fwy na pharod. Fe arhosaf am eich eich llythyr, a gallwn fwrw ymlaen o'r fan honno.

Rheoli Adnoddau Naturiol

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli adnoddau naturiol? OAQ53841

Diolch. Cyhoeddais y polisi adnoddau naturiol ym mis Awst 2017. Hwn oedd ail gynnyrch statudol Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ffocws y polisi adnoddau naturiol yw rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

14:15

Un o'r cyfleoedd enfawr y mae ein hadnoddau naturiol yn eu rhoi i ni yw'r cyfleoedd hamdden sy'n gysylltiedig â'r cynlluniau uchelgeisiol i wella twristiaeth yma yng Nghymru. Credaf fod coedwigoedd yn un rhan o'n hadnoddau naturiol na wneir digon o ddefnydd ohonynt at ddibenion twristiaeth a hamdden. Rydym yn ffodus iawn yng ngogledd Cymru, yng nghoedwig Llandegla ac yng nghoedwig Clocaenog, i allu mwynhau cyfleoedd beicio mynydd gwych, sy'n tyfu o ran poblogrwydd. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sefydliadau bach hyn, a bach iawn yn aml, sy'n ceisio darparu cyfleoedd pellach ar gyfer beicio mynydd yn enwedig mewn coedwigoedd yng Nghymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Diolch. Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am ein coedwigoedd ac fe fyddwch yn gwybod mai un o ymrwymiadau maniffesto'r Prif Weinidog oedd cyflwyno coedwig genedlaethol. Ar hyn o bryd, bydd ef a minnau yn ystyried opsiynau o ran sut i roi hynny ar waith. Yn amlwg, rwy'n adnabod coedwig Llandegla yn dda iawn, rwy'n byw nid nepell ohoni, ac yn sicr mae'r arian ychwanegol y mae'n ei ddarparu i'r economi, er enghraifft, gyda'r ganolfan feicio mynydd a chyfleusterau eraill, i'w groesawu. Yn sicr, credaf y gallaf barhau i weithio gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, i weld beth arall y gallwn ei wneud i wella hynny.

Tynnwyd cwestiwn 8 [OAQ53846] yn ôl, er bod yr Aelod Caroline Jones yn y Siambr i fod wedi'i ofyn.

Cwestiwn 9, Dai Lloyd.

Llygredd Aer yng Ngorllewin De Cymru

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i'r afael â llygredd aer yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53833

Diolch. Mae mynd i'r afael â llygredd aer yng Ngorllewin De Cymru a ledled Cymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Bydd camau i wella ansawdd aer ar draws ystod o sectorau, gan gynnwys amaethyddiaeth, trafnidiaeth a diwydiant, wedi'u cynnwys yn ein cynllun aer glân i Gymru, a fydd yn destun ymgynghoriad yn yr hydref, gan adeiladu ar ein rhaglen aer glân i Gymru.

Yn dilyn ymgyrch effeithiol iawn gan drigolion lleol, cafodd cais am losgydd gwastraff-i-ynni yn Llansamlet ei wrthod, diolch byth, gan bwyllgor cynllunio cyngor Abertawe yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, daeth yn amlwg nad yw polisi cyfredol Llywodraeth Cymru ar losgyddion yn cyd-fynd â phryderon pobl leol ynglŷn â llygredd aer, lludw gwenwynig a charbon deuocsid, yn enwedig pan geir cais i'w codi yn agos at ardaloedd preswyl ac ysgolion. Rydym wedi clywed am bryderon tebyg yn y Barri, ac yn ddealladwy, mae pobl yn galw am dynhau polisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. A ydych yn cydnabod y pryderon hynny ac a yw Llywodraeth Cymru yn barod i ailystyried ei pholisi ar losgyddion er mwyn sicrhau bod ei pholisi rheoli gwastraff yn cyd-fynd ag atebion mwy cynaliadwy?

Mae hwn yn fater sy'n rhan o gylch gwaith fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a fydd yn ateb cwestiynau yn awr. Ond rwy'n fwy na pharod i gael trafodaeth gyda hi ac ysgrifennu at yr Aelod.

Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi sôn droeon am lygredd yn fy etholaeth yn sgil allyriadau diwydiannol. Un o'r agendâu yr hoffem edrych arnynt yw effaith gronnol unrhyw gynnig a gyflwynir ar gyfer unrhyw losgydd neu unrhyw agwedd arall, i edrych ar sut y mae hynny'n effeithio ar y gymuned yn ogystal â'r hyn sydd yno'n barod. A wnewch chi gyfarfod â'ch cyd-aelod o'r Cabinet, Julie James, i drafod sut y gellir edrych ar y rheolau cynllunio i ddangos bod yn rhaid ystyried effeithiau cronnol, fel ein bod yn edrych ar yr hyn sydd yno'n barod wrth ystyried unrhyw allyriadau diwydiannol, nid y cynnig unigol hwnnw'n unig?

Gwnaf, yn sicr. Ar ôl bod yn Weinidog cynllunio heb fod mor bell â hynny'n ôl, rwy'n ymwybodol iawn o hynny a'r effaith ar bolisi. Mae'r Gweinidog wedi clywed eich cais a bydd yn fwy na pharod i wneud hynny.

Ddechrau mis Chwefror, Weinidog, gofynnais a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi arian i helpu cynghorau i uwchraddio eu trafnidiaeth gyhoeddus i'w gwneud yn fwy gwyrdd ac yn llai llygrol. Ar y pryd, dywedasoch wrthyf fod y syniad yn rhywbeth y byddech yn fwy na pharod i'w drafod gyda'r Gweinidog trafnidiaeth Ken Skates. Mae hynny dri mis yn ôl bellach, felly tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â'ch sgyrsiau.

Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â hynny, gan nad wyf yn ymwybodol yr eiliad hon a wyf fi wedi cael y cyfarfod hwnnw ai peidio. Felly, byddaf yn sicrhau bod hynny'n digwydd ac yn ysgrifennu at yr Aelod.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Felly, y cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle.

Y System Gynllunio

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan gymunedau lleol lais yn y system gynllunio? OAQ53865

Mae gan gymunedau lais canolog yn y system gynllunio pan gaiff cynlluniau datblygu lleol eu paratoi a phan benderfynir ar geisiadau cynllunio. Anogir awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i fynd ymhellach na'r gofynion statudol er mwyn gwireddu'r manteision y mae cydweithredu a chyfranogi yn eu cynnig i ansawdd yr amgylchedd adeiledig.

Diolch, Weinidog. Gwn eich bod yn ymwybodol o'r gwrthwynebiad enfawr i'r cynnig i ddechrau cloddio am agregau yn y man hardd poblogaidd a elwir yn 'The Canyons' yn fy etholaeth. Wrth gwrs, rwy'n deall na allwch wneud sylwadau ar apêl gynllunio fyw, ond fel y gwyddoch, roedd preswylwyr yn pryderu'n fawr nad oedd eu lleisiau wedi cael eu clywed yn iawn yn yr ymchwiliad cyhoeddus hirfaith. Rwyf wedi cael cwynion am ddatblygwyr yn cyflwyno dogfennau allweddol yn hwyr, fod datganiadau tir cyffredin wedi cael eu cyflwyno ar y noson cyn yr ymchwiliad, ac na wnaed cofnod gair am air o'r trafodion, i nodi rhai yn unig. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol, mewn archwiliadau cynllunio dadleuol, fod llais y gymuned yn cael ei glywed yn iawn? A pha gamau y gallwch eu cymryd fel Gweinidog i sicrhau bod hyn yn digwydd a bod yr holl broses yn dod yn fwy agored a thryloyw?

14:20

Ie, rwy'n ddiolchgar iawn am farn eglur yr Aelod ynglŷn â chynnwys cymunedau mewn apeliadau cynllunio, barn a rannodd gyda mi yn y cyfarfod a gawsom. Rwyf wedi mynegi'r pryderon hyn wrth gyfarwyddwr Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Gwn fod fy nghyd-Aelod yn ymwybodol iawn fod yr apêl gynllunio gerbron Gweinidogion Cymru i'w phenderfynu ar hyn o bryd, a'i bod yn deall na allaf wneud sylwadau ar unrhyw agwedd ar y mater gan y gallai gwneud hynny niweidio canlyniad y penderfyniad neu arwain at herio'r penderfyniad ei hun.

Weinidog, y llynedd, adroddodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd yr Alban ar Fil Cynllunio (Yr Alban). Roeddent yn galw am i'r Bil annog ymgysylltu mwy ystyrlon ar geisiadau cynllunio. Croesawyd hyn gan y Royal Town Planning Institute Scotland, a ddywedodd eu bod am greu system gynllunio fwy cydweithredol, lle mae cymunedau a phartneriaid eraill yn cael eu cynnwys ar ddechrau'r broses i nodi a chytuno ar beth sydd ei angen. Pa astudiaeth a wnaed gan y Gweinidog o'r cynigion ym Mil Cynllunio (Yr Alban) i weld pa wersi y gellir eu dysgu i wella llais cymunedau yn y broses gynllunio yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Rwy'n ymwybodol iawn o'r broses sy'n mynd rhagddi yn yr Alban. Mae gennym ymgysylltiad tryloyw a chynhwysfawr iawn â chymunedau lleol, busnesau, rhanddeiliaid ac awdurdodau cyfagos ym mhroses y cynllun datblygu lleol eisoes i sicrhau bod pob pryder a dyhead yn cael eu hystyried. Mae gennym hefyd gynllun cynnwys y gymuned, sy'n nodi sut y gall cymunedau lleol gymryd rhan ym mhroses y CDLl. Mae'r ddeddfwriaeth gynllunio yma yng Nghymru eisoes yn dweud bod yn rhaid ystyried barn cymunedau lleol wrth baratoi'r cynllun datblygu lleol.

Fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, mae'n rhaid i gynlluniau datblygu lleol gael eu mabwysiadu drwy benderfyniad y cyngor llawn, sy'n sicrhau proses ddemocrataidd, gan ystyried safbwyntiau lleol i'w hymgorffori yn y broses honno o wneud penderfyniadau, a chânt eu mabwysiadu yn dilyn proses graffu gyhoeddus lawn lle gall pob parti â buddiant ddweud eu barn wrth arolygydd annibynnol, ac maent yn gwneud hynny'n aml iawn. Ceir cyfnod herio o chwe wythnos hefyd ar ôl mabwysiadu'r cynllun, sy'n galluogi unrhyw unigolyn i wrthwynebu os ydynt o'r farn nad yw'r gweithdrefnau paratoi cywir wedi'u dilyn.

Fodd bynnag, mae llawer o Aelodau wedi cyflwyno sylwadau eraill i mi dros y blynyddoedd ynglŷn â sut y gellid sicrhau bod gwahanol ddarnau o'r system gynllunio, yn enwedig y system reoli datblygu, yn fwy agored a thryloyw. Rwyf wedi cyhoeddi yn ddiweddar ein bod yn edrych i weld a allwn gael arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru, ar wahân i'r un ar gyfer Lloegr, a byddwn yn bwrw ymlaen â'r ddau gynnig pan fyddwn yn edrych ar ein cyfraith gynllunio. Hefyd, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud bod y mesurau cydgrynhoi cyntaf y byddem yn edrych arnynt yng Nghymru yn debygol o fod ym maes cynllunio.

A gaf i gefnogi sylwadau Lynne Neagle? Hynny yw, mae yn bwysig bod angen cryfhau llais y gymuned leol oddi fewn y gyfundrefn gynllunio. Beth sydd yn siomedig, wrth gwrs, yw mi wnaeth Plaid Cymru osod gwelliannau i'r Bil cynllunio fan hyn yn 2013 i wneud yr union beth hynny, ond mi wrthodwyd hynny gan y Llywodraeth Lafur, ac mi bleidleision nhw yn erbyn y gwelliannau hynny, fel y gwnaethon nhw, gyda llaw, pan wnaethon ni osod gwelliannau i'r un Bil yn galw am arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru. Wythnos diwethaf, roeddwn yn croesawu'n fawr eich datganiad ysgrifenedig chi fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol ar y mater yna a bellach yn cefnogi polisi Plaid Cymru ar ôl i ni fod yn galw am hynny ers blynyddoedd mawr. A wnewch chi wneud tro pedol arall, felly, a chefnogi'r hyn roeddem ni'n galw eto amdano fe yn 2013, sef i roi hawl i gymunedau i apelio ceisiadau cynllunio a fyddai wedyn, wrth gwrs, fel rydym ni i gyd yn dymuno, yn rhoi llais llawer cryfach i'n cymunedau ni o fewn y gyfundrefn honno?

Wel, rwy'n falch fod yr Aelod yn falch gyda'r cyhoeddiad—os nad yw hynny'n ormod o eiriau cadarnhaol—ac yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar ein bod yn ystyried dichonoldeb gwahanu Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Ac rydym yn gwneud hynny am nifer o resymau, y bydd yn gyfarwydd â hwy, ond yn bennaf am fod y sefyllfa'n newid yn gyflym o ran y gwahaniaeth yn y gyfraith fel y'i cymhwysir. Rwyf wedi ymrwymo i edrych ar bob agwedd ar y broses gynllunio i weld a allwn wella llais y gymuned, yn enwedig yn y broses reoli datblygu, felly yn y broses benodol o wneud cais. Yn bersonol, nid wyf wedi fy argyhoeddi ynghylch yr angen am apêl trydydd parti neu apêl bellach, ond credaf fod mesurau cryfhau y gellir eu rhoi ar waith, yn enwedig o ran archwiliadau safle ac yn y blaen, er mwyn gallu clywed llais y gymuned. Credaf y gall y broses bresennol ymddangos yn un gyfrin iawn o'r tu allan. Felly, rydym yn edrych i weld pa newidiadau eraill y gallwn eu gwneud i'r broses reoli datblygu, a chyn bo hir byddwn yn ymgynghori ar fframwaith datblygu cenedlaethol i roi'r cynllun trosfwaol ar waith hefyd. Felly, rwy'n obeithiol iawn y byddwn yn gweld datblygiad llawn y broses gynllunio yng Nghymru gyda holl lefelau strategol y cynllun ar waith, a chyda llais y dinesydd yn cael ei glywed ar y cam cynllunio ar gyfer pob un o'r rheini, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi eto y dylai apêl trydydd parti fod yn rhan o'r broses honno.

14:25
Cartrefi Newydd

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu? OAQ53832

Mae cynyddu nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu, yn enwedig ar gyfer rhentu cymdeithasol, yn flaenoriaeth sylfaenol i'r Llywodraeth hon. Rydym yn gweithredu, gan ystyried ffyrdd newydd o wneud pethau yn dilyn yr adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy, ac yn gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed yn y diwydiant adeiladu cartrefi.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Dywedodd Steve Morgan, sylfaenydd Redrow, yn ddiweddar mai'r ffordd orau o frwydro yn erbyn yr argyfwng tai yw cyflymu caniatâd cynllunio i alluogi mwy o dai i gael eu hadeiladu. Aeth ymlaen i ddweud bod y rheolau a'r cyfarwyddebau wedi tagu'r system, sy'n golygu bod llai o dai yn cael eu hadeiladu, a hynny yn ei dro yn ei gwneud hi'n anodd i brynwyr tro cyntaf gamu ar yr ysgol dai. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod y broses gynllunio ar gyfer tai newydd yn rhy araf a'i bod yn cynnwys cryn dipyn o fiwrocratiaeth? Weinidog, pa gamau a gymerwch i gael gwared ar y rhwystrau sy'n peri oedi yn y gwaith o ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Cytunaf yn rhannol â'r pwynt a wnaeth yr Aelod, ond mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn cytuno ag ef pan fyddwn yn sôn am y cwmnïau adeiladu mawr. Felly, credaf fod achos dros sicrhau ein bod yn symleiddio'r broses gynllunio, efallai drwy ddulliau cynllunio mwy safle-benodol ar gyfer adeiladwyr bach a chanolig ledled Cymru, ac mae ein rhaglen safleoedd segur, er enghraifft, yn gobeithio gwneud hynny er mwyn sicrhau bod y safleoedd llai hynny ar gael. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn anghytuno â honiad yr Aelod fod y cwmnïau adeiladu mawr angen cymorth gyda chynllunio. Fy marn i, mewn gwirionedd, yw bod angen inni gryfhau ein rheolau cynllunio o safbwynt maint, math a galw am y mathau hynny o ddatblygiadau, fel bod gennym gymunedau cynaliadwy yn cael eu hadeiladu gyda'r seilwaith priodol ochr yn ochr â'r tai, yn hytrach na blerdwf trefol, sy'n gallu digwydd pan fyddwch yn cael gwared ar gyfundrefnau caniatâd cynllunio. Felly, credaf fy mod yn cytuno'n rhannol â'r Aelod, ond nid yn llwyr.

Gwyddom mai dwywaith yn unig ers y rhyfel byd cyntaf yr adeiladwyd y niferoedd angenrheidiol o dai i ateb y galw. Digwyddodd hynny unwaith ym 1930 pan nad oedd fawr ddim rheolaeth dros ddatblygu; credaf mai dyna roedd Mohammad Asghar yn gofyn yn ei gylch yn gynharach. A'r ail dro oedd yn y 1950au a'r 1960au pan adeiladwyd tai cyngor ar raddfa fawr, ac nid yn unig adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr ond y seilwaith angenrheidiol i fynd gyda hynny. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr i ddiwallu anghenion tai; credaf mai dyma'r unig ffordd y gallwn ddiwallu anghenion tai mewn gwirionedd, gan nad yw er budd datblygwyr preifat i adeiladu digon gan y byddai hynny'n gostwng prisiau, a'u nod yw gwneud cymaint o elw ag y gallant. Felly, maent eisiau codi prisiau gymaint ag y gallant. Dyna sut y gwnaeth Redrow ychydig yn llai na £400 miliwn o elw y llynedd. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i alluogi hyn i ddigwydd?

Rwy'n cytuno â Mike Hedges; credaf ein bod ar yr un dudalen yn union. Yn draddodiadol, awdurdodau lleol, yn wir, oedd y prif ddarparwyr tai cymdeithasol ledled y DU, wrth gwrs, gyda'r rhaglen enfawr o adeiladu tai a gafwyd yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Ac mae'r tai hynny'n dal i fod yn gartrefi poblogaidd iawn heddiw i rai o'r trigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Ond cafodd y rhaglenni adeiladu eu crebachu gan gyfyngiadau ariannol a orfodwyd gan Lywodraeth y DU ar awdurdodau lleol Cymru ac awdurdodau lleol eraill, ac mae hynny i raddau helaeth wedi golygu bod adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr wedi'i gyfyngu'n ddifrifol ers cenhedlaeth; mewn gwirionedd, ers i Margaret Thatcher gyflwyno'r ddeddfwriaeth hawl i brynu yn ôl ar ddiwedd y 1980au.

Felly, rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan gynghorau i adeiladu cartrefi newydd i bobl leol, ac mae'n galonogol iawn ein bod, o bosibl, ar fin cyrraedd oes aur newydd ar dai cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r Aelod, Mike Hedges, yn llygad ei le fod disgwyl i'r cynnydd mwyaf o ran graddfa a chyflymder adeiladu tai cymdeithasol ddod gan ein hawdurdodau lleol, gan eu bod bellach yn gallu adeiladu unwaith eto. Mae'r cap benthyca wedi'i godi o'r diwedd gan Lywodraeth y DU, sydd wedi gweld y golau yn ôl pob golwg, a cheir cyfle i droi uchelgeisiau i adeiladu tai cyngor yn ganlyniadau unwaith eto.

Rwyf newydd gyhoeddi'r adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy, a byddaf yn ymateb i'r argymhellion hynny cyn bo hir. Mae'r adolygiad hwnnw'n ystyried yn benodol pa gymorth y bydd ei angen ar awdurdodau lleol i'w helpu i adeiladu eto yn gyflym ac ar raddfa fawr. Rydym yn croesawu'r adolygiad a'r ffaith bod y cap wedi'i godi. Rydym yn awyddus i weithio'n gyflym iawn yn awr i weld a allwn gael chwyldro arall o ran adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru.

14:30

Weinidog, yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â datblygiad Lle Ysgol Cymdeithas Tai Rhondda yn Hirwaun, a adeiladwyd gan un o'r cwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint yn lleol, WDL Homes Ltd. Ac roedd y datblygiad tir llwyd hwn yn defnyddio grant tai cymdeithasol i ddatblygu 12 cartref, ac uned fasnachol hefyd, sef siop bentref yn ei hanfod. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â landlordiaid cymdeithasol i annog datblygiad unedau manwerthu fel hyn yn eu prosiectau adeiladau, sy'n darparu incwm i'r landlord, ond yn bwysicach fyth, maent yn ased go iawn i'r gymuned leol, a ninnau'n gwybod bod cynifer o'n cymunedau wedi dioddef neu'n poeni am y posibilrwydd o golli eu siopau pentref?

Yn sicr; mae'n brosiect hyfryd, mewn gwirionedd. Mae Cymdeithas Tai Rhondda, fel y dywedodd, a'r cynllun Lle Ysgol yn dangos manteision gweithio mewn partneriaeth i wella cymunedau lleol. Ac fel y dywedais, rydym yn awyddus iawn i adeiladu cymunedau, nid ystadau tai yn unig, ac mae'n bwysig iawn fod y seilwaith cywir yno, gan gynnwys siopau a chyfleusterau eraill. Mae'r cynllun, fel y gwyddoch, wedi adfywio safle gwag ar gyfer y gymuned honno. Mae ganddo 12 o gartrefi, byngalo wedi'i addasu ar gyfer cadair olwyn ac uned fanwerthu gydweithredol newydd. Fe ddarparom ni'r grant tai cymdeithasol a'r grant cyllid tai, cyfanswm o oddeutu £1.1 miliwn, tuag at y gwaith o ddatblygu'r cartrefi yno, ac rydym yn annog landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau ledled Cymru i ystyried datblygu cymunedau yn hytrach na set o dai am yr union resymau a amlinellwyd ganddi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood. 

Diolch, Lywydd. A ydych o'r farn ei bod yn dderbyniol i bobl sy'n cysgu allan gael eu hunig gysgod, h.y. eu pabell, wedi'i gymryd oddi arnynt a'u hychydig eiddo wedi'i daflu i mewn i fan a'i gludo i rywle arall?

Na, wrth gwrs nad wyf yn credu bod hynny'n dderbyniol. Credaf ei bod yn cyfeirio, mae'n debyg, at y cliriadau a welodd cyngor Caerdydd yn ddiweddar. Daeth y ddwy ohonom yn rhan o gadwyn gyfryngau cymdeithasol ynglŷn â hynny, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad oedd y gadwyn honno bob amser yn dangos y cyfryngau cymdeithasol ar eu gorau, yn sicr o ran peth o'r trolio a wynebais o ganlyniad i hynny.

Rwyf wedi cyfarfod â chyngor Caerdydd ar sawl achlysur wedi hynny, a charchar Caerdydd hefyd, i weld beth y gallwn ei wneud i ddarparu llwybrau gwell i bobl sy'n dod o'r carchar. Yn yr achosion hynny, caf fy sicrhau gan gyngor Caerdydd fod y tîm ymgysylltu ar ddigartrefedd wedi cyfarfod â phob un o'r bobl hynny ar o leiaf ddau achlysur, os nad mwy.

Weinidog, rwyf wedi fy syfrdanu nad ydych yn barod i gondemnio'r arfer hwn. Rydym wedi gweld yn gynharach yr wythnos hon fod Juha Kaakinen, un o'r bobl sy'n ymwneud â chynllun tai yn gyntaf Helsinki, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o ddiffyg gweledigaeth a diffyg ffocws mewn perthynas â rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Mae dros flwyddyn ers i'ch Llywodraeth ddweud ei bod yn adolygu angen blaenoriaethol, a hynny er gwaethaf y ffaith bod pob sefydliad sy'n gweithio yn y sector, a Phapur Gwyn eich Llywodraeth yn 2012, yn dweud bod angen i chi ddiddymu angen blaenoriaethol. Mae bron i flwyddyn wedi bod ers i Crisis gyhoeddi'r cynllun mwyaf manwl ar roi diwedd ar ddigartrefedd, gydag argymhellion ar gyfer pob Llywodraeth, ond nid ydym wedi gweld unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi'r argymhellion hynny ar waith, er y byddech yn arbed arian drwy wneud hynny. Pa bryd y gwelwn weithredu go iawn ar fynd i'r afael â digartrefedd a gweithredu'r cynllun hwnnw?

Wel, ni chredaf ei bod yn wir dweud nad ydym wedi gweld unrhyw ymrwymiad o gwbl. Mae gennym grŵp gorchwyl a gorffen, o dan gadeiryddiaeth Crisis eu hunain, sy'n edrych ar ein cynlluniau peilot Tai yn Gyntaf. Polisi'r Llywodraeth hon yw cyflwyno Tai yn Gyntaf. Mae'n rhaid i ni gyflwyno Tai yn Gyntaf mewn ffordd sy'n golygu ein bod yn rhoi'r cymorth cywir i bobl, gyda'r gefnogaeth gywir o'u hamgylch, yn y ffordd iawn. Mae'n amhosibl dyblygu system y Ffindir. Ac o ran y gŵr bonheddig dan sylw, a ymddangosodd mewn rhaglen ar y BBC ddydd Llun, ac rwy'n siŵr ei bod hi, fel finnau, wedi'i gweld—nid wyf wedi cael unrhyw gyswllt â'r gŵr hwnnw, a buaswn yn croesawu cyswllt o'r fath, ond nid oedd yn gywir ynglŷn â'r cyd-destun polisi ar gyfer Cymru. Un o'r materion sy'n cynyddu digartrefedd yng Nghymru yw'r system gredyd cynhwysol, nad oes gennyf unrhyw reolaeth drosti yn anffodus. Felly, mae gennym system lle rydym wedi cael ein canmol ledled y byd am ein rhaglen ataliol i gadw pobl mewn tai. Rydym yn parhau i wneud hynny. Rydym wedi llwyddo i gynnal cyfradd atal digartrefedd o 65 y cant yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n galed iawn ar y gweddill, ac wrth gwrs, Tai yn Gyntaf yw'r dewis a ffafriwn. Ni allwch drawsnewid popeth mewn pythefnos a dyblygu system gyfan o'r Ffindir. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cynlluniau peilot yn gweithio, eu bod yn cyrraedd y rhai mwyaf agored i niwed, a'n bod yn gwneud hynny'n iawn, fel fod gennym system sy'n gynaliadwy ac yn gwneud digartrefedd yn rhywbeth prin, byr, nad yw'n ailadrodd, sef y nod i bob un ohonom, yn amlwg.

14:35

Pythefnos? Weinidog, dro ar ôl tro, rydym yn gweld eich Llywodraeth yn oedi ac yn llusgo'i thraed ar faterion cyfiawnder cymdeithasol sylfaenol hyd yn oed, boed yn ddigartrefedd, llygredd aer neu wahardd ffioedd annheg gan asiantaethau gosod tai. Nid ydym ond yn gweld camau gweithredu sawl blwyddyn wedi i'r mater ddod i'ch sylw—grwpiau gorchwyl a gorffen diddiwedd, nad ydynt yn gorffen unrhyw beth yn y pen draw, adolygiadau sy'n dweud wrthym yr hyn a wyddom eisoes, a chanfod 'cydbwysedd' sy'n rhaid ei daro rhwng hawliau unigolion agored i niwed a sefydliadau mawr, nad ydynt yn hoffi'r ffaith bod pobl sy'n cysgu allan yn difetha eu profiad manwerthu. Ai dyma yw ystyr sosialaeth yn yr unfed ganrif ar hugain?

Wel, Leanne, mae'n flin gennyf eich gweld yn ymostwng i ormodiaith o'r fath, gan nad dyna yw'r sefyllfa o gwbl, ac fe wyddoch hynny'n iawn. Byddaf yn siŵr o drosglwyddo eich syniadau ynglŷn â'r grŵp gorchwyl a gorffen i'r arbenigwyr gweithgar sy'n ein helpu gyda'r polisi hwnnw. Rwy'n siŵr y bydd agwedd o'r fath yn gymorth mawr iddynt.

Mae ein hagwedd yn gwbl wahanol i hynny. Rydym am ddarparu'r ateb gorau i bobl, cyn gynted â phosibl, fel bod yr ateb hwnnw'n effeithlon ac yn effeithiol wrth fynd i'r afael â'u problemau. Nid yw hyn yn ymwneud ag arian; mae a wnelo â chyfiawnder cymdeithasol a sicrhau bod pobl yn cael yr ateb unigryw y maent yn ei haeddu i'w problem—nid rhyw ateb sy'n addas i bawb y gallwn ei roi ar y system a dweud, 'Dyna ni; rydym wedi gwneud hynny.' Nid ydym am wneud hynny. Rydym yn awyddus i sicrhau bod pob unigolyn yn cael y cyfiawnder cymdeithasol y maent yn ei haeddu a system sy'n eu cynorthwyo i gadw eu cartref pan fyddant wedi'i gael, ac sy'n cefnogi eu hiechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, unigrwydd, anhwylder straen wedi trawma—y llu o broblemau y mae pobl yn eu hwynebu pan fyddant yn ddigartref.

Nid eu cael i mewn i'r tŷ yw'r broblem—mae eu cadw yno a sicrhau bod ganddynt yr holl wasanaethau angenrheidiol i gynnal y denantiaeth honno yn y dyfodol, gan gynnwys y pecynnau cymorth cywir, yn ariannol—budd-daliadau ac yn y blaen—yn hanfodol. Nid wyf am gael fy ngwthio i wneud rhywbeth yn gyflym, gan mai'r hyn rydym am ei wneud yw ei wneud yn iawn.

Diolch, Lywydd. Bydd fy nghwestiynau'n canolbwyntio ar eich rôl fel arweinydd Llywodraeth Cymru ar bolisi a chysylltiadau â'r lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru.

Ym mis Chwefror, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad i ddathlu lansiad Gwobrau Cyn-filwyr cenedlaethol cyntaf Cymru, i ddathlu a gwobrwyo cyn-filwyr neu gyn-aelodau o'r lluoedd arfog sydd wedi dychwelyd at fywyd sifil ac wedi rhagori a mynd ymhellach na'r galw yn eu meysydd perthnasol ac a fydd yn gweithredu fel modelau rôl i arweinwyr gwasanaethau yn y dyfodol. Roedd y timau gwobrwyo yn chwilio am bobl sydd, hyd yn oed yn ystod y cyfnodau anoddaf, wedi rhagori mewn busnes, ffitrwydd, chwaraeon a'r gymuned ehangach. Fe wnaethant anfon e-bost ataf yr wythnos diwethaf i ddweud eu bod newydd ryddhau eu rhestr fer o enillwyr ar gyfer y gwobrau yn y Village Hotel Club, Abertawe, ar 26 Mehefin, a noddwyd gan TASC Holdings Ltd o Sir y Fflint er mwyn cefnogi ABF The Soldiers' Charity. Pa ymgysylltiad a fu neu a fydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r fenter gadarnhaol hon?

Nid wyf yn siŵr fy mod yn gwybod llawer am y fenter benodol honno, ond rydym wedi gweld cynlluniau da a chadarnhaol ar draws ein cysylltiadau â'r lluoedd arfog. Cyfarfu'r Prif Weinidog a minnau â brigadydd Cymru yn ddiweddar iawn i drafod ein perthynas barhaus â'r lluoedd arfog yma yng Nghymru a'r hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo ein gilydd i gael y gorau o'r berthynas honno.

Mae gennym draddodiad hir a balch o ddarparu pobl i'r lluoedd arfog. Rwy'n falch iawn o ddweud fy mod wedi mynychu gorymdaith y gwarchodlu Cymreig drwy Abertawe yn ddiweddar, ac roeddwn yn falch iawn o allu mynychu. Felly, mae arnaf ofn nad wyf yn ymwybodol o fanylion yr hyn y soniodd amdano. Buaswn yn falch iawn o gael gwybod mwy amdano. Mae'n swnio'n wych ac rwy'n fwy na pharod i gymryd mwy o ran yn hynny, os hoffai roi'r manylion i mi.

Gwych. Fel y dywedais, maent am ysbrydoli'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog yn y dyfodol a dangos y gall pethau gwych ddigwydd.

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Ysgrifennydd Amddiffyn y DU y bydd pobl sy'n gadael y lluoedd arfog a'u teuluoedd bellach yn gallu cael llety milwrol am hyd at flwyddyn ar ôl gadael, gan roi mwy o amser iddynt edrych am lety parhaol wrth iddynt ddychwelyd at fywyd sifil, lle mae tai yn amlwg yn allweddol i gyn-filwyr y lluoedd arfog a'u teuluoedd.

Yng Nghymru, gwyddom fod Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf a menter Cartrefi ar gyfer Cyn-filwyr Cymru Alabaré wedi arwain ar dai i gyn-filwyr a'u teuluoedd, ond sut yr ymatebwch i'r pryderon nad yw llwybr atgyfeirio tai Llywodraeth Cymru ar gyfer cyn-filwyr yn mynd i'r afael â'r pryderon ynglŷn â sut y gall swyddogion tai ddarparu'r cymorth angenrheidiol i reoli achosion cymhleth cyn-filwyr sydd wedi'u hailgartrefu, gan integreiddio gwasanaethau gofal, tai, ac iechyd yn well?

Mae gennym lwybr penodol ar gyfer pobl sy'n gadael y lluoedd arfog. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod y llwybr hwnnw'n gweithio, ac i gael gwell cysylltiad ag aelodau o'r lluoedd arfog yn y flwyddyn cyn iddynt adael y lluoedd arfog. Felly, byddwn yn croesawu gwell cysylltiad yn y broses benodol honno ar gyfer fy swyddogion. Felly, rydym am gael llwybr di-dor inni allu cyfeirio pobl at yr asiantaethau cywir yn yr ardal. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cynnal cysylltiadau lleol fel y gall pobl ddychwelyd at unrhyw gymuned y teimlant fod ganddynt gysylltiad lleol â hi, neu yn wir, os ydynt wedi creu bywyd wrth fod yn y lluoedd arfog yn rhywle arall, eu bod yn gallu cynnal cysylltiad â theulu a ffrindiau. Fy nealltwriaeth i yw bod pobl yn trosglwyddo orau o'r lluoedd arfog pan fyddant yn symud i mewn i gymuned sy'n barod i'w derbyn a lle mae ganddynt lawer o gysylltiadau. Felly, rwy'n fwy na pharod i weithio gyda'r Aelod os hoffai fy rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn â hyn i sicrhau bod y llwybr yn gywir.

Ar hynny, cefais fy atgoffa gan y Dirprwy Weinidog ei bod yn lansio adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar y cyfamod yfory, sydd wedi cael llawer o fewnbwn gan y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog. Felly, rydym yn falch iawn o fod yn rhan o hynny hefyd.

14:40

Wel, gobeithiaf fod eich ymateb yn golygu y byddwch yn mynd i'r afael â hyn yn awr o fewn y llwybr gyda'ch swyddogion.

O ystyried eich ymateb blaenorol, efallai eich bod wedi clywed am Project 360°—partneriaeth rhwng Age Cymru, yr elusen i gyn-filwyr Woody's Lodge, a Chynghrair Henoed Cymru—sy'n darparu lle croesawgar i gyn-filwyr y lluoedd arfog, rhai sydd wedi gadael yn ddiweddar a milwyr wrth gefn, a ariennir gan gronfa cyn-filwyr hŷn Canghellor y DU, ac sy'n cefnogi cyn-filwyr hŷn ledled Cymru.

Yn ddiweddar, cefais ohebiaeth gan Age Cymru ynghylch gofalwr o Gonwy a soniai am yr heriau ychwanegol y mae'n eu hwynebu wrth ofalu am ei gŵr sy'n gyn-filwr ac sydd â dementia fasgwlaidd. Er ei fod yn ymweld â grwpiau cymdeithasol ar gyfer cyn-filwyr, fel Woody's Lodge ym Mae Colwyn, lle mae'n teimlo'n ddigon cyfforddus i sgwrsio â chyd-ymwelwyr am eu cyfnod yn y lluoedd arfog, dywedodd eu bod hefyd wedi mynychu grwpiau cymorth i bobl nad ydynt yn gyn-filwyr, ac nad ydynt yn diwallu ei anghenion. Er iddo fwynhau'r dosbarthiadau ymarfer corff, nid oedd am sgwrsio ag unrhyw un yno y teimlai nad oedd ganddo unrhyw beth yn gyffredin â hwy. Dywedodd, 'Buaswn wrth fy modd yn gweld mwy o weithgareddau i gyn-filwyr gan eu bod yn cynnig cymorth sy'n canolbwyntio cymaint ar yr unigolyn.' Ac mae Project 360° yn amau ​​y gall fod miloedd o bobl fel hyn yng Nghymru, gyda gofalwyr llawn amser yn ymdrechu i ddiwallu anghenion eu hanwyliaid sydd â chyflyrau cronig a'r cymhlethdod ychwanegol o fod yn gyn-filwr sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r byd sifil. Sut y bwriadwch fynd i'r afael â phryder o'r fath wrth i chi edrych tua'r dyfodol gyda'ch cyd-Aelodau mewn adrannau cysylltiedig?

Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn bwrw ymlaen ag ef. Mae hi wedi fy atgoffa, unwaith eto, ei bod yn lansio'r adroddiad yn Woody's Lodge i weld drosti'i hun yr hyn y gellir ei wneud yn rhan o'r gwaith o sicrhau bod cyn-filwyr yn cael y mathau o wasanaethau a fydd yn eu galluogi i gael y math o brofiadau a ddisgrifiodd Mark Isherwood yn ei ateb. Rwy'n fwy na pharod i sicrhau bod y Dirprwy Weinidog yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion unrhyw brosiectau eraill y bu'n edrych arnynt yn ddiweddar,FootnoteLink ac os hoffai roi manylion yr etholwr y cyfeiriodd ati i mi, rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny hefyd.

Cwestiwn 3—ond nid yw David Rowlands yn y Siambr i holi ei gwestiwn Rhif 3. Felly, cwestiwn 4—Paul Davies. 

Ni ofynnwyd cwestiwn 3 [OAQ53868].

