Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
14/05/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yr wythnos yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu ynni llanw yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53834
Rydyn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid trwy Gymru, yn enwedig yng Ngorllewin De Cymru, i ddatblygu dyfodol cryf a phositif i’r diwydiant ynni môr tra’n cadw bio-amrywiaeth cyfoethog yn ein moroedd. Mae ynni llanw yn dal i fod yn faes y gallai Cymru arwain y byd ynddo.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Ac fel rydych chi'n gwybod, mewn cyfarfod o bwyllgor craffu, arnoch chi, y Prif Weinidog, yn ddiweddar, fe wnes i godi fy mhryder bod canolfan brawf cyntaf y byd o ddatblygu deunyddiau ac adeileddau ar gyfer ynni'r llanw yn cael ei hadeiladu yn yr Alban nawr. Mae yna risg ein bod ni yma yng Nghymru yn colli momentwm, felly, o ran gosod ein hunain fel arweinwyr yn y maes. Mae morlyn llanw bae Abertawe yn gyfle i Gymru ddod yn arweinydd byd, ond gyda Llywodraeth Llundain wedi troi ei chefn ar Gymru unwaith eto, mae angen i Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, ddangos arweiniad clir ar hyn. Nawr, gyda gwaith grŵp gorchwyl a gorffen rhanbarth bae Abertawe bellach yn dod i ben, awgrymwyd y gallai fod rhywbeth yn deillio o hynny a fyddai'n edrych am gefnogaeth Llywodraeth Cymru. A allwch ymhelaethu ar drafodaethau diweddar ar y pwynt yma, ac i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cydgynhyrchu yn hyn o beth?
Diolch yn fawr i Dai Lloyd am y cwestiwn yna. Dwi'n cofio'r cwestiwn yr oedd e'n codi gyda fi yn y pwyllgor craffu, ac, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i weithio gyda thasglu cyngor y ddinas, ac rydym ni'n edrych ymlaen at dderbyn ei adroddiad pan fydd yn barod. Fel rydym ni wedi bod dros y blynyddoedd nawr, mae Llywodraeth Cymru yn barod i gymryd rhan yn y prosiect, i gynnig, fel rydym ni wedi dweud, cyfrannu tuag at gostau cyfalaf adeiladu morlyn bae Abertawe. Y broblem, Llywydd, yw, wrth gwrs, y gost—cost y trydan. Ac yn y maes yna, cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw e i gyhoeddi cynllun sy'n gallu helpu'r sector gyda'r costau trydan. Llywodraeth y Deyrnas Unedig wnaeth gomisiynu'r adroddiad i ddechrau. Rhaid iddyn nhw fod yn atebol am beidio gweithredu argymhellion clir ei adroddiad nhw ei hunain.
Prif Weinidog, cadeiriais fforwm polisi yn ddiweddar. Roedd Tidal Lagoon Power yno ac yn siarad am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i annog busnesau i brynu ynni ganddyn nhw er mwyn rhoi dyfodol i'r prosiect morlynnoedd. Mae gwasanaeth caffael cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn cydweithio â sefydliadau cyhoeddus i ddefnyddio grym prynu cyfunol i sicrhau bargen dda i Gymru, boed hynny yn athrawon cyflenwi, yn danwydd, yn gyfrifiaduron neu'n frechdanau. Nawr, rydym ni'n gwybod bod y pris taro yn gwestiwn sydd wedi bygwth y prosiect hwn. Felly, sut gall y gwaith a wnaed ar y gwasanaeth caffael cenedlaethol yma ar brynu cyfunol helpu i ddadlau'r achos i sefydliadau y gallai fod yn werth da am arian prynu ynni o ffynhonnell ynni'r llanw fel morlyn llanw bae Abertawe?
Wel, Llywydd, rwy'n deall y pwynt y mae Suzy Davies yn ei wneud, ac rwyf i wedi clywed dadleuon yn cael eu gwneud gan y rhai sy'n rhan o'r cynllun yn Abertawe mai'r ffordd i ymdrin â methiant Llywodraeth y DU i gael dull contract gwahaniaeth o ymdrin â'r trydan a fydd yn cael ei gynhyrchu gan unrhyw forlyn yw rhannu cost hynny ymhlith nifer fawr o brynwyr sector cyhoeddus a phreifat y trydan hwnnw. Ac rwy'n deall y ddadl y maen nhw'n ei gwneud. Ond, siawns mai'r ateb gwirioneddol yw y dylai Llywodraeth y DU gydnabod mai prosiect arddangos oedd hwn i fod erioed, ei bod yn anochel mewn technolegau egin y byddai pris y trydan a gynhyrchir yn uwch nag y byddai fel arall yn y farchnad, ac, yn union fel yr oedd Llywodraethau blaenorol yn barod i'w wneud ym meysydd ynni'r haul a'r gwynt, bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i dariff ar gyfer ynni'r môr—nid dim ond technoleg morlyn llanw, ond ynni'r môr—sy'n caniatáu i'r technolegau newydd hynny gael eu ceisio ac, fel y byddem ni'n ei weld, i ffynnu yma yng Nghymru. Dyna'r ffordd iawn o'i wneud. Mae faint y gall rhannu'r gost ymhlith prynwyr sector cyhoeddus a phreifat yma yng Nghymru ei gyflawni yn gyfyngedig, a bydd, yn y diwedd, yn golygu y bydd yn rhaid i ddinasyddion Cymru ddarparu cymhorthdal i gost y dylai fod Llywodraeth y DU wedi bod yn gyfrifol amdani o'r cychwyn.
Prif Weinidog, tynnodd Dai Lloyd sylw at y ffaith y gallai cynigion ynni'r morlyn llanw greu sector newydd o ddiwydiant ar draws rhanbarth de Cymru ac, yn amlwg, cefnogi diwydiannau eraill yno hefyd, gan gynnwys y gwaith dur ym Mhort Talbot. Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf am fethiant y fenter ar y cyd sy'n debygol o ddigwydd rhwng Tata a Thyssenkrupp, mae hyn yn bosibilrwydd erbyn hyn o sut y gallwn ni weld dur yn cael ei ddefnyddio o waith Port Talbot mewn prosiect a fyddai'n cynnig manteision nid yn unig i'r rhanbarth, ond i Gymru gyfan gydag ynni. A wnewch chi fynd yn ôl at Lywodraeth y DU felly gyda'r neges bod hwn yn bosibilrwydd o sut y gall Llywodraeth y DU helpu'r diwydiant dur, yn ogystal â'r morlyn llanw ac ynni'r llanw?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am wneud y pwynt pwysig yna, ac am fanteisio ar y cyfle, y gwn ei fod yn ei wneud pryd bynnag y caiff y cyfle hwnnw, i siarad ar ran y diwydiant dur ledled Cymru ac yn ei etholaeth ei hun. Nid oedd y ddadl o blaid y morlyn ynni'r llanw erioed yn ymwneud â'r nifer gymharol fach o swyddi a fyddai'n gysylltiedig â'r prosiect yn uniongyrchol—mae hwnnw'n bwynt y ceisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei wneud wrth geisio esgusodi penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen â'r cynllun. Roedd y swyddi bob amser yn mynd i gael eu creu yn y cadwynau cyflenwi hynny a'r posibiliadau gweithgynhyrchu eraill hynny sy'n mynd law yn llaw â diwydiant newydd y gellir ei sefydlu yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, bydd potensial i ddur a gynhyrchir yng Nghymru gael ei ddefnyddio yn y gwaith adeiladu hwnnw. Ac rwy'n hapus iawn o wneud ymrwymiad i'r Aelod y byddwn ni'n ysgrifennu unwaith eto at Lywodraeth y DU, gan wneud y ddadl y mae newydd ei gwneud i mi, yn y cyd-destun newydd hwn.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl hemoffilig yng Nghymru, a'u teuluoedd? OAQ53881
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl yng Nghymru sydd â hemoffilia yn cynnwys ffisiotherapi arbenigol, seicoleg, gwasanaethau cymdeithasol a mynediad at driniaethau diweddaraf. Hefyd, mae cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru yn darparu pecyn o fesurau ariannol a mesurau eraill ar gyfer pobl sydd wedi eu heffeithio gan waed heintiedig.
Prif Weinidog, byddwch yn cydnabod, fel y mae'r rhan fwyaf ohonom ni yn y fan yma yn ei wneud, bod y sgandal gwaed halogedig yn un o'r sgandalau mawr ac ofnadwy sydd wedi digwydd—mae'n rhaid cyfaddef, ymhell cyn datganoli, ond un lle mae etifeddiaeth gyda ni hyd heddiw. Byddwch yn falch hefyd, rwy'n siŵr, o groesawu cychwyn, o'r diwedd, yr ymchwiliad i waed halogedig, sydd wedi dechrau cael ei gynnal. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi hefyd yn croesawu'r gwaith y mae Julie Morgan wedi ei wneud gyda Hemoffilia Cymru, a chyda'r teuluoedd a'r dioddefwyr ledled Cymru, a'r gwaith y mae hi wedi ei wneud gyda'r grŵp trawsbleidiol. Ond, Prif Weinidog, wrth i'r ymchwiliad ddechrau, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth ariannol—tan iddi ddod i'r amlwg bod y pecyn ariannol hwnnw'n berthnasol i Loegr yn unig. Mae'n ymddangos bod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ôl-ystyriaeth ac nad ydynt wedi eu cynnwys ynddo, nad oes dim arian newydd, dim cyllid newydd, dim symiau canlyniadol newydd. Ac mae'n rhaid, Prif Weinidog, mai dyma un o'r gweithgareddau mwyaf creulon a byrbwyll gan Lywodraeth y DU—codi disgwyliadau a pheidio â rhoi unrhyw gymorth ariannol. Prif Weinidog, a wnewch chi bwyso ar Lywodraeth y DU yn gyntaf i sicrhau bod arian newydd—arian go iawn—i ariannu'r bobl hyn sy'n ei haeddu, a bod darpariaeth briodol i'r gweddwon? Ac a allwch chi hysbysu'r Siambr hon pa drafodaethau, pa gysylltiadau, yr ydych chi wedi eu cael gan Lywodraeth y DU, oherwydd maen nhw'n sicr yn ysgrifennu mewn gohebiaeth bod trafodaethau ar fin dechrau? Ac a wnewch chi hefyd drefnu i gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol—neu aelodau o'ch Llywodraeth i gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol—fel y gallan nhw gymryd rhan mewn unrhyw flaengynllunio, unrhyw broses o wneud penderfyniadau, ond hefyd i gael esboniad o ble'r ydym ni arni gyda'r ymchwiliad hwn a chyda'r mater o gymorth i ddioddefwyr?
Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig iawn yna? Gadewch i mi ddechrau trwy gytuno ag ef ein bod ni, wrth gwrs, yn croesawu sefydlu'r ymchwiliad, dan gadeiryddiaeth Syr Brian Langstaff. Rwy'n falch o allu dweud wrth y Siambr bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau statws cyfranogwr craidd yn yr ymchwiliad, sy'n rhoi hawliau mynediad ychwanegol at yr ymchwiliad i ni, ac mae'r ymchwiliad, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn bwriadu dod i Gymru ar 23 Gorffennaf a bydd yn treulio pedwar diwrnod yma yn cymryd tystiolaeth yn uniongyrchol gan y rhai yr effeithiwyd arnynt a'r rhai a heintiwyd yn y sgandal gwaed halogedig, a byddwn yn gwneud beth bynnag y gallwn fel Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl i wneud yn siŵr eu bod yn cael cyflwyno eu hachosion i'r ymchwiliad.
Ond i fynd at y pwynt penodol a godwyd gan yr Aelod, cynhaliwyd cyfarfod ar 21 Ionawr eleni, dan gadeiryddiaeth Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, pryd y cytunwyd bod angen dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan, gyda chydraddoldeb i bawb a gafodd eu heffeithio, ac roedd yr Alban, Cymru, a Gweinidogion y DU yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, a daethom o'r cyfarfod hwnnw ar ôl ymrwymo i'r cynnig hwnnw a gwneud ymdrechion i sicrhau mwy o gyfarfodydd y tu hwnt i 21 Ionawr. Fodd bynnag, ar 30 Ebrill—diwrnod cyntaf yr ymchwiliad i waed heintiedig—gwnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddiad unochrog o gyllid ychwanegol i gleifion yn Lloegr yn unig. Ni fu ymgynghoriad, ni chafwyd hysbysiad gweinidogol ymlaen llaw, ac roedd yn torri'r cytundeb a wnaed ar 21 Ionawr. Rydym ni wedi cael llythyr ers hynny gan is-Weinidog yn yr Adran Iechyd. Mae'n syfrdanu rhywun, a dweud y gwir, pan mae hi'n dweud wrthym, 'Rwy'n credu', meddai, 'y gallem ni i gyd elwa ar fwy o ddeialog a chydweithrediad ar y materion hyn'. Mae'n anghredadwy, a dweud y gwir, y gallai llythyr o'r fath gael ei anfon atom pan roedden nhw wedi gwneud yn union i'r gwrthwyneb. Mae'r ymgyrchwyr, yr elusennau a'r grwpiau ymgyrchu a fu'n rhan o'r cyfarfod ar 21 Ionawr wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU ers hynny yn dweud mai eu dealltwriaeth nhw oedd bod y trafodaethau hynny ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. 'Rydym ni'n tybio', meddent, 'bod y penderfyniad yn cynnwys gweinyddiaethau datganoledig ac wedi darganfod gyda chymysgedd o siomedigaeth, dicter a rhwystredigaeth nad yw hynny'n wir'.
Nawr, Llywydd, yn ystod degawd cyntaf datganoli, cydymffurfiodd y Llywodraeth ar lefel y DU yn gydwybodol â'r cytundeb bod unrhyw beth a oedd wedi digwydd cyn datganoli yn gost ar Lywodraeth y DU. Mae pethau sydd wedi digwydd ers datganoli, wrth gwrs, yn gost arnom ni yn y fan yma. Digwyddodd y sgandal gwaed halogedig ofnadwy flynyddoedd lawer iawn cyn datganoli ac mae'n ymddangos i mi bod y rheolau datganoli yn mynnu yn ddiamwys, os darperir arian gan Lywodraeth y DU i gleifion yn Lloegr, yna mae'n rhaid i'r un cymorth fod ar gael i gleifion ledled y Deyrnas Unedig, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw mewn modd mor egnïol ag y gallwn gyda Gweinidogion y DU.
Prif Weinidog, yn rhan o'r gwaith ar yr ymchwiliad sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru, a allech chi roi rhywfaint o eglurder, efallai, ynghylch pryd y gellid disgwyl i weithwyr fferyllol proffesiynol yng Nghymru ddarparu'r cynnyrch ffactor ailgyfunol a wnaed mewn labordy a dreialwyd, fel Fc-fusion, PEGylation ac ymasiad albwmin, a hefyd hysbysu pa waith y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud gyda chleifion yma yng Nghymru o ran cyfathrebu ynghylch sut y gallai'r cyffuriau hyn wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, ar 6 Mawrth, darparodd fy nghydweithiwr Vaughan Gething ddatganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad, yn cyflwyno pecyn teg a chynhwysfawr o gymorth ychwanegol i deuluoedd ac unigolion yma yng Nghymru. Rydym ni'n credu bod hynny wedi gwneud cryn dipyn i ymateb i bryderon y teuluoedd hynny. Rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod am y cwestiwn penodol ynghylch pryd y bydd gweithwyr fferyllol yn gallu darparu mathau newydd o therapi cyffuriau, ond rydym ni wedi bod yn trafod rhywbeth mwy sylfaenol na hynny yn y cwestiwn hwn. Rydym wedi bod yn trafod cymorth ariannol i bobl a heintiwyd gan fethiant ar ran y gwasanaeth iechyd gwladol bron i 40 mlynedd yn ôl a fydd yn caniatáu iddyn nhw fyw bywydau gweddus ar yr adeg hon yn eu bywydau, ac, er bod pethau eraill yr ydym ni eisiau eu gwneud, mae'r mater sylfaenol hwnnw'n haeddu sylw ar draws y Siambr hon.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fis yn ôl, dywedasoch wrth y BBC y byddai cynhyrchion bwyd na fyddent ar gael i'r cyhoedd mewn archfarchnadoedd mewn achos o Brexit heb gytundeb. Dywedasoch nad oeddech chi'n credu y byddai hyn yn arwain at brinder bwyd i unigolion, ond y byddai'r effaith economaidd yn aruthrol i'r sector bwyd, yn enwedig i fusnesau sy'n dibynnu ar gynnyrch ffres. A allwch chi gadarnhau bod pob warws storio cynhyrchion wedi'u rhewi a'u hoeri yng Nghymru eisoes yn llawn i'r ymylon, hyd yn oed gyda'r oedi presennol i Brexit?
Wel, mae'r Aelod yn gwneud y pwynt pwysig, Llywydd. Ailadroddaf yr hyn a ddywedais ychydig yn ôl, sef, cyn belled ag y mae'r siopau yn y cwestiwn, ni fydd gan bobl yr amrywiaeth a'r dewis o gynnyrch y maen nhw wedi dod i'w mwynhau yn ystod ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. A bydd y rhai hynny yng Nghymru sy'n dibynnu ar gynhyrchu bwyd sy'n cael ei allforio i'r Undeb Ewropeaidd yn gweld bod eu busnesau mewn perygl i'r un graddau os byddan nhw'n wynebu rhwystrau newydd yn sydyn—nid o ran tariffau ond o'r math nad ydynt yn dariffau—a fydd yn golygu y bydd bygythiad sylweddol iawn i rannau helaeth o gynhyrchwyr bwyd Cymru. Nid wyf i eisiau rhoi ateb pendant i'r Aelod heb fod yn sicr ei fod gen i o fy mlaen yn iawn, ond mae'n debyg bod fy nealltwriaeth yn agos at yr hyn yr oedd ef yn ei awgrymu—bod y sector bwyd eisoes yn defnyddio pa bynnag gapasiti sydd ganddo i baratoi ar gyfer y diwrnod pan fyddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Gallaf gadarnhau bod y sector storio oer yng Nghymru yn llawn i'r ymylon—mae wedi bod felly, rwy'n credu, ers rhai misoedd, a, Prif Weinidog, dylech chithau fod yn ymwybodol o hyn eich hun gan fod eich Llywodraeth eich hun, wedi ei chymell gan bryderon o fewn y sector, wedi comisiynu astudiaeth cyn y Nadolig i gapasiti storio oer yng Nghymru a gwblhawyd ym mis Ionawr. Nawr, pam ydych chi wedi gwrthod cyhoeddi'r astudiaeth honno, ac o gofio'r pryder dealladwy ymhlith y cyhoedd, a wnewch chi ymrwymo i wneud hynny nawr?
Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gen i, yn gofyn pa sylwadau yr oeddech chi wedi eu cael fel Llywodraeth ynghylch diffyg capasiti posibl ar gyfer cyfleusterau storio bwyd oer yng Nghymru, atebodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwbl agored eich bod chi ddim ond wedi cael sylwadau gan un busnes yn y sector. A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, mai dim ond dau gwmni sydd yn y sector yng Nghymru, a bod yr un y cawsoch chi sylwadau ganddo—Wild Water Group—yn gweithredu dau o'r tri chyfleuster storio oer ar gyfer bwyd yng Nghymru? A allwch chi gadarnhau'n benodol eu bod nhw wedi gofyn i chi fuddsoddi ar frys i ddatblygu cyfleuster storio newydd oherwydd y pwysau y mae Brexit eisoes wedi ei roi ar y sector bwyd a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru? Rydych chi wedi gwneud yr union beth hwn ar gyfer cyflenwadau meddygol. O ystyried y diffyg capasiti mewn warysau yn y maes hwnnw, beth am wneud yr un peth ar gyfer bwyd, o gofio'r effaith aruthrol yr ydych chi eich hun yn honni y bydd y pwysau y bydd Brexit yn ei achosi ar gadwyni cyflenwi?
Wel, Llywydd, dim ond i ddweud nad wyf i'n ymwybodol o unrhyw gais sydd wedi dod yn uniongyrchol i mi i ryddhau adroddiad. Rwy'n hapus iawn i edrych i weld statws yr adroddiad hwnnw a pha un a fwriadwyd iddo gael ei ddosbarthu'n ehangach.
Mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi cyfarfod â'r consortiwm manwerthu y bore yma ac wedi cael sicrwydd ganddyn nhw ynglŷn â'r camau y maen nhw'n eu cymryd i sicrhau bod cyflenwadau o fwyd ar gael yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'r Aelod yn iawn i ddweud ein bod ni wedi canfod lle storio ym maes cyflenwadau meddygol i sicrhau bod parhad yn y cyflenwad, ond o ran y Llywodraeth, mae'n rhaid i ni gydbwyso bob amser gwario arian, sy'n brin, ar bethau yr ydym ni'n sicr y byddwn ni eu hangen, pe byddem ni'n canfod ein hunain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn erbyn y nifer fawr o ofynion eraill hynny ar ein cronfa bontio'r UE sy'n ymwneud â pharatoi busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar gyfer y dyfodol hirdymor yr ochr arall i Brexit.
Gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni'n adolygu'r holl bosibiliadau yn rheolaidd, a phe byddem ni'n argyhoeddedig ei bod yn angenrheidiol i sicrhau mwy o gyfleusterau storio at y dibenion a amlinellwyd ganddo, yna byddem yn ystyried hynny'n gwbl ddifrifol. Nid ydym wedi cael ein hargyhoeddi o'r achos hyd yn hyn, ond nid yw hynny'n golygu na fyddem ni'n parhau i'w ystyried pe byddai gwybodaeth ychwanegol a gwell ar gael.
A gaf i ddweud, felly, Prif Weinidog, fy mod i wedi gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol i gyhoeddi'r astudiaeth hon. Chi, fel Prif Weinidog, sy'n gyfrifol am y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd, ond gofynnaf i chi unwaith eto nawr: a wnewch chi gyhoeddi'r astudiaeth honno, gan fy mod i'n credu bod gan y cyhoedd hawl i wybod? Gallaf ddweud wrthych chi hefyd, Prif Weinidog, mae gen i nifer o lythyrau oddi wrth gwmnïau yn y sector bwyd sydd i gyd yn honni y bydd y methiant i fuddsoddi mewn cyfleusterau storio oer yn arwain at ganlyniadau andwyol difrifol nawr. Mae rheolwr gyfarwyddwr un cwmni bwyd blaenllaw yng Nghymru yn mynegi ei bryder, a dyfynnaf, ynghylch prinder difrifol o gyfleusterau storio bwyd wedi'i oeri a'i rewi yng Nghymru. Mae cyfarwyddwr cadwyn gyflenwi un arall yn dweud ei bod yn hanfodol bod gennym ni fwy o ddewisiadau storio oer yn yr ardal leol er mwyn gallu parhau i gystadlu. Mae Kepak, sy'n cyflogi 700 o bobl yn ffatri gig St Merryn ym Merthyr yn dweud hyn:
Os nad oes cynnydd i gapasiti storio yng Nghymru, efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried trosglwyddo rhywfaint o gynhyrchiant o Ferthyr i safle yng Nghernyw, a allai gael effaith negyddol ar nifer y gweithwyr ym Merthyr.
Ac, yn ogystal â hynny, mae'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol wedi dweud, heb gyfleusterau storio oer hirdymor ar gyfer cig oen, y gallai effeithiau Brexit 'heb gytundeb' fod yn drychinebus.
Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, o gofio eich bod chi eich hun wedi dweud y gallai Brexit 'heb gytundeb' gael effaith aruthrol ar y sector bwyd, o gofio bod cannoedd o swyddi yn y fantol nawr, bod dyfodol ffermio yng Nghymru mewn perygl ac y gallai diogelwch cyflenwadau bwyd yng Nghymru ei hun gael eu peryglu, pam ar y ddaear na wnaiff Llywodraeth Cymru fuddsoddi'r £3 miliwn i £4 miliwn yr amcangyfrifir sydd ei angen i lenwi'r bwlch yn y cyflenwad cadwyn oer? A pham ydych chi'n rhoi eich ffydd yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chwmnïau dros y ffin, yn hytrach na meddwl am ateb yng Nghymru i broblem yng Nghymru yr ydych chi wedi ei gwaethygu drwy'r ddogn arferol o ddifaterwch, gwadu a diffyg gweithredu?
Mae'n anodd gwybod, Llywydd, ble i ddechrau, pan fo'n rhaid i chi geisio pigo esgyrn cwestiwn synhwyrol oddi wrth yr ormodiaith arferol na all arweinydd Plaid Cymru ei hosgoi. Felly, roedd cwestiwn synhwyrol yng nghanol popeth iddo ei lapio ynddo a dyma ateb synhwyrol iddo: rwyf i wedi dweud wrtho eisoes fy mod i'n hapus i adolygu'r adroddiad i weld a fwriadwyd iddo gael ei gyhoeddi, ac os bwriadwyd hynny, yna rwy'n hapus iawn i ystyried gwneud hynny.
Cyn belled ag y mae storio oer yn y cwestiwn, mae'n un o—mae'n un o—amrywiaeth eang o bethau yr ydym ni'n eu trafod gyda'r diwydiant, ac y mae'r diwydiant yn dweud y byddai eu hangen er mwyn gallu goroesi effaith drychinebus Brexit 'heb gytundeb'. Os mai dyma'r flaenoriaeth uchaf i'r diwydiant, yn y ffordd y mae'r Aelod yn ceisio ei awgrymu, yna byddwn yn hapus ei glywed yn uniongyrchol gan y diwydiant. Ac os mai dyna maen nhw'n ei ddweud wrthym ni, yna byddwn wrth gwrs yn trafod hynny gyda nhw yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â gwaith difrifol Llywodraeth, sef gweithio ochr yn ochr â'r bobl hynny yng Nghymru a fyddai'n cael eu heffeithio gan Brexit 'heb gytundeb', i glywed ganddyn nhw ble maen nhw'n credu y byddai'r buddsoddiad y gallwn ni ei wneud ar y cyd â nhw yn cynrychioli'r defnydd gorau, ac os daw i'r amlwg mai storio oer—ganddyn nhw, yn hytrach na ganddo ef—yw eu prif flaenoriaeth, yna byddwn yn sicr yn gweithio gyda nhw ar hynny.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa mor dda y mae eich Llywodraeth yn cynnal diwydrwydd dyladwy yng nghyswllt cefnogi busnesau?
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cannoedd o fusnesau ledled Cymru bob dydd. Rydym ni'n gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy, wrth gwrs, ar geisiadau am gyllid yr ydym ni'n eu cael, ac rydym ni'n parhau i gadw mewn cysylltiad agos â'r cwmnïau hynny yn ystod y cyfnod yr ydym ni'n cynnig cymorth iddyn nhw. A yw hynny'n golygu nad oes dim byth yn mynd o'i le? Wel, nac ydy, wrth gwrs.
Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi sut y mae eich Llywodraeth yn cynnal diwydrwydd dyladwy. Ers 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu miliynau ar filiynau o bunnoedd ar fenthyciadau gwael a phenderfyniadau busnes gwael. Cafodd Canolfan Cywain £3.4 miliwn, a beth ddigwyddodd? Fe'i caewyd. Cafodd Main Port Engineering £650,000 ac aeth i ddwylo'r gweinyddwyr. Prif Weinidog, hoffwn edrych yn agosach ar un cwmni yn benodol, 'ku-kd dot com'—neu kukd.com. Nawr, cyhoeddwyd yr ymchwiliad i'r dyfarniad o grant gwerth £1 filiwn i kukd.com gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2016, ac eto bron i dair blynedd yn ddiweddarach, rydym ni'n dal i aros i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar y mater hwn. Nid dyma'r tro cyntaf i ni gwestiynu atebolrwydd eich Llywodraeth ac am fod yn llai nag agored gyda ni, Prif Weinidog. Mae rhestr faith o brosiectau wedi'u rheoli'n wael wedi methu â bodloni disgwyliadau o bell ffordd ac wedi niweidio ffydd trethdalwyr. A gadewch i ni beidio ag anghofio'r camfarnau eraill gan Lywodraeth Cymru: Pinewood Studios, prosiect Cylchdaith Cymru, tanwerthu tir sy'n gysylltiedig â chronfa buddsoddi mewn adfywio Cymru, buddsoddiad busnes mentrus yn Kancoat, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwerthu coed Cymru mewn modd anghyfrifol. Nawr, gan eich bod chi'n honni eich bod yn cynnal diwydrwydd dyladwy fel Llywodraeth, ac er mwyn bod yn dryloyw, a wnewch chi nawr ymrwymo heddiw i gyhoeddi'r adroddiad ar kukd.com cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ni yn y Siambr hon graffu'n briodol ar weithredoedd eich Llywodraeth?
Llywydd, yn wahanol i'r aelod ac, mae'n debyg, ei blaid, rydym ni ar y meinciau hyn yn credu mewn buddsoddi mewn busnesau yma yng Nghymru. Yn sicr, nid wyf i'n ymddiheuro, am un eiliad, am y ffaith bod Llywodraethau Cymru olynol wedi ei hystyried yn ddyletswydd arnyn nhw i gynorthwyo busnesau yng Nghymru, i'w helpu i dyfu i greu gwaith yma yng Nghymru, ac os ydych chi'n mynd i wneud hynny ar sail hollol ddi-risg, lle nad ydych chi byth yn barod i gymryd siawns ar gwmni a allai droi'n rhan bwysig iawn o'n dyfodol economaidd yma yng Nghymru, yna, wrth gwrs, gallwch ddileu pob posibilrwydd o rywbeth yn mynd o'i le trwy beidio byth â gwneud dim. Os mai dyna yw polisi ei blaid ef, dylai ddweud wrthym ni yn y fan yma. Os nad yw'n credu y dylem ni fyth fod yn barod i fuddsoddi mewn busnes a allai, yn y pen draw, fethu â gwneud popeth y mae'n ei ddweud wrthym ni, wrth ein panelau arbenigol sy'n adolygu pob un o'r achosion hyn a'r penderfyniadau y mae Gweinidogion yn eu gwneud, yna bydd pobl yn y dyfodol yn gwybod pe byddai ei blaid ef erioed wedi canfod ei hun mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau yma yng Nghymru, yna ni fyddai'n Llywodraeth a fyddai'n barod i wneud y pethau hynny sy'n caniatáu i fusnesau yma yng Nghymru ffynnu.
Dywedodd yr Aelod wrthyf bod diffyg tryloywder ac yna aeth ymlaen i roi rhestr o bethau y gallai ddim ond fod wedi gwybod amdanynt o ganlyniad i wybodaeth yr oedd Llywodraeth Cymru ei hun wedi ei chyhoeddi. Mae fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yn dweud nad yw'n ei chael hi'n anodd o gwbl cyhoeddi'r adroddiad y cyfeiriodd yr Aelod ato, felly bydd adroddiad arall y bydd ef yn gallu ei ddarllen, ac edrychwn ymlaen at ei safbwyntiau ar dryloywder pan fydd darn arall o wybodaeth sydd ar gael dim ond oherwydd bod y Llywodraeth hon yn barod i'w rhoi ar gael yn syrthio i'w ddwylo.
Wel, mae hyn yn ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd, Prif Weinidog. Rydym ni wedi aros tair blynedd am yr adroddiad hwn. Pam ar y ddaear nad yw'r adroddiad hwn wedi cael ei gyhoeddi hyd at yn awr? Felly, rwy'n cymryd o'r ateb yr ydych chi newydd ei roi i mi y bydd yn cyhoeddi'r adroddiad hwn maes o law, ond nid oedd hynny'n eglur o'ch ateb. Nawr, ceir o hyd—[Torri ar draws.] Ceir cwestiynau difrifol o hyd am y berthynas rhwng Plaid Lafur Cymru, cyn-Weinidogion Llywodraeth Cymru a kukd.com. Nawr, mewn erthygl gan WalesOnline a gyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2015, ysgrifennodd Gweinidog yr economi ar y pryd, a dyfynnaf,
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn wedi sicrhau y bydd pencadlys busnes arall a sefydlwyd gan Mr Hussein yng Nghymru.
Fodd bynnag, ar 17 Tachwedd 2015, cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â kukd.com i drafod eu trafferthion busnes parhaus a'r gostyngiad i'r swyddi a oedd yn cael eu creu. Yna, 10 diwrnod ar ôl y cyfarfod hwn, roedd kukd.com yn brif noddwr cinio gala Llafur Cymru lle'r oedd uwch reolwyr kukd.com ac uwch Weinidogion Llywodraeth yn bresennol. Awgrymaf i chi, Prif Weinidog: dylai tryloywder ac atebolrwydd a bod yn agored fod wrth wraidd gwleidyddiaeth a'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. O gofio nad yw'r adroddiad ar kukd.com wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn—ond rwy'n croesawu'r ffaith fy mod i'n credu i chi ddweud yn eich ateb efallai y byddwch chi yn ei gyhoeddi—a allwch chi gadarnhau y bydd yr ymchwiliad i'r cwmni hwn yn ystyried pa un a gynhaliwyd diwydrwydd dyladwy yn drylwyr a beth y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn ei ddysgu fel bod arian trethdalwyr yn cael ei wario'n ddoeth yn y dyfodol?
Wel, rwyf i—. Dywedais yn fy ateb diwethaf, Llywydd, ar ôl i'r adroddiad gael ei gymeradwyo i'w gyhoeddi, bydd yn cael ei gyhoeddi a bydd yr Aelod yn gallu ei ddarllen a gweld popeth sydd wedi ei gynnwys ynddo. Eisteddais mewn cyfarfod Cabinet y DU lle'r oedd y £30 miliwn y bu'n rhaid ei dalu i Eurotunnel mewn iawndal am benderfyniadau y mae ei blaid ef wedi eu gwneud yn San Steffan, yn ogystal â'r contractau sydd wedi cael eu canslo gan ei Lywodraeth ef erbyn hyn—£80 miliwn; £80 miliwn wedi ei daflu i ffwrdd ar yr un mater hwnnw. Nid wyf i angen gwrando ar areithiau hunangyfiawn gan arweinydd yr wrthblaid, oherwydd pe bawn i eisiau gweld lle mae arian yn cael ei daflu i ffwrdd gan awdurdodau cyhoeddus, nid oes angen i mi edrych ymhellach na'i blaid ef a'r ffordd y mae wedi ymdrin â'r un mater hwnnw. Ceir y nifer uchaf erioed, Llywydd, o fusnesau sydd â'u pencadlysoedd yng Nghymru erbyn hyn, ac ni fyddai hynny'n wir oni bai am y polisïau y mae'r Llywodraeth hon yn eu dilyn i gynorthwyo busnesau Cymru, trwy fuddsoddi ynddyn nhw pan fo dadl gref dros wneud hynny. Ac, os na fydd y buddsoddiadau hynny yn llwyddo i gyflawni'r hyn yr oeddem ni i gyd wedi ei obeithio ac wedi cael cyngor mai dyna fyddai'r mwyaf tebygol o gael eu derbyn ganddynt, yna wrth gwrs—wrth gwrs—rydym ni wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi o'r profiadau hynny, a dyna pam yr oedd yr Aelod yn gallu nodi'r enghreifftiau hynny y dechreuodd siarad amdanyn nhw y prynhawn yma.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd—[Torri ar draws.]
Gareth Bennett, parhewch ac anwybyddwch gweddill y Siambr.
Prif Weinidog, weithiau rwyf i'n dychwelyd at bynciau yma yn y Siambr yr wyf i wedi holi yn eu cylch yn y gorffennol, gan ei bod hi'n ymddangos nad oes dim yn digwydd. Mae'n ymddangos ein bod ni wedi cyrraedd y cam hwn gyda gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Mae hon yn ganolfan drafnidiaeth bwysig, wrth gwrs, nid yn unig i bobl yng Nghaerdydd ond i bobl ledled Cymru, a bydd defnyddwyr yn gwybod bod diffyg lle yn yr orsaf, yn enwedig pan fo digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd, pan fo pobl yn tueddu i gael eu gwasgu at ei gilydd yn yr orsaf fel sardinau mewn tun. Gwnaed addewid ers cryn amser i'r cyhoedd yng Nghymru y byddai'r orsaf drenau ganolog yn cael ei huwchraddio. Pryd ydych chi'n meddwl ein bod ni'n debygol o gael hynny?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod gorsaf drenau Caerdydd yn lleoliad prysur iawn o ran trafnidiaeth; mae 40 y cant o'r holl deithiau ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn cychwyn neu'n gorffen yng ngorsaf Caerdydd. Mae hynny'n rhoi syniad i chi pa mor bwysig ydyw i bobl yng Nghaerdydd, ond hefyd i Gymru benbaladr. Nawr, nid yw buddsoddi yng ngorsaf Caerdydd yn fater i Lywodraeth Cymru ond i Lywodraeth y DU. Rydym ni wedi cyfeirio eisoes y prynhawn yma at Mr Grayling a'i lwyddiant eithriadol fel Gweinidog. Ar y rhestr faith o bethau y mae wedi methu â rhoi sylw iddynt y mae'r ddadl ynghylch uwchraddio gorsaf drenau Caerdydd Canolog. Nawr, rydym ni wedi dadlau'r achos dro ar ôl tro iddo berswadio Llywodraeth y DU i roi i Gymru gyfran deg o'r buddsoddiad yn y rheilffyrdd y byddem ni'n ei chael pe byddech chi ddim ond yn rhoi i ni y gyfran y mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn ei chynrychioli o rwydwaith y DU yn ei chyfanrwydd. Nid ydym yn cael yn agos at gyfran deg. Nid yw'r llais sydd ei angen arnom ni gennym yn Llundain yn siarad dros Gymru i sicrhau y bydden ni'n ei gael, ac felly mae'n rhaid i ni weithio hyd yn oed yn galetach i berswadio'r Gweinidog trafnidiaeth yn Llywodraeth y DU i beidio ag ychwanegu hyn at ei restr faith o fethiannau.