Polisïau Tai Gwledig Llywodraeth Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a yw polisïau tai gwledig Llywodraeth Cymru yn addas i'r diben? OAQ53844

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid ym mhob rhan o Gymru i gefnogi ein hamcanion o ran tai. Yn ogystal, rydym yn cydnabod bod heriau gwahanol i'w cael mewn ardaloedd gwledig, a dyna pam ein bod wedi parhau ein hymrwymiad hirsefydlog i ariannu swyddogion galluogi tai gwledig.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hymateb. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o bryderon yn Sir Benfro mewn perthynas â pholisi cynllunio Llywodraeth Cymru o ran datblygiadau Un Blaned, gan ei bod wedi derbyn gohebiaeth oddi wrthyf, ac yn wir, oddi wrth etholwyr ar y mater hwn. Mae rhai o fy etholwyr, ac yn wir, Cyngor Sir Penfro, wedi mynegi pryderon ynghylch sawl agwedd, ond maent yn ymwneud yn bennaf â monitro'r cynlluniau busnes a'r pwysau y mae hyn yn ei roi ar awdurdodau cynllunio lleol i sicrhau bod adeiladau'n cael eu datblygu mewn ffordd briodol. Yng ngoleuni'r baich enfawr ar awdurdodau cynllunio lleol, a'r pryderon gan fy etholwyr yn wir, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn bryd adolygu polisi datblygu Un Blaned?

Wel, fel y gŵyr, rwy'n siŵr, mae canllawiau datblygu Un Blaned wedi'u nodi yn 'Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy' ac arweiniad ymarfer datblygu Un Blaned. Penderfynir ar y ceisiadau cynllunio yn unol â'r cynllun datblygu a fabwysiadwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer yr ardal, oni bai fod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall, ac yn amlwg, nid yw'r system gynllunio ei hun wedi'i llunio i atal pobl rhag gwneud ceisiadau cynllunio; mae wedi'i llunio i ymdrin â hwy ar ôl iddynt gael eu gwneud. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn annog awdurdodau cynllunio lleol a'r rhai sy'n gwneud ceisiadau i drafod cynigion drwy'r drafodaeth cyn ymgeisio cyn cyflwyno'r cais cynllunio yn ffurfiol, ac fel y gŵyr, ac fel y nododd yn ei gwestiwn, rwy'n credu, ceir meini prawf cynllunio llym ar gyfer datblygiadau un blaned, ac mae'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud cais cynllunio ddarparu tystiolaeth gadarn ar ffurf y cynllun rheoli hwnnw, gan gynnwys y cynllun busnes a'r cynllun gwella, y dadansoddiad o'r ôl troed ecolegol, dadansoddiad carbon, asesiadau tirwedd a bioamrywiaeth, asesiadau effaith ar y gymuned ac asesiadau trafnidiaeth a theithio.

Os yw Sir Benfro yn gweld cynnydd sydyn yn y rhain neu os yw'n cael trafferth gydag arbenigedd penodol, rwy'n fwy na pharod i weithio gyda Sir Benfro i sicrhau bod ganddynt yr arbenigedd i allu ymdrin â hyn, ac rwy'n fwy na pharod i gysylltu â'r prif weithredwr yno i sicrhau eu bod yn teimlo bod ganddynt y set gywir o sgiliau i allu rheoli hynny. Rwy'n deall pryder yr Aelod yn hyn o beth, ond wrth gwrs, rydym am hybu tai ynni goddefol, ecogyfeillgar a datblygu arloesol ledled Cymru, ond rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth, ac rwy'n fwy na pharod i gysylltu â'r awdurdod lleol i sicrhau bod ganddynt y set o sgiliau sydd ei hangen arnynt.FootnoteLink

14:45

Mae diffyg tai fforddiadwy, wrth gwrs, yn broblem arbennig o ddwys mewn ardaloedd gwledig, ond lle mae yna dai fforddiadwy yn cael eu codi—gallaf i ddangos enghreifftiau i chi yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru—mae hyd yn oed y rheini, er eu bod yn cael eu codi â phob bwriad da, yn aros yn wag, a hynny am nifer o resymau, yn cynnwys, wrth gwrs, yr angen am flaendal sydd yn rhy fawr yn aml iawn i bobl leol ei fforddio. Felly, fel un cam ymarferol i drio cynnig help i gymunedau cefn gwlad yn y cyd-destun yma, a gaf i ofyn i’r Gweinidog a fyddech chi’n barod i ystyried creu cronfa cyfalaf benodol ar gyfer ardaloedd gwledig er mwyn helpu pobl leol, ac yn enwedig pobl ifanc, i allu fforddio prynu neu rentu tai yn yr ardaloedd gwledig hynny?

Ie, mae'n sicr yn bwynt diddorol. Rwyf newydd dderbyn—mewn gwirionedd, roeddwn yn ei ddal yn fy llaw—adroddiad gwerthuso Cymorth i Brynu Cymru, ac un o'r pethau rydym yn eu hystyried yw beth a gawn yn lle'r cynllun hwnnw neu a ydym yn ei adnewyddu, a beth a wnawn gyda'r adnewyddiadau. Un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i'w gwneud yw gweld beth y gallwn ei wneud er mwyn ailddefnyddio eiddo gwag ac annog datblygu y tu allan i gytrefi i gefnogi anghenion pobl leol. Rydym hefyd yn gweithio'n galed iawn gyda chynghorau a darparwyr y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn dibynnu ar ba awdurdod tai sydd yn eich ardal chi, i sicrhau eu bod yn cyflwyno'r cynlluniau tai cymdeithasol angenrheidiol i alluogi pobl leol i aros yn eu cymunedau lleol. Rwy'n awyddus iawn i weithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar hyn. Rydym yn edrych yn arbennig ar gael datblygiadau addas i bobl leol allu aros yn y cymunedau y maent yn awyddus i fyw ac i weithio ynddynt a sicrhau ein bod yn adeiladu'r cymunedau hynny fel cymunedau cynaliadwy oddi mewn i'r amlen gymunedol.

Felly, rwy'n fwy na pharod i ddweud fy mod yn hapus i edrych ar unrhyw beth yn y cyswllt hwnnw. Mae gennyf yr adroddiad, a gallwch weld fy mod newydd ddechrau darllen drwy sylwedd yr adroddiad i weld beth y mae'n ei argymell. Rwyf wedi cael cyfarfodydd eisoes gyda sawl awdurdod lleol yng ngogledd Cymru ynghylch yr angen i gael tai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn ei ystyr ehangach yn y pwyllgorau hynny hefyd. Felly, rwy'n fwy na pharod i edrych arno, a buaswn yn hapus i gael yr Aelod yn rhan o hynny wrth i ni fwrw ymlaen ag ef.

Yr Adolygiad Annibynol o Dai

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o'r adolygiad annibynnol o dai? OAQ53863

Cyhoeddodd y panel adolygu annibynnol ar y cyflenwad tai fforddiadwy eu hadroddiad ar 1 Mai. Mewn gwirionedd, byddaf yn mynychu cyfarfod cabinet tai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yfory, lle bydd adroddiad y panel yn bwnc trafod cyntaf. Rwy'n ymgysylltu ar draws y sector tai wrth imi ystyried fy ymateb i'r argymhellion.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae ffigurau diweddar wedi dangos bod rhai teuluoedd yn treulio tair blynedd mewn llety dros dro, felly mae'r amser aros cyfartalog mewn rhai ardaloedd yn fisoedd ac nid dyddiau. Mae pobl yn aros am amser maith am lety priodol, ac rwy'n siŵr eich bod yn cydymdeimlo â'r bobl hynny. O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddod o hyd i lety ar gyfer pobl sy'n ddigartref, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, ond nid oes cyfyngiad ar ba mor hir y dylai hynny gymryd. Beth arall y gallwch ei wneud i leihau'r amser y mae teuluoedd mewn llety dros dro, ac a ddylid diwygio'r Ddeddf tai i gynnwys terfyn amser ar faint o amser y gall awdurdod ei gymryd i ddod o hyd i gartref mawr ei angen i deulu?

Os caf ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf, oni fyddai'n hyfryd pe bai hynny'n ateb hawdd? Ond wrth gwrs, nid yw'n ateb hawdd, oherwydd os gosodwch derfyn amser ac nad oes cartref parhaol ar gael, beth y gall yr awdurdod lleol ei wneud? Nid ydym am i bobl gael eu symud o'u cymunedau er mwyn ceisio sicrhau rhywbeth a fyddai'n arwain at lawer o ganlyniadau anfwriadol yn ôl yr hyn a welaf fi. Yr unig ffordd o fynd i'r afael â'r broblem a amlinellodd yr Aelod, sy'n un real, yw cynyddu'r cyflenwad tai. Mae'r Aelod wedi fy nghlywed yn sôn gryn dipyn heddiw am gynyddu'r cyflenwad tai, gan ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni, ond yn fwy penodol, i sicrhau y caiff tai cymdeithasol eu hadeiladu ar raddfa fawr ac yn gyflym unwaith eto, sef yr unig ateb parhaol i'r broblem.

Awgrymodd Mike Hedges fod problemau gyda chael datblygwyr preifat i adeiladu tai, ond yr hyn sy'n ddiddorol iawn, os edrychwch ar batrwm adeiladu tai yn hanesyddol, yw bod mwy o adeiladu tai preifat wedi digwydd yn y blynyddoedd pan gafodd y nifer fwyaf o dai cymdeithasol eu hadeiladu nag mewn cyfnodau eraill gan fod y farchnad yn gorfod ymdopi â'r gystadleuaeth yn sgil y gwaith adeiladu tai cymdeithasol. Felly, mae'n gynnydd hynod ddiddorol yn groes i'r disgwyl, a bu'n ddiddorol iawn ei weld, gan ei fod yn gorfodi cwmnïau adeiladu tai i ystyried nad hwy yw'r unig rai yn y maes. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y farchnad yn symud yn y ffordd honno, drwy adeiladu'r tai cymdeithasol a thrwy sicrhau bod datblygwyr yn defnyddio'u plotiau.

14:50

Yn amlwg, mae cryn wahaniaeth mewn tai gwledig a'r cyflenwad o dai gwledig, sy'n aml yn mynd yn groes i rai o'r nodau cynaliadwyedd, megis gwasanaethau bysiau, er enghraifft, sydd wedi cael eu torri, yn anffodus, dros y blynyddoedd diwethaf, a gallwn gael dadl a thrafodaeth ynglŷn â hynny. Ond yn aml iawn, pan fydd pobl yn cyflwyno ceisiadau am dai newydd mewn ardaloedd gwledig, maent yn methu'r prawf cynaliadwyedd, yn aml iawn oherwydd bod angen car er mwyn cael mynediad at wasanaethau ac ati. Dyna yw ei natur. A ydych yn derbyn y ddadl honno, Weinidog, ac a ydych yn credu bod yna achos dros edrych ar rai o'r rheolau a'r rheoliadau oherwydd amgylchiadau unigryw yr amgylchedd gwledig fel y gellir cael mwy o ddatblygiadau gwledig er mwyn sicrhau bod mwy o stoc dai ar gael?

Mae'n ddarlun cymhleth. Hynny yw, mae'n iawn i ddweud bod yn rhaid i gynaliadwyedd fod yn un o'r materion sy'n codi. Yr hyn nad ydym ei eisiau—ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaed ganddo'n llwyr—ond yr hyn nad ydym eisiau ei wneud yw adeiladu tai, rhoi pobl ynddynt a gweld wedyn eu bod yn dioddef tlodi tanwydd difrifol neu bethau eraill am fod eu costau trafnidiaeth mor uchel, ac yn y blaen. Felly, mae angen ystyried y darlun cyflawn, ac fel y dywedais mewn ymateb i Llyr, un o'r pethau y mae angen i ni edrych arnynt yw'r amrywiaeth o dai y gellir eu cael mewn cymunedau gwledig, am nad tai preifat yn unig sydd eu hangen bob amser.

Fel y gŵyr, rwy'n byw mewn pentref bach ar y Gŵyr yn etholaeth fy ffrind Rebecca Evans. Roedd nifer fach o dai cymdeithasol yn arfer bod yno, a phlant y bobl a oedd yn byw yn y pentref oedd yn byw ynddynt gan mwyaf, ond mae'r cyfan wedi'i werthu. Felly, mae angen mwy o hynny fel bod y plant a fagwyd yn y pentrefi hynny'n gallu cael mynediad at dai er mwyn iddynt allu aros yn eu cymunedau. Felly, mae'n ddarlun cymysg. Credaf fod angen i ni edrych ar rai o'r rheolau a'r rheoliadau sy'n gysylltiedig â hyn, ond ceir rhesymau da dros y dadleuon cynaliadwyedd, nid yn unig i atal gwaith adeiladu tai, ond i atal y bobl ynddynt rhag wynebu agweddau anfwriadol ar dlodi tanwydd, er enghraifft, a phroblemau eraill.

Tai Fforddiadwy

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru? OAQ53836

Rwy'n synhwyro thema'n datblygu yng nghwestiynau heddiw, Lywydd.

Gwnaf, wrth gwrs. Mae darparu tai fforddiadwy yng nghanolbarth Cymru yn flaenoriaeth, fel y mae adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n cydnabod nad yw'r cyflenwad yn ateb y galw ar hyn o bryd. Mae gan awdurdodau lleol sy'n cadw stoc, megis Powys, a chymdeithasau tai rôl allweddol i'w chwarae o ran darparu stoc.

Diolch, Weinidog. Yn sicr, ni chafwyd unrhyw gydgysylltu ar y thema. Ond yn sicr, mae llawer iawn o denantiaid cymdeithasau tai wedi cysylltu â mi dros y misoedd diwethaf ynghylch yr hyn y teimlant sy'n lefelau anfforddiadwy o rent yn y dyfodol. Mae'r cynnydd yn y rhenti o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru. Mae'n fater rwyf wedi ysgrifennu atoch yn ei gylch, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'n caniatáu isafswm cynnydd o 1.5 y cant ar ben chwyddiant, a £2 yr wythnos. Beth arall a wnewch i sicrhau nad yw cyfraddau rhent mor ddrud i'r rhai sy'n aml ar incwm isel, a pha ystyriaeth a roesoch i gyflwyno asesiad gwerth am arian, tebyg i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, i roi hyder i denantiaid fod cyfiawnhad dros unrhyw gynnydd yn y rhenti?

Rydym yn edrych ar y polisi rhenti ar gyfer Cymru ar hyn o bryd, felly byddaf yn cyhoeddi polisi rhenti newydd i Gymru ar ôl inni gwblhau'r adolygiad hwnnw. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod amrywiaeth o ffactorau ar waith. Un yw cyfiawnder cymdeithasol i'r bobl sy'n talu'r rhenti. Y llall yw'r ffaith bod y landlordiaid rydym am iddynt adeiladu'r tai cymdeithasol mawr eu hangen yn defnyddio'r rhenti, yn amlwg, fel ffordd o ariannu'r benthyciadau y maent eu hangen er mwyn sicrhau'r cyfalaf i adeiladu mwy o dai. Felly, mae cydbwysedd da rhwng y ddau. Mae'r adolygiad yn edrych ar bob agwedd ar bolisi rhenti, gan gynnwys y trefniadau cyfiawnder cymdeithasol. Bydd yr Aelod yn gwybod na fyddaf yn gallu gadael i hyn fynd heb ddweud y gallai yntau chwarae ei ran drwy geisio annog ei Lywodraeth i newid rhai o'r rheoliadau credyd cynhwysol sy'n achosi rhai o'r problemau a amlinellodd yn ei gwestiwn.

Gwaith Teg

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi gwaith teg yng Nghymru? OAQ53854

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn hyrwyddo gwaith teg mewn meysydd fel caffael a gofal cymdeithasol. Rydym hefyd wedi croesawu adroddiad diweddar y Comisiwn Gwaith Teg a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i ystyried bwrw ymlaen â'i argymhellion.

Diolch. Wel, wrth ymateb i'ch datganiad yma yr wythnos diwethaf—

A gaf fi dorri ar eich traws, Mark Isherwood? Mae'n ddrwg iawn gennyf. Lywydd, fy mai i yn llwyr—roedd y Dirprwy Weinidog am ateb y cwestiwn hwn, felly a gaf fi ymddiheuro'n fawr a chaniatáu iddi wneud hynny?

14:55

Rydych yn rhy awyddus o lawer, Weinidog. Y Dirprwy Weinidog i ymateb. Parhewch â'ch cwestiwn atodol.

O'r gorau. Wrth ymateb i ddatganiad eich cyd-Aelod y Gweinidog yr wythnos diwethaf ar adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, cyfeiriaf hefyd at 'Good Work Plan' Llywodraeth y DU. Mae hwn yn dilyn argymhellion a wnaed gan Matthew Taylor, prif weithredwr cymdeithas frenhinol y celfyddydau, sydd â chenhadaeth i gyfoethogi cymdeithas drwy syniadau a gweithredoedd, felly, yn amlwg, nid yw'n adroddiad pleidiol. Mae'r cynllun yn amlinellu camau i roi ei argymhellion ar waith wrth adolygu arferion cyflogaeth a gweithio modern i sicrhau bod hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu a'u huwchraddio wrth inni adael yr UE, a bod marchnad lafur y DU yn parhau i fod yn llwyddiannus ac yn gystadleuol yn y dyfodol. Pa ystyriaeth, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r 'Good Work Plan', ochr yn ochr â'i hystyriaeth o ganlyniadau'r ymgynghoriad ar ei hadroddiad Comisiwn Gwaith Teg ei hun?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ganiatáu imi ateb y cwestiwn ac am ofyn y cwestiwn? Mae'r Aelod wedi codi rhai pwyntiau diddorol iawn o ran Matthew Taylor, gynt o'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus. Yn amlwg, rydym yn falch o'r record sydd gennym yng Nghymru o ran y modd rydym wedi gweithio gyda phartneriaeth gymdeithasol a'r pethau y mae hynny wedi eu cyflawni eisoes mewn perthynas â chyflog byw yn y GIG a'r panel cynghori ar amaethyddiaeth. Ond bellach, rydym am edrych ar yr hyn sydd ar gael ac adeiladu ar y gwaith blaenorol mewn ffordd sy'n gweithio i weithwyr ac sy'n gweithio i Gymru, ac edrych ar y 48 o argymhellion gan y Comisiwn Gwaith Teg ac amlinellu sut y gallwn fwrw ymlaen â gwaith teg yng Nghymru. Gwn fod fy nghyd-Aelod y Gweinidog wedi cyhoeddi ein bod wedi derbyn chwe argymhelliad blaenoriaethol y comisiwn, a'r hyn y bydd angen i ni ei wneud nawr yw—. Ein tasg ni fydd ystyried pob un o'r argymhellion ehangach yn ofalus a phenderfynu ar y ffordd orau o'u rhoi ar waith.

Weinidog, ers blynyddoedd lawer, mae pobl ifanc wedi dioddef gwahaniaethu ym maes cyflogaeth. A fyddech yn croesawu ymrwymiad y Blaid Lafur i roi diwedd ar wahaniaethu yn erbyn pobl ifanc 16 i 18 oed er mwyn iddynt gael eu talu ar y gyfradd gywir ar gyfer y swydd yn hytrach na chyfradd y gellir ei phriodoli i'w hoedran, a rhoi diwedd ar yr anghyfiawnder maith y bu'n rhaid i bobl ifanc ei ddioddef yn y gweithle?

Mewn gair, 'buaswn'. Pan gyflwynwyd yr isafswm cyflog gyntaf, roedd yn ddeddfwriaeth arloesol ond isafswm yn unig ydoedd. Rydym yn gweld bellach, ac rydym wedi clywed yn ddiweddar—daeth rhai myfyrwyr i mewn i siarad â ni—sut y mae gan bobl ifanc 16 i 18 oed gyfrifoldebau gofalu hefyd, ac efallai y bydd angen iddynt dalu rhent. Felly, mae angen i ni sicrhau hefyd ar ochr arall y geiniog, mewn gwirionedd—. Efallai y bydd rhai cyflogwyr mwy diegwyddor yn defnyddio hynny i beidio â chyflogi myfyrwyr hŷn ac yn cyflogi myfyrwyr iau yn unig gan y gallant dalu llai o arian iddynt. Bydd yr Aelod yn gyfarwydd, yn ôl pob tebyg, ag argymhelliad y Comisiwn Gwaith Teg y dylai gweithwyr gael eu talu'n deg ar gyfraddau cyflog byw Cymru ac y dylid darparu'r isafswm cyflog am yr holl oriau gwaith ac i'r holl weithwyr.

Cynhwysiant Ariannol

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cynhwysiant ariannol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53850

Mae'r adroddiad cynnydd a rhagolwg cynhwysiant ariannol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018, yn rhoi trosolwg o rai o'r gweithgareddau allweddol ers cyhoeddi'r strategaeth a'r cynllun cyflawni yn 2016. Mae'r rhain yn cynnwys ein cefnogaeth barhaus i wasanaethau cynghori, undebau credyd a'r gronfa cymorth dewisol.

Diolch, Weinidog, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith da a wneir gan sefydliadau fel y ganolfan cyngor ar bopeth yn fy etholaeth. Fodd bynnag, mae llawer o wasanaethau hanfodol yn cael eu diddymu'n gyson yn rhai o gymunedau'r Cymoedd, a bydd llawer ohonom wedi gweld hynny. Gan weithio gyda fy nghydweithiwr Gerald Jones AS, rydym wedi ymgyrchu i achub rhai o'r gwasanaethau bancio masnachol mewn trefi fel Rhymni, ac ar hyn o bryd, rydym yn ceisio cadw mynediad at rwydwaith o beiriannau codi arian parod am ddim, yn ogystal â chefnogi gwaith yr undebau credyd lleol. Ym mha ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth i sicrhau cynhwysiant ariannol yn y cymunedau hyn?

A gaf fi ddechrau drwy ategu sylwadau'r Aelod a chydnabod y gwaith y mae'r ganolfan cyngor ar bopeth yn ei wneud wrth ddarparu cyngor a hyrwyddo cynhwysiant ariannol a'r gefnogaeth i bobl mewn cymunedau ledled y wlad, a chydnabod y gwaith rydych chi a'ch cydweithiwr Gerald Jones wedi'i wneud ar geisio atal banciau rhag cau a lliniaru effaith hynny? Gwn ei fod yn rhywbeth y bydd pob Aelod yn y Siambr hon yn gyfarwydd ag ef, mae'n debyg, ac yn gyfarwydd â gorfod ymgyrchu yn y ffordd honno hefyd. Ac yn anffodus, er nad yw'r dulliau ar gyfer rheoleiddio i atal banciau rhag gwneud hyn ar gael i ni, mae camau y gallwn eu cymryd yng Nghymru i sicrhau nad yw cynhwysiant ariannol yn dioddef o ganlyniad i hynny.

Mae'r Aelod yn sôn am—[Anghlywadwy.]—mynediad at beiriannau ATM drwy Link. Byddwn yn parhau i gysylltu â Link—fel Llywodraeth Cymru—y rhwydwaith peiriannau arian i helpu i sicrhau y cynhelir darpariaeth ddigonol o beiriannau codi arian parod am ddim yn lleol, gan ganolbwyntio ar ein gwaith gydag undebau credyd. Rydym yn cefnogi 19 o ddarparwyr undebau credyd rhwng mis Ebrill y llynedd a mis Mawrth 2020, ac mae Merthyr Tudful yn un o'r rhain hefyd. Mae'r Aelod yn gyfarwydd â'r gwaith a arweinir gan fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ar ddatblygu banc cymunedol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae bancwyr proffesiynol yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru, sy'n cefnogi'r gwaith hwn, er mwyn sicrhau bod creu banc cymunedol yn integreiddio â sefydliadau ariannol presennol, gan gynnwys y banc datblygu, ac undebau credyd wrth gwrs. Gobeithio y bydd hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at gefnogi cymunedau sy'n gynhwysol yn ariannol.

15:00

Weinidog, mae Merthyr Tudful a Rhymni, fel llawer o gymunedau eraill yng Nghymru, wedi dioddef yn sgil cau banciau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, banciau megis cangen Barclays yn Aberfan a banc Lloyds yn Rhymni. Mae hyn wedi ei gwneud yn bwysicach fyth fod peiriannau arian parod ar gael i alluogi pobl i gael eu harian. Fodd bynnag, canfu adroddiad yn y cylchgrawn Which? fod peiriannau arian am ddim yn diflannu ar raddfa gyflym, gyda bron 1,700 o beiriannau ar draws y Deyrnas Unedig yn dechrau codi tâl am godi arian yn ystod tri mis cyntaf eleni. Weinidog, a ydych yn cytuno y bydd codi tâl am godi arian yn cael effaith andwyol ar gynhwysiant ariannol ac a wnewch chi gyflwyno sylwadau i'r cwmnïau sy'n darparu peiriannau arian, gan bwysleisio pwysigrwydd trafodion am ddim i gymunedau megis Merthyr Tudful a Rhymni?

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Link, y rhwydwaith peiriannau arian parod, i helpu i sicrhau bod darpariaeth ddigonol o beiriannau arian am ddim yn cael eu cynnal yn lleol a rhwydwaith rheolaidd ar draws cymunedau ledled Cymru. Fel y dywedais wrth yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni, gallai Llywodraeth yr Aelod yn y fan acw gymryd camau i reoleiddio banciau i atal cymunedau rhag dioddef yn y modd hwn hefyd.

Tynnwyd cwestiwn 9 [OAQ53847] yn ôl. Cwestiwn 10, Leanne Wood.

Cyllid Llywodraeth Leol

10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer llywodraeth leol? OAQ53853

Yn sicr. Caiff gwasanaethau llywodraeth leol eu hariannu drwy'r grant cynnal refeniw, ardrethi annomestig, y dreth gyngor, grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac incwm yr awdurdodau eu hunain, gan gynnwys ffioedd a thaliadau. Yn 2019-20, mae'r setliad llywodraeth leol yn darparu £4.2 biliwn o gyllid cyffredinol, gyda £900 miliwn arall mewn grantiau penodol.

Yn ddiweddar, cafwyd pocedi o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fy etholaeth. Mae criwiau mawr o bobl ifanc yn tueddu i hel at ei gilydd ar faes criced Ystradfechan yn Nhreorci, gan arwain at ddigwyddiadau cynyddol ddifrifol yn ddiweddar. Mae'r criwiau hyn yn aml yn gadael taclau cyffuriau a photeli alcohol wedi torri ar eu holau yn y parc hardd hwn. At hynny, llwyddwyd i wrthsefyll y bygythiad o aflonyddwch ar raddfa fawr gan bobl ifanc o'r Rhondda, Cwm Cynon a Phontypridd, diolch byth, yn sgil plismona rhagweithiol yng nghanol tref Pontypridd yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.

Mae gan awdurdodau lleol rôl hanfodol i'w chwarae yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gwraidd gyda'u cyfrifoldeb am wasanaethau ieuenctid. Nawr, yn Lloegr, gwelwyd bod cysylltiad rhwng yr ardaloedd sy'n wynebu'r toriad mwyaf i wasanaethau ieuenctid a'r cynnydd mwyaf mewn troseddau cyllyll. Nawr, rwy'n gweld gwerth gwasanaethau ieuenctid. Fe elwais arnynt yn bersonol, fel y gwnaeth fy ffrindiau. Yn Rhondda Cynon Taf, mae gwasanaethau ieuenctid wedi cael eu gwasgu'n ddim o ganlyniad i doriadau, gan nad yw'r weinyddiaeth Lafur wedi blaenoriaethu gwasanaethau ieuenctid. A'r canlyniad yw bod pobl ifanc heb fawr ddim i'w wneud a gwelwn ganlyniadau hynny yn awr. Felly, pa werth y mae eich Llywodraeth yn ei roi ar wasanaethau ieuenctid? Ac os cytunwch â mi fod gwasanaethau ieuenctid yn hanfodol, a gaiff hynny ei adlewyrchu yn y setliad llywodraeth leol nesaf, ac a fyddech hefyd yn ystyried cyhoeddi canllawiau i arweinwyr awdurdodau lleol ar y mater hwn?

Nid yw gwasanaethau ieuenctid yn fy mhortffolio i mewn gwirionedd, ond rwy'n gyfarwydd â—

Gwasanaethau ieuenctid. Ond rwy'n gyfarwydd â'r materion y mae'r Aelod yn eu codi. Rwyf fi hefyd yn gresynu at ddirywiad y gwasanaethau ieuenctid ar draws Cymru wrth i gyni adael ei ôl ar bob awdurdod lleol. Mae'r Prif Weinidog, yn ei raglen lywodraethu, wedi cyhoeddi ei fod am roi hwb i wasanaethau ieuenctid ledled Cymru, ac mae hynny i'w groesawu, gan ein bod yn cydnabod yr effaith ataliol y gall gwasanaethau ieuenctid ei chael, rhywbeth a amlinellwyd yn fedrus gan yr Aelod yn ei chwestiwn, a chytunaf yn llwyr â hi, fe elwais innau hefyd ar wasanaethau ieuenctid wrth i mi dyfu. Mae gennym raglen ymgysylltu â phobl ifanc ar waith o hyd yn yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn helpu'r rhai sy'n fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond mae hi'n gywir fod gwasanaeth ieuenctid mwy cyffredinol hefyd yn cynorthwyo ar draws y maes gyda phob math o bethau'n ymwneud â bod yn berson ifanc cyn i chi fod yn ddigon hen i fynd i sefydliadau wedi'u trwyddedu ac yn y blaen a beth ar y ddaear fydd rhywun yn ei wneud rhwng 12 a 18 oed. Felly, rwy'n gyfarwydd iawn â'r problemau y mae'n eu nodi.

Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn awyddus iawn i bwysleisio ein bod am roi'r galon yn ôl i mewn yn y gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru, ac rydym yn cynnal trafodaethau gydag awdurdodau lleol a'r gwasanaeth ieuenctid ei hun a'n gweithwyr ieuenctid ledled Cymru ynglŷn â'r ffordd orau o wneud hynny, ac rwy'n siŵr fod—. Credaf mai'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ydyw—nid wyf yn siŵr a dweud y gwir, ond fe ofynnaf—sy'n ystyried hynny. Roedd hynny gennyf yn fy mhortffolio diwethaf, felly rwy'n awyddus iawn i wybod. Rydym yn cael sgwrs adeiladol gydag awdurdodau lleol, sydd hefyd yn gweld bod y gwasanaethau ataliol hyn yn atal achosion acíwt a'r gadwyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.

15:05
Diwygio Lesddeiliadaeth

11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol Llywodraeth Cymru ar ddiwygio lesddeiliadaeth? OAQ53869

Gwnaf, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol ar amser i gyflwyno ei adroddiad a gwneud argymhellion i mi yr haf hwn. Mae wedi rhoi blaenoriaeth i nifer o faterion a fydd yn ategu gwaith Comisiwn y Gyfraith a'r tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.

Yn ddiweddar, cyfarfûm â Sefydliad Tai Siartredig Cymru, sy'n cyfrannu at y grŵp gorchwyl a gorffen, ynghyd â thrigolion ystâd Cwm Calon ym Mhenallta, Ystrad Mynach, yn etholaeth Caerffili. Mae nifer o faterion yn dal heb eu datrys mewn perthynas â'r taliadau rheoli ystâd cynyddol y disgwylir i drigolion eu talu, a gwn fod hwnnw'n faes cyfrifoldeb penodol i'r grŵp gorchwyl a gorffen. Mae trigolion Cwm Calon—ac mae llawer o ystadau tai eraill ledled Cymru yn wynebu'r problemau hyn; bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod bod ganddynt yr un problemau yn eu hetholaethau hwy—am i Lywodraeth Cymru weithredu. Weinidog, a allwch ddweud wrthyf pa bryd yn union y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn adrodd ac a allwch hefyd roi sicrwydd y bydd taliadau rheoli ystadau'n cael sylw?

Ni allaf ddweud wrtho'n union pryd, oherwydd nid yw'r wybodaeth honno gennyf wrth law, ond gwn ei fod cyn diwedd tymor yr haf. Os caf wybodaeth fwy penodol, byddaf yn sicr o roi gwybod i'r Aelod. Tasg benodol y grŵp gorchwyl a gorffen yw edrych ar y problemau penodol, ac mewn gwirionedd, mae fy nghyd-Aelod, Ken Skates, wedi bod â grŵp yn edrych ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, ac rydym wedi cyfuno'r ddau er mwyn gwneud datganiad ar y cyd ar yr effaith gyffredinol, oherwydd nid mater trafnidiaeth yn unig ydyw, fel rydych yn gywir i ddweud; mater sy'n ymwneud â rheoli ystadau yw hwn, mae'n fater i ddatblygiadau tai sy'n cael eu cyflwyno, mae'n fater sy'n ymwneud â'r ffordd y rheolwn ddatblygiadau preswyl ac yn y blaen. Felly, mae'r tasglu yn edrych ar hynny, gan ein bod yn ymwybodol iawn o bryderon ei drigolion a thrigolion ar draws Cymru sy'n wynebu ffioedd rheoli pan oeddent yn credu eu bod wedi prynu eiddo rhydd-ddaliadol ac yn y blaen. Felly, rwy'n ei sicrhau ei fod yn fater sy'n ganolog i'n hystyriaethau.

Rydym yn edrych ar ddiwygio lesddaliadau'n ehangach hefyd. Fe wnaeth fy rhagflaenydd yn y portffolio hwn, Rebecca Evans, sefydlu is-grŵp penodol i edrych ar hyn a sicrhaodd gytundeb gan bob un o'r prif adeiladwyr Cymorth i Brynu na fyddent yn defnyddio Cymorth i Brynu i roi eiddo ar brydles ar y farchnad, ac mae hynny wedi bod yn effeithiol iawn. Ond mae'r rhannau eraill hyn o'r ystâd y mae angen inni roi sylw priodol iddynt er mwyn sicrhau nad oes gan bobl system gyfan o ffioedd nad oeddent wedi'i rhagweld ac nad oes ganddynt unrhyw reolaeth drosti wrth symud ymlaen, a sicrhau mewn gwirionedd fod yr awdurdod lleol yn meddu ar y gallu i fabwysiadu a chynnal y ffyrdd hyn yn y ffordd iawn gyda'r mathau cywir o farciau stryd a chyfleusterau ac yn y blaen, ac fel nad ydym yn gweld newid sydyn yn arwyneb y ffordd a'r mathau hynny o bethau wrth i chi fynd i mewn i'r ystâd.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn gan David Rees.

Tata Steel a Thyssenkrupp

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyhoeddiad nad yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn debygol o gymeradwyo'r fenter ar y cyd rhwng Tata Steel Cyf a ThyssenKrupp AG, ac felly bydd unrhyw broses bellach ar y cyd-fenter yn cael ei hatal? 310

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i sicrhau fy mod wedi siarad gyda Tata Steel a chyda chynrychiolwyr undebau llafur, ynghyd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol? Mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud beth y gallai hyn ei olygu i Tata Steel yng Nghymru, ond wrth gwrs, Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn barod i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu haearn a dur yng Nghymru sy'n diogelu cyflogaeth a chymunedau dur.

15:10

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw a'r ymrwymiad y mae wedi'i roi i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru? Nawr, yn 2016 ar ddechrau hyn, bydd llawer yn cofio inni weld y bygythiad i gau gwaith Port Talbot. Yn dilyn y penderfyniad gan Tata wedyn i beidio â'i gau, yn yr ymrwymiad i geisio cael cyd-fenter neu uno â ThyssenKrupp, gan nodi mai'r cynnig hwnnw a fyddai'n rhoi dyfodol cryf i gynhyrchiant dur, derbyniodd yr undebau llafur hynny—yn gyndyn efallai, ond fe wnaethant ei dderbyn—a chafodd hynny ei atgyfnerthu yr wythnos hon gan gyngor gwaith Ewropeaidd Tata Steel yn y datganiad ar 10 Mai, a ddywedai eu bod yn cefnogi'r llwybr hwnnw. Nawr, mae hynny wedi mynd, ac rwy'n cytuno â'ch datganiad ddoe, a diolch i chi am y datganiad hwnnw. Mae'n amser pryderus; nid oes amheuaeth am hynny. Mae cymylau llwyd unwaith eto ar y gorwel dros Bort Talbot, gyda'r ofn eu bod yn symud i'n cyfeiriad ni. Rwy'n meddwl ei bod yn bryd cael pennau clir, fel y nodoch chi. Nid yw'n bryd eto—cymerwch amser; pwyll pia hi. Rhaid inni osod ein gweledigaethau ein hunain ar gyfer sicrhau bod gan Gymru sector dur cynaliadwy.

Cytunaf hefyd fod gan Lywodraeth y DU ran hanfodol i'w chwarae yn hyn, ac fe dynnoch chi sylw at y pwyntiau hynny, pa un a fyddant yn bwrw ymlaen â bargen ar gyfer y sector dur, neu eu bod yn ymosod ar gostau ynni uchel, rhywbeth y buom yn galw amdano ers blynyddoedd lawer er mwyn inni allu mynd i'r afael â sefyllfa ariannol cwmnïau yn y sector dur. Dyna un agenda. Ond rwyf am ofyn: beth yw bwriadau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sector? Rydych wedi gwneud gwaith gwych hyd yn hyn. Ni allaf wadu'r gefnogaeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i rhoi, yn y Cynulliad hwn ac yn y Cynulliad blaenorol, i'r diwydiant dur, ond mae angen yn awr inni weld i ble'r ydym yn mynd. Nid wyf wedi gweld strategaeth ddur benodol i Gymru, felly a gaf fi ofyn a fyddwch yn cyhoeddi strategaeth ddur benodol i Gymru ar gyfer y dyfodol?

A gaf fi ddweud hefyd fod dur yn cael ei gefnogi gan incwm cynyddol? Wyddoch chi, rydym yn sôn am gostau—gostwng costau—ond gallwn sôn hefyd am gynyddu incwm. Un o'r ffyrdd o gynyddu'r incwm yw gwella buddsoddiad drwy galfaneiddio llinellau CAPL ym Mhort Talbot, er enghraifft, fel bod y cynhyrchion pen uchaf yn mynd yn ddrutach a'ch bod yn cael mwy o arian i mewn o ganlyniad i hynny. Felly, y cwestiwn rwy'n ei ofyn yw: a ydych chi'n edrych ar fuddsoddi yn y sector yn y dyfodol? A ydych yn mynd i edrych ar fwy o ddefnydd o ymchwil a datblygu? A ydych chi'n mynd i fod yn arloesol ac yn greadigol yn eich dull o gefnogi prosiectau amgylcheddol? Oherwydd rydym wedi dadlau'n aml mai rheolau'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol ydyw, ond mae ffyrdd o amgylch rheolau cymorth gwladwriaethol er mwyn i chi allu helpu cwmnïau—gyda'r amgylchedd ac ymchwil a datblygu yn ddwy o'r ffyrdd hynny. Nawr, bydd y ddau beth, mewn gwirionedd, yn helpu nid yn unig y diwydiant ond hefyd yn helpu etholwyr yn fy nhref ar sail ehangach. Felly, unwaith eto, a wnewch chi edrych ar hynny ac a allwch ddweud wrthym beth yw eich cynlluniau ar gyfer dull gweithredu o'r fath?

A allwch chi hefyd—? Rydym wedi cael pobl yn galw am uwchgynhadledd gan y Prif Weinidog. Wel, a dweud y gwir, nid yw gweithwyr dur a'u teuluoedd yn fy etholaeth i eisiau mwy o siarad. Maent am weld gweithredu cadarnhaol a fydd yn cael gwared ar yr ansicrwydd y maent yn ei wynebu yn awr. Mae hwnnw'n bendant wedi dychwelyd. Rydym yn gwybod ei fod yno. Rydym yn ofni ei fod yno. Mae arnom eisiau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r gefnogaeth barhaus honno, ac rwyf am sicrhau, mewn gwirionedd, y gellir atgyfnerthu hynny drwy gael rhywun i fynd i Mumbai i siarad â bwrdd Tata yn India er mwyn atgyfnerthu'r ymrwymiad y mae'r Llywodraeth hon yn ei roi i'r diwydiant dur yma yng Nghymru.

A gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn ac fel arfer, am ei angerdd yn siarad dros weithfeydd dur a haearn Cymru ledled y wlad? Rwy'n mynd i sôn am nifer o bwyntiau pwysig iawn y mae wedi'u codi, gan gynnwys buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a rôl Llywodraeth y DU, ond yn gyntaf, o ran unrhyw gymylau llwyd ar y gorwel, a gaf fi ddweud ein bod mewn lle gwahanol i'r hyn roeddem ynddo yn 2016? Nid ydym yn ôl yn yr un sefyllfa ag yn 2016, ac mae hynny i raddau helaeth o ganlyniad i'r buddsoddiad a gynigiodd Llywodraeth Cymru i Tata yn syth, ac mae Tata wedi defnyddio peth ohono ac wedi darparu buddsoddiad cyfatebol gan Tata, i sicrhau bod y gwaith ym Mhort Talbot, yn bennaf, yn fwy effeithlon a chynaliadwy. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol na wneir unrhyw benderfyniadau brysiog, ac roedd hyn yn rhywbeth a bwysleisiais wrth Tor Farquhar pan siaradais ag ef ddydd Gwener. Roedd yn amlwg yn neges a ddaeth oddi wrth y cyngor gwaith Ewropeaidd hefyd, ddydd Gwener. Fy mwriad yw teithio i'r Iseldiroedd i siarad â swyddogion gweithredol i gadarnhau'r neges na wneir unrhyw benderfyniadau brysiog a hefyd fod ôl troed dur Ewrop yn ddiogel ac na chaiff ei ddileu, o ran Tata.

Rwy'n mynd i symud ymlaen i grybwyll rôl Llywodraeth y DU. Roedd Dai Rees yn iawn i nodi'r angen pwysig am fargen sector ar gyfer dur. Dyma fater a godais gyda Greg Clark pan siaradais ag ef ddydd Llun. Yn amlwg, mae angen bargen sector a all arwain at fuddsoddiad sylweddol yn y sector. Mae'n galw am gyllid gan Lywodraeth y DU, ac mae hefyd yn galw am gyllid gan y sector ei hun. Drwy weithio gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau bod cytundeb sector yn cael ei ddarparu. Ond ni fydd hynny'n ddigon ynddo'i hun. Ceir heriau clir ac uniongyrchol mewn perthynas â phrisiau ynni ac mae angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hwy. Er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiad yng nghyllideb 2018 ynglŷn â chronfa drawsnewid ar gyfer ynni diwydiannol, ni fydd hynny ynddo'i hun yn datrys yr anwadalrwydd o fewn y marchnadoedd ynni, ac ni fydd ychwaith yn cael gwared ar y prisiau anghymesur o uchel y mae cwmnïau ynni-ddwys yng y DU yn gorfod eu talu. Felly, rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy ar y mater hollbwysig hwn.

O ran y gefnogaeth a roesom ac y byddwn yn parhau i'w rhoi, gallaf sicrhau'r Aelod ein bod yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd, yn union fel y dywedasom y byddem yn ei wneud yn ôl yn 2016. Rydym wedi cynnig £21 miliwn hyd yma i Tata, ar gyfer amrywiaeth o weithredoedd a rhaglenni moderneiddio, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau ac yn bwysig, ymchwil ar gyfer datblygu, fel y nododd yr Aelod. Wrth symud ymlaen, mae'r strategaeth ar gyfer dur wedi'i chynnwys yn y cynllun gweithredu economaidd. Rydym am gefnogi diwydiannau yfory drwy sicrhau eu bod yn cael eu datgarboneiddio, fod buddsoddiad trymach mewn ymchwil a datblygu, a ffocws cryfach ar gyfleoedd allforio. Drwy brism y contract economaidd a'r galwadau i weithredu, byddwn yn sicrhau bod diwydiannau'r dyfodol yn rhai modern a chystadleuol. Ond er mwyn gwneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol, mae angen i ni sicrhau bod y busnesau eu hunain yn barod i fuddsoddi. Dyna pam mai fy neges glir i Tata yw: parhewch â'r buddsoddiad—nid ym Mhort Talbot yn unig, lle mae ei angen yn ddirfawr, ond ar draws yr ystâd gyfan yng Nghymru, ac yn Lloegr yn wir.

15:15

A gaf fi ddweud diolch am ein sicrhau nad ydym yn ôl yn yr un sefyllfa ag yr oeddem ynddi yn 2016? Rwy'n credu bod y buddsoddiad yn y ffwrnais chwyth a diddordeb y cwmni mewn cynhyrchu mwy o'i ynni ei hun yn arwydd da o hynny. Un neu ddau o gwestiynau'n unig oedd gennyf, oherwydd mae gan fy nghyd-Aelod Russell gwestiynau hefyd. Hoffwn ailadrodd rhai o'r cwestiynau a ofynnais pan oedd hi'n edrych yn debygol iawn y byddai'r uno neu'r gyd-fenter yn digwydd. Un o'r pethau a ofynnais ar y pryd oedd: beth sy'n debygol o ddigwydd o ran ymchwil a datblygu? Credaf efallai eich bod wedi ateb y cwestiwn hwnnw wrth ymateb i David Rees. Ar y pryd—rwy'n meddwl mai ymateb i gwestiwn brys neu gwestiwn amserol gan Helen Mary a wnaethoch—fe ddywedoch chi y byddech yn dosbarthu nodyn ynglŷn ag amodoldeb y telerau sydd wedi'u cynnig i Tata eisoes. Ar y pryd, roeddem yn gofyn, 'Wel, a fyddant yn gwneud cais i gael menter ar y cyd?' Ond nid wyf yn meddwl ein bod wedi cael y nodyn hwnnw eto, ac rwy'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol, yn bennaf oherwydd y bydd yn ein hatal rhag gofyn yr un cwestiwn drosodd a throsodd.

O ran yr egwyddor fy mod yn gofyn yr un cwestiynau ag y buaswn wedi eu gofyn pe bai uno wedi digwydd, fe wnaethoch chi ddweud ar y pryd eich bod yn gobeithio y byddai'r cytundeb cyflogaeth yn cael ei ymestyn i 2026 gyda'r gyd-fenter. Os na fydd hynny'n digwydd, a fyddech yn dal i geisio'r estyniad hwnnw gan Tata fel y mae—ar yr un telerau, yn ôl pob tebyg? Fe sonioch chi hefyd am natur gystadleuol dur Cymru—mai'r hyn y chwiliwn amdano yw rhywbeth sy'n effeithlon ac yn gynhyrchiol. Mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ei ofyn yw, a oes cynllun wrth gefn yma? Os nad yw'r uno'n digwydd, credaf mai'r hyn rwyf eisiau yw rhyw fath o sicrwydd ynglŷn â beth fyddai'n digwydd pe na bai'n digwydd, hynny yw, a oes unrhyw gytundebau esgrow wedi'u llunio ynghylch ymestyn cytundeb cyflogadwyedd? A oedd unrhyw beth arall wedi'i wneud ar ffurf ddrafft, os mynnwch, ac os na fydd yr uno'n digwydd, a oes sicrwydd na fyddwn yn cael ein taflu'n ôl ar unwaith i sefyllfa lle'r oedd pawb ohonom yn gofyn, 'Beth nesaf?' Nawr, rwy'n sylweddoli ei bod braidd yn rhy gynnar i ofyn y cwestiwn hwnnw, ond buaswn wedi hoffi bod yn siŵr fod yna gynllun wrth gefn. Mae'n debyg mai dyna rwy'n ei ofyn. Rwy'n credu mai dyna'r cyfan rwyf am ei ofyn ar hyn o bryd. Byddaf yn gwrando ar yr hyn y mae'r Aelodau eraill yn ei ddweud hefyd—yn fwyaf penodol, rwy'n tybio y gallai Trostre gael sylw yng nghwestiynau pobl eraill hefyd.      

15:20

Roeddwn yn awyddus i ddeall beth fyddai'r cynllun amgen pan siaradais â Tor Farquhar ddydd Gwener, a rhoddodd sicrwydd imi mai'r un yw'r nod yn y pen draw, a bydd yn parhau yr un fath, sef sicrhau y gwneir digon o fuddsoddiad, yn enwedig ym Mhort Talbot, er mwyn rhoi dyfodol cynaliadwy a chryf i ddur a haearn o Gymru, ac wrth gwrs, mae gennym rôl i'w chwarae yn hynny. Rydym eisoes wedi chwarae rhan yn hynny; rhaid i Lywodraeth y DU chwarae rhan hefyd, a dyna'r cynllun o hyd. Felly, nid yw'n gwbl angenrheidiol cael cynllun wrth gefn ar yr adeg hon gan fod Tata yn dal i fod mewn sefyllfa i fynd ar drywydd cynhyrchiant cynaliadwy.

O ran yr amodoldeb sydd ynghlwm wrth ein cymorth, mae'n flin gennyf nad ydych wedi cael nodyn. Rwy'n eich sicrhau bod y manylion y gallwn eu darparu i chi yn cael eu rhoi mewn modd amserol, ond bydd yr amodoldeb ynglŷn â chyflogaeth yn parhau, ni waeth beth fydd yn digwydd gyda'r uno, a chredaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn gosod amodau llym. Ac er bod Tata wedi gallu cynnig pecyn sylweddol hyd yn hyn, mae'n iawn fod yna barodrwydd i ymrwymo i gyflogi staff ymroddgar, teyrngar a medrus am nifer dda o flynyddoedd i gyd-fynd â gweddill yr arian a gyfrannwyd gennym.

Hoffwn sôn am eich sylwadau y byddwch yn mynd i'r Iseldiroedd i siarad â swyddogion gweithredol Tata yno ac i ofyn ichi pa drafodaethau a gawsoch hyd yma gyda gweithfeydd Tata y tu allan i'r DU, nid ar lefel Ewropeaidd yn unig, ond yn fyd-eang hefyd. Ceir erthygl ar Bloomberg lle dyfynnwyd prif swyddog cyllid Tata yn dweud y bydd Tata yn symud ei ffocws i farchnad ddur India, ac na ddylai'r gwaith Ewropeaidd dynnu adnoddau oddi wrth yr ehangu yn India, gan fynd mor bell â dweud y byddai angen gwerthu asedau er mwyn gwneud busnes yn fwy proffidiol, gan greu mwy fyth o amheuaeth ynglŷn â dyfodol dur Cymru. Yn sicr, buaswn yn disgrifio hynny fel cymylau go ddifrifol ar y gorwel.

Nawr, mae methiant yr uno wedi golygu wrth gwrs y bydd y gwaith Ewropeaidd yn fwy dibynnol mewn ffordd ar adnoddau'r gwaith yn India, sy'n golygu, yn y dyfodol agos, y gallai neu y bydd yn rhaid i Tata edrych ar ddadfuddsoddi yn Ewrop yn seiliedig ar y blaenoriaethau a nodir gan y prif swyddog ariannol. Felly, hoffwn gael eich sylwadau ar hynny. Mae Tata hefyd wedi datgan y bydd yn edrych ar bartneriaethau gyda chwmnïau nad ydynt yn rhai Ewropeaidd. A gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â'r posibilrwydd hwnnw?

O ran partneriaethau â gwledydd nad ydynt yn rhai Ewropeaidd, rydym wedi holi ynglŷn ag unrhyw ddewis amgen yn lle'r gyd-fenter a'r uno arfaethedig. Mae'n fater masnachol i Tata, wrth gwrs, ond rydym yn awyddus i ddeall pa ddewisiadau eraill sydd ar gael, a pha ddiddordeb a allai fod. Dyna un o'r rhesymau pam rwy'n awyddus i fynd i'r Iseldiroedd i siarad ag uwch-swyddogion gweithredol. Mae symud y ffocws oddi ar Ewrop a thuag at India yn golygu y bydd y teulu dur yn y Gymuned Ewropeaidd yn gweithredu'n fwy gwahaniaethol yn y dyfodol o bosibl, a dyna pam rwy'n credu bod ymgysylltu ar lefel Ewropeaidd yn hollol gywir. Mae gennym gysylltiadau da eisoes â Ratan Tata a chydag uwch-swyddogion gweithredol yn India. Rydym yn barod i fynd i Mumbai os bydd angen. Am y tro y cyngor a gawsom gan Tata yw sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n drylwyr ar lefel Ewropeaidd. Dyna a wnawn, a dyna y byddaf yn parhau i'w wneud.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod, Dai Rees, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn? Rwyf hefyd yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i'r diwydiant dur—ymrwymiad parhaus i'r diwydiant dur. Ni allwn fforddio sefyllfa lle'r ydym yn colli swyddi yn y diwydiant dur fel y gwnaethom yn Shotton yn y 1980au. Mae wedi bod yn daith gyfnewidiol iawn i weithwyr a'u teuluoedd, felly unwaith eto rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ledled Cymru.

Weinidog, a gaf fi eich annog i barhau â'r gwaith a wnewch i sicrhau nad ydym yn colli buddsoddiad yma, ac eistedd gyda'r Aelodau sydd â dur yn eu hetholaethau ar ôl eich ymweliad ymgysylltu â'r Iseldiroedd efallai? Hefyd, i ganolbwyntio ar ychydig o bwyntiau a grybwyllwyd yn gynharach yn y cwestiwn hwn, mae angen i Lywodraeth y DU wneud mwy i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sy'n wynebu diwydiant dur y DU, felly a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r costau ynni uchel sy'n gadael cynhyrchwyr dur o fewn y DU a'r marchnadoedd Ewropeaidd—? Maent yn cystadlu â'r farchnad Ewropeaidd, gan adael diwydiant dur y DU gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'w gefn.

Yn olaf, Weinidog, a gytunech fod caffael yn bwysig hefyd? Mae gennym brosiectau o fewn y DU, fel llongau cynorthwyol newydd y Llynges Frenhinol, sy'n rhoi cyfle yma i ni yng Nghymru, yma yn y DU, i ddefnyddio ein dur. Yn gyffredinol, Weinidog, mae angen inni wneud mwy. Mae angen i'r ansicrwydd i deuluoedd y gweithwyr dur ddod i ben, ac mae angen i bawb ohonom gydweithio'n agosach i sicrhau bod cynhyrchiant dur yn llwyddiant yng Nghymru, fel y gall fod, fel y bu yn y gorffennol, ac fel y mae angen iddo fod ar gyfer y dyfodol.

15:25

A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn parhau i fod â diddordeb brwd ym mhob un o safleoedd Tata ledled Cymru, a bore yfory, byddaf yn ymweld â Tata Shotton i gyfarfod â chynrychiolwyr undebau lleol, a swyddogion gweithredol yn y gwaith wrth gwrs. Credaf y gallai fod yn adeg amserol i'r grŵp dur trawsbleidiol ailymgynnull yma yn y Cynulliad i ystyried y gwahanol faterion sy'n cael eu trafod y prynhawn yma, a chytunaf yn llwyr â'r Aelod mai costau ynni uchel yw'r brif her, nid yn unig i weithfeydd Tata, ond i'r holl gymuned ddur ledled y Deyrnas Unedig, ac yn wir, i nifer enfawr o gwmnïau ynni-ddwys. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod y DU yn gweithredu ar gostau ynni anwadal, sy'n aml yn eithriadol o uchel, ac sy'n gosod busnesau ym Mhrydain dan anfantais gystadleuol.

Mae Jack Sargeant hefyd yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chaffael ac wrth gwrs, ceir rhai prosiectau seilwaith mawr ar lefel y DU, ac ar lefel Cymru yn wir, yr hoffem eu gweld yn defnyddio dur Cymru. O'm rhan ni yma yng Nghymru, maent yn cynnwys prosiectau adeiladu ffyrdd, ac maent yn cynnwys y metro hefyd wrth gwrs. Ac yn fy marn i, ar lefel y DU, dylai prosiectau fel HS2 ddefnyddio dur a gynhyrchwyd yma yng Nghymru.

Weinidog, mae'n adeg ofidus i'r diwydiant dur ym mhob rhan o Gymru, ac yn amlwg, rydych chi'n pryderu am holl weithfeydd Tata ledled y wlad, fel y dywedoch chi. I mi, yn amlwg, mae Llan-wern a gwaith Orb yn peri pryder arbennig am eu bod yn darparu llawer o swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda yn lleol, ac mae swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi ac yn y blaen yn dibynnu arnynt. Mae gwaith Orb ar werth ar hyn o bryd, sy'n ei roi mewn sefyllfa benodol. Hoffwn gael sicrwydd gennych, Weinidog, y byddwch yn ystyried y gweithfeydd hynny'n llawn yn eich gwaith gyda Tata, gyda'r undebau llafur, gyda Llywodraeth y DU, gyda gwleidyddion lleol a phawb arall sydd â budd yn y materion hyn. Ac os ydych yn cyfarfod mewn gweithfeydd yng Nghymru i drafod y materion hyn, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech gyfarfod yn fy etholaeth innau hefyd.

Buaswn yn falch o gyfarfod â'r Aelod yn y gwaith y mae'n ei gynrychioli. Gofynnais gwestiynau i Tata ddydd Gwener ynglŷn â phob un o'r safleoedd, a dywedwyd wrthyf fod gwerthiant gwaith Orb yn parhau. Mae'n sefyllfa wahanol i Drostre—nid yw'r broses o waredu'r safle penodol hwnnw'n digwydd os nad yw'r uno'n mynd yn ei flaen. Ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am bob un o'r safleoedd pan gaf y wybodaeth gan fy swyddogion a chan Tata, a phryd bynnag sy'n bosibl, byddaf hefyd yn ymdrechu i ymweld â gweithfeydd dur yn etholaethau unrhyw un ohonoch.

Mae'r Llywydd wedi nodi bod yn rhaid i mi fod yn fyr, ac mae nifer o gwestiynau wedi'u gofyn ynglŷn ag ynni y prynhawn yma, ond ynglŷn â'r modd y gall Llywodraeth Cymru helpu a chefnogi'r diwydiant o ran ardrethi busnes a chymorth gydag ardrethi busnes, buaswn yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariad ar hynny. Hefyd, a oes gennych unrhyw syniad sut y gallai'r cyhoeddiad hwn effeithio ar y buddsoddiad masnachol i sicrhau dyfodol hirdymor i safle Trostre hefyd?

Mewn perthynas ag ynni, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth y DU rôl enfawr i'w chwarae fel y dywedwyd, ond gwn hefyd fod yr Aelodau'n awyddus inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd y cafwyd datganiad yn ei gylch yn ddiweddar. Yn seiliedig ar yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud ei bod yn amlwg iawn y byddai o fudd inni sicrhau nad ydym yn colli cynhyrchiant dur, hyd yn oed o ystyried ei fod yn gyfrannwr carbon trwm. Pam felly? Wel, y rheswm am hyn yw bod y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn datgan yn glir fod senarios ar gyfer lleihau allyriadau diwydiannol y DU yn ddibynnol ar gadw ein sylfaen ddiwydiannol a'i datgarboneiddio, yn hytrach na'i cholli i wlad arall lle na fyddai'n cael ei datgarboneiddio o bosibl. Ac felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn chwarae ein rhan, bob un ohonom, a sicrhau bod y diwydiannau cyfrannol trymach yn ein gwlad yn cyfrannu llai yn y dyfodol, drwy fuddsoddi.

Mae ardrethi busnes wrth gwrs yn fater sy'n perthyn i gylch gwaith fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, ac rwy'n siŵr y bydd yn barod ac yn frwdfrydig i ymateb i gwestiynau ar y mater. Y peth pwysicaf i Tata, ac mae'r Aelod yn iawn i nodi diddordeb masnachol a hyfywedd masnachol, y peth pwysicaf i Tata yw bod Tata Steel Europe yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni'r cynllun a oedd bob amser ar waith, sef sicrhau digon o fuddsoddiad i foderneiddio'r gweithfeydd a'u gosod ar sail sefydlog, hirdymor.

15:30

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r ail gwestiwn amserol gan Rhun ap Iorwerth. 

Camgymeriad CThEM parthed Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru

2. Ymhellach i'r datganiad ysgrifenedig ddoe, a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gamgymeriad CThEM parthed cyfraddau treth incwm yng Nghymru? 311

Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe ar y mater hwn er mwyn sicrhau bod yr Aelodau'n ymwybodol o'r sefyllfa. Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn nodi trethdalwyr Cymru ac yn cyhoeddi codau treth i gyflogwyr sy'n gyfrifol am ddefnyddio codau treth eu gweithwyr. Ni osodwyd y codau cywir gan rai cyflogwyr. Mae CThEM yn cynorthwyo cyflogwyr i unioni hyn.

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ymateb yna. Dwi'n falch ein bod ni'n cael cyfle i ofyn ychydig o gwestiynau ymhellach. Beth sy'n drueni yn fan hyn, wrth gwrs, yw ein bod ni yn y broses yna o gyflwyno'r trethi newydd, hanesyddol yna—

Dim problem o gwbl.

Beth sy'n drueni fan hyn yw mi ydyn ni ar gyfnod lle rydyn ni'n gweld cyflwyno'r trethi hanesyddol yma, ac mae eisiau gwneud yn siŵr bod y broses yna yn gweithredu mor llyfn â phosib oherwydd mae eisiau creu hyder ym mhobl fod y broses yma'n mynd i fod yn gweithio. Mi welsom ni o brofiad yr Alban, oedd wedi cyflwyno eu trethi nhw o'n blaenau ni, fod problemau wedi codi efo'r codio, ac un o'r pethau fuon ni'n gofyn amdano fo fel Pwyllgor Cyllid oedd am sicrwydd bod gwersi wedi cael eu dysgu o hynny. A'r sicrwydd a roddwyd i ni oedd bod gwersi wedi'u dysgu ac y dylem ni fod yn iawn. Mae gen i gopïau yn fan hyn o lythyrau rhwng Cadeirydd y pwyllgor a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae'r Cadeirydd yn gofyn am sicrwydd a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn rhoi y sicrwydd:

Rydym yn hyderus fod gennym ddull trylwyr o weithredu.

—ac yn y blaen. Ond mae'r math yma o beth, dwi'n meddwl, yn mynd i danseilio hyder, er ei bod hi'n deg gofyn ar bwy mae'r bai: ar y cyflogwr am fethu â defnyddio'r cod iawn, ynteu ar y system, yn cynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, am beidio â sylweddoli ar y pryd fod y codau anghywir yn cael eu gweithredu, ac yn y blaen?

Felly, eisiau gofyn am ragor o sicrwydd ydw i ynglŷn â'r camau gweithredu penodol fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd rŵan, yn benodol er mwyn adfer hyder trethdalwyr Cymru yn y broses yma. A pha waith pellach fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud efo Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi er mwyn sicrhau bod yna, os liciwch chi, beth fyddech chi'n ei alw yn Saesneg yn early warning system a'r math yna o beth, lle mae'r codau anghywir yn cael eu defnyddio?

Yn digwydd bod, nid oes symiau ariannol mawr yn y fantol yn fan hyn. Dwi'n meddwl bod pobl wedi'u gordalu, neu wedi talu rhy ychydig, rhywle rhwng £2 a £10. Felly, nid ydyn nhw'n symiau mawr o arian, ond hyder ydy'r mater yn fan hyn, ac mi fyddwn yn gofyn am air neu ddau o sicrwydd ynglŷn â'r camau a fydd yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth o hyn ymlaen. 

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn a'r cyfle i roi mwy o eglurhad ar y mater. Mae Rhun ap Iorwerth yn iawn: roedd hwn yn beth hanesyddol a wnaethom ar 6 Ebrill yn rhan o'r gwaith o osod ein cyfraddau treth ein hunain, ac mae'n bwysig fod pobl yn gallu ymddiried yn llwyr yn y system sy'n sail i hynny. Credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn nodi'r hyn a ddigwyddodd, er mwyn egluro'r sefyllfa bresennol.  

Felly, mae CThEM yn dyrannu'r codau treth cywir i holl drethdalwyr y DU drwy'r ymarfer codio blynyddol. Yna, mae CThEM yn cyhoeddi ffurflen P9 i gyflogwyr, sy'n cadarnhau'r codau treth i'w dyrannu i bob un o'u cyflogeion. Yna, cyfrifoldeb y cyflogwr yw defnyddio'r cod treth yn gywir gan ddefnyddio pa feddalwedd neu broses bynnag a fabwysiadwyd ganddynt. Ac roedd rhai darparwyr gwasanaethau'r gyflogres, yn yr achos hwn, wedi gosod y cod S yn anghywir i drethdalwyr Cymru. Rydym yn aros am ragor o fanylion ynglŷn â sut y digwyddodd hyn, ond mewn rhai achosion ymddengys nad yw darparwyr gwasanaethau'r gyflogres wedi diweddaru eu meddalwedd i'w galluogi i osod y cod C.

Mae hynny'n arbennig o siomedig gan fod CThEM wedi gwneud gwaith helaeth gyda chyflogwyr a darparwyr meddalwedd y gyflogres drwy gydol y paratoadau ar gyfer cyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru, gan ddefnyddio eu sianeli cyfathrebu sefydledig a chyflwyniadau pwrpasol, yn ogystal â darparu manylebau technegol a data profion i sicrhau bod cyflogwyr a darparwyr meddalwedd y gyflogres wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol. Felly, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd fod CThEM wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau wrth ddyrannu'r codau i unigolion. Fel y dywedaf, mae'n siomedig fod y camgymeriad wedi digwydd, ond y tu hwnt i hynny, credaf y gallwn ddweud yn eithaf hyderus fod popeth arall wedi mynd yn esmwyth, felly credaf fod hynny'n sicr yn gadarnhaol.

O ran y camau gweithredu: un o'r pethau a nodwyd gennym yn gynnar, cyn i Gyfraddau Treth Incwm Cymru ddod i rym, oedd y byddai profion yn cael eu cynnal ar y system. Bydd un prawf yn cael ei gynnal ym mis Mehefin a dyna'r dyddiad cynharaf y bydd y data perthnasol ar gael i bob cyflogwr oherwydd y dyddiadau cau i gyflogwyr gyflwyno eu gwybodaeth am y gyflogres i CThEM. Felly, ar ôl i CThEM gynnal y gwiriadau hyn, byddwn yn gallu nodi unrhyw anghysonderau a nodi'r cyflogwyr y bydd angen iddynt ddiweddaru sefyllfa dreth eu gweithwyr.

Mae Rhun ap Iorwerth yn iawn i ddweud nad ydym yn sôn am symiau ariannol mawr. Felly, yn nodweddiadol, lle mae trethdalwyr heb dalu digon o dreth, neu lle maent wedi talu gormod, ni fyddent fwy na £2 yn brin neu lle byddent wedi gordalu, ni fyddai'n fwy na £10. Ac mewn rhai achosion, er bod trethdalwyr wedi cael y cod anghywir, byddent wedi talu'r swm cywir o dreth.

Bydd CThEM yn datrys pob camgymeriad, felly nid oes angen i drethdalwyr roi unrhyw gamau ar waith, ac yn amlwg rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod fy nghyd-Aelodau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau pellach, ac yn sicr pan fyddwn wedi cael canlyniadau'r profion, a gaiff eu cynnal ym mis Mehefin.  

15:35

Gwyddom am y problemau sy'n bodoli, problemau fel y cafodd yr Alban pan gafodd y dreth incwm ei datganoli gyntaf, ac os mai dyma'r unig broblem a gawn, yna credaf y dylid ei datrys yn weddol gyflym. Ond pan fyddwch chi'n gweld problem yn digwydd fel hyn, mae yna nerfusrwydd ynglŷn ag a allai problemau eraill fod wedi digwydd hefyd.

Gwyddom mai'r problemau mwy yn yr Alban oedd y methiant i ddyrannu trethdalwyr yr Alban i'r Alban ac i ragweld yn gywir yr incwm a'r derbyniadau o dreth incwm a oedd yn mynd i ddod i'r Alban. A yw'r Gweinidog yn hyderus y bydd pawb a ddylai fod yn drethdalwr yng Nghymru, ar wahân i'r rhai sydd newydd eu nodi, yn talu'r dreth incwm gywir yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n byw yng Nghymru, ond sy'n gweithio yn Lloegr?

Diolch yn fawr iawn i chi, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i drafod yn y Siambr cyn cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru, felly mae'n dda dod yn ôl ato eto. Gwnaeth Llywodraeth Cymru a CThEM lawer iawn o waith i sicrhau y gallem nodi pawb sy'n gymwys i dalu eu trethi yng Nghymru. Nid oes gennym reswm i awgrymu ein bod yn teimlo bod problem gyda'r gwaith o nodi'r unigolion a ddylai fod yn talu cyfraddau Cymreig o dreth incwm.

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn amserol nesaf, felly, yw'r un gan Andrew R.T. Davies.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed heddiw gan Rhodri Williams CF yn disgrifio'r ddeddfwriaeth fel un ddi-rym? 314

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cynnwys rhwymedigaethau cyfreithiol rhwymol ac mae'n ysgogi newid cadarnhaol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn gwneud ac yn gweithredu penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl Cymru a'n hamgylchedd yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch ichi am yr ymateb bras hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Mae'n ffaith bod dyfarniad wedi'i drosglwyddo gan yr Uchel Lys, sy'n galw'r Ddeddf,

yn fwriadol amwys, yn gyffredinol ac yn ddyheadol, ac sy'n berthnasol i ddosbarth yn hytrach nag unigolion.

Yng ngoleuni'r dyfarniad hwn, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i'w ofyn yw a ydych chi fel Llywodraeth bellach yn credu bod angen tynhau'r Ddeddf fel ei bod yn rhoi hawliau cryfach i unigolion a chymunedau, gan fod y dyfarniad hwnnw'n sefyll, neu a ydych yn credu bod y dyfarniad yn gywir a'ch bod chi, fel Llywodraeth, wedi mynd ati'n fwriadol i gyflwyno Deddf a oedd yn amwys ac yn gyffredinol ac yn fwy dyheadol?

15:40

Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn awr ac yn y dyfodol. Wrth gwrs, mater i'r llysoedd yw dehongli'r gyfraith, ond mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer craffu manylach, nid yn unig craffu ar Lywodraeth Cymru drwy bwerau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru—comisiynydd annibynnol—ond hefyd y ddyletswydd archwilio ar Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac mae'n gwella'r broses o wneud penderfyniadau, yn y tymor byr ac yn fwy hirdymor drwy'r pum ffordd o weithio. Ei nod yw cynorthwyo 44 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru i wneud penderfyniadau.

Mae parch mawr i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, ac nid yn unig yng Nghymru. Heddiw, cyfarfûm â'r trydydd sector a oedd yn awyddus i groesawu'r ffyrdd hynny o weithio, ac yn awyddus i wneud iddynt weithio. Ym mhob cwr o'r byd, mae iddi barch mawr fel rhywbeth lle mae Cymru'n arwain y ffordd, ac yn wir mae'n gyfle i sicrhau newid go iawn. Ac os edrychwch ar bwerau comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, maent yn glir iawn. Rôl y comisiynydd yw gweithredu fel gwarcheidwad er budd cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru a chefnogi'r cyrff cyhoeddus hynny.

Wel, rwy'n gwybod, mewn gwirionedd, na wnaeth Andrew R.T. Davies bleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth hon yn y cyfnodau olaf—

—ond credaf fod Deddf cenedlaethau'r dyfodol eisoes yn profi ei gwerth, ac rwy'n awyddus iawn i drefnu cyfarfod, nid yn unig gyda'r Aelod, ond â phob Aelod, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith gwaith comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwario miliynau o bunnoedd o drethi Cymru ar gomisiwn llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sy'n cael ei redeg gan aelod mewnol Llafur. Mae'r Uchel Lys—yr Uchel Lys—bellach wedi datgan yr hyn yr oedd llawer ohonom yn ei wybod eisoes: fod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn 'fwriadol annelwig'. Mae uwch-fargyfreithiwr yng Nghymru wedi disgrifio'r Ddeddf fel un 'ddi-rym' a 'bron yn ddiwerth'. Nid yw comisiwn cenedlaethau'r dyfodol yn ddim mwy na siop siarad ddrud. Man lle gall person Llafur arall eto gael pecyn cyflog chwe ffigur arall eto.

Yn hytrach na gwario miliynau ar rywbeth y mae Cwnsler y Frenhines blaenllaw yn ei alw 'bron yn ddiwerth', beth am ariannu gwasanaethau rheng flaen, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i genedlaethau'r dyfodol? Gallwch fuddsoddi mewn seilwaith cynaliadwy, gallwch fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gosod pwyntiau gwefru trydan ar gyfer ceir, gallech hyd yn oed roi'r arian i'r GIG i achub bywydau. A ydych yn cytuno â'r Uchel Lys? Mae'n ymddangos nad ydych, mewn gwirionedd, ond gofynnaf y cwestiwn i chi: a ydych yn cytuno â'r Uchel Lys fod eich deddfwriaeth yn fwriadol annelwig ac a wnewch chi ei newid?

Pasiodd y Cynulliad Ddeddf arloesol llesiant cenedlaethau'r dyfodol, y gyntaf o'i bath yn y byd, ac mae eisoes wedi cael effaith bwerus fel y gwelir yn yr enghreifftiau o'r ffordd y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn hybu ffocws o'r newydd ar sut y gallwn wella ac ymgysylltu â phoblogaeth amrywiol Cymru. Rhoddaf rai enghreifftiau gwirioneddol bwysig i chi. Er enghraifft, o ran yr arweiniad cadarn sydd ei angen i ymgysylltu â'n cymunedau, y rhai yr effeithir arnynt gan benderfyniadau, a chan bolisïau: gwneud parc rhanbarthol y Cymoedd, er enghraifft, gwneud y dirwedd honno a threftadaeth y Cymoedd yn fwy hygyrch i bobl. Defnyddiasant egwyddorion y ffyrdd o weithio a'r amcanion llesiant yng nhasglu'r Cymoedd er mwyn sicrhau ein bod yn edrych ar hyn gan ddefnyddio'r enghreifftiau o Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Trafnidiaeth Cymru: sicrhau bod eu proses ar gyfer gwneud penderfyniadau'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Soniais ddoe, wrth ateb cwestiynau, fod ein polisi cynllunio cenedlaethol, y gwn fod yr Aelod bob amser yn tynnu sylw ato yn y Siambr hon, wedi'i ail-fframio gan ddefnyddio'r Ddeddf, ac mae'n rhoi lle canolog i greu lleoedd fel rhan o'r system gynllunio, gan sicrhau bod llesiant pobl yn ystyriaeth fel rhan o'r broses gynllunio. Yn wir, mae pobl yn disgwyl i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wneud yr hyn y mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn anelu i'w wneud: cynghori, annog a hyrwyddo, cynnal adolygiadau, gwneud argymhellion, adrodd yn ôl a sicrhau hefyd ein bod yn cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n credu mai dyna ddiben allweddol Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

15:45

Mae'n ddiddorol eich bod yn disgrifio'r Ddeddf fel un sy'n ennyn parch mawr, oherwydd, fel arfer, mae Gweinidogion y Llywodraeth yn dweud wrthym ei bod yn ddeddfwriaeth sy'n 'arwain y byd' ac yn 'torri tir newydd'. Hoffwn eich atgoffa'n rheolaidd na fydd hynny'n wir heblaw ei bod yn arwain at newid arloesol sy'n arwain y byd. Mae'n rhaid imi ddweud nad yw hyn yn argoeli'n dda, ond mae'n siŵr fod yn rhaid aros i weld ynglŷn â hynny. Ceisiwyd cryfhau'r Bil pan oedd yn Fil, ond cafodd hynny ei wrthod, ond nid oeddem am daflu ymaith y da i ganlyn y drwg, oherwydd nid yw'n ymwneud o reidrwydd â thrawsnewid y tirlun cyfreithiol. I mi, prif fyrdwn y Ddeddf oedd gweithredu'r newid diwylliannol ehangach a oedd yn ymwneud â gosod datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol, os ydych yn cofio'r ymadrodd hwnnw, i'r holl sector cyhoeddus yng Nghymru. Nawr, rwy'n aros i weld y dystiolaeth yr hoffwn ei gweld fod hynny'n dal i gael ei gyflawni, er fy mod yn credu ei fod yn waith sy'n dal i fynd rhagddo. I mi, mae'n debyg y bydd penderfyniad llwybr du yr M4 yn brawf litmws. Os methwch y prawf hwnnw, ni fydd y Ddeddf yn werth y papur y'i hysgrifennwyd arno, hyd y gwelaf fi.

Y peth pwysig yma, wrth gwrs—hoffwn ofyn a yw'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gynnal adolygiad ôl-weithredu o'r ddeddfwriaeth hon fel y gallwn fod yn hyderus ei bod yn gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud. Ac os yw'n dangos diffygion, a chlywsom am un diffyg eisoes, a wnewch chi fel Llywodraeth ymrwymo i ailedrych ar y Bil a mynd ati o bosibl i gyflwyno deddfwriaeth bellach i'w chywiro, fel y gall fod yn ddeddfwriaeth gref fel y mae pob un ohonom am iddi fod?