Diolch am eich ymgysylltiad â'r cwestiwn a diolch am eich ymgysylltiad â llawer o'r cwestiynau yr wyf i wedi eu gofyn i chi. Nawr, yn anffodus, nid wyf i yma i graffu ar Chris Grayling a Llywodraeth y DU; rwyf i yma i graffu arnoch chi a'ch Llywodraeth. Rydych chi wedi dadlau'r achos hwn o'r blaen am y diffyg buddsoddiad, sydd—rwy'n gwerthfawrogi'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud. Yn anffodus, nid yw'n helpu defnyddwyr yr orsaf drenau, sy'n dal i aros i ryw fath o waith datblygu ddechrau. Nawr, efallai y byddai myfyrdod ehangach o sut y mae eich Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn cymryd i ystyriaeth y ffaith eich bod chi neu eich cyd-Weinidogion yn dweud wrthym ni bob wythnos eu bod nhw mewn rhyw fath o anghydfod ariannu gyda Llywodraeth y DU. Cawsom yr hurtrwydd yn ddiweddar o drigolion Cymru ddim yn cael mynd i gael triniaeth mewn ysbyty ddim ymhell dros y ffin yng Nghaer oherwydd hyn. Holl bwrpas cael Llywodraeth Cymru yma yn y Cynulliad yw bod pethau'n gweithio'n well i bobl Cymru. I'r arsylwr niwtral, efallai y bydd yn ymddangos mai'r cyfan sy'n digwydd mewn gwirionedd yw eich bod chi a'ch Gweinidogion yn rhedeg gweithrediad nad yw o fudd i bobl Cymru o gwbl, oherwydd y cwbl yr ydych chi'n ei wneud yw gwastraffu amser yn rhoi'r bai am eich diffyg gweithredu ar benderfyniadau ariannu a wneir yn San Steffan a Whitehall. Prif Weinidog, onid yw pobl Cymru yn haeddu rhywbeth ychydig bach yn well gennych chi?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n gweld sut mae'r Aelod yn gwneud unrhyw hawliad o gwbl ei fod yr hyn y mae'n ei gyfeirio ato fel 'arsylwr niwtral'. Rwy'n gobeithio bod ei sylwadau ar orsaf drenau Caerdydd yn awgrym y bydd yn ymuno â ni i alw am ddatganoli'r cyfrifoldebau hynny, er mwyn i ni allu eu cyflawni'n uniongyrchol yma yng Nghymru. Nid wyf i'n siŵr ai dyna yw polisi ei blaid, ond, os mai dyna yw, byddwn yn falch iawn o wybod hynny.
A, ble y gallwn weithredu, fel yn yr orsaf fysiau wrth ochr yr orsaf drenau yng Nghaerdydd, yna Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithredu i sicrhau bod y cyllid ar gael a bod y cynllun ar waith ac y bydd yr orsaf fysiau yn cael ei datblygu mewn ffordd a fydd, cyn belled â'n bod ni'n cael y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, yn troi i'r ganolfan drafnidiaeth yr ydym ni wedi bod eisiau ei gweld erioed, gyda chyfnewidfa rhwng gwahanol fathau o gludiant cyhoeddus yma yng nghanol ein dinas.
O ran y pwynt iddo orffen ag ef, am ysbyty Countess of Chester, gadewch i ni fod yn eglur: penderfyniad ysbyty Countess of Chester oedd hwnnw—penderfyniad unochrog gan y darparwr hwnnw, y bu'n rhaid i ni dreulio wythnosau erbyn hyn yn datgymalu'r cynllun yr oedden nhw wedi ei wthio oddi ar y wal a'i roi yn ôl at ei gilydd. Nawr, byddwch wedi gweld y datganiad y mae'r Gweinidog iechyd wedi ei wneud, yn egluro sut, trwy gymryd y camau yr ydym ni wedi eu cymryd, y mae gennym ni gytundeb drwy'r Adran Iechyd erbyn hyn a fydd yn sicrhau bod ysbyty Countess of Chester yn parhau i drin cleifion o Gymru. Ond gwnaed y penderfyniad i beidio â thrin cleifion o Gymru yn unochrog ac, yn fy marn i, yn anghyfrifol ganddyn nhw, ac nid gennym ni yn sicr.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ53866] yn ôl. Felly, cwestiwn 4—Mandy Jones.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i annog mwy o ymgysylltiad â democratiaeth leol? OAQ53858
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd y Bil llywodraeth leol ac etholiadau yn cynnwys mesurau i annog ymgysylltiad â democratiaeth leol yng Nghymru drwy ymestyn y fasnachfraint, hybu tryloywder, amrywiaeth ac ymgysylltu ehangach.
Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rydym ni'n dathlu 20 mlynedd o'r sefydliad hwn ar hyn o bryd gyda galwad eglur am fwy o Aelodau Cynulliad. Gwelaf fod gan yr Alban, â'i phoblogaeth o bron i 5.5 miliwn, lai o gynghorwyr na Chymru, gyda'n poblogaeth ni o ychydig dros 3 miliwn. Yn fy marn i, rydym ni wedi ein gorgynrychioli yng Nghymru. Prif Weinidog, sut gallwch chi gysoni'r alwad am ragor o ACau gyda'r cyhoedd sy'n talu trethi pan fo dim yn llythrennol—[Torri ar draws.]
Anwybyddwch y synau yn y cefndir a pharhewch gyda'ch cwestiwn.
Rwyf i yn dod i'r pwyllgor.
Prif Weinidog, sut y gallwch chi gysoni'r alwad am ragor o ACau gyda'r cyhoedd sy'n talu trethi pan fo dim yn llythrennol yn cael ei wneud i leihau nifer y cynghorwyr ac awdurdodau lleol?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n meddwl bod cynsail sylfaenol y cwestiwn atodol yn wir, oherwydd, mewn gwirionedd, mae nifer y cynghorwyr yng Nghymru wedi gostwng o ganlyniad i newidiadau a ddaeth yn sgil y sefydliad annibynnol sy'n adolygu'r materion hyn ar ein rhan. Ond nid wyf i'n derbyn fy hun rhagosodiad sylfaenol yr hyn a ddywedodd yr Aelod. Nid wyf i'n credu bod Cymru yn cael ei gorgynrychioli. Yn wir, ceir llawer o astudiaethau sy'n dangos, o'n cymharu â rhannau eraill a llwyddiannus iawn o Ewrop, bod gennym ni lai o ddemocratiaeth gynrychioliadol yma yng Nghymru, ac rwyf i o'r farn—nid yw'r holl Aelodau yn ei rhannu, rwy'n deall—ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, bod y cyfrifoldebau y mae'r corff hwn yn eu cyflawni ar ran pobl yng Nghymru erbyn hyn yn golygu bod parhau i geisio gwneud hynny'n llwyddiannus gyda 60 o Aelodau, y nifer oedd gennym i ddechrau pan oedd y cyfrifoldebau, ystod a dyfnder y cyfrifoldebau, mor wahanol fel nad yw'n cyfateb mwyach i'r cyfrifoldebau a gyflawnir ar ran pobl yma yng Nghymru, a bod y ddadl a wnaed yn adolygiad McAllister am gynnydd i nifer yr Aelodau Cynulliad wedi ei gwneud yn dda ac nad yw'n dibynnu, yn fy marn i, ar leihau mathau eraill o gynrychiolaeth yng Nghymru er mwyn cyflawni hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyndyn o weithredu agenda hawliau cymunedol Deddf Lleoliaeth 2011, a fyddai'n helpu ymgysylltiad cymunedol. Yn 2012, gwrthododd Llywodraeth Cymru adroddiad 'Cymunedau yn Gyntaf — y Ffordd Ymlaen' Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a ganfu y dylai cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog i unrhyw raglen trechu tlodi olynol, ac, er bod yr amcanion llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys pobl yn cyfrannu at eu cymunedau yn cael eu hysbysu, eu cynnwys ac yn cael gwrandawiad, yn rhy aml nid yw hyn wedi digwydd naill ai oherwydd nad yw pobl mewn grym eisiau ei rannu, neu oherwydd methiant i ddeall y bydd darparu gwasanaethau fel hyn yn creu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol. Felly, pa gamau ydych chi a'ch Llywodraeth yn eu cynnig i annog mwy o ymgysylltiad mewn democratiaeth leol drwy droi'r uchelgais yn y meysydd hyn yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ddealltwriaeth a chyflawni?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i'r syniad y dylai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael eu cyd-gynllunio a'u cyd-ddarparu gyda'r bobl hynny sy'n eu defnyddio ynghyd â'r bobl sy'n eu darparu. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg, sef mai'r hyn sy'n ganolog i'r pethau hyn, yn aml, yw cysylltiadau grym a bod yn rhaid i ni weithio'n galed weithiau i berswadio gweithwyr proffesiynol y gallan nhw rannu rhywfaint o'r grym a'r awdurdod sydd ar gael iddyn nhw gyda phobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny ac nad yw hynny'n fygythiad iddyn nhw a'i fod yn debygol dros ben o arwain at ganlyniadau gwell i'r bobl y maen nhw yno i'w gwasanaethu. Nid wyf i'n credu bod hynny'n gofyn am ddarnau penodol o ddeddfwriaeth er mwyn iddo ddigwydd, gan fy mod i'n credu ei fod yn newid diwylliannol i'r ffordd y mae pobl sy'n darparu gwasanaethau yn meddwl am y berthynas rhwng yr hyn y maen nhw'n ei wneud a'r bobl sy'n dod drwy eu drysau, ystyried y bobl hynny fel asedau, fel pobl sydd â chryfderau, fel pobl sydd â rhywbeth i'w gyfrannu at y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i hynny fel egwyddor drwy gydol popeth a wnawn yn y gwasanaethau yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw yng Nghymru.
5. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i adeiladu ar lwyddiant cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru? OAQ53874
Diolchaf i John Griffiths am hynna. Rydym ni wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant diweddar Cymru o ran cynnal digwyddiadau mawr. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i nodi digwyddiadau sydd â'r potensial i dyfu, ac i fynd ar drywydd cyfleoedd newydd i ddenu digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr i bob rhan o Gymru.
Prif Weinidog, roedd marathon Casnewydd ar Sul cyntaf y mis hwn yn llwyddiant ysgubol, gan adeiladu ar lwyddiannau'r flwyddyn gynt. Roedd tua 6,000 o redwyr yn y marathon, y ras 10 cilomedr a'r llwybr rhedeg teuluol, awyrgylch carnifal yng Nghasnewydd, enillwyd marathon y menywod gan fenyw o Gasnewydd, a oedd yn plesio'r holl bobl leol, ac fe wnaeth lwyddo yn wirioneddol i annog pobl leol i feddwl am rhedeg a chael mwy o ymarfer corff. Mae'n gweithio gyda digwyddiadau rheolaidd eraill fel y ddau ddigwyddiad rhedeg yn y parc yng Nghasnewydd, lle mae cannoedd o bobl yn mynd yn fwy heini ac egnïol bob bore Sadwrn ac yn mwynhau cychwyn iach iawn i'r penwythnos. Felly, byddwn yn falch iawn pe gallech chi gydnabod y llwyddiant hwnnw, Prif Weinidog, a hefyd y pwysigrwydd o ran proffil Cymru a Chasnewydd, y gwariant y mae'n ei ddenu i Gymru a Chasnewydd, gyda gwestai yn llawn, bwytai, caffis a siopau yn brysur iawn, ac ystyried hefyd efallai sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid allweddol i adeiladu ar lwyddiant dau farathon cyntaf Casnewydd yn y blynyddoedd i ddod.
Diolchaf i John Griffiths am hynna. Mae yn llygad ei le bod ail farathon Casnewydd Cymru yn llwyddiant ysgubol, o ran nifer y bobl y llwyddwyd i'w denu i'r digwyddiad cyfranogi torfol hwnnw, ond hefyd o ran y ffordd y cafodd ei ddarlledu i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru ein hunain i fuddsoddi ym marathon Casnewydd Cymru y llynedd, eleni, a byddwn yn gwneud hynny eto y flwyddyn nesaf. Rydym ni eisiau helpu i ddatblygu uchelgais y digwyddiad i ddod yn farathon cenedlaethol i Gymru ac, wrth gwrs, mae John Griffiths yn iawn, y tu hwnt i'r digwyddiad ei hun, bod digwyddiadau o'r fath yn ychwanegu at broffil yr ardal. Nid dyma'r unig ddigwyddiad mawr y mae Casnewydd yn ymwneud ag ef o safbwynt chwaraeon. Mae clwb criced Morgannwg, Llywydd, yn chwarae gêm pencampwriaeth y siroedd ym Mharc Spytty heddiw am y tro cyntaf ers degawdau lawer—mae hwnnw'n ddigwyddiad mawr yn llawer o'n dyddiaduron ni yn y fan yma. Ac, wrth gwrs, mae tîm pêl droed Casnewydd, Newport County, yn cychwyn ar y diweddaraf o'r hyn a fu'n gyfnod mor wych o lwyddiant. Dymunwyd yn dda iddyn nhw ar draws y Siambr hon yn gynharach yn y tymor; rwy'n siŵr ein bod ni'n gwneud hynny eto y prynhawn yma.
Dwi ddim eisiau i bobl deimlo eu bod nhw'n colli allan, ond mae un gamp fawr dim ond yn fy etholaeth i y gall o gael ei gynnal, a sôn ydw i am Gemau'r Ynysoedd yn rhyngwladol. A dwi'n falch iawn o gyhoeddi'r eiliad yma bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cytuno i 'underwrite-io' y gemau hynny at 2025. Dwi'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gytuno eisoes i roi swm sylweddol o arian. Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi rhoi swm hefyd, a phwyllgor rhyngwladol Gemau'r Ynysoedd. A dwi'n hyderus iawn y byddwn ni, drwy ffynonellau preifat a chodi arian yn lleol yn Ynys Môn, yn sicrhau ein bod ni'n gallu cynnal gemau llwyddiannus iawn yn 2025, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r cynghorwyr am eu cefnogaeth nhw heddiw. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi bod yna gyfle drwy'r gemau yma i adael gwaddol ar gyfer Ynys Môn o ran gweithgarwch corfforol a diddordeb mewn chwaraeon am ddegawdau i ddod?
Diolch yn fawr i'r Aelod am dynnu sylw at y ffaith bod y cyngor lleol, a ni fel Llywodraeth hefyd, newydd gefnogi'r bid sydd wedi mynd i mewn i dynnu'r gemau i Ynys Môn yn 2025. Mae'r gemau wedi tyfu dros y blynyddoedd, a nawr mae'n rhywbeth mawr yn y calendr blynyddol. So, dŷn ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda phobl leol i dynnu'r gemau i Ynys Môn a defnyddio'r gemau, fel roedd Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud, i helpu'r economi ar yr ynys, i wneud pethau yn y maes iechyd, a jest i ddathlu'r ffaith bod y gemau wedi dod i Ynys Môn ac i Gymru.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu system gyfan i wella ein system fwyd? OAQ53876
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Bydd fy nghydweithiwr, Lesley Griffiths, yn ymgynghori ar gynllun gweithredu newydd ar gyfer bwyd yn ystod yr haf eleni. Bydd yn mynd i'r afael â chymhlethdodau cynhyrchion a defnydd bwyd, gan ganolbwyntio ar gyflwyno dewisiadau bwyd diogel ac iach, lles anifeiliaid ac adfer yr amgylchedd.
Rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn edrych ymlaen at yr ymgynghoriad, Prif Weinidog, ond rwy'n pryderu bod gennym ni system dameidiog ar hyn o bryd. Mae'r Gweinidog Iechyd yn aros am yr ymatebion i'r ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach', mae'r Gweinidog addysg yn gyfrifol am brydau ysgol—dadl y byddwn yn ei chael yfory—ac mae'r pwyslais ar fwyd fel rhan o'r economi sylfaenol i'w groesawu’n fawr. Ddoe, fe welsom ni lawer o fanwerthwyr bwyd mawr yn camu i'r adwy drwy ymrwymo i haneru gwastraff bwyd erbyn 2030. Mae hwn, mae'n ymddangos i mi, yn bwnc cymhleth iawn, ac rwyf yn nodi, yn yr Alban, fod llawer o bwysau i wneud Bil y genedl o fwyd da yn un sy'n cyflawni mewn ffordd gynaliadwy a chyfannol, ac roeddwn yn tybio sut mae'r Prif Weinidog yn bwriadu dod â hyn i gyd ynghyd o fewn Llywodraeth Cymru.
Wel, diolch i'r Aelod am hynny. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at gymhlethdod y cyfan. Llywydd, mae'n ymddangos i mi yn anochel fod gan bron bob Gweinidog yn Llywodraeth Cymru ddiddordeb o ryw fath neu'i gilydd mewn bwyd, ac nad yw'n bosibl, yn synhwyrol, i ganolbwyntio'r holl gyfrifoldebau eithaf gwahanol hynny—boed hynny ar gyfer prydau ysgol, ar gyfer bwyd ysbyty, ar gyfer y cynllun sgorio bwyd, ar gyfer busnesau bwyd, ar gyfer effaith amgylcheddol bwyd—i gyd mewn un portffolio Gweinidogol. Mae hynny'n golygu, yn y ffordd yr awgrymodd Jenny Rathbone, fodd bynnag, fod yn rhaid inni, y Llywodraeth, ddangos ein bod yn mynd ati'n drefnus i sicrhau ein bod yn tynnu'r holl linynnau gwahanol hynny ynghyd mewn ffordd gydlynol. Rwyf eisiau sicrhau'r Aelod, pan ceir mentrau penodol, megis y rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach' y cyfeiriodd hi ati—er iddi gael ei chyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, ei bod wedi'i llywio'n drylwyr gan swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru a thrwy drafodaeth â Gweinidogion eraill. Mae gennym ni grŵp cydgysylltu sefydlog o uwch swyddogion yn Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn dod â'r gweithgareddau gwahanol yr ydym yn eu cynnal yn y maes bwyd at ei gilydd. Mae'r cynllun gweithredu ar fwyd, y cyfeiriais ato yn fy ateb gwreiddiol, eisoes wedi bod gerbron y Cabinet, mae wedi'i drafod eisoes, a chaiff ei fireinio ymhellach nawr er mwyn sicrhau ei fod yn ystyried barn Gweinidogion ar draws y Llywodraeth, er mwyn sicrhau cymaint ag y gallwn ni ein bod yn darparu'r hyn y gofynnodd Jenny Rathbone amdano, sy'n ddull gweithredu cydlynol ar draws y maes cymhleth hwn.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu gradd-brentisiaethau? OAQ53873
Rydym yn darparu £20 miliwn i dreialu a phrofi prentisiaethau gradd dros y ddwy flynedd nesaf. Yn dilyn hynny, pan fydd y profiad hwnnw gennym ni, fe ystyrir gwneud y rhaglen yn un barhaol.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw? Yn amlwg, mae prentisiaethau wedi cael eu cysylltu â chymwysterau addysg ers blynyddoedd lawer—ONC, HNC—a nawr mae'r prentisiaethau gradd yn gam ymlaen ac i'w croesawu'n fawr. Ond, deallaf yng Nghymru, fod gennym ni ddau fframwaith sy'n weithredol ar hyn o bryd ac nid ydym ni wedi ehangu'r ddau fframwaith hynny hyd yn hyn. Rwy'n falch iawn o glywed fod gennych chi gynllun treialu dros ddwy flynedd, ond pryd ydych chi'n mynd i ehangu'r ddau fframwaith? Nid oes gennym ni fframweithiau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, maes lle wyddwn ni bod prinder sgiliau a bylchau y mae angen i ni eu llenwi, a thu hwnt i hynny. Felly, a allwch chi roi syniad inni ynghylch pryd y byddwn ni'n mynd y tu hwnt i'r ddau fframwaith sydd gennym ni ar hyn o bryd?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs ei fod yn iawn ac mae'n gwybod o'i brofiad blaenorol uniongyrchol ei hun fod dod â'r gweithle a maes astudio at ei gilydd wedi bod yn rhan o'r ffordd yr ydym yn darparu dyfodol i bobl Cymru. Mae'r rhaglen brentisiaeth gradd yn fenter newydd, Llywydd; daeth 210 o brentisiaid y rhai cyntaf i astudio yn y rhaglen newydd ym mis Medi'r llynedd a bydd tua 210 arall yn ychwanegu at y rhaglen honno ym mis Medi eleni. Bydd hynny'n rhoi'r ddau fframwaith y cyfeiriodd David Rees atyn nhw ar brawf. Rydym yn mynd ati i edrych, tra bod hynny'n digwydd, ar fannau eraill lle y gellid ehangu hynny, ac mae'n iawn wrth gyfeirio at faes gofal cymdeithasol fel rhywle lle'r ydym bob amser yn ceisio codi statws y proffesiwn drwy gofrestru a thrwy addysg a hyfforddiant. Bydd angen i ni ddysgu o brofiad yr ymdrechion cychwynnol hyn. Nid oes unrhyw ddiben i ddechrau rhywbeth er mwyn dysgu ohono oni bai eich bod yn barod i gymryd yr amser sydd ei angen i ddysgu, ond rydym wrthi'n chwilio am ffyrdd eraill o adeiladu ar yr hyn yr ydym ni'n teimlo'n ffyddiog yn ei gylch, sef llwyddiant y rhaglen.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ba mor effeithiol yw'r modelau ariannu presennol ar gyfer prosiectau seilwaith cyhoeddus o ran denu darpar fuddsoddwyr? OAQ53880
Diolch i'r aelod. Wrth ariannu prosiectau seilwaith, fy nod cyntaf bob amser yw defnyddio'r ffurf rataf o gyfalaf yn gyntaf, gan ddechrau wrth gwrs gyda gwariant cyfalaf confensiynol. Pan fydd pob ffynhonnell gyhoeddus wedi'i dihysbyddu, byddwn yn gweithio gyda darpar fuddsoddwyr ar brosiectau seilwaith allweddol, gan sicrhau bob amser mai budd y cyhoedd sy'n cael blaenoriaeth.
Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog, ond fel y gwyddom ni i gyd, rhoddwyd y gorau i rai prosiectau sylweddol iawn yn ddiweddar, gan gynnwys Cylchffordd Cymru, gorsaf bŵer niwclear Wylfa a'r morlyn llanw. Ym mhob achos, methodd y rhain oherwydd problemau gyda'r model ariannu. Ar gyfer swyddi ac ansawdd bywyd, mae angen i Gymru roi rhai prosiectau seilwaith cyhoeddus mawr ar waith mewn gwirionedd. Wrth symud ymlaen, pa fodelau ariannu eraill ydych chi'n eu hystyried i ddenu buddsoddiad mewn prosiectau yn y dyfodol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Gallaf ei sicrhau hi y byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar y model cyllido newydd y mae'n ei ddatblygu o ran dyfodol posibl Wylfa ac i weld a oes model y gallan nhw ei ddyfeisio a fyddai'n denu buddsoddwyr yn ôl i'r bwrdd i weld a ellir dod â'r oedi i ben yn achos cynllun Wylfa. O ran Llywodraeth Cymru—ac wrth gwrs mae'r model cyd-fuddsoddi yr ydym ni wedi'i ddatblygu yn cynnig tri phrosiect allweddol yr ydym yn bwrw ymlaen â nhw—mae diddordeb mawr wedi bod ymhlith contractwyr a chyllidwyr ac rydym yn dal i fwriadu datblygu'r model hwnnw yn gysylltiedig â'r Felindre newydd, o ran rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac o ran prosiectau ffyrdd hefyd.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Caroline Jones.
9. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd meddwl pobl ifanc? OAQ53877
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd camau gweithredu ar draws ein holl gyfrifoldebau, gan gynnwys gweithio gydag ysgolion, colegau a'r GIG, yn ogystal ag ystod o bartneriaid eraill ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, wrth i ni ymateb i anghenion iechyd meddwl cyfnewidiol pobl ifanc yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog. Mae pobl ifanc heddiw yn wynebu pwysau nad oedd yr un ohonom ni wedi breuddwydio amdano yn ystod ein cenhedlaeth ni. O bwysau ynghylch sut maen nhw'n edrych ar Instagram i'r angen i wario arian er mwyn osgoi bod yn 'default' yn Fortnite, mae baich yr oes gyfryngau cymdeithasol yn cael effaith niweidiol. Yr wythnos diwethaf, datgelodd arolwg fod plant chwech a saith oed yn poeni am brofion ysgolion. Brif Weinidog, pa gamau y gall eich Llywodraeth eu cymryd i leihau'r straen a roddir ar bobl ifanc?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Cytunaf â hi fod y busnes anodd o dyfu i fyny, mewn rhai ffyrdd, hyd yn oed yn fwy anodd nag y bu yn y gorffennol oherwydd y ffordd y mae'r cyfryngau newydd a phethau eraill yn ymwthio i fywydau pobl ifanc a'r pwysau y gall pobl ifanc eu teimlo i lwyddo mewn byd sy'n gallu ymddangos yn anodd a chystadleuol. Pan fo'r pethau hynny yn ein dwylo ni, fel yn achos plant chwech a saith oed, yna rydym wedi gweithredu yn barod i geisio gwneud yn siŵr bod y gwaith ffurfiannol sy'n bwysig—oherwydd mae'n bwysig iawn bod pobl ifanc yn cael eu hasesu'n ffurfiannol er mwyn iddyn nhw gael y cymorth y mae eu hangen arnyn nhw ac, wrth i'w haddysg fynd yn ei blaen, mae wedi'i theilwra i'w hanghenion—ond i geisio cyflwyno'r asesiadau ffurfiannol hynny mewn ffyrdd fel nad oes ganddyn nhw'r anfantais o wneud i'r bobl ifanc hynny deimlo dan bwysau ychwanegol. A gwn y bydd Caroline Jones yn ymwybodol ein bod wedi symud i ffurf newydd o brofi a fydd yn golygu nad oes angen i bopeth ddigwydd mewn rhan benodol o'r flwyddyn, na fydd yn teimlo fel profion confensiynol, ac y bydd pobl ifanc unigol yn gallu dilyn cyfres o gwestiynau sy'n iawn iddyn nhw ac sy'n caniatáu i'w hathrawon, wedyn, asesu eu cynnydd a gwneud yn siŵr, wrth iddyn nhw symud ymlaen, eu bod nhw'n gallu cael y math o gymorth yr hoffem ni ei weld ar eu cyfer.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Mae'r cwestiynau nesaf, felly, i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.
1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch cymunedol yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ53830
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau'n fwy diogel. Yr wythnos diwethaf, siaradais yn lansiad y strategaeth troseddu difrifol a chyfundrefnol yng Nghymru, a chroesawais gyfraniad yr heddlu, llywodraeth leol a'r trydydd sector, sy'n gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, i wella diogelwch cymunedol.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae anoddefgarwch crefyddol ar gynnydd o gwmpas y byd. Yn ystod y ddeufis diwethaf, rydym wedi gweld ymosodiadau ar fosgiau yn Seland Newydd, ar eglwysi yn Sri Lanka ac ar Synagog yng Nghaliffornia. Mewn ymateb, mae'r Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, wedi dyblu faint o arian sydd ar gael i ddarparu diogelwch amddiffynnol ar gyfer addoldai. Gan fod yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd yn hawl ddynol sylfaenol, Dirprwy Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu a thawelu meddwl cymunedau ledled Cymru eu bod yn ddiogel yn eu mannau addoli?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, oherwydd ar 25 Mawrth, yn dilyn y digwyddiadau erchyll yn Seland Newydd, ysgrifennais at bob un o'n cymunedau ffydd—a dweud y gwir, at yr holl Imamiaid ledled Cymru—ynghylch diogelwch amddiffynnol mewn addoldai. Yr hyn a oedd yn bwysig oedd fy mod wedi galluogi'r rhai a gafodd eu heffeithio i gysylltu â mi a swyddogion i weld sut y gallem ni eu cefnogi, a thynnais sylw at y cynllun cyllido diogelwch amddiffyn addoldai. Do, cyhoeddwyd cynnydd gan yr Ysgrifennydd Cartref; yr anhawster, wrth gwrs, yw mai dim ond £5 miliwn sydd dros dair blynedd ac, yn wir, nid yw'n mynd i fod ar gael tan fis Gorffennaf. Felly, rwy'n pwyso ar i hynny gael ei ddwyn ymlaen, ac yn sicr y byddaf yn gwneud yn siŵr bod ein holl fosgiau ac, yn wir, addoldai ledled Cymru yn ymwybodol o'r cyllid hwnnw.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau cynghori'n cael eu cefnogi'n llawn am weddill y pumed Cynulliad? OAQ53857
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymrwymiad hirsefydlog i ariannu gwasanaethau cynghori er mwyn sicrhau bod cyngor di-dâl, diduedd a sicr o ran ansawdd ar gael i'r rhai sydd ei angen. Mae hyn yn cydnabod y swyddogaeth hanfodol y mae gwasanaethau cynghori yn ei chyflawni o ran gwella iechyd a lles pobl o bob rhan o'n cymunedau.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hwnnw. Oherwydd mae'n amlwg eu bod yn chwarae rhan bwysig. Y llynedd, clywsom ni'r Prif Weinidog yn honni bod cyni wedi dod i ben; wel, roedd hi'n anghywir, yn yr un modd a'i bod yn anghywir am bopeth arall. Nid yw cyni wedi dod i ben ac mae llawer o etholwyr a llawer o bobl ledled Cymru sy'n dal i ddioddef o dan ideoleg cyni'r Llywodraeth Dorïaidd bresennol. Nawr, mae'n bwysig bod y gwasanaethau cynghori'n aros yn eu lle i'w cefnogi pan fydd angen y cymorth hwnnw arnynt, i'w hatal rhag mynd i sefyllfa gynyddol waeth. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau y bydd y lefelau ariannu yn cael eu cynnal o leiaf i'r lefel y maen nhw ar hyn o bryd, os na chânt eu gwella, i sicrhau bod y gwasanaethau y mae cymaint o'n hetholwyr yn dibynnu arnynt i sicrhau nad ydynt yn agored i'r sefyllfaoedd hynny—ac mae hynny'n effeithio ar eu lles a'u hiechyd—yno i'w cynorthwyo pan fydd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw?
Diolch i David Rees am y cwestiwn hwnnw, oherwydd cydnabyddir pwysigrwydd cyllid grant tymor hwy i ddarparwyr cyngor, yn enwedig yn y cyfnod ansicr a heriol hwn. Ac mae'n amlwg ein bod yn parhau â'n hymrwymiad i gyllido'r gwasanaethau cynghori. Yn wir, mae cyllid o tua £8.5 miliwn y flwyddyn, gan gynnwys £2.45 miliwn ar gyfer yr ardoll ariannol, a hefyd, ar ben hynny, rydym wedi lansio cronfa gyngor sengl gwerth £8 miliwn ar 24 Ebrill, ac rydym wedi ymestyn cytundebau grant, er mwyn cynnal sefydlogrwydd gwasanaethau cynghori. Ond, yn amlwg, rydym yn disgwyl dilyn hyn pan fydd gennym fwy o sicrwydd ynghylch cyllid y dyfodol gan Lywodraeth y DU, gan fod gwasanaethau cynghori wedi bod yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru erioed, ac yn arbennig yn ystod y cyfnod hwn o gyni ac adegau heriol i'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at eich datganiad ysgrifenedig ar 24 Ebrill i'r Aelodau, yn ystod toriad y Pasg, pan wnaethoch chi gyhoeddi bod tair ffrwd ariannu a'r gronfa gynghori sengl yn cael eu cyfuno. Fe wnaethoch chi ddweud bod darparwyr yn cael eu hannog i gynllunio ac i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd fwy cydweithredol, ac ar sail ranbarthol, rydych chi'n sefydlu rhwydweithiau cyngor rhanbarthol newydd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, a rhagwelir y bydd y cyfarfodydd cychwynnol yn cael eu cynnal yn ystod yr hydref. Ac fe wnaethoch chi sôn hefyd fod Llywodraeth Cymru nawr yn cael cyfran o ardoll ariannol y DU.
Sut rydych chi'n ymateb i bryder a fynegwyd wrthyf i gan rai o'r darparwyr llai, sy'n tueddu i lenwi'r bylchau pan fo ciwiau darparwyr mwy yn golygu bod angen ymyriad ar frys ar bobl sy'n wynebu beilïaid neu o dan fygythiad o gael eu troi allan, mai eu profiad nhw yw eu bod wedi cael eu rhwystro'n weithredol pan fyddant yn gofyn am gael ymuno â cheisiadau am gyllid cydweithredol yn lleol oherwydd nad yw'r darparwyr mwy eisiau rhannu eu potiau cyllid, sydd eisoes wedi'u lleihau, â chystadleuwyr, ac, yn nodweddiadol, gall darparwr mwy gyflwyno dull cydweithredol i gyllidwr â phartneriaid sy'n llai tebygol o fod yn fygythiad i'w statws fel darparwr arweiniol yn yr ardal, a'u galwadau ar Lywodraeth Cymru, wrth i chi fwrw ymlaen â hyn, am gwotâu mewn cynigion i orfodi darparwyr mawr i gydweithio, nid yn unig ynghylch cyflawni, ond o ran rhannu adnoddau cyllido, ac ar gyfer cronfeydd cyllid llai sydd wedi'u neilltuo ar gyfer asiantau cyflawni llai i annog amrywiaeth, arloesedd, cynaliadwyedd ac arbenigaeth?
Diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn hwnnw, oherwydd rydych chi wedi cyfeirio at fy natganiad ysgrifenedig ar 24 Ebrill. Roedd hwn yn datblygu'r cynllun gweithredu o'r cynllun gweithredu o ran gwybodaeth a chyngor a gyhoeddwyd gennym yn 2016, ac roedd 19 o gamau gweithredu yn hwnnw i sicrhau y gallwn wneud y defnydd gorau o gyllid gwasanaethau cynghori. Ac rwy'n credu, fel yr ydych yn ei ddweud, o ran gwell cydweithredu, mae'r gronfa gynghori sengl newydd hon yn mynd i alluogi hynny i ddigwydd. Bydd yn annog gwell cydweithredu, yn gwella effeithlonrwydd modelau cynllunio a darparu gwasanaethau, sy'n hanfodol i'r sefydliadau llai hynny sydd eisoes yn derbyn y cyllid hwn. Bydd ar gael, ac bydd hefyd, wrth gwrs, yn sicrhau y bydd yna gyllid grant yn y tymor hwy, ar yr amod ein bod yn cael yr ymrwymiad cadarn hwnnw gan Lywodraeth y DU o ran adolygiad cynhwysfawr o wariant yn y dyfodol. Ond rwy'n credu y bydd hyn yn diwallu anghenion y cynllun gweithredu o ran gwybodaeth a chyngor, y daethpwyd a nhw ynghyd, wrth gwrs, o ganlyniad i sylwadau gan ddarparwyr cyngor o bob maint ledled Cymru.
3. Pa ddadansoddiad diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith llymder ar gydraddoldeb yng Nghymru? OAQ53851
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn cyfeirio at ddadansoddiad a gomisiynwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae hwn yn dangos bod effaith negyddol anghymesur yn sgil diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU ers 2010 ar incymau nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, grwpiau ethnig penodol, a menywod.
Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae ymweliadau wythnosol â'm swyddfa etholaeth gan bobl sy'n gweld bod eu bywydau'n mynd yn anoddach a'u bod yn wynebu cymdeithas sy'n fwyfwy anghyfartal, yn bennaf oherwydd effeithiau cyni, yn dal i beri syndod a thristwch i mi. Ac er gwaethaf yr hyn y mae Theresa May wedi'i ddweud, mae'r Torïaid yn parhau i wthio cyni ar ein cymunedau. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno, gan fod cyni'n parhau i erydu cyfansoddiad cymdeithasol ein cymunedau, gan ddinistrio bywydau gymaint o bobl, ei bod yn hen bryd nawr i Lywodraeth y DU roi'r gorau i'r difrod a chael gwared ar eu polisi cyni?
Yn sicr, rwy'n cytuno â'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni. A heddiw rydym ni wedi gweld cyhoeddi'r ymchwiliad hwn—ymchwiliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn cael ei gyhoeddi—i anghydraddoldebau yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae eisoes wedi dweud yn y cyhoeddiad cyntaf fod gan y DU lefel uwch o anghydraddoldeb na llawer o wledydd datblygedig eraill. Mae hynny'n frawychus i ni yma yn y DU, yng Nghymru, yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae lefelau tlodi ledled Cymru a gweddill y DU yn rhy uchel. Mae cyni ac effaith polisïau diwygio treth a lles Llywodraeth y DU wedi effeithio'n anghymesur ar ein grwpiau mwyaf agored i niwed. Rydym yn parhau i bryderu'n ddirfawr am ddiffygion sylfaenol credyd cynhwysol. Ac yn wir, mae Ymddiriedolaeth Trussell newydd adrodd, pan fydd credyd cynhwysol yn cael ei roi ar waith mewn ardal, bod cynnydd amlwg yn y galw am fanciau bwyd lleol Ymddiriedolaeth Trussell. Ar gyfartaledd, 12 mis ar ôl cyflwyno'r rhaglen, mae banciau bwyd yn gweld cynnydd o 52 y cant yn y galw, o'i gymharu â 13 y cant mewn ardaloedd lle mae credyd cynhwysol wedi bodoli am dri mis neu lai. Felly, gwyddom ni, ac yn wir, gwyddom ni oherwydd effaith y toriadau ar ein cyllideb, yr hyn y mae cyni yn ei wneud, nid yn unig i'n gwasanaethau cyhoeddus, ond i bobl Cymru sydd fwyaf agored i niwed.
Mae'n rhaid sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gael swyddi sy'n talu'n dda neu gyfleoedd hyfforddi, ac mae hynny'n sicr yn wir am bobl sy'n anabl, ac rwy'n credu bod angen rhoi blaenoriaeth i hynny pan fyddwn yn chwilio am Gymru sy'n fwy cyfartal. Byddai o ddiddordeb imi gael gwybod barn y Dirprwy Weinidog am ymgyrch Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU, sy'n helpu cyflogwyr i ddeall y gallent fod yn colli allan ar y bobl orau ar gyfer eu sefydliad, os mai'r cyfan y mae nhw'n ei weld yw'r anabledd. Ac mae gennym hyrwyddwr rhagorol ar gyfer y cynllun hwn yn Abertawe—gwn y bydd rhai o'ch cyd-Aelodau ar y fainc flaen yn ymwybodol o Julian John. A byddwch yn gwybod, wrth gwrs, bod Abertawe'n ddinas Hyderus o ran Anabledd. Mae dros 11,000 o gyflogwyr yn rhan o'r cynllun ar hyn o bryd, ond mae Cymru'n dal heb gynrychiolaeth ddigonol ar hwnnw. Felly tybed a wnewch chi rannu rhai syniadau ynghylch sut yr ydych chi'n credu y gallai Llywodraeth Cymru helpu cyflogwyr i ddeall hyn yn well, a hyd yn oed ymrwymo i wneud Llywodraeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Diolch.