Rwy'n ddiolchgar iawn am sylwadau'r Aelod ar hyn, ac rwy'n cofio'n iawn y rhan a chwaraeodd ef a'i blaid yn y trafodaethau hyn. Rydych yn llygad eich lle, mae hyn yn ymwneud â'r newid diwylliannol a'r arweinyddiaeth sy'n ofynnol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hegwyddor datblygu cynaliadwy. Mewn gwirionedd, os edrychwch yn y Ddeddf, mae'n dweud yn hollol glir fod:

'unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.'

Mae hynny bellach mewn statud. Roedd yn bwysig adeiladu ar ein hegwyddorion gwreiddiol o ran datblygu cynaliadwy yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Felly, ydy, mae'n ddyddiau cynnar, yn amlwg, ac mae angen i ni asesu effaith rôl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a'r ddeddfwriaeth yn wir.  

Rhaid imi ddweud, pan oeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, fwy nag unwaith cawsom y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i'n helpu, ac roedd yn gymorth mawr wrth edrych ar ein proses o lunio cyllideb, er enghraifft. Mae hi wedi dylanwadu'n fawr, er enghraifft, ar symud tuag at ddull mwy ataliol o ymdrin â'n cyllidebau ac edrych, o ran iechyd, ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r anghenion hirdymor ac nid rheoli argyfwng yn unig yn y gwasanaeth iechyd—rhywbeth sy'n hollbwysig mewn perthynas â gofal iechyd darbodus, a hollbwysig yn wir o ran amcanion yr adolygiad seneddol trawsbleidiol mewn perthynas â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Mae 44 o gyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond nid yw eraill—yr heddlu, er enghraifft—wedi'u datganoli. Maent wedi croesawu egwyddorion craidd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol am eu bod yn eu gweld fel modd o wella'r ffordd y darparant wasanaethau. Gwn fod y comisiynydd ei hun mewn erthygl yn ddiweddar wedi dweud mai

dyma'r rhaglen newid diwylliannol fwyaf a welodd Cymru erioed.

Mae'n rhaid i ni sicrhau ei bod hi'n hynny. Mae angen i ni fuddsoddi yn y ffordd yr awn ati i newid y diwylliant fel y bydd pobl yn dechrau meddwl mwy am y tymor hir. Yn y Llywodraeth, rydym mor aml yn meddwl am y tymor byr, yr argyfwng—mae'r Ddeddf yn ymwneud â'r tymor hir. Mae eraill yn edrych o wahanol rannau o'r byd i weld sut y cyflawnwn y ddeddfwriaeth newydd hon. Ond byddwn yn adrodd—mae ganddi ddyletswydd i adrodd beth bynnag ar ffurf yr adroddiad cenedlaethau'r dyfodol—gan asesu ar bob cam o'r ffordd sut y caiff ei chyflawni a dysgu'r gwersi.  

15:50

Weinidog, rwyf wedi clywed llawer o chwythu bygythion ar hyn ac rwy'n credu ei bod yn amser o bosibl inni gael ychydig o bersbectif. Mae hwn yn ddyfarniad sydd wedi'i seilio'n llwyr ar y papurau a gyflwynwyd ar gyfer cais rhagarweiniol am adolygiad barnwrol. Nid yw'n ddyfarniad rhwymol, nid yw'n gosod cynsail penodol, ond ceir un neu ddau o bwyntiau penodol ynddo sy'n eithaf pwysig.   

Roedd yn gofyn i ba raddau y gellid gorfodi'r Ddeddf, ond yr hyn y mae'r barnwr yn ei ddweud yn glir iawn yw hyn: os oes modd ei gorfodi mewn llys barn, maent wedi cydymffurfio â'r Ddeddf beth bynnag. Hynny yw, fe wnaethant gymhwyso'r amcanion llesiant ac maent wedi eu bodloni. Mae hynny ynddo'i hun yn cadarnhau bod y Ddeddf wedi gweithio yn yr achos hwn mewn gwirionedd o ran y diwylliant a'r prosesau yr aethpwyd drwyddynt. Roeddwn yn rhan o gyfnodau cynnar y ddeddfwriaeth hon ac roedd llawer o ddadleuon yn ei chylch o ran sut y gellid drafftio maes mor anodd, ond mae hyn wedi'i gymeradwyo ar lefel y Cenhedloedd Unedig. Nawr, y gwir brawf ar yr effaith y mae'n ei chael a sut y mae'n gweithio yw pan gawn gyfle i drafod adroddiad blynyddol y comisiynydd cynaliadwyedd, a gallwch edrych ar y darlun cyffredinol.  

Rwy'n cymeradwyo'r ddeddfwriaeth, gan fy mod o'r farn ei bod yn ddeddfwriaeth bwysig, ac mae braidd yn siomedig y byddai'r dyfarniad eithaf rhagarweiniol hwn, mae'n debyg, wedi bod yn destun apêl oni bai am y canfyddiad y cydymffurfiwyd â'r Ddeddf beth bynnag—. Ac efallai mai ar gam yn y dyfodol y dylid edrych i weld i ba raddau y mae modd ei gorfodi, ond nid wyf yn meddwl fod hynny'n unrhyw sail dros ei thanseilio a rhai o'r sylwadau gwenwynig a chwerylgar a wnaethpwyd am yr unigolyn dan sylw, y comisiynydd cynaliadwyedd, a chredaf y dylid gresynu'n fawr at hynny yn yr achos hwn.  

Rwy'n ddiolchgar iawn i Mick Antoniw, y cyn Gwnsler Cyffredinol a'r cyfreithiwr mawr ei barch, ac rwy'n falch mai chi oedd yr Aelod a ymatebodd ac a eglurodd y sefyllfa o ran effaith y dyfarniad cyfreithiol hwn. Fel y dywedais, mae'n ddehongliad o'r gyfraith a mater i'r llysoedd yw dehongli'r gyfraith. Ac unwaith eto, nid wyf am ddychwelyd at hyn, ond gall yr Aelodau ddarllen y dyfarniad a wnaed a gweld drostynt eu hunain sut y gwnaethpwyd y dyfarniad hwnnw a'r cyfiawnhad. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud hefyd fod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn gweld beth yw effaith y ddeddfwriaeth hon.

A gadewch inni edrych ar rai o ddyletswyddau'r comisiynydd. Mae'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i'r comisiynydd gynnal adolygiad o'r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion a gwneud argymhellion. Gall y comisiynydd ymyrryd ac adolygu ac yn wir, fel y mae wedi gwneud, gall gyflwyno sylwadau ar faterion polisi. Mae wedi gwneud hynny'n ffurfiol ar bolisi cynllunio, y contract economaidd, Trafnidiaeth Cymru, parc rhanbarthol y Cymoedd a hefyd ar y maes tai—mae hi ei hun wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu panel adolygu'r cyflenwad tai fforddiadwy, gan edrych ar ffyrdd y gallant ystyried y materion pwysig ynghylch anghenion tai cenedlaethau'r dyfodol. Ond rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am wneud y pwyntiau hynny. Gadewch i ni ganolbwyntio ar y ddeddfwriaeth hon, ar y rôl arloesol y mae comisiynydd annibynnol cyntaf cenedlaethau'r dyfodol yn ei chwarae, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cael cyfle heddiw i egluro'r sefyllfa ar y materion hyn.

Wel, Ddirprwy Weinidog, fe ddywedwch mai mater i'r llysoedd yw dehongli'r ddeddfwriaeth hon, ond mae hefyd yn ddyletswydd ar y ddeddfwrfa hon i wneud ei bwriad deddfwriaethol yn glir. Ac un o'r rhesymau pam nad oedd ein plaid yn arbennig o hoff o'r Bil hwn, fel yr oedd ar y pryd, yw nad oedd hi erioed yn glir i ni sut y gellid ei orfodi a hyd yn oed yn awr, mae'r dyletswyddau y buoch yn cyfeirio atynt yn y drafodaeth hon heddiw—nid yw'n glir i mi'n hollol sut y gellir rhoi camau ar waith yn erbyn unrhyw un o'r cyrff cyhoeddus os byddant yn methu yn y dyletswyddau hynny, ar wahân i adolygiad barnwrol, nad yw, yn fy marn i, yn ffordd hawdd o gwbl i unrhyw un o'n hetholwyr gael mynediad at gyfiawnder mewn gwirionedd.  

Nid dyma'r tro cyntaf i mi anghytuno â barn gyfreithiol, os caf ei roi felly. Mae'r barnwr yn yr achos hwn—. Nid wyf yn gwybod beth yw'r manylion—yn amlwg, rwy'n gwybod am y canlyniad, ond nid wyf yn gwybod beth oedd y manylion a gyflwynwyd i gefnogi'r cais am adolygiad barnwrol, felly nid wyf yn gwybod beth a welodd mewn gwirionedd, ond gallaf ddweud yn bendant, yn achos ysgol Craig-cefn-parc ac ysgol Felindre yn fy rhanbarth i, pan ofynnwyd am gyngor gan y comisiynydd, rhoddodd set o ganllawiau a chyngor cynhwysfawr iawn inni ar sut y dylai cyrff cyhoeddus wneud mwy na dim ond cydymffurfio â'r dyletswyddau y cyfeiriwch atynt, ond yn hytrach dylent ddangos hefyd sut yr oeddent wedi cydymffurfio â'r dyletswyddau hynny, ac yn sicr nid oedd hynny'n wir yn achos y ddwy ysgol a grybwyllais, a fyddai, yn fy marn i—fy marn bersonol i—yn dal i fod yn agored i achos adolygiad barnwrol mae'n debyg pe bai'r gymuned leol yn dymuno gwneud hynny.

Felly, pan fyddwn yn sôn am gryfder y Ddeddf hon, rwy'n deall yr hyn a ddywedwch am newid diwylliant, ond mae yna ffordd o'i chryfhau fel offeryn cyfreithiol hefyd, ac efallai y gallaf eich gwahodd i edrych arno—mae'r papur a gawsom gan y comisiynydd yn nodi'r cyngor hwn yn un go faith—i weld a fyddai'n werth cyflwyno is-ddeddfwriaeth i wneud peth o'r cyngor hwn yn statudol, fel bod yr holl gyrff cyhoeddus—y 44 y cyfeirioch chi atynt—yn gwybod yn union beth sy'n rhaid iddynt ei wneud er mwyn dangos eu bod wedi cydymffurfio â'r dyletswyddau hyn, a pheidio â dibynnu ar gymunedau, gawn ni ddweud, a fydd yn straffaglu i ddod o hyd i arian er mwyn i adolygiad barnwrol wthio'r cyfan yn ôl atynt, ar y sail eu bod yn rhy dlawd, yn ôl pob tebyg, i roi camau ar waith yn erbyn penderfyniadau gwael.  

15:55

Croesawaf y ffaith fod Suzy Davies wedi gwneud sylwadau ar y cyngor a roddwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—cyngor ac arweiniad ar ei phwerau, a'r cyfleoedd yn enwedig i ymwneud â'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniadau ynglŷn â chau ysgolion penodol. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod, beth bynnag fo'r sefyllfa, na sefydlwyd y ddeddfwriaeth hon erioed i osgoi rheoliadau presennol o ran newid—penderfyniadau anodd megis ad-drefnu ysgolion. Mae'r cod trefniadaeth ysgolion, y byddai'n rhaid i'r bobl a'r cymunedau yr oeddech yn ymwneud â hwy fod wedi ymateb iddo, yn amlwg, fel sy'n wir yn yr achos a nodir o ganlyniad i'r cwestiwn hwn, yn gosod safon uchel iawn gogyfer ag ymgynghori, ac mae'n ymgynghoriad cyhoeddus. Ni chynlluniwyd y Ddeddf er mwyn osgoi prosesau ymgynghori fel y rhai a nodwyd yn y cod hwnnw, sy'n benderfyniadau anodd. Felly, ni chafodd y Ddeddf hon ei sefydlu er mwyn osgoi na hyd yn oed osod y llwyfan ar gyfer y mathau hynny o heriau cyfreithiol.

Nawr, yr hyn sy'n glir yw bod yn rhaid inni weld sut y mae effaith y ddeddfwriaeth, beth yw canlyniadau hynny o ran—. Credaf fod Llyr Gruffydd wedi gwneud pwynt pwysig—a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth i'n hegwyddor datblygu cynaliadwy o ran lles cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy'n gwneud gwahaniaeth? A fydd yn gwneud gwahaniaeth i benderfyniadau hirdymor a wneir nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan yr holl gyrff cyhoeddus sy'n barod i gymryd rhan yn y dulliau newydd o weithio, gan edrych ar y saith nod llesiant, a gweld bod hyn mewn gwirionedd yn rhoi cefndir iddynt ar gyfer ffordd newydd o weithio i edrych tuag at genedlaethau'r dyfodol, yn ogystal â lles Cymru heddiw?

Nid wyf yn cytuno â'r sylwadau gan Gwnsler y Frenhines. Nid wyf yn credu bod y ddeddfwriaeth yn ddi-rym. Rwy'n credu ac yn cytuno â Mick Antoniw. Mae'r ddeddfwriaeth hon wedi ein gwneud yn arweinydd byd o ran meddwl yn wahanol, felly a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen inni ddal ati i chwifio'r faner dros y ddeddfwriaeth hon, gan mai dyma pam y mae gwledydd yn awr, fel y nodoch chi'n gywir, Ddirprwy Weinidog, yn edrych ar Gymru ac yn dangos diddordeb yn y ddeddfwriaeth hon a Chymru, ac maent am ddilyn arweiniad Cymru? Felly, mae angen inni ddal i chwifio'r faner.

Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar o gael cyhoeddi adroddiad ar y cyd â'r Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil a mynychu lansiad adroddiad gan Goleg Cambria yn fy etholaeth i. Nid oes angen iddynt ddilyn y ddeddfwriaeth hon, ond maent wedi edrych ar y ddeddfwriaeth, ar sut y mae'n gweithio, wedi sylweddoli'r manteision a gweithredu eu cynlluniau eu hunain. Ac rwy'n credu eu bod yn gwneud pethau hynod o gadarnhaol oherwydd y ddeddfwriaeth hon. Felly, a fyddech chi'n cytuno, Weinidog, fod hon yn enghraifft arall o'r ddeddfwriaeth yn gwneud gwahaniaeth yma ar garreg ein drws yng Nghymru?

I orffen, unwaith eto, ni chredaf fod hon yn ddeddfwriaeth ddi-rym. Credaf fod drafftio darn o ddeddfwriaeth, y gyntaf o'i bath yn y byd, sy'n newid ein ffordd o weithio, sy'n diogelu ein planed, sy'n edrych ar y ffordd yr ydym yn monitro ac yn cynnal ein cyllidebau ar gyfer y dyfodol, yn rhywbeth y dylem ymfalchïo ynddo, a chredaf ei bod yn rhywbeth y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn falch o'i datblygu.

Diolch i Jack Sargeant am chwifio'r faner heddiw gydag enghraifft bendant o'r modd y caiff y ddeddfwriaeth ei defnyddio gan Goleg Cambria a sut—. Mae'n ddyddiau cynnar, ac mae angen yr enghreifftiau hyn o astudiaethau achos o sut y mae'r sector cyhoeddus yn gwneud defnydd ohoni. Dywedais fy mod wedi cyfarfod â'r trydydd sector heddiw. Maent yn ei chroesawu; maent yn gweld, yn enwedig o ran y pum ffordd o weithio, fod cyfranogiad ac ymgysylltiad yn hanfodol. Gwyddom nad ydym wedi gwneud digon o hynny o ran cael barn pobl. Felly, mae hefyd yn bwysig iawn cydnabod bod pobl y tu allan i Gymru yn edrych ar y ddeddfwriaeth hon, ac yn sicr byddant yn disgwyl i ni, a basiodd y ddeddfwriaeth hon drwy'r Cynulliad Cenedlaethol, sefyll drosti. Felly, mae'n bosibl y bydd Bil Aelod preifat yn cael ei ystyried gan yr Arglwydd Bird, sylfaenydd Big Issue, sy'n Aelod yn San Steffan. Llywodraeth Seland Newydd yn anfon dirprwyaeth i Gaerdydd i ddysgu mwy am y model arloesol yng Nghymru, Sophie Howe yn Uwchgynhadledd Llywodraethau'r Byd yn sôn am hyn, ac yn wir, Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Materion Rhyngwladol, yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd yn siarad am lesiant cenedlaethau'r dyfodol—onid yw'r Cynulliad yn falch o hynny? Ond yn amlwg, mae'n rhaid i ni ddangos ei heffaith ar lawr gwlad yma yng Nghymru yn ein cyrff cyhoeddus ac yn ein cymunedau.

16:00

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, buaswn yn cynghori'n garedig iawn na ddylai'r Llywodraeth amddiffyn y ddeddfwriaeth heb ystyried y beirniadaethau a wneir ohoni. Natur deddfwriaeth yw y dylid ei hadolygu, ac mae'r Llywodraeth yn y gorffennol, yn sicr yn fy nyddiau i, wedi derbyn adolygiadau o ddeddfwriaeth. Mae craffu ar ôl deddfu wedi bod yn rhan gadarnhaol o'r broses ddeddfwriaethol. Felly, buaswn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn mabwysiadu ymagwedd fwy agored at hyn. Bydd yr Aelodau'n gwybod am fy mhryderon ynglŷn â deddfwriaeth—wyddoch chi, nid ydych yn gwneud Cymru'n ddwyieithog mewn 50 mlynedd drwy ddatgan eich bod chi'n mynd i wneud Cymru'n ddwyieithog mewn 50 mlynedd; rydych yn ei wneud drwy ddeddfu mewn gwahanol ffyrdd, ac mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi rhoi'r gorau i'r ddeddfwriaeth a allai fod wedi cyflawni hynny. Felly, buaswn yn cynghori'r Llywodraeth i fod yn ofalus ar y mater hwn. Mae llawer ohonom yn ystyried nad yw datganiadau datganiadol gyda phwysau'r gyfraith y tu ôl iddynt yn fawr mwy na gobeithion defosiynol oni chânt eu cefnogi gan gamau gweithredu go iawn. Yn sicr, hoffwn i'r Llywodraeth adolygu gweithrediad y ddeddfwriaeth y mae'r pwyllgor perthnasol—rwy'n credu bod fy nghyd-Aelod o Bontypridd wedi sôn y gallai'r pwyllgor cynaliadwyedd wneud hynny, ac yn sicr, credaf y byddai'n ymarfer da pe bai'n gwneud hynny. Ond mae dim ond pasio deddfwriaeth a'i hamddiffyn yn ffordd wael iawn o weithredu yn fy marn i. Mae angen inni edrych yn ofalus: a yw'n cyflawni'r uchelgeisiau a bennwyd ar ei chyfer? A yw'n cyflawni'r gweledigaethau a osodwyd ar ei chyfer? Ai'r un ddeddfwriaeth yw hi heddiw ag y gobeithiem y byddai pan bleidleisiasom drosti? A yw'n cyflawni'r amcanion a osodwyd ar ei chyfer? A phe baem yn gwneud hynny, rwy'n llai hyderus na'r Gweinidog y byddem yn rhoi 10 allan o 10 i ni ein hunain. Efallai y caem dros y 50 y cant, ond yn sicr, mae angen inni feddwl yn galetach o lawer am effaith deddfwriaeth, ac yn sicr fy mhrofiad i yn y Llywodraeth yw bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei haddoli'n fwy fel damcaniaeth nag yn ymarferol.

Diolch i Alun Davies am y cwestiwn hwnnw. Yn wir, hoffwn ddiolch hefyd i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn, oherwydd credaf ei bod yn bwysig imi allu dod yma ac ateb y cwestiwn, oherwydd dylai fod yn destun dadl gyhoeddus. Mae a wnelo hyn â chraffu ar ein deddfwriaeth wedi'r cyfan, deddfwriaeth a basiwyd gennym, a chytunaf yn llwyr ag Alun Davies a chyda'i brofiad o ddeddfwriaeth fod yn rhaid inni ei hystyried o ran craffu a'r canlyniadau. Rwy'n meddwl fy mod wedi gwneud hynny'n glir iawn y prynhawn yma o ran rhoi gwybod am enghreifftiau lle mae'n gweithio, fel y mae Jack Sargeant wedi'i nodi. Mae'n ddyddiau cynnar, ac mae'n wir y gallwn honni bod hon yn ddeddfwriaeth arloesol—yn sicr mae eraill yn credu hynny, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig—ond mae angen yn awr inni bwyso a mesur y ddadl sylweddol y prynhawn yma sydd wedi codi o ganlyniad i hyn. Yn sicr, buaswn yn falch iawn—yn wir, credaf y byddai'n ddefnyddiol pe gallai pwyllgorau wneud hyn o ran craffu ac adrodd, ond hefyd ein bod yn trefnu seminar neu gyfarfod lle gallwn drafod y ddeddfwriaeth ymhellach i egluro sut y mae cyrff cyhoeddus yn mynd ati i'w gweithredu.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad 90 eiliad, a’r datganiad hwnnw gan Dai Lloyd.

Diolch, Lywydd. Mae Coeliac UK yn nodi ei wythnos ymwybyddiaeth flynyddol yr wythnos hon. Mae'r clefyd seliag yn gyflwr awtoimiwn gydol oes difrifol a achosir gan adwaith i glwten mewn gwenith, barlys a rhyg. Rhaid i bobl sy'n cael diagnosis o'r cyflwr ymatal rhag bwyta glwten am weddill eu hoes os ydynt am osgoi cymhlethdodau difrifol iawn, ac eto, er yr amcangyfrifir bod gan un o bob 100 o bobl glefyd seliag, o'r rhain 30 y cant yn unig sy'n cael diagnosis ar hyn o bryd, sy'n golygu bod bron 22,000 o bobl yng Nghymru â chlefyd seliag ond heb gael diagnosis ohono. Yr amser cyfartalog y mae'n ei gymryd i rywun gael diagnosis yw 13 mlynedd ar ôl i'r symptomau ddechrau, ac erbyn hynny efallai eu bod eisoes yn dioddef o gymhlethdodau ychwanegol a achosir gan y clefyd. Gyda 3 y cant yn unig o oedolion yn ymwybodol fod symptomau syndrom coluddyn llidus hefyd yn symptomau cyffredin o glefyd seliag, mae Coeliac UK yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o ba mor debyg yw'r symptomau ac yn annog unrhyw un sydd â syndrom coluddyn llidus i ofyn i'w meddyg teulu am brawf gwaed ar gyfer clefyd seliag os nad ydynt eisoes wedi cael un. Mae'r prawf gwaed, a wneir mewn gofal sylfaenol, yn syml ac yn rhad, ond eto ceir miloedd o bobl nad ydynt yn cael y profion angenrheidiol. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar glefyd seliag, hoffwn wahodd yr Aelodau i ymuno â mi i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr difrifol hwn, ac os oes gennych chi neu rywun o'ch cydnabod symptomau parhaus megis stumog chwyddedig, dolur rhydd neu rwymedd ac os ydych wedi cael diagnosis o syndrom coluddyn llidus ond heb gael profion clefyd seliag, ystyriwch y posibilrwydd y gallai fod yn glefyd seliag. Diolch yn fawr.

16:05
5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Cynnal Hyder yn y Weithdrefn Safonau

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar gynnal hyder yn y weithdrefn safonau, a dwi'n gofyn i'r Cadeirydd i gyflwyno ei datganiad—Jayne Bryant. 

Diolch, Lywydd. Mae gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn rhan annatod o sicrhau ein bod ni, fel cynrychiolwyr etholedig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynnal hyder ac ymddiriedaeth y rhai sy'n rhoi eu ffydd ynom i'w cynrychioli.

Cafodd system y comisiynydd annibynnol ei chyflwyno yn 2011. Roedd gan swydd statudol y comisiynydd safonau bwerau pwysig i gynnal ymchwiliadau trylwyr i gwynion yn erbyn Aelodau Cynulliad cyn adrodd i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Roedd creu'r swydd hon yn arwyddocaol. Ei nod oedd rhoi mwy o hyder i bobl Cymru yn eu cynrychiolwyr etholedig drwy ymgorffori mewn cyfraith bwerau ac annibyniaeth comisiynydd safonau'r Cynulliad.

Rydym bellach mewn hinsawdd wahanol i 2011. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae llawer o sylw wedi'i roi i ymddygiad amhriodol ac aflonyddu rhywiol drwy'r gymdeithas gyfan. Mae hashnod MeToo, cam sydd wedi galluogi pobl ledled y byd i godi llais a mynegi eu pryderon, wedi dangos na ellir gwadu'r angen am newid. Yn sicr, nid yw gwleidyddiaeth yn eithriad. Un ffactor allweddol wrth gyflawni'r newid hwn yw sicrhau bod gan bobl hyder i fynegi pryderon yn gyfrinachol heb ofni y byddai'r wybodaeth, sy'n aml yn sensitif, yn cael ei rhannu. Mae hefyd yn ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr ein bod yn annog mwy o gynrychiolaeth yn y system wleidyddol. Ni fydd hyn yn bosibl heblaw fod gennym ddiwylliant sy'n wirioneddol gynhwysol ac yn grymuso.

Mae'n hynod o siomedig felly fod nifer o gwynion i'r comisiynydd safonau yn ddiweddar wedi cael eu rhyddhau i'r cyfryngau cyn i'r broses ddod i ben. Yn y ddau achos diwethaf, digwyddodd cyn i'r pwyllgor ddechrau ystyried y gŵyn hyd yn oed. Effeithir yn sylweddol ar waith y pwyllgor pan fydd cwyn neu gynnwys adroddiad comisiynydd yn ymddangos yn gyhoeddus cyn i ni ystyried y mater. Mae'n tanseilio'r system yn fawr ac yn golygu bod y pwyllgor yn ystyried adroddiad yn erbyn cefndir o sylwadau a dyfalu o'r tu allan. Nid yw hyn yn deg i achwynwyr nac i'r rhai sy'n destun cwyn.

Rydym yn pryderu'n fawr y gall y cyhoeddusrwydd a'r sylw yn y cyfryngau sy'n deillio o achosion o'r fath o dorri cyfrinachedd fod yn rhwystr rhag gwneud cwyn ffurfiol, yn enwedig os yw o natur sensitif. Mae hyn yn peri gofid ac yn groes i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y Cynulliad i sicrhau hyder yn y modd yr ymdrinnir â phryderon ac ymddygiad amhriodol.

Fel gwleidyddion etholedig, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod y safonau uchaf fel esiampl i'r gymdeithas ehangach. Mae'n hollbwysig fod pob un ohonom yn ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflawni hyn. Hoffwn atgoffa pob Aelod na ddylem ddatgelu, cyfathrebu na thrafod unrhyw agwedd ar gŵyn gyda'r wasg na chyfryngau eraill nes i adroddiad y pwyllgor gael ei gyhoeddi. Gall hyn gynnwys trafod unrhyw gwynion posibl cyn iddynt gael eu gwneud yn swyddogol. Bydd methu cadw at y weithdrefn hon yn dramgwydd yn erbyn y cod ymddygiad ac ymdrinnir ag ef yn y modd hwnnw.

16:10

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw gan Gadeirydd y pwyllgor safonau. Yn anffodus, roedd angen sefydlu comisiynydd safonau annibynnol ar gyfer y Cynulliad, ac yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n debyg y bydd mwy o'i angen na phan gafodd ei sefydlu i ddechrau. Rhaid i'r ymchwiliadau gael eu gweld fel rhai trwyadl a bydd yn rhaid i gasgliadau a gyflwynir wedyn i'r pwyllgor eu hystyried yn briodol aros yn gyfrinachol er mwyn eu galluogi i gyflawni camau gweithredu  ystyriol heb i ddylanwadau allanol amharu arnynt.

Yn fy marn i, roedd y ddau achos o ddatgelu answyddogol i'r cyfryngau yn weithredoedd bwriadol a danseiliai'r broses honno, a chytunaf â'r datganiad heddiw fod hynny'n peri gofid mawr, a'i bod yn hollbwysig fod unrhyw AC, boed yn achwynydd neu'n destun cwyn, yn deall eu bod yn tramgwyddo ein cod ymddygiad. Fy nghwestiwn i chi fel Cadeirydd yw sut y gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ddisgwyl gallu gorfodi'r dyfarniad penodol hwnnw.

Diolch am eich sylwadau, Joyce, ac rwy'n hynod werthfawrogol o'r cyfle i wneud y datganiad hwn, eto heddiw, fel y dywedais, Lywydd, ac rwyf am sicrhau pob Aelod a'r cyhoedd fod hyn yn cael sylw. Rydym wedi bod yn bryderus iawn am y peth ac rydym wedi cymryd camau pan fo angen i ni wneud hynny. Cawsom ymholiadau i ddatgelu answyddogol ynglŷn â hyn, ynglŷn â'r ddau bwynt a nododd Joyce heddiw, ac yn sgil hynny, rydym—gallodd yr ymchwiliadau hynny i ddatgelu answyddogol awgrymu nifer o welliannau i'r prosesau diogelwch, sydd bellach wedi'u gweithredu.

Ond i ailadrodd, mae mor bwysig ein bod yn glir fod unrhyw ddatgelu answyddogol yn tanseilio'r system yn fawr ac yn golygu bod y pwyllgor yn ystyried adroddiad yn erbyn cefndir o sylwadau a dyfalu allanol, ac nid yw'n deg i'r achwynwyr ac nid yw'n deg i'r rhai sy'n destun y gŵyn.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a heddiw y Bil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud ei gynnig.

Cynnig NDM7020 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig am fil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon.

2. Yn nodi mai diben y bil hwn fydd:

a) hybu'r defnydd o gerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon; a

b) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yn y fflyd gyhoeddus yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, wythnos ac ychydig yn ôl, mi wnaeth y Senedd yma bleidleisio i ddatgan argyfwng hinsawdd—cam symbolaidd pwysig. Plaid Cymru oedd wedi cyflwyno’r cynnig, ac, ar drothwy hynny, mi wnaeth y Llywodraeth ddatgan eu bod nhw’n barod i wneud y datganiad. Mi oedd o’n ddatganiad symbolaidd pwysig iawn, a dwi’n edrych ymlaen at drafod hynny efo ymgyrchwyr amgylcheddol yn fy hen ysgol, Ysgol David Hughes, yfory.

Ond, tra bod y symbolaeth yn arwyddocaol, yn ein parodrwydd i weithredu mai mesur ein difrifoldeb ni ynglŷn â mynd i’r afael â’r argyfwng yna. Yma yn y Siambr brynhawn ddoe, mi oedden ni’n gwrando ar ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio llesol. Mae’r term Cymraeg yn well na’r term Saesneg, a dweud y gwir: 'active travel' ydy o’n Saesneg. Mae ‘llesol’ yn Gymraeg yn golygu 'beneficial', a, drwy’r Ddeddf yna, beth dŷn ni’n ei wneud ydy gofyn i bobl wneud dewisiadau teithio sy’n fwy llesol iddyn nhw eu hunain—o ran eu hiechyd, ie, ond hefyd dŷn ni’n sôn am fod yn llesol i’r amgylchedd. 

Mi roddodd y Gweinidog ystadegyn inni ddoe: mae 13 y cant o allyriadau newid hinsawdd yng Nghymru, meddai fo, yn dod o drafnidiaeth, ac maen nhw i gyd, bron, yn dod o’r car preifat efo’i beiriannau petrol neu ddisel. Ddoe, mi gafon ni drafodaeth ar sut i helpu pobl i ddewis teithio dan eu stêm eu hunain—ar droed neu ar gefn beic—dyna ichi un ffordd o daclo allyriadau. Yn fwy arwyddocaol wedyn mai annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth dorfol, trafnidiaeth gyhoeddus, cael allan o’u ceir, dewis opsiynau teithio torfol sy’n garedicach i’r amgylchedd. Dwi’n cytuno 100 y cant efo hynny; mae’n rhaid buddsoddi mewn creu rhwydweithiau a systemau teithio cyhoeddus deniadol, effeithiol, glân, sy’n gallu gyrru’r math yna o newid yn y ffordd dŷn ni’n symud o A i B. Mi allwn ni hefyd drafod ffyrdd o atal mwy o siwrneiau A i B fel bod pobl yn gweithio ym mhwynt A ac yn byw yno, yn hytrach na gorfod mynd i bwynt B o gwbl.

Ond, yng nghanol y cyfan, mae’r car preifat yn dal yn mynd i fod yn nodwedd bwysig o’n tirwedd trafnidiaeth ni am sbel. Mi fydd yna newid. Mi fydd yna fwy o rannu ceir, gobeithio; mi ddaw awtomeiddio, lle bydd ceir yn cyrraedd heb yrrwr ynddyn nhw. Ond mi fydd yna, am rai blynyddoedd dwi’n siŵr, geir ar ein ffyrdd ni. Ac nid dim ond ceir, wrth gwrs; mi fydd yna faniau, lorïau nwyddau ac mi fydd yna gerbydau trwm yn cynnal a chadw ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen. Felly, mae’n rhaid eu gwneud nhw’n lanach. Y tu allan i’r Senedd yma’n gynharach heddiw, mi roedd hi’n braf croesawu cwmnïau Audi, BMW, Hyundai, Kia, Nissan a Renault i ddangos eu cerbydau trydan diweddaraf nhw. Mae’r dechnoleg yn symud ymlaen yn gyflym. Ceir llwyr drydanol yn gallu teithio ymhellach—200 milltir a mwy ar un gwefriad; 300 a mwy, rhai, a gwefru’n digwydd yn gyflymach. Ond, mae yna gamau brys sydd angen eu cymryd er mwyn normaleiddio cerbydau allyriadau isel iawn.

Yn gynharach heddiw hefyd, mi wnes i gyhoeddi adroddiad a oedd yn dilyn ymweliad gen i i’r Alban yn amlinellu'r gwersi y gallwn ni ddysgu o’r Alban ar gyfer dyfodol ceir trydan yng Nghymru. Mi ges i gyflwyno copi i Gadeirydd pwyllgor yr economi, Russell George, a dwi’n ddiolchgar i’r pwyllgor hwnnw am gynnal ymchwiliad yn y maes hwn. Dwi’n gobeithio bydd fy adroddiad i’n rhywfaint o ddefnydd i’r pwyllgor. Ond, efallai mai’r prif beth ddysgais i o’r Alban oedd bod angen ffocws clir a strategaeth benodol. Mae angen penderfynoldeb i yrru’r strategaeth honno’n ei blaen, i gyflwyno llawer mwy o bwyntiau gwefru a sicrhau bod y rheini’n gweithio, i gasglu data ar eu defnydd nhw, ac yn y blaen, ac i gyflwyno mwy o incentives mewn gwahanol sectorau—tacsis, er enghraifft—i feddwl sut mae plethu defnydd o geir trydan efo trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol yn ein dinasoedd ni.

16:15

Diolch am adael i fi siarad am funud. Dwi wedi cael cyfle i edrych ar yr adroddiad dŷch chi wedi'i ysgrifennu. Dwi'n meddwl ei fod yn adroddiad arbennig o dda, ac mae'n dangos y math o uchelgais sydd ei angen arnom ni. Mi fyddaf i'n eich cefnogi chi y prynhawn yma pan mae'n dod i'r bleidlais. Ydych chi'n cytuno gyda fi taw beth sydd angen nawr yw strategaeth, amserlenni ac arian i sicrhau ein bod ni'n gallu cyrraedd y math o uchelgais dŷch chi'n ei disgrifio yn eich adroddiad?

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna. Roedd hi'n braf gweld yr Aelod dros Flaenau Gwent yn y digwyddiad y tu allan i'r Cynulliad yn gynharach, a dwi'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth. Ac oes, yn sicr, mae angen strategaeth glir, a dyna ydy un o'r consyrns sydd gen i: ein bod ni'n disgyn ar ei hôl hi.

Ond, i'r Senedd yma fel deddfwrfa, mae angen i ni, wrth ymateb i'r ffaith ein bod ni wedi gwneud y datganiad argyfwng hinsawdd yma'n fwy na dim, feddwl sut y gallwn ni ddefnyddio'r hyn sydd gennym ni fel arfau. Ac un o'r pethau dŷn ni'n gallu ei wneud fel deddfwrfa ydy deddfu. Y llynedd, mi wnes i gynnig deddfwriaethol yn cynnig Bil cynllunio i osod canllawiau ar gyfer gosod isadeiledd gwefru mewn datblygiadau newydd, ac yn y blaen. Ac roeddwn i'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru'n adlewyrchu ar rai o'r rheini yn ei chynllun carbon isel diweddar. Y tro yma, beth sydd gen i ydy Bil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon. Y diben ydy hybu'r defnydd o gerbydau trydan, neu gerbydau di-allyriadau carbon eraill, fel hydrogen, drwy osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, o gynghorau i awdurdodau lleol, i lunio strategaeth i symud yn benodol tuag at ddefnyddio cerbydau felly yn eu fflyd nhw. Mae'n bwysig, dwi'n meddwl, i fi ddweud bod yna arwyddion o arfer da yn dod i'r amlwg mewn sawl cyngor ar draws Cymru.

Un peth ddysgais i o'r Alban, yn Dundee yn benodol: cwpwl o unigolion penderfynol oedd wedi gyrru arloesedd ymlaen yn Dundee. Dŷn ni angen gallu adnabod y bobl frwdfrydig, benderfynol hynny yng Nghymru. Ond, dwi'n meddwl bod deddfu'n gallu bod yn arf y dylem ni ei ddefnyddio. Cynnig ydw i bod yna hwb yn cael ei roi, drwy ddeddfwriaeth, i wneud yn siŵr bod pob corff cyhoeddus yn cyhoeddi strategaeth ar sut maen nhw'n mynd i symud yn eu blaenau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, yn digwydd bod, wedi gwneud asesiad o'u sefyllfa eu hunain, a dod i'r canlyniad y gallai newid ychydig dros hanner o'u fflyd nhw—. Dydyn nhw ddim yn gallu newid pob cerbyn ar hyn o bryd, ond pe baen nhw'n newid ychydig dros hanner eu fflyd, bydden nhw'n arbed 413 tunnell o allyriad carbon deuocsid bob blwyddyn, ac ar ben hynny yn arbed £136,000.