Suzy Davies, mae hwnnw'n gynllun pwysig iawn. Ac rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, a'r adran gyflogaeth yn arbennig, i ystyried ffyrdd y gallwn ni annog mwy o ymwybyddiaeth a defnydd o'r cynllun hwnnw gan gyflogwyr. Mae'n sicr yn bwynt allweddol yr wyf i'n ei drafod â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â chyflogadwyedd, ac mae'n mynd i'r afael yn enwedig ag anghenion pobl anabl yng Nghymru o ran cyfleoedd cyflogaeth. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn rhan o'n strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', oherwydd y mae'n ymwneud hefyd nid yn unig â fframwaith ar gyfer ymagwedd Llywodraeth gyfan, sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi, sydd wrth gwrs yn cynnwys pobl anabl.
Mae'n rhaid imi ddweud, unwaith eto, gan fynd yn ôl at rai o'r problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu ar hyn o bryd, eu bod ar eu colled o ganlyniad i ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU. Ac mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn gallu cael cyflogaeth, ond ein bod hefyd yn cydnabod bod rhwystrau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw. Ac wrth gwrs, rydym ni'n chwilio am ffyrdd y gallwn ni ddatblygu ateb, sy'n tarddu o Gymru, i'r problemau hynny ond yn sicr gan ystyried y cynllun Hyderus o ran Anabledd hwnnw.
Mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar anghydraddoldebau cyfoeth yn y DU wedi dangos y bwlch enfawr rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Ymhlith gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, y DU yw'r ail wlad fwyaf anghyfartal, ar ôl yr Unol Daleithiau. Mae hon yn sefyllfa warthus, ac mae awduron yr adroddiad bellach yn ei ddisgrifio fel bygythiad i ddemocratiaeth. Mae hefyd yn feirniadaeth lem ar amryw Lywodraethau San Steffan sydd wedi bod yn gyfrifol am anghydraddoldeb cynyddol, ac mae hynny'n cynnwys Llafur. Mae'n werth cofio bod cyni wedi dechrau dan y Blaid Lafur, a daeth y banciau bwyd cyntaf i fodolaeth pan oedd Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig. Yma yng Nghymru, mae'n dwylo wedi'u clymu mewn sawl ffordd, gan nad oes gennym ni lawer o'r sbardunau economaidd y mae eu hangen arnom ni i sicrhau newid sylfaenol. Fodd bynnag, prin fod Llafur tra iddynt fod mewn grym wedi gosod esiampl dda drwy gau'r cynllun Cymunedau'n Gyntaf a methu â sefydlu cynllun newydd i'w ddisodli. Felly, yn absenoldeb rhaglen wrth-dlodi benodol, beth yw strategaeth eich Llywodraeth i leihau tlodi?
Yn amlwg, rydym ni'n lliniaru effeithiau tlodi a rhaglen diwygiadau lles niweidiol Llywodraeth y DU. Rwyf wedi cyhoeddi'n ddiweddar, ac mae'n berthnasol iawn i ymchwiliad yr IFS, ein bod yn mynd i gychwyn Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010—y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol—erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, a phan fydd honno wedi'i gweithredu, bydd y ddyletswydd hon yn golygu y bydd yn rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried yr hyn y gallant ei wneud i leihau tlodi ac anghydraddoldeb pryd bynnag y byddant yn gwneud penderfyniadau mawr.
Ond hefyd, er gwaethaf y ffaith ein bod wedi cael cyllideb o 5 y cant yn is mewn termau real o ganlyniad i gyni, sy'n bwynt allweddol yn y cwestiwn hwn, yn cyfateb i £800 miliwn yn llai o ganlyniad i gyni gan y Llywodraeth Dorïaidd hon, rydym ni wedi gweithredu'r gronfa cymorth dewisol, gan gefnogi 214,326 o ddyfarniadau i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Cefnogir cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor â £244 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. A'r hyn sy'n hollbwysig am y polisïau hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'u datblygu yw bod bron i 300,000 o aelwydydd agored i niwed ac incwm isel yng Nghymru, o ganlyniad i gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, yn parhau i gael eu diogelu rhag unrhyw gynnydd ym maint y dreth gyngor y mae angen iddynt ei thalu. Rydym yn buddsoddi £104 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Cynnes i wella hyd at 25,000 o gartrefi eraill ar gyfer bobl ar incwm isel. Nawr, yr hyn sy'n hollbwysig yw bod pobl yn gallu gweld ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru yma, yn gweithio ac yn defnyddio adnoddau prin gyda'r toriadau hynny gan Lywodraeth y DU i flaenoriaethu ffyrdd y gallwn ni liniaru effaith y diwygiadau lles a'r cyni.
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i farn Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol? OAQ53837
Sefydlwyd swyddogaeth Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol annibynnol i Gymru er mwyn rhoi cyngor i'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ar gyfrannu at y nodau llesiant. Rydym wedi ystyried, a byddwn ni'n parhau i ystyried, safbwyntiau'r comisiynydd yn y penderfyniadau a wnawn.
Diolch ichi am eich ateb, Dirprwy Weinidog. Pa asesiad fyddwch chi'n ei wneud o ddylanwad a hygrededd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol os bydd Llywodraeth Cymru yn anwybyddu ei barn ar ffordd liniaru'r M4?
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ein helpu i ganolbwyntio o'r newydd ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ac i ymgysylltu ag amrywiaeth poblogaeth Cymru, ac mae'n bwysig ein bod yn cydweithio'n agos â hi o ran gweithredu o'r Ddeddf drwy gefnogi sefydliadau ac, yn wir, wrth rannu arfer gorau ledled Cymru. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog ar hyn o bryd yn ystyried adroddiad yr arolygydd annibynnol ar brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, a bydd ei benderfyniad yn cael ei gyhoeddi yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin.
5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am drais a cham-drin domestig yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53879
Mae pla cam-drin a thrais domestig yn annioddefol. Dyna pam y cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth ac yn ariannu gwasanaethau ar gyfer atal, diogelu a chefnogi. Rydym yn gweithio tuag at wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fenywod yn Ewrop.
Diolch am yr ateb yna.
Nawr, mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod Heddlu De Cymru yn cael galwad ffôn bob 15 munud ynghylch trais neu gam-drin domestig—ffigur gwirioneddol frawychus. Un cam cadarnhaol o ran adnabod cam-drin domestig fu'r cynllun Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch, sef cynllun IRIS, lle mae meddygon teulu a staff practis yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Merthyr a Rhondda Cynon Taf yn cael eu hyfforddi i adnabod arwyddion cam-drin domestig drwy holi cyfres o gwestiynau. Yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, lle dechreuodd y cynllun fis Ionawr 2016, cafwyd dros 500 o atgyfeiriadau erbyn hyn lle na fu'r un o'r blaen. Rwy'n credu bod angen cyflwyno'r prosiect arobryn hwn ar draws ardal Heddlu De Cymru yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys mewn ardaloedd fel Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ac, yn wir, ledled Cymru gyfan. I'r perwyl hwnnw, a ydych chi'n cytuno, ac os felly, pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w roi i fyrddau iechyd i'w cynorthwyo i gyfrannu at y maes hynod bwysig hwn?
Mae hon yn enghraifft o arfer da y gwn y bydd yn cael ei rhannu gan brif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu. A dweud y gwir, rwy'n cadeirio'r bwrdd plismona ddydd Iau yr wythnos hon, ac rwy'n sicr y tynnir ein sylw at hyn, gan ei fod yn rhoi cyfle i'r heddlu a'r gwasanaethau gydweithio i gyflawni ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae'n bwysig inni allu dysgu gan bob rhan o Gymru sut y gall gwasanaethau weithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gefnogaeth a'r camau gweithredu hynny o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.
A gaf i ddiolch i'r Aelod dros orllewin y de am gyflwyno'r cwestiwn pwysig iawn hwn? Efallai fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o'r erthyglau newyddion diweddar y bydd gan gynghorau yn Lloegr ddyletswydd gyfreithiol bellach i ddarparu cartrefi diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig o dan gynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Pa sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog tai, i edrych ar oblygiadau hyn? Hefyd, beth fyddan nhw'n ei wneud i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yma yng Nghymru yn cael cymorth tebyg—gan barhau â'r gwaith gwych yr ydym ni eisoes wedi'i wneud trwy arwain y ffordd gyda'r Bil trais domestig—a rhoi diwedd ar drais domestig o bob math unwaith ac am byth?
Rwy'n diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn hwnnw, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael gennym sydd eu hangen ar y rhai sy'n ceisio cymorth oherwydd trais a cham-drin domestig. Yn amlwg, rydym yn gweithredu ar hyn o ganlyniad i'n strategaeth genedlaethol yn dilyn y Ddeddf, ac mae hynny wedi arwain at ddull mwy strategol wedi'i seilio ar anghenion o gomisiynu a darparu'r holl wasanaethau, gan gynnwys darpariaethau lloches a gwasanaethau arbenigol sy'n bwysig. Felly, un o'r pethau rydym ni wedi'i wneud—comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ddiweddar i gynnal adolygiad o ddarpariaeth lloches yng Nghymru a gwneud argymhellion i fenywod a dynion sy'n ffoi rhag cael eu cam-drin. Bydd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar ddulliau rhyngwladol ac yn ceisio mewnbwn gan ddarparwyr arbenigol. Rwy'n credu bod cyllid yn hanfodol yn ogystal â dyletswyddau cyfreithiol, ac mae'n bwysig ein bod wedi buddsoddi yng Nghymru—yn parhau i fuddsoddi—yn y grant Cefnogi Pobl a delir i awdurdodau lleol i helpu pobl agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n ffoi rhag trais domestig, i ddod o hyd i gartref neu lety a'i gadw. Daeth hynny'n rhan o'r grant cynnal tai ym mis Ebrill eleni ac fe'i gweinyddir gan bob un o'r awdurdodau lleol. Mae hynny hefyd yn rhoi llawer gwell hanes inni o ran darparu lloches.
6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gwella bywydau pobl yng Nghymru? OAQ53878
Mae'r Ddeddf yn gwella bywydau pobl trwy ddarparu ffordd unigryw Gymreig o fynd i'r afael â'r heriau hirdymor sy'n ein hwynebu. Mae'n sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio ar atal problemau rhag digwydd a gweithio mewn modd cydweithredol ac integredig, gan gynnwys pobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein cenedl.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Ddoe, fe wnaethom ni ddysgu bod lefelau carbon deuocsid yn ein hatmosffer wedi cyrraedd 415ppm am y tro cyntaf mewn hanes dynol—nid hanes ar gofnod; nid yw'r lefelau wedi bod mor uchel â hyn ers cyn i bobl grwydro'r ddaear miliynau o flynyddoedd yn ôl. Oni bai ein bod yn cymryd camau llym, byddwn yn gadael cefnforoedd gwenwynig a phlaned sy'n marw i genedlaethau'r dyfodol. Yr oedd yn ymddangos eich bod yn anghytuno â barn ceidwad y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, y comisiynydd, ar ffordd liniaru'r M4. Felly, a ydych chi'n credu bod eich Llywodraeth wedi ymrwymo yn wirioneddol i'r Ddeddf ac i ddiogelu Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Rwy'n credu bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fel y dywedais, yn ffordd unigryw, ffordd Gymreig, o fynd i'r afael â heriau hirdymor. Rydych chi wedi sôn am heriau hirdymor. Rwy'n credu bod y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn barod i ddatgan argyfwng hinsawdd—y Llywodraeth gyntaf mae'n debyg, rwy'n credu, i ddatgan argyfwng hinsawdd—ychydig wythnosau yn unig ar ôl cyhoeddi cynllun, cynllun carbon isel Cymru, sy'n cynnwys 100 o gamau gweithredu a blaenoriaethau y mae'r Gweinidog wedi ymrwymo iddyn nhw, ac yn fwy na hynny yn eu hadolygu ac yn eu hystyried o ran y cyfleoedd sydd o'n blaenau wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd—. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig o ran comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r ffordd yr ydym yn gweithio gyda'n gilydd yw ein bod yn gallu gweld yr effaith y mae hyn wedi'i chael. Er enghraifft, mae'r polisi cynllunio cenedlaethol diwygiedig wedi'i ailwampio, gan ddefnyddio'r Ddeddf, ac mae'n gwneud creu lle yn ganolog i'r system gynllunio, gan sicrhau bod llesiant pobl yn cael ei ystyried yn rhan o'r broses gynllunio.
Fel y gwyddoch, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhestru nodau llesiant, gan gynnwys Cymru iachach. Rwyf i ar ddeall y gallai awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau ledled Cymru a Llywodraeth Cymru, ystyried nodau o'r fath wrth ystyried ceisiadau i neilltuo llwybrau troed penodol. A wnewch chi, felly, gadarnhau bod dyletswydd ar awdurdodau cynllunio i ystyried y nod Cymru iachach wrth ystyried neilltuo priffordd?
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried amcanion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol Cymru ac ystyried effaith hirdymor y penderfyniadau maen nhw'n eu gwneud, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys pob datblygiad. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n hynod bwysig, Janet Finch-Saunders, yw fy mod i wedi sôn am y ffaith bod y polisi cynllunio cenedlaethol, sy'n hanfodol i'r materion hyn, wedi ei ail-lunio gan ddefnyddio'r Ddeddf.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Mae datganiad ar lwybr arfordir Cymru ac ar deithio llesol wedi'u hychwanegu at yr agenda heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog diwylliant ar beth arall y gellir ei wneud i warchod ein henebion hanesyddol pwysig rhag fandaliaeth? Yr wythnos diwethaf, roedd yr amffitheatr Rufeinig yng Nghaerllion unwaith eto yn darged i fandaliaid, gyda cherrig yn cael eu tynnu a'u taflu. Mae tynnu'r cerrig hyn wedi dinistrio adeiledd yr heneb hon a'i archeoleg sylfaenol. Cafwyd adroddiadau hefyd o fandaliaid a ddrwgdybir yn ymddwyn yn ymosodol ac yn fygythiol tuag at geidwad y safle. Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog ynghylch beth arall y gallwn ei wneud i ddiogelu safleoedd o'r fath rhag y troseddwyr difeddwl hyn?
Diolch yn fawr iawn am godi'r achos arbennig hwn yn y Siambr. Wrth gwrs, mae achosion o fandaliaeth a dinistr i'n henebion gwarchodedig, diolch byth, yn brin iawn, ond pan fydd yn digwydd, mae'n amlwg yn rhywbeth sy'n peri pryder a gofid mawr i'r cymunedau dan sylw yn arbennig, ond hefyd i bob un ohonom ni o ran hanes Cymru a'n hetifeddiaeth Gymreig. Os oes diweddariad y gall y Gweinidog ei ddarparu yn yr achos arbennig hwn, byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu atoch.
Trefnydd, mewn datganiad ysgrifenedig ar 30 Ebrill, mynegodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ei phryderon ynghylch canfyddiadau adroddiad Arolygiaeth ei Mawrhydi ar Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin, a gyhoeddwyd ar 28 Mawrth eleni. Dangosodd yr adroddiad na chyflawnwyd y broses gyfuno gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn dda, a bod y sefydliad a grëwyd yn 2014 wedi methu ag amddiffyn y plant a'r bobl ifanc yn ddigonol, a'r cyhoedd yn gyffredinol, yn yr ardal. Canfu'r adroddiad nad oedd yr un o'r tri awdurdod lleol wedi cymryd cyfrifoldeb llawn am y gwasanaeth, bod gwaith partneriaeth yn anghyson, ansawdd gwaith achos amrywiol, a rheolaeth annigonol o ddydd i ddydd, a bod rheolwyr a staff, gan ddyfynnu,
wedi'u gadael i ddiffodd tân ac ymateb i symptomau problemau systemig sylweddol.
Yn y bôn, mae'r adroddiad yn nodi ei bod yn aml yn amhosibl gwybod a yw plant a phobl ifanc yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu hamddiffyn o gwbl. Er nad yw cyfiawnder ieuenctid yn fater sydd wedi'i ddatganoli, mae cysylltiadau clir â meysydd sydd wedi'u datganoli, fel gwasanaethau cymdeithasol ac ymyrraeth gynnar. Nawr, gan fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda nifer o gyrff ar y mater hwn, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo, felly, i ddarparu datganiad llafar, gan ganolbwyntio'n benodol ar y cynnydd sydd ei angen ac sy'n cael ei wneud ar yr argymhellion a geir yn yr adroddiad hwn?
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, mae datganiad llafar wedi'i amserlennu i'r Cynulliad yr wythnos nesaf ynglŷn â glasbrint cyfiawnder, ac efallai bydd hyn yn gyfle i godi rhai o'r materion penodol hyn gyda'r Gweinidog bryd hynny.
Trefnydd, yn amlwg, yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf fod cyd-fenter Tata â ThyssenKrupp mewn perygl ac yn annhebygol o fynd yn ei blaen a'u bod yn atal proses y gyd-fenter, a gawn ni alw am ddatganiad llafar gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—ond, a dweud y gwir, byddai'n well gen i ei gael gan y Prif Weinidog, gan fy mod i'n credu bod hyn mor bwysig â hynny—ynglŷn â'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda Tata i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yma yng Nghymru? Mae'n elfen hanfodol i'r diwydiant dur, ac mae angen cyfle arnom ni i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog i sicrhau bod gennym ni ddealltwriaeth lawn o'r camau y byddan nhw'n eu cymryd i ddiogelu dur yng Nghymru. Maen nhw wedi'i wneud hyd yma—mae'n rhaid canmol Llywodraeth Cymru ar ei hanes o gymorth i'r diwydiant—ond dyma ni eto, yn yr un sefyllfa ag yn 2016, i bob pwrpas, yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf, ac mae angen i'r gweithwyr ym Mhort Talbot, y gweithwyr yn Shotton, y gweithwyr yn Llanwern, Orb a Throstre fod yn ffyddiog bod dyfodol i'r diwydiant yma yng Nghymru.
Ar ail bwynt, a gawn ni ddadl hefyd yn amser y Llywodraeth ar y gronfa ffyniant gyffredin? Mewn ymateb i ddadl yn Neuadd San Steffan, y galwyd amdani gan fy nghyd-Aelod, Stephen Kinnock AS, y neges a ddaeth yn glir oddi wrth y Llywodraeth oedd y bydd y ffyniant cyffredin hwn yn fwy o gronfa ffyniant i'r DU gyfan ac na fyddwn o reidrwydd yn cael yr un math o gyllid ag a gawn ni ar hyn o bryd ac na fyddwn o reidrwydd yn rheoli'r cyllid hwnnw. Mae'n hen bryd nawr inni gael dadl yma er mwyn inni allu sicrhau bod y Cynulliad cyfan yn cael dadl a'n bod yn gallu anfon neges glir o'r Cynulliad hwn i San Steffan y dylen nhw anrhydeddu eu hymrwymiadau a pheidio â dyfeisio ffyrdd newydd o rannu'r arian ar gyfer eu cyfeillion sy'n Geidwadwyr yn siroedd Lloegr.
Diolch ichi, David Rees, am godi'r ddau fater hynod bwysig hynny y prynhawn yma. Yn amlwg, mae hwn yn gyfnod pryderus i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant dur ledled Cymru, ac, fel y gwnaethom gefnogi ein diwydiant dur drwy gydol yr argyfwng yn 2016, byddwn yn cydweithio eto â'r diwydiant a'i gadwynau cyflenwi, a hefyd â'r undebau llafur cydnabyddedig, i gefnogi'r gweithwyr dur a'r cymunedau o'u hamgylch drwy'r cyfnod nesaf pwysig hwn.
Siaradodd Gweinidog yr economi, Ken Skates, â chyfarwyddwr gweithredol Tata Steel Europe a hefyd ag undebau dur ddydd Gwener yn dilyn y cyhoeddiad, a bydd yn parhau i weithio'n agos gyda Tata i drafod y ffordd orau y gallwn ni gefnogi'r diwydiant yn sgil y cyhoeddiad diweddar. Gwn mai ei fwriad oedd cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw, ond byddaf yn sicr o'i wneud yn ymwybodol o'ch cais i drafod y mater ag ef yn bersonol.
Rwy'n hoffi eich awgrym i gynnal dadl ar y gronfa ffyniant cyffredinol yn fawr. Rwy'n credu y byddai'n gyfle gwych i'r Cynulliad hwn anfon neges glir i Lywodraeth y DU na ddylai unrhyw Brexit olygu bod Cymru yn colli na cheiniog na phŵer, ac rydym yn sicr wedi dod i gasgliadau pendant ynghylch sut y dylai'r gronfa ffyniant cyffredinol weithredu yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai anfon neges unedig gref ynghylch hynny yn arbennig o ddefnyddiol.
A gaf i alw am un datganiad ar gymorth i bobl ag enseffalomyelitis myalgig, neu syndrom blinder cronig, yng Nghymru? Ddydd Sul diwethaf, fel y gwyddoch o bosibl, oedd Diwrnod Ymwybyddiaeth ME, ar 12 Mai, a'r mis hwn yw Mis Ymwybyddiaeth ME. Fe wnes i alw am ddatganiad tebyg ar 13 Tachwedd, neu fis Tachwedd diwethaf, ar ôl imi gynnal digwyddiad yn y fan yma gyda Chymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru a gyda Chymorth ME ym Morgannwg, a dangos ffilm o'r enw Unrest, a arweiniodd at alwadau i'r Ysgrifennydd iechyd yn y fan yma roi sylw brys i'r angen parhaus am well mynediad at ddiagnosis amserol, i feddygon teulu feddu ar ddealltwriaeth lawn o symptomau'r cyflwr, ac i ddatblygu rhaglen hyfforddi ac ymwybyddiaeth wedi'i safoni yng Nghymru.
Hefyd, gwelsom gopi o strategaeth 2018-21 yr Ymddiriedolaeth ME, y papur 'Vision into Action', a oedd yn dweud nad oedd gan rannau o'r DU, fel Cymru, unrhyw wasanaethau arbenigol. Yn anffodus, ymatebodd y Gweinidog trwy ddweud nad oedd yn credu bod angen unrhyw ddatganiadau cefnogol. Mae'r Gweinidog yn fodlon â'i pholisi ail-lenwi ac mae'n siŵr y bydd ganddi rywbeth i'w chyflwyno i'r Siambr yn ystod ei gyfnod er mwyn dweud wrthym am ei hynt. Wel, hyd y gwn i, nid ydym ni wedi clywed eto.
Nawr mae Dr Nina Muirhead, a siaradodd yn y digwyddiad hwnnw, wedi cysylltu â mi unwaith eto ac wedi cael diagnosis o ME/CFS ei hun, yn dilyn twymyn chwarennol, sydd, yn ogystal â bod yn feddyg GIG hefyd yn gweithio fel academydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n dweud wrthyf i ei bod wedi cysylltu â rheolwr polisi Llywodraeth Cymru ar gyflyrau iechyd difrifol, sydd yn ei thyb hi yn gweithio ar bolisi ar gyfer cyflyrau iechyd cronig difrifol, gan gynnwys ME/CFS, ac mae'n ailadrodd, cyn iddi fynd yn sâl ei hun, ei bod yn dilyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a oedd yn cynnal ei chamddealltwriaeth o'r cyflwr trwy argymell therapi ymddygiad gwybyddol ac ymarfer graddedig, ond, o'i phrofiad hi, nid oes unrhyw elfen seicolegol, ac mae ymarfer corff, os rhywbeth, yn gwneud pethau'n waeth. Mae hi'n dod i'r casgliad bod realiti ME/CFS yn gyflwr niwrolegol difrifol, etifeddol. Galwaf felly am ddatganiad ac rwy'n gobeithio y byddwch yn fwy parod na'ch rhagflaenydd pan alwais am ddatganiad tebyg fis Tachwedd diwethaf.
Diolch am godi hyn y prynhawn yma, a hefyd am y cyfleoedd yr ydych wedi'u cymryd i gynnal digwyddiadau yn y gorffennol ar y mater penodol hwn i godi ymwybyddiaeth ymhlith Aelodau'r Cynulliad. Rydym yn deall yr heriau sy'n wynebu pobl sy'n byw â'r cyflwr hwn a'r effaith y gall ei chael ar eu bywydau bob dydd, a hefyd pwysigrwydd sicrhau bod y cyngor cywir ar gael iddyn nhw a hefyd y triniaethau cywir, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r trydydd sector i gryfhau'r gwasanaethau ME sydd ar gael ledled Cymru. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog iechyd ystyried eich sylwadau y prynhawn yma a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y sefyllfa ddiweddaraf.
Tynnwyd fy sylw at y mater o drenau gorlawn gan staff pryderus sy'n gweithio i Trafnidiaeth Cymru. Gwn o brofiad personol fod cerbydau llawn yn ystod oriau brig yn gallu bod yn uffern lwyr. Rwyf wedi cael gwybod y bu adegau pan fo swyddog wedi gwrthod mynd â thrên ymhellach oherwydd gorlenwi difrifol. Nawr, yn ogystal â bod yn beryglus i deithwyr, mae hefyd yn arwain at wrthdaro chwyrn â staff, sy'n aml yn dioddef yn sgil cryn rwystredigaeth a dicter. Yn ôl fy nghyswllt i, ac rwy'n dyfynnu:
Mae'n bryder difrifol ac rwy'n credu mai mater o amser yw hi cyn i rywun gael ei frifo'n wael naill ai drwy ddamwain neu ddicter.
Nawr, rwy'n gwybod bod y system yn un newydd, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth Lafur hon ymdrin â hyn. Ydych chi'n cytuno bod diogelwch yn hollbwysig? Ac a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth i'r Senedd hon yn nodi ei fod yn ymwybodol o'r materion hyn a'i fod yn cymryd camau buan i sicrhau bod ein trenau yn ddiogel i deithwyr, yn ddiogel i staff ac yn deilwng o wlad ddatblygedig yn yr unfed ganrif ar hugain?
Wel, wrth gwrs ein bod ni yn cytuno bod diogelwch yn hollbwysig a dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi sicrhau bod swyddogion ar bob trên, er enghraifft, pan rydym yn eu gweld yn cael eu tynnu oddi ar wasanaethau mewn rhannau eraill o'r DU. Rwy'n credu mai'r ffordd orau ymlaen fyddai i chi ysgrifennu at Weinidog yr economi gan nodi'r enghreifftiau penodol yr ydych chi wedi'u rhoi y prynhawn yma. Bydd e'n gallu mynd i'r afael â nhw, wedyn, gyda Trafnidiaeth Cymru.
Trefnydd, fel y gwyddoch chi, ddoe, cyflwynodd BBC Cymru stori am y ffaith nad yw ffermwyr yn gallu ailgylchu eu gwastraff plastig oherwydd i unig ganolfan ailgylchu Cymru, rwy'n credu, symud o fod ar sail talu i fod ar sail tâl i'r cwmnïau gweithredu cyfryngol. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy ddweud bod hwn yn fater rhwng ffermwyr a'r sector preifat, ond mae'n amlwg bod effaith ar yr amgylchedd ac ar ffermwyr, yn wir, wrth gwrs, os oes cynnydd yn y gwastraff plastig y ceir gwared ag ef ar dir, naill ai drwy gladdu neu losgi, fel y siaradwyd amdano. Felly, tybed a gawn ni ddiweddariad neu ymyriad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y sefyllfa hon? Rwy'n sylweddoli ei bod yn broblem yn y sector preifat, ond mae canlyniadau i'r sector cyhoeddus hefyd, felly rwy'n credu y byddai'n dda clywed barn bellach Llywodraeth Cymru ar hyn, oherwydd ceir pryder mawr ymhlith ffermwyr yr wyf i wedi siarad â nhw.
Yn ail ac yn fwy optimistaidd, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol y cynhaliwyd Gwobrau Bwyd Cymru ddoe yn Stadiwm Dinas Caerdydd—arddangosfa wych o fwyd o Gymru, ac rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hynny i dwristiaeth. Daeth dau o'r enillwyr o fy ardal i—o leiaf dau enillydd—Sugarloaf Catering a Scrumptious Monmouth. Ond rwy'n gwybod bod enillwyr o bob rhan o Gymru hefyd. Rwy'n siŵr yr hoffech chi longyfarch yr enillwyr hynny ac, yn wir, y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, ac efallai y gallem ni glywed gan Lywodraeth Cymru rywbryd yr wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth fwyd a sut mae hynny'n cysylltu â thwristiaeth a gwyliau bwyd a phethau tebyg ledled Cymru. Oherwydd bod gan Gymru lawer i'w gynnig ar lwyfan Ewrop a'r byd yn y farchnad fwyd.
Diolch yn fawr iawn. O ran polythen amaethyddol, mae'n wir, fel y gwnaethoch ei nodi yn eich cyfraniad, mai mater masnachol yw gwaredu plastig fferm rhwng y ffermwyr, y casglwyr a'r ffatrïoedd gwastraff ffilm plastig sy'n gallu ei ailgylchu ac sydd yn ei ailgylchu, a bod gan ffermwyr gyfrifoldeb i sicrhau bod eu plastig yn cael ei waredu'n gywir. Fe wnaeth y Gweinidog awgrymu eich bod yn ysgrifennu ati gyda'ch pryderon, ac rwy'n siŵr y bydd yn ymateb yn unol â hynny.
Ar yr ail fater, rwy'n hapus iawn i longyfarch Sugarloaf Catering, Scrumptious a'r holl enillwyr eraill yn y gwobrau bwyd ddoe. Wrth gwrs, mae'r diwydiant bwyd yn un o uchafbwyntiau economi Cymru. Mae gennym ni lawer iawn i ymfalchïo ynddo o ran yr ansawdd a'r stoc y gallwn eu harddangos yn ein bwyd, ac mae gennym ni gynllun gweithredu twristiaeth fwyd sy'n dwyn ynghyd y ddwy elfen hynny, gan gydnabod y cyfraniad pwysig y gall y diwydiant bwyd ei wneud hefyd i'n harlwy twristiaeth yng Nghymru.
Mi wnaeth y Llywodraeth, fel ŷn ni wedi clywed eisoes heddiw, wrth gwrs, bythefnos yn ôl ddatgan argyfwng newid hinsawdd. Mi wnaeth y Cynulliad hwn hefyd ddatganiad o'r un fath. Nawr, fe fyddwn i'n disgwyl bod llawer iawn o weithgarwch yn digwydd tu ôl y llenni o fewn Llywodraeth Cymru i ymateb i'r datganiad hwnnw ac i ddangos yn glir fod y datganiad hwnnw yn un ystyrlon. Byddwn i'n tybio, er enghraifft, fod angen edrych eto ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod honno'n addas o safbwynt cwrdd â'r her sydd o'n blaenau ni, a'r her honno wedi dwysáu nawr ar ôl cydnabod, wrth gwrs, ei bod hi yn argyfwng. Felly, mi fyddai hi'n dda cael datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu unrhyw newidiadau i'w rhaglen ddeddfwriaethol yn sgil y datganiad hwnnw.
Felly, hefyd, a fyddai'r Llywodraeth yn medru gwneud datganiad i esbonio sut y mae cyhoeddi argyfwng hinsawdd yn mynd i effeithio ar y broses o benderfynu ar ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd, oherwydd, yn amlwg, fe fyddai rhywun yn tybio bod y pwysau sydd yn cael ei roi ar y gwahanol ffactorau yn mynd i newid yn sgil y datganiad hwnnw?
Gaf i hefyd ofyn i'r Llywodraeth ac i'r Gweinidog Cyllid am gyfle i gael gwybodaeth bellach ynglŷn â'r datganiad ysgrifenedig sydd wedi ei ryddhau heddiw? Dwi'n deall bod yna gamgymeriad wedi dod i'r golwg o safbwynt gwaith HMRC ar weithredu'r dreth incwm, sydd wedi ei datganoli yng Nghymru nawr, i'r pwynt lle mae codio trethdalwyr Cymreig wedi bod yn anghywir, gyda nifer o drethdalwyr o Gymru wedi cael eu codio fel trethdalwyr Albanaidd ac o ganlyniad wedi talu lefel dreth yr Alban yn hytrach na lefel treth incwm Cymru. Does dim llawer o fanylion yn natganiad y Llywodraeth ynglŷn â faint sydd wedi cael eu heffeithio, sut y gallai hyn fod wedi digwydd, a beth y mae HMRC yn ei wneud i ddatrys y broblem. Felly, mi fyddai rhyw ffordd o gyfleu'r wybodaeth yma, ac efallai cyfle i ni fel Aelodau holi cwestiynau, yn rhywbeth y byddwn i'n ei werthfawrogi.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd hefyd? Roeddwn i'n darllen â diddordeb y datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf ynglŷn â threfniadau gofal iechyd trawsffiniol a'r cytundeb a wnaed mewn cysylltiad â'r anghydfod ag Ysbyty Iarlles Caer, ac yn croesawu'r datganiad hwnnw. Nid oes dim yn y datganiad sy'n dweud wrthym beth yw natur y cytundeb hwnnw na'r cyfaddawd hwnnw. Rwyf i ar ddeall o ddatganiad gweinidogol gan Lywodraeth y DU y bydd Llywodraeth y DU yn talu'r costau dadleuol eleni, ac y bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn camu i'r adwy ac yn eu talu yn y dyfodol. Hoffwn i ddeall—mae'r 8 y cant dadleuol hwn, mae'n debyg, yn berthnasol, wrth gwrs, yn y cyd-destun arbennig hwn, ond mae'n berthnasol hefyd ym mhob cyd-destun arbennig arall lle gwelwn wasanaethau iechyd yn cael eu prynu o ochr arall y ffin. Felly, a ydym ni'n mentro creu cynsail lle, os bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i dalu'r 8 y cant dadleuol i Ysbyty Iarlles Caer, bydd yn rhoi ei hun mewn sefyllfa o orfod talu hynny i'r 50 o ymddiriedolaethau a gwasanaethau iechyd eraill sy'n darparu gwasanaethau i'r GIG yng Nghymru? Felly, byddai'n dda cael cyfle efallai naill ai am ddatganiad llafar gan y Gweinidog iechyd neu ragor o wybodaeth am union natur y cytundeb hwnnw, oherwydd gallai'r goblygiadau ariannol, wrth gwrs, i'n byrddau iechyd sydd eisoes dan warchae, fod yn sylweddol iawn, iawn.
Diolch ichi am godi'r materion amrywiol hynny y prynhawn yma. Y mater cyntaf y gwnaethoch ei godi oedd mater yr argyfwng yn yr hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yna fe wnaethoch chi ofyn yn benodol am y rhaglen ddeddfwriaethol. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn cyflwyno datganiad blynyddol ar y rhaglen ddeddfwriaethol, sy'n digwydd ym mis Mehefin, rwy'n credu, felly bydd yn sicr yn gwneud y datganiad hwnnw fel arfer. Bydd Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig hefyd yn cyflwyno datganiad i'r Cynulliad ar y cynllun cyflawni carbon isel, sy'n cynnwys 100 o'r camau a'r blaenoriaethau hynny o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac allyriadau carbon. O ran ffordd liniaru'r M4, mae'r broses wedi'i nodi'n glir. Ni fyddaf yn gwneud unrhyw sylw arall ynglŷn â hyn y prynhawn yma, heblaw am ddweud bod y Prif Weinidog wedi nodi yn ei ddatganiad ysgrifenedig y broses a'r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gwneud penderfyniad.
O ran y Cod C a'r materion a fu'n gysylltiedig â hynny o ran trethdalwyr Cymru, mae'n peri siom aruthrol bod hyn wedi digwydd, ond mae'n debyg ei fod yn cyfiawnhau'r ymagwedd ofalus iawn y gwnaethom ni benderfynu ei chymryd o ran ein hymagwedd at y mater hwn. Rwyf wedi cael trafodaethau â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi, a'r rheswm nad oeddwn i'n gallu nodi yn fy natganiad ysgrifenedig i faint y mater yw nad yw Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn gwybod eto beth yw maint y broblem, gan fod yn rhaid iddyn nhw gynnal nifer o brofion, a byddan nhw'n gwneud hyn y mis hwn, ac yna bydd rhagor o brofion ym mis Medi i nodi'r unigolion hynny sydd wedi cael y cod anghywir gan eu cyflogwr neu'r sawl sy'n gweithredu'r gyflogres. Ond yn amlwg, byddaf i'n ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ac, yn arbennig, i'r Pwyllgor Cyllid, cyn gynted ag y gallaf am yr holl faterion hynny.
Y mater olaf y gwnaethoch ei godi oedd mater Iarlles Caer, ac wrth gwrs mae'r cytundeb wedi'i wneud ar gyfer 2019-20 yn unig. Ond mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud y byddai'n fodlon ysgrifennu at y pwyllgor iechyd gyda rhagor o fanylion a hefyd, wedyn, i'r llythyr hwnnw fod ar gael i holl Aelodau'r Cynulliad.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Un mewn cysylltiad ag adroddiadau yn y wasg ar y penwythnos yn y papurau ariannol ynghylch datblygiadau ffatri beiriannau Ford ac, yn arbennig, safle Llywodraeth Cymru yn Brocastle a'r posibilrwydd y bydd cwmni Jim Ratcliffe yn dod yno ac yn adeiladu cerbyd 4x4 o bosibl i ddisodli'r Land Rover. Rwy'n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau. Rwy'n gwerthfawrogi bod y trafodaethau hynny wedi bod yn hir a'u bod yn fasnachol sensitif, ond ceir adroddiadau yn y wasg nawr, wrth gwrs, sy'n mynegi gwahanol safbwyntiau am botensial y cais hwn. Byddai'n fuddiol cael yr wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r trafodaethau ac, yn benodol, pa ddatblygiad sydd gan y Llywodraeth mewn golwg ar gyfer safle Brocastle yn arbennig, lle mae'r gwaith adeiladu newydd ddechrau erbyn hyn, i'r gymuned leol, yn ogystal ag i weithwyr sy'n gysylltiedig â ffatri beiriannau Ford, er mwyn deall pa gynnydd, o fewn terfynau cyfrinachedd masnachol, a wnaed, oherwydd fel y dywedais, bu'r trafodaethau hyn yn mynd ymlaen ers tro ac mae'r wasg yn awr yn dyfalu ynglŷn â hyn.
Yn ail, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth ynglŷn â pha waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o amgylch yr A4119, ac yn arbennig y ffyrdd prifwythiennol i'r A4119, a chyffordd 34 ar y M4 hyd at gyffordd 33? Mae hwn yn fater trafnidiaeth ranbarthol, lle mae pobl sy'n defnyddio'r ffyrdd hynny mewn tagfeydd yn llythrennol yn y bore wrth adael y Cymoedd—Llantrisant, Tonysguboriau, Pont-y-clun, ac ymhellach i fyny—ac yna ar y ffordd adref, mae'r traffig yn ddifrifol a dweud y lleiaf. Rwy'n sylweddoli bod y system metro ar y gweill ac i'w chyflwyno yn y pump, 10, 15 mlynedd nesaf, ond mae'r tagfeydd hyn, i bob pwrpas, yn digwydd yma nawr ac mae'n achosi llawer iawn o drallod i yrwyr, ac, a bod yn onest, mae'n beryglus iawn mewn rhai achosion. Mae pobl yn chwilio am gymaint o ffyrdd eraill ag y gallant, drwy lonydd sy'n gwbl anaddas ar gyfer nifer y cerbydau, er mwyn osgoi'r tagfeydd ar gyffordd 34 a'r A4119. Felly, byddai datganiad am y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd, gyda phartneriaid fel yr asiantaeth drafnidiaeth a'r awdurdod lleol yn arbennig, i liniaru rhywfaint ar y tagfeydd hyn yn cael ei groesawu'n fawr.
O ran y ddau fater hynny, felly ffatri beiriannau Ford a'r problemau o ran tagfeydd o amgylch yr A4119, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi a thrafnidiaeth ysgrifennu atoch ynglŷn â'r hyn y gall ei ddweud am ffatri beiriannau Ford, ac yna hefyd gynlluniau i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd ac unrhyw drafodaethau y mae wedi'u cael gydag asiantaethau perthnasol eraill.
Mi oeddwn i'n bwriadu gwneud cais am ddatganiad ar y cyhoeddiad sydd wedi dod heddiw ynglŷn â threthiant a'r camgymeriad efo'r codio. Dwi'n falch bod hynny wedi cael ei godi yn barod, ond dwi'n bwriadau gofyn cwestiwn amserol ynglŷn â hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn ymateb i bryderon ynghylch digwyddiad y mae rhanddeiliaid yn lleol wedi cael gwahoddiad iddo. Enw'r digwyddiad yw, ac rwy'n dyfynnu: 'Digwyddiad cyntaf i Ddathlu Arferion Da Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.' Nawr, mae hyn yn dilyn yr adroddiad damniol a thrallodus am wasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Cwm Taf, lle nad oedd mamau a babanod wedi'u diogelu yn sicr. Er fy mod i'n cydnabod bod mwy o gyrff yn rhan o'r digwyddiad hwn nid y bwrdd iechyd yn unig, a gaf i wahodd y Gweinidog, sydd wrth gwrs wedi gwrthod galwadau am ei ymddiswyddiad, o leiaf i ymateb i'r gwahoddiad hwnnw ac i bryderon difrifol yn lleol sydd wedi'u codi bod hyn yn gwbl amhriodol ac yn dra ansensitif?
O ran y mater cyntaf, cod C, byddwn i'n fwy na pharod i fanteisio ar unrhyw gyfle i drafod y newyddion diweddaraf â chi neu unrhyw Aelodau eraill o'r Cynulliad sydd â diddordeb, ac yn amlwg, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ac i rannu'r cyfathrebu rhyngof i a Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ynghylch y mater arbennig hwn.
O ran Cwm Taf ac ardal y bwrdd diogelu, mae honno'n ardal fawr yn amlwg, lle mae llawer iawn o arferion yn digwydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn enwedig mewn sefyllfaoedd anodd fel yr un yr ydym ynddi nawr, i gydnabod arferion da pan welwn ni nhw ac i sicrhau bod y bobl hynny sy'n gweithio'n galed ac yn cyflawni'n dda o ran diogelu yn teimlo eu bod yn cael y gefnogaeth i barhau i wneud hynny a theimlo bod eu cyfraniad da yn cael ei gydnabod. Oherwydd bod hyn, yn amlwg, yn sefyllfa hynod sensitif ac anodd.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Ac dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Mae'r wythnos nesaf yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia. Ym mis Chwefror y llynedd, lansiais gynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia. Mae'r cynllun yn amlinellu ein gweledigaeth i Gymru fod yn genedl sy'n deall dementia ac sy'n cydnabod hawliau pobl â dementia i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol â phosib yn eu cymunedau. Roedd y cynllun yn seiliedig i raddau helaeth ar brofiad pobl sy'n byw gyda dementia a'r rheini sy'n gofalu am bobl â diagnosis o ddementia. Rwy'n benderfynol y bydd profiad byw pobl sy'n byw gyda dementia yn parhau i arwain y gwaith o gyflawni ein cynllun wrth i ni ei ddatblygu gyda rhanddeiliaid allweddol ym maes iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector.
Wrth ddechrau arni, rwy'n cydnabod y pwysau ar wasanaethau rheng flaen a'r angen i wireddu'r uchelgais a nodir yn y cynllun gweithredu. Dyna pam y cyhoeddais £10 miliwn y flwyddyn o'r flwyddyn ariannol ddiwethaf i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau allweddol yn ein cynllun. Rwy'n glir bod yn rhaid i'r buddsoddiad o adnoddau ychwanegol arwain at newid sylweddol yn y gwasanaethau dementia. Mae'n rhaid i hynny olygu bod y bobl yr effeithir arnyn nhw fwyaf yn teimlo'r gwelliant hwnnw yn rhan o'u bywydau bob dydd. Rwyf hefyd yn glir, yn unol â'n hymrwymiad yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, y bydd yr adnoddau ychwanegol yn canolbwyntio ar atal.
Er mwyn sicrhau bod y gwelliannau'n cael eu cymell yn lleol ac mewn ffordd gydgysylltiedig, dosbarthwyd £9 miliwn o'r arian ychwanegol i fyrddau partneriaethau rhanbarthol drwy'r gronfa gofal integredig. O ganlyniad i'r cyllid hwn a'n dull integredig o weithio, rydym ni nawr yn gweld newid cadarnhaol a phendant. Er enghraifft, erbyn hyn mae cymorth ychwanegol ar gael i glinigau dan arweiniad meddygon teulu i gynyddu cyfraddau diagnosis, a oedd, fel y gŵyr yr Aelodau, yn flaenoriaeth ac yn bryder allweddol yn y cynllun. Rydym ni hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y gweithwyr cymorth ymroddedig sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddarparu.
Ers cyhoeddi'r cynllun, mae nifer y cyfeillion dementia a'r cymunedau sy'n deall dementia wedi cynyddu hefyd. Erbyn hyn mae gennym ni 19 o gymunedau ychwanegol sy'n deall dementia, sy'n golygu bod 72 o gymunedau sy'n deall dementia yma yng Nghymru, ac mae 38,000 o gyfeillion dementia ychwanegol wedi'u hyfforddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn rhan o fenter y Gymdeithas Alzheimer. Ac mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn parhau i ddarparu cyllid er mwyn helpu i gefnogi'r fenter cyfeillion dementia. Mae hynny'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd i'r afael â stigma, gwella cymorth yn y gymuned a chynyddu ymwybyddiaeth a'n dealltwriaeth o ddementia.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld ein hysbyty acíwt cyntaf yng Nghymru yn cael statws deall dementia gan y Gymdeithas Alzheimer. Ysbyty Gwynedd yw'r ail ysbyty yn unig yn y DU i dderbyn y statws yma. Mae'n cydnabod gweithredu cadarnhaol ein staff i ymateb i anghenion y gymuned leol.
Cam gweithredu allweddol arall yn y cynllun oedd datblygu timau o amgylch yr unigolyn sy'n darparu gofal a chymorth integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r cynllun yn ei gwneud hi'n glir na fydd cael un ateb cyffredinol i bopeth yn gweithio, ac mae angen i feysydd ystyried pa newid sy'n angenrheidiol er mwyn gallu creu gwasanaethau sy'n addasu i'r hyn sy'n ofynnol wrth i anghenion unigolyn newid. Mae pob maes bellach yn dangos sut mae hyn yn cael ei wireddu, er enghraifft, drwy ddatblygu timau amlddisgyblaethol, gyda phwyslais ar gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd er mwyn darparu dull o ailalluogi. Yn hollbwysig, mae'r timau hyn yn gallu darparu gofal mwy integredig drwy weithgareddau sy'n cael eu llywio gan y sectorau statudol a gwirfoddol.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Yn rhan o'r gwaith yma rydym ni'n gweld enghreifftiau o gymorth seibiant hyblyg a galluogol, fel allgymorth hyblyg, ac yn cynnig dewisiadau o ran seibiant y tu hwnt i'r arhosiad traddodiadol am ysbaid mewn cartref gofal. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweld cynnydd yn y gefnogaeth i'r rhai sydd mewn cartrefi gofal neu mewn ysbyty fel bod pobl y mae dementia'n effeithio arnyn nhw yn cael gofal a chymorth personol waeth ble maen nhw. Mae gennym ni enghreifftiau o waith yn mynd rhagddo mewn cartrefi gofal, sy'n cryfhau'r dull hwnnw o weithio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a phrosiectau sy'n cefnogi rhyddhau cleifion o ysbytai mewn modd cynlluniedig.
Yn ogystal â'r arian sy'n cael ei gyfeirio drwy'r gronfa gofal integredig, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae hyn yn cynnwys sefydlu tîm dementia, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth i hyrwyddwyr, a darparu hyfforddiant i'r rhai sy'n ateb galwadau'r gwasanaethau brys. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd wedi bod yn rhan o'r gwaith o sefydlu gweithgor dementia golau glas Cymru gyfan, a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i rannu'r arferion gorau. Y nod yw sicrhau bod holl staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy'n dod i gysylltiad â phobl y mae dementia'n effeithio arnyn nhw yn cael eu hyfforddi i ddeall eu hanghenion a sut i ddarparu cymorth.
Un o'r ffyrdd y mae'r cynllun wedi helpu i ddatblygu'r ddadl ynglŷn â dementia yw'r gydnabyddiaeth i anghenion amrywiol grwpiau penodol, er enghraifft, pobl â nodweddion gwarchodedig a allai fod yn byw gyda dementia a phobl a allai ddeall eu hiaith gyntaf yn unig wrth i'w cyflwr waethygu. Mae adroddiad diweddar Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer Cymru ar yr iaith Gymraeg a dementia wedi gwneud nifer o argymhellion ac wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i oruchwylio'r gwelliannau hyn. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn aelodau o'r grŵp hwnnw er mwyn i ni allu ystyried unrhyw waith pellach sydd ei angen yn y maes hwn.
Mae rhaglen Mil o Fywydau Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau asesu'r cof i gytuno ar safonau ac egwyddorion y bydd pob gwasanaeth yn gweithio tuag atyn nhw yn rhan o'r llwybr dementia. Mae hynny'n cynnwys cyn cael diagnosis, y cyfnod asesu a chymorth ac ymyrraeth ar ôl cael diagnosis.
Mae cymell yr ystod o welliannau yr ydym ni eisiau eu gweld o ganlyniad i'r cynllun gweithredu ar ddementia a'r buddsoddiad ychwanegol cysylltiedig yn allweddol. I'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi sefydlu grŵp ar oruchwylio gweithrediad ac effaith ym maes dementia, sy'n sail i, yn goruchwylio ac yn monitro cynnydd yn erbyn y camau gweithredu a nodir yn y cynllun. Rwy'n ddiolchgar iawn i holl Aelodau'r grŵp hwn, sy'n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, pobl sydd â phrofiad bywyd o fyw a gweithio gyda dementia, am eu hymroddiad a'u her barhaus.
Mae cael y math priodol o weithlu, wrth gwrs, yn hollbwysig yn y maes hwn ac rydym ni wedi sefydlu is-grŵp dysgu a datblygu, dan arweiniad Gofal Cymdeithasol Cymru, i sefydlu dull galluogi ar gyfer y gweithlu o ran gofal dementia yma yng Nghymru. Bydd y dull hwn o ddysgu a datblygu yn canolbwyntio ar egwyddorion y fframwaith 'Gwaith Da' y cefais y pleser o'i lansio yn Ysbyty Ystrad Fawr. Mae'n rhoi unigolion wrth wraidd dysgu a datblygu ac yn canolbwyntio ar arferion tosturiol. Nod hyn i gyd yw gwella gofal i bobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Mae'r cynllun gweithredu ar ddementia yn arwydd o'r ffaith y byddem yn creu swydd Ymarferydd Ymgynghorol Dementia Perthynol i Iechyd Cymru Gyfan er mwyn helpu i hybu gwelliannau pellach ac i sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ynglŷn â'u prosesau gwella. Rydym ni bellach wedi cwblhau'r holl waith paratoi angenrheidiol, ac rwy'n falch o gadarnhau y byddwn yn dechrau ar y broses recriwtio ar gyfer y swydd yn fuan, ac rwy'n disgwyl y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei swydd erbyn diwedd yr haf.
Yn olaf, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Mae dros 200 o'n staff eisoes yn cael hyfforddiant. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn helpu i arwain drwy esiampl, wrth gydnabod ein swyddogaeth fel cyflogwr mawr a'r effaith gadarnhaol y gall hynny ei chael ar gefnogi cydweithwyr, ffrindiau a'n cymunedau lleol sy'n byw gyda dementia.
O ystyried y trefniadau partneriaeth cryf sydd gennym ni yng Nghymru rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda i barhau i greu cymdeithas sy'n rhoi cefnogaeth gadarnhaol i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddementia. Mae cymdeithas sy'n heneiddio yn golygu y bydd yr heriau yn y maes hwn yn cynyddu ond mae blwyddyn gyntaf y cynllun gweithredu ar ddementia wedi sefydlu llawer o'r pethau y credwn ni y bydd eu hangen arnom ni i ymateb yn effeithiol i'r heriau cydnabyddedig hynny. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni wireddu'r weledigaeth ar y cyd fel y gall Cymru mewn gwirionedd fod yn genedl sy'n deall dementia.
Fe hoffwn i alw ar Janet Finch-Saunders.
Diolch. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'r cynllun gweithredu ar ddementia, wrth gwrs, yn addo gwella gwasanaethau dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac mae'n seiliedig ar nifer o egwyddorion mewn datganiadau ynglŷn â dementia, gan gynnwys yr hawl i gael diagnosis cynnar a chywir. Mae diagnosis, wrth gwrs, yn rhan bwysig o'ch cynllun, yn enwedig gan eich bod hyd yn oed yn cydnabod mai dim ond tua 53 y cant o unigolion yng Nghymru y mae dementia arnyn nhw sydd wedi cael diagnosis. Yn wir, canfuwyd nad yw bron i 19,000 o bobl sydd â dementia wedi cael diagnosis o hyd yn 2017-18.
Felly, o ran cyflawniadau realistig yn y maes hwn, a allech chi gadarnhau eich bod wedi cyflawni'ch ymrwymiad yn y cynllun i osod targedau ar gyfer byrddau iechyd i gynyddu cyfraddau diagnosis o 3 y cant o leiaf y flwyddyn a bod hynny'n cael sylw? Ac, ar ôl cael diagnosis, mae'n hanfodol cael system gymorth hyblyg. Felly, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r timau amlddisgyblaethol o amgylch yr unigolyn.
Felly, os yw hynny'n wir, a bod hynny wedi'i gyflawni, a allech chi gadarnhau i'r Siambr heddiw fod pob unigolyn sy'n byw gyda dementia sydd wedi'i amlygu a'i ganfod mewn gwirionedd wedi derbyn cynllun gofal sylfaenol? Diolch.
Diolch am y cwestiynau. Fe wnes i nodi yn fy natganiad ac ailadrodd pwysigrwydd diagnosis. Roedd hi'n fater o bryder penodol, gan y gymuned ehangach sy'n byw gyda dementia, yn ogystal ag Aelodau'r Cynulliad, yn y cyfnod cyn y cynllun. Mae'r ymrwymiadau yn y cynllun yn dal i fod, ynghylch ein disgwyliad i weld cynnydd o flwyddyn i flwyddyn drwy'r cynllun. Mae gennym ni hefyd adolygiad canol cyfnod i ddeall pa mor llwyddiannus y buom ni. Nesaf, bydd ffigurau ar gael am y cynnydd yng nghyfraddau diagnosis ym mis Medi eleni. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad, rydym ni'n gwneud sawl peth ymarferol i geisio cynorthwyo hynny. O ran cymorth hyblyg, unwaith eto, soniais yn fy natganiad am y pethau amrywiol yr ydym ni'n eu gwneud i ddarparu'r cymorth hyblyg hwnnw ac mewn gwirionedd y sylw ynghylch cael timau o amgylch yr unigolyn i ddeall anghenion y person hwnnw, beth sydd o bwys i'r person hwnnw, a sut y gall hynny newid dros amser wrth i'r cyflwr waethygu.
Ac, o ran cael sicrwydd bod popeth yn ei le nawr, rwy'n credu y byddai'n ffôl i mi geisio awgrymu bod hynny yn ei le. Mae hon yn daith barhaus. Ac ar y daith wella honno, dylai pob un ohonom ni gydnabod na fydd pob ymyriad unigol yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus. Bydd mwy i ni ddysgu am yr hyn nad ydym ni'n ei wneud yn gywir yn ogystal â'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn gywir. Felly, rwyf eisiau bod yn realistig ac yn onest gyda phobl ynghylch lle'r ydym ni arni. Mae'n daith o wella. Ceir ymrwymiad enfawr gan ein staff yn yr awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd yn arbennig, a'r trydydd sector. Ond yn allweddol i hynny mae ymrwymiad pobl sy'n byw gyda dementia i helpu i lywio'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ac i fod yn bartneriaid gonest gan ein herio a'n cefnogi ni o ran gwelliant yr ydym ni i gyd yn cydnabod sydd ei angen.
Rwy'n falch o allu ymateb i'r datganiad yma gan y Gweinidog—y diweddariad yma ar y cynllun dementia. Gaf i ddechrau drwy gydnabod fy mod i wedi bod yn is-lywydd Cymdeithas Clefyd Alzheimer ers dros ryw 20 mlynyddoedd, ac yn y blynyddoedd diwethaf yma wedi bod yn is-lywydd Forget Me Not dementia clubs yn Abertawe? A hefyd mae gyda fi brofiad personol yn y ddwy flynedd ddiwethaf o ddementia wedi i fy nhad farw yn ddiweddar, wedi misoedd o gystudd trwm efo dementia.
Wedyn, fy mhwyslais i yn ymateb i hyn ydy'r gwahaniaeth angenrheidiol sydd ei angen mewn gwasanaethau yn ein cymuned ni, wedi olrhain fy nghysylltiadau efo nghymdeithas efo Cymdeithas Clefyd Alzheimer a Forget Me Not clubs ac ati, ac mae yna lu o bobl eraill yn gweithio'n wirfoddol yn ein cymunedau ni. Ac, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r gofalu am bobl efo dementia hefyd yn cael ei wneud yn wirfoddol gan deuluoedd ac ati. Mae eu cyfraniad nhw yn hollol, hollol allweddol yn hyn o beth. Pe buasai fo i gyd yn disgyn ar ysgwyddau gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd, fuasem ni ddim yn gallu ymdopi â'r sefyllfa enbydus o gwbl. Felly mae'n bwysig i ni gydnabod a thalu teyrnged i gyfraniad ac ymroddiad gofalwyr gwirfoddol ledled Cymru yn hyn o beth.
Ac, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi ei ddweud, mae yna dal stigma. Mae pobl ofn trafod dementia, ofn bod mewn cysylltiad â phobl efo dementia. Mae hynna'n rhan o'r pwysigrwydd o gael yr hyfforddiant yna i ddod yn ddementia gyfeillgar, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn. A'r angen am amynedd. Pan ŷch chi yn y ciw, yn talu am rywbeth, neu'n disgwyl i dalu am rywbeth, y tu ôl i rywun sydd efo dementia, mae angen amynedd, ac nid pwyso a thrio prysuro pobl. Mae angen amynedd i roi digon o amser i bobl. Achos, ar ddiwedd y dydd, mae lot o hyn i ymwneud ag atal y rhagfarn yna sydd yn erbyn dementia a gofal dementia, achos mae pobl yn credu nad yw e'n ddim byd corfforol, taw rhywbeth i wneud efo iechyd meddwl yw e. Ond, wrth gwrs, mae dementia yn glefyd corfforol achos mae'r ymennydd yn crebachu; mae'r ymennydd yn mynd yn llai o faint. Mae hwnna yn glefyd corfforol, felly mae dementia yn haeddu triniaeth gyfartal efo cyflyrau corfforol eraill, a dyna beth sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd. A phetai e'n cael ei ymdrin fel yna, byddem ni'n cael yr un faint o barch tuag at ddioddefwyr dementia ag sydd i bobl sydd yn dioddef, dywedwch, o ganser neu glefyd y galon.
Felly, mae yna swmp o waith i'w wneud yn nhermau atal y rhagfarn yna yn ein cymdeithas ni yn erbyn y sawl sydd efo dementia, a byddwn yn licio gweld beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i symud ymlaen efo'i gynllun sy'n mynd i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Yn y pen draw, rydym ni yn sôn am ofal ar y llawr ac angen am fwy o wasanaethau penodol ar y llawr.
Gofal cymdeithasol: mae'r Gweinidog yn gwybod fy syniadau i am gael gwasanaeth gofal cenedlaethol, achos mae safon y gofal rŵan yn aml yn ddiffygiol, yn beryglus, neu ddim ar gael o gwbl, ac mae'r cwbl yn cwympo ar deuluoedd. Mae angen mwy o ofal seibiant; pan fo teuluoedd o dan bwysau enbydus, mae angen mwy o ofal seibiant. Ac felly, oes gyda'r Gweinidog gynlluniau yn benodol i gynyddu faint o ofal seibiant sydd ar gael?
Dwi yn croesawu beth ddywedodd e ynglŷn â phobl, yn enwedig yma yng Nghymru, sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf. Wrth gwrs, fel mae dementia yn datblygu, dŷch chi'n colli'r gallu i siarad eich ail iaith yn weddol fuan, felly mae angen darpariaethau, mae angen gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg er mwyn gallu delio efo pobl sy'n dioddef o dementia, sydd yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, achos mae nhw'n colli eu hail iaith. Mae hynny yn digwydd ym mhob gwlad sydd efo mwy nag un iaith. Ond mae angen strategaeth ar fyrder i fynd i'r afael efo hynny, achos, wrth gwrs, ein pobl ni sydd yn heneiddio sydd yn tueddu i gael dementia. Nid yw wastad ynghlwm â henaint, ond mae yna ganran sylweddol o'r rheiny sydd yn siaradwyr Cymraeg naturiol, a dyna'r unig iaith sydd gyda nhw pan mae'r dementia yn cydio, fel roedd profiad fy nhad fy hun yn ei brofi.
Felly, ar ddiwedd y dydd, dwi'n croesawu'r datganiad, dwi'n croesawu'r gwaith sydd yn mynd ymlaen. Ond ar ddiwedd y dydd, fel rydych chi wedi crybwyll eisoes—step change rydych chi'n ei ddweud—mae eisiau trawsnewid maint a sylwedd ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar lawr gwlad er mwyn i ni fynd i'r afael â hyn a rhoi tegwch a chwarae teg i'n pobl ni efo dementia a'u teuluoedd. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Byddaf yn ymdrin ag amrywiaeth o'r pethau penodol y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Ond o ran eich sylw olaf am y ddarpariaeth Gymraeg, yn y datganiad, rwyf wedi nodi'r gwaith sydd wedi'i wneud ar y cyd, yn gyntaf gyda Chomisiynydd y Gymraeg a'r Gymdeithas Alzheimer, a bydd y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw yn helpu i roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn sydd angen inni ei wneud. A chan fod Lywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y grŵp gorchwyl a gorffen, byddwn yn dysgu yn ystod hynny, nid dim ond pan gawn ni'r adroddiad terfynol. Yn amlwg, byddwn ni wedyn yn disgwyl ymateb i hynny a deall sut y byddwn ni'n diwygio gwasanaethau—nid dim ond cyfarwyddeb ganolog gan y Llywodraeth, ond, mewn gwirionedd, sut y bydd angen i bob un o'r grwpiau partneriaeth rhanbarthol hynny ailfeddwl ynghylch y modd y maen nhw'n darparu gwasanaethau. Nid yw hyn yn ddewis gofal, ond yn angen gofal, ac mae angen i ni adlewyrchu hynny.
O ran eich pwyntiau ehangach ynghylch cydnabod cyfraniad y sector gwirfoddol, mae'r sefydliadau eu hunain yn ymwneud â threfnu gweithgareddau, cymorth a gwasanaethau, yn ogystal ag eiriolaeth, gan ein cefnogi a'n herio, unwaith eto, i gydnabod swyddogaeth gofalwyr unigol—yn aml, aelodau o deuluoedd sy'n mynd yr ail filltir ac yn cysegru llawer o'u bywyd i ofalu am anwyliaid. A heb hynny, ni fyddem yn darparu dim ond gwasanaeth, ond y math o dosturi ac urddas yr ydym ni eisiau ei weld. Sy'n arwain at y sylw yr ydych chi'n ei wneud am yr her o ran stigma. Felly, ar gyfer popeth y mae gennym ni gyfrifoldeb i'w wneud yn y Llywodraeth, yn y gwasanaeth iechyd, mewn awdurdodau lleol, mae llawer o'r hyn a drafodwn yn ymwneud â'r rhan sydd gennym ni fel aelodau o gymdeithas a'r wlad yr ydym ni'n byw ynddi, a dyna pam ein bod ni'n anelu at fod yn wlad sy'n deall dementia. Mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym ni'n ymddwyn gydag a thuag at bobl eraill, nid yn unig y rhai yr ydym ni'n eu hadnabod, ond yn benodol, sut yr ydym ni'n ymddwyn tuag at y bobl hynny nad ydym ni'n eu hadnabod, a'r pwynt hwnnw am fwy o oddefgarwch a dealltwriaeth, byddai hynny nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth yma yn y maes dementia, ond yn fwy cyffredinol. Rwy'n meddwl am y ffordd yr ydym ni'n barod i drin pobl eraill, ac yn disgwyl cael ein trin ein hunain.
Dyna pam fy mod i'n arbennig o falch o weld cynifer o bobl, dros un flwyddyn yn unig, sydd wedi bod yn ymgysylltu ac wedi dod yn gyfeillion dementia—38,000 o bobl ychwanegol mewn un flwyddyn, sef 158,000 o gyfeillion dementia bellach ledled Cymru. Mae hynny'n gam cadarnhaol iawn ymlaen. A gallaf ddweud, o'm safbwynt i fy hun, fy swyddfa etholaeth a minnau, rydym ni yn gyfeillion dementia—rwyf innau'n gyfaill dementia—ac wedi gwneud yr hyfforddiant. Oherwydd rwy'n cydnabod nad oedd a wnelo hynny dim ond â'r gwaith yr wyf yn ei wneud yn y fan yma, ond mewn gwirionedd, fel Aelodau etholaeth, rydym ni eisoes yn gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia, a bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn cysylltu â ni nawr ac yn y dyfodol hefyd. Mae'n rhan fawr o'n hetholaeth yn barod, ac i Aelodau eraill yma hefyd sy'n cynrychioli etholaeth neu ranbarth. Ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant ac eraill yn ceisio annog pobl fel y gallai'r fan yma fod y Senedd gyntaf sy'n deall dementia hefyd, os yw pob aelod wedi gwneud yr hyfforddiant hwnnw, ynghyd â'u staff, a byddwn yn annog pobl i wneud hynny.
Ynglŷn â'ch pwyntiau ehangach ynghylch sut y mae hynny'n helpu, mewn gwirionedd, rydym ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan ar draws y sector manwerthu, er enghraifft, nid dim ond y gefnogaeth o ran yr arian elusennol y mae pobl yn ei roi, ond mewn gwirionedd, unwaith eto, yn annog eu staff i ddod yn gyfeillion dementia. Ac mae Boots yn enghraifft dda; mae fferyllfeydd cymunedol a lluosog eraill ar gael. Ond yn yr un arbennig yma, rhan Cymru o'r cwmni hwnnw a arweiniodd yr ymgyrch yn y cwmni hwnnw, drwy gael cyfeillion dementia ym mhob un o siopau Boots. Roedd rhaglen fawr o weithgarwch ac ymgysylltu, ac roeddwn yn falch iawn o gydnabod, pan ddaethant yma, eu bod mewn gwirionedd yn herio gweddill grŵp Boots yn y DU i wneud yr un fath. Felly, unwaith eto, bydd ymgyrch sy'n codi stêm yma yng Nghymru, gyda'r fenter honno, yn mynd i wneud gwahaniaeth yma a thu hwnt.
Fe hoffwn i orffen gyda'ch sylw am brofiad personol a fydd gan lawer o Aelodau yn y fan yma. Rydym ni'n cydnabod bod angen newid. Ac nid dim ond am ein bod yn gallu siarad am ein profiadau ein hunain yn aml, ond mae anghenion ein poblogaeth yn newid. Nid yw'n ymwneud ag oedran yn unig—mae'n fwy na hynny—ond mewn gwirionedd mae ein proffil heneiddio'n golygu y bydd yn gynyddol fwy cyffredin yn y wlad yr ydym ni ac y byddwn ni yn y dyfodol. Ac os nad oeddem ni'n cydnabod bod angen newid er mwyn sicrhau'r urddas a'r tosturi yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw, yna ni fyddai gennym ni gynllun, ni fyddai gennym ni fesurau, ac ni fyddem ni'n cael yr un sylw difrifol ag y cawn ni. Yr her fydd gwireddu'r uchelgais yr ydym ni wedi'i osod yn y cynllun, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ymarferol.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n dda cael diweddariad heddiw, ac rwy'n croesawu llawer o'r sylw cadarnhaol sydd yn eich datganiad, yn enwedig am y cynnydd yn nifer y cyfeillion dementia. Mae gen i rai cwestiynau penodol am y cynllun gweithredu. Roeddwn yn ddiolchgar am eich atebion i mi yn rhinwedd fy swyddogaeth fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia ynghylch tryloywder y cyllid ar gyfer y cynllun, sy'n cael ei ddarparu i raddau helaeth drwy'r gronfa gofal integredig, ac mae pryderon ynghylch hynny wedi'u crybwyll yn y Pwyllgor Iechyd hefyd. Roeddwn yn falch o gael eich ateb a'r sicrwydd a roesoch chi. Ond a gaf i ofyn a oes unrhyw gynlluniau i gael unrhyw fath o werthusiad annibynnol o effaith y cynllun, i gydnabod rhai o'r pryderon sydd wedi parhau i gael eu mynegi ynghylch tryloywder?
Yn gysylltiedig â hynny, rydych chi wedi sôn am waith y Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia, ond rwy'n gwybod fod rhai cyrff yn y trydydd sector yn awyddus iawn i gael strwythur arweinyddiaeth gwahanol, un sy'n golygu bod rhywun yn hyrwyddo'r achos hwn yn benodol yn y Llywodraeth. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y caiff y gwaith hwn ei hyrwyddo gan arweinwyr penodol yn Llywodraeth Cymru? Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am fewnbwn y rhai sy'n byw gyda dementia, ac mae hynny'n nodwedd gadarnhaol iawn o waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Ac, yn arbennig, fe hoffwn i gydnabod effaith barhaol DEEP yn y maes hwn. Ond fe gafodd y rhai sy'n byw gyda dementia ran ryfeddol yn y gwaith o ffurfio'r cynllun. Felly, a gaf i ofyn i chi am ragor o fanylion? Roedd tua 1,000 o bobl wedi cyflwyno sylwadau ynglŷn â'r cynllun gweithredu, felly a gaf i ofyn am ragor o fanylion ynghylch sut y byddwch chi'n parhau i sicrhau y bydd y rhai sy'n byw gyda dementia yn chwarae rhan lawn yn y gwaith yn y dyfodol?
Ac, yn olaf, roeddwn yn falch o weld y cyfeiriad at adroddiad Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer's Cymru yn eich datganiad. Mae'n adroddiad gwirioneddol bwysig, ac roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol pan gafodd ei lansio. Dydw i ddim yn credu y gallwn ni orbwysleisio pwysigrwydd y gallu i gyfathrebu yn eich iaith gyntaf i rywun sydd â dementia, o ystyried yr heriau cyfathrebu enfawr sy'n bodoli. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r grŵp y mae'r Comisiynydd a'r Gymdeithas Alzheimer's wedi ei sefydlu, ond a allwch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ailddatgan eich ymrwymiad yn wleidyddol i sicrhau bod yr argymhellion rhagorol yn yr adroddiad hwnnw yn cael eu gweithredu?
Ydw, rwy'n fodlon rhoi'r ymrwymiad y gwnaethoch chi ofyn amdano ar y diwedd i sicrhau ein bod yn parhau i fwrw ymlaen â'r ymrwymiadau a wnaethpwyd, ac yn arbennig y pwynt am ddarpariaeth iaith gyntaf, oherwydd fel y dywedais yn fy ateb i Dai Lloyd, nid yw hyn yn ddewis, mae'n angen gofal, oherwydd mewn gwirionedd ni allwch chi gael y gofal sydd ei angen arnoch chi os nad oes gennych chi'r gallu i gyfathrebu yn yr hyn yw'r unig iaith sydd ar gael i chi weithiau. Felly, rwy'n fwy na pharod i ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw.
O ran eich pwynt ynglŷn â DEEP, roedden nhw'n bendant yn ymwneud â'r mater ac yn rhan bwysig iawn ohonom ni'n cael cynllun gweithredu dementia yn y lle cyntaf, ac o ran cael un wedi'i gymeradwyo mewn gwirionedd lle'r oedd cytundeb mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud ar gyfer y dyfodol. Fe wnaethom ni wrando o ran sicrhau bod pobl yn cymryd rhan yn y grŵp goruchwylio, gweithredu ac effaith. Ac mae'n bwysig nad ydym ni'n dweud bod hynny'n golygu bod popeth yn iawn. Caiff pobl sy'n byw gyda dementia eu cynrychioli gan lond dwrn o bobl mewn un grŵp. Daw hynny'n ôl at y sylw am gael timau o amgylch yr unigolion yn gyffredinol fel bod ein gwasanaethau'n ymateb o ddifrif i anghenion pobl ac yn mynd ati'n rhagweithiol i geisio barn y bobl hynny wrth inni ddatblygu a darparu gwasanaethau. Mae hynny'n ganolog i'n huchelgeisiau yn y cynllun.
A dyna'n rhannol pam—a dof yn ôl at eich sylw cyntaf nawr am werthusiadau, bod angen deall a yw hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Felly, gallaf, gallaf gadarnhau y bydd gwerthusiad annibynnol, bydd yn dechrau drwy gydol y flwyddyn hon a bydd yn parhau tan ddiwedd y cynllun. Cynhelir asesiad cychwynnol o'r dystiolaeth a'r data sydd ar gael er mwyn amlygu unrhyw fylchau allweddol a all fod gennym ni a bydd adroddiad drafft terfynol ar elfennau canolog yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd 2021, gydag adroddiad gwerthuso terfynol sydd i fod i gael ei ddarparu yng ngwanwyn 2022 ar hyn o bryd. Felly, rydym ni'n bendant yn gwneud yn siŵr bod y gwerthusiad annibynnol yn deall effaith yr hyn yr ydym ni'n ei wneud.
O ran yr ail bwynt a wnaethoch chi am arweinyddiaeth yn y Llywodraeth a'r tu allan iddi, mae gennyf feddwl agored ynghylch a ddylid cael hyrwyddwr dementia penodol ai peidio. Oherwydd mewn gwirionedd mae hon yn her fawr o ran gwasanaeth sydd mewn mwy nag un maes. Rwy'n cydnabod y ddadl ynghylch cael hyrwyddwr ac rwy'n cydnabod, mewn gwirionedd, nad yw hynny efallai'n cyflawni'r cwbl y byddem ni eisiau ei wneud. Felly, mae gennyf feddwl gwirioneddol agored. Dydw i ddim yn credu y byddai'n deg dweud mai'r ymarferwyr ymgynghorol perthynol i iechyd fyddai'r eiriolwr i bob pwrpas. Bydd gan y person hwnnw swyddogaeth, wrth gwrs, wrth hyrwyddo anghenion y gwasanaeth a deall a gwrando ar bobl, ond mae gennyf feddwl agored ynghylch a allai hyrwyddwr neu hyrwyddwyr penodol ein helpu i wneud mwy o gynnydd. Daw hynny o wrando ar bobl a gwasanaethau ar y grŵp goruchwylio ac effaith hwnnw o ran ai hynny fyddai'r peth priodol i'w wneud o ran bod o gymorth gyda bwrw ymlaen â'r agenda hon. Felly, meddwl agored—yn sicr nid wyf yn diystyru hynny—ond mae gen i ddiddordeb gwirioneddol yn yr hyn a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn y cyfnod mwyaf cyflym.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad yma heddiw. Wrth i nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru gynyddu, mae hi mor bwysig ein bod yn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn briodol. Rwy'n sylwi yn gyntaf yn eich datganiad ar y cyfeiriad at y nifer gynyddol o gyfeillion dementia a chymunedau sy'n deall dementia. Mae fy swyddfa i, ynghyd â swyddfeydd llawer o Aelodau Cynulliad eraill, wedi cael yr hyfforddiant hwnnw ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn o ran y cymorth yr ydym ni'n ei gynnig i'n cymunedau. Beth ellir ei wneud i annog gwasanaethau cymorth cymunedol eraill o'r fath i gymryd rhan yn yr hyfforddiant y mae'r Gymdeithas Alzheimer yn ei gynnig?
Ar gyfer fy nghwestiynau eraill, hoffwn ganolbwyntio ar rai pethau diddorol yr wyf wedi'u gweld ar ymweliadau etholaeth. Yn gyntaf, cyfarfûm yn ddiweddar â'r tîm therapi galwedigaethol yn Ysbyty Cwm Cynon i drafod eu gwaith yn cefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia yn ddiweddar a sut maen nhw'n eu galluogi nhw i adennill eu hyder a byw'n annibynnol. Ymunais ag un o'r therapyddion galwedigaethol hynny ar ymweliad cartref ym Mhenywaun, a chefais adborth mor gadarnhaol gan y person a oedd yn cael cymorth ynghylch sut roedd yr ymyriad wedi newid ei fywyd mewn gwirionedd. Felly, beth ellir ei wneud i sicrhau bod ardaloedd eraill, yng Nghwm Taf a thu hwnt, yn dysgu o'r math hwn o ddull?