Felly, dewch ymlaen, gadewch inni roi sêl bendith drwy bleidlais yma heddiw i'r syniad o ddatblygu Deddf—achos deddfwrfa ydyn ni—er mwyn gwthio strategaeth dŷn ni i gyd yn ei chefnogi mewn egwyddor yn ei blaen, ond lle ydyn ni'n ystyried beth allwn ni'n benodol ei wneud fel Aelodau etholedig yn ein Senedd genedlaethol ni.

16:20

Diolch i chi am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol y prynhawn yma. A gaf fi ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig a minnau yn llwyr gefnogi'r cynnig deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth y prynhawn yma? Roeddwn yn falch hefyd o gefnogi'r digwyddiad y soniodd Rhun amdano'n gynharach heddiw, lle lansiodd ei adroddiad yn sôn am brofiad yr Alban, ac yn wir roeddwn yn ddiolchgar iawn iddo am ddarparu copi o'r adroddiad hwnnw i mi ac i aelodau'r pwyllgor ymlaen llaw, oherwydd mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ar seilwaith gwefru cerbydau trydan. Yn y gwaith a wnawn, rydym wedi defnyddio dull o weithredu sydd ychydig yn wahanol i'r arfer, gan ein bod wedi cymryd tystiolaeth, ac yn hytrach na chyhoeddi ein canfyddiadau gydag argymhellion a chasgliadau, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar ffurf ddrafft gyda'n casgliadau a'n hargymhellion sy'n datblygu ar gyfer ymgynghori ymhellach arnynt, ac mae'n ymddangos bod y dull hwnnw wedi gweithio. Bydd cyfle arall i mi siarad am rai o'r casgliadau sy'n datblygu pan ddaw'n bryd inni drafod hynny yn y Siambr hon.

Ond hoffwn nodi un pwynt. Un o'r themâu a ddaeth i'r amlwg, neu'n sicr un o'r ymatebion a gawsom yn ddiweddar, oedd bod Cymru'n anialwch o ran gwefru ac ar hyn o bryd, nad yw'r seilwaith yn ddigon i ymdopi â'r galw presennol, heb sôn am alw cynyddol. Rwy'n difaru nad wyf wedi defnyddio'r sgriniau sydd gennym heddiw i ddangos y Zap-map y mae'r Llywodraeth hefyd yn ei ddefnyddio i gael ei gwybodaeth ei hun ynglŷn â'r ddarpariaeth a phwyntiau gwefru ar draws Cymru a Lloegr, oherwydd pe baech yn gweld y map hwnnw, byddai'r stori'n adrodd ei hun. Mae gan Loegr wasanaeth eithaf da, yn sicr mewn ardaloedd trefol, ond yng Nghymru—mae gennym lond llaw yn y gogledd, llond llaw yn y de, ac anialwch mawr yn y canol.

Nawr, cyhoeddodd y Llywodraeth £2 filiwn o fuddsoddiad i wella'r mannau gwefru a'r seilwaith pwyntiau gwefru, ond nodwn fod y Llywodraeth yn yr Alban wedi ymrwymo £14 miliwn i gefnogi seilwaith ac i gefnogi'r agenda carbon isel, ac  mae £8 miliwn ohono wedi'i neilltuo ar gyfer seilwaith gwefru o gynllun Plugged-in Places Llywodraeth y DU. Credaf y dylem ni, neu Lywodraeth Cymru yn sicr, fod yn hyrwyddo buddsoddiad sector preifat hefyd yn ogystal â chymhorthdal cyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mewn rhai achosion, efallai na fydd angen i'r Llywodraeth hyrwyddo arian cyhoeddus hyd yn oed, oherwydd daw hynny ei hun drwy'r sianeli arferol. Ond yr hyn y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yw'r seilwaith yng nghefn gwlad Cymru, ac nid ar gyfer y rhai sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru yn unig y mae angen seilwaith arnom, ond wrth gwrs, i gyrraedd unrhyw le, os ydych am fynd o'r gogledd i'r de, rydych yn gyrru drwy gefn gwlad Cymru, felly mae arnoch angen seilwaith yno i gynnal y rhwydwaith.

Roeddwn yn falch hefyd—yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ganiatáu i'w swyddog ddod i gyfarfod ddydd Llun yn y Drenewydd, lle daeth swyddog o Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd i ymchwilio i rai o'r problemau ac i gyfnewid gwybodaeth hefyd. Y prif fater a lywiai'r cyfarfod hwnnw oedd diffyg seilwaith gwefru yng nghefn gwlad Cymru a sicrhau y bydd unrhyw strategaeth a ddaw, fel y bydd yn ei wneud gan fod y Gweinidog wedi dweud y bydd yn dod yn 2020, yn mynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny. Nid oes gennyf amser ar ôl—mae'n flin iawn gennyf, nid wyf wedi dweud cymaint ag yr hoffwn ei ddweud—ond caf gyfle arall pan ddaw'n bryd i'r pwyllgor drafod yr adroddiad hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae'n siŵr.

Diolch am gyflwyno'r cynnig hwn ar gyfer Bil. Cytunaf fod yn rhaid inni ddod o hyd i ffordd lanach o fynd o A i B, a byddaf yn cefnogi'r cynnig. Fodd bynnag, er bod llawer o bobl yn breuddwydio am y diwrnod pan fyddwn oll yn gallu troi cefn ar ddiesel a phetrol, a buaswn yn cytuno â hwy ar hynny, rhaid inni fod yn ofalus nad ydym yn rhuthro i hyrwyddo cerbydau trydan ac yn ystyried o ddifrif realiti cyflwyno ceir trydanol ar lefel dorfol. Felly, yn fy nghyfraniad i heddiw, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar gerbydau trydan. O ran yr amgylchedd, rydym yn aml yn sôn am ein cyfrifoldeb, nid yn unig tuag at Gymru ond tuag at weddill y byd hefyd, ac mae angen inni gofio hynny wrth hyrwyddo cerbydau trydan.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae cerbydau trydan yn dibynnu ar fatris. Mae angen cobalt ar fatris, a daw'r rhan helaeth ohono o'r Congo—ardal sy'n rhemp o wrthdaro. At hynny, manteisir ar blant i weithio yn y mwyngloddiau cobalt ar gyflog caethweision, a defnyddir llawer o'r elw a wna'r cwmnïau i ariannu rhyfel cartref. Mae'r term 'batris gwaed' bellach wedi mynd yn rhan o eirfa'r rhai sy'n sôn am ddatblygu cerbydau trydan, a rhaid inni sicrhau nad ydym yn rhan ohono. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, wrth inni sgrialu i ddod o hyd i ffurf wahanol ar danwydd ar gyfer ein ceir, nad ydym yn hybu wrthdaro, tlodi a llafur plant wrth wneud hynny—ni waeth pa mor bell o Gymru y mae. Yn ôl y sôn, mae Tesla wedi dweud eu bod yn ystyried cael cobalt o Cuba, ond yn yr ymdrech fyd-eang i ddod o hyd i'r adnodd cyfyngedig hwn, ar ôl dihysbyddu'r ffynonellau moesegol, fe ddaw o ffynonellau llai moesegol. Ni fydd dewis arall. Felly, lle mae pwynt 2(b) yn sôn am strategaeth i symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydanol, a gawn ni sicrhau mai elfen gyson yn y strategaeth honno yw na fyddwn yn defnyddio cerbydau sy'n cynnwys deunyddiau gwrthdaro neu fatris gwaed?

Ond nid y ffynonellau moesegol yn unig sy'n peri pryder i mi. Rhaid datrys rhai o'r agweddau ymarferol cyn inni ruthro tuag at ddefnyddio cerbydau trydan ar raddfa fawr. Y broblem fwyaf, yn amlwg, fydd ailwefru. Lle gallwn ail-lenwi'n gyflym ar ein taith ar hyn o bryd, ni cheir seilwaith na thechnoleg sy'n caniatáu hynny i'r un graddau yn awr, ac mae siaradwyr eraill wedi cyfeirio at hynny. Mewn llawer o orsafoedd petrol, hyd yn oed yn awr, ceir rhes o geir yn aros am y pympiau petrol, ac rwy'n sylweddoli nad oes rhaid cyfyngu pwyntiau gwefru i orsafoedd petrol, ond bydd yn rhaid cael rhai pwyntiau canolog ar gyfer gwefru i bobl eu defnyddio pan fyddant ar eu taith. Felly, mae gennym giwiau eisoes; pa mor fawr fydd yn rhaid i'r canolfannau ailwefru hyn fod os yw ailwefru'n cymryd, dyweder, 30 munud yn hytrach na phum munud yn unig i lenwi â phetrol neu ddiesel? Beth sy'n digwydd os yw car angen ei ailwefru cyn cyrraedd pwynt ailwefru? Nid yw'r gyrrwr yn mynd i allu cario can petrol i lawr y lôn i orsaf betrol.  

16:25

Rwy'n credu mai un o'r datblygiadau y byddwn yn eu gweld yn y blynyddoedd i ddod yw y byddwch yn ailwefru wrth i chi fynd, gydag ailwefru milltiroedd o briffyrdd, felly ni fydd rhaid i chi aros o gwbl.

Ie, ffantastig, ond rydych yn dweud ei fod yn un o'r datblygiadau sydd i ddod. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw nad cyflwyno cerbydau trydanol ar raddfa fawr cyn i'r dechnoleg a'r seilwaith ddal i fyny yw'r ffordd orau o'i wneud.

O'r gorau. Felly, ni allwn ddweud yn sicr po fwyaf eang yw'r defnydd o gerbydau trydanol, y cyflymaf y bydd y dechnoleg yn dal i fyny, a hyd nes y gall gyrrwr wneud taith hir heb orfod ailwefru sy'n cynnwys bod yn sownd mewn tagfa ar y draffordd am rai oriau yn y gaeaf, nid yw cerbydau trydan yn mynd i ddod yn ffasiynol. Peidiwch â chamddeall; nid wyf yn erbyn cerbydau trydan ynddynt eu hunain. Y cyfan rwy'n ei ddweud yw bod yna ganlyniadau y mae angen i ni feddwl amdanynt. Iawn—

A allwch chi feddwl am ddirwyn i ben? Mae'n ddrwg gennyf. Tri munud sydd yna i bob Aelod.

Fe wnaf fwrw ati. Un pwynt arall sydd gennyf.

Pryder arall yw natur ddistaw ceir trydanol. Mae'r gallu i glywed cerbyd yn dod yn hanfodol i gadw eich hun yn ddiogel ar y ffordd ac ar ymyl y ffordd. Yr hyn sy'n fy mhoeni yw bod ceir trydan mor dawel fel bod hynny'n peri risg i iechyd a diogelwch. Felly, hoffwn i weithgynhyrchwyr fynd i'r afael â'r perygl hwnnw i iechyd a diogelwch.

Ac yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y ffaith mai 50 y cant yn unig o lygredd o geir sy'n dod o'r injan a'r bibell fwg. Daw gweddill y llygredd o'r teiars a'r llwch brêcs mewn gwirionedd, felly mae angen inni gynnwys hynny yn rhan o'r strategaeth er mwyn edrych am ffyrdd o leihau'r llygredd hwnnw. Diolch.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i ymateb heddiw, a hoffwn ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cynnig hwn. Daw ar adeg arbennig o briodol, yn dilyn ein datganiad am argyfwng hinsawdd ar 29 Ebrill. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau o ran ymateb i'r galwadau am weithredu gan bobl o bob oed sy'n poeni am effeithiau real iawn newid yn yr hinsawdd.

Yn ôl ym mis Mawrth, lansiwyd 'Cymru Carbon Isel', ein cynllun datgarboneiddio trawslywodraethol statudol cyntaf. Mae'n cynnwys 100 o argymhellion a chamau gweithredu, gydag oddeutu eu hanner yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae'r cynllun yn cynnwys polisïau i gynyddu'r gyfran o gerbydau trydan a cherbydau allyriadau isel iawn, gan gynnwys uchelgais beiddgar iawn ar gyfer bysiau a thacsis a cherbydau hurio preifat di-allyriadau erbyn 2028. Rydym yn cydnabod rôl arweiniol y sector cyhoeddus, felly mae'r cynllun hefyd yn cynnwys cynnig y dylai pob car newydd a cherbyd nwyddau ysgafn yn fflyd y sector cyhoeddus fod yn rhai allyriadau isel iawn erbyn 2025 a lle bo'n bosibl, fod yr holl gerbydau nwyddau trwm yn rhai allyriadau isel iawn erbyn 2030. Bydd cyflwyno cerbydau carbon isel i fflyd y sector cyhoeddus nid yn unig yn cyfrannu at ein nod o gael sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030, ond bydd hefyd yn cynyddu amlygrwydd ac yn normaleiddio'r defnydd o gerbydau allyriadau isel iawn ar gyfer ein staff sector cyhoeddus, defnyddwyr gwasanaethau, a'r cyhoedd wrth gwrs.

Gan fod y rhan fwyaf o'n cyrff cyhoeddus eisoes yn mynd i'r afael â'r mater hwn, prin yw'r dystiolaeth fod angen deddfwriaeth i ysgogi datblygiad strategaethau. Yn wir, y bore yma amlinellais ddatblygiad ein gweledigaeth a'n strategaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan ar draws y wlad, pan fynychais Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Rydym yn cynllunio i'r seilwaith gwefru sydd ar gael i'r cyhoedd allu ateb y galw a grëir gan y nifer fawr o bobl a fydd yn defnyddio cerbydau trydan, ond rwy'n disgwyl i'r sector preifat a darparwyr cyfleusterau gwefru cerbydau trydan gyflawni'r rhan helaethaf o'r seilwaith. Ein rôl yw asesu lle mae bylchau yn y ddarpariaeth a gweithredu lle bo angen er mwyn mynd i'r afael â methiant y farchnad. Bydd ein strategaeth, yr ymgynghorir arni ochr yn ochr â strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn defnyddio'r un dull ag a weithredwyd gennym wrth gaffael y gweithredwr a'r partner datblygu ar gyfer y fasnachfraint reilffyrdd newydd, lle rydym yn defnyddio eiddo cyhoeddus a thir cyhoeddus i ddod â'r farchnad i fuddsoddi mewn gosod pwyntiau gwefru ar sail consesiwn. Bydd ein strategaeth newydd yn sicrhau bod rhwydwaith gwefru safonol cenedlaethol yn cael ei ddarparu, gyda buddsoddiad y sector preifat yn bennaf, ond gyda'r budd gorau i'r cyhoedd yn ganolog i'w weithrediad.

Yng ngoleuni'r polisïau a'r argymhellion sydd gennym yn 'Cymru Carbon Isel' a'r strategaeth sydd ar y gorwel ar gyfer rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ledled Cymru, nid wyf yn teimlo bod angen deddfwriaeth ar hyn o bryd. Ond wrth gwrs, rwy'n fodlon adolygu hyn yn y dyfodol. Buaswn yn annog pob Aelod i weithio gyda ni ar hyn. Bydd cyflawni ein targedau datgarboneiddio uchelgeisiol yn galw am arweinyddiaeth sylweddol, am newid, am gydweithio â'n partneriaid, ac am ymwneud y gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Gan weithio gyda'n gilydd a dangos arweiniad fel unigolion yn ogystal â chyda'n gilydd ar y mater hwn, rwy'n hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.

16:30

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan, a diolch i'r Gweinidog am ei ymateb. Ychydig eiliadau'n unig sydd gennyf i ymateb. Credaf fy mod wedi gwneud yr holl bwyntiau yr oeddwn am eu gwneud yn fy araith agoriadol, ond credaf fod cefnogaeth eang i'r egwyddorion. Credaf fod Michelle Brown yn iawn i ofyn cwestiynau. Pe bai digon o amser gennyf, credaf y gallwn fynd i'r afael â nifer o'r cwestiynau a oedd ganddi. Ond mae hyn yn rhan o'r drafodaeth ehangach yr ydym yn ei chael i feithrin hyder pobl yn y dechnoleg sy'n datblygu ac yn dod i'r amlwg.

Mae hon yn ddadl ar nodi'r cynnig hwn. Gobeithio y bydd y Cynulliad yn pleidleisio'n gadarnhaol i nodi'r cynnig hwn heddiw. Wrth gwrs, nid deddfwriaeth yw'r unig ateb o reidrwydd, ond rhaid inni ddal ati i ystyried deddfwriaeth fel arf posibl. Rwy'n croesawu'r arwyddion o symud tuag at gael strategaeth. Er enghraifft, pan fydd y cynllun carbon isel yn sôn am fod eisiau symud tuag at fflyd gyhoeddus sy'n ddi-allyriadau erbyn 2025, yr hyn yr hoffwn ei wybod yw sut. Pryd fyddwn ni'n gwneud hyn? Sut fyddwn ni'n gwneud hyn? Dyna pam y mae angen i ni symud ar fyrder tuag at gael strategaeth ar draws Cymru gydag allyriadau isel iawn yn ffocws clir, oherwydd mae'n mynd i fod yn rhan hynod o amlwg o ddyfodol ein trafnidiaeth.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:35
7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Prydau Ysgol Iach

Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, prydau ysgol iach, a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7002 Jenny Rathbone, Dai Lloyd, Joyce Watson 

Cefnogwyd gan Darren Millar, David Rowlands, Mike Hedges, Russell George, Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gall prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les, cyrhaeddiad ac ymddygiad cadarnhaol disgyblion.

2. Yn nodi bod adroddiad y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) egluro ai cyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yw safonau prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael eu monitro; a

b) amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion sy'n cael ei gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, ymwelais ag ysgol Parc Cornist yn Sir y Fflint i edrych ar y ddarpariaeth amser cinio. Pam? Gan mai Sir y Fflint oedd yr unig arlwywr ysgolion yng Nghymru i fod wedi cyflawni ardystiad Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd. Beth a welais? Roedd pob plentyn yn cael y pryd bwyd yr oeddent wedi'i ddewis adeg cofrestru y bore hwnnw. Hyd yn oed os oeddent yn olaf i mewn, fe wyddent fod eu henw ar y pryd bwyd hwnnw. Roedd hyn yn cael gwared ar y pryder sydd gan rai plant ynglŷn â bwyta rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi neu nad ydynt yn ei adnabod. Roedd goruchwylwyr prydau bwyd yn annog pob plentyn i ychwanegu rhywfaint o salad at eu pryd bwyd, gan dargedu'r nod o saith y dydd; cogydd ymroddedig gyda sgiliau i ddiwallu'r canllawiau bwyta'n iach; y nesaf peth i ddim gwastraff mewn byd lle mae traean o'r holl fwyd yn cael ei daflu; ymagwedd ysgol gyfan at fwyd; arddangosiadau o amgylch yr ysgol yn dathlu bwyd; ac unwaith y mis câi aelodau eraill o'r teulu eu gwahodd i ddod i ginio i helpu i ledaenu'r neges ynglŷn â bwyd iach.

Awgrymaf fod angen hyn ym mhob ysgol er mwyn cyflawni amcanion 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Mae pob ysgol gynradd yn llenwi'r gofrestr ar ddechrau'r diwrnod ysgol. Felly pam na all pob disgybl cynradd ddewis eu cinio ar yr un pryd? Mae'n dechrau digwydd yng Nghaerdydd, ond yn bendant nid yw ar gael i bawb. Beth sydd i beidio â'i hoffi ynglŷn â chael gwared ar wastraff a phryderon plant?

Mae ardystiad Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd yn dynodi sicrwydd ansawdd. Mae'n bodoli yma yn ffreutur y Senedd. Beth sydd ei angen i gyflawni'r amcan hwnnw mewn ysgolion? Yn gyntaf, rhaid i arlwywyr ysgolion ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r canllawiau cenedlaethol ar fwyta'n iach. Rhaid i o leiaf dri chwarter yr eitemau ar y fwydlen fod wedi'u paratoi'n ffres o gynhwysion heb eu prosesu. Rhaid i unrhyw gig ddod o ffermydd sy'n bodloni safonau lles anifeiliaid. Ni ddylai unrhyw bysgod fod ar restr 'pysgod i'w hosgoi' y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Rhaid i wyau fod yn wyau maes. Ni ellir defnyddio unrhyw ychwanegion annymunol, traws-frasterau artiffisial na chynhwysion a addaswyd yn enetig, ac mae dŵr yfed am ddim ar gael yn amlwg—a heb ei guddio yn y toiledau. Mae'r bwydlenni'n dymhorol a thynnir sylw at gynnyrch sydd yn ei dymor. Caiff yr holl gyflenwyr eu dilysu gan Gymdeithas y Pridd er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni safonau bwyd priodol; fel arall, pwy a ŵyr fod hynny'n digwydd mewn gwirionedd? Yn anad dim, yn fy marn i, caiff staff arlwyo hyfforddiant mewn paratoi bwyd ffres, gan fod hyn yn rhywbeth na allwn ei gymryd yn ganiataol, yn anffodus.

Mae dros 10,000 o ysgolion Lloegr yn defnyddio ardystiad Cymdeithas y Pridd i ddynodi cydymffurfiaeth ddirprwyol ynghylch ffresni ac ansawdd, ac mae hynny'n cynnwys dros hanner yr holl ysgolion cynradd a llawer o ysgolion uwchradd hefyd. Mae'r arlwywyr ysgol mwyaf uchelgeisiol, fel Oldham—sy'n gwasanaethu un o'r cymunedau tlotaf ym Mhrydain—wedi mynd ymhellach i gyrraedd y safon aur: rhaid i o leiaf 20 y cant o'r arian a werir ar gynhwysion fod yn organig, gan gynnwys cig organig. 'O, mae hynny'n anfforddiadwy', clywaf bobl yn dweud. Na, nid yw hynny'n wir; 67c y disgybl y pryd bwyd yn unig y maent yn ei wario. Mae peth o'r ganmoliaeth i Oldham yn seiliedig ar y ffaith bod mwy na'r hyn sy'n arferol o'r bwyd yn tarddu o'r DU—bydd hynny'n eu galluogi i wrthsefyll ansicrwydd yn sgil Brexit. Maent hefyd i'w canmol am brynu bwyd a gynhyrchir yn eu hardal, gan gyfoethogi'r economi fwyd leol. Mae ymchwil i'r bwydlenni Bwyd am Oes hyn yn profi, am bob £1 a werir yn lleol, ei bod yn darparu elw cymdeithasol ar fuddsoddiad o dros £3 ar ffurf mwy o swyddi a marchnadoedd i gynhyrchwyr bwyd lleol.

Felly oni ddylai pob awdurdod lleol fod yn cysoni eu penderfyniadau polisi caffael bwyd â'r ymrwymiadau economaidd i ddyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Os gall Oldham ei wneud, pam na all Cymru? Ac nid yn Lloegr yn unig y mae hyn. Mae'r Alban hefyd yn defnyddio'r fframwaith i gynyddu'r bwyd a gynhyrchwyd yn lleol y maent yn ei gaffael. Rwy'n awgrymu y gallai Cymru ei ddefnyddio fel arf i gryfhau economi sylfaenol ein bwyd.

Byddai'r buddsoddiad hwn yn ein plant yn boblogaidd gydag oedolion hefyd. Dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov ar gyfer Cancer Research UK fod 86 y cant o bobl yn cefnogi mesurau i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cydymffurfio â'r canllawiau ar fwyta'n iach, oherwydd gwyddom nad felly y mae hi ar hyn o bryd. A yw'n cymryd Comisiynydd Plant Cymru i ddweud wrthym fod diffodd ffowntenni dŵr mewn un ysgol wedi gorfodi disgyblion i ddefnyddio arian cinio i brynu dŵr potel?

Sut y gall ysgolion uwchradd Caerdydd gynnig yr hyn a alwant yn 'fargen fwyd' o ddiod potel gyda bwyd, gan ychwanegu at y gwastraff plastig yn ogystal â diffyg maeth mewn llawer o ysgolion? Gyda thraean o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi, mae'n hanfodol fod y bwyd sy'n cael ei weini yn yr ysgol o ansawdd uchel. I lawer dyma'r unig bryd y byddant yn ei gael. Mae'r holl ymchwil ar newyn bwyd yn ystod gwyliau ysgol yn dweud hynny wrthym. Dylai bargen fwyd olygu prif bryd bwyd gydag o leiaf ddau lysieuyn a phwdin o ryw fath, a dyna fy her i Gaerdydd.

Eto i gyd, mae'r wasgfa ar gyllidebau awdurdodau lleol, a staff arlwyo, sydd heb eu hyfforddi'n ddigonol mewn llawer o achosion yn fy marn i, yn peri iddynt roi pris o flaen ansawdd. Y llynedd, mae'n drist gennyf ddweud, rhoddodd Sir y Fflint ei wasanaeth arlwyo ar gontract allanol i gwmni masnachu hyd braich newydd a chael gwared ar wasanaethau ardystio Cymdeithas y Pridd. Hyd yma nid oes llawer o wahaniaeth wedi bod i blant, ond mae'n amddifadu Sir y Fflint o'r fframwaith i symud ymlaen nid yn ôl. Mae'r Gweinidog Addysg wedi datgan yn glir fod pob awdurdod lleol a llywodraethwr ysgol yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â Mesur Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion (Cymru) 2009. Mae rheolwr gyfarwyddwr Arlwyo a Glanhau NEWydd Sir y Fflint yn fy sicrhau bod ganddynt olrheiniadwyedd llawn ar gyfer popeth a ddefnyddiant, a'u bod wedi torri'r cysylltiad â Chymdeithas y Pridd am na allant gael cyflenwyr i ddarparu'r meintiau sydd eu hangen arnynt, yn ogystal ag ar sail cost. Ond mae'r penderfyniad hefyd yn deillio o'r ffaith fod yr arweinydd arlwyo llawn gweledigaeth wedi gadael. Dof yn ôl at Oldham: os gall Oldham gyflawni, pam na all Cymru?

Nid yw ardystiad Cymdeithas y Pridd ond yn un ffordd ymlaen, ond dyna y mae mwyafrif yr ysgolion cynradd a rhai ysgolion uwchradd yn ei ddefnyddio yn Lloegr, a'r hyn y mae'r Alban yn ei wneud yn ei huchelgais i ddod yn genedl bwyd da. Fe'ch gwahoddaf i gymharu'r hyn y mae disgyblion yn eich etholaeth yn ei fwyta o'i gymharu â'r hyn a gaiff ei gynnig i ddisgyblion yn Ffrainc, yn Sbaen, yn yr Eidal ac yng Ngwlad Groeg. Ble mae ein huchelgais ar gyfer ein plant? Naill ai mae'n rhaid i ni fabwysiadu fframwaith Cymdeithas y Pridd ar gyfer sicrhau gwelliant radical, neu ddyfeisio rhywbeth gwell. Ni allwn aros yn ein hunfan. Nid yw peidio â newid yn opsiwn.

16:40

Cefais olwg ar ganllawiau 2013 i baratoi ar gyfer y ddadl hon, ac roedd yr hyn a ddarllenais yn fy atgoffa, mewn gwirionedd, o lawer iawn o giniawau ysgol hen ffasiwn, sef cig a llysiau, a chwstard yn bwdin. Yn amlwg, nid oedd dim yn yr hen ddyddiau, os gallwch ei roi felly, yn ymwneud â llysieuaeth neu feganiaeth—nid oeddent wedi'u dyfeisio bryd hynny. Mae'n debyg bod llawer mwy o halen yn y dyddiau hynny hefyd. Ond gallaf weld bod y pethau yr ystyriwn eu bod yn arferion gwael, fel cacennau a bisgedi, yn dal i gael eu caniatáu ar fwydlenni Cymru ar yr amod nad ydynt yn cynnwys melysion. Felly, mae'n debyg fod hynny'n golygu eich bod yn dal i allu cael cwci maint eich pen cyhyd â'i fod yn llawn resins yn hytrach na siocled. Ac wrth gwrs, doedd neb yn gwybod beth oedd cwci yn y 1960au a'r 1970au, felly mae pethau yn bendant wedi gwella, neu wedi gwaethygu—penderfynwch chi. Nid wyf yn credu bod yna ganllawiau ers talwm, ond mae eu hangen arnom yn awr, mae hynny'n sicr.  

O dra-arglwyddiaeth bwydydd a weithgynhyrchwyd a newid pethau fel melysion a chreision o statws danteithion achlysurol i statws byrbryd diofal neu hyd yn oed yn lle prydau bwyd mewn rhai achosion, i dwf diwylliant prydau parod a cholli sgiliau coginio—rhywbeth pwysig yn fy marn i—mae llwyth o resymau sydd wedi ein symud ymlaen o'r tocyn traddodiadol iawn hwnnw, drwy'r cyffro o gyflwyno tatw stwnsh wedi rhewi. A ydych chi'n cofio hwnnw ar fwydlen yr ysgol? Ein cyffro pan gyflwynwyd Smash. Ac yna i'r oes honno wedyn pan oedd cylchau sbageti yn cael eu hystyried yn ffurfiol yn llysieuyn—tipyn o liw cryf ar blatiaid llwydfelyn.

Ond rydych yn llygad eich lle, Jenny, nid ni yw'r unig wlad sydd â chanllawiau ar gyfer prydau ysgol, ond byddech yn synnu faint o wledydd yr UE nad ydynt yn meddu arnynt. Norwy, Denmarc, yr Iseldiroedd—rydym yn edrych ar y llefydd hyn am syniadau diddorol iawn. Tra bod eraill, fel yr Almaen, yn dilyn patrwm tebyg i ni, buaswn yn dweud, ac yn debyg i Loegr. Efallai bod yr Alban ychydig yn fwy uchelgeisiol, gyda rhestri o'r hyn a ganiateir, yr hyn y cyfyngir arno, yr hyn a anogir a'r hyn sy'n rhaid ei ddarparu, gyda chyfarwyddyd yn y rhan fwyaf o achosion, ar feintiau maetholion gwahanol, gan gynnwys mwynau a fitaminau.

Mae Ffrainc, wrth gwrs, yn gwneud yn fawr o'i chryfderau gyda pholisi ar gyfer pryd dau gwrs ynghyd â saig ychwanegol, yn ogystal â chynnyrch llaeth ychwanegol—sy'n fy nharo i'n uchel-ael iawn. Ond credaf fod y Ffindir wedi gwneud rhywbeth diddorol iawn a gallai roi rhai syniadau i'n hathrawon, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut y gallent gynnwys profiad plant o fwyta bwyd ysgol yn y maes dysgu a phrofiad ar lesiant. Oherwydd, i raddau, mae ganddynt ganllaw tebyg i'r math rwyf newydd ei ddisgrifio, ond prif fyrdwn eu polisi yw'r plât enghreifftiol. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwybod amdano. Mae'r plât enghreifftiol, sydd i'w weld yn y ffreutur, i fod i annog, neu i ddylanwadu yn y bôn, ar blant ysgol ynglŷn â sut i lenwi eu plât eu hunain pan fyddant yn cyrraedd y ciw cinio. Yn yr achos hwn, mae'n cynnwys hanner plât o lysiau wedi'u coginio'n ffres, chwarter o datws, reis neu basta, a chwarter o gig, pysgod neu brotein nad yw'n deillio o anifail. Gyda hynny, gall y plant gael llaeth a dŵr, bara menyn os ydynt ei eisiau, a ffrwythau'n bwdin. Yn anaml, cynigir pwdinau fel cacen pan na fydd y prif gyrsiau'n cyrraedd y gwerth caloriffig llawn am ryw reswm. Felly, maent yn ddanteithion go iawn.  

Ond yr hyn sydd yr un mor bwysig, rwy'n meddwl, yw canllawiau'r Ffindir sy'n dweud bod yn rhaid i'r bwyd gael ei gyflwyno'n atyniadol, ar y tymheredd cywir, gan staff sy'n parchu'r plant, ond sydd hefyd yn parchu'r bwyd. Felly, nid llwytho stwff i hambyrddau plastig a wneir. Rwy'n meddwl mai rhywbeth arall sy'n ddiddorol o'r Ffindir yw bod eu prydau ysgol yn costio 8 y cant o'r gyllideb addysg i'w darparu. Mae prydau ysgol am ddim yn y Ffindir, nid dyna yw fy mhwynt—ond y gost sylfaenol o ran yr hyn a wariant yn darparu bwyd o'r fath gydag ansawdd maethol o'r fath.

Yma, lle mae gan ysgolion yr un ymrwymiad i ddarparu bwyd maethlon, a lle gallant adennill rhywfaint o'r arian, clywsom dystiolaeth gan y comisiynydd plant—roeddem yn sôn am blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim—maent yn cael prydau sy'n werth £2 yn unig, neu ychydig dros hynny. Ni all ysgolion wneud elw ar eu bwyd, felly dyna yw ei gost. Rwy'n meddwl mai'r enghraifft a roddwyd yn adroddiad y comisiynydd plant yw bod tafell o pizza yn costio £1.95. Nid wyf yn siŵr iawn pam y mae'n costio £1.95 pan allwch godi 67c am bryd o fwyd iawn, ond yn sicr nid yw'n bodloni'r canllawiau maeth.  

Fel y dywedoch chi, mae awdurdodau lleol yn cael arian, wedi'i lapio yn y grant cynnal refeniw, sy'n seiliedig ar nifer y plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Po uchaf y nifer, y mwyaf fydd y cyfraniad i'r grant cynnal refeniw. Mae ysgolion yn cael grant datblygu disgyblion ar gyfer yr un disgyblion. Felly, sut ar wyneb y ddaear y gall ysgol beidio â chael ei chosbi am gynnig bwyd gwerth £2? Rwy'n credu ei fod yn fethiant polisi yn yr achos arbennig hwnnw. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwybod, Weinidog, neu os gallwch ddweud wrthym, faint sy'n mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw fesul disgybl sy'n cael prydau ysgol am ddim a faint ohono sy'n dod allan o'r grant cynnal refeniw wedyn i ddarparu'r prydau maethlon y mae pawb ohonom am eu gweld. Rwy'n tybio ein bod filltiroedd i ffwrdd o'r Ffindir, sef 8 y cant o'r gyllideb addysg—rwy'n siŵr na allwn fforddio hynny.

Hoffwn orffen drwy ddweud bod y canllawiau'n gynhwysfawr ond nad oes dyletswydd i lynu wrthynt, ar wahân i hyrwyddo bwyta'n iach a darparu dŵr yfed. Felly, rydym yn ôl gyda disgwyliadau yn hytrach nag ymrwymiadau. Felly, rwy'n chwilfrydig i glywed gan y Gweinidog am yr hyn y gallwch ei wneud pan fydd ysgolion yn cael eu dal yn anwybyddu'r canllawiau'n gyson. Diolch.    

16:45

I lawer o blant, gan gynnwys llawer yn fy etholaeth i, eu hysgol yw prif ffynhonnell eu bwyd yn ystod y tymor. Y prydau brecwast a hanner dydd a ddarperir mewn ysgolion yw'r unig brydau a gânt, gyda dim ond byrbrydau gartref ar ben hynny. Bydd plant yn mynd i'r ysgol yn y bore heb fwyta'n iawn ers eu pryd canol dydd yn yr ysgol y diwrnod cynt. Nid rhianta gwael yw hyn, tlodi yw hyn, canlyniad cyni a chreulondeb y credyd cynhwysol. I lawer o blant, y brecwast a'r cinio a gânt yn yr ysgol yw'r unig fwyd iach y byddant yn ei fwyta y diwrnod hwnnw. Drwy wella prydau ysgol, rydym nid yn unig yn darparu cymorth maethol pwysig, ond rydym hefyd yn helpu plant i fod mewn sefyllfa well i fwydo eu meddyliau a dysgu.

Diolch. Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch am blant sy'n byw mewn tlodi, ond mae plant o deuluoedd eithaf cefnog yn cael llond llaw o arian a'u hel i'r siop sglodion amser cinio. Felly nid wyf yn meddwl y gallwch ei roi mewn un categori o blant yn unig.

Fe ddof at rywbeth tebyg iawn i hynny yn nes ymlaen.

Mae canolbwyntio ar yr hyn a addysgir mewn ystafell ddosbarth yn llawer anos pan fyddwch yn llwglyd a bod yr angen am fwyd yn bwysicach na dim a addysgir i chi yn yr ystafell ddosbarth. Dyna pam rwy'n cefnogi'r ddadl hon heddiw a pham y credaf ei bod yn bwysig dros ben i blant gael digon o fwyd yn yr ysgol a chael prydau iach i'w bwyta.

Y sefyllfa bresennol yw bod Rheoliadau Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 yn amlinellu bwyd a diodydd sy'n addas i'w darparu mewn ysgolion a gynhelir. Mae hyn hefyd yn cynnwys bwydydd a ddarperir fel rhan o'r cynllun brecwast am ddim. Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ddarparu gwybodaeth am y camau a gymerwyd ganddynt i hybu bwyta ac yfed iach i ddisgyblion yn eu hadroddiadau blynyddol. Mae Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn adrodd wedyn ar gamau a gymerwyd gan ysgolion i Weinidogion Cymru.

Yn gyntaf, rwyf am ganolbwyntio ar bryd canol dydd yr ysgol, neu ginio ysgol, fel y'i gelwir gan lawer. Un o'r nifer o bethau sy'n wahanol rhwng pobl fel fi a'r cyfoethog yw fy mod yn galw'r pryd canol dydd yn 'dinner' ac maent hwy'n ei alw'n 'lunch', ac mae eu prif bryd bwyd hwy, 'dinner', yn digwydd gyda'r nos pan fyddaf i'n cael te. Rwy'n meddwl mai dyna'r gwahaniaeth, a phwynt gafodd ei wneud gan Suzy Davies: efallai y byddant yn cael arian i fynd i gael rhywbeth, ond maent yn cael prif bryd bwyd pan fyddant yn cyrraedd adref, oherwydd mae'r lefel honno o gyfoeth gan eu rhieni.

16:50

Yn sicr, ond nid wyf yn credu y gallwch neidio i'r casgliad hwnnw, Mike—os cymerwch yr ymyriad—oherwydd weithiau nid yw'r rhieni hynny gartref a'r hyn a welwch yw 85 o bacedi creision ar lawr.

Wel, fe ddefnyddiaf y gair 'llawer', ac felly efallai y gallwn gyrraedd pwynt lle'r ydym yn cytuno.  