Ymwelais hefyd yn ddiweddar â'r ward rithwir arobryn yn Ysbyty Sant Ioan yn Aberdâr, sy'n enghraifft wych o ddull gweithredu amlddisgyblaethol. Ac mae'r math hwn o ddull gweithredu mor ddefnyddiol i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia, yn ogystal â llawer o gyflyrau eraill. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud er mwyn helpu i alluogi a chymell gwaith partneriaeth o'r fath mewn clystyrau meddygon teulu fel modd o helpu'r rheini sy'n byw gyda dementia i gael y gofal amlddisgyblaethol gorau posib?
Ac yn olaf, ymwelais hefyd â Chartref Gofal Ysguborwen yn Llwydcoed i weld prosiect gwych a oedd yn cael ei ddarparu gan Ganolfan Gydweithredol Cymru, a oedd yn caniatáu i drigolion ddefnyddio technoleg fodern, megis iPads, sgriniau a llechi rhyngweithiol, er mwyn ymhel â diddordebau y bu ganddyn nhw drwy gydol eu hoes neu edrych ar hen luniau a oedd yn wir yn ail-fywiogi'r rhannau dwfn hynny o'r cof gan ddod â'r fath hapusrwydd iddyn nhw. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cartrefi gofal i ddefnyddio manteision pwerus iawn technoleg fodern er mwyn helpu'r rhai sy'n byw gyda dementia i gynnal y gweithgareddau a'r diddordebau hynny sydd eisoes ganddyn nhw a all ychwanegu cymaint at ansawdd eu bywyd?
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n credu, gan droi yn gyntaf at eich pwynt am glystyrau meddygon teulu. Yn fy marn i, pan fyddwn ni'n ystyried y camau a gymerwyd drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol y bwriadwn eu hyrwyddo, mae llawer o'r gweithgarwch hwnnw'n digwydd o fewn gofal sylfaenol. Felly, mae'n rhaid i'r angen am fwy o glinigau cof a arweinir gan feddygon teulu a chanolbwyntio ar ddiagnosis gyd-fynd â gwella ansawdd y gofal a ddarperir wedyn, yn hytrach na dim ond gwella'r gyfradd o ddiagnosis ac yna methu â darparu gwasanaeth cofleidiol i'r unigolyn hwnnw a sut mae'n byw ei fywyd. Felly mae llawer iawn o ganolbwyntio ar hynny. Ac mae hyn yn fusnes arferol i'n gwasanaeth iechyd. Nid rhywbeth ychwanegol ydyw na maes bach o weithgaredd arbenigol. Dim ond cynyddu a wnaiff nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yn ystod y blynyddoedd i ddod, felly mae rheoli'r cyflwr yn well a gwell yn debygol o wireddu nifer o uchelgeisiau sydd yn y cynllun.
Rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi a'ch swyddfa yn ffrindiau dementia, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith i godi ymwybyddiaeth, y rhai sy'n arwain a'r werin yn cydnabod ac yn cyhoeddi'n glir, 'Rwyf i'n ffrind dementia, ac rwy'n credu y dylech chithau fod hefyd.' Ac mae gofyn y cwestiwn hwnnw wrth inni ymhél â'n gweithgarwch yn rhan o wneud hynny. Ond, o ran lle'r oeddem ni, gyda 120,000 o ffrindiau dementia yng Nghymru, ac yna yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cyrraedd 158,000, mae hynny'n dangos bod datblygiad a chynnydd yn lefel yr ymwybyddiaeth. Ac, fel y dywedais, rwy'n credu bod gan bawb ohonom gyfran yn y gwaith angenrheidiol hwnnw, ac rwy'n credu y byddai'n foment falch iawn i Gymru pe gallem fod yn Senedd gyntaf i fod yn ffrind dementia yn y DU a thu hwnt.
Ar eich pwynt chi ynglŷn â thechnoleg a gweithgareddau, ac mae llawer o hyn yn ymwneud â'r hyn yr wyf wedi ei weld mewn cartrefi gofal a thu hwnt, caiff technoleg ei defnyddio mewn ffordd wirioneddol gadarnhaol i helpu pobl yn union fel yr ydych chi'n ei ddweud, gyda hobïau a gweithgareddau. Ceir llawer o weithgaredd cerddorol, ac yn wir mae'n atgoffa pobl o bethau ac yn eu helpu i ddwyn i gof a hel atgofion, ac mae modd ei gwneud hi'n haws i bobl ddwyn i gof yr atgofion hynny a rhoi llawenydd mawr i bobl o hyd yn eu bywydau, nid yn unig i'r unigolyn ei hun ond i'w deulu a'i gyfeillion hefyd. Felly, rwy'n eiddgar i weld nid yn unig yr ystod gyfan o weithgareddau ond mewn gwirionedd sut y gallwn geisio deall pa rai all helpu i wneud y gwahaniaeth mwyaf ac, ar yr un pryd, sut y gallwn sicrhau bod personoliaeth yr unigolyn hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn yr atgofion hynny. Nid yw'n fater o ddweud wrthynt y gallant weld llyfr o ffotograffau neu y gallant ganu, oherwydd i lawer o bobl fel fi—rwy'n hoff iawn o ganu. Efallai nad yw pobl eraill yn hoffi gwrando arna i, ond rwy'n hoff iawn o ganu. Ac ar ymweliad diweddar â'r gorllewin, gwelais eto sut roedd ganddyn nhw amrywiaeth o weithgareddau canu ar gyfer unigolion a bod hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr iddynt. Ond ceir pobl eraill na fyddai hynny o bosib yn apelio atynt o gwbl, felly mae'n rhaid inni ailfeddwl am yr hyn sy'n bwysig i'r unigolion hynny.
Ac rwy'n dymuno gorffen ar y pwynt a wnaethoch chi am y tîm therapi galwedigaethol yn Ysbyty Cwm Cynon. Cefais innau'r pleser hefyd o ymweld â nhw i gwrdd â'r tîm a rhai o'r bobl sy'n byw gyda dementia a ddaeth i Ysbyty Cwm Cynon am y prynhawn i egluro sut yr oedd eu gwaith wedi gwneud gwahaniaeth iddyn nhw. Ac mae yna bwynt yn y fan hon ynglŷn â phwysigrwydd deall anghenion rhywun cyn gynted ag y bo modd, er mwyn gallu ymyrryd a'u cefnogi i gadw mwy o'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Mae rhywbeth i'w ddysgu o bob rhan o Gwm Taf Morgannwg, sy'n enghraifft wirioneddol o arfer da y dylai eraill ddysgu ohoni ledled y gwasanaeth. Ac rwy'n hapus i ddweud eu bod nhw wedi cynnwys gwerthuso ac ymchwilio yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Felly nid yn unig y byddan nhw'n gallu dweud, 'Rydyn ni'n credu ein bod ni'n gwneud y peth iawn', ond bydd ganddyn nhw sail tystiolaeth i siarad â gweddill y bwrdd iechyd ac, yn wir, â gweddill y GIG a'r teulu ehangach, ynghylch sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n byw gyda dementia.
Diolch i chi.
Rydym yn symud ymlaen nawr at eitem 4, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar lwybr arfordir Cymru. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, i agor.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd dros dro.
Yr wythnos ddiwethaf, buom yn dathlu ugain mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, achlysur a oedd yn gyfle i fwrw golwg yn ôl ar ein cyflawniadau allweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Ers iddo agor yn 2012, mae llwybr arfordir Cymru wedi sefydlu ei hun yn esiampl loyw o harddwch naturiol ein gwlad. Mae'r llwybr yn ymestyn am 870 milltir o amgylch ein harfordir i gyd a dyma'r cyntaf o'i fath yn y byd, ac mae'n rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.
Felly, wrth inni edrych yn ôl ar gyflawniadau datganoli, roeddwn i'n awyddus i dynnu sylw at y modd yr ydym ni'n parhau i ddatblygu a hyrwyddo'r trysor rhagorol hwn, yn ogystal ag at y modd y mae hyn yn cyd-fynd ag ymdrechion ehangach i gynyddu hygyrchedd yr awyr agored. Mae'r llwybr yn goron ar yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i dwristiaid. Mae'n gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru, ac amcangyfrifir ei fod yn cynhyrchu tua £84,000,000 y flwyddyn o ran gwariant ymwelwyr ac yn cefnogi mwy na 1,000 o swyddi. Er hynny, nid yw'r cynnig yn ymwneud yn unig â thwristiaeth a'r economi; gall llwybr arfordir Cymru ddod â buddion ehangach yn ei sgil o ran iechyd a lles. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod pobl a chymunedau ledled y wlad yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau manteision y llwybr, yn enwedig pawb sy'n byw ac yn gweithio yn ymyl ein harfordir.
Fodd bynnag, mae llwybr cerdded hynod boblogaidd yn gallu dod â phroblemau a heriau yn ei sgil hefyd, ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o'i gynnal a'i gadw. Mae ein partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweld bron £1,000,000 yn cael ei fuddsoddi yn flynyddol. Mae CNC, sy'n gofalu am y llwybr ar ein rhan ni, yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a thirfeddianwyr i wella aliniad ac ansawdd y llwybr, a lliniaru erydiad.
Mae cyfres o lwybrau cylchol newydd, deunydd cyhoeddusrwydd newydd a phecyn cymorth i fusnesau arfordirol ymysg rhai o'n mentrau diweddaraf. Cynlluniwyd y pecyn cymorth i helpu busnesau arfordirol i farchnata eu cynnyrch a'u gwasanaethau drwy atyniad y llwybr. Adnodd ar-lein rhad ac am ddim a hawdd ei ddefnyddio yw hwn sy'n cynnig ystod eang o ddeunydd a gwybodaeth i fusnesau mewn un man. Mae'n rhoi arweiniad ar sut y gall busnesau roi profiad bythgofiadwy i gwsmeriaid a marchnata eu busnesau eu hunain yn well, gan ddefnyddio llwybr yr arfordir yn ased allweddol. Lansiwyd y pecyn cymorth ym mis Mawrth eleni, gyda chyfres o seminarau rhad ac am ddim o amgylch ein harfordir, o Abertawe i Arberth, o Gonwy i Fiwmares.
Mae'r wefan yn cael ei hailwampio ar hyn o bryd. Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac offeryn mapio rhyngweithiol newydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio ar ap realiti estynedig newydd a fydd yn cynnwys graffeg i ennyn diddordeb, straeon addysgiadol a gemau rhyngweithiol.
Mae rhai o'n cerddwyr mwy mentrus yn cwblhau'r llwybr i gyd ar un tro neu dros gyfnod fel rhan o her. I'r bobl hynny, rydym yn ystyried system newydd i gymell a gwobrwyo pobl sy'n cwblhau'r llwybr cyfan neu gamau ohono. Serch hynny, mae llawer mwy o bobl yn cerdded darnau byr ohono. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn datblygu gwahanol ffyrdd fel y gall pobl fwynhau eu hymweliad. Bydd cyfres newydd o lwybrau cylchog yn agor mwy ar gefn gwlad rhagorol Cymru yn ogystal â'r arfordir ei hun.
Mae hi'n Flwyddyn Darganfod yng Nghymru eleni, ac ym mis Mai bydd hi'n saith mlynedd ers lansio'r llwybr yn swyddogol. Dethlir ein llwybr arfordirol ni drwy gynnal gŵyl gerdded, a hoffwn roi teyrnged i'r Cerddwyr am drefnu amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau, sy'n darparu ar gyfer pobl o bob gallu.
Yn ogystal â llwybr yr arfordir, mae gennym ni dri llwybr cenedlaethol ac amrywiaeth o lwybrau lleol eraill i'w mwynhau sy'n cael eu hybu. Mae'r rhain yn galluogi pobl i weld rhai o olygfeydd gorau ein gwlad, nid cerddwyr yn unig ond beicwyr a rhai sy'n marchogaeth hefyd. Felly, roeddwn i'n falch ein bod wedi gallu ariannu prosiectau ychwanegol gwerth dros £500,000 i wella llwybr yr arfordir a llwybrau cenedlaethol yn 2018-19. Bydd y rhain yn caniatáu i sawl darn pwysig o waith gael ei wneud i wella'r profiad i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mwy o fudd o'r rhwydwaith enfawr o lwybrau troed sydd gennym. Cymru sydd â'r hyd mwyaf o hawliau tramwy fesul cilometr sgwâr yn y DU. Serch hynny, gellid gwella'r modd y darperir mynediad i'r awyr agored, ei reoli a'i hyrwyddo yng Nghymru. Rydym wedi ymgynghori'n eang iawn ar amrywiaeth o fesurau, ac rwy'n ddiolchgar am fewnbwn miloedd o bobl a sefydliadau. Mae maint yr ymateb a gawsom yn tystio i'r gwerth y mae pobl Cymru yn ei roi i gefn gwlad a'r tirweddau sydd mor hoff ganddyn nhw. Cyflwynais i ddatganiad ysgrifenedig y mis diwethaf, yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, sy'n nodi'r ffordd y bwriadwn fwrw ymlaen â hyn.
Ein dull ni o ymdrin â mynediad yn yr hirdymor fydd darparu ystod ehangach o gyfleoedd gweithgareddau awyr agored. Bydd hefyd yn hyrwyddo defnydd hamdden sy'n gyfrifol ac yn taro'r cydbwysedd priodol rhwng buddiannau defnyddwyr a thirfeddianwyr fel ei gilydd. Mae cefn gwlad Cymru yn hynod bwysig i'w phobl ac mae'n rhaid i bawb gael y cyfle i'w fwynhau bob amser. Bydd llwyddiant llwybr arfordir Cymru, a'n hymrwymiad ni i ddiwygio mynediad yn fwy eang, yn sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn er lles holl bobl Cymru.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad amserol iawn hwn, a wnaed ganddi yn ystod yr ŵyl nodedig hon sef Gŵyl Gerdded Llwybr Arfordir Cymru? A gaf innau roi teyrnged i waith caled y Cerddwyr sy'n hwyluso llawer o'r dathliadau hyn? Ac a gaf i bwysleisio hefyd gerbron y Gweinidog a'r Siambr fy mod i'n ddefnyddiwr brwd o'r llwybr, yn enwedig yn Sir Benfro, Ceredigion ac yn fy nghynefin i, sef Morgannwg? Felly, rwy'n elwa'n aruthrol ar y cyfleuster gwych hwn.
Rwy'n arbennig o falch o weld datblygiad yr ap a'r wefan sydd i'w hailwampio. Rwy'n credu y dylid sicrhau bod yr atyniad hollbwysig hwn i dwristiaid yn fwy hygyrch mewn oes ddigidol fodern. Bydd yn rhoi delwedd dda o Gymru, yn fy marn i. Fel y dywedodd y Gweinidog, llwybr yr arfordir yw'r llwybr di-dor cyntaf yn y byd ar hyd arfordir gwlad ac mae'n galluogi cerddwyr i weld rhannau o'r arfordir sydd heb eu darganfod, sydd â golygfeydd godidog, a gallaf dystio i hynny, yn ogystal â thirweddau garw a bywyd gwyllt prin. Pleser mawr, yn wir, yw cael mynd ag ysbienddrych gyda chi a gweld y bywyd gwyllt mwyaf syfrdanol ond sydd fel arfer yn ddiarffordd. Mae'n rhywbeth i wir ymfalchïo ynddo.
Rwy'n falch o weld hefyd sut mae'r Llywodraeth yn annog arloesedd, fel datblygu llwybrau cylchol sy'n cysylltu â'r llwybr. Gwn o brofiad, weithiau, os mai dim ond diwrnod sydd gennych, y byddwch yn chwilio am lwybr cylchol. Mae'n wirioneddol ddefnyddiol cael hynny, ac mae hefyd yn dod ag ardal ychydig yn ehangach i gysylltiad â'r llwybr.
Mae yna rai materion yn codi, ac rwy'n eu codi nhw dim ond er mwyn gwella'r hyn sydd, yn fy marn i, yn gyfleuster rhagorol. Cyfeiriodd y Gweinidog at faterion yn ymwneud â hygyrchedd, a gwyddom fod rhai fforymau anabledd lleol wedi tynnu sylw at y problemau sy'n gysylltiedig â hygyrchedd i gadeiriau olwyn a rhwystrau eraill, fel y rhai a roddir weithiau i atal pobl rhag gyrru beiciau modur ar y llwybr yn anghyfreithlon. Gwn fod o leiaf un Cyngor Sir, sef Sir y Fflint, wedi cyfaddef bod angen iddo wella ei hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr anabl, yn enwedig os yw wedi ei gysylltu â golygfannau, er enghraifft. Mae'n beth rhagorol i'w fwynhau, a chredaf ei bod yn rhaid inni gofio bod y rhai sydd â symudedd cyfyngedig neu sy'n ddibynnol ar gadeiriau olwyn yn dal i fod yn awyddus i fwynhau'r amgylchedd agored gymaint â phosib. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w gadw mewn cof.
Os caf i droi at farchnata, mae'r pecyn cymorth marchnata yr wyf i wedi edrych arno'n un cynhwysfawr iawn. Mae'n cwmpasu pob agwedd ar waith marchnata i fusnesau lleol, a all fanteisio wedyn ar y llwybrau cerdded. Mae hyn, yn fy marn i, yn wirioneddol bwysig, ond tybed a ydych am fynd â'r mater ymhellach a'i gysylltu â strategaeth sydd wedi ei hariannu yn iawn ar gyfer cerdded yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod y Cerddwyr yn awyddus iawn i weld hyn, a dylem osod targedau uchelgeisiol i hyrwyddo cerdded fel gweithgaredd bob dydd gyda chymorth ychwanegol i'r rhai lleiaf sionc.
Fel y dywedwyd gennych yn eich datganiad, nid yr economi a thwristiaeth yn unig sy'n gweld manteision llwybr yr arfordir, er mai yno y maen nhw'n cael eu gweld fwyaf, fel y dengys y ffigurau y cyfeiriasoch atynt. Ond mae manteision o ran iechyd a lles hefyd, a gallwn gysylltu hynny â'n sail ddeddfwriaethol yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae'r Cerddwyr wedi sôn hefyd am yr angen i'w gysylltu â'r gwasanaeth iechyd, fel bod modd i bobl â phroblemau iechyd neu bobl sy'n debygol o ddatblygu problemau iechyd fanteisio arno.
Credaf fod angen strategaeth ryngwladol hefyd. Llywydd, gallwch bellach gerdded o amgylch Cymru. Rwyf wedi cerdded ar hyd Clawdd Offa hefyd er bod hynny—rwy'n rhyfeddu wrth feddwl am hyn, 40 o flynyddoedd yn ôl, rhwng y chweched dosbarth a'r brifysgol. Ond mae Cymru eisoes yn weddol enwog yn rhyngwladol, ac rwy'n credu bod angen inni adeiladu ar hynny, oherwydd mae'n lleoliad o'r radd flaenaf i gerddwyr. Mae'n arbennig o boblogaidd gyda cherddwyr sy'n dod o'r Iseldiroedd ac o'r Almaen, ond o rannau eraill o Ewrop hefyd yn ogystal â Gogledd America a rhannau eraill o'r byd. A phan fydd y bobl hyn yn mwynhau ein hamgylchedd bendigedig, fel y dywedais i, wrth grwydro'r mynyddoedd ac yn cerdded o amgylch yr arfordir, maen nhw'n awyddus i aros mewn gwestai unigryw, ac yn dymuno bwyta mewn bwytai o ansawdd da iawn—
Clywch, clywch.
—ac maen nhw'n dymuno cael mynd—yn wir, rwy'n clywed Aelod arall, y gwn ei fod wedi mwynhau'r cyfleusterau hyn—i drefi marchnad a phentrefi cyfagos, sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da pan fydd angen chi wneud y daith fechan honno o'r llwybr cerdded yr ydych chi'n ei ddilyn. Mae'r bobl hyn yn gwario llawer o arian. Maen nhw'n dwristiaid cefnog. Wrth feddwl am bobl sy'n cerdded, cawn ein temtio i feddwl ei fod yn wyliau nad yw'n dod â llawer o weithgarwch economaidd i'r gymuned leol. Wel, mae hynny'n gwbl anghywir. Mae'r bobl hyn mewn gwirionedd yn arweiniol o ran datblygu ein twristiaeth a gwella cyfleusterau, ac mae angen inni lwyddo i gael twristiaid sy'n hoffi gweithgareddau a thwristiaid diwylliannol hefyd, sy'n dymuno profi Cymru benbaladr ond sydd am fwynhau bwytai a gwestai da iawn pan fyddan nhw'n gwneud hynny—. Ond, yn gyffredinol, mae hwn yn waith sydd wedi ei ddatblygu'n dda iawn, rydym ni'n ei groesawu'n fawr, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar rai o'r awgrymiadau a wnes i. Gwn ei bod wedi rhoi ystyriaeth iddyn nhw a'r ymgynghoriad hefyd, ac mae sefydliadau eraill fel y Cerddwyr yn gwneud y pwyntiau hyn. Diolch.
Diolch. Bydd yr Aelod yn falch o weld, gyda'r defnydd o'r ap newydd a'r wefan sy'n cael ei datblygu, y dechnoleg fodern sy'n cael ei defnyddio i ganu clodydd ein hasedau naturiol a'u hyrwyddo nhw. Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud gwaith da iawn ei hun o hyrwyddo'n huawdl iawn y llwybr arfordir gwych sydd gennym ni yng Nghymru. Mae'r Aelod yn sôn am fod yn ddefnyddiwr rheolaidd ohono. Byddwn yn tybio ac yn gobeithio bod pawb ohonom ni yn y Siambr hon yn defnyddio'r llwybr arfordirol i ryw raddau, ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r Cerddwyr ar un o'u teithiau cerdded i ddathlu dros y penwythnos hefyd.
Credaf eich bod chi'n codi mater a godwyd gyda mi o'r blaen o ran hygyrchedd, yn enwedig i bobl anabl. Mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw rhwng amddiffyn y llwybr ond hefyd sicrhau bod holl bobl Cymru yn gallu ei fwynhau yn y ffordd gywir ac yn gyfrifol. Rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth, wrth inni fwrw ymlaen â'r cynigion ar hygyrchedd, y gallwn ei drafod gyda rhanddeiliaid, gyda fforymau anabledd, ond hefyd gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, CNC a thirfeddianwyr fel ei gilydd. Mae ein llwybrau cylchog yn bwysig—ni chredaf fod pawb eisiau cerdded y llwybr arfordirol i gyd nac yn alluog i wneud hynny, a hefyd byddwch yn cyrraedd un pwynt ac ni fydd gennych yr amser neu ni fyddwch yn teimlo'n ddigon heini i gerdded yn ôl yr un ffordd eto. Un o'r pethau yr ydym yn ceisio eu datblygu gyda'r llwybrau cylchol newydd yw dechrau cyfeirio hyn yn fwy at deuluoedd, efallai, er mwyn eu denu nhw i ddechrau mwynhau manteision iechyd a lles llwybr yr arfordir. Mae'r rhain yn debygol o fod tua 2 filltir o bellter, felly rydych chi'n edrych ar ryw awr neu ddwy yn unig, a gwneud yn siŵr eu bod yn agos at gyfleusterau a chysylltiadau trafnidiaeth hefyd. Felly, rhaid meddwl yn strategol ynglŷn â sut y gwnawn ni hynny yn y dyfodol.
Pwynt pwysig iawn hefyd yw'r un am fod yn rhan o strategaeth ryngwladol a sut yr ydym yn gwerthu Cymru i'r byd. Roeddwn allan yn fy etholaeth i fy hun ddydd Gwener, a'r math gorau o gyfarfodydd a theithiau cerdded yr wyf i'n eu cael yw pan af am gyfarfod ym mryniau Clwyd a mynd am dro yno, ac roeddwn i ym mryngaer Penycloddiau. Gallwch edrych allan i'r pellteroedd, ac mewn un cyfeiriad fe welwch Rhuthun a Dinbych, a thu hwnt i hynny fe welwch chi fynyddoedd Eryri a Chlawdd Offa. Nid yw hyn yn golygu hyrwyddo i fwy o bobl yng Nghymru yr hyn sydd gennym ni ar garreg ein drws a'r manteision a ddaw yn ei sgil, ond mewn gwirionedd mae'n golygu hyrwyddo'n rhyngwladol yr amgylchedd naturiol gwych sydd gennym. Ac rwy'n falch y bydd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg, yn rhan o'i strategaeth ryngwladol newydd—yn cynnwys pwysigrwydd asedau naturiol Cymru ac yn hyrwyddo twristiaeth, mewnfuddsoddi a'r ddelwedd gadarnhaol honno o Gymru hefyd.
Gaf i ddiolch yn gyntaf oll i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad, a chroesawu'r cynnwys? Wrth gwrs, mae'r mater o lwybr arfordirol Cymru yn fater i'w groesawu'n fawr iawn. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac yn ddatblygiad dŷn ni wedi'i weld yn datblygu dros y saith mlynedd diwethaf, a dŷn ni'n disgwyl ei weld o'n datblygu fel dŷn ni'n mynd ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn. Achos, oes, mae yna olygfeydd bendigedig drwyddi draw yma yng Nghymru, ac, wrth gwrs, drwy'r 876 o filltiroedd o'r arfordir, o'r llwybr arfordirol, ac fel dŷn ni wedi clywed gan y Dirprwy Weinidog, yr unig wlad sydd efo llwybr arfordir sy'n cynnwys ei holl arfordir, ac mae hynny yn beth i'w drysori ac i'w ddathlu. Wrth gwrs, mae yna nifer o rannau bendigedig i'n harfordir—gwnaf i ddim dim ond canolbwyntio ar Benrhyn Gŵyr, efo 26 o draethau bendigedig i chi eu mwynhau, neu Llansteffan nes ymlaen, neu hyd yn oed lle'r oeddwn i ar y penwythnos, ym Maenorbŷr, lle mae’r arfordir yn fendigedig fanna yn ne Penfro, cyn inni fynd ymlaen i arfordir Ceredigion, yn naturiol, sydd hefyd yn llawn materion bendigedig yr olwg. Ac mae Aberaeron yn drysor, mae’n rhaid i fi ddweud. Ond gallaf i ddim siarad drwy’r prynhawn ar y rhain i gyd, felly buasai’n well i fi ganolbwyntio ar bethau i wneud efo’r datganiad, felly dyma ni.
Ie, mae'n fater i'w groesawu, wrth gwrs, yn naturiol. Dau bwynt, though: wrth gwrs, mae cadwraeth yn hanfodol bwysig, ac, wrth gwrs, fel mae David Melding wedi awgrymu, mae materion iechyd hefyd yn bwysig iawn, ac rŷn ni hefyd yn talu teyrnged i’r Ramblers am hyrwyddo cerdded yn ein gwlad. Mae o’n ffordd weddol hawdd o gadw’n ffit. Does dim angen aelodaeth o unrhyw gym sydd yn costio miloedd o bunnau i chi. Cerdded ydy’r ffordd ymlaen—10,000 o gamau bob dydd. A jest mynd ar y llwybr arfordirol—byddwch chi wedi cyflawni hynny mewn chwinciad, ac ni fydd yn teimlo fel 10,000 o gamau chwaith. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn allweddol bwysig pan rŷn ni’n sôn am gadwraeth. Mae hwn yn elfen o dwristiaeth sydd yn denu ymwelwyr, denu arian, hybu’r economi, ond, gan feddwl am dwristiaeth gyfrifol, felly, sydd hefyd yn edrych ar ôl yr amgylchedd a materion cadwraethol yn gyfan gwbl.
Ac, wrth gwrs, mae edrych ar ôl ein hamgylchedd, a hefyd, gan fanteisio ar y cyfle, buaswn i’n licio gweld y Dirprwy Weinidog yn pwysleisio hyn: nid yw jest yn fater o edrych ar ôl ein hamgylchfyd naturiol, ond hefyd edrych ar ôl ein hamgylchfyd ieithyddol a diwylliannol achos, wrth gwrs, am rannau lawer, yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg sydd yn rhan annatod, naturiol o’r arfordir yma, ac, wrth gwrs, mae yna ambell i esiampl o—. Rydyn ni’n colli ein hen enwau Cymraeg traddodiadol, a dim jest enwau Cymraeg traddodiadol ond enwau hanesyddol Cymraeg a hefyd mewn sawl iaith arall. Rŷn ni wedi colli Porth Trecastell yn Ynys Môn, er enghraifft, sydd nawr i fod yn Cable Bay, ac mae yna ambell i esiampl arall, jest achos bod pobl ddim yn gallu ynganu enw’r ynys neu enw’r afon neu enw’r penrhyn. Ond gallaf i ddim meddwl am unrhyw wlad arall ar y ddaear sydd yn fodlon newid yr enwau maen nhw wedi'u cael ar wahanol begynau daearyddol ers canrifoedd er mwyn bodloni pobl sydd ddim yn fodlon mentro’r iaith frodorol.
Felly, jest achos bod rhywle yn edrych yn unig ac yn anghysbell ar ein harfordir ni, dydy hynny ddim yn golygu nad oes enw traddodiadol un ai Cymreig neu Lychlynnaidd ar y lle, ac mae’n bwysig cadw hynna fel rhan annatod, nid jest o’r gadwraeth naturiol ond cadwraeth naturiol ieithyddol a diwylliannol ein gwlad, achos mae yna gyfoeth naturiol yn yr holl enwau. Mae pob penrhyn, pob mymryn bach ar y map arfordirol yna efo enw. Os ydych chi’n edrych ar fapiau hanesyddol ein gwlad a’r cyfoeth o enwau a disgrifiadau sydd yna yn yr iaith Gymraeg—wrth gwrs, dydy rhai o’r mapiau modern ddim yn cynnwys hynna i gyd, ac wedyn mae pobl yn mynd i feddwl, ‘Wel, jiw, does yna ddim enw ar y lle yma. Beth am roi enw o ryw wlad arall arno fe?’ Na, mae yna enw ar y lle—mae'n fater o ffeindio’r enw gwreiddiol. Felly, buaswn i’n licio cael rhyw fath o sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog ein bod ni’n edrych ar y materion yma o ddiogelu a chadw enwau lleoedd naturiol ar yr arfordir hefyd.
A’r ail bwynt, yn ogystal â llongyfarch pob peth sydd yn mynd ymlaen ynglŷn â’r llwybr rŷch chi’n gallu cerdded arno fo rownd ein harfordir, mae ambell un wedi crybwyll, 'Beth am greu neu ddatblygu llwybr seiclo Cymru gyfan?' Mae ambell i Weinidog yn y lle yma yn hoff o fynd ar ei feic. Beth am ddatblygu llwybr seiclo ochr yn ochr â’r llwybr cerdded? Achos dwi’n credu mai yna adnodd gwerthfawr yn fanna.
Ac at ei gilydd, i grynhoi, felly, buaswn i’n taclo’r agenda hybu iechyd, ffitrwydd, yr agenda gordewdra, yn ogystal â mynd i’r afael â’r ymdrin â thwristiaeth sydd yn meddwl dim jest, ‘A wnewch chi droi i fyny?’, ac os yw hi’n bwrw glaw, beth sy’n digwydd wedi hynny, ond meddwl yn ddwys am ddatblygiad ein gwlad, am esbonio i bobl hanes cyfoethog ein gwlad a’n hiaith a’n diwylliant, heb ddim cywilydd ohoni, a beth sydd yna efo’n llwybr arfordir ni. A beth sydd yna ddim i’w hoffi? Hir oes i lwybr arfordirol Cymru. Diolch yn fawr.
Llywydd, rwy'n credu, yn y dyfodol, pan fyddwn ni'n dymuno llunio hysbysebion marchnata ar gyfer llwybr arfordir Cymru, dylem ofyn i'r Aelodau yn y Siambr hon i siarad am eu hoff ardaloedd nhw. Rwy'n siŵr bod gennym ni i gyd ein ffefryn ac mae gennym ni i gyd ardaloedd nad ydym wedi bod ynddyn nhw eto ond yr hoffem fynd iddyn nhw. Ond rwy'n credu bod y cyfraniadau hyd yn hyn yn dangos pa mor werthfawr yw'r ased naturiol hwn yng ngolwg pob un ohonom ni, yr unig genedl, yn wir, fel y dywedodd Dai Lloyd, sy'n gallu brolio bod ganddi lwybr arfordirol sy'n cwmpasu ardaloedd godidog. Rwy'n cofio flynyddoedd lawer yn ôl, pan oeddwn i'n gweithio y tu allan i Gymru, y byddai pobl yno'n dod ataf i ac yn sôn am lwybr arfordir Cymru; bydden nhw'n mynd yno ar eu gwyliau a byddwn innau'n dweud wrthyn nhw am wahanol lefydd y gallen nhw ymweld â nhw hefyd. Felly, mae'n dangos y weledigaeth a'r cyrhaeddiad y mae'n rhaid inni eu datblygu yn hyn o beth.
Mae'r Aelod yn llygad ei le o ran y gwaith y mae'r Cerddwyr yn ei wneud i hyrwyddo cerdded i lawer o bobl fel ffordd rwydd o gadw'n heini a rhoi hwb i'w hiechyd, ac rydych chi'n gallu cerdded cymaint neu gyn lleied ag yr ydych chi'n ei ddymuno. Ac mae'n iawn ein bod ni'n edrych ar y llwybrau cylchol a'r llwybrau byrrach hyn fel y gall pobl—wyddoch chi, eu gwneud yn agored i gymaint o bobl â phosib.
Ynglŷn â'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod o ran bod hyn yn ymwneud nid yn unig â gwarchod ein hamgylchedd naturiol—ac, fel y gwyddoch chi, rydym yn awyddus i fwy o bobl fwynhau llwybr yr arfordir, ond mae'n gwbl briodol cael y cydbwysedd hwnnw rhwng cadwraeth a hyrwyddo, i sicrhau ein bod ni'n cadw ein hasedau naturiol. Ond hefyd mae'r agwedd honno ar yr amgylchedd o ran y modd yr ydym ni'n ymdrin â phethau sy'n gadarn iawn yn ymwybyddiaeth y cyhoedd, fel llygredd plastig a thaflu sbwriel. Felly gall y gwaith y mae rhai o'r mentrau eraill sydd gennym ledled y Llywodraeth, fel rhan o Refill Cymru, fod â rhan yn hynny hefyd.
O ran edrych ar ein hamgylchedd diwylliannol, un o'r pethau yr ydym yn eu hystyried, gan adeiladu ar y llwybrau cylchol newydd hyn neu wahanol lwybrau, yw canolbwyntio ar wahanol feysydd, nid ardaloedd daearyddol yn gymaint â meysydd o ddiwylliant a threftadaeth. Wrth inni fwrw ymlaen â hynny, efallai fod gan yr Aelod rywbeth y mae'n awyddus imi rannu gwybodaeth ag ef amdano ac y gallech chi fynegi eich syniadau chi ynglŷn â hynny, wrth inni ei ddwyn ymlaen hefyd.
O ran beicio, rwy'n cyfaddef fy mod i'n hoff iawn o fynd ar y beic ond ddim yn gwneud hynny rhyw lawer ar hyn o bryd, oherwydd diffyg amser yn aml. Drwy'r amser rwy'n meddwl, 'O, yn ystod y toriad nesaf, byddaf i'n mynd ar daith feicio hir' ac mae hynny'n cael bod tan y tro wedyn a'r tro wedi hwnnw. Ond un o'r pethau, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar hygyrchedd, y byddwn yn edrych arno yw sut y gallwn wneud gwell defnydd o docynnau aml-ddefnydd ar gyfer gweithgareddau fel beicio a marchogaeth hefyd.
Hoffwn i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw, Dirprwy Weinidog. Rwy'n lwcus iawn o gael byw yn agos i rai o ddarnau mwyaf ysblennydd a nodedig arfordir ein gwlad, ac un o'r rhai hynny yw arfordir Sir Benfro. Rwyf i'n cynrychioli llawer mwy o filltiroedd, wrth gwrs, ac mae'r rhan fwyaf o lwybr yr arfordir, mewn gwirionedd, yn fy rhanbarth i, ac mae'n ymestyn o Benrhyn Llŷn hyd Fae Caerfyrddin. Mae pethau unigryw i'w darganfod ar hyd yr 870 milltir di-dor o arfordir Cymru—felly nid gwneud taith gerdded gylchol mewn un diwrnod y byddaf i—o fywyd gwyllt prin i dreftadaeth ddiwydiannol. A gallwch weld y ddau gyda'i gilydd, os ydych chi'n gwybod ble i edrych. Byddwch yn gweld y cudyll, tylluanod bach a llawer o enghreifftiau eraill o adar yn byw mewn safleoedd sydd bellach yn safleoedd diwydiannol segur, ond nid ydyn nhw'n safleoedd diwydiannol segur os ydych chi'n hoffi chwilio am bethau o'r fath. Felly, rwy'n credu bod angen inni gyfuno'r ddwy elfen hynny i ddweud stori arall yr ydym ni'n gallu ei dweud.
Credaf fod Gŵyl Gerdded Llwybr Arfordir Cymru, sy'n dod i ben yr wythnos hon, wedi bod yn ardderchog o ran dathlu a hyrwyddo'r llwybr arfordirol. Rwy'n credu hefyd ei bod yn werth atgoffa ein hunain mai dim ond saith mlwydd oed yw llwybr arfordir Cymru. Felly, rydym wedi symud ymlaen yn lled gyflym o fewn y saith mlynedd hynny. A gwyddom fod ymwelwyr bob amser wedi heidio i'n harfordir am wahanol resymau, boed hynny'n bythefnos y glowyr ar Ynys y Barri, neu i wylio dolffiniaid ym Mae Ceredigion. Ond rydym wedi llunio llwybr sy'n ddi-dor; mae'n gyswllt ffisegol parhaus. Gall prosiect llwybr arfordir Cymru, yn y dyfodol, greu mwy o gyfleoedd i gysylltu'r gwahanol brofiadau hynny ar gyfer ymwelwyr, gan hybu twristiaeth yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n rhaid i mi gytuno â David Melding pan ddywed mai twristiaeth sy'n dod ag arian i mewn yw hyn, gan fod y bobl sy'n cerdded ar y llwybr yn gwneud hynny am lawer o resymau amrywiol—mae gwylio adar yn un rheswm, a ffotograffiaeth yn rheswm arall—a bydd camerâu a binocwlars, gwarbaciau a phethau eraill yn cael eu gwerthu ar hyd y ffordd, ac mae'r bobl sy'n gwerthu'r nwyddau hynny yn mynd i elwa'n wirioneddol ar hyn.
Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n parhau i gefnogi a hyrwyddo mentrau fel yr ŵyl gerdded, sydd yn helpu i werthu arfordir Cymru fel cyrchfan am fwy o resymau ac ym mhob tymor. A chredaf mai dyna'r neges allweddol, gan fod pobl yn cerdded y llwybr hwn ym mhob tymor neu am lawer o resymau amrywiol. Un o'r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn, Dirprwy Weinidog, yw a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r bobl sy'n cadw'r llwybr hwnnw'n agored, o'r staff sy'n gweithio—rwyf wedi cwrdd â rhai ohonyn nhw; rwy'n siŵr bod pobl eraill wedi hefyd—ym mhob tywydd, i'r gwirfoddolwyr sy'n achub ar gyfleoedd hefyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cerdded y llwybr hwn o hyd. Hefyd, hoffwn gydnabod—ac mae eraill wedi sôn am hyn heddiw—y manteision gwirioneddol a ddaw yn ei sgil i bobl, y lles i iechyd meddwl yn enwedig, o naill ai wirfoddoli mewn cyfleoedd gwaith i gadw'r llwybr hwnnw mewn cyflwr da, neu i ddianc i gefn gwlad er mwyn y pleser syml o wneud hynny a dianc rhag pwysau gwaith. Credaf fod hynny'n hanfodol bwysig ac, rwy'n falch o ddweud, yn cael ei gydnabod o'r diwedd.
Rwy'n bendant yn uno â Joyce Watson i ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr sy'n cynnal ac yn cadw'r ased gwych hwn yn agored, fel yr oeddech yn ei ddweud, ym mhob tywydd gydol y flwyddyn. Mae eu gwaith a'u hymrwymiad nhw'n sicr i'w gymeradwyo, ac rydych chi'n ffodus iawn o gael cynrychioli'r ardal honno ac yn gallu ymffrostio yn y milltiroedd lawer o lwybr arfordirol.
Roeddech chi'n sôn, mewn gwirionedd, mai un o'r pethau gwych, un o'r pethau rhyfeddol am lwybr yr arfordir yw y gall gyfuno bywyd gwyllt prin â'n treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ac, mewn gwirionedd, sut y gallwn ni ddod â nhw at ei gilydd a hyrwyddo hynny i ymwelwyr â'r llwybr arfordirol. Rwyf innau'n gallu gweld hynny yn fy ardal i, lle mae gennym ran newydd o'r llwybr gyda'r pen pwll gynt a glofa'r Parlwr Du a model o'r hen ferlen pwll glo, ac fe welwch chi fyrddau yno gyda hanes y lle. Ond pan ewch chi heibio'r gornel mae ardal yr RSPB lle gallwch edrych allan dros aber Afon Dyfrdwy.
Felly, ie, yn sicr, dyma'r hyn yr ydym ni wedi gweithio arno ac y dylem ni adeiladu arno. Ac un o'r pethau yr ydym ni'n ei ystyried—gwn fod yr Aelod wedi dweud ei bod hi am wneud y teithiau cerdded hir, nid y teithiau cylchol, ond un o'r pethau yr ydym ni'n eu hystyried, fel y dywedais i'n gynharach, o ran y cylchdeithiau hyn, yw rhoi ystyriaeth i ganolbwyntio ar wahanol themâu, a gallai un o'r rhain fod yn fywyd gwyllt a threftadaeth hefyd yn sicr. Felly dyna un ffordd o fanteisio i'r eithaf ar yr asedau hynny wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.
O ran twristiaeth sy'n dod ag arian a'r cyfleoedd sydd ar gael i ni fel cenedl, ond hefyd i'r busnesau hynny sydd â rhan yn hyn, dyna pam yr wyf i o'r farn bod y pecyn cymorth ar gyfer busnesau arfordirol yn bwysig iawn, a hefyd gwneud yr hyn allwn ni fel Aelodau i hyrwyddo hynny i fusnesau o fewn ein hetholaethau ein hunain a'n rhanbarthau ein hunain. Ceir amrywiaeth o ddeunyddiau y gall y busnesau hyn elwa arnyn nhw. Mae'r adnoddau yn cynnwys logos y gallan nhw eu defnyddio, eitemau newyddion—fe allan nhw gael posteri a fideos i'w defnyddio yn eu marchnata ar-lein/all-lein eu hunain i geisio denu'r farchnad gynyddol honno hefyd. Fe fyddaf i'n hyrwyddo'r ŵyl gerdded yn bendant. Fe fyddaf i yno ddydd Sul, ac fe fyddaf i'n siŵr o ddod o hyd i daith gerdded sy'n cyfuno dwy elfen yn fy mhortffolio, lle byddaf yn mynd am dro yn ogystal â chasglu ysbwriel hefyd.
Cefais fy ngeni yn Nhre-gŵyr, a phan oeddwn yn blentyn, pe byddech chi'n troi i'r chwith wrth adael fy nghartref i—roedd y gwaith dur yn union gyferbyn, ond, pe byddech chi'n troi i'r chwith, fe fyddech chi'n cerdded i lawr yr hen lwybr camlas—mae wedi diflannu bellach— lle cariwyd bachgen enwog o Geidwadwr o Abertawe o gyfarfod Plaid Lafur a'i hyrddio i mewn i'r gamlas. Mae'r gamlas wedi ei llenwi erbyn hyn, ac nid oes modd gwneud hynny eto. Ond pe byddech chi'n dilyn y gamlas honno byddech yn dod i Benclawdd a gwastadeddau llaid gogledd Gŵyr, yr aber, Aber Afon Llwchwr, ac, os daliwch ati i fynd o amgylch y penrhyn 13 milltir, yna rydych chi'n cyrraedd traethau tywod bychain hardd y de. Roeddwn i'n credu mod i wedi cael fy ngeni yn y nefoedd, mae'n rhaid dweud. Roeddwn i'n credu mod i'n lwcus dros ben. Ond, wrth i chi fynd yn hŷn, rydych yn dechrau sylweddoli, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi ein bendithio yng Nghymru, ledled Cymru. Mae pob rhan o'r arfordir yn rhyfeddol, yn odidog.
Yr unig ofid sydd gennyf i wrth ddathlu, fel y gwnes i'r penwythnos diwethaf gyda'r Cerddwyr, Parc Cenedlaethol Sir Benfro, Cyfoeth Naturiol Cymru, grŵp o gerddwyr lleol, fy hen gydweithiwr Andrew Campbell o Gynghrair Twristiaeth Cymru—. Fe wnaethom gwrdd yno yn Saundersfoot gan droedio amrywiaeth o lwybrau arfordirol a llwybrau treftadaeth, gan fynd ychydig bach i berfedd gwlad—rhai o'r llwybrau cylchol newydd. Fy unig ofid i yw bod Cymru wedi achub y blaen ar Loegr yn hyn o beth, ond mae'n ofid digon pleserus, mewn gwirionedd. Y fi wnaeth gyflwyno'r Bil llwybr arfordirol ar gyfer Lloegr yn ôl yn—. Bobl bach, pryd oedd hynny? Ddegawd neu fwy yn ôl. Ac rydym ni'n ei ddatblygu o hyd. Nawr, mae hwnnw'n beth mawr, ond fe gyrhaeddwn yno, mae'n debyg, erbyn 2021. Ond bydd hynny wedyn yn beth rhyfeddol. Bydd modd cerdded nid yn unig ar hyd llwybr arfordir Cymru ond holl lwybr arfordir Lloegr, o Gaerliwelydd i Newcastle a thu hwnt, a cherdded Cymru a Lloegr i gyd yn gyfan, os oes gennych chi'r amser a'r ewyllys a bod gennych esgidiau go lew ac yn gwneud y daith honno yn ei chyfanrwydd. Ond rwy'n tybio fy mod i yn un, Llywydd, o'r bobl hynny y cyfeirir atynt fel y rheini sy'n mynd i wario arian yn yr economi leol. Byddaf i'n cerdded am filltiroedd lawer iawn ond bob amser wedyn yn gorffen trwy wario ar bryd da o fwyd a gwydraid neu ddau o gwrw, a lle braf wedyn, yn ôl pob tebyg, i aros mewn Gwely a Brecwast dros nos. Ac mae 'na lawer o bobl yn gwneud hynny. Mae'r effaith ar yr economi yn rhyfeddol. Ac ni ddylem anghofio, wrth gwrs, ac rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, fod hyn yn dilyn traddodiad disglair pethau fel Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, yr hawl i grwydro, mynediad i'r Parciau Cenedlaethol, y ddeddfwriaeth hawliau tramwy—mae'r pethau hynny i gyd wedi agor cefn gwlad a'r arfordir i genedlaethau o bobl ers y Llywodraeth flaengar gyntaf honno ar ôl y rhyfel, a hir y parhaed hynny. Yn ddiddorol, tra'r oeddem ni yn Saundersfoot, fe welsom ni ddatblygiad y ganolfan forol newydd yno—roedd y sgaffaldiau'n cael eu codi ac ati—a'r datblygiad gwych sydd ganddyn nhw yno o ran yr harbwr, gyda £4,000,000 o'n cyfran olaf o bosib o arian Ewropeaidd wedi mynd iddo, i fod yn safle rhyfeddol i berfformio ac i ymgasglu yno yn yr harbwr hwnnw, gan ei weddnewid ar gyfer cenhedlaeth newydd.
Os caf i ofyn un neu ddau o gwestiynau i'r Gweinidog—. Cyfeiriwyd eisoes at fater hygyrchedd rhai darnau o lwybr yr arfordir ar gyfer pobl sydd â phroblemau symudedd neu bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu ddyfeisiau symudedd. Mae'n iawn ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod y llwybr arfordirol yn hygyrch i bawb. Hefyd, beth ydym ni'n ei wneud ar gyfer grwpiau amrywiol nad ydyn nhw fel arfer yn cael cyfle i fod yn yr awyr agored? Rwy'n cofio inni gael prosiect mosaig da iawn, gan weithio gyda'r parciau cenedlaethol flynyddoedd yn ôl, a oedd yn edrych ar wahanol gymunedau BAME nad ydyn nhw, yn draddodiadol, yn mynd allan i'r awyr agored, ond yn gweithio gyda nhw a chyda phobl o fewn y cymunedau hynny, i gyflwyno'r cymunedau hynny—a rhwng y cenedlaethau o fewn y cymunedau hynny; mamau a thadau a theidiau a neiniau yn ogystal â'r plant—i'r awyr agored. Beth ydym ni'n ei wneud ynglŷn â hynny i fanteisio ar hynny gyda'r llwybr arfordirol sydd gennym ni yng Nghymru?
Tybed a wnaiff y Gweinidog siarad hefyd â'i chyd-Aelod sy'n ymdrin â thrafnidiaeth a chludiant cyhoeddus, i gael golwg—nid wyf i'n disgwyl cael ateb nawr, ond i gael golwg ar fater bysiau TrawsCymru, gan fod llawer o bobl yr wyf i'n eu hadnabod wedi gwneud defnydd gwirioneddol dda o'r teithiau penwythnos rhad ac am ddim gan drafnidiaeth TrawsCymru. Rwy'n edrych ymlaen at fy nhocyn bws am ddim pan fydda i'n hŷn, reit—ai 60 neu 65 fydd hynny? Bydd yn rhaid imi edrych i weld. Nid oes llawer i fynd eto. Ond mae nifer y bobl y byddaf i'n siarad â nhw sy'n defnyddio naill ai'r pas bws am ddim neu fws penwythnos TrawsCymru ac yn cerdded rhannau o'r llwybr arfordirol ac yna'n dal y bws eto—mae hynny wedi agor y peth led y pen. O ran cynhwysiant cymdeithasol a ffyrdd iach o fyw ac yn y blaen, mae hyn yn ddatblygiad newydd o bwys. Felly, pe byddai'r drafodaeth honno'n gallu digwydd—.
A gaf i, yn sicr fel is-lywydd y Cerddwyr —un o ddau is-lywydd—ddiolch o galon i'r Cerddwyr—nid yn unig am yr hyn y maen nhw'n ei wneud gyda'r ŵyl ar hyn o bryd, ond am eu gwaith cyson yn cynnal a chadw llwybrau troed, cilffyrdd ac yn y blaen? Mae honno bob amser yn her—mae llawer o ymdrech wirfoddol ynddi—ond maen nhw yn haeddu clod yn wir am yr hyn y maen nhw'n ei wneud.
Efallai y caf i ofyn i'r Gweinidog hefyd am ei barn hi am yr heriau sy'n parhau, oherwydd y sefyllfa o ran cyllid, cyllid prin, ar hyn o bryd. Fe wnaf i geisio osgoi defnyddio'r gair 'cyni'—. Na wnaf, fe ddaeth y gath o'r cwd. Ond mae awdurdodau lleol dan bwysau o ran eu hawliau tramwy. Mae pobl sydd nawr yn cysylltu rhai o'r llwybrau cylchol, ar y llwybr arfordirol hefyd, yn ymwneud â chadw'r hawliau tramwy arferol hynny'n hygyrch hefyd.
Ac, yn olaf, os caf i fynegi'n syml gymaint yr wyf i'n croesawu hyn, oherwydd y datblygiadau arloesol yma, yn enwedig y pecynnau cymorth i fusnesau, yn ogystal â'r llwybrau cylchol, a ddylai ddiwallu anghenion posib pawb—. Hir y parhaed. Dalwch ati i roi'r egni'r tu ôl iddo. Peidiwch â rhoi'r gorau iddi. Ac fe fydd hi'n ddiddorol gweld, efallai mewn blwyddyn neu ddwy, asesiad economaidd pellach o effaith y llwybr arfordirol ar economi Cymru.
Llywydd, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid imi ddechrau drwy ddweud fy mod yn anghytuno'n sylfaenol â'r Aelod: nid wyf yn gresynu o gwbl fod Cymru wedi curo Lloegr ar hyn. Ond cytunaf yn llwyr â Huw wrth ddiolch i'r Cerddwyr, nid yn unig am yr ŵyl gerdded sy'n dod i ben y penwythnos hwn, ond hefyd am eu swyddogaeth barhaus nid yn unig o ran cynnal a chadw a gofalu am lwybr ein harfordir, ond hefyd y mentrau a gyflwynir ganddynt i annog pobl i elwa ohono. Ac, ar hynny, rwy'n credu y gallai pawb—. O ran materion hygyrchedd, credaf fod y cydbwysedd, fel y dywedasoch, rhwng sicrhau nad oes gennym gerbydau na ddylent fod yno, a sicrhau bod cynifer o bobl â phosib, ledled Cymru a thu hwnt, yn gallu gwneud y gorau o'r hyn sydd ar stepen drws llawer ohonom. Felly, fel y dywedais, mae'n sicr yn rhywbeth y dylid ei ystyried gyda rhanddeiliaid a phartneriaid mewn awdurdodau lleol a CNC wrth inni symud ymlaen â rhai o'r diwygiadau hygyrchedd.
Un o fanteision mawr y portffolio hwn a'm portffolio blaenorol yw fy mod yn cael yr hyn a elwir yn gyfarfodydd, pan fydd cyfle i fynd o gwmpas yn yr awyr iach a mwynhau gweld beth sy'n digwydd yn ymarferol. Wrth sôn am sut y cyflwynwn hyn i gymunedau nad ydynt fel arfer yn defnyddio'r awyr agored, fel rhan o hynny, rwyf wedi gweld nifer o enghreifftiau da iawn o arfer da ar hyd a lled yr arfordir, ond hefyd yn fewndirol, yn ein Parciau Cenedlaethol. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth yr wyf am ei weld yn cael ei efelychu mewn cymunedau mewn mannau eraill. Efallai y bydd y ffocws hwn ar rai o'r llwybrau cerdded byrrach a chylchol newydd sy'n fwy hygyrch i drafnidiaeth gyhoeddus a'r cyfleusterau yn fodd i annog mwy o bobl i gymryd y cam cyntaf hwnnw'n llythrennol ac i fwynhau llwybr arfordir Cymru. Rwy'n sicr yn fwy na pharod i gael sgwrs gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghylch sut y gallwn ni, o ran TrawsCymru, sicrhau bod pob dull o drafnidiaeth, ein traed a'n trafnidiaeth gyhoeddus, yn gallu cydweithio i hyrwyddo llwybr ein harfordir yn y dyfodol yn y ffordd orau bosib.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio llesol. Ac dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Mae gennym argyfwng hinsawdd, epidemig gordewdra ac argyfwng o ran ansawdd aer. Mae cael mwy o bobl i deithio mewn ffyrdd sy'n gwella eu hiechyd a'n hamgylchedd yn allweddol i fynd i'r afael â'r holl broblemau hynny. Mae trafnidiaeth yn cyfrif am 13 y cant o'r allyriadau sy'n achosi newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, ac mae bron pob un ohonynt yn dod o geir preifat. Mae ein cynllun cyflawni carbon isel a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn sicrhau bod newid moddol yn ganolog, a thrwy hynny rydym yn golygu ei gwneud yn haws i bobl wneud llai o siwrneiau mewn car, drwy ei gwneud yn haws defnyddio dewisiadau eraill. Mae dros hanner yr holl deithiau mewn ceir ar gyfer pellteroedd o lai na phum milltir. Gellid gwneud llawer o'r teithiau hyn drwy gerdded a beicio. Dyna pam mae annog teithio llesol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Yr hyn sy'n allweddol yw deall beth sydd angen ei newid er mwyn gwneud y dewis hwn yn bosibilrwydd i fwy o bobl.
Er bod gennym ddeddfwriaeth sy'n arwain y byd ar ffurf Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol, nid ydym wedi gweld y cynnydd mewn lefelau cerdded a beicio sydd ei angen ac y byddem yn dymuno ei weld. Rydym wedi trafod y rhesymau am y tanberfformio hwnnw droeon yn y Siambr hon. Mae adnoddau'n allweddol, ac rwyf yn falch o ddweud y byddwn eleni, am y tro cyntaf erioed, yn gwario dros £30 miliwn ar gynlluniau teithio llesol yng Nghymru mewn un flwyddyn.
Ond nid adnoddau yw ein hunig broblem. Gwnaed hynny'n glir iawn yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar weithredu'r Ddeddf. Mae gennym broblem fawr o ran capasiti a'n dull o gyflawni. Rydym yn sôn am gyni'n aml yn y Siambr hon, ond weithiau ni roddir digon o sylw i'r modd y mae wedi gwneud i awdurdodau lleol fod â'r capasiti i gyflawni dim heblaw am wasanaethau statudol hanfodol. Mae teithio llesol yn faes lle mae diffyg staffio difrifol iawn. Yn ogystal â chapasiti, mae problemau hefyd o ran y gallu i ddarparu'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn newid mewn ymddygiad a diwylliant.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Rydym wedi datblygu canllawiau uchel eu parch ar sut i ddylunio seilwaith a fydd yn gwneud cerdded a beicio yn ddewis mwy deniadol. Ond mae angen inni wneud mwy i hyfforddi ac uwchsgilio gweithwyr proffesiynol wrth ei ddefnyddio. Gallaf gyhoeddi heddiw felly, Llywydd, y byddwn yn neilltuo rhywfaint o'r £30 miliwn i fuddsoddi er mwyn gwella lefelau sgiliau a lledaenu arferion da.
Rwyf wedi cyfarfod â'r rhan fwyaf o'r cynghorwyr a'r swyddogion rheng flaen yr ydym yn gweithio gyda nhw i gyflawni'r prosiect hwn a gwrando ar eu pryderon. Y pryder allweddol yw bod cynlluniau teithio llesol da yn gallu bod yn gymhleth a bod cylchoedd ariannu blynyddol yn ei gwneud yn anodd eu cyflawni. Felly, byddaf yn sicrhau bod cyfanswm o £6.3 miliwn ar gael i awdurdodau lleol ar sail pro rata er mwyn eu galluogi i gynllunio cyn cyflwyno ceisiadau llawn am gyllid.
Bydd adnoddau'n brin bob amser a rhaid inni sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn ffordd sy'n cynyddu'r canlyniadau i'r eithaf. Allwn ni ddim fforddio taenu'r jam mor denau fel bod cymunedau'n cael tamaid o lwybr ond dim digon i'w cael i unman. Rhaid inni ganolbwyntio ein hadnoddau ar adeiladu llwybrau a fydd yn caniatáu i bobl deithio'n gyfan gwbl i leoedd y mae angen iddynt eu cyrraedd, yn ddiogel ac yn gysurus o'u cartref i'r gwaith, neu i'r ysgol neu'r siopau. Dim ond wedyn y byddwn yn gallu argyhoeddi niferoedd sylweddol o bobl i newid eu harferion teithio. Rwyf yn barod i gymryd y bai am adeiladu llai o filltiroedd o lwybrau mewn llai o leoedd os bydd y llwybrau hynny'n galluogi llawer mwy o bobl i fod yn deithwyr llesol.
Rhaid inni wobrwyo uchelgais, ond hefyd, yn hollbwysig, helpu'r awdurdodau hynny nad ydynt wedi bod yn ddigon uchelgeisiol i fod yn fwy uchelgeisiol. Cyn hir byddwn yn dechrau ar gylch newydd o ymgynghoriadau ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer eu rhwydweithiau teithio llesol, y mapiau rhwydwaith integredig. Nid wyf eisiau gweld llinellau ar hap ar fap a all sgorio'n uchel o ran cyflawnadwyedd ond yn rhai nad ydynt yn creu rhwydweithiau di-dor sy'n cysylltu pobl â'r lleoedd y maent eisiau mynd iddynt. Felly, rwyf yn neilltuo arian i ariannu dull llawer mwy atyniadol o ymgynghori fel y bydd iteriad nesaf o'r mapiau integredig a gyflwynir gan gynghorau yn seiliedig ar farn ein grŵp targed—y rhai nad ydynt yn cerdded ac yn beicio ar hyn o bryd—ac sy'n arwain at lif o brosiectau a fydd yn cael effaith wirioneddol.
Wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na llwybrau newydd yn unig. Rwyf eisiau gweld awdurdodau lleol yn defnyddio peth o'u hadnoddau newydd i nodi'r newidiadau bach hynny mewn ffyrdd a llwybrau a all wneud gwahaniaeth mawr. O bosib ehangu llwybr poblogaidd neu gael gwared ar rwystrau mynediad sydd wedi'u cynllunio'n wael sy'n atal pobl anabl, rhieni â phramiau, rhieni â phlant ar bygis ar gefn eu beiciau, rhag gallu mynd trwodd. Unrhyw beth a all ddangos y manteision o gael pobl i newid eu dull o deithio. Felly, anogir awdurdodau lleol i ddefnyddio rhan o'u dyraniad i ariannu prosiectau bach sy'n sicrhau gwelliannau parhaus i'w rhwydweithiau lleol.
Ym mis Chwefror, cefnogodd y Cynulliad cyfan gynnig yn galw am dargedau teithio llesol mwy uchelgeisiol. Byddaf yn gwireddu'r addewid hwnnw, ond er mwyn i'r targedau hynny fod yn ystyrlon ac yn effeithiol rhaid inni gael cynlluniau monitro effeithiol ar waith. Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu llwybrau lle nad oes dull awtomatig o gadw cyfrif wedi'u gosod ynddynt fel mater o drefn, er enghraifft, ac mae angen inni edrych ar hynny. Felly, rwy'n gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu dull llawer mwy systematig na'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Rwyf wedi amlinellu'r heriau sy'n ein hwynebu yn fy marn i, ac mae yna nifer ohonynt. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y dylem fod yn besimistaidd. Rydym yn dechrau gwneud rhai o'r penderfyniadau anoddaf a all newid yr agenda hon yn sylweddol. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf y bydd Cymru yn dechrau ar waith i wneud 30 milltir yr awr yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl, sy'n ffordd wirioneddol gadarnhaol o wella'r sefyllfa. Bydd cyflymderau is nid yn unig yn lleihau nifer y damweiniau ac yn gwella iechyd y cyhoedd; byddant hefyd yn creu amgylchedd sy'n fwy addas i deithio llesol. Rydym wedi dechrau gweithio ar strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, a fydd yn ganolog i wireddu'r agenda uchelgeisiol hon ac yn sicrhau bod teithio llesol yn dod yn rhan hanfodol o brosiectau seilwaith mawr megis y metro. Bydd fy nghydweithiwr, Ken Skates, a minnau yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwn.
Ni all dim ond un fenter a gweithred gan Weinidog greu'r newidiadau y mae angen inni eu gweld i wrthdroi'r tueddiadau o ran trafnidiaeth a welwyd yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Bydd yn gofyn am ymdrechion parhaus, tameidiog, gan ganolbwyntio ar gannoedd o fanylion gwahanol, er mwyn creu diwylliant teithio llesol. Ond os ydym eisiau gwella ansawdd aer, cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a lleihau effeithiau niweidiol trafnidiaeth ar ein hamgylchedd, rhaid inni ymroi iddi.
Ac i gloi, rwy'n gwahodd yr Aelodau yn ddiffuant i ddweud wrthyf beth yn fwy y credwch y dylem fod yn ei wneud gyda'n gilydd yn eich cymunedau penodol i ganiatáu inni fod ar flaen y gad o ran yr her teithio llesol. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a'i gyhoeddiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth sy'n arwain y byd o ran y Ddeddf teithio llesol. Ond wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon—mae angen gweithredu hefyd, ac nid ydym wedi gweld y gweithredu hwnnw. Mae tanberfformiad sylweddol wedi bod—nid ydym wedi gweld y lefel o gerdded a beicio y mae angen inni ei gweld, o ran yr hyn y bwriadwyd i uchelgais y Ddeddf ei gyflawni yn ôl yn 2013. Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd yn ei sylwadau agoriadol ein bod wedi ailadrodd y dadleuon hyn yn y Siambr o'r blaen, felly nid wyf am oedi gyda'r rheini. Ond hoffwn groesawu'r datganiad gonest iawn sydd wedi'i ddwyn gerbron heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi tôn datganiad y Dirprwy Weinidog yn fawr iawn—mae'n edrych yn realistig ar y sefyllfa yr ydym ynddi, a diolchaf iddo am ei onestrwydd wrth asesu lle'r ydym ar hyn o bryd.
Rwy'n falch iawn bod gwaith y Pwyllgor fel petai wedi dylanwadu'n fawr ar feddylfryd y Llywodraeth hefyd, o ran y newidiadau mewn polisïau yr ydych wedi manylu arnynt yn eich datganiad heddiw. Rydych wedi sôn am hyfforddiant i awdurdodau lleol, mapiau rhwydwaith integredig, sy'n gwneud y newidiadau bach hynny y mae eu hangen i wneud gwahaniaeth. Ac fel yr oeddech yn darllen eich datganiad, roedd bron fel petaech yn darllen argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi y llynedd. Felly, mae hynny i'w groesawu'n fawr, yn wir.
O ran y £30 miliwn ar gyfer teithio llesol, rwy'n credu fy mod yn iawn wrth ddweud, pan oeddech yn y Pwyllgor yr wythnos diwethaf, eich bod yn sôn bod y ffigur a ddyrennir draean yn fwy na'r hyn a glustnodwyd. Gofyn am rywfaint o eglurder ynghylch hynny'n unig a wnaf yma. Ond, yn benodol, os caf ofyn, beth yw maint y cynnydd mewn cyllid yn erbyn yr hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer eleni, a sut mae hyn yn cymharu â lefelau cyllid y llynedd?
Hefyd, yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, un o'r argymhellion a wnaethom, wrth gwrs, oedd bod yr arian yn cyrraedd £19 i £20 y pen y flwyddyn o gyllid cyfalaf a refeniw. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau a yw'r cyllid a gyhoeddwyd gennych heddiw yn cyrraedd y terfyn hwnnw. Ac a gredwch fod yr argymhellion gan y Pwyllgor a'r arian a ddyrannwyd gennych heddiw yn ddigonol i sicrhau uchelgais Llywodraeth Cymru o ran teithio llesol ar yr hyn yr ydych wedi'i gyhoeddi heddiw.
Roeddech chi, wrth gwrs, yn aelod o'r Pwyllgor, Dirprwy Weinidog, pan oedd yr adroddiad hwn yn cael ei ddrafftio a'r argymhellion yn cael eu hystyried, ac felly rydych yn ymwybodol iawn o'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor. Tybed sut yr ydych wedi ceisio blaenoriaethu'r dyraniad o gyllid i fynd i'r afael ag argymhellion adroddiad y Pwyllgor. Nid oes angen imi fynd drwyddynt—rydych yn gwybod beth ydynt yn barod.
A hefyd, yn ystod y craffu cyffredinol yr wythnos diwethaf—ac, unwaith eto, rydych wedi sôn am hyn yn eich datganiad heddiw —soniasoch am strategaeth drafnidiaeth Cymru, a gyhoeddir y flwyddyn nesaf. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd teithio llesol yn rhan o'r strategaeth ddiwygiedig hon, ac a allwch ddweud pryd y bydd strategaeth ddrafft ar gael i graffu arni?
Ac yn olaf, rydych wedi gofyn i'r awdurdodau lleol am ddata teithio llesol i weld a oes unrhyw fylchau yn yr wybodaeth am deithio llesol. A ydych yn gallu rhoi rhagor o fanylion am sut y caiff y fframwaith monitro a gwerthuso ei ddefnyddio'n ymarferol, yn enwedig sut y gallai wella gwerth am arian o ran buddsoddiad a hefyd arwain at gynnydd mewn cyfraddau teithio llesol? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sylw i'r pwyntiau hynny. Ond rwy'n falch iawn o'r datganiad a'r cyhoeddiad heddiw.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny. Ni chredaf ei bod yn deg dweud nad ydyn ni wedi gweld gweithredu yn y blynyddoedd diwethaf. Credaf ein bod wedi gweld gweithredu ac rydym wedi gweld swm sylweddol o arian am nifer o flynyddoedd gan Lywodraethau olynol Cymru yn yr agenda hon. Ond rwy'n credu, fel y dangosodd y dystiolaeth i'r Pwyllgor, mai sicrhau bod y sail yn gywir sydd bwysicaf, fel bod yr arian yn mynd i gael ei wario'n dda er mwyn cael effaith. Rwy'n credu mai dyna'r hyn rwy'n gobeithio y bydd datganiad heddiw yn mynd i'r afael ag ef—cael hynny'n iawn.
Nid wyf yn mynd i fod yn cyflwyno achos i'r Gweinidog Cyllid neu i Weinidog yr Economi arllwys arian i ridyll o gynlluniau sydd wedi'u cynllunio'n wael. Oherwydd y drafferth gyda llwybr sydd wedi'i gynllunio'n wael yw ei fod yn anghymeradwyo'r holl agenda. Os yw cynghorau'n adeiladu llwybrau—er enghraifft, wrth ymyl y ffordd—sydd wedi'u cynllunio'n wael, mae'r aflonyddwch yn mynd i elyniaethu pobl wrth iddynt gael eu hadeiladu, a phan welant nad oes neb ar y llwybrau hyn, y cyfan a wnânt yw dweud, ' Wel, beth oedd diben hynny? Am wastraff arian. Beth yw ystyr teithio llesol?'
Rwyf wedi gweld hynny'n digwydd dro ar ôl tro, a dyna pam mae'n hanfodol nad yw'n ddigon da cael y canllawiau'n unig; rhaid inni hyfforddi awdurdodau lleol sydd wedi'u disbyddu i'w defnyddio'n briodol a hefyd mynd ati i gydweithredu, fel bod gweithio rhanbarthol gwirioneddol yn y maes hwn. Dyna un o'r pethau y bydd y Gweinidog a minnau yn eu hystyried wrth iddo fwrw ymlaen ag argymhellion y Papur Gwyn: wrth inni greu cyrff rhanbarthol, a fydd teithio llesol yn rhan o'u swyddogaethau craidd? Oherwydd yn amlwg, mae'r arbedion meintiol yn fuddiol iawn.
A beth yw rôl Trafnidiaeth i Gymru yn hyn hefyd? Felly, i fynd i'r afael â'i bwynt olaf ynglŷn â monitro gwerthuso, rydym eisoes wedi cael trafodaethau. Cyfarfûm ddoe â phennaeth Trafnidiaeth i Gymru i drafod hyn—gan eu bod yn dechrau datblygu eu huned dadansoddi gwybodaeth a data eu hunain, sef sut y gallant sicrhau bod cipio data teithio llesol yn rhan allweddol o'r hyn a wnânt, a chipio'r data defnyddiol yr ydym ni ei angen i wneud penderfyniadau gwell.
O ran cwantwm y cyllid, rydym gryn bellter oddi wrth y swm £30 y pen. Rwy'n credu bod cyhoeddiad heddiw yn mynd â ni i rywle tua £10 miliwn y pen ar gyfer y flwyddyn hon—£10 y pen, mae'n ddrwg gennyf, eleni; byddai £10 miliwn y pen yn gryn her oni fyddai?—£10 y pen eleni. Ond fel y dywedais, rwyf am inni sicrhau ein bod yn cael pethau'n iawn, felly y tro nesaf bydd gennym fapiau rhwydwaith integredig sy'n creu llwybrau sy'n seiliedig ar alw gan y bobl sydd eisiau cerdded a beicio. Os gallwn ddechrau ymgysylltu â'r gymuned a'u hysbrydoli ynghylch lle y dylai'r llwybrau fod, yna credaf y gallwn greu diddordeb cynyddol a fydd yn caniatáu'r cyfle gwleidyddol inni ddweud, 'Rydym eisiau gwario mwy ar yr agenda hon', a gallaf fynd at gyd-weinidogion gyda hygrededd a dweud, 'Dylid gwario arian ar hyn ac nid ar rywbeth arall.' A bod yn gwbl onest, nid wyf yn siŵr y gallwn wneud hynny ar hyn o bryd, oherwydd nid wyf yn hyderus y caiff yr arian hwnnw ei wario yn y ffordd orau hyd nes y gellir gweithio'n iawn ar y materion yr wyf wedi rhoi sylw iddynt yn y datganiad.
O ran strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn amlwg bydd hyn yn rhan bwysig ohoni, ond wrth arsylwi ar strategaethau trafnidiaeth blaenorol Cymru sylwaf ein bod wedi bod yn iawn ynghylch y geiriau sy'n ymwneud â theithio llesol. Yn aml byddwn yn sylwi—rai blynyddoedd yn ôl bellach, 10 mlynedd yn ôl neu fwy—y byddai gennym strategaeth drafnidiaeth i Gymru lle gallech feddwl, pe baech yn dod o blaned wahanol ac yn syml yn darllen y naratif, bod Cymru yn wlad teithio llesol gan fod y geiriau i gyd yno. Ond petaech yn edrych ar y cynllun gwaith ar y diwedd, y cyfan y byddech yn ei weld fyddai'r holl bethau traddodiadol, a phrin iawn oedd y teithio llesol. Felly, rwy'n hyderus y bydd teithio llesol yn rhan allweddol ohono, fel y bu erioed. Yr hyn sydd raid digwydd y tro nesaf yw ei fod yn rhan allweddol o'r ddarpariaeth hefyd. A dyna ni, os byddwn ni'n gweithredu ar y pethau a gyhoeddwyd heddiw, rwy'n credu y gallwn roi sylw i hyn.
Ga i groesawu'r datganiad yma gan y Llywodraeth heddiw? Mae llawer ohono fo yn gynnwys dwi'n cyd-fynd â fo. Beth sy'n fy nharo i ac eraill bob amser ydy rhwystredigaeth ein bod ni'n methu cyrraedd at ben y daith neu i lle dŷn ni eisiau mynd yn gynt. Dwi'n siŵr bod y rhwystredigaeth yna yn rhywbeth mae'r Dirprwy Weinidog ei hun yn ei rannu. Dwi'n meddwl bod y seiliau gennym ni, mewn ffordd, o ran bod y Ddeddf yn ei lle, ond allwn ni ddim anwybyddu, wrth gwrs, pwysigrwydd cyllido yn iawn a rhoi yr adnoddau digonol er mwyn sicrhau bod y dyheadau yn cael eu gwireddu mewn difrif.
Dwi'n croesawu'r cynnydd eto, a'r ffaith ein bod ni'n cyrraedd £30 miliwn. Mae'n garreg filltir bwysig. Dwi'n meddwl mai rhyw £80 miliwn oedd y ffigwr y cyrhaeddodd yr Alban â fo nôl rhyw ddwy flynedd yn ôl, sy'n rhoi rhywbeth inni gymharu ag o. Mae'n bwysicach wedyn i edrych ar faint rydym ni'n gwario y pen. Dwi'n meddwl bod y Sefydliad Materion Cymreig, yn eu hadroddiad nhw y llynedd, yn sôn bod angen anelu rŵan at £20 y pen yng Nghymru. Mae yna sbel o ffordd i fynd tan hynny, wrth gwrs. Dwi'n ymfalchio fy hun ar fod yn uchelgeisiol a gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer y Llywodraeth, a rŵan bod y Gweinidog wedi sôn am £10 miliwn y pen, dydy'r hyn dwi'n gofyn amdano fo ddim yn swnio'n ddigon rŵan, rhywsut. Ond, mae'n rhaid inni gadw llygaid ar yr angen yna drwy'r amser i wthio'r ffigurau i fyny, achos mae yna ffordd bell i fynd o hyd.
Pan fyddwn ni'n sôn am isadeiledd, mae isadeiledd wastad yn rhywbeth y mae'n rhaid buddsoddi yn drwm ynddo fo, a buddsoddi rŵan er mwyn sicrhau bod yr isadeiledd yno ar gyfer cenedlaethau i ddod. A tra dwi'n gwerthfawrogi iaith y Gweinidog am fod yn granular, mewn ffordd—a mae Dave Brailsford, fel hyfforddwr seiclo o fri yn dod â llwyddiant mawr o'r gwelliannau incremental bach yna sy'n mynd â ni gam o'r ffordd tuag at y nod—dŷn ni hefyd yn aros, dwi'n meddwl, am y swmp yna o fuddsoddiad a all wneud gwahaniaeth go iawn mewn gosod sylfeini mwy cadarn ar gyfer cynyddu teithiant llesol ar gyfer y dyfodol.