Fe ofynnaf dri chwestiwn: beth sy'n digwydd pan fydd y plant yn sâl neu ar wyliau o'r ysgol? Bryd hynny, mae'n rhaid i rieni ddod o hyd i 10 pryd ychwanegol yr wythnos i bob plentyn. A oes ryfedd mai gwyliau ysgol yw'r amseroedd prysuraf i fanciau bwyd? Byddaf bob amser yn cofio'r fam a ddywedodd wrthyf gymaint roedd hi'n casáu gwyliau ysgol, nid oherwydd ei bod angen gofal plant, ond oherwydd y gwyddai faint o fwyd ychwanegol y byddai ei angen arni dros y gwyliau.

Yn ail, mae'n fwy na phrydau ysgol yn unig. Mae Sefydliad Maetheg Prydain yn dweud y gall ysgolion chwarae rhan bwysig yn hybu arferion bwyta iach ymhlith plant a sicrhau bod bwyd ysgol yn darparu prydau iach, cytbwys a maethlon gyda'r gyfran briodol o egni a maetholion sydd eu hangen ar ddisgyblion. Gall clybiau brecwast, siopau byrbrydau iach, prydau ysgol a phecynnau cinio wneud cyfraniad pwysig i'r egni a'r maetholion y mae plant yn eu cael. Mae'n hanfodol fod ffocws ysgol gyfan ar ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys y bwyd a ddarperir i ddisgyblion, yn ogystal â'r pwyslais a roddir ar fwyta'n iach a maeth ar draws gwahanol bynciau'r cwricwlwm. Mae'n bwysig fod darparwyr bwyd ysgol yn cydweithio a bod y gymuned ysgol gyfan, o benaethiaid i rieni, y cogyddion, yr athrawon a'r cynorthwywyr dosbarth i gyd yn cymryd rhan, er mwyn rhoi negeseuon cyson i blant allu gwneud dewisiadau iachach.

Yn drydydd, sut y mae bwyd iach o fudd i blant? Gall bwyta'n iach helpu plant i gynnal pwysau iach, osgoi problemau iechyd penodol, sefydlogi eu hegni a miniogi eu meddyliau. Gall deiet iach effeithio'n ddwfn hefyd ar ymdeimlad plentyn o les meddyliol ac emosiynol, gan helpu i atal cyflyrau fel iselder, gorbryder, anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia, ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Gall bwyta'n dda gynnal twf a datblygiad iach plentyn wrth iddo dyfu'n oedolyn a gall chwarae rhan yn lleihau'r risg o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc hyd yn oed. Os yw plentyn eisoes wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl, gall deiet iach helpu'r plentyn i reoli'r symptomau ac adfer rheolaeth ar ei iechyd.

Mae'n bwysig cofio nad yw plant yn cael eu geni'n ysu am sglodion a pizza ac yn casáu brocoli a moron, a bod babanod yn cael eu bwydo â llaeth, nid â siocled. Mae'r cyflyru hwn yn digwydd dros amser wrth i blant ddod i gysylltiad â mwy a mwy o ddewisiadau bwyd afiach sy'n llawn o halen a siwgr—pethau fel siocled—y maent yn dueddol o barhau i ysu amdanynt wedyn. Fodd bynnag, mae'n bosibl ail-raglennu ysfa plant am wahanol fwydydd fel eu bod yn ysu am fwydydd iachach yn lle hynny. Po gyntaf y cyflwynwch ddewisiadau iach a maethlon i ddeiet plant, yr hawsaf fydd hi iddynt ddatblygu perthynas iach â bwyd a all bara oes, gobeithio.

Yn olaf, mae angen inni sicrhau bod plant yn cael eu bwydo'n dda mewn ysgolion gan nad oes gennym reolaeth dros y modd y cânt eu bwydo yn unman arall. Ac felly mae angen i ni gael pethau'n iawn yn yr ysgolion, ac rwy'n falch iawn fod Jenny Rathbone wedi cyflwyno hyn ac rwy'n falch iawn o gefnogi'r cynnig.  

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Jenny am gyflwyno mater eithriadol o bwysig, yn enwedig ynglŷn â sicrhau bod dŵr ar gael i ddisgyblion.

Rwyf am sôn am brydau ysgol fegan. Rwy'n credu y gall prydau ysgol chwarae rhan bwysig yn iechyd ein plant, eu datblygiad a'u dewisiadau yn y dyfodol. Gan adeiladu ar hynny, credaf y dylai ysgolion gynnig dewisiadau sy'n seiliedig ar blanhigion yn rheolaidd heb fod rhaid i ddisgyblion orfod gwneud cais arbennig amdanynt. Hoffwn weld prydau fegan blasus, maethlon a phriodol ar fwydlenni dyddiol.  

Mae nifer y feganiaid yn y DU wedi codi'n gyflym ac mae mwy o fwytawyr hyblyg yn dewis bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion fel rhan o'u deiet. Mae gan feganiaid yn y DU hawl i arlwyo addas sy'n seiliedig ar blanhigion o dan gyfraith hawliau dynol a chydraddoldeb, er nad yw'n digwydd yn aml yn ymarferol. Mae ymchwil wedi cysylltu deietau fegan â phwysedd gwaed a cholesterol isel, yn ogystal â chyfraddau is o glefyd y galon, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser. Gallai datblygu cynefindra â bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion helpu i wrthbwyso arferion deietegol gwael, fel y rhai y mae Mike newydd sôn amdanynt, a ffurfir pan fyddant yn ifanc, ac sy'n cyfrannu at heriau iechyd y cyhoedd yn nes ymlaen. Mae deietau sy'n seiliedig ar blanhigion hefyd yn gynaliadwy. Fel unigolion, gallwn leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â bwyd hyd at 50 y cant drwy newid i ddeiet fegan o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, defnydd o dir a cherbydau, ac erydiad pridd. A'r llynedd, daeth ymchwil ym Mhrifysgol Rhydychen i'r casgliad efallai mai bwyta deiet fegan yw'r ffordd unigol orau o leihau eich effaith amgylcheddol ar y ddaear, ac mae'r Cenhedloedd Unedig wedi annog y byd i gyd i symud tuag at ddeiet heb gig a chynnyrch llaeth er budd y blaned. Dyma bethau y gwelsom bobl ifanc ar y strydoedd yn ymgyrchu drostynt, a chredaf y dylem gynnig opsiwn i'r bobl ifanc hyn allu dewis yn eu hysgolion, dewis nad ydynt yn ei gael yn aml fel y dywedais, a chynnwys hynny yn eu dewisiadau bwyta yn yr ysgol.

Mae hefyd yn wir fod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn gyfoethog mewn ffibr, nid ydynt yn cynnwys llawer o fraster dirlawn, maent yn cynnig cyfrannau lluosog o ffrwythau a llysiau, ac nid ydynt yn cynnwys cig wedi'i brosesu. Yn anffodus, rydym mewn sefyllfa lle mae'r pryd ysgol yn aml iawn yn sail i'r rhan fwyaf o ddeiet plant, ond ar ôl hynny gwelwn y banciau bwyd yn cymryd drosodd. Ac rydym i gyd yn gwybod bod banciau bwyd yn cynnig bwyd wedi'i brosesu, oherwydd natur yr hyn sy'n rhaid iddynt ei wneud er mwyn ei gadw. Felly, byddai'n help hefyd—. Nid wyf yn argymell bod pobl yn mynd i fanciau bwyd—mae'n wir mai dyna sy'n digwydd yn aml iawn. Felly, byddai cynnig deiet sy'n seiliedig ar blanhigion yn ddewis arbennig o dda i rai pobl ifanc.  

Mae hefyd yn rhoi cyfle mewn ysgolion i bobl ifanc weld bwyd yn cael ei dyfu yn eu hysgolion, oherwydd mae gan lawer ohonynt erddi bychain, gyda'r opsiwn o fwyta cynnyrch yr hyn y maent yn ei dyfu. A hefyd mewn rhai lleoliadau trefol, lle mae gennym erddi trefol, ni fydd y bwyd yn teithio'n bell iawn, felly byddai'n fanteisiol o ran maeth i'r bobl ifanc, ond hefyd o ran yr hinsawdd, bydd hefyd yn cynnal y gymuned honno, ac yn adeiladu cymunedau hefyd, oherwydd gall pobl ifanc fod yn rhan o'r gweithgareddau hyn. Gallwch wneud y bwyd yn fforddiadwy o fewn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol, ac mae ein pwyllgor—y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig—yn cynnal ymchwiliad i randiroedd ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Gallwn adeiladu rhai o'r canfyddiadau i mewn i ddadl fel hon heddiw, rwy'n credu.

Mae'r gwastraff wedi cael ei grybwyll heddiw. Wel, pe baech yn rhoi deiet sy'n seiliedig ar blanhigion i blant yn yr ysgol, byddech yn ailgylchu plicion, nid plastig.  

16:55

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jenny am godi'r mater pwysig hwn? Yn ddiamau, gall prydau ysgol iach gyfrannu at les disgyblion, eu cyrhaeddiad a'u hymddygiad cadarnhaol. Rydym wedi gwneud llawer o waith i sicrhau bod ein plant yn cael bwyd iachach yn ein hysgolion, ond rwy'n credu y gallwn wneud mwy.  

Mae gwella iechyd a lles plant yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwella cyrhaeddiad addysgol ein dysgwyr. Mae sicrhau bod plant yn cael bwyd iachach a maethlon yn yr ysgol yn bwysig er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn. Mae bwyd yn bwydo'r corff ac yn darparu tanwydd ar ei gyfer, ond mae hefyd yn bwydo'r ymennydd. Mae'n hanfodol er mwyn sicrhau lles plant, a phan fydd ein plant yn hapus a heb fod yn newynog yn yr ysgol, gallant ffynnu a dysgu go iawn.

A gaf fi achub y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i ddiolch i'r rhai yn ein hysgolion sy'n gweithio mor galed bob dydd i ddarparu'r prydau hyn i'n plant? Bydd llawer ohonoch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fod fy mam-gu wedi bod yn gogydd yn Ysgol Gynradd Blaenymaes yn Abertawe am flynyddoedd lawer; fe bliciodd lawer o datws i'r plant yno, ond gallaf ddweud wrthych iddi gael boddhad mawr yn darparu'r prydau hynny hefyd.

Mae'r Llywodraeth wedi cwblhau ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Yng Nghymru, gwyddom fod un o bob pedwar plentyn yn dechrau'r ysgol gynradd dros bwysau neu'n ordew, ac nid yw arferion bwyta bwyd a dirywiad yn y lefelau gweithgarwch corfforol yn newydd. Maent wedi cronni dros genedlaethau. A gwyddom hefyd fod cydberthyniad cryf iawn ag anghydraddoldeb iechyd. Ni chredaf y dylem adael i fwy o blant dyfu fyny ag arferion deietegol gwael neu ddiffyg gweithgarwch corfforol digonol yn eu bywydau bob dydd, ond rwy'n deall hefyd nad oes un ateb na ffordd syml o newid hyn. Mae gennym i gyd rôl i'w chwarae. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw erbyn mis Gorffennaf, a bydd strategaeth derfynol yn cael ei lansio ym mis Hydref, i nodi ein dull gweithredu 10 mlynedd a'n huchelgais i wrthdroi'r duedd.

Rwyf wedi ymrwymo i ddiweddaru ein rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion, a gyflwynwyd yn 2013, fel eu bod yn cynnwys arferion gorau a'r cyngor mwyaf cyfredol—er enghraifft, ar lefelau bwyta siwgr a ffibr yn ein deiet. Ond gadewch imi fod yn glir: awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r rheoliadau, a dylai unrhyw un sy'n ymwneud â darparu bwyd a diod mewn ysgolion a gynhelir fod yn ymwybodol o'r gofynion statudol os ydynt yn cynllunio bwydlenni, os ydynt yn prynu neu'n caffael bwyd a pharatoi bwyd a diod ar gyfer ein hysgolion. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gaffael bwyd mewn ysgolion, ac mae'r ddeddfwriaeth gyfredol ar gaffael eisoes yn caniatáu i ysgolion ac awdurdodau lleol gaffael cynnyrch o Gymru, ond nid yw'n gosod gofyniad i wneud hynny. Mae hyn er mwyn osgoi sefyllfaoedd a allai wneud y cyflenwad o gynnyrch mewn rhai achosion naill ai'n anfforddiadwy neu weithiau'n annigonol. Ond mae rhai awdurdodau lleol, yn enwedig ein rhai gwledig, eisoes yn caffael cynnyrch lleol i'w defnyddio yn eu hysgolion. Mae nifer o fanteision i hynny. Yn gynharach heddiw, clywais bobl yn siarad am filltiroedd bwyd a chynaliadwyedd, ond mewn gwirionedd, mae llawer o'r ysgolion hynny'n bwrw ati wedyn i ddefnyddio'r bwyd hwnnw fel ffordd arloesol o siarad am gynhyrchu bwyd a maeth bwyd fel rhan o'r cwricwlwm ysgol ehangach, ac rwy'n cymeradwyo dulliau ac arloesedd o'r fath gan yr awdurdodau lleol sy'n gwneud hynny. Fel yr amlinellodd Mike Hedges, dylai llywodraethwyr gyflwyno adroddiad ar fwyd ysgol i'r rhieni drwy eu hadroddiad blynyddol, ac mae'n ddarostyngedig i arolwg Estyn.

O ran dŵr, gadewch i mi fod yn gwbl glir—ni ddylai fod angen i mi fod, ond gadewch i mi fod yn gwbl glir—mae mynediad rhydd a hwylus at ddŵr yfed yn orfodol. Mae'n glir iawn fod hynny'n ofyniad yn adran 6 y Mesur Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn ôl yn 2009. Nawr, rwy'n ymwybodol o'r achos y cyfeiriodd y comisiynydd plant ato, er nad oedd y comisiynydd mewn sefyllfa i ddweud wrthyf pa ysgol ydoedd oherwydd buaswn i neu fy adran yn sicr wedi bod mewn cysylltiad â'r ysgol honno. Heb y wybodaeth honno, fe atgoffais ac fe roddais wybod i bob ysgol a phob awdurdod addysg lleol am eu cyfrifoldebau ar hyn drwy gylchlythyr Dysg ar 13 Mawrth.

17:00

Fodd bynnag, buaswn mewn sefyllfa i ddweud wrthych fy mod wedi gweld dŵr yn cael ei wrthod yn un o'r ysgolion yr ymwelais â hi, ac yn breifat, buaswn yn falch o ddweud wrthych pa un ydyw. Ond rwy'n siŵr nad enghreifftiau unigol yw'r rhain. Roeddech yn sôn am Estyn yn gynharach, ac roeddwn am eich holi faint o sylw y credwch y mae Estyn yn ei roi i'r canllawiau ar fwyta'n iach, oherwydd pan oeddwn yn arolygydd lleyg, gallaf gofio cael fy ngheryddu gan y prif arolygydd nad oedd yn fater y dylem fod yn ei ystyried.

Wel, mae'n amlwg i mi, ac mae'n amlwg i Estyn, fod hwn yn fater y dylent fod yn adrodd arno—sut y mae ysgol yn sicrhau bod bwyd a diod iach ar gael i'r plant yn yr ysgol. Ac fel y dywedais, rwy'n siomedig iawn o glywed y byddai unrhyw ysgol yn cyfyngu ar fynediad plant at ddŵr yfed am ddim. Mae'n eithaf clir yn y Mesur ac fel y dywedais, ar 13 Mawrth eleni, drwy gylchlythyr Dysg, gwnaethom atgoffa pob AALl a phob ysgol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol i'r perwyl hwn.

Nawr, mae diwygio'r rheoliadau yn un cam gweithredu i sicrhau effaith gadarnhaol ar les, cyrhaeddiad ac ymddygiad plant. Mae adroddiadau diweddar, megis 'Siarter ar gyfer Newid' gan Gomisiynydd Plant Cymru, a'r ymchwiliad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar fwyd i blant yn y dyfodol, wedi tynnu sylw at faterion yn amrywio o newyn gwyliau, y soniodd Mike amdano, i ddyled prydau ysgol, y gwn ei fod wedi bod yn bryder i'r Aelod, Joyce Watson, a'r ffaith nad yw pawb sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn manteisio ar hynny. Mae'r rhain yn ffactorau sy'n ymwneud â thlodi ac sy'n effeithio'n sylweddol ar hapusrwydd a lles ein plant.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi rhoi nifer o gamau ar waith i gael gwared ar bryderon sy'n gysylltiedig â rhai o'r materion hyn, boed yn feddwl sut y gellir blaenoriaethu lles plant neu helpu i ddileu pryderon sy'n gysylltiedig â rhai o gostau'r diwrnod ysgol. Mae ysgolion hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn hybu patrymau ymddygiad cadarnhaol. Bydd y cwricwlwm ysgol newydd yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o'r ffactorau cyfrannol sy'n gysylltiedig â chyrraedd a chynnal pwysau corff iach, yn enwedig effaith bwyd a maeth ar iechyd a lles, a'r sgiliau i fabwysiadu ymddygiad iach. Gobeithio y bydd archwilio'r meysydd hyn o fewn y cwricwlwm, gan hwyluso profiadau newydd a datblygu sgiliau newydd yn y broses, yn cyfrannu at y dull ysgol gyfan ac at agweddau gydol oes dysgwyr at fwyd a bwyta.

Mae yna nifer o raglenni o fewn ysgolion Cymru y gellid eu cryfhau a'u halinio i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer yr agenda hon. Mae rhwydwaith Cymru o gynlluniau ysgol iach, rhaglen genedlaethol sy'n gweithredu yn y mwyafrif o ysgolion Cymru, yn ceisio hybu iechyd yn gyfannol, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae gan raglenni fel eco-ysgolion botensial i ysbrydoli plant i werthfawrogi'r amgylchedd, deall manteision bod yn yr awyr agored, annog tyfu bwyd ar gampws yr ysgol, yn ogystal â materion ehangach yn ymwneud â phlastig a diogelwch bwyd ac effaith cynhyrchu bwyd ar ein hagenda cynaliadwyedd.

Rhag i ni anghofio, mae Cymru wedi arloesi mewn nifer o feysydd sydd wedi bod o fudd i'n plant. Fe wnaethom arwain y ffordd yn y DU drwy gyflwyno ein cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn 2004. Ac rwy'n cyfaddef fy mod yn sgeptig ar y pryd, ond mae'r dystiolaeth a'r ymchwil ar effaith y polisi hwnnw'n glir: mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn i gyrhaeddiad addysgol y plant hynny. Bymtheg mlynedd ers ei gychwyn, mae'r cynllun yn rhan annatod o'n gwaith ehangach i wella bwyd a maeth mewn ysgolion a gynhelir. Ers 2017, rydym wedi ariannu rhaglen gwella gwyliau'r haf, ac ers hynny rydym wedi darparu £1 filiwn o gymorth i'r rhaglen, gan sicrhau bron i 4,000 o leoedd mewn cynlluniau gwella gwyliau'r haf ledled Cymru. Ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn darparu hyd at £900,000 i ymestyn y rhaglen ymhellach, gan alluogi awdurdodau lleol a phartneriaid i gynorthwyo mwy fyth o deuluoedd yr haf hwn.

Ddirprwy Lywydd, i gloi, rhaid i lesiant ein plant fod yn ganolog i'n system addysg gynhwysol, a hyrwyddo ac annog arferion bwyta da tra yn yr ysgol a'r gobaith yw y bydd mynd â'r arferion hynny adref yn gyfrifoldeb a rennir rhwng ysgolion a theuluoedd. Bydd annog plant i ddatblygu arferion bwyta da yn aros gyda hwy drwy gydol eu hoes ac yn eu helpu i ddatblygu'n unigolion hapus, hyderus ac iach fel y byddai pob un ohonom am ei weld.

17:05

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Allaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar brydiau ysgol iach? Wrth gwrs, mae taclo'r agenda gordewdra'n hanfodol, wrth gwrs, ac un agwedd ar hynny ydy beth sydd o dan sylw'r prynhawn yma, sef prydiau ysgol iach, lle, fel y mae'r Gweinidog yn ei ddweud, mae arferion oes yn gallu cael eu sefydlu a gobeithio cael eu hadeiladu arnyn nhw—os ydyn nhw'n arferion da, wrth gwrs.

Gaf i longyfarch Jenny Rathbone yn y lle cyntaf am feddwl am y syniad ac am wneud yr holl waith wrth gefn wrth gyflwyno'r ddadl prynhawn yma, a hefyd am olrhain yr holl weithgareddau sydd yn mynd ymlaen, gan ddechrau efo cynllun arbennig sir y Fflint—wrth gwrs, roedd hynna o ddiddordeb mawr—a phethau arloesol yn mynd ymlaen yn fanna? Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol mewn rhai ysgolion yn Abertawe mae'r plant hefyd yn gallu archebu beth maen nhw ei eisiau i ginio wrth gofrestru yn y bore, ond mae hynna'n gweithio'n dda iawn, yn ogystal â phopeth arall, achos, fel yr oedd Jenny'n ei ddweud, mae hyn yn fater i'r ysgol gyfan.

Hefyd, roedd Jenny'n pwysleisio pwysigrwydd tystysgrif Cymdeithas y Pridd er mwyn i ni allu cael y safon hanfodol yna o ddarpariaeth o'r bwydydd angenrheidiol i'n plant. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, caffael cyfrifol yn y lle cyntaf sy'n cydnabod gofynion iechyd a'r gofynion amgylcheddol, gan gynnwys caffael cyfrifol lleol, lle mae hynny'n gallu cael ei ddarparu.

Ac, wrth gwrs, roedd Jenny hefyd yn pwysleisio argaeledd dŵr yn rhad ac am ddim ac yn hawdd i'w gael, ac, wrth gwrs, gwnaeth y Gweinidog bwysleisio hynna hefyd. Wrth gwrs, mae hwnna'n hollol sylfaenol. Dŵr glân, hawdd i'w gael, sydd ddim yn costio dim byd: mae o'n ofyniad statudol. Dylai fo fod yn digwydd. Roedden ni'n clywed, wrth gwrs, y cyfathrebu nôl a mlaen p'un ai oedd hyn yn digwydd mewn pob ysgol ai peidio—dwi'n siŵr bydd yna ragor o fanylion i ddilyn—ond argaeledd dŵr allan o dap sy'n osgoi poteli plastig ac, wrth gwrs, osgoi prynu diodydd sydd yn llawn siwgr i’w hyfed. Felly, mae’r ddau bwynt yna’n hollol sylfaenol. Dŷn ni i gyd yn deall hynna; mae pawb rŵan yn deall hynna, buaswn i’n meddwl, ac mae eisiau gwarantu bod argaeledd dŵr glân yn rhad ac am ddim ym mhob ysgol, fel y mae’r Gweinidog wedi ei ddweud wrthon ni.

Wrth gwrs, cawson ni ambell i brofiad rhyngwladol gan Jenny, ac mae angen inni edrych i wledydd eraill am ddarpariaethau bendigedig mewn rhai ardaloedd. Ac, wrth gwrs, dyna beth ddechreuodd Suzy Davies yn ei chyfraniad hi, a diolch am ei chyfraniad hi hefyd, yn naturiol, yn olrhain rhai o giniawau'r gorffennol yn yr ysgolion—af i ddim ar ôl hynna i gyd—ond, wrth gwrs, profiad rhyngwladol, yn enwedig, yn yr achos yma, y Ffindir, eto yn arloesi, fel y mae’r Ffindir, mewn nifer o feysydd, yn arloesi, ac, wrth gwrs, yn gwario’r arian angenrheidiol i arloesi hefyd, mae’n wir i ddweud. Ond roeddwn i’n licio’r syniad yna o ddangos i’r plant beth mae plât iach o fwyd yn edrych fel. Mae hynna’n bwysig—ddim jest yn ei adael o'n hollol i fyny i ddewis y plentyn. Mae yna ddisgwyliad yn fanna o beth mae plât iach o fwyd yn edrych fel.

Gan symud ymlaen wedyn at gyfraniad Mike Hedges, wrth gwrs, roedd Mike yn pwysleisio pwysigrwydd y pryd o fwyd yn yr ysgol, jest rhag ofn fuasai’r plentyn hwnnw ddim yn cael unrhyw fwyd arall o gwbl y dydd hwnnw—o gofio cefndir tlodi, wrth gwrs, yn Abertawe, mae hynna’n agenda pwysig inni—eto, gan bwysleisio pwysigrwydd darpariaeth fwyd iach er lles a datblygiad y plentyn yn addysgiadol yn ogystal â thyfu’n blentyn iach. Ac eto roedd Mike yn mynd ar ôl yr angen am fwyd, darpariaeth fwyd, neu’r her i ddarparu bwyd i’n plant yn ystod gwyliau’r haf. Mae o yn bwnc cyson yn ardal Abertawe bob tro, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol yn yr haf. Ac, wrth gwrs, mi wnaeth Mike y pwynt dyw plant ddim yn cael eu geni i ddim ond hoffi siocled ac i gasáu llysiau—mae yna rôl ehangach, wrth gwrs, mewn darparu addysg a sut mae plant yn cael eu magu yn y byd yma, ond dwi’n credu bod hynny y tu allan i ganllawiau’r ddadl yma'r prynhawn yma.

Sydd yn ein dod â ni at gyfraniad gwerthfawr Joyce Watson, eto’n gwneud y pwynt ynglŷn ag argaeledd dŵr, ac, wrth gwrs, yn gwneud yr achos dros gael y dewis figan hefyd yn ein hysgolion—cael y dewis, mewn ffordd—a phwysleisio llysiau yn y ddarpariaeth o fwyd a maeth. A hefyd roedd Joyce yn ein hatgoffa ni am effeithiau beth rŷn ni’n ei fwyta yn gallu amharu neu ddylanwadu'n uniongyrchol ar ein hamgylchedd. Ac eto roedd Joyce yn gwneud y pwynt, fel y gwnaeth sawl un, fod pryd ysgol yn gallu dylanwadu ar arferion oes y plentyn wrth i’r plentyn dyfu i fod yn berson ifanc ac wedyn yn oedolyn—dŷch chi’n sefydlu arferion oes wrth ddechrau bwyta yn ein hysgolion ni. Ac, wrth gwrs, y pwynt arall diddorol oedd pan fo ysgolion yn tyfu’r cynnyrch i’w fwyta, ac, wrth gwrs, yn pwysleisio pwysigrwydd cynnyrch lleol, ond, yn addysgiadol, mae plant yn gallu gweld o le mae eu bwyd nhw’n dod, ac yn cyfeirio at ymchwiliad presennol cyfredol y pwyllgor newid hinsawdd ar randiroedd a’r pwysigrwydd yn y fan hynny o hefyd fod yn byw bywyd iach, bwyta bwyd iach a hefyd yn lleihau gwastraff bwyd. Bydd canlyniadau’r ymchwiliad yna i ddilyn allan o’r pwyllgor newid hinsawdd.

A'r Gweinidog i orffen—dwi wedi clustnodi rhai materion wnaeth hi gyfeirio atynt eisoes, ond eto’n ategu pwysigrwydd prydiau iach i hybu lles a datblygiad y plentyn, yn cydnabod cyfraniad y sawl sy’n paratoi bwyd, wrth gwrs, gan gynnwys aelodau eraill o’i theulu dros y blynyddoedd mewn ardaloedd o Abertawe mae rhai ohonon ni’n eu nabod yn dda iawn. Ond, wrth gwrs, mae’n bwysig cydnabod rôl allweddol y sawl sydd yn coginio bwyd yn ein hysgolion wedi'i wneud dros y blynyddoedd, achos yr agenda gordewdra ydy’r peth sylfaenol sydd yn gyrru hyn. Wrth gwrs, mae yna sawl elfen i’n hymateb ni fel cymdeithas i’r agenda gordewdra, fel y gwnaeth y Gweinidog ei amlinellu. Mae diweddariad ar y rheoliadau bwyta’n iach yn ein hysgolion ar y ffordd. Eto, roedd y Gweinidog yn pwysleisio pwysigrwydd caffael lleol. Cawson ni'r ddadl eto ynglŷn â darpariaeth dŵr am ddim, ac eto yn ein hatgoffa ni o'n hanes bod brecwast am ddim hefyd wedi dechrau yma yng Nghymru. Ac, i orffen, roedd y Gweinidog yn pwysleisio lles ein plant yn hyn i gyd, sydd yn hollol ganolog. Diolch yn fawr.

17:15

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Eitem 8 ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ar oedolion ifanc sy'n ofalwyr a galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig hwnnw.

Cynnig NDM7050 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mwy na 21,000 o oedolion ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru yn ofalwyr ifanc sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau.

2. Yn pryderu'n fawr fod cyrhaeddiad addysgol oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn sylweddol is na'u cyfoedion a'u bod dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar fyrder ag anghenion cymorth oedolion ifanc sy'n ofalwyr, yn ogystal â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan gynnwys:

a) canfod gofalwyr ifanc yn gynnar er mwyn eu helpu i gael cymorth yn rhwydd a lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg;

b) cyflwyno'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn genedlaethol ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith;

c) codi ymwybyddiaeth awdurdodau lleol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i hybu lles gofalwyr y mae angen cymorth arnynt; a

d) helpu gofalwyr ifanc i fanteisio ar addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gyflwyno cynllun teithio rhatach.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Ddirprwy Lywydd, braint ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yw agor y ddadl heddiw, a chodi i ddiogelu ein plant a hawliau pellach i gefnogi ein gofalwyr iau.

Mae'r cynnig sy'n cael ei drafod heddiw yn estyniad o'n gwaith blaenorol yma, a chyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ac adolygiad Donaldson. Fodd bynnag, mae ein cynnig yn mynd hyd yn oed ymhellach, gan gynnig bod y mwy na 21,000 o oedolion ifanc sy'n ofalwyr yng Nghymru yn cael eu cydnabod yn swyddogol am eu haberth, eu gwaith caled a'u gofal amhrisiadwy i deulu a ffrindiau, a hefyd yn cael y cymorth ymarferol sydd ei angen arnynt er mwyn gofalu am eu hiechyd a'u hanghenion eu hunain a ffynnu mewn agweddau eraill ar eu bywydau. Mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr ifanc sy'n ofalwyr ac nid ydym yn petruso rhag cymeradwyo polisi a gyflwynwyd yn gynharach gan y grŵp hwn a fyddai'n rhoi £60 yr wythnos i fyfyrwyr a phrentisiaid ifanc sy'n ofalwyr. Mae'r argymhelliad hwn gan y Ceidwadwyr wedi'i anwybyddu dro ar ôl tro a hoffwn ailadrodd fy nghefnogaeth, a chefnogaeth y grŵp hwn, i'r mesur hwn.

O ganlyniad i ymchwil pellach i realiti bywydau gofalwyr ifanc, rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o'r anawsterau anferth a chymhleth sy'n wynebu ein gofalwyr ifanc. Yn hollbwysig, mae ein hymchwil a'n hymgysylltiad â sefydliadau gofalwyr ifanc, fel Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth y Tywysog, wedi dangos bod angen fframweithiau cymorth pellach ar ofalwyr ifanc, a bod pob achos o ofalu a chefnogi aelod o'r teulu neu rywun annwyl arall yn wahanol.

Mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn amrywio o rai 14 i 16 oed mewn ysgolion—er i mi glywed yn ddiweddar am ofalwr ifanc wyth mlwydd oed—yn ceisio ymdopi â'u hymrwymiadau TGAU a thyfu drwy'r glasoed, i rai 18 oed yn y chweched dosbarth; a phobl 20 oed mewn prifysgolion a 24 a 25 oed yn ceisio addasu i ofynion bywyd fel oedolion a bywyd gwaith. Er fy mod yn llwyr gydnabod y gall y llwybr hwn amrywio yn dibynnu ar yr unigolyn, cytunir yn gyffredinol fod oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn llawer llai tebygol o fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant arall. Yn wir, yn ôl gofalwyr ifanc yng Nghymru, mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr deirgwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu categoreiddio fel pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ategwyd hyn gan y Comisiwn Archwilio, a ddaeth i'r casgliad, mor gynnar â 2010, fod gofalwyr ifanc rhwng 16 a 18 oed ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi bod yn NEET ers dros chwe mis. Ac yn ôl ymchwil Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, 'Time to be Heard Wales', y cymhwyster mwyaf cyffredin ymhlith ymatebwyr yr arolwg oedd gradd D mewn TGAU. Eto i gyd, Ddirprwy Lywydd, mae'r rhwystrau a'r heriau addysgol hyn wedi'u nodi ar gamau cynharach ar y daith drwy'r ysgol.

Yn 2014, daeth Prifysgol Nottingham i'r casgliad yn eu hadroddiad, 'Time to be Heard: A Call for Recognition and Support for Young Adult Carers', fod chwarter y gofalwyr ifanc wedi sôn am brofiadau o fwlio a cham-drin yn yr ysgol oherwydd eu rôl a'u cyfrifoldebau gofal. O ystyried y llu o ffyrdd y gall rhywun weithredu fel gofalwr, gall rhai cyd-ddisgyblion weld sefyllfa rhieni neu frawd neu chwaer gofalwr fel rhywbeth i chwerthin yn ei gylch—gwyddom am enghreifftiau o hynny—gan wneud iddynt deimlo cywilydd ac embaras dwfn.

Yn yr un modd, gall plant ysgol gam-drin a bwlio gofalwr ifanc os ydynt yn gweld eu bod yn helpu rhywun arall anabl, neu oherwydd eu perfformiad academaidd gwael, trafferthion ariannol, aeddfedrwydd emosiynol a nodweddion personoliaeth sy'n ymddangos fel pe baent yn gwrthdaro yn erbyn rhai aelodau eraill o'r dosbarth. Ni ddylai oedolion ifanc sy'n ofalwyr gael eu stigmateiddio a bod yn destun bwlio, ac wrth fynd i'r afael â'r ystadegau ar berfformiad academaidd ac addysgol, rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y dimensiynau cymdeithasol ac emosiynol sy'n dylanwadu ar y tueddiadau hyn a cheisio annog ysgolion a sefydliadau addysg bellach i ddatblygu ffyrdd ymarferol o gefnogi'r grŵp hwn sydd o dan anfantais ac yn agored i niwed.

Fel y nododd ymchwil gan yr Adran Addysg, y gofalwyr mwyaf agored i niwed yw'r rhai nad ydynt yn cael cymorth ac sydd â chyfrifoldebau sy'n anghymesur â'u hoed a'u haeddfedrwydd eu hunain. Fel yr argymhellodd Estyn, y dasg gyntaf i sefydliadau addysg yw nodi pa fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu a mynd ymhellach drwy lunio cofnod o gyfanswm y gofalwyr ifanc sy'n cyflawni gwahanol raglenni a chymwysterau addysgol gan jyglo'r cyfrifoldebau gofalu hyn yn y cartref. I ailadrodd, yr hyn sy'n nodweddu gofalwr ifanc yw bod eu cyfrifoldebau'n parhau dros amser a bod eu mewnbwn yn hanfodol i gynnal iechyd neu les aelod o'r teulu, neu ffrind yn wir.

Nawr, er mwyn cefnogi myfyrwyr yn y ffordd fwyaf priodol, mae angen nodi pwy yw'r gofalwyr hyn cyn gynted ag y bo modd. Am y rheswm hwn, fel Ceidwadwyr, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cardiau adnabod i ofalwyr. Bydd hyn o fudd iddynt drwy eu hatal rhag ailadrodd eu hamgylchiadau, sy'n golygu eu bod wedi'u gwahanu oddi wrth fywyd arferol yn yr ysgol neu mewn mathau eraill o addysg, a'u helpu i gyfathrebu'n well â gweithwyr addysgol ac eraill ym maes iechyd y gwelant nad oes ganddynt ddewis heblaw rhyngweithio â hwy.

Cafodd llwyddiant y canllawiau hyn ei gyfleu gan Goleg Gwent, sydd wedi datblygu strategaeth i roi cymorth penodol i ofalwyr ifanc o'r adeg cyn eu derbyn i'r adeg ar ôl iddynt orffen astudio. Hynny yw, mae darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol sydd â chyfrifoldebau gofalu yng Ngholeg Gwent yn gallu manteisio ar gymorth diduedd wedi'i deilwra ar eu cyfer er mwyn cynyddu eu profiad dysgu a'u cyflawniad i'r eithaf. Felly, o gofio'r hyn a ddywedwyd yma, hoffwn alw ar y Llywodraeth i ddefnyddio llwyddiant Coleg Gwent fel esiampl i sefydliadau addysg bellach er mwyn i ofalwyr ifanc gael cyfle nid yn unig i wella eu bywydau a llwyddo—. Gallem fynd ymlaen, mewn gwirionedd, i sôn am yr agweddau negyddol, ond pan welwch arfer da mewn maes, hoffwn ofyn am inni edrych ar hynny ymhellach, a chithau fel Llywodraeth, er mwyn cyflwyno hynny ledled Cymru fel na fydd yr un gofalwr yn methu cael cymorth ychwanegol o'r fath.

Yr ail bwynt allweddol yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol ledled Cymru ddysgu cydnabod bod yn rhaid cyflwyno'r cardiau hyn yn orfodol a bod yr holl bartïon perthnasol, megis y proffesiynau iechyd ac addysg, yn deall y cardiau adnabod yn iawn, yn ogystal â'u goblygiadau. Dylid cyflawni hyn drwy lansio ymgyrch effeithiol cyn i'r cardiau adnabod gael eu cyflwyno. Dylai athrawon a gweithwyr gofal iechyd—ymysg eraill—fod yn ymwybodol o'r cerdyn a'i ddeall.

Nawr, oni bai eu bod yn orfodol a rhywfaint o ddyletswydd statudol yn eu cylch, mae gennym dystiolaeth sy'n awgrymu na fydd y cardiau'n cael eu cyflwyno'n llawn ar draws yr holl awdurdodau lleol. Pam y dylem weld un awdurdod yn bod yn dda iawn, ac awdurdod arall nad yw'n trafferthu ei wneud? Felly, mewn gwirionedd, o ran unffurfiaeth a chysondeb, mae'n hanfodol fod yna ddyletswydd statudol ynghlwm wrth hyn. Oni bai fod y cardiau hyn yn orfodol, mae perygl y bydd amrywiadau rhanbarthol yn peri annhegwch, ac y collir manteision y cardiau os bydd awdurdodau lleol yn dewis peidio â'u cymeradwyo.