Un peth arall y gwnaf i sylw arno fo ydy'r gwahaniaeth rhwng y dyhead a beth sy'n cael ei weithredu go iawn. Dwi'n gwerthfawrogi'r iaith gafodd ei defnyddio gan y Gweinidog heddiw o ran ei barodrwydd o i helpu ac i weithio efo awdurdodau lleol i weithredu amcanion teithio llesol. Dwi'n meddwl, ar y cyfan, fod yna awydd ar lefel llywodraeth leol, yn swyddogion ac yn aelodau etholedig, i wthio'r maen i'r wal ar hwn, ond mae angen i strategaeth ac arweiniad a chyllid, ie, i ddod gan y Llywodraeth er mwyn tywys pobl yn gyflymach ar hyd y llwybr. Ond, fel bob amser, mae bob cam ymlaen i'w groesawu ac mi fyddwn ni fel gwrthblaid yn fan hyn yn cadw llygaid ar beth ydy'r gwahaniaeth ymarferol a pha bryd fyddwn ni'n gallu dweud go iawn, 'Ydyn, pump neu chwe blynedd ers y Ddeddf yma, mi ydyn ni'n cymryd camau breision ymlaen.'
Diolch am y sylwadau. Dydw i ddim yn siŵr a oedd unrhyw gwestiynau penodol, ond rwy'n croesawu tôn yr hyn a ddywedwyd. O ran y pwynt olaf ar uchelgais awdurdodau lleol yn benodol, credaf fod angen inni fod yn onest bod yna uchelgais anghyfartal. Mae yna nifer o awdurdodau lleol sydd wedi dangos diffyg uchelgais truenus, ac mae hynny'n rhannol yn mynd yn ôl, fe gredaf, i'r mater capasiti a grybwyllais, i fod yn deg â nhw. Ond rwy'n credu mai dyma pam, mewn ffordd, yr wyf am ei ail-osod—a dyma'r wers a ddysgais o'r dystiolaeth a gafodd Pwyllgor yr Economi y llynedd. Mae'r Ddeddf yn dal yn ei dyddiau cynnar. Mae hwn yn mynd i fod yn brosiect newid tymor hir.
Roedd y mapiau cyntaf a ddaeth i law fel petaent yn ddrafft cyntaf. Y tro nesaf, rhaid inni gael pethau'n iawn. Rwy'n credu mai un o'r problemau sylfaenol o ran y dull gweithredu a gawsom hyd yma yw eich bod yn gofyn i beirianwyr priffyrdd gynnal ymarferion ymgynghori cyhoeddus, nad oes ganddynt yr adnoddau i'w gwneud, nad ydynt wedi eu hyfforddi i'w gwneud ac nad yw'n rhan o'u diwylliant nhw, yn y bôn. Roedd gennym rai enghreifftiau o beirianwyr yn defnyddio ystafell mewn llyfrgell ar brynhawn dydd Mercher am ychydig oriau ac yn synnu mai ychydig iawn o bobl a oedd yno. Ond hyd nes y cawn y dull ymgynghori hwnnw'n iawn, dydyn ni byth yn mynd i gael y sylfeini'n iawn. Felly, yr hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud yw neilltuo rhywfaint o'r arian hwn a chyflwyno tendr ar gyfer dull Cymru gyfan o weithredu. Dull lle rydym yn ariannu sefydliad sydd y tu allan i ddiwylliant awdurdodau lleol i ymwneud â chymunedau, i gael y data amrwd hwnnw, i gael y sgwrs gyda mamau â bygis a dynion oedrannus sy'n defnyddio ffyn am yr hyn y byddai'n ei gymryd i'w cael i newid eu harferion teithio ac i adeiladu hynny i mewn i'r mapiau rhwydwaith. Oherwydd, wedi'r cyfan y bwriad yw eu bod yn weledigaethau 15 mlynedd, mewn byd delfrydol, o'r hyn fyddai ei angen er mwyn inni ymddwyn yn wahanol.
Ac nid dyna a wnaeth yr awdurdodau lleol. Roedd tystiolaeth CLlLC i'r Pwyllgor yn glir iawn: nid oeddent am greu disgwyliadau na fyddent yn gallu eu bodloni drwy roi llwybrau ar y mapiau hynny nad oeddent yn hyderus y gallent eu darparu. Ac mae hynny'n fan cychwyn anghywir. Felly mae'n rhaid inni roi'r hyder hwnnw iddyn nhw y gallwn ni greu disgwyliadau, oherwydd heb greu disgwyliadau, beth yw'r pwynt o wneud hyn yn y lle cyntaf? Ond rhaid i'r datblygiadau sy'n hanfodol eu cyflawni fod yn rhai a all wrthsefyll y broses graffu, sef creu rhwydweithiau sy'n mynd i gael eu defnyddio'n dda. Felly, credaf fod angen inni ailosod y broses drwy fynd allan a gwneud ymarfer ymgynghori cadarn, gan dargedu'r bobl iawn, a fydd wedyn yn rhoi yn y mapiau nesaf yn 2021 rwydweithiau lleol y gallwn eu hariannu wedyn mewn camau. Bydd hyn yn digwydd yn ôl safonau dylunio swyddogion yr awdurdod, wedi eu hyfforddi'n briodol, yn gweithio'n rhanbarthol, yn craffu ar waith ei gilydd er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwaith o safon, law yn llaw â'r rhan hollbwysig nad wyf wedi sôn llawer amdani heddiw, sef hyrwyddo'r datblygiadau.
Mae'r gyllideb yn canolbwyntio'n bennaf ar gyfalaf, ar seilwaith, a gwyddom o'r holl dystiolaeth fod angen ymyriadau newid ymddygiad yn ogystal â'r seilwaith. Mae rhywfaint o'r arian sy'n cael ei gyhoeddi, sef y £3 miliwn, ar gael i awdurdodau lleol wneud gwaith hyrwyddo. Ond mae angen inni wneud llawer mwy os ydym am sicrhau bod yr agenda hon yn cael ei rhoi ar waith. Felly beth am ailosod y sylfeini, gadewch i ni gael hynny'n iawn, ac yna gallwn ni edrych ar y rhan nesaf.
Diolch ichi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Yr hyn sy'n glir i mi, yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd sydd wedi'i ddatgan erbyn hyn, yw bod hyn yn fusnes i bawb. Ni allwch wneud hynny ar eich pen eich hun, ac rwyf yn croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i gynnig hyfforddiant i swyddogion mewn awdurdodau lleol sy'n mynd i ymgymryd â'r swyddogaeth newydd hon. Ymddengys i mi mai yn yr adran gynllunio y dylai'r man cychwyn fod i sicrhau nad ydym yn caniatáu datblygiadau newydd gyda thai nac, yn wir, ddatblygiadau busnes, oni bai ein bod yn sicrhau'r cynlluniau teithio llesol i gyd-fynd â nhw. Ond, yn amlwg, daw'r rhan fwyaf o'r heriau o ôl-ffitio teithio llesol i'r strydlun sydd gennym eisoes.
Felly, yn amlwg, y datganiad pwysicaf yr wythnos diwethaf oedd datganiad y Prif Weinidog am y terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir ar gyfer pob ardal, ac ni all ddod yn ddigon buan yn fy etholaeth i. Yn anffodus mae llawer gormod o fodurwyr yn credu bod ffyrdd ar gyfer goryrru. Mewn ardal drefol, mae hynny'n gwbl annerbyniol.
Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith eich bod yn canolbwyntio ar bobl sydd ddim yn cerdded nac yn beicio oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid inni gael y newid diwylliannol hwnnw, a chanolbwyntio ar y teithiau hyn i'r gwaith, yr ysgol a'r siopau y mae pobl yn eu gwneud bob dydd. Felly, o ran ymgysylltu â'r holl randdeiliaid eraill, tybed sut yr ydym yn mynd i ymgysylltu ag ysgolion a sicrhau bod gan bob ysgol gynllun teithio llesol. Yn amlwg, bydd yn wahanol iawn mewn ardal wledig i ardal drefol. Ond os nad ydym yn cefnogi teuluoedd i ddeall bod llwybrau teithio llesol ar gael ar gyfer dod â'u plant i'r ysgol yn fwy diogel yn hytrach na'u gorfodi i deithio mewn car, sy'n amlwg yn llawer mwy peryglus, wyddoch chi, gall fod yn anodd i bobl nad ydynt yn feicwyr eu hunain wybod lle mae'r llwybrau. Felly, hoffwn wybod—rwy'n siŵr nad ydych chi o reidrwydd yn gwybod eich hun—faint o ysgolion yng Nghymru sydd â chynllun teithio ymarferol, a beth yw'r targed yr ydym yn mynd i'w bennu ar gyfer cyflawni cynllun teithio llesol ar gyfer y mwyafrif helaeth o ysgolion.
Yn yr un modd, mae angen inni wneud yn siŵr bod busnesau'n ymwneud â sicrhau y gall eu staff gyrraedd ar feic neu drwy—. Dydyn nhw ddim yn mynd i ddod â'u beiciau oni bai bod rhywle diogel iddyn nhw eu parcio, oherwydd fel arall efallai na fyddan nhw yno pan fydd angen iddyn nhw fynd adref. Yn yr un modd, yn amlwg, mae gan blant sy'n byw tair milltir i ffwrdd o'u hysgol yr hawl i deithio ar fysiau am ddim. Pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi mewn ardaloedd lle mae trafnidiaeth gyhoeddus, fel Caerdydd, i sicrhau bod plant yn cael tocynnau bws am ddim i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn hytrach na'r bysiau arbenigol hyn na all neb arall eu defnyddio? Mae'n ymddangos i mi y gallai fod yna ffordd o gynyddu nifer y bysiau sydd ar gael i bawb yn raddol.
Yn olaf, tybiaf mai un o'm prif gwynion i yw y dylid newid y diwylliant sy'n annog rhieni plant ysgolion uwchradd i gasglu eu plant o'r ysgol. Gallaf weld rhesi hir ohonyn nhw yn yr ysgol lle rydw i'n llywodraethwr, ac ni allaf ddeall pam na fyddai unrhyw riant eisiau rhoi'r cyfle a'r rhyddid i'w plentyn wneud ei ffordd ei hun adref, oni bai ei fod yn mynd ar ryw daith arbennig sy'n mynnu eu bod yn cael eu casglu o'r ysgol.
Diolch. Mae nifer o gwestiynau yno y bydda i'n ceisio mynd i'r afael â nhw. O ran y pwynt am gynllunio, credaf inni gymryd cam mawr ymlaen ddiwedd yr hydref, gyda chyhoeddi'r rhifyn diweddaraf o 'Bolisi Cynllunio Cymru', a wnaeth gryfhau'r canllawiau cynllunio yn sylweddol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol ar greu amgylchedd teithio llesol. Bydd yn cymryd cryn amser, mae'n debyg, i hynny dreiddio i weithgaredd yr awdurdodau, ond credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yno.
O ran ysgolion, cafodd y Gweinidog Addysg a minnau nifer o sgyrsiau am hyn, a bu'r ddau ohonom yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol y mae Huw Irranca-Davies yn ei gadeirio'n effeithiol iawn. Mae'n grŵp da iawn ac mae'n ddefnyddiol iawn gallu ymgysylltu ag ef. Clywsom am arferion gwirioneddol dda yn yr ysgol newydd sef Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yn Grangetown. Mae hon yn ysgol weddol anarferol yn yr ystyr bod ganddi amod cynllunio lle na chaniateir ceir. Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych yno ac mae Dr Dafydd Trystan, cadeirydd y llywodraethwyr, a'r pennaeth yno, Mrs Carbis, mi gredaf, wedi dangos enghraifft ysbrydoledig o'r hyn y gellir ei wneud—rôl arweinyddiaeth. Ond mae eu hamgylchiadau nhw'n eithaf anarferol. Felly, sut allwn wneud y rhain yn gyffredin mewn ysgolion eraill? Mae'n brawf fod pethau'n bosibl gyda'r ewyllys iawn.
Mae'r sgwrs yr ydym yn dal i'w chynnal yn ymwneud â dyluniad ysgolion newydd sydd ar hyn o bryd yn rhan o brosiect ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Y gofyniad yw darparu cyfleusterau o fewn cwrtil yr ysgol, nid oddi allan, a chredaf mai hyn sydd raid i ni ei ddatrys—dyma pam yr ydym yn ailosod y mapiau ac yn gwneud ein gwaith cynllunio'n iawn. Pan wyddom fod ysgolion newydd yn mynd i gael eu hadeiladu, nid mater i'r adeiladwyr yn unig yw rhoi cyfleusterau yn eu lle, er y credaf fod lle i wella yno, ond mae angen inni wneud yn siŵr bod yr awdurdodau eu hunain yn adeiladu ar y rhwydwaith o lwybrau y tu allan i gwrtil yr ysgol. Felly, pan fydd yr ysgol yn agor ei drysau, bydd y llwybrau yno'n barod yn ymestyn allan i'r gymuned gyfan.
O ran eich pwynt am fusnes—mae'n bwynt pwysig—rydym wedi cynnwys rhywfaint o hyn yn y contract economaidd, ond mae Dr Tom Porter, arbenigwr iechyd cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, unwaith eto yn dangos grym arweinyddiaeth, gan wneud gwaith pwerus iawn ar annog staff i beidio â gyrru i'r gwaith ac i gerdded a beicio yn lle hynny. Roedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sydd bellach yn prif ffrydio'r egwyddor hon drwy fwrdd y gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus, yn gallu dangos, gan ddefnyddio data adnoddau dynol, y gwerth i'r gweithlu cyfan a'r gostyngiad mewn costau a'r diwrnodau salwch a gollwyd o gael llai o bobl yn gyrru i'r gwaith a mwy o bobl yn cerdded ac yn beicio. Felly, mae yna enghreifftiau. Fel ym mhob achos tebyg, yr her yw ei ledaenu a'i ehangu.
O ran eich pwynt olaf, sy'n bwynt heriol ynglŷn â'r daith i'r ysgol a chael pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, credaf ei fod yn bwynt a wnaed yn dda iawn. Wrth inni edrych ar y Papur Gwyn ar ddyfodol bysiau, mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei ystyried. O ran newid patrymau ymddygiad, credaf mai dyma'r pwynt allweddol yr oeddwn yn ei wneud yn y datganiad: os dechreuwn greu amgylchedd lle mae gennych lwybrau sydd wedi'u cynllunio'n dda, ac mae llawer o bobl yn eu defnyddio, rydych yn dechrau creu syniad poblogaidd wedyn lle mae'n ymddangos yn beth normal a naturiol i'w wneud. O'm profiad i fy hun, pan ddechreuais i fynd ar gefn beic eto, a heb feicio ers fy arddegau, tua 15 mlynedd yn ôl mae'n debyg, roedd yn teimlo fel rhywbeth ecsentrig iawn i'w wneud. Doedd dim llawer o bobl ar gefn beic. Erbyn hyn mae'n ymddangos yn beth gweddol normal i'w wneud yng Nghaerdydd. Yn Llanelli, mae'n dal yn beth cymharol ecsentrig i'w wneud. Ar y llwybrau di-draffig, mae digon o bobl yn beicio, ond ar y ffyrdd drwy'r dref, rwy'n dal i deimlo ychydig yn rhyfedd ar gefn beic. Nid oes llawer o bobl eraill yn ei wneud. Ond mae'n dangos, dros gyfnod o ddegawd, bod modd creu diwylliant o newid ymddygiad, a bod yn rhaid inni wneud hynny y tu hwnt i Gaerdydd drwy sicrhau'r sylfeini cywir.
Rwy'n credu bod llawer o bobl wedi gwneud y pwynt, Gweinidog, fod diffyg cysondeb ledled Cymru, ac rydych chi eich hun wedi gwneud y pwynt hwnnw. Felly, mae angen mwy o hyfforddiant, mwy o gapasiti, mwy o gefnogaeth ar ein hawdurdodau lleol. Mae arian sylweddol ar gael, a gobeithio y bydd yn cynyddu eto, ond rwy'n credu y bydd ystyried y cyllid hwnnw ac yna eich clywed chi yn disgrifio rhywfaint o'r defnydd o'r arian hwnnw, nad yw mewn gwirionedd yn cyflawni dibenion y Ddeddf teithio llesol, yn rhoi rhywbeth i bawb bendroni yn ei gylch, oherwydd mai ni sy'n gyfrifol am wneud defnydd effeithiol o arian. Mae'n bwysig iawn, iawn bob amser, ond efallai hyd yn oed yn fwy felly nawr yn yr amgylchiadau dan straen presennol yr ydym i gyd yn gweithredu ynddynt. Felly, mae'n rhaid i'r gwaith o ddatblygu capasiti i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio'n iawn a'n bod yn cael manteision y Ddeddf teithio llesol, a'u cael cyn gynted ag sy'n bosibl, fod yn flaenoriaeth lwyr. Hoffwn i weld y lefel honno o gysondeb ledled Cymru gyfan o ran y manteision a ddaw yn sgil teithio llesol.
Soniodd Jenny am derfynau 20 mya, Gweinidog. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd y mae'n ymddangos i mi fod y manteision niferus y mae cyfyngiadau 20 mya yn eu cynnig yn ein hardaloedd trefol mewnol yn ffafriol iawn i deithio llesol. Os byddwn ni'n lleihau cyflymder cerbydau drwy'r ardaloedd hynny, mae'n gwneud teithio llesol yn llawer mwy atyniadol, yn llawer haws ei wneud. Felly, rwy'n credu bod angen i'r ddau bolisi weithio gyda'i gilydd. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn wynebu costau sylweddol wrth fwrw ymlaen â gorchmynion traffig ar gyfer cyfyngiadau 20 mya. Pe byddai hynny'n cael ei droi ar ei ben a bod polisi 20 mya cyffredinol yn yr ardaloedd trefol mewnol hyn ledled Cymru, a'u bod nhw wedyn dim ond yn bwrw ymlaen â gorchmynion traffig ar gyfer cyflymder 30 mya, yna, rwy'n credu y byddai hynny mewn gwirionedd yn cynnig arbedion eithaf sylweddol o ran costau, o ystyried y cyfeiriad teithio sydd ei angen arnom ni tuag at 20 milltir yr awr, a'r holl fanteision y mae'n eu cynnig. Felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig am hynny efallai.
Ac, yn olaf, mae Trafnidiaeth Cymru yn amlwg â rhan allweddol nawr wrth ddatblygu polisi trafnidiaeth yma yn ein gwlad, ac mae angen inni sicrhau, eto, y gwneir y cysylltiadau hynny rhwng teithio llesol, ein gwasanaethau trên ac, i raddau llai, ein gwasanaethau bysiau, dim ond i wneud yn siŵr bod popeth yn gysylltiedig â'i gilydd, a bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mor agos â phosibl gyda chi i sicrhau bod cyfathrebu, cydweithio, synergeddau yn cael eu cyflawni.
Diolch. I gymryd y ddau gwestiwn hynny o chwith—ar Trafnidiaeth Cymru, mae'r Aelod yn hollol gywir, ac, fel y dywedais i, fe wnes i gyfarfod â nhw ddoe, ynghyd â Sustrans, i weld a allem ni eu hannog nhw i greu partneriaeth strategol i wneud yn siŵr y gallem ni gyflawni hyn mewn ffordd a oedd wedi'i hintegreiddio o ran y pecyn o waith trên y maen nhw'n ei wneud, a gwaith bws o bosibl, i sicrhau bod teithio llesol yn cael ei brif-ffrydio'n llwyr o ran y system drafnidiaeth, ond gan ganiatáu hefyd, drwy weithio gyda Sustrans, rhywfaint o herio a helpu awdurdodau lleol er mwyn gallu gwneud hynny'n effeithiol. Felly, mae hynny ar fy meddwl yn fawr iawn a byddaf yn cyfarfod â nhw eto ymhen mis neu ddau i fynd ar drywydd hynny.
O ran y pwynt am barthau 20 mya, mae'n rhaid imi dalu teyrnged i John Griffiths am y gwaith eirioli y mae wedi'i wneud yn y Cynulliad hwn, ynghyd ag aelodau eraill, a hefyd am y gwaith a wnaeth fel y Gweinidog a ymgymerodd â'r Ddeddf teithio llesol. Mae ei bwynt ynghylch gwneud 20 mya yn rhagosodedig yn un gwirioneddol bwysig. Ar hyn o bryd, os ydych chi mewn awdurdod lleol, ac rydym ni i gyd, drwy gynrychiolaeth etholaethol, wedi cael grwpiau o bobl sydd eisiau cyflymderau arafach yn eu hardal. Dyma'r mater a godir gyda mi yn gyson pan fydd gennyf gyfarfodydd cyhoeddus misol—nid ydyn nhw'n hoffi ponciau atal cyflymder, ar y cyfan, maen nhw'n tueddu i rannu barn, ond maen nhw eisiau cyflymderau arafach. Ac rwy'n credu bod angen inni symud o'r safbwynt lle'r ydym yn ystyried 30 fel y cyflymder rhagosodedig a bod achos i'w wneud dros 20, sef bod 20 y cyflymder rhagosodedig ac achos i'w wneud dros 30. Felly, symud y baich tystiolaeth hwnnw, oherwydd, ar hyn o bryd, mae gennym ni ffordd gymhleth a chostus iawn o orfod cyflwyno gorchmynion cludiant er mwyn cyflwyno parth 20 mya. Felly, rwy'n credu bod angen i ni roi terfyn ar ddyddiau'r parthau a dechrau ystyried 20 fel y terfyn cyflymder ar draws ardal, a bydd hynny wedyn yn dod yn hunanatgyfnerthol wrth i'r cyflymderau arafu. Mae problem o hyd o ran gorfodi gan yr heddlu, y credaf y bydd yn rhaid inni ei hwynebu, ond lle mae'n gweithio'n dda, mae'n system sy'n atgyfnerthu ei hun i raddau helaeth.
Cost hynny—rwy'n gwybod bod rhywfaint o bryder mewn awdurdodau lleol ynghylch ymarferoldeb hyn, a dyna pam yr ydym yn sefydlu'r gweithgor hwn gyda CLlLC i weithio drwy'r manylion. Ond mae'r mandad yr ydym wedi'i roi iddyn nhw yn sylweddol. Nid yw, 'a fyddech chi'n ystyried a ddylem ni gael mwy o barthau 20 mya?' Y cyfeiriad polisi yw: 'Rydym ni eisiau 20 mya fel y dewis rhagosodedig, ac rydym ni eisiau i chi weithio gyda'ch gilydd i weithio drwy'r agweddau ymarferol ar hynny i wneud iddo weithio i chi, i'w wneud yn ymarferol ac yn fforddiadwy, ac i sicrhau bod y dyluniad yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n effeithiol.' Ac roeddwn i'n falch iawn bod Phil Jones, a arweiniodd y gwaith ar y canllawiau dylunio teithio llesol, wedi cytuno i gadeirio'r panel hwnnw. Rwyf i'n ei ystyried yn ymyriad teithio llesol i raddau helaeth. Mae Rod King, y daeth John Griffiths ag ef i gwrdd â mi rai misoedd yn ôl, hefyd wedi cytuno i ymuno â'r grŵp. Felly, mae gennym ni rai pobl newid ymddygiad da o amgylch y bwrdd, ac rwyf i hefyd eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn dod ag arweinwyr awdurdodau lleol gyda ni ar hyn, oherwydd y bwriad yw eu helpu i sicrhau'r manteision iechyd cyhoeddus y mae'n rhaid iddyn nhw eu cyflawni ac yr ydym ni i gyd yn dymuno eu gweld. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal adolygiad o'r dystiolaeth ar hyn sy'n dangos safbwynt iechyd y cyhoedd: mae hyn yn gwbl amlwg, ond mae angen inni weithio drwy'r agweddau ymarferol. Mae'r mudiad 20's Plenty for Us wedi honni—ac nid oes gennyf unrhyw reswm i'w amau, ond nid wyf wedi gweld y dystiolaeth—y bydd terfyn cyflymder cenedlaethol wyth gwaith yn rhatach nag awdurdodau unigol yn gwneud parthau 20 mya. Felly, dyna'r math o beth y mae angen inni ei ddatrys yn awr wrth i'r grŵp gael ei sefydlu.
Ac, yn olaf, Huw Irranca.
Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i groesawu'r datganiad, ond hefyd y ffordd y mae'n cael ei fframio—nid dim ond hyrwyddo seiclo a cherdded y mae'n ei wneud, ond mae yng nghyd-destun yr argyfwng sydd gennym gyda'r newid yn yr hinsawdd, mae'n ymwneud â'r argyfwng gordewdra sydd gennym ni, ac mae'n ymwneud â phroblemau ansawdd aer? Oherwydd rwyf o'r farn mai dyna'r cyd-destun cywir, ac, mewn gwirionedd, os gwnawn ni hyn yn iawn, mae'n fuddugoliaeth lwyr ar draws yr holl agendâu hynny, a byw'n iach, a ffyrdd o fyw iachach, a mynd i'r afael â phethau fel, yng Nghwm Llynfi, lle ceir gwahaniaeth o 20 mlynedd mewn hyd oes rhwng pen uchaf Cwm Llynfi a gwaelod Cwm Llynfi. Mae hynny'n anhygoel, a rhan o hyn yw'r hyn yr ydym yn bwriadu ymdrin ag ef.
Rwy'n croesawu'r pwyslais ar gapasiti oherwydd bod hynny'n sicr yn wir yn fy awdurdod i, sydd â record dda o ran teithio llesol, ond, yn anffodus, mae Trafnidiaeth Cymru wedi dwyn ymaith yr unigolyn allweddol a sbardunodd yr agenda teithio llesol, ac rydym yn cael trafferthion nawr, mewn gwirionedd, i recriwtio'r unigolyn â'r sgiliau iawn nad yw'n beiriannydd priffyrdd yn unig. Felly, tybed beth y gellir ei wneud i helpu'r awdurdodau lleol hynny i sicrhau bod y bobl iawn hynny ar gael yn awr, â'r set sgiliau gywir, sy'n gallu datblygu teithio llesol yn ogystal â deall beth sydd ei angen ar beirianwyr hefyd, ond gall wneud yr ymgynghori a'r ymgysylltu â'r gymuned. Ac ar y sail honno, tybed sut y mae awdurdodau lleol fel Pen-y-bont ar Ogwr yn manteisio ar yr arbenigedd ehangach y tu allan i'r awdurdod lleol y mae'n sôn am ei ddatblygu o ran y cymorth hwn ar draws yr holl awdurdodau lleol ar gyfer pobl sy'n gallu gwneud yr ymgynghoriadau hynny â phobl nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn teithio drwy gerdded a beicio.
A'm cwestiwn olaf ar hyn yw: gyda rhai o'r gwahanol ddulliau ariannu a nodwyd gan y Gweinidog yn ei ddatganiad ac mewn ymatebion, a fyddai hynny'n cynnwys awdurdodau lleol a fyddai'n cyflwyno cynigion, er enghraifft, i ddatblygu mwy o ysgolion fel Ysgol Hamadryad, rhai sydd nid yn unig wedi adeiladu'r seilwaith—fel yr ydym wedi'i wneud ym Mhen-coed yn ddiweddar gyda'n hysgolion yr unfed ganrif ar hugain—ond wedyn wedi gweithio gydag ysgolion i ddweud, 'Rydym ni am fynd ymhellach; rydym ni'n mynd i sbarduno newid diwylliannol, gan weithio gyda rhieni, llywodraethwyr, y gymuned leol, ond rydym ni hefyd yn mynd i ddweud wrth rieni, "Bydd gennym ni gontract sy'n dweud mai dyma sut yr ydych chi'n dod â'ch plentyn i'r ysgol—nid mewn car ond drwy ddulliau eraill".' A fyddai'r arian a ddarparwyd, neu a fyddai rhan ohono, mewn gwirionedd ar gael i ysbrydoli awdurdodau lleol blaengar i ddatblygu'r mathau hynny o bethau, fel nad dim ond un Ysgol Hamadryad sydd gennym ni ond yn sydyn, erbyn diwedd y tranche hwn, 30 neu 40?
Diolch am y cwestiynau hynny, ac, unwaith eto, a gaf i adleisio fy sylwadau am y swyddogaeth ddynamig y mae'n ei chyflawni fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol? Oherwydd rwy'n credu ei fod nid yn unig yn dod â phobl o wahanol bleidiau at ei gilydd, oherwydd bod hon yn agenda drawsbleidiol, ond mae'n dod â phobl yr awdurdodau lleol, ynghyd â'r ymgyrchwyr lleol, i gyd i un ystafell, lle mae awydd i beri i newid ddigwydd. Ac rwy'n awyddus iawn i barhau i ymgysylltu â'r grŵp hwnnw ac i fynychu pob cyfarfod, os ydw i'n gallu.
O ran y pwynt ar sgiliau, rwy'n credu bod gweithio rhanbarthol yn hanfodol yn y maes hwn. Mae hwn yn un maes lle y bydd yn cael ei arwain gan anghenion, a hefyd, wrth i Trafnidiaeth Cymru ddechrau datblygu ei gylch gwaith, rwy'n credu bod swyddogaeth wirioneddol yn y fan honno i gynnal yr arbenigedd canolog hwnnw, fel y gall awdurdodau lleol bennu'r blaenoriaethau, gallan nhw wneud y penderfyniadau ynghylch ble bydd y llwybrau, ond wedyn gallan nhw alw ar Trafnidiaeth Cymru i ddarparu'r arbenigedd hwnnw na allan nhw ei gynnal eu hunain yn lleol.
O ran yr elfen ymgynghori, y gwaith ymgynghori cymunedol hwnnw, byddwn yn ariannu ar wahân y tro hwn i weld sut y bydd hynny'n gweithio, ac rwy'n credu y bydd yn ddiddorol gweld a fydd hynny'n dod â chanlyniad gwahanol i ni i'r un a gafwyd y tro diwethaf. Felly, mae angen inni barhau i adolygu hynny.
O ran ysgolion, felly, mae gennym ni'r rhaglen teithiau llesol yr ydym ni wedi bod yn ei hariannu ac y mae Sustrans wedi bod yn ei chyflawni. Rydym ni'n mynd i roi contract mwy o faint i dendr ar sail yr un dull dros yr haf. Ond mae rôl i arweinwyr lleol hefyd, ac nid mater i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn unig yw arwain hyn; mae angen i ysgolion unigol wneud eu rhan hefyd, oherwydd mae pob ysgol yn cael trafferthion â pharcio a gollwng plant yn y bore. Mae'n broblem gyson ym mhob ysgol yr wyf yn ymweld â hi yn fy etholaeth. Ac rwy'n cydymdeimlo â phenaethiaid am yr amrywiaeth o bwysau y maen nhw'n eu hwynebu fel y mae, ond mae hwn yn un a fydd o fudd uniongyrchol iddyn nhw os ydyn nhw'n gallu cymryd rhan, ac mae pob math o gymorth ar gael i'w helpu.
O ran y pwynt penodol ynglŷn ag a oes cyllid ar gael i alluogi awdurdodau lleol i weithredu mewn ffordd fwy arloesol, yna, oes, mae cyllid ar gael. Mae hyblygrwydd o fewn y cyllid a gyhoeddwyd gennym. Os bydd awdurdodau lleol yn dymuno cyflwyno cynigion ar gyfer dull mwy dychmygus o weithredu, byddwn yn barod iawn i wrando arnyn nhw.
Diolch.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Rydym yn mynd i symud ymlaen, nawr, i eitem 6, a byddwn yn cael dadl ar adroddiad blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM7048 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2018-19 'Gwerthfawrogi ein Hiechyd' a gyhoeddwyd ar 7 Mai 2019 ac yn croesawu yn arbennig:
a) sylwadau’r Prif Swyddog Meddygol ynghylch llwyddiannau, cyfleoedd a heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio gwella iechyd pobl Cymru;
b) ei sylw ar bwysigrwydd sicrhau’r gwerth gorau posib am arian o’r adnoddau sydd ar gael mewn gofal iechyd;
c) pwysigrwydd ymchwil i wella iechyd ac economi Cymru; a
d) ei asesiad o’r prif fygythiadau i iechyd sydd yn ein hwynebu.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n fodlon cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Dechreuodd y prif swyddog meddygol ar ei swydd yma ym mis Awst 2016. Fe'i denwyd i Gymru gan yr agenda gofal iechyd darbodus yr ydym ni wedi ei chyflwyno. Rwyf wedi gofyn iddo sicrhau na fydd yr agenda ddarbodus yn diffygio, ond y bydd yn parhau i wneud gwahaniaeth ehangach, mwy sylweddol a mwy cyson, ac felly rwy'n falch iawn o weld bod gofal iechyd darbodus, wedi ei ddarparu yn fwy cyson gan ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, yn ganolog i'w adroddiad, ac rwy'n croesawu'r persbectif unigryw y mae'n dod gydag ef i'w swydd.
Mae adroddiadau blaenorol y prif swyddog meddygol wedi rhoi'r cyfle i ystyried sefyllfa Cymru o ran iechyd a lles ein poblogaeth, yr heriau sy'n ein hwynebu o ran iechyd y cyhoedd a'r newid yn narpariaeth gofal iechyd. Ddwy flynedd yn ôl, edrychodd adroddiad y prif swyddog meddygol ar sut y gall anfantais gymdeithasol effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolyn, ei iechyd a'i les. Archwiliodd adroddiad y llynedd y niwed y gall gamblo ei achosi i unigolion, teuluoedd a'r gymdeithas ehangach. Mae'r adroddiadau hynny wedi llywio ein cynlluniau a'n dull gweithredu ar gyfer trawsnewid a darparu gwasanaethau. Eleni, mae adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn edrych ar dri mater penodol: gofal darbodus a seiliedig ar werthoedd; ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol; a bygythiadau i iechyd sy'n amrywio o ymwrthedd i gyffuriau i'r amgylchedd.
Mae'r adroddiad hefyd yn crybwyll pwysigrwydd sicrhau bod plant yn cael eu brechu rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Mae gan glinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill gyfrifoldeb i sicrhau bod rhieni'n cael yr wybodaeth lawn am fanteision brechu. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod yr agwedd hon ar yr adroddiad eisoes wedi cael sylw sylweddol yn y cyfryngau. Rydym ni wedi gweithio'n galed i ddileu clefydau plentyndod y gellir eu hatal ac fe ddylai hi fod o bryder i bob un ohonom ni fod rhai rhieni yn parhau i gael eu camarwain gan ymgyrchoedd gwrth-frechu. Felly, fe hoffwn i bwysleisio eto effeithiolrwydd a diogelwch y brechlyn ar gyfer y frech goch, clwy'r pennau a rwbela, ac annog rhieni i frechu eu plant.
Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried her gordewdra ymhlith plant a datblygu cynllun pwysau iach. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben yn ddiweddar, a bydd hwnnw'n sail i'r hyn a fydd, gobeithio, yn ddull gweithredu cyfannol. Mae Aelodau wedi clywed heddiw sut y gellir hybu asedau megis llwybr arfordir Cymru er mwyn helpu i fynd i'r afael â gordewdra drwy roi cyfle i bobl wneud ymarfer corff pleserus yn yr awyr agored ac, wrth gwrs, rhan teithio llesol yn hynny o beth. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod cefnogaeth sylweddol o hyd i egwyddorion gofal iechyd darbodus. Ceir llawer o enghreifftiau ledled Cymru o gyd-gynhyrchu, gwneud penderfyniadau ar y cyd, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac amrywio a lleihau niwed. Mae angen i ni nawr ymgorffori'r egwyddorion hyn yn llawer mwy effeithiol a chyson, nid yn rhan o arferion da, ond yn rhan o arferion safonol a chyson.
Mae'r prif swyddog meddygol yn glir bod dull gofal sy'n seiliedig ar werthoedd yn fodd o wneud gofal iechyd darbodus yn realiti llawer mwy ymarferol a chyson. Ac mae hynny'n argoeli'n dda a chyffrous ar gyfer ein system iechyd a gofal. Dylai ganiatáu i'n GIG ganolbwyntio ar wneud mwy o'r pethau sy'n cyflawni canlyniadau gwell a gwell profiad gyda'n pobl ac ar eu cyfer. Mae'n rhaid i ni fod yn glir nad bwriad edrych ar werth yn y modd hwn yw torri costau. Mae, yn hytrach, yn ymwneud â pharatoi a chymell byrddau iechyd i ddefnyddio data i ganfod ac yna dadfuddsoddi mewn camau gweithredu llai gwerthfawr ac ail-fuddsoddi’r adnodd hwnnw yn yr ymyriadau hynny sy'n rhoi'r canlyniadau gorau. Mae llawer o waith da wedi ei ddechrau eisoes dan arweiniad clinigol Dr Sally Lewis ac rwyf wedi cytuno i fuddsoddi £500,000 o bunnau ychwanegol i ddatblygu gofal sy'n seiliedig ar werth ymhellach yma yng Nghymru.
Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu pwysigrwydd ymchwil ac arloesi wrth gefnogi nid yn unig iechyd gwell, ond hefyd y ffordd y mae ein gwasanaethau yn cael eu trefnu. Mae'n disgrifio'r traddodiad ymchwil toreithiog sydd gennym ni yng Nghymru. Mae ein seilwaith ymchwil modern yn rhan hanfodol o economi Cymru a'r byd addysg. Mae manteision ymchwil iechyd a gofal yn ddirfawr, ac ni ellir tanbrisio ei bwysigrwydd, boed hynny wrth atal afiechyd, gwella lles, lleihau anghydraddoldeb neu ddatblygu gwell triniaeth a llunio gwasanaeth trefnu a darparu effeithlon ac effeithiol.
Dyna pam ein bod wedi buddsoddi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn ein galluogi ni i gyflwyno adnoddau a seilwaith i gefnogi'r gymuned ymchwil, y diwydiant a phobl yma yng Nghymru. Mae'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru heddiw mewn amryw o feysydd ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth y dylem ni fod yn wirioneddol falch ohono. Mae GIG Cymru ar fin gwireddu'r manteision sylweddol y gellir eu sicrhau drwy ddatblygiadau mewn meddygaeth fanwl i gleifion drwy gynnig y prawf neu'r driniaeth briodol ar yr adeg briodol. Mae ein gwaith ar dechnoleg enetig a genomig newydd yn ein galluogi ni i ddatblygu dealltwriaeth lawer mwy manwl o'r cysylltiad rhwng ein genynnau a'n hiechyd, gan ein helpu i ddatblygu therapïau uwch newydd a thriniaeth newydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae pethau'n newid yn gyflym eithriadol yn y maes hwn. Rydym ni'n parhau i fod yn aelod o Gydweithrediaeth Ymchwil Clinigol y DU a'r grŵp cyllidwyr meddygaeth arbrofol a manwl ac yn dal i gyd-ariannu nifer o gymrodoriaethau meddygaeth fanwl.
Menter flaenllaw yma yng Nghymru, Doeth am Iechyd Cymru, a lansiwyd gan y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus ar y pryd, i'r chwith i mi yn ei swydd newydd, yw'r astudiaeth fwyaf o'i math yn Ewrop, gyda dros 30,000 o bobl wedi'u cofrestru. Mae gallu astudiaeth o'r fath i gyfrannu at ein dealltwriaeth o iechyd, lles a dewisiadau ffordd o fyw yn bwysig ac mae'n siŵr y caiff ei defnyddio yn y blynyddoedd i ddod i ddatblygu polisi, gwasanaethau a thriniaethau.
Hefyd, mae'r gronfa ddata cysylltu gwybodaeth ddienw ddiogel, a adwaenir fel arall wrth yr enw SAIL, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyfuno a chysylltu data dienw ar lefel unigolyn am bobl Cymru. Mae'n darparu hyn mewn ffordd ddiogel fel adnodd ar gyfer gwneud gwaith ymchwil. Caiff y systemau diogelu data a llywodraethu gwybodaeth sy'n sail i gronfa ddata SAIL eu cydnabod yn rhyngwladol fel esiamplau. Defnyddir yr adnodd data i gefnogi amrywiaeth o brosiectau ymchwil o ansawdd uchel yng Nghymru a ledled y DU, gan gynnwys Dementias Platform UK, y gofrestr sglerosis ymledol a Biobanc y DU.
Nawr, mae gormod o enghreifftiau o ymchwil i'w crybwyll yn fy nghyfraniad byr heddiw, ond, i roi enghraifft, mae ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, sydd unwaith eto yn Abertawe, ar flaen y gad o ran ymchwil i fod yn sail i fentrau atal gordewdra, sydd, fel yr ydym ni wedi'i drafod ar fwy nag un achlysur, yn flaenoriaeth polisi sylweddol inni. Mae ymchwil Prifysgol Bangor ar agweddau a phrofiadau teuluol yn sgil gweithredu ein Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 arloesol yn enghraifft dda arall o ymchwil yng Nghymru yn llywio ac yn gwella polisïau a wnaed yng Nghymru.
Rydym ni'n dal yn ymwybodol iawn, ym mhob rhan o'r Llywodraeth, o'r heriau sy'n dod yn sgil Brexit, wrth inni weithio i sicrhau rhwydd hynt i ddyfodol ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru, ac i wneud hynny mewn hinsawdd sy'n parhau i gefnogi ein llwyddiant cynyddol mewn ymchwil a'n ffyniant ehangach. Yn olaf, mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn edrych ar rai o'r bygythiadau i ddiogelwch iechyd yr ydym ni'n eu hwynebu, gan gynnwys ymwrthedd i gyffuriau, bygythiadau o glefydau y gellir eu hosgoi, rhai trosglwyddadwy, a'r peryglon amgylcheddol sy'n newid sy'n effeithio arnom ni i gyd. Mae'r rhain yn faterion difrifol y mae'n rhaid inni fod yn barod i fynd i'r afael â nhw'n uniongyrchol os ydym ni am wneud cynnydd a lleihau'r effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl.
Felly, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth diogelu iechyd cenedlaethol a'n seilwaith i sicrhau ein bod yn parhau i allu gwrthsefyll y bygythiadau sy'n ein hwynebu. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod ymwrthedd i gyffuriau yn broblem fyd-eang. Yng Nghymru, rhaid inni wneud ein rhan i atal heintiau yn ogystal â lleihau'r defnydd amhriodol o wrthfiotigau. Mae'r ffigurau'n mynd i'r cyfeiriad cywir yma yng Nghymru, ond rhaid inni barhau i gefnogi a herio ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol i gyrraedd y targedau heriol yr ydym ni wedi'u pennu. Rydym ni hefyd yn gweithio i ddileu hepatitis B ac C fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddileu hepatitis erbyn 2030, ac mae ein GIG yn gweithio'n galed i ganfod a thrin pobl sydd â'r clefyd. Mae'r cynnydd mewn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i fod yn destun pryder. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd rhywiol, ac rydym ni wedi trafod y rhain o'r blaen. Y nod yw lleihau heintiau, gyda gwell gwasanaethau, addysg a gwell profiad i gleifion. Mae'n rhaid inni hefyd wneud yr hyn a allwn ni i wrthweithio bygythiadau iechyd yn yr amgylchedd, ac mae Gweinidogion yn cytuno ag asesiad y prif swyddog meddygol bod angen dull integredig i fynd i'r afael ag ansawdd aer a pheryglon eraill.
I gloi, hoffwn ddiolch i'r prif swyddog meddygol, Dr Frank Atherton, am adroddiad ac argymhellion sy'n ysgogi'r meddwl. Byddwn yn ei ystyried yn ofalus, a bydd yn parhau i herio a llywio ein dewisiadau ar gyfer iechyd a lles ein gwasanaethau a'n pobl yma yng Nghymru yn y dyfodol.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
yn gresynu at y methiant parhaus i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â llygredd aer fel ffordd o wella iechyd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o gyfrannu i'r ddadl yma ar adroddiad bendigedig gan y prif swyddog meddygol—llongyfarchiadau iddo—ac yn symud y gwelliant ar lygredd awyr. Mwy am hynna yn y man.
Yn nhermau amser, yr unig bwynt arall roeddwn i'n mynd i ganolbwyntio arno fo ydy brechiadau yn erbyn MMR, achos mae'n bwynt sylfaenol bwysig. Mae'r Gweinidog eisoes wedi cyfeirio at y peth. Mae ein capel ni yn Abertawe gyda mynwent weddol enfawr, dros bedair erw, ac mae'n dorcalonnus i weld beddau plant bach yn fanna. Mae'r fynwent wedi bod yna ers bron i ddwy ganrif. Mae yna enwau babanod a phlant ifanc iawn wedi'u rhestru ar y cerrig beddau. Maen nhw wedi marw yn eu cannoedd dros y blynyddoedd, o diptheria, tetanws, pertussis, y frech goch a'r frech wen, a nifer o afiechydon tebyg.
Wrth gwrs, nôl yn 2012-13, pan oeddwn i'n feddyg teulu llawn amser, ddaeth yna achosion o'r frech goch—gwnaethon nhw ddechrau yn Abertawe—yn fy mhractis i, yn y Coced, lle roeddwn i'n bartner ar y pryd, achos doedd y niferoedd a oedd wedi derbyn brechiad MMR ddim yn ddigonol i atal y clefyd heintus iawn yma rhag lledu, achos mae'n dibynnu ar imiwnedd y praidd—herd immunity, felly. Mae'n dibynnu ar y ffaith nad yw 95 y cant o blant ddim yn gallu dal y frech goch achos maen nhw wedi cael eu brechu yn erbyn o. Mae'r firws yn dal yn fyw yn ein cymuned ni, ond mae'n dibynnu ar y ffaith nad yw 95 y cant o bobl ddim yn gallu dal nhw achos maen nhw wedi cael brechiad. Mae yna nifer o blant sydd efo clefydau arbennig sydd ddim yn gallu cael y brechiad, felly mae'n ofynnol i bob un arall sydd yn ffit i dderbyn brechiad MMR i gael y brechiad.
Cyn y brechiad yma ym Mhrydain, cyn y brechiad yn erbyn y frech goch, measles, roedd miloedd o blant a phobl ifanc yn dal y frech goch bob blwyddyn yma ym Mhrydain, a channoedd yn marw neu yn dioddef yn barhaol o sgil-effeithiau'r frech goch, fel byddardod, drwy gydol eu hoes. Gyda dyfodiad yr MMR yn 1988, am flynyddoedd ni fu fawr neb o'r frech goch, a doedd yna ddim achosion o gwbl o'r frech goch am flynyddoedd, tan y blynyddoedd diweddar hyn pan fo lefelau'r brechu wedi cwympo o dan 95 y cant, ac weithiau yn sylweddol yn is na 95 y cant. Nôl yn Abertawe, saith blynedd yn ôl, roedd y lefel tua 82 y cant, felly does dim rhyfedd i ni gael nifer o achosion o'r frech goch, gydag un farwolaeth.
A'r pwynt arall mae'r prif swyddog meddygol yn ei wneud yn ei adroddiad ydy—nifer o bwyntiau, wrth gwrs, ond, gan fod ein gwelliant ni yn canolbwyntiau ar llygredd awyr, fe af i ar ôl llygredd awyr, sydd yn lladd neu'n cyfrannu at farwolaeth 2,000 o bobl bob blwyddyn yma yng Nghymru. Fel dŷn ni wedi clywed gan Lee Waters prynhawn yma eisoes, mae yna air quality crisis yma yng Nghymru, ac wrth gwrs mae yna argyfwng hinsawdd hefyd. Ac wrth gwrs mae'r llygredd awyr yma—mae hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus, fel mae'r prif swyddog meddygol yn amlinellu yn ei adroddiad bendigedig y prynhawn yma.
Felly, mae angen gweithredu ar fyrder, yn enwedig i leihau allyriadau o geir a lorïau ar ein ffyrdd a'n strydoedd. Mae angen, felly, deddfu yn y maes, dwi'n credu, achos mae o yn argyfwng hinsawdd, ac mae o yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Dwi'n gadeirydd y grŵp amlbleidiol ar y Ddeddf awyr glân yma yn y Senedd, er mwyn i ni allu creu parthau awyr glan yn ein trefi a'n dinasoedd. Mae ein plant ni yn haeddu dim gwaeth na hynny. Mae angen yr isadeiledd i'n siroedd ni allu casglu'r wybodaeth ar y llygredd yn eu hardaloedd nhw. Mae llygredd awyr yn niweidio ein hysgyfaint ni, a'n calonnau ni nawr, achos mae nanoblastigau—darnau bach, gronynnau bach—maen nhw mor fach rŵan fel eu bod nhw'n gallu cyrraedd i mewn i'n calon ni, yn ein gwythiennau, yn y gwaed. Achos mae nanoblastigau mor fach, maen nhw'n cyrraedd ein calonnau ni ac yn achosi clefyd y galon. Felly, cefnogwch y gwelliant. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Dr Frank Atherton yn gwbl briodol wedi amlinellu'n dda iawn y materion lluosog sy'n gofyn am ein sylw llawn, ac yn wir, rhywfaint o weithredu gan y Llywodraeth. Mae'n ein hatgoffa ni i gyd am bwysigrwydd ymchwil, ymwybyddiaeth a chydweithio effeithiol er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiadau mawr i iechyd sy'n ein hwynebu yng Nghymru, a hefyd i fod yn barod am newidiadau iechyd a chymdeithasol disgwyliedig. Mae heintiau, bygythiadau amgylcheddol, gordewdra cynyddol—yn enwedig gordewdra ymhlith plant, gyda 27 y cant o blant pedair i bump oed bellach yn cael eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew—marwolaethau sy'n gysylltiedig ag ysmygu, ac anghenion cynyddol ein cymdeithas sy'n heneiddio yn achosi pryder mawr.
Mae angen monitro'r sefyllfa lle mae cyfraddau disgwyliad oes wedi aros yn wastad yn ddiweddar. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf, fodd bynnag, yw'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru, sef bwlch o wyth mlynedd yn gyffredinol rhwng aelwydydd sy'n ddiogel yn economaidd a rhai sy'n llai hyfyw yn economaidd. O ran disgwyliad oes iach, mae'r amrywiad hwn yn cynyddu i wahaniaeth sylweddol iawn o 18 mlynedd.
Yn hollbwysig, fel yr archwilir ym mhennod 1, mae angen i ofal am y boblogaeth oedrannus yng Nghymru fod yn seiliedig ar ddull gweithredu system gyfan sy'n cydnabod yr hawl i bobl hŷn heneiddio'n dda, yn gorfforol ac yn feddyliol. Ac mae hefyd yn ystyried y rhagweliad y bydd cynnydd o 58 y cant yn y boblogaeth 75 oed a throsodd. Mae hyn yn ganolog. Fel y gwyddom ni i gyd, pobl oedrannus sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddatblygu dementia—ac mae hynny wedi'i drafod yn gynharach heddiw—ynghyd ag afiechydon eraill megis canser, sydd wedi dod yn un o'r afiechydon mwyaf angheuol a phoenus yn ein cenhedlaeth ni. Fodd bynnag, dylid ystyried hyn law yn llaw â'r ffaith bod pobl hŷn yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau oherwydd cyflyrau iechyd lluosog, sy'n gallu gwneud diagnosis a thriniaeth yn anodd.
Hefyd, mae'r swyddog meddygol yn amlinellu pedwar argymhelliad fel bod ein system gofal iechyd a'n hymagwedd yn ddarbodus ac yn seiliedig ar werth. Mae hyn yn cynnwys datblygu seilwaith, data, arfer da a chyfathrebu rhagorol. Nawr, rwy'n cydnabod bod creu system sy'n seiliedig ar ddata yn hanfodol i ganfod lle dylid cyfeirio buddsoddiad i fynd i'r afael â'r bygythiadau mwyaf i iechyd. Mae ymchwil yn rhan annatod o'r broses o gyflwyno ein strategaeth iechyd yn llwyddiannus ac felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu gwaith ymchwil ystyrlon o'r fath, gan gydlynu gweithgarwch ymhlith rhanddeiliaid allweddol a, lle bo modd, i ymgysylltu mwy â'r cyhoedd yn y gwahanol gyfnodau ymchwil hynny.
Dylai'r Llywodraeth hefyd geisio hybu gwaith Doeth am Iechyd Cymru, sydd bellach yn gofyn i'r cyhoedd rannu eu syniadau ynghylch y cwestiynau iechyd, lles a gofal cymdeithasol mwyaf dybryd yn rhan o'u prosiect cenedlaethol. Yn wir, mae adroddiad Ymchwil Canser y DU, 'O'r Fainc i Erchwyn y Gwely', yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol ei chyllid ar gyfer ymchwil meddygol, yn enwedig ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd. Yn fwy penodol, hoffwn dynnu sylw at alwadau Ymchwil Canser y DU i Lywodraeth Cymru arloesi ei dulliau meddwl a chynllunio strategol er mwyn denu a chefnogi ymchwilwyr gyda chyfleoedd newydd i gael cyllid. Mae hyn yn fater brys yng ngoleuni Brexit, oherwydd gellid colli ffrydiau ariannu o'r UE i ymchwil meddygol y DU.
Dirprwy Lywydd, anogaf Lywodraeth Cymru i fod yn rhagweithiol gyda chenhedloedd datganoledig eraill, fel yr Alban, er mwyn gwella ein gwybodaeth, ein dealltwriaeth a'n hymateb i'r heriau iechyd sy'n effeithio arnom ni heddiw. Mae gordewdra yn un o'r rhain, felly rwy'n croesawu cyflwyno'r cynllun pwysau iach. Gobeithiaf y bydd hwn yn gwella'r ystadegau presennol sy'n peri pryder o ran bwyta ffrwythau a llysiau.
Yn olaf, credaf fod Dr Atherton wedi tynnu sylw at fygythiadau iechyd llai amlwg, megis ymwrthedd i gyffuriau, tueddiadau gwrth-frechu, heintiau a geir mewn gofal iechyd, halogiad cemegol, ac effaith newidiadau yn ein hinsawdd a'n hamgylchedd naturiol megis rhyddhau ymbelydredd, llifogydd, ac amrywiadau tywydd eithafol.
Mae'r prif swyddog meddygol yn datgan bod angen gwneud mwy o waith gyda phractisau meddygon teulu er mwyn sicrhau defnydd gwrthfacterol priodol. Yn yr un modd, dylai ysgolion barhau i gael eu hannog i ddarparu'r brechiadau MMR i blant fel bod cyfraddau canrannol presennol y rhai sy'n cael eu brechu'n cynyddu. Rwy'n awyddus i ofyn i Lywodraeth Cymru pa gynlluniau sydd ar waith i gynyddu faint o bobl sy'n cael brechiadau yn y ddemograffeg sy'n fwy anodd ei chyrraedd. Rwy'n cefnogi argymhellion Dr Atherton ac yn annog y Llywodraeth i weithredu ar yr adroddiad cadarn a diddorol iawn hwn er mwyn inni allu parhau i ddiogelu iechyd pobl Cymru a chyflawni ein nodau o ran gofal iechyd. Diolch.
Gweinidog, hoffwn gyfeirio'n benodol at y rhan o'r adroddiad yn yr atodiad sy'n ymdrin â'r cynnydd a wnaed mewn cyswllt â'r mater iechyd cyhoeddus a grybwyllwyd o ran gamblo. Rwy'n sôn am hyn oherwydd bod adroddiad y llynedd yn adroddiad arloesol a'i fod wedi'i gydnabod ledled y DU o ran nodi a dechrau'r broses o edrych ar sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r hyn sydd, yn fy marn i, yn epidemig cudd, cynyddol, dirgel a datblygol ond sy'n anhygoel o ddifrifol.
Mae'n rhaid imi ddweud, er fy mod i'n croesawu agweddau ar yr atodiad o ran y gwaith sydd wedi'i wneud, rwy'n credu nad yw'n ddigonol o bell ffordd. Rwy'n sicr yn croesawu'r cwestiynau arolwg i bobl ifanc o ran nifer yr achosion, yr ystyriaeth i edrych ar y system gynllunio, y pryderon a nodir ynghylch hysbysebu gyda'r awdurdod safonau, seminarau ac ati. Ond nid wyf yn credu bod hyn, mewn unrhyw ffordd yn cydnabod maint gwirioneddol y problemau iechyd cyhoeddus sy'n dod yn sgil gamblo.
Yn sicr, mae llawer o'r cyfrifoldeb o ran gamblo ar lefel y DU, ond yn sicr mae llawer y gallwn ni ei wneud ynghylch agweddau iechyd cyhoeddus. Os gallaf gyfeirio'r Gweinidog a'r Aelodau at sylwadau cwmni ymchwil marchnad blaenllaw ar gamblo:
Mae disgwyl i'r farchnad betio chwaraeon byd-eang gyrraedd tua $155 biliwn erbyn 2024...gan dyfu ar lefel iach o 8.83 y cant ... gyda chwyldro digidol yn trawsnewid y byd bob eiliad, mae'r farchnad fetio chwaraeon yn debygol o dyfu'n sylweddol yn y dyfodol.
Os edrychwn ni mewn gwirionedd ar gyflwr gamblo a'i effaith yng Nghymru, mae'r Comisiwn Hapchwarae yn amcangyfrif bod gan 1.1 y cant o boblogaeth Cymru broblemau gamblo. Mae hynny oddeutu 40,000 o bobl. Mae'n amcangyfrif bod perygl i 4 y cant arall—hynny yw, 160,000 o bobl ychwanegol—ac am bob un gamblwr sydd â phroblem, mae ymchwil yn amcangyfrif bod saith arall yn dioddef effaith andwyol. Dyna 280,000 o bobl ychwanegol, ac rwy'n credu bod y rheini'n amcangyfrifon ceidwadol iawn sy'n seiliedig ar hen wybodaeth ac nad ydyn nhw'n adlewyrchu graddfa'r hyn sy'n digwydd.
Rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar gamblo ac rydym ni wedi cael rhai academyddion diddorol iawn sydd wedi bod yn gwneud ymchwil mewn gwahanol wledydd, yn enwedig Awstralia, gan nodi rhai o'r effeithiau ar bobl ifanc, ac ar bobl ifanc rwy'n credu y mae'n rhaid inni edrych yn benodol o ran ein polisi iechyd cyhoeddus, ac nid wyf yn credu bod yr adroddiad mewn gwirionedd yn dechrau mynd i'r afael â hynny. Mae 80 y cant o blant 11 i 16 oed wedi gweld hysbysebion gamblo ar y teledu, mae 70 y cant wedi gweld hysbysebion gamblo ar y cyfryngau cymdeithasol, a 66 y cant ar wefannau. Mae 78 y cant o bobl ifanc y buom ni'n siarad â nhw yn credu bod betio yn rhan arferol o chwaraeon, ac mae normaleiddio gamblo yng nghyd-destun chwaraeon yn eithriadol o arwyddocaol yn fy marn i. Mae wedi dod yn rhan o ddiwylliant chwaraeon a dylai hyn ein poeni'n sylweddol.
Roeddwn yn edrych ar raglen stadiwm newydd Tottenham Hotspur sef White Hart Lane yn ddiweddar—stadiwm £1 biliwn, sy'n wych—a'r peth cyntaf a dynnodd fy sylw oedd y datganiad na fyddai cyfleusterau gamblo yn y stadiwm. Meddyliais, 'Dyna beth da', ynghyd â'i bolisi ailgylchu, nes ichi ddarllen bod y rhyngrwyd ar gael drwy'r stadiwm. Nid oes angen mannau betio mwyach. Gamblo ar y rhyngrwyd yw hi erbyn hyn. A phan edrychwch chi ar wir swm yr arian sy'n cael ei fuddsoddi, gadewch i ni fod yn onest ynglŷn â hyn, gamblo yw'r nicotin newydd, y diwydiant tybaco newydd ym myd chwaraeon. Dyna pam fod angen inni fynd i'r afael o ddifrif â'r mater o addysg gyhoeddus.
Mae tri o bob pum myfyriwr wedi gamblo mewn rhyw fodd dros y 12 mis diwethaf. Mae un o bob 10 wedi defnyddio rywfaint neu'r cyfan o'u benthyciad myfyrwyr i gamblo. Gweinidog, mae'r raddfa'n aruthrol ac mae'n tyfu. Yn y DU yn unig, mae'n ddiwydiant gwerth £15 biliwn, ac mae'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Rydym ni i gyd yn gwybod na allwch chi droi at deledu lloeren, y rhyngrwyd, eich ffonau, YouTube—unrhyw beth rydych chi'n ei ddefnyddio—heb wynebu llu o hysbysebion gamblo. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n gyfrifoldeb i'r DU, ac, wrth gwrs, mae'n rhaid inni ymgysylltu oherwydd bod angen dirfawr am ddeddfwriaeth gamblo newydd sydd mewn difrif yn mynd i'r afael â hynny ac yn cyfyngu ar hynny.
Ond yn y cyfamser, o ran yr hyn sydd gennym ni o fewn ein cymhwysedd, credaf fod angen strategaeth hynod glir a deinamig iawn arnom ni, sy'n gallu gwrthsefyll yr epidemig gamblo sy'n agosáu ac sydd eisoes yn effeithio ar ein pobl ifanc ac yn eu cyflyru. Mae angen iddi fod yn un o addysgu'r cyhoedd. Mae'n rhaid rhoi llawer mwy o bwyslais ar y modd y gallwn ni ddefnyddio deddfau cynllunio o ran mannau gamblo, sut y gallwn ni edrych ar fannau gamblo o ran y ffordd y maen nhw'n hysbysebu eu hunain, a hefyd, yn y pen draw, y pwysau y mae'n rhaid inni ei roi ar y diwydiant gamblo a'r Comisiwn Hapchwarae er mwyn ariannu'r hyn sydd ei angen i ymdrin â dibyniaeth ar gamblo ac addysgu pobl ynglŷn â gamblo.
Yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd—
A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda?
Mae'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn ddim byd ond diferyn yn y môr ac nid wyf yn credu bod y strategaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd yn strategaeth nac mewn unrhyw fodd yn ddigonol i fynd i'r afael â'r hyn y gallem ni, o bosib, fod yn ei wneud.
Diolch i'r prif swyddog meddygol am ei adroddiad blynyddol diweddaraf. Mae Dr Atherton wedi tynnu sylw at sawl her iechyd sy'n wynebu ein cenedl. Rwyf i eisiau canolbwyntio yn fy nghyfraniad i ar ddwy o'r heriau hynny. Dwy her i iechyd ein cenedl a allai, o'u gadael heb eu harchwilio, wneud niwed aruthrol i les Cymru. Yr heriau hynny yw ymwrthedd gwrthficrobaidd a lledaeniad y mudiad 'gwrth frechu'.
Rwy'n croesawu, fel mae'r prif swyddog meddygol wedi tynnu sylw ato, y bu cynnydd o ran lleihau'r defnydd amhriodol o wrthfiotigau mewn lleoliadau iechyd. Fodd bynnag, ni allwn ni fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd drwy ddim ond lleihau nifer y gwrthfiotigau sy'n cael eu dosbarthu gan ein meddygon teulu. Rydym ni wedi bod yn gorddefnyddio gwrthfiotigau sbectrwm eang ers degawdau. Pan fyddwn ni'n cymryd gwrthfiotig, mae canran yn mynd i lawr y tŷ bach, ac o ganlyniad, mae llawer iawn o wrthfiotigau'n llifo i'n ffrydiau gwastraff, i'n hafonydd a'n cefnforoedd. Mae'r llygredd fferyllol hwn nid yn unig yn cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt; mae hefyd yn ychwanegu at y gronfa o ficro-organebau sy'n gwrthsefyll cyffuriau. Mae'n rhaid inni hefyd ystyried effaith defnyddio gwrthfiotigau mewn amaethyddiaeth. Gall crynodiadau o wrthfiotigau mewn pridd gyrraedd lefelau'r dosau therapiwtig a roddir i dda byw oherwydd gorddefnydd.
Rydym ni wedi gweld sawl achos ledled y byd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf lle'r oedd heintiau bacterol yn gallu ymwrthod â phob gwrthfiotig a oedd ar gael. Ar hyn o bryd, mae heintiau nad oes modd eu gwella yn berygl amlwg i fywyd dynol. Mae'n rhaid inni weithredu i leihau'r cyfleoedd i'r microbau hyn allu ymwrthod â gwrthfiotigau ac i ganfod dewisiadau eraill, ac mae hynny'n golygu, yn ogystal â lleihau defnydd dynol o wrthfiotigau, fod yn rhaid inni hefyd fynd i'r afael â gorddefnyddio mewn amaethyddiaeth a chael gwared ar lygredd fferyllol. Mae'n rhaid i ni hefyd fuddsoddi mewn ymchwil i ddewisiadau eraill, fel bacterioffagau, yn lle gwrthfiotigau.
Yn ogystal â'r bygythiadau yr ydym ni'n eu hwynebu gan facteria, rydym ni'n gweld bygythiad cynyddol gan firysau a oedd unwaith dan reolaeth. Unwaith eto, ymddygiad dynol yw'r grym y tu ôl i'r bygythiad. Y tro hwn nid y dulliau diogelu sy'n methu. Mae celwyddau a gwybodaeth gyfeiliornus wedi peri i lawer roi'r gorau i'r dulliau diogelu yn gyfan gwbl. Mae twf y mudiad 'gwrth frechu' wedi cynyddu'n aruthrol, diolch i'r cyfryngau cymdeithasol. Er bod y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn gweithredu o'r diwedd, mae'r difrod eisoes wedi ei wneud. Mae gormod o rieni wedi gwrando ar y celwyddau sydd wedi'u lledaenu gan bobl fel y cyn-feddyg cywilyddus Andrew Wakefield a'r actores Americanaidd Jenny McCarthy. Canlyniad y celwyddau hynny yw marwolaeth plant o'r frech goch.
Mae nifer yr achosion o'r frech goch wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym ni'n gweld mwy na 10 y cant o blant yn methu â chael dau ddos o'r brechlyn MMR. Mae'n rhaid inni fynd ati i wrthsefyll lledaeniad propaganda 'gwrth frechu' ar-lein gyda'n negeseuon di flewyn ar dafod ein hunain. Gallai plant heb eu brechu farw oherwydd bod rhyw berson ar-lein wedi darbwyllo rhiant bod brechlynnau yn achosi awtistiaeth. Mae brechlynnau'n atal marwolaethau oherwydd clefydau. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae wrth dynnu sylw at hyn, ac rwy'n diolch i Dr Atherton am gynnwys bygythiad clefydau y gellir eu hatal gan frechlynnau yn ei adroddiad blynyddol. Diolch yn fawr.
A gaf i hefyd ddiolch i'r prif swyddog meddygol am yr adroddiad? Mae'n rhyfedd ein bod ni wedi cael prynhawn yn trafod rhai o'r elfennau sy'n ymddangos yn yr adroddiad hwn—newid ymddygiad a ffyrdd o fyw egnïol, boed hynny drwy deithio llesol neu ryw fodd arall. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod 'Cymru Iachach', y strategaeth y cyflwynodd y Gweinidog y llynedd ac y mae'n bwrw ymlaen â hi, yn rhoi'r cyfle hwnnw inni weddnewid gofal iechyd o ran y ffordd yr ydym ni'n ei ystyried. Newid gwirioneddol drawsnewidiol a chenedliadol tuag at atal a gofal cymunedol a sylfaenol, gofal iechyd darbodus, i bobl sy'n byw'n hwy ac yn fwy annibynnol yn eu cartref, neu'n nes at eu cartrefi, ac yn y blaen. Rwy'n annog y Gweinidog, oherwydd rwy'n gwybod am ei ymrwymiad yn hyn o beth, i barhau i sbarduno'r newid hwn â phartneriaid ledled Cymru gyfan, a gwneud y gweddnewidiad hwn a'i wneud yn beth parhaol.
Ond rwyf eisiau troi at rywbeth arall yn gyfan gwbl, ffordd wahanol o ystyried hyn, ac am hyn rwy'n ddiolchgar i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu cyflwyniad i holl Aelodau'r Cynulliad, ac rwy'n mynd i gyfeirio'n helaeth ato ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog wedi'i weld hefyd. Maen nhw'n cyfeirio at eu hadroddiad cynharach eleni, 'A yw Cymru'n Decach?', ac maen nhw'n nodi'r canfyddiadau allweddol o'r adroddiad hwnnw, yr heriau penodol, y materion sydd wedi hen ymwreiddio ac sy'n effeithio ar gymunedau Sipsiwn/Roma/Teithwyr, yn enwedig o ran eu gallu i gael darpariaeth iechyd. Ond hefyd mae'r ddrwgdybiaeth a'r amharodrwydd i fanteisio ar wasanaethau iechyd yn dal i fod yn broblem fawr.
Y ffaith bod pobl nad ydyn nhw'n anabl yn dweud bron iawn ddwywaith mor aml eu bod nhw mewn iechyd da na phobl anabl, a bod pobl anabl yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn wael bron i dair gwaith yn amlach na phobl nad ydyn nhw'n anabl. Y ffaith bod hyd at un fenyw o bob pump yn dioddef o salwch meddwl amenedigol ac yn dal i wynebu'r heriau o gael gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yng Nghymru.
Ac wrth gwrs, rydym ni i gyd yn gwybod am yr heriau sy'n wynebu plant sy'n derbyn gofal, sy'n tueddu i fod mewn mwy o berygl o ddioddef iechyd meddwl gwael na phlant yn y boblogaeth ehangach. Rydym ni i gyd yn gwybod yn rhy dda fod dynion yng Nghymru, o ystadegau yn 2016, bedair gwaith yn fwy tebygol na merched o farw drwy hunanladdiad. Yr heriau sydd gennym ni, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU ac mewn llawer o wledydd datblygedig, o ran sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer iechyd meddwl yn cyfateb i'r cynnydd yn y galw.
Yn olaf, maen nhw'n nodi mai un o'r heriau mwyaf yw diffyg data wedi'i ddadgyfuno sy'n golygu ei bod hi'n anodd gwybod beth yw'r canlyniadau mewn gwirionedd a dadansoddi'r rhwystrau posib o ran gallu'r rhai hynny â nodweddion gwarchodedig penodol i gael gofal iechyd. Felly, maen nhw'n gwneud rhai argymhellion penodol, ac unwaith eto byddaf yn cyfeirio atyn nhw yn fyr iawn yma.
Yn gyntaf, wrth fwrw ymlaen â 'Cymru Iachach', strategaeth gynhwysfawr Llywodraeth Cymru nawr o ran trawsnewid iechyd, bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn elfen greiddiol yng ngweithrediad hynny. Felly, y pwyntiau hynny y byddaf yn cyfeirio atyn nhw yn y man, fod y rheini'n cael eu cydnabod ond bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn elfennau creiddiol o'r strategaeth honno.
Bod gofal iechyd yng Nghymru ar gael i bawb yn ddiwahân, a hynny gan gyfeirio'n benodol at Sipsiwn a Roma a Theithwyr, at hygyrchedd ac ansawdd y gwasanaethau cyfieithu sydd ar gael i fewnfudwyr a ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a bod gwasanaeth hunaniaeth rhywedd cwbl integredig yng Nghymru lle mae modd monitro'r effaith ar ganlyniadau iechyd pobl drawsryweddol yng Nghymru. A hefyd ein bod yn gwerthuso'n llawn y cynnydd a wnaed o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a'r strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.
Nawr, rydym ni'n gwneud rhai pethau anhygoel yng Nghymru, er gwaethaf yr heriau o ran ariannu a'r heriau ehangach o fewn gofal iechyd, ond mae'n briodol ein bod yn herio ein hunain yn barhaus i wneud mwy, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn croesawu'r dadansoddiad a'r heriau a nodwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fel cyfraniad defnyddiol mewn gwirionedd at wneud pethau'n well wrth inni fwrw ymlaen.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd, ac rwyf eisiau diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau meddylgar ar y cyfan i'r ddadl heddiw. Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei araith ac, yn enwedig, am ailadrodd y sylw y mae rhai o'r Aelodau eraill wedi ei wneud ynglŷn â phwysigrwydd brechu—ei brofiad uniongyrchol ei hun fel meddyg teulu, ond hefyd rhieni fel fi sydd wedi mynd ati a gwneud yn siŵr bod ein plant wedi'u brechu—a'r sylwadau a wnaed am y ffaith bod y damcaniaethau cynllwyn am frechu yn parhau i gael eu hyrwyddo. Mae deiliad presennol y Tŷ Gwyn wedi cymryd ei dro i geisio gwneud yr un peth yn union, ac yna wedi encilio, ond mae'n bwysig bod gan bob un ohonom ni neges gyson am bwysigrwydd gwneud hynny.
Hoffwn droi at gyfraniad Mick Antoniw. Rwyf innau hefyd yn rhannu eich pryder am normaleiddio'r cysylltiad rhwng gamblo a chwaraeon. Mae chwaraeon yn weithgaredd mor eang, gyda chymaint o bobl yn cymryd rhan ac yn ymwneud, ni allwn ni amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc rhag gweld y negeseuon treiddiol ynghylch chwaraeon proffesiynol, nac yn wir, oedolion, ac mae hynny yn cael dylanwad. Nid yw pobl yn hysbysebu'r cyfleoedd i gamblo'n rhydd er mwyn eu cydwybod eu hunain, eu bod yn credu ei fod yn beth da i'w wneud, maen nhw'n ei hysbysebu oherwydd ei fod yn cael effaith ac yn cyflyru pobl. Dyna pam fod y prif swyddog meddygol wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â'r Asiantaeth Safonau Hysbysebu a dyna pam ein bod ni'n parhau i wneud hynny. Ac rwy'n cydnabod bod yna heriau yn y maes hwn. Y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd gyda chyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus, y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i ddwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid, fe wnaethom ni nodi rhai o'r manylion yn yr adroddiad, ond rydym ni yn cytuno bod angen mynd ati mewn modd sy'n cynnwys meysydd polisi eraill, fel camddefnyddio sylweddau, er mwyn darparu fframwaith cychwynnol ar gyfer gweithredu. Felly, byddwn ni'n parhau i ystyried sut yr ydym ni'n manteisio i'r eithaf ar ein cyfle i wneud gwahaniaeth, gan gofio nad yw pob un o'r pwerau yr hoffem ni fod â nhw yn y lle hwn.
Roedd llawer o'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders na fyddwn i'n anghytuno ag ef, ond byddwn i'n dweud, unrhyw bryd y bydd pobl yn galw am gynnydd mewn cyllideb, na allan nhw ddisgwyl cael eu cymryd o ddifrif oni fyddant yn dweud o ble y daw'r arian hwnnw. Rydym ni mewn sefyllfa lle mae llai o arian ar gael. Y gwasanaeth iechyd sy'n cael y gyfran fwyaf o hwnnw. Felly, os ydym ni'n mynd i alw am arian ychwanegol, gadewch inni fod yn glir o ble daw hwnnw a beth yw ystyr hynny—naill ai galw am gynnydd yn y gyllideb y mae'r lle hwn yn ei chael yn y lle cyntaf, neu nodi pa feysydd y mae'n well gan bobl eu gweld cwtogi arnyn nhw er mwyn gwneud hynny.
Ac, o ran sylwadau Huw Irranca-Davies, rwy'n fwy na pharod i gytuno ag ef o ran ei sylw am iechyd meddwl, ond hefyd yn fwy cyffredinol y sylw am degwch wrth ddarparu gofal iechyd, gan gydnabod yr heriau sydd gan grwpiau penodol o bobl o ran cael gwasanaeth gwirioneddol deg gan ein gwasanaeth iechyd. Ac rwy'n cytuno bod yr adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddefnyddiol i'n hatgoffa ni ym mhob rhan o'r gwasanaeth. Rwyf hefyd, wrth gwrs, yn falch o ailadrodd fy ymrwymiad i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn 'Cymru Iachach', i wneud yn well, i wella'r profiad a'r canlyniadau mewn ystod o fesurau, oherwydd dyna y mae pobl Cymru yn ei haeddu.
Ni wnaf ailadrodd llawer o'r sylwadau yr wyf eisoes wedi'u gwneud ar sawl achlysur ynghylch yr heriau sydd o'n blaenau, ond mae'n ddefnyddiol ystyried adroddiad y prif swyddog meddygol a'i argymhellion yn rhan o'r ateb. Felly, rydym ni'n edrych yn gyffredinol ar wireddu'r addewid o ofal iechyd darbodus drwy ofal iechyd sy'n seiliedig ar werthoedd. Mae hynny'n rhywbeth a fyddai o fudd mawr i bob un ohonom ni, i ryddhau adnoddau sylweddol yn ein system ac i gyfeirio hynny at well canlyniadau.
Felly, wrth gloi, Llywydd, hoffwn ddiolch, unwaith eto, i'r prif swyddog meddygol am ei ddadansoddiad a'i argymhellion, ac edrychaf ymlaen at ei gyngor, ei her a'i gefnogaeth barhaus wrth inni fwrw ymlaen i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a llunio Cymru iachach a hapusach.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Ac felly dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Yr unig bleidlais y prynhawn yma yw'r bleidlais ar y ddadl ar adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol, a dwi'n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM7048 - Gwelliant 1: O blaid: 15, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Dwi'n galw nawr am bleidlais, felly, ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM7048 - Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru - Gwerthfawrogi ein Hiechyd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 43, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Diolch yn fawr iawn, a dyna ddiwedd ar ein trafodion ni am y prynhawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:50.