Yn wir, mae'n hanfodol hefyd fod awdurdodau lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sydd wedi'i hymestyn. Rydym bellach yn 2019, felly beth am weithio gyda'r ddeddfwriaeth honno a'i gwneud yn ystyrlon? Mae angen iddynt gyfathrebu'n well â'r cyhoedd ynglŷn â'r hyn y mae'r Ddeddf hon yn ei olygu a sut y gallai fod o fudd i'n gofalwyr ifanc. Mae angen i awdurdodau lleol ar draws Cymru sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael asesiad gofalwr amserol er mwyn iddynt allu eu cynorthwyo gyda'r heriau a wynebant drwy roi gwybodaeth a chyngor iddynt a'u cyfeirio i'r mannau y mae angen iddynt fynd. O gofio bod dros 50 y cant o oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn dioddef problemau iechyd meddwl—mae hwnnw'n ffigur enfawr—mae'n hanfodol cynnwys cymorth lles. At hynny, fel y crybwyllwyd yn flaenorol, y prif faes ar gyfer gwella yw addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, gan mai dyma lle mae gofalwyr ifanc yn dangos tangyflawniad sylweddol o gymharu â phobl ifanc nad ydynt yn ofalwyr.

Yn y Llywodraeth ac mewn awdurdodau lleol, a llawer o fannau lle caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, rydym yn siarad llawer, onid ydym, am gydraddoldeb yn gyffredinol. Dyma enghraifft glasurol. Ni allwch gael sefyllfa lle mae gan 50 y cant o ofalwyr ifanc anghenion iechyd meddwl, ac nad yw'r rheini'n mynd i gael sylw. Dyma faes sy'n gallu gwella eu hymdeimlad o gyflawniad a hunan-barch drwy sicrhau llwyddiant a chyfle i wneud cynnydd yn eu dewis faes gwaith. Drwy fabwysiadu'r fframweithiau hyn mewn lleoliadau addysgol, gobeithir y bydd nifer y rhai yn y grŵp hwn sy'n gadael y brifysgol cyn pryd yn gostwng.

Dylai cyflwyno cynllun teithio rhatach fod yn rhan annatod o'r rhaglenni hyn, eto er mwyn goresgyn y rhwystrau ariannol y gallai gofalwyr ifanc eu hwynebu wrth fynychu lleoliad addysg bellach. Yn ôl y Sefydliad Dysgu a Gwaith, mae 24 y cant o oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn credu mai cyfyngiadau ariannol yw'r hyn sy'n eu hatal rhag mynychu lleoliadau addysg bellach mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, nid yw'r cynllun tocynnau consesiwn ond yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl 60 oed a hŷn, cyn-filwyr a phobl anabl, ac unwaith eto, nid yw hyn yn ystyried pa mor hanfodol yw gofalwyr ifanc yn ein cymdeithas, a sut y mae eu cyfraniad ar y cyd â gofalwyr eraill yn arbed £8.1 biliwn y flwyddyn i'n heconomi yma yng Nghymru.

Felly, heddiw, Ddirprwy Weinidog a Dirprwy Lywydd, galwaf ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r argymhellion a gynigir heddiw er mwyn parhau i flaenoriaethu anghenion ein hoedolion ifanc sy'n ofalwyr, sicrhau eu bod yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i barhau â'u rôl anrhydeddus a chael y cyfle gorau i greu bywyd llwyddiannus a boddhaus. Yn bersonol, rwy'n edrych ymlaen at Wythnos y Gofalwyr sydd ar y ffordd, a gwn fod yr Aelodau ar y meinciau hyn yn edrych ymlaen ati hefyd. Mae gennym lawer o asiantaethau trydydd parti yn gweithio'n galed iawn i dynnu sylw at y materion a nodais yma heddiw. Mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw ysgwyddo eu cyfrifoldebau ei hun mewn perthynas â hyn. Cefnogwch ein cynigion yma heddiw. Diolch.

17:25

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Ym mhwynt 3b, dileu 'ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith' a rhoi yn ei le 'a gweithio gydag awdurdodau lleol i roi’r cerdyn ar waith'.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Dai.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

'sicrhau bod darpariaeth gofal seibiant yn gwella er mwyn i ofalwyr ifanc allu cael hoe.'

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n bles iawn i allu cyfrannu i'r ddadl yma ar oedolion ifanc sy'n ofalwyr, ac yn symud y gwelliant ar bwysigrwydd gofal seibiant i ofalwyr ifanc.

Wrth gwrs, mae Janet Finch-Saunders wedi disgrifio'r tirlun i ofalwyr ifanc yn dda iawn. Fe af i ddim i ymhelaethu ar hynny. Ond, hefyd dwi'n cyfrannu y prynhawn yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, achos ar hyn o bryd mae’r pwyllgor iechyd yn cynnal ymchwiliad i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar ofalwyr. Mae’r pwyllgor wedi gorffen casglu tystiolaeth ac mae’r gwaith o lunio adroddiad wedi dechrau, gyda’r bwriad o’i gyhoeddi cyn toriad yr haf yma, felly nid ydym am achub y blaen ar unrhyw un o ganfyddiadau’r pwyllgor yn y ddadl yma.

Fodd bynnag, fel rhan o’r ymchwiliad yn gynharach eleni, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc—sef 31 Ionawr eleni—neilltuodd y pwyllgor iechyd ddiwrnod i glywed barn gofalwyr ifanc ar ba mor dda y mae’r Ddeddf yn gweithio iddyn nhw. Gwnaethom ni siarad efo grŵp o ofalwyr ifanc rhwng 10 mlwydd oed a 22 mlwydd oed o bob cwr o Gymru, ac, yn y cyfraniad byr hwn, fe wnaf i amlinellu rhai o’r materion allweddol a glywodd y pwyllgor sy’n wynebu gofalwyr ifanc yng Nghymru heddiw.

Mae gan lawer o ofalwyr ifanc gyfrifoldebau sylweddol, o ran gofalu am y person sydd â salwch neu anabledd, ac o ran gofalu am aelodau eraill o’r teulu. Gall hyn gynnwys rhoi cymorth emosiynol yn ogystal â chymorth ag anghenion iechyd, symudedd a thasgau domestig. Mewn rhai achosion, gall hyn gymryd amser sylweddol, sy’n effeithio ar addysg gofalwyr ifanc yn ogystal â’u bywyd cymdeithasol a’u hamser hamdden. Mae effaith gofalu ar blant a phobl ifanc yn sylweddol, ac mae gofalwyr ifanc yn wynebu rhagolygon gwaeth na’u cyfoedion, er enghraifft o ran swyddi a chael mynediad at addysg uwch.

Mae nifer y gofalwyr ifanc yn cynyddu, a hynny law yn llaw efo cymhlethdod eu hanghenion. Mae cynlluniau i gefnogi gofalwyr ifanc yn chwarae rhan hanfodol wrth hwyluso gweithgareddau hamdden a chyfleoedd i ofalwyr ifanc gwrdd a rhannu eu profiadau a chefnogi ei gilydd. Maent yn cefnogi gofalwyr ifanc sydd, ar gyfartaledd, yn darparu rhwng 15 ac 20 awr o ofal bob wythnos.

Mae ymagwedd awdurdodau lleol tuag at asesu anghenion gofalwyr ifanc o dan y Ddeddf hefyd yn amrywio. Nid yw rhai gofalwyr ifanc wedi cael asesiad o'u hanghenion eu hunain, ac mae eraill wedi'u hasesu yn ddiarwybod iddyn nhw. Dylid asesu anghenion gofalwyr ifanc yng nghyd-destun y teulu, nid ar wahân. Mae tystiolaeth gan gyrff y trydydd sector yn awgrymu bod y camau sy'n cael eu cymryd i flaenoriaethu gofalwyr ifanc wedi gostwng yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Gall yr ysgol fod yn ffynhonnell bwysig o gymorth i ofalwyr ifanc. Mae cael cymorth da yn yr ysgol yn aml yn dibynnu ar ymrwymiad athro unigol, ac mae ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn aml yn wael ar draws yr ysgol gyfan. Nid yw llawer o ofalwyr ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn yr ysgol ac nid yw pob gofalwr ifanc yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw yn y lleoliad yma. Mae rhai gofalwyr ifanc yn amharod i ddweud eu bod yn ofalwyr yn yr ysgol rhag ofn iddynt wynebu stigma neu fwlio, yn enwedig os ydyn nhw'n gofalu am berson efo problemau iechyd meddwl. Dywed gofalwyr ifanc ei bod yn bwysig cael rhywun yn yr ysgol y maen nhw'n teimlo y gallant ymddiried ynddo ac sy'n deall yr heriau sy'n eu hwynebu nhw, fel pobl ifanc efo dyletswyddau gofalu am bobl eraill.

Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno'r adroddiad pwysig hwn i'r Cynulliad yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.

17:30

Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon yn un rhadlon, lle bydd pob un ohonom yn edrych ar wahanol ffyrdd o gefnogi aelodau o'r boblogaeth y mae gan bawb ohonom ddiddordeb arbennig ynddynt. Rydym yn aml yn canmol nyrsys ac athrawon a gweithwyr gofal, a gweithwyr dur hyd yn oed, ond rwy'n credu bod ein gofalwyr di-dâl, yn enwedig ein gofalwyr ifanc, yn haeddu sylw arbennig gennym fel Aelodau Cynulliad.

Felly, fe wnaf i groesawu gwelliant Dai Lloyd. Rŷm ni'n mynd i gefnogi hwnnw, ac rydym yn edrych ymlaen at yr adroddiad ymlaen llaw.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n siomedig iawn ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth. Gwn nad yw'n edrych fel fawr o newid ar yr olwg gyntaf, ond yr hyn a welaf fi yw enghraifft arall o rywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud dro ar ôl tro, sef defnyddio ei phwerau i 'ddisgwyl' yn hytrach na 'chyflawni'. Fe edrychais yn gyflym drwy Gofnod y Trafodion a gweld bod Gweinidogion wedi defnyddio'r gair 'disgwyl' 36 gwaith yn ystod sesiynau craffu yn 2019, ac rwy'n siŵr o fod wedi methu ambell un. Ond chi yw'r Llywodraeth. Nid oes raid i chi ddisgwyl; gallwch fynnu. Rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn o wybod, yn bersonol ac ar ran etholwyr, y gallai'r Llywodraeth wneud rhywbeth, pan fydd cytundeb llwyr ar bolisi ar bob ochr yn y Siambr, ond ei bod yn dewis peidio. Felly, yn amlwg, rwyf wrth fy modd fod Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn helpu i gynghori'r Llywodraeth, ond nid yw hynny'n ymrwymiad i gyflwyno cerdyn adnabod yn gyson ledled Cymru. Gallwch hyrwyddo'r cerdyn adnabod hwn drwy bartneriaid rhwydwaith a chyfryngau cymdeithasol gymaint ag y mynnwch, ond os byddwch yn gadael hyn i ddisgresiwn cynghorau a'r grant cynnal refeniw, ni chaiff eich disgwyliadau mo'u bodloni.

Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n mynd i fynd ymhellach na Janet Finch-Saunders heddiw a'ch gwahodd i dynnu eich gwelliant yn ôl a defnyddio'ch pŵer i greu'r ddyletswydd y galwn amdani yn ein cynnig, a gwneud hynny dros y gofalwyr ifanc. Credaf y gallwch ei wneud heb orfod troi at ddeddfwriaeth fawr. Rydym eisoes yn amheus ynghylch statudau blaenllaw sy'n tueddu i roi loes a fawr o lawenydd: yr holl ddisgwyliadau na chafodd eu gwireddu gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac yn awr o bosibl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn seiliedig ar yr hyn a glywsom heddiw. A ddylem ddathlu ein deddfwriaeth sy'n seiliedig ar hawliau, deddfwriaeth yr ydym wedi bod yn falch ohoni, os nad yw'n cynnig atebion cyraeddadwy i'n hetholwyr? Rwy'n ofni bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol wedi siomi gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, er eu bod yn bendant iawn ym meddwl pob un ohonom pan basiwyd y ddeddfwriaeth honno gennym.

Felly, gadewch i ni droi at y pethau cadarnhaol. Mae'r wybodaeth ar y rhyngrwyd am wledydd eraill a sut y maent yn cydnabod ac yn cefnogi eu gofalwyr ifanc yn syndod o fach ac wedi'i chyfuno â gwybodaeth am ofalwyr yn gyffredinol. Wrth gwrs, ni fu'n bosibl imi ymchwilio i wefannau Llywodraeth pob gwlad ar y blaned yn y gwahanol ieithoedd, ond mae'n awgrymu, efallai, ein bod ni yn y DU, ac yng Nghymru yn enwedig, yn cydnabod ein dyled i ofalwyr ifanc yn fwy nag mewn rhannau eraill o'r byd, hyd yn oed os nad ydym yn diwallu eu hanghenion. Rydym o leiaf yn gwneud ymdrech.  

Mae'r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth drwy feddygfeydd meddygon teulu, sy'n gwahodd ymwelwyr i holi eu hunain a ydynt yn ofalwyr, yn un weladwy iawn. Credaf fod Ymddiriedolaeth y Gofalwyr a'r gwahanol fudiadau lleol fel Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i—sydd o dan fygythiad yn anffodus yn sgil tynnu arian yn ôl gan yr awdurdod lleol, penderfyniad sy'n peri dryswch—yn haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith a wnânt, nid yn unig o ran codi ymwybyddiaeth ond o ran gofalu am ofalwyr. Ond rydym yn canolbwyntio ar ofalwyr ifanc yn y ddadl hon ac rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn gallu dweud rhywbeth wrthym am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i helpu plant a phobl ifanc i adnabod eu hunain fel gofalwyr.

Hoffwn orffen drwy atgoffa am ein grant dyfodol gofalwyr ifanc ein hunain. Roedd yn bolisi a ddatblygodd y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl siarad yn uniongyrchol ag oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin ac Ymddiriedolaeth y Gofalwyr. Mae pob un ohonom yn chwilio am ffyrdd i gael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl ifanc rhag adeiladu'r dyfodol gorau iddynt eu hunain, ac yn gryno, byddai'r grant hwn yn disodli unrhyw lwfans gofalwr a gollir gan bobl ifanc mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16 amser llawn. Gwn fod yna systemau cymorth eraill, cronfeydd prifysgol a chronfeydd caledi, y grant oedolion dibynnol ar gyfer gofalwyr hŷn, ond nid oes dim y gallai oedolyn ifanc sy'n ofalwr ei gael fel hawl sy'n orfodadwy. Daw hynny â mi yn ôl at y pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach am y cerdyn adnabod. Rwy'n credu bod y grant dyfodol yn bolisi da, yn cefnogi dyhead, yn amlwg, i ofalwyr ifanc, ond yn hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod—ystyriwch cymaint o fenywod ifanc sy'n ofalwyr. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych heibio i'r rhosglwm glas y tro hwn ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r syniad hwn.

Yn olaf, rwyf am gyfeirio at Goleg Penybont, sydd â hyrwyddwr coleg ar gyfer myfyrwyr sy'n ofalwyr ac yn hollbwysig, maent yn gyfrifol am hyfforddi staff. Rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom yn ymwybodol, i ryw raddau, o'r lefelau cymysg o ymwybyddiaeth a geir yn y proffesiwn addysg o sut y gallant nodi pwy sy'n ofalwyr ifanc a'u cefnogi yn sgil hynny, felly rwy'n credu bod angen i Goleg Penybont ddangos sut y gellir ei wneud. Felly nid Coleg Gwent yn unig sy'n ei wneud; maent yn ei wneud yng Ngorllewin De Cymru hefyd. Diolch yn fawr iawn.

17:35

Mae hon yn ddadl bwysig yn wir. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwerthfawrogi'n fawr y rôl hanfodol y mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn ei chwarae yn cefnogi'r rhai y maent yn gofalu amdanynt, ac adlewyrchir hyn yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n darparu ar gyfer hawliau gwell i bob gofalwr yng Nghymru. Am y tro cyntaf, mae'r Ddeddf yn rhoi yr un hawliau i ofalwyr ag i'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Nid oes angen i ofalwyr ddangos mwyach eu bod yn darparu gofal sylweddol er mwyn i'w hanghenion gael eu hasesu a'u bod yn cael y cymorth sydd ar gael iddynt. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol bellach i hysbysu gofalwyr yn rhagweithiol ynglŷn â'u hawl i gael eu hasesu, ac ar ôl cwblhau'r asesiad hwnnw, mae'n rhaid iddynt roi trefniadau ar waith i ddiwallu'r anghenion a nodwyd a rhoi cynllun gofal statudol ar waith. Lle nad yw hyn yn digwydd, fe ddylai ddigwydd.

Mae'n adlewyrchu'r egwyddor fod gofalwyr, os cânt eu cefnogi'n effeithiol, yn darparu gwasanaeth ataliol yn eu hawl eu hunain, gan alluogi pobl sy'n eiddil, yn agored i niwed neu sydd â chyflyrau hirdymor i barhau i fyw gartref yn hirach fel aelodau o'u cymunedau lleol. Mae'r broses o weithredu'r Ddeddf yn dal ar gam cymharol gynnar, ac mae Llywodraeth Cymru drwy ei chamau gweithredu yn cydnabod yn llawn fod angen gwneud mwy i sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o'u hawliau. Fel y dywedwyd, mae grŵp cynghori'r Gweinidog wedi cael ei sefydlu i ddatblygu'r gwaith o weithredu'r Ddeddf yn rhagweithiol ac i oruchwylio'r tair blaenoriaeth genedlaethol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau gofalwyr.

Ac er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwell hawliau i ofalwyr Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu bron i £1.1 miliwn yn flynyddol i fyrddau iechyd lleol allu cydweithio â phartneriaid i gyflawni'r blaenoriaethau cenedlaethol hynny. Mae cyfran a dargedir o'r arian hwn wedi'i glustnodi'n benodol i gefnogi gofalwyr ifanc. Ac i gydnabod hynny, ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru £50 miliwn ychwanegol o gyllid i gefnogi gofalwyr ac oedolion ag anghenion gofal. Bydd yr arian ychwanegol newydd hwn yn hwb i gynnydd y gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau cenedlaethol hynny a bydd yn caniatáu i sefydliadau'r trydydd sector ymchwilio i ffyrdd o wella ansawdd a phriodoldeb cymorth seibiant i ofalwyr o bob oed yng Nghymru. Mae hyn yn hollbwysig.

Mae gofalwyr hefyd wedi'u cynnwys yng nghylch gwaith cronfa gofal integredig £60 miliwn Llywodraeth Cymru. Gellir defnyddio'r gronfa gofal integredig yn awr i ariannu gwaith arloesol sy'n cefnogi dull mwy integredig a chydweithredol ar gyfer gofalwyr a'u hanwyliaid, ac mae hynny'n gydnabyddiaeth. Felly, fel cenedl sydd â threftadaeth ddiwydiannol a'r gyfran uwch o salwch sy'n gysylltiedig ag etifeddiaeth o'r fath, gwyddom mai gan Gymru y mae'r gyfran fwyaf o ofalwyr yn y DU, mwy nag mewn unrhyw ranbarth yn Lloegr ar 12 y cant, a'r gyfran uchaf o ofalwyr hŷn ac o ofalwyr sy'n darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos. Felly, gyda'r cynnydd yn y boblogaeth hŷn, rydym yn debygol o weld mwy o bobl hŷn mewn rolau gofalu, gyda'r disgwyl y bydd nifer y gofalwyr dros 85 oed yn dyblu yn yr 20 mlynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau gofalwyr o bob oed, ac mae am gynorthwyo gofalwyr er mwyn iddynt allu cael bywyd y tu hwnt i'r cyfrifoldebau gofalu hynny. A gwn yn fy etholaeth fy hun, sef Islwyn, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ceisio mynd i'r afael yn rhagweithiol ag anghenion brys gofalwyr drwy amrywiaeth o fesurau arloesol, gan gynnwys cyngor ar ymdrin ag argyfyngau, a chynllun cerdyn argyfwng ynghyd â'r gwasanaeth seibiant byr i ofalwyr, sy'n galluogi gofalwyr i gael mwy o amser i allu mynychu eu hapwyntiadau eu hunain ar gyfer eu hanghenion iechyd eu hunain.

Fodd bynnag, ceir cydnabyddiaeth ar draws y Siambr fod angen gwneud llawer mwy eto mewn maes mor dyngedfennol a phwysig, yn enwedig i bobl ifanc Cymru. Ac o'r herwydd, byddaf yn cefnogi Wythnos y Gofalwyr yn Islwyn, ac mae honno'n rhan o ymgyrch ragweithiol flynyddol, fel y gwyddom, i godi ymwybyddiaeth o ofalu, amlygu'r heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniad a wnânt i deuluoedd a chymunedau ledled y DU. Gyda'r wybodaeth gywir, mae gofalu'n bosibl, ond mae'n anodd, ac os na chaiff ei gefnogi'n iawn, bydd yn anos byth os ydych yn blentyn. Felly, rwy'n achub ar y cyfle hwn i annog yr holl Aelodau sy'n bresennol i dynnu sylw at waith gofalwyr ifanc yn ystod Wythnos y Gofalwyr ym mis Mehefin ar draws eu hetholaethau a'u rhanbarthau.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, gwn y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i hybu hawliau gofalwyr ifanc, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at glywed pa gamau strategol pellach y gallwn eu cymryd yn y cyswllt hollbwysig hwn. Diolch.

17:40

Mae gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas. Boed yn ariannol neu'n gymdeithasol, ni ellir gorbwysleisio'r cyfraniad a wneir gan ofalwyr. Nid yn unig fod mwy o bobl yn gofalu, maent hefyd yn gofalu am gyfnod hwy o amser, ac mae nifer y bobl sydd angen gofal a'r rhai sydd angen gofal am gyfnodau hwy o amser wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn cydnabod i ba raddau y mae ein heconomi yn dibynnu ar ofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Pe na bai ond cyfran fach o'r bobl sy'n darparu gofal yn gallu gwneud hynny mwyach, byddai'r baich costau'n sylweddol.

I oedolion ifanc sy'n ofalwyr, mae'r ymdrech o geisio jyglo'r cyfrifoldeb am ofalu am rywun annwyl gyda'u haddysg, eu gyrfaoedd a'u perthynas â'u cyfeillion yn gallu effeithio'n barhaol ar eu dyfodol. Mae ein dadl y prynhawn yma'n ymwneud â chynorthwyo gofalwyr ifanc fel eu bod yn gallu parhau i wneud y gwaith hanfodol. Maent yn cael eu gwerthfawrogi cymaint. Rhaid inni ofalu am ofalwyr yma. Fel y dywedodd Janet yn gynharach, ceir mwy na 22,000 o ofalwyr ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru. Gall y pwysau sy'n wynebu'r bobl ifanc hyn oherwydd eu dyletswyddau gofalu effeithio'n negyddol ar eu hiechyd corfforol, iechyd meddwl, addysg a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau y prynhawn yma ar y rhwystrau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu ym myd addysg. Heb gefnogaeth, gallant wynebu anhawster i fynychu'r ysgol a gwneud cynnydd addysgol da. Mae tua un o bob 20 gofalwr ifanc yn colli ysgol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Mae eu cyrhaeddiad addysgol ar lefel TGAU gryn dipyn yn is, a hefyd mewn addysg uwch, ac maent yn fwy tebygol na'r cyfartaledd cenedlaethol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant rhwng 16 a 19 oed—sef yr hyn a elwir yn NEET mewn termau addysgol.

Mae'n gwbl annerbyniol, Ddirprwy Lywydd, fod cyfleoedd bywyd y bobl ifanc hyn yn llai, a hynny'n unig am eu bod yn gorfod gofalu am berthnasau sâl yn y rhan hon o'r byd. Os ydynt yn llwyddo i gyrraedd coleg a phrifysgol, mae mwy na'u hanner yn dweud eu bod yn wynebu anawsterau oherwydd eu rôl fel gofalwyr, ac maent yn ystyried rhoi'r gorau iddi. Mae angen i golegau a phrifysgolion wneud mwy i gydnabod a chefnogi anghenion gofalwyr ifanc. Tynnodd Ymddiriedolaeth y Gofalwyr sylw at y diffyg mecanweithiau ffurfiol i adnabod neu i gyfrif gofalwyr yn yr ysgol neu mewn addysg bellach ac uwch. Ceir rhai eithriadau nodedig. Mae gan Goleg Gwent, a grybwyllwyd yn gynharach, er enghraifft, strategaeth i adnabod gofalwyr ifanc cyn gynted ag y bo modd, fel bod modd darparu gwasanaeth cymorth wedi'i deilwra ar eu cyfer. Gobeithio y gall pob sefydliad yng Nghymru ddilyn eu hesiampl. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi gwneud nifer o argymhellion i gynorthwyo gofalwyr ifanc. Mae gofalu am eraill yn waith clodwiw. Ond mae 74 y cant o'r gofalwyr yng Nghymru eisoes wedi sôn eu bod yn dioddef salwch meddwl o ganlyniad i ofalu yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Yn fy sylwadau wrth gloi y prynhawn yma, hoffwn nodi mai un agwedd ar y gefnogaeth hon yw'r hawl i ofal seibiant hyblyg o safon uchel. Mae angen iddynt edrych ar ôl eu hunain. Mae edrych ar ôl aelod o'r teulu neu ffrind yn rhoi boddhad mawr ond hefyd yn hynod o heriol. Gall seibiant, hyd yn oed am ychydig ddyddiau'n unig, gynyddu lefel eich egni a'ch brwdfrydedd. Mae gwybod eich bod yn gallu dianc am seibiant yn gymhelliant mawr, yn enwedig pan fyddwch yn hyderus y bydd y person yr ydych yn gofalu amdanynt yn cael gofal da yn eich absenoldeb. Byddai hyn yn cael effaith enfawr ar iechyd a lles gofalwyr ifanc. Mae gofalwyr yn gwneud mwy nag erioed i gefnogi eraill. Ein dyletswydd foesol yw sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu.  

Ddirprwy Lywydd, cafodd fy ngwraig strôc y llynedd. Bu ond y dim iddi beidio â dod drwyddi. Roedd yn agos iawn at farw. Gwnaeth y GIG waith bendigedig. Rwy'n gwneud ychydig bach, nid wyf yn dweud fy mod i'n gwneud llawer. Rwy'n gofalu amdani. Yn y bore, rwy'n gwneud yn siŵr ei bod yn codi o'r gwely ac rwy'n gwneud cwpanaid o de ac yn gwneud yn siŵr ei bod wedi codi yn ystod y dydd. Gall gerdded o gwmpas a gwneud popeth ond mae hi'n dal i fod â rhai problemau meddyliol ar hyn o bryd. Rwy'n rhoi nodyn bach ar y plwg, 'Gwna'n siŵr dy fod yn diffodd y gwresogydd', 'Gwna'n siŵr dy fod yn diffodd y golau'. Pethau bach felly. Gwaith gofalwr ydyw. Rwy'n teimlo boddhad. Rwyf wedi bod yn briod ers dros 36 o flynyddoedd. I anwyliaid, rydych yn teimlo pleser yn ei wneud. Ond rwy'n meddwl, pan fyddwch yn hŷn, pwy sy'n mynd i edrych ar eich ôl chi? Y math yna o beth ydyw. I'r rhai ifanc ac i eraill, mae'n waith clodwiw. Mae'n ddyletswydd foesol arnom i sicrhau bod y Siambr hon yn cydnabod yr angen i ofalwyr gael gofal yn ein diwylliant a'n cymdeithas. Rhaid inni osod esiampl i'r byd a dangos mai ni yw'r gorau yn y byd yn hyn o beth. Diolch.

17:45

A gaf fi ddweud, ar ôl Oscar, fy mod yn credu iddo grynhoi'r teimlad sydd gan ofalwyr tuag at y person y maent yn gofalu amdanynt? Mae'n weithred o gariad dwfn ond mae'n weithred anodd hefyd. Rwy'n credu ei bod yn dda ein bod yn cofio'r cyd-destun y cyflawnir y gweithgareddau hyn ynddo.

A gaf fi ddechrau gyda sylw? Dyma'r ail wythnos y mae'r Prif Weinidog wedi eistedd drwy ddadl y Ceidwadwyr. Buom yn trafod e-chwaraeon yr wythnos diwethaf, ac rydym yn trafod oedolion ifanc sy'n ofalwyr yr wythnos hon. Credaf ei bod yn deg dweud nad yw Prif Weinidogion, yn draddodiadol, wedi manteisio bob amser ar y cyfle i ddysgu drwy aros i wrando ar ddadl gan y Ceidwadwyr. Ond rwy'n credu ei fod yn dangos bod y pleidiau lleiafrifol yn dod â phynciau gwirioneddol amhleidiol i'r Siambr sydd angen sylw a bod angen i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd. Felly, rwy'n falch iawn o weld bod y Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â'r ddadl hon.  

Roeddwn am sôn am nifer o bethau sydd eisoes wedi cael eu crybwyll, ond efallai y gallwn ymhelaethu ar y sylwadau a wnaed yn awr i sôn am yr angen am weithio amlasiantaethol. Mae'r gwahanol elusennau gofalwyr yn pwysleisio hyn. Rydym wedi clywed am y diffyg cymorth weithiau i ofalwyr ifanc yn yr ysgol, ac mai eu gradd ganolrifol mewn TGAU yn aml yw D. Mae hynny'n dangos eu bod yn agos iawn at gael gradd uwch. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w ystyried yn fanwl. Ac yna, pan fyddant mynd ymlaen at addysg bellach, yn aml nid ydynt yn cael cymorth, nid ydynt bob amser yn cael yr asesiad gofalwyr y mae ganddynt hawl iddo gan yr awdurdod lleol, ac nid yw pobl yn rhoi'r darlun at ei gilydd. A dyna sydd angen i ni ei ddatrys.  

Ond mae angen i'r pleidiau gwleidyddol wneud yr un peth. Un o'r rhwystrau mawr sydd gennym ar hyn o bryd yw'r modd y mae gofalwyr ifanc yn cael mynediad at addysg bellach ac addysg uwch. Gall roi diwedd ar eu hawl i'r lwfans gofalwyr os ydynt yn gwneud mwy na 21 awr o astudio. Rydym wedi clywed mai ein cynnig ni yw ceisio cael grant i gyfateb i hynny y gallem ei reoli, sef grant dyfodol gofalwyr ifanc. Byddai'n gostus iawn, ac mae'n flaenoriaeth y teimlwn yn ymrwymedig iawn iddi. Credaf fod angen inni anfon neges hefyd at Lywodraeth y DU fod angen edrych ar y ffordd y mae gofalwyr yn cael eu lwfansau amrywiol, ond yn enwedig y lwfans gofalwyr. Mae hefyd yn wir fod cyflogaeth ran-amser a hyd yn oed cyflogaeth wirfoddol, weithiau, sydd mor angenrheidiol i ofalwyr allu cael y cysylltiadau cymdeithasol hynny, yr ymdeimlad o lesiant a bywyd y tu hwnt i ofalu yn unig—mae'n bwysig tu hwnt ein bod yn cynnal hynny.  

Rydym wedi clywed ychydig y prynhawn yma am bwysigrwydd iechyd a lles gofalwyr ifanc. Mae hynny mor bwysig pan ydych yn oedolyn ifanc. Rydych yn ffurfio perthynas â phobl newydd, rydych yn chwilio am gyfleoedd newydd—mae'r pethau hyn i gyd yn digwydd. Ac rwy'n meddwl y byddai pawb ohonom yn dweud bod y cyfnod hwnnw o ieuenctid, yn ein harddegau hwyr a'n 20au yn amser gwerthfawr dros ben. Nid wyf yn credu bod dim byd gwell na bod yn ifanc, a dywedaf hynny fel rhywun sydd ar fin cyrraedd ei ben-blwydd yn 57 oed. Ond wyddoch chi, nid ydych yn cael eich ieuenctid ddwywaith chwaith. Ond mae llawer o heriau hefyd, o ran eich profiad i ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth ac anodd, eich diffyg incwm cyffredinol—wrth i chi fynd yn hŷn, byddwch yn cael mwy o arian ac mae'r angen i'w wario'n lleihau weithiau, ond pan fyddwch yn iau, mae'r galwadau hynny'n ddwys iawn. Felly, credaf fod angen inni fod yn ymwybodol o'r materion iechyd a lles hyn ac mae angen inni gysylltu, mewn gwirionedd, â'r gwaith y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, y pwysau gwirioneddol y mae angen inni ei roi ar Lywodraeth y DU o ran yr hyn y gwelwn sydd ei angen ar ein gofalwyr ifanc, a sut y gallai fod angen ystyried yn drylwyr addasiadau yn awr i rai o'r rheoliadau lles a budd-daliadau.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd y gweithgor sy'n edrych ar y modd y gellir rhoi cefnogaeth ariannol i ofalwyr ifanc yn adrodd yn ôl yn fuan iawn ac y byddwch yn ystyried ein hawgrym, ond credaf fod angen anfon neges glir o'r Cynulliad hwn fod yn rhaid i bob plaid weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r amcanion hyn, oherwydd mae gofalwyr ifanc yn gwneud gwaith aruthrol ar ein rhan a dylem fod yn ddiolchgar iawn am eu dinasyddiaeth o ansawdd uchel a'r cariad a ddangosant i'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.  

17:50

Diolch i'r grŵp Torïaidd am gyflwyno'r cynnig, ac rwy'n ei gefnogi, er fy mod yn rhyfeddu bod gennym gynifer o ofalwyr ifanc yn 2019. Cyfarfûm â gofalwr 18 oed dros y penwythnos sy'n gofalu am ei mam sy'n sâl a'i chwaer anabl. Nid oes ganddi fywyd ei hun. Mae'n haeddu medal, mae'n haeddu cael cefnogaeth, ond yn fwy na hynny, mae'n haeddu ei bywyd ei hun, ac mae'r awdurdodau'n ei hamddifadu o hynny. Mae'r Llywodraeth wedi siarad yma ynglŷn â chefnogi mentrau yn erbyn caethwasiaeth fodern, ond wedyn maent yn caniatáu i hyn ddigwydd i filoedd o blant ein gwlad. Pe bai'r ferch y cyfarfûm â hi y diwrnod o'r blaen wedi cael ei masnachu yma a'i chadw mewn caethwasiaeth ddomestig, byddai'n briodol ceisio ei hachub, felly pam nad yw hi a'i theulu'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen i'w rhyddhau hi a miloedd o bobl eraill?

Dywed Llafur mai hwy yw plaid y GIG a'r rhai sy'n agored i niwed, ond eto mae gennym system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cynyddu anghydraddoldeb. Ni fydd plant teuluoedd cyfoethog yn cael eu llyffetheirio yn eu haddysg neu eu gyrfa drwy orfod gofalu am aelod o'r teulu. Bydd eu cyfleoedd mewn bywyd yn parhau i gynyddu, tra bydd y plentyn o deulu tlawd yn cael ei ddal yn ôl—nid gan y ffaith bod ganddynt aelod o'r teulu sydd angen gofal, ond gan y wladwriaeth sy'n eu hamddifadu o'r cymorth y gallai ei ddarparu pe bai'n dymuno gwneud hynny, y cymorth y mae yno i'w ddarparu mewn gwirionedd. Dyna beth oedd ein system les i fod yno i'w wneud, fel na fyddai plant yn gweithio ac yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r cyfrifoldeb am ofalu am berthynas sâl.

Mae gofalwyr ifanc yn gweithio am ddim, ac nid ydynt yn cael yr isafswm cyflog hyd yn oed. Nawr, mae rhai pobl yn amddiffyn y sefyllfa drwy ddweud bod pobl ifanc yn awyddus i helpu i ofalu am eu hanwyliaid. Mae hynny'n wir iawn ac mae'n gwbl ganmoladwy ac yn hyfryd fod plant a phobl ifanc eisiau helpu aelodau o'u teulu sy'n sâl, ond nid yw'r ffaith eu bod am wneud hynny'n golygu y dylem adael iddynt ei wneud—y dylem adael iddynt aberthu eu bywydau, eu bywydau ifanc, i wneud gwaith y dylai'r system gofal cymdeithasol fod yn ei wneud.  

Mae digonedd o bethau nad ydym yn caniatáu i bobl ifanc eu gwneud er eu diogelwch eu hunain, ac rydym yn cyfyngu ar eu hoedran i'w rhwystro rhag eu gwneud. Yn 2019 mae'n hurt fod gennym blant sy'n gorfod rhoi gofal. Rydym yn genedl fodern; mae cymaint wedi cael ei ddarganfod yn ystod y 50 mlynedd diwethaf ac mae bywyd wedi ei weddnewid. Gallwn wella pob math o afiechydon na ellid eu gwella 50 o flynyddoedd yn ôl, pob math o ddatblygiadau technolegol, ac eto mae gennym blant o hyd sy'n cael eu gorfodi i ofalu am nad yw'r wladwriaeth yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt.

Felly, rwy'n gefnogol iawn i gynnig y Torïaid, ond gwnaf hynny â chalon drom, a chan resynu'n enfawr fod y cynnig hwn yn angenrheidiol. Felly, byddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru ond nid y gwelliant gan Lafur, oherwydd mae'n nodweddiadol o Lywodraeth sy'n cymryd ei dinasyddion yn ganiataol, gan ochri gyda chynghorwyr Llafur a swyddogion cyngor ar draul y bobl y maent i fod i'w gwasanaethu. Nid yw'r Llywodraeth hon yn gorfodi cynghorau lleol i wneud llawer. Y peth lleiaf y gallant ei wneud yw mynnu eu bod yn gweithredu cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc. Dylai hyd yn oed y Llywodraeth hon allu gwneud hynny, bid siŵr. Diolch.  

17:55

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ailadrodd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i oedolion ifanc sy'n ofalwyr er mwyn sicrhau bod oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn cael pob cyfle i wireddu eu potensial mewn bywyd.  

Credaf fod hon yn ddadl bwysig iawn. Mae llawer o gytundeb ar y cyfan yn y Siambr, ac mae'r Llywodraeth yn gefnogol iawn i ysbryd y cynnig. Fel y dywedodd Suzy Davies, mae hon yn ddadl radlon, ac rwy'n meddwl bod disgrifiad Oscar o rôl gofalwr wedi crisialu'r cyfan—mae'n waith clodwiw.

Cymru sydd â'r gyfran uchaf o ofalwyr o dan 18 oed o bob un o wledydd y DU. Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 29,155 o bobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru yn gofalu am eraill am o leiaf awr yr wythnos. Ac wrth gwrs, ni fydd angen cymorth ar bob un o'r rhain, ond mae angen i'r rheini sydd â chyfrifoldebau sylweddol gael eu cydnabod yn llawer gwell. Yn ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel y crybwyllodd siaradwyr eraill heddiw, cyflwynasom hawliau a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol hyrwyddo lles gofalwyr sydd angen cymorth.  

Mae'r cynnig yn tynnu sylw'n briodol at bryderon ynghylch lles oedolion ifanc a'u gobaith o gyrraedd eu potensial llawn. Felly, gadewch i mi fynd i'r afael â'r hyn y mae'r cynnig yn ei ofyn gan Lywodraeth Cymru fesul un. Mae'n gofyn am nodi pwy sy'n ofalwyr yn gynnar, cymorth hygyrch ac atal ymddieithrio o addysg. Yng Nghymru, nid ydym yn casglu data cenedlaethol ar gyrhaeddiad addysgol gofalwyr ifanc ar hyn o bryd, felly nid yw'n bosibl dweud a yw cyrhaeddiad addysgol gofalwyr ifanc yn sylweddol is na'u cyfoedion, fel y mae'r cynnig yn awgrymu. Ond wedi dweud hynny, rydym yn llwyr gydnabod yr angen i nodi a chynorthwyo gofalwyr ifanc mewn addysg i gyflawni eu canlyniadau gorau. Mae gwaith yn mynd rhagddo mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar helpu ysgolion i adnabod a rhoi cymorth gwell i'w gofalwyr ifanc.

Yn yr un modd, nid ydym yn cydnabod yr awgrym fod gofalwyr ifanc dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, fel y dywed y cynnig, a chredaf efallai mai ffigurau o Loegr yw'r rhain. Yng Nghymru mae gennym ddull llwyddiannus o leihau nifer y plant ifanc sy'n NEET drwy ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid, ac ers ei lansio, mae nifer y rhai sy'n gadael yr ysgol nad ydynt yn mynd i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru wedi mwy na haneru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yn llwyr fod gofalwyr ifanc yn wynebu mwy o risg o lawer o fod yn NEET, ac rydym yn awyddus iawn i'w cefnogi ac osgoi gweld hyn yn digwydd.

Mae'r cynnig hefyd yn sôn am gyflwyno cardiau adnabod i ofalwyr ifanc, ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith, a chyfeiriais at welliant y Llywodraeth. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da iawn gyda'r model cenedlaethol newydd ar gyfer cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, ac rwy'n gobeithio cyhoeddi y byddant yn cael eu cyflwyno'n raddol cyn diwedd y flwyddyn. Yr wythnos diwethaf, anfonais lythyr at holl arweinwyr awdurdodau lleol ynglŷn â'r cerdyn, ac rwyf eisoes wedi cael rhai ymatebion cadarnhaol iawn. Rydym yn disgwyl y byddant yn cymryd rhan lawn yn ein cynlluniau. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i awgrymu bod angen i ni osod dyletswydd. Ni ellir deddfu ar gyfer y gwaith pwysig o ddatblygu manylion y dull o weithredu'r cerdyn adnabod. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Diolch yn fawr iawn. Rydych newydd ddweud nad oes tystiolaeth fod angen inni osod dyletswydd, ac fe dderbyniaf hynny ar ei olwg. A oes gennych dystiolaeth—? Beth yw'r dystiolaeth y bydd pob cyngor yn ddiwahân yn mabwysiadu pa fersiwn bynnag o'r cerdyn adnabod y byddwch yn ei gyflwyno?

Y wybodaeth sydd gennym yw y bydd pob cyngor yn ei fabwysiadu, ac y bydd pob cyngor eisiau ei fabwysiadu. Ac rydym yn cychwyn o'r rhagdybiaeth honno, oherwydd credaf ei bod yn well inni weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae gennyf bob ffydd y byddant yn gwneud hynny. A beth bynnag, ni ellir deddfu ar gyfer y gwaith pwysig o ddatblygu manylion y modd y caiff y cerdyn adnabod ei weithredu. I roi un enghraifft i chi, dywedodd un gofalwr ifanc wrthym yn ddiweddar ei fod yn mynd â'i frawd anabl i'r pwll nofio a'i fod wedi cael cerydd am ei fod o'r oedran anghywir ar gyfer defnyddio'r sleidiau. Pe bai ganddo fand garddwrn yn hytrach na cherdyn gallai ddynodi ei angen i hebrwng ei frawd. Nid yw'n bosibl i ddyletswydd gyfreithiol allu ymdrin â manylion o'r fath. Pe baem yn oedi cyn cyflwyno'r cerdyn adnabod a gynlluniwyd er mwyn cyflwyno deddfwriaeth, credaf y byddai gofalwyr ifanc yn teimlo eu bod wedi cael cam mawr, oherwydd bu cryn dipyn o ymgysylltu â gofalwyr ifanc ynglŷn â'r cerdyn adnabod. Ond os ceir tystiolaeth ar unrhyw adeg yn y dyfodol fod angen cael deddfwriaeth, hoffwn ddweud y byddwn yn sicr yn adolygu'r penderfyniad a wnaethom heddiw. Ond ar hyn o bryd, nid wyf yn gweld unrhyw reswm dros gael deddfwriaeth.

Mae'r cynnig hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo lles gofalwyr. Fel y Gweinidog, byddaf yn sicrhau ein bod yn monitro effeithiolrwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym wedi cynorthwyo'r trydydd sector i wella ymwybyddiaeth drwy ddyfarnu cyllid o dros £1.7 miliwn o'n cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy i Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ac rydym yn parhau i ariannu'r Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc.

Mae'r cynnig hefyd yn gofyn am gymorth i ofalwyr ifanc gael mynediad at addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gynllun teithio rhatach. Felly, wrth inni edrych ar ddyfodol y cynllun cerdyn disgownt presennol i bobl ifanc a'r cynlluniau ehangach sydd gennym ar gyfer tocynnau teithio a thocynnau integredig ar draws y rhwydwaith, byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar anghenion gofalwyr ifanc wrth gwrs.

Wedyn, i ystyried gwelliant Rhun, cytunwn fod gofal seibiant yn bwysig iawn, fel y gall gofalwyr ifanc gael seibiant oddi wrth ofalu, a gobeithiwn y byddwn yn edrych ar ofal seibiant mewn llawer o ffyrdd gwahanol i'r hyn a wnaethom yn y gorffennol, ond mae'r Llywodraeth yn sicr yn cefnogi'r gwelliant hwnnw.

Felly, hoffwn ailadrodd bod hon yn ddadl bwysig iawn. Ni ddylai neb yn ein cymuned gael ei adael ar ôl, ac mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn ysbrydoliaeth i'r gweddill ohonom. Credaf fod bron bawb a siaradodd heddiw wedi ein hysbrydoli â'r hyn a ddywedasant am ofalwyr ifanc, oherwydd maent yn arwain ac yn dangos inni sut i ofalu am ein teuluoedd a'n cymunedau. Felly, rwy'n eu canmol, ac rwy'n falch iawn o ddatgan fy nghefnogaeth i Wythnos y Gofalwyr, fel y mae eraill wedi'i wneud, yn ail wythnos mis Mehefin, ac rydym am ddathlu pob gofalwr yma yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddasom ein tair blaenoriaeth genedlaethol: cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu—mae mor bwysig i oedolion ifanc sy'n ofalwyr gael eu bywydau eu hunain; adnabod a chydnabod gofalwyr, a gobeithiaf y bydd y cerdyn adnabod i ofalwyr yn helpu i sicrhau hynny; a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr. Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwneud cynnydd ar gyflawni'r blaenoriaethau hyn, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud. Gwn na allwn laesu dwylo, ac rwy'n credu bod y ddadl heddiw wedi ein helpu i sylweddoli beth sy'n rhaid i ni ei wneud. Diolch.

18:00

Diolch. Agorodd Gweinidog yr wrthblaid, Janet Finch-Saunders, y ddadl drwy dynnu sylw at yr angen i gydnabod a chefnogi oedolion ifanc sy'n ofalwyr yng Nghymru, i gydnabod adroddiadau annibynnol, a chydnabod argymhellion blaengar y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i ofalwyr ifanc yng Nghymru. Fel y dywedodd, ni ddylai oedolion ifanc sy'n ofalwyr fod o dan anfantais, cael eu stigmateiddio neu ddioddef bwlio. Dywedodd fod dros 21,000 o'r oedolion ifanc sy'n ofalwyr yng Nghymru rhwng 14 a 25 oed, ac yn darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau. Mewn gwirionedd, cyfeiriodd y Gweinidog at ffigur uwch o 29,000 sy'n darparu gofal am awr neu fwy.

Yn ôl yr ymchwil 'Time to be Heard Wales' gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, gwelwyd bod oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn colli neu'n colli rhan o 48 o ddyddiau ysgol y flwyddyn ar gyfartaledd oherwydd eu rôl fel gofalwyr. Roeddent bedair gwaith yn fwy tebygol o adael y coleg neu'r brifysgol na myfyrwyr nad oeddent yn gofalu. Anaml y byddant yn cael yr asesiad o'u hanghenion y mae ganddynt hawl iddo, ac maent yn profi cyfraddau uwch o fwlio.

Cynigiodd Dai Lloyd welliant a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gofal seibiant i ofalwyr ifanc, a byddwn yn cefnogi hwnnw wrth gwrs. Mynegodd Suzy Davies ei siom ynghylch gwelliant Llywodraeth Lafur Cymru. Fel y dywedodd, nid oes yn rhaid iddynt ddisgwyl i awdurdodau lleol gyflwyno cardiau adnabod ledled Cymru; gallant fynnu. Gallant wneud rhywbeth ond maent yn dewis peidio. Fel y dywedodd Rhianon Passmore, pan nad yw pethau a ddylai ddigwydd o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn digwydd, fe ddylent wneud hynny. Cyfeiriodd Mohammad Asghar at y cyfraniad a wneir gan ofalwyr ifanc, ac ni ellir gorbwysleisio hynny. Soniodd am ddarparu mwy o ofal a gofalu am gyfnod hwy o amser. Ni ddylid lleihau cyfleoedd bywyd gofalwyr ifanc, a'n dyletswydd foesol yw gofalu am ein gofalwyr ifanc. Fel y dywedodd David Melding, un o'r rhwystrau mawr yw'r modd y mae gofalwyr ifanc yn cael mynediad at addysg bellach ac uwch. Fel y dywedodd Michelle Brown, mae gofalwyr ifanc yn haeddu eu bywyd eu hunain. Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, y dylai oedolion ifanc sy'n ofalwyr gael pob cyfle i gyflawni eu potensial mewn bywyd, ac fel y dywedodd, ni ddylai neb yn ein cymunedau gael ei adael ar ôl.

Wel, mae saith mlynedd wedi mynd heibio bellach ers i Sir y Fflint ddod yn sir gyntaf yng Nghymru i lansio cynllun cardiau adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc neu blant mewn gofal i'w helpu i egluro eu sefyllfa a sicrhau eu bod yn cael cydnabyddiaeth briodol a mynediad cyflym at y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnynt. Datblygwyd hyn gan ofalwyr ifanc a oedd naill ai'n rhan o wasanaeth gofalwyr ifanc Barnardo's Cymru yn Sir y Fflint neu a gefnogwyd gan wasanaethau cymdeithasol plant yno. Fel y dywedais ar y pryd mewn cyfarfod yn y Senedd saith mlynedd yn ôl, dyma'r cynllun cyntaf yng Nghymru i helpu'r bobl ifanc hyn i gael y gydnabyddiaeth a'r mynediad prydlon at wasanaethau sydd eu hangen arnynt. Dywedodd y comisiynydd plant wrthym ei fod yn gobeithio y byddai awdurdodau lleol eraill yn ymateb i hyn a'i fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cerdyn adnabod cenedlaethol ar y sail hon. Saith mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'n iawn nad yw hyn wedi digwydd. Gobeithio y byddwch yn gwrando ar ein hargymhelliad.

18:05

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rwy'n bwriadu symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Nac oes.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, yr un bleidlais sydd gennym heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar oedolion ifanc sy'n ofalwyr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 30 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.

NDM7050 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7050 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 18, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 44, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM7050 - Gwelliant 2: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7050 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mwy na 21,000 o oedolion ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru yn ofalwyr ifanc sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau.

2. Yn pryderu'n fawr fod cyrhaeddiad addysgol oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn sylweddol is na'u cyfoedion a'u bod dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar fyrder ag anghenion cymorth oedolion ifanc sy'n ofalwyr, yn ogystal â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan gynnwys:

a) canfod gofalwyr ifanc yn gynnar er mwyn eu helpu i gael cymorth yn rhwydd a lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg;

b) cyflwyno'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn genedlaethol a gweithio gydag awdurdodau lleol i roi’r cerdyn ar waith

c) codi ymwybyddiaeth awdurdodau lleol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i hybu lles gofalwyr y mae angen cymorth arnynt;

d) helpu gofalwyr ifanc i fanteisio ar addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gyflwyno cynllun teithio rhatach; ac

e) sicrhau bod darpariaeth gofal seibiant yn gwella er mwyn i ofalwyr ifanc allu cael hoe.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 40, roedd pedwar yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7050 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? A gaf fi ofyn, os oes Aelodau'n gadael y Siambr, gwnewch hynny os gwelwch yn dda?

10. Dadl Fer: Dysgu hirach ar gyfer bywydau gwell, diogelach: Yr achos dros godi oedran cyfranogi mewn addysg yng Nghymru

Trown yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Lynne Neagle i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Lynne.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Suzy Davies AC.

Mae thema gyffredin i bob dadl drwy hanes ar godi oedran addysg orfodol. Mae gwleidyddion yn dechrau ac yn aml yn gorffen eu hachos drwy gyfeirio at yr effaith ar yr economi. Mewn trafodaeth ynglŷn â chodi'r oedran ysgol yn y 1960au, cafodd ei ddisgrifio gan Ysgrifennydd addysg y Torïaid, Edward Boyle, fel mesur angenrheidiol gan y byddai'n diwallu angen economaidd brys am fwy o reolwyr canol. Yn sicr, nid wyf yn dechrau'r ddadl hon, dadl na chredaf y bydd yn dod i ben heddiw, yn y gobaith o wneud dim mwy na sicrhau rhagor o reolwyr canol i Gymru. Rwy'n dechrau'r ddadl hon ar godi'r oedran cyfranogi mewn addysg i 18 oed yn y gobaith y gallwn roi nid yn unig y sgiliau y mae arnynt eu hangen yn y gwaith i'n pobl ifanc, ond y diogelwch, y ddealltwriaeth a'r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau diogel a chyflawn. Drwy ddal ein gafael ar ein pobl ifanc am ddwy flynedd ychwanegol, credaf y gallwn yn aml wella'r risgiau sy'n gysylltiedig ag unigrwydd, arwahanrwydd ac effaith ddinistriol dod yn NEET—rhywun nad yw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Nid ein cynnyrch domestig gros na rhagolwg economaidd yw'r man cychwyn ar gyfer fy achos felly, ond adolygiad thematig o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol. Mae'r adolygiad hwnnw, a gyhoeddwyd yn 2014 ac sydd i'w ddiweddaru'n fuan, yn cynnwys astudiaethau achos a dadansoddiadau manwl ac yn archwilio ffactorau addasadwy a allai fod wedi cyfrannu at farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad. Fe'i harweinir gan yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe, sy'n cadeirio'r grŵp cynghori cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niwed ar ran Llywodraeth Cymru, a hoffwn achub ar y cyfle i dalu teyrnged i Ann am y gwaith y mae'n ei wneud ddydd ar ôl dydd ar atal hunanladdiad yng Nghymru.

Mae'r adolygiad yn nodi cyfleoedd ar gyfer atal ac yn gwneud argymhellion i leihau'r risg o gyflawni hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae llawer o Aelodau yma'n gwybod bod atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon. Siaradais mewn cynhadledd am iechyd meddwl plant ychydig amser yn ôl, ac roedd thema fy araith yn ymwneud i raddau helaeth â phwysigrwydd gwrando ar leisiau pobl ifanc. Ar y diwedd, daeth un o'r cynadleddwyr ataf a dweud, 'Tybed beth fyddai'r bobl ifanc sydd wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad yn ei ddweud wrthym pe baent yma heddiw'. Teimlwn fod y geiriau hynny'n ofnadwy o anodd, heriol a phoenus i'w clywed oherwydd, wrth gwrs, ni allwn eu gofyn. Dyna pam y mae'r adolygiad thematig mor dyngedfennol. Mae'n un o'r ychydig ffyrdd y gallwn glywed lleisiau'r bobl ifanc hyn. Dyma'r peth agosaf sydd gennym at argymhellion ôl-weithredol yn uniongyrchol gan y bobl ifanc eu hunain ynglŷn â sut y gallem fod wedi'u helpu a sut i atal marwolaethau yn y dyfodol.

Ac roedd ail argymhelliad yr adroddiad hwnnw'n dweud hyn,

Dylai Llywodraeth Cymru archwilio systemau i sicrhau bod plant a phobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn cael cymorth mewn addysg neu hyfforddiant, sy'n cynnwys hyfforddiant seiliedig ar waith. Gellid galluogi hyn drwy godi oedran gadael ysgol i 18 oed.

Roedd yr argymhelliad hwnnw'n seiliedig ar themâu cyffredin a ddaeth i'r amlwg yn yr adolygiad, a chaf fy sicrhau y byddant yn dod i'r amlwg eto yn y fersiwn ddiweddaraf y gallwn ei disgwyl ymhen ychydig wythnosau.

Yn y 14 o achosion a gafodd naratifau manwl gan y panel adolygu, nodwyd ffactorau cyffredin, gan gynnwys y ffaith bod gan lawer ohonynt anghenion addysgol penodol neu gyrhaeddiad addysgol cyfyngedig. Roedd llawer ohonynt heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac o'r herwydd, ni chaent fawr ddim cymorth, os o gwbl. Ac yn ôl astudiaeth arall o unigedd cymdeithasol ac unigrwydd yn y DU, ymhlith oedolion ifanc, yr unigolion nad ydynt yn symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth sydd fwyaf mewn perygl o fod wedi'u hynysu yn gymdeithasol ac yn unig. Mae hyn yn arwain at unigolion yn gwneud yn waeth na'u cyfoedion yn y farchnad lafur a gall arwain at amddifadedd incwm hirdymor a mwy o debygolrwydd o arwahanrwydd cymdeithasol.

Mewn cyferbyniad â hyn, rydym yn gwybod am yr ymdeimlad o berthyn a lles y gall lleoliadau addysgol eu rhoi i bobl ifanc, boed yn yr ysgol, yn y coleg neu mewn prentisiaeth. Mae'r gwobrau dysgu oedolion bob blwyddyn yn dangos y gwerth y gall addysg ei roi'n ôl i fywydau a arferai fod yn gythryblus. Mae stori Emily yn un y bydd pawb ohonom yn ei hadnabod yn ein cymunedau. Roedd magwraeth anodd wedi peri iddi fod yn encilgar, yn brwydro â phroblemau iechyd meddwl a diffyg hunan-barch. Yn 15 oed, cafodd ddiagnosis o anorecsia ac iselder; roedd wedi mynd yn ynysig. Ond ar ôl gweld cynorthwyydd addysgu'n gweithio gyda'i mab, cafodd Emily ei hysbrydoli i reoli ei phryder a'i diffyg hyder a chofrestrodd ar gwrs cyflwyniad i ofal plant yn y rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned. Mae hi wedi ffynnu yn yr amgylchedd dysgu hwn ac wedi symud ymlaen i'r rhaglen lefel 2 yn ogystal ag ymgymryd â chyrsiau eraill. Rhoddodd addysg y cyfle roedd hi ei angen i Emily i frwydro'n ôl o ymyl y dibyn. Gwn nad hi yw'r unig un. Gwn fod cynnydd da wedi'i wneud yng Nghymru ar leihau nifer y bobl ifanc NEET a chodi ein lefelau sgiliau yn gyffredinol, ond nid yw hynny'n wir am bawb.

Dywedodd adroddiad Sefydliad Bevan, 'I want to be something', wrthym fod un o bob tri disgybl blwyddyn 11 yn gadael yr ysgol heb bump TGAU da. Mae'r opsiynau sy'n wynebu'r bobl ifanc hynny'n rhy ddryslyd, yn rhy gyfyngedig ac yn anaddas i'r diben. Mae'r adroddiad, a oedd unwaith eto'n seiliedig ar brofiad go iawn pobl ifanc, yn dweud bod yr amrywiaeth gyfredol o gyrsiau a rhaglenni'n golygu bod lleiafrif yn neidio o amgylch gwahanol gynlluniau cyn dod yn NEET hirdymor, gyda chanlyniadau negyddol am weddill eu bywydau.

Daw un o'r dyfyniadau sy'n sefyll allan yn yr adroddiad hwnnw gan rywun a oedd yn ceisio tywys pobl ifanc drwy'r realiti newydd dryslyd hwnnw. Meddai:

Mae gan lawer o bobl ifanc broblemau mawr o ran pryder, problemau iechyd meddwl... Mae'r ysgol yn fath da o ddull strwythuredig ar eu cyfer ac yn darparu cymorth iddynt... Pan ddaw'r cymorth hwnnw i ben, pan fydd y strwythur a'r drefn reolaidd honno'n gorffen, yr hyn a welwn yw bod pobl ifanc yn encilio i'w hystafelloedd gwely... ac yn aros yno.

A'r dryswch hwn a'r gadael fynd yn rhy gynnar sy'n gwneud i mi feddwl bod angen i ni symud i system addysg neu hyfforddiant gorfodol hyd at 18 oed. Mae hwn yn newid sydd wedi'i gyflwyno yn Lloegr, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, a lle mae lefelau NEET ymhlith pobl ifanc bellach yn is nag yng Nghymru. Yn ganolog i'r ddadl a sicrhaodd y newid hwnnw roedd cydnabyddiaeth y byddai pobl o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig, a fyddai'n elwa fwyaf o barhau ag addysg, yn llai tebygol o gyfranogi'n wirfoddol.

Felly, credaf mai gwerth y polisi hwn yw ei fod yn rhoi'r baich a'r cyfrifoldeb ar y Llywodraeth ac nid ar y bobl ifanc eu hunain. Gallem ddatblygu'r llwybr perffaith ar gyfer pob plentyn yn ei arddegau yng Nghymru, ond drwy roi'r cyfrifoldeb arnynt i ganfod eu ffordd eu hunain, rydym yn amlwg yn mynd i golli cyfran gyfan o'r plant sy'n fwyaf agored i ddod yn NEET yn y lle cyntaf. Ac er na fyddai codi oedran cyfranogiad yn eu dal i gyd, byddai'n golygu y dylent oll gael cynnig cyfleoedd a bod rhywfaint o oruchwyliaeth ar rai 16 a 17 oed, sy'n dal i fod yn blant yn y bôn.

Nid wyf yn dadlau, er hynny, mai dim ond efelychu enghraifft Lloegr y dylem ei wneud. Credaf y byddai'n dda o beth inni edrych at Ontario, lle cyflwynwyd y newid hwn mewn ffordd gynhwysfawr, gan roi dewisiadau go iawn a chlir i'r dysgwyr ynglŷn â sut i gwblhau eu taith addysg. Mae'n cynnwys y gymuned gyfan, nid ysgolion a cholegau yn unig. Mae Deddf 2006 a basiwyd yn Ontario yn glir yn ei huchelgais. Mae'n dweud y bydd y dalaith yn ei chyfanrwydd yn

Cadarnhau nad oes unrhyw fenter yn fwy hanfodol i ddyfodol y dalaith na chynllun sy'n sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ddysgu nes iddynt raddio neu droi'n 18 oed, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth neu drwy gyfleoedd dysgu cyfatebol, megis prentisiaeth neu raglen hyfforddiant yn y gweithle.

Rwy'n credu bod Lloegr wedi cymryd y syniad o godi'r oedran cyfranogi mewn addysg heb ddysgu'n iawn o fentrau cysylltiedig Ontario, fel y rhaglen lwyddiant myfyrwyr, er enghraifft. Mae timau llwyddiant myfyrwyr yn Ontario yn rhoi sylw a chefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr unigol sydd eu hangen. Cânt gyfle i elwa o sylw a chymorth unigol, a dewis o blith rhagor o opsiynau ar gyfer dysgu, fel addysg gydweithredol estynedig, dysgu sgiliau arbenigol lefel uwch, credydau deuol ac e-ddysgu. Ac yn hollbwysig, cânt gymorth i ddatrys problemau y gallent fod wedi'u hwynebu ar eu pen eu hunain cyn hynny.

Drwy ddilyn enghraifft Ontario yn fwy manwl, byddem yn osgoi rhai o'r camgymeriadau a welsom yn Lloegr. Yn wir, rwy'n credu bod gennym ddwy fantais amlwg yn barod ar gyfer cyflawni'r math hwn o newid yng Nghymru sy'n unigryw yn ein hagenda bolisi ein hunain. Yn gyntaf, mae gennym ffurf wirioneddol gyfun ar addysg uwchradd a llai o farchnadeiddio ar y system ysgolion a cholegau. Bydd hyn yn lleihau cymhlethdod wrth gyflwyno opsiynau dysgu gwahanol mewn lleoliadau gwahanol. Yn ail, mae hanes codi'r oedran cyfranogi yn un o lunwyr polisi yn rhoi'r cart o flaen y ceffyl. Yn gyntaf, codwyd y terfyn oedran, ond ni cheir gwerthuso priodol a diwygio'r cwricwlwm tan ar ôl y newid hwnnw. Felly, yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gennym gyfle i wneud hyn yn y drefn gywir. Fel y nododd adroddiad 'Cadernid meddwl' fy mhwyllgor, mae'r gwaith presennol o ddiwygio'r cwricwlwm yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i brif ffrydio lles emosiynol ac iechyd meddwl mewn addysg. Ac fel y dywedodd y Gweinidog, diben y diwygiadau hyn yw llunio system sy'n cael ei phweru â phwrpas a'r math o ddinasyddion yr hoffem eu gweld.

Mae hyn yn ymwneud â siapio ein cymdeithas er gwell, nid dim ond datblygu asiantau a defnyddwyr economaidd mwy effeithiol. Yn ganolog i'r genhadaeth fwy a phwysig honno mae'r angen i ddal ein gafael ar ein dysgwyr cyhyd ag y gallwn. Mae gennym gyfle i wneud y peth iawn yn y ffordd iawn yn y drefn iawn yma yng Nghymru. Credaf mai ein dyletswydd i'n pobl ifanc yw manteisio ar y cyfle hwnnw.

Fel yr ysgrifennodd Michelle Obama am ei hysgol ei hun:

Drwy fy addysg, nid datblygu sgiliau'n unig a wneuthum, nid datblygu'r gallu i ddysgu yn unig: datblygais hyder hefyd. 

Ni allaf feddwl am adeg pan fo mwy o angen yr hyder hwnnw ar ein plant na heddiw, yn wyneb ansicrwydd economaidd, rhaniadau cymdeithasol ac argyfwng iechyd meddwl sy'n gwaethygu. Weithiau, fel gwneuthurwyr polisi, ni allwn weld yr hyn sydd o flaen ein llygaid. Credaf mai dyna sy'n digwydd yn y fan hon. Nid oes neb ohonom am weld ein plant a'n pobl ifanc yn unig ac wedi'u hynysu, nid oes yr un ohonom yn amau effeithiau hirdymor peidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac nid oes yr un ohonom yn anghytuno â'r effaith gadarnhaol a gaiff y lleoliad addysgol priodol ar les plant a phobl ifanc. Mae pob un ohonom am gael system addysg sy'n ymateb i anghenion emosiynol ein disgyblion, yn ogystal â'r economi, ac eto mae'n ymddangos ein bod yn amharod i wneud yr un newid a fyddai'n mynd i'r afael â'r holl bethau hyn. Yn sicr, mae codi oedran cyfranogi mewn addysg yng Nghymru yn syniad y mae ei amser wedi dod. Diolch.

18:20

Diolch yn fawr iawn i chi am hynny, Lynne. Gwrandewais â diddordeb mawr a chan wisgo fy het Gweinidog yr wrthblaid. Yn sicr, hoffwn weld yr adroddiadau y cyfeirioch chi atynt, ond hefyd roeddwn yn meddwl bod llawer o rinwedd yn y syniad ei hun. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedoch am y system yn Lloegr; yr hyn a ddywedwn i yw bod y rhan honno ohono—mae'n waith, addysg neu hyfforddiant, ac efallai, ceir lle bob amser i ychydig mwy o arloesedd drwy edrych ar sut beth yw hyfforddiant mewn gwirionedd. Nid yw'r pwynt a wnaethoch ynglŷn ag—ai Emily oedd ei henw—yn cael dechrau newydd sbon drwy addysg i oedolion yn ddiweddarach yn ei bywyd yn rhywbeth y dylem ei ddiystyru ychwaith, oherwydd bydd yna bobl bob amser sy'n colli cyfle y tro cyntaf, hyd yn oed yr ail dro. Dyna pam roeddwn am sôn yn gryno, os nad oes ots gennych, nad yw mor bell yn ôl â hynny pan welsom mai pobl dros 50 oed a ffurfiai'r garfan fwyaf o bobl ddi-waith heb fod drwy ddewis. Felly, hoffwn sôn am waith Prime Cymru, sy'n helpu i ail-addysgu pobl sy'n hŷn o lawer na'r rhai rydych chi'n sôn amdanynt, i roi eu pedwerydd cyfle iddynt, os mynnwch, i ddechrau eu busnesau eu hunain yn eu 50au hwyr. Felly, rydym yn sôn am addysg fel profiad gydol oes, ond mae'r pwyntiau penodol a wnaethoch yn eich dadl fer heddiw yn ddiddorol iawn yn fy marn i, felly diolch yn fawr iawn am eu dwyn i'n sylw.

Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch hefyd i Lynne am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n cydnabod yr achos a wnaeth Lynne yn rymus iawn y prynhawn yma ynglŷn â'r oedran addysg gorfodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth wrth gwrs, fel rydych eisoes wedi cydnabod, Lynne, i ddysgu gydol oes go iawn a'r lles diwylliannol a'r manteision economaidd a ddaw yn sgil hyn i unigolion a chymdeithas yn gyffredinol. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio hawl Gymreig newydd i ddysgu gydol oes.

Rydym yn cydnabod, ac mae hyn wedi'i nodi gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, fod dysgu i oedolion yn helpu i ddatblygu synnwyr o hunan, yn gwella iechyd personol ac yn mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, ac mae Suzy wedi gwneud sylwadau ar hynny yn awr. Mae'n bwysig inni ddysgu sut y gellir cyflawni hyn, felly mynychodd swyddogion Llywodraeth Cymru seminar yn ddiweddar yng ngweithdy DOVE ym Manwen ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â'r hawl honno i ddysgu gydol oes. Roedd yn rhoi ffocws penodol ar rôl addysg oedolion a grymuso dinasyddion, a gwnaethpwyd cysylltiad cryf â dibenion y cwricwlwm ysgol newydd y sonioch chi amdano wrth gwrs. Yn amlwg, dylai hwnnw gymell diben newydd o ran grymuso ein dinasyddion ifanc.

Rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno y gallai galluogi dysgwyr moesegol, gwybodus, uchelgeisiol ac iach fod yn ddibenion ar gyfer system addysg gyfan heb ddod i ben yn 16 oed. Felly, roeddwn am danlinellu'r pwyntiau hynny am ddysgu o'r crud i'r bedd, am addysg barhaus a'i manteision economaidd a chymdeithasol, cyn dod yn ôl at fater codi oedran addysg orfodol.

Fel y nodoch chi, nid oes gennym bolisi o addysg orfodol ar ôl 16 oed, ond nid yw'n golygu nad ydym yn darparu ar gyfer ein pobl ifanc ar ôl yr oedran hwnnw—i'r gwrthwyneb. Rydym yn uchelgeisiol yn ein hagenda i ddiwygio'r cyd-destun ariannu a chynllunio strategol ôl-16 drwy ein cynigion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan gynnwys comisiwn newydd ar gyfer addysg ac ymchwil drydyddol. Ni ddylai ein cenhadaeth genedlaethol ddod i ben wrth gatiau'r ysgol. Yn unol â'n strategaeth ar gyfer y system ysgolion, ein nod yw hyrwyddo gwell ansawdd, herio perfformiad gwael, dathlu a rhannu arferion da, a chodi safonau yn gyffredinol. Mae arnom eisiau system sy'n cymell pobl fel eu bod yn awyddus i aros mewn addysg a hyfforddiant.

Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweld unrhyw dystiolaeth bendant fod gorfodaeth yn ddull gwell nag anogaeth o ran symud ymlaen o 16 oed, a chofiaf y trafodaethau hyn pan oeddwn yn Weinidog addysg gynt. Bryd hynny, roeddem yn cyflwyno ac yn gyrru'r polisi llwybrau dysgu 14-19 yn ei flaen, ac mae'n dda gweld bod hynny wedi gwneud argraff bwysig a chadarnhaol. Mae pob person ifanc ôl-16 yn cael cynnig 30 o ddewisiadau fan lleiaf, sy'n cynnwys o leiaf bum dewis galwedigaethol, a thrwy alluogi dysgwyr i ddilyn cyrsiau y maent yn gweld eu bod yn berthnasol i'w hanghenion, eu diddordebau a'u dyheadau, credwn y bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth sgiliau uwch. Ond nid mater o ennill sgiliau a chymwysterau yn unig yw dysgu a hyfforddi, fel y gwnaethoch chi'n glir iawn, a rhaid iddo ymwneud â'r person cyfan. Rhaid i'r system addysg helpu plant a phobl ifanc i ddiwallu eu hanghenion, a hefyd eu galluogi i fod yn unigolion cyflawn a thosturiol yn eu ffordd eu hunain.

18:25

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch am ildio, Jane. Ni ddylem anghofio rôl werthfawr prentisiaethau hefyd wrth gwrs. Mae llawer o bobl ifanc, neu gyfran o bobl ifanc, sy'n gadael yn gynharach ym mywyd yr ysgol yn gwneud hynny am nad ydynt yn teimlo mewn gwirionedd fod yr hyn a wnânt yn gweddu iddynt hwy, ond gwelsom o'r enghraifft o rai o'r prentisiaethau sydd ar gael y gall hynny lenwi'r bwlch. Felly, nid wyf yn dweud y dylai hynny dynnu oddi wrth yr hyn y soniwch amdano, Lynne, ond credaf fod y ddau'n mynd gyda'i gilydd.

Wel, ie, ac rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth, unwaith eto, lle'r ydym wedi buddsoddi mewn prentisiaethau, a dyna oedd y llwybr cywir i lawer o bobl ifanc, a weithiau gall y prentisiaethau hynny arwain at addysg bellach ac addysg uwch y tu hwnt i gyfnod y brentisiaeth, ac mae gwneud y prentisiaethau hynny'n agored ac yn hygyrch ac wedi'u hariannu yn hanfodol bwysig. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein hysgolion a'n colegau yn lleoedd cefnogol sy'n helpu i gynnal lles ein dysgwyr.

Felly, down at y pwyntiau pwysig y mae Lynne Neagle wedi'u codi ynglŷn ag iechyd emosiynol a meddyliol ein pobl ifanc, ac mae hynny'n hollbwysig. Rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi'n llawn drwy bob cam o'u haddysg i fod yn gadarn yn emosiynol ac yn feddyliol, yn hyderus, ac yn anad dim, yn hapus. Dyna pam rwy'n falch ein bod ni fel Llywodraeth yn gweithio gyda'r Gweinidog iechyd a chithau fel Cadeirydd y pwyllgor ar weithredu ymateb y Llywodraeth i adroddiad pwyllgor ysbrydoledig y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid meddwl'. Rwy'n falch, hefyd, o gael cyfle i ategu eich diolch i'r athro Ann John am ei gwaith, a nodaf y drafodaeth a gawsoch gyda hi yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y llynedd ar atal hunanladdiad. Nodaf iddi ddweud bod llawer o argymhellion yn yr adolygiad thematig yn cael eu gweithredu, a chredaf fod amseriad y ddadl hon yn allweddol, ein bod yn pwyso a mesur yr hyn sy'n digwydd, a rhaid gweithredu'r gwaith ar 'Cadernid meddwl', a gafodd gefnogaeth mor gryf ar draws y Siambr hon, o ran ymateb y Llywodraeth. Gwyddom ei bod yn hanfodol bwysig sicrhau bod iechyd meddwl a lles yn ganolog i'r ffordd y mae ysgolion yn gweithio. Mae ein plant a'n pobl ifanc angen y cymorth iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn i'w galluogi i dyfu mewn amgylcheddau iach a meithringar. Bydd y gwaith hwn yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt gyflawni eu gwir botensial.

O ran pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, gallwn ymfalchïo yn y ffaith bod nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed sydd â statws NEET ar eu lefel isaf erioed, ond mae cymaint i'w wneud o hyd, ac rydym yn cydnabod mai dyna lle mae'r fframwaith—y fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid—yn cael effaith go iawn. Rydym wedi sôn am brentisiaethau, ond mae canran y rhai sy'n gadael yr ysgol ym mlwyddyn 11 wedi mwy na haneru o ran y rhai nad ydynt yn mynd i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Felly, rwyf am orffen y ddadl drwy ddiolch i Lynne Neagle am gyflwyno maes pwysig iawn i'w drafod, gan barhau, fel y mae'n gwneud, i ddadlau'r achos dros fod yn uchelgeisiol yn y modd yr ehangwn fynediad at addysg a hyfforddiant a chyfranogiad ynddynt. Y prynhawn yma roeddem yn siarad ac roeddwn yn cael fy holi am y ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rydym yn sôn am y genhedlaeth—. Rydym yn gofalu am addysg ac yn gofalu am heddiw, ond mae'n ymwneud â'r dyfodol, ein dinasyddion yn y dyfodol. Fe sonioch chi fod angen inni gael ein pweru gan ddinasyddion y dyfodol o ran pobl iau, a bod gwersi i'w dysgu nid yn unig o Loegr, y profiad yn Lloegr—gwn y bydd y Gweinidog am edrych ar y profiad yn Ontario. Gwn y bydd hi eisiau eich cyfarfod i wneud gwaith dilynol ar y ddadl hon, sydd wedi bod yn arwyddocaol iawn, a gwn y bydd o ddiddordeb mawr i'n dysgwyr a'n haddysgwyr yng Nghymru.

18:30

Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.